LLYFR Y PSALMAU.
Psal. 1. Boreuol Weddi.
GWyn ei fyd y gŵr ni rodia ynghyngor yr annuwolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwŷr:
2 Onid sydd a'i ewyllys ynghyfraith yr Arglwydd: ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nôs.
3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei brŷd; a'i ddalen ni wywa, a pha beth bynnac a wnel, efe a lwydda.
4 Nid felly y bydd yr annuwiol: onid fel mân vs yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith.
5 Am hynny yr annuwolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid ynghynnulleidfa y rhai cyfiawn.
6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwolion a ddifethir.
Psal. 2.
PA ham y terfysca y Cenhedloedd: ac y myfyria y bobloedd beth ofer?
2 Y mae brenhinoedd y ddaiar yn ymosod, a'r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,
3 Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
4 Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Arglwydd a'i gwatwar hwynt.
5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
6 Minneu a osodais fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanctaidd.
7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthif; fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.
8 Gofyn i mi, a rhoddaf y Cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i'th feddiant.
9 Drylli hwynt â gwialen haiarn, maluri hwynt fel llestr pridd.
10 Gan hynny 'r awr hon frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barn-wŷr y ddaiar cymmerwch ddŷsc.
11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymlawenhewch mewn dychryn.
12 Cussenwch y mâb rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig: gwyn eu bŷd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
Psal. 3.
ARglwydd mor aml yw fy nhrallod-wŷr: llawer yw y rhai sy 'n codi i'm herbyn.
2 Llawer yw y rhai sy 'n dywedyd am fy enaid, nid oes iechydwriaeth iddo yn ei Dduw. Selah.
3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi: fy ngogoniant, a derchafudd fy mhen.
4 A'm llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a'm clybu o'i fynydd sanctaidd. Selah.
5 Mi a orweddais, ac a gyscais, ac a ddeffroais; canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.
6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl: y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.
7 Cyfod Arglwydd, achub fi fy Nuw, canys tarewaist fy holl elynion ar garr yr ên, torraist ddannedd yr annuwolion.
8 Jechydwriaeth sydd eiddo 'r Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.
Psal. 4.
GWrando fi pan alwyf, ô Dduw fy nghyfiawnder; mewn cyfyngder yr chengaist arnaf: trugarhá wrthif, ac erglyw fy ngweddi.
2 O feibion dynion, pa hŷd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Selah.
3 Ond gwybyddwch i'r Arglwydd nailltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.
4 Ofnwch, ac na phechwch, ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.
5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder, a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
6 Llawer sy 'n dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dercha arnom lewyrch dy wyneb.
7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy nâ'r amser yr amlhâodd eu hŷd, a'i gwin hwynt.
8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti Arglwydd yn vnic a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
Psal. 5.
GWrando fy ngeiriau Arglwydd: deall fy myfyrdod.
2 Erglyw ar lêf fy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.
3 Yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeiriaf attat, ac yr edrychaf i fynu.
4 O herwydd nid wyt ti Dduw 'n ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyd â thi.
5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithred-wyr anwiredd.
6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd, a'r twyllodrus:
7 A minneu a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy druga redd: ac a addolaf tu a'th Deml sanctaidd yn dy ofn di.
8 Arglwydd arwain fi yn dy gyfiawnder o achos fy ngelynion: ac vniona dy ffordd o'm blaen.
9 Canys nid oes vniondeb yn eu genau, eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg, gwenieithiant â'i tafod.
10 Destrywia hwynt o Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghorion, gyrr hwynt ymmaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i'th erbyn.
11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafar ganant yn dragywydd, am i ti orchguddio trostynt: a'r rhai a garant dy Enw, gorfoleddant ynot.
12 Canys ti Arglwydd a fendithi [Page] y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
Psal. 6. Prydnhawnol Weddi.
ARglwydd na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd, ac na chospa fi yn dy lîd.
2 Trugarha wrth if Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi o Arglwydd, canys fy escyrn a gystuddiwyd.
3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: titheu Arglwydd, pa hŷd?
4 Dychwel Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
5 Canys yn angeu nid oes goffa am danat: yn y bedd pwy a'th folianna?
6 Deffygiais gan fy ochain, bôb nôs yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyfi 'n gwlychu fy ngorweddfa â'm dagrau.
7 Treuliodd fy llygad gan ddigter: heneiddiodd o herwydd fy holl elynion.
8 Ciliwch oddi wrthif holl wei [...]hred-wŷr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy ŵylofain.
9 Clybu 'r Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.
10 Gwradwydder, a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler, a chywilyddier hwynt yn ddisymmwth.
Psal. 7.
ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwared fi.
2 Rhag iddo larpio fy enaid fel lew: gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredudd.
3 O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn, od oes anwiredd yn fy nwylaw.
4 O thelais ddrwg i'r nêb oedd heddychol â mi: (ie mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos:)
5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Selah.
6 Cyfod Arglwydd yn dy ddigllonedd, ymddercha o herwydd llîd fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchymynnaist.
7 Felly cynnulleid fa y bobloedd: a'th amgyschynant: er eu mwyn dychwel ditheu i'r vchelder.
8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, ô Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a'r arennau.
10 Fy amddeffyn sydd o Dduw, iachawdur y rhai vniawn o galon.
11 Duw sydd farnudd cyfiawn, a Duw sy ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.
12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hôga ei gleddyf; efe a annelodd ei fŵa, ac a'i paratôdd.
13 Paratôdd hefyd iddo arfau anghefol, efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwŷr.
14 Wele, efe a ymddwg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a escorodd ar gelwydd.
15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16 Ei anwiredd a ymchwel ar [Page] ei ben ei hun: a'i draha a ddescyn ar ei goppa ei hun.
17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder: a chan-molaf enw 'r Arglwydd goruchaf.
Psal. 8.
ARglwydd ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaiar! yr hwn a osodaist dy ogoniant vwch y nefoedd.
2 O enau plant bychain, a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion: i ostegu y gelyn, a'r ymddialydd.
3 Pan edrychwyf ar dy nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r ser, y rhai a ordeiniaist;
4 Pa beth yw dŷn i ti iw gofio? a mâb dŷn i ti i ymweled ag ef?
5 Canys gwnaethost ef ychydig îs nâ 'r angelion: ac a'i coronaist â gogoniant, ac â harddwch:
6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bôb peth dan ei draed ef;
7 Defaid, ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd:
8 Ehediaid y nefoedd, a physcod y môr: ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaiar!
Psal. 9. Boreuol Weddi.
CLodforaf di ô Arglwydd, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.
2 Llawenychaf, a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goruchaf.
3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hol, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.
4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc, gan farnu yn gyfiawn.
5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol: eu henw hwynt a ddilêaist byth bythol.
6 Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd, a diwreiddiaist y dinasoedd, darfu eu coffadwriaeth gyd â hwynt.
7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei orsedd-faingc i farn.
8 Ac efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn vniondeb.
9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i'r gorth rymmedig, noddfa yn amser trallod.
10 A'r rhai a adwaenant dy enw a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd, y rhai a'th geisient.
11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn presswylio yn Sion: mynegwch ymmysc y bobloedd ei weithredoedd ef,
12 Pan ymofynno efe am waed, efe a'i cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol.
13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nerchafudd o byrth angau:
14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Sion: llawenychaf yn dy iechydwriaeth.
15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffôs a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.
16 Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd ei ddwylo [Page] ei hun. Higaion. Selah.
17 Y rhai drygionus a ymchwelant i vffern: a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.
18 Canys nid anghofir y tlawd byth, gobaith y trueniaid ni chollir byth.
19 Cyfod Arglwydd, na orfydded dŷn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
20 Gosod Arglwydd, ofn arnynt, fel y gŵybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Selah.
Psal. 10.
PA ham Arglwydd y sefi o bell, yr ymguddi yn amser cyfyngder?
2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychymmygasant.
3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.
4 Yr annuwiol gan vchder ei ffroen ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.
5 Ei ffyrdd sydd flîn bôb amser, vchel yw dy farnedigaethau allan o'i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.
6 Dywedodd yn ei galon, ni'm symmudir, o herwydd ni byddaf mewn dryg-fyd, hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
7 Ei enau sydd yn llawn melldith, a dichell, a thwyll: tan ei dafod y mae cam wedd, ac anwiredd.
8 Y mae efe yn eistedd ynghynllwynfa y pentrefydd, mewn cilfacheu y lladd efe y gwirion; ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch, megis llew yn ei ffau; cynllwyn y mae i ddal y tlawd, efe a ddeil y tlawd gan ei dynnu iw rwyd.
10 Efe a ymgrymma, ac a ymostwng: fel y cwympo tyrfa trueniaid gan ei gedyrn ef.
11 Dywedodd yn ei galon, anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb, ni wêl byth.
12 Cyfod Arglwydd, ô Dduw dercha dy law nac anghofia y cystuddiol.
13 Pa ham y dirmyga 'r annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.
14 Gwelaist hyn, canys ti a ganfyddi anwiredd, a cham, i roddi tâl a'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd, ti yw cynnorthwy-wr yr ymddifad.
15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygionus: cais ei ddrygioni ef, hyd na chaffech ddim.
16 Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o'i dîr ef.
17 Arglwydd clywaist ddymuniad y tlodion; parattoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt.
18 I farnu yr ymddifad a'r gorthrymmedig: fel na chwanego dŷn daiarol beri ofn mwyach.
Psal. 11.
YN yr Arglwydd yr wyf yn ym-ddiried, pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, eheda i'ch mynydd fel aderyn?
2 Canys wele, y drygionus a annelant lŵa, paratoesant eu saethau ar y llinyn, i saethu yn ddirgel y rhai vniawn o galon.
3 Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wna y cyfiawn?
4 Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr [Page] Arglwydd sydd yn y nefoedd; y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo drawsder.
6 Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoeth wynt ystormus: dymma ran eu phiol hwynt.
7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
Psal. 12. Prydnhawnol Weddi.
AChub Arglwydd, canys darfu y trugarog: o herwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.
2 Oferedd a ddywedant bôb un wrth ei gymmydog; â gwefus wenhieithgar, ac â chalon ddau ddyblyg y llefarant.
3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwenhieithus, a'r tafod a ddywedo fawrhydri.
4 Y rhai a ddywedant, â'n tafod y gorfyddwn: ein gwefusau sydd eiddom ni, pwy sydd Arglwydd arnom ni?
5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic, o herwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn iechydwriaeth yr hwn y magler iddo.
6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.
7 Ti Arglwydd a'i cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch: pan dderchafer y gwaelaf o feibion dynion.
Psal. 13.
PA hŷd, Arglwydd, i'm anghofi, a'i yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?
2 Pa hŷd y cymmeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hŷd y derchefir fy ngelyn arnaf?
3 Edrych, a chlyw fi, ô Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.
4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: ac i'm gwrthwyneb-wŷr lawenychu os gogwyddaf.
5 Minneu hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di, fy nghalon a ymlawenycha yn dy iechydwriaeth: canaf i'r Arglwydd am iddo synio arnaf.
Psal. 14.
YR ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes un Duw: ymlygrasant, ffieidd-waith a wnaethant, nid oes a wnél ddaioni.
2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion; i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw.
3 Ciliodd pawb, cŷd-ymddifwynasant, nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
4 Oni ŵyr holl weithred-wŷr anwiredd? y rhai sy yn bwytta fy mhobl fel y bwyttaent fara; ni alwâsant ar yr Arglwydd.
5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw ynghenhedlaeth y cyfiawn.
6 Cyngor y tlawd a wradwyddasoch chwi, am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.
7 Pwy a ddyry iechydwriaeth [Page] i Israel o Sion? pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Iacob, ac y llawenhâ Israel.
Psal. 15. Boreuol Weddi.
ARglwydd pwy a drîg yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wîr yn ei galon:
3 Heb absennu â'i dafod: heb wneuthur drwg iw gymmydog, a heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog.
4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg, ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng iw niwed ei hun, ac ni newidia.
5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymmer wobr yn erbyn y gwirion: a wnêlo hyn nid yscogir yn dragywydd.
Psal. 16.
CAdw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddiriedaf.
2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, fy Arglwydd ydwyt ti: fy nâ nid yw ddim i ti:
3 Ond i'r sainct sydd ar y ddaiar, a'r rhai rhagorawl, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai a fryssiant ar ôl Duw dieithr: eu diod offrwm o waed nid offrymmaf fi, ac ni chymmeraf eu henwau yn fy ng wefusau.
5 Yr Arglwydd yw rhan fy etiféddiaeth i, a'm phiol: ti a gynheli fy nghoelbren.
6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: îe y mae i mi etifeddiaeth dêg.
7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghôrodd: fy arennau hefyd a'm dyscant y nôs.
8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheu-law, ni'm yscogir.
9 O herwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy ngnhawd hefyd a orphywys mewn gobaith.
10 Canys, ni adewi fy enaid yn uffern: ac ni oddefi i'th Sainct weled llygredigaeth.
11 Dangosi î mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron: ar dy ddeheu-law y mae digrifwch yn dragywydd.
Psal. 17.
CLyw Arglwydd gyfiawnder: ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.
2 Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy lygaid ar uniondeb.
3 Profaist fy nghalon, gofwyaist fi y nôs, chwillaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.
4 Tu ag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr yspeiludd.
5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.
6 Mi a elŵais arnat, canys gwrandewi arnafi o Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyw fy ymadrodd.
7 Dangos dy ryfedd drugareddau, ô achubudd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheu-law.
8 Cadw fi fel canwyll llygad: cudd fi dan gyscod dy adenydd.
9 Rhag yr annuwolion, y rhai [Page] a'm gorthrymmant: rhag fy ngelynion marwol, y rhai a'm hamgylchant.
10 Caeasant gan eu brasder, â'i genau y llefarant mewn balchder.
11 Ein cynniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awr hon, gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaiar.
12 Eu dull sydd fel llew a chwennychci sclyfaethu, ac megis llew ieuangc yn aros mewn lleoedd dirgel.
13 Cyfod Arglwydd; achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di.
14 Rhag dynion y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y bŷd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd ymma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedic dryssor: llawn ydynt o feibjon, a gadawant eu gweddill i'w rhai bychain.
15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf â'th ddelw di.
Psal. 18. Prydnhawnol Weddi.
CAraf di Arglwydd fy nghadernid.
2 Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddeffynfa, a'm gwaredudd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian a chorn fy iechydwriaeth, a'm huchel-dŵr.
3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly i'm cedwir rhag fy ngelynion.
4 Gofidion angau a'm cylchynâsant: ac afonydd y fall a'm dychrynasant i.
5 Gofidiau uffern a'm cylchynâsant: maglau angeu a achubasant fy mlaen.
6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i Deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth iw glustiau ef.
7 Yna y siglodd, ac y crynodd y ddaiar, a seiliau y mynyddoedd a gynnhyrfodd, ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.
8 Derchafodd mŵg o'i ffroenau, a thân a yssodd o'i enau: glô a enynnâfant ganddo.
9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddescynnodd: a thywyllwch oedd tan ei draed ef.
10 Marchogodd hefyd ar y Cerub, ac a ehedodd: ie efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo, a'i babell o'i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew-gwmmylau yr awyr.
12 Gan y discleirdeb oedd ger ci fron, ei gwmmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor tanllyd.
13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef: cenllysc a marwor tanllyd.
14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a'i gwascarodd hwynt: ac a saethodd ei fellt, ac a'i gorchfygodd hwynt.
15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y bŷd a ddinoethwyd: gan dy gerydd di ô Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau.
16 Anfonodd oddi uchod, cymmerodd fi, tynnod fi allan o ddyfroedd lawer.
17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech nâ mi.
18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
19 Dûg fi hefyd i ehengder, gwaredodd fi canys ymhoffodd ynof.
20 Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd: ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth sy Nuw.
22 O herwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: a'i ddeddfau ni fwriais oddi wrthif.
23 Bum hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
24 A'r Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.
25 A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
26 A'r glân y gwnei lendid: ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.
27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedic: ond ti a ostyngi olygon vchel.
28 O herwydd ti a oleui fy nghanwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.
29 Oblegit ynot ti y rhedais trwy fyddin: ac yn fy Nuw y llemmais dros fûr.
30 Duw sydd berffaith ei ffordd, gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
31 Canys pwy sydd Dduw heb law 'r Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?
32 Duw sy'n fy ngwregyssu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
33 Gosod y mae efe fy nhraed, fel traed ewigod: ac ar fy vchelfannau i'm sefydla.
34 Efe sy yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllir bŵa dûr yn fy mreichiau.
35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iechydwriaeth, a'th ddeheu-law a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.
36 Ehengaist fy ngherddediad tanaf: fel na lithrodd fy nhraed.
37 Erlidiais fy ngelynion, ac a'i goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
38 Archollais hwy, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist tanaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.
40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion: fel y difethwn fy nghaseion.
41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubudd: sef ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt.
42 Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl, gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.
44 Pan glywant am danaf vfyddhânt i mi: meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.
45 Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynant allan o'i dirgel fannau.
46 Byw yw 'r Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a derchafer Duw fy iechydwriaeth.
47 Duw sydd yn rhoddi i mi [Page] allu ymddial: ac a ddarostwng y bobloedd tanaf.
48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie ti a'm derchefi vwch law y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.
49 Am hynny y moliannaf di o Arglwydd, ym mhlith y cenhedloedd, ac y cânaf i'th enw.
50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w frenin, ac yn gwneuthur trugaredd iw enneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.
Psal. 19. Boreuol Weddi.
Y Nefoedd sy yn dadcan gogoniant Duw: a'r ffurfafen sy yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef.
2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd: a nôs i nôs a ddengys ŵybodaeth.
3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.
4 Eu llinyn aeth drwy'r holl ddaiar, a'i geiriau hyd eithafoedd y bŷd: i'r haul y gosododd efe babell ynddynt.
5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o'i stafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.
6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wrês ef.
7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd siccr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.
8 Deddfau yr Arglwydd sydd yniawn, yn llawenhau y galon: gorchymmyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid.
9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd: barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gŷd.
10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie nag aur coeth lawer: melysach hefyd nâr mêl, ac nâ diferiad diliau mêl.
11 Ynddyht hwy hefyd y rhybuddir dy wâs; o'i cadw y mae gwobr lawer.
12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanhâ fi oddi wrth fy meiau cuddiedic.
13 Attal hefyd dy wâs oddi wrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethant arnaf: yna i'm perffeithir, ac i'm glanheir oddiwrth anwiredd lawer.
14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron, ô Arglwydd, fy nghraig, a'm prynwr.
Psal. 20.
GWrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a'th ddeffynno.
2 Anfoned i ti gymmorth o'r cyssegr: a nerthed di o Sion.
3 Cofied dy holl offrymmau: a bydded fodlon i'th boeth offrwm, Selah.
4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon: a chyflawned dy holl gyngor.
5 Gorfoleddwn yn dy iechydwriaeth di, a derchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.
6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei enneiniog, efe a wrend y arno o nefoedd i sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheu-law ef.
7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, [Page] a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.
8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant: ond nyni a gyfodasom, ac a safafom.
9 Achub Arglwydd: gwrandawed y Brenin arnom, yn y dydd y llefom.
Psal. 21.
ARglwydd yn dy nerth y llawennycha y brenin: ac yn dy iechydwriaeth di, mor ddirfawr yr ymhyfryda?
2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dymuniad ei wefusau ni's gommeddaist. Selah.
3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
4 Gofynnodd oes gennit, a rhoddaist iddo: ie hiroes, byth ac yn dragywydd.
5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iechydwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol, llawenychaist ef â llawenydd âth wyneb-pryd.
7 O herwydd bod y brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf, nid yscogir ef.
8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheu-law a gaiff afael ar dy gaseion.
9 Ti a'u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Arglwydd yn ei ddigllonedd a'i llwngc hwynt, a'r tân a'i hyssa hwynt.
10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaiar; a'i hâd o blith meibion dynion.
11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn; meddyliasant amcan, heb allu o honynt ei gwplau.
12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratoi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
13 Ymddercha Arglwydd yn dy nerth: canwn, a chan-molwn dy gadernid.
Psal. 22. Prydnhawnol Weddi.
FY Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist? pa ham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iechydwriaeth, a geiriau fy llefain.
2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi: y nôs hefyd, ac nid oes osteg i mi.
3 Ond tydi wyt sanctaidd, ô dydi yr hwn wyt yn cyfanneddu ym moliant Israel.
4 Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
5 Arnat ti y llesasant, ac achubwyd hwynt: vnot yr ymddiriedasant, ac ni's gwradwyddwyd hwynt.
6 A minneu prŷf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmygy bobl.
7 Pawb a'r a'm gwêlant a'm gwatwarant: llaesant wefl, escydwant ben, gan ddywedyd,
8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd, gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.
9 Canys ti a'm tynnaist o'r grôth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
10 Arnat ti i'm bwriwyd o'r brû: o grôth fy mam fy Nuw ydwyt.
11 Nac ymbellhâ oddi wrthif, o herwydd cyfyngder sydd agos: [Page] canys nid oes cynnorthwy-wr.
12 Teirw lawer a'm cylchynasant: gwrdd deirw Basan, a'm hamgylchasant.
13 Agorasant arnaf eu genau: fel llew rheipus, a rhuadwy.
14 Fel dwfr i'm tywalltwyd, a'm hescyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cŵyr, hi a doddodd ynghanol fy mherfedd.
15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr, a'm tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lŵch angeu i'm dygaist.
16 Canys cŵn a'm cylchynasant, cynnulleidfa y drygionus a'm hamgylchasant: trywanasant fy nwylaw a'm traed.
17 Gallaf gyfrif fy holl escryn: y maent yn tremio, ac yn edrych arnaf.
18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fy ngwisc yn bwrw coelbren.
19 Ond tydi Arglwydd nac ymbellhâ: fy nghadernid bryffia i'm cynnorthwyo.
20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf: fy vnic enaid o feddiant y cî.
21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn vnicorniaid i'm gwrandewaist.
22 Mynegaf dy enw i'm brodyr: ynghanol y gynnulleidfa i'th folaf.
23 Y rhai sy yn ofni 'r Arglwydd, molwch ef, holl hâd Jacob, gogoneddwch ef: a holl hâd Israel, ofn wch ef.
24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.
25 Fy mawl fydd o honot ti yn y gynnulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf ger bron y rhai a'i hofnant ef.
26 Y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Arglwydd a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.
27 Holl derfynau y ddaiar a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylŵythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.
28 Canys eiddo 'r Arglwydd yw 'r deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymmhlith y cenhedloedd.
29 Yr holl rai breision ar y ddaiar a fwyttânt, ac a addolant: y rhai a ddescynnant i'r llŵch a ymgrymmant ger ei fron ef: ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.
30 Eu hâd a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Arglwydd yn genhedlaeth.
31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i'r bobl a enir: mai efe a wnaeth hyn.
Psal. 23.
YR Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisieu arnaf.
2 Efe a wna i'm orwedd mewn porfeydd gwelltoc: efe a'm tywys ger llaw y dyfroedd tawel.
3 Efe a ddychwel fy enaid, efe a'm harwain ar hŷd llwybrau cyfiawnder, er mwyn ei enw.
4 Ie pe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod angeu, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyd â mi: dy wialen, a'th ffon a'm cyssurant.
5 Ti a arlwyi ford ger fy mron, yngwydd fy ngwrthwyneb-wŷr: iraist fy mhen ag olew, fy phiol fydd lawn.
6 Daioni, a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant, holl ddyddiau [Page] fy mywyd: a phresswyliaf yn nhŷ 'r Arglwydd yn dragywydd.
Psal. 24. Boreuol Weddi.
EIddo yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder: y bŷd, ac a bresswylia ynddo,
2 Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd: ac a'i siccrhâodd ar yr afonydd.
3 Pwy a escyn i fynydd yr Arglwydd? a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef?
4 Y glân ei ddwylo, a'r pûr ei galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.
5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.
6 Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef: y rhai a geisiant dy wyneb di, ô Iacob. Selah.
7 O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol: a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
8 Pwy yw yr brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol, a chadarn; yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.
9 O byrth, derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
10 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw brenin y gogoniant. Selah.
Psal. 25.
ATtat ti ô Arglwydd, y derchafaf fy enaid.
2 O fy Nuw, ynot ti 'r ymddiriedais, na 'm gwradwydder: na orfeledded fy ngelynion arnaf.
3 Ie na wradwydder nêb sydd yn disgwyl wrthit ti: gwradwydder y rhai a drosseddant heb achos.
4 Pâr i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.
5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysc fi: canys ti yw Duw fy iechydwriaeth, wrthit ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.
6 Cofia Arglwydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.
7 Na chofia bechodau fy ieuengctid, na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, er mwyn dy ddaioni Arglwydd.
8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: o herwydd hynny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.
9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysc efe i'r rhai gostyngedic.
10 Holl lwybrau 'r Arglwydd ydynt drugaredd, a gwirionedd i'r rhai a gadwant ei gyfammod, a'i dystiolaethau ef.
11 Er mwyn dy Enw, Arglwydd, maddeu fy anwiredd: canys mawr yw.
12 Pa ŵr yw efe sy 'n ofni yr Arglwydd? efe a'i dysc ef yn y ffordd a ddewiso.
13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i hâd a etifedda y ddaiar.
14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gydâ 'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfammod hefyd, iw cyfarwyddo hwynt.
15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o'r rhwyd.
16 Trô attaf, a thrugarhâ wrthif: canys unic a thlawd ydwyf.
17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg di fi allan o'm cyfyngderau.
18 Gwêl fy nghystudd, a'm helbul: a maddeu fy holl bechodau.
19 Edrych ar fy ngelynion, canys amlhasant: â chasineb craws hefyd i'm cassasant.
20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na'm gwradwydder, canys ymddiriedais ynot.
21 Cadwed perffeithrwydd, ac uniondeb fi, canys yr wyf yn disgwyl wrthit.
22 O Dduw, gwared Israel o'i holl gyfyngderau.
Psal. 26.
BArn fi Arglwydd, canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd, ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd, am hynny ni lithraf.
2 Hôla fi Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau, a'm calon.
3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.
4 Nid esteddais gyd â dynion coegion, a chyd â'r rhai trofaus nid âf.
5 Casseais gynnulleidfa y drygionus: a chyd â'r annuwolion nid eisteddaf.
6 Golchaf fy nwylo mewn diniweidrwydd: a'th allor ô Arglwydd, a amgylchynaf:
7 I gyhoeddi â llêf clodforedd: ac i fynegi dy holl ryfeddodau.
8 Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ: a lle presswylfa dy ogoniant.
9 Na chascl fy enaid gyd â phechaduriaid: na'm bywyd gyd â dynion gwaedlyd:
10 Y rhai y mae scelerder yn eu dwylo, a'i deheu-law yn llawn gwobrau.
11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarhâ wrthif.
12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr union: yn y cynnulleidfaoedd i'th fendithiaf ô Arglwydd.
Psal. 27. Prydnhawnol Weddi.
YR Arglwydd yw fy ngoleuni, a'm hiechydwriaeth, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
2 Pan nessaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwyneb-wŷr, am gelynion i'm herbyn, i fwytta fy ngnhawd: hwy a dramgwyddasant, ac a syrthiasant.
3 Pe gwersyllei llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodei câd i'm herbyn, yn hŷn mi a fyddaf hyderus.
4 Un peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd hynny a geisiaf, sef caffel trigo y nhŷ 'r Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd: i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei Deml.
5 Canys yn y dydd blîn i'm cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell i'm cuddia, ar graig i'm cyfyd i.
6 Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie can-molaf yr Arglwydd.
7 Clyw ô Arglwydd fy lleferydd pan lefwyf, trugarhâ hefyd wrthif, a gwrando arnaf.
8 Pan ddywedaist, ceisiwch fy wyneb, fy ngalon a ddywedodd wrthit, dy wyneb a geisiaf, ô Arglwydd.
9 Na chuddia dy wyneb oddi [Page] wrthif, na fwrw ymmaith dy wâs mewn soriant: fy nghymmorth fuost; na âd fi, ac na wrthod fi, ô Dduw fy iechydwriaeth.
10 Pan yw fy nhâd, a'm mam yn fy ngwrthod: yr Arglwydd a'm derbyn.
11 Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac arwain fi ar hŷd llwybrau uniondeb, o herwydd fy ngelynion.
12 Na ddyro fi i fynu i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster a gyfodasant i'm herbyn.
13 Deffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni'r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.
14 Disgwyl wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl meddaf wrth yr Arglwydd.
Psal. 28.
ARnat ti Arglwydd y gwaeddaf, fy nghraig na ddistawa wrthif: rhag o thewi wrthif, i'm fod yn gyffelyb i rai yn descyn i'r pwll.
2 Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyf arnat; pan dderchafwyf fy nwylo tu ag at dy gafell sanctaidd.
3 Na thynn fi gyd â'r annuwolion, a chyd â gweithred-wŷr anwiredd, y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.
4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychymmygion, dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo: tâl iddynt eu haeddedigaeth.
5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistri a efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.
6 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd: canys clybu lêf fy ngweddiau.
7 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm tarian, ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, ac myfi a gynnorthwywyd: o herwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a chadernid iechydwriaeth ei enneiniog yw efe.
9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
Psal. 29.
MOeswch i'r Arglwydd chwi feibion cedyrn: moeswch i'r Arglwydd ogoniant, a nerth.
2 Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei Enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd, Duw y gogoniant a darana: yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.
4 Llef yr Arglwydd sy mewn grym: llêf yr Arglwydd sy mewn prydferthwch.
5 Llêf yr Arglwydd sy yn dryllio y cedrwŷdd: ie dryllia'r Arglwydd gedr-wŷdd Libanus.
6 Efe a wna iddynt lammu fel llô: Libanus a Syrion fel llwdn unicorn.
7 Llef yr Arglwydd a wascara y fflammau tân.
8 Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.
9 Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei Deml, pawb a draetha ei ogoniant ef.
10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant, ie yr Arglwydd a eistedd yn frenin yn dragywydd.
11 Yr Arglwydd a ddyry nerth iw bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangr eddyf.
Psal. 30. Boreuol Weddi.
MAwrygaf di ô Arglwydd, canys derchefaist fi: ac ni lawenhêaist fy ngelynion o'm plegit.
2 Arglwydd, fy Nuw, llefais arnat: a thitheu a'm hiachêaist.
3 Arglwydd derchefaist fy enaid o'r bedd, cedwaist fi yn fyw, rhag descyn o honof i'r pwll.
4 Cenŵch i'r Arglwydd ei sainct ef: a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid, yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: tros brŷd nawn yr erys ŵylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd.
6 A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, ni'm syflir yn dragywydd.
7 O'th ddaioni Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bum helbulus.
8 Arnat ti Arglwydd y llefais: ac a'r Arglwydd yr ymbiliais.
9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed pan ddescynnwyf i'r ffôs? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?
10 Clyw Arglwydd, a thrugarhâ wrthif: Arglwydd bydd gynnorth wywr i mi.
11 Troaist sy ngalar yn llawenydd i mi: dioscaist fy sach-wisc, a gwregyfaist fi â llawenydd.
12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo▪ ô Arglwydd fy Nuw, yn dragywyddol i'th foliannaf.
Psal. 31.
YNot ti Arglwydd yr ymddiriedais, nam gwradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.
2 Gogwydda dy glust attaf, gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddeffyn, i'm cadw.
3 Canys fy nghraig a'm castell yd wyt: gan hynny er mwyn dy Enw, tywys fi, ac arwain fi.
4 Tynn fi allan o'r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
5 I'th law y gorchymynnaf fy yspryd: gwaredaist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.
6 Caseais y rhai sy yn dal ar ofer-wagedd: minneu a obeithiaf yn yr Arglwydd.
7 Ymlawenhâf, ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd: adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau.
8 Ac ni warcheaist fi yn llaw y gelyn, onid gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
9 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie fy enaid a'm bol:
10 Canys fy mywyd a ballodd gân ofid, a'm blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd o herwydd fy anwiredd, a'm hescyrn a bydrasant.
11 Yn warthrudd yr ydwyf ymmyfg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymmysg fy nghymmydogion, ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant; y rhai a'm gwelent [Page] allan, a gilient oddi wrthif.
12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl, yr ydwyf fel llestr methedic.
13 Canys clywais ogan llaweroedd, dychryn oedd o bob parth: pan gyd-ymgynghorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.
14 Ond mi a obeithiais ynot ti Arglwydd, dywedais, fy Nuw ydwyt.
15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlyd-wŷr.
16 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fy er mwyn dy drugaredd.
17 Arglwydd na wradwydder, fi, canys gelwais arnat: gwradwydder yr annuwolion, torrer hwynt i'r bedd.
18 Gosteger y gwefusau celŵyddoc, y rhai a ddywedant yn galed drwy falchder, a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.
19 Morr fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant (ac a wnaethost i'r rhai a ymddiriedant ynot, ger bron meibion dynion!
20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb, rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell, rhag cynnen tafodau.
21 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi, mewn dinas gadarn.
22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, fo'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddiau, pan lefais arnat.
23 Cerwch yr Arglwydd, ei holl sainct ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i'r nêb a wna falchder.
24 Ymwrolwch, ac efe a gryfhâ eich calon: chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.
Psal. 32. Prydnhawnol Weddi.
GWyn ei fŷd y nêb y maddeuwyd ei drossedd: ac y cuddiwyd ei bechod.
2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd: ac ni bo dichell yn ei yspryd.
3 Tra y tewais, heneiddiodd fy escyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.
4 Canys trymhâodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder hâf. Selah.
5 Addefais fy mhechod wrthit, a'm hanwiredd ni chuddiais: dywedais, cyffessaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Selah.
6 Am hyn y gweddia pob duwiol arnat ti yn yr amser i'th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nessau atto ef.
7 Ti ydwyt loches i mi: cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Selah.
8 Cyfarwyddaf di, a dyscaf di yn y ffordd yr elych: a'm llygad arnat i'th gynghoraf.
9 Na fyddwch fel march, neu fûl heb ddeall, yr hwn y mae rhaid attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddinesau attat.
10 Gofidiau lawer fydd i'r annuwiol, ond y neb a ymddiriedo [Page] yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchyna ef.
11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar,
Psal. 33.
YMlawenhewch y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i'r rhai uniawn gweddus yw mawl.
2 Molwch yr Arglwydd â'r delyn: cenwch iddo â'r nabl, ac â'r dectant.
3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus.
4 Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a'i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.
5 Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaiar yn gyflawn.
6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaeth pwyd y nefoedd: a'i holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.
7 Casclu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd, megis pen-twrr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn tryssorau.
8 Ofned yr holl ddaiar yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.
9 Canys efe a ddywcdodd, ac felly y bu: efe a orchymynnodd, a hynny a safodd.
10 Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymmu amcanion pobloedd.
11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd: meddyliau ei galon, o genhedlaeth i genhedlaeth.
12 Gwyn ei fyd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi: a'r bobl a ddetholes efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13 Yr Arglwydd sy yn edrych i lawr o'r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
14 O bresswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaiar.
15 Efe a gyd-luniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddiangc cadarn drwy ei fawr gryfder.
17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb drwy ei fawr gryfder.
18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a'i hofnant ef: sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef,
19 I waredu eu henaid rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn amser newyn.
20 Ein henaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd: efe yw ein porth a'n tarian:
21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon; o herwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22 Bydded dy drugaredd Arglwydd arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
Psal. 34.
BEndithiaf yr Arglwydd bôb amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedic a glywant hyn, ac a lawenychant.
3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi: a chyd-dderchaswn ei enw ef.
4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe am gwrandawodd: gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.
5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd: ai hwynebau ni chywilyddiwyd.
6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu, ac a'i gwaredodd o'i holl drallodau.
7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt.
8 Profwch, a gwelwch mor dda yw 'r Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
9 Ofnwch yr Arglwydd, ei sainct ef: canys nid oes eisieu ar yrhai a'i hofnant ef.
10 Y mae eisieu, a newyn ar y llewod ieuaingc, ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni.
11 Deuwch blant, gwrandewch arnaf: dyscaf i chwi ofn yr Arglwydd.
12 Pwy yw'r gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hîr ddyddiau, i weled daioni?
13 Cadw dy dafod rhag drwg: â'th wefusau rhag traethu twyll.
14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda: ymgais â thangneddyf, a dilyn hi.
15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a'i glustiau sydd yn agored iw llefain hwynt.
16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg: i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.
17 Y rhai cyfiawn a lefant, a'r Arglwydd a glyw, ac a'i gwared o'i holl drallodau.
18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai drylliedic o galon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.
19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddi wrthynt oll.
20 Efe a geidw ei holl escyrn ef: ni thorrir vn o honynt.
21 Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn a anrheithir.
22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.
Psal. 35. Boreuol Weddi.
DAdleu fy nadl Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i'm herbyn: ymladd â'r rhai a ymladdant â mi.
2 Ymafael yn y darian a'r astalch, a chyfot i'm cymmorth.
3 Dwg allan y wayw-ffon, ac argaea yn erbyn fy erlyd-wŷr: dywed wrth fy enaid, myfi yw dy iechydwriaeth.
4 Cywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl, a gwarthaer, y sawl a fwriadant fy nrygu.
5 Byddant fel vs o flaen y gwynt: ac Angel yr Arglwydd yn eu herlid.
6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch, ac yn llithrigfa: ac Angel yr Arglwydd yn eu hymlid.
7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i'm henaid.
8 Deued arno ddistryw ni ŵypo, a'i rwyd yr hon a guddiodd a'i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.
9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iechydwriaeth ef.
10 Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy sydd fel tydi, [Page] yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo trech nag ef, y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hyspeilio?
11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
12 Talasant i mi ddrwg dros dda; i yspeilio fy enaid.
13 A minneu pan glafychent hwy, oeddwn a'm gwisc o sachlen, gostyngais fy enaid ag ympryd: a'm gweddi a ddychwelodd i'm mynwes fy hun.
14 Ymddygais fel be buasei 'n gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galar-wisc, fel vn yn galaru am ei fam.
15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasclasant: ymgasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
16 Ym mysc y gwatwarwyr rhag-rithiol mewn gwleddoedd yscyrnygasant eu dannedd arnaf.
17 Arglwydd, pa hŷd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy vnic enaid rhag y llewod.
18 Mi a'th glodforaf yn y gynnulleidfa fawr: moliannaf di ym-mhlith pobl lawer.
19 Na lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidient â llygad.
20 Can nad ymddiddanant yn dangneddyfus: eithr dychymygant eiriau dichellgar, yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.
21 Lleda sant eu safn arnaf gan ddywedyd: Ha, ha, gwelodd ein llygad.
22 Gwelaist hyn Arglwydd, na thaw ditheu: nae ymbellhâ oddiwrthif, ô Arglwydd.
23 Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw, a'm Harglwydd.
24 Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder: ac na lawenhânt o'm plegit.
25 Na ddywedant yn eu calon, ô ein gwynfyd: na ddywedant llyngcasom ef.
26 Cywilyddier, a gwradwydder hwy i gyd, y rhai sy lawen am fy nryg-fyd: gwiscer â gwarth ac â chywilydd, y rhai a ymfawrygant i'm herbyn.
27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder, dywedant, hefyd yn wastad mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei wâs.
28 Fy nhafod innen, a lefara am dy gyfiawnder, a'th foliant, ar hyd y dydd.
Psal. 36.
Y Mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.
2 O herwydd ymwenhieithio y mae efe iddo ei hun, yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atcas.
3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
4 Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely, efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda: nid ffiaidd gantho ddrygioni.
5 Dy drugaredd Arglwydd sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymmylau.
6 Fel mynyddoedd cedryn y mae dy gyfiawnder, dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dŷn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.
7 Mor werth-fawr yw dy drugaredd ô Dduw! am hynny 'r ymddiried meibion dynion tan gyscod dy adenydd.
8 Llawn-ddigonir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
9 Canys gyd â thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.
10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai vniawn o galon.
11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.
12 Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
Psal. 37. Prydnhawnol Weddi.
NAc ymddigia o herwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.
2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glas-wellt, ac y gwywant fel gwyrdd lyssiau.
3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda: felly y trigi yn y tîr, a thi a borthir yn ddiau.
4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd, ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a'i dwg i ben.
6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni: a'th farn fel hanner dydd.
7 Distawa yn ŷr Arglwydd, a disgwyl wrtho, nac ymddigia o herwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
8 Pâid â digofaint, a gâd ymmaith gynddaredd: nac ymddigia er dim, i wneuthur drwg.
9 Canys torrir ymmaith y drwgddynion, ond y rhai a ddisgwiliant wrth yr Arglwydd hwynt hwy a ettifeddant y tîr.
10 Canys etto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol, a thi edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim o honaw.
11 Eithr y rhai gostyngedic a etifeddant y ddaiar, ac a ymhyfrydant gan liaws tangneddyf.
12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a yscyrnyga ei ddannedd arno.
13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
14 Yr annuwiolion a dynnasant eu cleddyf, ac a annelafant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a'r anghenog, ac i ladd y rhai vniawn eu ffordd.
15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a'i bwâu a ddryllir.
16 Gwell yw 'r ychydig sydd gan y cyfiawn, nâ mawr olud annuwolion lawer.
17 Canys breichiau 'r annuwolion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith, a'i hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
19 Nis gwradwyddir hwy yn amser dryg-fyd, ac yn amser newyn y cânt ddigon.
20 Eithr collir yr annuwolion, a gelynion yr Arglwydd fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fŵg y diflannant hwy.
21 Yr annuwiol a echŵyna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn [Page] sydd drugarog, ac yn rhoddi.
22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir: a'r rhai a felldithio efe, a dorrir ymmaith.
23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.
25 Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hên: etto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i hâd yn cardotta bara.
26 Pob amser y mae ef yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg: a'i hâd a fendithir.
27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda, a chyfannedda yn dragywydd.
28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, ond hâd yr annuwiol a dorrir ymmaith.
29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bresswyliant ynddi yn dragywydd.
30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.
31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, a'i gamrau ni lithrant.
32 Yr annuwiol a wilia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
33 Ni âd yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni âd ef yn euog pan ei barner.
34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th dderchafa, fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwolion, ti a'i gweli.
35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigoc, fel y lawryf gwyrdd.
36 Er hynny efe a aeth ymmaith, ac wele nid oedd mwy o honaw: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.
37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangneddyf.
38 Ond y trosedd-wyr a gŷdddestrywir, diwedd yr annuwolion a dorrir ymmaith.
39 Ac iechydwriaeth y cyfiawn fydd oddiwrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.
40 A'r Arglwydd a'i cymmorth hwynt, ac a'i gwared; efe a'i gwared hwynt rhag yr annuwolion, ac ei ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
Psal. 38. Boreuol Weddi.
ARglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.
2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof: a'th law yn drom arnaf.
3 Nid oes iechyd yn fy ngnhawd, o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn, oblegit fy mhechod.
4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.
5 Fy nghleisiau a bydrasant, ac a lygrasant gan fy ynfydrwydd.
6 Crymmwyd a darostyngwyd fi 'n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.
7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieidd-glwyf, ac nid oes iechyd yn fy ngnhawd.
8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi 'n dramawr: rhuals gan aflonyddwch fy nghalon.
9 O'th fiaen di Arglwydd y mae fy holl ddymuniad, ac ni chuddiwyd fy vchenaid oddi wrth it.
10 Fy nghalon sydd yn llammu, fy nerth a'm gadawodd, a llewyrch fy llygaid nid yw ychwaith gennif.
11 Fy ngharedigion, a'm cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhlâ, a'm cyfneseifiaid a safent o hirbell.
12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes a osodasant faglau, a'r rhai a geisient fy niwed a draethent anŵireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.
13 A minneu fel byddar ni chlywn, eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.
14 Felly 'r oeddwn fel gŵr ni chlywei, ac heb argyoeddion yn ei enau.
15 O herwydd i'm obeithio ynot Arglwydd, ti Arglwydd fy Nuw a wrandewi.
16 Canys dywedais, gwrando fi, rhag llawenychu o honynt i'm herbyn, pan lithrei fy nhroed, ymfawrygent i'm herbyn.
17 Canys parod wyf i gloffi: a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.
18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf o herwydd fy mhechod.
19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn, amlhawyd hefyd y rhai a'm cassânt ar gam:
20 A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrthwynebant: am fy môd yn dilyn daioni.
21 Na âd fi, ô Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthif.
22 Bryssia i'm cymmorth, ô Arglwydd fy iechydwriaeth.
Psal. 39.
DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu â'm tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo 'r annuwiol yn fy ngolwg.
2 Tewais yn ddistaw, ie tewais â daioni: a'm dolur a gyffrôdd.
3 Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra oeddwn yn myfyrio, ennynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.
4 Arglwydd, pâr i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau: fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
5 Wele gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd, a'm henioes sydd megis diddim yn dy olwg di; diau mai cwbl wagedd yw pôb dŷn, pan fo ar y goreu. Selah.
6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gŵyr pwy a'i cascl.
7 Ac yn awr, beth a ddisgwiliaf, ô Arglwydd: fy ngobaith sydd ynot ti.
8 Gwared fi o'm holl gamweddau: ac na osod fi yn wradwydd i'r ynfyd.
9 Aethum yn fûd, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.
10 Tynn dy blâ oddi wrth if: gan ddyrnod dy law y darfûm i.
11 Pan gospit ddyn â cheryddon am anwiredd, dattodit fel gŵyfyn ei ardderchawgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pôb dŷn. Selah.
12 Gwrando fy ngweddi Arglwydd, a chlyw fy llêf, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithudd ydwyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.
13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned: ac na byddwyf mwy.
Psal. 40.
DIsgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ymostyngodd attaf: ac a glybu fy llefain.
2 Cyfododd fi hefyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.
3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.
4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo 'r Arglwydd yn ymddiried iddo: ac ni thrŷ at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.
5 Lluosog y gwnaethost ti, ô Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a'th amcanion tuag attom, ni ellir yn drefnus en cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.
6 A berth ac offrwm nid ewyllysiaist, agoraist fy nghlustiau: poeth offrwm a phech-aberth ni's gofynnaist.
7 Yna y dywedais, wele 'r ydwyf yn dyfod; yn rhol y llyfr yr scrifennwyd am danaf.
8 Da gennif wneuthur dy ewyllys, ô fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.
9 Pregethais gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele, nid atteliais fy ngwefusau, ti Arglwydd a'i gwyddost.
10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon, neuthais dy ffyddlondeb a'th iechydwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wirionedd, yn y gynnulleidfa luosog.
11 Titheu Arglwydd, nac attal dy drugareddau oddi wrthif: cadwed dy drugaredd, a'th wirionedd fi bŷth.
12 Canys drygau anifeiriol a'm cylchynasant o amgylch, fy mhechodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fy nghalon gennif.
13 Rhynged bodd it Arglwydd fy ngwaredu: bryssia Arglwydd i'm cymmorth.
14 Cyd-gywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enioes iw difetha; gyrrer yn eu hôl, a chywilyddier, y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwradwydd, y rhai y ddywedant wrthif, Ha, ha.
16 Llawenyched, ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a'th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth bôb amser, mawryger yr Arglwydd.
17 Ond yr wyf fi yn dlawd, ac yn anghenus, etto yr Arglwydd a feddwl am danaf, fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hîr drîg.
Psal. 41. Prydnhawnol Weddi.
GWyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd; yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd.
2 Yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i bywhâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddôd titheu ef wrth ewyllys ei elynion.
3 Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf-wely: eyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
4 Mi a ddywedais, Arglwydd trugarhâ wrthif: iachâ fy enaid, canys pechais i'th erbyn.
5 Fy ngelynion a lefarent ddrwg am danaf, gan ddywedyd: pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
6 Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd, ei galon a gascl atti anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.
7 Fy holl gaseion a gyd-hustyngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychymygant ddrwg i mi.
8 Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
9 Hefyd y gŵr oedd anwyl gennif, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a dderchafodd ei sodl i'm herbyn.
10 Eithr ti Arglwydd, trugarhâ wrthif; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
11 Wrth hyn y gwn hoffi o honot fi: am na chaiff sy ngelyn orfoleddu i'm herbyn.
12 Onid am danaf fi, yn fy mherffeithrwydd i'm cynheli; ac i'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.
13 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragywyddoldeb, a hyd dragywyddoldeb, Amen, ac Amen.
Psal. 42.
FEl y brefa 'r hŷdd am yr afonydd dyfroedd: fell y 'r hiraetha fy enaid am danat ti ô Dduw.
2 Sychedic yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw?
3 Fy nagrau oedd fwyd i'm ddydd a nôs: tra dywedant wrthif bôb dydd, pa le y mae dy Dduw?
4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyd â'r gynnulleidfa, cerddwn gyd â hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
5 Pa ham fy enaid i'th ddarostyngir, ac yr ymderfysci ynot? gobeithia yn Nuw, oblegit moliannaf ef etto, am jechydwriaeth ei wyneb-pryd.
6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Jorddonen, a'r Hermoniaid, o fryn Missar.
7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriant a aethant trosofi.
8 Etto yr Arglwydd a orchymmyn ei drugaredd liw dydd, a'i gân fydd gydâ mi liw nô; sef gweddi ar Dduw fy enioes.
9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, pa ham yr anghofiaist fi? pa ham y rhodiaf yn alarus trwy orthymder y gelyn?
10 Megis â chleddyf yn fy escyrn y mae fy ngwrthwyneb-wŷr yn fy ngwradwyddo, pan ddywedant wrthif bôb dydd, pâ le y mae dy Dduw?
11 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? ymddiried yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.
Psal. 43.
BArn fi ô Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anrhugarog; gwared fi rhag y dŷn twyllodrus, ac anghyfiawn.
2 Canys ti yw Duw fy nerth, pa ham i'm bwri ymaith: pa ham [Page] yr âf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
3 Anfon dy oleuni, a'th wirionedd, tywysant hwy fi, ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bebyll.
4 Yno 'r âf at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd, ac mi a'th foliannaf ar y delyn ô Dduw, fy Nuw.
5 Pa ham i'th ddaroslyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.
Psal. 44. Boreuol Weddi.
DUw, clywsom â'n clystiau, ein tadau a fynegasant i ni y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
2 Ti â'th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a'i plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a'i cynnyddaist hwythau.
3 Canys nid â'i cleddyf eu hun y gorescynnafant y tir, nid eu braich a barodd iechydwriaeth iddynt; cithr dy ddeheu-law di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd it eu hoffi hwynt.
4 Ti Dduw yw fy Mrenin: gorchymmyn iechydwriaeth i Jacob.
5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y fathrwn y rhai a gyfodant i'n herbyn.
6 O herwydd nid yn fy mŵa 'r ymddiriodaf: nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.
7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrth wyneb-wŷr, ac a wradwyddaist ein caseion.
8 Yn Nuw yr ymffrostiwn bôb dydd: ac ni a glodfôrwn dy enw yn dragywydd. Selah.
9 Ond ti a'n bwriaist ni ymmaith, ac a'n gwradwyddaist, ac nid wyt yn myned allan gyd â'n lluoedd.
10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt ei hun.
11 Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ym mysc y cenhedloedd.
12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o'i gwerth hwynt.
13 Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymmydogion, yn watwargerdd, ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.
14 Gosodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhedloedd, yn rhai i escwyd pen arnynt ym mysc y bobloedd.
15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm tôdd.
16 Gan lais y gwarthrudd-ŵr, a'r cablwr, o herwydd y gelyn, a'r ymddial-wr.
17 Hyn oll a ddaeth arnom: etto ni'th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.
18 Ni thrôdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o'th lwybr di.
19 Er i ti ein cûro yn-nrhigfa dreigiau, a thoi trosom â chyscod angeu.
20 Os anghofiasom enw ein Duw: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:
21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.
22 Ie er dy fwyn di i'n lleddir beunydd, cyfrifir ni fel defaid iw llâdd.
23 Dêffro, pa ham y cysci, ô Arglwydd cyfod, na fwrw ni ymmaith yn dragywydd.
24 Pa ham y cuddi dy wyneb ac yr anghofi ein cystudd, a'n gorthrymder.
25 Canys gostyngwyd ein henaid i'r llwch: glŷnodd ein bol wrth y ddaiar.
26 Cyfod yn gynnorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.
Psal. 45.
TRaetha fy nghalon beth da, dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthym i'r brenin: fy nhafod sydd bin scrifennudd buan.
2 Tegach ydwyt nâ meibion dynion; tywalltwyd grâs ar dy wefusau, o herwydd hynny i'th fendithiodd Duw yn dragywydd.
3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, â'th ogoniant, a'th harddwch.
4 Ac yn dy harddwch marchog yn llwyddiannus, o herwydd gwirionedd, lledneisrwydd, a chyfiawnder: a'th ddeheu-law a ddysc i ti bethau ofnadwy.
5 Pobl a syrthiant tanat: o herwydd dy saethau llymion yn glynu ynghalon gelynion y brenin.
6 Dy orsedd di ô Dduw, sydd byth, ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrn-wialen dy frenhiniaeth di.
7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy nâ'th gyfeillion.
8 Arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar dy holl wiscoedd: allan o'r palâsau Ifori, â'r rhai i'th lawenhasant.
9 Merched brenhinoedd oedd ym mhlith dy bendefigesau, safei y frenhines ar dy ddeheu-law mewn aur coeth o Ophir.
10 Gwrando ferch, a gwêl, a gostwng dy glust: ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dâd.
11 A'r brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di: ymostwng ditheu iddo ef.
12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg, a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.
13 Merch y brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gem-waith aur yw ei gwisc hi.
14 Mewn gwaith edyf a nodwydd y dygir hi at y brenin; y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir attat ti.
15 Mewn llawenydd, a gorfoledd y dygir hwynt; deuant i lŷs y brenin.
16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau: y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.
17 Paraf gofio dy enw ym-mhob cenhedlaeth, ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth, ac yn dragywydd.
Psal. 46.
DUw sydd noddfa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.
2 Am hynny nid ofnwn pe symmudai y ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr:
3 Er rhuo a therfyscu o'i dyfroedd, er crynu o'r mynyddoedd gan ei ymchŵydd ef. Selah.
4 Y mae afon, a'i frydian a [Page] lawenhânt ddinas Dduw, cyssegr presswylfeydd y Goruchaf.
5 Duw sydd yn ei chanol, nid yscog hi: Duw a'i cynnorthwya yn foreu iawn.
6 Y Cenhedloedd a derfyscafant, y teyrnasoedd a yscogasant: efe a roddes ei lêf, toddodd y ddaiar.
7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Iacob yn amddissynfa i ni. Selah.
8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd: pa anghyfannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaiar.
9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaiar, efe a ddryllia 'r bŵa, ac a dyrr y waywffon, efe a lysc y cerbydau a thân.
10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: derchefir fi ym mysc y cenhedloedd, derchefir fi ar y ddaiar.
11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: amddiffynsa i ni yw Duw Iacob. Selah.
Psal. 47. Prydnhawnol Weddi.
YR holl bobl curwch ddwylo: llafar genwch i Dduw, â llef gorfoledd.
2 Canys yr Arglwydd goruchaf fydd ofnadwy: brenin mawr ar yr holl ddaiar.
3 Efe a ddwg y bobl tanom ni: a'r cenhedloedd tan ein traed.
4 Efe a ddethol ein etiseddiaeth i ni, ardderchawgrwydd Iacob, yr hwn a hoffodd efe. Selah.
5 Derchafodd Duw â llawenfloedd, yr Arglwydd â sain udcorn.
6 Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.
7 Canys Brenin yr holl ddaiar yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.
8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orsedd-fainge ei sancteiddrwydd.
9 Pendefigion y bobl a ymgasclasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tariannau y ddaiar ydynt eiddo Duw; dirfawr y derchafwyd ef.
Psal. 48.
MAwr yw 'r Arglwydd, a thra moliannus yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd.
2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaiar yw mynydd Sion yn ystlysau y gogledd: dinas y Brenin mawr.
3 Duw yn ei phalâsau, a adwaenir yn amddeffynfa.
4 Canys wele, y brenhinoedd a ymgŷnnullasant: aethant heibio ynghyd.
5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant: brawychasant, ac aethant ymmaith ar ffrŵst.
6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur megis gwraig yn escor.
7 A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.
8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas, Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a'i siccrhâ hi yn dragywydd. Selah.
9 Meddyliasom ô Dduw, am dy drugaredd, ynghanol dy Deml.
10 Megis y mae dy enw ô Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tîr: cyflawn o gyfiawnder [Page] yw dy ddeheu-law.
10 Llawenyched mynydd Sion: ac ymhyfryded merched Iuda, o herwydd dy farnedigaethau.
11 Amgylchwch Sion, ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.
12 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl.
13 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.
Psal. 49.
CLywch hyn yr holl bobloedd, gwrandewch hyn holl drigolion y bŷd.
2 Yn gystal gwrêng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.
3 Fy ngenau a draetha ddoethineb: a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.
4 Gostyngaf fy nghlûst at ddihareb, fy nammeg a ddatguddiaf gyd a'r delyn.
5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, pan i'm hamgylchyno anwiredd fy sodlau?
6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosogrwydd eu cyfoeth.
7 Gan waredu ni wared neb ei frawd: ac ni all efe roddi iawn trosto i Dduw:
8 (Canys gwerth-fawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth.)
9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.
10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunyd y derfydd am y ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.
11 Eu meddwl yw y pery eu tai yn dragywydd, a'i trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: henwant ei tiroedd ar eu henwau eu hunain.
12 Er hynny dŷn mewn anrhydedd nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
13 Eu ffordd ymma yw eu ynfydrwydd: etto eu hiliogaeth ydynt fodlon iw hymadrodd. Selah.
14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern, angeu a ymborth arnynt, a'r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y boreu: a'i tegwch a dderfydd yn y bêdd o'i cartref.
15 Etto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a'm derbyn i. Selah.
16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan chwanego gogoniant ei dŷ ef.
17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddescyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: can-molant ditheu o byddi da wrthit dy hun.
19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.
20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
Psal. 50. Boreuol Weddi.
DUW y duwiau, sef yr Arglwydd a lefarodd, ac a alwodd y ddaiar, o godiad haul hyd ei fachludiad.
2 Allan o Sion perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.
3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw, tân a yssa oi flaen ef, a themhestl ddirfawr fydd o'i amgylch.
4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod: ac ar y ddaiar, i farnu ei bobl.
5 Cesclwch fy sainct ynghyd attafi, y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth.
6 A'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, canys Duw ei hun sydd farn-wr. Selah.
7 Clywch fy mhobl, a mi a lefaraf, ô Israel a mi a dystiolaethaf i'th erbyn: Duw sef dy Dduw di ydwyf fi
8 Nid am dy aberthau i'th geryddaf, na'th boeth offrymmau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
9 Ni chymmeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau:
10 Canys holl fwyst-filod y coed ydynt eiddo fi: a'r anifciliaid ar fîl o fynyddoedd.
11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddo fi.
12 Os bydd newyn arnaf ni ddywedaf i ti: canys y bŷd â'i gyflawnder, sydd eiddo fi.
13 A fwyttafi gig teirw? neu a yfaf fi waêd bychod?
14 Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau;
15 A galw arnafi yn nydd trallod; mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.
16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynnegech ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau?
17 Gan dy fod yn cassau addysc, ac yn taflu fy ngeiriau i'th ôl.
18 Pan welaist leidr, cyttunaist ag ef: a'th gyfran oedd gyd â'r godineb-wŷr.
19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a'th dafod a gyd-bletha ddichell.
20 Eisteddaist, a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fâb dy fam.
21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais; tybiaist ditheu fy môd yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyoeddaf, ac a'i trefnaf o flaen dy lygaid.
22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredudd.
23 Yr hwn a abertho foliant, a'm gogonedda i: a'r nêb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iechydwriaeth Duw.
Psal. 51.
TRugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrwydd; yn ôl lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau.
2 Golch fi yn llwyr-ddwys oddi wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.
3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.
4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hyn yn dy olwg: fel i'th gyfiawnhaer pan leferych, ac y byddit bûr pan farnech.
5 Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doethineb yn y dirgel.
7 Glanhâ fi ag Yssop, ac mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach nâ'r eira.
8 Pâr i mi glywed gorsoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.
9 Cuddia dy wyneb o ldi wrth fy mhechodau: a dilea fy holl anwireddau.
10 Crea galon lân ynof ô Dduw; ac adnewydda yspryd uniawn o'm mewn.
11 Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.
12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.
13 Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droir attat.
14 Gwared fi oddi wrth waed ô Dduw, Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15 Arglwydd agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
16 Canys ni chwennychi aberth, pe amgen mi a'i rhoddwn; poeth offrwm ni fynni.
17 Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gyftuddiedic, ô Dduw, ni ddirmygi.
18 Gwna ddaioni, yn dy ewyllyscarwch i Sion: adeilada furiau Ierusalem.
19 Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boeth offrwm, ac aberth llosc, yna'r offrymmant fustych ar dy allor.
Psal. 52.
PA ham yr ymffrosti mewn drygioni, ô gadarn: y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol.
2 Dy dafod a ddychymmyg seelerder: fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.
3 Hoffaist drygioni yn fwy nâ daioni: a chelwydd yn fwy nâ thraethu cyfiawnder. Selah.
4 Hoffaist bob geiriau destryw, ô dafod twyllodrus.
5 Duw a'th ddestrywia ditheu yn dragywydd, efe a'th gipia di ymmaith, ac a'th dynn allan o'th babell: ac a'th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Selah.
6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.
7 Wele 'r gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo: eithr ymddiriedodd yn lluosogrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.
8 Ond myfi sydd fel oliwydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth, ac yn dragywydd.
9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneuthur hyn: a disgwiliaf wrth dy enw; canys da yw ger bron dy sainct.
Psal. 53. Prydnhawnol Weddi.
DYwedodd yr ynfyd yn ei galon nid oes un Duw: ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd, nid oes un yn gwneuthur daioni.
2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd nêb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.
3 Ciliasei pob un o honynt yn wysc ei gefn, cyd-ymddifwynasent, nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
4 Oni ŵyr gweithred-wŷr anwiredd, y rhai sydd yn bwytta fy mhobl fel y bwytaent fara, ni alwâsant ar Dduw.
5 Yno 'r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wascarodd [Page] escyrn yr hwn a'th warchaeodd, gwradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy.
6 Oh na roddid iechydwriaeth i Israel o Sion: pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Iacob, ac yr ymhyfryda Israel.
Psal. 54.
AChub fi ô Dduw, yn dy enw: a barn fi yn dy gadernid.
2 Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.
3 Canys dieithriaid a gyfodasant i'm herbyn: a'r trawsion a geisiant fy enaid, ni osodasant Dduw o'i blaen. Selah.
4 Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo: yr Arglwydd sydd ym mysc y rhai a gynhaliant fy enaid.
5 Efe a dâl ddrwg i'm gelynion: torr hwynt ymmaith yn dy wirionedd.
6 Aberthaf [...]t yn ewyllysgar; clodforaf dy enw, ô Arglwydd canys da yw.
7 Canys efe a'm gwaredodd o bôb trallod, a'm llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
Psal. 55.
GWrando fy ngweddi ô Dduw, ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.
2 Gwrando arnaf ac erglyw fi, ewynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan.
3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol, o herwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasau yn llidioc.
4 Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angeu a tyrthiodd arnaf.
5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf: a dychryn a'm gorchguddiodd.
6 A dywedais, o na bai i mi adonydd fel colommen; yna 'r ehedwn ymmaith, ac y gorphywyswn.
7 Wele crwydrwn ym mhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Selah.
8 Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystormus, a'r demhestl.
9 Dinistriâ ô Arglwydd, a gwahan eu tafodau; canys gwelais drawsder a chynnen yn y ddinas.
10 Dydd a nôs yr amgylchant hi ar ei muriau, ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.
11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi, ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.
12 Canys nid gelyn a'm difenwodd, yna y dioddefaswn: nid fy nghas-ddyn a ymfawrygodd i'm herbyn, yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef.
13 Eithr tydi ddyn, fy nghydrâdd, fy fforddwr, a'm cydnabod.
14 Y rhai oedd felys gennym gyd-gy frinachu: ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghŷd.
15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a descynnant i uffern yn fyw; canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.
16 Myfi a waeddaf ar Dduw, a'r Arglwydd a'm hachub i.
17 Hwyr a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyd â mi.
19 Duw a glyw, ac a'i darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed, Selah: am nad oes gyfnewidiau [Page] iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.
20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef, efe a dorrodd ei gyfammod.
21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon; tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.
22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a'th gynnal di; ni âd i'r cyfiawn yscogi byth.
23 Titheu Dduw, a'i descynni hwynt i bydew dinystr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau, onid myfi a obeithiaf ynot ti.
Psal. 56. Boreuol Weddi.
TRugarhâ wrthif ô Dduw, canys dŷn a'm llyngoei: beunydd gan ymladd, i'm gorthrymma.
2 Beunydd i'm llyngcei fy ngelynion, canys llawer sydd yn rhyfela i'm herbyn, ô Dduw goruchaf.
3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.
4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.
5 Beunydd y cam-gymerant fy ngeiriau; eu holl feddyliau sydd i'm herbyn er drwg.
6 Hwy a ymgasclant, a lechant, ac a wiliant fy nghamrau, pan ddisgwiliant am fy enaid.
7 A ddiangant hwy drwy anwiredd? descyn y bobloedd hyn ô Dduw yn dy lidiawgrwydd.
8 Ti a gyfrifaist fy symmudiadau, dôd fy nagreu yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthôl: hyn a wn, am fôd Duw gyd â mi.
10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.
11 Yn Nuw 'r ymddiriedais; nid ofnaf beth a wnêl dŷn i mi.
12 Arnafi ô Dduw y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angeu; oni waredi fy nhraed rhag syrthio? fel y rhodiwyf ger bron Duw yngoleuni y rhai byw.
Psal. 57.
TRugarhâ wrthif ô Dduw, trugarhâ wrthif, canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie ynghyscod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn heibio.
2 Galwaf ar Dduw goruchaf, ar Dduw a gwplâ â mi.
3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a'm gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a'm llyngcei, Selah: denfyn Duw ei drugaredd, a'i wirionedd.
4 Fy enaid sydd ym mysc llewod, gorwedd yr wyf ym mysc dynion poethion: sef meibion dynion y rhai y mae ei dannedd yn wayw-ffyn a saethau, a'i tafod yn gleddyf llym.
5 Ymddercha Dduw uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
6 Darparasant rwyd i'm traed, crymmwyd fy enaid, cloddiasant bydew o'm blaen, syrthiasant yn ei ganol. Selah.
7 Parod yw fy nghalon o Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
8 Deffro fy ngogoniant, defro [Page] Nabl a thêlyn; deffroaf yn foreu.
9 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd; can-molaf di ym mysc y cenhedloedd.
10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
11 Ymddercha Dduw uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
Psal. 58.
AI cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, ô gynnulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, ô feibion dynion?
2 Anwiredd yn hyttrach a weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaiar.
3 O'r groth yr ymddieithrodd y rhai annuwiol; o'r brû y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn sarph: y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau:
5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhin-wŷr, er cyfarwydded fyddo 'r swyn-wr.
6 Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu geneuau: torr ô Arglwydd, gil-ddannedd y llewod ieuangc.
7 Todder hwynt fel dyfroedd sŷdd yn rhedeg yn wastad: pan saetho ei saethau, byddant megis wedi eu torri.
8 Aed ymmaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig: fel na welont yr haul.
9 Cyn i'ch crochanau glywed y mieri, efe a'i cymmer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn syw, ac yn ei ddigofaint.
10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol.
11 Fel y dywedo dŷn, diau fod ffrwyth i'r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaiar.
Psal. 59. Prydnhawnol Weddi.
FY Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i'm herbyn.
2 Gwared fi oddiwrth weithred-wŷr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.
3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid, ymgasclodd cedyrn i'm herbyn: nid ar fy mai na'm pechod i, ô Arglwydd.
4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynofi: deffro ditheu i'm cymmorth, ac edrych.
5 A thi Arglwydd Dduw 'r lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â'r holl genhedloedd: na thrugarhâ wrth y nêb a wnânt anwiwiredd yn faleisus. Selah.
6 Dychwelant gyd â'r hŵyr, cyfarthant sel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
7 Wele, bytheiriant â'i genau, cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy meddant a glyw?
8 Ond tydi ô Arglwydd, a'i gwatweri hwynt, ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
9 O herwydd ei nerth ef, y disgwiliaf wrthit ti: canys Duw yw fy amddeffynfa.
10 Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wnâ i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.
11 Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwascar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, ô Arglwydd ein tarian.
12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felldith, a'r celwydd a draethant.
13 Difa hwynt yn dy lîd, difa, fel na byddont: a gŵybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaiar. Selah.
14 A dychwelant gyd â'r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
15 Cyrwydrant am fwyd, ac onis digonir, grwgnachant.
16 Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar ganaf am dy drugaredd yn foreu: canys buost yn amddeffynsa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.
17 I ti fy nerth y canaf: canys Duw yw fy amddeffynfa, a Duw fy nrhugaredd.
Psal. 60.
O Dduw bwriaist ni ymmaith, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom drachefn.
2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn crynu.
3 Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.
4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w derchafu o herwydd y gwirionedd. Selah.
5 Fel y gwareder dy rai anwyl: achub â'th ddeheu-law, a gwrando fi.
6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoch.
7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasseh: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen, Juda yw fy neddfwr.
8 Moab yw fy nghrochan golchi: tros Edom y bwriaf fy escid, Philistia, ymorfoledda di o'm plegid i.
9 Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?
10 Onid tydi Dduw 'r hwn a'n bwriaist ymmaith? a thydi ô Dduw, yr hwn nid eit allan gyd â'n lluoedd?
11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dŷn.
12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein gelynion.
Psal. 61.
CLyw ô Dduw, fy llefain, gwrando ar fy ngweddi.
2 O eithaf y ddaiar y llefaf attat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo vwch nâ mi.
3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4 Presswyliaf yn dy babell byth: a'm ymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Selah.
5 Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rhoddaist etifeddiaeth i'r rhai a ofnant dy enw.
6 Ti a estynni oes y brenin, ci flynyddoedd fyddant fel cenhedlaethau lawer.
7 Efe a erys byth ger bron Duw: darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
8 Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: fel y talwyf fy addunedau beunydd.
Psal. 62. Boreuol Weddi.
WRth Dduw yn vnic y disgwil fy enaid; o honaw ef y daw fy iechydwriaeth.
2 Efe yn vnic yw fy nghraig, [Page] a'm hiechydwriaeth: a'm hamddiffyn; ni'm mawr yscogir.
3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gwr? lleddir chwi oll, a byddwch fel magwyr ogwyddedic, neu bared ar ei ogwydd.
4 Ymgynghorasant yn vnic iw fwrw ef i lawr o'i fawredd, hoffasant gelwydd, â'i geneuau y bendithiant, ond o'i mewn y melldithiant. Selah.
5 Oh fy enaid, disgwil wrth Dduw yn vnic: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
6 Efe yn vnic yw fy nghraig a'm hiechydwriaeth: efe yw fy amddeffynfa, ni'm hyscogir.
7 Yn Nuw y mae fy iech ydwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a'm noddfa sydd yn Nuw.
8 Gobeithiwch ynddo ef bôb amser, ô bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Selah.
9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudab yw meibion gwŷr: iw gosod yn y clorian, yscafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.
10 Nac ymddiriedwch mewn trawsder, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynnydda golud, na roddwch eich calon arno.
11 Un-waith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw yw cadernid.
12 Trugaredd hefyd sydd eiddo ti, ô Arglwydd: canys ti a deli i bôb dyn yn ôl ei weithred.
Psal. 63.
TI ô Dduw, yw fy Nuw i, yn foreu i'th geisiaf, sychedodd fy enaid am danat, hiraethodd fy ngnhawd am danat, mewn tîr crâs a sychedic heb ddwfr:
2 I weled dy nerth a'th ogoniant, fel i'th welais yn y Cyssegr.
3 Canys gwell yw dy drugaredd di nâ'r bywyd, fy ngwefusau a'th foliannant.
4 Fel hyn i'th glodforaf yn fy mywyd, derchafaf fy nwylo yn dy enw.
5 Megis â mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:
6 Pan i'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf am danat yngwiliadwriaethau y nôs.
7 Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny ynghyscod dy adenydd y gorfoleddaf.
8 Fy enaid a lŷn wrthit, dy ddeheu-law a'm cynnal.
9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i isselderau y ddaiar.
10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
11 Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob vn a dyngo iddo ef; eithr ceuir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
Psal. 64.
CLyw fy llêf ô Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy enioes rhag ofn y gelyn.
2 Cûdd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus, rhag terfysc gweithredwŷr anwiredd:
3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
4 I seuthu 'r perffaith yn ddirgel, yn ddisymmwth y saethant ef, ac nid ofnant.
5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel: dywedant, pwy a'i gwêl hwynt?
6 Chwiliant allan anwireddau, [Page] gorphennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pôb vn o honynt sydd ddofn.
7 Eithr Duw a'i saetha hwynt: â saeth ddisymmwth yr archollir hwynt.
8 Felly hwy a wnant iw tafodau eu hun syrthio arnynt: pôb vn a'i gwelo a gilia.
9 A phôb dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doethystyriant ei waith ef.
10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo: a'r rhai vniawn o galon oll a orfoleddant.
Psal. 65. Prydnhawnol Weddi.
MAwl a'th erys di yn Sion ô Dduw: ac i ti y telir yr adduned.
2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pôb cnawd.
3 Pethau anwir a'm gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a'i glânhei.
4 Gwyn ei fŷd yr hwn a ddewisech, ac a nessâech attat, fel y trigo yn dy gynteddoedd; ni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy Deml sanctaidd.
5 Attebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, ô Dduw ein iechydwriaeth: gobaith holl gyrrau y ddaiar, a'r rhai sydd bell ar y môr.
6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddoedd drwy ei nerth, ac a wregyssir â chadernid.
7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysc y bobloedd.
8 A phresswyl-wŷr eithafoedd y bŷd a ofnant dy arwyddion; gwnei i derfyn boreu a hwyr lawenychu,
9 Yr wyt yn ymweled â'r ddaiar ac yn ei dwfrhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.
10 Gan ddwfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnŵd hi.
11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â'th ddaioni, â'th lwybrau a ddiferant fraster.
12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch.
13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchguddir ag ŷd, am hynny y bloeddiant, ac y canant.
Psal. 66.
LLawen-floeddiwch i Dduw, yr holl ddaiar.
2 Dadeenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! o herwydd maint dy nerth, y cymmer dy elynion arnynt, fôd yn ddarostyngedig i ti.
4 Yr holl ddaiar a'th addolant di, ac a ganant i ti, ie canant i'th enw. Selah.
5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynion.
6 Trôdd efe v môr yn sych-dir; aethant drwy 'r afon ar draed; yna y llawenychasom ynddo.
7 Efe a lywodraetha drwy ei gadernid byth, ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd, nac ymdderchafed y rhai anufydd. Selah.
8 Oh bobloedd, bendithiwch ein Duw; a pherwch glywed llais e fawl ef▪
9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.
10 Canys profaist ni ô Dduw, coethaist ni fel coethi arian.
11 Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wascfa ar ein lwynau.
12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau, aethom drwy yr tân, a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.
13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau,
14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
15 Offrymmaf it boeth offrymmau breision, ynghyd ag arogldarth hyrddod: aberthaf ychen, a bychod. Selah.
16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.
17 Llefais arno â'm genau, ac efe a dderchafwyd â'm tafod.
18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsei 'r Arglwydd.
19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.
20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni thrôdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthif inneu.
Psal. 67.
DUw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned ei wyneb arnom. Selah.
2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.
3 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.
4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hysryd: canys ti a ferni y bobl yn vniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.
5 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.
6 Yna 'r ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw, sef ein Duw ni a'n bendithia.
7 Duw a'n bendithia, a holl derfynau 'r ddaiar a'i hofnant ef.
Psal. 68. Boreuol Weddi.
CYfoded Duw, gwascarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o'i flaen ef.
2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw.
3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawenydd.
4 Cenwch i Dduw, can-molwch ei enw, derchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd; a'i enw yn IAH: a gorfoleddwch ger ei fron ef.
5 Tâd yr ymddifaid, a barnwr y gweddwon yw Duw, yn ei bresswylfa sanctaidd.
6 Duw sydd yn gosod yr vnig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau, ond y rhai cyndyn a breswyliant grasdir.
7 Pan aethost ô Dduw, o flaen dy bobl: pan gerddaist trwy yr anialwch; Selah.
8 Y ddaiar a grynodd, a'r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntef a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.
9 Dihidlaist law graflawn ô Dduw, ar dy etifeddiaeth ti a'i [Page] gwrteithiaist wedi ei blino.
10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni ô Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.
11 Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent.
12 Brenhinoedd byddinoc a ffoesant ar ffrwst: a'r hon a drigodd yn tŷ a rannodd yr yspail.
13 Er gorwedd o honoch ymmysc y crochanau, byddwch fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.
14 Pan wascarodd yr Holl-alluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.
15 Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan, yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
16 Pa ham y llemmwch chwi fynyddoedd cribog? dymma 'r mynydd a chwennychodd Duw ei bresswylio, ie presswylia 'r Arglwydd ynddo byth.
17 Cerbydau Duw ydynt vgain mil, sef miloedd o Angelion: yr Arglwydd sydd yn eu plith megis yn Sinai yn y Cyssegr.
18 Derchefaist i'r vchelder, caeth-gludaist gaethiwed, derbyniaist roddion i ddynion: ie i'r rhai cyndyn hefyd, fel y presswyliai 'r Arglwydd Dduw yn eu plith.
19 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, yr hwn a'n llwytha beunydd â daioni: sef Duw ein iechydwriaeth. Selah.
20 Ein Duw ni sydd Dduw iechydwriaeth: ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a choppa walltos yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
22 Dywedodd yr Arglwydd, dygaf fy mhobl drachefn o Basan; dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr.
23 Fel y trocher dy droed yngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr vn-rhyw.
24 Gwelsant dy fynediad ô Dduw, mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cyssegr.
25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl: yn eu mysg yr oedd y llangcesau yn canu tympanau.
26 Bendithiwch Dduw yn y cynnulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.
27 Yno y mae Benjamin fychan a'u llywydd, tywysogion Juda a'u cynnulleidfa: tywysogion Zabulon, a thywysogion Nephtali.
28 Dy Dduw a orchymynnodd d [...] nerth: cadarnhâ ô Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.
29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg, er mwyn dy Deml yn Jerusalem.
30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynnulleidfa y gwrdd-deirw, gydâ lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedic â darnau arian: gwascar y bobl sy dda ganddynt ryfel.
31 Pendefigion a ddeuant o'r Aipht, Ethiopia a estyn ei dwylo 'n bryffur at Dduw.
32 Teyrnasoedd y ddaiar, cênwch i Dduw, can-molwch yr Arglwydd. Selah.
33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.
34 Rhoddwch I Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.
35 Ofnadwy wyt ô Dduw o'th gyssegr; Duw Israel yw efe, sydd yn rhoddi nerth, a chadernid i'r bobl; bendigedic fyddo Duw.
Psal. 69. Prydnhawnol Weddi.
AChub fi ô Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
2 Soddais mewn tom dyfn, lle nid oes scfyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a'r ffrŵd a lifodd trosof.
3 Blinais yn llefain, sychodd fy nghêg; pallodd fy llygaid; tra ydwyf yn disgwil wrth fy Nuw.
4 Amlach nâ gwallt fy mhen yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a'm difethent: yna y telais yr hyn ni chymmerais.
5 O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid yw fy nghamweddau guddiedic rhagot.
6 Na chywilyddier o'm plegit i, y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na wradwydder o'm plegit i, y rhai a'th geisiant ti, ô Dduw Israel.
7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y tôdd cywilydd fy wyneb.
8 Euthym yn ddieithr i'm brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.
9 Canys zêl dy dŷ a'm hyssodd, a gwradwyddiad y rhai a'th wradwyddent di a syrthiodd arnafi.
10 Pan wylais gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn wradwydd i mi.
11 Gwiscais hefyd sâch-liain, ac euthym yn ddihareb iddynt.
12 Yn fy erbyn y chwedleuei y rhai a eisteddent yn y porth; ac i'r meddwon yr oeddwn yn wawd.
13 Ond myfi, fy ngweddi sydd attat ti ô Arglwydd, mewn amser cymmeradwy: ô Dduw, yn lluosogrwydd dy drugaredd, gwrando fi, yngwirionedd dy iechydwriaeth.
14 Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf, gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion:
15 Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaued y pydew ychwaith ei safn arnaf.
16 Clyw fi Arglwydd, canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy wâs, canys y mae cyfyngder arnaf, bryssia, gwrando fi.
18 Nesá at fy enaid, a gwared ef; achub fi o herwydd fŷ ngelynion.
19 Ti adwaenost fy ngwarthrudd, a'm cywilydd, a'm gwradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.
20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon, yr ydwyf mewn gofid: a disgwiliais am rai i dosturio wrthif, ac nid oedd neb; ac am gyssur-wyr, ac ni chefais neb.
21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm diodasant yn fy syched â finegr.
22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'i llwyddiant yn dramgwydd.
23 Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw lwynau grynu bôb amser.
24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiawgrwydd dy ddigofaint hwynt.
25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll:
26 Canys erlidiasant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.
27 Dôd ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt, ac na ddelont i'th gyfiawnder di.
28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw: ac na scrifenner hwynt gyd â'r rhai cyfiawn.
29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iechydwriaeth di ô Dduw, am derchafo.
30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
31 A hyn fydd gwell gan yr Arglwydd nag ŷch, neu fustach corniog, carnol.
32 Y trueniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.
33 Canys gwrendy 'r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
34 Nefoedd, a daiar, y môr a'r hyn oll a ymlusco ynddo, molant ef.
35 Canys Duw a achub Sion, ac a adeilada ddinasoedd Juda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
36 A hiliogaeth ei weision a'i meddiannant hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
Psal. 70.
O Dduw pryssura i'm gwaredu, bryssia Arglwydd i'm cymmorth.
2 Cywilyddier, a gwarthruddier y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl, a gwradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant ha, ha.
4 Llawenyched, a gorfoledded ynot t'i y rhai oll a'th geisiant, a dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth yn wastad, mawryger Duw.
5 Minneu ydwyf dlawd ac anghenus, ô Dduw bryssia attaf, fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti ô Arglwydd, na hîr drig.
Psal. 71. Boreuol Weddi.
YNot ti ô Arglwydd, y gobeithiais, na'm cywilyddier byth.
2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust attaf, ac achub fi.
3 Bydd i mi 'n drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchymmynnaist fy achub, canys ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.
4 Gwared fi ô fy Nuw, o law 'r annuwiol, o law yr anghyfion, a'r traws.
5 Canys ti yw fy ngobaith, ô Arglwydd Dduw, fy ymddiried o'm ieuengctid.
6 Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r brû, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.
7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
8 Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.
9 Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
10 Canys fy ngelynion sydd yn [Page] dywedyd i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliant am fy enaid, a gydymgynghorant,
11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, erlidiwch, a deliwch ef: canys nid oos gwaredudd.
12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthif; fy Nuw, bryssia im cymmorth.
13 Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid; â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
14 Minneu a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwyfwy.
15 Fy ngenau-a fynega dy gyfiawnder, a'th iechydwriaeth beunydd: canys ni wn rifedi arnynt.
16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn vnic a gofiaf fi.
17 O'm ieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
18 Na wrthod fi ychwaith, ô Dduw, mewn henaint, a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob vn a ddelo.
19 Dy gyfiawnder hefyd ô Dduw, fydd vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion; pwy, ô Dduw, fydd debyg i ti?
20 Ti yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm by whei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaiar.
21 Amlhei fy mawredd, ac a'm cyssuri oddi amgylch.
22 Minneu a'th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, ô fy Nuw: canaf it â'r delyn, ô Sanct Israel.
23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a'm henaid, yr hwn a waredaist.
24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd, o herwydd cywilyddiwyd, a gwradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.
Psal. 72.
O Dduw, dôd i'r brenhin dy farnedigaethau: ac i fab y brenin dy gyfiawnder.
2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder: a'th drueiniaid â barn.
3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.
4 Efe a farn drueniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymmudd.
5 Tra fyddo haul a lleuad i'th ofnant, yn oes oesoedd.
6 Efe a ddescyn fel glaw ar gnû gwlân, fel cawodydd yn dyfrhau y ddaiar.
7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, ac amlder o heddwch fydd, tra fyddo lleuad.
8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaiar.
9 O'i flaen ef yr ymgrymma trigolion yr anialwch: a'i elynion a lyfant y llŵch.
10 Brenhinoedd Tarsis, a'r ynysoedd, a dalant anrheg; brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rôdd.
11 Ie 'r holl frenhinoedd a ymgrymmant iddo: yr holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef.
12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a'r hwn ni byddo cynnorthwy-wr iddo.
13 Efe a arbed y tlawd a'r rheidus: ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll, a thrawsder: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddiant hefyd trosto efe yn wastad: beunydd y clodforir ef.
16 Bydd dyrneid o ŷd ar y ddaiar, ym mhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a yscwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a fiodeuant, fel gwellt y ddaiar.
17 Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a bery tra fyddo haul: ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a'i galwant yn wynfydedig.
18 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd Dduw, Duw Israel; yr hwn yn unic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
19 Bendigedic hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd: a'r holl ddaiar a lanwer o'i ogoniant, Amen, ac Amen.
Psal. 73. Prydnhawnol Weddi.
YN ddiau da yw Duw i Israel; sef i'r rhai glân o galon.
2 Minnau braidd na lithrodd fy nhraed, prin na thrippiodd fy ngherddediad.
3 Canys cenfigennais wrrh y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth, a'i cryfder sydd heini.
5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialeddir arnynt hwy gyd â dynion eraill.
6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisc trawsder am danynt fel dilledyn.
7 Eu llygaid a saif allan gan frasder: aethant tros feddwl calon o gyfoeth.
8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawsder, yn dywedyd yn uchel.
9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd; a'i tafod a gerdd trwy 'r ddaiar.
10 Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwescir iddynt ddwfr phiol lawn.
11 Dywedant hefyd; pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
12 Wele, dymma y rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y bŷd: ac a amlhasant olud.
13 Diau mai yn ofer y glanhêais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.
14 Canys ar hyd y dydd i'm maeddwyd, fy ngherydd a ddeuai bôb boreu.
15 Os dywedwn. mynegaf fel hyn, wele â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
16 Pan amcenais wybod hyn, blîn oedd hynny yn fy ngolwg i.
17 Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt.
18 Diau osod o honot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo o honot hwynt i ddinistr.
19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd; pallâsant, a darfuant gan ofn.
20 Fel breuddwyd wrth ddihuno [Page] un, felly ô Arglwydd, pan ddeffroech y dirmygi eu gwedd hwynt.
21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon: ac i'm pigwyd yn fy arennau.
22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb ŵybod: anifail oeddwn o'th flaen di.
23 Etto yr ydwyf yn wastad gyd â thi: ymaslaist yn fy llaw ddehau.
24 A'th gyngor i'm harweini: ac wedi hynny i'm cymmeri i ogoniant.
25 Pwy sydd gennifi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd â thydi.
26 Pallodd fy ngnhawd a'm calon; ond nerth fy nghalon a'm rhan, yw Duw yn dragywydd.
27 Canys wele difethir y rhai a bellhânt oddi wrthit: torraist ymmaith bôb un a butteinio oddi wrthit.
28 Minneu, nessau at Dduw fydd dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i dreuthu dy holl weithredoedd.
Psal. 74.
PA ham Dduw i'n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
2 Cofia dy gynnulleidfa yr hon a brynaist gynt, a llwyth dy etifeddiaeth yr hon a waredaist: mynydd Sion hwn, y presswyli ynddo.
3 Dercha dy draed at anrhaith dragywyddol: sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y Cyssegr.
4 Dy elynion a ruasant ynghanol dy gynnulleidfaoedd: gosodasant eu banetau yn arwyddion.
5 Hynod oedd gwr, fel y codasai fwyill mewn dyrys-goed.
6 Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith, â bwyill ac â morthwylion.
7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogasant breswylfa dy Enw.
8 Dywedasant yn eu calonnau, cyd-anrheithiwn hwynt; lloscasant holl Synagogau Duw yn y tîr.
9 Ni welwn ein harwyddion, nid oes brophwyd mwy, nid oes gennym a wyr pa hŷd.
10 Pa hŷd Dduw, y gwarthrudda 'r gwrthwyneb-wr? a gabla 'r gelyn dy Enw yn dragywydd?
11 Pa ham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheu-law? tynn hi allan o ganol dy fonwes;
12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad; gwneuthur-wr iechydwriaeth o fewn y tîr.
13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr, drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
14 Ti a ddrylliaist ben Lefiathan, rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.
15 Ti a holltaist y ffynnon, a'r afon, ti a ddiyspyddaist afonydd cryfion.
16 Y dydd sydd eiddo ti, y nôs hefyd sydd eiddo ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.
17 Ti a osodaist holl derfynau 'r ddaiar; ti a luniaist hâf, a gayaf.
18 Cofia hyn, i'r gelyn gablu, ô Arglwydd, ac i'r bobl yn fyd ddifenwi dy Enw.
19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa y gelynion, nac anghofia gynnulleidfa dy drueniaid byth.
20 Edrych ar y cyfammod, canys llawn yw tywyll-leoedd y ddaiar o drigfannau trawster.
21 Na ddychweled y tlawd yn wradwyddus, molianned y truan, a'r anghenus dy Enw.
22 Cyfod ô Dduw, dadleu dy ddadl, cofia dy wradwydd gan yr ynfyd beunydd.
23 Nac anghofia lais dy elynion; dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn, sydd yn dringo yn wastadol.
Psal. 75. Boreuol Weddi.
GLodforwn dydi ô Dduw, clodforwn, canys agos yw dy Enw: dy ryfeddodau a fynegant hynny.
2 Pan dderbyniwyf y gynnulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.
3 Ymddattododd y ddaiar, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Selah.
4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, nac ynfydwch: ac wrth y rhai annuwiol, na dderchefwch eich corn.
5 Na dderchefwch eich corn yn uchel, na ddywedwch yn warsyth.
6 Canys nid o'r dwyrain nac o'r gorllewin, nac o'r dehau, y daw goruchafiaeth.
7 Ond Duw fydd yn barnu, efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
8 Oblegit y mae phiol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwin sydd gôch, yn llawn cymmysc, ac efe a dywalltodd o hwnnw: etto holl annuwolion y tîr a wascant, ac a yfant ei waelodion.
9 Minneu a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Iacob.
10 Torraf hefyd holl gryn y rhai annuwiol, a chyrn y rhai cyfiawn a dderchefir.
Psal. 76.
HYnod yw Duw yn Iuda, mawr yw ei Enw ef yn Israel.
2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a'i drigfa yn Sion.
3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y tarian, y cleddyf hefyd a'r frwydr. Selah.
4 Gogoneddusach wyt, a chadarnach, nâ mynyddoedd yr yspail.
5 Yspeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hûn; a'r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.
6 Gan dy gerydd di ô Dduw Iacob, y rhoed y cerbyd a'r march i gyscu.
7 Tydi, tydi wyt ofnadwy, a phwy a saif o'th flaen, pan ennynno dy ddigter?
8 O'r nefoedd y peraist glywed barn, ofnodd, a gostegodd y ddaiar;
9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tîr. Selah.
10 Diau cynddaredd dŷn a'th folianna di, gweddill cynddaredd a waherddi.
11 Addunedwch, a thelwch i'r Arglwydd eich Duw; y rhai oll ydynt o'i amgylch ef, dygant anrheg i'r ofnadwy.
12 Efe a dyrr ymmaith yspryd tywysogion, y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaiar.
Psal. 77.
A'm llef y gwaeddais ar Dduw: â'm llef ar Dduw, ac efe a'm gwrandawodd.
2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nôs, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.
3 Cofiais Dduw, ac a'm cythryblwyd, cwynais a therfyscwyd fy yspryd. Selah.
4 Deliaist fy llygaid yn neffro, synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.
5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hên oesoedd.
6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nôs, yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon: fy yspryd fydd yn chwilio yn ddyfal.
7 Ai yn dragywydd y bwrw 'r Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?
8 A ddarfu ei drugaredd ef tros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
9 A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Selah.
10 A dywedais, dymma fy ngwendid, etto cofiaf flynyddoedd deheu-law y Goruchaf.
11 Cofiaf weithred oedd yr Arglwydd; ie cofiaf dy wrthiau gynt.
12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith: ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
13 Dy ffordd ô Dduw, sydd yn y cyssegr; pa Dduw mor fawr a'n Duw ni?
14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyseddodau, dangosaist dy nerth ym mysc y bobloedd.
15 Gwaredaist â'th fraich dy bobl, meibion Iacob, a Ioseph. Selah.
16 Y dyfroedd a'th welsant o Dduw, y dyfroedd a'th welsant; hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.
17 Y cwmylau a dywalltasant ddwfr, yr wybrennau a roddasant dwrwf: dy saethau hefyd a gerddasant.
18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch; mellt a oleuasant y bŷd: cyffrôdd, a chrynodd y ddaiar.
19 Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd mawrion: ac nid adweinir dy ôl.
20 Tywysaist dy bobl fel defaid, drwy law Moses, ac Aaron.
Psal. 78. Prydnhawnol Weddi.
GWrando fy nghyfraith fy mhobl, gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb, traethaf ddammegion o'r cynfyd.
3 Y rhai a glywsom ac a wybûom, ac a fynegodd ein tadau i ni.
4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd a'i nerth, a'i ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe.
5 Canys efe a siccrhaodd dystiolaeth yn Iacob, ac a osododd gyfraith yn Israel: y rhai a orchymynnodd efe i'n tadau eu dyscu iw plant.
6 Fel y gwybyddei'r oes a ddêl, sef y plant a enid, a phan gyfodent, y mynegent hwy iw plant hwythau.
7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynnion ef.
8 Ac na byddent fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn, a gwrthryselgar, yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon gydâ Duw.
9 Meibion Ephraim yn arfog, ac yn saethu â bŵa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
10 Ni chadwasant gyfammod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei Gyfraith ef.
11 Ac anghofiasant ei weithredoedd, a'i ryfeddodau, y rhai a ddangosasei efe iddynt.
12 Efe a wnaethei wrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aipht, ym maes Zoan.
13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pen-twr.
14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmmwl, ac ar hŷd y nos â goleuni tân.
15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch, a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17 Er hynny chwanegasant etto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffaethwch:
18 A themptiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blŷs.
19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw, dywedasant, a ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch.
20 Wele, efe a darawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd: a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gîg iw bobl?
21 Am hynny y clybu 'r Arglwydd, ac y digiodd, a thân a ennynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gynneuodd yn erbyn Israel.
22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iechydwriaeth ef.
23 Er iddo ef orchymmyn i'r wybrennau oddi uchod, ac egoryd drysau y nefoedd:
24 A glawio Manna arnynt iw fwytta: a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25 Dŷn a fwyttaodd fara angelion, anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26 Gyrrodd y dwyrein-wynt yn y nefoedd: ac yn ei nerth y dûg efe ddeheu-wynt.
27 Glawiodd hefyd gîg arnynt, fel llwch: ac adar ascelloc fel tywod y môr.
28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu presswylfeydd.
29 Felly y bwyttasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt, ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.
30 Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant, er hynny tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
31 Digllonedd Duw a gynneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf o honynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
32 Er hyn oll pechasant etto, ac ni chredasant iw ryfeddodau ef.
33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'i blynyddoedd mewn dychryn.
34 Pan laddei efe hwynt, hwy [Page] a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn foreu;
35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu gwaredudd.
36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef à'i genau, a dywedyd celwydd wrtho â'i tafod:
37 A'i calon heb fod yn uniawn gyd ag ef, na'i bod yn ffyddlon yn ei gyfammod ef.
38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie trôdd ŷmaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyff [...]ôdd ei holl lîd.
39 Canys efe a gofiei mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?
41 Iê troesant, a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42 Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43 Fel y gosodasei efe ei arwyddion yn yr Aipht, a'i ryfeddodau ym maes Zoan:
44 Ac y troesei eu hafonydd yn waed: a'i ffrydau fel na allent yfed.
45 Anfonodd gymmysc-bla yn eu plith, yr hon a'i difâodd hwynt: a llyffaint iw difetha.
46 Ac efe a roddodd eu cnŵd hwynt i'r lindys, a'i llafur i'r locust.
47 Destrywiodd eu gwin-wŷdd â chenllysc, a'i Sycomor-wŷdd â rhew.
48 Rhoddodd hefyd eu haniseiliaid i'r cenllysc, a'i golud i'r mellt.
49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiawgrwydd, a digter, a chyfyngder, trwy anfon angelion drwg.
50 Cymmhwysodd ffordd iw ddigofaint, nid attaliodd eu henaid oddi wrth angeu: ond eu bywyd a roddodd efe i'r haint.
51 Tarawodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn yr Aipht, sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham.
52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a'i harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a'r môr a orchguddiodd eu gelynion hwynt.
54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd: i'r mynydd hwn a ennillodd ei ddeheulaw ef.
55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'i blaen hwynt, ac a rannodd iddynt ettifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56 Er hynny temptiasant a digiasant Dduw goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau; troesant fel bŵa twyllodrus.
58 Digiasant ef hefyd â'i huchel-fannau: a gyrrasant eiddigedd arno â'i cerfiedic ddelwau.
59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
60 Fel y gadawodd ef dabernacl Siloh, y babell a ofodasei efe ym mysc dynion:
61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydferthwch yn llaw'r gelyn.
62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf, a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
63 Tân a yssodd eu gwyr ieuaingc, a'i morwynion ni phriodwyd.
64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf, a'i gwragedd gweddwon nid ŵylasant.
65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gyscu: fel cadarn yn bloeddio gwedi gwîn.
66 Ac efe a darawodd ei elynion o'r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragywyddol.
67 Gwrthododd hefyd babell Joseph, ac ni etholodd lwyth Ephraim:
68 Ond efe a etholodd lwyth Juda, mynydd Sion, yr hon a hoffodd.
69 Ac a adeiladodd ei gyssegr fel llŷs uchel: fel y ddaiar, yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
70 Etholodd hefyd Ddafydd ei wâs, ac a'i cymmerth o gorlannau y defaid.
71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron, y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etiseddiaeth.
72 Yntef a'i porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon, ac a'i trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
Psal. 79. Boreuol Weddi.
Y Cenhedloedd, ô Dduw, a ddaethant i'th etifeddiaeth, halogasant dy Deml sanctaidd; gosodasant Ierusalem yn garneddau.
2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chîg dy sainct i fwyst-filod y ddaiar.
3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerusalem, ac nid oedd a'i claddei.
4 Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymmydogion, dirmyg a gwatwargerdd i'r rhai sydd o'n hamgylch.
5 Pa hŷd Arglwydd, a ddigi di'n dragywydd? a lysc dy eiddigedd di fel tân?
6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni'th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw
7 Canys yssasant Jacob, ac a wnaethant ei bresswylfa yn anghyfannedd.
8 Na chofia'r anwireddau gynt i'n herbyn; bryssia rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesc iawn i'n gwnaethbwyd.
9 Cynnorthwya ni, ô Dduw ein iechydwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarhâ wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.
10 Pa ham y dywed y cenhedloedd, pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hyspys ym mhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddialgwaed dy weision, yr hwn a dywalltwyd.
11 Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron, yn ôl mawredd dy nerth: cadw blant marwolaeth.
12 A thâl i'n cymmydogion ar y seithfed iw monwes eu cabledd, drwy'r hon i'th gablasant di, ô Arglwydd.
13 A ninneu dy bobl, a desaid dy borfa, a'th foliannwn di yn dragywydd: dadcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.
Psal. 80.
GWrando ô fugall Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseph [Page] fel praidd: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd rhwng y Cerubiaid.
2 Cyfod dy nerth o flaen Ephraim, a Benjamin, a Manasseh, a thyred yn iechydwriaeth i ni.
3 Dychwel ni ô Dduw, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.
4 O Arglwydd Dduw'r lluoedd, pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?
5 Porthaist hwynt â bara dagrau, a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymmydogion, a'n gelynion a'n gwatwarent yn eu mysc eu hun.
7 O Dduw 'r lluoedd dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.
8 Mudaist win-wydden o'r Aipht, bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
9 Arloesaist o'i blaen, a pheraist iw gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tîr.
10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chyscod: a'i changhennau oedd fel cedr-wŷdd rhagorol.
11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, ai blagur hyd yr afon.
12 Pa ham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hŷd y ffordd, ei grawn hi?
13 Y baedd o'r coed a'i turria, a bwyst-fil y maes a'i pawr.
14 O Dduw 'r lluoedd, dychwel attolwg: edrych o'r nefoedd a chenfydd, ac ymwel â'r winwydden hon;
15 A'r winllan a blannodd dy ddeheu-law, ac â'r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
16 Lloscwyd hi â than, torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheu-law: a thros fâb dyn, yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.
18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrth it ti; bywhâ ni, ac ni a alwn ar dy enw.
19 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, dychwel ni: llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.
Psal. 81.
CEnwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.
2 Cymmerwch psalm, a moeswch dympan, y delyn fwyn, a'r nabl.
3 Vd-cenwch vdcorn ar y lloer newydd, ar yr amser nodedic, yn nydd ein vchelwyl.
4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.
5 Efe a'i gosododd yn dystiolaeth yn Joseph: pan aeth efe allan trwy dîr yr Aipht, lle y clywais iaith ni ddeallwn.
6 Tynnais ei yscwydd oddi wrth y baich; ei ddwylo a ymadawsant â'r crochanau.
7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran, profais di wrth ddyfroedd Meribah. Selah.
8 Clyw sy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti Israel, os gwrandewi arnaf.
9 Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ymgrymma i Dduw dieithr.
10 Myfi 'r Arglwydd dy Dduw, yw 'r hwn a'th ddûg di allan o dîr yr Aipht: lleda dy safn, ac mi a'i llanwaf.
11 Ond ni wrandawai fy mhobl [...]r fy llêf, ac Israel ni'm mynnai.
12 Yna y gollyngais hwynt yng [...]yndynrwydd eu calon, aethant [...]rth eu cyngor eu hunain.
13 Oh na wrandawsei fy mhobl [...]rnaf: na rodiasai Israel yn fy fyrdd.
14 Buan y gostyngaswn eu ge [...]ynion: ac y troeswn fy llaw 'n [...]rbyn eu gwrthwyneb-wŷr.
15 Caseion yr Arglwydd a gymmerasant arnynt ymostwng iddo ef, a'i hamser hwythau fuasai 'n dragywydd.
16 Bwydasai hwynt hefyd â brasder gwenith: ac â mêl o'r graig i'th ddiwallaswn.
Psal. 82. Prydnhawnol Weddi.
DUw sydd yn sefyll ynghynnulleidfa y galluog: ym mhlith y duwiau y barn efe.
2 Pa hŷd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Selah.
3 Bernwch y tlawd a'r ymddifad; cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidu [...].
4 Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
5 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaiar a symmudwyd o'i lle.
6 Myfi a ddywedais; duwiau ydych chwi, a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel vn o'r tywysogion y syrthiwch.
8 Cyfod ô Dduw, barna 'r ddaiar, canys ti a etifeddi'r holl genhedloedd.
Psal. 83.
O Dduw, na ostega, na thaw, ac na fydd lonydd, ô Dduw.
2 Canys wele dy clynion sydd yn terfyscu, a'th gaseion yn cyfodi eu pennau.
3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgynghorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
4 Dywedasant, deuwch, a difethwn hwynt, fel na byddont yn genhedl, ac na chefier enw Israel mwyach.
5 Canys ymgynghorasant yn yn-fryd, ac ym wnaethant i'th erbyn.
6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid, y Moabiaid, a'r Hagariaid.
7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec, y Philistiaid, gyd â phresswyl-wŷr Tyrus.
8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fraich i blant Lot. Selah.
9 Gwna di iddynt sel i Midian, megis i Sisara, megis i Jabin, wrth afon Cison.
10 Yn Endor y difethwyd hwynt, aethant yn dail i'r ddaiar.
11 Gwna eu pendefigion fel O [...]eb, ac sel Zeeb, a'i holl dywysogion fel Zebah, ac fel Salmunnah.
12 Y rhai a ddywedasant, cymmerwn i ni gyfanneddau Duw i'w meddiannu.
13 Gosod hwynt, ô sy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14 Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd:
15 Felly erlid ti hwynt â'th demhestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.
16 Llanw eu hwynebau â gwarth, fel y ceisiont dy Enw ô Arglwydd.
17 Cywilyddier, a thralloder hwynt yn dragywydd: iê gwradwydder, a difether hwynt:
18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn vnic wyt Jehofa wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaiar.
Psal. 84.
MOr hawddgar yw dy bebyll di, ô Arglwydd y lluoedd!
2 Fy enaid a hiraetha, iê ac a flysia am gynteddau 'r Arglwydd: fy nghalon, a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.
3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesyd ei chywion: sef dy allorau di, ô Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.
4 Gwynfŷd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i'th foliannant. Selah.
5 Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, a'th ffyrdd yn eu calon.
6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Baca, a'i gwnant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.
7 Ant o nerth i nerth: ymddengys pob vn ger bron Duw yn Sion.
8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, ô Dduw Jacob. Selah.
9 O Dduw ein tarian, gwel, ac edrych ar wyneb dy enneiniog.
10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di nâ mîl: dewiswn gadw drws yn nh ŷ sy Nuw, o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb.
11 Canys haul, a tharian yw 'r Arglwydd Dduw: yr Arglwydd â rydd râs a gogoniant: ni attal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
12 O Arglwydd y lluoedd, gwynfŷd y dyn a ymddiried ynot.
Psal. 85.
GRas-lawn fuost ô Arglwydd, i'th dîr: dychwelaist gaethiwed Jacob.
2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Selah.
3 Tynnaist ymmaith dy holl lid; troist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.
4 Trô ni ô Dduw ein iechydwriaeth: a thorr ymmaith dy ddigofaint wrthym.
5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy sorriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
6 Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd: a dôd i ni dy iechydwriaeth.
8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw; canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw Sainct; ond na throant at ynfydrwydd.
9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant: fel y trigo gogoniant yn ein tîr ni.
10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant: cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.
11 Gwirionedd a dardda o'r ddaiar; a chyfiawnder a edrych i lawr o'r nefoedd.
12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni, a'n daiar a rydd ei chnŵd.
13 Cyfiawnder â o'i flaen ef, ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
Psal. 86. Boreuol Weddi.
GOstwng, ô Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.
2 Cadw fy enaid, canys sanctaidd ydwyf: achub dy wâs, ô fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
3 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y llefaf beunydd.
4 Llawenhâ enaid dy wâs, canys attat y derchafaf fy enaid.
5 Canys ti ô Arglwydd ydwyt dda, a maddeugar: ac o fawr drugaredd i'r rhai oll a alwant arnat.
6 Clyw Arglwydd, fy ngweddi, ac ymwrando â llais fy ymbil.
7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi.
8 Nid oes fel tydi ym mysc y duwiau, ô Arglwydd: na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.
9 Yr holl genhedloedd, y rhai a wnaethost, a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, ô Arglwydd; ac a ogoneddant dy Enw.
10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn vnic wyt Dduw.
11 Dysc i mi dy ffordd ô Arglwydd, mi a rodiaf yn dy wirionedd: vna fy nghalon i ofni dy Enw.
12 Moliannaf di ô Arglwydd fy Nuw, â'm holl galon: a gogoneddaf dy Enw yn dragywydd.
13 Canys mawr yw dy drugaredd tu ag attafi, a gwaredaist fy enaid o vffern issod.
14 Rhai beilchion a gyfodasant i'm herbyn, ô Dduw, a chynnulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid, ac ni'th osodasant di ger eu bron.
15 Eithr ti ô Arglwydd, wyt Dduw trugarog, a gras-lawn; hwyrfrydic i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.
16 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: dyro dy nerth i'th wâs, ac achub fab dy wasanaeth-ferch.
17 Gwna i mi arwydd er daioni, fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwradwydder hwynt; am i ti, ô Arglwydd, fy nghynnorthwyo a'm diddanu.
Psal. 87.
EI sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.
2 Yr Arglwydd a gâr byrth Sion, yn fwy nâ holl bresswylfeydd Jacob.
3 Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti, ô ddinas Dduw, Selah.
4 Cofiaf Rahab a Babylon wrth fy nghydnabod: wele Philistia a Thyrus ynghyd ag Ethiopia; yno y ganwyd hwn.
5 Ac am Sion y dywedir, ŷ gwr a'r gŵr a anwyd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i siccrhâ hi.
6 Yr Arglwydd a gyfrif pan scrifenno y bobl, eni hwn yno. Selah.
7 Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
Psal. 88.
O Arglwydd Dduw fy iechydwriaeth, gwaeddais o'th flaen ddydd a nôs.
2 Deued fy ngweddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy llefain.
3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau, a'm henioes a nessâ i'r beddrod.
4 Cyfrifwyd fi gyd â'r rhai a ddescynnent i'r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth:
5 Yn rhydd ym mysc y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd [Page] mewn bedd: y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.
6 Gosodaist fi yn y pwll issaf: mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.
7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â'th holl donnau i'm cystuddiaist. Selah.
8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthif, gwnaethost fi yn ffieidddra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.
9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd, llefais arnat Arglwydd beunydd: estynnais fy nwylo attat.
10 Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a'th foliannu di? Selah.
11 A dreuthir dy drugaredd mewn bedd? a'th wirionedd yn nestryw?
12 A adwaenir dy ryseddod yn y tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhîr anghof.
13 Ond myfi a lefais arnat Arglwydd: yn foreu yr achub fyngweddi dy flaen.
14 Pa ham Arglwydd y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthif?
15 Truan ydwyfi, ac ar drangcedigaeth o'm hieuengctid, dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
16 Dy soriant a aeth trosof, dy ddychrynnedigaethau a'm torrodd ymmaith.
17 Fel dwfr i'm cylchynasant beunydd: ac i'm cyd-amgylchasant.
18 Câr a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthif, a'm cydnabod i dywyllwch.
Psal. 89. Prydnhawnol Weddi.
TRugareddau 'r Arglwydd a ddatcanaf byth, â'm genau y mynegaf dy wirionedd, o genhedlaeth hyd genhedlaeth.
2 Canys dywedais adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y siccrhei dy wirionedd.
3 Gwneuthum ammod â'm etholedig, tyngais i'm gwâs Dafydd.
4 Yn dragywydd y siccrhâf dy hâd ti: o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfaingc di. Selah.
5 A'r nefoedd, ô Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod, a'th wirionedd ynghynnulleidfa y Sainct.
6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â'r Arglwydd? pwy a gyffelybir i'r Arglwydd ym mysc meibion y cedyrn?
7 Duw sydd ofnadwy iawn ynghynnulleidfa 'r Sainct: ac iw arswydo ŷn ei holl amgylchoedd.
8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Ior? a'th wirionedd o'th amgylch?
9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr; pan gyfodo ei donnau, ti a'i gostegi.
10 Ti a ddrylliaist yr Aipht, fel vn lladdedic: drwy nerth dy fraich y gwasceraist dy elynion.
11 Y nefoedd ydynt eiddo ti, a'r ddaiar sydd eiddo ti: ti a seiliaist y bŷd a'i gyflawnder.
12 Ti a greaist ogledd a dehau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy Enw.
13 Y mae i ti fraich, a chadernid; cadarn yw dy law, ac vchel yw dy ddeheu-law.
14 Cyfiawnder, a barn yw trigfa dy orseddfaingc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
15 Gwyn ei fŷd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb ô Arglwydd, y rhodiant hwy.
16 Yn dy Enw di y gorfoleddant beunydd, ac yn dy gyfiawnder yr ymdderchafant.
17 Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y derchefir ein corn ni.
18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian: a Sanct Israel yw ein Brenin.
19 Yna 'r ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th sainct, ac a ddywedaist, gosodais gymmorth ar yn cadarn: derchefais vn etholedic o'r bobl.
20 Cefais Ddafydd fy ngwasanaeth-wr: enneiniais ef â'm holew sanctaidd.
21 Yr hwn y siccrheir fy llaw gyd ag ef: a'm braich a'i nertha ef.
22 Ni orthrymma y gelyn ef, a'r mâb anwir nis cystudia ef.
23 Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen, a'i gaseion a darawaf.
24 Fy ngwirionedd hefyd, a'm trugaredd fydd gyd ag ef: ac yn fy Enw y derchefir ei gorn ef.
25 A gosodaf ei law yn y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.
26 Efe a lefa arnaf, ti yw fy Nhâd, fy Nuw, a chraig fy iechydwriaeth.
27 Minneu a'i gwnâf yntef yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaiar.
28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd: a'm cyfammod fydd siccr iddo.
29 Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: a'i orseddfaingc fel dyddiau y nefoedd.
30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith: ac ni rodiant yn fy marnedigaethau.
31 Os fy neddfau a halogant: a'm gorchymynion ni chadwant,
32 Yna mi a ymwelaf â'u camwedd â gwialen, ac â'i hanwiredd â ffrewyllau.
33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho: ac ni phallaf o'm gwirionedd.
34 Ni thorraf fy nghyfammod: ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.
35 Tyngais vnwaith i'm sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Ddafydd.
36 Bydd ei hâd ef yn dragywydd: a'i orsedd-faingc fel yr haul ger fy mron i.
37 Siccrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tŷst ffyddlon yn y nêf. Selah.
38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy enneiniog.
39 Diddymmaist gyfammod dy wâs, halogaist ei goron gan ei thaflu i lawr.
40 Drylliaist ei holl gaeau ef, gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
41 Yr holl fforddolion a'i hyspeiliant ef: aeth yn warthrudd iw gymydogion.
42 Derchefaist ddeheu-law ei wrthwynebwŷr, llawenheaist ei holl elynion.
43 Troist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
44 Peraist iw harddwch ddarfod, [Page] a bwriaist ei orsedd-faingc i lawr.
45 Byrhêaist ddyddiau ei ieuengctid, toaist gywilydd trosto ef. Selah.
46 Pa hŷd Arglwydd yr ymguddi, ai yn dragywydd? a lysc dy ddigofaint di fel tân?
47 Cofia pa amser sydd i mi: pa ham y creaist holl blant dynion yn ofer?
48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law'r bedd? Selah.
49 Pa le y mae dy hên drugareddau ô Arglwydd, y rhai a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?
50 Cofia ô Arglwydd wradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion.
51 A'r hwn y gwradwyddodd dy elynion ô Arglwydd; â'r hwn y gwradwyddasant ôl troed dy enneiniog.
52 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.
Psal. 90. Boreuol Weddi.
TI Arglwydd fuost yn breswylfa i ni ym-mhôb cenhedlaeth:
2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio o honot y ddaiar, a'r bŷd; ti hefyd wyt Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb.
3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, dychwelwch feibion dynion.
4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r êl heibio, ac fel gwiliadwriaeth nôs.
5 Dygi hwynt ymmaith megis â llifeiriant, y maent fel hûn: y borau y maent fel llyssieun a newidir.
6 Y boreu y blodeua ac y tŷf: pryd-nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.
7 Canys yn dy ddîg y difethwyd ni, ac yn dy lidiawgrwydd i'n brawychwyd.
8 Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yngoleuni dy wyneb.
9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di; treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.
10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae dengmhlynedd a thrugain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar vgain mhlynedd, etto eu nerth sydd boen, a blinder: canys ebrwydd y derfydd, ac ni a ehedwn ymmaith.
11 Pwy a edwyn nerth dy sorriant: canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddigter.
12 Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
13 Dychwel Arglwydd, pa hyd? ac edifarhâ o ran dy weision.
14 Diwalla ni yn foreu â'th drugaredd, fel y gorfoleddom, ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
15 Llawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
16 Gweler dy waith tu ag at dy weision: a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy.
17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni; a threfna weithred ein dwylo ynom ni, ie trefna waith ein dwylo.
Psal. 91.
YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf a erys ynghyscod yr Holl-alluoc.
2 Dywedaf am yr Arglwydd, fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw; fy Nuw, ynddo yr ymddiriedaf.
3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr: ac oddi wrth haint echryslon.
4 A'i ascell y cyscoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian, ac astalch i ti.
5 Nid ofni rhag dychryn nôs; na rhag y saeth a ehetto 'r dydd.
6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch, na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.
7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a dengmil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.
8 Yn vnig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a wêli dâl y rhai annuwiol.
9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn bresswylfa i ti:
10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th babell.
11 Canys efe a orchymyn iw Angelion am danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
12 Ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garreg.
13 Ar y llew, a'r asp y cerddi: y cenew llew, a'r ddraig a sethri.
14 Am iddo roddi ei serch arnaf: am hynny y gwaredaf ef: am iddo adnabod fy Enw.
15 Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
16 Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth.
Psal. 92.
DA yw moliannu'r Arglwydd: a chanu mawl i'th Enw di, y Goruchaf:
2 A mynegi y boreu am dy drugaredd, a'th wirionedd y nosweithiau.
3 Ar ddec-tant, ac ar nabl, ac ar delyn yn fyfyriol.
4 Canys llawenychaist fi ô Arglwydd, â'th weithred: yngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.
5 Mor fawredic ô Arglwydd, yw dy weithredoedd, dwfn iawn yw dy feddyliau.
6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r ynfyd ni ddeall hyn.
7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, a blaguro holl weithredwŷr anwiredd, hynny sydd iw dinistrio byth bythoedd.
8 Titheu Arglwydd wyt dderchafedic yn dragywydd.
9 Canys wele dy elynion ô Arglwydd, wele dy elynion, a ddifethir: gwascerir holl weithredwŷr anwiredd.
10 Ond fy nghorn i a dderchefi fel vnicorn, ac olew îr i'm enneinir.
11 Fy llygad hefyd a w [...]l fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwŷr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i'm herbyn.
12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden, ac a gynnydda fel cedrwŷdden yn Libanus.
13 Y rhai a blannwyd yn nh ŷ 'r Arglwydd, a flodeuant, ynghynreddoedd ein Duw.
14 Ffrwythant etto yn eu henaint, [Page] tirfion, ac iraidd fyddant.
15 I fynegi mai vniawn yw 'r Arglwydd fy nghraig: ac nad oes anwlredd ynddo.
Psal. 93. Prydnhawnol Weddi.
YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wiscodd ardderchawgrwydd, gwiscodd yr Aglwydd nerth ac ymwregysodd: y bŷd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
2 Darparwyd dy orsedd-faingc erioed: ti wyt er tragywyddoldeb.
3 Y llifeiriaint ô Arglwydd, a dderchafasant, y llifeiriaint a dderchafasant eu twrwf: y llifeiriaint a dderchafasant eu tonnau.
4 Yr Arglwydd yn yr vcheler sydd gadarnach nâ thwrwf dyfroedd lawer, nâ chedyrn donnau y môr.
5 Siccr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddei i'th dŷ ô Arglwydd, byth.
Psal. 94.
O Arglwydd Dduw 'r dial, ô Dduw'r dial, ymddiscleiria.
2 Ymddercha farnwr y bŷd: tâl eu gwobr i'r beilchion.
3 Pa hyd Arglwydd y caiff yr annuwolion: pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?
4 Pa hyd y siaradant, ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithred-wŷr anwiredd?
5 Dy bobl Arglwyad a ddrylliant: a'th etifeddiaeth a gystuddiant.
6 Y weddw a'r dieithra laddant, a'r ymddifad a ddieneidiant.
7 Dywedant hefyd, ni wêl yr Arglwydd: ac nid ystyria Duw Jacob hyn.
8 Ystyriwch chwi rai annoeth ym mysc y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
9 Oni chlyw 'r hwn a blannodd y glûst: oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
10 Oni cheryd da 'r hwn a gospa y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddŷn.
11 Gŵyr yr Arglw ydd feddyliau dŷn, mai gwagedd ydynt.
12 Gwyn ei fŷd y gŵr a geryddi di ô Arglwydd; ac a ddysci yn dy gyfraith;
13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd; hyd oni chloddir ffôs i'r annuwiol.
14 Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder, a'r holl rai vniawn o galon a ânt ar ei ôl.
16 Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithredwŷr an wiredd?
17 Oni buasei 'r Arglwydd yn gymmorth i mi, braidd na thrigasei fy enaid mewn distawrwydd.
18 Pan ddywedais, llithrodd fy nhroed, dy drugaredd di ô Arglwydd, a'm cynhaliodd.
19 Yn amlder fy meddyliau om mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfaingc anwiredd: yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.
22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffynfa i mi, a'm Duw yw craig fy nodded.
23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'i tyrr ymmaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'i tyrr hwynt ymmaith.
Psal. 95. Boreuol Weddi.
DEuwch, canwn i'r Arglwydd; ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â Psalmau.
3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, â brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaiar yn ei law: ac vchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
5 Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sych-dir.
6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymmwn: gostyngwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr.
7 Canys efe yw ein Duw ni, a ninneu ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law; heddyw os gwrandewch ar ei leferydd,
8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, sel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
9 Pan demptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
10 Deugain mhlynedd yr ymrysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy: ac nid adnabuant fy ffyrdd.
11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llîd, na ddelent i'm gorphywysfa.
Psal. 96.
CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: cenwch i'r Arglwydd, yr holl ddaiar.
2 Cenwch i'r Arglwydd, bendigwch ei enw: cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.
3 Dadcenwch ym mysc y cenhedloedd ei ogoniant ef, ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
4 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn, ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
5 Canys holl dduwiau 'r bobloedd ydynt eulynnod, ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
6 Gogoniant, a harddwch sydd o'i flaen ef, nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.
7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd; rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant a nerth.
8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.
9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaiar ofnwch ger ei fron ef.
10 Dywedwch ym mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu: a'r bŷd a siccrhaodd efe, fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn vniawn.
11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaiar: rhûed y môr a'i gyflawnder.
12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau 'r coed a ganant,
13 O flaen yr Arglwydd; Canys y mae yn dyfod, canys y mae n dyfod i farnu 'r ddaiar: efe a farna 'r bŷd drwy gyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.
Psal. 97.
YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaiar, llawenyched ynysoedd lawer.
2 Cymmylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef: cyfiawnder, a barn yw trigfa ei orsedd-faingc ef.
3 Tân â allan o'i flaen ef, ac a lysc ei elynion o amgylch.
4 Ei fellt a lewyrchasant y byd, y ddaiar a welodd, ac a grynodd.
5 Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.
6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: a'r holl bobl a welant ei ogoniant.
7 Gwradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedic, y rhai a ymffrostiant mewn eulynnod: addolwch ef yr holl dduwiau.
8 Sion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Juda a orfoleddasant; o herwydd dy farnedigaethau di, ô Arglwydd.
9 Canys ti Arglwydd wyt oruchel goruwch yr holl ddaiar: dirfawr i'th dderchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe, a'i gwared o law y rhai annuwiol.
11 Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon.
12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd a moliennwch wrth goff [...]dwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
Psal. 98. Prydnhawnol Weddi.
CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd, canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw, a'i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.
2 Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth, dat-cuddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.
3 Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.
4 Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
5 Cenwch i'r Arglwydd, gyd â'r delyn, gyd â'r delyn â llêf Psalm.
6 Ar utcyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.
7 Rhûed y môr a'i gyflawnder, y bŷd a'r rhai a drigant o'i fewn.
8 Cured y llifeiriant eu dwylo: a chydganed y mynyddoedd.
9 O flaen yr Arglwydd, canys y mae'n dyfod i farnu y ddaiar: efe a farna'r bŷd â chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.
Psal. 99.
YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y Cerubiaid, ymgynnhyrfed y ddaiar.
2 Mawr yw'r Arglwydd yn Sion, a derchafedic yw efe goruwch yr holl bobloedd.
3 Moliannant dy Enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.
4 A nerth y brenin a hoffa [Page] farn, ti a siccrhei uniondeb; barn, a chyfiawnder a wnai di yn Jacob.
5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch o flaen ei stôl draed ef; canys sanctaidd yw.
6 Moses ac Aaron ym mhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ym mysc y rhai a alwant ar ei Enw, galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a'i gwrandawodd hwynt.
7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmmwl, cad wasant ei dystiolaethau, a'r Ddeddf a roddodd efe iddynt.
8 Gwrandewaist arnynt, ô Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie pan ddielit am eu dychymmygion.
9 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch ar ei fynydd sanctaidd; canys sanctaidd yw 'r Arglwydd ein Duw.
Psal. 100.
CEnwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar:
2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flâen ef â chân.
3 Gwybyddwch mai 'r Arglwydd sydd Dduw; ef a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
4 Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac iw gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei Enw.
5 Canys da yw 'r Arglwydd; ei drugaredd sydd yn dragywydd; a'i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
Psal. 101.
CAnaf am drugaredd a barn: i ti Arglwydd y canaf.
2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith: pa bryd y deui attaf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon, o fewn fy nhŷ.
3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid, câs gennif waith y rhai cildynnus, ni lŷn wrthif fi.
4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthif, nid adnabyddaf ddŷn drygionus.
5 Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gymmydog yn ddirgel; yr uchel o olwg, a'r balch ei galon, ni allaf ddioddef.
6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tîr, fel y trigont gyd â mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a'm gwasanactha i.
7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fyngolwg yr un a ddywedo gelwydd.
8 Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwolion y tir,; i ddiwreiddio holl weithredwŷr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
Psal. 102. Boreuol Weddi.
ARglwydd clyw fy ngweddi, a deled fy llêf attat.
2 Na chûdd dy wyneb oddiwrthif, yn nydd fy nghyfyngder gostwng dy glûst attaf: yn y dydd y galwyf, bryssia, gwrando fi.
3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mŵg: am hescyrn a boethasant fel aelwyd.
4 Fy nghalon a darawyd, ac a wywodd fel llyssieun: fel yr anghofiais fwytta fy mara.
5 Gan lais fy nhuchan y glŷnodd fy escyrn wrth fy ngnhawd.
6 Tebyg wyf i belican yr anialwch, [Page] ydwyf fel dylluan y diffaethwch.
7 Gwiliais, ac ydwyf fel aderyn y tô, vnic ar ben y tŷ.
8 Fy ngelynion a'm gwradwyddant bennydd: y rhai a ynfydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.
9 Canys bwytteais ludw fel bara: a chymmyscais fy niod ag wylofain,
10 O herwydd dy lîd ti â'th ddigofaint; canys codaist fi i fynu, a theflaist fi i lawr.
11 Fy nyddiau sydd fel cyscod yn cilio; a minneu fel glaswelltyn a wywais.
12 Titheu Arglwydd a barhei yn dragywyddol; a'th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Sion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie yr amser nodedic, a ddaeth.
14 Oblegit y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llŵch hi.
15 Felly y oen hedloedd a ofnant enw'r Arglwydd: a holl frenhinoedd y ddaiar dy ogoniant.
16 Pan adeilado yr Arglwydd Sion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
17 Efe a edrych ar weddi y gwael: ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
18 Hyn a scrifennir i'r genhedlaeth a ddêl, a'r bobl a greuir a foliannant yr Arglwydd.
19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gyssegr: yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar y ddaiar,
20 I wrando uchenaid y carcharorion: ac i ryddhau plant angeu,
21 I fynegi Enw 'r Arglwydd yn Sion, a'i foliant yn Jerusalem:
22 Pan gascler y bobl ynghyd; a'r teyrnasoedd i wasanaeth u'r Arglwydd.
23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau.
24 Dywedais, fy Nuw na chymmer fi ymmaith ynghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
25 Yn y dechreuad y seiliaist, y ddaiar, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
26 Hwy a ddarfyddant a thi a barhê i, ie hwy oll a heneiddiant fel dilledyn: fel gwisc y newidi hwynt, a hwy a newidir.
27 Titheu'r un ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddarfyddant.
28 Plant dy weision a barhânt, â'i hâd a siccrheir ger dy fron di.
Psal. 103.
FY enaid, bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof, ei Enw sanctaidd ef.
2 Fy enaid, bendithia 'r Arglwydd, ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau: yr hwn sydd yn iachâu dy holl lescedd:
4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestryw, yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd, ac â thosturi:
5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: fel yr adnewyddir dy ieuengctid fel yr eryr.
6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.
7 Yspyssodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
8 Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.
9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein anwireddau y tâlodd efe i ni.
11 Canys cyfuwch ac yw 'r nefoedd uwchlaw'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hofnant ef.
12 Cyn belled ac yw 'r dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.
13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.
14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llŵch ydym.
15 Dyddiau dŷn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
16 Canys y gwynt â trosto, ac ni bydd mwy o honaw; a'i le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.
17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef: a'i gyfiawnder i blant eu blant:
18 I'r sawl a gadwant ei gyfammod ef: ac a gofiant ei orchymynion, iw gwneuthur.
19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nesoedd: a'i frenhin iaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb peth.
20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angelion ef: cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef: ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef: ym mhob man o'i lywodraeth. Fy enaid, bendithia 'r Arglwydd.
Psal. 104. Prydnhawnol Weddi.
FY enaid, bendithia 'r Arglwydd, ô Arglwydd fy Nuw tra mawr ydwyt: gwiscaist ogoniant, a harddwch.
2 Yr hwn wyt yn gwisco goleuni fel dilledyn: ac yn tanu y nefoedd fel llen.
3 Yr hwn sy yn gosod tŷlathau ei stafelloedd yn y dyfroedd, yn gwneuthur y cymmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei gennadon yn ysprydion: a'i wenidogion yn dân fflamllyd.
5 Yr hwn a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na symmudo byth, yn dragywydd.
6 Toaist hi â'r gorddyfnder, megis â gwisc: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
7 Gan dy gerydd di y ffoesant; rhag sŵn dy daran y prysurasant ymmaith.
8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant, ar hyd y dyssrynnoedd y descynnant, i'r lle a seiliaist iddynt
9 Gosodaist derfyn, fel nad elont trosodd, fel na ddychwelont i orchguddio 'r ddaiar.
10 Yr hwn a yrr ffynhonnau i'r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y brynniau.
11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr assynnod gwylltion a dorrant eu syched.
12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt; y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
13 Y mae efe yn dwfrhau y brynniau o'i stafelloedd: y ddaiar a ddigonir â ffrwyth dy weithredoedd.
14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llyssiau i wasanaeth dŷn: fel y dycco fara allan o'r ddaiar:
15 A gwîn, yr hwn a lawenycha galon dŷn, ac olew i beri iw wyneb ddiscleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dŷn.
16 Prennau 'r Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus y rhai a blannodd efe.
17 Lle y nytha 'r adar: y ffynnid wydd yw tŷ y Ciconia.
18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwnningod.
19 Efe a wnaeth y llenad i amserau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.
20 Gwnei dywyllwch, a nôs fydd: ynddi yr ymlusca pôb bwyst-fil coed.
21 Y cenawon llewod a rûant am ysclyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.
22 Pan godo haul, ymgasclant, a gorweddant yn eu llochesau.
23 Dŷn a â allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr.
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, ô Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, llawn yw'r ddaiar o'th gyfoeth.
25 Felly y mae y môr mawr llydan: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, bwyst-filod bychain a mawrion.
26 Yno'r â y llongau: yno y mae 'r Lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
27 Y rhai hyn oll a ddisgwiliant, am roddi iddynt eu bwyd yn ei brŷd.
28 A roddech iddynt a gasclant; agori dy law a diwellir hwynt â daioni.
29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymmaith eu hanadl, a threngant, dychwelant iw llŵch.
30 Pan ollyngych dy yspryd y creuir hwynt, ac yr adnewyddi wyneb y ddaiar.
31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
32 Efe a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, efe a gyffwrdd â'r mynyddoedd, a hwy a fygant.
33 Canaf i'r Arglwydd tra fyddwyf fyw, canaf i'm Duw tra fyddwyf.
34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenycha yn yr Arglwydd.
35 Darfydded y pechaduriaid o'r tîr, na fydded yr annuwolion mwy: fy enaid bendithia di'r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 105. Boreuol Weddi.
GLodforwch yr Arglwydd, gelwch ar ei Enw: mynegwch ei weithredoedd ym mysc y bobloedd.
2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.
3 Gorfoleddwch yn ei Enw sanctaidd; llawenyched calon y [Page] rhai a geisiant yr Arglwydd.
4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bôb amser.
5 Cofiwch ei ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe: ei wrthiau, a barnedigaethau ei enau,
6 Chwi hâd Abraham ei wâs ef: chwi meibion Jacob ei etholedigion.
7 Efe yw'r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedigaethau ef sydd trwy 'r holl ddaiar.
8 Cofiodd ei gyfammod byth: y gair a orchymynnodd efe i fîl o genhedlaethau▪
9 Yr hyn a ammododd efe ag Abraham, a'i lŵ i Isaac,
10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel;
11 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dîr Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
12 Pan oeddynt ych y dig o rifedi, ie ychydig, a dieithriaid ynddi:
13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth: o'r naill deyrnas at bobl arall:
14 Ni adawodd i nêb eu gorthrymmu, ie eeryddodd frenhinoedd o'i plegit:
15 Gan ddywedyd, na chyffyrddwch â'm rhai enneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.
16 Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
17 Anfonodd ŵr o'i blaen hwynt, Joseph yr hwn a werthwyd yn wâs.
18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid aeth mewn heirn:
19 Hyd yr amser y daeth ei air ef; gair yr Arglwydd a'i profodd ef.
20 Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef, llywodraeth-wr y bobl, ac a'i rhyddhâodd ef.
21 Gosododd ef yn Arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:
22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyseu doethineb iw henuriaid ef.
23 Aeth Israel hefyd i'r Aipht, ac Jacob a ymdeithiodd yn nhîr Ham.
24 Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddirfawr, ac a'i gwnaeth yn gryfach nâ'i gwrthwynebwyr.
25 Trôdd eu calon hwynt i gasau ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.
26 Efe a anfonodd Moses ei wâs, ac Aaron yr hwn a ddewisasei.
27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.
28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufyddhasant hwy ei air ef.
29 Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscod.
30 Eu tir a heigiodd lyffaint, yn stafelloedd eu brenhinoedd.
31 Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc-blâ, a llau yn eu holl frô hwynt.
32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysc, ac yn fflammau tân yn eu tîr.
33 Tarawodd hefyd eu gwynwydd, a'i ffigys-wydd: ac a ddrylliodd goed eu gwlâd hwynt.
34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys yn anneirif.
35 Y rhai a fwyttasant yr holl lâswellt yn eu tîr hwynt: ac a ddifasant ffrwyth eu daiar hwynt.
36 Tarawodd hefyd bôb cyntafanedig yn eu tîr hwynt; blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.
37 Ac a'i dûg hwynt allan ag arian, ac ag aur: ac heb un llesc yn eu llwythau.
38 Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan, canys syrthiasei eu harswyd arnynt hwy.
39 Efe a danodd gwmmwl yn dô, a thân i oleuo liw nôs.
40 Gofynnasant, ac efe a ddûg sofl-ieir, ac a'i diwallodd â bara nefol.
41 Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd, cerddasant ar hŷd lleoedd sychion yn afonydd.
42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei wâs.
43 Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawenydd: ei etholedigion mewn gorfoledd.
44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddiannasant lafur y bobloedd:
45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 106. Prydnhawnol Weddi.
MOlwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw: o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef?
3 Gwyn eu bŷd a gadwant farn: ar hwn a wnel gyhawnder bôb amser.
4 Cofia fi Arglwydd yn ôl dy raslonrwydd i'th bobl, ymwêl â mi â'th iechydwriaeth.
5 Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genhedl di: fel y gorfoleddwyf gyd â'th etifeddiaeth.
6 Pechasom gyd â'n tadau, gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofiasant luosogrwydd dy drugareddau, eithr gwrth-ryfelgar fuant wrth y môr, sef y môr côch.
8 Etto efe a'i hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.
9 Ac a geryddodd y môr côch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy'r dyfnder megis trwy 'r anialwch:
10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog: ac a'i gwaredodd o law y gelyn.
11 A'r dyfroedd a doesant eu gwrth wynebwŷr: ni adawyd un o honynt.
12 Yna y credasant ei eiriau ef: canasant ei fawl ef.
13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef, ni ddisgwiliasant am ei gyngor ef.
14 Eithr blyssiasant yn ddirfawr yn yr anialwch: a themptiasant Dduw yn y diffaethwch.
15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt, eithr efe a anfonodd gulni iw henaid.
16 Cynfigen nasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll: ac wrth Aaron sanct yr Arglwydd.
17 Y ddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan, ac a orchguddiodd gynnulleidfa Abiram.
18 Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa hwynt: fflam a loscodd y rhai annuwiol.
19 Llô a wnaethant yn Horeb: ac ymgrymmasant i'r ddelw dawdd.
20 Felly y troesant eu gogoniant i lûn eidion yn pori glaswellt.
21 Anghofiasant Dduw eu hachub-ŵr, yr hwn a wnelsei bethau mawrion yn yr Aipht:
22 Pethau rhyfedd yn nhîr Ham: pethau ofnadwy wrth y môr côch.
23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buase i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o'i flaen ef, i droi ymmaith ei lidiawgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
24 Diystyrasant hefyd y tîr dymunol: ni chredasant ei air ef:
25 Ond grwgnachasant yn eu pebyll: ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.
26 Yna y derchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, iw cwympo yn yr anialwch;
27 Ac i gwympo eu hâd ym mysc y Cenhedloedd, ac iw gwascaru yn y tiroedd.
28 Ymgyssylltasant hefyd a Baal-peor, a bwyttasant ebyrth y meirw.
29 Felly y digiasant ef â'i dychymmygion eu hun: ac y tarawodd plâ yn eu mysc hwy.
30 Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farnodd: a'r plâ a attaliwyd.
31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
32 Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen: fel y bu ddrwg i Moses o'i plegit hwynt.
33 O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef, fel y camddywedodd â'i wefusau.
34 Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dy wedasei 'r Arglwydd wrthynt:
35 Eithr ymgymmyscasant â'r Cenhedloedd: a dyscasant eu gweithredoedd hwynt:
36 A gwasanaethasant eu delwau hwynt, y rhai a fu yn fagl iddynt.
37 A berthasant hefyd eu meibion, a'i merched i gythreuliaid.
38 Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion, a'i merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan, a'r tir a halogwyd â gwaed.
39 Felly 'r ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y putteiniasant gyd â'i dychymmygion.
40 Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
41 Ac efe a'i rhoddes hwynt yn llaw 'r cenhedloedd, a'i caseion a ly wodraethasant arnynt.
42 Eu gelynion hefyd a'i gorthrymmasant; a darostyngwyd hwynt tan eu dwylo hwy.
43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt, hwythau a'i digiasant ef â'i cyngor en hun: a hwy a wanhychwyd am eu han wiredd.
44 Etto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt: pan glywodd eu llefain hwynt.
45 Ac efe a gofiodd ei gyfammod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosogrwydd ei drugareddau.
46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a'i caethiwai.
47 Achub ni ô Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy Enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.
48 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, erioed, ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 107. Boreuol Weddi.
CLodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd; y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r dehau.
4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr: heb gael dinas i aros ynddi:
5 Yn newynog ac yn sychedig: eu henaid a lewygodd ynddynt.
6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'i gwaredodd o'i gorthrymderau.
7 Ac a'i tywysodd hwynt ar hŷd y ffordd vniawn, i fyned i ddinas gyfanneddol.
8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.
9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
10 Y rhai a bresswyliant yn y tywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn:
11 O herwydd annufyddhau o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf:
12 Am hynny yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant▪ ac nid oedd cynnorthwy-ŵr.
13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: efe a'i hachubodd o'r gorthrymderau.
14 Dûg hwynt allan o dywyllwch, a chyscod angeu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.
16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barrau heirn.
17 Ynfydion oblegit eu camweddau, ac o herwydd eu hanwireddau a gystuddir.
18 Eu henaid a ffieiddiei bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.
19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder: ac efe a'i hachubodd o'i gorthrymderau.
20 Anfonodd ei air, ac iachâodd hwynt, ac a'i gwaredodd o'i dinistr.
21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.
22 Aberthant hefyd aberth moliant: a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorch wyl mewn dyfroedd mawrion:
24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd: a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25 Canys efe a orchymmyn, a chysyd tymh estl-wynt: yr hwn [Page] a dderchafa ei donnau ef.
26 Hwy a escynnant i'r nefoedd, descynnant i'r dyfnder, [...]awdd eu henaid gan flinder.
27 Ymdroant, ac ymsymmudant fel meddwyn: a'i holl ddoethineb a ballodd.
28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder, ac efe a'i dwg allan o'i gorthrymderau.
29 Efe a wna yr storm yn dawel: a'i tonnau a ostegant.
30 Yna y llawenhânt am eu gostegu, ac efe a'i dwg i'r porthladd a ddymunent.
31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.
32 A derchafant ef ynghynnulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
33 Efe a wna afonydd yn ddiffaethwch: a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir:
34 A thîr ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr: a'r tîr crâs yn ffynhonnau dwfr.
36 Ac yno y gwna i'r newynog aros: fel y darparont ddinas i gyfanneddu:
37 Ac yr hauont feusydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
38 Ac efe a'i bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni âd iw hanifeiliaid leihau.
39 Llei heir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, dryg-fyd, a chŷni.
40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt gyrwydro mewn anialwch heb ffordd.
41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
42 Y rhai vniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
43 Y nêb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd.
Psal. 108. Prydnhawnol Weddi.
PArod yw fy nghalon ô Dduw, canaf a chanmolaf â'm gogoniant.
2 Deffro y nabl a'r delyn, minnau a ddeffroaf yn foreu.
3 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.
4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd, a'th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
5 Ymddercha ô Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.
6 Fel y gwareder dy rai anwyl: achub â'th ddeheu-law, a gwrando fi.
7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd: llawenychaf, rhannaf Sichem, a messuraf ddyffryn Succoth.
8 Eiddo fi yw Gilead, eiddo fi Manasseh: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen: Juda yw fy neddsŵr.
9 Moab yw fy nghrochan golchi, tros Edom y taflaf fy escid: buddugoliaethaf ar Philistia.
10 Pwy a'm dŵg i'r ddinas gadarn? pwy a'm dŵg hyd yn Edom?
11 Onid tydi o Dduw, yr [Page] hwn a'n bwriaist ymmaith, ac onid ai di allan, ô Dduw, gyd â'n lluoedd?
12 Dyro i mi gynnorthwy rhag cyfyngder, canys gau yw ymwared dŷn.
13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein gelynion.
Psal. 109.
NA thaw, ô Dduw fy moliant.
2 Canys genau 'r annuwiol, a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i'm herbyn.
3 Cylchynasant fi hefyd â geitiau câs, ac ymladdasant â mi heb achos.
4 Am fy ngharedigrwydd i'm gwrth wynebant: minneu a arferaf weddi.
5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda: a châs am fy nghariad.
6 Gosod titheu vn annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheu-law ef.
7 Pan farner ef, eled yn euog, a bydded ei weddi yn bechod.
8 Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chymmered arall ei swydd ef.
9 Bydded ei blant yn ymddifaid: a'i wraig yn weddw.
10 Gan gyrwydro hefyd cyrwydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd eu bara o'i hanghyfannedd leoedd.
11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
12 Na fydded nêb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded nêb a drugarhâo wrth ei ymddifaid ef.
13 Torrer ymmaith ei hiliogaeth ef, dilêer eu henw yn yr oes nessaf.
14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd: ac na ddilêer pechod ei fam ef.
15 Byddant bôb amser ger bron yr Arglwydd: fel y torro efe ymmaith eu coffad wriaeth o'r tîr.
16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid o honaw y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedic o galon, iw lâdd.
17 Hoffodd felldith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnei fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
18 Ie gwiscodd felldith fel dilledyn, a hi a ddaeth fel dwfr iw fewn, ac fel olew iw escyrn.
19 Bydded iddo fel dilledyn, yr hwn a wisco efe, ac fel gwregys a'i gwregyso ef yn oestadol.
20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwŷneb-wyr gan yr Arglwydd: a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
21 Titheu Arglwydd Dduw, gwna crofi er mwyn dy Enw, am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
22 Canys truan a thlawd ydwyfi, a'm calon a archollwyd o'm mewn.
23 Euthum fel cyscod pan gilio, fel locust i'm hescydwir.
24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd, a'm cnawd a guriodd o eisieu brasder.
25 Gwradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.
26 Cynnorthwya fi ô Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd.
27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn: mai ti Arglwydd a'i gwnaethost.
28 Melldithiant hwy, ond bendithia di, cywilyddir hwynt, pan gyfodant: a llawenyched dy wâs.
29 Gwiscer fy ngwrthwynebwŷr â gwarth; ac ymwiscant â'u cywilydd megis â chochl.
30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â'm genau: iê moliannaf ef ym mysc llawer.
31 O herwydd efe a saif ar ddeheu-law 'r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
Psal. 110. Boreuol Weddi.
DYwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-laŵ: hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i'th draed.
2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sion: llywodraetha di ynghanol dy elynion.
3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar, yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy anedigaeth i ti.
4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ: ti wyt offeiriad yn dragywyddol yn ôl vrdd Melchisedec.
5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw, a dry wana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
6 Efe a farn ym mysc y cenhedloedd, lleinw loedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlâd.
7 Efe a ŷf o'r afon ar y ffordd, am hynny y dercha efe ei ben.
Psal. 111.
MOlwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â'm holl galon; ynghymmanfa y rhai vniawn, ac yn y gynnulleidfa.
2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: wedi eu ceisio gan bawb a'i hoffant.
3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau; graslawn a thrugarog yw 'r Arglwydd.
5 Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef, efe a gofia ei gyfammod yn dragywydd.
6 Mynegodd iw bobl gadernid ei weithredoedd: i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylaw ef, ei holl orchymynnion ydynt siccr:
8 Wedi eu siccrhau byth ac yn dragywydd, a'i gwneuthur mewn gwirionedd, ac vniawnder.
9 Anfonodd ymwared iw bobl, gorchymynnodd ei gyfammod yn dragywyddol: sancteiddiol, ac ofnadwy yw ei enw ef.
10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnant ei orchymmynion ef; y mae ei foliant ef yn parhau byth.
Psal. 112.
MOlwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gwr a ofna'r Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchymynnion ef yn ddirfawr.
2 Ei had fydd cadarn ar y ddaiar; cenhedlaeth y rhai vniawn a fendithir.
3 Golud a chyfoeth sydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Cyfyd goleuni i'r rhai vniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn yw efe.
5 Gŵr da sydd gymmwynascar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
6 Yn ddiau nid yscogir ef byth, y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.
8 Attegwyd ei galon, nid ofna efe hyd oni welo ei ewyllysar ei elynion.
9 Gwascarodd, rhoddodd i'r tlodion, a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth: ei gorn a dderchefir mewn gogoniant.
10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia, efe a yscyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymmaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
Psal. 113.
MOlwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch: îe molwch Enw 'r Arglwydd:
2 Bendigedic fyddo enw 'r Arglwydd, o hyn allan ac yn dragywydd.
3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw Enw 'r Arglwydd.
4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd: a'i ogoniant sydd gornwch y nefoedd.
5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn presswylio yn vchel?
6 Yr hwn a ymddarostwng, i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar?
7 Efe sydd yn codi y tlawd o'r llwch: ac yn derchafu yr anghenus o'r dommen:
8 Iw osod gyd â phendefigion, îe gyd â phendefigion ei bobl.
9 Yr hwn a wna i'r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawenfam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
Psal. 114. Prydnhawnol Weddi.
PAn aeth Israel o'r Aipht, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith:
2 Juda oedd ei sancteiddrwydd: ac Israel ei Arglwyddiaeth.
3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd: yr Jorddonen a drôdd yn ôl.
4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r bryniau fel ŵyn defaid.
5 Beth a ddarfu i ti ô fôr, pan giliaist? titheu Jorddonen, pa ham y troaist yn ôl?
6 Pa ham fynyddoedd y neidiech fel hyrddod? a'r bryniau fel ŵyn defaid?
7 Ofna di ddaiar rhag yr Arglwydd: rhag Duw Jacob:
8 Yr hwn sydd yn troi 'r graig yn llynn dwfr, a'r galles [...] yn ffynnon dyfroedd.
Psal. 115.
NId i ni ô Arglwydd, nid i ni, onid i'th Enw dy hun dôd ogoniant, er mwyn dy drugaredd, [Page] er mwyn dy wirionedd.
2 Pa ham y dywedai y cenhedloedd, pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
3 Onid ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
4 Eu delwau hwy ydynt o aur, ac arian, gwaith dwylo dynion.
5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant, llygaid sydd ganddynt ond ni welant.
6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywaut, ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant.
7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant: traed sy iddynt, ond ni cherddant: ni leisiant chwaith â'i gwddf.
8 Y rhai a'i gwnânt ydynt fel hwythau, a phob vn a ymddiriedo ynddynt.
9 O Israel, ymddiried ti yn yr Arglwydd, efe yw eu porth, a'i tarian.
10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'i tarian.
11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'i tarian.
12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni, efe a'n bend ithia; bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain, a mawrion.
14 Yr Arglwydd a'ch chwanega chwi fwyfwy: chwychwi a'ch plant hefyd.
15 Bendigedic ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nêf a daiar.
16 Y nefoedd, îe 'r nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd, a'r ddaiar a roddes efe i feibion dynion.
17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r nêb sydd yn descyn i ddistawrwydd.
18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd, o hyn allan, ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 116. Boreuol Weddi.
DA gennif wrando o'r Arglwydd ar fy llêf a'm gweddiau.
2 Am ostwng o honaw ei glûst attaf. Am hynny llefaf tros fy nyddiau arno ef.
3 Gofidion angeu a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant, ing a blinder a gefais.
4 Yna y gelwais ar Enw 'r Arglwydd, attolwg Arglwydd gwared fy enaid.
5 Graslawn yw 'r Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.
7 Dychwel ô fy enaid i'th orphywysfa, canys yr Arglwydd fu dda wrthit.
8 O herwydd it waredu fy enaid oddi wrth angeu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro:
9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhîr y rhai byw.
10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi 'n ddirfawr.
11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, pôb dŷn sydd gelwyddoc.
12 Beth a dalaf i'r Arglwydd [Page] am ei holl ddoniau i mi?
13 Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw 'r Arglwydd y galwaf.
14 Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yngŵydd ei holl bôbl ef.
15 Gwerth-sawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct ef.
16 O Arglwydd, yn ddiau dy wâs di ydwyfi, dy wâs di ydwyfi, mab dy wasanaeth-wraig; dattodaist fy rhwymau.
17 Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar Enw 'r Arglwydd.
18 Talaf fy addunedau i'r Arglwydd, yn awr yngŵydd ei holl bobl;
19 Ynghynteddoedd tŷ 'r Arglwydd: yn dy ganol di ô Jerusalem. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 117.
MOlwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd: clodforwch ef yr holl bobloedd.
2 O herwydd ei drugaredd ef tu ag attom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd, Molwch yr Arglwydd.
Psal. 118.
CLodforwch yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhan yn dragywydd.
3 Dyweded ty Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
5 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.
6 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, nid ofnaf: beth a wna dŷn i mi?
7 Yr Arglwydd sydd gyd û mi, ym mhlith fy nghynnorth wywyr: am hynny y câf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dŷn.
9 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.
10 Yr holl genhedloedd am hamgylchynasant: ond yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.
11 Amgylchynasant fi, ie amgylchynasant fi, ond yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.
12 Amgylchynasant fi fel gwenyn, diffoddasant fel tân drain: o herwydd yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.
13 Gan wthio y gwthiaist fi fel y syrth iwn: ond yr Arglwydd a'm cynnorthwyodd.
14 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân: ac sydd iechydwriaeth i mi.
15 Llêf gorfoledd, ac iechydwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
16 Deheu-law 'r Arglwydd a dderchafŵyd: deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
17 Ni byddaf farw, onid byw: [Page] a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.
18 Gan gospi i'm cospodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.
19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: âf i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.
20 Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
21 Clodforaf di, o herwydd i ti fy ngwrando, a'th fod yn iechydwriaeth i mi.
22 Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr a aeth yn ben i'r gongl.
23 O'r Arglwydd y daeth hyn, hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.
24 Dymma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn, a llawenychwn ynddo.
25 Attolwg Arglwydd, achub yn awr; attolwg Arglwydd, pâr yn awr lwyddiant.
26 Bendigedic yw a ddêl yn Enw 'r Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ 'r Arglwydd.
27 Duw yw 'r Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau hyd wrth gyrn yr allor.
28 Fy Nuw ydwyt ti, mi a'th glodforaf, derchafaf di, fy Nuw.
29 Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw: o herwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
Psal. 119.
Prydnhawnol Weddi.
GWynfŷd y rhai perffaith eu ffordd: y rhai a rodiant yngh yfraith yr Arglwydd.
2 Gwynfŷd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef: ac a'i ceisiant ef a'i holl galon.
3 Y rhai hefyd ni wnant anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
4 Ti a orchymynnaist gadw dy orchymynion yn ddyfal.
5 O am gyfeirio fy ffyrdd. i gadw dy ddeddfau.
6 Yna ni'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymynion.
7 Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddyscwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
8 Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi 'n hollawl.
PA fodd y glanhâ llange ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
10 A'm holl galon i'th geisiais, na âd i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchymynion.
11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.
12 Ti Arglwydd wyt fendigedic: dyse i mi dy ddeddfau.
13 A'm gwefusau y treuthais holl farnedigaethau dy enau.
14 Bu mor llawen gennif ffordd dy dystiolaethau a'r holl olud.
15 Yn dy orchymynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
16 Yn dy ddeddfau 'r ymddigrifaf, nid anghofiaf dy air.
BYdd dda wrth dy wâs, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
18 Dadcuddia fy llygaid, fel y [Page] gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th Gyfraith di.
19 Dieithr ydwyf ar y ddaiar, na chudd di rhagof dy orchymynion.
20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bôb amser.
21 Ceryddaist y beilchion melltigedic: y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchymynion.
22 Trô oddi wrthif gywilydd a dirmyg, oblegit dy dystiolaethau di a gedwais.
23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i'm herbyn; dy wâs ditheu a fyfyriei yn dy ddeddfau,
24 A'th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghorwŷr.
GLŷnodd fy enaid with y llwch, by whâ fi 'n ôl dy air.
26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysc i mi dy ddeddfau.
27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynion, ac mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi'n ôl dy air.
29 Cymmer odd i wrthyf ffordd y celwydd, ac yn raslawn dôd i mi dy Gyfraith.
30 Dowisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.
31 Glynais wrth dy dystiolaethau: ô Arglwydd na'm gwradwydda.
32 Ffordd dy orchymynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.
Boreuol Weddi.
DYsc i mi ô Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy Gyfraith: ie cadwaf hi â'm holl galon.
35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchymynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau: ac nid at gybydddra.
37 Trô heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd: a bywhâ fi yn dy ffyrdd.
38 Siccrhâ dy air i'th wâs, yr hwn sy'n ymroddi i'th ofn di.
39 Tro heibio fy ngwradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
40 Wele awyddus ydwyf i'th orchymynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
DEued i mi dy drugaredd Arglwydd, a'th iechydwriaeth yn ôl dy air.
42 Yna yr attebaf i'm cabludd: o herwydd yn dy air y gobeithiais.
43 Na ddŵg ditheu air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: o herwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais
44 A'th Gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder, o herwydd dy orchymynion di a geisiaf.
46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf, o flaen brenhinoedd, [Page] ac ni bydd cywilydd gennif.
47 Ac ymddigrifaf yn dy orchymynion, y rhai a hoffais.
48 A'm dwylo a dderchafaf at dy orchymynion y rhai a gerais, ac mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
COfia y gair wrth dy wâs, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
50 Dymma fy nghyssur yn fy nghystudd, canys dy air di a'm bywhâodd i.
51 Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy Gyfraith di.
52 Cofiais o Arglwydd, dy farnedigaethau erioed, ac ymgyssurais.
53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegit yr annuwolion, y rhai sydd yn gadu dy Gyfraith di.
54 Dy ddeddfau oedd fy nghân, yn nhŷ fy mhererindod.
55 Cofiais dy Enw Arglwydd, y nôs; a chedwais dy Gyfraith.
56 Hyn oedd gennif a'm gadw o honof dy orchymynion di.
O Arglwydd fy rhan ydwyt: dywedais y cadwn dy eiriau.
58 Ymbiliais â'th wyneb â'm holl galon: trugarhâ wrthif yn ôl dy air.
59 Meddyliais a'm fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
60 Bryssiais, ac nid oedais gadw dy orchymynion.
61 Minteioedd yr annuwolion a'm hyspeiliasant: ond nid anghofiais dy Gyfraith di.
62 Hanner nôs y cyfodaf i'th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
63 Cyfaill ydwyfi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchymynion.
64 Llawn yw 'r ddaiar o'th drugaredd, ô Arglwydd: dysc i mi dy ddeddfau.
GWnaethost yn dda â'th wâs, ô Arglwydd, yn ôl dy air.
66 Dysc i mi iawn ddeall, a gŵybodaeth: o herwydd dy orchymynion di a gredais.
67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr, cedwais dy air di.
68 Da ydwyt, a daionus, dysc i mi dy ddeddfau.
69 Y beilchion a glyttiasant gelwydd i'm herbyn: minneu a gadwaf dy orchymynion â'm holl galon.
70 Cyn frased a'r bloneg yw eu calon: minneu a ymddigrifais yn dy Gyfraith di.
71 Da yw i mi fy nghystuddio, fel y dyscwn dy ddeddfau.
72 Gwell i mi Gyfraith dy enau, nâ miloedd o aur, ac arian.
Prydnhawnol Weddi.
DY ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dyscwyf dy orchymynion.
74 Y rhai a'th ofnant a'm [Page] gwelant, ac a lawenychant, oblegit gobeithio o honof yn dy air di.
75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau: ac mai mewn ffyddlondeb i'm cystuddiaist.
76 Bydded attolwg dy drugaredd i'm cyssuro, yn ôl dy air i'th wasanaeth-wr.
77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw: o herwydd dy Gyfraith yw fy nigrifwch.
78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnant gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchymynion di.
79 Troer attafi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau, sal na'm cywilyddier.
DEffygiodd fy ena id am dy iechydwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwil.
82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd; pa bryd i'm diddeni?
83 Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.
84 Pa niser yw dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?
85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy Gyfraith di.
86 Dy holl orchymynion ydynt wirionedd: ar gam i'm herlidiasant, cymmorth fi.
87 Braidd na'm difasant ar y ddaiar, minneu ni adewais dy orchymynion.
88 Bŷ whâ fi yn ôl dy drugaredd: felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
YN dragywydd ô Arglwydd, y mae dy air wedi ei siccrhau
90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaiar, a hi a saif.
91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw: canys dy weision yw pôb peth.
92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasei yna am danaf yn fy nghystudd.
93 Byth nid anghofiaf dy orchymynion: canys â hwynt i'm bywheaist.
94 Eiddo ti ydwyf, cadw fi; o herwydd dy orchymynion a geisiais.
95 Y rhai annuwiol a ddisgwiliasant am danaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyria fi.
96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bôb perffeithrwydd: ond dy orchymmyn di sydd dra ehang.
MOr gû gennif dy Gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
98 A'th orchymynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach nâ'm gelynion: canys byth y maent gyd â mi.
99 Deellais fwy nâ'm holl athrawon: o herwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
100 Deellais yn well nâ'r henuriaid, am fy môd yn cadw dy orchymynion di.
101 Atteliais fy nhraed oddi wrth bôb llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau, herwydd ti a'm dyscaist.
103 Mor felus yw dy eiriau i'm genau! melusach nâ mêl i'm safn.
104 Trwy dy orchymynion di y pwyllais: am hynny y caseais bôb gau lwybr.
Boreuol Weddi.
LLusern yw dy air i'm traed: a llewyrch i'm llwybr.
106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: by whâ fi ô Arglwydd, yn ôl dy air.
108 Attolwg, Arglwydd, bydd fodlon ei ewyllyscar offrymmau fy ngenau, a dysc i mi dy farnedigaethau.
109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy Gyfraith.
110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchymynion.
111 Cymmerais dy orchymynion yn etifeddiaeth dros byth: o herwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
112 Gostyngais fy nghalon, i wneuthur dy ddeddfau byth hyd y diwedd.
MEddyliau ofer a gaseais, a'th Gyfraith di a hoffais.
114 Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
115 Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cadwaf orchymynion fy Nuw.
116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na âd i mi gywilyddio am fy ngobaith.
117 Cynnal fi, a diangol fyddaf, ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
119 Bwriaist heibio holl annuwolion y tîr fel sothach: am hynny'r hoffais dy dystiolaethan.
120 Dychrynodd fy ngnhawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
GWneuthum farn, a chyfiawnder: na âd fi i'm gorthrymwŷr.
122 Mechnia dros dy wâs er daioni: na âd i'r beilchion fy ngorthrymmu.
123 Fy llygaid a ballasant am dy iechydwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
124 Gwna i'th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddeddfau.
125 Dy wâs ydwyfi, pâr i mi ddeall: fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
126 Amser yw i'r Arglwydd weithio: diddymmasant dy Gyfraith di.
127 Am hynny 'r hoffais dy orchymynion yn fwy nag aur, ie yn fwy nag aur coeth.
128 Am hynny union y cyfrifais dy orchymynion am bôb peth: a chaseais bôb gau lwybr.
RHyfedd yw dy dystiolaethau, am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni, pair ddeall i rai annichellgar.
131 Agorais fy ngenau a dyheais, oblegit awyddus oeddwn i'th orchymynnion di.
132 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy Enw.
133 Cyfarwydda fy nghamrau yn dy air, ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchymynion.
135 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddeddfau.
136 Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chadwasant dy Gyfraith di.
CYfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
138 Dy dystiolaethau y rhai a orchymynnaist, ydynt gyfiawn a ffyddlon iawn.
139 Fy Zêl a'm difaodd, o herwydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.
140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy wâs yn ei hoffi.
141 Bychan ydwyfi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchymynion.
142 Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth: a'th Gyfraith sydd wirionedd.
143 Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant: a'th orchymynion oedd fy nigrifwch.
144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
Prydnhawnol Weddi.
LLefais â'm holl galon, clyw fi o Arglwydd: dy ddeddfau a gad waf.
146 Llefais arnat, achub fi: a chadwaf dy dystiolaethau.
147 Achubais flaen y cyfddydd a gwaeddais; wrth dy air y disgwiliais.
148 Fy llygaid a achubasant flaen gwiliad wriaethau y nôs, i fyfyrio yn dy air di.
149 Clyw fy llêf yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.
150 Y rhai a ddilynant scelerder a nessasant arnaf: ymbellasant oddi wrth dy Gyfraith di.
151 Titheu Arglwydd wyt agos: a'th holl orchymynion sydd wirionedd.
152 Er ystalm y gwyddwn am dy dystiolaethau seilio o honot hwynt yn dragywydd.
GWêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy Gyfraith.
154 Dadleu fy nadl, a gwared fi: bywhâ fi yn ôl dy air.
155 Pell yw iechydwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: o herwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
156 Dy drugareddau Arglwydd sydd aml: bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.
157 Llawer sydd yn fy erlyd, ac yn fy ngwrth wynebu: er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
158 Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynais: am na chadwent dy air di.
159 Gwêl fy môd yn hoffi dy orchymynion: Arglwydd, by whâ fi 'n ôl dy drugarogrwydd.
160 Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air: a phôb un o'th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
TYwysogion a'm herlidiasant heb achos, er hynny fy nghalon a grynei rhag dy air di.
162 Llawen ydwyfi oblegit dy air: fel un yn cael sclyfaeth lawer.
163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th Gyfraith di a hoffais.
164 Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori: o herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy Gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
166 Disgwiliais wrth dy iechydwriaeth di, ô Arglwydd: a gwnenthum dy orchymynion.
167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.
168 Cedwais dy orchymynion a'th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
NEssaed fy ngwaedd o'th flaen, Arglwydd, gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.
171 Fy ngwefusau a draetha foliant: pan ddyscech i mi dy ddeddfau.
172 Fy nhafod a ddatcan dy air: o herwydd dy holl orchymynion sydd gyfiawnder.
173 Bydded dy law i'm cynnorthwyo: o herwydd dy orchymynion di a ddewisais.
174 Hiraethais ô Arglwydd, am dy iechydwriaeth: a'th Gyfraith yw fy hyfrydwch.
175 Bydded byw fy enaid, fel i'th folianno di: a chynnorth wyed dy farnedigaethau fi.
176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy wâs oblegit nid anghofiais dy orchymynion.
Psal. 120. Boreuol Weddi.
AR yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder: ac efe a'm gwrandawodd i.
2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddoc, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
4 Llymmion saethau cawr ynghyd a marwor meryw.
5 Gwae fi fy môd yn presswylio ym M [...]sech: yn cyfanneddu ym mhebyll Cedar.
6 Hîr y trigodd fy enaid gyd â'r hwn oedd yn casau tangneddyf.
7 Heddychol ydwyfi, ond pan lesarwyf, y maent yn barod i ryfel.
Psal. 121.
DErchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, o'r lle y daw fy nghymmorth.
2 Fy nghymmorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn [Page] a wnaeth nefoedd a daiar.
3 Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geidwad.
4 Wele, ni huna ac ni chwsc ceidwad Israel.
5 Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.
6 Ni'th dery'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.
7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pôb drwg: efe a geidw dy enaid.
8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfodiad, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.
Psal. 122.
LLawenychais pan ddywedent wrthif, awn i dŷ 'r Arglwydd.
2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, ô Jerusalem.
3 Jerusalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgyssylltu ynddi ei hun.
4 Yno 'r escyn y llwythau, llwythau 'r Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu Enw 'r Arglwydd.
5 Canys yno y gosodwyd, gorsedd-feingciau barn: gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.
6 Dymunwch heddwch Jerusalem: llwydded y rhai a'th hossant.
7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: a ffynniant yn dy balassau.
8 Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion, y dywedaf yn awr, heddwch fyddo i ti.
9 Er mwyn tŷ 'r Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.
Psal. 123.
ATtat ti y derchafaf fy llygaid, ti yr hwn a bresswyll yn y nefoedd.
2 Welc, fel y mae llygaid gwelsion ar law eu meistred, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law eu meistres: felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.
3 Trugarhâ wrthym Arglwydd, trugarhâ wrthym, canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
Psal. 124.
ONi buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni: y gall Israel ddywedyd yn awr.
2 Oni buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn.
3 Yna i'n llyngcasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn.
4 Yna y dyfroedd a lifasei trosom: y ffrwd a aethei tros ein henaid.
5 Yna 'r aethei tros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.
6 Bendigedic fyddo 'r Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysclyfaeth iw dannedd hwynt.
7 Ein henaid a ddiangodd, fel aderyn o fagl yr adar wŷr: y fagl a dorrwyd, a ninneu a ddianghasom.
8 Ein porth ni sydd yn Enw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.
Psal. 125.
Y Rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Sion: yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.
2 Fel y mae Jerusalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch; felly y mae'r Arglwydd o amgylch ei bobl, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.
3 Canys ni orphywys gwialen annuwioldeb, ar randir y rhai cyfiawn: rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at an wiredd.
4 Oh Arglwydd, gwna ddaioni i'r rhai daionus: ac i'r rhai vniawn yn eu calonnau.
5 Ond y rhai a ymdroant iw trofeydd, yr Arglwydd a'i gyrr gyd â gweithred-wŷr anwiredd: a bydd tangneddyf ar Israel.
Psal. 126. Prydnlmwnol Weddi.
PAn ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Sion, yr oeddynt fel rhai yn breuddwydio.
2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu: yna y dywedasant ym mysc y cenhedloedd, yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.
3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny 'r ydym yn llawen.
4 Dychwel Arglwydd ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y dehau.
5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn ŵylo, gan ddwyn hâd gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei yscubau.
Psal. 127.
OS yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeilad-wŷr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw 'r ddinas, ofer y gwilia y ceidwaid.
2 Ofer i chwi foreu-godi, myned yn hwyr i gyscu, bwytta bara gofidiau: felly y rhydd efe hûn iw anwylyd.
3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd, ei wobr ef yw ffrwyth y grôth.
4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn, felly y mae plant ieuengctid.
5 Gwyn ei fŷd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: ni's gwradwyddir hwy, pan ymddiddanant â'r gelynion yn y porth.
Psal. 128.
GWyn ei fŷd pôb vn sydd yn ofni 'r Arglwydd: yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fŷd, a da fydd it.
3 Dy wraig fydd fel gwin-wydden ffrwythlawn, ar hŷd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion oliwydd o amgylch dy ford.
4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno 'r Arglwydd.
5 Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Sion; a thi a gei weled daioni Jerusalem holl ddyddiau dy enioes:
6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangneddyf ar Israel.
Psal. 129.
LLawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieuengctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
2 Llawer gwaith i'm cystuddiasant o'm hieuengctid, etto ni'm gorfuant.
3 Yr arddwŷr a arddasant ar fy nghefn, estynnasant eu cwysau yn hirion.
4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn, efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
5 Gwradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Sion.
6 Byddant fel glas-wellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymmaith.
7 A'r hwn ni leinw y pladurwr ei law: na'r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau, ei fonwes.
8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn Enw 'r Arglwydd.
Psal. 130.
O'R dyfnder y llefais arnat, ô Arglwydd.
2 Arglwydd clyw fy llefain, yftyried dy glustiau wrth lef fy ngweddiau.
3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd: ô Arglwydd, pwy a saif?
4 Onid y mae gyd â thi faddeuant, fel i'th ofner.
5 Disgwiliaf am yr Arglwydd, disgwil fy e [...]aid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
6 Fy enaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd, yn fwy nag y mae y gwil-wŷr am y boren; yn fwy nag y mae y gwil-wŷr am y boreu.
7 Disgwilied Israel am yr Arglwydd, o herwydd y mae trugaredd gyd â'r Arglwydd, ac aml ymwared gyd ag ef.
8 Ac efe a wared Israel, oddi wrth ei holl anwireddau.
Psal. 131.
O Arglwydd nid ymfalchiodd fy nghalon, ac nid ymdderchafodd fy llygaid: ni rodiais ychwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy vchel i mi.
2 Eithr gosodais, a gostegais fy enaid, fel vn wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel vn wedi ei ddiddyfnu.
3 Disgwilied Israel wrth yr Arglwydd, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.
Psal. 132. Boreuol Weddi.
O Arglwydd, cofia Ddafydd, a'i holl flinder:
2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymmus Dduw Jacob.
3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
4 Ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hun i'm amrantau:
5 Hyd oni chaffwyf le i'r Arglwydd; preswylfod i rymmus Dduw Jacob.
6 Wele, clywsom am dani yn Ephrata: cawsom hi ym meusydd y coed.
7 Awn iw bebyll ef, ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.
8 Cyfod Arglwydd i'th orphywysfa, ti ac Arch dy gadernid.
9 Gwysced dy offeiriaid gyfiawnder: a gorfoledded dy Sainct.
10 Er mwyn Dafydd dy wâs, na thrô ymmaith wyneb dy eneiniog.
11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Ddafydd, ni thrŷ efe oddi wrth hynny: o ffrwyth dy gorph y gosodaf ar dy orseddfaingc.
12 Os ceidw dy feibion fy nghyfammod a'm tystiolaeth, y rhai a ddyscwyf iddynt: eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orsedd-faingc.
13 Canys dewisodd yr Arglwydd Sion, ac a'i chwennychodd yn drigfa iddo ei hun.
14 Dymma fy ngorphywysfa yn dragywydd: ymma y trigaf, canys chwennychais hi.
15 Gan fendithio y bendithiaf ei llyniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
16 Ei hoffeiriaid hefyd a wiscaf ag iechyd wriaeth: a'i Sainct dan ganu a ganant.
17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm heneiniog.
18 Ei elynion ef a wiscaf â chywilydd, arno yntef y blodeua ei goron.
Psal. 133.
WEle, mor ddaionus, ac mor hyfryd, yw trigo o frodyr ynghyd.
2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn descyn ar hŷd y farf sef barf Aaron: yr hwn oedd yn descyn ar hyd ymyl ei wiscoedd ef.
3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn descyn ar synyddoedd Sion: canys yno y gorchym ynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
Psal. 134.
WEle, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd y nôs.
2 Derchefwch eich dwylo yn y cyssegr: a bendithiwch yr Arglwydd.
3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, a'th fendithio di allan o Sion.
Psal. 135.
MOlwch yr Arglwydd. Molwch Enw 'r Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef.
2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd; ynghynteddoedd tŷ ein Duw ni.
3 Molwch yr Arglwydd, canys da yw yr Arglwydd: cenwch iw Enw, canys hyfryd yw.
4 Oblegit yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.
5 Canys mi a wn mai mawr yw 'r Arglwydd; a bôd ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnei, yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaiar, mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw: gan ddwyn y gwynt allan o'i dryssorau.
8 Yr hwn a da [...]wodd 'gyntaf [Page] anedic yr Aipht, yn ddŷn ac yn anifail.
9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di 'r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl weision.
10 Yr hwn a darawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion:
11 Sehon brenin yr Amoriaid; ac Og brenin Basan: a holl frenhiniaethau Canaan:
12 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
13 Dy Enw ô Arglwydd, a bery, yn dragywydd: dy goffadwriaeth, ô Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth.
14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar gantho o ran ei weision.
15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dŷn.
16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant: llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
17 Y mae clustiau iddynt ond ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.
18 Fel hwynt y mae y rhai a'i gwnânt, a phôb vn a ymddiriedo ynddynt.
19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron.
20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.
21 Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerusalem. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 136. Prydnhawnol Weddi.
CLodforwch yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
2 Clodforwch Dduw y duwiau: oblegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.
3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
4 Yr hwn yn ynic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
6 Yr hwn a estynnodd y ddaiar oddi ar y dyfroedd: oblegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.
7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
8 Yr haul i lywodraethu'r dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
9 Y lleuad a'r sêr i lywodraethu'r nôs: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
10 Yr hwn a darawodd yr Aipht, yn eu cyntaf-anedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
11 Ac a ddûg Israel o'i mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
12 A llaw grêf, ac â braich estynnedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
13 Yr hwn a rannodd y môr côch yn ddwy-ran: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
14 Ac a wnaeth i Israel fyned [Page] trwy ei ganol: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
15 Ac a escyttiodd Pharao a'i lû yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
16 Ac a dywysodd ei bobl drwy 'r anialwch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
17 Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
19 Sehon brenin yr Amoriaid: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
20 Ac Og brenin Basan: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
21 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
22 Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
23 Yr hwn yn ein hisel-radd a'n cofiodd ni: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
24 Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bôb cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
26 Clodforwch Dduw'r nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
Psal. 137.
WRth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac ŵylasom, pan feddyliasom am Sion.
2 Ar yr helyg o'i mewn y crogasom ein telynau.
3 Canys yno y gofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân, a'r rhai a'n anrheithiasei lawenydd, gan ddywedyd, cenwch i ni rai o ganiadau Sion.
4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd, mewn gwlâd ddieithr?
5 Os anghofiaf di Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu.
6 Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau; oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.
7 Cofia Arglwydd blant Edom yn nydd Jerusalem: y rhai a ddywedent, dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.
8 O ferch Babilon a anrheithir, gwyn ei fyd a dalo i ti, fel y gwnaethost i ninnau.
9 Gwyn ei fyd a gymmero, ac a darawo dy rai bâch wrth y meini.
Psal. 138.
CLodforaf di â'm holl galon: yngŵydd y duwiau y canaf it.
2 Ymgrymmaf tu a'th deml sanctaidd: a chlodforaf dy Enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: oblegit ti a fawrheaist dy air vwchlaw dy Enw oll.
3 Y dydd y llefais i'm gwrandewaist: ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
4 Holl frenhinoedd y ddaiar a'th glodforant, ô Arglwydd: pan glywant eiriau dy enau.
5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.
6 Er bod yr Arglwydd yn ychel, etto efe a edrych ar yr issel, ond y balch a edwyn efe o hir-bell.
7 Pe rhodiwn ynghanol cyfyngder, [Page] fyngder, ti a'm bywhait: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a'm hachubei.
8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd Arglwydd, sydd yn dragywydd, nac esceulusa waith dy ddwylo.
Psal. 139. Boreuol Weddi.
ARglwydd chwiliaist, ac adnabuost fi.
2 Ti a adwaenost fy eisteddiad, a'm cyfodiad, deelli fy meddwl o bell.
3 Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.
4 Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele Arglwydd, ti a'i gwyddost oll.
5 Amgylchynaist fi yn ôl, ac ym mlaen: a gosodaist dy law arnaf.
6 Dymma wybodaeth ry ryfedd i mi: vchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
7 I ba le'r âf oddi wrth dy Yspryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
8 Os dringâf i'r nefoedd, yno yr wyt ti, os cyweiriaf fy ngwely yn yffern, wele di yno.
9 Pe cymmerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:
10 Yna hefyd i'm tywysei dy law, ac i'm daliai dy ddeheulaw.
11 Pe dywedwn, diau y tywyllwch a'm cuddia: yna y byddei y nôs yn oleuni o'm hamgylch.
12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd: vn ffunyd yw tywyllwch a goleuni i ti.
13 Canys ti a feddiennaist fy arennau, toaist fi ynghroth fy mam.
14 Clodforaf dydi, canys osnadwy, a rhyfedd i'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd, a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.
15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthit, pan i'm gwnaethbwyd yn ddirgel, ac i'm cywreiniwyd yn isselder y ddaiar.
16 Dy lygaid a welsant fy anelwig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr vn o honynt.
17 Am hynny mor werth-fawr yw dy feddyliau gennif, ô Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!
18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt nâ'r tywod: pan ddeffrowyf, gyd â thi'r ydwyfi yn wastad.
19 Yn ddiau ô Dduw, tra leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthif:
20 Y rhai a ddywedant scelerder yn dy erbyn, dy elynion a gymmerant dy Enw yn ofer.
21 Onid câs gennif, ô Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gennif y rhai a gyfodant i'th erbyn?
22 A châs cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
23 Chwilia fi ô Dduw, a gŵybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau.
24 A gwêl, a oes ffordd annuwiol gennif: a thywys fi yn y ffordd dragywyddol.
Psal. 140.
GWared fi, ô Arglwydd, oddi wrth y dŷn drwg; cadw fi rhag y gŵr traws.
2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni [Page] yn eu calon: ymgasclant beunydd i ryfel.
3 Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwenwyn asp sydd tan eu gwefusau. Selah.
4 Cadw fi, ô Arglwydd, rhag dwylo'r annuwiol, cadw fi rhag y gwr traws; y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynnasant rwyd wrth dannau ar ymmyl fy llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr Selah.
6 Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti; clyw, ô Arglwydd lef fy ngweddiau.
7 Arglwydd Dduw, nerth fy iechydwriaeth: gorchguddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8 Na chaniadhâ Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei drwg feddwl, rhag eu balchio hwynt. Selah.
9 Y pennaf o'r rhai a'm hamgylchyno, blinder eu gwefusau a'i gorchguddio.
10 Syrthied marwor arnynt, a bwrier hwynt yn tân: ac mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant.
11 Na siccrhaer dŷn siaradus ar y ddaiar: drwg a hêla y gŵr traws iw ddistryw.
12 Gwn y dadleu yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy Enw di: y rhai vniawn a drigant ger dy fron di.
Psal. 141.
ARglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat; bryssia attaf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.
2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogldarth, a derchafiad fy nwylo fel yr offrwm prydnhawnol.
3 Gosod Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.
4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni, gyd â gwŷr a weithredant anwiredd: ac na âd i mi fwytta o'i danteithion hwynt.
5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt.
6 Pan dafler eu barn-wŷr i lawr mewn lleoedd carregoc, clywant fy ngeiriau, canys melus ydynt.
7 Y mae ein hescyrn ar wascar ar fin y bedd, megis vn yn torri, neu yn hollti coed ar y ddaiar.
8 Eithr arnat ti o Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais, na âd fy enaid yn ddiymgeledd.
9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi: a hoenynnau gweithred-wŷr anwiredd.
10 Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra elwyfi heibio.
Psal. 142. Prydnhawnol Weddi.
GWaeddais â'm llef ar yr Arglwydd: â'm llef yr ymbiliais â'r Arglwydd.
2 Tywelltais fy myfyrdod o'i flaen ef: a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
3 Pan ballodd fy yspryd o'm mewn, titheu a adwaenit fy llwybr; yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant i mi fagl.
4 Edrychais ar y tu dehau, a [Page] deliais fulw, ac nid oedd neb a'm hadwaenai: pallodd nodded i mi, nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
5 Llefais arnat ô Arglwydd, a dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan, yn nhir y rhai byw.
6 Ystyr wrth fy ngwaedd, canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlid-wŷr, canys trêch ydynt nâ mi.
7 Dŵg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy Enw: y rhai cyfiawn a'm cylchynant, canys ti a fyddi da wrthif.
Psal. 143.
ARglwydd clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
2 Ac na ddôs i farn â'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd fy enaid i lawr, gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ystalm.
4 Yna y pallodd fy yspryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
5 Cofiais y dyddiau gynt, myfyriais ar dy holl waith: ac yngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
6 Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tîr sychedic sydd yn hiraethu am danar. Selah.
7 Oh Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy yspryd; na chuddia dy wyneb oddi wrthif, rhag fy mod yn gyffelyb ir rhai a ddescynnant i'r pwll.
8 Pâr i mi glywed dy drugarogrwydd y boreu: o herwydd ynot ti y gobeithiaf; pâr i mi ŵybod y ffordd y rhodiwyf, o blegit attat ti y derchafaf fy enaid.
9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, ô Arglwydd: gyd â thi'r ymguddiais.
10 Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti yw fy Nuw; tywysed dy Yspryd daionus fi i dîr vniondeb.
11 Bywhâ fi ô Arglwydd, er mwyn dy Enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.
12 Ac er dy drugaredd, dinistria fy ngelynion; a difetha holl gystudd-wŷr fy enaid; oblegit dy wâs di yd wyfi.
Psal. 144. Boreuol Weddi.
BEndigedic fyddo 'r Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dyscu fy nwylo i ymladd, a'm byssedd i ryfela.
2 Py nhrugaredd am hamddeffynfa, fy nhŵr, a'm gwaredudd, fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl tanaf.
3 Arglwydd, beth yw dŷn, pan gydnabyddit ef? neu fab dŷn pan wnait gyfrif o honaw?
4 Dyn sydd debyg i wagedd, ei ddyddiau sydd fel cyscod yn myned heibio.
5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a descyn; cyffwrdd â'r mynyddoedd a mygant.
6 Saetha sellt, a gwascar hwynt: ergydia dy saethau a difa hwynt.
7 Anfon dy law oddi vchod, achub, a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
8 Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalsder,
9 Canaf i ti ô Dduw, ganiad newydd: ar y nabl, a'r dectant y canaf i ti.
10 Efe sydd yn rhoddi iechydwriaeth i frenhinoedd, yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi wrth y cleddyf niweidiol.
11 Achub fi, a gwared fi, o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn deheu-law ffalster.
12 Fel y byddo ein meibion fel plan-wŷdd yn tyfu yn eu hieuengctid, a'n merched fel conglfain nâdd, wrth gyffelybrwydd palâs.
13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn miloedd, a myrddiwn yn ein heolydd.
14 A'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd.
15 Gwyn ei fyd y bobl y mae felly iddynt: gwyn ei fyd y bobl y mae'r Arglwydd, yn Dduw iddynt.
Psal. 145.
DErchafaf di fy Nuw, ô Frenhin: a bendithiaf dy Enw byth, ac yn dragywydd.
2 Beunydd i'th fendithiaf, a'th enw a folaf byth, ac yn dragywydd.
3 Mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: a'i fawredd sydd anchwiliadwy.
4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
5 Ardderchawgrwydd gogoniant dy fawredd, a'th bethau rhyfedd a draethaf.
6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf nneu dy fawredd.
7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a'draethant: a'th gyfiawnder a ddadcanant.
8 Graslawn, a thrugarog yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i ddig, a mawr ei drugaredd.
9 Daionus yw 'r Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
10 Dy holl weithredoedd a'th glodforant, ô Arglwydd: a'th Sainct a'th fendithiant.
11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth: a thraethant dy gadernid.
12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhiniaeth.
13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragywyddol: a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant: ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd,
15 Llygaid pob peth a ddisgwiliant wrthit, ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd:
16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw a'th ewyllys da.
17 Cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl ffyrdd: a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai oll a alwant arno: at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
19 Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a'i hachub hwynt.
20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a'i carant ef, ond yr holl rhai annuwiol a ddifetha efe.
21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei Enw sanctaidd ef, byth ac yn dragywydd.
Psal. 146.
MOlwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di 'r Arglwydd.
2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.
3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iechydwriaeth ynddo.
4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymmorth iddo: sydd a'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.
6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, y môr a'r hyn oll sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd.
7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymmedic, yn rhoddi bara i'r newynoc: yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.
8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion; yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarosty ngwyd; yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw: ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.
10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth: sef dy Dduw di Sion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 147. Prydnhawnol Weddi.
MOlwch yr Arglwydd, canys da yw canu i'n Duw ni: o herwydd hyfryd yw, ie gweddus yw mawl.
2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerusalem, efe a gasel wascaredigion Israel.
3 Efe sydd yn iachau y rhai briwedic o galon; ac yn rhwymo eu doluriau.
4 Y mae efe yn rhifo rhifedi ŷ sêr; geilw hwynt oll wrth eu henwau.
5 Mawr yw ein harglwydd, a mawr ei nerth, anneirif yw ei ddeall.
6 Yr Arglwydd sydd yn derchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
7 Cyd-genwch i'r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i'n Duw â'r delyn.
8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chwm ylau: yn paratoi glaw i'r ddaiar: gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.
9 Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant: ac i gywion y gig-fran, pan lefant.
10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esceiriau gŵr.
11 Yr Arglwydd sydd hôff ganddo y rhai a'i hofnant ef: sef y rhai a ddisgwiliant wrth ei drugaredd ef.
12 Jerusalem mola di 'r Arglwydd, Sion molianna dy Dduw.
13 O herwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth, efe a fendithiodd dy blant o'th fewn.
14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a'th ddiwalla di â braster gwenith.
15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaiar: a'i air a rêd yn dra buan.
16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân: ac a dana rew fel lludw.
17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tammeidiau, pwy a erys gan ei oerni ef?
18 Efe a enfyn ei air, ac a'i tawdd hwynt: a'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.
19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob: ei ddeddfau a'i farnedigaethau i Israel.
20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl: ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 148.
MOlwch yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o'r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
2 Molwch ef ei holl Angelion, molwch ef ei holl luoedd.
3 Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr goleuni.
4 Molwch ef nef y nefoedd: a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
5 Molant Enw'r Arglwydd: o herwydd efe a orchymmynodd, a hwy a grewyd.
6 A gwnaeth iddynt barhau byth ac yn dragywydd: gosododd ddeddfac nis trosseddir hi.
7 Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar, y dreigiau a'r holl ddyfnderau.
8 Tân a chenllysc, eira, a tharth: gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef.
9 Y mynyddoedd a'r bryniau oll, y coed ffrwythlawn a'r holl gedr-wŷdd.
10 Y bwyst-filod, a phob anifail: yr ymlusciaid, ac adar ascelloc.
11 Brenhinoedd y ddaiar a'r holl bobloedd: tywysogion a holl farnwŷr y byd.
12 Gwŷr ieuainge a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau:
13 Molant Enw 'r Arglwydd: o herwydd ei Enw ef yn unic sydd dderchafadwy: ei ardderchawgrwydd ef sydd uwch law daiar a nefoedd.
14 Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, moliant ei holl Sainct, sef meibion Israel, pobl agos atto. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 149.
MOlwch yr Arglwydd. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd: a'i foliant ef ynghynnulleidfa y Sainct.
2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibion Sion yn eu brenin.
3 Molant ei Enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan, a thelyn.
4 O herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth,
5 Gorfoledded y Sainct mewn gogoniant: a chanant ar eu gwelau.
6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau: a chleddyf daufinioc yn eu dwylo.
7 I wneuthur dial ar y cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd:
8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau: a'i pendefigion â gefynnau heirn:
9 I wneuthur arnynt y farn scrifennedic: yr ardderchawgrwydd hyn sydd iw holl Sainct ef. Molwch yr Arglwydd.
Psal. 150.
MOlwch yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ssurfafen ei nerth.
2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
3 Molwch ef â llais udcorn: molwch ef â nabl, ac â thelyn.
4 Molwch ef â thympan, ac â dawns: molwch ef â thannau, ac ag organ.
5 Molwch ef a symbalau soniarus: molwch ef â symbalau llafar.
6 Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.