LLYFR GWEDDI Gyffred …

LLYFR GWEDDI Gyffredin, A Gweinidogaeth y Sacramentau, a chynneddfau a Ceremoniau eraill yr Eglwys, yn ol arfer Eglwys Loegr, Ynghyd a'r Psallwyr neu Psalmau DAFYDD.

A Brintiwyd yn Llundain, gan S. Dover, tros Edward Ffowks a Phetr Bodvel. MDCLXIV.

Cum Privilegio.

Y Bannau or Llyfr hvvn.

  • YR Actau am unffurfiad Gweddi Gyffredin.
  • Y Rhag-ymadrodd.
  • Am wasanaeth yr Eglwys.
  • Am Ceremoniau.
  • Y Drefn pa wedd yr appwyntir y Psallwyr iw ddarllain.
  • Y Drefn pa wedd yr appwyntir y Rhannau eraill o'r Scry­thyr lân iw Darllain.
  • Tabl o'r Llithiau a'r Psalmau priodol.
  • Y Calendar gyda Thabl y Llithiau.
  • Tablau, a Rheolau am y Gwyliau a'r Ymprydiau trwy'r holl flwyddyn.
  • Y Drefn am Weddi Foreuol.
  • Y Drefn am Brydnhawnawl Weddi.
  • Credo S. Athanasius.
  • Y Litani.
  • Gweddiau, a Diolwch ar amryw achosion.
  • Y Collectau, yr Epistolau, ar Efengylau a arferir wrth Finistriad y Cymmun bendigedig, trwy'r flwyddyn.
  • Trefn Ministriad y Cymmun bendigaid.
  • Trefn Bedydd Public a Phrifat.
  • Trefn Bedydd y rhai mewn oedran addfedach.
  • Y Catechism, gyda Threfn Conffirmiad Plant.
  • Trefn Priodas.
  • Gofwy a Chymmun y Clâf.
  • Trefn Claddedigaeth y marw.
  • Diolwch Gwragedd yn ol escor plant.
  • Comminasiwn, neu, Gyhoeddiad llidawgrwydd a Barnedi­gaethau Duw yn erbyn Pechaduriad.
  • Y Psallwyr.
  • Trefn Gweddiau iw harfer ar y Môr.
  • Y Drefn ar modd i Ordeinio Escobion, Offeiriaid a Di­aconiaid.

Act am Unffurfiad GVVEDDI-GYFFREDIN A Gwasanaeth yn yr EGLWYS, A Ministriad y SACRAMENTAV.

LLe yr ydoedd ar farwolaeth ein diweddar ardder­chawg Arglwydd Brenin Edward y chweched, vnffunyd drefn ar gyffredin wasanaeth a gweddi, a ministriad y Sacramentau, Rhithia, a defodau, yn aros yn Eglwys Loegr, yr hon drefn a osodasid allan yn un llyfr, a elwid, Llyfr gweddi gyffredin, a ministriad y Sacramentau, a Chyneddfau eraill a Ce­remoniau yn Eglwys Loegr: wedi eu hawdurdodi drwy Act o Barliament wedi ei gynnal yn y bum­med ar chweched flwyddyn o'n dywededic ardderchawg Arglwydd Fre­nin Edward y chweched, tituledic, Act am unffursiad Cyffredin weddi, a ministriad y Sacramentau, yr hon a repeliwyd, ac a gymmerwyd ymmaith drwy Act o Barliament yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad ein hardder­chawg Arglwyddes Frenhines Mari, i fawr adfail dyledus anrhydedd Duw, ac anghyssur i broffess-wyr gwirionedd Crefydd Crist.

Enacter gan hynny drwy awdurdod y Parliament presennol hwn, fod y ddywededic statut o Ddirymiad, a phob dim cynnwysedic ynddi o ran y dywededic lyfr yn unic, a'r gwasanaeth, a ministriad y Sacramentau, cyn­nedfau, a Ceremoniau cynnwysedic neu osodedic yn, neu gan y dywede­dic lyfr▪ yn ofer, ac yn ddirym, yn ol, a chwedi gwyl Genedigaeth S. Joan Fedyddiwr nefaf i ddyfod. A bod y dywededic lyfr, a threfn y [Page] Gwasanaeth, a Ministriad y Sacramentau, cynneddfau a Ceremoniau, ynghyd a'r cyfnewidion, a'r ychwanegion a chwanegwyd ynddo, ac a ossodwyd drwy yr statut hon, yn sefyll, ac yn bod, yn ol, a chwedi y ddywededic wyl Genedigaeth Sanct Joan Fedyddiwr, mewn cyflawn rym ac effect, yn ol tenur ac effect yr statut hon: Er dim ac y sydd yn y ddywededic statut o ddirymmiad i▪r gwrthwyneb.

A phellach enacter gan uchelder y Frenhines, ynghyd a chydsynniad yr Arglwyddi a'r Cyffredin sydd wedi ymgynnull yn y Parliament pre­sennol hwn, a chan awdurdod▪ yr un-rhyw, fod pob un, a chwbl o'r Gwenidogion ym-mhob Eglwys Gadeiriol, a phlwyfol, neu mewn lle arall o fewn y Deyrnas hon o Loegr▪ Cymbru, ac ardaloedd yr un­rhyw, neu eraill o arglwyddiaethau y Frenhines, yn ol, a chwedi Gwyl Genedigaeth Sanct Joan Fedyddiwr nesaf i ddyfod, yn rhwymedic i ddy­wedyd ac i arfer y Plygain, Gosper, gweinidogaeth Swpper yr Arglwydd, a ministriad pob un o'r Sacramentau, a'r holl Gyffredin, a chyhoedd weddi au eraill, yn y cyfryw drefn a ffurf ac a adroddir yn y dywededic lyfr, felly wedi ei awdurdodi gan Barliament yn y ddywededic bummed a'r chweched flwy­ddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, gyd ag un newidiad neu anghwanegiad o ryw Lithiau iw harfer ar bob Sul yn y flwyddyn, ffurf y Le­tani wedi ei newidio a'i gorrectio, a dwysentens yn unic wedi ei anghwanegu wrth roddi y Sacrament i'r Cymmunolion, ac nid arall, neu ym modd amgen. Ac o bydd i neb rhyw Berson, Vicar, neu arall pa wenidog bynnac, a ddylei, neu a fydd iddo ganu, neu ddywedyd y weddi gyffredin, a goffawyd yn y dywededic lyfr, neu finistrio y Sacramentau, yn ol, a chwedi Gwyl Nadalic, S. Joan Fedyddi-wr nesaf i ddyfod, wrthod arferu y dywededic weddiau cyffredin, neu finistrio y Sacramentau, yn y cyfryw Eglwys Gadeiriol, neu Eglwys blwyfol, neu leoedd eraill, ac y dylei efe finistrio yr un rhyw, yn y cyfryw ffurf a threfn ac a adroddir, ac a ddatcenir yn y dywededic lyfr▪ neu o'i wirfodd, neu o anhydynder (gan sefyll yn hynny) arferu o ryw eraill gyn­neddfau a Ceremouiau, Trefn, ffurf neu wedd ar wenidogaeth Swpper yr Arglwydd, ar gyhoedd neu yn ddirgel, neu Blygain▪ Gosper ministriad y Sacramentau, neu eraill weddiau ar osteg, amgen nac a adroddir ac a ddecla­rir yn y dywededic lyfr ( Gweddi ar osteg yn a thrwy yr holl Act hon, a ddealli y weddi sydd i eraill ddyfod iddi iw gwrando, mewn Eglwysau cyffredin, neu Gapel­au dirgel, neu Oratoriau, yr hon a elwir yn gyffredin Gwasanaeth yr Eglwys neu bregethu, declario, neu lefaru dim oll er distadlu, neu ammerchi y dywe­dedic Lyfr, neu ddim ar y sydd ynddo, neu ryw barth o honaw, a bod o hyn­ny yn gyfraith-lawn wedi ei farnu yn ol cyfreithiau y Deyrnas hon, trwy ver­dict deuddeng-wr, neu trwy ei gyffes ei hun, neu trwy hynod eglurdab y weithred, efe a gyll ac a fforfettia i uchelder y Frenhines▪ ei hetifeddion, a'i successoriaid, am ei gamwedd cyntaf, broffit ei holl renti ysprydawl neu bro­mosionau yn dyfod, neu yn cyfodi yn y flwyddyn nesaf ar ol ei gonvictiad: A bod hefyd i'r neb a gonvictier felly, am yr unrhyw gamwedd, ddioddef carchar dros yspaid chwemis, heb na meichiau na maynpris. A bod i'r cyfryw un, ac a gonvictier un-waith am un camwedd herwydd y pethan a grybw­yllwyd, os byd iddo gwedi ei gonuictiad cyntaf, drachefn droseddu, a bod o hynny yn y ffurf ddywededic yn gyfreith-lawn wedi ei gonuictio, yna bod i▪r un rhyw ddyn am ei ail camwedd ddioddef carchar dros yspaid un flw­yddyn [Page] gyfan, a hefyd bod ei ddepreifio Ipso facto, o'i holl bromosionau Ysprydol. A bod yn gyfreith-lawn i bob Patron, neu roddwr, cwbl, a phob un o'r promosianau ysprydol hynny, neu neb un o honynt, bresentio, neu golatio i'r un rhyw, megis pe byddei y nebun, neu yr neb rhai a droseddo felly wedi marw Ac o bydd i neb un, neu i neb rhai yn ol ei gonuictio ddwy­waith yn y ffurf ragddywededic droseddu yn erbyn neb un o'r rhagbwylle­digion y drydedd waith, a bod o hynny yn y ffurf ragddywededic yn gy­freithlawn wedi ei gonuictio, yna y neb a droseddo felly, ac a gonfictier y drydedd waith, a ddepreifir Ipso facto, o'i holl bromosionau ysprydol, a hefyd gorsod iddo ddioddef carchar tra fyddo byw.

Ac os bydd y neb a droseddo, ac a gonuictier yn y ffurf ragddywede­dic, oblegit yr un o'r petheu a grybwyllwyd, heb rent iddo, ac heb gan­ddo bromosioneu ysprydol: Yna bod i'r unrhyw wr hwnnw a drosseddo felly, ac a gonuictier, am y trosedd cyntaf, ddioddef charchar tros y flw­yddyn gyfan nesaf ar ol ei ddywededic gonfictiad, heb ua meichieu na mainpris. Ac os y cyfryw un, heb iddo ddim promosioneu ysprydol wedi ei gonuictiad cyntaf, a drosedda drachefn mewn dim oblegid y petheu a grybwyllwyd, ac yn y ffurf ddywededic yn gyfreith-lawn a gonvictier o hynny, yna bod i'r cyfryw un hwnnw, am ei ail drosedd ddioddef car­char tra fyddo byw.

Ac fe a ordeiniwyd, ac a enactiwyd drwy yr awdurdod a ddywedpwyd uchod, o bydd i ryw un, neu ryw rai, pwy bynnac font, wedi y dywe­dedic wyl o Enedigaeth Joan Fedyddiwr nesaf i ddyfod, mewn un rhyw Enterlud, Chwareon, Caniadau, Rhimmynnau, neu dryw eraill eiriau ago­red, ddeclario neu ddywedyd dim rhyw beth er distadlu, diystyru▪ a dirmy­gu yr un rhyw lyfr, neu ddim a gynhwysir ynddo, neu neb rhan o honaw, neu drwy ffact agored gweithred, neu drwy fygythiau agored, gymmell neu beri, neu ryw fodd arall brocurio neu gynnal neb Person, Vicar, neu weini­dog arall, mewn un Eglywys, Gadeiriol, neu Eglwys blwyfol, neu mewn Capel, neu mewn un lle arall, i ganu, neu i ddywedyd Gweddi gyffredin neu agored, neu Weini un Sacrament, yn amgenach neu mewn gwedd a ffurf amgen, nac a osodwyd yn y dywededic lyfr, neu drwy yr un o'r dywe­dedic foddion, yn anghyfreithlawn rwystro, neu luddias i neb Person, Vi­car neu Weinidog arall, mewn un Eglwys Gadeiriol, neu blwyfol, Capel neu mewn un lle arall, i ganu neu ddywedyd Gweddi gyffredin neu agored, neu Finistrio y Sacramentau, neu neb o honynt, yn y cyfryw wedd a ffurf ac a grybwyllwyd yn y dywededic lyfr: Yna bod i bob rhyw un, wedi yn gy­freithlawn ei gonuictio o hynny, yn y ffurf ddywededic, fforffettio i'r Frenhines ein Goruchel Arglwyddes ei hetifeddion, a'i successoriaid, am y trosedd cyntaf, gan Morc.

Ac os bydd i ryw un, neu i ryw rai, a gonuictiwyd un-waith am y cyfryw drosedd, droseddu drachefn yn erbyn neb un o'r troseddion diwethaf a adro­ddwyd, ac iddynt fod yn y ffurf ddywededic yn gyfreithlawn wedi eu con­fictio. Yna bod i'r un rhyw un felly yn troseddu ac yn gonfictiedic, am yr ail drosedd fforffettio i'n Goruchel Arglwyddes Frenhines, ei hetifeddion, a'i successoriaid bedwar cant o forciau. Ac o bydd i neb, wedi iddo yn y ffurf ddywededic fod ddwywaith yn gonfictiedic o neb trosedd yn perthynu i'r troseddion diwethaf a adroddwyd, droseddu y drydedd waith, a bod o [Page] hynny, yn y ffurf uchod, yn gysteithus wedi ei gonfictio? bod yna i bob un yn troseddu felly, am ei drydedd drosedd fforfettio i n Goruchel Arglwy­ddes Frenhines ei holl dda a chateloedd, a dioddef carchar yn ei fyw. Ac o bydd i ryw un, neu i ryw rai, yr hwn am ei drosedd cyntaf o herwydd y pe­theu a grybwyllwyd gael ei gonfictio yn y ffurf ddywededic, nathalo y swm taladwy o rym er gonfictiad, yn y cyfryw wedd a ffurf ac y dirper talu yr un­rhyw, o fewn chwech wythnos nesaf, yn ol ei gonfictiad, bod yna i bob un a gonfictier felly, ac heb dalu yr unrhyw, am y trosedd cyntaf yn lle y swmm dywededic, ddioddef ei garcharu dros yfpaid chwe-mis, heb na meichiau na maynpris. Ac o bydd i ryw un, neu i ryw rai, yr hwn am yr ail drosedd herwydd y petheu a grybwyllwyd, a gonfictier yn y ffurf ddywededic, na thalo y swmm dywededic, taladwy drwy rym ei gonfictiad, a'r Statut hon yn y cyfryw wedd a ffurf ag y dyleir talu yr un-rhyw o fewn chwech wyth­nos cyntaf ar ol ei ail confictiad: bod yna i bob rhyw un felly a gonfictiwyd, ac heb felly dalu yr unrhyw, am yr un-rhyw ail drosedd, yn lle y dywededic swmm, gael dioddef ei garcharu dros yspaid 12. mis, heb na meichiau na maynprys. Ac yn ol a chwedi y ddywededic wyl Natalic S. Joan Fedyddi-wr nesaf i ddyfod, fod i bawb oll yn gwbl, ac y sydd yn pre­sswylio o fewn y deyrnas, hon, neu le arall o arglwyddiaethau Mawredd y Frenhines yn ddiesceulus, ac yn ffydd-lawn, oddi eithr bod escus cyfrei­thiol a rhesymmol i fod ymaith, wneuthur eu goreu ar fynychu iw Heglwys blwyf, neu Gapel defodedic, neu o ran rhwystr resymmol rhag hynny, i ryw fan arferedic, lle y byddo Gweddi gyffredin, a chyfryw wasanaeth Duw yn arferedic, yn y cyfryw amser rhwystr, ar bob Sul a dyddiau eraill ordeinie­dic ac arferedic iw cadw megis yn wyliau, ac yna, ac yno aros yn drefnus, ac yn bwyllog ar hyd amser y weddi gyffredin, pregethau neu arall Wasana­eth Duw a arferer, neu a finistrer yno, dan boen cospedigaeth gan Censu­rau yr Eglwys, a hefyd dan boen, fod i bob un yn troseddu felly fforffettio am bob cyfryw drosedd ddeuddec ceiniog iw codi gan wardeniaid y plwyf y gwneler y cyfryw drosedd ynddo i fwyniant y tlodion o'r un-rhyw blwyf, o dda, tiroedd, a thyddynnau y cyfryw drosedd-wr, drwy atafael. Ac er mwyn iawn gyflawni y pethau hyn, y mae rhagorawl Fawredd y Frenhines, yr Arglwyddi temporol, a'r holl gyffredin cynnulledic yn y Parliament pre­sennol, yn Enw Duw yn ddifrifol yn erchi, ac yn gorchymyn i'r holl Arch­escobion, Escobion, ac eraill Ordinariaid, ar iddynt ymosod hyd yr eithaf o'i gwybodaeth, ar fod dyledus a gwir gyflawni y petheu hyn yn gwbl trwy eu holl Escobaethau, a'u Curiau, fel y byddo iddynt atteb ger bron Duw, am gyfryw ddrygau a phlâau, ac y gallo yr holl-gyfoethog Dduw yn gyfiawn boeni ei bobl am ddiimygu ei ddaionus a'i iachus Gyfraith. Ac er mwyn bod awdurdod yn yr achos hyn, Bydded ym mhellach enactiedic gan y ddywe­dedic awdurdod, fod i bawb oll o'r Arch-escobion, Escobion, a phawb eraill o'i swyddogion hwy, yn arferu awdurdod Eglwysic, yn gystal mewn lleoedd esempt ac anesempt o sewn eu hescobaethau, gael llawn feddiant ac awdur­dod gan yr Act honi adffurfio, cospi, a phoeni wrth Censurau yr Eglwys, oll a phob dyn a droseddant o fewn yr un o'u swydogaethau, neu o'u hesco­baethau hwynt, wedi y dywededic wyl Nadalic S. Joan Fedyddiwr nesaf i ddyfod, yn erbyn yr Act hon a'r Statut: Er neb arall gyfraith, Statut, Prif­leg, braint, neu ragweliad cyn na hyn wedi ei wneutheur neu ei ddioddef i'r gwrthwyneb, yn ddiwrthladd.

[Page]Ac fe a ordeiniwyd ac a enactiwyd gan y rhacddywededic awdurdod, bod i bawb oll o'r Justusiaid Oyer Determiner, neu justusiaid Assis, gael cwbl seddiant ac awdurdod ym-mhob un o'i hagored, a'i cyffredin Sessionau, i y­mofyn, gwrando, a therfynu pob rhyw drossedd a gommittier, neu a wneler yngwrthwyneb i un pwngc a gynhwysir yn yr Act gyndrychiol hon, o fewn terfynau y Commissiwn a roddir iddynt, a gwneuthur process i esecutio yr un-rhyw, megis ag y gallant wneuthur am neb un a enditier ger en bron hwy am sarhaed neu yn gyfraith-lawn a gonfictiwyd o hynny.

Profidier yn wastad, ac enacter gan yr awdurdod ddywededic, fod i bawb oll o'r Arch-escobion, ac Escobion, allu bob amser ac amserau wrth ei rydd­did a'i fodd, ymwascu ac ymgyssylltu, gan rym yr Act hon, a'r dywededic Justusiaid o Oyer a Determiner, neu a'r dywededic Justisiaid o Assis, ym mhob un o'r dywededic agored a Chyffiedin Sessiwnau a gynnalier mewn neb rhyw le o'i Escobaeth, er mwyn ac i ymofyn, gwrando, a therfynu y cam­weddau dywededic.

Profidier hefyd, ac Enactier trwy yr awdurdod ragddywededic, bod y llyfrau y fo o'r dywededic wasanaeth, ar gost a siars plwyfolion pob plwyf ac Eglwysau Cadeiriol, wedi eu darparu a'i caffael cyn y ddywededic wyl Nata­lic, Joan Fedyddi-wr nesaf yn canlyn; a bod i'r holl gyfryw blwyfeu ac Egl­wysi Cadeiriol neu leoedd eraill, lle y darparer, ac y caffer y dywededic ly­frau cyn gwyl Nadalic, Sanct Joan Fedyddiwr, o fewn tair wythnos wedi darpar a chaffael y dywededic lyfrau, ymarfer o'r dywededic wasanaeth a'i fynychu yn ol yr act hon.

Ac enactier ym-mhellach wrth yr awdurdod ddywededic, na byddo un amser rhag llaw, rhwystro neb un, neu neb rhai, nac ymmodd arall ei folestu, neu am neb o'r camweddau a gofiwyd uchod, a gommittier neu a wneler rhag llaw, yngwrthwyneb i'r Act hon, oddieithr iddo ef, neu hwynt yn troseddu felly, fod o hynny yn ditiedic yn y Sessiwn gyffredin nessaf, a gyn­nalier ger bron y cyfryw Justusiaid o Oyer a Determiner, neu Justusiad o Assis, yn nesaf yn ol committio y rhyw drosedd yngwrthwyneb i Denur yr Act hon.

Profidier yn wastad, ac ordeinier, ac enacter trwy yr awdurdod ragddy­wededic am gwbl oll o Arglwyddi y Parliament, am y drydedd drosedd a gofiwyd uchod, bod eu treio hwy trwy eu gogyfurdd.

Profidier hefyd, ac ordeinier, ac enacter gan yr awdurdod ragddywedi­dic, fod i Faior Llundain, ac i Faiorau eraill. Bailiaid, a phenswyddogion eraill, o bawb oll o'r dinasoedd, Borwcheu, a Threfi corphoredic o fewn y deyrnas hon, Cymru, a marsoedd yr un-rhyw, i'r rhai nid yw Justusiaid o Assis yn cyrchu yn gyffredin, gaffael cwbl feddiant ac awdurdod trwy rym yr Act hon, i ymofyn, i wrando a therfynu y troseddau a ddywedpwyd u­chod, a phob un o honynt bob blwyddyn o fewn pymtheng-nhiwrnod wedi Gwyl y Pasc, a Sanct Michael Archangel, yn y cyfryw fodd, a ffurf ag y mae yr Justusiaid o Assis, ac Oyer a Determiner yn gallu gwneuthur.

Profidier yn wastad, ac ordeinier, ac enactier trwy y ragddywededic aw­durdod, fod i gwbl, ac i bob un o'r Archescobion ac Escobion a phob un o'i Canghell-wyr, Commissariaid, Archdiaconiaid, ac eraill Ordinariaid, y rhai sy iddynt wahanredawl swyddogaeth Eglwysic, gaelcwbl feddiant ac aw­durdod trwy rym yr Act hon, yn gystal i ymofyn yn eu Visitasion, Seneddau, [Page] neu mewn lle arall o fewn eu swyddogaeth, ar ryw amser arall a lle, i gym­meryd cyhuddiadau ac infformasiwnau am oll, a chwbl a goffawyd uchod, a wnaethpwyd, a gommittiwyd neu a berpetratiwyd o fewn terfynau eu swy­ddogaethau preifasion, ac eraill Censurau a, phrocessau, yn y cyfryw ffurf ag ym-mlaen llaw a arferwyd yn y cyffelyb ddigwyddion gan Eglwysic gy­freithiau y Frenhines.

Profidier hefyd yn wastad ac enactier, bod i bwy bynnac a droseddo yn y petheu a grybwyllyd, ac yn gyntaf a dderbynio gospedigaeth gan yr Ordi­nari, a thystiolaeth ganddo o hynny tan sel y dywededic Ordinari, Na byddo am yr un drosedd ei ail confictio ger bron yr Justusiad. A'r un modd, ac efe wedi derbyn am y dywededic drosedd yn gyntaf gosp gan yr Justusiaid, ni bydd iddo am yr un trosedd ail derbyn cosp gan yr Ordinari: er dim a gyn­hwysit yn yr Act hon i i grwthwyneb.

Profidier yn wastad a bid yn actiedic, bod cyfryw addurnau yr Eglwys a'r Gwenidogion, iw cynnal a'u cadw yn arfer, fel yr oedd yn yr Eglwys hon o Loegr drwy awdurdod Parliament yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, hyd oni gymmerer trefn arall yn hynny gan awdurdod Mawredd y Frenhines, ynghyd a chyngor ei Commissionariaid, gosodedic ac awdurdodedic dan sêl fawr Loegr, am achosion Eglwysic, neu sél Metropo­litan y Deyrnas hon. A hefyd o damwain arferu rhyw ddirmyg neu ammarch yn Ceremoniau a chynnedfau yr Eglwys, gan gamarfer y trefnau a ossodwyd yn y llyfr hwn: bod i Orucheldeb y Frenhines, allu trwy gyngor y dywede­dic Commissionariaid, neu yr Metropolitan, ordeinio, a chyhoeddi y cy­fryw anghwaneg Ceremoniau neu gynnedfau ac a fyddo fwyaf er derchafiad gogoniant Duw, adeilad ei Eglwys, a dyledus barch ar sanctaidd ddirgele­digaethau Crist, a'i Sacramentau.

Ac ym-mhellach enacter gan yr awdurdod ragddywededic, fod holl gy­freithiau, statutau, ac ordinhadau, yn y rhai, neu drwy y rhai y mae rhyw fath arall ar wasanaeth, ministriad y Sacramentau, neu Gyffredin weddi, wedi eu terfynu, eu cadarnhau, neu eu gosod allan iw harferu o fewn y Deyrnas hon, neu arall o arglwyddiaethau, neu wledydd y Frenhines, o hyn allan yn llwyr ofer, ac heb ddim grym,

Act am Unffurfiad GVVEDDIAU-PUBLIC, A Ministriad y Sacramentau, a chynneddfau a Cere­moniau eraill: Ac am sefydlu y ffurf ar wneu­thur, Vrddo, a Chessgru Escobion, Offeiriaid, a Diaconiaid yn Eglwys Loegr.
XIV. CARL. II.

YN gymmaint a bôd yn y flwyddyn gyntaf i'r ddi­weddar Frenhines Elizabeth ûn Unffurfiol Drefn ar wasanaeth a Gweddi Gyffredin, ac Administri­ad y Sacramentau, a Chynneddfau, a Ceremoni­au yn Eglwys Loegr, (gysson i Air Duw, ac i arfer y Brif Eglwys gynt) gwedi ei chyfeiliaw gan yr Anrhydeddus Escobion ac Eglwys-wyr, yr hon a osodwyd allan mewn ûn Llyfr, a elwid, Llyfr Gweddi Gyffredin, a Ministriad y Sacramentau, a Chynnedfau, a Ceremoniau eraill yn Eglwys Loegr: Ac a orchymmynwyd eu harfer trwy Act o Barliament a gynnalied, yn y ddywededig flwyddyn gyn­taf i'r ddywededig ddiweddar Frenhines, yr hon a elwid, Act am Unffurfiad Gweddi Gyffredin, a Gwasanaeth yn yr Eglwys, a Ministriad y Sacramentau, tra diddanawl i bawb oll, a chwenychent fyw mewn buchedd Gristianogol, a thra buddiol i Stât y Deyrnas hon, ar yr hon ni thywelltir Trugaredd, Grâs a Bendith yr Holl-alluog Duw, mewn ûn môdd mor rhwydd ac Ehelaeth, a thrwy weddiau Cyffredin, a dyladwy arfer y Sacramentau, ac aml bregethu yr Efengyl gyda Duwiolder yGwrandawyr. Ac er hyn ei gy d, y mae etto o fewn amrafael fannau o'r Deyrnas hon liaws (mawr) o Bobl trwy ddilyn eu Tra­chwantau [Page] a byw heb wybodaeth, a Gwîr ofn Duw, ynt o'u gwirfodd a thrwy ymbleidio yn ymattal ac yn gwrthod dyfod yw Heglwysau plwyfol ac i fan­nau cyhoedd eraill lle yr arferer Gweddi Gyffredin, Ministriad y Sacra­mentau, a phregethau Gair Duw ar y Suliau, a dyddiau eraill, a ordeiniwyd eu cadw a'u cynnal yn wyliau: Ac o herwydd codi a chynnyrchu llawer an­fad Gynddrygedd ac anwastadfod tra bu amseroedd y diweddar anffawdus flinderau, drwy ddirfawr a thramgwyddus sceulusdra Gweinidogion yn y ddywededic Drefn Gwasanaeth, neu Liturgi cyhoeddedig, a gorchymmyne­dig megis y dyweded uchod; A llaweroedd a dywyswyd i ymranniadau a Schismau, i fawr adfail ac anair diwylledic Grefydd Eglwys Loegr, ac enbyd­rwyd eirif o eneidiau.

Fel na bo felly rhagllaw, athuag at sefydlu heddwch yr Eglwys, a darostwng yr annhymerau presennawl a ddigwyddasant arnom drwy ammhwynt yr am­seroedd, Bu i Fawrhydi y Brenin (yn ol ei Ddeclarasiwn ar y pummed ar hugain o Fîs Hydref, ûn Mîl chwe-chant a thri-ugain) ganiadhau ei Gom­missiwn tan Sêl fawr Loegr i amrafael Escobion a Difinyddion eraill, i fwrw golwg o newydd ar y Llyfr Gweddi Gyffredin, aci baratoi y cyfryw newidi­ad ac arddodiad a farnent gymmwys i'w cyflwyno. A chwedi hyn, a'r Confo­casionau o'r ddwy Dalaith, Caer Gaint a Chaer Efrawc wedi eu gwysio a'u cynnill (ac yn awr yn eistedd) Rhyngodd fôdd iw Fawrhydi ef awdurdodi a gorchymmyn i Rhaglwiaid y Syneddau hynny, ac i eraill Escobion ac Eglwys-wyr fwrw ail sylliad ar y dywedic Lyfr Gweddi Cyffredin, a Llyfr ffurf a Gwêdd urddo a Chyssegru Escobion, Offeiriaid a Diaconiaid, a bod iddynt ar ôl dwys Ystyriaeth anghwanegu a newid ym mhôb ûn o'r ddau Lyfr y cyfryw bethau fel y gwelent yn gymmwys a Chymhessur, a dwyn a Chyflwno yr unrhyw yn Scrifennedig ger bron ei Fawrhydi ef, o ran cael ymmhellach eu cymeradwyo a'u cadarnhâu ganddo ef.

A chwedi hyn, y Rhaglawiaid, Efcobion ar Eglwys-wyr hynny o'r ddwy Dalaith, ar ôl dwys a Chyflawn fyfyrdod, a fwriasant ddichlyn olwg ar y dywededig Lyfrau, ac a newidiasant ryw bethau a farnent yn gymmwys iw dodi ynddynt, ac a anghwanegasant ymbell weddi at y dywededig Lyfr Gweddi Gyffredin, i'w harfer ar ryw briodol achlysur a ddigwyddei, ac a gyflwynasant yr unrhyw yn Scrifennedig ger bron ei Fawrhydi ef, mewn ûn Llyfr, a gyfenwir, Llyfr Gweddi Gyffredin, a Ministriad y Sacramentau, ac eraill Gynneddfau a Ceremoniau yr Eglwys, yno! arfer Eglwys Loegr, ynghyd a'r Psallwyr, neu Psalmau Dafydd, wedi eu nodi megis y maent hwy i'w canu, neu i'w dywedydmewn Eglwysau, a'r ffurf a'r môdd y gwneir, yr urddir, ac y Cysse­grir Escobion, Offeiriaid a Diaconiaid: Yr hyn ôll pan ystyriasai Grâs y Bren­in yn ddyledus, a fu gymmeradwy a bodlawn ganddo, ac a orchymmy­nodd at y Parliament presennol y ddywededig Lyfr Gweddi Gyffre­din, a ffurf Urddiad a Chyssegriad Escobion Offeiriaid a Diaconiaid, gyda'r newidiadau ac Anghwanegion a wneuthwyd ac a Bresentiwyd i'w Fawrhydi gan y dywededig Seneddau i fôdd yr (Unig) Lyfr a Bwyntier i'w arfer gan bawb a Finistriant ymmhôb Eglwys Gadeiriawl a Cholegawl, ac ymhob Cap­pel, ac ymmhôb Cappel classau ac Awlau o'r ddwy Uwnifersiti, ac ynghlassau Eton a Chaer-wynt, ac ymmhôb Eglwys Blwyfol a Chappel o fewn Teyr­nas Loegr, Arglwyddiaeth Cymbru, a Thref Berwick a'r Twêd, a chan bawb a wnant, neu y Gyssegrant Escobion Offeiriaid neu Ddiaconiaid, o fewn [Page] nêb ûn o'r dywededig Leoedd, tan y cyfryw gyfraith a phoen a farno Dau-Dy y Parliament yn gymmwys. Ac o herwydd nad oes dim fuddiolach tuag at sefydlu heddwch y Nasiwn hon (yr hyn a ddymuna phôb Dyn Dâ) nac i barch ein Crefydd, a'i hamlhaad, na Chydundeb Cyffredinawl, yn gwa­sanaeth Public yr Hollalluog Dduw. Ac fel y gallo pôb Dyn o fewn y Deyr­nas wybod yn siccr y Rheol, yr hon y Dylei, ei dilyn yn y Gwasanaeth Pub­lic, a Ministriad y Sacramentau, a Chynneddfau a Ceremoniau eraill Eglwys Loegr, a'r môdd a Chan bwy y (gwneir ac y) dylid Gwneuthur, Urddo a Chyssegru Escobion, Offeiriaid a Deaconiaid.

Enacter gan odidoccaf fawrhydi y Brenin, trwy Gyngor a Chyda chyd­synniad yr Arglwyddi Ysprydol a Llygawl, a'r Cyffredin ymgynnulledig yn y Parliament presennol, a thrwy Awdurdod yr unrhyw▪ Bod yr holl Weini­dogion (Eglwysig) a phôb ûn o honynt ymmhob Eglwys, neu Gappel Ga­deiriol a Chlassawl, a phlwyfol, ac ymmhob Cappel, a phôb lle Gwasanaeth Public arall o fewn Teyrnas Loegr, Arglwyddiaeth Cymbru a Thref Ber­wic ar Twêd, yn Rhwymedig i ddywedyd ac arfer y Weddi Foreuol, y Wed­di Brydnhawnol, Gweinidogaeth a Ministriad y Ddau Sacrament, a phob Gwasanaeth arall Public a Chyffredin yn y cyfryw Drefn affurf a grybwyl­lir yn dywededig Lyfr, Arddodedig a Chyssylledig a'r Act bressennol, ac a elwir, Llyfr Gweddi Gyffredin, a Ministriad y Sacramentau a Chynnedd­fau a Ceremoniau eraill yr Eglwys, yn ôl arfer Eglwys Loegr, gyda'r Psall­wyr neu Psalmau Dafydd wedi eu nodi megis ag y maent hwy i'w canu, neu i'w dy­wedyd yn yr Eglwysau; a'r ffurf a'r môdd y Gwneir, yr urddir, ac y Cyssegrir Escobion Offeiriaid a Diaconiad; A bod darllain yn gyhoedd ac ar osteg, y Gweddiau Boreuol a Phrydnhawnol a gynnhwysir ynddo, ar bob dydd yr Ar­glwydd, ac ar bôb dydd arall ac achlysur, ac ar bôb pryd pwyntiedig yn­ddo gan bôb Gweinidog neu Guwrat ymmhob Eglwys, Cappel, a phob rhyw lle Gwasanaeth Public, o fewn y Deyrnas hon o Loegr a'r lleoedd dy­wededig.

Ac er mwyn cyflym gyflawniad yr Unffurfiad ar Public Wasanaeth Duw (y sydd mor ddesyfiedig) ymmhellach Enacter trwy'r Awdurdod Rhag­ddywededig, fod i bôb Parson, Ficcar, a phob rhyw Weinidog pwy-byn­nac y sydd yr awr hon yn Dal ac yn mwynhau ûn Rhent neu Bromosiwn o fewn Teyrnas Loegr a'r Lleoedd Rhagddywededig, Ddarlain yn gyhoed­dawl, yn bublic ac ar osteg yn yr Eglwys, Cappel, neu le Gwasanaeth Pub­lic yn perthyn i'w Rent neu Bromosiwn, ar ryw ddydd yr Arglwydd o flaen. Gwyl Sanct Bartholomeus yr hwn y fydd ym mlwyddyn ein Harglwydd Dduw, Mîl, a Chwechant, a dwy a Thriugain, y Weddi Foreuol a Phrydn­hawnol, bwyntiedig i'w ddarllain, ac yn ôly dywededig Lyfr Gweddi Gy­ffredin ar yr amseroedd pwyntiedig ynddo. A bod iddo ar ol eu darllain fel­ly yn gyhoedd ac ar osteg, Ddeclario yngwydd y Gynnulleidfa ymgynnulle­dig yno, ei diffuant gydsyniad, a Chymmodlonedd i arferu phob pêth cyn­nwysiedig a gorchymmynedig yn y dywededig Lyfr, yn y geiriau hyn ac nid erail.

YDD wyfi A. B. yn declario ymma fy niffuant Gyd-synniad a Chymmodlo­nedd i'r pethau ôll ac i bôb pêth cynnwysiedig a gorchymmynedig yn, a Chan y Llyfr a elwir, Llyfr Gweddi-Gyffredin a Ministriad y Sacramentau, ac eraill Gynneddfau a Ceremoniau yr Eglwys, yn ol arfer Eglwys Loegr; gi­dar Psallwyr neu Psalmau Dafydd, wedi eu nodi i'w canu, neu i'w dywe­dyd yn yr Eglwysau, a'r ffurf neu fôdd y Gwneir, yr Urddir, ac y Cysse­grir Escobion, Offeiriad a Deaconiad.

A bôd i bôb Rhyw un, a esceuluso neu a wrthodo wneuthur hyn o fewn y Rhagddywededig amser (oddieithr bôd rhwystr cyfreithlawn yngolwg a synniad yr Ordinari o'r lle) neu (os y cyfryw rwystr a ddigwydd) o fewn ûn Mîs ar ol symmud y cyfryw rwystr, i ddifuddio ( Ipso facto) o'i holl Bromo­sionau Ysprydol: A bôd yn gyfreithlawn o hynny allan, i bôb Pâtron a Donor y cwbl, a phôb ûn o'r dywededig Bromosionau Ysprydol yn ôl Hawl a Thitl pob ûn, Bresentio a Gorchymmyn i'r unrhyw megis pe bai, yr hwn, neu yr rhai a gamweddant neu a esceulusasant hynny, wedi marw.

Ac Enactier ymmhellach gan, yr Awdurdod ddywededig, fod i bod ûn yr hwn o hyn allan a bresentier, neu a gyflêir neu a ddoder mewn nêb rhyw Rent Eglwysig, neu Bromosiown, o fewn Teyrnas Loegr a'r Lle­oedd Rhagddywededig, Ddarlain yn gyhoedd, ac ar osteg, yn yr Eglwys, Cappel, neu le Gwasanaeth Public yn perthyn i'w ddywede­dig Rent neu Bromosiwn, ar ryw ddydd yr Arglwydd o fewn y Ddau fîs nesaf ar ol y byddo feddiannol ar y dywededig Rent Eglwysic, neu Bro­mosiwn, y Gweddiau Boreuol a Phrydnhawnol pwyntiedig i'w darllain yn y ac yn ol y dywededig Lyfr Gweddi Cyffredin, ar yr amseroedd pwyntie­dig ynddo: Gwedi eu darllain felly, ddeclario yn gyhoedd ac ar osteg ger bron y Gynnulleidfa cyd-gyssylltedig yno, ei ddiffuant Gyd-synniad ac ymgymmodlonedd i arferu'r holl bethau a gynhwysir ac a orchymmynnir ynddo yn ol y Llyfr Rhagbwyntiedig; A bod i bawb aci bob ûn a esceuluso (oddieithr bod rhwystr Cyfreithlawn yngolwg a barn yr Ordinari o'r fan) neu a wrthodo wneuthur hyn o fewn yr amser rhagddywededig, neu (os digwydd y cyfryw rwystr) o fewn ûn Mïs ar ol symmud y cyfryw rwystr i ddifuddio ( Ipso facto) o'i holl Renti Eglwysic ai Bromosionau dywededig: A bod yn Gyfreithlawn o hynny allan i bob Patron a Donor, oll a phob ûn o'r dywededig Renti Eglwysic a Phromosionau neu ryw un o honynt (fel y bo hawl a Theitl pob ûn, Bresentio a Chyfleu î'r unrhyw megis pe bai yr hwn neu yr rhain a gamweddant neu a esceulusant felly, wedi marw.

Ac Enactier ymmhellach trwy'r Awdurdod Rhagddywededig, Am bob Lleoedd lle bo'r Eglwswr Priodor o ryw Barsonoliaeth neu Ficcariaeth neu Rent a Chûr yn preswylio ar ei Rent, ac yn cadw Curat, dano Rhaid yw i'r Incumbent ei hun (oni bydd Rhwystr Cyfreithlawn ymmarn Ordina­ri y fan) ddarllain yn Bublic ac ar osteg un-waith (o leiaf) bob Mîs, y Gweddiau Cyffredin a'r Gwasanaeth gorchymmynnedig yn a thrwy y Llyfr dywededig, Ac (o bydd cyfraid) finistrio pob ûn o'r Ddau Sacrament, ac eraill Gynnedfau'r Eglwys, yn yr Eglwys Blwyf, neu Gappel a berthyn i'r unrhyw Barsonoliaeth Ficcariaeth neu Benefic, yn y cyfryw ddull, [Page] modd a ffurf ag a bwyntir wrth y Llyfr dywededig tan boen colli Swm pum-pynt am bob camwedd i raid y Tlodion o'r Plwyf, pan y Con­fictier ef trwy ei Gyffesiad ei hun, neu trwy Brofedigaeth dau Dyst Credadwy ar eu Llw ger bron dau Ustus o heddwch o'r Sir, y Ddi­nas, neu Dref Gorphol lle gwneler y Camwedd (yr hwn Lw y mae yr Act hon yn Awdurdodi yr Ustusiaid dywededig i'w finistrio) Ac yn neffyg taledigaeth cyn pen dég-niwrnod, i'w godi trwy attafael a gw­erthu Dâ a Chattelau y Trosedd-wr, drwy warrant y dywededig Ustu­siaid gan Wardeiniaid yr Eglwys neu Olygwyr Tlodion y Plwyf dyw­ededig, gan adferu a fo tros ben i'r perchennog.

Ac Enactier ymmhellach, a thrwy'r Awdurdod Rhagddywededig, gorchymmynniri bob Deon, Canon a Phrebendari pob Eglwys Gadei­riawl neu Golasawl, a phob Meistr, a Phen, Brodyr, Capplan a Thiwtor ac ymhob Clâs, Awl, yscol, neu Elusendy, a phob Proffessor Public a Darlleniwr ymhob ûn o'r Ddwy Unifersiti, ac ymmhob Co­lâs mewn man arall, a phob Parson, Ficcar, Lecturwr; a phob un arall mewn Urddau Cyssegrol, a phob Meistr Yscol, yn cadw Yscol Public neu Breifat, a phob ûn yn dyscu ac yn Athrawu nêb ryw Ieu­enctyd mewn un Ty neu Deulu Preifat, megis Tiwtor neu Feistr-yscol, yr hwn ar y dydd cyntaf o fai a fydd ym mlwyddyn ein Harglwydd Dduw, Mîl, Chwechant a dwy a thri-ugain, neu a fyddo ryw amser yn ol hynny Incumbent neu Feddiannol o nêb ryw Ddeoniaeth, Ca­noniaeth, Prebend, Meistryddiaeth, Pennaethyddiaeth, Brodoriaeth lle Proffessor neu ddarlleniwr, Parsonoliaeth, Ficcariaeth neu ryw oru­chasiaeth Eglwysic, neu Bromosiwn arall, neu ar un lle Curat, Le­ctur, Yscol, neu a ddysto, neu a Athrawiaetho neb ryw Jeuenctyd, mal Tutor neu Feistr-yscol: Roddi ei Law wrth y Declarasiwn neu gydnabod isod, a hyn cyn dydd Gwyl Sanct Bartholomeus a fyddo ym Mlwyddyn ein Harglwydd, Mîl, Chwechant a dwy a Thri-ugain, neu ar, neu o flaen ei admissiwn i fod yn Incumbent, neu i gael meddiant ar neb ryw Bromosiwn a grybwyllir uchod.

YDd wyfi, A. B. yn declario nad yw Gyfreithlawn ar liw na rbith yu y Byd, codi Arfau yn erbyn y Brenin, a bod yn ffiaidd gennif yr ymmadrodd Bradus hwnnw, am godi Arfau trwy ei Awdurdod ef yn ei erbyn ef et hun, neu yn erbyn y cyfryw rai a Awdurdodir ganddo, ac y Cwbl-ddilynaf Lityrgi Eglwys Loegr, megis y mae yn osodedig y pryd hyn trwy gyfraith: Ac ydd wyf yn Declario fy mod yn dal nad oes dim rhwym arnafi, nac ar nêb arall oddiwrth y Llw a elwir yn Gyffredin Y Solemn Lêg a Chyfunant i argeisio neb ryw gyfnewid neu aralliad llywodraeth yn yr Eglwys nac yn y Stât, ac mai llw anghyfreithlawn ydoedd yr unrhyw, a'r cyfryw a gymmhellwyd ar Ddeiliaid y Deyrnas, yngwrthwyneb i hadnabyddus gyfreithiau a Breintiau y Deyrnas hon.

[Page]A phob ûn o'r dywededig Feistriaid, ac eraill Bennau Brodorion, Cap­planniaid, a Thuwtoriaid arwen ymmhob Clâs, Awl, neu ymmhob Clas Awl neu Dy-Ddysc, a phob proffessydd a Darllennydd Public o fewn ûn o'r ddwy Unifersiti, a ddyd ei Law wrth y dywededig Ddeclarasiwn a Chyd-nabod-lythyr ger bron y Rhag-Ganghellwr o'r ddwy-lyw Unifersiti, a fo y pryd hwnnw, neu ger bron ei ddepuwti ef a phob ûn aralla orchym­mynnir sybscreibio y Declarasiwn a'r Cydnabod-lythyr uchod, a ddyd ei law wrtho ger bron ei Arch-Escob, Escob, neu Ordinari yr Escobaeth, tan boen bod i bwy un bynnac o'r Rhagddywededig Ddynion na ddodo ei Enw wrth y Cyfryw sybscripsion golli a fforffetio ei Ddeoniaeth, Ca­nonliaeth, Prebendiaeth, Meistrioliaeth, Pennaethiaeth, Brodoriaeth, Proffessoriaeth, Darllennyddiaeth, Parsonoliaeth, Ficcariaeth, Goruw­chafiaeth neu Bromosiwn Eglwysic, Cuwradiaeth, Lecturwr, ac Ys­col, a bod o hono yn llwyr-anolo a difrenner ef yn Ebrwydd o'r un­rhyw, a bydded pob rhyw ûn Ddeoniaeth, Canoniaeth, Prebendiaeth, Meistriolaeth Pennacthyddiaeth, Brodoriaeth, Proffessoriaeth, Darllen­nyddiaeth, Parsonoliaeth, Ficcariaeth, Goruwchafiaeth neu Bromosi­wn Eglwysic, Cuwradiaeth, Lectur, ac yscol yn wâg, megis pe bai yr hwn na sybscreibiodd, wedi marw a threngu.

Ac os bydd i nêb ûn Meistr-Yscol na neb arall yn dyscu neu Ath­rawiaethu jeuenctyd mewn rhyw Dy, neu Deuly Preifat, megis Tiwtor nen Feistr-Yscol, cyn caffael Leisens gan ei Arch-Escob, Escob, neu Ordinari yr Bscobaeth, yn ol cyfreithiau a Statutau y Deyrnas hon (am yr hon Leisens, nid rhaid iddo dalu uchlaw Swllt) a Chyn iddo wneuthur y eyfryw subscribsion a Chynabod-lythyr, megis y Rhagddy­wededig; yna Bîd i bôb cyfryw Feistr-yscol neu arall yn dyscu, neu yn Athrawiaethu megis uchod, ddioddef Carchar drî Mîs am y Tro­sedd cyntaf, heb na machniaeth na mainprîs: Ac am bob ail ac arall Drosedd efe a ddioddef Drî Mis o Garchar heb na machniaeth na mainprîs, ac a ddirwyir hefyd mewn pum-punt i Ràs y Brenin.

Ac wedi y gwnelo pob ryw Barson, Ficcar, Cuwrat, a Lecturydd y cyfryw subscribsion rhaid iddo ddirprwyo sertifficat dan law a sêl ei Arch-Escob, Escob, neu Ordinari y Deioses (hwythau a Ordeinier drwy hyn, ac a Orchymmynnir i wneuthur a rhoddi yr unrhyw i'r neb a'i gofynno) a rhaid iddo ei ddarllain yn gyhoedd ac ar osteg, ynghyd a'r Declarasiwn neu Gydnabod-Lythyr uchod, ar ryw Ddydd yr Arg­lwydd o sewn Tri Mîs nesaf, o fewn ei Eglwys Blwyf, y bo yn Gw­eini ynddi o flaen y Gynnulleidfa ymgynnulledig yno ar Bryd Gwasa­naeth Duw, Tan boen bôd i bob ûn na wnelo hynny golli y cyfryw ei Barsonoliaeth, Ficcariaeth neu Rent, Cuwradiaeth neu Lecturiaeth yn llwyr anolo, ac a'i difeddiennir yn ddiannod o'r unrhyw; A bod y cy­fryw Barsonoliaeth, Ficcariaeth neu Rent, Cuwradiaeth neu Lecturia­eth yn wâg, megis pe bai efe wedi trengu.

Profeidier yn oestad ado heibio ar ol y pummed dydd ar hugaiu o Fawrth a fydd yn oedran ein Harglwydd Dduw, Mîl, Chwechant, a dwy a phedwar-ugain, yn y declarasiwn neu Gydnabod-lythyr uchod, a ddylid ei subscreibio a'i ddarllain felly, y geirau hyn yn canlyn.

AC ydwyf yn declario fy môd yn dal nad oes dim Rhwymedigaeth arna­fi nac ar nêb arall oddiwrth y llw a elwir yn gyffredin, Y Solemn Leg a Chyfenant i argeisio nêb ryw eilyddiaeth, neu gyfnewid Llywodraeth yn yr Eglwys, nac yn y Stât: Ac mai llw anghyfreithlawn ydoedd yr unrhyw; a'r cyfryw ag a gymmhellwyd ar ddeiliaid y frenhiniaeth hon, yngwrthwy­neb i eglur Gyfreithiau a rhydid y Deyrnas hon.

Fel na bo nêb ûn o'r rhai rhagddywededig yn rhwym o hynny a­llan i subscreibio neu ddarllain y rhan honno o'r Declarasiwn neu Gyd­nabod-Llythr uchod.

Profeidier yn oestad a Bîd Actiedig, na bo i nêb ar ol Gwyl S. Bartholomeus yr hwn a fydd ymmlwyddyn oedran ein Harglwydd, Mîl, Chwechant, a dwy, a thri-ugain, yr hwn y sydd yr awr hon Incum­bent, ac yn mwynhaû Parsonoliaeth, Ficcariaeth neu Rent, ac nad yw eusys mewn Urddau Sanctol, drwy Urddiad Escob, feddu, dal, ueu fwynhaû y cyfryw Barsonoliaeth, Ficcariaeth, Rhent a Chûr, neu Bromosiwn Eglwysig arall o fewn Teyrnas Loegr, neu Arglwyddi­aeth Cymbru, neu Dref Berwic ar Dwêd, eithr efe a lwyr ddiswyddir ac a difuddir yn ddiannod o'r unrhyw, a'i holl Bromosionau Eglwysic a fyddant weigion un-modd a phe bai efe wedi trengu a marw.

Ac Enactier ymmhellach drwy'r Awdurdod rhagddywededig, na allo nêb pwy bynnac fyddo, o hynny allan gael ei ddwyn i neb-rhyw Barson­oliaeth, Ficcariaeth, Rhent, neu Bromosiwn, neu Oruchafiaeth Eglwy­sig arall beth-bynnac: Ac na feiddied nêb Gyssegru a Ministrio y Sacra­ment Bendigedig, hyd pan Urdder ef yn Offeiriad yn ol y ffurf a'r môdd pwyntiedig yn y Llyfr dywededig, oddieithr ei fôd o'r blaen wedi ei wneuthur yn Offeiriad drwy Urddiad Escob, tan boen fforffet­tio am bob Trosedd swm Cant punt, (y naill hanner i Fawredd y Bre­nin, a'r hanner arall i'w rannu yn union rhwng Tlodion y Plwyf, lle gwneler y Trosedd. A phwy bynnac ûn neu ychwaneg a holo am yr unrhyw drwy Gwyn Dylêd, Bil, neu Infformasiwn yn ûn o Lysoedd Record Grâs y Brenhin, yn yr hwn ni Chaniadheir nac asswyn, na nawdd nac ymwystlad Cyfraith;) A chael ei ddifreinio mal na allo ei gymeryd nai dderbyn i Urdd Offeiriad dros dymp ûn flwyddyn gyfan nesaf yn canlyn.

Profeidier na chyrrhaeddo y Poenau yn yr Act ymma, i Alltudion a Dieithriaid o Eglwysau y Refformasiwn trâmôr, cynnifer a ydynt, neu a fyddant Gymeredic gan ein Harglwydd Frenin, ei Etifeddion a'i Syc­sessoriaid yn Lloegr.

Profeidier yn oestad na Thyfo Teitl i néb i orchymmyn neu i Bre­sentio trwy Laps ar ûn gweili neu ddifwyniant ipfo facto, drwy Rymy Statut ymma, namyn yn nherfyn chwe mîs ar ol derbyn o'r Patron rybudd o'r cyfryw weili neu ddifwyniant oddiwrth yr Ordinari, neu ar ol darllain yn gyhoedd y cyfryw Farn Difwyniant yn Eglwys Blwyf y Rhent, Parsonilaeth, neu Ficcariaeth a wneler yn wâg, neu y ddifw­ynheir yr Incumbent o honi drwy Rym yr Act Bresennol.

Ac Enactîer ymmhellach drwy'r Awdurdod ragddywededig na arfe­rer ûn ffurt neu Drefn Gweddiau Cyffredin, Ministriad y Sacramen­tau, [Page] Cynnedfau, neu Ceremoniau, yn gyhoedd mewn ûn Eglwys, Cappel, neu le Public arall o fewn un Colâs neu Awl o fewn yr ûn o'r Ddwy Unifersiti, neu Golasau Westminster, Caerwynt ac Eaton, nag o fewn ûn o honynt, amgen nag a Ordeinier ac a appwyntier eu har­feru drwy'r Llyfr dywededig. A bod i bôb Llywodraethwr neu Ben Presennawl ar bôb Colas neu awl yn y Ddwy Unifersiti, ac ar Gola­sau Westminster, Caerwynt ac Eaton o fewn ûn Mîs ar ôl Gwyl S. Bar­tholomeus, a fydd ym mlwyddyn oedran ein Harglwydd, Mîl, Chwe­chant, a Dwy a Thri-ugain: Ac i bôb Llywodraethwr a phen o bob ûn o'r Colasau ac Awlau dywededig a ddewisir, neu a appwyntir rhag­llaw o fewn ûn mîs nefaf ar ol ei Electiwn, neu Golasiwn, neu Ad­missiwn i'r unrhyw Lywodraeth neu Bennaethyddiaeth, subscreibio yn Bublic ac yn gyhoedd o fewn yr Eglwys, Cappel, neu le Public a­rall o'r unrhyw Golâs neu Awl, ac yngwydd y Brodorion a'r Yscol­heigion o'r unrhyw, neu'r nifer mwyaf o honynt a fo trigiannol yno y pryd hwnnw, Subscreibio i'r namyn ûn deugain Articlau y ffydd, a Grybwyllir yn y Statut a wnaethpwyd yn y drydydd flwyddyn ar ddêg o Deyrnassiad y ddiweddar Frenhines Elizabeth, ac i'r Llyfr dywede­dîg, a Declario ei ddiffuant Gyd-undab, Cyd-synniad ai Gymmodlo­nedd i'r dywededig Articlau, ac i'r unrhyw Lyfr, ac i ymarfer o'r holl Weddiau, Cynneddfau, ffurfiau a Threfnau a appwyntir ac a gyn­hwyfir yn y Llyfr dywededig yn ôl y ffurf ddywededig: A bod i bawb o'r cyfryw Lywodraethwyr, a Phennau o'r cyfryw Golasau ac Awlau, ac i bob ûn o honynt y sydd, neu y fyddo mewn Urddan Sanctol, ddarllain unwaith (o leiaf) bôb Chwarter blwyddyn (oni bydd rhwystr cyfreithlon) yn y bublic ac ar Osteg, y Weddi a Gwa­sanaeth Boreuol pwyntiedîg yn y dywededig Lyfr, i'w darllain, yn E­glwys, Cappel neu le Public arall o'r unrhyw, tan boen colli, a'i orfodo­gaethu o gwbl sydd ar ei helw yn perthyn i'r unrhyw Lywodraeth neu Ben­naethyddiaeth dros dalm chwe Mîs gan y fysytor neu Fysystoriaid yr un­rhyw Golas neu Awl. Ac os rhyw Lywodraethwr neu Bennaethydd ar ryw Golas neu Awl a orfodogwyd am na sybscreibiasai i'r unrhyw Ar­ticlau a Llyfr, neu am na ddarllainiasai y weddi a'r Gwasanaeth Bo­reuol megis y rhagddywedwyd, ni sybscrebia i'r Articlau a'r Llyfr dy­wededig, ac ni ddeclaria ei Gymmodlonrwydd iddynt megis y rhag­ddywedwyd, ac ni dderllyn y foreuol Weddi a Gwasanaeth, megis y rhagddywedwyd ar ben y chwe mîs nesaf ar ol y cyfryw ei orfodaeth neu yn gynt, yna Bîd y cyfryw Lywodraeth neu Bennaethyddiaeth yn ebrwydd yn wâg a diddymmedig.

Profeidier yn oestad, a bydd cyfreithlawn arfer y weddi Foreuol a Phrydnhawnol, a'r holl weddiau erailla Gwasanaeth pwyntiedig trwy'r Llyfr dywededig ynghappelau neu Leoedd public eraill o Golasau ac Awalu y Ddwy Unifersiri, yn Gholasau Westminster, Caerwynt, ac Eaton, ac yn Seneddau Eglwyswyr y Ddwy Dalaith, yn Lladin, er dim a gyn­hwysir yn yr Act hon yn y Gwrthwyneb.

Ac Enacteir ymmhellach drwy'r Awdurdod Rhagddywededig, na fydded nêb, ac na dderbynnier neb megis Lecturwr, ac na Chynhwy­sir, ac na oddefer, ac na Chaniadhaer i neb Bregethu megis Lectu­rwr, [Page] neu i Bregethu neu ddarllain ûn Bregeth neu Lectur mewn un Eglwys, Cappel, neu le Gwasanaeth Public arall o fewn y Deyrnas hon o Loegr neu Arglwyddiaeth Cymbru, a Thref Berwic ar Dwêd, odieithr îddo yn gyntat, gael Cymmeradwyaeth a thrwydded Arch-Escob y Dalaith neu Escob y Dioses, neu (os bydd Gwag yr Escobaeth) Gar­dian y Spiritualiti tan sêl, a darllain yngwydd yr unrhyw Arch-Escob, Escob, neu'r Gardian, y namyn ûn deugain Articlau y ffydd a gry­bwyllir yn y Statut y drydydd flwyddyn ar ddêg i'r ddiweddar Fren­hines Elizabeth, ynghyd a'r Declarasiwn o'i diffuant gydsynniad a r un­rhyw. A bod i bawb a phôb ûn, yr hwn yn awr y sydd, neu a fy­ddo rhagllaw Leisensedig, Asseignedig pwyntiedig, neu dderbynnie­dig megis Lecturwr, i bregethu ar ryw dydd-gwaith o'r wythnos o fewn ûn Eglwys, Cappel, neu le Gwasanaeth Public o fewn y Deyrnas hon o Loegr, neu'r Lleoedd rhagddywededig, ar yr amser cyntaf y pre­getho ddarllain (o flaen ei Bregeth yn amlwg, yn Bublic ac yn gyho­edd y Gweddiau Cyffredin a'r Gwasanaeth, pwyntiedig yn y Llyfr dywc­dedig i'w ddarllain, ary pryd hwnnw o'r dydd, ac yn y pryd a'r man hwn­nw ddeclario ei Gydsynniad a'i Gymmodlonedd i'r Llyfr dywededig, ac i ymarfer ar holl Weddiau Cynneddfau, Ceremoniau, ffurfiau a Thref­nau cynnwysiedig ac appwyntiedig ynddo, yn ol y ffurf rhagbwyntie­dig yn yr Act hon: Ac hesyd ddarllain ar y dydd Lectur cyntaf ô bôb mîs yn canlyn, tra arhoso yn Lecturwr neu Bregethwr yno, yn y lle pwyntiedig i'r cyfryw Lectur neu Bregeth o flaen ei ddywede­dig Lectur neu Bregeth, yn amlwg, ar osteg, a thrwy barch y Gwe­ddiau Cyffredin, a'r Gwafanaeth pwyntiedig yn y Llyfr dywededig i'w ddarllain ar y pryd hwnnw o'r dydd, y bo pregethu yr unrhyw Le­ctur neu bregeth arno: Ac yn ôl eu darllain felly, bod iddo Ddecla­rio yn yr amlwg, ac ar osteg yngwydd y Gynnulleidfa ymgyssylltedig yno, ei ddiffuant Gydsynniad, Cysswyn a Chymmodlonedd i'r Llyfr dywededig, ac i arferu'r holl Weddiau, Cynneddfau a Ceremoniau, ffurfiau a Threfniadau cynnwysedig ac appwyntiedig ynddo, yn ôl y Dull rhagddywededig: A bôd i bawb ac i bob ûn, a esceuluso neu a om­meddo wneuthur felly, gael ei anghymmwyso i bregethu y Lectur neu'r Bregeth honno, nac yr ûn arall, nac yn honno, nac yn ûn arall Eglwys, Cappel, neu le Gwasanaeth Public hyd pan ddarllennio yn yr amlwg, ar osteg, a thrwy barch y Gweddiau Cyffredin: a'r Gwasanaeth pwyn­tiedig trwy'r Llyfr dywededig, a Chydymffurfio ymmhôb pwnc i'r pe­thau pwyntiedig a Gorchymmynnedig ynddo, yn ol perwyl gwir-ofeg a dirnadaeth yr Act hon.

Providier yn oestad, ôs mewn rhyw Eglwys neu Gappel Gadeiriol neu Golegawl y pregether y Bregeth, neu Lectur ddywededig, digo­nol sydd i'r Lecturwr dywededig, Ddeclario ar Osteg ar yr amser rhag­ddywededig ei Gydsynniad a'i Gyssondeb i oll a gynhwysir yn y Llyfr dywededig, yn ôl y Dull Rhagddywededig.

Ac Enactier ymmhellach drwy'r Awdurdod rhagddywededig; Os bydd i nêb, a anghymmwyswyd drwy'r Act hon i bregethu ûn Lectur neu Bregeth, Bregethu un Lectur neu Bregeth tra y trigo ac yr athoso yn anghymmwysedig; yno pawb a phôb ûn a droseddo felly, a ddioddef [Page] am bôb cyfryw drosedd, garchar drî mîs yn y carchar Cyffredin, heb na mâch na mainpris: Ac fe all dau Ustus o heddwch o bôb swydd o'r Deyrnas hon a'r lleoedd rhagddywededig, pôb Maior neu Benswyddog arall, o bôb Di­nas neu Dref freiniol o fewn yr unrhyw, ar Sertificat Ordinari y lle iddo ef neu hwynthwy, am y Trosedd a wnâed a Gorchymmynnir ymma iddynt, yn gyfattebol Gommitio y cyfryw Droseddwr neu Droseddwyr i Geol y Sir, y Ddinas, neu Dref freiniol.

Profidier yn oestad ac Enactier ymmhellach drwy'r Awdurdod ragddy­wededig, Am gynnifer gwaith ag y bo pregethu ûn bregeth neu Lectur, bod Darllain y Gweddiau Cyffredin a'r Gwasanaeth pwyntiedig yn y Llyfr dywededig i'w ddarlain, ar y Pryd hwnnw o'r dydd, yn Bublic, ar osteg a Thrwy barch gan ryw Offeiriad neu Ddiacon, yn yr Eglwys, Cappel neu le Gwasanaeth Public, lle pregethir y dywedig bregeth neu Lectur, cyn pregethu y cyfryw bregeth neu Lectur; A bod o'r Le­cturwr, a fo i bregethu y pryd hwnnw, yn Bresennol with eu dar­llain.

Profidier eisoes na Chyrrhaedd yr Act hon i ûn Eglwys-Unifersiti o fewn y Deyrnas hon, pan, a chynnifer gwaith ag y Pregethir neu y dar­llennir ûn bregeth neu Lectur yn yr unrhyw Eglwysi, nac yn yr ûn o honynt, sef megis pregeth neu Lectur Bublic yn yr Unifersiti, nad aller pregethu a darllain, y Pregethau a'r Lecturau hynny yn y cyfryw ddefod a modd ac y Pregethid, ac y darlennid yr unrhyw gynt; Er yr Act hon, ac er dim a gynhwysir ynddi, a'r ddim-ryw fôdd yn y gwrthwyneb.

Ac Enactier ymmhellach drwy'r Awdurdod Rhagddywededig, y bydd yr amrafael gyfreithiau dâ, a Statutau y Deyrnas hon, a wnaeth­pwyd o'r blaen, ac a ynt hyd yn hyn, mewn grym am Unffurfiad Gweddî, a Ministriad y Sacramentau o fewn y Deyrnas hon o Loegr a'r Lleo­edd rhagddywededig mewn llawn grym a nerth i bôb, a phob rhyw berwyl a diben er sefydlu a Chadarnhaû y Llyfr dywededig, a elwir, Llyfr Gweddi-Gyffredin A Ministriad y Sacramentau, a Chynneddfau a Ce­remoniau eraill yr Eglwys, yn ôl arfer Eglwys Loegr, gyda'r Psallwyr neu Psalmau Dafydd, notedig i'w Canu a'u dywedyd yn yr Eglwysiau; a ffurf a Dull Gwneuthuriad, Ordeiniad a Chyssegriad Escobion Offeiriaid, a Dia­coniad, a grybwyllir yma ymmlaenllaw i'w Cyssylltu a'u harddodi at yr Act hon; Ac hwy a gymmhwysir, a arferir, a gwneir defnydd o ho­nynt er cospi pôb camwedd yn erbyn y Cyfreithiau dywededig ynghy­mlehgyd y Llyfr Rhagddywededig, ac nid arall.

Profidier yn oestad, ac Enactier ymmhellach drwy'r Awdurdod rag­ddywededig, bôd yn yr holl Weddiau, Litaniau, a Cholectau, y sy'n perthyn i'r Brenin, y Frenhines, neu'r Frenhinawl Heppil, cyfnewidio ac arallu yr Henwau o amser bwygilyd, a'u cymmhwyso at yr Archlessur pressennol, yn ol cyfarwyddiad Awdurdod Gyfreithlawn.

Profidier hefyd, ac Enacteir drwy'r Awdurdod ragddywededig, Bôd Caffael a meddu, ar Gôst a thraul y Plwyfolion o bôb Eglwys Blwyf a Chappel, Eglwys-Gadeiriol, Colas ac Awl, un Copi wedi ei gywir Breintio o'r Llyfr dywededig, Llyfr Gweddi Cyffredin, a Ministriad y Sacramentau a Chynneddfau a Ceremoniau eraill yr Eglwys, yn ol arfer [Page] EGLWYS-LOEGR, gyda'r Psallwyr neu Psalmau Dafydd, nodedig i'w canu neu i'w dywedyd yn yr Eglwysau; A ffurf a Dull Gwneuthuriad Ordei­niad, a Chyssegriad Escobion, Offeiriaid a Diaconiaid, cyn dydd Gwyf S. Bartholomeus ymmlwyddyn [oedran] ein Harglwydd, Mîl, Chwechant a Dwy a Thri-ugain, tan boen fforffettio Tair pynt bôb mîs tra bont heb eu cael, gan bob Plwyf neu Gappelaniaeth, Eglwys-Gadeiriol, Co­lâs, ac Awl a esceulusant hyn.

Profidier yn oestad, ac Enactier drwy'r Awdurdod ragddywededig, Bod i Escobion Henfford, Llan-Ddewi, Llan Elwy, Bangor a Llan-Dâfa'u Syccessoriaid, Drefnyddio yn eu plîth eu hunain (er iechyd Enaid i'r preiddiau a ddodwyd tan eu gwiliadwriaeth) Gyfieithu y Llyfr a gyd-glymmir a'r Act hon yn gywir, ac yn gyfrdo i Jaith y Britanm­aid, sef y Cymbru, a bod preintio yr unrhyw wedi ei Gyfiethu felly, ac wedi ei olygu, ei chwilio, a'i gymmeradwyo ganddynt o leiaf gan ryw Dri o honynti iawn gyfryw rifedi, modd y galler cael ûn o'r Lly­frau dywededig wedi ei gyfieithu a'i Breintio felly, i bob Eglwys-Ga­deiriol, Colafawl a phlwyfawl, ac i bob Cappel anwes o fewn pob ûn o'r Diosesau dywededig a lleoed Yn-Ghymbru lle y mae 'r Jaith Gym­braec yn gynnefin ac yn gyffredin, cyn Calan Mai, Mîl, Chwechant a phump a Thri-Ugain. A Chwedi preintio a Chyffredino y Llyfr dy­wededig wedi ei gyfieithu felly, Bod i'r Gweinidogion a'r Cuwradiaid drwy holl Gymbru o fewn y Diosesau dywededig lle mae'r Jaith Gym­braeg yn Gyffredinawl, Arfer a dywededyd cyfan Wasanaeth Duw, yn y Fritonaeg neu Gymraeg, ar y cyfryw ddull a ffurf ag a Orchym­mynnir yn ol y Llyfr a gyffylltir a'r Act hon i'w harferu yn y Saeson­aeg heb amgenu dim mewn ûn Drefn neu ffurf oddiwrth y Llyfr Sae­sonaeg dywededig: Am yr hwn Lyfr wedi ei gyfieithu a'i Breintio fel­ly, y Wardeiniaid o bob ûn or Plwyfau dywededig a dalant allan o A­rian y Plwyf yn eu llaw, tuag at Wasanaeth pob rhyw Eglwysau, a Cha­niadheir iddynt yr ûnrhyw ar eu cyfrif: A bod i'r Escobion dywede­dig, ac i'w Sycsessoriaid, neu o leiaf i ryw dri o honynt osod, ac appwyntio y prîs, ar yr hyn y gwerthir. A Bod prynnu a Châel ym­mhob Eglwys trwy Gymru, y bo cael Llyfr Gweddi-Gyffredin yn Gym­raeg, trwy Rym yr Act hon, ûn Llyfr arall o Weddi Gyffredin yn Sae­sonaeg cyn dydd calan Mai, Mîl Chwechant a phedair a Thri-ugain, A'r ûn Llyfr i aros yn wastadol, mewn rhyw Leoedd cymmhessur yn yr Eglwysau dywededig, modd y gallo cynnifer ag au deallant gyr­chu attynt, ar bob amser rymherus, i ddarllain a Chwilio yr unrhyw, fel y gallo hefyd y Sawl nad ynt yn deall yr Jaith ddywededig, wrth gyd-ystyried y ddwy-iaith ddyfod yn haws i ddeall y Saesonaeg; er dim yn yr Act hon i'r gwrthwyneb. Ac nes y galler danfon a Chael Co­piau preintiedig o'r Llyfr dywededig yn gyfreithiol fel uchod, Arferer y ffurf Gweddi Gyffredin a Sefydlwyd drwy Barliament cyn gwneuthur yr Act ymma, mal cyn hyn ynghyfryw Leoedd o Gymru lle na dde­ellir y Saesonaeg yn Gyffredinol.

Ac fel y Cadwer yn ddiogel, ac y cynnhalier byth Goppiau Cywir a pherffaith o'r Act hon ac o'r Llyfr Cyfsylltedig gyda hi, ac er ym­gadw oddiwrth bob ymrefymmau rhagllaw; Am hynny Enacteir trwy'r [Page] Awdurdod rhagddywededig, Fod i bob Deon a Chapter o bob Egl­wys Gadeiriol a Cholasawl o fewn Lloegr a Chymru, Gaffael tan Sêl Fawr Loegr ar eu côst a'u traul eu hunain ûn Coppi cywir a pherffaith o'r Act hon, ac o'r Llyfr dywededig cyn y pummed dydd ar hugain o fîs Rhagfyr, mîl Chwechant a Dwy a Thri-ugain▪ I'w gadw ac i'w gyn­nal gan y Deoniaid a'i Chapterau dywededig, au Sycsessoriaid yn ddi­ogel tros byth. Ac hefyd i'w ddwyn allan a'i ddangos ymmhob Llys Record, cynnifer gwaith ag y gelwir arnynt i hynny drwy Gyfraith. Rhodder hefyd Gopiau Cywir a pherffaith o'r Act hon ac o'r unrhyw Lyfr i bob ûn o'r Llyssoedd yn Westminster, ac i'r Twr-Gwyn, i'w cadw a'u cynnal byth, gyda Recordau y Llyssoedd dywededig, a Chy­da Recordau y Twr-Gwyn, i'w dwyn hefyd i olwg ac i'w dangos ym­hob Llys lle bo'r achos yn gofyn, Ar Llyfrau dywededig hyn a an­greffir tan Sêl Fawr Loegr, a esamier gan y cyfryw wyr a appwyntio Grâs y Brenin i hynny tan Sêl Fawr Loegr, ac a gymmharir a'r Llyfr Ori­ginol arddodedig isod. A Bîd iddynt allu i Gorrectio a Chyweirio drwy yscrifen pob bai trwy gamgymmeriad y Preintiwr yn Preintio yr un­rhyw Lyfr, a phôb pêth cynnwysiedig ynddo: Ac hwy a siccrhant mewn yscrifen tan eu llaw a'u Sêl, neu dan Law a Sêl rhyw drio ho­nynt, yn niwedd yr un Llyfr, esamio a Chymharu o honynt y Llyfr hwnnw a'u bôd yn canfod i fôd ef yn Gopi cywir a pherffaith: A'r Llyfrau dywededig a phôb ûn o honyut a Siamplerwyd fel hyn tan Sél Fawr Loegr, megis y rhagddyweded a dybir, a gymmerir, a fernir ac a esponir eu bôd yn ddâ ac yn ddigonawl yn y Gyfraith i bob rhyw ddibennau a pherwylion beth bynnac ac y gyfrifir yn Recordau da, me­gis y Llyfr hwn ei hun arddodedig isod; Er neb ryw Gyfraith neu dde­fod ar nêb ryw fôdd yn y gwrthwyneb.

Profidier hefyd na bydd yr Act hon na dim cynhwysiedig ynddi yn argy­weddus neu niweidiol i freiniol Broffessawl y Gyfraith yn yr Unifersiti o Rv­dychen, am a berthynno i Brebendiaeth Shipton, yn Eglwys Gadeiriol Sarum, unedig a Chyssylltedig at le yr ûn Proffessor i'r Brenin o amser bwy gilydd, gan y ddiweddar Frenin Jaco o Goffadwriaeth wyn­fydedig.

Profidier yn oestad lle mae yr unfed Articl ar Bymtheg ar hugain, o'r namyn ûn deugain Articlau, y cyttunwyd arnynt gan yr Arch-E­scobion, ac Escobion y Ddwy Dalaith, a'r holl Eglwyswyr yn y Con­focasiwn a gynhalied yn Llundain yn oedran ein Harglwydd, Mîl pum Cant a dwy a Thri-ugain, er mwyn gochelyd amryw opinionau, ac er fefydlu Cydfynniad yn y gywir Grefydd, yn y geiriau hyn yn canlyn, fef,

Bod Llyfr Cyssegriad Arch-Escobion ac Escobion, ac o Urddiad Offeiriaid a Diacomaid a osodwyd alian yn amser Bremn Edward y Chweched, ac a Gonffyrmied yr un amser drwy Awdurdod Parliament, yn cynnwys pôb pêth rheidiol i'r cyfryw Gyssegriad ac Urddiad ac nad oes ynddo ddim o hono ei hun, gaugrefyddol nag annwuwiol, o herwydd paham, pwy bynnag a Gy­ssegrwyd neu a Ordeiniwyd yn ôl Cynneddfau y Llyfr hwnnw, er yr ail flw­yddyn i'r Rhagddywededig Frenin Edward hyd yr awr hon, neu a Gysse­grer neu a Ordeinier yn ol yr unrhyw Gynneddfau: Ni a farnwn fod y cy­fryw oll wedi eu Cyssegru a'u Hordeimo yn union, yn weddus, ac yn Gyfreithlawu.

[Page]O herwydd pa ham Enactier, A Bid Enactiedig drwy'r Awdurdod ragddywededig, Bod pob Sybscripsiwn a rodder neu a wneler o hyn allan gan bôb Diacon Offeiriad neu Eglwys-wr neu arall pwybynnag a gymmhellir drwy'r Act hon neu ryw Gyfraith arall y syn awr mewn grym i sybscreibio i'r Articlau dywededig, a ddirnedir ac a gymme­rir î gyrrhaeddyd, ac a gysedrych (hyd a berthyno i'r dywededig Un­fed Articl ar bymtheg a'r hugain at y Llyfr a gynnwys ffurf a Dull gw­neuthur, Urddo, a Chyssegru Escobion, Offeiriaid a Diaconiaid a gry­bwyllir yn yr Act hon, yn y rhyw fôdd a Dull ag y cyrrhaeddai cyn hyn i'r Llyfr a osodasid allan yn amser Brenin Edward y chweched, yr hwn a grybwyllir yn y ddywededig Unfed Articl a'r bymtheg a'r hu­gain. Er dim yn y dywededig Articl, neu yn nêbun Statut, Act neu Ganon arall a ydoedd neu a wnaethpwyd o'r blaen, mewn ûn môdd yn y gwrthwyneb.

Profidier hefyd Bôd arferu a Chadw a'r droed etto yn Eglwys Loe­gr, y Llyfr Gweddi Gyffredin a Ministriad y Sacramentau, a Chyn­neddfau a Ceremoniau eraill yr Eglwys hon o Loegr, ynghyd a ffurf a Dull Ordeinio a Chyssegru Escobion, Offeiriaid a Diaconiai'd, yr hwn fu yn arferedig hyd yn hyn, ac yn ei herwydd a sefydlwyd drwy Act Parliament yn gyntaf yn yr wythfed flwyddyn i'r Frenhines Eliza­beth, hyd Ddydd-gwyl Sanct Bartholomeus a fydd ymmlwyddyn ein Har­glwydd Dduw, Mîl, Chwechant a dwy a Thri-ugain.

Y RHAGYMADRODD.

DOethineb Eglwys Loegr ydoedd, er pan gyntaf y lluniwyd iddi Li­turgi Public, Cadw cyfrwn­gedd y ddau eithaf, na byddai ry-syth i wrthod, na rhy hy-blyg i oddef cyfnewid arno. Canys, megis o'r naill du y mae prawf Sathredig yn dangos, dyfu o amrafael anghymmwysderau, lle cyfnewidi­wyd (heb fod anghenrhaid eglur yn peri) y pe­thau drwybwyll da a sefydliasid, A'r rhai hynny gan mwyaf yn amlach, a dwysach, na'r drygau, a amcanwyd eu diwygio drwy y cyfryw newidiad. Felly, o'r tu arall, yn gymmaint a bod ffurfiau go­sodedig o Wasanaeth Duw, a'r cynneddfau, a'r Ceremoniau pwyntiedig iw harfer ynddo yn bethau Indiffrent, a newidiadwy, ac a gyffessir eu bod felly, Rheswm yw eu newid a'u hailweddu a'r ddwys a phwysfawr ystyr, yn ol ag y bo amryw angen yr amseroedd a'r achlysyrau yn gofyn, modd y gwelo gwyr o Awdurdod o amser bwygilydd fod yn rheidiol neu yn fuddiol, Felhyn y gwelwn ganihadu o'r Eglwys yn Nheyrnasiad amrafdel Dywysogion [Page] o Goffadwriaeth bendigedig, er pan ddechreuoddy Refformasiwn, ar iawn a dwys ystyriau yn ei Chym­mel i hynny, wneuthur y cyfryw newidiadau mewn rhyw bethau ag a farnwyd yn eu priod amseroedd yn gymmwys. Eithr fal y bu yn oestad safadwy, yr holl Rannan cyfannol ac hanfodolo honi yn unhyd he­ddyw, (yn gystadl yn y defnyddiau pennaf, ag yn ei lluniaethiad a'i threfn) Ac as afant etto yn gadarn ac yn ddiyscog, er anturiau ofer, a rhuthrau rhych­wyllt a wnaed i'w herbyn gan rai anwastad, ac a ddangos as ant bob amser ychwanego serch i'w hewy­llys a'u helw priod nag o'r ddyled y sydd arnynt i'r Public.

Trwy ba foddion anaddas, ac i ba ddibennion trwch, y daeth bwrw heibio arfer y Liturgi (er ei bod yn Orchymmynedig drwygyfreithiauy Deyrnas, y cyfryw na repeliwyd erioed etto) dros amseroedd y diweddar helbultrwch anhappus, Rhy yspys yw i'r Byd, ac nidoes gennym Ewyllys ymma i'w hadgoffau. Eithr pan, ar ddedwydd Edfrydiad Gras y Brenin, yddoeddtebygol ymmlith pethau eraill, y dychwelai hefyd ar un-waith Arfer y Liturgi (canys er-ioed ni ddiddymmwyd hi drwy gyfraith) oni wneid cais cy­flym i'w Rhag-flaenu hi; y rhai a'u gwnaethant yn fwyaf Rhan o'u gorchwyl, tany Gam-rwysc ddiwe­ddar, i ddwyn y Gwerin i ddiflassu arni hi, hwy a gan­fuant y perthynai iddynt am y dalai eu Cmme­riad da, a'u helw (oddieithr iddynt rwyddgyd­nabod eu hamryfusedd, yr hyn beth an-hawdd iawn dwyn y cyfryw wyr iw wneuthur) a'u llawn eg­ni wrth-ladd ei dwyn hi i fewn eilvvaith. A thuag at hynny y taned ar lled liavvs o Bamphledau yn er­byn [Page] y Llyfr Gweddi Gyffredin, yr ad-rifwydyr hen wrthresymmau, ac a arddodwyd rhai o newyddychw­aneg nag a wneithid o'r blaen fel ydd ai yn unch­wydd eu nifer. Ar fyr, llawer taer-ymgais a wnaeth­pwyd at Ras a Mawredd y Brenin am gael adch­wilio y Llyfr dywededic, a chael newid ynddo, ac ych­wanegu atto y cyfryw bethau a dybygid yn gymmwys er esmwythdra i dyner gydwybodau (y gweiniaid) yr hyn beth ein Harglwydd Frenin o'i dduwiol duedd i roddi Bodlonrwydd (cymhelled a thrwy reswm y gellid disgwil) i'w ddeiliaidoll, o bahygoeledd byn­nac, yn rhwydd-rasol a ganiadhaodd.

Yn yr hon ail-olygiad ni a ymroesom i gadw yr un­rhyw ardymmer a welwn ei harferu ar y cyffelyb a­chos yn y cyn-ams eroedd. Amhynny, o'r amrafael new­idiau a ddygwyd ger ein bron, bwriasom heibio gynni­fer oll yn gystadl a dywysent aflwydd ar eu hol (megis yn dirgel daro ar ryw Athrawiaeth osodedic, neu ryw ddefod ganmoladwy yn Eglwys Loegr, neu yn hytrach holl Eglwys Gatholic Crist,) a'r cyfryvv na arvvydd­occaent ddim eithr oeddynt lvvyr-wagsaw a gorwag. Ond y cyfryvv nevvidiadau a ddygvvyd attom (gan bvvy bynnag i an ba rith, neu i ba bervvyl bynnag) a vvelem ar ryvv fesur yn lles avvla buddiol, nyni o vvir barodrvvydd evvyllys a ymfodlonasom ynddynt: nid o hervvydd ein cymmell trvvy nerth argument i hynny i'n hargyoeddi y gorfyddai gvvneuthur y ne­vvidiadau dyvvededig. Canys llawn-ddiogel yw gen­nym yn ein meddyliau (ac wele ni ymma yn proffessu hynny i'r Byd oll) nad yw y llyfr, megis yr ydoedd o'r blaen wedi ei sefydlu drwy gyfraith, yn cynnwys yn­ddo ddim ymgwrthwyneb i Air Duw, nac i bur A­tharwiaeth, [Page] na dim na allo Gwr Duwiol a chydwybod dda ei arfer ac ymddarostwng iddo, ac na ellir ei iawn-amddi­ffyn yn erbyn pwy bynnac ai gwrthwyneppo; os caniadheir iddo, gymmeriad cyfiawn a hy-gar, y cyfryw o wir iawn­der cyffredin a ddylid ei roddi i bob yscryfennadau Dyni­on, yn enwedig y cyfryw a osodir allan trwy awdurdod, ac yn gyfartal a'r cyfieithiadau rhagoraf o'r Scry­thyr-lan ei hun. Am hynny ein diben cyffredinol ni yn hyn o waith ydoedd, nid bodloni nac un blaid nac ar all yn neb rhyw un o'u gofynnion anrhesym­mol, ond i wneuthur yr hyn ir eithaf o'n dealldwriaeth ni, a ddirnadasom y tueddai fwyaf at ddeffynniad He­ddwch ac undeb yn yr Eglwys, i beri parch ac i annog i Duwioldeb a Defosiwn ym mhublic wasanaeth Duw; ac i dorri ymaith achly sur oddiwrth y sawl a geisiant gan­llaw i wrth ddadleu a chynnhennu yner byn Liturgi yr Egl­wys. Ac am a berthyn i'r amrywiadau oddi-wrth y Llyfr cyntaf, pa un bynnag a'i trwy gyfnewidiad, anghwanegiad neu fodd ar all, gwasanaethed hyn o gyfrif yn gyffredinol. Gwnaethpwyd y rhan fwyaf or cyfnewidiadau, naill, yn gyntaf er manylach gyfarwyddo y gwenidogion ar bob rhan o wasanaeth Duw, a hyn a wneir yn bennaf yn y Calen­derau a'r Rubricau, neu yn ail er adrodd yn briodolach ryw eiriau neu ddywediadau a arferwyd gynt drwy lefer­ydd cyssonach i Dafodiaith yr amser au presennol, ac er mwyn egluro yn amlyccach, ryw eiriau a dywediadau er aill a ddygent arwyddoccaad amwys, neu a oeddynt hylithr i gamgymmeriad. Neu yn drydydd, er adrodd yn rhucclach y cyfryw Rannau or Scythyr-lan, a ddoded o fewn y Li­turgi, y rhai yn awr a drefnwyd i'w darllain; yn enwe­dic yn yr Epistolau ar Efengylau, ac amrafael leoedd eraill, yn ol cyfieithiad diweddaf y Bibl. A barnwyd [Page] yn gymmhesur anghwanegu yn eu gweddus leoedd, ryw weddiau, a ffurfiau o ddiolwch, wedi eu cymmhwyso i achlysurau priodol; yn Bennodawl, i'r sawl ysy' ar y Mor, gyda gwasanaeth am fedydd y sawl a ynt o oedran addfedach; y rhai er nad oeddynt mor angen­rheidiol pan luniwyd y llyfr cynt af, er hynny o her­wydd cynnyddiad Anabaptysm, a ymluscodd i'n mysc ni drwy benrhydd—der yr amserodd diweddar, a aethant yr awr hon yu amgenrheidiol, ac a allant fod yn fuddiol rhag llaw i fedyddio prioddorion yn ein Planwledyddtra—mor, ac eraill a droer i'r ffydd. Od oes a ddeisyfio cyfrif yspysach o bob cyfnewidiad yn un rhan o'r Lityrgi cymmered y Boen i gyd—gymharu, y llyfr hwn a'r cynt af: nid oes amau na chaiff weled yn eglur yr achos a oedd o'r cyfnewid.

A chan i ni ymegnio fel hyn i dalu ein dyledswydd yn hyn o orchwyl pwysfawr megis tan olwg Duw, ac i gymeradwyo ein purdeb yn y peth (hyd a oedd ynom) i Gydwybodau pawb oll; er bod yn yspys i ni mai am­mhossibliw bodloni pawb (pan fo'r fath amrywiaeth o Athrylith, o ffansi, ac o briod elw yn y Byd) ac nad allwn ddisgwl y bydd i wyr o ysprydoedd Terfyscus, gorphwyllus a chyndynniog ymfodloni i ddim o'r dull ymma, a ellir i wneuthur gan neb ar all ond ganddynt hwy eu hunain: er hynny i gydymae gennym obaith da am a gyflwynir ymma, oc a examnied yn ddiwyd iawn ac a ddiheurwyd gan Gonfocasiwnau y ddwy Dalaith y derbyn nir ef hefyd ac y cymmerir yn ddagan gynnifer ollo feibion Eglwys Loegr a ydynt sobr, heddychol a gwir Gydwybodus.

Am Wasanaeth yr Eglwys.

NI bu erioed ddim wedi ei ddychymmygu mor ddiball, neu wedi ei gyfnerthu mor gadarn, drwy synhwyr dyn, yr hwn mewn yspaid amser nis llygrwyd: megis, ymmhlith pethau eraill, y mae yn eglur ddigon wrth y gweddiau cyffredin yn yr▪ Eglwys; y rhai a elwir yn sathredic, Gwasanaeth Duw. Bonedd a dechreuad cyntaf pa rai, pes chwilid am danynt ym-mysc gwaith yu hen dadau, fe geid gweled nad ordeini­wyd y gwasanaeth hwnnw, onid er amcan daionus, ac er mawr dderchafiad duwioldeb. Canys hwynt hwy a drefnasaut y matter felly, fel y darllennid yr holl Fibl trosto (neu y rhan fwyaf o hono) un-waith yn y flwy­ddyn: gan amcanu wrth hynny, fod ir Gwyr llen, ac yn enwedic ir sawl a fyd­dent weinidogion y Gyunulleidfa, allu (trwy fynych ddarllen a myfyrio gair Duw) fod wedi ymddarparu i dduwioldeb, a bod hefyd yn aplach i annog eraill trwy ddy­sceidiaeth iachus, i'r un peth, ac i allu gorthrechu dadl y rhai a wrthwynebent y gwirionedd. Ac ym-mhellach, fel y gallei yr bobl (trwy glywed beunydd ddarllen yr Scrythyr lan yn yr Eglwys) gynnyddu yn wastad fwy-fwy mewn gwybodaeth am Dduw, a dyfod i garu yn gynhesach ei wir Grefydd ef.

Ond er ys talm o flynyddoedd, y darfu newidio, torri, ac esceuluso y dwywol a'r weddus drefn yma o waith yr ben Dadau, trwy blannu i mewn yn eu lle, Hystori­au amheus, Legendau, Attebion, Gwersi, Adwersi gweigion, Caffodwriaethau, a Seneddolion megis yn gyffredinol pan ddechreuid un llyfr o'r Bibl, cyn darfod dar­llein tair neu bedair pennod o honaw, y cwbl onid hynny a adewid heb ei ddarllen. Ac yn y wedd hon y dechreuid llyfr Esai yn yr Adfent, a llyfr Genesis yn Septu­age sima: eithr eu dechreu a wneid yn unic, heb orphen eu darllen byth. A'r un ffunyd yr arserid am lyfrau eraill or Scrythyr lan. A chyd a hynny lle mynnei S. Paul, fod dywedyd cyfryw iaith wrth y bobl yn yr Eglwys ac a allant hwy ei deall a chaffael lleshad o'i chlywed; y gwasanaeth yn yr Eglwys hon o Loegr (er ys lla­wer o flynyddoedd) a ddarllenwyd yn lladin ir bobl, yr hwn nid oeddent hwy yn ei ddeall; ac felly yr oedynt yn unic yn clywed a'u clustiau, ond eu calonnau, a'u hyspryd, a'u meddwl oedd yn ddiadeilad oddi wrtho. Ac heb law hynny▪ er darfod i'r hen Dadau barthu y Psalmau yn saith ran, a phob un o hynynt a elwid Nocturn, yn awr er yn hwyr o amser, ychydig o honynt a ddywedid heunydd, gan eu mynych ad-ddywedyd, a gadu y darn arall heibio, heb yngan un-gair. Gyd a hynny, nifei­ri a chaledrwydd y Rheolau y rhai a elwid y Pica, ac amrafael gyfnewidiau gwasa­naeth, [Page] oedd yr achos, fod mor galed ac mor rhwystrus droi at gysnodau y llyfr yn unic; megis yn fynych o amser y byddei mwy o drallod yn chwilio am y peth a ddar­llennid, nag yn ei ddarllen wedi ei gael. Felly wrth ystyried yr anghymhessurwydd hynny, fe a osodir yma y cyfryw drefn, fel y diwygir yr un-rhyw betheu. At er mwyn parodrwydd yn y matter yma, y tynnwyd Calender i'r un-rhyw bwrpas, yr han sydd eglur a hawdd ei ddeall, ym-mha un (hyd y gellid) y gosodwyd allan wedd i ddarllen yr Scrythyr lan, fel y gwneler pob peth mewn trefn, heb wahanu un darn o honi oddi-wrth ei gilydd. Ac oblegit hyn y torred ymmaith Anthemau, Re­spondau, Insitatoriau, a chyfryw wag bethau amherthynasol ac oedd yn torri cwrs cyfan ddarlleniad yr Scrythyr. Etto gan nad oes fodd amgen, na byddo angenrhei­diol bod ymbell reol; am hynny y gosydwyd yma ryw reolau, y rhai megis nad ydynt onid ychydig o nifer, felly y maent yn rhwydd, ac yn hawdd eu deall. Wrth bynny y mae i chwi yma ffurf ar weddio (tu ag at am ddarllen yr Scrythur lan) yn gwbl gysson a meddwl ac amcan yr hen Dadau, ac o lawer yn fwy proffidiol, a chymmwys na'r un yr oeddid yn ddiweddar yn ei arfer. Y mae yn fwy proffidiol, o achos bod yma yn gadu allan lawer o bethau, o ba sawl y mae rhai heb fod yn wir, rhai yn amheus, rhai yn wag ac o ofer-goel; ac nid ydys yn ordeinio darllen dim onid Pur-wir air Duw, yr Scythyr lan, neu▪ yr cyfryw a seilir arni yn eglur, a hyn­ny yn y cyfryw iaith a threfn ag y sydd esmwythaf a hawsaf eu deall gan y dar­llen-wyr, a'r gwrandaw-wyr.

Y mae hefyd yn fwy cymmwynasol, yn gystal o herwydd ei fyrred, ac a herwydd eglured ei drefn, ac o herwydd bod y rheolau yn ychydig o nifer ac yn hawdd. A chyd a hynny, wrth y drefn bon, nid rhaid i'r Curadiaid un llyfr arall iw gwasanaeth cy­ffredin, ond y llyfr hwn a'r Bibl. O herwydd pa ham, nid rhaid i'r bobl fyned mewn cymeint o draul am lyfrau ag y byddent amser a fu.

A lle bu ym-mlaen llaw amrafael mawr wrth ddywedyd a chanu yn yr Eglwysi o fewn y Deyrnas hon, Rhai yn canlyn arfer Salisburi, rhai arfer Henffordd, rhai arfer Bangor, rhai arfer York, a rhai eraill arfer Lincoln: yn-awr o hyn allan ni bydd i▪r holl deyrnas ond un arfer. Ac o barna neb fod y ffordd hon yn fwy poe­nus, o achos bod yn rhaid darllen pob peth ar y llyfr, lle o'r blaen o herwydd my­nych ddywedyd, y gwyddent lawer peth ar dafod leferydd, eithr os y cyfryw rai a gydbwysant eu llafur, ynghyd a'r gwybodaeth a gaffant beunydd wrth ddarllen ar y llyfr, ni wrthodant hwy y boen wrth weled meint y budd a dyf o hyn yma.

Ac yn gymmaint ag na ellir gosod dim gan-mwyaf mor eglur, ag na chyfotto petruster wrth ymarfer o honaw: I oestegu pob cyfryw amrafael (o chyfyd yr un) ac am ddosparth pob rhyw betruster ynghylch y modd a'r wedd y mae deall a gwnea­thur, a chwplau pob peth a gynhwysir yn y llyfr hwn; y partiau a fyddont yn am­meu felly, neu a fyddont yn cymmeryd dim mewn amrafael foddion, a ant at E­scob yr Escobaeth, yr hwn wrth ei ddoethineb a rydd drefn, er llonyddu, a heddy­chu y ddadl, trwy na byddo y drefn honno yn wrthwyneb i ddim ar y sydd yn y llyfr hwn. Ac o bydd Escob yr Escobaeth mewn dim petruster, yna gall efe anfon am hy­spysrwydd at yr rc Ahescob.

ER bod yn osodedic, fod pob peth a'r a ddarlle­nir neu a genir yn yr Eglwys, yn yr iaith Gamberaec, er mwyn adeiladu y Gynnulleidfa: er hynny nid ydys yn meddwl, pan ddywedo neb Blygain a Gosper wrtho ei hun, na ddichon efe eu dywedyd ym-mha iaith bynnac a dde­allo.

A phob Offeiriad a Diacon sydd rwymedic i ddywedyd beunydd y foreuol, ar Bryd-nha­wnol weddi, naill ai yn nailltuol ai ar osteg, oddi-eithr bod rhwystr arnynt trwy glefyd neu o ran achos arall tra-anghentheidiol.

A'r Curad, sef y periglor, a fo yn gwasanaethu ym-mhob Eglwys blwyf neu Gapel, ac efe gartref, heb luddias rhesymol arno, rhaid iddo ddywedyd y gwasanaeth hwnnw, yn yr Eglwys blwyf neu y Cap­pel lle y bo efe yn gwasanaethu a bod canu cloch iddo ar amsor cym­hesur, cyn iddo ddechreu, modd y gallo y neb a fyddo ganddo dde­fosion ddyfod i wrando gair Duw, ac i weddio gyd ag ef.

Am Ceremoniau, Paham y ddiddymmwyd Rhai ac y cedwir eraill.

OR Ceremoniau arferedic yn yr Eglwys, ac y bu eu Codiad a Ordeinhad Dyn, Dychymygwyd Rhai ar y cyntaf, o feddwl Duwiol, ac i berwyl da; eithr trowyd o'r diwedd i wagedd ac ofergoeli­lion. Eraill a ddaethant i fewn i'r Eglwys drwy ddevotion annisbwyll, ac o zêl heb wybodaeth; Ac o herwydd cyd-ddwyn, a hwynt ar y cyntaf, cynnyddasant i'w Gamarferu mwy-fwy beu­nydd, a'r rhai hyn a haeddasant nid yn unic oblegid eu hafles, ond hefyd oblegid iddynt ddallu y Bobl yn ddirfawr, a chaddugo gogoniant duw, eu torri ymmaith, a'u bwrw heibio yr llwyr, y mae eraill, y rhai er eu dychymmyg gan Ddyn, etto Gweled yn dda eu cadw, er mwyn trefn weddus yn yr Eglwys (i'r hyn beth y dychymmygwyd hwy gyntaf) nid yn llai, nac o herwydd eu bod yn gwasanaethu i Adeilada­daeth, at yr hwn (medd yr Apostl) y dylid cyfeirio pob peth a wneler yn yr Eglwys.

Ac er nad yw cadw neu esceuluso Ceremoni, o honi ei hûn, ond peth di­ystyr, etto nid bai bychan yngolwg duw, yw troseddu a thorri Urdd a Rhe­olaeth Gyffredin, trwy gyndynrwydd a dirmyg. Gwneler pob peth yn eich myse (medd S. Paul) mewn trefn weddaidd a dyladwy. Yr hon Drefn nid eiddo pobl brivat, ei appwyntio; am hynny na chymmered neb arno, ac na ryfyged Bwyntio, na newid ûn Order public neu Gyffredin o fewn E­glwys Grist, ond a elwir i hynny, ac a awdurdodir yn gyfreith-lawn.

A chan fod yn awr amryw feddyliau gan bobl o'n hamser ni, hyd pan deby­go Rhai yn fatter mawr o Gydw̄ybod, ymado ag un drull o'r lleiaf o'u Cere­moniau hwy, y maent felly wedi ymroddi i'w hen ddefodau; y mae Rhai hefyd o'r ty arall a'u gwyn gymmaint ar bob ammheuthun mal y chweny­chent newyddu pobpeth, a dirmygunt yr hên cymmhelled, na fydd dim wrth eu bôdd hwy, ond y fy newydd-beth; Gwelwyd yn gymmwys na edrychid cymmaint am foddhau a bodloni yr ûn o'r ddwy-lyw, ag ar wneuthur wrth fodd duw, ac ar lés pob ûn o honynt hwy: Ac etto fel na rwystrer neb, a aller i fodloni a Rheswm eglur, Gosodir i lawr yma Achosion pennodawl, pa ham y bwriwyd ymaith Rai o'r Ceremoniau gnottedic, a pha ham yr atte­lir ac y cedwîr eraill etto y mmhellach.

[Page]Rhai a fwriwyd ymmaith, Oblegid Cynnyddasai eu gorllanw a'u hamlder yn y dyddiau diweddaraf hyn, hyd onid aethai ei baich yn anoddef: Am y rhai y cwynodd S. Augustin yn ei amser ef, gynnyddu eu rhifedi mor ddirfawr, hyd onid oedd Stât y bobl gristianogawl, mewn gwaeth cyflwr o'u plegid, nag oedd eiddo'r Juddewon. Ac efe a gynghorodd fwrw ymmaith y fâth iau a ba­ich, tra gwasannethai'r amser i wneuthur hynny yn ddistaw heb derfysc. Eithr Beth a ddywedasai St. Augustin, pe gwelsei y Ceremoniau a arferid yn ddi­weddar yn ein plith ni, i'r rhai nid oedd y lliaws a arferid yn ei amser ef i'w gystadlu, cymmaint oedd gorllawn liaws ein Ceremoniau a bagad o hon­ynt mor dywyll, hyd pan oeddynt yn dyfyscu ac yn tywyllu, yn hytrach nag yn mynegu, ac yn gosod allan ddaioni Crist i ni. Heb law hyn i gyd, nid cy­fraith Ceremonial yw Efengyl Crîst (fel ydd oedd rhan fawr o Gyfraith Mo­ses) eithr ffydd i wasanaethu duw, nid ynghaethiwed Figur, neu gyscod, eithr yn rhydd-did yr yspryd, gan ymfodloni i gynnifer o Ceremoniau ag a wasanaetha i drefn weddaidd, a Rheolaeth dduwiol, a'r cyfryw a ynt gym­mwys i gyffroi, pwl feddwl dyn i gofio ei ddyled i dduw, drwy ryw arwydd eglur ac amlwg, i'w hadailadaeth. Ymhellach etto, yr achos pwys-fawroccaf o ddiddymmu rhai Ceremoniau, camarferwyd hwy cyn belled, mewn rhan o herwydd ddallineb gaugrefyddoly rhai anghy wraint ac annysgedic ac mewn rhan drwy annigonawl gybydd-dra y cyfryw a geisient eu helw a'u budd eu hunain, yn hytrach na Gogoniant duw, fel nad oedd haiach fôdd i symmud y Camarferau, ar peth yn sefyll. Eithr yn awr, am y Rhai ond autur a Rwystrir, o herwydd cadw etto rai o'r hen Ceremoniau, Os ystyriant nad yw bossibl, cynnal Trefn a Rheolaeth heddy chlawn yn yr Eglwys, heb rai Ceremoniau, cant yn hawdd weled, fod achos cyfreithlawn iddynt ne­wid eu meddyliau; Ac os mawr ganddynt fod yr ûn o'r rhai hen yn sefyll, ac yn well ganddynt lunio y cwbl o newydd. Eithr gan id­dynt ganiadu mai cymmwys yw cael rhyw Ceremoniau, diau, lle gellir yn dda arfer yr hên, nid oes Reswm iddynt argoeddi yr hen, yn unic am eu bod yn hen, heb ddad-cuddio eu gwall synwyr eu hunain, canys os felly y mae, hwy a ddylent roddi parch iddynt o herwydd eu heneiddwydd, os mynnant ddangos fod yn hoffach ganddynt undeb a chordiad, nag Innovationau, a ne­wydd-wyniau, yr hyn (cymmhelled ag y gall hynny gyttuno a gosod allan Ffydd Grist) y sydd bob amser î'w ochelyd. ymmhellach etto, I'r cyfryw ni bydd achos cyfiawn i feio ar y Ceremoniau a adawyd. Canys megis y bwriwyd allan, y rhai a gamarserid fwyaf, ac a oeddynt yn faich ar Gyd­wybodau dynion heb achos: Felly y lleill a gedwir er mwyn Rheolaeth ac Ordr, ac a ellir ar achosion cyfiawn eu hamgenu a'u newidio, am hynny nid ydynt i'w barnu yn Unfrî a chyfraith dduw, ymmhellach drachefn, nid ynt Ceremoniau tywyll nac aflafar, ond a osodir allan fel y gallo pob dyn ddirnad beth y maent yn ei arwyddoccau, ac i ba ddeunydd y maent yn gwa­sanaethu; fel nad rhaid fawr unon y camarferir hwy rhagllaw, fel y lleill o'r blaen. Ac yn gwneuthur hyn, nid ym yn condemnio un Genedl arall, nac yn gosod dim, namyn i'n cenedl ein hûn; Canys Cymhesur yw yn ein barn ni, fod i bob Gwlad arferu y cyfryw Ceremoniau, a welont hwy yn oreu i dderchafu Anrhydedd a Gogoniant duw, a thecyccaf i ddwyn eu pobl i fuchedd berffaith a duwiol, heb nag amryfusedd na choelgrefydd, A dodi o honynt ymmaith, Bethau eraill a ganfyddant o amser bwy gilydd eu camarferu, megis yn fynych y digwydda ar amrafael foddion, mewn am­fael wledydd yn Ordinhadau Dynion.

Y DREFN Yr appwyntir darllain y Psallwyr.

Y Psallwyr a ddarllennir unwaith bob mis, fel yr appwyntir yno, ar foreuol a phrydnawnol weddi. Eithr yn Chwefrory ddarllenir yn unig hyd yr wythfed ar hugain, neu y 29. o'r mis.

A lley mae i Fis Jonawr, Mawrth, Mai, Gor­phenhaf, Awst, Hydref, a Rhagfyr, xxxi. o ddy­ddiau bob un; fe a ordeiniwyd fod darllein y dydd diwethaf o'r misoedd hynny, y Psalmau a ddarlle­nwyd y dydd o'r blaen, fel y gallo y Psalmau ddechreu drachefn ar y dydd cyntaf o'r mis a fy­ddo'n canlyn.

A lle y cyfrennir y 119. Psalm yn ddwy rann ar hugain, a'i fod yn rhyhir iw darllain ar unwaith; fe a drefnwyd na bo darllain uwch law pedair neu bump o'r rhannau hynny ar yr un amser.

Ac ar ddiwedd pob Psalm, a phob rhann o'r 119. Psalm, repetier yr Hymn yma,

Gogoniant i'r Tad, ac i'r ▪Mab, ac i'r Yspryd glan; Megis yr oedd yny dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

Noda, fod y Psallwyr yn canlyn dosparthiad yr Hebraeaid, a chyfieithiad y Bibl mawr Seisnig, gwedi ei osod allan, ai arferu yn amser Brenin Hen. 8. Ed. 6.

Y DREFN Pa wedd yr appwyntiwyd bod darllain y rhann arall o'r Scrythyr lân.

YR hen Destament a osodwyd yn llithoedd cyn­taf ar foreu. a phrydnhawn weddi, ac felly y rhann fwyaf o hono a ddarllennir bob blwydd yn unwaith fel yr appwyntir yn y Calender.

Y Testament newydd a osodwyd yn ail lli­thoedd ar foreu a phrydnhawn weddi, ac a ddarllenir drosto mewn trefn bob blwyddyn deirgwaith, heb law 'r Epistolau a'r Efangylon: oddieitht Datcuddiad Ioan, o'r hwn y gosoddwyd bod rhyw Lithoedd priod ar amrafael wylian.

Ac i wybod pa lithoedd a ddarllenir bob dydd, myn gâel y dydd o'r mis yn y Calandar yn canlyn, ac yno y cei ddeall y pennodau a ddarllennir yn llithoedd ar foreu a pryd-nhawn weddi; oddieithr y gwyliau symmudol yn u­nig, y rhai nid ynt yn y Calander, a'r ansymmudol, lle y gadewir Blange yngholofn y llithiau. Llithiau priod i'r holl ddyddiau hynny a geir yn y Tabl o'r llithiau priod.

A rhaid yw nodi hyn yma, pa bryd bynnac y byddo Psalmau priod, neu lithoedd, wedi eu gosod, yna a Psalmau a'r Llithoedd gosodedig yn y Calendar a (os amgenant) faddeuir tros yr amser hynny.

Rhaid yw nodi hefyd, fod y Colect, yr Epistol, a'r E­fengyl, a osodir ar y Sul, yu gwasanaethu tros yr holl wy­rhnos rhag llaw, lle ni's trefnwyd yn amgenach yn y llyfr hwn.

Pennodau nailltuol, neu Briodol, i'w darllen ar Foreuol a Phrydnhawnol Weddi ar y Suliau a Gwyliau eraill trwy'r holl flwydd yn.

Llithau priodi'r Suliau.
Sulian yr Adfent. Plygain. Gosper.
Y cyntaf. Esai i. Esai ii.
ii. v. xxiv.
iii. xxv. xxvi.
iv. xxx. xxxii.
Suliau gwe­di Natalic Crist.    
Y cyntaf. xxxvii. xxxviii.
ii. xli. xliii.
Suliau gwe­di'r Ystwyll.    
Y cyntaf. xliv. xlvi.
ii. li. liii.
iii. lv. lvi.
iv. lvii. lviii.
v. lix. lxiv.
vi. lxv. lxvi.
Septuagesim Gen. i. Gen. ii.
Sexagesima. iii. vi.
Quinquages ix. h. 20. w. xii.
Y Grawys.    
Y Sul cynt. xix. h. w. 50 xxii.
ii. xxvii. xxxiv.
iii. xxxix. xlii.
iv. xliii. xlv.
v. Exod. iii. Exod. v.
Grawys. Plygain. Gosper.
Sul vi.    
1. Llith. Exod. ix. Exod. x.
2. Llith. Matth. xxvi. Heb. v. hyd w. ii.
Dydd Pasc.    
1. Llith. Exod. xii. Exod. xiv.
2. Llith. Rhuf. iii. Act ii. h. w. 22.
Suliau gwe­di'r Pasc.    
Y cyntaf Num. xvi. Numb. xxii.
ii. xxiii, xxiv. xxv.
iii. Deut. iv. Deut. v.
iv. vi. vii.
v. viii. ix.
Y Sul-gwe­di'r Der­chafael. xii. xiii.
Y Sul-gwyn.    
1. Llith. Deut. xvi. hyd w. 18. Esai xi.
2. Llith. Act. x. gw. 34 Act. xix. hyd w. 21.
Sul y Drin­dod.    
1. Llith. Gen. 1. Gen. xviii.
2. Llith. Matth. iii. 1 Joan v.
Suliau gwe­di'r Drindod    
Y cyntaf. Josua x. Josua xxiii.
ii. Barn iv. Barn v.
iii. 1 Sam. ii. 2 Sam. iii.
iv. xii. xiii.
v. xv. xvii.
vi. 2 Sam. xii. 2 Sam. xix.
vii. xxi. xxiv.
[Page]Suliau gwe­di'r Drindod Plygain. Gosper.
viii. 1 Bren. xiii. 1 Bren. xvii.
ix. xviii. xix.
x. xxi. xxii.
xi. 2 Bren. v. 2 Bren. ix.
xii. x. xviii.
xiii. xix. xxiii.
xiv. Jerem. v. Jerem. xxii.
xv. xxxv. xxxvi.
xvi. Ezek. ii. Ezec. xiii.
xvii. xiv. xviii
xviii. xx. xxiv.
xix. Dan. iii. Dan. vi.
xx. Joel. ii. Mic. vi.
xxi. Abac. ii. Dihareb. i.
xxii. Dihar. ii. iii.
xxiii. xi. xii.
xxiv. xiii. xiv.
xxv. xv. xvi.
xxvi. xvii. xix.
Llithau Priodol neu neilltuol i bob dydd Gwyl.
  Plygain. Gosper.
S. Andreas. Dihar. xx. Dihar. xxi.
S. Thomas yr Apostol. xxiii. xxiv.
Natalic CRIST.    
1. Llith. Esai. ix. hyd w. 8. Esai vii. gw. 10. hyd w. 17.
2. Llith. Luc. ii. hyd w. 15. Titus iii. gw. 4. hyd w. 9.
S. Stephan.    
1. Llith. Diha. xxviii Pregeth. iv.
2. Llith. Act. 6. gw. 8 a'r vii. ben. hyd w. 30. Act. vii. gw. 30. hyd w. 55.
S. Joan.    
1. Llith. Eccles. v. Eccles. vi.
2. Llith. Datc. i. Datc. xxii.
Dydd y Gwi­rioniaid. Jer. xxxi. hyd w. 18. Doeth. i.
Dydd yr E­nwaediad.    
1 Llith. Gen. xvii. Deut. x. gw. 12.
2. Llith. Rhuf. ii. Colos. 11.
Ystwyll. Plygain. Gosper.
1. Llith. Isai lx. Esai xlix.
2 Llith. Lu. iii. h. w 23 Joan ii. h. w. 12
Troad S. Paul. Doeth v. Doeth. vi.
1. Llith. Act. xxii. hyd w. 22. Act. xxvi.
2. Llith.    
Puredigaeth Mair Fo­rwyn. Doeth. ix. Doeth xii.
S. Matthias xix. Ecclus. i.
Cennadwri ein Harg­lwyddes. Ecclus. ii. iii.
Dydd Mer­cher cyn y Pasc.    
1. Llith. Ose xiii. Ose xiv.
2. Llith. Joan xi. gw. 45  
Dydd Jau cyn y Pasc.    
1. Llith. Dan. ix. Jerem. xxxi.
2. Llith. Joan xiii.  
Gwnener y Croglith.    
1. Llith. Gen. xxii. hyd w. 20 Esai liii.
2. Llith. Joan xviii. 1 Pet. ii.
Nos Basc.    
1. Llith. Zac. ix. (50 Exod. xiii.
2. Llith. Lu. xxiii. gw. Heb. iv.
Dydd Llun-Pasc.    
1. Llith. Exod. xvi. Exod. xvii.
2. Llith. Matth. xxviii. Act. iii.
Dydd Ma­wrth Pasc.    
1. Llith. Exod. xx. Exod. xxxii.
2. Llith. Luc xxiy. hyd w. 13. 1 Cor. xv.
S. Marc. Ecclus. iv. Ecclus. v.
S. Philip a S. Jacob.    
1. Llith. vii. ix.
2. Llith. Joan i. gw. 43  
Dydd y Der­chafael.    
1. Llith. Deut. x. 2 Bren. ii.
2. Llith. Luc. xxiv. gw. 44. Eph. 4. hyd w. 17.
Dydd Llun y Sul-gwyn.    
1. Llith. Gen. xi. hyd w. 10. Num. xi. gw. 16. hyd w. 30
2. Llith. 1 Cor. xii. 1 Co. 14. h. w. 26
[Page]Dydd Ma­wrth y Sul­gwyn. Plygain. Gosper.
1. Llith. 1 Sam. xix. gw. 18. Deut. xxx.
2 Llith. 1 Thess. v. gw. 12. hyd w. 24. 1 Joan iv. hyd w. 14.
S. Barnabas.    
1. Llith. Ecclus. x. Ecclus. xii.
2. Llith. Act. xiv. Act. xv. h. w. 36.
S. Joan Fe­dyddiwr.    
1. Llith. Malac. iii. Malac. iv.
2. Llith. Math. iii. Mat. xiv. h. w. 13
S. Petr.    
1. Llith. Ecclus. xv. Ecclus. xix.
2. Llith. Act. iii. Act. iv.
  Plygain. Gosper.
S. Jaco. Ecclus. xxi. Ecclus. xxii.
S. Bartholo­meus. xxiv. xxix.
S. Matthew. xxxv. xxxviii.
S. Mihangel    
1. Llith. Gen. xxxii. Dan. x. gw. 5.
2. Llith. Act. xii. hyd w. 20. Jud. gw 6. hyd w. 16.
S. Luc. Ecclus. li. Job i.
S. Simon a S. Jud. Job xxiv. a'r xxv. xlii.
Holl Sainct.    
1. Llith. Doeth. iii. h. w. 10. Doeth. v. hyd w. 17.
2. Llith. Heb. xi. gw. 33. a Ph. 12. h. w. 7 Datc. xix. hyd w. 17.

Psalmau Priod ar Ddyddiau pennodol.

  Plygain. Gosper.
  Psal. xix. lxxxix.
Dydd-Natalic. xlv. cx.
  lxxxv. cxxxii.
  vi. cii.
Dydd Mercher y Llud. xxxii. cxxx.
  xxxviii. cxliii.
  xxii. lxix.
Dydd Gwener y Crogl. xl. lxxxviii.
  liv.  
  ii. cxiii.
Dydd-Pasc. lvii. cxiv.
  cxi. cxviii.
  viii. xxiv.
Dydd y Derchafael. xv. xlvii.
  xxi. cviii.
Y Sul-gwyn. xlviii. civ.
  lxviii. cxlv.

Y Calendar.

JONAWR sydd iddo xxxj. o ddydiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
2 1 A Calend. Enwaediad ein Harg.        
  2 b 4. No.   Gen. 1. Matth. 1. Gen. 2. Rhuf. 1.
10 3 c 3. No.   3. 2. 4. 2.
  4 d Pri. No.   5. 3. 6. 3.
19 5 e Non.   7. 4. 8. 4.
8 6 f 8. Id. Ystwyll.        
  7 g 7. Id.   9. 5. 12. 5.
16 8 A 6. Id. Lucian Offeir a Merth. 13. 6. 14. 6.
5 9 b 5. Id.   15. 7. 16. 7.
  10 c 4. Id.   17. 8. 18. 8.
13 11 d 3. Id.   19. 9. 20. 9.
2 12 e Pri. Id.   21. 10. 22. 10.
  13 f Idus. Hilari Esc. a Chonffess. 23. 11. 24. 11.
10 14 g 19 Ca. Ch   25. 12. 26. 12.
  15 A 18. Ca.   27. 13. 28. 13.
18 16 b 17. Ca.   29. 14. 30. 14.
7 17 c 16. Ca.   31. 15. 32. 15.
  18 d 15. Ca. Prisc. Morwyn, a Merth 33. 16. 34. 16.
15 19 e 14. Ca.   35. 17. 37. 1 Cor. 1.
4 20 f 13. Ca, Fabian Es. o Ruf. a Mer. 38. 18. 39. 2.
  21 g 12 Ca. Agnes Mor. o Ruf. a Mer 40. 19. 41. 3.
12 22 A 11 Ca. Vinc. Deon. o spa. a Mer 42. 20. 43. 4.
1 23 b 10 Ca.   44. 21. 45. 5.
  24 c 9 Ca.   46. 22. 47. 6.
9 25 d 8 Ca. Troad. S. Paul.        
  26 e 7 Ca.   48. 23. 49. 7.
17 27 f 6 Ca.   50. 24. Exod. 1. 8.
6 28 g 5 Ca.   Exod. 2. 25. 3. 9.
  29 A 4 Ca.   4. 26. 5. 10.
13 30 b 3 Ca. Br. Charls Ferth. * 6. 27. 7. 11.
3 31 c Prid. Ca.   8. 28. 9 12. Noda, y Darllenir (*) Exodus vi. yn unig hyd wers 14.
CHWEFROR sydd iddo xxviii. o ddyddiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
  1 d Calend. Ympryd. Exod. 10. Marc 1. Exod. 11. 1 Cor. 13
11 2 e 4 No. Pured. y Fen. Fair wyr.   2.   14.
19 3 f 3 No. Blas. Esc. a Mer. o Arm. 12. 3. 13. 15.
8 4 g Pri. No.   14 4. 15. 16.
  5 A Non. Aga. Mor. a Mer. o Sisil. 16. 5. 17. 2 Cor. 1.
16 6 b 8 Id.   18. 6. 19. 2.
5 7 c 7 Id.   20. 7. 21. 3.
  8 d 6 Id.   22. 8. 23. 4.
13 9 e 5 Id.   24. 9. 32. 5.
2 10 f 4 Id.   33. 10. 34. 6.
  11 g 3 Id.   Levit. 18 11. Levit. 19 7.
10 12 A Pri. Id.   20. 12. 26. 8.
  13 b Idus.   Num. 11. 13. Num. 12. 9.
18 14 c 16 Ca. Ma Valentein, Esc. a Mer. 13. 14. 14. 10.
7 15 d 15 Ca.   16. 15. 17. 11.
  16 e 14 Ca.   20. 16. 21. 12.
15 17 f 13 Ca.   22. Lu. i. h. 39 23. 13.
4 18 g 12 Ca.   24. 1. 39. 25. Galat. 1.
  19 A 11 Ca.   27, 2. 30. 2.
12 20 b 10 Ca.   31, 3. 32. 3.
1 21 c 9 Ca.   35. 4. 36. 4.
  22 d 8 Ca.   Deut. 1. 5. Deut. 2. 5.
9 23 e 7 Ca. Ympryd. 3. 6. 4. 6.
  24 f 6 Ca. S. Matthias Apost. a M.   7.   Ephes. 1.
17 25 g 5 Ca.   5. 8. 6. 2.
6 26 A 4 Ca.   7. 9. 8. 3.
  27 b 3 Ca.   9. 10. 10. 4.
14 28 c Pri. Ca.   11. 11. 12. 5.
  29       13. Math. 7. 14. Rhuf. 12
MWRTH sydd iddo xxxi. o ddyddiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
3 1 d Calend. Dafydd Arc. Esc. Mene. Deut. 15. Luc 12. Deut. 16. Ephes. 6.
  2 e 6 No. Ced neu Chad. Es. Litc. 17. 13. 18. Phil. 1.
11 3 f 5 No.   19. 14. 20. 2.
  4 g 4 No.   21 15. 22. 3.
19 5 A 3 No.   24. 16. 25. 4.
8 6 b Pri. No.   26. 17. 27. Colos. 1.
  7 c Non. Perpetua Maurit. Merth 28. 18. 29. 2.
16 8 d 8 Id.   30. 19. 31. 3.
5 9 e 7 Id.   32. 20. 33. 4.
  10 f 6 Id.   34. 21. Josu 1. 1 Thes. 1
13 11 g 5 Id.   Josu. 2. 22. 3. 2.
2 12 A 4 Id. Greg. M. Es. Rhuf. aCh. 4. 23. 5. 3.
  13 b 3 Id.   6. 24. 7. 4.
10 14 c Pri. Id.   8. Joan 1. 9. 5
  15 d Idus.   10. 2. 23 2 Thes. 1
18 16 e 17 Ca. Ebr.   24. 3. Barn 1. 2.
7 17 f 16 Ca.   Barn. 2. 4. 3. 3.
  18 g 15 Ca. Edw. Br. Saeson yGorll. 4. 5. 5. 1 Tim. 1.
15 19 A 14 Ca.   6, 6. 7. 2, 3.
4 20 b 13 Ca.   8, 7. 9. 4.
  21 c 12 Ca. Benedict Abad. 10. 8. 11. 5.
12 22 d 11 Ca.   12. 9. 13. 6.
1 23 e 10 Ca.   14. 10. 15. 2 Tim 1
  24 f 9 Ca. Ympryd. 16. 11. 17. 2.
9 25 g 8 Ca. Cennadwri Mair.   12.   3.
  26 A 7 Ca.   18. 13. 19. 4.
17 27 b 6 Ca.   20. 14. 21. Titus 1.
6 28 c 5 Ca.   Ruth 1. 15. Ruth 2. 2, 3
  29 d 4 Ca.   3. 16. 4. Philem.
14 30 e 3 Ca.   1 Sam. 1. 27. 1 Sam. 2. Hebr. 1.
3 31 f Pri. Ca.   3. 18. 4. 2.
EBRILL sydd iddo xxx. o ddydiau.I'r Lleuad y mae xxix.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
  1 g Calend.   1 Sam. 5. Joan 19. 1 Sam. 6. Hebr. 3.
11 2 A 4. No.   7. 20. 8. 4.
  3 b 3. No. Richard Esco. Chichest. 9. 21. 10. 5.
19 4 c Pri. No. Ambros Escob Milan. 11. Act. 1. 12. 6.
8 5 d Non.   13. 2. 14 7
16 6 e 8. Id.   15. 3. 16. 8.
5 7 f 7. Id.   17. 4. 18. 9.
  8 g 6. Id.   19. 5. 20. 10.
13 9 A 5. Id.   21. 6. 22. 11.
2 10 b 4. Id.   23. 7. 24. 12
  11 c 3. Id.   25. 8. 26. 13.
10 12 d Pri. Id.   27. 9. 28. Jaco. 1.
  13 e Idus.   29. 10. 30. 2.
18 14 f 18. Ca. Ma   31. 11. 2 Sam. 1. 3.
7 15 g 17. Ca.   2 Sam. 2 12. 3. 4.
  16 A 16. Ca.   4. 13. 5. 5.
15 17 b 15. Ca.   6. 14. 7. 1 Petr. 1.
4 18 c 14. Ca.   8. 15. 9. 2.
  19 d 13. Ca, Alpheg Arch Esc. Cant. 10. 16. 11. 3.
12 20 e 12 Ca.   12. 17. 13. 4.
1 21 f 11 Ca.   14. 18. 15. 5.
  22 g 10 Ca.   16. 19. 17. 2 Petr. 1.
9 23 A 9 Ca. St. Georg, Ferthyr. 18. 20. 19. 2.
  24 b 8 Ca.   20. 21. 21. 3.
17 25 c 7 Ca. S. Marc Esang, a Mert.   22.   1 Joan 1.
6 26 d 6 Ca.   22. 23. 23. 2.
  27 e 5 Ca.   24. 24. 1 Bre. 1. 3.
14 28 f 4 Ca.   1 Bren. 2. 25. 3 4.
3 29 g 3 Ca.   4. 26. 5. 5.
  30 A Prid. Ca.   6. 27. 7. 2, 3. Joan.
                 
MAI sydd iddo xxxi. o ddyddiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
2 1 b Calend. S. Philip a S. Jaco Apo▪       Jud.
  2 c 6 No. (a Merth. 1 Bren. 8. Actau 28 1 Bren. 9. Rhuf. 1.
19 3 d 5 No. Caffael y Groes. 10. Matth. 1. 11. 2.
8 4 3 4 No.   12 2. 13. 3.
  5 f 3 No.   14. 3. 15. 4.
16 6 g Pri. No. S, Joan Efan. ante port. 16. 4. 17. 5.
5 7 A Non. (Latin. 18. 5. 19. 6.
  8 b 8 Id.   20. 6. 21. 7.
13 9 c 7 Id.   22. 7. 2 Bren. 1. 8.
2 10 d 6 Id.   2 Bren. 2. 8. 3. 9.
  11 e 5 Id.   4 9. 5. 10.
10 12 f 4 Id.   6. 10. 7. 11.
  13 g 3 Id.   8 11. 9. 12.
18 14 A Pri. Id.   10. 12. 11. 13.
7 15 b Idus.   12. 13. 13. 14.
  16 c 17 Ca. Meh   14. 14. 15. 15.
15 17 d 16 Ca.   16. 15. 17. 16.
4 18 e 15 Ca.   18. 16. 19. 1 Cor. 1.
  19 f 14 Ca. Dunstan Arch. Esc. Cant 20, 17. 21. 2.
12 20 g 13 Ca.   22, 18. 23. 3.
1 21 A 12 Ca.   24. 19. 25. 4.
  22 b 11 Ca.   Ezra. 1. 20. Ezra. 3. 5.
9 23 c 10 Ca.   4. 21. 5. 6.
  24 d 9 Ca.   6. 22. 7. 7.
17 25 e 8 Ca.   9. 23. Nehe. 1. 8.
6 26 f 7 Ca. August. Esc. cyntaf Can. Nehe. 2. 24. 4. 9.
  27 g 6 Ca. Anrhyd. Bed. 5. 25. 6. 10.
14 28 A 5 Ca.   8. 26. 9. 11.
3 29 b 4 Ca. CHARL'S II. ei Nata. 10. 27. 13. 12.
  30 c 3 Ca. (a'i Ddychw. Esther 1. 28. Esther 2. 13.
11 31 d Pri. Ca.   3. Marc. 1. 4. 14.
MEHEFIN sydd iddo xxx. o ddydiau.I'r Lleuad y mae xxix.
          BOREUOL Weddi.   Prvdnhawnol Weddi.  
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
  1 e Calend. Nicom. Off. a M. o Ruf. Esther 5. Marc 2. Esth 6. 1 Cor. 15.
19 2 f 4. No.   7. 3. 8. 16.
8 3 g 3. No.   9. 4. Job 1. 2 Cor. 1.
16 4 A Pri. No.   Job 2. 5. 3. 2.
5 5 b Non. Boniff. Es. a M. o Mentz. 4. 6. 5 3
  6 c 8. Id.   6. 7. 7. 4.
13 7 d 7. Id.   8. 8. 9. 5.
2 8 e 6. Id.   10. 9. 11. 6.
  9 f 5. Id.   12. 10. 13. 7.
10 10 g 4. Id.   14. 11. 15. 8.
  11 A 3. Id. S. Barnabas Ap. a Mer.        
18 12 b Pri. Id.   16. 12. 17, 18. 9.
7 13 c Idus.   19. 13. 20. 10.
  14 d 18. Ca. Go   21. 14. 22. 11.
15 15 e 17. Ca.   23. 15. 24, 25. 12
4 16 f 16. Ca.   26, 27. 16. 28. 13.
  17 g 15. Ca. S. Alban, Merthyr. 29. Luc 1. 30. Galar. 1.
12 18 A 14. Ca.   31. 2. 32. 2.
1 19 b 13. Ca,   33. 3. 34. 3.
  20 c 12 Ca. Ymsym. Ed. Br. Saes. Go 35. 4. 36. 4.
9 21 d 11 Ca.   37. 5. 38. 5.
  22 e 10 Ca.   39. 6. 40. 6.
17 23 f 9 Ca. Ympryd. 41. 7. 42. Ephes. 1.
6 24 g 8 Ca. Nata. S. Joan Fedydd        
  25 A 7 Ca.   Dihar 1. 8. Dihar 2. 2.
14 26 b 6 Ca.   3. 9. 4. 3.
3 27 c 5 Ca.   5. 10. 6. 4.
  28 d 4 Ca. Ympryd. 7. 11. 8 5.
11 29 e 3 Ca. S. Peter Apost. a Merth        
  30 f Prid. Ca.   9. 12. 10. 6.
                 
GORPHENAF sydd iddo xxxi. o ddyddiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi.   Prydnhawnol Weddi.  
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
19 1 g Calend.   Dihar. 11 Luc 13. Dihar. 12 Phil. 1.
8 2 A 6 No. Ymwel. y Fen. Fair For. 13. 14. 14. 2.
  3 b 5 No.   15. 15. 16. I.
16 4 c 4 No. Ymsymud. S. Mart. Esc. 17 16. 18. 4.
5 5 d 3 No. a Chyff. 19. 17. 20. Colos. 1.
  6 e Pri. No.   21. 18. 22. 2.
13 7 f Non.   23. 19. 24. 3.
2 8 g 8 Id.   25. 20. 26. 4.
  9 A 7 Id.   27. 21. 28. 1 Thes. 1
10 10 b 6 Id.   29. 22. 31. 2.
  11 c 5 Id.   Eccles. 1. 23. Eccles. 2 3.
18 12 d 4 Id.   3. 24. 4. 4.
7 13 e 3 Id.   5. Joan 1. 6. 5
  14 f Pri. Id.   7. 2. 8. 2 Thes. 1
15 15 g Ieus. Swith. E. Caerw. ei Yms 9. 3 10. 2.
4 16 A 17 C. Awst   11. 4. 12. 3.
  17 b 16 Ca.   Jer. 1. 5. Jerem. 2. 1 sim. 1
12 18 c 15 Ca.   3. 6. 4. 2, 3.
1 19 d 14 Ca.   5, 7. 6. 4.
  20 e 13 Ca. Marg. Mor. a Mer. o Ant 7, 8. 8. 5.
9 21 f 12 Ca. Mair Magdalen. 9. 9. 10. 6.
  22 g 11 Ca.   11. 10. 12. 2 Tim. 1.
17 23 A 10 Ca.   13. 11. 14. 2.
6 24 b 9 Ca. Ymprod. 15. 12. 16. 3.
  25 c 8 Ca. S. Jaco Apost. a Merth.   13.   4.
13 26 d 7 Ca. S. Ann, Mam. y Fen. Fair 17. 14. 18. Titus 1.
3 27 e 6 Ca. (Forwyn 19. 15. 20. 2, 3
  28 f 5 Ca.   21. 16. 22. Philem.
11 29 g 4 Ca.   23. 17. 24. Hebr. 1.
  30 A 3 Ca.   25. 18. 26. 2
19 31 b Pri. Ca.   27. 19. 28. 3.
AWST sydd iddo xxxi. o ddydiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi.   Prydnhawnol Weddi.  
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
8 1 c Calend.   Jer 2 9 Joan 20. Jer. 30. Heb. 4.
16 2 d 4 No.   31. 21. 32. 5.
3 3 e 3 No.   33. Act. 1. 34. 6.
  4 f Pri. No.   35 2. 36. 7.
13 5 g Non.   37. 3. 38. 8.
2 6 A 8 Id. Ymrithiad ein Harglw. 39. 4. 40. 9.
  7 b 7 Id. Enw'r Jesu. 41. 5. 42. 10.
10 8 c 6 Id.   43. 6. 44. 11.
  9 d 5 Id.   45, 46. 7. 47. 12.
18 10 e 4 Id. S. Laur. Archdi. Rh. a M. 48. 8. 49. 13.
7 11 f 3 Id.   50. 9. 51. Jaco 1.
  12 g Pri. Id.   52. 10. Galarn. 1 2.
15 13 A Idus.   Galarn. 2 11. 3. 3
4 14 b 19 C. Medi   4. 12. 5. 4.
  15 c 18 Ca.   Ezec. 2. 13. Ezec. 3. 5.
12 16 d 17 Ca.   6. 14. 7. 1 Petr. 1
1 17 e 16 Ca.   13. 15. 14. 2.
  18 f 15 Ca.   18. 16. 33. 3.
9 19 g 14 Ca.   34, 17. Dan. 1. 4.
  20 A 13 Ca.   Dan. 2. 18. 3. 5,
17 21 b 12 Ca.   4. 19. 5. 2 Petr. 1.
6 22 c 11 Ca.   6. 20. 7. 2.
  23 d 10 Ca. Ympryd. 8. 21. 9. 3.
14 24 e 9 Ca. S. Barthol. Apost. a Mer.   22.   1 Joan 1
3 25 f 8 Ca.   10. 23. 11. 2.
  26 g 7 Ca.   12. 24. Hos. 1. 3.
11 27 A 6 Ca.   Hos. 2, 3. 25. 4. 4.
  28 b 5 Ca. S. August. Esc. Hip. C. D 5, 6 26. 7. 5.
19 29 c 4 Ca. Dibennu S. Joan Fedyd. 8. 27. 9. 2, 3 Joan
8 30 d 3 Ca.   10. 28. 11. Jud
  31 e Pri. Ca.   12. Matth. 1. 13. Rhuf. 1.
MEDI sydd iddo xxx. o ddyddiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi.   Prydnhawnol Weddi.  
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
16 1 f Calend. Silin, Abad a Chyfesswr. Hos. 14. Mar. 2. Joel 1. Rhuf. 2.
5 2 g 4. No.   Joel 2. 3. 3. 3
  3 A 3. No.   Amos 1. 4. Amos 2. 4.
13 4 b Pri. No.   3. 5. 4. 5.
2 5 c Non.   5. 6. 6. 6.
  6 d 8. Id.   7. 7. 8. 7.
10 7 e 7. Id. Enurchus Escob. Orle. 9. 8. Obadiah 8.
  8 f 6. Id. Natal. y Fend. Fair For. Jonah 1. 9. Jon. 2, 3 9.
18 9 g 5. Id.   4. 10. Mic. 1. 10.
7 10 A 4. Id.   Mic. 2. 11. 3. 11.
  11 b 3. Id.   4. 12. 5. 12
15 12 c Pri. Id.   6. 13. 7 13.
4 13 d Idus.   Nah. 1. 14. Nah. 2. 14.
  14 e 18 C. Hydr Dydd y Groes-Sancta. 3. 15. Hab. 1. 15.
12 15 f 17. Ca.   Hab. 2. 16. 3. 16.
1 16 g 16. Ca.   Zeph. 1. 17. Zeph. 2. 1 Cor. 1.
  17 A 15. Ca. Lambert Esc. a Merth. 3. 18. Agge 1. 2.
9 18 b 14. Ca.   Agge 2. 19. Zec. 1. 3.
  19 c 13. Ca,   Zec. 2, 3 20. 4, 5 4.
27 20 d 12 Ca. Ympryd. 6. 21. 7. 5.
6 21 e 11 Ca. S. Matth. Ap. Esan. a M.   22.   6.
  22 f 10 Ca.   8. 23. 9. 7.
14 23 g 9 Ca.   10. 24. 11. 8.
3 24 A 8 Ca.   12. 25. 13. 9.
  25 b 7 Ca.   14. 26, Mal. 1. 10
11 26 c 6 Ca. S. Cypr. Ar. Es. Car. a M Mal. 2. 27. 3. 11
19 27 d 5 Ca.   4. 28. Iob. 1. 12.
  28 e 4 Ca.   Tob. 2. Marc 1. 3. 13.
8 29 f 3 Ca. S. Mich, a'r holi Angyli.   2.   14
  30 g Prid. Ca. S. Jerom. Off. Cyff. a Do 4. 3. 6. 15.
                 
HYDREF sydd iddo xxxi. o ddydiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
16 1 A Calend. Remigius Esc. Rhems. Tobit 7. Marc 4. Tobit. 8 1 Cor. 16.
5 2 b 6. No.   9. 5. 10. 2 Cor. 1.
13 3 c 5. No.   11. 6. 12 2.
2 4 d 4. No.   13. 7. 14 3
  5 e 3. No.   Judeth 1. 8. Judeth 2 4.
10 6 f Pri. No. Ffydd, Mor. a Mer. 3. 9. 4. 5.
  7 g Non.   5. 10. 6. 6.
18 8 A 8. Id.   7. 11. 8. 7.
7 9 b 7. Id. S. Denys Ar. Esc. a Mer 9. 12. 10. 8.
  10 c 6. Id.   11. 13. 12. 9.
15 11 d 5. Id.   13. 14. 14. 10.
4 12 e 4. Id.   15. 15. 16 11.
  13 f 3. Id. Ymsym. Br. Edw. yCyff. Doeth 1. 16. Doeth. 2 12
12 14 g Pri. Id.   3. Lu. 1. h. 39 4. 13.
1 15 A Idus.   5. 1. 39. 6. Galat. 1.
  16 b 17 C. Tach   7. 2. 8. 2.
9 17 c 16. Ca. Etheldred Morwyn. 9. 3. 10. 3.
  18 d 15. Ca. S. Luc Efangylwr.   4.   4.
17 19 e 14. Ca.   11. 5. 12. 5.
6 20 f 13. Ca,   13. 6. 14. 6.
  21 g 12 Ca.   15. 7. 16. Ephes. 1.
14 22 A 11 Ca.   17. 8. 18. 2.
3 23 b 10 Ca.   19. 9. Ecclus 1 3.
  24 c 9 Ca.   Ecclus. 2. 10. 3. 4.
11 25 d 8 Ca. Crispin Merth. 4. 11. 5. 5.
  26 e 7 Ca.   6. 12. 7. 6.
19 27 f 6 Ca. Ympryd. 8. 13. 9. Phil. 1.
8 28 g 5 Ca. S. Sim. a S. Jud. Ap. a M.   14.   2.
  29 A 4 Ca.   10. 15. 11. 3.
16 30 b 3 Ca.   12 16. 13. 4.
5 31 c Prid. Ca. Ympryd. 14 17. 15. Col. 1.
TACHWEDD sydd iddo xxix o ddyddiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
  1 d Calend. Dydd yr holl Sanct.        
13 2 e 4 No.   Ecclu. 16 Luc. 18. Ecclus. 17 Colos. 2.
2 3 f 3 No.   18. 19. 19. 3.
  4 g Pri. No.   20. 20. 21. 4.
10 5 A Non. Brad y Papaniaid. 22. 21. 23. 1 Thes. 1.
  6 b 8 Id. Leonard Cyffesswr. 24. 22. (a) 25. 2.
18 7 c 7 Id.   27. 23. 28. 3.
7 8 d 6 Id.   29. 24. (b) 30. 4.
  9 e 5 Id.   31. Joan. 1 32. 5.
15 10 f 4 Id.   33. 2. 34. 2 Thes. 1.
4 11 g 3 Id. S. Martin Esc. a Chyff. 35. 3. 36. 2.
  12 A Pri. Id.   37. 4. 38. 3.
12 13 b Idus. Britius Escob. 39. 5. 40. 1 Tim. 1.
1 14 c 18 C. Rhag   41. 6. 42. 2, 3.
  15 d 17 Ca. Machutus Escob. 43. 7. 44. 4.
9 16 e 16 Ca.   45. 8. (c) 46. 5.
  17 f 15 Ca. Huw Escob Lincoln. 47. 9. 48. 6
17 18 g 14 Ca.   49. 10. 50. 2 Tim. 1.
6 19 A 13 Ca.   51. 11. Baruc. 1. 2.
  20 b 12 Ca. Edmund, Brenin a Mer. Baruc. 2. 12. 3. 3.
14 21 c 11 Ca.   4. 13. 5. 4.
3 22 d 10 Ca. Cicilia, Morwyn a Mer. 6. 14. Hist. Susa Titus. 1.
  23 e 9 Ca. S. Clem. I. Esc. R. a M. Bela'r D. 15. Isa. 1. 2, 3.
11 24 f 8 Ca.   Isa. 2. 16. 3. Philem.
19 25 g 7 Ca. Catherin Mor. a Merth. 4. 17. 5. Heb. 1.
  26 A 6 Ca.   6. 18. 7. 2.
8 27 b 5 Ca.   8. 19. 6. 3.
  28 c 4 Ca.   10. 20. 11. 4.
16 29 d 3 Ca. Ympryd. 12. 21. 13. 5.
5 30 e Pri. Ca. S. Andreas Apo. a Mer.   Act. 1.   6.

Noda, y darlleninr (a) Ecclus. 25. yn unig hyd wers. 13. ac (b) Ecclus. 30. yn unig hyd wers. 18. a (c) Ecclus. 46. yn unig hyd wers. 20.

RHAGFYR sydd iddo xxxi o ddydiau.I'r Lleuad y mae xxx.
          BOREUOL Weddi. Prydnhawnol Weddi.
          1 Llith. 2 Llith. 1 Llith. 2 Llith.
  1   Calend.   Isai. 14. Act. 2. Isa. 15. Heb. 7.
13 2 g 4. No.   16. 3. 17. 8
2 3 A 3. No.   18. 4. 19. 9.
10 4 b Pri. No.   20, 21. 5. 22 10.
  5 c Non.   23. 6. 24. 11.
18 6 d 8. Id. Nicol. Esc. M. yn Lycia 25. 7 hyd 30. 26. 12.
7 7 e 7. Id.   27. 7. 30. 28. 13.
  8 f 6. Id. Ymdd. y Fend. Fair For. 29. 8. 30. Jaco 1.
15 9 g 5. Id.   31. 9. 32. 2.
4 10 A 4. Id.   33 10. 34. 3.
  11 b 3. Id.   35. 11. 36. 4.
12 12 c Pri. Id.   37. 12. 38 5.
1 13 d Idus. Luci Morwyn a Merth. 39. 13. 40. 1 Pet. 1.
  14 e 19 C. Jon.   41. 14. 42. 2.
9 15 f 18. Ca.   43. 15. 44. 3.
  16 g 17. Ca. O Sapientia. 45. 16. 46. 4.
17 17 A 16. Ca.   47. 17 48. 5.
6 18 b 15. Ca   49. 18. 50. 2 Pet. 1.
  19 c 14. Ca.   51. 19. 52. 2.
14 20 d 13. Ca, Ympryd. 53. 20. 54. 3.
3 21 e 12 Ca. S. Thomas Ap. a Mer.   21.   1 Joan 1.
  22 f 11 Ca.   55. 22. 56. 2.
11 23 g 10 Ca.   57. 23. 58. 3.
  24 A 9 Ca. Ympryd. 59. 24. 60. 4.
19 25 b 8 Ca. Dydd Notalic Crist.        
8 26 c 7 Ca. S. Stephan y M. cyntaf.        
  27 d 6 Ca. S. Joan Ap. ac Efang.        
16 28 e 5 Ca. Dydd y Gwirioniaid.   25.   5.
5 29 f 4 Ca.   61. 26. 62. 2 Joan.
  30 g 3 Ca.   63. 27. 64. 3 Joan.
13 31 A Prid. Ca. Silvester Esc. Rhufein. 65. 28. 66. Jud.

TABLAU a THREFNAU O'R Gwyliau Symmudol, a Di-symmudol. Ynghyd a'r dyddian Ympryd ac Arbedrwydd trwy'r holl flwyddyn.

TREFN i wybod pa bryd y maer Gwyliau symmudol yn dechreu.

DYdd-Pasc (ar ba un y mae'r llaill yn sefyll) yw bôb amser y Sûl cyntaf wedi'r llawn Lleuad a syrthio nesaf ar ôl yr Un­fed dydd ar hugain o Fawrth. Ac os digwydd y llawn Lleuad ar Ddydd-Sûl, Dydd-Pasc yw y Sûl ar ôl.

Sûl yr Adfent yw bôb amser y Sûl nesaf at Wyl S. An­dreas, par ûn bynnac a'i cyn a'i gwedi.

  • Sul Septuagesima Sydd Naw Wythnos cyn y Pasc.
  • Sul Sexagesima Sydd Wyth Wythnos cyn y Pasc.
  • Sul Quinquagesima Sydd Saith Wythnos cyn y Pasc.
  • Sul Quadragesima Sydd Chwech Wythnos cyn y Pasc.
  • Sul y Gweddiau Sydd Bum wythnos Gwedi 'r Pasc.
  • Dydd y Derchafael Sydd Ddeugain nhydd Gwedi 'r Pasc.
  • Y Sul-gwyn Sydd Saith wythnos Gwedi 'r Pasc.
  • Sul y Drindod Sydd Wyth wythnos Gwedi 'r Pasc.

Tabl o'r holl wyliau ac sydd i'w cadw yn Eglwys Loegr trwy'r flwyddyn.

Holl Suliau yn y flywyddyn.

Dydd Gŵyl
  • Enwaedīad ein Harglwydd IESU GRIST.
  • Yr Ystwyll.
  • Troad S. paul.
  • Puredigaeth y Fendigedic Forwyn.
  • S. Matthias yr Apostol.
  • Cennadwr y Fendigedic Forwyn.
  • S. Marc yr Efangylwr.
  • S. Philip a S. Iaco yr Apostolion.
  • Derchafael ein Harglwydd Jesu Grist.
  • S. Barnabas.
  • Natalic S. Ioan Fedyddiwr.
  • S. Petr yr Apostol.
  • S. Jaco yr Apostol.
  • S. Bartholomeus yr Apostol.
  • S. Matthew yr Apostol.
  • S. Mihangel a'r holl Angylion.
  • S. Luc. yr Efangylwr.
  • S. Simon a S. Iud yr Apostolion.
  • Yr Holl Sainct.
  • S. Andreas yr Apostol.
  • S. Thomas yr Apostol.
  • Natalic ein Harglwydd.
  • S. Stephan y Merthyr.
  • S. Ioan yr Efangylwr.
  • Y Sancteidd-lan Winoniaid.
Dydd-lun. a Dydd-Mawrth. Pasc. Dydd-lun a Dydd-mawrth. Sul-gwyn.

Tabl o'r nos-wyliau a'r dyddiau Ympryd ac Arbedrwydd, i'w cadw yn y flwyddyn.

Y Nos-wyl cyn
  • Natalic ein Harglwydd.
  • Puredigaeth y Fendigedic Fair Forwyn.
  • Cennadwri y Fendigedic Fair Forwyn.
  • Dydd-Pasc.
  • Dydd Derchafael.
  • Pentecost.
  • S. Matthias.
  • S. Joan Fedyddiwr.
  • S. Petr.
  • S. Jaco.
  • S. Bartholomeus.
  • S. Matthew.
  • S. Simon a S. Jud.
  • S. Andreas.
  • S. Thomas.
  • Yr holl Sainct.

Noda, os syrth rhyw un o'r dyddian gwyliau hyn ar dydd-llun, yna 'r Nos-wyl a gedwr a'r ddydd Sadwrn, ac nid ar y Sul nesaf o'i flaen.

Dyddiau Ympryd neu Arbedrwydd.

  • I. Y Deugein-nydd Grawys.
  • II. Dyddiau y Cyd-coriau ar y pedwr amser,
    • yr rhai ynt, Dydd Merchur, Dydd-Gwener, a Dydd Sadwrn ar oll y Sûl cyntaf o'r Grawys.
    • yr rhai ynt, Dydd Merchur, Dydd-Gwener, a Dydd Sadwrn ar oll Gwyl y Pentecost.
    • yr rhai ynt, Dydd Merchur, Dydd-Gwener, a Dydd Sadwrn ar oll y 14. o Fedi.
    • yr rhai ynt, Dydd Merchur, Dydd-Gwener, a Dydd Sadwrn ar oll y 13. o Ragfyr.
  • III. Tridiau y Gweddiau, yr rhai yw Dydd-llun, Dydd-mawrth, a Dydd­gwener o flaen Sanctaidd Ddydd-Jou, neu Dderchafael ein Harglwydd.
  • IV. Pôb Dydd-gwener yn y flwyddyn, onid Dydd Natalic Crîst.

Rhyw ddyddiau Solemn, ar ba rai yr aypwyntir Gweinidogaethau neilltuol.

  • I. Y Pnmed Dyddo o Dachwedd, yr hwn oedd dydd-Frâd y Papaniaid.
  • II. Y Degfed ar hugain o Jonawr, yr hwn oedd ddydd Merthyrolaeth Charls Cyntaf.
  • III. Y Nawfed Dydd ar hugain o Fai, yr hwn oedd Ddydd Natalic a Dychweliad Charl's yr Ail.

Tabl o'r Gwyliau Symmudol, wedi ei gylchu tros Ddeugain mhlynedd.

Oedran yr Arglwydd. Y Prif. Yr Epact Llythyren y Sul. Suliau We­di'r Ystw yl Sul Septua­gessima. Y dydd cyn taf o'r gra­wys. Dydd Pasc. Sul y Gwe­ddiau. Dydd y der­chafael. Y Sul-gwyn Suliau wed r Drindod Sul yr Ad­fent
1661 9 9 F 4 Chw. 10 Ch. 27. Ebr. 14 Mai. 19 Mai. 23 Meh. 2 24 Rha. 1
1662 10 20 E 2 Jon. 26 12 Ma. 30 4 8 Mai. 18 26 Tac. 30
1663 11 1 D 5 Chw. 15 Ma. 4. Ebr. 19 24 28 Meh. 7 23 29
1664 12 12 C B 4 7 Ch. 24. 10 15 19 Mai. 29 24 27
1665 13 23 A 2 Jon. 22. 8 Ma. 26. Ebr. 30 4 14 27 Rha. 3.
1666 14 4 G 5 Chw. 11 28 Ebr. 15. Mai. 20 24 Meh. 3 24 2.
1667 15 15 F 3 3 20 7. 12 16 Mai. 26 25 1
1668 16 26 E D 1 Jon. 19. 5 Ma. 22. Ebr. 26 cbr. 30 10 27 Tac. 29
1669 17 7 C 4 Chw. 7 24 Ebr. 11 Mai. 16 Mai. 20 30 24 28.
1670 18 18 B 3 Jon. 30. 16 3. 8 12 22 25 27.
1671 19 29 A 6 Chw. 19 Ma. 8 23. 28 Meh. 1 Meh. 1 23 Rha. 3.
1672 1 11 G F 4 4 Ch. 21. 7. 12 Mai. 16 Mai. 26 25 1.
1673 2 22 E 2 Jon. 16. 12 Ma. 30. 4 8 18 26 Tac. 30
1674 3 3 D 5 Chw. 15 Ma. 4 Ebr. 19 24 28 Meh. 7 23 29.
1675 4 14 C 3 Jon. 31. Ch. 17. 4. 9 13 Mai. 23 25 28.
1676 5 25 B A 2 23 9 Ma. 26. Ebr. 30 4 14 27 Rha. 3.
1677 6 6 G 5 Chw. 11 28 Ebr. 15 Mai. 20 24 Meh. 3 24 2.
1678 7 17 F 2 Jon. 27. 13 Ma. 31. 5 9 Mai. 19 26 1
1679 8 28 E 5 Chw. 16 Ma. 5. Ebr. 20 25 29 Meh. 8. 23 Tac. 30
1680 6 9 D C 4 8 Ch. 25. 11 16 20 Mai. 30 24 28.
1681 10 20 B 3 Jon. 30. 16 3 8 12 22 25 27.
1682 11 1 A 5 Chw. 12 Ma. 1 16 21 25 Men. 4. 24 Rha. 3
1683 12 12 G 4 4 Ch. 21. 8 13 17 Mai. 27 25 2.
1684 13 23 F E 2 Jon. 27 13 Ma. 30. 4 8 18 26 Tac. 30
1685 14 4 D 5 Chw. 15 Ma. 4. Ebr. 19 24 28 Meh. 7. 23 29.
1686 15 15 C 3 Jon. 31. Ch. 17. 4. 9 13 Mai. 23 25 28.
1697 16 26 B 2 23 9 Ma. 27. 1 5 15 26 27.
1688 17 7 A G 5 Chw. 12 Ma. 1. Ebr. 15 20 24 Meh. 3. 24 Rha. 2.
1689 18 18 F 2 Jon. 27 Ch. 13. Ma. 31. 5 9 Mai. 19 26 1.
1690 19 29 E 5 Chw. 16 Ma. 5. Ebr. 20 25 29 Meh. 8 23 Tac. 30.
1691 1 11 D 4 8 Ch. 25. 12. 17 21 Mai. 31 24 29.
1692 2 22 C B 2 Jon. 24 10 Ma. 27. 1 5 15 26 27.
1693 3 3 A 5 Chw. 12 Ma. 1. Ebr. 16. 21 25 Meh. 4. 24 Rha. 3.
1694 4 14 G 4 4 Ch. 21. 8 13 17 Mai. 27 25 2.
1695 5 25 F 1 Jon. 20 6 Ma. 24. Ebr. 28 2 12 27 1.
1696 6 6 E D 4 Chw. 9 26 Ebr. 12 Mai. 17 21 31 24 Tac. 29
1697 7 17 C 3 Jon. 31 17 4 9 13 23 25 28.
1698 8 28 B 6 Chw. 20 Ma. 9. 24 29 Meh. 2. Meh. 12 22 27.
1699 9 9 A 4 5 Ch. 22. 9 14 Mai. 18 Mai. 28 25 Rha. 3.
1700 10 20 G F 3 Jon. 28 14 Ma. 31. 5 9 19 26 1.

Noda, fod cyfrifolaeth Blwyddyn ein Harglwydd, yn Eglwys Loegr, yn dechreu y Pummed Dydd ar hugain o Fawrth.

I gael y Pasc tros byth.

Y Prif. A. B. C. D. E. F G
I. Ebril. 9. 10. 11. 12. 6. 7. 8
II. Maw. 26. 27 28. 29. 30. 31. Ebr. 1.
III. Ebr. 16. 17 18. 19. 20 14. 15.
IV. Ebr. 9. 3. 4. 5. 6. 7. 8.
V. Maw. 26. 27 28. 29. 23. 24. 25.
VI. Ebr. 16. 17 11. 12. 13 14. 15.
VII. Ebr. 2. 3. 4. 5. 6. M. 31 Ebr. 1.
VIII. Ebr. 23. 24 25. 19. 20. 21. 22.
IX. Ebr. 9. 10. 11 12. 13. 14. 8.
X. Ebr. 2. 3. Maw. 28. 29. 30. 31. Ebr. 1.
XI. Ebr. 16. 17 18. 19. 20. 21. 22.
XII. Ebr. 9. 10. 11. 5. 6. 7. 8.
XIII. Maw. 26. 27 28. 29. 30. 31. 25.
XIV. Ebr. 16. 17 18. 19. 13. 14. 15.
XV. Ebr. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8.
XVI. Maw. 26. 27 28. 22. 23. 24. 25.
XVII. Ebr. 16. 10. 11. 12. 13. 14. 15.
XVIII. Ebr. 2. 3. 4. 5. Maw. 30 31. Ebr. 1.
XIX. Ebr. 23. 24 18 19. 20. 21. 22.

¶ PAn gaffoch chwi Lythyren y Sûl yn y llin uchaf, cynhaliwch eich llygad tua 'r isder oddiwrth yr unnrhyw, oni ddeloch yn gymwys gydferbyn a'r Prif: ac yno mae 'n dangos pa Fis a pha ddydd o'r Mis y dig­wydd y Pasc y flwyddyn honno. Ond nodwch, fôd henw 'r Mis gwedi ei osod ar y Llaw aswy: neu yn union gyd­gyfer a'r ffigur, ac ni chanlyn, fel mewn Tablau eraill trwy descynniad, ond trwy gydgyferbynniad.

Y DREFN AM Foreuol a Prydnhawnol WEDDI I'w dywedyd beunydd a'i harferu trwy'r flwyddyn.

Y Foreuol a'r Brydnhawnol weddi a ar­ferir yn y mann cynnefodig o'r Eglwys Cappel, neu Ganghell; Oddiethr I Ordinari y lle, farnu yn amgenach. A'r canghellau a gant sefyll yn y wedd yr oeddynt o'r blaen.

A'c yma noder, fod yn rhaid cadw a chynual Addurniadau 'r Eglwys a'i gwenidogion a'r bôb amser o'i Gwenidogaeth yn unwedd ac yr oeddynt yn Egl­wys Loegr trwy Awdurdod y parliament yn yr ail flwydd­yn o deyrnasiad Brenin Edwart y chweched.

Y DREFN AM Weddi Foreuol, Bôb dŷdd trwy'r Flwyddyn.

¶ Ar ddechreu y Weddi Foreuol, darllened y Gwe­nidog a llêf vchel ryw ûn neu ychwaneg o'r synhwy­rau hyn o'r Scrythur lân, y rhai sŷdd yn canlyn. Ac yno dyweded yr hyn sydd scrifennedig ar ôl y Sentensiau.

Ezek. 18. 27. PAn ddychwelo yr annuwiol oddiwrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fŷw ei Enaid.

Psal. 51. 3. Yr wyf yn cydnabod fy ngham­weddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

Psal. 51. 9. Cuddia dy wyneb oddiwrth fy mhechodau: a delea fy holl anwireddau.

Psal. 51. 17. Aberthau Duw ydynt yspryd dryllieidig: calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.

Joel. 2. 13. Rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad; ac ymchwel­wch at yr Arglwydd eich Duw: O herwydd graslawn [Page] a thrugarog yw efe, hwyrfrydic i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

Dan. 9. 9, 10. Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom i'w erbyn; Ni wrandasom ychwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o'n blaen ni.

Jerem. 10. 24. Psalm. 6. 1. S. Matth. 3. 2. S. Luk. 15. 18. 19. Cospa fi, Arglwydd, etto mewn barn, nid yn dy lid, rhag it fy ngwneuthur yn ddiddim.

Edifarhewch, canys nessaodd teyrnas nefoedd.

Mi a godaf, ac a âf at fynhâd, ac a ddywedaf wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen di­thau; ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn Fab i ti.

Psalm. 143. 2. Na ddôs i farn a'th wâs, o herwydd ni chyfiawn­heir neb bŷw yn dy olwg di.

1 S. Joa. 1. 8, 9. Os dywedwn, nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, fel y mad­deuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhâo oddiwrth bôb an­ghyfiawnder.

FY anwyl gariadus frodyr, y mae yr Scrythur lân yn ein cynhyrfu mewn amrafael fannau, i gydnabod ac i gyffessu ein aml bechodau a'n anwi­redd, ac na wnelem na' i' cuddio na i' celu yngwydd yr Holl-alluog Dduw ein Tâd nefol, eithr eu cyffessu a gostyngedic, isel, edifarus, ac vfudd galon, er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt, trwy ei anfei­drol ddaioni a'i drugaredd ef. A chyd dylem ni bob amser addef yn ostyngedic ein pechodau ger bron Duw; Etto ni a ddylem yn bennaf wneuthur hyn­ny pan ymgynhullom i gyd-gyfarfod, i dalu diolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef, i ddatcan ei haeddediccaf foliant, i wrando ei sancteiddiaf air ef, ac i erchi y cyfryw bethau ac a fyddo cymmwys ac an­ghenrheidiol, yn gystal ar les y corph a'r enaid. O her­wydd paham myfi a erfyniaf ac a attolygaf i chwi, [Page] cynnifer ac y sydd yma yn bressenol, gyd-tynnu a myfi, a chalon bûr, ac a lleferydd ostyngedic, hyd yngorsedd­fa y nefol râd, gan ddywedyd ar fy ol i.

¶ Cyffes gyffredin i'w dywedyd gan yr holl gynnulleidfa ar ôl y Gwenidog, gan ostwng ar eu gliniau oll.

HOll-alluog Dduw, a thrugaroccaf Dâd, Ni a aethom ar gyfeiliorn al­lan o'th ffyrdd di, fel defaid ar gyfr­goll; Nyni a ddilynasom ormod ar amcanion, a chwantau ein calon­nau ein hunain: Nyni a wnaethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithi­au: Nyni adawsom heb wneuthud y pethau, a ddy­lesym eu gwneuthur, ac a wnaethom y pethau ni ddy­lesym eu gwneuthur; Ac nid oes iechyd ynom, eithr ty­di o Arglwydd, cymmer drugaredd arnom ddrwg weithred-wyr truain, Arbet ti hwyntwy, o Dduw, y rhai sy'yn cyffessu eu beiau; Cyweiria di y sawl sydd yn edifarus: Yn ol dy addewidion a yspysswyd i ddŷn, yngHrist Jesu ein Harglwydd. A channiattâ druga­roccaf Dâd er ei fwyn ef, fŷw o honom rhac llaw mewn duwiol, vnion a sobr fuchedd, i ogoniant dy sancteiddiol Enw: Amen.

¶ Y Gollyngdod neu faddeuant pechodau, i'w datcan gan y gwenidog yn vnic, yn ei sefyll, a'r bobl etto ar eu gli­niau.

YR Holl-Alluog Dduw, Tâd ein Har­glwydd Jesu Crist, yr hwn ni ddei­syf farwolaeth pechadur, eithr yn hyttrach ymchwelyd o honaw oddi wrth ei anwiredd, a bŷw: ac a rod­des allu a gorchymyn i'w wenidogi­on, i ddeclario ac i fynegu i'w bobl sydd yn edifarus, ollyngdod a maddeuant am eu pe­chodau: Efe a bardyna, ac a ollwng y rhai oll sy wîr edifeiriol, ac yn ddiffuant yn credu i'w sancteiddiol E­fengyl [Page] ef. Herwydd paham attolygwn ni iddo gani­adtâu i ni wîr edifeirwch, a'i Yspryd glân, fel y byddo bodlon ganddo y pethau ydd ydym y pryd hyn yn eu gwneuthur, a bod y darn arall o'n bywyd rhac llaw yn bûr, ac yn sancteiddiol, megis y delom o'r diwedd i'w lawenydd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd.

¶ Attebed y bobl yma ac ar ddiwedd pob un o'r gwe­ddiau eraill. Amen.

¶ Yna y gostwng y Gwenidog ar ei liniau, ac a ddywed weddi yr Arglwydd a llêf vchel, a'r bobl hefyd ar eu gli­niau, yn ei dywedyd gydag ef, yn y fan yma, ac ym ha le bynnag yr arferir hi yn y gwasanaeth.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r Deyrnas a'r gallu, a'r gogoni­ant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yna y dywaid ef yn yr un môdd.

Arglwydd agor ein gwefusau.

Atteb.

A'n genau a fynega dy foliant.

Offeiriad.

Duw bryssia i'n cynnorthwyo.

Atteb.

Arglwydd pryssura i'n cymmorth.

¶ Yna a'r bobl yn eu sefyll yr Offeiriad a ddywed.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Atteb.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awrhon, ac [Page] y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

Offeiriad.

Molwch yr Arglwydd.

Atteb.

Moliannus fyddo Enw'r Arglwydd.

¶ Yna y dywedir, neu y cenir y Psalm hon sy'n canl yn, oddieithr ar Ddydd Pasc, ar yr hwn y mae Anthem arall gwedi ei appwyntio; ac a'r y namyn un ugainfed dydd o bob mis, ni ddarllennir mono yn y fan hon, ond yn arferol gylch y Psalmau.

DEuwch, canwn i'r Arglwydd: ym­lawenhawn Venite, exul­temus Domi­no. Psal. 95. yn nerth ein hiechyd.

Deuwn ger ei fron ef a diolch: canwn yn llafar iddo Psalmau.

Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr: a Brenin mawr ar yr holl dduwiau.

Oblegit yn ei law ef y mae gorddyfnderau y ddaiat: ac efviau uchelder y mynyddoedd.

Y môr sydd eiddo, canys efe a'i gwnaeth: a'i ddwy­law a luniasant y sych-dir.

Deuwch addolwn, a syrthiwn i lawr, a gostyn­gwn ger bron y'r Arglwydd ein gwneuthurwr.

Canys efe yw ein Duw ni: a ninneu ym bobl ei borfa ef, a defeid ei ddwylaw.

Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd, na chale­dwch eich calonnau: megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.

Lle y temptiodd eich tadau fi: y profasant fi, a gwelsant fy ngweithredoedd.

Deugain mhlynedd yr ymrysonais a'r genhedlaeth hon, a dywedais: pobl gyfeiliornus yn eu calonnau ydynt hwy, canys nid adnabuant fy ffyrdd.

Wrth y rhai y tyngais yn fy llîd: na ddelent i'm gorphwysfa.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glûn: Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

[Page] ¶ Yn ol hyn y dilyn rhyw Psalmau mewn trefn, megis yr appwyntiwyd. Ac ar ddiwedd pob Psalm drwy yr flwy­ddyn, a'r un modd ar ddiwedd Benedictus, Benedicite, Magni­ficat, a Nunc dimittis, y dywedir,

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glan.

Atteb.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

¶ Yna y darllenir, yn llawn llythyr, a lleferydd uchel y llîth gyntaf, gwedi ei chymeryd allan o'r hên Desta­ment; megis ac yr appwyntiwyd wrth y Calender, oddi­eithr bod llithiau priod wedi asseinio i'r dydd hwnnw. Y gwenidog a ddarllenno, safed; ac ymchweled, megis y galler ei glywed yn oreu gan bawb oll ar a fo yn bresen­nol. Ac yn ol hynny y dywedir neu cenir yr Hymn a elwir, Te Deum laudamus, yn gamberaec beunydd trwy'r holl flwyddyn.

¶ O flaen pob llîth y Gwenidog a ddywed, Yma y mae yn dechreu y cyfryw Bennod neu adnod o'r cyfryw Bennod o'r llyfr a'r llyfr. Ac ar ol pob llith, Yma y terfyn y llith gyntaf neu'r ail.

TI Dduw a folwn : ti a gydnabydd­wn Te Deum Laudamus. yn Arglwydd.

Yr holl ddaiar a'th fawl di: y Tâd tragywyddawl.

Arnat ti yllefa yr holl Angylion: y nefoedd a'r holl nerthoedd o'u mewn.

Arnat ti y llefa Cherubin a Seraphin: â lleferydd ddibaid.

Sanct, Sanct, Sanct: Arglwydd Dduw Saba­oth.

Nefoedd a daiar sydd yn llawn: o'th ogoniant.

Gogoneddus gûr yr Apostolion: a'th fawl di.

Molianus nifer y Prophwydi: a'th fawl di.

Ardderchawg lu y Merthyri: a'th fawl di.

Yr Eglwys lan trwy 'r holl fŷd: ath addef di.

Y Tâd o anfreidrawl fawredd.

[Page]Dy anrhydeddus wîr: ac unic Fab.

Hefyd yr Yspryd glan: y diddan-wr.

Ti Christ: yw Brenin y gogoniant.

Ti yw tragywyddol: Fâb y Tâd.

Pan gymmeraist arnat waredu dŷn: ni ddiystyraist frû y wyryf.

Pan orchfygaist holl nerth angeu: yr agoraist deyr­nas nef i bawb a gredant.

Ti sydd yn eistedd ar ddeheu-law Duw: y ngogo­niant y Tâd.

Ydd ym ni yn credu mai tydi a ddaw: yn farn-wr arnom.

Can hynny yr attollygwn i ti gynnorthwyo dy wei­sion: y rhai a brynaist a'th werth-fawr waed.

Pâr iddynt gael eu cyfrif gyd â'th Sainct: yn y go­goniant tragywyddol.

Arglwydd cadw dy bobl: a bendithia dy etifeddi­aeth.

Llywia hwy: a dyrcha hwy yn dragywydd.

Beunydd ac fyth y elodforwn dydi.

Ac anrhydeddwn dy Enw: byth ac yn oes oesoedd.

Teilynga Arglwydd: ein cadw y dydd hwn yn ddi­bechod.

Arglwydd trugarhâ wrthym: trugarhâ wrthym.

Arglwydd poed dy drugaredd a ddêl arnom: megis ydd ŷm yn ymddiried ynot.

Arglwydd ynot yr ymddiriedais: n'am gwradwy­dder yn dragywydd.

¶ Neu'r canniad hwn: Benidicite omnia opera Domini.

CHwychwi holl weithredoedd yr Argl­wydd, Benidicite. bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch ef yn dru­gywydd.

Chwychwi Angelion yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd, molwch ef, a mawrhewch ef yn dragywydd. Chwychwi nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

[Page]Chwychwi yr dyfroedd sydd vwchben y ffurfafen, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi haul a lleuad, bendithiwch yr Argl­wydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi ser y nefoedd, bendithiwch yr Argl­wydd molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi gafodau a gwlîth, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi wyntoedd Duw, bendithiwch yr Argl­wydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi dân a gwres, bendithiwch yr Argl­wydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi aiaf a hâf, bendithiwch yr Arglwydd molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi wlithoedd a rhewoedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi rew ac oerfel, bendithiwch yr Argl­wydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi iâ ac eira, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi nosau a dyddiau, bendithiwch yr Argl­wydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi oleuni a thywyllwch, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi fellt a chymylau, bendithiwch yr Arglwyd: molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled ef, a maw­rhaed yn dragywydd.

Chwychwi fynyddoedd a brynniau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch, yn dragy­wydd.

Chwychwi oll wyrddion bethau ar y ddaiar, ben­dithiwch [Page] yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi ffynhonnau, bendithiwch yr Argl­wydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi foroedd a llifeiriaint, bendithiwch yr Arglwydd, molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi for-filod, ac oll ac sydd yn ymsymmudo yn y dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd, molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi oll adar yr awyr, bendithiwch yr Ar­glwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi oll anifeiliaid ac yscrublaid, bendithi­wch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi blant dynion, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Bendithied Israel yr Arglwydd: moled ef a mawrhaed yn dragywydd.

Chwychwi offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragy­wydd.

Chwychwi wasanaeth-wŷr yr Arglwydd, ben­dithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi ysprydion ac eneidiau y cyfiawn, ben­dithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi y rhai sanctaidd a gostyngedig o galon, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Chwychwi Ananias, Azarias, a Misael, bendi­thiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd▪ Amen.

¶ Yna y darllenir yn yr un môdd yr ail llith, gwedi ei chymeryd allan o'r Testament newydd. Ac wedi hynny yr Hymn sy' n canlyn, Oddiethr, pan ddigwydd ei ddarllen ymmhennod y Dydd, neu yn yr Efengyl ar Ddydd S. Joan. Fedyddiwr.

BEndiged fyddo Arglwydd Dduw'r Benedictus. Luk. 1. 68. Israel: canys efe a ymwelodd, ac a brŷnodd ei bobl.

Ac a dderchafodd iechydwriaeth nertholl i ni: yn nhy Ddafydd ei wa­sanaeth-wr.

Megis y dywedodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi: y rhai oedd o ddechreuad y bŷd.

Yr anfonei efe i ni ymwared rhag ein gelynion; ac oddi-wrth ddwylo pawb o'n digasogion.

Y gwnai efe drugaredd a'n tadau; ac y cofiai ei sanctaidd gyfammod:

A'r llw yr hwn a dyngodd ef wrth ein Tâd Abra­ham: sef bod iddo ganiadtaû i ni gwedi ein ymwared oddi wrth ddwylo ein gelynion, allu i wasanaethu ef yn ddiofn.

Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

A thitheu fâb a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf; canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef,

Ac i roddi gwybodaeth iechydwriaeth iw bobl ef; gan faddeu eu pechodau,

O herwyd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder:

I roddi llewyrch i'r rhai sy' yn eistedd mewn tywy­llwch a chyscod angeu, ac i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Neu yr Psalm hwn.

Jubilate Deo Psal. 100. CEnwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar: Gwasanaethwch yr Ar­glwydd mewn llawenydd, deuwch yn ei ŵydd ef mewn gorfoledd.

Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.

Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac rw ly­soedd â molŷant gennwch, diolchwch iddo, a chlod­forwch ei Enw.

Canys daionus yw yr Arglwydd, a'i drugaredd sydd yn dragywydd, a'i wirionedd a bery o genhed­laeth i genhedlaeth byth.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yna y cenir neu dywedir Credo 'r Apostolion gan y Gwenidog, a'r bobl yn eu sefyl. Oddieithr y dyddiau hynny yn unig, ar y rhai yr appoyntiwyd Credo S. Atha­nasius iw ddarllain.

CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdr nef a daiar. Ac yn Jesu Grist ei un Mâb ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gâed trwy yr Yspryd glân, a ned o Fair forwyn: a ddiodde­fodd dan Bontius Pilatus, a groes­hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd a ddiscynnodd i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o fei­rw; a escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Dâd oll gyfoethawg, Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân gatholit, Cymmun y sarnct, Maddeuant pechodau, Cyfodiad y cnawd, a'r by­bywyd tragywydol. Amen.

¶ Ac yn ôl hynny, y gweddiau sy yn canlyn, a phawb yn gostwng yn ddefosionol ar eu gliniau, y Gwenidog yn gyntaf a lefara â llef uchel.

Yr Arglwydd a fo gyda chwi.

Atteb.

A chyda 'th Yspryd dithau.

Y Gwenidog.

Gweddiwn.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶ Yna y Gwenidog, a'r yscolheigion, a'r bobl, a ddywe­dant weddi yr Arglwydd â lleferydd vchel.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

¶ Yna y Gwenidog yn ei sefyll a ddywaid.

Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.

Atteb.

A chaniadha i ni dy iechydwriaeth.

Offeiriad.

Arglwydd cadw y Brenhin.

Atteb.

A gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.

Offeiriad.

Gwisc dy wenidogion ag iawnder.

Atteb.

A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.

Offeiriad.

Arglwydd cadw dy bobl.

[Page] Atteb.

A bendithia dy etifeddiaeth.

Offeiriad.

Arglwydd dyro dangneddyf yn ein dyddiau.

Atteb.

Can nad oes neb arall, a ymladd trosom, onid tydi Dduw yn unic.

Offeiriad.

Duw glanha ein calonnau ynom.

Atteb.

Ac na chymmer dy Yspryd glân oddi wrthym.

¶ Yna y canlyn tri Cholect; Y cyntaf o'r dydd, yr hwn a fydd yr un ac a appwyntir ar y Cymmun. Yr ail, am dangneddyf. Y trydydd, am râd i fyw yn dda. Ar ddau Golect ddiweddaf ni chyfnewidir byth; onid eu dy­wedyd beunydd ar y Foreuol Weddi, trwy yr holl flwy­ddyn, fel y canlyn, a phawb ar eu gliniau.

¶ Yr ail Colect am dangneddyf.

DUw, yr hwn wyt Awdur tangne­ddyf, a charwr cyttundeb, yr hwn o'th iawn adnabod, y mae ein bu­chedd dragywydd yn sefyll arnaw, a'th wasanaeth yw gwir fraint: Amddeffyn nyni dy ostyngedig wei­sion, rhag holl ruthrau ein gelynion; fell y gallom trwy gwbl ymddiried yn dy amddiffyn di, nac ofnom allu neb gwrthwyneb-wŷr: trwy nerth Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Y trydydd Colect am gael rhâd.

O Arglwydd nefol Dâd, Holl alluog, a thragywyddol Dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddiangol hyd ddechreu 'r dydd heddyw, amddiffyn nyni yn­ddo a'th gadarn allu, a chaniadhâ na syrthiom y dydd hwn mewn un pechod, ac nad elom mewn neb rhyw berygl, eithr bod ein holl weithredoedd wedi eu trefnu a'u llywiaw wrth dy lywodraeth, i wneu­thur yn wastad y peth sydd gyfiawn yn dy olwg di, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Mewn Corau a mannau, lle 'r arferont ganu, yma y canlyn yr Anthem.

¶ Yna y pum Weddi sy'n canlyn a ddarllenir yma, oddi­eithr pan ddarllenir y Letani; Ac yna y ddwy olaf yn unig a ddarllenir fel y maent gwedi eu cyfleû yno.

¶ Gweddi tros Fawrhydi y Brenin.

O Arglwydd ein Tâd nefol, goruchel, a galluoc, Brenin y Brenhinoedd, Arglwydd yr Arglwyddi, unic ly­wiawdr y Tywysogion, yr hwn wyt o'th eisteddle yn edrych ar holl drigo­lion, y ddaiar, ni a attolygwn, ac a erfyniwn i ti, edrych o honot yn ddarbodus ar ein grasusaf ddaionus Arglwydd Frenhin Charles, ac felly ei gyflawni ef o rad dy san­ctaidd Yspryd, fel y bo iddo yn wastadol bwyso at dy feddwl, a rhodio yn dy ffordd, cynnyscaeddda ef yn he­laeth â doniau nefol, caniadhâ iddo mewn llwyddiant ac iechyd hir hoedl, nertha ef, modd y gallo orescyn, a gorchfygu ei holl elynion, ac o'r diwedd yn ôl y fu­chedd hon, bod iddo fwynhaû llawenydd a dedwyddyd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gweddi tros y Frenhinawl Deulû.

HOll-alluog Dduw, ffynnon pob dai­oni, yr ydym ni yn ostyngedig yn at­tolwg i ti fendithio ein grasusaf Fro­nhines, Caththerin, Mari y Fam­frenhines, Jago 'r Dûc o Efrawg, a'r holl Frenhinol Deulu. Cynn­ysgaeddâ hwy â'th Yspryd glân, cy­foethoga hwy â'th nefol râs, llwydda hwy a phob de­dwyddwch, a dwg hwy i'th dragywyddol deyrnas, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gweddi tros yr Eglwys-wyr, a'r bobl.

HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw yr hwn wyt yn unic yn gwneuthur rhyfeddodau, danfon i lawr ar ein Escobion a Churadiaid a'r holl gyn­nulleidfâon a orchymynnwyd tan eu gofal hwynt, iachol Yspryd dy râd, ac fel y gallont wîr ryngu bodd i ti, tywallt arnynt ddyfal wlîth dy fendith: Caniadhâ hyn Arglwydd, er anrhydedd ein dadleu-wr, a'n cy­fryng-wr Jesu Grist. Amen.

¶ Gweddi o waith S. Chrysostom.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a ro­ddaist i ni râd y pryd hyn, drwy gyfundeb a chyd-gyfarch i weddio arnat, ac wyt yn addo pan ym­gynnullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiadhaû eu gofynion: cyflawna yr awr hon, o Arglwydd, ddymuniad a deisyfiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt, gan ganiadhâu i ni yn y byd hwn [Page] wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, bywyd tragywyddol. Amen.

2 Cor. xiii. 14.

RHad ein Harglwydd Jesu Grist, a serch Duw, a chymdeithas yr Yspryd▪ glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.

¶ Yma y diwedd Trefn y Foreuol Weddi trwy'r Flwyddyn.

Y DREFN AM Weddi Bryd-nhawnol, Bôb dŷdd trwy'r Flwyddyn.

¶ Ar ddechreu y Weddi bryd-nhawnol, darllened y Gwe­nidog a llêf vchel ryw ûn neu ychwaneg o'r synhwy­rau hyn o'r Scrythur lân, y rhai sŷdd yn canlyn. Ac yno dyweded yr hyn sydd scrifennedig ar ôl y Sentensiau.

Ezek. 18. 27. PAn ddychwelo yr annuwiol oddiwrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwunw a geidw yn fŷw ei Enaid.

Psal. 51. 3. Yr wyf yn cydnabod fy ngham­weddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

Psal. 51. 9. Cuddia dy wyneb oddiwrth fy mhechodau: a delea fy holl anwireddau.

Psal. 51. 17. Aberthau Duw ydynt yspryd dryllieidig: calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.

Joel. 2. 13. Rhwygwch eich calon, ac nid eich diuad; ac ymchwel­wch at yr Arglwydd eich Duw: O herwydd graslawon [Page] a thrugarog yw efe, hwyrfrydic i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

Dan. 9.9,10 Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom i'w erbyn, Ni wrandasont ychwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o'n blaen ni.

Jerem. 10. 24 Psalm. 6. 1. Cospa fi, Arglwydd, etto mewn barn, nid yn dy lid, rhag it fy ngwneuthur yn ddiddim.

S. Matth. 3. 2. Edifarhewch, canys nessaodd teyrnas nefoedd.

S. Luk. 15. 18. 19 Mi a godaf, ac a âf at fy 'nhâd, ac a ddywedaf wrtho, fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen di­thau; ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn Fab i ti.

Psalm. 143. 2 Na ddôs i farn a'th wâs, o herwydd ni chyfiawn­heir neb bŷw yn dy olwg di.

1 S. Joa. 1. 8, 9. Os dywed wir, nad oes ynom bethau yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, fel y mad­deuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhâo oddi wrth bôb an­ghyfiawnder.

FY anwyl gariadus frodyr, y mae yr Scrythur lân yn ein cynhyrfu mewn amrafael fannau, i gydnabod ac i gyffessu ein aml bechodau a'n anwi­redd, ac na wnelem na' i' cuddio na i'celir yngwydd yr holl-alluog Dduw ein Tâd nefol, eithr eu cyffessu a gostyngedic, isel, edifarus, ac ufudd galon, er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt, trwy ei anfei­drol ddaioni a'i drugaredd ef. A chyd dylem ni bob amser addef yn ostyngedic ein pechodau ger bron Duw; Etto ni a ddylem yn bennaf wneuthur hyn­ny pan ymgynnullom i gyd-gyfarfod, i dalu diolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef, i ddatcan ei haeddediccaf foliant, i wrando ei fancteiddiaf air ef, ac i erchi y cyfryw bethau ac a fyddo cymmwys ac an­ghenrheidiol, yn gystal ar les y corph a'r enaid. Oher­wydd paham myfi a erfyniaf ac a attolygaf i chwi, [Page] cynnifer ac y sydd yma yn bressenol, gyd-tynnu a myfi, a chalon bûr, ac a lleferydd ostyngedic, hyd yn gorsedd­fa y nefol râd, gan ddywedyd ar fy ol i.

¶ Cyffes gyffredin i'w dywedyd gan yr holl gynnulleidfa ar ôl y Gwenidog, gan ostwng ar eu gliniau oll.

HOll-alluog Dduw, a thrugaroccaf Dâd, Ni a aethom ar gyfeiliorn al­lan o'th ffyrdd di, fel defaid ar gyfr­goll; Nyni a ddilynasom ormod ar amcanion, a chwantau ein calon­nau ein hunain: Nyni a wnaethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithi­au: Nyni adawsom heb wneuthud y pethau, a ddy­lesym eu gwneuthur, ac a wnaethom y pethau ni ddylesym eu gwneuthur; Ac nid oes iechyd ynom, eithr ty­di o Arglwydd, cymmer drugaredd arnom ddrwg weithred-wyr truain, Arbet ti hwyntwy, o Dduw, y rhai sy'yn cyffessu eu beiau; Cyweiria di y sawl sydd yn edifarus; Yn ol dy addewidion a yspysswyd i ddŷn, ynghrist Jesu ein harglwydd. A channiattâ druga­roccaf Dâd er ei fwyn ef, fŷw o honom rhac llaw mewn duwiol, union a sobr fuchedd, i ogoniant dy sancteiddiol Enw: Amen

¶ Y Gollyngdod neu faddeuant pechodau, i'w datcan gan y gwenidog yn vnic, yn ei sefyll, a'r bobl etto ar eu gliniau.

YR holl-Alluog Dduw, Tâd ein Har­glwydd Jesu Grist, yr hwn ni ddei­syf farwolaeth pechadur, eithr yn hyttrach ymchwelyd o honaw oddi wrth ei anwiredd, a bŷw: ac a rod­des allu a gorchymyn i'w wenidogi­on, i ddeclario ac i fynegu i'w bobl sydd yn edifarus, ollyngdod a maddeuant am eu pe­chodau: Efe a bardyna, ac a ollwng y rhai oll sy wîr edifeiriol, ac yn ddiffuant yn credu i'w sancteiddiol E­fengyl [Page] ef. Herwydd paham attolygwn ni iddo gani­adtâu i ni wîr edifeirwch, a'i Yspryd glân, fel y byddo bodlon ganddo y pethau ydd ydym y pryd hyn yn eu gwneuthur, a bod y darn arall o'n bywyd rhac llaw yn bûr, ac yn sancteiddiol, megis y delom o'r diwedd i'w lawenydd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd.

¶ Attebed y bobl yma ac ar ddiwedd pob un o'r gwe­ddiau eraill. Amen.

¶ Yna y gostwng y Gwenidog ar ei liniau, ac a ddywed weddi yr Arglwydd a llêf vchel, a'r bobl hefyd ar eu gli­niau, yn ei dywedyd gydag ef, yn y fan yma, ac ym ha le bynnag yr arferir hi yn y gwasanaeth.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara baunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r Deyrnas a'r gallu, a'r gogoni­ant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yna y dywaid ef yn yr un môdd.

Arglwydd agor ein gwefusau.

Atteb.

A'n genau a fynega dy foliant.

Offeiriad.

Duw bryssia i'n cynnorthwyo.

Atteb.

Arglwydd pryssura i'n cymmorth.

¶ Yna a'r bobl yn eu sefyll yr Offeiriad a ddywed.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Atteb.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awrhon, ac [Page] y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

Offeiriad.

Molwch yr Arglwydd.

Atteb.

Moliannus fyddo Enw'r Arglwydd.

¶ Yna y dywedir, neu cenir y Psalmeu mewn trefn, me­gis yr appwyntiwyd hwy. Yna llith o'r hên Destament, megis ac yr appwyntiwyd. Yn ol hynny Magnificat neu Gân y Forwyn fendigedic, yn Gamber-aec, megis y canlyn.

Magnificat. Luk. 1. 46. FY enaid a fawrhâ yr Arglwydd: a'm hysyryd a lawenychodd yn Nuw fy Jachawdr.

Canys efe a edrychodd: ar ostyn­geiddrwydd ei wasanaethyddes.

Oblegid wele o hyn allan: yr holl genhedlaethau a'm geilw yn wyn­fydedic.

Canys yr hwn sydd Alluog a wnaeth i mi fawredd: a sanctaidd yw ei Enw ef.

A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd: ar y rhai a'i hofnant ef.

Efe a ddangosodd nerth a'i fraich: efe a wascarodd y rhai beilchion ym mwriadau eu calonnau.

Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfau ac a dderchafodd y rhai isel-radd.

Efe a lanwodd y rhai newynog a phethau da: ac a anfonodd ymmaith y rhai goludog mewn eisiau.

Efe a gynnorthwyodd ei wâs Israel, gan gofio ei drugaredd: (fel y dywedodd wrth ein tadau, Abra­ham a'i hâd) yn dragwydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oeseodd. Amen.

¶ Neu ynteu y Psalm hon; Oddieithr ar y namyn un­fed dydd ugain o'r mis, pan ddarllenir ef ar drefn gy­ffredin y Psalmau.

Cantate Do­mino, Ps. 98. CEnwch ir Arglwydd ganiad ne­wydd, canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: a'i ddeheu-law, ac a'i fraich sanctaidd y parodd iddo ei hûn iechyd wriaeth.

Yspyssodd yr Arglwydd ei iechyd­wriaeth: a datcuddiodd ei gyfia­wnder yngolwg y cenhedloedd.

Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Israel: a holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.

Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.

Cenwch ir Arglwydd gyd a'r delyn: sefgyd a'r de­lyn, a llef canmoliaeth.

Cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin: ar yr ud-cyrn, a sain trwmpet.

Rhûed y môr, ac sydd ynddo, y byd, ar rhai a dri­gant o'i fewn.

Cûred y llifeiriaint eu dwylo: a chyd-ganed y my­nyddoedd o flaen yr Arglwydd, canys efe a ddaeth i farnu y ddaiar.

Efe a farna 'r bŷd mewn cyfiawnder: ar bobloedd mewn uniondeb.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oesoedd. Amen.

¶ Yna llith o'r Testament newydd megis yr appwyntir: Ac yn ol hynny Nunc dimittis, neu Gân Simeon, yn Gam­ber-aec, megis y canlyn.

Nunc demit­tis, Luk. 2. 29.YR awrhon Arglwydd y gollyngi dy was mewn tangneddyf, yn ôl dy air.

Canys fy llygaid a welsant dy iechyd­wriaeth,

Yr hon a baratoaist ger bron wyneb yr holl bobl.

[Page]I fôd yn oleuni i oleuo y Cenhedloedd ac yn ogo­niant i'th bobl Israel.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

¶ Neu yr Psalm hon Oddiethr ar y deuddegfed dydd o'r Mis.

Deus misere­atur, Ps. 67. DUw a drugarhao wrythym, ac a'n bendithio, a thywynned llewyrch ei wyneb arnom, a thrugarhaed wrthym.

Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym­mhlith yr holl genhedloedd.

Molianned y bobl di û Ddow: molianned yr holl bobl dydi.

Llawenhaed y cenhedloedd a dyddant hyfryd, ca­nys tydi a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y Cenhedloedd ar y ddaiar.

Molianned y bobl di û Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

Yna yr ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw, sef, ein Duw ni, a'n bendithia.

Duw a'n bendithia: a holl derfynau yr ddaiar a'i hofnant ef.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yna y cenir neu dywedir Credo 'r Apostolion gan y Gwenidog, a'r bobl yn eu sefyl

CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdr nef a daiar. Ac yn Jesu Grist ei un Mâb ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gâed trwy yr Yspryd glân, a aned o Fair forwyn: a ddiodd­efodd dan Bontius Pilatus, a groes­hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd a ddiscynnodd i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o fei­rw; a escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Dâd oll gyfoethawg, Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân gatholic, Cymmun y sainct, Maddeuant pechodau, Cyfodiad y cnawd, a'r by­wyd tragywydol. Amen.

¶ Ac yn ôl hynny, y gweddiau sy yn canlyn a phawb yn gostwng yn ddefosionol ar eu gliniau, y Gwenidog yn gyntaf a lefara â llef uchel.

Yr Arglwydd a fo gyda chwi.

Atteb.

A chyda 'th Yspryd dithau.

Y Gwenidog.

Gweddîwn.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶ Yna y Gwenidog, a'r yscolheigion, a'r bobl, a ddywe­dant weddi yr Arglwydd â lleferydd vchel.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain [Page] ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

¶ Yna y Gwenidog yn ei sefyll a ddywaid.

Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.

Atteb.

A chaniadha i ni dy iechydwriaeth.

Offeiriad.

Arglwydd cadw y Brenhin.

Atteb.

A gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.

Offeiriad.

Gwisc dy wenidogion ag iawnder.

Atteb.

A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.

Offeiriad.

Arglwydd cadw dy bobl.

Atteb.

A bendithia dy etifeddiaeth.

Offeiriad.

Arglwydd dyro dangneddyf yn ein dyddiau.

Atteb.

Can nad oes neb arall, a ymladd trosom, onid tydi Dduw yn unic.

Offeiriad.

Duw glanha ein calonnau ynom.

Atteb.

Ac na chymmer dy Yspryd glân oddi wrthym.

¶ Yna y canlyn tri Cholect; Y cyntaf o'r dydd. Yr ail, am dangneddyf. Y trydydd, am gynhorthwy yn erbyn pob perygl, fel y canlyn yma rhac llaw. Ar ddau Golect ddiwethaf a ddywedir bob dydd ar bryd-hawn­ol Weddi, heb gyfnewid.

¶ Yr ail Colect ar y bryd-nhawnol weddi.

DUw oddi wrth ba un y daw pob add­ûned sanctaidd, pob cyngor da, a phob gweithred gyfiawn, dyro i'th wasanaeth-ddynion y rhyw dangne­ddyf a'r na ddichon y bŷd ei roddi; modd y gallo ein calonnau ymroi i ufyddhau i'th orchymynion; a thr­wy dy amddeffyniad i ni rhag ofn ein gelynion, allu o honom dreulio ein hamser mewn heddwch a thang­neddyf, drwy haeddedigaethau Jesu Grist ein Ja­chawdr. Amen.

¶ Y trydydd Colect am gynnorthwy yn erbyn pob peryglon.

GOleua ein tywyllwch, ni a attoly­gwn i ti o Arglwydd; a thrwy dy fawr drugaredd amddeffyn nyni rhag pob perygl ac enbydrwydd y nûs hon; er serch ar dy un Mab ein Jachawdr Jesu Grist. A­men.

¶ Mewn Corau a mannau, lle 'r arferont ganu, yma y canlyn yr Anthem.

¶ Gweddi tros Fawrhydi y Brenin.

OArglwydd ein Tâd nefol, goruchel, a galluoc, Brenin y Brenhinoedd, Arglwydd yr Arglwyddi, unic ly­wiawdr y Tywysogion, yr hwn wyt o'th eisteddle yn edrych ar holl drigo­lion, y ddaiar, ni a attolygwn, ac a erfyniwn i ti, edrych o honot yn ddarbodus ar ein grasusaf ddaionus Arglwydd Frenhin Charles, ac felly ei gyflawni ef o rad dy san­ctaidd Yspryd, fel y bo iddo yn wastadol bwyso at dy feddwl, a rhodio yn dy ffordd, cynnyscaeddda ef yn he­laeth [Page] â doniau nefol, caniadhâ iddo mewn llwyddiant ac iechyd hir hoedl, nertha ef, modd y gallo orescyn, a gorchfygu ei holl elynion, ac o'r diwedd yn ûl y fu­chedd hon, bod iddo fwynhaû llawenydd a dedwyddyd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gweddi tros y Frenhinawl Deulû.

HOll-alluog Dduw, ffynnon pob dai­oni, yr ydym ni yn ostyngedig yn at­tolwg i ti fendithio ein grasusaf Fre­nhines, Caththerin, Mari y Fam­frenhines, Jago 'r Dûc o Efrawg, a'r holl Frenhinol Deulu. Cynn­ysgaeddâ hwy â'th Yspryd glân, cy­foethoga hwy â'th nefol râs, llwydda hwy a phob de­dwyddwch, a dwg hwy i'th dragywyddol deyrnas, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gweddi tros yr Eglwys-wyr, a'r bobl.

HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw yr hwn wyt yn unic yn gwneuthur rhyfeddodau, danfon i lawr ar ein Escobion a Churadiaid a'r holl gyn­nulleidfâon a orchymynnwyd tan eu gofal hwynt, iachol Yspryd dy râd, ac fel y gallont wîr ryngu bodd i ti, tywallt arnynt ddyfal wlîth dy fendith: Caniadhâ hyn Arglwydd, er anrhydedd ein dadleu-wr, a'n cy­fryng-wr Jesu Grist. Amen.

¶ Gweddi o waith S. Chrysostom.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a ro­ddaist i ni râd y pryd hyn, drwy gyfundeb a chyd-gyfarch i weddio arnat, ac wyt yn addo pan ym­gynnullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiadhaû eu gofynion: cyflawna yr awr hon, o Arglwydd, ddymuniad a deisyfiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt, gan ganiadhâu i ni yn y byd hwn [Page] wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, bywyd tragywyddol. Amen.

2 Cor. xiii. 14.

RHad ein Harglwydd Jesu Grist, a serch Duw, a chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.

¶ Yma y diwedd Trefn y bryd-nhawol Weddi trwy'r Flwyddyn.

Quicunque Vult.

¶ Ar y Gwyliau hyn, sef, dydd Natalic Christ, dydd-gwyl Ystwyll, dyddgwyl Fathias; dydd Pasc, y Derchafael, y Sulgwyn, dyddgwyl Ioan fedyddi-wr, Sainct Jacob, Sainct Bartholomeus, S. Matthew, S. Simon a S. Jud, S Andreas, a Sul y Drindod; y cenir neu y dywedir ar y Weddi Foreuol, yn lle Credo 'r Apostolion, y Gyffes hon o'n ffydd Gristianogawl, a elwir yn Gyffredin, Credo S. Athanasius, gan y Gwenidog a'r bobl yn sefyll.

PWy bynnac a fynno fod yn gadwedit: o flaen dim rhaid iddo gynnal y ffydd gatholic.

Yr hon ffydd, onis ceidw pôb dyn yn gyfan, ac yn ddihalog: diammeu y collir ef yn dragywydd.

A'r ffydd gatholic yw hon, bod i ni addoli un Duw yn Drindod, a'r Drindod yn un­dod.

Nid cymmyscu o honom y personau: na gwahanu y sylwedd.

Canys un person sydd i'r Tâd, arall i'r Mâb: ac arall i'r Yspryd glân.

Eithr Duwdod y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân sydd unrhyw: gogoniant gogyfuwch, mawrhydi go­gyd-tragywyddol.

Unrhyw yw'r Tâd, unrhyw yw'r Mâb; unrhyw yw'r Ysyryd glân.

Digreêdic Dâd, digreêdic Fâb: digreêdic Yspryd glân.

[Page]Anfesuredig Dad, anfesuredic Fâb, anfesuredig Yspryd glân.

Tragywyddol Dâd, tragywyddol Fâb: tragy­wyddol Yspryd glân.

Ac etto nid ydynt dri tragywyddolion; onid vn tragywyddol.

Ac fel nad ŷnt dri anfesuredigion, na thri digreêdi­gion: onid vn digreêdic, ac vn anfesuredig.

Felly yn gyffelyb, Holl-alluog yw'r Tâd, Holl­alluog yw'r Mâb: Holl-alluog yw'r Yspryd glân.

Ac etto nid ŷnt dri Holl-alluogion: onid vn Holl­alluog.

Felly y Tâd sy' Dduw, y Mâb sy' Dduw: a'r Ys­pryd glân sy' Dduw.

Ac etto nid ŷnt dri Duwiau: onid un Duw.

Felly y Tâd sydd Arglwydd, y Mâb sydd Argl­wydd; a'r Yspryd glân sydd Arglwydd.

Ac etto nid ŷnt dri Arglwyddi; namyn vn Argl­wydd.

Canys fel i'n cymhellir trwy y gristianogaidd wi­rionedd: i gyfaddef bod pob person o honaw ei hûn yn Dduw, ac yn Arglwydd;

Felly i'n gwaherddir trwy'r Gatholic Grefydd: i ddywedyd, bod tri Duwiau, neu dri Arglwyddi.

Y Tâd ni wnaethpwyd gan neb: ni's crewyd, ac ni's cenhedlwyd.

Y Mâb y sydd o'r Tâd yn vnic: heb ei wneuthur, na'i greû, eithr wedi ei genhedlu.

Yr Yspryd glân sydd o'r Tâd a'r Mâb: heb ei wneuthur, na'i greû, na'i genhedlu, eithr yn dei­lliaw.

Wrth hynny, vn Tâd y sydd, nid tri Lhâd, vn Mâb, nid tri Mâb; vn Yspryd glân, nid tri o Ysprydion glân.

Ac yn y Drindod hon, nid oes vn cynt, neu gwedi ei gilydd: nid oes vn mwy na llai na'i gilydd.

Eithr yr holl dri phersonau ydynt ogyd-tragywy­ddol: a gogyfuwch.

Ac felly ym mhob peth, fel y dywedpwyd vchod: yr vndod yn y Drindod, a'r Drindod yn yr vndod sydd i'w haddoli.

[Page]Pwy bynnac gan hynny a fynno fod yn gadwedig: synied felly o'r Drindod.

Y mae hefyd yn anghenrhaid er mwyn tragywy­ddol iechydwriaeth: credû o doyn yn ffyddlawn am gnawdoliaeth ein Harglwydd Jesu Grist.

Canys yr iawn ffydd yw, credu, a chyffessu o ho­nom: fod ein Harglwydd ni Jesu Grist, Fab Duw, yn Dduw ac yn ddŷn.

Duw o sylwedd y Tad, wedi ei genhedlu cyn na'r oesoedd: a dyn, o sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y byd.

Perffaith Dduw, a pherffaith ddŷn, o enaid rhe­symol: a dynol, gnawd yn hanfod.

Gogyfuwch a'r Tad oblegit ei Dduwdod: a llai na'r Tad, oblegit ei ddyndod.

Yr hwn, er ei fod yn Dduw, ac yn ddyn: er hynny, nid yw efe ddau, onid vn Christ.

Un, nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd: onid gan gymmeryd y dyndawd at Dduw.

Un i gyd oll, nid gan gymmyscu y sylwedd: onid trwy vndod person.

Canys fel y mae yr enaid rhesymol a'r cnawd yn vn dŷn: felly Duw a dŷn sydd vn Christ.

Yr hwn a ddioddefodd tros ein iechydwriaeth: a ddescynnodd i vffern, a gyfododd y trydydd dydd o feirw.

Escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar dde­heu-law'r Tad, Duw holl-alluog: oddi yno y daw i farnu byw a meirw.

Ac ar ei ddyfodiad, y cyfyd pob dŷn yn eu cyrph eu hunain: ac a roddant gyfrif am eu gweithredoedd priawd.

A'r rhai a wnaethant ddâ, a ânt i'r bywyd tragy­wyddol: a'r rhai a wnaethant ddrwg, ir tân tragy­wyddol.

Hon yw'r ffydd gatholic: yr hon pwy bynnac a'r ni's creto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedic.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yma y canlyn y Letani, neu ymbyliau cyffredinol iw canu neu iw dywedyd ar ol y Foreuol Weddi ar y Suliau, y Merchurau, ar Gwenerau, ac ar amserau eraill, pan orchmynner gan yr Ordinari.

DUw Tad o'r Nef: trugarha wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Tâd o'r nef: trugarhâ wr­thym, &c.

Duw Fâb, bryn-wr y byd: tru­garhâ wrthym wîr bechaduri­ad.

Duw Fâb, bryn-wr byd: trugarhâ wrthym, &c.

Duw Yspryd glan, yn deilliaw oddi-wrth y Tad a'r Mab; trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Yspryd glân, yn deilliaw oddi-wrth, &c.

Y gogoned, lan, fendigaid Drindod, tri pherson, ac un Duw: trugarha wrthym wîr bechaduriaid.

Y gogoned, lân, fendigâid Drindod, tri pherson, &c.

Na chofia Arglwydd ein anwiredd, nac anwiredd ein rhieni, ac na ddyro ddial am ein pechodau: arbed nyni Arglwydd daionus, arbet dy bobl a brynaist a'th werth-fawr waed, ac na lidia wrthym yn dra­gywydd.

Arbet ni Arglwydd daionus.

Oddi wrth bob drwg ac anffawd, oddi-wrth be­chod, oddi-wrth ystryw a chyrch y cythrael, oddiwrth dy lid, ac oddi-wrth farnedigaeth dragywyddol.

[Page] Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob dallineb calon, oddi-wrth falchder, a gwag ogoniant, a ffûg sancteiddrwydd, oddiwrth genfigen, digasedd, a bwriad drwg, a phob anghari­adoldeb.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth anniweirdeb, a phob pechod marwol, ac oddi-wrth holl dwyll y byd, y cnawd, ar cythrael.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth fellt a thymestl, oddi-wrth blâ, haint, y nodeu, a newyn, oddi-wrth ryfel ac ymladd, ac oddi­wrth angau disyfed.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob terfysc, dirgel frâd, a gwrthryfel, oddi-wrth bob ffals ddysceidiaeth, opinion annuwiol a schism, oddi-wrth galedrwydd calon, a dirmyg ar dy air a'th orchymmyn.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Trwy ddirgelwch dy gnawdoliaeth, trwy dy sanc­taidd enedigaeth, a'th enwaediad, trwy dy fedydd, dy ympryd, a'th brofedigaeth.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Trwy dy ddirfawr ing, a'th chwys gwaedlyd, drwy dy grôg a'th ddioddefaint, drwy dy werthfawr angau a'th gladdedigaeth, drwy dy anrhydeddus gyfodiad, a'th escynniad, a thrwy ddyfodiad yr Yspryd glân.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Yn holl amser em trallod, yn holl amser ein gwyn­fyd, yn awr angeu, ac yn nydd y farn.

Gwaret nyni Arglwyd daionus.

Nyni bechaduriaid a attolygwn i ti ein gwrando, ô Arglwydd Dduw, a theilyngu o honot gadw, rheoli, a llywodraethu dy lân Eglwys gatholic, yn y ffordd union.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gadw a nerthu i'th wîr addoli mewn iawnder a glendid buchedd, dy wasanaeth-wr Charles ein grasusaf Frenhin a'n pen-llywydd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Tilyngu o honot lywodraethu ei galon yn dy ffydd, [Page] ofn, a chariad, ac iddo ymddiried byth ynot, ac ym­gais yn wastad a'th anrhydedd, a'th ogoniant.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot ei amdeffyn a'i gadw, gan roddi iddo fuddugoliaeth ar ei holl elynion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw ein grasusaf Frenhines Catherin, y Fam-frenhines Mari, Jago 'r Dûr o Efrawg a'r holl Frenhinawl deulu.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Escobion Offei­riaid a Diaconiaid, ag iawn wybodaeth a deall dy air: ac iddynt hwy trwy eu pregeth a'u buchedd, ei fynegu a'i ddangos yn ddyladwy.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gynnyscaeddu Arglwyddi 'r Cyngor, a'r holl fonedd â grâs, doethineb, a deall.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw y pen-swyddo­gion, gan roddi iddynt râs i wneuthur cyfiawnder, ac i faentumio yr gwîr.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw dy holl bobl.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i bob cenhedlaeth, undeb, tangneddyf a chyd-gordio.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i ni galon i'th garu ac i'th ofni, ac i fyw yn ddiesculus yn ôl dy orchymynion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i'th bobl ychwaneg o râd, i wrando yn ufydd dy air ac iw dderbyn o bur ewyllys, ac i gynhyrchu ffrwyth yr Yspryd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot ddwyn i'r ffordd wîr, bawb ar a aeth ar gyfeiliorn ac a dwyllwyd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot nerthu y rhai sy yn sefyll, a chon­fiorddio a chynnorthwyo y rhai sy' â gwan galon, a chyfodi y sawl a syrthiant, ac o'r diwedd curo i lawr Satan tan ein traed.

[Page] Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gymmorth, a helpio, a diddanu pawb ar y sydd mewn perigl, anghenoctid a thrw­blaeth.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gadw pawb a'r sydd yn ymdaith ar fôr na thîr, pob gwraig wrth escor plant, pob clwyfus a rhai bychain, a thosturio wrth bawb a fyddo mewn caethiwed a charchar.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot amddeffyn ac ymgeleddu y plant amddifaid, a'r gwragedd gweddwon, a phawb y sydd yn unic, ac yn goddef pwys plaid orthrech.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot drugarhau wrth bob dŷn.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot faddeu i'n gelynion, erlynwyr, ac ysclandr-wŷr, a throi eu calonnau.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi a chadw er ein llês, amse­rol ffrwythau y ddaiar, modd y caffom mewn amser dyledus eu mwynhau.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i ni wîr edifeirwch, a ma­ddeu i ni ein holl bechodau, ein esceulustra, a'n han­wybod, an cynhyscaeddu, â rhâd dy Yspryd glân, i wellhau ein buchedd yn ôl dy air sanctaidd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.

Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.

Oen Duw, yr hwn wyt yn dileu pechodau yr bŷd.

Caniadhâ i ni dy dy dangneddyf.

Oen Duw, yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd.

Trugarhâ wrthym.

Christ clyw nyni.

Christ clyw nyni.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Christ trugarhâ wrthym.

Christ trugarhâ wrthym.

[Page]Arglwydd trugarhû wrythym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad a'r bobl gidag ef weddi'r Arglwydd.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd▪ sancteiddier dy Enw. Deuet dydeyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara bennyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel yma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Offeiriad.

Arglwydd na wna â nyni yn ûl ein pechodau.

Atteb.

Ac na obrwya ni yn ûl ein anwiredd.

¶ Gweddiwn.

DUW Tâd trugarog, yr hwn nid wyt yn dirmygu uchenaid calon gystuddiedic, nac adduned y gorthr­ymmedic: cynnorthwya yn druga­rog ein gweddiau, y rhai yddym ni yn eu gwneuthur ger dy fron yn ein trallod a'n blin-fyd, pa bryd byn­nac y gwascant arnom: a gwrando ni yn rasusol, fel y bd i'r drygau hynny, y rhai y mae ystryw a dichell diafol neu ddyn yn eu gwneuthur i'n herbyn, fyned yn ofer, a thrwy ragluniaeth dy ddaioni di, iddynt fod yn wascaredic, modd na'n briwer dy weision drwy er­lyn neb, a gallu o honom byth ddiolch i ti yn dy lân Eglwys, trwy Jesu Grist ein Harglwydd.

[Page] Arglwydd, cyfot, cymmorth ni, a gwaret ni er mwyn dy Enw.

O Dduw, ni a glywsom â'n clustiau, â'n tadau a fynegasant i ni y gweithredoedd ardder­chawg a wnaethost yn eu dyddiau, ac yn y cynfyd o'u blaen hwy.

Arglwydd, cyfod, cymmorth ni, a gwaret ni er mwyn dy anrhydedd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glan.

Atteb.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

Rhag ein gelynion amdiffyn ni, Crist.

Yn rasol edrych ar ein poenedigaethau.

Yn dosturus ystyria wrth drymder ein calomau.

Yn drugarog maddeu bechodan dy bobl.

Yn garedigol gan drugatedd gwrando em gweddiau

Jesu Fab Dafydd, trugarhâ wrthym.

Yr awr hon a phob amser teilynga ein gwrando o Crist.

Yn rasol clyw ni o Crist yn rasol clyw nyni ô Arg­wydd Grist.

Offeiriad.

Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.

Atteb.

Fel yddŷm yn ymddiried ynot.

¶ Gweddiwn.

NYni a attolygwn i ti û Arglwydd Dad, yn drugarog edrych ar ein gwendid, ac er gogoniant dy Enw, ymchwel oddi-wrthym yr holl ddry­gau a ddarfu i ni o wir gyfia wnder eu haeddu, a chaniadhâ fod ini yn ein holl drallod ddodi ein cyfan ym­ddiried a'n gobaith yn dy drugaredd, ac byth dy wasa­naethu mewn sancteiddrwydd, a phurdeb buchedd, i'th anrhydedd a'th ogoniant trwy ein vnig gyfryng­wr a'n dadleu-wr Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gweddi o waith S. Chrysostom.

HOll-alluog Dduw, yr hwn a ro­ddaist i ni râd y pryd hyn, drwy gyfundeb a chyd-gyfarch i weddio arnat, ac wyt yn addo pan ym­gynnullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiadhaû eu gofynion: cyflawna yr awr hon, o Arglwydd, ddymuniad a deisyfiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt, gan ganiadhâu i ni yn y byd hwn wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, bywyd tragywyddol. Amen.

2 Cor. xiii. 14.

RHad ein Harglwydd Jesu Grist, a serch Duw, a chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.

¶ Yma y diwedd y Letani.

Gweddiau a Diolwch AR AMRYW ACHOSION, iw harfer o flaen y ddwy Weddi ddiwae­thaf o'r Letani, neu ar y Foreuol a'r Bryd­nhawnol Weddi.

GVVEDDIAV.

¶ Am Law.

ODduw nefol Dâd, yr hwn drwy dy Fâb Jesu Grist, a addewaist i bawb a geision dy Deyrnas a'th gyfiawn­der, bob peth angenrheidiol iw cyn­haliaeth corphorol: danfon i ni wr­th ein hangenoctid, ni a attolygwn i ti, gyfryw dywydd a chafodydd ardymherus, modd y gallom dderbyn ffr wythau y ddaiar, i'n mwynant ni, ac i'th urdduniant titheu, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, Amen.

¶ Am Dywydd teg.

HOllalluog Arglwydd Dduw, yr hwn am bechod dyn a foddaist unwaith yr holl fŷd, oddieithr wyth-nŷn o bobl, ac yn ôl hynny o'th fawr drugaredd a addewaist na's destrywit felly byth drachefn, yn ostyngedic, ni a attolyg­wn i ti, er i ni am ein anwireddau ha­eddu [Page] pla o law a dyfroedd, etto wrth ein gwîr edifeir­wch, danfon i ni y cyfryw dowydd a hinon, fel y gall­om dderbyn ffrwythau yr ddaiar mewn amser dyla­dwy, a dyscu trwy dy gospedigaeth wellhau ein buche­ddau, ac am dy warder roddi i ti foliant a gogoniant, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Ar amser drudaniaeth a newyn.

O Dduw Tâd o'r Nef, drwy ddawn pa un y discyn y glaw, y mae y ddai­ar yn ffrwythlawn, yr hilia ani­feiliaid, ac yr amlhâ yr pyscod: edr­ych, attolwg, ar adfyd dy bobl, a chaniadhâ am y prinder ar druda­niaeth ydd ŷm ni yr awrhon yn ei ddioddef, yn gwbl gyfion am ein anwiredd, iddo drwy dy drugarog ddaioni di, ymchwelyd yn rhâd ac yn helaethrwydd, er cariad ar Jesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gyd â thydi a'r Yspryd glân, y bo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoed. Amen.

¶ Neu hon.

O Dduw Drugarog Dâd, yr hwn yn amser Eliseus y Proyhwyd a dro­aist yn ddisymmwth y prinder a'r Drudaniaeth yn Samaria yn hela­ethrwydd a Rhâd, Cymmer druga­garedd arnom fel y bo i ni, y rhai am ein pechodau a boenir yr awrhon a'r cyffelyb adfyd, dderbyn yr unfath brydol gymmorth: Trwy dy nefol fendith, pâr gynnyrch ar ffrwythau y ddaiar, a chaniadta fod, i ni sy'n derbyn dy haelionus lawnder, arferu yr unrhyw i'th ogoniant di i gym­morth eraill y sy'n dwyn eisieu, ac i'n diddanwch ein hunain, trwy Jesu Grist ein Harglwyd. Amen.

¶ Ar amser Rhyfel a therfyscau.

HOll-alluog Dduw, Brenin yr holl Frenhinoedd, a phen-llywiawdr pob peth, yr hwn ni ddichon neb creadur wrthladd ei nerth, i'r hwn y perthyn o gyfiawnder gospi pe­chaduriaid, a bod yn drugarog wrth y rhai a fyddont wîr edifeiri­ol: Cadw a gwaret nyni, yn ostyngedic ni attolygwn i ti, rhag dwylaw ein gelynion, gostwng eu balchder tôla eu drygioni, a gwradwydda eu bwriadau, modd y gallom yn arfogion gan dy amddeffyn di, fod byth yn gadwedic rhag pob perygl, i'th ogoneddu di yr hwn wyt unic rodd-wr pob buddugoliaeth a goruchafiaeth, drwy haeddedigaethau dy un Mâb Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yn amser plâ cyffredin, neu glefyd.

HOll-alluog Dduw, yr hwn yn dy lîd yn yr anialwch a anfonaist blâ ar dy bobl dy hûn, oblegid eu gwar­sythni au gwrthryfel yn erbyn Mo­ses ac Aaron, ac hefyd yn amser y Brenin Dafydd a leddaist a phlâ y nodau ddengmil a thrugainmil, ac yn y man gan gofio dy drugaredd a faddeuaist i'r lleill: Trugarha wrthym wir bechaduriaid, y rhai y dar­fu i ddirfawr haint a marwolaeth ymweled a ni, fel megis y pryd hynny y derbyniaist gymmodaeth, ac y gorchymynaist i'th Angel beidio a chospi, felly bod yn awr yn deilwng gennit wrthladd oddiwrthym y blâ a'r gofidus haint yma trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

¶ Yn wythnos y Cyd-coriau iw dywedyd bob dydd, tros y rhai a fyddant i dderbyn urddau Cyssegredic.

HOll-alluog Dduw, ein Tâd nefawl, yr hwn a brynaist it Eglwys gyffre­dinol, trwy werthfawr waed dy an­wyl Fâb, Edrych yn ddarbodus ar yr unrhyw; ac ar hyn o amser cy­farwydda a llywia feddyliau dy weision yr Escobion a Bugeiliaid dy braidd, fel na ddodant ddwylo yn ebrwydd ar nêb, ei­thr bod iddynt ddewis yn ffyddlawn ac yn bwyllog rai cymmwys i wasanaethu yn sanctaidd wenidogaeth dy Eglwys. A dyro o'th Râs a'th fendith nefawl i'r fawl a urdder i bob swyddyddiaeth sanctaidd-lân, fel y bo iddynt trwy eu buchedd ai hathrawiaeth osod al­lan dy ogoniant, ac hyfforddio iachydwriaeth pawb oll, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Neu hyn.

HOllalluog Dduw, rhoddwr pob dawn daionus yr hwn o'th Dduwiol ddarbodaeth a osodaist amrafael Raddau yn dy Eglwys, Ni attoly­gwn yn ufudd i ti, roddi o'th Râs i'r sawl oll a Alwer i bob swydd a Gweinyddiaeth yn yr unrhyw; ac felly cyflawna hwynt a'th wir athrawiaeth, a chynyscaedda hwynt a diniwei­drwydd buchedd, fel y gwasanaethont yn ffyddlon ger dy fron, i ogoniant dy ddirfawr Enw, ac er llês i'th Eglwys sanctaidd, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

¶ Gweddi tros oruchel, Lŷs y Parliament, i'w dywe­dyd tra fônt yn eistedd.

O Dduw grasusaf, yu ufudd attolygwn i ti, megis tros y Deyrnas hon yn gy­ffredinol, felly yn enwedic tros yr uch­el Lŷs Parliament ymgynnulledic yr awr hon tan ein duwiolaf a'n gra­susaf Arglwydd Frenhin; Deilyngu o honot lywio a llwyddo eu holl ymgyn­ghoriadau er derchafiad i'th ogoniant, er daioni i'th Eglwys, ac er diogelwch, anrhydedd a llwyddiant i'n Harglwydd Frenhin, a'i Deyrnasoedd: Trwy eu llafur hwy felly trefner a gwastattâer pob peth ar y sail oreu a chadarnaf, fel y bo Heddwch a Dedwy­ddwch, Gwirionedd a Chyfiawnder, ffydd a Duwi­oldeb yn sefydlog, yn ein plith trwy'r holl Genhedlae­thau. Hyn a phob peth arall anghenrhaid iddynt hwy, i ni, ac i'th Eglwys ôll, yddym yn ostyngedic yn eu herfyn yn Enw a chyfryngdod Jesu Grist ein Hargl­wydd a'n Jachawdr bendigedig. Amen.

¶ Colect neu Weddi tros bob stât o ddynion iw harfer pan na bo pwyntiedig dywedyd y Letani.

O Arglwydd, Creawdr a Cheidwad pob dŷn, yn ostyngedig attolygwn i ti tros bob stât a grâdd o ddynion, ar fod yn wiw gennit ysbysu iddynt dy ffyrdd, dy iechydwriaeth i'r holl Genhedloedd. Yn bennaf erfynni­wn arnat tros lwyddiannus stât yr Eglwys Gatholic, fel gan gael ei harwain a'i llywio gan dy ysbryd grasusol, y caffo pawb yn eu proffessu, ac yn eu galw eu hunain yn Gristianogion eu tywys ar hŷd ffordd y gwirionedd, a chynnal y ffydd mewn undeb ysbryd, rhwymyn tangnheddyf ac uniondeb buchedd. Yn ddiweddaf, ni a orchymynnwn i'th Da­dawl ymgeledd y rhai oll a gystuddir mewn un modd, [Page] neu sydd yu gyfyng arnynt mewn meddwl, corph neu stât Hyn a ddywedir pan ddymu­no neb we­diau y gy nnelleidfa. [* yn enwedig y sawl tros pa rai y dymunir ein gwe­ddiau] ryngu bodd i ti eu diddanu, a'u cymmorth, yn ol anghenrheidiau pob un, gan roddi iddynt ammy­nedd dan eu dioddefiadau, a dedwyddol ymwared o'u holl gystuddiau. A hyn a erfyniwn er mwyn Jesu Grist. Amen.

¶ Gweddi a ellir ei dywedyd ar ol pob un o'r rhai o'r blaen.

ODduw, yr hwn biau o naturiaeth a phrio­doldeb, drugarhâu yn wastad a maddeu, derbyn ein ufudd weddiau ac er ein bod ni yn rhwym gan gaethiwed cadwynau ein pechodau, er hynny dattoder ni gan dostu­ri dy drugaredd, er anrhydedd Jesu Grist ein cyfryng­wr a'n dadleu-wr. Amen.

Ffurfiau o Dalu diolch.

¶ Diolwch cyffredinawl.

HOllalluog Dduw, Tâd y trugare­ddau, Yddym ni dy weision annheil­wng yn rhoddi i ti ddiolch gostyngei­ddiaf a ffyddlonaf am dy ôll ddaioni a'th Drugareddau i ni ac i bob dyn [ Dywe­der hyn pan fo neb un a weddiwyd trosto yn­deisyf talu diolch. yn arbennig i'r rhai y sy' yr awr hon yn ewyllysio offrymmu it' eu moliannau a'u diolch a'm y tosturi a ryglyddaist iddynt yn ddiweddar] Ni a'th fendithiwn am ein Creâdigaeth, am ein Ead­wraeth, ac am holl fendithion y bywyd hwn. Eithr uwchlaw pob dim am dy anfeidrol gariad ym mhry­nedigaeth y bŷd trwy ein Harglwydd Jesu Grist, am y moddion o Râs, ac am obaith Gogdniant. Ac ni at­tolygwn i ti roddi i ni y cyfryw ddwys ac iawn ym­synniad ar dy holl Drugareddau, fel y bo ein calon­nau yn ddiffuant yn ddiolchgar, ac fel y myne­gom dy foliant, nid a'n gwefusau yn unig, eithr yn ein bucheddau, trwy ymroddi i'th wasauaeth, a trwy rodio ger dy fron mewn sancteiddrwydd at unioneb tros ein holl ddyddiau, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gyda thydi a'r Yspryd glûn bid yr holl anrhydedd ar gogoniant byth bythoedd. Amen.

¶ Am gael glaw.

ODduw ein Tâd nefol, yr hwn drwy dy rasol ragluniaeth wyt yn peri i'r glaw cynnar a'r diweddar ddiscyn ar y ddaiar, fel y gallo ddwyn ffrwyth er mwyniant dŷn: yr ydym ni yn rhoi i ti ostyngedic ddiolch fod yn wiw gennit wrth ein dirfawr [Page] anghenrhaid, ddanfon i ni o'r diwedd law hyfryd ar dy etifeddiaeth, a'i hireiddio pan oedd sŷch, i'n mawr ddiddanwch ni dy weision anwiw, ac i ogoniant dy sanctaid Enw, trwy dy drugareddau yn Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Am dywydd têg.

O Arglwydd Dduw, yr hwn yn gyst­awn a'n darostyngaist ni drwy dy ddiweddar bla o anfeidrol law a dyfroedd, ac yn dy drugaredd a gym­mhorthaist ac a ddiddenaist ein he­neidiau, drwy y tymmhoraidd â'r bendigedig gyfnewid ymma ar dy­wydd, Nyni a foliannwn ac a ogoneddwn dy sanctaidd Enw dros dy drugaredd hyn, ac a ddatcanwn byth dy drugareddau, o genhedlaeth i genhedlaeth, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Am helaethrwydd.

O Drugaroccaf Dâd, yr hwn o'th raslon ddaioni a wrandewaist ddefo­sionol weddiau dy Eglwys, ac a dro­aist ein prinder ni a'n drudaniaeth yn rhâd ac yn helaethrwydd: yr yd­ym yn rhoi i ti ostyngedig ddiolch am dy ragorol haelioni hynny, ac yn attolwg i ti barhau dy garedigrwydd ymma tu ag attom, fel y rhoddo ein tir i ni ei ffrwythau torethog, i'th ogoniant di a'n diddanwch ninnau, trwy Jesu Grist ein Arglwydd. Amen.

¶ Am heddwch ac ymwared oddiwrth ein gelynion.

HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt ga­darn dwr ymddiffyn i'th weision, rhag wyneb eu gelynion; yr ydym ni yn rhoddi i ti foliant a diolch am ein hymwared ni oddiwrth y mawr a'r amlwg beryglon oedd i'n ham­gylchu, yr ydym ni yn cydnabod mai dy ddaioni di yw, na'n rhoddwydd ni i fynu yn ysclyfa­eth iddynt hwy ac yn attolwg i ti yn wastadol barhau dy gyfryw drugareddau tu ac attom, fel y gallo yr holl fŷd wybod mai tydi yw ein hachubwr a'n ca­darn waredwr ni, drwy Jesu Grist ein Harglwydd, Amen.

¶ Am Edfryd heddwch cyffredinol gartref.

TRagywyddol Dduw ein Tâd nefol, yr hwn yn unig wyt yn gwneuthur i ddynion fod yn unfryd mewn tŷ, ac yn gostegu cynddeiriogrwydd y we­rin angerddol ac afreolus, Ni a fendithiwn dy Enw sanctaidd, Dei­lyngu o honot lonyddu y cythryfwl terfyscus a gyffrowyd yn ddiweddar yn ein plîth: Ac yn ufuydd yr attolygwn i ti ganiathau i bob rhai o ho­nom râs i rodid o hyn allan yn ostyngedig i'th orchym mynion sanctaidd, a chan fyw mewn buchedd ddistaw a heddychol ymhob duwioldeb a gonestrwydd i offry­mmu yn ddibaid i ti ein haberth o foliant a diolch­garwch am dy drugareddau hyn tuag attom, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Am ymwared oddi-wrth blâ y nodau, neu neb ryw gle­fyd arall,

OArglwydd Dduw, yr hwn a'n har­chollaist ni am ein pechodau, ac a'n difêaist am ein hanwireddau drwy dy ddiweddar ymweliad gorthrwm ac ofnadwy, ac etto ynghanol dy fardnedigaeth a gofiaist dy druga­redd, ac a achubaist ein heneidiau allan o safn angau: yr ydym ni yn offrwm i'th dadol ddaioni ein hunain, ein heneidiau a'n cyrph, y rhai a waredaist di, i fod yn aberth bywiol i ti, gan foliannu a mawrygu yn wastadol dy drugareddau ynghanol yr Eglwys, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd, Amen.

¶ Neu hyn.

YR ydym ni yn ostyngedig yn cyfaddef ger dy fron di, ô drugaroccaf Dad, y gallasei yr holl gospedigaethau a fygythir yn dy gyfraith, yn gyfi­awn ddiscyn arnom ni, o herwydd ein haml droseddau a chaledwch ein calonnau: Etto gan fod yn wiw gennit o'th dyner drugaredd, ar ein gwan a'n an­nheilwng ymddarostyngiad ni, esmwythaû y plâ niweidiol, a'r hwn yn ddiweddar i'n custuddiwyd, ac edfryd llêf gorfoledd ac iechydwriaeth yn ein eyfane­ddau: yr ydym ni yn offrwm i'th dduwiol fawredd, aberth moliant a diolch, gan glodfori a mawrygu dy ogoneddus Enw o herwydd dy ymgeledd a'th rag­ddarbodaeth drosom, drwy Jesu Grist ein Harglw­ydd. Amen.

Y Colectau, Epistolau, a'r Efengylau, A arferir trwy'r FLWYDDYN.

¶ Noda, am y Colect a appwyntir i bob Sûl, a Gwyl y bo iddo Noswyl, neu Ucher-wyl, y dywedir ef, ar y gwasanaeth Pryd-nhawnol ar y Noswyl.

¶ Y Sul cyntaf yn Adfent.

Y Colect▪ HOll-alluog Dduw, dyro râd i nyni i ymwrthod a gweithredoedd y ty­wyllwch, a i wisco arfau y goleuni, yn-awr yn amser y fuchedd farwol hon, (pryd y daeth dy Fâb Jesu Grist i ymweled â nyni mewn mawr ostyngeiddrwydd) fel y by­ddo i ni yn y dydd diweddaf, pan ddelo efe drachefn yn ei ogoneddus fawredd, i farnu byw a meirw, gyfodi i'r fuchedd anfarwol, trwyddo ef, yr hwyn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi a'r yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Y Colect hwn a ddywedir beunydd gida'r Colectau eraill yn Adfent hyd Nos Nadolig,

Yr Epistol. Rom. 13. 8. NA fyddwch yn nylêd nêb o ddim, ond o garu bawb ei gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawn­odd y Gyfraith. Canys hyn, Na odineba▪ na lâdd na ladratta, na ddwg gam dystiolaeth, na thrach­wanta; ac od oes [un] gorchym­myn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Cariad ni wna ddrwg i'w gymmydog; am hynny, cyflawnder y Gyfraith yw cariad. A hyn gan wybod yr amser, ei bôd hi weithian yn bryd i ni i ddeffroi o gyscu: canys yr awr hon y mae ein iechydwriaeth ni yn nês, nâ phan gredasom. Y nôs a gerddodd ym mhell, a'r dydd a nessaodd; am hynny bwriwn oddi­wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dŷdd: nid mewn cyfeddach, a meddwdod: nid mewn cyd-orwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen, a chenfigen: eithr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Jesu Grist, ac na wnewch ragddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

Yr Efengyl. S. Mat. 21. 1 APhan ddaethant yn gyfagos i Je­rusalem, a'u dyfod hwy i Beth­phage i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Jesu ddau ddiscybl, gan ddywedyd wrthynt, ewch i'r pen­tref fydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym, ac ebol gydâ hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attafi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt, ac yn y man efe a'u [Page] denfyn hwynt, A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cy­flawnid yr hyn a ddywedasid trwy 'r prophwyd, yn dywedyd, Dywedwch i ferch Sion, wele dy fren­hin, yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol, llwdn assyn arferol â'r iau. Y discyblion a aethant ac a wnaethant fel y gorchmynasei 'r Jesu iddynt. A hwy a ddygasant yr assyn a'r ebol, ac a ddodasont eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny. A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u tanasant ar hyd y ffordd. A'r torfeydd y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dy­fod ar ôl a lefasant, gan ddywedyd; Hosanna i Fâb Dafydd: bendigedig yw 'r hwn sydd yn dyfod yn Enw yr Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion. Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerusalem, y ddinas oll a gynnhyrfodd gan ddywedyd, pwy yw hwn? A'r torfeydd a ddywedasant, hwn y'w Jesu, y prophwyd o Nazareth yn Galilea. A'r Jesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newid-wyr arian, a chadeirian y rhai oedd yn gwerthu colommennod: Ac a ddywe­dodd wrthynt, scrifennwyd, tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

Yr ail Sûl yn Adfent.

Y Colect. YGwynfydedic Arglwydd, yr hwn a beraist yr holl Scrythur lân yn scri­fennedic er mwyn ein athrawiaeth, a'n addysc ni: Caniadhâ fod i ni yn y cyfryw fodd ei gwrando, ei darllain, ei chwiliaw, a'i discu, ac i'n mewn ei mwynhâu, fel y ga­llot [Page] trwy ammynedd a diddanwch dy gyssegredic air, gofleidio ac ymgynnal wrth fendigaid obaith y fuchedd dragywyddol, yr hon a roddaist i ni, yn ein Jachawdr Jesu Grist. Amen.

Yr Epistol. Rom. 15. 4. PA bethau bynnag a scrifennwyd o'r blaen, er addysc i ni yr scrifennwyd hwynt, fel trwy ammynedd a didd­anwch yr Scrythyrau, y gallem ga­el gobaith. A Duw yr ammynedd a'r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tu ag at ei gilydd yn ûl Crist Jesu: Fel y galloch, yn un-fryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thâd ein Harglwydd Jesu Grist. O herwydd pa ham, derbyniwch ei gilyddd, megis ac y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw, Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Jesu Grist yn weinidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion a [wnaethpwyd] i'r tadau. Ac fel y byddei i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn scrifennedig; Am hyn y cyffesaf i ti ym mhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th Enw. A thrachefn y mae yn dywedyd; Ymlawenhe­wch Genhedloedd, gyd ai bobl ef. A thrachefn, mo­lwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd, a chlodforwch ef yr holl bobloedd. A thrachefn y mae Esaias yn dy­wedyd, Fe fydd gwreiddyn o Jesse ac hwn a gyfyd i ly­wodraethu y Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd. A Duw 'r gobaith a'ch cyflawno o bôb llawenydd a thangneddyf gan gredu, fel y cyn­nyddoch mewn gobaith, trwy nerth yr Yspryd glân.

[Page] Yr Efenfyl. S. Luc. 21. 25. A Bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleu­ad, a'r ser ac ar y ddaiar ing Cen­hedloedd gan gyfyng-gyngor; ar môr a'r tonnau yn rhuo, a dynion yn lle­wygu gan ofn, a disgwil am y pethau sy yu dyfod ar y ddaiar: oblegid ner­thoedd y nefoedd a yscydwir. Ac yna y gwelant Fab y dŷn yn dyfod mewn cwmmwl, gyd â gallu a gogoniant mawr. A phan ddechreuo'r pe­thau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennan canys y mae eich ymwared yn nesaû. Ac efe a ddywedodd ddammeg iddynt, Edrychwch ar y ffi­gys-bren, ar holl breniau; pan ddeiliant hwy weithi­an, chwi a welwch, ac a wyddoch o honoch eich hun, fôd yr hâf yn agos. Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fôd teyrnas Dduw yn agos. Yn wir meddaf i chwi, nid â yr oes hon heibio, hid oni ddêl y cwbl i ben. Y nef a'r ddaiar a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

Y trydydd Sul yn Adfent.

Y Collect. O Arglwydd Jesu Grist, yr hwn ar dy ddyfodiad cyntaf a anfonaist dy gen­nadwr i baratoi dy ffordd o'th flaen, Caniadtâ i weinidogion a goru­chwilwyr dy ddirgeledigaethau fel­ly baratoi ac arloesi dy ffordd gan droi calonnau y rhai anufudd i Ddo­ethineb y Cyfiawn, fel ar dy ail Dyfodiad i farn­u'r bŷd i'n caffer yn bobl gymmeradwy yn dy [Page] olwg di, pr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu gyda 'r Tâd a'r Yspryd glân byth yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

Yr Epistol. 1 Cor. 4. 11 FElly cyfrifed dŷn nyni, megis gwei­nidogion i Grist, a goruchwyl-wŷr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn, yr ydys yn disgwil mewn goruchwyl-wŷr gael un yn ffyddlon. Eithr gennyfi bychan iawn ym fy marnu gennych chwi, neu gan farn dŷn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. Ca­nys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cy­fiawnhâwyd, eithr yr Arglwydd yw 'r hwn sydd yn fy marnu. Am hynny, na fernwch ddim cyn yr am­ser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a oleua ddir­gelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calon­nau, ac yna y bydd y glôd i bôb un gan Dduw.

Yr Efengyl. S. Mat. 11. 2 AC Joan, pan glybu yn y carchar wei­thredoedd Crist, wedi danfon dau o'i ddiscyblion, a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw'r hwn sy 'n dyfod, ai vn arall yr ydym yn ei ddisgwil? A'r Jesu a attebodd▪ ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Joan y pethau a glywch ac a welwch. Y mae 'r deillion yn gweled eil-waith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion-gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddar­iaid yn clywed: y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodi­on yn cael pregethu 'r Efengyl iddynt, A dedwydd yw 'r hwn ni rwystrir ynofi. Ac a hwy yn myned ymmaith, yr Jesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Joan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych am dano? a'i corsen yn yscwyd gan wynt? Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai [Page] dŷn wedi ei wisco â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn gwisco dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent. Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? ie, meddaf i chwi, a mwy nâ phro­phwyd. Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr scrifen­nwyd▪ Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghennad o fla­en dy wyneb, yr hwn a barotôa dy ffordd o'th flaen.

Y pedwerydd Sul yn Adfent.

Y Colect. DErcha Arglwydd, attolwg i ti dy gader­nid, a thyred i'n plîth, as a mawr nerth cymmorth ni, fel gan fod arnom, O her­wydd ein pechodau a'n hanwiredd, ddir­fawr luddias a rhwystr i redeg yr yrfa a osodir o'n blaen, bydded i'th ddaionus Râd ti ein gwared ni yn ebrwydd trwy ddiwygiad dy Fâb a'n Harglwydd, i'r hwn gyda thi a'r Yspryd glân y by­ddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd▪ Amen.

Yr Epistol. Phil. 4. 4. LLawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, lla­wenhewch. Bydded eich arafwch yn hyspys i bôb dŷn. Y mae 'r Ar­glwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhôb peth mewn gweddi ac ymbil, gyd â diolchgar­wch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspys ger bron Duw. A thangneddyf Dduw yr hwn sydd uwch law pob deall, a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yn Grist Jesu.

[Page] Yr Efengyl. S. Joa. 1. 19. HOn yw tystiolaeth Joan, pan an­fonodd yr Iddewon o Jerusalem Offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti? Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd, a chyffesodd, Nid myfi yw 'r Crist. A hwy a ofynnasant iddo Beth ynteu? ai Elias wyt ti? Yntef a ddywedodd, Nagê Ai'r Prophwyd wyt ti? Ac efe a attebodd, Nagê. Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom atteb i'r rhai a'n danfo­nodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun? Eb efe, Myfi yw llêf vn yn gwaeddi yn y di­ffaethwch. Uniawnwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Esay y Prophwyd. Ar rhai a anfonasid, oedd o'r Pharisaeaid. A hwy a ofynnasant iddo, ac a ddywedasant wrtho. Pa ham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid yd-wyt ti na'r Crist nac Elias, na'r Prophwyd? Joan a attebodd iddynt, gan ddy­wedyd, Myfi sy' yn bedyddio â dwfr, ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi: yr hwn nid adwaenoch chwi: Efe yw'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o'm blaen: yr hwn nid ydwyfi deilwng i ddattod car­rei ei escid. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Betha­bara, y tu hwnt i'r Jorddonen, lle yr oedd Joan yn bedyddio.

Genedigaeth ein Harglwydd neu Dydd Natalic Crist.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy unig anedig Fâb i gymeryd ein anian arno, i'w eni ar gyfer i'r amser yma o forwyn bûr: Caniadhâ i ni fod wedi ein hadgenhedlu, a'n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwys a rhâd, a pheunydd ein hadnewyddu trwy dy lân Yspryd, trwy yr un-rhyw ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a'r unrhyw Yspryd byth yn un Duw yn oes oesoedd. Amen.

Yr Epistol. Heb. 1. 1. DUw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fâb, Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pôb peth, trwy'r hwn he­fyd y gwnaeth efe y bydoedd. Yr hwn ac efe yn ddisclairdeb ei ogoniant ef, ac yn wîr lun ei berson ef, ac yn cynnal pôb peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eiste­ddodd ar ddeheu-law y mawredd, yn y goruwchlêodd: wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ'r Angelîon, o gymmaint ac yr etifeddodd efe Enw mwy rhagorol [Page] nâ hwynt hwy. Canys wrth bwy o'r Angelion, y dy­wedodd efe un amser? fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais di. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dâd ac efe a fydd i mi yn Fab, A thrachefn pan yw yn dwyn y cyntaf-anedig i'r byd, y mae yn dywedyd. Ac addoled holl Angelion Duw ef. At am yr Ange­lion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei Angelion yn Ysprydion, a'i weinigion yn fflam dân: Ond wrth y Mâb, Dy orsedd-faingc di, o Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen unioneb, yw teyrn­wialen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd, am hynny i'th eneiniodd Duw; sef dy Dduw di ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion. Ac Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaiar, a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd. Hwynt hwy a ddarfyddant, ond tydi sydd yn parhâu: a hw­ynt hwy oll fel dilledyn a heneiddiant. Ac megis gwisc y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.

Yr Efyngyl. S. Joan 1. 1. YN y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gŷd â Duw, a duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gŷd â Duw. Trwyddo ef y gwna­ethpwyd pôb peth; ac hebddo ef, ni wnaethpwyd dim a'r a wnaeth­pwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion: A'r goleuni sydd yn lle­wyrchu yn y tywyllwch, a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred. Yr ydoedd gwr wedi ei anfon oddi wrth Dduw a'i enw Joan: Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethei am y goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef, Nid efe oedd y goleuni, eithr efe a anfo­nasid fel y tystiolaethei am y goleuni. Hwn ydoedd y gwir oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pôb dŷn, a'r y sydd yn dyfod i'r bŷd. Yn y bŷd yr oedd efe, a'r bŷd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r bŷd nid adnabu ef. At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun ni dderby­niasant [Page] ef. Ond cynnifer ac a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fôd yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef. Y rhai ni aned o wa­ed; nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr unig-anedig oddi wrth y Tâd) yn llawn grâs a gwirionedd.

Dydd gwyl Sanct Stephan▪

Y Colect. CAniadta i ni O Arglwydd, yn ein holl ddio­ddefiadau yma ar y ddaiar, o herwydd ty­stiolaeth i'th wirionedd di, edrych yn ddy­fal tua'r nef, a thrwy ffydd gael canfod y gogoniant a ddatcuddir, ac yn llawn o'r Yspryd glân, ddysgu caru a bendithio ein herlidwyr drwy esampl dy gyn-Ferthyr S. Stephan, yr hwn a weddiodd tros ei arteithwyr arnat ti, O Jesu wyn­fydedic, yr hwn wyt yn sefyll ar Ddeheu-law Dduw i gymmorth y rhai oll y sydd yn dioddef er dy fwyn di, ein unig Cyfryngwr a'n Dadleuwr. Amen.

¶ Yna y canlyn y Colect o'r Natalig, yr hwn a ddywedir yn oestad hyd ucher-wyl Dydd Calan.

Yn lle yr Epistol. Act. 7. 55. AC Stephan yn gyflawu o'r Yspryd glân, a edrychodd yn ddyfal tu a'r nef, ac a welodd ogoniant Duw, a'r Jesu yn sefyll ar ddeheu-law Dduw. Ac efe a ddywedodd; wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mâb y dŷn yn sefyll a'r ddeheu-law [Page] Dduw. Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaea­sant eu clustian, ac a ruthrasant yn unfryd arno, ar a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant, a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dŷn ien­angc a elwid Saul. A hwy a labyddiasant Ste­phan, ac efe yn galw a'r Dduw, ac yn dywedyd, Argl­wydd Jesu derbyn fy Yspryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel Arglwydd na ddod y pechod hyn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

Yr Efengyl. S. Mat. 23. 34. WEle yr ydwyf yn anfon attoch broph­wydi, a doethion, ac Scrifennyddi­on; a rhai o honynt a leddwch, ac a groesoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau ac a erlidiwch o dref i dref: fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a'r a ollyngwyd ar y ddaiar, o waed Abel gyfiawn, hyd waed Zecharias fâb Barachias, yr hwn a ladda­soch rhwng y Deml a'r allor. Yn wir meddaf i chwi daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. Jerusalem, Jeru­salem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llaby­ddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y myn­naswn, gasclu dy blant ynghyd, megis y cascl iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech? Wele, yr ydys yn gadel eich tŷ i chwi yn anghyfanedd. Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch yn ôl hyn hyd oni ddy­wedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn Enw yr Arglwydd.

Dydd Gwyl S. Joan Efangylwr.

Yr Colect. ARglwydd trugarog ni a attolygwn i ti fwrw dy ddisclair belydr goleuni ar dy Eg­lwys, fel y bo iddi wedi ei goleuo gan at­hrawiaeth dy wynfydedic Apostol ac Efan­gylwr [Page] S. Joan, allu rhodio felly yngoleuni dy wiri­onedd, fel y byddo iddi yn y diwedd ddyfod i oleuni bywyd tragywyddol trwy Jesu Grist em Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 Joan 1. 1. YR hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a a glywsom, yr hyn a welsom â'n lly­gaid, yr hyn a edrychasom arno ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd: (Canys y bywyd a eglu­rhawyd, ac ni a welsom, ac yddym yn tystiolaethu, ac yn mynegu i chwi y bywyd tragywyddol, yr hwn oedd gyd â'r Tâd, ac a eglurhawyd i ni,) yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegu ichwi, fel y caffoch chwithau he­fyd gymdeithas gyd â ni: a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyd a'r Tad, a chyd â'i Fab ef Jesu Ghrist A'r pethau hyn yr ydym yn eu scrifennu attoch, fel y by­ddo eich llawenydd yn gyflawn. A hon yw'r genna­dwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch, Os dywedwn fôd i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid yd­ym yn gwueuthur y gwirionedd. Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'i gilydd, a gwaed Jesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glânhaû ni oddi wrth bôb pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod yr ydym yn ein twy­llo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe, a chyfi­awn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac i'n glan­hâo oddi wrth bob anghyfiawnder. Os dywedwn na phechasom yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog â i air ef nid yw ynom.

[Page] Yr Efengyl. S. Joan 21. 19. YR Jesu a ddywedodd wrth Betr. Canlyn fi. A Phetr a drôdd, ac a we­lodd y discybl yr oedd yr Jesu yn ei garu, yn canlyn: yr hwn hefyd a bwysasei ar ei ddwyfron ef ar swp­per, ac a ddywedasei: Pwy, Argl­wydd, yw yr hwn a'th fradycha di? Pan welodd Petr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Je­su, Arglwydd, ond beth a wna hwn? Yr Jesu a ddy­wedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni dde­lwyf, beth [yw] hynny i ti? canlyn di fy-fi. Am hyn­ny yr aeth y gair ymma allan ym mhlith y brodyr, na fyddei y discybl hwnnw farw: ac ni ddywedasei yr Jesu wrtho, na fyddei efe farw: ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth [yw] hynny i ti? Hwn yw'r discybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn: ac a scrifennodd y pethau hyn, ac ni a wyddom fôd ei dystiolaeth ef yn wîr. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Jesu, y rhai ped yscri­fennid hwy bôb yn un ac vn, nid ŵyf yn tybied y cyn­hwysei y bŷd y llyfrau a scrifennid.

Dy'gwyl y Gwirioniaid.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn o enau plant bychain, a rhai yn sugno a beraist nerth, ac a wnaethost i blant aflafar dy ogoneddu trwy farw, Marweiddia a lladd bob rhyw anwiredd ynom, a nertha ni a'th Râs, fel trwy fu­chedd ddiniweid a ffydd ddiyscog hyd angeu y gogo­nethom dy enw bendigedig trwy Jesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Datc. 14. 1. AC mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chyd ag ef bedair mîl, a saithugain-mîl, a chanddynt Enw ei Dâd ef yn scri­fennedig yn eu talcennau. Ac mi a glywais lef o'r nêf, fel llêf dyfro­edd lawer, ac fel llêf taran fawr; ac mi a glywais lêf telynorion yn canu ar eu telynau. a hwy a ganasant megis caniad newydd ger bron yr orsedd-fainge, a cher bron y pedwar anifail, a'r Hen­uriaid: ac ni allodd nêb ddyscu y gân, ond y pedair mil a'r saithugain-mil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaiar. Y rhai hyn yw y rhai ni halogwyd â gwragedd: ca­nys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw y rhai sy'n dilyn yr Oen, pa le bynnag yr elo: y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw ac i'r Oen: Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt ger bron gorsedd-faingc Duw.

Yr Efengyl. S. Mat. 2. 13 ANgel yr Arglwydd a ymddangosodd i Joseph mewn breuddwyd, gan ddy­wedyd Cyfod, cymmer y mâb by­chan a'i fam, a ffo i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti; canys ceisio a wna Herod y mâb bychan, i'w ddifetha ef. Ac ynteu pan gyfo­dodd a gymmerth y mâb bychan a'i fam o hŷd nôs, ac a giliodd i'r Aipht. Ac a fu yno hyd farwolaeth He­rod fel, y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd gan yr Ar­glwydd, trwy'r prophwyd gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mâb. Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddan­fonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethle­hem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed, a than hynny wrth yr amser yr ymofynnasei efe yn fanwl [Page] â'r doethion. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddyweda­sid gan Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef a glybûwyd yn Rama, Galar, ac wylofain, ac ocha­in maŵr, Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oeddynt.

Y Sul gwedi y Natalig.

Y Collect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy unig-anedig Fâb i gymeryd ein anian arno, i'w eni ar gyfer i'r amser yma o forwyn bûr: Caniadhâ i ni fod wedi ein hadgenhedlu, a'n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwys a rhâd, a pheunydd ein hadnewyddu trwy dy lân Yspryd, trwy yr un-rhyw ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a'r unrhyw Yspryd byth yn un Duw yn oes oe­soedd. Amen.

Yr Epistol. Gal. 4. 1. AHyn yr ŵyf yn ei ddywedyd: dros gymmaint o amser ac y mae y 'r eti­fedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwâs, er ei fôd yn Argl­wydd ar y cwbl. Eithr y mae efe tan ymgeledd-wŷr a llywodraeth-wyr, hyd yr amser a osodwyd gan y Tâd. Felly ninnau hefyd, pan oeddym fechgyn, oeddym gaethion tan wyddorion y bŷd: Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig wedi wneuthur tan y Ddeddf: Fel y prynei y rhai oedd tan y Ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. [Page] Ac o herwydd eich bôd yn feibion, yr anfonodd Duw Yspryd ei Fâb i'ch calonnau chwi yn llefain, Abba Dâd. Felly nid wyti mwy yn wâs, ond yn fâb: ac os mâb, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

Yr Efenfyl. S. Mat. 1. 18 A Genedigaeth yr Jesu Grist oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph cyn eu dyfod hwy ynghŷd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd glân. A Joseph ei gwr hi, gan ei fôd yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewy­llysiodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel. Ac efe yn me­ddwl y pethau hyn, wele, Angel yr Arglwydd a ym­ddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi, sydd o'r Yspryd glân. A hi a escor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Jesu, oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pe­chodau (A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedyd, Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fâb, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn, o'i gyfieithu, yw, Duw gyd â ni) A Joseph pan ddeffroes o gwsc a wnaeth megis y gorchymyn­nasei Angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig. Ac nid adnabu efe hi, hyd oni escorodd hi ar ei mâb cyntâf-anedig, a galwodd ei henw ef Jesu.

Dydd Enwaediad Crist.

Y Colect. HOll-alluog Dduw yr hwn a wnaethost i'th wynfydedic Fâb dderbyn enwaediad, a bod yn ufudd i'r Ddeddf er mwyn dyn: Caniadhâ i ni iawn enwaediad yr Yspryd, fel y bo i'n calonnau, a'n holl aelodau, wedi eu marwolaethu oddi wrth fydol a chnawdol anwydau, allu ym-mhob rhyw beth ufuddhau i'th wynfydedic ewyllys, trwy 'r un-rhyw dy Fâb Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rom. 4. 8. DEdwydd yw y gŵr nid yw yr Argl­wydd yn cyfrif pechod iddo. A dda­eth y dedwyddwch hwn, gan hynny, ar yr Enwaediad yn unig, ynteu ar y di-enwaediad hefyd? Canys yr yd­ym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? Ai pan oedd yn yr En­waediad, ynteu yn y di-enwaediad. Nid yu yr Enwa­ediad, ond yn y di-enwaediad. Ac efe a gynimerth ar­wydd yr Enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y di-enwaediad, fel y byddei efe yn dâd pawb a gredent, yn y di-enwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: ac yn dâd yr En­waediad, nid i'r rhai o'r Enwaediad yn unig, onid i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tâd ni, yr hon oedd ganddo yn y di-enwaediad. Canys nid trwy y Ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu iw hâd, y byddei ef yn etifedd y byd, eithr trwy gyfi­awnder ffydd. Canys os y rhai sydd o'r Ddeddf, [Page] yw 'r etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a'r addewid yn ddirym.

Yr Efengyl. S. Luk. 2. 15 A Bu, pan aeth yr Augelion ymaith odd­iwrth y bugeil-ddynion i'r nêf, ddy­wedyd o honynt wrth ei gilydd, awn ninnau hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a wnaethpwyd, yr hwn a hyspysodd yr Arglwydd i ni. A hwy a daethant ar frŷs, ac a gawsant Mair, a Joseph, a'r dŷn bach yn gorwedd yn y pre­seb. A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair, a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. A phawb a'r a'u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywe­dasid gan y bugeiliaid wrthynt. Eithr Mair a gad­wodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. A'r bugeiliaid a ddychwelasant gan ogoneddu, a mo­liannu Duw, am yr holl bethau a glywsent, ac a wel­sent, fel y dywedasid wrthynt. A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef Jesu, yr hwn a henwasid gan yr Angel, cyn ei ymddwyn ef yn y groth.

¶ Yr un Colect, Epistol, ac Efengyl, a gaiff wasanaethu bob dydd ar ol hyn hyd at yr Ystwyll.

Dy'gwyl Ystwyll neu'r Seren-wyl sef ymddat­gudd Crist ir Cenheddloedd.

Y Colect. DUw yr hwn trwy dywysogaeth seren a ddangosaist dy unig-anedig Fâb i'r cenhed­loedd. Caniadtâ yn drugarog i ni y sawl ydym i'th adnabod yr awr hon drwy ffydd, allu yn ôl y fuchedd hon gael mwyniant. dy ogoneddus Dduwdod, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Yr Epistol. Ephes. 3. 1. ER mwyn hyn myfi Paul carcha­ror Jesu Grist trosoch chwi y cen­hedloedd, os clywsoch am orchwy­liaeth grâs Duw, yr hon a rodd­wyd i mi tu ag attoch chwi: mai trwy ddatcuddiad yr hyspysod efe i mi y dirgelwch (megis yr yscrifen­nais o'r blaen ar ychydig eiriau, wrth yr hyn y gell­wch pan ddarllenoch wybod fy neall i yn-nirgel wch Crist) yr hwn yn oesoedd eraill nis eglurwyd i fei­bion dynion, fel y mae 'r awr hon wedi ei ddatcuddio i'w sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi trwy'r Yspryd, y byddai y cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorph, ac yn gyd-gyfrannogion o'i addewid ef yn Grist trwy'r Efengyl, i'r hon i'm gwnaed i yn wei­nidog yn ôl rhodd grâs Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ôl grymmus weithrediad ei allu ef. I mi, y llai nâ'r lleiaf o'r holl sainct y rhoddwyd y grâs hyn, i efengylu, ymmysc y cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist, ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dir­gelwch [Page] yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greawdd bob peth trwy Jesu Grist. Fel y byddai'r awron yn hyspys i'r tywysogaetheu, ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd trwy'r Egl­wys, fawr amryw ddoethineb Duw; yn ôl yr arfaeth dragywyddol yr hon a wnaeth efe yn Grist Jesu ein Harglwydd ni: yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfod­fa mewn hyder trwy ei ffydd ef.

Yr Efengyl. S. Mat. 2. 1. AC wedi geni yr Jesu yn Bethlehem Judêa yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwy­rain i Jerusalem, gan ddywedyd, pa le y mae yr hwn a ânwyd yn frenhin yr Jddewon? canys gwel­som ei seren ef yn y dwyrain, a da­ethom i'w addoli ef. Ond pan glybu Herod frenhin efe a gyffrowyd, a holl Jerusalem gŷd ag ef. Ac wedi dwyn ynghyd yr holl Arch-offeiriaid, ac y scrifenny­ddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist. A hwy a ddywedasant wrtho, yn Bethlehem Judêa; canys felly yr scrifenwyd trwy'r prophwyd. A thitheu Bethlehem tir Juda, nid lleiaf wyt ym­mhlith tywysogion Juda: canys o honot ti y daw tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Jsrael. Yna He­rod wedi galw y doethion yn ddirgel a'u holodd hw­ynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasei y seren. Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywe­dodd; ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mâb by­chan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gall­wyf finneu ddyfod, a'i addoli ef. Hwythau wedi cly­wed y brenhin a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle 'r oedd y mâb bychan A phan welsant y seren, llawenhasant â llawenydd mawr tros ben. A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mâb bychan gŷd â Mair ei fam, a hwy a syrthiasant i lawr ac a'i haddolasant ef, ac wedi egoryd eu tryso­rau, [Page] a offrymmasant iddo anrhegion, aur, a thûs, a myrr. Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aeth­ant drachefn i'w gwlâd ar hŷd ffordd arall.

Y Sul cyntaf gwedi'r Ystwyll.

Y Colect. ARglwydd, nyni a attolygwn i ti dderbyn yn drugarog weddiau dy bobl sydd yn galw arnat: a chaniadhâ iddynt ddeall a gwybod yr hyn a ddylent ei wneuthur, a chael hefyd râd a gallu yn ffyddlon i wne­uthur yr vnrhyw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rom. 21. 1. AM hynny yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymmeradwy gan Dduw yr hyn yw eich rhesymmol wasan­aeth chwi. Ac na chyd-ymffurfiwch â'r bŷd hwn, eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus a chymmeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y grâs a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na by­ddo i neb uchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied i sobrwydd fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffyd. Canys megis y mae gennym aelodau la­wer mewn un corph, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd; felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un yn Grist, a phôb un yn aelodau i'w gilydd.

[Page] Yr Efengyl. S. Luk. 2. 4. RHieni yr Jesu a aent i Jerusalem bôb blwyddyn, ar ŵyl y Pasc. A phan oedd, efe yn ddeuddeng mlw­ydd oed hwynt hwy a aethant i fynu i Jerusalem, yn ôl defod yr ŵyl. Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bach­gen Jesu yn Jerusalem, ac ni wyd­dai Joseph a'i fam ef. Eithr gan dybied ei fôd ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod, ac a'i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a'i cydnabod. A phryd na chaw­sant ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei gei­sio ef. A bu, yn ôl tri-diau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd ynghanol y Doctoriaid, yn gwran­do arnynt, ac yn eu holi hwynt. A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, o herwydd ei ddeal ef a'i attebion. A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt: a'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mâb, pa ham y gwn­aethost felly â ni? wele, dy dâd a minneu yn ofidus a'th geisiasom di. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ham y ceisiech fi? oni ŵyddech fôd yn rhaid i mi fôd ynghylch y pethau a berthyn îm Tâd? A hwy ni dde­allasant y gair a ddywedasei efe wrthynt. Ac efe a aeth i wared gyd a hwynt, ac ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. A'r Jesu a gynnydodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gyd â Duw a dynion.

Yr ail Sul gwedi'r Ystwyll.

Y. Colect. HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn llywiaw pob beth yn y nef a'r ddaiar, clyw yn drugarog eirchion dy bobl, A chaniadhâ i ni dy dangneddyf holl ddyddiau ein bywyd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. Rom. 12. 6. GAn fôd i ni amryw ddoniau, yn ol y grâs a roddwyd i ni, pa un bynnac ai prophwydoliaeth, prophwydwu yn ôl cyssondeb y ffydd: Ai gweini­dogaeth, byddwn ddyfal yn y weini­dogaeth; neu 'r hwn sydd yn athra­wiaethu, yr athrawiaeth, neu 'r hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor; yr hwn sydd yn cyfrannu, [gwnaed] mewn symlrwydd: yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhâu, mewn llawenydd. Bydded cariad y yn ddi-ragrith: cassewch y drwg, a glynwch wrth y da. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'w gilidd. Yn rhoddi parch yn blaenori eu gillydd Nid yn ddiog mewn diwydywydd, yn wresog yn yr Yspryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd, Yn llawen mewn gobaîth, yn ddioddefgar mewn cystudd yn dyfal-barhau mewn gweddi, yn cyfrannu i gyfrei­diau'r Sainct, ac yn dilyd lletteugarwch. Bendithi­wch y rhai sy yn eich ymlid: bendithiwch, ac na fell­dithiwch. Byddwch lawen gyd â'r rhai sydd lawen; ac wylwch gyd a'r rhai sy'n wylo. Byddwch yn un­fryd â'i gilydd: heb roi eich meddwl a'r uchel-bethau: eithr yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd.

Yr Efengyl. S. Joan 2. 1. A'R trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilaea: a mam yr Jesu oedd yno. A galwyd yr Jesu hefyd a'i ddiscyblon i'r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Jesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes gan­ddynt, mo'r gwin. Jesu a ddywe­dodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi wraig : ni ddaeth fy awr i etto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaeth-wŷr, Beth bynnag a ddywedo efe wr­thych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfr­lestri [Page] meini, wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob vn, ddau ffircyn neu dri. Jesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfr­lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraeth-ŵr y wledd. A hwy a ddyga­sant. A pan brofodd llywodraeth-ŵr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddei a ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaeth-wŷr, y rhai a ollyngasent, y dwfr, a wyddent) llywodraeth-wr ywledd a alwodd ar y priod-fâb, ac a ddywedodd wrtho. Pôb dŷn a esyd y gwin da yn gyntaf, ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: titheu a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. Hyn o ddechreu gwyrthiau a wnaeth yr Je­su yn Cana Galilaea, ac a eglurodd ei ogoniant, a'i ddiscyblion a gredasant ynddo.

Y Trydydd Sûl gwedi'r Ystwyll.

Y Colect. HOll-alluog a thragywyddol Dduw, edrych yn drugarog ar ein gwendid; ac yn holl beryglon, a'n̄ anghenion, estyn dy ddeheu­law i'n cymmorth, ac i'n hamddeffyn, trwy Jesu Grist em Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rom. 12. 16 NA fyddwch ddoethion yn eich tŷb eith hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau o­nest yn golwg pôb dŷn. Os yw bos­sibl, hyd y mae ynoch chwi, bydd­wch heddychlawn â phôb dŷn, Nac ymddielwch, rai anwyl, onid rho­ddwch [Page] le i ddigofaint: canys y mae yn scrifennedic, I mi y mae dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef, os sy­cheda, dyro iddo ddiod; canys wrth wneuthur hyn, ti a bentyrri farwor tanllyd am ei ben ef. Na orchfy­ger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

Yr Efengyl. S. Mat. 8. 1 GWedi dyfod yr Jesu i wared o'r my­nydd torfeydd lawer a'i canlyna­sant ef. Ac wele, un gwahan-glwy­fus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os my­nni, ti a elli fy nglanhau i. A'r Je­su a estynnodd ei law, ac agyffyrdd­odd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhawyd. A dywe­dodd yr Jesu wrtho, Gwêl na ddy wedych wrth neb: eithr dôs, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma y rhodd a orchymmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. Ac wedi dyfod yr Jesu i mewn i Capernaum, daeth atto ganwriad, gan ddeisyfu arno, a dywedyd, Argl­wydd, y mae fy ngwâs yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddir-fawr. A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef A'r canwriad a attebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyfi deilwng i ddyfod o honot tan fy nghrongl­wyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwâs a ia­chêir. Canys dŷn ydwyf finneu tan awdurdod, a chennif filwŷr tanaf; a dywedaf wrth hwn cerdda, ac efe a â, ac wrth arâll, Tyred, ac efe a ddaw: ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn ac efe a'i gwna. A'r Je­su pan glybu a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, ni che­fais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel. Ac yr yd­wyf yn dywedyd i chwi, daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gyd ag Abraham, ac Isa­ac, a Jacob, yn nheyrnas nefoedd; ond plant y deyr­nas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylo­fain [Page] a rhingcian dannedd. A dywedodd yr Jesu wrth y canwriad, dôs ymmaith, a megis y credaist bydded i ti. A'i wâs a iachawyd yn yr awr honno.

Y pedwerydd Sul gwedi'r ystwyll.

Y Collect. DUw, yr hwn a ŵyddost ein bod ni wedi ein gosod mewn cymmaint a chynnifer o bery­glon, ac nas gallwn o herwydd gwendid dy­nol, sefyll bob amser yn uniawn: caniadhâ i ni y cyfryw dy nerth a'th nodded i'n cymmorth ym­hob perigl, ac i'n harwain trwy bob profedigaeth, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rom. 13. 1. YMddarostynged pob enaid i'r awdur­dodau goruchel; canys nid oes aw­durdod onid oddiwrth Dduw: a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hyn­ny, pwy bynnac sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwr­thwynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wrthwyne­bant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdur­dod? gwna 'r hyn sydd dda; a thi a gai glôd ganddo. Canys gweinidog Duw ydyw ef i ti er daioni; eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Oblegid gweinidog Duw yw efe, dialudd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg. Her­wydd pa ham, anghenrhaid yw ymddarostwng, nid yn unic o herwydd llid, eithr o herwydd cydwybod [Page] hefyd. Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged he­fyd; oblegid gwasanaeth-wŷr Duw ydynt hwy, yn gwilied ar hyn ymma, Telwch gan hynny i bawb [eu] dyledion, teyrnged i'r hwn y mae teyrnged [yn ddyledus,] toll i'r hwn y mae toll; ofn i'r hwn y mae ofn; parch i'r hwn y mae parch [yn ddyledus:]

Yr Efengyl. S. Mat. 8. 23 AC wedi iddo fyned i'r llong, ei ddiscyb­lion a'i canlynasant ef. Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chu­ddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu. A'i ddiscyblion a ddaethant atto, ac a'i deffroesant, gan ddywedyd, Arglwydd cadw ni, darfu ani danoni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ofnus, ô chwi o ychydig ffydd▪ Yna y co­dodd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu dawelwch mawr. A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fôd y gwyntoedd hefyd ar môr yn ufuddhau iddo? Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall i wlâd y Gergestaid, dau ddieflig a gyfarfu­ant ag ef, y rhai a ddeuent, o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. Ac wele hwy a le­fasant, gan ddywedyd, Jesu fâb Duw, beth fydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti ymma i'n poeni ni cyn yr amser▪ Ac yr oedd ym-mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pôri. A'r cythreuliad a ddeisyfia­sant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniad­ha i ni fyned ymmaith i'r genfaint fôch. Ac efe a ddy­wedodd wrthynt, Ewch, A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint fôch. Ac wele, yr holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibyn i'r mor, ac a fuant feirw yn y dyfroedd, A'r meichiaîd a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bôb peth, a pha beth a ddarfuasei i'r rhai dieflig. Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth alian i gyfarfod â'r Jesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.

Y pumed Sul gwedi'r ystwyll.

Y Colect. ARglwydd, ni a attolygwn i ti gadw dy Egl­wys a'th deulu yn wastad yn dy wîr gre­fydd, fel y gallont hwy oll y sawl sydd yn ymgynnal yn unic wrth obaith dy nefol rad, byth gael nawdd dy ddiogel amddiffyn, trwy Jesu ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Col. 3. 12. MEgis ethaledigion Duw, sanctaid ac anwyl, gwisewch am danoch ymy­scaroedd trugareddau, cymmwy­nasgarwch, gostyngeiddrwydd, add­fwynder, ymaros: gan gyd-ddwyn a'i gilydd a maddeu i'w gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ac y niaddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac am ben hyn oll, gwiscwch gari­ad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywo­draethed tangneddyl Dduw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd i'ch galwyd yn un corph: a buddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, ym mhôb doethineb: gan ddyscu, a rhybuddio bawb ei gilydd mewn psalmau, a hymnau ac odlau ys­prydol, gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Ar­glwydd. A pha beth bynnag a wneloch ar air, neu ar weithred gwnewch bôb peth yn Enw'r Arglwydd Jesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tâd trwyddo ef.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 13. 24. TEyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷna hauodd hâd da yn ei faes. A thra yr oedd y dynion yn cyscu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym-mlith y gw­nenith, ac a aeth ymmaith. Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna'r ymddangosodd yr efrau he­fyd. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywe­dasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae 'r efrau ynddo? Yn­tef a dywedodd wrthynt, Y gelyn ddŷn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wrtho. A fynni di gan hynny i ni fyned, a'u casclu hwynt? Ac efe a ddywe­dodd, na fynnaf: rhag i chwi wrth gasclu, 'r efrau, ddiwreiddio 'r gwenith gyd â hwynt? Gadewch i'r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhaiaf: ac yn amser y cynhai­af: y dywedaf wrth y medel-wyr. Cesclwch yn gyn­taf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn yscubau, i'w llwyr losci, ond cesciwch y gwenith im hyscubor.

Y chweched Sul gwedi'r ystwyll.

Y Colect. O Dduw, Bendigedig Fâb yr hwn a ym­ddangosodd, fel y dattodai weithredoedd Diafol, ac y gwnae ni yn feibion i Dduw, ac yn etifeddion bywyd tragwyddol, Ca­niadhâ i ni, attolygwn i ti, gan fod genn­ym y gobaith hyn ein puro ein hunain, megis y mae ynteu yn bur; fel pan yr ymddangoso eilwaith gyda nerth a gogoniant mawr, i, n gwneler yn gyffelyb [Page] iddo ef yn ei dragwyddol a'i ogoneddus deyrnas; Ymha un gyda thi, O Dâd, a chyda thi, O Yspryd glân y mae efe yn byw ac yn teyrnasu byth yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

Yr Epistol. 1 S. Joan 3. 1. GWelwch pa fâth gariad a roes y Tâd arnom, fel i'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y bŷd chwi, oblegid nad adnabu efe ef. Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amsygwyd, etto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom pan ymddangoso ef, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ac y mae. Ac y mae pôb ûn sydd ganddo y gobaith hyn ynddo ef, yn ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr. Pôb ûn ac sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghy­fraith: oblegid anghyfraith yw pechod. A chwi a wy­ddoch ymddagos o honaw ef, fel y dileai ein pecho­dau ni: ac ynddo ef nid des bechod. Pôb ûn ac sydd yn aros. ynddo ef, nid yw yn pechu pôb ûn ac sy'n pe­chu ni's gwelodd ef, ac nis adnabu ef. O blant by­chain, na Lhwylled nêb chwi yr hwn sydd yn gwn­euthur cysiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntef yn gyfiawn. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: Canys y mae diafol yn pechu o'r de­chreuad. I hyn yr ymddangosodd Mâb Duw, fel y dattodai weithreoedd diafol.

Yr Efyngyl. S. Mat. 24. 23. YNa os dywed nêb wrthych, wele dym­ma Grîst, neu dymma: na chredwch. Canys cyfyd gau-Gristiau, a gau­brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant. pe byddei bosibl, ie yr e­tholedigion. Wele, rhag-ddywedais [Page] i chwi. Am hynny os dywedant wrthych, wele, y mae efe yn y diffaethwch, nac ewch allan. Wele, yn yr Stafelloedd; na chredwch. Oblegid fel y dâw y fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn. Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno'r ymgascl yr eryrod. Ac yn y fan, wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r ser a syrth o'r nêf, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. Ac yna'r ymddengys arwydd Mâb y dŷn yn y nêf: ac yna y galara holl lwythau'r ddaiar, a hwy a welant Fâb y dŷn yn dyfod ar gymmylau'r nêf, gyda nerth a gogoniant mawr. Ac efe a ddenfyn ei Angylion â mawr Sain Ud-corn: a hwy a gasclant ei etholedigi­on ef ynghŷd o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefo­edd, hyd eu heithafoedd hwynt.

Y Sul a elwir Septuagesima, neu y trydydd Sûl cyn y Grawys.

Y Colect. ARglwydd, ni a attolygwn i ti wrando yn ddarbodus weddiau dy bobl, fel y byddo i ni y rhai a gospir yn gyfia wn am ein cam­weddau, allu yn drugarog gael ein ym­wared gan dy ddaioni di, er gogoniant dy Enw, trwy Jesu Grist ein iachawdwr, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyda thi a'r Yspryd glân byth, yn un Duw heb drangc na gorphen, yn oes oesoedd, Amen.

Yr Epistol. 1 Cor. 9. 4. ONi wyddoch chwi fod y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, i gŷd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp. Felly rhedwch fel y caffoch afael. Ac y mae pob un a'r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth; a [Page] hwynt-hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig, eithr nyni, un anllygredig. Yr wyfi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ym­drechu, nid fel un yn curo yr awyr. Ond yr wyfi yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn unmodd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy.

Yr Efengyl. S. Mat. 20. 1 TEyrnas nefoedd sydd debyg i wr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweith­wŷr i'w win-llan. Ac wedi cytuno a'r gweith-wŷr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w win­llan. Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa: ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymmaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd. Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y sefwch chwi ymma ar hŷd y dydd yn segur? Dywedasant wrtho, Am na chyflygodd neb nyni. Dywedodd yntef wrthynt. Ewch chwith­au i'r win-llan, a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i ce wch. A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliŵr Galw 'r gweithwŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf, hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddêg, hwy a gawsant bob un geiniog. A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy: A hwy­thau a gawsant bob un geiniog. Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gwr y tŷ: gan ddy­wedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninneu, y rhai a [Page] ddygasom bwys y dydd a'r gwrês Yntef a attebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt Y cyfaill, nid yd­wyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytu­naist â mi? Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dôs ym­maith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i titheu. Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf a'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad ti yn ddrwg, am fy môd i yn dda? Felly y rhai olaf fyd­dant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys lla­wer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

Y Sul a elwir Sexagesima, neu 'r ail Sûl cyn y Grawys.

Y Colect. O Arglwydd Dduw, yr hwn a weli nad yd­ym ni yn ymddiried mewn un weithred a wnelom: Caniadhâ yn drugarog fod i ni drwy dy nerth, gael ein amddeffyn rhag pob gwrthwyneb, trwy Jesu Grist em Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 2 Cor. 11. 19 YR ydych yn goddef ffyliaid yn lla­wen, gan fôd eich hun yn synhwy­rol. Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i'ch caethiwo, os bydd un i'ch llwyr fwytta, os bydd im yn cymmeryd gennych, os bydd un yn ymdderchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. Am amharch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr yin mha beth bynnag y mae nêb yn hŷf, mewn ffolmeb yr wyf yn dywedyd, hŷf wyf finueu hefyd. Ai Hebraeaid ydynt hwy? felly finneu. Ai Israeliaid ydynt hwy? felly [Page] finneu. Ai hâd Abraham ydynt hwy? felly finneu. Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? yr ydwyf yn dywe­dyd yn ffôl, mwy wyf fi. Mewn blinderau yn helaeth­ach, mewn gwialennodian tros fesur, mewn carcha­rau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod onid un. Teirgwaith i'm curwyd â gwi­ail; unwaith i'm llabyddiwyd; teir­gwaith y tor­rodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfn-fôr. Mewn teithiau yn fynych, ym mheryglon llif-ddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedlo­edd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gâu, Mewn llafur a lludded: mewn anhunedd yn fynych; mewn anwyd a noethni, Heb law y pethau sy yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf bennydd, y gofal tros yr hôll Eglwy­si. Pwy sy wan, nad wyf finneu wan? pwy a dramg­wyddir, nad wyf finneu yn llosci? Os rhaid ymffro­stio, mi a ymffrostiaf am y pethau sy yn perthyn i'm gwendid. Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Jesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a wyr nad wyf yn dywedyd celwydd.

Yr Efengyl. S. Luk. 8. 4. GWedi i lawer a bobl ymgynnull yng­hŷd, a chyrchu atto o bôb dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg. Yr hâuwr a aeth allan i hâu ei hâd: ac wrth hâu, peth a syrthiod ar ymyl y ffordd, ac a sathrwyd, ac ehediaid y nef a'i bwyttaodd. A pheth arall a syrthi­odd ar y graig, a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. A pheth arall a syrthiodd ym mysc drain, a'r drain a gyd-tyfasant, ac a'i tagasant ef. A pheth arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn efe a lefodd, Y neb sydd a chlustiau gan­ddo [Page] i wrando, gwrandawed. A'i ddiscyblion a ofyn­nasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddammeg oedd hon? Yntef a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw, eithr i eraill ar ddam­hegion, fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. Ac dymma 'r ddammeg. Yr hâd yw gair Duw. A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw y rhai sy yn gwrando: wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymmaith y gair o'u calon hwynt, rhag idd­ynt gredu a bôd yn gadwedig A'r rhai ar y graig, yw y rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen: a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu tros amser, ac yn amser profedi­gaeth yn cilio. A'r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai y wrandawsant, ac wedi iddynt fyned ymmaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a me­lyswedd buchedd ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i ber­ffeithrwydd. A'r hwn ar y tîr da, yw y rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amy­nedd.

Y Sul a elwir Quinquagesima, neu'r Sûl nesaf o flaen y Grawys.

Y Colect. O Arglwydd, yr hwn a'n dyscaist, na thâl dim ein holl weithredoedd a wnelom heb gariad perffaith; anfon dy Yspryd glân, a thywallt yn ein calonnau ragorol ddawn cariad-perffaith, gwir rwymyn tangneddyf, a holl rinweddau da, heb yr hwn pwy bynnac sydd yn byw a gyfrifir yn farw ger dy fron di, Caniadhâ hyn er mewn dy un Mâb Jesu Grist. Amen.

[Page] Yr Epistol. 1 Cor. 13. 1. PEllefarwn â thafodau dynion, ac An­gelion, ac heb fôd gennif gariad, yr wyf fel efydd yn seinio neu symbalyn tingcian. A phe byddei gennif broph­wydoliaeth, a gwy bod o honof y dir­gelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennif yr holl ffydd, fel y gallwn symmudo mynyddoedd, ac heb fod gennif ga­riad; nid wyfi ddim. A phe porthwn y tlodion â'm holl dda, a phe rhoddwn fy nghorph i'm llosci, ac heb gariad gennif, nid yw ddim llesâd i mi. y mae cariad yn hir-ymaros, yn gymwynaf­car; cariad nid yw yn cynfigennu, nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo; nid yw yn gwne­uthur yn anweddaid; nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun; ni chythruddir; ni feddwl ddrwg; nid yw lawen am anghyfiawnder, onid cyd-lawenhau y mae a'r gwi­rionedd. Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, byth ni chwymp ymmaith: eithr pa un bynnag ai prophwydoliaethau, hwy a ballant, ai tafodau, hwy a beidiant: ai gwybodaeth, hi a ddiflanna. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo: Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddilêir. Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y me­ddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a roes heibio be­thau bachgennaidd. Canys gweled yr ydym yr awr­hon trwy ddrych mewn dammeg, Ond yna, wyneb yn ŵyneb, Yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyd­daf megis i'm hadwaenir. Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad; y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.

[Page] Yr Efengyl. S. Luk. 18. 13. YR Jesu a gymmerodd y deuddeg atto ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusa­lem, a chyflawnir pôb peth a'r sydd yn scrifennedig trwy'r prophwydi, am Fâb y dŷn. Canys efe a draddo­dir i'r cenhedloedd, ac a watwe­rir ac a amherchir, ac a boerir arno: ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, a'r trydydd dydd efe a ad­gyfyd. A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn, a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wy­buant y pethau a ddywetpwyd. A bu, ac efe yn nesau at Jericho, i ryw ddŷn dall fod yn eistedd yn ymyl y fford yn cardotta. A phan glybu efe y dyrfa yn my­ned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. A hwy a ddywedasant iddo, mai Jesu o Nazareth oedd yn myned heibio. Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Jesu fâb Dafydd trugarhâ wrthif. A'r rhai oedd yn my­ned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a le­fodd yn fwy o lawer: Mâb Dafydd trugarhâ wrthif. A'r Jesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto: a phan ddaeth yn agos, efe a ofynnodd iddo, gan ddywedyd. Pa beth a fynni di i mi ei wneuthut i ti? Yntef a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg. A'r Jesu a ddywedodd wrtho. Cymmer dy olwg; dy ffydd a'th iachâodd. Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw: a'r holl bobl pan welsant, a roesant foliant i Dduw.

Y Dydd cyntaf o'r Grawys, yr hwn a elwir yn gyffredin Dydd Merchur y Lludw.

Y Colect. HOll gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn ni chashêi ddim a'r a wnaethost, ac a faddeui bechodau pawb y sy edifeiriol; crêa a gwna [Page] ynom newydd a drylliedig galonnau; fel y bo i ni gan ddyledus ddoluriaw am ein pechodau, a chyfaddef ein trueni, allu caffael gennit, Dduw yr holl drugaredd gwbl faddeuant a gollyngdod, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Y Colect hwn a ddarllenir bob dydd o'r grawys ar ôl y Colect, a appwyntir i'r Diwrnod.

Yn lle yr Epistol. Joel. 2. 12. DYchwelwch attafi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd at ag ŵylofain, ac a galar. A rhwygwch eich calonnau, ac nid eich dillad, ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: her­wydd graslawn, a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrŵg. Pwy a ŵyr a dry efe ac edifarhau, a gweddil bendith ar ei ôl, sef, bwyd offrwm, a diod offrwm i'r Arglwydd eith Duw? Cenwch adcorn yn Sion, cyssegrwch ympryd gelwch gymmanfa, cesclwch y bobl, cyssegrwch y gymmanfa, cynnhullwch yr henuriaid, cesclwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priod-fâb allan o'i stafell, a'r briod-ferch allan o stafell ei gwely. Wyled yr offeiriad, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant: Arbed dy bobl ô Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth i ly­wodraethu o'r cenheodlhedd arnynt: pa ham y dywe­dent ymmhlith y bobloedd, pa le y mae eu Duw hw­ynt?

Yr Efenfyl. S. Mat. 6. 16. PAn ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrith-wŷr, yn wyneb-drist: ca­nys anffurfio eu hwynebau y mae­nt, fel yr ymddangosont i ddynion eu bôd yn ymprydio: yn wir meddaf ichwi, ymaent yn derbyn eu gwobr Eithr pan ymprydiech di, enneinia [Page] dy ben, a golch dy wyneb, fel nad ymddangosech i ddynion dy fôd yn ymprydio, ond i'th Dâd yr hwn sydd yn y dirgel a'th Dâd yr hwn sydd yn gweled yn y dir­gel, a dâl i ti yn yr amlwg. Na thryssorwch i'wch dryssorau ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta. Eithr tryssorwch i'wch dryssorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni's cloddia lladron trwodd, ac ni's lladrattânt. Canys lle y mae eich tryssor yno y bydd eich calon hefyd.

Y Sul cyntaf yn y Grawys.

Y Collect. O Arglwydd, yr hwn er ein mwyn a ym­prydiaist ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs, dyro i ni râd i ymarfer o gyfryw ddirwest, fel y byddo i ni gan ostwng ein cnawd i'r Yspryd, byth ufuddhau i'th ddu­wiol annog, mewn iawnder a gwîr sancteiddrwydd, i'th anrhydedd, a'th ogoniant, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnasu, gyd a'r Tâd, a'r Yspryd glân yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

Yr Epistol. 2 Cor. 6. 1. NYni gan gydweithio, ydym yn atto­lwg i chwi, na dderbynioch râs Duw yn ofer: (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymmerad­wy i'th wrandewais, ac yn nydd ie­chydwriaeth i'th gynthorthwyais: wele yn awr yr amser▪ cymmerad­wy, wele yn awr ddydd yr iechydwriaeth.) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth. Eithr gan ein dangos ein hunain ym­mhob peth, fel gweinidogion Duw, mewn ammy­nedd [Page] mawr, mewn cystuddian, mewn anghenion, mewn cyfyngderau▪ mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydiau, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hîr-ymaros, mewn tiri­ondeb yn yr Yspryd glân, mewn cariad di-ragrith, yn­gair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfi­awnder, ar ddehau, ac ar asswy, trwy barch ac am­harch, trwy anglod a chlôd, megis twyllwyr ac er hynny yn eir-wîr: megis an-adnabyddus, ac er hyn­ny yn adnabyddus; megis yn meirw ac wele byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd, me­gis wedi ein tristau, ond yn oestad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ond etto yn meddiannu pôb peth.

Yr Efengyl. S. Mat. 4. 1. YNa yr Jesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr Yspryd, iw demptio gan ddiafol. Ac wedi iddo ymprydio ddeugain nhiwrnod a deugain nôs, yn ôl hynny efe a newynodd. A'r tem­ptiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mâb Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fôd yn fara, Ac yntef a attobodd, ac a ddywedodd, Scrifenwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw▪ yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i goso­dodd ef ar binacl y deml; ac a ddywedodd wrtho. Os­mâb Duw wyti, bwrw dy hun i lawr; canys scrifen­wyd, y rhydd efe orchymmyn i'w Angelion am danat, a hwy a'th ddygant yn eu dwylo rhag taro o honot un amser dy droed wrth garreg. Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Scrifennwyd drachefn, Na themtia yr Ar­glwydd dy Dduw▪ Trachefn y tymmerth diafol ef i fynydd tra-uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrna­soedd y byd, a'u gogoniant. Ac a ddywedodd wrtho, hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i. Yna yr Jesu a ddywedod wrtho, ymmaith Satan: [Page] canys scrifennwyd, yr Arglwidd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi. Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, Angelion a ddaethant ac a weiniasant iddo,

Yr ail Sul o'r grawys.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn gweled nad oes gennym ddim me­ddiant o'n nerth ein hunain i'n cym­morh ein hunain: cadw di ni oddi­fewn ac oddi-allan, sef enaid a chorph fel yr amddeffyner ni rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo i'r corph, a rhag pob drwg feddwl a wnâ niwed na chynnwrf i'r enaid, trwy Jesu Grist ein Harglwydd Amen.

Yr Epistol. YM-mhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn attolwg i chwi, ac yn dei­syf yn yr Arglwydd Jesu, megis, y derbyniasoch gennym pa fodd y dy­lech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynnyddu fwy-fwy. Canys chwi a wyddoch pa orchymmynion a rodda­som i chwi trwy'r Arglwydd Jesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef, eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw o honoch rhag godineb▪ ar fedru o bôb un o honoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd, a pharch: nid niewn gwŷn trachwant, megis y Cen­hedloedd. y rhai nid adwaenant Dduw. Na byddo i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd mewn dim : canys dialudd yw 'r Arglwydd ar y rhai hyn oll me­gis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom. [Page] Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sanctei­ddrwydd. Am hynny y neb sydd yn dirmygu, nid dŷn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a ro­ddes ei Yspryd glân i ni.

Yr Efengyl. S. Mat. 15. 27. A'R Jesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r par­thau hynny, ac a lefodd, gan ddywe­dyd wrtho, Trugarhâ wrthif, o Ar­glwydd, Fâb Dafydd, y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael. Ei­thr nid attebodd efe iddi un gair, A daeth ei ddiscybli­on atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Goll­wng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd cym­morth fi. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cwn. Hitheu a ddywedodd, Gwir yw Arglwydd: canys y mae 'r cwn yn bwytta o'r briwsion sy 'n syrthio oddi ar fwrdd eu harglwdddi. Yna yr attebodd yr Jesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd▪ by­dded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iacha wyd o'r awr honno allan.

Y trydydd Sul o'r Grawys.

Y Colect. NI a attolygwn i ti, Holl-alluog Dduw, edrych o honot ar ddeisyfiadau dy ufudd weision, ac estyn deheu-law dy fawredd i fod yn ymwared i ni yn erbyn ein gelyni­on, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. Ephes. 5. 1. BYddwch ddilynwŷr Duw, fel plant anwyl: a rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun trosom ni yn offr­wm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd. Eithr godineb, a phôb aflen­did, neu gybyddra, na henwer chw­aith yn eich plith, megis y gweddei i Sainct: na ser­thedd, nac ymmadrodd ffûl, na choeg-ddigrifwch, pe­thau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi di­olch. Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bôb puttein-wr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd dde­lw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi a geiriau ofer: canys oblegid y pethan hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod. Na fyddwch gan hyn­ny gyfrannogion â hwynt. Canys yr oeddych▪ chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni, ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni, (canys ffr­wyth yr Yspryd sydd ym mhûb daioni, a chyfiawnder a gwirionedd.) Gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd: Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gw­eithredoedd anffrwythlawn y ty wyllwch, eithr yn hy­trach argyoeddwch hwynt. Canys hrwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. Eithr pûb peth, wedi'r argyoedder, a eglurir gan y goleuni: ca­nys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. O her­wydd pa ham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

Yr Epistol. S. Luk. 11. 14. AC yr oedd efe yn bwrw allan gythrael, a hwnnw oedd fûd: a bu wedi i'r cythrael, fyned allan, i'r mudan lefaru: ar bobl­oedd a ryfeddasant. Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. [Page] Ac eraill gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef. Yntef yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddy­wedodd wrthynt, Pôb teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir: a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth, Ac os Satan hefyd sydd wedi ynirannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bûd yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid. Ac os trwy Beelzebnb yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y by­ddant hwy yn farn-wŷr arnoch chwi. Eithr os myfi trwy fŷs Duw, ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid diammau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi. Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch. Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, eft a ddwg ymmaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddiried ac a ran ei anrhaith ef. Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casclu gŷd â mi, sydd yn gwascaru. Pan êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia mewn llededd sychion, gan geisio gorphy wysdra: a phryd na chaffo, efe a ddywed. Mi a ddychwelaf i'nt ty o'r lle y daethwn allan, A phan ddêl y mae yn ei ga­el wedi ei yscubo a'i drefnu, Ynayr â ef ac y cymmer at­to saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun. A hwy a ant i mewn, ac a arhossant yno: a diwedd y dŷn hwn­nw fydd gwaeth nâ'i ddechreuad. A bu fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llêf, ac a ddywedodd wrtho. Gwyn fŷd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist. Dnd efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fŷd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

Y Pedwerydd Sûl o'r Grawys.

Y Colect. CAniadhâ, ni attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, fod i ni y rhai a haeddasom gael ein poeni am ein drwg weithredoedd, trwy gonffordd dy rad ti, allu yn drugarog gael hawshad, trwy ein Harglwydd a'n iacha­wdwr Jesu Grist. Amen.

Yr Epistol. Gal. 4. 21. DYwedwch i mi y rhai ydych yn chw­ennych bûd tan y Ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y Ddeddf▪ Canys mae yn scrifennedig fûd i Abraham ddau fâb: un o'r wasanaeth-ferch ac un o'r wraig rydd. Eithr yr hwn oedd o'r wasanaeth-ferch a aned yn ôl y cnawd: a'r hwn oedd o'r wraig rydd, trwy 'r adde­wid. Yr hyn bethau ydynt mewn alegori canys y rhai hyn yw y ddau Destament, un yn ddiau o fynydd Si­na, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar: Canys yr Agar ymma, yw mynydd Sina yn Arabia; ac y mae yn cyf-atteb i'r Jerusalem sydd yn awr, ac y mae yn gaeth hi a'i phlant. Eithr y Jerusalem honno uchod, sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll. Canys scrifennedig yw, Llawenhâ di yr amlhan­tadwy, yr hon nid wyt yn escor: canys i'r unic y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi wr. A nin­neu, frodyr, megis yr oedd Jsaac, ydym blant yr ad­dewid. Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ûl y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ûl yr Ys­pryd: felly yr awrhon hefyd. Ond beth y mae'r Scry­thur yn ei ddywedydd? Bwrw allan y wasanaeth­ferch, [Page] a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth-ferch etifeddu gyd â mab y wraig rydd. Felly frodyr, nid plant i'r wasanaeth-ferch ydym, ond i'r wraig rydd.

Yr Efyngyl. S. Joan 6. 1. YR Jesu a aeth tros fûr Galiaea, hwnnw yw mûr Tiberias A thyrfa fawr a'i canlynodd ef, canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wn­aethei efe ar y cleifion. A'r Jesu a aeth i fynu i'r mynydd, ac a eistedd­odd yno gyd a'i ddiscyblion. A'r Pasc, gwyl yr Jddewon, oedd yn agos. Yna'r Jesu a dderchafodd ei lygaid, ac a we­lodd fûd tyrfa fawr yn dyfod atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta? (A hyn a ddywedodd efe iw brofi ef : canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedr ei wneu­thur.) Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau can cei­niog a fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb un o honynt gymmeryd ychydig. Un o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Andreas brawd Simon Petr, y mae ymma ryw fachgennyn, a canddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer: A'r Jesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glas-wellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch punm mil o nifer. A'r Jesu a gymmerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r discyblion, a'r discyblion i'r rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pys­cod cymmaint ac a fynnasant: A'c wedi eu digoni hwy, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Cesclwch y briw­fwyd gweddill, fel na choller dim: Am hynny hwy a'i casclasant, ac a lanwasant ddeuddeg bascedaid o'r briwfwyd, o'r pum torth haidd, a weddillasei gan y rhai a fwyttasent, Yna y dynion, pan welsant yr ar­wydd a wnaethei 'r Jesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Prophwyd oedd ar ddyfod i'r bŷd.

Y pummed Sûl o'r Grawys.

Yr Colect. NJ a attolygwn i ti Holl alluog Dduw, ed­rych o honot yn drugarog ar dy bobl: fel y bo iddynt trwy dy fawr ddaioni, gael byth eu llywodraethu a'u cadw mewn enaid a chorph, trwy Jesu Crist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Heb. 9. 11. CRist wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy Da­bernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adei­ladaeth ymma; nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe unwaith i mewn i'r Cyssegr, gan gael i ni dragywyddol rhyddhâd. Ob­legid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy yr Yspryd tragywyddol a'i hoffry­mmodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw? Ac am hynny y mae ef yn Gyfryngwr y Cyfammod newydd, megis trwy fôd marwolaeth yn ymwared oddi wrth y trosseddau oedd tan y Cy­fammod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn adde­wid yr etifeddiaeth dragywyddol.

[Page] Yr Efengyl. S. Joan 8. 46 PWy o honoch a'm argyoeddai o be­chod? ac od wyfi yn dywedyd y gwir, pa ham nad ydych yn credu i­mi? Y mae yr hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hyn­ny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. Yna 'r at­tebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Ond da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bôd gennit gythrael? Yr Jesu a attebodd, Nid oes gennif gythrael, ond yr wyfi yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy ni-anrhydeddu inneu. Ac nid wyfi yn ceisio fy ngogoniant fy hnn: y mae a'i ca­is, ac a farn. Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wel efe farwolaeth yn dra­gywydd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho. Yr awron y gwyddom fod gennit gythrael: bu Abraham farw, a'r Prophwydi, ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragy­wydd. Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a'r prophwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun. Yr Jesu a atte­bodd, Os wyfi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogo­niant i nid yw ddim: fy Nhâd yw 'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi, yn dywedyd mae eich Duw chwi yw. Ond nid adnabuoch chwi ef: ei­thr myfi a'i hadwaen ef: ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. Gorfoledd oedd gan eich tâd Abraham weled fy nydd i: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengml­wydd a deugain etto, ac a welaist ti Abraham? Yr Jesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, cyn bod Abraham, yr wyf fi, Yna hwy a goda­sant gerrig iw taflu atto ef. A'r Jesu a ymguddiodd, ac a aeth alian o'r Deml.

Y Sûl nesaf o flaen y Pasc.

Y Colect. HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th garedigol serch ar ddŷn, a ddan­fonaist dy Fâb ein Jachawdr Jesu Grist i gymmeryd arnaŵ ein cnawd, ac i ddio­ddef angau ar y groes, fel y gallai bob rhyw ddyn ddilyn esampl ei fawr ostyngeiddrwydd ef; Canniadhâ o'th drugaredd fod i ni ganlyn esampl ei ddioddefaint, a bod yn gyfrannogion o'i gyfodiad, trwy yr unrhyw Jesu Grist ein Arglwydd. Amen.

Yr Epistol. Phil. 2. 5. BYdded ynoch y meddwl ymma, yr hwn oedd hefydd y ngrist Jesu: yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fôd yn ogyfuwch â Duw: ei­thr efe a'i di-brisioddei hun, gan gym­meryd arno agwedd gwâs, ac a wn­aed mewn cyffelybiaeth dynion: a'i gael mewn dull fel dŷn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fôd yn ufydd hyd angeu, Je angeu 'r groes. O herwydd pa ham Duw a'i tra-derchafodd yntef, ac a roddes iddo Enw, yr hwn sydd goruwch pôb Enw: fel yn Enw Jesu y plygei pôb glîn o'r nefolion, a'r daiarolion a than-ddaiarolion bethau: ac y cyffesei pob tafod fôd Jesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Tâd.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 27. 1. Aphan ddaeth y boreu, cyd-ymgyngho­rodd, yr holl Arch-offeiriaid, a He­nuriaid y bobl, yn erbyn yr Jesu, fel y rhoddent ef i farŵolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dy­gasant ef ymmaith, ac a'i traddoda­sant ef i Pontius Pilat y rhaglaw. Yna pan weles Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, gan ddywedyd. Pechais, gan frady­chu gwaed gwirion. Hwytheu a ddywedasant Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd. A'r Arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysor-fa: canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladd-fa dieithriaid. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hŷd heddyw. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedpwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feivion Israel, Ac a'u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosodes, yr Arglwydd i mi.) A'r Jesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gyhuddid ef gan yr Arch­offeiraid a'r Henuriaid, nid attebodd efe ddim. Yna y dywedodd Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? Ac nid attebodd efe iddo un gair: fel y rhyfe­ddodd y rhag-law yn fawr, Ac ar yr wyl honno yr ar­ferei y rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcha­ror, yr hwn a fynnent. Ac yna yr oedd ganddynt [Page] garcharor hynod. a elwid Barabbas. Wedi iddynt gan hynny ymgasclu yngŷd, Pilat a ddywedodd wr­thynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi: Barabbas, ai yr Jesu, yr hwn a elwir Crist? Canys efe a wyddei mai o genfigen y traddo­dosent ef, Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd; Na fydded i ti a wnelych a'r Cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd o'i achos ef. A'r Arch-offeiriad a'r Henuriaid, a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Jesu. A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwytheu a ddywedasant, Barabbas. Pilat a ddo­wedod wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Jesu, yr hwn a elwir Christ? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croef-hoelier ef. A'r rhag­law a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwytheu a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes­hoelier ef. A Philar, pan welodd nad oedd dim yn tyc­cio, ond yn hytrach bôd cynnwrf, a gymmerth dowfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywe­dyd, Di-euog ydwyfi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywe­dodd Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt; ond yr Jesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes iw groes-hoe­lio. Yna milwŷr y rhaglaw a gymmerasant yr Jesu i'r dadleudŷ, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin. A hwy a'i dioscasant ef, ac a roesant am dano fantell o scarlat: A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy ai gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau: ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwa­twarasant, gan ddywedyd, Henffych well, Brenin yr Iddewon. A hwy a boerasant arno, ac a gymera­sant y gorsen, ac a'i tarawsant ar ei ben. Ac wedi yddynt ei watwar, hwy a'i dioscasant ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymmaith i'w groes-hoelio. Ac fel yr oeddynnt yn myned allan, hwy a gawsant ddŷn o Cyrene, a'i enw [Page] Simon, hwn a gymmhellasant i ddwyn ei groes ef. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle 'r benglog, hwy a roesant iddo iw yfed fin­egr yn gymmyscedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni y peth a ddywetpyd trwy 'r prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisc y bwriasant goel-bren. A chan eistedd hwy a'i gwilia­sant ef yno. A gosodasant hefyd uwch ei ben ef, ei achos yn scrifennedig, HWN YW JESU, BRENJN YR IDDEWOR, Yna y croeshoeliwyd gyd ag ef ddau leidr, un ar y llaw dde­hau, ac un ar yr asswy. A'r rhai oedd yn myned hei­bio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu pennau, a dywe­dyd; Ti yr hwn a ddinistri 'r Deml, ac a'i hadeiliedi mewn tridiau, gwared dy hun: os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes. A'r un modd yr Arch-offeiri­aid hefyd, gan watwar, gyd a'r Scrifennyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant, Efe a waredodd eraill, ei hunan ni's gall efe ei waredu: os brenin Israel yw, descynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. Ymddiriedodd yn Nuw: gwareded efe ef yr aw­ron, os efe a'i mynn ef: canys efe a ddywedodd, Mâb Duw-ydwyf. Ar un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groes-hoeliasid gyd ag ef. Ac o'r chwe­ched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Jesu â llêf uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, Lamma Sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elias. Ac yn y fan, un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddes ar gorsen, ac a'i diododd ef. Ar llaill a ddy­wedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias i'w waredu ef. A'r Jesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ym­adawod â'r Yspryd. Ac wele, llen y Deml a rwy­gwyd yn ddau, oddi fynu hyd i wared: a'r ddaiar a grynodd, a'r main a holltwyd: A'r beddau a agorwyd: [Page] a llawer o gyrph y saint a hunasent, a gyfodasant; ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad, ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaid, ac a ymdda­ngosasant i lawer. Ond y canwriad, a'r rhai oedd gŷd ag ef yn gwilied yr Jesu, wedi gweled y ddaiar­gryn a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mâb Duw ydoedd hwn.

Dydd llun o flaen y Pasc.

Yn lle yr Epistol. Isa. 63. 1. PWy yw hwn yn dyfod o Edom, yn gôch ei ddillad o Bozrah? hwn sydd hardd yn ei wisc, yn ymdaith yn amlder ei rym? my-fi yr hwn a lefa­raf mewn cyfiawnder, ac wyf ga­darn i iachâu. Pa ham yr ydwyd yn gôch dy ddillad, a'th wiscoedd fel yr hwn a sathrei mewn gwin-wrŷf? Sethrais y gwinwrŷf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gŷd â mi: canys mi a'i sathraf hwynt yn fy nîg, ac a'i mathraf hwynt yn fy llidiawgrwydd; a'u gwaed hwynt a dae­nellir ar fy nillad, a'm holl wiscoedd a lychwinaf. Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth. Edrychais hefyd, ac nid oedd gynnhorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gyn­haliwr; yna fy mraich fy hun a'm hachubodd, a'm llidiawgrwydd a'm cynhaliodd. Ac mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a'i meddwaf hwynt yn fy llidiaw­grwydd: a'u cadernid a ddescynnaf i'r llawr. Cofiaf drugareddau yr Arglwydd, a moliant Duw, yn ol yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiae­thau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. Canys efe a ddywedodd, diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddy­wedant [Page] gelwydd, felly efe a aeth yn iachawdr idd­ynt. Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac Angel ei gydrycholdeb a'u hachubodd hwynt; yn ei gariad, ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a'u dygodd hwynt, ac a'u harweiniodd yr holl ddy­ddiau gynt. Hwythau oeddynt wrth-ryfel-gar, ac a ofidiasant ei Yspryd sanctaid ef, am hynny y trôdd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn, Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a'i bobl, gan ddywe­dyd, mae 'r hwn a'u dygodd hwynt i fynu o'r môr, gyd â bugeiliaid ei braidd? mae 'r hwn a osododd ei Yspryd sanctaidd o'i fewn ef? Yr hwn a'u tywysodd hwynt â deheu-law Moses, ac a'i ogoneddus fraich, gan holl­ti y dyfroedd o'u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun Enw tragywyddol? yr hwn a'i harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr ynialwch, fel na thramgwyddynt? fel y descyn anifail i'r dyffryn y gwna Yspryd yr Arglwydd iddo orphywys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i't Enw gogoneddus. Edrych o'r nefoedd, a gwêl, o annedd dy sancteiddrw­ydd, a'th ogoniant: mae dy zêl, a'th gadernid, lluo­sogrwydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau tu ac attaf? a ymattaliasant? Canys ti yw ein tâd ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israel, ti Arglwydd yw ein tâd ni, ein gwaredudd: dy Enw sydd erioed. Pa ham Arglwydd y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o'th ffyrdd? ac y caledaist ein calon­nau oddiwrth dy ofn? dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth. Tros ychydig ennyd y me­ddiannodd dy bobl sanctaidd; ein gwrthwyneb-wŷr a sathrasant dy Gyssegr di Ny-ni ydym eiddot ti, eri­oed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy, ac ni el­wid dy enw arnynt.

[Page] Yr Efengyl. S. Mar. 14. 1 AC wedi deu-ddydd yr oedd y Pasc, a gwyl y bara croyw: a'r Arch-offeiriaid a'r Scri­fennyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef. Eithr dywe­dasant, Nid ar yr wyl, rhag bôd cynnwrf ym mhlith y bobl. A phan oedd efe yn Bethania, yn nh­ŷ Simon y gwahan-glwyfus, ac efe yn eistedd i fwyt­ta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint, o nard gwlyb gwerth-fawr, a hi a dorrodd y blwch, ac a'i ty­walltodd ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn anfodlon yn­ddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gw­naethpwyd y golled hon o'r ennaint? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw trychan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi. A'r Jesu a ddywedodd, Gedwch iddi; pa ham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda ar­nafi. Canys bob amser y cewch y tlodion gyd â chwi, a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fyng­horph erbyn y claddedigaeth. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon, yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd, a adroddir er coffa am deni. A Judas Iscariot, un o'r deudeg, a aeth ymmaith at yr Arch-offeiriaid, i'w fradychu ef idd­ynt. A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a add­awsant roi arian iddo. Yntef a geisiodd pa fodd y gal­lai yn gymmwys ei fradychu ef. A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y Pasc, dywedodd ei ddiscyblion wrtho; I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyttâ y Pasc? Ac efe a an­fonodd ddau o'i ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas, a chyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: dilynwch ef. A pha le bynnag yr êl i mewn dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fôd yr Athro yn dy­wedyd, Pa le y mae 'r llettŷ, lle y gallwyf, mi a'm discyblion, fwytta 'r Pasc? Ac efe a ddengys i chwi [Page] oruwch-stafell fawr wedi ei thanu, yn barod yno pa­ratowch i ni. A'i ddiscyblion a aethant, ac a ddae­thant i'r ddinas. Ac a gawsant megis y dywedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc. A phan aeth hi yn hwyr efe a ddaeth gyd â'r deuddeg. Ac fel yr oe­ddynt yn eistedd, ac yn bwytta, yr Jesu a ddywedodd, Yn wir meddaf ichwi, un o honoch yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, a'm bradycha i. Hwythau a dde­chreuasant dristâu, a dywedyd wrtho bôb un ac un. Ai myfi? ac arall, Ai myfi? Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddyscl yw efe. Mab y dŷn yn wir sydd yn myned ymmaith, fel y mae yn scrifen­nedig am dano, ond gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da fuasai i'r dyn hwn­nw pe na's ganesid. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Jesu a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i tor­rodd, ac a'i rhoddes iddynt, ac a ddywedodd, Cym­merwch, bwyttewch, hwn yw fy ngorph. Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, ef a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfafant o honaw. Ac efe a ddy­wedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r Testa­ment newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer. Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw. Ac ŵedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. A dywedodd yr Jesu wrthynt, Chwi a rwystrir, oll o'm plegid i, y nos hon: canys scrifennedig yw, Tara­waf y bugail, a'r defaid a wascerir. Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilaea. Ond Petr a ddywedodd wrtho, Pe byddai bawb wedi eu rhw­ystro, etto ni byddaf fi. A dywedodd yr Jesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, heddyw o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith y gwedi fi deirg-waith. Ond efe a ddywedodd yn helaeth­ach o lawer. Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r un modd y dywedasant oll. A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio. Ac efe a gymmerth gyd ag ef [Page] Petr, ac Jaco, ac Joan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristau yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: arhoswch ym­ma, a gwiliwch. Ac efe a aeth ychydig ym-mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaiar, ac a weddiodd, o bai bossibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywe­dodd, Abba Dâd, pob peth sydd bossibl i ti; tro heibio y cwppan hwn oddi wrthif: eithr nid y peth yr ydwy­fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. Ac efe a dda­eth, ac a'u cafodd hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cyscu yr wyti? oni allit wilio un awr? Gwiliwch, a gweddiwch rhag eich myned mewn temtasiwn: yr Yspryd yn ddiau sydd barod; ond y cnawd sydd wan, Ac wedi iddo fyned ymmaith drachefn, efe a weddiodd, gan ddywedydd yr un yma­drodd. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cyscu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau) ac ni wyddent beth a attebent iddo. Ac efe a ddaeth y drydedd waith ac a ddywedodd wr­thynt, Cyscwch weithian, a gorphwyswch: digon yw, daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mâb y dŷn i ddwylo pechaduriad. Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos, Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, daeth Judas, un o'r deuddeg, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid. A'r hwn ai bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnac a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymmaith yn sicr. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd Rabbi, Rabbi, ac a'i cusanodd ef. A hwythau a roe­sant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef. A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ef. A'r Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, a chleddyfau, ac a ffynn i'm dala i? Yr oeddwn i beu­nydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni 'r Scrythyrau. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant. A rhyw ŵr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisco [Page] â lliain main ar ei gorph noeth, a'r gwŷr ieuaingc a'i daliasant ef. A hwn a adawodd y lliam, ac a ffâdd oddi wrthynt yn noeth, a hwy a ddygasant yr Jesu at yr Arch-offeiriad: a'r holl Arch-offeiriaid, a'r Henu­riaid, a'r Scrifennyddion, a ymgasclasaut gyd ag ef. A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr Arch offeiriaid: ac yr oedd efe yn eistedd gyd â'r gwasanaeth­wŷr, ac yn ymdwymno wrth y tân. A'r Arch-offeiriad, a'r holl gyngor, a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Jesu i'w roi ef i farwolaeth, ac ni chawsant. Ca­nys llawer a ddygasant, gau dystiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson. A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gam-dystiolaeth yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y Deml hon o waith dwy­lo ac mewn tridiau yr adeiliadaf arall, heb fôd o waith llaw. Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson. A chyfododd yr Arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i'r Jesu, gan ddywedyd, oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim, Dra­chefn yr Arch-offeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywe­dodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mâb y Bendigedig? A'r Jesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mâb y dŷn yn eistedd a'r ddeheu-law y gallu, ac yn dyfod ynghymmylau y nef. Yna 'r Arch-offei­riad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemnia­sant ef, ei fôd yn euog o farwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Prophwda. A'r gweinidogion a'i tarawsant ef â gwiail. Ac fel yr oedd Petr yn y llys i ŵared, daeth un o forwynion yr Arch-offeiriad: a phan ganfu hi Betr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd Titheu hefyd oeddit gyd â'r Jesu o Nazareth. Ac ef a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywe­dyd. Ac efe a aeth allan i'r Porth: a'r ceiliog a gano­dd. A phan welodd y llangces ef drachefn hi a dde­chreuodd [Page] ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un o honynt, Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddy­wedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyti yn uno honynt, canys Galilaead wyt, a'th leferydd sydd de­byg. Ond efe a ddechreuodd regu, a thyngu, Nid ad­waen i y dŷn ymma yr ydych chwi yn dywedyd am dano. A'r ceiliog a ganodd yr ail waith a Phetr a go­fiodd y gair a ddywedasei 'r Jesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti am gwedi deir-gwaith. A chan ystyried hynny efe a wylodd.

Dydd mawrth nesaf o flaen y Pasc.

Yn lle yr Epistol. Esa. 50. 5. YR Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minneu ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ûl Fy nghorph a roddais i'r cur-wŷr, a'm cernau i'r rhai a dynnai 'r blew, ni chuddiais fy wyneb oddiwrth wradwydd, a a phoeredd. O herwydd yr Argl­wydd Dduw a'm cymmorth, am hynny ni'm cywi­lyddir. Agos yw 'r hwn a'm cyfiawnhâ; pwy a ym­ryson â mi? safwn ynghŷd, Pwy yw fy ngwrthwy­nebwr? nessaed attaf. Wele'r Arglwydd Dduw a'm cynnorthwya. pwy yw 'r hwn a'm bwrw yn euog? wele hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn, gwyfyn a'u hyssa hwynt, Pwy yn eich mŷsc sydd yn ofni 'r Argl­wydd: yn gwrandaw ar lais ei wâs ef, yn rhodio me­wn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw 'r Arglwydd, ac ymddirieded yn ei Dduw. Wele chwi oll y rhai ydych yn cynneu tân, ac yn eich am­gylchu eich hunain â gwreichion: rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gynneua­soch; o'm llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gor­weddwch.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat 15. 1. AC yn y fan y boreu, yr ymgynghorodd yr Arch offeiriaid gyd â'r Henuriaid, a'r Scrifennyddion, a'r holl▪ gyngor, ac wedi iddynt rwymo 'r Jesu, hwy a'i dygasant ef ymmaith, ac a'i tra­ddodasant at Pilat. A gofynnodd▪ Pi­lat iddo Ai ti yw Brenin yr Idde­won? Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A'r Arch-offeiriaid a'i cyhudda­sant ef o lawer o bethau, Eithr nid attebodd efe ddim. A Philat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. Ond yr Jesu etto nid attebodd ddim, fel y rhyfeddodd Pilat. Ac ar yr wyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. Ac yr oedd un a elwid Ba­rabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd â'u gyd-terfysc­wŷr, y rhai yn y derfysc a wnaethent lofruddiaeth. A'r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf ar­no wneuthur fel y gwnaethai bôb amser iddynt. A Philat a attebodd iddynt gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Idde­won? (Canys efe a wyddai mai o gynfigen y traddo­dasai yr Arch-offeiriaid ef) A'r Arch-offeiriaid a gynhyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. A Philat a attebodd, ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? A hwythau a lefasant dra­chefn, Croes-hoelia ef. Yna Pilat a ddywedodd wrth­ynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a le­fafant fwy-fwy, Croes-hoelia ef. A Philat yn chwen­nych bodloni 'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Ba­rabbas, a'r Jesu wedi iddo ei fflangellu, a draddo­dodd efe i'w groes-hoelio. A'r milwŷr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Praetorium: a hwy a alwasant ynghŷd yr holl fyddin, ac a'i gwiscasant ef â phor­phor, [Page] ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben: ac a ddechreusant gyfarch iddo, Hanffych well, Brenin yr Iddewon. A hwy a gurasant ei ben ef â chor sen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gli­niau i lawr, a'i haddolasant ef. Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am da­no, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dyga­sant allan iw groes-hoelio. A hwy a gymmellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlâd, sef tad Alexander a Rufus, i ddwyn ei groes ef. A hwy a'i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha: yr hyn o'i gyfieithu yw, Lle 'r ben­glog; ac a roesant iddo i'w yfed win myrhllyd: eithr efe ni's cymmerth. Ac wedi iddynt ei groes-hoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coel-bren arnynt, beth a gai bob un, A'r drydedd awr oedd hi, a hwy a'i croes-hoeliâsant ef. Ac yr oedd yscrifen ei a­chos ef wedi ei hargraphu, BRENIN YR IDD­EWON. A hwy a groes-hoeliasant gyd ag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeheu, ac un ar yr asswy iddo. A'r Scrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai anwir. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef gan yscwyd eu penneu, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio y Deml, ac yn ei hadeiliadu mewn tridiau; gwared dy hun, a descyn oddi ar y groes, A'r un modd yr Arch­offeiriaid hefyd yn gwatwar' a ddywedasant wrth ei gilydd, gyd â'r Scrifennyddion. Eraill a waredodd ef ei hun ni's gall ei wared, Descynned Crist Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom, A'r rhai a groes-hoeliasid, gyd ag ef, a'i difenwasant ef, A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr. Ac ar y naŵfed awr y dolefodd yr Jesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lamma sabachthani, yr hyn o'i gyfieithu yw; Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm ga­dewaist? A rhai o'r rhai a safent ger llaw, pan glyw­sant, a ddywedasant Wele, y mae efe yn galw ar Eli­as. Ac un a redodd, ac a lanwodd yspwrn yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan [Page] ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr. A'r Jesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â'r Yspryd. A llen y Deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared. A phan welodd y Canwraid, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r Yspryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mâb Duw oedd y dŷn hwn.

Dydd merchur o flaen y Pasc.

Yr Epistol. Heb. 9. 16. LLe byddo Testament, rhaid yw dig­wyddo marwolaeth y Testament­ŵr. Canys wedi marw dynion y mae Testament mewn grym, oble­gid nid oes etto nerth ynddo, tra fyddo y Testament-ŵr yn fyw. O ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed. Canys gwedi i Moses adrodd yr holl orchy­mmyn, yn ôl y gyfraith, wrth yr holl bobl, efe a gym­merodd waed lloi a geifr, gyd â dwfr, a gwlân por­phor, ac yssop, ac a'i taenellodd ar y llyfr, a'r bobl oll: gan dywedydd, Hwn yw gwaed y Testament a or­chymynnodd Duw i chwi. Y Tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth, a daenellodd efe a gwaed; yr un modd. A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y Gyfraith ac heb ollwng gwaed nid oes madd­euant. Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau y pethau syyn y nefoedd, gael eu puro a'r pethau hyn: a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell nâ'r rhai hyn. Canys nid i'r Cyssegr o waith llaw, portreiad y gwir Gyssegr yr aeth Christ i mewn, ond i'r nêf ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni: nac fel yr offrymmei ef ei hun yn fynych, megis y mae yr Arch-offeiriad yn myned i mewn i'r Cyssegr bob blwyddyn, â gwaed arall: oblegid yna rhaid fuasei iddo yn fynych ddioddef er dechreuad y bŷd: eithr yr [Page] awron unwaith yn niwedd y bŷd yr ymddaugoses efe, i ddeleu pechod, trwy ei aberthu ei hun. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bôd barn: felly Crist hefyd, wedi ei offrymmu un­waith i ddwyn ymmaith bechodau llawer, a ymdden­gys yr ail waith heb pechod, i'r rhai sy yn ei ddsgwyl, er iechydwriaeth.

Yr Efengyl. S. Luk. 22. 1. A Nessaodd gwyl y bara croyw, yr hon a elwir y Pasc. A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl. A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a gyfen­wid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi 'r deuddeg. Ac efe a aeth ymmaith ac a ymddiddanodd a'r Arch-offeiriaid, a'r blaenoriaid, pa fodd y brady­chei efe ef iddynt. Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo. Ac efe a add­awodd: ac a geisiodd amser cyfaddas iw fradychu ef iddynt, yn absen y bobl. A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasc. Ac efe a anfo­nodd Petr ac Joan, gan ddywedyd, Ewch, parato­wch i ni'r Pasc, fel y bwyttaom. A hwy a ddyweda­sant wrtho, Pa le y mynni baratoi o honom? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ lle yr el efe i mewn; a dy­wedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae 'r Athro yn dywedyd wrthit, Pa le y mae 'r lletty, lle y gallwyf fwytta 'r Pasc gyd â'm discyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thanu: yno paratowch. A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc; a phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg Apostol gŷd ag ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenny­chais yn fawr fwytta 'r Pasc hwn gyd â chwi, cyn dioddef o honof. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, [Page] Ni fwyttâf fi mwyach o honaw, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw, ac wedi iddo gymmeryd y cwp­pan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes idd­ynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf. Yr un modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd. Y cwppan hwn yw 'r Testament ne­wydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch. Eithr wele law 'r hwn sydd yn fy mradychu, gŷd a mi ar y bwrdd. Ac yn wîr, y mae Mâb y dŷn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae 'r dŷn hwnnw, trwy 'r hwn y bradychir efe. Hwy­thau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hun, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny. A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fôd yn fwyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt: a'r rhai sy mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion, Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf, a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. Canys pa un fwyaf, ai 'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai 'r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc, fel un yn gwa­sanaethu. A chwy-chwi yw y rhai a arhosasoch gŷd â mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minneu: fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyr­nas; ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deu­ddegllwyth Israel. A'r Arglwydd a ddywedodd, Si­mon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch ni­thio fel gwenith: eithr mi a weddiais trosot, na ddi­ffygiei dy ffydd di: ditheu pan i'th droer, cadarnhâ dy frodyr. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd yr yd­wyfi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac i angeu. Yntef a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti Petr, Na [Page] chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwieni fi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan i'ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac escidiau: a fu arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant Na ddo ddim, Yna y dywedodd wrthynt. Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymmered, a'r un modd gôd: a'r neb nid oes ganddo. Gwerthed ei bais, a phryned gle­ddyf. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd yn rhaid etto gyflawni ynofi y peth hyn a scrifennwyd, sef, A chyd â'r anwir y cyfrifwyd efe. Canys y mae diben i'r pethau am danafi. A hwy a ddywedasant, Argl­wydd, wele ddau gleddyf ymma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw. Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd: a'i ddiscy­blion hefyd a'i canlynasant ef. A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth. Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd careg, ac wedi iddo fyned ar ei liniau▪ efe a weddiodd, gan ddywedyd, O Dâd, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthif: er hynny nid fy ewyllys i ond yr eiddot ti a wneler. Ac Angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddiodd yn ddyfalach, a'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed, yn descyn ar y ddaiar▪ A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddiscybli­on, efe a'u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch: ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn cyscu? cod­wch, a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth. Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa, a hwn a elwir Judas, un o'r deuddeg, oedd yn myned o'i blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Jesu, iw gusanu ef. A'r Jesu a ddy­wedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wytti yn bra­dychu Mâb y dŷn? A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef, y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darâwn ni â chleddyf? A rhyw un o honynt a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef. Ar Jesu a atte­bodd ac a ddywedodd, Goddefweh hyd yn hyn, Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i iachaodd ef. A'r Jesu a ddywedodd wrth yr Arch-offeiriaid, a blaenoriaid y [Page] Deml. A'r Henuriaid, y rhai a ddaethant atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan â chleddyfau, ac a ffyn? Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y Deml, nid estynnasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu 'r tywyllwch. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i har weiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ 'r Arch-offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hirbell. Ac we­di iddynt gynneu tân ynghanol y neuadd, a chyd eistedd o honynt, eisteddodd Petr yntef yn eu plith hwynt. A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sulw arno, hi a ddywedodd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef. Yntef a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef, Ac ychydig wedi, un arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt titheu hefyd yn un o honynt A Phetr a ddywedodd, O ddŷn, nid ydwyf. Ac ar ôl megis yspaid un awr rhyw un arall a daerodd gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilaead yw. A Phetr a ddywedodd, Y dyn, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd, Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog. A'r Ar­glwydd a drôdd, ac a edrychodd ar Betr: a Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasei efe wrtho Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deir-gwaith. A Phetr a aeth allan ac a wylodd yn chwerw-dost. A'r gwyr oedd yn dal yr Jesu, a'i gwatwarasant ef, gan ei daro, Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Prophŵyda, Pwy yw 'r hwn a'th darawodd di? A llawer o bethau eraill gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef. A phan aeth hi yn ddydd, ymgynnullodd Henuriaid y bobl, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifenny­ddion, ac a'i dygasant ef iw Cyngor hwynt, gan ddy­wedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddyŵe­dodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim; ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni'm hattebwch, ac ni'm gollyngwch ymmaith. Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw. A hwy oll a ddywedasant, Ai Mâb Duw gan hynny ydwyti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy môd. Hwythan a ddywedasant, Pa raid i ni mwy­ach [Page] wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o'i enau ef ei hun.

Dydd Iou o flaen y Pasc.

Yr Epistol. 1 Cor. 11. 17. WRth ddyŵedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod yng­hŷd, nid er gwell, ond er gwaeth. Ca­nys yn gyntaf, pan ddeloch ynghŷd yn yr Eglwys, yr ydwyf yn clywed fod amrafaelion yn eich mysc chwi, ac o ran yr wyfi yn credu: Canys rhaid yw bôd hefyd heresiau yn eich mysc; fel y byddo y rhai cymmeradwy yn eglur yn eich plith chwi. Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghŷd i'r un lle, nid bwyta swpper yr Arglwydd ydyw hyn Canys y mae pôb un wrth fwytta yn cymmeryd ei swpper ei hun o'r blaen, ac un sydd a newyn arno, ac arall sydd yn feddw. Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? Ai dirmygu yr ydych chwi Eglwys Dduw? A gw­radwyddo y rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddy­wedaf wrthych? a ganmolaf i chwi yn hyn? nid wyf yn eich canmol Canys myfi a dderbyniais gan yr Ar­glwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Ar­glwydd Jesu y nos y bradychwyd ef, gymmeryd ba­ra. Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywe­dodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa am da­naf. Yr un modd efe a gymmerodd y cwppan wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Te­stament newydd yn fy ngwaed; gwnewch hyn cynni­fer gwaith bynnac yr yfoch, er coffa am danaf: Ca­nys cynnifer gwaith bynnac y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch far­wolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. Am hynny, pwy bynnac a fwytâo y bara hwn, neu a yfo gwppan yr [Page] Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd. Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwy­taed o'r bara, ac yfed o'r cwppan. Canys yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn anheilwng; sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd. Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno. Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid. Eithr pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Ar­glwydd, fel na'n damner gyd â'r byd. Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch ei gilydd. Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gar­tref, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pe­thau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.

Yr Efengyl. S. Luk. 23. 1 A'R holl liaws o honynt, a gyfodasant ac a'i dygasant ef at Pilat; Ac a dde­chreuasant ei gyhuddo ef, gan ddy­wedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyr­droi 'r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Caesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist frenin, A Philat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw bre­nin yr Iddewon? Ac efe a attebodd iddo ac a ddywe­dodd, Yr wyt ti yn dywedyd. A dywedodd Pilat wrth yr Arch-offeiriaid a'r bobl, Nid wyfi yn cael dim bai ar y dŷn hwn. A hwy a fuant daerach, gan ddywe­dyd, Y mae efe yn cyffroi 'r bobl, gan ddyscu trwy holl Judaea, wedi dechreu o Galilaea hyd ymma A phan glybu Pilat sôn am Galilaea, efe a ofynnodd ai Galilaead oedd y dŷn. A phan wybu efe ei fôd ef o ly­wodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntef yn Jerusalem y dyddiau hynny. A Herod, pan welodd yr Jesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ystalm ei weled ef, oble­gid iddo glywed llawer am dano ef: ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd gan­ddo ef. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau: ei­thr [Page] efe nid attebodd ddim iddo. A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a safasant gan ei gyhuddo ef yn haerllyg. A Herod a'i filwŷr, wedi iddo ei ddiystyru ef a'i watwar, a'i wisco â gwisc glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat. A'r dwthwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r bla­en mewn gelyniaeth â'i gilydd. A Philat, wedi galw ynghŷd yr Arch-offeiriaid, a'r llywiawd-wŷr a'r bobl, a ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dŷn hŵn attafi, fel un a fyddai yn gŵyr-droi 'r bo­bl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dŷn hwn ddim bai o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt: na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele, dim yn haeddu marwolaeth ni's gwnaed iddo. Am hyn­ny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymmaith. Ca­nys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd idd­ynt ar yr ŵyl. A'r holl liaŵs a lefasant ar unwaith gan ddywedyd, Bwrw hwn ymmaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd. (Yr hwn, am ryw derfysc a wnelsid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei da­flu i garchar.) Am hynny Pilat a ddywedodd wrth­ynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Jesu yn rhydd. Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef, Ac efe a ddywedodd wrth­ynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo: am hyn­ny mi a'i ceryddaf ef, ac o'i gollyngaf yn rhydd Hwy­thau a fuant daerion a llefau uchel, gan ddeisyfu ei groes-hoelio ef: a'u llefau hwynt a'r Arch offeiriaid a orfuant, A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfyfc a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynnafant: eithr yr Jesu a draddododd efe iw hewyllys hwynt. Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymmaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlâd, ac a ddodasant y groes arno ef, iw dwyn ar ôl yr Jesu. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd: y rhai hefyd oedd yn cwynfan, ac yn galaru o'i blegid ef. A'r Jesu wedi [Page] troi attynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, nac ŵylwch o'm plegid i, eithr ŵylwch o'ch plegid eich hun, ac oblegid eich plant: Canys wele, y mae 'r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu bŷd y rhai amhlantadwy, a'r crothau ui heppilia­sant, a'r bronnau ni roesant sugn. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom: ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. Canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin? Ac ar­weiniwyd gyd ag ef hefyd ddau ddrwg-weithred-wŷr eraill, iw rhoi iw marwolaeth. A phan ddaethant i'r lle a elwîr Caluaria, yno y croes-hoeliasant ef, a'r drwg-weithred-wyr: un ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr asswy. A'r Jesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneu­thur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren, A'r bobl a safodd yn edrych: a'r pennaethi­aid hefyd gyd â hwynt, a watwarasant, gan ddywe­dyd, Eraill a waredodd efe, gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Dduw, A'r milwŷr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr, A dywedyd, Os tydi yw brenin yr Idde­won, gwared dy hun, Ac yr ydoedd hefyd ar scrifen wedi ei scrifennu uwch ei ben ef, â llythyrennau Groeg, a Lladin, ac Ebrew, HWN YW BRE­NIN YR IDDEWON. Ac un o'r drwg­weithred-wyr a grogasid, a'i cablodd ef gan ddywe­dyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. Ei­thr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywe­dyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fôd dan yr un ddamnedigaeth? A nyni yn wir yn gyflawn: (canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddei y pethau a wnaethom) eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le, Ac efe a ddywedodd wrth yr Jesu Arglwydd cofiâ fi, pan ddelych i'th deyrnas. A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddywy byddi gŷd â mi ym mharadwys. Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaiar hyd y naw­fed awr. A'r haul a dywyllwyd, a llen y Deml a rwy­gwyd yn ei chanol. A'r Jesu gan lefain â llef uchel [Page] wedodd, O Dad, i'th ddwylo di y gorchymynnaf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd A'r Canwriad pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn wr cyfiawn: A'r holl bobloedd, y rhai a ddaethent ynghŷd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwy­fronnau. A'r holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd, y rhai a'i canlynasent ef o Galilaea. Yn edrych ar y pethau hyn.

Dydd Gwener y Croc-lith.

Y Colectau. HOll-alluog Dduw, ni a atolygwn i ti ed­rych o honot yn rasusol ar dy deulu hwn ymma, tros yr hwn y bu foddlawn gan ein Harglwydd Jesu Grist gael ei frady­chu, a'i roddi yn nwylaw dynion anwir, a diodef angau ar y groes, yr hwn sydd yn vyw ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glan, byth yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

HOll-alluog a tragy wyddol Dduw, trwy Ys­pryd pa un y llywodraethir ac y sancteiddir holl gorph yr Eglwys, derbyn ein erfynion a'n gweddiau, y rhai yr ydym ni yn eu hoffrwm ger dy fron di dros bob gradd o ddynion yn dy sanctaidd Eglwys fel y bo i bob aelod o honi yn ei alwedigaeth a'i wasanaeth, allu yn gy­wir, ac yn dduwiol dy wasanaethu di, trwy ein Har­glwydd a'n iachawdr Jesu Grist. Amen.

O Drugarog Dduw, yr hwn a wnaethost bob dŷn, ac ni chas-hei ddim ar a wnaethost, ac ni fynnit farwolaeth pechadur, onid yn hyttrach ymchwelyd o honaw a byw: tru­garhâ wrth yr holl Jddewon, Lwrciaid. Anffyddlonion, a Hereticiaid, a chymmer oddi wrthynt bob anwybodaeth, caledwch calon, a thremyg ar dy air, ac felly dwg hwynt adref, wynfydedic Arglwydd, at dy braidd, fel y bônt gadwedic ym-mhlith gweddi­llion y gwîr Jsraeliaid, a bod yn un gorlan, dan yr un bugail Jesu Grist ein Harglwydd, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu, &c. Amen.

Yr Epistol. Heb. 10. 1. YGyfraith, yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwîr ddelw y pethan, ni's gall trwy yr a berthau hynny, y rhai y ma­ent bob blwyddyn yn y eu hoffrym­mu yn wastadol, byth berffeithio y rhai a ddêl atti. Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymmu? am na buasei gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glan­hau unwaith: Eithr yn yr aberthau hynny y mae adcoffa pechodau bob blwyddyn. Canys amhossibl yw i waed teirw a geifr, dynnu ymmaith bechodau. O herwydd pa ham y mae efe wrth ddyfod i'r bŷd, yn dy­wedyd; Aberth ac offrwm ni's mynnaist, eithr corph a gymmhwysaist i mi. Offrymmau poeth, a thros be­chod, ni buost fodlon iddynt. Yna y dywedais Wele fi yn dyfod (y mae yn scrifennedig yn nechreu y llyfr am danaf) i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw. Wedi iddo ddywedyd uchod. Aberth, ac offrwm, ac offrym­mau poeth, a thros bechod ni's mynnaist, ac nid ym­fodlonaist ynddynt, y rhai yn ôl y Gyfraith a offrym­mir; yna y dy wedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw: y mae yn tynnu ymmaith y cyn­taf, fel y gosodei yr ail. Trwy yr hwn ewyllys yr yd­ym [Page] ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymmiad corph Jesu Grist unwaith. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymmu yn fynych yr un aberthau; y rai ni allant fyth ddileu pechodau: eithr hwn, wedi offrymmu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw: o hyn allan yn disgwil hyd oni osoder ei elynion ef yn droed­faingc iw draed ef. Canys ag un offrwn y perffeithi­odd efe yn dragywyddol y rhai sy wedi eu sancteiddio. Ac y mae yr Yspryd glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen, Dymma 'r Cyfam­mod, yr hwn a ammodafi â hwynt ar ôl y dyddiau hyn­ny, medd yr Arglwydd, Myfi a osodaf fy nghyfreithi­au yn eu calonnau, ac a'u scrifennaf yn eu meddy­liau: a'u pechodau a'u hanwireddau, ni chofiaf mwyach. A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm tros bechod. Am hynny frodyr, gan fôd i ni rydd-did i fyned i mewn i'r Cyssegr trwy waed Jesu, ar hŷd ffordd newydd, a bywiol, yr hon a gyssegrodd efe i ni, trwy 'r llen, sef ei gnawd ef: a bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ dduw: nesawn â cha­lon gywir, mewn llawn hyder ffydd. Wedi glânhau ein calonnau oddiwrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, canys ffyddlon yw 'r hwn a addawood. A chyd-ystyriwn bawb ei gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: heb esceuluso ein cyd-gynhulliad ein hunaiu, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ei gilydd, a hynny yn fwy, o gymmaint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesau.

Yr Efengyl. S. Joan 19. 1. YNa gan hynny y cymmerodd Pilât yr Jesu, ac a'i fflangellodd ef. A'r milwyr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisc o borphor am dano: ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Jddewon, ac a roesant iddo gernodiau. Pilat gan hynny a aeth allan dra­chefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wyfi yn [Page] ei ddwyu ef allan i chwi, fel y gwypoch nad ŵyū yn cael ynddo ef un bai. Yna y daeth yr Jesu allan, yn arwein y goron ddrain, a'r wisc borphor. A Philat a ddywedodd wrthynt, Wele y dŷn. Yna yr Arch-offei­riaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Cros-hoelia, croes-hoelia ef. Pilat a ddy­wedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef a chroeshoeli­wch: canys nid ŵyfi yn cael dim bai ynddo. Yr Jdde­won a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraih, ac wrth ein cyfraith ni, efe a ddylei farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fâb Duw. A phan glybu Pilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy: ac a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Jesu, O bale yr wyt ti? Ond ni roes yr Jesu atteb iddo. Yna Pilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di▪ wrthif fi? oni wyddost di fôd gennyf awdurdod i'th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd? Yr Jesu a attebodd, Ni byddei i ti ddim awdurdod arnafi, oni bai ei fôd wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti sydd fwy ei bechod. O hynny allan y ceisiodd Pilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Jddewon a lefasant, gan ddy wedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Caesar: pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Caesar. Yna Pilat pan gly­bu yr ymadrodd hwn, a ddug allan yr Jesu, ac a ei­steddodd ar yr orsedd-faingc, yn y lle a elwir y Pal­mant, ac yn Hebraew Gabbatha. A darpar-wyl y Pasc oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Jddewon, Wele eich Brenin. Ei­thr hwy a lefasant, Ymmaith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, A groes­hoeliaf fi eich Brenin chwi : A'r Arch-offeiriaid a attebasant, Nid oes i ni frenin ond Caesar. Yna gan hynny, efe a'i traddodes ef iddynt i'w groes-hoelio: a hwy a gymmerasant yr Jesu, ac a'i dygasant ym­maith, Ac efe gan ddwyn ei groes a ddaeth i le a el­wid lle'r Benglog, ac a elwir yn Hebraew Golgotha: lle y croes-hoeliasant ef; a dau eraill gyd ag ef, un o bôb tu, a'r Jesu yn y canol. A Philat a scrifennodd [Page] ditl, ac a'i dododd ar y groes, A'r scrifen oedd, JE­SU O NAZARETH, BRENIN YR IDDEWON. Y titl hwn gan hynny a ddar­llennodd llawer o'r Iddewon: oblegid agos i'r ddi­nas oedd y fan lle y croes-hoeliwyd yr Jesu, ac yr oedd wedi ei scrifennu yn Hebrew, Groeg, a Lladin. Yna Arch-offeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Pilat, Na scrifenna, Brenin Iddewon, eithr dywe­dyd o hono ef, Brenin yr Iddewon ydwyfi. Pilat a at­tebodd, Yr hyn a scrifennais a scrifennais. Yna 'r mil-wŷr wedi iddynt groes-hoelio yr Jesu, a gymme­rasant ei ddillad ef, (ac a wnaethant bedair rhan, i bôb milwr ran) a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddi­wnîad, wedi ei gwau o'r cwrr uchaf trwyddi oll. Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thor­rwn hi, ond bwriwn goel-brennau am deni, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Scrythur sydd yn dywedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysc, ac am fy mhais y bwriasant goel-brennau. A'r milwŷr a wnaethant y pethau hyn. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Jesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleophas, a Mair Magdalen. Yr Jesu gan hynny pan welodd ei fam, a'r discybl, yr hwn a garei efe, yn sefyll ger llaw, a ddywedodd wrth ei fam, o wraig, wele dy fab. Gwedi hynny y dywedodd wrth y discybl, Wele dy fam, Ac o'r awr hono allan, y cym­merodd y discybl hi iw gartref. Wedi hynny yr Jesu yn gwybod fôd pôb peth wedi ei orphen weithian, fel y cyflawnid yr Scrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: a hwy a lanwasant yspwrn o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch ysop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef. Yna pan gymmerodd yr Jesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphennwyd, a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd. Yr Iddewon gan hyn­ny, fel nad arhoei y cyrph ar y groes ar y Sabbath, o herwydd ei bôd yn ddarpar-wyl, (canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilat, gael torri eu hesceiriau hwynt a'u tynnu i lawr. Yna y mil-wyr a ddaethant, ac a dorrasant esceiriau y cyn­taf, [Page] a'r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef. Ei­thr wedi iddynt ddyfod at yr Jesu, pan welsant ef we­di marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef: Ond un o'r mil-wŷr a wanod ei ystlys ef a gwayw-ffon, ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. A'r hwn a'i gwe­lodd a dystiolaethodd, a gwîr yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fôd yn dywedyd gwîr, fel y credoch chwi. Ca­nys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y. cyflawnid yr Scrythur. Nithorrir ascwrn o honaw. A thrachefn, Scrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.

NOS BASC.

Y Collect. CAniadhâ, O Arglwydd, megis i'n bedyddir i farwolaeth dy fendigedic Fâb ein ia­chawdr Jesu Grist, fod i ni felly trwy farwolaethu yn wastad ein gwyniau llygredic gael ein claddu gydag ef, a thrwy 'r Bedd a phorth angeu fyned ymlaen, trwy ei haeddedigaethau ef, yr hwn a fu farw, ac y gladd­wyd, ac a ail-gyfododd er ein mwyn, sef, dy Fâb Je­su Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 Pet. 3. 17. GWell ydyw, os ewyllys Duw a'i mynn, i chwi ddioddef yn gwneu­thur daioni, nag yn gwneuthur drygioni: Oblegit Crist hefyd un­waith a ddioddefodd tros bechodau, y Cyfiawn tros yr anghyfiawn; fel y dygei ni at Dduw, wedi ei farwo­laethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Yspryd: [Page] Trwy 'r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ys­prydion yngharchar y rhai a fu gynt anufudd, pan un­waith yr oedd hir-ammynedd Duw yn aros yn nyddi­au Noe, tra y darperid yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. Cyffelybiaeth cyfattebol i'r hwn sydd yr awron yn ein hachub nin­nau, sef, bedydd (nid bwrw ymmaith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tu ac at Dduw) trwy ad­gyfodiad Jesu Grist, yr hwn sydd ar ddeheu-law Duw, wedi myned i'r nef, a'r Angelion, a'r awdur­dodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.

Yr Efengyl. S. Mat. 27. 57. WEdi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog a Arimathaea, a'i enw Jo­seph, yr hwn a fuasei ynteu yn ddis­cybl i'r Jesu: hwn a aeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Jesu. Yna y gorchymmynnodd Pilat roddi 'r corph. A Joseph ŵedi cymmeryd y corph, a'i hamdôdd â lliain glân: ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasei efe yn y gra­ig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac a aeth ymmaith. Ac yr oedd yno Mair Magdalen a Mair arall, yn eistedd gyferbyn a'r bedd. A thranno­eth, yr hwn sydd ar ôl y darpar-wyl, yr ymgynhullodd yr Arch-offeiriaid a'r Pharisaeaid at Pilat, gan ddy­wedyd, Arglwydd, y mae yn gôf gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tridi­au y cyfodaf, Gorchymmyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddiscyb­lion o hŷd nos, a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwe­ddaf yn waeth nâ'r cyntaf. A dywedodd Pilat wr­thynt, Y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwne­wch mor ddiogel, ac y medroch. A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda 'r wiliadwriaeth.

Dydd Pasc.

¶ Ar Foreuol weddi, yn lle y Psalm, Deuwch, canwn i'r Arg. &c. y cenir, neu y dywedir yr Anthemau hyn.

CRist ein Pasc ni a aberthwyd trosoni ni 1 Cor. 5. 7. Am hynny cadwn wyl, nid a hên lefain, nag a lefein malais a drygioni, ond a bara croyw purdeb a gwirionedd.

CRist yn cyfodi o feirw, yr awr-hon ni bydd ma­rw: Rhuf. 6. 9. nid arglwyddiaetha angau arno ef mwy­ach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw un-waith i bechod: ac fel y mae yn fyw, byw y mae i Dduw, Felly chwithau hefyd cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, eithr yn fyw i Dduw, ynGhrist Jesu ein Harglwydd.

CRist a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wna­ed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunasant. Ca­nys, 1 Cor. 15. 20. gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgyfodiad y meirw, Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw felly hefyd ynGhrist y bywheir pawb.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân. Atteb.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

[Page] Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy unig­anedig fâb Jesu Grist, a orchfygaist an­geu, ac a agoraist i ni borth y bywyd tra­gywyddol; yn ufudd yr attolygwn i ti, me­gis (drwy dy râd yspysawl yn ein ha­chub) ydd wyt yn peri deisyfiadan da i'n meddyliau: felly trwy dy ddyfal gymmorth, allu o honom eu dwyn i berffeithrwydd cyflawn, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glân, byth yn un Duw hob drangc na gorphen. Amen.

Yr Epistol. Colos. 3. 1. OS cyd-gyfodafoch gŷd a Crist, ceisi­wch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddehen-law Duw Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, ac nid ar y pethau sy' ar y ddaiar, Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyd â Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist, ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gyd ag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hyn­eich aelodan, y rhai sy ar y ddaiar, godineb, aflendid, gwŷn, dryg-chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eu­lyn-addoliaeth: o achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod. Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddych yn byw ynddynt.

[Page] Yr Efengyl. S. Joan 20. 1 YDydd cyntaf o'r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y boreu, a▪ hi et­to yn dywyll, at y bedd, ac a weles y maen wedi ei dynnu ymmaith od­di ar y bedd. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a'r discybl arall, yr hwn yr oedd yr Jesu yn ei garu ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymmaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef. Yna Petr a aeth allan, ar discybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd: ac a redasant ill dau yn­ghyd: a'r discybl arall a redodd o'r blaen, yn gynt nâ Phetr ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd. Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn. Yna y daeth Simon Pe­tr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn, i'r bedd, ac a ganfu y llieniau wedi eu gosod: a'r napcin a fuasei am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyd a'r llieiniau, ond o'r nailltu, wedi ei blygu mewn lle arall. Yna yr aeth y discybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethei yn gyntaf at y bedd, ac a welodd, ac a gredodd. Canys hyd yn hyn ni wyddent yr Scrythur, fod yn rhaid iddo gyfodi o feirw. Yna y discyblion a aethant ym­maith drachefn at yr eiddynt.

Dydd Llun Pasc.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy unig-ane­dig fâb Jesu Grist a orchfygaist angau, ac a a­goraist i ni borth y bywyd tragywyddol: yn uf­udd yr attolygwn i ti, megis (drwy dy rad yspysol yn ein hachub) ydd wyt yn peri deiseifiadau da i'n meddy­liau, felly trwy dy ddyfal gymmorth allu o honom eu dwyn i ben da, trwy Jesu Grist ein Arglwydd, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glân byth yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Act. 10. 34. PEtr a agorodd ei enau, ac a ddywe­dodd, Yr wyf yn deall mewn gwiri­rionedd, nad ydyw Duw dderbyni­wr wyneb. Ond ym mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef ac yn gwei­thredu cyfiawnder sydd gymmera­dwy ganddo ef. Y gair yr hwn a an­fonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangneddyf trwy Jesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll. Chw­chwi a wyddoch y gair a fu yn holl Judaea, gan ddech­reu o Galilaea, wedi y bedydd a bregethodd Joan y modd yr eneiniodd Duw Jesu o Nazareth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wnenthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef. A nin­nau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngw­lad yr Jddewon, ac yn Jerusalem, yr hwn a ladda­sant, ac a groes-hoeliasant ar bren, Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg, nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei adgyfodi ef o feirw, Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai efe yw 'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw, yn farn­wr byw a meirw. I hwn y mae'r holl Brophwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef fa­ddeuant pechodau, drwy ei enw ef.

Yr Efenfyl. S. Luk. 24. 13. WEle, dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Em­maus, yr hon oedd ynghylch tru­gain stâd oddi wrth Jerusalem: ac yr oeddynt hŵy yn ymddiddan â'i gilydd, am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. Abu, fel yr oeddynt [Page] yn ymddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Jesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt. Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd, fel n'as adwaenent ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan ro­dio, ac yn wyneb-drist? Ac un o honynt a'i enw Cleo­phas, gan atteb a. ddywedodd wrtho, A wyt ti yn un­ig yn ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost, y pe­thau a wnaethpwyd ynddi hi, yn y dyddiau hyn? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Jesu o Na­zareth, yr hwn oedd ŵr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair, ger bron Duw a'r holl bobl. A'r modd y traddodes yr Arch-offeiriaid a'n llywodraeth­wŷr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croes-hoeliasant ef. Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredei'r Israel: ac heb law, hyn oll, heddyw yw 'r trydydd dydd, er pan wnaethpwyd y pethau hyn, A hefyd rhai gwragedd o honom ni, a'n dychry­nasant ni, gwedi iddynt fôd yn foreu wrth y bedd: a phan na chawsant ei gorph ef hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o Angelion, y rhai a ddywedent ei fôd efe yn fyŵ. A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni, a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasei y gwragedd; ond ef ni's gwel­sant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyr-frydig o galon, i gredu 'r holl bethau a ddywe­dodd y prophwydi. Ond oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn iwogoniant? A chan ddechreu ar Moses, a'r holl brophwydi, efe a esponi­odd iddynt yn yr holl Scrythyrau, y pethau am dano ei hun. Ac yr oeddynt yn nesau i'r dref lle yr oeddent yn myned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn my­ned ym-mhellach. A hwy a'i cymmellasant ef, gan ddywedyd, Aros gŷd a ni, canys y mae hi yn hwy­rhau a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gŷd â hwynt. A darfu, ac efe yn eistedd gŷd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i tor­rodd, ac a'i roddes iddynt. A'u llygaid hwynt, a a­gorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddifan­nodd [Page] allan o'i golwg hwynt. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosci ynom, tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni'r Scrythyrau? A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddych-welasant i Jeru­salem, ac a gawsant yr un ar ddêg wedi ymgasclu ynghŷd, a'r sawl oedd gŷd â hwynt, yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosoddi Simon. A hwythau a adroddasant y pethau a wnae­thesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef gand­dynt, wrth dorriad y bara.

Dydd mawrth Pasc.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy unig-ane­dig fâb Jesu Grist a orchfygaist angau, ac a a­goraist i ni borth y bywyd tragywyddol: yn uf­udd yr attolygwn i ti, megis (drwy dy rad yspysol yn ein hachub) ydd wyt yn peri deiseifiadau da i'n meddy­liau, felly trwy dy ddyfal gymmorth allu o honom eu dwyn i ben da, trwy Jesu Grist ein Arglwydd, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glân byth yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

Yn lle yr Epistol. Act. 13. 26. HA-wŷr frodyr, plant o genedl Abra­ham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon. Canys y rhai oedd yn presswylio yn Jerusalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, na lleferydd y Prophwydi, y rhai a ddarllennid bob Sabbaoth, gan ei farnu ef, a'u cy­flawnasant, Ac er na chawsant ynddo ddim achos [Page] angeu, hwy a ddymunasant ar Pilat ei ladd ef. Ac wedi iddynt gwpplau pôb peth a'r a scrifennasid am dano ef, hwy a'i descynnasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd. Eithr Duw a'i cyfododd ef odd­iwrth y meirw. Yr hwn a welwyd, dros ddyddiau la­wer, gan y rhai a ddaethei i fynu gyd ag ef o Galilaea i Jerusalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl. Ac yr ydym ni yn efangylu i chwi, yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyfiawni hwn i ni eu plant hwy, gan iddo ad-gyfoddi'r Jesu. Megis ac yr yscri­fennwyd yn yr ail Psalm, Fy mâb i ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais. Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywe­dodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddan Da­fydd. Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn psalm arall. Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth. Ca­nys Dafydd wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth. Eithr yr hwn a gyfodes Duw, ni welodd lygredigaeth. Am hynny, bydded hyspyys i chwi, Hawŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau. A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddiwrthynt. Gwiliwch gan hynny, na ddel arnoch y peth a ddywedpwyd yn y Prophwydi, Edrychwch, ô ddirmygwŷr a rhyfeddwch a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.

Yr Efengyl. S. Luk. 24. 36. YR Jesu a safodd ynghanol ei ddiscy­blion, ac a ddywedodd wrthynt, Tan­gneddyf i chwi. Hwythau wedi bra­wychu, ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham i'ch trallodir, a pha ham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai [Page] myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch, canys nid oes gan yspryd gnawd ac escyrn, fel y y gwelwch fôd gennifi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddango­sodd iddynt ei ddwylo a'i draed. Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd? A hwy a roesant iddo ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. Yntef a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gŵydd hwynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dym­ma 'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn et­to gŷd â chwi, bôd yn rhaid cyflawni pôb peth a scri­fenuwyd ynghyfraith Moses, a'r Prophwydi, a'r Psalmau, am danafi. Yna yr agorodd efe eu deall hw­ynt, fel y deallent yr scrythyrau. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr scrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: a phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef, ym-mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem. Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.

Y Sul cyntaf gwedi 'r Pasc.

Y Colect. HOll-alluog Dâd, yr hwn a roddaist dy un Mâb i farw dros ein pechodau, ac i gyfo­di drachefn dros ein cyfiawnhâd: Cani­adhâ i ni felly fwrw ym-maith sur-does drygioni ac anwiredd, fel y gallom yn wa­stad dy wasanaethu di ymhurdeb buchedd a gwiri­rionedd, trwy haeddedigaethau dy un Mâb Jesu Grist ein Harglwydd, Amen.

[Page] Yr Epistol. 1 S. Joan 5. 4. BEth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu 'r byd: a hon yw 'r or­uchafiaeth sydd yn gorchfygu, y bŷd, sef ein ffydd ni. Pwy yw 'r hwn sydd yn gorchfygu 'r bŷd onid yr hwn sydd yn credu mai Jesu yw Mâb Duw? Dymma yr hwn a ddaeth, trwy ddwfr a gwaed, fef Jesu Grist: nid trwy ddwfr yn unic, ond trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw 'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Yspryd sydd wirionedd Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nêf, y Tad y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn un ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed: a'r trihyn, yn un y maent yn cyttûno. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei dder­byn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei fâb, Yr hwn sydd yn credu ym Mâb Duw, sydd gan­ddo y dystiolaeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn credu i Dduw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fâb. A hon yw 'r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fy­wyd tragywyddol, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae y Mâb ganddo, y mae y bywyd gan­ddo: a'r hwn nid yw ganddo Fâb Duw, nid oes gan­ddo fywyd.

Yr Efengyl. S. Joan 20. 19. YNa, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwn­nw o'r wythnos, a'r drysau yn gae­ad, lle yr oedd y discyblion wedi ym­gasclu ynghyd, rhag ofn yr Jdde­won, daeth yr Jesu, ac a safodd yn y canol. ac ddywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi, Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo, a'i ystlys. Yna 'r discyblion a lawenychasant, pan wel­sant [Page] yr Arglwydd. Yna y dywedodd yr Jesu wrthynt drachefn, Tangneddyf i chwi, megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finneu yn eich danfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd glân. Pwy bynnac y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac a attalioch, hwy a attaliwyd.

Yr ail Sul yn ol y Pasc.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist dy un Mâb i ni yn aberth tros bechod, a hefyd yn esampl o fuchedd dduwiol, dyro i ni dy râs fel y gallom byth yn ddiolchgar dder­byn ei anhraethawl leshâd ef; a hefyd beunydd ymroi i ganlyn bendigedig lwybrau ei wir lanaf fuchedd ef trwy yr un Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 Pet. 2. 19. HYn sydd rasol, os yw neb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn trist­wch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glôd yw, os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich ammynedd? eithr os a chwi yn gw­neuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich ammynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw. Canys i hyn i'ch galwyd hefyd. oblegid Crist yntef a ddioddefodd trosom ni, gan adel i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef. Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau Yr hwn pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn, pan ddioddefodd ni fygythiodd eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn. Yr hwn ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y [Page] pren: fel gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddych megis defaid yn myned ar gyfeiliorn: eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at fugail ac Escob eich eneidiau.

Yr Efengyl. S. Joan 10. 11. CRist a ddywedodd, myfi yw 'r bugail da: y bugail da sydd yn rhoddi ei enio­es dros y defaid. Eithr y gwâs cyflôg a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y bla­idd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu sclyfio hwy, ac yn tarfu y defaid. Y mae'r gwâs cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. Myfi yw y bugail da ▪ ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadweinir gan yr ei­ddo fi. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen inneu y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy enioes dros y defaid. A defaid eraill sy gennif, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant, a bydd un gorlan, ac un bugail.

Y Trydydd Sul yn ol y Pasc.

Yr Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn dangos i bawb sy ar gyfeiliorn lewyrch dy wirio­nedd, er eu dwyn i ffordd cyfiawnder, Ca­niadhâ i bawb a dderbynier i gymdeithas crefydd Grist, allu o honynt ymogelyd y cy­fryw bethau ac y sydd wrth wyneb iw proffess a chan­lyn y sawl bethau oll ac a fyddo yn cydtuno â'r un­rhyw, trwy ein Harglwydd Jesu Grist. Amen.

[Page] Yr Epistol. 1 S. Petr. 2. 11. ANwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi, megis dieithriaid a phererinion, ym­gedwch oddi wrth chwantau cnaw­dol, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid: gan fod a'ch ymarweddiad yn honest ym-mysc y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwg-weithredwŷr, y gallont o herwydd eich gwei­thredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bôb dynol ordinhâd, o her wydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i'r brenin megis goruchaf: a'i i'r llywiawd-wŷr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwg­weithredwŷr, a mawl i'r gweithredwŷr da. Canys felly mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni, ostegu anwybodaeth dynion ffolion: megis yu rhyddion, ac nid a rhydd-did gennych megis cochl malais, eithr fel gwasanaeth-wŷr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. An­rhydeddwch y brenin.

Yr Efyngyl. S. Joan 16. 16. YR Jesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion, Ychydig ennyd, ac ni'm gw­elwch a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch, am fy môd yn myned at y Tâd. Am hynny y dy­wedodd rhai o'i ddiscyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwel­wch: a thrachefn, ychydig ennyd, a chwi a'm gwel­wch: ac, Am fy môd yn myned at y Tâd? Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd: ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. Yna y gwybu'r Jesu eu bôd hwy yn ewyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd wrthynt. Ai ymofyn yr ydych a'i gilydd am hyn oblegid i mi ddy­wedyd: Ychydig ennyd ac nim gwelwch, a thrachefn [Page] ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch, Yn wîr, yn wir meddaf i chwi, chwi a wylwch ac a alerwch, a'r bŷd a lawenychâ: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd Gwraig wrth escor sydd mewn tristwch am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plentyn, nid yw hi yn cofio ei gofid in wyach, gan lawenydd geni dŷn i'r bŷd. A chwithau am hyn­ny ydych yr awron mewn tristwch eithr mi a ymwe­laf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch lla­wenydd ni ddŵg nêb oddi arnoch.

Y pedwerydd Sul yn ol y Pasc.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn yn unig biau llywodraethu afreolus chwantau a gwy­niau dynion pechadurus, Caniadha i'th bohl, fod iddynt garu yr hyn yr wyt yn ei orchymyn, a deisyfu yr hyn yr wyt yn ei addo, fel ym mhlith amrafael ddam weiniau, y byd, allu o'n calonnau gwbl aros yn y lle y mae gwir la­wenydd iw gaffael, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. S. Jaco. 1. 17. POb rhoddiad daionus, a phôb rhodd berffaith, oddiuchod y mae yn discyn oddiwrth Dâd y goleuni, gyd â'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chy­scod troedigaeth. O'i wîr ewyllys yr ynillodd efe nyni, trwy air y gwi­rionedd, fel y byddem ryw flaen­ffrwyth o'i greaduriaid ef. O achos hyn, fy mrodyr anwyl, bydded pôb dŷn escud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint. Canys digofaint gwr, nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw. O herwydd pa ham, rho­ddwch [Page] heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

Yr Efengyl. S. Joan 16. 5 YR Jesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion, yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned? Eithr am i mi, ddywedyd y pethau hyn i chwi, trist­wch a lanwodd eich calon. Ond yr wyfi yn dywedyd gwirionedd i chwi, buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid â fi, ni ddaw y Diddanudd attoch: Eithr os mi â af mi a'i hanfo­naf ef attoch. A phan ddêl, efe a argyoedda y bŷd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn. O bechod, am nad ydynt yn credu ynofi: o gyfiawnder, am fy môd yn myned at fy Nhâd, ac ni'm gwelwch i mwy­ach: o farn, oblegid tywysog y bŷd hwn a farnwyd. Y mae gennif etto lawer o bethau iw dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. Ond pan ddêl efe, sef Yspryd y gwirionedd, ef a'ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara o honaw ei hun, ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe a'r pethau sy i ddyfod a fynega efe i chwi. Efe a'm gogonedda i canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi. Yr holl bethau sy eiddo'r Tâd ydynt eiddofi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddofi y cymmer, ac y myne­ga i chwi.

Pumed Sûl yn ol y Pasc.

Y Colect. ARglwydd, oddi-wrth ba un y daw pob dai­oni, caniadhâ i ni dy ufudd weision, allu o honom trwy dy sanctaidd ysprydoliaeth di, feddwl y pethau a fo union, a thrwy dy ymgeleddus dywysogaeth eu gwneuthur [Page] yn ddibennus, trwy ein Harglwydd Jesu Grist Amen.

Yr Epistol. S. Jaco. 1. 22 BYddwch wneuthur-wŷr y gair, ac nid gwrandawŷr yn unic, gan eich twyllo eich hwnain. Oblegid os yw neb yn wrandaŵr y gair, a heb fod yn wneuthur-ŵr, y mae hwn yn de­byg i ŵr yn edrych ei wynebpryd na­turiol mewn drych. Canys efe a'i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymmaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. Eithr yr hwn a ed­rych ar berffaith gyfraith rhydd-did, ac a barhao yn­ddi, hwn heb fôd yn wrandaŵr anghofus, ond gwneu­thur-ŵr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithr­ed. Os yw neb yn eich mysc yn cymmeryd arno fôd yn grefyddol, heb attal ei dafod, ond tŵyllo ei galon ei hun ofer yw crefydd hwn Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tâd, yw hyn, ymweled â'r ym­ddifaid, a'r gwragedd gweddwon, yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y bŷd.

Yr Efengyl. S. Joan 16. 23. YN wîr, yn wîr, meddaf i chwi, pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tâd yn fy enw; efe a'u rhydd i chwi. Hyd yn hyn ni ofynnasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch fel y byddo eich llawenydd yn gy­flawn. Y pethau hyn a leferais wr­thych mewn damhegion: eithr y mae yr awr yn dyfod pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwy­ach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tâd. Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i-chwi, y gweddiafi ar y Tâd trosoch: Ca­nys y Tâd ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. Mi a ddaethym allan oddi wrth y Tâd ac a [Page] ddaethym i'r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd ac yn myned at y Tâd. Ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddammeg. Yn awr y gwy­ddom y gwyddost bôb peth, ac nad rhaid it ymofyn o nêb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddiwrth Dduw. Yr Jesu a'u hattebodd hw­ynt, A ydych chwi yn awr yn credu? Wele, y mae yr awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwascerir chwi bôb un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unic: ac nid wyf yn unic, oblegid, y mae y Tâd gyd â myfi. Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dang­neddyf ynof. Yn y bŷd gorthrymder a gewch: eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y bŷd.

Dydd Jou y Dyrchafael.

Y-Collect. CAniadhâ ni attolygwn i ti Holl-alluog Dduw megis ac yr ŷm ni yn credu ddarfod i'th unig-anedic fab ein Harglwydd Jesu Grist dderchafel i'r nefoedd: felly bod i ninnau â meddyl-fryd ein calon allu ymddercha­fel yno, a chyd ag ef drigo yn wastadol, yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu gyda thi a'r Yspryd glân yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

Yn lle yr Epistol. Act. 1. 1. YTraethawd cyntaf a wnaethum, ô Lheophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Jesu eu gwneuthur a'u dyscu, hyd y dydd y derbyniwyd ef i fynu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân roddi gorchymmynion i'r Apo­stolion a etholasei. I'r rhai hefyd [Page] yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion sicr, gan fôd yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, a dywedyd y pethau a ber­thynent i deyrnas Dduw. Ac wedi ymgynnull gŷd â hwynt, efe a orchymynnodd iddynt nad ymadawent o Jerusalem eithr disgwil am addewid y Tâd, yr hwn, eb efe, a glywsoch gennyfi. Oblegid Joan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â'r Yspryd glân, cyn nemmawr o ddyddiau. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynnasant iddo, gan ddy­wedyd, Arglwydd, ai 'r pryd hyn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi ŵybod yr amseroedd, na'r prydi­au, y rhai a osodes y Tâd yn ei feddiant ei hun: eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Yspryd glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerusalem, ac yn holl Judaea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaiar. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt hwy yn edrych, efe a dderchafwyd i fynu: a chwmmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt: Ac fel yr oedd­ynt yn edrych yn ddyfal tu a'r nêf, ac efe yn myned i fynu, wele, dau ŵr a safodd ger llaw iddynt, mewn gwisc wen: y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilaea, pa ham y sefwch yn edrych tu a'r nef▪ yr Jesu hwn, yr hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrth­ych i'r nêf, a ddaw felly yn yr un modd ac y gwelsoch ef yn myned i'r nef.

Yr Efengyl. S. Mar. 10. 14. YR Jesu a ymddangosodd i'r un ar ddeg, a hwynt yn eistedd i fwytta, ac a ddannododd iddynt eu hanghredi­niaeth, a'u calon-galedwch; am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef we­di adgyfodi. Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Ewch i'r holl fŷd. a phregeth­wch yr Efengyl i bob creadur. Y neb a gredo, ac a fe­dyddier, a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gon­demnir. A'r ar wyddion hyn a ganlynant y rhai a [Page] gredant. Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid: ac â thafodau newyddion y llefarant: seirph a godant ymmaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed: ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach. Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheulaw Dduw. A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym-mbôb man, a'r Arglwydd yn cyd­weithio, ac yn cadarnhau 'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn.

Y Sul yn ol dydd y Dyrchafel.

Y Colect. ODduw, frenin y gogoniant, yr hwn a dderchefaist dy un Mâb Jesu Grist â mawr oruchafiaeth i'th deyrnas yn y nefoedd: Attolwg i ti na ad ni yn an-niddan, eithr danfon i ni dy Ys­pryd glân i'n diddanu, a dyrcha ni i'r un fan lle yr aeth ein Jachaw­dr Crist o'r blaen; yr hwn fydd yn byw, ac yn teyr­nasu gyda thi a'r yspryd glân yn un Duw heb drangc na gorphenn Amen.

Yr Epistol. 1 Pet. 4. 7. DIwedd pôb peth a nesaodd: am hyn­ny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddiaw. Eithr o flaen pob peth bydded gennych gariad helaeth tu ac at ei gilydd: canys cariad a gu­ddia liaws o bechodau Byddwch le­teugar y naill i'r llall, heb rwgnach. Pôb un megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch a'i gi­lydd fel daionus orchwylwŷr amryw râs Duw. Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw: os [Page] gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhôb peth y gogonedder Duw trwy Jesu Grist, i'r hwn y byddo yr gogoniant a'r gallu, yn oes oesoedd, Amen

Yr Efengyl. 1 S. Pet. 1. 4. PAn ddêl y Diddanudd, yr hwn a anfo­naf i chwi oddi wrth y Tâd, sef Ys­pryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tâd, efe a dy­stiolaetha am danafi. A chwithau hefyd a dystiolaethwch am eich bôd o'r dechreuad gyd a mi. Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r Synagogau: ac y mae 'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch llado, ei fôd yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw, A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi,

Y Sul-gwyn.

Y Colect. DUw, yr hwn ar gyfen i'r amser ymma addy­scaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy lân Yspryd: Caniadhâ i nyni trwy yr unrhyw Yspryd, ddeall yr iawn farn ym-mhob peth, a byth laweny­chu yn ei wynfydedic ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Jesu Grist ein Jachawdr, yr hwn sydd yn▪ byw, ac yn teyrnasu gyd â thi yu undeb yr un-rhyw Yspryd, yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Act. 2. 1. WEdi dyfod dydd y Pentecost, yr oedd­ynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle. Ac yn ddisymmwth y daeth sŵn o'r nêf, megis gwynt nerthol yn rhu­thro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddango­sodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd âr bôb un o honynt, A hwy oll a lanwyd â'r Ysprd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd. Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem, Jddewon, gwŷr bucheddol o bôb cenedl dan y nef. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws yn ghyd, ac a drallodwyd, o herwydd bôd pôb un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galilaeaid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bôb un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon i'n ganed ni? Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia a Judæa, a Chappadocia, Pontus, ac Asia: Phrygia, a Phamphilia: yr Aipht, a pharthau Libya, yr hon sydd ger llaw Cyrene: a dieithriaid o Rufein-wŷr, Jddewon a phroselytiaid, Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein iaith ni, fawrion weithredoedd Duw,

Yr Efengyl. S. Joan 14. 15. YR Jesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion, O cherwch fi, cedwch fyn gor­chymmynion. A mi a weddiaf ar y Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddidda­nudd arall, fel yr achoso gyd â chwi yn dragywyddol: Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod [Page] ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe. Nis gadawaf chwi yn ymddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi. Etto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy: eithr chwi a'm gwelwch, canys byw wyf fi a byw fyddwch chwi­thau hefyd. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy môd i yn fy Nhâd, a chwithau ynofi, a minneu ynoch chwi­thau, Yr hwn sydd a'm gorchymynion i ganddo ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i a'r hwn sydd yn fy ngharu i a gerir gan fy Nhad i: a min­neu ai caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo: Dywedodd Judas wrtho, nid yr Jscariot, Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd? Yr Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr yntef, a nyni a ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw▪ fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei▪ gly­wed, nid eiddofi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i. Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyd â chwi. Eithr y Diddanudd, yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddysc i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi. Yr wyf yn fadel i chwi dangnhe­ddyf, fy nhangnheddyf yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y bŷd yn rhoddi, yr wyfi yn rhoddi i chwi: na thralloder eich calon, ac nac ofned. Clywsoch fel y dy­wedais wrthych, Yr wyf yn myned ymmaith, ac mi a ddeuaf attoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy Nhad yn fwy nâ myfi. Ac yr awron y dywe­dais ichwi cyn ei ddyfod, fel pan ddel y credoch. Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys tywy­sog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nyd oes iddo ddim ynofi. Ond fel y gwypo 'r bŷd fy môd i yn caru y Tâd acmegis y gorchymynnodd y Tâd i mi, felly yr wyf yn wneuthur.

Dydd Llun yn wythnos y Sulgwyn.

Y Colect. DUw, yr hwn ar gyfen i'r amser ymma addy­scaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy lân Yspryd: Caniadhâ i nyni trwy yr unrhyw Yspryd, ddeall yr iawn farn ym-mhob peth, a byth laweny­chu yn ei wynfydedic ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Jesu Grist ein Jachawdr, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi yu undeb yr un-rhyw Yspryd, yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

Yn lle yr Epistol. Act. 10. 34. PEtr a agorodd ei enau, ac a ddywe­dodd, Yr wyf yn deall mewn gwiri­rionedd, nad ydyw Duw dderbyni­wr wyneb. Ond ym mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef ac yn gwei­thredu cyfiawnder sydd gymmera­dwy ganddo ef. Y gair yr hwn a au­fonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangneddyf trwy Jesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll. Chw­chwi a wyddoch y gair a fu yn holl Judaea, gan ddech­reu o Galilaea, wedi y bedydd a bregethodd Joan y modd yr eneiniodd Duw Jesu o Nazareth â'r Yspryd glân ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wnenthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef. A nin­nau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngw­lad yr Iddewon, ac yn Jerusalem, yr hwn a ladda­sant, ac a groes-hoeliasant ar bren, Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur [Page] yn amlwg, nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei adgyfodi ef o feirw, Ac efe a orthymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai efe yw 'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw, yn farn­wr byw a meirw. I hwn y mae'r holl Brophwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef fa­ddeuant pechodau, drwy ei enw ef. A Phetr etto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Yspryd glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. A'r rhai o'r enwaedi­ad a oeddynt yn credu, cynnifer ac a ddaethent gyd a Phetr, a synnasant, am dywallt dawn yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd. Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawry­gu Duw. Yna yr attebodd Petr, A all nêb luddias dwfr, fel na feddyddier y rhai hyn, y rhai a dderby­niasant yr Yspryd glâu, fei ninnau. Ac efe a orchy­mynodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd: yna y deisyfiasant arno aros tros ennyd o ddyddiau.

Yr Efengyl. S. Joan 16. 3 FElly y carodd Duw y byd, fel y rho­ddodd efe ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tra­gywyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fâb i'r byd, i ddamnio 'r bŷd, ond fel yr athubid y bŷd trwy­ddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef ni ddemnir, ei­thr yr hwn nid yw yn credu, addamniwyd eusys: o her­wydd na chredodd yn euw unig anedig Fâb Duw. A hon yw 'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r bŷd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy nâ 'r goleuni, canys yr oedd eu gweithreddoedd hwy yn ddrwg. O herwydd pôb un a'r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casâu y goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyoedder ei weithredoedd ef: Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i'r goleni fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.

Dydd Mawrth yn wythnos y Sulgwyn.

Y. Colect. DUw, yr hwn ar gyfen i'r amserymma addy­scaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy lân Yspryd: Caniadhâi nyni trwy yr unrhyw Yspryd, ddeall yr iawn farn ym-mhob peth, a byth laweny­chu yn ei wynfydedic ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Jesu Grist ein Jachawdr, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi yu undeb yr un-rhyw Yspryd, yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

Yn lle yr Epistol. Act. 8. 14. PAn glybuyr Apostolion yn Jerusalem, dder­byn o Samaria air Duw hwy a anfona­sant attynt Petr ac Joan. Y rhai wedi eu dyfod i wared, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Yspryd glân. Canys et­to nid oedd efe wedi syrthio ar nêb o honynt ond yr oe­ddynt yn unic wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Jesu. Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyiasant yr Yspryd glân.

Yr Efengyl. S. Joan 10. 1 YN wîr, yn wîr meddaf i chwi, yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy 'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ys­peiliwr yw. Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy 'r drws, bugail y defaid ydyw. I hwn y mae y dry­ssor [Page] yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo yr­ru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dieithr ni's canly­nant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieichriaid. Y ddammeg hon a ddywedoddyr Je­su wrthynt: ond hwy ni wybuant▪ pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. Am hynny yr Jesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid, Cynnifer oll ac a ddaethant o'm blaen i lladron ac yspeilwŷr ŷnt: eithr ni wrandawoddy defaid arnynt. Myfi yw y drws: os â neb i mewn drwofi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ledratta, ac i ladd, ac i ddestrywio myfi a ddaethym fel y caent fywyd ac y caent ef yn helaethach.

Sul y Drindod.

Y Colect. HOll-alluog a thragy wyddol Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy weision râd gan gyffessu ac addef y wîr ffydd, adnabod gogoniant y dragywyddol Drindod, ac yn nerth y du­wiol fawredd i addoli yr undod: Nyui a attolyg wni ti fod i ni trwy gadernid y ffydd hon, gael ein ham­ddeffyn oddi-wrth bob gwrthwyneb, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnasu, yn un Duw byth heb ddiwedd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Datc. 4. 1. YN ôl y pethau hyn yr edrychais, ac we­le ddrŵs wedi ei agoryd yn y nêf, a'r llais cyntaf a glywais oedd fel llais udcorn yn ymddiddan â mi; gan ddywedyd, Dring i fynu ymma, a mi ddangosaf i ti y pethau sy raid eu bôd ar ôl hyn. Ac yn y man yroedd­wn yn yr yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd-faingc we­di ei gosod yn y nef, ac un yn eistedd ar yr orsedd-faingc: A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen Jaspis a Sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg yr olwg arno i Smarag­dus. Ac ynghylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gor­sedd-faingc ar hugain: ac ar y gorsedd-feingciau y gwelais bedwar Henuriaid ar hugain yn eistedd, we­di [Page] eu gwisco mewn dillad gwynion: ac yr oedd gan­ddynt ar eu pennau goronau aur. Ac yr oedd yn dy­fod allan o'r orsedd-faingc, fellt, a tharanau, a lleisi­au: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosci ger bron yr orsedd-faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw. Ac o flaen yr orsedd-faingc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grystal: ac ynganol yr orsedd-faingc, ac ynghylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen, ac o'r tu ôl. A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r try­dydd anifail oedd ganddo wyneb fel dŷn, a'r pedwe­rydd anifail oedd debyg i eryr yn rhedeg. A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bôb un o honynt, chwech o adenydd o'u hamgylch, ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorphywys ddydd a nôs, gan ddywedydd, Sanct, Sanct, Sanct, Argl­wydd Dduw Holl-alluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddyfod. A phan fyddo yr anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhyddedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, y mae y pedwar Henuriaid ar hugain yn syrthio ger bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd­faingc, ac yn addoli yr hwn sydd yn byw yn oes oeso­edd: ac yn bwrw eu coronau ger bron yr orfedd-faingc, gan ddywedyd, Teilwng wyt o Arglwydd, i dderbyn gogoniant anrhydedd a gallu: canys ti a greaist bôb peth, ac o herwydd dy ewyllys di y maent, ac y cre­wyd hwynt.

Yr Efenfyl. S. Joan 3. 1. YR oedd dŷn o'r Pharisaeaid, a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon. Hwn a ddaeth at yr Jesu liw nôs, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a ŵyddom mai dyscawdr ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allei neb wneuthur y gwr­thiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bao fôd Duw gyd ag ef. Jesu a attebodd ac a ddywedodod wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddieithr geni dyn drache­chefn, [Page] ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hên? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni? Jesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd: a'r hyn a aned o'r Yspryd. sydd yspryd. Na ryfedda ddywedyd o hon­ofi wrthit, Y mae yn rhaid eich geni thwi drachefn. Y mae 'r gwynt yn chwythu lle y mynno: a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nat i ba le y mae yn myned? Felly y mae pôb un a'r a aned o'r Yspryd. Nicodemus a attebodd ac a ddy wedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fôd? Josu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddysca w­dr yn Israel. ac ni wyddost y pethau hyn? Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolae­thu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os dywedais i chwi bethau daiarol a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? Ac ni escynnodd nêb i'r nêf, oddieithr yr hwn a ddescynnodd o'r nêf, sef Mâb y dŷn, yr hwn sydd yn y nêf, Ac megis y derchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid derchafu Mâb y dŷn: fel na choller, pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol.

Y Sul cyntaf gwedi 'r Drindod.

Y Colect. DUw, yr hwn wyt wir nerth i bawb oll ac y sy yn ymddiried ynot, yn drugarog derbyn ein gweddiau: A chan na ddichon gwendid ein marwol anian wneuthur dim da hebot ti, Caniadhâ i ni gymmorth dy râd, fel y bo i ni gan [Page] gadw dy orchmynion, ryngu bodd i ti ar ewyllys a gweithred: trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 S. Joan 4. 7 ANwylyd, carwn ei gilydd: oblegid ca­riad o Dduw y mae: a phôb un ac sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw cariad yw. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tu ac attom ni, oblegid danfon o Dduw ei unic-anedig Fab i'r bŷd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyny mae cariad, nid am i ni garu Duw ond am iddo efe in caru ni. ac anfon ei Fab i fôd yn iawn dros ein pechodau. An­wylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnan hefyd a ddy­lem garu ei gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed: os ca­rwn ni ei gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. Wrth hyn y gwy­ddom ein bôd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Yspryd. A ninnau, a welsom, âc ydym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tâd ddanfon y Mâb, i fod yn Jachawdr i'r bŷd. Pwy bynnag a gyffesso fod Jesu yn Fâb Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntef yn Nuw. A nyni a adnabuom, ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tu ac attom ni. Duw cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntef. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddyd y farn: oblegid megis ac y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y bŷd hwn. Nid oes ofn mewn cariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth: a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. Os dywed nêb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn ni's gwelodd? A'r gorchym­myn [Page] hwn sydd gennym oddi wrtho ef, bod i'r hwn sydd yn caru Duw garu ti frawd hefyd.

Yr Efengyl. S. Luk. 16. 19. YR oedd rhyw wr goludog, ac a wiscid â phorphor a lliain main, ac yr oedd yn cymmeryd bŷd da yn helaeth-wych beunydd: Yr oedd hefyd ryw gardot­tyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fw­rid wrth ei borth ef yn gornwydlyd: ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiei oddi ar fwrdd y gwr cyfoethog, ond y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr Angelioni fynwes Abraham: a'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd Ac yn uffern, efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a La­zarus yn ei fynwes. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd. O dâd Abraham, trugarhâ wrthif, a danfon Laza­rus, i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy nha­fod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon. Ac Abra­ham a ddywedodd, Hâ fâb, coffa i ti dderbyn dy wyn­fyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd, ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir ditheu. Ac heb law hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd Agen-dorr mawr: fel na allo y rhai a fynnent, dramwy oddi yma attoch chwi, na'r rhai oddi yna, dramwy attom ni. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn attolwg i ti, gan hyn­ny, o dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy nhad: Canys y mae i mi bump o frodyr fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn, Abraham a ddwyedodd wrtho. Y mae ganddynt Moses a'r Prophwydi▪ gwrandawant arnynt hwy. Yntef a ddywedodd, Nag ê, y tâd Abraham; eithr os â un oddi wrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt. Yna Abraham a ddywedodd wrtho; Oui wranda­want ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith, pe codei un oddi wrthy meirw.

Yr ail Sul gwedi 'r Drindod.

Y Colect. OArglwydd, yr hwn ni phelli byth gynnor­thwyo a llywodraethu y rhai yr ydwyt yn eu meithrin yn dy ddilys ofn a'th gariad Cadw ni, ni attolygwn i ti, dan dy darr­bodus nodded, a phar i ni yn ddibaid oofni a charu dy Enw bendigedig, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 S. Joan 3. 13. NA ryfeddwch, fy mrydyr, os yw'r bŷd yn eith casâu chwi. Nyni a wyddom ddarfod ein symmud ni o farwolaeth i fywyd oblegid ein bôd yn caru y brodyr: yr hwn nid yw yn caru ei frawd. y mae yn aros ym marwo­laeth. Pôb un ac sydd yn casau ei frawd, lleiddiad dŷn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragywyddol yn aros ynddo. Yn hyn yr adnabnom gariad Duw, oblegid dodi o ho­naw ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddo­di ein heinioes tros y brodyr. Eithr yr hwn sydd gan­ddo dda 'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisieu, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn ar air, nâc ar dafod yn unic, eithr mewn gweithred a gwirionedd. At wrth hyn y gwyddom ein bôd o'r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef. Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw nâ'n calon, ac efe a wyr bôb peth. Anwy­lyd, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw: a pha beth bynnag a ofynnom yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegid ein bôd yn cadw ei orch­ymynion [Page] ef, ac yn gwneuthur y pethau sy yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. A hwn yw ei orchymmyn ef, gre­du o honom yn Enw ei Fâb ef Jesu Grist, a charu, ei gilydd, megis y rhoes efe orchymmyn inni. A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynddo yntef: ac wrth hyn y gwyddom ei fôd ef yn aros ynom, sef o'r Yspryd a roddes efe i ni.

Yr Efengyl. S. Luk. 14. 16. RHyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer: ac a ddanfo­nodd ei wâs brŷd swpper, i ddy we­dyd wrth y rhai a wahoddasid, Deu­wch, canys weithian y mae pôb peth yn barod. A hwy oll a ddechreua­sant yn un-fryd ymescusodi, Y cyn­taf a ddywedodd wrtho. Mi a bry­nais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol. Ac arall a ddy­wedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol. Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac am hynny ni's gallafi ddyfod. A'r gwâs hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ wedi digio, a ddywedodd wrth ei wâs, dôs allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas a dwg i mewn ymma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion. A'r gwâs a ddywedodd, Ar­glwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynnaist, ac etto y mae lle. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, Dos allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, a chymmell hw­ynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hyn­ny a wahoddwyd brofi o'm swpper i.

Y trydydd Sul gwedi 'r Drindod.

Yr Colect. ARglwydd ni attolygwn i ti yn drugarog ein gwrando, a megis y rhoddaist i ni feddyl­fryd calon i weddio, caniadhâ drwy dy fawr nerth i ni gael ein hamddiffyn a'n diddanu yni mhob perigl ac adfyd trwy Jesu Grist ein Harglwydd, Amen.

Yr Epistol. 1 S. Pet. 5. 5. BYddwch bawb yn ostyngedig iw gil­ydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â go­styngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ac yn rhoddi grâs i'r rhai gostyn­gedig, ymddarostyngwch gan hyn­ny tan alluog law Dduw, fel i'ch derchafo mewn amser cyfaddas: gan fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae efe yn gofalu tro­soch chwi. Byddwch sobr, gwiliwch: oblegid y mae eich gwrth-wynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd, gan wybod fôd yn cyflawni yr un blinderau yn eich brodyr, y rhai sydd yn y bŷd. A Duw pôb grâs, yr hwn a'ch galwodd chwi iw dragywyddol ogoniant trwy Grist Jesu, wedi i chwi ddioddef ychydig; a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhâo, a'ch cryfhao a'ch sefydlo, Iddo ef y byddo y gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.

[Page] Yr Efengyl. S. Luk. 15. 1 AC yr oedd yr holl Bublicanod a'r pe­chaduriaid yn nessau atto ef, i wran­do arno. A'r Pharisaeaid a'r Scrifen­nyddion a rwgnachasant, gan ddy­wedyd, Y mae hwn yn derbyn pecha­duriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt. Ac efe a adroddodd wrthynt y ddam­meg hon, gan ddywedyd, pa ddŷn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un o honynt, nid yw yn ga­del yr amyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn my­ned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dŷd hi▪ ar ei yscwyddau ei hun yn llawen. A phan ddêl adref, efe a eilw y nghŷd ei gifeillion a'i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyd â mi, canys cefais fy nafad a go­llasid Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd lla­wenydd yn y nêf am un pechadur a edifarhâo, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch. Neu pa wraig, a chan­ddi ddêg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni oleu gan­wyll, ac yscubo 'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis ca­ffo ef? Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghŷd ei chyfei­llesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhe­wch â mi, canys cefais y dryll a gollaswn. Felly, nu­ddaf i chwi, y mae llawenydd yngwydd Angelion Duw am un pechadur a edifarhâo.

Y pedwerydd Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Collect. O Dduw Nodd-wr pawb oll y sydd yn ym­ddiried ynot, heb pa un nid oes dim nerth­awg, na dim sanctaidd, chwanega ac aml­hâ arnom dy drugaredd fel y gallom (a thi [Page] yn llywiawdr ac yn dywysog, i ni) dreiddio drwy yr pethau bydol, modd na chollom yn llwyr y pethau tragywyddol: Caniadhâ hyn nefol Dâd, er mwyn Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rhuf. 8. 18. YR ydwyf yn cyfrif nad yw dioddefia­dau yr amser presennol hwn, yn hae­ddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatcuddir i ni. Canys awydd­fryd y creadur sydd yn disgwil am ddadcuddiad meibion Duw. Ca­nys y creadur sydd wedi ei ddarost­wng i oferedd, nid o'i fodd, eithr oblegit yr hwn a'i darostyngodd tan obaith: oblegid y rhyddheir y crea­dur ynteu hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i rydd­did gogoniant plant Duw, Canys ni a wyddom fod pôb creadur yn cyd-ocheneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn. Ac nid yn unic y creadur, ond ninnau he­fyd, y rhai sydd gennym flaen-ffrwyth yr Yspryd, yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwil y mabwysiad, sef prynedi­gaeth ein corph.

Yr Efengyl. S. Luk. 6. 36 BYddwch drugarogion, megis ac y mae eich Tâd yn drugarog, Ac na fern­wch ac ni'ch bernir: na chondemni­wch, ac ni'ch condemnir: maddeu­wch, a maddeuir i chwithau: rhodd­wch, a rhoddir i chwi: mesur da dwysedig, ac wedi ei yscwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ac y mesuroch, y mesurir i chwi dra­chefn. Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, A ddi­chon y dall dywyfo 'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? Nid yw 'r discybl uwch law ei athro: eithr pob un perfaith a fydd fel ei athro. A pha ham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, [Page] ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

Y pumed Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. CAniadhâ Arglwydd, ni a attolygwn i ti, fod chwyl i byd hwn, trwy dy reoledigaeth di gael ei drefnu mor dangneddyfol ag y gallo dy eglwys di dy wasanaethu yn lla­wen ym mhob duwiol heddwch, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 S. Pet. 3. 8 BYddwch oll yn unfryd, yn cyd-odd­ef a'i gilydd, yn carn fel brodyr, yn drugarogion, yn fwyniadd: nid yn talu drwg am ddrwg, neu senn am senn: eithr yngwrthwyneb yn bendithio: gan ŵybod mai i hyn i'ch galwyd, fel yr etifeddoch fêndith. Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddi­au da, attalied ei dafod oddiwrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll. Gocheled y drwg, a gwnaed y da: ceisied heddwch, a dilyned ef. Canys y mae lly­gaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tu ac at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Ar­glwydd yn erbyn y rhai sy yn gwneuthur drwg A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn [Page] sydd dda? Eithr o bydd i chwi hefyd ddiodef o her­wydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhar eu hofn hwynt, ac na'ch cynhyrfer, eithr san­cteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau.

Yr Efengyl. S. Luk. 5. 1. BU hefyd a'r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, yr oedd yntef yn sefyll yn ymyl llyn Genesareth; Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pyscod-wŷr a aethent all­an o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac efe a aeth i mewn i un o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymu­nodd, arno wthio ychydig oddi wrth y tir: ac efe a ei­steddodd, ac a ddyscodd y bobloedd allan o'r llong. A phan beidiodd â llefaru, ef a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. A Simon a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, O feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddaliasom ni ddim: etto ar dy air di, mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd. A hwy a am­neidiasant ar eu cyfeillion oedd yn y llong arall, i ddy­fod iw cynnorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar foddi, A Simon Petr pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau 'r Jesu, gan ddywedyd, Dôs ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pechadurus wyfi, o Arglwydd. Oblegid braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gyd ag ef, o herwydd yr helfa byscod a ddaliasent hwy: A'r un ffunud ar Jaco Joan hefyd, meibion Zebedæus, y rhai oedd gyfrannogion â Simon. A dy­wedodd yr Jesu wrth Simon. Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.

Y chweched Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. DUw, yr hwn a arlwyaist i'r rhai a'th ga­rant gyfryw bethau daionus ac y sydd uwch ben pob deall dŷn, tywallt i'n calon­nau gyfryw serch arnat, fel y byddo i ni gan dy garu uwch law pob dim, allu mw­ynhau dy addewidion, y rhai syfwy rhagorol nâ dim a fedrom ni ei ddeisyf: trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rhuf. 6. 3. ONi wyddoch chwi am gynnifer o ho­nom ac a fedyddiwyd i Grist Jesu, ein bedyddio ni i'w farwolaeth ef: Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ac y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gyd-blanhigion i gyffelybiaeth ei far­wolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei adgyfo­diad ef. Gan ŵybod hyn, ddarfod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod Canys y mae yr hwn a fu farw, wedi ei ryddhaû oddi wrth bechod. Ac os buom feirw gyd â Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn fyw hefyd gyd ag ef. Gan ŵybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach, nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain [Page] yn feirw i bechod, eithr yn fyw i Dduw, y n Grist Je­su ein Harglwydd.

Yr Efengyl. S. Mat. 5. 20 YR Jesu a ddywedodd wrrh ei ddiscy­blion, oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach nâ chyfiawnder yr Scri­fennyddion, a'r Pharisaeaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn. Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pôb un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, ô ynfyd, a fydd euog o dân uffern. Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gôf fôd gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dôs ymmaith: yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yno tyred, ac offrwn dy rodd. Cytuna a'th wrthwyneb-ŵr, ar frys, tra fyddych ar y ffordd gyd ag ef: rhag un am­ser i'th wrthwyneb-ŵr dy roddi di yn llaw 'r barn­ŵr, ac i'r barn-ŵr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yngharchar. Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddi yno hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

Y Seithfed Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. ARglwydd yr holl nerth a'r cadernid, yr hwn wyt Awdur a rhoddwr pob daioni, plan­na yn ein calonnau gariad dy Enw, ych­wanega ynom wir grefydd, Maetha ny­ni a phob daioni, ac o'th fawr drugaredd cadw ni yn yr un-rhyw, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. Rhuf. 6. 19. YN ôl dull dynol yr ydwyf yn dywe­dyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr­hon, rhoddwch eich aleodau yn wei­sion i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. Canys pan oeddych yn weision pechod, rhyddion oe­ddych oddiwrth gyfiawnder, Pa ffrwyth, gan hynny oedd i chwi y pryd hynny o'r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o'u plegid: canys diwedd y pe­thau hynny yw marwolaeth. Ac yr awr-hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sanctei­ddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol. Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd.

Yr Efengyl. S. Mar. 8. 1. YN y dyddiau hynny pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwytta, y galwodd yr Je­su ei ddiscyblion atto. ac a ddywe­dodd wrthynt, Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyd â mi ac md oes ganddynt ddim iw fwytta: ac os gollyn­gaf hwynt ymmaith ar eu cythlwng, i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaeth o bell, A'i ddiscyblion ef a'i hatteba­sant, O ba le y gall nêb ddigoni y rhai hyn â bara, ymma yn yr anialwch? Ac efe a ofynnodd iddynt. Pa sawl torth sydd gennwch? A hwy a ddyweda­sant, saith. Ac efe orchymynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr, ac a gymmerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddiscyblion, fel [Page] y gosodent hwynt ger eu bronnau: a gosodasant hw­ynt ger bron y bobl. Ac yr oedd ganddynt ychydig by­scod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddo­di y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briw-fwyd gweddill, saith fascedaid. A'r rhai a fwy­ttasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyn­godd hwynt ymmaith.

Yr viij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. O Dduw, yr hwn trwy dy ddiball ragluniaeth wyt yn llywodaethu pob peth yn y nef, a'r ddaiar yn ufudd ni a attolygwu i ti fwrw oddi-wrthym bob peth niweidiol, a rhoddi o honot i ni bob peth a fyddo da ar ein llês, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rhuf. 8. 12. Y Brodyr, dyled-wyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, mei­rw fyddŵch; eithr os ydych yn mar­weiddio gweithredoedd y corph trwy 'r Yspryd, byw fyddwch. Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw y rhai hyn sydd blant i Dduw. Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i beri ofn: eithr derbynia­soch yspryd mabwysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn lle­fain Abba Dâd. Ymae yr Yspryd hwn yn cyd-tystio­laethu â'n hyspryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd, sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ; os ydym yn cyd-ddioddef gyd ag ef, fel i'n cyd-ogonedder hefyd.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 7. 15 YMogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch y ngwisco­edd defaid, ond oddi-mewn bleiddi­aid rheipus ydynt hwy, Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gascl rhai rawn-win oddiar ddrain, neu ffigys oddiar yscall▪ Felly pôb pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg, ni ddi­chon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. Pôb pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr ac a deflir yn tân, O her­wydd pa ham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Nid pob un sydd yn dywedyd wrthif, Argl­wydd Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn y gwneuthur ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

Y ix. Sûl gwedi 'r. Drindod.

Y Colect. CAniadhâ i ni Arglwydd, attolwg i ti, yr Yspryd i feddwl ac i wneuthur byth y cy­fryw bethau ac a fo cyfiawn, fel y byddo i ni (y rhai ni allwn hebot wneuthur dim sy'dda) allu trwoti fyw yn ôl dy ewyllys, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 Cor. 10. 1 NI fynnwn i chwi fod heb ŵybod, frodyr, fod ein tadau oll tan y cwm­wl, a'u myned oll trwy y môr; a'n bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwm­wt, ac yn y môr; a bwyta o bawb o honynt yr un bwyd ysprydol, ac yfed o bawb o honynt yr yn un ddiod [Page] yspryddol: (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Grist.) Eithr ni bu Dduw fodlon i'r rhan fwyaf o honynt, canys cwym­pwyd hwynt yn y diffaethwch. A'r pethau hyn a wn­aed yn siamplau i ni, fel na chwenny chem ddrygioni, megis ac y chwennychasant hwy. Ac na fyddwch eu­lyn-addolwyr▪ megis rhai o honynt hwy, fel y mae yn scrifennedic, Eisteddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu. Ac na odinebwn, fel y godi­nebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn Grist, me­gis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywi­wyd gan seirph, Ac na rwgnechwch, megis y grw­gnachodd rhai a honynt hwy, ac a'i destry wiwyd gan y dinistrydd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edrych­ed na syrthio. Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, onid un dynol eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwch-law yr hyn a alloch, eithr a wna ynghŷd a'r temptasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddw­yn.

Yr Efengyl. S. Luk. 16. 1 YR Jesu a ddywedodd wrth ei ddis­cyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwiliwr, a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fôd efe megis yn afradloni ei dda ef. Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wr­tho; Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th oruchwiliaeth: canys ni elli fôd mwy yn oruchwiliwr A'r goruc­hwiliwr a ddywedodd ynddo ei hun. Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth oddi arnaf? cloddio ni's gallaf, a chardotta sydd gy­wilyddus gennif. Mi a wn beth a wnaf, fel pan i'm bwrier allan o'r oruchwiliaeth, y derbynion fi i'w tai. Ac wedi iddo alw atto bôb un o ddyled-wŷr ei argl­wydd, [Page] efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnati o ddyled i'm harglwydd? Ac efe ddywedodd▪ Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cym­mer dy scrifen, ac eistedd ar frys, ac a scrifenna ddeg a deugain. Yna y dywedodd wrth un arall. A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywe­dodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wr­tho, Cymmer dy scrifen ac scrifenna bedwar ugain▪ A'r Arglwydd a ganmolodd y goruchwiliwr anghy­fiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth, nâ phlant y goleuni. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gw­newch i chwi gyfeillion o'r Mammon anghyfiawn: fel pan fo eisieu arnoch i'ch derbyniont i'r tragwy­ddol bebyll.

Y x. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. BYdded dy drugarogion glustiau ô Arglwydd yn agored i weddiau dy ufudd weision, ac fel y bo iddynt gael eu gofynion, gwna idd­ynt erchi y cyfryw bethau ac a ryngo bodd i ti, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen

Y Epistol. 1 Cor. 12. 1 AM ysprydol ddoniau frodyr, ni fyn­nwn i chwi fôd heb ŵybod, Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddych, yn eich arwain ymmaith at yr eu­lynnod mudion, fel i'ch tywysid. Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Jesu yn escymmun beth, ac ni all neb ddy wedyd yr Arglwydd Jesu eithr trwy yr Yspryd [Page] glân. Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Yspryd. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr un Argl­wydd. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr un yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mha­wb. Eithr eglurhâd yr Yspryd a roddir i bob un er lles­hâd. Canys i un trwy yr Yspryd y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gwybodaeth, trwy yr un Yspryd: ac i arall ffydd, trwy yr un Yspryd: ac i arall ddawn i iachâu, trwy yr un Yspryd : ac i arall wneuthur gwyrthiau, ac i arall Brophwydoliaeth, ac i arall wahaniaeth ysprydoedd, ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau. A'r hôll be­thau hyn, y mae 'r un a'r un rhyw Yspryd yn eu gwei­thredu, gan rannu i bôb un o'r nailltu, megis y mae yn ewyllysio.

Yr Efenfyl. S. Luk. 19. 41. AC wedi iddo ddyfod yn agos, pan we­lodd efe y ddinas, efe a wylodd trosti gan ddywedyd. Pe gwybasit titheu îe yn dy ddydd hwn, y pethau a ber­thynent i'th heddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy ly­gaid. Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchacant o bôb parth: ac a'th wnânt yn gyd-wastad â'r llawr, a'th blannt o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; o herwydd nad ad­nabuost amser dy ymweliad. Ac efe a aeth i mewn i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oeddyn gwerthu ynddi, ac yn prynu: ganddywe dyd wrthynt, Y mae yn scrifennedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron. Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y Deml.

Yr xj. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Collect. DUw, yr hwn wyt yn egluro dy Holl-alluog nerth yn bennaf gan ddangos trugaredd a thosturi, yn drugarog dyro i ni y cyfryw fesur o'th Râs, fel y bo i ni gan redeg ar hyd ffordd dy orchymmynion, gyrhaeddyd dy radol addewidion, a chael ein gwneuthnr yn gy­frannogion o'th nefol dryssor, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 Cor. 15. 1 YR ydwyf yn yspysu i chwi, (frodyr) yr Efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll, trwy yr hon i'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich côf â pha ymadrodd yr efangy­lais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer: Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais; farw o Grist tros ein pechodau ni, yn ôl yr Scrythyrau, a'i gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Scrythyrau; a'i weled ef gan Cephas, yna gan y deuddec. Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy nâ phum-cant brodyr ar un­waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr a­wron; eithr rhai a hunasant, Wedi hynny y gwelwyd ef gan Jaco, yna gan yr holl Apostolion. Ac yn ddi­weddaf oll y gwelwyd ef gennif finneu hefyd megis gan un an-nhymmig. Canys myfi yw 'r lleiaf o'r A­postolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol am i mi erlid Eglwys Dduw, Eithr trwy râs Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i râs ef yr hwn a roddwyd i [Page] mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach nâ hwynt oll; ac nid myfi chwaith, ond grâs Duw yr hwn oedd gyd â mi. Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt hwy; felly yr ydym yn pregethu, ac fel­ly y credasoch chwi.

Yr Efengyl. S. Mat. 18. 9 CRist a ddywedodd y ddammeg hon he­fyd, wrth y rhai oedd yn hyderu arn­ynt eu hunain eu bôd yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill, Dau wr a aeth i fynu i'r Deml i weddio: un yn Pha­risæad, a'r llall yn Bublican. Y Pha­risæad o'i sefyll a weddiodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyfi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn an­ghyfiawn, yn odinebwŷr, neu fel y Publican hwn chwaith. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wyth-nos, yr wyf yn degymmu cymmaint oll ac a­feddaf. A'r Publican gan sefyll o hirbell, ni fynnai cymmaint a chodi ei olygon tu a'r nêf, eithr efe a gu­rodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw bydd deu­garog wrthif bechadur. Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared iw dŷ, wedi ei gyfiawnhau yn fwy na'r llall: canys pôb un ac sydd yn ei dderchafu ei hun, a ostyn­gir: a phôb un ac sydd yn ei ostwng ei hun, a dderche­fir.

Yr xij. Sul gwedi 'r Drindod.

Y Colect. HOll-alluog a thragywyddol Dduw▪ yr hwn yn wastad wyt barottach i wrando, nâ nyni i weddio, ac wyt arferol o roddi mwy nag a archom, neu a ryglyddom, tywallt arnom amlder dy drugaredd▪ gan [Page] faddeu i ni y cyfryw bethan ac y mae ein cydwybod yn eu hofni a rhoddi i ni y cyfryw ddaionus bethau, nad ym deilwng iw gofyn. ond trwy ryglyddon a chyfry­ngiad Jesu Grist dy Fab di, a'n Harglwydd ni. Amen.

Yr Epistol. 2 Cor. 3. 4. YCyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: nid o herwydd ein bôd yn ddigonol o honom ein hu­nain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw: yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymm­wys y Testament newydd, nid i'r llythyren ond i'r Yspryd. Canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr ys­pryd sydd yn bywhau Ac os bu gweinidogaeth angeu mewn llythyrennau wedi ei hargraphu ar gerrig, me­wn gogoniant fel na allei plant yr Israel edrych yn graff yn wyneb Moses, gan ogoniant ei wyneb pryd yr hwn ogoniant a ddile wyd, pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant? Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant?

Yr Efengyl. S. Mar. 7. 31 YR Jesu a aeth drachefn ymmaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a dda­eh hyd fôr Galilaea, trwy ganol ter­fynnau Decapolis. A hwy a ddy­gasant atto, un byddar ag attal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef, Ac we­di iddo ei gymmeryd ef or nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn eu glustiau ef, ac wedi iddo boeri, ef a gyffyrddodd ai dafod ef: a chan edrych tua 'r nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, ymagor, Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattod­wyd, [Page] ac efe a lefarodd yn eglur. Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond pa mwy af y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthnr i'r byddair gly­wed, ac i'r mudion ddywedyd,

Y xiij Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. HOll-alluog a thrugarog Dduw, o rodd pwy un yn unic y daw, dod i'th bobl ffyddlon dy wa­sanaethu yn gywir, ac yn foledic: Caniadhâ, ni a erfyniwn i ti, allu o honom felly dy wasanaethu di yn y bywyd hwn, fel na phallo gennym yn y di­wedd fwynhau dy nefol addewidion, trwy haeddedi­gaethau Jesu Grist ein Harglwydd▪ Amen.

Yr Epistol. Gal. 3. 16. IAbraham y gwnaethpwyd yr adde­widion, ac iw had ef. Nid yw yn dy­wedyd▪ Ac iw hadau, megis am la­wer▪ ond megis um un, Ac i'th hâd ti: yr hwn yw Crist. A hyn yr wyf yn ei ddywdedyd : am yr ammod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yn Ghrist, nad yw y Ddeddf oedd bedwar cant a dêc ar hugain o flynyddoedd wedi▪ yn ei ddirymmu, i wneu­thur yr addewid yn ofer. Canys os o'r Ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw hayach o'r addewid: ond Duw a'i rhad-roddodd i Abraham drwy addewid. Beth gan hynny yw'r Ddeddf? oblegid trosseddau y rhodd­wyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelei yr hâd, i'r hwn y gwnaethid yr addewid ; a hi a drefnwyd trwy An­gelion, yn llaw Cyfryngwr. A chyfryngwr, nid yw [Page] i un: ond Duw sydd un. A ydyw y Ddeddf gan hyn­ny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw: canys pe rhoesid Deddf a allasai fywhau, yn wir o'r Dde­ddf y buasei cyfiawnder. Eithr cyd-gaeodd yr Scry­thur bôb peth tan bechod, fel y rhoddid yr adde wid trwy ffydd Jesu Grist, i'r rhai sy yn credu.

Yr Efengyl. S. Luk. 10. 23. GWyn fŷd y llygaid sy yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd, weled y pethau yr yd­ych chwi yn▪ eu gweled, ac ni's gwel­sant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac ni's clywsant. Ac wele rhyw gyfreithwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragywy­ddol? Yntef a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd scri­fennedig yn y Gyfraith? pa fodd y darlllenni? Ac efe gan atteb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac a'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: â'th gymmydog fel di dy hun. Yntef a ddy­wedodd wrtho Ti a attebaist yn uniawn: gwna hyn a byw fyddi. Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Jesu, A phwy yw fy ngh­ymmydog? A'r Jesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddŷn oedd yn myned i wared o Jerusalem i Jericho ac a syrthiodd ym mysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc ef a'i archolli, a aethant ymmaith, gan ei adael yn hanner marw. Ac ar ddamwain, rhyw offeiriad a ddaeth i wared y ffordd honno, a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio. A'r un ffunyd Lefiad hefyd wedi dyfod i'r fan â'i weled ef, a aeth o'r tu arall hei­bio. Eithr rhyw Samariad wrth ymdaith, a ddaeth atto ef, a phan ei gwelodd▪ a dosturiodd: ac a aeth ai­to ac a rwymodd ei archollion ef gan dywallt ynddynt olew a gwin, ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r llettŷ, ac a'i ymgeleddodd. A thran­noeth [Page] wrth fyned ymmaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletteuwr, ac a ddywedodd wrtho, Cymmer ofal trosto: a pha beth bynnag a dreu­liech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn mi a'i talaf i ti. Pwy gan hynny o'r tri hyn yr ydwyt ti yn tybied ei fôd yn gymmydog i'r hwn a syrthiasai ym-mhlith y lladron? Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drigaredd ag ef. A'r Jesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dôs a gwna ditheu yr un modd.

Y xiv Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. HOll-alluog a thragywyddol Dduw, dyro i ni anghwaneg o ffydd, gobaith, a chariad perffaith ac fel y gallom gael yr hyn ydd wyt yn ei addo, gwna i ni garu yr hyn yr wyt yn ei orchymyn, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Gal. 5. 16. YR wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Yspryd, ac na chyflawnwch drach­want y cnawd. Canys y mae y cna­wd yn chwennychu yn erbyn yr Ys­pryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrth-wynebant ei gil­ydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. Ond os gan yr Yspryd i'ch ar­weinir, nid ydych tan y Ddeddf Hefyd, aiulwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw, tor-priodas, godi­neb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, fwyn­gyfaredd, casineb, cynhennau, gwŷnfydau, llid, ym­rysonau, ymbleidio. heresiau, cenfigennau. llofruddi­aeth, [Page] meddwdod, cyfeddach; a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr ŵyfi yn rhag-ddywedyd wrthych, megis ac y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw, Eithr ffrw­yth yr Yspryd, yw cariad, llawenydd, tangneddyf hir­ymaros cymmwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwyn­der, dirwest. Yn erbyn y cyfryw nid oes Ddeddf A'r rhai sydd yn eiddo Crist, a groes-hoeliasant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau.

Yr Efengyl. S. Luk. 17. 11. BU hefyd, ac efe yn myned i Jerusalem fyned o hono ef trwy ganol Sama­ria a Galilea. A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahan-gleifion, y rhai a safasant o hirbell, A hwy a godasant eu llêf, gan ddywedyd, Jesu feistr, trugarhâ wrthym. A phan welod efe hw­ynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu fel yr oeddynt yn my­ned, fe a'i glânhawyd hwynt. Ac un o honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan folian­nu Duw â llef uchel, Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo: a Samariad oedd efe. A'r Jesu gan atteb a ddywedodd, Oni lânhawyd y dêg? ond pa le y mae 'r naw? Ni chaed a ddych­welasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn, Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd.

Y Sul xv gwedi 'r Drindod.

Y Colect. CAdw attolygwn i ti Arglwydd, dy Egl­wys â'th dragywyddol drugaredd: a chan na ddichon gwendid dyn hebot ti onid syr­thio, cadw ni byth trwy dy borth oddiwrth pob peth niweidiol ac arwain ni at bob peth [Page] buddiol i'n hiechydwriaeth, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Epistol. Gal. 6. 11. GWelwch cyhyd y llythyr a scrifenn­ais attoch, â'm llaw fy hun, Cy­nnifer ac sy yn ewyllysio ymdeccâu yn y enawd, y rhai hyn sy yn eich cymmell i'ch enwaedu, yn unic fel nad erlidier hwy eblegid croes Crist. Canys nid yw y rhai a en­waedir, eu hunain yn cadw y Ddeddf: ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. Eithr na atto Duw i mi ymffro­stio, ond yn ghroes ein Harglwydd Jesu Grist drwy yr hwn y croes-hoeliwyd y bŷd i mi, a minneu i'r bŷd Canys yn Ghrist. Jesu ni ddichon Enwaediad ddym, na di-enwaediad, ond creadur newydd. A Chynnifer ac a rodiant yn ôl y rheol hon, tangneddyf arnynt a thrugaredd, ac ar Jsrael Duw, O hyn allan, na fli­ned neb fi: canys dwyn yr ŵyfi yn fy nghorph nodau 'r Arglwydd Jesu. Grâs ein Harglwydd Jesu Grist a fyddo gyd â'ch yspryd chwi, frodyr. Amen.

Yr Efengyl. S. Mat. 6. 24 NI ddichon neb wasanaethu dau argl wydd, canys naill ai efe a gasa y naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esceulusa 'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon. Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph pa beth a wiscoch. Onid yw 'r bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corph yn fwy nâ'r dillad? Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i yscuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwy: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? A phwy o honoch gan ofalu a [Page] ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad▪ ystyriwch lili 'r maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt nac yn llafurio, nac yn nyddu; eithr yr wyf yn dywedyd i chwi▪ na wiscwyd Solomon yn ei holl ogoniant, fel un o'r rhai hyn. Am hynny os dillada Duw felly ly­sieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i'r ffwrn: oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, ôchwi o ychydig ffydd? Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn, neu beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn? (Canys yr holl bethau hyn y mae y cenhedloedd yn eu ceisio) oblegid gwyr eich Tâd nefol fôd arnoch eisieu yr holl bethau hyn Eithr yn gyntaf ceisiwch deyruas Dduw, a'i gyfi­awnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ych­waneg. Na ofelweh gan hynny tros drannoeth: ca­nys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun, digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun,

Yr xvj. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. ARglwydd attolygwn i ti, fod i'th wastadol dosturi lanhaû ac amddiffyn dy Eglwys a chan na all hi barhaû mewn diogelwch heb dy fendigedic nodded, cadw hi byth gan dy borth a'th ddaioni, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Ephes. 3. 13 YR ŵyf yn dymuno na lwfrhâoch ob­legid fy mlinderau i trosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. O herwydd hyn yr ŵyf yn plygu fy ngliniau at Dâd ein Harglwydd Jesu Grist, o'r hwu yr henwir yr holl deulu yn y ne­foedd, ac ar y ddaiar: ar roddi o ho­naw [Page] ef i chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fôd wedi ym­gadarnhaû mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dŷn oddi mewn: ar fod Crist yn trigo trwy, ffydd yn eich calonnau chwi; fel y galloch wedi eich gwreiddio, a'ch seilio mewn cariad, ymgyffred gyd â'r holl Sainct, beth yw 'r llêd, a'r hŷd, a'r dyfnder a'r uchder: a gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwch-law gŵy­bodaeth: fel i'ch cyflawner â holl gyfiawnder Duw. Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra-rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynoni ni, iddo ef y byddo y gogoniant yn yr Eglwys trwy Grist Jesu, tros yr holl genhedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

Yr Efengyl. S. Luk. 7. 11. ABu drannoeth▪ iddo ef fyned i ddinas a elwid Naim: a chyd ag ef yr aeth llawer o'i ddiscyblion, a thyrfa fawr. A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele un marw a ddygid allan yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi. A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddy­wedodd wrthi, Nac ŵyla. A phan ddaeth at tynt, ef a gyffyrddodd â'r elor: (a'r rhai oedd yn ei dwyn a sa­fasant) ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt cyfod. A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru; ac efe a'i rhoddes i'w fam. Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogone­ddasant Dduw, gan ddywedyd, prophwyd mawr a gy­fododd yn ein plith: ac ymwelodd Duw â'i bobl. A'r gair hwn a aeth allan am dano drwy holl Judaea, a thrwy gwbl o'r wlâd oddi amgylch.

Y xvij Sul gwedi 'r Drindod▪

Yr Colect. ARglwydd ni attolygn i ti fod dy râd bob amser yn ein rhagflaenu, ac yn ein di­lyn; a pheri o honot i ni yn wastad ym­roddi i bob gweithredd dda, trwy Jesu Grist ein Harglwydd▪ Amen.

Yr Epistol. Ephes. 4. 1. DEisyf gan hynny arnoch yr wyfi y carcharor yn yr Arglŵydd, ar rodio o honoch yn addas i'r alwedigaeth i'ch galwyd iddi: gyd â phob gostyn­geiddrwydd ac addfwynder, ynghŷd â hir-ymaros, gan oddef ei gilydd mewn cariad: gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Yspryd, ynghwlwm tangneddyf. Un corph sydd, ac un Yspryd, megis ac ich galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth. Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd: Un Duw a Thâd oll, yr hwn sydd go­ruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.

Yr Efengyl. Luk. 14. 1. BU hefyd, pan ddaeth ef i dŷ un o ben­naethiaid y Pharisaeaid ar y Sab­bath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wilied ef. Ac wele, 'r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o'r dropst. A'r Jesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreith-ŵŷr, a'r Pharisaeaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbath? A the­wi a wnaethant. Ac efe a'i cymmerodd atto, ac a'i [Page] iachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymmaith: ac a atte­bodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Assyn neu ŷch pa un o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd ni's tynn ef allan ar y dydd Sabbath? Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn. Ac efe a ddywe­dodd wrth y gwahoddedigion, ddammeg, pan ystyri­odd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd uchaf: gan ddywedyd wrthynt, Pan i'th wahodder gan neb i nei­thior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhy­deddusach nâ thi, wedi ei wahodd ganddo: ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntef, ddyfod a dywedyd wrthit, Dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot ti trwy gywi­lydd gymmeryd y lle isaf. Eithr pan i'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf, fel pan ddelo, 'r hwn a'th wahoddod di, y gallo efe ddywedyd wrthit, Y cy­faill, eistedd yn uwch i fynu: yna y bydd i ti glod yng­ŵydd y rhai a eisteddant gŷd â thi ar y bwrdd. Canys pôb un a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

Y xviij Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. O Arglwydd, ni a attolygwn i ti ganiadhau i'th bobl râd i wrthladd profedigaethau y byd, y cnawd a'r cythrael, ac â phur ga­lon a meddwl i'th ddilyn di yr unic Dduw trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 1 Cor. 1. 4. YR ydwyf yn diolch i'm Duw bob am­ser drosoch chwi, am y grâs Duw a rodded i chwi yn Ghrist Jesu: am eich bôd ymmhôb peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pôb ym­adrodd a phob gwybodaeth: megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist [Page] ynoch. Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn dis­gwil am ddatcuddiad ein Harglwydd Jesu Grist: yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, yn ddi­argyoedd, yn nŷdd ein Harglwydd Jesu Grist.

Yr Efengyl. S. Mat. 22. 34. GUedi clywed o'r Pharisæaid ddarfod i'r Je­su ostegu y Saducæaid, hwy a ymgynnu­llasant ynghyd i'r un lle. Ac un o honynt yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo gan i demtio, a dywedyd, Athro pa un yw 'r gorchymyn mawr yn y Gyfraith? A'r Jesu a ddy­wedodd wrtho. Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl. Hwn yw 'r cyntaf, a'r gorchymmyn mawr. A'r ail sydd gyffelyb iddo, Câr dy gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymmyn hyn, y mae 'r holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll. Ac wedi ymgasclu o'r Pharisæ­aid ynghyd yr Jesu a ofynnodd iddynt gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedent wrtho, Mâb Dafydd. Dywedai yntef wr­thynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd. Eistedd ar fy ne­heu-law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed ti? Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo? Ac ni allodd neb atteb gair iddo: âc ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

Y xix. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. O Dduw, can na allwn ni hebot ti ryngu bodd i ti o'th drugaredd caniadhâ fod i'th lân Yspryd ymhob peth unioni a llywiaw ein calonnau, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. Ephes. 4. 17 HYn gan hynny yr wyf yn ei ddywe­dyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Ar­glwydd, na rodioch chwi mwyach, fel y mae y Cenhedloedd eraill yn rhodio yn oferedd eu meddwl: wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithro oddi wrth fuchedd Dduw, drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt trwy ddallineb eu calon: y rhai wedi di-ddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pôb aflendid yn un-chawant. Eithr chwy­chwi nid felly y dyscasoch Grist: os bu i chwi ei gly­wed ef, ac os dyscwyd chwi ynddo, megis y mae 'r gwirionedd yn yr Jesu: dodi o honoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf yr hên ddŷn, yr hwn sydd lygre­dig yn ôl y chwantau twyllodrus: ac ymadnewyddu yn Yspryd eich meddwl, a gwisco y dŷn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. O herwydd pa ham, gan fwrw ym­maith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymmydog: oblegid aelodau ydym iw gilydd: Digi­wch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: Ac na roddwch le i ddiafol, Yr hwn a ledratâodd, na ledratted mwyach, eithr yn hytrach cymmered boen, gan weithio â'i ddwyllo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu i'r hwn y mae angen arno. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi: ond y cyfryw un ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro râs i'r gwrandawŷr. Ac na thristewch lân Yspryd Duw, trwy 'r hwn i'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Tynner ymmaith oddi wrthych bôb chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyd â phôb drygioni, A byddwch gymmwy­nasgar iw gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i'w gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Christ î chwithau.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 9. 1. YR Jesu a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth iw ddinas ei hun, Ac wele, hwy a ddygasant atto ŵr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Jesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys Ha fâb, cymmer gy­ssur, maddeuwyd i ti dy bechodau, Ac wele, rhai o'r Scrifennyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, y mae. hwn yn cablu. A phan welodd yr Jesu eu medd­yliau efe a ddywedodd, Pa ham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? Canys pa un hawsaf, ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, cyfod a rho­dia? Eithr fel y gwypoch fôd awdurdod gan fâb y dŷn ar y ddaiar i faddeu pechodau (yna y dywedodd ef wrth y claf o'r parlys, cyfod, cymmer dy wely i fynu, a dôs i'th dy. Ac efe a gyfodes, ag a aeth ymmaith i'w dŷ ti hun. A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaeth­ant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesei gyfryw aw­durdod i ddynion.

Yr xx. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. HOll-gyfoethog a thrugarog Dduw, o'th ra­gorol ddaioni cadw ni, ni attolygwn i ti, rhag pob peth a'n dryga, fel y byddom yn barod yn enaid a chorph i allu â chalonnau rhyddion gyflawni y cyfryw bethau ac a fynnit ti eu gwneuthur, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. Ephes. 5. 15. GWelwch gan hynny, pa fodd y rho dioch yn ddiesceulus: nid fel annoe­thion, ond fel doethion; gan brynu 'r amser, oblegid y dyddiau sy ddrwg. Am hynny na fyddwch an­noethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na fedd­wer chwi gan win yn yr hyn y mae gormodedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd: gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau, ac odlau ysprydol: gan ganu a phyngcio yn eich calon i'r Arglwydd: gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tâd, am bôb peth, yn enw ein Harglwydd Jesu Grist: gan ymddarrost­wng iw gilydd yn ofn Duw.

Yr Efengyl. S. Mat. 22. 2 YR Jesu a ddywedodd wrth ei ddiscyb­lion, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeih briodas i'w fâb ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r briodas, ac ni fynnent hwy ddyfod. lrachefu efe anfonodd weision eraill, gan ddywe­dyd. Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio, fy ychen a'm pascedigion a ladd­wyd, a phôb peth sydd barod, deuwch i'r briodas. A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, un i'w faes, ac arall iw fasnach. A'r llaill a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hammharchasant, ac a'u lladda­sant. A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddan­fonodd eu luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt. Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. Ewch gan hynny i'r prifffyrdd, a chynnifer ac a gaffoch, gwa­hoddwch i'r briodas. A'r gweisiou hynny a aethant [Page] allan i'r prif-ffyrdd, ac a gasclasant ynghŷd gynnifer oll ac a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion. A phan ddaeth y brenin i mewn i we­led y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddŷn heb wisc priodas am dano. Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cy­faill pa fodd y daethost i mewn ymma, heb fod gennit wisc priodas Ac yntef a aeth yn fud. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a ddwylo, a chŷmmerwch ef ymmaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. Canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

Yr xxj. Sul gwedi'r Drindod.

Y Colect. O Drugarog Arglwydd, ni attolygwn i ti ganiadhau i'th ffyddlawn bobl faddeuant a thangneddyf, fel y glanhaer hwynt oddi­wrth eu holl bechodau, ac y gwasanae­thont ti â meddwl heddychol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Ephes. 6. 10 FY mrodyr, ymnerthwch yn yr Argl­wydd, ac y nghadernid ei allu ef: Gwiscwch oll arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn aw­durdodan, yn erbyn bydol-lywiawdwyr tywyllwch y bŷd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion leoedd Am hynny cymmerwch attoch holl-arfogaeth Duw, fel y galloch wrth-sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gor­phen [Page] pôb peth, sefyll. Sefwch gan hynny wedi a mgy­lch-wregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisco dwy­fronneg cyfiawnder: a gwisco am eich traed escidiau paratôad Efengyl tangneddyf. Uwch law pôb dim, wedi commeryd tarian y ffydd, â'r hwn y▪ gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall, Cymmerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw: gan weddio bôb amser, â phôb rhyw weddi a deisyfiad yn yr yspryd, a bôd yn wilia­durus at hyn ymma trwy bôb dyfal bara, a deisyfiad tros yr holl Sainct: a throsof finneu, fel y rhodder i mi ymadrodd drwy agoryd fy ngenau yn hŷ, i yspysit dirgelwch yr Efengyl: tros yr hon yr ŵyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hŷ am dani fel y per­thyn i mi draethu.

Yr Efenfyl. S. Joan 4. 46. YR oedd rhyw bendefig yr hwn yr oedd ei fab yn glâf yn Capêrnaum. Pan glybu hwn ddyfod o'r Jesu o Judaea i Galilaea, efe a aeth atto ef, ac a at­tolygodd iddo ddyfod i wared, ac ia­chau ei fab ef: canys yr oedd efe ym­mron marw. Yna Jesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddo­dau, ni chredwch. Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwyd, tyred i wared cyn marw fy machgen. Jesu a ddywedodd wrtho ef, Dôs ymmaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddyweda­sei Jesu wrtho, ac efe a aeth ymmaith. Ac fel yr oedd efe yr awron yn yn myned i wared ei weision a gyfar­fuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw. Yna efe a ofynnodd iddynt or awr y gwellhasei arno, A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr y gadawodd y crŷd ef. Yna y gwybu'r Tâd mai yr awr honno oedd, yn yr hon y dywe­dasei Jesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ. Yr ail arwydd ymma drachefn a wnaeth yr Jesu, wedi dyfod o Judaea i Galilaea.

Yr xxij. Sûl gwedi'r Drindod.

Y Collect. ARglwydd, ni attolygwn i ti, gadw dy deu­lu, yr Eglwys mewn duwiolder gwasta­dol, fel y bo trwy dy nodded ti, iddi gael ei gwaredu oddi-wrth bob gwrthwyneb, ac yn ddefosionol yniroi i'th wasanaethu di mewn gweithredoedd da, er gogoniant i'th Enw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Phil. 1. 3. I'M Duw yr ydwyf yu diolch, ym­mhôb coffa am danoch, bôb amser ym-mhôb deisyfiad o'r eiddof trosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyd â llawenydd: oblegid eich cym­deithas chwi yn yr Efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon gan fôd yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Jesu Grist: megis y mae yn iawu i mi synied hyn am danoch oll, am eich bôd gennif yn fy nghalon, yn gymmaint a'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddi­ffyn. a chadarnhâd yr Efengyl, yn gyfrannogion â mi o râs. Canys Duw sydd dŷst i mi, mor hiraethus ŵyf am danoch oll yn ymyscaroedd Jesu Grist. A hyn yr ŵyf yn ei weddio, ar amlhau o'ch cariad chwi etto fwy-fwy, mewn gwybodaeth, a phôb synwyr: fel y profoch y pethau sy a gwahaniaeth rhyngddynt: fel y byddoch bur a di-dramgwydd hyd ddydd Crist: wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Jesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 18. 21. PEtr a ddywedodd wrth yr Jesu, Ar­glwydd pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seith-waith? Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthit, hyd seith-waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain seith-waith. Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin, a fynnei gael cyfrif, gan ei weision. A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddugpwyd atto un a oe­dd yn ei ddyled ef o ddeng-mil o dalentau. A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynnodd ei Argl­wydd ei werthu ef, a'i wraig a'i blant, a chwbl a'r a feddei, a thalu'r ddylêd. A'r gwas a syrthiodd i la­wr, ac a'i haddolodd ef gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll Ac Arglwydd y gwâs hwnnw a dosturiodd wrtho; ac a'i gollyngoddd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd. Ac wedi my­ned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gyd­weision, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywe­dyd, Tal i mi yr hyn sydd ddyledus arnat. Yna y syr­thiodd ei gyd-wâs wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. Ac ni's gwnai efe: ond myned, a'i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalei yr hyn oedd ddy­ledus. A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnel­sid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fua­sei. Yna ei Arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywe­dodd wrtho, Ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddy­led honno, am i ti ymbil â mi: ac oni ddylesit titheu drugarhau wrth dy gyd-wâs, megis y trugarhêais inneu wrthit ti? A'i Arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddes ef i'r poen-wŷr, hyd oni thalei yr hyn oll oedd ddyledus iddo. Ac felly y gwna fy Nhâd nefol i chwi­thau, oni faddeuwch o'ch calonnau bôb un i'w frawd eu camweddau.

Y xxiij. Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. DUw ein nodded a'n cadernid, yr hwn wyt awdur pob dwywolder, gwrando yn ebr­wydd ni attolygwn i ti ddefosionol we­ddiau dy Eglwys; a chaniadhâ i ni am yr hyn ydd ŷm yn ei erchi yn ffyddlawn, allu o honom eu cael yn gyflawn, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

Yr Epistol. Phil. 3. 17. BYddwch gyd-ddilynwŷr i mi frodyr, ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi (Canys y mae llawer yn rho­dio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd, tan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt: diwedd y rhai yw destryw; duwy rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd: y rhai sydd yn synied pethau daiarol. Canys ein hymarwedd­iad ni sydd yn y nefoedd, o'r lle hefyd yr ydym yn dis­gwyl yr Jachawdwr, yr Arglwydd Jesu Grist: yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler ef yn un ffurf a'i gorph gogoneddus ef. yn ôl y nerthol weithrediad, trwy 'r hwn y dichon efe, ie ddarostwng pob peth iddo eihun.

Yr Efengyl. S. Mat. 22. 15. YNa 'r aeth y Pharisaeaid ac a gym­erasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. A hwy a ddanfo­nasant atto eu discyblion ynghŷd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fôd yn eir­wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn [Page] gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyti yn edrych ar wyneb dynion. Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied? ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Caesar, ai nid yw? Ond yr Jesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Pa ham yr yd­ych yn fy nhemytio i, chwi ragrithwŷr? Dangoswch i mi arian y deyrn-ged. A hwy a ddygasant atto gei­niog. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph? Dywedasant wrtho, Eiddo Caesar, Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Caesar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adel ef a myned ymmaith.

Y xxiiij Sûl gwedi 'r Drindod.

Y Colect. ARglwydd, attolygwn i ti ollwng dy bobl oddiwrth eu camweddau, fel y byddom trwy dy ddawnus drugaredd ryddion oddi­wrth rwymedigaethau ein holl bechodau, y rhai drwy ein cnawdol freuolder a wnae­thom: Caniadhâ hyn er cariad a'r Jesu Grist ein Har­glwydd bendigedig, a'n iachawdr. Amen.

Yr Epistol. Colos. 1. 3. YR ydym yn diolch i Dduw a Thâd ein Arglwydd Jesu Grist gan we­ddio trosoch chwi yn wastadol: er pan glywsom am eich ffydd yn Ghrist Jesu, ac am y cariad fydd gennych tu ac at yr holl Sainct; er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen y ngair gwirioedd yr Efengyl, yr hon sydd wedi dyfod attoch [Page] chwi, megis ac y mae yn yr holl fŷd: ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ac yn eichplith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch râs Duw mewn gwiri­onedd. Megis ac y dyscasoch gan Epaphras ein han­wyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist: yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd O her wydd hyn, ninnau he­fyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gwe­ddio trosoch, a deisyf, eich cyflawni chwi â gwybod­aeth ei ewyllys ef, ym mhôb doethineb a deall yspryd­ol: fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd, i bôb rhyn­gu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhôb gweithred dda, a chynnyddu yngwybodaeth am Dduw: wedi eich nerthu a phob nerth, yn ôl ei gadernid gogone­ddus ef, i bôb dioddefgarwch a hir-ymaros, gyd â llawenydd: gan ddiolch i'r Tâd, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y Sanct yn y goleuni.

Yr Efengyl. S. Mat. 9. 18. TRa oedd yr Jesu yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw benna­eth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywe­dyd, Bu farw fy merch yr awr hon: eithr tyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi. A'r Jesu a godes, ac a'i canlynodd ef, a'i ddiscyblion. (Ac wele, gwraig y buasei gwaed-lif arni ddeuddeng mhly­nedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef. Canys hi a ddywedasei ynddi ei hun, Os câf yn unig gyffwrdd â'i wisc ef, iach fyddaf. Yna 'r Jesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, efe a ddywe­dodd. Ha ferch bydd gyssurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.) A phan ddaeth yr Jesu i dŷ 'r pennaeth, a gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu, Efe a ddywedodd wrthynt, Cili­wch: canys ni bu farw 'r llangces, ond cyscu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi: a'r llangces a gyfodes. A'r gair o hyn a aeth tros yr holl wlâd honno.

Y xxv Sul gwedi 'r Drindod.

Yr Colect. DEffro Arglwydd ni a attolygwn i ti, ewyllyssi­on dy ffyddloniaid, fel y gallont drwy ddwyn aml ffrwyth gweithredoedd da, gael gennyt ti yn ehelaeth eu gobrwyo, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Jer. 23. 5. WEle y dyddiau yn dyfod, medd yr Ar­glwydd, y cyfodaf i Ddafydd flagur­yn cyflawn, a brenin a deyrnasa, ac a lwydda, ac a wna farn, a chyfia­wnder ar y ddaiar. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Juda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef. YR ARGLWYDD, ein cyfiawnder. Am hynny wele y dyddian yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw'r Arglwydd yr hwn a ddûg feibion Israel i fynu o wlâd yr Aipht: eithr, Byw yw'r Arglwydd, yr hwn a ddûg i fynu ac a dywysodd hâd tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bôb gwlad lle y gyrraswn i hwynt: a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun.

Yr Efengyl. S. Joan 6. 5 YNa 'r Jesu a dderchafodd ei lygaid, ac a welodd fôd tyrfa fawr yn dyfod atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y ca­ffo y rhai hyn fwytta? (A hyn a ddywedodd efe i'w brofi ef: canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedr ei [Page] wneuthur.) Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb un o honynt gymmeryd ychydig. Un o'i ddiscybli­on a ddywedodd wrtho, Andreas brawd Simon Pe­tr, Y mae ymma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rh­wng cynnifer? A'r Jesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oed glaswellt lawer yn y fan hono, Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghy­lch pum mil o nifer. A'r Jesu a gymmerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r discyblion, a'r discyblion i'r rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pyscod, cymmaint ac a fynnasant. Ac wedi eu digo­ni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Cescl­wch y briw-fwyd gwedill, fel na choller dim. Am hynny hwy a'i casclasant, ac a lanwasant ddeuddeg bascedaid o'r briw-fwyd, o'r pum torth haidd, a weddi­llasei gan y rhai a fwyttasent. Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethei 'r Jesu a ddyweda­sant; Hwn yn ddian yw y Prophwyd oedd ar ddyfod i'r byd.

¶ O bydd ychwaneg o Suliau o flaen Sûl yr Adfent cymmerer gwasanaeth rhai o'r Suliau a adawyd heb ddarllain ar ôl yr Ystwyll, i gyflawni cynnifer ac y sydd yn niffyg yma. Ac os bydd llai, gadawer y rhai a fo tros ben; Profidier fod arfer y Colect, Epistol a'r Efen­gyl ddiweddaf ymma bob amser ar y Sûl o flaen yr Ad­fent.

Sanct Andreas Apostol.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist gy­fryw râd i'th fendigedig Apostol S. An­dreas, fel yr ufuddhâodd efe yn ebrwydd i alwad dy Fâb Jesu Grist ac y dilynodd ef yn ddi-rwystr: Caniadhâ i ni oll wedi ein galw gan dy air bendigedic, yn frau ymroddi o honom yn ufudd i gyflawni dy sanctaid orchymynion, trwy yr un-rhyw Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Rom. 10. 9. OS cyffessi â'th enau, yr Arglwydd Jesu, a chredu yn dy galon, i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. Canys â'r galon y credir i gyfiawn­der, ac â'r genau y cyffessir i iechy­dwriaeth. Oblegid y mae 'r Scry­thur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groeg-wr: oblegid yr un Arglwydd, ar bawb, sydd oludog i bawb, ac sydd yn galw arno. Canys pwy bynnac a alwo ar Enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Pa fodd gau hynny y gal­want ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chly wsant am dano? a pha fodd y cly want heb bregeth-wr? A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn scrifennedig, [Page] Mor brydferth yw traed y rhai sy yn efangylu tangne­ddyf, y rhai sydd yn efangylu pethau daionus. Eithr nid ufuddhasant hwy oll i'r Efengyl; canys y mae Esaias yn dywedyd; O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? Am hynny ffydd sydd trwy gly­wed, a chlywed trwy air Duw. Eithr meddaf; oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaiar yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd. Eithr me­ddaf; Oni wybu Israel? Yn gyntaf y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wŷn-fydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl an-neallus i'ch digiaf chwi. Eithr y mae Esaias yn ymhŷfhau ac yn dy­wedyd Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngh­eisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn y­mofyn am danaf, Ac wrth yr Israel y mae yn dywe­dyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl an­ufudd, ac yn gwrth-ddywedyd.

Yr Efengyl. S. Mat. 4. 18 A'R Jesu yn rhodio wrth fôr Galilaea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; (canys pyscod-wŷr oeddynt.) Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dowch ar fy ôl i, ac mi a'th gwnaf yn by­scod-wyr dynion. A hwy yn y fan, gad adel y rhwydau, a'i canlynasant ef. Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Jaco fâb Zebedaeus ac Joan ei frawd, mewn llong gyd â Zebedaeus eu tâd, yn cyweirio eu rhwydau: ac a'u galwodd hwy. Hwy­thau yn ebrwydd gan adel y llong a'u tâd, a'i canly­nasant ef.

Sanct Thomas Apostol.

Y Colect. HOll-alluog a byth-fywiol Dduw yr hwn, er mwy o sicrhâwch y ffydd, a oddefaist i'th sanc­taid Apostol Thomas ammau cyfodiad dy Fâb: Caniadha i ni cyn berffeithied, ac mor gwbl ddi­ammau gredu yn dy Fâb Jesu Grist, fel na cherydder ein ffyrd yn dy olwg byth: gwrando arnom, ô Argl­wydd, drwy yr un-rhyw Jesu Grist, i ba un gyd â thi a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a gogoniant, yr awron ac yn oes oesoedd. Amen.

Yr Epistol. Ephes. 2. 19 WEithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid â dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â'r Sainct ac yn deulu Duw, Wedi eich goru­wch-adeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Jesu Grist ei hun yn ben-conglfaen: yn yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei ehymmwys gydgyssylltu yn cynnyddu yn Deml sanctaidd yn yr Arglwydd; yn yr hwn i'ch cŷd-adeiladwyd chwithau, yn breswylfod i Dduw trwy yr Yspryd.

Yr Efengyl. S. Joan 20. 4 THomas un o'r deuddeg, yr hwn a el­wir Didymus, nid oedd gyd â hw­ynt, pan ddaeth yr Jesu. Y discyblt­on eraill gan hynny a ddywedasant wrtho. Ni a welsom yr Arglwydd. Yntef a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoe­lion, [Page] a dodi fy mŷs yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi. Ac wedi wyth niwrnod, dra­chefn yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Yna yr Jesu a ddaeth a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangneddyf i chwi. Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys; ac na fydd aughredadyn, ond cre­dadyn. A Thomas a attebodd ac a ddywedodd wr­tho, Fy Arglwydd, a'm Duw, Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas▪ y credaist: ben­digedig yw y rhai ni welsaut, ac a gredasant. A lla­wer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Jesu yn▪ gŵydd ei ddiscyblion, y rhai nid ydynt scrifennedig yn y llyfr hwn. Eithr y pethau hyn a scrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Jesu yw Crist, Mab Duw, a chan gredu y caffoch fywyd yn ei enw ef.

Troad Sanct Paul.

Y Collect. O Duw, yr hwn drwy Bregethiad y gwynfy­dedic Apostol S. Paul a beraist i oleuni 'r Efengyl lewyrchu tros yr holl fyd, Cani­adhâ, ni a attolygwn i ti, allu o honom ni gan ddal ei ryfedd ymchweliad mewn co­ffa ddangos ein diolchgarwch i ti am yr unrhyw drwy ddilyn y fendigedic athrawiaeth yr hon ddyscodd efe trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Act. 9. 1. A Saul etto yn chwythu bygythiau a chelanedd, yn erbyn disc y blion yr Ar­glwydd, a aeth at yr Archoffeiriad, ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y Synagogau, fel os cai efe nêb o'r ffordd hon, na gwŷr, na gwragedd, y gallei efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerusalem. Ac fel yr oedd efe yn ym­daith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus, ac yn ddi-symmwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaiar, ac a glybu lais yn dy­wedyd wrtho, Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy er­lid i. Yntef a ddywedodd, pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd; Myfi yw Jesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Caled yw i ti wingo yn erbyn y swmbylau. Ynteu gan grynu, ac a braw arno, a ddy­wedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwyd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i'r ddinas ac fe a ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneu­thur. A'r gwŷr oedd yn cyd-teithio ag ef, a safasant yn fûd, gan glywed y llais, ac heb weled nêb. A Saul a gyfododd oddi ar y ddaiar: a phan agorwyd ei lygaid, ni welei efe nêb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dygasant ef i mewn i Ddamascns. Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwy­ta, nac yfed, Ac yr oedd rhyw ddiscybl yn Damas­cus, a'i enw Ananias. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth; Ananias, Yntef a ddy­wedodd, wele fi, Arglwydd. A'r Arglwydd a ddywe­dodd wrtho, Cyfod, a dôs i'r heol a elwir Uniawn, a chais yn nhŷ Judas, un a'i enw Saul, o Tharsus▪ canys wele, y mae yn gweddio. Ac efe a welodd me­wn gweledigaeth, ŵr a'i enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelei eilwaith. Yna yr attebodd Ananias, O Arglwydd, mi a gly­wais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th Sainct di yn Jerusalem: ac ymma y [Page] mae ganddo awdurdod oddi wrth yr Arch-offeiriaid, i rwymo pawb sy'n galw ar dy Enw di, A dywedodd yr Arglwydd wrtho: dôs ymaith, canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw ger bron cen­hedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. Canys my­fi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef, er mwyn fy Enw i. Ac Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i'r ty, ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a'm hanfonodd i, (Jesu 'r hwn a ymddan­gosodd i ti ar y ffordd y daethost) fel y gwelych dra­chefu, ac i'th lanwer â'r Yspryd glân. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef, megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymmeryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyd âr discyblion oedd yn Da­mascus, dalm o ddyddiau. ac yn ebrwydd yn y Sy­nagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mâb Duw. A phawb a'r a'i clybu ef, a synnasant ac a ddy­wedasant, Ond hwn yw 'r un oedd yn difetha yn Je­rusalem, y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn, fel y dygei hwynt yn rhwym at yr Arch-offeiriaid? Eithr Saul a gynnyddodd fwy­fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn pre­swylio yn Damascus, gan gadarnhâu mai hwn yw 'r Crist.

Yr Efengyl. S. Mat. 19. 27. PEtr a attebodd, ac a ddywedodd wrth yr Jesu, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? A'r Jesu a ddywedodd wrthynt Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi y rhai a'm can­lynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mâb y dŷn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwi­ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg-llwyth Isra­el. A phôb un a'r adawodd dai, neu frodyr, neu chwi­orydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymmaint, [Page] a bywyd tragwyyddol a etifedda efe. Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf: a'r rhai olaf yn fla­enaf.

Cyflwyniad Crist yn y Deml, yr hwn a elwir yn gyffre­dinol Puredigaeth y Sanctes Mair forwyn.

Y Colect. HOll-alluog a thragywyddol Dduw, ni a at­tolygwn yn ufuddol i'th fawredd, megis ag ar gyfenw i heddyw y presentiwyd i'r deml dy unig-anedig fâb yn sylwedd ein cnawd ni: felly Caniadhâ ein presentio i ti â chalonnau pur-lan, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Mal. 3. 1. WEle fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymmwth y daw'r Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, iw Deml; sef angel y cyfammod, yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd. Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tan y to­ddydd, ac fel sebon y golchyddion. Ac efe a eistedd fel purwr, a glanhâwr arian, ac efe a bura feibion Lefi, ac a'i coetha hwynt fel aur, ac fel arian: fel y by­ddont yn offrymmu i'r Arglwydd offrwm mewn cyfi­awnder. Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Juda, a Jerusalem; megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt. A mi a nesaf attoch chwi i farn, a byddaf dŷst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godineb-wŷr, ac yn erbyn camattal-wŷr [Page] cyflog y cyflogedic, a'r rhai s'yn gorthymmu y we­ddw, a'r ymddifad, a'r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd.

Yr Efengyl. S. Luk. 2. 22 WEdi cyflawni dyddiau ei phurediga­eth hi, yn ôl deddf Moses hwy a'i dygasant ef i Jerusalem, iw gyflwy­no i'r Arglwydd, (fel yr scrifenn­wyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwr-ryw cyntafanedig, a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd.) Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywetpwyd yn neddf yr Argl­wydd, pâr o durturod, neu ddau gyw colommen Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerusalem, a'i enw Simeon, a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwil am ddiddanwch yr Israel: a'r Yspryd glân oedd arno. Ac yr oedd wedi ei yspysu iddo gan yr Yspryd glân na welai efe angeu, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd, Ac efe a ddaeth trwy 'r Yspryd i'r Deml: a phan ddûg ei rieni y dŷn bach Jesu i wneuthur trosto yn ôl defod y gyfraith; Yna efe a'i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, yr awrhon Arglwydd, y gollyngi dŷ wâs mewn tangneddyf, yn ol dy air: Canys fy llygaid a welsant dy iechydwri­aeth, yr hon a baratoaist ger bron wyneb hr holl bob­loedd: Goleuni i oleuo y cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel. Ac yr oedd Joseph a'i fam ef, yn rhyfe­ddu am y pethau a ddywedwyd am dano ef. A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Fair ei Fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp, ac yn gyfô­diad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn: A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf fel y datcuddier meddyliau llawer o galonnau. Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lw­yth Aser: hon oedd oedranus iawn, ac a fuasai fyw gŷd â gŵr saith mlynedd, o'i morwyndod. Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mhly­nedd, [Page] yr hon nid ai allan o'r Deml, ond gwasanaethu [Duw] mewn ymprydiau a gweddiau, ddydd a nôs. A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwil ymwared yn Jerusa­lem. Ac wedi yddynt orphen pôb peth, yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilaea, i'w dinas eu hun Nazareth. A'r bachgen a gynny­ddodd, ac a gryfhaodd yn yr Yspryd, yn gyflawn o ddo­ethineb: a gras Duw oedd arno ef.

Dydd Sanct Matthias.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn yn lle Judas fradwr a ddetholaist dy ffydd-lawn wâs Matthias i fod o nifer dy ddeu-ddec Apo­stol: Caniadhâ fod dy Eglwys bob am­ser yn gadwedic oddi-wrth Apostolion ffe­ilsion, a bod ei threfnu a'i llywodraethu gan wîr a ffydd-lawn fugeiliaid, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

Yr Epistol. Act. 1. 15. YN y dyddiau hynny Petr a gyfododd i fynu ynghanol y discyblion, ac a ddywedodd (a nifer yr heuwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant) Ha-wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr Scrythur ymma a ragddywedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd, am Judas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Jesu, canys efe a gyfrifwyd gyd â ni, ac a gawsei ran o'r weinidogaeth hon. A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd, ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol: a'i holl ymyscaroedd [Page] ef a dywalltwyd allan. A bu hyspys hyn i holl bress­wyl-wŷr Jerusalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, maes y gwaed. Canys scrifenwyd yn llyfr y Psalmau. By­dded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na bydded a dri­go ynddi: a chymmered arall ei escobaeth ef, Am hyn­ny mae yn rhaid, o'r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Jesu i mewn ac a­llan yn ein plith ni, gan ddechreu o fedydd Joan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddi-wrthym ni, bôd un o'r rhai hyn gyd â ni, yn dŷst o'i adgyfodiad ef. A hwy o osodasant ddau ger bron, Joseph yr hwn a henwid Barsabas ac a gyfenwid Justus, a Matthias; a chan weddio, hwy a ddywedasant, Tydi Arglwydd, yr hwn a ŵyddost galonnau pawb, dangos pa un o'r ddau hyn a etholaist: i dderbyn rhan o'r weinidoga­eth hon, a'r Apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Ju­das, i fyned iw le ei hun. A hwy a fwriasant eu côel­brennau hwynt: ac ar Matthias y syrthiodd y coel­bren, ac efe a gyfrifwyd gyd a'r un Apostol ar ddeg.

Yr Efengyl. S. Mat. 11. 25. YR amser hynnny yr attebodd yr Je­su, ac y dywedodd, i ti yr ydwyf yn diolch, o Dâd, Arglwydd nef a dai­ar, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u dat­cuddio a honot i rai bychain. Jê o Dâd, canys felly y rhyngodd bodd i ti. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac nid ed­wyn neb y Mâb, ond y Tâd: ac nid edwyn neb y Tâd ond y Mâb, a'r hwn yr ewyllysio y Mâb ei ddatcuddio iddo. Deuwch attafi bawb ac sydd yn flinderog, ac yn llwythog; ac mi a esmwythaf arnoch, Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, canys addfwyn yd­wyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphy­wystra i'ch eneidiau. Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd yscafn.

Cyfarchiad Mair Wyryf fendigedic.

Y Colect. NI a attolygwn i ti ô Arglwydd, dywallt dy râd yn ein calonnau, fel, megis ac y gwy­ddom gnawdoliaeth Jesu Grist dy Fab trwy gennadwri yr Angel, felly trwy ei grôg a'i ddioddefaint, bod i ni gael ein dwyn i ogoniant ei adgyfodiad ef, trwy yr un-rhyw Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Isa. 7. 1 YR Arglwydd a chwanegodd lefaru wrlh Ahaz, gan ddywedyd, Gofyn it arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw: gofyn o'r dyfnder, neu o'r uchelder oddi-arnodd. Ond Ahaz a ddywr­dodd, ni ofynnaf, ac ni themptiaf yr Arglwydd. A dywedodd yntef, gwr­andewch yr awron, tŷ Ddafydd ai bychan gennwch flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd: Wele, Morwyn a fydd feichiog ac a escor ar fâb, ac a eilw ei euw ef, Immanuel. Ymenyn a mêl a fwyty efe, fel y medro ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da.

Yr Efenfyl. S. Luk. 1. 26. AC yn y chweched mis, yr anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilaea, a'i henw Na­zareth, at forwyn wedi ei dyweddio i ŵr a'i enw Joseph, o dŷ Ddafydd: ac enw 'r forwyn oedd Mair. A'r Angel a ddaethimewn atti, ac a ddy­wedodd, [Page] Hanffych well, yr hon a gefaist râs, yr Argl­wydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ym-mhlith gwra­gedd. A hitheu pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef: a meddylio a wnaeth, pa fath gy­farch oedd hwn. A dywedodd yr Angel wrthi Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafor gyd â Duw. Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a escori ar fab, ac a elwi ei Enw ef Jesu, Hwn fydd mawr ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei Dâd Dafydd, Ac efe a deyrnasa ar dŷ Ja­cob yn dragywydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd di­wedd. A Mair a ddywedodd wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr? A'r Angel a atte­bodd, ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gyscoda di: am hyn­ny hefyd, y peth sanctaidd a aner o honot i, a elwir yn Fab Duw. Ac wele Elisabeth dy gares, y mae hi­thau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw'r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn am-mhlan­tadwy. Canys gyd a Duw ni bydd dim yn ammhos­sibl. A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd, bydded i mi yn ôl dy air di. A'r Angel a a­eth ymmaith oddi-wrth hi.

Dydd S. Marc.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a ddyscaist dy sanctaidd Eglwys a nefol athrawiaeth dy Efangylwr. S. Marc: dôd ti i ni râd, na byddom fel plant, ymcheweledic gan bob awel o wag ddysceidiaeth: eithr bod i ni yn ffyrf ymgadarnhâu yngwirionedd dy lân Efangyl: trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. Ephes. 4. 7. I Bob un o honom y rhoed grâs, yn ol mesur dawn Crist O herwydd pa ham. y mae efe yn dywedyd. Pan dderchafodd i'r uchelder efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr, Efe a dderchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddescyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaiar? Yr hwn a ddescynnodd yw yr hwn hefyd a escynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnei bob peth) Ac efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athr­awon: i berffeithio y Sainct, i waith y weinidogaeth, î adeilad corph Crist: hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb a gwybodaeth Mâb Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist, Fel na byddom mwy­ach yn blantos, yn bwhwmman ac yn ein cylch-ar­wain â phob awel dysceidiaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwysdra, i gynllwyn i dwyllo: eithr gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu o honom iddo ef ym­mhob peth, yr hwn yw 'r pen sef Crist: o'r hwn y mae yr holl gorph wedi ei gyd ymgynnull a'i gyd-gyssyll­tu, trwy bob cymmal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cyn­nydd y corph, iw adeilad ei hun mewn cariad.

Yr Efengyl. S. Joan 15. 1. MYfi yw y wir win-wydden, a'm Tad yw 'r llafurwr, Pob cangen ynofi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phôb un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glan­hau, fel y dygo fwy o ffrwyth. Yr awron yr ydych chwi 'n lân, trwy 'r gair a lefarais i wrthych. Arhoswch ynofi, a mi ynoch chwi: megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi [Page] ei hun, onid erys yn y win-wydden: felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynofi. Myfi yw 'r win­wydden, chwithau yw 'r canghennau: yr hwn sydd yn aros ynofi, a minnen ynddo yntef, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebofi ni ellwch chwi wneuthur dim. Onid erys un ynofi, efe a dafla­wyd allan megis cangen, ac a wywodd, ac y maent yn eu casclu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a loscir. Os arhoswch ynofi, ac aros o'nt geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac fe a fydd i chwi. Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer, a discyblion fyddwch i mi. Fel y carodd y Tâd fi, felly y cerais inneu chwithau: ar­hoswch yn fy nghariad i. Os cedwch fy ngorchymyni­on, chwi a arhoswch yn fy ngariad: fel y cedwais i orchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gari­ad ef, Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosei fy lla­wenydd ynoch, ac y byddei eich llawenydd yn gy­flawn.

Dydd S. Philip ac S. Jaco.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn o'i wîr adnabod yw bywyd tragywyddol: Caniadhâ i ni ber­ffaith adnabod dy Fâb Jesu Crist i fod yn ffordd, yn wirionedd ac yn fywyd fel gan ddilyn esampl dy sanctol Apostolion Phi­lip ac Jaco y bo i ni rodio yn ddyfal ar y ffordd y sy'n arwain i fywyd tragwyddol drwy 'r unrhyw dy Fab Jesu Crist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. S. Jaco. 1. 1 IAco, gwasanaethwr Duw, a'r Argl­wydd Jesu Grist, at y deuddegllw­yth sydd ar wascar, annerch. Cyfri­fwch yn bob llawenydd, fy mrodyr pan syrthioch mewn amryw brofe­digaethau: gan wybod fôd profiad eich ffydd chwi yn gweithredu am­mynedd, Ond caffed ammynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddeffygio mewn dim. O bydd ar neb a honoch eisieu doethineb, gofyn­ned gan Dduw yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb ac heb ddanod: a hi a roddir iddo ef. Eithr go­fynned mewn ffydd, heb ammeu dim. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, a chwe­lir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dŷn hwnnw, y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Gwr dau-ddyblyg ei feddwl, sydd anwastad yn ei holl ffy­rydd, y brawd o radd isel llawenyched yn ei oruchafi­aeth: a'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys me­gis blodeuyn y glâs-welltyn y diflanna efe. Canys cy­fododd yr haul gyd â gwres, a gwywodd y glâs-well­tyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei brŷd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna y cyfoethog yn ei ffyrdd. Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth: ca­nys pan fyddo profedig, efe a dderbŷn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.

Yr Efengyl. S. Joan 14. 1 A'R Jesu a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion, Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finneu hefyd. Yn nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drig-fannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoi lle i chwi. Ac os myfi a âf, ac a baratoafle i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymmeraf chwi attaffy hun: [Page] fel lle yr wyfi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyfi yn myned, chwi a ŵyddoch, a'r ffordd a wy­ddoch. Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni ŵyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn ŵybod y ffordd? Yr Jesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw 'r ffordd a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tâd, ond trwof fi. Ped adna­basech fi, fy Nhad hefyd a adnabasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni. Yr Jesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tâd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tâd? Ond wyt ti yn credu fy môd i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finneu? y geiriau yr wyfi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hnn yr wyf yn eu llefaru; ond y Tâd yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. Credwch fi, fy môd i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finneu: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hun. Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi yr hwn sydd yn credu ynof, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur, ynteu hefyd a'u gwna, a mwy nâ'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy. Nhâd. A pha beth bynnag a of­ynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf: fel y gogonedder y Tâd yn y Mâb. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.

Sanct Barnabas Apostol.

Y Colect. O Arglwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn a wiscaist dy sanctaid Apostol Barnabas â rhagorawl roddion dy Yspryd glân. Na âd i ni fod yn ddeffygiol o'th amryw ddoni­au, nac etto o râd iw harfer hwynt bob amser i'th anrhydedd di a'th ogoniant: trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Act. 11. 22. AR gair a ddaeth i glustiau yr Egl­wys oedd yn Jerusalem, am y pe­thau hyn. A hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Antiochia. Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr­fryd calon l lynu wrth yr Arglwydd. Oblegid yr oedd efe yn ŵr da ac yn llawn o'r Yspryd glân, ac ô ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd. Yna yr aeth Barnabas i Tharsus, i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia. A bu iddynt flwy­ddyn gyfan ymgynnull yn yr Eglwys, a dyscu pobl lawer, a bod galw y discyblion yn Gristianogion yn gyntaf yn Antiochia. Ac yn y dyddiau hynny, daeth prophwydi o Jerusalem i wared i Antiochia. Ac un o honynt, a'i Enw Agabus, a gyfododd, ac a arwydd­ocâodd drwy yr Yspryd. y byddei newyn mawr dros yr holl fŷd; yr hwn hefyd a fu tan Claudius Caesar, Yna 'r discyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Ju­daea. Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr Henuriaid, drwy law Barnabas a Saul.

Yr Efengyl. S. Joan 15▪ 12. DYmma fy ngorchymmyn i, ar i chwi garu ei gilydd, fel y cerais i chwi. Cariad mwy nâ hwn nid oes gan neb, sef bôd i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. Chwy-chwi yw fy nghy­feillion, os gwnewch pa bethau by­nnag yr wyf yn eu gorchymmyn i chwi. Nid ydwyf in wyach yn eich galw yn weiūon: oblegid y gwâs ni wyr beth y mae ei Arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion, oblegid pôb peth a'r a glywais gan fy Nhad, a yspy­sais [Page] i chwi Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosei eich ffrwyth, megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

S. Ioan Fedyddiwr.

Yr Colect. HOll-alluog Dduw, o ragluniaeth pa un y ganed yn rhyfedd dy wâs Joan Fedyddi­wr, ac yr anfonwyd ef i arlwyo ffordd dy Fâb Jesu Grist ein Jachawdr. gan bre­gethu edifeirwch: gwna i ni felly ddilyn ei ddysceidiaeth a'i sanctaidd fywyd ef, fel y gallom wîr edifarhau yn ôl ei bregeth ef: ac ar ôl ei esampl yn wastadol draethu y gwirionedd, yn hyderus geryddu camwedd. ac yn ufudd ddioddef er mwyn y gwirio­nedd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Isa. 40. 1. CYssurwch, cyssurwch fy mhobl, medd eich Duw, Dywedwch wrth fodd calon Jerusalem, llefwch wrthi hi gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd, o herwydd derbyniodd o law 'r Arglwydd yn ddau-ddyblyg am ei holl bechodau. Llef un yn lle­fain yn yr anialwch, paratowch ffordd yr Arglwydd, uniawnwch lwybr ein Duw ni yn y diffaethwch. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyng­ir, y gŵyr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wa­stadedd. A gogoniant yr Arglwydd a ddatcuddir, a phob cnawd ynghyd a'i gwel: canys genau 'r Argl­wydd a lefarodd hyn. Y llef a ddywedodd wrth y [Page] Prophwyd, gwaedda, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidawg­rwydd fel blodeuyn y maes. Gŵywa y gwelltyn, syr­th y blodeuyn, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw 'r bobl. Gwywa y gwellt­yn, syrth y blodeuyn, ond gair ein Duw ni a saif by­th. Dring rhagot yr Efangyles Sion, i fynydd u­chel, dyrchafa dy lef trwy nerth, ô Efangyles Jeru­salem: dyrchafa, nac ofna: dywet wrth ddinasoedd Juda, wele eich Duw chwi. Wele 'r Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywo­draetha trosto: wele ei wobr gŷd ag ef, a'i waith o'i flaen. Fel bugail y portha efe ei braidd, â' i fraich y cascl ei ŵyn, ac a'i dŵg yn ei fonwes, ac a goledda y mammogiaid.

Yr Efengyl. S. Luk. 1. 57. AChyflawnwyd tymp Elisabeth i es­cor, a hi a escorodd ar fab. A'i chym­ydogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni: a hwy a gyd-lawenychasant â hi, A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a dda­ethant i enwaedu ar y dŷn bach, ac a'i galwasant ef zacharias, ar ôl enw ei dâd. A'i fam a attebodd ac a ddywedodd, Nid felly: eithr Joan y gelwir ef. Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn. A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef. pa fodd y mynnei efe ei henwi ef. Yntef a alwodd am argraph-lech, ac a scrifennodd. gan ddywedyd, Joan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'î dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fen­dithio Duw. A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Judaea y cy­hoeddwyd y geiriau hyn oll. A phawb a'r a'u clyw­sant a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw 'r Arglwydd oedd gyd ag ef. A'i dâd ef zacharias a gyflawnwyd o'r Yspryd glân, ac a brophwydodd, gan ddywedyd, [Page] Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, canys efe a ymwelodd ac a wnaeth ymwared i'w bobl. Ac efe a dderchafodd gorn iechydwriaeth i ni, yn-nhŷ Ddafydd ei wasanaethwr: megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o ddechre­uad y bŷd, fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelyni­on, ac o law pawb o'n caseion, i gwplau ei drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfammod y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni▪ gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanae­thu ef yn ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawn­der ger ei fron ef, holl ddyddian ein bywyd. A thitheu fachgennyn, a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: ca­nys ti a ei a flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef, i roddi gwybodaeth iechydwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau, o herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder, i lewyrchu i'r rhai sy yn ei­stedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf. A'r bachgen â gynny­ddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y di­ffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd ef i'r Israel.

Dydd S. Petr.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy Fâb Jesu Grist a roddaist i'th Apostol S. Petr lawer­oedd o ddoniau arbennig, ac a orchymynnaist iddo o ddifrif borthi dy Braidd, gwna, ni a attolygwn i ti, i'r holl Escobion, a'r Bugeiliaid, yn ddyfal brege­thu dy sanctaidd air. ac i'r bobl yn ufuddgar ddilyn yr unrhyw, fel y byddo iddynt hwy allu derbyn coron y gogoniant tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Act. 12. 1. YNghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys. Ac efe a laddodd Jacob brawd Joan â'r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd. (A dyddiau y ba­ra croyw yddedd hi.) Yr hwn wedi ei ddal a roddes efe yngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwa­riaid o fil-wŷr, i'w gadw, gan ewyllysio a'r ôl y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl. Felly Petr a gadwyd yn y carchar, eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr Eglwys at Dduw drosto ef. A phan oedd Herod a'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nôs honno yr oedd Petr yn cyscu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, â'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac wele Angel yr Arglwydd a saf­odd ger llaw, a goleuni a ddiscleiriodd yn y carchar, ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd; Cyfod yn fuan: a'i gadwyni ef a syrthi­asant oddiwrth ei ddwylo. A dywedodd yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau, ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd bwrw dy wisg am dauat, a chanlyn fi. Ac efe a aeth allan, ac a'i can­lynodd ef, ac ni's gwybu mai gwir oedd y peth a wna­thid gan yr Angel, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. Ac wedi myned o honynt heb law y gyntaf a'r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaeth­ant i'r porth hayarn, yr hwn sydd yn arwain i'r ddi­nas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un he­ol, ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymmaith oddi-wr­tho. A Phetr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei Angel i'm gwared i allan o law Herod ac oddi-wrth holl ddisgwiliad pobl yr Iddewon.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 16. 13. WEdi dyfod yr Jesu i dueddau Caefarea Philippi, efe a ofynnodd iw ddiscibl­on, gan ddywedyd, Pwy y mae dy­nion yn dywedyd fy môd i, Mâb y dŷn? A hwy a ddywedasant, Rhai mai Joan Fedyddiwr, a rhai mai Elias, ac erail mai Jeremias, neu un o'r prophwydi. Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyfi? A Simon Petr a atte­bodd, ac a ddywedodd, Ti yw Crist, Mâb y Duw byw. A'r Jesu gan atteb, a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fŷd ti Simon mâb Jona: canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd hyn i ti, ond fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac yr ydwyf finneu yn dywedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys: a phyrth uffern ni's gorchfygant hi. A rhoddaf i ti a­goriadau teyrnas nefoedd: a pha deth bynnag a rwy­mech ar y ddaiar, a fydd rhwymedig yn y nefoedd: a beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.

Sanct Jaco Apostol.

Y Collect. CAniatâ, ô drugarog Dduw, megis y bu i'th wynfydedic Apostol S. Jaco, gan ymado â'i Dâd, a chwbl ar oedd eiddo, yn ebrwydd ufuddhau i alwad dy Fâb Jesu Grist, a'i ddilyn ef: felly i ninau gan ymwrthod â holl fydol ac â chnawdol ewyllyssion yn dragywydd fod yn barod i ddilyn dy orchymynion sanctaidd trwy Jesu Grist ein▪ Harglwydd. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Act. 11. 27. 2 rhan o'r 12. YN y dyddiau hynny, daeth prophwy­di o Jerusalem i wared i Antiochia. Ac un o honynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocâodd drwy yr Yspryd, y byddei newyn mawr dros yr holl fŷd, yr hwn hefyd a fu tan Claudius Caesar. Yna 'r discy­blion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cym­morth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Judaea. Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr Henuri­aid, drwy law Barnabas a Saul. Ac ynghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys. Ac efe a laddodd Jaco brawd Joan â'r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd.

Yr Efengyl. S. Mat. 20. 20. YNa, y daeth mam meibion Zebedaeus atto, gyd â'r meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth, a fynni? Dywedodd hitheu wrtho, Dywed am gael o'm dau fâb hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law asswy, yn dy frehiniaeth, A'r Jesu a atte­bodd, ac a ddywedodd. Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn, A ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyfi ar yfed o honaw, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. Ac efe a ddywe­dodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwppan, ac i'ch bedyddir â'r bedydd i'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid eiddof ei ro­ddi, ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhâd A phan glybu y dêg hyn, hwy a sorrasant wrth y ddau frodyr. A'r Jesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fôd pennaethiaid y cenhedloedd yn [Page] tra-aaglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawyion yn tra-awdurdodi arnynt hwy. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fôd yn fawr yn eich plith chwi bydded yn wenidog i chwi. A phwy bynnag a fynno fôd yn bennaf yn eich plith, bydded yn wâs i chwi. Megis na ddaeth Mâb y dŷn i'w wasa­naethu, ond i wasanaethn, ac i roddi ei einioes yn brid­werth dros lawer.

S. Bartholomeus Apostol.

Y Colect. HOll-alluog a byth-barhaus Dduw, yr hwn a roddaist râd i'th Apostol Bartholome­us, i wir gredu, ac i bregethu dy air. Ny­ni a attolygwn i ti ganiadhau i'th, Egl­wys gwbl garu yr hyn a gredodd efe ac i bregethu a derbyn yr unrhyw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Act. 5. 12. TRwy ddwylaw yr Apostolion y gw­naed arwyddion a rhyfeddodau la­wer ymmhlith y bobl, (ac yr oedd­ynt oll yn gyttûn ym-mhorth So­lomon. Eithr ni feiddiei neb o'r lle­ill ymgyssylltu â hwynt, ond y bobl oedd yn eu mawrhau. A chwaneg­wyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd. Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hŷd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a gly­thau, fel o'r hyn lleiaf y cyscodei cyscodPetr, pan ddelei heibio, rai o honynt. A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd; o'r dinasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.

[Page] Yr Efengyl. S. Luk. 22. 24. ABu ymryson yn eu plith, pwy o ho­nynt a dybygid ei fôd yn fwyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Y mae bren­hinoedd y cenhedloedd yn arglwyddi­aethu arnynt: a'r rhai sy mewn aw­durdod arnynt, a elwir yn bendefigi­on, Ond na fyddwch chwi felly: ei­thr y mwyaf yn eich plith chwî, bydded megis yr ieu­angaf, a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. Ca­nys pa un fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai 'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc, fel un yn gwasanaethu. A chwy-chwi yw y rhai a arho­sasoch gŷd â mi yn sy mhrofedigaethau, Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minneu, fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orsedd­fêydd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel.

S. Matthew Apostol.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy wyn­fydedic Fâb a elwaist Fathew o'r doll-fa, i fod yn Apostol, ac yn Efangylwr: Ca­niadhâ i ni râd i ymwrthod â holl gyby­ddus ddeisyfion, ac â thra-chwantus serch golud bydol, ac i ddilyn dy ddywededig Fab Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thî a'r Yspryd glân yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.

[Page] Yr Epistol. 2 Cor. 4. 1. GAn fôd i ni y weinidogaeth hon, me­gis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu. Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrîn gair Duw yn dwyllodrus; eithr trwy eglurhâd y gwirionedd, yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dy­nion, yngolwg Duw. Ac os cuddiedig yw ein Efen­gyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig. Yn y rhai y dallodd duw y bŷd hwn feddyliau y rhai di-grêd, fel na thywynei iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Dduw. Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Jesu yr Argl­wydd, a ninneu yn weision i chwi er mwyn Jesu. Ca­nys Duw yr hwn a orchymynodd i'r goleuni lewyr­chu o dywyllwch, yr hwn a lewyrchodd yn ein calon­nau, i roddi golueni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Jesu Grist.

Yr Efenfyl. S. Mat. 9. 9. AC fel yr oedd yr Jesu yn myned oddi yno, efe a ganfu wr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew: ac a ddy­wedodd wrtho, canlyn fi. Ac efe a gyfodes, ac a'i canlynodd ef. A bu ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, we­le hefyd, Publicanod lawer a phecha­duriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd â'r Jesu a'i ddiscyblion. A phan welodd y Pharisaeaid, hwy a ddy wedasant wrth ei ddiscyblion ef, Pa ham y bwytty eich Athro chwi gyd a'r Publicanod a'r pechaduri­aid? A phan glybu 'r Jesu, efe a ddywedodd wr­thynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion. Ond ewch, a dyscwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechadu­riaid i edifeirwch.

S. Mihangel a'r holl Angelion.

Y Colect. TRagywyddol Dduw, yr hwn a ordeiniaist, ac a osodaist wasanaethau 'r holl Angelion a dynion mewn trefn ryfedd: Caniadhâ yn drugarog megis y mae dy angelion san­ccaidd yn wastad yn gwneuthur i ti wa­sanaeth yn y nefoedd felly bod o honynt drwy dy dref­niad di yn borth ac amddiffyn i ni ar y ddaiar, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yn lle yr Epistol. Datc. 12. 7. ABu rhyfel yn y nef: Michael a'i ang­elion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd, a'i hangelion hithau. Ac ni orfuant, a'u lle hw­ynt ni's cafwyd mwyach yn y nef A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn twyllo 'r holl fyd, efe a fwri­wyd allan i'r ddaiar, a'i angelion a fwriwyd allan gyd ag ef. Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iechydwriaeth, a nerth, a the­yrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhudd­wr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni, ddydd a nos. A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt: ac ni charasant eu heinioes hyd angeu. O herwyd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar, a'r môr, canys diafol a ddescynnodd attoch chwi, a chanddo lîd mawr, o herwydd ei fôd yn gŵybod nad oes iddo ond ychydig amser.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 18. 1 YR awr honno y daeth y discyblion at yr Jesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? A'r Jesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosodes yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd, Yn wîr y dywedaf i chwi, oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw 'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm der­byn i. A phwy bynnnag a rwystro un o'r rhai by­chain hyn a gredant ynofi, da fyddai iddo pe crogit maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr. Gwae'r bŷd oblegid rhwystrau: canys angenrhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae y dŷn hwnnw drwy'r hŵn y daw y rhwystr. Am hynny, os dy law, neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r by­wyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennnit ddwy law neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragywyddol. Ac os dy lygad a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti yn un-llygeidiog fyned. i mewn i'r bywyd, nag â dau lygad gennit, dy daflu i dân u­ffern. Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai by­chain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd, bôb amser yn gweled wyneb fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

S. Luc Efangylwr.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a elwaist Luc y physygwr, yr hwn y mae ei foliant yn yr Efyngyl, i fod yn Efangylwr a physyg­wr i'r enaid: rhynged bodd i ti, drwy ia­chus feddyginiaeth ei ddysceidiaeth ef, ia­châu holl heinian ein heneidiau, trwy haeddedigaeth­au dy Fâb Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. 2 Tim. 4. 5. GWilia di ym-mhôb peth, dioddef ad­fyd: gwna waith Efangylŵr, cyfla­wna dy weinidogaeth. Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddattodiad i a nesaodd. Mi a ym­drechais ymdrech dêg, mi a orphen­nais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd y barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef. Bydd ddyfal i ddyfod attaf yn ebrwydd: canys Damas a'm gadawodd gan garu y bŷd presennol, ac a aeth ymmaith i Thessalonica, Crescens i Galatia, Ti­tus i Dalmatia. Lucas yn unig sydd gŷd â mi. Cym­mer Marc a dŵg gŷd â thi: canys buddiol yw [efe] i mi i'r weinidogaeth. Tychicus hefyd a ddanfonais i Ephesus Y cochl a adewais i yn Troas gŷd a Charpus, pan ddelych dŵg [gŷd â thi,] a'r lly frau yn enwedig y memrwn. Alexander y gôf copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd. Yr hwn hefyd gochel ditheu: [Page] canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hym­adroddion ni.

Yr Efengyl. S. Luk. 10. 1 YR Arglwydd a ordeiniodd ddêg a thrugain eraill hefyd, ac a'u danfo­nes hwy bob yn ddau, o flaen ei wy­neb, i bôb dinas a man, lle'r oedd efe ar fedr dyfod. Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhayaf yn wîr sydd fawr, ond y gweith-wŷr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cynhayaf am ddanfon allan weithwŷr i'w gynhayaf. Ewch: wele, yr ŵyfi yn eich danfon chwi fel wyn ym mysc bleiddiaid. Na ddygwch gôd, nac yscrep­pan, nac escidiau: ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangneddyf i'r tŷ hŵn. Ac o bydd yno fab tangneddyf, eich tangneddyf a orphywys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw be­thau ac a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithwr ei gyflog.

S. Simon a S. Jud Apostolion.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a adeilie­daist dy Elwys ar sail yr Aposto­lion, a'r prophwydi, a Jesu Grist e'i hun yn ben congl-faen: Caniadhâ i ni fod felly ein cyssylltu ynghyd yn undeb yspryd gan eu dysceidiaeth hwy, fel i'n gwneler yn sanctaidd Deml gymmeradwy gennit, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd. Amen.

[Page] Yr Epistol. S. Jud. 1. IUdas, gwasanaethwr Jesu Grist, a brawd Jaco, at y rhai a sancteiddi­wyd gan Dduw Tâd, ac a gadwyd yn Jesu Grist ac a alwyd: trugar­edd i chwi, a thangneddyf, a chariad a liosoger. Anwylyd, pan roddais bôb diwydrwydd ar scrifennu attoch am yr iechydwriaeth gyffredinol, anghenrhaid oedd i i mi scrifennu attoch, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r Sainct. Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusco i mewn, y rhai a rag-ordeiniwyd er ystalm i'r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn troi grâs ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu yr unic Arglwydd Dduw, a'n Hargl­wydd Jesu Grist. Ewyllysio gan hynny yr ydwyf ei­ch coffâu chwi, gan eich bôd un-waith yn gwybod hyn, i'r Arglwydd wedi iddo waredu y bobl o dîr yr Aipht, ddestrywio eilwaith y rhai ni chredasant. Yr Angelion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe me­wn cadwynau tragywyddol tan dywyllwch, i farn y dydd mawr. Megis y mae Sodoma a Gomorrha a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd a hwynt wedi putteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragywy­ddol. Yr un ffunyd hefyd y mae y breuddwyd-wŷr hyn, yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn ca­blu y rhai sy mewn awdurdod.

Yr Efengyl. S. Joan. 15. 17. HYn yr wyf yn ei orchymmyn i chwi, garu o honoeh ei gilydd Os yw 'r bŷd yn eich casâu chwi, chwi a wydd­och gasâu o honaw fyfi o'ch blaen ch­wi. Pe byddech o'r bŷd, y bŷd a ga­rei 'r eiddo: ond oblegid nad ydych o'r bŷd, eithr i mi eich dewis allan [Page] o'r bŷd, am hynny y mae 'r bŷd yn eich casâu chwi. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych, Nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i Arglwydd: os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. Eithr hyn oll a wnant i chwi er mwyn fy enw i, am nad ad▪waenant yr hwn a'm hanfonodd i. Oni bai fy ny▪ fod a llefaru wrthynt, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt escus am eu pechod. Yr hwn sydd yn fy nghasâû i, sydd yn casâu fy Nhâd he­fyd, Oni bai wneuthur a honof yn eu plith y gweithre­doedd ni wnaeth neb arall, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i, a'm Tâd hefyd. Eithr fel y cyflawnid y gair scrifennedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casâsant yn ddi-achos Eithr pan ddêl y Diddanudd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y▪ Tâd, efe a dystio­laetha amdanafi; chwithau hefyd o dystiolaethwch▪ am eich bôd o'r dechreuad gyd â mi.

Gwyl yr holl Sainct.

Y Colect. HOll-alluog Dduw, yr hwn a gyssylltaist yn­ghyd dy etholedigion yn un cyfundeb a chymdeithas yn nirgeledic gorph dy Fâb Crist ein Harglwydd: Câniadhâ i ni râd felly i ganlyn dy ddwywol Sainct ym mhob rhinweddol a dwywol fywyd, fel y gallom ddy­fod i'r annhraethawl lawenydd hynny a baratoaist i'r rhai yn ddiffuant sy i'th garu, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] Yn lle yr Epistol. Datc. 7. 2. WEle, mi Joan a welais Angel arall yn dyfod i fynu oddi wrrh godiad haul, a sêl Duw byw ganddo: ac efe a lefodd â llêf uchel ar y pedwar Angel, i'r rhai y rhodasid gallu i ddrygu'r ddaiar, a'r môr gan ddy­wedyd, Na ddrygwch y ddaiar▪ na'r môr, na 'r preniau, nes darfod i ni selio gwasanaeth­wyr ein Duw ni yn eu talcênau. Ac mi a glywais ni­fer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phe­dair a deugain o filoedd, o holl lwythau meibiôn Israel

  • O lwyth Juda, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Ruben, yr oedd xii mil wedi eu selio:
  • O lwyth Gad, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Aser, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Nepthali, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Manasses, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Simon yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Lefi, yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.
  • O lwyth Jsachar, yr oedd xii. mil wedi eu selio.
  • O lwyth Zabulon, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
  • O lwyth Joseph, yr oedd xii. mil wedi eu selio.
  • O lwyth Beniamin yr oedd xii. mil wedi eu selio.

Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allei neb ei rhifo, o bôb cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orsedd­faingc, a cher bron yr Oen, wedi eu gwisco mewn gynau gwynion, a phalm-wydd yn eu dwylo: ac yn llefain â llêf uchel, gan ddywedyd, Jechydwr­aeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd­faingc, ac i'r Oen. A'r holl Angelion a safasant o amgylch yr orsedd-faingc, a'r Henuriaid, a'r pedwar anifail: ac a syrthiasant ger bron yr orsedd-faingc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, gan ddy­wedyd, Amen: y fendith, a'r gogoniant, a'r doethi­neb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.

[Page] Yr Efengyl. S. Mat. 5. 1. PAn welodd yr Jesu y tyrfaoedd, efe a escynnod i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto. Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dyscodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu bŷd y tlodion yn yr Ys­pryd: canys eiddynt yw teyrnas ne­foedd. Gwyn eu bŷd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu bŷd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaiar. Gwyn eu bŷd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu bŷd y rhai tru­garogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu bŷd y rhai pûr o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu bŷd y tangneddyf-wyr: canys hwy a el­wir yn blant i Dduw. Gwyn eu bŷd y rhai a er­lidir o achos cyfiawnder; canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich bŷd, pan i'ch gwradwyddant, ac i'ch erlidiant, ac y dywedant bob dryg-air yn eich erbyn, er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. Bydd­wch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegit felly yr erlidiasant hwy y Pro­phwydi a fu o'ch blaen chwi.

Y Drefn am VVenidogaeth SWPPER yr ARGLWYDD, neu yr Cymmun bendigaid.

CYnnifer ac a fyddo yn amcanu bod yn gy­franogion o'r Cymmun bendigedic, a ar­wyddocânt eu henwau i'r Curat ryw amser y diwrnod or blaen o'r lleiaf.

¶ Ac o bydd un o'r rhai hynny yn ddrwg-fucheddol cyhoedd, fel y byddo ef gwrthwynebus gan y gynnulleidfa: neu a wnaeth gam iw gymmydog ar air, neu ar weithred? Y Curat wrth gael gwybyddiaeth o hynny, a'i geilw ef, ac a'i cynghôra na ryfygô efe er dim ddyfod i ford yr Argl­wydd, hyd oni ddeclario efe yn gyhoeddus ei fod yn wîr edi­feiriol, a darfod iddo wellhau ei ddrwg fuchedd o'r blaen▪ fel y bodloner y gynnulleidfa wrth hynny: yr hon a rwy­strasid yn y blaen: A darfod iddo wneuthur iawn i'r neb y gwnaethoedd gamwedd â hwynt: Neu o'r lleiaf, ddadcan ei fod mewn cyflawn fryd i wneuthur felly yn gyntaf ac y gallo yn gymhedrol.

¶ Y drefn hon a arfer y Curat am y sawl y gwypo efe fod malais a chasineb yn teyrnasu rhyngddynt; ni ddioddef iddynt fod yn gyfrannogion o fwrdd yr Arglwydd, hyd pan wypo eu bod hwynt wedi cydtuno. Ac os un o'r pleidiau anheddchol a fydd bodlawn i faddeu o eigion ei galon gwbl ac a wnaethpwyd yn ei erbyn, ac i wneuthur iawn i bawb ac a rwystrodd ynteu ei hunan; a'r blaid arall ni fyn ei [Page] ddwyn i dduwiol undeb, onid sefyll yn wastad yn ei wrth­nysigrwydd a'i falais: Y Gwenidog yn yr achos hynny a ddyly dderbyn y dyn edifeiriol i'r Cymmun bendigedic, ac nid y dŷn ystyfnig anhydyn. Profidier fod i bob Gwenidog felly yn troi heibio neb fel yr ysbysir yn hwn, neu'r rhag­wahannod nesaf o'r blaen o'r Rubric ymma, yn rhwyme­dig i roddi cyfrif o'r unrhyw i'r ordinari, o fewn 14 diwr­nod ar ol hynny o'r pellaf, A'r Ordinari a ddilyd yn er­byn Y troseddwr yn ôl y Canon.

Y bwrdd ar amser Cymmun â lliain gwyn têg arno, a saif ynghorph yr Eglwys, neu yn y Gafell, lle byddo yr fo­reuol a'r brydnhawnol weddi, wedi ordeinio ei dywedyd. A'r offeiriad, gan sefyll wrth yr ystlys gogledd i'r bwrdd, a ddywaid weddi yr Arglwydd, a'r Colect sydd yn canlyn, a'r bobl ar eu gliniau.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyrai ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Colect.

YR holl-alluog Dduw, ir hwn y mae pob ca­lon yn agored, a phob deisyf yn gydnabydd­us, a rhag yr hwn nid oes dim dirgel yn guddiedic, glanhâ feddyliau ein calonnau trwy ysprydoliaeth dy lân Yspryd, fel y ca­rom dydi yn berffaith, ac y mawrhâom yn deilwng dy Enw sanctaidd, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna yr offeriad gan droi at y bobl a draetha yn eg­lur y deng-air deddf oll. A'r bobl ar eu gliniau ar ôl pob un o'r gorchymynion a archant drugaredd Duw am eu tor­ri hwynt, o'r blaen a Grâs i gadw'r unrhyw rhaglaw, fel y mae yn canlyn.

Gwenidog.

DUw a lefarodd y geiriau hyn, ac a ddywedodd, Myfi ywyr Arglwydd dy Dduw: Na fydded it dduwiau eraill onid myfi.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein ca­lonnau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na wna it dy hun ddelw gerfiedic, na llûn dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar: Na ostwng iddynt. ac na addola hwynt. Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled a phechodau y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt ac yn gwneuthur trugaredd i fisoedd o'r rhai a'm canant, ac a gadwant fy ngorchymynion.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym a gostwng ein calon­nau i gadw yr gyfraith hon.

Gwenidog.

Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gym­mero ei Enw ef yn ofer.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith, eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith tydi, na'th fâb, na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th anifail na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn dy byrth. Ca­nys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y inôr ac oll y sydd ynddynt, ac a orphy­wysodd y seithfed dydd: O herwydd pa ham y bendi­thiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddi­odd ef.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

[Page] Gwenidog.

Anrhydedda dy dâd a'th fam, fel yr estynner dy ddy­ddiau ar y ddaiar yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw yr gyfraith hon.

Gwenidog.

Na Lâddd.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na wna odineb.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na ledratta.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon,

Gwenidog.

Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmy­dog.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calon­nau i gadw y gyfraith hon.

Gwenidog.

Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wâs, fia'i forwyn, na'i ych, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo.

Pobl.

Arglwydd trugarhâ wrthym, ac scrifenna yr holl ddedfau hyn yn ein calonnau, ni attolygwn i ti.

¶ Yno y canlyn un o'r ddau Golect hyn dros y Brenhin, a'r Offeiriad yn ei sefyll megis o'r blaen ac yn dywe­dyd.

Gweddîwn.

HOll-alluog Dduw, yr hwn sydd a'i deyrnas yn dragywyddol, a'i allu yn anfeidrol, cymmer drugaredd ar yr holl Eglwys a rheola felly galon dy ddewisedic wasanaethwr Char­les ein Brenhin a'n llywydd, fel y ga­llo efe (gan wybod i bwy y mae yn weinidog) uchlaw pob dim geisio dy anrhydedd a'th ogoniant Ac fel y gallom ninneu ai holl ddeiliaid ef (gan feddylied yn ddyledus oddi-wrth bwy y mae yr awdurdod sydd iddo) yn ffyddlon ei wasanaethu, a'i anrhydeddu, ac yn ostyngedig ufuddhau iddo, ynot ti ac erot ti, yn ôl dy fendigedic air a'th ordinhâd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, yr hwn gyd â thi a'r Ys­pryd glân, sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn dragy­wydd yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

¶ Neu.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, fe'n dyscir gan dy air sanctaidd, fod calonnau brenhinoedd wrth dy reolaeth a'th lywo­draeth di. ath fod ti yn eu gosod hwynt ac yn eu hymchwelyd, fel y mae dy ddu­wiôl ddoethineb yn gweled bod yn oreu: Yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti, felly osod a llywo­draethu calon Charles dy wasanaethwr, ein Bren­hin a'n llywydd, fel y gallo efe yn ei holl feddyliau, geiriau a gweithredoedd, yn wastad geisio dy anrhy­dedd di, a'th ogoniant, a myfyrio ar gadw dy bobl a rodded yn ei gadwraeth ef, mewn digonoldeb, tan­gneddyf, a duwioldeb: Caniadhâ hyn drugarog Dâd, er cariad ar dy anwyl Fab Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y dywedir Colect y Dydd; Ac yn nesaf ar ôl y y Colect y darllain yr Offeriad yr Epistol gan ddywe­dyd, Yr Epistol [neu, Y rhan o'r Scrythur a appwyntiwyd yn lle [Page] 'r Epistol] scrifenedic yn y — bennod o — yn dechreu ar y — wers. Ac wedi diweddu yr Epistol efe a ddywaid, Yma y terfyna yr Epistol. Yna y darllein efe yr Efengyl (a'r bobl i gyd yn ei sefyll) gan ddywedyd, Yr Efengyl sanctaidd fendigedic a scrifennir yn y — bennod o — yn dechreu ar y — wers. Ac wedi gorphen yr Efengyl, y cenir neu y dywe­dir y Credo y sy'n canlyn, a'r bobl fyth yn sefyll, megis o'r blaen.

CRedaf yn un Duw Tâd, Holl-all­uog, Creawdr Nef a daiar, ac oll weledigion, ac anweledigion. Ac yn un Arglwydd Jesu Grist, yr unie cenhedledig Fâb Duw, cenhedledig gan ei Dâd tyn yr holl oesoedd, Duw o Dduw, llewyreh o lewyrch, gwir Ddnw, o wîr Dduw, cenhedledig, nid gwneu­thuredig, yn un hanfod â'r Tâd, gan yr hwn y gw­naethpwyd pob peth: yr hwn erom ni ddynion, ac er ein iechydwriaeth a ddiseynnodd o'r nefoedd, ac a gnawdiwyd drwy yr Yspryd glân o fair forwyn, ac a wnaethpwyd yn ddyn, ac a groes-hoeliwyd hefyd trosom tan Pontius Pilatus. Efe a ddioddefodd at a gladdwyd a'r trydydd dydd efe a adgyfododd yn ôl yr Scrythyrau, ac a escynnodd i'r nef, ac y sydd yn eistedd ar ddeheu-law yr Tâd. A thrachefn y daw efe drwy ogoniant i farnu y byw a'r meirw; ac ar ei deyr­nas ni bydd trangc. A chredaf yn yr Yspryd glân, yr Arglwydd a'r Bywiawdr, yr hwn sydd yn dei­lliaw o'r Tâd a'r Mâb, yr hwn ynghŷd a'r Tâd a'r Mâb a gyd-addolir, ac a gyd-ogonedir, yr hwn a lefarodd trwy yr Prophwydi. A chredaf fod un Ca­tholic ac Apostolic Eglwys. Addesaf un Bedydd er maddeuant pechodau. Ac edrychaf am adgyfodiad y meirw, a bywyd y byd sydd ar ddyfod. Amen.

¶ Yna y Curat a fynega i'r bobl pa wyliau neu ymprydi­au y fydd i'w cadw yn yr wythnos yn canlyn. Ac yna hefyd (obydd achos) rhodder Rhybudd o'r Cymmun, a gofynner Gostegion Priodasau, a darllener llythyrau [Page] Cascl, Dyfynnau, ac Escymmyndodau. Ac ni chyhoc­ddir, ac ni fynegir dim yn yr Eglwys, hyd y parhâo Gwasanaeth Duw, ond gan y Gwenidog ei hun, na dim ganddo yntef, ond a erchir yn rheolau y llyfr hwn neu a orchymynir gan y Brenhin, neu gan Ordinari y lle.

¶ Yna y canlyn y Bregeth neu un o'r Homiliau a ddoded allan eusus, neu a ddoder allan rhag llaw drwy awdur­dod.

¶ Yna y dychwel yr Offeiriad at Fwrdd yr Arglwydd ac a ddechreu yr Offrymiad, gan ddywedyd un neu ychwa­neg o'r sentensiau yn canlyn, y cyfryw o'i synwyr ei hun a welo yn gymhwysaf.

S. Mat. 5. 16 LLewyrched felly eich goleuni ger bron dynion fel y gwelont eich gw­eithredoedd da chwi, ac y gogone­ddont eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

S. Mat. 6. 19 20. Na thryssorwih iwch dryssorau ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta; eithr tryssorwch i chwi dryssorau yn y Nef lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru; a lle ni's cloddia lladron trwodd; ac nis lladrattânt.

S. Mat. 7. 13 Pa bethau bynnac oll a ewyllysioch ei wnethur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw yr Gyfraith a'r Prophwydi.

S. Mat. 7. 21 Nid pob un sydd yn dywedyd wrthif, Arglwydd Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn a wna ewyllys fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefo­edd.

S. Luk. 19. 8 ʒaccheus a safodd ac a ddyweddodd wrth yr Argl­wydd, wele, hanner fy na, O Arglwydd yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion, ac os dugym ddim o'r eiddo neb drwy gam-achwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwer­ydd.

1 Cor. 9. 7. Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwin-llan, ac uid yw yn bwyta o'i [Page] ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd?

1 Cor. 9. 11 Os nyni a hauasom i chwi bethau Ysprydol, ai mawr yw; ‘os nyni a fedŵn eich pethau cnawdol?

31, 14. Oni wyddoch chwi fod y rhai sy yn gwneuthur pe­thau cyssegredic, yn bwyta o'r cyssegr: a rhai sy yn gwasanaethu yr allor, yn gyd-gyfrannogion o'r allor? Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai sy'n pregethu, yr Efengyl, fyw wrth yr Efangyl.

2 Cor. 9. 6. 7 A yr hwn sydd yn hau yn brin fêd hefyd yn brin ac a hauo yn helaeth a fed yn helaeth. Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded, nid yn athrist, neu trwy gymmell, canys rhoddwr llawen, y mae Duw yn ei garu.

Gal. 6. 6, 7. Cyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair a'r hwn sydd yn ei ddyscu ymmhob peth da. Na thwyller chwi, ni watwerir Duw: canys beth bynnac a hauo dyn, hynny hefyd a fêd efe.

Gal. 6. 10. Tra ydym yn cael amser cyfaddas gwnawn dda bawb ond yn enwedic i'r rhai sy o deulu 'r ffydd.

1 Tim. 6. 6, 7. Duwiolder sydd gyfoeth mawr, o bydd dŷn fodd­lon i'r hyn sydd ganddo, canys ni ddaeth gennym ddim i'r byd ac ni allwn ddwyn dim o'r byd ymaith.

1 Tim. 6. Gorchymyn i'r rhai sy' gyfoethogion yn y bŷd hwn, fod yn barod i roddi, ac yn llawen i gyfrannu, gan o­sod sail dda iddynt eu hun erbyn yr amser sydd yn dy­fod, fel y caffont y bywyd tragywyddol.

Heb. 6. 10. Nid ydyw Duw yn anghyfion, fel y gollyngo dros gof eich gweithredoedd a'ch trafael a ddel o gariad; yr hyn a ddangosasoch chwi er mwyn ei Enw ef, y sawl a roesoch i'r Sainct, ac ydych etto yn rho­ddi.

Heb. 13. 16. Na ollyngwch dros gof wneuthur daioni a chy­frannu: canys â chyfryw aberth y bodlonir Duw.

1 Joan 3. 17 Pwy bynnac sydd iddo dda yr byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei drugaredd oddi­wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn trigo ynddo ef?

Tob. 4. 7. Dyro gardod o'th dda, ac na thro un amser dy wy­neb [Page] oddi-wrth un dŷn tlawd, ac felly ni thrŷ'r Argl­wydd ei wyneb oddi-wrthit titheu.

Tob. 4. 8. Bydd drugarog yn ôl dy allu: os bydd llawer i'th helw dyro yn aml, os bydd ychydic, bydd ddyfal i ro­ddi yn llawen o'r ychydic: canys felly cynhulli i ti dy hun wobr da yn nydd yr anghenrhaid.

Dihar. 19. 17. Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rho­ddi echwyn i'r Arglwydd: ac edrych beth a roddo efe ymaith, fe a delir iddo drachefn.

Psal. 41 1. Bendigedic fyddo'r dŷn a roddo i'r clâf a'r anghen­us yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser trwbl.

¶ Tra bydder yn darllain y sentensiau hyn, y Diaconiaid, Wardeniaid yr Eglwys, neu ryw un cymhesur arall a a appwyntir i hynny, a dderbyniant yr Elusenau i'r tlo­dion, a defosionau eraill y Bobl mewn cawg gweddus, a ddarperir gan y plwyf i hynny, ac ai dygant yn barchus at yr Offeiriad: Yntef a'i cyflwyna yn ufudd, ac a'i dŷd ar y Bwrdd sanctaidd.

¶ A phan fo Cymmun yr Offeiriad a esyd ar y Bwrdd Fara a Gwin, hyn a dybio yn ddigonol. Gwedi darfod hynny, y dywaid yr Offeiriad.

Gweddiwn dros holl stât Eglwys Grist sy yn mi­lwrio yma ar y ddaiar.

HOll-alluog a thragwyddol Dduw, yr hwn trwy dy sanctaid Apostol a'n dyscaist i wneuthur gweddiau ac er­fyniau, i ddiolch dros bob dŷn: yr yd­ym ni yn ostyngedic yn attolwg i ti yn drugaroccaf gymmeryd ein eluse­seni Oni bydd dim eluse­ni nac offry­mau yna ga­dawer y geiriau hyn (gymmeryd ein eluseni ac offrym­mau) heb ddywedyd. a'n hoffrymmau a derbyn ein gweddiau hyn, y rhai 'r ydym yn eu hoffrwm i'th ddwywol fawredd, gan attolygu i ti ysprydoli yn wa­stad yr Eglwys gyffredinol ag Yspryd y gwirionedd, undeb, a chyd-gordio; a chaniadhâ i bawb ac y sy yn cyffessu dy Enw sancteiddiol, gytuno yngwirionedd dy sanctaidd air, a byw mewn unded a duwiol gariad, Ni a attolygwn i ti hefyd gadw, ac ymddiffyn holl [Page] Gristianus Frenhinoedd, Tywysogion a llywiawd­wŷr, ac yn enwedic dy wasanaethwr Charles ein Brenhin, fel y caffom tano ef ein llywodraethu yn ddu­wiol, ac yn heddychol: A chaniadhâ iw holl gyn­gor ef, ac i bawb ac y sydd wedi eu gosod mewn aw­durdod dano allu yn gywir, ac yn uniawn rainnu cy­fiawnder, er cospi drygioni a phechod, ac er maent­umio dy wîr grefydd di, a rhinwedd dda. Dyro râd nefol Dâd i'r holl Escobion, a Churadiaid, fel y gall­ont drwy eu buchedd a'u hathrawiaeth ossod allau dy wîr a'th fywiol air, a gwasanaethu dy sanctaidd Sacramentau yn iawn ac yn ddyladwy: a dyro i'th holl bobl dy nefawl râd, ac yn enwedig i'r gynnull­eidfa hon sydd yma yn gydrychiol, fel y gallont ag ufudd galon a dyledus barch wrando a derbyn dy sanctaidd air, gan dy wasanaethu yn gywir mewn sancteiddrwydd ac uniondeb holl ddyddiau e'n bywyd. Ac ydd ŷm yn ostyngedic yn attolygu i ti o'th ddaioni Arglwydd, gonfforddio a nerthu pawb ac y sy yn y bywyd trangcedic hwn, mewn trwbl, tristwch, an­gen, clefyd, neu ryw wrthwyneb arall Ac yr ŷm ni hefyd yn bendithio dy enw sanctaidd o ran dy weision, a ymadawsant a'r bywyd yma yn dy ffydd di a'th ofn, gan attolygu i ti, roddi i ni râs felly i ddilyn eu esâm­plau da hwy, fel gyda hwynt y gallom fod yn gyfran­nogion o'th deyrnas nefol, Caniadhâ hyn, o Dâd, er cariad ar Jesu Grist, ein unic gyfryng-wr a'n dadleu­wr. Amen.

¶ Pan fo 'r Gwenidog yn rhoddi rhybudd o Finistriad y Cymmun bendigedig (yr hyn a wneiff efe yn wastad ar y Sûl neu ryw Ddydd gwŷl nesaf ymlaen) ar ol di­weddu y Bregeth neu Homili efe a dderllyn y cyngor hwn yn canlyn.

FY anwyl Garedigion ar y—dydd nesaf yddwyf yn amcanu drwy help Dduw finistrio i bawb ffyddlon a de­fosionol dragyssurus Sacrament Corph a Gwaed Crist, i'w dderbyn ganddynt er coffâu ei ryglyddus Grôg a'i Ddioddefaint, trwy ba un [Page] y cawn faddeuant am ein pechodau, ac in gwneir yn gyfrannogion o deyrnas nef. O herwydd pa ham ein dyledswydd yw talu ufudd a ffyddlon ddiolch ir Holl alluog Dduw ein Tâd, nefol. am iddo roddi ei Fab ein Jachawdr Jesu Grist nid yn unig i farw trosom, eithr i fod hefyd yn ymborth a lluniaeth ys­prydol i ni yn y Sacrament bendigedig hwnnw. Yr hyn beth gan ei fod mor Dduwiol a chyssurus i'r sawl a'i derbyniant yn deilwng, ac mor enbydus i'r rhai a ryfygant ei dderbyn yn annheilwng, fy nyled i yw eich cynghori chwi yn y cyfamser i ystyried ar­dde rchowgrwydd y dirgeledigaeth bendigedig hwn­nw, a'r mawr berigl oi dderbyn yn annheilwng; ac felly i chwilio a phrofi eich cydwybodau eich hunain (a hynny nid yn yscafn ac yn ol dull rhai yn rhagri­thio a Duw, ond) fel y galloch ddyfod yn lûn ac yn sanctaidd ir cyfryw wlêdd nefol yn y wisc-briodas yr hon a ofyn Duw yn y Scrythur lân, a chael eich der­byn megis Cyfrannogion teilwng o'r bwrdd bendige­dig hwnnw.

Y ffordd a'r modd i hynny yw, Yn gyntaf holi eich buchedd a'ch ymarweddiad wrth reol gorchymmynion Duw, ac lle y gweloch eich hunain gwedi trosseddu ac ewyllys, air, neu weithred, yno wylo o herwydd eich cyflwr pechadurus; Ac ymgyffeswch i'r Holl alluog Dduw a llawn fryd ar wellhau eich buchedd. Ac os gwelwch fod eich camweddau nid yn unig yn erbyn Duw, eithr yn erbyn eich cymydogion hefyd yna gwnewch eich cymmod a hwy gan fod yn barod i wneu­thur iawn a diwygiad, hyd eithaf eich gallu, am bob Sarrhaad a chamwri a wnaethoch i neb arall. A chan fod yn barod hefyd i faddeu i eraill a wnaethant i'ch erbyn chwithau, megis yr ewyllysioch faddeuant o'ch pechodau ar law Dduw. Canys heb hyn ni wna cyfrannu o'r Cymmun bendigedig, ond anghwanegu eich damnedigaeth O herwydd hynny od oes neb o honoch yn gablwr Duw yn rhwystrwr, neu enllibi­wr ei air ef, yn odinebwr, neu yn dwyn malais a chen­figen, neu mewn rhyw fai ceryddns arall, Edifarhe­wch am eich pechodau, ac onid e, na ddeuwch i'r [Page] Bwrdd sancteiddiol hwnnw rhag wedi cymmeryd y Sacrament bendigedig hwnnw i Ddiafol fyned i me­wn i chwi megis i Judas fradwr, a'ch llenwi yn llawn o bob anwiredd, a'ch dwyn chwi i ddestryw enaid a chorph.

Ac o herwydd bod yn anghenrheidiol na ddel neb i'r Cymmun bendigedig heb gyflawn ymddiried y n­rhugaredd Dduw ac heb gydwybod heddychlawn; Am-hynny od oes neb o honoch na ddichon y ffordd hon ddyhuddo ei gydwybod ei hun yn hyn, eithr yn rhaid iddo wrth gyssur neu gyngor ymmhellach, deu­ed attafi, neu at ryw un arall weinidog gair Duw, a fyddo pwyllus a dyscedig, a datguddied ei ddolur, er mwyn cael, drwy weinidogaeth sanctaidd air Duw, fawr-lês gollyngdod, gyd a chyngor ac addysc yspryd­ol tuag at lonyddu ei gydwybod, a'i ryddhâu oddiwrth bob amheuaeth a phetrusder.

¶ Neu lle gwelo efe y bobl yn esceulus am ddyfod ir Cymmun bendigedig, yn lle y cyntaf efe a arfer y Cyn­gor yma.

ANwyl Garedigion frodyr, ar — y mae yn fy mrŷd trwy Ras Duw fi­nistrio Swpper yr Arglwydd, i'r hwn o ran Duw i'ch gwahoddaf bawb ac y sydd yma yn gydrychiol, ac a attolygaf iwch er cariad ar yr Arglwydd Jesu Grist, na wrthodoch ddyfod iddo, gan eich bod mor garedigol wedi eich galw, a'ch gwahodd gan Dduw ei hunan. Chwi a wyddoch mor ofidus, ac mor angharedic o beth yw, pan fo gwr wedi arlwyo gwledd werthfawr, wedi trwssio ei fwrdd a phob rhyw arlwy, megis na bai dd­im yn eisieu, onid y gwahoddedigion i eistedd: ac etto y rhai a alwyd heb ddim achos, yn anniolchusaf, yn gwrthod dyfod: pwy o honoch chwi yn y cyfryw gyfl­wr ni chyffroei? pwy ni thybygai wneuthur cam a syrhaad mawr iddo? Herwydd pa ham, fy anwyl ga­redicaf frodyr yn Ghrist, gwiliwch yn dda rhag i chwi, [Page] wrth ymwrthod â'r Swpper sancteiddiol hwn, annog bâr Duw i'ch erbyn. Hawdd i ddŷn ddywedyd, ni chymmunaffi, o herwydd bod negesaubydol i'm rhwy­stro: eithr y cyfryw escusodion nid ydynt mor hawdd eu derbyn yn gymeradwy ger bron Duw. Os dywed neb, yr wyfi yn bechadur brwnt, ac am hynny yn ofni dyfod: pa'm, gan hynny nad, ydych chwi yn edifarhâu, ac yn gwellhau? Pan fo Duw yn eich galw, onid oes gywilydd arnoch ddywedyd na ddeuwch? Pan ddy­lech chwi ymchwelyd at Dduw, a ymescusodwch chwi, a dywedyd nad ydych barod? Ystyriwch yn ddi­frif ynoch eich hunain, fychaned a dâl y cyfryw goeg escusodion ger bron Duw. Y rhai a wrthodasant y wlêdd yn yr Efengyl, oblegit iddynt brynu tyddyn, neu brofi eu hieuau ychen, neu oblegit eu priodi, ni chaw­sant felly mo'u hescusodi, onid eu cyfrif yn annhêil­wng o'r wledd nefawl. Myfi o'm rhan i, a fyddaf barod ac o herwydd fy swydd, yr ydwyf yn eich gwa­hodd yn Enw Duw. Ydd wyf i'ch galw o ran Crist, a megis y caroch ei'ch Jechydwraieth eich hunain yr wyf i'ch cynghori i fod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendigedic hwn. Ac fel y bu wiw gan Fâb Duw ymado ai enioes gan drengi ar y groes dros eich iechyd chwi, felly yn yr un modd y dylech chwithau gymme­ryd y Cymmun er cof am offrymmiadaeth ei angeu ef, fel y gorchymynnodd efe ei hun. Yn awr, os chwy­chwi a esceuluswch wneuthur hyn, Meddyliwch y­noch eich hunain faint y cam-wedd yr ydych yn ei wneuthur â Duw, ac mor flîn yw'r boen y sydd goru­wch eich pennau am hynny, Pan ych yn anhydyn yn ymgadw oddiwrth fwrdd yr Arglwydd, ac yn ymnaill­duo oddiwrth eich brodyr, y rhai syn dyfod i ymborthi ar wlêdd y nefolaf luniaeth hwnnw, Os chwi a ddy­fal ystyriwch y pethau hyn, trwy râs Duw chwi a ddychwelwch i feddwl a fo gwell. Er mwyn caffael o honoth hynny nid arbedwn ni wneuthur yn ostynge­dit ein erfyniau i'r Hollalluog Dduw ein Tâd nefol.

¶ Ar amser Ministriad y Cymmun, a'r Cymmunwyr wedi eu cyflêu yn weddus i gymmeryd y Sacrament ben­digedig yr Offeiriad a ddywed y Cynghor hwn.

ANwyl garedigion yn yr Arglwydd, y sawl sydd yn meddwl dyfod i fen­digedic Cymmun corph a gwaed ein Jachawdr Crist, rhaid i chwi ystyried y modd y mae Sanct Paul yn cynghori pawb iw profi, ac iw holi eu hunain yn ddyfal, cyn iddynt ryfygu bwytta o'r bara hwnnw, ac yfed o'r cwppan hwnnw. Canys fel y mae y llês yn fawr, os a cha­lon wîr edifeiriol, ac â bywiol ffydd y cymmerwn y Sacrament, bendigedic hwnnw (canys yna ydd ŷm ni yn ysprydawl yn bwytta cîg Crist, ac yn yfed ei wa­ed ef; yna yr ydym yn trigo yn Ghrist, a Christ ynom ninnau, ydd ŷm ni yn un â Christ, a Christ â ninnau) felly y mae yr perigl yn fawr, os ni a'i cymmer yn an­nheilwng. Canys yna ydd ŷm ni yn euog o gorph a gwaed Crist ein Jachawdr, yr ydym ni yn bwyta ac yn yfed ein barnedigaeth ein hunain, heb ystyried cor­ph yr Arglwydd. Yr ydym yn ennyn digofaint Duw i'n herbyn, yr ŷm ni yn ei annog ef i'n plau ag amra­fael glefydau, ac amryw angau. Bernwch gan hynny eich hunain (frodyr) megis na'ch barner gan yr Ar­glwydd. Gwir edifarhewch am eich pechodau a aeth heibio. Bid gennwch fywiol a diogel ffydd yn Ghrist ein Jachawdr Gwellhewch eich buchedd, a byddwch mewn cariad perffaith â phawb; felly y byddwch weddus gyfrannogion o'r dirgeledigaethau sancteidd­iol hyn. Ac o flaen pob peth y mae yn rhaid i chwi roddi gostyngeidiaf a charediccaf ddiolch i Dduw Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glan, am brynedigaeth y byd, drwy angau a dioddefaint ein Jachawdr Crist Duw a dŷn, yr hwn a ymostyngodd i angau ar y groes drosom ni bechaduriaid truain, y rhai oeddym yn gorwedd mewn tywyllwch a chyscod angau, fel y gallei efe ein gwneuthur ni yn blant i Dduw, a'n dyrchafel i [Page] fywyd tragywyddol. Ac er cofio o honom yn wastad ddirfawr gariad ein Harglwydd a'n unic Jachaw­dr Jesu Grist fel hyn yn marw drosom, a'r anei­rif ddoniau daionus, y rhai drwy dywallt ei werth­fawr waed) a enillodd efe i ni: efe a osododd, ac a ordeiniodd sanctaidd ddirgeledigaethau, fel gwyst­lon o'i gariad, a gwastadol gof am ei angeu er mawr ac anherfynawl gonffordd i ni. Gan hynny iddo, ef, gyd â'r Tad, a'r Yspryd glân rhoddwn (fel ydd ŷm rwymediccaf) wastadol ddiolch, gan ymostwng yn gwbl iw sanctaidd ewyllys ef: a myfyrio ei wasanae­thu ef mewn gwir sancteiddrwydd, a chyfiawnder, holl ddyddiau ein heinioes. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad wrth y rhai a fo yn dyfod i gymmeryd y Cymmun bendigedic.

CHwy-chwi y sawl y sydd yn wîr, ac yn ddi­frifol yn edifarhau am eich pechodau, ac y sydd mewn cariad perffaith a'ch cymmy­dogion, ac yn meddwl dilyn buchedd ne­wydd a chanlyn gorchymynion Duw, a rho­dio o hyn allan yn ei ffyrdd sancteiddiol ef. Deuwch yn nês trwy ffydd a chymmerwch y Sacrament sanctei­ddiol hwn i'ch conffordd, a gwnewch eich gostynge­dic gyffes i'r Holl-alluog Dduw gan ostwng yn ufudd ar eich gliniau.

¶ Yna y dywedir y gyffes gyffredin hon, yn enw pawb o'r rhai a fyddont ar feddwl cymmeryd y Cymmun ben­digedig, gan un o'r Gwenidogion yntef a'r bobl oll yn gostwng yn ufudd ar eu gliniau ac yn dywedyd.

OLl-alluog Dduw, Tad ein Hargl­wydd Jesu Grist, gwneuthur-wr pob dim, barn-wr pob dyn, ydd ŷm ni yn cydnabod, ac yn ymofidio dros ein amryw bechodau a'n anwiredd, y rhai o ddydd i ddydd yn orthrwm a wnaethom, ar feddwl, gair, a [Page] gweithred, yn erbyn dy Dduwiol fawredd, gan an­nog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th fâri'nherbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhau, ac yn ddrwg gan ein calonnau, dros ein cam-weithredoedd hyn, eu coffa sy drwm gennym, eu baich sydd anraith ei oddef: Tru­garâ wrthym, trugarhâ wrthym, drugaroccaf Dâd, er mwyn dy un Mâb ein Harglwydd Jesu Grist, ma­ddeu i ni yr hyn oll a aeth hediô, a chaniadhâ i ni allu byth o hyn allan, dy wasanaethu a'th fodloni, mewn newydd-deb buchedd, er anrhydedd a gogoniant dy enw; trwy Jesu Grist ein Harglwyd. Amen.

¶ Yna yr Offeiriad neu yr Escob (os bydd yn gydrychi­ol) a saif, gan droi at y bobl, a ddatgan yr Absolusion hwn.

HOll-alluog Dduw, ein Tâd nefawl, yr hwn o'i fawr drugaredd a addawodd faddeuant pechodau i bawb gan edifeirwch calon a gwîr ffydd a ymchwel atto, a drugarâo wrthych, a faddeuo i chwi, ac a'ch gware­do oddiwrth eich holl bechodau, ac a'ch cadarnhâo, ac a'ch cryfhâo, ym-mhob daioni, ac a'ch dygo i fywyd tragywyddawl, trwy Jesu Grist ein Harglwyd. Amen.

Yn ôl hynny y dywed yr Offeiriad.

Gwrandewch pa ryw eiriau confforddus a ddywed ein Jachawdr Crist wrth bawb a wîr ymchwelont atto ef.

S. Mat. 11. 28. DEuwch attafi bawb ac y sydd yn trafaelu ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.

S. Joan 3. 16 Felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddes efe ei unig-anedic Fâb, modd nad elai neb a gredai ynddo ef ynghyfrgoll, namyn caffael bywyd tragywyddol.

Gwrandewch hefyd beth y mae Sanct Paul yn ei ddywedyd.

1 Tim. 1. 15 Hwn sydd air gwir, a theilwng i bawb iw dder­byn, ddyfod o Jesu Grist i'r byd i iachâu pechadu­riaid.

[Page]Gwrandewch hefyd beth a ddywaid Joan Sanct.

S. Joan 2. 1. Os pecha neb, mae i ni ddadleu-wr gyd â'r Tâd, Jesu Grist y cyfion; ac efe yw yr aberth dros ein pe­chodau.

¶ Yn ôl y rai hyn yr â yr Offeiriad rhagddo, gan ddy­wedyd.

Derchefwch eich calonnau.

Atteb.

Yr ydym yn eu derchafael i'r Arglwydd.

Yr Offeiriad.

Diolchwn i'n Harglwydd Dduw.

Atteb.

Mae yn addas, ac yn gyfiawn gwneuthur hynny.

¶ Yna yr Offeiriad a dry at Fwrdd yr Arglwydd, ac a ddywed.

Y Mae yn gwbl addas, yn gyfiawn, a'n rhwy­medic Y geiriau hyn, [ Sanc­teiddiol Dâd] a adewir hei bio ar Sul y Drindod. ddyled ni yw, bob amser, ac ym-mhob lle ddiolch i ti Arglwydd sancteiddiol Dâd, Oll­alluog, dragywyddol Dduw.

¶ Yma issod y canlyn y rhagymadroddion priodawl wrth yr amser, os bydd yr un wedi ei osod yn yspysawl. Ac onid ê, yn ddi-dor y canlyn.

CAn hynny gyd ag Angelion ac Arch-angelion, a chyd ag oll gwmpeini nef, y moliannwn, ac y mawrhawn dy ogoneddus Enw, gan dy foti­annu yn wastad a dywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw yr lluoedd. Nef a daiar sydd yn llawn o'th ogoniant: gogoniant a fo i ti o Arglwydd goruchaf. Amen.

¶ Rhagymadroddion priawd.

¶ Ar ddydd Natalic Christ a saith niwrnod gwedi.

AM i ti roddi Jesu Grist dy un Mâb iw eni ar gy­fer yr amser yma drosom ni▪ yr hwn trwy wei­thrediad yr Yspryd glân a wnaethpwyd yn wîr ddyn, o hanfod y forwyn Fair i fam, a hynny heb ddim [Page] pechod, i'n gwnenthur ni yn lân oddi wrth bob pechod. Gan hynny gyd ag Angelion ac Archangelion, &c.

¶ Ar ddydd Pasc, a saith ddiwrnod gwedi.

ONid yn bendifaddef, ydd ŷm yn rhwymedic i'th foliannu, dros anrhydeddus gyfodiad dy Fâb Jesu Grist ein Harglwydd: canys efe yw 'r gwîr oen Pasc, yr hwn a offrymwyd drosom, ac a ddilêawdd bechod y byd, yr hwn trwy ei angeu ei hun a ddinistriodd angeu, a thrwy ti adgyfodiad i fywyd a adferodd i ni fywyd tragywyddol: can hynny gŷd ag Angelion▪ &c.

¶ Ar ddydd y Dyrchafael, a saith ddydd gwedi.

TRwy dy anwyl garediccaf Fâb Jesu Grist ein Harglwyd, yr hwn yn ol ei anrhydeddus gyfo­diad▪ a ymddangosodd yn eglur iw holl Apo­stolion, ac yn eu golwg a escynnodd i'r nefoedd, i ba­ratoi lle i ni, megis lle y mae efe, yno yr escynnom nin­nau hefyd, ac y teyrnasom gyd ag ef mewn gogoniant: Can hynny gyd ag Angelion, &c.

¶ Ar ddydd Sul-gwyn, a chwe diwrnod yn ôl.

TRwy Jesu Grist ein Hargl. oddi wrth yr hwn yn ôl ei gywiraf addewid y descynnodd yr Yspryd glân ar gyfer yr amser yma o'r nef, a disym­wth swn mawr megis gwynt nerthoc, ar wêdd tafo­dau tanllyd: gan ddiscyn ar yr Apostolion iw dyscu hwynt, ac iw harwain i bob gwirionedd, gan roddi iddynt ddawn amryw ieithoedd, a hyder hefyd gyd a chariad gwresog, yn ddyfal i bregethu yr Efengyl i'r holl genhedloedd, trwy yr hyn i'n dygpwyd allan o dywyllwch, a chyfeiliorni, i'th eglur oleuni, ac i wir wybodaeth am danat ti, a'th fûb Jesu Grist. Can hynny gyd ag Angelion &c.

¶ Ar wyl y Drindod yn unic.

YR hwn wyt un Duw, un Arglwydd, nid un person yn unic, onid tri pherson mewn un sy­lwedd Canys yr hyn ydym yn ei gredu am o­goniant y Tâd, hynny yr ydym yn ei gredu am y Mâb ac am yr Yspryd glân heb na gwahaniaeth, nac an­ghymmedr. Can hynny gyd ac, &c.

¶ Ar ol pob un o'r Rhagymadroddion hyn yn ddi-dor y cenir neu y dywedir.

CAn hynny gyd ag Angelion ac Arch-angelion, a chyd ag oll gwmpeini nef, y moliannwn, ac y mawrhawn dy ogoneddus Enw, gan dy foli­annu yn wastad a dywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw yr lluoedd. Nef a daiar sydd yn llawn o'th ogoniant: gogoniant a fo i ti o Arglwydd goruchaf. Amen.

¶ Yna yr Offeiriad ar ei liniau wrth fwrdd yr Arglwydd a ddywed yn enw yr holl rai a gymmerant y Cymmun, y weddi hon y sydd yn canlyn.

Nid ŷm ni yn rhyfygu dyfod i'th fwrdd di yma drugarog Arglwydd, gan ymddiried yn ein cyfiawnder ein hu­nain, eithr yn dy aml a'th ddirfawr drugaredd di, nid ydym ni deilwng cymmaint ac i gasclu yr briwsion tan dy fwrdd di: Eithr tydi yw yr un Arglwydd, yr hwn biau o brio­doldeb yn wastad drugarhâu, Caniadhâ i ni gan hyn­ny Arglwydd grasawl, felly fwyta cnawd dy an­wyl Fâb Jesu Grist, ac yfed ei waed ef, fel y gallo ein cyrph pechadurns gael eu gwneuthur yn lân drwy ei gorph ef, a'n eneidiau eu golchi drwy ei werthfawr­occaf waed ef, fel y gallom byth drigo ynddo ef, ac ynteu ynom ninnau. Amen.

¶ Pan ddarffo i'r Offeiriad yn sefyll wrth y Bwrdd felly drefnu y Bara a'r Gwîn, fel y gallo yn barottach ac yn weddeiddiach dorri y Bara yngwydd y Bobl, a chymmer­yd y Cwppan i'w ddwylo, efe a ddywed weddi y Cysse­griad, fel y mae yn canlyn.

HOll-alluog Dduw ein Tad nefol, yr hwn o'th dyner drugaredd a roddaist dy un Mab Jesu Grist i ddioddef an­geu ar y groes er ein prynu, yr hwn a wnaeth yno (trwy ei offrymiad ei hun yn offrymedic unwaith) gyfla­wn, berffaith, a digonawl. aberth, offrwm, ac iawn, dros bechodau yr holl fŷd; ac a ordei­niodd, ac yn ei sanctaidd Efengyl a orchymynnodd i ni gadw tragywyddol goffa am ei werth-fawr ang­eu hynny, nes ei ddyfod trachefn. Gwrando ni drugarog Dad, ni a attolygwn i ti, a chaniatha i ni, gan gymmeryd dy greaduriaid hyn o fara a gwin, yn ol sanctaidd ordinhâd dy Fab Jesu Grist ein Jacha­wdr, er côf am ei angeu a'i ddioddefaint, allu bod yn gyfrannogion o'i fendigedic gorph a'i waed. Yr hwn ar y nos honno y bradychwyd, Yma y cymmer yr Offeiriad y ddyscl iw ddwylo. a gymmerth fara, ac wedi iddo ddiolch Ac yma efe a dyrr y Bara. Efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iw ddiscyblion, gan ddywedyd: Cymmerwch bwyte­wch, Ac yma y dyd ei lawar yr holl fara. hwn yw fy nghorph yr hwn ydd ydys yn ei roddi drosoch, gwnewch hyn er côf am danaf. Yr un modd gwedi swpper, Yna y cymmer y Cwppan iw law. efe a gymmerth y cwpan, ac wedi iddo ddiolch, efe a'i rhoddes iddynt gan ddywe­dyd, Yfwch o hwn bawb, canys hwn Ac yma y dyd ei law ar bob llestr Cwppan neu ffagon yn yr hwn y bodim gwin iw gyssegru. yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch, a thros lawer er maddeuant pechodau: gwnewch hyn cynnifer gwaith ac ei hyfoch, er côf am danaf. Amen.

¶ Yma y Gweinidog a gymmer y Cymmun yn gyntaf yn y ddau ryw ei hun ac yna 'r aiff y mlaen i roddi yr unrhyw ir Escobion, Offeriaid a Diaconiaid yr un modd (os bydd yr un yn bresennol) Ac wedi hynny i'r bobl hefyd mewn [Page] trefn iw dwylaw, a phawb yn ostyngedig ar eu gliniau. A phan roddo y Bara i bob un efe a ddywed.

COrph ein Harglwydd Jesu Grist yr hwn a roddwyd drosot ti, a gatwo dy gorph a'th en­aid i fywyd tragywyddol: Cymmer, a bwyta hwn, er côf farw o Grist drosot ti, ac ymborth arno yn dy galon drwy ffydd, gan roddi diolch.

¶ A'r Gwenidog a fo yn rhoddi y cwppan i bob un a ddywed.

GWaed ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn a dy­walltwyd drosot ti. a gatwo dy gorph a'th en­aid i fywyd tragywyddol: ŷf hwn er côf ty­wallt gwaed Crist trosot ti, a bydd ddiolchgar.

¶ Os bydd y Bara neu 'r Gwin cyssegredig wedi eu treu­lio oll cyn cymmuno o bawb, cyssegred yr Offeiriad ychwaneg yn ol y dull uchod gan ddechreu ar (ein ia­chawdr Crist y nôs, &c.) i fendigo y Bara. Ac ar (Yr un modd gwedi Supper, &c. i fendigo y Cwppan.

¶ Pan fo pawb wedi Cymmuno y Gweinidog a ddych­wel at Fwrdd yr Arglwydd, a thrwy barch a esyd arno a fo yngweddill o'r Elementau cysegredig gan danu lliain glân trostynt.

¶ Yna yr Offeiriad a ddywed weddi yr Arglwydd, a'r bobl yn adrodd pob arch o honi ar ei ôl ef.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara bennyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r Deyrnas a'r gallu, a'r gogoni­ant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Wedi hynny y dywedir fel yn canlyn.

O Arglwydd, a nefawl Dad, yr ydym ni dy ostyngedic weision yn cwbi ddeisyfu ar dy dadol ddaioni yn dru­garog dderbyn ein haberth hyn o foliant a diolwch, gan erfyn arnat yn ostyngeiddiaf, ganiadhau bod trwy ryglyddon ac angeu dy Fab Jesu Grist, a thrwy ffydd yn ei waed ef, i ni ac i'th holl Eglwys gael maddeuant o'n pechodau, a phob doniau eraill o'i ddioddefaint ef. Ac yma ydd ŷm yn offrwm ac yn cynnhyrchu i ti o Arglwydd, ein hunain, ein eneidiau, a'n cyrph, i fod yn aberth rhesymol, san­ctaidd, a bywiol i ti, gan atolygu i ti yn ostyngedic fod i bawb o honom y sy' gyfrannogion o'r Cymmun ben­digeid hwn, gael ei cyfiawni â'th rad, ac â'th nefol fen­dith. Ac er ein bod ni yn annheilwng drwy ein amra­faelion bechodau, i offrwn i ti un aberth: etto ni a atto­lygwn i ti gymmeryd ein rhwymedic ddylêd, a'n gwa­sanaeth hyn, nid gan bwyso ein haeddedigaethau, onid gan faddeu ein pechodau, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, trwy yr hwn, a chŷd a'r hwn▪ yn un­dawd yr Yspryd glân, holl anrhydedd a gogniant a fyddo i ti Dad holl-alluog, yn oes oesoedd Amen.

¶ Neu hyn.

HOll-alluog, a byth-fywiol Dduw, yr ydym ni yn dirfawr ddiolch i ti, am fod yn wiw gennit ein porthi ni y rhai a gymmerasom yn ddyledus y y dirgeledigaethau sancteiddiol hyn, ac ysprydawl ymborth gwerthfaw­roccaf gorph a gwaed dy Fab ein Jachawdr Jesu Grist, ac wyt yn ein siccrhau ni drwy hynny o'th ymgeledd, ac o'th ddaioni i ni, a'n bod yn wîr aelodau wedi ein corpholaethu yn nirgel gorph dy Fâb yr hwn yw gwynfydedic gyn­nulleidfa [Page] yr holl ffyddlon bobl, a'n bod hefyd trwy obaith yn etifeddion dy deyrnas dragywyddol, gan haeddedigaethau gwerthfawroccaf angau a dio­ddefaint dy anwyl Fab: Ac Ydd ŷm ni yn ostyngedic yn attolygu i ti o nefawl Dad, felly ein cynnorth­wyaw ni â'th râd, fel y gallom yn wastad aros yn y sanctaidd gymdeithas honno, a gwneuthur pob rhyw weithredoedd da ac a ordeiniaist i ni rodio ynddynt, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gyd â thi a'r Yspryd glân, y bo holl anrhydedd, a gogoniant yn dragywyddol. Amen.

¶ Yna y dywedir, neu y cenir.

GOgoniant i Dduw yn yr uchelder, ac yn y ddaiar tangneddyf, ewyllys da i ddynion. Ni a'th addolwn, ni a'th fendithiwn, ni a'th ogo­neddwn, i ti y diolchwn am dy fawr ogoniant, Arglwydd Dduw, frenin nefol, Duw Tad holl alluog. Arglwydd, yr unic genedledic Fab Jesu Grist, Ar­glwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad, yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd, trugarhâ wrthym. Ti yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd, trugarhâ wrthym. Ti yr hwn wyt yn dilêu pechodau yr byd, derbyn ein gweddi. Ti yr hwn wyt yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Tad, trugarhâ wrthym.

Canys ti yn unic wyt sanctaidd, ti yn unic wyt Ar­glwydd, ti yn unic Grist, gyd a'r Ysbryd glân wyt oru­chaf yngogoniant Duw Tad. Amen.

¶ Yna yr Offeriad, neu yr Escob, os bydd yn bresennol, a ollwng y bobl ymaith a'r fendith hon.

TAngneddyf Dduw yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a gatwo eich calonnau a'ch me­ddyliau yngwybodaeth a chariad Duw a'i Fab Jesu Grist ein Harglwyd. A ben­dith Dduw holl-alluog, y Tad, y Mab, a'r [Page] Yspryd glan fyddo i'ch plith, ac a drigo gyd a chwi yn wastad. Amen.

¶ Colectau iw dywedyd yn ol yr offrymiad, pryd na bo un Cymmun, bob rhyw ddiwrnod, un neu ychwaneg. A'r un rhai a ellir eu dywedyd hefyd cynnifer amser ac y byddo achos yn gwasanaethu, wedi yr Colectau ar y foreuol neu'r Brydnhawnol weddi, y Cymmun, neu yr Letani, fel y gwelo yr Gwenidog fod yn gymhesur.

CYnnorthwya ni yn drugarog Arglwydd, yn ein gweddiau hyn. a'n erfyniau, a llywodr­aetha ffordd dy wasanaeth-ddynion tu ag at gaffaeliad iechyd tragywyddawl, fel ym-mysc holl gyfnewidiau a damweinian y bywyd marwol hwn, y gallont byth gael eu ham­ddiffyn drwy dy radlawnaf a'th barotaf borth, trwy Jesu Grist ein Harglwydd, Amen.

HOll-alluog Arglwydd, a byth-fywiol Dduw, ni a attolygwn i ti fod yn wiw gennit uniaw­ni, sancteiddio, a llywodraethu ein calonnau a'n cyrph, yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymynion, megis trwy dy gadarnaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y gallom fod yn gadwedit gorph ac enaid, trwy ein Harglwydd a'n Jachaw­dr Jesu Grist. Amen.

CAniatâ, ni a attolgwn i ti Holl-alluog Dduw, am y geiriau, a glywsom heddyw â'n clustiau oddi allan, eu bod felly drwy dy râd, wedi eu plannu yn em calonnau oddi mewn, fel y gallont ddwyn ynom ffrwyth buchedd dda, er anrhydedd a moliant i'th Enw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

RHag-flaena ni, o Arglwydd, yn ein holl weithre­doedd, â'th radlonaf hoffder, a rhwyddhâ ni â'th barthâus gmmorth, fel yn ein holl wei­thredoedd dechreuedic, aunherfynedic, a therfynedic [Page] ynoti, y gallom foliannu dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd▪ fywyd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog Dduw, ffynnon yr holl ddoethineb, yr hwn wyt yn gwybod ein angenrheidiau cyn eu gofynnom, a'n hanwybodaeth yn gofyn: Ni a attolygwn i ti, dosturio wrth ein gwendid, a'r pe­thau hynny, y rhai oblegid ein annheilyngdod ni feiddiwn, ac oblegit ein dallineb ni fedrwn eu gofyn, fod yn deilwng gennit eu rhoddi i ni er teilyngdod dy Fab Jesu Grist ein Harglwydd Amen.

HOll alluog Dduw, yr hwn a addewaist wran­do eirchion y rhai a ofynnant yn Enw dy Fab, ni a attolygwn i ti ostwng yn drugarog dy glustiau attom ni, y rhai a wnaethom yr awr hon ein gweddiau a'n erfynion attat, a chaniattâ am y pethau hyn a archasom yn ffyddlawn yn ol dy ewy­llys, allu o honom eu caffael yn hollawl, i borthi ein hangen, ac er eglurhâu dy ogoniant, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ A'R y Suliau a gwyliau eraill oni bydd Cymmun, y dywedir y cwbl ac a osodwyd ar y Cymmun, hyd ddiwedd y weddi gyffredin (dros holl ystad Eglwys Grist yn milwrio yma ar y ddaiâr) ac un neu ychwaneg o'r Colectau a adroddwyd uchod, gan ddibennu a'r fendith.

¶ Ac ni bydd gwasanaethu Swpper yr Arglwydd, oddi­eithr bod nifer cymmwys o bobl i gymmuno gyd â'r off­eiriad, fel y gwelo efe fod yn iawn.

¶ Ac oni bydd mwy nag ugein-nyn yn y plwyf, o bwyll i gymmeryd y Cymmnu etto ni bydd un Cymmun, oni bydd pedwar, neu dri o'r lleiaf i gymmuno gyd â'r offei­riad.

¶ Ac mewn Eglwysydd Cadeiriol, Colegiat, [Page] a chollegau, lle byddo llawer o Offeiriaid, a Diaconiaid, cymmerant hwy oll y Cymmun gyd â'r Offeriad bob Sul o'r lleiaf, oni bydd ganddynt achos rhesymmol i'r gwrthwyneb.

¶ Ac er dilêu pob achos o ymryson ac ofer-goel y sydd, neu a allo fod gan neb yn y bara a'r gwîn, fe a wasanaetha bod y bara yn gyfryw ac y sydd arferedic iw fwyta eithr y bara gwenith o'r gorau, a'r puraf ac a aller ei gael yn gymmwys.

¶ Ac os bydd dim'or Bara a'r Gwin heb ei gyssegru tros ben, y Curat ai caiff iddo ei hun. Eithr os bydd dim o'r hyn a gyssegrwyd yngweddill, ni ddygir dim o hono all­an o'r Eglwys, Eithr yr Offeiriad, a chyfryw o'r Cym­munwyr ag a eilw efe atto, a fwyttaant ac a yfant yr un­rhyw drwy barch, yn ebrwydd ar ôl y fendith.

¶ Y bara a'r gwîn i'r Cymmun a baratoir gan y Curat a wardeniaid yr Eglwys, ar gôst y blwyf.

¶ Noda hefyd bod i bob plwyfol Gymmuno o'r lleiaf dair gwaith yn y flwyddyn, ac o hynny bod y Pasc yn un; A'r Pâsc bob blwyddyn, bod i bob plwyfol gyfrif â'i Berson, Vicar, neu ei Gurat, neu ei brocurator, neu ei brocuratoriaid, a thalu iddynt, neu iddo ef yr holl ddy­ledion Eglwysic, a fo yn arferedic yn ddyledus yna, ar yr amser hynny iw talu.

¶ Pan orphenner Gwasanaeth Duw, yr Arian a roddwyd ar yr offrymmiadau a ddosperthir i ryw wasanaeth du­wiol a chardodawl, fel y bo i'r Gweinidog a wardeniaid yr Eglvvys vveled yn gymmys: Os hvvy ni chyttun­ant yn hynny, dosparther hwynt fel yr appvvyntio yr Ordinari.

LLe yr ordeinir yn y Gwasanaeth hyn o Finistriad Swpper yr Arglwydd, Bod i'r Cymmun­wyn gymmeryd yr unrhyw ar eu gliniau (yr hyn a ordeinwyd ar feddwl da, sef, yn arw­yddoccaad o'n hufudd a diolchgar gydnabod o ddonian daionus Crist a roddir ynddo i bob Cym­munwr addas, ac er gochelyd y cyfryw halogedigaeth ac annrhefn yn y Cymmun bendigedig a allai heb hyn ddigwyddo) er hynny fel na bo i neb, nag o anwybodaeth a gwendid gam gym­meryd, nag o falais a childynrwyd anurddo yr arwydd hon o benlinio, yspyssir yma na feddy­lier trwy hyn, ac na ddylid gwneuthur dim addoliad nag i fara a gwin y Sacrament a gymme­rir yno yn gorphorawl, nag i neb ryw gydrycholdeb corphorawl o anianol gnawd a gwaed Crist. Canys y mae Bara a Gwin y Sacrament yn aros yu wastad yn eu gwir anianol dde­fnyddiau, fel nad aller eu haddoli, (Canys hynny a fyddei Eulyn-addoliad iw ffeieiddio gan bob Cristion ffyddlon) Ac y mae Corph a Gwaed anianol ein Jachawdr Christ yn y nef, ac nid yma: Canys ni chydsai fod Corph Crist yn wir anianol, a'i fod ar yr un amser o fewn y chwa­neg o fannau, nag un.

Gweinidogaeth Bedydd Public Plant Bychain iw arfer yn yr Eglwys.

¶ RHybuddier y bobl, fod yn gymhesuraf na wasan­aether y Bedydd namyn ar Sulian, a dyddiau gwyliau eraill, pan fyddo y nifer mwyaf o'r bobl yn dyfod ynghyd, yn gystal er mwyn bod i'r gyn­nulleidfayno yn bresennol dystiolaethu derbyniad y sawl a fedyddier yr amser hynny, i nifer Eglwys Grist, a he­fyd oblegit ym-medydd rhai bychain bod i bob dyn a fo yno yn bresennol alw ei gof atto am ei broffes ei hun a wnaeth i Dduw yn ei fedydd. Herwydd hynny hefyd y mae yn gymmhesur bod gwasanaeth y Bedydd yn yr iaith gyffredin. Ac er hyn yma oll (os bydd anghenrheidiol) fe a ellir bedyddio rhai bychain a'r bob dydd arall.

¶ A noda y bydd i bob plentyn gwryw a fedyddier ddau Dâd bedydd ac un Fam fedydd, ac i bob plentyn Benyw un Tâd bedydd a Dwy Fam fedydd.

¶ Pan fyddo plant iw bedyddio fe a ddylei eu tadau roddi rhybudd tros nos, neu y borau cyn dechreu y fore­uol weddi, i'r Curat. bydded y tadau bedydd. a'r mam­mau bedydd, a'r bobl, yn barod wrth y bedyddfan, naill ai yn y man ar ôl y llîth ddiwaethaf o'r foreuol weddi, neu ynteu yn y man ynôl y llith ddiwaethaf ar y Bryd­nhawnol weddi, megis y gosoto y Curat yn ôl ei ysty­riaeth ei hun. A'r Offeiriad yn dyfod at y Bedyddfan (yr hwn a lenwir yr amser hwnnw a dwfr glân) ac yn sefyll yno a ddywed.

A fedyddiwyd y plentyn hwn eusys, ai na fedyddi­wyd?

¶ Os attebant, Na ddo, Yna aed yr Offeriad rhagddo, fel▪ y mae yn canlyn.

FYngharedigion, yn gymmaint ac ym­ddwyn a geni pob dyn mewn pechod, a bod ein Jachawdr Crist yn dywe­dyd na ddichon neb gael myned i mewn i deyrnas Duw, oddieithr ei ail-eni ef o ddwfr ac o'r Yspryd glân Attolwg yddwyf i chwi alw at Dduw Tâd, trwy ein Harglwydd Jesu Grist, ar fod iddo o'i ddaionns drugaredd ganiatâu i'r plentyn hwn y peth drwy nerth natur ni all ddyfod iddo, gael e'i fedyddio â dwfr ac â'r Yspryd glân, a'i dderbyn i lân Eglwys Grist, a bod yn aelod bywiol o'r unrhyw.

¶ Yna y dyvved yr Offeriad.

Gweddiwn.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th fawr drugaredd a ged­waist Noe a'i deulu yn yr Arch rhag eu cyfr-golli gan ddwfr; a hefyd a dywysaist yn ddiangol blant yr Is­rael dy bobl drwy yr môr côch, gan arwyddocâu wrth hynny dy lân fe­dydd; a thrwy fedydd dy garedic Fab Jesu Grist yn afon Jorddonen a sancteiddiaist ddwfr er dirgel alche­digaeth pechodau: Attolygwn i ti er dy aneirif druga­reddau, edrych o honot yn drugarog ar yplentyn hwn ei sancteiddio a'i lânhau a'r Yspryd glân, fel y byddo iddo gael ei wared oddiwrth dy lid a'i dderbyn i Arch Egl­wys Grist, a chan fod yn gadarn mewn ffydd yn llawen gan obaith, ac wedi ymwreiddio ynghariad perffaith, allu o hono fordwyo tros donnau y bŷd trallodus hwn, ac o'r diwedd, allu dyfod i dir y bywyd tragy­wyddawl, yno i deyrnasu gyd â thi heb drangc na gorphen, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog ac anfarwol Dduw, porth pob anghenog, nawdd-wr pawb a gilio attat am gynhorthwy, bywyd y rhai a gredant, a chyfodi­ad y meirw: yddŷm yn galw arnat tros y dyn bychan yma ar iddo yn dyfod i'th lân fedydd gael derbyn maddeuant o'i bechodau, drwy adenedigaeth yspryd­ol. Derbyn ef Arglwydd, megis yr addewaist trwy dy garedic Fâb, gan ddywedyd Gofynnwch, a rho­ddir i chwi, Ceisiwch, a chwi gewch, Curwch, ac fe a­gorir i chwi. Felly yn-awr dyro i ni, a ni yn gofyn, pâr i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni sy'yn curo; fel y gallo y dyn bychan yma fwynhau tragywydḍol fendith dy nefol olchiad, a dyfod i'r deyrnas dragy­wyddawl, yr hon a a addewaist trwy Grist ein Hargl­wydd. Amen.

¶ Yna y bobl a safant ar eu traed, a'r Offeriad a ddyvveid.

Gwrandewch ar eiriau yr Efengyl a scrifennodd Sanct Marc yn y ddecfed bennod, ar 13 vvers.

HWy a ddygasant blant bychain at Grist, fel y cyffyrddei efe â hwynt: a'r discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A'r Jesu pan welodd hynny fu anfodion, iawn, ac a ddywedodd wrthynt ged­wch i blant bycham ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy byn­nac ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a ddodes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

¶ Yn ôl darllen yr Efengyl, y traetha y Gweinidog y cyngor byr yma ar eiriau yr Efengyl.

Y Caredigion, chwi glywch yn yr E­fengyl hon eiriau ein Jachawdr Crist, yn gorchymmyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynnasei eu cadw oddi-wr­tho; pa wedd y cynghora efe i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall, wrth ei agwedd ef a'i wei­thred, modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: canys efe a'u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, y cy­mmer efe yr un ffunyd yn ymgeleddgar y dyn bychan yma, y cofleidia efe ef a breichiau ei drugaredd, y dyry iddo fendith y bywyd tragywyddawl, ac y gwna ef yn gyfrannog o'i ddi-drangc deyrnas. O herwydd pa ham, gan ein bod ni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tâd nefol tu ag at y dyn bychan yma wedi ei amlygu trwy ei Fab Jesu Grist, ac heb ddim ammau gennym ei fod efe yn derbyn yn rasusol ein gweithred gardodawl hon yn dwyn y plentyn hwn i'w sanct­aidd Fedydd ef; diolchwn yn ffyddlon, ac yn ddefofio­nol iddo, gan ddywedyd.

HOll-alluog a thragwyddol Dduw Nefol Dad, ydd ŷm ni yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râs, a ffydd ynot: Ychwanega yr wy­bodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon y­nom yn wastad; dyro dy Yspryd glân i'r dyn bychan yma fel y ganer efe eilwaith, a'i wneuthur yn etifedd Jechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Yna dyweded yr Offeriad wrth y Tadau-bcdydd ar Mammau-bedydd yn y modd hyn.

ANwyl Garedigion bobl, chwi a ddyga­soch y plentyn hwn yma iw fedyddio chwi a weddiasoch ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Jesu Grist ei dderbyn ef, maddeu iddo ei bechodau, ei sancteiddio a'r yspryd glân: rhoddi iddo deyrnas nefoedd a bywyd tragy­wyddol. Chwi a glywsoch hefyd ddarfod i'n Har­glwydd Jesu Grist addo yn ei Efengyl ganhiadu yr holl bethau hyn a weddiasoch chwi am danynt: yr hwn addewid efe o'i ran ef a'i ceidw yn wîr ddiogel, ac a'i cwplâ. her wydd pa achos yn ôl yr addewid hyn a wna­eth Crist, rhaid yw i'r dyn bychan yma yn ffyddlon, ar ei ran ynteu, addo trwoch-chwi sy feichiau drosto ym wrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, ac yn wastad credu gwynfydedic air Duw, ac yn ufudd cadw ei or­chymynion.

Am hynny y gofynnaf.

A Ydwyt ti yn enw y plentyn hwn yn ymwrthod â diafol, ac â'i holl weithredoedd, coeg rodres, a gwag-orfoledd y byd, a'i holl chwantau cy­byddus, anysprydol ewyllys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na'th dywyser ganddynt?

Atteb.

Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.

Gwenidawc.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoeth­og, Creawdr nef a daiar? Ac yn Jesu Grist ei un Mab ef ein Harglwydd ni? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn; iddo ddi­oddef dan Pontius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw a'i gladdu? descyn o honaw i uffern, a'i gyfodi y try­dydd dŷdd, ac escyn o hono i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Tâd holl-alluog, ac y daw efe oddi yno yn niwedd y bŷd i farnu byw a meirw? A wy, [Page] ti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatho­lic, Cymmun y Sainct, maddeuant pechodau; adgy­fodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?

Atteb.

Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gwenidog.

A fynni dy fedyddio yn y ffydd hon?

Atteb.

Hynny yw fy ewyllys.

Gwenidog.

A gedwi ditheu yn ufudd lân ewyllys Duw a'i Orchymmynion, gan rodio yn yr unrhyw holl ddyddiau dy fywyd?

Atteb.

Gwnâf,

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

O Drugarog Dduw, caniatâ felly gladdu yr hên Adda yn y plentyn hwn, fel y cyfotter y dyn newydd ynddo ef. Amen.

Caniatâ fod i holl chwantau 'r cnawd farw ynddo ac i bob peth a berthyn i'r Yspryd allu byw a chyn­nyddu ynddo. Amen.

Caniatâ fod iddo nerth a gallu i gael yr oruch­afiaeth, a'r gorfod yn erbyn diafol, y byd a'r cnawd Amen.

Caniata fod i bwy bynnac y sydd yma wedi ei gy­ssegru i ti trwy ein swydd a'n gwenidogaeth ni, allu hefyd bod yn gynyscaedddol o rinweddau nefol, a bod iddynt gael eu tragywyddol obrwyau drwy dy drugaredd, ô fendigedic Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywiaw pob peth, yn oes oesoedd. Amen.

HOll-gyfoethog fyth fywiol Dduw, yr hwn y bu i'th garediccaf Fab Je­su Grist dros faddeuant o'n pechod­au, oddef gollwng o'i werth-fawr ystlys ddwfr a gwaed, a rhoddi gorchymmyn iw ddiscyblion fyned a dyscu pob cenedl, a'u bedyddio yn Enw y Tâd, a'r Mab, a'r Yspryd glân: Ystyria at­tolwg i ti wrth weddiau dy gynnulleifa, sanctei­ddia y dwfr hwn er dirgel olchedigaeth pechodau, a chaniadha fod ir plentyn hwn a fedyddir yr awrhon ynddo, dderbyn cyflawnder dy ras, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y cymmer yr Offeiriad y dyn bychan yn ei ddwy­law. ac a ddywed wrth y Tâdau bedydd a'r Mammau bedydd.

Henwch y plentyn.

Ac yno gan ei enwi ar eu hol hwy (Os hwy a yspysant y gall plentyn ddioddef hynny yn dda) efe a'i trocha ef yn y dwfr yn ddiesceulus, ac yn ddarbodus, gan ddywedyd.

N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glân. Amen.

¶ Ac os yspysant fod y plentyn yn wan, digon fydd bwrw dwfr arnaw, gan ddywedyd y geiriau dywededic ucha.

N. Yr ydwfi yn dy fedyddio di yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

YR ydym ni yn derbyn y plentyn hwn i gynnull­eidfa defaid Crist ac yn ei nodi ef ac arwydd y Yma yr Of­feiriad a wneiff groes yn nhalcen y dyn bach. grog yn arwydd occâd na bo iddo rhag llaw gymmeryd yn gywilydd gyffessu ffydd Christ a groeshoeliwyd, ac iddo ymladd yn wrol tan ei fa­ner [Page] ef, yn erbyn pechod, y byd, a'r cythrael, a pha­rhaû yn filwr ffyddlawn ac yn wâs i Grist, holl ddy­ddiau ei einioes. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad,

GAn ddarfod yn awr, garedigion frodyr, ad-eni, â dodi y plentyn hwn ynghorph Eglwys Crist, diolchwn ninnau i'r Holl-alluog Dduw am ei ddaioni hyn, ac o gyd-undeb gwnawn ein gweddiau ar y Goruchaf Dduw, ar fod iddo ddiweddu y rhan arall o'i fywyd yn ôl hyn o ddechreuad.

¶ Yna y dywedir a phawb ar eu gliniau.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

MAwr ddiolchwn i ti drugaroccaf Dâd ryngu bodd it' ad-eni y plentyn hwn â'th Yspryd glân, a'i dderbyn yn blentyn i ti dy hûn trwy fabwys, a'i gorphori i'th lân Eglwys Ac yn ostyngedic yr attolygwn i ti ga­niatâu. gan ei fod ef yn farw i be­chod, ac yn byw i gyfiawnder, ac yn gladdedic gyd â Christ yn ei angeu, allu croes-hoelio yr hên ddyn, ac yn hollawl ymwrthod â holl gorph pechod ac fel me­gis y mae efe wedi ei wneuthur yn gyfrannog o angeu dy Fâb, iddo fod hefyd yn gyfrannog o'i gyfodiad, ac felly o'r diwedd, ynghyd â'r rhan arall o'th lân [Page] Eglwys bod o honaw yn etifedd dy deyrnas dragy­wyddol, drwy Jesu Grist ein Harglwydd Amen.

¶ Yna a phawb yn sefyll yr Offeiriad a ddywed i'r Ta­dau Bedydd a'r mammau Bedydd hyno gyngor yn canlyn.

YN gynimaint a darfod i'r plent yn hwn addo trwochwi, ei feichniafon, ymwrthod â diafol, a'i holl weithre­doedd, credu yn-Nuw, a'i wasanae­thu ef: Rhaid i chwi feddwl, mai eich rhan a'ch dylêd yw, gweled dyscu o'r plentyn hwn, cyn gynted ag y gallo ddyscu, pa rwy hynod adduned, addewid, a phroffes a wnaeth efe yma drwoch-chwi. Ac er mwyn gallu o hono wybod y pethau hyn yn well, chwi a elwch arno i wrando pregethau. Ac yn bendifadd­ef rhaid i chwi weled dyscu o hon y Credo, Gwedui yr Arglwydd, a'r dec gorchymmyn yn yr iaith gyffredin a phob peth arall a ddylei Gristion ei wybod, a'i gre­du, er iechyd iw enaid; a bod meithrin y plentyn hwn yn rhinweddol, iw hyweddu mewn buched dduwiol a Christionogawl, gan gofio yn wastad, bod Bedydd yn arwyddocâu i nyni ein profess, hynny yw, bod i ni ganlyn esampl ein Jachawdr Crist, a'n gwneuthur yn gyflesyb iddo ef: fel megis ac y bu efe farw, ac y cyfodes drachefn drosom ni, felly y dylem ni y rhai a fedyddiwyd, farw oddi-wrth bechod, a chyfodi i gyfia­wnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygi­oni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhag­om ym-mhôb rhinwedd dda, a buchedd dduwiol.

¶ Yna ychwanega efe ddywedyd.

RHaid i chwi edrych Dwyn y Plentyn hwn at yr Escob iw Gonffurimio ganddo cyn gynted ac y medro ddy­wedyd y Credo, Gweddi 'r Arg­wydd, a'r Deng-air Deddf yn yr iaith gyffredin, ac yr haddyscer ym­mhellach ynghatecism yr Eglwys a osodwyd allan ar fedr hyny.

YSbys yn trwy Air Duw am blant a fedyddir: ac a fyddant feirw heb wneu­thur pechod, priod eu bod yn ddiammeu yn gadwedig.

I Symmud ymmaith bob amheuaeth am arfer arwydd y Groes yn y Bedydd, gwir ddeongliad hynny a'r iawn achosion o'i gadw a ellir eu gweled yn y ddecfed Canon ar ugain a ddoded allan gyntaf yn y flwyddyn. MDCIV.

Gweinidogaeth Bedydd Prifat Plant Mewn tai gartref.

BId i'r Curadiaid o bob plwyf rybuddio yn fynych y bobl, nad oedant fedydd eu plant bellach na'r Sûl cyntaf neu 'r ail, nesaf ar ol eu geni, neu ryw ddydd gwyl arall a ddigwyddo rhyngdddynt, oddieithr ar achos mawr a chyfreith­lawn, a'r cyfryw a dderbynio y Curat.

¶ A hefyd hwy a'u rhybuddiant, na pharont fedyddio eu plant gartef yn eu tai, heb achos mawr ac angen: a phan gymhello anghenrhaid iddynt wneuthur hynny, yna y bedydd a finistrir yn y modd hyn.

¶Yn gyntaf bid i weinidog y Plwyf (neu yn ei abseni ryw weinidog cyfreithlawn arall a ellir ei gael) gyd a'r rhai a fyddo yn y fan, alwar Dduw a dywedyd Gweddi yr Arglwydd, a chynnifer o'r Colectau pwyntiedig uchod iw dywedyd yn ffurf y Bedydd Public, ac a âd yr am­ser, a'r angen presennol; Ac yna, wedi henwi y pelntyn gan ryw un a fyddo yn bresennol y Gweinidog a fwrw ddwfr arno gan ddywedyd y geiriau hyn.

N. Yr wyfi yn dy fedydio di yn Enw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.

¶ Yna Pawb yn gostwng ar eu gliniau y Gwenidog a rydd ddiolch i Dduw, ac a ddywed.

MAwr ddiolchwn i ti, Drugaroccaf Dâd, ryngu bodd i ti ad-eni y plentyn hwn a'th Yspryd Glân, a'i dderbyn yn blentyn i ti dy hun trwy Fabwys a'i gorphori i'th lân Eglwys. Ac yn ostyngedig yr attolygwn i ti ga­niadhau iddo, megis yn awr y gwna­ed ef yn gyfrannog o angeu dy Fab, iddo fod hefyd felly o'i adgyfodiad, ac felly o'r diwedd, ynghyd a'r rhan a­rall o'th Sainct, bod o honaw etifeddu dy deyrnas dragywyddol trwy 'r unrhyw dy Fab Jesu Grist ein Harglwydd. Amen

¶ Ac nac amheuant am y dyn-bach a▪ fedyddier felly, nad yw efe wedi ei fedyddio yn ddeddfol, ac yn ddigonol, Ac na ddyleir ei fedyddio mwy. Eithr er hynny i gyd, os y plentyn a fedyddiwyd yn y modd hwn a fydd byw rhag llaw, iawn fydd ei ddwyn ef i'r Eglwys, fel y gallo Gwenidog yr un plwyf, os efe ei hun a fedyddiodd y dŷn bach yspysu i'r gynnulleidfa wir ffurf y Bedydd, a arferasei o'r blaen gartref, ac ar yr un achos hwnnw efe a ddywed fel hyn.

Yddwyf yn hyspysu i chwi ddarfod i ni yn ol dyledus Osodedigaeth yr Eglwys a'r yr amser a'r amser yn y lle a'r lle yngwydd llawer o dystion fedyddio y plen­tyn hwn.

¶ Eithr os Gweinidog cyfreithlawn arall a fedyddiodd y dyn bach, yna Gwenidog y Plwyf, yn yr hwn y ganed. neu y bedyddiwyd y dyn bach a examia ac a hola, a fe­dyddiwyd y plentyn yn gyfreithlawn, neu nato. Yn yr hyn achos os y rhai a addygant y plentyn i'r Eglwys, a atteb­ant ddarfod bedyddio y plentyn eusus, yna holed y Gwe­nidog hwy ym-mhellach gan ddywedyd.

GAn bwy y beddiwyd y dyn bach?

Pwy oedd yn y fan, pan fedyddiwyd y dyn bach?

[Page]O herwydd y gallai fod, darfod gadael heibio ryw bethau a berthyn i hanffod y Sacrament hwn trwy ofn neu frys, yn y cyfryw gyfyngder: Am hynny y gofynnaf i chwi ymmhellach,

A pha ddefnydd y bedyddiwyd y plentyn?

A pha eiriau y bedyddiwyd y plentyn?

¶ Ac os y Gweinidog a brawf wrth attebion y rhai a ddygasant y plentyn atto, fod pob peth wedi ei wneuthur modd y dylei: Y na na fedyddied efe y plentyn drachefn, eithr ei dderbyn yn un o ddiadell y gwir Gristionogion, gan ddywedyd fel hyn.

YR ydwyfi yn hyspysu i chwi ddarfod gwneuthur pob peth yn dda yn y trei­gl hyn, ac wrth iawn drefn berthy­nasol, wrth fedyddio y plentyn yma, yr hwn wedi ei eni mewn pechod de­chreuol, ac mewn digofaint Duw, sydd yn-awr drwy olchiad yr ad-ene­digaeth ym-medydd, wedi ei dderbyn i nifer plant Duw, ac etifeddion by wyd tragywyddol: Canvs nid yw ein Harglwydd Jesu Grist yn nacâu ei râd a'i dru­garedd i gyfryw rai bychain, ond y mae yn garuei­ddiaf yn eu gwahodd atto, megis y tystia yr Efengyl fendigedic er ein conffordd ni. yn y wedd hon.

Yr Efengyl.

S. Mar. 10. 13. HWy a ddygasant blant bychain at Grist, fel y cyffyrddei efe â hwynt: a'r discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A'r Jesu pan welodd hynny fu anfodlon, iawn, ac a ddywedodd wrthynt ged­wch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt▪ canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy▪byn­nac ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a ddodes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.

¶ Yn ôl darllen yr Efengyl, y traetha y Gweinidog y cyngor byr yma ar eiriau yr Efengyl.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau ein Jachawdr Crist, yn gorchymmyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynnasei eu cadw oddi-wr­tho; pa wedd y mae efe yn cynghori i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy Yr yoych chwi yn deall, wrth ei agwedd ef a'i wei­thred, modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: canys efe a'u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nat amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, ddar­fod iddo gymmeryd yr un ffunyd yn ymgeleddgar y dyn bychan hwn, a'i gofleidio ef a breichiau ti drugaredd, ac (fel yr âddawodd yn ei air sanctiaidd) y rhydd iddo fendith y bywyd tragywyddol ac a'i gwna yn gyfrannog o'i ddi-drangc deyrnas. Herwydd pa ham, a nyni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tâd nefol, wedi ei amlygu trwy ei Fab Jesu Grist, tu ag at y dyn bychan: diolchwn yn ffyddlon, ac yn ddefo­sionol iddo, gan ddywedyd y weddi a ddyscodd yr Ar­glwydd ei hun, i ni.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ui i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

HOll-alluog a thragwyddol Dduw Nefol Dad, ydd ŷm ni yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râs, a ffydd ynot: Ychwanega yr wy­bodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon y­nom yn wastad; dyro dy Yspryd glân i'r dyn bychan yma fel y ganer efe eilwaith, a'r wneuthur yn etifedd Jechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Jesu Grist aros yn wasanaethwr i ti, a chaffael dy adde­wid, trwy yr unrhyw dy Fâb ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Yna y gyfyn yr Offeriad enw y dyn▪ bychan a phandar­ffo i'r Tadau-bedydd a'r Mammau-bedydd ei adrodd, y Gweinidog a dywed.

A Ydwyt û yn enw y plentyn hwn yn ymwrthod â diafol, at â'i holl weithreddedd, coeg rodres, a gwag-orfoledd y byd, a'i holl chwantau cy­byddus, anysprydol ewyllys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na'th dywyser ganddynt?

Atteb.

Yr ydwyf yn yinwrthod â hwynt oll.

Gwenidawc.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoeth­og, Creawdr nef a daiar? Ac yn Jesu Grist ei un Mab ef ein Harglwydd ni? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn; iddo ddi­oddef dan Pontius Pilatus, ei groes-hoelio ei farw a'i gladdu? descyn o honaw i uffern, a'i gyfodi y try­dydd dŷdd, ac escyn o hono i'r nefoedd, a'i fod yn eitedd arddeheulaw Dduw Tâd holl-alluog, ac y daw efe oddi yno yn niwedd y bŷd i farnu byw a meirw? A wyt, ti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lâh Gatho­lic, Cymmun y Sainct, maddeuant pechodau; adgy­fodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu▪

Atteb.

Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gwenidog.

Agedwi ditheu yn ufudd lân ewyllys Duw a'i Orchymmynion, gan rodio yn yr unrhyw holl ddyddiau dy fywyd?

Atteb.

Gwnâf.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

YR ydym ni yn derbyn y plentyn hwn i gynnull­eidfa Yma yr Of­feiriad a wneiff groes yn nhalcen y dyn bach. defaid Crist ac yn ei nodi ef ac arwydd y grog yn arwyddoccâd na bo iddo rhagllaw gymmeryd yn gywilydd gyffessu ffydd Crist a groeshoeliwyd, ac iddo ymladd yn wrol tan ei fa­ner ef, yn erbyn pechod, y byd, a'r cythrael, a pha­rhaû yn filwr ffyddlawn ac yn wâs i Grist, holl ddy­ddiau ei einioes. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad,

GAn ddarfod yn awr, garedigion frodyr, ad-eni, â dodi y plentyn hwn ynghorph Eglwys Crist, diolchwn ninnau i'r Holl-alluog Dduw am ei ddaioni hyn, ac o gyd-undeb gwnawn ein gweddiau ar y Goruchaf Dduw, ar fod iddo ddiweddu y rhan arall o'i fywyd yn ôl hyn o ddechreuad.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

MAwr ddiolchwn i ti drugaroccaf Dad ryngu bodd it' ad-eni y plentyn hwn â'th Yspryd glân, a'i dderbyn yn blentyn i ti dy hûntrwy fabwys, a'i gorphori i'th lâu Eglwys Ac yn ostyngedic yr attolygwn i ti ga­niatâu. gan ei fod ef yn farw i be­chod, ac yn byw i gyfiawnder, ac yn gladdedic gyd â Christ yn ei angen, allu croes-hoelio yr hên ddyn, ac yn hollawl ymwrthod â holl gorph pechod ac fel me­gis y mae efe wedi ei wneuthur yn gyfrannog o angen dy Fâb, iddo fod hefyd yn gyfrannog o'i gyfodiad, ac felly o'r diwedd, ynghyd â'r rhan arall o'th lân [Page] Eglwys bod o honaw yn etifedd dy deyrnas dragy­wyddol, drwy Jesu Grist ein Harglwydd Amen.

¶ Yna a phawb yn sefyll yr Offeiriad a ddywed i'r Ta­dau Bedydd a'r mammau Bedydd hyn o gyngor yn canlyn.

YN gymmaint a darfod i'r plentyn hwn addo trwochwi, ei feichniafon, ymwrthod â diafol, a'i holl weithre­doedd, credu yn-Nuw, a'i wasanae­thu ef: Rhaid i chwi feddwl, mai eich rhan a'ch dylêd yw, gweled dyscu o'r plentyn hwn, cyn gynted ag y gaslo ddyscu, pa rwy hynod adduned, addewid, a phroffes a wnaeth efe yma drwoch-chwi. Ac er mwyn gallu o hono wybod y pethau hyn yn well, chwi a elwch arno i wrando pregethau. Ac yn bendifadd­ef rhaid i chwi weled dyscu o hono y Credo, Gweddi yr Arglwydd, a'r dec gorchymmyn yn yr iaith gyffredin a phob peth arall a ddylei Gristion ei wybod, a'i gre­du, er iechyd iw enaid; a bod meithrin y plentyn hwn yn rhinweddol, iw hyweddu mewn buched dduwiol a Christionogawl, gan gofio yn wastad, bod Bedydd yn arwyddocâu i nyni ein profess, hynny yw, bod i ni ganlyn esampl ein Jachawdr Crist, a'n gwneuthur yn gyflelyb iddo ef: fel megis ac y bu efe farw, ac y cyfodes drachefn drosom ni, felly y dylem ni y rhai a fedyddiwyd, farw oddi-wrth bechod, a chyfodi i gyfia­wnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygi­oni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhag­om ym-mhôb rhinwedd dda, a buchedd dduwiol.

¶ EIther os o rhai a ddygant y plentyn i'r Eglwys a wnânt y cyfryw atteb an-ysprydol i ofynion yr Offeiriad, fel na aller gwybod a ddarfu bedyddio y plentyn â dwfr, yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glân, yr hyn sydd o hanffod y Bedydd: yna bedyddied yr Offei­riad ef yn ol y ffurf scrifennedic uchod am y Bedydd Pu­blic oddieithr wrth drochi y dyn-bach yn y Bedydd-fan efe a arfer y ffurf hon ar eiriau.

ONi ddarfu dy fedyddio di eusys, N. ydd wyfi yn dy fedyddio di, yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.

Gweinidogaeth Bedydd Y rhai o oedran Addfedach, ac yn medru atteb trostynt eu hunain.

PAn fyddo rhyw rai o oedran addfedach iw bedyddio, yspyser hynny mewn pryd i'r Escob, neu i'r neb a appwyntia efe i hynny, wythnos gron o'r lleiaf, gan e'u rhieni, neu ryw raideallus eraill, fel y galler cymmeryd gofal dyledus iw profi, a ydynt wedi eu haddyscu yn ddigonol yn Egwyddorion y ffydd Gristianogawl, ac fel y galler eu cynghori i ymbaratoi trwy weddiau ac ympryd i gymme­ryd y Sacrament bendigedig hwn.

Ac os hwy a gaffer yn gymhesur, yna bydded y Tadau Bedydd a'r Mammau Bedydd (a'r Bobl wedi ymgynnull ar y Sûl neu Ddydd gwyl pwyntiedig) barod iw presentio hwy wŕth y Fedydd-fan, yn ebrwydd ar ol yr ail llith, naill ai ar y Foreuol neu'r Brydnhawnol weddi, megis yn neall y Cu­rat y Bernir yn gymmwys.

A'r Offeiriad yn fefyll yno a ofyn, a fedyddiwyd yr un o'r rhai a bresentir yma, ai nad do; Os hwy attebaut, Na ddo: Yna yr Offeiriad a ddywed fel hyn.

FY Anwyl garedigion, yn gymmaint ac ymddwyn a geni pob dyn mewn pechod, ac mai cnawd yw yr hyn a enir o gnawd, a'r rhai ŷnt yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw, namyn byw mewn pechod gan wne­uthur lliaws o bechodau priod, a bod [Page] ein Jachawdr Crist yn dywedyd na ddichon neb gael myned i mewn i deyrnas Duw, oddieithr ei adgenhe­dlu a'i Eni o newydd o ddwfr ac o'r Yspryd glân, At­tolwg yddwyf i chwi alw ar Dduw Tâd, trwy ein Harglwydd Jesu Grist, ar fod iddo o'i ddaionns dru­garedd ganiadhau i'r rhai hyn y peth drwy nerth natur ni allant ddyfod iddo, gael eu bedyddio â dwfr ac â'r Yspryd glân, a'u dderbyn i lân Eglwys Grist, a bod yn aelodau bywiol o'r unrhyw.

¶ Yna y dyvved yr Offeriad.

Gweddiwn.

(¶ Ac yma y Gynnulleidfa oll a ostyngant ar eu gliniau.)

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th fawr drugaredd a ged­waist Noe a'i deulu yn yr Arch rhag eu cyfr-golli gan ddwfr; a hefyd a dywysaist yn ddiangol blant yr Is­rael dy bobl drwy yr môr côch, gan arwyddocâu wrth hynny dy lân fe­dydd; a thrwy fedydd dy garedic Fab Jesu Grist yn afon Jorddonen a sancteiddiaist yr elfen ddwfr er dir­gel olchiad pechod ymmaith: Attolygwn i ti er dy an­eirif drugareddau, edrych o honot yn drugarog ar dy weision hyn, eu glaniâu, au sancteiddio a'r Yspryd glân, fel y byddo iddynt hwy gael eu gwared oddiwrth dy lid a'u dderbyn i Arch Eglwys Grist, a chan fod yn gadarn mewn ffydd yn llawen gan obaith, ac wedi ym­wreiddio ynghariad perffaith, allu o honynt fordwyo tros donnau y bŷd trallodus hwn, fel y bo iddynt o'r diwedd, dyfod i dir y bywyd tragywyddol, yno i deyr­nasu gyd â thi heb drangc na gorphen, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOll-alluog ac anfarwol Dduw, porth pob anghenog, naodd-wr pawb a gilio attat am gynhorthwy, by wyd y rhai a gredant, a chyfodi­ad y meirw: yddŷm yn galw arnat tros y dyn bychan yma ar iddo yn dyfod i'th lân fedydd gael derbyn [Page] maddeuant o'i bechodau, drwy adenedigaeth yspryd­ol. Derbyn ef Arglwydd, megis yr addewaist trwy dy garedic Fâb, gan ddywedyd Gofynnwch, a rho­ddir i chwi, Ceisiwch, a chwi gewch, Curwch, ac fe a­gorir i chwi. Felly yn-awr dyro i ni, a ni yn gofyn pâr i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni sy'yn euro; fely gallo y dyn bychan yma fwynhau tragywyddol fendith dy nefol olchiad, a dyfod i'r deyrnas oragy­wyddawl, yr hon a a addewaist trwy Grist ein Hargl­wydd. Amen.

¶ Y na y bobl a safant ar eu traed, a'r Offeriad a ddyvveid.

Gwrandewch ar eiriau yr Efengyl a scrifennodd Sanct Joan yn y drydydd bennod, yn dechreu ar y vvers gyntaf hyd y nawfed.

AC yr oedd dŷn o'r Pharisaeaid, a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Jdde­won, Hwn a ddaeth at yr Jesu liw nûs, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wŷddom mai dyscawdr yd­wyt ti, wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allei neb wneuthur y gwr­thiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fôd Duw gyd ac ef. Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wîr meddaf i ti, oddi-eithr geni dŷn drache­fn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nichode­mus a ddywedodd wrtho Pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eil­waith, a'i eni? Jesu a attebodd ac a ddywedodd Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddi-eithr geni dŷn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o'r cnawdr sydd gnawd: a'r hyn a aned o'r Yspryd, sydd yspryd. Na ryfedda ddy­wedyd o honofi wrthit, Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefu. Y mae 'r gwynt yn chwythu lle y mynno: a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned. Felly y mae pôb nu a'r a aned o'r Yspryd.

¶ Gwedi hun efe a ddywed y Cyngor hwn yn canlyn.

YCaredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau eglur ein Ja­chawdr Crist, Oddieithr geni dŷn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. O hyn y gellwch weled mawr ang­enrheidrwydd y Sacrament hwn, lle galler ei gael, Yr un weddi yn ebrwydd o flaen ei Escynniad i'r Nef (megis y darllenwn yn y bennod ddiweddaf a Efengyl Sanct Marc) Efe a roddes orchymmyn iw Ddiscyblion. gan ddywedyd, Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl i bob Creadur, Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig; Eithr y neb ni chredo a gondemnir. Hyn hefyd sydd yn dangos i ni y dirfawr leshâad a fedwn o hynny. O herwyd pa ham Sanct Petr yr Apostol, pan, wrth ei bregethiad cyntaf yr Efengyl, y dwys pigwyd llawer­oedd yn eu calon, ac a ddywedasant wrtho ef a'r Apost­olion eraill, Hawyr frodyr, Beth a wnawn ni? a atte­bodd ac a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a Be­dyddier pob un o honoch er maddeuant pechodau, a chwi a dderbyniwch Ddawn yr Yspryd Glân. Canys i chwi y mae yr addewid, ac i'ch Plant, ac i bawb ym­mhell, sef, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni: Ac a llawer o ymadrodddion eraill y cynghorodd efe hwynt gan ddywedyd, ymgedwch rhag y genhedl­aeth drofaus hon. Canys (megis y tystiolaetha yr un Apostol mewn man arall) Bedydd hefyd sydd yr awron yn ein hachub ni, (nid bwrw ymmaith fudreddi y Cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tuag at Dduw) trwy Adgyfodiad Jesu Grist. Nac amheuwch gan hynny eithr credwch yn ddifrif y cymmer efe yn ym­geleddgar Y rhai presennol hyn, y sy' wir edifeiriol, ac yn dyfod atto trwy ffydd, y caniadhâ efe iddynt faddeu­ant o'u pechodau ac y dyry iddynt yr Yspryd Glân, y rhydd iddynt fendith y bywyd tragywyddol, ac au gwnan hwy yn gyfrannogion o'i ddidrangc Deyrnas.

[Page]O herwydd paham a ni yn credu fel hyn am ewy­llys da ein Tâd nefol tuag at y rhai hyn, a amlygir trwy ei fab ef Jesu Grist, Diolchwn yn ffyddlon ac yn ddefysionol iddo a dywedwn.

HOll-alluog a thragwyddol Dduw Nefol Dad, ydd ŷm ni yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râs, a ffydd ynot: Ychwanega yr wy­bodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon y­nom yn wastad; dyro dy Yspryd glân i'r rhai hyn fel y ganer hwynt eilwaith, a'i gwneuthur yn etifedd­ion Jechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad wrth y rhai a fônt iw Be­dvddio yn y modd hyn.

CHwchwi Garedigiou y rhai a ddaeth­och yma yn deisyf cael derbyn Glân fedydd, a glywsoch modd y gwe­ddiodd y Gynulleidfa, ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Jesu Grist eich derbyn chwi, eich bendithio, faddeu i chwi eich pechodau, rhoddi i chwi deyrnas nef a bywyd tragywyddol: Chwi a glywsoch hefyd fod i'n Harglwydd Jesu Grist addaw yn ei san­cteiddlân Air ganhiadu yr holl bethau hyn a weddia­som am danynt. yr hwn addewid efe o'i ran ef a'i ceidw yn wir ddiogel ac a'i cwplâ.

Herwydd pa achos yn ol yr addewid hyn a wnaeth Crist, rhaid i chwi yn ffyddlon o'ch rhan chwithau addo yngwydd y rhai hyn eich tystion, cherbron yr holl gynnulleidfa hon, Ymwrthod a Diafol a'i holl wei­thredoedd, ac yn wastad Credu gwynfydedig Air Duw, an yn ufudd cadw ei Orchymmynion.

¶ Yna y gofyn yr Offeriad ir rhai a ddaethant iw bedy­ddio bob yn un yr ymofynion hyn isod.

A Ydwyt ti yn ymwrthod â diafol, ac â'i holl wei­thredoedd, coeg rodres, a gwag-orfoledd y byd, a'i holl chwantau cybyddus, anysprydol ewy­llys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na'th dywy­ser ganddynt?

Atteb.

Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.

Gwenidawc.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoeth­og, Creawdr nef a daiar? Ac yn Jesu Grist ei un Mab ef ein Harglwydd ni? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn; iddo ddi­oddef dan Pontius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw a'i gladdu? descyn o honaw i uffern, a'i gyfodi y try­dydd dŷdd, ac escyn o hono i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Tâd holl-alluog, ac y daw efe oddi yno yn niwedd y bŷd i farnu byw a meirw? A wyt▪ ti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatho­lic, Cymmun y Sainct, maddeuant pechodau; adgy­fodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?

Atteb.

Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gwenidog.

A fynni dy fedyddio yn y ffydd hon?

Atteb.

Hynny yw fy ewyllys.

Gwenidog.

A gedwi ditheu yn ufudd lân ewyllys Duw a'i Orchymmynion, gan rodio yn yr unrhyw holl ddyddiau dy fywyd?

Atteb.

Mi a ymegnias ar wneuthur felly, a Duw yn gyn­northwy-wr i mi.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

O Drugarog Dduw, caniatâ felly gladdu yr hên Adda yn y rhai hyn, fel y cyfotter y dyn newydd ynddynt hwy. Amen.

Caniatâ fod i holl chwantau 'r cnawd farw ynddynt ac i bob peth a berthyn i'r Yspryd allu byw a chyn­nyddu ynddynt. Amen.

Caniatâ fod iddynt nerth a gallu i gael yr oruch­afiaeth, a'r gorfod yn erbyn diafol, y byd a'r cnawd Amen.

Caniata fod i bwy bynnac y sydd yma wedi ei gy­ssegru i ti trwy ein swydd a'n gwenidogaeth ni, allu hefyd bod yn gynyscaedddol o rinweddau nefol, a bod iddynt gael eu tragywyddol obrwyau drwy dy drugaredd, ô fendigedic Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywiaw pob peth, yn oes oesoedd. Amen.

HOll-gyfoethog fyth fywiol Dduw, yr hwn y bu i'th garediccaf Fab Je­su Grist dros faddeuant o'n pechod­au, oddef gollwng o'i werth-fawr ystlys ddwfr a gwaed, a rhoddi gorchymmyn iw ddiscyblion fyned a dyscu pob cenedl, a'u bedyddio yn Enw y Tâd, a'r Mab, a'r Yspryd glân: Ystyria at­tolwg i ti wrth weddiau dy gynnulleifa, sanctei­ddia y dwfr hwn er dirgel olchedigaeth pechodau, a chaniadha fod ir rhai hyn a fedyddir yr awrhon ynddo, dderbyn cyflawnder dy ras, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna yr Offeiriad a gymmer bob un o'r rhai a fedyddier gerfydd ei law ddehau, a chan ei osod ef yn gyfleus ger­llaw y Bedydd-fan, modd y gwelo oreu, a ofyn i'r Ta­dau Bedydd ac i'r Mammau Bedydd yr Enw; Ac yna efe a'i trocha yn y dwfr, neu a dywallt dwfr arno ef, gan ddywedyd.

N. Yr wyfi yn dy fedyddio di yn Enw y Tâd, a'r Mâb, ar Yspryd glân. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

YR ydym ni yn derbyn y person yma i gynnull­eidfa Yma yr Of­feiriad a wneiff groes yn nhalcen y dyn bach. defaid Crist ac yn ei nodi ef ac arwydd y grog yn arwyddoccâd na bo iddo rhag llaw gymmeryd yn gywilydd gyffessu ffydd Crist a groeshoeliwyd, ac iddo ymladd yn wrol tan ei fa­ner ef, yn erbyn pechod, y byd, a'r cythrael, a pha­rhaû yn filwr ffyddlawn ar yn wâs i Grist, holl ddy­ddiau ei einioes. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeriad,

GAn ddarfod yn awr, garedigion frodyr, ad-eni, â dodi y personau hyn ynghorph Eglwys Crist, diolchwn ninnau i'r Holl-alluog Dduw am ei ddaioni hyn, ac o gyd-undeb gwnawn ein gweddiau ar y Goruchaf Dduw, ar fod iddo ddiweddu y rhan arall o'i bywyd yn ôl hyn o ddechreuad.

¶ Yna y dywedir a phawb ar eu gliniau.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein. bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

YDd ym ni yn ostyngedig yn diolch i ti, Nefol Dâd, fod yn wiw gennit, ein galw i wybodaeth dy Râs, a ffydd ynot: Ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnha y ffydd hon ynom yn wastad? Dyro dy Yspryd glân i'r rhai hyn, fel gwedi eu geni eilwaith, a'u gwneuthur yn etifeddion iechyd tragywyddol, y gallont barhâu yn weision i ti, a mwynhaû dy adde­widion trwy'r un ein Harglwydd Jesu Grist, dy Fab, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd a thi yn undod yr unrhyw Yspryd Glân yn dragywydd. Amen.

¶ Yna a phawb yn eu sefyll yr Offeriad a edrydd y Cyn­gor hwn isod, gan ddywedyd yn gyntaf wrth y Tadau Bedydd a'r Mammau Bedydd.

YN gymmaint a darfod i'r Rhai hyn addo yn eich gwydd chwi ymwrth­od a Diafol a'i holl weithredoedd, Credu yn Nuw, a'i wasanaethu, rhaid i chwi feddwl mai eich rhan a'ch Dylêd chwi yw dwyn ar gôf iddynt, pa ryw hynod adduned adde­wid a phroffes a wnaethant yr awr hon ger bron y Gynnusleidfa hon, ac yn enwedig ger eich bron chwi eu tystion Etholedig. Chwi hefyd a elwch arnynt, i arferu pob dyfalwch i gael eu haddyscu yn iawn san­cteiddlan Air Duw: fel y gallont felly gynnyddu me­wn Grâs, ac y ngwybodaeth ein Harglwydd Jesu Grist, a byw yn Dduwiol, yn uniawn ac yn sobr yn y byd presennol hwn.

¶ (Ac yna gan ddywedyd wrth y rhai newydd fedyddio efe a â rhagddo fel hyn.)

AC am a berthyn i chwi y rhai yr awrhon yn eich Bedydd a arwiscasoch Grist, eich rhan chwithau a'ch dylêd yw, gan eich bod we­di eich gwneuthur yn blant i Dduw, ac yn blant y goleuni, trwy ffydd yn Jesu Grist, rhodio yn attebol i'ch galwedigaeth Gristiano­gawl [Page] gawl, ac megis y gweddei i blant y Goleuni, gan gofio yn wastad, bod Bedydd yn arwyddocâu i nyni ein pro­fess, hynny yw, bod i mi ganlyn esampl ein Jachawdr Crist, a'n gwneuthur yn gyflelyb iddo ef: fel megis ac y bu efe farw, ac y cyfodes drachefn drosom ni, felly y dylem ni y rhai a fedyddiwyd, farw oddi-wrth be­chod, a chyfodi i gyfiawnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhagom ym-mhôb rhinwedd dda, a buchedd dduwiol.

¶ Dîr yw, i bob un a fedyddier fel hyn gael ei Gonfir­mio gan yr Escob cyn gynted ac y gallo yn gymwys ar ol ei Fedydd, fel y bo rhydd iddo ddyfod i'r Cym­mun bendigedig.

¶ Os bydd dwyn neb o'r cyfryw, na fedyddiwyd yn eu mebyd i'w bedyddio cyn dyfod i oedran pwyll i fedru atteb drostynt eu hunain, digonol fydd arfer y gwa­sanaeth am Fedydd Public plant bychain neu (ar ddyg­naf Berigl) y gwasanaeth am Fedydd Priuat gan newid rhyw eiriau y bo achos yn peri eu newidio.

Y CATECHISM; Sef yw hynny, Athrawiaeth i'w dyscu gan bob plentyn, cyn ei ddwyn i'w gonffirmio gan yr Escob.

Qwestion.

BEth yw dy enw di?

Atteb.

N. neu M.

Qwestion.

Pwy a roddes yr enw hwnnw arnat ti?

Atteb.

Fy nhadau bedydd, a'm mamau bedydd wrth fy medyddio, pan i'm gwnaethpwyd yn aelod i Grist, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nêf.

Qwestion.

Pa beth a wnaeth dy dadau bedydd a'th famman bedydd yr amser hwnnw trosot ti?

Atteb.

Hwy a addawsant, ac a addunasant dri pheth yn fy enw. Yn gyntaf ymwrthod o honof â diafol, ac â'i holl weithredoedd a'i rodres, gorwagedd y bŷd anwir, a phechadurus chwantau y cnawd. Yn ail bod i mi gredu holl byngciau ffydd Grist. Ac yn dry­dydd, cadw o honof wynfydedic ewyllys Duw a'i or­chymmynion, a rhodio yn yr unrhyw holl ddyddiau fy mywyd.

Qwestion.

Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwymedig i gredu ac i wneuthur megis ac yr addawsant hwy trosot ti▪

Atteb.

Ydwyf yn wîr, a thrwy nerth Duw felly y gwnaf. Ac ydd wyfi yn mawr ddiolch i'n Tâd nefol, am iddo fy ngalw i gyfryw stât Jechydwriaeth trwy Jesu Grist ein Jachawdr. Ac mi a attolygaf i Dduw roddi i mi ei râd, modd y gallwyf aros yn yr unrhyw holl ddyddiau fy einioes.

Qwestion.

Adrodd i mi fannau dy ffydd?

Atteb.

CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdr nef a daiar. Ac yn Jesu Grist ei un Mâb ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gâed trwy yr Yspryd glân, a aned o Fair forwyn: a ddiodd­efodd dan Bontius Pilatus, a grees­hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd a ddiscynnodd i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o fei­rw; a escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd at ddeheu-law Dduw Dâd oll gyfoethawg, Dddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân gatholic, Cymmun y sainct▪ Maddeuant pechodau, Cyfodiad y cnawd, a'r by­wyd tragywydol. Amen.

Qwestion.

Pa beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf yn pyng­ciau hyn o'th ffŷdd?

Atteb.

Yn gyntaf yr wyf yn dyscu credu yn Nuw Dâd, yr hwn a'm gwnaeth i a'r holl fyd.

Yn ail, yr ydwyf y credu yn Nuw Fâb, yr hwn a'in prynodd i a phob rhyw ddŷn.

Yn drydydd, yr wyf yn credu yn Nuw Yspryd glân, [Page] yr hwn sydd i'm sancteiddio i, a holl etholedig bobl Dduw.

Qwestion.

Ti a ddywedaist ddarfod i'th Dadau-bedydd a'th Fammau bedydd, addo trosot ti, fod i ti gadw gor­chymmynion Duw; Dywet titheu i mi▪ pa nifer sydd o honynt?

Atteb.

Dec.

Qwestion.

Pa rai ydynt?

Atteb.

Y Rhai hynny a lefarodd Duw yn yr ugeinfed bennod o Exodus, gan ddywedyd, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di ym­maith o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

  • I. Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.
  • II. Na wna it dy hûn ddelw gerfiedic, na llûn dim ac y sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar. Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt: oblegit myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau'r ta­dau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedl­aeth o'r rhai a'm casânt, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fyngorch­ymynion.
  • III. Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei Enw ef yn ofer.
  • IV Cofia gadw yn sanctaidd y dŷdd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn dy byrth. Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y môr, a'r hyn oll sydd yn­ddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd. O her­wydd [Page] paham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.
  • V. Anrhydedda dy dâd a'th fam, fel yr estynner dy ddy-ddiau ar y ddaiar yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
  • VI. Na Lâddd.
  • VII. Na wna odineb.
  • VIII. Na ledratta.
  • IX. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gym­mydog.
  • X. Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wâs, na'i forwyn, na'i ych, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo.

Qwestion.

Beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf wrth y gor­chymmynion hyn?

Atteb.

Yr ydwyf yn dyscu dau beth: fy nylêd tu ag at Dduw, a'm dylêd tu ag at fy nghymmydog.

Qwestion.

Pa beth yw dy ddyled tu ag at Dduw?

Atteb.

Fy nylêd tu ag at Dduw yw, Credu ynddo, ei ofni, a'i garu, a'm holl galon, â'm holl enaid, ac am holl nerth, Ei addoli ef, diolch iddo, rhoddi fy holl ym­ddiried ynddo, galw arno, anrhydeddu ei sanctaidd Enw ef a'i air, a'i wasanaethu yu gywir holl ddy­ddiau fy mywyd.

Qwestion.

Pa beth yw dy ddylêd tu ag at dy gymmydog?

Atteb.

Fy nylêd tu ag at fy nghymmydog yw, ei garu fel fi fy hun, a gwneuthur i bob dyn megis y chwen­nychwn iddo wneuthur i minneu. Caru o honof, anrhydeddu, a chymmorth fy nhâd â'm mam. An­rhydeddu, ac ufyddhau i'r Brenhin a'i swyddogion. Ymddarostwng i'm holl lywiawdwyr, dyscawd­wŷr, Bugeiliaid ysprydol, ac athrawon. Ymddwyn o honof yn ostyngedic, gan berchi pawb o'm gwell. Na wnelwyf niwed i neb ar air na gweithred. Bod [Page] yn gywir ac yn union ymmhob peth a wnelwyf Na bo na châs na digasedd yn fy nghalon i neb. Cadw o honof fy nwylaw rhac chwilenna a lledratta, cadw fy nhafod rhag dywedyd celwydd, cabl-eiriau, na drwg absen. Cadw fy nghorph mewn cymhedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb. Na chybyddwyf ac na ddei­syfwyf dda na golud neb arall. Eithr dyscu, a llafu­rio yn gywir, i geisio ennnill fy mywyd, a gwneuthur a ddylwyf, ymmha ryw fuchedd bynnac y rhyngo bodd i Dduw fy ngalw.

Qwestion.

Fy anwyl blentyn, gwybydd hyn ymma, nad wyt ti abl i wneuthur y pethau hyn o honot dy hûn, nac i rodio yngorchymynion Duw, nac iw wasanaethu ef, heb ei yspysol râd ef; yr hwn sydd raid i ti ddyscu yn wastad ymoralw am dano trwy ddyfal weddi. Gan hynny moes i mi glywed a fedri di ddywedyd gweddi yr Arglwydd?

Atteb.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Qwestion.

Pa beth ydd wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y weddi hon?

Atteb.

Yr ydwyf yn erchi ar fy Arglwydd Dduw ein Tâd nefol, yr hwn yw rhodd-wr pob daioni, ddanfon ei râd arnaf, ac ar yr holl bobl, fel y gallom ei anrhy­deddu ef, a'i wasanaethu, ac ufuddhau iddo megis y dylem Ac ydd wyf yn gweddio ar Dduw ddanfon i ni bob peth anghenrheidiol, yn gystal i'n heneidiau, ac i'n cyrph; A bod yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pechodau; A rhyngu bodd iddo ein cadw a'n [Page] amddeffyn ym mhob perigl ysprydol a chorphorol: A chadw o honaw nyni rag pob pechod ac anwiredd, a rhag ein gelyn ysprydol, a rhag angeu tragywyddol. A hyn yr ydwyf yn ei obeithio y gwna efe o'i drugar­edd a'i ddaioni, trwy ein Harglwydd Jesu Grist: ac am hynny ydd wyf yn dywedyd, Amen, Poet gwir.

Qwestion.

PA sawl Sacrament a ordeiniodd Crist yn ei Eglwys?

Atteb.

Dau yn unig, megis yn gyffredinol yn anghen­rhaid i Jechydwriaeth, sef, Bedydd, a Swpper, yr Arglwydd.

Qwestion.

Pa beth yr wyt ti yn ei ddeall wrth y gair hwn Sacrament?

Atteb.

Yr wyfi yn ddeall, Arwydd gweledig oddi allan, o râs ysprydol oddifewn, a roddir i ni; yr hwn a ordei­niodd Crist ei hun, megis modd i ni i dderbyn y grâs hwnuw trwyddo, ac i fod yn wystl i'n siccrhau ni o'r grâs hwnnw.

Qwestion.

Pa sawl rhan y sydd mewn Sacrament.

Atteb.

Dwy, yr arwydd gweledig oddiallan, a'r gras ys­prydol oddifewn.

Qwestion.

Pa beth yw'r Arwydd gweledig oddiallan, neu'r ffurf, yn y Bedydd?

Atteb.

Dwfr: yn yr hwn y bedyddir un, Yn Enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Ysyryd glân.

Qwestion.

Pa beth yw'r grâs ysprydol oddifewn?

Atteb.

Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i gy­fiawnder. Canys gan ein bod ni wrth naturiaeth we­di ein geni mewn pechod, ac yn blant digofaint, drwy Fedydd y gwneir ni yn blant grâs.

[Page] Qwestion.

Pa beth a ddisgwilir gan y rhai a fedyddier?

Atteb.

Edifeirwch, drwy 'r hon y maent yn ymwrthod â phechod: A ffydd, drwy'r hon y maent yn ddiyscog yn credu addewidion Duw, y rhai a wneir iddynt yn y Sacrament hwnnw.

Qwestion.

Pa ham wrth hynny y bedyddir plant bychain, pryd na's gallant o herwydd eu hifiengtid gyflawni y pethau hyn?

Atteb.

Oblegid e'u bod yn addaw pob un o'r ddau drwy eu mechiau yr hwn addewid pan ddelont i oedran, y ma­ent hwy eu hunain yn rhwym i'w gyflawni.

Qwestion.

Ha ham yr ordeiniwyd Sacrament Swpper yr Ar­glwydd?

Atteb.

Er mwyn. tragywydoll gôf am aberth dioddefaint marwolaeth Crist, a'r lleshâd yr ydym ni yn ei dder­byn o-ddi-wrtho.

Qwestion.

Pa beth yw y rhan oddiallan, neu'r Arwydd, yn Swpper yr Arglwydd?

Atteb.

Bara a gwin, y rhai a orchymmynnodd yr Argl­wydd eu derbyn.

Qwestion.

Pa beth yw y rhan oddifewn, neu'r peth a arwy­ddocceir?

Atteb.

Corph a gwaed Crist, y rhai y mae'r ffyddloniaid yn wir ac yn ddiau yn eu cymmeryd ac yn eu derbyn, yn Swpper yn Arglwydd.

Qwestion.

Pa leshâd yr ydym ni yn ei gael wrth gymmeryd y Sacrament hwn?

Atteb.

Cael cryfhâu a diddanu ein heneidiau drwy Gorph a [Page] gwaed Crist megys y mae ein cyrph yn cael drwy'r bara a'r gwîn.

Qwestion.

Pa beth sy' raid î'r rhai a ddêl i Swpper yr Argl­wydd ei wneuthur?

Atteb.

Eu holi eu hunain, a ydynt hwy yn wir edifeiriol am eu pechodau, a a aeth heibio, ac yn siccr amcanu dilyn buchedd newydd: a oes ganthynt ffŷdd fywiol yn nrhugaredd Duw drwy Grist, gydâ diolchus gôf am ei angeu ef, ac a ydynt hwy mewn cariad per­ffaith â phôb dyn.

¶ Bid i Gurat pob plwyf yn ddiesceulus ar y Suliau a gwyliau ar ol yr ail llith o'r Gosper ddyscu ar osteg yn yr Egylwys, a holi cynnifer o blant ei Blwyf, ac a ddan­fonwyd atto, megis y tybio efe fod yn gymhesur yn rhyw bart o'r Catechism hwn.

¶ A bid i bob tâd a mam, a phob perchen tylwyth beri iw plant, iw gwasanaeth-ddynion, ac iw Prentisiaid, (y rhai ni ddyscasant eu Catechism) ddyfod i'r Eglwys ar yr amser gosodedig a gwrando yn ufudd, a bod wrth lywodraeth y Curat, hyd oni ddarffo iddynt ddyscu pob peth ac y sydd yma wedi ei osod iw ddyscu ganddynt.

¶ Er cynted ac y deuo Plant i oedran cymhedrol, ac y medront ddywedyd yn iaith eu mam, fannau yr ffydd, gweddi yr Arglwydd, y dec Gorchymmyn, a hefyd me­dru o honynt atteb i ymofynion eraill o'r Catechism byr yma. Yna y dygir hwy at yr Escob; Ac i bob un o ho­nynt y bydd Tâd bedydd neu Fâm fedydd megis yn Dŷst o'i Gonffirmasion.

¶ A pha bryd bynnac y rhoddo yr Escob yspysrwydd am ddwyn plant atto, i'w Conffirmio, Curat pob plwyf a ddwg neu a ddenfyn yn scrifennedig tan ei law henwau y rhai oll o fewn ei blwyf, ac a dybio efe fod yn gymmwys iw presentio i'r Escob, iw Conffirmio. Ac os yr Escob a'u gwêl hwynt yn gymeradwy, efe a'u Conffirmia hwynt yn y drefn, yn canlyn.

Trefn Conffirmasion, NEU, Arddodiad Dwylo ar y sawl a fedyddiwyd, ac a ddaethant i oedran pwyll.

¶ Ar y dydd pwyntiedig wedi gosod yn eu lle cynnifer ac a fo y pryd hynny i'w Conffirmio, ac yn sefyll mewn trefn o flaen yr Escob, efe (neu ryw Weinidog arall pwyntiedig ganddo ef) a dderllyn y rhag-ymadrodd hwn y sydd yn canlyn.

YR mwyn bod ministrio Conffirmasi­on er mwy o adeilad i'r sawl a'i derbynio, tybiodd yr Eglwys yn dda, na bo Conffirmio neb rhag llaw, onid cyfryw a fedro ddywe­dyd y Credo, Gweddi 'r Arglwydd, a'r Dengair deddf, ac a fedro hefyd atteb i gyfryw ymofynion a gynhwysir yn y Catechi­sm byrr. Yr hon Drefn sydd weddus iawn ei chadw, er gallu o'r Plant wedi eu dyfod weithian i oedran syn­wyr, ac wedi dyscu y pethau a addawsei eu Tadan bedydd a'u mammau bedydd trostynt wrth eu be­dyddio, eu hnn, a'u genau eu hunain, ac o'u cydsynniad eu hunain ar osteg yngwydd yr Eglwys, gadarnhau a chonffirmio yr unrhyw; a hefyd addaw trwy Râs Duw yr ymegniant yn wastad i gadw yn ffyddlon y cpfryw bethau, ac a fu iddynt hwy au cyffes eu hu­nain gydsynniaw arnynt.

¶ Yna y dywed yr Escob.

A Ydych chwi yma yngwydd Duw a'r gynnu­lleidfa hon yn adnewyddu yr addewid par­chus, a'r adduned a wnaethpwyd yn eich henw chwi wrth eich Bedyddio, gan gadarnhau a chon­ffirmio yr unrhyw eich hunain, a chan gydnabod eich bod eich hunain yn rhwymedig i gredu a gwneuthur yr holl bethau a addawodd eich Tadau bedydd ach mammau Bedydd trosoch chwi?

¶ A phob un a ettyb yn glywedawg.

Yr ydwyf.

Yr Escob.

EIn porth ni y sydd yn Enw yr Arglwydd.

Atteb.

Yr hwn a wnaeth nef a daiar.

Escob.

Bendigaid yw Enw yr Arglwydd.

Atteb.

O hyn hyd yn oes oesoedd.

Escob.

Arglwydd gwrando ein gweddiau.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Escob.

Gweddiwn.

HOll-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn fu wiw gennit adgenhedlu dy weision hyn trwy ddwfr a'r Yspryd glân, ac a roddaist iddynt faddeuant o'u holl becho­dau: nertha hwy, ni a attolygwn iti Ar­glwydd, â'th Yspryd glân y Diddan- wr: A phen­nydd ychwanega ynddynt dy aml ddoniau o râd, Ys­pryd doethineb a deall, Yspryd cyngor a nerth yspryd­ol; Yspryd gwy bodaeth a gwir dduwioldeb; A chyfla wnha hwy Arglwydd ag Yspryd dy sanctaidd ofn Yr awr hon ac yn dragywydd Amen.

¶ Yna a phob un o honynt yn ei drefn yn gostwng ar ei liniau ger bron yr Escob, efe a ddyd ei law ar ben pob un, gan ddywedyd.

AMddiffyn Arglwydd y plentyn hwn neu dy wâs hwn â'th râs nefol, fel y byddo iddo bar­hâu yn eiddot ti byth, a pheunydd gynyddu yn dy Yspryd glân fwy-fwy, hyd oni ddel i'th deyrnas dragywyddol. Amen.

¶ Yna y dywed yr Escob.

Yr Arglwydd a fo gyda chwi.

Atteb.

A chyd a'th Yspryd dithau.

¶ Ac (a phawb ar eu gliniau) yr Escob a ddywed yn rhagor.

Gweddiwn.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

¶ A'r Collect hwn.

HOll-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn wyt yn peri i ni ewyllysio, a gw­neuthur yr hyn sydd da ac yn dduwi­ol gymmeradwy gan dy fawredd: Yr ydym yn gwueuthur ein gostynge­dic erfynion attat dros dy weision hyn, y rhai (yn ol esampl dy sanct­aidd [Page] Apostolion y gosodasom ein dwylo arnynt, i'w siccrhâu hwy trwy yr arwydd hwn, fod dy ymgeledd a'th radlawn ddaioni tuac attynt: Bydded dy Dadol law, ni a attolygwn i ti, byth arnynt: Bydded dy Yspryd glân byth gyd a hwy, ac felly tywys hwy yn­gwybodaeth ac ufudd-dod dy air, modd y gallont yn y diwedd fwynhau by wyd tragywyddol, trwy ein Har­glwydd Jesu Grist yr hwn gyd â thi, a'r Yspryd glân sydd yn byw ac yn teyrnasu yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

HOll-alluog Arglwydd, a byth-fywiol Dduw, ni a attolygwn i ti fod yn wiw gennit uniaw­ni, sancteiddio, a llywodraethu ein calonnau a'n cyrph, yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymynion, megis trwy dy gadarnaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y gallom fod yn gadwedic gorph ac enaid, trwy ein Harglwydd a'n Jachaw­dr Jesu Grist. Amen.

¶ Yna y Bendithia yr Escob hwynt, gan ddywedyd hyn.

BEndith yr Holl-alluog Dduw, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân, a fyddo arnoch, ac a drigo gyd â chwi yn dragywydd. Amen.

¶ Ac ni dderbynir neb i'r Cymmûn sanctaidd nes iddo gael, ei Gonffirmation, neu fod o hono yn barod ac yn ewyllysgar i'w gonffirmio.

Ffurf Gweinidogaeth PRIODAS

¶ YN gyntaf rhaid yw gofyn Gostegion pob rhai a brioder, yn yr Eglwys ar dri Sûl gwahanrhedol neu wyliau ar bryd gwasanaeth Duw, yn ebrwydd o fla­en y Sentensiau i'r Offrymmiaeth, y Curat yn dywedyd ar y modd arferedig.

Ydd wyf yn cyhoeddi gostegion Priodas rhwng M. o—ac N. o—O gwyr neb o honoch achos neu rwystr cyfiawn, fel na ddylid cyssylltu y ddeu-ddyn hyn ynghyd mewn glân Briodas, mynegwch ef: Dymma 'r waith gyntaf [ail neu 'r drydydd] o'u go­fyn.

¶ Ac os y rhai a fynnant eu priodi fydd yn trigo mewn▪ amrafael blwyfau, rhaid yw gofyn y gostegion yn y ddau blwyf, ac na bo i'r Curat o'r naill blwyf eu priodi hwy, nes cael hyspysrwydd ddarfod gofyn eu Gostegion, dair gwaith, gan y Curat o'r plwyf arall.

¶ Ar y dydd a'r amser gosodedic i fod y Briodas, deued y rhai a brioder i gorph yr Eglwys, a'u ceraint, a'u cym­mydogion: ac yno gan sefyll ynghyd, y mab ar y llaw ddehau, a'r ferch ar yr asswy, yr Offeiriad a ddywed.

Y Caredigion, ydd ŷm ni wedi ymgyn­null yma yngolwg Duw, ac yn wy­neb ei gynnulleidfa ef, i gyssylltu y ddeu-ddyn hyn ynghyd mewn glân Briodas, yr hon y sydd stâd barche­dic, wedi ei hordeinio gan Dduw yn amser diniweidrwydd dŷn, gan arwyddoccâu i ni y dirgel undeb y sydd rhwng Crist a'i Eglwys: yr hon wynfydedic stât a addurnodd, ac a brydferthodd Crist â'i gynnyrcholdeb ei hun â'r gwyrthiau cyntaf a wnaeth efe yn Cana Galilea. A phriodas hefyd a ddywed Sanct Paul ei bod yn anrhydeddus ym-mhlith yr holl ddynion: Ac am hyn­ny ni ddylei neb ei chymmeryd arno mewn byrbwyll, o yscafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn digoni deisyfiad a chwantau cnawdol, fel anifeiliaid yscrybl­aidd, y rhai nid oes rheswm ganddynt eithr yn bar­chedic, yn bwyllog, yn sobr, ac mewn ofn Duw, gan ddyledus syniaw er mwyn pa achosion yr ordemiwyd priodas. Yn gyntaf, hi a ordeiniwyd er ennill plant, iw meithrin yn ofn ac addysc yr Arglwydd, ac er moli­ant i'w enw sanctaidd ef. Yn ail, hi a ordeiniwyd yn ym­wared yn erbyn pechod, ac i ymogelyd rhag godineb megis ac y byddo i'r cyfryw rai nad oes iddynt roddi­ad i ymgynnal, allu priodi, a'u cadw eu hunaiu yn ddihalogion aelodau corph Crist. Yn drydydd, hi a or­deiniwyd er cydgymdeithas â'r gilydd, a'r cymmorth a'r diddanwch a ddylei y naill ei gael gan y llall, yn gystal mewn hawddfyd ac adfyd. I'r hon sanctaidd stât y mae yr ddeu-ddyn hyn wedi dyfod i ymgyssylltu. Herwydd pa ham, o gwyr neb un achos eyfion, fel na ellir yn gyfreithlon eu cyssylltu hwy ynghŷd, dyweded yr awr hon, neu na ddyweded byth rhac llaw.

¶ A chan grybwyll hefyd wrth y rhai a brioder, efe a ddywed.

YDd wyfi yn erchi, ac yn gorchymyn i chwi (fel y bo i chwi atteb ddydd y farn ofnad­wy, pan gyhoedder dirgelion pob calon) o gwyr yr un o honoch un anach fel na ddy­lech yn gyfreithlawn fyned ynghŷd me­wn priodas, gyffessu o honoch yn y man. Canys gwy­byddwch yn dda, am gynnifer ac a gyssyllter yn amgen nag y myn gair Duw, na's cyssylltir hwy gan Dduw, ac nad yw eu priodas yn gyfreithlawn.

¶ Ac ar ddydd y briodas, o bydd i neb ddywedyd bod un anach na ddylent gael eu cyssylltu mewn priodas, wrth gyfraith Dduw, a chyfraith y deyrnas hon, ac a ym­rwyma a meichiau digonol gyd ag ef i'r partiau: neu yn­teu roddi gwarthol am gwbl ac a dâl cymmaint a cho­lled y rhai oeddynt i'w priodi, i brofi ei ddadl: yna y bydd rhaid oedi dydd y briodas hyd yr amser y treier y gwirionedd.

¶ Ac oni honir un anach, yna y dywed y Curat wrth y gwr.

NA fynni di y ferch hon yn wraig briod i ti i fyw ynghŷd, yn ôl ordinhâd Duw, ynglân radd, priodas? A geri di hi, ei diddanu, ei pherchi, a'i chadw yn glaf ac yn iach? A gwrthod pob un arall, a'th gadw dy hun yn unic iddi hi, tra fyddoch byw eich deuoedd?

¶ Y Mab a ettyb.

Gwnâf.

¶ Yna y dywed yr Offeriad wrth y Ferch.

NA fynni di y mâb hwn yn wr priod i ti, i fyw ynghyd yn ôl ordinhâd Duw, ynglân stât prio­das? A ufuddhei di iddo a'i wasanacthu, ei garu, ei berchi, a'i gadw, yn glâf ac yn iach, a chan wrthod pawb eraill, dy gadw dy hun yn unic iddo ef, cyhyd ag y byddoch byw eich deuoedd?

[Page] Y Ferch a ettyb.

Gwnâf.

¶ Yna y dywed y Gwenidog.

Pwy sydd yn rhoddi y ferch hon iw phriodi i'r mâb hwn?

¶ Yna rhoddant eu Crêd iw gilydd y modd hyn.

Ar Gwenidog, gan dderbyn y ferch o law ei thad neu ei cheraint, a bair i'r Mab ai law ddehau gymmeryd y Ferch erbyn ei llaw ddehau; a dywedyd ar ei ol ef, fel y mae yn canlyn.

YR ydwyfi, N yn dy gymmeryd ti N. yn wr­aig briod i mi, i gadw a chynnal, o'r dŷdd hwn allan, er gwell, er gwaeth er cy­foethogach, er tlodach, yn glâf ac yn iâch i'th garu, yn ôl glân ordinhâd Duw; ac ar hynny yr ydwyf yn rhoddi i ti fy nghrêd.

¶ Yna y dattodant eu dwylaw, ar ferch ai llaw ddehau yn cymmeryd y Mab erbyn ei law ddehau, a ddywed ar ol y Gwenidog.▪

YDd wyfi N. yn dy gymmeryd ti N. yn wr priawd i mi, i gadw a chynnal, o'r dŷdd heddyw allan, er gwell, er gwaeth, er cy­foethogach, er tlodach, yn glâf ac yn iâch i'th garu, i'th fawrhâu, ac i ufuddhâu i ti, hyd pan i'n gwahano angau, yn ôl glân ordinhad Duw, ac ar hynny y rhoddaf i ti fy nghrêd.

¶ Yna drachefn y gollyngant eu dwy-law yn rhyddion, ac y dyry y Mab fodrwy i'r ferch, gan ei dodi ar y llyfr, ynghyd â'r ddylêd ddefodol i'r Offeiriad a'r yscolhaig. A'r Offeiriad a gymmer y Fodrwy, a'i ac dyry i'r Mab, iw gosod ar y pedwerydd bys i law asswy y Ferch. A'r Mab gan ddal y fodrwy yno wrth addysc yr Offeiriad, a ddywed.

A'r Fodrwy hon i'th briodaf, â'm corph i'th anrhy­deddaf, [Page] ac â'm golud bydol i'th gynhyscaeddaf. Yn Enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.

¶ Yna y gâd y Mab y fodrwy ar y pedwerydd bys o'r llaw asswy i'r Ferch a hwy ill dau a ostyngant ar eu gliniau ac y dywed y Gwenidog.

Gweddiwn.

O Dragywyddol Dduw Creawdr a cheiwad pob rhyw ddyn, rhoddwr pob rhâd ysprydol awdur y bywyd a bery byth: Anfon dy fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn, y mab hwn, a'r ferch hon, y rhai ydd ŷm ni yn eu bendithio yn dy Enw di, fel ac y bu i Isaac a Rebecca fyw yn ffyddlawn ynghyd, felly gallu o'r dynion hyn gyflawni a chadw yr adu­ned a'r ammod a wnaed rhyngddynt; am yr hyn y mae rhoddiad, a derbyniad y Fodrwy hon yn arwydd ac yn wystl, a gallu o honynt byth aros ynghyd mewn perffaith gariad a thangneddyf, a byw yn ôl dy ddedd­fau, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna cyssyllta yr Offeiriad eu dwy law ddeheu hwy ynghyd, ac y dywed.

Y rhai a gyssylltodd Duw ynghyd, na wahaned dyn.

¶ Yna y dywed y Gwenidog wrth y Bobl.

YN gymmaint a darfod i N. ac N. gyd-syni­aw mewn glân Briodas, a thystiolaethu hynny gar bron Duw a'r gynnulleidfa hon, ac ar hynny ddarfod iddynt ymgredu, ac ymwystlo bob un iw gilydd, a declario hynny gan roddi a derbyn Modrwy, a chyssylltu dwy­law: ydd wyfi yn hyspyssu eu bod hwy yn wr ac yn wraig ynghŷd: yn Enw'r Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.

¶ A'r Gwenidog a'u bendithia hwy a'r fendith hon yn anghwanec.

DUw Tâd, Duw Fâb Duw Yspryd glân, a'ch bendithio, a'ch cadwo, ac a'ch cym­hortho: Edryched yr Arglwydd yn drugar­og ac yn ymgeleddus arnoch, a chyflaw­ned chwi â phob ysprydol fendith a rhâd, modd y galloch fyw ynghŷd yn y fuchedd hon, fel y bo i chwi yn y byd a ddaw allu meddiannu bywyd tragy­wyddol. Amen.

¶ Yna y Gwenidogion, neu yr Yscolheigion gan fyned i fwrdd yr Arglwydd, a ddywedant, neu a ganant y Psalm hon sydd yn canlyn.

GWyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd: yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd a da fydd it.

Dy wraig fydd fel gwin-wydden ffrwyth-lawn ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion oliwydd o amglych dy ford.

Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd,

Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Sion, a thi a gei weled daioni Jerusalem holl ddyddiau dy enioes.

A thi a gei weled plant dy blant, a thangneddyf ar Israel.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

¶ Neu y Psalm yma.

DUw a drugarhao wrthym, ac a'n ben­dithio, a thywynned ei wyneb ar­nom a thrugarhaed wrthym.

Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym-mh­lith yr holl genhedloedd.

Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

Llawenhaed y cenhedloedd a byddant hyfryd: ca­nys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar.

Molianed y hobl di, ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

Yna yr ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw sef ein Duw ni, a'n bendithia.

Duw a'n bendithia: a holl derfynau yr daiar a'i hofnant ef.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

¶ Wedi gorphen y Psalm, a'r Mâb a'r Ferch yn gostwng ar eu gliniau ger bron bwrdd yr Arglwydd, yr Offeiri­ad yn sefyll wrth y bwrdd, a chan ymchwelyd ei wyneb attynt hwy, a ddywed.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Atteb.

Cust trugarhâ wrthym.

Gwenidog.

Arglwydd trugarhâ wrthym,

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Gwenidog.

Arglwyd cadw dy wasanaethwr, a'th wasanaeth­wraig.

Atteb.

Y rhai sy'yn ymddiried ynot.

Gwenidog.

Arglwydd danfon iddynt gymmorth o'th gyssegrfa▪

Atteb.

Ac amddiffyn hwy yn dragywydd.

Gwenidog.

Bydd iddynt yn dŵr cadernid.

Atteb.

Rhac wyneb eu gelynion.

Gwenidog.

Arglwydd gwrando ein gweddi.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Gwenidog.

DUw Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob, bendithia dy wasanaeth­ddynion hyn, a haua hâd buchedd dragywyddol yn eu meddyliau, me­gis pa beth bynnac yn dy air cysse­gredic yn fuddiol a ddyscant, iddynt allu cyflawni hynny yngweithred. Edrych arnynt Arglwydd, yn drugarog o'r nefoedd, a bendithia hwynt. Ac fel yr anfonaist dy fendith ar Abraham a Sara, i'w mawr ddiddanwch hwy: felly bid gwiw gennit anfon dy fendith ar dy wasanaeth­ddynion [Page] hyn, modd y bo iddynt (yn ufudd ith Ewy­llys, a chan fod bob amser dan dy nawdd) allu aros yn dy serch hyd ddiwedd eu bywyd, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Y weddi hon sy'n canlyn a faddeiuir pan fyddo yr ferch dros oedran planta.

O Drugarog Arglwyd a nefol Dâd, trwy radlawn ddawn yr hwn yr am­lhâ hiliogaeth dŷn: Attolygwn i ti gymmorth â'th fendith y ddeuddyn hyn; fel y gallont fod yn ffrwyth­lon i hilio plant, hefyd cydfod a byw mewn cariad Duwiol a syberwyd fel y gwelont ddwyn eu plant i fynu yn Gristianus, ac yn rhinweddol, i'th foliant a'th anrhydedd di, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

DUw, yr hwn drwy dy alluog nerth a wnaethost bob peth o ddiddim dde­fnydd, yr hwn hefyd, wedi gosod pe­thau eraill mewn trefn, a ordeini­aist allan o ddyn, yr hwn a grewyd ar dy lûn, a'th ddelw dy hun, gael o wraig ei dechreuad, a chan eu cy­ssylltu hwy ynghŷd yr arwyddoceaist na byddei byth gyfreithlon wahanu y rhai trwy briodas a wnelit ti yn un, O Dduw, yr hwn a gyssegraist ystad priodas i gyfryw ragorawl ddirgeledigaeth, megis ac yr ar­wyddoceir, ac y coffeir ynddi y Briodas ysprydol, a'r undeb rhwng Crist a'i Eglwys. Edrych yn druga­rog ar y rhai hyn dy wasanaeth-ddynion, fel y gallo y gwr hwn garu ei wraîg, yn ôl dy air di (megis y carodd Crist ei Briawd yr Eglwys, yr hwn a'i rhoes ei hunan drosti gan ei charu, a'i mawrhâu, fel ei gna­wd ei hunan) a hefyd bod y wraig hon yn garuaidd, ac yn serchog yn ffyddlon ac yn ufudd i'w gwr ac ym­hob heddwch, sobrwydd, a thangneddyf, ei bod yn can­lyn esampl sanctaidd a duwiol esampl wragedd. Argl­wydd [Page] bendithia hwy ill dau, a chaniatâ iddynt etifeddu dy deyrnas dragywyddol, trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad.

HOll-gyfoethog Dduw, yr hwn yn y dechreuad a greawdd ein rhieni Adda ac Efa ac a'u cyssegrodd ac a'u cy­ssylltodd ynghyd ym mhriodas: a dy­wallto arnoch olud ei râd ef, a'ch sancteiddio, ac a'ch bendithio, modd y galloch ei foddhau ef ynghorph ac enaid, a byw ynghyd mewn duwiol serch, hyd ddi­wedd eich oes. Amen.

¶ Gwedi hyn, oni bydd Pregeth yn datgan dyledion gŵr a gwraig y Gwenidog a dderllyn fel y mae yn canlyn.

CHwy-chwi oll y rhai a brioded, neu y sy yn darpar cymeryd glân ystâd priodas arnoch, gwrandewch pa beth a ddywed yr Scrythur lân, ob­legit dyled gwŷr iw gwragedd, a gwragedd i'w gwŷr.

Sanct Paul yn ei Epistol at yr E­phesiaid, yn y bummed bennod, sydd yn rhoddi y gorch­ymyn hwn i bob gwr priod.

Chwychwi wŷr, cerwch eich gwragedd, megis y carodd Crist ei Eglwys, ac y rhoddes ei hun drosti, fel y sancteiddiei efe hi a'i glanhâu a'r olchfa ddwfr trwy y gair, fel y gallei ei gwneuthud iddo ei hun yn Eglwys ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chry­chni, na dim o'r cyfryw: eithr ei bod yn lân ac yn ddi­argyoedd. Ac y mae yr gwŷr yn rhwymedic i garu eu gwragedd, fel eu cyrph eu hunain. Pwy bynnac a garo ei wraig, a'i câr ei hun: gan na chashâodd neb er ioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu, a'i faethu, megis y gwna yr Arglwydd am yr Eglwys. canys ae­lodau o'i gorph ef ydym, a'i gnawd, a'i escyrn. O her­wydd pa achos y gâd dyn dâd a mam, ac y cyssylltir [Page] a'i wraig, a hwy ill dau fyddant un cnawd. Y dirgel­wch hyn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr Eglwys ydd wyfi yn crybwyll. O herwydd pa ham, cared pawb o honoch ei wraig megis ei hunan.

Yr un ffunyd, yr un rhyw S Paul yn scrifennu at y Colossiaid, a ddywed fel hyn wrth bob gŵr gwrei­gioc. Y gwŷr▪ cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

Gwrandewch hefyd pa beth a ddywaid Petr Apo­stol Crist, yr hwn hefyd oedd ei hun yn wr gwreigi­og, wrth y gwŷr gwreigiog. Y gwŷr, trigwch gyd â'ch gwragedd yn ôl gwybodaeth, gan berchi y wraig megis llestr gwannach, a megis cyd-etifeddion o râd y bywyd, fel na rwystrer eich gweddiau.

Hyd yn hyn y clywsoch am ddyled y gŵr tu ag at ei wraig. Yr awr hon yr un ffunyd, y gwragedd, gwr­andewch a dyscwch eich dyled chwithau i'ch gwyr, fel y mae yn eglur wedi ei ddatcan yn yr Scrythur lân.

Sainct Paul (yn yr unrhyw Epistol at yr Ephesi­aid) a'ch dŷsc fel hyn; Y gwragedd, byddwch ddar­ostyngedic i'ch gwŷr priod fel i'r Arglwydd: canys y gwr sydd ben ar y wraig, megis y mae Crist yn ben ar yr Eglwys: ac efe yw Jachawdr yr holl gorph.

Am hynny megis y mae yr Eglwys yn ddarostyn­gedic i Grist, felly yr un modd, ymddarostynged y gwr­agedd iw gwŷr ym-mhob peth. A thrachefn y dy waid efe. y wraig Edryched ar iddi berchi ei gŵr. Ac (yn ei Epistol at y Colossiaid) mae Sainct Paul yn rhoddi i'wch y wers ferr hon; Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Ar­glwydd.

S. Petr sydd hefyd yn eich dyscu yn wîr dduwi­ol, gan ddywedyd fel hyn Ymostynged y gwragedd iw gwŷr priod; fel os bydd neb heb ufuddhâu i'r gair y galler ei ynnil heb y gair, drwy ymarweddiad y gwragedd, wrth iddynt weled eich diwair ymddy­giad yn gyssylltedic ag ofn. Ac na fid eich trwsiad oddi allan, megis o blethiadau gwallt, ac amglych­osodiad aur neu wisco dillad gwychion. Eithr by­dded dirgelddyn y galon mewn anllygredigaeth ys­pryd [Page] addfwyn, a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werth-fawr. Canys felly gynt yr ymdrwssiei yr gwragedd sanctaidd, y rhai oedd yn gobeithio ar Dduw, yn ddarostyngedic iw gwŷr priod. Megis yr ufuddhâodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn Ar­glwydd: merched yr hon fyddwch chwi, o wneuthur yn dda, heb arnoch ofn dim dychryn.

¶ Dîr yw i'r rhai newydd briodi gymmeryd y Cymmun bendigedig ar amser eu Priodas, neu ar yr adeg cyntaf a'r ol eu priodi.

Y DREFN Am Ymweled a'r CLAF.

¶ Pan fo neb yn glâf yspyser hynny i Wenidog y Plwyf, yr hwn wrth fyned i mewn i dŷ y Clâf, a ddywed.

TAngneddyf fyddo yn y tŷ hwn, ac i bawb y sydd yn trigo ynddo.

¶ Pan ddel efe yngwydd y clâf, y dywaid gan ostwng i lawr ar ei liniau.

NA chofia Arglwydd ein enwired nac enwi­redd ein rhieni, Arbet nyni Arglwyd daio­nus, arbet dy bobl a brynaist âth werth­fawr waed, ac na lidia wrthym yn dragy­wydd. Atteb.

Arbet ni Arglwydd daionus.

¶ Yna y dywed y Gwenidog.

Gweddiwn.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Gwenidog.

Arglwydd iachâ dy wâs.

Atteb.

Yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

Gwenidog.

Anfon iddo borth o'th sancteiddfa.

Atteb.

Ac bŷth yn nerthol amddiffyn ef.

Gwenidog.

Na ad i'r gelyn gael y llaw uchaf arno.

Atteb.

Nac i'r enwir nessâu iw ddrygu.

Gwenidog.

Bydd iddo o Arglwydd, yn dŵr cadarn.

Atteb.

Rhag wyneb ei elyn.

Gwenidog.

Arglwydd gwrando ein gweddiau.

Atteb.

A deled ein llef hyd attat.

Gwenidog.

O Arglwydd edrych i lawr o'r nefoedd, golyga, ymwel, ac esmwytha ar dy wâs hwn, Edrych arno â golwg dy drugaredd, dyro idd gwn­ffordd a diogel ymddiried ynot, amddiffyn ef rhag pe­rigl y gelyn, a chadw ef mewn tangneddyf dragy wy­ddol a diogelwch, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

ERglyw ni holl-gyfoethog a thrugaroccaf Dduw, ac Jachawdr, estyn dy arferedic ddaioni i hwn dy wasanaeth-wr sydd ofi­dus gan ddolur, sancteiddia ni attolygwn i ti, dy dadol gospedigaeth hon iddo ef, fel y bo iw wybyddiaeth o'i wendid angchwanegu nerth ei ffydd, difrifwch iw Edifeirwch, fel os bydd dy ewy­llys roddi iddo ei gynnefin iechyd, y bo iddo dreulio y rhan arall o'i fywyd yn dy ofn, ac ith ogoniant, neu dyro iddo râs i gymmeryd felly dy ymweliad, fel y bo iddo yn ol diweddu y fuchedd boenedic hon, allu trigo gyd â thi yn y fuchedd dragywyddol trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna cynghored y Gwenidog, y Claf yn y ffurf hyn, neu yr cyfryw.

YR anwyl garedic, gwybydd hyn, mai yr Holl-alluog Dduw sydd Arglwydd ar ac fywyd angeu, ac ar bob peth a berthyn iddynt, megis ieuenctid, nerth, iechyd, oedran, gwendid, a haint. Am hynny pa beth bynnac yw dy glefyd, gwybydd yn ddiam­mau mai ymweliad Duw ydyw. Ac am ba achos bynnac ydd anfonwyd y clefyd hwn arnat, ai er profi dy ddioddefgarwch er esampl i eraill, ac er mwyn caffael dy ffydd yn nydd yr Arglwydd yn ganmole­dig, yn barchedic, ac yn anrhydeddus, er ychwaneg o ogoniant a didrange ddedwyddwch; neu ddanfon y clefyd hwn i gospi ac i gyweirio ynot ti beth bynnac sydd yn anfoddhâu golwg ein Tâd nefol, Gwybydd yn ddiammeu, os tydi a fyddi wir edifeiriol am dy be­chodau, a chymmeryd dy glefyd yn ddioddefgar, gan ymddiried yn-nhrugaredd Dduw, er mywn ei anwyl Fab Jesu Grist, a rhoddi iddo ostyngedic ddiolch am t'i dadol ymweliad, a bod i ti ymddarostwng yn holl­awl iw ewyllys ef, yr ymchwel i'th fûdd, ac i'th gym­morth rhagot i'r uniawn ffordd a dywys i fuchedd dragywyddol.

[...]
[...]

¶ Os y dyn ymweledic a fydd yn drym-glaf, yna y dichon y Curad orphen y Cyngor yn y fan hon neu aed rhagddo.

AM hynny cymmer yn groesawus gospedig­aeth yr Arglwydd, Canys megis y dywed Sanct Paul yn y ddeuddecfed bennod at yr Hebraeaid y neb a garo yr Arglwydd a gos­pa: Ac efe a fflangella bob mab a dderbynio. Os goddefwch gospedigaeth, y mae Duw yn Ym­ddwyn tu ag attoch megis tu ag at ei feibion ei hnn; canys pa fab sydd na's cospo ei dâd ef. Eithr os heb gospedigaeth yr ydych, o'r hon y mae Pawb yn gy­frannog, yna bastarddiaid ydych, ac nid meibion Heb law hynny ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu ac ni a'u parchasom hwy; ond mwy o lawer y mae i ni ymostwng i Dâd yr ysprydoedd, a chael byw? Ca­nys hwynt-hwy yn wir tros ychydic ddyddiau a'n cospent ni, fel y byddei dda ganddynt; eithr efe sydd yn ein cospi er lleshâd i ni, fel y byddem gyfrannogion o'i sancteiddrwydd ef. Y geiriau hyn, garedic frawd sydd yn scrifennedic yn yr Scrythur lân er conffordd, ac addysc i ni, fel y gallom yn oddefgar, ac yn ddiolchgar, ddwyn cospedigaeth ein Tâd nefol pa bryd bynnac drwy fodd yn y byd ar wrthwyneb yr ewyllysio ei radlawn ddaioni ef ymweled â ni. Ac ni ddylei bod conffordd mwy gan Gristionogion na chael eu gwneuthud yn gyffelyb i Grist, trwy ddioddef yn ufuddgar wrthwy­neb, trallod, a chlefydau. Canys nid aeth efe ei hun i'r llawenydd, nes yn gyntaf iddo ddioddef poen, nid aeth efei mewniw ogoniant, nes dioddefangeu ar bren crôg: felly yn wir, yr union ffordd i ni i'r gorfoledd tragy­wyddol, ydyw cyd-ddioddef yma gyd â Christ; A'n drws i fyned i mewn i fywyd tragywyddol, ydyw marw yn llawen gyd â Christ, fel y gallom gyfodi brachefn o angau, a thrigo gyd ag ef ym-mywyd tra­gywyddol, Yn awr gan hynny, os cymmeri dy glefyd yn oddefgar, (ac ynteu yn gystal â hyn ar dy les) yr yd­wyfi yn ciriol arnat yn Enw Duw, goffau y broffess a wnaethost i Dduw yn dy fedydd. Ac o herwydd [Page] yn ôl y fuchedd hon bod yn ddîr gwneuthur cyfrif i'r barn-wr cyfiawn, gan ba un y bernir pob dyn heb dderbyn wyneb; Yddwyf yn erchi i ti ymchwi­lio a thi dy hun, a'th gyflwr tu ag at Dduw a dŷn, fel y bo i ti drwy dy gyhuddo a'th farnu dy hunan am dy feiau dy hun allu cael trugaredd ar law ein Tâd nefol er mwyn Crist, ac nid bod yn gyhuddedic ac yn far­nedic yn amser y farn ofnadwy honno Ac am hynny yr adroddaf i ti fannau ein ffydd ni, fel y gellych wy­bod a wyti yn credu fel y dylei Gristion, ai nad wyt.

¶ Yna yr adrodd y Gweinidog farineu yr ffydd, gan ddy­wedyd fel hyn.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoeth­og, Creawdr nef a daiar? Ac yn Jesu Grist ei un Mab ef ein Harglwydd ni? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn; iddo ddi­oddef dan Pontius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw a'i gladu? descyn o honaw i uffern, a'i gyfodi y try­dydd dŷdd, ac escyn o hono i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Tâd holl-alluog, ac y daw efe oddi yno yn niwedd y bŷd i farnu byw a meirw? a wyt ti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatho­lic, Cymmun y Sainct, maddeuant pechodau; adgy­fodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?

¶ Y Clâf a ettyb.

Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.

¶ Yna yr ymofyn y Gwenidog ag ef beth ydyw efe ai bod yn wir edifeiriol am ei bechodau, ac mewn cariad perffa­ith â'r holl fyd a'i peidio? gan eiriol arno faddeu o eigi­on ei galon i bob dyn a wnaeth yn ei erbyn: ac os efe a wnaeth yn erbyu eraill, ar ofyn o honaw faddeuant id­dynt. A lle y gwnaeth efe gam neu drawster â neb, ar wneuthur o honnaw iawn hyd yr eithaf y gallo ac oddi-eithr iddo ym-mlaen llaw, wneuthur ei ly­wodraeth am ei dda, rhybuddier efe yna i wneu­thur ei ewyllys. A hefyd dangos o honaw am ei ddy­led pa faint sydd arno, a pha faint sydd o ddylêd iddo, er mewn rhyddhâu ei gydwybod, a heddwch iw esecu­torion. Ac y mae yn anghenrheidiol rhybuddio dynion [Page] yn fynych am wneuthur trefn ar eu da byd a'u tiroedd tra fyddont mewn iechyd.

¶ Y geiriau hyn y rhai a ddywetpwyd uchod, a ellir eu cymmwyll cyn dechreu o'r Gwenidog ei weddi, megis ag y gwelo efe achos.

¶ Na faddeued y Gwenidog eiriol cleifion cyfoethogion (a hynny yn gwbl ddifrifol) ar iddynt ddangos haelioni i'r tlodion.

¶ Yma y cynhyrfir y dyn clwyfus i wneuthur cyffes ys­pysawl oi bechodau os efe a glyw ei gydwybod mewn cythryfwl gan ddefnydd o bwys. Yn ôl y gyffes hono, y gollwng yr Offeiriad ef (os efe yn ostyngedic ac yn ffyddlon a'i dymmuna) yn y wedd hon.

EIn Harglwydd Jesu Grist, yr hwn a adawodd feddiant i'w Eglwys i ollwng pob pechadur a fyddo gwir edifeiriol, ac yn credu ynddo ef o'i fawr drugaredd a faddeuo i ti dy gamweddau: thrwy ei awdurdod ef a ganiadhawyd i mi, i'th ollyngaf o'th holl bechodau, yn Enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Ys­pryd glân. Amen.

¶ Ac yna y dywed yr Offeiriad y Colect yn canlyn.

Gweddiwn.

ODrugaroccaf Dduw, yr hwn yn ôl llio­sawgrwydd dy drugaredd, wyt felly yn dilêu pechodau y rhai sydd wîr edifeiriol, fel nad wyt yn eu cofio mwy, agor lygad dy drugaredd ar dy wasanaeth-wr yma: yr hwn o wir ddifrif sydd yn dymuno gollyngdod a ma­ddeuant: Adnewydda ynddo, garediccaf Dâd, beth bynnac a lescâwyd trwy ddichell a malais y cythrael, neu drwy ei gnawdol ewyllys ei hun, a'i wendid: ca­dw a chynnal yr aelod clwyfus hwn o fewn undeb dy Eglwys, ystyria, wrth ei wîr edifeirwch, derbyn ef ddagrau, yscafnhâ ei ddolur, modd y gwelych di fod yn orau ar ei les, ac yn gymmaint a'i fod efe yn rhoddi cwbl o'i ymddiried yn unic yn dy druga­redd [Page] di, na liwia iddo ei bechodau o'r blaen, eithr ner­tha ef a'th wynfydedig Yspryd, a phan welech di yn dda ei gymmeryd ef oddi ymma cymmer ef i'th nodd­ed, trwy ryglyddon dy garediccaf Fab Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Y y dywed Gwenidog y Psalm hon.

YNot ti ô Arglwyd, y gobeithiais: n'am cywilyddier byth.

Achub fi, a gwaret fi yn dy gyfi­awnder: gostwng dy glûst attaf ac achub fi.

Bydd i mi yn graig gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchymn­naist fy achub, canys ti yw fy ngrhaig am hamdde­ffynfa.

Gwaret fi ô fy Nuw, o law'r annuwiol, o law yr anghyfion, a'r traws.

Canys ti yw fy ngobaith, ô Arglwydd Dduw, fy ymddiried o'm ieuengctid.

Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.

Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.

Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthot fi pan ballo fy nerth.

Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliant am fy enaid, a gyd-ymgyng­horant.

Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef erlidiwch, a deliwch ef: canys nid oes gwaredudd.

O Dduw, na fydd bell oddi wrthif; fy Nuw, bryss­sia i'm cymmorth.

Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid, â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

Minneu a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwy fwy.

[Page]Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder, a'th iechydwri­aeth beunydd: canys ni wn rifedi arnynt.

Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gy­fiawnder dy yn unic a gofiaf fi.

O'm ieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

Na wrthod fi ychwaith, ô Dduw mewn henaint a phen-llwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhed­laeth hon â'th gadernid i bob un a ddelo.

Dy gyfiawnder hefyd ô Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion; pwy, ô Dduw, sydd debyg i ti?

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.

¶ Gan ddywedyd hyn yn ychwaneg.

IAchawdr y byd, iachâ ni, yr hwn drwy dy grôg a'th werth-fawr waed a'n prynaist achub a chym­morth ni, nyni a attolygwn i ti ô Arglwydd.

¶ Yna y dywed y Gwenidog.

YR holl-alluog Arglwyddd yr hwn yw y twr cadarnaf i bawb a roddant eu hymddiried ynddo, i ba un y mae pob peth yu y nef, ar y ddaiar, a than y ddaiar yn gostwng ac yn ufuddhâu, a fyddo yr awr hon, a phob am­ser yn amddiffyn i ti, ac a wnêl i ti wybod a deall nad oes un Enw dan y nef wedi ei roddi i ddynion, ym-mha un a thrwy ba un y mae i ti dderbyn iechydwriaeth, onid yn unic Enw ein Harglwydd Jesu Grist. Amen.

¶ Ac yn ol hynny y dywed.

IRasusaf drugaredd a nodded Duw i'th orchym­ynnwn. Yr Arglwydd a'th fendithio ac a'th cad­wo; Llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, [Page] a thrugarhaed wrthit, Derchafed yr Arglwydd ei wy­neb arnat, a rhodded i'r dangnheddyf yr awr hon ac yn oes oesoedd Amen.

¶ Gweddi tros Blentyn Clâf.

HOllalluog Dduw a thrugaroccaf Dâd I'r hwn yn unig y perthyn dibynnion Bywyd ac Angeu, Ed­rych i lawr o'r Nef, yn ostyngedic ni attolygwn i ti, a golygon dy dru­garedd ar y Plentyn hwn, y sydd yr awrhon ar ei glûf-wely. ymwel, O Arglwydd, ag ef a'th Jechawdwriaeth, Gwared ef yn dy nodedig amser da o'i boen gorphorol ac achub ei Enaid er mwyn dy Drugareddau; fel os bydd dy ewy­llys estyn ei ddyddiau yma ar y Ddaiar, y byddo iddo fyw i ti, a hyfforddio dy ogoniant, gan dy wasanaethu yn ffyddlon a gweneuthur daioni yn ei Genhedl: Os amgen derbyn ef i'r presswylfeydd nefol hynny, lle mae Eneidiau y sawl a hunant yn yr Arglwydd Jesu yu mwynhau an-orphen orphwysfa a dedwyddwch. Caniadhâ hyn, Arglwydd, er dy drugareddau yn yr unrhyw dy fab di, ein Harglwydd ni, Jesu Grist, yr hwn sydd yn byw. ac yn teyrnasu gyda thi a'r Ys­pryd Glan byth yn un Duw heb drange na gorphen. Amen.

¶ Gweddi tros Ddyn Clâf, lle na weler fawr o baith o'i wellhâad.

ODâd y Trugareddau a Duw pob Diddanwch, ein unig Borth yn am­ser angenoctid attat ti y rhedwn am gymmorth dros dy wasanaethydd hwn yn gorwedd ymma dan dy law di mewn dirfawr wendid corph. Ed­rych arno yn rasusol O Arglwydd; Apha mwyaf y gwanycho y Dŷn oddi-allan, nertha ef fwy fwy, ni a attolygwn i ti, a'th Râd ac a'th lan [Page] Yspryd yn y dyn oddi mewn. Dyro iddo ddiffuant edi­feirwch am holl gyfeiliorni ei fuchedd o'r blaen, a ffydd ddiyscog yn dy Fab Jesu, fel y delêuer ei becho­dau trwy dy drugaredd di, ac y selier ei Bardwn yn y Nêf cyn iddo fyned oddi ymma, ac na weler ef mwy­ach, Da y gwyddoni, nad oes un gair rhŷ anhawdd i ti, ac y gelli, os mynni, ei godi ef etto ar ei draed, a cha­niadhau iddo hwy hoedl yn ein plith. Er hynny yn gymmaint a bod (hyd y gwŷl dyn) amser ei ddattodiad ef yn tynnu yn agos, felly paratoa, a chymmhwys a ef ni a attolygwn i ti, erbyn awr Angeu fel ar ol ei ym­adawiad oddi ymma, mewn tangnhed ac di yn dy ffafr, y derbynier ei Enaid ef i'th Deyrnas dra­gywyddol, trwy haeddedigaethau a chyfryngiad Je­su Grist dy unig Fab di, ein Harglwydd ni a'n Ja­chawdr. Amen.

¶ Gweddi Gymynnawl tros Ddyn clâf ar Drang­cedigaeth.

O Holl-alluog Dduw, gyd a'r hwn y mae yn byw ysprydoedd y rhai Cy­fiawn a berffeithwyd wedi cael eu gwared o'r carcharau daiarol: Ydd ym yn ostyngedig yn gorchymmyn Enaid dy wasanaethydd hwn, ein Brawd anwyl, i'th ddwylo di, me­gis i ddwylo Creawdr ffyddlawn ac Jachawdr tru­garoccaf, gan ufudd, attolwg i ti, gael iddo fod yn werthfawr yn dy olwg. Golch ef, ni a erfyniwn ar­nat, yngwaed yr Oen Difrycheulyd hwnnw, a ladd­wyd er mwyn dilêu pechodau 'r byd, fel gan gael glân­hau a dileu pa lwgr bynnac (onid antur) a gasclodd ymmherfedd y byd adfydig a drygionus hwn drwy chwautau 'r Cnawd neu ystrywiau Satan, y caffo ei gyflwyno yn bur ac yn ddifeius yn dy olwg di, A dysc i ninnau, y rhai ŷm yn byw ar ei ol ef, ganfod yn hwn ac eraill ddrychau marwoldeb o ddydd bwy gilydd, mor freuol a bregus yw ein cyflwr ein hunain, ac felly cyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calonnau yn [Page] ddifrifol i'r cyfryw doethineb sanctaidd a nefol, tra dom byw yma, a'n dygo o'r diwedd i fywyd tragy­wyddol, trwy haeddedigaethau Jesu Grist dy unig Fab, ein Harglwydd ni Amen.

¶ Gweddi tros y rhai a fo mewn blinder Y sbryd, neu Anheddwch. Cydwybod.

BEndigedig Arglwydd, Tâd y tru­gareddau, a Duw pob diddanwch Ni a attolygwn i ti, edrych a golwg tosturi a thrugaredd ar dy wasan­aethwr cystuddiedig ymma, Ydb wytti yn scrifennu pethau chwer­won yn ei erbyn ef, ac yn gwneu­thur iddo feddiannu ei gamweddau gynt; y mae dy ddigofaint yn pwyso arno, a'i Enaid sydd lawn o flinder. Eithr O Dduw trugarog, yr hwn a scrifen­naist dy air sanctaidd er addysc i ni, fel trwy ammy­nedd a diddanwch dy lan Scrythyrau y gallem gael gobaith, Dyro iddo iawn ddealltwriaeth oi gyflwr ei hun, ac o'th fygythion a'th addewidion di, fel nad ymadawo a'i obaith arnat ti, at na ddodo ei ymddiri­ed ar ddim arall ond tydi. Nertha ef yn erbyn ei holl brofedigaethau iachâ ef o'i anardymherau, Na ddryllia y gorsen yssig, ac na ddiffodd y llîn yn mygu, Na chae dy drugareddau mewn sorriant; Eithr pâr iddo glywed llawenydd a gorfoledd fel y llawenycho yr estyrn a ddrylliaist. Gwared ef rhag ofn y gelyn, a der­cha lewyrch dy wyneb-pryd arno, a dyro iddo dangn­eddyf trwy ryglyddon a chyfryngdod Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Cymmun y Claf.

¶ YN gymmaint a bod pob rhyw ddyn yn ddarostyngedic i lawr o beryglon dysy­fed, heintiau, a chlefydau, a byth yn anhyspys pa bryd yr ymadawant o'r fuchedd hon: herwydd pa ham, er mwyn gallu o honynt fod bob amser mewn parodrwydd i farw, pa bryd bynnac y rhyngo bodd i'r Holl-alluog Dduw alw am danynt: Bid i'r Curadiaid yn ddyfal, o amser i amser, ac yn enwedic yn amser pla neu ryw haint lŷnol arall gynghori eu plwyfolion i gymmeryd yn fynych yn yr Eglwys, fendigedic Cymmun corph a gwaed ein Jachawdr Crist. Pan finistrir ef yn gyhoedd yn yr Eglwys. Yr hwn os hwyntwy a'i gwnánt, ni bydd achos iddynt yn eu hymweliad disymwth, i fod yn anheddychol yn e'u meddwl o ddiffyg hynny. Ond os y claf ni bydd abl i ddyfod ir Eglwys, ac etto yn dymu­no cymmeryd y Cymmun yn ei dŷ, yna y bydd rhaid iddo fynegu hynny mewn pryd i'r Curat gan arwyddoccau hefyd pa sawl un y sydd yn dar­paru cyd-gymmuno ag ef. A byddont dri neu ddau o'r lleiaf mewn lle cyfaddas, yn-nhy y clâf gyda phob peth anghenrheidiol yn barod fel y gallo y Curad finistrio yn barchedic, ministried efe yno y Cymmun bendigedic, gan ddechreu ar y Colect Epistol a'r Efengyl ymma yn canlyn.

Y Colect.

HOll-gyfoethog a byth-fywiol Dduw, gwdeuthur-wr dynawl ryw, yrhwn wyt yn cospi y rhai a gerych, ac yn ceryddu pawb ar a dderbyniech: Ny­ni a attolygwn i ti drugarhâu wrth dy wâs hwn yma ymweledic gan dy law, ac i ti ganiatâu gymeryd o ho­naw ei glefyd yn ddioddefus, a chaffael ei iechyd tra­chefn, (os dy radlawn ewyllys di yw hynny:) a pha bryd bynnac yr ymadawo ei enaid â'i gorph, bod o honaw yn ddifagl wrth ei bresentio i ti, trwy Jesu Grist ein Harglwyd. Amen.

Yr Epistol.

Heb. 12. 5. FY mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac na ymollwng pan i'th argyoedder gan­ddo, canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu y mae yn ei geryddu, ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.

Yr Efengyl.

S. Jo. 5. 24. YN wîr yn wîr meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, sydd ganddo fywydd tra­gywyddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

¶ Gwedi hyn yr Offeiriad a â ymlaen yn ol y ffurf os­odedic uchod i'r Cymmun bendigedic, gan ddechreu ar y geiriau hyn, [Chwychwi y sawl sydd yn wir. &c.]

¶ Pan gyfranner y Sacrament bendigedic, cymmered yr Offeiriad yntef ei hun y Cymmun yn gyntaf ac yn ôl hynny, ministried i'r rhai a ddarparwyd i Gymmuno gyd âr clâf ac yn ddiweddaf oll i'r dyn clâf.

¶ Eithr o bydd neb o ddirdra, dolur, neu o herwydd eisi­sieu rhybudd mewn amser dyladwy i'r Curad, neu o ei­sieu [Page] cyfeil yddion i gymmeryd, gyd ac ef neu oblegit rhyw rwystr cyfiawn arall, heb gymmeryd Sacrament corph a gwaed Crist: yna dangosed y Curad os efe syddd wîr edi­feiriol am ei bechodau, ac yn credu yn ddiyscoc ddarfod i Jesu Grist ddioddef angeu ar y groes drosto, a cholli ei waed dros ei brynedigaeth ef, gan goffa yn ddifrif y mawr ddaioni sydd iddo ef o hynny, a chan ddiolch iddo o'i galon am danaw; ei fod efe yn bwyta ac yn yfed corph a gwaed ein Jachawdr Crist yn fuddiol i iechyd ei enaid, er nad yw efe yn derbyn y Sacrament â'i enau.

¶ Pan ymweler â'r clâf, ac ynteu yn cymmeryd y Cym­mun bendigedic yr un amser: bid yna i'r Offeiriad er mwyn prysuro yn gynt, dorri ymmaith ffurf yr ymwe­liad lle mae yr Psalm, [Ynot Arglwydd y gobeithi­ais, &c.] ac aed yn union i'r Cymmun.

¶ Yn amser plâ, clefyd y chwys, neu gyfryw amserau heintiau neu glefydau llŷn, pryd na aller cael yr un o'r plwyf neu'r cymmydogion i gymmuno gyd â'r cleifion yn eu tai, rhag ofn cael yr haint; ar yspysol ddeisyfiad y clâf, fe all y Gwenidog yn unic gymmuno gyd ag ef.

Y DREFN Am Gladdedigaeth y Marw.

¶ Noder ymma, na ddylid arfer y gwasanaeth a gan­lyn tros neb a fo marw heb fedydd, neu tan Yscym­mundod, neu a'u lladdasant eu hunain.

¶ Yr Offeriaid a'r yscolheigion wrth gyfarfod â'r corph wrth borth y fonwent, ac yn myned o'i flaen i'r Eglwys neu tu a'r bedd, a ddywedant neu a ganant.

S. Jo. 11, 25, 26. MYfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd, medd yr Arglwydd; y neb a gredo ynof fi, er iddo farw a fydd byw. A phwy bynnac a fo byw, ac a gredo ynofi, ni bydd marw yn dragywydd.

Job. 19. 25, 26, 27. MYfi a wn mai byw fy mhryn-wr, ac y saif yn y diwedd ar y ddaiar; Ac er yn ol fy nghroen i bryfed ddifetha y corph hwn, etto câf weled Duw yn fy ngnawd. Yr hwn a gafi i'm fy hun ei we­led: a'm llygaid a'i gwelant ac nid arall.

2 Tim. 6, 7. Job. 1, 21. NI ddygasom ni ddim i'r byd hwn, ac eglnr yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. Yr Argl­wydd sy'n rhoddi a'r A'rglwydd sydd yn dw­yn ymaith: Bendigedig fo Enw yr Arglwydd.

¶ Gwedi eu dyfod i'r Eglwys, y darllennir un o'r Psal­mau hyn yn canlyn, neu'r ddwy.

DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu Dixi, custo­diam. Psal. xxxix. a'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo 'r annuwiol yn fy ngolwg.

Tewais yn ddistaw, ie tewais â daioni: a'm dolur a gyffrodd.

Gwresogodd fy nghalon o'm me­wn: tra oeddwn yn myfyrio, ennynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.

Arglwydd pâr i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau: fel y gwypwyf o ba oedran y bydd­af fi.

Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd, a'm he­nioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cw­bl wagedd yw pôb dŷn, pan fo ar y goreu.

Dŷn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gŵyr pwy. a'i cascl.

Ac yn awr, beth a ddisgwiliaf, ô Arglwydd: fy ngobaith sydd ynot ti.

Gwared fi o'm holl gamweddau: ac na osod fi yn wradwydd i'r ynfyd.

Aethum yn fûd ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.

Tyn dy blâ oddi-wrthif: gan ddyrnod dy law y dar­fûm i.

Pan gospit ddŷn â cheryddon am anwiredd dattodit fel gŵyfyn ei arderchawgrwydd ef, gwagedd yn ddi­au yw pôb dŷn.

Gwrando fy ngweddi Arglwydd, a chlyw fy llêf, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithudd ydwyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.

Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned: ac na byddwyf mwy.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

[Page]Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

TI Arglwydd fuost yn breswylfa i ni Domine, re­fugium. Psal. xc. ymmhôb cenhedlaeth:

Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio o honot y ddaiar, a'r bŷd; ti hefyd wyt Dduw o dragywyddol­deb hyd dragywyddolded.

Troi ddŷn i ddinistr, a dywedi, dy­chwelwch feibion dynion.

Canys mîl o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r êl heibio, ac fel gwiliadwriaeth nôs.

Dygi hwynt ymmaith megis â llifeiriant, y maent fel hûn: y borau y maent fel llyssieun a newidir.

Y boreu y blodeua ac y tŷf: pryd-nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.

Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiaw­grwydd i'n brawychwyd.

Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, ein dirgel be­chodau y ngoleuni dy wyneb.

Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddi­gofaint di; treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae dengmhlynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrrheuddir pedwar u­gain mhlynedd. etto eu nerth sydd boen, a blinder: ca­nys ebrwydd y derfydd, ac ni a ehedwn ymmaith.

Pwy a edwyn nerth dy sorriant? canys fel y mae dy ofn y mae dy ddigter.

Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

Dychwel Arglwydd pa hŷd? ac edifarhâ o ran dy ŵeision.

Diwalla ni yn foreu â'th drugaredd; fel y gorfol­eddom, ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.

Llawnenchâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiast ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

Gweler dy ŵaith tu ag at dy weision, a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy.

A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw ar­noni [Page] ni; a threfna weithred ein dwylo ynom ni, ie tre­fna waith. ein dwylo.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yn ôl hynny y canlyn y llith, wedi ei chymmeryd allan o'r bymthecfed bennod o'r Epistol cyntaf i S. Paul at y Corinthiaid.

1 Cor. 15. 20. YN awr Crist a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hu­nasant. Canys, gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn Ghrist y bywheir pawb. Eithr pob un yn ei drefn ei hun. Y blaen-ffrwyth yw Crist, wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist, yn ei ddyfodiad ef. Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed, Y gelyn di­weddaf a ddinistrir yw yr angeu. Canys efe a ddarost­yngodd bôb peth tan ei draed ef, Eithr pan yw yn dy­wedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo, A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir, i'r hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll. Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? Pa ham ynteu y bedyddir hwy tros y meirw? A pha ham yr ydym ninnau me­wn perygl bob awr? Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennif yn Ghrist Jesu ein Harglwydd. Os yn ôl dull dŷn yr ymleddais ag ani­feiliaid yn Ephesus, pa les-hâd fydd i mi oni chyfodir y meirw? Bwytawn, ac yfwn, canys yforu marw yr ydym: Na thwyller chwi, y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da, Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys nid oes gan rai wybodaeth am [Page] Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn. Eithr fe a a ddywaid rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? Ac â pha ryw gorph y deuant? Oh ynfyd; y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. A'r peth yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth yscatfydd o we­nith, neu o ryw rawn arall. Eithr Duw sydd yn rho­ddi iddo gorph, fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorph ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd; eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i byscod, ac arall i adar. Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol; ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol. Arall yŵ gogoniant yr haul, ac arall yw go­goniant y lloer; ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredi­gaeth. Efe a heuir mewn ammarch, ac a gyfodir me­wn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfo­dir mewn nerth: efe a heuir yn gorph anianol, ac a gy­fodir yn gorph ysprydol. Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol. Felly hefyd y mae yn scrifenedig, Y dŷn cyntaf Addaf a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhan. Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol, ac wedi hynny yr ysprydol, Y dŷn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol, yr ail dŷn yr Ar­glwydd o'r nef, Fel y mae y daiarol, felly y mae y rhai daiarol ac fel y mae y nefol, felly mae y rhai nefol he­fyd. Ac megis y dygasom ddelw y daiarol, ni a ddy­gwn hefyd ddelw y nefol. Eithr hyn meddaf, o frodyr na ddichon cîg a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch; Ni hun­wn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar darawiad llygad. wrth yr udcorn diweddaf. Canys yr udcorn a gân a'r meirw a gyfodir yn anllygredic, a ninnau a newidir O herwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisco anfarwoldeb, A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wis­co [Page] anllygredigaeth; ac i'r marwol hwn wisco anfar­woldeb, yna y bydd yr ymadrdd a scrifennwyd An­geu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth. O angeu pa le y mae dy golyn? o uffern pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angeu yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith Ond i Dduŵ y byddo'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Jesu Grist. Am hynny fy mrodyr anwyl byddwch siccr, a diymmod a helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a chwi'n gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.

¶ Pan ddelont at y bedd, tra fyddo yr corph yn ei baratoi iw ddodi yn y ddaiar, y dywed yr Offeiriad, neu yr Offeiriad a'r yscolheigion a ganant.

DYn a aned o wraig sydd a byrr amser iddo i fyw, ac y sydd yn llawn tru­eni. Y mae efe yn blaguro fel lly­sieuyn, ac a dorrir i lawr, ac a ddi­flanna fel cyscod, ac ni saif.

Ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angeu, gan bwy y mae i ni geisio ymwared onid gennit ti Arglwydd, yr hwn am ein pechodau wyt yn gyfiawn yn ddigllawn?

Er hynny Arglwydd Dduw saucteiddiaf, Argl­wydd galluoccaf, ô sanctaidd a thrugarog Jachawdr na ollwng ni i ddygyn chwerwaf boenau angau tra­gywyddol.

Ti Arglwydd a adwaenost ddirgelion ein calon­nau, na chaêa dy glusti au trugarog oddiwrth ein gweddiau, eithr arbet nyni ô Arglwydd sancteiddiaf, ô Dduw galluoccaf, ô sanctaidd a thrugarog Jachaw­dr, Tydi deilyngâf farn-wr tragywyddol, na âd ni yn yr awr ddiwaethaf er neb rhyw boenau angeu, i syrthio oddi-wrthit.

¶ Yna tra fydder yn bwrw pridd ar y corph gan ryw rai a fo yn sefyll yno, yr Offeiriad a ddywed.

YN gymmaint a rhyngu bodd i'r Gor­uchaf Dduw o'i fawr drugaredd gymmeryd atto ei hun enaid ein hanwyl frawd yma a ymadawodd o'r bŷd, gan hynny ydd ŷm ni yn rhoddi ei gorph ef i'r daiar, sef, daiar i'r ddaiar, lludw i'r lludw, pridd i'r pridd, mewn gwîr ddiogel obaith o adgyfo­diad i fuchedd dragywyddol, trwy ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn a newidia ein corph gwael ni, fel y byddo yn gyffelyb iw gorph gogoneddus ef o her­wydd y galluog weithrediad, trwy yr hwn y dichon efe ddarostwng pob dim iddo ei hun.

¶ Yna y dywedir, neu y cenir.

Datc. 14. 13 MI a glywais lais or nef yn dywedyd wrthif, scrifenna, o hyn allan gwynfydedic yw y mei­rw y rhai sy yn marw yn yr Arglwydd; felly y dywed yr Yspryd, canys y maent yn gorphywyso oddiwrth eu llafur.

¶ Yna y dywed yr Offeriad.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y ma­ddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac [Page] arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Offeiriad.

HOll-alluog Dduw, gyd â'r hwn y mae yn byw ysprydoedd y rhai a ymadawsant oddi yma yn yr Arglwydd, ac yn yr hwn y mae eneidiau y ffyddloniaid wedi dar­fod eu rhyddhau oddiwrth faich y cnawd, mewn llawenydd a dedwyddyd: yr ydym yn mawr ddiolch i ti, fod yn wiw gennit waredu ein brawd, hwn allan o drueni y byd pechadurus hwn, gan atto­lygu i ti, ryngu bodd it o'th radlawn ddaioni, gyfla­wni ar fyrder nifer dy etholedigon, a phrysuro dy de­yrnas, modd y gallom ni gŷd a'r rhai oll a ymadaw­sant â'r byd mewn gwîr ffydd dy Enw bendigedic, ga­ffael i ni ddiwedd perffaith, a gwynfyd ynghorph ac enaid, yn dy ogoniant tragywyddol trwy Jesu Grist ein Harglwydd Amen.

Y Colect.

O Drugarog Dduw, Tâd ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn yw y cyfodiad a'r by­wyd, ym-mha un, pwy bynnac a gretto a fydd byw er iddo farw. A phwy bynnac a fo byw ac a gretto ynddo ef, ni bydd marw byth, yr hwn hefyd a'n dyscodd (trwy ei Apostol ben­digedic S. Paul) na thristâem fel rhai heb obaith, dros y rhai a hunant ynddo ef: Nyni yn ostyngedic a attolygwn i ti o Dâd, ein cyfodi ni o angeu pechod i fuchedd cyfiawnder, fel y bo i ni wedi ymado a'r fu­chedd hon, allu gorphywys ynddo ef. megis y mae ein gobaith fod ein brawd hwn: Ac ar y cyfodiad cyffre­din y dydd diwaethaf, allu ein caffael yn gymmerad­wy yn dy olwg di, a derbyn y fendith a ddatcan dy garedic Fâb yr amser hynny i bawb a'r a'th ofnant, [Page] ac a'th garant, gan ddywedyd, Deuwch chwi fendi­gedig blant fy Nhâd, meddiennwch y deyrnas a bar­atowyd i chwi er pan seiliwyd y byd. Caniadhâ hyn, ni a attolygwn i ti o drugarog Dâd, trwy Jesu Grist ein Cyfryngwr a'n Pryniawdr. Amen.

RHâd ein Harglwydd Jesu Grist, a Chari­ad Duw, a Chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bytho­edd. Amen.

Diolwch gvvragedd yn ol escor plant, yr hwn a elwir yn gyffre­din, Rhyddhâu, neu Eglwysa.

¶ Y wraig ar amser arferedic ar ôl Escor, a ddaw i'r Egl­wys, wedi ymwisco yn weddus, ac yno y gostwng ar ei gliniau yn rhyw le cyfaddas, fel yr arferwyd, neu megis yr appwyntia yr Ordinari: Ac yno yr Offeiriad a ddy­wed wrthi.

YN gymmaint a rhyngu bodd i'r goruchaf Dduw o'i ddaioni roddi i ti ryddhâd ym­waredol, a'th gadw yn y mawr berigl wrth escor: ti a ddiolchi yn ewyllysgar i Dduw, ac a ddywedi.

(¶ Yna y dywed yr Offeiriad y Psalm hon.)

DA gennif wrando o'r Arglwydd ar fy Dilexi, quo­niam. Psal. cxvi. llêf, a'm gweddiau.

Am ostwng o honaw ei glûst attaf. Am hynny llefaf tros fy nyddiau ar­no ef.

Gofidion angeu a'm cylchynasant: a gofidiau uffern a'm daliasant, ing a blinder a gefais.

Yna y gelwais ar enw 'r Arglwydd: attolwg Ar­glwydd gwared fy enaid.

Graslawn yw, 'r Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.

Yr Arglwydd, sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

[Page]Dychwel ô fy enaid i'th orphywysfâ: canys yr Ar­glwydd fu dda wrthit.

O herwydd it waredu fy enaid oddiwrth angeu: fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.

Rhodiaf o flaen yr Arglwydd, yn nhîr y rhai byw.

Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi 'n ddirfawr.

Mi a ddywedais yn fy ffrŵst, pôb dŷn sydd gelwydd­oc.

Beth a dalaf i'r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi?

Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw 'r Ar­glwydd y galwaf.

Talaf fy addunedau i'r Arglwydd, yn awr yn­gwydd ei holl bobl;

Ynghynteddoed tŷ 'r Arglwydd: yn dy ganol di ô Jerusalem, Molwch yr Arglwydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

¶ Neu 'r Psalm hon.

OSyr Arglwydd nid adeiliada y tŷ, ofer Nisi Domi­nus, Psa. cxxvii. y llafuria ei adeilad-wŷr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw 'r ddinas, o­fer y gwilia y ceidwaid.

Ofer i chwi foreu godi, myned yn hwyr i gyscu, bwytta bara gofidi­au: felly y rhydd efe hûn iw anwyl­lyd.

Wele, plant, ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd, ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

Fel y mae saethau yn llaw y cadarn: felly y mae plant ieuengctid.

Gŵyn ei fŷd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: ni's gwradwyddir hwy, pan ymddiddanant âr gelynion yn y porth.

[Page]Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awrhon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

Gweddiwn.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r Deyrnas a'r gallu, a'r gogoni­ant yn oes oesoedd. Amen.

Gwenidog.

Arglwydd cadw dy wasanaeth-wraig hon.

Atteb.

Yr hon sydd yn ymddiried ynot.

Gwenidog.

Bydd iddi yn dwr cadarn.

Atteb.

Rhag wyneb ei gelyn.

Gwenidog.

Arglwydd, erglyw ein gweddiau.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

[Page] Gwenidog.

Gweddiwn.

HOll-alluog Dduw nyni yn ostynge­dic a ddiolchwn i ti ryngu bodd it wa­redu dy wasanaeth-wraig hon oddi wrth y mawr boen a'r perigl ar a­nedigaeth dŷn bach: Caniadhâ ni a attolygwn i ti drugaroccaf Dâd, allu o honni drwy dy gynhorthwy di, fyw yn ffyddlawn a rhodio yn ôl dy ewyllys di, yn y fuchedd bresennol hon; a hefyd bod yn gyfrannog o'r gogoniant tragywyddol yn y fuchedd a ddaw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Rhaid i'r wraig a ddêl i dalu diolch, offrymmu yr off­rymmau defodawl, ac o bydd Cymmun, iawn yw iddi gymmeryd y Cymmun bendigedic.

Y Comminasion, Neu, Gyhoeddiad digofaint a barnedigaethau Duw yn erbyn pechaduriad; a rhyw weddi­au i'w harfer ar y dydd cyntaf o'r grawys ac ar amrafael amserau pan appw­yntio 'r Ordinari.

¶ Ar yn ôl y foreuol weddi ar ddiwedd y Litani yn ol y modd arferedic, yr Offeriad yn y lle y darllenir y gwasa­naeth neu yn y Pulpyt a ddywed.

Y Brodyr, yn y brif Eglwys gynt, yr oedd discyblaeth Dduwiol, Nid am­geu bod yn nechreu yr Grawys, roi cy­fryw ddynion ac oeddent bechaduri­aid cyhoedd, i benyd cyhoedd, a'u poe­ni yn y byd yma, modd y byddei eu he­neidiau gadwedic yn nydd yr Argl­wydd: ac megis y gallei eraill, wedi eu rhybuddio drwy eu esampl hwy, fod yn ofnusach i wueuthur ar gam. Yn lle hynny, hyd onid adnewydder y ddywede­dic ddiscyblaeth (yr hyn a ddylid ei ddymuno yn fawr) fe dybiwyd fod yn dda yr amser hyn, yn eich gwydd chwi oll, ddarllen y sentensiau cyffredin o felldithion Duw yn erbyn pechaduriaid anedifeiriol, y rhai a gasclwyd allan o'r seithfed bennod ar hugain o Deu­teronomium, a lleoedd eraill o'r Scrythur lân: a bod i chwi atteb i bob sentens, Amen. Er mwyn, gwedi darfod felly eich rhybuddio am fawr ddigllonder Duw yn erbyn pechaduriaid, gallu eich gwahodd [Page] yn gynt i ddifrif, a gwir edifeirwch, a bod i chwi rodio yn ddiesceulusach y dyddiau enbyd hyn, gan gilio oddi-wrth gyfryw feiau ac yr ydych chwi yn siccrhau â'ch geneuau eich hunain, fod melldith Dduw yn ddyledus am danynt.

MElldigedig yw yr neb a wnêlo ddelw gerfiedic neu doddedic iw haddoli.

A'r bobl a attebant, ac a ddywedant.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedig yw yr hwn a felldithio ei dâd neu ei fam.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a symmudo derfyn tir ei gymmydog.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedig yw yr hwn a baro i'r dall gyfeiliorni allan o'i ffordd.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a wyro farn y dieithr, yr ymddifad, a'r weddw.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr neb a darawo ei gymmydog yn ddirgel.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei gymmydog.

[Page] Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a gymmero wobr er dienei­dio gwirion.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr hwn a roddo ei ymddiried mewn dyn, ac a gymmero ddyn yn amddiffyn iddo, ac yn ei galon a gilio oddi wrth yr Arglwydd.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

Melldigedic yw yr annhrugarog, y godinebus, a'r rhai a dorrant briodas, a'r cybyddion, addol-wŷr de­lwau, enllib-wyr, meddwon, a'r chrib ddeilwyr.

Atteb.

Amen.

Gwenidog.

YN-awr, yn gymmaint a'u bod hwy oll yn felldigedig (fel y tystia Dafydd Brophwyd) y rhai sy yn cyfeiliorni, ac yn myned ar ddi­dro oddiwrth orchymmynion Duw: moes­wch i ni (gan feddylio am y farn ofnadwy sydd goruwch ein pennau, ac syth ger ein llaw) ym­chwelyd at ein Harglwydd Dduw â chwbl gystudd, a gostyngeiddrwydd calon, gan ddwyn galar a thrym­der dros ein buchedd bechadurus, gan gydnabod a chy­ffessu ein camweddau, a cheisio dwyn ffrwythau teil­wng i edifeirwch. Canys yn awr y gossodwyd y fwy­all ar wreiddin y pren, fel y cymmynir i lawr, ac y bwrir i'r tan, bob pren ni ddycco ffrwyth da. Peth of­nadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw. Efe a dy­wallt law ar y pechaduriaid, maglau, tân, a brwm­stan, storm a thymestl, hyn fydd eu rhan hwy iw yfed, Canys wele y mae 'r Arglwydd wedi dyfod allan o'i Esa. 26. 21. le, i ymweled ag anwiredd y rhai sy yn trigo ar y ddai­ar, Eithr pwy a ddichon aros dydd ei ddyfodiad ef? Mal. 3. 2. pwy a ddichon barhâu pan ymddangoso efe? Ei wyn­till [Page] sydd yn ei law, ac efe a gartha ei lawr, ac a gascl Mat. 3. 12. ei wenith iw yscubor, ond efe a lysc yr ûs â thân anni­ffoddadwy. Dydd yr Arglwydd a ddaw fel lleidr o 1 Thes. 5. 23. hyd nôs, a phan ddywedant, Tangneddyf, ac y mae pob peth yn ddiogel, yna y daw distryw disyfyd arn­ynt, fel y daw gofid ar wraig feichiog wrth escor, ac ni ddiangant. Yna yr ymddengys cynddaredd Duw Rhuf. 2. 4, 5. yn y dydd dial, yr hwn a ddarfu i'r pechaduriaid an­hydyn ei bentyrruar eu gwarthaftrwy gyndynrwydd eu calounau, y rhai a ddirmygent ddaioni, ammynedd, a hîr-ymaros Duw, pan ydoedd efe yn eu galw hwy Dihar. 1. 28, 29, 30▪ yn wastad i edifeirwch. Yna y galwant arnaf, medd yr Arglwydd, ac ni wrandawaf; hwy am ceisiant yn foreu, ac ni'm caffant, a hynny o herwydd iddynt ga­ssâu gwybodaeth, ac na dderbynient ofn yr Arglwydd onid cassâu fy nghyngor, a diystyru fy nghospedig­aeth.

Yno y bydd rhy-hwyr curo, wedi cau 'r drws, a rhy­hwyr galw am drugaredd, pan yw amser cyfiawn­der. Och mor aruthrol llef y farn gyfiawnaf a drae­thir arnyut hwy, pan ddywedir wrthynt: Ewch y rhai melldigedic i'r tân tragywyddol yr hwn a ddar­parwyd i ddiafol a'i angelion.

Am hynny frodyr, ymchwelwn yn brydol, tra par­hâo 2 Cor. 6. 2. dydd yr iechyd, Canys y mae yr nôs yn dyfod, pryd na allo neb weithio: felly tra fyddo i ni oleu­ni S. Ioan 9. 4. credwn yn y goleuni, a rhodiwn fel plant y go­leuni, rhag ein bwrw i'r tywyllwg eithaf, lle y mae wylofain ac yscyrnygu dannedd. Na ddrwg-arferwn Mat. 25. 30 ddaioni Duw yr hwn hwn sydd yn ein galw yn dru­garog i emendio, ac o'i ddidrangc dosturi, yn addo i ni faddeuant am a aeth heibio, os nyni (â chwbl feddwl, Esa. 1. 18. ac â chalon gywir) a ddychwelwn atto ef. Canys er bod ein pechodau cyn goched a'r yscarlad, hwy fydd­ant mor gannaid â'r eira: ac er eu bod fel y porphor, Ezec. 18. 30, 31, 32. etto hwy fyddant cyn wynned a'r gwlân.

Ymchwelwch yn lân, medd yr Arglwydd, oddi wrth eich holl anwiredd, ac ni bydd eich pechodau yn ddistryw i chwi.

Bwriwch ymmaith oddi-wrthych eich holl annu­wioldeb [Page] a wnaethoch, gwnewch i chwi galonnan ne­wyddion, ac yspryd newydd. Pa ham y byddwch fei­rw, chwy-chwi tŷ yr Israel? can na'm boddheir ym marwolaeth yr un a fo marw, medd yr Arglwydd Dduw? Ymchwelwch chwithau a byw fyddwch.

1 S. Joan 2. 1, 2. Er darfod i ni bechu, y mae i ni ddadleuwr gyd a'r Tâd Jesu Grist y Cyfion, ac efe yw'r iawn dros ein pechodau.

Canys efe a archollwyd dros ein camweddau, Esa. 53. 5. ac a darawyd am ein hanwiredd. Ymchwelwn am hynny atto ef, yr hwn yw trugarog dderbyniwr holl wîr edifeiriol bechaduriaid, gan gwbl gredu ei fod ef yn barod i'n derbyn, ac yn orau ei ewyllys i faddeu i ni, od awn atto mewn ffyddlawn edifeirwch, os nyni â ymostyngwn iddo, ac o hyn allan rhodio yn ei ffyrdd ef: os nyni a dderbyniwn ei iau esmwyth ef, a'i faich Mat. 11. 29, 30. yscafn arnom, iw ganlyn ef mewn gostyngeiddrwydd, dioddefgarwch a chariad perffaith, a bod o honom yn drefnedig wrth lywodraeth ei Yspryd glân ef, gan geisio yn wastad ei ogoniant, a'i wasanaethu yn ddy­ladwy yn ein galwedigaeth, gan ddiolch iddo. Os hyn a wnawn, Crist a'n gwared ni oddi-wrth fell­dith y gyfraith, ac oddi-wrth y felldîth eithaf a ddis­cyn ar y sawl a fyddant ar y llaw asswy, ac efe a'n gesyd ni ar ei ddeheu-law, ac a ddyry i ni wynfydedig Mat. 25. 33, 34. fendith ei Dâd, gan orchymmyn i ni gymeryd meddi­ant yn ei ogoneddus deyrnas, i'r hon poed teilwng fo ganddo ein dwyn ni eu gŷd ôll, er ei anfeidrol druga­redd. Amen.

¶ Yna y gostyngant bawb ar ei gliniau, a'r Offeriad a'r yscolheigion ar eu glinniau (yn y fan lle maent arferedic o ddywedyd y Litani) a ddywedant y Psalm hon.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, yn ôl dy drugar­ogrwydd: Miserere mei, Deus. Psal. lj. yn ol lliaws dy dosturiaethau dilêa fy anwireddau.

Golch fi yn llwyr-ddwys oddiwrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddiwrth fy mhe­chod.

[Page]Canys yr wyf yu cydnabod fy ngham weddau, a'ni pechod sydd yn wastad ger fy mron.

Yn dy erbyn di, dydi dy hunan y pechais, ac y gwn­euthum y drwg hyn yn dy olwg: fel i'th gyfiawn­haer pan leferych, ac y byddit bûr pan farnech.

Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pe­chod y beichiogodd fy mam arnaf.

Wele, ceraist wirionedd oddi-mewn, a pheri i mi wybod doethineb yn ddirgel.

Glanhâ fi ag Yssop, ac mi a lanheir: golch fi, a by­ddaf wynnach na'r eira.

Pâr di i my glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr eseyrn a ddrylliaist.

Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mechodan: a dilea fy holl anwireddau.

Crea galon lân ynof ô Dduw: ac adnewydda ys­pryd uniawn o'm mewn.

Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chym­mer dy Yspryd sanctaidd oddi-wrthif.

Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac âth hael Yspryd cynnal fi.

Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droir attat.

Gwared fi oddiwrth waed ô Dduw: Duw fy ie­chydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfi­awnder.

Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fy­nega dy foliant.

Canys ni chwennychi aberth, pe amgen mi a'i rhoddwn, poeth offrwm ni fynni.

Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: caion ddry­llioc gystuddiedic, ô Dduw, ni ddirmygi.

Gwna ddaioni, yn dy ewyllysgarwch, i Sion: ade­iliada furiau Jerusalem.

Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boeth off­rwm, ac aberth llosc, yna 'r offrymmant fustych ar dy allor.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân▪

[Page] Atteb.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awrhon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyr­nas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A mad­deu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Gwenidog.

Arglwydd cadw dy wasanaeth-ddynion.

Atteb.

Y rhai a ymmdiriedant ynot.

Gwenidog.

Anfon iddynt borth oddi-uchod.

Atteb.

A byth amddiffyn hwy yn gadarn.

Gwenidog.

Cymmorth nyni O Dduw ein Jachawdr.

Atteb.

Ac er mewn gogoniant dy Enw gwared ni: Bydd drugarog wrthym bechaduriaid, er mwyn dy Enw.

Gwenidog.

Arglwydd, gwrando ein gweddiau.

Atteb.

A deued ein llef hyd attat.

Gwenidog. Gweddiwn.

O Arglwydd, ni attolygwn i ti, yn drugar­og wrando ein gweddiau ac arbed bawb a gyffessant eu pechodau wrthit, fel y bo i'r rhai y cyhuddir eu cydwybodau gan be­chod, trwy dy drugarog faddeuant fod yn ollyngedic, trŵy Grist ein Harglwydd. Amen.

O Alluoccaf Dduw, a thrugarocaf Dûd, yr hwn wyt yn tosturio wrth bob dŷn, ac nid wyt yn casâu dim ar a wnaethost, yr hwn nid ewyllysi farwolaeth pechadur, onid byw o honaw ac ymchwelyd oddi-wrth be­chod, a bod yn gadwedic: yn dru­garoc maddeu ein camweddau, derbyn a chonfforddia ni, y rhai ydym yn flin ac yn orthwm gennym faich ein pechodau. Ti biau o briodolder drugarhâu, i ti yn unic y perthyn maddeu pechodau: Arbed nyni am hynny Arglwydd daionus. Arbed dy bobl y rhai a brynaist. Na ddwg dy weision i'r farn, y rhai ŷnt bridd gwael, a phechaduriaid truein: Eithr ymchwel felly dy lid oddi wrthym, y rhai ŷm yn ostyngedic yn cyd­nabod a'n gwaeledd, ac yn wîr edifeiriol gennym ein beiau: felly bryssia i'n cynhorthwyo yn y byd hwn, fel y gallom byth fyw gyd â thi yn y byd a ddaw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y dywed y bobl hyn yma sydd yn canlyn. ar ol y Gwenidog.

YMchwel di ni o Arglwydd daionus, ac yna ŷdd ymchwelir-ni, ystyria o Arglwydd, ystyria wrth dy bobl, y rhai sydd yn ymchwelyd attat trwy wylofain, ymprydio, a gweddio; canys Duw trugarog ydwyti, yn llawn tosturi, yn dda dy amynedd, ac yn fawr dy warder, yr wyt yn arbed pan ŷm yn hae­ddu poenau, ac yn dy lid ydd wyt yn meddwl am dru­garedd. Arbet dy bobl Arglwydd daionus, arbet hwy, ac na ddyccer dy etifeddiaeth i wradwydd: clyw nyni. Arglwydd, canys mawr yw dy drugaredd, ac yn ôl lliaws dy drugareddau, edrych arnom, trwy haedde­digaethau a chyfryngdod dy Fendigedic Fab Jesu Grist ein Harglwyd. Amen.

¶ Yna yr Offeiriad ei hun yn unig a ddywed.

Bendithiedd yr Arglwydd ni, a chadwed ni; Dercha­fed yr Arglwydd ei wyneb arnom, a rhodded i ni Dan­gneddyf yr awr hon ac hyd byth bythoedd. Amen.

Y Psallwyr neu Psalmau DAFYDD, Ar ol Cyfieithiad y BIBL MAWR; Wedi eu Pwyntio fel y maent i'w canu, neu i'w dywedyd mewn EGLWYSAU.

Argraphwyd yn Llundain, tros Edward Fowks, M DC LX IV.

Cum Privilegio.

Psalmau Dafydd.

DYDD j.

Boreuol Weddi.
Beatus vir, qui non abiit. Psal. j.

GWyn ei fyd y gwr ni rodia ynghyn­gor yr annuwolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriad, ac nid eistedd yn eisteddfa gwat war-wŷr.

2 Onid sydd a'i ewyllys ynghy­fraith yr Arglwydd: ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nôs.

3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afo­nydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei brŷd; a'i ddalen ni wywa, a pha beth bynnac a wnêl, efe a lwydda.

4 Nid felly y bydd yr annuwiol: onid fel mân ûs yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith.

5 Am hynny yr annuwolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid ynghynnulleidfa y rhai cyfiawn.

6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyf­iawn: ond ffordd yr annuwolion a ddifethir.

Quare fremuerunt gentes? Psal. ij.

PA ham y terfysca y Cenhedloedd: ac y myfyria y bobloedd beth ofer?

2 Y mae brenhinoedd y ddaiar yn ymosod, a'r pen­naethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Argl­wydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd.

3 Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rhe­ffynnau oddi wrthym.

[Page]4 Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chward, yr Arglwydd a'i gwatwar hwynt.

5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddig­llonrwydd y dychryna efe hwynt.

6 Miuneu a osodais fy Mrenin ar Sion, fy my­nydd sanctaidd.

7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthif; fy Mab ydwyt ti, myfi heddyw a'th gen­hedlais.

8 Gofyn i mi, a rhoddaf y Cenhedloedd yn etifeddi­aeth i ti: a therfynnau y ddaiar i'th feddiant.

9 Drylli hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd.

10 Gan hynny 'r awr hon frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barn-wŷr y ddaiar cymmerwch ddŷsc.

11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymla wenhewch mewn dychryn.

12 Cussenwch y mâb rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd: pan gynneuo ei lid ef (ei ond ychydig) gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Domine, quid multiplicati? Psal. iij.

ARglwydd mor aml yw fy nhrallod-wŷr: llawer yw y rhai sy 'n codi i'm herbyn.

2 Llawer yw y rhai sy'n dywedyd am fy enaid: nid oes iechydwriaeth iddo yn ei Dduw.

3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi: fy ngo­goniant, a derchafudd fy mhen

4 A'm llêf y gelwais ar yr Arglwydd: ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd.

5 Mi a orweddais, ac a gyscais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.

6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl: y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.

7 Cyfot Arglwydd, achub fi fy Nuw, canys tare­waist fy holl elynion ar garr yr ên: torraist ddannedd yr annuwolion.

8 Jechydwriaeth sydd eddo 'r Arglwydd: dy fen­dith fydd ar dy bobl.

Cum invocarem. Psal. iv.

GWrando fi pan alwyf. ô Ddnw fy nghyfiawnder; mewn cynfyngder yr ehengaist arnaf: trugarhâ wrthif, ac erglyw fy ngweddi.

2 O feibion dynion, pa hŷd y trowch fy ngogo­niant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd?

3 Ond gwybyddwch i'r Arglwydd nailltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan al­wyfarno.

4 Ofnwch, ac na phechwch: ymddiddenwch a'ch calon ar eich gwely, a thewch.

5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder: a gobeithiwch yn yr Arglwydd.

6 Llawer sy 'n dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dercha arnom lewyrth dy wy­neb.

7 Rhodddaist lawenydd yn fy nghalon: mwy nâ'r amser yr amlhaodd eu hŷd, a'i gwin hwynt.

8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti Arglwydd yn unic a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

Verba mea auribus. Psal. vj.

GWrando fy ngeiriau Arglwydd: deall fy myfyr­dod.

2 Erglyw ar lêf fy ngwaedd, fy Mrenin, am Duw: canys arnat y gweddiaf.

3 Yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cy­feiriaf attat, ac yr edrychafi fynu.

4 O herwydd nid wyt ti Dduw 'n ewyllysio an­wiredd: a drwg ni thrig gyd â thi.

5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithred-wyr anwiredd.

6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Ar­glwydd a ffieidda y gwr gwaedlyd, a'r twyllo­drus.

7 A minneu a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy [Page] [...] [Page] [...] [Page] drugaredd: ac a addolaf tu a'th Deml sanctaidd yn dy ofn di.

8 Arglwydd arwain fi yn dy gyfiawnder o achos fy ngelynion: ac uniona dy ffordd o'm blaen.

9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau, eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu cêg, gweniethi­ant a'i tafod.

10 Destrywia hwynt ô Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyrr hwynt ymmaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthrfelasant i'th erbyn.

11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafar ganant yn dragywydd am i ti orchguddio trostynt: a'r rhai a garant dy Enw, gorfoleddant ynot.

12 Canys ti Arglwydd a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd, megis â tharian y coroni di ef.

Prydnaw­nol Weddi.
Domine, ne in furore. Psal. vj.

ARglwydd na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd: ac na chospa fi yn dy lid.

2 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi ô Arglŵydd, canys fy escyrn a gystu­ddiwyd.

3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: titheu Arglwydd, pa hŷd?

4 Dychwel Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5 Canys yn angeu nid oes goffa am danat: yn y bedd pwy a'th folianna?

6 Deffygiais gan fy ochain, bôb nôs yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyfi 'n gwlychu fy ugorweddfa a'm dagrau.

7 Treuliodd fy llygad gan ddigter: heneiddiodd o herwydd fy holl elynion.

8 Ciliwch oddi wrthif holl weithred-wŷr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lêf fy ŵylofain.

[Page]9 Clybu 'r Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.

10 Gwradwydder, a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler, a chywilyddier hwynt yn ddisym­mwth.

Domine, Deus meus. Psal. vij.

ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwared fi.

2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew: gan ei rwy­go, pryd na byddo gwaredudd.

3 O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn: od oes anwiredd yn fy nwylaw.

4 O thelais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi: (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos:)

5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sa­thred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogo­niant yn y llwch.

6 Cyfod Arglwydd, yn dy ddigllonedd, ymddercha o herwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchymynnaist.

7 Felly cynnulleidfa y bobloedd: a'th amgylchy­nant: er eu mwyn dychwel ditheu i'r uchelder.

8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, ô Ar­glwydd, yn ôl fy ngyfiawnder, ac yn ôl fy mherffei­thrwydd sydd ynof.

9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyf­iawn a chwylia y calonnau, a'r arennau.

10 Fy amddeffyn sydd o Dduw; iachawdr y rhai uniawn o galon.

11 Duw sydd farnudd cyfiawn: a Duw sy ddig­llon beunydd wrth yr annuwiol.

12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hûga ei gle­ddyf; efe a annelodd ei fwa, ac a'i paratôdd.

13 Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a dref­nodd ei saethau yn erbyn yr erlidwŷr.

14 Wele efe a ymddwdg anwiredd: ac a feichio­godd ar gamwedd, ac a escorodd ar gelŵydd.

[Page]15 Torrodd bwll: clodiodd ef; syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.

16 Ei auwiredd a ymchwel ar ei ben ei hûn: a'i drahâ a ddescyn ar ei goppa ei hun.

17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder: a chanmolaf enw 'r Arglwydd goruchaf.

Domine, Dominus noster. Psal. viij.

ARglwydd ein Jôr ni, mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaiar: yr hwn a osodûist dy ogoniant uwch y nfoedd!

2 O enau plant bychain, a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion: i ostegu y gelyn, â'r ym­ddialydd.

3. Pan edrychwyf ar dy nefoedd gwaith dy fysedd: y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist.

4 Pa beth yw dŷn i ti iw gofio? a mâb dŷn i ti i ymweled ag ef?

5 Canys gwnaethost ef ychydig îs nâ'r angelion ac a'i coronaist â gogoniant, ac a harddwch:

6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithred­oedd dy ddwylo; gosôdaist bôb peth dan ei draed ef,

7 Defaid, ac ychen oll; anifeiliaid y maes he­fyd.

8 Ehediaid y nefoedd, a physcod y môr: ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.

9 Arglwydd ein Jor, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaiar!

DYDD ij.

Boreuol Weddi.
Confitebor tibi, Psal. ix.

CLodforaf di ô Arglwydd, â'm holl ga­lon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf, a gorfolleddaf y­not: canaf i'th enw di, y Goruchaf.

3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc, gan farnu yn gyfiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annu­wiol: eu henw hwynt a ddilêaist byth bythol.

6 Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd; a di­wreiddiaist y dinasoedd: darfu eu coffadwriaeth gyd â hwynt.

7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orsedd-faing i farn.

8 Ac efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.

9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i'r gorthrym­medig: noddfa yn amser trallod.

10 A'r rhai a adwaenant dy enw a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd, y rhai a'th gei­sient.

11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yr pres­swylio yn Sion: mynegwch ymmysc y bobloedd ei weithredoedd ef.

12 Pan ymofynno efe am waed, efe a'i cofia hwynt nid anghofia waedd y cystuddiol.

13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, gwêl fy mlinder gan fy nghaseion: fy nerchafudd o byrth angau.

14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ymmhyrth merch Sion: llawenychaf yn dy iechydwriaeth.

15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffôs a wnaeth­ant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

[Page]16 Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wnâ: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd ei ddwylo ei hun.

17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern: a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.

18 Canys nid anghofir y tladw byth: gobaith y trueniaid ni chollir byth.

19 Cyfod Arglwydd, na orfydded dŷn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20 Gosod Arglwydd ofn arnynt: fel y gŵybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt.

Ut quid, Domine? Psal. x.

PA ham Arglwydd y sefi o bell: yr ymguddi yn am­ser cyfyngder?

2 Yr annuwiol mewn balchder, a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychymygasant.

3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon: ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Ar­glwydd yn ei ffieiddio.

4 Yr annuwiol (gan uchder ei ffroen) ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.

5 Ei ffyrdd sydd flîn bôb amser: uchel yw dy faruo­digaethau allan o'i olwg ef; chwythu y mae yn er­ei holl elynion.

6 Dywedodd yn ei galon, ni'm symmudir: o her­wydd ni byddaf mewn dryg-fyd, hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

7 Ei enau sydd yn llawn melldith; a dichell, a thwyll: tan ei dafod y mae camwedd, ac anwiredd.

8 Y mae efe yn eistedd ynghynllwynfa y pentrefydd: mewn cilfacheu y llâdd efe y gwirion; ei lygaid a dre­miant yn ddirgel ar y tlawd.

9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch, megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd, efe a ddeîl y tlawd gan ei dynnu iw rŵyd.

10 Efe a ymgrymma, ac a ymostwng: fel y cw­ympo tyrfa trueniaid gan ei gedyrn ef.

11 Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw: cu­ddiodd ei wyneb, ni wêl byth.

[Page]12 Cyfod Arglwydd, ô Dduw dercha dy law; nac anghofia y cystuddiol.

13 Pa ham y dirmyga 'r annuwiol Dduw? dywe­dodd yn ei galon, nid ymofynni.

14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd. a cham, i roddi tâl a'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd, ti yw cynnorthwy-wr yr ymddifad.

15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygionus: cais ei ddrygioni ef, hyd na chaffech ddim.

16 Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragy­wydd: difethwyd y cenhedloedd allan o'i dîr ef.

17 Arglwydd clywaist ddymuniad y tlodion; pa­rottoi eu calon hwynt, gwrendy dy glûst arnynt.

18 I farnu yr ymddifad a'r gorthrymmedig: fel na chwanego dŷn daiarol beri ofn mwyach.

In Domino confido. Psal. xj.

YN yr Arglwydd yr wyf yn ymdiried, pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, eheda i'ch mynydd fel aderyn?

2 Canys wele, y drygionus a annelant fŵa, para­toesant eu saethau ar y llinyn, i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.

3 Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wna y cyfiawn?

4 Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd; y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.

5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan▪ ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo draw­sder.

6 Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoeth-wynt ystormus: dymma ran eu phiol hwynt.

7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.

Prydnaw­nol Weddi.
Salvum me fac. Psal. xij

AChub Arglwydd, canys darfu y trugarog: o herwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.

2 Oferedd a ddywedant bôb un wrth ei gymmydog; â gwefus wenhieithgar, ac â chalon ddau ddyblyg y llefarant.

3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwenhiei­thus, a'r tafod a ddywedo fawrhydri.

4 Y rhai a ddywedant, a'n tafod y gorfyddwn: ein gwefusau sydd eiddom ni, pwy sydd Arglwydd ar­nom ni?

5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic, o her­wydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn iechydwriaeth yr hwn y magler iddo.

6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion: fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.

7 Ti Arglwydd a'i cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch pan dder­chafer y gwaelaf o feibion dynion.

Usque quo, Domine? Psal. xiij.

PA hŷd, Arglwydd, i'm anghofi: ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?

2 Pa hŷd y cymmeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hŷd y derche­fir fy ugelyn arnaf?

3 Edrych, a chlyw fi ô Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.

4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: ac i'm gwrthwyneb-wŷr lawenychu os gogwyddaf.

5 Minneu hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd [Page] di, fy nghalon a ymlawenycha yn dy iechydwriaeth: canaf i'r Argiwydd am iddo synio arnaf.

Dixit insipiens. Psal. xiv.

YR ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes un Duw: ymlygrasant, ffieidd-waith a wnaethant; nid oes a wnêl ddaioni.

2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion; i weled a oedd neb deallgar, yn ymgei­sio â Duw.

3 Ciliodd pawb, cŷd-ymddifwynasant, nid oes a wnel ddaioni, nac oes un.

4 Oni ŵyr holl weithred-wŷr anwiredd? y rhai sy yn bwytta fy mhobl fel y bwyttaent fara; ni alwâ­sant ar yr Arglwydd.

Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw ynghenhedlaeth y cyfiawn.

6 Cynghor y tlawd a wradwyddasoch chwi, am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.

7 Pwy a ddyry iechydwriaeth i Israel o Sion? pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenhâ Israel.

DYDD iij.

Boreuol Weddi.
Domine, quis habitavit. Psal. xv.

ARglwydd pwy a drig yn dy babell? a bresswylia ym mynydd dy sanctei­ddrwydd?

2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wîr yn ei galon.

3 Heb absennu â'i dafod: heb wneuthur drwg iw gymmydog, heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog.

4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg, ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Argl­ŵydd: [Page] yr hwn a dwng iw niwed ei hnn, ac ni newi­dia.

5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymmer wobr yn erbyn y gwirion: a wnêlo hyn nid yscogir yn dragywydd.

Conserva me, Domine. Psal. xvj.

CAdw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddiriedaf.

2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, fy Arglwydd ydwyt ti: fy nâ nid yw ddim i ti:

3 Ond i'r sainct sydd ar y ddaiar, a'r rhai rhago­rawl, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.

4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai a fryssiant ar ôl Duw dieithr: eu diod offrwn o waed nid offrymmaf fi, ac ni chymmeraf eu henwau yn fy ngwefusau.

5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i, a'm phi­ol: ti a gynheli fy nghoelbren.

6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn llêoedd hy­fryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth dêg.

7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghô­rodd: fy ârennau hefyd a'm dyscant y nôs.

8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheu-law, ni'm yscogir.

9 O herwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghawd hefyd a or­phywys mewn gobaith.

10 Canys, ni adewi fy enaid yn uffern: ac ni oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd lla­wenydd sydd ger dy fron: ar dy ddeheu-law y mae digrifwch yn dragywydd.

Exaudi, Domine. Psal. xvij.

CLyw Arglwydd gyfiawnder: ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.

2 Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy ly­gaid ar uniondeb.

3 Profais fy nghalon, gofwyaist fi y nôs, chwiliaist [Page] fi, ac ni chei ddim: bwriedais, na throseddai fy nge­nau.

4 Tu ag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr yspei­lûdd.

5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.

6 Mi a elwais arnat, canys gwrandewi arnafi, o Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyŵ fy yma­drodd.

7 Dangos dy ryfedd drugareddau, ô achubudd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheu-law,

8 Cadw fi fel canwyll llygad: cûdd fi dan gyscod dy adenydd.

9 Rhag yr annuwolion, y rhai a'm gorthrymmant: rhag fy ngelynion marwol, y rhai a'm hamgylchant.

10 Caeasant gan eu brasder, a'i genau y llefarant mewn balchder

11 Ein cynniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awr hon, gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaiar.

12 Eu dull sydd fel llew a chwennychei sclyfae­thu, ac megis llew ieuangc yn aros mewn llêoedd dir­gel.

13 Cyfod Arglwydd; achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di.

14 Rhag dynion y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y bŷd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd ymma, a'r rhai y llenwaist eu boliau a'th guddiedic dryssor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gwe­ddill i'w rhai bychain.

5 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â'th ddelw di.

Prydnaw­nol Weddi.
Diligam te Domine. Psal. xviij.

CAraf di Arglwydd fy nghadernid.

2 Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddeffynfa, a'm gwaredudd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf, fy nharian, a chorn fy iechydwriaeth, o'm huchel-dŵr.

3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i'm cedwir rhag fy ngelynion.

4 Gofidion angau a'm cylchynâsant: ac afonydd y fall a'm dychrynasant i.

5 Gofidiau uffern a'm cylchynâsant: maglau ang­eu a achubasant fy mlaen.

6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i Deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth iw glustiau ef.

7 Yna y siglodd, ac y crynodd y ddaiar, a seiliau y mynyddoedd a gynnhyrfodd, ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.

8 Derchafodd mŵg o'i ffroenau, a thân a yssodd o'i enau: glo a enynnâsant ganddo.

9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddescyn­nodd: a thywyllwch oedd tan ei draed ef.

10 Marchogôdd hefyd ar y Cerub, ac a ehedodd: ie efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.

11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo, a'i babell o'i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew­gwmmylau yr awyr.

12 Gan y diseleirdeb oedd ger ei fron, ei gwmmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor tanllyd.

13 Yr Arglwydd hefyd a darânodd yn y nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef: cenllysc a marwor tan­llyd.

14 Je, efe a anfonodd ei saethau ac a'i gwascarodd hwynt: ac a saethodd ei fellt, ac a'i gorchfygodd hw­ynt.

[Page]15 gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y bŷd a ddinoethwyd: gan dy gerydd di ô Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau.

16 Anfonodd oddi uchod, cymmerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer,

17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.

18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.

19 Dûg fi hefyd i ehangder, gwaredodd fi: canys ymhoffodd ynof.

20 Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfi­awnder: yn ôl glendid fy nwylo y talddd efe i mi.

21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni chili­ais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.

22 O herwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthif.

23 Bûm hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymged­wais rhag fy anwiredd.

24 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghy­fiawnder: yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.

25 A'r trugarog y gwnei drugaredd: a'r gŵr per­ffaith y gwnei berffeithrwydd.

26 A'r glân y gwnei lendid: ac a'r cyndyn yr ym­gyndynni.

27 Cânys ti a waredi y bobl gystuddiedic: ond ti a ostyngi olygon uchel.

28 O herwydd ti a oleui fy nghanwyll: yr Argl­wydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29 Oblegit ynot ti y rhedais trwy fyddin: ac yn fy Nuw y llemmais dros fûr.

30 Duw sydd berffaith ei ffordd, gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddirie­dant ynddo.

31 Canys pwy sydd Dduw heb law 'r Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?

32 Duw sy'n fy ngwregyssu â nerth, ac yn gwneu­thur fy ffordd yn berffaith.

[Page]33 Gosod y mae efe fy nhraed, fel traed ewigod: ac ar fy uchel-fannau i'm sefydla.

34 Efe sy' yn dyscu fy nwyloi ryfel: fel y dryllir bŵa dûr yn fy mreichiau.

35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechydwriaeth, a'th ddeheu-law a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.

36 Ehengaist fy ngherddediad tanaf: fel na lithrodd fy nhraed,

37 Erlidiais fy ngelynion, ac a'i goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt,

38 Archollais hwy, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.

39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyng­aist tanaf y rhai y ymgododd i'm herbyn.

40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion: fel y difethwn fy nghaseion.

41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubudd: sef, ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt

42 Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gw­ynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.

43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl, gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasan­aethant.

44 Pan glywant am danaf, ufuddhânt i mi: mei­bion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.

45 Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynant allan o'i dirgel fannau.

46 Byw yw 'r Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a derchafer Dnw fy iechydwriaeth.

47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial: ac a ddarostwng y bobloedd tanaf.

48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelyni­on: ie ti a'm derchefi uwch law y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.

49 Am hynny y moliannaf di o Arglwydd, ym­mhlith y cenhedloedd. ac y cânafi'th enw.

50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w [Page] frenin. ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.

DYDD iv.

Boreuol Weddi.
Cœli enarrant. Psal. XIX.

YNefoedd fy yn dadcan gogoniant Duw: a'r ffurfafen sy yn mynegu gwaith ei ddwylaw ef.

2 Dydd i ddydd a draetha yma­drodd: a nôs i niôs a ddengys wybod­aeth.

3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.

4 Eu llinyn aeth drwy 'r holl ddaiar, a'i geiriau hyd eithafoedd bŷd: i'r haul y gosododd efe babell yn­ddynt.

5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o'i sta­fell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.

6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac▪ nid ymgudd dim oddi wrth ei wrêsef.

7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd siccr, ac yn gw­neuthur y gwirion yn ddoeth.

8 Deddfau yr Arglwydd sydd uniawn, yn llawen­hâu y galon: gorchymmyn yr Arglwydd sydd bûr, yn goleuo y llygaid.

9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragy­wydd: barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfi­awn ydynt eu gyd.

10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd nâr mêl, ac nâ diferiad diliau mêl.

11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was; o'i cadw y mae gwobr lawer.

12 Pwy a ddeall ei gameddau? glanhâ fi oddi wrth fy meiau cuddiedic.

[Page]13 Attal hefyd dy wâs oddi wrth bechodau rhyfyg­us, na arglwyddiaethant arnaf: yna i'm perffeithir, ac i'm glanheir oddiwrth anwiredd lawer.

14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron, ô Argl­wydd, fy nghraig, a'm prynwr.

Exaudiat te Dominus. Psal xx.

GWrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyn­gder: enw Duw Jacob a'th ddeffynno.

2 Anfoned i ti gymmorth o'r cyssegr: a nerthed di o Sion.

3 Cofied dy holl offrymmau: a bydded fodlon i'th boeth offrwm.

4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon: a chyflawned dy holl gyngor.

5 Gorfoleddwn yn dy iechydwriaeth di, a dercha­fwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.

6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei en­einiog, efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheu-law ef.

7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.

8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant: ond nyni a gyfodasom, ac a safafom.

Achub Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom, yn y dydd y llefom.

Domine, in virtute tua. Psal. xxj.

ARglwydd yn dy nerth y llawennycha y brenin: ac yn dy iechydwriaeth di, mor ddirfawr yr ymhy­fryda?

2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dymuniad ei wesusau ni's gommeddaist.

3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

[Page]4 Gofynnodd oes gennit, a rhoddeaist iddo: ie hir­oes, byth ac yn dragywydd.

5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iechydwriaeth: go­sodaist arno ogoniant a phrydferthwch.

6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragy­wyddol, llawenychaist ef â llawenydd, âth wyneb­pryd.

7 O herwydd bod y brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf, nid yscog­ir ef.

8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy dde­heulaw a gaiff afael ar dy gaseion.

9 Ti a'i gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddigllonedd a'i llwngc hwynt, ar tân a'i hyssa hwynt.

10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddai­ar; a'i hâd o blith meibion dynion.

11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn; meddy­liasant amcan, heb allu o honynt ei gwplâu.

12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynau y paratoi di saethau yn erbyn eu hwyne­bau.

13 Ymddercha Arglwydd yn dy nerth▪ canwn, a chanmolwn dy gadernid.

Prydnaw­nol Weddi.
Deus, Deus meus. Psal. xxij.

FY Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist? pa ham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy ie­chydwriaeth, a geiriau fy llefain.

2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.

3 Ond tydi wyt sanctaidd; ô dydi yr hwn wyt yn cyfanneddu ym moliant Israel.

4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.

[Page]5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac ni's gwradwyddwyd hwynt.

6 A minnen prŷf ydwyf, ac nid gwr: gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.

7 Pawb a'r a'm gwêlant a'm gwatwarant: llae­sant wefl, escydwant ben, gan ddywedyd.

8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd, gwareded ef: ac­hubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.

9 Canys ti a'm tynnaist o'r grôth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.

10 Arnat ti i'm bwriwyd o'r brû: o grôth fy mam fy Nuw ydwyt.

11 Nac ymbellhâ oddi wrthif, o herwydd cyfyng­der sydd agos: canys nid oes cynnorthwy-wr.

12 Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan, a'm hamgylchasant.

13 Agorasant arnaf eu genau: fel llew rheipus, a rhuadwy.

14 Fel dwfr i'm tywaltwyd, a'm hescyrn oll a ym­wahanasant: fy nghalon sydd fel cŵyr, hi a doddodd ynghanol fy mherfedd.

15 Fy nerth a wywodd fel pridd-lestr, a'm tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i iŵch angeu i'm dygaist.

16 Canys cŵn a'm cylchynasant, cynnulleidfa y drygionns a'm hamgylchasant: trywanasant fy nwylaw a'm traed.

17 Gallaf gyfrif fy holl escyrn: maent yn tremio, ac yn edrych arnaf.

18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fy ngwisc yn bwrw coelbren.

19 Ond tydi Arglwyd nac ymbellhâ: fy nghader­nid bryssia i'm cynnorthwyo.

20 Gwaret fy enaid rhag y cleddyf: fy unic enaid o feddiant y cî.

21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid i'm gwrandewaist.

22 Mynegaf dy enw i'm brodyr: ynghanol y gyn­nulleidfa i'th folaf.

23 Y rhai sy yn ofni 'r Arglwydd, molwch ef, holl [Page] hâd Jacob, gogoneddwch ef: a holl hâd Israel, ofn­wch ef.

24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieeddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.

25 Fy mawl fydd o honot ti yn y gynnulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf ger bron y rhai a'i hofnant ef.

26 Y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Arglwydd a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27 Holl derfynau y ddaiar a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylŵythau y cenhedloedd a addo­lant ger dy fron di.

28 Canys eiddo 'r Arglwydd yw 'r deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd.

29 Yr holl rai breision ar y ddaiar a fwyttânt, ac a addolant: y rhai a ddescynnant i'r llŵch a ymgrym­mant ger ei fron ef: ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.

30 Eu hâd a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Argl­glwydd yn genhedlaeth.

31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir: mai efe a wnaeth hyn.

Dominus regit me. Psal. xxiij.

YR Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisieu ar­naf,

2 Efe a wna i'm orwedd mewn porfeydd gwelltoc: efe a'm tywys ger llaw y dyfroedd tawel.

3 Efe a ddychwel fy enaid, efe a'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnwder, er mwyn ei enw.

4 Ie pe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod angeu, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyd â mi: dy wialen, a'th ffyn a'm cyssurant.

5 Ti a arlwyi fort ger fy mron, yngwydd fy ng­wrthwyneb-wŷr: iraist fy mhen ag olew, fy phiol fydd lawn.

6 Daioni, a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant, holl ddyddiau fy mywyd: a phresswyliaf yn nhŷ 'r Arglwydd yn dragywydd.

DYDD V.

Boreuol Weddi.
Domini est terra. Psal. xxiv.

EJddo yr Arglwydd y ddaiar, a'i chy­flawnder: y bŷd, ac a bresswylia yn­ddo.

2 Canys efe a'i seiliodd ar y mor­oedd, ac a'i siccrhâodd ar yr afonydd.

3 Pwy a escyn i fynydd yr Argl­wydd? a phwy a saif yn ei lê sanct­aidd ef?

4 Y. glân ei ddwylo, a'r pûr ei galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chy­fia wnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6 Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef: y rhai a geisiant dy wyneb di, ô Jacob.

7 O byrth, derchefwch eich pennau, ac ymdder­chefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

8 Pwy yw yr brenin gogoniant hwn? yr Argl­wydd nerthol, a chadarn: yr Arglwydd cadarn me­wn rhyfel.

9 O byrth, derchefwch eich pennau, ac ymdder­chefwch ddrysau tragywyddol; a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

10 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw brenin y gogoniant.

Ad te Domine, levavi. Psal. xxv.

ALtat ti ô Arglŵydd, y derchafaf fy enaid.

2 O fy Nuw, ynot ti'r ymddiriedais, na'm gwradwydder: na orfoledded fy ngelynion arnaf.

3 Je na wradwydder neb sydd yn disgwyl wrthit ti: gwradwydder y rhai a drosseddant heb achos.

[Page]4 Par i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.

5 Tywys. fi yn dy wirionedd, a dysc fi: canys ti yw Duw fy iechydwriaeth, wrthit ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.

6 Cofia Arglwydd dosturiaethau, a'th drugareddau canys erioed y maent hwy.

7 Na chofia bechodan fy ieuengctid, na'm cam­weddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, er mwyn dy ddaioni Arglwydd.

8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: o herwydd hyn­ny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.

9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysc efe i'r rhai gostyngedic.

10 Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd, a gwirionedd i'r rhai a gadwant ei gyfammod, a'i de­stiolaethau ef.

11 Ermwyn dy Enw, Arglwydd, maddeu fy an­wiredd: canys mawr yw.

12 Pa ŵr yw efe sy'n ofni yr Arglwydd? efe a'i dysc ef yn y ffordd a ddewiso.

13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i hâd a eti­fedda y ddaiar.

14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gyda 'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfammod hefyd iw cyfarwyddo hw­ynt.

15 Fy Uygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: ca­nys efe a ddwg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16 Trô attaf, a thrugarhâ wrthif: canys unic a thlawd ydwyf.

17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg di fi allan o'm cyfyngderau.

18 Gwêl fy nghystudd, a'm helbul: a maddeu fy holl bechodau.

19 Edrych ar fy ngelynion, canys amlhasant: a chasineb traws hefyd i'm cassasant.

20 Cadw fy enaid ac achub fi: na'm gwradwy­dder, canys ymddiriedais ynot.

21 Cadwed perffeithrwydd, ac uniondeb fi. canys yr wyf yn disgwyl wrthit.

[Page]22. O Dduw, gwared Israel o'i holl gyfyngde­rau.

Judica me Domine Psal. xxvj.

BArn fi Arglwydd, canys rhodiais yn fy mherffei­thrwydd, ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd, ani hynny ni lithraf.

2 Hôla fi Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy aren­nau, a'm calon.

3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

4 Nid eisteddais gyd â dynion coegion, a chyd a'r rhai trofâus nid âf.

5 Caseais gynnulleidfa y drygionus: a chyd â'r an­nuwolion nid eisteddaf.

6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a'th allor ô Arglwydd, a amgylchynaf:

7 I gyhoeddi â llef clodforedd: ac i fynegu dy holl ryfeddodau.

8 Arglwydd hoffais drigfan dy dy: alle presswylfa dy ogoniant.

9 Na chasel fy enaid gyd â phechaduriaid: na'm bywyd gyd â dynion gwaedlyd:

10 Y rhai y mae scelerder yn eu dwylo, a'i deheu­law yn llawn gwobrau.

11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwa­red fi, a thrugarhâ wrthif.

12 Fy nhrōed sydd yn sefyll ar yr union: yn y cyn­nulleidfâodd i'th fendithiaf ô Arglwydd.

Prydnaw­nol Weddi.
Dominus illuminatio. Psal. xxvij.

YR Arglwydd yw fy ngoleuni, a'm hiechyd­wriaeth, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychry­naf?

2 Pan nessâodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwyneb-wŷr, am gelynion i'm herdyn, i [Page] fwytta fy ngnhawd: hwy a dramgwyddasant, ac a syr­thiasant.

3 Pe gwersyllei llu i'm herbyn, nid ofna fy ngha­lon: pe cyfodei câd i'm herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.

4 Un peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, sef caffel trigo y nhŷ'r Arglwydd holl ddydd­iau fy mywyd: i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd ac i ymofyn yn ei Deml.

5 Canys yn y dydd blin i'm cuddia, o fewn ei ba­bell yn nirgelfa ei babell i'm cuddia, ar graig i'm cy­fydi.

6 Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fy ngel­ynion o'm hamgylch: am hynny 'r aberthaf yn ei ba­bell ef ebyrth gorfoledd: canaf, ie can-molaf yr Ar­glwydd.

7 Clyw ô Arglwydd fy lleferydd pan lefwyf, tru­garhâ hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.

8 Pan ddywedaist, ceisiwch fy wyneb, fy ngha­lon a ddywedodd wrthit, dy wyneb a geisiaf, ô Argl­wydd.

9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthif, na fwrw yammaith dy wâs mewn soriant: fy nghymmorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, ô Dduw fy iechydwri­aeth.

10 Pan yw fy nhâd, a'm mam yn fy ngwrothod: yr Arglwydd a'm derbyn.

11 Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac arwain fi ar hŷd llwybrau uniondeb, o her wydd fy ngelynion.

12 Na ddyro fi i fynnu i ewyllys fy ngelynion: ca­nys gau dystion, a rhai a adroddânt drawster a gyfo­dasant i'm herbyn.

13 Deffygiaswn pe na chredaswn weled daioni 'r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

14 Disgwil wrth yr Arglwydd, ymwrola ac ef a nertha dy galon, disgwil meddaf wrth yr Arglwydd.

Ad te, Domine. Psal. xxviij.

ARnat ti Arglwydd y gwaeddaf, fy▪ nghraig na ddistawa wrthyf: rhag o thewi wrthif, i'm fed yn gyffelyb i rai yn descyn i'r pwll.

2 Erglyw lêf fy ymbil, pan waeddwyf arnat▪ pan dderchafwyf fy nwylo tu ag at dy gafell sanct­aidd.

3 Na thynn fi gyd â'r annuwolion a chyd â gwei­thred-wŷr anwiredd, rhai a lefarant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.

4 Dyro iddynt yn ûl eu gweithred, ac yn ûl drygioni eu dychymmygion, dyrd iddynt yn ûl gweithredoedd eu dwylo: tâl iddynt eu haeddedigaeth.

5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis a­deiliada hwynt.

6 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, canys clybu lêf fy ngweddiau.

7 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm tarian, ynddo ef yr ymdiriedodd fy nghalon, ac myfi a gyunorthwy­wyd: o herwydd hyn y llawenychodd fy nghalou, ac ar fy nghân y clodforaf ef.

8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw▪ rai, a chader­nid iechydwriaeth ei enemiog yw efe.

9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth por­tha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd▪

Afferte Domino. Psal. xxix.

MOeswch i'r Arglwydd chwi feibion cedyrn: mo­eswch i'r Arglwydd ogoniant, a nerth.

2 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei Enw: add­olwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sanctei­ddrwydd.

3 Llêf yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd, Duw y go­goniant a darana: yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.

[Page]4 Llêf yr Arglwydd sy mewn grym: llêf yr Argl­wydd sy mewn prydferthwch.

5 Llêf yr Arglwydd sy yn dryllio y cedrŵydd ie dryllia 'r Arglwydd gedr-wŷdd Libanus.

6 Efe a wna iddynt lammu fel llû: Libanus a Sy­rion fel llwdn unicorn.

7 Llêf yr Arglwydd a walcara y fflammau tân.

8 Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwth grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.

9 Llêf yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei Deml, pawb a draetha ei ogoniant ef.

10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant, ie yr Arglwydd a eistedd yn Frênin yn dragywydd.

11 Yr Arglwydd a ddyry nerth iw bobl: yr Argl­wydd a fendithia ei bobl â thangneddyf.

DYDD vj.

Boreuol Weddi.
Exaltabo te▪ Domine. Psal. xxx.

MAwrygaf di ô Arglwydd canys der­che faist fi: ac ni laweitnhêaist fy nge­lynion o'm plegit.

2 Arglwydd, fy Nuw, llefais ar­nat a thitheu a'm hiachêaist.

3 Arglwydd derchefaist fy enaid o'r bedd, cedwaist fi yn fyw, rhag descyn o honof i'r pwll.

4 Cenwch i'r Arglwydd ei sainct ef : clodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.

5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid, yn ei fod­lonrwydd y mae bywyd: tros bryd-nawn yr erys wy­lofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd.

6 A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, nim syflir yn dragywydd.

7 O'th ddaioni Arglwydd y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb a bûm helbulus.

[Page]8 Arnat ti Arglwydd y llefais: ac â'r Arglwydd yr ymbilias.

9 Pa fûdd sydd yn fy ngwaed pan ddescynnwyf i'r ffôs? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wi­rionedd?

10 Clyw Arglwydd, a thrugarhâ wrthif: Argl­wydd bydd gynnorthwywr i mi.

11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: dioscaist fy sach-wisc, a gwregysaist fi a llawenydd.

12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo: ô Ar­glwydd fy Nuw, yn-dragywyddol i'th foliannaf.

In te, Domine, speravi. Psal. xxxi.

YNot ti Arglwydd yr ymddiriedais na'm gwrad­wydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfia­wnder.

2 Gogwydda dy glust attaf, gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dy amdeffyn, i'm cadw.

3 Canys fy nghraig a'm castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy Enw, tywys fi, ac arwain fi.

4 Tynn fi allan o'r rhwyd a guddiasant i mi: ca­nys ti yw fy nerth.

5 I'th law y gorchymynnaf fy yspryd: gwaredaist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.

6 Caseais y rhai sy yn dal ar ofer wagedd: min­neu a obeithiaf yn yr Arglwydd.

7 Ymlawenhâf, yc ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd: adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau.

8 Ac ni warchêaist fi yn llaw y gelyn, onid gosodaist fy nhraed mewn ehangder.

9 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie fy enaid, a'm bol:

10 Canys fy mywyd a ballodd gân ofid, a'm bly­nyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd, o herwydd fy anwiredd, a'm hescyrn a bydrasant.

11 Yn warthrudd yr ydwyf ymmysc fy holl elyni­on, [Page] a hynny yn ddirfawr ymmysg fy nghymmydogi­on: ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant: y rhai a'm gwelent allan, a gilient oddi wrthif.

12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl, yr ydwyf fel llestr methedic.

13 Canys clywais ogan llawerodd, dychryn oedd o bob parth: pan gyd-ymgynghorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nîeneidio.

14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd, diwe­daist, fy Nuw ydwyt.

15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddiwrth fy erlid-wŷr.

16 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fi er mwyn dy drugaredd.

17 Arglwydd na wradwydder fi, canys gelwais arnat: gwradwydder yr annuwolion, torrer hwynt i'r bedd.

18 Gosteger y gwefusau celŵyddoc, y rhai a ddy­wedant yn galed drwy falchder, a diystyrwch, yn er­byn y cyfiawn.

19 Morr fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant, ac a wanethost i'r rhai a ymddiried­ant ynot, ger bron meibion dynion!

20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb, rhag bal­chder dynion: cuddi hwynt mewn pabell, rhag cynnen tafodau.

21 Bendigedic fyddo yr Arglwydd, canys dango­sodd yn rhyfedd ei garedigrwydi mi, mewn dinas ga­darn.

22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrŵft, fo'm bwri­wyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddiau, pan lefais arnat.

23 Cerwch yr Arglwydd; ei holl sainct ef: yr Ar­glwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r neb a wna falchder.

24 Ymwrolwch, ac efe a gryfhâ eich calon: chwy­chwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.

Prydnaw­nol Weddi.
Beati, quorum. Psal. xxxij.

GWyn ei fŷd y neb y maddeuwyd ei drossedd ac y ruddiwyd ei bechod.

2 Gwyn eî fŷd y dyn ni chyfrif yr Ar­glwydd iddo anwiredd, ac ni bo dichell yn ei yspryd.

3 Tra y tewais, heneiddiod fy escyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.

4 Canys trymhâodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yd sychder hâf.

5 Addefais fy mhechod wrthit, a'm hanwitedd ni chuddiais: dywedais, cyffessas yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwi­redd fy mhechod.

6 Am hyn y gweddia pob duwiol arnat ti yn yr am­ser i'th geffir: yn ddiauyn llifeiriant dyfrdedd ma­wrion, ni chânt-nessâu atto ef.

7 Ti ydwyt loches i mi, cedw i fi rhag ing: anigyl­chyni fi a chaniadau ymwared.

8 Cyfarwyddaf di, a dyscafdi yn y ffordd yr elych: a'm llygaid arnat i'th gynghoraf.

9 Na fyddwch fel march, neu fûl, heb ddeall, yr hwn y mae rhaid attal ei êu â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddinesau attat.

10 Gofidiau lawer sydd i'r annuwiol, ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchyna ef:

11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.

Exultate, justi. Psal. xxxiij.

YMlawenhewch y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd i'r rhai uniawn gweddus yw mawl.

[Page]2 Molwch yr Arglwydd â'r delyn cenwch iddo â'r nabl, ac â'r dectant.

3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn ger­ddgar, yn soniarus.

4 Canys uniawn yŵ gair yr Arglwydd; a'i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.

5 Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaiar yn gyflawn.

6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y ne­foedd: a'i holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.

7 Casclu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd, megis pen-twrr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn try­ssorau.

8 Ofned yr holl ddaiar yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.

9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a or­chymynnodd, a hynny a safodd.

10 Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cen­hedloedd: y mae efe yn diddymmu amcanion pobloedd.

11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd: me­ddyliau ei galon, o genhedlaeth i genhedlaeth.

12 Gwyn ei fyd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi: a'r bobl a ddetholes efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.

13 Yr Arglwydd sy yn edrychi lawr o'r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.

14 O bresswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigoli­on y ddaiar.

15 Efe a gyd-luniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.

16 Ni waredir brenin gan liaws llû: ni ddiangc cadarn drwy ei fawr gryfder.

17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb drwy ei fawr gryfder.

18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd, ar y rhai a'i ho­fnant ef: sef, ar y rhai a obeithiant yn ei drugareddef.

19 I waredu eu henaid rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn amser newyn.

20 Ein henaid sydd yn diswil am yr Arglwydd: efe yw ein porth a'n tarian.

[Page]21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon; o her­wydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.

22 Bydded dy drugaredd Arglwydd arnom ni, me­gis yr ydym yn ymddiried ynot.

Benedicam Domino. Psal. xxxiv.

BEndithiaf yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.

2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedic a glywant hyn, ac a lawenychant.

3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd û mi: a chyd­dderchafwn ei enw ef.

4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe am gwrandawodd: gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.

5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwydd: ai hwy­nebau ni chywilyddiwyd.

6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau.

7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt.

8 Profŵch, a gwelwch mor dda yw'r Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9 Ofnwch yr Arglwydd, ei sainct ef: canys nidoes eisieu ac y rhai a'i hofnant ef.

10 Y mae eisieu, a newyn ar y llewod ieuaingc, ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt ei­sieu dim daioni.

11 Deuwch blant, gwrandewch arnaf: dyscaf i chwi ôfn yr Arglwydd.

12 Pwy yw'r gŵr a chŵenuych fywyd, ac a gûr hîr ddyddiau, i weled daioni?

13 Cadw dy dafod rhag drwg: â'th wefusau rhag traethu twyll.

14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda: ymgais â thangneddyf, a dilyn hi.

15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a'i glu­stiau sydd yn agored iw llefain hwynt.

16 Wyneb'yr arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.

[Page]17 Y rhai cyfiawn a lefant, a'r Arglwydd a glyw, ac a'i gwared o'i holl drallodau.

18 Agos yw'r Arglwyd at y rhai drylliedic o ga­lon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.

19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Argl­wydd a'i gwared ef oddi wrthynt oll.

20 Efe a geidw ei holl escyrn ef: ni thorrir un o ho­nynt.

21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn a anrheithir.

22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant yndo ef, nid anrheithir hwynt.

DYDD vij.

Boreuol Weddi.
Judica me, Domine. Psal. xxxv.

DAdleu fy nadl Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i'm herbyn: ym­ladd â'r rhai a ymladdant â mi.

2 Ymafael yn y darian a'r ast­alch, a chyfot i'm cymmorth.

3 Dwg allan y wayw-ffon, ac ar­gaea yn erbyn fy erlyd-wŷr: dywed wrth fy enaid, myfi yw dy iechydwriaeth.

4 Cywilyddier, o gwradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl, a gwarthaer, y sawl a fwriadant fy nrygu.

5 Byddant fel ûs o flaen y gwynt: ac Angel yr Ar­glwydd yn eu herlid.

6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrig­fa: ac Angel yr Arglwydd yn eu hymlid.

7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i'm henaid.

8 Deued arno ddistryw ni ŵypo, a'i rwyd yr hon a guddiodd a'i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.

[Page]9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iechydwriaeth ef.

10 Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo trêch nag ef, y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hyspeilio?

11 Tystion gau a gyfodafant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.

12 Talasant i mi ddrwg dros dda; i yspeilio fy enaid.

13 A nunneu pan glafychent hwy, oeddwn a'm gwisc o sach-len, gostyngais fy enaid ag ympryd: a'm gweddi a ddychwelodd i'm mynwes fy hun.

14 Ymddygais fel pe buasei 'n gyfaill, neu yn fra­wd i mi: ymostyngais mewn galar-wisc, fel un yn galaru am ei fam.

15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i. ac ym­gasclasant: ymgasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.

16 Ymmysc y gwatwarwyr rhag-rithiol mewn gwleddoedd yscyrnygasant eu dannedd arnaf.

17 Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwa­red fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unic enaid rhag y llewod.

18 Mi a'th glodforaf yn y gynnulleidfa fawr: mo­liânnaf di ym mhlith pobl lawer.

19 Nâ lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elyn­ion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidient â llygad.

20 Can nad ymddiddanant yn dangneddyfus: ei­thr dychymygant eiriau dichellgar, yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.

21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd: Ha, ha, gwelodd ein llygad.

22 Gwelaist hyn Arglwydd, na thaw ditheu: nac ymbellhâ oddi wrthif, ô Arglwydd.

23 Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw a'm Harglwydd.

24 Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawn­der: ac na lawenhânt o'm plegit.

[Page]25 Na ddywedant yn eu calon, ô ein gwynfyd: na ddywedant llyngcasom ef,

26 Cywilyddier, a gwradwydder hwy i gyd, y rhai sy' lawen am fy nryg-fyd: gwiscer â gwarth ac â thywilydd, y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.

27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghy­fiawnder, dywedant, hefyd yn wastad mawryger yr Arglwydd, yr hwn agâr lwyddiant ei wâs.

28 Fy nhafod inneu, a lefara am dy gyfiawnder, a'th foliant, ar hyd y dydd.

Dixit injustus. Psal. xxxvj.

Y Mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.

2 O herwydd ymwenhieithio y mae efe iddo ei hun. yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atras.

3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidi­odd â bod yn gall i wneuthur daioni.

4 Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely, efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid ywdda: nid ffiaidd gantho ddrygioni.

5 Dy drugaredd Arglwyd sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymmylau.

6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder, dy­fnder mawr yw dy farnedigaethau: dŷn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.

7 Mor werth-fawr yw dy drugaredd ô Dduw! am hynny 'r ymddiried meibion dynion tan gyscod dy adenydd.

8 Llawn-ddigonir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

9 Canys gyd a thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.

10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon.

11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol. fi.

[Page]12 Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd: gwthi­wyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

Prydnhaw­nol Weddi.
Noli æmulari. Psal. xxxvij.

NAc ymddigia o herwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.

2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glas-wellt, ac y gwywant fel gwyrdd lyssiau.

3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda: felly y trigi yn y tîr, a thi a borthir yn ddiau.

4 Ymddigrifa hefydd yn yr Arglwydd, ac efe a ddyry i ti ddymmuniadau dy galon.

5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a'i dwg i ben.

6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni: a'th farn fel hanner dydd.

7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho, nac ymddigia o herwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.

8 Pâid â digofaint, a gâd ymmaith gynddaredd: nac ymddigia er dim, i wneuthur drwg.

9 Canys torrir ymmaith y drwg-ddynion, ond y rhai a ddisgwiliant wrth yr Arglwydd, hwynt hwy a etifeddant y tîr.

10 Canys etto y chydigyn, ac ni welir yr annuwiol, a thi edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim o honaw.

11 Eithr y rhai gostyngedic a etifeddant y ddaiar, ac a amhyfrydant gan liaws tangneddyf.

12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a yscyrnyga ei ddannedd arno.

13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

14 Yr annuwolion a dynnasant eu cleddyf, ac a an­nelasant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a'r anghe­nog, ac i ladd y yhai uniawn eu ffordd.

[Page]15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunam, a'i bwâu a ddryllir.

16 Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn, nâ mawr olud annuwolion lawer.

17 Canys breichiau 'r annuwolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.

18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddian y rhai perffaith, a'i hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

19 Nis gwradwyddir hwy yn amser dryg-fyd, ac yn amser newyn y cânt ddigon.

20 Eithr collir yr annuwolion, a gelynion yr Argl­wydd fel braster wŷn a ddiflanant; yn fŵg y diflan­nant hwy.

21 Yr annuwiol a echŵyna ac ni thal adref: ond y cyfiawn fydd drugarog, ac yn rhoddi.

22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir: a'r rhai a felldithio efe, a dorrir ymmaith.

23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.

25 Mi a fûm ieuangc, yr ydwyf yn hên: etto ni we­lais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardotta bara.

26 Pob amser y mae ef yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg: a'i hâd a fendithir.

27 Ciliâ di oddi wrth ddrwg, a gwna dda, a chy­fannedda yn dragywydd.

28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, ond hâd yr an­nuwiol a dorrir ymmaith.

29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bress­wyliant ynddi yn dragywydd.

30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.

31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, a'i gamrau ni lithrant.

32 Yr annuwiol a wilia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33 Ni âd yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni âd ef yn enog pan ei barner.

[Page]34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th dderchafa, fel yr etifeddech y tir: pan ddi­fether yr annuwolion, ti a'i gweli.

45 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigoc, fel y lawryf gwyrdd.

36 Er hynny efe a aeth ymmaith, ac wele nid oedd mwy o honaw: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.

37 Ystyr y perffaith ac edrych, ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnnw fydd tangneddyf.

38 Ond y trosedd-wyr a gŷd-ddestrywîr, diwedd yr annuwolion a dorrir ymaith.

39 Ac iechydwriaeth y cyfiawn fydd oddiwrthyr Ar­glwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40 A'r Arglwydd a'i cymmorth hwynt, ac a'i gwared; efe a'i gwared hwynt rhag yr annuwolion, ac a'i ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

DYDD viij.

Boreuol Weddi.
Domine, ne in furore. Psal. xxxviij.

ARglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.

2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof: a'th law yn drom arnaf.

3 Nid oes iechyd yn fy ngnhawd, o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn, oblegit fy mhe­chod.

4 Canys sy nghamweddau a aeth dros fy mhen, megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5 Fy nghleisiau a bydrasant, ac a lygrasant gan fy ynfydrwydd.

6 Crymmwyd a darostyngwyd fi'n ddirfawr: be­unydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffiedd-glwyf, ac nid oes iechyd yn fy ngnhawd.

8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi'n dramawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.

[Page]9 O'th flaen di Arglwydd y mae fy holl ddymuni­ad, ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthit.

10 Fy nghalon sydd yn llammu, fy nerth a'm ga­dawodd, a llewyrch fy llygaid nid yw ychwaith gennif.

11 Fy ngharedigion, a'm cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhlâ, a'm cyfneseifiaid a safent o hirbell.

12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes a osodasant fa­glau, a'r rhai a geisient fy niwed a draethent anŵire­ddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.

13 A minnen fel byddar ni chlywn, eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14 Felly 'r oeddwn fel gŵr ni chlywei, ac heb ar­gyoeddion yn ei enau.

15 O herwydd i'm obeithio ynot Arglwydd, ti Ar­glwydd fy Nuw a wrandewi.

16 Canys dywedais, gwrando fi, rhag llawenychu o honynt i'm herbyn, pan lithrei fy nhroed, ymfaŵry­gent i'm herbyn.

17 Canys parod wyf i gloffi: a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf o herwydd fy mechod.

19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn, amlhâwyd hefyd y rhai a'm cassânt ar gain:

20 A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrth­wynebant: am fy mod yn dilyn daioni.

21 Na âd fi, ô Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthif.

22 Bryssia i'm cymmorth, ô Arglwydd fy iechyd­wriaeth.

Dixi, custodiam. Psal. xxxix.

DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu â'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo 'r an­nuwiol yn fy ngolwg.

2 Tewais yn ddistaw, ie tewais â daioni: a'm do­lur a gyffrôdd.

3 Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra oeddwn yn myfyrio, ennynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.

[Page]4 Arglwydd pâr i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau: fel y gwypwyf o ba oedran y bydd­af fi.

5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd, a'm he­nioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cw­bl wagedd yw pôb dŷn, pan fo ar y goreu.

6 Dŷn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gwyr pwy, a'i casel.

7 Ac yn awr, beth a ddisgwiliaf, ô Arglwydd: fy ngobaith sydd ynot ti.

8 Gwared fi o'm holl gamweddau: ac na osod fi yn wradwydd i'r ynfyd.

9 Aethum yn fûd ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.

10 Tynn dy blâ, oddi-wrthif: gan ddyrnod dy law y darfûm 1.

11 Pan gospit ddŷn â cheryddon am anwiredd, dat­todit fel gŵyfyn ei arderchawgrwydd ef, gwagedd yn ddiau yw pôd dŷn.

12 Gwrando fy ngweddi Arglwydd, a chlyw fy llêf, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithudd ydwyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.

13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned: ac na byddwyf mwy.

Expectans expectavi. Psal. xl.

DIsgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ymostyngodd attaf: ac a glybu fy llefain.

2 Cyfododd fi hefyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.

3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.

4 Gwyn ei fŷd y gŵr a osodo'r Arglŵydd yn ym­ddiried iddo: ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.

5 Lliosog y gwnaethost ti, ô Arglwydd fy Nuw, [Page] dy ryfeddodau, a'th amcanion, tuag attom, ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.

6 Aberth ac offrwm nid eŵyllysiaist, agoraist fy nghlustiau: poeth offrwm a phech­aberth ni's gofyn­naist.

7 Yna y dywedais, wele 'r ydwyf yn dyfod; yn rhol y llyfr yr scrifennwyd am danaf.

8 Da gennif wneuthur dy ewyllys. ô fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.

9 Pregethais gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele, nid atteliais fy ngwefusau, ti Arglwydd a'i gwyddost.

10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy ngha­lon, treuthais dy ffyddlondeb a'th iechydwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd, yn y gynnull­eidfa liosog.

11 Titheu Arglwydd, nac attal dy drugareddau oddi wrthif: cadwed dy drugaredd, a'th wirionedd fi bŷth.

12 Canys drygau anifeiriol a'm cylchynasant o amgylch, fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fy nghalon gennif.

13 Rhynged bodd it Arglwydd fy ngwaredu: bry­ssia Arglwydd i'm cymmorth.

14 Cyd-gywilyddier, a gwradwydder y rhai a gei­siant fy enioes iw difetha; gyrrer yn eu hôl, a chy­wilyddier, y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwradwydd, y rhai a ddywedant wrthif, Ha, ha.

16 Llawenyched, ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant: dyweded â rhai a garant dy iechydwri­aeth bôb amser, mawryger yr Arglwydd.

17 Ond yr wyf fi yn dlawd, ac yn anghenus, etto yr Arglwydd a feddwl am danaf, fy nghym­morth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hir drîg.

Prydnhaw­nol Weddi.
Beatus, qui intelligit. Psal. xli.

GWyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd; yr Ar­glwydd a'i gwared ef yn amser adfyd.

2 Yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i byw­hâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddod titheu ef wrth ewyllys ei elynion.

3 Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf wely: cy­weiri ei holl ŵely ef yn ei glefyd.

4 Mi a ddywedais, Arglŵydd trûgarhâ wrthif: iachâ fy enaid, canys pechais i'th erbyn.

5 Fy ngelynion a lefarent ddrwg am danaf, gan ddywedyd: pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6 Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd, ei galon a gascl atti anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.

7 Fy holl gaseion a gyd-hustyngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychymygant ddrwg i mi.

8 Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.

9 Hefyd y gŵr oedd anwyl gennif, yr hwn yr ymddir­iedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a dderchafodd ei ei sodl i'm herbyn.

10 Eithr ti Arglwydd, trugarhâ wrthif; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.

11 Wrth hyn y gŵn hoffi o honot fi: am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i'm herbyn.

12 Onid am danaf fi, yn fy mherffeithrwydd i'm cynheli; ac i'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.

13 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragywyddoldeb a hyd dragywyddoldeb, Amen, ac Amen.

Quemadmodum. Psal, xlij.

FEl y brefa 'r hŷdd am yr afonydd dyfroedd: felly 'r hiraetha fy enaid am danat ti û Dduw.

[Page]2 Sychedic yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymdangosaf ger bron Duw?

3 Fy nagrau oedd fwyd i'm ddydd a nûs: tra dywe­dant wrthif bûb dydd, pa le y mae dy Dduw?

4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyd â'r gynnulleidfa, cerddwn gyd â hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyr­fa yn cadw gŵyl.

5 Pa ham fy enaid i'th ddarostyngir, ac yr ymder­fysci ynof? gobeithia yn Nuw, oblegit moliannaf ef etto, am iechydwriaeth ei wyneb-pryd.

6 Fy Nuw, fy enaid a ymdarostwng ynof: am hyn­ny y cofiaf di, o dir yr Jorddonen, a'r Hermoniaid, o fryn Missar.

7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bi­stylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriant a aethant trosofi.

8 Etto yr Arglwydd a orchymmyn ei drugaredd liw dŷdd, a'i gân fydd gyda mi liw nûs; sef gweddi ar Dduw fy enioes.

9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, pa ham yr an­ghofiaist fi? ga ham y rhodiaf yn alarus trwy orth­rymder y gelyn?

10 Megis â chledyf yn fy escyrn y mae fy ngwrth­wyneb-wŷr yn fy ngwradwyddo, pan ddywedant wr­thif bûb dydd, pa le y mae dy Dduw.

11 Pa ham i'th ddarostyngir fy enâid? a pha ham y terfyfci ynof? ymddiried yn Nuw, canys etto y mo­liannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

Judica me, Deus. Psal. xliij.

BArn fi û Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y gen­hedlaeth anrhugarog; gwared fi rhag y dŷn twŷ­llodrus, ac anghyfiawn.

2 Canys ti yw Duw fy nerth, pa ham i'm bwri ymaith: pa ham yr âf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?

3 Anfon dy oleuni, a'th wirionedd, tywysant hwy [Page] fi, ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bebyll.

4 Yna 'r af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd, ac mi a'th foliannaf ar y delyn û Dduw, fy Nuw.

5 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, canys etto y mo­liannaf ef, sef iechydwreaeth fy wyneb, a'm Duw.

DYDD ix.

Boreuol Weddi.
Deus auribus. Psal. xliv.

DUW, clywsom â'n clustiau, ein ta­dau dau a fynegasant i ni y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

2 Ti a'th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a'i plennaist hwy­thau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a'i cynnyddaist hwythau.

3 Canys nid a'i cleddyf eu hun y gorescynnasant y tir, nid eu braich a barodd iechydwriaeth iddynt; ei­thr dy ddeheu-law di, a'th fraich, a llewyrch dy wy­neb, o herwydd it eu hoffi hwynt.

4 Ti Dduw yw fy Mrenin: gorchymmyn iechyd­wriaeth i Jacob.

5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.

6 O herwydd nid yn fy mŵa 'r ymddiriedaf: nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.

7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrth­wyneb-wŷr, ac a wradwyddaist ein câseion.

8 Yn Nuw yr ymffrostiwn bûb dydd: ac ni a glod­fûrwn dy enw yn dragywydd.

9 Ond ti a'n bwriaist ni ymmaith, ac a'n gw­radwyddaist, ac nid wyt yn myned allan gyd a'n llu­oedd.

[Page]10 Gwnaethost i ni droi yn ûl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt ei hun.

11 Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ym mysc y cenhedloedd.

12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o'i gwerth hwynt.

13 Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymmydogion, yn watwargerdd, ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.

14 Gosodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhedlo­edd, yn rhai i escwyd pen arnynt ym mysc y bobloedd.

15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd, ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm tûodd.

16 Gan lais y gwarthrudd-wr, a'r cablwr, o her­wydd y gelyn, a'r ymddial-wr.

17 Hyn oll a ddaeth arnom: etto nith anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.

18 Ni thrûdd ein calon yn ei hûl, ac nid aeth ein cer­ddediad allan o'th lwybr di.

19 Er i ti ein cûro yn-nrhigfa dreigiau, a thoi tro­som â chyscod angen.

20 Os angofiasom enw ein Duw: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:

21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.

22 Je er dy fwyn di i'n lleddir beunydd, cyfrifir ni fel defaid iw lladd.

23 Deffro, pa ham y cysci, û Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymmaith yn dragywydd.

24 Pa ham y cuddi dy wyneb, ac yr anghofi ein cy­studd, a'n gorthrymder.

25 Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch: glŷ­nodd ein bol wrth y ddaiar.

16 Cyfod yn gynnorthwy i ni, gwared ni er mwyu dy drugaredd.

Eructavit cor meum. Psal. xlv.

TRaetha fy nghalon beth da, dywedyd yr ydwyf▪ y pethau a wneuthym i'r brenin: fy nhafod sydd bin scrifennudd buan.

2 Tegach ydwyt nâ meibion dynion; tywalltwyd grâs ar dy wefusau, o herwydd hynny i'th fendithiodd Duw yn dragywydd.

3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, â'th ogoniant, a'th harddwch.

4 Ac yn dy harddwch marchog yn llwyddiannus, o herwydd gwirionedd, lledneisrwydd, a chyfiawnder: a'th ddeheu-law a ddysc i ti bethau ofnadwy.

5 Pobl a syrthiant tanat: o herwydd dy saethau llymion yn glynu ynghalon gelynion y brenin.

6 Dy orsedd di ô Dduw, sydd byth, ac yn dragy­wydd: teyrn-wialen uniondeb yw teyrn-wialen dy frenhiniaeth di.

7 Ceraist gyfiawnder, a chasèaist ddrygioni: am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy nâ'th gyfeillion.

8 Arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar dy holl wi­scoedd: allan o'r palâsau Ifori, â'r rhai i'th lawen­hasant.

9 Merched brenhinoedd oedd ym mlith dy bendefi­gesau, safei y frenhines ar dy ddeheu-law mewn aur coeth o Ophir.

10 Gwrando ferch, a gŵêl, a gostwng dy glust: ac angofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dâd.

11 A'r brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di: ymostwng ditheu iddo ef.

12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg, a chy­foethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.

13 Merch y brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gem-waith aur yw ei gwisc hi.

14 Mewn gwaith edyf a nodwydd y dygir hi at y brenin; y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir attat ti.

15 Mewn llawenydd, a gorfoledd y dygir hwynt; deuant i lŷs y brenin.

[Page]16 Dy feibion sydd yn lle dy dadau: y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

17 Paraf gofio dy enw▪ ym-mhob cenhedlaeth, ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth, ac yn dra­gywydd.

Deus noster refugium. Psal. xlvj.

DUw sydd noddfa, a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

2 Am hynny nid ofnwn pe symmudai y ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr:

3 Er rhuo a therfyscu o'i ddyfroedd, er crynu o'r mynydoedd gan ei ymchwydd ef.

4 Y mae afon, a'i ffrydiau a lawenhânt ddinas Dduw; cyssegr presswylfeydd y Goruchaf.

5 Duw sydd yn ei chanol, nid yscog hi: Duw a'i cynnorthŵya yn foreu iawn.

6 Y Cenhedloedd a derfyscasant, y teyrnasoedd a ys­cogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaiar.

7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Jacob yn aniddiffynfa i ni.

8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd: pa anghyfannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaiar.

9 Gwna i ryfelodd beidio hyd eithaf y ddaiar, efe a ddryllia 'r bwa, ac a dyrr y waywffon, efe a lysc y cer­bydau a thân.

10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: derchefir fi ymmysc y cennedloedd, derchefir fi ar y ddaiar.

11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: amddiff­ynfa i ni yw Duw Jacob.

Prydnhaw­nol Weddi.
Omnes gentes, plaudite, Psal. xlvij.

YR holl bobl curwch ddwylo: llafar genwch i Dduw, â llef gorfoledd.

2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy: brenin mawr ar yr holl ddaiar.

3 Efe a ddwg y bobl tanom ni: a'r cen­hedloedd tan ein traed.

4 Efe a ddethol ein etifeddiaeth i ni, ardder chawg­rwydd Jacob yr hwn a hoffodd efe.

5 Derchafodd Duw â llawen-floedd, yr Argl­wydd â sain udcorn.

6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.

7 Canys Brenin yr holl ddaiar yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.

8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orsedd-faingc ei sancteiddrwydd.

9 Pendefigion y bobl a ymgasclâsant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tariannau y ddaiar ydynt eiddo Duw; dirfawr y derchafwyd ef.

Magnus Dominus. Psal. xlviij.

MAwr yw 'r Arglwydd, a thra moliannus yn ni­nas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd.

2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaiar yw my­nydd Sion yn ystlysau y gogledd! dinas y Brenin mawr.

3 Duw yn ei phalâsau, a adwaenir yn amddeffyn­fa.

4 Canys wele. y brenhinoedd a ymgynnullasant: aethant heibio ynghyd.

Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant: brawycha­sant, ac aethant ymmaith ar ffrŵst.

6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur megis gwraig yn escor.

[Page]7 A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a'i siccrhâ hi yn dragywydd.

9 Meddyliasom ô Dduw, am dy drugaredd, yngha­nol dy Deml.

10 Megis y mae dy enw ô Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tîr: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheu-law.

11 Llawenyched mynydd Sion: ac ymhyfryded merched Juda, o herwydd dy farnedigaethau.

12▪ Amgylchwch Sion, ac ewch o'i hamgylh hi, rhifwch ei thyrau hi.

13 Ystyriwch ei rhagfurian, edrychwch ar ei pha­lâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl.

14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.

Audite hæc, omnes. Psal. xlix.

CLywch hyn yr holl bobloedd, gwrandewch hyn holl drigolion y bŷd.

2 Yn gystal gwrêng a bonheddig, cyfoethog a thla­wdynghyd.

3 Fy ngenau a draetha ddoethineb: a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4 Gostyngaf fy nghlust at ddihareb, fy nammeg a ddatguddiaf gid a'r delyn.

5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, pan i'm ham­gylchyno anwiredd fy sodlau?

6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrosti­ant yn lliosogrwydd eu cyfoeth.

7 Gan waredu ni wared neb ei frawd: ac ni all efe roddi iawn trosto i Dduw:

8 (Canys gwerth-fawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth.)

9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth

10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunyd y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.

[Page]11 Eu meddwl yw y pery eu tai yn dragywydd, a'i trigfeydd hyd genhedlaeth a cenhedlaeth; hen­want ei tiroedd ar eu henwau eu hunain.

12 Er hynny dŷn mewn anrhyddd nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

13 Eu ffordd ymma yw en ynfydrwydd: etto eu hi­liogaeth ydynt fodlon iw hymadrodd.

14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern, angeu a ymborth arnynt, a'r rhai cyfiawn a lywodraetha ar­nynt y boreu: a'i tegwch a dderfydd yn y bedd o'i car­tref.

15 Etto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a'm derbyn i.

16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan chwanego gogoniant ei dŷ ef.

17 Canys wrth farw ni ddŵg efe ddim ymaith, ac ni ddescyn ei ogoniant ar ei ôl ef.

18 Er iddo yn ei fywydd fendithi ei o enaid: can-mo­lant ditheu o byddi da wrthit dy hun.

19 Efe â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant ole­uni byth.

20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gy­ffelyd i anifeiliad a ddifethir.

DYDD x.

Boreuol Weddi.
Deus deorum. Psal. l.

DUW y duwiau, sef yr Arglwydd a lefarodd, ac a alwodd y ddaiar, o go­diad haul hyd ei fachludiad.

2 Allan o Sion perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.

3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw, tân a yssa oi flaen ef, a them­hestl ddirfawr sydd o'i amgylch.

4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod: ac ar y ddaiar, i farnu ei bobl.

[Page]5 Cesclwch fy sainct yughŷd attafi, y rhai a wnae­thant gyfammod â mi trwy aberth.

6 A'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, canys Duw ei hun sydd farn-wr.

7 Clywch fy mhobl, a mi a lefaraf, ô Israel a mi a dystiolaethaf i'th erbyn: Duw sef dy Dduw di yd­wyf fi.

8 Nid am dy aberthau i'th geryddaf, na'th boeth offrymmau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad

9 Ni chymmeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.

10 Canys holl fwyst-filod y coed ydynt eiddo fi a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.

11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt ani­feiliaid y maes vdynt eiddo fi.

12 Os bydd newyn arnaf ni ddywedaf i ti: canys y bŷd â'i gyflawnder, sydd eiddo fi.

13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed by­chod?

14 Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau.

15 A galw arnafi yn nydd trallod; mi a'th ware­daf a thi a'w gogoneddi▪

16 Ond wrth yr anuuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynnegeth ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau?

17 Gan dy fod yn cassâu addysc, ac yn taflu fy ngei­riau i'th ôl.

18 Pan welaist leidr, cyttunaist ag ef: a'th gyfran oedd gyd âr godineb-wŷr.

19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a'th dafod a gyd­bletha ddichell.

20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rho­ddaist enllib i fab dy fam.

21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais; tybiaist di­theu fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argy­oeddaf, ac a'i trefnaf o flaen dy lygaid.

22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gware­dudd.

[Page]23 Yr hwn a abertho foliant, a'm gogonedda i: a'r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iechyd­wriaeth Duw.

Miserere mei, Deus. Psal. li.

TRugarhâ wrthif o Dduw yn ol dy drugarogrw­ydd; yn ôl lliaws dy dosturiaethau delêa fy anwi­reddau.

2 Golch fi yn llwyr-ddwys oddi-wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.

3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthuni y drwg hyn yn dy olwg: fel i'th gyfi­awnhâer pan leferych, ac y byddit bûr pan farnech.

5 Wele, mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.

6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doethineb yn y dirgel.

7 Glanhâ fi ag Yssop, ac mi a lanhêir: golch fi, a by­ddaf wynnach nâ'r eira,

8 Pâr i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.

9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau: a di­lea fy holl anwireddau.

10 Crêa galon lân ynof ô Dduw; ac adnewydda yspryd uniawn o'm mewn.

11 Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.

12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.

13 Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechadu­riaid a droir attat.

14 Gwared fi oddi wrth waed ô Dduw, Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15 Arglwydd agor fy ngwefusau, a'm genau a fy­nega dy foliant.

[Page]16 Canys ni chwennychi aberth, pe amgen mi a'i rhoddwn; poeth offrwm ni fynni.

17 Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic, ô Dduw, ni ddirmygi.

18 Gŵna ddaioni, yn dy ewyllyscarwch, i Sion: a­deiliada furiau Jerusalem.

19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder i boeth offrwm, ac aberth llosc, yna'r offrymmant fustych ar dy allor.

Quid gloriaris? Psal. lij.

PA ham yr ymffrosti mewn drygioni, ô gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhâu yn wastadol.

2 Dy dafod a ddychymmyg scelerder: fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.

3 Hoffaist ddrygioni yn fwy nâ daioni: a chelwydd, yn fwy nâ thraethu cyfiawnder.

4 Hoffaist bob geiriau destryw, ô dafod twyllo­drus.

5 Duw a'th ddestrywia ditheu yn dragywydd, efe a'th gipia di ymaith, ac a'th dynn allan o'th babell: ac a'th ddiwreiddia o dir y rhai byw.

6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

7 Wele'r gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo: eithr ymddiriedodd yn lliosogrwydd ei olud, ac a ym­nerthodd yn ei ddrygioni.

8 Ond myfi sydd fel oliwydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth, ac yn dragywydd.

9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneu­thur hyn: a disgwiliaf wrth dy enw, canys da yw ger bron dy sainct.

Prydnhaw­nol Weddi.
Dixit insipiens. Psal. liij.

DYwedodd yr ynfyd yn ei galon nid oes un Duw: ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd, nid oes un yn gwneuthur dai­oni.

2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dy­nion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.

3 Ciliasei pob un o honynt yn wysc ei gefn, cyd-ym­ddifwynasent, nid oes a wnel ddaioni, nac oes un.

4 Oni ŵyr gweithred-wŷr anwiredd, y rhai sydd yn bwytta fy mhobl fel y bwytaent fara, ni alwâsant ar Dduw.

5 Yna'r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wascarodd escyrn yr hwn a'th warchaeodd, gwradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy.

6 Oh na roddid iechydwriaeth i Israel o Sion: pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.

Deus, in nomine. Psal. liv.

AChub fi ô Dduw, yn dy enw: a barn fi yn dy ga­dernid.

2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.

3 Canys diethriaid a gyfodasant i'm herbyn: a'r trawsion a geisiant fy enaid ni osodasant Dduw o'i blaen.

4 Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo: yr Ar­glwydd sydd ym mysc y rhai a gynhaliant fy enaid.

5 Efe a dâl ddrwg i'm gelynion: torr hwynt ym­maith yn dy wirionedd.

6 Aberthaf it yn ewyllyscar: clodforaf dy enw, ô Arglwydd, canys da yw.

[Page]7 Canys efe a'm gwaredodd o bob trallod, a'm lly­gad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.

Exaudi, Deus Psal. lv.

GWrando fy ngweddi ô Dduw, ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.

2 Gwrando arnaf ac erglyw fi, cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan.

3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol, o herwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasâu yn llidioc.

4 Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angeu a syrthiodd arnaf.

5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf: a dychryu a'm gorchguddiodd.

6 A dywedais, o na bai i mi adenydd fel colommen yna 'r ehedwn ymmaith, ac y gorphy wyswn.

7 Wele crwydrwn ym mhell, ac arhoswn yn yr anialwch.

8 Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystormus, a'r demhestl.

9 Dinistriâ ô Arglwydd, a gwahan eu tafo­dau; canys gwelais drawsder a chynnen yn y ddi­nas.

10 Dydd a nôs yr amgylchant hi ar ei muriau, ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi, ac ni chilia twyll a dichell o'i heolyd hi.

12 Canys nid gelyn a'm difenwodd, yna y diodde­faswn: nid fy nghas-ddyn a ymfawrygodd i'm her­byn, yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef.

13 Eithr tydi ddyn, fy nghyd-radd, fy fforddwr, a'm cydnabod.

14 Y rhai oedd felys gennym gyd gyfrinachu: ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghŷd.

15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a descynnant i uffern yn fyw; canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

[Page]16 Myfi a waeddaf ar Dduw, a'r Arglwydd a'm hachub i.

17 Hwyr a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a by­ddaf daer: ac efe a glyw fy lloferydd.

18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyd â mi.

19 Duw a glyw, ac a'i darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed, am nad oes gyfne widiau iddynt am hynny nid ofnant Dduw.

20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd hedd­ychlon ag ef, efe a dorrodd ei gyfammod.

21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyu, a rhyfel yn ei galon; tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a'ch gyn­nal di; ni âd i'r cyfiawn yscogi byth.

23 Titheu Dduw, a'i descynni hwynt i bydew din­ystr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau, onid myfi a obeithiaf ynot ti.

DYDD xi.

Boreuol Weddi.
Miserere mei, Deus. Psal. lvj.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, canys dŷn a'm llyngei: beunydd gan ymladd, i'm gorthrymma.

2 Beunydd i'm llyngcei fy ngely­nion, canys llawer sydd yn rhyfela i'm herbyn, ô Dduw goruchaf.

3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddi­riedaf ynot ti.

4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithi­af, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5 Beunydd y cam-gymmerant fy ngeiriau; eu holl feddyliau sydd i'm herbyn er drwg.

6 Hwy a ymgasclant, a lechant, ac a wiliant fy nghamrau, pan ddisgwiliant am fy enaid.

[Page]7 A ddiangant hwy drwy anwiredd? discyn y bobl­oedd hyn ô Dduw yn dy lidiaŵgrwydd.

8 Ti a gyfrifaist fy symmudiadau, dod fy nagreu yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?

9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngel­ynion yn eu gwrthol; hyn a wn, am fod Duw gyd â mi.

10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.

11 Yn Nuw 'r ymddiriedais; nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12 Arnafi ô Dduw y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

13 Canys gwaredâist fy enaid rhag angeu; oni waredi fy nhraed rhag syrthio? fel rhodiwyf ger bron Duw yngoleuni y rhai byw.

Miserere mei, Deus. Psal. lvij.

TRugarhâ wrthifô Dduw, trugarhâ wrthif, ca­nys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie ynghyscod dy adenydd y gobeithaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn heibio.

2 Galwaf ar Dduw goruchaf, ar Dduw a gwplâ â mi.

3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a'm gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a'm llyngcei, denfyn Duw ei dru­garedd, a'i wirionedd.

4 Fy enaid sydd ym mysc llewod, gorwedd yr wyf ym mysc dynion poethion: sef meibion dynion y rhai y mae ei dannedd yn wayw-ffyn a saethau, a'i tafod yn gleddyf llym.

5 Ymddercha Dduw uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6 Darparasant rwyd i'm traed, crymmwyd fy enaid, cloddiasant bydew o'm blaen, syrthiasant yn ei ganol.

7 Parod yw fy nghalon o Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chan-molaf.

8 Deffro fy ngogoniant, deffro Nabl a thelyn; de­ffroaf yn foreu.

[Page]9 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloed; can molaf di ym mysc y cenhedloedd.

10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

11 Ymddercha Dduw uwch y nefoedd: bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

Si vere utique Psal. lviij.

AI cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, gyn­nulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, ô feibion dynion?

2 Anwiredd yn hyttrach a weithredwch yn y ga­lon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaiar.

3 Or groth yr ymddieithrodd y rhai annuwiol; o'r brû y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.

4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarph: y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau.

5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhin-wŷr, er cyfar­wydded fyddo 'r swyn-wr.

6 Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu geneuau: torr ô Arglwydd, gil-ddannedd y llewod ieuaingc.

7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad; pan saetho ei saethau, byddant megis wedi eu torri.

8 Aed ymmaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig: fel na welont yr haul.

9 Cyn i'ch crochanau glywed y mieri, efe a'i cym­mer hwynt ymaith megis a chorwynt; yn fyw, ac yn ei ddigofaint.

10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol.

11 Fel y dywedo dŷn, di au fod ffrwyth i'r cyfiawn; diau fod Duw a farna ar y ddaiar.

Prydnhaw­nol Weddi.
Eripe me de inimicis. Psal. lix.

FY Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ynigyfo­dant i'm herbyn.

2 Gwared fi oddi wrth weithred-wŷr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwa­edlyd.

3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid, ymgasclodd cedyrn im herbyn: nid ar fy mai na'm pe­chod i, ô Arglwydd.

4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynofi: deffro ditheu i'm cymmorth, ac edrych.

5 A thi Arglwydd Dduw'r lluoedd, Duw Israel, deffro i ym weled â'r holl genhedloedd: na thrugarhâ wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus.

6 Dychwelant gyd â'r hŵyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

7 Wele, bytheiriant â'i genau, cleddyfau sydd yn eu gŵefusau: canys pŵy, meddant a glyw?

8 Ond tydi ô Arglwydd, a'i gwatweri hwynt, ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9 O herwydd ei nerth ef, y disgwiliaf wrthit ti: canys Duw yw fy amddeffynfa.

10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wnâ i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.

11 Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwas­car hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, o Argl­wydd ein tarian.

12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefu­sau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felldith, a'r celwydd a draethant.

13 Difa hwynt yn dy lîd, difa, fel na byddont: a gŵybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Ja­cob; hyd eithafoedd y ddaiar.

14 A dychwelant gyd â'r hwyr a chyfarthant fel cŵn ac amgylchant y ddinas.

[Page]15 Crywdrant am fwyd, ac onis digonir, grwgna­chant.

16 Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar ganaf am dy drugaredd yn foreu: canys buostyn amddeffyn­fa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

17 I ti fy nerth y canaf: canys Duw yw fy am­ddeffynfa, a Duw fy nrhugaredd.

Deus, repulisti nos. Psal. lx.

O Dduw bwriaist ni ymmaith, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom drachefn.

2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: ia­châ ei briwiau, canys y mae yn crynu.

3 Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.

4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w dercha­fu o herwydd y gwirionedd.

5 Fel y gwareder dy rhai anwyl: achub â'th dde­heu-law, a gwrando fi.

6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, llaweny­chaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasseth: Ephra­im hefyd yw nerth fy mhen, Juda yw fy neddf-wr.

8 Moab yw fy nghrochan golchi: tros▪ Edom y bwriaf fy escid, Philistia, ymorfoledda di o'm plegidi.

9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm har­wain hyd yn Edom?

10 Onid tydi, Dduw, 'r hwn a'n bwriaist ymmaith? a thydi, ô Dduw, yr hwn nid eit allan gyd â'n lluoedd?

11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dŷn.

12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein gelynion.

Exaudi, Deus. Psal. lxi.

CLyw ô Dduw, fy llefain, gwrando ar fy ngwe­ddi.

2 O eithaf y ddaiar y llefaf attat, pan lesmeirio fy [Page] nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.

3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yu dŵr cadarn rhag y gelyn.

4 Presswyliaf yn dy babell byth: am ymddiried fydd dan orchudd dy adenydd.

5 Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rho­ddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnaut dy enw.

6 Ti a estynni oes y brenin, ei flynyddoedd fyddant fel cenhedlaethau lawer.

7 Efe a erys byth ger bron Duw: darpar dru­garedd a gwirionedd, fel y cadwont ef.

8 Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: fel y talwyf fy addunedau beunydd.

DYDD xii.

Boreuol Weddi.
Nonne Deo. Psal. lxij.

WRth Dduw yn unic y disgwil fy en­aid; o honaw ef y daw fy iechyd­wriaeth.

2 Efe yn unic yw fy nghraig, a'm heichydwriaeth: a'm hamddiffyn; ni'm mawr yscogir.

3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll, a byddwch fel mag­wyr ogwyddedic, neu bareded ar ei ogwydd.

4 Ymgynghorasant yn unic iw fwrw ef i lawr o'i fawredd, hoffasant gelwydd; â'i geneuau y bendithi­ant, ond o'i mewn y melldithiant.

5 Oh fy enaid, disgwil wrth Dduw yn unic: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.

6 Efe yn unic yw fy nghraig a'm hiechydwriaeth: efe yw fy amddefynfa, ni'm hyscogir.

7 Yn Nuw y mae fy iechydwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a'm noddfa sydd yn Nuw.

8 Gobeithiwch ynddo efbob amser, ô bobl, tywell­twch eich calon ger ei fron ef: Duw, sydd noddfa i ni.

[Page]9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudab yw meibion gwŷr: iwgosod yn y clorian, yscafnach ydynt'hwy nâ gwegi.

10 Nac ymddiriedwch mewn trawsder, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynnydda golud, na rodd­wch eich calon arno.

11 Un-waith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw yw cadernid.

12 Trugaredd hefyd sydd eiddo tiô Arglwydd: ca­nys ty a deli i bob dŷn yn ôl ei weithred.

Deus, Deus meus. Psal. lxiij.

TI ô Dduw, yw fy Nuwi, yn foreu i'th geisiaf; sychedodd fy enaid am danat, hiraethodd fy ngn­hawd am danat, mewn tîr cras a sychedic heb ddwfr.

2 I weled dy nerth a'th ogoniant: fel i'th welais yn y Cyssegr.

3 Canys gwell yŵ dy drugaredd di nâ'r bywyd, fy ngwefusau a'th foliannant.

4 Fel hyn i'th glodforaf yn fy mywyd, derchafaf fy nwylo yn dy enw.

5 Megis â mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:

6 Pan i'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf am da­nat y ngwiliaidwriaethau y nos.

7 Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny ynghy­scod dy adenydd y gorfoleddaf.

8 Fy enaid a lŷn wrthit, dy ddeheu-law a'm cyn­hal.

9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânti isseldêran y ddaiar.

10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fy­ddant.

11 Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef; eithr ceuir genau y rhai a ddy­wedant gelwydd.

Exudi Deus. Psal. lxiv.

CLyw fy llef ô Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy e­nioes rhag ofn y gelyn.

2 Câdd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus, rhag terfysc gweithred-wŷr anwiredd.

3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydi­anl eu saethau, sef geiriau chwermon.

4 I saeuthu'r perffaith yn ddirgel, yn ddisym­mwth y saethant ef, ac nid ofnant.

4 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwed­leuant am osod maglau yn ddirgel: dywedant, pwy a'i gwêl hwynt?

6 Chwiliant allan anwireddau, gorphennant ddy­fal chwilio: cendod a chalon pôb un o honynt sydd ddofn.

7 Eithr Duw a'i saetha hwynt: â saeth ddisym­mwth yr archollir hwynt.

8 Felly hwy a wnânt iw tafodau eu hun syrthio aynynt: pob un a'i gwello a gilia.

9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: ca­nys doeth-ystyriant ei waith ef.

10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo: a'r rhai uniawn o galon oll a orfole­ddant.

Prydnhaw­nol Weddi.
Te decet hymnus. Psal. lxv.

MAwl a'th erys di yn Sion o Dduw: ac i ti y telir yr adduned.

2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pob cnawd.

3 Pethau anwir a'm gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a'i glânhei.

4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech ac a nessâech [Page] attat, fel y trigo yn dy gynteddoedd; ni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy Deml sanctaidd.

5 Attebi i ni trwy bethau ofnadwy. yn dy gyfia­wnder o Dduw ein iechydwriaeth: gobaith holl gyr­rau y ddaiar, a'r rhai sydd bell ar y mor.

6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd drwy ei nerth, ac a wregyssir a chadernid.

7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf, eu ton­nau, a therfysc y bobloedd.

8 A phresswyl-wŷr eithafoedd y bŷd a ofnant dy ar­wyddion; gwnei i der fyd boren a hwyr lawenychu.

9 Yr wyt yn ym weled â'r ddaiar ac yn ei dwfrhâu hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn para­toi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.

10 Gan ddwfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhy­chau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn ben­dithio ei chnwdhi.

11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn a'th ddaioni a'th lwybrau a ddiferant fraster.

12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwregyfant â hyfrydwch.

13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchguddir ag ŷd, am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Jubilate Deo. Psal. lxvj.

LLawn-floeddiwch i Dduw, yr holl ddaiar.

2 Dadcenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd▪ o herwydd maint dy nerth, y cymmer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedic i ti.

4 Yr holl ddaiar a'th addolant di, ac a ganant i ti, ie canant i'th enw.

5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnad­wy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynion.

6 Trôdd efe y mor yn sych-dir; aethant drwy 'r a­fon ar draed; yna y llawenychasom ynddo.

7 Efe a lywodraetha drwy ei gadernid byth, ei ly­gaid [Page] a edrychant ar y cenhedldedd, nac ymderchafed y rhai anufydd.

8 Oh bobloedd, bendithiwch ein Duw; a pherwch glywed llais ei fawl ef.

9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.

10 Canys profaist ni ô Dduw, coethaist ni fel coethi arian.

11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.

12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau, aethoin drwy yr tân, a'r dwfr, a thi a'n dygaist allan i le diwall.

13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau.

14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywe­dodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15 Offrymmaf it boeth offrymmau breision, yng­hyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ychen, a by­chod.

16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17 Llefais aron â'm genau, ac efe a dderchafwyd a'm tafod.

18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsei 'r Arglwydd.

19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.

20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthif in­neu.

Deus misereatur. Psal. lxvij.

DUw a drugarhâo wrthym, ac a'n bendithio, a thy­wynned ei wyneb arnom.

2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechyd­wriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.

3 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

[Page]4 Llawenhâed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ac y ddaiar.

5 Molianned y bobl di. ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

6 Yna 'r ddaiâr arrŷdd ei ffrwyth: a Duw, sef ein Duw ni a'r bendithia.

7 Duw a'n bendithia, a holl derfynan 'r ddaiar a'i hofnant ef.

DYDD xiii.

Boreuol Weddi.
Exurgat Deus Psal. lxviij.

CYfoded Duw; gwascarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o'i flaen ef.

2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg fel y tawdd cŵyr wrth y tân dife­ther y rhai annuwiol o flaen Duw.

3 Ond llawenycher y rhai cyfi­awn, a gorfoleddant ger bron Duw: a hyddant hyfrydo lawenydd.

4 Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw derchef­wch yrhwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a'i enw yn JAH: a gorfoleddwch ger ei fron ef.

5 Tâd yr ymddifaid, a barn-wr y gweddwon yw Duw, yn ei bresswylfa sanctaidd.

6 Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynau, ond y y rhai cyndyn a breswyliant gras-dir.

7 Pan aethost ô Dduw, o flaen dy bobl: pan ger­ddaist trwy yr anialwch;

8 Y ddaiar a grynodd a'r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntef a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.

9 Dihidlaist law graslawn ô Dduw, ar dy etifeddi­aeth: ti a'i gwrreithiaist wedi ei blino.

10 Dy gynnulleidfa di syddyn trigo ynddi: yn dy ddaioni ô Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.

[Page]11 Yr Arglwydd a roddes y gair, mawr oedd min­tai y rhai a'i pregethent.

12 Brenhinoedd byddinoc a ffoesant ar ffrwst: a'r hon a drigodd yn tŷ a rannodd yr yspail.

13 Er gorwedd o honoch ymmysc y crdchanau, vydd­wch fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.

14 pan wascarodd yr Holl-alluog frenhinoedd yn­ddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.

15 Mynydd Duw syddd fel mynydd Basan, yn fy­nydd cribog fel mynydd Basan.

16 Pa ham yllemmwch chwi fynyddoedd cribog? dymma'r mynydd a chwennychodd Duw ei bresswylio, ie presswylia 'r Arglwydd ynddo byth.

17 Cerbydau Duw ydynt ugain mîl, sef miloedd o Angelion: yr Arglwydd sydd yn eu plith megis yn Sinai yn y Cyssegr.

18 Derchefaist i'r uchelder, caeth-gludaist gaethi­wed, derbyniaist roddion i ddynion ie: i'r rhai cyndyn hefyd, fel y presswyliai'r Arglwydd Dduw yn eu plith.

19 Bendigedig fyddo 'r Arglwydd, yr hwn a'n llwytha beunydd a daioni: sef Duw ein iechydwriaeth.

20 Ein Duw ni sydd Dduw iechydwriaeth: ac i'r Arglwydd. Dduw y perthyn diangfâu rhag marwo­laeth.

21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a cho­ppa walltoc yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamwedd­au.

22 Dywedodd yr Arglwydd, dygaf, fy mhobl dra­chefn o Basan; dygaf hwynt drachefn y ddyfnder y môr.

23 Fel y trocher dy droed yngwaed dy elynion, a tha­fod dy gŵn yn yr un-rhyw.

24 Gwelsant dy fynediad ô Dduw, mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cyssegr.

25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl: yn eu mysg yr oedd y llangcesau yn canu tym­panau.

26 Bendithiwch Dduw yn y cynnulleidfâodd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.

[Page]27 Yno y mae Beniamin fychan a'u llywydd, tywy­sogion Juda a'u cynnulleidfa: tywysogion Zabulon, a thywysogion Nephrali.

28 Ḍy Dduw a orchymmynnodd dy nerth: cadarn­hâ ô Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.

29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg, er mwyn dy Deml yn Jerusalem.

30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynnulleidfa y gwrdd-deirw, gydâ lloi y bobl, fel y delont yn ostyn­gedic â darnau arian: gwascar y bobl sy dda gandd­ynt ryfel.

31 Pendefigion a ddeuant o'r Aipht, Ethiopia a est­yn ei dwylo 'n bryssur at Dduw.

32 Teyrnasoedd y ddaiar, cênwch i Dduw, can­molwch yr Arglwydd.

33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: ŵele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef ner­thol.

34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.

35 Ofnadwy wyt ô Dduw o'th gyssegr; Duw Is­rael yw efe, sydd yn rhoddi nerth, a chadernid i'r bobl; bendigedic fyddo Duw.

Prydnhaw­nol Weddi.
Salvum me fac. Psal. lxix.

AChub fi ô Dduw, canys y dyfroedd a ddaeth­ant i mewn hyd at fy enaid.

2 Soddais mewn tom dyfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a'r ffrwd a lifodd trosof.

3 Blinais yn llefain, sychodd fy nghêg; pallodd fy llygaid; tra ydwyf yn disgwil wrth fy Nuw.

4 Amlach nâ gwallt fy mhen yw y rhai a'm ca­sant heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a'm difethent: yna o telais yr hyn ni chymme­rais.

[Page]5 O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid yw fy nghamweddau guddiedic rhagot.

6 Na chywilyddier o'm plegit, y rhai a obeithi­ant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na wradwy­dder o'm plegit i, y rhai a'th geisiant ti, ô Dduw Is­rael.

7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd: ac y tôdd cywilydd fy wyneb.

8 Euthym yn ddieithr i'm brodyr ac fel estron gan blant fy mam,

9 Canys Zêl dy dŷ a'm hyssodd, a gwradwyddiad y rhai a'th wradwyddent di a syrthiodd arnafi.

10 Pan wylais gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn wradwydd i mi.

11 Gwiscais hefyd sach-liain, ac euthym yu ddiha­reb iddynt.

12 Yn fy erbyn y chwedleuei y rhai a eisteddent yn y porth; ac i'r meddwon yr oeddwn yn wawd.

13 Dod myfi, fy ngweddi sydd attat ti ô Arglwydd, mewn amser cymmeradwy: ô Dduw, yn lliosogrwydd dy drugaredd, gwrando fi, y ngwirionedd dy iechydwr­iaeth.

14 Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf, gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion:

15 Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaued y pydew ychwaith ei safn ar­naf.

16 Clyw fi Arglwydd, canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.

17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was, ca­nys y mae cyfyngder arnaf, bryssia, gwrando fi.

18 Nesâ at fy enaid; a gwared ef; achub fi o her­wydd fy ngelynion.

19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a'm cywi­lydd, a'm gwradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon, yr ydwyf mewn gofid: a disgwililiais am rai i dosturio wrthif,, ac nid oedd neb; ac am gyssur-wyr, ac ni chefais neb.

[Page]21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm dio­dasant yn fy syched â finegr.

22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'i llwy­ddiant yn dramgwydd.

23 Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw lwynau grynu bob amser.

24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidi­awgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll.

26 Canys erlidiasant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.

27 Dôd ti anŵiredd at eu hanwiredd hwynt, ac na ddelont i'th gyfiawnder di.

28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw: ac na scrifenner hwynt gyd a'r rhai cyfiawn.

29 Minau. truan a gofidus ydwyf: dy iechydwri­aeth di ô Dduw, am derchafo.

30 Molianaf enw Duw ar gân. a mawrygaf ef mewn niawl.

31 A hyn fydd gwell gan yr Arglwydd nag ŷch, neu fustach corniog, carnol.

32 Y trueniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau. y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.

33 Canys gwrendy'r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.

34 Nefoedd, a daiar, y mor a'r hyn oll a ymlusco ynddo, molant ef.

35 Canys Duw a achub Sion, ac a adeilaida ddi­nasoedd Juda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.

36 A hiliogaeth ei weision a'i meddiannant hi: â'r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

Deus in adjutorium. Psal. lxx.

ODduw pryssura, i'm gwaredu; bryssia Argl­wydd i'm cymmorth.

2 Cywilyddier a gwarthruddier y rhai a geisiant [Page] fy enaid: troer yn eu hôl, a gwradwydder y rhai a ewyllysiânt ddrwg i mi.

3 Dattroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a a ddywedant ha, ha.

4 Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a'th geisiant, a dyweded y rhai a garant, dy iechyd­wriaeth yn wastad, mawryger Duw.

5 Minneu ydwyf dlawd ac anghenus, ô Dduw bryssia attaf fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti ô Arglwydd, na hîr drig.

DYDD xiv

Boreuol Weddi.
In te, Domine, speravi. Psal. lxxi.

YNot ti ô Arglwydd, y gobeithiais, na'm cywilyddier byth.

2 Achub fi, a gwared fi yn dy gy­fiawnder: gostwng dy glust attaf, ac achub fi.

3 Bydd i mi'n drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchym­mynnaist fy achub, canys ti yw fy nghraig a'm ham­ddiffynfa.

4 Gwared fi ô fy Nuw, o law'r annuwiol, o law yr anghyfion, a'r traws.

5 Canys ti yw fy ngobaith, o Arglwydd Dduw, fy ymddiried o'm ieuenctid.

6 Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o groth fy mam: fy mawl sydd yn wastad am da­uat ti.

7 Oeddwn i lawer megis yn cyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

8 Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoni­ant beunydd.

9 Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wr­thot fi pan ballo fy nerth.

10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm her­byn, [Page] a'r rhai a ddisgwiliant am fy enaid, a gyd-ym­gynghorant.

11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, erli­diwch, a deliwch ef: canys nid oes gwaredudd.

12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthif fy Nuw, bryssia im cymmorth.

13 Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid, â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg imi.

14 Minneu a obeithiaf yn wastad, ac a'th folian­naf di fwy-fwy.

15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder, a'th iechy­dwriaeth beunydd: canys ni wn rifedi arnynt.

16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn unic a gofiaf fi.

17 O'm ieuenctid i'm dyscaist o Dduw, hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18 Na wrthod fi ychwaith, o Dduw, mewn henaint, a phen-llwydni: hyd oni fynegwyf, dy nerth i'r gen­hedlaeth hon, â'th gadernid i bob un a ddelo.

19 Dy gyfiawnder hefyd o Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion; pwy, o Dduw, sydd debyg i ti?

20 Ti yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddian, am bywhei drachefn, ac a'm cyfodi dra­chefn, o orddyfnder y ddaiar.

21 Amlhei fy mawredd, ac a'm cyssuri oddi amgy­lch.

22 Minneu a'th folianaf ar offeryn nabl, sef dy wi­rionedd, o fy Nuw: canaf it â'r delyn, o Sanct Is­rael.

23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a'm henaid, yr hwn a waredaist.

24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beu­nydd, o herwydd cywilyddiwyd, a gwradwyddwyd y y rhai a geisiant niwed i mi.

Deus, Judicium. Psal. lxxij.

ODduw. dôd i'r brenhin dy farnedigaethau: ac i fab y brenin dy gyfiawnder.

2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder i a'th dru­einiaid â barn.

3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.

4 Efe afarn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus ac a ddryllia y gorthrymmudd.

5 Tra fyddo haul a lleuad i'th ofnant, yn oes oes­oedd.

6 Efe a ddescyn fel glaw ar gnû gwlâd, fel cawo­dydd yu dyfrhau y ddaiar.

7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, amlder o heddwch fydd, tra fyddo lleuad.

8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaiar.

9 O'i flaen ef yr ymgrynima trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llwch.

10 Brenhinoedd Larsis, a'r ynysoedd, a dalant an­rheg; bernhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.

11 Je 'r holl frenhinodd a ymgrymmant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.

12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynnorthwy-wr iddo.

13 Efe a arbed y tlawd a'r rheidus: ac a achub eneidiau y rhai anghenus

14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll, a thr­awsder: gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Se­ba: gweddiant, hefyd trosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.

16 Bydd dyrned o ŷd ar y ddaiar, ym mhen y my­nyddoedd; ei ffrwyth a escwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant, fel gwellt y ddaiar.

17 Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a berry tra [Page] fyddo haul: ac ymfendithiant ynddo: yr holl gen­hedloedd a'i galwant yn wynfydedig.

18 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd Dduw, Duw Israel; yr hwn yn unic sydd yn gwneuthur rhyfedd­odau.

19 Bendigedic hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd: a'r holl ddaiar a lanwer o'i ogoni­ant, Amen, ac Amen.

Prydnhaw­nol Weddi.
Quam bonus Israel, Psal. lxxiij.

YN ddiau da yw Duw i Israel; sef i'r rhai glân o galon.

2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhr­aed, prin na thrippiodd fy ngherddediad.

3 Canys cenfigennais wrth y rhai yn­fyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth, a'i cryfder sydd heini.

5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialddir arnynt hwy gyd â dynion eraill.

6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisc trawsder am danynt fel dilledyn.

7 Eu llygaid a saif allan gan frasder: aethant tros feddwl calon o gyfoeth.

8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygion­us am drawsder, yn dywedyd yn uchel.

9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd; a'i ta­fod â gerdd trwy 'r ddaiar.

10 Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwe­scir iddynt ddwfr phiol lawn.

11 Dywedant hefyd; pa fodd y gwyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12 Wele, dymma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn ŷ bŷd: ac a amlhasant olud.

[Page]13 Diau mai yn ofer y glanhêais fy nghalon ac y golchais fy nwylo mewn diniweidr wydd.

14 Canys ar hyd y dydd i'm maeddwyd, fy nghe­rydd a ddeuai bôb boreu.

15 Os dywedwn, mynegaf fel hyn wele â chenhedl­aeth dy blant di y gwnawn gam.

16 Pan amcenais wybod hyn, blîn oedd hynny yn fy ngolwg i.

17 Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y deell­ais eu diwedd hwynt.

18 Diau osod o honot hwynt mewn llithrîgfa, a chwympo o honot hwynt i ddinystr.

19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd; pallâsant, a darfuant, gan ofn.

20 Fel breuddŵyd wrth ddihuno un, felly û Argl­wydd, pan ddeffroech y dirmygi eu gwedd hwynt.

21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon: ac i'm pigwyd yn fy arennau.

22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod: anifail oedd­wn o'th flaen di.

23 Etto yr ydwyf yn wastad gyd â thi: ymeflaist yn fy llaw ddehau.

24 A'th gyngor i'm harweini: ac wedi hynny i'm cymmeri i ogoniant.

25 Pwy sydd gennifi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd â thydi.

26 Pallodd fy ngnhawd a'm calon; ond nêrth fy nghalon a'm rhan, yw Duw yn dragywydd.

27 Canys wele difethir a rhai a bellhânt oddi wrthit; torraist ymaith bôb un a butteinio oddi wr­thit.

28 Minneu, nessâu at Dduw sydd dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy nghobaith, i dreuthu dy holl weithredoedd.

Ut quid, Deus? Psal. lxxiv.

PA ham Dduw i'n bwriaist heibio yn drâgywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

[Page]2 Cofia dy gynnulleidfa yr hon a brynaist gynt, a llwyth dy etifeddiaeth yr hon a waredaist: mynodd Sion hwn, y presswyli ynddo.

3 Dercha dy draed at anrhaith dragy wyddol: sef ac yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y Cyssegr.

4 Dy elynion a ruasant ynghanol dy gynnulleid­faoedd: gosadasant eu banerau yn arwyddion.

5 Hynod oedd gwr, fel y codasai fwyill▪ mewn dyr­ys-goed.

6 Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith, â bwyill ac â morthwylion.

7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogasant breswylfa: dy Enw.

8 Dywedasant yn eu calonnau, cyd-anrheithiwn hwynt: lloscasant holl Synagogau Duw yn y tîr.

9 Ni welwn ein harwyddion, nid oes brophwyd mwy, nid oes gennym â ŵyr pa hŷd.

10 Pa hŷd Dduw, y gwarthrudda 'r gwrthwyneb­wr? a gabla 'r gelyn dy Enw yn dragywydd?

11 Pa ham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheu­law? tynn hi allan o ganol dy fonwes.

12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad; gw­neuthur-wr iechydwriaeth o fewn y tîr.

13 Ti yn dy nerth a berthais. y mûr, drylliaist ben­nau dreigiau yn y dyfroedd.

14 Ti a ddrylliaist ben Lefiathan, rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.

15 Ti a holltaist y ffynnon, a'r afon, ti a ddiyspy­ddaist afonydd cryfion.

16 Y dydd sydd eiddo ti, y nos hefyd sydd eiddo ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.

17 Ti a osodaist holl derfynau 'r ddaiar; ti a luni­aist hâf, a gayaf.

18 Cofia hyn, i'r gelyn gablu, ô Arglwydd, ac i'r bobl ynfyd ddifenwi dy Enw.

19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa y gely­nion, nac anghofia gynnulleidfa dy drueniaid byth.

20 Edrych ar y cyfammod, Canys llawn yw ty­wyll-leoedd y ddaiar o drigfannau trawstêr.

21 Na ddychweled y tlawd yn wradwyddus, moli­anned [Page] y truan, a'r anghenus dy Enw.

22 Cyfod ô Dduw, dadleu dy ddadl, cofia dy wrad­wydd gan yr ynfyd beunydd.

23 Nac anghofia lais dy ely nion; dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn, sydd yn dringo yn wastadol.

DYDD xv.

Boreuol Weddi.
Confitebimur tibi. Psal. lxxv.

CLodforwn dydi ô Dduw, clodforwn, canys agos yw dy Enw, dy ryfedd­odau a fynegant hynny.

2 Pan dderbyniwyf y gynnulleid­fa, mi a farnaf yn uniawn.

3 Ymddattododd y ddaiar, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau.

4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, nac ynfydwch: ac wrth y rhai annuwiol, na dderchefwch eich corn.

5 Na dderchefwch eich corn yn uchel, na ddywed­wch yn war-syth.

6 Canys nid o'r dwyrain nac o'r gorllewin nac o'r dehau, y daw goruchafiaeth.

7 Ond Duw sydd yn barnu, efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

8 Oblegit, y mae phiol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwin sydd gôch, yn llawn cymmysc, ac efe a dywall­todd o hwnnw: etto holl annuwolion y tîr a wascant, ac a yfant ei waelodion.

9 Minneu a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob.

10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol, a chyrn y rhai cyfiawn a dderchefir.

Notus in Judæâ. Psal. lxxvj.

HYnod yw Duw yn Juda, mawr yw e'i Enw ef yn Israel.

[Page]2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a'i drigfa yn Sion.

3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y tarian, y cle­ddyf hefyd a'r frwydr.

4 Gogoneddusach wyt, a chadarnach, nâ myny­ddoedd yr yspail.

5 Yspeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hûn; a'r holl wŷr o nerth ni chawsant: eu dwylo.

6 Gan dy gerydd di ô Dduw Jacob, y rhoed y cer­byd a'r march i gyscu.

7 Tydi, tydi wyt ofnadwy, a phwy a saif o'th fla­en, pan enynno dy ddigter?

8 O'r nefoedd y peraist glywed barn, ofnodd, a go­stegodd y ddaiar.

9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai lled­nais y tîr.

10 Diau cynddaredd dŷn a'th folianna di, gweddill cynddaredd a waherddi.

11 Addunedwch, a thelwch ir Arglwydd eich Duw; y rhai oll ydynt o'i amgylch ef dygant anrheg i'r ofnadwy.

12 Efe a dyrr ymmaith ysprydd tywysogion, y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaiar.

Voce mea ad Dominum. Psal. lxxvij.

AM llef y gwaeddais ar Dduw: âm llef ar Dduw, ac efe a'm gwrandawodd.

2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nôs, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3 Cofiais Dduw, ac a'm cythryblwydd, cwynais a therfyscwyd fy yspryd.

4 Deliaist fy llygaid yn neffro, synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.

5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoed yr hên oe­soedd.

6 Cosio yr ydwyf fy nghân y nos, yr ydwyf yn ym­ddiddan am calon: fy yspryd sydd yn chwilio yn ddy­fal.

[Page]7 Ai yn dragywydd y bwrw'r Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?

8 A ddarfu ei drugaredd ef tros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9 A anghofiodd Duw drugarhâu? a gaeodd efe ei drugareddau mewu soriant?

10 A dywedais, dymma fy ngwendid, etto cofiaf flynyddoedd deheu-law y Goruchaf.

11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie cofiaf dy wrthiau gynt.

12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith: ac am dy wei­thredoedd y chwedleuaf.

13 Dy ffordd ô Dduw, sydd yn y cyssegr; pa Dduw mor fawr a'u Duw ni?

14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau, dangofaist dy nerth ym mysc y bobloedd.

15 Gwaredaist â'th fraich dy bobl, meibian Jacob, a Joseph.

16 Y dyfroedd a'th welsant o Dduw, y dyfroedd a'th welsant; hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.

17 Y cwmylau a dywalltasant ddwfr, yr wybren­nau a roddasant dwrwf: dy saethau hefyd a gerdda­sant.

18 Lwrf dy daran a glywyd o amgylch; mellt a oleuasant y bŷd: cyffrôdd, a chrynodd y ddaiar.

19 Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyf­roedd mawrion: ac nid adweinir dy ôl.

20 Tywysaist dy bobl, fel defaid, drwy law Moses, ac Aaron.

Prydnhaw­nol Weddi.
Atrendite, popnle. Psal. lxxviij.

GWraudo fy nghyfraith fy mhobl, gostyng­wch eich clust at eiriau fy ngenau.

2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb, traethaf ddammegion o'r cynfyd.

3 Y rhai a glywsom ac a wybûom, ac a fynegodd ein tadau i ni.

4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegu i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd a'i nerth, a'i ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe.

5 Canys efe a siccrhâodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel; y rhai a orchymmyn­nodd efe i'n tadau eu dyscu iw plant.

6 Fel y gwybyddei 'r oes a ddêl, sef y plant a enid, a phan gyfodent, y mynegent hwy iw plant hwy­thau.

7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw heb ang­hofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymyni­on ef.

8 Ac na byddent fel eu tadau yn genhedlaeth gyn­dyn, a gwrthryfelgar, yn genhedlaeth ni osodod ei cha­lon yn nuiawn, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon gydâ Duw.

9 Meibion Ephraim yn arfog, ac yn saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.

10 Ni chadwasant gyfammodd Duw, eithr gwr­thodasant rodio yn ei Gyfraith ef.

11 Ac anghofiasant ei weithredoedd, a'i ryfeddo­dau, y rhai a ddangosasei efe iddynt.

12 Efe a wnaethei wrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aipht; ym maes zoan.

13 Efe a barthodd y môr ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pentwr.

14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwm­mwl, ac ar hŷd y nos â goleuni tân.

15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch, a [Page] rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfa­wr.

16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.

17 Er hynny chwanegasant etto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffaethwch:

18 A themptiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blŷs.

19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw, dyweda­sant, a ddichon Duw arlwyo bwrddd yn yr anial­wch?

20 Wele, efe a darawodd y graig, fel y pistylodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara he­fyd? a ddarpara efe gig iw bobl?

21 Am hynny y clybu 'r Arglwydd, ac y digiodd, a thân a ennynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gynneuodd yn erbyn Israel.

22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iechydwriaeth ef.

23 Er iddo ef orchymyn i'r wybrennau oddi uchod, ac egoryd drysau y nefoedd.

24 A glawio Manna arnynt iw fwytta: a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.

25 Dŷn a fwyttâodd fara angelion, anfonodd idd­ynt fwyd yn ddigonol.

26 Gyrrodd y dwyrein-wynt yn y nefoedd: ac yn ei nerth dûg efe ddeheu-wynt.

27 Glawiodd hefyd gîg arnynt, fel llwch, ac adar ascelloc fel tywod y môr.

28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwer­syll, o amgylch eu presswylfeydd.

29 Felly y bwyttasant, ac y llwyr ddiwallwyd hw­ynt, ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.

30 Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant, er hynny tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau.

31 Digllonedd Duw a gynneuodd yn eu herbyn hw­ynt, ac a laddodd y rhai brasaf o honynt, ac a gwym­podd etholedigion Israel.

32 Er hyn oll pechasant etto, ac ni chredasant iw vyfeddodau ef,

[Page]33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'i blynyddoedd mewn dychryn.

34 Pan laddei efe hwynt, hwy ai ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn foreu:

35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd en gwaredudd.

36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'i ge­nau, a dywedyd celwydd wrtho a'i tafod:

37 A'i calon heb fod yn uniawn gyd ag ef, nai bod yn ffyddlon yn ei gyfammod ef.

38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu han­wiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie trûdd ymmaith ei ddigofaine yn fynych, ac ni chyffrûdd ei holl lîd.

39 Canys efe a gofiei mai cnâwd oeddynt, a gwynt yn myned ac heb ddychwelyd.

40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?

41 Iê troesant, a prophasant Dduw, ac a osoda­sant derfyn i Sanct yr Israel.

42 Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

43 Fel y gosodasei efe ei arwyddion yn yr Aipht, a'i ryfeddodau y maes Zoan.

44 Ac y troesei eu hafonydd yn waed: a'i ffry­diau fel na allent yfed.

45 Anfonodd gymmysc blâ yn eu plith, yr hon a'i difâodd hwynt: llyffaint iw difetha.

46 Ac efe a roddodd en cnŵd hwynt i'r lyndys, a'i llafur i'r locust.

47 Destrywiodd eu gwin-wŷdd â chenllysc, a'i Sycomor-wŷdd â chew.

48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliad i'r cenllysc, a'i golud i'r mellt.

49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiawg­rwydd, a digter, a chyfyngder, trwy anfon angelion drwg.

50 Cymmhwysodd ffordd iw ddigofaint, nid atta­liodd eu henaid oddi wrth angeu, ond eu bywyd a▪ ro­ddodd efe i'r haint.

51 Tarawod hefydd bôb cyntaf-anedic yn yr Ai­pht, [Page] sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham.

52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei han fel defaid, ac a'i harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.

53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad of­nasant: a'r mûr a orchguddiodd eu gelynion hw­ynt.

54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd: i'r mynydd hwn a ennillodd ei ddeheulaw ef.

55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'i blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.

56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw goru­chaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau.

57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadan, troesant fel bŵa twyllodrus.

58 Digiasant ef hefyd â'i huchel-fannau: a gyrra­fant eiddigedd arno â'i cerfiedic ddelwau.

59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr.

60 Fel y gadawodd ef dabernacl Siloh, y babell a osodasei efe ym mysc dynion.

61 Ac y roddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i bryd­ferthwch yn llaw'r gelyn.

62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf, a digiodd wrth ei etifeddiaeth.

63 Tân a yssodd eu gwyr ieuaingc, a'i morwynion ni phriodwyd.

64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf, a'i gwrag­edd gweddwon nid wylasant.

65 Yna y deffrûdd yr Arglwydd fel un o gyscu: fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.

66 Ac efe a darawodd ei elynion o'r tu ol: rhoddes iddynt warth tragywyddol.

67 Gwrthododd hefyd babell Joseph, ac ni etho­lodd lwyth Ephraim.

68 Ond efe a etholodd lwyth Juda, mynydd Si­on yr hwn a hoffodd.

69 Ac a adeiliadodd ei gyssegr fel llŷs uchel: fel y ddaiar, yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.

[Page]70 Etholodd hefyd Ddufydd ei wâs, ac ai cymmerth o gorlannau y defaid.

71 Oddi ar ol y defaid cyfebron, y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.

72 Yntef a'i porthodd hwynt yn ol perffeithrwydd ei galon, ac a'i trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

DYDD XVI.

Boreuol Weddi.
Deus, venerunt. Psal. lxxix.

Y Cenheloedd, o Dduw, a ddaethant i'th etifeddiaeth, halogasant dy De­ml sanctaidd: gosodasant Jerusa­lem yn garneddau.

2 Rhodasant gelanedd dy weisi­on yn fwyd i adar y nefoedd, a chîg dy sainct i fwystfilod y ddaiar.

3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch, Jerusalem, ac nid oedd a'i claddei.

4 Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymmydogion, dir­myg a gwatwargerdd i'r rhai sydd o'n hamgylch.

5 Pa hŷd Arglwydd, a ddigi di'n dragywydd? a lysc dy eiddigedd di fel tân?

6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni'th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.

7 Canys yssasant Jacob, ac a wnaethant ei bress­wylfa ef yn anghyfannedd.

8 Na chofia 'r anwireddau gynt i'n herbyn, bryslia rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesc ia­wn i'n gwnaethpwyd.

9 Cynnorthwya ni, û Dduw ein iechydwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thru­garhâ wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.

10 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hyspys ym mhlith y cenhed­loedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision, yr hwn a dywaltwyd.

11 Deued uchenaid y carcharion ger dy fron, yn ol [Page] ma wredd dy nerth: cadw blant marwolaeth.

12 A thâl i'n cymmydogion ar y seithfed iw mauw­wes eu cabledd, drwy 'r hon i'th gablasant di o Argl­wydd.

13 A ninneu dy bobl, a defaid dy borfa, a'th folian­nwn di yn dragywydd: dadcanwn dy foliant o gen­hedlaeth i genhedlaeth.

Qui regis Israel. Psal. lxxx.

GWrando û fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseph fel praidd: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd rhwng y Cerubiaid.

2 Cyfod dy nerth o flaen Ephraim. a Beniamin, a Manasseh a thyred yn iechydwriaeth i ru.

3 Dychwel ni û Dduw, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

4 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?

5 Porthaist hwynt a bara dagrau, a diodaist hw­ynt a dagrau wrth fesur mawr.

6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymmydogion, a'n gelynion a'n gwatworent yn eu mysc eu hun.

7 O Dduw 'r lluoedd dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

8 Mudaist win-wydden or Aiphr, bwriaist y cen­hedloedd allan, a phlennaist hi.

9 Arloseaist o'i blaen, a pheraist iw gwraidd wrei­ddio, a hi a lanwodd y tir.

10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chyscod: a'i changhennau oedd fel cedrwŷdd rhagorol.

11 Hi a estynnod ei changau hyd y mûr, ai blagur hyd yr a fon.

12 Pa ham y rhwygais ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hŷd y ffordd, ei grawn hi?

13 Y baedd o'r coed a'i tuiria, a bwyst fil y maes a'i pawr.

14 O Dduw 'r lluodd, dychwel attolwg: edrych o'r nefoedd a chenfydd, ac ymwel â'r win-wydden hon;

[Page]15 A'r winllan a blannodc dy ddeheu-law, ac a'r planhigyn a gadarnhêaist i ti dy hun.

16 Llofcwyd hi â thân, torrwyd hi i lawr: gan ge­rydd dy wyneb y difethir hwynt.

17 Bydded dy law dros wr dy ddeheu-law: a thros fâb dyn, yr hwn a gadarnhêaist i ti dy hun.

18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthit ti; bywhâ ni, ac ni a alwn ar dy enw.

19 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, dychwel ni: llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

Exultate Deo. Psal. lxxxi

CEnwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.

2 Cymmerwch psalm, a moeswch dympan, y delyn fwyn, a'r nabl.

3 Ud-cenwch udcorn ar y lloer newydd, ar yr am­ser nodedic yn nydd ein uchelwyl.

4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.

5 EFe a'i gosododd yn dystiolaeth yn Joseph: pan aeth efe allan trwy dîr yr Aipht, lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6 Tynnais ei yscwydd oddiwrth y baich; ei ddwylo a ymadawsant â'r crochanau.

7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran, profais di wrth ddyfroeddd Meribah.

8 Clyw fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti Israel, os gwrandewi arnaf.

9 Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ymgrymma i Dduw dieithr.

10 Myfi 'r Arglwydd dy Dduw, yw 'r hwn a'th ddûg di allan o dîr yr Aipht: lleda dy fafn, ac mi a'i llanwaf.

11 Ond ni wrandawei mhobl ar fy llef, ac Israel ni'm mynnai.

12 Yna y gollyngais hwynt ynghyndynrwydd eu calon, aethant wrth cyngor eu hunain.

[Page]13 Oh, na wrandawsei fy mhobl arn af, na rodia­sai Israel yn fy ffyrdd.

14 Buan y gostyngaswu eu gelynion: ac y troes­wn fy llaw'n erbyn eu gwrthwyneb-wŷr.

15 Caseion yr Arglwydd a gymmerasant arnynt ymostwng iddo ef, a'i hamser hwythau fuasei 'n dra­gywydd.

16 Bwydasai hwynt hefyd â brasder gwenith: ac â mêl o'r graig i'th ddiwallaswn.

Prydnhaw­nol Weddi.
Deus stetit. Psal. lxxxij.

DU W sydd yn sefyll ynghynnulleidfa y y galluog: ym mhlith y duwiau y barn efe.

2 Pa hŷd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol?

3 Bernwch y tlawd a'r ymddifad; cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidus.

4 Gwaredwch y tlaŵd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.

5 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaiar a symmudwyd o'i lle.

6 Myfi a ddywedais, duwiau ydych chwi, a meibi­on y Goruchaf ydych chwi oll.

7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o'r ty­wysogion y syrthiwch.

8 Cyfod ô Dduw, barna 'r ddaiar, canys ti a eti­feddi 'r hol genhedloedd.

Deus, quis similis? Psal. lxxxiij.

O Dduw, na ostega, na thaw, ac na fydd lonydd, ô Dduw.

2 Canys wele dy elynion sydd yn terfyscu, a'th gas­eion yn cyfodi eu pennau.

[Page]3 Ymgyfrinachasant, yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgynghorasant yn erbyn dy rai dirgel di.

4 Dywedasant, deuwch, a difethwn hwynt, fel na byddont yn genhedl, ac na chofier enw Israel mwy­ach.

5 Canys ymgynghorasant yn un-fryd, ac ym-wn­aethant i'th erbyn.

6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid, y Moabiaid, a'r Hagariaid.

7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec, y Philistiaid, gyd â phresswyl-wŷr Tyrus.

8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fr­aich i blant Lot.

9 Gwna di iddynt fel i Midian, megis Sisara, me­gis i Jabin, wrth afon Cison.

10 Yn Endor y difethwyd hwynt, aethant yn dail i'r ddaiar.

11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Zeeb, a'i holl dywysogion fel Zebah, ac fel Salmunnah.

12 Y rhai a ddy wedasant cymmerwn i ni gyfan­neddau Duw i'w meddiannu.

13 Gosot hwynt, ô fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.

14 Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd:

15 Felly erlit ti hwynt â'th demhestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.

16 Llanw eu hwynebau â gwarth, fel y ceisiont dy Enw ô Arglwydd.

17 Cywilyddier, a thralloder hwynt yn dragywydd iê gwradwydder, a difether hwynt:

18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unic wyt Jehofa wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddai­ar.

Quam dilecta! Psal. lxxxiv.

MOr hawddgar yw dy bebyll di, ô Arglwydd y llu­oedd.

2 Fy enaid a hiraetha, iê ac a flysia am gynteddau 'r Arglwydd: fy nghalon, a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.

3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesyd ei chywion: sef dy allorau di, ô Argl­wydd y lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.

4 Gwynfŷd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i'th fo­liannant.

5 Gwyn ei fyd y dŷn mae ei gadernid ynot, a'th ffyrdd yn eu calon.

6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Baca, a'i gwnânt yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.

7 Ant o nerth i nerth: ymddengys pob un ger bron Duw yn Sion.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoed, clyw fy ngweddi, gwrando, ô Dduw Jacob.

9 O Dduw ein tarian, gwel, ac edrych ar wyneb dy eneiniog.

10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di nâ mîl: dewiswn gadw drŵs yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.

11 Canys haul, a tharian yw 'r Arglwydd Dduw: yr Arglwydd â rydd râs a gogoniant: ni attal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn ber­ffaith.

12 O Arglwydd y lluoedd, gwynfŷd y dyn a ym­ddiried ynot.

Benedixisti Domine. Psal. lxxxv.

GRas-lawnn fuost ô Arglwydd, i'th dîr: dychwe­laist gaethiwed Jacob.

2 Maddeuaist adwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod.

3 Tynnaist ymmaith dy holl lid; troaist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.

[Page]4 Trô ni ô Dduw ein iechydwriaeth: a thorr ym­maith dy digofaint wrthym.

5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy sorriaint hyd genhedlaeth a cenhedlaeth?

6 Oni throi di a'n bywhâu ni, fel y llawenytho dy bobl ynot ti?

7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd: a dôd i ni dy iechydwriaeth.

8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw; canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw Sainct; ond na throant at ynfydrwydd.

9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant: fel y trigo gogoniant yn ein tîr ni.

10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant: cy­fiawnder a heddwch a ymgusanasant.

11 Gwirionedd a dardda o'r ddaiar; a chyfiawnder a edrych i lawr o'r nefoedd.

12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a'n daiar a rydd ei chnwd.

13 Cyfiawnder a o'i flaen ef, ar a esyd ei draed ef ar y ffordd.

DYDD xvij

Boreuol Weddi.
Inclina, Domine. Psal. lxxxvi.

GOstwng, o Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghe­nus ydwyf.

2 Cadw fy enaid, canys sanctaidd ydwyf: achub dy wâs, o fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

3 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y llefaf bennydd.

4 Llawenhâ enaid dy wâs, canys attat y dercha­faf fy enaid.

5 Canys ti o Arglwydd ydwyt dda, a maddeugar: ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.

[Page]6 Clyw Arglwydd, fy ngweddi ac ymwrando â llais fy ymbil.

7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.

8 Nid oes fel tydi ym mysc y duwiau, ô Arglwydd: na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.

9 Yr holl genhedloedd, y rhai a wnaethost, a ddeu­ant, ac a addolant ger dy fron di, o Arglwydd: ac a ogoneddant dy Enw.

10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddc­dau: ti yn unic wyt Dduw.

11 Dysc i mi dy ffrodd o Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy Enw.

12 Molianaf di o Arglwydd fy Nuw, â'm holl ga­lon; a gogoneddaf dy Enw yn dragywydd.

13 Canys mawr yw dy drugaredd ru ag attafi, a gwaredaist fy enaid o uffern issod.

14 Rhai beilchion a gyfodasant i'm herbyn, o Dduw, a chynnulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid, ar ni'th osodasant di ger eu bron.

15 Eithr ti o Arglwydd, wyt Dduw trugarog, a gras-lawn; hwyrfrydic i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.

16 Edrych arnaf, thrugarhâ wrthif: dyro dy nerth i'th wâs, ar achub fab dy wasanaeth-ferch.

17 Gwna i mi arwydd er daioni, fel y gwelo fy ng­haseion, ac y gwradwydder hwynt; am i ti, o Argl­wydd fy nghynnorthwyo a'm diddanu.

Fundamenta eius. Psal. lxxxvij.

EI sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2 Yr Arglwydd a gâr byrth Sion, yn fwy nâ holl bresswylfeydd Jacob.

3 Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, o ddi­nas Dduw.

4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia a Thyrus ynghyd ag Ethiopia; yno y ganwyd hwn.

5 At am Sion y dywedir, y gwr a'r gwr a an­wyd [Page] ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i siccrhâ hi.

6 Yr Arglwydd a gyfrif pan scrifenno y bobl, eni hwn yno.

7 Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Domine Deus Salutis. Psal. lxxxviij.

O Arglwydd Dduw fy iechydwriaeth, gwaeddais o'th flaen ddydd a nôs.

2 Deued fy ngweddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy llefain.

3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau, a'm heni­oes a nessâ i'r beddrod.

4 Cyfrifwyd fi gyd â'r rhai a ddescynnent i'r pwll: ydwyf fel gwr heb nerth.

5 Yn rhydd ym mysc y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd: y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.

6 Gosodaist fi yn y pwll issaf: mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.

7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â'th holl donnau i'm cystuddiaist.

8 Pellhêaist fy nghydnabod oddi wrthif, gwnae­thost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.

9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd, llefais ar­nat Arglwydd beunydd: estynnais fy nwylo attat.

10 Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y mei­rw a'th foliannu di?

11 A dreuthir dy drugaredd mewn bedd? a'th wiri­onedd yn nestryw?

12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhîr anghof.

13 Ond myfi a lefais arnat Arglwydd: yn foreu yr achub fy ngweddi dy flaen.

14 Pa ham Arglwydd y gwrthodi fy enaid? y cu­ddi dy wyneb oddi wrthif?

15 Truan ydwyfi, ac ar drangcedigaeth o'm hieu­engctid, dygais dy ofn, ar yr ydwyf yn petruso.

[Page]16 Dy soriant a aeth trosof dy ddychrynnedigae­thau a'm torrodd ymmaith.

17 Fel dwfr i'm cylchynasant beunydd: ac i'm cyd­amgylchasant.

18 Câr a chyfaill a yrraist ym mhell oddi-wrthif, a'm cydnabod i dywyllwych.

Prydnhaw­nol Weddi.
Misericordias Domini. Psal. lxxxix.

TRugareddau 'r Arglwydd a ddatcanaf byth, â'm genau y mynegaf dy wirionedd, o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2 Canys dywedais adeiliedir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y siccrhêi dy wirionedd.

3 Gwneuthum ammod â'm etholedig, tyngais i'm gwâs Dafydd.

4 Yn dragywydd y siccrhâf dy hâd ti: o genhedla­eth i genhedlaeth yr adeiliadaf dy orseddfaingc di.

5 A'r nefoedd, ô Arglwydd, a foliannant dy ryfe­ddod, a'th wirionedd ynghynnulleidfa y Sainct.

6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â'r Arglwydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwydd ym mysc meibion y cedyrn?

7 Duw sydd ofnadwy iawn ynghynnulleidfa 'r Sainct: ac iw arswydo ŷn ei holl amgylchoedd.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pwy sydd fel ty­di, yn gadarn Jor? a'th wirionedd o'th amgyleh?

9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwŷdd y môr; pan gyfodo ei donnau, ti a'i gostegi.

10 Ti a ddrylliaist yr Aipht, fel un lladdedic: drwy nerth dy fraich y gwasceraist dy elynion.

11 Y nefoedd ydynt eiddo ti, â'r ddaiar sydd eiddot ti: ti a seiliaist y bŷd a'i gyfiawnder.

12 Ti a greaist ogledd a dehau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy Euw.

13 Y mae i ti fraich, a chadernid; cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheu-law.

[Page]14 Cyfiawnder, a barn yw trigfâ dy orseddfaingc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.

15 Gwyn ei fyd y bobl a adwaenant yr hyfrydl­ais: yn llewyrch dy wyneb ô Arglwydd, y rhodiant hwy.

16 Yn dy Enw di y gorfoleddant bennyd, ac yn dy gyfiawnder yr ymdderchafant.

17 Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt yd­wyt ti: ac yn dy ewyllys da y derchefir ein corn ni.

18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian: a Sainct Israel yw ein Brenin.

19 Yna 'r ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th sainct, ac a ddywedaist, gosodais gymmorth ar un ca­darn: derchefais un etholedic o'r bobl.

20 Cefais Ddafydd fy ngwasanaech-wr: eneini­ais ef â'm holew sanctaidd.

21 Yr hwn y siccrheir fy llaw gyd ag ef: a'm braich a'i nertha ef.

22 Ni orthrymma y gelyn ef, a'r mab anwir nis cystuddia ef.

23 Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen, a'i gaseion a darawaf.

24 Fy ngwirionedd hefyd, a'm trugaredd fydd gyd ag ef: ac yn fy Enw y derchefir ei gorn ef.

25 A gosodaf ei law yn y mor, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.

26 Efe a lefa arnaf, ti yw fy Nhâd, fy Nuw, a chraig fy iechydwriaeth.

27 Minneu a'i gwuâf yntef yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaiar.

28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd: a'm cyfammod fydd siccr iddo.

29 Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: a'i orsedd­faingc fel dyddiau y nefoedd.

30 Os ei feibiona adawant fy nghyfraith, ac ni ro­diant yn fy marnedigaethau.

31 Os fy neddfau a halogant: a'm gorchymynion ni chadwant:

32 Yna mi a ymlwelaf â'u camwedd a gwialen, ac a'i hanwiredd â ffrewyllau.

[Page]33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho: ac ni phallaf o'm gwirionedd.

34 Ni thorraf fy nghyfammod: ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.

35 Tyngais unwaith i'm sancteiddrwydd, na ddy­wedwn gelwydd i Ddafydd.

36 Bydd ei hâd ef yn dragywydd: a'i orseddfaingc fel yr haul ger fy mron i.

37 Siccrhêir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tŷst ffyddlon yn y nef.

38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddi­giaist wrth dy eneiniog.

39 Diddymaist gyfammod dy wâs, halogaist ei goron gan ei thaflu i lawr.

40 Drylliaist ei holl gaeau ef, gwnaethost ei am­ddiffynfeydd yn adwyau.

41 Yr holl fforddolion a'i hyspeiliant ef: aeth yn warthrudd iw gymmydogion.

42 Derchefaist ddeheu-law ei wrthwynebwŷr, llawenhêaist ei holl elynion.

43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnhe­aist ef mewn rhyfel.

44 Peraist iw harddwch ddarfod, a bwriaist ei or­sedd-faingc i lawr.

45 Byrhêaist ddyddiau ei ieuengctid, toaist gywi­lydd trosto ef.

46 Pa hŷd Arglwydd yr ymguddi, ai yn dragy­wydd? a lŷsc dy ddigofaint di fel tân?

47 Cofia pa amser sydd i mi: pa ham y creaist holl blant dynion yn ofer.

48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wa­red efe ei enaid o law 'r bedd?

49 Pa le y mae dy hên drugareddau ô Arglwydd, y rhai a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?

50 Cofia ô Arglwydd, wradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion.

51 A'r hwn y gwradwyddodd dy elynion ô Argl­wydd; â'r hwn y gwradwyddasant ôl troed dy ennei­niog.

[Page]52 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.

DYDD xviij

Boreuol Weddi.
Domine, refugium. Psal. xc.

TJ Arglwydd fuost yn breswylfa i ni ym-mhob cenhedlaeth:

2 Cyn gwneuthur y mynydd­oedd, a llunio o honot ddaiar, a'r bŷd, ti hefyd wyt Dduw o dragywyddol­deb hyd dragywyddoldeb.

3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, dychwelwch feibion dynion.

4 Canys mîl o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r êl heibio, ac fel gwiliadwriaeth nos.

5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant, y maent fel hûn: y borau y maent fel llyssieun a newidir.

6 Y boreu y blodeua ac y tŷf: prŷdnawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.

7 Canys yn dy ddîg y difethwyd ni, ac yn dy lidi­awgrwydd i'n brawychwyd.

8 Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, ein dirgel be­chodau yngoleuni dy wyneb.

9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di; treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae dengmh­lynedd â thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir ped­war ugain mhlynedd, etto eu nerth sydd boen, a blinder: canys ebrŵydd y derfydd, ac ni a ehedwn ymmaith.

11 Pwy a edwyn nerth dy sorriant: canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddigter.

12 Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13 Dychwel Arglwydd, pa hŷd? ac edifarhâ o ran dy weision.

14 Diwalla ni yn foreu â'th drugaredd, fel ygor­foleddom, [Page] ac y llawenychom dros ein holl ddyddi­au.

15 Llawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

16 Gweler dy waith tu ag at dy weision: a'th ogo­niant tu ag at eu plant hwy.

17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni, ie trefna waith ein dwylo.

Qui habitat. Psal. xci.

YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys ynghyscod yr holl Holl-alluoc.

2 Dywedaf am yr Arglwydd, fy noddfa a'm ham­ddiffynfa ydyw, fy Nuw, ynddo yr ymddiriedaf.

3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr: ac oddi wrth haint echrysion;

4 A'i ascell y cyscoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.

5 Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehetto 'r dydd.

6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch, na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.

7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a dengmil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.

8 Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a wêli dâl y rhai annuwiol.

9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf yn bresswylfa i ti:

10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell.

11 Canys efe a orchymyn iw Angelion am danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12 Ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garreg.

13 Ar y llew, a'r asp y cerddi: y cenew llew, a'r ddraig a fethri.

14 Am iddd roddi ei serch arnaf: am hynny y gwa­redaf ef: am iddo adnabod fy Enw.

[Page]15 Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gid ag ef, y gwaredaf, ac y gogonedd­af ef.

16 Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.

Bonum est confiteri. Psal. xcij.

DA yw moliannu 'r Arglwydd: a chanu mawl i'th Enw di, y Goruchaf.

2 A mynegu y boreu am dy drugaredd, a'th wirio­nedd y nosweithiau.

3 Ar ddec-tant, ac ar nabl, ac ar delyn yn fyfyriol.

4 Canys llawenychaist fi o Arglwydd▪ â'th wei­thred: yngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.

5 Mor fawredic o Arglwydd, yw dy weithredo­edd, dwfn iawn yw dy feddyliau.

6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.

7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, a bla­guro holl weithredwyr anwiredd, hynny sydd iw di­nistrio byth bythoedd.

8 Titheu Arglwydd wyt dderchafedic yn dragy­wydd.

9 Canys wele dy elynion ô Arglwydd, wele dy ely­nion, a ddifethir gwascerir holl weithred-wŷr an­wiredd.

10 Ond fy nghorn i a dderchefi fel unicorn, ac olew îr i'm enneinir.

11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrth­wyneb-wŷr; fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfoddant i'm herbyn.

12 Y cyfiawn a flodeua fel palm-wydden, ac a gyn­nydda fel cedr-wŷdden yn Libanus.

13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ 'r Arglwydd, a flode­uant ynghynteddoedd ein Duw.

14 Ffrwythant etto yn eu henaint, tision, ac ira­idd fyddant.

15 I fynegu mai uniawn yw 'r Arglwydd fy ngh­raig: ac nad oes anwiredd ynddo.

Prydnhaw­nol Weddi.
Dominus regnavit. Psal. xciij.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wis­codd ardderchawgrwydd, gwiscodd yr Ar­glwydd nerth ac ymwregysodd: y bŷd he­fyd a sicrhawyd, fel na syflo.

2 Darparwyd dy orseddfaingc erioed: ti wyt er tragywyddoldeb.

3 Y llifeiriaint ô Arglwydd, a dderchafasant, y lli­feiriaint a dderchafasant eu twrwf: y llifeiriaint a dderchafasant eu tonnau.

4 Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach nâ thwrwf dyfroedd lawer, nâ chedyrn donnan y môr.

5 Siccr iawn yw dy dystiolaethau; sancteiddrwydd a weddei i'th dŷ ô Arglwydd, byth.

Deus ultionum. Psal. xciv.

O Arglwydd Dduw 'r dial, ô Dduw 'r dial, ym­ddiscleiria.

2 Ymddercha farn-wr y bŷd: tâl eu gwobr i'r beil­chion.

3 Pa hyd Arglwydd y caiff yr annuwolion: pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?

4 Pa hyd y siaradant, ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithred-wŷr anwiredd?

5 Dy bobl Arglwydd a ddrlliant, a'th etifeddiaeth a gystuddiant.

6 Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r ymddifad a ddieneidiant.

7 Dywedant hefyd, ni wêl yr Arglwydd: ar nid ystyria Duw Jacob hyn.

8 Ystyriwch chwi rai annoeth ym mysc y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deelwch?

9 Oni chlyw 'r hwn a blannodd y glûst: oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

[Page]10 Oni cherydda 'r hwn a gospa y cenhedloedd? oni wyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddŷn.

11 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dŷn, mai gwagedd ydynt.

12 Gwyn ei fŷd y gŵr a geryddi di o Arglwydd; ac a ddysci yn dy gyfraith.

13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd; hyd oni chloddir ffôs ir annuwiol.

14 Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder, a'r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16 Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygio­nus? pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithred-wŷr anwiredd?

17 Oni buasei 'r Arglwydd yn gymmorth i mi, braidd na thrigasei fy en aid mewn distawrwyd.

18 Pan ddywedais, llithrodd fy nhroedd, dy druga­redd di ô Arglwydd, am cynhaliodd.

19 Yn amlder fy meddyliau om mewn, dy ddiddan­wch di a lawenycha fy enaid.

20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfaingc anwi­redd: yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffynfa i mi, a'm Duw yw craig fy nodded.

23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'i tyrr ym­maith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'i tyrr hwynt ymmaith.

DYDD xix

Boreuol Weddi.
Uenite, exultemus. Psal. xcv.

DEuwch, canwn i'r Arglwydd; ymla­wenhawn yn nerth ein hiechyd.

2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â Psalmau.

3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, â brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaiar yn ei law: ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.

5 Y mor sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sych-dir.

6 Deuwch, addolwn ac ymgrymmwn: gostyngwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthur­wr.

7 Canys efe yw ein Duw ni, a ninneu ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law; heddyw os gwrandewch ar ei leferydd.

8 Nac haledwch eich calonnau, megis yn yr ymry­sonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.

9 Pan demptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.

10 Deugain mhlynedd yr yr ymrysonais â'r gen­hedlaeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu ca­lon ydynt hwy: ac nid adnabuant fy ffyrdd.

11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i'm gorphywysfa.

Cantate Domine. Psal. xcvj.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: cenwch i'r Arglwydd, yr holl ddaiar.

2 Cenwch i'r Arglwydd, bendigwch ei enw: cy­hoeddwch o ddydd i ddyddei iechydwriaeth ef.

[Page]3 Dadcenwch ym mysc y cenhedloedd ei ogoniant ef, ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn, ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.

5 Canys holl dduwiau 'r bobloedd ydynt eulynnod, ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.

6 Gogoniant, a harddwch sydd o'i flaen ef, nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.

7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd; rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.

8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dy­gwch offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.

9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch san­cteiddrwydd: yr holl ddaiar ofnwch ger ei fron ef.

10 Dywedwch ym mysc y cenhedloedd, yr Argl­wydd sydd yn teyrnasu: a'r byd a siccrhâodd efe, fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn uniawn.

11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaiar: rhûed y môr a'i gyflawnder.

12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll sydd ynddo: yna holl brenniau'r coed a ganant:

13 O flaen yr Arglwydd, Canys y mae yn dyfod, ca­nys y mae 'n dyfod i farnu 'r ddaiar efe a farna 'r bŷd drwy gyfiawnder, a'r bobloedd a'i wirionedd.

Dominus regnavit. Psal. xcvij.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddai­iar, llawenyched ynysoedd lawer.

2 Cymmylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef: cy­fiawnder, a barn yw trigfa ei orsedd-faingc ef.

3 Tân â allan o'i flaen ef, ac a lysc ei elynion o amgylch.

4 Ei fellt a lewyrchasant y byd, y ddaiar a welodd, ac a grynodd.

5 Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.

6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: a'r holl bobl a welant ei ogoniant.

7 Gwradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelew [Page] gerfiedic, y rhai a ymffrostiant mewn eulynnod: add­olwch ef yr holl dduwiau.

8 Sion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Juda a orfoleddasant; o herwydd dy farnedigaethau di, ô Arglwydd.

9 Canys ti Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaiar: dirfawr ith dderchafwyd goruwch yr holl dduwiau.

10 Y chai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygi­oni: efe sydd yn cadw eneidiau ei sainct; efe a'i gwa­red o law y rhai annuwiol.

11 Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon.

12 Y rhai cyflawn, llawenychwch yn yr Arglwydd: a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.

Prydnhaw­nol Weddi.
Cantate Domino. Psal. xcviij.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd, ca­nys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei dde­heulaw, a'i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.

2 Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwri­aeth: dat-cuddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedl­oedd.

3 Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welfant iechydwriaeth ein Duw ni.

4 Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.

5 Cenwch i'r Arglwydd, gyd â'r delyn: gyd â'r delyn â llef Psalm.

6 Ar utcyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.

7 Rhûed y môr a'i gyflawnder, y bŷd a'r rhai a drigant o'i fewn.

[Page]8 Cured y llifeiriaint eu dwylo: a chyd-ganed y mynyddoedd.

9 O flaen yr Arglwydd, canys y mae'n dyfod i far­nu y ddaiar: efe a farna'r bŷd â chyfiawnder, a'r bob­loedd ag uniondeb.

Dominus regnavit. Psal. xcix.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y Cerubiaid, ymgynnhyrfed y ddaiar.

2 Mawr yw 'r Arglwydd yn Sion, a derchafedic yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3 Moliaunant dy Enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4 A nerth y brenin a hoffa farn, ti a siccrhêi uni­ondeb; barn, a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.

5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrym­mwch o flaen ei stôl-draed ef, canys sanctaidd yw.

6 Moses ac Aaron ym mhlith ei offeiriaid ef; a Sa­muel ym mysc y rhai a alwant ar ei Enw; galwa­sant ar yr Arglwydd, ac efe a'i gwrandawodd hwynt.

7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmmwl, cad­wasant ei dystiolaethau, a'r Ddeddf a roddodd efe idd­ynt.

8 Gwrandewaist arnynt, ô Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie pan ddielit am eu dy­chymmygion.

9 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ym­grymmwch ar ei fynydd sanctaidd; canys sanctaidd yw 'r Arglwydd ein Duw.

Jubilate Deo. Psal. c.

CEnwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar:

2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llaw­enydd: deuwch o'i flaen ef â chân.

3 Gwybyddwch mai'r Arglwydd sydd Dduw; efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.

[Page]4 Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac iw gyn­teddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei Enw.

5 Canys da yw 'r Arglwydd, ei drugaredd sydd yn dragywydd; a'i wirionedd hyd genhedlaeth a cenhed­laeth.

Misericordiam & judicium. Psal. cj.

CAnaf am drugaredd a barn: i ti Arglwydd y ca­naf.

2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith: pa bryd y deui attaf? rhodiaf niewn perffeithrwydd fy ngha­lon o fewn fy nhŷ.

Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid, câs gen­nif waith y rhai cildynnus, ni lŷn wrthif fi.

4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthif, nid adnaby­ddaf ddŷn drygionus.

5 Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel; yr uchel o olwg, a'r balch ei galon ni all­af ei ddioddef.

6 Fy▪ lygaid fydd ar ffyddloniaid y tîr, fel y trigont gyd â mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwn­nw a'm gwasanaetha i.

7 Ni thrig o fewn fy nhy yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.

8 Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwolion y tîr: i ddiwreiddio holl weithredwŷr anwiredd o ddi­nas yr Arglwydd.

DYDD xx.

Boreuol Weddi.
Domine, exaudi. Psal. cij.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a deled fy llef attat.

2 Na chudd dy wyneb oddi-wrthif, yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust attaf: yn y dydd y galwyf, bry­ssia, gwrando fi.

3 Canys fy nyddiau a ddarfuant [Page] fel mŵg: am hescyrn a boethasant fel aelwyd.

4 Fy nghalon a darawyd, ac a wywodd fel llyssi­eun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.

5 Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrth fy ngnhawd.

6 Tebyg wyf i belican yr annialwch, ydwyf fel dy­lluan y diffaethwch.

7 Gwiliais, ac ydwyf fel adern y tô, unic ar ben y ty.

8 Fy ngelynion a'm gwradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthif, a dyngasant yn fy erbyn.

9 Canys bwytteais ludw fel bara: a chymmyscais fy niod ag wylofain.

10 O herwydd dy lid ti â'th ddigofaint: canys co­daist fi i fynnu, a theflaist fi i lawr

11 Fy nyddiau sydd fel cyscod yn cilio; a minneu fel glaswelltyn a wywais.

12 Titheu Arglwydd a barhei yn dragywyddol; a'th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a cenhedlaeth.

13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Sion: canys yr amser i drugarhâu wrthi, ie yr amser nodedic, a ddaeth.

14 Oblegit y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wyth ei llŵch hi.

15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw 'r Arglwydd: a holl frenhinoedd y ddaiar dy ogoniant.

16 Pan adeiliado yr Arglwydd Sion, y gwelir ef yn ei ogoniant.

17 Efe a edrych ar weddi y gwael ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.

18 Hyn a scrifennir i'r genhedlaeth a ddêl, a'r bobl a greir a folianant yr Arglwydd.

19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gyssegr: yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar y ddaiar.

20 I wranddo uchenaid y carcharorion: ac i rydd­hâu plant angeu.

21 I fynegu Enw'r Arglwydd yn Sion, a'i foliant yn Jerusalem.

22 Pan gascler y bobl ynghyd; a'r teyrnasoedd i wasanaethu'r Arglwydd.

[Page]23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau.

24 Dywedais, fy Nuw na chymmer fi ymmaith ynghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.

25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaiar, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.

26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhêi, îe hwy oll a heneiddiant fel dilledyn, fel gwisc y newidi hwynt, a hwy a newidir.

27 Titheu 'r un ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddar­fyddant.

28 Plant dy weision a barhânt, â'i hâd a siccrhrir ger dy fron di.

Benedic anima mea. Psal. ciij.

FY enaid, bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei Enw sanctaidd ef.

2 Fy enaid, bendithia 'r Arglwydd, ac nac angofia ei holl ddoniau ef.

3 Yr hwn sydd yn niadden dy holl anwireddan: yr hwn sydd yn iachau dy holl lescedd.

4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw, yr hwn sydd dy yn goroni â thrugaredd, ac â thosturi.

5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau a daioni, fel yr adnewyddir dy ieuengtid fel yr eryr.

6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.

7 Yspyssod ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i fei­bion Israel.

8 Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyr­frydic i lid, a mawr o druga rogrwydd.

9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.

10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni.

11 Canys cyfuwch ac yw 'r nefoedd uwchlaw 'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hof­nant ef.

[Page]12 Cyn belled ac yw 'r dwyrain oddi wrth y gor­llewin, y pellhâodd efe ein cam weddau oddi wrthym.

13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.

14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llŵch ydym.

15 Dyddiau dŷn sydd fel glas-welltyn: megis blo­deuyn y maes, felly y blodeua ef.

16 Canys y gwynt â trosto, ac ni bydd mwy o ho­naw; a'i le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.

17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragywy­ddoldeb hyd dragywyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef: a'i gyfiawnder i blant eu plant:

18 I'r sawl a gadwant ei gyfammod ef? ac a gofi­ant ei orchymynion, iw gwneuthur.

19 Yr Arglwydd a baratodd ei orseddfâ yn y nef­oedd: a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb peth.

20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angelyon ef: ce­dyrn o nerth yn gumeuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef: ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.

22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef: ym mhob man o'i lywodraeth. Fy enaid, bendithia 'r Arglwydd.

Prydnhaw­nol Weddi.
Benedic, anima mea. Psal. civ.

FY enaid, bendithia 'r Arglwydd, ô Argl­wydd fy Nuw tramawr ydwyt: gwisc­aist ogoniant, a harddwch.

2 Yr hwn wyt yn gwisco goleuni fel di­lledyn: ac yn tanu y nefoed fel llen.

3 Yr hwn sy yn gosod tŷlathau ei stafelloedd yn y dyfroedd, yn gwneuthur y cwmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.

[Page]4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei gennadon yn ys­prydion: a'i wenidogion yn dân fflamllyd.

5 Yr hwn a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na symmudo byth, yn dragywydd.

6 Toaist hi a'r gorddyfnder, megis â gwisc: y dy­froedd a safent goruwch y mynyddoedd.

7 Gan dy gerydd di y ffoesant; rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.

8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant, ar hyd y dy­ffrynnoedd y descynnant, ir lle a seiliaist iddynt.

9 Gosodaist derfyn, fel nad elont trosodd, fel na ddy­chwelont i orchguddio 'r ddaiar.

10 Yr hwn a yrr ffynhonnau i'r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.

11 Diodant holl fwystilod y maes: yr assynnod gwylltion a dorrant eu syched.

12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt; y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.

13 Y mae efe yn dwfrhâu y bryniau o'i stafell­oedd: y ddaiar a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.

14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llyssiau i wasanaeth dyn: fel y dycco fara allan o'r ddaiar:

15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dŷn, ac olew i beri iw wyneb ddiscleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dŷn.

16 Prennau 'r Arglwydd sydd lawn sugn: cedr­wydd Libanus y rhai a blannodd efe.

17 Lle y nytha 'r adar: y ffynnidwydd yw tŷ y Ci­conia.

18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwnningod.

19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20 Gwnei dywyllwch, a nôs fydd: ynddi yr ym­lusca pôb bwyst-fil coed.

21 Y cenawon llewod a rûant am ysclyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.

22 Pan godo haul, ymgasclant, a gorweddant yn eu llochesau.

[Page]23 Dŷn a â allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr.

24 Mor lliosog yw dy weithredoedd, o Arglwydd▪ gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, llawn yw 'r ddaiar o'th gyfoeth.

25 Felly y mae y Môr mawr, llydan: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, bwyst-filod bychain a mawri­on.

26 Yno 'r â y llongau: yno y mae 'r Lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.

27 Y rhai hyn oll a ddisgwiliant wrthit, am roddi iddynt eu bwyd yn ei brŷd.

28 A roddech iddynt a gasclant: agori dy law a di­wellir hwynt â daioni.

29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dy­gi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant iw llwch

30 Pan ollyngych dy yspryd y creuir hwynt, ac yr aduewyddi wyneb y ddaiar,

31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ie weithredoedd.

32 Efe a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, efe a gy­ffwrdd a'r mynyddoedd, a hwy a fygant.

33 Canafi'r Arglwydd tra fyddwyf fyw, canaf i'm Duw tra fyddwyf.

34 Bydd melys fy myfyrdod am dano: mi a lawe­nychaf yn ŷr Arglwydd.

35 Darfydded y pechaduriaid o'r tîr, na fydded yr annuwolion mwy: fy enaid bendithia di 'r Arglwydd Molwch yr Arglwydd.

DYDD xxj.

Boreuol Weddi.
Confitemini Domino. Psal. cv.

CLodforwch yr Arglwydd, gelwch ar ei Enw: mynegwch ei weithredoedd ym mysc y bobloedd.

2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch ani ei holl ryfeddo­dau ef.

3 Gorfoleddwch yn ei Enw san­ctaidd; llawenyched calon y rhai a geisiant yr Argl­wydd.

4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: ceisiwch ei wy­neb ef bôb amser.

5 Cofiwch ei ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe: ei wrthiau a barnedigaethau i enau,

6 Chwi hâd Abraham ei wâs ef: chwi meibion Jacob ei etholedigion.

7 Efe yw 'r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedigae­thau ef sydd trwy 'r holl ddaiar.

8 Cofiodd ei gyfammod byth: y gair a orchymyn­nodd efe i fîl o genhedlaethau.

9 Yr hyn a ammododd efe ag Abraham, a'i lŵ i Isaac.

10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel:

11 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dîr Canaan, rhan­dir eich etifeddiaeth.

12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie ychydig, a di­eithraid ynddi:

13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth: o'r naill deyrnas at bobl arall:

14 Ni adawodd i nêb eu gorthrymmu, ie ceryddodd frenhinoedd o'i plegit:

15 Gan ddywedyd, na chyffyrddwch a'm rhai enei­niog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.

[Page]16 Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.

17 Anfonodd ŵr o'i blaen hwynt, Jospeh yr hwn a werthwyd yn wâs.

18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid aeth mewn heirn:

19 Hyd yr amser y daeth ei air ef; gair yr Arglwydd a'i profodd ef.

20 Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef, lly­wodraeth-wr y bobl, ac a'i rhyddhâodd ef.

21 Gosododd ef yn Arglwydd ar ei dy, ac yn lly­wydd ar ei holl gyfoeth.

22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyscu doethineb iw henuriaid ef.

23 Aeth Israel hefyd i'r Aipht, a Jacob a ymdei­thiodd yn nhir Ham.

24 Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddirfawr, ac a'i gwnaeth yn gryfach nâ'i gwrthwynebwŷr.

25 Trôdd eu calon hwynt i gasau ei bobl ef, i wneu­thur yn ddichellgar â'i weision.

26 Efe a anfonodd Moses ei wâs, ac Aaron yr hwn a ddewisasei.

27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion es yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.

28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nis anufuddhasant hwy ei air ef.

29 Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscodd.

30 Eu tir a heigiodd lyffaint, yn stafelloedd eu bren­hinoedd.

31 Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc-bla, a llau yn eu holl frû hwynt.

32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysc, ac yn fflammau tân yn eu tîr.

33 Tarawodd hefyd eu gwinŵŷdd, a'i ffigys-ŵŷdd: ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid a'r lin­dys yn aneirif.

35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tîr hw­yut: ac a ddifasant ffrwyth eu daiar hwynt.

[Page]36 Tarawodd hefyd bôb cyntaf-anedig yn eu tîr hwynt; blaen-ffrwyth eu holl nerth hwynt.

37 Ac a'i dug hwynt allan ag arian, ag ac aur: ac heb un llesc yn eu llwythau.

38 Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan: ca­nys syrthiasei eu harswyd arnynt hwy.

39 Efe a danodd gwmwl yn dô, a than i oleno liw nôs.

40 Gofynnâsant, ac efe a ddug sofl-ieir, ac a'i di­wallodd a bara nefol.

41 Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd, cerddasant ar hŷd lleoedd sychion yn afonydd.

42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abra­ham ei wâs.

43 Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawenydd: ei etholedigion mewn gorfoledd.

44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a me­ddiannasant lafur y bobloedd.

45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Prydnhaw­nol Weddi.
Confitemini Domino. Psal. cvj.

MOlwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Ar­glwydd, canys da yw: ô herwydd ei dru­garedd a bery yn dragywydd.

2 Pwy a draetha nerthoedd yr Argl­wydd? ac a fynega ei holl fawl ef?

3 Gwyn en byd a gadwant farn: a'r hwn a wnêl gyfiawnder bôb amser.

4 Cofia fi Arglwydd yn ol dy raslonrhwydd i'th bobl, ymwel â mi â'th iechydwriaeth.

5 Fel y gwelwyfddaioni dy etholedigion, fel y lla­wenychwyf yn llawenydd dy genhedl di: fel y gorfol­eddwyf gyd a'th etifeddiaeth.

6 Pechasom gyd â'n tadau, gwnaethom gamwedd anwireddus fuom.

[Page]7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofiasant liosogrŵydd dy drugareddau, eithr gwrth-ryfelgar fuant wrth y môr, sef, y mor coch.

8 Etto efe a'i hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.

9 Ac a geryddodd y mor coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy 'r dyfnder megis trwy 'r ani­alwch:

10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog: ac a'i gwaredodd o law y gelyn.

11 A'r dyfroedd a doesant eu gwrthwydebwŷr: ni adawyd un o honynt.

12 Yna y credasant ei eiriau ef: canasant ei fawl ef.

13 Yn y fan yr anghofiafant ei weithenoedd ef; ni ddisgwiliasant am ei gyngor ef,

14 Eithr blyssiasant yn ddirfawr yn yr anialwch: a themptiasant Dduw yn y diffaethwch.

15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt, eithr efe a anfonodd gulni iw henaid.

16 Cynfigennasant hefyd wrth Moses yn y gwer­syll: ac wrth Aaron sanct yr Arglwydd.

17 Y ddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan ac a orchgudiodd gynnulleidfa Abiram.

18 Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa, hwynt fflam a loscodd y rhai annuwiol.

19 Llo a wnaethant yn Horeb: ac ymgrymmasant i'r ddelw dawdd.

20 Felly y troesant eu gogoniant i lûn eidion yn pori glaswellt.

21 Anghofiasant Dduw eu hachub-wr, yr hwn a wnelsei bethau mawrion yr yn Aipht:

22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham: pethau ofnadwy wrth y môr coch.

23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buase i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o'i flaen ef, i droi ymmaith ei lidiawgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

24 Diystyrasant hefyd y tîr dymmuol: ni chreda­sant ei air ef:

[Page]25 Ond grwgnachasant yn eu pebyll: ac ni wran­dawsant ar lais yr Arglwydd.

26 Yna y derchafodd efe ei law yn eu herbyn hw­ynt, iw cwympo yn yr anialwch.

27 Ac i gwympo eu hâd ym mysc y Cenhedloedd, ac iw gwascaru yn y tiroedd.

28 Ymgyssylltasant hefyd a Baal-peor, a bwytta­sant ebyrth y meirw.

29 Felly y digiasant ef a'i dychymmygion eu hun: ac y tarawodd plâ yn eu mysc hwy.

30 Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farnodd: a'r plâ a attaliwyd.

31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o gen­hedlaeth i genhedlaeth byth.

32 Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynneu: fel y bu ddrwg i Moses o'i plegit hwynt,

33 O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef, fel y cam-ddywedodd a'i wefusau.

34 Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywe­dasei 'r Arglwydd wrthynt.

35 Eithr ymgymmyscasant â'r Cenhedloedd: a dys­casant en gweithredoedd hwynt.

36 A gwasanaethasant eu delwau hwynt, y rhai a fu yn fagl iddynt.

37 Aberthasant hefyd eu meibion, a'i merched i gy­threuliaid.

38 Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion, a'i merched, y rhai a aberthasant i ddelwab Canaan, a'r tir a halogwyd â gwaed.

39 Felly 'r ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y putteiniasant gyd â'i dychymmygion.

40 Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn er­byn ei bobl, fel y ffieiddiod efe ei etifeddiaeth.

41 Ac efe a'i rhoddes hwynt yn llaw 'r cenhed­loedd a'i caseion a lywodraethasant arnynt.

42 Eu gelynion hefyd a'i gorthrymmasant; a dar­ostyngwyd hwynt tan eu dwylo hwy.

43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt, hwy­thau a'i digiasant ef â'i cyngor eu hun: hwy a wan­hychwyd am eu hanwiredd.

[Page]44 Etto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt: pan glywodd eu llefain hwynt.

45 Ac efe a gofiodd ei gyfammod â hwynt, ac a edifarhâodd yn ôl lliosogrwydd ei drugareddau.

46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a'i caethiwai.

47 Achub ni ô Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy Enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.

48 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, er­ided, ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.

DYDD xxiv

Boreuol Weddi.
Confitemini Domino. Psal. cvij.

CLodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd fydd yn dragywydd.

2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd; y rhai a waredodd efe o law y gelyn.

3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r de­hau.

4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddi­sathr: heb gael dinas i aros ynddi.

5 Yn newynog ac yn sychedig: eu henaid a lewygodd ynddynt.

6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: ac efe a'i gwaredodd o'i gorthrymderau.

7 Ac o'i tywysodd hwynt ar hŷd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanneddol.

8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion,

2 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig; ac a leinw yr enaid newynog â daioui.

[Page]10 Y rhai a bresswyliant yn y tywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn.

11 O herwydd anufuddhâu o honynt eirian Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12 Am hynny yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynnorthwy-wr.

13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder: efe a'i hachubodd o'i gorthrymderau.

14 Dug hwynt allan o dywyllwch, a chyscod an­geu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barrau heirn.

17 Ynfydion oblegit eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddau a gystuddir.

18 Eu henaid a ffieiddiei bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.

19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder: ac efe a'i hachubodd o'i gorthrymderau.

20 Anfonodd ei air, ac iachâodd hwynt, ac a'i gwa­redodd o'i dinistr.

21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

22 Aberthant hefyd aberth moliant: mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawri­on.

24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd: a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Canys efe a orchymmyn, a chyfyd tymhestlwynt: yr hwn a dderchafa ei donnau ef.

26 Hwy a escynnant i'r nefoedd, descynnant i'r dy­fnder, tawdd eu henaid gan flinder.

27 Ymdrôant, ac ymsymmudant fel meddwyn: a'i holl ddoethineb a ballodd.

28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyng­der, ac efe a'i dwg allan o'i gorthrymderau.

[Page]29 Efe a wna yr storm yn dawel: a'i tonnau a oste­gant.

30 Yna y llawenhant, am eu gostêgu, ac efe a'i dwg i'r porthladd a ddymunent.

31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

32 A derchafant ef ynghynnulleidfa y bobl, moli­annant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33 Efe a wna afonydd yn ddiffaethwch: a ffynhon­nau dyfroedd yn sychdir.

34 A thir ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddrygi­oni y rhai a drigant ynddo.

35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr: a'r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.

36 Ac yno y gwna i'r newynog aros: fel y darpa­ront ddinas i gyfanneddu:

37 Ac yr hauont feusydd, ac y plannont winllan­noedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38 Ac efe a'i bendithia hwynt fel yr amlhant yn ddirfawr, ac ni âd iw hanifeiliaid leihâu.

39 Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, dryg-fyd, a chyni.

40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grywydro mewn anialwch heb ffordd.

41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42 Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenych­ant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43 Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a dde­allant drugareddau 'r Arglwydd.

Paratum cor meum. Psal. cviij.

PArod yw fy nghalon ô Dduw, canaf a chan­molaf â'm gogoniant.

2 Deffro y nabl a'r delyn, minnau a ddeffrôaf yn foreu.

3 Clodforaf di Arglwydd, ym mysc y [Page] bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloeddl

4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd, a'th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.

5 Ymddercha ô Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6 Fel y gwareder dy rai anwyl: achub â'th ddeheu­law, a gwrando fi.

7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd: lla­wenychaf, rhannaf Sichem, a messuraf ddyffryn Succoth.

8 Eiddo fi yw Gilead, eiddo fi Manasseh: Ephra­im hefyd yw nerth fy mhen: Juda yw fy neddf-wr.

9 Moab yw fy nghrochan golchi, tros Edom y ta­flaf fy escid: buddugoliaethaf ar Philistia.

10 Pwy a'm dŵg i'r ddinas gâdarn? pwy a'm dŵg hyd yn Edom?

11 Onid tydi o Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymaith, ac onid ei di allan, ô Dduw, gyd â'n lluoedd?

12 Dyro i mi gynnorthwy rhag cyfyngder, canys gau yw ymwared dŷn.

13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein gelynion.

Deus laudum. Psal. cix.

NA thaw: o Dduw fy moliant.

2 Canys genau 'r annuwiol, a genau y twy­llodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i'm herbyn.

3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau câs, ac ymla­ddasant â mi heb achos.

4 Am fy ngharedigrwydd i'm gwrthwynebant: minneu a arferaf weddi.

5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda: a chas ani fy nghariad.

6 Gosod titheu un annuwiol arno ef; a safed Sa­tan wrth ei ddeheu-law ef.

7 Pan farner ef, eled yn euog, a bydded ei weddi yn bechod.

8 Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chemmered arall ei swydd ef.

[Page]9 Bydded ei blant yn ymddifaid: a'i wraig yn weddw.

10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a charddottant: ceisiant hefyd eu bara o'i hanghyfan­nedd leoedd.

11 Rhwydded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded neb a drugarhâo wrth ei ymddifaid ef.

13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef, dilêer eu henw yn yr oes nessaf.

14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd: ac na ddilêer pechod ei fam ef.

15 Byddant bob amser ger bron yr Arglwydd: fely torro efe ymmaith eu coffadwriaeth o'r tir.

16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr er­lid o honaw y truan a'r tlawd a'r cystuddiedic o ga­lon, iw ladd.

17 Hoffodd felldith a hi ddaeth iddo: ni fynnei fen­dith, a hi bellâodd oddi wrtho.

18 Je gwiscodd felldith fel dilledyn, a hi a ddâeth fel dwfr iw fewn, ac fel olew iw escyrn.

19 Bydded iddo fel dilledyn, yr hwn a wisco efe, ac fel gwregys a'i gwregyso ef yn oestadol.

20 Pan fyddo tâl fy ngwrthwyneb-wyr gan yr Ar­glwydd: a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.

21 Titheu Arglwydd Dduw, gwna erofi er mwyn dy Euw, am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.

22 Canys truan a thlawd ydwyfi, a'm calon a ar­chollwyd o'm mewn.

23 Euthum fel cyscod pan gilio, fel locust i'm hes­cydwir.

24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd, a'm cnawd a guriodd o eisieu brasder.

25 Gwradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent en pennau.

26 Cynnorthwya fi o Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ol dy drugaredd.

27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn: mai ti, Arglwydd, a'i gwnaethost.

[Page]28 Melldithiant hwy, ond bendithia di; cywily­ddir hwynt, pan gyfodant, a llawenyched dy wâs.

29 Gwiscer fy ngwrthwyneb-wŷr â gŵarth▪ ac ymwiscant â'u cywilydd megis â chochl.

30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr a'm genau: iê molianaf ef ym mysc llawer.

31 O herwydd efe a saif ar ddehau-law 'r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.

DYDD xxiij

Boreuol Weddi.
Dixit Dominus. Psal. cx.

DYwedodd yr Arglwydd wrth fy Ar­glwydd, eistedd ar fy neheu-law: hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i'th draed.

2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sion: lly wodraetha di ynghanol dy elynion.

3 Dy bobl a fyddant eŵyllysgar, yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd, o groth y wawr y mae gwlith dy anedigaeth i ti.

4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edeifarhâ ti wyt offeiriaid yn dragywyddol yn ôl urdd Melchisedec.

5 Yr Arglwydd ar dy ddeheu-law, a drywana fren­hinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6 Efe a farn ym mysc y cenhedloedd, lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.

7 Efe a ŷf o'r afon ar y ffordd, am hynny y dercha efe ei ben.

Confitebor tibi. Psal. cxj

MOlwch yr Arglwydd, Clodforaf yr Arglwydd â'm holl galon; ynghymmanfa y rhai uniawn, ac yn y gynnulleidfa.

2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: wedi eu ceisio gan bawb a'i hoffant.

[Page]3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef: a'i gyfi­awnder sydd yn parhâu byth.

4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau; Graslawn a thru­garog yw 'r Arglwydd.

5 Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef, efe a gofia ei gyfammod yn dragywydd.

6 Mynegodd iw bobl gadernid ei weithredoedd: i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwy­law ef: ei holl orchymynion ydynt siccr.

8 Wedi eu siccrhâu byth ac yn dragywydd, a'i gwneuthur mewn gwirionedd, ac uniawnder.

9 Anfonodd ymwared iw bobl, gorchymmynnodd ei gyfammodd yn dragywyddol: sancteiddiol, ac ofna­dwy yw ei enw ef.

10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: de­all da sydd gan y rhai a wnant ei orchymmynion ef; y mae ei foliant ef yn parhâu byth.

Beatus vir. Psal. cxij.

MOlwch yr Arglwydd: Gwyn ei fyd y gwr a of­na'r Arglwydd, ac sydd yn hoffi i orchymynion ef yn ddirfawr.

2 Ei hâd fydd cadarn ar y ddaiar; cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.

3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhâu byth.

4 Cyfyd goleuni i'r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn yw efe.

5 Gŵr da fydd gymmwynascar, ac yn rhoddi ben­thyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.

6 Yn ddiau nid yscogir ef byth, y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.

7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.

8 Attegwyd ei galon, nid ofna efe hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.

9 Gwascarodd, rhoddodd i'r tlodion, a'i gyfiawn­der sydd yn parhâu byth: ei gorn a dderchefir mewn gogoniant.

[Page]10 Yr annuwiol, a wêl hyn, ac a ddigia, efe a yscyr­nyga ei ddannedd, ac a dawdd ymmaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.

Laudate, pueri. Psal. cxiij.

MOlwch yr Arglwydd: Gweision yr Arglwydd, molwch: îe molwch Enw'r Arglwydd.

2 Bendigedic fyddo enw'r Arglwydd, o hyn allan ac yn dragywydd.

3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw Enw'r Arglwydd.

4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhed­loedd: a'i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.

5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn presswylio yn uchel?

6 Yr hwn a ymddarostwng, i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar?

7 Efe sydd yn codi y tlawd o'r llwch: ac yn dercha­fu yr anghenus o'r dommen.

8 Iw osod gydâ phendefigion, ie gydâ phendefigi­on ei bobl.

9 Yr hwn a wna i'r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen-fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.

Prydnhaw­nol Weddi▪
In exitu Israel. Psal. cxiv.

PAN aeth Israel o'r Aipht, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith.

2 Juda oedd ei sancteiddrwydd: ac Is­rael ei arglwyddiaeth.

3 Y mor a welodd hyn, ac a giliodd: yr Jorddonen a drôdd yn ôl.

4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r bry­niau fel ŵyn defaid.

5 Beth a ddarfu i ti ô fôr. pan giliaist? titheu Jor­ddonen pa ham y trôaist yn ôl?

[Page]6 Pa ham fynyddoedd y neidiech fel hyrddod? a'r bryniau fel ŵyn defaid?

7 Ofna di ddaiar rhag yr Arglwydd: rhag Duw Jacob.

8 Yr hwn sydd yn troi'r graig yn llynn dwfr, a'r gallestr yn ffynnon dyfroedd.

Non nobis, Domine. Psal. cxv.

NId i ni ô Arglwydd, nid i ni, onid i'th Enw dy hun dod ogoniant, er mewn dy drugaredd, er mwyn dy wirionedd.

2 Pa ham y dywedai y cenhedloedd, pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?

3 Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wna­eth yr hyn a fynnodd oll.

4 Eu delwau hwy ydynt o aur, ac arian, gwaith dwylo dynion.

5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant, llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant, ffroe­nau sydd ganddynt, ond ni aroglant.

7 Dwylo sydd iddynt ond ni theimlant: traed sy iddynt, ond ni cherddant: ni leisiant chwaith â'i gwddf.

8 Y rhai a'i gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

9 O Israel, ymddiried ti yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, ai tarian.

10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, ai tarian.

11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth âu tarian.

12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni, efe a'n bendithia; bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.

13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwyddd, fy­chain, a mawrion.

14 Yr Arglwydd a'ch chwanega chwi fwyfwy: chwychwi a'ch plant hefyd.

15 Bendigedic ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daiar.

[Page]16 Y nefoedd, îe 'r nefoedd ydynt eiddo yr Argl­wydd: a'r ddaiar a roddes efe i feibion dynion.

17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r neb sydd yn discyn i ddistawrwydd.

18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd, o hyn al­lan, ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

DYDD xxiv

Boreuol Weddi.
Dilexi quoniam. Psal. cxvj.

DA gennif wrando o'r Arglwydd ar fy llef a'm gweddiau.

2 Am ostwng o honaw ei glust attaf. Am hynny llefaf tros fy ny­ddiau arno ef.

3 Gofidion angeu a'm cylchyna­sant, a gofidiau uffern a'm dalia­sant, ing a blinder a gefais.

4 Yna y gelwais ar Enw 'r Arglwydd, attolwg Arglwydd gwared fy enaid.

5 Graslawn yw 'r Arglwydd, a cyfiawn; a thostu­riol yw ein Duw ni.

6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

7 Dychwel ô fy enaid i'th orphywysfa, canys yr Arglwydd fu dda wrthit.

8 O herwydd it waredu fy enaid oddi wrth ang­eu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, am traed rhag lli­thro.

9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi'n ddirfawr.

11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, pob dyn sydd gel­wyddoc.

12 Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi?

13 Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw'r Arglwydd y galwaf.

[...]
[...]

14 Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yngwydd di holl bobl ef.

15 Gwerth-fawr yngolwg yr Arglwydd yw mar­wolaeth ei Sainct ef.

16 O Arglwydd, yn ddiau dy wâs di ydwyfi, dy wâs di ydwyfi, mab dy wasanaeth-wraig, dattodaist fy rhwymau.

17 Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar Enw 'r Arglwydd.

18 Talaf fy addunedau i'r Arglwydd, yn awr yng­wydd ei holl bobl.

19 Ynghynteddoedd tŷ 'r Arglwydd: yn dy ganol di û Jerusalem. Molwch yr Arglwydd.

Laudate Dominum. Psal. cxvij.

MOlwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd: clod­forwch ef yr holl bobloedd.

2 O herwydd ei drugaredd ef tu ag attom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragy­wydd. Molwch yr Arglwydd.

Confitemini Domino. Psal. cxviij.

CLodforwch yr Arglwydd, canys da yw, o her­wydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhâu yn dragywydd.

3 Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhâu yn dragywydd.

4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

5 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Argl­wydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.

6 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?

7 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, ym mhlith fy nghyn­northwy-wyr: am hynny y câf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddi­ried mewn dŷn.

[Page]9 Gwell yw gobeithi yn yr o Arglwydd, nag ymdd­iried mewn tywysogion.

10 Yr holl geuhedloedd am hamgylchynasant: ond yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.

11 Amgylchynasant fi, ie amgylchynasant fi, ond yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ym­maith.

12 Amgylchynasant fi fel gwenyn, diffoddasant fel tân drain: o herwydd yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.

13 Gan wthio y gwthiaist fi fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a'm cynnorthwyodd.

14 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân: ac sydd ie­chydwriaeth i mi.

15 Llef gorfoledd, ac iechydwriaeth sydd ym mhe­bylly cyfiawn: deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneu­thur grymmusder.

16 Deheu-law 'r Arglwydd a dderchafwyd: deheu­law 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmus­der.

17 Ni byddaf farw, onid byw: a mynegaf wei­thredoedd yr Arglwydd.

18 Gan gospi i'm cospodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.

19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn idd­ynt, a chlodforaf yr Arglwydd.

20 Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.

21 Clodforafdi, o herwydd i ti fy ngwrando, a'th fod yn iechydwriaeth i mi.

22 Y maen a wrthododd yr adeilad-ŵŷr a aeth yn ben i'r gongl.

23 O'r Arglwydd y daeth hyn, hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.

24 Dymma 'r dydd a wnaeth yr Arglwydd; gor­foleddwn, a llawenychwn ynddo.

25 Attolwg Arglwydd, achub yn awr; attolwg Arglwydd, pâr yn awr lwyddiant.

26 Bendigedic yw a ddêl yn Enw 'r Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ 'r Arglwydd.

[Page]27 Duw yw 'r Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau hyd wrth gyrn yr allor.

28 Fy Nuw ydwyt ti, mi a'th glodforaf, derchafaf di, fy Nuw.

29 Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw: o her­wydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.

Prydnhaw­nol Weddi.
Baeti immaculati. Psal. cxix.

GWynfyd y rhai perffaith eu ffordd: y rhai a rodiant ynghyfraith yr Arglwydd.

2 Gwynfyd y rhai a gadwant ei dystiol­aethau ef: ac a'i ceisiant ef a'i holl galon.

3 Y rhai hefyd hi wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.

4 Ti a orchymynnaist gadw dy orchymynion yn ddyfal.

5 O am gyfeirio fy ffyrdd, i gadw dy ddeddfau.

6 Yna ni'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymynion.

7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddyscwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8 Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi'n hollawl.

In quo corriget.

PA fôdd y glanhâ llangc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10 A'm holl galon i'th geisiais, na âd i mi gyfeili­orni oddi wrth dy orchymynion.

11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.

12 Ti Arglwydd wyt fendigedic: dysc i mi dy ddedd­fau.

13 A'm gwefusau y treuthais holl farnedigaethau dy enau.

14 Bu mor llawen gennif ffordd dy dystiolaethau a'r holl olud.

[Page]15 Yn dy orchymynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16 Yn dy ddeddfau 'r ymddigrifaf, nid anghofiaf dy air.

Retribue servo tuo.

BYdd dda wrth dy wâs, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18 Dadcuddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhy­fedd allan o'th Gyfraith di.

19 Dieithr ydwyfi ar y ddaiar, na chudd di rhagof dy orchymynion.

20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigae­thau bob amser.

21 Ceryddaist y beilchion melltigedic: y rhai a gy­feiliornant oddi wrth dy orchymynion.

22 Trô oddi wrthif gywilydd a dirmyg, oblegit dy dystiolaethau di a gedwais.

23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywe­dasant i'm herbyn: dy wâs ditheu a fyfyriei yn dy ddeddfau.

24 A'th destiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghor-wyr.

Adhæsit pavimento.

GLŷnodd fy enaid wrth y llwch, bywhâ fi'n ol dy air.

26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysc i mi dy ddeddfau.

27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynion, ac mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.

28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi'n ôl dy air.

29 Cymmer oddi wrthif ffordd y celwydd, ac yn raslawn dôd i mi dy Gyfraith.

30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy far­nedigaethau o'm blaen.

31 Glynais wrth dy dystiolaethau: ô Arglwydd, na'm gwradwydda.

32 Ffordd dy orchymynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

DYDD XXV

Boreuol Weddi.
Legem pone.

DYsc i mi ô Arglwydd, ffordd dy ddedd­fau a chadwaf hi hyd y diwedd.

34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy Gyfraith: ie cadwaf hi â'm holl galon.

35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchymynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau: ac nid at gybydd-dra.

37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd: a bywhâ fi yn dy ffyrdd.

38 Siccrhâ dy air i'th wâs, yr hwn sy 'n ymroddi i'th ofn di.

39 Trô heibio fy ngwradwydd yr wyf yn ei ofni: ca­nys▪ dy farnedigaethau sydd dda

40 Wele awyddus ydwyf i'th orchymynion: gwna i nu fyw yn dy gyfiawnder.

Et veniat super me.

DEued i mi dy drugaredd Arglwydd, a'th iechyd­wriaeth yn ôl dy air.

42 Yna yr attebaf i'm cabludd: o herwydd yn dy air y gobeithiais.

43 Na ddwg ditheu air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: o herwydd yn dy farnedigaethau di y go­beithias.

44 A'th Gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.

45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder, o herŵydd dy orchymynion di a geifiaf.

46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf, o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennif.

47 Ac ymddigrifaf yn dy orchymynion, y rhai a hoffais.

48 A'm dwylo a dderchafaf at dy orchymynion, y rhai a gerais, ac mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

Memor esto servi tui.

COfia y gair wrth dy wâs, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50 Dymma fy nghyssur yn fy nghystudd, canys dy air di a'm bywhâodd i.

51 Y beilchiom a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy Gyfraith di.

52 Cofiais o Arglwydd, dy farnedigaethau erioed, ac ymgyssurais.

53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegit yr annuwoli­on, y rhai sydd yn gadu dy Gyfraith di,

54 Dy ddeddfau oedd fy nghân, yn nhŷ fy mhere­rindod.

55 Cofiais dy Enw Arglwydd, y nos; a chedwais dy Gyfraith.

56 Hyn oedd gennif, a'm gadw o honof dy orchymy­nion di.

Portio mea Domine.

O Arglwydd fy rhan ydwyt, dywedais y cadwn dy eiriau.

58 Ymbiliais a'th wyneb a'm holl galon: trugar­hâ wrthif yn ol dy air,

59 Meddyliais a'm fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.

60 Bryssiais, ac nid oedais gadw dy orchymynion.

61 Minteioedd yr annuwolion a'm hyspeiliasant: ond nid anghofiais dy Gyfraith di.

62 Hanner nos y cyfodaf i'th foliannu, am farne­digaethau dy gyfiawnder.

63 Cyfail, ydwyfi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchymynion.

64 Llawn yw 'r ddaiar o'th drugaredd, o Argl­wydd: dysc i mi dy ddeddfau.

Bonitatem fecisti.

GWnaethost yn dda a'th wâs, o Arglwydd, yn ol dy air.

66 Dysc i mi, iawn ddeall, a gŵybodaeth: o her­wydd dy orchymynion di a gredais.

67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr, cedwais dy air di.

[...]
[...]
[...]
[...]

68 Da ydwyt, a daionus, dysc î mi dy ddeddfau.

69 Y beilchion a glyttiasant gelwydd i'm herbyn: minneu a gadwaf dy orchymynion â'm holl galon.

70 Cyn frased a'r bloneg yw eu calon: minneu a ymddigrifais yn dy Gyfraith di.

71 Da yw i mi fy nghystuddio, fel y dyscwn dy ddeddfau.

72 Gwell i mi Gyfraith dy enan, nâ miloedd o aur, ac arian.

Prydnhaw­nol Weddi.
Manus tuæ fecerunt me.

DY ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm llunia­sant: pâr i mi ddeall, fel y dyscwyf dy or­chymynion.

74 Y rhai a'th ofnant, a'm gwelant, ac a lawenychant; oblegit gobeithio o ho­nof yn dy air di.

75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedi­gaethau: ac mai mewn ffyddlondeb i'm cystuddiaist.

76 Bydded attolwg dy drugaredd i'm cyssuro, yn ôl dy air i'th wasanaeth-wr.

77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw o herwydd dy Gyfraith yw fy nigrifwch.

78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnant gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchymy­nion di.

79 Troer attafi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.

80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau, fal na'm cywilyddier.

Defecit anima mea.

DEffygiodd fy enaid am dy iechydwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwil.

82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddy­wedyd; pa bryd i'm diddeni?

83 Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.

[Page]84 Panifer yw dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?

85 Y beilchion a gloddiasant byllan i mi, yr hyn nid yw wrth dy Gyfraith di.

86 Dy holl orchymynion ydynt wirionedd: ar gam i'm herlidiasant, cymmorth fi:

87 Braidd na'm difasant ar y ddaiar, minneu ni adewais dy orchymynion.

88 Bywhâ fi yn ôl dy drugaredd: felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

In æternum Domine.

YN dragyŵydd ô Arglwydd, y mae dy air wedi ei siccrhâu yn y nefoeddd.

90 Dy wirioneddd sydd hyd genhedlaeth a chen­hedlaeth: seiliaist y ddaiar, a hi a saif.

91 Wrthdy farnedigaethau y safant heddyw: anys dy weisiou yw pob peth.

92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, dar­fuasei yna am danaf yn fy nghystudd.

93 Byth nid anghofiaf dy orchymynion: canys â hwynt i'm bywheaist.

94 Eiddo ti ydwyf, cadw fi; o herwydd dy orchy­mynion a geisiais.

95 Y rhai annuwiol a ddisgwiliasant am danaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyria fi.

96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithr­wydd: ond dy orchymmion di sydd dra ehang.

Quomodo dilexi?

MOr gu gennif dy Gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.

98 A'th orchymynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach nâ'm gelynion: canys byth y maent gyd â mi.

99 Deellais fwy nâ'm holl athrawon: o herwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100 Deellais yn well nâ'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchymynion di,

101 Atteliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

[Page]102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau, her­wydd ti a'm dyscaist.

103 Mor felus yw dy eiriau i'm genau : melusach nâ mêl i'm safn.

104 Trwy dy orchymynion di y pwyllais: am hyn­ny y caseais bob gau lwybr.

DYDD xxvi

Boreuol Weddi.
Lucerna pedibus meis.

LLusern yw dy air i'm traed: a lle­wyrch i'm llwybr.

106 Tyngais, a chyflawnaf, y câdwn farnedigaethau dy gyflawn­der.

107 Cystuddiwyd fi yn ddir­fawr: bywhâ fi ô Arglwydd, yn ôl dy air.

108 Attolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllyscar offrymmau fy ngenau, a dysc i mi dy farnedigaethau.

109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy Gyfraith.

110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchymynion.

111 Cymmerais dy orchymynion yn etifeddiaeth dros byth: o herwydd llawenydd fy nghalon ydynt.

112 Gostyngais fy nghalon, i wneuthur dy ddeddfau byth hyd y diwedd.

Iniquos odio habui.

MEddyliau ofer a gasiais, a'th Gyfraith di a ho­ffais.

114 Fy lloches a'm tariam ydwyt: yn dy air y go­beithiaf.

115 Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cad­waf orchymynion fy Nuw.

116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ād i mi gywilyddio am fy ngobaith.

[Page]117 Cynnal fi, a diangol fyddaf, ac ar dy ddeddfau au yr edrychaf yn wastadol.

118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt▪

119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel so­thach: am hynny 'r hoffais dy dystiolaethau.

120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofn­ais rhag dy farnedigaethau.

Feci iudicium.

GWneuthum farn, a chyfiawnder: na âd fi i'm gdr­thrym-wŷr.

122 Mechnia dros dy wâs er daioni: na âd i'r beil­chion fy ngorthrymmu.

123 Fy llygaid a ballasant am dy iechydwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

124 Gwna i'th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddeddfau.

125 Dy wâs ydwyfi, pâr i mî ddeall: fel y gwyp­wyf dy dy stilaethau.

126 Amser yw i'r Arglwydd weithio: ddiddymm­sant dy Gyfraith di.

127 Am hynny 'r hoffais dy orchymynion yn fwy nag aur, ie yn fwy nag aur coeth.

128 Am hynny vnion y cyfrifais dy orchymynion am bob peth: a chaseais bob gau lwybr.

Mirabilia.

RHyfedd yw dy dystiolaethau, am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni, pair ddeall i rai annichellgar.

131 Agorais fy ngenau a dyhêais, oblegit awyddus oeddwn i'th orchymmyniou di.

132 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy Enw.

133 Cyfarwydda fy nghamrau yn dy air, ac na ly wodraethed dim anwiredd arnaf.

134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchymynion.

135 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddeddfau.

[Page]136 Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chadwasant dy Gyfraith di.

Instus es Domine.

CYfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau.

138 Dy dystiolaethan y rhai a orchymynnaist, ydynt gyfiawn a ffyddlon iawn.

139 Fy zel a'm difâodd, o herwydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.

140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hyn­ny y mae dy wâs yn ei hoffi.

141 Bychan ydwyfi, a dirmygus: ond nid angho­fiais dy orchymynion.

142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth: a'th Gy­fraith sydd wirionedd.

143 Adfyd a chystud a'm goddiweddasant: a'th orchymyuion oedd fy nigrifwch.

144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragy­wydd: gwna i mi ddeall a byw fyddaf.

Prydnhaw­nol Weddi.
Clamavi in toto corde meo.

LLefais â'm holl galon, clyw fi o Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.

146 Llefais arnat, achub fi: a chad­waf dy dystiolaethau.

147 Achubais flaen y cyfddydd, a gw­aeddais; wrth dy air y disgwiliais.

148 Fy llygaid a achubasant flaen gwiliadwriae­thau y nôs, i fyfyrio yn dy air di.

149 Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

150 Y rhai a ddilynant scelerder a nessasant arnaf: ymbellasant oddi wrth dy Gyfraith di.

151 Titheu Arglwydd wyt agos: a'th holl orchy­mynion sydd wirionedd.

152 Er ystalm y gwyddwn am dy dystiolaethau, sei­lio o honot hwynt yn dragywydd.

Vide humilitatem.

GWêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid angho­fiais dy Gyfraith.

154 Dadleu fy nadl, a gwared fi: bywhâ fi yn ol dy air.

155 Pell yw iechydwriaeth, oddi wrth y rhai annu­wiol: o herwydd ni cheisiant dy ddedfau di.

156 Dy drugareddau Arglwydd sydd aml: bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrth wy­nebu: er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.

158 Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynais: am na chadwent dy air di.

159 Gwêl fy mod yn hoffi dy orchymynion: Argl­wydd, bywhâ fi'n ol dy drugarogrwydd.

160 Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air: a phob un o'th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragy­wydd.

Principes persecuti sunt.

Tywysogion a'm herliadiasant heb achos, er hynny fy nghalon a grynei rhag dy air di.

162 Llawen ydwyfi oblegit dy air: fel un yn cael sclyfaeth lawer.

163 Celwydd a gasèais, ac a ffieiddiais: a'th Gy­fraith di a hoffais.

164 Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfo­ri: o herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy Gy­fraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166 Disgwiliais wrth dy iechydwriaeth di, ô Argl­wydd: a gwneuthum dy orchymynion.

167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.

168 Cedwais dy orchymynion a'th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

Appropinquet deprecatio.

NEssâed fy ngwaedd o'th flaen, Arglwydd, gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

[Page]171 Fy ngwesusau â draetha foliant: pan ddyscech i mi dy ddeddfau.

172 Fy nhafod a ddatcan dy air: o herwydd dy holl orchymynion sydd gyfiawnder.

173 Bydded dy law i'm cynnorthwyo: o herwydd dy orchymynion di addewisais.

174 Hiraethias ô Arglwydd, am dy iechydwriaeth: a'th Gyfraith yw fy hyfrydwch.

175 Bydded byw fy enaid, fel i'th folianno di: a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.

176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy wâs oblegit nid anghofiais dy orchymynion.

DYDD xxvij.

Boreuol Weddi.
Ad Dominum. Psal. cxx.

AR yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder: ac efe a'm gwranda­wodd i.

2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddoc, ac oddi wrth dafod twyllodrus.

3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?

4 Llymmion saethau cawr ynghyd a marwor me­ryw.

5 Gwae fi fy mod yn presswylio ym Mesech: yn cy­fanneddu ym mhebyll Ceday.

6 Hir y trigodd fy enaid gyd â'r hwn oedd yn casâu tangneddyf.

7 Heddychol ydwyfi, ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.

Levavi oculos. Psal. cxxi.

DEtchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd o'r lle y daw fy nghymmorth.

2 Fy nghymmorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.

3 Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huua dy geidwad.

4 Wele, ni huna ac ni chwsc ceidwad Israel.

[Page]5 Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.

6 Ni'th dery 'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.

7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.

8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfo­diad, o'r pryd hyn, hyd yn dragywydd.

Lætatus sum. Psal. cxxij.

LLawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ 'r Arglwydd.

2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, ô Jerusa­lem.

3 Jerusalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chyd­gyssylltu ynddi ei hun.

4 Yno 'r escyn y llwythau, llwythau 'r Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel i foliannu Enw 'r Arglwydd.

5 Canys yno y gosodwyd gorsedd-feingciau barn: gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.

6 Dymunwch heddwch Jerusalem: llwydded y rhai a'th hoffant.

7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: a ffynniant yn dy balassau.

8 Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion, y dywedaf yn awr, heddwch fyddo i ti.

9 Er mwyn tŷ 'r Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.

Ad te levavi oculos. Psal. cxxiij.

ALtat ti y derchafaf fy llygaid, ti yr hwn a bress­wyli yn y nefoedd.

2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu mei­stred, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law eu meistres: felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhâo efe wrthym ni.

3 Trugarhâ wrthym Arglwydd, trugarhâ wrth­ym, canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.

4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwar­gerdd y rhai goludog, ac â diystrywch y beilchion.

Nisi quia Dominus. Psal. cxxiv.

ONi buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni: y gall Israel ddywedyd yn awr.

[Page]2 Oni buasei îr Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn.

3 Yna i'n llyngcasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn.

4 Yna y dyfroedd a lifasei trosom: y ffrwd a aethei tros ein henaid,

5 Yna 'r aethei tros ein henaid ddyfroedd chwy­ddedig.

6 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, yr hwn ni rodd­odd ni yn ysclyfaeth iw dannedd hwyut.

7 Ein henaid a ddiangodd, fel aderyn o fagl yr adar-wŷr: y fagl a dorrwyd a ninneu a ddiangha­som.

8 Ein porth ni sydd yn Enw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a ddaiar.

Qui confidunt. Psal. cxxv.

Y Rhai a ymddirieddant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Sion: yr hwn ni syslir, ond a bery yn dragywydd.

2 Fel y mae Jerasalem a'r mynyddoedd o'i ham­gylch; felly y mae 'r Arglwydd o amgylch ei bobl, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

3 Canys ni orphywys gwialen annuwioldeb, ar randir y rhai cyfiawn: rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.

4 Oh Arglwydd, gwna ddaioni i'r rhai daionus: ac i'r rhai uniawn yn eu calonnau.

5 Ond y rhai a ymdrôant iw trofêydd, yr Argl­wydd, a'i gyr gydâ gweithred-wŷr anwiredd: a bydd tangneddyf ar Israel.

Prydnhaw­nol Weddi.
In convertendo. Psal. cxxvi.

PAn ddychwelodd yr Arglwyde gwaethiwed Sion, yr oeddem fel rhai yn breuddwy­dio.

2 Yna y llanwyd ein geuau â chwerth­in, a'n tafod â chanu: yna y dywedasant [Page] mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.

3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny 'r ydym yn llawen.

4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afo­nydd yn y dehâu.

5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.

6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn ŵylo, gan ddwyn hâd gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei yscubau.

Nisi Dominus. Psal. cxxvij.

OS yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeilad-wŷrwrtho: os yr Arglwydd ni cheidw 'r ddinas, ofer y gwilia y ceidwaid.

2 Ofer i chwi foreu godi, myned yn hwyr i gyscu, bwytta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun iw an­wylyd.

3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd, ei wobr ef yw ffrwyth y groth.

4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn, felly y mae plant ieuengctid.

5 Gwyn ei fyd y gwr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: ni's gwradwyddir hwy, pan ymddiddanant a'r gelynion yn y porth.

Beati omnes. Psal. cxxviij.

GWyn ei fyd pob un sydd yn ofni 'r Arglwydd: yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

2 Canys mwynhêi lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd a da fydd it.

3 Dy wraig fydd fel gwin-wŷdden ffrwythlawn, ar hŷd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion oliwydd o amgylch dy ford.

4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gwr a ofno'r Arglwydd.

5 Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Sion: a thi a gei weled daioni Jerusalem holl ddyddiau dy eini­oes.

6 A thi a geiweled plant dy blant, a thangneddyf ar Israel.

Sæpe expugnauerunt mer. Psal. cxxix.

LLawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieuengctid, y dichon Israel ddywedyd yu awr.

2 Llawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieuengc­tid, etto ni'm gorfuant.

3 Yr arddwŷr a arddasant ar fy nghefn, estynna­sant eu cwysau yn hirion.

4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn, efe a dorrodd raff­au y rhai annuwiol.

5 Gwradwydder hwy oll, agyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Sion.

6 Byddant fel glas-wellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymmaith.

7 A'r hwn ni leinwy pladur-ŵr ei law: na'r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau, ei fonwes.

8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Ar­glwydd arnoch: bendithiwn chwi yn Enw 'r Argl­wydd.

De profundis clamavi. Psal. cxxx.

O'R dyfnder y llefais arnat, ô Arglwydd.

2 Arglwydd clyw fy llefain, ystyried dy glusti­au wrth fy ngweddiau.

3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd: ô Arglwydd, pwy a saif?

4 Onid y mae gydâ thi faddeuant, fel i'th ofner.

5 Disgwiliaf a'm yr Arglwydd, disgwil fy enaid, ac yn ei air efy gobeithiaf.

6 Fy enaid sydd yn disgwil am yr Arglwyd, yn fwy nag y mae y gwilwyr am y boreu.

7 Disgwilied Israel am yr Arglwydd, o herwydd y mae trugaredd gyd â'r Arglwydd, ac aml ymwared gyd ag ef.

8 Ac efe a wared Israel, oddi wrth ei holl anwire­ddau.

Domine non est. Psal cxxxj.

OArglwydd nid ymfalchiodd fy nghalon, ac nid ymdderchafodd fy llygaid: ni rodiais ychwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi.

2 Eithr gosodais, a gostegais fy enaid fel un wedi [Page] ei ddiddyfnu oddi ŵrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.

3 Disgwilied Israel wrth yr Arglwydd, o'r prŷd hyn hyd yn dragywydd.

DYDD xxviij.

Boreuol Weddi.
Memento Domine. Psal. cxxxij.

O Arglwydd, cofia Ddafydd, a'i holl flinder:

2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rym­mus Dduw Jacob.

3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely.

4 Ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hûn i'm amran­tau:

5 Hyd oni chaffwyfle i'r Arglwydd: preswylfod i i rymmus Dduw Jacob.

6 Wele, clywsom am dani yn Ephrata: cawsom hi ym meusydd y coed.

7 Awn iw bebyll ef, ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.

8 Cyfod Arglwydd i'th orphy wylfa, ti ac Arch dy gadernid.

9 Gwisced dy offeiriaid gyfiawnder: a gorfoledded by Sainct.

10 Er mwyn Dafydd dy wâs, na thro ymmaithwy­neb dy eneimog.

11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Ddafydd, ni thry efe oddi wrth hynny: o ffrwyth dy gorph y gosodaf ar dy orsedd-saingc.

12 Os ceidw dy feibion fy nghyfammod a'm tystio­laeth, y rhai a ddyscwyf iddynt: eumeibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar by orsedd-faingc.

13 Canys dewisodd yr Arglwydd Sion, ac a'i chwennychodd yn drigfa iddo ei hun.

[Page]14 Dymma fy ngorphywysfa yn dragywydd: ym­ma y trigaf, canys chwennychais hi.

15 Gan fendithio y bendithiaf ei llyniaeth: diwallaf ei thlodion a bara.

16 Ei hoffeiriaid hefyd a wiscaf ag iechydwriaeth: a'i Sainct dan ganu a ganant.

17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm heneiniog.

18 Ei elynion ef a wiscaf â chywilydd, arno yntef y blodeua ei goron.

Ecce quam bonum. Psal. cxxxiij.

WEle, mor ddaionus, ac mor hyfryd, yw trigo o frodyr ynghyd.

2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn des­cyn ar hŷd y farf, sef barf Aaron: yr hwn oedd yn des­cyn ar hŷd ymyl ei wiscoedd ef.

3 fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn descyn ar fynyddoedd Sion: canys yno y gorchymynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.

Ecce unnc benedicite. Psal. cxxxiv.

WEle, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd y nôs.

2 Derchefwch eich dwylo yn y cyssegr: a bendithi­wch yr Arglwydd.

3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, a'th fendithio di allan o Sion.

Laudate nomen. Psal. cxxxv.

MOlwch yr Arglwydd. Molwch Enw 'r Argl­wydd, gweision yr Arglwydd, molwch ef.

2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd; yng­hynteddoedd tŷ ein Duw ni.

3 Molwch yr Arglwydd, canys da yw yr Argl­wydd: cenwch iw Enw, canys hyfryd yw.

4 Oblegit yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.

5 Canys mi a wn mai mawr yw 'r Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.

6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnei, yn y [Page] nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfu­derau.

7 Y mae yn codi tartho eithafoedd y ddaiar, mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glâw: gan ddwyn y gwynt allan o'i dryssorau.

8 Yr hwn a darawodd gyntaf-anedic yr Aipht, yn ddyn ac yn anifail.

9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di 'r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision.

10 Yr hwn a darawodd genhedloedd lawer, ac a la­ddodd frenhinoedd cryfion:

11 Sehon brenin yr Amoriaid; ac Og brenin Ba­san: a holl frenhiniaethau Canaan:

12 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13 Dy Enw, ô Arglwydd a bery yn dragywydd: dy goffadwriaeth, ô Arglwydd o genhedlaeth i genhed­laeth.

14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar gantho o ran ei weision.

15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gw­aith dwylo dŷn.

16 Genau sydd iddynt ond ni lefarant: llygaid sydn ganddynt, ond ni welant.

17 Y mae clustiau iddynt ond ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.

18 Fel hwynt y mae y rhai a'i gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendi­thiwch yr Arglwydd tŷ Aaron.

20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a of­nwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.

21 Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerusalem, Molwch yr Arglwydd.

Prydnbaw­nol Weddi.
Confitemini Domino. Psal. cxxxvj.

CLodforwch yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragy­wydd.

2 Clodforwch Dduw y duwiau: oble­git ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4 Yr hwn yn unic sydd yn gwneuthur rhyfeddo­dau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6 Yr hwn a estynnodd y ddaiar oddi ar y dyfroedd: oblegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.

7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yu dragywydd.

8 Yr haul i lywodraethu 'r dydd: canys ei druga­redd sydd yn dragywydd

9 Y lleuad a'r sêr i lywodraethu 'r nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10 Yr hwn a darawodd yr Aipht, yn eu cyntaf-ane dig: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

11 Ac a ddûg Israel o'i mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

12 A llaw gref, ac â braich estynnedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13 Yr hwn a rannodd y môr côch yn ddwy-ran: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

15 Ac a escyttiodd Pharao a'i lû yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd

16 Ac a dywysodd ei bobl drwy 'r anialwch: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

17 Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

[Page]18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

19 Sehon brenin yr Amoriaid: o herwydd ei druga­redd sydd yn dragywydd.

20 Ac Og brenin Basan: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

22 Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23 Yr hwn yn ein hisel-radd a'n cofiodd ni: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

24 Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bôb cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26 Clodforwch Dduw 'r nefoedd: canys ei drugar­edd sydd yn dragywydd.

Super flumina. Psal. cxxxvij.

VVRth afonydd Babilon, yr eisteddasom, ac ŵy­lasom, pan feddyliasom am Sion.

2 Ar yr helyg o'i mewn y crogosom ein telynau.

3 Canys yno y gofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân, a'r rhai a'n anrheithiasei, lawenydd, gan ddy­wedyd, cenwch i ni rai o ganiadau Sion.

4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd, mewn gwlad ddieithr?

5 Os anghofiaf di Jerusalem, anghofied fy neheu­law ganu.

6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau: oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawe­nydd pennaf.

7 Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerusa­lem: y rhai a ddywedent diuoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.

8 Oh ferch Babilon a anrheithir, gwyn ei fyd a da­lo i ti, fel y gwnaethost i ninnau.

9 Gwyn ei fyd a gymmero, ac a darawo dy rai bâch wrth y meini.

Confitebor tibi Domino. Psal. cxxxviij.

CLodforaf di a'm holl galon: yngŵydd y duwaiu y canaf it.

2 Ymgrymmaf tu a'th deml sanctaiddd: a chlodfor­af dy Enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: oblegit ti a fawrhêaist dy air vwchlaw dy Enw oll.

3 Y dydd y llefais i'm gwrandewaist: ac a'm ca­darnhêaist a nerth yn fy enaid.

4 Holl frenhinoedd y ddaiar a'th glodforant, ô Ar­glwydd: pan glywant eiriau dy enau.

5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yŵ gogoniaut yr Arglwydd.

6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, etto efe a edrych ar yr issel, ond y balch a edwyn efe o hir-bell.

7 Pe rhodiwn ynghanol cyfyngder, ti a'm byw­hait: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheu-law a'm hachubei.

8 Yr Arglwydd a gyflawna a mi: dy drugaredd Ar­glwydd, sydd yn dragywydd, nac esceulusa waith dy ddwylo.

DYDD xxix.

Boreuol Weddi.
Domine probasti. Psal. cxxxix.

ARglwydd chwiliaist, ac adnabuost fi.

2 Ti a adwaenost fy eisteddiad, a'm cyfodiad, deelli fy meddwl o bell.

3 Amgylchyni fy llwybr a'm gor­weddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.

4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond, wele Arglwydd, ti a'i gwyddost oll.

5 Amgylchynaist fi yn ôl, ac ym mlaen: a gosodaist dy law arnaf.

6 Dymma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7 I ba le 'r âf oddi wrth dy Yspryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?

[Page]8 Os dringâf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cywei­riaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.

9 Pe cymmerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:

10 Yna hefyd i'm tywysei dy law, ac i'm daliai dy ddeheu-law.

11 Pe dywedwn, diau y tywyllwch a'm cuddia: yna y byddei y nôs yn oleuni o'm hamgylch.

12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd: un ffunyd yw tywyllwch a goleum i ti.

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau, toaist fi yn­ghroth fy mam.

14 Clodforaf dydi, canys ofnadwy, a rhyfedd i'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd, a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.

15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthit, pan i'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac i'm cywreiniwyd yn issel­der y ddaiar.

16 Dy lygaid a welsant fy anelwig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwyd fy aelodau oll, y dydd y llu­niwyd hwynt, pan nad oedd yr un o honynt.

17 Am hynny mor werth-fawr yw dy feddyliau gen­nif, o Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!

18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt nâ r tywod: pan ddeffrowyf, gyd â thi'r ydwyfi yn wastad.

19 Yn ddiau o Dduw, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwyr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthif:

20 Y rhai a ddywedant scelerder yn derbyn, dy el­ynion a gymmerant dy Enw yn ofer.

21 Onid câs gennif, o Arglwydd, dy gaseion di ▪ onid ffiaidd gennif y rhai a gyfodant i'th erbyn.

22 A châs cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hw­ynt i mi yn elynion.

23 Chwilia fi o Dduw, a gŵybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau.

24 A gwêl, a oes ffordd annuwiol gennif: a thy­wys fi yn y ffordd dragywyddol.

Eripe me Domine. Psal. cxl.

GWared fi, ô Arglwydd, oddi wrth y dŷn drwg; cadw fi rhag y gŵr traws.

2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasclant beunydd i ryfel.

3 Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwenwyn asp sydd tan eu gwefusau.

4 Cadw fi, o Arglwydd, rhag dwylo 'r annuwiol, cadw fi rhag y gwr traws; y rhai afwriadasant fa­chellu fy nhraed.

5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estyn­nasant rwyd wrth dannau ar ymmyl fy llwybrau: go­sodasant hoenynnau ar fy medr.

6 Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti: clyw, Arglwydd, lef fy ngweddiau.

7 Arglwydd Dduw, nerth fy iechydwriaehh: gor­chguddiâist fy mhen yn nydd brwydr.

8 Na chaniadhâ Arglwydd, ddymuniad yr annu­wiol: na lwydda ei drwg feddwl, rhag eu balchio hw­ynt.

9 Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a'i gorchguddio.

10 Syrthied marwor arnynt, a bwrier hwynt yn tân: ac mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant.

11 Na siccrhâer dŷn siaradus ar y ddaiar, drwg a hêla y gŵr traws iw ddistryw.

12 Gwn y dadleu yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.

13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy Enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.

Domine clamavi Psal. cxli.

ARglwydd, yr wyf yn gweiddi annat; bryssia at­taf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.

2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl­darth, a derchafiad fy nwylo-fel yr offrwm prydnhaw­nol.

3 Gosod Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.

[Page]4 Na ostwng fy nggalon at ddim drwg, i fw­riadu gweithredoedd drygioni, gyd â gŵyr a wei­thredant anwiredd: ac na âd i mi fwyta o'i dantei­thion hwynt.

5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt.

6 Pan dafler eu barn-wŷr i lawr mewn lleoedd car­regoc, clywant fy ngeiriau, canys melus ydynt.

7 Y mae em hescyrn ar wascar ar fin y bedd, megis un yn torri, neu yn hollti coed ar y ddaiar.

8 Eithr arnat ti o Arglwydd Dduw, y mae fy lly­gaid: ynot ti y gobeithiais, na âd fy enaid yn ddiym­geledd.

9 Cadw fi rhag y fagl a osodasânt i mi: a hoenyn­nau gweiehred-wŷr anwiredd.

10 Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwy­dau eu hun, rra elwy fi heibio.

Prydnhaw­nol Weddi.
Voce mea ad Dominum. Psal. cxlij.

GWaeddais â'm llêf ar yr Arglwydd: â'm llêf yr ymbilais â'r Arglwydd.

2 Tywelltais fy myfyrdod o'i flaen ef: a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.

3 Pan ballodd fy yspryd o'm mewn, titheu a ad­waenir fy llwybr, yn y ffordd y rhodiwn y cuddia­sant i mi fagl.

4 Edrychais ar y tu dehau, a deliais sulw, ac nid oedd neb a'm hadwaenai: pallodd nodded i mi, nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.

5 Llefais arnat o Arglwydd, a dywedais, ti yw fy ngobaith a'm rhan, yn nhir y rhai byw.

6 Ystyr wrth fy ngwaedd, canys truan iawn yd­dwyf: gwared fi oddi wrth erlid-wyr, crnys trêch yd­ynt nâ mi.

7 Dŵg fy euaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy Enw: y rhâi cyfiawn a'm cylchynant, canys ti a fyddi dda wrthif.

Domine exaudi. Psal. cxliij.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy nei­syfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.

2 Ac na ddôs i farn â'th wâs, o herwydd ni chy­fiawnheir neb byw yn dy olwg di.

3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd fy e­naid i lawr, gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ystalm.

4 Yna y pallodd fy yspryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.

5 Cofiais y dyddiau gynt, myfyriais ar dy holl waith: ac yngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.

6 Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tîr syche­dic sydd yn hiraethu am danat.

7 Oh Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pall­odd fy yspryd; na chuddia dy wyneb oddi wrthif, rhag fy mod yn gyffelyb i'r rhai a ddescynnant i'r pwll.

8 Pâr i mi glywed dy drugarogrwydd y boreu: o herwydd ynot ti y gobeithiaf, par i mi wybod y ffordd y rhodiwyf, oblegit attat ti y derchafaf fy enaid.

9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, ô Arglwydd: gyd a thi'r ymguddiais.

10 Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti yw fy Nuw; tywysed dy Yspryd daionus fi i dîr un­iondeb.

11 Bywhâ fi ô Arglwydd, er mwyn dy Enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

12 Ac er dy drugaredd, dinistria fy ngelynion; a di­fetha holl gystudd-wŷr fy enaid: oblegit dy wâs di ydwyfi.

DYDD xxx.

Boreuol Weddi.
Benedictus Dominus. Psal. cxliv.

BEndigedic fyddo 'r Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dyscu fy nwy­lo i ymladd, a'm bysseddi ryfela.

2 Fy nhrugaredd am haniddeff­ynfa, fy nhwr, a'm gwaredudd, fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithi­thiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl tanaf.

3 Arglwydd, beth yw dŷn, pan gydnabyddit ef? neu fab dŷn pan wnait gyfrif o honaw?

4 Dyn sydd debyg i wagedd, ei ddyddian sydd fel cyscod yn myned heibio.

5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a descyn; cy­ffwrdd â'r mynyddoedd, a mygant.

6 Saetha fellt, a gwascar hwynt: ergydia dy sae­thau a difa hwynt.

7 Anfon dy law oddi nchod, achub, a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8 Y rhai y slefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheulaw ffalsder.

9 Canaf i ti o Dduw, ganiad newydd: ar y nabl, a'r dectant y canaf i ti.

10 Efe sydd yn rhoddi iechydwriaeth i frenhinoedd, yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi wrth y cleddyf niweidiol.

11 Achub fi, a gwared fi, o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheu­law yn ddeheu-law ffalster.

12 Fel y byddo ein meibion fel plan-wŷdd yn tyfu yn eu hieuengctid, a'n merched fel congl-fain nâdd, wrth gyffelybrwydd palâs.

13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn nuloedd, a myr­ddiwn yn ein heolydd.

[Page]14 A'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heo­lydd.

15 Gwyn ei fyd y bobl y mae felly iddynt, gwyn ei fyd y bobl y mae 'r Arglwydd yn Dduw iddynt.

Exaltabo te Domine. Psal. cxlv.

DEerchafaf di fy Nuw: ô Frenhin: a bendithiaf dy Enw byth, ac yn dragywydd.

2 Beunydd i'th fendithiaf, a'th enw a folaf byth; ac yn dragywydd.

3 Mawr yw'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: a'i fawredd sydd anchwiliadwy.

4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy wei­thredoedd, ac a fynega dy gadernid.

5 Ardderchawgrwydd gogniant dy fawredd, a'th bethau rhyfedd a draethaf.

6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnad­wy: mynegaf inneu dy fawredd.

7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant: a'th gyfiawnder a ddadcanant.

8 Graslawn, a thrugarog yw 'r Arglwydd: hwyr­frydic i ddig, a mawr ei drugaredd.

9 Daionus yw 'r Arglwydd i bawb a'i drngaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

10 Dy holl weithredoedd a'th glodforant. ô Argl­wydd: a'th Sainct a'th fendithiant.

11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth: a thr­aethant dy gadernid.

12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhiniaeth.

13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragywy­ddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.

14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthi­ant: ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.

15 Llygaid pob peth a ddisgwiliant wrthit, ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd.

16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw a'th ewyllys da.

17 Cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl ffyrdd: a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.

[Page]18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai oll a alwant ar­no: at y rhai oll a alwant arno mewu gwirionedd.

19 Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant gwrendy hefyd eu llefain, ac a'i hachub hwynt.

20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a'i carant ef, ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.

21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei Enw sanctaidd ef, byth ac yn dragywydd.

Lauda anima mea. Psal. cxlvj.

MOlwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di 'r Argl­wydd.

2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn uid oes iechydwriaeth ynddo.

4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei hou amcanion ef.

5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gym­niorth iddo: sydd a'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.

6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, y mor a'r hyn oll sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn drgywydd.

7 Yr hwn sydd gwneuthur barn i'r rhai gorthrym­medic, yn rhoddi bara i'r newy noc: yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.

8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion; yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd; yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw: ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.

10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth: sef dy Dduw▪ di Sion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.

Prydnhaw­nol Weddi.
Laudate Dominum. Psal. cxlvij.

MOlwch yr Arglwydd, canys da yw canu i'n Duw ni: o herwydd hyfryd yw, ie gwe­ddus yw mawl.

2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jeru­salem, efe a gascl wascaredigion Israel.

3 Efe sydd yn iachau y rhai briwedic o galon; ac yn rhwymo eu doluriau.

4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sèr; gen̄w hwynt oll wrth eu henwau.

5 Mawr yw ein Harglwydd, mawr ei nerth, anei­rif yw ei ddeall.

6 Yr Arglwydd sydd yn derchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7 Cyd-genwch i'r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i'n Duw â'r delyn.

8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chwymlau: yn pa­rotoi glaw i'r dddaiar: gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.

9 Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant: ac i gywion y gig-fran, pan lefant.

10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esceiriau gwr.

11 Yr Arglwydd sydd hôff ganddo y rhai: a'i hof­nant ef: sef y rhai a ddisgwiliant wrth ei drugaredd ef.

12 Jerusalem mola di 'r Arglwydd, Sion molian­na dy Dduw.

13 O herwydd efe a gadarnhâodd farrau dy byrth; efe a fendithiodd dy blant o'th fewn.

14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.

15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaiar: a'i air a red yn dra buan.

16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân: ac a da­na rew fel lludw.

[Page]17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tammeidiau, pwy a erys gan ei oerni ef.

18 Efe o enfyn ei air, ac a'i tawdd hwynt: a'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19 Y mae efe yn mynegu ei eiriau i Jacob: ei ddedd­fau a'i farnedigaethau i Israel.

20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl: ac nid adna­buant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.

Laudate Dominum Psal. cxlviij.

MOlwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.

2 Molwch ef ei holl Angelion: molwch ef ei holl luoedd.

3 Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr goleuni.

4 Molwch ef nef y nefoedd: a'r dyfrdedd y rhai yd­ych oddi ar y nefoedd.

5 Molant Enw 'r Arglwydd: o herwydd efe a or­chymynnodd, a hwy a grewyd.

6 A gwnaeth iddynt barhau byth ag yn dragy­wydd: gosododd ddeddf, ac nis trosseddir hi.

7 Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar, y dreigiau a'r holl ddyfnderau.

8 Tân a chenllysc eira, a tharth: gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef.

9 Y mynyddoedd a'r bryniau oll, y coed ffrwythla­wn a'r holl gedr-wŷdd.

10 Y bwyst-filod, a phob anifail: yr ymlusciaid, ac adar ascelloc.

11 Brenhinoedd y ddaiar a'r holl bobloedd: tywyso­gion a holl farnwŷr y byd.

12 Gwŷr ieuaingc a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau.

13 Molant Enw 'r Arglwydd: o herwydd ei Enw ef yn unic sydd dderchafadwy: ei ardderchawgrwydd ef sydd uwch law daiar a nefoedd.

14 Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, moliant ei holl Sainct, sef meibion Israel, pobl agos atto. Mol­wch yr Arglwydd.

Cantate Domino. Psal. cxlix.

MOlwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arglwydd ga­niad newydd: a'i foliant ef ynghynnulleidfa y Sainct.

2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gor­foledded meibion Sion yn eu brenin.

3 Molant ei Enw ef ar y dawns cannant iddo ar dympan, a thelyn.

4 O. herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth.

5 Gorfoledded y Sainct mewn gogoniant: a cha­nant ar eu gwelâu.

6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau: a chleddyf dau-finioc yn eu dwylo.

7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosd ar y bobloedd.

8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau: a'i pen­defigion â gefynnau heirn.

9 I wneuthur arnynt y farn scrifennedic: yr ar­dderchawgrwydd hyn sydd iw holl Sainct ef. Mol­wch yr Arglwydd.

Laudate Dominum. Psal. cl.

MOlwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei san­cteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.

2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl aml­der ei fowredd.

3 Molwch ef â llais udcorn: molwch ef â nabl, ac â thelyn.

4 Molwch ef a thympan, ac â dawns: molwch ef â thannau, ac ag organ.

5 Molwch ef a symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.

6 Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd. Molweh yr Arglwydd.

Ffurfiau o Weddi iw harfer ar y MOR.

¶ Y Foreuawl a'r Brydnhawnawl Weddi i'w harfer ar y Môr, a fyddant yr un ac a appwyrtiwyd yn llyfr Gweddi Gyffredin.

¶ Y ddwy Weddi hyn hefyd yn canlyn, a arferir yn llyn­ges ein Harglwydd frenin bob dydd.

O Dragywyddol Arglwydd Dduw, yr hwn yn unig wyt yn tanu y nefoedd, ac yn rheoli angerdd y môr, yr hwn a amgylchaist y dyfroedd a therfy­nau, hyd oni ddarfyddo dydd a nôs, Rhynged fodd it, ein derbyn ni dy weision, a'r llynges, yn yr hon ydd ŷm yn gwasanaethu, ith holl-alluog a'th rasusaf no­dded. Cadw ni rhag perigl y môr, a rhuthr y gelyn, fel y byddom amddeffyn i'n grasusaf. Arglwydd Fre­nin Charles, a'i Deyrnasoedd ac yn ddiogelwch i'r fawl a gynniwerant hyd y moroedd ar eu negeseuau cyfreithlawn; fel y bo i breswylwyr ein hynys dy wa­sanaethu di ein Duw, mewn heddwch a llonyddwch, ac i ninuau ddychwel adref mewn diogelwch i fwyn­hau bendithion y wlad gyda ffrwyth ein llafur, ac mewn diolchgar goffa am dy drugareddau i foliannu a gogoneddu dy Enw bendigedic, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Y Colect.

RHag-flaena ni o Arglwydd, yn ein holl wei­thredoedd, â'th radlonaf hoffder, a rhwydd­hâ ni â'th barhâus gymmorth, fel yn em holl weithredoedd dechreuedic, a therfynedic ynoti, y gallom foliannu dy sanctaidd Enw ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd fywyd tragy­wyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Gwediau iw harfer yn amser tymhestloedd ar y môr.

O Alluoccaf a gogoneddus Arglwydd Dduw, wrth orchymmyn yr hwn y mae'r gwyntoedd yn chwythu, ac yn derchafu tonnau y mor, a'r hwn wyt yn gostegu ei ryferthwy ef, ydd ym ni, dy Greaduriaid, eithr pecha­duriaid truein, yn ein dirfawr gy­fyngder hyn yn llefain arnat am dy gymmorth. Achub Arglwydd, onide, darfulamdanom. Tra oeddym ddio­gel ac yn gweled pob peth yn heddychol o'n hamgylch, ydd ym yn cyffesu, anghofio o honom dy di ein Duw, a gwrthod gwrando ar lefddistaw dy Air di, ac ufudd­hau i'th orchymmynion. Eithr yr awr hon ni a wel­wn mor ofnadwy ydwyt ti, yn dy holl weithredoedd rhyfedd, y Duw mawr i'w ofni goruwch oll. Am hynny yr addolwn dy dduwiol fawredd, gan gydna­bod dy allu, ac attolygu dy dosturi. Cymmorth, Ar­glwydd, ac achub ni, er dy drugareddau yn Ghrist Je­su dy Fab ein Harglwydd ni. Amen.

Neu hon.

O Dra-goneddus a grasusaf Arglwydd Dduw yr hwn wyt yn presswylio yn y nef, eithr yn canfod pob peth isod, Edrych i lawr, ni a attolygwn i ti, a gwrando ni yn galw arnat o eigion trueni, ac o safn angeu, yr hwn sydd barod yr awr hon in traflyncu. Achub, Ar­glwydd, onide, darfu am danom. Y byw, y byw, efe a'th fawl di. O danfon Air dy Orchymmyn i gery­ddu angerdd y gwyntoedd a rhuad y môr, fel gan ga­el ein gwared allan o'n cyfyngder ymma, y byddom [Page] byw i'th wasanaethu di, ac i foliannu dy Enw holl ddyddiau ein bywyd. Gwrando Arglwydd ac achub ni er anfeidrol ryglyddon ein gwynfydedic Jachawdr dy Fâb, ein Harglwydd Jesu Grist. Amen.

Y Weddi a ddywedir o flaen brwydr ar fôr yn erbyn pob rhyw Elyn.

O Alluoccaf, ac ardderchoccaf Arglwydd Dduw, Arglwydd y Lluoedd yr hwn wyt yn llywodraethu, ac yn rheoli pob peth Ty­di wyt yn eistedd ar yr orseddfaingc, yn bar­nu yn gyfiawn. Am hynny y dineswn at dy ddwyfol Fawredd yn ein hanghenoctid hyn, ar fod i ti gymmeryd yr achos i'th law dy hun, a barnu rhyn­gom a'n gelynion. Cyfod dy nerth, O Arglwydd, a thyred i'n cymmorth: Canys nid wyt bob amser yn rhoddi y rhyfel i'r cedeyrn, eithr ti a ddichon achub gy­da llawer, neu gyda ychydig. Och, na bydded i'n pecho­dau lefain yr awr hon i'n herbyn am ddial. Eithr gwrando ni dy weision trueniaid yn ymbil am dy dru­garedd, ac yn eiriol am dy Borth, ac am fod o honot yn amddeffyn i ni rhag wyneb y gelyn. Gwna yn hysyys, mai tydi yw ein hachubwr a'n cadarn waredwr ni trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gweddiau byrrion i rai naillduol, nad allant ymgyfar­fod i gysylltu mewn gweddi ac eraill o her­wydd y brwydr neu'r dymhestl.

Gweddiau cyffredinol.

ARglwydd, trugarhâ wrthym ni bechaduriad, ac achub ni er mwyn dy drugareddau.

Ti wyt y Duw mawr, yr hwn a wnaethost ac a wyt yn llywio pob peth; O gwared ni er mwyn dy Enw.

Ti wyt y Duw mawr iw ofni uwch law oll: O achub ni fel y moliannom di.

Gweddiau yspysawl o herwydd y gelyn.

TYdi, O Arglwydd, wyt gyfiawn a galluog, o am­ddiffyn ein hachos yn erbyn wyneb y gelyn.

O Dduw, tydi wyt gadarn Dŵr amddiffyn i bawb [Page] a ffoant attat, o achub ni rhag traha y gelyn.

O Arglwydd y lluoedd, ymladd trosom, fel y ga­llom dy ogoneddu di.

O na âd i ni suddo dan bwys ein pechodau, na thra­ha y gelyn.

O Arglwydd, cyfod, cymmorth ni, a gwared ni er mewn dy Enw.

Gweddiau byrrion o ran y dymestl.

TYdi, o Arglwydd, yr hwn wyt yn dyhuddo terfysc y môr, gwrando, gwrando ni, ac achub ni, fel na'n cyfr-goller.

O fendigedic Jachawdr, yr hwn a achubaist dy ddiscyblion, pan oeddynt ar ddiben cyfr-golli gan dy­mestl, gwrando ni, ac achub ni, ni attolygwn i ti.

Arglwydd trugarha wrthym.

Crist, trugarha wrthym.

Arglwydd, trugarha wrthym.

O Arglwydd, clyw nyni.

O Crist, clyw nyni.

Duw y Tâd, Duw y Mâb, Duw yr Yspryd glân, trugarhâ wrthym, achub ni yr awr hon, ac yn dragy­wydd. Amen.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sanctei­dy Enw. Deuet dy deyrnas. Bid dy ew­yllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefo­edd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nag arwain ni i brofedigaeth Eithr gwaret ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pan fo enbydrwydd yn gyfagos, cynnifer ac a aller eu hepcor oddiwrth wasanaeth angenrheidiol yn y llong, a elwir ynghŷd, ac hwy a wnant gyffes ostyngedig i Dduw o'u pechodau: Yn yr hon pob un a ddylai gymmeryd at­to ei hun yn ddifrifol bob un o'r pechodau hynny am y rhai y bo ei gydwybod yn ei gyhuddo gan ddywedyd fel y mae yn canlyn.

Y Gyffes.

OLl-alluog Dduw, Tad ein Harglwydd Je­su Grist, gwnenthur-wr pob dim, barn­wr pob dyn, ydd ŷm ni yn cydnabod, ac yn ymofidio dros ein amryw bechodau a'n an­wiredd, y rhai o ddydd i ddydd yn orthrwm a wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy Dduwiol fawredd, gan annog yn gyfiawnaf dy ddi­gofaint a'th fâr i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhân ac yn ddrwg gan ein calonnau, dros ein cam­weithredoedd hyn, eu coffa sy drwm gennym, eu baich sydd aurhaith ei oddef: Trugarhâ wrthym, tru­garhâ wrthym, drugaroccoaf Dâd, er mwyn dy un Mâb ein Harglwydd Jesu Grist, maddeu i ni yr hyn oll a aeth heibiô, a chaniatâ i ni allu byth o hyn allan, dy wasanaethu a'th fodloni, mewn newydd-deb bu­chedd, er anrhydedd a gogoniant dy enw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y datcan yr Offeiriad, os bydd un yn y llong y Gollyngdod hyn.

HOll alluog Dduw, ein Tad nefawl yr hwn o'i fawr drugaredd a addewis faddeuant pecho­dan i bawb gan edifeirwch calon a gwîr ffydd a ymchwel atto, a drugarhâo wrthych, a faddeuo i chwi, ac a'ch gwaredo oddi wrth eich holl bechodau, ac a'ch cadarnhâo, ac a'ch cryfhâo ym-mhob daioni, ac a'ch dygo i fywyd tragywyddawl trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Jubilate Deo. Psal. lxvi.

Diolwch ar ôl Tymest.

LLawen-ffoeddiwch i Dduw, yr holl ddaiar.

2 Dadcenwch ogoniant ei enw: gwne­wch ei foliant yn ogoneddus.

3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnad­wy wyt yn dy weithredoedd▪ o herwydd maint dy nerth, y cymmer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedic i ti.

[Page]4 Yr holl ddaiar a'th addolant di, ac a ganant i ti, ie canant i'lh enw.

5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnad­wy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynion.

6 Trôdd efe y mor yn sych-dir; aethant drwy 'r a­fon ar draed; yna y llawenychasom ynddo.

7 Efe a lywodraetha drwy ei gadernid byth, ei ly­gaid a edrychant ar y cenhedloedd, nac ymdderchafed y rhai anufudd.

8 Oh bobloedd, bendithiwch ein Duw; a pherwch glywed llais ei fawl ef.

9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.

10 Canys profaist ni ô Dduw, coethaist ni fel coethi ariân.

11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.

12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau, aethom drwy yr tân, a'r dŵfr, a thi a'n dygaist allan i le diwall.

13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau.

14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywe­dodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15 Offrymmaf it boeth offrymmau breision, yng­hyd ag arogl-darth hyrddod: aberthaf ychen, a by­chod.

16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnŵch Dduw: a mynegaf yr hyn a ŵnaeth efe i'm henaid.

17 Llefais arno â'm genau, ac efe a dderchafwyd a'm tafod.

18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsei 'r Arglwydd.

19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.

20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni throdd fy ng­weddi oddi wrtho, na'r drugaredd ef oddi wrthif inneu.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

Confitemini Domino: Psal. cvij.

CLodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd fydd yn dragywydd.

2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd; y rhai a waredodd efe o law y gelyn.

3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r de­hau.

4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddi­sathr: heb gael dinas i aros ynddi.

5 Yn newynog ac yn sychedig: eu henaid a lewygodd ynddynt.

6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: ac efe a'i gwaredodd o'i gorthrymderau.

7 Ac a'i tywysodd hwynt ar hŷd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanneddol.

8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion,

9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig; ac a leinw yr enaid newynog â daioui.

10 Y rhai a bresswyliant yn y tywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn.

11 O herwydd anufuddhâu o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

12 Am hynny yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynnorthwy-wr.

13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder: efe a'i hachubodd o'i gorthrymderau.

14 Dug hwynt allan o dywyllwch, a chyscod an­geu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barrau heirn.

17 Ynfydion oblegit eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddau a gystuddir.

18 Eu henaid a ffieiddiei bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.

[Page]19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cy­fyngder: ac efe a'i hachubodd o'i gorthrymderau.

20 Anfonodd ei air, ac iachâodd hwynt, ac a'i gwa­redodd o'i dinistr.

21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

22 Aberthant hefyd aberth moliant: mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.

23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.

24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd: a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Canys efe a orchymmyn, a chyfyd tymhestlwynt: yr hwn a dderchafa ei donnau ef.

26 Hwy a escynnant i'r nefoedd, descynnant i'r dy­fnder, tawdd eu henaid gan flinder.

27 Ymdrôant, ac ymsymmudant fel meddwyn: a'i holl ddoethineb a ballodd.

28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyng­der, ac efe a'i dwg allan o'i gorthrymderau.

29 Efe a wna yr storm yn dawel: a'i tonnau a oste­gant.

30 Yna y llawenhant, am eu gostêgu, ac efe a'i dwg i'r porthladd a ddymunent.

31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

32 A derchafant ef ynghynnulleidfa y bobl, moli­annant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33 Efe a wna afonydd yn ddiffaethwch: a ffynhon­nau dyfroedd yn sychdir.

34 A thir ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddrygi­oni y rhai a drigant ynddo.

35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr: a'r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.

36 Ac yno y gwna i'r newynog aros: fel y darpa­ront ddinas i gyfanneddu:

37 Ac yr hauont feusydd, ac y plannont winllan­noedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38 Ac efe a'i bendithia hwynt fel yr amlhant yn ddirfawr, ac ni âd iw hanifeiliaid leihâu.

[Page]39 Lleihêir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, dryg-fyd, a chyni.

40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grywydro mewn anialwch heb ffordd.

41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42 Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenych­ant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43 Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a dde­allant drugareddau 'r Arglwydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

Colectau a Ddiolch.

ODra-bendigedic, a gogoneddus Arglwydd Dduw, yr hwn wyt o anfeidrol ddaioni a thru­garedd, Nyni dy Greaduriaid truein, y rhai a luniaist, ac a gynhaliaist ti gan gadw yn fyw ein hen­eidiau, ac a'n gorescynnaist yr awr hon allan o sa­fn angeu, ŷm eilwaith yn ein cyflwyno ein hunain o flaen dy dduwiol Fawredd, i offrymmu i ti a­berth o foliant a diolwch, o herwydd i ti ein gw­rando pan yn ein blinder y galwasom arnat, ac ni fw­riaist ymmaith ein gweddi, a wnaethom ger dy fron di yn ein caeth gyfyngder, ie pan gyfrifem bob peth yn golledic, ein llong, ein da, ein bywyd, yna tydi a edry­chaist yn drugarog arnom, ac a orchymmynaist ym­wared rhyfeddol, am yr hon ydd ŷm ni gwedi ein go­sod yr awr hon mewn diogelwch, yn rhoddi yr holl fo­liant a gogoniant ith Enw bendigedic, Trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Neu hon.

O Alluoccaf Dduw, grasusol a daionus, y mae dy drugaredd goruwch dy holl weithredoedd, ond hi a estynwyd allan mewn môdd hynod tu­ag attom ni, y rhai mor alluog ac mor rhyfeddol a am­ddiffynnaist. Ti a ddangosaist i ni bethau ofnadwy, a rhy­feddodau [Page] yn y dyfnder, fel y gwelem pa Dduw gall­uog a grasol ydwyt ti; mor ddigonol a pharod i gym­morth y sawl a ymddiriedant ynot. Ti a ddangosaist y modd y mae y gwyntoedd a'r moroedd yn ufuddhau i'th orchymmyn, fel y gallwn ddyscu, hyd yn oed gan­ddynt hwy fod o hyn allan yn ostyngedic i'th lais, a gwneuthur dy ewyllys. O herwydd pa ham nyni a fendigwn ac a ogoneddwn dy Enw am y cyfryw dy drugaredd yn ein hachub, pan oeddem ar ddibyn cy­frgoll. Ac ydd ym yn attolwg i ti, gwna ni yr awr hon mor wir ystyriol o'th drugaredd, megis yr oeddem y pryd hynny o'r enbydrwydd. A dyro i ni galonnau parod bob amser i ddatcan ein diolchgarwch, nid ar air yn unig, eithr drwy ein buchedd hefyd, gan fod yn ufuddach i'th orchymmynion bendigedic. Estyn, atto­lwg, dy ddaioni hyn i ni, fel y bo i ni, y rhai a achu­baist dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd ac union­deb holl ddyddiau ein bywyd, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd a'n Jachawdr. Amen.

Hymn o Fawl a Diolchgarwch ar ol Tymestl Beryglus.

DEuwch, clodforwn yr Arglwydd, canys da yw, ai drugaredd a bery yn dragywydd.

Mawr, yw'r Arglwydd, a thra-moliannus; felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o anwar derfysc y Môr.

Graslawn a thrugarog yw 'r Arglwydd; hwyr-fry­dig, i ddig, a mawr ei Drugaredd.

Nid yn ol ein pechodau y gwnaeth efe a ni: ac nid yn ol ein anwireddau y talodd efe i ni.

Canys eyfuwch ag yw'r nefoedd uwchlaw'r ddaiar y rhagorodd ei drugaredd ef tuag attom ni.

Jng a blinder a gawsom: daethem hyd borth angeu.

Dyfroedd y Môr oeddynt ar lifo trosom: Dyfroedd chwyddedig oeddynt ar fyned tros ein Henaid.

Rhuodd y Môr, a'r tymhestl-wynt a dderchafodd ei donnau ef.

Ni a escynnasom megis i'r nefoedd, descynnasom eilwaith i'r dyfnder; Ein henaid a doddodd ynom gan flinder.

[Page]Yna y gwaeddasom arnat ti, O Arglwydd; titheu a'n dygaist allan o'n gorthrymder.

Bendigedic fyddo dy Enw, yr hwn ni ddirmygaist weddi dy weision; Eithr gwrandewaist a'r ein llef, ac achubaist ni.

Anfonaist allan dy Air, gostegodd y gwynt ystor­mus, ac hi aeth yn dawel.

O bid i ninnau am hynny foliannu yr Arglwydd am ei ddaioni a mynegu y Rhyfeddodau a wnaeth, ac y mae yn wastad yn eu gwneuthur i feibion dynion.

Moliannus fyddo 'r Arglwydd beunydd, sef, yr Arglwydd yr hwn sydd yn ein cymmorth, ac yn ty­wallt ei fendithion arnom.

Efe yw ein Duw ni, sef, y Duw, oddiwrth yr hwn y daw iechydwriaeth; Duw yw yr Arglwydd, drwy yr hwn y diangasom rhag angeu.

Tydi, Arglwydd, a'n llawenychaist ni a gweithred dy ddwylo; ac ni a orfoleddwn yn dy foliant.

Bendigedig fyddo'r Arglwydd Dduw, sef yr Ar­glwydd Dduw, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

A Bendigedig fyddo Enw ei Fawredd ef byth, a dy­weded pob un o honom, Amen, Amen.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

2 Cor. 13. 14.

GRas ein Harglwydd Jesu Grist, a Chariad Duw, a Chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.

Ar ol Buddugoliaeth, neu ymwared oddiwrth y Gelyn. Psalm neu Hymn o Fawl a Diolchgarwch ar ol Buddugoliaeth.

ONi bnasei yr Arglwydd on plaid, gallwn ddywedyd yn awr, oni buasei yr Arglwydd ei hun gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn.

Hwy a'n llyngcasent ni yn fyw, pan en­nynnodd eu llid hwynt i'n herbyn.

Je, y dyfroedd an boddasent ni: y ffrŵd a aethei tros ein henaid, dyfn-ddyfroedd y beilchion a aethent tros ein henaid.

Eithr bendigedig fyddo 'r Arglwydd yr hwn ni'n rhoddodd ni yn ysclyfaeth iddynt.

Yr Arglwydd a wnaeth Jechydwriaeth nerthol i ni.

Nid, a'n cleddyf ein hun y gorescynnasom, nid ein braich ein hun, a barodd i ni iechydwriaeth, eithr dy ddeheulaw di a'th fraich a llewyrch dy wyneb, o her­wydd i't ein hoffi ni.

Yr Arglwydd a ymddangosodd trosom ni: yr Argl­wydd a orchguddiodd ein pennau ac a wnaeth i ni se­fyll yn nydd y frwydr.

Yr Arglwyd a ymddangosodd trosom ni: yr Argl­wydd a ddadymchwelodd ein gelynion, ac a ddrylliodd y rhai a godasant i'n herbyn.

O herwydd paham nid i ni, O Arglwydd, nid i ni: ond i'th Enw di rhodder y Gogoniant.

Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethan mawrion, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i ni: am yr hyn yr ydym yn llawen.

Ein porth ni sydd yn Enw'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daiar

Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

¶ Ar ol yr Hymn ymma gellir canu y Te Deum.

Yna y Colect hwn.

O Hollalluog Dduw, goruchel Lywiawdr yr holl fŷd, yn llaw yr hwn y mae nerth a chadernid, na all neb sefyll i'w herbyn; Nyni a fendithiwn, ac a fawrygwn dy Enw mawr â gogoneddus am y fuddug o­liaeth lwyddianus hon: yr holl ogoniant o honi a ddod­wn i ti, yr hwn wyt unig Roddwr pob goruchafiaeth. Ac nyni a attolygwn i ti, roddi i ni Râs i dderchafu dy fawr Drugaredd hon i'th ogoniant di, i fawrhâad dy Efengyl, i anrhydedd ein goruchel Arglwydd Fre­nin, ac hyd y bo ynom i leshâd holl ddynol ryw. Ac ni a attolygwn i ti, roddi i ni y cyfryw ystyried o'th fawr drugaredd hon, a'n rhwym ni i wir ddiolchgarwch, yn ymddangos yn ein hollfucheddau drwy ymarwedd­iad gostyngedig, sancteid-lan, ac ufudd ger dy fron di tros ein holl ddyddiau; trwy Jesu Grist ein Hagl­wydd: J'r hwn gyda thi a'r Yspryd glan megis am dy holl Drugareddau, felly yn enwedig am yr orucha­fiaeth a'r ymwared presennol, y byddo 'r holl ogoniant ac anrhydêdd hyd yn oes oesoedd Amen.

2 Cor. 13. 14.

GRas ein Harglwydd Jesu Grist, a Chariad Duw, a Chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gyda ni oll byth bythoedd. Amen.

Wrth Gladdedigaeth eu meirw ar y Môr.

¶ GEllir arfer y gwasanaeth yn y llyfr Gweddi Gyffre­din: yn unig yn lle y geiriau hyn [Gan hynny ydd ym ni yn rhoddi ei gorph ef i'r ddaiar, sef, Daiar i'r ddaiar &c.] dyweder.

Gan hynny ydd ym yn rhoddi ei gorph ef i'r Dyfnder i ddychwelyd i lygredigaeth, yn disgŵil am adgy­fodiad y Corph (pan fwrio y mor ei feirw allan) a by­wyd y byd y sydd ar ddyfod, trwy ein Harglwydd Je­su Grist, yr hwn ar ei Ddyfodiad a newidia ein Corph gwael ni, fel y byddo yn gyffelyb iw gorph gogonedd­us ef yn ol y galluog weithrediad, trwy yr hwn y di­chon efe ddarostwng pob peth iddo ei hun.

Ffurf a Dull Gwneuthur, Urddo a Chyssegru ESCOBION, OFFEIRIAID, A DIACONIAID, Yn ôl Trefn Eglwys Loegr.

Y Rhag-ymadrodd.

YSpys yw i bawb yn dyfal ddarllain yr y Scrythr lân a Hen Awduri­aid fôd hyn o Weinidogion yn Eglwys Grist, er amser yr Apostolion, sef, Escobion, Offei­riaid a Diaconiaid. Ar cyfryw barchus fri ydoedd erioed ar y swyddau hyn, fel na allai néb ryfygu gweini yn yr ûn o honynt, o­ddieithr yn gyntaf gael ei alw, ei brofi, ei holi, a gwybod fôd ganddo Gynneddfau cymmwys i'r unrhyw. Oddieithr hefyd cael trwy Weddi Bublic ac Arddodiad Dwylo, ei dderbyn, ai ddo­di yn y (swydd) gan Awdurdod Gyfreithlawn.

O herwydd paham, tuag at fôd parhâad, ac ym­arfer, a bri parchus ar hyn, o fewn Eglwys Loegr; ni Chyfrifir ac ni Chymmerir neb am Escob, Offeiriad neu Ddiacon Cyfrithlawn o fewn Egl­wys Loegr, ac ni oddefir iddo weini yn yr ûn o'r Swyddau dywededig, oddieithr iddo gael ei alw ei brofi, a'i holi, a'i dderbyn iddynt yn ôl y ffurf y sydd yn canlyn ymma, neu ei fôd wedi cael Cysse­griad neu Urddiad gan Escobion ymlaen-llaw.

Ac ni dderbynnir neb yn Ddiacon hyd oni bo yn dair blwydd ar Hugain o oedran: A bid pôb ûn a dderbynnir yn Offeriad, yn llawn pedair blwydd ar hugain o oedran: A bydded pôb ûn a urddir neu o Gyssegrir yn Escob, yn gyflawn ddengm­lwydd ar Hugain o oedran.

[Page]Acyr Escob ei hun, neu drwy dystiolaeth gy­flawn gan eraill, yn gwybod fôd néb rhyw ûn yn ŵr o fuchedd Rinweddus, ac yn ddifeins, ac yn ei gael ef yn ôl ei holi a'i brofi yn ddyscedic yn y Lla­din-iaith, ac yn ddigon cyfarwydd yn yr Y scry­thyr-lân, efe a all ei wneuthur ef yn Ddiacon yn­gwydd yr Eglwys, ar yr amseroedd pwyntie­dig yn y Canon, neu ar achos mawr yn cymmell ar ryw Ddŷd-Sul, neu Dŷdd-Gwyl arall yn y môdd a'r ffurf, yn canlyn.

Ffurf a Dull Gwneuthur. DIACONIAID,

¶ AR y dŷdd pwyntiedic gan yr Escob, pan orphenner y Gwasanaeth Boreu, y bŷdd pregeth neu Gyngor yn mynegu swydd a dylêd [y cyfryw a ddeuant i'w gwn­euthur yh Ddiaconiaid] mor anghenrheidiol yw y Râdd honno yn Eglwys Grist: Ac hefyd pa faint y dyleu y bobl eu perchi hwy yn eu swydd.

¶ Yn gyntaf, yr Arch-Diacon neu ei ddeputi ef a Bre­sentia i'r Escob (ac ef yn eistedd yn ei Gadair gerllaw y Bwrdd bendigedic) gynnifer ag a ddymunant eu Hur­ddo yn Ddiaconiaid (a phôb ûn o honynt wedi ymwisco yn hardd) gan ddywedyd y geiriau hyn.

ANrhydeddus Dâd yng Hrist, yddwyf yn presentio i chwi y rhai presennol hyn i'w gwneuthur yn Ddiaconiaid.

Yr Escob.

GWiliwch ar fôd y Rhai ydd ŷch yn eu presentio i ni yn addas a Chymmys o herwydd eu dŷsc a'u duwiol ymarweddiad, i iawn gyflawni eu Gwenido­gaeth er anrhydedd i Dduw ac er adeiladaeth i'w Eglwys.

¶ Yr Arch-Diacon a ettyb.

Myfi a ymofynnais am eu hanes, ac a'u holais hwynt eu hunain, ac ŷdd wyfi yd meddwl i bôd hwy felly.

¶ Yna yr Escob a ddywed wrth y Bobl.

FY Mrodyr, od oes neb o honoch a ŵyr ûn rhywystr neu fai cyhoeddus yn nêb o'r rhai hyn a bresenti­wyd i'w hurddo yn Ddiaconiaid, o herwydd yr hwn ni [Page] ddylai gael ei dderbyn i'r swydd honno, deued ger bron yn Enw Duw a dangosed bêth yw'r bai neu rwystr.

¶ Ac os rhyw fai gorthrwm neu rwystr a honnir, yr yr Escob a arbed urddo y dŷn hwnnw hyd pan gaffer y cy­huddedic yn ddiargywedd o'r bai hwnnw. ¶ Yna yr Escob (gan Orchymmyn y rhai a gaffer yn gymmwys i'w hurddo i weddiau y Gynnulleidfa) gyda'r Eglwys-wyr a'r Bobl bresennol a gân neu a ddywed y Li­tani fel y mae yn canlyn.

Y Litani ar Cyd-eirchion.

DUw Tad o'r Nef: trugarha wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Tâd o'r nef: trugarhâ wr­thim, &c.

Duw Fâb, bryn-wr y byd: tru­garhâ wrthym wîr bechaduri­ad.

Duw Fâb, bryn-wry byd: trugarhâ wrthym, &c.

Duw Yspryd glan, yn deilliaw oddi-wrth y Tad a'r Mab; trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.

Duw Yspryd glân, yn deilliaw oddi-wrth, &c.

Y gogoned, lan, fendigaid Drindod, tri pherson, ac un Duw: trugarha wrthym wîr bechaduriaid.

Y gogoned, lân, fendigaid Drindod, tri pherson, &c.

Na chofia Arglwydd ein anwiredd, nac anwiredd ein rhieni, ac na ddyro ddial am ein pechodau: arbed nyni Arglwydd daionus, arbet dy bobl a brynaist a'th werth-fawr waed, ac na lidia wrthym yn dra­gywydd.

Arbet ni Arglwydd daionus.

Oddi wrth bob drwg ac anffawd, oddi-wrth be­chod, oddi-wrth ystryw a chyrch y cythrael, oddi-wrth dy lid, ac oddi-wrth farnedigaeth dragywyddol.

[Page] Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gymmorth, a helpio, a diddanu pawb ar y sydd mewn perigl, anghenoctid a thrw­blaeth.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gadw pawb a'r sydd yn ymdaith ar fôr na thîr, pob gwraig wrth escor plant, pob clwy­fus a rhai bychain, a thosturio wrth bawb a fyddo mewn caethiwed a charchar.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot amddeffyn ac ymgeleddu y plant amddifaid, a'r gwragedd gweddwon, a phawb y sydd yn unic, ac yn goddef pwys plaid orthrech.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot drugarhau wrth bob dŷn.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot faddeu i'n gelynion, erlynwyr, ac ysclandr-wŷr, a throi eu calonnau.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi a chadw er ein llês, amse­rol ffrwythau y ddaiar, modd y caffom mewn amser dyledus eu mwynhau.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i ni wîr edifeirwch, a ma­ddeu i ni ein holl bechodau, ein esceulustra, a'n han­wybod; an cyuhyscaeddu, â rhâd dy Yspryd glân, i wellhau ein buchedd yn ôl dy air sanctaidd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.

Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.

Oen Duw, yr hwn wyt yn dilêu pechodau yr bŷd.

Caniadhâ i ni dy dangneddyf.

Oen Duw, yr hwn wyt yn dilêu pechodau yr byd.

Trugarhâ wrthym.

Crist clyw nyni.

Crist clyw nyni.

Arglwydd trugarha wrthym.

Arglwydd trugarha wrthym.

Crist trugarhâ wrthym.

Crist, trugarha wrthym.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob dallineb calon, oddi-wrth falchder, a gwag ogoniant, a ffûg sancteiddrwydd, oddiwrth genfigen, digasedd, a bwriad drwg, a phob anghari­adoldeb.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth anniweirdeb, a phob pechod marwol, ac oddi-wrth holl dwyll y byd, y cnawd, ar cythrael.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth fellt a thymestl, oddi-wrth blâ, haint, y nodeu, a newyn, oddi-wrth ryfel ac ymladd, ac oddi­wrth angau disyfed.

Gwaret ni Arglwydd daionus.

Oddi-wrth bob terfysc, dirgel frâd, a gwrthryfel, oddi-wrth bob ffals ddysceidiaeth, opinion annuwiol a schism, oddi-wrth galedrwydd calon, a dirmyg ar dy air a'th orchymmyn.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Trwy ddirgelwch dy gnawdoliaeth, trwy dy sanc­taidd enedigaeth, a'th enwaediad, trwy dy fedydd, dy ympryd, a'th brofedigaeth.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Trwy dy ddirfawring, a'th chwys gwaedlyd, drwy dy grôg a'th ddioddefaint, drwy dy werthfawr angau a'th gladdedigaeth, drwy dy anrhydeddus gyfodiad, a'th escynniad, a thrwy ddyfodiad yr Yspryd glân.

Gwaret nyni Arglwydd Daionus.

Yn holl amser ein trallodd, yn holl amser ein gwyn­fyd, yn awr angeu, ac yn nydd y farn.

Gwaret nyni Arglwydd daionus.

Nyni bechaduriaid a attolygwn i ti ein gwrando, ô Arglwydd Dduw, a theilyngu o honor gadw, rheoli, a llywodraethu dy lân Eglwys gatholic, yn y ffordd union.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honor gadw a nerthu i'th wîr addoli mewn iawnder a glendid buchedd, dy wasanaeth-wr Charles ein grasusaf Frenhin a'n pen-llywydd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Tilyngu o honot lywodraethu ei galon yn dy ffydd, [Page] ofn, a chariad, ac iddo yniddiried byth ynot, ac ym­gais yn wastad a'th anrhydedd, a'th ogoniant.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot ei amdeffyn a'i gadw, gan roddi iddo fuddugoliaeth ar ei holl elynnion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw ein grasusaf Frenhines Catherin, y Fam-frenhines Mari, Jago 'r Dûc o Efrawg a'r holl Frenhinawl deulu.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Escobion Offei­riaid a Diaconiaid, ag iawn wybodaeth a deall dy air: ac iddynt hwy trwy eu pregeth a'u buchedd, ei fynegu a'i ddangos yn ddyladwy.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot gynnyscaeddn Arglwyddi 'r Cyngor, a'r holl fonedd â grâs, doethineb, a deall.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio a chadw y pen-swyddo­gion, gan roddi iddynt râs i wneuthur cyfiawnder, ac i faentumio yr g wîr.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot fendithio o chadw dy holl bobl.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i bob cenhedlaeth, undeb, tangneddyf a chyd-gordio.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i ni galon i'th garu ac i'th ofni, ac i fyw yn ddiesculus yn ôl dy orchymynion.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot roddi i'th bobl ychwaneg o râd, i wrando yn ufudd dy air, ac iw dderbyn o bur ewyllys, ac i gynhyrchu ffrwyth yr Yspryd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot ddwyn i'r ffordd wîr, bawb ar a aeth ar gyfeiliorn ac a dwyllwyd.

Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.

Teilyngu o honot nerthu y rhai sy yn sefyll, a chon­fforddio a chynnorthwyo y rhai sy' â gwan galon, a chyfodi y sawl a syrthiant, ac o'r diwedd curo i lawr Satan tan ein traed.

[Page]Arglwydd, trugarha wrthym.

Arglwydd trugarhâ wrthym.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad a'r bobl gidag ef weddi 'r Arglwydd.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sanctei­ddier dy Enw. Deuet dy deyrnas. Bid dy e­wyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefo­edd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeu­wn ni i'n dyled-wyr. Ac nag arwain ni i brofedigaeth Eithr gwaret ni rhag drwg : Amen.

Offeiriad.

Arglwydd na wna â nyni yn ôl ein pechodau.

Atteb.

Ac na obrwya ni yn ôl ein anwiredd.

¶ Gweddiwn.

DUW Tâd trugarog, yr hwn nid wyt yn dir­iuygu uchenaid calon gystuddiedic, nac addu­ned y gorthrymmedic: cynnorthwya yn dru­garog ein gweddiau, y rhai yddym ni yn eu gwneuthur ger dy fron yn ein trallod a'n blin-fyd, pa bryd bynnac y gwascant arnom: a gwrando ni yn rasusol, fel y bo i'r drygau hynny, y rhai y mae yst­ryw a dichell diafol neu ddyn yn eu gwneuthur i'n herbyn, fyned yn ofer, a thrwy ragluniaeth dy ddaioni di, iddynt fod yn wastaredic, modd na'n briwer dy weision drwy erlyn neb, a gallu o honom dyth ddiolch i ti yn dy lân Eglwys, trwy Jesu Grist ein Har­glwydd.

Arglwydd, cyfot, cymmorh ni, a gwaret ni er mwyn dy Enw.

O Dduw, ni a glywsom â'n clustiau, â'n tadau a fynegasant i ni y gweithredoedd ardder­chawg a wnaethost yn eu dyddiau, ar yn y cyn­fyd o'u blaen hwy.

Arglwydd, cyfod, cymmorth ni, a gwaret ni er mwyn dy anrhydedd.

[Page]Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Atteb.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

Rhag ein gelynion amdiffyn ni, Crist.

Yn rasol edrych ar ein poenedigaethau.

Yn dosturus ystyria wrth drymder ein calonnau.

Yn drugarog madden bechodau dy bobl.

Yn garedigol gan drugaredd gwrando ein gweddiau.

Jesu Fâb Dafydd, trugarhâ wrthym.

Yr awr hon a phob amser, teilynga ein gwrando o Crist.

Yn rasol clyw ni o Crist yn rasol clyw nyni ô Argl­wydd Grist.

Offeiriad.

Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.

Atteb.

Fel yddŷm yn ymddiriedd ynot.

¶ Gweddiwn.

NYni a attolygwn i ti ô Arglwydd Dâd, yn drugarog edrych ar ein gwendid, ac er gogoniant dy Enw, ymchwel oddi-wrthym, yr holl ddry­gau a ddarfu i ni o wir gyfiawnder eu haeddu, a chaniadhâ fod i ni yn ein holl drallod ddodi ein cyfan ym­ddiried a'n gobaith yn dy drugaredd, ac byth dy wasa­naethu mewn sancteiddrwydd, a phurdeb buchedd, i'th anrhydedd a'th ogoniant trwy ein unig gyfryngwr a'n dadleu-wr Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y cenir neu y dywedir gwasanaeth y Cymmun gy­da'r Colect, Epistol, ar Efengyl, fel y mae yn canlyn.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, yr hwn o'th ddwyfol ragluniaeth a osodaist amryw raddau o Weinidogion yn dy Eglwys, ac a yspry­dolaist dy Apostolion i ddewis i Râdd Ddi­aconiaid y cyn-ferthyr S. Stephan ac e­raill: Edrych yn drugarog ar dy wasanaeth-ddynion hyn y rhai yr awrhon a elwir i'r unrhyw swydd a Gwenidogaeth. Felly cyflawna hwynt a'th wîr ath­rawiaeth, [Page] ac addurna hwynt a diniweidrwydd Buch­edd, fel y bo iddynt drwy air ac esampl dda dy was­anaethu di yn ffyddlon yn y swydd hon, er gogoniant i'th Enw, ac adeiliadaeth dy Eglwys, trwy haddedi­gathau ein pryniawdr Jesu Grîst; yr hwn sydd yn byw ac yn Teyrnasu gyda thydi a'r Yspryd glân yr awr­hon ac yn dragywydd. Amen.

Yr Epistol.

1 Tim. 3. 8, —13. RHaid i'r Diaconiaid yr un ffunyd, fôd yn ho­nest, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i wîn lawer, nid yn budr-elwa: Yn dala dir­gelwch y ffydd mewn cydwybod bûr. A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethant swydd Diaconiaid, os byddant ddiar­gyoedd. Y mae yn rhaid iw gwragedd yr un môdd fôd yn honest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhûb peth. Bydded y Diaconiaid yn wŷr un-wraig, yn llywodraethu eu plant, a'u tai eu hunain, yn dda. Canys y rhai a wasanaethant swydd Diatoniaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain, râdd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Ghrist Jesu.

Neu hon.

Act 6. 2, 7. YNa'r deuddeg a alwasant ynghŷd y lliaws discyblion, ac a ddywedasant: nid yw gym­hesur i ni adel gair Duw, a gwasanaethu byrddau. Am hynny frodyr, edrychwch yn eich plith, am seithwyr da eu gair, yn lla­wn o'r Yspryd glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. Eithr nyni a barhawn mewn gweddi, a gwenidogaeth y gair. A bodlon fu'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd, ac o'r Yspryd glân, a Philip, a Phrocorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas, proselyt o Antiochia: Y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apostolion, ac wedi iddynt weddio, hwy a ddo­dasant eu dwylo arnynt hwy. A gair Duw a gynny­dodd, a rhifedi y discyblion yn Jerusalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufuddha­sant i'r ffydd.

¶ Ac o flaen yr Efengyl, yr Escob yn eistedd yn ei Ga­dair, a bair Weini i bôb ûn o'r rhai y sydd i dderbyn yr Urdd hon, y Llŵ am Uchafiaeth y Brenin, ac yn erbyn Gallu ac Awdurdod pôb pennaeth arall-wald.

Y Llŵ am unbennaeth y Brenin.

YDD wyfi A. B. o eigion fynghydwybod yn Tystu ac yn mynegu, mai Grâs y Bre­nin yn Unic y sydd oruch-lywiawdr ar y Deyrnas hon, ac ar hôll eraill Argl­wyddiaethau a Gwledydd ei Râs ef, yn gystal ymmhôb rhyw bethau a Dadleuon Ysprydol neu Eglwysic a bydol. Ac nad oes ac na ddyleî fôd i ûn estron Dywysog, Dŷn, Prelad, Stât neu bennaeth, ddim, Beirniadaeth, Gallu, Goruchafiaeth, Rhagori­aeth neu Awdurdod Eglwysic neu Ysprydol o fewn y Deyrnas hon. O herwyd pa ham yddwyfi yn llw­yr wadu ac yn ymwrthod a phôb rhyw Feirniadae­thau Galluoedd, Goruchderau ac Awdurdodau, ac ydd­wyfi yn addaw y dygaf ffyddlondeb a Gwrogaeth gy­wir i Râs y Brenin, ei Etifeddion a'i Sycsessoriaid Cyfreithlawn; ac y cynnorthwyaf, ac y diffynnaf hyd y byddo i mi allu. Bôb Beirniadaeth, Braint, Rha­goriaeth ac Awdurdod a roddwyd neu a berthyn i Râs y Brenin, i'w Etifeddion, ac i'w Sycsessoriaid, neu a unwyd ac a gyssylltŵyd ad ymmerodrol, goron y Deyrnas hon, fel i'm cynnorthwyo Duw a Chyn­nwysiad y Llyfr hwn.

¶ Yna yr Escob a esamia bôb ûn o'r rhai a urddir yngw­ydd y bobl, yn ôl y Dull yn Canlyn.

YDychwi yn credu eich cynhyrfu oddi fewn gan yr Yspryd glân i gymmeryd arnoch, y Swydd, a'r Wenidogaeth hon at wasanaethu Duw, er hyfforddi­ad i'w ogoniant ac er Adeiladaeth i'w Bobl?

Atteb.

Yddwyf yn credu hynny.

Yr Escob.

YDych chwi yn tybied eich bôd wedi eich Gwîr alw i Wenidogaeth yr Eglwys yn ol ewyllys ein Har­glwydd Jesu Grîst, ac iawn drefnyddiad y Dyrnas hon?

[Page] Atteb.

Ydd wyfi yn meddwl hynny.

Yr Escob.

A ŷch chwi yn ddiffuant yn credu y canon oll o Scrythyrau yr Hêu Destament a'r Newydd?

Atteb.

Ydd wyf yn eu credu hwynt.

Yr Escob.

A ddarllenniwch chwi yr unrhyw yn ddyfal i'r Bobl ymgynnulledic yn yr Eglwys lle i'th gosoder i weini?

Atteb.

Gwnâf.

Yr Escob.

Y Mae yn perthyn i Swydd Diacon, yn yr Eglwys lle a gosodir ef i weini gynnorthwyo yr Offeiriad yngwasanaeth Duw, ac yn Bennaf pan fyddo efe yn ministrio y Cymmun bendigedic, i'w helpu ef iw gy­frannu ef. A darllain yr Yscrythyr Lân ar Homiliau yn yr Eglwys; ac addyscu y bobl jeuaingc yn y Cate­chism. Bedyddio rhai bychain lle na bo yr Offeiriad yn bresennol; a phregethu, os caniadheir iddo hynny gan yr Escob. Ac ym hellach ei swydd ef yw, lle mae darmerth i'r Tlodion, ymofyn am blwyfolion cleifion, anghenus a gweniaid, mynegu i'r Eurad eu cyslwr, eu henwau a'u Trigfeydd, fel trwy ei gyngor ef, y gallont dderbyn cymmorth o Elusenau y plwyfolion ac eraill. A wnewch chwi hyn yn barod ac yn ewyll­yscar?

Atteb.

Trwy nerth Duw mi a wnâf felly.

Yr Escob.

A Ymroddwch chwi drwy bôb diwydrwydd i lunio a Threfnu eich bucheddau eich hun a bucheddau eich teuluoedd yn ôl Athrawiaeth Grist, ac i'ch gwneuthur eich hunain a hwythau, (hyd y safo ynoch) yn esamplau iachol i ddiadell Grist?

Atteb.

Mi a wnâf felly a'r Arglwydd yn Borth i mi.

[Page] Yr Escob.

A Roddweh chwi barch ac ufudd-dod i'ch Ordina­ri, ac i Ben-gweinidogion eraill yr Eglwys, ac i'r cyfryw a roddir iddynt y Gofal ar Llywo­draeth drosoth chwi, gan ddilyn eu cynghorion dwy­wol hwy yn Llawen ac yn ewyllyscar?

Atteb.

Mi a wnâf fy ngorau, a'r Arglwydd yn borth i mi.

¶ Yna yr Escob gan ddodi ei ddwylo ar ben pôb ûn o ho­nynt yn gostwng ar eu gliniau o'i flaen ef a ddywed.

CYmmer di awdurdod i wasanaethu Swydd Dia­con o fewn Eglwys Dduw orchymmynedic i ti, yn Enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.

¶ Yna y dyry yr Escob y Testament Newydd i law pôb un o honynt, gan ddywedyd.

CYmmer di awdurdod i ddarllain yr Efengyl o fewn Eglwys Dduw, ac i bregethu yr unrhyw, os ca­niadheir i ti hynny gan yr Escob ei hun.

¶ Yna ûn o honynt yr hwn a appwyntio yr Escob, a dderllyn yr Efengyl.

BYdded eich lwynau wedi eu hamwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu goleu. A chwi­thau yn debyg ei ddynion yn disgwil eu harglwydd, pa brŷd y dychwel o'r neithi­or, fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. Gwyn eu bŷd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd pan ddêl, yn neffro: yn wir medd­af i chwi, efe a ym-wregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy. Ac os daw efe ar yr ail wiliadwriaeth ac os ar y drydedd wiliadwriaeth y daw, a'u cael hwynt felly gwyn eu bŷd y gŵesion hynny.

¶ Yna ydd â yr Escob ymmlaen yn y Cymmun, a chyn­nifer a urddwyd a arhosant ac y gymmerant y Cymmun bendigedic gyda'r Escob yr ûn dydd.

¶ Pan orphenner y Cymmun, ar ôl y Colect diweddaf ac yn nesaf o flaen y Fendith, y dywedir y Colectau hyn yn canlyn.

[Page] HOll-alluog Dduw rhoddwr pôb dawn dâ, yr hwn y bn gwiw gennit dderbyn a chymmeryd dy Wasanaethwyr hyn i Sŵydd Diaconiaid i'th Eglwys: Gwnâ hwynt, ni a attolygwn i ti Argl­wydd, yn Orchwylus, yn ostyngedig, ac yn astud yn eu Gweinidogaeth; dyro iddynt ewyllys parod i ga­dw pôb Ysprydol ddiscyblaeth, i arwedd bôb amser dystiolaeth cydwybod ddâ, ac i ymgynnal byth yn ddi­yscog ac yn gadarn yn dy Fâb Crist, fel gan ymar­wedd yn dda yn y Swydd isel-râdd hon, y caffont eu cyfrif yn deilwng i'w galw i Weinidogaethau Uwch yn dy Eglwys, Trwy'r unrhyw dy Fâb ein Ja­chawdr Jesu Grist, i'r hwn byd y gogoniant a'r anrhydedd byth bythoedd. Amen.

RHag-flaena ni o Arglwydd, yn ein holl wei­thredoedd, â'th radlonaf hoffder, a rhwydd­hâ ni â'th barhâus gymmorth, fel yn ein holl weithredoedd dechreuedic, a therfynedic ynoti, y gallom foliannu dy sanctaidd Enw ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd fywyd tragy­wyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

TAngneddyf Dduw yr hwn sydd uwchlaw pob de­all, a gatwo eich calonnau a'ch meddyliau yng­wybodaeth a chariad Duw a'i Fâb Jesu Grist ein Harglwydd. A bendith Dduw holl-alluog, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân fyddo i'ch plith, ac a drigo gyd a chwi yn wastad. Amen.

¶ AC ymma y dylid mynegu i'r Diacon, y gorfydd iddo aros yn ei Swydd o Diaconiaeth tros yspaid ûn flwyddyn gyfan (oddieithr i'r Escob ar ryw achossion Rhesymol weled yn ddâ yn amgenach) tuag at fôd yn berffaith ac yn gyfarwydd yn y pethau a berthynant i'w Weinidogaeth Eglwysic ef. Yn gwneuthur yr hyn os ceir ef yn ffyddlawn ac yn ddiwyd; fe all ei Ddiosessan ei dderbyn ef i Urdd Offeiriadaeth, ar yr amseroedd gosode­dic yn y Canon, neu os bydd achos mawr yn cymmell, ar ryw ddydd Sûl, neu ddydd-Gŵyl arall, yngŵydd yr Egl­wys ar y Dull a'r ffurf y sŷdd yn canlyn isod.

Ffurf a Dull Urddo OFFEIRIAID.

¶ AR y dŷdd pwyntiedic gan yr Escob, pan orphenner y Gwasanaeth Boreu, y bŷdd pregeth neu Gyngor yn mynegu swydd a dylêd [y cyfryw a ddeuant i'w gwn­euthur yn Offeiriaid] mor anghenrheidiol yw y Râdd honno yn Eglwys Grist: Ac hefyd pa faint y dyleu y bobl eu perchi hwy yn eu swydd.

¶ Yn gyntaf, yr Arch-Diacon neu yn ei absen, rhyw ûn a appwyntir yn ei le ef, a Bresentia i'r Escob yn eistedd yn ei Gadair ger llaw y Bwrdd bendigedic gynnifer ag a dderbyn Urdd Offeiriadaeth y dwthwn hwnnw (a phôb ûn o honynt wedi ymwisco yn hardd) ac a ddy­wed.

ANrhydeddus Dâd yng Hrist, yddwyf yn presentio i chwi y gwyr presennol hyn i'w Hurddo yn Of­feiriaid.

Yr Escob.

GWiliwch ar fôd y Rhai ydd ŷch yn eu presentio i ni yn addas a Chymwys, o herwydd eu dŷsc a'u duwiol ymarweddiad, i iawn gyflawni eu Gwenido­gaeth er anrhydedd i Dduw ac er adeiliadaeth i'w Eglwys.

¶ Yr Arch-Diacon a ettyb.

MYfi a ymofynnais am eu hanes, ac a'u holais hwynt eu hunain, ac ŷdd wyfi yn meddwl i bôd hwy felly.

¶ Yna yr Escob a ddywed wrth y Bobl.

Y Bobl ddâ, dymma'r rhai ŷdd ŷm ar fedr, gi­da chenad Duw, eu cymmeryd heddyw i gysse­gr-swydd Offeiriadaeth: canys ar ôl eu ho­holi yn ddyfal, nid Ydym yn gweled amgenach, na chawsant eu galw yn gyfreithlawn i'w Sŵydd a'u Gwenidogaeth; a'u bôd yn wŷr cymmwys i'r un­rhyw. Eithr er hyn i gyd, od oes nêb o honoch chwi, a ŵyr ûn rhwystr neu fai cyhoeddus yn nêb ûn o ho­nynt, o herwydd yr hwn ni ddylid ei gymmeryd i'r gyssegr-weinidogaeth ymma; yn Enw Duw, deued allan a dangosed beth yw y bai neu rwystr.

¶ Ac os rhyw fai gorthrwm neu rwystr a honnir, yr Escob a arbed urddo y dŷn hwnnw hyd pan gaffer y cy­huddedic yn ddiargywedd o'r bai hwnnw.

¶ Yna yr Escob (gan Orchymmyn y rhai a gaffer yn gymmwys i'w hurddo, i weddiau y Gynnulleidfa) gyda 'r Eglwys-wyr a'r Bobl bresennol a gân neu a ddywed y Litani gida'r Gweddiau, megis yn Ffurf y Diaconiaid, yn unic yn y cydarch priod yno yr arbedir y gair [Diaco­niaid] ac y dywedir y gair [Offeiriaid] yn ei le ef.

¶ Yna y cenir neu y dywedir gwasanaeth y Cymmun gy­da'r Colect, Epistol ar Efengyl, isod.

Y Colect.

HOll-alluog Dduw, rhoddwr pôb dawn da, yr hwn trwy dy lân Yspryd a ofodaist am­ryw raddâu o Weinidogion yn yr Eglwys edrych yn ddarbodus ar dy Wasanaeth­ddynion hyn a alwyd yr awr hon i Sŵydd Offeiriadaeth ac felly cyflawna hwynt a'th wir ath­rawiaeth, ac addurna hwynt a diniweidrwydd Buch­edd, fel y bo iddynt drwy air ac esampl dda dy was­anaethu di, yn ffyddlon yn y swydd hon, er gogoniant i'th Enw, ac adeiliadaeth dy Eglwys, trwy haddedi­gathau ein pryniawdr Jesu Grîst; yr hwn sydd yn byw ac yn Teyrnasu gyda thydi a'r Yspryd glân yr awr­hon ac yn dragywydd. Amen.

Yr Epistol.

EIthr i bob un o honom y rhoed grâs yn ôl mesur dawn Crist. O her­wydd pa ham, y mae efe yn dywedyd pan dderchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr, Efe a dderchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddescyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaiar? Yr hwn a ddescynnodd, yw yr hwn hefyd a escynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyfiawnei bob peth.) Ac efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid, ac yn A­thrawon: I berffeithio y Sainct i waith y weinido­gaeth, i adeiliadu corph Christ: Hyd oni ymgyfarfydd­om oll yn undeb ffydd, a gŵybodaeth Mâb Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist.

¶ Yna y darllennir am yr Efengyl ran o'r nawfed Ben: o S. Matth. fel yn canlyn.

S. Mat. 9. 36 APhan welodd efe y torfeydd, efe a dostu­riodd wrthynt, am eu bôd wedi blino, a'u gwascaru fel defaid heb ganddynt fugail. Yna y dywedodd efe wrth ei ddiscyblion, Y cynhaiaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweith­ŵŷr yn anaml. Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaiaf anfon gweith-wŷr i'w gynhaiaf.

¶ Neu hyn isod, allan o'r ddegfedd Ben. o S. Joan.

S. Joan 10. 1 YN wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy 'r drws î gorlau y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeili­wr yw. Ond yr hwn sydd yn my­ned i mewn drwy 'r drws, bugail y defaid ydyw. I hwn y mae y dry­ssor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi îddo yr­ru [Page] allan ei ddefaid ei hnn, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dieithr ni's can­lynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaen­ant lais dieithraid. Y ddammeg hon a ddywedodd yr Jesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn en llefarn wrthynt. Am hynny yr Jesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wîr yn wir meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid. Cynnifer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron ac yspeil-wŷr ŷnt: ei­thr ni wrandawodd y defaid arnynt. Myfi yw y drws: os â neb i mewn drwofi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ledratta, ac i ddestrywio, myfi a ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. Myfi yw 'r bugail da: y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. Eithr y gwâs cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn ei sclyfio hwy, ac yn gwascar uy defaid. Y mae 'r gwâs cyflog yn ffoi, oblegid mai gwâs cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. Myfi yw y bu­gail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadweinir gan yr eiddo fi. Fel yr edwyn y Tâd fyfi, felly yr ad­waen inneuy y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy enioes dros y defaid. A defaid eraill sy gennif, y rhai nid ŷnt ô'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyr­chu, a'm llais i a wrandawant, a byddd un gorlan, ac un bugail.

¶ Yna yr Escob yn eistedd yn ei Gadair, a weinydda i bôb ûn o honynt y llŵ am uchafiaeth y Brenin, megis y go­sodir o'r blaen yn Ffurf Urddo Diaconiaid.

¶ Ac wedi hynny, efe a ddywed wrthynt.

CHwychwi a glywsoch Frodyr. nid yn llai yn eich esamiad priod, nag yn y cyngor a roddwyd i chŵi, ac yn y cy­ssegr-lan Lithoedd allan o'r Efen­gyl, a Scrifennadau yr Apostolion, y rhyw'r uchel fri, a dirfawr bwyth sydd yn y Sŵydd, i'r hon eich gal­wyd chwi. Ac yn awr yddym eilchwel yn eich cyn­ghori chwi yn Enw ein Harglwydd Jesu Grîst, gofio o honoch yn wastad, i ba ryw uchel barch ac i ba ryw Sŵydd, a goruchwiliaeth bwysfawr i'ch galwyd chwi nid amgen, i fôd yn Gennadon, yn wilwyr, ac yn Oruchwyl-wyr i'r Arglwydd; I Athrawu ac i rag-ry­buddio, i borthi ac i arlwyo i Deulu yr Arglwydd, I geisio Defaid Crist a ŷnt ar ddisperod; A'i Blant ef y sydd ynghanol y Bŷd drygionnus hwn fel y bônt cadwedig trwy Grist bŷth bythoedd.

Am hynny bid yn wastad brintiedig yn eich côf chwi, pa ddirfawr drysor a ymddiriedwyd i chwi. Ca­nys Defaid Crist ydynt y rhai a brynnodd efe, trwy ei angeu, Ei ddyweddi a'i Gorph ef yw'r Eglwys, a'r Gynnulleidfa y bŷdd rhaid i chwi Weini iddi. Ac os digwydd i'r unrhyw Eglwys, nag i ûn aelod o honi, oddef dim niwed neu Rwystr o achos eich Esceulustra chwi, Chwi a wyddoch faint y bai, at mor ofnadwy hefyd y dial a ganlyn.

O herwydd pa ham ystyriwch ynoch eich hunain ddi­ben eich Gweinidogaeth i Blant Duw, tuag at ddy­weddi a Chorph Crist; ac Edrychwch na bo i chwi bŷth beidio a'ch poen, eich gofal a'ch diwydrwydd, ues y gorphennoch hyd eithaf y saif ynoch, y cwbl oll, yn ôl eich rhwymedig ddylêd, I ddŵyn cynnifer oll a ym­ddiriedwyd, neu a ymddiriedir tan eich gofal, i gyfryw undeb ffŷdd a Gwybodaeth am Dduw, ac i'r cyfryw [Page] addfedwch â pherffeithrwydd Oedran yn Ghrist, fel na adawer dim lle yn eich mŷsc, nac i amryfusedd Cre­fydd, nac i Ddrygioni buchedd.

Am hynny, yn gymmaint a bod eich Sŵydd chwi yn Rhagori cymmaint, ac mor anhâwdd ei Chyflawni, chwi a welwch a pha faint o ofal ac astudrwydd, y dy­leh ymegnio, yn gystal i'ch dangos ei'ch hunain yn wa­sanaethgar ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd yr hwn a'ch gosododd mewn breint-le mor barchus. Ag i ochelyd hefyd na bo i Chwi eich hunain dramgwyddo, na bod yn achos tramgwydd i eraill. Eisoes nad all fod gen­nych na phryder nac ewyllys i hynny, o honoch eich hunain; oblegid Duw ei hun y sydd yn rhoddi yr ewy­llys a'r gallu. Chwithan a ddylech, ac angenrhaid i chwi, Weddio yn ddifrifol am ei Lan-yspryd ef Ac yn gymmaint ac nad ellwch drwy ûn modd arall graffu ar wneuthur gweithred mor bwysfawr, yn hyfforddio Jachaŵdwriaeth Dŷn, amyn trwy Athrawiaeth a Chyngor allan o'r Scrythyr-lân, a thrwy fuchedd gŷ­dunol a'r unrhyw. Ystyriwch mor astud y dylech fôd ar ddarllain a dyscu 'r yscrythyrau, ac ar lunio eich ymddygiad eich hun, ac eiddo'r rhai nesaf o berthyn i chwi yn ol rheol yr unrhyw Yscrythyrau; Ac o her­wydd yr ûn achos y modd y dylech adel, a bwrw heibio (hyd y galloch) holl ofalon a Thrafferthau 'r Byd.

Y mae gennym obaith da am danoch, eich bod chwi er hir o amser, wedi craff-synnied, ac wedi ystyried yn dda ynoch eich hunain y pethau hyn: A'ch bod wedi go­sod eich llŵyr frŷd, trwy Râs Duw, i ymroddi yn hollawl tuag at hyn o bêth; a thynnu eich gafalon oll, a'ch astudrwydd i'r llwybr ymma, Ac y bŷdd i chwi weddio yn ddi-baid ar Dduw'r Tâd drwy gyfryng­dod ein unic Jachawdr Jesu Grist, am Nefawl Borth yr Yspryd glân fel i'ch gwneler, trwy beunydd­ddarllain ac ystyried yr Scrythyrau yn rhuglach ac yn rymmusach yn eich Gweinidogaeth.

Ac fely byddo i chwi o amser bwygilydd felly ym­egnio a sancteiddio eich bucheddau Priod, a bucheddau yr eiddo'ch, ac i'w llunio hwynt wrth reol ac Athra­wiaeth Crist i fod yn ddrychau ac yn esamplau Ja­chol▪ a Duwiol i'r Bobl i'w canlyn.

[Page]Ac yn Awr, fel y gallo Cynnulleidfa Crist y sŷdd ymma yn gydrychiol wedi ymgasclu ynghŷd ddeall hefyd eich meddyliau, a'ch ewyllys yn y pethau hyn, ac fel y gallo' eich addewid yma, eich cynnyrfu chwi yn ychwaneg i wneuthur eich dyled-swyddau, chwy­chwi a âttebwch yn Eglur i'r hyn bethau, a ofynnom i chwi yn Enw Duw a'i Eglwys, am yr unrhyw.

A Ydych yn tybied yn eich calon eich bôd yn wir alwedic yn ôl Ewyllys ein Harglwydd Jesu Grist a Threfn Eglwys Loegr, i Urdd a Gwei­nidogaeth Offeiriad?

Atteb.

Ydd wyfi yn tybied hynny.

Yr Escob.

A Yw yn ddiogel gennych fôd yr Yscrythyrau yn cynwys pôb Athrawiaeth angenrheidiol i Je­chydwriaeth Tragywyddol trwy Ffŷdd yn Jesu Grist. Ac a ydych chwi yn ddi-anwadal yn ar­faethu i athrawiaethu y Bobl, a ymddiriedwyd i'ch golygiaeth allan o'r ûn Scrythyrau; Ac na ddyscwch ddim (megis angenrheidiol i Jachawdwriaeth Tra­gywyddol) ond a fo diogel gennych y gellir ei gasclu a'i brofi allan or Scrythyrau?

Atteb.

Y mae yn ddiogel gennif, ac mi a arfaethais felly trwy râs Duw.

Yr Escob.

A Roddwch chwithau ddiwydrwydd yn ffyddlawn bôb amser ar finistrio yr athrawiaeth a'r Sacra­mentau a discyblaeth Crist, megis y gorchym­mynnodd yr Arglwydd ac ar y môdd y mae'r Eglwys a'r Deyrnas hon wedi derbyn yr nnrhyw, yn ôl Gor­chymmynnion Duw, hyd pan alloch addyscu, y Bobl a ddodwyd tan eich cûr a'ch gorchwyliaeth, i gadw a gwneuthur yr unrhyw drwy bôb dyfal-bara?

Atteb.

Mi a wnâf felly trwy borth yr Arglwydd.

Yr Escob.

A Fyddwch chwi parod drwy bôb ffyddlondeb a di­wydrwydd, i ddeol ac i darfu ymmaith bôb cy­feiliornus a dieithr Athrawiaeth, a fo yn gwr­thynebu Gair Duw: ac a ymarferwch chwi roddi yn wastad Rybuddiau a Chynghorion Public a Phreifat, yn gystal i'r Clâf ac i'r Jach o fewn eich Curau, megis y byddo'r angen yn gofyn, ac y rhoddir Achlysur?

Atteb.

Mi a wnâf felly a'r Arglwydd yn Gynnorthwywr i mi.

Yr Escob.

AFyddwch chwi ddyfal mewn Gweddiau, ac ar ddarllain y Cyssegr-lân Yscrythyrau, ac yn y cy­fryw lafuriau a Myfyriau a Hyfforddiant i wy­bodaeth yr unrhyw; gan ddodi heibio ofal tros y byd a'r Cnawd?

Atteb.

Mi a ym-egniaf a'r wneuthur felly a'r Arglwydd yn Gynnorthwywr i mi.

Yr Escob.

AFyddwch chwi ddiwyd i lunio a ffurfio eich Bu­cheddau, eich hunain a'ch Teuluoedd wrth A­thrawiaeth Crist, ac i'ch gwneuthur eich hu­nain a nwythau, hyd y bo ynoch, yn flaenoriaid ac yn esamplau Jachol i ddiadell Crist?

Atteb.

Mi am dygaf fy hun at hynny, a'r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

Yr Escob.

ADdeffynnwch chwi, ac a hyfforddiwch chwi ddi­ddigrwydd, tangneddyf a chariaid perffaith rhwng pôb mâth o Gristianogion; yn enwedig rhwng y rhai a osodwyd, neu a osodir tan eich Goruchwylia­eth chwi?

Atteb.

Mi a wnâf felly a'r Arglwydd yn gynorthwywr i mi.

Yr Escob.

A Roddwch chwi barch ac ufudd-dod i'ch Ordina­ri, ac i Brif-swyddogion eraill yr Eglwys, ar yr rhai y dodir y gofal drosoch, a'r Llywodra­eth arnoch, gan gyflawni eu cynghorion Duwiol hwy yn Llawen ac yn Ewyllysgar, a chan eich darostwng eich hunain i'w Barn Dduwiol hwynt?

Atteb.

Mi a wnâf felly ar Arglwydd yn gynnorthwr i mi.

¶ Yna yr Escob o'i sefyll a ddywed.

YR Hollalluog Dduw, yr hwn a roddodd i chwi yr ewyllys i wneuthur y pethau hyn ôll, a ganiadhao i chwi nerth hefyd a gallu i gyflawni'r unrhyw; ac felly a berffeithio ei waith a ddechreuodd ynoch: trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna fe a ddymunir ar y gynnulleidfa, pôb ûn yn ei ddir­gel weddiau, wneuthur eu herfyniau yn ostyngedic ar Dduw am y pethau hyn: I'r cyfryw Wediau, fe a gedwir distawrwydd dros encyd.

¶ Ar ôl hynny y Cenir neu y dywedir gan yr Escob (a'r rhai, a Urddir yn Offeiriaid, bôb ûn, ar eu gliniau,) Veni Creator Spiritus; yr Escob yn dechreu, a'r Offeiriaid ac eraill cydrychiol yn atteb bôb ŷn ail wers, fel hyn.

TYred Yspryd glân in calonnau ni,
A dod dy oleuni nefol.
tydi wyt Yspryd Crist, dy ddawn
Sy fawr jawn a rhagorol.
Llawenydd, bywyd, cariad pur
Ydynt dy eglur ddoniau
Dod eli'n llygaid mal i'th saint
Ac ennaint in wynebau.
Gwasgar ein gelynion trwch
A heddwch dyro i ni.
Os tywysog i ni fydd Duw nêr
Pob peth fydd er daioni.
Dysc i ni adnabod y Duw Tâd
Y gwir Fâb rhâd a thithau.
Yn un tragywyddol Dduw i fod
Yr hynod dri phersonau.
[Page]Fel y dywedir ym-mhob oes
Y Duw a roes drugaredd.
Y Tâd, y Mâb, ar Yspryd glân,
Da datcan ei anrhydedd.

¶ Neu hyn.

TYred Yspryd glân tragywyddol Dduw.
yr unrhyw ar Tâd nefol,
Yr unrhyw hefyd ar Mab rhad,
Duw cariad tangneddyfol.
Llewyrcha 'n c'lonnau ni a'th râs
fel byddo gâs i'n bechu,
Ac i ni mewn sancteiddrwydd rhydd,
bob dydd dy wasanaethu.
Y diddanudd wyt ti yn wîr,
ym-mhob rhyw hir orthrymder
Dy holl ddaioni di a'th glod
a thafod, ni adrodder.
Y ffynnon i'r llawenydd glan
y gloyw-lwys dân cariadol
Ac i'r enneiniaid mawr ei les
sy'n rhoddi gwres Y sprydol.
Dy ddoniau aml yut a dwys
y rhai ith Eglwys rhoddi
Yn-ghalonnau pur, dy ddeddf ddilys
tydi a'th fys scrifenni.
Tydi addewaist ddyscu, Iôn
dy weision i lefaru.
Fel ym-mhob man y caffo'n rhwydd
yr Arglwydd ei foliannu.
O Yspryd glân i'n calonnau ni
y gwir oleuni danfon,
A hefyd zel tra fom ni byw,
i garu Duw yn ffyddlon.
Ein gwendid nertha di o Dduw,
mawr ydyw ein breuolder:
I ddiafol, i'r byd, nac chwaith i'r cnawd,
na fyddom wawd un amser.
Gyrr ein gelynnion yn eu hol
bydd di heddychol a ni.
[Page]Gwna i bob dŷn ein caru'n bûr
mael eglur a fydd hynny.
Ein tywysog wyt o Arglwydd mau
rhag maglau pob rhyw bechod.
A rhag llithro oddi wrthit mwy
cynnorthwy bydd i'n parod.
Dod fesur mawr o'th râs yn rhwydd,
O Arglwydd Dduw goruchaf.
Diddanwch i ni felly y bydd,
yn y brawd-ddydd diweddaf.
I ffoi ymbleidiau ceccreth câs
dod i ni râs Duw nefol.
Dod gariad a thangneddyf mâd,
ym-mhob rhyw wlad Gristnogol.
Attolwg i ti dyro râd
y tâd i ni adnabod.
Ar Arglwydd Jesu ei fab hael
ac yn y nef cael canfod.
A chyffesu a pherffaith ffydd
dydi bob dydd yn ddiau.
Y spryd y Tâd ar Mâb wyt ti
un Duw ond tri phersonau.
Ir Tâd, ir Mâb, ir Yspryd da
un gogyd a gogyfuwch.
Bid moliant: hwn yw'r gwir Dduw nef
ei enw ef bendithiwch.
A bid in unic Arglwydd, Dduw
bod gwiw ganddo roi 'n hylwydd.
I bob rhyw Gristion yn y byd
ei Y spryd yn dragywydd.

¶ Gwedi hynny, yr Escob a weddia yn y modd hwn, ac a ddywed.

¶ Gweddiwn.

HOllalluog Dduw nefol Dâd, yr hwn o'th anfeidrol Gariad a serch ar­nom, a roddaist dy unic ac Anwy­laf Fâb Jesu Grist i'n prynu ac i fôd yn Awdur i ni o fywyd tragywydd­ol: yr hwn, wedi iddo Berffeithio ein prynedigaeth ni drŵy ei Angeu, ac Escyn o hono i'r Nefoedd, a anfonodd allan i'r Bŷd Apostolion, Prophwydi, Efangylwyr, Athra­won a Bugeiliaid, Trwy Lafur a Gweinidogaeth y Rhai y casclodd ynghŷd liosog ddiadell ym mhob goror o'r Bŷd i ddatcan tragywyddol Fawl ei Enw Bendigedig, Am y rhai hyn, mawr ddoniau dy dra­gywyddol Ewyllysgarwch; Ac am deilyngu o honot alw dy Wasanaeth-Ddynion hyn ymma yn gydrychi­ol, i'r unrhyw Swydd a Gŵeinidôgaeth a osodaist er mwyn Jachawdwriaeth Dyn, Nyni a roddwn i ti ffyddlonaf ddiolwch, nyni a'th foliannwn, ac a'th Addolwn Ac yn ostyngedig yr attolygwn i Ti, Trwy yr ûn Dy Fendigedic Fâb Ganiadhâu i bawb a al­want ar dy Enw Sanctaidd, ymma, ac ym mhob man arall, allu dal allan i ymddangos yn ddiolchgar i ti, am y rhai hyn ac oll eraill Dy Fendithion; a chyn­nyddu beunydd a myned rhagom mewn Gwybodaeth a ffydd ynot Ti A'th Fâb drwy 'r Yspryd Glân: fel, yn gystal drwy dy weinidogion hyn, a thrwy eraill tros ba Rai y gosoder hwy yn Weinidogion, y Go­gonedder Dy Enw sanctaidd yn dragywydd: ac yr Ehanger Dy Fendigedic Deyrnas; trwy 'r ûn Dy Fâb Jesu Grist ein Harglwydd, yr hwn sy'n bŷw ac yu Teyrnasu gyda Thi yn undeb yr ûn Yspryd Glân yn oes oesoedd.

¶ Pan ddarffo y weddi hon, yr Escob gyda'r Offeiriaid cydrychol a ddodant eu Dwylo ar Ben pôb ûn a fo yn [Page] derbyn Urdd Offeiriadaeth: y derbynwvr yn gostwng yn ufudd ar eu gliniau, a'r Escob yn dywedyd.

DErbyn di yr Yspryd glan i sŵydd a Gwaith Offei­riad o fewn Eglwys Dduw, yr hon swydd a roddir i Ti yr awr hon drwy Arddodiad ein Dwylo Ni I bwy bynnac y maddeuech Di eu pechodau, ma­ddeuir iddynt Ac i bwy-bynnac yr Attaliech Di eu pe­thodau, hwy a Attaliwyd. A Bŷdd Di Orchwyliwr ffyddlon Gair Duw a'i Lân Sacramentau, yn Enw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân. Amen.

¶ Yna, a hwy etto ar eu gliniau, yr Escob a Ddŷd y Bibl i bôb un o honynt yn ei lâw, gan ddywedyd.

BYdded i Ti Awdurdod i Bregethu Gair Duw ac i Finistrio y Sacramentau Bendigedic yn y Gyn­nulleidfa lle i'th osodir yn Gyfreithlawn i hynny.

¶ Pan ddarffo hyn, Credo Cymmanfa Nicen a genir neu a ddywedir. A'r Escob wedi hynny a aiff rhagddo ar wasanaeth y Cymmun, yr hwn y rhai ôll a dderbyni­ant Urddan a gymmunant ynghŷd, ac a arhosant yn yr ûn man lle y dodwyd Dwylo arnynt, hyd pan ddarffo idd­ynt gymmeryd y Cymmun.

¶ Pan ddarffo y Cymmun, ar ôl y Colect diweddaf ac yn nesaf o flaen y fendith y dywedir y Colectau hyn.

TRugarogaf Dâd, ni a attolygwn i ti anfon dy nefol Fendith ar Dy wasanaeth-Ddynion hyn, fel y Gwiscer hwy ag Jawnder; dyro y cyfryw lwyddiant i'th air yn eugen­euau hwynt, fel nad elo eu lleferydd ûn amser yn ofer. Caniadhâ hefyd i ni Râs i wrando a derbyn yr hyn a lefarant allan o'th sancteiddiaf Air, neu yn gyson iddo megis yn llwybr i'n Jachawdwriaeth, fel yn ein holl eiriau a Gweithredoedd y ceisiom dy ogoniant Di, a Chyn­nyrch dy Deyrnas, Trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

[Page] RHag-flaena ni o Arglwydd, yn ein holl wei­thredoedd, â'th radlonaf hoffder, a rhwydd­hâ ni â'th barhâus gymmorth, fel yn ein holl weithredoedd dechreuedic, a therfynedic ynoti, y gallom foliannu dy sanctaidd Enw ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd fywyd tragy­wyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

TAngneddyf Dduw yr hwn sydd uwchlaw pob de­all, a gatwo eich calonnau a'ch meddyliau yng­wybodaeth a chariad Duw a'i Fâb Jesu Grist ein Harglwydd. A bendith Dduw holl-alluog, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân fyddo i'ch plith, ac a drigo gyd a chwi yn wastad. Amen.

¶ AC os Rhoddir grâdd Diaconiaid i Rai, ac i eraill Urdd Offeiriadaeth yn yr ûn dŷdd, y Diaconi­aid a bresentir yn gyntaf, yna yr Offeiriaid: Ac fe a wasanaetha darllain y Litani ûnwaith i'r ddau: Dy­weder Colectau pôb un; y cyntaf tros y Diaconiaid, yna y llall tros yr Offeiriaid.

Yr Epistol a fŷdd, Ephes. 4. 7, 14. Megis uchod yn y Drefn hon yn nesaf ar ôl yr hon, y rhai a wneir yn Ddia­coniaid, a gymmmerant y Llŵ o Uchafiaeth, yr esemir, ac yr Urdir hwy, megis ac y rhag-osodwyd uchod. Ac yna wedi, i ûn o honynt ddarllain yr Efengyl yr hon a fydd naill a'i allan o S. Mat. 9. 30—38. ai o S. Lu. 12. 35—39. Megis u­chod yn y Ffurf am Urddo Diaconaid. Y Rhai a wneir yn Offeiriaid yn yr un modd a gymmerant Lŵ yr Uchafia­eth, a esemir, ac a Urddir, megis y gosodir yn y Gwasana­eth uchod.

Ffurf Urddo neu Gyssegru ARCH-ESCOB, neu ESCOB; Yr hyn a wneir yn wastad ar ryw Ddŷdd-Sûl neu Dŷdd-Gŵyl.

Pan fo pôb pêth wedi ei arlwyo yn weddus, a'i osod mewn Trefn yn yr Eglwys, pan orphenner y Gwasanaeth Bo­reu, yr Arch-Escob (neu ryw Escob arall a Awdurdod­wyd i hynny,) a ddechreu wasanaeth y Cymmun, a hwn fydd.

Y Colect.

1 Tim. 3. 1. HOllalluog Dduw, yr hwn trwy dy Fâb Jesu Grist a roddaist amryw ddoniau godidawc i'th sanctaidd A­postolion, ac a orchymmynaist idd­ynt Borthi dy Braidd: Dyro Râs ni a attolygwn i ti, i hôll Escobion a Bugeiliaid dy Eglwys i Brege­thu dy Air yn ddyfal, ar i finistrio eu duwiol ddis­cyblaeth yn ddyledus: A Chaniadhâ i'th Bobl Ras i ganlyn yr unrhyw yn ostyngedic: fel y bo i ni eu gyd dderbyn Coron y Gogoniant Tragywyddol, Trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Ac Escob arall a dderllyn.

Yr Epistol.

GWir yw 'r gair, Od yw nêb yn chwennych swydd Escob, gwaith da y mae yn ei chwe­nnych. Rhaid gan hynny i Escob fod yn ddi­argyoedd, yn wr un wraig yn wiliadw­rus yn sobr yn weddaidd, yn lletteugar, yn athra­waidd: Nid yn win-gar, nid yn darawudd, nid yn bu­dr-elwa: eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddi-arian­gar: [Page] Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd-dod, ynghŷd a phôb honestrwydd: (Oblegid oni feidr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fôdd y cymmer efe ofal dros Eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo. a syrth­io i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan: rhag iddo syrthio i wradwydd, ac i fagl diafol.

¶ Neu hyn yn lle yr Epistol.

Act 20. 17. AC o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd atto Henuriaid yr Eglwys. A phan ddaethant atto, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wŷddoch er y dydd cyntaf y daeth­ym i Asia, pa fodd y bum i gyd â chwi dros yr holl amser. Yn gwasanaethu yr Arglwydd gŷd â phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofe­digaerhau; y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwyni­on yr Iddewon. Y modd nad atteliais ddim o'r pe­thau buddiol heb eu mynegu i chwi, a'ch dyscu ar gyho­edd, ac o dŷ i dy. Gân dystiolaethu i'r Iddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tu ag at Dduw a'r ffydd sydd tu ag at ein Harglwydd Jesu Grist. Ac yn awr, ŵele fi yn rhwym yn yr yspryd yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddigwydd i mi yno. Eithr bod yr Yspryd glân yn tystio i mi ym-mhôb di­nas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. Ond nid wyfi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennif fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbynîais gan yr Arglwydd Jesu,, i dystiolaethu Efengyl grâs Duw. Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch oll (ymmysc y rhai y bum i yn trammwy, yn pregethu teyrnas Dduw) weled fy wyneb i mwyach. O herwydd pa ham, yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy môd i yn lân oddi wrth waed pawb oll. Canys nid ymmatteliais rhag mynegu i chwi holl gyngor Duw. Edrychwch, gan hynny, arnoch eich hunam, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Yspryd glân chwi yn olygwŷr, i fugeilio Eglwys [Page] Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed. Canys myfi a wn hyn, y daw yn ôl fy ymadawiad i, fleiddi­au blinion i'ch plith, heb arbed y praidd. Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gwyr-draws, i dynnu discyblion ar eu hôl. Am hynny gwiliwch a chofiwch, dros dair blynnedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un o honoch â dagrau. Ac yr awr hon frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei râs ef, yr hwn a all adeiladu chwa­neg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ym mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Arian, neu aur neu wisg neb, ni chwennychais. Je chwi a wŷddoch eich hunain ddar­fod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfreidiau i, ac i'r rhai oedd gyda â mi. Mi ddangosais i chwi bôb peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynnorth­wyo y gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Jesu, ddywedyd o honaw ef, mai dedwydd yw rhoddi yn hyrtrach nâ derbyn.

¶ Yna Escob arall a derllyn Yr Efengyl.

S. Joan. 20. 19. YNa gwedi iddynt giniawa, yr Jesu a ddy­wedodd wrth Simon Petr, Simou mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ'r rhai hyn? Dywedodd yntef wrtho, Ydwyf Arglwydd; ti a ŵŷddost fy môd yn dy garu di. Dywedodd ynteu wrtho, Portha fy wŷn. Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ailwaith, Simon mâb Jona, a wyt ti yn fy ngharn i? Dywedodd yn­tef wrtho. Ydwyf Arglwydd: ti a wŷddost fy môd yn dy garu di. Dywedodd ynteu wrtho, Bugeilia fy ne­faid. Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Si­mon mâb Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Petr a dri­staodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho, Ar­glwydd, ti a wyddost bôb peth; ti â wŷddost fy môd i yn dy garu di. Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Portha fyn nefaid.

Neu hon.

S. Joan. 21. 15. YNa, a hi, yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead, lle yr oedd y discyblion wedi ymgasclu ynghyd, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Jesu, ac [Page] a safodd yn y canôl, ac a dywedodd wrthynt, Tagnedd­yf i chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddango­sodd iddynt ei ddwylo, a'i ystlys. Yna 'r discyblion a lawenychasant, pan welsant, yr Arglwydd, Yna y dywedodd yr Jesu wrthynt drachefn, Tangneddyf i chwi: megis y danfonodd y Tâd fi, yr wyf finneu yn eich danfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyni­wch yr Yspryd glân. Pwy bynnac y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac, a attalioch, hwy a attaliwyd.

Neu hon.

S. Mat. 28. 19. EWch gan hynny, a dyscwch yr holl genhed­loedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tâd a'r Mâb, a'r Yspryd glân: Gan ddyscu idd­ynt gadw pôb peth a'r a orchymynnais i chwi: ac wele, yr ydwyfi gyd i chwi bob amser: hyd ddiwedd y byd. Amen.

Ar ol yr Efengyl, a Chredo Cymmanfa Nicen, pan orphenner y Bregeth, yr Etholedic Escob (wedi ei ymwisco a'i Wenwisc) a Bresentir gan ddau Escob i Arch-Escob y Dalaith honno, (neu, i ryw Escob arall a appwyn­tiwyd trwy Awdurdod Gyfreithlawn) yr Arch-Escob yn eistedd yn ei Gadair gerllaw y Bwrdd Bendigedic, a'r Escobion a fo yn ei Bresentio ef yn dywedyd.

ANrhydeddusaf Dâd yng Hrist yddym yn presentio i chwi y gwr Duwiol a Dyscedic hwn i'w Ur­ddo a'i Gyssegru yn Escob.

Yna a gofyn yr Arch-Escob am Fandat y Brenin am ei Gyssegru ef, ac a bair ei ddarllain, a'r Llw am gydnabod Uchafiaeth y Brenin a Finistrir i bob Etholedic Escob, megis y gosodir uchod yn y Ffurf am wneuthur Diaconiaid, ac yna y Ministrir hefyd iddynt y Llw o Ufudd-dod ddyle­dus i'r Arch-Escob, fel y mae yn canlyn.

Y Llw o Ufuddod dyledus i'r Arch-Escob.

YN Enw Duw, Amen. yddwyfi N. Etholedig yn Escob Eglwys a Chadair N. yn proffesu ac yn addaw pôb dyledus barch ac Ufudd-dod i'r Arch-Escob ac i'r Fam-Eglwys o N. ac i'w Succe­ssoriaid; mal yr helpio Duw fi trwy Jesu Grist.

¶ Ni ddodir y Llŵ hwn ar Gyssegriad Arch-Escob.

[Page]¶ Yna yr Escob a grybwyll wrth y Gynnulleidfa bresen­nol am weddio, gan ddywedyd wrthynt fel hyn.

FY Mrodyr, y mae yn scrifennedic Efengyl S. Luc, I'n Harglwydd Iesu Grist barhâu ac hŷd y Nos yn Gweddio Duw , cyn iddo Ethol ac anfon allan ei ddeuddec Apostolion, Fe scrifennir he­fyd yn Actau yr Apostolion, fod i'r Discyblion y rhai oedd yn Antiochia, ymprydio a Gweddio, cyn iddynt ddodi eu Dwylo ar Paul a Barnabas, a'u gollwng ymmaith. Gadewch i ninau gan ganlyn esampl ein Jachawdr a'i Apostolion, yn gyntaf peth weddio, cyn i ni gymmeryd a danfon allan y Gwr hwn a Bre­sentiŵyd i ni, I'r gwaith i'r hwn y mae ein gobaith fod yr Yspryd Glân wedi ei alw ef.

¶ Yna y dywedir y Litani megis uchod yn y Ffurf am wn­euthur Diaconiaid; yn unic ar ol, Teilyngu o honot Lewyr­chu yr holl Escobion, &c. y cydarch priod yno a arbedir ac yn ei le ef y cymmerir hwn.

TEilyngu o honot Fendigo ein Etholedic frawd hwn, a thywallt arno dy Râs fel y gallo iawn­gyflawni y sŵydd i'r hon y galwyd ef, er Adeiliadaeth dy Eglwys, ac er anrhydedd, mawl a Gogoniant Dy Enw.

Atteb.

Ni a Attolygwn i ti gwrando, Arglwydd Daionus▪

¶ Yna a dywedir y Weddi hon, sy'n canlyn.

HOll-alluog Dduw, rhoddwr pôb dawn da, yr hwn trwy dy lân Yspryd a osodaist am­ryw raddâu o Weinidogion yn yr Eglwys edrych yn ddarbodus ar dy Wasanaeth­wr hwn, a elwir yr awr hon i waith a Gwenidogaeth Escob: ac felly cyflawna ef a'th wir athrawiaeth, ac addurna ef a diniweidrwydd Buch­edd, fel y gallo yn gystal drwy air, a gweithred dy wa­sanaethu di, yn y swydd hon, yn ffyddlon i ogoniant dy Enw, ac i adail ac iawn-lywodraeth dy Eglwys, trwy Ryglyddon ein Jachawdr Jesu Grîst; yr hwn sy'n byw ac yn Teyrnasu gyda thi a'r Yspryd glân byth bythoedd. Amen.

¶ Yna yr Arch-Escob yn eistedd yn ei Gadair, a ddywed wrth yr hwn a Gyssegrir.

FY Mrawd, yn gymmaint a bôd yr Scrythyr lân a'r Hen Ganonau yn erchi na byddom pryssur i Ar­ddodi Dwylo, na gollwg neb i Lywodraethu yn E­glwys Grist, yr hon a bwrcasodd efe a gwerth nid llai, na thy walltiad ei briod waed: cyn i mi eich cymmeryd chwi i'r Weinidogaeth hon, myfi a'ch holaf chwi ar syrn o byngciau er mwyn o'r gallu y gynnulleidfa gael bwriadu a dwyn Tystiolaeth am y modd yddych yn prawf, ymddwyn yn Eglwys Dduw.

A Yw yn ddiogel gennych eich galw yn ddyledus i'r Weinidogaeth hon, yn ol Ewyllys ein Har­glwydd Jesu Grist, ac yn ol Trefn y Deyrnas hon?

Atteb.

Y mae hynny yn ddiogel gennif.

Yr Arch-Escob.

A Yw yn ddiogel gennych fôd yr scrythyr lân yn cyflawn-gynnwys pôb Athrawiaeth angenrhei­diol i Jachawdwriaeth Tragywyddol drwy Ffŷdd yn Jesu Grist. Ac a yw eich llawn-frŷd chwi, addyscu y Bobl, a ymddiriedwyd i'ch cadwraeth, a­llan o'r unrhyw Scrythyr lân; Ac na bo i chwi nac athrawiaethu: na diffyn dim megis angenrheidiol i Jachawdwriaeth Tragywyddol, namyn yr hyn y bo diogel gennych y gellir ei dynnu a'i brofi drwy'r un­rhyw?

Atteb.

Y mae yn ddiogel gennif, ac y mae fy llawn frŷd ar hynny trwy râs Duw.

Yr Arch-Escob.

A Ymarferwch chwithau eich hun yn ffyddlawn yn yr yscrythyr lân hon, ac ymbil drwy weddi ar Dduw am gael gwir ddirnad yr unrhyw, hyd pan alloch drwyddi addyscu, a chynghori ac athra­wiaeth Jachol, a gwrth-sefyl, ac argyoeddi y Gwrth­ddadleu-wyr?

Atteb.

Mi a wnâf felly gyda help Duw.

Yr Arch-Escob.

AYch chwi barod a phôd diwydrwydd ffyddlon i ddeol a Tharfu hwnt bob amryfusedd ac a­thrawiaeth ddieithr yngwrthwyneb i air Duw, ac i gymmell eraill, a'u cadarnhâu i hynny, yn y dirgel ac yn yr amlwg?

Atteb.

Ydd wyf yn barod a'r Arglwydd yn Gynnorthwywr i mi.

Yr Arch-Escob.

AWedwch chwi bob annuwioldeb a thrachwant bydol, ac a fucheddwch chwi yn sobr, yn Gyfi­awn ac yn dduwiol yn y byd presennol hwn, fel ym­mhôb pêth yr ymddangosoch chwi i eraill yn esampl o weithredoedd da, fel y gwradwydder y gwrthwyne­bwr, môdd na chaffo ddim i'w ddywedyd i'ch erbyn?

Atteb.

Mi a wnâf felly, a'r Arglwydd yn Gynnorthwywr i mi.

Yr Arch-Escob.

A Ddiffynnwch ac a hyfforddiwch chwi, hyd y safo ynoch, ddistawrwydd cariad perffaith a than­gneddyf ymmysc pawb oll? A geryddwch, ac a gospwch chwi, y rhai aflonydd, anufudd, a beius o fewn eich Escobaeth yn ol yr awdurdod y sydd i chwi yngair Duw, ac hyd y rhoddir i chwi drwy Ordinha­ad y Deyrnas hon?

Atteb.

Mi a wnâ felly gyda help Duw.

Yr Arch-Escob.

AFyddwch chwiffyddlon i Urddo, danfon allan, a dodi dwylo ar eraill?

Atteb.

Mi a fyddaf felly trwy-help Duw.

Yr Arch-Escob.

A Ymddygwch chwi yn addwyn, ac yn drugarog i'r tlawd a'r anghenus ac i bob dieithriad diga­rad?

Atteb.

Mi a ymddyga felly trwy help Duw.

¶ Yna Arch-Escob o'i sefyll a ddywed.

HOllalluog Dduw, ein Tâd nefol, yr hwn a ro­ddodd i chwi Ewyllys parod i wneuthur y pe­thau hyn ôll, a ganiadhao i chwi nerth hefyd a gallu i'w cyflawni, fel ag efe yn perffeithio ynoch y gwaith a dechreuodd, y caffer chwi yn Berffaith ac yn ddiargyoedd yn y dydd diweddaf, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna yr Etholedic Escob a dydd am dano y wisc Esco­baidd, ac efe yn gostwng ar ei Liniau y Cenir neu y dy­wedir uwch i Ben Veni Creator Spiritus; yr Arch-Escob yn dechreu, a'r Escobion ac eraill cydrychiol yn atteb yn wersau, fel hyn.

TYred Yspryd glân in calonnau ni,
A dod dy oleuni nefol.
Tydi wyt Yspryd Crist, dy ddawn
Sy fawr jawn a rhagorol.
Llawenydd, bywyd, cariad pur
Ydynt dy eglur ddoniau
Dod eli'n llygaid mal i'th saint
Ac ennaint in wynebau.
Gwasgar ein gelynion trwch
A heddwch dyro i ni.
Os tywysog i ni fydd Duw nêr
Pob peth fydd er daioni.
Dysc i ni adnabod y Duw Tâd
Y gwir Fâb rhâd a thithau.
Yn un tragywyddol Dduw i fod
Yr hynod dri phersonau.
Fel y dywedir ym-mhob oes
Y Duw a roes drugaredd.
Y Tâd, y Mâb, ar Yspryd glân,
Da datcan ei anrhydedd.

¶ Neu hyn.

TYred Yspryd glân tragywyddol Dduw.
yr unrhyw ar Tâd nefol,
Yr unrhyw hefyd ar Mab rhad, Duw cariad tangneddyfol.
[Page]Llewyrcha 'n c'lonnau ni a'th râs
fel byddo gâs i'n bechu,
Ac i ni mewn sancteiddrwydd rhydd, bob dydd dy wasanaethu.
Y diddanudd wyt ti yn wîr,
ym-mhob rhyw hir orthrymder
Dy holl ddaioni di a'th glod a thafod, ni adrodder.
Y ffynnon i'r llawenydd glan
y gloyw-lwys dân cariadol
Ac i'r enneiniaid mawr ei les sy'n rhoddi gwres Y sprydol.
Dy ddoniau aml ynt a dwys
y rhai ith Eglwys rhoddi
Yn-ghalonnau pur, dy ddeddf ddilys tydi a'th fys scrifenni.
Tydi addewaist ddyscu, Jôn
dy weision i lefaru.
Fel ym-mhob man y caffo'n rhwydd yr Arglwydd ei foliannu.
O Yspryd glân i'n calonnau ni
y gwir oleuni danfon,
A hefyd zel tra fom ni byw, i garu Duw yn ffyddlon.
Ein gwendid nertha di o Dduw,
mawr ydyw ein breuolder:
I ddiafol, i'r byd, nac chwaith i'r cnawd, na fyddom wawd un amser.
Gyrr ein gelynnion yn eu hol
bydd di heddychol a ni.
Gwna i bob dŷn ein caru'n bûr mael eglur a fydd hynny.
Ein tywysog wyt o Arglwydd mau
rhag maglau pob rhyw bechod.
A rhag llithro oddi wrthit mwy cynnorthwy bydd i'n parod.
Dod fesur mawr o'th râs yn rhwydd,
O Arglwydd Dduw goruchaf.
Diddanwch i ni felly y bydd, yn y brawd-ddydd diweddaf.
[Page]I ffoi ymbleidiau ceccreth câs
dod i ni râs Duw nefol.
Dod gariad a thangneddyf mâd,
ym-mhob rhyw wlad Gristuogol.
Attolwg i ti dyro râd
y tâd i ni adnabod.
Ar Arglwydd Jesu ei fab hael
ac yn y nef cael canfod.
A chyffesu a pherffaith ffydd
dydi bob dydd yn ddiau.
Yspryd y Tâd ar Mâb wyt ti
un Duw ond tri phersonau.
Ir Tâd, ir Mâb, ir Yspryd da
un gogyd a gogyfuwch.
Bid moliant: hwn yw'r gwir Dduw nef
ei enw ef bendithiwch.
A bid i'n unic Arglwydd, Dduw
bod gwiw ganddo roi 'n hylwydd.
I bob rhyw Gristion yn y byd
ei Yspryd yn dragywydd.

¶ Pan orphenner y gân, yr Arch-Escob a ddywed.

Arglwydd clyw ein Gweddi.

Atteb.

A deued ein llêf attati.

¶ Gweddiwn.

HOll-alluog Dduw a thrugaroccaf Dâd, yr hwn o'th anfeidrol Ewyllysgarwch a rodd­aist dy unic ac anwylaf Fâb Jesu Grist i'n prynnu ac i fod yn awdur i ni o fywyd Tra­gy wyddol: yr hwn wedi iddo gyflawni ein prynedigaeth drwy ei Angeu, ac escyn o hono i'r Ne­foedd, a dywalltodd ar ddynion ei ddoniau yn lliosawg gan weneuthur rhai yn Apostolion, eraill yn Broph­wydi, eraill yn Efengylwyr, eraill yn Fngeiliaid ac Athrawon tuag at Adeiladaeth a Pherffeithio ei Egl­wys: Caniadha, ni o attolygwn i ti y cyfryw Ras i'th wasanaethydd hwn fel y byddo parod yn wastad i danu ar lêd dy Efengyl, sef, y newydd llawen o'n cymmod a thydi, ac ymarfer yr Awdurdod a roddir iddo, nid i ddistryw, ond i Jechydwriaeth; nid er sar­hâad [Page] ond er Porth; fel megis Gwas doeth a ffyddlawn yn rhoddi i'th Deulu di eu cyfran yn ei Brŷd, y caffo yn y diwedd ei dderbyn i Lâwenydd Tragywyddol trwy Jesu Grist ein Harglwydd, yr hwn gyda thi a'r Yspryd glân sy'n byw ac yn teyrnasu yn ûn Duw heb drangc na gorphen. Amen.

¶ Yna yr Arch-Escob a r Escobion cydrychol a ddoddant eu dwylo ar ben yr Etholedic Escob, ac efe yn gostwng o'u blaen hwynt ar eu Liniau, a'r Arch-Escob yn dywe­dyd.

DErbyn yr Yspryd glân i sŵydd a Gwaith Escob yn Eglwys Dduw yr hon a roddwyd yr awr hon i ti trwy Arddodiad ein Dwylo ni, yn Enw y Tâd, a'r Mab, a'r Yspryd glan. A chofia ail-ennyn Dawn Duw, yr hwn sŷdd ynot drwy Arddodiad ein Dwylo ni: Canys ni roddodd Duw i ni Yspryd ofn, onid Ys­pryd nerth, a Chariad, a phwyll.

¶ Yna yr Arch-Escob a ddyd atto y Bibl, gan ddywedyd.

GLŷn wrth ddarllain, wrth Gynghori, wrth A­thrawiaethu; myfyriâ ar y pethau a Gynhwy­sir yn y Llyfr hwn. Bydd diwyd ynddynt, fel y by­ddo y cynnnydd a ddeuo trwyddynt yn Eglur i bawb. Gwilia arnat dy hun, ac ar yr Athrawiaeth, ac ymddyro i'w gwneuthur, canys felly i'th gedwi dy hun a'r rhai a wrandawant arnat. Bydd Fugail, nid Blaidd i ddiadell Crist: Portha hwynt, na thraflyn­gca hwynt. Cynnal y Llêsc, iacha y claf, Rhwyma y Briwedig: dychwel y Tarfedig: Cais y Colledig. Felly bydd di Drugarog fel na byddech rŷ Lân Felly Gwna Lywodraeth fel na anghofiech Dosturi: fel pan ymddangoso y Pen Bugail y derbynnioch anlly­gradwy Goron y Gogoniant, Trwy Jesu Grist ein Harglwyd. Amen.

¶ Yna yr aiff yr Arch-Escob rhagddo ar Wasanaeth y Cymmun; ar Escob newydd-gyssegru, a Gymmuna gydag ef ac eraill.

¶ Ac yn lle y Colect diweddaf, nesaf o flaen y Fendith, y dywedir y Gweddiau hyn.

[Page] TRugaroccaf Dad ni a attolygwn i ti dy­wallt i wared dy nefawl fendith ar dy wa­sanâeth-wr hwn. Cynnysgaeddaf ef a'th lan Yspryd, i fôd gan Bregethu dy Air, nid yn unic yn awyddus, ar argyoeddi ymbil, ar geryddu, gyda phôb ammynedd ac. Athrawiaeth; ei­thr hefyd i fod yn esampl iachol i'r ffyddloniaid, mewn gair ymarweddiad, mewn Cariad, mewn ffydd, me­wn diweirdeb, ac mewn purdeb▪ fel gan gyflawm yn ffyddlon ei Yrfa, y Caffo dderbyn yn y dydd diweddaf gorou cyfiawnder yn gadwedig gan yr Arglwydd y Barnwr cyfiawn: yr hwn sydd yn byw ac yn teyrna­su yn ûn Duw gyda'r Tâd a'r Ysbryd glân heb dran­gc na gorphen. Amen.

RHag-flaena ni o Arglwydd, yn ein holl wei­thredoedd, â'th radlonaf hoffder, a rhwydd­hâ ni â'th barhâus gymmorth, fei yn ein holl weithredoedd dechrenedic, a therfynedic ynoti, y gallom foliannu dy sanctaidd Enw ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd fywyd tragy­wyddol, trwy▪ Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

TAngneddyf Dduw yr hwn sydd uwchlaw pob de­all, a gatwo eich calonnau a'ch meddyliau yng­wybodaeth a chariad Duw a'i Fâb Jesu Grist ein Harglwydd. A bendith Dduw holl-alluog, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân fyddo i'ch plith, ac a drigo gyd a chwi yn wastad. Amen.

• Trefn Gweddi A Diolwch i'w harfer bob blwyddyn ar y Pumed dydd o Dachwedd. , • Trefn Gweddi I'w harfer bob blwyddyn ar y Degfed dydd ar hugain o Jonawr. , and • Trefn Gweddi A Diolwch i'w harfer bob blwyddyn ar y Naw­fed dydd ar hugain o Fai. 

CHARL's R.

EIn Ewyllys a'n pleser yw, i'r Tair Trefn Gweddi a Gweini­dogaeth hyn, a wnaed i'r Pum­med o Dachwedd, y Ddegfed ar hugain o Jonawr, a'r Nawfed ar ar hugain o Fai, fod allan o law yn Breintiedic ac yn Gyhoeddedic; ac ohyn allan i'w cyd-gynnwys gyda Llyfr y Weddi Gyffre­din a Liturgi Eglwys Loegr, i'vv harfer bob blvvy ddyn ar y dyvvededic ddyddiau, mevvn pob Cadeiriawl a Cholegavvl Eglvvys a Chap­pel, mevvn Chappel pob Coleg ac Avvl o fevvn Ein dvvy Vnifersiti, ac O'n Colegau o Eaton a Chaer-vvynt, ac mevvn pob Eglvvys a Chapel Plvvyfavvl o fevvn Ein Teyrnas o Loegr, Ar­glvvyddiaeth Cymryf, a Thre Bervvic ar Tvved.

EDW. NICHOCAS.

Ffurf Gweddi gyda Diolvvch i'w harfer bob blwyddyn ar y pummed dydd o Dachwedd am ddedwyddol achubiad y Brenin, a thai'r stât y Deyrnas rhag y bradol a'r gwaedlyd furndwrn a amcanasid drwy bowdr gwnn.

Un fydd y Gwasanaeth ac a arferir ar ddyddiau gwyl yn hollawl, ond am a osodir isod yn amgenach.

Os ar y Sul y digwydd, yn unig y Colect priodol ir Sul hwnnw a arddodir at y gwasanaeth ymma yn ei gyfle.

Y Foreuol Weddi a ddechreu ac un o'r Sentensiau hyn.

CUddia dy wyneb oddi wrth fy mechodau, O Psal. 51. 9 [...] Arglwydd, a delea fy holl anwireddau.

Jer. 10. 24. Cospa fi Arglwydd, etto mewn barn nid yn dy lid, rhag it fy ngwneuthur yn ddi­ddim.

S. Luk. 15. 18, 19. Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd; ac a ddywedaf wr­tho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen di­thau; Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fâb i ti.

Psalmau Priod. Psal. 35. 64. 124. 129.

Llithau Priod
  • Y Gyntaf. 2 Sam. 22.
  • Yr ail. Act. xxiij.

¶ Yn y gwersiclau ar ol y Credo yr anghwanegir ac yr ar­ferir y rhai hyn tros y Brenin.

Offeiriad.

Arglwydd, cadw y Breniu.

Pobl.

Yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

Offeiriad.

Anfon iddo borth o'th Sancteiddfa.

Pobl.

Ac byth yn nerthol amddiffyn ef.

Offeiriad.

Na âd i'w Elynion gael y llaw uchaf arno.

[Page] Pobl.

Na âd ir enwir nessâu i'w ddrygu.

¶ Yn lle y Colect cyntaf ar y Foreuol weddi yr arferir v ddau hyn.

HOllalluog Dduw, yr hwn ym mhob oes a ddangosaist dy nerth a'th drugaredd y ng­warediadaurhyfeddol a grasusol dy Eglŵys ac yn noddi cyfiawn a chrefyddol Frenhi­noedd a Statau yn proffessu dy sanctaidd a'th dra­gywyddol wirionedd, rhag cyd-fwriadau drwg, ac yst­rywiau drygionus eu holl Elynion; Ni a roddwn i ti ein diffuant ddiolch a moliant am ryfeddol a galluog warediad ein diweddar rasusaf Arglwydd frenin Ja­co, y Frenhines, y Tywysog, ar holl frig brehhin­awl, gyda 'r Dyledogion, yr Eglwyswyr, a chyffre­din y deyrnas hon ymgynnulledig y pryd hwnnw ym Mharliament, wedi eu barnu trwy ddichell y Papy­dion megis defaid i'r lladdfa, mewn modd creulon a na­wswyllt, tu hwynt i bob esampl yn y cynoesoedd. Nid ein haeddiad ni, ond dy drugaredd di, nid ein rhagddar­bod ni, eithr dy ragluniaeth di a'n gwaredodd ni rhag yr annaturiol Gyd-fwriad hwn: Ac am hynny, nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th Enw di y rhodder yr holl anrhydedd a'r Gogoniant yn holl Eglwysi y Sainct o genhedlaeth i genhedlaeth, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

O Arglwydd, yr hwn heddiw a ddatcuddiaist faglau angeu, a danasid i ni, ac yn rhyfeddol a'n gwaredaist oddi wrthynt, Bydd di yn wa­stad yn noddwr galluog inni, a gwasgar ein gel­ynion, a sychedant am waed, tro eu cynghorion yn ffolineb a diddymma hwynt, gostwng eu balchder, to­la eu drygioni, a gwradwydda eu bwriadau: Nertha ei ddwylo i'n grasusaf frenin charles, ac i bawb y sy wedi eu gosod mewn awdurdod dano, i dorri ymmaith trwy farn a chyfiawnder gymmaint oll o weithredwyr anwiredd, ag a droant Grefydd i wrthryfel, a ffydd i Derfysc, fel na chaffont byth y llaw uchaf arnom, ac na orfoleddont yn ninistr dy Eglwys yn ein plith. Ei­thr [Page] trwy fod ein grasusaf Frenin a'i Deyrnasoedd yn ymgynnal yn dy wir Grefydd a thr wy dy Radol Ddai­oni yn cael eu nodddi yn ŷr unrhyw, allu o honom ni oll dy wasanaethu di yn ddyledus, a rhoddi iti ddiolch yn dy sancteiddlân gynnulleidfa, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Ar ddiwedd y Litani (yr hwn a arferir yn wastad ar y dydd hwn) ar ôl y Colect (Ni a attolygwn i ti &c.) y dywedir hyn y sydd yn canlyn.

HOllalluog Dduw a nefol Dâd, yr hwn o'th rasol ragluniaeth, a'th dyner drugaredd tuag attom, a ragflaenaist falais a dychymmygi­on ein gelynion drwy ddatcuddio a gwradwyddo eu bwriad erchyll ac ysceler, a gyd-fwriadasent, ac a am­canasent ei ddwyn i ben y dydd heddiw yn erbyn y Bre­nin a holl Stât y deyrnas hon, er dymchweliad y Llywodraeth a'r Grefydd a sefydlwyd yn ein plith; Nyni yn ostyngediccaf ydym yn moliannu, ac yn mawrygu dy Enw gogoneddus am dy anfeidrol rad­lawn ddaioni hyn tuag attom. Ydd ym yn cydnabod mai dy drugaredd di, dy drugaredd di yn unig ydoedd, na ddifethwyd ni y pryd hynny. Canys yr oedd ein pe­chodau yn lle fain hyd y nef i'n herbyn, a'n hanwir­eddau yn deilwng yn galw am ddial arnom. Eithr tydi ni wnaethost a ni yn ol ein pechodau, ac ni obrwy­aist ni yn ol ein hanwireddau, ac ni 'n traddodaist ni, fel yr haeddasom, i fod yn ysclyfaeth i'n gelynion: Eithr yn dy drugaredd a'n gwaredaist ni rhag eu malais hwynt, ac a'n hachubaist rhag angeu a destryw. Trwy ystyried o honom dy Ddaioni hyn, O Arglwydd, gweithreda ynom wir edifeirwch, fel na bo ein hanwiredd yn dramgwydd i ni. Ac anghwa­nega ynom fwy-fwy ffydd fywiol, a chariad ffrwyth­lawn ym mhob ufydd-dod sanctaidd, fel y bo i't gynnal dy ffafr (ynghyd a llewyrch dy Efengyl) i ni ac i'n hep­pil yn dragywydd: A hynny er mwyn dy anwyl Fab Jesu Grist ein unig Gyfryngwr a'n Dadleuwr. A­men.

¶ Yngwasanaeth y Cymmun yn lle Colect y Dydd yr ar­ferir hwn sy'n canlyn.

TRagywyddol Dduw, a'n galluogaf noddwr, ydd ym ni dy weision annheilwng yn ostyngedig yn ein hymgyflwyno ein huanin ger bron dy fawr­edd, gan gydnabod dy allu, dy ddoethineb a'th Ddai oni, yn cadw yn ddiangol y Brenin, a thair Stat y deyrnas ymgynnulledig ym Mharliament rhag y de­stryw a fwridasid heddiw iw herbyn, gwna ni, ni a at­tolygwn i ti yn wir ddiolchgar am dy fawr drugaredd hyn tuag attom. Cadw ac amddiffyn ein goruchaf Ar­glwydd frenin ar holl welygordd frenhinawl rhag pob Brad a chydfwriad, Cynnal hwynt yn dy ffydd, ofn a chariad; Llwydda ei Deyrnasiad a hir ddedwyddwch ymma ar y ddaiar, ac yn ol hyn Corona ef a gogoniant tragwyddol yn nheyrnas nef trwy Jesu Grist ein u­nig Jachawdr a'n Prynwr. Amen

Yr Epistol.

Rhuf. 13. 1. YMddarostynged pob enaid i'r awdurdodan gor­uchel, canys nid oes awdurdod onid oddiwrth Dduw: a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny, pwy bynnac sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod sydd yn gwrth wynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wr­thwynebant, a dderbŷniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithre­doedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech awdurdod? gwna'r hyn sydd dda; a thi a gai glod gan­ddo. Canys gweinidog Duw ydyw ef i ti er daioni: eithr os gwnei ddrwg, ofna, canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Oblegid gweinidog Duw yw efe, dialudd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg. Her­wydd pa ham, anghenrhaid yw ymddarostwng, nid yn unic o her wydd llid, eithr o her wydd cydwybod he­fyd. Canys am hyn yr ydych yu talu teyrnged hefyd, oblegid gwasanaeth-wyr Duw ydynt hwy, yn gwili­ed at hyn ymma. Telwch gan hynny i bawb eu dyle­dion, [Page] teyrn-ged i'r hwn y mae feyrnged yn ddyledus, toll i'r hwn y mae toll; ofn i'r hwn y mae ofn; parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus.

Yr Efengyl.

S. Mat. 27. A Phan ddaeth y boreu, cyd-ymgynghorodd yr holl Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl, yn er­byn yr Jesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dygasant ef ym­maith, ac a'i traddodasant ef i Pontius Pilat y rhag­law. Yna pan weles Judas, yr hwna'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r Arch-offeiriad, a'r Henuriaid, Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwytheu a ddywedasant, Pa beth yw hynnny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu 'r ari­an yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ym­grogodd. Ar arch-offeiriaid a gymmerasant yr ari­an, ac a ddywedasant, Nid cyfieithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa: canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt gyd-ym gynghori, hwy a brynasant â hw­ynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithraid. Am hyn­ny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hŷd he­ddyw. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedpwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gym­merasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel, Ac a'u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosodes yr Ar­glwydd i mi.

¶ Ar ol y Credo, oni bydd pregeth y darllenir un o'r chwe Homili yn erbyn gwrthryfel. ¶ Darlleinier y sentens hon ar yr Offrymmiad.

S. Mat. 7. 12 PA bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur oddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw'r Gyfraith a'r Prophwydi.

Ffurf Gweddi gyffredin, i'w harfer bob blwyddyn ar y xxx. dydd o Jonawr, sef dydd Merthyrolaeth Brenin CHARLES y cyntaf.

Os ar y Sul y digwydd y Ffurf o hon wasanaeth a arferir drannoeth. Un fydd y Gwasanaeth ac a arferir ar ddyddiau gwyl yn hollawl, ond am a osodir isod yn amgenach.

Trefn am Weddi Foreuol.

¶ Y Gwenidog a ddechreu ac un o'r sentensiau hyn.

Jer. 10. 24. COspa fi Arglwydd, etto mewn barn, nid yn dy lid, rhag it fy ngwneuthur yn ddiddim.

Joel 2. 13. A rhwygwch eich calon, a nid eich dillad; ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw o herwydd graslawn, a truga rog iw efe, hwyrfrydic ei ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg.

Galar. 3. 22. Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am da­nom ni: o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.

Yn lle Venite exultemus, arferer y Psalm hwn yn canlyn, un wers gan yr Offei­riad a phob all gan yr yscolhaig a'r Bobl.

Psal. 95. 6. DEuwch, addolwn ac ymgrymmwn, gostyn­gwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr.

Act. 19. 6. Edifarhawn, a dychwelwn oddiwrth ein dry­gioni, a'n pechodau a faddeuir i ni.

Jonah 3. 82. Dychweled pob un o honom oddiwrth ei ffordd ddry­gionus, ar Arglwydd a dry oddiwrth angerdd ei ddig, ac ni'n difethir.

Psal. 51. 3. Ydd ym yn cynnabod ein camweddau, a'n pechodan yn wastad ger ein bron.

Galar. 3. 42. Nyni, o Arglwydd, a annogasom dy lid: ond y mae gyda thi faddeuant, fel i'th ofner.

Psal. 26. 9. Na chascl ein henediau gyda pechaduriad: na'n bywyd gyda dynion gwaedlyd.

Esa. 65. 24. [Page]Tydi a addewaist, o Arglwydd, ar i ti atteb cyn i ni alw: a thra fom etto yn llefaru, tydi a wrandewi.

Baruch. 3. 1, 2. Ac yr awr hon y mae ein heneidiau sydd mewn ing yn llefain arnati: Clyw, Arglwydd, a thrugarhâ.

Psal. 6. 1. O Arglwydd na cherydda ni, yn dy lidiawgrwydd: ac na chospa ni yn dy lîd.

Psal. 25. 10 Er mwyn dy Enw bydd drugarog wrth ein hanwiredd; Canys mawr yw.

Psal. 51. 9▪ Ymchwel dy wyneb oddi-wrth ein pechodau; a dilea ein holl anwireddau.

10. Crea galonnau glân ynom: ac adnewydda yspryd union o'n mewn.

14. Gwared ni oddi-wrth waed, o Dduw: tydi yr hwn wyt Dduw ein iechydwriaeth.

Psal. 79. 9. O gwared ni, a thrugarhâ wrth ein pechodau er mwyn dy Enw.

Psal. 55. 18 O bydd ddaionus a graslawn i Sion: adeilada fu­riau Hierusalem.

Psal. 79. 13 Felly nyni dy bobl, a defaid dy borfa, a'th foliannwn di yn dragywydd: ac a ddatcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth byth.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.

Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.

¶ Psalmau Priod. vij. ix. x. xj.

¶ Llithiau Priod.
  • Y Gyntaf 2 Sam. j.
  • Yr ail. S Matth. 27.

¶ Yn lle y Colect cyntaf ar y Foreuol Weddi yr arferir hwn sy'n canlyn.

O Alluoccaf Dduw, ofnadwy yn dy farnedig­aethau, a rhyfeddol yn dy weithredoedd tuag at feibion dynion, yr hwn yn dy dost ddigllonnedd a oddefaist heddyw dorri ym­maith fywyd ein diweddar rasol Argl­wydd frenin gan ddwylo enwir, Nyni dy weision an­nheilwng ydym yn cyffessu yn ostyngedig, mai pecho­dau y genedl hon ydoedd yr achos o ddwyn y farnedig­aeth drom hon arnom. Eithr, o Dduw grasol, pan ymofynnech am waed, na ddyro enogrwydd y gwaed [Page] gwirion hwn (tywalltiad pa un nid oes dim ond gwaed dy Fab di a all ei ddiwygio) na ddyro mono at gyfrif pobl y tir hwn, ac na ofynner ef byth gennym ni na'n heppil. Trugarhâ, trugarha wrth dy bobl, y rhai a brynnaist, ac na lidia wrthym yn dragywydd: Ei­thr maddeu i ni er mwyn dy drugareddau, trwy ry­glyddon dy Fab ein Harglwydd Jesu Grist. Amen.

Ar ddiwedd y Litani (yr hwn a arferir yn wastad ar y dydd hwn) ar ol y Colect ( Ni a attolygwn i ti, &c.) yr arferir y tri Colect hyn.

O Arglwydd, ni attolygwn i ti, yn drugarog gŵrando ein gweddiau, ac arbed bawb a gy­ffessant eu pechodau wrthit, fel y bo i'r rhai y cyhuddir eu cydwybodau gan bechod, trwy dy drugar­og faddeuaint fod yn ollyngedic, trwy Grist ein Har­glwydd. Amen.

O Alluoccaf Dduw, a thrugaroccaf Dâd, yr hwn wyt yn tosturio wrth bob dŷn, ac nid wyt yn casau dim ar a wnaethost, yr hwn nid ewyllysi farwolaeth pechadur, onid byw o honaw ac ymchwelyd oddi-wrth bechod, a bod yn gadwedic: yn drugaroc maddeu ein camweddau, derbyn a chonffor­ddia ni, y rhai ydym yn flin ac yn orthrwm gennym faich ein pechodau. Ti biau o briodolder drugarhâu, i ti yn unic y perthyn maddeu pechodau: Arbed nyni am hynny Arglwydd daionus. Arbed dy bobl y rhai a brynaist. Na ddwg dy weision i'r farn, y rhai ŷnt bridd gwael, a phechaduriaid truein: Eithr ymchwel felly dy lid oddi wrthym, y rhai ŷm yn ostyngedic yn cyd­nabod ein gwaeledd, ac yn wir edifeiriol gennym ein beiau: felly bryssia i'n cynhorthwyo yn y byd hwn, fel y gallom byth fyw gyd â thi yn y byd a ddaw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

YMchwel di ni o Arglwydd daionus, ac yna ŷdd ymchwelir ni, ystyria o Arglwydd, ystyria wrth dy bobl, y rhai sydd yn ymchŵelyd attat trwy wylofain, ymprydio, a gweddio; canys Duw trugar­og ydwyti, yn llawn tosturi, yn dda dy amynedd, ac yn fawr dy warder, yr wyt yn arbed pan ŷm yn hae­ddu poenau, ac yn dy lid ydd wyt yn meddwl am am [Page] drugaredd. Arbet dy bobl Arglwydd daionus, arbet hwy, ac na ddyccer dy etifeddiaeth i wradwydd: clyw nyni Arglwydd canys mawr yw dy drugaredd, ac yn ôl lliaws dy drugareddau edrych arnom, trwy haedde­digaethau a chyfryngdod dy fendigedic Fab Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yngwasanaeth y Cymmun nesaf ar ol y deg Gorchymmyn yr arferir y Colect hwn.

HOll-alluog Arglwydd, a byth-fywiol Dduw, ni a attolygwn i ti, fod yn wiw gennit umaw­ni, sancteiddio, a llywodraethu ein calounau a'n cyrph, yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymynion, megis trwy dy gaddanaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y gallom fod yn gadwedic gorph ac enaid trwy ein Harglwydd a'n Jachaw­dr Jesu Grist. Amen.

Yna y canlyn y Weddi tros y Brenhin ( Hollalluog Dduw, yr hwn sydd ai Deyr­nas yn dragywyddol, &c.) ac ar ol hynny y ddau Colect hyn yn lle hwn­nw am y dydd.

BEndigedig Arglwydd, yngolwg yr hwn, gwerthfawr yw, marwolaeth dy Sainct, Ni a fawrygwn dy Enw am y grâs hel­aeth hwnnw, a roddaist i'n diweddar Ar­glwydd Frenhin a ferthyrwyd: trwy'r hwn y nerthwyd ef mor gyssurus i ddilyn camrau ei wyn­fydedig feistr ai Jachawdr, mewn diysgog, addfwyn oddefiad o bob ammharchiadau creulon, ac yn y di­wedd yn gwrthwynebu hyd at waed, a'r pryd hynny hefyd ar ol yr un esampl yn eiriol i tros ei ddihenydd­wŷr: Bydded ei Goffadwriaeth ef. O Arglwydd, byth yn wynfydedig yn ein plith, fel y gallom mnnau ddi­lyn ei ammynedd ef a'i gariad perffaith: A chaniadhâ i'n gwlâd hon fod yn rhydd oddiwrth ddial am ei waed ef, a'th Drugaredd gael ei gogoneddu ym madd­euant ein pechodau: A'r cwbl er mwyn Jesu Grist. Amen.

CAniadhâ Arglwydd, ni a attolygwn i ti, fod cwrs y byd hwn, trwy dy reoledigaeth di wedi ei dre­fnu mor dangneddyfol ag y gallo dy Eglwys di wasa­naethu dy yn nawen ym mhob duwiol heddwch, trwy Jesu Grist. Amen.

Yr Epistol.

1 S. Pet. 2. 13. YMddarostyngwch oblegid hyn i bôb dynol ordi­nhâd, o herwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i'r brenin megis goruchaf: Ai i'r llywiawd­ŵŷr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar drŵg weithredwŷr, a mawl i'r gweithredwŷr da. Ca­nys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneu­thur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion: Me­gis yn rhyddion, ac nid a rhydd-did gennych megis cochl malis, eithr fel gwasanethwŷr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin. Y gweision byddwch ddar­ostyngedig gydâ phob ofn, i'ch meistred, nid yn unic i'r rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas hefyd. Canys hyn sydd rasol, os yw neb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef. ar gam. Oblegid pa glôd yw, os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich ammynedd? eithr os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y bydd­wch dda eich ammynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw. Canys i hyn i'ch galwyd hefyd, oblegid Crist yntef a ddioddefodd trosom ni, gan adel i ni esampl, fel y can­lynech ei ôl ef. Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau.

Yr Efengyl.

S. Mat. 21. 33. YR oedd rhyw ddŷn o berchen tŷ, yr hwn a blan­nodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi win-wrŷf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-wŷr, ac â aeth oddi cartef. A phan nessaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafnr-wŷr, i dderbyn ei ffrwythau hi. A'r llafur-wŷr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant. Trachefn efe a anfonodd weision eraill fwy nâ'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd. Ac yn ddiwedaf oll efe a anfonodd attynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i. A phan welodd y llafur-wŷr y mab, hwy a ddyweda­sant yn eu plith eu hun, hwn yw'r etifedd; deuwch lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef. Ac wedi iddynt [Page] ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafur-wyr hynny? Hwy a ddy­wedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafur-wŷr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.

Ar ol y Weddi ( tros holl stat Eglwys Grist, &c.) yr arferir y Colect hwn.

O Arglwydd, ein Tâd nefol, yr hwn nid wyt yn ein cospi hyd yr haeddei ein pechodau, eithr yn­ghanol Barn a gollaist drugaredd; Yddym yn cydnabob mai dy ragorawl ffafr ydoedd, er i ti am ein haml a'n dirfawr annogaethau oddef ith Eneini­og syrthio heddyw i ddwylo dynion ysceler a gwaedlyd ac ar fodd creulon ei lâdd ef ganddynt, etto ni'n ga­dewaist tros byth, megis Defaid heb Fugail iddynt; eithr yn dy rasol ragluniaeth, a gedwaist yn ryfedd ddilys etifedd ei goron ef ein grasusaf Arglwydd Frenhin Charl's yr ail rhag ei elynion gwaedlyd, gan ei guddio ef tangyscod dy adennydd, hid onid aeth eu camrwysg hwynt heibio, a'i ddwyn ef yn ei ol, yn dy amser daionus gosodedig, i eistedd mewn heddwch ar orseddfaingc ei Dâd, ac i arglwyddiaethu arnom ni, drwy y cyfryw awdurdod a ryngodd fodd i ti o'th ragorol râs ei rhoddi iddo ef. Am y rhai hyn dy fawr ac annrhaethadwy drugareddau ni a dalwn i ti ein gostyngeiddiaf ddiolch o eigion ein calonnau, gan atto­lygu i ti yn wastad barhau dy rasol nodded drosto ef; a chaniadhau iddo hir a llwyddiannus Deyrnasiad ar­nom ni: a ninnan dy bobl a'th foliannwn yn dragy­wydd, ac a ddatcanwn dy foliant o genhedlaeth i gen­hedlaeth byth trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Y Drefn am Brydnhawnol Weddi.

¶ Psalmau Priod. Xxxviij. Lxiv. Cxliij.

Llithiau Priod.
  • Y gyntaf. Jer. 41. neu Dan. 9. hyd w. 22.
  • Yr ail Heb. 11. w. 32. hyd Pen. 12. w. 7.

¶ Yn lle y Colect cyntaf ar Osper arferwch y ddau hyn sy'n canlyn.

O Fendigedig Arglwydd Dduw, yr hwn trwy dy ddoethineb wyt, nid yn unig yn cyfeirio ac yn trefnu pob peth yn gysson ith iawnder dy hun, eithr wyt hefyd yn cyflawni dy ewyllys yn y cyfyyw fodd nas gallwn ni na chydnabod dom dy fodd ti yn gy­fiawn yn dy holl ffyrdd, a sanctaidd yn dy holl weith­redoedd; Nyni dy bobl bechadurus ydym yn syrthio i lawr ger dy fron di gan gyffesu mai cyfiawn oedd dy farnedigarthau, yn goddef i ddynion creulon, meibi­on y Fall, y dydd hwn drochi eu dwylo yngwaed dy Enneiniog, o herwydd ein bod ni gwedi tynnu, yr un­rhyw arnom ein hunain, trwy ddirfawr a hir-barhaus gyffroiadau ein pechodau ith erbyn: am ba rai gan hynny, yddym ni ymma yn ein darostwng ein hunain ger dy fron, dan erfyn dy drugaredd er maddeuant anidanynt oll, ac i ti waredu y genhedl hon oddiwrth waed (yn enwedig hwnnw a dywalltwyd y dydd he­ddyw) ag ymchwel oddi wrthym nia'n heppil yr holl farnedigaethau hynny, a haeddasom o herwydd ein pe­chodau. Caniadhâ hyn er mwyn cwbl-ddigonol hae­dedigaethau dy Fâb a'n Jachawdr Jesu Grist. A­men.

O Dduw gwynfydedig, Cyfiawn a Galluog, yr hwn a oddefaist ar gyfew i heddyw roddi i fynu dy anwyl wasanaethwr, ein diweddar oruchaf Fren­hin [Page] i afreolus gynddeiriogrwydd dynion enwir, iw amherchi ai ddrygai, ac o'r diwedd iw ladd ganddynt, Er nad allwn synied ar weithred mor ffiaidd heb ddy­chryn a syndod, etto ydd ym yn ddiolchgar yn coffâu rhagoriaethau dy Ras, yn discleirio y pryd hynny yn dy Enneiniog; yr hwn y bu wiw gennit ei gynysgae­ddu hyd yn awr angeu a mesur rhagorol o ammynedd hynod, addfwynder a Chariad perffaith o flaen wyneb ei Elynion ffyrnig. Ar er goddef o honot iddynt fyned rhagddynt i'r cyfryw râdd o drais iw erbyn, iw ladd ef ei hun, a meddiannu ei orsedd-faingc, etto yn dyfawr drugaredd ti agedwaist ei Fab ef, eiddo'r hŵn o gyfiaw­nder ydoedd hi, ac o'r diwedd trwy ryfodol ragluniaeth ai dygaist yn ei ol, âc a'i gosodaist arni, i adferu dy wir grefydd ac i sefydlu heddwch yn ein plith. Am hynny nyni a ogoneddwn dy Enw trwy Jesu Grist ein gwynfydedig Jachawdr. Amen.

¶ Yn nesaf o flaen Gweddi S. Chrysostom yr arferir y Colect hwn.

HOllalluog a thragywyddol Dduw, yr hwn y mae ei Gyfiawnder fel y mynyddoedd cedyrn, a'i far­nedigaethaethau fel y dyfnder mawr, a'r hwn trwy y ddybryd lofruddiaeth yr hwn a wnaeth-pwyd heddyw ar Berson cyssegredig dy dy Enneiniog, ein diweddar Arglwydd frenhin, a ddyscaist i ni, nad yw 'r pennaf o Frenhinoedd, na'r goreu o ddynion yn ddîogelach rhag trais, nwy na marwolaeth naturiol, Dysc i ninnau ar hyn o achos felly i gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calonnau i ddoethineb: A chaniadha, na allo ua godida wgrwydd dim y sydd fawr, na bri ar ddim y sydd dda ynom, mewn modd yn y byd dynnu ein golwg oddiar edrych arnom ein hunain megis llwch a lludw pechadurus: Eithr fel y bo i ni (yn ol esampl dy fendigaid Ferthyr hwn) gyrchu at y nôd am gamp uchel yr alwedigâeth sydd o'n blaen, trwy ffydd ac a­mynedd gostyngeiddrwydd ac addfwynder, marwei­ddiad, ac ymwrthodiad a ni ein hunain, Cariad per­ffaith a diysgog barhâu hyd y diwedd. A hyn oll er mwyn, dy Fab ein Harglwydd Jesu Grist, i'r hwn gyda thydi a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a go­goniant yn oes oesoedd. Amen.

Ffurf Gweddi gyda Diolvvch i'w harfer bob blwyddyn ar y navvfed dydd ar hugain o Fai, sef dydd Natalic Mawrhydi y Brenin, a'i ddedwyddol ddychweliad i'w Deyrnasoedd.

Un fydd y Gwasanaeth ac a arferir ar ddyddiau gwyl yn hollawl, ond am a osodir isod yn amgenach.

Os digwydd y dydd hwn ar ddydd Jou y dyrchafael, y Sul-gwyn neu ddydd Sul y Drindod y Colectau yn unig o'r gwasanaeth hwn a ddodir at bob Gwasanaeth ar y gwyliau hynny yn eu priod gyfle: os digwydd ar ryw Sul arall, neu ar ddydd llun, neu ddydd Mawrth yn wythnos y Sulgwyn arferir y Colectau megis uchod, ac hefyd y Psalmau priod a osodir ymma yn lle y rhai o gylch cyffredinol, a gadawer hebio y darn arall o'r gwasa­naeth hwn.

Y Foreuol Weddi a ddechreu ac un o'r Sentensiau hyn.

1 Tim. 2. 1, 2, 3 CYnghori yr ydwyf am hynny ym mlaen pôb peth fôd ymbiliau gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bôb dŷn: Dros fren­hinoedd, a phawb sy mewn goruchafiaeth fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol, me­wn pôb duwioldeb ac honestrwydd Canys hyn sydd bronn dda a chymmeradwy ger Duw ein Ceidwad.

Yn lle, Venite exultemus, y cenir neu y dywedir yr hymn hwn yn canlyn, un wers gan yr Offeiriad a pob ail gan yr Yscolhaig a'r Bobl.

Psal. xcv. 1. DEuwch, canwn i'r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.

2. Deuwn ger ei fron ef a diolch: Canwn yn lla­far iddo a Psalmau.

3. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

Psal. xcviij. A'i Ddeheulaw, ai fraich sanctaidd y parodd efe iddo ei hun y fuddugoliaeth.

2. Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth, datcuddi­odd ei gyfiawnder yngolwg y Cenhedloedd.

4. Cofiodd ei Drugaredd a'i Wirionedd i Dŷ Israel, a holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein duw ni.

5. Canys efe a gafodd Ddafydd ei wasanaethwr, ai o­lew sanctaidd yr enneiniodd efe ef.

21. [Page] Ei law a'i siccrhâodd ef, a'i fraich a'i nerthodd ef.

22. Ni orthrymmodd y Gelyn ef: Mab anwir ni's cy­studdiodd ef.

23. Efe a goethodd ei Elynion o'i flaen, ac a darawodd ei ga­seion ef.

24. Ei wirionedd hefyd ai Drugaredd fu a gydag ef, ac yn ei Enw ef y derchafwyd ei Gorn.

25. Efe a osododd ei law hefyd yn y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.

4. Am hynny holl Frenhinoedd y Ddaiar a'th glod­forant Psal. 138. di o Arglwydd: Canys hwy a glywsant eiriau dy enau.

5. Canant hefyd yn ffyrdd yr Arglwydd, mai mawr yw Gogoniant yr Arglwydd.

Psal. 145. 21. Fyngenau hefyd a draetha foliant yr Arglwydd, a bendithied pob cnawd ei, Enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.

Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab, ac i'r Yspryd, glan. Megis yr oedd yn y dechreu, y mae, yr awr hon, ac y byth yn wastad yn oes osoedd. Amen.

Psalmau Priod. Psal. 20. 21. 85. 118.

Llithau Priod
  • Y Gyntaf. 2 Sam. 19. 9.
  • Yr ail. Rhuf. xiij.

¶ Yn y gwerfic lau ar ol y Credoyr angchwanegir ac yr af­ferir y rhai hyn tros y Brenin.

Offeiriad.

Arglwydd, cadw y Brenin.

Pobl.

Yr hwn sydd yn ymddiried ynot.

Offeiriad.

Anfon iddo borth o'th: Sancteiddfa.

Pobl.

Ac byth yn nerthol amddiffyn ef.

Offeir.

Na âd i'w Elynion gail y llaw uchaf arno▪

Pobl.

Na âd ir enwir nessâu i'w ddrygu.

Yn lle y Colect cyntaf ar y Foreuol weddi yr arferir y ddau hyn.

O Arglwydd Dduw ein iechydwriaeth yr hwn a fuost raslon iawn i'n [...] hwn [...] ryfeddol ragluniaeth ain gwa [...] allan, o'n diweddar annrhefn, resynol, [...] hun [...]en Arglwydd, dy wasanaeth [...] Brenin Charles Ydd ym [...] hon ymma ger dy fron yn [...] bod gyda phob dyledus ddiolch [...] dwy Ddaioni a ddangosaist i ni [...] aberthau o foliant i'th Enw [...] [Page] Gan attolygu i ti yn ostyngedig dderbyn yn gymme­radwy ein diffuant, etto annheilwng offrymmedig­aeth o honom ein hunain gan addunedu pob sanct­aidd ufydd-dod, ar feddwl, gair a gweithred, i'th ddu­wiol Fawredd, a chan addaw ynot ti ac erot ti bob ffyddlon a gostyngedig wasanaeth i'th Enneiniog, ac iw Etifeddion ar ei ol: yr hwn erfyniwn arnat ei fen­dithio a phob cynnyrch grâs, anrhydedd a dedwyddwch yn y byd hwn, a'i goroni ag anfarwoldeb a gogoniant yn y byd addaw er mwyn Jesu Grist ein unig Argl­wydd ac Jachawdr. Amen.

O Dduw yr hwn drwy dy dduwiol Ragluniaeth a'th ddaioni a ddygaist heddyw gyntafi'r byd, a heddyw hefyd a ddygaist yn ol, ac a edfrydaist i ni, ac iw gyfreithlon a dibettrus feddiannau ei hun, ein grasusaf ddaionus Arglwydd dy wafanaechwr, Brenin Charles. Cadw ei einioes a siccrha ei orsedd­faingc, ni a attolygwn i ti, Bydd di yn helm iechyd­wriaeth iddo rhag wyneb ei elynion, ac yn dwr cadarn o amddiffyn yn amser trallod. Bydded ei Deyrna­siad yn llwyddiannus, a'i ddyddian yn auil. Bydded cyfiawnder Gwirionedd a Sancteiddrwydd, Bydded heddwch a chariad, a holl rinweddau Christianogol yn ffynnadwy yn ei amser ef. Gasanaethed ei Bobl ef drwy anrhydedd ac ufydd-dod A gwasanaethed yn­ten ditheu mor ddyladwy a'r y ddaiar, fel y gallo yn ol hyn deyrnasu yn dragywydd gyda thydi yn y nef trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yn niwedd y Litani (yr hwn yn wastad a arferir ar y dydd hwn) ar ol y Colect ( Ni a attolygwn i ti &c.) y dy­wedir hyn sy'n canlyn.

OArglwydd Dduw Drugaroccaf Dâd, yr hwn o'th hyspysawl Rad Crist a ddygaist adref he­ddyw i ni dy wasanaethwr Brenin Charles ein Harglwydd goruchel, ac a'i gosodaist ar orseddfaingc y Frenhiniaeth hon gan edfrydi ni wrth hynny gy­hoeddus a rhydd Broffes dy wir ffydd a'th addoliad, i ddirfaur gyssur a llawenydd ein calonnau: Nyni dy wasanaeth-ddynion annheilwng ymgynnulledig ym­ma i gadw yn barchedig goffadwriaeth dy Drugaredd [Page] hyn yn ostyngeiddiaf a attolygwn i ti ganiadhau i ni râs, fel y gallom yn wastadol ein dangos ein hunain yn wir ac yn ddiffuant ddiolchgar i ti am yr unrhyw, Ac fel y gallo ein grasol Frenin trwy dy Drugaredd di hir-gynnal ei lywodraeth arnom mewn pob rhin­wedd dda, duwioldeb, ac anrhydedd lawer a llawer o flynyddoedd, a bod i ninnau gan ufyddhâu iddo yn ddyledus, megis deiliaid ffyddlon a chywir gael ei fwynhâu ef gyda chyfan barhâad o'th fawr fendithi­on, y rhai trwyddo ef a deilyngaist eu rhoddio i ni trwy Jesu Grist ein Harglwydd Amen.

Yn nesaf o flaen gweddi S. Chrysostom arferwch y Colect hwn o ddiolch (Am heddwch ac ymwared oddiwrth ein gelynion.)

OLl-alluog Dduw, yr hwn wyt gadarn dwr am­ddiffyn i'th weision, rhag wyneb eu gelynion; yr ydym ni yn rhoddi i ti foliant a diolch am ein hym wared ni oddiwrth y mawr a'r amlwg beryglon oedd i'n hamgylchu, yr ydym ni yn cydnabod mai dy ddaioni di yw, na'n rhoddwyd ni i fynu yn ysclyfaeth iddynt hwy, ac yn attolwg i ti yn wastadol barhau dy gyfryw drugareddau tu ac attom, fel y gallo yr holl fŷd wybod mai tydi yw ein hachubwr a'n ca­darn waredwr ni, drwy Jesu Grist ein Harglwydd, Amen.

Yngwasanaeth y Cymmun rhwng y dec Gorchymmun a'r Epistol yr arferir y ddau Golect hyn, yn lle y Colect tros y Brenin, a hwnnw am y dydd.

O Rasusaf Dduw a thrugaroccaf. Dâd, yr hwn trwy dy anfeidrol allu a'th ddaioni, ar ol cynni­fer, a chymmaint o flinderau ac adfyd, a sicr­heaist yn ddiogel ac yn heddychol dy wasanaethwr ein goruchel Arglwydd Frenin Charles y ngorseddfaingc ei Dadau (er maint gallu a malais ei Elynion) gan edfryd i ni gydag ef, a thrwyddo ef, rŷdd broffes dy sanctaidd Wirionedd a'th Efengyl, ynghyd a'n hedd­wch a'n llwyddiant gynt, Nyni a attolygwn i ti, ga­niadhau iddo amiddiffynfa dy iechydwriaeth, a dan­gos dy garedig fwynder a'th drugaredd iddo, a chyn­hyrfu yn wastadol yn ein calonnau ninnau bob ffydd­lon wasanaeth a chywirdeb iddo gyda chrefyddol u­fyddod a diolchgarwch i ti am y rhain, a holl eraill dy Drugareddau, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. A­men.

CAniadhâ, ni a attolygwn i ti, Hollalluog Dduw, fod ein goruchel Arglwydd Frenin (yr hwn a ddygaist adref heddyw yn ddedwyddol, ac a'i hedfryd­aist i ni) yn noddwr cadarn iw bobl, yn amddiffynnwr crefyddol o'th ffydd sanctaidd, a'th lan Eglwys yn ein mysc, yn Gwncwerwr ardderchog goruwch ei holl el­ynion, yn llywiawdr grasol i'w holl ddeiliaid, ac yn dâd dedwyddol o blant lawer i lywodraethu y genhedl hon o lin i lîn ym mhob oes trwy Jesu Grist ein Hargl­wydd. Amen.

Yr Epistol▪

1 S. Pet. 2. 11. ANwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi megis dieithriaid a phererinion ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid: Gan fod a'ch ymarweddiad yn honest ymmysc y Cenhedloedd▪ fel lle maent yn eich goganu megis drwg-weithredwyr, y gallont o herwydd eich gweithredoedd da a welant ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad, o herwydd yr Arglwydd: pa un bynnag ai i'r brenin, megis goruchaf: Ai i'r llywiawd-wyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er ddial ar y drwg weithred-wyr, a mawl i'r gweithredwyr da. Canys felly y mae ewyllys Duw fod i chwi trwy wnenthur daioni, ostegu anwybodaeth, dynion ffolion: Megis yn rhyddion, ac nid a rhydd-did gennych megis cochl malis, eithr fel gwasanaethwyr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydedd­wch y brenin.

Yr Efengyl.

S. Mat. 22. 16. A Hwy a ddanfonasant atto eu discyblion ynghyd ar Herodianiaid, gan ddywedyd Athro ni a wyddom dy fod yn eir-wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwi­rionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyti yn edrych ar wyneb dy­nion. Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied: ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i. Cesar ai nid yw? Ond yr Jesu a wybu eu drigioni hwy, ac a ddywe­dodd, Pa ham yrydych yn fy nhemptio i▪ chwi ragrith-wyr? Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant atto geiniog. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph? Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywe­dodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Cesar a'r eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant a'i adel ef'a myned ymmaith.

Ar ol y Weddi ( Tros holl Stat Eglwys Grist, &c.) yr arferir y Colect hwn y sydd yn canlyn.

O Arglwydd ein Duw ni, yr hwn wyt yn cynnal ac yn llywodraethu pob peth yn y nef ac ar yn y ddaiar, Derbyn ein ufydd weddiau, gyda Diolwch dros ein goruchel Arglwydd CHARLES, yr hwn a osodwyd drwy dy ras a'th ragluniaeth i fod yn Frenin arnom: Ac felly gydag ef bendithia yr holl frenhinawl hiligoaeth a gwlith dy nefol Yspryd, fel y byddo iddynt, gan ymddiried yn wastad yn dy Ddaioni, a bod yn amddiffynnedig gan dy allu, a choronedig a'th ra­sol a diball ffafor, gael parhau ger dy fr [...] a mewn iechyd, heddwch, llawenydd ac anrhydedd, b [...]r einioes a ffynnadwy ar y ddaiar, ac yn ôl y fuchedd hon mwynhau bywyd a gogoniant tragywyddol yn nheyrnas Nef, trwy haeddedigaethau a chy­fryngdod Jesu Grist ein Jachcwdr▪ yr hwn gyda 'r Tad a'r Yspryd glan y sydd yn byw ac teyrnasu ŷn un Duw hyth heb drangc na gorphen. Amen.

DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.