Hanes y Ffydd Gristianogol er dechreuad y byd hyd yr oes hon.
PENNOD I. Ynghylch Ystóri. a pharthau 'r bŷd.
DYledus ini chwilio helynt y Ffydd ymbob oes ac ymhob gwlâd. Ymofyn yn awr am y dyddiau gynt a fuant o'th flaen di, Deut. 4.32, 33. o'r dydd y creawdd Duw ddyn ar y ddaiar, ac o'r naill gwir i'r nefoedd hyd y cwrr arall i'r nefoedd, a glybu Pobl lais Duw? Gofyn i'r oes gynt, Job. 8.3, 9.10. ac ymbaratôa i chwilio eu henafiaid hwynt (canys er doe'r ydym ni ac ni wyddom ddim) oni ddyscant hwy di? Ewch tros ynysoedd Chittim, a danfonwch i Cedar, Jer. 2.10. ac ystyriwch yn ddiwyd. Ac fal y gallem wybod pa fodd y gwasnaethodd pobl Dduw gynt, trefnwyd iddynt fynegi hynny drwy air a scrifen, Psal. 78.2, 3. i'r cenedlaethau oedd i ddyfod Traethaf ddammegion o'r cynfyd gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, fel y gosodent eu gobaith ar Dduw heb angh [...]fio ei weithredoedd ef. Er mwyn hyn y Scrifennwyd y Scrythurau, ie ac yr oedd yr bèn Baganiaid yn Scrifennu ystoriau cywyr o'r pethau y ddigwyddent yn eu plith, Esth. 6.1.2. ac 10.1. ac oni buase hynny collaseu miloedd o bobl Dduw eu bywyd yn amser [...]ther: darllenwyd yn llyfr coffadwriaethau [Page 2] hanession yr amseroedd, fel yr achubaseu Mordecai fywyd y Brenin Ahasferus, ac yr oedd yspysrwydd o fawredd Mordecai yn Scrifennedig yn llyfr Cronicl Brenhinoedd Media a Phersia. Ac fel y deallem ystóri yn well, rheidiol ini y styried Argraph y ddaiar yn ol y gorchymmyn [...] chwilio pôb Cwrr o'r byd. Gwledydd Cydnabyddus y bŷd y ddosperthir yn bedwar o rannau, y rhai a elwir Asia, Affrica, Europa, ac America.
Yn Asia y creuwyd Adda ac Efa: y ganwyd Christ, ac y pregethodd ef. Ynd di y mae llawer o daleithiau, Megis Anatolia, a elwid gynt Asia leiaf, lle bu'r Saith eglwys y Scrifennodd Crist attynt wedi ei dderchafiad drwy law Joan. Datc. 2. a'r 3. Yn awr y Twrciaid Sy 'n ei llenwi. A Cilicia, dinas Paul, sef Tarsus, oedd y ma. A Bythinia, Pontus, Galatia. lle'r oedd Eglwys Gristnogol yn amser Paul. Cappadocia, Armenia, lle mae mynyddoedd Ararat y gorphwysodd Arch Noah arnynt. Gen. 9. A Lycaonia, lle mae Derbe, a Lystra anwadal, y fynasei addoli 'r apostolion, ac wedi hynny goddefodd eu herlid hwy. Act. 14. Syria hefyd lle mae Tyrus, a Sidou, a Joppa, lle Cododd Petr Dorcas o farw i fyw. A Damascus, Act. 9. ac Antiochia, y alwodd y discyblion gyntaf yn Gristianogion. Act 11.26. A Phalestina, lle mae 'r môr marw yn yr hwn nis gall dim fyw gan ei Sawr pyglyd ef. Ynghylch y llyn Sawrllyd hwn y tyfiff pren ag afalau arno, tèg yr olwg, ond Pan gwffyrdder â hwynt ânt yn vl y; yn y fan lle y mae 'r llyn hwnn y bu Sodo [...], a Gomorrah. a dinasordd eraill, ne [...] pec [...]dau [Page 3] dynnu arnynt ddialedd tanllyd, yma nid Llyn Llynclys, ond Llyncddinas. Rhannau Palestina yw.
1. Galilea, gogledd Israel, ynddi yr oedd Caparnaum a Nazareth Preswylfa Crist.
2. Samaria, rhwng Galilea a Judea: ynddi yr oedd Caesarea, lle 'r yswyd Herod gan [...]au. Wedi caethgludo 'r dêg llwyth, Act. 12. Assyriaid Cenhedligy bresswyliodd yma, y rhai oeddent yn Cymmysgu crefydd yr Juddewon ag eulynaddoliaeth y Cenhedloedd.
3. Judea, yma y mae Hebron, a Mamre, a Bethlehem, tref ganedigaeth Crist, a Jerusalem Enwog lle y croeshoelwyd ef. Nid yw 'r wlad hon ond wyth ugain milltir o hŷd, a thrigain o lèd, etto rhyfeddol oedd lliaws ei thrigolion, a ffrwythlondeb ei thir, gan ddwyn Cynnyrch ar ei ganfed, tra yr oedd eglwys Dduw yn preswylio ynddi. Ond yn awr [...]id yw mor ffrwythlon, er Pan wrthododd hi yr efengyl, ac y daeth dan law 'r Twrc. Cyffinia ar y ddwyrain ran o'r môr Canoldir, ac ynghylch Canol y byd ydyw. Yma y Cododd ffynnon dwfr y bywyd sef yr efengyl, ac y ffrydio [...]d i bob ffordd dros y bŷd. Yn Arabia, Cymmydogaeth Palestina y rhoddes Duw y gyfraith hefyd i Israel, a bara o'r nef. ynteu cyfleus y gosodes ei bulpyd, fel y clyweu 'r bobloedd oddiamgylch am ddaioni a doethineb Duw! Yn y gwledydd y henwyd y mae Crefydd Mahomet, a'r Juddewaidd, a'r Gristnogaidd yn ol arfer y Groegiaid, gan gymmuno plant, ar ol eu bedyddio uwch ben tân, (fel y tybiant) mewn ufudd-dod ir gair, Sy'n dywedyd [Page 4] y bedyddia Crist a'r yspryd, ac â thân. ymattaliant hefyd oddiwrth fwydydd aflan dan yr hên destament. Math. 3. [...]1. Pan ymlygrodd Cristnogaeth yn y dwyrain, ymgymmysgodd gan mwyaf a'r grefydd Juddewaidd, ond yn y Gorllewin a'r un Baganaidd, Ladingaidd hefyd. Yn Asia y mae Assyria lle'r oedd Ninifeb, ac y caethiwyd y dêg llwyth. A Mesopotamia, (iei Padam Aram:) yn y wlâd hon yr oedd Paradwys. A Babilon, lle cymmyscwyd yr ieithoedd, ac y teyrnasodd Nebuchadonozor: A Phersia ai harglwyddiaethau, y gyrhaeddif or môr mawr ar y dehau, hyd y môr Caspiaidd ar y gogledd. A Tartaria, y elwid gynt gwlâd Magog mab Japhet, wedi hynny Scythia, ymmerodraeth fawr wedi pum mil o filltyroedd o hŷd, a thair mil o lêd: yma y teyrnasodd Tamerlane, fflangell y Twrciaid; dyma fam dilyw o bobl, ac aliwns, gogledd Asia yw. Crefydd Mahomet Sydd yn y teirnasoedd Mawrion hyn gan mwyaf. Cydnabyddant anfarwoldeb yr enaid. Mae rhai Christnogion gôgyfeiliornus yn eu plith, ac Juddewon hefyd. Ac India eheng, gyfoethog o aur Ophir, a thra hyfryd ei choedydd a'i maesydd. eulynaddoliaeth sydd ynddi, oddieithr lle mae'r Europeaid wedi adeiladu dinasoedd a chestyll hyd lan y môr tna 'r dwyrain. A China, teirnas fawr, ynddi y mae dinas Cwinsay o daith deuddydd o hŷd, dywed ei thrigolion fod ganddynt gelfyddyd Preintio, a gwneuthor gynnau o flaen Europa: am hynny fod ganddynt hwy ddau lygad, a chan yr Europeaid un, a bod eraill heb yr un, [Page 5] maent yn addoli delw ac iddi dri o bennau; mae ganddynt hefyd lûn gwraig lân a dyn bychan ar ei braich, yr hwn a aned iddi a hitheu yn forwyn; Cydnabyddant fod yr enaid yn anfarwol. Ffrŵd yr efengyl a adawodd hyn o rŵd oi hol yn y gwledydd hynny. y mae ynysoedd enwog yn Asia, megis Japan a Javan, a'r Molucciaid; ac amryw o honynt dan lywodraeth yr Hispeanwyr, a Phabyddiaeth yn gwreiddio ynddynt.
Yr ail rhan o'r bŷd yw Affrica, [...] a henwir felly, am ei bod heb oerni; ynddi y mae Barbaria, lle mae Tunis, yr oedd llawer o eglwysydd ac yscoldai têg yma gynt, ac Awstin yn Athro nodedig, a'r efengyl yn llwyddiannus. Crefydd Mahomet sy'n awr amlaf yna, a'r Twrciaid yn Caethiwo'r Cristnogion. Yr ûn môdd yw helynt Algiers, a Morocco, Numidia, Lybia. Poethgras yw eu tîr, am fod yr haul yn vnion uwch eu Pennau. Ethiopia sydd yma, y gyfenwir felly am fod ei thrigolion yn dduon, [...] megis wedi llosci eu hwynebau. Dûg yr Eunuch Gristianogaeth i'r wlâd hon, Acts. 8. a glynant ynddi etto, yn enwedig yn ymmerodraeth yr Abassiniaid, neu Joan yr henuriad: dywedir fod Llyfrdy yn un o balasau yr ymmerawdr hwn, a bod ynddo brophwydolieth Enoch, a Llyfrau eraill nid ydynt gennym ni. Mae 'r Christnogion hyn yn eu hail bedyddio eu hunain ar yr ystwyll bob blwyddyn: ni Phoerant ar ol Cymmuno, nes machludo 'r haul. Enwaedant eu plant cyn eu bedyddio. Y mae yn y gwledydd hyn ddau auaf bob blwyddyn. [Page 6] Canys mae'r haul wrth symmud o gylch y dehau attom ni i gylch y gogledd, ac yn ol Eilwaith, yn nessâu attynt, ac yn Cilio oddiwrthynt ddwywaith bob blwyddyn, ond y mae eu gaiaf hwynt agos mor wresog ar bâf gyda ni Cydnabyddant Batriarch Alecsandria, Ysydd ddinas Enwog o'r Aipht; lle gwnaeth Ptolomeus Philadelphus Lyfrdy mawr ar ol ir Aiphtiaid ddychymmyg wneuthur papyr o hèsc Llydain. yn yr Aipht y mae Cair, dinas o wyth milltir ar ugain o hŷd. nid oes fawr law yno; Zech. 14.18. Ond yr Afon Nilus sydd ar dymhorau yn llifo dros y wlâd iw gwrteithio. Nid yw Cyrph y trigolion yn bwrw cyscod yr hâf, gan fod yr haul yn union uwch eu pennau. Maent rai yn Gristnogol o'r un ffydd a'r Abassiniaid, ond dan awdurdod y Twrciaid.
Y drydedd ran o'r bŷd yw Europa, ac yn awr yr odidoccaf o'r cwbl: gan ei bod yn boblog, yn ddysgedig, yn Gristnogol, yn gelfyddgar. ynddi y mae Prydain a'i hynysoedd Perthynasol, sef Orcades, Hebrides, Manaw, Môn, Iwerddon. Trôdd y Gwyddyl yn Gristnogol yn y flwyddyn o oedran Crist, 335. A'r Hispaen, yn grŷf gyda Phabyddieth. A Fsrainc, lle cynhwysir crefydd y Protestaniaid. Perswylia rhai o'n cenedl ni mewn tal [...]ith o honi, sef Llydaw. Ar ystlys Ffrainc y mae arglwyddiaeth tywysog Safoy, yr hwn a ysglyfiodd y Protestaniaid duwiol fel blaidd: A Genefa Mammaeth dda ir bûr grefydd, A Batasia Elwir Holland, a'r gwledydd cyssylltedig, y broffessant grefydd y Protestaniaid yn unig. Yn Europa hefyd y mae [Page 7] Germania, neu wlad yr Ellmyn, lle Cynnyddodd y wir grefydd yn ddirfawr er amser Luther, Rhan o honi yw Helfetia, ac o'r un grefydd er amser Zuinglius; ac Hungaria y gynnwys grefydd Mahomet a phabyddieth. A'r Ital enwog, lle mae Rhufain, gwladwriaeth Genoa a Fenice gadarn. Bu r' wlâd hon yn glodfawr am grefydd ac arglwyddiaeth gynt, ond wedi ymlygru ymwanhychodd. Tua'r gogledd y mae Polonia, teyrnas gref, ynddi mae crefydd y Groegiaid, â'r Protestaniaid. A Denmarc, a Sweden, or unrhyw grefydd: dywedir fod yma bobl a alarant yn oer ar amserau, gan lefain Jeru, Jeru, Moscolon. tybir mae eppil yr Juddewon ydynt, yn galaru am Jerusalem a Damascus drwy orchymmyn traddodiad. Yn ygwledydd hyn nid oes agos ddim dydd dros y trimis gauaf mewn mannau, ac onid ychydig nôs amser hâf. Tu ag yno y mae Muscofia, teyrnas helaeth o dair mîl o filltyroedd o hŷd. derbyniodd y grefydd Gristnogol gan y Groegiaid yn y flwyddyn o oed Crist 942. Er nad unâ ag Eglwys Rufain, canys yn ei hiaith ei hun yr addola Dduw, etto mae'n ôl goelgrefyddol.
Yn nès at yr haul y mae Dacia. ynddi y Cynhwysir Transylfania, Moldafia, Walachia, Bulgaria, Bosnia, taleithiau dan awdurdod y Twrc. ond mae rhai Protestaniaid yn eu mysc. A Sclafonia neu Illyricum lle mae Croaetia, a Dalmatia; Pregethodd Paul o Jerusalem hyd yma, ac yn awr daliant y ffydd yr un sut a'r Groegiaid. A Groeg, ei rhannau yw Corinthus, [Page 6] [...] [Page 7] [...] [Page 8] Thessalia, Macedonia, Achaia, Thracia, lle mae Constantinopl, y adeiladodd Constantinus ein gwladwr ni a'r ystlys y môr Canoldir, ac yn awr prifddinas y Twrciaid yw. Plannodd yr Apostl Paul eglwysydd Cristnogol yn y gwledydd hyn, a Scrifennod amryw oi Epistolau attynt. ond er diwedd dûg dialedd Duw y Twrciaid arnynt, etto am drêth maent yn cael rhydd-did i broffessu 'r grefydd Gristnogol, a gwrthodant lygredigaeth y Ladingiaid. Mae gan y Cristnogion sydd dan y Twrc bedwar patriarch parchedig (sef megis archescobion) i lywodraethu'r Eglwyfydd, Un yn Constantinopl, un yn Alecsandria, un yn Jerusalem, ac un yn Antiochia, heb law gweinidogion Cyffredin.
America y henwir yn bedwerydd ran o'r byd, ond tybir ei bod yn gymmaint ar tai'r eraill, y tu arall i'r ddaiar y mae. Canys fel pellen gron yw'r byd; pan fachludo'r haul arnom ni, tywynna ar America. bydd nôs yma tra fo hi dydd yno. Amlygwyd y wlâd hon i'r Europeaid ynghylch yr un amser ac yr adferwyd dysceidieth a chrefydd, Oedran Crist 1492. Cristopher Columbus wrth ddirnad fod yr haul yn tywy nnu y tû arall i'r ddaiar cyhyd ar tû yma, a wybu fod yno wledydd; am hynny wedi cael dwy long gan fren in Hispaen, anturiodd hwylio hyd y môr mawr, oni ddaeth at ynys y alwodd ef Hispaniola. Nid eos ond cainc o for od oes ddim, rhwng America a Thartaria gogledd Asia. Oddiyno y tybir fyned pobl iw phreswylio hi gynt. Rhannau [Page 9] America yw Mecsico, lle mae Florida. er bod y gwledydd hyn eyn agosed at yr haul ac yw duon Affrica, etto gwynnion yw eu trigolion. Yr hyn gyda rhai amgylchiadau eraill a barodd i R. Ben Israel dybied mae eppil y dèg Llwyth a aethant o Assyria drwy Tartaria i gyfanneddu yno. Eulynaddolgar ydynt, ond cydnabyddant anfarwolder yr enaid. Attebasant Ferdinando Soto a oedd yn ceisio eu dyscu, nad oedd ei grefydd ef o Dduw, am fod ei dilynwyr mor waedlyd Rhan arall yw Mecsico, nid adwaenir moi thersyn tua'r gogledd, gelwir hi yn awr Hispaen newydd. Canys Hispaeniaid y ddugasant fyddinoedd, ac a laddasant chwe miliwn oi thrigolion ganedigol (y rhai oeddent noethion ac heb reolaeth a chymmerasant-eu llè hwynt. Yn ninas Mecsico y mae eisteddle Rhaglaw brenin Hispaen, ac Archescob, ac yscoldai. A Jucutan, lle lladdwyd peth echryslon o'r trigolion gan yr Hispaeniaid. Yr oedd yn y wlâd hon demlau têg cyn dyfod yr Hispainiaid yno. Arferent hefyd enwaediad, ac addolent groes, yr hon â adawsei gwr glân yno gynt er Coffadwriaeth, meddent: A Nicaracwa, lle mae mynydd yn bwrw tân allan o honaw. Mae 'r cyfryw beth mewn mannau eraill o America, a'r hên fyd hefyd, megis Aetna, a Fesufius, ond ni ddywedir fod Simnai cyn ddyfned i'r un, ac i'r mynydd hwn, gan fod y twll, o ba un y mae 'r tan yn dyfod allan, wedi deuddeg ugainllath o ddyfnder. Yn Cwifira y mae Prydâin Newydd, a ymroddodd i Sr Francis Drâc. Yn America [Page 10] y mae Firginia, a Lloegr Newydd, ac ynddynt drefydd, a rheolaeth, a'r efengyl yn llwyddiannus ymmysc y Saeson, a rhai o'r trigolion ganedigol hefyd. A ffrainc Newydd. Deheudir America yw Peru, lle mae taleithiau eheng oddiyno i fôr y dehau, a rhai pobl dduon, a llawer o aur, a pherlau, dan awdurdod yr Hispaeniaid y maent gan mwyaf, a gwnaeth daiargrynfâu niwed mawr yn y gwledydd hyn er pan ddaethant yno. Mae Saeson yn preswylio yn amryw o ynysoedd America, sef Barbadoes, Bermudas, Jamaica. Crefydd naturiol yr Indiaid hyn yw cydnabod fod Duw, a derchafant eu llygaid tua'r nef, aberthant, ac Arogldarthant. Gwnaeth gwyr Mecsico ddelw o basteu, ac wedi ei dwyn megis mewn prosessiwn, rhannasant y crystyn rhwng y bobl, gan ddywedyd eu bod yn bwytta cnawd eu Duw, a hynny mewn môdd parchedig. Yr oedd gan wyr Peru dri delw i Dduw'r taranau, y rhai a alwent y tâd a'r mâb a'r brawd. Cyffessei 'r Tywysog ei bechodau i'r haul, ac yna neidieu i ddwfr rhedegog gan ddymuno ar yr afon ddwyn ei bechodau ef ir môr iw boddi. Yngwlad Peru mae hi yn auaf, amser hâf yn ein gwledydd ni ymmysc y Barbariaid Truain hyn y gwnaeth yr Hispaniaid Aceldama, ac y rhoddasant y groes i sefyll mewn Golgotha fwy na'r hon yn Jerusalem, a'r cwbl i ynnill aur, nid eneidiau, ac i droi 'r bobl yn gaethweision iw geibio ef.
Y mae gwlâd y welwyd ei chyrrau gan forwyr, y elwir Magelanica, neu tîr y dehau anghydnabyddus, tybir ei bod yn-gymmaint ar [Page 11] cwbl y ddosparthwyd y tu hwnnw i'r ddaiar. Tebygol ei bod yn fawr iawn, gan fod yr haul yn troi yn ei chylch hi yn amser gauaf gyda ni: ac nad oes ond ychydig o'r byd sydd eusus gydnabyddus y tu hwnnw i'r haul.
PEN. II. Ynghylch y ffydd o ddechreuad y byd hyd blanniad Israel yngwlâd Canaan.
BEllach i ddyfod at yr amseroedd. Cyn seilio'r byd yr oedd yr Arglwydd Bendigedig yn rhagordeinio gwneuthur ei etholedigion yn fendigedig drwy Grist. megis y mae gwyr goludog yn dymuno cael plant i etifeddu eu meddiannau, Ephes. 1.4. felly yr ewyllysiodd Duw greu dynion ac angylion i gyfrannu ei fawr ddaioni iddynt, ac i gymmeryd gwasanaeth ysprydol oddiwrthynt; y Cyfryw y mae 'r Tâd yn eu ceisio iw addoli ef. Joan. 4.23 Am hynny gwnaeth ef Adda ac Efa mewn cyflwr hyfryd pûr, gorph ac enaid. Nid oedd rhaid iddynt wrth ddillad, canys nid oedd un golwg gwradwyddus arnynt cyn pechu. Yr oedd yr holl greaduriaid yn ufudd i Adda, ac yn fwynaidd wrth eu gilidd; daeth y bleiddiaid a'r defaid atto ef yn gyttun i gymmeryd henwau: wedi pechu o Adda ac Efa, ni adawodd Duw hwynt un diwrnod heb hanes achubwr i ddirymmu pechod a Satan: Gen. 3.15. gan ragfynegu y Caffau hâd y wraig yssigo pen y sarph. Gwelwn ynteu bregethu'r Efengyl er y dydd [Page 12] Cyntaf y bu dyn ar y ddaiar. A lladdwyd Crist drwy fwriad ac addewid Duw er dechreuad y byd. Datc. 13.8. Cymmododd Adda ac Efa a Duw drwy 'r cyfammod grasol hwn, cyn y dydd Sabboth, fel na phallei addoliad. Hîr oes Adda sydd yn dangos iddo fyw mewn ufudd-dod i Dduw, canys ni ddarllennir i'r un o'r annuwiol fyw cyhyd ar Patriarchau Sanctaidd. Cyfrifir ef yn yr un llech res â rhai credadwy; Gen. 5.1. a dyscodd ei blant, Cain ac Abel, i addoli, ac aberthu: yr oedd yr aberthau y pryd hynny yn orchymmynnedig drwy air, wedi hynny drwy Scrifen yn amser Moses. Ac yn arwyddocâu yr haeddei 'r aberthwr ei lâdd a'i losci, ac yr aberthid Crist. Dûg Abel y pethau goreu y feddeu yn aberth i'r Arglwydd yn ewyllyscar, a chyffelybys ddyfod tân o'r nef i gyrchu ei roddion ef i fynu, Lev. 9.24. ac nid rhai Cain fel yr anfonod Duw dân i aberth Elias, ac y gwrthododd ebyrth y gau Brophwydi. typ oedd hyn o'r gwresogrwydd y rydd Duw yn ei wîr addolwyr i dderchafu gweddiau ysprydol tua'r nef, 1 Bren. 18.25.— ac mai trwy'r yspryd nefol yr offrymmeu Grist ei hun. Y mae cenfigen Cain yn ei yrru ef i lâdd ei unig frawd Abel dduwiol, am ei fod yn rhyngu bodd Duw yn well nag ef. Yr oedd erlidwyr Cyntaf, megis y rhai diweddaf, yn addoli y gwîr Dduw oddiallan. Wedi hynn yr oedd Ismael o'r un broffess ag Isaac, etto yn ei watwar ef. Ac Esau o'r un tâd a Jacob, etto yn ei gassâu ef. Escymmunodd Duw Gain afrywiog allan oi addoliad; Gen. 4.14. dyma ddechreuad rheolaeth eglwysig. [Page 13] Ar ol hyn rhoddes Duw fab duwiol arall i Adda, sef Seth, yr hwn y genhedlodd Enos rasol, ac felly dechreuodd gwir addolwyr Duw amlhâu, au galw eu hunain yn bobl yr arglwydd a hâd Cain felltigedig yn feibion dynion. Gen. 4.26. A bu i rai duwiol fyw wedi ŵythcant, wedi nawcant o flynyddoedd i glodfori Duw ynghyd. Os rhyfeddi fod einioes y tadau cyn y diluw cyhyd, ystyria eu bod yn lestri newydd ddyfod o law 'r gwneuthurwr Perffaith. A bod eu hymborth yn iachus, sef dail a ffrwythau, o'r hyn yn awr y gwneir physygwriaeth: ac yr oedd y ddaiar yn jevanc. A bendith doethineb yw hîr oes. Dihar. 3.16. Hefyd yr oedd eu hîr gymdeithas hwynt ynghyd, fel Cymanfa ffyddlon o henurieid daionus, yn cadw purdeb gwirionedd ydoedd y pryd hynny heb ei scrifennu: ac yn fuddiol er amlhâu trigolion i'r byd, a gweision i Dduw.
Pan oedd y byd yn un cant ar bumtheg oed, ac i feibion Duw ymlygru gyda merched dynion, anfonodd Duw ddiluw i foddi'r byd, gan achub Noah berffaith, yr hwn y fu chwe-chant o flynyddoedd cyn y diluw, ac a ofnodd pan rybuddiwyd ef am ddistryw 'r byd, gan ddarparu llong a'r dîr sych; er bod pobl diameu yn ei watwar ef-Noah ai feibion a adferodd y byd. Yn eppil ei fab ef Sem yr arhosodd y wir ffydd.
Llwyr ddifethwyd eppil Cain gan y diluw, [...]nd parhâodd eppil Seth yn Noah. Y cyf [...]mmod a wnaethai Duw ag Adda a adnewyddwyd i Noah. Mewn amser tyfodd chwyn [Page 14] eulunaddoliaeth gyda hâd Cam, ond yr ydoedd y wir ffydd yn hynach na hi agos o ddwy fil o flynyddoedd.
Byrrhawyd einioes dynion y naill hanner ar ol y diluw, a hanner arall ar ol cymmysscu'r jeithoedd yn Babel. Gen. 11. Bu Sem fyw hyd amser Abraham ac Isaac, ynghylch pumcant o flynyddoedd ar ol y diluw. Ni bu Abraham fyw mor naw ugain mlynedd. Wrth rannu'r jeithioedd torrodd yr arglwydd gymundeb rhwng yr eulunaddolwyr a'u gilidd, a gwascarwyd hwynt hyd y byd. Melchisedec (yr hyn oi gyfiethu yw brennin Cyfiawnder) y fendithiodd Abraham, oedd Sem, fel y tybia r' dyscedig. Y Peth sydd scrifennedig a guttuna ag ef. Gen. 14.18. Hebr. 7.1. Yr oedd heb rieni na cheraint yn amser Abraham, Heb ddechreu dyddiau yn y byd newydd, na ddiwedd oes yn yr hên, yr oedd y rhai byrroes y pryd hynny yn tybied na byddei ef marw byth, wrth ei weled ef yn byw cyhyd. Hawdd oedd iddo ef fod yn frenin, canys tâd yr holl rai duwiol oedd ef. A dyledus oedd i Abraham gymmeryd ei fendith ef, canys offeiriad Duw oedd ef, ai hên-hendaid ynteu hefyd. Gwelodd Abraham ddyfodiad Crist yn y Cnawd, a llawenychodd. Darllen lyfr Genesis, Joan. 8.56. a rhyfeddi mor ufudd i orchymmyn Duw, ac mor hyderus ar addewidion Duw oedd Abraham, Isaac, a Jacob, a Joseph, yr hwn lyfr y gynwys ystori 2369 o flynyddoedd: Sef o ddechreuad y byd hyd farwolaeth Joseph.
Adnewyddwydy Cyfammod i Abraham, a [Page 15] rhag efangylwyd yr efengyl iddo, A'r cyfammod a wnawd ag ef a berthyn i fil o genhedlaethau. Iddo ef y gorchymynnodd Duw yr Enwaediad gyntaf, sef blingo ymaeth blaengroen y rhan ddirgel ir plent yn gwryw. Yr hyn oedd yn arwyddocâu y Sancteiddid hâd Abraham, Sef y genid Crist oi lwynau ef, yr hwn a dywalltei ei waed dros ei bobl, ac y dylid torri ymaeth llygredigaeth trachwant. Deut. 10.16. Yn yr oes hon (tebygol) y bu Job yn enwog mewn Crefydd yngwlad Uz. ir amser hwn y perthyn hyd ei einioes ef. Canys bu fyw Saith vgain mlynedd ar ol ei brofi, ac o'r blaen yr oedd ganddo ferbion a merched. Ac ŵyr Abraham o Ceturah oedd ei gyfaill ef Bildad mab Suah. Gen. 25.2. Darfu ir pendefigion y ragddywedpwyd ymddwyn yn rasol mewn profedigaeth a goruchafieth. Ac wedi hyn nid allodd toster yr Aiphtiaid ddiffodd Crefydd yr Israeliaid. Cofiasant lw Joseph am symmud ei escyrn ef gyd á hwynt wrth ymadel a'r Aipht, diammeu nad anghofiasant mo'i ffydd ef. o'r amser y gwnaeth Duw yr Cyfammod ag Abraham, Exod. 13.19. hyd ddyfodiad Israel o'r Aipht y bu 430 flyn. ynghylch oed y byd 2500 Gwell oedd gan Moses fod yn fab i Dduw nag yn ŵyr i Pharao, Exod. 12.41. Hebr. 11.27. dewisodd adfyd gyda phobl Dduw, o flaen hawddfyd gyda phechod. A hynny wedi iddo fyned yn fawr, pan oedd ynghanol ei oed ai gôf: gwell ynteu yw Cyssur ysprydol na digrifwch daiarol. Yn awr ordeinwyd yr Oen pasc er coffadwrieth i Israel o'u gwarediad o'r Aipht, ac er yspysrwydd o Grist i ddyfod, 1 Cor. 5.7. am hynny gelwir [Page 16] ef yn oen i dynnu ymaeth bechodau. Joan. 1.29. 1 Cor. 10. [...]. drwy Ffydd yr aeth y bobl drwy 'r môr, lle bedyddwyd hwynt, a phlant yn eu plith. a chan fod pobl Dduw wedi amlháu yn fwy na chwechanmil, ac wedi eu didoli ir anialwch oddiwrth eulynaddolwyr, a byrrhâu einioes dyn, yscrifennodd Duw ei gyfraith iddynt ar gerrig á'i fŷs ei hun; wedi iddo â lleferydd eglur ei hadrodd wrth y bobl o'r mynydd tanllyd. Exod. 20. Pan oedd yn rhoddi teyrnas iw bobl, rheidiol oedd iddo roddi cyfraith gyda hi, ie parodd iddynt gyfodi Colofnau maen wedi eu gwyngalchu, Deu. 27.3. a scrifennu holl eiriau yr gyfraith arnyut yn nhir Canaan, Fel y galleu pawb eu darllen er mwyn eu cadw. Ac fel y byddei'r bobl hyspysach ar ewyllis eu Harglwydd, gosodwyd hi nid yn vnig ar lêchau, a Cholofnau, ac mewn llyfrau, ond ar ganiádau hefyd. Deut. 32. tybir na bu erioed yscrifen yn y byd cyn y pryd hyn. O'r blaen yr oedd y rhai pennaf o'r teuluoedd duwiol yn cael gweledigaethau Duw, ac yn dyscu i'r lleill yr hyn y fynegaser Duw iddynt hwy. A gela fi rhag Abraham medd yr Arglwydd: Gen. 18.17.— Canys mi a'i hadwaen ef y gorchymyn ef iw blant ac jw dylwyth ar ei ôl, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd.
Os gofynni pa fodd y gallei Moses wybod y pethau a ddigwyddasent er dechreuad y byd, ac sydd scrifennedig yn e [...] lyfr cyntaf ef?
Attebaf, y gallei ef wybod llawer drwy fynegiad dynol o'r pethau a ddyscaseu 'r genhedlaeth honno gan Joseph, ac ynteu gan Jacob, ac ynte gan Isaac, ac yntef gan Abraham, ac yntef gan Sem, a Sem gan Noah, a Noah [Page 17] gan Methuselah, ac ynteu gan Adda. A Chyda hynny yr oedd Moses yn cael ymddiddan a'r Arglwydd wyneb yn wyneb, yr hwn y ddatcuddiodd iddo ef y pethau fuasent, Deut. 34 10. a Llawer o'r pethau a fyddent.
Wedi amser Moses yr oedd y drugareddfa a'r typau eraill yn pennodi at Grist. Y deg gorchymmyn a roddes Duw yn ei amser ef yw'r vnrhyw ac a ddyscasau 'r ffyddloniaid, ac a ddilynasent hefyd o'r blaen. Y gorchymmyn cyntaf sy'n peri cymeryd yr vn Duw ac oedd gan Adda, Noah, ac Abraham. A'r ail a bair gasau eulunnod, fel y gwnaeth Jacob pan gladdodd ef ddelwau Rachel. Dengis llŵon Abraham, ac Isaac, a Jacob mal yr oeddent yn perchi enw Duw, ac yn ei arfer ef yn vnic ar wirionedd pwysfawr. Yr oedd y Sabbath o'r dechreuad. Melldithwyd Canaan eisiau iw dâd ef anrhydeddu ei dâd yntef. Gen. 2.3. ac. 9.25 Gen. 26.11. yn amser Isaac a Juda cospid godineb â marwolaeth. Ni fynnai Abraham ddwyn dim oddiar Lot, na Jacob oddiar Laban. Enwog oeddent am eu gwirionedd, a choelid iw haddewidion a'u hamodau Ni chwennychai Abraham ddim o'r eiddo brenhin Sodom, na Joseph wraig ei feistr.
Joshua gweinidog ac etifedd yspryd Moses a ddûg Israel i Canaan, Josh 24, ac a wnaeth gyfammod difrifol â hwynt, ar ufudhâu ir Arglwydd, a bwrw ymmaeth eulynnod.
PEN. III. Ynghylch y ffydd o amser Joshua hyd anedigaeth Christ.
O Farwolaeth Joshua byd amser Saul bu Israel heb fren [...]n, sef yspaid ynghylch 450 flynydd. Act 13.20 Yn y dyddiau hynny pan bechei 'r eglwys drwy gau addoliad a drwg foesau gadawei 'r Arglwydd i erlidwyr ei gorthrymmu, a phan ddiwygei ei ffyrdd cyfodei waredwyr iddi. Bu llwyddiant crefydd yn helaethach yn amser y brenin Dafydd, gwr wrth fôdd Duw; ai fâb Solomon, y ddewisodd ddoethineb dduwiol o flaen golud bydol. Ynghylch hyn y tybir i Frenhines Sh [...]ba ddwyn y wîr grefydd i Arabia ddedwydd, i Brenh. io i. Ond wedi bynny ymlygrodd Israel fwyfwy, nes i Dduw ddigio wrthynt, a Chyfodi brenin Assyria i gaechiwo y dèg llwyth, a brenin Babilon i gaethiwo 'r ddau eraill, gan losci Jerusalem a'r Deml. 2 Brenh. 22.15. 2 Cron. 28.24. Bu'r Scrythur a'r grefydd yn brin yn nechreu teyrnasiad Josiah, ac Ahaz, yr hwn y gaeodd y deml, hynny a barodd fawr gystudd.
O amser Solomon hyd gaethiwed Babilon y bu 438. fly. oed y b [...]d 3440. ond argyhoeddodd y grefydd ei herlidwyr, canys y pryd hyn Cyhoeddodd Nebuchodonozor iw holl daleithiau mae Duw 'r Israeliaid oedd y gwir Dduw, gan ei fawrygu ef am wneuthur gwrthiau dros ei bobl yn eu Cyfyngder. Dan. 3.28. or 4.1. Medd ef, bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei Angel, ac a waredodd ei w [...]ision a ymddiriedasant yndd [...] Ond am ir [Page 19] Caldeaid attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, a chystuddio Israel ddeng mlynedd a thrugain, dymchwelodd Duw eu ymmerodraeth hwynt, gan ei rhoddi ir Persiaid. Y rhai a hyfforddiasant yr Juddewon i ddychwelyd, ac i ailadeiladu yr deml a Jerusalem, ac a gydnabuasant he [...]yd fawrhydi y gwir Dduw. Dengis llyfr Ezra helynt y ffydd dros 146 flyn. ar ol dychweliad Israel o Babilon. Y prophwyd olaf ar ol ailadeiladu 'r deml oedd Malachi: ac yn gymaint ac nad oedd un prophwyd i gyfodi ar ei ol ef rai cant oedd o flyn nes dyfodiad Joan fedyddiwr, Mal. 4.4. mae'n gadel siarse arnynt am ddyfal ddyscu cyfraith Moses. Oed y byd 3608, Pan oedd Alecsander brenin Macedonia, yn orchestol yn gorchfygu cadernid Persia, daeth tua Jerusalem yn ddiclon, am i Jadduah yr Archoffeiriad ommedd ei gynorthwyo ef yn erbyn brenin Persia, ir hwn yr oedd Jadduah yn rhwymedig drwy lŵ. A thra yr oedd y ddinas dan ei dychryn yn ymprydio, ac yn gweddio Duw, cafodd yr Archoffeiriad gyngor mewn breuddwyd i agor pyrth y ddinas, ac i fyned allan ai frodyr gyd ag ef yn eu gwiscoedd offeiriadol i wyneb y fyddyn lidiog. Ar hyn rhedodd Alecsander i gyfarfod yr Archoffeiriad, ac ai cyfarchodd ef yn ostyngedig, a gorchymmynnodd iw gapteniaid na wnaent niwed iddynt: gan ddywedyd i Dduw yn y Cyfryw debygolieth ymddangos iddo ef. ac addaw rhwydd hynt iw daith ef. Wedi hynny dangosodd Jadduah iddo ef brophwydolieth Daniel, yn Crybwyll am fuddugoliaeth iddo ef, yr hyn a annogo [...]d Alecsander i adel ir Juddewon [Page 20] rydd-did eu crefydd. Ar ol hyn mynnodd Ptolemeus Philadelphus brenin yr Aipht ddeuddeg a thrugain o ddyscawdwyr yr Juddewon i gyfieithu yr hèn destament o'r Hebraeaeg ir Groeg. O edy byd 3700. Ond prifiodd eraill o'r brenhinoedd Groegaidd yn erlidwyr chwerwon yn erbyn y wîr grefydd. Ceisiodd vn o honynt ddyfod ir deml ir fan Sanctaidd Sancteiddiolaf iw halogi a'r gau aberthau. Ond wrth weddi Simon yr Archofferiad, trawodd Duw ef â gwendid, fel nad allodd Symmud. Ac wedi myned yn wŷch, pennododd ddiwrnod i lâdd yr Juddewon; ond tynnodd Duw ei goffadwrieth ef ymaeth ar y dydd hwnnw: ac wedi hynny darfu i ddau angel ei ddychrynu ef a'i fyddyn oddiwrth Jerusalem. Yn amser Antiochus Epiphanes gwelwyd byddinoedd yn yr awyr vwchben Jerusalem, y pryd y ceisiodd ef yscubo alian o'r byd enw yr Juddewon a'u crefydd. Ac wedi iddo wneuthur creulondeb fawr, trawodd Duw ef â dolur gwaedlyd oni bu ef farw. Er na bu vn prophwyd yn Israel o amser Malachi hyd Joan fedyddiwr, dros well na thrychant o flynyddoedd, etto glynodd yr Juddewon yn gefnog yn eu crefydd y dyddiau hynny. Dengis llyfrau 'r Apocrypha helynt yr amseroedd hyn, y rhai er nad ydynt iw Cyfrif fel yr scrythurau Sanctaidd, oblegyd nad ydynt ymhob peth yn Cyttuno â bwynt, nag wedi eu scrifennu yn Hebraeg, na'u derbyn gan yr Juddewon, etto haeddant barch ystorian dynol, duwiol.
Oedy byd 3903.Bu rhyfel rhwng dau fr [...]wd am frenhinieth Jerusalem; Cyrchodd y blai [...] oedd yn gwarchae [Page 21] ar y ddinas vn Onias gwr duwiol (yr hwn drwy weddi y barasei law ar sychter mawr) i weddio drostynt ar iddynt gael y f [...] ddugolieth, a gweddiodd yntef y ge [...]riau hyn; Arglwydd gan fod y naill blaid yn bobl iti, a'r blaid arall felly, ac yn offeiriaid hefyd, na wrando ar weddiau y naill yn erbyn y llall: ar hynny llabyddiasant ef. Ar ŵyl y pâsc gommeddodd y gwarchaewyr ebyrth am eu harian ir lleill yn y ddinas, yr hyn a annogodd Dduw i anfon tymmhestl i anrheithio ffrwyth y ddaiar, oni chymellodd newyn y gwarchaewyr hynny i ymadel. Ar fyrder daeth Pompeius gadarn i dorri'r ymrysson, ac a ddarostyngodd y frenhininieth dan y Rhufeiniaid, wedi i'r Juddewon o'r blaen ddioddef llawer o doster y Groegiaid. Wedi ir gorescynwr hwn wneuthur Celanedd yn Jerusalem, trôdd ir deml; a lladdodd yno ddeuddeg mil; er hynny ni pheidieu 'r offeiriaid yn y Cyfamser er maint oedd y dychryn â chyflawni swyddau 'r diwrnod, Canys ympryd oedd ymattaliodd Pompeius rhag yspeilio 'r deml o'i thryssor o ran parch ir llé. ond wedi hynny daeth Crassus awyddus, ac a yscubodd ymmaeth ei golud, a chwympodd dialedd Duw ef drwy ddwylaw 'r Parthiaid, y rhai mewn dirmyg a lanwasant ei Safn ef ag aur. Gwnaeth y Rhufeiniaid vn Herod (Edomiad o'r naill du) yn frenin yr Juddewon. Yn amser yr Herod yma y bu daiargryn mawr yn Judea y laddodd ddengmil o bobl, heb law anifeiliaid lawer, ac y bu erlid mawr ar yr Juddewon, 3930. am dynnu i lawr lûn eryr (Lluman y Rhufainiaid,) a osodaseu ef ar ddrws y deml.
PEN. IV. Dyfodiad Christ. Cyhoeddiad ei Efengyl ef hyd amser Traianus.
YN y flwyddyn olaf o deyrnasiad Herod y ganwyd Crist, Oed y byd tai [...] mil, naw cant, a thrigain a thair. Ar bynny brawychodd Herod, ac a laddodd blant Bethlehem ar hyder llâdd Crist yn ei grûd, ond bu ef ei hun farw yn y man gwedi. Er bod yr [...]glwys yn ogoelgrefyd [...]ol y pryd hyn, etto darllennwn yn yr efengil am amryw rai duwiol, megis Simeon, a Zacharias, ac Elizabeth, ac eraill. Yn y bumthegfed flwyddyn o oedran Crist pan oedd Augustus Caesar ymmerawdr gorfodawg Rhufain yn rhifo ei filwyr, torrodd taran ddychrynllyd uwch eu Pennau, a dileuodd C, y llythyren gyntaf o henw Caesar, teb [...]g lle yr oedd ei lûn a'r henw wedi eu hargraphu ar golofn. Canys yr oedd vn arall i lywydraethu ywch ei law ef. Ynghylch Pedair ar ddèg ar hugain oi oedran y croeshoeliwyd Crist drwy ddymunniad ei wladwyr; daeth diflanniad ar yr holl Swyddogion a' [...] Condemniasant ef. Ymlidiodd ymmerodr Rhufain Pilat ymmaeth, am iddo gadw 'r tryssor Cyhoeddus iddo ei hun. Ac wedi i'r Juddewon gael pumtheg mlynedd go heddychol i glywed yr efengil gan yr apostolion i edrych a edifarhaent, a nhwy thau gan mwyaf yn Caledu eu calonau, amlhâodd eu helbulon ar bob trô, nes i'r Rhufeiniaid gwbl ddinystro Jerusalem a'r deml, au gyrru [Page 23] ymmaith o'u gwlâd, wedi llâdd a honynt vn cant a'r ddêg o filoedd, a gwerthu o honynt ddég cant a Phedwar ugain o filoedd i gaethiwed. Oed. Crist 72. A digwyddodd iddynt yn ôl eu styfnigrwydd, pan lefasant yn erbyn Crist, bydded ei waed ef arnom ni, a'n Plant. Ac o herwydd iddynt ddewis Caesar o flaen Crist, cawsant ddigon o Caesar, canys Cymmellid hwynt i addoli ei lûn ef, ac erlidwyd hwynt am wr [...]hod hynny. Cyn eu dinystr llifeiriol, Safodd Seren un ffurf â chleddyf uwch ben y ddinas, ac ymagorodd un o ddryssau mawr y deml o hono ei hun, er ei fod o brês, ac arno farrau heirn. A chlybwyd llais yn yr awyr yn peri ir Christnogion fyn-d ymmaeth i Pella. Yma Cymmerth fwgythion Crist afael arnynt. Efe dan wylo a rybuddiodd Jerusalem y gwnau ei gelynion hi yn gydwastad a'r llawr, a'i phlant o'i mewn, Luc. 19.41.44. o herwydd nad adnabu amser ei hymweliad Och gwelwn ac ofnwn Mae Duw yn rhygryf i'r gwrthnyssiccaf o ddynion. Taflodd gowri yr hèn fŷd i fod yn furgynnod ar y ddaiar, bwriodd Pharao a'r Aiphtiaid i byscod y môr côch, Herod i'r llaù, a Jezabel ir cŵn.
Er ir Juddewon wrthod trugaredd yr efengil, mynnodd Crist weled o lafur ei enaid ymmhlith y cenhedloedd. Canys drwy bregethiad yr apostolion, (y gawsant ddawn rhyfeddol i fynegi'r iechydwriaeth i bob cenedl lle delent yn ei hiaith ei hun) mewn amser bychan llanwyd pob teyrnas gan Gristnogion, fel aneirif yscuboriau ag ŷd mewn ychydig-wythnôsau y cynhaiaf. Gwelodd rhaglunieth Duw yn dda raglyfnu peth ar y bŷd drwy philosophyddieth [Page 24] y Groegiaid, a rheoleth foesawl y Rhufeiniaid, ac yno hauodd yr efengil. A hynny yn llawnder yr amseroedd, pan oedd y bŷd amlach o bobl nag y buasei e'r ioed o'r blaen. Pregethodd Thomas yr Apostol ir Parthiaid, Mediaid, a'r Persiaid, ac er diwedd lladdwyd ef â phiccell. Efangylodd Simon Zelotes yn Affrica, a chroes hoelwyd ef. Llafuriodd Bartholomeus ymmysc yr Indiaid, a blingwyd ef. Andreas a bregethodd ir Scythiaid, a chroeshoelwyd ef, a Mathew ir Juddewon, ac a labyddwyd, Peder ir Juddewon ar wascar, ac yn eu gwlâd▪ Philip ir Phrygiaid, a chroeshoelwyd ef. Daeth Paul tua'r Gorllewyn, sef i wlâd Groeg a'r Ital, a'r Hispaen: a dywedir i rai oi gymdeithion ef bregethu yn Ffrainc, ac oddiyno anfon Joseph o Arimathea i blannu yr efengyl yn Prydain. Wedi i Paul gymeryd poen ryfeddol i hyfforddi yr efengil, torrwyd ei ben ef yn Rhufain. Merthyrwyd Pedr hefyd. Efangylodd Thaddeus yn Edessa, lle r'iachâodd ef Agbarus y brenin, yr hwn a anfônas [...]i am Grist i ddyfod atto ef, wrth glywed sôn am ei wrthiau ef, ac addawsei Christ anfon un o'i ddyscyblion atto ef ar ol ei dderchafiad. Cynygiodd Agbarus aur i Thad [...]eus am ei gymwynas, ond gwrthododd yr Efangylwr y rhôdd, gan ddywedyd, Iddo ef adel yr eiddo [...]i hun, a pheth y wnai ef ag eiddo arall.
Dyfodiad Christ yn y cnawd a gyflawnodd yr hyn a addawsei Duw, ac a ddisgwiliasei 'r hŷd am y Messiah, yr hwn oedd ddymuniud pôb cenedl. Rhagfynegodd prophwydi yr Juddewon, a phrydyddion y cenhedloedd am dano [Page 25] ef, mal y gwelir yn yr scrythyrau, a scrifennadau 'r Siblau. A chynted ac y ganwyd ef, cafodd bugeiliaid Bethlehem, a doethion y dwyrain, sef Juddewon a chenhedloedd rybudd iw groeshawu ef i'r bŷd. Addawsai Duw i Abraham y bendithid yr holl genhedloedd yn ei hâd ef. yn amser Dafydd Cafwyd yspysrwydd am dano ef yn y Psal. 110.1. Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i'th draed. Lle'r amlygir y derchafiad y gafai 'r Mâb gan y Tâd wedi gorphen yr hyn oedd o' [...] waith offeiriadol iw wneuthur ar y ddaiar. Adroddwyd ei ddyndod, a'i enedigaeth ef yn amser Hezeciah. Mai o Bethlehem y deuei allan vn i fod yn llywydd yn Israel: Mic. 5.2. yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb. Rhagfynegwyd ei ddioddefiadau ef gan Esay. Pen. 53. a Thywalltiad yr yspryd ar bôb Cnawd gan Joel. Pen. 2 Oherwydd hyn yr oedd y duwiol yn disgwil am dano ef yn yr amser y daeth ef; mal y gwelir wrth Simeon, a Zacharias. Je y Samariaid, y rhai nid oedd ganddynt ond crefydd gymmysc, Joan. 4.25. a wyddent fod y Messias yn dyfod, yr hwn a elwir Christ.
Cyn myned ymhellach yn ystori 'r testament newydd, y styriwn fod y wîr grefydd dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd, sef er dechreuad y bŷd hyd Moses, yn siml, ac yn blaen, heb fawr ddefodau corphorol mewn bwydydd na gwiscoedd, nag amseroedd, na llêodd, heb law'r aberthau, a'r enwaediad yn amser Abraham. Wedi hynny o amser Moses hyd dderchafiad Christ dros ynghylch pumtheg [Page 26] Cant o flynyddoedd, bu rhifedi mawr o ffigurau a defodau gweledig i arwyddo Swyddau Crist, a phan ddae [...]h Crist ei hun yn y cnawd, a chyflawni 'r peth yr oedd y rheini yn ei ragfynegi, dioscodd crefydd y cyscodau hynny, gan ddychwelyd i'r simlrwydd dechreuol mewn modd trâ ysprydol. Ond yr un oedd Sylwedd crefydd ymhob oes dan yr hên destament, a'r newydd, (gwèl yr 11 pennod at yr Hebr.) gan weithio yr un grasau ynghalonau 'r ffyddloniaid cyntaf a'r diweddaraf. Gwell oedd gan rai duwiol yr hèn destament Dduw na'u bywyd, Dan. 3.17, 18. Cymerent eu bwrw i ffwrn o dân poeth, yn hytrach nag yr addolent Eulun yn lle'r Arglwydd byw. ac [...]elly yr oedd gan Sainct y Testament newydd: Parod oedd Paul nid iw rwymo yn unig ond i farw hefyd er mwyn enw yr Arglw [...]dd Jesu. Act 21.13 Yr un moddion grâs arferent, sef cynghori, myfyrio, a gweddio. Ymadroddion Job a gyfodent i fynu yr hwn oedd yn syrthio. Job. 4.4. A dywed yr angel wrth Cornelius, anfon am Petr, Act. 11.14. yr hwn a lefara eiriau wrthit, trwy y rhai i'th iacheir di, a'th holl dŷ Yn amser y Psalmydd yr ydoedd y gwynfydedig yn myfyrio ynghyfraith Dduw ddydd a nôs. Psal. 1.2. A gorchymynwyd i Timotheus, 1. Tim. 4.15. Lynu wrth ddarllein, a myfyrio ar y pethau hynny. Nerthol oedd gweddiau pobl dda ym mhob oes, fel y gwelir yn Moses ac Elias; Jag. 5 15. ac medd Jago, llawer addichon tae [...] weddi y cyf [...]aw [...].
Yr vnrhyw orchymmynion moesawl y sydd yn yr scrythurau Cyntaf a'r diweddaf. Rhaid ydoedd i Israel gynt megis y rhaid i'r Christianogion yn awr wneuthur da am ddrwg, [Page 27] a cheisio lleshau eu gelynion, gan ddychwelyd iddynt eu heidionnau a elent a'r gyfrgoll, Exod. 23.4.5. a Chynnorthwyo eu assynnod llwythog hwynt. Rhaid ydoedd iddynt beidio â thwyll, ac â lledrad, a bwytta eu bara drwy lafur, a chwŷs. Y gorchymmynion Moesawl ydynt gopiau o'r sancteiddrwydd a'r cyfiawnder ysydd yn Nuw, ac a ddarlunia ef ar eneidiau dynion: a chan fod ei ddaioni ef yn anghyfnewidiol, y mae ei gyfraith ef felly hefyd. Er dywedyd o'r Apostol nad yw enwaediad na dienwaediad ddim, etto ni ddywed nad yw sanctaidd addoliad, ac eulunaddoliaeth, gonestrwydd a lledrad ddim, eithr annogiff bawb i gadw gorchymmynion Duw.
Yr un dedwyddwch yr oedd y grasol bob amser yn ei geisio, Sef gogoniant tragwyddol. Job. 19.25, 26. Gwyddai Job fod ei Brynwr yn fyw, ac y safai yn y diwedd ar y ddauar, ac er i bryfed ddifetha ei gorph ef, y cafai ef weled Duw yn ei gnawd. Ac yr oedd y Cristianogion custuddiedig yn cymmeryd eu yspeilio am y pethau oedd ganddynt yn llawen, Heb. 10.34. gan wybod fod genddynt olud gwell yn y nefoedd. Drwy r'un Cyfryngwr yr oeddent yn cael trugaredd Dduw. Dywed yr Apostol Paul ir Corinthiaid yn ei amser ef, ac ir Israeliaid yn y diffaethwch yn amser Moses fwytta o'r un bwyd ysprydol, 1 Cor. 10.4. ac yfed o'r un ddiod ysprydol o'r graig ysprydol, a'r graig oedd Grist. A'r un anwyldra a amlygodd Duw tuag at y bobl dduwiol dan y Testament hên a'r newydd; gan obrwyo eu ymgeleddwyr hwy, Gen. 39.5. Math. 10.42. bendithiodd dy Potyphar er mwyn Ioseph, a Chefir gwobr am [Page 28] roddi phiolaid o ddwfr i un o ddyscyblion Crist: a chystuddio eu cystuddwyr hwy, Exod. 8.1. Act. 12.1, 2, 23. Josh. 5.13, 14. megis Pharao, A Herod. ymddangosodd Crist yn weledig dan yr hên destament, a chyflawnodd waith prynedigaeth yn nechreuad y newydd. yn Siccr y mae trugaredd Dduw wedi amlhau yn fwy tuag at y bŷd yngweinidogaeth y testament newydd; am hynny y llawenychodd Simeon, ac y mae Crist yn dywedyd fod llygaid ei ddyscyblion ef yn wynfydedig am weled y pethau yr oeddent yn eu gweled, Luc. 2.29. Luc. 10.23, 24. o herwydd i lawer o Brophwydi ewyllysio eu gweled ac nis gwelsant. Canys y mae'r efengil yn Eglurach. Yr oedd y testament newydd wedi ei orchguddio yn yr hên, yn awr y mae'r hên wedi ei ddatcuddio yn y newydd, ac fel yr haul yn Affrica yn rhoddi goleuni heb gysgod. Ac aberthwyd yn awr nid geifr a lloi, either Crist ei hun, Heb. 9.12. gan gael ini dragwyddol ryddhâd. Hefyd nid oedd gynt ond ymbell deulu yn cael hyspysrwydd o'r grefydd: ac wedi amser Moses nid oedd ond un genedl yn cael ei galw yn oestadol, a'r rhan fwyaf o honno yn wrthodedig eisieu ufuddhâu: tra yr oedd agos yr holl genhedloedd eraill cyn amled a thywod y môr yngwaelod anghredinieth a cholledigaeth. Ono gorchymmynwyd i'r apostolion gynnig Cymmod a grâs i bob cenedl dan haul, fel y ganwyd plant ysprydol i Grist megis y gwlith o grôth y wawr, Psa. 110.3. A'r gwledydd y fuasent mewn tywyllwch er dechreuad y bŷd a welsant oleuni'r bywyd.
Ar hyn llidiod y Cythrael y ddirfawr am golli ei ddeiliaid, a chynhyrfodd ymmerodron [Page 29] Paganaidd Rhufain i erlid y Cristianogion yn filain. O fewn y trychant blynyddoedd Cyntaf ar ol ganedigaeth Crist y bu dêg o erlidigaethau trymion.
Y cyntaf o honynt y digwyddodd yn nheyrnasiad Nero. Oed. Cr. 67 Yr hwn a wnaeth iro Cyrph y Cristianogion â gwêr ac â phyg, iw llosci'r nôs i oleuo heolydd Rhufain. Wedi hyn ofnodd Domitianus deyrnas Crist, a lladdodd ei geraint ef, a gyrrodd Joan i Bathmos. Ond pan ddeallodd ef mai ysprydol ac angylaidd oedd teyrnas yr Jesu, attaliodd ei greulondeb.
PEN. V. Yr Erlid dan Trajanus, Hadrianus a Ferus ymmerodron Rhufain, pryd y merthyrwyd Ignatius, Polycarpus, Justin, ac eraill.
AR ol hyn gorchymmynodd Trajanus lâdd llawer mîl o'r Cristianogion. Oed. Cr. 100. Darfu i Ignatius Pregethwr duwiol ei argyhoeddi ef oi eulunaddolieth, a merthyrwyd ef am ei dystiolaeth: A thra'r oeddid yn ei drosglwyddo ef o Antiochia i Rufain, anfonodd lythr o'i flaen at y Christianogion o'r ddinas ymmerodrawl honno i ddymuno arnynt na cheisient rwystro ei ferthyrdod ef. Cyfieithais hyn o hono o'r Groeg a'r ladin, mal y dirnedech ei yspryd ef wrth ei eiriau.
Wedi fy rhwymo yn Ghrist Jesu yr ydwyf yn gobeithio [...]el eich cyfarch chwi, os bernit fi yn deilwng i ddyfod i'r pen. Dechreuwyd yn dda os caf râs i gyrhaeddyd gafael ar fy rhan yn ddirwystr. Canys yr wyf yn ofni eich caredigrwydd chwi, rhag iddi wneuthur imi niwed. Ni fynnwn i chwi ryngu bodd dynion ond Duw, megis yr ydych yn gwneuthur. Os tewch chwi â sôn yn fynghylch i gwneir fi yn eiddo Duw: eithr os hoffwch chwif y nghnawd i, rhaid i mi redeg drachefn. Ond gweithiwch chwi yn hytrach fel i'm haberther i Dduw, gan fod yr allor yn barod. Fal y canoch i'r Tâd yn Ghrist Jesu, am fod yn wiw ganddo beri i Escob o byria yn y môdd hwn ddyfod i'r gorllewin wedi ei gyrchu o'r dwyrain, i fod yn dŷst o'i ddioddefiadau ef; ac i fachludo oddiwrth ŷ bŷd at Dduw, fal y cyfodwyf ynddo ef. Gweddiwch drosofi ar fynghael yn Gristion, ac nid yn vnig fy ngalw felly.
Gadewch i mi fod yn fwyd i bwystfilod rheipus, drwy y rhai y caffwyf ddyfod at Dduw. ŷd Duw ydwyfi, melir fi yn nannedd bwystfilod fal i'm caffer yn fara pur i Dduw. Je yn hytrach llithiwch y bwystfilod fel y byddont yn fêdd i mi, ac na weddillont ddim o'm Corph i, rhag i neb gael poen oddiwrthifi wedi fy huno. Byddaf yn wîr ddiscybl i Grist pryd na welo 'r bŷd mo'm Corph i.
O Syria hyd Rufain ar dîr ac ar fôr yr ydwyf yn ymlad'd â bwystfilod ddydd a nôs, yn rhwym wrth ddeg o lewpardiaid, sef y milwyr a'm gwiliant, y rhai sydd waether gwneuthur [Page 31] iddynt gymwynas. O na chawn i fwynhau 'r bwystfilod a baratowyd imi, y rhai a chwenychwn i eu cael yn gyflym, y rhai a lithia fi i'm traflyngcu i yn fuan, ac nad arbedont fi, megis yr ofnesant rai eraill, mi af cymmellaf hwynt onis gwnant yn rhwydd. Cŷd-synniwch a mi, gwn beth sydd dda ar sy llês: yn awr yr wyf yn dechreu bôd yn ddyscybl, prŷd nad wyf yn chwenych dim gweledig nac anweledig fal y mwynhawyf Grist. Deled i'm herbyn y tân, a'r Groes, ac ymgyrch bwystfilod, drylliadau fy escyrn, tortiadau fy aelodau, dattodiad fy holl gorph, am y caffwyf yr Jesu. Gwell i mi farw dros Jesu Grist na rheoli hyd eithafoedd y ddaiar. Canys pa lês i ddyn ynnill yr holl fŷd, a cholli ei enaid? O frodyr na rwystrwch i mi fyw. Goddefwch i mi debygu i Grist fy Nuw mewn dioddefaint. Tywysog y bŷd hwna gais fy nghipio, a llygru y meddwl sydd gennif tuag at Dduw, na bydded i'r vn o honoch chwi ei gynorthwyo ef, eithr yn hytrach byddwch gynnorthwywyr i mi na lefarwch am Grist dan dybio'r bŷd yn well. Yn fyw yr wyf yn yscrifennu attoch mewn mawr-serch i farw. Croeshoelwyd fy serch i, ac nid oes ynofi neb ryw dân yn chwennych defnydd-wydd bydol, eithr dwfr bywiol yn tarddu ynof, ac yn dywedyd ynofi tyred at y Tâd. Nid wyf yn ymhyfrydu mewn ymborth llygredig, na digrifwch y bywyd hwn. Ewyllysio yr wyfi fara Duw, bara 'r bywyd, yr hwn yw cnawd Christ, Mab Duw, a wnawd yn yr amseroedd diweddaf o hâd Dafydd, ac Abraham, a'i waed ef yr wyf yn ei chwenych yn ddiod, yr hwn yw bywyd [Page 32] tragwyddol▪ yn eich gweddiau cofiwch yr eglwys yn Syria y sydd a'r Arglwydd yn fugail iddi yn fy llê i.
Yscrifennodd un oi raglawiaid at yr Emerodr, na redrei ef gael gwybodaeth o ddim drwg ar y Cristianogion, er iddo eu Cospi au holi yn fanwl, onid eu bod yn ymgyfarfod cyn y dydd i ganu hymnau i Grist, ac i gydfwytta, au bôd yn ymwneuthur a'u gilidd i ymwrthod â lladrad, llofrudd [...]eth, a godineb: ar hynny cafodd y Cristianogion heddwch. Ond yn amser Hadrianus merthyrwyd Zenon jarll duwiol yn Rhufain, a deg mil o Gristianogion gyda'g ef. Ar hyn plediodd dyscawdwyr Cristnogaidd eu bachos o flaen y gorthrymwr, oni lareiddiodd ef. Ie yscrifenodd Antoninus Pius at ei swyddogion ei [...]od ef yn gwe [...]ed y Cristnogion yn ddiofn ar ddaiargryn, pan fyddeu ei Ddeiliaid Paganaidd ef yn llawn dychryn. Am hynny tybiei eu bôd hwy yn bobl dda, ac na haeddent gospedigaeth. Rhydd Philo, Scryfenydd dyscedig er ei fod yn Juddew gyfryw dystiolaeth am Gristnogion yr oes hon yn yr Aipht: sef eu bòd hwy yn gadael eu tiroedd, yn ymprydio, ac yn gweddio, ac yn canu psalmau, un yn dechreu, ar lleill tua'r diwedd yn cydbyncio.
Dywedir i Gristion ievanc o gydnabyddieth Joan yr apl, adel ei broffess, a myned yn yspeiliwr pen ffordd A phangyfarfu ar y mynydd ag Joan, ffoâwdd oddiwrtho ef rhag Cywilydd, Ond wedi i Joan lefain ar ei ôl ef, ac addaw iddo gymod a Christ, Safodd y lleidr dan grynu ac wylo. Ac wedi ir Apostol weddio drosto ef, dychwelwyd ef at y Saint.
Pan fethei gan Satan ddiddymu'r ffydd drwy'r erlidwyr Paganaidd, cyffroei ymbleidiau yn yr eglwysydd, ac amryw opiniwnau. Am hynny gorfu i Polycarpus athro [...]uwog ddyfod o Asia i eglwys Rufain ynghylch y Pasc, ac vnodd a hwynt mewn Cymmundeb ysprydol yn swpper yr Arglwydd, er nad oedd Cyssondeb rhyngtho ef a nhwythau ynghylch y defod hwnw. Ond wedi hynny yn Amser Ferus yr Emerodr Cododd erlid yn erbyn yr efengil, a merthyrwyd Polycarpus dyscybl Joan yr apl. Yr hwn y ddywedodd wrth y rhai oedd yn ceisio ganddo wadu ei ffydd, Iddo wasnaethu Crist er's gwell na phedwar ugain mlynedd, ai gael ef yn feistr da, ac am hynny na adawei ef mono ef byth. Oed Cri [...] 162. Er ei fod yn oedranus, etto ni chwimiodd ronyn tra yr oeddynt yn ceisio ei losci ef, ond ni finniei 'r tân arno ef tra yr oedd ef fyw, am hynny lladdasant ef a'r cleddyf, a thra'r oedd y tan yn llosci ei gelain ef, daeth arogl peraidd oddiwrtho ef: flangellwyd eraill, a threiglwyd hwynt yn noeth ar hyd cregin llymion, a phryd nad ymwrthodent a'u ffydd er hynny, teflyd hwynt ir llewod iw llarpio, Merthyrwyd Justinus besyd dyscawdr llythrennog, yr hwn suasei vnwaith yn Philosophydd cenhedlig; ond wrth weled mor gyssurus y byddeu'r Cristnogion yn dioddef, dechreuodd syn-feddylio, ac wrth ymddiddan a hèn Gristion trôdd at Dduw. tystiolaethodd nad ellid wneuthur niwed i Gristion, er ei lâdd ef. Cymer yr hyn a ganlyn o'i yscrifennadau ef.
PEN. VI. Yr ymddiffin a wnaeth Justin Ferthyr dros y Christianogion at senedd Rhufain a'r ymmerawdr.
YMae gan Jesu henw ac ordinhâd i fod yn Ac [...]ubwr er jechydwriaeth i'r ffyddloniaid, a dymchweliad y cythreuliaid, a hyn a ellwch chwi ei ddeall wrth y pethau a wneir yn eich golwg chwi. Oblegid yn ddiau llawer o'n pobl Gristianogol ni drwy enw 'r Jesu a groeshoelwyd a iachasant, ac ydynt yn awr yn iachau drwy 'r holl fŷd, a'ch dinas hon lawer o bobl cythrybledig gan gythreuliaid, y rhai nis gallau [...]ich swynwyr chwi mo'u jachau. Gwyddom i lawer a dderbyniasant ddyscybliaeth y Stoicciaid, o herwydd iddynt athrawiaethu yn odidog ynghylch moddion gael eu cashau a'u llâdd, megis Heraclitus gynt, a Musonius yn ein hoes ni. Canys yr ysprydion drwg bob amser a barasant gasineb i'r rhai a geisient fyw wrth reswm, a gochelyd drygioni mewn neb ryw fodd. Ac yr wyf inneu yn disgwil gosod i mi gynllwyn gan ryw vn, a'm hoelio wrth bren.
Tra yr oeddwn yn ddilynwr dysceidiaeth Plato. mi a glywn gablu 'r Cristianogion, eithr gwelwn hw [...]nt yn myned yn ddiofn at farwolaeth, a phôb peth dychrynllyd arall Bernais ynof fy hunan mae amhossibl ydoedd eu bod hwy yn byw mewn drygioni, a serch i drythyllwc [...]. Canys [...]wy ac syd [...] ddilynwr trythyllwch a ddichon gofleidio marwo [...]aeth yn ewyllyscar, iw ddifeddu ei hun o'r p [...]hau sydd dda ganddo?
Nyni wedi em troi drwy reswm a'r Gair, a ddilynwn yr vnig a'r diadgenedledig Dduw drwy ei fâb ef. A'r rhai oeddem gynt yn ymhyfrydu mewn godineb, yn awr a hoffwn ddiwei [...]deb yn vnig. Yrhai a arferem gunswriaeth a'n Cyssegrwn ein hunain i'r Tragwyddol Dduw. Y rhai a hoffem feddiannau yn bennaf peth, yn awr a gyfranuwn y [...] hyn sydd gennym a'r anghenogion. Pwy bynnag a gredant wirionedd y pethau a draddodir, ac a ddywed [...]r gennym ni, ac a dderbyniasant allu i fyw felly, a ddyscir i weddio dan ymprydio, ac i geisio gan Dduw fa [...]deuant pe [...]hodau, a ninnau a weddiwn ac a ymprydiwn gydá hwynt. Yn ol hynny arweinir hwynt gennym ni lle bo dwfr, ac adgenhedlir hwynt yn yr vnrhyw fôdd o adenedigaeth ac yr adgenhedlwyd ninnau. Canys yna y golchir hwynt yn y dwfr yn enw Tâd pôb peth, a'n Achubwr Jesu Christ, a'r yspryd Glan. O herwydd Christ a ddywedodd, oddieith [...] eich geni chwi drachefn nid ewch i mewn i deyrnas nefoe [...]d. Nyni yn ol y golchiad hwn a ddygwn y cred [...]dyn at y brodyr i'r fan lle y byddont wedi ymgasclu i wneuthur gweddiau cyffredin â meddwl dyfal drostynt eu hu [...]ain, a thros yr hwn a oleuwyd, a thros bawb eraill ym mhôb man, ar ein cael drwy weithredoedd wedi i ni adnabod y gwirionedd yn geidwaid da o'r gorchymmynion a roddwyd i ni, a bòd yn gadwedigol yn dragywydd. Wedi gweddiau cyfarchwn eu gilidd â chussanau. Wedi hynny dygir bara, a phioled o ddwfr, a gwîn i'r hwn sy'n flaenor ar y brodyr. Yntef wedi eu derbyn a gyflwyna fawl a gogonedd i Dâd pôb [Page 36] peth drwy enw 'r Mâb, a'r yspryd Glân, ac yn hirfaith rhydd ddiolch am iddo ganhiadu ini ei ddoniau hyn. A phan orphenno ef weddiau a thalu diolch, yr holl bobl ag hyfryd gydsynniad a lefara Amen; yr hyn yn yr jaith Hebraeg a arwyddoccá gwneler. Wedi i'r rhagflaenor orphen y weithred o ddiolchgarwch, y diaconiaid a roddant y bara a'r gwîn a'r dwfr i bob vn o'r rhai presennol, ac au dygant at y rhai absennol. Yr ymborth hwn yn ein mysc ni a elwir diolchgarwch, yr hwn nid yw gyf [...]eithlon i neb arall fòd gyfrannog o hono, onid i'r hwn sy'n credu fòd ein athrawiaeth ni yn wir, ac a olchwyd er maddeuant pechodau, ac sydd yn bucheddu fel y dyscodd Christ. Canys nid fel bara cyffredin neu ddiod gyffredin y cymerwn ni y rheini Yna yn ddiau yr ydym ni yn coffau eu gilidd ynghylch y pethau hyn, a'r rhai sydd ganddynt a gynnorthwyant yr anghenus ac yr ydym yn ddiwyd y nai [...]l gyda'r llall. Ac ym mhôb peth a roddom yr ydym gan fendithio yn moliannu gwneuthurwr pawb drwy ei fab ef Jesu Grist, a'r ysp [...]yd Glân. Ac ar y dydd a elwir y sul, p [...]wb oll a'r a breswyliant yn y trefydd, neu 'r gwledydd a gyd ymgynhillant, a darllenir llyfrau 'r Apostolion, a scrythyrau 'r prophwydi cyhyd ac y bo 'r amser yn goddef. Yn ol hyn cyd-gyfodwn oll a thywaltwn weddiau, ac wedi gweddio megis y rhag ddywedasom ni, cyflwynir bara, a gwîn, a dwfr. Heb law hynny y rhai ydynt oludog a gyfrannant bob vn wrth ei ewyllys: a'r hyn a gascler felly a roddir iw gadw at y blaenor, ac yntef oddiyno a gynnorthwya 'r ymddifaid, [Page 37] a'r gweddwon, yr anghenog clwyfus, caethion, a dieithraid. Ar ddydd Sul yn gyff [...]edinol oll y gwnawn ni ein cynnulleidfau, yn gymmaint ac mai bwnw yw 'r dydd cyntaf y gwnaeth Duw 'r bŷd ynddo, ac y cyfododd ein Achubwr Jesu Grist arno.
Ei ymddiddaniad ef â Thrypho yr Juddew.
Erioed ni bu. ac byth ni bydd vn Duw arall, o Trypho, heb law yr hwn a wnaeth yr holl fŷd; ni obeithiwn ni chwaith mewn neb arall onid yn Nuw Abraham, Isaac, a Jacob. Ond gobeithiwn nid trwy Foesen, canys felly y gwnaem fel chwithau. Darllenais am gyfraith ddiweddarach ydoedd i ddyfod, a Thestament o awdurdod trasiccr. Y Testament hwnw sydd raid e [...] gadw gan ba [...]b yn awr a'r a gesiant gael etiseddiaeth Duw: Christ yw 'r gyfraith olaf, a'r dragwyddol a roddwyd i ni, a'r testament ffyddlon, gwed [...] 'r hwn ni bydd na chyfraith na gor [...]hymmyn arall. oni ddarllenaist di y peth a ddywedodd Esaias? Gwrandewch arnaf fy mhobl, a chlustfeiniwch â mi frenhinoedd, canys cyfraith a aiff allan oddiwrthifi, a'm barn yn oleuni cenhedloedd. Y mae fynghyfiawnd [...]r yn nessau ar frŷs, a'm hiechydwriaeth i a aiff allan, ac yn fy mraich i y gobeithia y cenhedloedd. A thrwy Jeremia y dywed Duw fal hyn am y Testament newydd hwn, wele 'r dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfammod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Juda, nid yr hwn a wna thym a' [...] tadau hwynt yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt, fal y dygwn hwynt allan o dir yr Alph [...]. Am [...]ynny [Page 38] gan fynegu o Dduw y trefnid cyfammod newy dd, a hynny yn oleuni i'r Cenhedloedd, a'n bod ni yn gweled, ac yn hygoel gennym fod pobl drwy enw Jesu Grist a groeshoelwyd yn troi at Dduw oddiwrth eulunnod, a phôb math ar anwiredd, ac yn parhau yn eu proffes hyd farwolaeth, ac yn ymarfer â gwîr dduwioldeb: yn ddian wrth y gweithredoedd, a'r rhinwedd a gydganlyn y gall pawb ddeall yn hawdd mai hon yw 'r gyfraith newydd, a'r Testament newydd, a disgwiliad y rhai o'r holl genhedloedd a ddeisyfant bethau da gan Dduw. Canys nyni yr Israel ysprydol wedi ein dwyn at Dduw drwy Grist a groeshoelwyd, ydym genhedlaeth Jacob, Isaac, ac Abraham, yr hwn mewn dienwaediad a gafodd dystiolaeth am ei ffydd, ac a dderbyniodd fendith, ac a alwyd gan Dduw yn dâd llawer o genhedleedd.
Y mae 'r gosodwr Cyfraith yn bresennol, ac nis gwelwch. Y mae 'r tlodion yn derbyn cennadwri llawen yr efengyl; y mae 'r deillion yn gweled, chwithau ni ddeallwch. Rhaid wrth enwaediad arall, a chwithau a falchiwch yn y cnawd. Mynn y gyfraith newydd i chwi gadw Sabbath yn oestadol, a chwithau pan dreulioch vn diwrnod mewn gorphywystra a debygwch i chwi wneuthur dledswydd crefydd. Ac os bwyttewch fara croiw dywedwch i chwi gyflawni ewyllis Duw. Nid y pethau hyn a hoffa ein Duw ni. Os oes neb yn eich mysc chwi yn anudonŵr, neu yn dwyllwr, peidied â phechu; os oes neb yn odinebŵr edifarhaed, a cheidw wir a hyfryd Sabbathau Duw. Nid i'r ymdrochfa yr anfonodd Esaias chwi, fel y golchech [Page 39] ymmaith lofruddiaeth, a phechodau eraill, y rhai [...]id yw dwfr y môr ddigonol iw glanhau. Ond yr olchfa jachusol gynt a gasau 'r edifeiriol. Ni chymmodir hwynt chwaith â Duw wrth waed bychod, a defaid, ond wrth ffydd drwy waed Christ, a'i farwolaeth ef, canys er mwyn yr achos hwnw y bu ef farw. Ai llês bedydd yw ei fod yn gwneuthur y corph yn lanach? Bedyddier a golcher chwi yn eich eneidiau oddiwrth ddigofaint, a chybudd-dod, oddiwrth genfigen, a chasineb, ac wele 'r corph a sydd glân. Hyn hefyd yw arwyddoccâd y bara croyw, na chyflawnoch hên weithredoedd y surdoes maleisus. Ond yr ydych chwi yn cymeryd y cwbl mewn ystyriaeth gnawdol, ac yn tybied ei fod yn wîr grefydd os gwnewch y cyfryw bethau, er eich bod yn y cyfamser â'ch eneidiau yn llawn twyll a phôb drygioni. Y mae arnoch chwi a enwaedwyd yn y cnawd eisiau ein enwaediad ni; ond nid oes arnom ni, gan fod hon gennym, ddim o ddiffyg eich vn chwi. Canys pe buasei mor rheidiol ac yr ydych chwi yn tybied, ni chreuasai Duw mo Adda yn ddienwaededig, ac nid edrychasai ar roddion ac aberthau Abel, ac yntef yn ddienwaededig ei gnawd. Ni buasai Enoch chwaith yn rhyngu ei fodd ef, yr hwn ni chafwyd am i'r Arglwydd ei symmud ef.
Ni a weddiwn Dduw yn oestadol fal ein cadwer drwy Jesu Grist; mal wedi ein troi at Dduw drwyddo ef y bom yn ddifeius. Canys galwn ef yn Gynnorthwywr, ac yn Brynwr. Y Cythreuliaid a ofnant allu ei enw ef, a'r pryd hyn pan dyngheder nhw drwy enw Jesu Grist [Page 40] a groeshoelwyd dan Pontius Pilatus, y maent yn vfuddhau i ni; megis wrth hynny y byddo amlwg i bawb fel y mae 'r cythreuliaid yn ddarostyngedig iw enw ef, ac i swydd y dioddefaint a gymerth ef arno. Gwnawd ef yn offrwm dros yr holl bechaduriaid a fodlonant i ddyfod iw pwyll drwy edifeirwch, ac a ymprydiont yr ympryd a fynegodd Esay, gan ddattod rhwymau, a chadw 'r pethau eraill a rifir ganddo ef, ac a wnaiff y rhai sydd o ffydd Jesu. Rheidiol i chwi fod yn ddiwyd i wybod pa ffordd y gellir cael maddeuant pechodau, a gobaith o'r pethau daionus a'r sydd iw cael yn etifeddiaeth. Ac nid yw amgen na hon, sef wedi adnabod y Christ hwn er maddeuant pechodau, a'ch glanhau a'r olchfa, bôd i chwi fyw heb pechod rhag llaw.
Newydd a dieithrol yr ymddengis profiadau o'r yscrythyrau er eu darllen gennych beunydd; mal y dealloch w [...]th hynny i Dduw guddio oddiwrthych chwi, o berwydd eich drygioni ach malais, fel na chanfyddoch ddoethineb yn ei eiriau ef; oddieithr y rhai yn ôl rhâd ei drugaredd y gadawodd ef iddynt hâd i jechydwriaerh, fel na [...]wyr ddifethid eich cenedl chwi megis Sodom a Gomorra, fel y dywed Esaias. Heb law yr hwn a ddeallir ei fôd yn Dad y cwbl, gelwir arall yn Arglwydd gan yr yspryd Glân: ac nid trwy Foesen yn vnig, ond trwy Ddafydd hefyd. Canys trwyddo ef y dywedpwyd, Dyw [...]dodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i [...]istedd ar fy neheulaw i, nes y gosodwyf dy elynion yn droedfaingc iti. A thrachefn, dy orsedd di o Dduw sydd yn dragywydd, gwialen vniondeb [Page 41] yw gwialen dy deyrnas di. Hoffaist gyfiawnder, a chaseaist anwiredd, am hynny Duw, dy Dduw ài a'th enneiniodd ag olew llawenydd vwchlaw dy gyfrannogion. Dygaf i chwi hefyd, o gyfeillion, dystiolaeth arall allan o'r yscrythyrau sanctaidd, ddarfod i Dduw cyn bod vn creadur genhedlu o honaw ei hun rinwedd ddeallus a elwir gan yr yspryd Glân yn Fâb, weithiau yn ddoethineb, weithiau yn Dduw, weithiau yn Arglwydd, a'r Gair. Bu prŷd y galwodd ef ei hun yn Ben Tywysog wrth ymddangos mewn dull ddynol i Joshua Mab Nun. A thrwy Solomon y dywed fel hyn; Yr Arglwydd a'm gwnaeth er dechreuad ei ffyrdd. Hyn hefyd a ddywed gair Duw drwy Foesen, Gnawn ddyn ar ein delw ni. A dywedodd Duw, w [...]le Adda sydd megis vn o honom ni i wybod da a drwg Gwnaeth y Christ hwn i ddwfr bywiol oddiwrth Dduw ffrydio ar lèd yn y diffaethwch ydoedd heb wybodaeth o Dduw, sef yn nhir y cenhedloedd: yr hwn hefyd a amlygwyd yn eich cenedl chwi, ac a jachaodd y rhai clwyfus, byddarion, a chloffion, gan gyfodi 'r meirwon hefyd a'u dychwelyd i fywyd. Drwy hygoeledd ei weithredoedd cynhyrfodd y bobl o'r oes honno iw gydnabod.
Yn ein mysc ni hyd y pryd hyn y mae doniau prophwydoliaeth; oddiwrth yr hyn y dylech chwi ddeall symmud y pethau hynny attom ni a'r oeddent gynt yn eich cenedl chwi. Ac megis yn eich mysc chwi yn amser y prophwydi [...]nctaidd yr oedd gau brophwydi, felly yn ein mysc ninnau y mae gau athrawon, y rhai y rhybuddiodd ein Harglwydd ni iw gochelyd.
Efe a ddy wedodd y caseid, ac y lleddid ni er [Page 42] mwyn ei enw ef, ac a deuau gau Grist iau a dwyllent lawer, yr hyn a gyflawnir hefyd.
Onid oedd ef iw eni o wyryf, am yr hwn y llefarodd yr yspryd Glan, wele 'r Arglwydd a ddyry arwydd, wele morwyn a fydd feichiog, ac a Escor ar fâb. Os oedd ef megis rhai cyntafanedig eraill iw genhedlu wrth gydiad, pa arwydd a addawodd ef ei wneuthur nad yw gyffredin i bob cyntafanedig? Ac yn hyn y meiddiech lygru cyfieithiad eich henuriaid a fu gydâ Ptolomaeus brenin yr Aipht, Cyfieithasant hwy yr yscrythyr honno yn Esay. 7.14. o'r Hebraeg ir Groeg fel hyn. [...]. we [...]e gwyryf â feichioga. gan haeru na chynwys yr yscrythyr megis y troesant hwy, ond wele gwraig jevangc â feichioga, megis pe'r arwyddocceid peth mawr i wraig [...]evangc feichiogi wrth gydiad, yr hyn y mae gwragedd jeveingc agos i gyd yn ei wneuthur. Amlwg yw drwy 'r holl ddaiar nad oes neb a all ein dychrynu ni y rhai a roesom ein henwau i'r Jesu drwy ffydd. Y mae'n ddigon eg [...]ur nad ymadawn ni a'n profess er ein taro a'r cleddyf, a'n harwain i'r groes, a'n taflu i'r bwystfilod, a'n penydio â thân, a phob math ar ddir boenau eraill. A pha fwyaf o'r cyfryw ddialeddau a wneler â ni, mwyaf a fydd o ffyddloniaid, ac o ddilynwyr gwir grefydd drwy enw 'r Jesu. Canys megis ac wrth ei ysgythru y gwnaiff vn i'r [...]inwydden fwrw allan wrŷsc jefeingc; felly y digwydd ynom ninnau hefyd: Canys gwinwydden a blanwyd gan Dduw a Christ yr Achubŵr yw ei bobl ef.
Megis y cadwodd gwaed yr oen pâsc y rheini [Page 43] yn yr Aipht yn jach ddianaf, felly gwaed Christ a wareda y credadwy oddiwrth farwolaeth. A ydych chwi yn tybied y buasem ni fyth yn gallu deall y pethau byn yn yr yscrythyrau, om bae i ni drwy ewyllys Duw dderbyn grâs fel y deallem hwynt, a chwithau heb y grâs hwn nis deallwch hwynt: fel y cymhwyser at y peth yr hyn a gyhoeddwyd gan Foesen, digiasant fi â duwiau dieithr, a minnau a haraf iddynt hwythau wynfydu trwy 'r hon nid yw genedl, Deut. 32.21. trwy genedl anneallus y digiaf hwynt.
O'i lythr ef at Diognetus.
Gwêl nid yn vnig â'th lygaid ond a'th bwyll o ba sylwedd a ffurf y mae 'r rhai yr ydych chwi yn en galw yn dduwian. Onid yw 'r naill o honynt yn faen fel yr hwn y sathrer arno? a'r llall yn brês, heb fod yn amgenach na'r llestri a wnawd i'n gwasanaeth ni 'pren yw 'r llall, a hwnw yn bwdr hefyd Onid yw arall yn arian, yr hwn sydd raid iddo wrth ddyn iw gadw rhag ei ddwyn gan leidr?
Nid yw 'r Christianogion neillduol oddiwrth ddynion eraill, nac o ran gwlad, nac jaith. Eithr preswyliant mewn dina soedd Groegaidd a Barbariaidd megis ac y digwyddodd rhan pob vn, gan ddilyn arferion y brodorion yn eu dillad a'u bwyd. Yn yr vn môdd ac eraill y mae ganddynt bôb peth megis dinasyddion, a dioddefant bob peth megis pererinion. Preswyliant ar y ddaiar, ond y mae ganddynt eu dinasyddiaeth yn y nêf. vfuddhant i'r cyfreithiau gosodedig, a bucheddant vwch en llaw hwynt. [Page 44] Carant bawb, a phawb a'u berlidiant hwynt: Lleddir a bywocceir hwynt. Y maent yn dlodion, ac yn cyfoethogi llawer. Gwradwyddir hwynt, a gorfoleddant dan ammharch. Dygir eu gair da, a thyst [...]olaethir eu cyfiawnder hwynt.
PEN. VII. Erlid yr efengyl yn Frainc a'r Affric, ac mewn ll [...]oedd [...]raill a'r ach [...]sion o'r blinderau hynny.
YN yr oes hon y bu Ireneus dy scybl Polycarpus yn Athro buddiol yn ffrainc, yn ei amser ef y bu ymdrech rhwng [...]scob Rhufain ac eglwysydd Asia ynghylch y Pasc: mynneu rhai Asia gadw'r un amser a'r Juddewon, ond taereu Eglwys Europa iddynt dderbyn oddiwrth yr apostolion na ddylent gymmuno ond ar y. Sabboth yn unic. Am hyn y Cyhoeddodd Fictor escob Rhufain nad arferei ef ddim Cymmun [...]eb ag eglwysydd Asia: ond darfu i Ireneus yn enw eglwysi ffrainc, ac eraill, ei ar gyhoeddi ef oi boethder, er eu bod o'r un dŷb ag ef ynghylch y pwnc. Gan ddangos nad oedd holl eglwysi Crist drwy'r bŷd yn Cadw yr un amser i ymprydio, canys ymprydieo rhai ddiwrnod, eraill ddauddydd, etto bod undeb cariadus rhyngthynt: Ac na ddylid drwy ymdrech am gyscod golli sylwedd crefydd, sef cariad. Yr oedd gwrthiau yn yr eglwysydd yn amser Irenaeus, ac efangylwyr yn myned ar lêd i bregethu: pan [Page 45] drymbâodd yr erlid yn ffrainc merthyrwyd ef, a llawer o'r Cristnogion. Yno y cafodd y gweiniaid ddiangfa, Rhuf. 8.18. a'r Cryfion galondid i ddioddef er mwyn Crist, gan ystyried nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu Cyffelebu i'r gogoniant a ddatcuddir i ni. Safodd i fynu un Fetius Jarll i bledio gyd a'r Cristnogion a merthyrwyd ef gyd â hwynt. Blandina gwyryf rasol a flinodd ei phenydwyr drwy ddioddefgarwch, gan gyffessu ei ffydd heb ymwrando-â'i phoen. wedi i ofn yrru Biblis i wadu'r ffydd, poenydwyd hi er mwyn ei chymmell i gyhuddo ei chyfeillion, ac yn ddysymmwth, fal un wedi deffro o gŵsc, addefodd Grist, a thystiolaethodd nad oedd y Cristianogion yn bwytta gwaed anifeiliaid, a pha fôdd y bwyttaent waed plant? Pan weleu'r encilwyr gweiniaid fod y rhai Calonnog mor bârdd yn eu Cadwynau a'r briodas-serch yn ei thrwsiadau, deuent o honynt eu hunain ir frawdle i gyffessu Crist er mwyn cael merthyrdod. er arteithio a ffrio yr Sainct ar farfor, etto buont ffyddlon hyd angeu. Wedi llosci'r merthyron, teflid eu llydw ir afon, er mwyn gwanychu gobaith y Christianogion am yr adgyfodiad. Ond digwyddodd ir ymerodr fod mewn Cyfyngder ef ai fyddyn o ran Sychter, ac wedi iddo geisio Cymmorth yn ofer gan ei eulynnod, anfonodd am y Christnogion ynghyd i weddio at eu Duw dros y fyddyn, ac felly y gwnaethant, a chawsont law yn ebrwydd, ac am y Cymwynas hwnw gorchymmynwyd ostegu'r erlid.
Dan emerodraeth Seferus y bu erlid tôst yn enwedig ar Gristnogion Affrica a Chappadocia, Oed. Cri. 205. [Page 46] y pryd y merthyrwyd tâd Origen: ac er nad oedd yntef ond llangc dwy ar bumtheg oed aethei allan i gymeryd ei ferthyrdod gyd a' [...] dâd, oni buasei iw fam guddio ei ddillad ef; am hynny yscrifennodd at ei dâd iw annog ef i ddioddef. Trodd un Capten Basilides yn Gristion wrth roddi Potamiena i farwolaeth am ei ffydd. Ac ychydig gwedi dioddefodd ei hun am ei Ffydd yr un gospedigaeth, ac y roesei ef at eraill yn ei anghredinieth. Am hyn y dywedir fôd gwaed y merthyron yn hâd yr Eglwys. Canys pobl wrth weled Cyssur y merthyron a chwiliant am yr achos o honi, ac wedi ei choffael, ai dilynant, am sôd tangneddyf á Duw yn awr angeu yn beth dymmunol.
Yr achosion pam yr oedd y rheolwyr Paganaidd cyn fynyched, a chyn gieiddied yn gorthrymu yr Christnogion oedd amryw; Gen. 3.15. megis, Y gelyniaeth sydd rhwng hâd y wraig a hâd y ddraig. Câs gan natur lygredig Dduw ai ffyrdd. Am hynny codid celwyddau ar y Sainct, eu bod yn llâdd plant, ac yn godinebu yn eu cyfarfodydd: ac yr oedd y wîr ffydd yn gostegu eulunaddolieth y cenhedloedd, ac am hynny yn eu cyffroi hwynt. Act. 16.18. Pan fwriodd Paul yspryd dewiniaeth allan o langces. terfyscodd dinas Philippi; a llanwyd dinas Ephesus o gythryfwl yn erbyn yr efengil, Act. 19.27. rhag cyfrif teml y dduwies Diana yn ddiddim. A byddeu cynghorion Cristnogion yn anesmwytho y rhai oeddent yn ymroddi i bechod: Dyna'r peth y wnaeth i Herod garcharu a mwrdro Joan Fedyddiwr. Marc. 6.17, 18. Wedi i un o ordderchion Rheolwr droi yn gristnoges, a gwrthod bodloni ei gynefin chwant ef, ceisiodd [Page 47] ymddial ar yr efengil. Hefyd yr oedd y Cristnogion o ran ofn Duw beb roddi ufudd-dod i lawer o gyfreithiau y cenhedloedd: or achos hynny y bwriwyd yr Israeliaid gynt ir ffwrn dân, Dan. 3.12. ac pen 6.12. ac i ffau'r llewod. Ni fyneu y rhai grasol dyngu i Ffortun Caesar, nac addoli ei ddelw ef yn y marchnad-leodd, er gorchymmyn y Swyddogion: am hynny y bernid hwynt yn ystyfnig, ac yn haeddu Côsp, rhag iddynt gyffroi hawl i frenhinieth. Yn olaf, pa aflwydd bynnag y ddigwyddei ir cenhedloedd, os newyn, neu haint, tybient i hynny fod o herwydd ir Cristnogion ddirmygu eu gau dduwiau hwynt, a hynny, gyda chwant iw meddiannau hwynt, ai blaenllymei nhwy i ddifetha'r ffyddloniald.
A chan fod yscrifennadau ladin Tertullianus yn achos y Christianogion y pryd hynny yn llawn o resymmau doethion; talfyrrais a chyfieithais o honynt yr hyn a ganlyn.
PEN. VIII. Diffynniad y ffydd yn erbyn y cenhedloedd gan Tertullianus henuriad o Carthago yn Affrica.
NId yw plaid y Christianogion yn adolwyn nawdd am eu hachos, o herwydd nad yw ryfedd genddi ei chyflwr. Gŵyr ei bod yn bererin ar y ddaiar, ac yn hawdd iddi gael gelynion ym mysc dieithraid: a bod genddi dylwyth, eisteddle, gobaith, a brî yn y nefoedd. Ond vn peth weithiau a hoffa hi ei wneuthur fal nas [Page 48] condemnier hi yn anadnabyddus. Os collsarnant hi cyn ei gwrando, heb law cenfigen anghyfiawnder, haeddant eu hammau am ryw gydwybod, gan na fynnant wrando yr hyn nis gallent ei gondemnio wedi ei gwrandawer. Am hynny y gŵyn hon o'ch anwiredd yw 'r gyntaf a osodwn i'ch erbyn, sef eich casineb i enw Christianogol. Yr hwn anwiredd a drymheir, ac a argyhoeddir gan yr vn lliw â'r hwn y tybir ei escusodi, sef anwybod [...]eth. Canys beth sydd anghyfiawnach nag i bobl gassau yr hyn nis adnabyddant, pe rhôn i'r peth haeddu câs? Canys y pryd hynny yr haedda, pan wydder iddo haeddu. Ond p [...]yd na bo gwybodaeth o'r haeddiant, pa fodd y diffynnir cyfiawnder y casineb? Pan fo dynion am hynny yn cassau o herwydd nas gwyddant pa fath yw 'r peth a gassânt, pam nas dichon ef fod yn gyfryw beth ac na ddylent ei gassau? Felly argyhoeddwn bòb vn o'r ddau, sef iddynt fod heb wybod tra cassânt, ac yn anghyfiawn gassau, tra nis gwyddant. Bydded i bawb a gassant yr hyn nis gwyddant, beidio a chassau, fel y caffont wared o'u anwybodaeth Yr hyn sydd ddrwg yn ddiau ni lefis y rhai a gipiwyd iddo mo'i ymddiffin megis da. [...]ywalltodd natur ofn a chywilidd am ben pôb drwg. Hôff gan ddrwg weithredwyr ymguddio, gochelant ymddangos, crynant pan eu dalier, gwadant pan eu cyhudder. Ond beth debyg i hynny y wnaiff y Christion? Nid oes gywilidd ar yr vn, nid edifar gan yr vn. Os gwrad [...]yddir ef gorfoledda, os cyhuddir ef nid ymddiffin: pan holer ef cyffessiff yn rhwydd, pan ei barner ef rhydd ddiolch. Pa fath ddrwg [Page 49] yw hwn y sydd heb y pethau ydynt naturiol i'r drwg? megis ofn, cywilidd, cilio yn ôl, edifeirwch, galar. Pa fath ddrwg yw hwn y mae 'r euog yn llawenychu o'i blegyd? cyhuddiad yr hwn yw dymuniad vn, a'i gôsp yw ei ddedwddwch. Nid elli ei alw yn ammhwyll, a thitheu yn anwybodus o hono.
Os yw siccr ein bod ni yn ddrwg pam i'n trinir gennwch chwi mewn modd amgenach na rhai drygiog eraill? Pan fydder ynghy [...]ch barnu eraill arferant eu geneuau eu hunain, a dadleuwyr cyflogedig i ddangos eu diniweidrwydd; rhydd iddynt atteb ac ymddadleu, ac nes iddynt eu hymddiffyn eu hunain, a chael eu gwrando, nid cyfreithlon eu heuogfarnu. Ond ni chaniatteir i'r Christianogion lefaru dim i ddiheuro eu hachos, i ddiffyn y gwirionedd, i wneuthur na bo'r barnwr yn anghyfiawn. Eithr hynny yn vnig a ddisgwilir a'r sydd reidiol i gyffroi câs cyffredinol, sef cyfaddefiad o'r henw, ac nid holiad o fai.
Pan ydoedd Plinius yr ail yn rheoli talaith, ac iddo gondemnio rhai Christianogion, a diswyddo eraill, cythryblwyd ef o herwydd eu lliaws, ac ymgynghorodd â Thrajanus yr ymmerawdr beth i wneuthur â'r lleill: gan addef heb law eu cyndynrhwydd hwy yn gwrthod aberthu, na chawsei ef ddim ar eu crefydd hwy, ond cyfarfodydd plygeiniol i ganu i Grist, ac i Dduw, ac i gydgreirio dyscybliaeth, gan wahardd llofruddiaeth, godineb, twyll, anffyddlondeb, a phob yscelerder arall. Yna yscrifennodd Trajanus atto, yn ddiau na cheisid allan mor r [...] hyn, onid eu cospi pan en cynnygid [Page 50] hwy. O farn anrhefnus! gommedd chwilio am danynt megis rhai diniwed, a gorchymmyn eu cospi megis rhai euog. Nid ydych yn gwneuthur â ni wrth ffurf barnu drwg weithredwyr eraill yn hyn chwaith, o herwydd pan fo eraill yn gwadu arferwch benydiau iw cymmell i gyfaddef. Ond penydiwch y Christianogion yn vnig i geisio eu cymmell i wneuthur gwâd. Llefain y dyn, Christion wyfi: y mae ef yn dywedyd y peth sydd, a thithau a fynni glywed y peth nid yw. A chwi yn swyddogion i wascu 'r gwir allan o bobl drwy eu poeni, a geisiwch glywed celwydd gennym ni. Yr wyfi medd ef, yr hyn yr ydwyti yn ei ofyn a ydwyfi. Pam ynteu y dadgymmali di fi ar gam? yr wyf yn cyfaddef, ac et to ti a'm poeni, beth a wneit pes gwadwn? Anhawdd y coeliwch i eraill a wado yn eglur, os gwadwn ni chwi a goeliwch yn ebrwydd. O ba le y mae 'r gwrthnyssigrwydd hwn? nad y styriwch fod mwy coel iw roddi i vn a gyffesso o'i wirfodd, na phan wado drwy gymelliad.
Y rhan fwyaf wrth ddwyn tystiolaeth i ryw vn a gymmyscant ddannodiaeth ei henw. Gwr da yw Caius Seius, eithr drwg yn vnig am ei fod yn Gristion. Canmolant a wyddant, a goganant yr hyn nis gwy ddant, a llygrant yr hyn a wyddant a'r peth y maent yn anadnabyddus ag ef. Pan yw gyfiawnach rhagfarnu am bethau anhyspus wrth bethau amlwg, na rhagdd [...]mnio pethau amlwg wrth bethau anhyspus.
Gosodwyd cyfraith gynt na chyssegrid vn Duw gan yr ymmerawdr oddieithr ir senedd fodloni iddo. Tiberius am hynny yn [...]ser pa [Page 51] vn y daeth henw Christ hyd y bŷd, wedi clywed o Syria ddarfod iddo amlygu gwirionedd ei Dduwdod yno, a'i cynnygiodd ir senedd, ac a fwgythiodd gyhuddwyr y Christianogion. Ymgynghorwch â'ch côf-lyfrau, ac yno y cewch weled mai Nero oedd y cyntaf a wnaeth greulondeb â'r cleddyf ymmerodrawl yn erbyn y blaid hon, ydoedd y pryd hynny yn dirfawr gynnyddu yn Rhufain. Ond yr ydym yn gorfoleddu am y cyfryw gyssegrwr o'n condemniad. Canys yr hwn a wypo pa fâth ŵr oedd ef, a ddichon ddeall na chondemnid gan Nero ond rhyw ddaioni tra-bûdd-fawr.
I ni y mae llofruddiaeth yn waharddedig, ac nid yw rydd i ni geisio toddi yr hyn a ymddyger yn y brù; canys pryssurdeb llofruddiaeth yw rhwystro ganedigaeth. Nid oes gennym ni ddim gwaed anifeiliaid yn ein bwydydd, y rhai ydym yn ymgadw oddiwrth yr hyn a dagwyd, rhag mewn môdd yn y bŷd ein halogi â gwaed.
Dywedir i'ch duwiau chwi gael pethau rheidiol i'r by wyd, ond nid eu gwneuthur. Y peth a gafwyd oedd o'r blaen, a'r peth oedd eiloes ni chyfrifir i'r hwn a'i cafodd, ond i'r hwn a'i trefnodd. Yn y delwau nid wyfi yn dirnad dim amgen na 'r defnydd, a'u bod yn chwiorydd i lestri a chelfi cyffredin. Gall fod yn gyssur i ni a gurir o achos y duwiau hynny, eu bod hwy eu hunain yn gorfod iddynt ddioddef yr vn pethau wrth eu gwneuthur. Am hynny os gwrthodwn addoli lluniau oerion a ddirnedir gan lygod a phryfed copyn, oni haed [...]ai gwrthod y fath gyfeiliorni adnabyddus glôd, yn Ile côsp?
eich duwiau teuluaidd a elwch lariau a drinwch chwi wrth awdurdod cartrefol, gan eu gwystlo, a'u gwerthu, a'u newid, ac weithiau gwneuthur crochan o Sadwrn, weithiau noe o Minerfa, megis ac y byddo pob vn wedi darfod, a'i ddryllio wrth ei hir addoli: ac megis y bo'r perchen yn gweled angenrhaid teuluaidd yn sancteiddiach.
Yr hwn yr ydym ni yn ei addoli sydd vn Duw, a wnaeth yr adail fawr hon yn addurn iw fawrhydi, a'r holl elementau, cyrph ac ysprydoedd drwy 'r gair â'r hwn y gorchymmynnodd, [...]'r deall á'r hwn y trefnodd ef hwynt. Y mae el yn anweledig, ac mor anfeidrol nas gellir mo'i amgyffred. Eithr y peth a ellir ei weled a'i amgyffred yn gyffredin sydd waelach na'r synhwyrau â'r rhai y dirnedir ef. Er bod yr enaid yngharchar y corph, a chwedi ei hamgylchu â drwg addysc, a'i gwanhychu gan chwantau, etto pan edrycho allan o gŵsc neu glefyd geilw Dduw yn vnig, ac araith pawb yw, caniattaed Duw hynny. Addefiff ef yn Farnwr hefyd, Duw a wêl Yr wyf yn rhoi ar Dduw, a Duw â dâl i mi. Ac wrth ddywedyd hyn nid yw yn edrych tua'r Twr yr eulynnod penaf. Capitol, ond tua'r nêf, canys edwyn eisteddle 'r Duw byw. Ac fel y byddo i ni ddyfod yn nès atto ef a'i ewyllis, dwg offer yscrythyrol i'r hwn a ewyllysio chwilio am dano, a chredu iddo, a'i wasanaethu. Canys er y dechreuad anfonodd ir bŷd wŷr wedi eu sancteiddio gan yr yspryd Glân, i gyhoeddi mai 'r vnig Dduw sydd a greawdd y cwbl, a wnaeth ddŷn o'r pridd, ac yn niwe [...]d y bŷd wedi ail-gyfodi 'r meirw oll a ferniff ei addo [...]wyr i gael gwobr [Page 53] bywyd tragwyddol, a'r drygionus i dân mor barhaus. Y pethau hyn a watwarasom ninnau vnwaith, pan oeddem o honoch chwi. Ni enir eithr gwneir rhai yn Gristianogion.
Profwn fawrhydi, a heneiddrwydd yr yscrythyrau. Yr hyn a wneir yn awr a ragfynegwyd gynt. Am hynny y mae gennym ni ffydd siccr am bethau i ddyfod, o herwydd eu rhagfynegu gyd a'r pethau a welir yn brosedig beunydd.
Nid yw gywilidd genym Grist, eithr y mae 'n hoff gennym gael ein cyfrif a'n condemnio tan ei henw ef. Dyscasom ddarfod cenhedlu hwn o Dduw, a'i alw yn Dduw o vndod sylwedd, ei ddescyn ef i forwyn, a ganwyd y cnawd ffurfiedig yn ei chrôth hi yn ddŷn wedi ei vno â Duw. Gwydd [...]i 'r Juddewon fod Christ i ddyfod, ac yn awr y maent yn disgwil ei ddyfodiad ef, ac nid oes neb ryw ymgur mwy rhyngom ni a nhwythau, nag oblegid na chredant ei fod ef yn awr wedi dyfod. Canys gan fod dau ddyfodiad o hon [...]w wedi eu mynegu; y cyntaf sydd yn awr wedi ei gwplau yngostyngeiddrwydd cyflwr ei ddyndod, yr ail sy'n dynessau yn niwedd y byd yn amlwg faw [...]hydi y Duwdod. Y nhw heb ddeall y cyntaf a obeithiant am yr ail, y sydd wedi ei fynegu yn eglurach. Haeddiant eu camweddau a wnaeth na ddeallent y cyntaf. Yr hwn a gamdybiasant hwy yn ddyn yn vnig o herwydd ei waeledd, a gyfrifasant hwy yn swynwr o herwydd ei rinwedd yn bwrw cythreuliaid allan o ddynion, ac yn rhoddi golwg ir deillion, iw egluro ei hun yn Ai [...] Duw, a wnai, ac a wnaeth bob peth. Wrth farw ar y groes dangosodd arwyddion. Yn y mynydyn [Page 54] hwnw ciliodd y dydd. Ac y mae 'r damwain hwnw wedi ei roddi i lawr mewn y scrifen, ac ynghadw yn nhryssordai eich hên gofion chwi. Pilatus (ac yntef yn Gristion yn ei gydwybod) a fynegodd y pethau hynny oll i Tiberius Caesar. Dyma 'r cyfrif a gyhoeddwn ni o'r henw, ac o'r awdwr. Nid rhydd i neb ddywedyd celwydd y nghylch ei grefydd. Yr ydym ni yn dywed yd ar gyhoedd, ie pan fyddoch chwi yn ein penydio ni, yr ydym ni yn anafus, ac yn waedlyd yn lle [...]ain, mai Duw a addolwn ni drwy Grist.
Gweithrediad cythreiliaid sydd er dinistr dyn. Am hynny trawant gyrph â doluriau, ac â damweiniau chwerwon, a'r enaid â thraha disymmwth. Eu teneuder au gwna yn barodol i fyned i fewn pob vn o'r ddwy sylwedd ysydd yn nŷn. Llawer a ddichon ysprydol nerthoedd, ac nis dirnedir hwynt yn gweithio, nes gweled yr affaith wedi ei ddwyn i ben Os oes ryw gafod ddirgel yn peri i ffrwythydd ddiflannu yn eu blodau, ac yn heintio 'r awyr; a'r vn fath ymglwyf anamlwg y mae anadliad cythreuliaid yn ystuno llygredigaethau meddwl dŷn â chynnyrsau angerddol, ammhwyll chwantau, a chyseiliorni. Buan yw 'r cythreiliaid, am hynny mewn mynydyn y maent ym mhob man, ac yn hawdd iddynt wybod yr hyn a wneler yno. Eu cyflymder a gymerir am Dduwdod, eisiau gwybod eu sylwedd hwy.
Mynnant eu cymeryd weithiau yn awdwyr o'r pethau a synegant; ac felly y maent o'r drwg, ond nid o'r da. Casclant drefniadau Duw eddiwrth bregethau y prop hwydi, ac oddiyno [Page 55] gan fwrw amcan ynghylch damweiniau 'r amseroedd, dynwaredant Dduwdod, dan ledratta prophwydoliaeth. Wrth eu bod yn yr awyr ynghymdogaeth y sèr a'r cymylau, deallant y darpariadau wybrennol, mal yr addawont y glaw y byddont eisoes yn ei ddirnad. Y maent yn gymwynascar ynghylch doluriau. Clwyfant yn gyntaf, ac yno gorchymmynant gyffyriau, ar ol y rheini peidiant â chlwyfo, a choelir iddynt hwy iachau. Gosoder wrth eich brawdleoedd chwi ryw vn y gwyddis fod cythrael yn ei flino, a'r yspryd hwnw wedi ei orchymmyn gan ryw Gristion, yn gystal a'i cyfaddefiff ei hun yn gythrael mewn gwirionedd, ac y mae yn ei daeru ei hun yn Dduw mewn mannau eraill drwy gelwydd. Ynteu yn awr y mae eich Duw chwi wedi ei ddarostwng dan y Christianogion; ac ni ddylid cyfrif yn Dduw yr hwn sydd yn ddarostyngedig i ddŷn, ie (iw wradwydd) i'r rhai y mae yn cenfigennu wrthynt.
Nid esceulusaf yr ymgyrch yr hon a annogiff rhyfyg y rhai a ddywedant i'r Rhufeiniaid o ran haeddiant eu tra-diwyd grefyddoldeb gael eu derchafu i gymmaint vchder, ac y meddiannent y bŷd. A bod y duwiau hynny, a wnant y cymwynas iddynt hwy, i ragori ar y lleill i gyd. Siccr yw i lawer o'ch duwiau chwi fod yn reolwyr gynt, am hynny os ganddynt hwy y mae awdurdod i roddi teyrnas, pan oeddent hwy yn teyrnasu gan bwy y derbyniasant y gêd honno?
Er dychymmyg ofer goel gan Numa, etto nid oedd na delwau, na themlau yn nuwioldeb y Rhufeiniaid y pryd hynny, eithr crefydd gynnil, [Page 56] a defodau tlodion oedd ganddynt. Dim capitoliau vchel, onid allorau tywyrch, a llestri Samia, a'r arogl o'r rheini, a'r duw nid oedd yn vnlle. Canys y pryd hynny cyfarwyddyd y Groegiaid, a'r Tuscaniaid i wneuthur eulunnod ni lenwasai mo'r ddinas. Ynteu nid oedd y Rhufeiniaid yn grefyddol cyn myned yn fawrion; ac wrth hynny nid aethant yn fawrion am eu bod yn grefyddol. Je pa fodd yr aent hwy yn fawrion am grefydd, i'r rhai y daeth codiad wrth anghrefydd? pob ymmerodraeth a geir wrth ryfeloedd a ddinistriant ddinasoedd, y peth nis gwneir heb niweidio eu duwiau. Ond gan na theimlant ddim briwir hwy mor ddigôsp, ac yr addolir hwy yn ddiobr. Y rheini hefyd, teyrnasoedd pa rai ydynt wedi eu bwrw at yr ymmerodraeth Rufeinaidd, pan gollasant hwynt nid oeddent heb grefyddau. Edrychwch ynteu onid ef sy'n caniattau teyrnasoedd, yr hwn piau 'r bŷd, a'r dŷn a'i rheolo. Yn olaf os y grefydd Rufeinaidd sydd yn rhoi teyrnasoedd, ni buasai Judah (a ddirmygai 'r duwiau cyffredin hynny) gynt yn teyrnasu. Duw pa vn a ddarfu i chwi Rufeiniaid dros ennyd ei anrhydeddu ag aberthau, a'i deml â rhoddion, a'r genedl â chyngrair: ac ni buasech byth yn rheoli arni pe buasai heb bechu yn erbyn Duw, ac yn ddiweddaf yn erbyn Christ.
Ond rhai a dybiant yn ynfydrwydd pryd y gallem aberthu dros yr amser presennol, ac ymadel yn ddianaf, gan gadw ein bwriad yn ein meddwl, etto fod yn well gennym ni ein diysgogrwydd na'n ymwared. Yr ydych chwi yn rhoddi i ni gyngor pa fôdd i'ch twyllo-chwi. Ond yr ydym ni yn gwybod o b'le y daw y cyfryw [Page 57] bethau a hyn, a phwy sydd yn cynhyrfu hyn i gyd, a pha fodd y gweithia ef yr awr hon drwy berswadio yn ddichellgar, ac y bolydd drwy benydio yn greulon i geisio bwrw ein dianwadalwch i lawr, sef yr yspryd cythreulig. Yr hwn o herwydd ein ymyscar oddiwrtho ef sydd yn cenfigennu i ni râs Duw, ac yn ymladd i'n herbyn ni allan o'ch meddyliau chwi. Canys er bod holl allu 'r cythreuliaid yn ddarostyngedig danom ni, etto megis gweision drwg cymmyscant afrywiogrwydd ag ofn, a cheisiant niweidio 'r neb y maent yn ei arswydo. Eithr pan eu dalier gorescynnir hwy. Gan yr vn ysprydoedd y ffurfir chwi i'n cymell ni i aberthu dros jechyd yr ymmerawdr. Yn ddiau yr ydych yn anrhydeddu Caesar â chyfrwysach ofn na Yr culun pennaf. Jupiter ei hun; a chymwys hynny pes adnabyddech. Canys pa vn byw nad yw well nag vn marw? ond nid ydych chwi yn gwneuthur hyn wrth reswm yn hytrach na gweiniaeth i'r awdurdod presennol. Felly yn hyn i'ch cefir yn anghrefyddol yn erbyn eich duwiau eich hunain, pryd yr offrymmwch fwy ofn i arglwyddiaeth ddynol. Cynt y tyngwch yn anudon i'r holl dduwiau, nag i yspryd Caesar yn vnig. Ymddangosed yn gyntaf a all y rhai yr ydych yn aberthu iddynt gyfrannu iechydwriaeth i ymmerodron, nag i neb arall, ac yno bwriwch arnom ni fai yn erbyn Caesar. Yr ydym ni yn gweddio at y gwir Dduw tragwyddol am jechydwriaeth i ymmerodron. Nyni y Christianogion gan edrych i fynu a'n dwylo ar lêd o herwydd eu bod yn ddiniwed, a'n pennau yn noethion o herwydd nad oes arnom [Page 58] gywilidd, heb rybuddiwr i'n cofio o herwydd o'r galon y gweddiwn, ydym yn oestadol yn erfyn i'r ymmerodron oll fywyd hir, ymmerodraeth ddifraw, tŷ diogel, byddinoedd cryfion, senedd ffyddlon, pobl onest, a bŷd heddychol. Nid allaf weddio at neb arall am y pethau hyn ond atto ef oddiwrth yr hwn y gwn y câf. Efe yn vnig a'i gwna, a minneu yr hwn a ddylwn erfyn wyf ei wâs ef. Pwy bynnag wyt yn tybied nad ydym ni yn gofalu am jechydwriaeth Caesar, edrych i eiriau Duw, ac i'n llythyrau ninnau, y rhai nid ydym ni ein hunain yn eu celu, ac a ddwg llawer o ddamweiniau i ddwylo rhai eraill. Gwybydd o'r rheini y gorchymmynir i ni weddio dros ein gelynion, a'n erlidwyr. Gydâ chwi yr ysgydwir yr ymmerodraeth, a phan ysgydwir ei haelodau erâill, ysgydwir ninnau hefyd. Y mae arnom ni angenrhaid arall i weddio dros yr ymmerodron, a phob gradd o'r ymmerodraeth, o herwydd i ni wybod yr oedir y trais dirfawr, a'r blinderau ofnadwy, y sydd ar gwympo ar yr holl fŷd, drwy y diogelwch a beriff ymmerodraeth Rhufain. Yr hwn a ddywedo mai Duw yw Caesar, sydd yn naccau ei fod ef yn ymmerawdr. Onid yw ddŷn, nid yw ef ymmerawdr. Pan fyddo yn gorfoleddu yn ei gerbyd vchel, rhybuddir ef o'i fod yn ddŷn; Canys dywedir wrtho o'r tŷ ôl, cofia mai dŷn ydwyti.
Cyfrifir y Christianogion yn elynion cyhoeddus, am na roddant i'r ymmerodron anrhydedd ofer, a chelwyddog. Yn gydwybodus ac nid yn drythyll y cadwant eu blynyddawl barchedigaethau [Page 59] hwynt. Cymwynas gwych yw dwyn tân a dawnsiau allan ir heolydd, gloddesta yn finteioedd, a rhedeg yn dorfeydd i gamweithredau, a llithiau anlladrwydd. Ai felly drwy warth cyhoedd y dangosir llawenydd cyhoedd? A weddai i gylch ddyddiau parchedigaeth tywysogion y pethau sydd anweddol ar ddyddiau eraill? ymgynghorant ag astrologyddion a dewiniaid ynghylch bywyd y Caesariaid, yr hyn gelfyddodau nid yw y Christianogion yn eu harfer yn eu hachosion eu hunain, gan i Dduw eu gwahardd. Gan orchymmyn i ni garu ein gelynion, pwy a allwn ni ei gassau? A chan ddarfod ein gwahardd i dalu 'r pwyth pan niweidier ni, pwy allwn ni ei ddrygu? Cynnifer gwaith ac y gwnaethoch chwi greulonder ir Christianogion, pa ddial a dderbyniasoch chwi ganddynt am y cam a wnaethech iddynt, er i chwi eu cyffroi hyd farwolaeth? Pryd y gallai vn noswaith weithio llawer o ddial drwy ychydig, pettai cyfreithlon i ni dalu 'r naill ddrwg am y llall. ond pell fyddo oddiwrth y blaid dduwiol na cheisio ymddial â thân dynol, na thybied yn ofidus ddioddef y peth hwnw ym mha vn y profir hi.
Canys pes ewyllysiem nid yn vnig chwareu 'r dialwyr yn ddirgel, ond myned yn elynion amlwg i chwi hefyd, a fyddai arnom ni ddiffyg lluoedd a byddinoedd! Canys yr ydym ni wedi llenwi eich dinasoedd chwi, a'ch ynysoedd, a'ch cestill, a'ch trefydd breiniol, a'ch tai cyngor, a'ch gwersylloedd, a'ch llwythau, a'ch llŷs, a'ch senedd, a'ch marchnad, eich temlau yn vnig a adawn ni i chwi. Pa ryfel yw na byddem ni [Page 60] gymwys a pharodol iddo, pe bau llai ein lliaws, y rhai ydym mor ewyllyscar i'n dihenyddio, oni bae fod yn rhyddach ir ddyscybliaeth hon gymeryd ei llâdd, nag iddi hi lâdd neb arall?
Nid oes i ni ddim iw ddywedyd, iw weled, nac iw glywed yn anniweirdeb y Theatr, nac ynghreulondeb yr ymdrechfa. Pa fodd yr ydym yn eich anfoddhau chwi os cymerwn ddifyrrwch ffordd arall? oni fynnwn ddigrifwch i ni y mae 'r golled (ped fai hynny golled hefyd) ac nid i chwi.
Yn awr mynegaf negesau y blaid Gristianogol, mal y gallwyf ddangos y da wedi i mi argyhoeddi 'r drwg. Corph ydym ni wrth gydwybod crefydd, ac vndeb d [...]scybliaeth a chyngrair gobaith. Ymgasclwn yn gynnulleidfa, fel pettem fyddyn yn amghylchu Duw â'n gweddiau, hyfryd gan Dduw y drais hon. Gweddiwn dros yr ymmerodron, a'r swyddogion sy danynt, dros gyflwr y bŷd a'i lonyddwch. Cymmellir ni i wneuthur coffâd o'r yscrythyrau duwiol ynghylch y peth y byddo helynt yr amseroedd presennol yn peri i ni ei ragrybuddio neu ei ystyried. Yn ddiau porthwn ffydd â lleferydd sanctaidd, cyfodwn i fynu obaith, siccrhawn hyder: Yn yr vn man hefyd y bydd annogaethau, cerydd, â barn dduwiol: ac yn bwysfawr y bernir, megis gan rai a wyddant eu bod yngŵy dd Duw. A'r farn bennaf a ragflaena 'r hon sydd i ddyfod yw, pan becho vn felly megis y deoler ef oddiwrth gymmundeb gweddi, a chynnulleidfa, a phob sanctaidd gyfrannogiad.
Henuriaid profadwy a reolant, y rhai a ddaethant [Page 61] ir anrhydedd hwnw wrth dystiolaeth, ac nid wrth werth. Rhydd pob vn arian yn y gîst vnwaith yn y mîs, neu pan fynno, a phan allo. Y rhai a arferir nid i wledda nac i diotta, ond i faethu, ac i gladdu y tlodion, a'r ymddifaid. y cyfryw weithrediad o garedigrwydd a'n gwnaeth yn hynod i rai: Gwêl (meddant) fel y carant eu gilidd! Canys hwy a gassânt eu gilidd: Ac mor barod ydyw 'r naill i farw dros y llall: Canys hwy fyddant barottach y naill i lâdd y llall.
Pôb peth ydynt ddiwahan yn ein plith ni, ond y gwragedd. Yn y llê hwnw yr ydym ni yn peidio â chyfeillach, ym mha vn yn vnig y mae pobl eraill yn ei arfer, wrth ddyscu gan Socrates y Groeg wr, a Chato y Rhufeinwr, a gyfrannasant eu gwragedd i eraill. Llogwr putteiniaid yw 'r philosophydd, a'r swyddog.
Ein swpper ni a ddengis ei fôdd wrth ei henw, canys gelwir ef Agape, sef Cariad yn Roeg. Beth bynnag a gostio ef y mae'n e [...]w wneuthur traul er mwyn duwioldeb, gan ein bod yn cynnorthwyo 'r tlodion â'r esmwythâd hwnw. Nid ymostyngir i fwytta nes archwaethu gweddi at Dduw yn gyntaf. Bwytteir gymmaint ac a ddigono 'r newynog, yfir yr hyn a fo llesol ir diwair. Ymddigonant megis rhai a gofiant eu bod i addoli Duw drwy 'r nôs, ac ymddiddanant megis rhai a wyddant fod yr Arglwydd yn gwrando. Wedi golchi eu dwylo, pob vn fel y gallo allan o'r yschythyrau sanctaidd, neu o'i athrylith ei hun a gynhyrfir i'r canol i ganu mawl i Dduw, ac wrth hynny y gwybyddir pa fôdd yr yfodd ef. Yr vn môdd gweddi a ddiwedda'r [Page 62] wledd; ac yno yr ymadewir nid i finteioedd yr ymladdau, nac i ruthro i drythyllwch, eithr ir vn gofal am gynwyledd a diweirdeb, megis rhai a gymmerasent nid cymmaint o swpper ac o reolaeth.
I niwed pwy y darfu i ni erioed ymgyfarfod? yr vn fath ydym ni ynghŷd ac ar wascar, heb na drygu na thristau neb. Pan gascler ynghŷd bobl dda, duwiol, a diwair, ni ddylid eu galw yn ymranniad ddrwg, eithr yn llŷs. Y rhai a gydfwriadant i gassau rhai da, a ymescusodant yn ofer wrth gyfrif y Christianogion yn achos o bob adfyd cyffredin. Os yr afon Tiberis a aiff dros y muriau, os Nilus ni chyfid i wrteithio'r tir, os y ddaiar a grŷn, o bydd newyn neu haint, yn ebrwydd y bloeddir am fwrw 'r Christianogion i'r llewod. Adolwg pa faint o gelaneddau a faeddasant y bŷd a'r ddinas cyn dyfodiad Christ? os cyffelybwn y dygn ddialeddau gynt, yscafnach yw y rhai a ddigwydd er pan dderbyniodd y bŷd y Christianogion gan Dduw. Canys er hynny diniweidrw ydd a liniarodd anwireddau 'r bŷd, a dechreuodd bod erfynwyr ar Dduw. Chwychwi ynteu ydych euog o bôb aflwydd cyffredin, ymysc y rhal y dirmygir Duw, ac yr addolir delwau sefydlog.
Yr hwn a osododd fod barn dragwyddol ar ôl diwedd y bŷd, nid yw yn pryssuro i wneuthur gwahaniaeth, yr hyn yw cyflwr y farn, cyn y diwedd. Yn y cyfamser vniawn yw ar holl ddynol ryw wrth roddi seibiant a senn. Mynn i bethau hyfryd fod yn gyffredin ir annuwiol, a sarhâd iw bobl ei hun: fal y byddai i bawb o honom yn vnfaint brofi ei addfwyn ddaioni [Page 63] a'i doster ef. O herwydd i ni ddyscu fod cyfiawnder gydag ef, hoffwn ei ddaioni ef, ac ofnwn ei doster ef. Ond chwithau yn y gwrthwyneb a ddirmygwch y ddau. Canlyn ynteu fod holl blaau 'r bŷd yn digwydd i ni er rhybudd, ac i chwithau er cerydd oddiwrth Dduw.
Gwneir achwyn arall arnom ni hefyd gan ddywedyd ein bod ni yn ddiles yn negesau 'r bŷd. Pa fodd y gall hynny fod a ni yn byw gydâ chwi o'r vn lluniaeth, a dillad, a chyfraid bywyd? Canys nid Brachmanniaid ydym ni, ac yn byw dan goedydd. Yr ydym ni yn gofus o'r diolch a ddylaem ei roddi i'r Arglwydd Dduw y creawdwr, ac ni wrthodwn ni vn ffrwyth o'i weithredoedd ef: yn ddiau ymgymmhedrolwn fal nad arferom ef yn ormodol, neu ar fai. Nid ydym yn byw yn y bŷd heb farchnad, heb gigfa, nac heb eich gweithdai, buarthau, ffeiriau, a masnachoedd eraill ynghŷd a chwi. Yr ydym ni yn llongwrio, ac yn milwrio, yn hwsmoneiddio, ac yn marchnatta gydâ chwi, am hynny cymyscwn gelfyddydau, a chyhoeddwn ein gwaith i'ch raid chwi.
Ond nid wyf yn arfer dy ddefodau crefyddol, ni phrynwn thus. Gŵyr y Sabaeaid fod mwy o'i marsiandiaeth hwynt yn myned i gladdu 'r Christianogion, nag i fwgdarthu i'r duwiau. Diau (meddwch) fod ardreth y temlau beunydd yn lleihau. Y mae 'n trugarogrwydd ni yn treulio mwy o heol i heol, na'ch crefydd chwi o deml i deml. Ond y mae achos ir ardrethau eraill i ddiolch ir Christianogion, y rhai mewn ffyddlondeb a dalant y peth sy ddyledus, a gochelant rhag twyllo neb: os gall neb gwyno [Page 64] rhag anffrwythlondeb y Christianogion, y rhai hyn ydynt: yn gyntaf, perchennogion putteiniaid llôg; yna 'r lleiddiaid dirgel drwy gleddyf neu wenwyn, a'r dewiniaid a'r swynwyr. Ond ffrwythlondeb mawr yw bod yn hysp i'r rhain. o'ch pobl chwi y llenwir y carchar, o'ch pobl chwi y pescir bwystfilod. Nid oes yno vn Christion, oddieithr yn amlwg am ei fod yn Gristion: ac os yw amgenach, nid yw ef yn awr yn Gristion.
Dynwared serch i'r gwirionedd y mae 'r philosophyddion, a'i llygru drwy geisio gwâg ogoniant. Y mae 'r Christianogion yn ei chwennych fel pech angenrheidiol, ac yn ei chwplhau yn hollhawl fel rhai sydd arnynt ofal am eu jechydwriaeth. Democritus wrth dynnu ei lygaid ei hun am nas gallai edrych ar wragedd heb eu chwennych, na bod heb dristwch oni chafai eu mwynhau hwynt, sydd yn addef ei anniweirdeb wrth y diwygiad. Ond Christion a edrych ar wraig â llygaid jach ddianaf, yn ei feddwl y mae ef yn ddall i drachwant. O dywed rhyw vn fod rhai o honom ni yn ymadel â rhe. ol dyscybliaeth, yna y peidiant â chael eu cyfrif gennym ni yn Gristianogion.
O Herwydd mai ordeiniad y farn yw achlysur yr adferiad, o angenrhaid yr vn ac a fu a osodir ger bron, fel y derbynio gan Dduw farn yn ol ei haeddiant. Yr vn rhai a fyddwn ni ac ydym yn awr. Addolwyr Duw a fyddant gyda Duw yn oestadol wedi eu gwisco â sylwedd eu priodol dragwyddoldeb. Ond y [...] anghrefyddol a'r rhal nid ydynt be [...]ffaith tuag at Dduw, a fyddant ym inhoen tân mor dragwyddol. Y [Page 65] mae mynyddoedd yn llosci ac yn parhau, ynteu beth a wna 'r drygiog a gelynion Duw?
Yn ddiau Christion wy [...] os mynnaf: ynteu yr wyti yn fynghollfarnu i os fi ai mynn. Ac yn gymmaint nas gelli mo'r hyn a elli i'm herbyn i oddieithr i mi ei fynnu, o'm ewyllys i yn awr y mae 'r peth a wnei, ac nid oth allu di. O h [...]rwydd hynny y mae 'r gwerin yn llawenychu yn ofer yn em cystudd ni. Nyni piau 'r llawenydd y maent bwy yn ymhonni o hono: y rhai sy well gennym gymeryd ein condemnio na [...]yrthio oddiwrth Dduw. Yn y gwrthwyneb y thai a'n cafasant a ddylasent dristau, ac nid llawenychu, gani ni gael yr hyn a ddewiswn. Ynteu meddwch chwi paham yr ydym yn achwyn rhag eich erlidigaeth os mynawn ddioddef? yn ddiau ewyllysiwn ddioddef, ond yn y môdd ac y mae 'r milwr yn ewyllysio 'r frwydr, lle mae'n rheidiol ofni a bod mewn perigl. Er hynny ymleddir â'r holl nerth, a gorfoledda 'r hwn a orchfygo am iddo gael clôd ac yspail, er iddo gwyno rhag yr ymgyrch Rhyfel i ni yw ein galw o flaen y brawdleoedd fel yr ymdrechom yno gyd a'r gwirionedd mewn perigl o'n bywyd: a gorchfygu yw cael yr hyn a ymdrechech am dano. A'r fuddugoliaeth hon sy'n cael yr anrhydedd o ryngu bodd Duw, a'r yspail o fyw yn dragwyddol. Amlheir ni wrth ein medi gennych chwi. Had yw gwaed y Christianogion.
Cymer yr hyn a ganlyn befyd o yscrifen yr vn athro at Scapula Rhaglaw Ca [...]thago ydoedd yn bwgwth creulondeb i'r Christianogion.
Anfonasom y llyfr hwn nid o ran ofn am danom ein hunain a'n cyfeillion, eithr am danoch chwi a'n holl elynion. Canys felly i'n gorchymmynir drwy addysc i hoffi ein gelynion, ac i weddio dros y rhai a'n erlidiant, fel y byddo hyn yn ddaioni perffaith, a phriodol i ni, ac nid cyffredin. Rhan pawb yw hoffi eu cyfeillion, ond Christianogion yn vnig a hoffant eu gelynion. Nid rhan crefydd yw cymmell crefydd, yr hon a ddylid ei derbyn o wirfodd ac nid wrth gymmell. Gan enaid ewyllyscar y gofynnir aberthau.
Nid yw Christion elyn i neb llai o lawer i'r emerodr, yr hwn a ŵyr ef ei ordeinio gan ei Dduw ef. Anrhydeddwn yr ymmerawdr yn y môdd y mae cyfreithlon i ni, a buddiol iddo yntef, megis gŵr llai na Duw yn vnig. Am hynny yr a berthwn dros jechyd yr ymmerawdr, ond i'n Duw ni, a'r eiddo yntef, ac yn y môdd y gorchymmynodd Duw, sef â gweddi bur. O herwydd nid oes ar Dduw gwneuthurwr pob peth eisiau arogl neu waed.
Ni a'n ymddygwn ein hunain mewn distawrwydd a gwyldra, ac ni'n gwneir yn hynod vn ffordd, ond wrth ddiwygiad ein bên feiau.
Rheidiol i ni ofidio am nas caiff dinas yn y bŷd dywallt ein gwaed ni yn ddigosp. Gallem olod o'ch flaen di ddiwedd y cyfryw raglawiaid ac a gofiasant yn niwedd eu hoes iddynt wneuthut ar fai gythryblio y Christianogion. Nid ydym ni yn dy ddychrynu, nac yn dy ofni chwaith. Eithr ewyllysiwn wneuthur pawb yn gadwedig drwy eu rhybuddio nad ymladdont yn erbyn Duw.
Cydlefont hwy fel y fynnont, mwynhânt gymwynasau 'r Christianogion. Canys gwaredwyd yscrifennydd vn a fwrid i lawr bendramwnwgl gan gythrael, a chymmydog, a phlentyn rhyw rai eraill. A pha gymmaint o wŷr vrddasol (canys ni soniwn am y gwerin) a waredwyd oddiwrth gythreiliaid a doluriau? Je yr oedd Severus tâd Antoninus yn cofio 'r Christianogion. Canys ceisiodd ef Proculus y Christion a'i iachâusai ef gynt drwy olew, ac a'i cadwodd ef yn ei lŷ; hyd ei farwolaeth. A Marcus Aurelius yn y rhyfel yn Germania a gafodd law mewn sychter drwy y gweddiau a wnaeth y milwyr Christianogol at Dduw. Pa drallod arall a oddef y Christion, oddieithr am ei blaid? yr hon ni phrofodd neb mewn cymmaint o amser ei bod na godinebus, na chreulonam ddiniweidrwydd, am ddaioni, am gyfiawnder, am ddiweirdeb, am ffydd, am wirionedd, am y Duw byw y lloscir ni. Etto y gwobr mwyaf a ganlyn yr ymdrech fwyaf. eich creulondeb chwi yw ein gogoniant ni. Ni dderfydd am y blaid hon, yr hon a elli ddirnad ei hadeiladu yn fwy pan dybier ei llâdd. Canys pôb dŷ [...] wrth weled y fath ddioddefgarwch, wedi ei daro gan betrusder cydwybod a gyffroir i chwilio am yr achos, ac wedi ei gwybod, yntef yn y man a ddilyn y gwirionedd.
PEN. IX. Yr erlid dan Decius, Falerianus, a Dioclesianus ymmerodron Rhufain.
Ded. Cri. 250.WEdi i Decius gymeryd lle Philip yr emerodr, (yr hwn y laddaseu ef am iddo droi yn Gristion) rhoddodd allan broclamasiwn gwaedlyd i lâdd y Cristnogion oll. dywed Historiâwr fod cyn hawsed cyfrif tywod y mor, a chyfrif henwau y rhai a ferthyrwyd y pryd hyn ynhaleithiau Rhufain, o'r dwyrain ir Gorllewyn: er i rai o'r Cristnogion lwfrhâu, ac aberthu i eulynnod rhag colli eu golud, etto cymerodd y lleill eu hyspeilio am eu da a'u bywyd yn ewyllysgar cyn y gwadent Grist; ie metheu gan y rheolwyr na thrwy fwgythion nac addewidion, na gau resymau, na phoenydiau orchfygu ffydd gwragedd a merched: eithr yr oedd gwendid rasol yn gryfach nag awdurdod anghredmiol. Ac os byddeu rhai yn cyfaddef eu flydd yn ofnus yn y sessiwnau, cyfodeu eraill o honynt eu hunain heb neb yn eu Cymell, i gy [...]ssy yn galonog, oni byddeu'r dyrfa yn rhyfeddu, Act. 14.25 a'r barnwyr fel Phaelix yn crynu, a'r Christnogion yn gorfoleddu; canys byddei dyrnod Duw yn ddisymmwth yn llâdd amryw o'r penydwyr a'r encilwyr: ac ysprydion drwg yn meddianu yr lleill. Lladdwyd Decius ei hun mewn rhyfel â'r Barbariaid; a daeth Cornwyd marwol drwy'r holl ymerodraeth, y dalodd am ddifrodi 'r diniwed, om byddeu Cyrph y cenhedlig yn dyrrau yn yr heolydd, a'r Cŵn yn eu llarpio, am na lefasent drin eu cleifion, na chiaddu [Page 69] eu meirwon, rhag ofn yr haint: a'r Cristnogion yn ymgleddus iw gilidd, heb ddim diffyg.
Ynghylch hyn y Cwympodd Origines athro nodedig: Siomwyd ef i fwrw aberth ir eulyn, rhag i Ethiopiad halogi ei gorph ef. Ond edifrhâodd gwedi hynny, a galârodd yn oer am ei wendid: a phan aeth fel herwr i Judea, ac ir gynnylleidfa ddymuno arno bregethu, agorodd y bibl, ar lle cyntaf y trawodd wrtho oedd hwn, sef, wrth yr annuwiel y dywedodd Duw, Psa. 50.16. beth Sydd iti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau? yr hyn y wnaeth iw ddagrau ef attal ei eiriau, ac ir holl dyrfa wylo gyda'g ef.
O herwydd fod y dyscawdwr hwn mor hynod am ei ddysceidiaeth a'i ddiweirdeb, cyrchwyd ef at Seferus yr ym merawdr i Rufain. Ac yno y daeth ef mewn gwisc siml, ac yn droednoeth Wrth gymeryd ei daith gwrthododd wiscoedd gwchion a march, a dewisodd gerdded, am na ddarllennasai i Grist farchogaeth ond vn waith, a hynny ar assyn, a phan ddaeth ger bron yr ymmerawdr a gofyn iddo beth oedd ei brophes, attebodd mai 'r gwirionedd. A phan ofynnodd yr ymmerawdr iddo pam yr anrhydeddent ddyn croeshoeliedig am Dduw? Attebodd fod yr Atheniaid y pryd hwnnw yn anrhydeddu benw a llûn Codrus eu brenhin am yr hyn a wnaethai ef iw gwaredu hwynt oddiwrth en gelynion a ryfelau iw herbyn hwynt. Y rhai wrth ofyn cyngor i'r eulun Apollo ynghylch y rhyfel hwnw, a gawsent addewid o orchfygu 'r Atheniaid, os hwy ni lladdent eu breubin hwynt. Codrus wrth glywed hynny gan fod yn [Page 70] well ganddo warediad ei bobl na'i fywyd ei hun, a ymwiscodd fel caethwâs, ac a aeth i fyddyn ei elynion, ac a ymladdodd yno yn bwrpasol nes cael ei lâdd. Ond pan wybu 'r gelynion pwy oedd ef, codasant eu gwersyll, ac a ymadawsant. Ac o hynny allan yr Atheniaid a anrhydeddasant enw Codrus. Ynteu llwyrach y dylau pawb anrhydeddu Christ, yr hwn ac ef yn Fâb Duw, er mwyn gwaredu dynol ryw oddiwrth eu hên elyn y cythrael, a'i ogof swrth o gyfeiliorni, a wiscodd am dano gnawd gwacl, a chan guddio ei fawrhydi a fu fyw mewn tylodi. Ac am iddo argyhoeddei yr Juddewon o'u pechodau cafodd ei fflangellu yn greulon, a gwascu drain am ei ben, a hoelio ei ddwylaw a'i draed ar groes. Ac er maint ei ofid ni rwgnachodd ef, eithr gweddiodd, o Dâd maddeu iddynt, canys ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur. Dyma gariad Mâb Duw yn prynu dynol ryw allan o garchar diafol, a chaethiwed pechod. O'i Dduwdod ef y mae gennym ni ddigon o dystiolaeth drwy 'r yscrythyr lân a yscrifennodd prophwydi, ac wrth ei an edigaeth ef o forwyn bur, wrth ei fywoliaeth sanctaidd ef, wrth ei athrawiaeth nefol ef, a'i wrthiau, a'i adgyfodiad, a'i escynniad i'r nefoedd yngolwg pum cant o Bobl rinweddol, wrth dywalltiad yr yspryd Glân, wrth fwrw cythreuliaid allan, ac wrth gyffessiad eich eulynnod.
Ar ol hyn Cafodd yr Eglwys ychydig ysbaid o dangnheddyf, y barodd falchder, ac anghydfod ymhlith y Christianogion, fel llygedyn rhwng dwy gafod yn codi chwyn yn yr ŷd. Yn gymaint a phan ddaeth lleferydd attynt o'r Nef yn gorchymmyn, [Page 71] ceisiwch ac chwi gewch, etto in fedrent gyttuno ynghylch y nifer yr oeddid i weddio drostynt, nes i ddryc-hin eilwaith yrru 'r defaid y nghyd, at i greulondeb Falerianus yr ymerodr dorri allan yn eu herbyn hwynt: y pryd y merthyrwyd Cyprianus athro Duwiol o Affrica; a dewisodd tri chant yn Carthago eu bwrw i gyl poeth, yn hytrach nag aberthu i Eulun.
Profwyd pum math ar gospedigaeth ol ynol i geisio tynnu rair Morwyn Gristnogol oddiwrth y ffydd, sef, diodwyd hwynt â fineger, ac â bustl, wedi hynny flangellwyd hwynt, yna dirdynwyd hwynt, a rhostiwyd hwynt ar farwor, a thaflwyd hwynt i balfau bwystfilod rheibus: ac wedi i'r rheini eu harbed, lladdwyd hwynt a'r cleddyf gan na wadent Grist, bu hyn yn Affrica.
Dioddefodd y Christnogion yr un ymdrin yn Ewyllyscar mewn mannau eraill. Yn yr Hispaen gwelwyd y nefoedd yn ymagoryd i dderbyn eneidiau'r merthyron.
Ar ol i Falerianus erlid yr Eglwys ddwy flynedd, cymerwyd ef yn garcharwr mewn rhyfel gan Sapores brenin Persia, a gwnawd ef yn gŷff ir brenin hwnw i sangu arno wrth fyned ar ei [...]arch: Encyd wedi Cychwnnodd Aurelianus wneuthur blinder ir efengil, ond pan oedd yn yscrifennu ei henw wrth warrant i gospi'r Cristnogion, rhwystrodd [...] gwythi ef. A thros yspaid pedair bly [...] deugain gwedi hynny cafodd yr efengil [...]ydd a llwyddiant: amlhâodd a chynyddodd y cynnulleidfau Cristnogol, oni orfu iddynt adel yr hên gornêlau yr addolent ynddynt, a chyfodi adeliadau eheng. Ond fel y mae'r hâf yn magu pryfed, felly tyfiff [Page 72] ymrysson a chenfigen o howddfyd: Oed. Cr. 301. o herwydd pa ham anfonodd rhaglunieth Duw oerfel ar yr Eglwysydd drwy Ddioclesianus yr ymerodr. Yr hwn a orchmynodd ir byd ei addoli ef, ac am na wnaeu'r Cristnogion hynny, lloscodd Eglwysydd, a'r yscrythyrau drwy ei holl daleithiau. Nid arbedodd mo dywysogion y llŷs, na'i wraig ei hun. Pan oedd miloedd o'r Christnogion wedi ymgyfarfod i addoli Duw, gorchymmynodd iw filwyr eu llosci hwynt ynghyd, am iddynt ommedd addoli yr eulyn Jupiter; ie merthyrodd leng oi filwyr Cristnogol ar unwaith (sef 6666) am iddynt roddi eu harfau i lawr, a naceâu dihenyddio eu brodyr. llifodd afonydd gan waed y Cristnogion, a dychymygwyd ymhob gwlâd boenydiau newyddion iddynt. A bu'r creulondeb hwn yn drwn ar ein cenedl ni yn Prydain. Ac anfonwyd ar lèd orchymmyn argraphedig mewn prês i ddifrodi Christnogaeth, ac i addoli Jupiter, a Mawrth, gan ddiolch ir gau dduwiau am y llawnder a'r iechyd y roddid ir bŷd y pryd hwnw. Ond yn ebrwydd anfonodd Duw newyn a chornwyd tra marwol i ddifetha 'r Paganiaid.
Tra yr oeddid yn Antiochia yn fflangellu Romanus am ei ffydd, ac iddo yntef daer gynghori yr arteithiwr a'r barnwr i gredu yn Christ, ac i adel ymmaith eulunaddoliaeth, gan hyspysu iddynt y deuai Christ i farnu 'r bŷd, torrasant ei ddannedd ef. ac arteithiasant ei wyneb ef, er mwyn rhwystro ei leferydd ef: yna dywedodd wrthynt fod ganddo gymmaint o safnau ac a archollion. Parodd dynnu allan o'r dyrfa [...]lentyn Christianogol saith mlwydd oed i gyffessu ei [Page 73] ffydd, ac i roddi rheswm yn erbyn enlunaddoliaeth, i edrych a dderbynient dystiolaeth y gwirion hwnw. Ond afrywiogasant hwy yn erbyn y plentyn gan ei fflangellu a'i benydio ef. Yna ei fam ef a hi yn wraig Gristianogol ai bannogodd ef i ddioddefgarwch, gan beri iddo ef ystyried plant Bethlehem, ac Isaac ieuangc-a ymroddasai i gymeryd ei aberthu. A phan ddarfu iddynt dynnu ei wallt ef, eb hi wrtho ef, yn y man di gei goron yn lle gwallt. A phan dorwyd ei ben ef, hi a'i rhoddodd yn ei mynwes, ac a ganodd fawl i Dduw. Felly Christion gwan a orchfygodd wrthwyneb crŷf, a methodd ganddynt beri iddo wadu ei ffydd yn yr oedran hwnw. Pan safodd gwyryf rasol (a elwid Agnes) yn ei ffydd yn ddiymmod, gosodasant hi yn noethlummyn yn yr heol, a bwgythiasant halogi ei diweirdeb hi. A'r cyntaf a gychwnnodd ei threisio hi, a darawyd i lawr gan fellden: Yna torwyd ei phen hi â'r cleddyf. Felly Julitta a ferthyrwyd, a hitheu yn dra-hyderus, ac yn annog gwragedd eraill i ddioddef dros Grist, gan gofio iddynt ddarfod gwneuthur y wraig o ascwrn.
Barnwyd deugain o ferthyron i sefyll yn noethion mewn llyn ar noswaith oer, mal y rhynnent i farwolaeth. Y rhai wrth dynnu eu dillad oddiam danynt a ddywedasant eu bod hwy yn diosc yr hên ddyn yn hytrach na'u gwisc. A rhoddasant ddiolch i Dduw eu bod hwy yn bwrw ymmaith eu pechod gyd a'u gwisc. Ac eber nhw o herwyddy sarph y dilladwyd ni, o herwydd Christ y dioscir ni. Disgwiliwn ychydig a mynwes Abraham a'n cyd-gynhesa ni.
PEN. X. Llwyddiant yr efengyl yn amser Constantinus Fawr, a'r rhai a reolodd ar ei ôl ef. Anghydfod Arrius, ac eraill.
WEdi ir gerwindeb a fynegwyd yn ddiweddaf barhau ddeg mlynedd; cododd Duw Constantinus iw liniaru. Yr hwn ag ef mewn gofal i ryfela a Macsentius gormesdeyrn yn Rhufain, y welodd groes yn yr awyr, a hyn wedi ei yscrifennu â llythyrennau o Sêr, IN HOC VINCE, WRTH HWN GORCHFYGA. Felly rhoddodd ei hyder ar Grist, a bwriodd i lawr orthrymwyr y gorllew yn, a'r dwyrain, a llawer o'n gwladwyr ni yn ei ganlyn. Oed. Cri. 310. Ac yscrifennodd at frenin Persia hefyd iw berswadio ef i adel heddwch ir Cristnogion yn ei wledydd ef, (canys darfuasei iddo ferthyru un mil a'r bumtheg o honynt) gan fynegi iddo yr dialedd y ddigwyddasei i erlidwyr eraill.
Y pryd hyn Cyhoeddwyd rhydd-did i bawb i ddilyn y ffydd y welent orau. A chynyddodd y grefydd Gristnogaidd fel yr ŷd ddechreu'r hâf ar ol oerni gaiaf. Rhoddwyd yn ol ir Cristnogion y meddiannau y dreisiasid oddiarnynt, a breintiau yn ychwaneg: a gorfoleddant yngeiriau'r Psalmau. Psal. 48. ac 68. Cawsant swyddau, ac awdurdod yn eu dwylo ymhob gwlâd. Diddymwyd llawer o ddrwg arferion pechadurus. Gorchmynwyd fanwl gadw'r Sabbath. Yscrifenwyd aml gopiau or yscrythyrau. Cyfodwyd i fynn yscolion dysc ac eglwysydd. Felly ymadnewyddodd y grefydd i barhâu yn hwy na'r yscrifen brès oedd yn ei [Page 75] gwahardd. Llwyddodd yr ymerodr duwiol hwn yn ei holl ffyrdd, a thrôdd amryw deyrnasoedd at Grist yn yr oes hon, wrth weled llaw Dduw yn erbyn eulynaddolieth. Ond yr Iberiaid o ymyl Eucsinus y dderbyniasant y ffydd drwy wraig rasol, yr hon y iachâodd frenhines y wlâd drwy weddi.
Yn yr amser hwn tystiolaethodd digon gyda'r grefydd Gristianogol, gan ddangos i'r Apostolion nid yn vnig ddioddef marwolaeth er mwyn yr efengyl, ond iddynt ragwybod a rhagfynegu hynny hefyd. Ac i rifedi y Christianogion ychwanegu dan erlid, a chael ammynedd anorchfygol dan amryw benydiau, y rhai nis gallasent byth eu dioddef heb gymmorth Duw. Ac yn enwedig cydnabyddid fod y ffydd Gristianogol o Dduw, am ei bod mor nerthol yn sancteiddio ei dilynwyr. Am hynny medd Lactantius, Moes i mi'r diclon a thrwy ychydig o eiriau Duw mi a'i gwnaf mor llonydd â'r llwdn dafad: Moes y cybydd a gwnaf ef yn haelionus: Moes yr hwn sydd yn ofni marwolaeth, a daw i ddirmygu 'r groes a'r tân. Moes yr anllad, a thi a gesi ei weled ef yn ddiwair. Moes y creulon, a throir ei wŷn yn wir drugarogrwydd. Moes y traws, ac efe a fydd yn gyfiawn.
Ystyriodd pobl hefyd fal yr oedd y prydyddion cenhedlig yn datcan yr anwireddau a wnaethau eu duwiau hwynt tra yr oeddent yn ddynion. A bod yr eulunnod ym mhob man yn peidio â llefaru; a'r cenhedloedd yn credu yn Ghrist yn aml. Cydnabuant hefyd fel yr oedd yr yscrythyrau yn dal allan ewyllis y gwir Dduw yn gyflawn. A bod yn hawdd i'r rheini [Page 76] eu deall hwy, a'r a fyddo yn sanctaidd eu bucheddau, ac yn bur eu meddyliau. A throdd rhan fawr o'r bŷd yn Gristianogol.
YR oes hon drwy amlder a rhydd-did yr efengil y fagodd foethysdra ymmysc proffesswyr, a chwestiwnau rhy ddyfnion ynghyl [...]h y Drindod, ac undeb Crist a'r [...]âd o'r un s [...]lwedd, rhwng Arius ac eraill; oni thyfodd anghydfod gofidus ymmysc yr eglwysydd. Ac wedi i Constantinus roddi senn ir ddwy blaid drwy lythyrau, a'u hannog i adel heibio ddadleuon anhawdd eu dirnad, ydoedd yn hurt [...]o Cristnogion, ac ymos [...]d at bethau sylweddol, llesol i adeiladaeth a chariad; casclodd Gymanfa fawr o Escobion, benuriaid, a Christnogion Cyffredin i Nicea, lle y gosodasant i lawr bynciau 'r ffydd mewn credo cynwys, a rheolau er cadw undeb. Ac wedi cynhennau blinion, dywedir ddyfod trô ar fol Arius a thywallt o hono ei ymyscaroedd. Ond ar ol marwolaeth Constantinus, darfu iw fab ef Constantius, Oed. Cr. 350. (ir hwn y syrthiasei rheolaeth y dwyrain) gefnog [...] s [...]ct Arius, a throi'r blaid Arall allan o'u swyddau a'u gweinidogaethau, yr hyn y barodd derfyscoedd gwaedlyd. ac anfonodd Duw ddaiargrynfau dy [...]hrynlyd: yn gymmaint a phan oedd gyman [...]a geccrys yn ymgasclu yn Nicomedia i gadarnhau amryfyssedd, 363. dinistriodd daiargryn y ddinas. A chyn pen nemmawr y mae Julianus yn cael yr ymerodraeth, yr hwn a adawodd y grefydd Gristnogol yn yr hon y dygasid ef i fynu, ac adferodd goelgrefydd y cenhedloedd; a chystuddwyd y Cristnogion am eu gwahaniadau. Etto amsygwyd ynddynt rasau nefol yn eu dioddefiâdau, [Page 77] ac ymhyfrydent dan y fflangellau, 366. a thystiolaethent yn hŷ yn 'erbyn yr eulynnod.
Y pryd hyn hefyd y cafodd yr Juddewon gennad i adeiladu'r deml yn Jerusalem, ac i aberthu er mwyn gwradwyddo 'r efengil. Ond Symmudodd daiargryn yr adeilad a'r hèn Sylfeini, i gyflawni bwgwth Crist, Mat. 24.2. Na adewid carreg ar garreg yna heb ei dattod. A descynnodd tân o'r nefoedd i losci offèrau 'r Seiri, a gwelwyd ôl crôes ar eu dillad, ac nis gallent ei olchi ymmaith.
Ymhen y ddwy flynedd lladdwyd Julianus mewn brwydr yn erbyn y Persiaid, pan gafodd ei friw marwol, taflodd ei waed tua 'r nêf, gangydnabod fyned Crist yn drêch nag ef. Ar ei ol ef bu Falens yr Emerodr yn flin wrth y-rhai ni throent yn Ariaid. Yn Edessa rhuthrodd gwraig ai phlentyn yn ei llaw drwy lûo wyr arfog oeddent yn myned i lâdd cynnulleidfa rasol tra yr oeddent yn cyd-addoli, gan ddywedyd wrth y milwyr oeddynt yn ei ffoli hi am ei b [...]ŷs, ei bod hi yn ceisio myned i mewn at ei brodyr, er mwyn derbyn y goron gyda hwynt. Gorfyddeu ir rhai iachaf yn y ffydd lechu am eu bywyd, ac addoli yn y dirgel, tra yr oedd yr Ariaid yn meistroli'r Cwbl yn gyhoeddus. Peth rhyfedd fod cyn lleied rhagor mewn deall yn achos o gymaint gelynieth, nid oedd ond dwy lythyren yn y Groeg o amrafael rhyngthynt ar y cyntaf. [...] Cydsylwedd ydoedd Crist a'r tâd meddei'r naill blaid, o gyffelyb sylwedd y teurei'r llall ei fod ef. Ond rân myglud yw cyfeiliorni. godebyn ir angel du y sydd yn ei gynneu, a dywylla 'r deall, [...] ac a boetha 'r gwyniau i wneuthur mwy [...]wy o ddrwg
Cafodd eglwysydd y gorllewyn adeiladaeth a thangneddyf gwell. Drwy orchymyn Theodosius yr ymerodr duwiol, dinistrwyd temlau'r eulynod, a rhoddwyd yr yspail ir tlodion. Cafwyd yn Scrifennedig yn un o'r meini y darfyddei am deml yr eulun Serapis pan ddeuei'r groes ir goleu. Y pryd hyn bu Ambrose yn Athro buddiol yn yr Ital, yr hwn a naccâodd ollwn yr Ymerodr Theodosius iw Eglwys nes iddo fynegi ei Edifeirwch am dywallt gwaed gwirion, wrth gospi'r dieuog ynghymysc ag eraill am derfysc yn Thessalonia: ac ufuddháodd y pendefig i gerydd yr athro. Pan oedd yr ymerodr duwiol hwn yn rhy wan mewn brwydr yn erbyn gorthrymwyr, gostyngodd ar ei liniau, a galwodd ar Dduw am gymmorth, ac yn ebrwydd daeth gwynt crŷf, y drôdd yn ôl Saethau ei elynion ar eu pennau eu hunain. A phan ydoedd ef yn tueddu peth tuag atyr Ariaid, daeth dyscawdwr atto, ef, ac wedi ei gyfarch ef yn barchedig, galwodd ei fab ef Arcadius gerfydd ei henw, megis bachgen Cyffredin; a thra yr oedd yr ymerodr yn anfodlon am hynny, attebodd ef, gan ddywedyd, os wyti yn cymmeryd yn ddrwg ddirmyg dy fâb, meddwl beth y wnaiff Duw ir neb ni roddo iw fab Crist ei ddyledus fraint, ai anrhydedd. Dan weinidogaeth Ambrose y derbyniodd Awstin yr ailanedigaeth, ac edifeirwch dwys: yr hwn y brifiodd yn athro dyscedig ysprydol yn Affrica, ac a adawodd oi ol lawer o lyfrau nodedig ac felly bu eraill ymblith y Groegiaid yn Constantinopl, yn enwedig Crysostom, Oed Cr. 400. yr hwn a adawodd y bûdd oedd iddo ef iw gael wrth fod yn ŵr o gyfraith, ai helynt foneddigaidd, ac y ddewisodd wasnaethu Duw [Page 79] mewn cyflwr gwaelach yn y byd wrth hyfforddi'r efengil: gan ddywedyd fed gormod gol [...]d yn foddi'r enaid, fal y mae gormod llwyth yn foddi'r llong. A gwelodd Duw yn dda waredu 'r bobl yr ydoedd mor rasol yn au dyscu, yn gymaint a phan oedd y Saraceniaid yn cynnorthwyo'r Persiaid i orthrymmu'r Cristnogion, daeth cyffro byrbwyll ir fyddyn, a neidiodd yr anghred ir Afon Euphrates, lle boddodd miloedd o honynt. A phan oedd y Gothiaid ar fedr llosci Constantinopl. darfu i fyrddiwn o angylion yn rhith gwyr arfog eu gwlltio ymmaith. Ond cafodd y Gothiaid a'r Fa [...]daliaid (gwyr rhyfelgar o'r gogledd) lwyddiant mwy i gystuddio'r gorllewyn; 405 ynnillasant Rufain, ac yspeiliasant hi a phrifiasant yn fflangell Duw ar y Cristnogion am eu balchder au dicter wrth eu gilidd; yn enwedig yr esgobion oedd euog o'r pechodau hyn, ie yn eu Cymanfau, a'u ymryssonau ynghylch geiriau. Digwyddodd hefyd dân erchyll mewn dinasoedd. A llif-ddyfroedd, a daiargrynfau ofnadwy, etto ni ollyngid y beian i Syrthio; am bynny canlynodd cornwyd rhyfeddol a yscubodd ddinasoedd cyfain, ac aeth ar lêd y bŷd dros ddeugain o [...]ynyddoedd. A thrachefn lladdodd daiargrynfâu filoedd o bobl ni chymerent ond rhy fychan o rybudd y mlaen llaw, er i Symeon gwr duwiol, Oed. Cr. 544. fyned o amgylch, a fflangellu Colofnau dinasoedd, gan erchi iddynt gymeryd gofal o sefyll ar eu traed pan ddawnsient. yn yr oes hon mae Cymanfau o wŷr Eglwysig yn rhoddi braint i escobion Rhufain a Chonstantinopl, i fod vwchlaw escobion eraill; ac yn dechreu gorchymmyn ffurf osodedig o wasanaeth i Duw.
Wedi ir Saeson orescin Lloegr a Bod yn hîr mewn anghredinieth, daeth attynt bregethwyr o Rufain (se [...] Awstyn y monach) ac eraill, ac y gawsant lwyddiant yn eu taith, 598 canys credodd P [...]naethiaid a chyffredin, a bedyddwyd dengmil yn ymyl Eboroc yn yr un diwrnod, a mynegir i ryfeddodau gyd ganlyn y gait er mwyn troedigaeth y Saeson. Dywedir am Gregorius escob Rhufain y anfonodd y pregethwyr at y Saeson, y crynei ef pan ddarllenei erriau Abraham wrth y glŵth, Lu [...]. 16.25. coffa i ti dderbyn dy wynfyd, yn dy fywyd. Canys cyflawn oedd ei gyflwr ef yn y byd.
Wedi i Phocas waedlyd lâdd ei feistr Morys, a myned yn ymerodr yn el lê ef, er cael gair da escob Rhufain, rhoddodd iddo Ditl'i fod yn ben ar yr holl eglwysi: Oed. Cr. 602 er i Gregorius ychydig o'r blaen brofi yn erbyn escob Constantinopl, nad allei escob yn y bŷd ymhonni or fath beth.
Ynghylch y flwyddyn o oedra [...] yr Arglwydd chwe chant a thrigain a chwech, 666. y dechreuodd crefydd Mahomet le du drwy rym y Saraceniaid, y rhai oeddent wedi syrthio allan ag ymerodron y Cristnogion: yr oedd yr oes hon wedi ymrannu yn resunol o ran opiniwnau, a dychymygion dy [...]ol yn cael eu croesawu ymm [...]tterion cre [...]ydd Ar hyn Mah [...]met yr hudol, (drwy help Sergius Monach escymunedig) y ddyfeisiodd yr Alcora [...], sef llyfr gau grefydd y Turciaid. A'c am ei fod ef yn fynych yn Syrthio yn y ffeintiadau, taerei mae ymddiddanion yr angel Gabriel y barent ei lewyg ef. Ac fal y derbyniai'r byd er athrawieth ef yn rhwyddach, tymherodd hi i fo [...]loni peth ar bawb. Cydnebydd Grist yn [Page 81] brophwyd ffydlon er boddhâu 'r gwir Gristion Gorchymmyniff enwa [...]iad er mwyn yr Juddewon. Gwediff dduwdod Crist er ynnill yr Ariaid oeddent aml yn y parthau hynny. Canhiadiff amlder o wragedd ir un gwr, a rhydd-did y cnawd, er denu y Sawl y garent bechod, yr hyn sydd naturiol ir holl fyd; a hynny nid yn unic yn y bywyd hwn, eithr ym mharadwys yr addaw ef wleddoedd, a gwragedd ir Sawl a ddilynant ei ffydd ef, ac a laddant bawb ai gwrthodo.
PEN. XI. Ynghylch crefydd Mahomet.
GAn fod crefydd Mahomet wedi gorthrechu cymmaint o'r hên fŷd, cymerwn yn ychwaneg yr hyspysrwydd a ganlyn am dano ef, a'i ffordd. Yn e [...] i [...]uengctid plentyn ymddifad oedd ef a werthwyd yn gaeth wâs. Yn yr hwn gyflwr y rhagorodd ef ar ei gydweision mewn synwyr a diwydrwydd, oni chafodd ei osod yn bennaf goruchwiliwr ar farsiandiaeth ei feistr yn Syria, Persia, a'r Aipht. A thra 'r y doedd ef yn tramwyo Cymmaint craffodd ar grefydd pob gwlâd, a gwelai 'r Gristianogol, a'r Juddewaidd yn odidoccaf. Ond pan fu farw ei feistr, drwy gwnswriaeth ynnillodd serch ei feistres, ac a feddiannodd ei mawr olud hi. A chwedi myned o honaw ef yn alluog, cafodd ei wenbeithio gan Sergius a fwriasid allan o eglwysydd y Christianogion am ei heresiau. Yr hwn a ddangosodd iddo ef fal yr oeddy Christianogion a'r Juddewon yn elynol [Page 82] iw gilidd, ac yn wahannedig yn eu mysc eu hunain hefyd. A bod yr amser yn gwasnaethu iddo ef i gymeryd arno swydd prophwyd i ddwyn cyfraith arall ir bŷd. Am hynny aeth i lechu mewn ogof dros ennyd tra fyddai Sergius yn cyhoeddi ir bobl berffeithrwydd ei fuchedd ef. Ac ym mhen dwy flynedd y mae yn ymddangos i'r bŷd gan ymhonni o' [...] fod yn brophwyd. Ac er peri iddynt goelio hynny cynnefinodd glomen i bigo pyssen allan o'i glûst ef; a thaera [...] ma [...]'r yspryd Glân ydoedd yn descyn arno ef yn y rhîth hwnw i fynegu iddo beth a wnai. A phan gafodd drwy 'r gau arwydd hwnw ynghŷd a'i ffeintiadau ei gydnabod yn brophwyd gan ei gymmydogion, y mae yn ymgodi i fod yn frenin hefyd, gan gyhoeddi iw ddilynwyr ryddhâd oddiwrth bob caethiwed bydol, yr hyn a wnaeth iddynt liosogi yn ddirfawr. Canys y caethwe [...]sion drwy Arabia oll a adawsant eu meistraid, ac a y [...]gascla [...]ant atto ef, ac yn ewyllysgar a dderbyniasant ei gyfraith ef Y rhain a fyddinoedd ef yn ddyfal, ac â hwynt curodd bawb o'i amgylch a'r a wrthwynebent ei athrawiaeth ef. Wedi iddo orchfygu pennaethiaid Mecca, a gorthrechu yr Juddewon yn Medina, aeth yn dywysog ar lû dewr, ac yn arglwydd ar w [...]ad eberg Y pryd hyn darfu i' [...] Sarac [...]niaid hefyd preswylwyr rhyfelgar y diffaerhwch (y lid [...]a [...]ent wrth Heraclius ymmerawdr Christianogol Constantinopl, eisiau cael cyflog eu milwriaeth) ymuno ar gau brophwyd hwn, a i gymeryd ef yn ben- [...]iwdod arnynt. Ac yn ebrwydd dygasant ei deyrnged oddiar yr ymmerawdr, a lladdasant ei swyddogion ef yn [Page 83] y gwledydd hynny. A thynnasant oddiwrtho ef nid Arabia yn unig, ond yr Aipht befyd. Ac ymostyngodd y bobl yn gyffredin i grefydd Mahomet wrth weled ei arfau ef mor llwyddianus. Ac ar ddydd ei farwolaeth ef gwelwyd seren gynffonnog vn ffurf á chleddyf yn blaen weddu o'r dehau tua'r gogledd, a barbáodd i oleuo ganol dydd dros ddeng niwrnod ar vgain. Ac wrth yr arwydd hwnw britiodd y genedl honno y lledai brenhiniaeth Arabia ar draws y bŷd drwy nerth y cleddyf, fel y digwyddodd yn rhy wir er gwae i lawer gwlád. Ei athrawiaeth ef sy gynwysedig yn y llyfr a elwir Alcoran, a arwyddocca cascliad o orchymmyion. Ac o herwydd ei fod ef yn crybwyll weithiau am y ffydd Gristianogol, detholais a chyfieithais y pethau goreu ynddo, am fod cyfaddefiad gelyn yn dystiolaeth grêf yn ei erbyn ei hun, ac yn dda ar du'r gwir a orthrymmo ef. A'r pethau cyfeiliornus a'r sydd ynddo ef, a ddylent ein bannog ni i garu ein ffydd i [...]chusol yn wresoccoch, canys gwelir y glân yn hawddgarach wrth ei gyffelyba â'r gwrthyn. A bydd y plan [...] afradlon pan ddelon [...] attynt eu hunain yn well ganddynt en hymborth cartrefol, ar ol profi 'r cibau y sydd yn y wlâd bell.
Yr Alcoran.
PEN. I. A yscryfenwyd ym Mecca.
DUW grasusol a thrugarog. Gogoneddus fo'r Duw grasusol a thrugarog, brenhin [Page 84] dydd y farn! Tydi a addolwn ni, oddiwrthit [...]i y gofynnwn gymmorth. Cyfarwydda ni yn y ffordd vniawn, yn llwybr y rhai y buosti gymwynascar wrthynt heb ddigofaint tuag attynt, ac ni'n camarweinir.
PEN. 2.
A yscrifenwyd ym Mecca. Gwir grediniaid a gant fwynhau hyfrydwch paradwys, sef aeron blasus, a gwragedd prydferth. Gwnaiff Duw i chwi farw, ac ailgyfodi, a dychwelyd o'i flaen ef i'ch barnu. Yr annuwiol a loscant yn nhân vflern yn dragywydd. Gweddiwch ar y'tymhorau gosodedig, a thelwch ddegymmau. Duw a roddes i Moses y llyfr sydd yn dosparthu rhwng da a drwg Yna y drygionus a newidiasant y geiriau a ddyscasom ni iddynt. Pawb a'r a gredant yn Nuw, Christianogion, Juddewon a Samariaid, ac a wnelont we [...]thredoedd da a obrwyir gan en Harglwydd, ac a fyddant gadwedigol oddiwrth gystudd yn nydd yr adgyfodiad. Nyni drwy ysprydoliaeth a roddasom wybodaeth i Jesu Mab Mari, ac a'i nerthasom ef drwy'r yspryd Glân. Ond cyfodasoch Yn erbyn y prophwydi a ddaerhont yngwrthwyneh i'ch ewyllis chwi. Juddewon Enllibiasoch y naill ran o honynt, a lladdasoch y llall. Y mae melldith Dduw ar y rhai a werthasant eu heneidiau, a thrwy genfigen a anufuddhasant iw orchymmynion ef. Dywed wrthynt pwy sydd elynol i Gabriel? efe gyda chaniattâd Duw drwy ysprydoliaeth a roddes iti yr Alcoran, a siccrheiff yr hên scrythyrau. Ni ddeisyfodd yr Juddewon a'r Christianogion ar Dduw ddanfon i chwi ddaioni, ond y mae Duw yn rhoddi ei drugaredd i'r neb a fynno ef. Gwaherddif ef i [Page 85] chwi fwytta gwaed, a chig môch, oddieithr mewn dir anghemhaid. Nid cyfiawnhâd yw troi 'r wyneb gan weddio tua'r dwyrain neu'r go [...]llewin. Hwnw a gyfiawnheir a'r a gredo i Dduw, a dydd y farn, yr angylion, a'r scrythyrau, a'r prophwydi: ac mewn cariad a gyfranno ryw beth o'i dda iw rieni, i'r ymddifaid, i'r tlawd, i'r pererinion, a'r caethion. Gorchymmynir ympryd i chwi, megis y gorchymynwyd i'r rhai a fu o'ch blaen chwi. Cyfreithlon i chwi adnabod eich gwragedd nos yr-ympryd. Bwyttewch ac yfwch hyd oni alloch wybod rhagor rhwng edeu wen a du wrth liw 'r boreu ddydd, yna ymprydiwch o hynny hyd y nôs. Oh chwi y rhai a gredwch yn Nuw vfuddhewch iw orchymmynion ef, ac na ddilynwch gamrau diafol. efe sydd elyn i chwi. Gorchymmynir i chwi ymladd.
Ymofynnant â thi ynghylch gwîn, a chwareuon anturiol, dywed wrthynt ei fod iddynt yn bechod mawr, ac etto yn fuddiol i ddynion; ond y mae'r drwg a barent yn f [...]y na'r budd. Nid yw eich crefydd yn caniattau i chwi dyngu i Dduw yn ofer, ac yn fynych i'ch cyfiawnhau eich hunain. Ofnwch Dduw, a de [...]llwch ei fod ef yn gwybod eich holl weithredoedd chwi. Sefwch ar eich gwiliedyd diaeth pan weddioch: onid ellwch fyned ar eich gliniau rhag ofn eich gelynion, nac esceuluswch ddywedyd eich gweddiau o'ch sefyll, neu oddiar gefnau eich ceffylau. Nid oes ond vn bywiol a thragwyddol Dduw yn vnig, na thybiwch ei fod ef yn heppian neu yn huno. Eiddo ef yw beth bynnag y sydd yn y nefoedd neu'r ddaiar. Pwy a erfyn [Page 86] drosoti gydâ ei Dduwiol Fawrhydi ef oddieithr drwy ei gennad ef? helaethrwydd ei deyrngadair ef sy'n amgyffred nefoedd a daiar, a cheidwadaeth y ddau nid yw helbulus iddo ef, y mae ef yn Hollalluog a gogoneddus. Y mae Duw yn dygngassau occreth. Na wnewch anghyfiawnder i neb, ni wneir ef i chwithau. Arglwydd escusoda ni os anghofiasom di. Delea ein pechodau ni, a dod dy drugaredd i ni. Tydi wyt ein Harglwydd, dod i ni fuddugoliaeth yn erbyn yr anghrediniai [...].
PEN. 3. Yscrifenwyd ym Medina.
Efe ddanfonodd iti 'r llyfr sy'n cynwys gwirionedd, ac yn cadarnhau 'r yscrythyrau, a ddanfonwyd o [...] flaen ef. Efe ddanfonodd y Testament hên, a'r efengyl ydoedd gynt gyfarwyddwyr i'r bobl. Y rhai ni chredant ynghyfraith Dduw a gospir yn ddwys. Y mae ef yn ddialydd Hollalluog. Nid oes dim yn y nefoedd, na'r ddaiar yn guddiedig oddiwrtho ef. Arglwydd ti a gescli 'r bŷd ynghyd ddydd y farn, pryd na bydd dim yn anbyspus. Pryd nid ai yn erbyn dy addewidion. Pryd na wasanaetha golud na phlant i'r annuwiol, ond i ennyn tân vffern. Hîl a heppil anghredadwy Pharaoh, a gablasant ac a ddio [...]rydasant gyfraith Dduw, ond yn ddisymmwth efe a'i dinystrodd hwynt am eu pechod. Y mae ef yn dôst yn ei gospedigaethau. Serch ar wragedd, plant, golud, cattel, ŷd, sydd hyfryd gan ddynion, y cyfryw yw golud y bywyd hwn: Ond y noddfa siccraf sydd yn Nuw. Dywed wrthynt mynegaf i chwi bethau sydd [Page 87] well i'r rhai sydd ag ofn Duw o flaen eu llygaid. Cânt hwy breswylio ym Mharadwys yn dragywydd, lle mae llawer o afonydd a gwragedd prydferth, a phôb math ar fodlonrwydd. Gweddiodd Zachary ar yr Arglwydd a dywedodd, Arglwydd dod i mi heppil a ryngo fodd iti, ac a gadwo dy orchymmynion. Angel a alwodd arno, ac a ddywedodd wrtho, yr wyfi yn mynegi iti odd [...]wrth Dduw, y cefi di fâb a'i enw Joan, efe a w [...]ria fod y Messias yn Air Duw. Eber Zachary, Arglwydd dyro i mi ryw arwydd o ymddwyn fy ngwraig. Attebodd yr Angel, hyn tydd yr arwydd a roddafi iti, ni leferi dros dridiau. Oh Mair y mae Duw yn mynegi iti air oddiwrth yr hwn y deilliaw y Messias, a henwir Jesu, o rifedi 'r erfynwyr gydâ ei Dduwiol fawrhydi ef. Eb hi Arglwydd pa fodd y cafi bl [...]ntyn a mi heb gyffwrdd â gwr? Efe attebodd, gwnaiff Duw fel y mynno ei hun. Pan grea ef ryw beth, efe a ddywed bydd di, ac yna y bydd. Myfi a ddyscaf iddo e [...] yr yscrythyrau, dirgeledigaethau 'r gyfraith, yr hên destament, a'r efengyl ac efe a sydd brophwyd anfonedig i blant yr Israel. Dywedodd yr Jesu wrth blant yr Israel, yr wyfi yn dyfod attoch chwi ag arwyddion eglur o'm an [...]on [...]ad oddiwrth eich Arglwydd Jachaf y rhai a aned yn ddall, a'r gwahanglwyfus, a chyfodaf y meirw. Cydfwriadodd yr Juddewon yn erbyn yr Jesu. A gwnaeth Duw iw cydfradwriaeth ddychwelid arnyut hwy eu hunain. Y mae Jesu gyda Duw.
Os ymddiriedi dy dda i ddwylo llawer o'r rhai a adwaenant y gyfraith yscrifennedig, hwy a'u dadroddant iti yn flyddlon. Y mae llawer o [Page 88] honynt nis dadroddant, oni fyddi ymog [...]lgar.
Nid yw'r Arglwydd yn gorchymmyn i chwi addoli angylion, a prophwydi, efe a ddyscodd i chwi yscrythyr a gwybodaeth. Y rhai gynt a adnabuant y gyfraith scrifennedig nid ydynt i gyd yn vnwedd. Y mae rhai yn [...]u mysc a barhasant mewn vfudd-dod, ac a fylyriant y nôs ar wrthiau Duw, addolant ef, a chredant ei Dduwiol Fawthydi ef, a dydd y farn; pregethant yn onest, ac ymosodant ac weithredoedd da, diau eu bod yn bobl dda. Na fyddwch occrwyr. Hoff gan Dduw y rhai a roddant elusen, a ddarostyngant eu gwŷn, ac a faddenant i'r rhai a'u tramgwyddo: ac ar ol pechu a gofiant ei Dduwiol Fawrhydi, ac a ymbiliant am faddeuant. Y rhai ni pharhaffo yn eu cyfeiliorni a obrwyir â thrugaredd Dduw, ac a fwynhânt ei ffafr ef ym mharadwys.
PEN. 4
Yscrifenwyd ym Medina. Yn enw Duw grasol a thrugarog. O chwi bobloedd ofnwch yr Arglwydd a'ch creawdd o vn dŷn, ac a greawdd ei wraig ef o'i assen ef. Rhoddwch i'r ymddifaid y peth a berthyn iddynt, na ddifechwch eu da hwynt, pechod tra mawr yw hynny. Y rhai a ddifaont eu da hwynt yn anghyfiawn, a lyncant dân iw ymyscaroedd. Ofnwch hefyd wneuthur cam â gwragedd. Priodwch y rhai fo yn boddhau i chwi dwy neu dair neu bedair. Cosbwch butteinwyr ac ordderchion. Nid oes faddeuant ir rhai a wnânt anwiredd hyd awr eu marwolaeth. Ar law Dduw y mae rhoi troedigaeth. Y mae ef yn faddeugar i'r rhai a bochant yn ddiwybod, ac a edifarhant yn gyflym. Na phriodwch wragedd eich tadau gorn [Page 89] meddir i chwi eich mammau, eich chwiorydd, eich merched, eich modrabedd, eich nithoedd. Priodwch eich gwragedd wrth gennad eu rheini. Na leddwch eu gilidd. Na chwennychwch drwy genfigen y peth a roddes Duw i'ch cymmydog. Ymbiliwch ar Dduw am râs. Na weddiwch a chwi yn feddw, byd oni wypoch beth y byddoch yn ei ddywedyd: na thra fyddoch yn halogedig, oddieithr ar ymdaith, nes eich glanhau. O byddwch ar d [...]ith, neu glâf, neu yn rhyddhau'r bol, neu wedi adnabod eich gwragedd, ac heb gael dwfri ymolchi, ym [...]lwch yn y tywod, a sychwch eich wyneb â'ch dwylo.
PEN. 5. Yscrifenwyd ym Medina.
Yn enw Duw grasusol a thrugarog. Na wnewch rwystr i'r rhai a ddygant anrhegion i Mecca: na luddiwch i bererinion fyned yno i ofyn grâs. Gomeddir i chwi fwy [...]a burgun, a chig môch, a gwaed, a pheth bynnag ni [...] lladder dan adrodd enw Duw. Ni chewch fwytta o'r anifeiliaid a aberthir i'r eulunnod. Nac ymgynghorwch â dewiniaid na choelbrenni, pechod mawr yw. O chwi y rhai a gredwch yn Nuw ofnwch ef. Gwir ffyddloniaid oll a ddylent ymroddi iw ewyllis ef. Cymerth Duw addewid plant yr Israel i gadw ei orchymmynion ef. ac a ddywedodd wrthynt hwy myfi a fyddaf gydâ chwi pan weddioch; coeliwch y prophwydi. Echwynant i mi elusenau, minnau a guddiaf eich pechodau, ac a'ch gollyngaf i Baradwys lle ffrydia llawer o afonydd. Pan giliasont oddiwrth yr hyn a addawsent, rhoddasom ein melldith iddynt, a chaledasom eu calon [...]u hwynt. Derbyniasom hefyd [Page 90] addewid y rhai a'u galwant eu hunain yn Gristianogion, ond anghofiasant hwythau yr hyn a addawsent. Newidiasant yr hyn a ddyscwyd iddynt, a bwriasom yn eu mysc hwynt elyniaeth a dygasedd, ie hyd ddydd y farn; y pryd y gwnaiff Duw iddynt wybod beth bynnag a wnaethon [...] er cospedigaeth iddynt: Oh chwi y rhai a wyddoch y gyfraith yscrifennedig! daeth ein prophwyd i ddwyn i'r golau lawer o bethau yr ydych chwi yn eu celu. Dywedodd yr Juddewon a'r Christianogion anwyl blant Duw ydym ni, dywed wrthynt, oni chaiff yr Arglwydd eich ceryddu chwi am eich pechodau? Torwch ymmaith ddwylo y rhai a ledrattant, ofnwch Dduw, ymleddwch dros ei gyfraith ef. Ordeiniasom dalu'r pwyth, dŷn am ddŷn, llygad am lygad, trwyn am drwyn, clust am glust, dant am ddant. Ar ol llawer o brophwydi anfonasom Jesu Mab Mair, yr hwn a siccrhaodd yr hèn yscrythyrau. Iddo ef y rhoddasom yr efengyl gyflawn o oleuni, i arwain y bobl i'r ffordd vnion, gydâ siccrhâd yr hèn destament, cyfarwyddwr ac addysc i'r cyfiawn. Y rhai a ddilynant yr efengyl a ddylent farnu fel y mae yn orchymmynedig yn yr efengyl. Y mae y rhan fwyaf o'r bŷd yn annuwiol. O chwi y rhai ydych yn deall y gyfraith yscrifennedig, y mae y rhan fwyaf o honoch chwi yn ddrygionus. Dywed wrthynt hwy a ddyscais i chwi i wneuthur drwg pan bregethais i chwi affaith trugaredd Dduw? ymegniant i halogi 'r ddaiar, ond câs gan Dduw y rhai a barant anrhefn. Maddeua ef bechodau y rhai a wyddant yr yscrythyr, ac a dro [...] oddiwrth anwiredd, y cyfryw a gant fyned [Page 91] i mewn i Baradwys, lle y mae llawnder o lawenydd. Darllennasant yr hên destament, a'r efengyl, a'r yscrythyrau oll, a mwynhasant amlder o bôb peth da, er hynny llawer a anufuddhasant i orchymmynion Duw. Oh chwi y rhai ydych yn gwybod y gyfraith yscrifennedig! oni ddeliwch chwi ar yr hên destament a'r efengyl, a'r y scrythyrau, a ddanfonodd Duw i chwi, byddwch yn anheilwng. Yr Juddewon, Samariaid, a Christianogion, cymmaint oll ac a gredasant yn Nuw, ac adgyfodiad y meirw, ac a wnaethont weithredoedd da a waredir oddiwrth âdfyd, nid oes iddynt hwy ddim iw ofni yn nydd y farn.
Gwîn, chwareuon anturiol, eulunnod, a dewiniaeth ydynt ffiaidd bethau, a gweithrediadau bryntion y cythrael. Chwennychiff y cythrael hau gerwindeb ac anghydfod yn eich plith drwy wîn, a chwareuon auturiol, i dagu eich coffadwriaeth am Dduw, a'ch gweddiau. Na fyddwch ry-fanwl i wybod pa bryd yr anfonwyd yr Alcoran o'r nêf. Pan nessao eich marwolaeth gwnewch eich ewyllis. Ofnwch Dduw, a gwrandewch ei orchymmynion ef; nid arwain ef y rhai a wrthryfelant yn ei erbyn ef. Efe a ddywed yn nydd y farn oh Jesu a orchymmynaist ti i'r bobl dy addoli di a'th fam? Atebiff yr Jesu ni thraddodais i ddim ond yr hyn a orchymmynaist di i mi, sef addolwch Dduw yr Arglwydd.
PEN. 6.
A yscrifenwyd ym Medina. Yn enw Duw grasusol, a thrugarog. Efe yw 'r hwn a'ch creawdd chwi o lŵch y ddaiar. Ac a osododd amser rhagderfynnedig i'ch marwolaeth, a'ch adgyfodiad. Efe a ddeall ddirgelion eich [Page 92] calonau. Tra thruenus yw y rhai ni chredant yr adgyfodiad, trallodir hwynt am en pechodau yn awr eu marwolaeth. Haera nad yw bywyd y bŷd hwn onid twyll a gwagedd; a bod bywyd y bŷdarall yn llawn o ddedwddwch i'r cyfiawn. Gwrendi ef weddiau 'r cyfiawn a wrandawant ei air ef. Na wnewch he [...]bul i'r rhai a weddiant ar Dduw bryd-nhawn a boreu, ac a chwennychant weled ei wyneb ef. Os cythrybli hwynt, ti a fydd i yn rhyfedi yr anghyfiawn. Didoliff Duw y da oddiwrth y drwg megis yr ŷd oddiwrth y dwy [...]en. Tyngasant yr ymladdent dros y ffydd os ymddangosai rhyw wrthiau iw dyscu hwynt. Oddiwrth Dduw y deilliaw rhyfeddodau, ni wyddant pa bryd y periff iddynt ymddangos. Dywedasant na chredent ynddo ef [sef Mahomet] oddieithr i'r vn rhinweddau ei ganlyn ef, ac oedd gan brophwydi eraill. Cystuddir y rhai a siariadant felly.
PEN. 7.
Yscrifenwyd ym Mecca. Na fyddwch afradlon, câs gan Dduw y rhai a dreuliant eu golud yn ofer. Cofiwch fal y llefarodd Lot wrth y bobl gan ddywedyd, a halogwch chwi eich hunain beunydd â phutteindra? dywedasont moeswch i ni yrru Lot a'i deulu allan o'n dinas, am na fynnant ymhalogi gydâ ni. Ond Duw a'i gwaredodd ef allan o'u dwylo hwynt. Efe a ddywedodd wrth Moses gwneuthym di yn brophwyd. Rhoddasom iddo 'r llechau, ar yrthai yr oedd yn yscrifennedig yr hyn oedd reidiol i iechydwriaeth dynion. Pobl Moses ar ol ei ymadawiad ef a addolasant y llô: oni welsant na lefarai ef wrthynt? Efe a ddywedodd fy nhrugaredd a gofleidia 'r holl fŷd, sef y cyfryw ac fydd e'm hofn i o flaen eu llygaid, a vfuddhant [Page 93] i'm gorchymmynion, a gredant y prophwyd ni feidr nac yscrifennu na darllen, a'r hyn sy yscrifennedig yn yr hèn destament a'r efengyl. Gofynner iddynt hwy [sef yr Juddewon] am bentref ydoedd ar lan y môr, trigolion pa vn ni chadwasant y Sabbath, eithr pyscotta a wnaethant ar ddydd y gorphywystra. Gwelsant y diwrnod hwnw nadroedd yn ymddangos ar y dwfr, ac ni welent hwynt ar ddiwrnodiau eraill. O fesur ychydig ac ychydig mi a gospaf y rhai a wrthodant fy ngorchymmynion. Onid côf ganddynt ddywedyd fod Mahomet a chythrael ynddo' ymofynant â thi ynghylch dydd ac awr y farn, dywed wrthynt, na ŵyr neb hynny ond Duw. Anfonwyd fi yn vnig i fynegi llawenydd Paradwys, a dir boenau vffern. Os gelwch ar eulunnod am gymmorth trueni a ddaw arnoch. Os gelwch arnynt, ni chewch neb i'ch ymddiffyn, edrychant arnoch heb eich canfod chwi.
PEN. 8.
Yscrifenwyd ym Medina. I bwy y perthyn yr yspail? yr yspail a berthyn i Dduw ac iw brophwyd. Pan yrrodd yr Arglwydd di allan o'th dŷ i ymladd yn erbyn yr anghred, yr oedd rhan o'r ffyddloniaid yn wrthwynebus ganddynt ymladd. Beth a ddymunech chwi onid clôd y fuddugoliaeth? na throwch eich cefnau at yr annuwiol pan nessânt i ymlâdd â chwi. Gwybyddwch y didola Duw y bustl oddiwrth yr afu, yr anghredadyn oddiwrth y cywyr gredadyn. O [...] troant i ymladd yn erbyn y prophwyd, lleddwch hwynt i ochelyd anghydfod. Annoger y ffyddloniaid i ymladd yn erbyn yr anghred.
PEN. 9.
Yscrifenwyd ym Medina. Cyhoedda [Page 94] i'r anghredadwy y cant hwy ddioddef poenau tôst pan ddel mis Heram. [Diwedd en cyngrair] lleddwch hwynt pa le bynnag y cyfarfyddoch á hwynt: caethiwch a charcharwch hwynt. Y cyfryw ac a gredasant yn Nuw, ac a ymadawsant oddiwrth yn anwir, ac a arferasant eu nerth a'u golud i ymladd dros ei gyfraith ef, a gânt râdd a lle neilltuol yn agos [...]w Dduwiol Fawrhydi ef. Pan greawdd yr Arglwydd nefoedd a daiar ordeiniodd ddeuddeg mîs yn y flwyddyn.
PEN. 10
Yscrifenwyd ym Mecca. Hwy a ddywedant fod gorchymmynion yr Alcoran yn gwbl groes i'r hyn yr ydwyti yn ei bregethu, a darfod iti eu newid hwynt. Dywed wrthynt nid wyf yn ewyllysio eu newid hwynt o honof fy hun. Dywedant ni chredwn ni yn y prophwyd, os Duw ni pheriff i ryw ryfeddod ymddangos ynddo ef. Dywed wrthynt disgwiliwch, mi a ddisgwiliaf gydâ chwi.
PEN. 11.
Addolwch vn Duw yn vnig. Rhoddwch bwysau da a mesurau. Nac atteliwch ddim oddiwrth eich cymmydog.
PEN. 12.
Yr oeddent wedi cymmaint hurtio wrth edrych ar lendid Joseph, oni thorrasant eu byssedd yn lle eu bvvyd.
PEN. 13.
Dieffeithiawl yw gweddiau y rhai a ymbiliant â Duw arall. Annuwioldeb yw gweddiau y drygionus.
PEN. 16.
Na thorrwch eich addewid a'r Arglwydd er da yn y bŷd, y mae ei râs ef yn well ar eich llês na golud y ddaiar y sydd ddarfodedig. Cyfoeth y nef sydd dragwyddol. Yr hwn a wnel weithredoedd da a fydd fend [...]gedig [Page 95] yn y bŷd hwn ac yn y llall. Pan newidiom ni neb ryw orchymmyn dywedant mai celwyddwr wyti. Hwy a ddywedant mai dŷn a ddyscodd yr Alcoran iddo. Yr hwn y maent hwy yn rhŷfygu ddarfod iddo ei ddyscu ef sydd wrth genedl yn ŵr o Persia, ac yn llefaru iaith y Persiaid, ond yr Alcoran sydd yn iaith Arabia.
Proffessodd Abraham vndeb Duw, ac nid addolodd eulunnod. Siccrhâodd ef y Sabbath.
PEN. 17.
Ni luddiodd dim i ddangos y rhyfeddodau y mae trigolion Mecca yn deisyf eu gweled, oddieithr y dirmyg a wnaethpwyd gan eu rhagflaenoriaid hwy. Ni ddangosaf fi ryfeddodau mwy, ond peri i'r bobl wybod poenau vffern.
PEN. 18.
Nac amheuer histori 'r cyscadwyr, y rhai a fu yn yr ogof drychant o flynyddoedd.
PEN: 22.
Yr hwn sydd ddiclon am swccro Mahomet rhwymèd tenyn wrth swmer ei dŷ, ac ymgroged, i edrych a oera ei fustl ef. Gosodasom gyfraith i offrwm aberthau.
PEN. 27.
Solomon oedd etifedd Dafydd, ac a ddywedodd wrth y bobl, nyni a ddeallwn jaith yr adar. Pan ymgynnillodd byddyn Solomon ger ei fron ef yr ydoedd hi yn gyssyll [...]edig o ddynion, cythreiliaid, ac adar; arweiniodd ef hwynt i ddyffryn y môrgrug. A morgrugyn a lefodd, o forgrug ewch i'ch tai rhag i Solomon a'i luoedd eich sathru chwi dan draed yn ddiwybod. Pan glywodd Solomon y geiriau hyn dechreuodd chwerthin.
PEN. 33.
Pan yscarodd Zeid ei wraig, rhoddwyd hi iti yn briod. Nid yw'r prophwyd yn [Page 96] pechu wrth wneuthur y peth a ganiattâodd Duw. O brophwyd rhoddir iti gennad i adnabod y gwragedd a gynhyscaeddaist di; sef y caethforwynion, a merched dy ewythryd, a'th fodrabedd. Os y rheini ym Medina ni pheidiant á'u hanwiredd, rhoddaf iti gwbl awdurdod arnynt. Ychydig o honynt a'th barchant di, ond dal di hwynt, a llâdd hwynt ym mha le bynnag y cyfarfyddech â hwynt.
PEN. 35. Gogoniant i Dduw a greawdd yr angylion cennadau ei orchymmynion ef.
Yn awr ddarllenydd y gelli weled fod y wir grefydd ym mhlith dynion ym mhell cyn i'r bwngler hwn glyttio darnau o'i ysmaldod a'i gyfeiliorni ei hun wrth lawer o'i gwyddorion hi. Hawdd iti ddirnad fod digon o bobl yn ei amser ef yn canfod ei hudoliaeth ef, ac yn gofyn iddo am ryfeddodau i beri iddynt goelio ei brophwydoliaeth ef, ac nas gallai ddangos yr vn: ac nad arferai ef foddion eraill onid tennyn a chelanedd i gau safnau y rhai a ymddadleuent yn erbyn ei ffordd ef. A bod ei anlladrwydd a'i chwant i'r vspail, ac i waed, yn arwyddion hynod o ddull ei yspryd ef.
PEN. XII. Helynt y ffydd Gristianogol hyd y pedwerydd cant ar ddêg o oed Christ, a chwedi.
YNghylch yr amse [...]oedd hynny hefyd y daeth y gwasanaeth ladin, letaniau, ac amryw [Page 97] ddychymedig ddefodau mewn Cymeriad yn yr Eglwysydd, er lleihâd i rinwedd, a phurdeb crefydd. Fel hyn drwy 'r Alcoran a'r offeren y mae bwgwth Duw yn dechreu Cymeryd gafael ar y byd, 2 Thes. 2.10, 11. Da [...]c. 13.11. sef nerthol weithrediad cyfeiliorni am angharu'r gwirionedd. Tybiff rhai mai âr amser hwn y Cuttuna rhifedi enw'r bwystfil. gan benodi ei ddechreuad ef. Etto ni adawodd Duw mo'i etholedigion yn y monachlogydd, a'r eglwysydd, o ba rai bu Beda yn enwog ymhlith y Saeson, ac a gyfieithiodd beth o'r yscrythur yn Saesonaec. A gadawodd llawer o foneddigion a chyffredin eu hachosion bydol, ac ymroddasant i fuchedd gaethach yn y monachlogydd, gan ymprydio a gweddio yn aml; 729. ond Cam-arferwyd hynny mewn amser i gynnal llygredigaeth ofergoelus. Canys gorchymmynodd y Pâb osod i fynu ac addoli lluniau'r grôg a'r Seinctiau, ac escymunodd Leo Isaurus yr ymerodr, am geisio o hono wahardd addoli 'r delwau mudion, ac attaliodd yr ltal rhag ufuddhau iddo ef. Cymmellodd y Pâb hefyd arfer offeren Gregorie ymhob Eglwys, fal y byddei yr un ffurf wasanaeth ymhob man, a choronodd ef Carolus magnus brenin ffrainc yn ymerodr y gorllewyn, er mwyn cael ganddo ef ei hyfforddi ef yn y pethau hyn. Ac ymhen talm o ddyddiau chwanegwyd defodau newyddion at yr offeren, sef gweddiau dros y meirw, a gwyliau calan gaiaf, Oed. Cri. 854. a lluddwyd priodas ir offeiriaid, gan roddi iddynt lawer o freintiau awdurdodol yn lle priodas. Y pryd hyn y bu cystudd trwm ar y Saeson; daeth gwyr Deumarc i mewn i Loegr, ac a laddasant y Saeson yn llidiog, heb arbed na Phethau Cyffredin, [Page 98] na Phethau Cyssegredig, canys Paganiaid oeddent. A Pharhâodd y difrod anhrugarog hwnw yn hwy na dau cant o flynyddoedd. A chyn dyfod yr estroniaid hyn am eu pennau, ni pheidieu'r Saeson a llâdd eu gilidd, canys yn saith brenhinieth y rhannasent Loegr, yr hyn y barodd ymrysson yn eu mysc; felly dialodd Duw waed y Brittaniaid arnynt; a gallent ddywedyd fel Adonibezec, Ba [...]n. 1.7. megis y gwnaethom felly y talodd Duw ini, er iddynt dderbyn yr efengil; fel y Cymmerth Dafydd edifeirwch am lâdd Ʋrias, 2 Sam. 12.9, 10. etto nid ymadawodd y cleddyf ai dŷ ef, dros hir ams [...]r. Cafodd Alured, er ei fod yn frenin duwiol, ei ran o'r gorthrymderau hyn. Hwn y Seiliodd yscolion yn Rhydychen i hyfforddi gwybodaeth ymmysc y Saeson, ni byddei ef un amser heb ran o'r Scrythur yn ei gylch: a dymunodd ar Dduw anfon rhyw ddolur arno ef iw gadw oddiwrth anlladrwydd, a chynorthwyodd Duw ef yn ei flinderau. Er hynny mewn amser daeth Canutus o Lychlyn i fod yn frenin ar Loegr, ac wrth weled fal y trawsei Duw ei dâd ef Swanus am ei greulondeb yn llâdd rhai crefyddol, ofnodd ac adeiladodd fonachlog; a phan oedd gwenheithwyr yn mawrhau ei awdurdod ef, eisteddodd ar y traeth yn ymyl y môr, ac archodd ir llanw beidio a dyfod atto ef: ond pryd nad ufuddhae iw orchymmyn ef, ceryddodd ei wenheithwyr, ac a ymddarostyngodd o flaen Duw, ac a gyfaddefodd mae Duw oedd frenin, a bod pob peth dan ei lywodraeth ef. Oed. Cr. 990.
Cyn dyfod y blinder echryslon ar Loegr oddiwrth Denmarc, gwelwyd Cwmwl drwy 'r deyrnas, ai hanner o dân, a'r hanner arall o waed; [Page 99] a glawiodd gwaed yn ymyl Eborac: wedi marw Canutus cafodd Edward y Cyffesswr y frenhinieth, yr hwn oedd wr Duwiol: 1043. ac wedi ei farw ef, daeth y Normaniaid i Loegr, ac ynnillasant y deirnas drwy vn frwydr, ac a freistrolasant y saeson yn drahaus, 1066. a rheolodd William y Cwncwerwr arnynt. Y flwyddyn o'r blaen gwelwyd seren gynffonog ofnadwy uwch-ben lloegr dros saith niwrnod.
Yn yr oes hon y tynnodd Anghrist y mwgwd oddiar ei wyneb; gan ymddangos ir byd, 1074. y Twrc yn rheibus yn y dwyrain, a'r Pab Hildebrandus yn y Gorllewin, yr hwn oedd yn ymdderchafu uwchlaw brenhinoedd y ddaiar: ac o'r amser yma allan, a thalm o'r blaen, drwy gleddyf, a gwenwyn, yr ymgodeu yr Pabau yn o [...] fynech: weithiau byddeu dau, weithiau tri o honynt yn ymdynnu am y goruchafieth A chan iddynt ymroddi i ddilyn cyngor y drwg, cydffurfiasant addoliad Eglwysig yn y modd tebyccaf i ddiffodd purdeb ffydd yn enw crefydd; drwy attal oddiwrth bobl air Duw, ac yspryd deallus mewn gweddi, ac yn lle hynny adrodd geiriau ladin ar dâsc heb ddirnad, na theimlad. Ynghylch hyn y dechreuwyd cadw digwyl y meirw, yr hwn a ordeinwyd o herwydd breuddwyd Abbad Cluniac; yr hwn y welodd drwy hûn eneidiau 'r meirwon yr cael bûdd oddiwrth ei offerenau ef. Trâ yr ydoedd y gweision yn cyscu, Math. 13. yr havodd Satan yr Efrau. Rhoddes Berengarius gynnyg ar argyhoeddi ofergoelion yr oes hon, a gorthrymmwyd ef. Ond drylliodd mellt a tharanau amryw o'r delwau yn eglwysydd lloegr. A bu anfodlonrwydd cyffredin am orfod o'r offeiiriadau [Page 100] adel eu lleodd, Oed. Cri. 1092. neu wrthod eu gwragedd drwy orchymyn y Pâb: a phan appeliodd escob gorthrymmedig at Grist, rhoddes rybudd ir swyddogion pabaidd iw gyfarfod ef. Ymhen ychydig bu ef farw, ac mewn modd erchill cyrchodd ang [...]u nhwythau ar unwaith. A gwelwyd rhyfeddodau lawer; Sychodd yr afonydd, crynodd y ddaiar, 1110. berwodd ffynnon o waed yn lloegr dair wythnos. Ymddangosodd dwy leuad, a seren gynffonnog, a megis aneirif Sêr yn syrthio, a'r wybren ar dân oll Wedi hynny gwelwyd tri haul, a thair lleuad, a chroes gôch ar draws yganol. 1158. Tystiolaethodd amryw wyr duwiol a dyscedig yn erbyn llygredigaeth yr amser hwn, a merthyrwyd hwynt. Ie er ir Ymerodr Ffredericus Barbarossa gyhoeddi beiau 'r Pâb, etto gorfu iddo ymostwng iddo ef; a rhoddes y Pâb ei droed ar ei ŵddf ef, Psal. 91.13. 1164. gan gamarfer geiriau'r Psalmydd y llew a'r ddraig a sethri. Yr un yspryd balchder a yrrodd y ddau Arch-escob saesnig mewn cymanfa eglwysig i ymwthio cymmaint am yr eisteddle uchaf. 1177. A thra yr oedd y Phariseaid-yn anrhydeddu Duw yn ofer a thraddodidau dynol, Cyfododd Duw bobl iddo ei hun iw addoli mewn yspryd a gwirionedd; Sef yr Albingenses yn Tholouse, a Croatia, a Dalmatia: A'r Waldenses yn Lugdunum o ffrainc, y rhai a alwyd fal hyn. Tra yr oedd Waldez dinasydd goludog, ac eraill yn cyd-ymddiddan, ac i un oi cymdeithas Syrthio yn farw yn y lle, trawodd y fath ddychryn ynddo ef, ac y barodd iddo ymroi i wellhâu ei fuchedd: dechreuodd rannu llawer oi dda ir tlodion, a chwilio'r yscrythyrau, canys llythyrennog oedd ef, a chynghori ei deulu ai [Page 101] gymmydogion i edifarhau; a chyfieithodd rannau o'r yscrythur lan ir rhai y welei ef yn ewyllyscar iw dilyn: ac aeth y gronyn hâd mwstard yn bren aml ei ganghennau. Am hynny cystuddwyd ef a'i ddilynwyr gan yr eglwyswyr pabaidd, a chwalwyd hwynt, rhai i Bohemia, eraill i Lombardy, eraill hyd taleithiau Ffrainc, ac amlhâsent wrth eu gwascaru fal yr ŷd wrth ei hau. Eu athrawiaeth oedd. Na ddylid ollwn dim ir grefydd, ond sy guttunol a'r Scrythyrau. Nad oes yr un Cyfryngwr heb law Crist, ac na ddylid gweddio at seinctiau, na thros y marw; na ddylid addoli mor cymmun, na lluniau, na themlau; mae Anghrist oedd y Pâb y pryd hynny, ac am hynny y dylid gadel ymmaith ei ddefodau ef mewn bwydydd, ac amseroedd. Eu buchedd oedd gweddio yn hîr, yn wresog, yn fynych ymmysc eu gilidd. Nid arferent un ffurf weddi, ond gweddi'r Arglwydd yn unic. Cyn Cymeryd eu bwyd gweddient ar i Dduw ei fendithio ef, fel y torthau yn yr anialwch. Athrawiaethent eu gilidd yn boenus. Nofieu un o honynt liw nôs dros afon amser gaiaf i hyfforddi cymmydog yngrâs Duw; byddei'r Scrythur ganddynt ar eu tafod leferydd, ie gan y bobl wledig; dioddefent eu llâdd am eu ffydd yn gyssurus.
Yn fynych byddei Duw yn eu gwaredu hwynt a'u brodyr yn rhyfeddol, megis yn Tholouse lle y lleihâodd cornwyd y fyddyn Babaidd oedd yn gwarchâu arni: Oed. Cri. 1220. ond wedi hynny rhoddodd y ddinas honno genad i escobion coelgrefyddol i ddyfod i mewn i ymgommio ynghylch eu ffydd, y rhai fel bradwyr y ddygasant filwyr gyda 'u Cyttiau i ddywallt gwaed gwirion.
1237.Mae eglwys y Groegiaid yn ymadel ag eglwys Rufain, eisieu cael gan y Pâb ddiwygio'r pethau oedd feius. Yr hwn oedd yn pwyso yn drwm ar Loegr hefyd, ac yn tynnu ei thryssor atto ei hun am ollyngdod ir eneidiau, ac wrth amryw droseydd eraill, 1245. onid oedd y penaethiaid yn achwyn arno wrth gymanfâodd Cyffredin. Blin echryslon hefyd oedd belynt Cristnogion y dwyrain yn Asia, Syria, a'r gwledydd oddiamgylch, o herwydd y Twrciaid; y rhai er nad oeddent ar y cyntaf ond byddyn fechan y ddaethei o Scythia i gynorthwyo Persia am gyflog, etto wedi Syrthio allan a'r Persiaid gorch [...]ugasant eu teyrnas hwynt, ac eraill o'u hamgylch, a derbyniasant goelgrefydd Mahomet, oedd yn y gwledydd hynny o'r blaen. Ac er i dywysogion y gorllewin sef. Godfrey o Builon, ac eraill, arwein byddinoedd Cedyrn yn eu herbyn, ac ynnill Jerusalem oddi arnynt, a llâdd o honynt lawer cant o filoedd, etto tyfei anghydfod rhwng y tywysogion a'u gilidd, neu rhwng yr ymerodr a'r Pâb ynghylch arglwyd dieth, y roddei achlyssur i'r Turciaid i ynnill eu colled gyda'g elw. Ie Cenfigennodd Ymerodr Constantinopl a'r Groegiad wrth y byddinoedd Ladingaidd, a chymmyscent galch gyda'r blawd y werthent iddynt, iw gwenwyno. Er bod y Cristnogion ofergoelus (y rhai oeddent yn erlid purdeb crefydd yn eu gwladwyr eu hunain) yn anllwyddianus yn eu rhy fel â'r Twrc, etto daeth Tamerlan ymerodr Tamaria a byddyn yn ei erbyn ef, ac ai gorchfygodd ef; gan gau ar Bajazet (y Twrc pennaf a chreulonaf yn ei amser) mewn grât haiarn fel llew iw her-ddangos: ac er mwyn cospi ei falchder [Page 103] ef, sangei ar ei gefn ef wrth fyned ar ei farch. Ar y daith hon dûg y Cwncwerer hwn lawer o deyrnasoedd dano, a bu dirion wrth y Cristnogion. Pan oedd Bajazet yn myned [...]ua'r frwydr hon mewn gofal a galar, (canys clywsei ddarfod i Tamerlan ynnill Sebastia oddiar eu wŷr ef, a llâdd ei fab ef Orthobules) aeth heibio i fugail ydoedd yn canu pibau dan areilio ei braidd, gan ochneidio, a dywedyd, dedwydd wyti nad oes geniti na Sebastia nag Orthobules iw golli. Yr hyn sy'n dangos, mae gwell yw Cyflwr y rhai Sy'n bodloni ar ychydig, na' rhai Sy'n meddu llawer.
Yn y gorllewin rhydd Duw fwyfwy o oleufyneg am lygredigaeth yr eglwyswyr; ac mae rhai yn cael deall yn llyfr y Datcuddiad, ac yn profi mae Anghrist ydoedd y Pâb; ac yn prophwydo y cofodei Duw weinidogion tlodion i bregethu'r efengil, ac i borthi praidd Crist yn dduwiol: Ac yn dangos fel yr oedd rhagrithwyr ofergoelus, yn addurno escyrn y Sainct Meirwon, Oed. Cr. 1324. ac yn penydio y rhai byw am wirionedd en ffydd. A'u [...]od yn fflangellu delwau bywiol Duw, sef ei bobl, er iddynt addoli delwau mudion. A'u bod yn porthi, neu yn hytrach yn siomi defaid Crist â phorfa súr, ac afiachus, sef dychymygion dynol, ac yn cau yn fanwl rhag iddynt gael blâs ar dîr Duw, sef y scrythyrau. Rhagfynegodd rhai Sanctaidd y Cyfodoi Duw rai yn yspryd Elias i adferu purdeb crefydd, er ei bod y pryd hynny dan gwmwl. Ac ymhen ychydig annogodd yspryd yr Arglwydd Joan Wiccliffe atbro'r Gadair y [...] Rhydychen i oleuo Llogr. Yr-hwn wedi ei erlid gan yr escobion, a bregethodd yn droednoeth, gan dynnu llawer oddiwrth eulynaddoliad [Page 104] pabaidd, i chwilio'r Scrythyrau, ac iw dilyn. Oed. Cr. 1371. Arferei ef, a llawer o'i frodyr bregethu yn yr heolydd ar ddyddiau marchnad, pan lyswyd yr Eglwysydd iddynt. A phan oedd Cymanfa yn Llundain yn myned ynghylch holi Wiccliffe ai lyfrau, digwyddodd yn yr awr honno ddaiargryn mawr, a ddychrynodd y prel adiaid. Amlhâodd dyscyblion i Grist yn ddirfawr drwy bregethau, a llyfrau yr efengylwr daionus hwn, ai gydweithwyr, er gwaetha'r rheolwyr oeddent yn ceisio eu rhwystro: ac wedi ei farw ef ai ben ar y gobenydd (canys cawsei ddiogelwch drwy hyfforddiad rhai o'r penaethiaid) yscrifennodd yscolheigion Rhydychen dystiolaeth ir hollfyd oi burdeb ai Sancteiddrwydd ef.
Je yn Bohemia cyfododd John Husse, ac yscolheigion enwog yn Prague i siccrhâu ei athrawieth ef, gan brofi fod Duw yn anfon y pregethwyr oeddent yn dal allan burdeb yr efengil, er bod y Pâb ai escobion yn eu gommedd, a bod eu cariad tu ag at Dduw ai b [...]bl, au Sancteiddrwydd, au dioddefgarwch, yn arwyddion disiomedig ou galwad; canys wrth gariad yr adwaenir dyscyblion Crist. Ac er i lawer geryddu Husse (fel y gwnawd a Bartimaeus) i geisio ganddo dewi, etto llefodd yn fwy o lawer yn erbyn eulynaddoliad yr amser, a dangosodd y f [...]th Anghenfil ydoedd yr Anghrist, gan fod tri phen, sef tri Phâb ar unwaith yn ymdrechu am y llaw vchaf; y gwahaniad hwnw y lèdodd iddo ef ddrws ymadrodd. Er diwedd anfonodd yr ymerodr am dano ef i Gymanfa Constance, lle y caeth garcharwyd ef mewn heirn, er iddo o'r blaen gael addewid yr ymerodr a'r Pab penaf, (y rhai oeddent yno yn bresenol) [Page 105] y gallei ef fyned a dyfod yn ddiogel ddirwystr. A phan welsant nas gellid moi ddenu ef at Babyddieth, blingasant ei goryn ef, (er tynnu ymmaeth yr olew Cyssegredig meddent, ar hwn yr enneiniasid ef wrth dderbyn urddau) a gwiscasant am ei ben ef gap â lluniau Cythreuliaid wedi eu peintio arno, a lloscasant ef yn vlw; a thaerasant na ddylid cwplau addewid i Heretic. Ond tra yr oedd ef wrth y stangc yr oedd ei gynghorion ef mor fuddiol, ai weddiau ef mor nerthol, Oed. Cr. 1415. onid oedd y bobl yn cydnabod iddo farw yn rasol.
O Garchar yscrifenodd at ei wladwyr iw cadarnhâu yn y ffydd, gan ddywedyd iddo gael datcuddiad y galwei'r Arglwydd bobl rasol iddo ei hun, ac o'r rheini y Cyfodeu weinidogion i adferu grym duwioldeb. Jer. 36.23 Ac os llosceu 'r Papisliaid ei lyfrau ef, fel y gwnaeth yr Juddew â phrophwydolieth Jeremi, etto gosodid allan yr athrawieth eilwaith yn belaethach.
Ar ol Husse Canlynodd Jerome, ei gyfaill auwyl, ac athro dyscedig o'r un ddinas. Yr hwn pan aeth i Constance o honaw ei hun i ymweled ai frawd Husse, (fal y Cynorthwya 'r naill aelod y llall mewn anghyflwr) Carcharwyd ef yno yn gaeth-filain dros agos i flwyddyn; ac er iddo lithro unwaith, etto yr eilwaith yr ymddangosodd o flaen y gymanfa, argyhoeddodd hwynt yn llym am waed Husse, a phrofessodd y wir grefydd yn nerthol, a daliodd hi hyd farw: am hynny lloscwyd ef wrth stangc cerfiedig ar lûn Husse er ychwanegu ei alar-dywedodd y ddau ferthyr hyn wrth y Papistiaid, y caent atteb i Dduw, ac iddyut hwythau am eu gwaed ymhen y can mlynedd. [Page 106] Ond darfu ir tân y laddodd 'yr athrawon fywhâu'r dyscyblion yn Bohemia, lle 'r ymnerthasant i ddiffyn eu crefydd, au bywyd; ac er ir Pâb a'r ymerodr anfon llûoedd mawrion iw difetha hwynt, etto gorchfugasant y Papistiaid mewn un brwydr ar ddêg cyn marw Zisca eu Capten, a hynny mewn modd rhyfeddol: canys ychydig nifer oeddent mewn Cyffelybieth iw gelynion; a thrawei'r fath ofn yn y Papistiaid, oni ffôent Cyn ymladd weithiau. Ac wedi'r gwarediadau rhyfeddol hynny, mewn amser tyfodd gwahaniadau rhwng y penaethiaid, a thrwy frád rhoddwyd y deyrnas ir ymerodr; yr hwn ai Cymerth yn fwynaidd, ac a orchymmynodd ir hên filwyr ymgasclu i fewn yscuboriau er mwyn derbyn eu Cyflog yn heddychol, a Phan gafodd hwynt ynghyd, parodd losci'r yscuboriau, a nhwythau ynddynt.
Yn Lloegr y Paratowyd yr un ymdrin ir ffyddloniaid gan eu llysenwi yn Lolards, (sef lolium art) hynny yw efrau: ac am hynny Ceiswyd eu chwynnu, a'u llosci, a rhwystro eu cyfarfodydd. Er gosod petisiwnau ar ddryssau 'r Parliament am ddiwygiad grefyddol, etto ni cheid hynny drwy awdurdod ddynol yn yr oes honno; eithr rhoddwyd i farwolaeth y rhai ni addolent y groes, a'r bara yn y Cymmun, a gosodwyd Cyfreithiau caeth i chwilio am bob dyn, a phob llyfr iw difetha, a'r y ddalieu allan y wir athrawieth: er hynny chwanegeu rhyfedi y rhai duwiol; er syrthio rhai, cyfodeu eraill. Ond lleihâodd y Papistiaid beth, canys lladdwyd o honynt ddau cant [...]o filoedd yn y rhyfel y fu rhwng dau Báb oeddent yn ymrysson ai gilidd dros [Page 107] naw mlynedd a'r hugain. Gwnaeth Arglwydd Cobham ei ran yn pledio gyda'r wir grefydd hyd farw, tystiolaethodd iddo gael grâs i ofni Duw, er pan dderbyniasei ef athrawiaeth Wiccliffe, ai fod o'r blaen yn by w mewn amryw bechodau ynghymdeithas y Papistiaid. Pan alwent arno i addoli 'r g [...]oes, estynnei allan ei freichiau, gan ddywedyd, Dyma groes o wneuthuriad Duw. (gan feddwl ei gorph tra'r oedd ei freichiau ar lêd) ac etto nid addolwch, onid erlidwch fi, anrhesymol ynteu addoli croes o waith dyn.
Merthyrwyd un ar bymtheg ar hugain ar unwaith, ac ymhen y mîs trawodd Duw dafod Arundel Arch-escob Caergaint, fel nad allei na llyncu, na llefaru amryw ddyddiau cyn ei farw. A chydnabyddodd llawer yr amser hwnw, gymhwysed oedd barn Duw yn erbyn yr hwn oedd mor fywiog yn Ceisio gostegu gwir bregethwyr yr efengil. Oed. Cr. 1439. Yn yr oes hon y gorchymynwyd dau ŵyl i Fair.
Ond y mae Duw yn dychwelyd at y bŷd â mawr drugaredd, 1450. ac yn rhoddi dawn i ddyn y brifiodd yn hyfforddiant mawr ir efengil, sef celfyddyd preintio; Isa. 28.24. mynnei 'r yscrythyr i ddynol ryw gydnabod mae o'r nêf y mae cyfarwyddyd yn dyfod i drîn y ddaiar, fel y caffo dyn lunieth Corphorol: ynteu llwyr y dylid fendithio Duw am y modd hwn i amlhâu llunieth ysprydol, ynghylch mor fuddiol a dawn y tafodau yn amser yr Apostolion.
Cyn y pryd hyn yr oedd yr Scrythyrau a llyfrau da eraill yn anaml, ac yn ddruthon, o herwydd meithder eu yscrifennu. Profwyd ar lŵ yn erbyn proffesswr mewn llŷs pabaidd yn y flwyddyn [Page 108] 1429 iddo roddi un swllt ar bumtheg ar hugain am y testament newydd yn Llundain: tebygol y Costiasei'r bibl Cyfan y tri chymaint, am yr hyn swm y gallesid purcasu hawl i gryn dysyn o dîr yn yr oes honno. Ond yn ein dyddiau ni aml a rhâd yw llyfrau da, ac yscolion iw dyscu; am hynny hawsach cael gwybodaeth o air Duw, yr hyn sydd yn ddyrnod pen i bob Anghrist: am fod anwy bodaeth yn Cadarnhâu Cyseiliorni, fel y mae oerni yn caledu 'r pŷg, a goleuni ai gyrr i gilio, fel y gwna 'r tân ir plwm ymollwn.
Ystyr rhaglunieth Duw, pan oedd yr Eglwys yn amlhâu ac yn dyfod o'r Aipht, y rhoddes ef ei ewyllys yn gyntaf yn yscrifennedig, a phan oedd ar amlhâu a gwaredu ei bobl oddiwrth Babyddieth, caniadodd ei yscrythyrau yn breintiedig gyntaf.
PEN. XIII. Llwyddiant y Twrciaid, ymdrech Protestaniaid a Phapistiaid.
YN y flwyddyn o oedran Christ 1453. darfu ir Turciaid ynnill Constantinopl. prif ddinas ymerodraeth Gristnogol y dwyrain dros un cant ar ddêg o flynyddoedd, Sef er amser ein gwladwr Constantinus, yr hwn ai had eiladodd hi. Gofidus fyddei mynegu a chlywed dosted fu ei difrod. Gorescynnodd y Twrciaid Creulon yn yr oes hon ddau cant o ddina [...]oedd, a deuddeg o deirnasoedd, a dwy ymerodraeth Gristnogol, a hynny yn amser un oi brenhinoedd: heb law y teirnasoedd enwog y dreisiasant drwy fin arfau [Page 109] gynt a chwedi. Yr achosion amlwg o lwyddiant yr Anghred hyn ydoedd lawer. Sef,
Oblegid ir Cristnogion ymlygru gan mwyaf, heb roddi iawn ymddiried yn- Ghrist, ond dewisent St George, a St Dennis, a'r cyfryw yn ymddiffynwyr iddynt, gan adel Jesu heibio, heb yr hwn nis gallent ddim. Joan. 15. [...] Ac yr oeddent mor filain yn erbyn eu brodyr y ddilynent rym yr efengil, ac oedd y Twrciaid yn erbyn y rhai a broffessent ei ffurf hi; ie mor amhûr ydoedd buchedd y rhan fwyaf o'r Cristnogion, oni orfu i Grist ddangos barn arnynt er tystiolaethu yngwydd ei elynion mor anfodlon oedd ef i bechodau y rhai a ymhonnent oi enw ef, ac mor gâs oedd ganddo anwiredd; i hyn ystyriwn yr histori yma. Wedi ir Twrc wneuthur Cyngrair a brenin Polonia, ac Hungaria, a Symmud ei fyddinoedd ymmaeth oddiwrtho ef yn ddigon pell, gwelei'r Pâb y gallei'r brenin gael barr gwâg i ynnill peth oddiar y Twrc, os torrei ei ammod, ar hyn gwnaethpwyd rhuchr am ben y Twrciaid, a nhwy heb ddisgwil dim o'r fath beth: a phan oedd y Twrciaid yn y frwydr ar golli'r maes, tynnodd eu brenin hwynt oi fynwes yr ysgrifen, lle yr oedd ammodau'r Cyttundeb ar lawr, gan ddywedyd; O Crist [...]s wyti Dduw fel y dywedant, ac y tyb [...]wn ninnau dy f [...]d ti [...] dial yr anffyddlondeb hwn ar y b [...]bl sy'n proffessu dy enwdi, ond a'u gweithredo dd yn dy wadu di. Ar hyn aeth y Twrc yn d [...]èch, er e [...] fod o'r blaen ar y gwaethaf. Amseroedd eraill pan aent ir frwydr dan gablu Crist, gorchfygid nhwythau; ond y naill amser gyda'r llall, caniadodd Duw iddynt fod yn fflangell lifeiriol iw bobl anu [...]udd; odid ddinas [Page 110] na thrêf drwy Asia, Affrica, a rhan fawr o Europa, lle ni wnaeth yr anghred geirwon hyn i waed y Cristnogion ffrydio; a'r rhai y arbedei eu cleddyf, a werthid fel anifeiliaid o farchnad i farchnad i dynnu yn lle ychen, neu i wneuthur rhyw galedi arall, Ac yn awr ni chaiff y Cristnogion y sydd dan drêth drom ymysc y Twrciaid, mor ymgynnill ond yn ddirgel, na bod mewn swydd, na gwisco arfau, na dillad chwaith o'r un sut á hwynt; na gwrthwynebu un cabl-air yn erbyn Crist: ac os dywedant ddim yn erbyn Mahomet, cant eu llosci. A'r peth truanaf o'r cwbl yw orfod iddynt ymadel a'u plant i ddwylo gelynion Crist iw dwyn i fynu megis mewn monachlogydd yn y gau grefydd, ac i ddyscu traenio; fel pan dyfont, ac anghofio eu rhieni (canys ni chânt fyth moi hadnabod mwy ar ôl eu tynnu oddiwrthynt) yr ymladdont yn fedrus yn erbyn yr efengil.
Cymer yr hyspysrwydd a ganlyn ynghylch y modd y mae'r Turciaid yn trin yr Alcoran a'u crefydd yn yr oesoedd diweddaf hyn.
Y mae ganddynt demlau eheng a chostus, yn y rhai nid oes dim lluniau onid y geiriau hyn yn yscrifennedig yn iaith Arabia, Nid oes ond vn Duw, a Mahomet yn brophwyd iddo. Ʋn creawdur a'r prophwy di yn gyd-radd. Nid oes gadarn fel yr Arglwydd. Y mae eu hoffeiriaid i weddio ynddynt ynghŷd â'r bobl foneddigaidd bum waith beunydd. Ac wrth ddyfod iw gweddiau golchant eu dwylo a'u traed, a thanellant ddwfr ar eu pennau deirgwaith, gan ddywedyd gogoniant i'n Duw. Yna wedi tynnu eu hyscidiau oddiam eu traed, a'u gadel wrth ddrws y ddeml, ant i [Page 111] mewn, rhai yn droednoeth, eraill mewn escidiau glân 'âr rhai ni chyffyrddant y ddaiar mewn lle arall yn y bŷd. Wedi y darfyddo gan yr offeiriad bregethu, caniff ef á'r bobl â llais isel dros hanner awr, heb ddywedyd dim ond y geiriau hyn nid oes ond vn Duw.
Ymprydiant bum wythnos yn y flwyddyn. Yn y dyddiau hynny ni phrofant ddim nes gweled y sêr, ac yna bwyttânt bob rhyw fwyd, oddieithr y peth a dagwyd, a chig moch. Enwaedant eu plant yn saith neu wyth mlwydd oed, pan allont wneuthur cyffes. Priodant heb gynhyscaeth. Yn eu pebyll wrth fyned i gyscu, ac wrth gychwyn dranoeth llefant yn vchel gan ddywedyd Duw deirgwaith, sef Allah, Allah, Allahu. Y mae 'r Juddewon hefyd yn glynu yn ffurf crefydd yn rhyfeddol. Y maent yn yr oes hon yn wascaredig ar hyd y bŷd, ac yn preswylio draw ac obry yn y rhan fwyaf o deyrnasoedd y dwyrain a'r gorllewin, ond heb ymuno â chenhedloedd eraill mewn addoliad, eithr ar eu pennau eu hunain yr addolant, ac â'u gilidd gan mwyaf yr ymgymdeithasant. Cadwant y Sabbath bob wythnos ddiwrnod o flaen y Christianogion. Enwaedant ar eu plant fel gynt. Y mae ganddynt yr hên Destament Hebraeg yn yscrifennedig ar femrwn, a chadwant ef yn barchedig yn eu synagog, ac wrth ei gyrchu o'r fan lle y mae ynghadw at y darllenwr, sefiff yr holl gynnylleidfa ar eu traed, a chanant fawl i Dduw. Ac heb law hynny y mae ef gan lawer o honynt yn brintiedig, ac edrychant ynddo i galyn eu hathro pan fyddo ef yn darllein yn y memrwn. Tra fyddont yn addoli ni thynnant mo'u hettia'u, eithr bwriant orchgudd [Page 112] teneu arnynt, a syrth i lawr dros beth o'u hwynebau, mewn coffadwriaeth (tebyg cennif) o'r gorchgudd a roes Moses ar ei wyneb pan ydoedd yn discleirio, wedi iddo aros cyhyd yn y mynydd gydâ Duw i dderbyn y gyfraith. A'r arfer hwn a allai roddi achlysur i'r Apostol i ddywedyd am danynt yn ei amser ef, fod eu meddyliau hwynt wedi eu dallu: canys (medd ef) hyd y dydd heddyw y mae 'r vn gorchgudd wrth ddarllen yr hên destament yn aros heb ei ddatcuddio. Disgwiliant y Messias i ddyfod, 2 Cor. 3.14. a gobeithiant y caiff eu cenedl hwynt ddychwelyd i wlâd Canaan etto.
1506.Yn Lloegr Lloscwyd pobl dduwiol am ymwrthod â phabyddieth. Tra yr oeddent yn llosci un o honynt yn Cheaping Sadberie, torrodd tarw baitiedig yn rhydd, ac a whyliodd y Doctor Whit [...]ington a gondemniasei'r merthyr, gan lusco ei ymyscaroedd ef hyd yr heol wrth ei gyrn, heb gwffwrdd â neb arall yn yr holl ymwasc. Etto ni chymereu'r erlidwyr ddim rhybudd: eithr cipiasant John Browne o'i dy, ac ni chafodd ei wraig moi hanes ef, nes ei ddwyn ef iw losci yn agos iw gartref: a thra'r oedd ef yn y cyffion yn aros ei ddihenydd, mynegodd iw wraig fal y darfuasei ir Escob losci ei draed ef hyd at yr escyrn, iw gymell ef i wadu ei ffydd: [...]c wedi dymuno arni hi, a'i blant barhâu yn ofn Duw, ymroddodd ir tân.
A Thomas Man a folianodd Dduw am ei wneuthur ef yn offer i droi saithgant at y ffydd, yr oedd ef yn marw drosti.
Yr oedd cynnulleidfâu mawrion o bobl dduwiol yn ymgyfarfod heb wybod ir Escobion yn amryw fannau yn Lloegr; ond wrth gymmell y wraig i dystiolaethu yn erbyn y gwr, a'r plant [Page 113] yn erbyn eu rhieni, a'r naill frawd yn erbyn y llall, cafwyd yspysrwydd, pwy oeddent yn dyscu i eraill wersi o'r testament newydd, a'r credo, a'r dêg gorchymmyn, ac yn darllen neu yn gwrando yr Scrythyrau saesonaec y nôs, a tharfwyd hwynt fel y defaid gan y bleiddiaid.
Er nad oedd ond ymbell ddarn o'r yscrythyrau yn saesoneg a rheini yn waharddedig drwy gyfraeth y deyrnas, ac heb fawr bobl lythrenog hyd y wlâd y fedreu eu darllen, etto rhyfeddol amled oedd y rhai y gawsent râs wrth eu clywed mewn cornelau, 1 Cor. 1.25. a gwelwyd gwendid Duw yn gryfach na dynion.
Ynghylch y dyddiau hyn y prophwydodd rhai duwiol y glanheid yr Eglwys oddiwrth ei llygredigaeth, ac yr ail flodeuei purdeb yr efengil, digwyddodd hefyd rai rhyfeddodau. Syrthiodd cr [...]esau gwaedlyd, a llun hoelion, a gwaiwffon ac yspwng ar wiscoedd pobl yn Germania. Tra yr oeddid yn Rhufain yn Cyssegru prif henuriaid, trawodd temestl angerddol yr Eglwys lle'r oeddent, oni syrthiodd yr agoriadau o law delw Peder. Anghwanegodd dysceidieth, a phreintwyd llyfrau'r hên athrawon, drwy lafur Erasmus ac eraill. A chyfododd llawer o wyr duwiol dyscedig i chwilio 'r y scrythyrau yn yr ieithoedd hynny ymha rai yr yscrifenaseu'r Prophwydi, a'r Apostolion hwynt, sef yr Hebraeaeg ar Groeg, a chawsant ddwfr y bywyd yn loiwfach yn y ffynnonau nag yn llestri mŵs y Pab.
Scrifennodd Luther, a Melancton, a Zwinglius, a llawer eraill yn erbyn marsiandiaeth, ac eulynaddoliaeth y Pâb: na thaleu yr Pardynau ddim [...]anfonei ef i bob gwlâd iw gwerthu am arian, ond [Page 114] bod maddeuant Pechod drwy ffydd yn-Ghrist, ac y dylid addoli yn ol ewyllis Duw, ac nid yn ol coel y Pab. Ar hyn casclodd Ymero dr Germania gymanfa fawr o holl l [...]wodraethwyr ei wledydd i ddinas Wormes, lle yr anfonwyd am Luther i bledio ei achos. A phan amlygodd yr Ymerodr wrthwyneb i ddywgiad crefydd, ceisiodd ei gyfeillion gan Luther nad anturieu fyned ir ddinas: attebodd yntef, Yr ai ef i mewn yn Enw'r JESƲ, er bod yno gymaint o gythreuliaid iw wrthwynebu ef, ag oedd o gerrig ar bennau yr tai. A phan ddaeth ger bron, ymadroddodd yn galonnog ymhlaid yr efengil; Gal. 2. gan yspyssu iddynt, Na ddylid coelio angel o'r nef, gwaethach dynion ar y ddaiar, yn erbyn gai [...] Duw. A'r flwyddyn gwedi hyn yscrifennodd y Pâb at Benaethiaid Germania oeddent ynghyd yn Norenberg, Oed. Cri. 1522. i ddymuno arnynt chwareu yr meddygon gofalus, a serio Cancr Luther â thân, fal na thaneu ymmhellach. Ond attebasant iddo, fod ei reolaeth lygredig ef yn gerydd ir byd, am fod y gollyngdod y wertheu ef oddiwrth bechod, a' [...] benyd yn y byd hwn, a'r purdan, yn gwneuthur pobl yn annuwiol, gan hyderu y gallent gyflawni eu chwantau, ac achub eu heneidiau am ychydig arian; gan bennodi ynghylch cant o feiau anafus oedd yn cyd-ganlyn pabyddieth.
O hynny allan ymosododd y tywysogion i swccro'r pregethwyr, a'r bobl dduwiol i addoli Duw mewn purdeb yn gyhoeddus, ac nid yn unig mewn tyllau fel o'r blaen. Cafodd gweinidogaeth Zuinglius a Leo Juda dycciant mawr yngwladwrieth Helveria; lle gorchymmynodd y Swyddogion losci yr delwau, a bwrw ymmaeth ddefodau llygredig, a phregethu gair Duw yn aml, ac yn [Page 115] eglur, gan gyhoeddi eu bod yn dal sulw fel yr oedd yr offeiriaid Pabaidd yn arfer eu hofergoelion er mwyn elw, a derchafu'r Pâb, a hod gweinidogion efangylaidd yn ceisio bûd [...] eneidiau, a derchafu Crist. ie ymmha ddinas bynnag, neu deyrnas y cafeu pregethiad yr e [...]eng [...] ychydig rydd-did, Syrthieu'r offeren a'r delwau i lawr yno, fel Dagon gynt o flaen yr Arch. Ac yn gymaint nad ellid disgwil amgenach, na chyfodei Ceidwad y Carchar uffernol waedd ac erli [...] ar ol y Carcharorion aeth [...]nt yn rhyddion oddiwrtho ef drwy ffydd yn-Ghrist, ymunodd tywysogion Germania, ac arglwyddi dinasoedd breiniol mewn protestasiwn, sef c [...]hoedd ddatcan eu meddwl i gyd-gynal dywigiad, ac am hynny y galwyd hwynt yn Brotestaniaid.
O hyn allan aeth y Papistiaid, megis eirth wedi colli eu cenawon, yn greulonach wrth y Protestaniaid y fyddeu dan eu palfau hwynt: gan dynnu aelodau rhai a gefail, a chladdu eraill yn fyw, a llosci eraill yn vlw, a chrogi llawer. Ac er na ddiffoddeu eu gwaed hwynt mo boethder digofaint yr erlidwyr, etto troe llawer at râs Duw, wrth weled dioddefgarwch y merthyron diweddaraf megis y rhai cyntaf.
Encyd wedi torri pen George Scherter (y droeseu lawer at Grist yn ei fywyd) ac ir corph farw yn nhŷb pawb, trôdd ar ei gefn, ac a roddes y troed deheu dros yr asswy, ac felly ei ddwylaw yn groes. Wrth weled hyn ofnodd pawb, a chredodd llawer iw athrawiaeth ef, canys a ddawsei iddynt arwydd oi fod ef yn marw dros Grist.
Yr oedd un ym mynydd Peliers yn bodloni ymwadu á ffydd y Protestaniaid, er mwyn cael [Page 116] myned allan o garchar; a chyttunodd y Papistiaid ir peth, ond iddo gymeryd hyn yn benyd arno, sef edrych ar losci un ni hên gymde [...]thion yn y ff [...]dd, yr hyn y wnaeth e [...]: ac wrth weled mor gyssurus yr o [...]dd hwuw yn marw, gwrthododd wadu ei ffydd, eithr dewisodd dd [...]oddef drosti.
Er maint in bl [...]nder eraill, etto cafodd Luther farw ai ben ar y gobenydd yn heddychol, ar ol iddo d [...]os naw mlynedd ar hugain bregethu yn fuddiol, a gweddio yn nerthol, ac yscrifennu yn o [...]chestol, a chael gwarediadau rhyfeddol, a dilyn buchedd Sanctaidd. Pan fyddeu golud yn dyfod atto, ofnai yn ddirfawr rhag bod Duw yn cynyg ei wobr iddo yn y byd hwn, gan ddwedyd, Na chafei Duw fodloni mono felly. Y diwrnod cyn ei farw ef yr oedd ymddiddan ar ei fwrdd ef ynghylch y Néf, a ydoedd y sainct yn adnabod en gilidd yno; A thra'r oedd ynteu yn eistedd yn egwan gyda hwynt iw bryd bwyd, adroddodd ei dŷb, mae fel yr adnabu Adda Efa ym- Mharadwys er na welsei moni [...]rioed o'r blaen, felly y bydd cymdeithas y rhai perffaith yn y nêf, er na welsent eu gilidd mewn cyrph gog [...]neddus eiroed o'r blaen.
Yn yr P [...]n mae yr ymgais yn llâdd llawer o rai duwiol, dysc [...]dig, a boneddigaidd. Teifl y [...] hyn y neb y fynnont i garchar tywyll du, lle ni chaiff y Carcharor na darllen, nac yscrifennu; [...]c [...]s dywed y plentyn air dros ei dâd caeth, caiff [...]r u [...] [...]iniad [...]c yntef, am ddymuno yn dda i heretic. Dirdynnir yno, a llwythir a heirn yn gr [...]ulon, ac yn ddirgel.
Ymmysc eraill y ferthyrwyd yn yr Ital, nodedig fu dieddefgarwch Pomponius Algerius yscolhaig o Padna; yr hwn pan garcharwyd ef am ei zêl i [Page 117] bur grefydd, yscrifennodd at ei frodyr, Iddo ef fel Sampson gael dil mêl ymmol y llew, a pharadwys hyfryd yn y daiardy drewllyd, a llawenydd nefol yn yr ogof uffernol; a lle byddeu eraill yn crynu, ei fod ef yn ymhyfrydu a bod Crist mor fwyn a chadw cymdeithas ai weision yn y carchar isaf, Seliodd ef y ffydd ai waed yn Rhufain. Wedi hyn condemnwyd vn cant ar bumtheg yn Calabria gwlâd or Ital, lle y derbyniasid yr efengil yn ewyllyscar; a thorrodd y Papistiaid wythi gwaed pedwar ugain o'r Protestaniaid yn yr un diwrnod a chyllell gigidd, gan eu llâdd fel defaid ol yn ol: yr ydoedd y merthyron mor fodlon i farw, 1560. a'r dihennyddiwr mor waedlyd yn taro ei gyllell rhwng ei ddannedd, tra fyddei yn ymaflyd yn y naill ar ol y llall, onid oedd yr edrychwyr yn wylo gan erchylled oedd y golwg: etto ni orphwysasont nes dinistrio dwy dref, a mil oi trigolion.
Yr un ffunyd y gwnawd yn ffrainc â'r Waldefiaid yn Merindol, a Cabriers; y rhai a ddaliasent burdeb yr efengil yn dreftadol er ys talm o flynyddoed, lle y lladwyd y gwyr a'r gwragedd, a'r plant, heb arbed neb; a chyflawnodd y Papistiaid yr un peth ac yr ydoedd yr Apostol Jago yn achwyn rhagddo, pen. 5.6. Condemnasant a lladdasant y cyfiawn, ac ynteu heb sefyll iw herbyn. Y cyfryw zêl waedlyd i Babyddieth y barodd i Dduwc Safoy, erlid yr un bobl yn ei arglwyddieth yntef, Sef Piedmont, tan y mynydd Myneu, gan rostio rhai o honynt wrth dân araf, a chaethiwo eraill mewn llongau, a gyrru eraill i lechu ir creigiau.
Ynghylch hyn y bu Calfin yn bregethwr hynod yn Genefa, yr hwn oedd yn studio 'r gyfraeth ar [Page 118] y cyntaf, nes i Dduw ynnill ei galon ef at yr yscrythy [...]au, yr ydoedd ef yn un o'r pregethwyr purâf, a chyfl [...]wnaf o râs a dysceidieth, a'r y fu er amser yr Apostolion; daeth llawer o'r Ital, a'r Hispaen, a lloegr a [...] ei weinidogaeth ef, o ran arogl y bywyd oedd ynddi: dûg lawer o boen, a chystudd yngwaith yr arglwydd. Er bod Duwc Safoy yn cenfigenu wrth ffyniant yr efengil yn y ddinas enwog hon, etto ymddiffynnodd Duw y ddinas ai eglwys yn ei erbyn ef. Ar ol Calfin bu Beza yn golofn yn eglwys Genefa, yr hwn oedd lawn o olud, â dysc, a goruchafieth: ac wedi ir Arglwydd ei ddarostwng ef drwy dd [...]lur, ymrôdd i ogoneddu ei waredwr yngweinidogaeth yr efengil, gan wneuthur ammod â Duw yn ei gyfyngder yngeiriau'r Prophwyd, Psal. 142.7. dwg fy enaid allan o garchar fel y m [...]lianwyf dy enw.
Yn Scotland bu Cnocs yn athro llwyddianus i adferu gwir rasol ddysc; rhoddodd Duw iddo ddawn i ragfynegu Pethau, yn enwedig yn erbyn rhwystrw yr efengil. Annibennus syddeu porreiadu llasur a lludded cymaint ac y gyfododd Duw i alw'r bŷd o dywyllwch i oleuni yn yr oes hon y tu hwnt ir môr; dyfal oeddent, a mentrus mewn dadlau cyhoeddus i gau safnau athrawon Pabyddieth: Diwyd yn Pregethu ac yn y scrifennu, addfwyn yn dioddef; nerthol mewn gweddiau; rhaid ini ddywedyd yngeiriau Dafydd, Psal. 68. [...]1. yr Arglwydd a reddes y gair, mawr oedd mintai y rhai ai pregethent.
Yn Llo [...]gr hefyd bu tystion ffyddlon i Dduw y pryd hyn, megis Rilney, yr hwn wrth glywed llawer yn dywedyd, na chlywsent erioed sôn am adgyfodiad y Corph, (canys ni ddeallent mo'r [Page 119] credo Ladin) tosturiodd wrth ei wladwyr, a phregethodd ymhob man y cafei rydd-did ynddo: ac yn y maeusydd, ac o dŷ i dŷ, nes ei losci ef am ei boen; efe drôdd Latimer at Dduw.
Hynod fu gwaith grâs hefyd yn James Bainham, gwr o gyfraith, a mâb i farchog; yr hwn drwy gosp y gymellwyd ai enau i wadu ffydd ei galon, ond cyn pen y mîs wedi iddo gael rhy-dd-did ei gorph, yr oedd ei gydwybod ef yn gaeth, nes iddo fyned at gynulleidfa ddirgel o'r bobl dduwiol, a chydnabod eu gwymp yn edifarus: Oed. Cri. 1532. aeth hefyd ir eglwys blwyf ar y Sabboth, a'r testament newydd Saesonaeg yn ei law, a mynegodd ir holl bobl dan wylo dagrau heilltion, fel y darfuaseu iddo ef wadu Duw, a dymunodd arnynt faddeu iddo ef: gan eu cynghori i ochelyd dicter Duw, a'u galw hwynt yn dystion, ei fod ef yn dychwelyd at y gwirionedd eilwaith, yr hyn a scrifennodd ef at yr Escob hefyd. Am hyn carcharwyd ef yn fileiniach nag o'r blaen; gan ei gadw yn y cyffion a heirn ar ei draed bumthegnôs ynglôdy yr Escob, ai fflangellu yn fynych, ac er diwedd lloscasant ef wrth Stanc. A thra yr oedd ef yn tân ai aelodau wedi hanner llosci, dywedodd wrth y Papistiaid. Yr ydych yn gofyn am ryfeddodau gennym, gwelwch yma yn awr ryfeddod, Canys nid wyfi yn teimlo mwy o boen y tân hwn, na Phe byddwn ar wely mân-blu, neu un o bêr-lysiau.
Ar ol hwn canlynodd John Frith, yr hwn y fcrifennodd mor fuddiol o'r Carchar; ac y sicorhâodd ymadrodd yr Apostol, na rwymir gair Duw; canys derbyniodd Cranmer ac eraill adeiladaeth oddiwrth ei waith ef.
Ynghylch hyn y collodd y Pâb ei awdurdod yn [Page 120] Lloegr, fel na cbydnabyddid ef yn ben ir Eglwys, ac am hynny na roddid un tammed brâs iddo ef mwy. Ac y bu Tyndal gwr o gyffiniau Cymru yn hyfforddiant mawr i wir wybodaeth, canys cyfieithodd a phreintiodd yr scrythyrau yn saesonaeg, ac anfonodd hwynt iw tanu yn Lloegr, a llyfrau buddiol eraill; a thycciasant er iechydwrieth i laweroedd yn yr oes honno: ar hyn cyffrôdd y rhai oedd yn caru tywyllwch, fal Jerusalem wrth eni Crist, ac ni orphwysasant nes cael ei losci ef ai lyfrau; tra yr oedd yn disgwil ei ddiwedd, efe a drôdd geidwad y Carchar ai dylwyth i ofni Duw. Pan wahoddodd ei wladwyr Mr Tyndal i edrych ar gonsurwr y syddeu arfe [...] o wneuthur pethau rhyfeddol, drwy ei ffydd attaliodd ef nerth gythreulig yr hudol; yr hwn wedi chwysu yn swyno, ac heb allu gwneuthur dim oi gynefin gastiau, a gyfaddefodd fod rhyw un yn y stafell yn diddymmu ei scil ef. Er bod y Brenin Harry 8 yn bwrw i lawr awdurdod y Pàb, etto nid ymwrthododd ai athrawieth ef; am hynny dygpwyd Lambert cydweithiwr Tyndal yn yr efengil, i bledio ar gyhoedd â dêg o'r escobion ol yn-ol o flaen y brenin; yr hyn y wnaeth ef yn orchestol, Oed. Cri. 1538. canys yr oedd Duw wedi ei gynyscaeddu ef â Zêl, ac â dysceidieth ragorol: Ac am ei dystiolaeth lloscwyd ef yn Llundain. A phan oedd ei holl gorph ef yn ffaglu, cododd ei ddwylaw i fynu, ai fusedd yn goleuo fol Canhwyllau, gan lefain wrth y bobl, Neb ond Crist, neb ond Crist.
Ar ol hyn lloscwyd llawer o'r bobl dduwiol yn Lloegr, a thorwyd pen Arglwydd Cromwell, yr hwn ydoedd ir ffyddloniaid fel Obadiah ynhŷ Ahab. Ymmy sc eraill hynod su ffydd llestr gwan sef [Page 121] Anne Ascew, gwraig fonheddig; yr hon y ddangosodd iw herlidwyr, fal yr oeddent yn gwrthwynebu'r yspryd Glân. Hwy ai racciâsant hi yn greulon, oni thynnasant agos ei holl gymalau a'i hescyrn oddiwrth eu gilidd, eisieu caffael genddi wadu ei ffydd, neu ochain dan ei phoen. Ac er ei bod hi o dylwyth ardderchog, a chynnig iddi bethau mawrion am droi yn Bapisties, Oed. Cr. 1546. etto gwrthododd y cyfan, ac ymroddodd i ddiweddu lei dyddiau yn tân er tystiolaeth yr Efengil.
Gwelwyd yr un dewrder mewn gwraig rasol yn Scotland, yr hon y farnwyd yn hetetic, eisieu iddi alw ar Fair, gyda'g ar Grist, pan fyddeu hi mewn gwewyr escor; a phan oedd hi yn cymeryd ei chenad ai gwr (yr hwn oedd hefyd i gy meryd ei farwolaeth gyda hi am ei ffydd) annogodd ef i lawenychu, ac eb hi, Ni ddywedaf nôs da i chwi, canys yn ebrwydd ymgyfarfyddwn ynheirnas nêf.
Yn y flwyddyn 1547. gwelodd Duw yn dda roddi ynghalon y brenin Edward 6 ai gynghorwyr serch ir wir ffydd, a gallu yn eu dwylaw iw hyfforddi. Ac er nad oedd y Brenin ond bachgen, etto fel Josiah brenin daionus Jerusalem, parodd ymofyn â gair Duw, ac ufuddhâu iddo; ie arserodd Duwc Somerset, y pennaf o Arglwyddi'r cyngor, ei holl egni mewn zêl rasol i fwrw eulynaddoliaeth i lawr. A thrwy Act o Barliament diddymwyd y Cyfreithiau caeth gwaedlyd y wneuthid o amser i amser i orthrymmu grym yr efengyl. Ond cododd ynghylch dengmîl o wŷr Cerniu a Defonsire yn arfog i wrthwynebu diwygiad y ffydd, gan geifio 'r gyfraeth gaeth yn ei herbyn i fod eilwaith mewn grym, a'r offeren [Page 122] Lladin; i hyn attebodd y brenin, Nad oedd achos i ddeiliaid gwyno rhagddo ef, am iddo yscrifennu cyfreithau a llaeth yn lle gwaed, ac nad oedd y llyfr gwasanaeth ond yr un yn saesonaeg, ac oedd o'r blaen yn Lladin, er ei fod beth yn llai o herwydd gadel allan o hono ef rai pethau anweddaidd oedd yn yr offeren Lladin, a bod yn well iddynt glywed y gweddiau yn yriaith y ddeallent. A chan na roddent le i reswm, gorchfygwyd hwynt mewn dwy frwydr, er eu bod yn fwy eu rhifedi na byddun y brenin.
Yn yr un achos cafodd gwyr y brenin Edwarc suddugolieth yn Scotland, er ir Papistiaid hynny ddwyn y Bara mewn blwch, a'r delwau eraill yr hyderent arnynt, gyda hwynt ir maes. Lle lladdwyd tair mîl ar ddèg o'r Scotiaid, a chant yn unig o'r Saeson, digwyddodd hyn ar yr un diwrnod ac y lloscwyd y delwau yn Llundain.
Darostyngwyd hefyd y gwrthryfelwyr yn Norffole a Sire Eborac. A churwyd gwyr Ffrainc yn Jersey. Yn yr amser hwn rhoddwyd biblau Saesonaec i bob plwyf yn Lloegr, a gosodwyd allan y llyfr Homili i gynorthwy o y llèodd oeddent weigion: canys anhawdd ydoedd cael pregethwr ymbob plwyf cyn gynted ar ol troi ymmaeth gymaint o offeiriadau pabaidd.
PEN. XIV. Cystudd y Protestaniaid yn Lloegr yn amser y frenhines Mari.
OND gan nad oedd y deyrnas yn dwyn ffrwyth cyfattebol ir llafur, a'r hâd, a'r cafodydd [Page 123] nefol yr oedd Duw yn ei ganhiadu iddi, gadawodd ir Papistiaid ei batingo hi eilwaith, a llosci 'r Protestaniaid yn aml; i edrych y ddygei hi ffrwyth gwell gwedi. Canys ar ôl ir frenhines Mari addaw yn dég ir Protestaniaid er mwyn cael y goron, galwodd Barliament i fwrw i lawr y grefydd y gawsei ryddid gan ei brawd Edward, a gosododd Babyddieth i fynu eilwaith, ac i hyfforddi ei phwrpas priododd Philip brenin Hispaen.
Ac er rhybuddio'r byd o'r peth oedd ar ddyfod, gwelwyd dau baul yn Llundain, ac enfys ai chefn yn isaf, ai dau gorn i fynu, megis pe buaseu'r nef ar fedr Saethu tua'r ddaiar.
Yn y brofedigaeth danllyd cymellwyd rhai i wadu eu ffydd, megis yr Justus Hales, yr hwn wedi hynny ai boddodd ei hun o dra gofid calon.
Ac wedi dihenyddio yr arglywyddes Jane Gray, Cristnoges gyflawn o zêl, a gwybodaeth rasol, amhwyllodd yr Justus Morgan ai barnasei hi i golli ei phen, a llefodd nes ei farw, am dynnu 'r arglwyddes Jane oddiwrtho ef.
Yn y flwyddyn 1555 â'r drydydd o deyrnasiad y frenh. Marie, y dechreuwyd llosci 'r Pregethwyr duwiol: a'r Cyntaf o honynt y dorrodd y brîsc, oedd Mr Rogers. Yr hwn, pan arweinwyd ef o gaeth garchar ir tân, a chyfarfod ar y ffordd ai wraig ag un a'r ddêg o blant, y rhai pe gallasent y ddiffoddasant y tân ai dagrau; ni rusodd garu Crist ai wirionedd yn fwy na'i wraig, a'i blanr, ai fywyd hefyd. A gorfoleddodd y brodyr yn ddirfawr weled cadernid ei ffydd ef.
Ac wedi hwn canlynodd Mr Sanders i wneuthur yr unrhyw dystiolaeth. Yr hwn yn ei ievenctid y roddasid yn fersiant. Ond ni orphwysodd [Page 124] ei gydwybod ef nes troi at ei lysrau i fyned yn bregethwr. Dangosodd fod yr offeren fel gwenwyn lawer wedi ei gymmysc ag rchydig lefrith, sef llawer o amryfusèddau ymysc rhai Scrythyrau. Lloscwyd ef yn Ghofentri.
Felly hefyd y digwyddodd i Hooper Escch Caer Wrangon, yr hwn wedi cau arno yn fanwl yngharcharau Llundain, (nid ydoedd ryfedd cloi arno am ei fod yn dlws mor werthfawr) a anfonwyd i Gaerloiw iw losci; lle yr ymgasclodd llawer iw weled ef, ac i weddio gyda'g ef, gan fendithio Duw am y grâs y dderbyniasent drwy ei bregethiad ddwys ef; canys dywedei, nad oedd pobl, heb ir yspryd ferwi ymaeth eu trachwantau, gymhwysach i Dduw, nag a fyddai cig amrwd yn fwyd i ddyn. Pan ddaeth at y stanc rhoddwyd ger ei fron ef yscrifen oddiwrth y frenhines i beri arbed ei fywyd ef, os troeu yn Bapist, ac wedi iddo wrthod y gau gymwynas hwnw, rhoddodd ei enaid i law Dduw, ar ol iw gorph ef ddioddef angerdd y tân dri chwarter awr heb chwimio. Tystiolaethodd nad alleu un garu Crist a'i enaid, a pherchi yr offeren á'i gorph, mwy nag y gall gwraig serchu ei gwr â'i chalon, tra y rhoddo hi ei chorph i craill.
Yr achosion pennaf yngolwg dynion o ferthyrdod y bobl dduwiol y pryd hyn, oedd eu cefnogrwydd hwynt i sefyll gyda'r yscrythyrau yn erbyn traddodiadau pabaidd. Gan wrthod addef y pâb yn ben ir eglwys, nag yn wir aelod o honi, o herwydd ei feiau. Gommeddasant hefyd addoli lluniau, a'r bara yn yr offeren. Ni chilient y maeth er cael rhybudd ou perigl; canys dewisent goron ferthyrdod, fel y bobl rasol yn y brif eglwys.
Pan roddwyd dyfyn i'r Dr Tailor (yr hwn y gynyddodd y praidd y ddechreuaseu Bilney ei gasclu yn Hadley, onid aeth y plwyf yn yscol ddyscedig) naccâodd ddianc, er bod ei berthynasau yn tâergeisio ganddo ei arbed ei hun; eithr dywedodd, Na chai ef fyth y fath achlyssur i ogoneddu Duw a thrwy ddioddef dros ei efengyl ef. Am hynny aeth i Lundain heb neb yn ei wilied ef ar hyd y ffordd. A phan ddaeth ger bron, tystiolaethodd y gwir yn hŷ. Ac yn y carcbar llawenychodd yn enwedig am gymdeithas yr Angel Bradford. Yr oedd Carcharau Lloegr yn awr fal Eglwy sydd llawn o'r bobl dduwiolaf, a hyfryd oedd weled eu rhinweddau, a chlywed eu cynghorion, a'u gweddiau. Wedi ei fwrw ef i farw, a'r Swyddogion yn eiriol arno am gymodi â phabyddieth, dywedodd Iddo dwyllo llawer yn Hadley; ar hyn tybiasant y troeu ef, hyd oni ddeonglodd y peth, sef y twylleu ef y pryfed yn monwent Hadley, am na chaent fwytta mo'i gorph Cnawdig ef, eithr gadawei ei losci yn tân cyn y gwadeu Grist; ac felly y bu.
Ac nid pregethwyr yn unic, ond proffesswyr cyffredin hefyd fuont ffyddlon hyd angau canys wedi i Boner escob Llundain holi un Tomkins gwehydd, ac am nad ymwadeu â'i grefydd, yr hon a ddilyneu ef yn ddiwyd, pwyodd yr Escob ef yn greulon, gan dynu gwallt ei ben a'i farf, a chymerth ganwyll dair-dyblig olau, ac a loscodd ei law ef, onid oedd y dwfr yn saethu allan o'r giau; etto nid oedd y merthyr yn teimlo gronyn o boen, am fod ei y spryd ef yn gyflawn o gffyur, ac wedi hynny lloscasant ei holl gorph ef yn Smithfield.
Felly y gwnaethpwyd ag William Hunter, bachgen o ran oedran, a gwr mewn gwybodaeth. Tra yr oedd hwn wrth y stanc yn gweddio y geiriau hyn, mab Duw tywyna arnafi, yn ebrwydd discleiriodd yr haul yn ei wyneb ef, er bod yr wybren yn dy wyll iawn, ac yn gymmylog o'r blaen.
Yn Neheudir Cymru hefyd dioddefodd rhai am yr un achos, sef escob Ffarrar o Fynyw, yr hwn y gyhuddwyd gan swyddogion malaisys ei escobaeth yn amser y brenin Edward, ac a garcharwyd ar gam, megis pe buasei yn tueddu at Babyddieth; ac yn amser y frenhines Mari mynnodd yr un cyhuddwyr ei losci ef am wrthwynebu pabyddieth. Wrth fyned i farw pan oedd un yn cwy no iddo dosted fyddeu ei boen, attebodd ynteu, os gwelwch fi yn aflonydd, na choeliwch fy athrawieth. A safodd ynghanol y tân nes ei drengu.
Yr oedd hefyd un Rawlins Wynne Yn Ghaerddydd, yr hwn er ei fod yn anllythrennog, etto wedi cyffroi ei feddwl i geisio gwybod, a dilyn ewyllis Duw, wrth wrando ar ei blentyn yn darl'en yr Scrythyrau Saesonaeg y gafodd y fath wybodaeth a zel, ac y droes lawer at ofn Duw, am hynny ar ol hir garchar, lloscwyd ef yn ei dref gartresol. Ac wrth fyned at y stanc gweleu ei gymy dogion gyfnewidiad ryfeddol yn ei gorph ef, canys lle'r oedd o'r blaen yn crymmu gan oedran, yr oedd yn awr yn syth inion, a chantho wyneb siriol. Am yr un achos lloscwyd gwr duwiol siml yn Harford West elwid William Nichol. 1558.
Yn Ghaer-Lleon yn ymyl Gwynedd y lloscwyd George Marsh Pregethwr duwi [...]l, yr hwn pan glywodd fod ymofyn am dano ef, aeth i mewn o, hono ei hun, ac argyhoeddodd ei ddiodefgarwch ef [Page] [Page]
[Page] [Page 127] lawer o bobl: oni orfu ir Escob bregethu i geisio gan bobl goelio mae heretic y loscasei ef: a chyn pen nemawr bu yr Escob yntef farw. Dywedodd Marsh fod Duw yn dyrnu ac yn nithio yr ŷd yn amser y frenhines Marie y hauasai ef yn amser y brenin Edward; Ac y dyleu rhai dá ddioddef mwy er mwyn Crist, nag y mae y rhai drwg yn eu goddef er mwyn pechod; gan eu bod yn dwyn carchar ac angeu, am ymddial, neu ledratta arian iw treulio ar eu chwantau.
A thra yr oedd y merthyron yn canmol Duw wrth y stanciau, yr oedd yr offeiriaid yn canmol y pâb yn eu gorsèddau, ond cyrhaeddodd llaw Dduw rai o honynt. Canys tra yr oedd offeiriad Crondal yn ei bregeth yn clodfori y maddeuant pechodau y dderbyniaseu ef oddiwrth gennad y pâb iddo ef ei hun, ac ir plwyf, ac wrth hwnnw yn hyderu ei fod mewn cyflwr da, yn ebrwydd syrthiodd yn fârw yn y pulpud, ac ni symmudodd fyth na llaw na throed.
Gwelwyd arwydd gwell ar un Mr Hankes gwr galluog yn yr scrythurau: yr hwn pan oedd yn myned iw llosci eisieu dwyn ei blentyn iw fedyddio yn ol yr offeren, y gadarnhâodd ei gyfneseifiaid yn y ffydd; y rhai a ddymunasant arno pan fyddei ef yn tân, roddi iddynt arwydd os gellid cadw y meddwl yn llonydd yn y fâth boen er mwyr yr efengyl. A phan oedd y merthyr yn tân, wedi crychu ei groen, a cholli ei leferydd, a llosci ei fysedd, oni thybiodd pawb iddo drengu, yn ebrwydd cododd ei ddylaw (a nhwy yn ffaglu yn olau) vwch ei ben, gan eu taro ynghyd dairgwaith: yr hyn y barodd ir bobl glodfori Duw gyda bloedd fawr.
Ni bu ddim llai cyssurus helynt Bradford yn ei [Page 128] gystudd [...]; yr hwn y gawseu râs mawr gan Dduw yn ievangc, a phan oeddid yn ei alw ef i weinidogaeth yr efengyl, yr oedd yn arfwydus ganddo fel Moses gymeryd y swydd arno, o ran y dŷb wâel oedd ganddo am dano ei hun, nes i athro enwog ei argyhoeddi ef, a'i annog ef, Nad attalieu fara haidd oddiwrth eneidiau newynllyd, onid oedd ganddo fara gwyn iw roddi iddynt. Rhagddangosodd y deuei plà am broffessu'r efengyl yn gnawdol, a chanlynodd y chwys marwol y pryd hynny. Pregethu, a darllen, a gweddio a mysyrio oedd ei fywyd ef, ar ei liniau y byddeu yn studio dan fynych wylo. Addfwyn, a ffyddlon, a chyflawn o Zêl oedd ef. Yscrifennodd fod y byd yn fodlon i Babyddieth, oblegid nad oedd yr offenen yn ceryddu neb am bechod, fal yr oedd pregethiad yr efengyl, a bod yr eglwys butteinaidd yn ymdrwssio â defodau brithion, Psal. 45. ond bod yr eglwys briod yn blayn hebddynt, ac yn dèg oddifewn.
Wedi ei garcharu yn amser y frenhines Marie, cafodd y fath garedigrwydd gan ei geidwaid, ac a roddes iddo achlyssur i bregethu beunydd, a llenwi ei stafell o bobl dduwiol, ac yn fynych i gyfrannu swpper yr Arglwydd. Er ei fod ef unwaith yn ô-anewyllyscar i swydd y weinidogaeth, etto yr oedd ef yn chwannog i ferthyrdod, gan ddywedyd yn ei weddi, pan ddaeth yr amser cystudd cyffredin ar dduwioldeb, wele fi, anfon fi. Isai. 6.8. A gor [...]oleddodd ynghariad Duw, am iddo anfon am dano ef, fel Elias, mewn cerbyd tanllyd. Wedi er rybuddio ef yngarchar oi farwolaeth, gweddiodd, a chyng horodd mor ysprydol ymmysc ei gyfeillion, a bu mor hyfryd yn ei enaid, megis pe huafeu yn y nêf eufus. Pan ddaeth ar y stanc [Page 129] yn Smithfield, a dechreu cynghori'r bobl, rhwystrodd y Siri ef, am fod yr ymwasc yn fawr. ( [...]el y byddeu wrth losci'r holl ferthyron, am hynny ofneu'r swyddogion rhag cythryfwl, a phryssurent i orphen eu gorchwyl.) Ond trodd Mr Bradford at ei gyd-ferthyr, gan ei galonni ef, wrth ystyried y casent y nôs honno swpper llawen gyda'r Arglwydd. Ar ol hyn lloscwyd mewn amryw fannau yn Lloegr y flwyddyn hon lawer o wŷr duwiol, boneddigion a chyffredin; weithiau pedwar, weithiau Pump, weithiau chwêch yn yr un tanllwyth, dan gyffessu eu ffydd yn rasol: ie yr ydoedd y fath nerth ynghyffes y merthyron, ac y drôdd lawer y [...]uasent Bapist [...]aid yn amser y brenin Edward, yn Brotestaniaid cynnes yn amser y frenhines Marie. Canys gwelwyd llawer o râs ac o anwyldra Duw tuag at y rhai cystuddiedig y pryd hyn.
Pan oedd Robert Smith wrth ei losci yn dymuno ar Dduw ddangos arwydd arno er daioni, wedi iddo fyned yn loûn dû yn tân, yn ddisymwth cyfododd yn ei sefyll a churodd y bonion breichiau ydoedd ganddo, i ddangos llawenydd ei galon.
Yn Norwich hefyd carcharwyd un Mr. Robert Samuel Pregethwr grasol; gan ei gadwyno ef yn ei union sefyll wrth bôst, fal na chaseu onid blaenau ei draed i gynal ei holl gorph; ai benydio â newyn, heb roddi iddo ond tri thammaid o fara, a thair llwyaid o ddwfr yn y dydd, a phan geisieu yfed ei drwnc ei hun, nid oedd ddefnyn o ddwfr yn ei gorph iw wnenthur. Yn y cyflwr hwn syrthiodd mewn llewyg, a safodd un mewn gwisc wen yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Samuel Cymmer gyssur, canys ar ôl y dydd hwn, ni newyni ac ni [Page 130] sychedi byth mwy: ac o hynny allan ni theimlodd na newyn na syched hyd oni loscwyd ef. A chyn pen nemawr o amser dygpwyd ef at y stanc lle y mynegodd y weledigaeth iw gyfeillion, gan ddywedyd nad allei ef o ran gorchwyledd adrodd y fath gyssuron y gawseu ef gan Grist yn ei boenau. Pan ddaeth at y tân ni thybiodd y penyd hwnw ond chwareu wrth y triniad y gawseu ef gan erlidwyr yngharchar. O greulondeb Pabaiddl o ddioddefgarwch sanctaidd! Tystiolaethodd rhai iddynt weled ei gorph ef yn discleirio yn tán fel arian côeth.
Felly y ceisiodd yr vnrhyw erlydwyr lâdd Robert Glover gwr bonheddig, drwy oerni; a gorthrymder yngharchar; onid nerthodd Duw ef yn ei gorph ai enaid gan roddi iddo brawf o fywyd tragwyddol. Wedi iddynt ei gondemnio ef, bu anghyssurus ddwy nôs cyn ei losci: ond pan ddaeth at olwg y stanc, cafodd y fâth siccrwydd hyfiyd o gariad Duw, oni chûrodd ei ddwylo ynghyd, gan lefain ar ei gyfaill yn llawen, a dywedyd, efe ddaeth, efe ddaeth: mor siriol ac un y gawseu ei waredu oddiwrth ryw berygl marwol, ac nid fel un yn myned iddo.
Gwelodd yr erlidwyr achos i ddychrynu pe gosodasent hynny at eu calonau; canys pan loscwyd Escob Ridley a Latimer yn Rhydy [...]hen, am iddynt dystiolaethu gydâ 'r efengyl yn ddiwyd yn yr eglwysydd, ac yscolion dysc, arhosodd Gardiner Escob Winchester un o'r erlidwyr penaf heb ei giniaw hyd yr hwyr, nes clywed ir merthyron hynny gael eu diwedd, ac yno eisteddodd i wledda gyda 'i gyfeillion yn llawen. Ond trawodd llaw Dduw ef ar y bwrdd, oni chwyddodd ei [Page 131] gorph ef, a Phoethodd y tu fewn iddo ef, a bu farw a'i dafod allan fel gloun dû.
A thra yr oedd un Hubberdin yn pregethu yn erbyn y Protestaniaid, ac mewn gwŷn yn curo'r pulpid a'i draed, syrthiodd y pulpid, ac yntef hefyd, ac ychydig gwedi bu ef farw oi gwymp.
Etto ni pheidieu'r erlid. Eithr dygpwyd Philpott, un o gedyrn Duw ir tân yn Llundain. Yr oedd y merthyr hwn yn fâb i far chog, ac yn vscolhaig mawr, a thrafaeliwr. Ymddadleuodd mor nerthol mewn cymanfa, nad alleu'r Papistiaid wrthsesyll yr yspryd a'r doethineb drwy 'r hwn yr oedd ef yn llefaru. Argyhoeddodd hwynt yn egniol o flaen arglwyddi'r cyngor, canys doeth, a duwiol, a dewr ydoedd ef. Am hynny cafodd ef gyda'g eraill helynt gaeth drymder gaiaf, mewn cyffion o heirn ynglôdy Boner Escob Llundain: etto llawenychent a chanent psalmau. Yscri [...]ennodd at ei gyd-filwyr caeth, ei fod ef yn gobeithio y llareiddieu angerdd y tân wrth fod Duw yn yscafnhâu trymder y carchar. Pan ddaeth at yr stanc, plygodd ei lîn, a dywedodd, talaf fy addunedau ynoti o Smithfield: a chussanodd y stanc, gan ddywedyd eilwaith, a wrthodafi ddiodd [...]f wrth y pren hwn dros fy mhrynwr, y ddioddefodd farwolaeth wradwyddus drosofi ar y groes? ar ol ei ferthyrdod ef, yscrifennodd gwraig dduwiol at Boner, y byddeu raid iddo roddi Cyfrif am waed yr Abel cyfiawn hwnw, ac y gorfyddeu iddo ef, a'i offeiriadau corynfoel (eilliant eu corynau i wneuthur eu gwalle wrth eu clustia [...] ar lûn coron) roddi biswel ar en pennau i guddio nôd y bwystfil; am i wir grefydd anghwanegu wrth dywallt gwaed y merthyron, ac wrth dorri'r blychau hynny, yr oedd yr enaint [Page 132] gwerthfawr yn llenwi'r deyrnas [...]'i arogl. Hyfryd oedd gweled mor gariadus yr ydoedd y bobl dduwiol y fyddent rydd, yn gweini i gyfreidiau y rhai rhwym, yn enwedig amryw wragedd boneddigion a chyffredin, fel y rhai a ymgleddasant Grist hyd farw, ac a baratoesant bér-lyssiau iddo ef yn ei fêdd. Gwniau rai gryssau newyddion ir merthyron hyn iw llosci ynddynt, (dioscid hwynt wrth y stanc hyd at y crysau) paratoent scarffiau i filwyr Crist i ynnill y frwydr olaf. Ynteu hyspy [...] yw fod yr un yspryd cariad yn y rhai credadw y ymheb oes.
Yscrifennodd Mr. Philpott fod patrwn eglur o nerthigrâs Duw yn y [...] Arglwyddes Fane, yr hon er ei bod yn gyfoethog, yn ievanc, yn anrhydeddus, yn dêg e [...] phrŷd ai gwêdd, ac heb fod dan awdurdod neb etto dirm godd y cwbl oll, ac ymroddes i Groes Crist: ac y cyfodei hi yn y farn yn erbyn y rhai oeddent yn gwadu Crist rhag ofn colled, fel brenhines y debeu yn erbyn y genedl gynt. Cyffessodd bi ei hun yn amser en [...]ydus, fod melysdra [...]rist yn ei hynnill hi fwyfwy, ai bod yn blasu mwyniant y bŷd fal physygwrieth gwrthwynebus.
Ac fel y gwelwyd yn awr yn y brofedigaeth hon ffyddlondeb y merthyron, ac ymgêledd Duw tuag attynt yn eu cystuddiau trymmaf, a'i ddialeddau ar yr erlidwyr, felly'r anghyssur y ddigwyddei [...]r encilwyr llyrfion; megis i un West, yr hwn rhag ofn y ddarllennodd yr offeren yn erbyn ei gydwybod, a bu ef farw ychydig gwedi.
Eraill am y cyfryw wendid y syrthient i flinder meddwl, byd oni ddychwelent at Dduw, neu wnaent ben am danynt eu hunain, neu nhwy gasent [Page 133] ryw aflwydd arall. Fel y bu i Richard Denton gôf; at yr hwn yr anfonodd un o'r merthyron fflyring yn arwydd, gan gofio iddo ef ei fywiogrwydd yn y ffydd gynt, a dymuno arno bryssuro ar ol ei gymdeithion; Attebodd Denton, gwir yw, ond och ni fedrafi ddioddef fy ll [...]sci. Etto gwedi, trawodd tân yn ei dŷ ef, ac wrth geisio achub ei ddodrefn, lloscwyd ef a dau oi dylwyth, gan ddioddef heb ddiolch yn ei achos ei hun y peth a wrthodaseu ef yn achos Crist.
Gwelwn ymen fod Paul yn caru Timotheus pan orchymmynnodd iddo gymeryd ei ran o gystudd yr efengyl. 2 Tim. 1.8.
Yn nechreu'r flwyddyn 1556 lloscwyd saith yn yr un tanllwyth yn Smithfield, a phump ar vnwaith yn Ghaergaint. Yn y [...]ân [...] Canasant psall mau, trâ'r oedd yr edrychwyr ou hamgylch yn rywallt dagrau.
Yn Rhydychen dioddefodd Cra [...]mer ferthyrdod, ar ol iddo gael llawer segfa gan y Papistiaid drwy ymddadlu, ac iddynt ei ddiûrddo ef, gan roddi am dano ef ddillad escobaidd au diosc, (fel y gwnaeth y milwyr â Christ wrth ei watwor ef â gwîsc frenhinawl) Pan aeth ef at y tâ [...] daliodd ei law ddeheu ynddo yn gyntaf, am iddo o'r blaen drwy weniaith ei elynion yscrife [...]nu ei henw â hi wrth bapyr pabaidd, yr hyn y wnaeth iddo ef wylo yn chwerw-dost. Rhyfeddodd llawer na syflodd ef ronyn yn y tân, er ei fod yn hen-wr barfwyn.
Ar ol hyn lloscwyd chwech yn yr un tân yn Smithfield, a'r un rhyfedi yn Colchester, a digwyddodd i Boner losci dan ŵr duwiol yn yr un tâ [...], a'r [...]aill yn gripl, a'r llall yn ddall, ac wedi eu rhwymo [Page 134] hwynt gerfydd eu canolau wrth y stanc, bwriodd y cripl ei faglau ymmaeth, gan ddywedyd wrth ei gydferthyr, Cymer gyssur fy mrawd, iacheir di o'th ddallineb yn awr, a minneu o'm cloffni.
Llosgwyd llangc dall yn Ghaerloiw am yr un achos, a thrannoeth merthyrwyd gwraig weddw â dwy o wyryfon grasol yn Smithfield, y rhai a ddaliasant y ffydd yn gadarn. Ac yn ymyl Llundain lloscwyd tri ar ddég yn yr un tân, sef un ar ddêg o wŷr, a dwy wraig, y rhai a safodd yn rhyddion yn tân, nes rhoddi eu heneidiau ir Arglwydd. Wrth fyned a hwynt iw dihenydd, cauodd y siri arnynt mewn dwy stafell, ac wedi hynny aeth at y naill blaid, ac a daerodd iw Cymdeîthion hwynt wadu eu ffydd, ac am hynny yr arbedid eu bywyd hwynt; attebasant iddo ef, nad [...]edd eu ffydd hwynt wedi ei hadeiladu ar ddynion, ond ar air Duw. A phan wnaeth ef felly ar blaid arall, cafodd yr un atteb.
Lloscwyd tri yn yr un tân yn Newberie, un o honynt oedd ŵr dyscedig o Rydychen, y gollaseu ei lê yn amser y brenin Edward am ei Zêl ir pâb; y pryd y cyfaddefodd ef wrth ei gyfaill oedd yn gadel y deyrnas am yr un styfnigrwydd, fel hyn, Yr ydym yn dioddef llawer dros y Pâb, ond nid o [...]s gennym y fath felysdra yn ein Calonnau oddiwrth ei grefydd ef, ac y welwn ni y Protestaniaid yn eu fwynhau yn eu ffordd nhwy; yr ydym ni yn ymdrechu am ni wyddom ni pa beth, yn fwy o ran ewyllis, na chydwybod, etto gwell genifi fyned i gardotta, na chael o honynt eu gair yn drechaf. Ond yn amser y frenhines Mari, er iddo gael y bŷd wrth ei fôdd, etto wrth weled cyssur a graslonrwyd y merthyron, trôdd yn hollhawl at yr efengyl, a [Page 135] theimlodd yrofferen yn flin iddo ei gwrando. Am hynny cystuddwyd a dygpwyd ef ir tân, lle y dywedodd wrth ei gydfilwyr, Byddwch gyssurus, yn llê 'r marwor hyn ni gawn berlau, y mae yspryd Duw yn tystiolaethu hynny i'n ysprydoedd ni.
Yn Garnsey y Lloscwyd gwraig ai dwy ferched yn yr un tán; yr oedd un o'r merched yn wraig i bregethwr, ac yn feichiog agos iw thymp; a phan dorrodd angerdd y tân ei bol hi, Syrthiodd y plentyn oddiwrthi hi: Ac wedi ei gipio ef i fynu, ai ddwyn at y Swyddogion, gwnaethpwyd ag ef mor anghrugarog, ac y gwnaeth Pharao â Phlant yr Hebreaid, neu Herod â phlant Bethlehem, gan ei fwrw ef ir tân at ei fam, er ei fod yn blentyn gwryw golygus. Felly bedyddwyd â thân yr hwn a aned yn ferthyr, i dystiolaethu dynered mamaethod oeddent.
Yr un fath hyfforddiad y gafodd morwyn ddall yn Darby, ydoedd yn byw wrth wau hosânau, ac a brynodd Destament newydd; rhoddei geiniog fel yr ynnillei hi i ryw un am ddarllen iddi benodau ynddo, oni chafodd hi wybodaeth iachusol; am hynny lloscwyd hi.
Yn y flwyddyn 1557 Lloscwyd saith yn yr un tân ynghaergaint, a phump ar unwaith yn Smithfield, a saith ar unwaith yn Maidstone; ac eilwaith saith yn yr un tân ynghaergaint. Yr oedd un o honynt sef gwraig Benden y garcharwyd naw wythnos mewn twll cyfyng, ni chafodd hi un gwely i orwedd arno, na newid ei dillad, na dim llunieth, ond gwerth tair ffyrling yn y dydd, ac ni chafodd neb wybod p'le yr oedd hi, nes iw brawd ar foreucweth ei chlywed hi yn adrodd ei chwyn wrth Dduw mewn gweddi: ar ol hynny [Page 136] pan ofynnodd yr Escob iddi, a fodlonei hi i fyned i'r offeren, attebodd, y gwyddei hi yn yspyssach y pryd hynny nag o'r blaen, nad oeddent hwy o Dduw, am eu bod mor giaidd.
Merthyrwyd dêg yn yr un tân yn Lewes, a dêg eraill yn Colchester.
Yn y flwyddyn 1558 merthyrwyd rhai o'r gynylleidfa ddirgel y gyfarfyddent yn Islington. Tystiolaethodd yr- Athro ei fod ef yn Rhufain, lle y gwelsei ef gymaint o lygredigaeth ac y wnaeth iddo ffieiddio Pabyddieth. A bu ryfedd ddioddesgarwch Cutbert Sympson y diacon, Pan boenwyd ef yn greulon, eisieu iddo ddangos y llysr, lle'r oedd henwau'r bobl dduwiol oeddent wedi ymwneuthur i gyd addoli yn o [...] yspryd yr efengyl; er hynny dalwyd hwynt ynghyd gwedi, a lloscwyd tri ar ddeg o honynt. Carcharwyd gwraig dlawd, ddewr yn yr Scrythyrau, yn Ecseter, am iddi argyhoeddi un ydoedd yn adgweirio delwau, y rhai a anffurfiafid yn amser y brenin Edward; Eb hi, yr wyti yn ynfyd wneuthur trwynau newyddion ir delwan y gollant eu pennau cyn bo hîr. Pan fygythid hi, atteb [...]i fod ei chalen yn siccr gyd [...] Christ: pan gynygid iddi arian, dywedei ei bod hi yn myned i ddinas llè ni cherddent. Ac ynghylch wythnos cyn marw'r frenhines Marie, lloscwyd pump yn yr un tân yn Ghaergaint. Pan farnwyd y rhain i farw, cyfododd un o honynt yn enw'r lleill eu gyd, ac wedi ei gynhyrfu gan Zèl ddirfawr, adroddodd escymundod yn erbyn yr erlidwyr ag yspryd awdurdodawl, gan ddymuno ar Dduw ddangos barn arnynt er adeilad aeth ir deyrnas. A gwnaeth Duw yn ol gair en weision. Canys cyn pen yr wythnos, bu farw'r [Page 137] frenhines, a syrthiodd pabyddieth yn Lloegr: ac yna dychwelodd yr Hispaenwyr adref. Ac er eu dyfod i Loegr i geisio diffodd eglurdeb yr Efengyl, etto hi enynnodd râs yn eneidiau rhai o honynt, a hyfforddiasanr wîr wybodaeth yn eu gwlâd eu hunain, oni erlidwyd yno lawer o'i phlegyd.
Maith fyddei mynegi gymaint y ferthyrwyd yn Lloegr yn y dymmhestl hon, am hynny mi a grybwyllais am ychydig o lawer, ac na bô ond sôn a chrybwyll am y fâth bêth mwy.
Pan fu farw y frenhines Marie, agorwyd dryssau carcharau i lawer oeddent wedi eu bwrw i farw. A chafodd yr adar nefol y canasid arnynt yn y cewyll, eu gollwng allan i byngcio yn y Côed. Ie Cafodd rhai fal Joseph eu codi o garchârau i orsêddau; yn amser y trwm gystudd gwelwyd gofal Duw yn pryssuro gwarediad iw bobl.
Methodd gan yr eilidwyr gyflawni yr hyn a ewyllysient, pan oedd gailu dynol yn eu dwylo; megis pan ddaeth marchog ai weision i lusco gwraig dduwiol i'r offeren yn erbyn ei meddwl, trawodd [...] or gowt arno ef cyn dosted, ac y gorfu ei dd [...]yn ef adref a gadel y wraig yn llonydd. A dywed Melanitoa i angel roddi rhybudd i drosglwyddo Grineus dduwiol oddiar ffordd erlid peryglus oedd yn dyfod am ei ben ef yn ddisymmwth. Tra yr oedd yr arglwyddes Elizabeth yngharchar yn. Woodstoc, yn amser ei chwaer, daeth un â dêg ar hugain o wŷr gydag ef yno mewn bwriad iw llâdd bi fel y tybid; ond yr oedd y pen ceidwad wedi myned oddi cartref, a chwedi gadel siarse ar ei frawd na chafei nèb siarad a hi; a'r gorchymmyn y roddasid er gwneuthur ei charchar hi yn gaethach, y brifiodd yn fôdd i achub ei bywyd hi: [Page 138] felly trowd ei chaethiwed yn ddiogelwch iddi.
Nid anhynod fu anfodlonrwydd Duw yn erbyn yr erlidwyr; ni chafodd y frenhines Mari ond yr aflwydd bîgilidd wedi tywallt gwâed y rhai duwiol; (yr oedd Hezechias a Jehosophat wrth ddiwygio pethau Crefyddol yn ffynnu, a Manasses eulynaddolgar yn methu.) Bu newyn mawr yn Lloegr yn ei hamser hi, oni orfu bwytta més yn lle ŷd. Hi gollodd Calice dinas enwog o Ffrainc, y fuasai ym meddiant y Saeson er's llawero flynyddoedd. Gwradwyddwyd hi yn ddirfawr o herwydd anffrwythlondeb ei phriodas. Gorchymmynwyd ir Escobion a'r offeiriadau roddi diolch yn yr eglwysydd am ei beichiogi hi, a gweddio am nerth iddi i escor, canys dymuniad ei chalon hi oedd cael plentyn i etifeddu 'r goron, y peth ni chaniâdodd Duw iddi.
Yr hyn a gyhoeddodd i bawb, fod offeiriadau yr Eglwys Gatholic (sel y galwent eu hunain) yn siommedig, ac nas galleu eu offerennau dynnu enaid o'r pûrdân ir nèf, mwy na phlentyn o'r brû ir byd.
Hefyd collodd y frenhines honno serch a chymdeithas ei gŵr, a phryd na pheidieu ag erlid er dim a ddigwyddeu iddi tra fyddeu fyw, llonyddodd angeu hi yn fuan; a bu farw dan ochneidio, ac nid fel y merthyron dan byncio.
Goddiweddodd dialedd weinidogion ei chreulondeb hi hefyd. A daeth rhyw glwyf byrr yn eu mysc hwynt a yscubodd ymaeth lawer o honynt yn ddisymmwth. Bu farw'r Cardinal Pool Cenad y Pâb dranoeth ar ol y frenhines. Cipiodd angau disysyd un Duning Canghellawr Norwich, a Jeffery Canghellawr Salisburie. Bu farw Gardiner [Page 139] ai dafod allan, fel pe buasei gyda Dives tra yr oedd ef ar y ddaiar, heb ddefnyn o ddwfr iw oeri. Ofnodd yr Justus Morgan yr arglwyddes Jane ar ol torri ei phen hi, yn fwy nag yr ofnodd Herod Joan Fedyddiwr ar ol torri ei ben ef er bodloni Herodias. Pan oedd Escob Defer yn dyfod allan o ystafell y Cardinal Pool, lle buasei yn ceisio ei fendith ef, syrthiodd dros y grisiau a thorrodd ei ŵddf. Ehedodd Brân dros ben Baili Crowland (yr hwn ychydig o'r blaen y gymellasei 'r offèren ar ei blwyf ài holl allu) a than grawcio gollyngodd ei brynti yn ei wyneb ef, oni redodd i lawr o ben ei drwyn ef hyd ei farf; ac yr oedd y fawr mor ffiaidd, na pheidiodd ef â chwdy, a rhêgu 'r frân nes ei farw. Syrthiodd y Goliah hwn drwy foddion gwael, a gorchfugwyd ef gan elyn mwy anfoesol nag egniol, gan ddioddef dirmyg gyd â dinystr; felly gwybedyn y dagodd y Pab Adrianus. Nychodd un Baulding hyd angeu, o ddyrnod mellten ai trawsei ef wrth ddala un Seaman y ferthyrwyd.
Ni ddiangodd erlidwyr y tu hwnt ir môr rhag dialedd chwaith. Pan oedd Cardinal Cressentius yn llywodraethu cymanfa Tridentum dros y Pâb, daeth Cî du mawr, a llygaid tanllyd iw ystafell ef, ac ni welei nèb ond y Cardinal mono ef, ar hynny clafychodd a bu farw. A phan oedd erlidiwr mawr yn Antwerp yn myned gyda'i wraig mewn cerbyd dros bont ymmhen y drêf, safodd y meirch; oni ddolefodd ef yn ddiclon wrth y gyrrwr ar iddo fyned ymlaen yn enw mîl o gythreuliaid: ar hynny Cododd Corwynt disymmwth (er bod yt hîn yn dêg o'r blaen) y daflodd y Cerbyd dros y bont i glawdd dwfn, lle trigodd ef ai wraig.
PEN. XV. Llwyddiant y ffydd yn Lloegr yn amser y frenhines Elizabeth, ei herlid yn ffrainc a lleoedd eraill.
WEdi Coroni'r frenhines Elizabeth, ac iddi roddi ei bryd a'i gallu i gynal yr efengyl, Cynnyddodd gwybodaeth o Dduw yn Lloegr yn ddirfawr; ac er in Papistiaid oddifewn ac oddi allan ir deyrnas osod maglau yn aml iw dinystrio hi, etto ymddiffynnodd Duw hi, ai waith yn ei llaw hi. Ac yn fynech daeth eu dichellion nhwy ir golau drwy foddion rhyfeddol: megis Pan gymerwyd llong yr oedd offeiriad Pabaidd yn morio ynddi, ac iddo rwygo a thaflu ei bapyrau ir môr, Chwythodd gwynt hwy ir llong eilwaith, ac wedi eu rhoddi ynghyd gwybuwyd wrthynt fod y Pab a'r Hispaen a Ffrainc yn bwriadu rhurhro am ben Lloegr. Ac er mwyn Cadarnhâu yr deyrnas yn eu herbyn hwynt cafwyd peirianau rhyfel ni chawsid yn Lloegr erioed o'r blaen, megis Powder gwn, a mwyn Près, a charreg reidiol iw drin ef, i wneuthur gynnau mawrion; y pethau oeddent ddeffygiol o'r blaen. Ac adeiladwyd mwy o longau nag oedd cyn ei hamser hi.
Wedi methu pob brâd ddirgel, y mae 'r Hispaen yn bârod i wneuthur celanedd yn yr amlwg, ac yn anfon byddyn fawr, elwyd Anorescynnol, i gwncwerio Lloegr. Yr hon pan ddaeth ir môr Saes;nig, bwriodd angor y tu nesaf i Ffrainc i aros am ychwaneg o gymdeithion. Ond yn y Cyfamser gyrrodd y Sa [...]son, oedd yn agos nhwythau, ŵyth o longau tanllyd ymysc llongau'r Hispaenwyr; [Page 141] yr hyn y barodd ddychryn, a chri, a gwascarfa fawr yn eu plith; ac a roddes achlyssur a mantais ir Saeson i ddryllio rhai, Oed. Cr. 1588. ac i yssigo eraill o honynt, ac i ddigaloni 'r cwbl; oni ymroesant i hwylio gyda'r gwynt tua'r gogledd, o amgylch Scotland, a'r Jwerddon, i ddychwelyd adref gyda chywilydd a cholled fawr, rhwng ymlâddau a thymhèstlau. Wedi hynny cyfaddefodd un o'u Penaethiaid hwy, ei fod ef yn tybied mae Protestant ydoedd Crist.
Cafodd y Papistiaid y gwaethaf yn y rhyfel y godasent drwy iarll Tyron yn yr Jwerddon hefyd, er iddo barhâu yn hîr, a Chynorthwyodd y Saeson yr Hollandiaid i ynnill rhydd-did eu gwlád, a'u crefydd. Ond yn Ffrainc wedi i dduwioldeb amlhâu, a methu o'r brenin drwy ryfel ddiwreiddio ei dilynwyr, denwyd tywysog-Nafarre, Penaeth y Protestaniaid, i briodi Chwaer y brenin mewn ffûg cuttundeb rhwng y ddwy blaid. A phan ymgasclodd y rhai ardderchoccaf o'r tu crefyddol ir neithior yn y brif ddinas, rhuthrodd y Papistiaid am eu pennau liw nôs tra yr oeddent yn eu gwlâu yn ddiofal, a lladdasant ddengmil o honynt ar ddigwyl Bartholomeus, yn y flwyddyn 1572. Ac yn gyflym anfonwyd gair i ddinasoedd eraill i wneuthur yr un cieidd-dra a lladdwyd y tadau a'r plant yn eu breichiau, a lladdwyd y plant a'u dwylo am yddfau eu tâdau; yn rhai dinasoedd cauwyd y Pyrth rhag ir un ddianc oddiwrth y gigyddieth waedlyd.
Lladdwyd cantoedd yn Weldis, a miloedd yn Orleance, ac wyth gant yn Lugdunum, lle y dechreuodd Waldez adgweirio crefydd; Tri ugain ar ddèg yn Burdeauos, llawer yn Tholos a Roan: ymhob [Page 142] man wedi dengmil a'r hugain. Mor dosturus oedd y golwg, oni orfu ir cigyddion anfon am wîn i gynal eu calondid, er bod defaid y lladdfa yn rhoddi ei gyddfau i lawr yn ddiymdrech.
Am hyn gorchymmynnodd y Pàb lawenydd mawr yn Rhufain, a gorfoleddodd brenin Ffrainc, gan dybied iddo wneuthur diben llwyr o'r Protestaniaid.
Ond ymwrolodd Rochel, a rhai dinasoedd eraill, lle'r oedd y Protestaniaid amlaf, iw ymddiffyn eu hunain, ac ni thycciodd i holl allu Ffrainc warchau a'r Rochel, am i Dduw anfon pyscod dieithr hyd yr anfon yn ymborth ir ddinas; ac felly drwy ryfeddod ddiddymmu pwrpas ei gelynion. Ar hyn blinodd y brenin yn ymguro, a chyflychodd i roddi rhydd-did a heddwch ir rhai crefyddol a weddillasid drwy Ffrainc oll. Ymhen y ddwy flynedd, bu farw'r brenin hwnw dan waedu drwy holl dyllau ei gorph, sef ei safn, a'i ffroenau, a'i lygaid, a'i glustiau, a'i rannau isaf; yr hwn a wnaeth i waed ffrydio, ffrydiodd gwaed o hono, fal y darllenai ei bechod yn ei benyd. Yn nyddiau'r trychineb hwn gwelwyd Seren newydd dros ddwy flynedd, ac yna diffoddodd. Yn Sevil o'r Hispaen y carcharwyd wythgant ar unwaith am burdeb ffydd, gan eu llosci o fesur yr ugain, er bod llawer o honynt yn uchel-râdd yn y byd.
Yn Fflandria hefyd cynnyddodd yr efengyl, yn enwedig yn ninas Lile, ac erlidwyd hi yn fanwl. ymmysc eraill o rai duwiol y ferthyrwyd yno, enwog fu dau bregethwr, sef Guy de Brez, a Peregrine de la Grange, y rhai pan oedd eu caredigion yn cwyno iddynt wrth weled eu heirn, a ddywedasant, Fod yn werthfawroccach ganddynt gad [...] [Page 143] wynau heirn er mwyn Crist, na chadwynau aur ffordd arall, a bod sŵn y linciau yn felysach ganddynt na cherddorieth, a'u bod yn eu cystudd yn cael prawf Sicer o'r peth y bregethasent o'r blaen.
Yr un amser merthyrwyd llawer yn Fenice, gan eu taflu ir môr. Yn Falence cyn gwyd ei bywyd i Margaret Pierrone er taflu ei bibl ir tân o flaen y dref, eithr gwrthododd wneuthur felly, a chymerth ei merthyrdod, gan garu gair bywyd rragwyddol yn fwy na 'i bywyd naturiol. Oed. Cr [...] 1593.
Wedi i Loegr gael hîr dawelwch, a goleuni Cynnes yr haul efengylaidd, dychymmygodd y Papistiaia gyfodi tembestl erchill drwy frâd y powder gwn.
Canys pan ydoedd y brenin James, a'r ddau dŷ o Barliament i eistedd yn Westminster, 1605. y nôs o'r blaen cafwyd un baryl ar bumtheg ar hugain o howder gwn, wedi eu cuddio mewn seleri dan dai'r Parliament; lle dalwyd Guido Fawkes, a chelsi yn ei gylch parodol i ennyn y powder i chwythu if, nu yr Pa [...]liament dranoeth pan y mgyfarfyddent. Ar yr un dydd ymgasclodd y rhai penaf o'r Papistiaid yn y wlâd hefyd, ar hyder yr ymchwanegent fel pellen eira wrth ymsymmud ar hyd y deyrnas, a galw ar eu cyfeillion i gyfodi mewn arfau; ir diben hwnw dûgasant lawer o feirch mawrion: yr hyn y wnaeth ir wlâd ganlyn, ar eu hôl hwynt drwy ddwy shire neu dair, nes llâdd a dal y rhai pryssuraf o honynt.
Ond yn y Faltoline cyflawnodd y Papistiaid eu dychymygion drygionus yn erbyn y Protestaniaid, er iddynt fethu yn Lloegr; canys cyfodasant yn ddisymmwth mewn arfau, a lladdasant y rheolwyr a'r pregethwyr, a'r cyffredin yn eu rai, ac [Page 144] yn yr eglwysydd, heb arbed na gwragedd na phlant. Y pryd y bu nodedig calondid gwraig fonheddig ievangc ai phlentyn yn ei breichiau; canys pan ofynnodd y lleiddiaid y droei hi yn Bapisties i achub ei bywyd ei hun ai phlentyn, attebodd hi iddynt fel hyn; Gan nad arbedodd Duw mo'i fâb, 1620. ond ei roddi i farw er fy mwyn i, minneu a'm rhoddaf fy hun am plentyn i farw er ei fwyn yn tef. Ar hynny lladdasant hi.
Cyn y gelanedd hon yn y gwledydd hyn canodd clôch alarwm o honi ei hun; ac wedi'r gigyddieth, clybw [...]d llais yn yr awyr yn dywedyd, gwae, gwae [...] waed y gwirioniaid; A gwelodd y bŷd y seren g [...]ffonog gôch yngylch dwy flynedd o'r blaen. Ac ychydig gwedi torrodd allan ryfel echryslon yn Germania rhwng y Papistiaid a'r Protestaniaid, a barbâodd ddêg ar hugain o flynyddoedd; a naw mlynedd cyn ei ddarfod, clybwyd hela mawr gan y Cythrael yn Bafaria arglwyddieth o Germania, gyda bloeddio mawr, a llais cŵn: a dywedodd pan ddarfyddei iddo hela, yr ai i bysgotta; sef yr arferei ddichell pan beidiei trais.
Ni bu ac nid yw'r oesoedd diweddaf (er drycced moddion llaweroedd) heb ymbell rai grasol ac anwyl gan Dduw y gaent gymundeb enwedigol ag ef, a pheth hyspysrwydd neilltuol o'i ewyllis a'r gariad ef: Darllennir i vn defosionol (ydoedd yn drist eisiau medru o honaw ganfod vniondeb Duw yn ei ragluniaeth tuag at ddynion da a drwg) ar ei daith gael cymdeithas Angel yn rhith gŵr, yr hwn ai dug ef i letteua at ŵr da, lle y cawsant ymddiddanion hyfryd ynghylch pe thau nefol, a chroesaw carradus. Etto dranoeth [Page 145] wrth ymadel cymmerth yr Angel phiol aur gydag ef o'r lletty. A'r ail nôs daethant i letteua at ŵr duwiol, a thranoeth wrth ymadel lladdodd yr Angel ddŷn bychan yn y crŷd ydoedd vnig blentyn gwr y tŷ. A'r trydydd nôs hefyd daethant i letteua at ŵr duwiol, y ddanfonodd ei wâs dranoeth iw hebrwng hwynt: a phan ddaethont at afon taflodd yr Angel y gwâs i'r afon, lle y boddodd ef. A'r pedwerydd noswaith dywedir iddynt ddigwydd i fewn tŷ dihirŵr, lle y cawsant lettŷ diffaith; etto dranoeth rhoddes yr Angel y phiol aur i ŵr y tŷ, ac a aeth ymmaeth. A thra'r oedd y pererin defosionol yn rhyfeddu ynghylch y pethau a wnaethai ei gyd ymdeithiwr ef, amlygodd yr Angel ei hun iddo ef, a rhoddodd iddo reswm am y barnedigaethau a welsai; gan ddywedyd fod meistr y tŷ cyntaf yn ŵr da, ond yfed yn y phiol honno bôb boreu a hi yn ormod a'i gwnai beth yn anghymhwysach i ddyledswyddau sanctaidd, er nad ydoedd hynny yn ddirnadwy iddo ef ei hun nac i eraill. Am hynny eb ef y cymmerais i y phiol ymmaith, gan fod yn well iddo golli honno na'i gymhedroldeb. Pen y teulu lle y buom ni yr ail nôs ydoedd ddyfal mewn dyledswyddau sanctaidd ac haelioni i dlodion tra 'r oedd yn ddiblant. Ond pan gafodd fâb aeth mor anwyl ganddo ef, a threuliodd gymmaint o amser yn chwareu ag ef, oni Esceulusodd ef yr arferion sanctaidd oedd gynnefinol iddo o'r blaen, ac attaliodd ei haelioni ir tlawd er cynhilo iw fâb. Am hynny cymmerais y plentyn i'r nêf, fel y gallo ef wasanaethu Duw yn well ar y ddaiar. A'r gwâs a foddais i ydoedd yn bwriadu llâdd ei feistr y nôs nesaf. Ac am y diffeithwr i'r hwn y rhoddais [Page 146] i y phiol aur, nid oedd ef i gael dim yn y bŷd arall, rhoddais iddo beth yn hwn, yr hyn fydd iddo yn fagl, canys efe a fydd yn fwy anghymhedrol.
Mynegiff vn o Groniclau Lloegr fel yr oedd newyn mawr yn y deyrnas: a chynted ac y dechreuodd yr ŷd ydoedd yn y ddaiar addledu, nid allau'r tlodion mo' [...] arbed, onid ei hel a'i fwytta ennyd cyn ei fod yn barod ir Crymman. Yr hyn a gyffrôdd blwyf i beri i'r offeiriad yn gyhoeddus adrodd melldith yn erbyn y rhai ydoedd yn anrheithio 'r ŷd. Ond vn o'r plwy folion a sasodd i fynu, ac a ommeddodd ir offeiriad felldigo neb am ei ŷd ef, o herwydd iddo wybod angen y tlodion a'i tod ef yn fodlon iddynt gael cymmorth. Ond llèf y lliaws a aeth yn drechaf. A thra 'r oedd yr offeiriad yn adrodd melldith yn erbyn y tlodion a anrheithiau'r ŷd, syrthiodd cafod o genlly sc gydâ mellt a gurodd yr ŷd i lawr, fel ped fuasau gertwyni wedi myned drosto, ac ni phrofau nac anifeiliaid nac adar mono. Yn unig ŷd y gŵr trugarog hwnw er ei fod ym mhlith ydau 'r lleill a fu diangol heb ir gafod ei gyffwrdd.
Yn yr Jwerddon ym mhlwyf Dunagor yr oedd pregethwr duwiol elwid Mr Steward, yr hwn wrth farw yn y flwyddyn 1634 a ddywedodd y digwyddau rh [...]feloedd gwaeth yn y teyrnasoedd hyn nag a fuasau yn Germania: ac y byddau i gelaneddau miloedd o'r rhai a ddirmygasent yr efengyl fod ar wyneb y ddaiar fel tom heb eu clad du. Ac eb e, gwae di Dunagor, canys bydd danadl poethion a glaswellt hirion yn amlach ynot ti, nag a fu erioed bobl i wrando gair Duw. A chyn pen y deng mhlynedd cyflawnwyd ei brophwydoliaeth [Page 147] ef yn dra dŵys ysowaeth.
Yr oedd pregethwr arall yn oddiweddar a fuasai fyw yn rasol a chariadus: yr hwn ddiwrnod cyn ei farw a Esponiodd yr 8 Penod At y Rhufeiniaid dros ddwy awr, ac yn ddisymwth efe attaliodd ac a dywedodd, beth yw 'r discleirdeb a welai? tywyniad fy Achubwr yw, bydd wŷch fŷd, croesaw nefoedd: y seren ddydd o'r vchelder a ymwelodd â ' [...]ghalon i. A chan droi at weinidog yr efengyl a ddaethai i edrych am dano ef, efe a ddywedodd wrtho ef, yr wyfi yn dymuno arnoch chwi bregethu yn fy nghladdedigaeth i, canys heno y byddaf farw. A dywedwch hyn oddiwrthifi, a dywedwch ef yn hyderus, fod Duw yn gwneuthur yn gyweithasgar â dŷn. Yr wyfi yn t [...]imlo ei drugaredd ef, ac yn gweled ei Fawrhydi ef, pa vn ai yn y Corph, ai allan o'r corph nis gallaf ddywedyd, Duw a ŵyr. Ond yr wyfi yn gweled pethau anrhaethadwy. A chan fod yn gyflawn o gariad Duw yn ei yspryd efe a ymgyfodai tuag i fynu, a thua'r boreu efe a ymadawodd a'r bŷd gan ddywedyd y geiriau hyn; O y cyfnewidiad bendigedig a gafi oddiwrth nôs at ddydd, oddiwrth farwolaeth at fywyd, oddiwrth dristwch at gysur, oddiwrth fŷd cynhennus i fod yn y nêf! O fy 'nghyfeillion anwyl yr wyf yn tosturio eich gadel chwi o'm hol. Ond y peth yr wyfi yn ei deimlo yn awr, gobeithio y teimlwch chwithau cyn eich marw, fod Duw yn gwnenthur yn gyweithasgar â dŷn. Ac yn awr gerbyd tanllyd a [...]yrchaist Elijah, dwg fi i'm dalfa fendigedig. O Angylion bendigedig dygwch fi i fonwes fy anwylyd goreu. Tyred Arglwydd Jesu, tyred yn fuan, Amen. Amen.
Yn yr Jwerddon Cyfododd y Gwyddelod yn ddisymwth, Oed. Cr. 1641. a lladdasant o'r Saeson a Chymru ddau [Page 148] cant o filoedd mewn dau fîs, cyn cael hamdden iw gwrthsefyll hwynt; ond wedi hynny daeth dial dwys arnynt hwythau. Dwy flynedd cyn hynny Cododd y Scotiaid mewn arfau. Ac ychydig gwedi hynny torrodd allan y rhyfel brwd yn Lloegr, am yr hwn angh ydfod anafus, nid rhaid yn awr sòn yn helaethach, am fod ei friwiau, neu ei greithiau iw gweled etto. Yn unig Cyfaddefwn drugaredd Duw yn peri i wybodaeth efangylaidd chwanegu drwy ymdrech y ddwyblaid. Oddiwrth ymgur y dûr a'r Callestr ennynnodd goleuni gyda 'r tân. Cyn y rhyfel, hi lawiodd wenith, a digwyddodd amryw ryfeddodau eraill.
Yn Piedmont rhuthrodd Duwc Safoy am ben y Waldefiaid duwiol; a digwyddodd yr un rhyw drychineb i Brotestaniaid Gracofia yn Polonia. Cafodd y rhai gorthrummedig o'r ddau fan hynny gymmorth Caredig allan o Loegr, y gasclwyd iddynt drwy ddefosiwn ewyllyscar; fal y derbyniodd y Sainct Cystuddiedig o Judea elusen haelionus oddiwrth eglwysydd y cenhedloedd yn amser yr Apl. Paul. Cyn pen yr hanner blwyddyn gwedi, cafodd Duwc Safoy ei lenwi â gwaed drwy ddwylo 'r Hispaenwyr.
Bellach wedi bwrw golwg ein meddwl ar bob gwlâd, ac oes, ni allwn ddywedyd yn bŷ, na bu gwybodaeth yr efengyl er ioed eglurach, a'r scrythurau, a llyfrau da amlach; a rhattach, na phregethwyr fedrussach, oddieithr y Propphwydi, neu 'r apostolion â'u cymdeithion, nag ydynt yr amser hwn ynheirnasoedd y Gorllewin, lle mae adgweiriad a rhydd-did crefydd. Yr Arglwydd a roddo ei râs i wneuthur ein bucheddau yn gyfattebol ir cynorthwyau, fal na ddiffodder yr yspryd, [Page 149] ac na thywyller moddion grâs.
Ac am deyrnasoedd y dwyrain, gobeithio nas gorthrymma coel-grefydd Mahomet mor efengyl yn y gwledydd hynny yn oestadol. Oed. Chr. 1620. Amlygwyd (mi debygwn) arwydd o hynny ir Twrciaid yn Medina, lle mae bedd Mahomet, i ymweled a pha un yr ymgasclant o bell. Canys ar ol i daranau dychrynllyd a themmestl ddeffro meddyliau'r bobl yno, gwelwyd y geirian hyn yn scrifennedig á llythrenau Arabaidd yn y ffursafen, oh Pam y Credwch mewn Celwyddau! Ac yn foreu gwelwyd gwraig siriol mewn gwisc wen, a'r haul oi hamgylch, a llyfr yn ei llaw, yn dyfod oddiwrth y gogledd-orllewin, a chyferbyn â hi yr oedd megis byddinoedd o'r Persiaid ac o'r Twrciaid mewn trefn barodol i ymlâdd â hi: etto hi safodd yn ei llê, ac a agorodd y llyfr ydoedd yn ei llaw hi; ar hynny ffoáwdd y byddinoedd, a diffoddodd yr holl lampau wrth fèdd Mahomet. A bu hyn beunydd dros dair wythnos. Cynhyrfwyd un o' uoffeiriadau hwynt i esponi iddynt y ddrychiolaeth, gan ddywedyd, mae fal ac y darfu ir Juddewon, a'r Cristnogion ddigio Duw wrth droi at ddelwau, a defodau dynol, oddiwrth ei gyfraeth Sanctaidd ef; felly ddarfod iddynt hwythau, un ai llygru deddf Mahomet, a'r euogrwydd o hynny a banasci i'r byddinoedd ffoi; Neu fod llyfr arall nid oeddent yn ei chwilio, yr hwn pan agorid ef, y barai i bob gallu dynol gilio. Am hynny, eb ef, yr wyfi yn ofni, nad yw ein crefydd ni ond llygredig, a'u prophwyd ni ond hudol; yr hwn a addawodd ddychwelyd attom cyn hyn, ac ni chyflawnodd, ie daw Crist y sonir am dano, ac a fydd ag enw mor ddisclair a'r haul. A hynny tros byth. Am hyn poenwyd a lladdwyd yr offeiriad. [Page 150] Ond byw yw'r Arglwydd nêf y ddichon ddwyn i ben yr hyn yr anfonodd y weledigaeth iw ragarwyddocâu.
1664. 1665.Gwelwyd tair seren gynffonog odifewn yr un hanner blwydd yn, ac ychydig gwedi torrodd allan gornwyd angerddol yn Lloegr, 2 Chron. 21.24. a gwympodd fwy o bobl na haint y nodau yn amser Dafydd. A lloscodd Llundain: a bwriodd mynydd Aetna dân ofnadwy allan o honaw, a loscodd drefydd, ac a wnaeth niwed mawr yn Sicilia. Canys ar ol daiargryn dychrynllyd, tarddodd allan o'r mynydd ffrwd boeth o ryw fettel toddedig, ac a aeth yn ddilyw o chwe milltir o lèd, gan ddifetha pethau y ffordd y cerddodd.
PEN. XVI. Hanes y ffydd ymmhlith y cymru.
WRth ddwyn hanes y ffydd mewn gwledydd eraill, tybiais yn ddyladwy draethu beth yn helaethach am ei helynt yn ein gwlâd ein hunain, mal na byddem ddieithrol ac anghyfarwydd gartref.
Diammau fod ein Cenedl ni er ys hír amser wedi gwladychu yn yr ynys hon, a thebygol ei dyfod ar y cyntaf oddiwrth wledydd y dwyrein, gan fod cymaint carenydd rhwng ein iaith ni ag ieithoedd y parthau hynny. Mae ei llefariad yn aml fel yr Hebraeg yn dyfod oddiwrth gyffiniau y galon, o wraidd y geneu, ac nid fel y Saesonaeg oddiar flaen y tafod. Yr ydoedd cydnabyddiaeth rhwng ein gwlâd ni â'r Groegiaid. Canys darllennir [Page 151] i Bladud brenin Prydain fyned ir Athen er mwyn dysceidiaeth a phan ddychwelodd adref dûg bedwar o Philosophyddion oddiyno gyda'g ef i ddyscu'r celfyddydau yma; Oed. byd. 3300. ac i hynny seiliodd yscolion dyfc, ac wedi hynny bu'r Druidion yn ddyscawdwyr doethion o Baganiaid. Ond tebyg fod ein gwladwyr yn anufudd ir gwybodaeth anianol ydoedd yn eu mysc. Canys yn yr oes honno, tra yr oedd Rhifall yn rheoli, glawiodd gwaed dros dridiau yn ddibaid; ac o hynny cododd y fath liaws o wybed gwenwynllyd, ac ar ol y rheini canlynodd y fâth blâ marwol, oni ddeleuwyd agos genedl a henw y Britaniaid. Mewn amser attyfasant drachefu, a gorchfugâsant ogledd Germania, a thrwy guttundeb rhoddwyd Cambria merch Beli brenin Prydain i dywysog y wlad honno, ac o honi y daeth y Cimbriaid, cenedl enwog o'r gogledd. Yn y drydydd oes gwedi bu Llûdd yn frenin clodfawr yma, efe a ehengodd ac a gadarnbâodd y brífddinas, pryd y galwyd hi caer-Lûdd, ac oddiwrth hynny Llundain, fel y tybia rhai, ond gwell gan eraill gymmeryd o honi yr enw oddiwrth longau, megis Llong-ddinas. Yn ol hyn anfonodd Pry dain fyddun gynorthwyol i Gallia yn erbyn Caesar ydoedd yn rhyfela yno. Yr hyn a gyffrôdd y Rhufeiniaid (y gwncweriodd y rhan fwyaf o'r bŷd o Persia hyd yma) i orescyn yr ynys hon, ydoedd anghydnabyddus iddynt hyd hynny. Ond prifiodd y Britaniaid yn anioddefgar dan iau y Rhufeiniaid, a daeth Claudius Caesar attynt iw llonyddu. Drachefn cododd Prydain gyda y brenin Arifog i geisio ynnill ei rhydd-did; ac er i Glaudius Caesar ddyfod eilwaith i mewn yn llidiog, etto gorfu iddo guttuno ag Arifog a rhoddi ei ferch Genista iddo, ac ammodau esmwythach o [Page 152] ufudd-dod ir ynys. Yn amser ei mâb hwy Meurig, yr heidiodd y Phichtiaid i mewn o Scythia (felly y gelwid gwledydd y gogledd, Llychlyn, a rhan o Germania gynt) y rhai a diriasont yn Scotia i nythu yno. Galwyd yr Jwerddon yn Scotia (y sydd air Groegaidd yn arwyddoccâu tywyllwch) o herwydd bod ei choedydd yn ei gwneuthur yn ynys dywyll. Ond darfu ir Scotiaid eu hwylio hwynt oddiyno ir Scotland. Albain gogledd Prydain. Lladdodd Meurig eu brenin hwy mewn brwydr, a chaethiwodd nhwythau, ond goddefodd iddynt fyw yn eithafoedd anial y wlâd, a alwyd Caethnes. Galwyd hwynt Phichtiaid neu Graithuniaid, am eu bod yn gwneuthur creithiau ag argraphiadau ar eu cyrph, tebyg mal yr ymddangosent yn fwy ofnadwy iw gelynion.
Wedi dyfod peth caethder bydol ar ein gwlad ni o Rufain, anfonodd Duw iddi foddion rhydddid ysprydol o Gaersalem, gan ganhiadu yr efengyl yn gynar iddi; sef yn nyddiau 'r apostolion, er pelled ydoedd hi oddiwrth Palestina. [...]. Dywed Eusebius fyned rhai o'r apostolion ir ynysoedd a elwir Brittanaidd. Ac aeth ffydd ein henafiaid mor enwog drwy 'r bŷd, oni byddai athrawon godidoccaf y Cristnogion yn bostio o honi ynheirnasoedd y dwyrain a'r gorllewyn; Ac yn argymmennu oddiwrthi i brofi Duwdod Crist, gan fod ei deirnas ef yn treiddio, lle nid allai un Caesar finio. Felly y dengis Tertullianus y scrifennodd gyda'r Cristnogion yn yr ail canfed o oedran Crist. Medd ef, Brittannorum inaccessa Romanis loca Christo subdita. Mae'r mannau o'r eiddo 'r Britaniaid sydd anhygyrch ir Rhufeiniaid, wedi ymroddi i Grist. Yr oedd rhai o'n cenedl ni yn yr Albain [Page 153] heb fyned dan awdurdod y Rhufeiniaid. A thystiolaethiff Origen, y scrifennodd ynghylch pedair blynedd a deugain gwedi, Vircus Domini Salvatoris & cum his est, qui ab orbe nostro in Britannia dividuntur, & cum universis qui sub sole in nomine ejus crediderunt. Fod rhinwedd yr Arglwydd Jachawdwr gydâ rheini yn Prydain a wahanwyd oddiwrth ein byd ni, a chydâ phawb dan haul a'r a gredasant yn ei enw ef. Ac medd Theodoret, ein pyscodwyr ni, a'n Publicanod, [...]. a'r Gwniedydd a ddugasant y cyfreithau efengylaidd ir holl genhedloedd, ac ynnillafant nid yn unig y Rhufeiniaid, ond y Scythiaid hefyd, a'r Inaiaid, a'r Ethiopiaid, a'r Persiaid, a'r Brittaniaid, a'r Cimbriaid, a'r Germaniaid i dderbyn deddfau'r Croeshoeliedig. A gwelodd Duw yn dda beri i'r wreichionen efengylaidd yn Prydain losci tua'r nenn, ac ennyn zêl yn y brenin Lleucius, Oed. Cri. 180. yr hwn a fedyddwyd ynghylch y naw ugainfed flwyddyn o Oedran Crist. Galwyd hwn Lles, a'r Lleufer Mawr, am y gwybodaeth a ddigwyddodd yn ei amser ef; canys canlynodd y Penaethiaid ei esampl ef; a chynorthwyodd Doewan a phregethwyr eraill y ffydd yma yn odidog. Ac felly aeth ein gwlâd ni yn flaenor ar yr holl deyrnasoedd yn proffessu'r efengyl drwy gyffredin gyngor. Tybir iddi ymgaloni mewn Cristnogaeth beth yn hyfach, o herwydd i ymerodr Rhufain gyhoeddi ei ewyllis da tuag at y Cristnogion, am iddynt weddio am law iw fyddyn ef oedd ar drigo o syched. Dywed Croniclau Germania [Page 154] i Leucius adel ei reiolti bydol a myned i bregethu 'r efengyl mewn rhannau o honi, a throi llawer at Grist. Ond tebyccaf mae Brittwn arall o'r un henw a wnaeth hynny cyn ei amser ef. Wedi marw Lleucius yn ddiblant, daeth Seferus yr ymerodr i heddychu Prydain ydoedd gythryblus: a gwnaeth glawdd ar draws yr Albain i attal y Phichtiaid. Gwedi hynny ynnillodd y Britanniaid eu rhydd did gan ddifetha y Rhufeiniaid; a phan ddaeth Constantius. Custeint a byddyn yn eu herbyn hwynt, heddychasant ag ef; yr hwn ai dyhuddodd hwy ai fwynder, ac a briododd eu penadures Helen, merch hawddgar, ddyscedig, a chrefyddol, o'r hon y ganwyd iddo y mâb grasol Constantinus. Custenyn; yr hwn wedi marw ei dâd ynghaer Ebrauc, a aeth yn ymerawdr; ac a brifiodd yn Swccwr daionus ir Cristnogion oll. O prydain y pryd hyn y dechreuodd Duw weithio dywygiad yn y byd drwy Cwstenyn fawr, blwydd. yr Arg. 306. fal y dywed ei broclamasiwn ef at Raglawiaethau palestina. Pan farnodd Duw fy ngweinidogaeth i yn gymwys i gyflawni ei cwyllis ef, gan ddechreu o fôr Prydain, a'r parthau tua machlud haul, gyrrodd ar ffô y drygau oeddent yn gorthrymmu dynion, a chynnyddodd y ffydd ddedwyddaf. Cydna byddir hyn yn anrhydedd i prydain, olau etewyn o eirias ei Sancteiddrwydd y lewyrchodd ir ymerodraeth oll. Casclodd Cwstenyn gymanfa gyffredin Eglwysig yn Gallia, Efraingc yn y flwyddyn o oedran yr Arglwydd, trychant a phedair ar ddèg, ac un arall yn Nicea wedi hynny, ac yr oedd Escobion Prydain ymhob un o'r ddau. Ac nid oedd milwyr Britaniaidd ddieithrol iw fyddinoedd ef, wrth fwrw gorthrymwyr y bŷd i lawr. Ynghylch ôes gwr gwedi, aeth ein gwladwyr ni yn dra lliosog [Page 155] i ganlyn Macsimus eu rheolwr i Gallia; yr hwn a geifiodd ddiswyddo ei feistreid ymerodron Rhufain, a chymeryd eu llê hwynt. Oed. Cri. 400. Y pryd hynny fel y tybir y plannodd Canon Meriadoc Arglwydd Rhywfonioc wŷr Gwynedd yn Letavia. Llydaw. Y rhai a anfonasant adref am wragedd, ac hebryngwyd iddynt un mîl ar ddèg o wyryfon; y rhai a daflwyd gan demmestl ar y môr i ran o Germania; lle y derbynwyd hwy gan genhedloedd Barbariaidd gelyniaethol i Prydain, Oed. Cri. 450. a fynnasent ymrewydd â hwynt, ac am nas Caent eu llâdd a orugasant. Y mae parch i goffadwriaeth y merthyron hyn am eu diweirdeb. Ar ol hynny gorfu i Frittaniaid Llydaw, gymeryd gwragedd o'r wlâd honno, a thorrasant eu tafodau hwy, rhag iddynt lygru Cymraeg eu plant. Ond wedi ir Phichtiaid ymgyfathrachu â'r Scotiaid, preswylwyr yr Jwerddon, Cawsant eu Cynorthwy nhwy i flino ein henafiaid ni, ac i helaethu eu terfynau, a rhyngthynt meddianasant yr Albain. Ac oddiyno mewn amser anrheithiasant Loegr, ydoedd rŷ wan iw gwrthsefyll hwynt, gan ir Rheolwyr Rhufeiniaidd dynnu allan o honi agos yr holl wŷr jevaingc iw Canlyn hwy ar bob achlysur i Gallia, a'r Ital, i ddiffyn ymerodraeth Rhufain, ydoedd yr amseroedd hynny yn cael lloneid ei dwylaw gan amryw elynion gartref. Wedi 'r bedwaredd gansed o oed Crist, mae tystiolaeth hynod am ffydd y Britaniaid yn Scrifenâdau un o'r hên bregethwyr Groegaidd, clod-fawrussaf yn y bŷd, sef Joan Chrysostomus. Aureneu o Constantinopl. Profodd ynysoedd Prydain rinwedd y gair, [...]. [...]. canys seilwyd [Page 156] eglwysydd yno. Od ai i'r môr mawr, neu'r ynysoedd hynny o'r eiddo Prydain, nen os Llongwrio a wnei i fôr Eucsinus, neu od ai i barthau yr Deheu, cai glywed pawb ym-hob man yn philosophyddio ynghylch pethau 'r scrythyrau, yn ddiau ag iaith arall, ond nid â ffydd arall, â garw sain y llefarant, ond buchedd dduwiol a ddilynant
Ynghylch hyn Cyfododd o Gymry un Morgan, yn Ladin gelwir ef Pelagius, tybir mae Abbad Bangor îs y coed oedd ef, a thano fwy na dwyfil o fynych. Aeth hwn i Rufain, ac oddiyno i Gaersalem; fel yr oedd arfer Gristnogion y pryd hynny i ddyfod ynghyd yno o bob parth ac iaith, er mwyn gweled gwlâd ganedigaeth Crist ai apostolion. A phan ddeuent ynghŷd byddai ganddynt yr un ffydd, er nad oeddent o'r un iaith. Ymgyfarfyddai pob cenedl ar ei phen ei hun, ond yr un Crist a addolent, a'r un rheol wirionedd y gadwent. Bu ein Gwladwr ni yn enwog, ac yn anwyl am ei sancteiddrwydd ai wybodaeth ymy sc y Cristnogion, a'r dyscawdwyr godidoccaf yn y bŷd; megis escob Rhufain, ac Awstin escob Hippo. ond er diwedd athrawiaethodd ymmhob gwlâd, fod ewyllis rŷdd gan bob dŷn, heb bechod gwreiddiol, a pharodd anghydfod mawr ymhob mann. Yscrifenodd Hierom ydoedd yn Bethlehem, yn erbyn Morgan y doedd yntef yn Jerusalem, gan gymwyso yn ei erbyn ef eiriau Jeremi, oddiwrth brophwydi Jerusalem yr aeth halogrwydd allan ir holl dir. [...]. 23.15. Gan ei fod ef yn cael [Page 157] achlysur i hâu ei athrawiaeth ymmysc y Cristnogion a ymgyfarfyddent yno o'r holl fŷd. Ar ol hyn magodd llid, a lladdodd dilynwyr Morgan rai o braidd Hierome, a lloscasant eu monachlogydd. A phan ymrwystrodd trigolion Prydain hefyd â'r ddadl hon, cawsant gan escobion Gallia anson Garmon escob Antisiodor, a Lupus escob Trecasse attynt i gynorthwyo eu ffydd. Y rhai wedi dyfod i'n gwlâd ni, lle 'r oedd Cristnogaeth wedi gwanhychu, a droesant lawer at ddaioni wrth ymddadlu yn gyhoeddus, a phregethu yn aml. A phan oedd ein henafiaid ni mewn Cyfyng gyngor o herwydd y Phichtiaid a'r Saeson ydoedd yn rhuthro arnynt yn unfryd, Ar ol aml ymprydiau, a gweddiau dorchafedig, a chymûnau, arhôfodd Garmon gyda thyrfa ddewisol o ddyscyblion mewn Cynllwyn: a chynted ag y daeth byddyn y gelynion yno, yn ddisymmwth Crôchlefodd ef ai ddilynwyr, gan adrodd Alleluia deirgwaith, onid oedd y wlâd yn dadseinio: a thrawodd y fath fraw yn y Saeson a'r Phichtiaid, oni ddiangasant gan fwrw eu harfau ymmaith, a boddodd llawer o honynt yn yr afon wrth geisio myned trwyddi ar frŷs. Digwyddodd hyn yn ymyl yr Wyddcruc yn sïre y fflint, a gelwir y lle Maes Garmon hyd heddyw. Dyma fuddugolieth debyg i un Gideon gynt, pan ffôawdd gwersyll y Midianiaid wrth glywed rhai diarfog yn llefain Cleddyf yr Arglwydd a Gideon. Barn. 7.20. Gwedi hyn darfu ir Gwyddyl Phichtiaid ddyfod i Fôn, a churo 'r Britaniaid mewn man a elwir Cerrig y Gwyddyl. Ond gwedi hynny Caswathon Law-bir tâd Maelgwyn. blwydd. yr Arg. 420. Maglocun ai hymlidiodd hwynt ymmaith. Pregethodd Ninianus Brittwn yr efengyl ir Phichtiaid yn yr [Page 158] Albain, ac a ffynnodd yn ei waith: ac ymhen deuddeg mlynedd gwedi daeth Padrig Britwn arall i bregethu ir Jwerddon. Ganesid ef yn yr Albain yn nhrèf Banafau, yn nhalaith Tabernia, ai dâd oedd Ddeon, ai daid yn henuriad. Cipiodd yr Scotiaid hwn gyd a'g eraill yn garcharor yn ievangc, a gwerthasant ef yn gaethwas yn yr Jwerddon, yn yr hwn gyflwr y trôdd ef at Dduw yn ddifrifol, gan weddio yn aml; ac wedi hîr gystudd cafodd ddychwelyd adref: a phan oedd ei rieni yn daer arno am aros gyda hwynt, mewn breuddwyd gwelai un o'r Jwerddon yn rhoi llythr iddo ef, yn nechren 'r hwn y darllennai, llais y Gwyddelod, a thybiai glywed eu llefain hwynt yn un-air yn dywedyd, yr ydym yn deisyf arnati fachgen Sanctaidd ddyfod a rh [...]dio yn ein mysc ni etto; a chynhyrfodd hynny ei galon ef. Aeth i Gallia at Garmon a Marthin dyscawdwyr ysprydol, nerthol, ac arbosodd gyda hwynt rai blynyddoedd i ymgadarnhâu mewn grâs a dysceidiaeth. Ac oddiyno Cyrchodd i Rufain, lle cafodd hyfforddiant a chymdeithion i ddychwelyd ir. Jwerddon, lle y tycciodd ei weinidogaeth ef yn ddirfawr, i droi'r tywysogion a'r Cyffredin at ffydd Grist, yr hon oedd yno ymysc rhai o'r blaen. Cymmerth ef hefyd boen rasol yn Neheubarth Cymry wrth fyned ar ei daith. Ychydig gwedi bu Dubricius o Gaerlleon ar ŵysc, a Chadoc o Langarfan, a Gildas Albainus yn hyfforddiant mawr i ddysceidiaeth a chrefydd yn-Ghymry. Dywedir am Gildas, pan oedd ef yn pregethu, a dyfod o fam Dewi (a hi yn feichiog arno ef) i mewn iw gynnulleidfa ef, yn ddisymwth Syrthiodd attal ar ei bregethiad ef, fel ar leferydd Zacharias, Luc. 1.22. a chwedi hynny prophwydodd [Page 159] ir wraig y byddai'r plentyn y ddygai hi yn ei chroth yn odidog yngair y gogoniant. A phrifiodd y peth felly. Canys aeth Dewi yn Archescob tra ysprydol, ac anrhydeddus. Yr ydoedd Mynyw mor hynod am grefydd yn ei amser ef, ac y dywedid y gallai Cristion gael Cymaint adeiladaeth iw enaid wrth fyned yn Bererin yno ddwywaith, ac y gai o fyned i Rufain unwaith.
Ynghylch y pryd hwn gwnaeth Teilaw; a Phadern hefyd eu rhannau yn gwasanaethu eu cenhedlaeth. Yn yr oes hon yr ydoedd gan y Britanniaid dri Archescob, un yn Llundain, un yn Ghaer Ebrauc, ac un yn Ghaer Lleon ar Wysc, yn Neheubarth Cymru, heb law Escobion, a gweinidogion. Yr oedd eglwysydd Cymru dan lywodraeth Archescob Caer Lleon ar Wysc, a rhai Lloegr dan lywodraeth Archescob Llundain, a rhai yr Albain a'r gogledd-dir tu hwynt i Humber, dan lywodraeth Archescob Caer Ebrauc. Yr ydoedd hefyd yscoldai nodedig yn amryw fannau, lle 'r oeddid yn dwyn philosophyddion i fynu, ac athrawon; ac enwediccaf coleds yn Ghymru ydoedd yn Ghaer Lleon ar Wysc.
Ond am fod Prydain yn gwybod ew [...]llis ei Harglwydd ac heb ei wneuthur, darperir iddi lawer o ffonnodiau: ac am ei bod yn dir cyndyn, yn dwyn drain a mieri yn lle llyssiau cymwys ir llafurwr nefol, aeth yn anghymeradwy, ac yn agos i felldith a llosciad. Ynghylch Pedwar Cant a thrugain o oed Crist, Oed. Cri. 460. mae'r Rhufeiniaid y fuasent yn llywodraethu [Page 160] arni yn hîr, yn ei gadel yn weddw. Mar 'r Phichtiaid a'r Scotiaid yn rhuthro iddi fel bleiddiaid yr hŵyr, ac mae'r Saeson anghredadwy, pobl o ogledd-dir Germania, a gyflogasid iw gwrthsefyll hwy, yn lle cynorthwywyr yn prifio yn llwyr ddinistrwyr ein cenedl ni: a thrwy dân a chleddyf yn troi'r dinasoedd yn garneddau, a chelaneddau 'r dinasyddion yn domennydd, a'r hyn nis gallent ei reibio wrth chwareu 'r llewod, yscly faethent ef ar ddull llwynogod. Canys wedi ir Britanniaid eu curo hwy yn ddewr, ac wrth gyttundeb ddyfod o'r penaethiaid ynghŷd yn ddiarfog i dynnu ammodau heddwch, ac i gydwlêdda â'u penaethiaid nhwythau, cawsant eu llâdd yn dwyllodrus â chyllill hirion yngwastadedd caer Salisburis. Caradoc. A rhoddes hynny o drychineb fantais ir dihirwyr i orescyn llawer o'r ynys. Ond drwy ddewrder a phwyll Emrys Aurelianus, a'i frawd Uthr, a'i nai ef y brenin Arthur, gwelodd Duw yn dda roddi'r Maes ir Britanniaid mewn llawer brwydr, ac attal gerwindeb y Saeson, nas gallasant mo ddifrodi ein henafiaid ni i gyd a'r unwaith. Canys heb law Cymru glynanasant yngorllewin a gogledd Lloegr amryw flynyddoedd, wedi ir Saeson breswylio Llundain, a dwyrein barthau 'r ynys. Yn yr amseroedd helbulus hyn gosododd rhai law Dduw at eu calonnau, ac ymroesant iw wasanaethu ef gyda'g ofn a dychryn. O'r cyfryw yr ydoedd Centigernus, yr hwn a Seiliodd fonachlog Llanelwy ynghylch y flwyddyn 560: ordeinwyd ir mynych oeddent naw cant ymrannu, fel y delai'r naill dyrfa i mewn i addoli Duw, pan ddarfyddai ir llall; fel na pheidiai addoliad Soniarus un amser. Oddiyno [Page 161] aeth ef i Glascu yn yr Albain, Lle bu ef yn hyfforddiant mawr ir efengyl, a Gildas Albainus hefyd. Clomen Celli yr un môdd a gyfododd lawer o fonachlogydd ym Mhrydain, a'r Jwerddon. A phan aeth i Glascu, ef a rhai oi ddilynwyr i ymweled a Chentigernus, Cyfarsuant ai gilidd dan ganu psalmau. Meddai 'r naill blaid y Sainct ânt o rinwedd i rinwedd, ymddengis pob un ger bron Duw yn Sion. Meddai 'r llall, Psal. 84.7. Psal. 138.5. yn ffyrdd yr Arglwydd mawr yw gogoniant yr Arglwydd. Anfonodd Americ brenin yr Jwerddon am Frittwn duwiol dyscedig elwid Gildas, (Ac a gyfenwir Badon) i adferu trefn eglwysig yn ei deyrnas ef, gan addaw ufuddhâu iw athrawieth ef. A phan gymmerodd yr athro ysprydol y gwaith mewn llaw, bendithiodd Duw ei orchwyl ef yn diwygio pethau crefyddol drwy'r Jwerddon oll; lle y llacciasent lawer er amser Padrig. Mae 'r Prydydd y ddaroganodd ynghylch y Coronog Faban, yn galw hwn yn brophwyd.
Bu ef fyw yn y tô nesaf at y brenin Arthur, ac a scrifennodd lyfr Ladin y sydd etto iw weled, i fynegi helynt Prydain, ac i argyhoeddi ei wladwyr oi pechodau a'u peryglon. Blwy, yr Arg. 564. Ac o herwydd ei fod yn hynaf llyfr o waith Cymro a'r sydd iw gael yn brintiedig, a mwyaf ei barch, ac yn berthynasol i'm perwyl, wedi ei scrifennu at ein henafiaid ni ynghylch amser en difrawd, darfu i mi ei dalfyrru, ai gyfieithu o'r Ladin ir Gymraec. Ac i'th hyfforddi iw ddeall ef, gosodais ymbell air ynghwrr y dalennau, y pennodau hefyd, a'r adnôdau, lle ceir yr scrythyrau y arferiff ef [Page 162] yn aml, er nad oeddent wedi eu rhannu felly yn ei amser ef.
PEN. XVII. Llyfr Gildas yn argyhoedai ein henafiaid o'u pechodau.
RHagymadrodd hwn a brintiedd y Llyfr gyntaf. Polydorus Fergilius at Cuthbert Tonstall Escob Llundain.
Pan i'm rhoddais fy hun i scrifennu histori Lloegr, ac er mwyn hynny i ddyfal chwilio Croniclau, darllenais yn Beda ddarfod i ryw historiawr gynt â'i henw Gildas, yn wylofus alaethu dinystr a phechôdau ei wladwyr y Britaniaid. A thra yr oddwn yn chwilio am dano, tydi goreu Escob, yr hwn wyt yn dra gofalus am chwanegu dysceidiaeth, a gefaist y llyfr: A phan aeth y gair allan ymmysc yscolheigion gael hên awdwr, a bod chwant iddo, gwelais yn dda ei gyhoeddi, ac yntef yn grŷf mewn athrawiaeth. Os gwnaiff lessâd, fel y mae yn dra-buddiol, cysrifer hynny i ti, am ei ddyfod o'r tywyll ir golau a thi yn arweinydd; bydd wych. 1525.
Tewais â sôn gyda mawr ofid Calon, fel y mae'r Arglwydd chwiliwr yr arennau yn dŷst i mi, dros ddeng mlynedd. Ond gwelwn yn ein amser ni mal y galar-nâdodd Jeremi, fod y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan yn weddw, Galarnad. Jer. pen. 1. ac 4.1. a thywysoges y taleithiau tan deiruged, sef yr Eglwys: a thywyllu yr aur, sef llewyrch gair Duw. A darllennwnir [Page 163] Arglwydd ddywedyd y teflid plant y deyrnas ir tywyllwch eithaf. Math. 8.12. Ac y torrid ymmaith yr oliwydden wyllt a impiasid yn y dda, Rhuf. 11.17. oddieithr iddi ofni. Gwelwn faint o ddifrawch sydd mewn pobl o'r oes hon, er ei bod yn dra phechadurus a du. Mewn zél gan hynny i dŷ Dduw, a'i gyfraith, a chwedi fy nghymmell gan weddiau Sanctaidd y brodyr, ymosodais i lefaru, fel yr assyn y ddangosodd ir Swynwr fod angel â'i gleddyf noeth yn ei erbyn ef, er cael ei churo am ei phôen. Num. 22.
Ynys Prydain sydd fel priodas-ferch wedi ei thrwssio â llawer o dlyssau. A chyn dyfodiad Crist yn y cnawd addolodd fynyddoedd, ac afonydd peryglus; a phethau cythreulig, (agos cyn amled a rhai 'r Aipht) lluniau hyllion rhai o honynt sydd etto iw gweled ynghylch Caerau anghyfanneddol Ond wedi i Grist y gwir haul ddangos ei belydr, sef ei orchymynion iddi, yn amser Tiberius Caesar; derbynwyd hwynt gan rai eneidiau yn llygoer, a chan eraill yn galonnog: ac yn yr erlid yn amser Dioclesianus goleuodd lampau'r merthyron ynddi. Y rhai a safasant yn y maes yn ddewr gyda Christ yn wrryw ac yn fenyw. Y prŷd yr addurnwyd Albanus Sanctaidd â gwrthiau rhyfeddol yngolwg yr an nuwiol, oeddent yn ei arteithio ef am ei gyffes rasol. Canys drwy weddi wresog agorodd ffordd i fyned drwy frwynen yr afon enwog Temes yn Droed sych gydâ mîl o wŷr, a'r dyfroedd yn sefyll o'u deutu fel caulennydd mawrion. Oni thrôdd yr arteithiwr o flaidd yn oen, i sychedu am fuddugoliaeth merthyrdod. Ond wedi'r demmestl, mae'r Cristnogion â golugon siriol yn mwynhâu goleuni tawel yr awyr nefol. Adnewyddant [Page 164] yr eglwysydd y fwriasid i lawr, addolant â chalonnau ac à geneuau pûr, a gorfoleddant. A pharhâodd Cyssondeb hy fryd ymmysc aelodau Crist, nes i hocced Arrius ac eraill, fel nadrodd chwythu gwenwyn marwol amryw heresiau o'r tu hwnt ir môr i'n gwlad ni, yr hon oedd chwannog i glywed rhyw newydd-beth. Er diwedd gan tod yr ynys yn dwyn henw y Rhufeiniaid y rhai ai gorescynnasent hi er ys talm o flynyddoedd, ond nid yn arfer eu moddion hwynt, eithr yn bwrw allan egin chwerw, anfonodd ei gwyr jevaingc yn llûoedd i ganlyn Macsimus y Gormesdeyrn i Gallia, y rhai ni ddychwelafant adref mwy. Ar ol hyn y mae Prydain wedi Colli ei milwyr ai rheolwyr, yn tuchan dan orthrymder dwy genedl tramor greulon, sef y Phichtiaid a'r Scotiaid dros lawer o flynyddoedd, ac yn cael Cymmorth yn eu herbyn o Rufain ddwy waith. Ond gwedi dychwelyd o'r Rhufeiniaid adref (y rhai cyn y madel a rybuddiasent ein gwlâd ni i ddyseu traenio, ac nad ymollyngai 'n llibyn o ran muscrelli iw chaethiwo gan genbedloedd nid oeddent ddim cryfach na hi) y mae'r Phichtiaid a'r Scotiaid (y rhai a orchguddient eu hwynebau a blew, yn hytrach na rhannan gwradwyddus eu cyrph â dillad) yn heidio drachefn, ac yn cymeryd meddiant o'r holl ogledd- dir, a darnir y dinasyddion alaethus gan y gelynion, fel ŵyn gan gigyddion: a newyn angeiriawl a lynai wrth y diangol, gan fod y wlâd mor synych wedi ei hyspeilio, nid oedd ymborth ond y ddelid wrth hela. Mae'r gweddiilion truenus yn anfon llythyrau y adroddant fel hyn, At Rhaglaw Galliadan y Rhufeiniaid. blw. yr Argl. 446. Aetius ocheneidiau'r Britaniaid. Mae 'r Barbariaid yn ein gyrru ni at y môr, a'r môr yn [Page 165] eiu gyrru ni at y Barbariaid, rhwng y ddau lleddir neu foddir ni. Yn y Cyfamser wedi methu 'r genadwri, rhoddasant eu hyder ar Dduw, ac nid ar ddŷn, a'r pryd hynny y gwnaethant gelanedd ymmysc eu gelynion gyntaf; yn ol ymadrodd Philo, Bydd Cymmorth Duw barod lle metho un dŷn. Dros ennyd fechan peidiodd hyfder y gelynion, ond nid ein drygioni ni. Ciliodd y gelynion oddiwrth y dinasoedd, ond ni chiliodd y dinasyddion oddiwrth eu pechodau. Canys yr oedd ein cenedl ni, megis y mae yn awr, yn grèf i bechu, ac yn wan i ryfela. Yn yr yspaid tangneddyf llifeiriodd yr ŷnys o bob rhyw lawnder cynhalieth, gyda'r hwn y cyd-tyfodd trythyllwch, oni ellid ddywedyd y pryd hynny yn gymmwys, fod yn eich plith chwi y Cyfryw odineb, ac na henwir ymmysc y Cenhedloedd. Ac nid y bai hwnw yn unic, 1 Cor. 5.1 eithr pob rhyw lygredigaeth a'r sydd ddigwyddawl i natur ddynol, ac yn gŵyr-droi pob daioni yn awr hefyd: Sef casineb ir gwirionedd, ac ir rhai ai haero, serch ir celwydd, ac ir neb ai gwnelo, croesawu'r drwg yn lle da, perchi gloddest am fwynder, a chwennych tywyllwch yn lle 'r haul, a chymeryd Satan am angel goleuni. Hosh. 8.4. Eneinwyd Brenhinoedd nid trwy'r Arglwydd, ond y rhai fyddau creulonach nag eraill; a chyn pen nemawr, lleddid hwynt, a dewisid rhai gwaeth. Ac os digwyddai i un o honynt fod yn hynawsach, ac yn nês at y gwirionedd, gwrthwynebid hwnw megis dinystriwr Prydain. Yr un môdd oedd ganddynt y pethau a ddigiau, a'r pethau a fodlonau Dduw; Esai. 1.4 [...] 5, 6. oni ellid ddywedyd wrth ein gwlâd ni— hâd y rhai drygionus, gwrthodasoch yr Arglwydd, digiasoch Sanct Israel, i ba beth i'ch tarewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: [Page 166] y pen oll sydd glwyfus, a'r holl galon yn llèsc, o wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo. Ac nid y gwyr bydol yn unic oedd fel hyn, ond praidd Duw hefyd, a'u bugeiliaid. Yn y cyfamser y mae Duw yn ewyllysio glanhâu ei deulo, wrth anfon iddynt air fod eu hên elynion yn darparu dyfod attynt iw difrodi, ac i gymeryd y wlâd; Dihar. 29.19. ac 27.22. ond nid ydynt well er hynny. Gan na chymer gwâs pengased addysc a'r eiriau; fflangellir yr ynfyd ac nid yw yn synied. Canys y mae plâ angheuol yn llâdd cymmaint lliaws o'r bobl, nas gallau'r byw eu claddu. Etto Cyflawnir prophwydolieth Esai, Esai. 22.12, 13. Gwahoddodd Duw i wylofain, ac i foeledd, ac i ymwregyssu â sachliain, ac wele lawenydd a gorfoledd, gan fwytta câg ac yfed, a dywedyd, bwyttawn, ac y fwn, Canys y foru y byddwn feirw. O herwydd nessâodd yr amser i gyflawni eu hanwireddau fel rhai yr Amoriaid gynt. Gen. 15.16. Y prŷd y dallwyd y cynghoriaid a'r brenin balch i ollwn y Saeson ou gwirfodd ir ynys, iw cynorthwyo yn erbyn eu hên elynion. Oddioglud hurttwydd meddwl y tywysogion! Esai. 19.11. fel rhai Zoan, y roddasont i Pharao gyngor annoeth. Ofnent Canys gwnaethent ruthr i Prydain o'r blaen, ac arferent yspeilio ar y mor. y Saeson o'r blaen fel angeu, ac etto gwahoddasont y bleiddiaid hynny i gorlan defaid. yn gyntaf daeth tair llongaid o honynt i mewn ir ddwyrein ran o'r ynys, lle 'r arhosasont drwy genad y brenin anhappys. Ac wedi dyfod torfoedd ychwaneg attynt, addawsant yn dèg dros drô, yr ymladdent dros eu lletteuwyr syber. Ond mewn amser gofynnant haelioni mwy, a thorrant eu cyngrair, a rhuthrant dros yr ynys o'r dwyrain ir gorllewin. Oni chyflawnwyd ynom ni air y prophwyd, y cenhedloedd o Dduw y ddaethant i'th etifeddiaeth, Psal. 79.1. halogasont dy [Page 167] deml Sanctaidd. Onid oedd dros yr holl wlâd gelain y trigolion gyda'r eglwyswyr, yn ddarnau hyd yr heolydd, ie yn dyrrau cymyscedig, megis mewn gwryf mawr y gwescir afalau ynddo; heb fêdd iddynt, oddieithr tai wedi syrthio neu foliau milod. Diangodd y gweddillion ir môr a'r mynyddoedd, gan oer-nâdu sal hyn, Psal. 44.11. Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ymmysc y cenhedloedd. Ac mewn amser maent eilwaith yn ymgasclu ynghyd o bob parth, fel y gwenin ir cwch ar dymmestl; gan alw ar Dduw â'u holl galon, a llwythant y nefoedd ag aneirif weddiau na lwyr ddifethyd monynt; a than lywodraeth Emrys Aurelianus, gwr pwyllog, (rhieni yr hwn a laddesid yn y derfysc) maent yn rhoi curfa iw gelynion drw y help Duw. Ac o hynny allan weithiau byddai 'r dinasyddion, weithiau'r gelynion yn cael y maes; fel y profai 'r Arglwydd yn ol ei arfer, ydoedd Israel bresennol yn ei garu ef ai peidio, hyd flwyddyn gwersyll mynydd Bath. Badon, a'r lladdfa ddiweddaf agos y wnawd ar y diffeithwyr, yr hyn oedd bedair blynedd a deugain, ac un mîs ar ol dyfodiad y Saeson i mewn, a'r amser y ganwyd fi. Nid aeth destrywedigaeth yr ynys, a'r cynorthwy y ddigwyddodd iddi heb ei ddisgwyl, fyth allan o gôf y rhai ai gwelsent. Am hynny gwnaeth y brenhinoedd, a'r penathiaid, a'r eglwyswyr, a'r cyffredin, bob un eu dyledswyddau. Ond pan gyfododd tô arall ni wyddai oddiwrth ddim, ond y tawelwch presennol, dymchwelwyd gwirionedd a chyfiawnder, fel na welir mo'i hôl mewn grâdd yn y bŷd o ddynion; oddieithr ychydig iawn y sydd a'u bywyd yn hôff gan Dduw, ac au gweddiau yn cynal ein gwendid ni. Na thybied neb fy mod i yn [Page 168] bwrw attynt hwy, tra yr wyf mor hyf'yn cwynofain pentwr y rhai drygionus, y sydd yn gwasnaethu eu boliau a diafol yn hytrach na Christ. Canys i ba beth y celwn ni yr hyn y mae'r cenhedloedd oddiamgylch, nid yn unig yn ei wybod, ond yn ei ddannod? sef bod gan Prydain frenhinoedd o dreiswyr, a barnwyr o orthrymwyr, y sclyfaethant y gwirion, ac a gadwant yr euog, a chanddynt lawer o wragedd putteinaidd, yn llochesu lladron a godinebwyr, yn anudonwyr, yn codi terfyscoedd ymmysc eu gilidd. Megis y darfu ir gormesdeyrn † Custenyn y leni yn yr eglwys lâdd dau o'r hâd brenhinol, er iddo ymrwymo a llŵ cyhoeddus na wnai dwyll iw bobl. Wedi iddo o'r blaen yrru ymmaith ei wraig o serch ar butteiniaid. Oh pam yr wyti yn archolli dy enaid dy hun? Oh pam yr wyti yn ennyn y tân iti dy hun? edifarhâ a thyred at Grist y tâd daionus, y wnaiff wlêdd o gyssur nefol ir dychweledig, Psal. 34.8. fel y profo mor felys yw 'r Arglwydd. A pheth y wnei ditheu Aurelius Conan y ceneu llêw, onid wyti ar foddi yn yr unrhyw frynti o fwrdwr a godineb? oni throi at yr Arglwydd yn fuan, Psal. 7.12. Deut. 32.39. efe a chweri âi gleddyf attati ar fyrder, ac ni bydd à'th waredo di oi law ef. A thitheu Fortipor benllwyd rheolwr Gwent, tebyg i lewpart amllwiog o anwireddau, mab diras i frenin da, fel Manasses i Hezechia, beth a wnei di yn cyffio yn dy orsedd-faingc dwyllodrus, halogedig gan fwrdwr a phutteindra? na threulia yr ychydig sydd yn ol o'th ddyddiau [Page 169] yn digio Duw. Canys yn awr y mae'r amser cymeradwy, a dyddiechydwrieth yn tywynnu ir edifeiriol. A thitheu Cuneglas, pam y gwnei gymaint helbul i ddynion drwy ryfel cartrefol, ac i Dduw drwy aneirif bechodau, 1 Cor. 6.9. yn erbyn y gair sy'n dywedyd, nas gall godinchwyr etifeddu teyrnas nef? paid ath ddigofaint tuag at Dduw ai braidd, newid dy foddion, Math. 16.19. mal y bo iddynt hwy weddio drosoti, y rhai allant rwymo yr euog ar y ddaiar, a rhoi gollyngdod ir edifeiriol. Titheu hefyd Maelgwyn tywysog Gwynedd. Maglocun, a yrraist gymmaint o frenhinoedd gormesol allan ou teyrn gader au bywyd, pam yr ymdreiglei yn y fath dduon bechodau, megis pettit wedi meddwi ar wîn Sodome? oni orthrumaisti drwy gleddyf a thân, dy Cathwallain. ewythr y brenin ai filwyr dewr, y rhai oeddent mewn brwydr, nid anhebyg yr olwg arnynt i genawon llewod? esceulusaist eiriau'r prophwyd y ddywed, gwyr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau. Gwae di anrheithiwr, Psal. 55.23. Esai. 33.1. pan dd [...]rffo it anrheithio i'th anrheithir. Pan addunedaist fynd yn fonach, (ysgatfydd o ran pigiadau dy gydwybod) a chwedi troi o frân yn glomen, a hedeg rhag ewinedd creulon y gwalch i gelloedd diogel y Sainct; o faint fuasai llawenydd yr eglwys, oni buasai i elyn dynol ryw dy dynnu di allan oi mynwes hi! O fel y buasai gobaith nefol yn calonni yr ysprydoedd cystuddiedig, buasit heb ddychwelyd fel y ci at y chwdfa! 2 Pet. 2 [...] Yn awr rhoddi dy aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod a diafol. Ni wrendi dy glustiau hyfrydlais dyscyblion Crist yn canu mawl i Dduw, ond dadwrdd gwenheithwyr celwyddog yn canu dy fawl dy hun. Ie yr wyti fel ebol gwyllt yn rhedeg drwy [Page 170] faeusydd anwiredd, yn tybied fod y fan lle ni bu yn felysach, ac fyth yn myned rhagddo. Canys gan ddirmygu dy wraig briod, ceraist wraig gwr arall, ac yntef yn fyw, a hwnw nid estron, ond mab dy frawd. Ac i soddi dy warr galed yn ddyfnach, bwriaist arni ychwaneg o bwys euogrwydd, gan i ti drwy hocced y fudrog, lâdd dy wraig dy hun, a gwr y llall, iw chymeryd hi attat. Pa wr duwiol wrth glywed y fath beth, nad ocheneidiau ei ymyscaroedd ef? Pa eglwyswr a'r sydd a'i galon yn union tuag at Dduw, na ddywed gyda 'r prophwyd, pwy a rydd i'm pen ddwfr, ac i'm llygaid ffynon o ddagrau, Jer. 9.1. fel yr wylwn ddydd a nôs, am laddedigion sy mhobl? Nid oes diffyg cynghorion arnati, gan fod geniti athro sydd † ddyscawdwr hyawdl agos i Prydain oll. O frenin golch dy galon oddiwrth dy ddrygioni, ac na ddirmyga Dduw sydd yn dywedyd, Pan lefarwyf am genedl neu frenhiniaeth, Jer. 18.7, 8. y diwreiddiaf, y chwalaf, y tynnaf i lawr, ac y difethaf, os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddiwrth ei drygioni, myfi a edifarhâf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. Hefyd ynghaniad Deuteronomium, cenedl heb gyngor a deall ydynt hwy, Deut. 32.28, 29, 30. oh na baent ddoethion, na ddeallent, nad ystyrient eu diwedd. Pa fodd yr ymlidiei un fîl? ac y gyrrei dau ddengmil i ffoi? Ac deuwch attafi bawb sydd yn llwythog. Math. 11 Na fychana 'r prophwydi, na ninnau chwaith er ein gwaeled, y rhai ydym mewn mesur o ddiragrith dwywolder meddwl yn dal ar air y prophwyd, Esai, 56.10. rhag ein cael yn gŵn mudion. Er nad wyfi mor gyflawn o rym [Page 171] i ddangos ei anwiredd i dŷ Jacob, ai bechodau i dŷ Israel, etto cofiwn eiriau Solomon, Mic. 3.8. "y neb a ddywedo wrth yr annuwiol cyfiawn wyt, Dihat. 24.24, 25. Dihar. 29.4.12. y bobl ai melldithiant ef, ond ir neb a'i ceryddo y bydd gobaith. Y brenin drwy farn a gadarnhâ y wlâd, ond os gwrendi ar gelwydd, ei holl weision fyddant annuwiol. Gwae y rhai a ddywedant am y drwg da yw, ac am y da drwg yw. Esai. 5.20. Gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch, y chwerw am felys, a melys am chwerw. Y rhai sydd ganddynt lygaid heb weled, Math. 13.15. a chlustiau heb glywed, a'u calon wedi tywyllu gan gwmwl têw eu drygioni. Na ddywedwch mae dychymyg dychryn i chwi yr ydym ni, gan fod y prophwydi Sanctaidd oeddent enau Duw i ddynion, yn tystiolaethu gyda ni yn erbyn y cenfigenus, a'r gwargaled o'r oes hon. Canys diammau gan bob doeth, fod pechodau yr amser hwn yn llawer trymach na rhai 'r cynfyd; Heb. 10.28, 29. gan fod yr apostol yn dywedyd — yr un a dorrai gyfraith Moses a fyddei farw, pa faint mwy cospedigaeth y bernir ha [...]ddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw. Pan ddywedodd Samuel wrth Saul, — ynfyd y gwnaethost, ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd, 1 Sam. 13, 14. ni saif dy frenhinieth di. Beth y wnaeth ef iw gyffelybu i fwrdwr a godineb, sef anwireddau 'r amser hwn? 1 Sam. 15.23. hefyd — anufudd dod sydd fel pechod dewiniaeth, a throseddiad sydd eulunaddoliaeth, o herwydd it fwrw ymmaith air yr Arglwydd, ynteu ath fwrw ditheu ymmaith. Creffwch fod troseddiad yn ddelwaddolieth. Am hynny na wenheithied yr anwiriaid hyn monynt eu hunain, am fod heb aberthu i Dduwiau'r Paganiaid; tra fônt fel môch yn Sathru gemmau Crist dan draed, eulyn addolwyr [Page 172] ydynt. 2 Sam. 24.1.15. Pan rifodd Dafydd y bobl, darostyngwyd ef a lladdfa deng mil a thrugain o honynt. A daeth gair yr Arglwydd at Baasa brenin Israel gan ddywedyd, 1 Bren. 16.1, 2, 4. — o herwydd i'm dy wneuthur yn flaenor ar fy mhobl Israel, a pheri o honoti iddynt fy nigio i au pechodau, wele y cŵn a fwytty yr hwn a fyddo marw o'r eiddo Baasa yn y ddinas, ac adar y nefoedd a fwytty yr hwn a fyddo marw o'r eiddo ef yn y maes. Gwrandewch hefyd beth y fwgythiodd yr Arglwydd drwy enau Elias Sanctaidd yn erbyn Ahab brenin drygionus Israel, drwy ddichell pa un ai wraig y gorthrymwyd Naboth wirion am ei winllan. — A leddaisti ac a feddiennaist hefyd? Yn y fan lle llyfodd y cŵn waed Naboth y llyf cŵn dy waed titheu hefyd. 1 Bren. 21.2.13.19. A gwybyddis yn siccr ir peth ddyfod felly. Ond rhag i yspryd celwyddog yngenau eich prophwydi chwi, eich hudo chwi fel y bu i Ahab, 1 Bren. 22, 23. clywch eiriau 'r prophwyd Michea, wele yr Arglwydd y roddodd yspryd celwyddog yngenau dy holl brophwydi hyn, a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg am danat ti. Canys dir yw, fod yn awr athrawon llawn o yspryd gwrthwynebus yn cyhoeddi eu Ewyllis llygredig eu hunain, yn hytrach na'r gwirionedd; Psal. 55.21. a'u geiriau yn dynerach nag olew, a hwynt yn biccellau. Y rhai a ddywedant heddwch, heddwch, Jer. 6.14. Esai. 57.21. er na bydd heddwch ir rhai a barbânt yn eu pechodau. Nid oes lawenydd ir annuwiol medd yr Arglwydd. Dywed Azariah wrth Asa, yr Arglwydd sydd gyda chwi, tra fyddoch gyd ag ef, ac os ceisiwch ef, 2 Cron. 15.2. chwi a'i cewch ef; ond os gadewch ef, yntef a'ch gedi chwitheu. Ac os prophwyd a geryddodd Jehosaphat am helpu brenin anghyfiawn, gan ddywedyd, 2 Cron. 19.2. ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu 'r neb a gaffa 'r Arglwydd a wnait ti? Am hyn digofaint [Page 173] oddiwrth yr Arglwydd sydd arnat ti: beth y wneir ir rhai a leffetheirir â'u pechodau eu hunain? Camweddau pa rai sydd raid ini eu casâu, fel y dywed y Psalmwr, Psal. 97.10. y rhai a gerwch yr Arglwydd casewch ddrygioni. Ystyriwch eiriau 'r prophwyd Zechariah, yr hwn a safodd oddiar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy oeddent yn gadel yr Arglwydd, fel y gwnewch chwithau yn awr, fel hyn y dywedodd Duw, pa ham yr ydych chwi yn troseddu gorchymmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi, 2 Cron. 24.20. Canys gadawsoch yr Arglwydd, am hynny yntef a'ch gedi chwithau. Medd Esai, gwrandewch air yr Arglwydd tywysogion Sodoma, Isai. 10.13.15, 16.19. clywch gyfraith ein Duw ni pobl Gomorah: na chwanegwch ddwyn offrwm ofer. Ond yr ydym ni yn awyddus yn derbyn yr offrymmau y mae ein Harglwydd yn eu gwrthod. A thrachefn medd ef, pan weddioch lawer ni wrandawaf. Ond dengis pa fodd y Cymmodiff, ymlanhewch, bwriwch ymmaith eich drygioni, dyscwch wneuthur daioni, ceisiwch farn, os byddwch Ewyllyscar, ac ufudd, daioni y tîr a fwyttewch; Ond os gwrthodwch â chleddyf i'ch yssir. Gwrandewch, derbyniwch yr hwn sydd mor ddiragrith yn tystiolaethu beth fydd gobr eich da a'ch drwg. Ac nid fel eich bolerwyr gwenhieithus y anadlant wenwyn i'ch clustiau. Gwae i chwi y rhai a gyfodwch yn foreu i ddilyn meddwdod, Esai. 5.11.12, 13, 14.24, 25. a arhoswch hyd yr hwyr, oni ennyno y gwin chwi. Yn eich gwleddoedd y mae y delyn, a'r bibell, a'r gwin; ond am waith yr Arglwydd nid edrychwch, a gweithredoedd ei ddwylaw ef nid ystyriwch. Am hynny y caeth-gludwyd fy mhobl, am nad [Page 174] oes ganddynt wybodaeth, ai gwyr anrhydeddus a newynwyd, au lliaws a wywodd gan syched▪ O herwydd hynny yr ymhengodd uffern, ac yr agorodd ei Safn yn anferth, ac yno y discyn eu gogoniant au lliaws, am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel. Er hyn oll ni ddychwelodd llid ein Arglwydd, ond etto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan. Clywch yr hyn y ddywed Jeremi wrth y bobl ynfyd, au brenhinoedd ystyfning, Jer. 2.5, 6. pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynofi, gan iddynt ymbellhâu oddiwrthif, a rhodio ar ol oferedd, a myned yn ofer? ac ni ddywedant pa le y mae'r Arglwydd an dug ni i fynu o dîr yr Aipht? mi a wrandewais, ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn, Jer. 8.6, 7. nid edifarhâodd neb am ei anwiredd gan ddywedyd beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi iw yrfa megis march yn rhuthro ir frwydr. Y barcyt yn yr awyr a edwyn ei dymhorau, y durtur a'r wennol, a'r aran, a gadwant amser eu dyfodiad, eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd. Jer. 9.13, 14, 15. Drachefn ein Arglwydd a ddywedodd am wrthod o honynt fy nghyfraith y [...] hon a roddais iddynt, ac na wrandawsant ar fy llèf, na rhodio ynddi, eithr myned yn ol drygioni eu calon eu hun; am hynn y mi a'i bwydaf hwynt y bobl hyn â wermod, ac ai diodaf hwynt â dwfr bustl. Am hynny na weddia dros y bobl hyn, Jer. 11.24. Canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf o herwydd eu drygfyd. Beth ynteu y wnaiff ein rheolwyr anhapus ni yr awr hon? Gommeddwyd gan Dduw ir ychydig y gawsant y ffordd gûl, ac a adawsant y [Page 175] lydan dywallt eu gweddiau dros y cyfryw ac y barhânt yn eu drygau. Yn y gwrthwyneb pan droent at Dduw a'u holl galon, nid allai Jonas beri i ddial ddescyn ar y Ninifeaid. Jonah. 4. Ac medd yr Arglwydd yn Amos. Mewn tair o anwireddau Judah, ac mewn pedair ni throaf hwynt; Amos 2.4, 5, 6. am iddynt ddirmygu Cyfraith yr Arglwydd, ac nas cadwasant ei ddeddfau ef; ond eu oferedd ai cyfeiliornodd hwynt. Eithr anfonaf dân i Judah, ac efe a ddifa Sylseini Jerusalem. Mewn tair o anwireddau Israel, ac mewn pedair ni throaf hwynt; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a'r tlawd er pâr o escidiau. Gwrandewch fwgythion y prophwyd Zephaniah. Agos yw dydd mawr yr Arglwydd, agos a phryssur iawn, Zeph. 1.14, 15, 16. sef llais dydd yr Arglwydd sydd chwerw. Diwrnod llidiog yw'r diwrnod hwnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr, ac anghyfannedd-dra; diwrnod tywyll a dû, diwrnod Cymmylau a thywyllni diwrnod udcorn, ac a [...]rwm yn erbyn y dinasoedd Caeroc. Ac Haggai. Hag. [...].6. "Unwaith etto, escydwaf y nefoedd, a'r ddaiar, a'r môr a'r sychdir. Yn awr hefyd edrychwch beth y ddywed y prophwyd Zechari [...]h, Zech. 1.3.4. Dychwelwch attafi medd yr Arglwydd, ac mi a ddychwelaf attoch chwithau. Na fyddwch fel eich tadau y rhai y galwodd y prophwydi o'r blaen arnynt, gan ddywedyd, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drwg, ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf. Mal. 4.1. Medd Malachi Sanctaiddd wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, yn llosci megis ffwrn, a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd a fyddant Sofl, a'r dydd sydd yn dyfod ai llysc hwynt, [Page 176] medd Arglwydd y llúoedd, fel nas gadawo iddynt na gwreiddyn na changen. Gwelwch hefyd fel yr ymadroddiff Job Sanctaidd ynghylch dechreu a diwedd yr annuwiol. Job. 21.7, 8, 9, 10, 12, 17, 18. Pa ham y mae'r annuwiol yn byw, yn heneiddio, a'u hâd yn ol eu dymuniad? Eu tai fydd mewn heddwch allan o ofn, ac nid yw gwialen Duw arnynt hwy. Nid yw eu buwch yn erthylu; Cymerant dympan a thelyn. Ai nid yw Duw yn edrych ar weithredoedd yr anghrefyddol? ydyw; Canys diffydd Canwyll yr annuwolion, a daw dinystr arnynt hwy, a byddant fel sofl o flaen gwynt, ac fel man-us y gippiodd Corwynt. Ezec. 9.8, 9.10. Pan oedd Ezeciel yn gwaeddi o herwydd llâdd Israel, dywedodd yr Arglwydd wrtho, anwiredd tŷ Israel a Judae sydd fawr tros ben, a llawn yw y tîr o gamwedd, wele fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf. A gair yr Arglwydd a ddaeth atto ef drachefn gan ddywedyd, Ezec. 14.13, 14. Hâ fâb dyn pan becho gwlad i'm herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymmaith o honi ddyn ac anifail; pe byddei yn ei chanol y trywyr hyn, Noah, Daniel, a Job, hwynt hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid en hun yn unig medd yr Arglwydd. 1 Sam. 2.30. Ey anrhydeddwyr a anrhydedda fi medd yr Arglwydd, am dirmygwyr a ddirmygir. Oh Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd, derchafwn ein calonna [...], Galarnâd. 3.40, 41. a'n dwylo at Dduw yn y ne [...]oedd. Onid oes ynofi y peth oedd yn yr apostol i ddywedyd mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddiwrth Grist dros fy mrodyr; Rhuf. 9.3. Etto gallaf ddywedyd [Page 177] o'm holl galon gyda'r apostol mewn lle arall, Phil. 1. — hiraethus wyf am donoch oll i fod yn ymyscaroedd Jesu Grist.
Yma o ran gwylder y gorphywy swn yn ewyllyscar fel un a ddelei o'r môr ir porthladd, oni bae fy mod i yn gweled gymaint mynyddoedd o yscelerder yn ymgodi yn erbyn Duw yn yr escobion a'r eglwyswyr o'n urdd ni. Y rhai sydd raid i mi eu llabyddio â cheryddon caledion, fel y byddont fcirw i bechod, a byw i Dduw, ac na byddwyf euog o dderbyn wyneb. Ond dymunwn nawdd y rheini, buchedd pa rai yr wyfi nid yn unic yn ei ganmol, ond yn ei gyfrif yn well na holl olud y byd, ac yn deisyf bod yn gyfrannog o honaw. Y mae gan Prydain offeiriadau annoeth, a llawer o weinidogion digy wilydd, a elwir yn fugeiliaid, a nhwy yn fleiddiaid parodol i ládd eneidiau; yn rhag-ddarbodi iw boliau eu hunain, ac nid i leshâd y gwerin. Yn Rhoddi esamplau o'r gwaethaf drwy ddrwg foddion, heb argyhoeddi'r bobl ou pechodau, o herwydd eu bod nhwy eu hunain yn euog o'r unrhyw. Yn trais-feddiannu Cadair Pedr, ac yn haeddu un Judas fradwr. Yn edrych â golugon sarrug ar y cyfiawn tlodion fel ar nadroedd, ac yn perchi yr anwiriaid cyfoethogion fel angylion; yn fudion, ac yn anfedrus ynghylch ordinhâdau 'r Apostolion, ond yn gyfarwydd ar achosion bydol. Yn ymdreiglo mewn brunti pechodau annoddef; heb fod ganddynt deilyngdod athrawaidd, ond yr henw yn unig. Yn anaddas i neb rhyw râdd eglwysig, yr hon ni ddylai neb ei chymeryd, ond rhai Sanctaidd, perffaith, a dilynwyr yr apostolion, a diargoedd, 1 Tim. 3, 2. i ddywedyd yngeiriau [Page 178] athro 'r cenhedloedd. Pa fodd y gall y rhai nid ydynt gydnabyddus â ffydd, ac ni chymerasant edifeirwch am eu pechodau, ymgodi i urdd eglwysig heb gyssegrledrad? Pan gaffont yr oruchafieth ymgryfhânt mewn chwantau cybydddod a thrythyllwch, heb neb a lefaso annod iddynt na'u hanwireddau hèn, na'r newydd. O bobl anhappys, oni ddiengwch rhag y bleiddiaid rheibus hynny, fel y gwnaeth Lot oddiwrth gafod tanllyd Sodom? a chwi ddeillion, os y'ch arweinir gan y deillion, Math. 15.14. Syrthiwch ynghyd i ffôs uffern. Gwn nad yw'r escobion a'r henuriaid oll wedi eu diwyno â balchder, ac aflendid, eithr bod rhai yn ddiwair, ac yn dda; etto cospwyd Eli â'r un fath farwolaeth a'i feibion, 1 Sam 2.22.24. er nad ydoedd ef ei hun yn treisio aberthau'r Arglwydd. Pa un o honynt fel Noah a ommeddodd ollwn gelynion Duw ir Arch, yr hon yn awr yw'r eglwys? fel y dangosid, na ddylai neb ond y diniwed, a'r gwr edifeiriol fod yn nhŷ Dduw. Pwy a gassâodd gynnulleidfa y drygionus, Psal. 26.5. a chydâ 'r annuwolion nid eisteddodd? pwy sydd yn bendithio yn unic y rhai a waredant y cyfiawn, Gen. 14.18. ac ni chwenychant eiddo arall, fel y gwnaeth Melchisedech? Pa un fel Esai y glanhawyd ei wefusau â thân yr allor, wedi ei gyffes ostyngedig? Psal. 6, 7, 8. Pa un o honoch chwi y rhai ydych yn cyffio yn yr eisteddle weinidogaethol, wedi eich bwrw allan o gyngor yr anwiriaid, a ch curo fel yr apostolion Sanctaidd, Act. 5.34.40. a gyfrifwyd yn deilwng i ddioddef ammarch o achos Crist, y gwir Dduw? Ar ol rhwymau, carcharau, a llongddrylliddau, a gwialennodiau, a pheryglon lladron, llifddyfroedd, 2 Cor. 11. [...], 26, 2 [...]. cenhedloedd, Juddewon, a gau apostolion, ar ol newyn, ac ympryd, ac anhunedd, a gofal tros [Page 179] yr eglwysi, a llafur yn pregethu'r efengyl, fel y llestr etholedig. Pa un o honoch chwi fel y merthyr Sanctaidd Ignatius escob Antiochia, ar ôl gweithrediadau rhyfeddol yn-Ghrist; er ei dystiolaeth ef y falwyd gan lewod? wrth glywed ei eiriau ef pan dducpwyd ef i ddioddef, ni thybiwch eich hunain yn Gristianogion canolig, chwaethach gweinidogion mewn cyffelybieth iddo ef. Canys dywed yn y llythyr a anfonodd ef at eglwys Rufain; Yr ydwyf yn ymdrechu ag anifeiliaid ddydd a nôs O Syria hyd Rufain, ar fôr ac ar dîr, a dêg o lewpardiaid sef milwyr yn fy ngwilied, y rhai a ymgreulonant wrth fy nghymwynâsau, ond dyscir fi yn fwy wrth eu di-hirwch hwynt, ond ni'm cyfiawnheir wrth hyn. Pa bryd y daw'r bwystfilod iachusol y baratowyd i mi? pa bryd y gollyngir hwynt? pa bryd y bwyttant fy nghnawd i? os arbedant fi, fel y gwnaethant â rhai, mi ai cymmellaf hwynt i'm llyncu: myfi a ymhyrddaf fy hun arnynt hwy. Rhoddwch genad i mi, gwn beth sydd oran ar fy llês, yn awr yr wyfi yn dechreu bod yn ddyscybl i Grist: ymmaith â gwŷn ddynol, fal y byddwyf deilwng i gaffael Jesu Grist. Gosoder arnafi bob cospedigaeth allo'r diafol ei ddychymyg; y tân, y groes, anifeiliaid, tyniad fy escyrn, drylliad fy aelodau, am y byddwyf deilwngi fwynhâu Jesu Grist. Pa un o honoch chwi fel Polycarpus bugail Eglwys Smyrna, a hiliodd y bwrdd yn addfwyn ir rhai oeddent yn ei gyrchu ef ir tân er cariad Crist? ac a ddywedodd y rhoddid iddo allu goddef angerdd y tân yn ddiyfcog heb ei hoelio wrtho. Pa un o honoch chwi y gadwodd y rheol apostolaidd mewn cythrybliadau Gormesdeyrn, sef y dylid ufuddhâu [Page 180] i Dduw yn hytrach nag i ddynion. Act. 4.19. Am hynny gwrandewch ymadroddion ein Arglwydd, a'i brophwydi yn erbyn bugeiliaid diog, anonest, ammherffeth, fel i'ch piger au picceliau hwynt er mwyn eich iachau. Condemnwyd Eli yr offeiriad yn Silo, eisieu iddo mewn Zêl Duw iawn ger [...]ddu ei blant, y rhai a laddwyd yn yr un diwrnod. Ac os digwydd y fath bethau ir rhai a geisiant amendio eu deiliaid â geiriau heb gôsp, beth y wneir ir rhai sydd yn tynnu eraill i ddrwg, [...] ac yn eu hannog? Medd Esay, yr Arglwydd sy yn sefyll i farnu y bobloedd. Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl au tywysogion. Canys chwi a borasoch y winllan, [...] 2, [...], 24. anrhaith y tlawd sydd yn eich tai. Yr offeiriaid y gyfeiliornasant drwy ddiod gadarn, [...] 10. 5. 18 y byrddau oll sy lawn o chwdfa, a budreddi heb lè glân. Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd ddynion gwatwarus; llywodraethwyr y bobl hyn y rhai sydd yn Jerusalem, am i chwi ddywedyd gwnaethom ammod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gyngrair: pan ddêl ffrewyll lifeiriol ni ddaw attom ni, Canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom. Y cenllysc a yscuba noddfa celwydd, a'r dyfroedd a soddant y lloches: A diddymir eich ammod ag angau, a'ch Cyngrair ag Uffern ni saif; pan ddèl y ffrewyll li [...]eiriol, byddwch yn sathrfa iddi. A thrachefn medd yr Arglwydd, o herwydd bod y bobl h [...]n yn nessau attaf â'u genau, ac yn fy anrhydeddu i â'u gwefusau, a phellhâu eu calon oddiwrthif; am hynny wele fi yn chwanegu gwneuthur yn rhyfedd ymmysc y bobl [Page 181] hyn, sef gwrthiau a rhyfeddod. Canys difethir doethineb eu doethion hwynt, Esai. 29.13, 14. Jer. 2.8, 9. a deall eu rhai deallgar hwynt a ymguddia. Gwrandewch beth y ddywed y prophwyd Jeremi wrth y bugeiliaid annoeth, yr offeiriaid ni ddywedasant pa lê y mae 'r Arglwydd? a'r rhai sy yn trino y gyfraith nid adnabuant fi; y bugeiliaid hefyd a droseddasant im herbyn, oblegyd hyn mi a ddadleuaf â chwi etto medd yr Arglwydd, pen. 5.30.31. ie dadleuaf â meibion eich meibion chwi. A pheth erchyll y wnawd yn y [...]ir, y prophwydi a brophwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd ai canmolant, a'm pobl a hoffant hynny: etto beth a wnewch yn niwedd hyn? Wrth bwy y dywedaf, a phwy a rybuddiaf fel y clywant? wele eu clust hwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, ac ni dderbyniant ef. pen 6.10.12, 13. Canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlâd medd yr Arglwydd: oblegyd o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod, ac o'r prophwyd hyd yr offeiriad pob un sydd yn gwneuthur ffalster. cynorthwyant ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddiwrth ei ddrygioni. Gwnaethpwyd hwynt oll i mi fel Sodoma, ai thrigolion fel Gomorrah. Am hynny fel hyn y dywed ein Arglwydd wrth y prophwydi, wele mi ai bwydaf hwynt â wermod, ac ai diodaf hwynt â bustl. Canys dywedant wrth fy nghablwyr bydd i chwi heddwch, ac wrth bob un sydd yn rhodio yn ôl anwiredd ei galon ei hun ni ddaw arnoch niwed. pen. 23.14, 15, 17.19, 20. Wele Corwynt llidiawgrwydd yr Arglwydd aeth allan, a themestl angerddol a syrth ar bennau y drygionus, digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo gwplâu [Page 182] meddwl ei galon. Joel Sanctaidd hefyd wrth gynghori yr offeiriaid esceulus, a galaru am golled y bobl o herwydd eu pechodau, a ddywedodd, deffrowch feddwyr, ac wylwch, ac udwch holl yfwyr gwîn, canys torrwyd hyfrydwch oddiwrth eich mîn. Joel. 1.5. ŵyled yr offeiriaid gweinidogion yr Arglwydd, a dywedant, arbed dy bobl o Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt, pen. 2.17. fel na ddywedont ymhlith y bobloedd pa lê y mae eu Duw hwynt? Ond ni wrandewch chwi ar y pethau hyn, ond ar y pethau a ddigiant Dduw yn fwy. I chwi y perthyn gair yr Arglwydd yn Amos, Caseais a ffieiddiais eich gwyliau; ac nid aroglaf yn eich cymmanfâoedd. Canys er i chwi offrymmu i mi boeth offrymmau, Amos 5.21, 22. ac pen. 8.11.12. a'ch offrymmau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt. Canys wele yr dyddiau yn dyfod medd ein Arglwydd, yr anfonef newyn ir tîr, nid newyn am fara, na syched am ddwfr, Llwyr y cyflawnwyd hyn yn-Ghymru. ond am wrando geiriau'r Arglwydd. A hwy a wibiant o'r gogledd hyd y dwyrain i geisio gair ein Arglwydd, ac nis cânt. Ac medd Micah. Llefant ar yr Arglwydd, ac nis ettyb hwynt, efe a guddia ei wyneb oddiwrthynt y pryd hwnw, Mic. 3.4.6. fel y buont ddrwg yn eu gweithredoedd. Yr haul a fachluda ar y prophwydi, a'r dydd a ddua arnynt.Ac medd Zephaniah. Zeph. 3, 4, 5. Offeiriaid Jerusalem a halogasant y cyssegr, gwnaethant yn Sceler yn y gyfraith. Yr Arglwydd cyfiawn a ddwg ei farn i oleuni yn foreu. Ac yn Malachi, Mal. 1.6, 7, 14. Chwi offeiriaid y rhai ydych yn dirmygu fy enw, wrth offrwm ar fy allor fara halogedig, melltigedig yw y twyllodrus, medd [Page 183] Arglwydd y lluoedd. Ac yn Ezeciel, Ezec. 13.18. ac pen. 22.26. "Gwae y wniant glustogau tan holl benelinoedd i ddymchwelyd eneidiau. Ei hoffeiriaid a ddirmygasant fy nghyfraith, ac a halogafant fy mhethau Sanctaidd: ni wnaethont ragor rhwng cyssegredic a halogedic, ac ni wnaethont wybod rhagor rhwng yr aflan a'r glan. Cuddiasant hefyd eu llygaid oddiwrth fy Sabbothau. Gwelwn beth y ddywed gwneuthurwr ac achubwr y bŷd; chwi yw halen y ddaiar, eithr o diflasodd yr halen â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim, onid iw fwrw allan, ai sathru gan ddynion. Chwi yw goleuni y bŷd. Math. 5.13.14.19. Ond pa un o offeiriadau yr oes hon sydd yn gyrru ymmaith dywyllwch? ie oni wnaeth en pechodan dûon hwynt y fath nôs niwlog drwy'r holl ynys, ac a beriff i bawb agos golli'r iawn ffordd: Pwy bynnag a doro un o'r gorchmynion lleiaf, ac a ddysco i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd. Pa un o honoch sy'n ystyried y peth a ganlyn? sef, pa fodd y dywedi wrth dy frawd gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad, ac wele drawst yn dy lygad dy hun? Mat. 7.4.6 na roddwch y peth sy Sanctaidd ir cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y môch. Gwae chwi ragrithwyr sydd yn cau teyrnas nefoedd, Lu. 11.5 [...] nid ydych yn myned i mewn eich hunain, nac yn gadel i eraill fyned i mewn; gwaed pa rai a ofynnir ar eich dwylo chwi yn nŷdd y farn. Dylai pob dyscawdwr debygu i Paul, yr hwn nis gallai dim ei wahanu oddiwrth gariad Crist, na gorthrymder, nac ymlid, na chleddyf. Rhuf. 8, 35. ond yr ydych chwi yn goddef llawer er mwyn gwneuthur drygioni, a digio Crist. Darllenwyd i chwi wrth dderbyn urddau, chwychwi ydych [Page 184] rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, 1 Pet. 2.9. pobl briodol: fel y mynegoch rinwedda [...] yr hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch iw ryfeddol oleuni ef. Ond nid ydych chwi yn unic heb fynegi rhinweddau Duw, eithr yn peri ic angh [...]edadwy eu dirmygu drwy eich drwg fucheddau chwi. O elynion Duw, ac nid ei offeiriaid ef! o fradwyr ac nid dilynwyr yr apostolion Sanctaidd; gwrthwynebwyr Crist, ac nid ei weinidogion. Gellid rhoi i chwi senn glaiarach, ond ni lesnâ teimlo briw pwdr yn esmwyth, y bo rhaid ei serio â thân. Clywsoch hefyd y rhaid ir diaconiaid fod yn honest, 1 Tim. 3.8, 9. nid yn ddau eiriog, nid yn ymroi i wîn lawer, nid yn budr elwa: ond yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bûr. Ond troir hyn yn y gwrthwyneb, gan fod y gwŷr [...]glwysig yn anonest, yn ddau eiriog, yn feddwon, yn budr elwa, yn dala anffyddlondeb mewn cydwybod amhur. Clywsoch hefyd yn y dydd hwnw, (pryd y buasai unionach eich llusco chwi i garchar i'ch cystwyo, na'ch gollwn ir offeiriadaeth) ir Arglwydd ddywedyd wrth Pedr am ei gyffesse, Math 16, 17, 18. Gwyn dy fŷd ti Simon, canys nid cîg a gwaed a ddatcuddiodd i ti hyn, ond fy Nhâd. ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys. Ond yr ydych chwi yn gwadu Crist a'ch gweithredoedd yn lle ei gyffessu ef. Math. 7.26. Hosh. 8.4. Ac ni chydweithia Duw â chwi i adeiladu ar y tywod, yn ol y gair, hwy a wnaethont frenhinoedd ac nid trwofi. Addawyd i bob gweinidog Sanctaidd, Pa beth bynnag a rwymech ar y ddaiar, a sydd rhwymmedig yn y nefoedd, a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd. Ond pa fodd y rhyddhewch chwi beth, fel y byddo wedi ei ryddhâu yn y nefoedd, a chwi [Page 185] eich hunain wedi eich cau allan o'r nefoedd am eich pechodau? a chwedi eich gefynnu â rhaffau anfad anwireddau; â rhaffau ei bechodau y rhwymir pob un. Dihar. 5.22. Pa fôdd y rhwymwch beth ar y ddaiar mal y byddo rhwymedig uchod, a chwithau wedi eich attal gan eich pechodau, fal nas galloch escyn i fynu, eithr descyn ir carchar uffernol? Ceisiwch un astyllen edifeirwch ar ol llong-ddrylliad, fel y diangoch i dîr y rhai byw; ac y troer oddiwrthych ddigofaint yr Arglwydd: yr hwn a ddywed yn drugarog, nid wyf yn ewyllysio marwolaeth pechadur, ond yn hytrach iddo droi a byw. Yr Holl-Alluog, Duw pob diddanwch a thrugaredd, a gadwo yr ychydig fugeiliaid da oddiwrth bob niwed, ac ai gwnelo yn freiniol o ddinas caer Salem nefol. Ir Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân y byddo gogoniant yn oes oesoedd Amen.
PEN. XVIII. Llygredigaeth a chystudd Cymru.
WRth a draethwyd y gwelwn gael o'r Britaniaid yr unrhyw rybuddion, ac y gafas yr Israeliaid gynt o flaen eu caethiwed, ac ynghylch yr un môdd y gwrthodasant hwynt, ac ynghylch yr un fâth gystudd a ganlynodd; ac nid heb ei haeddu. Yr achos amlwg o'u destryw ydoedd hollhawl bechadurieth pob grâdd ar ddynion, Sef barnwyr, eglwyswyr, a chyffredin. A'r ymlygriad a fagodd oddiwrth ymbleidiau yr Arriaid a'r Morganiaid. 1 Tim. [...].3, 4. Pan gymerodd ymddadlau [Page 186] opiniwnus lè pregethau iachus parasant lîd yn lle duwioldeb. Aml ryfeloedd hefyd a ostegasant gyfreithiau dinasol ac ysprydol; ac a wnaethant bechaduriaid yn hyfach: a ffrwythlondeb y tîr au gwnaeth yn wresoccach. Y Britwn fel Jeshurun a aeth yn frâs, Deut. 32. [...]5. ac a wingodd, pwyntiodd, yna efe wrthododd Dduw yr hwn ai gwnaeth. Am hynny cafodd ei gystwyo, a chollodd y wlâd a halogodd. Ac ni wnaeth Arglwydd y winllan mor cam fwrw allan denantiaid anniolchgar. Yr hwn yn ei ddoethineb ai gyfiawnder a ganhiadodd ir un fath bêth ddigwydd mewn llawer o wledydd eraill ynghylch yr un amser, gan laccio ffrwyn cenhedloedd y gogledd; y rhai oeddent bôb amser pan lanwent eu gwledydd oerion eu hunain, yn deirion am ymhyrddu i leoedd cynhesach. Heidient am bennau rhai eraill, pan lenwent eu cychod eu hunain. Y cyfryw oedd y Phichtiaid y ddaethant ir Albain, Y Gothiaid ar Fandaliaid a ymgyrchasant ir Ital, A'r Affric, a'r Hispaen ychydig cyn yr amser hwn: a'r Lwmbardiaid a brefwyliasant yn yr Ital. A'r Ffranconiaid ynghylch hyn a arhosasant yn Gallîa, ac ai galwasant hi Ffrainc. Ac ychydig wedi hyn daeth y Twrciaid a'r Tartariaid i gymeryd meddiant o'r gwledydd gorau yn yr hollfyd, Sef Asia leiaf, Arabia, yr Aipht, a Syria. Ymhob oes torrodd Duw genhedloedd pechadurus i lawr fel glaswellt: Psal. 37.2, 38. a hynny iw ymddiffyn ei hun ai anrhydedd yn erbyn pechaduriaid afreolus. Pan addfedeu eu hanwireddau trosseddwyr a gyd ddestrywid; Weithiau drwy'r elfenau, sef drwy ddwfr yn amser Noah, a thrwy dân yn amser Lot: Weithiau drwy ddynion, megis y Cananeaid yn amser Joshua; a'r Israeliaid [Page 187] drwy'r Assyriaid, ar Caldeaid. Ie yn y Cynfyd pan oedd llawer o'r ddaiar yn wâg, a digon o lê i bobl i fyw wrth ystlys eu gilidd, etto difethodd meibion Esau yr Horiaid a thrigasant yn eu llê hwynt. A'r Ammoniaid a ddifethasant y Zamzumiaid, ac a drigasant yn eu llê hwynt. Deut. 2.12.21.23. A'r Caphtoriaid a ddifethasant yr Afiaid. y môdd cyntaf difwynwyd y ddaiar gyd a'i thrigolion, ond yr ail môdd digwyddodd dialedd i bobl yn unig: a bu'r tîr diangol, fel y rhoddai gynhaliaeth i genedl arall y brifiai dros drô yn ufuddach iw Duw.
Yr achlysur o wanhychiad ein gwlâd ydoedd rheoliad y Rhufeiniaid arni a'u hymadawiad hwy o honi i ddiffyn yr Ital. Megis mewn dychryn pan gilio'r gwaed o'r wyneb a'r aelodau at y galon iw diddanu hi, digwydd glesni a llescedd ynddynt hwy. Ni adawodd ei hen feistraid fawr o'u hôl, ond amryw eiriau Ladin yn gymyscedig â'n iaith ni. Aphlanniad y Britaniaid yn Llydaw a eiddilodd lawer ar eu cenedl gartref: ac au cymwysodd i dderbyn yr un mesur gan y Saeson, Math. 7.2. ac y roddasent hwythau ir Letafiaid. Anghydfod y penaethiaid hefyd a agorodd adwyau i ollwn aflwydd ir ynys. Pan aeth Fortigern duwc Cerniu yn frenin drwy frâd gwaedlyd, rhoddodd fwy ymddiried yn y Saeson y gyflogasai, nag yn ei ddeiliaid ganedigol. Gorfu ir brenin Arthur ryfela â'i wladwr Melfas tywysog gwlâd yr hâf, i ddial trais ei frenhines Gwenhwyfar. A chwedi iddo ynnill deuddeg brwydr oddiar y Saeson, trwy anfodlonrwydd ei nai Modred cafodd ei farwolaeth: a chydag ef Syrthiodd llwyddiant ei genedl; a'r deyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddwyd Hefyd tra yr oedd Prydain yn wan, Math. 11.25. yr [Page 188] oedd hi yn brydferth; a'i glendid y barodd i gymaint o ddieithraid ei threifio hi. Ni chafodd lonydd gan yspeilwyr wrth fod ei thîr mor gyfoethog. Ffrwythlond [...]b y pren afalau y wnaiff ergydio cymmaint o basty nau atto, yn enwedig os bydd heb gae yn ei gylch. Job. 1.10. Aeth ei hymddiffynfeydd fel ffigyswydd â'u blaenffrwyth arnynt, pan yscydwyd hwynt, Nahum. 3.12. syrthiasant yn safnau y bwyttawyr. Pe buasai yn addoli Duw yn ddyladwy, ni chawsai neb chwennych moi thîr, Exod. 34.23, 24. er anamled ei gwr-rywiaid: ac os buasai rhuthr iddi, creuasai'r Arglwydd amddiffyn ar ei holl ogoniant. Ond wedi iddi ddigio Duw, Esai. 4.5. aeth ei golud hi yn obrwy ir Sawl ai Lladdent hi. Esai. 5.2.5, 6, 7. Plannasei'r Arglwydd winllan (Sef ei eglwys) ynddi, a disgwiliodd iddi ddwyn grawnwîn o weithredoedd grafol, a hitheu a ddûg rawn gwylltion o foesau drwg: Sef trais yn llê barn, ac yn llê cyfiawnder gwaedd. Am hynny tynnodd ymmaith ei chae amdiffin fel y porid hi, a thorrodd ei magwyr fel y byddai yn Sathrfa: a gosododd hi yn ddifrod, ac i'r cwmylau y gorchymynnodd na lawient law arni, gan attal oddiwrthi neu brinhâu ei ordinhâdau a moddion grâs. Cyn pen nemawr ar ôl yscrifen Gildas bu agos i blâ a elwid y yn rhywle gelwir hi y Gall Felen. Fall felen a dibennu gweddillion y Britaniaid: y rhai wedi hynny a gollasant Gaerloiw, a'r Bath, a'r cwbl o orllewin Lloegr, oddieithr Cerniu. A delèodd y Saeson y grefydd Gristnogol, Oed. Cri. 586. a throefant yr Eglwysydd yn demlau eulynnod Paganaidd, drwy eu harglwythiaethau oll.
Er i Awstin y monach, a phregethwyr eraill ddyfod o Rufain, a throi llawer o'r Saeson at broffesse y grefydd Gristnogol; etto ni cha [...]odd y cymru fawr esmwythâd, o herwydd na chynorthwyent [Page 189] bregethiad yr efengyl ir Saeson, ac na dderbynient ddefodau Eglwys Rufain, oeddent wedi amlhâu y pryd hwnw. Yn enwedig cythrybliodd y ddadl loerig (sef pa ddydd o'r lleuad y cedwid y pâsc) lawer ar y Britaniaid a'r Gwyddelod. Dilynai ein cenedl ni arfer yr Asiaid, a chadwai 'r Gwyddelod yr un tymhorau ac oedd arferol ymmysc eglwysydd y Gorllewin, a Rhufain yn amser Padrig. Ond talm gwedi sef yn y chweched oes, newidiodd eglwys Rufain ei harfer gyntaf i ddilyn defod Alecsandria, a chymerth boen i droi eraill i gydffurffio â hi. Ynghylch hyn gorescynnodd y Saeson Gaerlleon ar Ddwfrdwy, a lladdasant un cant ar ddèg o fynych Bangor îs y coed. Ond rhwystrodd Brochwel tywysog Powys iddynt ddyfod tros Ddwfrdwy, nes i Cadfan brenin Gwynedd, a Bledrus tywysog Cerniu, a Meredyth brenin Deheubarth ddyfod iw swccwr ef. Pryd yr ymladdasant a'r Saeson, Blwydd. yr Argl. 617. ac a laddasant o honynt fwy na mîl, a gyrrasant y lleill i ffoi, a dialwyd arnynt waed y mynych. Ynghylch blwyddyn yr Arglwydd chwe chant a phedair a thrugain, amser hâf, digwyddodd tywyllwch mawr oddiwrth ecclips ar yr haul; ar ol hynny gwelwyd y nefoedd yn danllyd, ac yn nechreu'r Cynhaiaf gwnaeth plâ tra marwol ddifrawd angerddol ar drigolion Prydain a'r Jwerddon. Ond arbedodd y plâ hwn a'r fall felen y Pictiaid a'r Scotiaid yn yr Albain, er iddynt fod yn dôst wrth y Britaniaid. Cydnabyddwn ddoethineb, a daioni, a chyfiawnder Duw, yn ei farnedigaethau ar ein henafiaid ni. Canys gadawai gryn ennyd rhwng y dyrnodiau y roddai iddynt, fel y caent amser i ystyried eu ffyrdd, ac i droi oddiwrth eu [Page 190] hanwireddau er y naill gerydd, cyn dyfod y llall. Ac felly y gwnaeth ef ar Israeliaid pan ddygn ddigiodd ef wrthynt, gan adel caethiwo Samaria yn gyntaf, ac ymhen talm o flynyddoedd gwedi, [...] Bren. [...].9. ac pen. 24.11. ac pen. 25.4. y caethiwyd Jerusalem ar ddwy waith neu dair, a'r cystydd olaf fyddai drymmaf. Wedi i weddillion y Britaniaid lynu encyd mewn dalfau yng-ogledd Lloegr o Cumberland. Cumbria i Glascu rhwng y Saeson, a'r Pictiaid, megis rhwng y rhisc a'r pren; ynghylch y flwyddyn o oedran yr Arglwydd saith gant a thrugain, y mosododd eu gelynion o'u dautu i warchae ar ddinas Alcluid, lle gwnaethant ymroad iddynt drwy guttundeb. A chan eu bod fel ŷd rhwng dau faen melin, aethant yn wynn wrth eu dryllio, a rhoddasant eu brŷd ar wasanaethu Duw yn fanylach, ac amlhâsant yn y monachlogydd. Ac er iddynt gadw eu crefydd, collasant eu biaith, canys Saesonaec a sieryd y Cumbriaid yn awr. Yn yr un oes cyfyngwyd ar Gymru hefyd. Canys gwnaeth Offa Sais, brenin Mersia, glawdd mawr dwsn o fôr i fôr, yn derfyn rhwng Cymru a lloegr. Bl. yr Arg. 777. Y pryd y cwttogwyd terfynau Powys a deheubarth. Yr ydoedd Cymru wedi ei rhannu yn dair talaeth; sef Gwynedd, ac yn Aberffraw ym Môn yr oedd llŷs y tywysog; a Deheubarth, ac yn Ghaer Fyrddin a Dinfawr y cartrefai'r tywysog: a Phowys, ac yn Mathrafal y Preswyliai'r tywysog, wedi colli'r Mwythig. Tywysog Gwynedd oedd bennaf, a'r ddau eraill i dalu teyrnged iddo ef. A gorfu i Gerniu fyned dan jau'r Saeson.
Ynghylch oes gwr gwedi teyrnasodd Alfred yn Lloegr. Anfonodd ef i Gymru am ddau ŵr dyscedig iw hyfforddi ef i Seilio yscolion yn Rhydychen; [Page 191] Sef Asser, ac Joan D'erigena o Fynyw: yr hwn wedi iddo ystudio gartref, a aethai ir Athen i gael ychwaneg o gydna byddiaeth ag yscolheictod, a phan ddychwelodd ef adref, Bl. yr Arg. 872. cyrchwyd ef a [...] Alfred i ddechreu dysceidiaeth yn Rhydychen. yr Alfred hwn a drôdd gyfreithiau Dwfnwal Moelmut brenin Prydain o'r Gymraeg ir Saesonaeg, ac ai gosododd yn rheol iw ddeiliaid mewn rhan o Mersia, o'r tu dehau ir Teames, a pharhâodd hynny hyd amser Edward y Cyffesswr.
Ynghylch wyth mlynedd a thrugain gwedi hynny y rheolodd Howel dda Gymru oll. Ac am ei fod ef yn ŵr crefyddol, Blwyddyn yr Argl. 940. ac yn ceisio gwellhâu ei wlâd, casclodd ynghyd eglwyswyr a Phendefigion cymru i ddiwygio 'r gyfraith, gan ddiddymu pethau afreidiol, ac esponi pethau ammheus, a chadernhâu pethau iachus. Y mae ei gyfraith ef iw gweled etto yn Gymraeg, ac yn Ladin, a bu mewn grym drychant a deugain o flynyddoedd, nes dwyn y Cymru iw rheoli wrth gyfraith Loegr.
Wedi ir Normaniaid gwncwerio Lloegr, a chael tiroedd pennaethiaid y Saeson, blysiâsant Gym [...]u hefyd, a chymerasant bob âchlysur i ymhyrddu iddi. Yr hyn fu haws iddynt ei wneuthur, o herwydd yr ymrysonau cenfigenus oedd rhwng y blaernoriaid Cymreig yn eu mysc eu hunain. William Rufus. Yn amser Gwilym Gôch cyflogodd Jestyn Arglwydd Morganwg weision y brenin iw gynnorthwyo ef i ryfela yn erbyn tywysog Deheubarth; yr hyn a wnaethant hwy yn gefnog, 1091. gan lâdd y tywysog ac Jestyn hefyd, a chymeryd ei arglwyddiaeth ef iddynt eu hunain, yr hon a ddaliasant hwy, a'u etifeddion rhag llaw. Ynghylch [Page 192] yr un amser ynnillodd y Normaniaid Arglwyddiaeth Brecheiniog, a meddianasant y wlâd. yr un môdd y gwnaethant a Dyset, sef Swydd Penfro, ac Aberteifi, a Phowys, a Rhywonioc, a Tegengl, a glan y môr o Gaer lleon ar Ddowrdwy i Gonwy, gan eu gorescyn â'r cleddyf, ac adeiladu cestyll iw preswylio'n ddiogelâch. Ond nid allai'r Cymry oddef y gormesiaid; am hynny yn synech cyfodasant mewn arfau iw gyrru ymmaith. Yr hyn a gyffrôdd y brenin William Rufus i ddyfod yn eu herbyn â'i holl allu ddwywaith yn filain; a gwaeddodd y gorthrummedig ar Dduw yn daer, ac a gawsant eu gwaredu na lwyr ddifrodwyd hwynt. Er hynny anghofiant law Dduw drachefn, ac yspeilia 'r penaethiaid eu gilidd yn ddichellgar, ac yn waedlyd, a threisiant wragedd. Ac wrth glywed eu bod mor afreolus, tyngodd y brenin Harry y Cyntaf o'r henw, nas gadawai un byw yn Gwynedd, na Phowys, heb eu llwyr ddiffetha: a bwriadodd ddwyn pobl eraill i gyfanneddu yn eu llè hwynt. Ir pwrpas hwnw cyfododd holl allu Lloegr, Blw. yr Argl. 1113 a'r Albain, a gosododd allan dair b [...]ddun ar un-waith yn erbyn Cymru. un tua'r Deheubarth, a'r llall tu [...] Gwynedd dan law brenin yr Albain, a'r drydydd y arweiniai'r brenin ei hun. Ond-ymgasclodd y Cymbry ir creigiau a'r coedydd, ac ymgadwasant nes iddynt heddychu â'r brenin. Ond wedi ei farw ef, yn amser y brenin Stephen rhoddasant gais ar guro 'r dieithriaid allan o'u gwlâd, gan lâdd o honynt dair mil mewn brwydr dôst. Daeth y brenin Harny yr ail â byddyn grêf yn eu herbyn nhwy yn dra-llidiog, a gwersyllodd ar fynydd Berwyn. Ymgasclodd [Page 193] y Cymru ynghŷd ir coedydd a'r uchelderau, a chwaraesant oddiy no mor ddyfal nad allai dim llunieth ddyfod at wersyll eu gelynion. A fyrthiodd glaw mor angerddol, oni ymroddodd y brenin i ddychwelyd tua Lloegr heb wneuthnr fawr niwed. Yn amser y blinderau hyn mentrodd Madog, un o feibion Owen tywysog Gwynedd, 1166. i geisio gwlad arall ar amcan hyd y môr mawr tua machlud haul: a chwedi gweled gwledydd hyfryd heb drigolion, dychwelodd adref, a llanwodd ddêg o longau a'r cyfryw oi genedl ag ydoedd chwanog i fyned lle caent heddwch; 1170. a thybir iddynt wladychu yn Mecsico. O herwydd pan ddatcuddwyd America ir Europeaid yn yr oes ddiweddaf aeth heibio, cafwyd yno eiriau Cymreig. Canys pan ymddiddanont ynghŷd dywedant wrth eu gilidd, gwrando, ac y mae yno aderyn brith a chraig y alwant Pengwyn, ac ynys a elwir Corroeso, a Phen Briton; ac afon elwir Gwyndor.
Er maint oedd helbul Joan brenin Lloegr oddiwrth y Pâb, a'r Arglwyddi; etto cymerth hamdden i ddyfod ddwy waith tua Gwynedd â thorfoedd mawrion. Ond Cadwodd Llywelyn ap Jorwerth y tywysog ei bobl, 1211. a'u da yn yr eryri, nes cyttuno â'r brenin, gan roddi iddo Swydd y fflint, ac ugain mil o gattel. Ond pan welodd Llewelyn fantais gwrthry felodd eilwaith, ac ynnillodd y Mwythic. A lloscodd y brenin tebyg cennif mai henw yr drêf yw Croes syll Allt. oddiwrth y syllau, sef cloddiau yr hên ddinas ar allt. Groesoswallt, a thalm gwedi, lloscodd y tywysog hi hefyd. Cyfododd yn Ghymru benadur dewr ar ei ol ynteu, sef Llewelyn ap Gryffyth, ac a geisiodd fwrw ymmaith iau'r Saeson, ac a gadwodd y maes â dengmil o wŷr, gan guro ei elynion yn fynech. Yn ei amser ef hi lawiodd [Page 194] waed yn amryw fannau yn-Ghymry, ac ymhen pum mlynedd gwedi lladdwyd y tywysog Llewelyn, 1282. Galarnad. 3.9. a darfu i frenin Lloegr sef Edward y Cyntaf lwyr ddarostwng y Cymbry, a gosod dieithraid a [...]nynt iw cystwyo; â chaeodd eu ffyrdd a cherrig nâdd, gan adeiladu cestyll cryfion yn Gwynedd, sef yn Ghonwy, Caer yn Arfon, a Beumaris i lochesu gorthrumwyr. A gosododd ei Arglwyddi yn Nimbech, a Rhuthyn, a llêodd cedyrn eraill ir unrhyw ddiben. A phan dersyscai'r Cymbry lleddid peth echryslon o honynt: ac er hynny ni pheidient â mentro eu bywyd ar bôb achlysur. Yn amser y Wi [...]l [...]fiaid, yr oedd un Cymro nodedig,
A elwid Walter Brute o escobaeth H [...]nffordd, yr hwn oedd ddyscedig, ac yn dyf [...]l gynghori eraill i dduwioldeb, er ei fod yn ŵr llyg. Argyhoeddodd ei wladwyr am swyno drwy eiriau, neu ddwfr bendigaid, Act. 19. [...]. gan ddangos na lesodd enw'r Jesu i feibion Scefa. Eglurodd mor wrthwyneb i Grist oedd yr ymarweddiad gyffredin, gan fod Crist yn gorchymmyn cariad, nid tywallt gwaed, ac i'r efengil ddiddymmu'r desodau cnawdol, a bod y Pâb yn eu hailgosod hwynt i fynu.
Digwyddodd amrafael rhwng yr arglwydd Gray o gastell Rhuthyn, ac Owen Arglwydd Gsyndwfrdwy ynghylch cau mynydd. A Phan safodd ei gymydogion gyda'g Owen, ac ymladd a'r Arglwydd Gray, a'i gymeryd ef yn garcharor, ar hynny o rwydddeb ymgasclodd y Cymbry atto ef o bob parth, gan ei annog ef i ryfela a'r Saeson, a'r hyder bruttiau Merddyn a'r daroganau; i edrych allent ynnill yn ôl drachefn yr hyn a gollasau eu henafiaid. 1400. Ond gwnaeth y gwrthryfel hwnw niwed mawr iddynt. O herwydd wedi eu [Page 195] gorchfygu, aeth y brenin Harri y pedwerydd yn orddig wrthynt, ac yn orthrymwr creulon arnynt: efe a wnaeth eu lleffetheiriau yn drymmach, a'u rhwymmau yn dynnach; Galarnad. 3.7. ac ordeiniodd bethau anrhesymol yn eu herbyn hwy; gan osod cyfreithiau ydoedd yn gwarafun i un Cymbro brynu tîr, na bod yn fwrdes o un drêf farchnad, na swyddog, na gwisco arfau, na chael cyfraith ar Sais ond drwy Justisiaid a chwèst o Saeson: na chadw ei blant at ddysceidiaeth, na'u rhoddi yn brentisiaid i grefft yn y bŷd mewn un drêf yn y deyrnas. Gosodwyd deddfau hefyd na chai 'r Cymbry mor ymgyfarfod ynghŷd i ymgynghori ond yngŵydd y swyddogion seisnig, ac na chaent gadw neb rhyw gastell, nac amddiffynfa. Ac os Sais a briodai Gymraes, gorfyddai iddo golli ei fwrdeisiaeth ai swydd. Nid oedd llafasus chwaith ddwyn dim lluniaeth i Gymry heb genad yspysol y brenin neu 'r cyngor. Y gyfraith yw goleuni gwladwriaeth, am hynny os ydoedd hi yn dywyllwch, oh faint oedd y tywyllwch hwnw? Ma [...]h. 6.23. Amos. 5.7. os rheol llywodraeth oedd anghyfiawn, mawr oedd yr anghyfiawnder hwnw! pan drowd barn yn wermod, aeth trais vn fustl. Tôst oedd y gyfraith, ond tostach oedd anghyfraith y swyddogion milain.
Gwelwn yma mor aflesol fu i'n henafiaid amcanu bwrw cystudd oddiwrthynt cyn troi at Dduw drwy edifeirwch. Prifiodd y gwrthryfel hwn fel un zedeciah, yn achos o gaethiwed Babilonaidd. 2 Bren. 24.20. Darfu ir daroganau eu siomi nhw hefyd. Cnawd i bob cenedl dan orthymder goelio pôb Bruttiwr a'r addawo ryddhâd iddynt. Cresawai'r Israeliaid y prophwydi gwenheithus, ond deuai'r peth yn y [Page 196] gwrthwyneb ir bobl anwireddus. Jor. 28.10. Pan dorrodd Hananiah y gefyn pren, rhoddes Duw yn ei lê iau o haiarn ar eu gwarrau. Dull yr amseroedd Pabaidd hynny, a chystudd, gyda'g hiraeth am warediad, a wnaeth ein henafiaid ni yn dueddol i roi llê i feddyliau ofergoelus. Esai. 29 8. Y newynog a'r sychedig a freuddwydia am lunieth, ond pan deffrò gwâg a deffygiol fydd ei enaid. Pan gafodd y brenin Arthur ei friw marwol aeth i ynys Glassenbury. Wydren iw ddiweddu, er mewn celu ei farwolaeth; rhag llawenychu ei elynion, na digaloni ei ddeiliaid. Am hynny bu ein gwladwyr ni gantoedd o flynyddoedd gwedi, yn tybied na buasai ef farw; ond yn brithgoelio y caent ef eilwaith i lywodraethu arnynt fel y taer ddymunent. A phan aeu tywysogion Cymry â'r mâes oddiar y Saeson mewn dwy frwydr neu dair, ymhyfâent yn aruthr, gan ddisgwyl cyflawni bruttiau 'r prydyddion am gael o'r Britaniaid ail gorescyn yr ynys. A hynny a wnaeth ir Saeson o ran gwawd, wisco coron am ben Llewelyn y dorrasent oddiar ei gorph ef, wrth ei osod ar y tŵr yn Llundain. Ar ol Rhyfel Owen Glyndwfr, parhâodd y caethiwed gorthrwm hwn ar ein cenedl ni drwy yr amser y rheolodd pump o frenhinoedd Lloegr; ac yn ddigon o hŷd er dwyn dygn dlodi, ac anwybodaeth arni. Ac i ddigaloni neu ddiffodd yr hyn o fawrfrydigrwydd, ac o fedrusrwydd, celfyddyd, ffydd, a moesau da y fuasai yn eu mysc gynt. Yn y cyflwr hwn cafodd achos i alaru ger bron Duw fel Sion gustuddiol; Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufydd, a thitheu nid arbedaist. Galarnad. 3.42, 43. ac pen. 5.16. Gorchguddiaist ni â sorraint. Ti a'n gwnaethost yn sorod ac yn yscybion. Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. Syrthiodd y goron [Page 197] oddiam ein pen, gwae ni [...]n awr hechu o honom. Canys cyflawnwyd ynddi fwgwth Duw yn ddigon union, — oblegyd na walnaethodd yr Arglwydd ei Duw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch ealon, Deut. 28.49, 48. am amldra pob dim, am hynny y gwasanaethodd ei gelynion mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisieu pob dim, ac efe a roddes iau hai [...]rn ar ei gwddf. Yn amser yr anwybodaeth hon yr arferodd ein gwladwyr ymgymde [...]thasu â'r tylwyth têg yn y coedydd y nôs. Er hyn nid yn dragywydd y gwrthododd yr Arglwydd hwynt, Galarnad. 3.31, 32. ond er iddo eu cystuddio yn drwm, etto efe a dost [...]riodd wrthynt yn ol amlder ei drugareddau. Ac a ddattododd lawer o'u rhwymmau trwy y brenin Harri y Seithfed: Yr hwn oedd ŵyr i Owen Tudyr O Fôn (a briodasai frenhines weddw yr oedd ef yn ei wasanaethu) ac a gafodd y frenhiniaeth fel hyn. Pan ddigiodd penaethiaid Lloegr wrth y brenin Rissiard y trydydd, am iddo fwrdro ei neiaint bychain ydoedd dan ei olugiad ef, a chipio 'r goron oddiarnynt, gwahoddasant i mewn yr iarll Harri, ydoedd yn Ll [...]daw yn llechu Ar hynny tiriodd ef yn Aber daugleddeu, a chwedi i gryn fyddun o Gymru a Saeson godi gyda'g ef, aeth a'r mâes oddiar y brenin Rissiard, a chymerth ei lê'ef. A ph [...]ifiodd yn esmwythâd, nid i Gymry yn unic ond i Loegr hefyd: a diweddodd ymdrech tôst a fuasai rhwng dau deulu frenhinol am y goron dalm o flynyddoedd, ymha un y lladesid llawer o filoedd Gan ei fod ef yn erifedd y naill dŷ, priododd etifeddes y tŷ arall, ac felly heddychodd y deirnas. Yn y chweched flwyddyn ar ugain o deyrnasiad ei fâb ef, y brenin Harri Wythfed, gwnawd Act o Barliament i gael o Gymry [Page 198] yr un breintiau, rhydd-did, a chyfiawnder â Lloegr, gan ei rhannu yn Siroedd, a threfnu Sessiwnau iddi. Yn nyddiau ei fâb yntef, sef y brenin Edward y chweched, cynygwyd iddi warediad oddiwrth ei chaethiwed ysprydol, fel y cawsai ryddbâd o'r blaen oddiwrth ei chyfyngder bydol. Ond nid oedd nemawr a fedrai, ac a fynnai gyfieithu, a phregethu gair Duw yn gymraeg yn yr yspaid hwnw. A dyna'r achos na chafwyd nêb yn Ghymry wedi hynny sef yn amser y frenhines Mari, i ddwyn tystiolaeth gydâ ffydd y Protestaniaid drwy ddioddefaint, oddieithr tri yn y deheubarth y fedrent Saesonaeg. Yr hyn sydd Argoel h [...]nod reitied ydyw cyfeithiad, a phregethiad yr Scrythuran yn iaith gyffredin pobl, i weithio ynddynt ffŷdd iachusol.
PEN. XIX. Helynt cymru er pan gyfieithwyd yr yscrythyrau yn Gymra [...]g.
YN nechreu teyrnasiad y frenhines Elizabeth, gorchymynwyd drwy Act o Barliament droi 'r bibl yn gymraeg. Ond yr oedd ein gwlâd ni wedi myned yn ddichwant am dano, neu yn anfedrus tuag at y fath bêth. Am hynny safodd y gwaith ynghylch naw mlynedd, ac yno Rissiard Dafies escob Mynyw, ac William Salisbury gwr bonheddig, a gyfieithasant y Testament Newydd yn Gymraeg, ac ai printiasant ymmlwyddyn yr Arglwydd, Oed. Chr. 1567. mil a phum Cant. a thrugain, a Saith. Ac am fod llythr Saesonaeg Mr. W. S. at y frenhines [Page 199] yn amlygu peth o helynt ein cenedl ni y prŷd hynny, cyfieithais hyn o honaw ef.
Pan ail cofwyf ddull y grefydd wedi ei llygru yn Lloegr, a'r defodau ofer a ymluscasent i'n gwlád ninnau Cymry, pryd yn lle'r bywiol Dduw yr addolau dynion ddelwau meirwon, o gôed, a cherrig, clychau ac escyrn: a phan ystyriwyf hefyd ein diweddar gyffredin ymadawiad oddiwrth Sancteiddiolaf air Duw, y dderbyniasid unwaith, a'r erlidigaethau anuhrugarog y sydd ar lawer etto mewn gwledydd eraill; nid allaf amgen na wnelwyf fal y truan Bartimeus ddall, neu'r gwahanglwyfus O Samaria i'n Achubwr, sef dyfod yn dragostyngedig o flaen eich mawrhydi, nid yn vnic drosof fy hun, ond hefyd am waredigaeth llawer mîl o'm gwladwyr oddiwrth ysprydol ddallineb anwybodaeth, a ffiaidd haint hên eulun-addoliaeth, a gau ofergoel: yn ddyladwy i gydnabod eich cymwynas digyffelyb chwi i ni, wrth ganhiadu cael o honom yr Scrythyrau Sanctaidd, eli ein dallineb ysprydol, a'n gwahanglwyf, yn ein hyspysaf dafodiaith. Yr oedd ein gwladwyr ni gynt yn anhawdd ganddynt dderbyn y grefydd Rufeinaidd, ac nid heb achos; etto yn awr gwedi (y cyfryw yw niwed drwg arfer) anhawdd fu ganddynt ei gadel, a derbyn efengyl Jesu Grist. Ar ol cystuddio 'r genedl hon yn dra-gofidus â hîr ryfeloedd, am ei gwrthgiliad, fel y tybir; a'i llwyr orescin, a'i chadw tanodd â chyfreithiau sarrug, etto er diwedd rhyngodd bôdd i Dduw oi gynefin drugaredd edrych i lawr dra [...]hefn arnynt, gan anfon dau frenin o goffadwriaeth [Page 200] tra-enwog, Harri Seithfed, ai fâb Harri yr wythfed, Sef eich tâd â'ch taid chwi, y rhai yn rasusol a'u gollyngodd hwy o'u poenau ac a e [...]mwythâsant eu beichiau anoddef; y naill a [...]ateri o rydd-did, a'r llall ag Actâu o Barliament, gan droi ymmaith eu caethiwed hwy, a'u gwneuthur yn ungorph ai ddeiliaid o Loegr. Diammeu nad cymwynas bychan ydoedd hynny. Etto y mae'r llessâd hwn o'r eiddo eich mawrh di chwi, yn rhagori arno, yn gymaint ac y mae 'r enaid yn rhagori ar y corph. Os yw Mair Magdalen mor enwog drwy'r holl fyd lle pregethir yr efengyl, am roddi blychaid o ennaint de [...]nyddiol i enneinio Corph cnawdol Crist; cedwir eich haelioni chwithau byth mewn coffadwriaeth am ganhiadu ennaint yr yspryd Glân i ennemio ei gorph ysprydol ef, sef yr eglwys. Yn gymaint ac i escobion Cymry fy'ngalw i wneuthur pèth tuag at osod allan y gorchwyl teilwng hwn, tybiaf yn ddyledus yma yn eu henw hwy gyflwyno i'ch mawrhydi (megis y blaenffrwyth goreu) lyfr Testament Newydd ein Harglwydd Jesu Grist, wedi ei gyfeithu ir Gymraeg. A dymunwn ar Dduw gael o'ch deiliad chwi o Gymru gwbl o lyfr gair Duw yr un ffunud. Yna y gallau eu cyd-ddeiliaid o Loegr adrodd yn hyfryd am danynt yn y geiriau hyn, Y bebloedd a eisteddent mewn tywyllwch a wellant oleuni mawr: y rhai a breswylient yn nhîr Cyscod angeu, arnynt hwy y llewyrchodd y goleuni. Gwynfŷd y bobl y mae felly iddynt, ie bendigedig y bobl y mae 'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Yna y dywedent ill dau yn frawdol fel hyn, Deuwch ac escynwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob, ac Efe a [Page 201] ddysc i ni ei ffyrdd, ac ni a rodiwn yn ei lwybrau ef.
Dros ugain mlynedd wedi hyn, bu Cymru heb nemawr o bregethwyr ynddi, na'r hên destament yn ei hiaith, er bod rhai ewyllyswyr da idde. Dywedodd y doctor Powel drosti yn y llyfr Saesonaeg y breintiodd ef 1584, Os rhyglyddai fodd i Dduw anfon iddi y Bibl yn ei hiaith ei hunan yn ol y cyfreithiau Duwiol a wneithid, y byddai iw chystadlu ag un wlâdyn Lloegr, os y rheolwyr a'r dyscawdwyr fyddent da. Y flwyddyn nesaf at hon anrheithiodd cynhaiaf anhymerus yr ŷd, a lladdodd y gaiaf y cattel agos i gyd drwy Gymru oll. A chyfododd Cymbro â'i galon yn gresynu wrth anwybodaeth ei wlâd i betisiwna 'r frenhines a'r Parliament am ychwaneg o hyfforddiant iddi gan ddangos fod y blâ o newyn arni, Hag. 1.9. o herwydd anghy-fanned-dra tŷ Dduw ynddi. Ac ym mlwyddyn yr Arglwydd mîl a phumcant, Oed. Cri. 1588. a phedwar ugain ac ŵyth, cyfieithwyd a phreintwyd y Bibl cyfan yn Gymraeg gan y doctor Morgan Ficcr Llanrhaiadr ym Mochnant. Ond ni hwyrach fel y dywedodd Nathaniel, a ddichon da ddyfod o Nazareth? Joan. 1.46. Yr amheua'r Gwyneddwr, a allai 'r fath gymwynas iachusol ddeilliaw o'r gymdogaeth honno. Etto gwèl fel y prifiodd ceccri rhai o'i blwyfolion yn fautais ir athro hwn yn ei orchwyl pwys-fawr. Canys pan orfu iddo fyned i lŷs yr Archescob i atteb iddynt, canfu'r prelad pwyllog ei odidowgrwydd ef, ac ai hannogodd ef ir gwaith bendigaid hwnw. Cymer hyn o grynodeb a chyfieithad oi lythr ladin ef at y frenchines, a breintwyd gyda 'r Bibl Cymraeg oi ladmeriaeth ef. —
Pa gymaint y mae eich mawrhydi chwi (odidoccaf dywysoges) yn nylêd y goruchaf Dduw, nid yn unic ei ryfeddol amdiffin ef vn tarfu y gelynion creulon yn ddiweddar, eithr hefyd y duwioldeb rhagorol, clodfawr drwy'r hollfŷd, â pha un yr addurnodd ef eich mawrhydi, sy'n eg [...]ur dystiolaethu. A hyn a ddengis pa radlawn ofal ydoedd gan eich mawrhydi chwi am eich Britaniaid, nid amgen na'ch ordinbâd drwy awdurdod Parliament y deyrnas i droi yn Gymraeg yr ddwy yscrifen o Sanctaidd air Duw, sef yr hên a'r newydd. Yr hyn hefyd sy'n datcan ein syrthni, a'n esgeulysder ni, gan nad allai y fath athrwm anghenrhaid ein cynhyrfu ni, na chyfraith mor llesol ein cymell ni, fel nad arhosai pêth mor bwysfawr, (mwy na pha un nis gallai dim fyth fôd) cyhyd heb ei gymeryd mewn llaw. Canys y Testament Newydd yn unic a drôdd escob Menyw yn Gymraeg er ys ugain mlynedd, gyda chynorthwy William Salisbury, gŵr a haeddai yn dda ar law ein eglwys ni. Nid hawdd mynegi faint o leshâd y wnaeth ef i'n gwlâd ni wrth y gorchwyl hwnw. Canys y prŷd hynny prin y medrai ymbell un bregethu yn Gymraeg, o herwydd bod y geiriau rheidiol i egluro Sanctaidd ddirgeledigaethau yr Scrythr lân yn gymraeg wedi myned ar aball, megis wedi eu golchi ymmaith â dwfr Afon yn Affrica yn gwneuthur ir rhai a yfau oi dwfr anghofio pob peth. Lethe; neu wedi eu claddu dan lŵch anarf [...]r: mal nas gallau na'r dyscawdwyr agor yn ddigon amlwg yr hyn a ewyllysient, na'r gwrandawyr eu deall; na dirnad pa rai oedd geiriau'r scrythyrau, a pha rai oedd esponiadau o honynt. Yn ddiau pan ymgasclent yn chwannog at bregethau, a bôd yn ddyfal ynddynt, etto [Page 203] yn anhyspys ac yn amheus y byddai y rhan fwyaf yn ymadel, megis wedi cael tryssor mawr nis gallent gloddio atto, neu fod mewn gwlèdd fawr, heb gael bwytta o honaw. Ond yn awr drwy ddirfawr ddaioni y Goruchaf Dduw, a llafur y Cyfieithydd hwn, y mae genym fwy o bregethwyr, a pharottach, a gwrandawyr hyddyscach. Fel y mae'r ddau beth hyn yn dda gan y duwiol, etto nid yw'r un o'r ddau hyd yn hyn yn gyfattebol iw dymuniad hwy. Canys gan fôd ar ein gwlâd ni eisiau yr yscrifen gyntaf honno o air Duw, y sydd ragfynegiad, a darluniad, a thŷst ddiogel ir llall: och faint o esamplau, pa nifer o addewidion a chyssuron sydd dan gûdd? Pa faint o ry buddion, annogau, a thystiolaethau y mae em pobl ni o'u hanfodd hebddynt iechydwriaeth dragwyddol pa rai sydd mewn mawr berigl hyd yn hynn; pan yw pôb un i fyw drwy ffydd, a bôd ffydd trwy glywed, Rhuf. 10.17. a chlywed trwy air Duw: Yr hwn ni Seiniodd ond ychydig i'n cenedl ni hyd yn hyn, gan ei fôd mewn iaith ddieithr. Am hynny wrth weled mor llesol, ac anghenrheidiol ydoedd cyfieithu'r Scrythyrau eraill ir Gymraeg, (er i atgof om gwendid fy hun, a maintioli 'r gorchwyl, a drygianiaeth rhai anwydau fy nigalonni yn hîr) gan gydsynio â dymuniadau 'r duwiol, goddefais fy mherswadio i osod ar y gwaith poenus hwn, a thra anghymeradwy i lawer. A chwedi ei ddechreu, deffygiaswn o ran anhawstra yr pêth, a maintioli 'r gôst, a dugaswn bum llyfr Moesen yn unig at y printwâsc, oni bae ir parchediccaf archescob Caer Gaint, achleswr dysceidiaeth, Joan Whitgift. amddiffynwr y gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymorth â'i haelioni, a'i awdurdod, [Page 204] ac â'i gyngor i fyned ymmlaen. Ar ol ei esampl ef, aeth gwŷr da eraill Escobion Llan elwy, a Bangor. Dr Dafydd Powel. Mr Edmund Prys. Mr R. Vauchan o Literwrth. Mr Gabriel Goodman Deon Westminster. yn gynorthwyol i mi: Oni chyfieithais i yr Testament Hên i gyd, a diwygiais argraphiad y Newydd. Os tybia neb ma i gwell er mwyn cyttundeb fyddai cymell ein cenedl ni i ddyscu Saesonaeg, na throi 'r Scrythyrau i'n iaith ni; dymunwn arnynt ymogel, na yrront grefydd ymmaith wrth hyfforddi cordiad. Er bod yn ddymunol i drigolion yr un ynys siarad yr un iaith; etto mae yn gystal iw yst yried, y gofyn hynny gymmaint o amser a thrafferth iw ddwyn i ben, oni byddai yn rhy greulon ewyllysio neu oddef pobl Dduw i golli drwy newyn ei air ef yn y cyfrwng. Heb law hynny diammau y dichon cyssondeb crefydd wneuthur mwy tuag at danghnefedd, na chyssondeb iaith. Ac nid duwiol cyfrif bûdd yn well na chrefydd, a chordiad addiallan yn well na'r heddwch y mae gair Duw yn ei seilio ymmeddyliau dynion. Yn olaf, mor an noeth yw y rhai y dybiant, pe gwarafunid gair Duw yn ein iaith mammawl, yr annogai hynny i ddyscu un arall. Canys bydd crefydd yn anadnabyddus onis dysc ir yn iaith y cyffredin; a'r peth y bo un heb adnobod ei felysdra a'i werthfawrogrwydd, ni chymer ddim poen er mewn ei gael. Am hynny attolugwn ar eich mawrhydi i'r rhai y rhoddasoch un fron y gwirionedd eusus, ganhiadu yr llall, fel y clodforo bob tafod Dduw.
Yn yr oes hon preintwyd hefyd rai llyfrau Cymraeg eraill i wneuthur ymaddroddiaid ynghylch pethau Scrythyrol yn hawsach, ac yn rhwyddach, Megis Dicsionari William Salisburi, sef llyfr yn dangos arwyddoccâd geiriau Cymreig, y [Page 205] hoeddodd ef ugain mlynedd o flaen cyfeithad y Testament Newydd. Ac ar yr un flwyddyn ac y preintwyd y Testament Newydd gartref, cyhoeddodd y doctor Griffith Roberts Ramadeg Cymraeg yn yr ital, ac ai anrhegodd ef i jarll Penfro, gan ei ganmol am na ddywedai ond bruttaniaeth wrth Gymro ymmysc Penaduriaid y deyrnas. A chwedi hynny yscrifennodd y doctor Joan Dafydd Rhys Ramadeg Cymraeg arall: ac yn y flwyddyn 1595 gwnaeth Harri Perri ddosparth ar Retoreg, yn dyscu lluniaeth ymadrodd yn Gymraeg. Yn nechreu yr hwn y mae 'r fersi ladin yma o waith Henri Holland.
Ydoedd yn datcan ei obaith ef fôd aml bregethiad, a gwybodaeth o'r efengyl ar ddyfod ir wlâd am i'r Arglwydd anfon y llawforwynion, sef. Gramadeg a Retoreg i gyweirio 'r ffordd iddi. Ac ar yr un flwyddyn rhoddwyd y psalmau ar gynghanedd Gymraeg yn America. A thrôdd trafaeliwr arall sef Mr M. Cyffin lyfr escob Juel yn Gymraeg. Wedi dychwelyd caethiwed Cymru fel un Job, cynhyrfwyd rhai o'i charedigion o bôb parth, i roddi iddi bôb un ei dlws iw chyssuro am yr holl ddrwg a ddigwyddasai iddi. Job. 42.12 Ynghylch hyn gwnaeth Mr Robert Holland gweinidog Llanddyserwr yn Sire Gaer-Fyrddin, draethawd byrr yn erbyn consurwyr a Dewiniaid, ar dull ymadrodd rhwng Tudyr a Gronw. Ac ymhen dwy flynedd ar ugain gwedi trôdd ef gatecism Mr Perkius yn Gymraeg, ac ai preintiodd ef. Yn nheyrnasiad y brenin James wedi diwygio cyfieithad y Bibl yn Saesonaeg, gwnaeth yr escob Parry drwy gynorthwy [Page 206] y Doctor Dafies o Fallwyd yr un cymwynas i'n gwladwyr ni yn cywreinio yr Bibl cymraeg. Gan addef yn ei lythr ladin at y brenin, iddo dacclu'r adeilad a wnaethau ei rag flaenoriaid ef, 1620. a Lloffa tywysennan ar ol eu cynhaiaf hwy. Y Pryd y preintwyd y llyfr Homili hefyd yn Gymraeg Er dyfod y Bibl Cymraeg ir llannau, ni ddaethai mono etto yn gyfan i dai, am ei fod o brînt mawr; ac o gymaint prîs na chlywai ond rhyw un arno ei bwrcasu, am hynny yn y flwyddyn mîl a chwechant a dêg ar ugain, drwy draul yr anrhydeddus Sr Thomas Midleton, a Mr Heilyn Alderman o Lundain preintwyd ef â llythyrennau mân; ac aeth ei faintioli a'i bris yn gynhwysach, ac yno daeth i ddwylo 'r gwerin yn amlach. Gallesid galw 'r gorchwyl hwn fel mâb Zilpha, Gad, Gen. 30. [...]1. sef bagad, y mae tyrfa yn dyfod. Canys o hynny allan aeth gwybodaeth o Dduw ar gynydd amlwg ymmblith ein gwlâdwyr ni. Ac i hyfforddi ein pregethwyr, perffeithiodd y Doctor Dafies ddicsionari Cymraeg, a ddechreuasai 'r doctor Thomas Williams, ac eraill o ewyllyswyr da i Gymru: a gwnaeth ef Ramadeg Cymraeg hefyd. a chyfieithwyd llyfrau godidog tuag at adeiladaeth ysprydol; Sef llyfr y Resolusion, a'r ymarfer o Dduwioldeb, a'r Llwybr Hyffordd ir nefoedd. Gwnaeth Carwr y Cymro, a Sail y grefydd Gristnogol, a chaniâdau Scrythyrol Ficcar Llanddyfri leshâd i amryw. Lluosogodd hefyd yscolion i blant drwy Gymru, a ducpwyd i fynu lawer oi gwyr ievaingc mewn dysceidiaeth yn y coleds y berthyn iddi yn Rhydychen (y seiliodd y frenhines Elizabeth yn y flwyddyn 1572 drwy annogaeth Sr Hugh Prise) ac mewn yscoldai eraill. Ac [Page 207] sel y rhoddes Duw hâd ir hauwr, amlhâodd y torthau ir bwyttawyr, a phreintwyd eilwaith chwe mîl o Fiblau Cymraeg â llythyrennau mân, 1654 ac aethont cyn ratted a biblau Saesonaeg. Ac er mwyn bên bobl, a'r rhai fyddent â golugon gwannach, preintwyd llaweroedd o'r Testament Newydd yn gymraeg ar eu pennau eu hunain â llythyrennau brâsach. Felly gwnawd yscrifen gymraeg o ewyllys Duw yn eglur ar lechau, Hab. 2.2. fel y rhedo yr hwn ai darlleno; a chyn rhatted, ac y llawenhycho yr hwn ai pryno. Preintwyd hefyd lawer o lyfrau buddiol eraill yn gymraeg, megis catecism Escob Ʋsher, a'r hwn a wnaeth y Gymanfa yn Westminster. Drecselius ynghylch tragwyddoldeb, y Cywyr Ddychwelwr. Galwad ir anychweledig, a'r cyfryw. Ac fel y gwelodd Duw yn dda amlhâu cynorthwyau 'r ffydd yn ein plîth, felly amlhâodd rifedi y Sawl au iawn arferant. Wedi iddo roddi goleuni'r efengyl i'n gwlâd, deffrôdd gydwybodau amryw bobl i fwrw oddiwrthynt weithredoedd y tywyllwch, ac i rodio yn weddus megis wrth liw dydd. Nid mewn meddwdod, anlladrwydd, a chenfigen, ond mewn sobrwydd, diweirdeb, a chariad Duw. Am hynny nid yn ofer y goleuodd ef ei lampau, gan fòd rhai yn gweithio eu iechydwriaeth wrthynt. Ac ni chwbl gywil yddwyd gobaith ein henafiaid; Yr rhai yn eu Zèl a addawsant ir awdurdod, os cafai eu gwlâd air Duw yn ei hiaith, Gwêl lythr. W. S. a'r Dr. Po. y rhodiai hi yn ei ffyrdd ef. Gwn i'm gofid, fod y rhan fwyaf yn rhodio 'n ddrwg fucheddol, etto tâl yr hyn sydd o eneidiau grasol ynddi yn awr, fwŷ na'r gôst a'r boen a gymerwyd iw hyfforddi mewn gwybodaeth er ys can mlynedd. A'r Arglwydd a ganhiado iw daloni rhag llaw debygu ir goleuni [Page 208] yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
Bellach ystyriwn mor ddwys y darfu i'n henafiaid ni ddigio Duw, gan iddynt fôd dan drais a blinder echryllon ynghylch mîl o flynyddoedd. Oni ellid eu galw Magor Missabib, Jer. 20.3. Hosh. 4.1. sef dychryn o amgylch; a syrthiasant ar gleddyf eu gelynion. Bu hîr gŵyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion ein gwlâd, nes iddynt gael y gwaethaf, a'u torri yn niwyn. Amo. 7.2. Yna y gallasai un ofyn pwy a gyfyd Gymru, Canys bechan yw? Ond yr Arglwydd ai cofiodd yn ei hisel rádd o herwydd ei drugaredd: Psal. 136.23. a gweithiodd ei gwarediad fel un Israel yn amser Ahasuerus, ac Esther, drwy briodas. Gan wneuthur ei chaseion yn dirion wrthi, ai herlidwyr yn ddiddanwyr iddi. Y rhai a dynasant oddiarni y caethiwed teimladwy mewn pethau bydol yn gyntaf, ac ar ôl hynny canbiad [...]sant iddi foddion rhydd-hâd oddiwrth gadwynau'r tywyllwch ysprydol. Pe rhôn ir saeson tra yr oeddent yn gorthrummu ein cenedl ni, gynnyg ffordd y Protestaniaid iddi, tebyg y buasai cyn anhawsed genddi ei derbyn, ac oedd gan yr Americiaid truenus dderbyn ffydd yr Hispaeniaid trahaus, y rhai a ddywedasant, na cheisient hwy mor nêf, os oedd yr Hispaeniaid yn myned yno: Neu ac oedd gan yr Israeliaid goelio addewidion Duw drwy ei brophwyd Moses yn yr Aipht, Y rhai ni wrandawsant gan gyfyng dra yspryd, Exod. 6.9. a chan gaethiwed caled.
Ac er tynered fu'r moddion i ddwyn gair Duw at ein cenedl ni, etto arafaidd, ac oerllyd y cresawyd ef. Cododd Cerniu mewn arfau iw wrthwynebu ef. A bu Gymru ugain mlynedd heb ddim o'r Scrythyr lân yn ei hiaith yn gyhoeddus, wedi troi'r Bibl cyfan yn Saesonaeg drwy genad awdurdod [Page 209] y deyrnas. A chwedi troi'r naill Destament yn gymraeg, bu ugain mlynedd drachefn heb y llall. A phan gafwyd y ddau ir eglwysydd, bu ddwy flynedd a deugain gwedi cyn eu cael i dai, ac i ddwylo 'r cyffredin. Ac hyd yn hyn nid aeth diwydrwydd crefydd gymaint mewn cymeriad yn ein plith ni, ac ydyw yn Lloegr, a'r Albam, a gwledydd eraill. Ac nid rhyfedd i anwybodaeth bylu ein cenedl ni, pryd na lefasent gan y gyfraith roi dysceidiaeth iw plant: na chan babyddiaeth yr amseroedd hynny gael golwg o'r scrythyrau. A chwedi iddynt dros lawer oes gynefino â'r cyflwr hwnw, aeth y carchar yn gartref; a dywed y ddihareb, yr aderyn a faccer yn uffern, yn uffern y myn drigo. Y rhai fyddo yn hîr yn gorwedd mewn daiar dŷ tywyll, trist, a ly smeiriant pan ddelont ir awyr heulog. Grwgnachodd yr Israeliaid ymadel â'r Aipht, wedi eu bod yno cyhyd. Yn yr oesoedd diweddaf, yr oedd y Germaniaid, a gwyr Ffrainc, a'r Saeson yn daer ar yr awdurdodau oedd arnynt am gael rhydd did i ddilyn purdeb crefydd, ac onis caent, nhwy ai dilynent hyd ferthyrdod. Ond gorfu ir awdurdodau goruchel gymell y Cymry i ddaioni, a braidd y deffrôent er hynny. Ond Arglwydd y cynhaiaf a ddichon drefnu ir dydd a gododd yn araf, brifio yn dèg i achub llawer o ffrwyth a llafur yn ein gwlâd, Zech. 14.7. a bod goleuni yn yr hwyr, a llestair i'n pechodau ei dywyllu.
Ond er pan ddaeth yr scrythyrau yn Gymraeg i'n plith, y mae 'r helynt orau ar ein cenedl ni ac y fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni ŵyr y tô presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus ydoedd gynefin [Page 210] i'n henafiaid ni gynt. Y mae'r Saeson oeddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeiliaid ymgeleddgar, ac agos cyn hynawsed wrthym ni, ac ydym ni wrth eu gilidd. Y nhwy sy'n preintio ein llyfrau ni, ac yn dyscu celfydd y dau i ni; ac yn marchnatta â'n gwlâd nid wrth y dur a'r baiarn, ond yr aur a'r arian. Yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud, nag y fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawn o bôb rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myrddiwn, a'n hychen yn gryfion i lafurio, Psal. 144.13. heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhâu, a'r cythreuliaid yn y coedydd wedi distewi. Mae ein moddion hefyd wedi rhywiogeiddio llawer. Nid oes mor fath yspeilio, a threisio, a mwrdro ag y glywsom ni gan ein henafiaid ei fod yn eu mysc er's talm. Mae Powys yn weddus wrth fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed ini breswylio ynddi mewn cyfiawnder ac oedd i'n bèn rieni ni cyn ei cholli. Ni bu ein cenedl ni yn yr Jwerddon er ioed omlach. A diammeu pe cryfhaeu ufudd-dod i air Duw yn ein mysc ni, ychwanegid at ein trugareddau ni. Canys gwyn fŷd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Er gorwedd o honynt ymmysc y crochanau, Psal. 144.15. Psal. 68.13. byddant fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn. Ynteu nag anghyttuna ag iachus eiriau ein Harglwydd Jesu Grist, 1 Tim. 6.3. a'r athrawiaeth sydd ar ol Duwioldeb. Os ewyllysi yn dda i'r wlâd, a gweled dyddiau da, gochel y drwg, a gwna y da. 1 Pet. 3.11 Am hynny dywedaf wrth y Cymro a ryddhawyd, yn ol y siarse y roddes Christ ar y clwyfus a iachawyd, Joan. 5.14 — Wele ti a wnaethpwyd [Page 211] yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth. Mae ewyllis Duw yn ddatcuddiedig yn yr oes hon; Caffed ei pherffaith waith ynom ni, rhag nad arbedo'r Arglwydd monom ni mwy na'n henafiaid. Cyndyn yw'r anwybodaeth, a'r drygioni sydd yn ein mysc ni etto. Wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein mawr gamwedd, a rhoddi o'r Arglwydd ini ddiangfa fel hyn, Ezr. 9.13.14. a dorrwn ni drachefn ei orchymynion ef; oni ddigia efe wrthym nes ein difetha, fel na byddo vn diangol? Nid ydym ni heddyw ond tipin o weddill y Britaniaid, mogelwn rhag i'n Gwneuthurwr yn ei ddig fwrw ymmaith hynny ir dinistriwr ar ôl y llall. Rhuf. 11.22. Gwelwn ddaioni a thoster Duw, Sef i'n tadau a gwympasant, toster, eithr daioni i ni os arhoswn yn ei ddaioni ef, os amgen torrir ninnau hefyd ymmaith. Canys prifia goleuni yr efengyl i bobl anufudd fel mellten beryglus, a ddwg daranau dychrynllyd ar ei hôl. Levit. 18.26, 27, 28. Cadwn farnedigaethau'r Arglwydd, ac na wnawn y ffiaidd bethau a wnaeth y rhai a fu o'n blaen: fel na chwydo y wlâd ninnau megis y chwydodd hi y genedl a fu o'n blaen.
Gweddiwn ar Dduw am roi yspryd ei râs i bôb grâdd ar ddynion yn ein mysc, Esai. 61.4. fel yr adeiladont yr hên ddiffaethfa, ac y cyfodont anghyfannedd dra llawer oes: Sef tabernacl Dafydd yr hwn a syrthiodd yn ein gwlâd ni yn amser ein hèn dadau; ac yr adeilader ei fylchau drachefn: fel y byddo ir hyn a weddillwyd o honom geisio 'r Arglwydd, Act. 15.16, 17 yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn; ac a'n gwaredodd o dŷ caethiwed bydol ac ysprydol, y mae'r Gwyddelod yn nychu ynddo etto. Gwilia arnat yn ddyfal o Gymbro, rhag iti rwystro na digalon i adferiad [Page 212] y ffydd yn dy frô. Canys yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd y gweddill a gerydda bôb gwrthwynebwr, Zech. 3.2. Onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tán? yn hytrach gwnaed yr oes hon ei rhan yn adeiladu ar y sail yscrythyrol a osododd yr oes ddiweddaf, ac yn cynnyddu'r gwaith a ddechreuwyd drwy gymmaint o anhawstra, fel y torro goleuni Cymru allan fel y wawr, ac na ddiffodder ei phentewyn. Bydda i yn gymorth nid bychan iddi, pe cyfodau ei blaenoriaid goleds neu ddau ynddi, i ddwyn gwyr jevaingc gobeithiol i fynu mewn dysceidiaeth a moesau da, tuag at eu cymhwyso gy [...]a bendith y goruchaf i weinidogaeth efangylol, a swyddogaeth wladwriaethol. Beth sydd fwy cyssurus ir gydwybod, na'r hyn y wneler tuag at adieru addoliad Duw ym mysc pobl y fu mewn hîr drueni a thywyllwch pan ddychwelwyd caethiwed yr Israeliaid o Babilon, aeth Joshua yr archoffeiriad, Ze [...]h. 3.1. ac pen. 4.7. a Zerubb bel y tywys [...]g wrth ail-adeiladu 'r deml yn anwyl gan Dduw, a dynion, ac angy [...]ion Ac ychydig gwedi ni bu neb rhyw orchwyl a ddiddanodd Nehemiah gymmaint, a'i la [...]u [...] ef yn ail-adeiladu Jerusalem, gyda ei zêl yn gwellhau buchedd a threfn ei genedl. Medd ef, Cofi [...] fi o fy Nuw er llès i mi, Noh. 5.19. ac pen. 13.22. yn ol yr hyn oll a wneuthum i r bobl hyn. A phan ddug hwynt i Sancteiddio'r Sabboth yr oeddent o'r blaen yn ei halogi, dywedood e [...], Am hyn hefyd [...]ofia fi fy Nuw, ac arbed fi in ol lliaws dy drugareda. Ni ddel [...]ir y care [...]igrwydd a waeler i deml yr A [...]glwydd, Ac ni phalla ei wobr. 2 Sam. 7.2.4.11. Pan gyfrannodd Dafydd ei feddwl i [...] prophwyd Nathan, ei fod ef ar fedr adeiladu yŷ i Dduw, y nosson honno mynegodd Duw y gwnai ef dŷ iddo yntef; ac a'i cwplaôdd yn [Page 213] helaeth. Pan swccrodd Obed Edom Arch Dduw, cafodd daledigaeth syber a hynod, oni fynegwyd ir brenin, gan ddywedyd, yn Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, 2 Sam. 6.12, er mwyn Arch Dduw. Diandlawd ydoedd y fendith a lonnodd gymaint oll ac oedd eid do ef. Y tarth a weler yn escyn i fynu, a fydd siccr o ddescyn i lawr eilwaith yn law ffrwythlon. Ac felly y gwnaiff anadliad y galon rasol, y fyddo â'r ewyllis ac â'r gallu yn ymgodi at bethau perthynol i deyrnas nêf, gan ddychwelyd â chafodydd o fendithion aml. Ni bydd y nêf yn nylèd y ddaiar. Yr hyn a wyddai Salomon yn hy-dda wrth ei brawf, a'i lwyddiant ryfeddol wedi iddo adeiladu'r deml. Am hynny yn ei ddoethineb a'i serch cynghorodd ei fâb, gan ddywed yd, Dihar 3.1.9, 10. anrhydedda yr Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth: felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a'th winwyryfoedd a dorrant gan wîn newydd. Ac nid yn y bŷd yma yn unig y ceir tâl am yr hyn a dreulier ar wasanaeth Duw, eithr yn y bŷd arall hefyd. Pan gipio marwolaeth y rhai didda at benyd a phrinder dragwyddol, caiff y Goruchwylwyr ffyddlon a arferant eu talentau yngwasanaeth eu Harglwydd dryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd, a chynhalieth ogoneddus byth. Luc. 12.33. Ynteu masnach ynnillfawr yw rhoddi echwyn i'r Arglwydd, a goreu hwsmonaeth yw llafurio i danu 'r hâd y tyfiff ei gnŵd yn uwch na'r cymylau. Oblegyd yr hwn sydd yn hau iw gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth, eithr yr hwn sydd yn hau i'r yspryd, o'r yspryd a fêd fywyd tragwyddol. Gal. 6. [...]. Oh nad ymegniai'n cenedl i fod mor fywiog, ac mor wresog yn y grefydd Gristnogol ac y [...] rhai o'n [Page 214] hen deidiau ni gynt. Troesant hwy Scotiaid, a Phichtiaid, a Germaniaid, a cenhedloedd eraill at ffydd Grist, ac a esceuluswn ni hi yn ein cartref ein hunain? yr oeddent hwy yn flaenaf, ac a fyddwn ninnau yn olaf yn achosion teyrnas nêf? yr oeddent hwy fal cryrod yn ymgais â Haul y Cyfiawnder, ac a fyddwn ninnau fal tulluanod yn hoffach gennym y tywyllwch? Na ddirywiwn, eithr fel Naboth glynwn yn y Winllan efangylaidd y sydd dreftadaeth ein henafiaid: a rhodiwn fel plant y goleuni: 1 Bren. 21.3. Rhuf. 13, 13. ac ymddygwn yn ddyladwy wrth fôdd Duw, megis y mae hi yn bryd i ni bellach. Nid mewn cyfeddach, a meddwdod; nid mewn cyd-orwedd, ac anlladrwydd, nid mewn cynnen, a chenfigen. Mal y gaho ein gwlâd a fu cyhyd dan wradwydd fyned yn enwog am rinwedd. Tybia rhai mae heppil Cam ydym ni, a pheth o weddillion y Cenhedloedd a ddiangasant o dir Canaan tua'r gorllewyn rhag y dialedd dinistriol a ddaeth arnynt yn amser Joshua. Os yw hynny yn bod, (Canys nid yw'r chwedl heb liw) etto byddwn rasol, a bendith Christ a ylch ymmaith felldith Noah. Gen. 9.22.25. A chaiff y cenhedloedd o'n hamgylch wybod nad ardal drygioni ydym, Mal. 1.4. Esai. 61.9. na'r bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. Eithr y rhai a'n gwelant a gydnabyddant, ein bod yr hâd a fendithiodd yr Arglwydd. Cyd-ystyriwn bawb ei gilidà, i ymannog nid i gâs, Heb. 10.24 Dihar. 14.34. a thyrnau drwg, eithr i gariad a gweithredoedd da. O Herwydd cyfiawnder a dderchafa genhedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod.
PEN. XX. Siccr wirionedd y Ffydd Gristianogol.
ER bod achau'r ffydd (y argraphwyd eusus) yn gwirio Duw yn dâd iddi, etto gellir cael ychwaneg o hyspysrwydd am hynny wrth ei phrŷd ai gwêdd y fydd yn tebygu iddo ef; a'i ofal ymgleddus yntefyn cynal ei hathrawieth, sef yr yscrythurau sanctaidd: ac oddiwrth amryw ystyriaethau eraill y ganlynant.
1. Rhaid ydoedd i ddŷn er y dydd cyntaf y gwnawd ef wasnaethu Duw, i hynny y creawyd ef. Ac fal y gwnai ef hynny mewn môdd cymeradwy, rheidiol oedd iddo wybod ewyllis ei Greawdwr. Yr hon y synegwyd ir bobl gyntaf hîrhoedlog, ac a scrifenwyd ir cenedlaethau byr-oes: yr hwn a ordeiniodd yr haul i ddŷn er y dechreuad i wneuthur gorchwylion corphorol wrtho, y roddes iddo reol yn foreu i gyflawni dyledswyddau ysprydol wrthi: a mwy na thebygol mai'r efangylaidd oedd honno, gan nâd oes grefydd yn y bŷd cyn hyned â'r Gristnogol, na scrifennâdau yn y bŷd mor oedranus â rhai'r prophwydi, nac yn mynegu cymmaint ynghylch y cynfyd. Nid yw dychymygion y Pâb, a Mahomet, a'r cenhedloedd, ond Babanod anelwig, disynwyr wrth y rhain; ie cywion gorphenhaf y ddeorodd gwresogrwydd llwyddiant bydol, y ddaethant o'r cibau yn ddiweddar, ac a ddarfyddant eilwaith. Cafodd yr efengyl ei chredulawer Cant o flynyddoedd cyn eu geni hwy, a chaiff etto ar ol eu marw hwy, canys tragwyddol yw. Datc. 14.6 Gwelwn barhâu [Page 216] o adeilâdau Duw, sef y nefoedd a'r ddaiar, yn hwy na rhai cadarnaf o waith dynion, ac a wnaethpwydou blaen hwynt hefyd. Y mae ffordd grâs yn hynach na ffordd pechod; ac y mae amser yn dwyn gwîr ir goleu: haeddeu'r ffydd ynteu barch o herwydd ei phenwynni, a'i bod yn brofedig ac yn ganmoladwy gan bôb oes.
2 Perffaith helaeth yw gweithredoedd Duw; nid oes yn y nefoedd a'r ddaiar ddim yn niffig, eithr yn gwbl ddigonol y ma ent i gynal dŷn gyda chariad Duw; gwelir hyn hefyd yn athrawieth y ffydd; Psal. 119.96. medd Dafydd dy orchymyn sydd dra eheng. Yn yr yscrythyr y mae digon o gyfarwyddyd i ddŷn pa fodd i ymddwyn tu-ag at Dduw, a thuag at ddŷn, ac i edrych atto ei hun, i fyw yn dduwiol, yn gyfiawn, ac yn sobr. Ac ni reola ein gweithredoedd ni yn unic a'n geiriau; ond ein meddyliau, a'n gwyniau, a'n chwantau, a'n dymuniadau, y rhai ni chyffwrdd cyfreithiau dynol â hwynt.
Y mae pôb pêth y wnelo, y ddywedo, y feddylio dynion yn orchymmynedig neu yn ommeddedig yngair Duw. Ac y mae pôb daioni a ddigwydd ir grasol yn y bŷd yma, ac yn y bŷd a ddaw; a phob aflwydd a ddigwydd ir anusydd, yn gynwysedig yn ei addewidion, a'i fwgythion. Nid yw 'r delwau y gerfier gan ddyfais gywreinwaith ddim wrth ddŷn y greawdd doethineb Duw, yr hwn sydd ganddo bôb aelod, a chymal, a gien, a gwythen a'r sydd reidiol iddo, ac yspryd iw cynhyrfu, er ei wneuthur yn wasnaethgar i Dduw, ac iddo ei hun; dyna 'r fath ragorieth berffeithrwydd y welir rhwng cyfreithiau dynol, a gorchym mynion bywiol Duw.
[Page 217]3 Ergyd scrifenâdau 'r grefydd Gristianogol yw gogoneddu Duw, a chymwyso dynion i hynny yn dragywydd; y rhai sydd o'r ddaiar â'r pechod am hynny y soniant, ac y syniant, ond yr hyn sydd o'r nêf, yno y cyrchiff eilwaith. Arwydd yw bod elfen y tân nefol hwn uchod, am ei fod yn escyn tu-ag i synu.
Dengis yr scrythurau mal y creawdd; ac y prynodd ac y cynal yr Arglwydd y bŷd, er eglurhâu ei drugaredd ef, ac fal y barnodd ef y bŷd yn amser Noah, ac wedi hynny er amlygu ei gyfiawnder ef. Galwant am sancteiddrwydd, gan orchymmyn hynny, a rhoddi ger bron annogaethau cryfion i berswadio dynion i fôd yn rasol; megis esampl Duw ei hun, a ddywed byddwch sanctaidd, canys Sanctaidd ydwyfi; 1 Pet. 1.16. cyd-ymffurfia rhai â'u pen-llywydd: a'i aml ddaioni ef, attolygant ar bobl er trugareddau Duw roddi en cyrph yn aberth byw, sanctaidd, Rhuf. 1 [...].1 yr hyn yw eu rhesymol wasanaeth hwynt. Torrir callestr ar glustog, a'r galon galed ar ymyscaroedd tyner Jesu Grist; Gal. 2.20. fal y byddo 'r edifeiriol fyw trwy ffydd Mâb Duw, yr hwn a'i carodd hwynt, ac a'i dodes ei hun drostynt hwy. Archant Adel pôb mwyniant bydol, a dwyn pôb croes i ddilyn Duw. Marc. 10.28. Ni buasai dyn fyth yn rhoddi y fath dâsc arno ei hun, a chûed ganddo ei bleser, a'i bechod, a'i esmwythder: yr hyn sydd argoel i Dduw wneuthur y gorchymynion heb genad dŷn; canys y mae dŷn pechadurus yn dueddol i geisio, ac nid i wadu yr hunan. Tŷst yw Crefydd Mahomet, y ganiâda iw dilynwyr ddigon o anlladrwyd, ac yspail; a dychymygion y Pâb a gynhaliant ei falchder ef. Beth yw ei burdan ef, onid pair gelfyddgar i droi ei weddiau ai [Page 218] bardynau plumaidd ef yn arian iw goffrau ef?
4 Y mae gair Christ yn awdurdodol, ac felly yn amlygu ei ddyfod oddiwrth y brenin nefol. Math. 7.28. Gen. 1.3. Megis y bu yn y creadigaeth, pan ddywedodd Duw bydded goleuni, a goleuni a fu. Gweithia'r scrythyrau mor rymmus ryfeddol ar eneidiau dynion, ac y rhaid en cydnabod yn allu Duw er iechydwrieth ir rhai sydd yn credu. Rhuf. 1.16 Nid anhawdd dirnad pendefig goruchel wrth ei foddion, ai ymddygiad, er ei fod mewn trwsiad plaen. Pan lefaro Duw yn ei air wrth gydwybodau dynion, bwrir i lawr y meddyliau balchaf, trumheir y meddyliau yscafnaf; dychryniff y meddyliau dewraf, archollir y calonnau calettaf megis â chleddyf daufiniog. Heb. 4.12. Luc. 1.51. Aml ac amlwg yw gwaith rhagluniaeth Duw yn tynnu i lawr y cedyrn, a'r beilchion ymmysc ei elynion; ac nid llai hynod gwaith ei drugaredd ef drwy'r scrythyrau yn iselu ucheldrem dynion Parodd carcharor truan wrth adrodd ewyllis Duw i farnwr grynu ynghanol ei reiolti. Act. 24, 25 Gwnaeth pyscodwr gwael i eraill weithio allan eu iechydwrieth drwy ofn a dychryn, oeddent o'r blaen yn pryssuro at golledigaeth drwy wawd a chwerthin. Casodd gwatwarwyr wybod rhagor rhwng gwaith meddwdod a prophwydoliaeth, prifiodd y gwîn newydd yn fineger llym, a barodd iw cydwybodau dolurus hwynt ofidio, a llefain am iachàd. Canys tra yr oedd Petr yn agori iddynt yr hyn oedd gynwysedig yn scrifennâdau'r prophwydi, (fal y tywal [...] tei Duw o'i yspryd ar bôb cnawd yn y dyddiau diweddaf, Act. 2.13, 14, 16, 17, 31.35.37. ac yr adgyfodei ef Grist i'r orseddfaîngc, gan osod ei elynion yn droed-faingc iddo ef) dwysbigwyd y gwrandawyr yn eu calonnau, oni ddywedasant wrth yr Apostolion, Ha-wyr frodyr beth a wnawn ni? [Page 219] Ac mal y mae'r scrythyrau yn feibion y daran i ddeffroi cydwybodau cysclud, felly hefyd yn feibion diddanwch i gydwybodau dychrynllyd. Cyhoeddant rydd-did ir caethion yn gystal a chaethiwed i'r rhyddion: a chan eu bod yn attal poethder y ffwrn danllyd, sef digofaint a gofid meddwl, Dan. 3. byddem waeth na'r anghrèd gynt, oni chyfaddefwn fod eu gallu o Dduw. Y pennod cyntaf o'r epistol at y Rhufeiniaid y gynhyrfodd Luther, y bennod gyntaf o'r epistol cyntaf at Temotheus, a'r 15 adn. a gyssurodd Junius a Bilney, oni ymroesant i garu Duw. Y mae gwlithin hyfryd ar bôb glaswelltyn, a mèl ymmhôb meillionen, a melysdra ymhôb mefusen, ac arogl peraidd ym mhôb llysieuyn yn yr ardd ysprydol hon. Gwelir y fath gyfnewidiad ryfeddol yn y rhai sydd yn derbyn grâs yr efengyl, megis pe troeu gwiberod yn glommennod, neu fleiddiaid yn ddefaid. Paul yr erlidiwr a aeth yn bregethwr yr efengyl. Troiff y meddwon yn sobr, a'r anllad yn ddiwair, a'r daiarol yn nefol, a'r dŷn oi gôs iw iawn bwyll, er iddo o'r blaen dorri pob rhwymau i ganlyn ei drachwantau. Dôfiff y boneddigion gwresoccaf, Psal. 119.9. 2 Brenb. 22.10, 11.19. ac epn. 23.3. a'r llanciau gwylltaf a lanhânt eu llwybrau, wrth ymgadw yn ol gair Duw. Er bod Josiah yn frenin hoyw-deg, etto wrth glywed darllen llyfr y gyfraith meddalhàodd ei galon ef, ymostyngodd, ac wylodd ger bron yr Arglwydd, a gwnaeth gyfammod cyhoeddus ar fyned ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchymynion ef â'i holl galon, ac â'i holl enaid. Yr hyn hefyd a gyflawnodd ef yn ffydd on. Pe cerddai afon yn erbyn ei ffrŵd, (fel yr Jorddonen gynt) ni byddei hynny ryfeddach nag ymarweddiad y gwir Gristianogion, y sydd yngwrthwyneb iw chwantau naturiol.
[Page 220]5. Gwaith Duw yn cadw yr scrythyrau o amser i amser, er maint ydoedd bwriadau angylion, a dynion drwg iw difetha hwy, a ddengis fod eu ganedigaeth hwy o honaw ef. Cais y creaduriaid oll ymddiffin eu hepil, megis yr jâr ei chywion, a'r ddafad ei hoen. Ceisiodd y cythrael ym mhob oes fwrw geiriau Duw allan o feddyliau, a serch pobl; a gwneuthur eu coffadwriaethau fal rhidyllau; i ollwn i lawr yr ŷd ffrwythlon, ac i ddala yr sothach, Math. 13.19. a'r ehêdion. Y mae 'r drwg yn cipio gair y deyrnas oddiar y galon anneallus, etto mae'n scrifennedig ar galonnau miloedd. Ni bu malais dynion drwg segur chwaith, eithr ymegniâsant i ddileu 'r scrythyrau allan o'r bŷd. Mae'n rhyw i bôb dŷn drwg gasàu eu goleuni, a'i wrthod, Jaan. 3.20. fel nad argyoedder ei weithredoedd ef. Lliaws y bŷd a'i gadernid y wnaethant ruthr arnynt. Y bobloedd a derfyscasant, a brenhinoedd y ddaiar a ymosodasant, Psal. 2.1. ac a ymgyngorâsant i ddryllio rhwymau'r Arglwydd, er cael rhydd-did i bechu. Yr oedd amsder y cyffredin, a gallu, a chyngor pennaethiaid ynghyd yn eu herbyn. Yr ydoedd ir bwystfil a'i hwylieu hwy lawer o bennau, Dat [...]. 13.1 a mwy o gyrn, fef cyffrwystra a mawr allu. 2 Cron. 34.14. Gyrrodd brenhinoedd eulynaddolgar Israel yr scrythyrau i lechu mewn cornèlau. Ynghûdd yn y deml y cafodd Helciah lyfr cyfraith yr Arglwydd, yr hwn a roddasid drwy law Moses. A thaflasant hwynt ir tân: torrodd Jehojacim lyfr Jeremi â chyllell, Jer. 36.23 ac a'i lloscodd ef. Ac wedi hynny cawsant yr un fath ymdrin gan gedyrn frenhinoedd Assyria, Babylon, Caelosyria, ymerodron Rhufain, yr a wdurdodau mwyaf yn y bŷd; y rhai oeddent fel bleiddiaid gwangcus, a llyfrau 'r ffydd, a'i dilynwyr ar olwg fal wŷn diymwared. [Page 221] Collwyd lly frau Philosophyddion, a phrydyddion, a'r eiddo Solomon ynghylch planhigion; er nad oedd llid iddynt yn ceisio eu llâdd, etto buont feirw o ran oedran. Ond y mae llyfrau Duw wedi dyfod drwy lawer o beryglon, a gelynion, etto yn fyw ac yn iâch, ac yn cenhedlu yn eu henaint; er i lû ei gorchfygu hwynt, Gen. 49.19. Psal. 104.16. (fal Gad) hwy orfyddasant er diwedd. Prennau'r Arglwydd sydd lawn sugn, er gwaethaf poethder angerdd uffernol; ie gwreiddiâsant yn ddyfnach, ac yn gadarnach, ar ôl eu siglo gan y temhèstloedd cryfion, ac a aethont yn ffrwythlonach, nerth Duw y berffeithwyd yn eu gwendid hwynt. Pan fyddo'r gwyntoedd yn ystyno yr ŷd wrth flodeuo, er saled y blewyn sydd yn dala y blodeuyn, etto o herwydd nas gall dynion fyw heb lunieth, y mae Duw yn peri ir gronyn gwan lynu yn ei gafael er gwaethaf gwrthwyneb cryf; yr un môdd y gwelir rhaglunieth Duw yn cadw ŷd yr enaid.
6 Cafodd yr efengyl y fath dycciant yn gorchfygu'r bŷd, ac a ddengis fôd Duw ar ei phlaid. ystyriwn fod llawer o rwystrau i attal ei chynnyrch. Yn amser yr Apostolion yr oedd arfer a defod pòb un o deyrnasoedd y ddaiar yn ei herbyn; yr ydoedd eulynaddolieth wedi hir wreîddio yn eu mysc. Cais anifeiliaid dynnu at eu cynefin er afiachussed fyddo. Y mae gorchymmynion y wîr ffydd yn anhawdd i gig a gwaed. Gadel plesèrau, tai, a thiroedd, a'r bywyd naturiol hefyd er mwyn Crist, ydoedd gâs gan y cyfoethogion. Marc. 10.22. Ac y mae ei phynciau yn anhebygol yn nhyb y doethion; sef i forwyn escor, ac i Dduw gymeryd natur dŷn. Am hynny nid oedd râdd yn y bŷd ar ddynion nas gwrthwynebodd ufuddhâu, megis tywysogion, Luc. 19.14.47. [Page 222] dinasyddion, Act. 17.18. Act. 24.1. Math. 27.27, 28. Act. 16.24. Math. 27.25. Act. 19.34. Philosophyddion, Phariseaid, scrifenyddion, areithwyr, milwyr, Crefftwyr, a chyffredin. Darfu i'r swyddogion gospi y rhai credadwy, a'r milwyr eu dychrynu, a'r areithwyr eu cyhyddo, a'r philosophyddion drwy gau resumau geisio eu hurtio, a'r lliaws er mwyn eu pendafadu floeddio, er hynny aeth y ffydd ymmlaen yn orchestol drwyddynt oll. Nid allodd cleddyfau'r swyddwyr, na gwaiwffyn y milwyr, na cholynnau'r aspiaid, sef drwg dafôdau ei chadw yn ol.
Hefyd er bod y rhwystrau yn fawrion, nid oedd cynorthwyau gweledig, ac offêrau yr efengyl onid bychain; Gwâel ydoedd cyflyrau, a theneu ydoedd mintai pregethwyr y brif eglwys: ychydig oeddent yn erbyn llawer, a rhai siml yn erbyn cyfreithwyr; pyscodwyr, a gwehyddion yn erbyn beneddigion, a swyddogion; etto cawsont oruchafiaeth yn-Ghrist, 2 Cor. 2.14. yr hwn a eglurhâodd arogledd ei wybodaeth trwyddynt hwy ymhôb llê. Gan fod bwled, sydd dippin o blwm crwn heb na blaen, na mîn, yn myned yn rhwyddach drwy fâen a phren, nag y gall llaw dŷn hyrddu'r arf flaen-llymmaf, mae'n dangos egni 'r tân yn torri allan o gyfyngdra. Pylni yr offêrau efangylaidd a ddylai'n argyhoeddi, Isai. 9.7. mai nerth Zêl Arglwydd y lluoedd ydoedd yn eu gyrru drwy gymaint o anhawstra. Exod. 8.17.19. Pan orchfygodd Moses ffyddlon yr Aipht a'i brenin â gwialen ac â llwch, cyffessodd ei elynion fod bŷs Duw gydag ef. Ni syrthiasai styfnigrwydd y bŷd wrth bregethiad yr apostolion, na muriau Jerico wrth waith yr Israeliaid yn bloeddio, oni bae fod Duw gyd â hwynt. Ni buaseu ffôl bethau y bŷd yn gwradwyddo y doethion, 1 Cor. 1.27. a gwan bethau 'r bŷd yn gwradwyddo y pethau cedyrn, oni bae [Page 223] i Dduw eu hethol. Pan ydoedd yr adar yn difa, a'r haul yn llosci, a'r drain yn tagu tair rhan o hâd y gair, hawdd fuasai i'r môch a'r mîlod orpen y rhan arall, fel nad aethai fyth mor gnudfawr, am nad oedd un cae o waith dŷn yn ei gylch. Cyffelyb oedd teyrnas nefoedd i ronyn o hâd mwstard, y lleiaf o'r hadau, Math. 13.4, 31. a lliaws mawr o gywion drwg yn ceisio ei gipio, heb ddŷn iw tarsu; ac etto tyfodd yn bren canghennog. Rhyfedd nas gallasau cymmaint o gŵn lyngcu 'r tippin surdoes, cyn iddo beri i'r bŷd newid ei flâs! Ac wrth adferu 'r ffydd bu pin scrifennu Luther yn drèch na chleddyf Caesar.
7. Y mae pethau yn digwydd yn y bŷd fel y rhagfynega 'r scrythur am danynt. A phwy a wyddai beth fyddei helynt y bŷd, onid yr hwn ydoedd iw reoli? Digwydd cystudd a blinder ir duwiol, fal y mae 'n scrifennedig, 2 Tim. 3.12. Psal. 34.19. pawb a'r sy yn ewyllysio byw yn dduwiol yn-Ghrist Jesu a erlidir. Ac aml ddrygau a gaiff y cyfiawn, ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddiwrthynt oll. Encilia proffesswyr diffrwyth, a'u crefydd a ddiflenniff o ran eu chwantau cnawdol a phrofedigaethau bydol, fel y rhagfynegodd Christ y gwyweu 'r egin gan boethder erlid, Math. 13.21, 22. ac y tegid hwynt gan ddrain gofalon y bŷd. Gwelir llwyddiant amserol ir annuwiol, Psal. 37.35, 36. yr hwn dros ychydig sydd yn gadarn ac yn frigog, fel y lawrif gwyrdd, ac yn y man aiff ymaith, ac ni bydd mwy o honaw, mal y datcan y prophwyd. Amlwg yw fod y rhan fwyaf o ddynion yn myned hyd ffordd lŷdan llygredigaeth i uffern, Math. 7.13, 14. a'r rhan leiaf yn cael ac yn cadw y ffordd gûl ir nêf, fal yr yspyssa 'r efengyl. [Page 224] Pwy ni chydnebydd fod pobl ddrwg yn amlach na rhai da yn yr oes hon, a phôb amser? Cwyniff gair Duw yn drwm rhag pechaduriaeth dynol ryw, Gen 6. ac oni weli achos? A ydyw dŷn yn perchi ei wneuthurwr a'i Brynwr? Y mae'r anifeiliaid yr ydwyti yn eu magu yn ufuddach iti, nag wyti ir hwn ath wnaeth, a phôb pèth arall ith cynnal di. Beth bynnag ath ddigio di, enw Duw a gaiff ei rwygo drwy dy lŵon di. Rhy gynnefin hefyd yw i ddynion orthrechu, a thwyllo, a llâdd eu gilidd, a hynny yn ddichellgar. Chwrna 'r cî, a chwŷth y neidr cyn brathu, a hynny o rybudd ath hyffordda iw gochelyd: ond dan dewi, ie dan wenu y dryga 'r naill ddŷn y llall; onid all ei ddifetha à chuwch, fel Judas efe ai bradycha â chusan. Am hynny os cwbl anghredi, rhaid iti ymwrthod ath deimlad naturiol gystal ac â ffydd ysprydol.
8. Y dialeddau trymion a oddiweddasant wrthwyneb wyr y gair ym mhob oes a ddylent berswadio dynion iw berchi ef. Psal. 9.16. Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna. Bu a bydd Jerusalem a'i chyfraith (sef yr eglwys ufudd i ewyllis Christ) fel maen trwm, Zech. 12.3. Exod. 8.9. Datc. 15.7. a yssiga 'r neb a geisio ei daflu ymmaith, a phawb a ymlwytho ag ef yn ddiau a rwygir. Plâau yr Aipht, a'r Anghrist a dystiolaethant hyn. Er bod llawer fel y glŵth yn diangc yn ddigosp nes myned ir tân anniffoddadwy, Luc. 16.19. etto odid wlâd nac amser na wnaeth Duw rai trosseddwyr echrysson yn ddrychau iw cymydogion, i weled ynddynt mor ofnadwy yw syrthio yn nwylo 'r Duw byw. Aneirif weithiau y canfuwyd ac y canfyddir dôst farnedigaethau [Page 225] yn digwydd ir drwg er bod ganddynt lawer o foddion tebygol ac o ddyfais iw gochelyd. Trawodd y saeth Ahab ddrygionus er iddo ei orchguddio ei hun mewn gwiscoedd, mal na byddai iw elynion mo'i adnabod, ac ymddiogelu mewn arfogaeth. A phan fetho gan rai ymachub er allont ei wneuthur, pan ddigwyddo 'r dial arnynt, dywedir mai peth oedd a fynnai fod. Pan gymero yr Arglwydd yr annuwiol ymmaith yn ei ddigofaint megis â chorwynt, Psal. 58.9.11. dywed dŷn diau fod gwobr ir cysiawn, diau fod Duw a farna ar y ddaiar. A thra mynech y bydd yr Hollalluog â blaen ei gleddyf yn dangos i ddynion y pechodau y byddo iw llâdd hwynt o'u plegyd gan anfon y fath gymwys gospedigaeth, ac a fyddo yn dwyn i gôf ac i gydwybod pôb un yr anwiredd ai haeddodd. Gwelir cyfiawnder y Goruchaf yn rhoddi i ddynion yr un mesur ac a roesant hwythau i eraill. Fel y darfusai i gleddyf Agag ddiblantu gwragedd, 1 Sam. 19.33. felly y diblantwyd ei fam yntef â'r cleddyf, a darniwyd ef ger bron yr Arglwydd. Yr hyn a gasclo 'r tadau drwy gybydddod anwireddus, a wascara 'r plant drwy afradlondeb fasweddus. Y rhai ystyriol a graffont ar ddiwedd y drygionus a gant weled achos i ddywedyd, wele 'r gwyr ni osodasant Dduw yn gadernid iddynt, Psal. 52.7. eithr ymddiriedasant yn lluosogrwydd eu golud, ac a ymnerthasant yn eu drygioni. Y mae mor hawdd i bôb cymydogaeth henwi rhai na cherddasant fyth gam rhwydd ar ol gwneuthur rhyw anwiredd erchill a waherddir yn yr scrythyrau, nad rhaid i mi roddi esamplau ychwaneg ar lawr heb law y rhai sydd yscrifennedig [Page 226] o'r blaen yn histôri'r ffydd.
9. Nid all fod fwy o amgylchiadau tebygol i wirio hên scrisennâdau a wnawd er's miloedd o flynyddoedd, nag sydd yn perthyn ir yscrythyrau. Canys yr oeddent yn gyhoeddus, a galleu eu gelynion eu gwrth-ddywedyd os gwelent achos, ond nid oeddent yn gwadu eithr yn cyfaddef y pethau a adroddir ynddynt. yn unig rhoddent gam ystyr arnynt, ac yn fynech edifarhâent, ac ufuddhâent iddynt, fel y gwnaeth Saul ac eraill. Parodd cyfraith Dduw gyfnewidiadau hynod drwy'r bŷd, am hynny nid ellid ei chelu. Yr ydoedd copîau o'r yscrythyrau mewn amryw wledydd pell oddiwrth eu gilidd, ac yn cyttuno ym mhôb pêth sylweddol. Y gwyr gonestaf yn y bŷd (a'u gelynion yn dystion) ydoedd yn eu cadw hwynt; y rhai a ofnent golled tragwyddol os chwanegent attynt, neu os tynnent beth oddiwrthynt. Y cloddiau, a'r tomennydd, a'r cestyll amharus cyn amled yn y terfynau rhwng Cymru a Lloegr, sydd yn dangos mai gwir yw'r Croniclau a ddatcanant y rhyfeloedd tôst a fu gynt rhwng y Cymru a'r Saeson. Llediaith Gymreig Llydaw sy 'n creirio 'r historiâu a fynegant i'n cenedl ni fyned i Ffrainc i breswylio yn yr amseroedd gynt. Ac nid oes lai o arwyddion gweledig i'n siccrhau yn scrifennâdau Duw. Canys gwelir yn awr ôl yr eglwysydd efangylaidd a blannodd yr Apostolion, ac yr anfonasant epistôlau attynt. Y mae yn Asia, Affrica, a'n gwledydd ninnau gynnulleidfaoedd a theyrnasoedd Christianogol a barchant yr yscrythyrau etto, megis y traddodwyd hwynt iddynt hwy gan [Page 227] eu henafiaid; heb law yr Juddewon fydd yn aml yn dwyn tystiolaeth ir hên brophwydi, fel y derbyniasant hwy gan eu henafiaid nhwythau. Os ammheui a fu natur dŷn berffaith ar y cyntaf, ac iddo syrthio gwedi hynny, fel y mae yn Llyfr Genesis; wele gynneddfau yn yr enaid y sydd yn arwyddoccâu ei fod ef unwaith yn well. Wrth surni llym y ddiod neu 'r gwîn y gelli ddirnad eu bod hwy unwaith yn gryf ac yn felys, ond iddynt o honynt eu hunain newid eu blâs. Annigonolrwydd ac awydd yr enaid sy 'n dangos fod iddo gynt etifeddiaeth fawr, a'i fod yn mwynhau peth mwy na'r bŷd, sef y Duw anfeidrol: am hynny y mae 'n ymgyrhaeddyd at ychwaneg fyth heb ymfodloni ar derfyn yn y bŷd. Dyfeisiau, ystrywiau, a dichellion y meddwl, sydd argoel fod ynddo wybodaeth fawr, pan ydoedd bûr ar ddelw Duw.
Dengis wyneb y bŷd hefyd nad yw ef er y diluw ddim hynach nag y mynega 'r scrythyrau. Ei gyfarwyddyd diweddar i drîn y creaduriaid a yspysa nad oes mor llawer er pan ddaeth iw oed ai synwyr. Nid oes mor llawer iawn er pan arferwyd Philosophyddieth, a dysceidieth, a phreintio, a chyfraith, a physygwrieth, ac hwsmonaeth; bu pryd na welsid heb wrthiau droi 'r cerrig yn fara wrth galchu 'r tir. Math. 4. Y mae'r amryw jeithoedd ymysc dynion etto yn gwirio'r histôri ynghylch gwascarfa a chymysciad Babel. Gen. 11.9. Canys gan fod yn awr gymmaint o'r vn geiriau, a'r vn rhyw sain gan y llythrennau ym mysc cenhedloedd ac ieithoedd dieithrol iw gilidd, y mae yn hygoel mai 'r vn iaith oedd ar y cyntaf gan [Page 228] bawb, megis y datcan Moses. Je pwy bynnag a ddeallo 'r Hebraeg ac ieithoedd eraill hefyd, a ddichon ddirnad eu gwneuthur hwynt o honi hi: ac nad yw 'r amrafael ieithoedd a'r sydd amlaf yn y parthau hynodaf o'r bŷd, ond yr vn iaith wedi ei chymyscu a'i thaflu wyneb a gwrthwyneb allan o'r drefn gyntaf gan ddynion wedi ammhwyllo, a ddechreuent ymbell air yn ei ddiwedd, ac a'i diweddent yn ei dd [...]chreu. Felly y dywed y Cymro mud, yr hwn air yn yr Hebraeg yw dum. Dechreuent hefyd rai geiriau yn eu canol, a thrawent eu deupen ynghŷd, a thaflent silaftau geiriau eraill y naill ar draws y llall, fel na wyddid mai'r vn geiriau oeddent. Dywed yr scrythyr gymmyscu 'r iaith yn Babel; ynteu digwyddodd ieithoedd newyddion yno wrth ddadgyssylltu, a chwalu, a rhwystrus benblethu aneirif ddarnau o'r hên. Ac o hynny y mae arwyddion digon hynod i'r ieithydd a graffo arnynt.
10. Daioni budd-fawr y Grefydd Gristnogol a gyhoedda ei bod o'r nef; y mae'n eglur fod Duw yn ewyllysio yn dda i ddŷn, am iddo ddarparu yn haelionus tuag atto ef; megis awyr i roddi iddo anadl, haul, a lleuad, a sêr, i oleuo ac i gynhesu ei drigle ef; y dwfr, a'r ddaiar, a chwbl ac sydd ynddynt iw fwydo, iw ddiodi, ai ddilladu, ai lonni ef. A chan ir Creawdwr cariadus ddiwallu y rhan waelaf o ddŷn, sef ei gorph, a'i fywyd naturiol, nid yw debygol yr esceulusei ef y rhan oreu, sef ei enaid a'i fywyd tragwyddol: yn enwedig gan fod yr enaid mewn cyflwr grasol ar lûn Duw: canys anwylaf gan rieni y plant a fyddo debyccaf iddynt yn eu gwêdd [Page 229] a'u moddion. Ac nid oes nac enw, na llyfr arall dan ynéf drwy ba un y dichon dŷn fod yn gadwedig onid Crist, a'i scrythyrau: yr hyn sydd amlwg wrth ystyried godidowgrwydd y wir, a ffolineb pob gau grefydd.
Anrhaethol yw'r lleshâd corphorol ac ysprydol a gynnig Crist, ac y fwynhae 'r bŷd pe dilynei gyfarwyddyd yr scrythyrau. Pe byddeu pobl fodlon ir hyn sydd ganddynt, 1 Tim. 6.8. Col. 3.12, 13. Math. 7.12. yn maddeu iw gilydd, yn cyd-ddwyn au gilydd, yn gymwynasgar, yn gariadus, yn gwneuthur ag eraill fal yr ewyllysient i eraill wneuthur â nhwythau, ac yn cadw gorchymmynion eraill Crist, ni byddeu cymaint yn tuchan dan orthrymder, a châs, ac anghydfod, eithr eisteddent yn danghnefeddus, ac yn ddigonol yn y cys [...]od dan eu ffigysbrenni. ped faeu'r iâch yn ddiwyd i weithio, a'r cyfoethog yn rhwydd i gyfranu i gyfreidiau'r gwan, 2 Thes. 3.10. ac yn ymwrthod â balchder, glothineb, meddwdod, afradlondeb, ac yn byw yn dduwiol, gan obeithio yn yr Arglwydd, a gwneuthur da; Psal. 37 3. Caent drigo yn y tîr, a phorthid hwynt yn ddiau: ac ni byddai na noethni, na newyn, na'r trallodau eraill fy'n dyfod ar ol pechod yn poenydio dynion. ie byddau'r moddion y ragddywedpwyd yn peri iechyd corphorol, gan fod seguryd, ac anghymmedroldeb yn achos o ddoluriau, a chodymau, a briwiau, a phlâau oddiwrth ddigter Duw.
Dedwydd hefyd fyddeu eneidiau dynion yn y byd yma wrth ddilyn gair Duw, canys cyssur mawr yn eu cyd wybodau a gaiff y diwyd, a'r trugarog; a thrwy lawenydd y tynnent ddwfr o ffynhonnau iechydwriaeth, sef ordinhâdau Duw. [Page 230] Esmwythach ir meddwl yw ammynedd na diclonedd, bodlonrwydd na chybudd-dod, diweirdeb na thrachwant. eithr anifeilaidd, a chwilyddus, a blîn yw mwyniant pechod, a gedi golyn gwenwynllyd gofidus oi ôl yn yr enaid. ynteu profwch, a gwelwch mor ddae yw'r Arglwydd, Psal. 34.8. a'i ffydd, gwyn ei fyd ygwr a ymddiriedo ynddo. pan fyddo 'r cywyr Gristion ennyd yn y dirgel yn ymddiddan â Duw mewn myfyrdod ddifrifol, a gweddi wresog, daw allan yn drahyfryd. Wrth ymgymdeithasu â'i Greawdwr a'i Brynwr, yn ei fendigedig Yspryd, glŷn wrtho ef y fâth lewyrch prydserth yn ei ymddiddanion, a'i ymarweddiad, ac a fyddo eglur iddo ef ei hun ac i eraill. yn y gwrthwyneb y rhai a fyddont yn y dirgel yn ymhalogi ag aflendid, bwriadau maleisus, llofruddiaeth, a drygau eraill, neu yn ymgymdeithasu â diafol drwy gyfammod, a ddygant euogrwydd teimladwy yn eu cylch, a glŷn wrthynt ryw hyllni chwîth a fyddo dirnadwy nid iddynt hwy eu hunain yn unig, ond iw cymmydogion hefyd: mal na byddo daioni grâs, a drwg pechod yn anhynod ir bŷd.
Tystiolaethodd Solomon, ac eraill a brofasant bôb pêth, eulynaddolieth, glothineb, difyrrwch cnawdol, llawnder bydol, mai goreu yw grás Duw a'i ffyrdd: Can. Sol. 2.3. a bod ffrwyth Crist yn felys iw genau. Yn y bŷd a ddaw caiff y grasol ddedwddwch ysprydol a chorphorol, a hynny yn dragywydd. Ped fai am bôb awr o ufudd-dod ond awr o hyfrydwch, byddei yr gwobr yn rhesymmol; eithr ceir llawer milwaith mwy na 'r can cymmaint.
Brwnt a niweidiol yw pôb gau-grefydd. yr oeddid yn llâdd ac yn llosci dynion yn aberth ir eulynod gynt, ac yn taflu plant ir tân yn addoliad Molech. Jer. 32.35. Gwneid llawer o aflendid yn noethlymyn, ac yn feddw mewn rhith addoliad i Baccus, Fenus, Flora, Jupiter, Hercules. Nid yw crefydd Mahomet fal un Crist yn peri addfwynder, ond afrywiogrwydd, a ddinistriodd deyrnasoedd, a threfydd, a'u trigolion o fesur y miliwn. Nac yn gwneuthur rhai i fod heb chwenych eiddo cymydog, ond yn caniadu treisio oddiarno yr hyn a feddo. Bucheddol a diniwed ydoedd dyscyblion Crist, ond lladron, a llofruddion amlwg ydoedd Mahomet a'i ddilynwyr. Arfer Crist a'i Apostolion oedd bywhâu'r meirwon, ac iachâu 'r clwyfus; ond arfer addolwyr Mahomet yw llâdd y rhai byw, a chlwyfo'r iachus: Nid gwneuthur llês drwy wrthiau, onid niwed drwy arfau. Scythia eger fyddai eu rhan, Luc▪ 19. pe rhoddent yn ôl fel Zacheus, yr hyn a yspeiliasant drwy orthrymder gwaeth na'r eiddo Nimrod. Ynghylch yr un fath foddion sydd i ddychymygion Pâbaidd hefyd. a rhag cael allan ddrygioni y coel-grefyddau hyn, gommeddir ir bobl eu chwilio, y rhai ni chânt dan boen marwolaeth ymddadlu yn eu cylch; eithr gwthir hwynt ar y bŷd fal cathod mewn cydau. Pwy nid amheuai'r farchnad yn feius a gymhellid arno ef, heb gael cennad unwaith iw phrofi, na'i hedrych, iw phwyso, nac iw mesur? arwydd eu bod yn ddiflas, pan fynnant eu llyngcu heb eu harchwaethu; ac yn dwyllodrus, pryd na fynnant eu dwyn ir goleu. anwybodaeth yw eu mammaeth, canys Pette'r bŷd ddewin ni fwyttai furgyn: [Page 232] Ond y dall a lwngc lawer gwybedyn.
Joan, 5 59.Yn y gwrthwyneb, nid yw'r gwirionedd yn ceisio'r cornel. gwahadd yr scrythyrau bawb iw chwilio, a chanmolant bawb y wnel hynny. galwant y Beraeaid yn foneddigeiddiach na'r Thessaloniciaid, Act. 17.11. am iddynt chwilio beunydd yr Scrythyrau i geisio gwybod y gwir. ac oni bae eu bod yn gywyr ac yn dda, ni byddent mor chwanog i gymmeryd eu holi. ie fel y cynnyddo cydnabyddieth dŷn â hwynt, goreu fydd ei dŷb am danynt. Am hynny gan fod Duw yn dda ynddo ei hun, ac wrth ddŷn, a bod y grefydd scrythyrol yn oreu i ddynol ryw, nid all na byddo o Dduw.
11 Nid yw'r efengyl ddychymyg twyllodrus dynion, nac angylion. ni edi ofn Duw i ddynion, ac angylion da geisio siomi neb: ac ni oddef atcasrwydd yr angylion drwg iddynt amlygu cymaint o'u dichellion a'u profedigaethau, a 'u casineb yn erbyn meibion dynion, ac y mae'r scrythyrau yn ei fynegu. Nid yw debygol y rhybuddiei'r cythrael bobl rhag dyfod atto ef ir tân tragwyddol; ac y gorchymmynei iddynt gashâu celwydd, a malais, yr hyn y mae ef yn eu chwenych; a charu Duw, a sancteiddrwydd, yr hyn sydd gâs ganddo ef: hynod yw ei lafur ef yn ceisio rhwystro pob dŷn i ddilyn athrawieth dduwiol. Gwelir dynion drwg hefyd yn gwrthwynebu gorchymmynion, ac yn diflasu addewidion yr scrythyrau; Ceisiasant ym mhob oes eu dileu allan o'r bŷd, a llâdd pawb a'u dilynent. Am hynny nid oes neb iw gydnabod yn Dâd ir gwirionedd Sanctaidd, onid Duw yn unic.
12. Amlder y tystion o amryw wledydd, ac yn [Page 233] elynol iw gilydd, y gydnabyddant yr Scrythyrau a ddichon gynorthwyo ein Siccrwydd o honynt. Heb sôn am eglwysydd y Protestaniaid, y mae Talmud yr Juddewon, ac offeren y Papistiaid, ac Alcoran y Twrciaid, fal clustogau gwniedyddion wedi eu cluttio â darnau o honynt. yr hyn sydd eglurdeb hyspys fod yr Scrythyrau yn y bŷd o'u blaen hwynt, ac yn gyfoethog, ac mewn cymeriad, pan fenthyccieu pawb oddiwrthynt, er mewn lliwio eu opiniwnau. Ni cherddaseu arian drwg yr euruchod hynny, oni bae eu tebygolieth i'r arian brenhinol cyfreithlon, ydoedd mewn bri oi blaen hwynt. y peth y byddo pawb yn ei gyfaddef yn ddi-nâg, a ellir ei goelio yn ddiddadl; er na buost erioed yn Llundain, etto ni wedi fod y fath ddinas enwog, o herwydd i gymmaint o'th gydnabyddieth ei gweled. Yr un Duw ac sydd yn gwahardd dywedyd celwydd, sy'n gomedd iti anghoelio 'r gwir: ac onid ê, ni cheid ddim llês oddiwrth physygwrieth, a llawer o gelfyddydau eraill, sef oni choelir, oni ddilynir y rheolau sydd yn y llyfrau perthynol iddynt. Periff anghredinieth anrhesymol i ddyn gadw ei ddolurcorphorol, a gwrthod moddion arferol o iachâd; ie rhynnu o anwyd, a marw o newyn, rhag ir tŷ syrthio yn ei ben ef, ac i fwyd ei wenwyno ef. Ni roddi'r parch dyledus i'th dad a'th fam, oni choeli ddim o'r hyn a fu cyn côf iti, sef iddynt hwy dy genhedlu a'th fagu.
13. Tystiolaethodd Duw ei fod ef yn perchenogi yr Scrythyrau drwy y gwrthiau y nerthodd ef y prophwydi, Christ, a'î ddyscyblion iw gwneuthur. Estynnodd Moses ei wialen a gwnaeth [Page 234] ffordd sych ir bobl i fyned drwy ganol y môr. Safodd yr haul wrth archiad Joshua: aneirif ydoedd rhyfeddodau Crist, a'i Apostolion, fal y darllenir yn y Testament newydd. Ac ni chwbl beidiodd pethau rhyfeddol a dilyn y pregethwyr duwiol, y safasant gyda gwirionedd yr efengyl yn erbyn llygredigaethau cyffredin yn yr oes ddiweddaf hon, mal y gweli yn histori y merthyron. Yn amser y Frenhines Mari ofnai Brenhines Babaidd Scotland weddiau Cnocs rasol, (yr hwn oedd yn adferu purdeb efangylaidd â'i holl egni) yn fwy nag ugain mil o wŷr: a chyfaddefid na syrthiei yr un o'i fwgythion ef ir llawr. yn amser [...]er pân edifârodd ar gonsuriwr iddo wneuthur cyfammod â'r cythrael drwy scrifen o'i waed er cael ei gymorth i wneuthur castiau, a dyfod o'r amser i fynu i'r cythrael gael ei enaid ef a'i gorph yn ol y cyttundeb a fuasai rhyngthynt, ymgasclodd pregethwyr a phobl dduwiol ynghŷd i weddio, a'r pechadur dychrynedig yn eu canol hwynt; ac yn niwedd y diwrnod trawodd rhuthrwynt ystormus wrth ffenestr y fan lle'r oeddent ynghŷd, a fwriodd yr yscrifen waedlyd i mewn attynt. y pryd y nâdodd diafol yn arw, orfod iddo roddi yr fond i fynu heb allu cymmeryd y dyledwr.
Adwaenwn un y gosododd rhyw yspryd arno mewn môdd teimladwy; ac wrth alw yn ei ddychryn ar Dduw yn- Ghrist, y gafodd lonydd yn ebrwydd. Rhag-fynegodd Mr Focs yn Germania wrth bregethu, y dychwelid rhydd-did ir efengyl yn Lloegr, ac yn ebrwydd bu farw 'r Frenhines Mari, a chyflawnwyd ei air ef yngolwg [Page 235] y rhai a dramgwyddasent wrth ei glywed ef. yn amser y frenhines Elizabeth cyrchwyd y pregethwr duwiol hwnw at un Mrs Honiwood, ydoedd glâf o dristwch yspryd, a chlefyd wâst; a phan ddaeth iw ystafell hi, cafodd ei theulu hi yn eistedd ar lawr yn synn wedi blino yn wŷlo, ac yn disgwyl yr awr iddi hi: ac wedi iddo ef daer-weddio gydâ hwynt, mynegodd ir clâf, yr adferei Duw ei hiechyd iddi eilwaith, ac y cafai hi hîr oedran yn y bŷd hwn i ogoneddu ei enw ef; ar hynny yn o-ddiclon hi ai attebodd ef, y gallei ef ddywedyd yn gystal na thorrai'r phiol wydr ydoedd yn ei llaw hi er ei thaflu ynghŷd â'r pôst, yr hon a fwriodd hi oddiwrthi gyd â 'r gair, ac a gyfodwyd i fynu oddiar lawr yn gyfan; a bu fyw 'r wraig wedi hynny, oni welodd hi drychant oi phlant, a'i hwyrion, a'i gorescennydd. Amser arall pan ydoedd yr efangylwr hwn yn cymeryd ei genad, ag Jarll Arundel wrth lan y dwfr, dymunodd yr iarll arno, nad elai ir cafan, o herwydd bod yr hîn yn dymhestlog, a'r dwfr yn arw beryglus; attebodd yntef, gwneled y dwfr hwn â mi, fel y tystiola [...]thais i chwi 'r gwirionedd (sef purdeb crefydd) mewn simlrwydd calon: felly efe a aeth ir cafan, ac yn y fan gostegodd y gwynt, a gwastattâodd y dwrf. Ie odid oes na gwlâd heb ryw beth rhyfeddol yn digwydd ynddynt i siccrhâu gair Duw, a'i ras, er nad yw pawb yn craffu arnynt o ran eu esceulusdra; Esai. 26.10, 11. Y rhai ni welant uchelder yr Arglwydd na'i law.
Ond nid rhaid ir unrhyw wrthiau fod mor weledig, ac mor aml, ac oeddent yn amser yr Apostolion: am fod y ffydd a'i scrifennâdau yn [Page 336] awr mewn hir oestadol feddiant ym mysc y cenhedloedd, a hynny yn y gwledydd mwyaf enwog, a llythrenog drwy 'r holl fŷd. Y mae treftadol gyfiawn feddiannau yn gwneuthur titl yn ddiddadl, ac yn afreidiol gyfodi' r meirw iw brofi. Pan oedd Crist yn gorphorol wedi newydd escyn iw orsedd-fainc, gweddus ydoedd iddo ef gyfrannu doniau a breintiau tra-rhagorol iw ddeiliaid, ac wedi hynny llywodraethu wrth y rheol gyffredin y gyhoeddasei ef i bawb. Pan goroner brenin daiarol, ar y cyntaf egir y carchârau, ac aml fydd rhoddion y beidiant gwedi; a chaiff cwrs cynefin cyfraith lê, a'hynny er llês ir wladwrieth hefyd. Nid cymwys ir Mawrhydi Nefol dorri trefn arferol ei greadigaeth, a'i ragluniaeth heb raid, wrth ddymuniad pob un moethus, anufydd, yr hwn oni wrendi ar scrifennadau yr prophwydi, ni chredai chwaith pe cyfodai un oddiwrth y meirw i fynegi ewyllis Duw; Canys ceisiodd yr Juddewon gwrthnyssig lâdd Lazarus, yn llé ufuddhàu iw dystiolaeth ef am Grist, Joan. 12.9, 10. ar ôl ei gyfodi ef o'r bêdd. A fynni di i Grist fyned ir bôen i ddioddef yn fynnych, ac i adgyfodi ym mhôb oes, ac ym mhôb gwlâd, a gadel i bob llaw ymhyrddu iw friwiau ef? Bendigedig yw y rhai ni welsant, Joan 20.23. ac a gredasant. Heb law hyn, nid yw pobl yn cymeryd attynt ond ychydig ofn Duw, er maint y welant oi ryfeddol allu ef. Beunydd y mae'r ddaiar drom fel pèl fawr yn sefyll ynghanol yr awyr, Job 26.7. ac ynghrôg ar ddiddim. Nid oes ond yr awyr yn ei hamgylchu o bôb tu, heb ddim gweledig iw hattegu. y mae olwynion mawr y nefoedd yn troi oddiamgylch [Page 237] mewn pedair awr ar ugain, heb un dŷn yn rhoddi llaw arnynt, y mae'r cant cwmpasog yn troi, ar fôth sef y ddaiar heb syflyd. Gwnaiff Duw i'th gulla wrth dy borthi di, droi bara a diod yn gnawd, ac yn waed, fal y troes Crist y dwfr yn wîn. Ynghenedliad creaduriaid byw, Joan. 2. aiff defnyn gwlyb yn gnawd, yn escyrn, ac yn groen; etto pwy sydd yn rhyfeddu, ac yn rhoddi'r gogoniant i Dduw, am ei weithredoedd rhyfeddol hyn? Grwgnachodd Israel tra yr oeddent yn cael manna o'r nêf; ni pheidient ag erlid Elias, ac ni choelient ei air ef, 2 Brenh. 1.9, 10. er i dân o'r nefoedd yssu ei wrthwynebwyr ef o fesur y dêg a deugain. Hefyd pe rhoddei Duw yr un gwrthiau ac a wnaeth Christ a'i Apostolion i amlhau ym mhob oes, ac ym mhob man, ni byddent ryfeddodau, na chynorthwyau i'n ffydd ni, eithr eu cynefindra y fagei esceulusdra ynom ni. Ni chynhyrfa llysiau physygwriaethol mo'r corph, os arferir hwynt fal llunieth beunyddiol. Rhyfeddach yw i'r haul dywynu nâ thywyllu, canys naturiol yw diddymiad, a gallu anfeidrol Duw sydd yn peri bod o ddim. Rhyfeddach i'r ddaiar sefyll ynghanol yr awyr na siglo; etto dychrynwn fwy pan so ecclips ar yr haul, a chrynfa ar y ddaiar, o herwydd eu anamlder. Am hynny gwell ar ein llês, a bûdd ein heneidiau, fod rhyfeddodau apostolaidd yn rhyfeddodau byth, nag yn bethau cyffredin. Ond rhag tybied fod y ffydd yn ddidŷst, gwnaeth Duw yn yr oesoedd diweddaf rai pethau nid ydynt gwbl anghyffelyb i wrthiau y brif eglwys. Canys megis ac yr oedd yr efengyl gynt yn gostegu lleisiau, ac yn rhwystro gweithrediâdau cyhoeddus y cythreuliaid; [Page 238] felly er pan adgweirwyd y ffydd yn ddiweddar, nid yw'r tylwyth teg (sef y cythreuliaid cymdeithgar) cyn hyfed ac oeddent yn amser Pabyddieth: pryd yr ymddangôsent yn finteioedd gweledig i lithio pobl drwy yspleddach â hwynt. Arwydd ei myned hi yn ddydd efangylaidd, pan ymguddiodd pryfed y tywyllwch.
PEN. 21. Ychwaneg o resymmau yn profi gwirionedd y ffydd.
14. Pe iawn arferem ni yr hyn y ddirnad ein deall ni, ac y wêl ein llygaid ni, argyoeddai hynny ni o wirionedd y pynciau mwyaf pwysfawr yn yr scrythyrau, Heb. 11.6. megis fod Duw bywiol. Gwneuthuriad dŷn y ddengis hyn. Nid y bŷd y wnaeth ddŷn, am nad all pêth difywyd wneuthur pêth byw. Nid oes reswm a deall yn y ddaiar, fel y mae yn nŷn: ac nid all dim gyfranu i un arall, onid y peth sydd ynddo ei hun. Ni phoethei'r tân mor dwsr, oni bae fod poethder ynddo. Nid dŷn chwaith ai gwnaeth ei hun. canys nid all y bychan o gorpholaeth estyn cufudd at ei faintioli: Nid all y clâf ei wneuthur ei hun yn iâch, na'r garw ei wneuthur ei hun yn brydferth, na'r gwan ei ddeall ei wneuthur ei hun yn gall. Nid rhieni chwaith sy'n ffurfio eu plant, canys ni wyddant pa un ai mâb ai [Page 239] merch fydd ffrwyth y brû, nes ei eni; yn fyn ych cânt ferch pan ddymunent fab: er nad adwaenant hwy mo osodiad y galon, a'r yscyfent, y giau, a 'r gwythi, er na feddyliant am danynt, etto cynyddant yn y grôth. Psal. 139.13, 14. Cynhêsodd y mysyrdod hwn galon Dafydd i hoffi Duw, pan ddywedodd ef wrth yr Arglwydd, Toaist fi ynghrôth fy mam, clodforaf dydi, canys of nadwy a rhyfedd i'm gwnaed.
Gwneuthuriad y bŷd hefyd y ddylei dy gymell di i gydnabod Duw. Nid dyn y wnaeth y bŷd, rhaid ydoedd creu'r bŷd oi flaen ef, er rhoddi cynhalieth iddo ef; nis gallasei fyw heb luniaeth ac anadl yr yspaid y buasai yn gorphen gorchwyl llai: dychweliad y Corph ir ddaiar sydd arwydd fod y ddaiar oi flaen ef, ai wneuthur ef o honi, canys dychwel pob peth ir man allan o ba un y daeth, fal y mae'r tarth gwlyb yn cyfodi o'r ddaiar ir cwmylau, ac yn dyfod i lawr eilwaith yn law. Pe gallai dyn wneuthur bŷd, gwnai fwy nag un o ran ei awydd, ai gybudd dod. Hefyd ceidw'r bŷd ei drefn osodedig gan Dduw, er gwaetha dyn. Cyfyd yr haul yn ei brŷd yn gynt nag y mynnai'r diog, machluda yn gynt nag y mynnai'r trafferthus. Ceidw'r môr ei lê ai lanw heb ruso dim er un Pharaoh na'i gerbydau heirn, amser a llanw nid eris am un dyn; am hynny y mae iddynt feistr arall y sydd uwchlaw pawb.
Ac nid yw anhygoel i Dduw greu'r bŷd o ddim; y mae Cymaint, rhagor rhwng byw a difyw, ac sydd rhwng defnydd a dim. Di weli Dduw beunydd yn anfon ir bŷd greaduriaid byw oddiwrth hâd difyw, ac yn rhoddi golwg i [Page 240] ddefnydd dall. Y mae'r pethau mwyaf yn dyfod oddiwrth bethau bychain, nesaf i ddim; mae'r dderwen fawr yn tyfu oddiwrth fesen fechan, nid ydoedd y fesen onid cron, a meddal, y mae'r dderwen yn ganghenog, acyn galed: dyna beth sydd, oddiwrth beth nid oedd.
Hyspyssa'r Creadigaeth ini hefyd fel Moses, Mae un Duw sydd. Daut. 6.4 Canys cydweithia'r creadu riaid oll er eu bod yn llawer, ac o amryw ddull, nesol a daiarol, at yr un diben. Y mae'r haul yn cynhesu, a'r Cymylau yn dyfrhâu 'r ddaiar i beri iddi dyfu, y mae hitheu a'r môr yn mâgubwystfilod, a'r cwbl i gynal dyn. Bod llawer o weision yn gwneuthur amryw swyddau, ac yn y diwedd yn tueddu at yr un peth, sydd arwydd mae un meistr sydd iddynt; wrth adeilâdu, pan fyddo'r naill yn llâdd llif, a'r llall yn nâddu, arall yn tyllu morteisiau, ac erbyn y dèl y darnau ynghŷd, os byddant gymwys iw gilydd, ac yn gwneuthur adail dêg, cydnabyddwn i un pen-saer Cysarwydd fwrw a marcio'r gwaith. Undeb yw'r peth godidoccaf mewn teulu, a theyrnas, anhwylus yw mwy nag un meistr mewn teulu, neu fwy nag un brenin mewn teyrnas, o herwydd rhwystrent eu gilydd drwy groes-amcanion. Pa unaf, hyfrydaf a chryfaf
Nid yw'r Drindod fendigedig hefyd heb ei hargraph ar ddyn, gan fod ei enaid ef yn deall, ac yn ewyllysio; y mae'r Tâd nefol yn deall ei berffeithrwydd, ei ystyrieth ef ai ddoethineb ef yw ei Fâb; y mae dyn yn gwneuthur peth yn ol ei ddeall ai fwriad oi fewn, a thrwy'r mâb y gwnaeth Duw bob peth. Joan. 1, 1 Wrth ddeall ei berffeithrwydd [Page 241] y mae hyfrydwch i Dduw, sef yr Yspryd glan, yn ymfodloni ynddo ei hun, a chyflawniad ei ewyllis; y mae ewyllis yn nyn hefyd yn cyd ganlyn ei ddeall ef, ac yn cynhyrfu ei allu ef, fal y dywedwn, yr ewyllis y wna'r gorchwyl. Am hynny nid all un dyn ystyriol na chydsynio ag ymadrodd yr Apostol am Dduw, Rhuf 11.36. O honaw ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth; sef o'r hanfod, y Tâd nefol, a thrwy ei ddoethineb ef, sef ei Fàb; ac iw ewyllys hyfryd ef, sef ei Yspryd ef, y mae pob peth.
Dywed Paul fod Duw yn ddoeth, 1 Tim. 1.17. a phawb ac a ystyriant ei weithredoedd ef y ddywedant yr un peth. Rhyfeddol mor gywraint yw gwneuthuriad dyn ac anifail, a maint o bibellau, a gwythi a chymálau sydd ynddynt, heb un diswydd nag afreidiol, ond pob un yn cynorthwyo'r naill y llall. y mae'r haul yn cadw ei dymhòrau yn y modd buddiolaf ir bŷd; pettau 'r lamp nef ol hwn yn sefyll ynghanol y ffurfafen, neu yn troi yn oestadol uwchben, ac a'r draws canol y ddaiar yn lin y Cyhydedd, byddai 'r naill ran o'r ddaiar yn anffrwythlon gan boethder, ar llall yn anghyfaneddol gan dywyllwch, ac oerder, am fod Crwmmach y ddaiar yn bwrw Cyscod, fal na thywyno'r haul arni i gŷd ar un waith: am hynny ymsymmud yr haul i amgylchynu'r gogledd, nes addfèdu ffrwythau'r tir y tú yma ir bŷd, ac yna gan adel i ni ddigônedd o lunieth nes y delo eilwaith, cilia oddiwrthym ni a gwnaiff yr un cymwynas o amgylch y deheu. Yn y Cyfamser nid yw'r gaiaf anfuddiol ini, gan oeri heintiau, a gostégu pryfed, a gwybed; a chaledu dyn ac anifail, [Page 242] gwneuthur yn iach, ac yn gryfach. Gwelir y glaw a'r eira gaiafol yn gwrteithio'r ddaiar i fwrw ei chnwd yr hàf. A bydd y lleuad yn nesaf attom ni, pa bellaf y bo'r haul oddiwrthym ni, sal na byddom heb oleuni pan fo'r nôs hwyaf. A chan fod cyfnewidiadau cyflym yn beryglus i ddyn ac anifail, nid yw trumder gaiaf yn neidio ar ben poethder hâf, eithr o fesur ychydig y cymer y naill lè r llall. Beth fydd niweidiach i'th iechyd ti nag oeri yn ddisymwth ar ol chwysu? am hynny o fesur mynudyn neu ddau beunydd y byrhaiff ac yr ymestyn y dydd, y chwnnega oerni neu wrès. Ni lamma r haul o'r naill gylch ir llall mewn un dydd, eithr o fesur ychydig y llithra ef, fal y gallo'r naill ran o'r byd ei dderbyn ef, a'r llall ei hepcor ef yn oreu.
Eglur yw nad oes ddeall yn y goleuâdau hyn iw Cyfarwyddo eu hunain, Canys lle mae deall y mae bywyd hefyd, y gynhelir drwy ymborth mewn Creaduriad gweledig, ac er diwedd y dderfydd drwy farwolaeth, y peth ni ddigwydd ir rhain. Ni welwn chwaith un creàdur byw, nad yw'n gwibio i mewn ac allan, weithiau yn symud, weithiau yn sefyll, ond ceidw y rhain yr un mesurau yn oestadol, gan gerdded yn ddibaid. Petteu ganddynt ddeall, byddeu ganddynt ew yllis hefyd, ar tueddei nhw i orphwystra a rhydddid, yn hytrach na llafur di-dorr, er gwasnaethu Creaduriaid llai na nhw eu hunain. Diameu ynteu mae Duw sydd yn pennodi, ac yn rheoli eu rhodau, ac onidê ni cherddent mwy nag olwynion Clocc, neu felin, heb ryw un [Page 243] Celfyddgar iw ffurfio, ac iw trin i hynny.
Nid digon yw ir ddaiar gynhesrwydd heb wlybanieth. Pe gollyngaseu Duw y mòr am ben y tîr nis gallasai neb fyw; am hynny ordeiniodd bibellau i ddwyn dwfr o'r môr i ddiddanu'r tir: yr hwn wrth bistyllu drwy'r ddaiar, megis drwy hîdl, a edi ei helltni yn ol, fal y bo croiwach, a chymwysach i ddiodi creaduriaid byw. felly y deilliaw afonydd o galon y ddaiar, fal gwythi o'r afu, y gerddant drwy gorph pob gwlâd. Ac am nad yw lesol ir afonydd chwaith fod cyn lletted â'r ddaiar, gorchymyn Duw i darth escyn ir Cymylau, lle y tywycha gan oerni, ac y troiff yn ddwfr i ddiodi'r ddaiar â chafodydd hyfryd, pan fyddo mwyaf ei syched hi, a llettaf ei safn hi. Psa. 104.24. Mor luosog yw dy weithredoedd di o Arglwydd, gwnathost hwynt oll mewn doethineb!
Dywed Pcdr fod yr Arglwydd yn gwybod pob peth. a phwy ni chydsynia â'i ymadrodd ef, Joan. 21.17. a'r a ystyria amled yw'r creaduriaid y mae'r Creawdwr yn eu trefnu, a'u rheoli? Nid allai cymmaint o bethau difywyd, disynwyr gydweithio mor gysson ac mor union i leshàd dyn, oni bae fod Cyfarwyddwr doeth iddynt, mwy nag y trawei saeth ddall y nôd. oni baeu i un â llygaid yn ei ben ei gollwn hi atto ef. yr hwn a fedrodd osod pob peth mor gelfyddgar oth fewn di, dy mennydd i ddeall ac i gofio, y galon yn ffynnon bywyd, yr iau a'r yscyfent iw swyddau, nid all na wypo hefyd pa rai fwriadau sydd yn dy galon di, pa ddichellion sydd yn dy ben di. Ps. 94.9.10. Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wèl yr hwn a luniodd y llygad? oni [Page 244] ŵyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddyn? Canlyn hefyd fod gallu Duw gyda ei wybodaeth ef ymhob man, Act. 17.27. ac nad yw efe neppell oddiwrth bob un o honom, gaen ei fod ef yn rhoddi bod a bywyd i bôb péth. Ni throei'r felin petteu'r dwrf oddiwrthi, nag olwynion natur oni bae fod eu Cynhyrfwr hwynt yn bresenol; er nad y [...] [...] lygaid yn gweled ei sylwedd ef, mwy nâ'r [...]wynt, neu'th enaid dy hun, etto gweli ei we [...]ediâdau ef, a nhwythau. Rhodia ditheu y [...] ofalus ger bron dy Dduw, a galw arno ef, am ei fod ef yn agos i'th gynorthwyo.
Amlwg hefyd yw rhaglunieth a gofal Duw yn y drefn osodedig. Adfeiliei adeilad y bŷd, oni bae iw gwneuthurwr edrych atti; a boddei'r môr y tîr, er dim gweledig sydd iw gadw i mewn yn llawer man. trigau llydnod newydd swrw eisieu medru sugno, oni bae ei fod ef yn eu dyscu: gwelir hwynt yn ceisio pursau eu mammau, cyn iddynt er ioed weled y fath beth, nag i ddyn roddi llaw arnynt iw hyffordi. y mae llysiau yn hâdu ychydig cyn eu diflanu, a dyfod amser oerni, megis pettent yn rhagweled eu marwolaeth, ac yn darparu i gynal eu rhyw.
Ac am y ddyled a ofynnir gan ddyn, sef ofni Duw, a chadw ei or [...]mmynion ef, hawdd i ddyn gydnabod fod hywny yn weddus. preg. 12.13. Nid yw rheswm yn gweled yn anghymwys ir tâd a ymgleddo blant, gael ufudd-dod oddiwrthynt. nid yw nêb y [...] gwneuthur offeryn onid iw bwrpas; a fynni di i Dduw dy wncuthur a'th ymgleddu yn haelionus, yn unig fal y gallych wasnaethu'r pechod, a'r Cythrael, a gwrthryfela [Page 245] fela yn ei erbyn ef? Y fynni di iddo ef dy ddal di yn ei freichiau i scriffinio ei wyneb ef, ac â'th draed i guro ei ymyscaroedd tyner ef?
A rhag i deimlad o ddigter Duw wneuthur dŷn pechadurus yn ddibris, ac yn anhydyn i ddychwelyd i deulu ei Arglwydd, mynega y mawhrydi nefol, iddo gael iawn gan Grist iw heddychu â phôb un a ddychwelo; ac anrhesumol yw'r anghrediniaeth ni chydnabyddo y gollwn echwynwr trugarog ddyledwr tlawd yn rhydd, wedi i fachniad galluog dalu drosto ef. Heb. 7.22.
Os amheui'r adgyfodiad, edrych ar yr hadŷd sy'n torri ar eu traws, ac megis yn braen [...] yn y prîdd, etto o'r gronynnau noethion priddlyd hynny, y cysyd tywysennau tal, ac ynddynt ddêg ar hugain. Er ir planhigion a'r llyss [...]au golli eu tegwch y gaiaf, a myned fel cy [...]ph meirwon, etto blodeuant eilwaith pan ddel yr hâf. Troiff Duw gyscod angeu (sef y nôs) yn foreuddydd. Nid anhaws iddo ef y ffurfiodd iti gorph o ddefnyn ynghroth dy fam, wneuthur felly o briddyn ynyroth y dd [...]ar. Pan luniodd ef Adda o'r pridd, Gen. 5.5. bu fyw naw cant a dêg ar hugain o flynyddoedd, er iddo wanhychu llawer ar ei gorph drwy bechu. Ynt [...]u nid anhebygol y peri'r Cyrph gogoneddus byt [...], am y byddant yn ddibechod; hoi [...] fydd er gwisc briodas yn dragywydd, pryd na bydd [...] brynti iw brychu nac un gwyfyn anwiredd iw nyssu.
Y mae ynoti arwyddion o [...]nfarwolder a bywiogrwydd yr enaid tra bo [...] Corph yn farw. canys mewn cwsc (yr hwn y w llûn marwolaeth) pan fo'r [...] symmud, y mae'r enaid [Page 246] yn ymgynhyrfu, yn ymresymmu, yn deall pethau, ac yn derbyn rhybuddion, a chynghorion. Nid yw nerth yr enaid yn pallu gyda'r Corph. pan gollo dyn aelod drwy friw, nid llai deall, a serch, a dymuniad, a chydwybod yr enaid. yn amser henaint pan fo nerth y Corph leiaf, y mae callineb, a sobrwydd, a rhinweddau'r enaid gryfaf. Canlyn ynteu, y bydd gwobr parhaus ir dâ ar drwg, am eu bod yn anfarwol. Nid yw'r Duw, y gwelir cymaint oi ddaioni ai wybodaeth, debyg i adel yr ufudd grasol yn gustuddiedig byth. nid adwaenom un tâd naturiol, na wnaiff fwy er ei blant ufudd, nag er y rhai gwrthryfelgar afradlon. Gweliff dynion yn gymwys gospî llofruddion ac yspeilwyr, ac oni wnaiff rheolwr y bŷd g [...]fiawnder ar ddrwg-weithredwyr? er bod y p [...]losophyddion gynt heb fawr gyfarwyddyd [...]'r Scrythyrau, etto wrth ddarllen Llyfr y creadigaeth canfuasant lawer o'r pethau hyn; ond yn o-dywyll gan wendid eu llygaid, fal y dall cyn ei gwbl iachâu, y welodd ddynion fal prenniau. Marc. 8.24. Am hynny dywedent fod y gwirionedd megis weali suddo mewn llya, a'u bod yn gweled peth oi le wyrch ef. Da [...]c 3.18. Ond cynnifer ac a irant eu llygaid ag eli Crist y welant ddigon o reswm wrth y [...]yried pethau o'u hamgylch, iw siccerhàu o w [...]rionedd-yr scrythyrau, ynghylch y pethau y fu, y sydd, ac a fydd.
15 Moddion scrifenwyr a dilynwyr gair Duw ymhob oes y ddengis e [...] bod o Dduw; canys ni thwylli [...] hwynt iw ddigio ef, na thrwy dêg na thrwy [...]agar. Ni ddenai melyswedd golud, na gogoniant y bŷd monynt i ddorri gorchymmynion [Page 247] Duw. Er i Satan addo yn dèg, y rhoddai ef fawredd i'r Sawl a Syrt [...]ient i lawr iw addoli ef, etto Cafodd ei ymlid ymmaith gan Grist, a'i ddilynwyr. Math. 4.9, 10. Act 8.9.18, 19, 20 Methodd gan Simon o Samaria, er cyfarwydded Swynwr oedd ef, hudo yr Apostolion drwy ddobr: eithr Petr a ddywedodd wrtho, bydded dy arian gyd â thi i ddestryw. Ni thycciau bwgythion y bŷd i beri iddynt betruso yn dilyn eu iachawdwr. Nid yw rai gau dystion onid am wobr bydol; yr oedd y ffyddloniaid yn colli a feddent am eu tystiolaeth. Anhawdd cael gan ddrwg weithredwyr gyfaddef y gwir arnynt eu hunain, ond pan holid y Cristnogion am eu ffydd, cyffessent ou gwirfodd: ie Cospid hwynt eisieu tewi: a than eu custudd byddent lawen a hyfryd. Ofn a thristwch sydd yn anferthu, a chywilydd sydd yn digaloni rhai drwg dan eu penyd, oddieithr ymbell un fyddo â chydwybod wedi serrio. Bendithieu'r merthyron enw eu Harglwydd, Act. 5.41. am eu cyfrif yn deilwng i ddioddef er ei fwyn ef, gan farnu erlidigaeth yn oruchafieth A hynny nid o ran styfnigrwydd meddwl, canys yr oeddynt o gydwybodau tyner, Luc. 22.92. ac wylent yn chwerw dost am y pechodau dirgelaf: nac o ran cefnogrwydd naturiol, canys yr oeddynt lawer o gyrph gweniaid, a thyner, hen ac afiáchus. Yr oedd gwraig dduwiol y waeddei yn dosturus yn ei gwewyr escor, ond pan benydwyd hi am ei ffydd ni chwynodd ronyn, gan atteb iw Chyfneseifiaid (oedd yn gofyn ei rheswm hi am hynny) fod ei gwewyr escor hi yn ffrwyth pec [...]od, [Page 248] ac o herwydd hynny yn drwm iddi hi; ond dioddef er Crist ydoedd ffrwyth oi ras ef, ac o'r ac os hwnnw yn yscafn iddi hi. Gan orfod ir proffesswyr duwiol ddioddef Cymaint o gustudd a phoen er mwyn eu crediniaeth; diammau iddynt chwilio'r peth hyd y gwaelod, cyn yr ymroddent i golli y feddent oi he [...]ydd; am nad yw hylithr gan bobl gyme [...]yd eu twyllo am eu hawddfyd amserol. Pa [...]r Duw yw'r brofedigaeth danllyd, i ddangos rhagor rhwng Sothach a mwyn da. Wrth deiladu ar sylfaen iec [...]ydwriaeth, y dydd (yn enwedig y brwd a'r tymmhestlog) a ddengis waith poh dyn, 1 Cor. 3.12, 13. pa un ài meini gwerthfawr, o athrawiaethau a grasau parhaus, ai ynteu coed pwdr a sofl crîn o gau athrawiaeth a rhysyg fyddo eu defnydd. Oblegyd trwy dan y datcuddir ef. Philip. 1.7.14. Dioddefaint y sainct ydoedd gadarnhâd yr efengyl dan erlidwyr cynnar a diweddar.
16. Os amheuei etto dywedaf wrthit, fel Philip wrth Nathaniel, Joan. 1.45. tyred a gwêl. Fal yr argyhoedda 'r creadigaeth a rhaglunieth dy reswm di, gwaith yr ailanedigaeth a lwyr argyhoedda dy galon, ac a scrifena'r gyfraith ynddi, oni's gwrthodi hi. Oni choeli fod athrawieth y ffydd yn wîn melys ac iachus, wrth weled eraill yn ei dymuno, ac yn siriol ar ei ôl ef, prawf ef dy hun, a dywedi'r un pêth. Golch lygaid gweniaid dy feda'wl â dragrau edifeiriol, a gloiwach fyddant, a chanfyddi ewyllis Duw yn graffach; a gweli'r haul Cyfiawnder wrth ei oleuni ei hun. Oddiwrth darth Cnawdolieth y cyfyd niwl yn [Page 249] y meddwl. Ephes. 40.17, 18. Rhuf. 12.2. 1 Joan. 5.10. Bydd pob dŷn â deall wedi ei dywyllu, tra fyddo wedi ymddieithro oddiwrth fuchedd Dduw. Ond y meddwl newydd y gaiff brofi perffaith ewyllys Duw. A'r hwn sydd yn credu ym mâb Duw, sydd ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun. Derbyn yspryd Duw i Sancteiddio dy enaid, ac yna tystiolaethiff iti mai'r scrythyrau yw ei Scrifen ef. Yna y gelli ddywedyd wrth yr eglwys fal y Samariaid wrth y wraig, Joan. 4.42. nid ydwyf weithian yn credu oblegyd dy ymadrodd di, canys mi ai clywais ef fy hun, a gwn yn ddiau. Joan. [...].17. Yr hwn a ewyllysio wneuthur ewyllis Duw y gaiff wybod am y ddysceidiaeth ai o Dduw y mae hi. Desaid ufudd Crist a adnabyddant ei lais ef, Joan. 10.7. rhagor llais dieithraid. Oni bydd dŷn yn yr un elfen â'r pêth yr edrycho ef arno, ni's gwèl ef yn iawn; pan edrycho un oddiar y lan ar bren yn y dwsr, efe ai gwêl yn gam er ei fod yn union. Felly ni ddichon yr hwn sydd mewn cyflur Cnawdol iawn ddirnad y gwirionedd grasol, 1 Cor. 2.14. oblegyd yn ysprydol y bernir ef. Meibion Duw sydd gynefin ai bresenoldeb ef, ac arferol o drin ei negesau ef, y adwaenant scrifen-law eu tâd. Math. 5.8. Cais burdeb calon, a chei weled Duw, ai ewyllys hefyd.
Y Sawl sy rasol, ac yn dal sulw yn ddyfal ar waith Duw tuag attynt ac ynddynt a allant ddirnad yn hyspys eu bod hwy yn gweled cyflawniad o addewidion yr Scrythyrau ynghylch maddeuant ir edifeiriol, ac atteb i weddiau y cystuddiol. Meidr y dyn da dystiolaethu iddo Alw ar yr Arglwydd yn [Page 250] nydd trallod, a chael ei waredu, Megis yr annogwyd ef yn Psal. 50. Ac na adawodd yr Arglwydd mono ef pryd y bae yn ymddiried ynddo ef. Psal. 34.6. Eithr Y tlawd hwn (medd ef) a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a i gwaredodd o'i holl drallodau. Teimliff heddwch yn ei gydwybod ar ol ymostwng o flaen Duw mewn argyhoeddiad a gofid am ei bechodau. Oni allo ddywedyd mewn Gwirionedd, Psal. 32.5. Addefais fy mhechod wrth yr Arglwydd, a'm hanwiredd ni chuddiais, a'r Arglwydd a faddeuodd anwiredd fy mhechod. I'r cyfryw y troir griddfan yr hwyr yn gân y boreu. Canys caiff ollyngdod yn ei gydwybod, a hyder hyfryd o gymod â Duw drwy Grist; a chynnorthwy yspryd Duw i weddio yn gynnes, i fyfyrio yn nefol, iw hyffordi i ddeall Ewyllys ddatcuddiedig Duw, ac iw dueddu iw chyflawni. Ac mor ffyddlon, Psal. 139.14. a chariadus, a rhyfeddol yw gweithredoedd Duw, yr enaid grasol a'i gwyr yn dda. A thystiolaetha yn nherfyn ei fywyd na phallodd yr un o wirioneddau y goruchaf.
17. Nid oes gan neb wir resymmau iw dangos am anghrefydd ac annuwioldeb. Ni feidr neb brofi nad oes na Duw, na'i ewyllys ef yn ddatcuddiedig: Nad oes ragor rhwng da a drwg, rhwng rhinwedd a chamwedd, rhwng cydwybod dda a chydwybod ddrwg. Ni ddichon neb beri i'r bŷd goelio fod lledrad yn well na gonestrwydd, a thwyll yn well na gwirionedd, a godineb yn well na diweirdeb: Fod mwy diddanwch [Page 251] i'r enaid mewn helynt bechadurus nag wrth ddilyn daioni; a bod cyflwr y dyn ffiaidd yn well nag un yr hwn sy'n ofni Duw. Ac am hynny nid yw'r pechaduriaid ffieiddiaf yn y dirgel yn ymwrando â rhesymmau eu heneidiau ond â chwantau asreolus eu cyrph: a châs ganddynt gymeryd hamdden i ymddiddan â'u cydwybodau ynghylch eu ffyrdd drwg, gan fod eu dealltwriaethau eu hunain yn briwo ac yn codymmu eu rhyfyg drygionus hwy, cynnifer gwaith bynnag ac y gadawont iddynt ymdrechu ac ymaflyd â'u gilidd. A phan dynner ymmaith yr hyfrydwch cnawdol ydoedd yn eu hudo, mewn adfyd a dolur dirnedir wrth eu ocheneidiau eu bod hwy yn teimlo sylwedd ac yn clywed pwys y gwirioneddau a esceulusasent hwy o'r blaen. Wrth fod ynteu gymmaint o resymmau gydâ ffydd heb yr un gydag anghredinaeth, hyspys i ni fod gwirionedd yn y naill, ac nad oes dim ond twyll a siommedigaeth yn y llall.
Gobeithio fod yr hyn y ddywedpwyd yn ddigonol gydâ gweithrediad yspryd Duw. Col. 2.2. er gwreiddio'r darllennydd ystyriol mewn siccrwydd deall i gydnabyddieth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ: Am hynny dibennaf y perwyl yma, ond crybwyll am rai pethau sydd ddilynawl iddo.
1. Molianwn Dduw am fod yspysrwydd o'r ffydd ai scrifenâdau yn ein iaith ni ein hunain; hynny ydoedd oruchafieth Israel, pryd nad oedd mor amlwg, a chyn helaethed ac yw yn awr: Canmoleu'r bebloedd [Page 252] oll ddoethineb eu deddfau hwynt. Deut. 4.6, 8. Bu llyfr Duw wedi ei glasbyssu cyn gaethed yn yr iaith Ladin yn amser ein henefiaid diweddaf, na fedrai, ac na lefasai ond rhai edrych arno. Yr ydoedd ir bobl gyffredin fel bwyd dan glo, a llys-fam yn cadw'r agoriad. Y prŷd yr adnewyddwyd arfer eglwyswyr llygredig Israel, Luc. 11.52. y rhai Y ddyge [...]t ymmaith agoriad y gwybodaeth, nid aent i mewn eu hunain, a'r rhai oedd yn myned, a waharddent. Ond er pan gyfieithwyd y bibl yn Gymraeg, gelli gymmeryd y seigiau melysaf ith law, a bwytta a'th ddiwallo, a bendithio dy Dduw: Yr hwn oi drugaredd y roddes gyfarwyddyd i rai duwiol dyscedig yn yr oes diweddaf i gyfieithu athrawieth y ffydd o'r Groeg a'r Hebraeg, i jeithoedd cyffredin teyrnasoedd y Gorllewin. Ac ni raid ini ofni iddynt gam-gyfieithu ou gwirfodd, canys dioddefasant (gan mwyaf) ferthyrdod; ac oni ddywedent gelwydd er arbed eu bywyd eu hunain, ni wnaent hynny er damnio ein heneidiau ni. Rhuf. 10.6. Y mae gair y ffydd yn agos attom ni, nid rhaid ini fwrw am gyrchu Crist i lawr o'r nêf iw fynegi. Petteu raid dylem fyned cyn belled i wybod doethineb Duw, ac yr aeth Brenhines Sheba, Luc. 11.31. yr hon a ddaeth o eithafoedd y ddaiar i wrando docthineb Solomon. Y mae ffynon iechydwrieth yn agos, ac yn agored, Gen. 29.10. wedi i Dduw anfon rhai fel Jacob i dreiglo ymmaith y gareg fawr ocdd ar ei geneu. Gelli lenwi dy gostrel o wybodaeth iachus, oddeithr i galon garreg ei rwystro fal na ddelo i mewn. Dangosodd yr Arglwydd [Page 253] it ddyn b [...]th sydd dda, Mic. 6.8. 2 Tim. 3.15. a pha beth y gais ef gennit: Yr hyn sydd abl i'th wneuthur yn ddoeth i iechydwrieth. A pham y digiei'r Pâb am hyn? Canys anfonwyd y gair yn Hebraeg ir Hebræaid, ac yn Roeg ir Groegiaid, fal y galleu'r bobl gyffredin ei ddarllen a'i ddeall. Ac nid yw anghymwysach i'r Cymru ei gael ef yn Gymraeg, ac i'r Saeson yn Saesonaeg, Act. 2.11. fel y llefarer ymmhob iaith fawrion weithredoedd Duw.
2. Chwiliwch yr scrythyrau yn ol gorchymmyn Grist, at y gyfraith a'r dystiolaeth. Joan. 5.39. Isai. 8.2. ac pen. 34 16. 1 Tim. 4.13. 1 Tim. 2.4. Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch, ie glynwch wrth ddarllein Ac i'ch annog i hynny ystyria mai trw [...] wybodaeth y g [...]irionedd yr ewyllysia Duw i ddynion fod yn gadwedig. Y mae chwilio as [...]ud ar lyfrau cyfraith ddynol, a physygwri [...]h, er mwyn elw amserol; ond ceir yma fudd tragwyddol, a difyrrwch presenol hefyd. Psal. 19.8. ac 119.103. Dedddfau'r Arglwydd sydd yn llawenhâu y galon, ac yn felysach na'r mêl. Hyfrydach ydoedd gan Alphonsus brenin Arragon ei studi na'i deyrngader. Ac fal na phetruso neb o ran ei wendid, gwybydd eu bod Yn olau ir gwirion, Psal. 19.7. 2 Tim. 3.1 2 Tim. 1.5. Jer. 3.15. 1 Pet. 2.2. i wragedd, a phlant. Timotheus oedd yn gwybod yr scrythur lân er yn fachgen, a dyscasai hwynt gan ei Nain Lois, ai fam Eunic. Ymborth yr enaid ydynt, A'i porthant â gwyb [...]daeth, ac a deall. Plant Duw y chwenychant laeth y gair, fal y cynyddont trwy [...]do ef, A phawb ai diflaso a newynant, ac a nychant eu heneidiau yn dragywydd. A chyfarwyddo dynion y maent i ryngu bôdd Duw, gan fod [Page 254] yn llusern a llewyrch iw traed au llwybrau. Psal. 119.105. Yr hyn y gerddech di yngwysc dy ben hebddynt hwy, fydd cifeiliorni yn anialwch pechod, a'th ddwg ir sybwll peryglus.
Psal. 1 [...]5.18.Ac fel y tyccio darlleniad iti gweddia fel Dafydd ar i Dduw ddateuddio dy lygaid i weled pethau rhyfedd allan oi gyfraith ef; Tra' yr oedd Saul yn gweddio yr anfonodd Duw un iw gyfarwyddo ef, Gan ddywedyd wrth Ananias, Act. 9.11, 17, 18. cyfod a chais un â'i enw Saul o Tharsus, canys wele y mae of yn gweddio. A chwedi i Ananias draethu ei gennadwri yn enw'r Jesu, cafodd y llestr etholedig olcuad a chryfhâd. Eisieu grâs a goleuad oddiwrth yspryd Duw, ni chynhyrfa pobl er darllen yr scrythyrau; Act. 13.27. Ni adnabu preswylwyr Jerusalem au tywysogion leforydd y prophwydi y ddarllenid bôb Sabbath. Ac yn' amser Jeremi y rhai a drinent y gyfraith nid adwaenent Dduw. Jer. 2.8. Darllen yn ddiwyd, Os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os chwili am dani fel am dryssorau cuddiedig, yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd. Dihar. 2.3, 4, 5. Cymor amser i gydfwrw 'r scrythyrau; y mae y naill fan o honynt yn egluro'r llall, fal y mae llawer o ganhwyllau yn rhoddi mwy goleuni nag un; i hynny mae iti beth cyfarwyddyd ynghwrr y dalennau yn y Bibl, Psal. 1.2. lle mae'r serennôdau. A myfria arnynt ddydd a nôs. Ac ymofyn ag eraill ynghylch y pethau nis gelli eu dirnad, fal y gwnaeth yr Eunuch yr hwn a ddymunodd ar gydymmaith eistedd gyd ag ef i esponi'r scrythur iddo ef. Dihar. 13.4. Enaid y diwyd a wneir yn frâs. Oh gochel fod yn esceulus, [Page 255] na ddisgwil ŷd, heb lafur; tra yr oedd yr Eunuch yn darllen y Prophwyd Isaias, Act. 8.28.31, 34, 35. ni adawodd Duw ef yn ddi-gymmortn; gan anfon Philip iw gyfarwyddo ef. Yr hwn a ddechreuodd ar yr scrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Jesu mewn modd ffynnadwy.
Dôd heibio rag-farn, dôs at yr scrythyrau i geisio gwybod ewyllys Duw, nid i gadar [...]hâu dy ewyllys dy hun. Bydd ostyngedig; Math. 11.25. y pethau a guddwyd rhag y beilchion, y ddatcuddir i rai bychain: Ir pant y rhed dwfr y bywyd. Drwy rigolau'r galon ddrylliedig, y daw goleuni nefol i mewn. Bydd barodol i ufuddhâu ir hyn y ganfyddech o ewyllis dy feistr. Pan oedd Saul wedi ei orchsygu gan frâw, ac ymddangosiad Crist, a chwedi ymroi, dywedodd, Act. 9.6. Arglwydd beth a fynni di i mi ei wneuthur? ac ni bu hir oni chafodd wybod ewyllis Crist. Ni chelei Duw mo'i feddwl rhag Abraham, canys efe ai hadwaenei cf y gorchymmynei ef iw blant, Gen. 18.17. ac iw dylwyth gadw ffordd yr Arglwydd; oni chaiff gwirionedd Duw reoli ynoti fel brenin, ni thrig ef ynoti iw gaethiwo fel carcharwr; o herwydd ir Cenhedloedd attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder, ac nas gogoneddasant Dduw yn ôl eu gwybodaeth, Ruf. 1.18, 21.26 ac na buont ddiolchgar iddo, rhoddes Duw hwynt i fynie iw trachwantau, a'u gwyniau gwarthus, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd, onid aethont yn ofer yn eu rhesymmau.
3. Cywilyddiwn ac edifarhâwn am yr esceulustra swrth sydd yn ein plith ni ynghylch y peth hwn; gall Duw gwyno ar y Cymro fel ar Ep raim, Hos. 8.12 mi a scrifenais iddo bethau mawrion [Page 256] fy nghyfraith, ac fel dieithr beth y Cyfrifwyd. Ystyria er bod yn fychan geniti am bethau'r scrythur, fod y Duw mawr yn eu cyfrif yn fawrion; rhoddes ef rinwedd, ac awdurdod fawr ynddynt, a chymer ofal mawr am danynt; Haws i nef a daiar fyned heibio nag i un tippyn o honynt ballu. Luc. 16.1.27. A chwennych yr angylion fod yn hyddysc ar yr hyn y gynhwysir ynddynt. Y mae gwobr mawr am eu Cadw, 1 Pet. 1.12. a gwae ofnadwy am eu torri. Ps. 19.11. Cymer digofaint Duw infentori o'r hyn y feddech iw felltithio iti, Oni wrandewi ar lais yr Arglwydd, gan gadw ei orchmynion ef. Deut. 28.15, 16, 18, 19. Deut. 32.47. Melldigedic fyddi di yn y ddinas, ac yn y maes. Melldigedic fydd ffrwyth dy dîr, dy ddyfodiad i mewn, a'th fynediad allan. Am hynny nid gair ofer yw o herwydd dy enoies di yw ef. Gwnaeu gwyr mawr gynt gyfrif o'r scrythyrau, darllennent, ofnent hwynt, ac ufuddhaent iddynt, fel y gwelir yn y brenhinoedd enwog hynny, Dafydd, Salomon, Jehosophat, Hezeci [...]h, Act. 8.27. Josiah, Constantinus, a'r Eunuch galluog oedd ar holl dryssor Ethiopia. Hoffeu'r Sainct hwynt yn fwy na'r mêl, Ps. 19.10. nag aur fyddei coeth, a llawer, ie yn fwy na'u bywyd naturiol. Ac onid allwn ni y Cymru hepcor dim arian iw prynu hwy, na dim amser iw manwl chwilio hwy? Medd Solomon, pennaf peth yw doethineb, Dihar. 4.7. ac 22, 23. â'th holl gyfoeth cais ddeall, pryn y gwir ac addysc. Nid yw gorchwilion hwsmon na chrefftwr mor bwysfawr ac achosion tywysog, etto mynnai Duw i'r brenin gymeryd hamdden i scrifennu Coppi o'r gyfraith mewn llyfr, Deut. 17.18, 19. a darllen arno beunydd, fel y dyscei ofni yr Arglwydd. Y mae'r Saeson ac eraill sy'n [Page 257] proffessu'r grefydd Gristnogol mewn dim purdeb, yn odieth o'r cynnefin a'r bibl, ac yn nwy lâw eu plant y mae llyfrau cyn amled a brechtânau: Etto cyfrifir ef yn beth dieithr yn ein mysc ni, heb ei adnabod, heb ymddiried iddo, na'i goelio, na'i berchi, na'i dderbyn, nac ufuddhâu iddo, na deall rheswm am dano. Nid yw ein cenedl ni wrth natur ddim hurtiach, na mwy anhyddysc na phobl eraill, canys parodol ydym a'r chwedlau digrif, a rhimynnau anllad, a châstiau cyfraith; yn unic arfer, ac anwyllis sydd yn ein cadw yn anwybodus o'r da. Oh nad ystyriem yr hyn y ddywed doethineb, Dih. 1.7. mae ffyliaid yw y rhai a ddiystyrant addysc: a bod anwybodaeth yn gwneuthur pobl nid yn unic yn ffyliaid, ond yn waeth nag anifeiliaid: Isai. 1.3. Ir ŷch a edwyn ei feddianudd, a'r assyn breseb ei borchennog, ond Israel anufudd ni chydnebydd yr hwn sydd yn ei borthi: ie yn garcharion i gythreuliaid ynghadwynau tywyllwch, Hos [...]. 4.6. Canys collir pobl eisiau gwybodaeth. Medd yr Apostol, i'r rhai colledig y mae 'r efengyl yn guddiedig, y rhai y dallodd Duw y bŷd hwn eu meddyliau. 2 Cor. 4.5, 4. Dallwyd ac yna difethwyd y Sodomiaid. Y mae anwybodaeth yn arwydd, ac yn achos o golledigaeth, gan beri i bobl wrthod Duw, a dewis y bŷd a'r pechod o'i flaen ef, eisieu dirnad ei odidowgrwydd ef: Pes adwaenent ni chroeshoelient Arglwydd y gogoniant, 1 Cor. 2.8. ac ni ddewisent un Barabbas o'i flaen ef. Ac ni thebygent i'r Indiaid Barbariaidd yn Cymeryd peth mor fregus â gwydr am yr hyn sydd werthfawroccach nag aur.
Nid llai perigl y rhyfygus na'r anwybodus. Pa sawl miliwn sydd yn byw mewn gwrthwyneb i orchmynion, ac yn ddiofn er clywed bwgythion y gair? Jaon. 3.3. Dywed yr scrythyrau, na ddichon dyn weled teyrnas Dduw oddieithr ei eni ef drachefn, ac na chaiff anwiriaid ffiaidd etifeddu teyrnas nêf. Ond gallant gwyno fel hyn, Ruf. 10.16. Math. 11.17. Pwy a gredodd i'n ymadrodd ni? Neu fel yn y ddammeg, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: canasom alarnâd i chwi, ac ni chwynfanasoch; Sef ni threfnasoch eich cerddediad, a'ch ymarweddiad ar ôl ein gorchmynion hyfryd, ac ni chymerasoch dristwch edifeiriol am bechod, er ein bwgythion gofidus.
Iddo yn awr chwi ddiofalwyr, i'r rha i y mae maethgen dynion fel rhuad llew, a senn yr scrythyrau fel brefiad oen, cyffrowch, canys y gair sydd i'ch erbyn o Dduw y mae. Ond os addawch i chwi eich hunain heddwch, er bod Crist yn llefaru toster, dywed wrthych fel yn Jeremi, Jer. 44.28. Cewch wybod gair pwy y saif, ai'r eiddo fi ai yr eiddo chwi. Nid yw'r scrythur fond heb dystion wrthi, oni chymerwch ofal i gyflawni y rhwymedigaeth y esyd hi arnoch, dioddefwch garchar tragwyddol am y fforffed.
4. Chwi oll sydd yn ufuddhau ir scrythyrau, ac yn hyderu ar eu haddewidion, byddwch ddiwyd ynghylch y pwnc yma, fel y galloch roddi rheswm am y gobaith sydd ynoch. 1 Pet. 3.15. Nid oes neb na chaiff ei holi gan amheuon yn ei fywyd, a chan Dduw pan fyddo marw. A'r hwn sydd Gristion o ran arfer y wlâd yn unig [Page 259] heb wybod ychwaneg, ni all sefyll mewn profiad, na bod yn gymeradwy yn y farn. Ceisiwch ddywedyd mewn gwirionedd fel y dyscyblion, Yr ydym yr credu ac yno gwybod; Joan. 6.69. 1 Pet. 5.12. A chyda Petr dystiolaethu, Mae gwir ràs Duw yw'r hwn yr ydych yn sefyll ynddo, sef mai gwir athrawieth grâs ach dysca chwi, a gwir waith grâs a duedda eich calonnau chwi i hyderu ar y Duw byw, ac i ddisgwil am ei ogoniant ef, i fod yn gyfranogion o honaw. Ac yna mawr fydd eich cyssur, fod cymaint o dystion cywyr i brofi eich yscrifenâdau am etifeddieth dêg.
PEN. 22. RHIN WEDD Y FFYDD Gristianogol yn gorchfygu llygredigaeth, ac yn Sancteiddio ei gwir dderbynwyr. Lle'r ystyrir cyflwr pechadurus dynol ryw cyn eu galw.
CYfiawn, Pur, a Sanctaidd ydyw'r Goruchaf Dduw, Psal. 5.4. Psal. 24.3, 4. a'r drwg ni thrig cyda'g ef: Ac ni saif neb yn ei lè Sanctaidd ef, ond y glàn ei ddwylo a'r pur ei galon. Am hynny y mae'r Arglwydd yn Sancteiddio ei bobl, iw gwneuthur yn gymwys [Page 260] i fod yn gyfrannogion o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni. Col. 1.12 Ac er mynegi nerth ei râs ef yn gweithredu hynny drwy 'r efengyl, rheidiol i ni ystyried cyflwr halogedig pawb wrth natur, ac yna yr môdd y mae'r Arglwydd yn galw ei etholedigion allan o honaw i'w wasnaethu ef mewn glendid bucheddol. Pan gafodd ein rhieni Cyntaf (oeddent iachus Unwaith) yr haint bechadurus wrth sefyll yn anadl y Sarph Uffernol, Gen. 3. canlynodd y ffiaiddglwyf anwireddus eu hâd hwy byth. A'r nôf lygredig o fôn y pren (Sef Adda) a chwerwodd y canghennau oll, (Sef ei heppil ef) i ddwyn ffrwyth tra deincodus, hynny yw bucheddau gwrthwynebus i ewyllis Duw. Ac aeth drygioni dyn yn aml ar y ddaiar, Gen. 6.5, 6. a holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. Oni edifarhâodd ar yr Arglwydd wneuthur o honaw ef ddyn ar y ddaiar, [...]c efe a ymofidiodd yn ei galon. Yn awr mae'r llygredigaeth yn hollawl, gan fod pob math ar ddynion, a phob rhan o bob dyn, wrth natur ynddo. Nid oes neb Cyfiawn, nac o [...]s un, Rhuf. 3.9, 10, 11, 12. nid oes neb yn deall, nid oes neb yn ceis o Duw. Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.
Y mae pob cenedl dan bechod, Juddewon a Groegwyr, Barbariaid a Scythiaid. Yr oedd [...]aul yr Hebraewr o'r Hebraeaid, ac [...]nwaededig yr wythfed dydd, Phi. 3.5. a'r eulnaddolwyr dienwaededic ymmysc yr ephesiaid yn yr unrhyw gyflwr cyn eu troi drwy râs. Medd ef; bu ein ymarweddiad ni oll gynt yn chwantau [Page 261] ein enawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd, Ephes. 2.3. a'r meddyliau. Mae gwledydd Crêd ac anghrêd, y bedyddiedig a'r difedydd yn yr un gamweddus anian. Yr oedd Simon y Swynwr wedi ei fedyddio, mewn bustl chwerwder, Act. 8.13, 23. ac mewn rhwymedigaeth anwiredd. Mae y rhai sy ganddynt rith duwioldeb ac yn gwadu ei grym hi, yn gynddrwg eu moddion a'r Paganiaid anwybodus; Sef yn ariangar, yn feilchion, 2 Tim. 3.2, 3, 4, 5. yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn annuwiol, yn angharedic, yn torri cyfammod, yn enllibaidd, yn fradwyr, yn waedwyllt, yn fasweddus. Cyfyd chwyn yn y llafurdir a'r ardd, gystal ac yn y tir anial. Ezec 22.18, 19. Cwynodd Duw fyned tŷ Israel yn amhuredd oll. Je gan mwyaf gwaeth yw llygredigaethau yr bobloedd sy'n professu'r gwir Dduw na rhai'r eulunaddolwyr. Magodd Jerusalem ffieiddiach pechaduriaid na Sodome neu Samaria, ac ymlygrodd yn fwy na hwynt, ac aeth yn gyssur iddynt. Pen. 16.2.46, 47. Mae anwiriaid Sion yn cael mwy o foddion gwybodaeth na chenhedloedd eraill, ac wrth gamarferu eu Cyfarwyddyd yn myned yn fwy hylaw ar y drwg, ac yn nés at natur Satan; yr hwn nid aethai yn ddiafol mor gyfrwys, oni bae ei fod ef unwaith ynghymdeithas yr angylion gwybodus. Ac yn yr ystyr hwn gwir yw'r hèn ddihareb, — Pa nesaf at yr eglwys, Corruptio optimi est pessima. pellaf oddiwrth Baradwys. Gwaeth yw Phariseaid na Phublicanod. A pha genedl bynnag o'r anghredaddwy a amlygwyd ir oes hon tua chodiad haul neu ei fachlud, eulyn-addoliaeth, anwybodaeth, ac anwiredd a gafwyd ynddi.
Gen. 8.21. Esai. 48.8Pob oedran sydd bechadurus, ievangc a hên, Mae brŷd calon dŷn yn ddrwg o'i ievenctid, a gelwir ef o'r groth yn droseddwr. Y mae baich o Ffolineb yn rhwym ynghalonau plant; Dih. 22.15. Yr hwn wedi ymddattod a ystraffa 'r ffordd a gerddont â direidi ac oferedd. Ymgymysc anwiredd gyd a'u defnydd yn y brû, ac mewn pechod y beichioga eu mammau arnynt. Psal 51.5 A chynyddant ynddo gyda e'u mâintioli. Nid anhawdd craffu ar eu cenfigen a'u celwydd, au chwannogrwydd i bob atcasrwydd. Medrau plant Bethel watwar prophwyd Duw. 2 Bren. 2.2, 23. A phan dyfont i bybyrwch rhuthrant ir pechod yn awyddus, Jer. 8.6. fel y march ir frwydr; dan fwrw ewin aflendid, a chnoi 'r ffrwyn a'u attalio, a myned ar draws y Sawl au ceryddo. Eu hâf yw amser eu ieuenctid, bydd blodau ar y drain, a rhosynnau hyfryd ar y mieri melltigedig. Y pryd hyn mae'r anwiriaid yn cael hyfrydwch yn eu drygioni, Gen. 3.6. a thèg yn eu golwg yw ffrwythau'r pren gwaharddedig. Llawenychant yn eu hoiwder, a rhodiant yn ffyrdd eu calonau, Preg. 11.9. ac yngolwg eu llygaid, heb ystyried y geilw Duw hwynt ir farn am hyn oll. Ac erbyn yr heneiddiont bydd eu pechodau yn llawer amlach na u dyddiau, a nhwythau yn ddoethion i wneuthur drwg: Je [...]. 4.22. Ac yn feistriaid hylaw medrus ar bob crefft ddrygionus. Au hescyrn yn llawnion o bechodau eu ievenctid, Job. 20.11. a orweddant gyda hwynt yn y pridd.
Pob grâdd ar ddynion sydd anwireddus, mawr a bychan. Psal 10.4, 5. Y cysoethog gan uchder ei ffroen ni chais Dduw. Ei ffyrdd sydd flin bob amser. Gan orthrummu y duwiol yn nyddiau [Page 263] Jago, au tynnu ger bron brawdléoedd, Jag. 2.6, 7. a chablu'r enw rhagorol a elwid arnynt. Y tlawd nid edwyn Dduw, a lledrattaiff oddiar ddŷn. Gwnaiff y gwan yr un drwg yn y dirgel, ac y wnaiff y crŷf yn yr amlwg, fel y mae 'r ffwlbard yn ei allu mor rheibus â'r blaidd. O Herwydd hynny y dymunodd Agur na chai ef na thlodi na chyfoeth; am fod y llawn yn dueddol i wadu Duw, ac i ddywedyd pwy yw'r Arglwydd? A'r tlawd i ledratta, Dih. 30.8, 9. ac i gymeryd enw Duw yn ofer. Medd y prophwyd am ei bobl, yn siccr tlodion ydyw y rhai hyn, Jer. 5 3, 4, 5. ynfydion ydynt: Canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw. mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac ymddiddanaf â hwynt: Canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw. Eithr y rhai hyn a gyd-dorrasant yr iau, ac a drylliasant y rhwymau.
Mae'r pechaduriaeth hefyd gwedi gorchfygu pob rhan o bôb dyn, holl gyneddfau 'r enaid, ac aclodau 'r corph: 2 Cor. 7.1. Halogrwydd [...]nawd ac yspryd yw. Yn yr enaid y deall yw tywysog y cyneddfau, fel y mae 'r haul yn y ffurfafen yn benaeth y goleuadau, etto y mae ef dan ecclip du. Mae 'r holl genhedloedd wedi tywyliu eu deall, Ephes. 4.18. wedi ymddieithro oddiwrth fuchedd Dduw drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt. Gwan yw'r ddeall mewn pethau budol, wrth fel y bu cyn cwymp Adda. Gen. 3.21. Gorsu ir Arglwydd Dduw wneuthur i ddynion pechadurus y dillad cyntaf, a dyscu iddynt wisco am danynt. A bu 'r bŷd uncant ar bumtheg o flynyddoedd heb fedru gwneuthur llong ar ddwfr, nes i Dduw yn yspyfol [Page 264] ddyscu hynny i Noah. Gen. 6.14. Y mae llawer o bethau yn aflefol i ddyn eisiau medru oddiwrthynt, ni ŵyr mo'u hachos, ac nid edwyn mo'u natur. sethriff lawer llysieuyn dan ei draed a fyddai iachus iw gorph ef, pes gwyddai pa fodd iw drwsio. Meidr y creaduriaid diresum o honynt eu hunain lawer o gampau na feidr dyn oddiwrthynt, nes ei ddyscu gan arall: Megis y prŷf copyn wau, a'r anifeiliaid nofio i achub eu bywyd. Yn siccr y mae rhai ond nid y rhan fwyaf o'r byd, wrth ystudio llyfrau, a dyfeisiau 'r cenhedlaethau aethant heibio, gyda'g ymarfer a phrofiad, wedi myned yn gyfarwydd ar fatterion daiarol, perthynol i'r Corph, megis celfyddydau, hwsmonaeth, llongwriaeth, a physygwriaeth. Ond ni enir y cyfarwyddyd hwn gyda phawb, canys genir dyn fel ebol Assyn wyllt, Job. 11.12. yr hwn yw 'r hurtaf o'r milod; eithr cyfrenir ef ir cyfryw ac y rhoddo Duw yr athrylith neilltuol iddynt, ac a arferant ddiwydrwydd a phwyll. Ond er cyfarwydded fyddo dynion naturiol mewn achosion budol, maent yn anwybodus mewn pethau nefol. Joan. 3. Er bod Nicodemus yn ddyscawdwr, etto Pabanaidd oedd ei ddeall ef am y grâs sy'n cymhwyso rhai i deirnas nêf. Mae'r anianol y sydd cyn graffed eu golugon â'r eryrod mewn pethau amserol, cyn ddalled â'r turchod daiar mewn pethau tragwyddol. Mae dynion yn llygredig eu meddwl heb y gwirionedd ganddynt. 1 Tim. 6.5. Tit. 1.15. Halogedig yw'r diffydd hyd yn oed eu meddwl, au cydwybod; Yr hon ni wnaiff mo'i swydd, eithr cyscu yn lle ceryddu'r pechadur [Page 265] rhyfygus. Dyna 'r cyneddfau godidoccaf yn yr enaid, ac oedd â mwyaf o ddelw Duw arnynt; gan fod eu Swyddan i ddirnad ac i farnu, ac i reoli pob pêth. Mae llygaid ein corph ni o ddefnydd godidoccach na'r aelodau eraill, mor loiw a meini gwerthfawr neu Sêr y ffarfafen. Beth ynteu ydoedd rhagoriaeth golugon yr enaid? Etto yn awr mae 'r fagddu wedi dyfod trostynt, a nhwythau wedi tywyllu yn drist: Er eu bod yn bwrw peth llewyrch wrth eu cynhyrfu, fel y discleiria darn o arian ond ei rwbio, er darfod i ddelw 'r brenin wisco ymaith oddiarno. Cynddrwg yw'r Coffadwriaeth a'r gydwybod. Angosia dyn yr Arglwydd ei wneuthurwr. Esai. 51.13. Psal. 10.4. Jag. 1.24, 25. Mic. 3.2. Nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef. A gwrandawr anghofus yw ynghyfraith y Goruchaf. A'r ewyllis yn waeth na'r deall, gan gasau y da, a hoffi y drwg. Cofleidia 'r serch drachwantus y drygau hynny y bo 'r meddwl a'r gydwybod yn ei warafun i ddynion. Rhus. 1.32. Mae rhai yn gwybod Cyfiawnder Duw, (fod y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth) ac ydynt nid unig yn gwneuthur y pethau hynny, eithr hefyd yn cydymfodloni a'r rhai sy yn eu gwneuthnr hwynt. Dylai'r deall reoli 'r ewyllis; ond yn awr collodd ei awdurdod, a gwnaiff y deisyfiadau llygredig a fynnont er gwaetha iddo ef. Yn yr an [...]refn hwn mae 'r gweision gwrthyfelgar hyn ar feirch, a'r tywysog ar draed, ie ar lawr. Wrth ei gwymp aeth dyn â'i ben tano, a'i fol yn uchaf, (ys drwg yr ystum) trêch yw ei chwant na'i reswm. A thra fo'r fenn yn [Page 266] tynnu'r wêdd dros dorlennydd, tyrr y ddau eu gyddfau.
Mae pechod yn teyrnasu yn y corph marwol, ac yn mynnu ufudd-dod iw gyfraith oddiwrth yr holl aelodau, y rhai y mae'r pechadur yn eu rboddi i fod yn arfau angyfiawnder, Rhuf. 6.12, 19. ac yn weision aslendid, ac anwiredd. Cyniwer drygioni i mewn ac allan drwy 'r llygaid. 2 Pet. 2.14. Plant y felldith sydd a'u llygaid yn llawn godineb, yn llithio 'r anwadal. Derchafodd yr Aiphties ddigwilidd ei golwg ar Joseph, Gen. 39.7. Rhuf. 3.18. 1 Cor 15.33. a dywedodd, gorwedd gyda mi. Nid oes ofn Duw o flaen y llygaid. Drwy 'r clustiau y daw i mewn ymddiddanion drwg a lygrant foesau da. Wrth edrych ar y ffrwyth gwaharddedig, a gwrando ar hudoliaeth y sarph, y daeth anwiredd gyntaf i galon dŷn: Gen. 3.4, 6. Ac ni pheidiodd mwy â thramwyo drwy 'r Synhwyrau hynny. Y tafod sydd aelod bychan, ac yn gwneuthur drwg mawr, tân ydyw, bŷd o anghyfiawnder. Jag. 3.5, 6. Rhuf. 3.15. Bêdd agored ydyw'r gêg, ac arogl erchyll gyda'r lleferydd yn dyfod oddiwrth gorph marwolaeth, Sef y burgyn yn y galon: Megis goganair, a chelwydd oddiwrth anlladrwydd, melldith a chabledd oddiwrth wŷn. Y bol yw tryssordŷ anwiredd, a phob cell o honaw yn llawn Camwedd. Yn ei stafelloedd uchaf, sef y galon a'r cylla, y preswylia 'r chwantau hyfaf, ac yn yr isaf, sef y grôth, y rhai anifeilaidd gwaelaf. Y galon sy ddrwg diobaith, Jer. 17.9. 2 Bren. 2.19, 21. Math. 15.19, 20. a mwy ei thwyll na dim; ac fel ffynhonnell Jerico yn bwrw allan ddyfroedd drwg. O'r hon y mae lladdiâdau, a chablau yn dyfod allan, a'r pethau sy'n halogi [Page 267] dŷn. A'r cylla fel ogof Cacus, sy â llawer o yspail ynddo. Llynclyn yw, lle boddiff llawer o greaduriaid Duw. Ynddo y mae merched y gele (sef glothineb, Dihar. 30.15. a meddvvdod) yn llefain moes, moes. Gwneir y grôth yn suglen vffern, lle'r aiff pob anifail anllad yn ei un llam, yno y glŷn, ac y trig yn esmwyth, Dihar. 7 8. nes descyn i stafelloedd angau. Mae y rhannau ditgel yn cenhedlu llawer mwy o bechodau, nag o bechaduriaid, Ephes. 5.12. Rhuf. 3.15. er lluosocced ydyw 'r bŷd; a'u brunti yn gywilidd ei fynegi. Rhedir ir drwg yn nerth y traed, y rhai sy fuan i dywallt gwaed, ac i wasnaethu balchder. Pan falchiodd merched Sion rhodiasant â gwddf estynnedic ac â llygaid gwammal, Esai. 3.16. gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio a'u traed. Gweision diwyd a milwyr dewr i lygredigaeth ydyw 'r dwylo. Y rhai a ddychymygant anwiredd ar eu gwelâu, Mic. 2.1. ac pen. 7.2, 3. pan oleuo y boreu gwnant ef, am ei fod ar eu dwylo. Pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd; gofynnant am wobr i wneuthur drygioni â'r ddwy ddwylo yn egniol. Am hynny y gweddiodd Dafydd. Psal. 36.11. Na ddeued troed balchder im herbyn; na syfled llaw'r annuwiol fi.
Mae gweithrediad y llygredigaeth hwn yn erbyn pawb, sef Duw, a dynion, a dyn ei hun.
Ymadawiad oddiwrth y Duw bendigedig, a throseddiad oi ewyllis fanctaidd ef ydyw natur felldigedig pechod. Rhus. 8.7 Syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw, nid yw ddarostyngedic iw ddeddf ef. Er i Dduw wneuthur o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio [Page 268] ar holl wyneb y ddaiar, Act. 17.26, 27, 28 fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano ef, a'i gael, er nad yw ef yn ddiau neppell oddiwrth bob un o honom, oblegyd ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod: Etto esceulysa dynion eu gwneuthurwr, ac yn lle ymbalfalu am dano ef, a chesio dyfod o hŷd iddo ef wrth deimlo ei ddaioni ef yn y creaduriaid sy dan eu dwylo, (megis dilyn ffrŵd oni ddeler at y ffynnon) dywedant wrth Dduw cilia oddiwrthym ni, Job. 21.14. Rhuf. 1.30. canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. ie Cas ganddynt ef, ac anniolchgar, a thaeog ydyw eu moddion t [...]ag atto ef. Canys er cael o honynt ei haelioni ef iw cynnal ac iw porthi beunydd, a bod yn naturiol dalu diolch am roddion, a'r naill gymwynas am y llall; etto ui ddywedant yn eu calon, ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, Jer. 5.24. yr hwn sydd yn rhoi y glaw Cynnar, a'r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau cynhaiaf. Pan welo'r Arglwydd ei elyn yn newynu mae'n borthi ef, cynnifer gwaith ac y sychedo rhoddiff iddo ddiod. Rhuf. 12.20. Ond nid yw'r marwor tanllyd a bentyrrir felly am bennau dynion, yn toddi mo'u calonnau i garu eu hymgeleddwr, ond annuwiol fyddant. Ac maent nid yn unic heb arfer eu rheswm iw troi eu hunain at Dduw, eithr hefyd â'u rhesymmau yn ymladd yn ei erbyn ef: Gan ddangos achosion da (yn eu tŷb eu hunain) i'w cadarnhau yn eu gwrthryfel; ac iw barnu eu hunain yn escusodol, er na wnelo nt y peth a geisio ef. Luc. 14.18, 19, 20 ac yn ddiogel eu helynt er ei fwgythion ef. Dywedant [Page 269] pale y mae addewid ei ddyfodiad ef? 2 Pet. 3.4. 1 Cor. 1.21. Job. 21.15. Canys er pan hunodd y tadau y mae pob peth yn parhâu fel yr oeddynt o ddechreuad y creaduriaeth. Nid edwyn y bŷd trwy ei ddoethineb mo Dduw; Ond berniff ei wasanaeth ef yn rhodres. Pa beth ydyw'r Holl-alluog fel y gwasnaethem ef? a pha fúdd fydd i ni os gweddiwn arno? Fel hyn y mae pechaduriaid yn anghydsynio â'r hyn a amlyger iddynt o ewyllis Duw, ac yn elynion iddo mewn meddwl, Col. 1.2. gydag mewn chwant, Hyd y maent yn adnabod Duw nis gogoneddant ef megis Duw, Rhuf. 1.21, 28. ac ni byddant diolchgar iddo, eithr ofer yn eu rhesymau, ac nid yw gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth. Dyma'r achos o'r camgymeriad sydd mewn pobl ynghylch pethau Duw, gan dybied y pechod ffieiddiaf yn rhinwedd o'r buraf. tybiodd yr Juddewon gwrthnyssig eu bod yn gwneuthur gwasanaeth cymeradwy ir Arglwydd wrth wrthod Christ, a llâdd ei weision ef. Camsyniant feddwl Duw yn ei farnedigaethau. Joan. 16.2. Pan gospwyd Juda am eulunaddoli, ac Arogldarthu i frenhines y nefoedd, Jer. 44.18, 21. dywedafant hwy ir aflwydd ddigwydd iddynt am adel eu heulunod heibio. A'r un fath gam-ystyriaeth a roddir ar scrythyrau, a thrugareddau Duw, a hynny a faga ryfyg pechadurus, ac heresiau peryglus. Yn lladd, yn godinebu, a thyngu, deuant ger ei from ef, a dywedant, Jer. 7.9.10. 2 Pet. 3.16. rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll, gan ŵyrdroi 'r scrythyrau iw dinistr eu hunain.
Mae 'r ewyllis mor elyniaethol i Dduw, ac yw'r meddwl, gan garu 'r creadur yn fwy [Page 270] na'r creawdwr, Rhuf. 1.25. yr hwn sy fendigedig yn dragywyddol. Nid digon gan y galon butteinaidd adel a gwrthod ei Harglwydd, ei phriod cyntaf, a'i gwneuthurwr, eithr hefyd wedi troi ei chefn atto ef, cymer y gweision yn ei lè ef iw monwes o flaen ei lygaid ef. Gadewiff i'w Harglwydd sefyll y tû allan wrth y drws, Da [...]c. 3.20. Can. Sol. 5.2. Luc. 19.40. a churo, oni lenwer ei ben â gwlith, a'i wallt â defnynnau'r nos. Er maint o ddagrau a wylodd ef, ac o ddefnynnau gwaed a gollodd ef iw hynnill hi atto ei hun, etto hi ddywed yn ystyfnig, Cerais ddieithraid, ac ar eu hòl hwynt yr âfi. Jer. 2.25. Ni chaiff Duw mo fyfyrdodau 'r deall, na deisyfiadau 'r serch, ond y bŷd a'r cnawd ai caiff hwynt yn rhwydd. Rhuf. 13.14. Gwnaiff y meddwl ragddarbod dros y cnawd er mwyn cyflawni ei chwantau ef, ac aiff y galon ar ôl cybydd-dod. Ezec. 33.31. A'r gwasanaeth sy ddyledus ir gwir Dduw yn unic, a dynnir oddiwrtho ef iw roddi i ryw eulun teimladwy. Gwnaiff yr awyddus ddelw o'i dryssor, a'i olud; yr hwn a addoliff, ac a berchiff ef, gan offrymmu iddo ei ofal, a'i ddiwydrwydd, a'i ddymuniad; a cheriff ef megis y daioni pennaf, yn yr un môdd ac y mannai 'r Duw Goruchaf i bobl ei garu, sef â'r holl enaid, ac á'r holl feddwl. Gwasnaethiff ef yn hollawl, fel, nad allo ryngu bôdd iw Greawdwr, gan na ddichon neb wasnaethu Duw a Mammon. Math. 6.24. Hyderiff arno yn llé Duw; gan osod ei obaith mewn aur, a dywedyd w [...]th au [...] coeth fy ymddiried wyt. Job. 31.24, 25. Llawenychiff am fod ei olud yn fawr, ac oblegyd iw law gael llawer. Am hyn dywed yr Apostol, [Page 271] fod cybydd-dod yn eulunaddoliaeth. Col. 3.5. Phil. 3.15. I Eraill eu Duw yw eu bol, ir hwn yr aberthant lawer o fwyd, ac y tywalltant lavver o ddiod offrvvm, ir hwn y canant fawl yn eu heglvvysydd sef y tafarndai. Y rhai sy gyfryw ni wasnaethant yr Arglwydd Jesu Grist, Rhuf. 16.18. eithr eu bol eu hunain. Ac ymhen isaf cafell Baccus Eulun y meddwdod, a'r trythyllvvch, y mae allor Fenus, eulun yr anllad. Atto y cyrchiff y cyfryvv ac sy 'n caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw. 2 Tim. 3.4. Aberthir iddo nid yr eiddil ar nychlyd, ond yr iachaf, a'r cryfaf a'r glanaf: A chaiff gymmaint o felysgerdd yn ei addoliad, a'r ddelw euraidd yn amser Nebuchodonosor; neu ac oedd yn y deml yn amser Dafydd. Dan. 3.5 Y masweddwyr a ddatcanant gydâ llais y nabl, dychymygant iddynt eu hunain offer cerdd, megis Dafydd. Amos 6.5. Ie llawer medrusach ydynt ar byngcio dyrîau anllad yn y tvvmpathau chvvareu, nag ar ganu Psalmau â llais peraidd, ac à chalon bur i'r Arglwydd. Fel hyn y gedi dynion y bywiol Dduw, ac y gwnant ffiaidd bethau sy gàs ganddo: Ac y gwasnaethant dduwiau gwael, Jer 44.4. nis gall mo 'u hachub yn eu cyfyngder. Dih. 11.4. ac 23.5. 1 Cor. 6.13 1 Joan. 2.1 [...]. Ni thyccia golud yn nydd digofaint, a chyfoeth a eheda ymmaith. Y bwyd ir bol, a'r bol ir bwydydd. Ond difcthir hwn a hwythau. Aiff dull y bŷd a'r cnawd heibio, a'i chwant hefyd. Aiff y rhwd a'r pryfed beunydd yn feistraid ar y duwiau hyn; etto nid arfer dyn mo 'i reswm i gydnabod nad y rhain a haeddau ei ufudd-dod ef; mwy nar eulunaddolwyr yn amser Esai, y rhai a addolent y naill ran o'r [Page 272] pren, Esai. 44.19. y lloscasid y darn arall o hono. Ni feddyliai neb yn ei galon i ddywedyd, lloscais ran o hono yn tàn, ac a wnaf y rhan arall yn ffieiddbeth, a ymgrymaf i foncyff o bren?
Tra niweidiol i ddynion ydyw gweithrediad y llygredigaeth hwn, gan eu gwneuthur fel bleiddiaid wrth eu gilidd, ie yn waeth nag eirth. y rhai ni rwygant eu rhyw eu hun, er iddynt ysclyfaethu creaduriaid eraill: Ond llâdd y naill ddŷn y llall. Psal. 74.20. Dih. 12.10. Llawn yw tywyll lêoedd y ddaiar o drigfannau trawster. A thosturi y drygionus sy greulon. Tommennydd o gelaneddau, a charneddau dinasoedd dinistriol, ac anghyfannedd-dra teyrnasoedd ydyw'r cwysiadau sy 'n dangos ôl gwaith y natur felltigedig ymbob oes, a gwlâd. O bale y mae rhyfeloedd ac ymlâddau onid oddiwrth chwantau? Jag. 4.4. Nid amheuthun clywed y bŷd yn ochain fel Merch Sion, Jer. 4.31. gwae fi oblegid deffygiodd fy enaid gan leiddiaid. Ie difetha pobl eu gilidd yn fradychus, fel y gwnaeth Joab ag Amasa. 2 Sam. 20.9, 10. Eb ef, a wyti yn llawen fy mrawd? a rhoddes y naill law am ei ŵddf ef i ymgaredigo ag ef, mal na ddaliai ar y cleddyf ydoedd yn y llall i ollwn gwaed ei galon ef: Gan ddallu ei lygaid ef â chussan, tra fu yn ei drywanu ef dan y bumed ais. A llawn yw'r ddaiar o odinebwyr a halogant gyrph ac eneidiau eu gilidd, ac a wnant nadroedd yn wyberod. Job. 31.9, 12. Pan dwyller y galon gan wraig i gynllwyn wrth ddrws cymmydog, prifia yn dân a yssa oni anrheithio; ac a ddadwreiddia 'r holl ffrwyth. Ac yn fynech bydd y ddau anwiredd echryslon hyn sef mvvrdvvr a godineb, [Page 273] vvedi eu cvvplysu ynghyd fel dvvy afr uffernol. Os ammhriodol fydd y buttain lleddir y plentyn, os priodol lleddir y gŵr: ac os Bathsheba a ymdroiff mewn aflendid, 2 Sam. 11 rhaid i Urias ymdreiglo yn ei vvaed. Nid diogel ystâd neb gan ladron yn torri drwodd ac yn lledratta. Aml yw yspeilvvyr a thvvyllvvyr mevvn amryvv ddull: Y cyfrvvys boneddigaidd a orthrumant yn dangneddefus; Esai. 10.2 gan ymchwelyd y tlodion oddiwrth farn, fel y byddo gweddwon yn yspail iddynt, ac yr anrheithiont yr ymddifaid. Marchnattavvyr a gyrhaeddant eu gilidd yn dvvyllodrus, gan abwydo eu bachau â geiriau têg ac a llŵon. Dûa enllibvvyr (y rhai ni buont feirw gydâ Doeg yr Edomiad) envvau eu gilidd â bustl cenfigen, ac anair. Hoffant eiriau de stryw, Psal. 52.1 ac â'u tafodau tvvyllodrus torrant escyrn eu cymydogion. Nid heb achos y cvvynodd y prophvvyd gan ddyvvedyd; Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lledratta, a thorri priodas, y maent yn torri allan, Hosh. 4.2 a gwaed a gyffwrdd â gwaed. Ac medd yr apostol fod y cenhedloedd vvedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, yn llawn cenfigen, Rhuf. 1.29 llofruddiaeth, cynnen, twyll. Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn drahaus, yn dorrwyr ammod, [...] yn angharedig, yn anhrugarogion. Ie nid allai pobl mor byvv vvrth ystlys eu gilidd, oni bae fod rhagluniaeth Duvv yn attal llawer ar vveithrediad pechaduriaeth y rhai nid yvv yn eu Sancteiddio. Mae ef yn dofi'r llevvod, heb eu troi yn ddefaid. Nid yvv ef yn newid eu naturiaeth hvvy, ond ei gwârhau [Page 274] yn unic. Yr hwn a osododd y tywod yn derfyn ir môr rhuadwy, Jer. 5.22. a waharddiff gynddaredd dyn. Felly pan erlidiodd Laban ddiclon ar ôl Jacob daith saith niwrnod, Psal. 76.10. ai oddiweddyd ef a'i dylwyth, dywedodd wrthynt; Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg. Gen. 31.23, 29. Ond Duw eich tâd a lefarodd wrthif neithwyr, gan ddywedyd, cadw arnat rhag yngen wrth Jacob na da na drwg. A chwedi hynny pan ddaeth Esau a phedwar Cant o wŷr i ddial colled ei anedigaeth-fraint ar ei frawd Jacob, Pen. 33.1, 4. ydoedd yn eu hofni yn ddirfawr, yn lle tywallt gwed diferodd ddagrau; gan gofleidio a chussanu ei frawd. Y mae Duw yn arferol o anfon rhwystrau oddiallan, neu argyoeddiadau oddifewn, i luddias i bobl gyflawni cwbl oi drwg amcanion. mae'n ffrwyno eu ewyllis, neu yn naccâu achlyfur iddynt. Megis pan ddarfu i Saul a'i wyr amgylchynu Dafydd a'i wŷr iw dala hwynt; daeth cennad atto ef gan ddywedyd, 1 Sam. 23.26, 27, 28. bryssia a thyred, canys y Philistiaid a ymdanasant ar hŷd y wlâd. Am hynny dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd, ac efe aeth yn erbyn y Philistiaid. Amser arall daeth yspryd prophwydoliaeth arno, ac yn lle dal Dafydd, Syrthiodd i lawr o flaen Samuel. 1 Sam. 19.22, 24. pen. 24.16, 27. A chwedi hynny wylodd wrth Ddafydd, a dywedodd, cyfiawnach wyti nâ myfi. Swyddogaeth, a rheolaeth ymmhlith dynion ydyw 'r Argae gyffredin sy'n cadw i mewn annoddyn pechadurieth rhag boddi, a llwyr ddifetha 'r bŷd. Ordeiniodd Duw awdurdod i fod yn ofn i weithredoedd drwg, Rhuf. 13.3, 4. ac yn ddialudd llid ir Sawl a'u gwnelont. Ond pan [Page 275] dorro 'r argae hon, megis y digwydd weithiau mewn rhyfeloedd, ni dichon dim sefyll o flaen ffrwd anwiredd. Wrth gymeryd trefydd gwarchaedig ni bydd arswyd ar y gorchfygwyr ymlenwi â llofruddiaeth, godineb, ac yspail. A phryd nad oedd brenin yn Israel, Barn: 17.6. ac pen. 19.1, 25. digwilidd oedd yr eulunaddoliaeth a'r aflendid a amlhâodd yn eu mysc. A pha amser bynnag y digio Duw, a chospi'r drwg drwy adel i bobl wneuthur gwaeth, Rhuf. 1.26, 27. a'u rhoddi i fynu i wyniau gwarthus, pechant yn annaturiol, ac yn dra pheryglus i ddynol ryw.
Anafus yw 'r llygredigaeth hwn hefyd i ddŷn ei hun. gan ei fod wrth bechu yn gwneuthur Cam a'i enaid ei hun: Dihar. 8.36. 1 Cor. 7.9. 1 Pet 2.11. ac yn dwyn tân yn ei fonwes ai llysc mewn môdd anoddefus yma. Y mae chwantau cnawdol yn rhyfela yn erbyn yr enaid, ac yn rhoddi iddo lawer o friwiau gofidus, ac wrth eu cyflawni yn ei ddifetha ef, er gwerthfawrocced yw. A'r godinebwr Sy'n pechu yn erbyn ei gorph ei hun: Dihar. 6.32. 1 Cor. 6.18. Dihar. 5.11. ac pen. 6, 33. pen. 10, 7 A thrwy aflendid yn ei ddifwyno ai wanhychu ef. Er diwedd gwnaiff y pechod iddo ochain wedi iw gnawd a'i gorph gurio. Brycha ei henw ef hefyd: archoll a gwarth a gaiff [...]f, ai gywilidd ni ddeleir. enw pob drygionus a bydra. Ystym wradwyddus y mae'r pechod yn ei vvneuthur ar ddynion, ac megis â diodydd y ddewines Circe, y mae'n troi 'r naill yn fôchyn drwy feddwdod, a 'r llall yn arth drwy wŷn ddiclon, a'r trydydd yn afr drwy anlladrwydd, a'r pedwerydd yn dwrch daiar drwy gybydd-dod i ymdroi yn y pridd. Ac nid anaml iddo beri i ddŷn ei lâdd ei hun i [Page 276] ddibenu ei ofid amserol, ac i bryssuro 'r penyd rragwyddol, fel y gwnaeth i Saul a Judas.
Truenus yw Cyflwr dynion o herwydd eu pechadurieth, gan eu bod yn gaeth-vveision i Satan, Eph. 2.2 a phechod. Yspryd diafol sydd yn gweithio (nid yn segura) ym mhlant yr anufudd-dod. Ni chant lonydd ganddo heb eu gyrru o'r drwg bigilidd. Y rhai anwir sydd fel y mòr yn dygyfor, Esai. 57.30 pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. Gwynt profedigaeth, ai gynhyrfiad naturiol ni edi i fôr llygredigaeth gael gorphwystra, Onid bwrw allan ryw aflendid beunydd. gwael yvv'r gvvasanaeth pryd nad yw'r pen meistr ei hun ond carcharor mewn Cadwynau tywyllwch. 2 Pet. 2.4 Joan. 8.34 A phwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod y mae ef yn wâs i bechod, ac yn wasanaethwr llygredigaeth. Canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb i hwnw hefyd yr aeth ef yn gaeth. 2 Pet. 2.19 Yma y gvvelvvn y meidr pechod lyvvodraethu â llavv grêf megis cwncwervvr ped sae raid. Ond mae dynion yn eu rhoddi eu hunain yn weision iddo o'u gwirfodd, Rhuf. 6.16 2 Pet. 2.22 er nad yw ond budredd cyn frunted a chwdfa ci. A dyn, yr hvvn a vvnacthpwyd yn benaeth ar y creaduriaid gweledig oll, sydd yn cymeryd ei feistroli gan yr anifeiliaid o'i fewn, sef ei drachvvantau. A chvvedi gadel tŷ ei dâd nefol, Luc. 15.2 gorfydd iddo borthi moch bruntion, a dvvyn diffyg pob peth da. Ac mae'r gvvasanaeth hvvn mor galed (yn envvedig tua'r diwedd) ac yvv vvael, gan ei fod yn ddihamdden. 2 Pet. [...].14 Plant y felldith ni fedrant beidio á phechod. eithr cant eu llwytho ag ef, [Page 277] au harwain gan amryw chwantau. 2 Tim. 3.6. Tynn cybydd-dod hvvynt y naill ffordd, a balchder ffordd arall. Aml yvv'r gofidiau, anhunedd a'r doluriau a ddigvvydd oddivvrth ymarferion drygionus. i bwy y mae gwae? Dih. 23.29, 30 i bwy y mae gwelîau? i bwy y mae ochain? ond ir neb sydd yn aros wrth y gwîn. 1 Tim. 6.10 Y rhai sydd chwannog i ariangarwch, a'u gwanant eu hunain à llawer o ofidiau. A rhaid i gefn, ac vveithiau i escyrn yr afradlon ddioddef dros ei fol; ac ir aflan oblegyd y fenyw buteinig ddvvyn eisiau bara. Dihar. 6.26 Y mae brunti pechadurus yn llawn o nadroedd, a'u colynnau yn eu cynffonnau. Yn niwedd direidi pechod y mae mileindra, a chwerwedd bustlaidd yn gymysc â gvvaddod ei vvîn, a hynny a brofiff cydwybod pob enaid.
Tra enbydus hefyd yw cyflwr pechadurus. Wedi ei bwrw iw cholli yn llŷs y Barnwr Cyfiawn Hollalluog. digofaint Duw a ddatcuddwyd o'r nêf yn erbyn pob annuwioldch, Rhus. 1.18 ac anghyfiawnder dynion, ac maent oll wrth naturiaeth yn blant digofaint. Eph. 2 3 ie melldigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a scrifennir yn llyfr y ddeddf i'w gw [...]euthur hwynt. Y felldith a adroddodd Duw yn erbyn Adda sydd etifeddiaeth i'w holl heppil ef, a barhânt yn yr unrhyw anufudd-dod: a 'i llidiawgrwydd sydd yn torri allan arnynt yn y bŷd yma drwy flinderau a phoenau corphorol; helbulon a gofidiau a amlhânt i'r rhai a fryssiant ar ôl Duw dieithr. Psal. 16.4 yn chwŷs eu hwynebau y bwyttánt fara. Ac os rhyw Sodomiaid a fwyttânt fara seguryd, Gen 3.19 (fel y caiff lladron [Page 278] a llofruddion wedi eu bwrw ddigon o fwyd a diod tra fônt) etto ni ddiangant rhag dolur, er iddynt ochelyd llafur. Yr Arglvvydd sy'n, taro pobl anufudd â cblefydau, â darfodigaeth, Deut. 28. [...]. [...]7 ac â chryd poeth, â diflanniad, ac â mallder, à chornwyd, ac â chràch: o'r rhai ni ellir moi iacháu, eithr dilynant hwynt nes eu difetha. A bydd dolur mor fanwl i benydio pob rhan o'r corph, ac yw pechod iw llygru. Swyddog digofaint yw a'i gleddyf noeth yn trywanu pob aelod lle mae anwiredd yn rheoli. Curiff y pen dichellgar â gwaiw, a chnoiff y bol nwyfus â gwewyr; a berwa'r galon ddrygionus â phoethder, ac yssiga'r lwynau anllad â chrynfa: a chanlyniff ar ei elyn nes ei guro ir bêdd, a gwneuthur ei degvvch mor ffiaidd a'i dom, Job. 20.7 a'i hoivvder yn swyd i bryfed. Y rhai a fyddant cyn hyfed a bwytta ei wyneb ef vvrth ei ddanedd; er uched oedd ei drem, a mileinied ei guwch yn ei fywyd. Er eu gwaeled ant yn drêch nag ef ynghweryl eu creawdr. A thaerach fyddant na Joab vvrth erlid ar ol Sheba mab Bichri i ddinas Abel, 2 Sam 20 canys nid ymadawant au gelyn nes torri ei ben, a bwytta ei galon hefyd, am iddo dderchafu ei law yn erbyn y brenin nêfol. ond nid yw clefydau na phryfed cyn dosted vvrth y corph ymma, ac yw'r cythreuliaid vvrth yr enaid anrasol yn y byd arall: gan ei fod yn fyw fyth, ac yn deimladwy o'i friwiau. pwy ond ai profodd, all ddeall ei fraw vvrth gymeryd ei godwm ir gagendor du? a'r gofid a ddigwydd iddo yno oddiwrth losciad y tân anniffoddadwy, a brathiad [Page 279] y pryfed anfarwol yn y gydvvybod. ni fedrai'r Apostol Sanctaidd adrodd ychydig eiriau ynghylch diwedd y rhai Sy'n rhodio yn elynol i Grist, Phi. 3.18, 19 ond dan wylo o herwydd tosted eu destryw. ynteu ynfyd yw 'r pechadur ymlowio mewn gvvaith brvvnt i ynnill tryssor o ddigofaint, Rhuf. 2 pen. 6 a marwolaeth yn gyflog yn niwedd ei ddydd. ni ŵyr dilynvvyr anwiredd pa ddydd, pa awr, y cymer angau afel arnynt iw dihenyddio, ac iw rhoddi i boenau didrancedic. Nid yw 'r Swyddog diarbed hwn arfer o aros ond ychydig am y rhan fwyaf o honynt, ond eu Cippio ymmaith cyn hanneru eu dyddiau: Ps. 55.23 a hynny pan fo amheuaf ganddynt, Luc. 16 sef odiwrth eu gwleddoedd danteithiol ir ffwrn danllyd dragwyddol lle ni chânt ddefnyn o dwfr iw hoeri; gan drefnu iddynt gyfnewid chwith. Felly y daw dydd yr Arglwydd arnynt fel lleidr yn y nôs. 1 Thes. 5.2, 3 (yn ddiarwybod, ddirybudd) Canys pan ddywedant tangneddyf a diogelwch, yna y mae dinistr disymmuth yn dyfod ar eu gwartha megis gwewyr escor ar vn a fo beichiog: ac ni ddiangant hwy ddim. Job. 21.12, 13 Cymmerant dympan a thelyn, a threuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y descynnant ir bedd. testir y naill ir geuffos ddiwaelod oddiar ben ei orsedd, a'i rwysc, fel lleidr oddiar yr yscol; ar llall oi nŷth clyd. Jer. 17.11 Fol petris yn eistedd ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn anheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd. A'r gôsp a oeder oddiwrth ymbell un, a fydd tostach pan ddêl. a braich digofaint a dynner yn ôl, ac a attalier [Page 280] ennyd, Esai. 65.20 a dery yn drymmach gwedi, a'r pechadur yu fàb canmlwydd a felldithir.
PEN. 23. Anhawstra troedigaeth pechaduriaid o'u cyflwr llygredig.
Glŷn pechaduriaid yn dynn yn y Cyflwr anwireddus hwn er ei fod mor druenus, ac anhawdd aruthr yw tynnu neb allan o hono. Delir yr annuwiol à rhaffau eu pechodau, glynant mewn twyll, Dihar. 5.22 Jer. 8 5 gwrthodant ddychwelyd. Cadarn yw maglau Satan, a rhwymedigaeth anwiredd. Ni all neb eu torri ond yr Hollalluog Dduw yn unig. medd Crist ni ddichon neb ddyfod attafi, Joan. 6.44 oddiethr ir Tàd ei dynnu ef. Y mae pob dŷn yn gorwedd mor ddiymmod yn ei ddrygioni, Eph. 2.1 ac yw'r marw yn ei fèdd, neu 'r glŵth yn ei wely esmwyth; gan ei sûo ei hun â gweniaeth ei galon i gyscu'n ddiofal fel Jonas, er bod dialedd yn effro uwch ei ben ef: ac fel gwyr Lais y mae ef yn trigo mewn diogelwch, Barn. 18.27 er bod dinistr yn agos atto. A megis Balaam ni wél môr cleddyf daufiniog noeth, sef digter y Goruchaf, y sydd yn erbyn ei wyneb ef yn ei ffordd ddrwg. Num. 22 eithr aiff ymlaen yn hyf, ac a lowia bôb petrusder, fel y gwnaeth y Consuriwr hwnw i'w assyn ofnus: gan ymnerthu yn ei ddrygioni yn galonnog, Psal. 52.7 Datcudd. 16.9 heb edifarhàu i roi gogoniant i Dduw; na cheisio newid ei gyflwr anianol am un grasol, am fod ei bechod yn yscafn ganddo. ie mor hyfryd ganddo ymdroi yn ei frunti mewn llwyddiant, ac yw gan [Page 281] y mochyn ymdreiglo yn y dom ar dês. 2 Pet. 2.22 A rhediff dan neidio ar hyd y ffordd lydan (tra caffo hi yn dêg, ac yn ddihelbul) er ei bod yn arwain i ddestryw ymhen y daith. Cymer ei bleser a'i rwysc gydâ ei gymdeithion yn yscafnder ei galon; a chweri suglen donnen uwchben y pull diwaelod, er na bo ond llinin brau o fywyd bregus yn ei ddal ef. dawnsia ynghadwynau 'r cythrael, a chyflawna 'r ddihareb, mai chwerthin a wna ynfyd yn boddi. 2 Pet. 2.13 Ymddigrifa'r anwir yn eu twyll eu hunain. A'r bobl lygredig, fel Israel bechadurus gynt, Exod. 32.6. a eisteddant i fwytta ac i yfed, ac a gyfodant i fynu i chwarae. Neu fel Belsazzar ai gydwleddwyr a'r ordderchadon, yfant wîn, Dan. 5.1, 3, 4, 26.27 a moliannant y duwiau o aur, ac o arian, o haiarn, o goed, ac o faen (sef eu golud, a'u tai a'u tiroedd) er bod Duw wedi rhifo eu hawddfyd hwy, ac yn barod iw gorphen, a chwedi eu pwyso hwynt yn y cloriannau, a'u cael hwynt yn brin. Neu megis y bu yn nyddiau Noah a Lot, ac y bydd yn nyfodiad Crist; Luc. 17.2 [...], 27, 28, 29 y maent yn bwytta, ac yn yfed, yn gwrcica, ac yn gwra, yn prynu, ac yn gwerthu, yn plannu, ac yn adeiladu, er bod diluw o ddigofaint yn barod iw boddi hwynt, a thân anniffoddadwy yn ei waelod iw berwi hwynt oll dros byth. fel Nero maent yn canu, er bod eu dinas yn llosci. Ac nid oes hyfrydwch yn y bŷd vvell ganddynt, na'r hwn fo mwyaf pechadurus. cyfododd Judas oddiar ei swpper, er bod yno ymborth gyssurus, Joan. 13.30 i gwplau'r brâd a roddasai Satan yn ei fwriad ef. Hoffach ydoedd gan y dynion cyntaf y ffrwyth gwaharddedig, [Page 282] na'r holl aeron eraill a dyfau ym Mharadwys, er daed, ac amled oeddent. A'r un naturiaeth sydd yn eu heppil hwy byth: y rhai a dybiant ddyfroedd lledrad yn felus, a bara cudd yn beraidd. Dih. 9.17 Mae'r godinebwr yn ymddigrifo mwy yn y wraig ddieithr, nag yn yr eiddo ei hun, pen. 5.3, 4, 20 a'i gwefusau sy gystal ganddo â'r dil mêl, er bod ei diwedd yn chwerw fel y wermod, ac yn llym fel cleddyf daufiniog, i ofidio ei galon ef ryw ddydd.
A chan fod y fath gariad rhwng y cnawd a melysdra pechod, anhawdd fyth eu gwahanu yn y bŷd yma. Cryfaf cwlwm yw un y serch bleserus. Pan ddynner un, ac y llithier ef gan ei chwant ei hun, Jag. 1.14, 15 yna chwant wedi ymddwyn a escor ar bechod, a phechod pan orphenner a escor ar farwolaeth. Yma y gwelwn na ollwng chwant moi afel hyd farw. Am hynny ni yscarvvyd rhwng y gwr goludog ai faswedd beunyddiol nes ei fyned i boenau Uffern. Luc. 16.19, 23 Y rhai sy'n cyfrif moethau bennydd yn hyfrydwch, 2 Pet. 2.12, 13, 14 ni fedrant beidio â phechod, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth. Y rhai a ymddigrifant mewn anwiredd, ac ânt i mewn at y fenyw estronaidd wenheithus, Dihar. 2.14.16, 19 ni ddychwelant, ac ni ymaflant yn llwybrau y bywyd. Ac os cychwyn rhyw un cnavvdol ymadel â chwrse drvvg, mvvyniant pechod ai tynn ef yn ôl. Canys chwantau'r cnavvd a thrythyllvvch a ddena y rhai a ddiangasei unwaith oddiwrth y rhai sy'n byw ar gyfeiliorn. 2 Pet. 2.18 Ac ni ddvvg llavver o vvrandawyr ffrwyth i berffeithrwydd, Luc. 8.14 am fod melyswedd buchedd yn eu gorchfygu, ac wrth eu cofleidio [Page 283] yn eu tagu hwy. llith pechod yw difyrwch. [...]. Jer. 11.15 Job. 12.6 Tros amser llawenycha'r anwir pan wnelent ddrwg, ac ymglywant yn esmwyth mevvn buchedd annuvviol, ac yn ddiogel er eu bod yn cyffroi Duw. a chwedi myned yn [...] ddiofid ymrôant i wneut [...]ur pob aflendid yn unchwant. Eph 4 19 A pha yscafnaf, peryclaf yw cyflwr pechaduriaid, ac anhawsaf eu dwyn at iechydwriaeth. Pan fo un yn glâf o grŷd poeth, ac yn ymleferydd, yn ymrwyfo, yn codi ac yn canu heb deimlo ei ddolur, dir yvv fod ei fywyd ar antur mavvr.
Yr achosion o ddiofalwch pobl yn eu helynt anianol anwireddus sydd amryvv. yn gyntaf eu hanvvybodaeth ai diosala. ni vvyddant mor bûr yw natur Duw, Esai. 1.14 ac môr gàs gan ei enaid ef anwiredd, ac mor flîn ganddo ei oddef: eithr o herwydd eu bod hwy yn cael oed, ac ymvvared ganddo ef (y ganhiedir iddynt er mwyn eu denu hvvy at râs, a chael o honynt annogaeth ac amser i edifarhâu) tybiant ei fod ef yn fodlon iddynt, am ei fod ef yn ddioddefgar vvrthynt. Medd Duvv vvrth yr annuvviol, Psal 50.18, 19, [...] pan welaist leidr cyttunaist ag ef, a'th gyfran oedd gyda'r godinebwyr, gollyngaist dy safn i ddrygioni; hyn a wnaethost a mi a dewais. tybiaist ditheu fy mod i yn gwbl fel ti dy hun. Ac o herwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg. Preg. 8.11 a diystyrant olud daioni Duw, a'i ddaioddefgarwch, a'i ymaros, Rhuf. 2.4 heb wybod fod ei ddaioni [...]f yn eu tywys i edifeirwch. [Page 284] Ynfydion ydynt heb ganfod y gofid hir a ddwg y pechod ar ol hyfrydwch byrr. fel dynion oi côf ergydiant ou hamgylch bentwynion tanllyd o bechodau trachwantus mewn direidi heb ragweled y perigl a galyn. dall ydynt heb weled ymhell, na gallu edrych hyd ddiwedd yr hyn a ddeleir.
Yn ail, anghrediniaeth a wna'r anrasol yn rhyfygus. Ni choeliant mor gwaethaf am danynt eu hunain, nac am neb a garant. Tybiodd rhai o ŵyr Sodom mai cellwair yr oedd Lot, Gen. 19.14 pan adroddodd iddynt mor bechadurus, ac mor beryglus oedd cyflwr eu dinas; ac y cynghorodd hwynt i fyned allan o honi. Am hynny ni syflasant oddiyno nes eu defetha â thân. Nid yw cynghorion, na rhybuddion yn cynhyrfu meddyliau pobl, tra fônt heb eu cyd-tymheru â ffydd yn y rhai a'u clywant. Heb. 4.2 Er i Dduw anfon prophwydi i argyoeddi yr Juddewon gwrthnyssig ou drygioni, ac o'r destryw i ddyfod onid edifarhâent, etto ni ddywygiau 'r anwireddus mo'u ffyrdd, am na choelient y deuei 'r gelyn i mewn i byrth Jerusalem. Galar. Jer. 4.12 Ac er nad oes ganddynt wir ffydd i fwgythion gair Duw; mae ganddynt goel grêf i addewidion eu calonnau twyllodrus eu hunain; gan ymfendithio a dywedyd, heddwch fydd ini, Deut. 29.19. er i ni rodio ynghyndynrwydd ein calonnau, i chwanegu meddwdod at syched. a chwedi bwytta cegid pechod, tybiant y gallant ddringo ir nêf. Addawodd y goludog iddo ei hun esmythdra ar ei yscafnau llawnion dros lawer o flynyddoedd, Luc. 12.18, 20. ar y noson y ducpwyd ei enaid oddiarno.
Yn drydydd diystyriaeth ai diofala hwy. Ni chymerant hamdden i edrych o'u mewn; nac i bwyfo eu cyflyrau wrth glorian y cyssegr, nac iw mesur eu hunain wrth yr ysgwir union, sef ewyllis ddatcuddiedig Duw yn yr scrythyrau. Nid edifarhânt am eu hanwireddau eisiau eu holi eu hunain, gan ddywedyd, Jer. 8.6 beth a wnaethom ni? ac os edrychant eu wynebpryd naturiol yn nrŷch y gair, ânt ymmaith ar eu hynt, ac yn y man anghofiant pa fâth oeddent: Jag. 1.23, 24 gan gymeryd yn ddiystyr yr hyn a ddywedo gweision y brenin nefol wrthynt; a myned ymmaith un iw faes, ac arall iw fasnach. Math. 22.4, 5. a gadel i ofalon y bŷd wthio ymmaith feddyliau'r yspryd, fel y gyrr y naill hoel y llall allan. Ac felly mae agos bob dyledwr, y sydd ar fyned i'r carchar du tradwyddol, yn ddiofn, eisiau iddo gymeryd amser i fwrw ei gyfrif. Yn enwedig ni feddyliant beth fydd diwedd eu bucheddau. Galar. 1. [...] Astendid Jerusalem ydoedd yn ei godreu, am nad oedd hi yn meddwl am ei diwedd. mae'r godinebwr yn canlyn y buttain fel yr ŷch yn myned ir lladdfa. Dih [...]. 1.22, 23 (Yr hwn ni feddwl am ei berigl) ac fel yr aderyn yn pryssuro ir fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef. ie ni osodant at eu calonnau mo'r barnedigaethau dinistriol a dywallto Duw ar eraill o flaen eu llygaid hwy. Yn eu gwleddoedd y bydd y delyn, a'r bibell, a'r gwin: Esai. 3.12 ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylaw ef nid ystyriant. Balch, moethus, a diofal ydoedd Babilon, er iddi weled custudd Sion. Medd Duw wrthi, Esai. 17.7.6. halogais, a rhoddais fy etifeddiaeth yn dy law di. [Page 286] A dywedaist byth y byddaf Arglwyddes, Felly nid ystyriaist, ac ni chofiaist ei diwedd hi. Er i Dduw ddwyn ei gôf oddiar Nebuchodonofor drahaus, ai ddescyn o orseddfa ei frenhiniaeth, ai yrru i drigo ymmysc Assynnod gwylltion i ymborth ar wellt y ddaiar; etto Belsazzar ei fâb ef ni ddarostyngodd ei galon er gwybod o hono ef hynny oll: Dan. 5.18, 21, 22,23 ac ni anrhydeddodd Dduw.
Cela'r gydwybod ei fai oddiwrth y pechadur hefyd, a hynny ai diogela ef. Er i Dduw ordeinio yr gallu hwn yn yr enaid i wneuthur swydd cofiadur, sef i roi pob peth a wnelo dŷn i lawr yn ei lyfr, ac i fod fel gwiliedydd iw rybuddio o bob perigl, etto cŵsc hwn ar ben yr hwylbren: Dih. 23.34 a gad ir llong ddryllio, ac iw llwyth golli. Ac os digwydd iddo chwrnu peth drwy ei hûn, ac anesmwytho'r enaid â cherydd, troir ef ar y tu arall, at ryw londer a esmwythâo ar ei gystudd ef, ac â rhyw felystra irir ei bibellau ef, fel na chwtho cyn arwed. Gen. 4, 13, 17 Pan ddywedodd Cain fod ei anwiredd ef yn fwy nag y gellid ei faddeu, aeth i wreica, ac i adeiladu dinas, ac ni ddarllenir am ddim ychwaneg oi gŵyn ef. 1 Sam. 16.23 A phan flinwyd Saul gan yspryd drwg dyhuddodd cerddoriaeth ef dros amser. Heb. 12.8 Ac os llwyddiant amserol digystudd (yr hyn yw cynhyscaeth y bastardiaid) a wnaiff y gwely yn glyd, dywed y bydol wrth ei enaid, Luc. 12.19 cymer dy esmwythdra. A phan oreurer ei lyffetheiriau, ymfalchia ynddynt, Act. 29.27 ac ni chlyw ddim caethiwed oddiwrthynt: A phan frâshâo'r galon mewn llawnder ni chlywant a'u clustiau, ac ni welant a'u [Page 287] llygaid ddim ai dychwelo at Dduw. Jei. 2. [...]1. eithr dywedant wrtho ef, Arglwyddi ydym, ni ddeuwn ni mwy atatti.
Gyda hyn, y mae dynion yn ddiflin yngwaith camwedd oblegyd eu bod yn arferol ag ef. Milo wrth arfer dwyn llô ar ei gefn bôb dydd oddiamgylch maes yn Rhufain, ai dug ef yr un môdd pan aeth yn ŷch. wrth ymhyfrydu mewn pechodau llai, a bachgenaidd, daw pobl er diwedd i glywed yn esmwyth bechodau mwy a diafolaidd. Nid amhara môr anwiredd arnynt, am eu bod yn gynefin o ymrwyfo ynddo. Ac o herwydd eu bod hwy yn eu helynt drosseddus er pan aned hwy, nid yw hynny chwithach ganddynt, na chan yr Affriciaid eu dûedd naturiol, na chanddynt ronyn fwy brŷd iw newid am wynder. Medd y prophwyd, a newidia 'r Ethiopiad ei groen? neu 'r llewpard ei frychni? Jer. 13.23. felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg.
Mae Satan hefyd yr hwn sydd yn cadw meddiant ymhob enaid diadgenedledig, Act. 26.18. yn twyllo pechaduriaid, fel y gwnaeth â'r rhai cyntaf, i beri iddynt dybied na chânt farw eithr bod megis duwiau, Gen. 3.4, 5. er iddynt dorri gorchymmynion Duw. Ac megis y gwnaeth i Ananias, Act. 5.3. mae ef yn llenwi eu calonnau i ddywedyd celwydd yn erbyn yr yspryd glân: Ac i addaw 'r nêf iddynt eu hunain, er bod Duw yn bwgwth eu bwrw i Uffern. Meidr ef Siomi, a llygadtynu ei ddeiliaid i goelio 'r peth ni bo, ac i anufuddhàu ir gwirionedd: Gan fwrw hûd dros eu llygaid i weled pechod yn brydferth, Gal 3.1. [Page 288] a grâs yn afreidiol. Ac wrth edrych drwy ei yspectalau ef, cânt weled y camwedd du yn ddifyrrwch gwyn, a gwyrdd. Dengis iddynt ogoniant y bŷd, Math 4.8, 9. a mwyniant pechod, a dywed wrthynt hyn oll a roddaf i chwi am fy addoli i: a chaiff ganddynt ei goelio ef yn eu calonnau, (megis y cafodd gan Efa) i osod eu gobaith ar gelwydd. Esai. 28.15. 2 Pet. 2.12. Tros amser, ni hwyrach tra font byw, caiff yr anifeiliaid ynfyd anianol hyn (y rhai a wnaed iw dal ac iw difetha) borthiant wrth eu bôdd ym mhrefeb y cigidd uffernol hwn. ie cosa a gogleisia hwynt drwy hyfrydwch pechadurus, nes dyfod amser ei fantes iddo i frathu ei gyllell yn eu gyddfau, ac â gofid anhraethadwy i drywanu eu calonnau; a hwy wedi eu rhwymo cyn dynned nas gallont ddiangc oi grafangau ef. yna difethir hwy pryd na ho gwaredydd. Mae'r hên sarph yn gyfrwys, ac yn celu ei malais, nes cael amser cymwys iw gyflawni. Barn. 4.18. fel Jael gwnaiff ymgêledd ir hwn y bwriado ef frâd. a'r gâth grafangog hon a chweri â'i ysclyfaeth cyn ei lyngcu. os penydiai Satan gydwybodau pobl anwireddus yn amser eu hiechyd ai bywyd, ni hwyrach fyddau iddynt giesio newid eu meistr, a throi at Dduw. Am hynny ni ddywed ef un gair hagar wrthynt, ac ni roddiff un meddwl trwm o'u mewn hwynt, hyd awr angeu agos, pryd y tybio ef fod drws trugaredd wedi ei gau. ac yno wedi iw wahoddedigion ef yfed y gwîn, rhydd iddynt y gwenwyn oedd ynghadw ganddo yn gwaelod ei gwppan. Ond yn y cyfamser wedi ir pyscod ynfyd lyngcu ei abwyd ef, maent [Page 289] ynglŷn, ac yn chwareu wrth ei anwair ef, mal nas cant ymadel. ac mae 'r adar a ddenwyd â pheiswyn iw faglau ef, 2 Tim. 2.26. [...]. (lle delir hwynt ganddo wrth ei ewyllis ef,) yn cael eu hattal gan eu rwydau ef, nas gallant ymgodi tua'r nef. Eithr canant yn siriol yn ei gewyll ef wrth ei fod yn eu coleddu gystal yma, ac yn cuddio oddiwrthynt y peth sydd i ddyfod ar ôl hyn. Rhydd wenwyn ar lefrith iw genawon, fal nad allont ennyd archwaethu chwerwder y naill, gan felysdra'r llall. hyfrydiff eu geneuau, cyn cnoi eu calonnau. 2 Cor. 4.4. dalla ef feddyliau'r digrèd. rhydd fwgwd ar lygaid ei feirch porthianus rhag iddynt ddychrynu wrth weled y pethau y sydd o ddauty'r ffordd bechadurus, ai daflu ef i lawr cyn dyfod i ben y daith. Tarfarnwr twyllodrus yw, a rydd y gwîn goreu 'n gyntaf, Joan. 2.10. a chwedi i'r rhai ehud frwysco mal nas gallont na chodi na cherdded oddiwrtho ef, yna rhydd iddynt yr hyn a fyddo gwaeth. Dengis y neidr hon ei thorr fraith ir ynfydioa; a chuddia ei cholyn oddiwrthynt, nes dyfod yn agos at wrès y ffwrn fawr, ac yno y brâth. a thrwy'r cyfrvw foddion y mae hi yn twyllo 'r holl fŷd. Date. 12.9. Yn enwedig pan ddigio Duw wrth bechaduriaid yn angerddol, eisiau iddynt ufudhâu iw gynghorion, a'i alwad ef, a dywedyd, nid ymrysona fy yspryd i â'r dynion hyn yn dragywydd: Gen. 6.3. (fel y rhydd meistr y swydd i fynu o gynghori gweision pengaled na thyccio dywedyd wrthynt) a rhoddi o honaw ef genad ir yspryd celwyddog iw twyllo, ac iw gorchfygu hwynt, hwy a ànt i fynu mewn rhyfyg at ddrws y nèf, fel Ahab [Page 290] i Ramoth Gilead, 1 Bren. 22.20. ac oddiyno y syrthiant i Uffern. Ac am na dder [...]yniasant gariad y gwirionedd fel y byddent gadwedig, 2 Thess. 2.10, 11, 12. enfyn Duw iddynt (drwy law'r angel du) amryfussedd cadarn fel y credont gelwydd, fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu ir gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anhyfiawnder.
Fel hyn y gwelwn mor gryfion yw anwiriaid yn eu llygredigaethau, gan wneuthur eu calonnau fel yr Adamant, a'u hwynebau yn galettach na chraig, Zech. 7.12. Jer. 5.3. a gwrthod dychwelyd. Y mae Satan a'r cnawd wedi adeiladu ynddynt gestyll cryfion, 2 Cor. 10.4, 5. a dalfau uchel o resymiadau, a gwyniau yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Dduw: Onid yw yn anhaws ennill un enaid at ddaioni na dinas gadarn. Dih. 18.19. Pen 16.32. A gwell cwncwerwr yw'r hwn a reolo ei yspryd ei hun, na'r hwn a ennillo ddinas. Ym mhob oes collodd y milwyr dewraf y feddai Duw ar y ddaiar eu bywyd, wrth geisio curo i lawr y dalfau hyn trwy arfau ysprydol, sef cynghorion, a bwgythion. Ac ychydig a ddarostyngwyd i ufudd-dod Cri [...]t mewn cyffelybiaeth ir rhai a ddaliasant allan yn eu gwrthryfel, a chaledwch calon. Y rhai fel y Lefiathan a dorrent gleddyf yr hwn a'u tarawai, ac a gyfrifent haiarn fel gwellt, a phrès fel pren pwár. Ni pharau Saethau 'r Apostoliou a'r prophwdi iddynt ffoi. Job 41.27, 28, 29 piccellau a gyfr fent fel Soflydd, a chwarddent wrth yfgwyd gwaiwffyn. A chan fod yn war-galed yn wastad gwrthwynebent yr yspryd Glân: Act. 7.51. Mar [...]. 6. ac fel Herodias torrent y pen ai ceryddai o'u hanwiredd. bradychent, a difethent blant, L [...]. 21.16. a brodyr, a chyfeillion, os ceisient sefyll [Page 291] ar eu ffordd hwy iw rhwystro i fyned ymlaen mewn drygioni. Am hynny y cwynodd Jeremi, wrth bwy y dywedaf si, Jer. 6.10. a phwy a rybuddiaf fel y clywont? wele dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, nid oes ganddynt ewyllis iddo. Ac o herwydd hynny yr ymhengodd Ʋffern, ac yr agorodd ei Safn yn anforth, Esai. 5.14. ac yno y descyn y [...]iaws anwireddus ni fynnent ddyfod at Grist fel y caffent fywyd. Jaon. 5.40. eithr pan gaffent gyngor i geisio rhyddhâd oddiwrth wasanaeth pechod drwy râs Crist, dywedai pob un agos fel y gwâs pryn a briodasid yn nhŷ ei f [...]istr, hoff genifi fy meistr, Ex. 21.5. nid afi allan yn rhydd. gellir dywedyd am bob pechadur diedifeiriol trachwantus, Esai. 44.20. ymborth ar lydw y mae, calon siommedig ai gwyrdrôdd ef fel na waredo ei enaid.
Ni thyccia mâth yn y byd ar foddion i droi pobl yn gyffredin, sef y colledig, at Dduw. ni chynhyrfant at ddaioni er clywed yr scrythyrau. pan ddarllenwyd prophwydoliaeth Jeremi o flaen Jehojacim a'i dywysogion, ac iddynt glywed tair dalen neu bedair o honaw, torrodd y brenin y llyfr, ac a'i taflodd ir tân. Jer. 36.6, 23, 24. etto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na'r brenin, nac yr un oi weision, y rhai a glywsant yr holl eiriau bynny. Mae haclioni Duw yn lle ei hennill hwy atto ef. yn ei gwneuthur hwy yn llawer gwaeth yn ei erbyn ef: pa iachaf, a chryfaf, a chyfoethoccaf a fyddont hwy, mwyaf a sydd eu godineb, a'u trais, a'u annuwioldeb. ni wrandawant y peth a ddywedo Duw wrthynt tra fo'n esmwyth arnynt. Jer. 22.21. Mae eu calonnau daiarol hwynt yn caledu pa [Page 292] deccaf y bo'r haul nefol yn tywynnu. Nid edifarhant er Cystudd chwaith. Medd y prophwyd am ei genedl, O Arglwydd ti ai tarewaist hwynt, pen. 5.3. ac nid ymofidiasant: difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd. Fel pyllau drewllyd ma [...]nt yn sawrio mwy, ac yn llwydo yn waeth wrth eu cythryblu. aeth calon Pharaoh yn galed fel yr enion dan forthwylion Duw. Nid all arfau Swyddogion ond yscythru rhai o ganghennau llygredigaeth en deiliaid, ac nid ei dynnu o'r gwraidd. periff cospedigaeth cyfraith i bobl attal peth ar eu drygioni rhag torri all [...]n yn gyhoeddus, ond yn y cyfamser mae yn llynnio oddifewn, ac yn rhedeg yn y dirgel, ac yn rhy fynech yn yr amlwg hefyd. Er bod Dafydd yn frenin da, methodd ganddo wneuthur ei ddeiliaid felly, megis y gwelwyd yngwrthryfel Absalon. am hynny cwyniff wrth yr Arglwydd gan ddywedyd, Psal 119.136. afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, a [...] na chadwasant dy gyfraith di. Ni ddichon rhieni wrth fagu a dyscu eu plant, ddywygio 'r natur llygredig a gyfrannasant iddynt wrth eu cenhedlu. Ni wrandawodd Hophni a Phinchas annuwiol ar lais Eli am y mynnei 'r Argwydd eu llâdd hwynt. 1 Sam. 2.25. Yr ydoedd eu tâd yn ŵr da, parchedig, oedranus, ac yn offeiriad Duw, etto gwrthodasant ei gyngor ef iw destryw. Methodd gan y propwyd Samuel (ydoedd ei hun yn rasol oi ieuenctid) gael gan ei feibion ofni Duw, wedi id lynt fyned yn wŷr, ac iddo eu gosod yn farnwyr ar Israel. 1 Sam. 8.1, 3. Ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ol cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gŵyrasant [Page 293] farn. Digia 'r naill frawd wrth y llall, oni chydtynnant at anwiredd. Gen. 4.4, 8. Er i Abel addoli Duw yn gymeradwy nis gallodd ddŵyn ei frawd Cain i wneuthur felly. Nid yw meistraid duwiol yn cael mo'u cyngor yn drêch na'u gweision anrasol. er bod Gehezi yn wâs i Eliseus gwr Duw dros gryn amser, 2 Ben. 5.20.22. a gweled o honaw y rhyfeddodau a wnaethai 'r prophwyd Sanctaidd hwnw, a chlywed cymaint oi gynghorion ef, etto ni adawodd mo'i gybydd-dod ai gelwydd. Gorfydd ir naill gymydog wylo am gamwedd y llall, heb allu ei droi ef at ddaioni. eiriolodd Lot yn daer ar ei gyd-ddinaswyr na wnaent ddrwg, Gen. 19.7. ond ni wrandawsant arno nes eu difetha â thân. A chan na fynn pechaduriaid mo'u puro, nid heb achos y cwynodd y prophwyd gan ddywedyd, cyndyn o'r f [...]th gyndynnaf ydynt oll. lloscodd y f [...]gin, y [...] ofer y toddodd, y toddudd, Jer. 6.28.29, 30. canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymmaith, yn arian gwrthodedic y galwant hwynt, am wrthod o'r Arglwydd hwynt. Ac nid rhyfedd clywed pregethwr cydwybodus yn gryddfan, eisiau gweled ffrwyth ei lafur ymysc ei wrandawyr, ac yn cydnabod, fod Adda hên yn rhy grŷf i efangylwr i [...]vangc. Llwyr y dylai un ofidio wrth ystyried anallu pawb i lanháu natur ddynol sydd wedi ei difwyno, Date 5.4, 5. fel yr wylodd Joan o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd y llyfr ydoedd wedi ei sili [...]. Ac nid rhyfedd fod cyn anhawsed gan y prophwydi duwiol gynt fyned ar wasanaeth cyn berycled, ac yw ceisio gorescyn llygredigaeth dyn [...]on drwy air Duw. Medd Moses ni chredant i mi, ac ni wrandawant [Page 294] ar fy llait. o Arglwydd ni bum ŵr ymadroddus, Exod. 4 1, 10, 13. danfon attolwg gyda'r hwn a ddanfonych. Nid ai Jonas dros drigo i bregethu yn Niniveh. ac medd Jeremi rhag ei anfon i argyoeddi ei genedl, ni fedraf ymadrodd, Canys bachgen ydwyfi. Jer. 1.6. Ac nes i Duw roddi calondid ryfeddol ynddynt, arswydent osod ar lygredigaeth y bŷd, fel yr ofneu'r Israeliaid y Cawr o Gath, ac y ffòent rhagddo ef. ond beth yw'r pechod? A phwy yw'r Philistiad dienwaededig hwn, pan wradwyddei efe fyddinoedd y Duw byw? 1 Sam. 17.24, 26. Wele dywed Duw wrth yr enaid Custuddiol dan bechod fel yr henuriad wrth Joan, nac wŷla: y llew o lwyth Juda, gwreiddyn Dafydd a orchfygodd. Crist Jesu mâb Duw, a gymerth ei fywyd yn ei law, ac a Safodd yn y maes i dorri pen Goliah, i lâdd pechod, i fwrw allan yr yspryd aflan, ac i waredu 'r gwir Israeliaid, iw gwneuthur o gaethweision llygredigaeth yn blant i Dduw, ac yn frenhinoedd i reoli ar eu holl drachwantau. Ac er bod cestyll pechaduriaeth yn dra chryfion ym mhawb, ac yn anorescynol yn yr eneidiau gwrthodedig, etto ordeinwyd arfau ysprydol nerthol trwy Dduw iw bwrw ir llawr yn y rhai etholedig. 2 Cor. 10.4. Er caletted calonnau pechaduriaid, gwnaiff Duw ei air iddynt megis tân, Jer. 23.29. ac fel gordd yn dryllio'r graig. Ac enynniff y fâth odyn wressog yn eu Cydwybodau, ac y beriff ir galon garreg ymollwng, i'r geuyn haiarn yn y warr ystwytho, ac ir près yn y talcen doddi. Esai. 48.4. Rhuf. 1.16. A phrisia 'r efengyl yn allu Duw er j [...]chydwriaeth i bob vn ar sydd yn Credu, ir Juddew a'r Groegwr hefyd. Yr ymadrodd am y [Page 295] groes ir rhai colledig ynfydrwydd yw; 1 Cor. 1.18. Rhuf. 5.20. pen. 6.14 eithr ir rhai Cadwedig nerth Duw ydyw, a wnaiff nad arglwyddiaetho pechod arnynt, ac na bont dan felldith y ddeddf eithr dan râs. a lle'r amlhâodd pechod, rhagor amlheiff grâs: gan eu hachub drwy olchiad yr adenedigaeth, a'u troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw, Tit. 3.5. Act. 26.18. fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ym mysc y rhai a Sancteiddwyd.
Ac er mwyn hyn mawr jawn yw 'r pethau a wnaeth yr Arglwydd Jesu dros ei etholedigion, ac y wnaiff ef ynddynt. Dioddefodd drostynt a hwy yn elynion iddo, iw prynu oddiwrth gaethiwed diafol, a pechod, a'r dialedd dyledus iw hanufudd-dod hwynt. Llwyr brynodd hwynt oddiwrth felldith y ddeddf, Gal. 3.13 gan ei wneuthur yn felldith drostynt: a chymeryd y gôsp arno ei hun; sef tlodi yn ei fywyd, heb lè i roddi ei ben: gwradwydd yn ei henw, cyfrifwyd ef gyda 'r anwir: gofid yn ei enaid, ydoedd yn anfon allan ocheneidiau trymion o waelod ei galon, ac yn drist hyd angeu: blinder a gwewyr yn ei gorph, yn bendifaddeu tra yr oedd wedi ei drywanu a'i hoelio ar y groes, lle y dioddefodd boen marwolaeth erchyll. A'r cwbl er talu jawn i gyfiawnder ei Dâd am y camm a wnaethau, neu a wnelau pechaduriaid iw fawrhydi ef, ac iw gymodi ef a'r edifeiriol credadwy; Sef i droi digofaint Duw oddiwrthynt hwy, a thynny yr gelynieth a fau yn ei erbyn yntef allan ou calonnau nhwythau. a gwneuthur y Duw nefol, a dynion vfudd ffyddlon yn heddychol, ac yn anwyl iw gilidd. Gan lanhau oddiwrth ei bobl nid yn vnic euogrwydd [Page 296] pechod a flinai eu Cydwybodau, ond ei ffieidd-dra hefyd a halogai eu Calonnau, a'u bucheddau. Rhoddes ein Jachawdwr Jesu Grist ei hun trosom, Tit. 2.14. i'n prynu ni oddiwrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun, yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. Medd yr Apostol Pedr, 1 Pet. 2.24. Crist ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, fel gwedi ein marw i bechodau y byddem byw i gyfiawnder. A'i werthfawr waed prynodd iw blant Sancteiddiad gystal a chyfiawnhâd a gogoniant. Ac heb law'r pethau a ddioddefodd ef dros ei etholodig, gorfyddai iddo ddioddef llawer o gam oddiar eu dwylo yn ychwaneg pes gallent ei gyrhaeddyd ef. canys tra y mae ef yn aros am danynt i edifarhâu, gwnant lawer yn ei erbyn ef, gan rwygo ei enw ef, a thorri ei orchmynion ef, a briwo ei aelodau ef, wrth erlid ei bobl ef. Yr ydoedd Saul y llestr etholedig ai holl egni yn ceisio rhwystro 'r efengyl, wedi iddo ymuno a'r rhai a laddasent Stephan. a buasai hawdd i Grist ei daro ef yn farw, y pryd y tarawodd ef yn ddall, a gadel iddo (fel y Saul arall yn ei ofn gynt) Syrthio ar ei gleddyf, am iddo wingo yn erbyn y Swmbylau: a rhoddi iddo achos i ddywedyd wrtho ef fel Ahab wrth Elias, 1 Bren. 21 20. a gefaist ti fi ô fy ngelyn? Ond wele'r Arglwydd yn dirion wrth ei elyn dychrynnedig, gan ei ddiddanu ef yn ei fraw, a dangos trugaredd iddo ef, yn y fan lle 'r oedd ef ar fedr gwneuthur creulonder, ai ennill ef wrth ei arbed.
Yma y dylem ryfeddu cariad Duw, ac aniolchgarwch dynion. Pan orchfygodd Dafydd [Page 297] y Philistiad ofnadwy, cafodd ei groeshawu adref yn orfoleddus ac yn llawen gan bawb, er na dderbyniasai ef un briw yn y derfysc, a bod annogaeth naturiol iddo ef i roddi ei fywyd ar antur dros ei wlâd, a'i genedl. Ond cafodd Crist ei friwo, a'i lâdd wrth waredu ei elynion o ddwylaw eu gorthrymwyr tôst, ac mae 'n fodlon drwy ei gleisiau ei hun iw iachâu nhw; a chyd-ddwg â hwynt tra font yn saethu atto ef, gan ddisgwyl eu hamser hwy i ddyfod iw côf, etto bychan ydyw ei ddiolch ef gan y rhan fwyaf o'r bŷd. Hefyd pan daler Pridwerth am y carcharorion sydd mewn caethiwed dan y Twrc, ceir hwynt adref drwy deg: Ond gorfydd i Grist orescin Pechaduriaid drwy nerth, wedi iddo eu prynu er gwerth. Ni chaiff ef y meddiant oi bwrcas, nes ei ennill â chleddyf daufiniog. Er bod iddo hawl gyfiawn iddynt, etto ni edi diafol a phechod iddo ef gael preswylfa mewn un enaid, nes eu gorchfygu hwynt, a'u taflu allan. Os mynn gael ei etholedigion rhaid iddo weithio yn rymus ynddynt, heb law'r pethau a ddioddefodd ef yn ofidus drostynt: a'u gwneuthur hwy yn ewyllyscar yn nydd ei nerth, Psal. 110. Esai. 53. os mynn weled o lafur ei enaid. Yr hyn y mae ef yn ei weithredu yn effeithiawl drwy ei yspryd yn y rhai galwedig, wrth ddechreu a chynyddu Sancteiddiad ynddynt yma, a'i gwbl berffeithio yn ol hyn.
Dechreuiff ef ddoethineb yn yr enaid wrth daro ofn yr Arglwydd ynddo, yr hyn a wnaiff iddo ymadel â'r drwg. A phan êlo ef ynghylch gwneuthur dŷn yn deml i Dduw, â fflangellau [Page 298] gyrriff allan fasnachwyr Satan, a'i gwnaethai yn ogof lladron. o'r cyfryw cyntaf un a darewir iw siomedigaeth rhyfyg. Yspryd Duw a ddidwylla'r pechadur, ac a ddengis iddo enbydrwydd ei gyflwr, yr oedd Satan a'i galon dwyllodrus yn ei guddio oddiwrtho ef. A digwydd ir diadgenedledig diofal, megis y bu ir Syriaid malaisus a darawsid â dallineb wrth geisio dal Eliseus, y rhai oeddent yn tybied eu bod lle caent yspail, 2 Bren 6.18, 19, 20, 21, 22. ond pan agorodd yr Arglwydd eu llygaid hwynt, hwy a welsant, ac wele ynghanol Samaria yr oeddent, a brenin Israel yn barod iw taro. A dir yw y difethasid hwy yno, oni bae ir prophwyd yr oeddent hwy yn ceisio ei ddrygu, eiriol drostynt, a'u hachub hwy. Gwaith cyntaf yspryd y grâs, y diddanydd iachusol, yw argyhoeddi'r bŷd o bechod, Joan. 16.7. am nad ydynt yn credu yn Ghrist, eithr yn rhyfygu; a deffroiff hwynt i weled fel y maent dan eu perigl yn Sodome, er iddynt freuddwydio eu bod yn ddiogel yn Sion. wedi i Satan ag addewidion gau dwyllo Efa, a'i gwr drwyddi hi, Gen. 3. un o'r pethau cyntaf a wnaeth Duw tuag at eu adferu hwynt oedd peri iddynt weled eu noethni, a'u ceryddu am eu hanufudd-dod, a dangos chwerwed oedd ffrwyth eu camwedd. A'r unrhyw beth a weithiodd, ac a weithia ef yn y rhai edifeiriol gwedi hynny: Datc. 3.17, 18. gan oleuo eu deall, ac iro eu llygaid hwynt i weled fel y maent yn druenus, ac yn resynol, ac yn dlawd, er na wyddent hynny o'r blaen. Pan ddel pelydr yr haul ir tŷ, canfydddir y brychau ni welid yn y tywyll. Dengis yr Arglwydd ei bechodau i bob dyn [Page 299] ryw amser, naill ai er ei droedigaeth, neu ei golledigaeth. psal. 50.16, 17, 21 Wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd iti a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau? gan dy fod yn cassau addysc, ac yn taflu fy ngeiriau i'th ôl. a chwedi cyfrif ei anwireddau ef, medd yr Arglwydd, hyn a wnaethost, ond mi a'th argyoeddaf, ac ai trefnaf o flaen dy lygaid. Aiff y rhyfygus yn fud, ac yn ddiescus pan holo 'r brenin nefol hwynt, a'u taflu ir tywyllwch eithaf. Math. 22.12, 13. Bydd i bob pechadur ei gydnabod ei hun yn euog, fel y cauer pob genau, Rhuf. 3.19. ac y byddo'r holl fŷd tan farn Duw. A phwy bynnag a ewyllysio ef eu harbed, efe a ddengis iddynt hwy eu gwaith, a'u hanwireddau, amlhâu o honynt: Job. 36.9, 10. ac a egir eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi o honynt oddiwrth anwiredd.
PEN. 24. Drwy argyoeddiad y gorchfygir pechaduriaid, ac eu gwneir yn ufudd i Dduw.
Wrth weithio edifeirwch ddifrifol cynhyrfa Duw gynneddfau 'r enaid i wneuthur eu swyddau priodol. Er iddynt o'r blaen gyscu yn swrth, etto rhaid iddynt ddefroi at eu gwaith cyn gynted ac y cyffyrddo 'r Arglwydd â hwynt, ac y clywont ei lais ef.
Egir y gydwybod ei llyfr, a dengis ir enaid lechres du ei phechodau: a cheir gwybod iddi yscrifennu tra yr oedd yn te wi. Mal swyddog sarrug rhydd ddyfyn ir llŷs mawr, i ymddangos o flaen brawdle Christ i roddi cyfrif am yr yn oll a wnaethpwyd yn y cnawd. Rhydd [Page 300] gŵyn anwrtheb yn erbyn y drwg weithredwr, gan dystiolaethu o'u fewn ef yr hyn nid ellir ei wadu o flaen yr hwn a ŵyr bob pêth. Ac wrth gymeryd gafel ar y carcharor anhydyn, efe a'i gwâsc yn dynn, ac a'i piga yn ddŵys. Gofidiodd Dafydd, a bu gyfyng arno ef wedi iw galon ei daro ef. Nid all amgen na bo llid yn yr enaid, 2 Sam. 24.10, 14 Rhuf. 2.15. lle bo 'r meddyliau yn cyhuddo eu gilidd. Ac os cauád fydd y pechadur gan geisio celu ei flinder, nid elliff ddiffodd tân euogrwydd wrth ei gadw i mewn. Clyw gornwyd ei galon yn pobi ac yn llofci mwy eisieu ei ollwng drwy edifeirwch, a chyffes. Tra y tawodd Dafydd yn ei bechod, Psal. 32.3. heneiddiodd ei escyrn gan ei ofid. Tostaf fydd penyd y drwg weithredwyr mûd, nid attebont wrth eu holi: Methiff gan y cyfryw droi 'r meddyliau trymion heibio drwy foddion bydol. Cerddant gyda hwynt ir maes, eisteddant o'u blaen ar y bwrdd, a gorweddant gydâ hwynt yn eu gwelau. Euogrwydd fel cyscod du a ganlyn gorph marwolaeth i bob man. Ni thry ymmaith at y llaw asswy na'r ddehau, mwy nag Asahel oddiar ol Abner. Am hynny y dywedodd Dafydd, fod ei bechod yn oestadol ger ei fron. Psal. 51.3. Job. 13.26. A chwynodd Job yscrifennu pethau chwerwon yn ei erbyn ef, a gorfod iddo yn ei oed feddianu pechodau ei ieuenctid. Rhaid ir enaid synied am ryw beth, canys yspryd escud yw, nis gall beidio â meddylied, mwy nag y gall yr afon beidio â rhedeg, neu 'r ffurfafen beidio â throi. Ac mal y mae 'r meddwl rhyfygus beunydd yn rhedeg ar y bŷd a'i fwyniant, felly y bydd y meddwl dychrynedig mor astud i fyfyrio beth a [Page 301] fydd ei helynt ar ôl hyn. Y mae 'n haws i Dduw droi ffrwd y meddwl oddiwrth y ddaiar i redeg tua thragwyddoldeb, nag yw i ddynion droi aber dros eu tir ydoedd yn rhedeg yngwaelod nant. Dih. 21.1 Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin (a'r gwerim hefyd) yn llaw'r Arglwydd, ef a'i try hi lle y mynno. A gwnaiff ir meddyliau ystyried perigl yr enaid, er iddynt o'r blaen ragddarbod i hyfrydu'r cnawd.
Yna 'r argyoeddedig wrth ystyried eu ffyrdd eu hunain a gorchymmynion Duw a farnant eu pechodau yn dra pechadurus, Rhuf. [...].13. a'u ffrwythau yn dra-peryglus, gan iddynt drossedu yn erbyn yr Hollalluog, Brenin nef a daiar, yr hwn sy ganddo ddigon o fôdd i wrthod ei gam, ac i faeddu pawb a wrthwynebant ei awdurdod ef; a chanddo lúoedd i ddiffin ei ogoniant, ac i orchfygu 'r Sawl a attaliant ei gyfiawnder oddiwrtho ef. O flaen yr hwn nis gall yr annuwiol sefyll yn y farn. Yr hwn sydd yn dymchwelyd mynyddoedd yn ei ddigofaint, ac a laddodd filoedd yn ei gyfiawn lid, ac sydd beunydd yn dwyn ymmaith anadl meibion dynion, gan newid eu gwèdd, a'u danfon i fod yn gymdeithion i bryfed: Am hynny gwelant achos i ofni rhag iw Camwedd fod yn dramgwydd iddynt, a'u piccio ir pwll o'r hwn nis gellir codi.
Yn enwedig grefynant am wneuthur yn erbyn y Duw bendigedig, a haeddai barch ac ufudddod oddiwrthynt, am ei fod ef yn rhoddi eu bywyd, a'u cynhaliaeth iddynt. Gwrthunaf angharedigrwydd yw i blant yscriffinio ac ammherchi eu rhieni, a brathu 'r neb sydd yn eu porthi. Dadseinia eu cydwybodau hwynt gân [Page 302] Moses, Deut. 32.6. a'i hyn a delwch ir Arglwydd bobl ynfyd ac angall? Ond efe yw dy Dâd a'th brynwr? Ond efe a'th wnaeth ac a'th sicrhaodd? A chydnabyddant fod ei orchymmynion ef yn ddaionus, gan beri i bobl wneuthur y pethau sy fuddiol a hyfryd iddynt, sef ceisio teyrnas, a choron, a meddianu sylwedd, a dedŵddwch. Llawenychu yn yr Arglwydd yn oestadol, a byw yn y nef tra font ar y ddaiar. Bod yn heddychol, a chariad us, a gwneuthur da i bawb, ac iddynt eu hunain. Gwelant yr haeddai Prydferthwch sancteiddrwydd ei garu yn hytrach na 'r brunti, a'r pethau a barant orthrymder yspryd. Ac nad all dim fod gasach nag i blant anufuddhau iw tâd cariadus, ac yntef heb ofyn dim ganddynt ond a fae da ar eu llês. Och iddynt ei archolli ef â'r breichiau a genhedlodd, a fagodd, ac a ddilladodd ef: a'i ddianrhy eddu ef â'r eneidiau ac â'r cyrph y greawdd ef; a i ddigio ef â'u pechodau, yr hwn ai boddhâodd ac a'i llonnodd hwynt â'i drugareddau. O herwydd hynny cydnabyddant iddynt bechu yn ddirfawr yn yr hyn a wnaethant. 2 Sam. 24.10. Ac ni fedrant na chredont fod Barnwr cyfiawn i eistedd arnynt, gan fod eu cydwybodau o'u mewn yn eu holi mor galed yn erbyn eu hewyllys, ac yn bryttio fel Lamech os Cain a ddielir seithwaith, Gen. 4.24. yna hwy a ddielir saith ddengwaith a seithwaith.
Gwnaiff y coffadwrieth ei ran i ail-adrodd y gweithredoedd drwg oeddent er 's talm wedi eu claddu mewn distawrwydd, y tygasid na chlywid byth mwy oddiwrthynt. Er i bechadur diofal dybied fod ei feiau megis wedi eu ysgrifennu ar y traeth, ac ir llanw cyn [...]af o [Page 303] ddigrifwch cnawdol eu golchi ymmaith mal nas galler byth mo 'u darllen, etto yn ei gyflwr dychrynnedig gwybydd eu hargraphu ar y galon garreg, mal y bo anhawdd eu dileu: a bod ei bechod fel un Juda wedi ei yscrifennu â phin o haiarn, Jer. 17.1. a'i gerfio ag ewin o Adamant ar lêch y galon, ac nas gall amser mo 'i wisco ymmaith. Yna y cofiff ei ffyrdd, Ezec. 20.4. a'i holl weithredoedd y rhai yr ymhalogodd ynddynt. Nis gallodd ugain o flynyddoedd beri i feibion Jacob anghofio'r brâd brwnt a wnaethent. Gen. 42.21. Aetheu llawer o ddyddiau têg dros eu pennau er pan werthasent Joseph, er hynny yn eu cyfyngdra yr ydoedd mor gôf ganddynt eu cieidd-dra, a phe buasai newydd wneuthur. Ymgynhyrfa'r nwydau hefyd. Bydd yn y pechadur ofn mawr. pan welodd Belshazzar yr yscrifen oedd iw erbyn, Dan. 5.6. newidiodd ei liw ef, a'i feddyliau a'i cyffroesant [...] y dattododd rhwymmau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall. Y mae achos i un frawychu, ac yntef yn deall fod rhyfel iw erbyn, a'i elyn yn anorchfygol. Ei galon fel yr eiddo Ahaz a gyffroiff, Esay. 7.2. megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y-gwynt. Nid all dynion, mwy nag angylion drwg, vvrth ystyried y gwir o ddisri amgen na chredu a chrynu. Ofna'r bwystfilod pan ruo'r llew, ac y canfyddont eu perigl. Dan grynfa a braw y clywodd Saul Grist y dywedyd wrtho, Act. 9.5, 6 myfi yw Jesu yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. A dir yw fod yr ofn ysprydol yn fwy nag yr u [...] bydol, o herwydd fod y drwg a fwgythir yn dragwyddol. Yn hyttrach na nêb yr ofnir yr hwn a ddichon ddestrywio enaid a chorph yn uffern: Mat. 10.28. A rhagddo y [Page 304] llewygir gan ofn a disgwil am y pethau sydd i ddyfod yn nydd ei lid ef. Luc. 21.26. Ni bŷdd cyffro bychan rhag niwed mawr, ac ynteu yn annocheladwy. Nid oes dychymyg môdd i ddiangc rhag dicter Duw megis y mae rhag gorthrumder dŷn. Nid ellir ffoi rhag yr hwn sydd ym mhob man, nac ymddiffin yr erbyn yr Hollalluog. Nid oes arfogaeth yn y bŷd a geidw allan ergydion ei fêllt ef. Nid allai arian na ffafr penaduriaid ddiogelu Judas rhag llid yr hwn a'i barnai am fradychu gwaed gwirion. Ni lesha ir llofrudd o flaen y frawdle fod ei gyfeillion yn ei gefnu a'i ddiddanu, tra fo 'r barnwr a'r swyddogion yn ei euogfarnu. O dywedpwyd am ŵr mawr, mai beddau iw vvrthwynebwyr ydoedd ei gichiau ef, gwirach y gellir galw llîd Duw, ac angerdd y tân yssol yn bair annoddefadwy ir gydwybod euog. Gwnaeth taranau i'r holl bobl ofni 'r Arglwydd yn ddirfawr. 1 Sam. 12.18. A chan ofni o bobl gymmaint rhag llîd Duw a nhwy ynghŷd, nid rhyfedd i un unig ei ofni ef, pan fo mêllt tanllyd, a lleisiau dychrynllyd yn yr enaid.
Nid llai gofid y cyfryw enaid na 'i ofn. Nid all na bo dolur yn y galon y byddo pryfed y meddwl euog yn ei chnoi. Bydd awdurdod gan y gydwybod i benydio yr hwn y bo hi yn ei gondemnio: a gedi pechod wenwyn poethlyd yn yr yspryd a bair ofid iddo. Job. 6.4. Digwydd dolur newydd oddiwrth godymmau hên, a chyn anhawsed ei oddef â drylliad escyrn. Am hynny y gweddiodd Dafydd wedi iddo bechu gyda Bathsheba ar i Dduw beri ir Escyrn a ddrylliasid lawenychu. Psal. 51. Bydd loes ar y galon vvrth i [Page 305] argyoeddiad ei drwysbigo. Nid all y corph fod yn anheimladwy o gystudd yr enaid. Act. 2.37. yr hyn a wnaeth i Saul yn ei ddychryn fod dridiau heb na bwytta nac yfed. Act. 9.9. Deincod oddivvrth rawn Sodom a beriff ymattal oddiwrth fwyd, a gwnaiff y crŷd ysprydol na chlywer [...]lâs ar ddanteithion corphorol. Ni bydd dim yn felys ir hwn sydd ym mustl chwerwedd, nac esmwyth ir hwn a wescir gan rwymedigaeth anwiredd. A'r neb sydd lawn o lîd gystal ac o lîth pechod a lara'r dîl mêl. Ni welodd Judas yn wiw brynu gwîn â gwerth y gwaed, nac ymgleddu ei gorph wedi iddo yn gwbl golli ei enaid. Ymgynhyrsa digter y pechadur yn ei erbyn ei hun am ei fod yn benaf gelyn iw iechydwriaeth, a rhydd ei gnawd yngwarchae am ei fod yn anifail mor ddrygiog. Ac megis y daeth Joan i bregethu edifeirwch heb na bwytta nac yfed, felly gan mwyaf y bydd y dychrynedig yn ei chymeryd. A brunti 'r fuchedd a bair iddynt lendid dannedd. Dan. [...]. Peidiodd Belshazzar â gwledda cyn gynted ac y canfu 'r yscrifen ydoedd yn ei fwgwth. A bu hir ddirwest ir morwyr pan ddycpwyd oddiarnynt bob gobaith y byddent gadwedig. Act. 27.20, 21. Gwel yr yspryd cystuddiedig fwy achos i gospi nac i wre [...]ogi 'i cnawd, ac iw flieiddio yn hyttrach nag iw sionci. A [...]fidus fydd o barwydennau ei ga [...], am iw enaid glywed sain yr ydcorn: Jer. 4.19. Ac mewn rhan deimlo dicter Duw am bechod.
Am hynny nid all y cyfryw amgen na galaru, a dal o'r neilldu i vvylofain. Wedi argyhocddi Dafydd ymprydiodd, 2 Sam. 12.16. a gorweddodd ar y [Page 306] ddaiar, a phan ddaeth iw wely deffygiodd gan ei ochain: Psal. 6.6. bob nôs y gwnai ei wely yn foddfa, a gwlychai ei orweddfa â'i ddagrau. A phan gymerth Pedr edifeirwch aeth allan, ac a wylodd yn chwerwdost. Luc. 22. Wrth gloddio ir ddaiar y ceir dwfr, ac vvrth ddwfn chwilio 'r fuchedd ddaiarol y caiff yr ystyriol ddagrau. Y rhai y tywallto Duw arnynt yspryd grâs a gweddiau, Z [...]ch. 12.10. a adrychaut arno ef a wanasant, a galarant am dano, fel rhai yn galaru am eu huniganedig, a gofidiant am dano megis rhai yn gofidio am eu cyntafanedig. Cywiraf a thrymaf galar yn y bŷd yw 'r hwn a wna rhieni am golli eu plant, yn enwedig eu hunicanedig. Gen. 37. Galarodd Jacob ddyddiau lawer, a gwrthododd gymeryd cyssur pan gollodd ef Joseph: a'r pechadur a ganfyddo iddo ei golli ei hun, nid all na alaro fwy nag am golli arall: ac yntef yn colli 'r swccwr anwylaf a feddai hefyd, sef y Duw a'i gwnaeth, ac a'i cynhaliodd ef beunydd er pan ddaeth ir bŷd: Ei ddagrau fydd ei fwyd ddydd a nôs, Psal. 42.3 tra 'r annodo 'r gelyn iddo ef fel i Ddafydd gynt pa le y mae dy Dduw? Ni ddigwydd i neb achosion mwy o dristwch y tu yma ir bêdd, nag iddo fod yn deimladwy o sorriant y Goruchaf, a chwedi ei fwrw yn euog yn y llŷs o'i fewn i golli hyfrydwch nefol, ac i ddioddef tristwch tragwyddol. Am hynny medd yr Apostol wrth bechaduriaid â dwylo bruntion, ac â meddwl dauddyblig (mal nad oedont eu gwaith priodol) ymofidiwch a galerwch, ac wylwch, Jag. 4.8, 9 troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn dristwch. Dyma bysygwriaeth â [Page 307] llawer o ddail chwerwon ynddo. galar ar ofid, ac wylofain ar alar, a thristwch ar wylofain. A'r peth y mae 'r pysygwr yn ei orchymyn y bydd y clwyfus yn ei gymeryd, gan ddywedyd, gwae ni yn awr bechu o honom.
Cywilyddiant yn ddirfawr hefyd. gwelant eu hunain yn anifeiliaid bruntion. Medd prophwyd edifeiriol yn ei gyffes wrth Dduw, anifail oeddwn o'th flaen di. Je prŷf ac nid gŵr, Psal. 73.22. ac 22.6. Rhuf. 6.21. gwarthrudd dynion. Nid oes iddynt ffrwyth o'r pethau y mae arnynt gywilydd o'u plegyd. Wedi agor eu llygaid, a gweled eu noethni, gwladaidd ganddynt fel Adda ac Efa ymddangos ger bron Duw.
Ymddarostyngant hefyd dan law'r Hollalluog, a chydnabyddant nad yw ef yn gwneuthur dim cam â hwynt, pa gerydd bynnag a roddo arnynt. dywedant dan eu gofidiau fel y lleidr edifeiriol wrth ei gydymaith ar y groes, Luc. 22.41. yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddau 'r pethau a wna [...]thom. A phan fyddo eu llygaid yn rhedeg gan ddwfr o herwydd pellhau oddiwrthynt ddiddanwr a ddadebrai eu heneidiau, Gala [...]. Jer. 1.16, 18. addefant mai cyfiawn yw 'r Arglwydd, oblegyd nyni (meddant) a fuom anufydd iw air ef. Gwelant nad gwiw gwingo yn erbyn y swmbylau, na chablu barnedigaethau union.
Y moddion cyffredinol drwy ba rai y gweithir y cyfryw ddifrifol argyhoeddiad yw ystyriaeth o air Duw, yr hwn sydd scrifennedig ynghydwybodau dynion, y rhai wrth naturiaeth a ddylent wneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, Rhuf. 2.15. a dangos gweithredoedd y ddeddf yn scrifennedig yn eu calonnau, au cydwybodau yn cyd tystiolaethu, [Page 308] ac yn dirnad rhagor rhwng da a drwg. Pan fynegwyd i wyr Ninifeh y difethid hwynt, gwybuant yn eu cydwybodau eu hunain am ba beth, a hwy a ymostyngasant, a gorchymmynodd eu brenhin iddynt ddychwelyd bob un oddiwrth ei ffordd ddrygionus, Jon. 3.8. ac oddiwrth y trawsder ydoedd yn eu dwylo, er na ddarllenir i Jonah bennodi iddynt eu beiau. Yn enwedig hyspysrwydd o ewyllis Duw yn yr scrythyrau gyd ar gydwybod yn cydoleuo yr enaid a wnaiff ei bechodau a'i berigl o'u herwydd yn ddigon amlwg iddo. Trwy 'r ddeddf yr adweinir pechod; Rhuf. 3.20. Joan. 3.20. Rhuf. 4.19. a'i goleuni sydd yn argyoeddi gweithredoedd: ac yn peri digofaint, sef vvrth ddatcuddio haeddiant pechod. Pan glybu y brenin Josiah eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad, 2 Bren: 22.12, 13. gan ddirnad mai mawr oedd llid yr Arglwydd yr hwn a ennynwyd yn erbyn y deyrnas. crynodd y bobl vvrth glywed Duw yn adrodd ei ewyllis, Ex. 20. ac felly y gwnant vvrth ei hystyried. Ffrydia dwfr edifeirwch o'r calonnau creigiog pan eu trawer â gwialen Moysen. 2 Tim. 3.16. Yr holl scrythur, pa un bynnag ai'r h [...]n ai'r newydd, sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, ac i geryddu. A bendithir gynghorion a cheryddon gweinidogion a gwyr da eraill ir diben hwn. Ordeinwyd ir cyfryw mewn addfwynder ddyscu 'r gwrthwynebus, 2 Tim. 2. [...]5. i edrych a roddo Duw iddynt edifeirwch. Tra 'r oedd Pedr yn dangos ir bobl eu pechod yn croeshoelio Christ, y dwysbigwyd [...]wy yn eu calonnau. Act 2 37. Wrth glywed y Cristianogion yn prophwydo yr argyoeddid y digrêd, 1 Cor. 14.24, 25. ac y gwneid dirgelion ei galon ef yn amlwg, oni syrthiai [Page 309] ar ei wyneb ac addolai Dduw. Cerydd y prophwyd Nathan a argyoeddodd Dafydd oi ffiaidd bechod yn achos Uriah. Y mae yn y dîl mèl golyn i frathu 'r rhyfygus, gystal a melystra i gyssuro 'r ffeintiedig. Halen y ddaiar yw gweision Christ i beri ir cnawd ofidio, mal ei cadwer rhag madru. Llef prophwyd ydoedd fel sain udcorn a wnai frawychu. E [...]ai. 54.
Ac o herwydd bod y rhan fwyaf yn eu hawddfyd yn ysmala ganddynt glywed cynghorion gair Duw, a'i weision, a'u cydwybodau eu hunain, gan fod eu brasder yn cadw 'r pigau rhag dyfod at y byw, a'u pethau esmwyth hwy yn rhwystro 'r ergydion i guro eu rhyfyg hwy i lawr, rhydd yr Arglwydd bwys ei law ar y rhai y fo yscafn ganddynt ei air ef. A phryd na ddyscer er mwynder, caiff llais y wialen ddwyn y wers ar gôf, a throir llawenydd yn dristwch i'r rhai a drônt râs yn drythyllwch. Tywydd ofnadwy a wnaeth i bobl wrthnyssig geisio gan brophwyd weddio drostynt at yr Arglwydd fel na byddent feirw, 1 Sam. 12.19. a chydnabod iddynt chwanegu drygioni at eu holl b [...]chodau. Crynodd calon ceidwad y carchar dan ei bechod wedi ir ddaiar grynu dan ei draed: ac yn ddychrynedig syrthiodd i lawr o flaen Paul a Silas, gan ddywedyd, Act. 16.27. o feistraid beth sydd raid imi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig. Cyfyngder a wasc euogrwydd pechod yn dynn at y galon ydoedd mewn helaethrwydd yn gorwedd yn rhydd, ac yn yscafn. Ni chythrybliodd eu pechod annaturiol mo feibion Jacob, nes i'r helbul yn yr Aipht beri iddynt ei ystyried. Yn ei rhydd-did bodlonasant [Page 310] eu meddyliau cenfigennus wrth gael gwared o'r spienwr: ond yn eu enbydrwydd cyfaddefant mor anhrugarog y gwnaethent â'u brawd. Gen. 42.21, 22. meddant, gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, ac ni wrandawsom ef. A chofir iddynt ruthro i'r pechod ar draws cyngor. Medd Reuben oni ddywedais i wrthych, na phechwch yn erbyn yr Herlod, ond ni wrandawech chwi, wele am hynny ynte y gofynnir ei waed ef. Towydd galed oddiallan a chwanega boethni euogrwydd oddifewn: a thra fo 'r cyflwr bydol yn gymylog y saetha mêllt drwy 'r meddwl yn aml. Y pechodau ni chanfyddid yn y cynhesrwydd llwyddianus, a'r maswedd mwll, a ymddangosant cyn amled a'r sêr pan ddel oerni calon.
Hunan-gariad a bair i ddynion chwilio 'r achos o'r blinderau a ddigwyddo iddynt, ac ni bydd anhawdd iddynt ei gael, gan nas bydd eu pechodau cyn lleied na bydd hawdd eu eanfod. Y dymhestl anguriol a wnaeth ir morwyr ofni, Jon. 1 [...], [...]. a llefain bob un ar ei Dduw, a bwrw coel brennau i wybod o achos pwy yr oedd y drwg hwnw arnynt. Ni ddaeth Joab at Absalom er galwad y cennadon, nes llosci ei ŷd ef. A gorfydd i Fâb y Brenin nefol gyrchu atto ei hun y pechadur cyndyn drwy ryw golled, neu helbul danllyd. Hosh. 2.6, 7. A chau i fynu ei ffordd à drain (blinderau pigog) fel na chaffo ei lwybrau cyfeiliornus, ac nas goddiw [...]so ei gariadau pechadurus: ac yna ymofynniff am ffordd well, gan ddywedyd vvrth Dduw par i mi wybod pam yr ynwysoni â mi, Job 10.2 Pan oedd gyfyng ar Manasseh efe a weddiodd o flaen yr Arglwydd, [Page 311] ac ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei Dadau. 2 Cron. 33.11, 12. Oni bae iddo fyned ir yscol yn y carchar, ni ddyscasai pa fodd iw ymddwyn ei hun ar yr orsedd, ac ni ryddhesid mo'i enaid, oni bae caethiwo ei gorph. Prinder a thlodi a ddug y mab afradlon atto ei hun. Tra yr oedd ganddo fodd i gydwledda â phutteiniaid, Luc. 15.16. nid edrychodd am dŷ ei dâd. Dwyn newyn ym mhlith y môch a'i dychwelodd at ei hên dylwyth. Ni adferir y gwallgofus iw pwyll, ond wrth eu cadw yn isel, a'u fflangellu hefyd. Dioscir a geryddir a cheryddir yr hwn a ddyscir. Am hynny mae Duw yn fynech yn gwneuthur rhai yn dlodion yn y bŷd, fel yr elont yn gyfoethogion mewn ffydd.
Darostyngir rhai gan ddolur trwm. Nosweithiau blinion a osodir iddynt, eu enawd a wisc bryfed ac a aiff yn ffiaidd, oni chwynont yn chwerwder eu heneidiau. A phan ddisgw [...]liont iw-gwelau eu cyssuro yna eu brawychir hwy â breuddwydion, ac eu dychrynir â gweiedigaethau, oni ymbiliont am faddeuant, ac ymroi i ufuddhau. Ac i bob un ddywedyd myfi a bechais beth a wnaf i ti o geidwad dyn? Job [...]. [...]. Pa [...]am na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? A'r pryd y bo doluriau fel swyddwyr arfog yn cymcryd meddiant o'r corph am iddo lochi gelynion ei wneuth [...]rwr, gofidiant ef yn ddiarbed, a chadwant holl swyniant y bŷd allan o honaw ef, mal nas g [...]llo na chymeryd ymborch ar ei fwrdd, nac esmwythdra ar ei wely. A dangosant ir gydwybod mai gweinidogion cyfiawnder ydynt, ac na ddaethant yn ddiachos, gan bennodi 'r pechodau [Page 312] a'u cyffroesant. Canys yn synych bydd ar y clwyf ryw arwydd o'r anwiredd a'i parodd, megis ac y bydd afiechyd yn y defaid o'r un ffunyd â'r euod ai magodd. Yn y cyfryw gyflwr bydd holl hyfrydwch pechod wedi myned lle ni welir monaw fyth, heb adel dim o'i ôl ond ei frunti, a'i waddod yn y corph, a'i euogrwydd yn y meddwl. Er ir melys oedd yn ei goluro doddi ymmaith, etto ei chwerwder a crys, a'i gnofeydd a deimlir. Wedi i'r archwaith hyfryd oddiwrth ei fel ef ddarfod yn y geneu, peri y dolur gofidus yn y bol. Er iddo ymddwyn mewn hyfrydwch, nid escor ar farwolaeth ond trwy wewyr. Yna y gofidia pob pechadur am ei ynfydrwydd ddarsod iddo er bodloni ei gnawd â thipin o hyfrydwch twyllodrus dros fynydyn, ddwyn aflwydd gofidus ar enaid a chorph dros byth, er dim ymwared sydd ganddo o honaw ei hun; a dymuna yn ei galon na buasai ef er ioed wedi ei eni. A phan fo 'r cnaid a'r corph ar unwaith mewn gofid, gresynol sydd yr helynt. Os bydd y corph yn glwyfus a'r enaid yn iach, caiff yspryd gwr ei lawnwaith yn cynnal ei wendid: ac os bydd yr yspryd yn gustuddiedig er bod y corph yn iach, blin fydd ganddo fyw, megis y gwelir vvrth Judas sradwr. Nid all pethau oddi [...] llan iachau 'r briw yn yr yspryd oddifewn, Crynodd Felix y Rhaglaw, a Belshazzar y brenin, nid allai en reiolti oddiallan eu diogelu rhag ofn oddifewn, mwy nag y dichon dillad cynes rwystro crynfa 'r crŷd, neu wey plu roddi esmwythdra i escyrn drylliedig, ganfod [Page 313] y gofid yn nês at ddŷn na'r cyfryw gymmorth. Medd Solomon, Dih. 18. yspryd custuddiedig pwy a'i cynal? ynteu tra fo 'r anefmwythder yn y corph a'r gydwybod hefyd dirfawr sydd eu trueni. Dih. 14.10. Y galon honno sydd yn gwybod ei chwerwder ei hun, a'r boenedigaeth sydd mewn ofn, ond nid allafi fynegi 'r ocheneidiau sy'n anhracthadwy. Y cyfryw a ŵyr bethau ni choeliasai fyth oni bae iddo eu gweled á'i lygaid, a'u teimlo á'i efcyrn; sef nad oedd hyfrydwch pechod ond ei ddenu i golledigaeth, ac nad oedd y bŷd ond ei dwyllo â gweniaith, ac nad yw ei gyfeillion ond meddygon diles. Nad oedd y cwbl ond celwddog yn ei hawddfyd, a'u gadawant ef yn ddigyssur yn ei adfyd.
Fel hyn y gorfydd i Dduw yn fynych guro i lawr y gwaliau pridd, sef galluoedd y cnawd▪ i wneuthur ffordd iw air i fyned i mewn i'r yspryd; a gorchfygu pentrefydd synhwyrau y corph, a chestyll cynneddfau 'r enaid, cyn y caffo gan y Gwrthryfelwr cyndyn ymroddi iw Arglwydd. Rhaid iddo is [...]lu ucheldrem dŷn, a gosod gogoniant y rhyfygus yn y llŵch, a'i swrw ef yn isaf, cyn y gofynno nawdd am ei fawr atcasrwydd.
Er i rai yn y fath gyflwr gofidus ammhwyllo, neu o herwydd eu annioddefgarwch asrywiogi mwy, ac ir digofaint poethlyd be [...]i iw ammhuredd ferwi drosodd; megis y dynion a boethwyd â gwres mawr a gablasant enw Duw, D [...] 16.19. yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y pla [...], ac nid edifarhasant i roi g [...]niant iddo ef. Am y cyfryw dymer mae 'n debyg y crybwyll y poetau pan ddywedant i [Page 314] ofid droi rhai yn gŵn. Ac er i eraill fel Judas ddiweddu eu dyddiau, a neidio o'r badell i'r tân; etto yr un dilyw ac sydd yn boddi myrdd o gawri anwireddus, a gyfyd yr Arch, a'r ychydig o rai dewisol ac sydd ynddi i fynu tua 'r nef. Canys y rhai y mae 'r Arglvvydd yn eu cadw a arferant y tuedd naturiol y blannodd Duw ym mhob peth byw i geisio eu hachub eu hunain oddiwrth ddestryw, ac a gynhyrfir i ddymuno gwarediad, ac i ymofyn am dano Megis y rhai a ddwysbigwyd wrth glywed Pedr a ddywedasant hawyr frodyr beth a wnawn ni i fod yn gadwedig? neu fel yr Apostol, Rhuf. 7. ys truain ydym ni, pwy an gweryd oddiwrth gorph y farwolaeth hon? Chwennychant ymadel â'r helynt ddrwg fel y llwythog a'u beichiau, neu garcharorion a'u rhwymau. A deisyfant gyfiawnder megis newynog yn chwenych bwyd, a sychedig ddiod: y rhai yn ddifrifol, ac yn egniol a geisiant yr hyn a chwenychant. Megis y cyfododd y mab afradlon, ac y dychwelodd at ei dâd er pelled y ffordd, ac amled y rhwystrau. Ceisiant y cyssur yn Nuw y metha ganddynt ei gael o un lle arall. Chwiliant yr scrythyrau yn ddivvyd i edrych a oes driael yn Gilead perthynol iw clwyf. fel eli 'r galon fydd ganddynt y gwahoddiadau grasusol, a'r esamplau o drugareddau y welant yno: Sef fel y gwnaeth Duw â Manasses edifeiriol, a Mair Magdalen, ac eraill. A thybiant nad yw amhossibl iddynt hwythau gael trugaredd os ceisiant yn iawn. Wrth ymofyn â gair Duw cant weled digon o annogaeth i ddychwelyd atto ef: gan fod [Page 315] yn well ganddo ef iddynt ddyfod atto ef, nag aros yn eu pechodau hyd farw. Ystyriant iddo ef gymeryd llŵ o'i wir fodd i beri credu hynny. Fel mai byw fi medd yr Arglwydd, Ezec. 33.11. nid ymhoffaf ym marwolacth yr annuwiol, onid troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd a byw. Ac iddo yn rasusol anfon ei Fâb iw prynu, Joan 3.16. fal na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o honynt fywyd tragwyddol. Ai fod ef y gwahadd y truenus i ddyfod atto am gymmorth, gan ddywedyd, deuwch attafi bawb ac sydd yn slinderog ac yn llwythog, Mat. 1 [...] 28. ac mi a esmwythaf arnoch. Wele si yn sefyll wrth y drŵs ac yn curo, os clyw neb fy llais i, Datc. 3.20. ac agoryd y drŵs, mi a ddeuaf i mewn atto ef. Ac yn eu creshawu yn dirion pan ddychwelont: gan beri llawenydd yn y nef am bob pechadur a edifarhâo: Luc. 15. a llonni 'r edifeiriol ar y ddaiar. Diwalla ef y sychedig â gwin a llaeth heb arian ac heb werth. Er iw pwrs fod mor wag â'u cylla, a'u anheilyngdod yn gymmaint á'u hangen, etto os gwrandawant arno ef, Esai. [...]5.1, 2. ac 57.15. caiff eu heneidiau ymhyfrydu mewn brasder. Ac efe a'u harbed yn helaeth. Gwiw ganddo ef dderbyn dynion candryll, a bywhau calon y cystuddiedig: ac edrych ar y truan, ac 66 [...]. a'r cystuddiedig o yspryd ac sydd yn crynu wrth ei air ef. Calon ddrylliog ni ddirmyga. Psal. 51.17. Ac fel y mae 'n hyfryd ganddo ef i bobl dderbyn ei râs ef, felly trist ganddo vveled ei gwrthod: Am hynny pan edrychodd Christ ar Jerusalem vvrthnyssig efe a wylodd drosti. Luc. 19.41. Wrth ddwsn syfyrio ar y cyfryw ystyriaethau dysc Duw yr enaid cystuddiol, a rhydd iddo feddwl i adnabod [Page 316] yr hwn sydd gywir. 1 Joan 5.20. Ac eglurhâ iddo ffordd iechydwriaeth: a thuedda ef i obeithio yn Ghrist, Ephes. 1.13. wedi iddo glywed ac ystyried gair y gwirionedd, efengyl ei iechydwriaeth: Ac egir ei galon ef fel un Lydia i graffu ar y cyfamod grasol, ac i dderbyn yspryd y grâs i reoli ynddo ef: a phar iddo ymroddi i wellhau ei fuchedd, ac i ddywedyd ar ei liniau, Arglwydd beth a fynni di i mi wneuthur?
Yna 'r ymostwng yr edifeiriol o flaen Duw yn y dirgel, a chyffessiff ei fuchedd anwireddus â chalon ddrylliedig, ac â dagrau heilltion, gan ddywedyd fel Dafydd; Yn dy erbyn di o Dduw y pechais, ac y gwneuthum ddrwg yn dy olwg, Psal. 51. trugarhâ wrthif, ac yn ôl lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau. Taer erfyniff ar Dduw am gael ei lanhau oddiwrth bob pechod drwy waed Jesu Grist. Gweddio a wnaeth Saul wedi ei frawychu, nes i Grist ei ddiddanu ef. Act. 9. Je addunediff ger bron yr Arglwydd mewn simlrwydd calon ar ei gymeryd ef yn Feistr iddo, i ddilyn ei ewyllis fendigedig ef byth. Yr hyn a gyflawniff ef yn gydwybodus drwy ei holl ddyddiau. Tyngiff a chyflawniff gadw barnedigaethau cyfiawnder, Psal. 119.106. 2 Bren. 23.3. Fel Josiah gwnaiff gyfammod ger bron yr Arglwydd ar fyned ar ol yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchymmynion ef â'i holl galon. A'r Arglwydd Jesu yr hwn ni fwrw allan y sawl a ddel atto ef, Joan 6.37. a faddeuiff bechodau 'r edifeiriol, ac a heddychiff ei gydwybod ef mewn iawn brŷd, ac a rydd fywyd grasol oi fewn ef, a gallu i arwain buchedd dduwiol.
Yma ddarlleydd dal swlw fod Duw yn dechreu [Page 317] sancteiddio rhai yn eu hieuenctid, neu cyn iddynt ymdroi yn y pechodau ffieiddiaf, a bydd cyfnewidiad y rheini o'r cyflwr naturiol i'r grasol yn esmwythach, gan na bydd cyn gryfed gwrthwyneb ynddynt i vvaith Duw, ac y sydd yn y rhai a ymhalogasant yn fwyhawdd symud planhigin tyner o'r maes ir ardd. Ar y cyfryw descyn grâs fel gwlith esmwyth iw ireiddio, yn hyttrach nag fel cafodydd dwys. Ond pan fo Duw ynghylch galw pechaduriaid gwrthnyssig i fod o vveision anwiredd yn blant i Dduw, tynniff hwynt atto el hun gan mwyaf yn y môdd y rhagddywedpwyd. Rhaid vvrth forthwylion trymion a thân llym i weithio 'r galon haiarnaidd i'r ffurf a ewyllysio ei gwneuthurwr gael arni, A'r dynion a ddarparer i vvneuthur gwasanaeth, ac i orfygu profedigaeth mwy nag eraill, a gant archwaethu chwerwder pechod drwy edifeirwch brûdd, ac yno melysdra grâs mewn cydwybod dangneddefus, a gochelant y naill yn ddichlynach, a glynant yn y llall yn daerach byth: Mal y gwelir yn yr Apostol sanctaidd Paul, yr hwn a wnaeth ac a ddioddefodd bob peth y gelwid ef iddo er cariad Christ, a 'i rhyddhasai ef o'i ddychryn gofidus.
Ac nid heb achos y mae 'r Arglwydd yn gosod ar y pechadur yn neilltuol drwy 'r cyfryw ddwys argyoeddiad. Canys tra fyddo ef yn galw pobl i edifarhâu drwy gyffredin vveinidogaeth y gair, ac megis ar ben yr heolydd yn llefain ar gynnulleidfau lluosog i ddiwygio eu ffyrdd, ni thybir fod ei rybudd [Page 318] ef yn perthyn ir naill mwy nag ir llall, am hynny ysoweth cydescealufant ef. Ond pan yw yn neillduol drwy ddwys gerydd yn curo vvrth ddrŵs y galon gystuddiol, cydnabyddir y pryd hynny pwy y mae ef yn ei geisio: a'r hwn y mae y fath ymofyn am dano a ymroddiff iddo ef: ac fel Moses cenfydd Dduw yn y berth bigog, er iddo ei ddigio ef fel Adda yn yr ardd lysieuog.
PEN. 25. Grâs Duw yn meddiannu holl gynneddfau enaid, ac yn rheoli holl aelodau corph y gwir Gristion.
Wedi i'r Arglwydd fel y mynegwyd eusus vvneuthur dŷn yn eiddo ei hun, cymer feddiant yn holl gyneddfau'r enaid ac aelodau'r corph. Bydd y meddwl grasol yn adnabod y gwir fanctaidd rhagor amryfussedd yr annuwiol. vvrth dderbyn edifeirwch cydnebydd y gwirionedd, 2 Tim. 2.25, 26. a daw i'r iawn allan o fagl hudol diafol. Gŵyr yn hyspys fod Duw sanctaidd, creawdwr Hollalluog, a Barnwr cyfiawn a dâl i bawb yn ol eu ffyrdd, a ddiddana 'r grasol, ac a gospa 'r anufydd, a brynodd bechaduriaid, ac â'i yspryd sanctaidd a'u gwareda oddiwrth feddiant Satan, a gwasanaeth pechod, ac au diwalla â'i gariad; o'r hyn y mae ganddo brawf cysurus ynddo ei hun. A chan fod meddwl dŷn yn allu cyflym, goleu, cynhyrfir ef i ymarvveddu â Duw, Tâd yr ysprydoedd. Wedi i râs anelu 'r enaid, ergydia fyfyrdodau tuag i fynu yn aml, a rhêd ei ffrŵd tua'r môr mawr, [Page 319] o'r hwn y mae 'n tarddu. Rhwydd yw i sysyrio ar Dduw a'i ffyrdd. Rhysedda ei odidowgrwydd, a'i anfeidrolder, a'i ddaioni ef. Felly y gwnai 'r prophwyd, ystyriai an [...]herfynol bresennoldeb a gwybodaeth Duw. Arglwydd (medd ef) ti a adwaenost fy eisteddiad a'm cyfodiad: dcelli fy mcddwl o bell, P [...]al. 139.2, 3, 14. yspys wyt yn fy holl ffyrdd. Rhyfedd yw dy weithredoedd.
Cymer hamdden yn fynech i gyd fwrw pethau, mal yr ymsicerhâo fwyfwy iddo ef ddewis y rhan oreu. Wrth gyd-bwyso rhesymmau yr yspryd a'r cnawd, berniff râs Duw yn odidoccaf. Ac wrth gyfrif yn fanwl dirnad yn eglur nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a dda [...]cuddir iddo ef. Rhuf. 8.18. Cyfrififf bob peth pechadurus a darfodedig nid yn elw ond yn golled o herwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Christ Jesu ei Arglwydd. Phi. 3.8. A hynny a wnaiff iddo dybied yn wael o bob mwyniant a gynygio 'r temptiwr dichellgar iddo ef iw ddenu oddiwrth ei Dduw. Ffieiddiodd Pedr weled ceisio ganddo werthu dawn yr yspryd i Simon yr hudol, fel y gwerthasai Judas Grist am ddarnau o arian. Eb ef wrth Simon, Act. 8.20 bydded dy arian gyda thi i ddestryw am i ti dybied y meddienir dawn Duw drwy arian. Tebyg na chymersai yr Apostol gymmaint cyffro wrth un a'i yspeiliasai ef o'i holl dda bŷd, ac y wnaeth ef wrth hwn am gynig iddo ddobr, a chyffelybu dawn yspryd Duw i olud daiarol.
Mynech ystyria'r grasol ddaed yw Duw i ddynion. [Page 320] medd y prophwyd, yn ddiau da yw Duw i Israel, Psal. 73.1. sef i'r rhai glân o galon. Cariad Duw yn gwneuthur caethweision pechod yn blant iddo ei hun, ac etifeddion ei ddedwddwch ef, ydoedd yn sirioli ac yn llenwi meddwl y dyscybl anwyl. Medd ef, 1 Joan. 3.1. gwelwch pa fath gariad a roddes y Tâd arnom, fel i'n gelwid yn feibion i Dduw! Meddyliff y duwiol yn ddiolchgar am drugaredd Dduw yn ei greadigaeth, a'i gynhaliaeth ef. Cynhyrfa ei enaid i fendithio 'r Arglwydd yr hwn sydd yn diwallu ei enau â daioni, Psal 103.1, 4, 5, 6. fel yr adnewydder ei ieuenctid fel yr eryr, ac yn gwaredu ei fywyd o ddestryw, ac yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrummedig oll. Ac fel y mae cydymddiddan cariadus yn ddifyr i gymdeithion, bydd cumundeb rhwng Duw a'r meddwl grasol yn hyfryd ir Cristion. a bydd felys ei fyfyrdod am ei Dduw. Psal. 104.34 ac 116.12. ac 119.59. Medd ef ynddo ei hun, beth a dalaf ir Arglwydd am ei holl ddaioni i mi? Meddyliff am ei ffyrdd a throiff ei draed ac ei dystiolaethau ef. Y meddwl sanctaidd sydd i reoli 'r fuchedd, megis ac y mae 'r llygaid i gyfarwyddo cerddediad y traed. Am hynny ymgynghora yn bwyllog oi fewn ei hun, ac â Duw drwy weddi ynghylch ei achosion, mal y gwnelo ef y peth a fyddo uniawn beunydd. Cofiff Dduw ar ei wely, myfyriff am dano yngwiliadwriacthau 'r nôs. Psal. 63.6. Pob Isaac rasol a fyfyria yn y maes. A'r arwyddion o haelioni Duw a wêl ar ei fwrdd ai gwnaiff yn ddiolchgar, ac fel y glomen, edrych i fynu wrth gymeryd lluniaeth iw fewn.
A bydd yn y meddwl grasol fwriad crŷf i ddilyn ewyllis Duw. Medd y prophwyd, bwriedais [Page 321] na throseddai fy ngenau. Psal. 17 3. Dan. 1.8. a rhoddes Daniel ei srŷd nad ymhalogai efe. O herwydd hynny ni cheisiai 'r Apostl gan y Corinthiaid Cristianogol roddi Elusen ond yn ol eu bwriad hwy. Gan orchymmyn i bôb un megis ac yr ydoedd yn rhagarfaethu yn ei galon felly roddi. 2 Cor. 9.7. Trwy y fath lwyrfryd calon y glynau 'r prif-Gristianogion wrth yr Arglwydd nad allai dim eu gwahanu oddiwrtho ef: Yr ydoedd eu brŷd cyn gryfed ar ddaioni, nad allai dim ei droi ffordd arall: a'u hamcanion mor bur ac y byddent gymeradwy gan y sawl au gwypau. Llwyr adwaenai Timotheus suchedd ac arfaeth yr Apostol sanctaidd, ac a'i dilynai ef. Yn nydd y Farn gyffredin pan ddelo 'r Arglwydd i oleuo dirgelion, 1 Cor. 4.5. ac i egluro bwriadau y calonnau bydd i bob gwir Gristion glôd gan Dduw.
Nid all hefyd na bo yn y meddwl goleu hyder grŷf yn Nuw. Pawb a'r a adwaenant ei enw ef a ymddiriedant ynddo ef. Canys ni adawodd ef y rhai ai ceisient ef; eithr bu er ioed yn noddfa ir gorthrummedig yn amser trallod. Gwyr y grasol fod yn yr Arglwydd ddigon o allu mal y dichon ei waredu ef ym mhob cyfyngder, a bod ei gariad ef yn anfeidrol iw annog ef i roddi cymmorth. 2 Tim 1.12. Gwyddai Paul i bwy y credasai, a sicr oedd ganddo y gwaredai 'r Arglwydd ef rhag pob gweithred ddrwg, ac y cadwai ef iw deyrnas nefol. Nid ofnai 'r prophwyd er symud y ddaiar, Psal. 46.2 a threiglo y mynyddoedd i ganol y môr. Nid arswydai 'r Apostol ymorchestu dan flinderau gan ddywedyd, os y [...] Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn. Rhuf. 8.31. A [Page 322] pha fwyaf yr ymarfer Christion â duwioldeb, mwyaf a fydd ei siccrwydd ef ynghylch ei iechydwriaeth dragwyddol. [...]dn. 38. Diogel ydoedd gan yr un Apostol nas gallai nac angeu nac enioes ei wahanu oddiwrth gariad Duw.
Bydd cydwybod heddychol yn yr ufudd grasol. Rhuf. 5.1. y rhai wedi eu cyfiawnhau trwy ffydd a gant heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Jesu Grist. Mat. 14.24, 32. Grâs Christ yn yr enaid megis ei ddyfodiad corphorol ef ir llong a ostega'r dymhestl ydoedd o'r blaen yn ei thrallodi. Bydd calon y duwiol yn gadel iddo ac yn ei ddiogelu fod Duw yn maddeu ei bechodau ef. Y rhai a garant Dduw a'i cymmydog, nid ar air nac ar dafod yn unig, 1 Joan. 3.18, 19, 21. eithr mewn gweithred a gwirionedd, wrth hynny a wyddant eu bod o'r gwirionedd, ac a siccrhant eu calonnau ger ei fron ef. Eu calon nis condemna hwynt, a bydd ganddynt hyder ar Dduw. Wrth yr esmwythdra calon y bont yn ei gael mewn ffordd dda y gwyddant gael gollyngdod a rhyddhad oddiwrth yr euogrwydd, a'r aflendid a'i caethiwai o'r blaen. Gwyddant ir gwasawyr redeg allan o'r gydwybod, gan nad ydynt mor ofidus â chynt. Rhuf. 8.15. A bydd yspryd mabwysiad yn eu hyfhau i alw Duw yn Dâd, ac i ddiogel ymddiried yn ei ewyllis da ef. Am bob gorchwyl da a wnelont gwena eu cydwybodau arnynt iw diddanu hwynt. 2 Cor. 1.12. Eu gorfoledd hwynt a fydd tystiolaeth eu cydwybod mai mewn simlrwydd a phurdeb duwiol yr ymddugant yn y bŷd. Ac ni ddobrir y fath gydwybod er dim i roddi cennad ir drwg, canys dyfal driniff ei swydd i fod yn gynghorwr ffyddlon. Pa [Page 323] bryd bynnag y gwyro 'r Christion beth oddiar yr iawn ffordd, rhybuddia ef fel arweinydd ffyddlon i ochelyd myned ym mhellach ym machau peryglus pechod rhag iddo drigo ynddynt, a chaiff glywed ei llais ar ei ol yn dywedyd, dyma 'r ffordd rhodia ynddi. Ac ni bydd anhawdd ganddo ymwrando â hi, ac attal ei amryfussedd ar yr amnaid lleiaf. Ei galon a drawodd Ddafydd am dorri cwr mantell Saul, pan allasai ei ladd ef, ac yr annogwyd ef i hynny gan ei wŷr, am hynny ni wnaeth ef iw feistr ddim niwed ychwaneg, gan ddywedyd, na atto 'r Arglwydd i mi wneuthur y peth hwn. 1 Sam. 24.6. Cerydd ei gydwybod ef am y pechod llai, a barodd iddo betruso gwneuthur y pechod mwy. Gan iw galon warasun iddo gymeryd typyn o wisc Saul, gwybu na chai lonydd genddi os cymerei ei fywyd ef. Glynai Job yn ei gysiawnder ac nis gollyngai hi, Job. 27.6. am na fynnai roddi achos iw galon iw wradwyddo ef tra fyddai fyw. Psal. 37.31. Deddf ei Dduw sydd ynghalon y grasol, a'i gamrau ni lithrant.
Bydd ewyllis y duwiol yn dymuno ac yn hoffi yr Duw daionus y cenfydd y meddwl ei odidowgrwydd. Dymuniad ei enaid sydd at ei enw ef, Esai. 26.8. ac at ei goffadwriaeth. A dymuniad crŷf hiraethus fydd, megis ac sydd yn y sychedig am ddiod yn y gwledydd brŵd. Sychedig fydd ei enaid am Dduw, am y Duw byw. Psal. 42.2. 2 Bren. 23.25. Psal. 73.25. Fel Josiah troiff at yr Arglwydd â'i holl galon, ac â'i holl enaid. Hoffiff ef yn fwy na'r hollfŷd, ac ni ewyllysia neb ar y ddaiar gydag ef.
Gwell oedd gan y prif Gristianogion ogoniant Christ na Meddiannau daiarol, o'r rhai [Page 324] cinnifer ac oedd berchen tiroedd neu dai au gwerthasant, Act 4.34, 35. ac a ddygasant werth y pethau a werthasid ac a'i gosodasant wrth draed yr Apostolion: a rhanwyd i bob un megis yr oedd angen arno. Ffrwyth addfed a ymadawant â'u cibau yn wisci, a'r calonnau addfed o râs a ymryddhant oddiwrth eu meddiannau bydol. Anwylach gan y gwir Gristion Dduw na pherthynasau naturiol. Galwyd llawer gynt i adel brodyr a chwiorydd, Marc. 10.29. tâd a mam, gwraig a phlant o achos Christ a'r efengyl, a gwnaethant hynny yn ewyllyscar. Gan adel pob peth a dilyn Christ. Ezia. 10. Ac yn amser Ezra ymyscarodd yr Israeliaid edifeiriol oddiwrth y gwragedd eulynaddolgar y cyttaliasent â hwynt. Heffodd Job eiriau Duw yn fwy na'i ymborth angenrhediol: Job. 23.12. Psal. 63.3. a Dafydd ei drugaredd ef yn fwy na bywyd. Gadawodd llawer miliwn o ferthyron eu bywyd amserol er cael mwynhau Duw yn dragywydd. Dibrisient bethau cyfreithlon fel tom os cystedlid hwynt â Christ. A chassaent bethau anghyfreithlon fel gwenwyn. Gwell oedd gan Moses gymundeb â Duw mewn anialwch, Heb. 11.25. na mwyniant pechod mewn gwlâd frâs. Rhwydd fydd yr enaid i garu Duw, ac ef yn canfod beunydd arwyddion o gariad Duw tuag atto yntef. a gwel reswm da i hoffi yr hwn a wnaeth y serch, ac iddo ef a blannodd y winllan gael ei gwin. Ac mal yr hoffa y rhai grasol Dduw yn bennaf, hoffant ei ddelw ef mewn pobl yn nesaf. Byddant wedi eu dyscu gan Dduw i garu eu gilidd. 1 Thes. 4.9. Ewyllysiant yn dda i eneidiau dynion gan eu rhybuddio au cynghori, a gweddio drostynt. [Page 325] Hynny gydâ gogoniant a gorchymmyn Duw a annogodd yr Apostolion a'r prif athrawon i dramwy dros fôr a thir i fynegu ir byd ffordd iechydwriaeth drwy Grist. Yr hwn a bregethasant gan rybuddio pôb dŷn, Col. 1.28. a dyscu pôb dŷn ym mhôb doethineb, fel y cyflwynent bôb dŷn yn berffaith yn Ghrist Jesu. A gweddient ar Dduw nid yn unig dros yr ufudd, ond dros y gwrthwynebus hefyd; megis y gwnaeth Stephan, îe wrth ei ferthyru; efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Act. 7.60. Arglwydd na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Gweddiodd yn grôch drostynt hwy a oeddent yn filain yn ei lâdd ef, ac erfyniodd am drúgaredd i'r rhai ni wnaent ag ef gyfiawnder. a chymeradwy fu ei aberth brydnawnol ef drostynt, canys ar fyrder gwnaeth Duw [...]aul un o'i erlidwyr ef yn lestr gwerthfawr. Luc. 10.34. Parodol fyddant fel y Samaritan i dosturio wrth y rhai a fyddont mewn nebryw annhymer neu anghyflwr, ac iw hymgeleddu, gan dreulio arnynt eu gwin a'u holew.
Y nwydau y rhai a gynhyrfir gan y cyfryw feddwl ac ewyllis a fyddant sanctaidd hefyd. y llawenydd a fydd duwiol. Luc. 19.6. Canys nid all yr edifeiriol fel Zacheus na dderbynio Grist yn llawen, am ei fod yn dwyn iechydwriaeth gydag ef. A chan fod llawenydd yn y nêf, ac 15.10. ac yngwydd angylion Duw am y pechadur a edifarhao; mwy yw 'r achos o lawenydd ir dŷn ei hun a symudwyd o'r aflwydd blin ir dedwddwch cyssurus. Ac wrth gredu yn-Ghrist bydd iddo fawr lawenhau â llawenydd anrhacthadwy, a gogoneddiu. 1 Pet. 1.8. Rhyfeddol yw'i darluniad [Page 326] hwn ar hyfrydwch y prif Gristianogion, mae 'n gyfryw ac ni choelia neb ond y rhai a'i teimla: Sef eu bod yn mawr lawenhau, ac yno dubla ei eiriau, gan ddywedyd iddynt lawenhau â llawenydd. Ac er hynny ni chyrhaeddodd y peth, eithr cydnebydd fod ei eiriau yn fyrion, ac iddynt lawenhau â llawenydd anhraethadwy, a'u bod yn cael rhan o'r nêf ar y ddaiar, gan fod eu llawenydd yn ogoneddus, ac nid fel yr un anianol yn warthus. Nid all amgen na bo calonnau y rheini yn firiol a fyddo yn blant i'r Brenin pennaf, ac yn etifeddion i deyrnas dragwyddol. Bydd iddynt wrth ddarllen ewyllis eu Tâd ymhyfrydu yn ei gyfraith ef yn ol y dŷn oddifewn. Rhus. 6.22. ac wrth rodio gyd ag ef cydnabyddant fod ei ffyrdd yn hyfrydwch, Dihar. 3.17. a'i lwybrau yn heddwch. Mawr fydd eu diddanwch wrth wneuthur cyfiawnder a thrugaredd. Psal. 84.1, 10. a phebyll Duw a fydd hawddgar ganddynt, dewisant gadw drws yn ei dŷ ef o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. A'r llawenydd ysprydol a wna iddynt ddiflasu maswedd cnawdol, mal y gwna cynhesrwydd y ffurfafen amser hâf i bobl hepcor cynhesrwydd yr aelwyd a hoffent y gaiaf, ac y periff gwell synwyr i wŷr adel ymmaith chwareuon plant.
Pan welo Duw yn rheidiol fel nas tra-derchafer hwynt drwy odidowgrwydd eu trugareddau adel i genad Satan gernodio peth arnynt, ac er eu darostwng leihau eu diddanwch, au rhoddi ymbell waith mewn heli dagrau rhag eu llygru gan chwantau, y pryd hynny grasol a fydd eu tristwch, fel na chaffont mor [Page 327] golled oddiwrtho ef. Cystudd Eglwys Corinth a'i tristaodd yn dduwiol, ac a weithiodd ynddi fwy o astudrwydd, ac o ofn, 2 Cor. 7. 11, 15. o zel ac o ufudd-dod. Ni phruddha 'r Christion fel Ahab eisieu cael gwinllan ei gymydog, ond am weled pobl yn dianrhydeddu Duw; ac am ei fod ef ei hun yn fyrr o'r peth a ewyllysiai ef ei wneuthur mewn diolchgarwch iw waredwr. Y dynion nodedig ac anwyl gan Dduw yn Jerusalem ydoedd yn ocheneidio, Ezec. 9.4. ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll a wncid yn ei chanol hi. Rhus. 7. 23, 24. A deddf yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl a wnaift ir etholedig gwyno eu trueni. Ond ni thristânt am golledion bŷd megis rhai heb obaith, mwy nag y llawenychant wrth ei elwa megis rhai heb olud gwell. Gwyddant na pheri'r helynt ddaiarol ond ychydig Gan fod gogoniant y cnawd yn synhio fel blodeuyn, 1 Pet. 1.24. ni osodant mor gormod serch arno: a chan fod ei ofid ef yn diflannu fel chwyn, ni ddigalonnant hwy dano. Gwelant beunydd nad yw hawddfyd ond llygedyn, ac adfyd ond cafod, yn y man y dersydd y naill a'r llall: a bod llwyddiant y byd fel diwrnod, a'i aflwydd fel nôs, y fydd ag ychydig oriau ym mhob un o honynt. Am hynny edrychant y tû hwynt iddynt at sylwedd parhaus.
Eu dig au bodlonrwydd a reolir gan y meddwl yn dduwiol. Ni ddigiant wrth y neb a u hannogo iddaioni, neu au hargyoeddo o fai ac amryfusedd. Cerydd cyfiawn a fydd iddynt fel olew ni thyrr eu pennau. Psal. 141.5. Dih. 9.7. Y drygionus a wnaiff anaf ir hwn a feio arno. Daliodd Herodias [Page 328] ŵg marwol i Joan Fedyddiwr am iddo ddangos ei phechod iddi. Marc. 6.19, 25. Wedi iddi dwmno mewn ymloscach aflan hi a sychedodd am waed gwirion, a melysaf saig mewn gwlêdd ydoedd genddi gael pen y prophwyd ar ddyscl. Ond y doeth a gâr yr hwn a'i ceryddo. Dih. 9.8. ac yn lle dial a wnaiff dda ir hwn a'i drygo. Achubodd Joseph y rhai ai bradychasau ef, Gen. 42. a swccrodd y rhai a'i caethiwodd ef pan allasai dalu 'r pwyth iddynt. Ni chanhiediff y grasol iw ddig weithio yn ei achos ei hun, ond am ddianrhydeddu Duw. Gweled Israel yn addoli eulun yn lle Duw a wnaeth i Moses addfwyn dorri 'r llechau. Num. 25.7. A godineb ddigwilidd y bobl a wnaeth i Phineas ymaflyd yn y waiwffon: Act. 17.16. ac wrth weled dinas Athen wedi ymroi i eulynnod y cynhyrfwyd yspryd Paul ynddo. Ac mal na ddeil y grasol ŵg iw elyn daiarol, llai o lawer y gwnaiff ef hynny iw Dâd nefol. A bydd fodlon iw ragluniaeth ef, ac ir cyslwr y drefner iddo ef, er ei fod dros drô yn anhyfryd ir cnawd, am y caffo gymundeb â Duw ynddo. Ni chwenych ddim yn ei le ef, ac ni wrthid ddim gydag ef; eithr bydd fel plentyn wedi ei ddiddyfnu. Psal. 131.2. Tywyll a gwael yr ymddengis pethau isod iddo ef, ac ynteu yn craff-dremio ar ddiscleirdeb yr haul nefol. Gŵyr y gall golud fod yn niweidiol iw meddianwyr, mal y bu aur gwaharddedig i Achan, a thir drwy anghyfiawnder i Ahab, a gwiscoedd hoiw i Gehazi. a bod yn yscafnach calon yr ymdeithydd y sydd â lleiaf yn ei gylch. Philip. 4.11, 12, 13. Am hynny ym mha gyflwr bynnag y byddo dysciff fod yn fodlon iddo. Medrai 'r [Page 329] Apostol ymostwng ac ymhelaethu, addyscwyd ef i fod yn llawn, ac yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder, 2 Cor. 6.8. gallai bob peth drwy Grist ydoedd yn ei nerthu ef. Ni falchiai er clod, ni rusai er anglod. Er i anadl ei gyfeillion chwythu arno fel deheuwynt, ac anadl ei gaseion fel gogledd-wynt, etto ni rwystrai 'r un o'r ddau mono ef i fyned ym mlaen yn ei yrfa dduwiol. Mewn colledion dywediff fel Job, Job. 1.21. bendigedig a fyddo enw 'r Arglwydd.
Bydd y coffadwriaeth yn dryssordy ir gwirionedd. Ynddi y cedwir arch y dystiolaeth, a llechau 'r gyfraith efangylaidd. Llawlyfr cryno yw a ddwg y Christion gydag ef i bob man, â gorchymmynion ac addewidion, bwgythion ac esamplau o air Duw yn yscrifennedig ynddo, ac arno y derllyn dan ei ddwylo. Yr hwn ni chredo yn ofer a ddeil yn ei gôf â pha ymadrodd yr efangyler iddo. 1 Cor. 15.2. Yr hyn o'r da a ganfyddo 'r deall, ac a hoffo 'r serch a geidw 'r côf. Pawb a'r a glywsant a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid ynghylch ganedigaeth Christ, eithr Mair yr hon a'u hoffai fwyaf, a gadwodd y pethau hynny oll, gan eu hystyried yn ei chalon. Luc. 2.18, 19. Cenfigennodd eraill wrth weledigaeth Joseph, ond ei Dâd a ddaliodd ar y peth. Gen. 37.11. Er bod gan ryw un wrth natur gôf gwan, etto pan ddel yspryd Duw iw sancteiddio, dyscir a dygir ar gôf iddo gymmaint o ewyllys Christ, Joan. 14.26. ac a'i gwnelo yn gadwedig. Pan fyddo Christion mewn cywirdeb calon yn ceisio cysarwyddyd ynghylch y peth a ddylai ei ddeall, neu'i [Page 328] [...] [Page 329] [...] [Page 330] wneuthur, dwg yspryd Duw ryw yscrythur iw gôf ef iw gynghori a'i gynnorthwyo. Megis pan yrrodd Christ y marchnattwyr allan o'r deml â fflangellau, a thywallt allan arian y newidwyr, tebyg ir dyscyblion ryfeddu ynghylch y weithred anarferol honno, nes iddynt gofio fod yn scrifennedig, Joan. 2.16, 17. ac 12.13, 14, 15, 16. zêl dy dŷ di a'm hyssodd i. Y pryd y marchogodd Christ i Jerusalem i gyflawni prophwydoliaeth Zachary, nac ofna ferch Sion, wele y mae dy frenin yn dyfod yn eistedd ar cbol assyn: Ni wybu 'r dyscyblion ar y cyntaf beth oedd amcan yr ymddygiad hwnw. Eithr pan ogoneddwyd yr Jesu, yna y cosiasant fod y pethau hyn yn scrifennedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
Wedi ir Argwydd roddi naws rasol yn yr enaid oddifewn, ymddengis hynny yngweithrediadau 'r corph oddiallan. Wedi 'r hollter gwreiddyn y galon, ac impio ynddi y planhigin enwog, blaguryn paradwys, dwg ffrwyth peraidd a'i diddano ei hun ac eraill. Ordeinwyd yr enaid i gynhŷrfu ac i reoli 'r corph. Am hynny buchedda pôb dŷn fal y rhoddo ef ei frŷd yn ei galon. Bydd ar y dwfr archwaeth y mŵyn a'r sydd yn y graig o'r hwn y cyfyd. Math. 12.35. Phil. 2.22. Y dyn da o dryssor da y galon a ddwg allan bethau da. Gweithia Duw yn yr eiddo ewyllysio a gweithredu yr hyn a berthyn iw iechydwriaeth. Pan roddo Duw ynghalonnau pobl naturiol i amcanu rhyw beth llesol i eraill, hwy ai cyflawnant ef. Yspryd Duw a ddaeth ar Saul pan glybu eiriau gofidus gwyr Jabes Gilead, 1 Sam. 11.2, 6. ac efe a fyddinodd y bobl, ac a waredodd y gorthrymmedig. Ac [Page 331] o flaen hynny byddyn o'r rhai y cyffyrddasai Duw â'u calon a aeth gydag ef. 1 Sam. 10, 26. Ezr. 6.22 ac 7.27. A'r Arglwydd a droes galon brenin Assyria i gynnorthwyo'r Israeliaid yngwaith y deml; a rhoddes ynghalon brenin Persia iw harddu. A chyn siccred y tuedda Duw galonnau gwir Gristianogion i ddyfal wneuthur daioni ysprydol. Megis yr agorodd ef galon Lydia i ddal ar gyngor, Act. 16.14, 15. oni ymroddodd hi i fod yn ffyddlon i'r Arglwydd, ac i wneuthur ymgeledd iw weision ef. Yr enaid grasol a fywoccaer at ddaioni a lywodraetha aelodau 'r corph iw gyflawni, mal yr arfer gwr celfydd ei arfau i wneuthur y gorchwyl a fwriado. Pan droer ffrwd paradwys at yr olwyn fawr, sef yr enaid, hi a droiff holl olwynion bychain y corph a'r fydd ynglŷn wrthi i weithio am fara 'r bywyd. Adeiledir y cyssegr gan bob un yr hwn y dwg ei galon ei hun ef i nessau at y gwaith iw weithio ef. Ex. 36 2. Ewyllis rasol oddifewn a esid y dŷn oddiallan ar waith da.
Arferir y llygaid i hyfforddi duwioldeb▪ wrth edrych á nhw ar fawrion bethau Duw yn y nefoedd a'r ddaiar rhyfedda'r galon ei alluogrwydd, a'i ddoethineb ef. Dafydd wrth edrych ar y nefoedd, ar y lloer, a'r ser, Psal. 8 [...], 4. a foliannai Dduw am ei gariad tuag at ddŷn. Wrth ddarllen ynghyfraith Dduw caiff y Christion gyfarwyddyd beunydd. A thosturia wrth weled trueni ei gymydog. Galar. Jer. 3.48, 51. Pan gaethgludwyd yr Juddewon, llygad Jeremi ydoedd yn blino ei enaid; ac yn diferu ffrydiau o ddwfr o herwydd dinistr merch ei bobl. J'r golwg y deuau defnynnau calon doddedig y naill i gyfarfod [Page 332] trueni gresynol y llall. A'r grasol a fyddo mewn awdurdod a wnaiff i bobl arswydo camwedd wrth edrych arnynt. Brenin wrth eistedd ar orsedd barn, Dih. 20.8. a wascar â'i lygaid bob drwg. Mewn gweddiau beunyddiol hefyd y derchefir golugon y duwiol tua gorseddfainc Duw. Joan. 17.1. Derchafai 'r Jesu ei lygaid tua 'r nef wrth alw ar y Tâd.
Daw adeiladaeth i enaid y Christion drwy'r clustiau: Rhuf. 10.17. Esai. 50.4, 5. caiff ffydd trwy glywed▪ deffry 'r Arglwydd iddo glust i glywed fel y dyscedig, ac i ddeall yr hyn a adrodder wrtho, gan ufuddhau iddo. Act. 10.35. egorir ei glust ac ni wrthwyneba. Paradol ydoedd Cornelius a'i gyfeillion ger bron Duw i wrando 'r holl bethau a orchymmynid iddynt.
[...]al. 51. [...]5. Rhuf. 10.10. Geneu 'r dŷn daionus a fynega foliant Duw; ac a draetha wir llesol wrth ddŷn. Yr hwn a gredo â'r galon i gyfiawnder, a gyffessa â'r geneu iw iechydwriaeth ei hun, ac eraill. Deuwch (meddai'r prophwyd) a gwrandewch ŷ rhai oll a ofnwch Dduw, a mynegaf yr hyn a wnaeth efe im henaid: Psal. 66.17.19. Llefais arno am genau, ac ef a dderchafwyd a'm tafod. Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi, bendigedig fyddo.
Cynghorion rhai duwiol ym mhob oes a drodd lawer o ddynion ar y goreu. Drwy anadlau prophwdi ac Apostolion y chwthodd Duw ddrws llawer calon yn agored i ollwn dedwddwch i mewn. Act. 10.44. Psal. 44.1. Tra 'r oedd Pedr yn llefaru geiriau efangylol syrthiodd yr yspryd Glân ar bawb au clywent. Y Tadau a fynegant ir plant ewyllis Duw, a'i weithredoedd [Page 333] ef yn eu hamser hwynt. Y rhai a wiscant y dyn newydd a fwriant ymaith gelwydd, Eph. 4.25. ac a ddywedant wir bob un wrth ei gymydog.
Mewn iawn fodd y bwytti ac yr ŷf y sawl a ofno Dduw. Rhuf. 14.6. Act. 2.46. Wrth fwytta ir Arglwydd y mae 'n bwytta, canys y mae yn diolch i Dduw. Y prif Gristianogion a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd, a simledd calon, gan foli Duw. Er ir annuwiol chwanegu eu pechod fel y chwanego eu porthiant, a bod yn waeth yn erbyn Duw po haelaf y fyddo ef tuag attynt, etto plentyn Duw a fydd da ganddo ei Dâd a i diwallo. Gen. 27.4. Cryfhaeu y blasusfwyd Isaac i fendithio.
Y dwylo a olchir mewn diniweidrwydd, Psal. 26.6. ac a dderchefir tua'r nef mewn erfyniad ostyngedig. Ordeinwyd i Gristianogion weddio ym mhob man, gan dderchafu dwylo Sanctaidd. 1 Tim. 2.8. A gwneir â hwynt yr hyn a fo da tuag at gynhalieth dyn ei hun, ac eraill, Act. 20.34. Dwylo 'r Apostol a wasanaethasant iw gyfreidiau ef, ac ir rhai oedd gydag ef. Act. 9.36, 39. a Thabitha ydoedd lawn o weithredoedd da ac elusenau y rhai a wnaethei hi. ac wedi ei marw hi y gwragedd gweddwon a ddangosasant y peisiau, Esai. 33.15. a'r gwiscoedd a wnathei hi. Y cyfiawn a yscwyd ei law rhag derbyn gwobr: a'r tosturiol a'i hestyn i roddi Elusen.
Ymyscaroedd trugareddau a fydd gan y rhai duwiol oll. a gofalant am ddiweirdeb, Col. 3.12. a'r iddynt ymgadw oddiwrth odineb, 1 Thes. 4.3, 4. a medru bob un feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd, a pharch.
Gwyddant fod eu cyrph yn aelodau i Grist. [Page 334] Am hynny ni chymerant aelodau Christ, a'u gwneuthur yn aelodau puttain. 1. Cor. 6.15. Yr wyryf Gristianogol ydoedd yn gofalu am y pethau perthynol ir Arglwydd, 1 Cor. 7.34. fel y byddai hi sanctaidd ynghorph ac yspryd. Heb. 13.4. Y priodol a geidw ei wely yn ddihalogedig. A geilw ar Dduw mewn purdeb yn ei ystafell a'i wely megis ac yn ei neuawdd ac uwchben ei fwrdd.
Dangosodd Duw garedigrwydd mawr i ffrwyth lwynau Abraham ffyddlon. A thrwy ei ragluniaeth cadwodd ddiweirdeb Sara a Rebeca yn ddifrycheulyd; gan gychwyn dinistrio 'r sawl a osiau eu llithio oddiwrth eu gwŷr. Cadwodd y ffynhonnau heb eu dwyno, o'r rhai y ffrydiau cymmaint o genhedlaethau.
I Dduw y plyga gliniau 'r grasol, ac iw daith ef y cerdd y traed. Tair gwaith yn y dydd y gostyngai Daniel ar ei liniau, Dan. 6.10. Eph. 3.14. ac y gweddîai. a'r Apostol mewn gweddiau a blygei ei liniau at Dâd ein Harglwydd Jesu Grist. Dwg y traed i dŷ Dduw, ac ar achosion da i ddŷn.
PEN. 26. Grym duwioldeb efangylol, a'r achosion o hynny.
Amlwg y gwelir grym duwioldeb ym mucheddau y rhai sanctaidd. Phil. 3.20. Ymarweddiad y Christianogion gynt ydoedd yn y nefoedd tra'r oeddent ar y ddaiar. 2 Cor. 1.12. Eph. 1.4. Ezec. 36.27. Mewn purdeb duwiol, a thrwy râs Duw yr ymddygent yn y bŷd. i fod yn ddifeius yr etholid hwynt gan Dduw. A rhoddai ei yspryd o'u mewn, a gwnai iddynt rodio [Page 335] yn ei farnedigaethau ef, a'u gwneuthur. Y mae pob rhai grasol wedi eu creu yn-Ghrist i weithredoedd da fel y rhodiont ynddynt. Eph. 2.10. Gwelir pob peth yn dilyn y natur y creawyd ef ynddo. Nofia 'r pyscod yn y dwfr, eheda'r adar yn yr awyr. I wared y daw 'r trwm, i fynu yr aiff yr yscafn. A'r grasol nhwythau a gynhyrfir gan eu duwiol anian, ac a wnânt yn ol rheôlau yr ail-creadigaeth, megis y gwna pethau eraill yn ol y cyntaf.
Diwyd fyddant yn eu dyledswydd tuag at Dduw: gan ddatean ei rinweddau [...]f, a byw wrth ei fodd ef, a rhodio gyd ag ef fel Enoch. Cyfiawn a thrugarog a fydd eu hymddygiad hwynt tuag at ddynion; mewn môdd dyladwy y llywodraethant eu hunain mewn sobrwydd a gostyngeiddrwydd, 1 Tim. 2.2. gan fyw m [...]wn pob duwioldeb ac honestrwydd, yr hyn a eglurir ym mhellach wrth y pethau a ganlyn.
Ufuddhânt i holl orchymmynion Duw. Yr ydoedd Zacharias ac Elizabeth yn [...]hodio yn holl orchymmynion a deddfau'r Arglwydd. Ystod eu buchedd hwynt oedd dilyn rheolau Duw, ac nid llwybrau llygredigaeth Nid oeddent yn myned gydâ gair Duw yn y naill beth, ac yngwrthwyneb iddo yn y llall, eithr yn eu mesur gwnaent holl ewyllis Sanctaidd Duw.
Gorchfygant holl rwystrau Sancteiddrwydd er amled fyddont. Nerthol y dilyn pethau naturiol y tueddiad a roes Duw ynddynt. Nid ollir attal yr afon rhag rhedeg ir môr, na'r tarth rhag escyn ir cwmwl: ac nid llai egni dynion ysprydol i ddilyn daioni. Ant ar ol Duw ar draws pôb pèth. Ni ddichon gwcddillion [Page 336] eu llygredigaeth beri iddynt beidio â'r da. Gwnânt archiad Duw yngwrthwyneb i gyngor llygredig. Medrant atteb holl gau-resymau'r cnawd, a datcuddio eu twyll. Nid ymgynghorodd yr Apostol â chig a gwaed, Gal. 1.16. eithr gwnaeth y peth y galwodd Christ ef iddo. Siccr y gwyddant nad oes dim well ar eu llês na mwynhau Duw a'i fodloni. Am hynny Caethiwant bob meddwl i ufudd-dod Christ. 2 Cor. 10.5. Ac ni chaiff chwantau 'r cnawd wneuthur eu haelodau hwynt yn arfau anghyfiawnder, eithr gwrthwynebant hwynt pa bryd bynnag y gwrthryfelont, a gwrthodant gyflawni eu deisyfiadau. Pan fo 'r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr yspryd, yr yspryd yntef a chwenych yn erbyn y cnawd, ac a i rhwystra i wneuthur y drwg. Ni adawodd yr Apostol i genad Satan yn ei gnawd ef orchfygu, eithr efe a waeddodd ar Dduw am gymmorth, a chafodd atteb cyssurus, sef y byddai grâs yn ddigonol iddo ef. Y rhai sydd yn eiddo Christ a groeshoeliant, 2 Cor. 12. Gal. 5.17, 24. ac ni feithrinant wyniau, a chwantau 'r cnawd. Caiff gweddill pechod ynddynt nid ei fagu eithr ei gospi a'i farweiddio beunydd. Rhodia gweision Christ nid yn ol y cnawd ond yn ol yr yspryd. Rhus. 8.1, 2. Canys deddf yspryd bywyd yn-Ghrist Jesu a'u rhyddha oddiwrth ddedd [...] pechod Bydd grâs ynddynt fel cyfraith yn awdurdodol, ie yn gyfraith yspryd yr hwn sydd gryfach na chnawd: fel y mae'r enaid yn [...]hoi bywyd ir corph, ac ynteu yn ei gael gan Dduw, yr yspryd Hollalluog. A deddf yspryd bywiol yn Ghrist Jesu, y brenin cadarnaf, sydd yn rhyddhau ei ddeiliaid ef oddiwrth ddeddf p [...]chod, fal na bont mwy yn weision i [Page 337] feistr gwael i wneuthur gwaith aflan. Ymgeidw y duwiol oddiwrth chwantau eu cnawd rhag clwyfo eu cydwybodau, mal yr ymgospa 'r pwyllog rhag rhyw fwyd ni ddygymmyddo â hwynt, er eu bod yn ei chwenych, rhag peri doluriau iw cyrph wrth borthi blŷs eu llygaid. Gan ir merthyron adel chwantau cyfreithlon eu cyrph, sef newyn a syched heb eu diwallu, diddadl yw na fodlonent chwantau anghyfreithlon, megis rhai godinebus, malaisus, beilchion, neu gybyddus.
Llwyr ymwrthodant â'r gweithredoedd gwarthus y sydd yn gwneuthur dynion yn anifeilaidd, neugythreulig, megis godineb, meddwdod, twyll, llofruddiaeth, a'r cyfryw feiau anafus, anoddef Er bod y fath bechodau gwrthun (y sydd yn erbyn goleuni natur er ei drycced) wrth eu harfer yn myned yn feistraid ar blant digofaint, etto pan ddêl Arglwydd trechach i fewn dynion, bwrir y gormesdeyrn digywilidd hynny o'u gorseddau, ac nid ufuddheir iddynt. Rhai o'r Corinthiaid cyn eu troi a fuasent yn odinebwyr, yn lladron, 1 Cor. 6.9, 10, 11. yn gybyddion, yn feddwon: ond wedi iddynt dderbyn ffydd Grist hwy a olchwyd, a sancteiddwyd, ac a gyfiawnhawyd. A thra rheidiol i bobl gael grâs i adel y fath weithredoedd erchyll, am nad all neb a'u gwnelo etifeddu teyrnas nêf. Ni chaiff neb fyw gyda Duw ond yr hwn a arswydo y cyfryw bechodau, a ystyria, Ezec. 13.14, 15, 16. ac ni wna felly: ei lygaid ni chyfyd ar eulynnod, ni haloga wraig ei gymmydog, ni orthrymma, ni attal wystl, ni threisia drais. Ni fynn Christ i weithredwyr anwiredd fwytta o'i swpper ef [Page 338] yn yr eglwys filwrws, 1 Cor. 11. a diamau na chant gyd-wledda ag ef yn yr eglwys orfoleddus. Oni chant eu creshawu ynghyntedd ei dŷ ef, ni dderbynir hwynt iw drigfannau hyfrydaf. Y mae llawer o gleddyfau tanllyd i gadw'r sawl a hoffant fwytta 'r ffrwyth gwaharddedig rhag dyfod at bren y bywyd. Am hynny nid erlidiodd Saul mwy, ac ni cham achwynodd Zaccheus ar neb wedi iddynt droi at Grist. Yr hwn ni synn fod tŷ ei Dâd yn ogof lladron. Gwahardd gychu caccwn afrywiog yn ei ardd yn lle gwenin ffrwythlon. Je gwnaiff iw ddilynwyr ymarferu â rhinweddau daionus yn lle'r pechodau anafus, oni aller blasu ffrwythau 'r yspryd yn eu gweithredoedd hwynt, megis cariad, ffydd, cymmwynasgarwch, dirwest. ymroddodd Zaccheus i wneuthur y pedwar cymmaint o iawn, ac y wnaethai o gam â nêb, ac yn lle gorthrymmu 'r tlawd iw llonni â'i dda. Dywedodd ef wrth Grist wele hanner fy na O Arglwydd, Luc. 19.8. yr ydwyf yn ei roddi ir tlodion, ac os dugym ddim o'r eiddo nêb drwy gam-achwyn yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
Caiff y grafol yr oruchafieth ar yr holl brofedigaethau a geisio eu tynnu nhw oddiwrth dduwioldeb at fuchedd ddrwg. Ni ddichon golud a hoiwder y bŷd beri iddynt esceuluso Duw. Ymwrthododd y Christianogion â'r rhodreswaith pechadurus, a lloscasant y llyfrau perthynol iddo yngwydd pawb, Act. 19.19. er bod eu gwerth yn ddengmil a deugain o ddarnau arian Nid ymadawant â'r ernes sy ganddynt am deyrnas nefol, er a gynnygier iddynt o fudr elw bydol. O rhydd Duw iddynt feddiannau daiarol mewn cyfiawnder, [Page 339] ni ddiffidd, eithr hyffordda hynny eu daioni hwynt. Bydd rhoddion Duw drwy ba rai y mae 'n annerch ei gariad attynt, yn eu gwneuthur hwynt yn ddiolchgar iddo ef; ac yn olugwyr ffyddlon ar ei dda ef, gan ymgleddu ei blant ef â hwynt. Tra yr oedd Job yn fwyaf o holl feibion y dwyrain, Job 1.13. a chanddo olud mawr, ac 29.8, 12. y pryd hynny yr ofnai Dduw ac y ciliai oddiwrth ddrygioni, ac y gwaredai y tlawd a fyddai yn gweiddi, a gwnai i galon y wraig weddw lawenychu. Ni falchiau 'r Apostolion pan geisid eu haddoli, eithr rhwygent eu dillad. Act. 14.
Nid all hyfrydwch pechod moi tynnu hwy oddiwrth Dduw. ni chwareuant ar marwor au lloscodd hwynt. Ni allasai Satan ddychymmyg profedigaeth debyccach i lygru Joseph, na 'r cynnig a wnaeth ei feistres iddo ef. Canys yr ydoedd hi yn Arglwyddes fawr, ac a allasei wneuthur erddo ef, a'i hoiwder ydoedd gyfattebol iw pherhynas yn llŷs y brenin, a cheisiai ei ddenu ef beunydd, a hynny yn y dirgel lle ni bai nêb iw gyhuddo ef: a phan welodd hi yr odfa yn gwasanaethu, hi a'i daliodd ef gerfydd ei wîsc yn daer, ac ni fynnai nâg. Yr ydoedd yntef hefyd ym mlôdau ei ieuenctid, a'i nwyf naturiol yn ei nerth, ac yn haws iddo wrthod pob pechod na 'r hwn a gynnygid iddo. A chan ei fod ef yn ŵr doeth nid allai ddisgwil amgenach os efe a groesai ei dymuniad hi, na chafai ei ddrygu gan ei llîd hi: ac oni fodhaeu ef ei hysgafnder hi, y gorfyddai iddo ddioddef pŵys ei digofaint hi: am y troei hi yn arth wrth ommedd iddi chware 'r afr, megis y digwyddodd. Er hynny i gyd y mae 'r llangc grasol drwy ystyriaeth [Page 340] duwiol yn curo 'r gof uff [...] yn ei efel, er maint oedd mantais ei eryll a [...] maes oddiarno, Gen. 39.7. a chadwodd ei onestrwydd er colli ei wîsc, ac ni wnaeth ddrwg yn erbyn Duw da.
Nid all y cystuddiau tôst a ddigwyddo i'r duwiol beri iddynt gassau ffyrdd Duw, eithr gan mwyaf byddant well erddynt. Pa fwyaf y fo 'r gelyniaeth a gaffont yn y bŷd, mwyaf a fydd yr anwyldra rhyngthynt hwy â Duw. Pan dafled y tri Israeliaid ir ffwrn dân daeth mâb Duw i wneuthur y pedwerydd, Dan. 3.24, 25. ac i rodio gydâ hwynt. Ni ddigaloneu 'r Apostolion er eu llabyddio, Act. 14.22 a'u curo, ond bodlonent drwy lawer o orthrymderau i fyned i mewn i deyrnas Dduw. Ni throent oddiar y llwybr cyfyng er bod drain a mieri o'u dautu yn eu hyscriffinio, gan wybod ei fod yn arwain i orphwystra tragwyddol. Dangosent eu hunain ym mhôb pêth fel gweision Duw, 2 Cor. 6.4.8. mewn cystuddiau, mewn anghenion, trwy barch ac ammharch, trwy anglod a chlôd. Pan eu difenwid bendithient, pan eu herlidid dioddefent, 1 Cor. 4.12, 13. pan eu ceblid gweddient. Nid allau eu gelynion drwy 'r holl dom a fwrient arnynt, na thrwy 'r holl waed a dywalltent o honynt ddiffodd eu cariad hwynt tuag at Dduw, a dŷn. Canys cynghorent yn ddifri, a gweddient yn daer, er mwyn cael o'r rheini fywyd tragwyddol, a ydoedd yn dwyn oddiarnynt hwy eu bywyd naturiol.
Bydd grâs y duwiol yn drêch na 'r holl ddrwg siamplau a welont o'u hamgylch. Cyn y diluw aml oedd drygioni dŷn ar y ddaiar, a phôb cnawd a lygrasai ei ffordd, a llanwasid y [Page 341] ddaiar â thrawsedd, Gen. 6.5, 12. ac 7.1. Gen. 18.20. etto cyfiawn ydoedd Noah ger bron Duw yn yr oes honno. A'r pryd yr oedd gwaedd Sodoma a Gomorra yn ddirfawr am ddialedd, a'u pechodau hwynt yn drwm iawn, cyfiawn ydoedd Lot yn eu mysc hwynt. Gofidiodd ond ni lygrodd yr anwiriaid ei enaid ef trwy eu anniwair ymarweddiad. 2 Pet. 2.7, 8. Dûg Elias fawr zel dros yr Arglwydd yn amser Ahab a Jezabel, a ymwerthasent i wneuthur Drwg, 1 Bren. 19.14. pryd hefyd y gwrthododd meibion Israel gyfammod Duw Er cynddrwg oedd Nero, yr oedd rhai o'i dylwyth ef yn ofni Duw ac yn caru ei bobl ef. Phil. 4.22. Y Sainct o deulu Caesar ydoedd bennaf rhai yn annerch at Gristianogion Philippi îr fydd y pyscod byw yn y môr hallt, ond blâs y meirw a newidir gan yr heli. Er amled a chûed y fo y rhai drwg, etto ni cherdd y duwiol yn eu llwybrau hwynt. Gwraig Job a lefarodd wrtho ef fel un o'r ynfydion, Job. 2.10. er hynny ni phechodd ef a'i wefusau. Cawsai ddigon o rybudd oddiwrth Adda fal y medrai Satan wneuthur bŵa crôes o'i asen ef i saethu atto ef ac iw archolli, am hynny gwiliodd ac ymgadwodd. Mor iachus ydoedd tymer ei yspryd ef, nad allai 'r haint oedd cyn nesed at ei fynwes ef mo'i ammharu.
Parhaiff yr etholedig mewn sancteiddrwydd ym mhôb cyflwr, oed, a llê. Mewn goruchafiaeth a darostyngiad. Llywodraethwyr ffyddlon ydoedd Moses, Hezeciah, ac eraill. Rhodiodd Dafydd ym mherffeithrwydd ei galon o fewn ei dŷ, er ei fod yn feistr arno. Psal. 101.2. Duwiol a ffyddlon ydoedd gwâs Abraham. Gen. 24. Dewisodd Duw dlodion y bŷd hwn i fod yn gyfoethogion [Page 342] mewn ffydd, Luc. 16. ac yn etifeddion y deyrnas. O dlodi a doluriau yr aeth Lazarus i fynwes Abraham. Yr un rhyw râs a ddwg y cyfoethog a'r tlawd ir un gogoniant. Tua 'r un porthladd dymunol y mae 'r cyfoethog a'r tlawd grasol yn hwylio ar draws tonnau 'r bŷd hwn, ond bod y naill mewn llestr dipyn mwy na'r llall; J'r un gorphwystra y deuant, er bod y naill yn marchogaeth ei bererindod, a'r llall yn ei cherdded.
Ym mhob oedran yr ymddwg y grasol yn dirion. 2 Cron. 34.3. Josiah tra yr ydoedd efe yn fachgen a ddechreuodd geisio Duw. ac yngyylch ugain oed efe a ddechreuodd lanhau Juda a Jerusalem. Ac Obadiah a ofnodd yr Arglwydd o'i febyd. felly hefyd y gwnaeth Joan Fedyddiwr, 1 Bren. 18.12. ac eraill. Yn ei henaint yr oedd Mnason yn ddiscybl i Grist, Act. 21.16. ac yn ymgleddwr iw weision ef. Grâs a brydferthai flodau ieuenctid plant Duw, ac a bereiddiai ffrwyrhau eu hoed.
Ym mhôb man y gwnant fel y dylent. Ni pheidiai Daniel ag addoli Duw yn yr amlwg er maint ei berigl am hynny; ac ni phechai Joseph yn y dirgel er cryfed oedd y brosedigaeth iw ddenu. Dilynant reol Duw ym mhôb achosion ysprydol a naturiol, er mwyn ei anrhydeddu ef yn yr eglwys, ac yn y farchnad: addolant mewn yspryd a gwirionedd, Joan. 4. a ma [...]chnattânt mewn cyfiawnder.
Yn ddiau bydd cymmaint o ddaioni yn ymarweddiad y grasol oni allo pawb y sydd á deall ganddynt ei weled a'i gydnabod. Uniawn fyddant yngolwg dŷn. Y glûst a g'ywai Job a'i bendithiai ef, Job. 29.11. a'r llygad a'i gwelai a dystiolaethei [Page 343] gyd ag ef. Luc. 1.6. Zacharias ac Elizabeth oeddent ddiargyoedd: a'r Apostolion wedi eu gwneuthur yn hyspys ynghydwybodau 'r Christianogion. 2 Cor. 5. [...]1. Dywedent wrthynt yn hŷ, tystion ydych chwi a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, 1 Thes. 2.10. a diargyoedd yr ymddygasom yn eich mysc chwi y rhai ydych yn credu. Am hynny y dywedir fod ir duwiol air da megis yr oedd i Demetrius gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. 3 Epist. Joan. 12. Tystiolaethodd cennadau wrth Pedr, fod Cornelius yn ŵr cysiawn, ac yn ofni Duw, Act. 10.22. ac â gair da iddo gan holl genedl yr Jddewon. A dywed yr Apostol fod Ananias yn ŵr defosionol, Act. 22.12. ac iddo air da gan yr Juddewon oll. A'r cenhedloedd gwaethaf a ddirnadent gyfnewidiad fawr ym muchedd [...]u 'r Christianogion; 1 Pet. 4.4. a rhyfeddent (am ei fod yn beth newydd) na chyd-reaent gydâ hwynt ir unrhyw ormod rhysedd. Rhyfeddent weled dynion malaisus wedi troi yn gariadus, y niweidiol yn ymgleddgar, yr anllad yn ddiwair, y meddw yn sobr, a'r dwylaw a gauid i roi dyrnod yn agored i roi cymmorth. Gwelent y llestri gwannaf sef y gwragedd yn gorchfygu eu pechodau cryfaf, sef balchder, ac anlladrwydd. Oni obeithiai 'r Apostol y gellid ynnill y gwŷr anghredadwy trwy ymarweddiad eu gwragedd Christianogol, 1 Pet. 3.1, 2. wrth edrych ar en hymarweddiad ddiwair hwynt. Herod ddrygionus a wyddai fod Joan yn ŵr cyfiawn, Marc. 6.20. a sanctaidd, ac a i parchci ef. Methodd gan y tywysogion cenfigenus gael bai yn ymarweddiad Daniel er iddynt ei geisio yn fanwl, a'i fod yntef mewn llê goruchel lle byddai raid iddo drin llawer o fatterion. Ffyddlon oedd [Page 344] efe, fel na cheid ynddo amryfusedd. Cydnabyddodd ei elynion yn nhŷ 'r cyngor, na chaent achlysur i achwyn arno oddieithr o ran cyfraith ei Dduw. Dan. 6.4, 5. a hynny a i hannogodd hwynt i wneuthur cyfraith, na chai neb addoli 'r gwir Dduw dros fis, ac yno 'r hyderasant y gallent ei ddifetha ef am y da, gan na chaent arno ddrwg.
Yr Angylion sanctaidd a dystiolaethasant uniondeb gweision yr Arglwydd yn y bŷd hwn: megis anwyled ydoedd Daniel, ac mor ffynnadwy oedd ei weddiau ef Medd Gabriel wrtho ef, Dan. 9.23. yn nechren dy weddiau yr aeth y gorchymmyn allan, ac mi a ddaethum iw fynegiselect i ti, canys anwyl ydwyt ti. Act. 10.4. Dywedodd Angel wrth Cornelius fel y derchafasau ei weddiau a'i elusenau ef yn goffadwriaeth ger bron Duw. Ac ni feiddiodd yr Angel drwg (er maint ei gelwydd wrth ddŷn) wadu o flaen yr Arglwydd nad oedd Job yn ofni Duw, eithr taerodd ei fod ef yn gwneuthur felly am wobr. ai'n ddiachos (eb ef) y mae Job yn ofni Duw? Job. 1.9.
Cydwybodau 'r duwiol a dystiolaetha gydâ hwynt ynghylch eu uniondeb tuag at Dduw, a dŷn. meddai 'r Apostol am dano ei hun ac eraill, Heb. 13.18. yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda gan ewyllysio byw yn onest ym mhôb pêth. Je yn eu cyfyngderau mwyaf, ac yn amser marwolaeth siccr fyddant o fod eu ffyrdd yn gymeradwy ger bron Duw. Pan glafychodd Hezeciah hyd farw, a'i rybuddio gan y prophwyd Esay i ymbaratoi i fyned o'r bŷd, yna efe a weddiodd ar yr Arglwydd, Esai. 38.1, 3, 4, 5. a dywedodd, attolwg Arglwydd cofia yr awr hon imi rodio ger dy fron di [Page 345] mewn gwirionedd, ac â chalon berffaith, a gwneuthur o honof yr [...]yn oedd dda yn dy olwg. [...]c mal na thybiom ni iddo ef yn y fath gyflwr daeru anwir wrth y Duw a ŵyr bob peth, cafodd atteb grasusol iw weddi: a bu gair yr Arglwydd gan ddywedyd, elywais dy weddi, gwelais dy ddagrau, wele mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bumtheng mlynedd. Er bod Job mewn trwm gystudd, a'i gyfeillion yn ceisio ganddo goelio mai rhagrithiwr oedd ef, ac mai am ei anghyfiawnder y digwyddasai 'r holl aflwydd iddo ef, etto diheurai ei hun, gan ddangos iddo rodio mewn uniondeb gydâ Duw a dŷn, ac oni threngai ni symudai ei berffeithrwydd oddiwrtho. Job. 27.5. Pan oedd yr Apostol ar fîn y pwll, ac erlidigaeth yn barod iw ddanson ef allan o'r bŷd, wrth ystyried y môdd y treuliasai ei fywyd, yr ydoedd ef yn myned tua ei farwolaeth yn gyssurus, gan ddywedyd wrth Timotheus, myfi yr awrhon a aberthir, 2 Tim 4.6, 7, 8. ac amser fy ymddattodiad i a nesaodd, mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orphennais fy gyrfa, mi a gedwais y ffydd, o hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder iw chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd y barnwr cyfiawn i mi yn y dydd hwnw.
A'r Arglwydd bendigedig ei hun ac ef yn Farnwr doeth a gydnebydd sancteiddrwydd ei weision ar y ddaiar. Dywedodd ef am Job ei fod ef yn ŵr perffaith, ac uniawn, yn ofni Duw, Job. 2 3. ac yn cilio oddiwrth ddrygioni, ac yn parhau yn ei berffeithrwydd. Ac i Ddafydd gadw ei orchymmynion ef, a rhodio ar ei ol ef â'i holl galon, 1 Bren. 14.8. i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ef. Ac yn y llythr a anfonodd Christ at eglwysydd Asia [Page 346] drwy law Joan, hyspyssodd ef iddynt ei fod ef yn craffu ar gariad, Datc. 2. a gweithredoedd, a llafur, ac ammynedd y gwir rasol yn eu plith hwynt. Cydnebydd iddynt gymeryd poen er mwyn ei enw ef, ac na ddiffygiasent, ac nad allent oddef y drwg, eithr iddynt gaaw ei air ef. Ac yn y farn ddiweddaf mynegiff mor gariadus yr ymddug y rhai bendigedig tra'r oeddent yn y byd, Math. 25.34. iddynt lonni ei aelodau newynog ef, ac ymgleddu ei frodyr cystuddiol ef.
Y mae achosion pwysfawr pam y mae 'r Arglwydd fel hyn yn Sancteiddio ei bobl yn y bŷd hwn, sef yw hynny, fal y byddo iddo ef denantiaid ufydd ar y ddaiar. Nid er mwyn ei clynion yn bennaf y creawdd ac y cynnal Duw y bŷd presennol, canys ni chaiff mor diolch ganddynt am ddim a wnelo, ond er mwyn ei bobl a gydnabyddant ei haelioni ef. 1 Tim. 4.3. Bwydydd a greawdd Duw iw derbyn drwy roddi diolch gan y ffyddloniaid, a'r rhai a adwaenant y gwirionedd. yn nechreu 'r creadigaeth ar ei lun eu hun y gwnaeth Duw y dŷn a ordeiniodd ef i arglwyddiaethu ar bŷsc y môr, Gen 1.26. ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar yr amfeiliaid, ac ar yr holl ddaiar. Ni chaiff ef ddim ardreth addoliad galonnog oddiwrth drigolion annuwiol y ddaiar am y ffurfafen a i goleua hwynt, a'r tir a drinant hwy, a'r cynhaliaeth a fwynhânt. O herwydd hynny y difethwyd y bŷd gynt â dwfr, a Sodom â thân. Tywelltiff Duw râs ar ei etholedigion mal y caffo wasanaeth oddiwrthynt, ac y cydna byddont ef yn Arglwydd, ac yn berchennog ar y pethau a echwynir iddynt. 2 Cor. 9.12. Trwy gyflawni ddiffygion ei Sainct aml roddir diolch iddo ef. [Page 347] Er bod gan Satan lawer i gablu enw Duw yn y bŷd fel y mae'r damnedig yn uffern, mynn yr Arglwydd rifedi dewisol i wneuthur ei ewyllis yntef ar y ddaiar megis y gwnaiff yr angylion hi yn y nefoedd.
A chan fod yr achos yn gofyn bod mâth ar gymundeb rhwng yr Arglwydd a'i ddeiliaid, mal yr hyspyso ef iddynt ei ewyllis a'i ddaioni, ac yr elont hwythau ger ei fron ynteu beunydd i wneuthur eu dyledswyddau iddo ef, ac i drefnu eu gofynion o'i flaen ef; ac nad yw weddus iddynt ddyfod iw ŵydd ef mewn aflendid. Am hynny trwsir hwynt â sancteiddrwydd, ac anllygredigaeth yspryd, 1 Pet. 3 4 2 Cor. 6.14, 17. yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr. Gwneir iddynt na chyffyrddont â dim aflan, fel y byddo iddo ef ei derbyn hwynt, a'u dyledswyddau. ac onide ni bydd cyfeilliach rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder. Nid gwiw disgwil i'r brenin nefol breswylio mewn cut drewllyd o ddŷn ffiaidd.
Pwysfawr yw 'r gwasanaeth sydd gan Dduw iw wneuthur ar y ddaiar, nad ellir ei gyflawni yn iawn ond gan rai sanctaidd, megis datcan i bobl mor dda yw ef gan ei fod yn gwneuthur ei blant gystal. wrth fod eu goleuni hwynt felly yn llewyrchu ger bron dynion, Math. 5.16. fel y gweler eu gweithredoedd da hwynt, gogoneddir eu Tâd yn y nefoedd. Rhaid bod cenedl sanctaidd, a phobl briodol i Dduw fel y mynegont ei rinweddau ef. 1 Pet. 2.9.12. Gan fod â'u ymarweddiad yn honest ym mysc dynion, fel y gallo'r gwrthwynebus o herwydd y gweithredoedd da y welont ogoneddu Duw a throi atto ef. Pobl sanctaidd piau harddu 'r efengyl, a gaiff gymmaint o wrthwyneb, fel [Page 348] na thybier cabledd yn wîr, ac nas galwer Christianogion yn ddynion glythion ac yfwyr gwîn. purir aelodau a chennadau [...]r eglwysi i fod yn ogoniant Christ. 2 Cor. 8.23. Tystion Duw ar y ddaiar yw ei weision ef, am hynny gwnaiff hwynt yn eirwir ym mhob peth. 1 Cor. 3.3. llythr Christ ydynt at y bŷd wedi ei yscrifennu ag yspryd [...] Duw byw. Ynteu rheidiol yw ei gwneuthur hwynt yn dêg, ac yn ddisrycheulyd, fel y darllenno pawb ewyllis Duw yn eu bucheddau hwynt, ac y cydnabyddont beth sydd gymeradwy ganddo ef. 1 Tim 3.15. A chan fod yr Eglwys yn golofn y gwirionedd, neddir oddiwrthi hi bôb garwder anwireddus, fel y byddo yn dablen eglur iw darllen gan bawb. Duwioldeb buchedd y prif Gristianogion a ynnillodd gimmaint attynt. oddiwrth ffrwyth yr hên goed paradwysaidd y cyfododd rhai ieuainc o'u hamgylch o'r un rhyw. Gan i Dduw roddi ym mhob ffrwyth rinwedd hâd i amlhau ei rywogaeth, diau na fydd ffrwyth duwioldeb yn anhil. Drwy weinidogaeth Barnabas ydodd ŵr da, a chyflawn o'r yspryd Glân, Act. 11.24. llawer a chwanegwyd ir Arglwydd. Dylau holl lestri tŷ Dduw fod yn lân ac yn loiw, yn enwedig y cyfryw ac a fyddo i ddal ymborth ynddynt iw gyfrannu i eraill, megis pennau cynnulleidfaoedd a theuluoedd: rhag i galonnau pobl godi yn erbyn bwyd iachus ar ddyscl front, ac iddynt ffieiddio offrwm yr Arglwydd, 1 Sam. 2.17. o herwydd anwiredd y sawl a fo'n gweini yn ei gylch.
Am hynny y difeia 'r Arglwydd ei weision, a thyn bob trawst a brychewyn o'u llygaid hwynt, fel y gallont hwythau ganfod yn well i [Page 349] dynnu brychau o lygaid eraill, a u cyfarwyddo yn y flordd i'r bywyd. Hefyd ni faddeu nêb iw elynion, ac ni weddia drostynt hwy, na 'i gyfeillion mewn môdd cymeradwy, onid y cyfiawn yn unig, Jag. 5.16. a llawer a ddichon ei daerweddi ef tuag at wneuthur llês iddynt.
PEN. 27. Ychwaneg ynghylch achosion duwioldeb a'i grym yn y bŷd hwn, a'r oes hon.
Ordeiniodd Duw yn ei gariad, a'i gyfiawnder, a'i ddoethineb na chaiff neb y nef ar ol hyn, ond a sancteiddier yma. Y mae cariad Duw tuag at y daioni pennaf, sef ei sancteiddrwydd ei hun, yn peri iddo ddarparu dynion, ac angylion sanctaidd, ar ei lûn ei hun, i gael rhan o'i hyfryd ogoniant ef. o'i gariad y canhiadodd ef heppil i Abraham, fel na fyddai ei gaethwas yn etifedd iddo, gan ddywedyd mai un a ddeuai allan o'i ymyscaroedd ef a fyddai ei etifedd, ac y byddai e [...] hâd ef fel sêr y nefoedd. Gen. 15.3, 4, 5. A chymwys ir Arglwydd gael nid caethweision estronaidd, ond ei blant ei hun, (sef y cyfryw ac a fyddo mewn môdd bendigedig gysrannogion o'i dduwiol anian ef) i fwynhau ei feddiant dragwyddol ef. Yr etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Tâd, 1 Pet. 1.2, 3, 4. trwy sancteiddiad yr yspryd i ufudd-dod, y rhai a adgenhedlodd ef i obaith bywiol trwy adgyfodiad Jesu Grist, a gaiff yr etifediaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflannedig, ac ynghadw yn y nefoedd iddynt.
Mae cyfiawnder yn gofyn i'r neb a [...]d isgwilio 'r cyflog mawr wneuthur y gwaith daionus [Page 350] am yr hwn yr addewir ef. Ar ben eithaf y rhedfa y gosodwyd y gyngwystl a roddir ir hwn a ymegnio yn ŵrol i gadw, ac i fyned ym mlaen yn y ffordd gyfyng drwy bob rhwystr. Wrth lewyrch y pentewyn hwn y gwnaeth y cenhedloedd, na bai ffordd i deml anrhydedd, onid yn unig drwy deml rhinwedd. ni addawodd Christ roddi coron y bywyd ond ir rhai a fyddo ffyddlon hyd angau. Datc. 2.10, 17. Nid teilwng nêb i fwytta ffrwyth paradwys, ond a lafurio drwy gariad rasol. ac ni chaiff ond yr hwn a orchfygo fwytta o'r Manna cuddiedig. Nid y llyrfion masweddaidd, ond y rhai poenus yngwaith ffydd, a gorfodawg ym mhôb profedigaeth, a gant y gorphwystra nefol, ac a eisteddant gydâ Christ ar ei orseddfainc, Datc. 3. megis y gorchfygodd yntef, ac yr eisteddodd gyd â'i Dâd yn ei orseddfainc ef. Melchisedec y brenin cyfiawn a ddwg allan y bara a'r gwîn i gyfarfod dilynwyr Abraham a orescynno y gelynion a tyfelant yn erbyn eu heneidiau. Canys cyfiawn yw ger bron Duw dalu cystudd ir rhai a u cystuddio hwynt: 1 Thes. 1.6, 7. ac iddynt hwythau y rhai a gystuddir am dduwioldeb, esmwythdra yn ymddangosiad yr A glwydd Jesu o'r nêf gyd â'i angylion nerthol.
Y Duw doeth a gymwysa ei bobi i'r man lle y byddo ef iw dwyn hwynt. Ni enir plant ir byd daiarol hwn yn y môdd naturiol, nes ffurfio ynddynt yr aelodau a'r rhannau y bont iw harferu yma. A dir yw y gweithia Duw foddion sanctaidd yn y rhai y byddo ef ar fedr eu derbyn ir bŷd nefol: Col. 1.12. Rhuf. 9.23, 26. gan eu gwneuthur yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y sainct yn y goleuni. Periff wybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, [Page 351] sef y rhai a rag-baratodd efe i ogoniant, wrth eu galw yn y bŷd yma, a'u gwneuthur yn feibion ir Duw byw. Porth, cyntedd, a stafelloedd isaf y nêf sydd ar y daiar, tra bo 'r eglwys yma yn filwrus. a'r rheini yu unig a'r a ymdrecho drwy bôb cyfyngdra i fyned i mewn iddynt, ac a ymddygo yn weddus ynddynt drwy râs dros amser, a gant esnyn ir ystafelloedd uchaf i breswylio mewn gogoniant dros byth. Y mae meistraid pwyllog yn profi ffyddlondeb a diwydrwydd dynion dros rai wythnosau, cyn eu cyfleu yn eu reuluoedd dros flynyddoedd. A myn yr Arglwydd pennaf brofi pwy a fyddant oruchwilwyr ffyddlon ar ychydig, cyn eu gollwn am ben llawer: a gweled pa ddysc, a dawn, a sobrwydd a gymerant yn yscolion cerydd, cyn rhoddi 'r etifeddiaeth fawr dan eu dwylo. Mal y byddo ir ychydig enwau y rhai ni halogasant eu dillad llwydion yma, gael y gwiscoedd gwynion yno, Datc. 3.4. megis y bont deilwng. Ac nid yw 'r drefn hon heb achos, canys llê, gorphwystra yw 'r nêf, ac ni ollyngir yno nêb y caer blinder oddiwrtho. Anhyweth erchyll yw dynion anfucheddol, ac anhawdd cyttal â hwynt. Hynny barodd i'r prophwyd gwyno mor dôst pan ddywedai, gwae ef o'i fod yn preswylio ym Mesech; Psal. 120.5, 6. ac yn cyfanneddu ym mhebyll Cedar, ac iw enaid ef mor hîr drigo gyd â'r hwn oedd yn cassau tangneddyf.
O herwydd hynny ni fynn yr Arglwydd i r drwg a'r da fôd fyth ynghŷd, ac iw anwylyd ef yn oestadol fod megis lili ym mysc y dr [...]in; neu wenith ym mhlith yseall; nac iw ŵyn tirion [Page 352] gyd-fuchesa â draenogion. Ni ddwg y llafurwr nefol iw yscuboriau uchaf ond y puryd ffrwythlon, a gafodd gynhaiaf da, a thymheriad iawn, y modylau mawrion o'r efrau anffrwythlon, a'r chwyn gleision a gant boethi ynghŷd mewn rhyw lê arall yn ddigon pell, mal nas niweidiont mo'r rhai da mwy.
Yma y gwnaiff Duw naddu 'r meini bywiol iw gosod yn y deml brydferth frŷ, mal na chlywer yno sŵn dyrnodiau, nac ocheneidiau, eithr sain Halelujah.
Hefyd drwy râs y rhydd Duw allu ir Christion i fwynhau gogoniant. Ni ddichon llygaid clwysus oddef goleuni mawr, nac ysprydien drwg oddef presennoldeb Christ. Luc. 8. Golwg y barnwr cyfiawn sydd ddychrynllyd i rai dihir euog. Am hynny 'r iachâ yr Arglwydd olugon meddyliau ei etholedigion â'r eneiniad grasol, a chynefina hwynt â daioni yn y bŷd hwn, fel y byddont hyfryd ynddo yn ei ŵydd ef dros byth.
Ond yma ddarlleydd y mae yn rheidiol rhoddi attebion i rai amheuon a ddichon godi ynot ynghylch rhinwedd grâs yn sancteiddio pobl yn y bŷd hwn. megis yn gyntaf, a ydyw 'r sainct yn berffaith rasol heb ddim gweddillion pechod ynddynt yn y bywyd presennol? Yn ail, a oes neb ryw rai yn ein dyddiau ni yn byw mor ddaionus ac y dosparthwyd o'r blaen yn y llyfran hwn?
Am y cyntaf, ystyriwn fod gan bobl Dduw yma bêth o bôb grasau ac a fydd ganddynt yn y nêf, ond nad ydynt yn eu llawn nerth nes myned yno. Ordeiniodd Duw i bethau 'r ailcreadigaeth [Page 353] megis i rai'r cyntaf gynnyddu drwy dyfiant. Cymerth Duw chwe diwrnod i wneuthur y bŷd gweledig hwn, er iddo allu ei gyflawni mewn mynydyn. Rhaid i'r eginin gael amser i gynnyddu yn dywysen, ac i'r plentyn i dyfu yn ŵr. Er bod gan fachgen yn ei febyd yr unrhyw aelodau corph, a chynneddfau enaid ac a fydd ynddo yn ei wroldeb, etto mwy a fydd eu nerth yn yr ugeinfed flwyddyn, nag yn y ddegfed o'i oed ef. Math. 13. Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i hedyn bychan a dyfiff mewn amser yn bren mawr. A goleuni 'r cyfiawn sy'n torri allan fel y wawr, Esai. 58.8. a orchfyga 'r tywyllwch o fesur mynudyn a mynudyn nes iddi fyned yn ddydd goleu. A'r peth a dyfo sy 'n myned ym mlaen tua ei gyflawn faintioli, er na ddaeth hyd atto yn gwbl. Cydnabyddai 'r Apostol sanctaidd mai mewn rhan yr ydoedd yn gwybod yma. 1 Cor. 13.9. Phil. 3.12. ac nad oedd ef eusys wedi cyrhaeddyd y peth a gai ef yn adgyfodiad y meirw, na 'i fod ef eusys wedi ei berffeithio.
Er hynny nid oes yma yn y gwir Gristianogion bechodau mawrion yn eu cyflawn nerth, ond yn unig gweddillion candryll o honynt, sef pechodau llai, a elwir gwendid y Sainct. Y cyfryw yw chwantau oddifewn yn codi oddiwrth y rhan gnawdol, y rhai yw deddf yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn deddf y meddwl, Rhuf. 7. Gal. 5. a'r cnawd yn chwenych yn erbyn yr yspryd. Ond ni adewiff y grasol iddynt gynnyddu a thorri allan i weithredoedd ffiaidd, eithr cwynant rhagddynt wrth Dduw, a gwaeddant arno ef am gymmorth iw gorthrechu hwynt yn fuan: fel y gwna rhai brawychus [Page 354] am ddwfr cyn gynted ac y gwelont dân yn dechreu ennyn lle ni ddylai fod. Pan yw 'r Apostol yn cwyno ei drueni o ran gweddillion pechod, Rhuf. 7▪ 8, 34. ac yn llefain am waredwr rhag corph marwolaeth, nid yw ef yn sôn am fwrdwr, na lladrad, na godineb, na thwyll, oddiwrth y rhai yr oedd ef yn ddiangol, onid am drachwant yn unig; blîn oedd ganddo ef fod neb rhyw dueddiad yn ei aelodau ir pechod, a rhoddai warrog, a gwarchae ar y chwant anifeilaidd os edrychai dros y cae, cyn iddo dorri trwodd, a throseddu yn anrheithiawl. Ni bydd yn y duwiol ddrwg feddyliau chwaith cyn amled a chyn gryfed ac yn y rhai diadgenedledig, o' herwydd bod eu meddyliau hwynt ar bethau ysprydol, a chanddynt hyfrydwch ynddynt. Tra fo 'r hâd nefol yn aml egino mewn dŷn, ni chaiff y chwyn llygredig gymmaint llê i godi, nac i gynnyddu ynddo ef.
Gwendid gwir Gristion yw gwneuthur rhyw beth ar fai nas gŵyr ef moi fôd felly. Mewn anwybod y gorweddodd Jacob gydâ Leah, Gen. 29.23. cyn iddo wneuthur cyfammod am dani. felly y cychwnodd Abimelec brenin Gerar gymeryd Sara yn wraig iddo, heb wybod ei bod hi yn berchen gŵr, eithr tybiodd mai chwaer Abraham oedd hi. Am hynny attaliodd Duw ef rhag ymhalogi, o herwydd mai camgymeriad oedd; Gen. 20.2, 6. ac mai ym mherffeithrwydd ei galon y gwnaethai 'r brenin hynny. Llyma 'r amlygir mal y gall perffeithrwydd calon a rhyw fâth ar amryfusedd fod ynghŷd yn yr un gŵr. Ac ni hwyrach i ryw un cywyr o ran anghôf ddywedyd [Page 355] anwir, pan fo 'n tybied ei fod ar y gwîr.
Y brychau cymmyscedig â gweithredoedd da y ffyddloniaid sy ddyffygion a'u tristhâ hwynt. Ewyllysio ydoedd barod gan yr Apostol, Rhuf. 7.18. eithr cwplau 'r da (mor gywraint ac y dymunai) nid oedd yn medru. Periff y peiswyn sy 'n gymmyscedig a'u gwenith iw llygaid hwynt ddyfrhau, pan font yn nithio, ac yn holi eu gweithredoedd goreu. Gwelant nad ydynt yn caru Duw mor wresog ac yr haeddai ei ddaioni ef er bod ynddynt gywyr gariad tuag atto ef. Ac er iddynt fwytta yn gyfreithlon, a rhoddi diolch difrifol i Dduw am eu llonni, etto ni hwyrach iddynt yn hynny o'u hanfodd roddi tramgwydd iw brawd gwan. Rhuf. 14.
Beiau y grasol fynychaf ydynt yn y pethau lleiaf, ac heb eu bwriadu. Rhyw eiriau anghyfleus a ddiangant oddiwrthynt weithiau yn fyrbwyll, neu ryw gyffelyb amryfusedd. Pan ddarfu ir Apostol Paul wrthwynebu Pedr, ei fai ef oedd arswydo arfer ei rydd-did efangylol, ac nid gwneuthur ffieidd-dra cnawdol. Gal. 2.11, 12, 13. Cyn dyfod rhai oddiwrth Jago efe a fwyttaodd gydâ'r cenhedloedd, ond wedi iddynt ddyfod efe a giliodd ac a'i neilltuodd ei hun oddiwrthynt, gan ofni y rhai oedd o'r enwaediad. A'r Jddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef, yn gymaint ac y dygwyd Barnabas hefyd iw rhagrith hwy. Lle y gwelwn nad oedd y bai o'r hwn yr argyoeddwyd y prif Gristianogion o'r enwaediad na meddwdod, na godineb, nac yspail, nac eulunaddolieth, onid yn unig arswydo arfer eu rhydd-did efangylol i gydfwytta [Page 356] â Christianogion cenhedlig yngŵydd eu gwladwyr credadwy ydoedd anghynefin â hynny, rhag eu digio hwy. Yn ninas Corinth cyfododd yr Jddewon gwrthwynebus yn erbyn yr Apostol, ac a'i dygasant ef ir frawdle, ac er maint eu malais nid allent roddi dim iw erbyn ef, ond ei fod ef yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf, fel y tybient hwy. a'r rheolwr cenhedlig wrth weled hynny a naccadd borthi eu drwg ewyllis hwy, gan ddywedyd, Act. 18.13, 14, 15. pe buasei gam neu ddrwg weithred o Jddewon, wrth reswm myfi a gyd-ddygaswn â chwi. eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a'r ddeddf sydd yn eich plith chwi, ni fyddafi farnwr am y pethau hyn. A chwedi hynny er taered oedd cyngor yr Jddewon yn ei holi ef, ac yn ceisio ei euogfarnu ef, etto 'r scrisenyddion a ddywedasant, nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dŷn hwn; eithr os yspryd a lesarodd wrtho, Act 23.9. neu Angel, nac ymrysonwn â Duw. A'r brenin Agrippa, a Ffestus y rhaglaw wedi iddynt fanwl chwilio yr achos am ba un y cyhuddid ef, a gydnabuant na wnaethei ef ddim yn haeddu angeu, na rhwymmau; Act. 26.30, 31. yr hyn sy ddyledus i bechodau mawrion. Mal hyn wrth dystiolaeth Jddewon a chenhedloedd, cyhuddwyr a barnwyr. y mae 'n eglur fod y Christianogion y pryd hynny mor ddifeius, a'u gwendid cyn lleied, nad allau eu gelynion craffaf mo'i ganfod. Je nid ymfodlonent i roddi cennad iddynt eu hunain i amlhau y pechodau lleiaf, er maned fyddent: eithr gwilient arnynt eu hunain rhag meddwl, na dywedyd, na gwneuthur y peth [Page 357] lleiaf allan o'i lê. A byddai arnynt fwy arswyd ewyllysio yn ddrwg iw gelynion, nag a fyddai ar eraill rhag gorthrymmu a thwyllo eu cymydogion, mal y gwelir wrth eu gweddiau daionus dros y rhai a'u herlidient hwy. Ni fagent y pechod lleiaf rhag ei fyned yn fawr, ond llethent bob cyw drwg yn y cibin, cyn iddo dyfu yn ewinog, ac yn ormesol. Gwaeddodd yr Apostol ar Dduw am gymmorth, pryd nad oedd ond rhyw chwant bychan, megis draen neu swmbwl yn ei gnawd, mwy nag y wnaethau pechaduriaid caled rhag y trawst, neu waiwffon, sef rhyw anwiredd anafus.
Anfynech y syrth cywyr Gristion ir pechodau gorthrwm sy 'n halogi 'r bŷd, yn caledu 'r galon, ac yn torri 'r heddwch rhwng Duw a'r gydwybod. O holl blant Duw a grybwyll yr yscrythyr am danynt, ni ddarllenir ond am ychydig o honynt a bechasant felly. Ac os rhyw brofedigaeth anarferol a oddiwes y cyfryw a'i fachellu, ai fwrw i'r dom, digwydd hynny yn fyrr-bwyll, ac heb ei ragfwriadu. A chynted ac y delo atto ei hun, a chael hamdden i ystyried y peth, edifarheiff, a throiff oddiwrtho ef. Tybir na wyddai Noah fod diod o waed y winwydden cyn gryfed gan i bobl o'r blaen sugno 'r grawn suppiau yn unig, ac mai hynny gyd a'i wendid oddiwrth y diluw a roddes achlysur i'r gwîn iw orchsygu ef. ond ni ddarllenir iddo feddwi ond unwaith, gwiliodd rhag y pechod hwnw byth gwedi. Dywedir fod ascwrn a dorrer ac a gyfanner eilwaith, yn gadarnach yn y man lle y [Page 358] clymmodd, nag mewn un man arall. ac felly y bydd y gwir Gristion edifeiriol yn gryfach i wrthsefyll profedigaeth ir pechod gorthrwm a'i briwo unwaith. Er i Bedr i ddianc o berigl daeru celwydd, a'i dyngu hefyd, etto cyn pen nemawr edifarhâodd, ac wylodd yn chwerw-dost. Llawer gwaith y cyffessodd ef Grist o flaen tywysogion, wedi iddo unwaith ei wadu ef rhag ofn gweision. A dug lawer o erlid er mwyn proffessu ei gydnabyddiaeth â'i iachawdwr, a dioddefodd farwolaeth dôst cyn y gwadai ef mwy. Er i Ddafydd dros drô bechu yn erchill, etto wedi ei argyoeddi o hynny, gwiliodd yn ddiwyd, a gweddiodd yn daer, Psal. 19.13. ar i Dduw ei attai ef oddiwrth bechodau rhyfygus, a'i lanhau oddiwrth yr anwiredd mawr.
Nid yw gwendid y Sainct yn y bywyd prefennol gyfryw ac a rwystra eu dedwddwch hwy. Canys bydd y dyledswyddau a wnelont yn y môdd y gallont yn gymer [...]dwy gan Dduw. Canhiadodd Christ ei ddeisyfi [...]d i'r hwn a ddywedodd tan wylofain, Marc. 9.24. yr wyfi yn credu, o Arglwydd cymm [...]h fy anghred [...]aeth i; ac iachaodd ei blentyn ef. Ymgleddodd yr Arglwydd Jonah er ei fod yn siomgar. Rhoes Dafydd lê i amheuon, a dywedodd wrth yr Arglwydd yn ei ffrŵst, Psal. 31.22. sa 'm hwriwyd allan o'th olwg. er hynny (medd ef) ti a wrandewaist lais fy ngweddiau pan lefais arnat. Hyfryd gan yr Arglwydd addoliad y gwir Gristion mewn cilfach, Can. Sol. 2.14. er ei fod yn ryddfanus fel clomen; ac wrth y cyfryw y dywed, dy lais sy beraidd. Mae 'r elusen a'r haelioni a wnelo Christianogion [Page 359] tuag at ddynion yn arogl peraidd, Phil. 4.18. yn aberth gymeradwy. A chaiff y cywyr Gristion ryw faint o siccrwydd yn ei gydwybod ei hun fod Duw drwy Grist yn maddeu gwendid, ac 'yn fodlon i ddywydrwydd ei ufudd-dod ef. Tystiolaetha 'r Apostol hynny yn enw'r Christianogion yn ei amser ef, gan ddywedyd, 1 Joan. 3.22. Anwylyd y mae genym hyder ar Dduw: A pha beth bynnag a ofynnom yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegyd ein bod yn cadw ei orchymmynnion ef, ac yn gwneuthur y pethau sy yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. Y rhai gwybodus a wnelont bechodau ffiaidd a lenwir ag euogrwydd, Heb. 10.27. a rhyw ddisgwil ofnadwy am farnedigaeth. Ond ni chuddia 'r Arglwydd tirion mo lewyrch ei wyneb oddiwrth ei weision ffyddlon am rai pethau diffygiol yn eu gorchwylion hwynt. Psal. 103.13. Eithr fel y tosturia tâd wrth ei blant, y tosturia yntef wrth y rhai a'i hofnant ef: ac a'i harbed hwynt fel yr arbed gŵr ei fâb sydd yn ei wasnaethu yn ufudd, er ei fod yn egwan: gan fod yn dyner wrthynt, Mal. 3.17. a chofio mai llŵch ydynt. Je yn dra-thrugarog yn y nêf efe a obrwya 'r fath ufudd-dod ac y mae ei bobl yn ei roddi iddo ef a [...] y ddaiar. Am fwydo 'r newynog, a diodi 'r sychedig, ac ymgleddu brodyr lleiaf Christ [...] etifeddu teyrnas. Mat. 25. Er iddynt fel Jacob gloffi peth yn y bywyd hwn, etto gorchfygant, a ch [...]nt fod yn Israeliaid, sef tywysogion Duw. Yn awr angeu derbynir hwy ir eglwys orfoleddus, mor dyner ac y cresawodd y Galatiaid yr Apostol, eu profedigaeth yr hon oedd yn eu cnawd ni ddirmygir, Gal 4 14. eithr derbynir hwy megis angylion Duw.
Gan fod yr Arglwydd mor ddoeth a pheri i oleuni lewyrchu o dywyllwch, 2 Cor. 4.6. meidr ddyscu ei bobl i wneuthur y defnydd goreu ou beichiau; a pheri iw gwendid amserol mewn rhyw fôdd eu tueddu hwynt at berffeithrwydd dragwyddol. Canys gweddillion eu pechodau au ceidw hwynt yn ostyngedig, ac yn addfwyn. Rhag tra-dderchafu 'r Apostol y rhoddwyd iddo y swmbwl yn y cnawd. 2 Cor. 11.7. 2 Cron. 32.26. Ac am dderchafiad ei galon yr ymostyngodd Hezeciah. Yr ysprydol a gynghora, ac a adgweiria ei gymydog pechadurus mewn yspryd addfwynder, wrth ei ystyried ei hun rhag ei demtio yntef. Gal. 6.1.
A gwnaiff cymydogaeth erwin pechod i Gristion hiraethu am fyned lle caiff lonyddwch, a chyflawn sancteiddrwydd. Lle yr oedd y gyfraith i rwymo celen farw wyneb yn wyneb wrth y llofrudd byw, parai sawr y naill ir llall gydnabod ffieiddied oedd y cam a wnaethai. A'r hyn o aelodau daiarol pechod, sy 'nglŷn wrth y grasol yn y bywyd hwn, a'i gwnaiff hwynt yn flîn o'i frunti ef, ac i hiraethu am gael eu harwisco â gogoniant, 2 Cor. 5.4. fel y llyngcer yr hyn sydd farwol gan fywyd. Caethiwed llygredigaeth a bair i'r rhai sydd ganddynt flaen ffrwyth yr yspryd ocheneidio ynddynt eu hunain, Rhuf. 8.21, 22. gan ddisgwil y mabwsiad, sef prynedigaeth eu cyrph.
Taerni trachwant a phrofedigaeth wrth osod ar yr hwn a garo ei enaid, a wnaiff iddo yn synychach alw ar Dduw am gymmorth. Gweddiodd yr Apostol deirgwaith rhag cenad Satan. 2 Cor. 12. Yr hyn a geisiai ei fygu ef a wnai iddo dderchafu ei lêf at ei Dâd yn uwch.
Rhydd y duwiol foliant ir Arglwydd am gynal ei râs ynddynt, er i lygredigaethau a gwrthwyneb y bŷd wneuthur ymgyrch arnynt cyn fynyched. 2 Cor. 12.9. canys amlygir a pherffeithir nerth Duw yn eu gwendid hwy. O herwydd ordinhâd Duw y mae dynan gwan wrth ei gyfarwyddyd a'i ddeall yn meistroli anifeiliaid cryfion; gan farchogaeth y march a'r elephant, a dofi 'r llewod a'r eirth. A phan yw ychydig râs yn gallu gorchfygu cymmaint o drachwantau, a rhwystrau cryfion oddifewn ac oddiallan, amlwg yw rhinwedd Duw ynddo. yr hwn er diwedd a orphen y gwaith da yn y nêf, Phil. 1.6. a ddechreuodd ef yn ei bobl ar y ddaiar, fel y gorsoleddont bŷth ynddo ef.
Am yr ail cwestiwn a grybwyllwyd ynghylch buchedd pobl Gristianogol yr oes hon, y mae i ni ormod achos i ddywedyd fel un gynt, naill ai nid hon mo 'r efengyl, ai nid ydym ni Gristianogion; o herwydd bod bywoliaeth pobl yn gyffredin mor groes i air Duw, a'r gorchymmynion union a broffessant, ac ir esamplau duwiol a ddarllenant. Llwyr achos sydd i eglwys Dduw alaru y dydd hwn am farnedigaeth ryfedd, sef ei bod mor ammhlantadwy, a'i bronnau mor llawn. Hosh. 9.14. Côsp Ephraim gynt oedd crôth yn er thylu, a bronnau hyspion. Ond bod Sion mor flith, ac heb fagu nemawr o blant grasol tebyg iw phriod nefol, bod llaeth y gair yn aml, a'r cynnydd mewn daioni yn brin, a ddichon beri fyndod a gofid ym mhob calon a'i ystyrio. Pe rhôn a chyfodi o'r Apostolion sanctaidd o feirw i dramwy drwy wledydd crêd yn awr, fel y gwnaethont tra 'r oeddent yn y corph, rhyfeddent [Page 362] yn ddirfawr weled y rhagor sydd rhwng Christianogion yr oes hon, a'r rhai a adawsant hwy ar y ddaiar, pan ymadawsant hwy â'r bŷd. A hawdd y dirnadent nad yw y rhan fwyaf o'r tô presenol girŵd o'r hâd a henasant hwy yn y mâes, ond efrau o hauad y gelyn. Chwîth fyddai iddynt weled godineb wedi cymeryd lle diweirdeb, a malais a tnwyll yn awr mor gyffredin ac ydoedd cariad, a sunlrwydd ym mysc y rhai gynt a ymhonnent o fod yn aelodau i Grist.
Er hynny y mae ymbell rai yn ein gwledydd a'n dyddiau ni yn rhodio o flaen Duw mewn uniondeb calon. er i'r rhan fwyaf hoffi 'r drwg, y mae eraill mewn peth mesur yn ei rwystro, yn ei geryddu, ac yn ei gospi: A thrwy eiriau a gweithredoedd duwiol yn ynnill rhai at rinwedd dda, i fod yn well ganddynt râs Duw na mwyniant pechod. a phe bai gymwys gellid bennodi 'r cyfryw yn o-deneuon. Ond rhaid iddynt roi 'r goreu i'r prif Gristianogion y fuont dra-rhagorol mewn sancteiddrwydd, a chanddynt rai achosion enwedigol iw hannog i hynny. Esampl Mâb Duw, yr hwn nid adnabu bechod, ac a gyflawnodd bôb cyfiawnder, a'i ragflaenor duwiol, yr hwn ydoedd fwy na phrophwyd, a ennynai Zêl ynddynt. Gwelfant hwy y patrymmau nefol yr ydym ni yn unig yn clywed sôn am danynt. A pha orau fyddo'r copi o flaen llygaid rhai, goreu y dyscant.
Newydd-dra 'r efengyl ddaionus, yn enwedig i'r cenhedloedd truain a fuasent mewn hîr amryfusedd, a'i bywiogodd hwynt mewn pôb rhyw ufudd-dod a diolchgarwch. pryd y daeth agos holl ddinas Antiochia ynghŷd i wrando [Page 363] gair Duw, ac i Paul a Barnabas fynegi i'r Juddewon gwrthwynebus y troent hwy at y cenhedloedd o herwydd i'r Arglwydd ordeinio Christ yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar. Act. 13.47, 48. Y cenhedloedd pan glywsant a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd, gan roddi ewyllyscar ufudd-dod iddo.
Cymerir mwy gofal rhag torri cyfreithiau newyddion na rhai hên. Gweision newyddion a fyddant dros drô yn ufuddach nag eraill.
A thywalltiad ryfeddol o yspryd Duw arnynt yn y dyddiau hynny a'i gwnai hwynt yn odidog mewn grasau, a donniau. Cyrchasant yn egniol tua thragwyddoldeb, wrth ir awel nefol lenwi eu hwyliau hwynt. Yr oeddent yn cael y fath weledigaethau yn yr yspryd, ac a barau hiraeth arnynt am fyned at Dduw, a gofal am ymburo iddo ef. Wedi cipio 'r Apostol ir trydydd nêf, nid oedd ryfedd iddo ddiflafu 'r ddaiar, ac iw ymarweddiad ef byth gwedi dueddu tuag i fynu.
Hefyd yr oedd y brifeglwys yn fynech dan erlidigaethau trymion; ac y mae 'n briodol i gystudd drwy fendith arno gadarnhau ac arferu amryw rasau, megis marweiddiad pechod, gostyngeiddrwydd, gwresogrwydd, mewn gweddi, chwant i'r nêf, a chymundeb â Duw.
Ac nid trwy gleddyf na bŵa yr oedd Christianogaeth i orchfygu gwrthyneb y bŷd anghredadwy y pryd hynny, onid trwy yspryd Duw, a grym duwioldeb. Am hynny rhaid ydoedd i râs fod yn grŷf iawn i wneuthur cymaint o wasanaeth.
Ond yn awr gan nad oes nemawr yn rhoddi efamplau da iw dilyn, a bod yr efengyl wedi [Page 364] hen eiddio, a doniau rhyfeddol yr yspryd i wneuthur gwrthiau, a'r gweledigaethau mewn cymaint mesur wedi peidio, a chymmaint o waith troedigaeth y cenhedloedd wedi ei gyflawni, a llawnder fydol wedi balchio cymmaint, nid all amgen na bo duwioldeb efangylol wedi treio llawer wrth fel y bu. Ac y mae pobl weithian wedi myned yn ffyrniccach ar bôb pêth nag oeddent yn yr oesoedd gynt, yn enwedig ar y drwg, ac yn fedrusach i wneuthur cam ddefnydd o bethau union, megis o wybodaeth i dwyllo, o gyfraith i orthrymmu, ac o'r efengil iw hannog i bechu drwy ryfygu am drugaredd. A nessâodd yr amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf a ragfynegwyd, pryd y bydd dynion yn feilchion, 2 Tim. 3.1, 2. yn annuwiol, er bod ganddynt wâg rîth duwioldeb. Ac os yw amser y bŷd agos i ddarfod, a chwedi rhedeg hyd at y gwaddod isaf (fel y tybia rhai) nid rhyfedd ei fod wedi egru a chwerwi cymmaint. Canys tebyg y gwywa daioni, ac y crina 'r bŷd cyn llosci pôb pêth; ac mai 'r drygioni erchyllaf a bryssura 'r farn fawr: a dirmygu llais peraidd yr efangylwyr a bariff glywed udcorn dychrynllyd y Barnwr. Daw yr Ecclips du ar y bŷd, pan fo ei anwiredd yn ei lawn lloned. Ni ddifethwyd y ddaiar â'r diluw, na Sodom a Gomorrah â thân, ond pan oedd rhinwedd dda yn brin, a phôb drygioni yn gyffredin ym mysc eu trigolion. Ac megis y bu yn nyddiau Noah a Lot, Luc. 17.26, 28, 30. felly y bydd yn y dydd y datcuddir mâb y dŷn..
Ond beth bynnag yw 'r achos fod cymmaint yn ein mysc ni yn anfucheddol cais di ddarlleydd, [Page 365] dy ddiwygio dy hun ac eraill, yn ol y gallu a ganiatto Duw i ti. Mi wn nad oes neb y dydd hwn yn dymuno grâs i wasanaethu Duw, ac yn cael ei naccâu; mi adwaenaf rai a'i ceisiodd, ac ai cafodd. Nid yw ffynnon iechydwriaeth gloiedig ir naill mwy nag ir llall a sychedo am deni. Dir yw fod pobl Dduw y pryd hyn yn cael sylwedd yr unrhyw rasau, ac y gafodd y Christianogion cyntaf, er bod rhagoriaeth rhwng eu doniau. Yr un yw daioni Duw i ddynion pa un bynnag a fo 'r moddion drwy ba rai y gweithier ef, a'i arferol, ai rhyfeddol. Y mae 'r bara beunyddiol a gawn ni o'r ddaiar drwy fendith Dduw ar ein llafur, yn torri ein newyn ni, ac yn adferu ein nerth ni yn gystal ac y gwnai 'r Manna a ddescynnai o'r wybr ir Israeliaid. Yr un llaw sydd yn ei roddi bob un o'r ddwy ffordd. A thra fo Duw yn tueddu 'r galon at dduwioldeb drwy gyngor yscrythyrol, myfyrdod ddifrifol, haelioni, a cherydd, yr un Sancteiddrwydd a fydd ynddi, a phe gelwid dŷn drwy lais o'r nêf, neu ymddangosiad Angel. Cesclir cywyr Gristianogion yr oes hon iddinas y Duw byw y Jerusalem nefol, at ysprydoedd y cyfiawn o'r oesoedd gynt, Heb. 12.22.23. ac at Jesu cyfryngwr y Testament newydd. A chan fod Duw yn darparu eu dwyn ir un nefoedd a nhwythau, gweithia ynddynt yr un fath foddion tra font ar y ddaiar, ac ydoedd yn y lleill. A'r anghresyddoldeb cyffredinol a wnaiss ir ychydig o rai duwiol ymegnio at ddaioni yn lewach, gan wybod mai agosaf yw'r barnwr pa amlaf a fyddo 'r drwgweithredwyr.
PEN. 28. Cyfarwyddyd iw arfer fel y delo rhai i allu byw yn dduwiol.
Pwy bynnag a ewyllysio fucheddu mor rasol ac y gweddai ir efengil, dalied sylw ar y fath hyfforddiadau ac a galyn. Gwelir beunydd mor rheidiol a llesol yw arfer pwyll a chynorthwyau i bôb gwaith pwys-fawr, yn enwedig lle bo rhwystrau yn ei gylch. Un go-wan wrth gyfarwyddyd a pheiriannau, a ddichon wneuthur pethau nad allo 'r cryfaf hebddynt. A'r hwn a fynno 'r maes oddiar elynion ei enaid, a ddylai fedru iawn drîn arfau ei filwriaeth ysprydol, megis myfyrdod, gweddi, diwydrwydd, a moddion eraill.
Meddwl am Dduw a charedigrwydd ei feistr a gynhaliodd Joseph rhag pechu gyda 'i feistres, pan geisiodd hi ei ddenu ef i hynny. Yr hwn yn ddyladwy a ystyrio ddaioni Duw tuag atto ef, ac anfeidroldeb ei bresenoldeb ef, a arswyda bechu yh erbyn ei Dâd nefol, a'i Farnwr cyfiawn, ac a wilia ar rodio wrth ei fôdd ef. Meddwl dŷn sydd yn ei droi ef oddiwrth y naill bêth, ac yn er dueddu ef at y llall, ac yn ei gyfarwyddo iw wneuthur. Yr enaid edifeiriol wrth fynech ystyried y cywilidd, a'r golled, a'r gofid a deimlodd ei gydwybod ef oddiwrth ei hyntiau pechadurus, a fydd gofalus iw gochelyd ar bôb achlysur, ac i foddhau ei waredwr a'i diddanodd ef. Y gwiail a olosgwyd gan angerdd digofaint a blygant, ac a uniownant y ffordd a fynno eu gwneuthurwr. [Page 367] Ac nid digon feddwl weithiau am bethau ysprydol ar gip, ond rhaid eu gosod i wreiddio, ac i dyfu ynom ni. Ni bydd nêb y cyfryw bren iraidd ac a rydd ei ffrwyth yn eibrŷd, Psal. 1.3. ond yr hwn a fyfyrio ynghyfraith yr Arglwydd ddŷdd a nôs, ac nid ymbell fynydyn yn unig. Ni cheir nerth oddiwrth fwyd oddieithr iddo drigo gyda ni, ac i gylla ac afu iachus gymeryd amser iw droi yn waed ac yn gynhalieth i'r corph oll. Ac ni chryfheir yr enaid gan y gair heb ei gadw ynddo, a chael amser i weithio arno. Rhaid ir ddaiar wrth dymmor hâf, a hîr gynhesrwydd cyn y dycco ffrwyth. ni wasanaetha genddi rai oriau, neu ddyddiau, eithr myn fisoedd o frwdaniaeth cyn yr addfedo ei chynnyrch: ac oni thwmnir y galon ddaiarol yn ddyfal â myfyrdod nefol, Psal. 39.3. ni bydd ei ffrwyth i sanctciddrwydd. Tra yr oedd y prophwyd yn myfyrio yr ennynnodd tân Zèl ynddo. Am hynny y cynghorodd Moses ir Israeliaid feddwl yn eu calonnau am yr holl eiriau a dystiolaethodd ef wrthynt, fel yr edrychent am eu gwneuthur. Deut. 32.46. O herwydd cam-dŷb ac anghôf am Dduw a gwirionedd y gwneir y pechod, ond wrth iawn bwyll y dywygir peth. Yr hyn a bair ir Arglwydd rybuddio yr anwiriaid, gan ddywedyd, deellwch hyn y rhai ydych yn anghofio Duw rhag i mi eich rhwygo. Psal. 50.22. mae rheswm hollhawl i annog pobl i wasanaethu eu gwneuthurwr, a'u cynhaliwr, a'u prynwr, a pha fwyaf a ystyriom ni yn ei gylch, ewyllyscaraf a fyddwn i dduwioldeb, yn enwedig wrth feddwl am y gwobr tragwyddol a dderbyn pawb yn ol eu gwaith yn y bywyd hwn. Byddwn dduwiol yn [Page 368] y bŷd sydd yr awrhon wrth ddisgwil am y gobaith gwynfydedig. Tit 2.13 Col. 1.4, 5. Cariad y Colossiaid a weithiai tuag at yr holl Sainct er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw iddynt yn y nefoedd. Cynghora Solomon ŵr ieuanc i ymattal rhag rhodio yngolwg ei lygaid wrth wybod y geilw Duw ef ir farn, Preg. 11. 8, 9. ac wrth gofio dyddiau tywyllwch a fyddant lawer. Efmwyth yw meddylied am Dduw, ath gyflwrdy hun yn dy waith ac yn dy wely, nac esceulusa 'r peth sydd mor hawdd, a llesol. Y gwynt, a chwtha lle y mynno, a dry olwynion melin (ond ei gollwn iddo) tuag at gymwyso 'r ŷd i wneuthur bara corphorol: ac awel y meddwl grasol a gynhyrfer gan yfpryd Duw, a rydd holl alluoedd dŷn ar waith tuag geisio 'r hyn a berthyn i fywyd tragwyddol.
Arfera ffydd a sanctaidd fyddi. Canys trêch yw ffydd na phôb profedigaeth. Hi yw 'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu'r bŷd. Creda 'r peth a fu, sef gwaith Duw yn creu ac yn prynu dynol ryw, a'r cariad a ddengis ef yn hynny iti yn neilltuol. Y fuchedd Sanctaidd yr oedd yr Apostol yn ei arwain yn y cnawd, Gal. 2.20. ei fyw yr oedd trwy ffydd mâb Duw yr hwn a'i carodd ef, 1 Joan. 5 5, 6. ac a'i dodes ei hun drosto ef. Pwy yw 'r hwn sydd yn gorchfygu 'r bŷd onid yr hwn sydd yn credu mai Jesu yw Mâb Duw? yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, i lanhau, ac i brynu ei etholedigion. Crêd a dilyn yr esamplau da gynt. Jag. 5.10. Cymer y prophwydi yn siampl o ddioddef blinder, ac o hir ymaros, ac o bôb rhinwedd arall. clywaist am ammynedd Job, a pherffeithrwydd Noah, nid yw anhaws iti fyw yn rasol nag ydoedd iddyn [...] hwythau. Crêd y peth [Page 369] sydd, sef dy fod yn gyfaill anwyl gan Grist, Joan. 15.14. os gwnei pa bethau bynnag y mae ef yn eu gorchymmyn iti. Crèd y pethau a fydd, sef y daioni adroddedig trwy addewidion cywyr. Addawodd. Duw râs iw blant, a'u gwneuthur yn gyfrannogion o'r duwiol anian. 2 Pet. 1.4. Pan fo gofalon bŷd yn dy anesmwytho di, gorchfyga hwynt drwy hyderu ar ragluniaeth, a gair Duw. Canys efe a ddywedodd ni'th roddaf di i fynu, Heb. 13.5, 6. ac m'th lwyr adawaf chwaith, fel y galloch ddywedyd yn hŷ, yr Arglwydd sydd gymmorth i mi, nid of naf beth a wnel dŷn i mi. Pan fyddech yn cael cam gan ddynion, ac i'r briw ddechreu llidio, gostwng y chŵydd drwy eli 'r Apostol, mal y mae yn dy gyfarwyddo gan ddywedyd, nac ymddielwch rai anwyl, Rhuf. 12.19. canys y mae'n scrifennedig, i mi y mae dial, myfi a dalaf medd yr Arglwydd. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, nas gallo malais nêb ei gymylu. Psal. 37.6. Pa dristwch bynnag a geisio dy drymhau tra fych yn ofni Duw, ymgynal â gair Christ a ddywed, Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru, Math. 5.4. canys hwy a ddiddenir. A chan fod Duw yn addaw preswylio yn ei bobl a rhodio yn eu mysc, 2 Cor. 6.16, 17. na chyffwrdd â dim aflan, eithr addurna dy enaid iw dderbyn ef yn weddus. Ac os oes gennit hyder y cei fyned iw ogoniant ef, ceisi fyned yn gyffelyb iddo ef yn y bŷd hwn. Canys y mae pôb un y sydd â'r gobaith hwn ynddo, 1 Joan. 3.3. yn ei buro ei hun megis ac y mae yntef yn bur. crêd y gôsp a ddigwydd ir anwiriaid yn ol bwgythion Duw, ac o byddi doeth tydi a ragweli y drwg, Dih. 14.6. ac a gili. Gwelir llawer yn ymattal rhag lledrad a mwrdwr wrth ofni y gôsp ddynol a ganlyn [Page 370] y cyfryw ddrygau. Mwy o rinwedd a ddichon fod mewn ofn o benyd tragwyddol i attal pobl rhag pob anwiredd: oera 'r serch i bechod wrth weled haccred yw 'r golwg ar ei ffrwyth yn wynebau 'r meirw.
Taer-weddia beunydd ar Dduw am roddi yspryd ei râs iti, ac nad arweinier di i brofedigaeth. Gweddîai Dafydd ar yr Arglwydd am ei gadw rhag pechu. Meddai ef, Arglwydd clyw fy llais, Psal. 141.1, 3, 4. gosod gadwriaeth o flaen fy ngenau, cadw ddrws fy ngwefusau. Na ostwng (sef naollwng) fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwyr a weithredant anwiredd. A thystiolaethiff i anrhydedd ei waredwr iddo ef gael atteb rhwydd iw weddiau, Psal. 138.3. gan ddywedyd wrth Dduw, y dydd y llefais i'm gwrandewaist, ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid. Pan waeddodd yr Apostol rhag cennad Satan, 2 Cor. 12. cafodd atteb cyssurus y byddai grâs Duw yn ddigonol iddo ef. Diogelach rhag syrthio i bechod yw 'r rhai gostyngedig ar eu gliniau, na 'r rhai sythion penuchel. Yr hwn sydd deimladwy o fod arno eisian doethineb (i fedru byw yn dduwiol a chyraedd y gaffaeliad oreu, sef yr un nefol) gofynned gan Dduw yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, Jag. 1.5. ac heb ddannod a hi a roddir iddo ef. Rhwyddach yw 'r Arglwydd i roddi 'r yspryd i'r enaid gwllyscar, nag un tâd naturiol i roddi bwyd iw blentyn newynllyd. Medd ein Achubwr wrth bobl, os bara a ofyn Mâb i un o honoch chwi sy dâd, Luc. 11.11, 13. a ddyry efe gareg iddo? os chwychwi gan hynny a fedrwch roddi rhoddion da ich plant chwi, pa faint mwy y [Page 371] rhydd eich Tâd o'r nêf yr yspryd Glân i'r rhai a ofynno ganddo? Ac efe pan ei derbynier a gynnorthwya wendid plant Duw, Rhuf. 8.13. ac ai harwen hwynt ynt ffordd y bywyd.
Bodlona i gymeryd poen i orchfygu pechod a'i brofedigaethau, a bydd ddiwyd i wneuthur pob daioni yn ol dy allu. Rhaid llafurio yn ystig i gynnill attom ffrwythy ddaiar, ac i ddadwreiddio 'r drysni, a'r chwyn sy chwannog i godi o honi. gyda gwlîth y nefoedd rhaid wrth ddefnynnau o chwŷs y corph i beri i'r maes ffrwythloni. Ac ni wasanaetha i ni dybied am natur dŷn fyddo wedi ei llygru â pechodau ffiaidd y daw hi yn ddiboen i ddwyn ffrwyth da. Am hynny y perir ini weithio allan ein iechydwriaeth drwy ofn. Phil. 2.12. Gorsydd gweithio heb ddiogi, ac yn frawychus hefyd am ein bywyd tragwyddol. 2 Pet. [...].5. Gofynnir genym ni roddi cwbl ddiwydrwydd i chwanegu at ein ffydd rinwedd. Duw sydd yn rhoddi 'r gallu i bôb da, ond rhaid ini wregysu ein lwynau iw arferu ef yn ffyddlon, ac yn ddifewid. Rhuf. 8.13. 2 Tim. 1.6. Nyni sydd i farweiddio gweithredoedd y cnawd trwy 'r yspryd a rydd y Goruchaf: ac i ail-ennyn y dawn a fyddo oddiwrth Dduw ynom ni.
Rhag nwyf pechadurus cospa a darostwng dy gorph drwy ympryd, a llafur. Dioddefiff y clâf chwysu a gwaedu er cael gwared o ryw afiechyd niweidiol i'r bywyd presennol: ac nid llai dioddefgarwch y Christion er mwyn iechyd bythol. Gwrthododd y Sainct gynt feithriniad foethus iw cyrph rhag halogi eu heneidiau: Dan. 1.8, 12. a chan wrthod bwyd brenhinol er ei gynnig iddynt yn daer, dewisasant ffâ a dwfr. A [Page 372] threulient fwy o olew yn y lamp i weled gwneuthur peth wrtho, yn enwedig tuag at wasanaeth Duw, nag o wîn yn y phiol iw llonni eu hunain. Canys os gwresogir y cnawd ormod anufuddha i reswm a grâs, ac fel march porthianus bwriff ei farchogwr i lawr, ond dirwest a diwydrwydd a'i dofa. Drwg yw 'r escus am odineb ddywedyd fod y cnawd yn wan, pan fydder yn ei gadw yn grŷf. A thra phorther ei falchder â gwchder anweddaidd, ofer yw ymhonni o ostyngeiddrwydd. Y moddion difrifol a arferau'r prif Gristianogion tuag at ymsancteiddio, au gwnaethant i ragori cymmaint ar yr oes hon sydd dynerach wrth y cnawd. Aml fyddau dagrau edifeiriol ar eu gryddiau hwy, amlach yw gwallt gosod a lliwiau peintiedig ar wynebau pobl yn ein dyddiau ni. Act. 20. Y pryd hynny glynent mor hwyr wrth ordinhadau Duw, ac y wneir yn awr wrth faswedd. Yr hwn a ymgadarnhao i ddioddef peth caledi er cystwyo ei drachwantau, a'u gwanhychu drwy naccau eu porthi, ac i fod yn ddiwyd yn y da tuag at Dduw, a dŷn, a gaiff welèd tycciant fendigedig ar ei alwedigaeth Gristianogol.
Pwy ond y diwyd sy 'n myned yn yscolhaig, neu yn gelfyddwr, neu yn hwfmon cywraint? ac nid aiff neb yn Gristion d [...] ond a ymgynefino ag arferion duwiol yn oestadol. Am hynny y gofynnir ganddo lafurio fel hwfmon, a dioddef ymdrech fel milwr, ac ymegnio, a bod yn dymerus fel rhedegwr. Rhaid ceibio at y mwŷn gwerthfawr o gyssur ysprydol drwy 'r rhwystr galettaf: a dal y llaw [Page 373] a'r llygad ar yr aradr yn ofalus, Luc. 9.62. o mynnir fyned i deyrnas Dduw, ac onidè anrheithir y gwaith, a malcir y fuchedd. Dih. 13.4. 2 Tim [...] 3. Enaid y diog ni chaiff ddim, ond enaid y diwyd (mewn dyledswyddau grasol) a wneir yn frâs. Goddef gystudd megis milwr da i Jesu Grist. Gorfydd i filwr yn fynech ymfodloni i fod mewn peryglon a gwiliad wriaethau, a phrinder, ac oerni, a briwiau, cyn cael y fuddugoliaeth. Ac o mynni ynnill y gamp yn yr yrfa efangylol cynhyrfa dy holl allu ysprydol a corphorol, ac ymgadw ym mhôb pêth oddiwrth bôb maswedd a'th wanhycho, ac oddiwrth bôb gormodedd ath drymhao, fel y caffech afael ar y faeler, 1 Cor. 7.24, 25. ac y derbyniech y goron anllygredig. Cynhyrfiad a gwaith sy fuddiol ir bywyd hwn a'r llall hefyd. Y dwfr rhedegog sy loiwaf, a'r awyr wyntog sy iachaf, a'r Christion bywiog sydd ysprydolaf. Nid all neb gerdded dwy ffordd gwrthwynebus iw gilidd ar unwaith. yr hwn a fyddo yn myned rhagddo yn egniol mewn daioni nid aiff yn ôl i'r drwg.
Gochel bôb achlysur pechod. Wrth arfer pethau cyfreithlon bydd wiliadwrus rhag i ormodedd dy faglu. I rydd-did y gelwir Christion, Gal. 5.13. ond rhaid iddo wilied rhag arferu y rhydddid yn achlysur i'r cnawd. Os wyt mewn perigl o'th lithio i feddwdod, nac edrych ar y gwîn pan fyddo cóch, pan ddangoso ei liw yn y cwppan. Dih. 23.31. Os i odineb, trô ymmaith oddiwrth olugon anllad: ac nac ymgymdeithasa â chyfeilliach ddrwg, y fydd yn llithio trwy chwanta [...]'r cnawd, 2 Pet. 2.18. a thrythyllwch. Meidr y cythrael chwythu 'r tân uffernol o'r cynnyd crinion ir coed îr, gan geisio [Page 374] llygru y rhai da drwy y rhai drwg. Yr hwn a gymero ofal am iechyd ei enaid, ymgadwed ym mhellaf ac a allo oddiwrth y cyfryw ac sydd gleifion o haint anwiredd. Yn siccr lle bo rhwymedigaeth anwahanol, megis perthynas naturiol plant iw rhieni, neu ryw anghenrhaid cyfreithlon arall yn cadw dŷn grasol ym mysc rhai drwg, gall ddisgwil nerth oddi-uchod iw gynnal mewn uniondeb ynghanol troseddwyr, fel y cafodd Noah ac eraill: ond gocheled ymgymysc â nhw llê ni byddo 'r fath achosion yn ei alw.
Rhwystra ddechreuad pechod. Pan glywech ddeisyfiad afreolus yn codi ynot, brawycha, a gweddia, a dyro dy frŷd ar ei lâdd ef cyn iddo ymgadarnhau mewn gweithrediadau atcas. Hawdd i wendid dynnu eginyn derwen o'r gwraidd cyn gynted ac y torro trwy 'r ddaiar. Ymwrando â thymer dy enaid beunydd, mal na byddo pechod ond bychan, nac oddiar un dydd oed cyn iti ymaflyd ag ef, a'i roddi i lawr. Llawer tân wrth ei ganfod mewn prŷd a ddiffoddwyd yn ddiboen, yr hwn ped esceulusasid a gynnyddasai i ddifrodi dinas. Am hynny Job wedi iw blant ef gydwledda a gyfodai yn foreu, ac a'i sancteiddiai hwynt, Job. 1.5. ac a offrymmai boeth offrymmau yn ol eu rhifedi hwynt oll; canys dywedodd, fy meibion ond odid a bechasant. Gofalai 'r gŵr da hwn am roddi eli mewn prŷd wrth friwiau ei blant, rhag iw pechodau gynnyddu wrth oedi.
Gochel ymfodloni â llún neu â rhyw ran o sancteiddrwydd, ac i hynny dy lonyddu heb geifio 'r sylwedd, a'r cwbl o honi. Er dy fod [Page 375] yn byw yn ddiniwed yn y bŷd, ac nad wyt mor flîn â llawer, etto oni bydd ynot gariad cynes tuag at Dduw a dŷn, ni byddi gymeradwy. Anifail yw 'r march dôf gystal â'r ebol gwyllt. Ac o byddi yn ufuddhau i air Duw mewn amryw bethau, a chynwys ynot dy hun ryw un drwg arfer, nid elli fod yn gadwedig. Ni wrthododd y gwr ieuanc ond un gorchymmyn, sef rhannu ei dda i'r tlodion, a gwahanodd hynny rhyngddo ef â Christ, Marc. 10. ac aeth ymmaith yn athrist. Aethai Herod yn ddyscybl i Joan Fedyddiwr ond antur, pe canhiadesid iddo fyw mewn ymloscach. O chaiff un pechod reoli ynoti, mewn amser efe a fynn weision atto, ac ychwaneg o bechodau iw galyn. os megi lîd neu falais yn dy feddwl, mewn amser myn atto dwyll a gorthrech, neu fwrdwr. Ond os y pechod meistrolus ni heppilia, bydd ei hun yn ddigon crŷf ith ddifetha os caiff lechu ynot. un brâth at y galon a ddwg fywyd gŵr, er ei fod ym mhob rhan arall yn ddifriw. Na chymer ychwaith dy suo i gyscu â gwrandawiad y gair, heb roddi o honot ufudd-dod iddo. canys felly y mae llawer yn eu twyllo eu hunain. Jag. 1.22. Ni wna breintiau eglwysig a phroffesse Gristianogol ddim llês i'r hwn ni byddo yn byw yn gyfattebol iddynt. Yr hwn sydd farw yn ei enaid, er bod ganddo enw o fod yn fyw, Datc. 3.1, 3. a ddifethir onid edifarha. Er ei fod drwy grêd a bedydd wedi ei gyssegru yn dŷ i Dduw, a chwedi ei wyngalchu oddiallan â ffurf crefydd, etto os cynwys aflendid o'i fewn, ef a wneir yn garnedd ddinistriol. Yr hwn a lygro deml Dduw, 1 Cor. 3.17. Duw a lygra hwnw. Ni bu tra hîr nes difrodi, a llosci'r [Page 376] deml yn Jerusalem er tecced ydoedd, wedi i'r Jddewon ei gwneuthur yn ogof lladron. Ni ddichon enw Christion achub yr hwn sydd â moddion anghred. Y llong a henwer Rhwydddeb a ddryllia wrth graig, ac a fodda ei llwyth, onid edrychir at ei llywio 'n ofalus. er bod enwau da ar Sedeciah ac eraill, etto difethwyd hwynt am fod yn bobl ddrwg. wrth ei henw dylasai Absalom fod yn dâd hêdd, ond collwyd ef am ei drais.
Ymarfer â gwneuthur daioni yn ol y gallu sydd ynot, ac yno di gei hyfrydwch ynddo, ac ychwaneg o nerth iw ddilyn rhag llaw. Melys i enaid dŷn ei hun yw y ffrwyth a dyfo oddiwrth râs Duw ynddo, a difyr iddo waith ei alwedigaeth nefol. Rhoddi cyfarwyddyd i'r enbydus, a'r cyfeiliornus, ac elusen ir truenus, sy 'n cyssuro 'r sawl au gwnelo gymmaint â'r rhai au derbynio. ie mwy bendigedig yw rhoddi na derbyn. A phan ddel un hyd at y cynhwillin blasus y sydd o'r tu fewn i weithredoedd crefyddol, ni fyn fod hebddynt mwy. ac aiff dŷn yn aplach i bôb gwaith da wrth ei arfer. a benaith y Goruchaf a rydd ychwaneg ir hwn a fyddo ffyddlon ar ychydig.
PEN. 29. Annogaethau i dduwioldeb.
Weithian ddarlleydd dyro dy frŷd ar ddilyn pôb cyfarwyddyd dda i fyw wrth fôdd Duw mewn pôb sanctaidd burdeb. Ac ith annog i hynny ystyr mor llesol yw rhinwedd dda i bawb a ymgynefino â hi. Cynghorodd yr Apostol o'i serch tadol i Timotheus, ydoedd megis [Page 377] ei fâb anwyl, 1 Tim. 4.7, 8. ar iddo ei ymarferu ei hun i dduwioldeb o herwydd ei bod yn fuddiol i bôb pêth, a chenddi addewid o'r bywyd y sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd. Bûdd a difyrrwch sydd yn gosod y bŷd ar waith, ac nid ydynt iw cael yn sylweddol, ac yn barhaus mewn un llê arall, onid lle y gosododd Duw hwynt, sef ym mhen y ffordd dda, a'r fuchedd nefol. Tra buddfawr i'r enaid yw duwioldeb, gan oleuo 'r meddwl â gwybodaeth o Dduw, a llonni ei ddymuniad â blaen ffrwyth iechydwriaeth, a'i wneuthur yn gyfoethog mewn ffydd, ac yn etifedd i deyrnas: a rhoddi iddo fwy yn y bŷd yma nag a eill yr annuwolion cyfoethoccaf ei feddiannu, sef cymmaint o bôb pêth ac a'i bodlono. J'r cyfryw enaid dengis Christ y Tâd yn gymmodol ag ef, a digon fydd ganddo, Joan. 14.8. mal na phenydio awydd daiarol mono mwy. A phan elo oddiymma caiff fwy o ddedwddwch nag a allafi ei ddarlunio, na thitheu ei ddirnad, y cyfryw ac ni welodd llygad, ac ni ddaeth i galon dŷn iw ddeall. Jâch i'r corph yw 'r cymmedroldeb, a'r diwydrwydd, a'r addfwynder Christianogol. Rhydd Duw fendith ar weithredoedd dwylaw 'r grasol, gan beri llwyddiant ar yr hyn a wnelo ef, a chymeryd gofal drosto ef, a bod yn geidwad iddo rhag myrdd o ddamweiniau niweidiol. Yn adgyfodiad y meirw bydd yr holl ddŷn mor brydferth ag angel, ac mor ddisclair á'r haul, yn nefol, nerthol yn dragywydd. Periff duwioldeb enw da i bawb ai dilyno. a pharch yngŵydd pawb a'i canfyddo. Brenhinoedd a anrhydeddau brophwydi sanctaidd megis eu tadau, 2 Bren. 6.21. a'u henwau fyddau mor beraroglaidd [Page 378] ac ennaint tywalltedig. Y Sainct ar y ddaiar yw 'r rhai rhagorol. Psal. 16.3. Dywed y Duw bendigedig eu bod hwy a'u gwaed yn werthfawr yn ei olwg ef. A gwnai i bawb au niweidiau dalu yn ddrûd am hynny, Esai. 43.3, 4. a rhoddai 'r Aipht yn iawn drostynt, Ethiopia a Seba am danynt.
Heb. 1.14.Yr Angylion sanctaidd a weinant iddynt, gan ewyllyscar wasanaethu er mwyn y rhai a gant etifeddu iechydwriaeth. Dynion pwyllog au anrhydeddant. Y prif Gristianogion a iawn folent Dduw, Act. 2.47. a gaent ffafr gan yr holl bobl. Nid all dynion drwg ddiffodd goleuni eu cydwybodau cyn llwyred na chanfyddont odidowgrwydd y rhai da. Yn eu dolur chwenycha y gwaethaf fel Balaam gael marw warwolaeth y cyfiawn: ac yn eu hawddfyd ceisiant yn gyffredin guddio a gwadu eu ffiaidd gampau, a gwneuthur lliw o rinweddau drwy ragrithio. Yr hyn sy argoel hynod eu bod hwy yn barnu 'r da yn well na 'r drwg.
Bendigedig ynddo ei hun yw 'r hwn ni rodia ynghyngor yr annuwolion: Psal. 1.1. a bendigedig i eraill o'i amgylch. Ordeiniodd Duw iw wir Israel fod yn fendith o fewn y tîr; Esai. 19.24. ac er eu mwyn hwynt dros ennyd ettil ei farnedigaethau oddiwrth eu cymmydogion drwg. Gen. 18.32. ac 19.24. Dèg o rai cyfiawn a barasent i Dduw arbed Sodom: ac er nad oedd ond un teulu daionus ynddi, etto ni loscwyd moni nes i hwnw fyned ymmaith, ac ymadel â hi. Mewn tymhestl beryglus wedi dwyn oddiarnynt bôb gobaith y byddent gadwedig, Act. 27.20.24. rhoddes Duw i Paul yr holl rai ydoedd yn morio gydag ef. Llawer o drugareddau a dynn y duwiol ar eraill. Bu tŷ Laban well er Jacob, ac [Page 379] un Potiphar er Joseph. Drwy hîr brawf gwybu heppil Abraham, Isaac a Jacob, fod yr Arglwydd yn dangos trugaredd i filoedd o genhedlaethau y rhai grasol, a'u caro ef, ac a gadwo ei orchymynion ef.
Anwyl yw 'r duwiol gan Dduw, angylion, a dynion da. Hôff gan yr Arglwydd ei bobl, Psal. 149.4. ac efe a gâr lwyddiant ei weision. A thrwy ei air hyspysiff iw cydwybodau hwynt, Heb. 13.16. y rhyngir ei fôdd ef a'u hebyrth hwynt: a bod eu dyledswyddau duwiol, a chariadus, Phil. 4.18. Mal. 3. Zech. 2.8. fel arogl peraidd ganddo ef. Je cyn gûed ganddo hwynt â'i dlyssau, neu ganwyll ei lygad. Am hynny efe a'u ymgledda, ac a'u hymddiffyn hwynt, a bydd ei glustiau yn oestadol yn agored iw llefain hwy. Psal. 34.15. Da gan yr angylion nefol bôb un duwiol. Luc. 15.10. mawr yw 'r llawenydd yngŵydd Angylion Duw am bôb rhyw bechadur a edifarhao. Caredig iawn y cyfarchent Daniel, Dan. 10.11. a dyfal y diwallent Elias yn ei drwm gystudd, gan drwsio iddo fwyd, a'i ddwyn at ei obennydd ef, a dywedyd, 1 Bren. 19 5, 6, 7. cyfod, bwytta. Dynion da a hoffant y duwiol. Tystiolaethodd Dafydd wrth Dduw mai yn ei Sainct ef yr oedd ei holl hyfrydwch ef. Psal. 16.3. Rhyfeddol o'r caredigydoedd y Christianogion gynt iw gilidd, Act. 2. gan gyfrannu y naill ir llall yr hyn a feddent. Ynteu ddarlleydd os ewyllysi ddaioni iti dy hun, bydd fyw yn ofn Duw.
Gyda bûdd y mae difyrrwch hefyd yn ffyrdd Duw i'r hwn u dilyno 'n gywyr. Hyfryd iddo addoli Duw cymmodol ag ef. Psal. 43.4. Math. 10.1. Pan ai Dafydd at allor Duw, ai at Dduw hyfrydwch ei orfoledd. Gwaith gwinllan yw duwioldeb, a ffrwyth ei llafur sydd felys. Wrth ymarfer â [Page 380] chariad, a gonestrwydd tuag Dduw a dynion, caiff y duwiol deimlad o dangneddyf yn eu meddyliau, a gobaith siccr o fywyd tragwyddol drwy Grist yn argraphedig ar eu calonnau. wrth roddi cwbl ddiwydrwydd mewn ffydd, 2 Pet. 1 10. a rhinwedd, a duwioldeb, a charedigrwydd, y gwnaiff Christianogion eu galwedigaeth, a'u hetholedigaeth yn siccr iw cyssur anrhaethadwy. Wrth wneuthur gwaith Duw caiff y galon bur obaith iachus am y gwobr: ac wrth ei debygoliaeth i'r Tâd nefol mewn daioni, caiff hyder disiommedig o'i fôd yn blentyn iddo, ac yn etifedd iw ddedwddwch ef: yr hyn a rydd iddo achos cyfiawn i fod yn siriol ym mhôb gorchwyl, ac ym mhôb cyflwr. Yr Eunuch grasol ydoedd yn teithio yn llawen, Act 8.39. ac 2.46. a'r prif Gristianogion yn cymeryd eu lluniaeth mewn llawenydd. Yma os amheui fûdd ac hyfrydwch crefydd o ran bod erlidigaeth yn gosod arni yn fynech, ystyria fod cystudd amserol yn digwydd ir duwiol er hyfforddi, ac nid i rwystro eu dedwddwch. Yr enaid yw 'r rhan odidoccaf o'r dŷn, a hwnw yn yr etholedig a gaiff fwyaf o râs Duw, a chyssur ysprydol, pan fo 'r adfyd oddiallan drymmaf. Gwyn eu bŷd y rhai a gystuddier ac a ddifenwer er mwyn enw Christ, oblegyd yspryd y gogoniant, 1 Pet. 4.14. ac yspryd Duw a orphywys arnynt y pryd hynny mewn môdd enwedigol. Tra yr oedd yr Apostolion er mwyn yr efengyl megis wedi eu tristhau, 2 Cor. 6.10. yr oeddent yn oestad yn llawen, tra yr oeddent megis heb ddim cenddynt, yr oeddent yn meddiannu pôb pêth: sef cymmaint o gyssur yn Nuw ac sydd iw gael wrth fwynhau yr creaduriaid oll. yr hyn a wnai iddynt [Page] [Page]
[Page] [Page 381] ganu mewn carcharau, a hynny nid duchan, Act. 16. onid mawl i Dduw. Ond nid yw 'r Arglwydd yn goddef cystuddio ei blant bôb amser, eithr rhydd iddynt yn fynech ddiddanwch dau ddyblyg, sef oddiallan ac oddifewn hefyd. wedi dwys gystuddio Joseph, a Job, er mwyn profi, ac amlygu eu rhinweddau hwynt, cawsant amlder mwy nag o'r blaen o bôb rhyw lwyddiant yn y bŷd.
Anescusodol yn nydd y farn a fydd pôb un anfucheddol: am ei fod yn torri ir drwg ar draws cymmaint o rwymedigaethau naturiol, ac efangylol, a osodwyd arno iw dueddu at y da. Y mae natur ddynol fel yr ydys yn ei derbyn mewn ganedigaeth, lawer diniweitiach nag yr ydys wedi hynny yn ei gwneuthur wrth ewyllyscar ymarfer â chamwedd. Er bod llygredigaeth wreiddiol dros amser yn cadw pool yn babanod ofer, etto y pryd hynny gwelir hwy yn ddifalis. ehweri 'r gwychaf gyd a'r gwaelaf heb na 'i fradychu, na 'i orthrymmu. A phan dyfont yn gryn-ddynion, bydd gwyldra o'u mewn ennyd yn eu hattal rhag dechreu godineb, a rhai pechodau ffiaidd eraill. A chwedi iddynt wneuthur y cyfryw bechodau unwaith bydd cywilidd, a cherydd cydwybod o'u mewn yn ceisio eu hattal rhag gwneuthur felly drachefn.
Y mae 'n proffes Gristianogol yn gosod arnom rwymedigaeth enwedigol i ymlanhau. Canys pôb un ac sydd yn dyfod dan faner Christ sydd yn addaw rhyfela yn erbyn y bŷd, a'r cnawd, a'r cythrael: ac oni wnawn hynny yr ydym ni yn fradwyr marwol yn erbyn yr hwn a'n derbyniodd i filwrio, a theilwng o'i [Page 382] ddigofaint ef. Peryglus i ni wisco enw Christ, ac ymdrybaeddu mewn brunti. Darfu i'r cythrael gyffessu Christ yn Fâb Duw er mwyn gwneuthur iddo rwystr, i edrych a anghoeliau pobl y gwir oblegyd ei dystiolaethu gan Dâd y celwydd. Felly y mae dynion aflan wrth ymhonni o Grist yn ei wradwyddo ef, un ai o falis, ai o fuscrelli. Nid yw chwithach aelodau anifeilaidd wrth ben gŵr, Rhuf. 2.25. nag i ddynion ffiaidd daeru eu cyssylltiad â phen yr eglwys. Ceblid enw Duw gynt ym mhlith y cenhedloedd o blegyd i'r Juddewon dorri ei gyfraith ef, yr oeddent yn gorfoleddu ynddi. A drwg fucheddau Christianogion yn yr unrhyw fôdd a galeda 'r anghred yn erbyn yr efengyl. Naccâodd un gynt droi yn Gristion wrth weled cymmaint o Gristianogion tlodion. Ond cadárnach fuasai ei amryfusedd ef pe gwelsai hwynt yn feilchion, a thwyllodrus, yn draws, a chenfigennus, a godinebus. A diammau mai tostach fydd barnedigaeth y rhai sydd ddrwg dan broffessu crefydd dda: Esai. 26.10, 11. gwneuthur ar gam yn nhîr uniondeb a bair i dân gelynol eu hyssu hwynt. Dwyn dail heb ddim ffrwyth, wedi eu plânnu hwy yngwinllan Christ, a bair felldith ddwysach iddynt. Cael porfa frâs, a gwrthod yr iau, a wna syrthio dan ddyrnod y fwyall.
Er cryfed yw dy bechodau os gwîr ddymuni [...]âs Duw, a thaer weddîo am dano, ti a'i cei ac a orchfygi. A chydnabyddi mai trêch yw yspryd Duw na Satan, a'r Angylion da na 'r drwg; a bod cydwybod dda yn drêch ith gyfarwyddo ir iawn, na thrachwant dall ith dynnu ar gyfeiliorn. Ac wedi y cynefinech ychydig [Page 383] â daioni, er yr holl fŷd ni newidi mo'th ddiddanwch ysprydol am goeg hyfrydwch pechadurus.
Yn olaf o Gymru anwyl ystyriwch, ie ystyriwch yn dragywydd, yr haeddai Duw ein ufudd-dod sanctaidd ni. canys efe a'n gwnaeth, a'n prynodd, ac a'n cynnal ni. Mae ef yn Dâd da i ni, am hynny dyledus ini ymddwyn tuag atto ef fel y gweddai i blant tirion. Mae ef yn ddoeth i fedru gosod cyfreithiau buddiol ini, am hynny cymwys iddo ein rheoli ni. Mae'n Frenin o anfeidrol anrhydedd, ac a haeddai ein parch ni. Ac iddo ef y bo gogoniant byth. Amen.
PEN. 30. Athrawiaeth y Beirdd Cymreig yn yr oesoedd diweddaf.
MAl y cydnabyddom na lwyr ddiffoddwyd gwybodaeth Gristianogol yn Ghymru yn yr amseroedd y digwyddodd iddi drymion gystuddiau, eithr bod rhai athrawon a phrydyddion ynddi yn rhoddi defnydd llesol ar gynghanedd er adeiladaeth i eraill, gosodais yma ddarnau o hên gywyddau a rhai diweddarach, ac os darllenir hwy yn ddeallus ni byddant nac anhyfryd nac aflesol.
Ierwerth Fynglwyd ai Cant. ynghylch y flwyddyn 1460.
Howel Daf. ap Ievan ap Rhys ai cant. ynghylch y flwyddyn 1460.
Gryff. ap Jev. ap Lly. Fychan a'i cant ynghylch y flw. 1500.Darlleydd wrth y cywydd hwn, a darnau rhai Joan Cent a grynhoais i ynghŷd o'r blaen, y gelli ddeall fod ymbell un dyscedig yn Ghymru yn dwyn tystiolaeth i'r gwirionedd efangylol yn yr amseroedd tywyll. Cryblwyll escob Mynyw yn ei Epistol gydâ 'r Testament Newydd a breintwyd yn Gymraeg gyntaf, iddo ef ac yntef yn fachgen weled pum llyfr Moesen yn Gymraeg yn nhŷ ewythr iddo ydoedd ŵr dyscedig: ac yno ynghwrr y ddalen y mae hyn, cyffelip mai Gruff. ap Jevan ap Llu. Vachan y mae ef yn ei feddwl. Wrth yr hyn yr wyf yn dirnad fod y prydydd hwn yn enwog yn ei amser, a chanddo beth o'r yscrythr yn Gymraeg yn ei dŷ. Ac am Joan Cent yr ydoedd ef yn ŵr eglwysig yn sire Henffordd, etto ni thybiai yn beth gweddol i'r offeiriaid ymdrwssio cymaint, ac yfed gwin ar weddi, fal y mae 'r ddefod yn yr offeren. Argyoeddodd ef foneddigion, periglorion, monachod, a chyffredin o'u rhyfyg, a'u drwg fucheddau. a wnau eu gweddiau yn ddiffrwyth.
Tudr Aled ai Cant. 1500.
William Llun ai Cant. ynghylch y flw. 1560.
Sion Philip. 1580.
PEN. 31. Cryn swrn o iaith y patrieirc a'r prophwydi Sanctaidd yn y Gymraeg etto.
TYbia'r dyscedig mai'r Hebraeg ydoedd yr vnig dafodiaith ym mhlith dynion o ddechreuad y bŷd hyd y cymyscedd yn Babel; gan ddarfod i ieithoedd eraill fenthyccio ei geiriau hi mor aml, a bôd yr enwau arferol yn y cynfyd yn cyfatteb yn gysson iw arwyddoccâd yn yr iaith honno yn vnig. Galwyd y dŷn cyntaf Adam, am ei wneuthur ef o'r Adamah, sef y ddaiar: a galwvd y wraig cyntaf Chauah, am ei bôd yn fam pôb Chai, sef byw: a galwodd hitheu ei phlentyn cyntaf Cain, o herwydd eb hi Canithi cefais. Gen. 2.7. ac 3.20. ac 4.1. Ac mai'r iaith barchedig hon a lefarodd y dynion cyntaf cyn pechu, ac ym mha vn yr yscrifenwyd cymmaint o'r yserythyrau yw mam y Gymraeg, ac mai'r Chaldaeg yw ei chwaer gelli ddeall wrth a ganlyn. yn ddiau wrth ystudio arnynt mi a ryfeddais ac a lawenychais weled geiriau fy 'ngwlâd mewn ieithoedd dieithr ydoedd mor oedranus ac anrhydeddus. Geiriau Groeg, Ladin, a Saefneg a hurddwyd ir Gymraeg ar flaen cleddyf, neu a ollyngwyd i mewn gyd a chwt masnach a dysceidiaeth, tra yw cyfansodiad yr icithoedd hynny yn anhebygol iddi. Ond y mae'r Hebraeg yn ollawl vn brŷd a gwêdd â hi. y mae ei llythrennau hi yn naturiolach i'n iaith ni na 'r rhai yr ydym [Page 395] ni yn eu harfer y pryd hyn. Canys y mae ei llythrennau sengl hi yn adrodd yr unrhyw seiniau â'n rhai dwbl ni. Troellau ei ymadroddion sydd o'r un ddull â'n rhai ni gan alw y rhan o'r byd sydd tua haul hanner dydd y deheu, a dywedyd safn y cleddyf, a llaw 'r afon, mal y dywedwn ninnau mîn y naill, a cher llaw 'r llall. A chyssyllta 'r rhif unig wrth yr un lliosog, megis deugain nŷn, can-nyn. Yn y llechres a ganlyn y mae cryn rifedi o'r geiriau o'r un sain ac arwyddoccâd yn y ddwyiaith: ac lle mae pêth rhagoriaeth rhyngthynt gosodais arwyddoccâd priodol pob gair Hebraeg ar ei ol, ac yno 'r gair Cymraeg y sydd yn cyfatteb iddo, fel y dirnader y carennydd sydd rhyngthynt.
Geiriau Hebraeg, ac ymbell un Chaldaeg a arferir yn ein iaith ni.
- Heb.
- Cymr.
- [...]Obhidah
- dinistraf, Ofidiaf.
- Aebhen.
- faen.
- Aedenei.
- wadnei.
- Ahal.
- pabell. wâl.
- Ahalei.
- pebyll. wlâu.
- Os.
- y pryd hynny: oes.
- Odfoth.
- odfeydd.
- Auuath.
- awydd.
- Aulai
- wallei.
- Aul.
- all.
- Elisha.
- Elis.
- Maurth.
- Ffau. fy Marth.
- Auor,
- goleuni, awyr.
- heirah
- goleuodd, eira.
- aelei
- wiail.
- Chald. Chad
- cyd.
- [...]Achei
- brodyr, achau.
- Ochor
- ar ol, Ochor.
- aemah
- ofn, ammau.
- aen
- nid, an.
- Eithan
- garw, eithin.
- Chald. Ithai
- ydiw.
- anah
- tristâodd, wŷn.
- aniiah
- tristwch, wyniau.
- aleth
- melldith, alaeth.
- Chald. alah
- wyla.
- allun
- derwen, y llwyn.
- gullah
- llestr olew, gulla.
- Eil
- cynted, eil.
- Elil
- eulun, Ellill.
- aluph
- eidion, alaf, alph.
- Amath
- morwyn, maeth.
- Amam
- y mam.
- [...]Emun
- ffydd, emin.
- amoun
- maethydd, mwyn.
- Amen
- gwirionedd, Amen.
- Aemunath
- diysgogrwydd, ammynedd.
- Leamor
- gan ddywedyd, llafar.
- Anas
- annos.
- Anaph
- digio, anafu.
- Anac
- gwaeddodd, annog.
- Anaceth
- gwaedd, annogaeth.
- Anan
- pruddhâodd annwn.
- Ap
- wep.
- Chald. Apheth
- trysor, apheth.
- Aphang
- afangc.
- Araiouth
- llewod, eirth.
- Aarach
- eiriach.
- Aoren
- onnen wyllt, wern.
- esh
- tân, ûs.
- ishe
- yssu.
- Ereel
- cennad, eiriol.
- aaretz
- daiar, weryd.
- Itho
- gydafo, Iddo.
- Emaeth
- oddiwrtho, ymmaith.
- Atha
- daeth, aeth.
- Teathei
- daethei.
- Chald. Atun
- ffwrn, odyn.
- Chald. Athereh
- Adref.
- Bedal
- darn, bedol.
- Bedil
- alcam, pedill.
- [...]Bou
- daeth, bu.
- Tebhuo [...]h
- cnŵd, tyfodd.
- Buus
- sathrodd, bwys.
- Bhor
- pydew, yn fôr.
- Barach
- bendithiodd, barch
- Beten
- bol, boten.
- Bithau
- plasau, bythau.
- Chald. Boal
- calon, bol.
- Balu
- heneiddiasant, ballu.
- Bolac
- gwaccâodd, bwlch.
- Bahala
- Arglwyddes, Bala, tref.
- Bahat
- gwingodd, bwt.
- Chald. Bahar
- gwyllt, bâr.
- far
- melldigedig, ei fâr.
- Bigeth
- dychrynodd, bwgwth.
- Tabhenith
- adeilad, defnydd.
- Barah
- bwyttâodd, bara.
- Beri
- discleirdeb, brî.
- Barachu,
- ffoant, brawychu.
- Barac
- discleirdeb, barrug.
- BerouS
- coed, brŷs.
- Bashal
- berwi, biswel.
- Bashar
- cîg, brâs.
- Bitec
- brathodd, bitwg.
- Bahalouth
- dychryniadau, bloedd.
- Gaal
- prynodd, gael.
- Gobah
- uchder, goppa.
- Gebhul
- terfyn, gyfyl.
- Gibhen
- gefn.
- [...]Gabhenun
- gefnen.
- Gad
- gâd.
- Gedud
- giwdawd.
- Geadbar
- tryssorwr, gêd a bar.
- Gadar
- cau â mur, gader.
- Goder
- cae, goderei.
- Guach
- arwain mewn brwydr, gwŷch.
- gur
- gyrru.
- Gor
- ceneu, gor.
- Maguur
- Preswylfa, magwyr.
- Gosah
- paladr, goesau.
- Goale
- goleu.
- Gal
- twrr, gâl.
- Galuth
- y glud.
- Goalal
- treiglodd, glol.
- Gilaioun
- golwyn.
- Geharath
- cerydd.
- Gerem
- ascwrn, grym.
- Garash
- gyrrws.
- Oadhabh
- tristâodd, oddef.
- Chald. di
- hwn, dy.
- Doud
- ewythr, Dâd.
- Madhevei
- doluriau, Myddfai.
- Din
- barn, dinas.
- dum
- mud.
- Madhon
- ymdrech, myddyn.
- Chald. dachalin
- ofnog, diehlin.
- [...]Doroth
- cenhedlaethau, doreth.
- Dai
- digonol, da.
- Shadai
- yr Hollalluog, sy dda.
- dal
- uchder, tal.
- dalah
- dala.
- daliouth
- blagur, deiliodd.
- dalouth
- dlawd.
- domen
- domen.
- dush
- dyrnu, dŵys.
- denah
- hwnw, dyna.
- Chald. deran
- braich, dwrn.
- Chald. deaothberia
- cynghorwyr, doeth a barei.
- Huua
- ef, hwy.
- hafah
- y fu.
- hi
- hi.
- Mahalac
- llwybr, malc.
- hillel
- ammhwyllo, hyll.
- tahollu
- dyhyllu.
- Hilo
- llewyrchu, heulo.
- hamulath
- ymladd.
- hena
- yna.
- haphac
- gwneuthur hafog.
- Seh
- hynny, sef.
- suul
- gwael, yfwil.
- Sohar
- llewyrch, sêr.
- Saguuah
- symmudiad, segfa.
- Siu
- disclair, fyw.
- socen
- hên, soccyn.
- Aecheba
- cuddio, achuba.
- [...] Chebhel
- gofid, gofal.
- Chader
- ystafell, cader.
- Chadel
- gadel.
- Chul
- escorodd, cûl.
- Chol
- tywod, col.
- Chuush
- pryssurodd, chwŷs.
- Chalat
- torrodd ymmaith. clwt.
- Jechau
- bywhau, iachau.
- Cheic
- mynwes, cèg.
- Chalaf
- clâf.
- Chilel
- canu â phibau, clil,
- Cholel
- trywanu, cyllell.
- Chalon
- ffenestr, calon.
- Am ei bôd drwy dyllau yn cael awyr atti. felly cor yn ladin oddiwrth y gair Hebraeg chor,
- sy'n arwyddoccau twll.
- Achalas
- gwaredu, achles.
- Chamad
- chwennych, cymmod.
- Machaneh
- ymddiffynfeydd, machno, a mechain yn sire Drefaldwyn.
- Achon
- trugarhâf, echwyn.
- Charah
- digiodd, chwerw.
- Charoun
- dicllon, chwrnu,
- [...]charad
- crynodd, crŷd.
- cheres
- haul, crâs.
- Chorai
- tyllau, crai.
- Choresh
- prysglwyn, cors.
- Charuth
- cerfiodd, craith,
- Chasc
- tywyll, cwsc.
- chathath
- dychrynwyd, chwithodd.
- Toa bhn
- foddodd, dwfn.
- Tahour
- glân, dyheuro.
- chald Tuur,
- bryn, twrr.
- Jabhes
- wyfws.
- Jadhah addef,
- ac wyddai [Gr. oida]
- Lehoudhaha
- cyfarwyddo, llywyddhau.
- Nodah
- peri adnabod, nodi.
- dahath
- gwybodaeth, doeth.
- daian
- barnwr, dewin.
- Chald. manedha
- gwybodaeth, mennydd.
- Jafan
- clai, Jefan.
- Ochilah
- arhosaf, ochelaf.
- Jasah
- chwŷs, iâs.
- Jch
- eich.
- hochaleti
- disgwiliafi, ogludi.
- chemath
- dig, chwimwth.
- Jain
- win.
- valad
- heppil, wlâd.
- Toledhouth
- cenhedlaethau, tylwyth.
- Ieled
- plentyn, aelod.
- [...] Janah
- gorthrechu, wanhau.
- Jounec
- vn yn sugno, ieuangc.
- Jahadh
- wahadd.
- Hamohad
- ammod.
- Chald. Jenat,
- cynghorwr tywysog, ynad.
- Hounil
- ynnill.
- Jester
- meddylfryd, ystyr.
- Iare
- ofnus, wâr.
- Tifarea
- ofniff, edifara.
- Jarad
- descynnodd, i wared.
- Eredah
- descynnaf, rhedaf.
- Oureh
- glaw hydref, oeri.
- Jarash
- meddiannodd, aros, a thlodhâu, wariws.
- Morish
- etifeddodd, Moris.
- Hathorath
- athrawieth.
- Shena
- cŵsc, synn.
- Jathur
- rhagorol, aruthr.
- Cebhel
- gefyn, gefel.
- Cha
- chwi.
- Cabhodoth
- anrhydeddau, cyfoeth.
- Coach
- nerth, côch.
- Necon
- perffeithrwydd, sy nigon.
- [...] Tecunath
- parodrwydd, digonedd.
- cen
- can.
- cele
- attal i mewn, cêl.
- Micela
- cail, fy migail.
- caolah
- difrodi, colli.
- celei
- celfi.
- caolath
- colled.
- Tecelith
- perffeithrwydd tacledd.
- chald. cenema,
- ag hyn yma.
- cinor
- cinor.
- cesel
- cesel.
- cangas
- digofaint, cynghaws.
- capei
- traed, dwylo, ceibiau.
- Coapher
- Jawn, gobr.
- cephir
- ceneu llew, gafr.
- ceraha
- garau.
- Le
- at ac oddiwrth, llê.
- Helea
- blino, hela.
- Hamaleac
- cenad yn mynegi, amlwg.
- Hileuah
- rhoi benthig, elwa.
- Taleue
- rhoddi fenthig, dylu.
- Jlueith
- ychwanegiad, effydd.
- Lus
- cilio, llysu.
- Len
- Lletteua, Llenn.
- Loanu
- Lletteuant, Llonni.
- [...] Telunah
- dadwrdd, telyn.
- Luung
- Llwngc.
- Lahab
- cleddyf, lab.
- Lang
- gwatwar, Llangc.
- Lashadh
- gwlybaniaeth, lasedd.
- Leshac
- ystafell, yn llêsc.
- Meab
- o'r tâd, Moab, Mâb.
- Mah
- beth, mae.
- Moach
- mêr, yn y groeg
- Moichoi,
- godinebwyr, Môch.
- Mout
- summudiad, mûd, mudo.
- Mul
- gyferbyn, yn ymyl.
- Meth
- marw, methu.
- Temuthah
- lladdfa, dyfetha.
- Menica Chald.
- Cadwen, Mynci.
- Mush
- palfalodd, mŷs.
- Hamale
- llawn, aml.
- Macha
- trawodd, Macheu, dalfeydd i ymladd o honynt.
- Min
- o herwydd, er mwyn.
- Minnah
- ordeiniodd, mynnai.
- Mehin
- ymyscaroedd, mehin.
- Magal
- bradychu, magl.
- Macel
- ffon, magl.
- [...] Meria
- bràs, mèr.
- Mar
- Arglwydd, Maer.
- Marad
- gwrthryfel un yn erbyn ei Arglwydd, y mrâd.
- Mereduth
- gwrthryfel, Meredith.
- Naoaph
- godineb, Nwyf.
- Nabhi
- prophwyd, Nâf.
- Nubh
- ffrwytho, nôf.
- hibit
- edrychodd, wybod.
- Negedh
- yngwydd.
- Nafeh
- hyfryd, Nêf.
- Neuath
- trigfan, neuawdd.
- Manegid
- Mynegid.
- Nagash
- gofyn peth dyledus, neges.
- Naodhad
- diangodd, nodded.
- Nidah
- symmud, neidio.
- Nadu
- cwynant, nadu.
- Hanes
- arwydd, hanes.
- Nuu
- Nhw.
- Nucchu
- wedi eu taro, nychu.
- Hicchu
- tarawsant, hwchw.
- Nechell
- fy Nichell.
- Nahar
- Nâr.
- taphilu
- taflu.
- ijshal
- bwrw i lawr, isel.
- Sabach
- dyrys, swbach.
- Sadin
- Sidan, yn Roeg sindon, Saes. Satin.
- [...] Sollah
- gwrthglawdd, Sylleu.
- Sanuer
- tywylliad y synhwyrau.
- Sangadh
- cynnal, sangodd.
- Isagare
- cipio fel â themestl, wascaru.
- Chald. Sapon
- Sebon, yn Roeg Sepon.
- Sarch
- anllad, Serch.
- Sarenei
- byrddau, sarneu.
- Sorer
- gwrthwynebus, sorrwr.
- Saris
- y swyddog, siars.
- Chald. Sethar
- bwrw i lawr, sathru.
- Habhadh
- gwasnaethodd, ufudd.
- Heber
- rhyd, aber.
- Had
- hyd.
- Godedh
- gododd.
- Hadinah
- un drythyll, hoeden.
- Gadhan
- trwssio, gweddhâu.
- gedh
- wyneb, a thrwsiad,— gwêdd.
- Chald. Gadah
- myned heibio, gado.
- Hedh
- tystiolaeth, hêdd.
- Guug
- yn gŵg.
- Gabhoth
- cymmylau tewion, gafod.
- Niwed
- yspeilio, niwed.
- [...] Gauetha
- gwneuthur yn ddrwg, gwaethaf.
- Huurah
- deffro, hwre.
- Giuaron
- dallineb, gwirion.
- Guth
- gwth.
- Gasar
- cynnorthwyodd, gysur.
- Gaianoth
- ffynhonnau, gweunydd.
- Golath
- poeth offrwm, golwyth.
- Galiath
- ystafell wely, glŵth.
- Mohal
- uchder, Moel.
- Golel
- gwnaeth, gallel.
- Galas
- llawen, glwys.
- Galilouth
- gweithredoedd, galluoedd.
- Houl
- iau, hŵyl.
- Gamadh
- safodd, gammodd.
- Gummouth
- ar gyfer, cwmmwd.
- Engeneh
- atteb, yngenu.
- Ganoth
- ganodd.
- Ganaiin
- gweinion.
- Ganan
- cwmwl, gaenen.
- Chald. Heneth
- amser, henaidd.
- Hopher
- hyfer.
- Hasem
- ascwrn, Assen.
- Harab
- hyfryd, arab.
- Garag
- lleisio fel húdd, grûg.
- [...] Haroudh
- Assyn wŷllt, hŵrdd.
- Gareuath
- gwarth.
- Hereleth
- blaen groen y rhannau dirgel, herlod.
- Goroth
- crwyn, grôth.
- Haraphel
- tywyllwch, oerfel.
- Hasha
- gwnaeth, wâs.
- Mahashe
- gwaith, Maes.
- Gashc
- gorthrymmu, gwascu.
- Phadhah
- prynodd, feddai.
- Tiphedheh
- pryni, etifeddu.
- Taphug
- diffyg.
- Pach
- magl, bâch.
- Phuc
- ffûg.
- hephir
- ofer.
- Poth
- bôth.
- Pathehen
- dirgel gwraig, putten.
- Phatish
- morthwyl, ffatiws.
- Philegesh
- gordderch, ffiloges.
- Phelech
- ffellech.
- Phinnah
- ffynnu.
- Penei
- wynebau, pennau.
- Pinouth
- Pennaeth.
- Chald. Phinnec
- Maeth foethus, Pinge.
- Pasach
- seinio, pasychu.
- Parad
- neilltuodd, pared.
- [...] Paredes
- Paradwys, yn Roeg Paradeisos, lad. Paradisus, Saef. Paradise.
- Pherch
- cangen dyner, ferch.
- Phreescen
- llûn, brisgyn.
- Hapharoth
- heffrod.
- Phoroth
- ffrwyth.
- Phereg
- brég.
- Phathah
- ffyddio, yn roeg peitho, lad fido, Saes. ffaith.
- Path
- peth.
- Eseban
- bŷs, hesben.
- Sadhac
- cyfiawn, swyddog.
- Mastour
- gwarchae dinas, Mwstwr.
- Stelan
- ystyllen.
- Soreg
- angen, sarrug.
- Coban
- helm, caban.
- Cofah
- disgwil, Cofio.
- Ticuath
- disgwiliad, digwydd.
- Cau
- llinin mesur, gwau.
- Chald. Cauuin
- gŵe, Cewin.
- Counenuu
- Cwynan nhw.
- Caton
- bychan, Cwtyn.
- Cilia
- crâs, cyliau.
- Calach
- crochan, clôch.
- Calal
- gwael.
- Celelath
- rhêg, celwydd.
- Celan
- faethydd, gelyn.
- [...] Calenei
- llenni, gleinieu.
- Canah
- meddu, cennif.
- Caraa
- galw, creu.
- Ceri
- darllenwyd, cri.
- Coreh
- yn darllen, Côr.
- Cerebhath
- nessâd, o gerfydd.
- Cir
- dinas, caer.
- Cireiath
- dinas, ceurydd.
- Carouth
- cwpl trawstiau, crŵth.
- Ceren
- cern, bryn, gyrn.
- Carenei
- Carneu.
- Cores
- croes.
- Cashas
- Ceisiws.
- Reith
- golugiad, rhîth.
- Hereah
- dangos, herio.
- Reavoth
- gwelediad, Rhyfedd.
- Roash
- gwenwyn, wrês.
- Resh
- swmm, rhês.
- Mareh
- golugiad, y frê, frŷ.
- Reua
- ffurf, rhyw.
- Merishon
- o'r cyntaf, ymrysson.
- Ribo myrdd,
- rhifo.
- Ragan
- grwgnach, rhegain.
- Ragah
- rhwygo.
- Rhadhah
- Arglwyddiaethu, râdd.
- Jeradh
- rhoi Arglwyddiaeth, urdd.
- [...] Radah
- derbyn, rhâd.
- Chald. Rehat
- rhèd.
- Marudh
- galar, prudd.
- Rehatei
- cafnau dwfr, neu gwtterydd, Rhaiadeu.
- Rhauethah
- llenwir, rhythu.
- Mareueh
- dyfrhau, ymrewydd.
- Terumah
- uchder, trymm.
- Terag
- drwg.
- Raos
- rhedegwr, Rhŷs, Saes. rash.
- Merous
- rhedfa, fy mrŷs.
- Ring
- udcanu, rhingc, Saes. ring.
- Rechubhin
- cerbydau, erchwyn.
- Tireneh
- dadseinio, taraneu.
- Chald. Rang
- tan, rhwng.
- Rahab
- Newyn, rheibio.
- Ranadh
- crynodd, thynnodd.
- Tireneh
- porthi, trin.
- Rean
- carwr, reen.
- Marean
- cyfaill, ymrain.
- Ragas
- rhwygws.
- Teraphah
- llaefu, tyrfu.
- Raphec
- ymgymdeithasu, rhyfug.
- Taorus
- torws.
- Jarecid
- peri neidio, ergyd.
- Rasah
- ewyllys da, râs.
- [...] Shaon
- Sôn.
- Sheor
- Sûr.
- Shagag
- cyfeiliorni, ysgog.
- Shiabesin
- trwsiadau gwragedd, Siabys.
- Sabhan
- digoni, safn.
- Shaobar
- darparu lluniaeth. syber.
- Sabhath
- gorphwysodd, safodd.
- Sabath
- gorphwystra, Saboth, y dydd y Safodd.
- Segauon
- ammhwyll, ysgoefon.
- Ashdad
- difrododd, ysdod.
- Suuach
- tueddu i lawr, sŵch.
- Suuan
- sŵn, sowen.
- Meshauuean
- ymsowen.
- Shouang
- anrhydeddus, siongc.
- Shir
- cân, sirio.
- Sur
- tywysog, Syr.
- Mesura
- mesur.
- Chald. Sechan
- brŵd, fychin.
- Satan
- gelyn, Satan, yr hwn a henwir felly yn Roeg, lad. ac yn Saesoneg.
- Eshcol
- grawn swp, yscall.
- [...]aeluuath
- heddwch, Sylwedd.
- [...] Shileton
- Arglwyddiaeth, Silatyn, henw plwyf.
- Samat
- symud.
- Shaomam
- anrheithio, siom.
- Semen
- saim.
- Saonah
- synio, yn y groeg sunnoia.
- Shagal
- dyrnfedd, Scâl.
- Tisagen,
- pwyso ar ogwydd, discin.
- Saophel
- gostwng, sofl, syfl.
- Sepharephara
- ys foreforeu.
- Shacal
- pwysodd, yscol.
- Sacar
- twyllodrus, segur.
- Saorid
- gweddill. Sorod.
- Saorat
- torri. Sorod.
- Saraph
- sarph.
- Saotha
- yfed, soddi.
- Sac
- Sach, yn y groeg saccos, lad. saccus, Saes. sack.
- Tao
- cell, ty.
- Taei
- celloedd, tai.
- Tauath
- diwedd.
- Chald. Teuah
- synnu, tewi.
- Thau
- y llythyren olaf yn yr Hebraeg, taw.
- Taaru
- terfynant, darfu.
- Chald. Hathibuna
- Atteban.
- Chald. Tourin
- teirw, terwyn.
- [...] Tocen
- mesur, dogan.
- Chald. Tamah
- yna, dyma.
- Tam
- darfu, dim.
- Titam
- diddim.
- Chald. Tiphethaia
- dihenyddwyr, difetha.
- Thithi
- rhôdd i mi, teithi.
- [...] Tiresah
- coed auffrwythlon, dyrus.
- Taren
- hwylbren, derwen.
- Chald. Teran
- drŵs, tarian.
- Teiman
- tua haul hanner dydd, twymyn.
CAnlyn bagad o ymadroddion Hebraeg a ellir eu deall yn Ghymru, wedi imi eu tynnu gan mwyaf allan o'r Bibl Hebraeg, lle mae 'n aml ychwaneg o'u mâth. Ac wrthynt y gelli siccrhau dy ffydd ynghylch gwirionedd yr yscrythyrau am rai o'r pethau hynaf yn y creadigaeth, sef mal y bu 'r bŷd ar y cyntaf o'r un dasodiaith, tadogaeth, a thylwyth. Canys oni bae ddyfod ein cenedl ni oddiwrth barthau 'r dwyrain lle 'r heppiliodd Adda yn y dechreuad, a thylwyth Noah wedi 'r dilyw, ni buasai gymmaint o iaith y cynfyd yn ein mysc ni y prŷd hyn, a ni wedi ein neilltuo gan y môr oddiwrth y than fwyaf o'r bŷd gyhyd o amser, a chwedi pallu mewn dysceidiaeth wrth dôst ryfeloedd gynt. Ac mal y deallech yr ymadroddion Hebraeg y sydd yn yr ail colofn o'r dalennau yn hawsach, myfi a osodais eu cyfieithad sathredig yn Gymraeg o'u blaen hwynt yn y golofn gyntaf, a'r ymadroddion Cymreig a gydseiniant â hwynt ar eu hoi hwy yn y drydydd.
Ymadroddion Hebraeg Cymreigaidd.
Y Cyfieithad cyffredin.
BRyssia i'm cynnorthwyo. Psal. 22.20.
Dwyn y beichiau gwenith. Amos. 5.11.
Yna y synnodd ar Nebuchodonosor. Dan. 3.24.
Cyfododd ar frŷs.
Attebodd ei gynghoriaid.
VVedi caethgludo. Jer. 24.1.
Pob gwendid, a chlefydau a adwaenost. Deut. 7.15.
Titheu Ezra gosod farnwyri farnu. Ezra. 7.25.
Pa le hynnac y preswylia. Dan. 2.38.
Cyfod alarnad. Ezec. 32.2.
Bu fraw yn y gwersyll. 1 Sam 14.15.
Aethant yn dail. Psal. 83.10.
Dy gyflawnder a'th ddagrau. Exod. 22 29.
Fy llygaid a ollyngant ddagrau. Jer. 13 17.
Y mae Duw yn datcuddio a fynegodd beth a fydd yn ddiweddaf. hyn yma. Dan. 2.28.
Ei lafur yn ofid. Preg. 2.23.
Tywynna goleuni. Job. 41.18.
Ei glod. Dihar. 27.21.
Pob un a gynnorthwyodd ei gymmydog. Esai. 41.6.
Camrau ei gryfdwr ef. Job. 18.7.
Soddwyd ei sylfeini hi. Job. 38.6.
Digofaint ei wyneb ef, ei lid fel tân. Nah. 1.6.
Diystyrant hi, ei gwarth hi. Galarnad Jer. 1.8.
Gofidiodd yr Arglwydd. Adn. 12.
Cuddiais brophwydi. 1 Brenh. 18.13.
Goleuni a dywylla yn ei luestŷ ef. Job. 18.6.
Braw ai brawycha. Adn. 11.
Dinistr sydd barod. Adn. 13.
Efe am blinodd i. Job. 16.7.
Ceren happuch. Job. 42.14.
Glanhâ fi oddiwrth fy mhechod. Psal. 51.2.
Mewn ing y gwaredaf cf. Psal. 91.15.
Dinasoedd gosodedig. Josh. 20.9.
Nes iddo sefyll o flaen.
Ei changhennau a dorrwyd. Jer. 11.16.
Gyrrwyd allan o wydd Pharao. Exod. 10.11.
Dywedyd, paid gwasanaethwn. Exod. 14.12.
O herwydd vchenaid. Psal. 12.5.
Yn disgwil wrthiti. Psal, 25.3.
Fy ngwisc o sachlen. Psal. 35.13.
Ni ddiscyn ei ogoniant ar ei ôl ef. Psal. 49.17.
A waeddo, y truan, a'r hwn ni byddo cynnorthwywr iddo. Ps. 72.12.
Gwr annoeth ni ŵyr Psal. 92.6.
Deued fy ngweddi ger dy fron. Psal. 119.170.
Gwrando ar fy neisyfiadau i, yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder. Psal. 143.1.
Pob vn a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun. Deut. 24.16.
Efe a fenthygia i ti, a thi ni fenthygi iddo ef. Deut. 28.44.
Mewn newyn efe a'th wared. Job. 5.20.
Dymchwelodd i. Job. 19.6.
Ond yr hwn am gwnaeth i yn y grôth, a'i gwnaeth yntef. Job. 31.15.
Descynnant i gelloedd y bol. Dihar. 18.8.
Y ddaiar yn discleirio o'i ogoniant ef. Ezec. 43.2.
Cododd fi, dug fi. wele, llanwasei gogoniant yr Arglwydd y tŷ. Adn. 5.
A'r ffwrn yn boeth ragorawl. Dan. 3.22.
Ger fy mron megis rhith. Dan. 8.15.
Dercha lewyrch dy wyneb. Psal. 4.6.
Ascwrn o'm hescyrn i, a chnawd o'm cnawd i. Gen. 2.23.
Fy ewyllis. Hosh. 10.10.
Ddyfod ti i'm cyfarfod. 1 Sam. 25.34.
Ei gwmwl goleu. Job. 37.12.
A ddescynnant ir pwll. Psal. 88.4.
Prennau cyfiawnder. Jes. 61.3.
Holl felldithion cyfammod y gyfraith. Deut. 29.21.
Delwau hi. Jes. 10.11.
Ei wasanaethwr neu ei wasanaeth ferch. Exod. 21.20.
Pa hyd. Psal. 13.2.
I ba le yr ai di? Barn. 19.17.
Neb yn cymhell. Est. 1.8.
Ynfydrwydd a dallineb. Deut. 28.28.
O herwydd llŵon gofidiodd, sychodd tirion leoedd. Jer. 23.10.
Truan ac ar drancedigaeth. Psal. 88.15.
Wele fi yn sylfaenu maen yn Sion, maen profedig, gwerthfawr. Es. 28.16.
Cryna ceidwaid y tŷ. Preg. 12.3.
Llanwant dy dai di a thai dy holl weision. Exod. 10.6.
Wylant a galarant. Ezec. 27.31, 32.
Pan ffoesei efe o wydd ei frawd, marw a wnaeth Debora mammaeth Rebecca. Gen. 35.7, 8.
Gwr llidiog. Dihar. 22.24.
Gan ddywedyd ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch? Gen. 18.12.
Hên ei phutteindra. Ezec. 23.43.
Na chaffed fyw ger bron ein brodyr. Gen. 31.32.
Y terfyn i Baalah, honno yw ciriath Jearim. Jos. 15.9.
Ynfyd yw pôb dŷn yn ei wybodaeth. Jer. 10.14.
Job a attebodd o gan bwyso na phwysid fy ngofid. Joh. 6.1.
Dychrynfau a ymfyddinasant i'm herbyn. Job. 6.4.
Pryderaf o herwydd fy mhechod. Psal 38.18.
Y maent yn aros ar fy nghyfer i. Num. 22.5.
Ond odid mi allwn ei daro ef, a'i gyrru hwynt. Num. 22.6.
Y mae gwyr o Iddewon a osodaist di ar orchwyliaeth talaeth Babel. Dan. 3.12.
Ceisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Dan. 7.16.
Dy ofn yr wyf yn petruso. Psal. 88.16.
Wrth ei gerydd ef. Job 26.11.
Wele mi a yrraf allan. Exod. 34.11.
Yna y nessaodd at ddrws y ffwrn. Dan. 3.26.
Fy synwyr, fy harddwch, fy hoywder. Dan. 4.33.
A'm tywysogion a'm ceisiasant.
Dinas wrthryfelgar i daleithiau. Esr. 4.15.
Myfi yw Duw Hollalluog. Gen. 17.1.
Bydd i ogoniant Jacob feinhau. Jes. 17.4.
Llecha. Es. 26.20.
Nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth. Levit. 12.4.
Pan glafychasei a byw o honaw o'i glefyd. Es. 38.9.
Y byw, y byw, efe a'th fawl di, Es. 38.19.
Yr Arglwydda'th fendithio trigfa cyfiawnder. Jer. 31.23.
Fel dinistr Sodoma a Gomorra, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigofaint. Deut. 29.23.
Dy feirw a fyddant byw. Es. 26.19.
Dos ith stafelloedd. Es. 26.20.
Efe sydd yn datcuddio, efe a wyr beth sydd yn y tywyllwch. Dan. 2.22.
Y mae Duw a ddatcuddia. Dan. 2.28.
Ei ddiscleirdeb yn rhagorol yn sefyll gyserbyn â thi, a'r olwg.
Rhag iddo ddigio a'ch difetha chwi. Psal. 2.12.
Tramgwydd o flaen y dall. Lev. 19.14.
Pan wnai iw oleuni lewyrchu, wrth oleuni yr hwn. Job 29.3.
Eben Ezer, hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd nyni. 1 Sam. 7.12.
Na dderbyn wyneb y tlawd. Lev. 19.15.
Tydi a wyddost y gair o'm plegyd i ac oth blegit titheu. Jos. 14.6.
Ni thyccia tryssorau drygioni, ond cyfiawnder a wared rhag marwolaeth. Dihar. 10.2.
Disgwiliasom am oleuni ac wele dywyllwch. Esay. 59.9.
J edrych a fydd estynniad ar dy heddwch.
Wele genew llew yn ei gyfarfod ef. Barn. 14.5.
Bryn ffrwythlon. Es. 5.1.
Cilied y bwyst fil. Dan. 4.14.
Gan ddywedyd cyfammod sydd rhyngofi a thi. 2 Cron. 16.2.3.
Torr dy gyfammod.
Dy boeth offrymmau gerfy mron i. Psal. 50.8.
Olud ac anrhydedd helaeth. 2 Cron. 17.5.
Trefnwyd gwasanaeth tŷ. 2 Cron. 29.35.
Carnedd y dystiolaeth. Gen. 31.47
Ymae tyrfa- yn dyfod Gen. 30.11.
Pa lês a wna. Hab. 2.18.
Trwst y gorfoleddwyr Esay 24.8.
O'r plant heb iau.
Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist? Psal. 22.2.
Ein Arglwydd sy 'n dyfod. 1 Cor. 16.22.
Yr ievainc i henaint.
Di-Dduw.
Hil Gog.
Twrr ar werth.
Gwae hwy a darawsant.
Bryn derchafiad golwg.
Mâb discleirdeb,
Mur y cyngor.
Ymdrech gref.
Dyn.
Toddiad.
Mewn golugiad.
J'r dieithraid.
Megis bythau.
Jr bugeiliaid.
Bwrw llyfr cyfri.
Fel sofl.
Mae 'n chwareus.
Eiddigedd y meddiant.
Nyth o wîn.
Mewn golwg.
Nid golugus.
Tyb y pen.
Mewn ofn.
Gwr tyner.
Meddwl gweddol
Gruddfan Clommen.
Gwasc-rwym yw.
Gwrth glawdd rhag gelyn.
Mewn nerth.
Chwant lleithdra.
Melldithiodd yn yscafn.
Digorph.
Tarth gwlyb y corph.
Ciliodd y brasder.
Edrychodd i ddoethineb.
Gwybodaeth prophwyd.
Cadwen o ddyddiau.
Nerth ascell
Nerth llew.
Gwden i ostwng.
Luniaist ni.
Cenhedlaeth o gyfeillion.
Brawd o gyd-seddwl.
Llinynniau mesur.
Yna y tywysogion, y trysorwyr, y cysreithwyr, trethwyr y taleithiau, a ymgasclasant.
Yr Ymadroddion Hebraeg.
[...]
LEgeserithi chuusah.
[...]
Maseath bar ticechu.
Aedain Nebuchadnesar teuah.
Cam behithebehalah.
Engen hadabherou hi.
Acharei hagelouth.
Chol choli, chol madhefei iadheheta.
Ante gesera meni daianin idh daenin.
Be col idh daerin.
Sha cinah.
Ethi charadah machaneh.
Haiu domen.
Emleathcha dimena cha.
[...]
Thered gen i dimenah.
Ithai Aelah gaoleh houdhah mah idh hefea beacharith denah huua.
Cahas ingeniaonfo.
Tahel auor.
Mahalal fo.
Ais reen huu iagesoruu.
Sangadei aoun fo.
Adaneiha hatebanu.
Charoun ap fo Chamath fo ac esh.
Hisiluu hi, geruathah.
Hougah Jehofah.
[...]
Achebia nebhaei.
Auor choasec be oahol fo.
Bigathuhuu balahouth.
Aeid nicoun.
Heleani.
Ceren, hapuc.
Mechatathi tahareni.
Besarah, achelesehuu.
Garei hammuhadah.
Had gammedhfo liphenei.
Raogu daliiouthaiu.
Jegaresh meaeth penei Parhoh.
[...]
Leamor, chadal nahabhedhah.
Emaenecath.
Cofei cha.
Lebhuusi sac.
Loa iered achara if cebhoudhfo.
Emsauuean, angini, aen goser le fo.
Ais bahar lao iedhah.
Tabhoua techinathi lepanei cha.
Haasinah tachanunai beemunathecha besadhecathecha.
Ais becheteafo iumathu.
[...]
Huua ialeuecha, atah la taleuenuu.
Be rahab phadhecha.
Giuuethani.
Ha lao babeten gnoesh ni gnaesh huu.
Jaredu chaderei baoten.
Haaretz heirah mi ceboduo.
Tishaeni tebhieni.
hinneh malea cebod Jehofah habaith.
Atunah asch iaithirah.
Lenegeddi cemareh.
[...]
Nesah auor paneicha.
Hasem em hasemai u basar im besari.
Auuathi.
Tebhoti licerathi.
Gaenen ourvo.
Ivoredei bhor.
Aeiel hasedhec.
Choal alouth haberith hathorah.
Elileiha.
Habhedhvo aou amathvo.
Had anah.
Ana thelech.
[...]
Aen aones.
Ifgoahvon u giwaron.
Ampenei alah obhelah iabhesuu neavoth.
Angini eu gouan.
Hineni iisad be Sion aebhen aebhen bochan iicerath.
Iaosugu semerei habaith.
Amelau bathecha u bathei chol habhedhecha.
Bachu counenuu.
Beborechvo impenei achiu: tamath Deborah em ienceth Ribecah.
[...]
Ais chemouth.
Leamor acharei belothi hedenah.
Balah niuphim.
Loa iicheieh negedd acheinu.
Hagebhul Bahala hi ciriath Ieharim.
Nibhehar chol Adam im dahath.
Iangan Jiob ascol iascel cangesi.
Biguthei iangarchuni.
Aedheoag mechattathi.
[...]
Hua ioshebh im ummyli.
Auulai aucal naccheh bho au agareshenuu.
Ithai gebherin Jehudhaion idd mannitha iathehoun al habhidhath medhinath Babel.
Aebhenea chol denah.
Aemeicha aophunah.
Migaharathvo.
Hineni goresh.
Be adain cerebh li thera atun.
Maneddeni hadhari siui.
Hadabherai iebhanoun.
[...]
Cireia [...] marada medhinan.
Ani ael Saddai.
Iidhel cebhoudh Jahacob.
Achebi.
Tabhoa had emleth taharah.
Ba chalothvo au iechi em choleivo.
Chai chai huua ioudhecha.
Jebarechecha Jehovah neveh sedhec.
Ee amhepheceth Sedom au Gamorah asher haphac Jehovah be apvo u chamath vo.
[...]
Iicheu metheicha.
Elech chadereicha.
Huua golea iadhah mah bachasouca.
Ithai aelah gaoleh.
Siueh iathir, caem le cabhelache, eu reueh. Dan. 2.31.
Pen jeenaph thobhedhu.
Liphenei giuer miscl.
Be hilo leavorvo.
Aebhen hageser had henah gaserenw Jehovah.
[...]
Loa tiasa penei edhal.
Atah iadhaheat odvothai eu odvotheicha.
Loa iounilu ousterouth resan, u sedhacah atstil im amveth.
Encaueh laavor hinneh chosec.
Hen arecha selevethache. Dan. 4.
Hinneh cephir oarioth licearthvo.
Ceren semen.
Tenud chevetha.
Leamor berith bheiniu bheinecha.
[...]
Hoapher berithecha.
Golothecha le engeddi.
Gosher eu cabhoudh larobh.
Ticon habhoudhath beith.
Galehedh.
Bagad.
Mah hounil.
Seoun galisim.
Mibenei beliiahal.
Aeli, Aeli, lamah gasbetani.
Maran atha.
Gor sicenath.
Aen adon.
Valad Gog.
[...]
Mecher ned.
Hoi hicchu.
Ceren Mohal mreh.
Beri nin.
Gader idaros.
Ribh el.
Adam.
Temes.
Cammareah.
Lager.
Cesuccoth.
Laroni.
Sepher dan.
Ce cash.
Jesh celes.
Cinne Micenah.
Cen iain.
Ba-reith.
Aen Mareouth.
Rosh Samam.
Ba rahah.
Gebher rach.
Rin iaathah.
Tour aniiah.
Chagour ies.
Gere sollah.
Ba abir.
Ifah ed.
[...]
At arar.
Aen geu.
Geu aed.
Lus meria.
Hibit dahath.
Dahath Nabi.
Om Sheir.
Canaph son.
Ariael.
Laphath iether.
Saretini.
Chaberei dor.
Gim rin ach.
Cauoth.
Be adaijn mithecaneshin achasdarepeniaa, gedaberiaa, dethaberiaa, tiphethaiea medhinathaa. Dan. 3.3.
Cymreig cydseiniol â hwynt.
LLe cyssurit fi chwsa.
Maseydd bur y ddygech chwi.
VVedi hyn Nebuchadnesar a daweu.
Cammai bu ddyfalaf.
Yngan y dewrhwy.
Ochoreu y glud.
Holl glwyf, holl myddfau a wydditi.
Ynte gysura mynni dewin ydd dewinian.
Cwbl ydd darin.
Saf cwyna.
Ydiw cryd Machne.
Yw domen.
Amledd chwi, defni chwi.
Dyred fy ngen i ddafneu.
Ydiw Allu goleu a wyddau mae ydd a fau ba ochorith. dyna hwy.
Câs ei angenion fo.
Dyheula awyr.
Mawl fo.
âs ei reen hwy a gysurau.
Sangiadau ei wŷn fo.
Wadnau hi a ddyfnhaeu.
Chwerwyn eiwep fo, Chwimwthfo ac ŷs.
Yswiliau hi, gwarth hi.
ŵg Jehofah.
Achubai nafiau.
Awyr cwsc bae wely fo.
Bwgythia hwy bloedd.
Waed yn ddigon.
Hela ni.
Cern y ffûg, o herwydd ei glendid, tebyg.
O mhechodaeth i dyheura ni.
Besarnâd achlefa hwy.
Gaecreu ammodeu.
Hyd gammoddfo o flaeneu.
Rhwygau ei deilydd ef.
Eu gyrrwys ymaeth o beneu Pharao.
Llafar, gadel ni ufuddhau.
Am annogaeth.
Cofio chwi.
Llewisi o fâch.
Llai ei rhed ochoreu ef cyfoeth fo.
Ymsowen, angheni, anghysur lle fo.
âs bâr llai wyddai.
Dyfua tuchanaeth i lle peneu chwi.
A synia tuchanau ni, be ammynedd chwi, be swyddogaeth chwi.
âs am ei bechod fo y fetha.
Hwy elwa chwi, ti lai dyleu inhw.
Be rhaib ef a faddeu i chwi.
Gwthieu ni.
Ai llai beboten gwnaes i, gwnaes hwy.
I wared i gadeiriau y boten.
Y weryd eira am cyfoeth fo.
Tywysai ni, dyfy ni.
Yna amlhae cyfoeth Jehofa y bwth.
Odun ysai yn aruthr.
Lle'ngwyddi ac y fre.
Nesa awyr peneu chwi.
Asen om hasennau i, a brâs om brâs i.
Awydd i.
Ddyfot ti lle cerdda i.
Gaenen oer fo.
I wared i fôr.
Wiail y swyddoc.
Holl alaethau y brut athro.
Ellylleu hi.
Ufydd fo, ai famaethfo.
Hyd yna.
Yna delech.
An annos.
Ysgoefon a gwirion.
Am benei ei lw ofala, wyfws nefoedd.
Angheni, a gôwan.
Yna ni i osod be Sion faen bychan, ai gwerth.
Osgou swmmerau y bwth.
Amelhau bytheu chwi, a bythau holl a ufyddau i chwi.
Bachu, cwyna nhw.
Be broch fo am beneu ach ef, dyfeth Deborah mam janceth (jenctid) Ribecah.
âs chwimwth.
Llafareu, ochoreu ballodd i hoedena?
Balla nwyf
Llai iachau yngwydd achau ni.
Ynghyfyl y Bala, hi ceurydd searim.
Yn fâr holl ydom am ddoeth.
Yngan Iob, yscol i yscoli cynghaws i.
Bwgythieu i'n gwarchae ni.
Eiddigaf mhechodaeth i.
Hwy a saif im ymmyl i.
Wallai y gall nychu fo, au gyrws nhw.
Ydiw gwerin Juddewon, ydd y mynniti iddyn ar ufyddaeth meddianoedd Babel.
Ofynna holl dyna.
Ammeu chwi ofnaf.
Am gerydd fo.
Yna ni gyres.
Bu wedi hyn cyfer le ddor odyn.
Mennydd i, hardd i, fyw i.
Y dewr rai i ofynen.
Caerei frada fyddinan.
Yni all sy dda.
Eiddil cyfoeth Jacob.
Achubi.
Dyfu hyd amledd dyheuro hi.
Bu clafeddfo, au iachau ou glwyfo.
Jach iach hwy addef chwi.
Jehofah barcha chwi nef swyddoc.
Ag ymhafogeth Sodom, a Gomorah, ys yr hafogodd Jehosah, be wepfo, a chwimwthfo.
Jachau mêth chwi.
Elech i chadeiriau chwi.
Hwy goleua wyddai mae ba cwscu.
Ydiw allu goleu.
Syw ef aruth, cameu lle cyfyl chwi, au ryw ef.
Pan ei anafo, dyfethu.
Flaeneu gŵyr mascl.
Be heulo, leuferfo.
Faen y gysur, hyd hynny Jehovah gysureu nhw.
Llai dewisi beneu eiddil.
Ti wyddit odfeydd i, au odfeydd chwi.
Lai ynnillau ystoroedd resyn, a swyddocca attil om ymfeth.
Yn cofio lleufer, yna cwsc.
Hyn eiriecha sylwedd chwi.
Yna gafr eirth lle cerdd fo.
Gyr [...] saim.
Tyned a chwtha.
Llafar, brit fewn i a fewn chwi.
Ofera brit chwi.
Golwytheu chwi lle yngwydd i.
Gysur a cyfoeth lawer.
Digon ufyddaeth bwth.
Gâl hêdd.
Bagad.
Mae ynnill.
Swn glwysion.
Meibion ball ei hwyl.
All i, All i, llymah gosbiti ni.
Maer in a ddaw.
Goresgennydd.
Anudon.
Wlad Gog, Gogledd.
Marchnad.
Hai hwchw.
Cyrn moel fre.
Henw mynydd.
Brenin.
Gader Idris.
Rhyfel.
Ydom.
Temes. sef trai.
Cymru.
Lloegr.
Cyscod.
Llorain.
Syfrdan.
Cecces.
Esceulus.
Cenfigen.
Gwenin.
Brith. saes. bright
Anferth.
Rheswm.
Brawhau.
Gwrâch.
Rhinweddau.
Trueni.
Gwregys.
Gwersyllau.
Bubyr.
Yfed.
Watwar.
Angeu.
Gwaed.
Llysmer.
VVybodaeth.
Doethineb.
Amser.
Cynffon.
Arial. Esai. 29.1.
Llyffether.
Saer wyt i ni.
Cyfyrdyr.
Gyfrinach.
Cowydd.
Bu wedi hyn ymddygynwysen achos-derbyniau, y ged-barau, y doeth barau, y ddifethau fyddinoedd.
Y mae cryn gyssondeb hefyd rhwng yr Juddewon a'n cenedl ni mewn cerdd. Clywais hwynt yn eu synagog yn canu'r Psalmau Hebraeg ar y cyfryw dônau i'm tŷb i [Page 421] ac sydd arserol yn ein gwlâd ni ar ddyddiau 'r Natalig, a chalan Mai.
O digwydd i ieithydd ddarllen hyn, gwybydded i mi yscrifennu 'r llythyren Hebraeg Haijn ag amryw lythrennau, sef n, g, h, megis y dirnedais ir 70 cyfieithwyr ei chyfatteb hi yn y Groeg: a gall gael peth yspysrwydd ychwaneg yn y papyryn ladin a yscrifennais i ynghylch y perwyl hwn.
Ymae Bagad hefyd o eiriau Groegaidd yn ein iaith ni: megis efengyl oddiwrth evangelion, Angel oddiwrth Angelos; Gwrando oddiwrth ecroônto, clyw oddiwrth cluo, arian oddiwrth argurion, nyddu oddiwrth netho, erchi oddiwrth archo, byw oddiwrth biou, pêl oddiwrth belos, argraphu oddiwrth grapho, dêg oddiwrth deca, dagrau oddiwrth dacrua, eiriau oddiwrth eiro, eb oddiwrth epo, perchen oddiwrth parechon, eiddon oddiwrth idion, traws oddiwrth thrasus, cŵn oddiwrth cunoi, llygaid oddiwrth logades, mwydo oddiwrth mudao, pwio oddiwrth paio, tôn oddiwrth tonos, claiar oddiwrth cliaros: Lledrod, henw tref ym mron haul, oddiwrth Luthrodos, [sef rhûdd] abadau, henwau rhossydd, oddiwrth abata, [di-ffordd] a llawer o'r fâth. ond nid wyfi yn cofio nemawr o ymadroddion Groegaidd a'r sydd arferol yn ein mysc ni, oddieithr rhai henwau: megis eglwys Gatholig oddiwrth ecclesia Catholice, a llynn Tegid oddiwrth limne Cataigîdos, sef llyn tymmestlog. A'r cyfryw eiriau allent aros yn ein iaith ni, naill ai o herwydd i'n henafiaid ni fyw ynghymdogaeth y genedl honno cyn eu plannu ym Mhrydain, neu wrth gyrchu attynt wedi hynny er mwyn mersiandiaeth a dysceidiaeth.