LLYFR Y PSALMAU, YNG …

LLYFR Y PSALMAU, YNGHYD â THESTAMENT Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr IESU GRIST.

The Book of Psalmes in Prose and Meeter; Together with the New Testament of our Lord & Saviour IESVS CHRIST.

Rhuf. 1.16.

Nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Grist, oblegid gallu Duw yw hi, er Jechydwriaeth i bôb vn a'r sydd yn credu.

Jac. 5.13.

A oes neb yn esmwyth arno? Caned Psalmau.

Printiedig yn Llundain gan E. Tyler a R. Holt, ac a werthir gan Samuel Gellibrand, tan lûn y Bêl (at the Ball) ym monwent Powls, a chan Peter Bodvil yng-Haerlleon, a John Hughes o Wrecsam, 1672.

LLYFR Y PSALMAU.

Psal. 1. Boreuol Weddi.

GWyn ei fyd y gŵr ni ro­dia ynghyngor yr annu­wolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwar­wŷr:

2 Onid sydd a'i ewyllys ynghy­fraith yr Arglwydd: ac yn myfy­rio yn ei gyfraith ef ddydd a nôs.

3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei brŷd; a'i ddalen ni wywa, a pha beth bynnac a wnel, efe a lwydda.

4 Nid felly y bydd yr annuwiol: onid fel mân vs yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith.

5 Am hynny yr annuwolion ni safant yn y farn, na phechaduriaid ynghynnulleidfa y rhai cyfiawn.

6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwolion a ddifethir.

Psal. 2.

PA ham y terfysca y Cenhedlo­edd: ac y myfyria y bobloedd beth ofer?

2 Y mae brenhinoedd y ddaiar yn ymosod, a'r pennaethiaid yn ymgynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,

3 Drylliwn eu rhwymau hwy: a thaflwn eu rheffynnau oddi wr­thym.

4 Yr hwn sydd yn presswylio yn y nefoedd a chwardd: yr Ar­glwydd a'i gwatwar hwynt.

5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lîd, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.

6 Minneu a osodais fy Mrenin ar Sion fy mynydd sanctaidd.

7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr Arglwydd wrthif; fy Mâb yd­wyt ti, myfi heddyw a'th genhed­lais.

8 Gofyn i mi, a rhoddaf y Cen­hedloedd yn etifeddiaeth i ti: a therfynau y ddaiar i'th feddiant.

9 Drylli hwynt â gwialen hai­arn, maluri hwynt fel llestr pridd.

10 Gan hynny 'r awr hon fren­hinoedd, byddwch synhwyrol: barn-wŷr y ddaiar cymmerwch ddŷsc.

11 Gwasanaethwch yr Ar­glwydd mewn ofn: ac ymlawen­hewch mewn dychryn.

12 Cussenwch y mâb rhag iddo ddigio, a'ch difetha chwi o'r ffordd, pan gynneuo ei lid ef ond ychydig: gwyn eu bŷd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Psal. 3.

ARglwydd mor aml yw fy nhrallod-wŷr: llawer yw y rhai sy 'n codi i'm herbyn.

2 Llawer yw y rhai sy 'n dywe­dyd am fy enaid, nid oes iechyd­wriaeth iddo yn ei Dduw. Selah.

3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi: fy ngogoniant, a der­chafudd fy mhen.

4 A'm llef y gelwais ar yr Ar­glwydd, ac efe a'm clybu o'i fy­nydd sanctaidd. Selah.

5 Mi a orweddais, ac a gyscais, ac a ddeffroais; canys yr Arglwydd a'm cynhaliodd.

6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl: y rhai o amgylch a ymosodasant i'm herbyn.

7 Cyfod Arglwydd, achub fi fy Nuw, canys tarewaist fy holl ely­nion ar garr yr ên, torraist ddan­nedd yr annuwolion.

8 Jechydwriaeth sydd eiddo 'r Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Selah.

Psal. 4.

GWrando fi pan alwyf, ô Dduw fy nghyfiawnder; mewn cy­fyngder yr chengaist arnaf: tru­garhá wrthif, ac erglyw fy ngwe­ddi.

2 O feibion dynion, pa hŷd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisi­wch gelwydd? Selah.

3 Ond gwybyddwch i'r Ar­glwydd nailltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.

4 Ofnwch, ac na phechwch, ymddiddenwch â'ch calon ar eich gwely, a thewch. Selah.

5 Aberthwch ebyrth cyfiawn­der, a gobeithiwch yn yr Ar­glwydd.

6 Llawer sy 'n dywedyd, pwy a ddengys i ni ddaioni? Arglwydd, dercha arnom lewyrch dy wyneb.

7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy nâ'r amser yr aml­hâodd eu hŷd, a'i gwin hwynt.

8 Mewn heddwch hefyd y gor­weddaf, ac yr hunaf: canys ti Ar­glwydd yn vnic a wnei i mi drigo mewn diogelwch.

Psal. 5.

GWrando fy ngeiriau Ar­glwydd: deall fy myfyrdod.

2 Erglyw ar lêf fy ngwaedd, fy Mrenin, a'm Duw: canys arnat y gweddiaf.

3 Yn foreu Arglwydd y clywi fy llêf: yn foreu y cyfeiriaf attat, ac yr edrychaf i fynu.

4 O herwydd nid wyt ti Dduw 'n ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyd â thi.

5 Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithred-wyr anwi­redd.

6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd, a'r twyllodrus:

7 A minneu a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy druga redd: ac a a­ddolaf tu a'th Deml sanctaidd yn dy ofn di.

8 Arglwydd arwain fi yn dy gy­fiawnder o achos fy ngelynion: ac vniona dy ffordd o'm blaen.

9 Canys nid oes vniondeb yn eu genau, eu ceudod sydd anwi­reddau: bedd agored yw eu ceg, gwenieithiant â'i tafod.

10 Destrywia hwynt o Dduw, syrthiant oddi wrth eu cynghori­on, gyrr hwynt ymmaith yn aml­der eu camweddau: canys gwrth­ryfelasant i'th erbyn.

11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafar ga­nant yn dragywydd, am i ti orchguddio trostynt: a'r rhai a garant dy Enw, gorfoleddant y­not.

12 Canys ti Arglwydd a fendi­thi [Page] y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.

Psal. 6. Prydnhawnol Weddi.

ARglwydd na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd, ac na chospa fi yn dy lîd.

2 Trugarha wrth if Arglwydd, canys llesc ydwyfi: iachâ fi o Ar­glwydd, canys fy escyrn a gystu­ddiwyd.

3 A'm henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: titheu Arglwydd, pa hŷd?

4 Dychwel Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5 Canys yn angeu nid oes goffa am danat: yn y bedd pwy a'th folianna?

6 Deffygiais gan fy ochain, bôb nôs yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyfi 'n gwlychu fy ngorweddfa â'm da­grau.

7 Treuliodd fy llygad gan ddig­ter: heneiddiodd o herwydd fy holl elynion.

8 Ciliwch oddi wrthif holl wei­ [...]hred-wŷr anwiredd: canys yr Ar­glwydd a glywodd lef fy ŵylofain.

9 Clybu 'r Arglwydd fy neisy­fiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.

10 Gwradwydder, a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dych­weler, a chywilyddier hwynt yn ddisymmwth.

Psal. 7.

ARglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlid-wŷr, a gwared fi.

2 Rhag iddo larpio fy enaid fel lew: gan ei rwygo, pryd na by­ddo gwaredudd.

3 O Arglwydd fy Nuw, os gw­neuthum hyn, od oes anwiredd yn fy nwylaw.

4 O thelais ddrwg i'r nêb oedd heddychol â mi: (ie mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos:)

5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Selah.

6 Cyfod Arglwydd yn dy ddig­llonedd, ymddercha o herwydd llîd fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchymynnaist.

7 Felly cynnulleid fa y bobloedd: a'th amgyschynant: er eu mwyn dychwel ditheu i'r vchelder.

8 Yr Arglwydd a farn y boblo­edd: barn fi, ô Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mher­ffeithrwydd sydd ynof.

9 Darfydded weithian anwi­redd yr annuwolion, eithr cyfar­wydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau, a'r arennau.

10 Fy amddeffyn sydd o Dduw, iachawdur y rhai vniawn o ga­lon.

11 Duw sydd farnudd cyfiawn, a Duw sy ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.

12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hôga ei gleddyf; efe a anne­lodd ei fŵa, ac a'i paratôdd.

13 Paratôdd hefyd iddo arfau anghefol, efe a drefnodd ei sae­thau yn erbyn yr erlidwŷr.

14 Wele, efe a ymddwg anwi­redd, ac a feichiogodd ar gam­wedd, ac a escorodd ar gelwydd.

15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.

16 Ei anwiredd a ymchwel ar [Page] ei ben ei hun: a'i draha a ddescyn ar ei goppa ei hun.

17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder: a chan-molaf enw 'r Arglwydd goruchaf.

Psal. 8.

ARglwydd ein Iôr ni, mor ar­dderchog yw dy Enw ar yr holl ddaiar! yr hwn a osodaist dy ogoniant vwch y nefoedd.

2 O enau plant bychain, a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion: i ostegu y gelyn, a'r ymddialydd.

3 Pan edrychwyf ar dy nefo­edd, gwaith dy fysedd, y lloer a'r ser, y rhai a ordeiniaist;

4 Pa beth yw dŷn i ti iw go­fio? a mâb dŷn i ti i ymweled ag ef?

5 Canys gwnaethost ef ychydig îs nâ 'r angelion: ac a'i coronaist â gogoniant, ac â harddwch:

6 Gwnaethost iddo arglwyddi­aethu ar weithredoedd dy ddwy­lo; gosodaist bôb peth dan ei dra­ed ef;

7 Defaid, ac ychen oll, ac ani­feiliaid y maes hefyd:

8 Ehediaid y nefoedd, a phy­scod y môr: ac y sydd yn tram­wyo llwybrau y moroedd.

9 Arglwydd ein Ior, mor ar­dderchog yw dy enw ar yr holl ddaiar!

Psal. 9. Boreuol Weddi.

CLodforaf di ô Arglwydd, â'm holl galon: mynegaf dy holl ryfeddodau.

2 Llawenychaf, a gorfoleddaf ynot: canaf i'th enw di, y Goru­chaf.

3 Pan ddychweler fy ngelyni­on yn eu hol, hwy a gwympant ac a ddifethir o'th flaen di.

4 Canys gwnaethost fy marn a'm matter yn dda: eisteddaist ar orsedd-faingc, gan farnu yn gy­fiawn.

5 Ceryddaist y cenhedloedd, di­strywiaist yr annuwiol: eu henw hwynt a ddilêaist byth bythol.

6 Hâ elyn, darfu am ddinistr yn dragywydd, a diwreiddiaist y dinasoedd, darfu eu coffadwriaeth gyd â hwynt.

7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd: efe a baratôdd ei or­sedd-faingc i farn.

8 Ac efe a farn y bŷd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn vniondeb.

9 Yr Arglwydd hefyd fydd no­ddfa i'r gorth rymmedig, noddfa yn amser trallod.

10 A'r rhai a adwaenant dy enw a ymddiriedant ynot: canys ni adewaist ô Arglwydd, y rhai a'th geisient.

11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn presswylio yn Sion: mynegwch ymmysc y bob­loedd ei weithredoedd ef,

12 Pan ymofynno efe am waed, efe a'i cofia hwynt: nid anghofia waedd y cystuddiol.

13 Trugarhâ wrthif Arglwydd, gwêl fy mlinder gan fy nghaseion, fy nerchafudd o byrth angau:

14 Fel y mynegwyf dy holl fo­liant ym mhyrth merch Sion: lla­wenychaf yn dy iechydwriaeth.

15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffôs a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.

16 Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a fagl­wyd yngweithredoedd ei ddwy­lo [Page] ei hun. Higaion. Selah.

17 Y rhai drygionus a ymch­welant i vffern: a'r holl genhed­loedd a anghofiant Dduw.

18 Canys nid anghofir y tlawd byth, gobaith y trueniaid ni cho­llir byth.

19 Cyfod Arglwydd, na orfy­dded dŷn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.

20 Gosod Arglwydd, ofn ar­nynt, fel y gŵybyddo y cenhedlo­edd mai dynion ydynt. Selah.

Psal. 10.

PA ham Arglwydd y sefi o bell, yr ymguddi yn amser cyfyng­der?

2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychymmygasant.

3 Canys yr annuwiol a ymffro­stia am ewyllys ei galon; ac a fen­dithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.

4 Yr annuwiol gan vchder ei ffroen ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.

5 Ei ffyrdd sydd flîn bôb am­ser, vchel yw dy farnedigaethau allan o'i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.

6 Dywedodd yn ei galon, ni'm symmudir, o herwydd ni byddaf mewn dryg-fyd, hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

7 Ei enau sydd yn llawn mell­dith, a dichell, a thwyll: tan ei da­fod y mae cam wedd, ac anwiredd.

8 Y mae efe yn eistedd ynghyn­llwynfa y pentrefydd, mewn cil­facheu y lladd efe y gwirion; ei ly­gaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

9 Efe a gynllwyna mewn dir­gelwch, megis llew yn ei ffau; cynllwyn y mae i ddal y tlawd, efe a ddeil y tlawd gan ei dynnu iw rwyd.

10 Efe a ymgrymma, ac a y­mostwng: fel y cwympo tyrfa true­niaid gan ei gedyrn ef.

11 Dywedodd yn ei galon, ang­hofiodd Duw: cuddiodd ei wy­neb, ni wêl byth.

12 Cyfod Arglwydd, ô Dduw dercha dy law nac anghofia y cy­studdiol.

13 Pa ham y dirmyga 'r annu­wiol Dduw? dywedodd yn ei ga­lon, nid ymofynni.

14 Gwelaist hyn, canys ti a gan­fyddi anwiredd, a cham, i roddi tâl a'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd, ti yw cynnorth­wy-wr yr ymddifad.

15 Torr fraich yr annuwiol, a'r drygionus: cais ei ddrygioni ef, hyd na chaffech ddim.

16 Yr Arglwydd sydd Frenin byth, ac yn dragywydd: difeth­wyd y cenhedloedd allan o'i dîr ef.

17 Arglwydd clywaist ddymuni­ad y tlodion; parattoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt.

18 I farnu yr ymddifad a'r gor­thrymmedig: fel na chwanego dŷn daiarol beri ofn mwyach.

Psal. 11.

YN yr Arglwydd yr wyf yn ym-ddiried, pa fodd y dywed­wch wrth fy enaid, eheda i'ch my­nydd fel aderyn?

2 Canys wele, y drygionus a annelant lŵa, paratoesant eu sae­thau ar y llinyn, i saethu yn ddir­gel y rhai vniawn o galon.

3 Canys y seiliau a ddinistriwyd: pa beth a wna y cyfiawn?

4 Yr Arglwydd sydd yn Nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr [Page] Arglwydd sydd yn y nefoedd; y mae ei lygaid ef yn gweled, ei am­rantau yn profi meibion dynion.

5 Yr Arglwydd a brawf y cyfi­awn: eithr câs gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff gan­ddo drawsder.

6 Ar yr annuwolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoeth wynt ystormus: dymma ran eu phiol hwynt.

7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a e­drych ar yr uniawn.

Psal. 12. Prydnhawnol Weddi.

AChub Arglwydd, canys dar­fu y trugarog: o herwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.

2 Oferedd a ddywedant bôb un wrth ei gymmydog; â gwefus wenhieithgar, ac â chalon ddau ddyblyg y llefarant.

3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwenhieithus, a'r tafod a ddywedo fawrhydri.

4 Y rhai a ddywedant, â'n ta­fod y gorfyddwn: ein gwefusau sydd eiddom ni, pwy sydd Ar­glwydd arnom ni?

5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedic, o herwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd: rhoddaf mewn ie­chydwriaeth yr hwn y magler i­ddo.

6 Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seith-waith.

7 Ti Arglwydd a'i cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.

8 Yr annuwolion a rodiant o amgylch: pan dderchafer y gwae­laf o feibion dynion.

Psal. 13.

PA hŷd, Arglwydd, i'm angho­fi, a'i yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?

2 Pa hŷd y cymmeraf gyng­horion yn fy enaid, gan fod blin­der beunydd yn fy nghalon? pa hŷd y derchefir fy ngelyn arnaf?

3 Edrych, a chlyw fi, ô Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid rhag i'm hûno yn yr angeu.

4 Rhag dywedyd o'm gelyn, gorchfygais ef: ac i'm gwrthwy­neb-wŷr lawenychu os gogwy­ddaf.

5 Minneu hefyd a ymddiried­ais yn dy drugaredd di, fy nghalon a ymlawenycha yn dy iechydwri­aeth: canaf i'r Arglwydd am i­ddo synio arnaf.

Psal. 14.

YR ynfyd a ddywedodd yn ei galon, nid oes un Duw: ym­lygrasant, ffieidd-waith a wnae­thant, nid oes a wnél ddaioni.

2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o'r nefoedd ar feibion dyni­on; i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw.

3 Ciliodd pawb, cŷd-ymddi­fwynasant, nid oes a wnêl ddaio­ni, nac oes un.

4 Oni ŵyr holl weithred-wŷr anwiredd? y rhai sy yn bwytta fy mhobl fel y bwyttaent fara; ni al­wâsant ar yr Arglwydd.

5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw ynghenhedlaeth y cyfiawn.

6 Cyngor y tlawd a wradwy­ddasoch chwi, am fod yr Ar­glwydd yn obaith iddo.

7 Pwy a ddyry iechydwriaeth [Page] i Israel o Sion? pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Iacob, ac y llawen­hâ Israel.

Psal. 15. Boreuol Weddi.

ARglwydd pwy a drîg yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteidd­rwydd?

2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddy­wed wîr yn ei galon:

3 Heb absennu â'i dafod: heb wneuthur drwg iw gymmydog, a heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog.

4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg, ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Ar­glwydd: yr hwn a dwng iw ni­wed ei hun, ac ni newidia.

5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymmer wobr yn erbyn y gwirion: a wnêlo hyn nid yscogir yn dragywydd.

Psal. 16.

CAdw fi ô Dduw, canys ynot yr ymddiriedaf.

2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, fy Arglwydd ydwyt ti: fy nâ nid yw ddim i ti:

3 Ond i'r sainct sydd ar y ddai­ar, a'r rhai rhagorawl, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.

4 Gofidiau a amlhânt i'r rhai a fryssiant ar ôl Duw dieithr: eu diod offrwm o waed nid offrym­maf fi, ac ni chymmeraf eu hen­wau yn fy ng wefusau.

5 Yr Arglwydd yw rhan fy eti­féddiaeth i, a'm phiol: ti a gyn­heli fy nghoelbren.

6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: îe y mae i mi etifeddiaeth dêg.

7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a'm cynghôrodd: fy arennau hefyd a'm dyscant y nôs.

8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheu-law, ni'm yscogir.

9 O herwydd hynny llaweny­chodd fy nghalon, ac ymhyfry­dodd fy ngogoniant: fy ngnhawd hefyd a orphywys mewn gobaith.

10 Canys, ni adewi fy enaid yn uffern: ac ni oddefi i'th Sainct we­led llygredigaeth.

11 Dangosi î mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron: ar dy ddeheu-law y mae digrifwch yn dragywydd.

Psal. 17.

CLyw Arglwydd gyfiawnder: ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.

2 Deued fy marn oddi ger dy fron, edryched dy lygaid ar uni­ondeb.

3 Profaist fy nghalon, gofwy­aist fi y nôs, chwillaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.

4 Tu ag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr yspeiludd.

5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.

6 Mi a elŵais arnat, canys gwrandewi arnafi o Dduw: go­stwng dy glust attaf, ac erglyw fy ymadrodd.

7 Dangos dy ryfedd drugare­ddau, ô achubudd y rhai a ymddi­riedant ynot, rhag y sawl a ymgy­fodant yn erbyn dy ddeheu-law.

8 Cadw fi fel canwyll llygad: cudd fi dan gyscod dy adenydd.

9 Rhag yr annuwolion, y rhai [Page] a'm gorthrymmant: rhag fy nge­lynion marwol, y rhai a'm ham­gylchant.

10 Caeasant gan eu brasder, â'i genau y llefarant mewn balchder.

11 Ein cynniweirfa ni a gylchy­nasant hwy yr awr hon, gosoda­sant eu llygaid i dynnu i lawr i'r ddaiar.

12 Eu dull sydd fel llew a chwen­nychci sclyfaethu, ac megis llew ieuangc yn aros mewn lleoedd dirgel.

13 Cyfod Arglwydd; achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy e­naid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di.

14 Rhag dynion y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y bŷd, y rhai y mae eu rhan yn y by­wyd ymma, a'r rhai y llenwaist eu boliau â'th guddiedic dryssor: llawn ydynt o feibjon, a gadawant eu gweddill i'w rhai bychain.

15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf â'th ddelw di.

Psal. 18. Prydnhawnol Weddi.

CAraf di Arglwydd fy ngha­dernid.

2 Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddeffynfa, a'm gwaredudd; fy Nuw, fy nghader­nid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian a chorn fy iechydwri­aeth, a'm huchel-dŵr.

3 Galwaf ar yr Arglwydd can­moladwy: felly i'm cedwir rhag fy ngelynion.

4 Gofidion angau a'm cylchy­nâsant: ac afonydd y fall a'm dychrynasant i.

5 Gofidiau uffern a'm cylchy­nâsant: maglau angeu a achuba­sant fy mlaen.

6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o'i Deml, a'm gwaedd ger ei fron a ddaeth iw glustiau ef.

7 Yna y siglodd, ac y crynodd y ddaiar, a seiliau y mynyddoedd a gynnhyrfodd, ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.

8 Derchafodd mŵg o'i ffroe­nau, a thân a yssodd o'i enau: glô a enynnâfant ganddo.

9 Efe hefyd a ostyngodd y ne­foedd, ac a ddescynnodd: a thy­wyllwch oedd tan ei draed ef.

10 Marchogodd hefyd ar y Ce­rub, ac a ehedodd: ie efe a ehe­dodd ar adenydd y gwynt.

11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo, a'i babell o'i am­gylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew-gwmmylau yr awyr.

12 Gan y discleirdeb oedd ger ci fron, ei gwmmylau a aethant heibio: cenllysc a marwor tanllyd.

13 Yr Arglwydd hefyd a dara­nodd yn y nefoedd: a'r Goruchaf a roddes ei lef: cenllysc a marwor tanllyd.

14 Ie, efe a anfonodd ei sae­thau, ac a'i gwascarodd hwynt: ac a saethodd ei fellt, ac a'i gorch­fygodd hwynt.

15 Gwaelodion y dyfroedd a wel­wyd, a seiliau y bŷd a ddinoeth­wyd: gan dy gerydd di ô Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroe­nau.

16 Anfonodd oddi uchod, cym­merodd fi, tynnod fi allan o ddy­froedd lawer.

17 Efe a'm gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy ngha­seion: canys yr oeddynt yn drech nâ mi.

18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.

19 Dûg fi hefyd i ehengder, gwa­redodd fi canys ymhoffodd ynof.

20 Yr Arglwydd a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glen­did fy nwylo y talodd efe i mi.

21 Canys cedwais ffyrdd yr Ar­glwydd: ac ni chiliais yn annu­wiol oddi wrth sy Nuw.

22 O herwydd ei holl farne­digaethau ef oedd ger fy mron i: a'i ddeddfau ni fwriais oddi wr­thif.

23 Bum hefyd yn berffaith gyd ag ef: ac ymgedwais rhag fy an­wiredd.

24 A'r Arglwydd a'm gobrwy­odd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.

25 A'r trugarog y gwnei dru­garedd: â'r gŵr perffaith y gw­nei berffeithrwydd.

26 A'r glân y gwnei lendid: ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.

27 Canys ti a waredi y bobl gy­studdiedic: ond ti a ostyngi oly­gon vchel.

28 O herwydd ti a oleui fy nghanwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.

29 Oblegit ynot ti y rhedais trwy fyddin: ac yn fy Nuw y llemmais dros fûr.

30 Duw sydd berffaith ei ffordd, gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ym­ddiriedant ynddo.

31 Canys pwy sydd Dduw heb law 'r Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni?

32 Duw sy'n fy ngwregyssu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.

33 Gosod y mae efe fy nhraed, fel traed ewigod: ac ar fy vchel­fannau i'm sefydla.

34 Efe sy yn dyscu fy nwylo i ryfel: fel y dryllir bŵa dûr yn fy mreichiau.

35 Rhoddaist hefyd i mi dari­an dy iechydwriaeth, a'th dde­heu-law a'm cynhaliodd, a'th fwynder a'm lluosogodd.

36 Ehengaist fy ngherddediad tanaf: fel na lithrodd fy nhraed.

37 Erlidiais fy ngelynion, ac a'i goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

38 Archollais hwy, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.

39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist tanaf y rhai a ymgododd i'm herbyn.

40 Rhoddaist hefyd i mi war­rau fy ngelynion: fel y difethwn fy nghaseion.

41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubudd: sef ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt.

42 Maluriais hwynt hefyd fel llŵch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heo­lydd.

43 Gwaredaist fi rhag cynhen­nau y bobl, gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.

44 Pan glywant am danaf v­fyddhânt i mi: meibion dieithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.

45 Meibion dieithr a ballant: ac a ddychrynant allan o'i dirgel fannau.

46 Byw yw 'r Arglwydd, a ben­dithier fy nghraig: a derchafer Duw fy iechydwriaeth.

47 Duw sydd yn rhoddi i mi [Page] allu ymddial: ac a ddarostwng y bobloedd tanaf.

48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie ti a'm der­chefi vwch law y rhai a gyfodant i'm herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws.

49 Am hynny y moliannaf di o Arglwydd, ym mhlith y cenhed­loedd, ac y cânaf i'th enw.

50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i'w frenin, ac yn gw­neuthur trugaredd iw enneiniog, i Ddafydd, ac iw hâd ef byth.

Psal. 19. Boreuol Weddi.

Y Nefoedd sy yn dadcan go­goniant Duw: a'r ffurfa­fen sy yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef.

2 Dydd i ddydd a draetha y­madrodd: a nôs i nôs a ddengys ŵybodaeth.

3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.

4 Eu llinyn aeth drwy'r holl ddaiar, a'i geiriau hyd eithafoedd y bŷd: i'r haul y gosododd efe ba­bell ynddynt.

5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o'i stafell: ac a ym­lawenha fel cawr i redeg gyrfa.

6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a'i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wrês ef.

7 Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystio­laeth yr Arglwydd sydd siccr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddo­eth.

8 Deddfau yr Arglwydd sydd yniawn, yn llawenhau y galon: gorchymmyn yr Arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid.

9 Ofn yr Arglwydd sydd lân, yn parhau yn dragywydd: barnau 'r Arglwydd ydynt wirionedd, cy­fiawn ydynt i gŷd.

10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie nag aur coeth lawer: melysach hefyd nâr mêl, ac nâ diferiad di­liau mêl.

11 Ynddyht hwy hefyd y rhy­buddir dy wâs; o'i cadw y mae gwobr lawer.

12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanhâ fi oddi wrth fy meiau cu­ddiedic.

13 Attal hefyd dy wâs oddi wrth bechodau rhyfygus, na arglwy­ddiaethant arnaf: yna i'm perffei­thir, ac i'm glanheir oddiwrth an­wiredd lawer.

14 Bydded ymadroddion fy nge­nau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron, ô Ar­glwydd, fy nghraig, a'm prynwr.

Psal. 20.

GWrandawed yr Arglwydd ar­nat yn nydd cyfyngder: enw Duw Jacob a'th ddeffynno.

2 Anfoned i ti gymmorth o'r cyssegr: a nerthed di o Sion.

3 Cofied dy holl offrymmau: a bydded fodlon i'th boeth offrwm, Selah.

4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon: a chyflawned dy holl gyngor.

5 Gorfoleddwn yn dy iechyd­wriaeth di, a derchafwn faner yn enw ein Duw: cyflawned yr Ar­glwydd dy holl ddymuniadau.

6 Yr awr hon y gwn y gwared yr Arglwydd ei enneiniog, efe a wrend y arno o nefoedd i sanctei­ddrwydd, yn nerth iechyd ei dde­heu-law ef.

7 Ymddiried rhai mewn cer­bydau, [Page] a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr Arglwydd ein Duw.

8 Hwy a gwympasant, ac a syr­thiasant: ond nyni a gyfodasom, ac a safafom.

9 Achub Arglwydd: gwranda­wed y Brenin arnom, yn y dydd y llefom.

Psal. 21.

ARglwydd yn dy nerth y lla­wennycha y brenin: ac yn dy iechydwriaeth di, mor ddirfawr yr ymhyfryda?

2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo: a dymuniad ei wefusau ni's gommeddaist. Selah.

3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

4 Gofynnodd oes gennit, a rho­ddaist iddo: ie hiroes, byth ac yn dragywydd.

5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iechydwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.

6 Canys gwnaethost ef yn fen­dithion yn dragywyddol, llawe­nychaist ef â llawenydd âth wy­neb-pryd.

7 O herwydd bod y brenin yn ymddiried yn yr Arglwydd, a thrwy drugaredd y Goruchaf, nid yscogir ef.

8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheu-law a gaiff afael ar dy gaseion.

9 Ti a'u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr Argl­wydd yn ei ddigllonedd a'i llwngc hwynt, a'r tân a'i hyssa hwynt.

10 Eu ffrwyth hwynt a ddini­stri di oddi ar y ddaiar; a'i hâd o blith meibion dynion.

11 Canys bwriadasant ddrwg i'th erbyn; meddyliasant amcan, heb allu o honynt ei gwplau.

12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratoi di saethau yn erbyn eu hwynebau.

13 Ymddercha Arglwydd yn dy nerth: canwn, a chan-molwn dy gadernid.

Psal. 22. Prydnhawnol Weddi.

FY Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist? pa ham yr yd­wyt mor bell oddi wrth fy iechydwriaeth, a geiriau fy lle­fain.

2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi: y nôs he­fyd, ac nid oes osteg i mi.

3 Ond tydi wyt sanctaidd, ô dydi yr hwn wyt yn cyfanneddu ym moliant Israel.

4 Ein tadau a obeithiasant y­not: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.

5 Arnat ti y llesasant, ac achub­wyd hwynt: vnot yr ymddirieda­sant, ac ni's gwradwyddwyd hwynt.

6 A minneu prŷf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmygy bobl.

7 Pawb a'r a'm gwêlant a'm gwatwarant: llaesant wefl, escyd­want ben, gan ddywedyd,

8 Ymddiriedodd yn yr Ar­glwydd, gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.

9 Canys ti a'm tynnaist o'r grôth: gwnaethost i mi obeithio pan o­eddwn ar fronnau fy mam.

10 Arnat ti i'm bwriwyd o'r brû: o grôth fy mam fy Nuw ydwyt.

11 Nac ymbellhâ oddi wrthif, o herwydd cyfyngder sydd agos: [Page] canys nid oes cynnorthwy-wr.

12 Teirw lawer a'm cylchyna­sant: gwrdd deirw Basan, a'm hamgylchasant.

13 Agorasant arnaf eu genau: fel llew rheipus, a rhuadwy.

14 Fel dwfr i'm tywalltwyd, a'm hescyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cŵyr, hi a do­ddodd ynghanol fy mherfedd.

15 Fy nerth a wywodd fel pridd­lestr, a'm tafod a lynodd wrth da­flod fy ngenau: ac i lŵch angeu i'm dygaist.

16 Canys cŵn a'm cylchynasant, cynnulleidfa y drygionus a'm hamgylchasant: trywanasant fy nwylaw a'm traed.

17 Gallaf gyfrif fy holl escryn: y maent yn tremio, ac yn edrych arnaf.

18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysc: ac ar fy ngwisc yn bwrw coelbren.

19 Ond tydi Arglwydd nac ym­bellhâ: fy nghadernid bryffia i'm cynnorthwyo.

20 Gwared fy enaid rhag y cle­ddyf: fy vnic enaid o feddiant y cî.

21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn vnicorniaid i'm gwrandewaist.

22 Mynegaf dy enw i'm bro­dyr: ynghanol y gynnulleidfa i'th folaf.

23 Y rhai sy yn ofni 'r Ar­glwydd, molwch ef, holl hâd Ja­cob, gogoneddwch ef: a holl hâd Israel, ofn wch ef.

24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd, ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wr­andawodd.

25 Fy mawl fydd o honot ti yn y gynnulleidfa fawr: fy addu­nedau a dalaf ger bron y rhai a'i hofnant ef.

26 Y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir, y rhai a geisiant yr Ar­glwydd a'i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd.

27 Holl derfynau y ddaiar a go­fiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylŵythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.

28 Canys eiddo 'r Arglwydd yw 'r deyrnas: ac efe sydd yn llywo­draethu ymmhlith y cenhedloedd.

29 Yr holl rai breision ar y ddai­ar a fwyttânt, ac a addolant: y rhai a ddescynnant i'r llŵch a ym­grymmant ger ei fron ef: ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.

30 Eu hâd a'i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i'r Arglwydd yn gen­hedlaeth.

31 Deuant, ac adroddant ei gy­fiawnder ef i'r bobl a enir: mai efe a wnaeth hyn.

Psal. 23.

YR Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisieu arnaf.

2 Efe a wna i'm orwedd mewn porfeydd gwelltoc: efe a'm tywys ger llaw y dyfroedd tawel.

3 Efe a ddychwel fy enaid, efe a'm harwain ar hŷd llwybrau cy­fiawnder, er mwyn ei enw.

4 Ie pe rhodiwn ar hŷd glynn cyscod angeu, nid ofnaf niwed, canys yr wyt ti gyd â mi: dy wia­len, a'th ffon a'm cyssurant.

5 Ti a arlwyi ford ger fy mron, yngwydd fy ngwrthwyneb-wŷr: iraist fy mhen ag olew, fy phiol fydd lawn.

6 Daioni, a thrugaredd yn ddiau a'm canlynant, holl ddyddiau [Page] fy mywyd: a phresswyliaf yn nhŷ 'r Arglwydd yn dragywydd.

Psal. 24. Boreuol Weddi.

EIddo yr Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder: y bŷd, ac a bresswylia ynddo,

2 Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd: ac a'i siccrhâodd ar yr afonydd.

3 Pwy a escyn i fynydd yr Ar­glwydd? a phwy a saif yn ei lê sanctaidd ef?

4 Y glân ei ddwylo, a'r pûr ei galon: yr hwn ni dderchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

5 Efe a dderbyn fendith gan yr Arglwydd, a chyfiawnder gan Dduw ei iechydwriaeth.

6 Dymma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef: y rhai a geisiant dy wyneb di, ô Iacob. Selah.

7 O byrth derchefwch eich pennau, ac ymdderchefwch ddry­sau tragywyddol: a brenin y gogo­niant a ddaw i mewn.

8 Pwy yw yr brenin gogoniant hwn? yr Arglwydd nerthol, a cha­darn; yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.

9 O byrth, derchefwch eich pen­nau, ac ymdderchefwch ddrysau tragywyddol, a brenin y gogoni­ant a ddaw i mewn.

10 Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? Arglwydd y lluoedd, efe yw brenin y gogoniant. Selah.

Psal. 25.

ATtat ti ô Arglwydd, y dercha­faf fy enaid.

2 O fy Nuw, ynot ti 'r ymddi­riedais, na 'm gwradwydder: na or­feledded fy ngelynion arnaf.

3 Ie na wradwydder nêb sydd yn disgwyl wrthit ti: gwradwy­dder y rhai a drosseddant heb a­chos.

4 Pâr i mi ŵybod dy ffyrdd ô Arglwydd: dysc i mi dy lwybrau.

5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysc fi: canys ti yw Duw fy iechy­dwriaeth, wrthit ti y disgwyliaf ar hyd y dydd.

6 Cofia Arglwydd dy dosturi­aethau, a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

7 Na chofia bechodau fy ieu­engctid, na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, er mwyn dy ddaioni Ar­glwydd.

8 Da ac uniawn yw yr Ar­glwydd: o herwydd hynny y dysc efe bechaduriaid yn y ffordd.

9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a'i ffordd a ddysc efe i'r rhai gostyngedic.

10 Holl lwybrau 'r Arglwydd ydynt drugaredd, a gwirionedd i'r rhai a gadwant ei gyfammod, a'i dystiolaethau ef.

11 Er mwyn dy Enw, Arglwydd, maddeu fy anwiredd: canys mawr yw.

12 Pa ŵr yw efe sy 'n ofni yr Arglwydd? efe a'i dysc ef yn y ffordd a ddewiso.

13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a'i hâd a etifedda y ddaiar.

14 Dirgelwch yr Arglwydd sydd gydâ 'r rhai a'i hofnant ef: a'i gyfammod hefyd, iw cyfarwy­ddo hwynt.

15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddwg fy nhraed allan o'r rhwyd.

16 Trô attaf, a thrugarhâ wr­thif: canys unic a thlawd ydwyf.

17 Gofidiau fy nghalon a he­laethwyd: dwg di fi allan o'm cy­fyngderau.

18 Gwêl fy nghystudd, a'm hel­bul: a maddeu fy holl bechodau.

19 Edrych ar fy ngelynion, ca­nys amlhasant: â chasineb craws hefyd i'm cassasant.

20 Cadw fy enaid, ac achub fi: na'm gwradwydder, canys ymddi­riedais ynot.

21 Cadwed perffeithrwydd, ac uniondeb fi, canys yr wyf yn dis­gwyl wrthit.

22 O Dduw, gwared Israel o'i holl gyfyngderau.

Psal. 26.

BArn fi Arglwydd, canys rho­diais yn fy mherffeithrwydd, ymddiriedais hefyd yn yr Ar­glwydd, am hynny ni lithraf.

2 Hôla fi Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arennau, a'm calon.

3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.

4 Nid esteddais gyd â dynion coegion, a chyd â'r rhai trofaus nid âf.

5 Casseais gynnulleidfa y dry­gionus: a chyd â'r annuwolion nid eisteddaf.

6 Golchaf fy nwylo mewn di­niweidrwydd: a'th allor ô Ar­glwydd, a amgylchynaf:

7 I gyhoeddi â llêf clodforedd: ac i fynegi dy holl ryfeddodau.

8 Arglwydd hoffais drigfan dy dŷ: a lle presswylfa dy ogo­niant.

9 Na chascl fy enaid gyd â phe­chaduriaid: na'm bywyd gyd â dynion gwaedlyd:

10 Y rhai y mae scelerder yn eu dwylo, a'i deheu-law yn llawn gwobrau.

11 Eithr mi a rodiaf yn fy mher­ffeithrwydd: gwared fi, a thru­garhâ wrthif.

12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr union: yn y cynnulleidfaoedd i'th fendithiaf ô Arglwydd.

Psal. 27. Prydnhawnol Weddi.

YR Arglwydd yw fy ngo­leuni, a'm hiechydwri­aeth, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?

2 Pan nessaodd y rhai drygio­nus, sef fy ngwrthwyneb-wŷr, am gelynion i'm herbyn, i fwytta fy ngnhawd: hwy a dramgwydda­sant, ac a syrthiasant.

3 Pe gwersyllei llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodei câd i'm herbyn, yn hŷn mi a fy­ddaf hyderus.

4 Un peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd hynny a geisiaf, sef caffel trigo y nhŷ 'r Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd: i e­drych ar brydferthwch yr Ar­glwydd, ac i ymofyn yn ei Deml.

5 Canys yn y dydd blîn i'm cuddia o fewn ei babell: yn nir­gelfa ei babell i'm cuddia, ar graig i'm cyfyd i.

6 Ac yn awr y dercha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch: am hynny 'r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie can-molaf yr Arglwydd.

7 Clyw ô Arglwydd fy llefe­rydd pan lefwyf, trugarhâ hefyd wrthif, a gwrando arnaf.

8 Pan ddywedaist, ceisiwch fy wyneb, fy ngalon a ddywedodd wrthit, dy wyneb a geisiaf, ô Ar­glwydd.

9 Na chuddia dy wyneb oddi [Page] wrthif, na fwrw ymmaith dy wâs mewn soriant: fy nghymmorth fuost; na âd fi, ac na wrthod fi, ô Dduw fy iechydwriaeth.

10 Pan yw fy nhâd, a'm mam yn fy ngwrthod: yr Arglwydd a'm derbyn.

11 Dysc i mi dy ffordd Arglwydd: ac arwain fi ar hŷd llwybrau uni­ondeb, o herwydd fy ngelynion.

12 Na ddyro fi i fynu i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster a gy­fodasant i'm herbyn.

13 Deffygiaswn, pe na chreda­swn weled daioni'r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

14 Disgwyl wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy ga­lon: disgwyl meddaf wrth yr Ar­glwydd.

Psal. 28.

ARnat ti Arglwydd y gwae­ddaf, fy nghraig na ddistawa wrthif: rhag o thewi wrthif, i'm fod yn gyffelyb i rai yn descyn i'r pwll.

2 Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyf arnat; pan dderchaf­wyf fy nwylo tu ag at dy gafell sanctaidd.

3 Na thynn fi gyd â'r annuwo­lion, a chyd â gweithred-wŷr an­wiredd, y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.

4 Dyro iddynt yn ôl eu gwei­thred, ac yn ôl drygioni eu dy­chymmygion, dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo: tâl i­ddynt eu haeddedigaeth.

5 Am nad ystyriant weithred­oedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistri a efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.

6 Bendigedic fyddo 'r Ar­glwydd: canys clybu lêf fy ngwe­ddiau.

7 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm tarian, ynddo ef yr ymddirie­dodd fy nghalon, ac myfi a gyn­northwywyd: o herwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.

8 Yr Arglwydd sydd nerth i'r cyfryw rai, a chadernid iechy­dwriaeth ei enneiniog yw efe.

9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt he­fyd, a dyrcha hwynt yn dragy­wydd.

Psal. 29.

MOeswch i'r Arglwydd chwi feibion cedyrn: moeswch i'r Arglwydd ogoniant, a nerth.

2 Moeswch i'r Arglwydd ogo­niant ei Enw: addolwch yr Ar­glwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.

3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd, Duw y gogoniant a da­rana: yr Arglwydd sydd ar y dy­froedd mawrion.

4 Llef yr Arglwydd sy mewn grym: llêf yr Arglwydd sy mewn prydferthwch.

5 Llêf yr Arglwydd sy yn dry­llio y cedrwŷdd: ie dryllia'r Ar­glwydd gedr-wŷdd Libanus.

6 Efe a wna iddynt lammu fel llô: Libanus a Syrion fel llwdn unicorn.

7 Llef yr Arglwydd a wascara y fflammau tân.

8 Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.

9 Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei Deml, pawb a draetha ei ogoniant ef.

10 Yr Arglwydd sydd yn ei­stedd ar y llifeiriant, ie yr Ar­glwydd a eistedd yn frenin yn dragywydd.

11 Yr Arglwydd a ddyry nerth iw bobl: yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangr eddyf.

Psal. 30. Boreuol Weddi.

MAwrygaf di ô Arglwydd, canys derchefaist fi: ac ni lawenhêaist fy ngelynion o'm plegit.

2 Arglwydd, fy Nuw, llefais arnat: a thitheu a'm hiachêaist.

3 Arglwydd derchefaist fy e­naid o'r bedd, cedwaist fi yn fyw, rhag descyn o honof i'r pwll.

4 Cenŵch i'r Arglwydd ei sainct ef: a chlodforwch wrth goffadw­riaeth ei sancteiddrwydd ef.

5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid, yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: tros brŷd nawn yr e­rys ŵylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd.

6 A mi a ddywedais yn fy llwyddiant, ni'm syflir yn dragy­wydd.

7 O'th ddaioni Arglwydd, y go­sodaist gryfder yn fy mynydd: cu­ddiaist dy wyneb, a bum helbulus.

8 Arnat ti Arglwydd y llefais: ac a'r Arglwydd yr ymbiliais.

9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed pan ddescynnwyf i'r ffôs? a glod­fora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?

10 Clyw Arglwydd, a thruga­rhâ wrthif: Arglwydd bydd gyn­north wywr i mi.

11 Troaist sy ngalar yn llawen­ydd i mi: dioscaist fy sach-wisc, a gwregyfaist fi â llawenydd.

12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo▪ ô Arglwydd fy Nuw, yn dragywyddol i'th foli­annaf.

Psal. 31.

YNot ti Arglwydd yr ymddirie­dais, nam gwradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gy­fiawnder.

2 Gogwydda dy glust attaf, gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddeffyn, i'm cadw.

3 Canys fy nghraig a'm castell yd wyt: gan hynny er mwyn dy Enw, tywys fi, ac arwain fi.

4 Tynn fi allan o'r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.

5 I'th law y gorchymynnaf fy yspryd: gwaredaist fi ô Arglwydd Dduw y gwirionedd.

6 Caseais y rhai sy yn dal ar o­fer-wagedd: minneu a obeithiaf yn yr Arglwydd.

7 Ymlawenhâf, ac ymhyfry­daf yn dy drugaredd: canys gwe­laist fy adfyd: adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau.

8 Ac ni warcheaist fi yn llaw y gelyn, onid gosodaist fy nhraed mewn ehangder.

9 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys cyfyng yw arnaf: dadwi­nodd fy llygad gan ofid, ie fy e­naid a'm bol:

10 Canys fy mywyd a ballodd gân ofid, a'm blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd o her­wydd fy anwiredd, a'm hescyrn a bydrasant.

11 Yn warthrudd yr ydwyf ymmyfg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymmysg fy nghym­mydogion, ac yn ddychryn i'r rhai a'm hadwaenant; y rhai a'm gwe­lent [Page] allan, a gilient oddi wrthif.

12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl, yr ydwyf fel llestr methedic.

13 Canys clywais ogan llawer­oedd, dychryn oedd o bob parth: pan gyd-ymgynghorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nienei­dio.

14 Ond mi a obeithiais ynot ti Arglwydd, dywedais, fy Nuw yd­wyt.

15 Yn dy law di y mae fy am­serau: gwared fi o law fy ngelyni­on, ac oddi wrth fy erlyd-wŷr.

16 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs: achub fy er mwyn dy dru­garedd.

17 Arglwydd na wradwydder, fi, canys gelwais arnat: gwrad­wydder yr annuwolion, torrer hwynt i'r bedd.

18 Gosteger y gwefusau celŵy­ddoc, y rhai a ddywedant yn ga­led drwy falchder, a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.

19 Morr fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th of­nant (ac a wnaethost i'r rhai a ymddiriedant ynot, ger bron mei­bion dynion!

20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb, rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell, rhag cynnen tafodau.

21 Bendigedic fyddo 'r Argl­wydd, canys dangosodd yn rhy­fedd ei garedigrwydd i mi, mewn dinas gadarn.

22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, fo'm bwriwyd allan o'th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddiau, pan lefais ar­nat.

23 Cerwch yr Arglwydd, ei holl sainct ef: yr Arglwydd a gei­dw y ffyddloniaid, ac a dâl yn e­helaeth i'r nêb a wna falch­der.

24 Ymwrolwch, ac efe a gryf­hâ eich calon: chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.

Psal. 32. Prydnhawnol Weddi.

GWyn ei fŷd y nêb y ma­ddeuwyd ei drossedd: ac y cuddiwyd ei bechod.

2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd: ac ni bo dichell yn ei yspryd.

3 Tra y tewais, heneiddiodd fy escyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.

4 Canys trymhâodd dy law ar­naf ddydd a nos: fy irder a dro­wyd yn sychder hâf. Selah.

5 Addefais fy mhechod wrthit, a'm hanwiredd ni chuddiais: dy­wedais, cyffessaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Selah.

6 Am hyn y gweddia pob du­wiol arnat ti yn yr amser i'th ge­ffir: yn ddiau yn llifeiriant dy­froedd mawrion, ni chânt nessau atto ef.

7 Ti ydwyt loches i mi: cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â cha­niadau ymwared. Selah.

8 Cyfarwyddaf di, a dyscaf di yn y ffordd yr elych: a'm llygad arnat i'th gynghoraf.

9 Na fyddwch fel march, neu fûl heb ddeall, yr hwn y mae rhaid attal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddinesau attat.

10 Gofidiau lawer fydd i'r an­nuwiol, ond y neb a ymddiriedo [Page] yn yr Arglwydd, trugaredd a'i cylchyna ef.

11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a'r rhai uniawn o galon oll, ce­nwch yn llafar,

Psal. 33.

YMlawenhewch y rhai cyfi­awn, yn yr Arglwydd: i'r rhai uniawn gweddus yw mawl.

2 Molwch yr Arglwydd â'r de­lyn: cenwch iddo â'r nabl, ac â'r dectant.

3 Cenwch iddo ganiad ne­wydd: cenwch yn gerddgar, yn so­niarus.

4 Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a'i holl weithred­oedd a wnaed mewn ffyddlon­deb.

5 Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaiar yn gyflawn.

6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaeth pwyd y nefoedd: a'i holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.

7 Casclu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd, megis pen-twrr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn tryssorau.

8 Ofned yr holl ddaiar yr Ar­glwydd: holl drigolion y byd ar­swydant ef.

9 Canys efe a ddywcdodd, ac felly y bu: efe a orchymynnodd, a hynny a safodd.

10 Yr Arglwydd sydd yn di­ddymmu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymmu amcani­on pobloedd.

11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd: meddyliau ei galon, o genhedlaeth i genhed­laeth.

12 Gwyn ei fyd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi: a'r bobl a ddetholes efe yn etifeddi­aeth iddo ei hun.

13 Yr Arglwydd sy yn edrych i lawr o'r nefoedd: y mae yn gwe­led holl feibion dynion.

14 O bresswyl ei drigfa yr e­drych efe ar holl drigolion y ddaiar.

15 Efe a gyd-luniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl wei­thredoedd.

16 Ni waredir brenin gan li­aws llu: ni ddiangc cadarn drwy ei fawr gryfder.

17 Peth ofer yw march i ym­wared: ac nid achub efe neb drwy ei fawr gryfder.

18 Wele, y mae llygad yr Ar­glwydd ar y rhai a'i hofnant ef: sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef,

19 I waredu eu henaid rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn am­ser newyn.

20 Ein henaid sydd yn dis­gwil am yr Arglwydd: efe yw ein porth a'n tarian:

21 Canys ynddo ef y llaweny­cha ein calon; o herwydd i ni o­beithio yn ei enw sanctaidd ef.

22 Bydded dy drugaredd Ar­glwydd arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.

Psal. 34.

BEndithiaf yr Arglwydd bôb amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.

2 Yn yr Arglwydd y gorfole­dda fy enaid: y rhai gostyngedic a glywant hyn, ac a lawenychant.

3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi: a chyd-dderchaswn ei enw ef.

4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe am gwrandawodd: gwaredodd fi hefyd o'm holl ofn.

5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd: ai hwynebau ni chy­wilyddiwyd.

6 Y tlawd hwn a lefodd, a'r Ar­glwydd a'i clybu, ac a'i gware­dodd o'i holl drallodau.

7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt.

8 Profwch, a gwelwch mor dda yw 'r Arglwydd: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9 Ofnwch yr Arglwydd, ei sainct ef: canys nid oes eisieu ar yrhai a'i hofnant ef.

10 Y mae eisieu, a newyn ar y llewod ieuaingc, ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd ar­nynt eisieu dim daioni.

11 Deuwch blant, gwrandewch arnaf: dyscaf i chwi ofn yr Ar­glwydd.

12 Pwy yw'r gŵr a chwen­nych fywyd, ac a gâr hîr ddyddi­au, i weled daioni?

13 Cadw dy dafod rhag drwg: â'th wefusau rhag traethu twyll.

14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda: ymgais â thangneddyf, a dilyn hi.

15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a'i glustiau sydd yn agored iw llefain hwynt.

16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg: i dorri eu coffa oddi ar y ddaiar.

17 Y rhai cyfiawn a lefant, a'r Arglwydd a glyw, ac a'i gwared o'i holl drallodau.

18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai drylliedic o galon: ac efe a geidw y rhai briwedic o yspryd.

19 Aml ddrygau a gaiff y cy­fiawn: ond yr Arglwydd a'i gwa­red ef oddi wrthynt oll.

20 Efe a geidw ei holl escyrn ef: ni thorrir vn o honynt.

21 Drygioni a ladd yr annu­wiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn a anrheithir.

22 Yr Arglwydd a wared enei­diau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid an­rheithir hwynt.

Psal. 35. Boreuol Weddi.

DAdleu fy nadl Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddad­leuant i'm herbyn: ym­ladd â'r rhai a ymladdant â mi.

2 Ymafael yn y darian a'r ast­alch, a chyfot i'm cymmorth.

3 Dwg allan y wayw-ffon, ac argaea yn erbyn fy erlyd-wŷr: dy­wed wrth fy enaid, myfi yw dy iechydwriaeth.

4 Cywilyddier, a gwradwydder y rhai a geisiant fy enaid: ymch­weler yn eu hôl, a gwarthaer, y sawl a fwriadant fy nrygu.

5 Byddant fel vs o flaen y gwynt: ac Angel yr Arglwydd yn eu her­lid.

6 Bydded eu ffordd yn dywyll­wch, ac yn llithrigfa: ac Angel yr Arglwydd yn eu hymlid.

7 Canys heb achos y cuddia­sant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i'm henaid.

8 Deued arno ddistryw ni ŵypo, a'i rwyd yr hon a guddiodd a'i da­lio: syrthied yn y distryw hwnnw.

9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iechydwriaeth ef.

10 Fy holl escyrn a ddywedant, ô Arglwydd, pwy sydd fel tydi, [Page] yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo trech nag ef, y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hyspeilio?

11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.

12 Talasant i mi ddrwg dros dda; i yspeilio fy enaid.

13 A minneu pan glafychent hwy, oeddwn a'm gwisc o sach­len, gostyngais fy enaid ag ym­pryd: a'm gweddi a ddychwe­lodd i'm mynwes fy hun.

14 Ymddygais fel be buasei 'n gyfaill, neu yn frawd i mi: ymo­styngais mewn galar-wisc, fel vn yn galaru am ei fam.

15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasclasant: ym­gasclodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.

16 Ym mysc y gwatwarwyr rhag-rithiol mewn gwleddoedd yscyrnygasant eu dannedd arnaf.

17 Arglwydd, pa hŷd yr edry­chi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy vnic enaid rhag y llewod.

18 Mi a'th glodforaf yn y gyn­nulleidfa fawr: moliannaf di ym-mhlith pobl lawer.

19 Na lawenychant o'm her­wydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidient â llygad.

20 Can nad ymddiddanant yn dangneddyfus: eithr dychymy­gant eiriau dichellgar, yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.

21 Lleda sant eu safn arnaf gan ddywedyd: Ha, ha, gwelodd ein llygad.

22 Gwelaist hyn Arglwydd, na thaw ditheu: nae ymbellhâ oddi­wrthif, ô Arglwydd.

23 Cyfod, a deffro i'm barn, sef i'm dadl, fy Nuw, a'm Har­glwydd.

24 Barn fi Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder: ac na la­wenhânt o'm plegit.

25 Na ddywedant yn eu calon, ô ein gwynfyd: na ddywedant llyngcasom ef.

26 Cywilyddier, a gwradwy­dder hwy i gyd, y rhai sy lawen am fy nryg-fyd: gwiscer â gwarth ac â chywilydd, y rhai a ymfaw­rygant i'm herbyn.

27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder, dywe­dant, hefyd yn wastad mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwy­ddiant ei wâs.

28 Fy nhafod innen, a lefara am dy gyfiawnder, a'th foliant, ar hyd y dydd.

Psal. 36.

Y Mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy ngha­lon, nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.

2 O herwydd ymwenhieithio y mae efe iddo ei hun, yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atcas.

3 Geiriau ei enau ydynt anwi­redd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.

4 Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely, efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda: nid ffiaidd gantho ddrygioni.

5 Dy drugaredd Arglwydd sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymmylau.

6 Fel mynyddoedd cedryn y mae dy gyfiawnder, dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dŷn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.

7 Mor werth-fawr yw dy dru­garedd ô Dduw! am hynny 'r ymddiried meibion dynion tan gyscod dy adenydd.

8 Llawn-ddigonir hwynt â brasder dy dŷ: ac ag afon dy hy­frydwch y diodi hwynt.

9 Canys gyd â thi y mae ffyn­non y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.

10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a'th gyfiawnder i'r rhai vniawn o galon.

11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.

12 Yno y syrthiodd gweith-wŷr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.

Psal. 37. Prydnhawnol Weddi.

NAc ymddigia o herwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.

2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i'r llawr fel glas-wellt, ac y gwywant fel gwyrdd lyssiau.

3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda: felly y trigi yn y tîr, a thi a borthir yn ddiau.

4 Ymddigrifa hefyd yn yr Ar­glwydd, ac efe a ddyry i ti ddy­muniadau dy galon.

5 Treigla dy ffordd ar yr Ar­glwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a'i dwg i ben.

6 Efe a ddwg allan dy gyfiawn­der fel y goleuni: a'th farn fel hanner dydd.

7 Distawa yn ŷr Arglwydd, a disgwyl wrtho, nac ymddigia o herwydd yr hwn a lwyddo gan­ddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.

8 Pâid â digofaint, a gâd ym­maith gynddaredd: nac ymddi­gia er dim, i wneuthur drwg.

9 Canys torrir ymmaith y drwg­ddynion, ond y rhai a ddisgwili­ant wrth yr Arglwydd hwynt hwy a ettifeddant y tîr.

10 Canys etto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol, a thi edry­chi am ei le ef, ac ni bydd dim o honaw.

11 Eithr y rhai gostyngedic a etifeddant y ddaiar, ac a ymhy­frydant gan liaws tangneddyf.

12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a yscyrnyga ei ddannedd arno.

13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

14 Yr annuwiolion a dynnasant eu cleddyf, ac a annelafant eu bŵa, i fwrw i lawr y tlawd, a'r anghe­nog, ac i ladd y rhai vniawn eu ffordd.

15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a'i bwâu a ddryllir.

16 Gwell yw 'r ychydig sydd gan y cyfiawn, nâ mawr olud an­nuwolion lawer.

17 Canys breichiau 'r annuwo­lion a dorrir: ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.

18 Yr Arglwydd a edwyn ddy­ddiau y rhai perffaith, a'i hetife­ddiaeth hwy fydd yn dragywydd.

19 Nis gwradwyddir hwy yn amser dryg-fyd, ac yn amser ne­wyn y cânt ddigon.

20 Eithr collir yr annuwolion, a gelynion yr Arglwydd fel bra­ster ŵyn a ddiflannant: yn fŵg y diflannant hwy.

21 Yr annuwiol a echŵyna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn [Page] sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir: a'r rhai a felldi­thio efe, a dorrir ymmaith.

23 Yr Arglwydd a fforddia ger­ddediad gŵr da: a da fydd gan­ddo ei ffordd ef.

24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.

25 Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hên: etto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i hâd yn cardotta bara.

26 Pob amser y mae ef yn dru­garog, ac yn rhoddi benthyg: a'i hâd a fendithir.

27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda, a chyfannedda yn dragywydd.

28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei sainct: cedwir hwynt yn dragywydd, ond hâd yr annuwiol a dorrir ymmaith.

29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaiar, ac a bresswyliant ynddi yn dragywydd.

30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a'i dafod a draetha farn.

31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef, a'i gamrau ni lithrant.

32 Yr annuwiol a wilia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.

33 Ni âd yr Arglwydd ef yn ei law ef, ac ni âd ef yn euog pan ei barner.

34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a'th dderchafa, fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwolion, ti a'i gweli.

35 Gwelais yr annuwiol yn ga­darn, ac yn frigoc, fel y lawryf gwyrdd.

36 Er hynny efe a aeth ym­maith, ac wele nid oedd mwy o ho­naw: a mi a'i ceisiais, ac nid oedd i'w gael.

37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangneddyf.

38 Ond y trosedd-wyr a gŷd­ddestrywir, diwedd yr annuwoli­on a dorrir ymmaith.

39 Ac iechydwriaeth y cyfi­awn fydd oddiwrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40 A'r Arglwydd a'i cymmorth hwynt, ac a'i gwared; efe a'i gwared hwynt rhag yr annuwoli­on, ac ei ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

Psal. 38. Boreuol Weddi.

ARglwydd na cherydda fi yn dy lid: ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.

2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof: a'th law yn drom arnaf.

3 Nid oes iechyd yn fy ngnhawd, o herwydd dy ddigllo­nedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn, oblegit fy mhechod.

4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen, megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5 Fy nghleisiau a bydrasant, ac a lygrasant gan fy ynfydr­wydd.

6 Crymmwyd a darostyngwyd fi 'n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.

7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieidd-glwyf, ac nid oes iechyd yn fy ngnhawd.

8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi 'n dramawr: rhuals gan aflonydd­wch fy nghalon.

9 O'th fiaen di Arglwydd y mae fy holl ddymuniad, ac ni chuddi­wyd fy vchenaid oddi wrth it.

10 Fy nghalon sydd yn llammu, fy nerth a'm gadawodd, a llewyrch fy llygaid nid yw ychwaith gen­nif.

11 Fy ngharedigion, a'm cy­feillion a safent oddi ar gyfer fy mhlâ, a'm cyfneseifiaid a safent o hirbell.

12 Y rhai hefyd a geisient fy ei­nioes a osodasant faglau, a'r rhai a geisient fy niwed a draethent an­ŵireddau, ac a ddychmygent ddi­chellion ar hyd y dydd.

13 A minneu fel byddar ni chlywn, eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.

14 Felly 'r oeddwn fel gŵr ni chlywei, ac heb argyoeddion yn ei enau.

15 O herwydd i'm obeithio ynot Arglwydd, ti Arglwydd fy Nuw a wrandewi.

16 Canys dywedais, gwrando fi, rhag llawenychu o honynt i'm herbyn, pan lithrei fy nhroed, ymfawrygent i'm herbyn.

17 Canys parod wyf i gloffi: a'm dolur sydd ger fy mron yn wastad.

18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf o herwydd fy mhe­chod.

19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn, amlhawyd hefyd y rhai a'm cassânt ar gam:

20 A'r rhai a dalant ddrwg dros dda, a'm gwrthwynebant: am fy môd yn dilyn daioni.

21 Na âd fi, ô Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthif.

22 Bryssia i'm cymmorth, ô Ar­glwydd fy iechydwriaeth.

Psal. 39.

DYwedais, cadwaf fy ffyrdd rhag pechu â'm tafod: cad­waf ffrwyn yn fy ngenau, tra fy­ddo 'r annuwiol yn fy ngolwg.

2 Tewais yn ddistaw, ie tewais â daioni: a'm dolur a gyffrôdd.

3 Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra oeddwn yn myfyrio, ennynnodd tân, a mi a leferais â'm tafod.

4 Arglwydd, pâr i mi ŵybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau: fel y gwypwyf o ba oe­dran y byddaf fi.

5 Wele gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd, a'm henioes sydd megis diddim yn dy olwg di; diau mai cwbl wagedd yw pôb dŷn, pan fo ar y goreu. Selah.

6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cyscod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac ni's gŵyr pwy a'i cascl.

7 Ac yn awr, beth a ddisgwi­liaf, ô Arglwydd: fy ngobaith sydd ynot ti.

8 Gwared fi o'm holl gamwe­ddau: ac na osod fi yn wradwydd i'r ynfyd.

9 Aethum yn fûd, ac nid ago­rais fy ngenau: canys ti a wnae­thost hyn.

10 Tynn dy blâ oddi wrth if: gan ddyrnod dy law y darfûm i.

11 Pan gospit ddyn â chery­ddon am anwiredd, dattodit fel gŵyfyn ei ardderchawgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pôb dŷn. Selah.

12 Gwrando fy ngweddi Ar­glwydd, a chlyw fy llêf, na thaw wrth fy wylofain: canys ymdei­thudd ydwyf gyd â thi, ac alltud fel fy holl dadau.

13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned: ac na byddwyf mwy.

Psal. 40.

DIsgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac efe a ymo­styngodd attaf: ac a glybu fy llefain.

2 Cyfododd fi hefyd o'r pydew erchyll, allan o'r pridd tomlyd: ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.

3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a of­nant, ac a ymddiriedant yn yr Ar­glwydd.

4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo 'r Arglwydd yn ymddiried iddo: ac ni thrŷ at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.

5 Lluosog y gwnaethost ti, ô Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddo­dau, a'th amcanion tuag attom, ni ellir yn drefnus en cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traeth­wn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.

6 A berth ac offrwm nid ewylly­siaist, agoraist fy nghlustiau: po­eth offrwm a phech-aberth ni's gofynnaist.

7 Yna y dywedais, wele 'r yd­wyf yn dyfod; yn rhol y llyfr yr scrifennwyd am danaf.

8 Da gennif wneuthur dy ewy­llys, ô fy Nuw: a'th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.

9 Pregethais gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr: wele, nid atte­liais fy ngwefusau, ti Arglwydd a'i gwyddost.

10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon, neuthais dy ffyddlondeb a'th iechydwriaeth: ni chelais dy drugaredd na'th wi­rionedd, yn y gynnulleidfa luo­sog.

11 Titheu Arglwydd, nac attal dy drugareddau oddi wrthif: cad­wed dy drugaredd, a'th wirionedd fi bŷth.

12 Canys drygau anifeiriol a'm cylchynasant o amgylch, fy mhe­chodau a'm daliasant, fel na allwn edrych i fynu: amlach ydynt nâ gwallt fy mhen, am hynny y pa­llodd fy nghalon gennif.

13 Rhynged bodd it Arglwydd fy ngwaredu: bryssia Arglwydd i'm cymmorth.

14 Cyd-gywilyddier, a gwrad­wydder y rhai a geisiant fy enioes iw difetha; gyrrer yn eu hôl, a chywilyddier, y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwradwydd, y rhai y ddy­wedant wrthif, Ha, ha.

16 Llawenyched, ac ymhyfry­ded ynot ti y rhai oll a'th geisiant: dyweded y rhai a garant dy ie­chydwriaeth bôb amser, mawry­ger yr Arglwydd.

17 Ond yr wyf fi yn dlawd, ac yn anghenus, etto yr Arglwydd a feddwl am danaf, fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hîr drîg.

Psal. 41. Prydnhawnol Weddi.

GWyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd; yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser ad­fyd.

2 Yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i bywhâ, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: na ddôd titheu ef wrth ewyllys ei elynion.

3 Yr Arglwydd a'i nertha ef ar ei glaf-wely: eyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.

4 Mi a ddywedais, Arglwydd trugarhâ wrthif: iachâ fy enaid, canys pechais i'th erbyn.

5 Fy ngelynion a lefarent ddrwg am danaf, gan ddywedyd: pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?

6 Ac os daw i'm hedrych, efe a ddywed gelwydd, ei galon a gascl atti anwiredd: pan êl allan, efe a'i traetha.

7 Fy holl gaseion a gyd-husty­ngant i'm herbyn: yn fy erbyn y dychymygant ddrwg i mi.

8 Aflwydd, meddant, a lŷn wr­tho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.

9 Hefyd y gŵr oedd anwyl gen­nif, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddercha­fodd ei sodl i'm herbyn.

10 Eithr ti Arglwydd, trugar­hâ wrthif; a chyfod fi, fel y tal­wyf iddynt.

11 Wrth hyn y gwn hoffi o honot fi: am na chaiff sy ngelyn orfoleddu i'm herbyn.

12 Onid am danaf fi, yn fy mher­ffeithrwydd i'm cynheli; ac i'm gosodi ger dy fron yn dragywydd.

13 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragywyddoldeb, a hyd dragywyddoldeb, Amen, ac Amen.

Psal. 42.

FEl y brefa 'r hŷdd am yr afo­nydd dyfroedd: fell y 'r hirae­tha fy enaid am danat ti ô Dduw.

2 Sychedic yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw?

3 Fy nagrau oedd fwyd i'm ddydd a nôs: tra dywedant wrthif bôb dydd, pa le y mae dy Dduw?

4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyd â'r gynnulleidfa, cerddwn gyd â hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.

5 Pa ham fy enaid i'th ddaro­styngir, ac yr ymderfysci ynot? gobeithia yn Nuw, oblegit moli­annaf ef etto, am jechydwriaeth ei wyneb-pryd.

6 Fy Nuw, fy enaid a ymdda­rostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Jorddonen, a'r Her­moniaid, o fryn Missar.

7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a'th lifeiriant a aeth­ant trosofi.

8 Etto yr Arglwydd a orchym­myn ei drugaredd liw dydd, a'i gân fydd gydâ mi liw nô; sef gweddi ar Dduw fy enioes.

9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, pa ham yr anghofiaist fi? pa ham y rhodiaf yn alarus trwy orthymder y gelyn?

10 Megis â chleddyf yn fy es­cyrn y mae fy ngwrthwyneb-wŷr yn fy ngwradwyddo, pan ddywe­dant wrthif bôb dydd, pâ le y mae dy Dduw?

11 Pa ham i'th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? ymddiried yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

Psal. 43.

BArn fi ô Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anrhugarog; gwared fi rhag y dŷn twyllodrus, ac anghyfiawn.

2 Canys ti yw Duw fy nerth, pa ham i'm bwri ymaith: pa ham [Page] yr âf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?

3 Anfon dy oleuni, a'th wi­rionedd, tywysant hwy fi, ac ar­weiniant fi i fynydd dy sanctei­ddrwydd, ac i'th bebyll.

4 Yno 'r âf at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd, ac mi a'th foliannaf ar y delyn ô Dduw, fy Nuw.

5 Pa ham i'th ddaroslyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? gobeithia yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef iechydwriaeth fy wyneb, a'm Duw.

Psal. 44. Boreuol Weddi.

DUw, clywsom â'n clystiau, ein tadau a fynegasant i ni y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.

2 Ti â'th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a'i plennaist hwy­thau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a'i cynnyddaist hwythau.

3 Canys nid â'i cleddyf eu hun y gorescynnafant y tir, nid eu braich a barodd iechydwriaeth iddynt; cithr dy ddeheu-law di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd it eu hoffi hwynt.

4 Ti Dduw yw fy Mrenin: gorchymmyn iechydwriaeth i Ja­cob.

5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y fath­rwn y rhai a gyfodant i'n her­byn.

6 O herwydd nid yn fy mŵa 'r ymddiriodaf: nid fy nghleddyf chwaith a'm hachub.

7 Eithr ti a'n hachubaist ni oddi wrth ein gwrth wyneb-wŷr, ac a wradwyddaist ein caseion.

8 Yn Nuw yr ymffrostiwn bôb dydd: ac ni a glodfôrwn dy enw yn dragywydd. Selah.

9 Ond ti a'n bwriaist ni ym­maith, ac a'n gwradwyddaist, ac nid wyt yn myned allan gyd â'n lluoedd.

10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a'n caseion a anrheithiasant iddynt ei hun.

11 Rhoddaist ni fel defaid iw bwytta, a gwasceraist ni ym mysc y cenhedloedd.

12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o'i gwerth hwynt.

13 Gosodaist ni yn warthrudd i'n cymmydogion, yn watwar­gerdd, ac yn wawd i'r rhai ydynt o'n hamgylch.

14 Gosodaist ni yn ddihareb ym mysc y cenhedloedd, yn rhai i escwyd pen arnynt ym mysc y bobloedd.

15 Fy ngwarthrudd sydd beu­nydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a'm tôdd.

16 Gan lais y gwarthrudd-ŵr, a'r cablwr, o herwydd y gelyn, a'r ymddial-wr.

17 Hyn oll a ddaeth arnom: etto ni'th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.

18 Ni thrôdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o'th lwybr di.

19 Er i ti ein cûro yn-nrhig­fa dreigiau, a thoi trosom â chy­scod angeu.

20 Os anghofiasom enw ein Duw: neu estyn ein dwylo at Dduw dieithr:

21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y ga­lon.

22 Ie er dy fwyn di i'n lleddir beunydd, cyfrifir ni fel defaid iw llâdd.

23 Dêffro, pa ham y cysci, ô Arglwydd cyfod, na fwrw ni ym­maith yn dragywydd.

24 Pa ham y cuddi dy wyneb ac yr anghofi ein cystudd, a'n gor­thrymder.

25 Canys gostyngwyd ein he­naid i'r llwch: glŷnodd ein bol wrth y ddaiar.

26 Cyfod yn gynnorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy druga­redd.

Psal. 45.

TRaetha fy nghalon beth da, dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthym i'r brenin: fy nhafod sydd bin scrifennudd buan.

2 Tegach ydwyt nâ meibion dynion; tywalltwyd grâs ar dy wefusau, o herwydd hynny i'th fendithiodd Duw yn dragywydd.

3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glûn ô gadarn, â'th ogoniant, a'th harddwch.

4 Ac yn dy harddwch mar­chog yn llwyddiannus, o herwydd gwirionedd, lledneisrwydd, a chyf­iawnder: a'th ddeheu-law a ddysc i ti bethau ofnadwy.

5 Pobl a syrthiant tanat: o her­wydd dy saethau llymion yn gly­nu ynghalon gelynion y brenin.

6 Dy orsedd di ô Dduw, sydd byth, ac yn dragywydd: teyrn­wialen uniondeb yw teyrn-wialen dy frenhiniaeth di.

7 Ceraist gyfiawnder, a chase­aist ddrygioni: am hynny i'th e­neiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy nâ'th gyfeillion.

8 Arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar dy holl wiscoedd: allan o'r palâsau Ifori, â'r rhai i'th la­wenhasant.

9 Merched brenhinoedd oedd ym mhlith dy bendefigesau, safei y frenhines ar dy ddeheu-law mewn aur coeth o Ophir.

10 Gwrando ferch, a gwêl, a gostwng dy glust: ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dâd.

11 A'r brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di: ymostwng ditheu iddo ef.

12 Merch Tyrus hefyd fydd y­no ag anrheg, a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â'th wyneb.

13 Merch y brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gem-waith aur yw ei gwisc hi.

14 Mewn gwaith edyf a nod­wydd y dygir hi at y brenin; y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddy­gir attat ti.

15 Mewn llawenydd, a gorfo­ledd y dygir hwynt; deuant i lŷs y brenin.

16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau: y rhai a wnei yn dywyso­gion yn yr holl dir.

17 Paraf gofio dy enw ym-mhob cenhedlaeth, ac oes: am hynny y bobl a'th foliannant byth, ac yn dragywydd.

Psal. 46.

DUw sydd noddfa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.

2 Am hynny nid ofnwn pe symmudai y ddaiar, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr:

3 Er rhuo a therfyscu o'i dy­froedd, er crynu o'r mynyddoedd gan ei ymchŵydd ef. Selah.

4 Y mae afon, a'i frydian a [Page] lawenhânt ddinas Dduw, cyssegr presswylfeydd y Goruchaf.

5 Duw sydd yn ei chanol, nid yscog hi: Duw a'i cynnorthwya yn foreu iawn.

6 Y Cenhedloedd a derfysca­fant, y teyrnasoedd a yscogasant: efe a roddes ei lêf, toddodd y ddaiar.

7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: y mae Duw Iacob yn amddissynfa i ni. Selah.

8 Deuwch, gwelwch weith­redoedd yr Arglwydd: pa anghy­fannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaiar.

9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaiar, efe a ddryllia 'r bŵa, ac a dyrr y waywffon, efe a lysc y cerbydau a thân.

10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: derchefir fi ym mysc y cenhedloedd, derchefir fi ar y ddaiar.

11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni: amddiffynsa i ni yw Duw Iacob. Selah.

Psal. 47. Prydnhawnol Weddi.

YR holl bobl curwch ddwy­lo: llafar genwch i Dduw, â llef gorfoledd.

2 Canys yr Arglwydd goruchaf fydd ofnadwy: brenin mawr ar yr holl ddaiar.

3 Efe a ddwg y bobl tanom ni: a'r cenhedloedd tan ein traed.

4 Efe a ddethol ein etiseddi­aeth i ni, ardderchawgrwydd Ia­cob, yr hwn a hoffodd efe. Selah.

5 Derchafodd Duw â llawen­floedd, yr Arglwydd â sain ud­corn.

6 Cenwch fawl i Dduw, ce­nwch: cenwch fawl i'n Brenin, cenwch.

7 Canys Brenin yr holl ddai­ar yw Duw: cenwch fawl yn dde­allus.

8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orsedd-fainge ei sancteidd­rwydd.

9 Pendefigion y bobl a ym­gasclasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tariannau y ddai­ar ydynt eiddo Duw; dirfawr y derchafwyd ef.

Psal. 48.

MAwr yw 'r Arglwydd, a thra moliannus yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd.

2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaiar yw mynydd Sion yn ystlysau y gogledd: dinas y Brenin mawr.

3 Duw yn ei phalâsau, a adwae­nir yn amddeffynfa.

4 Canys wele, y brenhinoedd a ymgŷnnullasant: aethant heibio ynghyd.

5 Hwy a welsant, felly y rhy­feddasant: brawychasant, ac ae­thant ymmaith ar ffrŵst.

6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur megis gwraig yn e­scor.

7 A gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.

8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas, Arglwydd y llu­oedd, yn ninas ein Duw ni: Duw a'i siccrhâ hi yn dragywydd. Selah.

9 Meddyliasom ô Dduw, am dy drugaredd, ynghanol dy Deml.

10 Megis y mae dy enw ô Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithaf­oedd y tîr: cyflawn o gyfi­awnder [Page] yw dy ddeheu-law.

10 Llawenyched mynydd Si­on: ac ymhyfryded merched Iu­da, o herwydd dy farnedigaethau.

11 Amgylchwch Sion, ac ewch o'i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.

12 Ystyriwch ei rhagfuriau, e­drychwch ar ei phalâsau, fel y mynegoch i'r oes a ddêlo yn ôl.

13 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth, ac yn dragywydd: efe a'n tywys ni hyd angeu.

Psal. 49.

CLywch hyn yr holl bobl­oedd, gwrandewch hyn holl drigolion y bŷd.

2 Yn gystal gwrêng a bonhe­ddig, cyfoethog a thlawd yng­hyd.

3 Fy ngenau a draetha ddoe­thineb: a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4 Gostyngaf fy nghlûst at ddi­hareb, fy nammeg a ddatguddiaf gyd a'r delyn.

5 Pa ham yr ofnaf yn amser adfyd, pan i'm hamgylchyno an­wiredd fy sodlau?

6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluoso­grwydd eu cyfoeth.

7 Gan waredu ni wared neb ei frawd: ac ni all efe roddi iawn trosto i Dduw:

8 (Canys gwerth-fawr yw pry­niad eu henaid, a hynny a baid byth.)

9 Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.

10 Canys efe a wêl fod y doe­thion yn meirw, yr un ffunyd y derfydd am y ffôl ac ynfyd, gada­want eu golud i eraill.

11 Eu meddwl yw y pery eu tai yn dragywydd, a'i trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: hen­want ei tiroedd ar eu henwau eu hunain.

12 Er hynny dŷn mewn an­rhydedd nid erys: tebyg yw i ani­feiliaid a ddifethir.

13 Eu ffordd ymma yw eu yn­fydrwydd: etto eu hiliogaeth y­dynt fodlon iw hymadrodd. Se­lah.

14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern, angeu a ymborth ar­nynt, a'r rhai cyfiawn a lywodrae­tha arnynt y boreu: a'i tegwch a dderfydd yn y bêdd o'i cartref.

15 Etto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a'm derbyn i. Selah.

16 Nac ofna pan gyfoethogo un, pan chwanego gogoniant ei dŷ ef.

17 Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddescyn ei ogoniant ar ei ôl ef.

18 Er iddo yn ei fywyd fendi­thio ei enaid: can-molant ditheu o byddi da wrthit dy hun.

19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.

20 Dŷn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifei­liaid a ddifethir.

Psal. 50. Boreuol Weddi.

DUW y duwiau, sef yr Ar­glwydd a lefarodd, ac a al­wodd y ddaiar, o godiad haul hyd ei fachludiad.

2 Allan o Sion perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.

3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw, tân a yssa oi flaen ef, a themhestl ddirfawr fydd o'i am­gylch.

4 Geilw ar y nefoedd oddi u­chod: ac ar y ddaiar, i farnu ei bobl.

5 Cesclwch fy sainct ynghyd attafi, y rhai a wnaethant gyfam­mod â mi trwy aberth.

6 A'r nefoedd a fynegant ei gyfi­awnder ef, canys Duw ei hun sydd farn-wr. Selah.

7 Clywch fy mhobl, a mi a le­faraf, ô Israel a mi a dystiolaethaf i'th erbyn: Duw sef dy Dduw di ydwyf fi

8 Nid am dy aberthau i'th ge­ryddaf, na'th boeth offrymmau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

9 Ni chymmeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau:

10 Canys holl fwyst-filod y coed ydynt eiddo fi: a'r anifcili­aid ar fîl o fynyddoedd.

11 Adwaen holl adar y my­nyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddo fi.

12 Os bydd newyn arnaf ni ddy­wedaf i ti: canys y bŷd â'i gy­flawnder, sydd eiddo fi.

13 A fwyttafi gig teirw? neu a yfaf fi waêd bychod?

14 Abertha foliant i Dduw, a thâl i'r Goruchaf dy addunedau;

15 A galw arnafi yn nydd tra­llod; mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.

16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, beth sydd i ti a fynnegech ar fy neddfau, neu a gymmerech ar fy nghyfammod yn dy enau?

17 Gan dy fod yn cassau addysc, ac yn taflu fy ngeiriau i'th ôl.

18 Pan welaist leidr, cyttunaist ag ef: a'th gyfran oedd gyd â'r godineb-wŷr.

19 Gollyngaist dy safn i ddry­gioni, a'th dafod a gyd-bletha ddi­chell.

20 Eisteddaist, a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fâb dy fam.

21 Hyn a wnaethost, a mi a de­wais; tybiaist ditheu fy môd yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a'th argyoeddaf, ac a'i trefnaf o flaen dy lygaid.

22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwa­redudd.

23 Yr hwn a abertho foliant, a'm gogonedda i: a'r nêb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iechydwriaeth Duw.

Psal. 51.

TRugarhâ wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrwydd; yn ôl lli­aws dy dosturiaethau delea fy an­wireddau.

2 Golch fi yn llwyr-ddwys o­ddi wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.

3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.

4 Yn dy erbyn di, dydi dy hu­nan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hyn yn dy olwg: fel i'th gy­fiawnhaer pan leferych, ac y by­ddit bûr pan farnech.

5 Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y bei­chiogodd fy mam arnaf.

6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi ŵybod doe­thineb yn y dirgel.

7 Glanhâ fi ag Yssop, ac mi a lanheir: golch fi, a byddaf wyn­nach nâ'r eira.

8 Pâr i mi glywed gorsoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.

[...]

9 Cuddia dy wyneb o ldi wrth fy mhechodau: a dilea fy holl an­wireddau.

10 Crea galon lân ynof ô Dduw; ac adnewydda yspryd un­iawn o'm mewn.

11 Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.

12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.

13 Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droir attat.

14 Gwared fi oddi wrth waed ô Dduw, Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15 Arglwydd agor fy ngwe­fusau, a'm genau a fynega dy fo­liant.

16 Canys ni chwennychi a­berth, pe amgen mi a'i rhoddwn; poeth offrwm ni fynni.

17 Aberthau Duw ydynt ys­pryd drylliedic: calon ddryllioc gyftuddiedic, ô Dduw, ni ddir­mygi.

18 Gwna ddaioni, yn dy ewy­llyscarwch i Sion: adeilada furiau Ierusalem.

19 Yna y byddi fodlon i e­byrth cyfiawnder, i boeth offrwm, ac aberth llosc, yna'r offrymmant fustych ar dy allor.

Psal. 52.

PA ham yr ymffrosti mewn dry­gioni, ô gadarn: y mae truga­redd Duw yn parhau yn wastadol.

2 Dy dafod a ddychymmyg seelerder: fel ellyn llym, yn gw­neuthur twyll.

3 Hoffaist drygioni yn fwy nâ daioni: a chelwydd yn fwy nâ thraethu cyfiawnder. Selah.

4 Hoffaist bob geiriau destryw, ô dafod twyllodrus.

5 Duw a'th ddestrywia ditheu yn dragywydd, efe a'th gipia di ymmaith, ac a'th dynn allan o'th babell: ac a'th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Selah.

6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

7 Wele 'r gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo: eithr ymddiriedodd yn lluosogrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.

8 Ond myfi sydd fel oliwydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddirie­daf yn nhrugaredd Duw byth, ac yn dragywydd.

9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneuthur hyn: a disgwiliaf wrth dy enw; canys da yw ger bron dy sainct.

Psal. 53. Prydnhawnol Weddi.

DYwedodd yr ynfyd yn ei galon nid oes un Duw: ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd, nid oes un yn gwneuthur daioni.

2 Edrychodd Duw i lawr o'r nefoedd ar feibion dynion, i e­drych a oedd nêb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.

3 Ciliasei pob un o honynt yn wysc ei gefn, cyd-ymddifwyna­sent, nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.

4 Oni ŵyr gweithred-wŷr an­wiredd, y rhai sydd yn bwytta fy mhobl fel y bwytaent fara, ni al­wâsant ar Dduw.

5 Yno 'r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys Duw a wasca­rodd [Page] escyrn yr hwn a'th warchae­odd, gwradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy.

6 Oh na roddid iechydwri­aeth i Israel o Sion: pan ym­chwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Iacob, ac yr ymhy­fryda Israel.

Psal. 54.

AChub fi ô Dduw, yn dy enw: a barn fi yn dy gadernid.

2 Duw, clyw fy ngweddi; gw­rando ymadrodd fy ngenau.

3 Canys dieithriaid a gyfoda­sant i'm herbyn: a'r trawsion a geisiant fy enaid, ni osodasant Dduw o'i blaen. Selah.

4 Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo: yr Arglwydd sydd ym mysc y rhai a gynhaliant fy enaid.

5 Efe a dâl ddrwg i'm gelyni­on: torr hwynt ymmaith yn dy wirionedd.

6 Aberthaf [...]t yn ewyllysgar; clodforaf dy enw, ô Arglwydd canys da yw.

7 Canys efe a'm gwaredodd o bôb trallod, a'm llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.

Psal. 55.

GWrando fy ngweddi ô Dduw, ac nac ymguddia rhag fy nei­syfiad.

2 Gwrando arnaf ac erglyw fi, ewynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan.

3 Gan lais y gelyn, gan or­thrymder yr annuwiol, o herwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasau yn llidioc.

4 Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angeu a tyrthiodd arnaf.

5 Ofn ac arswyd a ddaeth ar­naf: a dychryn a'm gorchguddi­odd.

6 A dywedais, o na bai i mi ado­nydd fel colommen; yna 'r ehedwn ymmaith, ac y gorphywyswn.

7 Wele crwydrwn ym mhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Se­lah.

8 Bryssiwn i ddiangc rhag y gwynt ystormus, a'r demhestl.

9 Dinistriâ ô Arglwydd, a gwa­han eu tafodau; canys gwelais drawsder a chynnen yn y ddinas.

10 Dydd a nôs yr amgylchant hi ar ei muriau, ac y mae anwi­redd a blinder yn ei chanol hi.

11 Anwireddau sydd yn ei cha­nol hi, ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.

12 Canys nid gelyn a'm difen­wodd, yna y dioddefaswn: nid fy nghas-ddyn a ymfawrygodd i'm herbyn, yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef.

13 Eithr tydi ddyn, fy nghyd­râdd, fy fforddwr, a'm cydnabod.

14 Y rhai oedd felys gennym gyd-gy frinachu: ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghŷd.

15 Rhuthred marwolaeth ar­nynt, a descynnant i uffern yn fyw; canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

16 Myfi a waeddaf ar Dduw, a'r Arglwydd a'm hachub i.

17 Hwyr a boreu, a hanner dydd y gweddiaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhy­fel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyd â mi.

19 Duw a glyw, ac a'i daro­stwng hwynt, yr hwn sydd yn a­ros erioed, Selah: am nad oes gyf­newidiau [Page] iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.

20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef, efe a dorrodd ei gyfammod.

21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon; ty­nerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

22 Bwrw dy faich ar yr Ar­glwydd, ac efe a'th gynnal di; ni âd i'r cyfiawn yscogi byth.

23 Titheu Dduw, a'i descynni hwynt i bydew dinystr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni by­ddant byw hanner eu dyddiau, o­nid myfi a obeithiaf ynot ti.

Psal. 56. Boreuol Weddi.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, canys dŷn a'm llyngoei: beunydd gan ymladd, i'm gorthrymma.

2 Beunydd i'm llyngcei fy nge­lynion, canys llawer sydd yn rhy­fela i'm herbyn, ô Dduw goruchaf.

3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ym­ddiriedaf ynot ti.

4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5 Beunydd y cam-gymerant fy ngeiriau; eu holl feddyliau sydd i'm herbyn er drwg.

6 Hwy a ymgasclant, a lechant, ac a wiliant fy nghamrau, pan ddisgwiliant am fy enaid.

7 A ddiangant hwy drwy an­wiredd? descyn y bobloedd hyn ô Dduw yn dy lidiawgrwydd.

8 Ti a gyfrifaist fy symmudia­dau, dôd fy nagreu yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?

9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthôl: hyn a wn, am fôd Duw gyd â mi.

10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.

11 Yn Nuw 'r ymddiriedais; nid ofnaf beth a wnêl dŷn i mi.

12 Arnafi ô Dduw y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angeu; oni waredi fy nhraed rhag syrthio? fel y rhodiwyf ger bron Duw yngoleuni y rhai byw.

Psal. 57.

TRugarhâ wrthif ô Dduw, tru­garhâ wrthif, canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie ynghy­scod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn hei­bio.

2 Galwaf ar Dduw goruchaf, ar Dduw a gwplâ â mi.

3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a'm gwared oddi wrth war­thrudd yr hwn a'm llyngcei, Se­lah: denfyn Duw ei drugaredd, a'i wirionedd.

4 Fy enaid sydd ym mysc lle­wod, gorwedd yr wyf ym mysc dynion poethion: sef meibion dy­nion y rhai y mae ei dannedd yn wayw-ffyn a saethau, a'i tafod yn gleddyf llym.

5 Ymddercha Dduw uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6 Darparasant rwyd i'm traed, crymmwyd fy enaid, cloddiasant bydew o'm blaen, syrthiasant yn ei ganol. Selah.

7 Parod yw fy nghalon o Dduw, parod yw fy nghalon: ca­naf a chanmolaf.

8 Deffro fy ngogoniant, de­fro [Page] Nabl a thêlyn; deffroaf yn foreu.

9 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd; can-molaf di ym mysc y cenhedloedd.

10 Canys mawr yw dy druga­redd hyd y nefoedd, a'th wirio­nedd hyd y cymylau.

11 Ymddercha Dduw uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

Psal. 58.

AI cyfiawnder yn ddiau a drae­thwch chwi, ô gynnulleidfa? a fernwch chwi uniondeb, ô fei­bion dynion?

2 Anwiredd yn hyttrach a weithredwch yn y galon: traw­ster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaiar.

3 O'r groth yr ymddieithrodd y rhai annuwiol; o'r brû y cy­feiliornasant, gan ddywedyd cel­wydd.

4 Eu gwenwyn sydd fel gwen­wyn sarph: y maent fel y neidr fyddar, yr hon a gae ei chlustiau:

5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhin-wŷr, er cyfarwydded fyddo 'r swyn-wr.

6 Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu geneuau: torr ô Arglwydd, gil-ddannedd y llewod ieuangc.

7 Todder hwynt fel dyfroedd sŷdd yn rhedeg yn wastad: pan saetho ei saethau, byddant megis wedi eu torri.

8 Aed ymmaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig: fel na welont yr haul.

9 Cyn i'ch crochanau glywed y mieri, efe a'i cymmer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn syw, ac yn ei ddigofaint.

10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddial: efe a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol.

11 Fel y dywedo dŷn, diau fod ffrwyth i'r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaiar.

Psal. 59. Prydnhawnol Weddi.

FY Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfo­dant i'm herbyn.

2 Gwared fi oddiwrth wei­thred-wŷr anwiredd: ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.

3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid, ymgasclodd ce­dyrn i'm herbyn: nid ar fy mai na'm pechod i, ô Arglwydd.

4 Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynofi: deffro ditheu i'm cymmorth, ac edrych.

5 A thi Arglwydd Dduw 'r llu­oedd, Duw Israel, deffro i ymwe­led â'r holl genhedloedd: na thru­garhâ wrth y nêb a wnânt anwi­wiredd yn faleisus. Selah.

6 Dychwelant gyd â'r hŵyr, cyfarthant sel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

7 Wele, bytheiriant â'i genau, cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy meddant a glyw?

8 Ond tydi ô Arglwydd, a'i gwatweri hwynt, ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9 O herwydd ei nerth ef, y disgwiliaf wrthit ti: canys Duw yw fy amddeffynfa.

10 Fy Nuw trugarog a'm rhag­flaena: Duw a wnâ i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.

11 Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwascar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, ô Arglwydd ein tarian.

12 Am bechod eu genau, ac y­madrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felldith, a'r celwydd a draethant.

13 Difa hwynt yn dy lîd, difa, fel na byddont: a gŵybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaiar. Selah.

14 A dychwelant gyd â'r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgyl­chant y ddinas.

15 Cyrwydrant am fwyd, ac onis digonir, grwgnachant.

16 Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar ganaf am dy drugaredd yn foreu: canys buost yn amdde­ffynsa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

17 I ti fy nerth y canaf: canys Duw yw fy amddeffynfa, a Duw fy nrhugaredd.

Psal. 60.

O Dduw bwriaist ni ymmaith, gwasceraist ni, a sorraist: dychwel attom drachefn.

2 Gwnaethost i'r ddaiar grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn crynu.

3 Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.

4 Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w derchafu o herwydd y gwirionedd. Selah.

5 Fel y gwareder dy rai anwyl: achub â'th ddeheu-law, a gw­rando fi.

6 Duw a lefarodd yn ei san­cteiddrwydd, llawenychaf, rhan­naf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoch.

7 Eiddo fi yw Gilead, ac eiddo fi Manasseh: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen, Juda yw fy neddfwr.

8 Moab yw fy nghrochan golchi: tros Edom y bwriaf fy escid, Phi­listia, ymorfoledda di o'm plegid i.

9 Pwy a'm dwg i'r ddinas ga­darn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?

10 Onid tydi Dduw 'r hwn a'n bwriaist ymmaith? a thydi ô Dduw, yr hwn nid eit allan gyd â'n llu­oedd?

11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwa­red dŷn.

12 Yn Nuw y gwnawn wrol­deb, canys efe a sathr ein gely­nion.

Psal. 61.

CLyw ô Dduw, fy llefain, gw­rando ar fy ngweddi.

2 O eithaf y ddaiar y llefaf at­tat, pan lesmeirio fy nghalon: ar­wain fi i graig a fyddo vwch nâ mi.

3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn.

4 Presswyliaf yn dy babell byth: a'm ymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Selah.

5 Canys ti Dduw a glywaist fy addunedau, rhoddaist etifeddi­aeth i'r rhai a ofnant dy enw.

6 Ti a estynni oes y brenin, ci flynyddoedd fyddant fel cenhed­laethau lawer.

7 Efe a erys byth ger bron Duw: darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.

8 Felly y can-molaf dy enw yn dragywydd: fel y talwyf fy addu­nedau beunydd.

Psal. 62. Boreuol Weddi.

WRth Dduw yn vnic y disgwil fy enaid; o ho­naw ef y daw fy ie­chydwriaeth.

2 Efe yn vnic yw fy nghraig, [Page] a'm hiechydwriaeth: a'm ham­ddiffyn; ni'm mawr yscogir.

3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gwr? lleddir chwi oll, a byddwch fel magwyr ogwydde­dic, neu bared ar ei ogwydd.

4 Ymgynghorasant yn vnic iw fwrw ef i lawr o'i fawredd, ho­ffasant gelwydd, â'i geneuau y bendithiant, ond o'i mewn y mell­dithiant. Selah.

5 Oh fy enaid, disgwil wrth Dduw yn vnic: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.

6 Efe yn vnic yw fy nghraig a'm hiechydwriaeth: efe yw fy am­ddeffynfa, ni'm hyscogir.

7 Yn Nuw y mae fy iech yd­wriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a'm noddfa sydd yn Nuw.

8 Gobeithiwch ynddo ef bôb amser, ô bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Selah.

9 Gwagedd yn ddiau yw mei­bion dynion, geudab yw meibion gwŷr: iw gosod yn y clorian, ys­cafnach ydynt hwy i gyd na gwe­gi.

10 Nac ymddiriedwch mewn trawsder, ac mewn trais na fydd­wch ofer: os cynnydda golud, na roddwch eich calon arno.

11 Un-waith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwy-waith, mai eiddo Duw yw cadernid.

12 Trugaredd hefyd sydd eiddo ti, ô Arglwydd: canys ti a deli i bôb dyn yn ôl ei weithred.

Psal. 63.

TI ô Dduw, yw fy Nuw i, yn foreu i'th geisiaf, sychedodd fy enaid am danat, hiraethodd fy ngnhawd am danat, mewn tîr crâs a sychedic heb ddwfr:

2 I weled dy nerth a'th ogoni­ant, fel i'th welais yn y Cyssegr.

3 Canys gwell yw dy drugaredd di nâ'r bywyd, fy ngwefusau a'th foliannant.

4 Fel hyn i'th glodforaf yn fy mywyd, derchafaf fy nwylo yn dy enw.

5 Megis â mêr, ac â brasder y digonir fy enaid: a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:

6 Pan i'th gofiwyf ar fy ngwe­ly, myfyriaf am danat yngwili­adwriaethau y nôs.

7 Canys buost gynnorthwy i mi, am hynny ynghyscod dy adenydd y gorfoleddaf.

8 Fy enaid a lŷn wrthit, dy ddeheu-law a'm cynnal.

9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i isselderau y ddaiar.

10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.

11 Ond y brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob vn a dyngo iddo ef; eithr ceuir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

Psal. 64.

CLyw fy llêf ô Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy enioes rhag ofn y gelyn.

2 Cûdd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus, rhag terfysc gweith­redwŷr anwiredd:

3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:

4 I seuthu 'r perffaith yn ddir­gel, yn ddisymmwth y saethant ef, ac nid ofnant.

5 Ymwrolant mewn peth dry­gionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel: dywedant, pwy a'i gwêl hwynt?

6 Chwiliant allan anwireddau, [Page] gorphennant ddyfal chwilio: ceu­dod a chalon pôb vn o honynt sydd ddofn.

7 Eithr Duw a'i saetha hwynt: â saeth ddisymmwth yr archollir hwynt.

8 Felly hwy a wnant iw tafo­dau eu hun syrthio arnynt: pôb vn a'i gwelo a gilia.

9 A phôb dyn a ofna, ac a fy­nega waith Duw: canys doeth­ystyriant ei waith ef.

10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo: a'r rhai vniawn o galon oll a or­foleddant.

Psal. 65. Prydnhawnol Weddi.

MAwl a'th erys di yn Sion ô Dduw: ac i ti y telir yr adduned.

2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, attat ti y daw pôb cnawd.

3 Pethau anwir a'm gorchfyga­sant: ein camweddau ni, ti a'i glânhei.

4 Gwyn ei fŷd yr hwn a ddewi­sech, ac a nessâech attat, fel y tri­go yn dy gynteddoedd; ni a ddi­gonir â daioni dy dŷ, sef dy Deml sanctaidd.

5 Attebi i ni trwy bethau ofnad­wy, yn dy gyfiawnder, ô Dduw ein iechydwriaeth: gobaith holl gyrrau y ddaiar, a'r rhai sydd bell ar y môr.

6 Yr hwn a siccrhâ y mynyddo­edd drwy ei nerth, ac a wregyssir â chadernid.

7 Yr hwn a ostega dwrf y mo­roedd, twrf eu tonnau, a therfysc y bobloedd.

8 A phresswyl-wŷr eithafoedd y bŷd a ofnant dy arwyddion; gwnei i derfyn boreu a hwyr la­wenychu,

9 Yr wyt yn ymweled â'r ddaiar ac yn ei dwfrhau hi, yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.

10 Gan ddwfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnŵd hi.

11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â'th ddaioni, â'th lwybrau a ddife­rant fraster.

12 Diferant ar borfeydd yr ani­alwch: a'r bryniau a ymwregy­sant â hyfrydwch.

13 Y dolydd a wiscir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchguddir ag ŷd, am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Psal. 66.

LLawen-floeddiwch i Dduw, yr holl ddaiar.

2 Dadeenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

3 Dywedwch wrth Dduw, mor ofnadwy wyt yn dy weithredo­edd! o herwydd maint dy nerth, y cymmer dy elynion arnynt, fôd yn ddarostyngedig i ti.

4 Yr holl ddaiar a'th addolant di, ac a ganant i ti, ie canant i'th enw. Selah.

5 Deuwch, a gwelwch weith­redoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynion.

6 Trôdd efe v môr yn sych-dir; aethant drwy 'r afon ar draed; yna y llawenychasom ynddo.

7 Efe a lywodraetha drwy ei gadernid byth, ei lygaid a edry­chant ar y cenhedloedd, nac ym­dderchafed y rhai anufydd. Selah.

8 Oh bobloedd, bendithiwch ein Duw; a pherwch glywed llais e fawl ef▪

9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni âd i'n troed lithro.

10 Canys profaist ni ô Dduw, coethaist ni fel coethi arian.

11 Dygaist ni i'r rhwyd, goso­daist wascfa ar ein lwynau.

12 Peraist i ddynion farchoga­eth ar ein pennau, aethom drwy yr tân, a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.

13 Deuaf i'th dŷ ag offrymmau poeth, talaf it fy addunedau,

14 Y rhai a adroddodd fy ngwe­fusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.

15 Offrymmaf it boeth offrym­mau breision, ynghyd ag arogl­darth hyrddod: aberthaf ychen, a bychod. Selah.

16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw: a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.

17 Llefais arno â'm genau, ac efe a dderchafwyd â'm tafod.

18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsei 'r Arglwydd.

19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.

20 Bendigedic fyddo Duw 'r hwn ni thrôdd fy ngweddi oddi wrtho, na'i drugaredd ef oddi wrthif inneu.

Psal. 67.

DUw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned ei wyneb arnom. Selah.

2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.

3 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hysryd: canys ti a ferni y bobl yn vniawn, ac a lywodrae­thi y cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.

5 Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.

6 Yna 'r ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw, sef ein Duw ni a'n ben­dithia.

7 Duw a'n bendithia, a holl der­fynau 'r ddaiar a'i hofnant ef.

Psal. 68. Boreuol Weddi.

CYfoded Duw, gwascarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o'i flaen ef.

2 Chweli hwynt fel chwalu mŵg: fel y tawdd cŵyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw.

3 Ond llawenycher y rhai cyfi­awn, a gorfoleddant ger bron Duw: a byddant hyfryd o lawe­nydd.

4 Cenwch i Dduw, can-mol­wch ei enw, derchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefo­edd; a'i enw yn IAH: a gorfo­leddwch ger ei fron ef.

5 Tâd yr ymddifaid, a barn­wr y gweddwon yw Duw, yn ei bresswylfa sanctaidd.

6 Duw sydd yn gosod yr vnig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau, ond y rhai cyndyn a breswyliant gras­dir.

7 Pan aethost ô Dduw, o flaen dy bobl: pan gerddaist trwy yr anialwch; Selah.

8 Y ddaiar a grynodd, a'r nefo­edd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntef a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.

9 Dihidlaist law graflawn ô Dduw, ar dy etifeddiaeth ti a'i [Page] gwrteithiaist wedi ei blino.

10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni ô Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.

11 Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent.

12 Brenhinoedd byddinoc a ffoesant ar ffrwst: a'r hon a dri­godd yn tŷ a rannodd yr yspail.

13 Er gorwedd o honoch ym­mysc y crochanau, byddwch fel es­cyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.

14 Pan wascarodd yr Holl-allu­og frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.

15 Mynydd Duw sydd fel my­nydd Basan, yn fynydd cribog fel mynydd Basan.

16 Pa ham y llemmwch chwi fynyddoedd cribog? dymma 'r mynydd a chwennychodd Duw ei bresswylio, ie presswylia 'r Ar­glwydd ynddo byth.

17 Cerbydau Duw ydynt vgain mil, sef miloedd o Angelion: yr Arglwydd sydd yn eu plith megis yn Sinai yn y Cyssegr.

18 Derchefaist i'r vchelder, ca­eth-gludaist gaethiwed, derbyni­aist roddion i ddynion: ie i'r rhai cyndyn hefyd, fel y presswyliai 'r Arglwydd Dduw yn eu plith.

19 Bendigedic fyddo 'r Ar­glwydd, yr hwn a'n llwytha beu­nydd â daioni: sef Duw ein ie­chydwriaeth. Selah.

20 Ein Duw ni sydd Dduw ie­chydwriaeth: ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.

21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a choppa walltos yr hwn a rodio rhagddo yn ei gam­weddau.

22 Dywedodd yr Arglwydd, dygaf fy mhobl drachefn o Basan; dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr.

23 Fel y trocher dy droed yng­waed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr vn-rhyw.

24 Gwelsant dy fynediad ô Dduw, mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cyssegr.

25 Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl: yn eu mysg yr oedd y llangcesau yn canu tympanau.

26 Bendithiwch Dduw yn y cyn­nulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.

27 Yno y mae Benjamin fychan a'u llywydd, tywysogion Juda a'u cynnulleidfa: tywysogion Zabu­lon, a thywysogion Nephtali.

28 Dy Dduw a orchymynnodd d [...] nerth: cadarnhâ ô Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.

29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg, er mwyn dy Deml yn Je­rusalem.

30 Cerydda dyrfa y gwayw­ffyn, cynnulleidfa y gwrdd-deirw, gydâ lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedic â darnau arian: gwa­scar y bobl sy dda ganddynt ry­fel.

31 Pendefigion a ddeuant o'r Aipht, Ethiopia a estyn ei dwylo 'n bryffur at Dduw.

32 Teyrnasoedd y ddaiar, cên­wch i Dduw, can-molwch yr Ar­glwydd. Selah.

33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.

34 Rhoddwch I Dduw gader­nid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.

35 Ofnadwy wyt ô Dduw o'th gyssegr; Duw Israel yw efe, sydd yn rhoddi nerth, a chadernid i'r bobl; bendigedic fyddo Duw.

Psal. 69. Prydnhawnol Weddi.

AChub fi ô Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.

2 Soddais mewn tom dyfn, lle nid oes scfyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a'r ffrŵd a li­fodd trosof.

3 Blinais yn llefain, sychodd fy nghêg; pallodd fy llygaid; tra ydwyf yn disgwil wrth fy Nuw.

4 Amlach nâ gwallt fy mhen yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a'm difethent: yna y telais yr hyn ni chymmerais.

5 O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd, ac nid yw fy ngham­weddau guddiedic rhagot.

6 Na chywilyddier o'm plegit i, y rhai a obeithiant ynot ti, Ar­glwydd Dduw y lluoedd: na wradwydder o'm plegit i, y rhai a'th geisiant ti, ô Dduw Israel.

7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y tôdd cywilydd fy wyneb.

8 Euthym yn ddieithr i'm bro­dyr, ac fel estron gan blant fy mam.

9 Canys zêl dy dŷ a'm hyssodd, a gwradwyddiad y rhai a'th wrad­wyddent di a syrthiodd arnafi.

10 Pan wylais gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn wradwydd i mi.

11 Gwiscais hefyd sâch-liain, ac euthym yn ddihareb iddynt.

12 Yn fy erbyn y chwedleuei y rhai a eisteddent yn y porth; ac i'r meddwon yr oeddwn yn wawd.

13 Ond myfi, fy ngweddi sydd attat ti ô Arglwydd, mewn amser cymmeradwy: ô Dduw, yn lluo­sogrwydd dy drugaredd, gwran­do fi, yngwirionedd dy iechyd­wriaeth.

14 Gwared fi o'r dom, ac na so­ddwyf, gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfni­on:

15 Na lifed y ffrŵd ddwfr trosof, ac na lyngced y dyfnder fi: na chaued y pydew ychwaith ei safn arnaf.

16 Clyw fi Arglwydd, canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.

17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy wâs, canys y mae cyfy­ngder arnaf, bryssia, gwrando fi.

18 Nesá at fy enaid, a gwared ef; achub fi o herwydd fŷ ngelynion.

19 Ti adwaenost fy ngwarth­rudd, a'm cywilydd, a'm gwrad­wydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.

20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon, yr ydwyf mewn gofid: a disgwiliais am rai i dosturio wr­thif, ac nid oedd neb; ac am gy­ssur-wyr, ac ni chefais neb.

21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm diodasant yn fy syched â finegr.

22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'i llwyddiant yn dramgwydd.

23 Tywyller eu llygaid fel na welont, a gwna iw lwynau grynu bôb amser.

24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiawgrwydd dy ddigofaint hwynt.

25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd, ac na fydded a drigo yn eu pebyll:

26 Canys erlidiasant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a ar­chollaist ti, y chwedleuant.

27 Dôd ti anwiredd at eu han­wiredd hwynt, ac na ddelont i'th gyfiawnder di.

28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw: ac na scrifenner hwynt gyd â'r rhai cyfiawn.

29 Minnau, truan a gofidus yd­wyf: dy iechydwriaeth di ô Dduw, am derchafo.

30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.

31 A hyn fydd gwell gan yr Ar­glwydd nag ŷch, neu fustach cor­niog, carnol.

32 Y trueniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwi­thau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.

33 Canys gwrendy 'r Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.

34 Nefoedd, a daiar, y môr a'r hyn oll a ymlusco ynddo, molant ef.

35 Canys Duw a achub Sion, ac a adeilada ddinasoedd Juda; fel y trigont yno, ac y meddian­nont hi.

36 A hiliogaeth ei weision a'i meddiannant hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

Psal. 70.

O Dduw pryssura i'm gware­du, bryssia Arglwydd i'm cymmorth.

2 Cywilyddier, a gwarthrudd­ier y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl, a gwradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.

3 Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant ha, ha.

4 Llawenyched, a gorfoledded ynot t'i y rhai oll a'th geisiant, a dyweded y rhai a garant dy ie­chydwriaeth yn wastad, mawry­ger Duw.

5 Minneu ydwyf dlawd ac ang­henus, ô Dduw bryssia attaf, fy nghymmorth a'm gwaredudd yd­wyt ti ô Arglwydd, na hîr drig.

Psal. 71. Boreuol Weddi.

YNot ti ô Arglwydd, y go­beithiais, na'm cywily­ddier byth.

2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust at­taf, ac achub fi.

3 Bydd i mi 'n drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchym­mynnaist fy achub, canys ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.

4 Gwared fi ô fy Nuw, o law 'r annuwiol, o law yr anghyfion, a'r traws.

5 Canys ti yw fy ngobaith, ô Arglwydd Dduw, fy ymddiried o'm ieuengctid.

6 Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r brû, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.

7 Oeddwn i lawer megis yn rhy­feddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.

8 Llanwer fy ngenau â'th foli­ant, ac â'th ogoniant beunydd.

9 Na fwrw fi ymmaith yn am­ser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.

10 Canys fy ngelynion sydd yn [Page] dywedyd i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliant am fy enaid, a gyd­ymgynghorant,

11 Gan ddywedyd, Duw a'i gwr­thododd ef, erlidiwch, a deliwch ef: canys nid oos gwaredudd.

12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthif; fy Nuw, bryssia im cym­morth.

13 Cywilyddier, a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid; â gwarth ac â gwradwydd y gorch­guddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.

14 Minneu a obeithiaf yn wa­stad, ac a'th foliannaf di fwy­fwy.

15 Fy ngenau-a fynega dy gyfi­awnder, a'th iechydwriaeth beu­nydd: canys ni wn rifedi arnynt.

16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn vnic a gofiaf fi.

17 O'm ieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.

18 Na wrthod fi ychwaith, ô Dduw, mewn henaint, a phen­llwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob vn a ddelo.

19 Dy gyfiawnder hefyd ô Dduw, fydd vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion; pwy, ô Dduw, fydd debyg i ti?

20 Ti yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm by whei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaiar.

21 Amlhei fy mawredd, ac a'm cyssuri oddi amgylch.

22 Minneu a'th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, ô fy Nuw: canaf it â'r delyn, ô Sanct Israel.

23 Fy ngwefusau a fyddant hy­fryd pan ganwyf i ti, a'm henaid, yr hwn a waredaist.

24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd, o her­wydd cywilyddiwyd, a gwrad­wyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Psal. 72.

O Dduw, dôd i'r brenhin dy farnedigaethau: ac i fab y brenin dy gyfiawnder.

2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder: a'th drueiniaid â barn.

3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.

4 Efe a farn drueniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymmudd.

5 Tra fyddo haul a lleuad i'th ofnant, yn oes oesoedd.

6 Efe a ddescyn fel glaw ar gnû gwlân, fel cawodydd yn dyf­rhau y ddaiar.

7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn, ac amlder o heddwch fydd, tra fyddo lleuad.

8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o'r afon hyd derfynau y ddaiar.

9 O'i flaen ef yr ymgrymma trigolion yr anialwch: a'i elyni­on a lyfant y llŵch.

10 Brenhinoedd Tarsis, a'r y­nysoedd, a dalant anrheg; bren­hinoedd Sheba a Seba a ddygant rôdd.

11 Ie 'r holl frenhinoedd a ym­grymmant iddo: yr holl genhed­loedd a'i gwasanaethant ef.

12 Canys efe a wared yr ang­henog pan waeddo: y truan he­fyd, a'r hwn ni byddo cynnorth­wy-wr iddo.

13 Efe a arbed y tlawd a'r rhei­dus: ac a achub eneidiau y rhai anghenus.

14 Efe a wared eu henaid o­ddi wrth dwyll, a thrawsder: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.

15 Byw hefyd fydd efe, a rho­ddir iddo o aur Seba: gweddiant hefyd trosto efe yn wastad: beu­nydd y clodforir ef.

16 Bydd dyrneid o ŷd ar y ddaiar, ym mhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a yscwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a fiodeuant, fel gwellt y ddaiar.

17 Ei enw fydd yn dragywydd, ei enw a bery tra fyddo haul: ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a'i galwant yn wyn­fydedig.

18 Bendigedic fyddo 'r Ar­glwydd Dduw, Duw Israel; yr hwn yn unic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.

19 Bendigedic hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragy­wydd: a'r holl ddaiar a lanwer o'i ogoniant, Amen, ac Amen.

Gorphen gweddiau Dafydd fab lesse.

Psal. 73. Prydnhawnol Weddi.

YN ddiau da yw Duw i Is­rael; sef i'r rhai glân o ga­lon.

2 Minnau braidd na lithrodd fy nhraed, prin na thrippiodd fy ngherddediad.

3 Canys cenfigennais wrrh y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.

4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth, a'i cryfder sydd heini.

5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill, ac ni ddialeddir ar­nynt hwy gyd â dynion eraill.

6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisc traws­der am danynt fel dilledyn.

7 Eu llygaid a saif allan gan frasder: aethant tros feddwl calon o gyfoeth.

8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawsder, yn dywedyd yn uchel.

9 Gosodasant eu genau yn er­byn y nefoedd; a'i tafod a gerdd trwy 'r ddaiar.

10 Am hynny y dychwel ei bobl ef ymma, ac y gwescir iddynt ddwfr phiol lawn.

11 Dywedant hefyd; pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?

12 Wele, dymma y rhai an­nuwiol, a'r rhai sydd lwyddian­nus yn y bŷd: ac a amlhasant o­lud.

13 Diau mai yn ofer y glan­hêais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd.

14 Canys ar hyd y dydd i'm maeddwyd, fy ngherydd a ddeuai bôb boreu.

15 Os dywedwn. mynegaf fel hyn, wele â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.

16 Pan amcenais wybod hyn, blîn oedd hynny yn fy ngolwg i.

17 Hyd onid euthum i gyssegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt.

18 Diau osod o honot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo o ho­not hwynt i ddinistr.

19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd; pallâsant, a dar­fuant gan ofn.

20 Fel breuddwyd wrth ddi­huno [Page] un, felly ô Arglwydd, pan ddeffroech y dirmygi eu gwedd hwynt.

21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon: ac i'm pigwyd yn fy arennau.

22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb ŵybod: anifail oeddwn o'th flaen di.

23 Etto yr ydwyf yn wastad gyd â thi: ymaslaist yn fy llaw dde­hau.

24 A'th gyngor i'm harweini: ac wedi hynny i'm cymmeri i o­goniant.

25 Pwy sydd gennifi yn y nef­oedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaiar neb gyd â thydi.

26 Pallodd fy ngnhawd a'm calon; ond nerth fy nghalon a'm rhan, yw Duw yn dragywydd.

27 Canys wele difethir y rhai a bellhânt oddi wrthit: torraist ymmaith bôb un a butteinio oddi wrthit.

28 Minneu, nessau at Dduw fydd dda i mi, yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i dreuthu dy holl weithredoedd.

Psal. 74.

PA ham Dduw i'n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn de­faid dy borfa?

2 Cofia dy gynnulleidfa yr hon a brynaist gynt, a llwyth dy etife­ddiaeth yr hon a waredaist: my­nydd Sion hwn, y presswyli yn­ddo.

3 Dercha dy draed at anrhaith dragywyddol: sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y Cyssegr.

4 Dy elynion a ruasant yng­hanol dy gynnulleidfaoedd: go­sodasant eu banetau yn arwyddi­on.

5 Hynod oedd gwr, fel y coda­sai fwyill mewn dyrys-goed.

6 Ond yn awr y maent yn dry­llio ei cherfiadau ar unwaith, â bwyill ac â morthwylion.

7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân, hyd lawr yr halogasant bres­wylfa dy Enw.

8 Dywedasant yn eu calonnau, cyd-anrheithiwn hwynt; llosca­sant holl Synagogau Duw yn y tîr.

9 Ni welwn ein harwyddion, nid oes brophwyd mwy, nid oes gennym a wyr pa hŷd.

10 Pa hŷd Dduw, y gwar­thrudda 'r gwrthwyneb-wr? a ga­bla 'r gelyn dy Enw yn dragy­wydd?

11 Pa ham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheu-law? tynn hi allan o ganol dy fonwes;

12 Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad; gwneuthur-wr iechydwriaeth o fewn y tîr.

13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr, drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.

14 Ti a ddrylliaist ben Lefia­than, rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.

15 Ti a holltaist y ffynnon, a'r afon, ti a ddiyspyddaist afonydd cryfion.

16 Y dydd sydd eiddo ti, y nôs hefyd sydd eiddo ti: ti a baratoaist oleuni, a haul.

17 Ti a osodaist holl derfynau 'r ddaiar; ti a luniaist hâf, a gay­af.

18 Cofia hyn, i'r gelyn gablu, ô Arglwydd, ac i'r bobl yn fyd ddi­fenwi dy Enw.

19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa y gelynion, nac anghofia gynnulleidfa dy drueni­aid byth.

20 Edrych ar y cyfammod, ca­nys llawn yw tywyll-leoedd y ddaiar o drigfannau trawster.

21 Na ddychweled y tlawd yn wradwyddus, molianned y truan, a'r anghenus dy Enw.

22 Cyfod ô Dduw, dadleu dy ddadl, cofia dy wradwydd gan yr ynfyd beunydd.

23 Nac anghofia lais dy elyni­on; dadwrdd y rhai a godant i'th erbyn, sydd yn dringo yn wa­stadol.

Psal. 75. Boreuol Weddi.

GLodforwn dydi ô Dduw, clodforwn, canys agos yw dy Enw: dy ryfeddodau a fynegant hynny.

2 Pan dderbyniwyf y gynnu­lleidfa, mi a farnaf yn uniawn.

3 Ymddattododd y ddaiar, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cyn­nal ei cholofnau. Selah.

4 Dywedais wrth y rhai yn­fyd, nac ynfydwch: ac wrth y rhai annuwiol, na dderchefwch eich corn.

5 Na dderchefwch eich corn yn uchel, na ddywedwch yn war­syth.

6 Canys nid o'r dwyrain nac o'r gorllewin, nac o'r dehau, y daw goruchafiaeth.

7 Ond Duw fydd yn barnu, efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

8 Oblegit y mae phiol yn llaw 'r Arglwydd, a'r gwin sydd gôch, yn llawn cymmysc, ac efe a dy­walltodd o hwnnw: etto holl an­nuwolion y tîr a wascant, ac a y­fant ei waelodion.

9 Minneu a fynegaf yn dra­gywydd, ac a ganaf i Dduw Ia­cob.

10 Torraf hefyd holl gryn y rhai annuwiol, a chyrn y rhai cy­fiawn a dderchefir.

Psal. 76.

HYnod yw Duw yn Iuda, mawr yw ei Enw ef yn Is­rael.

2 Ei babell hefyd sydd yn Sa­lem, a'i drigfa yn Sion.

3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y tarian, y cleddyf hefyd a'r frwydr. Selah.

4 Gogoneddusach wyt, a cha­darnach, nâ mynyddoedd yr ys­pail.

5 Yspeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hûn; a'r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.

6 Gan dy gerydd di ô Dduw Iacob, y rhoed y cerbyd a'r march i gyscu.

7 Tydi, tydi wyt ofnadwy, a phwy a saif o'th flaen, pan en­nynno dy ddigter?

8 O'r nefoedd y peraist glywed barn, ofnodd, a gostegodd y ddai­ar;

9 Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tîr. Se­lah.

10 Diau cynddaredd dŷn a'th folianna di, gweddill cynddaredd a waherddi.

11 Addunedwch, a thelwch i'r Arglwydd eich Duw; y rhai oll ydynt o'i amgylch ef, dygant an­rheg i'r ofnadwy.

12 Efe a dyrr ymmaith yspryd tywysogion, y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaiar.

Psal. 77.

A'm llef y gwaeddais ar Dduw: â'm llef ar Dduw, ac efe a'm gwrandawodd.

2 Yn nydd fy nhrallod y ceisi­ais yr Arglwydd: fy archoll a re­dodd liw nôs, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3 Cofiais Dduw, ac a'm cythry­blwyd, cwynais a therfyscwyd fy yspryd. Selah.

4 Deliaist fy llygaid yn neffro, synnodd arnaf, fel na allaf lefa­ru.

5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hên oesoedd.

6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nôs, yr ydwyf yn ymddi­ddan â'm calon: fy yspryd fydd yn chwilio yn ddyfal.

7 Ai yn dragywydd y bwrw 'r Arglwydd heibio? ac oni bydd e­fe bodlon mwy?

8 A ddarfu ei drugaredd ef tros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9 A anghofiodd Duw drugar­hau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Selah.

10 A dywedais, dymma fy ngwendid, etto cofiaf flynyddoedd deheu-law y Goruchaf.

11 Cofiaf weithred oedd yr Ar­glwydd; ie cofiaf dy wrthiau gynt.

12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith: ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.

13 Dy ffordd ô Dduw, sydd yn y cyssegr; pa Dduw mor fawr a'n Duw ni?

14 Ti yw y Duw sydd yn gw­neuthur rhyseddodau, dangosaist dy nerth ym mysc y bobloedd.

15 Gwaredaist â'th fraich dy bobl, meibion Iacob, a Ioseph. Selah.

16 Y dyfroedd a'th welsant o Dduw, y dyfroedd a'th welsant; hwy a ofnasant; y dyfnderau he­fyd a gynhyrfwyd.

17 Y cwmylau a dywalltasant ddwfr, yr wybrennau a roddasant dwrwf: dy saethau hefyd a ger­ddasant.

18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch; mellt a oleuasant y bŷd: cyffrôdd, a chrynodd y ddaiar.

19 Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd maw­rion: ac nid adweinir dy ôl.

20 Tywysaist dy bobl fel de­faid, drwy law Moses, ac Aaron.

Psal. 78. Prydnhawnol Weddi.

GWrando fy nghyfraith fy mhobl, gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.

2 Agoraf fy ngenau mewn di­hareb, traethaf ddammegion o'r cynfyd.

3 Y rhai a glywsom ac a wy­bûom, ac a fynegodd ein tadau i ni.

4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr Arglwydd a'i nerth, a'i ryfe­ddodau, y rhai a wnaeth e­fe.

5 Canys efe a siccrhaodd dy­stiolaeth yn Iacob, ac a osododd gyfraith yn Israel: y rhai a or­chymynnodd efe i'n tadau eu dy­scu iw plant.

6 Fel y gwybyddei'r oes a ddêl, sef y plant a enid, a phan gyfo­dent, y mynegent hwy iw plant hwythau.

7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithred­oedd Duw, eithr cadw ei orchy­mynnion ef.

8 Ac na byddent fel eu tadau yn genhedlaeth gyndyn, a gwrth­ryselgar, yn genhedlaeth ni oso­dodd ei chalon yn uniawn, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon gydâ Duw.

9 Meibion Ephraim yn arfog, ac yn saethu â bŵa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.

10 Ni chadwasant gyfammod Duw, eithr gwrthodasant rodio yn ei Gyfraith ef.

11 Ac anghofiasant ei weithred­oedd, a'i ryfeddodau, y rhai a ddangosasei efe iddynt.

12 Efe a wnaethei wrthiau o flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aipht, ym maes Zoan.

13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd; gw­naeth hefyd i'r dwfr sefyll fel pen-twr.

14 Y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmmwl, ac ar hŷd y nos â goleuni tân.

15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch, a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.

16 Canys efe a ddug ffrydiau a­llan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.

17 Er hynny chwanegasant et­to bechu yn ei erbyn ef, gan ddi­gio y Goruchaf yn y diffaethwch:

18 A themptiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blŷs.

19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw, dywedasant, a ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr ania­lwch.

20 Wele, efe a darawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd: a ddichon efe ro­ddi bara hefyd? a ddarpara efe gîg iw bobl?

21 Am hynny y clybu 'r Ar­glwydd, ac y digiodd, a thân a en­nynnodd yn erbyn Jacob, a digo­faint hefyd a gynneuodd yn erbyn Israel.

22 Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iechydwri­aeth ef.

23 Er iddo ef orchymmyn i'r wybrennau oddi uchod, ac ego­ryd drysau y nefoedd:

24 A glawio Manna arnynt iw fwytta: a rhoddi iddynt ŷd y ne­foedd.

25 Dŷn a fwyttaodd fara ange­lion, anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.

26 Gyrrodd y dwyrein-wynt yn y nefoedd: ac yn ei nerth y dûg efe ddeheu-wynt.

27 Glawiodd hefyd gîg ar­nynt, fel llwch: ac adar ascelloc fel tywod y môr.

28 Ac a wnaeth iddynt gwym­po o fewn eu gwersyll, o amgylch eu presswylfeydd.

29 Felly y bwyttasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt, ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.

30 Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant, er hynny tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,

31 Digllonedd Duw a gynneu­odd yn eu herbyn hwynt, ac a la­ddodd y rhai brasaf o honynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.

32 Er hyn oll pechasant etto, ac ni chredasant iw ryfeddodau ef.

33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'i blynyddoedd mewn dychryn.

34 Pan laddei efe hwynt, hwy [Page] a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn foreu;

35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu gwaredudd.

36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef à'i genau, a dywe­dyd celwydd wrtho â'i tafod:

37 A'i calon heb fod yn un­iawn gyd ag ef, na'i bod yn ffydd­lon yn ei gyfammod ef.

38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie trôdd ŷ­maith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyff [...]ôdd ei holl lîd.

39 Canys efe a gofiei mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.

40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?

41 Iê troesant, a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.

42 Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

43 Fel y gosodasei efe ei ar­wyddion yn yr Aipht, a'i ryfe­ddodau ym maes Zoan:

44 Ac y troesei eu hafonydd yn waed: a'i ffrydau fel na allent yfed.

45 Anfonodd gymmysc-bla yn eu plith, yr hon a'i difâodd hwynt: a llyffaint iw difetha.

46 Ac efe a roddodd eu cnŵd hwynt i'r lindys, a'i llafur i'r locust.

47 Destrywiodd eu gwin-wŷdd â chenllysc, a'i Sycomor-wŷdd â rhew.

48 Rhoddodd hefyd eu hani­seiliaid i'r cenllysc, a'i golud i'r mellt.

49 Anfonodd arnynt gyndda­redd ei lid, llidiawgrwydd, a dig­ter, a chyfyngder, trwy anfon an­gelion drwg.

50 Cymmhwysodd ffordd iw ddigofaint, nid attaliodd eu he­naid oddi wrth angeu: ond eu by­wyd a roddodd efe i'r haint.

51 Tarawodd hefyd bôb cyn­taf-anedic yn yr Aipht, sef blae­nion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham.

52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a'i harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.

53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a'r môr a orchguddiodd eu gelyni­on hwynt.

54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd: i'r mynydd hwn a ennillodd ei ddeheulaw ef.

55 Ac efe a yrrodd allan y cen­hedloedd o'i blaen hwynt, ac a rannodd iddynt ettifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Is­rael drigo yn eu pebyll hwynt.

56 Er hynny temptiasant a di­giasant Dduw goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:

57 Eithr ciliasant a buant an­ffyddlon fel eu tadau; troesant fel bŵa twyllodrus.

58 Digiasant ef hefyd â'i hu­chel-fannau: a gyrrasant eiddi­gedd arno â'i cerfiedic ddelwau.

59 Clybu Duw hyn, ac a ddi­giodd, ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:

60 Fel y gadawodd ef daber­nacl Siloh, y babell a ofodasei efe ym mysc dynion:

61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed, a'i brydfer­thwch yn llaw'r gelyn.

62 Rhoddes hefyd ei bobl i'r cleddyf, a digiodd wrth ei etife­ddiaeth.

63 Tân a yssodd eu gwyr ieu­aingc, a'i morwynion ni phriod­wyd.

64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â'r cleddyf, a'i gwragedd gwe­ddwon nid ŵylasant.

65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gyscu: fel cadarn yn bloe­ddio gwedi gwîn.

66 Ac efe a darawodd ei ely­nion o'r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragywyddol.

67 Gwrthododd hefyd babell Joseph, ac ni etholodd lwyth E­phraim:

68 Ond efe a etholodd lwyth Juda, mynydd Sion, yr hon a hoffodd.

69 Ac a adeiladodd ei gyssegr fel llŷs uchel: fel y ddaiar, yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.

70 Etholodd hefyd Ddafydd ei wâs, ac a'i cymmerth o gorlan­nau y defaid.

71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron, y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etiseddiaeth.

72 Yntef a'i porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon, ac a'i trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.

Psal. 79. Boreuol Weddi.

Y Cenhedloedd, ô Dduw, a ddaethant i'th etifeddi­aeth, halogasant dy Deml sanctaidd; gosodasant Ierusalem yn garneddau.

2 Rhoddasant gelanedd dy wei­sion yn fwyd i adar y nefoedd, a chîg dy sainct i fwyst-filod y ddai­ar.

3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerusalem, ac nid oedd a'i claddei.

4 Yr ydym ni yn warthrudd i'n cymmydogion, dirmyg a gwat­wargerdd i'r rhai sydd o'n ham­gylch.

5 Pa hŷd Arglwydd, a ddigi di'n dragywydd? a lysc dy eiddi­gedd di fel tân?

6 Tywallt dy lid ar y cenhed­loedd ni'th adnabuant: ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw

7 Canys yssasant Jacob, ac a w­naethant ei bresswylfa yn anghy­fannedd.

8 Na chofia'r anwireddau gynt i'n herbyn; bryssia rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesc iawn i'n gwnaethbwyd.

9 Cynnorthwya ni, ô Dduw ein iechydwriaeth, er mwyn go­goniant dy enw: gwared ni he­fyd, a thrugarhâ wrth ein pecho­dau, er mwyn dy enw.

10 Pa ham y dywed y cenhed­loedd, pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hyspys ym mhlith y cen­hedloedd yn ein golwg ni, wrth ddialgwaed dy weision, yr hwn a dywalltwyd.

11 Deued uchenaid y carcharori­on ger dy fron, yn ôl mawredd dy nerth: cadw blant marwolaeth.

12 A thâl i'n cymmydogion ar y seithfed iw monwes eu cabledd, drwy'r hon i'th gablasant di, ô Arglwydd.

13 A ninneu dy bobl, a desaid dy borfa, a'th foliannwn di yn dragywydd: dadcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

Psal. 80.

GWrando ô fugall Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseph [Page] fel praidd: ymddiscleiria yr hwn wyt yn eistedd rhwng y Cerubi­aid.

2 Cyfod dy nerth o flaen Ephra­im, a Benjamin, a Manasseh, a thy­red yn iechydwriaeth i ni.

3 Dychwel ni ô Dduw, a llewyr­cha dy wyneb, ac ni a achubir.

4 O Arglwydd Dduw'r lluoedd, pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?

5 Porthaist hwynt â bara da­grau, a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.

6 Gosodaist ni yn gynnen i'n cymmydogion, a'n gelynion a'n gwatwarent yn eu mysc eu hun.

7 O Dduw 'r lluoedd dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

8 Mudaist win-wydden o'r Aipht, bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.

9 Arloesaist o'i blaen, a phe­raist iw gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tîr.

10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chyscod: a'i changhennau oedd fel cedr-wŷdd rhagorol.

11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, ai blagur hyd yr afon.

12 Pa ham y rhwygaist ei chae­au, fel y tynno pawb a elo heibio ar hŷd y ffordd, ei grawn hi?

13 Y baedd o'r coed a'i turria, a bwyst-fil y maes a'i pawr.

14 O Dduw 'r lluoedd, dych­wel attolwg: edrych o'r nefoedd a chenfydd, ac ymwel â'r win­wydden hon;

15 A'r winllan a blannodd dy ddeheu-law, ac â'r planhigyn a ga­darnheaist i ti dy hun.

16 Lloscwyd hi â than, torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.

17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheu-law: a thros fâb dyn, yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.

18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrth it ti; bywhâ ni, ac ni a alwn ar dy enw.

19 O Arglwydd Dduw 'r llu­oedd, dychwel ni: llewyrcha dy wyneb, ac ni a achubir.

Psal. 81.

CEnwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.

2 Cymmerwch psalm, a moes­wch dympan, y delyn fwyn, a'r nabl.

3 Vd-cenwch vdcorn ar y lloer newydd, ar yr amser nodedic, yn nydd ein vchelwyl.

4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.

5 Efe a'i gosododd yn dystio­laeth yn Joseph: pan aeth efe allan trwy dîr yr Aipht, lle y cly­wais iaith ni ddeallwn.

6 Tynnais ei yscwydd oddi wrth y baich; ei ddwylo a yma­dawsant â'r crochanau.

7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrande­wais di yn nirgelwch y daran, profais di wrth ddyfroedd Meri­bah. Selah.

8 Clyw sy mhobl, a mi a dy­stiolaethaf i ti Israel, os gwran­dewi arnaf.

9 Na fydded ynot Dduw arall, ac nac ymgrymma i Dduw di­eithr.

10 Myfi 'r Arglwydd dy Dduw, yw 'r hwn a'th ddûg di allan o dîr yr Aipht: lleda dy safn, ac mi a'i llanwaf.

11 Ond ni wrandawai fy mhobl [...]r fy llêf, ac Israel ni'm mynnai.

12 Yna y gollyngais hwynt yng­ [...]yndynrwydd eu calon, aethant [...]rth eu cyngor eu hunain.

13 Oh na wrandawsei fy mhobl [...]rnaf: na rodiasai Israel yn fy fyrdd.

14 Buan y gostyngaswn eu ge­ [...]ynion: ac y troeswn fy llaw 'n [...]rbyn eu gwrthwyneb-wŷr.

15 Caseion yr Arglwydd a gym­merasant arnynt ymostwng iddo ef, a'i hamser hwythau fuasai 'n dragywydd.

16 Bwydasai hwynt hefyd â brasder gwenith: ac â mêl o'r graig i'th ddiwallaswn.

Psal. 82. Prydnhawnol Weddi.

DUw sydd yn sefyll ynghyn­nulleidfa y galluog: ym mhlith y duwiau y barn efe.

2 Pa hŷd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annu­wiol? Selah.

3 Bernwch y tlawd a'r ymddi­fad; cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidu [...].

4 Gwaredwch y tlawd a'r ang­henus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.

5 Ni ŵyddant, ac ni ddeallant, mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaiar a symmudwyd o'i lle.

6 Myfi a ddywedais; duwiau ydych chwi, a meibion y Goru­chaf ydych chwi oll.

7 Eithr byddwch feirw fel dy­nion, ac fel vn o'r tywysogion y syrthiwch.

8 Cyfod ô Dduw, barna 'r ddai­ar, canys ti a etifeddi'r holl gen­hedloedd.

Psal. 83.

O Dduw, na ostega, na thaw, ac na fydd lonydd, ô Dduw.

2 Canys wele dy clynion sydd yn terfyscu, a'th gaseion yn cyfo­di eu pennau.

3 Ymgyfrinachasant yn ddichell­gar yn erbyn dy bobl, ac ymgyng­horasant yn erbyn dy rai dirgel di.

4 Dywedasant, deuwch, a di­fethwn hwynt, fel na byddont yn genhedl, ac na chefier enw Israel mwyach.

5 Canys ymgynghorasant yn yn-fryd, ac ym wnaethant i'th er­byn.

6 Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid, y Moabiaid, a'r Hagariaid.

7 Gebal, ac Ammon, ac Ama­lec, y Philistiaid, gyd â phress­wyl-wŷr Tyrus.

8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt, buant fraich i blant Lot. Selah.

9 Gwna di iddynt sel i Midi­an, megis i Sisara, megis i Jabin, wrth afon Cison.

10 Yn Endor y difethwyd hwynt, aethant yn dail i'r ddaiar.

11 Gwna eu pendefigion fel O [...]eb, ac sel Zeeb, a'i holl dywy­sogion fel Zebah, ac fel Salmun­nah.

12 Y rhai a ddywedasant, cym­merwn i ni gyfanneddau Duw i'w meddiannu.

13 Gosod hwynt, ô sy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.

14 Fel y llysc tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd:

15 Felly erlid ti hwynt â'th demhestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.

16 Llanw eu hwynebau â gw­arth, fel y ceisiont dy Enw ô Ar­glwydd.

17 Cywilyddier, a thralloder hwynt yn dragywydd: iê gwrad­wydder, a difether hwynt:

18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn vnic wyt Jehofa wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaiar.

Psal. 84.

MOr hawddgar yw dy bebyll di, ô Arglwydd y lluoedd!

2 Fy enaid a hiraetha, iê ac a flysia am gynteddau 'r Arglwydd: fy nghalon, a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.

3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nŷth iddi, lle y gesyd ei chywion: sef dy allorau di, ô Arglwydd y lluoedd, fy Mre­nin a'm Duw.

4 Gwynfŷd presswylwŷr dy dŷ: yn wastad i'th foliannant. Selah.

5 Gwyn ei fyd y dŷn y mae ei gadernid ynot, a'th ffyrdd yn eu calon.

6 Y rhai yn myned trwy ddy­ffryn Baca, a'i gwnant yn ffynnon, a'r glaw a leinw y llynnau.

7 Ant o nerth i nerth: ym­ddengys pob vn ger bron Duw yn Sion.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, ô Dduw Jacob. Selah.

9 O Dduw ein tarian, gwel, ac edrych ar wyneb dy enneiniog.

10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di nâ mîl: dewiswn gadw drws yn nh ŷ sy Nuw, o flaen trigo ym-mhebyll annuwiol­deb.

11 Canys haul, a tharian yw 'r Arglwydd Dduw: yr Arglwydd â rydd râs a gogoniant: ni attal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn­fŷd y dyn a ymddiried ynot.

Psal. 85.

GRas-lawn fuost ô Arglwydd, i'th dîr: dychwelaist gaethi­wed Jacob.

2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Selah.

3 Tynnaist ymmaith dy holl lid; troist oddi wrth lidiawgrwydd dy ddigter.

4 Trô ni ô Dduw ein iechyd­wriaeth: a thorr ymmaith dy ddi­gofaint wrthym.

5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy sorriant hyd gen­hedlaeth a chenhedlaeth?

6 Oni throi di a'n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd: a dôd i ni dy iechyd­wriaeth.

8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw; canys efe a draetha heddwch iw bobl, ac iw Sainct; ond na throant at ynfyd­rwydd.

9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i'r rhai a'i hofnant: fel y trigo gogoniant yn ein tîr ni.

10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant: cyfiawnder a hedd­wch a ymgusanasant.

11 Gwirionedd a dardda o'r ddaiar; a chyfiawnder a edrych i lawr o'r nefoedd.

12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni, a'n daiar a rydd ei chnŵd.

13 Cyfiawnder â o'i flaen ef, ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

Psal. 86. Boreuol Weddi.

GOstwng, ô Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.

2 Cadw fy enaid, canys san­ctaidd ydwyf: achub dy wâs, ô fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddi­ried ynot.

3 Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys arnat y llefaf beunydd.

4 Llawenhâ enaid dy wâs, ca­nys attat y derchafaf fy enaid.

5 Canys ti ô Arglwydd ydwyt dda, a maddeugar: ac o fawr dru­garedd i'r rhai oll a alwant arnat.

6 Clyw Arglwydd, fy ngweddi, ac ymwrando â llais fy ymbil.

7 Yn nydd fy nghyfyngder y lle­faf arnat: canys gwrandewi fi.

8 Nid oes fel tydi ym mysc y duwiau, ô Arglwydd: na gweith­redoedd fel dy weithredoedd di.

9 Yr holl genhedloedd, y rhai a wnaethost, a ddeuant, ac a addo­lant ger dy fron di, ô Arglwydd; ac a ogoneddant dy Enw.

10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn vnic wyt Dduw.

11 Dysc i mi dy ffordd ô Ar­glwydd, mi a rodiaf yn dy wirio­nedd: vna fy nghalon i ofni dy Enw.

12 Moliannaf di ô Arglwydd fy Nuw, â'm holl galon: a gogone­ddaf dy Enw yn dragywydd.

13 Canys mawr yw dy druga­redd tu ag attafi, a gwaredaist fy enaid o vffern issod.

14 Rhai beilchion a gyfodasant i'm herbyn, ô Dduw, a chynnu­lleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid, ac ni'th osodasant di ger eu bron.

15 Eithr ti ô Arglwydd, wyt Dduw trugarog, a gras-lawn; hwyrfrydic i lid, a helaeth o dru­garedd a gwirionedd.

16 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: dyro dy nerth i'th wâs, ac achub fab dy wasanaeth-ferch.

17 Gwna i mi arwydd er dai­oni, fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwradwydder hwynt; am i ti, ô Arglwydd, fy nghynnorthwyo a'm diddanu.

Psal. 87.

EI sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2 Yr Arglwydd a gâr byrth Sion, yn fwy nâ holl bresswylfeydd Jacob.

3 Gogoneddus bethau a ddy­wedir am danat ti, ô ddinas Dduw, Selah.

4 Cofiaf Rahab a Babylon wrth fy nghydnabod: wele Philistia a Thyrus ynghyd ag Ethiopia; yno y ganwyd hwn.

5 Ac am Sion y dywedir, ŷ gwr a'r gŵr a anwyd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i siccrhâ hi.

6 Yr Arglwydd a gyfrif pan scrifenno y bobl, eni hwn yno. Selah.

7 Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Psal. 88.

O Arglwydd Dduw fy iechyd­wriaeth, gwaeddais o'th flaen ddydd a nôs.

2 Deued fy ngweddi ger dy fron, gostwng dy glust at fy lle­fain.

3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau, a'm henioes a nessâ i'r beddrod.

4 Cyfrifwyd fi gyd â'r rhai a ddescynnent i'r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth:

5 Yn rhydd ym mysc y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gor­wedd [Page] mewn bedd: y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.

6 Gosodaist fi yn y pwll issaf: mewn tywyllwch, yn y dyfnde­rau.

7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â'th holl donnau i'm cystuddiaist. Selah.

8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthif, gwnaethost fi yn ffieidd­dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.

9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd, llefais arnat Arglwydd beunydd: estynnais fy nwylo at­tat.

10 Ai i'r meirw y gwnei ryfe­ddod? a gyfyd y meirw a'th fo­liannu di? Selah.

11 A dreuthir dy drugaredd mewn bedd? a'th wirionedd yn nestryw?

12 A adwaenir dy ryseddod yn y tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhîr anghof.

13 Ond myfi a lefais arnat Ar­glwydd: yn foreu yr achub fyng­weddi dy flaen.

14 Pa ham Arglwydd y gwr­thodi fy enaid? y cuddi dy wy­neb oddi wrthif?

15 Truan ydwyfi, ac ar drang­cedigaeth o'm hieuengctid, dy­gais dy ofn, ac yr ydwyf yn pe­truso.

16 Dy soriant a aeth trosof, dy ddychrynnedigaethau a'm tor­rodd ymmaith.

17 Fel dwfr i'm cylchynasant beunydd: ac i'm cyd-amgylcha­sant.

18 Câr a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthif, a'm cydnabod i dywyllwch.

Psal. 89. Prydnhawnol Weddi.

TRugareddau 'r Arglwydd a ddatcanaf byth, â'm ge­nau y mynegaf dy wirio­nedd, o genhedlaeth hyd genhed­laeth.

2 Canys dywedais adeiledir tru­garedd yn dragywydd: yn y nefo­edd y siccrhei dy wirionedd.

3 Gwneuthum ammod â'm e­tholedig, tyngais i'm gwâs Da­fydd.

4 Yn dragywydd y siccrhâf dy hâd ti: o genhedlaeth i genhed­laeth yr adeiladaf dy orseddfaingc di. Selah.

5 A'r nefoedd, ô Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod, a'th wiri­onedd ynghynnulleidfa y Sainct.

6 Canys pwy yn y nef a gysted­lir â'r Arglwydd? pwy a gyffely­bir i'r Arglwydd ym mysc mei­bion y cedyrn?

7 Duw sydd ofnadwy iawn yng­hynnulleidfa 'r Sainct: ac iw ar­swydo ŷn ei holl amgylchoedd.

8 O Arglwydd Dduw 'r lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Ior? a'th wirionedd o'th amgylch?

9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr; pan gyfodo ei donnau, ti a'i gostegi.

10 Ti a ddrylliaist yr Aipht, fel vn lladdedic: drwy nerth dy fraich y gwasceraist dy elynion.

11 Y nefoedd ydynt eiddo ti, a'r ddaiar sydd eiddo ti: ti a seiliaist y bŷd a'i gyflawnder.

12 Ti a greaist ogledd a dehau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy Enw.

13 Y mae i ti fraich, a chader­nid; cadarn yw dy law, ac vchel yw dy ddeheu-law.

14 Cyfiawnder, a barn yw trig­fa dy orseddfaingc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wy­neb.

15 Gwyn ei fŷd y bobl a ad­waenant yr hyfrydlais: yn lle­wyrch dy wyneb ô Arglwydd, y rhodiant hwy.

16 Yn dy Enw di y gorfole­ddant beunydd, ac yn dy gyfiawn­der yr ymdderchafant.

17 Canys godidawgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y derchefir ein corn ni.

18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian: a Sanct Israel yw ein Brenin.

19 Yna 'r ymddiddenaist mewn gweledigaeth â'th sainct, ac a ddy­wedaist, gosodais gymmorth ar yn cadarn: derchefais vn ethole­dic o'r bobl.

20 Cefais Ddafydd fy ngwasa­naeth-wr: enneiniais ef â'm holew sanctaidd.

21 Yr hwn y siccrheir fy llaw gyd ag ef: a'm braich a'i nertha ef.

22 Ni orthrymma y gelyn ef, a'r mâb anwir nis cystudia ef.

23 Ac mi a goethaf ei elynion o'i flaen, a'i gaseion a darawaf.

24 Fy ngwirionedd hefyd, a'm trugaredd fydd gyd ag ef: ac yn fy Enw y derchefir ei gorn ef.

25 A gosodaf ei law yn y môr, a'i ddeheulaw yn yr afonydd.

26 Efe a lefa arnaf, ti yw fy Nhâd, fy Nuw, a chraig fy iechyd­wriaeth.

27 Minneu a'i gwnâf yntef yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaiar.

28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd: a'm cyfammod fydd siccr iddo.

29 Gosodaf hefyd ei hâd yn dragywydd: a'i orseddfaingc fel dyddiau y nefoedd.

30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith: ac ni rodiant yn fy marnedigaethau.

31 Os fy neddfau a halogant: a'm gorchymynion ni chadwant,

32 Yna mi a ymwelaf â'u cam­wedd â gwialen, ac â'i hanwiredd â ffrewyllau.

33 Ond ni thorraf fy nhruga­redd oddi wrtho: ac ni phallaf o'm gwirionedd.

34 Ni thorraf fy nghyfammod: ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.

35 Tyngais vnwaith i'm san­cteiddrwydd, na ddywedwn gel­wydd i Ddafydd.

36 Bydd ei hâd ef yn dragy­wydd: a'i orsedd-faingc fel yr haul ger fy mron i.

37 Siccrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tŷst ffyddlon yn y nêf. Selah.

38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy enneiniog.

39 Diddymmaist gyfammod dy wâs, halogaist ei goron gan ei thaflu i lawr.

40 Drylliaist ei holl gaeau ef, gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

41 Yr holl fforddolion a'i hy­speiliant ef: aeth yn warthrudd iw gymydogion.

42 Derchefaist ddeheu-law ei wrthwynebwŷr, llawenheaist ei holl elynion.

43 Troist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhy­fel.

44 Peraist iw harddwch ddar­fod, [Page] a bwriaist ei orsedd-faingc i lawr.

45 Byrhêaist ddyddiau ei ieu­engctid, toaist gywilydd trosto ef. Selah.

46 Pa hŷd Arglwydd yr ym­guddi, ai yn dragywydd? a lysc dy ddigofaint di fel tân?

47 Cofia pa amser sydd i mi: pa ham y creaist holl blant dynion yn ofer?

48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law'r bedd? Selah.

49 Pa le y mae dy hên drugare­ddau ô Arglwydd, y rhai a dyng­aist i Ddafydd yn dy wirionedd?

50 Cofia ô Arglwydd wrad­wydd dy weision, yr hwn a ddy­gais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion.

51 A'r hwn y gwradwyddodd dy elynion ô Arglwydd; â'r hwn y gwradwyddasant ôl troed dy enneiniog.

52 Bendigedic fyddo 'r Ar­glwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.

Psal. 90. Boreuol Weddi.

TI Arglwydd fuost yn bres­wylfa i ni ym-mhôb cen­hedlaeth:

2 Cyn gwneuthur y mynydd­oedd, a llunio o honot y ddaiar, a'r bŷd; ti hefyd wyt Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywy­ddoldeb.

3 Troi ddyn i ddinistr; a dywe­di, dychwelwch feibion dynion.

4 Canys mil o flynyddoedd y­dynt yn dy olwg di fel doe, wedi 'r êl heibio, ac fel gwiliadwriaeth nôs.

5 Dygi hwynt ymmaith megis â llifeiriant, y maent fel hûn: y borau y maent fel llyssieun a ne­widir.

6 Y boreu y blodeua ac y tŷf: pryd-nawn y torrir ef ymmaith, ac y gwywa.

7 Canys yn dy ddîg y difeth­wyd ni, ac yn dy lidiawgrwydd i'n brawychwyd.

8 Gosodaist ein anwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yngoleuni dy wyneb.

9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di; treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.

10 Yn nyddiau ein blynyddo­edd y mae dengmhlynedd a thru­gain, ac os o gryfder y cyrheuddir pedwar vgain mhlynedd, etto eu nerth sydd boen, a blinder: canys ebrwydd y derfydd, ac ni a ehed­wn ymmaith.

11 Pwy a edwyn nerth dy sor­riant: canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddigter.

12 Dysc i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.

13 Dychwel Arglwydd, pa hyd? ac edifarhâ o ran dy weision.

14 Diwalla ni yn foreu â'th dru­garedd, fel y gorfoleddom, ac y llawenychom dros ein holl ddy­ddiau.

15 Llawenhâ ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a'r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.

16 Gweler dy waith tu ag at dy weision: a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy.

17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni; a threfna weithred ein dwylo ynom ni, ie trefna waith ein dwylo.

Psal. 91.

YR hwn sydd yn trigo yn nir­gelwch y Goruchaf a erys ynghyscod yr Holl-alluoc.

2 Dywedaf am yr Arglwydd, fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw; fy Nuw, ynddo yr ymddiriedaf.

3 Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr: ac oddi wrth haint echryslon.

4 A'i ascell y cyscoda efe tro­sot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd da­rian, ac astalch i ti.

5 Nid ofni rhag dychryn nôs; na rhag y saeth a ehetto 'r dydd.

6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch, na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.

7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a dengmil wrth dy ddeheu-law: ond ni ddaw yn agos attat ti.

8 Yn vnig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a wêli dâl y rhai annu­wiol.

9 Am i ti wneuthur yr Ar­glwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn bresswylfa i ti:

10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw plâ yn agos i'th ba­bell.

11 Canys efe a orchymyn iw Angelion am danat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12 Ar eu dwylo i'th ddygant, rhag taro dy droed wrth garreg.

13 Ar y llew, a'r asp y cerddi: y cenew llew, a'r ddraig a sethri.

14 Am iddo roddi ei serch ar­naf: am hynny y gwaredaf ef: am iddo adnabod fy Enw.

15 Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd ag ef, y gwaredaf, ac y go­goneddaf ef.

16 Digonaf ef â hir ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwri­aeth.

Psal. 92.

DA yw moliannu'r Arglwydd: a chanu mawl i'th Enw di, y Goruchaf:

2 A mynegi y boreu am dy dru­garedd, a'th wirionedd y noswei­thiau.

3 Ar ddec-tant, ac ar nabl, ac ar delyn yn fyfyriol.

4 Canys llawenychaist fi ô Ar­glwydd, â'th weithred: yngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf.

5 Mor fawredic ô Arglwydd, yw dy weithredoedd, dwfn iawn yw dy feddyliau.

6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a'r yn­fyd ni ddeall hyn.

7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel llysieun, a blaguro holl weith­redwŷr anwiredd, hynny sydd iw dinistrio byth bythoedd.

8 Titheu Arglwydd wyt dder­chafedic yn dragywydd.

9 Canys wele dy elynion ô Ar­glwydd, wele dy elynion, a ddi­fethir: gwascerir holl weithred­wŷr anwiredd.

10 Ond fy nghorn i a dderchefi fel vnicorn, ac olew îr i'm ennei­nir.

11 Fy llygad hefyd a w [...]l fy ngwynfyd ar fy ngwrthwyneb­wŷr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gy­fodant i'm herbyn.

12 Y cyfiawn a flodeua fel palm­wydden, ac a gynnydda fel cedr­wŷdden yn Libanus.

13 Y rhai a blannwyd yn nh ŷ 'r Arglwydd, a flodeuant, yng­hynreddoedd ein Duw.

14 Ffrwythant etto yn eu he­naint, [Page] tirfion, ac iraidd fyddant.

15 I fynegi mai vniawn yw 'r Arglwydd fy nghraig: ac nad oes anwlredd ynddo.

Psal. 93. Prydnhawnol Weddi.

YR Arglwydd sydd yn teyr­nasu, efe a wiscodd ar­dderchawgrwydd, gwis­codd yr Aglwydd nerth ac ym­wregysodd: y bŷd hefyd a sicr­hawyd, fel na syflo.

2 Darparwyd dy orsedd-faingc erioed: ti wyt er tragywyddol­deb.

3 Y llifeiriaint ô Arglwydd, a dderchafasant, y llifeiriaint a dder­chafasant eu twrwf: y llifeiriaint a dderchafasant eu tonnau.

4 Yr Arglwydd yn yr vcheler sydd gadarnach nâ thwrwf dy­froedd lawer, nâ chedyrn donnau y môr.

5 Siccr iawn yw dy dystiolae­thau: sancteiddrwydd a weddei i'th dŷ ô Arglwydd, byth.

Psal. 94.

O Arglwydd Dduw 'r dial, ô Dduw'r dial, ymddiscleiria.

2 Ymddercha farnwr y bŷd: tâl eu gwobr i'r beilchion.

3 Pa hyd Arglwydd y caiff yr annuwolion: pa hyd y caiff yr an­nuwiol orfoleddu?

4 Pa hyd y siaradant, ac y dy­wedant yn galed? yr ymfawryga holl weithred-wŷr anwiredd?

5 Dy bobl Arglwyad a ddrylli­ant: a'th etifeddiaeth a gystuddi­ant.

6 Y weddw a'r dieithra laddant, a'r ymddifad a ddieneidiant.

7 Dywedant hefyd, ni wêl yr Arglwydd: ac nid ystyria Duw Jacob hyn.

8 Ystyriwch chwi rai annoeth ym mysc y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

9 Oni chlyw 'r hwn a blannodd y glûst: oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

10 Oni cheryd da 'r hwn a go­spa y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dyscu gwybodaeth i ddŷn.

11 Gŵyr yr Arglw ydd feddy­liau dŷn, mai gwagedd ydynt.

12 Gwyn ei fŷd y gŵr a gery­ddi di ô Arglwydd; ac a ddysci yn dy gyfraith;

13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd; hyd oni chloddir ffôs i'r annuwiol.

14 Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etife­ddiaeth.

15 Eithr barn a ddychwel at gy­fiawnder, a'r holl rai vniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16 Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithred­wŷr an wiredd?

17 Oni buasei 'r Arglwydd yn gymmorth i mi, braidd na thri­gasei fy enaid mewn distawrwydd.

18 Pan ddywedais, llithrodd fy nhroed, dy drugaredd di ô Ar­glwydd, a'm cynhaliodd.

19 Yn amlder fy meddyliau om mewn, dy ddiddanwch di a la­wenycha fy enaid.

20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfaingc anwiredd: yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn: a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddeffynfa i mi, a'm Duw yw craig fy nodded.

23 Ac efe a dâl iddynt eu han­wiredd, ac a'i tyrr ymmaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'i tyrr hwynt ymmaith.

Psal. 95. Boreuol Weddi.

DEuwch, canwn i'r Ar­glwydd; ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.

2 Deuwn ger ei fron ef â di­olch: canwn yn llafar iddo â Psal­mau.

3 Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, â brenin mawr go­ruwch yr holl dduwiau.

4 Yr hwn y mae gorddyfn­derau y ddaiar yn ei law: ac vchelderau y mynyddoedd yn ei­ddo.

5 Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sych-dir.

6 Deuwch, addolwn, ac ym­grymmwn: gostyngwn ar ein gli­niau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr.

7 Canys efe yw ein Duw ni, a ninneu ŷm bobl ei borfa, a de­faid ei law; heddyw os gwran­dewch ar ei leferydd,

8 Na chaledwch eich calon­nau, megis yn yr ymrysonfa, sel yn nydd profedigaeth yn yr ani­alwch:

9 Pan demptiodd eich tadau fi, y profâsant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.

10 Deugain mhlynedd yr ym­rysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais, pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy: ac nid adnabu­ant fy ffyrdd.

11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llîd, na ddelent i'm gorphywys­fa.

Psal. 96.

CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd: cenwch i'r Ar­glwydd, yr holl ddaiar.

2 Cenwch i'r Arglwydd, ben­digwch ei enw: cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iechydwriaeth ef.

3 Dadcenwch ym mysc y cenhed­loedd ei ogoniant ef, ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4 Canys mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn, ofnadwy yw efe goruwch yr holl ddu­wiau.

5 Canys holl dduwiau 'r bobl­oedd ydynt eulynnod, ond yr Ar­glwydd a wnaeth y nefoedd.

6 Gogoniant, a harddwch sydd o'i flaen ef, nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.

7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i'r Arglwydd; rhoddwch i'r Ar­glwydd ogoniant a nerth.

8 Rhoddwch i'r Arglwydd ogo­niant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch iw gynteddoedd.

9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaiar ofnwch ger ei fron ef.

10 Dywedwch ym mysc y cen­hedloedd, yr Arglwydd sydd yn teyrnasu: a'r bŷd a siccrhaodd efe, fel nad yscogo: efe a farna y bobl yn vniawn.

11 Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaiar: rhûed y môr a'i gyflawnder.

12 Gorfoledded y maes, a'r hyn oll sydd ynddo: yna holl brennau 'r coed a ganant,

13 O flaen yr Arglwydd; Canys y mae yn dyfod, canys y mae n dyfod i farnu 'r ddaiar: efe a far­na 'r bŷd drwy gyfiawnder, a'r bobloedd â'i wirionedd.

Psal. 97.

YR Arglwydd sydd yn teyrna­su, gorfoledded y ddaiar, lla­wenyched ynysoedd lawer.

2 Cymmylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef: cyfiawnder, a barn yw trigfa ei orsedd-faingc ef.

3 Tân â allan o'i flaen ef, ac a lysc ei elynion o amgylch.

4 Ei fellt a lewyrchasant y byd, y ddaiar a welodd, ac a gry­nodd.

5 Y mynyddoedd a doddasant fel cŵyr o flaen yr Arglwydd: o flaen Arglwydd yr holl ddaiar.

6 Y nefoedd a fynegant ei gy­fiawnder ef: a'r holl bobl a we­lant ei ogoniant.

7 Gwradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedic, y rhai a ymffrostiant mewn eulyn­nod: addolwch ef yr holl ddu­wiau.

8 Sion a glywodd, ac a lawe­nychodd; a merched Juda a or­foleddasant; o herwydd dy farne­digaethau di, ô Arglwydd.

9 Canys ti Arglwydd wyt oru­chel goruwch yr holl ddaiar: dir­fawr i'th dderchafwyd goruwch yr holl dduwiau.

10 Y rhai a gerwch yr Ar­glwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe, a'i gwared o law y rhai annu­wiol.

11 Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o ga­lon.

12 Y rhai cyfiawn, llaweny­chwch yn yr Arglwydd a molien­nwch wrth goff [...]dwriaeth ei san­cteiddrwydd ef.

Psal. 98. Prydnhawnol Weddi.

CEnwch i'r Arglwydd gani­ad newydd, canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw, a'i fraich san­ctaidd a barodd iddo fuddugo­liaeth.

2 Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth, dat-cuddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhed­loedd.

3 Cofiodd ei drugaredd, a'i wi­rionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.

4 Cenwch yn llafar i'r Ar­glwydd, yr holl ddaiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.

5 Cenwch i'r Arglwydd, gyd â'r delyn, gyd â'r delyn â llêf Psalm.

6 Ar utcyrn a sain cornet, ce­nwch yn llafar o flaen yr Ar­glwydd y Brenin.

7 Rhûed y môr a'i gyflawn­der, y bŷd a'r rhai a drigant o'i fewn.

8 Cured y llifeiriant eu dwy­lo: a chydganed y mynyddoedd.

9 O flaen yr Arglwydd, canys y mae'n dyfod i farnu y ddaiar: efe a farna'r bŷd â chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.

Psal. 99.

YR Arglwydd sydd yn teyrna­su, cryned y bobloedd: ei­stedd y mae rhwng y Cerubiaid, ymgynnhyrfed y ddaiar.

2 Mawr yw'r Arglwydd yn Si­on, a derchafedic yw efe goruwch yr holl bobloedd.

3 Moliannant dy Enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.

4 A nerth y brenin a hoffa [Page] farn, ti a siccrhei uniondeb; barn, a chyfiawnder a wnai di yn Jacob.

5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch o flaen ei stôl draed ef; canys sanctaidd yw.

6 Moses ac Aaron ym mhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ym mysc y rhai a alwant ar ei Enw, galwa­sant ar yr Arglwydd, ac efe a'i gwrandawodd hwynt.

7 Llefarodd wrthynt yn y go­lofn gwmmwl, cad wasant ei dy­stiolaethau, a'r Ddeddf a roddodd efe iddynt.

8 Gwrandewaist arnynt, ô Ar­glwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie pan ddielit am eu dychymmygion.

9 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch ar ei fynydd sanctaidd; canys san­ctaidd yw 'r Arglwydd ein Duw.

Psal. 100.

CEnwch yn llafar i'r Ar­glwydd, yr holl ddaiar:

2 Gwasanaethwch yr Ar­glwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flâen ef â chân.

3 Gwybyddwch mai 'r Ar­glwydd sydd Dduw; ef a'n gw­naeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.

4 Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac iw gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei Enw.

5 Canys da yw 'r Arglwydd; ei drugaredd sydd yn dragywydd; a'i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Psal. 101.

CAnaf am drugaredd a barn: i ti Arglwydd y canaf.

2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith: pa bryd y deui attaf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon, o fewn fy nhŷ.

3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid, câs gennif waith y rhai cildynnus, ni lŷn wrthif fi.

4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthif, nid adnabyddaf ddŷn drygionus.

5 Torraf ymmaith yr hwn a enllibio ei gymmydog yn ddirgel; yr uchel o olwg, a'r balch ei ga­lon, ni allaf ddioddef.

6 Fy llygaid fydd ar ffyddlo­niaid y tîr, fel y trigont gyd â mi: yr hwn a rodio mewn ffordd ber­ffaith, hwnnw a'm gwasanac­tha i.

7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy­ngolwg yr un a ddywedo gel­wydd.

8 Yn foreu y torraf ymmaith holl annuwolion y tir,; i ddi­wreiddio holl weithredwŷr an­wiredd o ddinas yr Arglwydd.

Psal. 102. Boreuol Weddi.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a deled fy llêf attat.

2 Na chûdd dy wyneb oddiwrthif, yn nydd fy nghy­fyngder gostwng dy glûst attaf: yn y dydd y galwyf, bryssia, gw­rando fi.

3 Canys fy nyddiau a ddarfu­ant fel mŵg: am hescyrn a boe­thasant fel aelwyd.

4 Fy nghalon a darawyd, ac a wywodd fel llyssieun: fel yr ang­hofiais fwytta fy mara.

5 Gan lais fy nhuchan y glŷ­nodd fy escyrn wrth fy ngnhawd.

6 Tebyg wyf i belican yr ania­lwch, [Page] ydwyf fel dylluan y diffae­thwch.

7 Gwiliais, ac ydwyf fel ade­ryn y tô, vnic ar ben y tŷ.

8 Fy ngelynion a'm gwrad­wyddant bennydd: y rhai a yn­fydant wrthif a dyngasant yn fy erbyn.

9 Canys bwytteais ludw fel ba­ra: a chymmyscais fy niod ag wy­lofain,

10 O herwydd dy lîd ti â'th ddigofaint; canys codaist fi i fynu, a theflaist fi i lawr.

11 Fy nyddiau sydd fel cyscod yn cilio; a minneu fel glaswelltyn a wywais.

12 Titheu Arglwydd a bar­hei yn dragywyddol; a'th goffa­dwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Sion: canys yr amser i dru­garhau wrthi, ie yr amser node­dic, a ddaeth.

14 Oblegit y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llŵch hi.

15 Felly y oen hedloedd a of­nant enw'r Arglwydd: a holl fren­hinoedd y ddaiar dy ogoniant.

16 Pan adeilado yr Arglwydd Sion, y gwelir ef yn ei ogoni­ant.

17 Efe a edrych ar weddi y gwael: ac ni ddiystyrodd eu dy­muniad.

18 Hyn a scrifennir i'r gen­hedlaeth a ddêl, a'r bobl a greuir a foliannant yr Arglwydd.

19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gyssegr: yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar y ddaiar,

20 I wrando uchenaid y car­charorion: ac i ryddhau plant angeu,

21 I fynegi Enw 'r Arglwydd yn Sion, a'i foliant yn Jerusalem:

22 Pan gascler y bobl ynghyd; a'r teyrnasoedd i wasanaeth u'r Arglwydd.

23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau.

24 Dywedais, fy Nuw na chym­mer fi ymmaith ynghanol fy ny­ddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.

25 Yn y dechreuad y seiliaist, y ddaiar, a'r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.

26 Hwy a ddarfyddant a thi a barhê i, ie hwy oll a heneiddiant fel dilledyn: fel gwisc y newidi hwynt, a hwy a newidir.

27 Titheu'r un ydwyt, a'th flynyddoedd ni ddarfyddant.

28 Plant dy weision a bar­hânt, â'i hâd a siccrheir ger dy fron di.

Psal. 103.

FY enaid, bendithia 'r Ar­glwydd, a chwbl sydd ynof, ei Enw sanctaidd ef.

2 Fy enaid, bendithia 'r Ar­glwydd, ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:

3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau: yr hwn sydd yn iachâu dy holl lescedd:

4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestryw, yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd, ac â thosturi:

5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni: fel yr adnewyddir dy ieuengctid fel yr eryr.

6 Yr Arglwydd sydd yn gw­neuthur cyfiawnder, a barn i'r rhai gorthrymmedic oll.

7 Yspyssodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.

8 Trugarog, a gras-lawn yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i lid, a mawr o drugarogrwydd.

9 Nid byth yr ymrysson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddi­gofaint.

10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein anwireddau y tâlodd efe i ni.

11 Canys cyfuwch ac yw 'r ne­foedd uwchlaw'r ddaiar, y rhago­rodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hofnant ef.

12 Cyn belled ac yw 'r dwy­rain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau o­ddi wrthym.

13 Fel y tosturia tâd wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.

14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llŵch y­dym.

15 Dyddiau dŷn sydd fel glas­welltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.

16 Canys y gwynt â trosto, ac ni bydd mwy o honaw; a'i le nid edwyn ddim o honaw ef mwy.

17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragywyddoldeb hyd dra­gywyddoldeb, ar y rhai a'i hof­nant ef: a'i gyfiawnder i blant eu blant:

18 I'r sawl a gadwant ei gy­fammod ef: ac a gofiant ei orchy­mynion, iw gwneuthur.

19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nesoedd: a'i fren­hin iaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb peth.

20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angelion ef: cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef, gan wran­do ar leferydd ei air ef.

21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef: ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.

22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef: ym mhob man o'i lywodraeth. Fy enaid, bendithia 'r Arglwydd.

Psal. 104. Prydnhawnol Weddi.

FY enaid, bendithia 'r Ar­glwydd, ô Arglwydd fy Nuw tra mawr ydwyt: gwiscaist ogoniant, a hardd­wch.

2 Yr hwn wyt yn gwisco go­leuni fel dilledyn: ac yn tanu y nef­oedd fel llen.

3 Yr hwn sy yn gosod tŷla­thau ei stafelloedd yn y dyfroedd, yn gwneuthur y cymmylau yn gerbyd iddo: ac yn rhodio ar ade­nydd y gwynt.

4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei gennadon yn ysprydion: a'i wenidogion yn dân fflamllyd.

5 Yr hwn a seiliodd y ddaiar ar ei sylfeini: fel na symmudo byth, yn dragywydd.

6 Toaist hi â'r gorddyfnder, megis â gwisc: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.

7 Gan dy gerydd di y ffoesant; rhag sŵn dy daran y prysurasant ymmaith.

8 Gan y mynyddoedd yr ym­godant, ar hyd y dyssrynnoedd y descynnant, i'r lle a seiliaist iddynt

9 Gosodaist derfyn, fel nad e­lont trosodd, fel na ddychwelont i orchguddio 'r ddaiar.

10 Yr hwn a yrr ffynhonnau i'r dyffrynnoedd, y rhai a ger­ddant rhwng y brynniau.

11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr assynnod gwylltion a dor­rant eu syched.

12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt; y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.

13 Y mae efe yn dwfrhau y brynniau o'i stafelloedd: y ddaiar a ddigonir â ffrwyth dy weithred­oedd.

14 Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llyssiau i wa­sanaeth dŷn: fel y dycco fara a­llan o'r ddaiar:

15 A gwîn, yr hwn a laweny­cha galon dŷn, ac olew i beri iw wyneb ddiscleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dŷn.

16 Prennau 'r Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus y rhai a blannodd efe.

17 Lle y nytha 'r adar: y ffyn­nid wydd yw tŷ y Ciconia.

18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwnningod.

19 Efe a wnaeth y llenad i amse­rau nodedic: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20 Gwnei dywyllwch, a nôs fydd: ynddi yr ymlusca pôb bwyst-fil coed.

21 Y cenawon llewod a rûant am ysclyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.

22 Pan godo haul, ymgasclant, a gorweddant yn eu llochesau.

23 Dŷn a â allan iw waith, ac iw orchwyl hyd yr hwyr.

24 Mor lluosog yw dy weithred­oedd, ô Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb, llawn yw'r ddaiar o'th gyfoeth.

25 Felly y mae y môr mawr llydan: yno y mae ymlusciaid heb rifedi, bwyst-filod bychain a maw­rion.

26 Yno'r â y llongau: yno y mae 'r Lefiathan, yr hwn a luni­aist i chwarae ynddo.

27 Y rhai hyn oll a ddisgwili­ant, am roddi iddynt eu bwyd yn ei brŷd.

28 A roddech iddynt a gascl­ant; agori dy law a diwellir hwynt â daioni.

29 Ti a guddi dy wyneb, hwy­thau a drallodir: dygi ymmaith eu hanadl, a threngant, dychwelant iw llŵch.

30 Pan ollyngych dy yspryd y creuir hwynt, ac yr adnewyddi wyneb y ddaiar.

31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.

32 Efe a edrych ar y ddaiar, a hi a gryna, efe a gyffwrdd â'r my­nyddoedd, a hwy a fygant.

33 Canaf i'r Arglwydd tra fydd­wyf fyw, canaf i'm Duw tra fydd­wyf.

34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenycha yn yr Arglwydd.

35 Darfydded y pechaduriaid o'r tîr, na fydded yr annuwolion mwy: fy enaid bendithia di'r Ar­glwydd. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 105. Boreuol Weddi.

GLodforwch yr Arglwydd, gelwch ar ei Enw: myne­gwch ei weithredoedd ym mysc y bobloedd.

2 Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.

3 Gorfoleddwch yn ei Enw sanctaidd; llawenyched calon y [Page] rhai a geisiant yr Arglwydd.

4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bôb amser.

5 Cofiwch ei ryfeddodau, y rhai a wnaeth efe: ei wrthiau, a barnedigaethau ei enau,

6 Chwi hâd Abraham ei wâs ef: chwi meibion Jacob ei etho­ledigion.

7 Efe yw'r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedigaethau ef sydd trwy 'r holl ddaiar.

8 Cofiodd ei gyfammod byth: y gair a orchymynnodd efe i fîl o genhedlaethau▪

9 Yr hyn a ammododd efe ag Abraham, a'i lŵ i Isaac,

10 A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfammod tragywyddol i Israel;

11 Gan ddywedyd, i ti y rho­ddaf dîr Canaan, rhandir eich e­tifeddiaeth.

12 Pan oeddynt ych y dig o ri­fedi, ie ychydig, a dieithriaid ynddi:

13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth: o'r naill deyrnas at bobl arall:

14 Ni adawodd i nêb eu gor­thrymmu, ie eeryddodd frenhin­oedd o'i plegit:

15 Gan ddywedyd, na chyffyr­ddwch â'm rhai enneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.

16 Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: a dinistriodd holl gyn­haliaeth bara.

17 Anfonodd ŵr o'i blaen hwynt, Joseph yr hwn a werth­wyd yn wâs.

18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid aeth mewn heirn:

19 Hyd yr amser y daeth ei air ef; gair yr Arglwydd a'i pro­fodd ef.

20 Y brenin a anfonodd, ac a'i gollyngodd ef, llywodraeth-wr y bobl, ac a'i rhyddhâodd ef.

21 Gosododd ef yn Arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:

22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyseu doethineb iw henuriaid ef.

23 Aeth Israel hefyd i'r Aipht, ac Jacob a ymdeithiodd yn nhîr Ham.

24 Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddirfawr, ac a'i gwnaeth yn gryfach nâ'i gwrthwynebwyr.

25 Trôdd eu calon hwynt i gasau ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.

26 Efe a anfonodd Moses ei wâs, ac Aaron yr hwn a dde­wisasei.

27 Hwy a ddangosasant ei ar­wyddion ef yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.

28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufydd­hasant hwy ei air ef.

29 Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscod.

30 Eu tir a heigiodd lyffaint, yn stafelloedd eu brenhinoedd.

31 Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc-blâ, a llau yn eu holl frô hwynt.

32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysc, ac yn fflammau tân yn eu tîr.

33 Tarawodd hefyd eu gwyn­wydd, a'i ffigys-wydd: ac a ddry­lliodd goed eu gwlâd hwynt.

34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys yn anneirif.

35 Y rhai a fwyttasant yr holl lâswellt yn eu tîr hwynt: ac a ddi­fasant ffrwyth eu daiar hwynt.

36 Tarawodd hefyd bôb cyntaf­anedig yn eu tîr hwynt; blaen­ffrwyth eu holl nerth hwynt.

37 Ac a'i dûg hwynt allan ag arian, ac ag aur: ac heb un llesc yn eu llwythau.

38 Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan, canys syrthiasei eu harswyd arnynt hwy.

39 Efe a danodd gwmmwl yn dô, a thân i oleuo liw nôs.

40 Gofynnasant, ac efe a ddûg sofl-ieir, ac a'i diwallodd â bara nefol.

41 Efe a holltodd y graig, a'r dyfroedd a ddylifodd, cerdda­sant ar hŷd lleoedd sychion yn a­fonydd.

42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei wâs.

43 Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawenydd: ei etholedigion mewn gorfoledd.

44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddiannasant lafur y bobloedd:

45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 106. Prydnhawnol Weddi.

MOlwch yr Arglwydd. Clod­forwch yr Arglwydd, ca­nys da yw: o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef?

3 Gwyn eu bŷd a gadwant farn: ar hwn a wnel gyhawnder bôb amser.

4 Cofia fi Arglwydd yn ôl dy raslonrwydd i'th bobl, ymwêl â mi â'th iechydwriaeth.

5 Fel y gwelwyf ddaioni dy e­tholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genhedl di: fel y gorfoleddwyf gyd â'th etifeddi­aeth.

6 Pechasom gyd â'n tadau, gwnaethom gamwedd, anwire­ddus fuom.

7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht, ni chofi­asant luosogrwydd dy drugare­ddau, eithr gwrth-ryfelgar fuant wrth y môr, sef y môr côch.

8 Etto efe a'i hachubodd hwynt er mwyn ei enw: i beri adnabod ei gadernid.

9 Ac a geryddodd y môr côch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy'r dyfnder megis trwy 'r anialwch:

10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog: ac a'i gwaredodd o law y gelyn.

11 A'r dyfroedd a doesant eu gwrth wynebwŷr: ni adawyd un o honynt.

12 Yna y credasant ei eiriau ef: canasant ei fawl ef.

13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef, ni ddisgwilia­sant am ei gyngor ef.

14 Eithr blyssiasant yn ddir­fawr yn yr anialwch: a thempti­asant Dduw yn y diffaethwch.

15 Ac efe a roddes eu dymu­niad iddynt, eithr efe a anfonodd gulni iw henaid.

16 Cynfigen nasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll: ac wrth Aaron sanct yr Arglwydd.

17 Y ddaiar a agorodd, ac a lyngcodd Ddathan, ac a orchgu­ddiodd gynnulleidfa Abiram.

18 Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa hwynt: fflam a loscodd y rhai annuwiol.

19 Llô a wnaethant yn Ho­reb: ac ymgrymmasant i'r ddelw dawdd.

20 Felly y troesant eu gogoni­ant i lûn eidion yn pori glas­wellt.

21 Anghofiasant Dduw eu ha­chub-ŵr, yr hwn a wnelsei bethau mawrion yn yr Aipht:

22 Pethau rhyfedd yn nhîr Ham: pethau ofnadwy wrth y môr côch.

23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buase i Moses ei etholedig sefyll ar yr ad­wy o'i flaen ef, i droi ymmaith ei lidiawgrwydd ef, rhag eu dini­strio.

24 Diystyrasant hefyd y tîr dy­munol: ni chredasant ei air ef:

25 Ond grwgnachasant yn eu pebyll: ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.

26 Yna y derchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, iw cwym­po yn yr anialwch;

27 Ac i gwympo eu hâd ym mysc y Cenhedloedd, ac iw gwa­scaru yn y tiroedd.

28 Ymgyssylltasant hefyd a Baal-peor, a bwyttasant ebyrth y meirw.

29 Felly y digiasant ef â'i dy­chymmygion eu hun: ac y tara­wodd plâ yn eu mysc hwy.

30 Yna y safodd Phinehes, ac a iawn farnodd: a'r plâ a attali­wyd.

31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o genhedlaeth i gen­hedlaeth byth.

32 Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen: fel y bu ddrwg i Moses o'i plegit hwynt.

33 O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef, fel y cam­ddywedodd â'i wefusau.

34 Ni ddinistriasant y boblo­edd, am y rhai y dy wedasei 'r Ar­glwydd wrthynt:

35 Eithr ymgymmyscasant â'r Cenhedloedd: a dyscasant eu gweithredoedd hwynt:

36 A gwasanaethasant eu del­wau hwynt, y rhai a fu yn fagl iddynt.

37 A berthasant hefyd eu mei­bion, a'i merched i gythreuliaid.

38 Ac a dywalltasant waed gwi­rion, sef gwaed eu meibion, a'i merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan, a'r tir a halog­wyd â gwaed.

39 Felly 'r ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y put­teiniasant gyd â'i dychymmygion.

40 Am hynny y cynneuodd dîg yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddi­aeth.

41 Ac efe a'i rhoddes hwynt yn llaw 'r cenhedloedd, a'i caseion a ly wodraethasant arnynt.

42 Eu gelynion hefyd a'i gor­thrymmasant; a darostyngwyd hwynt tan eu dwylo hwy.

43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt, hwythau a'i digiasant ef â'i cyngor en hun: a hwy a wanhychwyd am eu han wiredd.

44 Etto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt: pan glywodd eu llefain hwynt.

45 Ac efe a gofiodd ei gyfam­mod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosogrwydd ei drugare­ddau.

46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a'i cae­thiwai.

47 Achub ni ô Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy Enw sanctaidd: ac i orfoleddu yn dy foliant.

48 Bendigedic fyddo Arglwydd Dduw Israel, erioed, ac yn dragy­wydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 107. Boreuol Weddi.

CLodforwch yr Arglwydd canys da yw: o herwydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd; y rhai a waredodd efe o law y gelyn;

3 Ac a gasclodd efe o'r tiroedd, o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, o'r gogledd, ac o'r dehau.

4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr: heb gael dinas i aros ynddi:

5 Yn newynog ac yn sychedig: eu henaid a lewygodd ynddynt.

6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'i gwa­redodd o'i gorthrymderau.

7 Ac a'i tywysodd hwynt ar hŷd y ffordd vniawn, i fyned i ddinas gyfanneddol.

8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid ne­wynog â daioni.

10 Y rhai a bresswyliant yn y tywyllwch a chyscod angeu, yn rhwym mewn cystudd a haiarn:

11 O herwydd annufyddhau o honynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf:

12 Am hynny yntef a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant▪ ac nid oedd cynnorthwy-ŵr.

13 Yna y gwaeddasant ar yr Ar­glwydd yn eu cyfyngder: efe a'i hachubodd o'r gorthrymderau.

14 Dûg hwynt allan o dywyll­wch, a chyscod angeu: a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

16 Canys efe a dorrodd y pyrth prês, ac a ddrylliodd y barrau heirn.

17 Ynfydion oblegit eu cam­weddau, ac o herwydd eu hanwi­reddau a gystuddir.

18 Eu henaid a ffieiddiei bôb bwyd: a daethant hyd byrth angeu.

19 Yna y gwaeddasant ar yr Ar­glwydd yn eu cyfyngder: ac efe a'i hachubodd o'i gorthrymde­rau.

20 Anfonodd ei air, ac iachâ­odd hwynt, ac a'i gwaredodd o'i dinistr.

21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

22 Aberthant hefyd aberth mo­liant: a mynegant ei weithredo­edd ef mewn gorfoledd.

23 Y rhai a ddescynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorch wyl mewn dyfroedd maw­rion:

24 Hwy a welant weithredo­edd yr Arglwydd: a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25 Canys efe a orchymmyn, a chysyd tymh estl-wynt: yr hwn [Page] a dderchafa ei donnau ef.

26 Hwy a escynnant i'r nefo­edd, descynnant i'r dyfnder, [...]awdd eu henaid gan flinder.

27 Ymdroant, ac ymsymmu­dant fel meddwyn: a'i holl ddoe­thineb a ballodd.

28 Yna y gwaeddant ar yr Ar­glwydd yn eu cyfyngder, ac efe a'i dwg allan o'i gorthrymderau.

29 Efe a wna yr storm yn da­wel: a'i tonnau a ostegant.

30 Yna y llawenhânt am eu gostegu, ac efe a'i dwg i'r porth­ladd a ddymunent.

31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.

32 A derchafant ef ynghyn­nulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.

33 Efe a wna afonydd yn ddi­ffaethwch: a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir:

34 A thîr ffrwyth-lawn yn ddiffrwyth: am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.

35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr: a'r tîr crâs yn ffynhon­nau dwfr.

36 Ac yno y gwna i'r newy­nog aros: fel y darparont ddinas i gyfanneddu:

37 Ac yr hauont feusydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38 Ac efe a'i bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni âd iw hanifeiliaid leihau.

39 Llei heir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, dryg-fyd, a chŷni.

40 Efe a dywallt ddirmyg ar fo­neddigion, ac a wna iddynt gyr­wydro mewn anialwch heb ffordd.

41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.

42 Y rhai vniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.

43 Y nêb sydd ddoeth ac a gad­wo hyn, hwy a ddeallant druga­reddau 'r Arglwydd.

Psal. 108. Prydnhawnol Weddi.

PArod yw fy nghalon ô Dduw, canaf a chanmolaf â'm go­goniant.

2 Deffro y nabl a'r delyn, min­nau a ddeffroaf yn foreu.

3 Clodforaf di Arglwydd ym mysc y bobloedd: canmolaf di ym mysc y cenhedloedd.

4 Canys mawr yw dy druga­redd oddi ar y nefoedd, a'th wi­rionedd a gyrraedd hyd yr wy­bren.

5 Ymddercha ô Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaiar.

6 Fel y gwareder dy rai an­wyl: achub â'th ddeheu-law, a gwrando fi.

7 Duw a lefarodd yn ei san­cteiddrwydd: llawenychaf, rhan­naf Sichem, a messuraf ddyffryn Succoth.

8 Eiddo fi yw Gilead, eiddo fi Manasseh: Ephraim hefyd yw nerth fy mhen: Juda yw fy nedds­ŵr.

9 Moab yw fy nghrochan gol­chi, tros Edom y taflaf fy escid: buddugoliaethaf ar Philistia.

10 Pwy a'm dŵg i'r ddinas ga­darn? pwy a'm dŵg hyd yn E­dom?

11 Onid tydi o Dduw, yr [Page] hwn a'n bwriaist ymmaith, ac onid ai di allan, ô Dduw, gyd â'n llu­oedd?

12 Dyro i mi gynnorthwy rhag cyfyngder, canys gau yw ym­wared dŷn.

13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein ge­lynion.

Psal. 109.

NA thaw, ô Dduw fy moli­ant.

2 Canys genau 'r annuwiol, a genau y twyllodrus a ymagora­sant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i'm herbyn.

3 Cylchynasant fi hefyd â gei­tiau câs, ac ymladdasant â mi heb achos.

4 Am fy ngharedigrwydd i'm gwrth wynebant: minneu a arfe­raf weddi.

5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda: a châs am fy ngha­riad.

6 Gosod titheu vn annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheu-law ef.

7 Pan farner ef, eled yn euog, a bydded ei weddi yn bechod.

8 Ychydig fyddo ei ddyddiau: a chymmered arall ei swydd ef.

9 Bydded ei blant yn ymddi­faid: a'i wraig yn weddw.

10 Gan gyrwydro hefyd cyr­wydred ei blant ef, a chardottant: ceisiant hefyd eu bara o'i hanghy­fannedd leoedd.

11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo: ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.

12 Na fydded nêb a estynno drugaredd iddo: ac na fydded nêb a drugarhâo wrth ei ymddi­faid ef.

13 Torrer ymmaith ei hilioga­eth ef, dilêer eu henw yn yr oes nessaf.

14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd: ac na ddilêer pechod ei fam ef.

15 Byddant bôb amser ger bron yr Arglwydd: fel y torro efe ymmaith eu coffad wriaeth o'r tîr.

16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid o honaw y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedic o galon, iw lâdd.

17 Hoffodd felldith, a hi a dda­eth iddo: ni fynnei fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.

18 Ie gwiscodd felldith fel di­lledyn, a hi a ddaeth fel dwfr iw fewn, ac fel olew iw escyrn.

19 Bydded iddo fel dilledyn, yr hwn a wisco efe, ac fel gwre­gys a'i gwregyso ef yn oestadol.

20 Hyn fyddo tâl fy ngwrth­wŷneb-wyr gan yr Arglwydd: a'r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.

21 Titheu Arglwydd Dduw, gwna crofi er mwyn dy Enw, am fod yn dda dy drugaredd, gwa­red fi.

22 Canys truan a thlawd yd­wyfi, a'm calon a archollwyd o'm mewn.

23 Euthum fel cyscod pan gi­lio, fel locust i'm hescydwir.

24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd, a'm cnawd a guriodd o eisieu brasder.

25 Gwradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau.

26 Cynnorthwya fi ô Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy dru­garedd.

27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn: mai ti Arglwydd a'i gwnaethost.

28 Melldithiant hwy, ond ben­dithia di, cywilyddir hwynt, pan gyfodant: a llawenyched dy wâs.

29 Gwiscer fy ngwrthwyneb­wŷr â gwarth; ac ymwiscant â'u cywilydd megis â chochl.

30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â'm genau: iê molian­naf ef ym mysc llawer.

31 O herwydd efe a saif ar dde­heu-law 'r tlawd: iw achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.

Psal. 110. Boreuol Weddi.

DYwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, ei­stedd ar fy neheu-laŵ: hyd oni osodwyf dy elynion yn faingc i'th draed.

2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sion: llywodrae­tha di ynghanol dy elynion.

3 Dy bobl a fyddant ewyllys­gar, yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy anedigaeth i ti.

4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ: ti wyt offeiriad yn dragywyddol yn ôl vrdd Melchi­sedec.

5 Yr Arglwydd ar dy ddeheu­law, a dry wana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6 Efe a farn ym mysc y cen­hedloedd, lleinw loedd â che­laneddau: archolla ben llawer gwlâd.

7 Efe a ŷf o'r afon ar y ffordd, am hynny y dercha efe ei ben.

Psal. 111.

MOlwch yr Arglwydd. Clod­foraf yr Arglwydd â'm holl galon; ynghymmanfa y rhai vni­awn, ac yn y gynnulleidfa.

2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: wedi eu ceisio gan bawb a'i hoffant.

3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4 Gwnaeth gofio ei ryfeddo­dau; graslawn a thrugarog yw 'r Arglwydd.

5 Rhoddodd ymborth i'r rhai a'i hofnant ef, efe a gofia ei gy­fammod yn dragywydd.

6 Mynegodd iw bobl gadernid ei weithredoedd: i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.

7 Gwirionedd a barn yw gwei­thredoedd ei ddwylaw ef, ei holl orchymynnion ydynt siccr:

8 Wedi eu siccrhau byth ac yn dragywydd, a'i gwneuthur mewn gwirionedd, ac vniawnder.

9 Anfonodd ymwared iw bobl, gorchymynnodd ei gyfammod yn dragywyddol: sancteiddiol, ac of­nadwy yw ei enw ef.

10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnant ei orchym­mynion ef; y mae ei foliant ef yn parhau byth.

Psal. 112.

MOlwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gwr a ofna'r Ar­glwydd, ac sydd yn hoffi ei orchy­mynnion ef yn ddirfawr.

2 Ei had fydd cadarn ar y ddai­ar; cenhedlaeth y rhai vniawn a fendithir.

3 Golud a chyfoeth sydd yn ei dŷ ef: a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth.

4 Cyfyd goleuni i'r rhai vni­awn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn yw efe.

5 Gŵr da sydd gymmwynascar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei acho­sion.

6 Yn ddiau nid yscogir ef byth, y cyfiawn fydd byth mewn coffad­wriaeth.

7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg, ei galon sydd ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.

8 Attegwyd ei galon, nid ofna efe hyd oni welo ei ewyllysar ei elynion.

9 Gwascarodd, rhoddodd i'r tlodion, a'i gyfiawnder sydd yn parhau byth: ei gorn a dderche­fir mewn gogoniant.

10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia, efe a yscyrnyga ei ddan­nedd, ac a dawdd ymmaith: der­fydd am ddymuniad y rhai annu­wiol.

Psal. 113.

MOlwch yr Arglwydd. Gwei­sion yr Arglwydd, molwch: îe molwch Enw 'r Arglwydd:

2 Bendigedic fyddo enw 'r Arglwydd, o hyn allan ac yn dra­gywydd.

3 O godiad haul hyd ei fach­ludiad, moliannus yw Enw 'r Ar­glwydd.

4 Uchel yw yr Arglwydd go­ruwch yr holl genhedloedd: a'i ogoniant sydd gornwch y nefo­edd.

5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn presswylio yn vchel?

6 Yr hwn a ymddarostwng, i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar?

7 Efe sydd yn codi y tlawd o'r llwch: ac yn derchafu yr anghe­nus o'r dommen:

8 Iw osod gyd â phendefi­gion, îe gyd â phendefigion ei bobl.

9 Yr hwn a wna i'r amhlan­tadwy gadw tŷ, a bod yn llawen­fam plant. Canmolwch yr Ar­glwydd.

Psal. 114. Prydnhawnol Weddi.

PAn aeth Israel o'r Aipht, tŷ Jacob oddi wrth bobl ang­hyfiaith:

2 Juda oedd ei sancteidd­rwydd: ac Israel ei Arglwyddi­aeth.

3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd: yr Jorddonen a drôdd yn ôl.

4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a'r bryniau fel ŵyn defaid.

5 Beth a ddarfu i ti ô fôr, pan giliaist? titheu Jorddonen, pa ham y troaist yn ôl?

6 Pa ham fynyddoedd y nei­diech fel hyrddod? a'r bryniau fel ŵyn defaid?

7 Ofna di ddaiar rhag yr Ar­glwydd: rhag Duw Jacob:

8 Yr hwn sydd yn troi 'r graig yn llynn dwfr, a'r galles [...] yn ffyn­non dyfroedd.

Psal. 115.

NId i ni ô Arglwydd, nid i ni, onid i'th Enw dy hun dôd ogoniant, er mwyn dy druga­redd, [Page] er mwyn dy wirionedd.

2 Pa ham y dywedai y cen­hedloedd, pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?

3 Onid ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4 Eu delwau hwy ydynt o aur, ac arian, gwaith dwylo dy­nion.

5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant, llygaid sydd ganddynt ond ni welant.

6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywaut, ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant.

7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant: traed sy iddynt, ond ni cherddant: ni leisiant chwaith â'i gwddf.

8 Y rhai a'i gwnânt ydynt fel hwythau, a phob vn a ymddi­riedo ynddynt.

9 O Israel, ymddiried ti yn yr Arglwydd, efe yw eu porth, a'i tarian.

10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth, a'i tarian.

11 Y rhai a ofnwch yr Ar­glwydd, ymddiriedwch yn yr Ar­glwydd: efe yw eu porth, a'i ta­rian.

12 Yr Arglwydd a'n cofiodd ni, efe a'n bend ithia; bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.

13 Bendithia efe y rhai a of­nant yr Arglwydd, fychain, a mawrion.

14 Yr Arglwydd a'ch chwa­nega chwi fwyfwy: chwychwi a'ch plant hefyd.

15 Bendigedic ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nêf a daiar.

16 Y nefoedd, îe 'r nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd, a'r ddaiar a roddes efe i feibion dy­nion.

17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na'r nêb sydd yn de­scyn i ddistawrwydd.

18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd, o hyn allan, ac yn dra­gywydd. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 116. Boreuol Weddi.

DA gennif wrando o'r Ar­glwydd ar fy llêf a'm gwe­ddiau.

2 Am ostwng o honaw ei glûst attaf. Am hynny llefaf tros fy nyddiau arno ef.

3 Gofidion angeu a'm cylchyna­sant, a gofidiau uffern a'm dalia­sant, ing a blinder a gefais.

4 Yna y gelwais ar Enw 'r Ar­glwydd, attolwg Arglwydd gwa­red fy enaid.

5 Graslawn yw 'r Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.

6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.

7 Dychwel ô fy enaid i'th or­phywysfa, canys yr Arglwydd fu dda wrthit.

8 O herwydd it waredu fy e­naid oddi wrth angeu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro:

9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhîr y rhai byw.

10 Credais, am hynny y llefe­rais: cystuddiwyd fi 'n ddirfawr.

11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, pôb dŷn sydd gelwyddoc.

12 Beth a dalaf i'r Arglwydd [Page] am ei holl ddoniau i mi?

13 Phiol iechydwriaeth a gym­meraf, ac ar enw 'r Arglwydd y galwaf.

14 Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yngŵydd ei holl bôbl ef.

15 Gwerth-sawr yngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct ef.

16 O Arglwydd, yn ddiau dy wâs di ydwyfi, dy wâs di ydwyfi, mab dy wasanaeth-wraig; datto­daist fy rhwymau.

17 Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar Enw 'r Arglwydd.

18 Talaf fy addunedau i'r Ar­glwydd, yn awr yngŵydd ei holl bobl;

19 Ynghynteddoedd tŷ 'r Ar­glwydd: yn dy ganol di ô Jeru­salem. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 117.

MOlwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd: clodforwch ef yr holl bobloedd.

2 O herwydd ei drugaredd ef tu ag attom ni sydd fawr: a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd, Molwch yr Ar­glwydd.

Psal. 118.

CLodforwch yr Arglwydd, ca­nys da yw, o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2 Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhan yn dragywydd.

3 Dyweded ty Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei druga­redd ef yn parhau yn dragywydd.

5 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.

6 Yr Arglwydd sydd gyd â mi, nid ofnaf: beth a wna dŷn i mi?

7 Yr Arglwydd sydd gyd û mi, ym mhlith fy nghynnorth wy­wyr: am hynny y câf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dŷn.

9 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.

10 Yr holl genhedloedd am hamgylchynasant: ond yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.

11 Amgylchynasant fi, ie am­gylchynasant fi, ond yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.

12 Amgylchynasant fi fel gwe­nyn, diffoddasant fel tân drain: o herwydd yn Enw 'r Arglwydd, mi a'i torraf hwynt ymmaith.

13 Gan wthio y gwthiaist fi fel y syrth iwn: ond yr Arglwydd a'm cynnorthwyodd.

14 Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân: ac sydd iechydwriaeth i mi.

15 Llêf gorfoledd, ac iechyd­wriaeth sydd ym mhebyll y cy­fiawn: deheulaw 'r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.

16 Deheu-law 'r Arglwydd a dderchafŵyd: deheulaw 'r Ar­glwydd sydd yn gwneuthur grym­musder.

17 Ni byddaf farw, onid byw: [Page] a mynegaf weithredoedd yr Ar­glwydd.

18 Gan gospi i'm cospodd yr Arglwydd: ond ni'm rhoddodd i farwolaeth.

19 Agorwch i mi byrth cyfi­awnder: âf i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.

20 Dymma borth yr Arglwydd, y rhai cyfiawn a ânt i mewn i­ddo.

21 Clodforaf di, o herwydd i ti fy ngwrando, a'th fod yn iechy­dwriaeth i mi.

22 Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr a aeth yn ben i'r gongl.

23 O'r Arglwydd y daeth hyn, hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.

24 Dymma'r dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn, a lla­wenychwn ynddo.

25 Attolwg Arglwydd, achub yn awr; attolwg Arglwydd, pâr yn awr lwyddiant.

26 Bendigedic yw a ddêl yn E­nw 'r Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ 'r Arglwydd.

27 Duw yw 'r Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwy­mwch yr aberth â rhaffau hyd wrth gyrn yr allor.

28 Fy Nuw ydwyt ti, mi a'th glodforaf, derchafaf di, fy Nuw.

29 Clodforwch yr Arglwydd, canys da yw: o herwydd yn dra­gywydd y pery ei drugaredd ef.

Psal. 119.

Prydnhawnol Weddi.

GWynfŷd y rhai perffaith eu ffordd: y rhai a rodiant yngh yfraith yr Arglwydd.

2 Gwynfŷd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef: ac a'i ceisiant ef a'i holl galon.

3 Y rhai hefyd ni wnant an­wiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.

4 Ti a orchymynnaist gadw dy orchymynion yn ddyfal.

5 O am gyfeirio fy ffyrdd. i gadw dy ddeddfau.

6 Yna ni'm gwradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymy­nion.

7 Clodforaf di ag uniondeb ca­lon, pan ddyscwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8 Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi 'n hollawl.

PA fodd y glanhâ llange ei lwy­br? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10 A'm holl galon i'th geisiais, na âd i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchymynion.

11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.

12 Ti Arglwydd wyt fendige­dic: dyse i mi dy ddeddfau.

13 A'm gwefusau y treuthais holl farnedigaethau dy enau.

14 Bu mor llawen gennif ffordd dy dystiolaethau a'r holl olud.

15 Yn dy orchymynion y my­fyriaf, ac ar dy lwybrau yr edry­chaf.

16 Yn dy ddeddfau 'r ymddigri­faf, nid anghofiaf dy air.

BYdd dda wrth dy wâs, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18 Dadcuddia fy llygaid, fel y [Page] gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th Gyfraith di.

19 Dieithr ydwyf ar y ddaiar, na chudd di rhagof dy orchymy­nion.

20 Drylliwyd fy enaid gan a­wydd i'th farnedigaethau bôb amser.

21 Ceryddaist y beilchion mell­tigedic: y rhai a gyfeiliornant o­ddi wrth dy orchymynion.

22 Trô oddi wrthif gywilydd a dirmyg, oblegit dy dystiolaethau di a gedwais.

23 Tywysogion hefyd a eiste­ddasant, ac a ddywedasant i'm herbyn; dy wâs ditheu a fyfyriei yn dy ddeddfau,

24 A'th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a'm cynghor­wŷr.

GLŷnodd fy enaid with y llwch, by whâ fi 'n ôl dy air.

26 Fy ffyrdd a fynegais, a gw­randewaist fi: dysc i mi dy ddedd­fau.

27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynion, ac mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.

28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi'n ôl dy air.

29 Cymmer odd i wrthyf ffordd y celwydd, ac yn raslawn dôd i mi dy Gyfraith.

30 Dowisais ffordd gwirio­nedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.

31 Glynais wrth dy dystiolae­thau: ô Arglwydd na'm gwrad­wydda.

32 Ffordd dy orchymynion a redaf, pan ehangech fy ngha­lon.

Boreuol Weddi.

DYsc i mi ô Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chad­waf hi hyd y diwedd.

34 Gwna i mi ddeall, a chad­waf dy Gyfraith: ie cadwaf hi â'm holl galon.

35 Gwna i mi gerdded yn llwy­br dy orchymynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau: ac nid at gybydd­dra.

37 Trô heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd: a bywhâ fi yn dy ffyrdd.

38 Siccrhâ dy air i'th wâs, yr hwn sy'n ymroddi i'th ofn di.

39 Tro heibio fy ngwradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy far­nedigaethau sydd dda.

40 Wele awyddus ydwyf i'th orchymynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

DEued i mi dy drugaredd Ar­glwydd, a'th iechydwriaeth yn ôl dy air.

42 Yna yr attebaf i'm cabludd: o herwydd yn dy air y gobei­thiais.

43 Na ddŵg ditheu air y gwi­rionedd o'm genau yn llwyr: o herwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais

44 A'th Gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragy­wydd.

45 Rhodiaf hefyd mewn e­hangder, o herwydd dy orchy­mynion di a geisiaf.

46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf, o flaen brenhin­oedd, [Page] ac ni bydd cywilydd gen­nif.

47 Ac ymddigrifaf yn dy or­chymynion, y rhai a hoffais.

48 A'm dwylo a dderchafaf at dy orchymynion y rhai a ge­rais, ac mi a fyfyriaf yn dy ddedd­fau.

COfia y gair wrth dy wâs, yn yr hwn y peraist i mi o­beithio.

50 Dymma fy nghyssur yn fy nghystudd, canys dy air di a'm bywhâodd i.

51 Y beilchion a'm gwatwara­sant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy Gyfraith di.

52 Cofiais o Arglwydd, dy farnedigaethau erioed, ac ymgys­surais.

53 Dychryn a ddaeth arnaf, ob­legit yr annuwolion, y rhai sydd yn gadu dy Gyfraith di.

54 Dy ddeddfau oedd fy nghân, yn nhŷ fy mhererindod.

55 Cofiais dy Enw Arglwydd, y nôs; a chedwais dy Gy­fraith.

56 Hyn oedd gennif a'm ga­dw o honof dy orchymynion di.

O Arglwydd fy rhan ydwyt: dywedais y cadwn dy ei­riau.

58 Ymbiliais â'th wyneb â'm holl galon: trugarhâ wrthif yn ôl dy air.

59 Meddyliais a'm fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolae­thau di.

60 Bryssiais, ac nid oedais ga­dw dy orchymynion.

61 Minteioedd yr annuwolion a'm hyspeiliasant: ond nid angho­fiais dy Gyfraith di.

62 Hanner nôs y cyfodaf i'th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.

63 Cyfaill ydwyfi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchymynion.

64 Llawn yw 'r ddaiar o'th drugaredd, ô Arglwydd: dysc i mi dy ddeddfau.

GWnaethost yn dda â'th wâs, ô Arglwydd, yn ôl dy air.

66 Dysc i mi iawn ddeall, a gŵybodaeth: o herwydd dy or­chymynion di a gredais.

67 Cyn fy nghystuddio yr oe­ddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr, cedwais dy air di.

68 Da ydwyt, a daionus, dysc i mi dy ddeddfau.

69 Y beilchion a glyttiasant gelwydd i'm herbyn: minneu a gadwaf dy orchymynion â'm holl galon.

70 Cyn frased a'r bloneg yw eu calon: minneu a ymddigrifais yn dy Gyfraith di.

71 Da yw i mi fy nghy­studdio, fel y dyscwn dy ddedd­fau.

72 Gwell i mi Gyfraith dy e­nau, nâ miloedd o aur, ac a­rian.

Prydnhawnol Weddi.

DY ddwylo a'm gwnaethant, ac a'm lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dyscwyf dy orchy­mynion.

74 Y rhai a'th ofnant a'm [Page] gwelant, ac a lawenychant, ob­legit gobeithio o honof yn dy air di.

75 Gwn, Arglwydd, mai cyfi­awn yw dy farnedigaethau: ac mai mewn ffyddlondeb i'm cy­studdiaist.

76 Bydded attolwg dy druga­redd i'm cyssuro, yn ôl dy air i'th wasanaeth-wr.

77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw: o herwydd dy Gyfraith yw fy nigrifwch.

78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnant gam â mi yn ddia­chos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchymynion di.

79 Troer attafi y rhai a'th of­nant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.

80 Bydded fy nghalon yn ber­ffaith yn dy ddeddfau, sal na'm cywilyddier.

DEffygiodd fy ena id am dy ie­chydwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwil.

82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd; pa bryd i'm diddeni?

83 Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.

84 Pa niser yw dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a'm herlidiant?

85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy Gyfraith di.

86 Dy holl orchymynion ydynt wirionedd: ar gam i'm herlidia­sant, cymmorth fi.

87 Braidd na'm difasant ar y ddaiar, minneu ni adewais dy or­chymynion.

88 Bŷ whâ fi yn ôl dy druga­redd: felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

YN dragywydd ô Arglwydd, y mae dy air wedi ei siccrhau

90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: sei­liaist y ddaiar, a hi a saif.

91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw: canys dy weision yw pôb peth.

92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasei yna am danaf yn fy nghystudd.

93 Byth nid anghofiaf dy or­chymynion: canys â hwynt i'm bywheaist.

94 Eiddo ti ydwyf, cadw fi; o herwydd dy orchymynion a gei­siais.

95 Y rhai annuwiol a ddisgwi­liasant am danaf i'm difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyria fi.

96 Yr ydwyf yn gweled di­wedd ar bôb perffeithrwydd: ond dy orchymmyn di sydd dra e­hang.

MOr gû gennif dy Gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beu­nydd.

98 A'th orchymynion yr yd­wyt yn fy ngwneuthur yn ddoe­thach nâ'm gelynion: canys byth y maent gyd â mi.

99 Deellais fwy nâ'm holl a­thrawon: o herwydd dy dystio­laethau yw fy myfyrdod.

100 Deellais yn well nâ'r he­nuriaid, am fy môd yn cadw dy orchymynion di.

101 Atteliais fy nhraed oddi wrth bôb llwybr drwg, fel y ca­dwn dy air di.

102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau, herwydd ti a'm dyscaist.

103 Mor felus yw dy eiriau i'm genau! melusach nâ mêl i'm safn.

104 Trwy dy orchymynion di y pwyllais: am hynny y caseais bôb gau lwybr.

Boreuol Weddi.

LLusern yw dy air i'm traed: a llewyrch i'm llwybr.

106 Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfi­awnder.

107 Cystuddiwyd fi yn ddir­fawr: by whâ fi ô Arglwydd, yn ôl dy air.

108 Attolwg, Arglwydd, bydd fodlon ei ewyllyscar offrymmau fy ngenau, a dysc i mi dy farne­digaethau.

109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy Gyfraith.

110 Y rhai annuwiol a osoda­sant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchymynion.

111 Cymmerais dy orchymy­nion yn etifeddiaeth dros byth: o herwydd llawenydd fy nghalon ydynt.

112 Gostyngais fy nghalon, i wneuthur dy ddeddfau byth hyd y diwedd.

MEddyliau ofer a gaseais, a'th Gyfraith di a hoffais.

114 Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobei­thiaf.

115 Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cadwaf orchy­mynion fy Nuw.

116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na âd i mi gywilyddio am fy ngobaith.

117 Cynnal fi, a diangol fy­ddaf, ac ar dy ddeddfau yr edry­chaf yn wastadol.

118 Sethraist y rhai oll a gy­feiliornant oddi wrth dy ddedd­fau: canys twyllodrus yw eu di­chell hwynt.

119 Bwriaist heibio holl annu­wolion y tîr fel sothach: am hyn­ny'r hoffais dy dystiolaethan.

120 Dychrynodd fy ngnhawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

GWneuthum farn, a chyfiawn­der: na âd fi i'm gorthrym­wŷr.

122 Mechnia dros dy wâs er daioni: na âd i'r beilchion fy ngorthrymmu.

123 Fy llygaid a ballasant am dy iechydwriaeth, ac am yma­drodd dy gyfiawnder.

124 Gwna i'th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddedd­fau.

125 Dy wâs ydwyfi, pâr i mi ddeall: fel y gwypwyf dy dystio­laethau.

126 Amser yw i'r Arglwydd weithio: diddymmasant dy Gy­fraith di.

127 Am hynny 'r hoffais dy or­chymynion yn fwy nag aur, ie yn fwy nag aur coeth.

128 Am hynny union y cy­frifais dy orchymynion am bôb peth: a chaseais bôb gau lwybr.

RHyfedd yw dy dystiolaethau, am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni, pair ddeall i rai annichell­gar.

131 Agorais fy ngenau a dy­heais, oblegit awyddus oeddwn i'th orchymynnion di.

132 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthif: yn ôl dy arfer i'r rhai a garant dy Enw.

133 Cyfarwydda fy nghamrau yn dy air, ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134 Gwared fi oddi wrth or­thrymder dynion: felly y cadwaf dy orchymynion.

135 Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddedd­fau.

136 Afonydd o ddyfroedd a redant o'm llygaid, am na chad­wasant dy Gyfraith di.

CYfiawn ydwyt ti, ô Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedi­gaethau.

138 Dy dystiolaethau y rhai a orchymynnaist, ydynt gyfiawn a ffyddlon iawn.

139 Fy Zêl a'm difaodd, o her­wydd i'm gelynion anghofio dy eiriau di.

140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy wâs yn ei hoffi.

141 Bychan ydwyfi, a dirmy­gus: ond nid anghofiais dy or­chymynion.

142 Dy gyfiawnder sydd gyfi­awnder byth: a'th Gyfraith sydd wirionedd.

143 Adfyd a chystudd a'm go­ddiweddasant: a'th orchymynion oedd fy nigrifwch.

144 Cyfiawnder dy dystiolae­thau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

Prydnhawnol Weddi.

LLefais â'm holl galon, clyw fi o Arglwydd: dy ddeddfau a gad waf.

146 Llefais arnat, achub fi: a chadwaf dy dystiolaethau.

147 Achubais flaen y cyfddydd a gwaeddais; wrth dy air y dis­gwiliais.

148 Fy llygaid a achubasant flaen gwiliad wriaethau y nôs, i fyfyrio yn dy air di.

149 Clyw fy llêf yn ôl dy dru­garedd: Arglwydd, bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

150 Y rhai a ddilynant sceler­der a nessasant arnaf: ymbellasant oddi wrth dy Gyfraith di.

151 Titheu Arglwydd wyt a­gos: a'th holl orchymynion sydd wirionedd.

152 Er ystalm y gwyddwn am dy dystiolaethau seilio o honot hwynt yn dragywydd.

GWêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy Gyfraith.

154 Dadleu fy nadl, a gwared fi: bywhâ fi yn ôl dy air.

155 Pell yw iechydwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: o herwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.

156 Dy drugareddau Arglwydd sydd aml: bywhâ fi yn ôl dy far­nedigaethau.

157 Llawer sydd yn fy erlyd, ac yn fy ngwrth wynebu: er hynny ni throais oddi wrth dy dystio­laethau.

158 Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynais: am na chadwent dy air di.

159 Gwêl fy môd yn hoffi dy orchymynion: Arglwydd, by whâ fi 'n ôl dy drugarogrwydd.

160 Gwirionedd o'r dechreuad yw dy air: a phôb un o'th gyfi­awn farnedigaethau a bery yn dra­gywydd.

TYwysogion a'm herlidiasant heb achos, er hynny fy ngha­lon a grynei rhag dy air di.

162 Llawen ydwyfi oblegit dy air: fel un yn cael sclyfaeth la­wer.

163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a'th Gyfraith di a ho­ffais.

164 Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori: o herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165 Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant dy Gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.

166 Disgwiliais wrth dy iechy­dwriaeth di, ô Arglwydd: a gw­nenthum dy orchymynion.

167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.

168 Cedwais dy orchymynion a'th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

NEssaed fy ngwaedd o'th flaen, Arglwydd, gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170 Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.

171 Fy ngwefusau a draetha fo­liant: pan ddyscech i mi dy ddedd­fau.

172 Fy nhafod a ddatcan dy air: o herwydd dy holl orchymy­nion sydd gyfiawnder.

173 Bydded dy law i'm cyn­northwyo: o herwydd dy or­chymynion di a ddewisais.

174 Hiraethais ô Arglwydd, am dy iechydwriaeth: a'th Gyfraith yw fy hyfrydwch.

175 Bydded byw fy enaid, fel i'th folianno di: a chynnorth wyed dy farnedigaethau fi.

176 Cyfeiliornais fel dafad we­di colli: cais dy wâs oblegit nid anghofiais dy orchymyni­on.

Psal. 120. Boreuol Weddi.

AR yr Arglwydd y gwaedd­ais yn fy nghyfyngder: ac efe a'm gwrandawodd i.

2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddoc, ac oddi wrth dafod twyllo­drus.

3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twy­llodrus?

4 Llymmion saethau cawr yng­hyd a marwor meryw.

5 Gwae fi fy môd yn presswyli­o ym M [...]sech: yn cyfanneddu ym mhebyll Cedar.

6 Hîr y trigodd fy enaid gyd â'r hwn oedd yn casau tangne­ddyf.

7 Heddychol ydwyfi, ond pan lesarwyf, y maent yn barod i ry­fel.

Psal. 121.

DErchafaf fy llygaid i'r my­nyddoedd, o'r lle y daw fy nghymmorth.

2 Fy nghymmorth a ddaw o­ddi wrth yr Arglwydd, yr hwn [Page] a wnaeth nefoedd a daiar.

3 Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geidwad.

4 Wele, ni huna ac ni chwsc ceidwad Israel.

5 Yr Arglwydd yw dy geid­wad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.

6 Ni'th dery'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.

7 Yr Arglwydd a'th geidw rhag pôb drwg: efe a geidw dy enaid.

8 Yr Arglwydd a geidw dy fy­nediad, a'th ddyfodiad, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.

Psal. 122.

LLawenychais pan ddywe­dent wrthif, awn i dŷ 'r Arglwydd.

2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di, ô Jerusalem.

3 Jerusalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgyssylltu ynddi ei hun.

4 Yno 'r escyn y llwythau, llwythau 'r Arglwydd, yn dystio­laeth i Israel, i foliannu Enw 'r Arglwydd.

5 Canys yno y gosodwyd, gor­sedd-feingciau barn: gorsedd-feingciau tŷ Dafydd.

6 Dymunwch heddwch Jeru­salem: llwydded y rhai a'th ho­ssant.

7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur: a ffynniant yn dy bala­ssau.

8 Er mwyn fy mrodyr a'm cy­feillion, y dywedaf yn awr, hedd­wch fyddo i ti.

9 Er mwyn tŷ 'r Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddai­oni.

Psal. 123.

ATtat ti y derchafaf fy llygaid, ti yr hwn a bresswyll yn y nefoedd.

2 Welc, fel y mae llygaid gwel­sion ar law eu meistred, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law eu meistres: felly y mae ein lly­gaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.

3 Trugarhâ wrthym Arglwydd, trugarhâ wrthym, canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.

4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beil­chion.

Psal. 124.

ONi buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni: y gall Is­rael ddywedyd yn awr.

2 Oni buasei 'r Arglwydd, yr hwn a fu gyd â ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn.

3 Yna i'n llyngcasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i'n herbyn.

4 Yna y dyfroedd a lifasei tro­som: y ffrwd a aethei tros ein he­naid.

5 Yna 'r aethei tros ein he­naid ddyfroedd chwyddedig.

6 Bendigedic fyddo 'r Ar­glwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysclyfaeth iw dannedd hwynt.

7 Ein henaid a ddiangodd, fel aderyn o fagl yr adar wŷr: y fagl a dorrwyd, a ninneu a ddi­anghasom.

8 Ein porth ni sydd yn Enw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth ne­foedd a daiar.

Psal. 125.

Y Rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel my­nydd Sion: yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.

2 Fel y mae Jerusalem a'r my­nyddoedd o'i hamgylch; felly y mae'r Arglwydd o amgylch ei bobl, o'r pryd hyn hyd yn dra­gywydd.

3 Canys ni orphywys gwialen annuwioldeb, ar randir y rhai cy­fiawn: rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at an wiredd.

4 Oh Arglwydd, gwna ddaioni i'r rhai daionus: ac i'r rhai vni­awn yn eu calonnau.

5 Ond y rhai a ymdroant iw trofeydd, yr Arglwydd a'i gyrr gyd â gweithred-wŷr anwiredd: a bydd tangneddyf ar Israel.

Psal. 126. Prydnlmwnol Weddi.

PAn ddychwelodd yr Ar­glwydd gaethiwed Sion, yr oeddynt fel rhai yn breu­ddwydio.

2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu: yna y dywedasant ym mysc y cen­hedloedd, yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.

3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny 'r ydym yn llawen.

4 Dychwel Arglwydd ein cae­thiwed ni, fel yr afonydd yn y dehau.

5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.

6 Yr hwn sydd yn myned rhag­ddo, ac yn ŵylo, gan ddwyn hâd gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ys­cubau.

Psal. 127.

OS yr Arglwydd nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adei­lad-wŷr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw 'r ddinas, ofer y gwilia y ceidwaid.

2 Ofer i chwi foreu-godi, my­ned yn hwyr i gyscu, bwytta bara gofidiau: felly y rhydd efe hûn iw anwylyd.

3 Wele, plant ydynt etifeddi­aeth yr Arglwydd, ei wobr ef yw ffrwyth y grôth.

4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn, felly y mae plant ieueng­ctid.

5 Gwyn ei fŷd y gŵr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt: ni's gwradwyddir hwy, pan ymddi­ddanant â'r gelynion yn y porth.

Psal. 128.

GWyn ei fŷd pôb vn sydd yn ofni 'r Arglwydd: yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fŷd, a da fydd it.

3 Dy wraig fydd fel gwin-wy­dden ffrwythlawn, ar hŷd ystly­sau dy dŷ: dy blant fel planhi­gion oliwydd o amgylch dy ford.

4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno 'r Ar­glwydd.

5 Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Sion; a thi a gei weled daioni Jerusalem holl ddyddiau dy enioes:

6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangneddyf ar Is­rael.

Psal. 129.

LLawer gwaith i'm cystuddia­sant o'm hieuengctid, y di­chon Israel ddywedyd yn awr:

2 Llawer gwaith i'm cystuddia­sant o'm hieuengctid, etto ni'm gorfuant.

3 Yr arddwŷr a arddasant ar fy nghefn, estynnasant eu cwysau yn hirion.

4 Yr Arglwydd sydd gyfiawn, efe a dorrodd raffau y rhai annu­wiol.

5 Gwradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Sion.

6 Byddant fel glas-wellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymmaith.

7 A'r hwn ni leinw y pladur­wr ei law: na'r hwn fyddo yn rhwymo yr yscubau, ei fonwes.

8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, bendith yr Arglwydd ar­noch: bendithiwn chwi yn Enw 'r Arglwydd.

Psal. 130.

O'R dyfnder y llefais arnat, ô Arglwydd.

2 Arglwydd clyw fy llefain, yftyried dy glustiau wrth lef fy ngweddiau.

3 Os creffi ar anwireddau, Ar­glwydd: ô Arglwydd, pwy a saif?

4 Onid y mae gyd â thi faddeu­ant, fel i'th ofner.

5 Disgwiliaf am yr Arglwydd, disgwil fy e [...]aid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.

6 Fy enaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd, yn fwy nag y mae y gwil-wŷr am y boren; yn fwy nag y mae y gwil-wŷr am y boreu.

7 Disgwilied Israel am yr Ar­glwydd, o herwydd y mae truga­redd gyd â'r Arglwydd, ac aml ymwared gyd ag ef.

8 Ac efe a wared Israel, oddi wrth ei holl anwireddau.

Psal. 131.

O Arglwydd nid ymfalchiodd fy nghalon, ac nid ymdder­chafodd fy llygaid: ni rodiais ych­waith mewn pethau rhy fawr, a rhy vchel i mi.

2 Eithr gosodais, a gostegais fy enaid, fel vn wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel vn wedi ei ddiddyfnu.

3 Disgwilied Israel wrth yr Ar­glwydd, o'r pryd hyn hyd yn dra­gywydd.

Psal. 132. Boreuol Weddi.

O Arglwydd, cofia Ddafydd, a'i holl flinder:

2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addu­nodd i rymmus Dduw Jacob.

3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;

4 Ni roddaf gwsc i'm llygaid, na hun i'm amrantau:

5 Hyd oni chaffwyf le i'r Ar­glwydd; preswylfod i rymmus Dduw Jacob.

6 Wele, clywsom am dani yn Ephrata: cawsom hi ym meusydd y coed.

7 Awn iw bebyll ef, ymgrym­mwn o flaen ei faingc draed ef.

8 Cyfod Arglwydd i'th orphy­wysfa, ti ac Arch dy gadernid.

9 Gwysced dy offeiriaid gyfi­awnder: a gorfoledded dy Sainct.

10 Er mwyn Dafydd dy wâs, na thrô ymmaith wyneb dy enei­niog.

11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Ddafydd, ni thrŷ efe oddi wrth hynny: o ffrwyth dy gorph y gosodaf ar dy orsedd­faingc.

12 Os ceidw dy feibion fy nghy­fammod a'm tystiolaeth, y rhai a ddyscwyf iddynt: eu meibion hwythau yn dragywydd a eiste­ddant ar dy orsedd-faingc.

13 Canys dewisodd yr Ar­glwydd Sion, ac a'i chwenny­chodd yn drigfa iddo ei hun.

14 Dymma fy ngorphywysfa yn dragywydd: ymma y trigaf, canys chwennychais hi.

15 Gan fendithio y bendithi­af ei llyniaeth: diwallaf ei thlo­dion â bara.

16 Ei hoffeiriaid hefyd a wi­scaf ag iechyd wriaeth: a'i Sainct dan ganu a ganant.

17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i'm he­neiniog.

18 Ei elynion ef a wiscaf â chywilydd, arno yntef y blodeua ei goron.

Psal. 133.

WEle, mor ddaionus, ac mor hyfryd, yw trigo o frodyr ynghyd.

2 Y mae fel yr ennaint gwerth­fawr ar y pen, yn descyn ar hŷd y farf sef barf Aaron: yr hwn oedd yn descyn ar hyd ymyl ei wiscoedd ef.

3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn descyn ar synyddoedd Sion: canys yno y gorchym yn­nodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.

Psal. 134.

WEle, holl weision yr Arglwydd, bendithi­wch yr Arglwydd: y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd y nôs.

2 Derchefwch eich dwylo yn y cyssegr: a bendithiwch yr Ar­glwydd.

3 Yr Arglwydd yr hwn a wna­eth nefoedd a daiar, a'th fendithio di allan o Sion.

Psal. 135.

MOlwch yr Arglwydd. Mol­wch Enw 'r Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef.

2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ 'r Arglwydd; ynghynteddo­edd tŷ ein Duw ni.

3 Molwch yr Arglwydd, ca­nys da yw yr Arglwydd: cenwch iw Enw, canys hyfryd yw.

4 Oblegit yr Arglwydd a dde­tholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.

5 Canys mi a wn mai mawr yw 'r Arglwydd; a bôd ein Har­glwydd ni goruwch yr holl ddu­wiau.

6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnei, yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.

7 Y mae yn codi tarth o ei­thafoedd y ddaiar, mellt a wna­eth efe ynghyd â'r glaw: gan ddwyn y gwynt allan o'i dry­ssorau.

8 Yr hwn a da [...]wodd 'gyntaf [Page] anedic yr Aipht, yn ddŷn ac yn anifail.

9 Danfonodd arwyddion a rhy­feddodau i'th ganol di 'r Aipht, ar Pharao, ac ar ei holl wei­sion.

10 Yr hwn a darawodd gen­hedloedd lawer, ac a laddodd fren­hinoedd cryfion:

11 Sehon brenin yr Amoriaid; ac Og brenin Basan: a holl fren­hiniaethau Canaan:

12 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.

13 Dy Enw ô Arglwydd, a bery, yn dragywydd: dy goffadw­riaeth, ô Arglwydd, o genhed­laeth i genhedlaeth.

14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar gantho o ran ei weision.

15 Delwau y cenhedloedd y­dynt arian ac aur, gwaith dwylo dŷn.

16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant: llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.

17 Y mae clustiau iddynt ond ni chlywant: nid oes ychwaith anadl yn eu genau.

18 Fel hwynt y mae y rhai a'i gwnânt, a phôb vn a ymddiriedo ynddynt.

19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Ar­glwydd, tŷ Aaron.

20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Ar­glwydd.

21 Bendithier yr Arglwydd o Sion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerusalem. Molwch yr Ar­glwydd.

Psal. 136. Prydnhawnol Weddi.

CLodforwch yr Arglwydd, canys da yw, o herwydd ei drugaredd sydd yn dragy­wydd.

2 Clodforwch Dduw y duwi­au: oblegit ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3 Clodforwch Arglwydd yr ar­glwyddi: o herwydd ei druga­redd sydd yn dragywydd.

4 Yr hwn yn ynic sydd yn gw­neuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6 Yr hwn a estynnodd y ddaiar oddi ar y dyfroedd: oblegit ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

8 Yr haul i lywodraethu'r dydd: canys ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

9 Y lleuad a'r sêr i lywodrae­thu'r nôs: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10 Yr hwn a darawodd yr Aipht, yn eu cyntaf-anedic: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

11 Ac a ddûg Israel o'i mysc hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

12 A llaw grêf, ac â braich e­stynnedic: o herwydd ei druga­redd sydd yn dragywydd.

13 Yr hwn a rannodd y môr côch yn ddwy-ran: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14 Ac a wnaeth i Israel fyned [Page] trwy ei ganol: o herwydd ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

15 Ac a escyttiodd Pharao a'i lû yn y môr côch: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16 Ac a dywysodd ei bobl drwy 'r anialwch: o herwydd ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

17 Yr hwn a darawodd fren­hinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: o herwydd ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

19 Sehon brenin yr Amoriaid: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

20 Ac Og brenin Basan: o her­wydd ei drugaredd sydd yn dra­gywydd.

21 Ac a roddodd eu tîr hwynt yn etifeddiaeth: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

22 Yn etifeddiaeth i Israel ei wâs: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23 Yr hwn yn ein hisel-radd a'n cofiodd ni: o herwydd ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

24 Ac a'n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25 Yr hwn sydd yn rhoddi ym­borth i bôb cnawd: canys ei dru­garedd sydd yn dragywydd.

26 Clodforwch Dduw'r nefo­edd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Psal. 137.

WRth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac ŵyla­som, pan feddyliasom am Sion.

2 Ar yr helyg o'i mewn y cro­gasom ein telynau.

3 Canys yno y gofynnodd y rhai a'n caethiwasent i ni gân, a'r rhai a'n anrheithiasei lawenydd, gan ddywedyd, cenwch i ni rai o ganiadau Sion.

4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd, mewn gwlâd ddi­eithr?

5 Os anghofiaf di Jerusalem, ang­hofied fy neheulaw ganu.

6 Glyned fy nhafod wrth da­flod fy ngenau; oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.

7 Cofia Arglwydd blant Edom yn nydd Jerusalem: y rhai a ddy­wedent, dinoethwch, dinoeth­wch hi, hyd ei sylfaen.

8 O ferch Babilon a anrhei­thir, gwyn ei fyd a dalo i ti, fel y gwnaethost i ninnau.

9 Gwyn ei fyd a gymmero, ac a darawo dy rai bâch wrth y meini.

Psal. 138.

CLodforaf di â'm holl galon: yngŵydd y duwiau y canaf it.

2 Ymgrymmaf tu a'th deml san­ctaidd: a chlodforaf dy Enw, am dy drugaredd a'th wirionedd: o­blegit ti a fawrheaist dy air vwch­law dy Enw oll.

3 Y dydd y llefais i'm gwran­dewaist: ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.

4 Holl frenhinoedd y ddaiar a'th glodforant, ô Arglwydd: pan glywant eiriau dy enau.

5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw go­goniant yr Arglwydd.

6 Er bod yr Arglwydd yn ychel, etto efe a edrych ar yr issel, ond y balch a edwyn efe o hir-bell.

7 Pe rhodiwn ynghanol cy­fyngder, [Page] fyngder, ti a'm bywhait: estyn­nit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a'th ddeheulaw a'm hachubei.

8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd Arglwydd, sydd yn dragywydd, nac esceu­lusa waith dy ddwylo.

Psal. 139. Boreuol Weddi.

ARglwydd chwiliaist, ac ad­nabuost fi.

2 Ti a adwaenost fy eiste­ddiad, a'm cyfodiad, deelli fy meddwl o bell.

3 Amgylchyni fy llwybr a'm gorweddfa: ac yspys wyt yn fy holl ffyrdd.

4 Canys nid oes air ar fy nha­fod, ond wele Arglwydd, ti a'i gwyddost oll.

5 Amgylchynaist fi yn ôl, ac ym mlaen: a gosodaist dy law arnaf.

6 Dymma wybodaeth ry ryfedd i mi: vchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7 I ba le'r âf oddi wrth dy Yspryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?

8 Os dringâf i'r nefoedd, yno yr wyt ti, os cyweiriaf fy ngwely yn yffern, wele di yno.

9 Pe cymmerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:

10 Yna hefyd i'm tywysei dy law, ac i'm daliai dy ddeheu­law.

11 Pe dywedwn, diau y tywyll­wch a'm cuddia: yna y byddei y nôs yn oleuni o'm hamgylch.

12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti, ond y nôs a oleua fel dydd: vn ffunyd yw tywyllwch a goleuni i ti.

13 Canys ti a feddiennaist fy arennau, toaist fi ynghroth fy mam.

14 Clodforaf dydi, canys os­nadwy, a rhyfedd i'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd, a'm henaid a ŵyr hynny yn dda.

15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthit, pan i'm gwnaeth­bwyd yn ddirgel, ac i'm cywrei­niwyd yn isselder y ddaiar.

16 Dy lygaid a welsant fy anel­wig ddefnydd, ac yn dy lyfr di yr scrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr vn o honynt.

17 Am hynny mor werth-fawr yw dy feddyliau gennif, ô Dduw! mor fawr yw eu swm hwynt!

18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt nâ'r tywod: pan ddeffro­wyf, gyd â thi'r ydwyfi yn wastad.

19 Yn ddiau ô Dduw, tra leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthif:

20 Y rhai a ddywedant sceler­der yn dy erbyn, dy elynion a gymmerant dy Enw yn ofer.

21 Onid câs gennif, ô Arglwydd, dy gaseion di? onid ffiaidd gen­nif y rhai a gyfodant i'th erbyn?

22 A châs cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.

23 Chwilia fi ô Dduw, a gŵy­bydd fy nghalon: prawf fi, a gwy­bydd fy meddyliau.

24 A gwêl, a oes ffordd annu­wiol gennif: a thywys fi yn y ffordd dragywyddol.

Psal. 140.

GWared fi, ô Arglwydd, oddi wrth y dŷn drwg; cadw fi rhag y gŵr traws.

2 Y rhai sydd yn bwriadu dry­gioni [Page] yn eu calon: ymgasclant beunydd i ryfel.

3 Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwenwyn asp sydd tan eu gwefusau. Selah.

4 Cadw fi, ô Arglwydd, rhag dwylo'r annuwiol, cadw fi rhag y gwr traws; y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.

5 Y beilchion a guddiasant fag­lau i mi, ac a estynnasant rwyd wrth dannau ar ymmyl fy llwy­brau: gosodasant hoenynnau ar fy medr Selah.

6 Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti; clyw, ô Ar­glwydd lef fy ngweddiau.

7 Arglwydd Dduw, nerth fy ie­chydwriaeth: gorchguddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8 Na chaniadhâ Arglwydd, ddy­muniad yr annuwiol: na lwydda ei drwg feddwl, rhag eu balchio hwynt. Selah.

9 Y pennaf o'r rhai a'm ham­gylchyno, blinder eu gwefusau a'i gorchguddio.

10 Syrthied marwor arnynt, a bwrier hwynt yn tân: ac mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant.

11 Na siccrhaer dŷn siaradus ar y ddaiar: drwg a hêla y gŵr traws iw ddistryw.

12 Gwn y dadleu yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlo­dion.

13 Y cyfiawn yn ddiau a glod­forant dy Enw di: y rhai vniawn a drigant ger dy fron di.

Psal. 141.

ARglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat; bryssia attaf: clyw fy llais pan lefwyf arnat.

2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogldarth, a dercha­fiad fy nwylo fel yr offrwm pryd­nhawnol.

3 Gosod Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.

4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni, gyd â gwŷr a weithre­dant anwiredd: ac na âd i mi fwytta o'i danteithion hwynt.

5 Cured y cyfiawn fi yn gare­dig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt.

6 Pan dafler eu barn-wŷr i lawr mewn lleoedd carregoc, cly­want fy ngeiriau, canys melus y­dynt.

7 Y mae ein hescyrn ar wascar ar fin y bedd, megis vn yn torri, neu yn hollti coed ar y ddaiar.

8 Eithr arnat ti o Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais, na âd fy enaid yn ddiymgeledd.

9 Cadw fi rhag y fagl a osoda­sant i mi: a hoenynnau gweith­red-wŷr anwiredd.

10 Cyd-gwymped y rhai annu­wiol yn eu rhwydau eu hun, tra elwyfi heibio.

Psal. 142. Prydnhawnol Weddi.

GWaeddais â'm llef ar yr Ar­glwydd: â'm llef yr ymbi­liais â'r Arglwydd.

2 Tywelltais fy myfyrdod o'i flaen ef: a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.

3 Pan ballodd fy yspryd o'm mewn, titheu a adwaenit fy llwybr; yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant i mi fagl.

4 Edrychais ar y tu dehau, a [Page] deliais fulw, ac nid oedd neb a'm hadwaenai: pallodd nodded i mi, nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.

5 Llefais arnat ô Arglwydd, a dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan, yn nhir y rhai byw.

6 Ystyr wrth fy ngwaedd, canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlid-wŷr, canys trêch ydynt nâ mi.

7 Dŵg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy Enw: y rhai cyfiawn a'm cylchynant, canys ti a fyddi da wrthif.

Psal. 143.

ARglwydd clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.

2 Ac na ddôs i farn â'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.

3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid, curodd fy enaid i lawr, gwnaeth i mi drigo mewn tywyll­wch, fel y rhai a fu feirw er yst­alm.

4 Yna y pallodd fy yspryd o'm mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.

5 Cofiais y dyddiau gynt, my­fyriais ar dy holl waith: ac yng­weithredoedd dy ddwylo y myfy­riaf.

6 Lledais fy nwylaw attat: fy enaid fel tîr sychedic sydd yn hi­raethu am danar. Selah.

7 Oh Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd: pallodd fy yspryd; na chuddia dy wyneb oddi wrthif, rhag fy mod yn gyffelyb ir rhai a ddescynnant i'r pwll.

8 Pâr i mi glywed dy druga­rogrwydd y boreu: o herwydd ynot ti y gobeithiaf; pâr i mi ŵy­bod y ffordd y rhodiwyf, o blegit attat ti y derchafaf fy enaid.

9 Gwared fi oddi wrth fy nge­lynion, ô Arglwydd: gyd â thi'r ymguddiais.

10 Dysc i mi wneuthur dy e­wyllys di: canys ti yw fy Nuw; tywysed dy Yspryd daionus fi i dîr vniondeb.

11 Bywhâ fi ô Arglwydd, er mwyn dy Enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.

12 Ac er dy drugaredd, dinist­ria fy ngelynion; a difetha holl gystudd-wŷr fy enaid; oblegit dy wâs di yd wyfi.

Psal. 144. Boreuol Weddi.

BEndigedic fyddo 'r Ar­glwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dyscu fy nwylo i ymladd, a'm byssedd i ryfela.

2 Py nhrugaredd am hamdde­ffynfa, fy nhŵr, a'm gwaredudd, fy nharian yw efe, ac ynddo y go­beithiais; yr hwn sydd yn darost­wng fy mhobl tanaf.

3 Arglwydd, beth yw dŷn, pan gydnabyddit ef? neu fab dŷn pan wnait gyfrif o honaw?

4 Dyn sydd debyg i wagedd, ei ddyddiau sydd fel cyscod yn my­ned heibio.

5 Arglwydd, gostwng dy ne­foedd, a descyn; cyffwrdd â'r my­nyddoedd a mygant.

6 Saetha sellt, a gwascar hwynt: ergydia dy saethau a difa hwynt.

7 Anfon dy law oddi vchod, achub, a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;

8 Y rhai y llefara eu genau wa­gedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalsder,

9 Canaf i ti ô Dduw, ganiad newydd: ar y nabl, a'r dectant y canaf i ti.

10 Efe sydd yn rhoddi iechy­dwriaeth i frenhinoedd, yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi wrth y cleddyf niweidiol.

11 Achub fi, a gwared fi, o law meibion estron, y rhai y lle­fara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn deheu-law ffalster.

12 Fel y byddo ein meibion fel plan-wŷdd yn tyfu yn eu hieu­engctid, a'n merched fel congl­fain nâdd, wrth gyffelybrwydd palâs.

13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luni­aeth, a'n defaid yn dwyn miloedd, a myrddiwn yn ein heolydd.

14 A'n hychen yn gryfion i la­furio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd.

15 Gwyn ei fyd y bobl y mae fe­lly iddynt: gwyn ei fyd y bobl y mae'r Arglwydd, yn Dduw iddynt.

Psal. 145.

DErchafaf di fy Nuw, ô Fren­hin: a bendithiaf dy Enw byth, ac yn dragywydd.

2 Beunydd i'th fendithiaf, a'th enw a folaf byth, ac yn dragy­wydd.

3 Mawr yw 'r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: a'i fawredd sydd anchwiliadwy.

4 Cenhedlaeth wrth genhed­laeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.

5 Ardderchawgrwydd gogoni­ant dy fawredd, a'th bethau rhy­fedd a draethaf.

6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: myne­gaf nneu dy fawredd.

7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a'draethant: a'th gyfiawn­der a ddadcanant.

8 Graslawn, a thrugarog yw 'r Arglwydd: hwyrfrydic i ddig, a mawr ei drugaredd.

9 Daionus yw 'r Arglwydd i bawb: a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.

10 Dy holl weithredoedd a'th glodforant, ô Arglwydd: a'th Sainct a'th fendithiant.

11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth: a thraethant dy ga­dernid.

12 I beri i feibion dynion adna­bod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchawgrwydd ei frenhini­aeth.

13 Dy frenhiniaeth di sydd fre­nhiniaeth dragywyddol: a'th ly­wodraeth a bery yn oes oesoedd.

14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant: ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd,

15 Llygaid pob peth a ddisgwi­liant wrthit, ac yr ydwyt yn rho­ddi eu bwyd iddynt yn ei bryd:

16 Gan agoryd dy law, a diwa­llu pob peth byw a'th ewyllys da.

17 Cyfiawn yw 'r Arglwydd yn ei holl ffyrdd: a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.

18 Agos yw 'r Arglwydd at y rhai oll a alwant arno: at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.

19 Efe a wna ewyllys y rhai a'i hofnant: gwrendy hefyd eu lle­fain, ac a'i hachub hwynt.

20 Yr Arglwydd sydd yn ca­dw pawb a'i carant ef, ond yr holl rhai annuwiol a ddifetha efe.

21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei Enw sanctaidd ef, byth ac yn dragywydd.

Psal. 146.

MOlwch yr Arglwydd. Fy e­naid, mola di 'r Arglwydd.

2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

3 Na hyderwch ar dywysogi­on, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iechydwriaeth ynddo.

4 Ei anadl a â allan, efe a ddych­wel iw ddaiar: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymmorth iddo: sydd a'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw.

6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, y môr a'r hyn oll sydd yn­ddynt: yr hwn sydd yn cadw gwi­rionedd yn dragywydd.

7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymmedic, yn rhoddi bara i'r newynoc: yr Ar­glwydd sydd yn gollwng y car­charorion yn rhydd.

8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion; yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarosty ng­wyd; yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid, efe a gynnal yr ym­ddifad a'r weddw: ac a ddadym­chwel ffordd y rhai annuwiol.

10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth: sef dy Dduw di Sion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Mo­lwch yr Arglwydd.

Psal. 147. Prydnhawnol Weddi.

MOlwch yr Arglwydd, canys da yw canu i'n Duw ni: o herwydd hyfryd yw, ie gweddus yw mawl.

2 Yr Arglwydd sydd yn adeila­du Jerusalem, efe a gasel wascare­digion Israel.

3 Efe sydd yn iachau y rhai briwedic o galon; ac yn rhwymo eu doluriau.

4 Y mae efe yn rhifo rhifedi ŷ sêr; geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5 Mawr yw ein harglwydd, a mawr ei nerth, anneirif yw ei ddeall.

6 Yr Arglwydd sydd yn der­chafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.

7 Cyd-genwch i'r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i'n Duw â'r delyn.

8 Yr hwn sydd yn toi y nef­oedd â chwm ylau: yn paratoi glaw i'r ddaiar: gan beri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.

9 Efe sydd yn rhoddi i'r ani­fail ei borthiant: ac i gywion y gig-fran, pan lefant.

10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esceiriau gŵr.

11 Yr Arglwydd sydd hôff gan­ddo y rhai a'i hofnant ef: sef y rhai a ddisgwiliant wrth ei dru­garedd ef.

12 Jerusalem mola di 'r Ar­glwydd, Sion molianna dy Dduw.

13 O herwydd efe a gadarn­haodd farrau dy byrth, efe a fendi­thiodd dy blant o'th fewn.

14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a'th ddi­walla di â braster gwenith.

15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaiar: a'i air a rêd yn dra buan.

16 Yr hwn sydd yn rhoddi ei­ra fel gwlân: ac a dana rew fel llu­dw.

17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tammeidiau, pwy a erys gan ei oerni ef?

18 Efe a enfyn ei air, ac a'i tawdd hwynt: a'i wynt y chwyth efe, a'r dyfroedd a lifant.

19 Y mae efe yn mynegi ei ei­riau i Jacob: ei ddeddfau a'i far­nedigaethau i Israel.

20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl: ac nid adnabuant ei far­nedigaethau ef. Molwch yr Ar­glwydd.

Psal. 148.

MOlwch yr Arglwydd. Mo­lwch yr Arglwydd o'r nef­oedd: molwch ef yn yr uchelde­rau.

2 Molwch ef ei holl Angelion, molwch ef ei holl luoedd.

3 Molwch ef haul a lleuad: molwch ef yr holl sêr goleuni.

4 Molwch ef nef y nefoedd: a'r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.

5 Molant Enw'r Arglwydd: o herwydd efe a orchymmynodd, a hwy a grewyd.

6 A gwnaeth iddynt barhau byth ac yn dragywydd: gosododd ddeddfac nis trosseddir hi.

7 Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar, y dreigiau a'r holl ddyfn­derau.

8 Tân a chenllysc, eira, a tharth: gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef.

9 Y mynyddoedd a'r bryniau oll, y coed ffrwythlawn a'r holl gedr-wŷdd.

10 Y bwyst-filod, a phob ani­fail: yr ymlusciaid, ac adar asce­lloc.

11 Brenhinoedd y ddaiar a'r holl bobloedd: tywysogion a holl farnwŷr y byd.

12 Gwŷr ieuainge a gweryfon hefyd: henaf-gwŷr a llangciau:

13 Molant Enw 'r Arglwydd: o herwydd ei Enw ef yn unic sydd dderchafadwy: ei ardderchaw­grwydd ef sydd uwch law daiar a nefoedd.

14 Ac efe sydd yn derchafu corn ei bobl, moliant ei holl Sainct, sef meibion Israel, pobl a­gos atto. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 149.

MOlwch yr Arglwydd. Ce­nwch i'r Arglwydd ganiad newydd: a'i foliant ef ynghyn­nulleidfa y Sainct.

2 Llawenhaed Israel yn yr hwn a'i gwnaeth: gorfoledded meibi­on Sion yn eu brenin.

3 Molant ei Enw ef ar y dawns: canant iddo ar dympan, a thelyn.

4 O herwydd hoffodd yr Ar­glwydd ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais ag iechydwriaeth,

5 Gorfoledded y Sainct mewn gogoniant: a chanant ar eu gwe­lau.

6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau: a chleddyf dau­finioc yn eu dwylo.

7 I wneuthur dial ar y cenhed­loedd, a chosb ar y bobloedd:

8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau: a'i pendefigion â ge­fynnau heirn:

9 I wneuthur arnynt y farn scrifennedic: yr ardderchaw­grwydd hyn sydd iw holl Sainct ef. Molwch yr Arglwydd.

Psal. 150.

MOlwch yr Arglwydd. Mo­lwch Dduw yn ei sancteidd­rwydd: molwch ef yn ssurfafen ei nerth.

2 Molwch ef am ei gadernid: molwch ef yn ôl amlder ei faw­redd.

3 Molwch ef â llais udcorn: molwch ef â nabl, ac â the­lyn.

4 Molwch ef â thympan, ac â dawns: molwch ef â thannau, ac ag organ.

5 Molwch ef a symbalau soni­arus: molwch ef â symbalau lla­far.

6 Pob perchen anadl molian­ned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.

FINIS.
LLYFRAU Y TESTAMENT …

LLYFRAU Y TESTAMENT NEWYDD.

  • SAinct Matthew Pen. 28
  • S. Marc Pen. 16
  • S. Luc Pen. 24
  • S. Ioan Pen. 21
  • Actau 'r Apostolion. Pen. 28
  • Yr Epistol at ŷ Rhufeiniaid Pen. 16
  • At y Corinthiaid 1. Pen. 16
  • At y Corinthiaid 2. Pen. 13
  • At y Galatiaid Pen. 6
  • At yr Ephesiaid Pen. 6
  • At y Philippiaid Pen. 4
  • At y Colossiaid Pen. 4
  • At y Thessaloniaid 1. Pen. 5
  • At y Thessaloniaid 2. Pen. 3
  • At Timotheus 1. Pen. 6
  • At Timotheus 2. Pen. 4
  • At Titus Pen. 3
  • At Philemon Pen. 1
  • At yr Hebræaid Pen. 13
  • Epistol Iaco Pen. 5
  • 1. Petr Pen. 5
  • 2. Petr Pen. 3
  • 1. Ioan Pen. 5
  • 2. Ioan Pen. 1
  • 3. Ioan Pen. 1
  • Iud. Pen. 1
  • Datcuddiad Ioan Pen. 22

TESTAMENT NEWYDD EIN HARGLWYDD A'N HIACHAWDWR JESU GRIST.

The New Testament of our Lord and Saviour Iesus Christ.

RHVF. 1.16.

Nid oes arnaf gywilydd o Efengyl GRIST, oblegid gallu Duw yw hi, er Iechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn credu.

Printiedig yn Llundain gan E. Tyler a R. Holt, dros Samuel Gellibrand, tan lûn y Bel (at the Ball) ym Monwent Powls. 1672.

YR EFENGYL YN OL SANCT MATTHEW.

PENNOD I.

1 Achau Christ o Abraham i Joseph. 18 Ei genhedlu ef o'r Yspryd glân, a'i eni o Fair forwyn, wedi ei dy­weddio hi a Joseph. 19 Yr angel yn bodloni camdybus feddyliau Joseph, ac yn deongl enwau Christ.

LLyfr cenhedliad Jesu Grist, fâb Dafydd, fâb Abraham.

2 Abraham a genhedlodd Isaac, ac Isaac a genhed­lodd Jacob, ac Jacob a genhed­lodd Judas a'i frodyr.

3 A Judas a genhedlodd Pha­res a Zara o Thamar, a Phares a genhedlodd Esrom, ac Esrom, a genhedlodd Aram.

4 Ac Aram a genhedlodd Ami­nadab, ac Aminadab a genhed­lodd Naasson, a Naasson a gen­hedlodd Salmon.

5 A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab, a Boos a genhe­dlodd Obed o Ruth, ac Obed a genhedlodd Jesse.

6 A Jesse a genhedlodd Dda­fydd frenin, a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon, o'r hon a fuasei wraig Urias.

7 A Solomon a genhedlodd Roboam, a Roboam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhedlodd Asa.

8 Ac Asa a genhedlodd Josa­phat, a Josaphat a genhedlodd Jo­ram, a Joram a genhedlodd Ozi­as.

9 Ac Ozias a genhedlodd Joa­tham, a Joatham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhedlodd Ezekias.

10 Ac Ezekias a genhedlodd Manasses, a Manasses a genhe­dlodd Amon, ac Amon a genhe­dlodd Josias.

11 A Josias a genhedlodd Je­chonias a'i frodyr ynghylch am­ser y symmudiad i Babylon.

12 Ac wedi y symmudiad i Ba­bylon Jechonias a genhedlodd Salathiel, a Salathiel a genhe­dlodd Zorobabel.

13 A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac Abiud a genhedlodd Eliakim, ac Eliakim a genhedlodd Azor.

14 Ac Azor a genhedlodd Sa­doc, a Sadoc a genhedlodd A­chim, ac Achim a genhedlodd Eliud.

15 Ac Eliud a genhedlodd Ele­azar, ac Eleazar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhe­dlodd Jacob.

16 Ac Jacob a genhedlodd Jo­seph, gŵr Mair, o'r hon y ganed Jesu, yr hwn a elwir Christ.

17 Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o Ddafydd hyd y symmudiad i Ba­bylon pedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o'r symmudiad i Babylon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddêg.

18 A genedigaeth yr Jesu Grist oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd glân.

19 A Joseph ei gŵr hi, gan ei fôd yn gyfiawn, ac heb chwen­nych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel.

20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, Angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breu­ddwyd, gan ddywedyd, Joseph mâb Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi, sydd o'r Ys­pryd glân.

21 A hi a escor ar fab, a thi a el wi ci enw ef Jesu, oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pe­chodau.

22 (A hyn oll a wnaeth pwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywet­pwyd gan yr Arglwydd trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd.

23 Wele, Morwyn a fydd sei­chiog, ac a escor ar fâb, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn, o'i gyfieithu, yw, Duw gyd â ni.)

24 A Joseph pan ddeffroes o gwsc, a wnaeth megis y gorchy­mynasei Angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig.

25 Ac nid adnabu ese hi, hyd oni escorodd hi ar ei mâb cyntaf­anedig, a galwodd ei henw ef Jesu.

PEN. II.

1 Y doethion yn cael eu cyfarwyddo at Grist drwy weinidog aeth seren: 11 Yn ei addoli ef, ac yn cyflwy­no eu hanrhegion. 14 Joseph yn ffô i'r Aipht, efe, ac Jesu, a'i fam. 16 Herod yn llâdd y plant. 20 Ac yn marw. 23 Dwyn Christ yn ei ôl i Galilee i Nazareth.

AC wedi geni'r Jesu ym-Methlehem Judæa, yn ny­ddiau Herod frenin, wele, doe­thion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem;

2 Gan ddywedyd, pa le y mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei se­ren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.

3 Ond pan glybu Herod fre­nin, efe a gyffrowyd, a holl Jeru­salem gyd ag ef.

4 A chwedi dwyn ynghyd yr holl Archoffeiriaid, ac scrifen­nyddion y bobl, efe a ymofyn­nodd â hwynt pa le y genid Christ.

5 A hwy a ddywedasant wrtho, Ym-Methlehem Judæa, canys felly 'r scrifennwyd trwy'r prophwyd,

6 A thitheu Bethlehem tir Juda, nid lleiaf wyt ym-mhlith ty wysogion Juda, canys o honot ti y daw tywysog yr hwn a fu­geilia fy mhobl Israel.

7 Yna Herod wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasei y seren.

8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mâb bychan, a phan gaf­foch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnen ddyfod, a'i addoli ef.

9 Hwythau wedi clywed y brenin, a aethant, ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mâb bychan.

10 A phan welsant y seren, llawenhasant â llawenydd mawr dros ben.

11 A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mâb bychan gyd â Mair ei fam, a hwy a syrthia­sant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymmasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrrh.

12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn iw gwlad ar hyd ffordd arall.

13 Ac wedi iddynt ymado, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breu­ddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mâb bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht; a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti; canys ceisio a wna Herod y mab bychan, i'w ddifetha ef.

14 Ac ynteu pan gyfododd a gymmerth y mâb bychan a'i fam o hyd nôs, ac a giliodd i'r Aipht.

15 Ac a fu yno hyd farwo­laeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd gan yr Argl­wydd, trwy 'r prophwyd gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mâb.

16 Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrom­modd yn aruthr, ac a ddanfo­nodd ac a laddodd yr holl fech­gyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau o ddwyflwydd oed, a than hynny, wrth yr amser yr ymofynnasei efe yn fanwl â'r doethion.

17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremias y pro­phwyd, gan ddywedyd,

18 Llêf a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn ŵylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oeddynt.

19 Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Jo­seph yn yr Aipht,

20 Gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y mâb bychan a'i fam, a dôs i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio enioes y mâb bychan a fuant feirw.

21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymmerth y mâb bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.

22 Eithr pan glybu efe fod Ar­chelaus yn teyrnasu ar Judæa, yn lle ei dâd Herod, efe a ofnodd fy­ned yno, ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilæa.

23 A phan ddaeth, efe a dri­godd mewn dinas a elwyd Naza­reth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, y gelwid ef yn Nazarêad.

PEN. III.

1 Pregeth Joan, a'i swydd, a'i fuchedd, a'i fedydd; 7 y mae yn [Page] ceryddu y Pharisæaid, 13 Ac yn bedyddio Crist yn yr Jorddonen.

AC yn y dyddiau hynny y daeth Joan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judæa,

2 A dywedyd, Edifarhewch, canys nessaodd teyrnas nefoedd.

3 Oblegid hwn yw efe, yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Llêf un yn llefain yn y diffaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn vniawn ei lwybran ef.

4 A'r Ioan hwnnw oedd ai ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid, a mêl gwyllt.

5 Yna yr aeth allan atto ef Je­rusalem, a holl Judæa, a'r holl wlâd o amgylch yr Jorddonen.

6 A hwy a fedyddiwyd gan­ddo ef yn yr Jorddonen, gan gy­ffesu eu pechodau.

7 A phan welodd efe lawer o'r Pharisæaid, ac o'r Saducæaid yn dyfod iw fedydd ef, efe a ddywe­dodd wrthynt hwy, O genhed­laeth gwiberod, pwy a'ch rhag­rybuddiodd i ffoi rhag y llîd a fydd?

8 Dygwch gan hynny ffrwy­thau addas i edifeirwch.

9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae gyn­nym ni Abraham yn dâd i ni; canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.

10 Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyall wedi ei gosod ar wrei­ddyn y prennau: pôb pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edi­feirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach nâ myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei escidiau, efe a'ch be­dyddia chwi â'r Yspryd glân, ac â thân.

12 Yr hwn y mae ei wyntill yn el law, ac efe a lwyr lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith î'w yscubor, eithr yr us a lysc efe â thân anniffoddadwy.

13 Yna y daeth yr Jesu o Ga­lilæa i'r Jorddonen at Joan, i'w fedyddio ganddo;

14 Eithr Joan a orafunodd iddo ef, gan ddywedyd, y mae arnaf fi eifieu fy medyddio gennit ti; ac a ddeui di attaf fi?

15 Ond yr Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pôb cyfi­awnder; yna efe a adawodd iddo.

16 A'r Jesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn descyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.

17 Ac wele lêf o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd.

PEN. IV.

1 Ympryd Christ, a'i demtiad. 11 yr Angylion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Capernaum, 17 yn dechreu pregethu, 18 yn galw Pedr as Andreas, 21 Jaco ac Joan: 23 Ac yn iachâu yr holl gleifion.

YNa yr Jesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr Yspryd, i'w demptio gan ddiafol.

2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain nhiwrnod a deugain nôs, yn ôl hynny efe a newynodd.

3 A'r temptiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mâb Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fôd yn fara.

4 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Scrifennwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw.

5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml;

6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mâb Duw wyti, bwrw dy hun i lawr; canys scrifennwyd, y rhydd efe orchymmyn i'w ange­lion am danat, a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro o honot vn amser dy droed with garreg.

7 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Scrifennwyd drachefn, Na them­ptia yr Arglwydd dy Dduw.

8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra vchel, ac a ddango­sodd iddo holl deyrnasoedd y bŷd, a'u gogoniant.

9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, of syrthi i lawr a'm haddoli i.

10 Yna yr Jesu a ddywedodd wrtho, ymmaith Satan: canys scrifennwyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.

11 Yna y gadawodd diafol ef; ac wele, angelion a ddaethant, ac a weinasant iddo.

12 A phan glybu'r Jesu dra­ddodi Ioan, efe a aeth i Galilæa.

13 A chan ado Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Caper­naum, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabulon a Neph­thali:

14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd trwy Esaias y pro­phwyd, gan ddywedyd,

15 Tîr Zabulon, a thir Neph­thali, wrth ffordd y môr, o'r tu hwnt i'r Jorddonen, Galilæa y cenhedloedd.

16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr: ac i'r rhai a eiste­ddent ymmro a chyscod angeu, y cyfododd goleuni iddynt.

17 O'r prŷd hynny y dechreu­odd yr Jesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nessaodd teyrnas nefoedd.

18 A'r Jesu yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; (canys pyscod-wŷr oe­ddynt.)

19 Ac efe a ddywedodd wrth­ynt, Dowch ar fy ôl i, ac mi a'ch gwnaf yn byscod-wŷr dynion.

20 A hwy yn y fan, gan adel y rhwydau, a'i canlynasant ef.

21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau fro­dyr eraill, Jaco fâb Zebedaeus, ac Joan ei frawd, mewn llong gydâ Zebaedeus eu tâd, yn cyweirio eu rhwydau: ac a'u galwodd hwy.

22 Hwythau yn ebrwydd gan adel y llong a'u tâd, a'i canlyna­sant ef.

23 A'r Jesu a aeth o amgylch holl Galilæa, gan ddyscu yn eu Synagogau, a phregethu Efengyl y [Page] deyrnas, ac iachau pôb clefyd a phôb afiechyd ym mhlith y bobl.

24 Ac aeth sôn am dano ef trwy holl-Syria; a hwy a ddyga­sant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloe­rig, a'r sawl oedd a'r parlys ar­nynt, ac efe a'u hiachaodd hwynt.

25 A thorfeydd lawer a'i can­lynasant ef o Galilæa, a Decapo­lis, a Jerusalem, a Judæa, ac o'r tu hwnt i'r Jorddonen.

PEN. V.

1 Crist yn dechreu ei bregeth ar y my­nydd: 3 ac yn dangos pwy sydd ddedwydd, 13 Pwy yw halen y ddaiar, 14 Goleuni y byd; dinas ar fryn, 15 y ganwyll, 17 Ei ddyfod ef i gyflawni y gyfraith. 21 Beth yw lladd, 27 a godinebu, 33 a thyngu. 38 y mae yn annog i ddioddef cam, 44 i garu ie ein gelynion, 48 ac i ymegnio at ber­ffeithrwydd.

A Phan welodd yr Jesu y tyr­faodd, efe a escynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto.

2 Ac efe a agorodd ei enau ac a'u dyscodd hwynt, gan ddywe­dyd,

3 Gwyn eu bŷd y tlodion yn yr yspryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

4 Gwyn eu bŷd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.

5 Gwyn eu bŷd y rhai add­fwyn: canys hwy a etifeddant y ddaiar.

6 Gwyn eu bŷd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfi­awnder: canys hwy a ddiwellir.

7 Gwyn eu bŷd y rhai truga­rogion: canys hwy a gânt dru­garedd.

8 Gwyn eu bŷd y rhai pûr o galon: canys hwy a welant Dduw.

9 Gwyn eu bŷd y tangneddyf­wŷr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.

10 Gwyn eu bŷd y rhai a er­lidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

11 Gwyn eich bŷd pan i'ch gwradwyddant, ac i'ch erlidiant, ac y dywedant bob dryg-air yn eich erbyn, er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.

12 Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidia­sant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi.

13 Chwi yw halen y ddaiar: eithr o diflasodd yr halen, â pha both yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim onid i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.

14 Chwi yw goleuni y bŷd; dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio.

15 Ac ni oleuant ganwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn can­hwyll-bren: a hî a oleua i bawb sy yn y tŷ.

16 Llewyrched felly eich go­leuni ger bron dynion, fel y gwe­lont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 Na thybiwch fy nyfod i dorri 'r gyfraith, neu 'r proph­wydi, ni ddaethym i dorri, ond i gyflawni.

18 Canys yn wir meddaf i [Page] chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaiar heibio, nid â un iot nac un tip­pyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwplaer oll.

19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysco i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas ne­foedd: ond pwy bynnag a'i gw­nelo, ac a'i dysco i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas ne­foedd.

20 Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder yn helae­thach nâ chyfiawnder yr Scrifen­nyddion a'r Pharisæaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd: a phwy byn­nag a laddo, euog fydd o farn.

22 Eithr yr ydwyfi yn dywe­dyd i chwi, pôb un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddy­wedo, o ynfyd, a fydd euog o dân uffern.

23 Gan hynny, os dygi dy rôdd i'r allor, ac yno dyfod i'th gôf fôd gan dy frawd ddim yn dy erbyn,

24 Gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dôs ymmaith: yn gyn­taf cymmoder di â'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm dy rodd.

25 Cytuna â'th wrthwyneb­ŵr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef: rhag un amser i'th wrthwyneb-ŵr dy roddi di yn llaw'r barn-ŵr, ac i'r barn-ŵr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yngharchar.

26 Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddi-yno hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb.

28 Eithr yr ydwyfi yn dywe­dyd i chwi, fod pob un sydd yn edrychar wraig, i'w chwennychu hi, wedi gwneuthur eusys odineb â hi yn ei galon.

29 Ac of dy lygad dehau a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit, canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i uffern.

30 Ac of dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymmaith, a thafl oddi wrthit, canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i uffern.

31 A dywetpwyd, Pwy byn­nag a ollyngo ymmaith ei wraig, rhoed iddi lythyr yscar.

32 Ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fôd pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a bri­odo yr hon a yscarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 Trachefn, clywsoch ddy­wedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon: eithr tâl dy lwon i'r Ar­glwydd.

34 Ond yr ydwyfi yn dywe­dyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nag i'r nef, canys gorse­ddfa Duw ydyw:

35 Nac i'r ddaiar, canys troed­fainc ei draed ydyw: nac i Jeru­salem, canys dinas y brenin mawr ydyw.

36 Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur un blewyn yn wynn, neu yn ddu.

37 Eithr bydded eich ymad­rodd chwi, Je, Je, nag ê nag ê: oblegid beth bynnag sydd tros [Page] ben hyn, o'r drwg y mae.

38 Clywsoch ddywedyd, Lly­gad am lygad, a dant am ddant.

39 Eithr yr ydwyfi yn dywe­dyd wrthych chwi, Na wrthwy­nebwch ddrwg, ond pwy bynnag a'th darawo ar dy rudd ddehau, tro 'r llall iddo hefyd.

40 Ac i'r neb a fynno ymgy­freithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.

41 A phwy bynnag a'th gym­mhello un filltir, dôs gyd ag ef ddwy.

42 Dyro i'r hwn a ofynno gennit: ac na thro oddiwrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennit.

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.

44 Eithr yr ydwyfi yn dywe­dyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant.

45 Fel y byddoch blant i'ch tâd yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gla­wio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

46 Oblegid of cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna 'r Publicancd hefyd yr un peth?

47 Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw y Publicanod hefyd yn gw­neuthur felly?

48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berffaith.

PEN. VI.

1 Crist yn myned rhagddo yn ei bre­geth ar y mynydd, gan draethu am Elusen, 5 a Gweddi, 14 ma­ddeu i'n brodyr: 16 ac ympryd, 19 p'le y mae i ni roddi ein tryssor i gadw, 24 ynghylch gwasanaethu Duw a Mammon: 25 yn annog na bydder gofalus am bethau bydol; 33 ond am geisio teyrnas Dduw.

GOchelwch rhag gwneuthur eich elusen yngwŷdd dyni­on, er mwyn cael eich gweled ganddynt, os amgen, ni chewch dâl gan eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

2 Am hynny pan wnelych elu­sen, na udcana o'th flaen, fel y gwna 'r rhagrith-wŷr yn y syna­gogau, ac ar yr heolydd, fel y mo­lianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.

3 Eithr pan wnelych di elu­sen, na wyped dy law asswy pa beth a wna dy law ddehau:

4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr am­lwg.

5 A phan weddiech, na fydd fel y rhagrith-wŷr, canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y syna­gogau ac ynghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.

6 Ond tydi pan weddiech, dôs i'th stafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

7 A phan weddioch na fydd­wch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml ei­riau.

8 Na fyddwch gan hynny de­byg iddynt hwy: canys gwŷr eich Tâd pa bethau sy arnoch eu hei­sieu, cyn gofyn o honoch ganddo.

9 Am hynny gweddiwch chwi fel hyn, Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw.

10 Deled dy deyrnas: gwne­ler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd.

11 Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.

12 A maddeu i ni ein dyledi­on, fel y maddeuwn ninnau i'n dyled-wŷr.

13 Ac nac arwain ni i brofedi­gaeth, eithr gwared ni rhag drwg: canys eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oe­soedd. Amen.

14 Oblegid os maddeuwch i ddy­nion eu camweddau, eich Tâd ne­fol a faddeu hefyd i chwithau.

15 Eithr oni faddeuwch i ddy­nion eu camweddau, ni saddeu eich Tâd eich camweddau chwi­thau.

16 Hefyd pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrith-wŷr, yn wyneb-drist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ym­ddangosont i ddynion eu bôd yn ymprydio, yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.

17 Eithr pan ymprydiech di, en­neinia dy ben, a golch dy wyneb,

18 Fel nad ymddangosech i ddy­nion dy fôd yn ymprydio, ond i'th Dâd yr hwn sydd yn y dirgel; 'th Dâd yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr am­lwg.

19 Na thryssorwch i'wch dry­ssorau ar y ddaiar, lle y mae gwy­fyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta.

20 Eithr tryssorwch i'wch dry­ssorau yn y nef, lle nid oes na gwy­fyn na rhwd yn llygru, a lle ni's cloddia lladron trwodd, ac ni's lladrattant.

21 Canys lle y mae eich tryssor, yno y bydd eich calon hefyd.

22 Canwyll y corph yw'r lly­gad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorph fydd yn oleu.

23 Eithr of bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorph fydd yn dy­wyll. Am hynny os bydd y go­leuni sydd ynot, yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch?

24 Ni ddichon neb wasanae­thu dau Arglwydd, canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esceulusa 'r llall. Ni ellwch wasa­naethu Duw a Mammon.

25 Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph, pa beth a wiscoch; onid yw'r bywyd yn fwy nâ'r bwyd, a'r corph yn fwy nâ 'r dillad?

26 Edrychwch ar adar y ne­foedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ys­cuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwy: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?

27 A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu un cufydd at ei saintioli?

28 A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? ystyriwch lili 'r maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu;

29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd Solomon yn ei holl ogoniant, fel un o'r rhai hyn.

30 Am hynny os dillada Duw felly lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i'r ffwrn: oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, ô chwi o ychy­dig ffydd?

31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn, neu beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn?

32 (Canys yr holl bethau hyn y mae y cenhedloedd yn eu ceisio) oblegid gŵyr eich Tâd nefol fôd arnoch eisieu yr holl bethau hyn.

33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.

34 Na ofelwch gan hynny tros drannoeth: canys trannoeth a o­fala am ei bethau ei hun, digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.

PEN. VII.

1 Crist yn gorphen ei bregeth ar y mynydd, ac yn gwahardd barn ehud, 6 a bwrw pethau sanctaidd i gwn, 7 yn annog i weddio, 13 i fyned i mewn i'r porth cyfyng, 15 i ymgadw rhac gau broph­wydi, 21 na byddom wranda­wyr, ond gwneuthur-wyr y gair, 24 a chyffelyb i dai w [...]di eu ha­deladu ar graig, 26 ac nid ar y tywod.

NA fernwch, fel na'ch bar­ner.

2 Canys â pha farn y barnoch, i'ch bernir: ac â pha fesur y me­suroch, yr adfesurir i chwithau.

3 A pha ham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o' th lygad: ac wele drawst yn dy lygad dy hun?

5 Oh ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.

6 Na roddwch y peth sydd san­ctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y môch: rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi, a'ch rhwygo chwi.

7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chwi a gewch: cur­wch, ac fe agorir i chwi.

8 Canys pob un sy'n gofyn sy 'n derbyn, a'r neb sy'n ceisio sy'n cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.

9 Neu a oes un dŷn o honoch, yr hwn os gofyn ei sab iddo sara, a rydd iddo garreg?

10 Ac os gofyn efe byscodyn, a ddyry efe sarph iddo?

11 Os chwy-chwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, bethau da i'r rhai a o fynnant iddo?

12 Am hynny pa bethau byn­nag oll a ewyllysioch eu gwneu­thur [Page] o ddynion i chwi, felly gw­newch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw 'r gyfraith a'r pro­phwydi.

13 Ewch i mewn trwy 'r porth cyfyng: canys ehang yw 'r porth, a llydan yw 'r ffordd sydd yn ar­wain i ddestryw, a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwy­ddi.

14 Oblegid cyfyng yw 'r porth, a chul yw 'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.

15 Ymogelwch rhag y gau bro­phwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwiscoedd defaid, ond oddi­mewn bleiddiaid rheipus ydynt hwy.

16 Wrth eu ffrwythau yr ad­nabyddwch hwynt. A gascl rhai rawn-win oddiar ddrain, neu ffi­gys oddiar yscall?

17 Felly pôb pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.

18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.

19 Pôb pren heb ddwyn ffrwy­th da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

20 O herwydd pa ham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21 Nid pob un sydd yn dywe­dyd wrth if, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

22 Llawer a ddywedant wrthif yn y dvdd hwnnw, Arglwydd, Ar­glwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrchiau lawer yn dy enw di?

23 Ac yna yr addefaf iddynt Ni's adnabûm chwi eriodd: ewch ymmaith oddi wrthif, chwi wei­thred-wŷr anwiredd.

24 Gan hynny pwy bynnag sy'n gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig.

25 A'r glaw a ddescynnodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyn­toedd a chwythasant, ac a ruth­rasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syr­thiodd, oblegid sylfaenesid ef ar y graig.

26 A phôb un ar sydd yn gw­rando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y ty­wod.

27 A'r glaw a ddescynnodd, a'r llif-ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw, ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.

28 A bu, wedi i'r Jesu orphen y geiriau hyn, y torfeydd a synna­sant wrth ei ddysceidiaeth ef.

29 Canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt, fel un ag awdurodd ganddo, ac nid fel yr Scrifenny­ddion.

PEN. VIII.

1 Crist yn glanhau y gwahan glwy­fus, 5 yn iachâu gwâs y Can­wriad, 14 a mam gwraig Petr, 16 a llawer o rai clwyfus eraill: 18 yn dangos pa fodd y mae ei ddilyn ef: 23 yn gostegu y dy­mestl ar y môr, 28 yn gyrru [Page] cythreuliaid allan o ddau gythreulig, 31. ac yn canhiadu iddynt fyned i'r môch.

AC wedi ei ddyfod ef i wa­red o'r mynydd, torfeydd lawer a'i canlynasant ef.

2 Ac wele, un gwahan-glwy­fus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.

3 A'r Jesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddy­wedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lan­hawyd.

4 A dywedodd yr Jesu wrtho. Gwêl na ddywedych wrth neb: eithr dôs, dangos dy hun i'r offei­riad, ac offrymma y rhodd a or­chymynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

5 Ac wedi dyfod yr Jesu i mewn i Capernaum, daeth atto gan wriad, gan ddeisyfu arno,

6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwâs yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddir-fawr.

7 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.

8 A'r canwriad a attebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd nid y­dwyfi deilwng i ddyfod o honot tan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwâs a jacheir.

9 Canys dŷn ydwyf finneu tan awdurdod, a chennif filwŷr tanaf: a dywedaf wrth hwn, cerdda, ac efe â: ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw: ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

10 A'r Jesu pan glybu a ryfe­ddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn; Yn wir me­ddaf i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel.

11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gyd ag Abraham, ac Isaac, a Jacob, yn nheyrnas nefoedd:

12 Ond plant y deyrnas a de­flir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dan­nedd.

13 A dywedodd yr Jesu wrth y canwriad, dôs ymmaith, a me­gis y credaist bydded i ti. A'i wâs a iachawyd yn yr awr hon­no.

14 A phan ddaeth yr Jesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r crŷd.

15 Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi: a'r crŷd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanae­thodd arnynt.

16 Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant atto lawer o rai cythreulig: ag efe a fwriod allan yr ysprydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion:

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y pro­phwyd, gan ddywedyd, Efe a gymmerodd ein gwendid ni, ag a ddug ein clefydau.

18 A'r Jesu pan welodd dor­feydd lawer o'i amgylch, a or­chymynnodd fyned trosodd i'r lan arall.

19 A rhyw Scrifennydd a dda­eth, ac a ddywedodd wrtho, A­thro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

20 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Y mae ffaeau gan y llwyno­god, a chan ehediaid y nefoedd nythod: ond gan fab y dŷn nid oes le i roddi ei ben i lawr.

21 Ac un arall o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd gâd i mi yn gyntaf fyned, a chladdu fy nhâd.

22 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, canlyn fi, a gâd i'r meirw gladdu eu meirw.

23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddiscyblion a'i canlyna­sant ef.

24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu.

25 A'i ddiscyblion a ddaethant atto, ac a'i deffroasant, gan ddy­wedyd, Arglwydd cadw ni, darfu am danom.

26 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa ham yr ydych yn ofnus, ô chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawe­lwch mawr.

27 A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fôd y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufyddhau iddo?

28 Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlâd y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyr­nig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.

29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Jesu fâb Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti ymma i'n poeni ni cyn yr amser?

30 Ac yr oedd ym-mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pori.

31 A'r cythreuliaid a ddeisy­fiasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniadhâ i ni fyned ymmaith i'r genfaint fôch.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint fôch. Ac wele, yr holl genfaint fôch a ru­throdd tros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.

33 A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bôb peth, a pha beth a ddarfuasei i'r rhai di­eflig.

34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Jesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadel o'u cyffin iau hwynt.

PEN. IX.

1 Christ yn iachau un clâf o'r parlys, 9 yn galw Matthew o'r dollfa, 10 yn bwytta gyda phublicanod a phe­chaduriaid, 14 yn ymddiffyn ei ddiscyblion am nad ymprydient, 20 yn iachau y difer-lif gwaed, 23 yn cyfodi merch Jairus o fa­rw, 27 yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall, 32 yn iachau mudan cythreulig, 36 ac yn i ostu­rio wrth y dyrfa.

AC efe a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a dda­eth iw ddinas ei hun.

2 Ac wele, hwy a ddygasant atto wr claf o'r parlys, yn go­rwedd mewn gwely: a'r Jesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywe­dodd wrth y claf o'r parlys, Ha fâb cymmer gyssur, maddeuwyd i ti dy bechodau,

3 Ac wele, rhai o'r Scrifenny­ddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, y mae hwn yn cablu.

4 A phan welodd yr Jesu eu meddyllau, efe a ddywedodd, Pa ham y meddyliwch ddrwg yn eich ealonnau?

5 Canys pa un hawsaf, ai dywe­dyd, maddeuwyd i ti dy becho­dau, ai dywedyd, cyfod a rhodia?

6 Eithr fel y gwypoch fôd awdurdod gan fâb y dŷn ar y ddai­ar i fadden pechodau, (yna y dy­wedodd efe with y claf o'r parlys) cyfod, cymmer dy wely i fynu, a dôs i'th dŷ.

7 Ac efe a gyfodes, ag a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun.

8 A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogo­neddu Duw, yr hwn a roesei gy­fryw awdurdod i ddynion.

9 Ac fel yr oedd yr Jesu yn my­ned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew: ac a ddywedodd wr­tho, canlyn fi. Ac efe a gyfodes, ac a'i canlynodd ef.

10 A bu ac efe yn eistedd i fwy­tta yn y tŷ, wele hefyd, pub­licanod lawer a phechaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd â'r Jesu a'i ddiscyblion.

11 A phan welodd y Pharisæaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddi­scyblion ef, Pa ham y bwytty eich Athro chwi gyd â'r publica­nod a'r pechaduriaid?

12 A phan glybu 'r Jesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

13 Ond ewch, a dyscwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edi­feirwch.

14 Yna y daeth discyblion Joan atto, gan ddywedydd, Pa ham yr ydym ni a'r Pharisæaid yn ym­prydio yn fynych, ond dy ddiscy­blion di nid ydynt yn ympry­dio?

15 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, A all plant yr ystafell brio­das alaru tra fo y priod-fâb gyd â hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priod-fâb oddi ar­nynt, ac yna yr ymprydiant;

16 Hefyd, ni ddŷd neb lain o frethyn newydd at hên ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y ddilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.

17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hên: os amgen, y costrelau a dyrr, a'r gwin a rêd a­llan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y ced wir y ddau.

18 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon: eithr tyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi.

19 A'r Jesu a godes, ac a'i can­lynodd ef, a'i ddiscyblion.

20 (Ac wele, gwraig ybua­sei gwaed-lif arni ddeuddeng mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef.

21 Canys hi a ddywedasei yn­ddi ei hun, Os câf yn unig gy­ffwrdd â'i wisc ef, iach fyddaf.

22 Yna 'r Jesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, [Page] Ha ferch bydd gyssurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iacha­wyd o'r awr honno.

23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ 'r pennaeth, a gweled y cerddo­rion, a'r dyrfa yn terfyscu.

24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch: canys ni bu farw 'r llangces, ond cyscu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.

25 Ac wed i bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi: a'r llangces a gy­fodes.

26 A'r gair o hyn a aeth tros yr holl wlâd honno.

27 A phan oedd yr Jesu yn my­ned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dy­wedyd, Mâb Dafydd, trugarhâ wrthym.

28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant atto, a'r Jesu a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallafi wneuthur hyn? Hwy a ddyweda­sant wrtho, Ydym Arglwydd.

29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd; Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.

30 A'u llygaid a agorwyd: a'r Jesu a orchymynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch na's gwyppo neb.

31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy 'r holl wlâd honno.

32 Ac a hwy yn myned allan, wele rhai a ddygasant atto ddyn mud cythreulig.

33 Ac wedi bwrw y cythrael allan, llefarodd, y mudan: a'r tor­feydd a ryfeddasant, gan ddywe­dyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.

34 Ond y Pharisæaid a ddy­wedasant, Trwy bennaeth y cy­threuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

35 A'r Jesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddyscu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pôb clefyd, a phôb a fie­chyd ymmhlith y bobl.

36 A phan welodd efe y tor­feydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bôd wedi blino, a'u gwa­scaru fel defaid heb ganddynt fu­gail.

37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddiscyblion, y cynhaiaf yn ddi­au sydd fawr, ond y gweith-wŷr yn anaml.

38 Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaiaf anfon gweith-wŷr i'w gynhaiaf.

PEN. X.

1 Crist yn anfon ei ddeuddec Apostl, gan roddi gallu iddynt i wneu­thur rhyfeddodau: 5 yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dyscu, 16 ac yn eu cyssuro yn erbyn erli­diau: 40 ac yn addo bendith i'r rhai a'i derbynio hwynt.

AC wedi galw ei ddeuddeg di­scybl atto, efe a roddes i­ddynt awdurdod yn erbyn yspry­dion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pôb clefyd a phôb a­fiechyd.

2 A henwau y deuddeg Apo­stolion yw y rhai hyn: y cyn af. Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd: Iaco mâb Zebe­daeus, ac Ioan ei frawd:

3 Philip, a Bartholomaeus: [Page] Thomas, a Matthew y publican: Iaco mâb Alphaeus, a Lebbaeus yr hwn a gyf-enwid Thadaeus.

4 Simon y Cananead, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a'i brady­chodd ef.

5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynnodd i­ddynt, gan ddywedyd, Nag ewch i ffordd y cenhedloedd, ac i ddi­nas y Samariaid nac ewch i mewn.

6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.

7 Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, fôd teyrnas nefo­edd yn nessau.

8 Iachewch y cleifion, glan­hewch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhâd, rhoddwch yn rhâd.

9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau:

10 Nac yscrepan i'r daith, na dwy bais, nac escidiau, na ffonn: canys teilwng i'r gweithiŵr ei fwyd.

11. Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi: ac yno trigwch hyd onid eloch ym­maith.

12 A phan ddeloch i dŷ, cy­ferchwch well idde.

13 Ac of bydd y tŷ yn dei­lwng, deued eich tangneddyf arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangneddyf at­toch.

14 A phwy bynnag ni'ch der­bynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno, escydwch y llwch oddiwrth eich traed.

15 Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir y Sodo­miaid a'r Gomorriaid yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.

16 Wele, yr ydwyfi yn eich danfon fel defaid ynghanol blei­ddiaid: byddwch chwithau gall fel y seirph, a diniwed fel y colo­mennod.

17 Eithr ymogelwch rhag dy­nion: canys hwy a'ch rhoddant chwi i fynu i'r cyngor, ac a'ch ffrewyllant chwi yn eu Synago­gan.

18 A chwi a ddygir at lywi­awd-wŷr a brenhinoedd o'm ha­chos i, er tystiolaeth iddynt hwy, ac i'r cenhedloedd.

19 Eithr pan i'ch rhoddant chwi i fynu, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno, pa beth a lefaroch.

20 Canys nid chwy-chwi yw 'r rhai sy yn llefaru, onid Yspryd eich Tâd yr hwn sydd yn llefaru ynoch.

21 A brawd a rydd frawd i fy­nu i farwolaeth, a thâd ei blen­tyn: a phlant a godant i fynu yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt.

22 A châs fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.

23 A phan i'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: ca­nys yn wir y dywedaf wrthych, na orphennwch ddinasoedd Is­rael, nes dyfod Mâb y dŷn.

24 Nid yw'r discybl yn uwch nâ'i athro, na'r gwâs yn uwch nâ'i Arglwydd.

25 Digon i'r discyl fôd fel ei [Page] athro, a'r gwâs fel ei Arglwydd: os galwasant berchen y ty yn Beelzebub, pa faint mwy ei dŷ­lwyth ef?

26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cu­ddiedig a'r nas datcuddir, na dir­gel, ar nas gwybyddir.

27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddy­wedyd wrthych chwi yn y tywy­llwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pre­gethwch ar bennau y tai.

28 Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid: eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon dde­strywio enaid a chorph yn uffern.

29 Oni werthir dau aderyn y tô er ffyrling? ac ni syrth un o honynt ar y ddaiar heb eich Tâd chwi.

30 Ac y mae, iê holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.

31 Nac ofnwch gan hynny; chwi a delwch fwy nâ llawer o adar y tô.

32 Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i yngŵydd dynion, min­neu a'i cyffesaf ynteu yngŵydd fy Nhâd, yr hwn sydd yn y ne­foedd:

33 A phwy bynnag a'm gwa­do i yngŵydd dynion, minneu a'i gwadaf ynteu yngŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

34 Na thybygwch sy nyfod i ddanfon tangneddyf ar y ddaiar: ni ddaethym i ddanfon tangne­ddyf, onid cleddyf.

35 Canys mi a ddaethym i osod dŷn i ymrafaelio yn er­byn ei dâd, a'r ferch yn er­byn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

36 A gelynion dŷn, fydd tŷ­lwyth ei dŷ ei hun.

37 Yr hwn sydd yn caru tâd neu fam yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi: a'r nêb sydd yn caru mâb neu ferch yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi.

38 A'r hwn nid yw yn cymme­ryd ei groes, ag yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng o honofi.

39 Y nêb sydd yn cael ei eini­oes, a'i cyll: a'r neb a gollo ei ei­nioes o'm plegid i, a'i caiff hi.

40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i: a'r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

41 Y neb sydd yn derbyn pro­phwyd yn enw prophwyd, a dder­byn wobr prophwyd; a'r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cy­fiawn.

42 A phwy bynnag a roddo l'w yfed i un o'r rhai bychain hyn, phioleid o ddwfr oer yn unic, yn enw discybl, yn wir me­ddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.

PEN. XI.

1 Joan yn anfon ei ddiscyblion at Grist. 7 Tystiolaeth Crist am Joan. 18 Tyb y bobl am Joan, a Christ. 20 Crist yn dannod an­niolchgarwch a diedifeirwch Cho­razin, Bethsaida, a Chaperna­um: 25 a chan foliannu doethi­neb ei Dad yn egluro yr Efengyl i'r rhai gwirion, 28 yn galw atto y rhai sydd yn clywed baich eu pechodau.

A Bu, pan orphennodd yr Jesu orchymyn i'w ddeudeg dis­cybl, [Page] efe a aeth oddi yno i ddyscu, ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2 Ac Joan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Christ, wedi danfon dau o'i ddiscyblion,

3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw 'r hwn sy 'n dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?

4 A'r Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Ewch, a my­negwch i Joan y pethau a glywch ac a welwch.

5 Y mae 'r deillion yn gweled eil-waith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn cly­wed: y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.

6 A dedwydd yw 'r hwn ni rwystrir ynofi.

7 Ac a hwy yn myned ymmaith, yr Jesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Joan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych am dano? a'i corsen yn yscwyd gan wynt?

8 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dŷn wedi ei wisco â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn gwisco dillad esm­wyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? ie meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.

10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr scrifennwyd, Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghen­nad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

11 Yn wir meddaf i chwi, ym­mhlith plant gwragedd ni cho­dodd neb, mwy nag Joan Fe­dyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.

12 Ac o ddyddiau Joan Fedy­ddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threis­wŷr sy yn ei chippio hi.

13 Canys yr holl brophwydi a'r gyfraith a brophwydasant hyd Joan.

14 Ac os ewyllysiwch ei dder­byn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod.

15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed.

16 Eithr i ba beth y cyffelybafi y genhedlaeth hon? cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchna­doedd, ac yn llefain wrth eu cy­feillion:

17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: canasom alar-nâd i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18 Canys daeth Joan heb na bwytta, nac yfed, ac meddant, y mae cythrael ganddo.

19 Daeth mâb y dŷn yn bwyt­ta ac yn yfed, ac meddant, Wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cy­faill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

20 Yna y dechreuodd efe ed­liw i'r dinasoedd, yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i wei­thredoedd nerthol ef, am nad edi­farhasent.

21 Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithre­doedd nerthol a wnaethpwyd y­noch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sach-liain a lludw.

22 Eithr meddaf i chwi, esm­wythach fydd i Tyrus a Sidon yn nydd farn, nag i chwi.

23 A thydi Capernaum, yr hon a dderchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaeth­pwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddyw.

24 Eithr yr ydwyf yn dywe­dyd i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd farn, nag i ti.

25 Yr amser hynny yr atte­bodd yr Jesu, ac y ddywedodd, i ti yr ydwyf yn diolch, o Dâd, Arglwydd nef a daiar, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datcuddio o honot i rai by­chain.

26 Je o Dâd, canys felly y rhyngodd bodd i ti.

27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac nid edwyn neb y Mâb, ond y Tâd: ac nid ed­wyn neb y Tâd, ond y Mâb, a'r hwn yr ewyllysio y Mâb ei ddat­cuddio iddo.

28 Dewch attafi bawb ac y sydd yn flinderog, ac yn llwythog; ac mi a esmwythaf arnoch.

29 Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphywystra i'ch eneidiau.

30 Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd yscafn.

PEN. XII.

1 Crist yn ceryddu dallineb y Pha­risæaid, o ran torri y Sabboth, 3 t rwy Scrythyrau, 7 trwy reswm,13 a thrwy ryfeddod: 22 yn iachau y dyn cythreulig, mûd, a dall, 31 Ni faddeuir byth gabledd yn erbyn yr Yspryd glan, 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient ar­wydd, 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd a'i chwaer, ai fam.

YR amser hynny yr aeth yr Jesu ar y dydd Sabbath trwy 'r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddiscyblion, a hwy a ddech­reuasant dynnu tywys, a bwyt­ta.

2 A phan welodd y Phari­sæaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddiscyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllennasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd ag ef,

4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai oedd gyd ag ef, ond yn unic i'r offeiriaid?

5 Neu oni ddarllennasoch yn y gyfraith, fôd yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y Deml yn halogi y Sabbath, a'u bôd yn ddige­rydd?

6 Eithr yr ydwyf yn dywe­dyd i chwi fôd ymma un mwy nâ 'r Deml.

7 Ond pe gwybasech beth yw hyn, Trugaredd a ewylly­siaf, ac nid aberth, ni farna­sech chwi yn erbyn y rhai di­niwed.

8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd, yw Mâb y dŷn.

9 Ac wedi iddo ymadel oddi yno, efe a aeth i'w synagog hw­ynt.

10 Ac wele, yr oedd dŷn a chanddo law wedi gwywo: a hwy a ofynnasant iddo, gan ddy­wedydd, Ai rhydd jachau ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.

11 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa ddŷn o honoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sab­bath, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?

12 Pa faint gwell gan hynny y­dyw dŷn nâ dafad? felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sab­bathau.

13 Yna y dywedodd efe wrth y dŷn, Estyn dy law. Ac efe a'i he­stynnodd: a hi a wnaed yn iach fel y llall.

14 Yna 'r aeth y Pharisæaid a­llan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15 A'r Jesu gan wybod, a gili­odd oddi yno: a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hia­châodd hwynt oll;

16 Ac a orchymynnodd iddynt na wnaent ef yn gyhoedd.

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y pro­phwyd, gan ddywedyd,

18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais, fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy Yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r cenhedloedd.

19 Nid ymryson efe, ac ni le­fain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20 Corsen yssig ni's tyrr, a llîa yn mygu ni's di fydd: hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugo­liaeth.

21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y cenhedloedd.

22 Yna y ducpwyd atto un cy­threulig, dall, a mûd: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefaroddd, ac y gwelodd y dall ar mûd.

23 A'r holl dorfeydd a synna­sant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mâb Dafydd?

24 Eithr pan glybu y Phari­sæaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gyth reu­liaid, onid trwy Beelzebub pe­nnaeth y cythreuliaid.

25 A'r Jesu yn gwybod eu me­ddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pôb teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanne­ddir: a phôb dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26 Ac of Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei er­byn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27 Ac of trwy Beelzebub yr ydwyfi yn bwrw allan gythreuli­aid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farn­ŵyr arnoch chwi.

28 Eithr of ydwyfi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Yspryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.

29 Neu pa fodd y dichon nêb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr yspeilio ei ddodrefn ef, o­ddieithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn, ac yna yr yspeilia efe ei dŷ ef.

30 Y nêb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a'r nêb nid yw yn casclu gyd â mi, sydd yn gwa­scaru.

31 Am hynny y dywedaf wr­thych chwi, pôb pechod a cha­bledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Yspryd, ni faddeuir i ddynion.

32 A phwy bynnag a ddywe­do air yn erbyn Mâb y dŷn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd glan, ni's maddeuir iddo, nac yn y bŷd hwn, nac yn y bŷd a ddaw.

33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda: a'i gw­newch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.

34 Oh eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helae­thrwydd y galon y llefara y ge­nau.

35 Y dŷn da, o dryssor da y galon, a ddwg allan bethau da: a'r dŷn drwg, o'r tryssor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36 Eithr yr ydwyf yn dywe­dyd wrthych, mai am bôb gair segur a ddywedo dynion, y rho­ddant hwy gyfrif yn-nydd farn.

37 Canys wrth dy eiriau i'th gyfiawnhei [...], ac wrth dy eiriau i'th gondemnir.

38 Yna 'r attebodd rhai o'r Scrifennydion a'r Pharisæaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenny­chem weled arwydd gennit.

39 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd: ac arwydd ni's rhoddir i­ddi, onid arwydd y prophwyd Jo­nas.

40 Canys fel y bu Jonas dri­diau a thair nôs ym-mol y mor­fil, felly y bydd Mâb y dŷn dri­diau a thair nôs ynghalon y ddai­ar.

41 Gwŷr Ninife a gyfodant yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnant hi: am iddynt hwy edifarhau wrth bre­geth Jonas: ac wele fwy nâ Jonas ymma.

42 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemna hi: am i­ddi hi ddyfod o eithafoeddy ddai­ar, i glywed doethineb Solo­mon: ac wele fwy nâ Solomon ymma.

43 A phan êl yr Yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia ar hŷd lleoedd sychion, gan geisio gor­phwysdra, ac nid yw yn ei gael.

44 Yna medd efe, Mi a ddy­chwelaf im tŷ, o'r lle y daethym allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wâg, wedi ei yscubo, a'i drwsio.

45 Yna y mae efe yn myned, ac yn cymmeryd gyd ag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun: ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanneddant y­no: ac y mae diwedd y dŷn hwn­nw yn waeth nâ 'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedla­eth ddrwg hon.

46 Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn fefyll allan, yn cei­sio ymddiddan ag ef.

47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddi­ddan â thi.

48 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd [Page] wrth yr hwn a ddyweda­sei wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?

49 Ac efe a estynnodd ei law tu ag at ei ddiscyblion, ac a ddy­wedodd, Wele fy mam i, a'm bro­dyr i.

50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.

PEN. XIII.

1 Dammeg yr hau-wr, a'r hâd: 18 a'i ddeongliad. 24 Dammeg yr e­frau. 31 Yr hâd mwstard, 33 y surdoes, 44 y tryssor cuddiedig, 45 Y perl, 47 a'r rhwyd, 53 Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.

Y Dydd hwnnw yr aeth yr Je­su allan o'r tŷ, ac yr eiste­ddodd wrth lan y môr.

2 A thorfeydd lawer a ymgyn­nullasant atto ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd: a'r holl dyrfa a safodd ar y lan.

3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau drwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau.

4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd: a'r adar a ddaethant, ac a'i di­fasant.

5 Peth arall asyrthiodd ar greig­leoedd, lle ni chawsant fawr ddai­ar: ac yn y man yr eginasant, can nad oedd iddynt ddyfnder daiar.

6 Ac wedi codi 'r haul y poe­thasant, ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy y wywasant.

7 A pheth arall a syrth iodd ym-mhlith v drain: a'r drain a godasant ag a'u tagasant hwy.

8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tîr da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei driugeinfed, arall ar ei ddeg­fed ar hugain.

9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10 A daeth y discyblion, ac a ddywedasant wrtho, Pa ham yr wyti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?

11 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas ne­foedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.

12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie yr hyn sydd ganddo.

13. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhe­gion, canys a hwy yn gweled nid ydynt yn gweled, ac yn clywed nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14 Ac ynddynt hwy y cyflaw­nir prophwydoliaeth Esaias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan gly­wed y clywch, ac ni ddeellwch: ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.

15 Canys brassawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid: rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a throi, ac i mi eu hiachau hwynt.

16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bôd yn gwe­led: ach clustiau, am eu bôd yn clywed,

17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwennychu o lawer o brophwydi, a rhai cyfiawn, we­led y pethau a welwch chwi, ac ni's gwelsant: a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac ni's clywsant.

18 Gwrandewch chwithau gan hynny ddammeg yr hau-ŵr.

19 Pan glywo nêb air y deyr­nas, ac heb ei ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cippio 'r hyn a hauwyd yn ei galon ef: dymma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.

20 A'r hwn a hauwyd ar y creig-leoedd, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn ebrwydd drwy lawenydd yn ei dderbyn.

21 Ond nid oes ganddo wrei­ddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gor­thrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22 A'r hwn a hauwyd ym­mhlith y drain, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair: ac y mae go­fal y bŷd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu y gair, ac y mae yn my­ned yn ddiffrwyth.

23 Ond yr hwn a hauwyd yn y tîr da, yw 'r hwn sydd yn gwran­do y gair, ac yn ei ddeall: sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei driu­geinfed, arall ei ddegfed ar hu­gain.

24 Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes.

25 A thra yr oedd y dynion yn cyscu, daeth ei elyn ef, ac a hau­odd efrau ym-mhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dysu, a dwyn ffrwyth, yna 'r ymddango­sodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gŵr y tŷ a ddae­thant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae 'r efrau ynddo?

28 Yntef a ddywedodd wrth­ynt, Y gelyn ddŷn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wr­tho, A fynni di gan hynny i ni fyned, a'u casclu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, na fynnaf: rhag i chwi wrth gasclu 'r efrau, ddiwreiddio 'r gwenith gyd â hwynt.

30 Gadewch i'r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhaiaf: ac yn amser y cynhaiaf y dywedaf wrth y me­del-wŷr, Cesclwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ys­cubau, i'w llwyr-losci, ond ce­sclwch y gwenith i'm yscubor.

31 Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmerodd dŷn, ag a'i hauodd yn ei faes.

32 Yr hwn yn wîr sydd leiaf o'r holl hadau: ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren: fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas ne­foedd i sur-does, yr hwn a gym­merodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri phecceid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34 Hyn oll a lefarodd yr Jesu trwy ddamhegion wrth y tor­feydd: ac heb ddammeg ni lefa­rodd efe wrthynt:

35 Fel y cyflawnid yr hyn a [Page] ddywedpwyd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion: mynegaf be­thau cuddiedig er pan seiliwyd y bŷd.

36 Yna yr anfonodd yr Jesu y torfeydd ymmaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddiscyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr hâd da, yw Mâb y dŷn.

38 A'r maes yw 'r bŷd: a'r hâd da, hwynt hwy yw plant y deyr­nas: a'r efrau yw plant y drŵg.

39 A'r gelyn yr hwn a'u han­odd hwynt yw diafol: a'r cyn­hayaf yw diwedd y bŷd: a'r me­del-ŵyr yw 'r angelion.

40 Megis gan hynny y cyn­hullir yr efrau, ac a'u llwyr loscir yn tân, felly y bydd yn niwedd y bŷd hwn.

41 Mâb y dŷn a ddenfyn ei angelion, a hwy a gynhullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwy­ddiadau, a'r rhai a wnant anwi­redd.

42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

43 Yna y llewyrcha y rhai cy­fiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd. Yr hwn sydd ganddo glu­stiau i wrando, gwrandawed.

44 Drachcfn, cyffelyb yw teyr­nas nefoedd i dryssor wedi ei gu­ddio mewn maes, yr hwn wedi i ddŷn ei gaffael, a'i cuddiodd, ag o lawenydd am dano, sydd yn myned ymmaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw.

45 Drachefn, cyffelyb yw teyr­nas nefoedd i farchnatta-ŵr, yn ceisio perlau têg?

46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerth-fawr, a aeth, ac a werthodd gymmaint oll ac a feddei, ac a'i prynodd ef.

47 Drachefn, cyffelyb yw teyr­nas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasclodd o bôb rhyw beth:

48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r lan, ac a eistedda­sant, ac a gasclasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.

49 Felly y bydd yn niwedd y bŷd: yr angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn:

50 Ac a'i bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

51 Jesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do Arglwydd.

52 A dywedodd yntau wr­thynt, Am hynny pôb Scrifen­nydd wedi ei ddyscu i deyrnas ne­foedd, sydd debyg i ddŷn o ber­chen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i dryssor bethau newydd a hên.

53 A bu, wedi i'r Jesu orphen y dammhegion hyn: efe a yma­dawodd oddi yno.

54 Ac efe a ddaeth i'w wlâd ei hun, ac a'u dyscodd hwynt yn eu Synagog: fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hyn, a'r gweithre­doedd nerthol, i'r dyn hwn?

55 Ond hwn yw mâb y saer? ond Mair y gelwir ei fam ef, ac Jaco a Joses, a Simon, a Judas, ci fordyr ef?

56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Nid yw prophwyd heb an­rhydedd, ond yn ei wlâd ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58 Ac ni wnaeth efe nemmor o weithredoedd nerthol yno, ob­legid eu hanghrediniaeth hwynt.

PEN. XIV.

1 Tyb Herod am Grist. 3 Carchar Joan, a'i ddihenydd. 13 Yr Jesu yn ymado i le anial: 15 lle y mae ef yn porthi pum mîl o bobl â phum torth, ac â dau byscodyn: 22 yn rhodio ar y môr at ei ddiscyblion: 34 ac wedi tirio yn Genesareth yn iachâu y clei­fion a gyffyrddai ag ymyl ei wisc ef.

Y Pryd hynny y clybu Herod y Tetrarch sôn am yr Jesu.

2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Joan Fedyddi­ŵr: efe a gyfodes o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gwei­thio ynddo ef.

3 Canys Herod a ddaliasei Joan, ac a'i rhwymasei, ac a'i dodasei yngharchar, oblegid Herodias gwraig Philip ei frawd ef.

4 Canys Joan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlawn i ti ei chael hi.

5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyr­fa, canys hwy a'i cymmerent ef megis prophwyd.

6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fôdd Herod.

7 O ba herwydd efe a addawodd drwy lŵ, roddi iddi beth bynnag a ofynnei.

8 A hithau wedi ei rhag ddy­scu gan ei mam, a ddywedodd, dyro i mi ymma ben Joan Fedy­ddi-ŵr mewn dyscl.

9 A'r brenin a fu drist gan­ddo; eithr o herwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gyd ag ef wrth y sord, efe a orchymynnodd i roi ef iddi.

10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Joan yn y carchar.

11 A ducpwyd ei ben ef mewn dyscl, ac a'i rhoddwyd i'r llang­ces: a hi a'i dug ef i'w mam.

12 A'i ddiscyblion ef a ddae­thant, ac a gymerasant ei gorph ef, ag a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Jesu.

13 A phan glybu 'r Jesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong, i anghyfannedd le o'r naill tu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.

14 A'r Jesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr: ac a dosturi­odd wrthynt, ac efe a iachaodd eu cleision hwynt.

15 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddiscyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd anghy­fannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymmaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y pry­nont iddynt fwyd.

16 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Nid rhaid iddynt fyned ymmaith: rhoddwch chwi i­ddynt beth iw fwytta.

17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni ym­ma, onid pum torth, a dau by­scodyn.

18 Ac efe a ddywedodd, Dy­gwch hwynt ymma i mi.

19 Ac wedi gorchymmyn i'r torfeydd eistedd ar y gwellt glâs, a chymmeryd y pum torth a'r ddau byscodyn, efe a edrychodd i fynu tu a'r nêf, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y tor­thau i'r discyblion, a'r discyblion i'r torfeydd.

20 A hwynt oll a fwytâsant, ac a gwasant eu digon: ac a go­dasant o'r briw-fwyd oedd yng­weddill, ddeuddeg bascedaid yn llawn.

21 A'r rhai a fwyttasent, oedd ynghylch pum mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

22 Ac yn y fan y gyrrodd yr Jesu ei ddiscyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymmaith.

23 Ac wedi iddo ollwng y tor­feydd ymmaith, efe a escynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i we­ddio, Ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig.

24 A'r llong oedd weithian ynghanol y môr yn drallodus gan donnau. Canys gwynt gwrthwy­nebus ydoedd.

25 Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nôs, yr aeth yr Jesu attynt, gan rodio ar y môr.

26 A phan welodd y discyblion ef yn rhodio ar y môr, dychry­nafant, gan ddywedyd, Drychi­olaeth ydyw: a hwy a waedda­sant rhag ofn.

27 Ac yn y man y llefarodd yr Jesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch gyssur: myfi ydyw, nac ofnwch.

28 A Phetr a'i attebodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod attat ar y dyfroedd.

29 Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddescyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Jesu.

30 Ond pan welodd efe y gwynt yn grŷf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.

31 Ac yn y man yr estynnodd yr Jesu ei law, ac a ymaflodd yn­ddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, pa ham y petrusaist?

32 A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.

33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wîr Mâb Duw ydwyti.

34 Ac wedi iddynt fyned tro­sodd, hwy a ddaethant i dîr Gen­nesaret.

35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlâd honno o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn an-hwyl.

36 Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn unic ag ymyl ei wisc ef: a chynnifer ac a gyffyrddodd, a iachawyd.

PEN. XV.

1 Christ yn argyoeddi yr Scrifen­nyddion a'r Pharisæaid, am dorri gorchymynnion Duw trwy [Page] eu traddodiadau eu hunain: 11 yn dyscu nad yw y pêth sydd yn myned i mewn i r genau, yn halogi dyn: 21 yn iachau merth y wraig o Canaan, 30 a thor­foedd eraill lawer: 32 ac â saith dorth, ac ychydic byscod bychain, yn porthi pedair mîl o wyr, heb law gwragedd a phlant.

YNa 'r Scrifennyddion a'r Pha­risæaid, y rhai oedd o Jeru­salem, a ddaethant at yr Jesu, gan ddywedyd,

2 Pa ham y mae dy ddiscyblion di yn troseddu traddodiad yr hy­nafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwyttâont fara.

3 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, A pha ham yr ydych chwi yn troseddu gorchy­myn Duw, trwy eich traddodiad chwi.

4 Canys Duw a orchymyn­nodd, gan ddywedyd, Anrhyde­dda dy dâd, a'th fam: a'r hwn a felldithio dâd neu fam, lladder ef yn farw:

5 Eithr yr ydych chwi yn dy­wedyd, Pwy bynnag a ddywe­do wrth ei Dâd neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit lês oddi wrthifi, ac ni anrhy­deddo ei dâd neu ei fam, di-fai fydd.

6 Ac fel hyn y gwnaethoeh orchymmyn Duw yn ddi-rym, trwy eich traddodiad eich hun.

7 Oh ragrith-wŷr, da y pro­phwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd,

8 Nesau y mae y bobl hyn at­taf â'i genau, a'm anrhydeddu â'u gwefusau: a'u calon sydd bell oddiwrthif.

9 Eithr yn ofer i'm anrhyde­ddant i, gan ddyscu gorchymyn­nion dynion yn ddysceidiaeth.

10 Ac wedi iddo alw y dyrfa atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deellwch.

11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn ha­logi dŷn, ond yr hyn sydd yn dy­fod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dŷn.

12 Yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, A wyddosti ymrwystro o'r Phari­sæaid wrth glywed yr ymadrodd hyn?

13 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Pôb planhigyn yr hwn ni's plannodd fy Nhâd nefol, a ddiwreidir.

14 Gadewch iddynt: tywyso­gion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffôs.

15 A Phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon.

16 A dywedodd yr Jesu, A ydych chwithau etto heb ddeall?

17 Onid ydych chwi yn deall etto fôd yr hyn oll sydd yn my­ned i mewn i'r genau yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r gau-dy?

18 Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sy yn dyfod allan o'r galon, ar pethau hynny a ha­logant ddŷn.

19 Canys o'r galon y mae meddy­liau drwg yn dyfod allan, lladdi­adau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, cam-destiolaethau, cab­lau.

20 Dymma y pethau sy yn halo­gi dŷn: eithr bwytta â dwylo heb olchi, ni haloga ddŷn.

21 A'r Jesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthif, o Arglwydd, Fâb Dafydd, y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael.

23 Eithr nid attebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddiscyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.

24 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.

25 Ond hi a ddaeth, ac a'i ha­ddolodd ef, gan ddywedyd, Argl­wydd, cymmorth fi.

26 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd, Nid da cymmeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cŵn.

27 Hitheu a ddywedodd, Gwîr yw Arglwydd: canys y mae 'r cŵn yn bwytta o'r briwsion sy'n syr­thio oddi ar fwrdd eu harglwy­ddi.

28 Yna yr attebodd yr Jesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: byddyd i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.

29 A'r Jesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth ger llaw môr Galilæa: ac a escynnodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30 A daeth atto dorfeydd lawer, a chanddynt gyd â hwynt gloffion, deillion, mudion, ana­fusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Jesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt.

31 Fel y rhyfeddodd y tor­feydd, wrth weled y mudion yn dywedyd, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32 A galwodd yr Jesu ei ddi­scyblion atto, ac a ddywedodd, yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyd â mi dri-diau weithian, ac nid oes gan­ddynt ddim i'w fwytta: ac nid y­dwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymmaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.

33 A'i ddiscyblion a ddywe­dent wrtho, O ba le y caem ni gymmaint o fara yn y diffae­thwch, fel y digonid tyrfa gym­maint?

34 A'r Jesu a ddywedei wr­thynt, Pa sawl torth sydd gen­nych? A hwy a ddywedasant saith, ac ychydig byscod bychein.

35 Ac efe a orchymynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaiar.

36 A chan gymmeryd y saith dorth a'r pyscod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoes iw ddi­scyblion, a'r discyblion i'r dyrsa.

37 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a goda­sant o'r briw-fwyd oedd yngwe­ddill saith fascedaid yn llawn.

38 A'r rhai a fwyttasent, oedd bedair mil o wŷr, heb law gwra­gedd a phlant.

39 Ac wedi iddo ollwng y tor­feydd ymmaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.

PEN. XVI.

1 Y Pharisæaid yn gofyn arwydd. 6 Jesu yn rhybuddio ei ddiscyblion am lefain y Pharisæaid, a'r Sa­ducæaid.13 Tyb y bobl am Grist, 16 a chyffes Petr am dano. 21 Jesu yn rhag-fynegi ei farwola­eth, 23 yn ceryddu Petr am ei gynghori i'r gwrthwyneb: 24 Ac yn rhybuddio y sawl y fynnent ei ganlyn ef, ilddwyn y groes.

AC wedi i'r Pharisæaid a'r Sa­ducæaid ddyfod atto, a'i demptio, hwy a attolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nêf.

2 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Pan fyddo yr hwyr y dywedwch. Tywydd têg, can ys y mae 'r wybr yn gôch.

3 A'r boreu, Heddyw dryg-hîn: canys y mae 'r wybr yn gôch, ac yn bruddaid. O rhagrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ac oni fedrwch arwyddi­on yr amserau?

4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd, ac arwydd ni's rhoddir iddi, onid arwydd y prophwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymmaith,

5 Ac wedi dyfod ei ddiscybli­on ef i'r lan arall, hwy a ollynga­sent tros gôf gymmeryd bata cen­thynt.

6 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag sur-does y Pharisæaid, a'r Saducæaid.

7 A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywe­dyd, Hyn sydd am na chymmera­som fara cennym.

8 A'r Jesu yn gwybod, a ddywe­dodd wrthynt, Chwy-chwi o y­chydig ffydd, pa ham yr ydych yn ymresymmu yn eich plith eich hu­nain, am na chymmerasoch fara gyd â chwi?

9 Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum torth y pum-mil, a pha sawl bascedaid a gymmerasoch i fynu?

10 Na saith dorth y pedeir-mîl, a pha sawl cawelleid a gymmera­soch i fynu?

11 Pa fôdd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag sur-does y Pha­risæaid, a'r Saducæaid?

12 Yna y deallasant na ddywe­dasei efe am ymogelyd rhag sur­does bara, ond rhag athrawiaeth y Pharisæaid, a'r Saducæaid.

13 Ac wedi dyfod yr Jesu i dueddau Caesarea Philippi, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywcdyd fy môd i, Mâb y dŷn?

14 A hwy a ddywedasant, Rhai mai Joan Fedyddi-ŵr, a rhai mai Eliâs, ac eraill mai Jeremias, neu un o'r prophwydi.

15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyfi?

16 A Simon Petr a attebodd, ac a ddywedodd, Ti yw Crist, Mâb y Duw byw.

17 A'r Jesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fŷd ti Simon mâb Iona: canys nid cîg a gwaed a ddatcuddiodd hyn i ti, ond fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

18 Ac yr ydwyf finneu yn dy­wedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Egl­wys: a phyrth uffern ni's gorch­fygant hi.

19 A rhoddaf i ti agoriadau [Page] teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaiar a fydd rhwymedig yn y nefoedd: a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.

20 Yna y gorchymynnodd efe i'w ddiscyblion, na ddywedent i nêb mai efe oedd Jesu Grist.

21 O hynny allan y dechreu­odd yr Jesu ddangos i'w ddiscybli­on fôd yn rhaid iddo fyned i Je­rusalem, a dioddef llawer gan yr Henuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, a chy­fodi y trydydd dydd.

22 A Phetr, wedi ei gymme­ryd ef atto, a ddechreuodd ei ge­ryddu ef, gan ddywedyd, Argl­wydd trugarhâ wrthit dy hun; ni's bydd hyn i ti.

23 Ac efe a drôdd, ac a ddy­wedodd wrth Petr; Dôs yn fy ôl i, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synnied y pe­thau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.

24 Yna y dywedodd yr Jesu wrth ei ddiscyblion, os myn nêb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.

25 Canys pwy bynnag y ewy­llysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegit i, a'i caiff.

26 Canys pa lefâd i ddŷn os ynnill efe yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dŷn yn gefnewid am ei enaid?

27 Canys Mâb y dŷn a ddaw yngogoniant ei Dâd gyd â'i An­gelion, ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.

28 Yn wir y dywedaf wrthych, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll ymma a'r ni phrofant angeu, hyd oni welont Fâb y dŷn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

PEN. XVII.

1 Gwedd-newidiad Christ. 14 Y mae ef yn iachau y lloerig, 22 yn rhag-fynegi [...] ei ddioddefaint, 24 ac yn talu teyrnged.

AC yn ôl chwe diwrnod, y cym­merodd yr Jesu Petr, ac Jaco, ac Joan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel, o'r naill-tu.

2 A gwêdd-newidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddis­cleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned a'r goleuni.

3 Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosodd iddynt, yn ym­ddiddan ag ef.

4 A Phetr a attebodd, ac a ddy­wedodd wrth yr Jesu, O Argl­wydd, da yw i ni fod ymma: os ewyllysi, gwnawn ymma dair pa­bell: un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.

5 Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmwl goleu a'u cyscododd hwynt: ac wele lêf o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd: gw­randewch arno ef,

6 A phan glybu y discyblion hynny, hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddir­fawr.

7 A daeth yr Jesu, ac a gyffyr­ddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8 Ac wedi iddynt dderchafu eu llygaid, ni welsant nêb ond yr Jesu yn unic.

9 Ac fel yr oeddynt yn descyn o'r mynydd, gorchymynnodd yr Jesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni adgyfodo Mâb y dŷn o feirw.

10 A'i ddiscyblion a ofynna­sant iddo, gan ddywedyd, Pa ham gan hynny y mae 'r Scrifenny­ddion yn dywedyd, fôd yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf.

11 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bôb peth.

12 Eithr yr ydwyfi yn dywe­dyd i chwi ddyfod O Elias ensys, ac nad adnabuant hwy ef, ond gw­neuthur o honynt iddo beth byn­nag a fynnasant: felly y bydd he­fyd i Fâb y dŷn ddioddef gan­ddynt hwy.

13 Yna y deallodd y ddiscy­blion mai am Joan Fedyddiŵr y dywedasei efe wrthynt.

14 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth atto ryw ddŷn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

15 Ac a ddywedodd, Arglwydd trugarhâ wrth fy mâb, oblegid y mae efe yn lloerig ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, acyn y dwfr yn fynych.

16 Ac mi a'i dugym ef at dy ddiscyblion di,, ac ni allent hwy ei iachau ef.

17 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd, O genhedlaeth an­ffyddlon a throfaus, pa hyd y by­ddaf gyd â chwi? pa hyd y dio­ddefaf chwi? dygwch ef ymma at­tafi.

18 A'r Jesu a geryddodd y cy­thrael, ac efe a aeth allan o honaw: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.

19 Yna y daeth y discyblion at yr Jesu o'r nailltu, ac y ddyweda­sant. Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?

20 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Oblegid eich anghredini­aeth? canys yn wir y dywedaf i chwi, pe bai gennych ffydd megis gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddi ymma draw, ac efe a symmudai: ac ni bydd dim am­hossibl i chwi.

21 Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, onid trwy weddi ac ympryd.

22 Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilæa, dywedodd yr Je­su wrthynt, Mâb y dŷn a draddo­dir i ddwylo dynion:

23 A hwy a'i lladdant, a'r tty­dydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24 Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oedd yn der­byn arian y deyrn-ged, a ddae­thant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrn-ged?

25 Yntef a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Jesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cym­mer brenhinoedd y ddaiardeyrn­ged, neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?

26 Petr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Jesu a ddywe­dodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion.

27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dôs i'r môr, a bw­rw fâch a chymmer y pyscodyn a dd [...]l i fynu yn gyntaf: ac wedi i [Page] ti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymmer hwnnw, a dyro iddynt drosofi a thitheu.

PEN. XVIII.

1 Christ yn rhybuddio ei ddiscyblion, i fôd yn ostyngedic, ac yn ddini­wed; 7 i ochelyd rhwystrau, ac na ddirmygent yr rhai bychain: 15 yn dyscu pa fodd y mae i ni ymddwyn tuac at ein brodyr, pan wnelont i'n herbyn: 21 a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt: 23 yr hyn beth y mae yn ei osod allan drwy ddammeg y brenin a gym­merai gyfrif gan ei weision, 32 ac a gospodd yr hwn ni wnaethei drugaredd â'i gydymmaith.

AR yr awr honno y daeth y discyblion at yr Jesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2 A'r Jesu a alwodd atto sach­gennyn, ac a'i gosodes yn eu ca­nol hwynt,

3 Ac a ddywedodd, Yn wîr y dywedaf i chwi, oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgen­nyn hwn, hwnnw yw 'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.

6 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant y­nofi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.

7 Gwae 'r bŷd oblegid rhwy­strau: canys angenrhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae y dŷn hwnnw drwy 'r hwn y daw y rhwystr.

8 Am hynny, os dy law, neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r by­wyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennit ddwy law neu ddau dro­ed, dy daflu i'r tân tragywyddol.

9 Ac os dy lygad a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti yn un-llygeidiog fy­ned i mewn i'r bywyd, nag â dau lygad gennit, dy daflu i dân u­ffern.

10 Edrychwch na ddirmy­goch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd, bôb amser yn gweled wyneb fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

11 Canys daeth Mâb y dŷn i gadw yr hyn a gollasid.

12 Beth a dybygwch chwi? o bydd gan ddŷn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar ddispe­rod, oni âd efe yr amyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddis­perod?

13 Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno, mwy nag am yr amyn un cant, y rhai nid aethant ar ddisperod.

14 Felly nid yw ewyllys eich Tâd, yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli 'r un o'r rhai bychain hyn.

15 Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dôs, ac argyoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun: os efe a [Page] wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.

16 Ac os efe ni wrendy, cym­mer gyd â thi etto un neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dy­stion, y byddo pôb gair yn safa­dwy.

17 Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r Eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr Eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnic a'r Publican.

18 Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaiar, syddant wedi eu rhwymo yn y nêf: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaiar, a fyddant wedi eu rhyddau yn y nêf.

19 Trachefn meddaf i chwi, os cydsynnia dau o honoch ar y ddaiar, am ddim oll, beth bynnag a'r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.

20 Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21 Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm her­byn, ac y maddeuaf iddo? a'i hyd seith-waith?

22 Yr Jesu a ddywedodd wr­tho, Nid ydwyf yn dywedyd wr­thir, hyd seith-waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain seith­waith.

23 Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin, a synnei gael cyfrif gan ei weision.

24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddugpwyd atto un a oedd yn ei ddylêd ef o ddeng mil o da­lentau.

25 A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddei, a thalu 'r ddylêd.

26 A'r gwâs a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymar­hous wrthif, a mi a dalaf i ti y c wbl oll.

27 Ac Arglwydd y gwâs hwn­nw a dosturiodd wrtho; ac a'i go­llyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd.

28 Ac wedi myned o'r gwâs hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gyd-weifion, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llinda­godd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29 Yna y syrthiodd ei gyd­wâs wrth ei draed ef, ac a ymbili­odd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

30 Ac ni's gwnai efe: ond myned, a'i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalei yr hyn oedd ddy­ledus.

31 A phan weles ei gyd-wei­sion y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddae­thant, ac a fynegasant i'w har­glwydd yr holl bethau a fuasei.

32 Yna ei arglwydd, wedi ei a­lw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddylêd honno, am i ti ymbil â mi:

33 Ac oni ddylefit titheu dru­garhau wrth dy gyd-wâs, megis y trugarhêais inneu wrthit ti?

34 A'i Arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddes ef i'r poen-wŷr, hyd oni thalei yr hyn oll oedd ddyle­dus iddo.

35 Ac felly y gwna fy Nhâd nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bôb un i'w frawd eu camweddau.

PEN. XIX.

1 Crist yn iachau y cleifion: 3 yn atteb y Pharisæaid am Yscarieth: 10 yn dangos pa bryd y mae Pri­odas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dy­scu i'r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragwyddol, 21 ac i fôd yn berffaith: 23 yn dywedyd i'w ddiscyblion, mor anhawdd ydyw i'r goludoc fyned i mewn i deyr­nas Dduw, 27 ac yn addo gwobr i'r sawl a ymadawant â dim er mwyn ei ganlyn ef.

A Bu, pan orphennodd yr Je­su yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilæa, ac a dda­eth i derfynau Judæa, tu hwnt i'r Jorddonen.

2 A thorfeydd lawer a'i can­lynasant ef: ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

3 A daeth y Pharisæaid atto gan ei demptio, a dywedyd wrtho, Ai cyfiaithlawn i ŵr yscar â'i wraig am bôb achos?

4 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Oni ddarllen­nasoch i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechreu, eu gwneuthur hwy yn wrryw a benyw?

5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gâd dŷn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fy­ddant yn un cnawd.

6 O herwydd pa ham, nid y­dynt mwy yn ddau, onid yn un cnawd. Y peth gan hynny a gyssyll­todd Duw, nac yscared dŷn.

7 Hwythau a ddywedasant wr­tho, Pa ham gan hynny y gorchy­mynnodd Moses roddi llythyr y­scar, a'i gollwng hi ymmaith?

8 Yntef a ddywedodd wr­thynt, Moses o herwydd cale­drwydd eich calonnau, a odde­fodd i chwi yscar â'ch gwragedd: eithr o'r dechreu nid felly yr oedd.

9 Ac meddaf i chwi, pwy byn­nag a yscaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae yr hwn a briodo yr hon a yscarwyd, yn torri priodas.

10 Dywedodd ei ddiscyblion wrtho, Os felly y mae 'r a­chos rhwng gŵr a gwraig; nid da gwreica.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12 Canys y mae Eunuchiaid a aned felly o grôth eu mam: ac y mae Eunuchiaid a wnaed gan ddy­nion yn Eunuchiaid: ac y mae Eu­nuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn Eunuchiaid er mwyn teyr­nas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn derbynied.

13 Yna y dygpwyd atto blant bychain, fel y rhoddei ei ddwylo arnynt, ac y gweddiei: a'r discy­blion a'u ceryddodd hwynt.

14 A'r Jesu a ddywedodd, Ga­dewch i blant bychain, ac na wa­herddwch iddynt ddyfod attafi: canys eiddo y cyfryw rai yw teyr­nas nefoedd.

15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ym­maith oddi yno.

16 Ac wele, un a ddaeth, ac a [Page] ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fy­wyd tragywyddol?

17 Yntef a ddywedodd wrtho, Pa ham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, fef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw 'r gorchymynion.

18 Efe a ddywedodd wrtho yntef, Pa rai? A'r Jesu a ddywe­dodd, Na ladd, na odineba, na le­dratta, na ddwg gam dystiolaeth.

19 Anrhydedda dy dâd a'th fam, a Châr dy gymmydog fel di dy hun.

20 Y gŵr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuengtid: beth sydd yn eisieu i mi etto.

21 Yr Jesu a ddywedodd wr­tho, Os ewyllysi fôd yn berffaith, dôs; gwerth yr hyn sydd gennit, a dyro i'r tlodion: a thi a gei drys­sor yn y nêf: a thyred, canlyn fi.

22 A phan glybu y gŵr ieuangc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn ber­chen da lawer.

23 Yna y dywedodd yr Jesu wrth ei ddiscyblion, Yn wîr y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.

24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

25 A phan glybu ei ddiscybli­on ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fôd yn gadwedig?

26 A'r Jesu a edrychodd ar­nynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyd â dynion ammhossibl yw hyn, ond gyd â Duw pôb peth sydd bossibl.

27 Yna Petr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganly­nasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi y rhai a'm canlyna­soch i, yn yr adenedigaeth pan ei­steddo Mab y dŷn ar orsedd ei o­goniant, eistedd chwithau ar ddeu­ddeg gorsedd, yn barnu deuddeg­llwyth Israel.

29 A phôb un a'r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.

30 Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf: a'r rhai olaf yn flaenaf.

PEN. XX.

1 Crist trwy ddammeg y gweith­wyr yn y winllan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyled-wr i nêb: 17 yn rhag-fynegi ei ddio­ddefaint: 20 Trwy atteb i fam meibion Zebedaeus, yn dyscu iw ddiscyblion fôd yn ostyngedic: 30 ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.

CAnys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweith-wŷr i'w win­llan.

2 Ac wedi cyttuno â'r gweith­wŷr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w win-llan.

3 Ac efe a aeth allan ynghylch [Page] y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa:

4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.

5 A hwy a aethant ymmaith. Ac efe a aeth allan drachefn yng­hylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un môdd.

6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddêg, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddy­wedodd wrthynt, Pa ham y sef­wch chwi ymma ar hŷd y dydd yn segur?

7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd nêb nyni. Dywedodd yntef wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.

8 A phan aeth hi yn hwyr, ar­glwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliŵr, Galw 'r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai di­weddaf, hyd y rhai cyntaf.

9 A phan ddaeth y rhai a gy­flogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gwasant bôb vn gei­niog.

10 A phan ddaeth y rhai cyn­taf, hwy a dybiasant y caent fwy: a hwythau a gawsant bôb vn gei­niog.

11 Ac wedi iddynt gael, grwg­nach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ:

12 Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninneu, y rhai a ddygasom bwŷs y dydd a'r gwrês.

13 Yntef a attebodd, ac a ddy­wedodd wrth un o honynt, Y cy­faill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cyt­tunaist â mi?

14 Cymmer yr hyn sydd ei­ddot, a dôs ymmaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn, megis i titheu.

15 Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf a'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad ti yn ddrwg, am fy môd i yn dda?

16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17 Ac a'r Jesu yn myned i fynu i Jerusalem, efe a gymmerth y deuddeg discybl o'r nailltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt.

18 Wele, yr ydym ni yn my­ned i fynu i Jerusalem, a mâb y dŷn a draddodir i'r Archoffei­riaid a'r Scrifennyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth:

19 Ac a'i traddodant ef i'r cen­hedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.

20 Yna y daeth mam meibion Zebedaeus atto, gyd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhwy beth ganddo.

21 Ac efe a ddywedodd wrthi, pa beth a fynni? Dywedodd hi­theu wrtho, Dywed am gael o'm dau fâb hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law as­swy, yn dy frenhiniaeth.

22 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn, A ell­wch chwi yfed o'r cwppan yr yd­wyfi ar yfed o honaw, a'ch bedy­ddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

23 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Diau yr yfwch o'm cwp­pan, ac i'ch bedyddir â'r bedydd i'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid eiddof ei roddi, ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhâd.

24 A phan glybu y dêg hyn hwy a sorrasant wrth y ddau fro­dyr.

25 A'r Jesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wy­ddoch fôd pennaethiaid y cen­hedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra­awdurdodi arnynt hwy.

26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fôd yn fawr yn eich plith chwi bydded yn wenidog i chwi.

27 A phwy bynnag a fynno fôd yn bennaf yn eich plith, bydded yn wâs i chwi.

28 Megis na ddaeth Mâb y dŷn i'w wasanaethu, ond i wasana­ethu, ac i roddi ei einioes yn brid­werth dros lawer.

29 Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.

30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glyw­sant fôd yr Jesu yn myned heibio, a lefasant gan ddywedyd, Ar­glwydd, fâb Dafydd, trugarhâ wrthym.

31 A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent, hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fâb Dafydd, trugarhâ wrthym,

32 A'r Jesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, pa beth a ewyllysiwch ei wneu­thur o honof i chwi?

33 Dywedasant wrtho, Ar­glwydd; agoryd ein llygaid ni.

34 A'r Jesu a dosturiodd wr­thynt, ac a gyffyrddodd â'u lly­gaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlyna­sant ef.

PEN. XXI.

1 Grist yn marchogaeth ar assyn i Jerusalem, 12 yn gyrru y pryn­wyr a'r gwerthwyr o'r Deml, 17 yn melltithio y ffigys-bren, 23 yn gostegu yr offeiriaid a'r henuriaid, 28 ac yn eu ceryddu trwy gyffe­lybrwydd y ddau fâb, 35 a'r lla­fur-wyr a laddasant y rhai a an­fonwyd attynt.

A Phan ddaethant yn gyfagos i Jerusalem, a'u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr ole­ŵydd, yna yr anfonodd yr Jesu ddau ddiscybl:

2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cy­fer, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym, ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt a dygwch attafi.

3 Ac of dywed nêb ddim wr­thych, dywedwch, Y mae 'n rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.

4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd,

5 Dywedwch i ferch Sion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol llwdn assyn arferol â'r iau.

6 Y discyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynnasei 'r Jesu iddynt.

7 A hwy a ddygasant yr assyn a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i ei­stedd ar hynny.

8 A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd: eraill a dor­rasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u tanasant ar hyd y ffordd.

9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddy­wedyd, Hosanna i fâb Dafydd, Bendigedig yw 'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd, Ho­sanna yn y goruchafion.

10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?

11 A'r torfeydd a ddyweda­sant, Hwn yw Jesu y prophwyd o Nazareth yn Galilæa.

12 A'r Jesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml: ac a ddymch­welodd i lawr fyrddau y newid­wŷr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommennod.

13 Ac a ddywedodd wrthynt, Scrifennwyd, Tŷ gweddi y gel­wir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

14 A daeth y deillion a'r cloff­ion atto, yn y Deml, ac efe a'u iachaodd hwynt.

15 A phan welodd yr Arch­offeiriaid a'r Scrifennyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fâb Dafydd, hwy a lidiasant?

16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Yd­wyf. Oni ddarllennasoch chwi erioed, O enau plant bychain, a rhai yn sugno, y perffeithiaist fo­liant?

17 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas, i Be­thania, ac a letteuodd yno.

18 A'r boreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.

19 A phan welodd efe ffigys-bren ar y ffordd, efe a ddaeth at­to, ac ni chafodd ddim arno, onid dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigys-bren.

20 A phan welodd y discybli­on, hwy a ryfeddasant, gan ddy­wedyd, Mor ddisymmwth y cri­nodd y ffigys-bren?

21 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir me­ddaf i chwi, of bydd gennych ffydd, ac heb ammau, ni wne­wch yn unig hyn a wnaethym i'r ffigys-bren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i'r môr, hynny a fydd.

22 A pha beth bynnag a ofyn­noch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.

23 Ac wedi ei ddyfod ef i'r Deml, yr Arch-offeiriaid a He­nuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr aw­durdod hon?

24 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Minneu a ofynnaf i chwithau un 'gair, yr [Page] hwn os mynegwch i mi, minneu a fynegaf i chwithau drwy ba aw­durdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25 Bedydd Joan, ò ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef: efe a ddy­wed wrthym, Pa ham gan hynny na's credasoch ef?

26 Ond os dywedwn, O ddy­nion: y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymmeryd Joan megis prophwyd.

27 A hwy a attebasant i'r Jesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntef a ddywedodd wr­thynt, Nid wyf finneu yn dy­wedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fâb, ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywe­dodd, fy mâb, dôs, gweithia he­ddyw yn fy ngwinllan.

29 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Nid âf. Ond wedi hynny efe a edifarhaodd ac a aeth.

30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Myfi a âf Arglwydd, ac nid aeth efe.

31 Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant wr­tho, Y cyntaf. Yr Jesu a ddywe­dodd wrthynt, Yn wîr meddaf i chwi, yr â'r publicanod a'r put­teinieid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.

32 Canys daeth Joan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chre­dasoch ef: ond y Publicanod a'r putteiniaid a'i cradasant ef: chwi­thau yn gweled nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33 Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddŷn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a oso­dodd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi win-wrŷf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-wŷr, ac â aeth oddi cartref.

34 A phan nessaodd amser ffrwy­thau, efe a ddanfonodd ei weisi­on at y llafur-wŷr, i dderbyn ei ffrwythau hi.

35 A'r llafur-wŷr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a laby­ddiasant.

36 Trachefn efe a anfonodd weision eraill fwy nâ'r rhai cyn­taf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.

37 Ac yn ddiweddaf oll efe a anfonodd attynt ei fâb ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i.

38 A phan welodd y llafur-wŷr y mâb, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, hwn yw'r etifedd; deuwch lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.

39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r win­llan, ac a'i lladdasant.

40 Am hynny pan ddêl argl­wydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hynny?

41 Hwy a ddywedasant wr­tho, Efe a ddifetha yn llwyr y dy­nion drwg hynny, ac a esyd y win­llan i lafur-wŷr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.

42 Yr Jesu a ddywedodd wr­thynt, Oni ddarllennasoch chwi erioed yn yr Scrythyrau? Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein go­lwg ni.

43 Am hynny meddaf i chwi, y dygir teyrnas Dduw oddi ar­noch chwi, ac a'i rhoddir i ge­nedl a ddygo ei ffrwythau.

44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.

45 A phan glybu 'r Arch-offei­riaid a'r Pharisæaid ei ddamhe­gion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.

46 Ac a hwy yn ceisio ei dda­la, hwy a ofnasant y torfeydd, am eu bôd yn ei gymmeryd ef fel pro­phwyd.

PEN. XXII.

1 Dammeg priodas mâb y brenin. 9 Galwedigaeth y Cenhedloedd. 12 Cospedigaeth yr hwn nid oedd gan­ddo y wisc briodas.15 Ydylid ta­lu teyrnged i Cesar. 23 Crist yn cau safnau y Saducæaid ynghylch yr adgyfodiad, 34 yn atteb y Cy­freithiwr, pa un yw yr gorchym­myn cyntaf, a'r mawr: 41 ac yn holl y Pharisæaid ynghylch y Messias.

A'R Jesu a attebodd, ac a lefa­roddwrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd,

2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i'w fâb:

3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid ir brio­das, ac ni fynnent hwy ddyfod.

4 Trachefn efe anfonodd wei­sion eraill, gan ddywedyd, Dy­wedwch wrth y rhai a waho­ddwyd, Wele, paratoais fy nghi­nio, fy ychen a'm pascedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod, deuwch i'r briodas.

5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, un i'w faes, ac arall i'w fasnach.

6 A'r llaill, a ddaliasant ei wei­sion ef, ac a'u hammharchasant, ac a'u lladdasant.

7 A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd eu luo­edd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt.

8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.

9 Ewch gan hynny i'r prif­ffyrdd, a chynnifer ac a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas.

10 A'r gweision hynny a aeth­ant allan i'r prif-ffyrdd, ac a gas­clasant ynghŷd gynnifer oll ac a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.

11 A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigi­on, efe a ganfu yno ddŷn heb wisc priodas am dano.

12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma, heb fod gennit wisc priodas? Ac yntef a aeth yn fud.

13 Yna y dywedodd y brenin wrth y gwenidogion, Rhwym­wch ei draed a'i ddwylo, a chym­merwch ef ymmaith, a thefl wch [Page] i'r tywillwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

14 Canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

15 Yna 'r aeth y Pharisæaid ac a gymmerasant gyngor, pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.

16 A hwy a ddanfonasant atto eu discyblion ynghŷd a'r He­rodianiaid, gan ddywedyd, A­thro, ni a wyddom dy fôd yn eir­wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyti yn edrych ar wyneb dy­nion.

17 Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied: ai cy­freithlawn rhoddi teyrnged i Cæ­sar, ai nid yw?

18 Ond yr Jesu a wybu eu dry­gioni hwy, ac a ddywedodd, Pa ham yr ydych yn fy nhemptio i, chwi ragrith-wŷr?

19 Dangoswch i mi arian y deyrn-ged. A hwy a ddygasant atto geiniog.

20 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph?

21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cæsar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw.

22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adel ef, a myned ymmaith.

23 Y dydd hwnnw y daeth at­to y Saducæaid, y rhai sy 'n dy­wedyd nad oes adgyfodiad, ac a ofynnasant iddo,

24 Gan ddywedyd, Athro, dy­wedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded hâd i'w frawd.

25 Ac yr oedd gyd â ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw: ac efe heb hi­liogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.

26 Felly hefyd yr ail, a'r try­dydd, hyd y seithfed.

27 Ac yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd.

28 Yn yr adgyfodiad gan hyn­ny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a'i caw­sant hi.

29 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr y­dych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr Scrythyrau, na gallu Duw.

30 Oblegid yn yr adgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra: eithr y maent fel angelion Duw yn y nef.

31 Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllennasoch yr hyn a ddy­wedpwyd wrthych gan Dduw, yn dywedyd,

32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.

33 A phan glybu y torfeydd hynny, hwy a synnasant wrth ei athrawiaeth ef.

34 Ac wedi clywed o'r Phari­sæaid ddarfod i'r Jesu ostegu y Saducæaid, hwy a ymgynnulla­sant ynghyd i'r un lle.

35 Ac un o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo gan ei demtio, a dywedyd.

36 Athro, pa un yw 'r gorchy­myn mawr yn y gyfraith?

37 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th [Page] holl enaid, ac â'th holl feddwl.

38 Hwn yw 'r cyntaf, a'r gor­chymyn mawr.

39 A'r ail sydd gyffelyb i­ddo, Câr dy gymydog fel ti dy hun.

40 Ar y ddau orchymyn hyn, y mae 'r holl gyfraith a'r proph­wydi yn sefyll.

41 Ac wedi ymgasclu o'r Pha­risæaid ynghŷd, yr Jesu a ofyn­nodd iddynt,

42 Gan ddywedyd, Beth a dy­bygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedent wrtho, Mâb Dafydd.

43 Dywedai yntef wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Argl­wydd? gan ddywedyd,

44 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu-law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th dra­ed ti.

45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo?

46 Ac ni allodd neb atteb gair iddo: ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ac ef mwyach.

PEN. XXIII.

1 Christ yn rhybuddio y bobl i ddi­lyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr Scrifen­nyddion a'r Pharisæaid. 5 Rhaid i ddiscyblion Christ ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a'i dallineb hwy, 34 ac yn prophwydo dinistr Jeru­saelem.

YNa y llefarodd yr Jesu wrth y torfeydd a'i ddiscyblion,

2 Gan ddywedyd, Ynghadair Moses yr eistedd yr Scrifenny­ddion a'r Pharisæaid.

3 Yr hyn oll gan hynny a ddy­wedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch, eithr ar ôl eu gweithredoedd na wnewch, ca­nys dywedant ac ni's gwnânt.

4 Oblegid y maent yn rhwy­mo beichiau trymion, ac an­hawdd eu dwyn, ac yn eu gosod ar yscwyddau dynion: ond ni ewyllysiant eu syflyd hwy, ag un o'i bysedd.

5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymyl-waith eu gwiscoedd yn he­laeth.

6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif-ga­deiriau yn y Synagogau.

7 A chyfarch yn y marchnado­edd, a'u galw gan ddynion Rabbi, Rabbi.

8 Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich athro chwi sef Christ: chwithau oll brodyr ydych.

9 Ac na elwch neb yn dâd i chwi ar y ddaiar: canys un Tûd sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.

10 Ac na'ch galwer yn athra­won: canys un yw eich athro chwi, sef Christ.

11 A'r mwyaf o honoch, a fydd yn weinidog i chwi.

12 A phwy bynnag a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a dderche­fir.

13 Eithr gwae chwi Scrifen­nyddion a Pharisæaid ragrith­wŷr, canys yr ydych yn cau teyr­nas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sy yn myned i mewn, ni's gadewch i fyned i mewn.

14 Gwae chwi Scrifenny­ddion a Pharisæaid ragrithwŷr, canys yr ydych yn llwyr-fwyt­ta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddio: am hynny y derbyniwch farn fwy.

15 Gwae chwi Scrifennyddi­on a Pharisæaid ragrith-wŷr, ca­nys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur un proselyt: ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fâb uffern, yn ddau mwy nâ chwi eich hunain.

16 Gwae chwi dywysogion deillion, y rhai ydych yn dywe­dyd, Pwy bynnag a dwng ir Deml, nid yw ddim: ond pwy bynnag a dwng i aur y Deml, y mae efe mewn dyled.

17 Ffyliaid a deillion: canys pa un sydd fwyaf? yr aur, ai'r Deml sydd yn sancteiddio 'r aur?

18 A phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim: ond pwy byn­nag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dylêd.

19 Ffyliaid a deillion: canys pa un fwyaf? y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteidio y rhodd?

20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.

21 A phwy bynnag a dwng i'r Deml, sydd yn tyngu iddi: ac i'r hwn sydd yn preswylio yn­ddi:

22 A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orsedd-faingc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.

23 Gwae chwi Scrifenny­ddion a Pharisæaid ragrith­wŷr, canys yr ydych yn de­gymmu y mintys, a'r anys, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymmach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd wneuthur y pethau hyn, ac na adcwid y lleill hei­bio.

24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyngcu camel.

25 Gwae chwi Scrifennyddi­on a Pharisæaid ragrith-wŷr, ca­nys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o draw­sedd, ac anghymedroldeb.

26 Ti Pharisæaid dall, glanhâ yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i'r cwppan a'r ddyscl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi a­llan iddynt.

27 Gwae chwi Scrifennyddi­on a Pharisæaid ragrith-wŷr, ca­nys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn dêg oddi-llan, ond oddi mewn sydd yn llawn o e­scyrn y meirw, a phôb aflendid.

28 Ac felly chwithau oddi a­llan ydych yn ymddangos i ddy­nion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith, ac an­wiredd.

29 Gwae chwi Scrifennyddi­on a Pharisæaid ragrith-wŷr, ca­nys yr ydych yn adeiladu beddau 'r prophwydi, ac yn addurno be­ddau y rhai cyfiawn:

30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfrannogion â hwynt yngwaed y prophwydi.

31 Felly yr ydych yn tystiola­ethu am danoch eich hunain, eich bôd yn blant i'r rhai a ladda­sant y prophwydi.

32 Cyflawnwch chwithau he­fyd fesur eich tadau.

33 Oh seirph, hiliogaeth gwi­berod, pa fodd y gellwch ddiangc rhag barn uffern?

34 Am hynny wele yr ydwyf yn anfon attoch brophwydi, a do­ethion, ac Scrifennyddion: a rhai o honynt a leddwch, ac a groes­hoeliwch, a rhai o honynt a ffre­wyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref:

35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn, a'r a ollyngwyd ar y ddaiar, o waed Abel gyfi­awn, hyd waed Zacharias fâb Bara­chias, yr hwn a laddasoch rhwng y Deml a'r allor.

36 Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.

37 Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwy­di, ac yn llabyddio y rhai a ddan­fonyr attat, pa sawl gwaith y myn­naswn gasclu dy blant ynghŷd, megis y cascl iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's myn­nech?

38 Wele, yr ydys yn gadel eich tŷ i chwi yn anghyfannedd.

39 Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch yn ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

PEN. XXIV.

1 Crist yn rhag ddywedyd dinistr y Deml, 3 pa fâth, a phâ faint o gystuddiau a fydd o'r blaen. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn, 36 ac o ran bôd y dydd a'r awr yn anhyspys, 42 y dylem ni wi­lied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.

A'R Jesu a aeth allan, ac a y­madawodd o'r deml: a'i ddiscyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau y Deml.

2 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Oni welwch chwi hyn oll, yn wîr meddaf i chwi; ni adewir ymma garreg ar garreg, a'r ni ddattodir.

3 Ac efe yn eistedd ar fynydd yr olewydd, y discyblion a ddae­thant atto o'r naill tu, gan ddy­wedyd, Mynega i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd sydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y bŷd.

4 A'r Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.

5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, myfi yw Christ; ac a dwyllant lawer.

6 A chwi a gewch glywedd am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi; ca­nys rhaid yw bôd hyn oll: eithr nid yw y diwedd etto.

7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyr­nas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daiar-grynfaau, mewn mannau.

8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll.

9 Yna i'ch traddodant chwi [Page] i'ch gorthrymmu, ac a'ch lla­ddant, a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd, er mwyn fy enw i.

10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y ca­sânt ei gilydd.

11 A gau brophwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.

12 Ac o herwydd yr amlhâ anwired, fe a oera cariad llawer.

13 Eithr y neb a barhâo hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwe­dig.

14 A'r Efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy 'r holl fŷd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.

15 Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddy­wedpwyd trwy Ddaniel bro­phwyd, yn sefyll yn y le san­ctaidd, (y neb a ddarllenno ysty­ried.)

16 Yna y rhai a fyddant yn Ju­dæa, ffoant i'r mynyddoedd.

17 Y neb a fyddo a'r ben y tŷ, na ddiscynned i gymmeryd dim allan o'i dŷ.

18 A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ol, i gym­meryd ei ddillad.

19 A gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

20 Eithr gweddiwch na byddo eich ffoedigaeth y gaiaf, nac ar y dydd Sabbath.

21 Canys y prŷd hynny y bydd gorthrymder mawr, y fâth ni bu o ddechreu y bŷd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.

22 Ac oni bai fyrrhau y dy­ddiau hynny, ni buasei gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrrheir y dyddi­au hynny.

23 Yna os dywed nêb wr­thych, Wele llymma Grist, neu llymma: na chredwch.

24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion, a rhyfeddo­dau, hyd oni thwyllant, pe byddei bossibl ie yr etholedigion.

25 Wele, rhag ddywedais i chwi.

26 Am hynny os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffaethwch, nac ewch allan, Wele, yn yr stafelloedd: na chre­dwch.

27 Oblegid fel y daw y fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin, felly hefyd y bydd dy­fodiad Mâb y dŷn.

28 Canys pa le bynnag y by­ddo y gelain, yno 'r ymgascl yr eryrod.

29 Ac yn y fan, wedi gor­thrymder y dyddiau hynny y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nêf, a nerthoedd y nefoedd a ys­gydwir.

30 Ac yna yr ymddengys ar­wydd Mâb y dŷn yn y nêf: ac yna y galara holl lwythau 'r ddaiar, a hwy a welant Fâb y dŷn yn dy­fod ar gymmylau 'r nêf, gyd â nerth a gogoniant mawr.

31 Ac efe a ddenfyn ei Angeli­on â mawr sain ud-corn: a hwy a gasclant ei etholedigion ef y­nghŷd, o'r pedwar gwynt, o ei­thafoedd y nefoedd, hyd eu hei­thafoedd hwynt.

32 Ond dyscwch ddammeg o­ddiwrth y ffigysbren: pan yw [Page] ei gangen eusys yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fôd yr hâf yn agos:

33 Ac felly chwithau, pan we­loch hyn oll, gwybyddwch ei fôd yn agos, wrth y drysau.

34 Yn wir meddaf i chwi, nid â y genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.

35 Nêf a daiar a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.

36 Ond am y dydd hwnnw a'r awr, ni's gŵyr neb, nac An­gelion y nefoedd, onid fy Nhâd yn unig.

37 Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.

38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymmlaen y diluw, yn bwytta, ac yn yfed, yn priodi, ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch:

39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y diluw, a'u cymmeryd hwy oll ymmaith: felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.

40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymmerir, a'r llall a a­dewir.

41 Dwy a fydd yn malu mewn melin: un a gymmerir, a'r llall a adewir.

42 Gwiliwch gan hynny, am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.

43 A gwybyddwch hyn, pe gwybasei gŵr y tŷ pa wiliadw­riaeth y deuai y lleidr, efe a wi­liasei, ac ni adawsei gloddio ei dŷ trwodd.

44 Am hynny byddwch chwi­thau barod: canys yn yr awr ni thybioch, y daw Mâb y dŷn.

45 Pwy gan hynny sydd wâs ffyddlon a doeth, yr hwn a oso­dodd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?

46 Gwyn ei fŷd y gwâs hwn­nw, yr hwn y caiff ei arglwydd es pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47 Yn wîr meddaf i chwi, ar ei holl dda y gesyd efe ef.

48 Ond os dywed y gwâs drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy ar­glwyd yn oedi dyfod.

49 A dechreu curo ei gŷd wei­sion, a bwytta ac ysed gyd â'r me­ddwon:

50 Arglwydd y gwâs hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwil am dano, ac mewn awr ni's gŵyr efe:

51 Ac efe a'i gwahana ef, ac a e­syd ei ran ef gyd â'r rhagrith wyr: yno y bydd wylofain, a rhingcian danned.

PEN. XXV.

1 Dammeg y dêc morwyn, 14 a'r Talentau, 31 a dull y farn ddi­weddaf.

YNa tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forwynion, y rhai a gymmerasant eu lampau, ac a ae­thant allau i gyfarfod â'r priod­fâb,

2 A phump o honynt oedd gall, a phump yn ffôl.

3 Y rhai oedd ffôl a gymmera­sant eu lampau, ac ni chymmera­sant olew gyd â hwynt:

4 A'r rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri, gŷd â'u lampau.

5 A thra 'r oedd y priod-fâb yn aros yn hir, yr hepiasant oll, ac yr hunasant.

6 Ac ar hanner nôs y bu gwa­edd, Wele, y mae y priod-fâb yn dyfod, ewch allan i gyfarfod ag ef.

7 Yna y cyfododd yr holl for­wynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau.

8 A'r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi, canys y mae ein lampau yn diffoddi.

9 A'r rhai call a attebasant, gan ddywedyd, Rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwer­thu, a phrynwch i chwi eich hu­nain.

10 A thra 'r oeddynt yn my­ned ymmaith i brynu, daeth y priod-fâb: a'r rhai oedd barod a aethant i mewn gyd ag ef i'r brio­das, a chaewyd y drŵs.

11 Wedi hynny y daeth y mor­wynion eraill hefyd, gan ddywe­dyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.

12 Ac efe a attebodd ac a ddy­wedodd, Yn wîr meddaf i chwi, nid adwaen chwi.

13 Gwiliwch gan hynny, am na wydd och na'r dydd na'r awr y daw Mâb y dŷn.

14 Canys fel dŷn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda at­tynt:

15 Ac i un y rhoddes efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un: i bôd un yn ôl ei allu ei hun: ac yn y fan, efe a aeth oddi car­tref.

16 A'r hwn a dderbyniasei y pum talent, a aeth, ac a farch nat­aodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill.

17 A'r un môdd yr hwn a dderbyniasei y ddwy, a ennillodd yntef ddwy eraill.

18 Ond yr hwn a dderbyniasei un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaiar, ac a guddiodd arian ei ar­glwydd.

19 Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hyn­ny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt.

20 A daeth yr hwn a dderby­nniasei bum talent, ac addug bum talent eraill, gan ddywedyd, Ar­glwydd, pum talent a roddaist at­taf: wele, mi a ennillais bum ta­lent eraill attynt.

21 A dywedodd ei Arglwydd wrtho. Da, wâs da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dôs i mewn i la­wenydd dy arglwydd.

22 A'r hwn a dderbyniasei ddwy dalent, a ddaeth, ac a ddy­wedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist attaf: wele, dwy eraill a ennillais attynt.

23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, wâs da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi ath osodaf ar lawer: dôs i mewn i la­wenydd dy arglwydd.

24 A'r hwn a dderbyniasei 'r un talent, a ddaeth, ac a ddywe­dodd, Arglwydd, mi a'th adwa­enwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle ni's hauaist, ac yn ca­sclu lle ni wasceraist:

25 Ac mi a ofnais, ac a aethym, ac a guddiais dy dalent yn y ddai­ar: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.

26 A'i arglwydd a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, O wâs drwg, a diog, ti a wyddit fy môd yn [Page] medi lle ni's hauais, ac yn casclu lle ni's gwascerais:

27 Am hynny y dylesit ti ro­ddi fy arian at y cyfnewid-wŷr, a mi pan ddaethwn, a gawswn dder­byn yr eiddof fy hun, gyd â llôg.

28 Cymmerwch gan hynny y talent oddi wrtho, a rhoddwch i'r hwn sydd ganddo ddeg talent.

29 (Canys i bob un y mae gan­ddo y rhoddir, ac efe a gaiff hela­ethrwydd: ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie yr hyn sydd ganddo.)

30 A bwriwch allan y gwâs an­fuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain, a rhingcian dan­nedd.

31 A Mâb y dŷn pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl Angelion sanctaidd gŷd ag ef, yna yr ei­stedd ar orsedd-faingc ei ogoniant.

32 A chyd-gesclir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gi­lydd, megis y didola y bugail y defaid oddi wrth y geifr:

33 Ac a esyd y defaid ar ei dde­heu-law, ond y geifr ar yr asswy.

34 Yna y dywed y Brenin wrth y' rhai ar ei ddeheu-law, Deuwch chwi fendigedigion fy-Nhâd, etifeddwch y deyrnas a ba­ratowyd i chwi er seiliad y bŷd.

35 Canys bum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch i mi ddiod: bum ddieithr, a dyga­soch fi gŷd â chwi:

36 Noeth, a dilladasoch fi: bum glaf, ac ymwelsoch â mi: bum yngharchar, a daethoch at­taf.

37 Yna yr ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i'th welsom yn newynog, ac i'th borthasom? neu yn sy­chedig, ac y rhoesom i ti ddiod?

38 A pha brŷd i'th welsom yn ddieithr, ac i'th ddygasom gyd â ni? neu yn noeth, ac i'th ddilla­dasom?

39 A pha brŷd i'th welsom yn glaf, neu yngharchar, ac y dae­thom attat?

40 A'r Brenin a ettyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneu­thur o honoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr-lleiaf, i mi y gwnae­thoch.

41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, Ewch oddi wrthif rai melldige­dic i'r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol, ac iw an­gylion.

42 Canys bum newynog, ac ni roesoch i mi swyd: bu ar­naf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:

43 Bum ddieithr, ac ni'm dy­gasoch gyd â chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glâf, ac ynghar­char, ac ni ymwelsoch â mi.

44 Yna yr attebant hwythau he­fyd iddo, gan ddywedyd, Argl­wydd, pa brŷd i'th welsom yn ne­wynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yngharchar, ac ni weina­som i ti?

45 Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i'r un o'r rhai lleiaf hyn, ni's gw­naethoch i minneu.

46 A'r rhai hyn a ânt i gospe­digaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.

PEN. XXVI.

1 Y llywodraeth-wyr yn cyd-fwria­du yn erbyn Christ. 6 Y wraig yn enneinio ei draed ef. 14 Ju­das yn ei werthu ef. 17 Christ yn bwytta y Pasc: 26 yn ordeinio ei swpper sanctaidd: 36 yn gwe­ddio yn yr ardd: 47 ac wedi ei fradychu â chusan, 57 yn cael ei arwain at Caiaphas, 69 a'i wadu gan Petr.

A Bu wedi i'r Jesu orphen y geiriau hyn oll, efe a ddy­wedodd wrth ei ddiscyblion.

2 Chwi a wyddoch mai gwedi deu-ddydd y mae 'r Pâsc, a Mâb y dŷn a draddodir i'w groes-hoe­lio.

3 Yna yr ymgasclodd yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas:

4 A hwy a gyd-ymgynghora­sant fel y dalient yr Jesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.

5 Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bôd cynnwrf ym-mhlith y bobl.

6 Ac a'r Jesu yn Bethania, yn nh ŷ Simon y gwahan-glwy­fus,

7 Daeth atto wraig a chenddi flŵch o ennaint gwerth-fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.

8 A phan welodd ei ddiscybli­ch, hwy a sorrasant, gan ddywe­dyd, I ba beth y bu y golled hon.

9 Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a'i ro­ddi i'r tlodion.

10 A'r Jesu a wybu, ac a ddy­wedodd wrthynt, Pa ham yr y­dych yn gwneuthur blinder i'r wraig? cany [...] hi a weithiodd wei­thred dda arnaf.

11 Oblegid y mae gennych y tlodion bôb amser gŷd â chwi: a mi nid ydych yn ei gael bôb amser.

12 Canys hi yn tywallt yr en­naint hwn ar fy nghorph, a wna­eth hyn i'm claddu i.

13 Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon yn yr holl fŷd mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi.

14 Yna 'r aeth un o'r deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr Arch-offeiriaid,

15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, ac mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.

16 Ac o hynny allan y ceisi­odd efe amser cyfaddas i'w fra­dychu ef.

17 Ac ar y dydd cyntaf o wŷl y bara croyw, y discyblion a ddae­thant at yr Jesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwytta 'r Pâsc.

18 Ac yntef a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae 'r A­thro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyd â thi y cynhaliaf y Pâsc, mi a'm discyblion.

19 A'r discyblion a wnaethant y modd y gorchymynnasei 'r Jesu iddynt, ac a baratoesant y Pâsc.

20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyd â'r deuddeg,

21 Ac fel yr oeddynt yn bwyt­ta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un o honoch chwi a'm bradycha i.

22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bôb un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?

23 Ac efe a attebodd ac a ddy­wedodd, Yr hwn a wlŷch ei law gyd â mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i.

24 Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn scrifen­nedig am dano: eithr gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da a fuasei i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid ef.

25 A Judas yr hwn a'i brady­chodd ef a attebodd, ac a ddywe­dodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

26 Ac fel yr oeddynt yn bwyt­ta, yr Jesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r dis­cyblion, ac a ddywedodd, Cym­merwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph.

27 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, ef a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn.

28 Canys hwn yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer, er maddeu­ant pechodau.

29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y win-wydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd, yn nheyrnas fy Nhâd.

30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

31 Yna y dywedodd yr Jesu wr­thynt, Chwy-chwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys scrifen­nedig yw, Tarawaf y bugail, a de­faid y praidd a wascerir.

32 Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.

33 A Phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid ti, etto ni'm rhwystrir i byth.

34 Yr Jesu a ddywedodd wr­tho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai 'r nôs hon, cyn canu o'r ceiliog, i'm gwedi deir-gwaith.

35 Petr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddei i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd he­fyd y dywedodd yr holl ddiscybli­on.

36 Yna y daeth yr Jesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion, Eisteddwch ymma, tra'r el­wyf, a gweddio accw.

37 Ac efe a gymmerth Petr, a dau fab Zebedaeus, ac a ddechreu­odd dristâu, ac ymofidio.

38 Yna efe a ddywedodd wr­thynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwi­liwch gyd â mi.

39 Ac wedi iddo fyned ychy­dig ym-mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio, a dywe­dyd, Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthif: etto nid fel yr ydwyfi yn ewylly­sio, ond fel yr ydwyt ti.

40 Ac efe a ddaeth at y discy­blion, ac a'u cafas hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Felly, oni ellych chwi wilied yn awr gŷd â mi?

41 Gwiliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wann.

42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhâd, oni's gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthif, na byddo i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di.

43 Ac efe a ddaeth, ac a'u ca­fas hwy yn cyscu drachefn: ca­nys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.

44 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac aeth ymmaith drachefn, ac a weddiodd y drydydd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.

45 Yna y daeth efe at ei ddis­cyblion, ac a ddywedodd wr­thynt, Cyscwch bellach, a gorph­wyswch: wele y mae 'r awr wedi nessau, a Mâb y dŷn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.

46 Codwch, awn: wele, nessaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47 Ac efe etto yn llefaru, wele, Judas un o'r deuddeg, a ddaeth, a chŷd ag ef dyrfa fawr â chleddy­fau a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl.

48 A'r hwn a'i bradychodd ef, a roesei arwydd iddynt, gan ddy­wedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.

49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Jesu, ac a ddywedodd, Hen­ffych well Athro, ac a'i cusanodd ef.

50 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Y cyfaill, i ba beth y dae­thost? Yna y daethant, ac y rhoe­sant ddwylo ar yr Jesu, ac a'i da­liasant ef.

51 Ac wele, un o'r rhai oedd gŷd â'r Jesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a dara­wodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrod ei glust ef.

52 Yna y dywedodd yr Jesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.

53 A ydwyt ti yn tybied na's gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhâd, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o Angelion?

54 Pa fodd ynteu y cyflawnid yr Scrythyrau, mae felly y gor­fydd bôd.

55 Yn yr awr honno y dywe­dodd yr Jesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi a­llan, â chleddyfau a ffynn i'm dal i? yr oeddwn i beunyd gŷd â chwi yn eistedd yn dyscu yn y Deml, ac ni'm daliasoch.

56 A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid Scrythyrau y Pro­phwydi. Yna 'r holl ddiscyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

57 A'r rhai a ddaliasent yr Je­su a'i dygasant ef ymmaith at Cai­aphas yr Arch-offeiriad, lle 'r oedd yr Scrifennyddion a'r Henuriaid wedi ymgasclu ynghŷd.

58 A Phetr a'i canlynodd ef o hir-bell, hyd yn llŷs yr Arch-o­ffeiriad; ac a aeth i mewn ac a ei­steddodd gŷd â'r gweision, i weled y diwedd.

59 A'r Arch-offeiriaid, a'r Henu­riaid, a'r holl gyngor, a geifiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Je­su, fel y rhoddent ef i farwolaeth,

60 Ac ni's cawsant: ie er dyfod yno gau dystion lawer, ni chaw­sant: eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst,

61 Ac a ddywedasant, hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio Teml Dduw, a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.

62 A chyfododd yr Arch-offei­riad, ac a ddywedodd wrtho, Aatte­bi di ddim? Beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

63 Ond yr Jesu a dawodd. A'r Arch-offeiriad, gan atteb a ddy­wedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd o honot i ni ai tydi yw y Christ Mâb Duw.

64 Yr Jesu a ddywedodd wr­tho, Ti a ddywedaist: eithr me­ddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fâb y dŷn yn eistedd ar ddcheu­law 'r gallu, ac yn dyfod ar gym­mylau'r nef.

65 Yna y rhwygodd yr Arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywe­dyd, efe a gablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? wele, yr aw­ron clywfoch ei gabledd ef.

66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddyweda­sant, Y mae efe yn euog o farwo­laeth.

67 Yna y poerasant yn ei wy­neb, ac ai cernodiasant: eraill a'i tarawsant ef â gwiail,

68 Gan ddywedyd, Prophwy­da i ni, ô Christ, pwy yw'r hwn a'th darawodd.

69 A Phetr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwy­nig atto, ac a ddywedodd, A thitheu oeddit gŷd ag Jesu y Ga­lilæad.

70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Ni's gwn beth yr wyt yn ei ddy­wedyd.

71 A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd un arall ef: a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd y­no, Yr oedd hwn hefyd gŷd â'r Jesu o Nazareth.

72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dŷn.

73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyl ger llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wîr yr wyt titheu yn un o honynt, ca­nys y mae dy leferydd yn dy gy­huddo.

74 Yna y dechreuodd efe regu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn, Ac yn y man y canodd y ceiliog.

75 A chofiodd Petr air yr Je­su, yr hwn a ddywedasei wrtho, Cyn canu o'r celiog, ti a'm gwe­di deir-gwaith. Ac efe a aeth a­llan, ac a wylodd yn chwerw­dost.

PEN. XXVII.

1 Rhoddi Christ yn rhwym at Pilat, Judas yn ymgrogi. 19 Pilat wedi ei rybuddio gan ei wraig, 24 yn golchi ei ddwy-law: 26 Coroni Christ â drain, 34 a'i gro­eshoelio, 40 a'i ddifenwi, 50 yn­tef yn marw, ei gladdu ef. 66 Selio a gwilio ei fêdd ef.

A Phan ddaeth y boreu, cyd­ymgynghorodd yr holl Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl yn erbyn yr Jesu, fel y rho­ddent ef i farwolaeth.

2 Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dygasant ef ymmaith, ac a'i traddodasant ef i Pontius Pilat y rhaglaw.

3 Yna pan weles Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, [Page] ac a ddug drachefn y deg ar hu­gain arian i'r Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid,

4 Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwytheu a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.

5 Ac wedi iddo daflu'r arian yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd.

6 Ar Arch-offeiriaid a gymme­rasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysor-fa: canys gw­erth gwaed ydyw.

7 Ac wedi iddynt gyd-ymgy­nghori, hwy brynnasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithraid.

8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd he­ddyw.

9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedpwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg ar hu­gain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Is­rael.

10 Ac a'u rhoesant hwy am saes y crochenydd, megis y goso­des yr Arglwydd i mi.)

11 A'r Jesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofyn­nodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr iddewon? A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

12 A phan gyhuddid ef gan yr Arch-offeiriaid a'r Henuriaid, nid attebodd efe ddim.

13 Yna y dywedodd Pilat wr­tho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?

14 Ac nid attebodd efe iddo un gair: fel y rhyfeddodd y rhag­law yn fawr.

15 Ac ar yr ŵyl honno yr ar­ferei y rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.

16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Bar­rabbas.

17 Wedi iddynt gan hynny ymgasclu ynghŷd, Pilat a ddywe­dodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barrabbas, ai yr Jesu, yr hwn a elwir Christ?

18 Canys efe a wyddei mai o genfigen y traddodasent ef.

19 Ac efe yn eistedd ar yr or­sedd-fainge, ei wraig a ddanfo­nodd atto, gan ddywedyd, Na fy­dded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd o'i a­chos ef.

20 Ar Arch-offeiriaid a'r He­nuriaid, a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barrabbas, ac y disethent yr Jesu.

21 A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwytheu a ddy­wedasant Barrabbas.

22 Pilat a ddywedodd wr­thynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Jesu, yr hwn a elwir Christ? Hwythau oll a ddywedasant wr­tho, Croes-hoelier ef.

23 A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwytheu a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes-hoelier ef.

24 A Philat, pan welodd nad oedd dim yn tyccio, ond yn hy­trach [Page] bôd eynnwrf, a gymmerth ddwfr, ac a olchod ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd, Di­euog ydwyfi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25 A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

26 Yna y gollyngodd efe Bar­rabbas yn rhydd iddynt: ond yr Jesu a fflangellodd efe, ac a'i rho­ddes i'w groes-hoelio.

27 Yna mil-wŷr y rhaglaw a gymmerasant yr Jesu i'r dadleu­dŷ, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin.

28 A hwy a'i dioscasant ef, ac a roesant am dano fantell o scar­lat:

29 A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau, ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwara­sant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.

30 A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a'i ta­rawsant ar ei ben.

31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i dioscasant ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymmaith i'w groes-hoelio.

32 Ac fel yr oeddynt yn my­ned allan, hwy a gawsant ddŷn o Cyrêne, a'i enw Simon, hwn a gymmhellasant i ddwyn ei groes ef.

33 A phan ddaethant i le a cl­wid Golgotha, yr hwn a elwir Lle 'r benglog,

34 Hwy a roesant iddo iw y­fed finegr yn gymmyscedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni synnodd efe yfed.

35 Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ef ddi­llad, gan fwrw coelbren: er cy­flawni y peth a ddywedpwyd trwy 'r prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisc y bwriasant goel-bren.

36 A chan eistedd hwy a'i gwi­liasant ef yno.

37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef, ei achos yn scrifennedig, HWN YW JESU, BRE­NIN YR IDDEWON.

38 Yna y croes-hoeliwyd gyd ag ef ddau leidr, un ar y llaw dde­hau, ac un ar yr asswy.

39 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu pennau,

40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri 'r Deml, ac a'i hadeile­di mewn tridiau, gwared dy hun: os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes.

41 A'r un modd yr Arch-offei­riaid hefyd, gan watwar, gŷd â'r Scrifennyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant,

42 Efe a waredodd eraill, ei hu­nan ni's gall efe ei waredu: os brenin Israel yw, descynned yr aw­ron oddi ar y groes, ac ni a gre­dwn iddo.

43 Ymddiriedodd yn Nuw: gwareded efe ef yr awron, os efe a'i mynn ef: canys efe a ddywe­dodd, Mâb Duw ydwyf.

44 A'r un peth hefyd a edliw­odd y lladron iddo, y rhai a groes-hoeliasid gyd ag ef.

45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr.

46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Jesu â llef uchel gan [Page] ddywedyd, Eli, Eli, Zama Sabac­thani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?

47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddy­wedasant, Y mae hwn yn galw am Elias.

48 Ac yn y fan, un o konynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddes ar gorsen, ac a'i diododd ef.

49 Ar llaill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias iw waredu ef.

50 A'r Jesu, wedi llefain dra­chefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd.

51 Ac wele, llen y Deml a rwy­gwyd yn ddau, oddi fynn hyd i wared: a'r ddaiar a grynodd, a'r main a holltwyd.

52 A'r beddau a agorwyd: a llawer o gyrph y sainct a huna­sent, a gyfodasant.

53 Ac a ddaethant allan o'r be­ddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a ae­thant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac y ymddangosasant i lawer.

54 Ond y canwriad, a'r rhai o­edd gŷd ag ef yn gwilied yr Jesu, wedi gweled y ddaiar-gryn, ar pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, yn wir Mâb Duw ydoedd hwn.

55 Ac yr oedd yno lawer o w­ragedd yn edrych o hir-bell, y rhai a ganlynasent yr Jesu o Galilæa, gan weini iddo ef:

56 Ym-mlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Jaco a Joses, a mam meibion Zebedaeus.

57 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Ari­mathæa, a'i enw Joseph, yr hwn a fuasei ynteu yn ddiscybl i'r Jesu:

58 Hwn a aeth at Pilat, ac a o­fynnodd gorph yr Jesu. Yna y gor­chymynnodd Pilat roddi 'r corph.

59 A Joseph wedi cymmeryd y corph, a i hamdôdd â lliain glân:

60 Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasei efe yn y graig, ac a dreig­lodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith.

61 Ac yr oedd yno Mair Mag­dalen, a Mair arall, yn eistedd gy­ferbyn a'r bedd.

62 A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darparwŷl, yr ymgynhu­llodd yr Arch-offeiriaid a'r Phari­sæaid at Pilat,

63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gôf gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tri-diau y cyfodaf.

64 Gorchymyn gan hynny ga­dw y bedd yn ddiogel hyd y try­dydd dydd, rhag dyfod ei ddiscy­blion o hŷd nos, a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, efe a gy­fododd o feirw: a bydd yr amryfu­sedd diweddaf yn waeth nâ'r cyn­taf,

65 A dywedodd Pilat wrthynt, Y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch,

66 A hwy a aethant ac a wnae­thant y bedd yn ddiogel, ac a se­liasant y maen, gŷd â'r wiliad­wriaeth.

PEN. XXVIII.

1 Dangos adgyfodiad Christ i'r gw­ragedd gan Angel. 9 Christ ei hun yn ymddangos iddynt hwy. 11 Yr Arch-offeriaid yn rhoddi arian i'r [Page] milwyr, i ddywedyd ddarfod ei la­dratta ef allan o'r bedd. 16 Christ yn ymddangos iw ddiscyblion, 19 ac yn eu hanfon i fe dyddio, ac i ddyscu yr holl genhedloedd.

AC yn niwedd y Sabbath, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magda­len, a'r Fair arall, i edrych y bedd.

2. Ac wele, bu daiar-gryn mawr: canys descynnodd Angel yr Argl­wydd o'r nêf, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.

3 A'i wyneb-pryd oedd fel mell­ten, a'i wisc yn wen fel eira.

4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac aethant megis yn fei­rw.

5 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio 'r ydych yr Jesu, yr hwn a groef-hoeliwyd.

6 Nid yw efe ymma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gor­weddodd yr Arglwydd.

7 Ac ewch ar ffrwst, a dywe­dwch i'w ddiscyblion gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Ga­lilæa: yno y gwelwch es: wele, dy wedais i chwi.

8 Ac wedi eu myned ymmaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd ag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddiscyblion ef.

9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddiscyblion ef, wele yr Jesu a gyfarfu â hwynt, gan ddy wedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.

10 Yna y dywedodd yr Jesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, my­negwch i'm brodyr, fel yr e­lont i Galilæa, ac yno i'm gwe­lant i.

11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wiliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynega­sant i'r Arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.

12 Ac wedi iddynt ymgasclu ynghŷd gŷd â'r Henuriaid, a chŷd-ymgynghori, hwy a roesant arian lawer i'r mil-wŷr,

13 Gan ddywedyd, Dywe­dwch, ei ddiscyblion a ddaethant o hŷd nos, ac a'i lladrattasant ef a nyni yn cyscu.

14 Ac of clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gw­nawn chwi yn ddiofal.

15 A hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addy­scwyd hwynt: a thanwyd y gair hwn ym-mhlith yr Iddewon, hyd y dydd heddyw.

16 A'r un discybl ar ddeg a ae­thant i Galilæa, i'r mynydd lle 'r ordeiniase i 'r Jesu iddynt.

17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a am­heuasant.

18 A'r Jesu a ddaeth, ac a le­farodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bôb awdurdod, yn y nêf, ac ar y ddaiar.

19 Ewch gan hynny, a dyscwch yr holl genhedloedd, gan eu be­dyddio hwy yn enw 'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân:

20 Gan ddyscu iddynt gadw pôb peth a'r a orchymynnais i chwi: ac wele, yr ydwyfi gyd â chwi bôb amser, hyd ddiwedd y bŷd. Amen.

YR EFENGYL YN OL SANCT MARC.

PEN. I.

1 Swydd Joan Fedyddiwr. 9 Bedy­ddio yr Jesu, 12 a'i demtio. 14 Efe yn pregethu, 16 yn galw Petr, Andreas, Jaco, ac Joan, 23 yn iachau dyn ac yspryd aflan ynddo, 29 a mam gwraig Petr, 32 a llawer o gleifion, 41 ac yn glan­hau y gwahan-glwyfus.

DEchreu Efengyl Jesu Grist, fâb Duw:

2. Fel yr scrifennwyd yn y Prophwydi, Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a bara­toa dy ffordd o'th flaen.

3 Llêf un yn llefain yn y di­ffaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.

4 Yr oedd Joan yn bedyddio yn y diffaethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau.

5 Ac aeth allan atto ef holl wlâd Judæa, a'r Hierosoly mitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Jorddonen, gan gyffessu eu pechodau.

6 Ac Joan oedd wedi ei wi­sco â blew Camel, a gwregys croen ynghylch el lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gw­yllt.

7 Ac efe a bregethodd, gan ddy­wedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach nâ myfi, carrai escidi­au yr hwn nid wyfi deilwng i ymostwng, ac iw dattod.

8 Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr, eithr efe a'ch bedy­ddia chwi â'r Yspryd glân.

9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Jesu o Nazareth yn Ga­lilæa, ac efe a fedyddiwyd gan Joan yn yr Jorddonen.

10 Ac yn ebrwydd wrth ddy­fod i fynu o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a'r Yspryd yn descyn arno, megys colom­men.

11 A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd.

12 Ac yn ebrwydd y gyrrodd yr Yspryd ef i'r diffaethwch.

13 Ac efe a fu yno yn y diffae­thwch ddeugain nhiwrnod, yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gŷd â'r gwylltfilod, a'r Ange­lion a weinasant iddo.

14 Ac yn ôl traddodi Joan, yr Jesu a ddaeth i Galilæa, gan bregethu Efengyl teyrnas Dduw:

[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]
[...]

15 A dywedyd, Yr amser a gy­flawnwyd, a theyrnas Dduw a ne­ssaodd: edifarh ewch, a chredwch yr Efengyl.

16 Ac fel yr oedd efe yn rho­dio wrth fôr Galilæa, efe a gan­fu Simon ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pyscodwyr oeddynt.)

17 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Deuwch ar fy ôl i, a gw­naf i'wch fôd yn byscod-wŷr dy­nion.

18 Ac yn ebrwydd gan a­del eu rhwydau, y canlynasant ef.

19 Ac wedi iddo fyned rhag­ddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Jaco fâb Zebedæus, ac Joan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cy­weirio y rhwydau:

20 Ac yn y man efe a'u galw­odd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd, Zebedæus yn y llong gyd â'r cyflog ddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.

21 A hwy a aethant i mewn i Capernaum: ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath, wedi iddo fyned i mewn i'r Synagog, efe a athraw­iaethodd.

A synnasant wrth ei athraw­iaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dyscu hwy, megis un ac aw­dordod ganddo, ac nid fel yr Scri­fennyddion.

23 Ac yr oedd yn eu Synagog hwy ddŷn ac ynddo yspryd aflan, ac efe a lefodd,

24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Jesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n di­fetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt: Sanct Duw.

25 A'r Jesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dôs allan o honaw.

26 Yna wedi i'r yspryd a­flan ei rwygo ef, a gwaeddi â llef uchel, efe a ddaeth allan o honaw.

27 Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynnasant yn eu mysc eu hun, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon, canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymmyn, ie yr yspry­dion aflan, a hwy yn ufyddhâu iddo?

28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn am dano tros yr holl wlâd o am­gylch Galilæa.

29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o'r Synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gŷd ag Jaco, ac Ioan.

30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r crŷd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am dani hi.

31 Ac efe a ddaeth, ac a'i co­dodd hi i fynu, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r crŷd a'i gadawodd hi yn y man, a hi a wasanaeth odd arnynt hwy.

32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddy­gasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.

33 A'r holl ddinas oedd wedi ymgasclu wrth y drws.

34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heinti­au, ac a fwriodd allan lawer o gy­threuliaid, ac ni adawodd i'r cy­threuliaid ddywedyd yr adwae­nent ef.

35 A'r boreu, yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth a­llan, ac a aeth i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd.

36 A Simon, a'r rhai oedd gŷd ag ef, a'i dilynasant ef.

37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.

38 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Awn i'r trefydd nessaf, fel y gallwyf bregethu vno hefyd: canys i hynny y daethym a­llan.

39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu Synagogau hwynt, trwy holl Galilæa, ac yn bwrw allan gythreuliaid.

40 A daeth atto ef un gwa­han-glwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dy­wedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglânhau.

41 A'r Jesu gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyr­ddodd ag ef, ac a ddywedodd wr­tho, Mynnaf, bydd lân.

42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahan­glwyf ag ef yn ebrwydd, a glan­hawyd ef.

43 Ac wedi gorchymmyn i­ddo yn gaeth, ef a'i hanfonodd ef ymmaith yn y man;

44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dôs ymmaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd, y pethau a orchy­mynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.

45 Eithr efe a aeth ymmaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi lla­wer, a thanu 'r gair ar lêd: fel na allei 'r Jesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas: eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfan­nedd, ae o bôb parth y daethant atto ef.

PEN. II.

1 Christ yn iachau vn clâf or par­lys, 14 yn galw Matthew o'r dollfa, 15 yn bwytta gydâ Phu­blicanod a phechaduriaid, 18 yn escusodi ei ddiscyblio am nad ymprydient, 23 ac am dynnu y tywys ŷd ar y dydd Sabboth.

AC efe a aeth drachefn i Ca­pernaum, wedi rhai dyddiau, a chlybuwyd ei fôd efe yn tŷ.

2 Ac yn y man, llawer a ymga­sclasant ynghyd, hyd na annent, hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.

3 A daethant atto, gan ddwyn vn claf o'r parlys, yr hwn a ddy­gid gan bedwar:

4 A chan na allent nesau atto gan y dyrfa, didoi y tô a wnae­thant lle 'r oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a o­llyngasant i wared y gwely, yn yr hwn y gorweddei y claf o'r parlys.

5 A phan welodd yr Jesu eu ffydd hwynt, efe â ddywedodd wrth claf o'r parlys, Ha fâb, maddeuwyd i ti dy bechodau.

6 Ac yr oedd rhai o'r Scrifen­nyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymmu yn eu calonnau.

7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all fa­ddeu pechodau, onid Duw yn vnig?

8 Ac yn ebrwydd, pan wybu 'r Jesu yn ei Yspryd eu bôd hwy yn ymresymmu felly ynddynt eu hu­nain efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calon­nau?

Pa vn sydd hawsaf, ai dy­wedyd wrth y claf o'r parlys, Ma­ddeuwyd i ti dy bechodau: ai dy­wedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a rhodia?

10 Eithr fel y gwypoch fôd gan fâb y dŷn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaiar, (eb efe wrth y claf o'r parlys,)

11 Wrthit ti yr wyf yn dywe­dyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a dôs i'th dŷ.

12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymmerth i fynn ei wely, ac a aeth allan yn en gwydd hwynt oll, hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywe­dyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.

13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth atto, ac efe a'u dyscodd hwynt.

14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fâb Alphaeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywe­dodd wrtho, Canlyn fi, Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.

15 A bu, a'r Jesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o Bublicanod a phechaduriaid ei­stedd gyd â'r Jesu, a'i ddiscyblion: canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynasent ef.

16 A phan welodd yr Scrifen­nyddion a'r Pharisæaid ef yn bwytta gŷd â'r Publicanod a'r pe­chaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, pa ham y mae efe yn bwytta ac yn yfed gŷd â'r Publicanod a'r pechaduriaid?

17 A'r Jesu pan glybu, a ddy­wedodd wrthynt, Y rhai sy iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn; ond pecha­duriaid i edifeirwch.

18 A discyblion Joan a'r pha­risæaid oeddynt yn ymprydio: a hwy a ddaethant, ac a ddyweda­sant wrtho, Pa ham y mae discy­blion Joan a'r Pharisæaid yn ym­prydio, ond dy ddiscyblion di nid ydynt yn ymprydio?

19 A dywedodd yr Jesu wr­thynt, A all plant yr stafell brio­das ymprydio, tra fyddo y priodas-fâb gŷd a hwynt? tra fyddo gan­ddynt y priodas-fâb gŷd â hwynt, ni allant ymprydio:

20 Eithr y ddyddiau a ddaw pan ddyger y priodas-fâb oddi ar­nynt, ac yna 'r ymprydiant, yn y dyddiau hynny.

21 Hefyd ni wnia neb dder­nyn o frethyn newydd ar ddille­dyn hên: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hên, a gwaeth fydd y rhwyg.

22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hên gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia 'r co­strelau, a'r gwin a rêd allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin ne­wydd sydd raid ei roi mewn co­strelau newyddion.

23 A bu iddo fyned trwy 'r ŷd ar y Sabbath: a'i ddiscyblion a ddechreuasant ymdaith tan dyn­nu 'r tywys.

24 A'r Pharisæaid a ddyweda­sant wrtho, Wele pa ham y gw­nânt ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?

25 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Oni ddarllennasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pah oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gŷd ag ef?

26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw tan Abiathar yr Arch-offei­riad, ac y bwyttaodd y bara go­sod, [Page] y rhai nid cyfreithlon eu bwytta, ond i'r offeirieid vn vnig, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gŷd ag ef.

27 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dŷn, ac nid dŷn er mwyn y Sabbath.

28 Am hynny y mae Mâb y dŷn yn Arglwydd hefyd ar y Sab­bath.

PEN. III.

1 Christ yn iachau y llaw wedi gwy­wo, 10 a llawer o glefydau eraill: 11 Yn ceryddu yr ysprydion aflan: 13 Yn dewis ei ddeuddec Apostol: 22 Yn atteb cabledd y rhai a ddywe­dent ei fôd ef yn bwrw allan gyth­reuliaid trwy Beelzebub: 31 ac yn dangos pwy ydyw ei frawd, a'i chwaer, a'i fâm.

AC efe aeth i mewn drachefn i'r Synagog: ac yr oedd yno ddŷn a chanddo law wedi gwy­wo.

2 A hwy a'i gwiliasant ef, a iachae efe ef ar y dydd Sabbath, fel y cyhuddent ef.

3 Ac efe a ddywedodd wrth y dŷn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.

4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabbath, ynteu gwneu­thur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â son.

5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddiglion, gan ddri­stau am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dŷn, Estyn allan dy law, ac efe a'i hestynnodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

6 A'r Pharisæaid a aethant allan, ac a ymgynghorasant yn ebrwydd gŷd â'r Herodianiaid, yn ei erbyn ef, pa fodd y dife­thent ef.

7 A'r Jesu gŷd â'i ddiscybli­on a giliodd tu a'r môr, a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilæa, ac o Judæa,

8 Ac o Jerusalem, ac o, Idu­mæa, ac o'r tu hwynt i'r Jorddo­nen: a'r rhai o gylch Tyrus a Si­don, lliaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethei efe, a ddae­thant atto.

9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion am fôd llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wascu ef.

10 Canys efe a iachasei lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynnifer ac oedd a phlaau arnynt.

11 A'r ysprydion aflan pan wel­sant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddy­wedyd, Ti yw Mâb Duw.

12 Yntef a orchymynnod iddynt yn gaeth na chyhoeddent ef.

13 Ac efe a escynnodd i'r my­nydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant atto.

14 Ac efe a ordeiniodd ddeu­ddeg, fel y byddent gŷd ag ef, ac fel y danfonei efe hwynt i bre­gethu;

15 Ac i fôd ganddynt awdur­dod i iachau clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.

16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Petr.

17 Ac Jaco fàb Zebedaeus, ac Joan brawd Jaco: (ac efe a ro­ddes [Page] iddynt henwau Boanerges, yr hyn yw, meibion y daran)

18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomaeus, a Matthew, a Tho­mas, ac Jaco fâb Alphaeus, a Tha­daeus, a Simon y Cananêad,

19 A Judas Iscariot, yr hwn he­fyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.

20 A'r dyrfa a ymgynnullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara.

21 A phan glybu yr eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, y mae efe allan o'i bwyll.

22 A'r Scrifennyddion, y rhai a ddaethent i wared o Jerusalem, a ddywedasant fôd Beelzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.

23 Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24 Ac o bydd teyrnas wedi ym­rannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll:

25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll:

26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ym­rannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.

27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo 'r cadarn, ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.

28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant.

29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd.

30 Am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.

31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam: a chan sefyll allan hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef.

32 Ar bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wr­tho, Wele y mae dy fam di a'th frodyr, allan yn dy geisio.

33 Ac efe a'u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i?

34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.

35 Canys pwy bynnag a wne­lo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.

PEN. IV.

1 Dammeg yr hau-wr, 14 a'i dde­ongliad. 21 Rhaid i ni gyfran­nu goleuni ein gwybodaeth i era­ill.26 Dammeg yr hâd yn tyfu yn ddiarwybod, 30 a'r gronyn mwstard. 39 Christ yn gostegu y dymestl ar y môr.

AC efe a ddehreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasclodd atto, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr: a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tîr.

2 Ac efe a ddyscodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysceidiaeth ef,

3 Gwrandewch, Wele, hau­wr a aeth allan i hau:

4 A darfu wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehedi­aid yr awyr a ddaethant, ac a'i di­fasant.

5 A pheth a syrthiodd ar greig­le; lle ni chafodd fawr ddaiar: ac yh y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daiar.

6 A phan gododd yr haul y poethwyd ef, ac am nad oedd gw­reiddyn iddo, efe a wywodd.

7 A pheth a syrthiodd ym­mhlith drain: a'r drain a dyfa­sant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.

8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddûg vn ddeg ar hugain, ac un driu­gain, ac vn gant.

9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y nêb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10 A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef, gŷd â'r deuddeg, a ofynnasant iddo am y ddammeg.

11 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i'r rhai sy allan, ar ddamhegion y gwneir pôb peth:

12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant: ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant: rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau.

13 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Oni wyddoch chwi y ddam­meg hon: a pha fodd y gwyby­ddwch yr holl ddamhegion?

14 Yr hau-wr, sydd yn hau y gair:

15 A'r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd, lle 'r hauir y gair, ac wedi iddynt ei glywed, y mae Sa­tan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymmaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt.

16 A'r rhai hyn yr vn ffunyd yw y rhai a hauir ar y creigle; y rhai wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen?

17 Ac nid oes ganddynt wrei­ddyn yddynt eu hunain, eithr tros amser y maent: yna pan ddêl blinder, neu erlid, o achos y gair, yn y man y rh wystrir hwyn.

18 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym-mysc y drain, y rhai a wrandawant y gair,

19 Ac y mae gofalon y bŷd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu 'r gair, a myned y mae yn ddi-ffrwyth.

20 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tîr da, y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dder­byn, ac yn dwyn ffrwyth, vn ddeg ar hugain, ac vn driugain, ac vn gant,

21 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, a ddaw canwyll iw dodi tan lestr neu tan wely? ac nid iw gosod ar ganhwyll-bren.

22 Canys nid oes dim cu­ddiedig a'r ni's amlygir, ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delei i eglurdeb.

23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.

24 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Edrychwch beth a wran­dawoch: â pha fesur y mesuroch, y mesurir i'chwithau, a chwane­gir i chwi y rhai a wrandewch.

25 Canys yr hwn y mae gan­ddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie yr hyn sydd gan­ddo a ddygir dddi arno.

26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bw­riai ddyn hâd i'r ddaiar:

27 A chyscu, a chodi nôs a dydd, a'r hâd yn egino, ac yn tyfu, y môdd ni's gŵyr efe.

28 Canys y ddaiar a ddwg ffrwyth o honi ei hun, yn gyntaf yr eginyn, yn ôl hynny y dywy­sen, yna 'r yd yn llawn yn y dy­wysen.

29 A phan ymddangoso 'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhayaf.

30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cysselybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?

31 Megis gronyn o hâd mw­stard ydyw: yr hwn pan hauer yn y ddaiar, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddair.

32 Eithr wedi 'r hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nâ'r holl lysiau, ac efe a ddwg gang­hennau mawrion, fel y gallo ehe­diaid yr awyr nythu tan ei gyscod ef.

33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando.

34 Ond heb ddammeg ni lefa­rodd wrthynt: ac o'r nailltu i'w ddiscyblion efe a eglurodd bôb peth.

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwy­rhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.

36 Ac wedi iddynt ollwng ym­maith y dyrfa, hwy a'i cymmera­sant ef, fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gyd ag ef.

37 Ac fe a gyfodes tymestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i'r llong, yn cyscu ar obennydd: a hwy a'i deffroesant ef, ac a ddy­wedasant wrtho, ai difatter gen­nit ein colli ni?

39 Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddy­wedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.

40 Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41 Eithr hwy a ofnasant yn ddir­fawr, ac a ddywedasant wrth ei gi­lydd, Pwy yw hwn, gan fôd y gwynt a'r môryn vfyddhau iddo?

PEN. V.

1 Crist yn gwaredu y dyn yr oedd yn­ddo leng o gythreuliaid: 13 Hwy­thau yn myned i'r môch. 25 Y mae efe yn iachau y wraig o'r di­fer-lif gwaed, 35 ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.

A Hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlâd y Gadareniaid.

2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddŷn ac yspryd aflan ynddo,

3 Yr hwn oedd a'i drigfan ym­mhlith y beddau, ac ni allei nêb, ie â chadwynau ei rwymo ef:

4 O herwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â cha­dwynau, [Page] a darnio o hono 'r cad­wynau, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allei nêb ei ddofi ef.

5 Ac yn oestad nôs a dydd, yr oedd efe yn llefain yn y myny­ddoedd, ac [...]m-mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.

6 Ond pan ganfu efe yr Jesu o hir-bell, efe a redodd, ac a'i ha­ddolodd ef:

7 A chan waeddi â llef vchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi Jesu Fâb y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dyng­hedu trwy Dduw, na proenech fi.

8 (Canys dywedasei wrtho, ys­pryd aflân, dôs allan o'r dŷn.)

9 Ac efe a ofyhnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntef a attebodd gan ddywedyd, Lleng yw fy enw: am fôd llawer o honom.

10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef: na yrrei efe hwynt allan o'r wlâd.

11 Ond yr oedd yno ar y my­nyddoedd genfaint fawr o fôch yn pori.

12 A'r holl gythreuliaid a at­tolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r môch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13 Ac yn y man y caniattaodd yr Jesu iddynt. A'r ysprydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r môch: a rhuthrodd y genfaint tros y dibyn i'r môr, (ac ynghylch dwy-fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.

14 A'r rhai a borthent y môch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlâd. A hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

15 A hwy a ddaethant at yr Jesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasei y lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll, ac a ofnasant.

16 A'r rhai a welsant a fyne­gasant iddynt, pa fodd y buasei i'r cythreulig, ac am y môch.

17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymmaith o'u goror hwynt.

18 Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasei y cythrael yn­ddo, a ddymunodd arno gael bôd gŷd ag ef.

19 Ond yr Jesu ni adawodd iddo, eithr dywedodd wrtho, dôs i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Ar­glwydd erot, ac iddo drugarhau wrthit.

20 Ac efe a aeth ymmaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethei 'r Jesu iddo: a phawb a ryfeddasant.

21 Ac wedi i'r Jesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ym­gasclodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y môr.

22 Ac wele, vn o bennaethiaid y Synagog a ddaeth, a'i enw Jai­rus: a phan ei gwelodd, efe a syr­thiodd wrth ei draed ef.

23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar drangc: attolwg i ti ddy­fod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi, a byw fydd.

24 A 'r Jesu a aeth gŷd ag ef: a thryfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwascasant ef.

25 A rhyw wraig, yr hon a fuasei mewn diferlif gwaed ddeu­ddeng mhlynedd,

26 Ac a oddefasei lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreu­liasei [Page] gymmaint ac oedd ar ei helw, ac ni chwasei ddim llessâd, eithr yn hytrarch myned waeth­waeth.

27 Pan glybu hi am yr Jesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyflyrddodd â'r wisc ef.

28 Canys hi a ddywedasei, Os cy­ffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.

29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorph ddarfod ei hia­chau o'r pla.

30 Ac yn y fan, yr Jesu yn gwy­bod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan o honaw, efe a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gy­ffyrddodd â'm dillad?

31 A'i ddiscyblion a ddyweda­sant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wascu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?

32 Ac yntef a edrychodd o am­gylch, i weled yr hon a wnaeth ei hyn.

33 Ond y wraig, gan ofni a chry­nu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo 'r holl wirionedd.

34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a th iachaodd, dôs mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.

35 Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o dŷ Pennaeth y Synagog, gan ddywedyd. Bu farw dy ferch: i ba beth etto 'r aflonyddi 'r A­thro?

36 A'r Jesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y Sy­nagog, Nac ofna, crêd yn vnig.

37 Ac ni adawodd efe nêb i'w ddilyn, ond Petr, ac Jaco, ac Joan brawd Jaco.

38 Ac efe a ddaeth i dŷ penna­eth y Synagog, ac a ganfu y cyn­nwrf, a'r rhai oedd yn wylo, ac yn ochain llawer.

39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrt [...]ynt, pa ham y gwnewch gynnwrf, ac yr wy­lwch? ni bu farw yr eneth, eithr cyscu y mae.

40 A hwy a'i gwatwarasant ef, Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dâd yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gŷd ag ef, ac a aeth i mewn lle 'r oedd yr eneth yn gorwedd.

41 Ac wedi ymaflyd yn llaw'r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha cumi: yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, (yr wyf yn dywedyd wrth it) cyfod.

42 Ac yn y fan y cyfodes yr e­neth, ac a rodiodd: canys deu­ddeng-mlwydd oed ydoeda hi: a synnu a wnaeth arnynt â syn­dod mawr.

43 Ac efe a orchymynnodd iddynt yn gaeth, na chai nêb wybod hyn: ac a ddywe­dodd am roddi peth iddi i'w fwytta.

PEN. VI.

1 Diystyru Christ gan ei wlad-wyr ei hun. 7 Y mae efe yn rhoddi i'r deuddec awdurdodd ar ysprydion aflan. 14 Amryw dyb am Grist. 18 Torri pen Joan Fedyddi­wr, 29 a'i gladdu. 30 Yr Apo­stolion yn dychwelyd o bregethu. 34 Gwyrthiau y pum torth bara a'r ddau byscodyn. 45 Chirst yn rhodio ar y môr: 53 ac yn iachau pawb a gyffyrddai ag ef.

AC efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a ddaeth i'w wlâd ei hun: a'i ddiscyblion a'i canlyna­sant ef.

2 Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y Synagog: a synnu a wna­eth llawer a'i clywsant, gan ddy­wedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddocthineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei dwylo ef.

3 Ond hwn yw 'r saer, mâb Mair, brawd Iaco, a Ioses, a Judas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef ymma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef.

4 Ond yr Jesu a ddywedodd wr­thynt, nad yw prophwyd yn ddi­bris ond yn ei wlâd ei hun, ac ym-mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

5 Ac ni allei efe yno wneu­thyd dim gwrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'i h [...] ­achau hwynt.

6 Ac efe a ryfeddodd o her­wydd eu hangrhediniaeth: ac a aeth i'r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.

7 Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bôb yn ddau a dan, ac a roddes iddynt awdurdod ar yspry­dion aflan,

8 Ac a orchymynnodd iddynt na chymmerent ddim i'r daith, ond llaw-ffon yn unig: nac yscrep­pan, na bara, nac arian yn eu pyrsau.

9 Eithr eu bôd a sandalu am eu traed ac na wiscent ddwy bais.

10 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd o­nid eloch ymmaith oddi yno.

11 A pha rai bynnag ni'ch der­byniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, escydwch y llwch a fyddo ran eich traed, yn dy­stiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, y bydd esmwythach i So­doma a Gomorrha, yn nydd y farn, nac i'r ddinas honno.

12 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau.

13 Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleision, ac a'u hia­chasant

14 A'r brenin Herod a glybu, (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef) ac efe a ddywedodd, Ioan Fedy­ddiwr a gyfodes o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gwei­thio yndo ef.

15 Eraill a ddywedasant, Mai Elias yw: ac eraill a ddywedasant, Mai prophwyd yw, neu megis un o'r prophwydi.

16 Ond Herod pan glybu, a ddywedodd, Mai 'r Ioan a dor­rais i ei ben yw hwn, efe a gyfo­des o feirw.

17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd, am iddo ei phriodi hi.

18 Canys Ioan a ddywedasei wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.

19 Ond Herodias a ddaliodd ŵg iddo, ac a chwennychodd ei ladd ef, ac ni's gallodd.

20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fôd ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaid, ac a'i [Page] parchei ef: ac wedi iddo ei gly­wed ef, efe a wnai lawer o be­thau, ac a'i gwrandawai ef yn e­wyllysgar.

21 Ac wedi dyfod diwrnod cy­faddas, pan wnaeth Herod, ar ei ddydd genedigaeth, swpper i'w bennaethiaid, a'i flaenoriaid, a goreugwŷr Galilæa:

22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llangces, Go­fyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.

23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd hanner fy nheyrnas.

24 A hitheu a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hitheu a ddywe­dodd, Pen Ioan Fedyddiwr.

25 Ac yn y fan hi aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddyscl, ben Ioan Fedyddiwr.

26 A'r brenin yn drist iawn, ni chwennychei ei bwrw hi hei­bio, o herwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef.

27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a or­chymynnodd ddwyn ei ben ef.

28 Ac yntef a aeth ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddyscl, ac a'i rhoddes i'r llangces, a'r llangces a'i rhoddes ef i'w mam.

29 A phan glybu ei ddiscybli­on ef, hwy a ddaethant, ac a gym­merasant ei gorph ef, ac a'i doda­sant mewn bed.

30 A'r Apostolion a ymgascla­sant at yr Jesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent hefyd, a'r rhai a a­thrawiaethasent.

31 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r nailltu, a gor­phwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod, ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd, cym­maint, ac i fwytta.

32 A hwy a aethant i le anghy­fannedd, mewn ll ong o'r nailltu.

33 A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned ymmaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoedd, ac a'u rhag-flaenasant hwynt, ac a ymgasclasant atto ef.

34 A'r Jesu wedi myned a­llan a welodd dyrfa fawr, ac a do­sturiodd wrthynt, am eu bôd fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddyscu iddynt lawer o bethau.

35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddi­scyblion atto ef gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd.

36 Gollwng hwynt ymmaith, fel yr elont i'r wlâd oddi am­gylch, ac i'r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i'w fwytta.

37 Ond efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deu-can cei­niog o fara, a'i roddi iddynt i'w fwytta?

38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? [Page] ewch ac edrychwch. Ac wedi i­ddynt wybod, hwy a ddyweda­sant, Pump, a dau byscodyn:

39 Ac efe a orchymynnodd i­ddynt beri i bawb eistedd yn fyr­ddeidiau, ar y glaswellt.

40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur dêg a deu­geiniau.

41 Ac wedi cymmeryd y pum torth a'r ddau byscodyn, gan e­drych i fynu tu a'r nef, efe a fen­dithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'i rhoddes at ei ddiscyblion, i'w gosod ger eu bronnau hwynt: a'r ddau byscodyn a rannod efe rhyngddynt oll.

42 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon.

43 A chodasant ddeuddeg ba­scedaid yn llawn o'r briw-fwyd, ac o'r pyscod.

44 A'r rhai a fwyttasent o'r torthau, oedd yngylch pum-mil o wŷr.

45 Ac yn y man, efe y gym­mhellodd ei ddiscyblion i fyned ir llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Bethsaida, tra fyddei efe yn gollwng ymmaith y bobl.

46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymmaith, efe a aeth i'r mynydd i weddio.

47 A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntef ei hun ar y tîr.

48 Ac efe a'u gwelei hwynt yn flîn arnynt yn rhwyfo, (canys y gwynt oedd yn eu herbyn:) ac ynghylch y bedwaredd wŷlfa o'r nôs efe a ddaeth attynt, gan rodio ar y môr, ac y fynnasei fyned hei­bio iddynt.

49 Ond pan welsant hwyef yn rhodio ar y môr, hwy a dybi­asant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.

50 (Canys hwynt oll a'i gwel­sant ef, ac a ddychrynasant) ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch gyssur, myfi yw, nac ofnwch.

51 Ac efe a aeth i fynu attynt i'r llong, a'r gwynt a dawe­lodd: a hwy a synnasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ry­feddasant.

52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu.

53 Ac wedi iddynt ddyfod tro­sodd, hwy a ddaethant i dir Ge­nesareth, ac a laniasant.

54 Ac wedi eu myned hwynt allan o'r llong, hwy a'i adnabuant ef yn ebrwydd.

55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi am­gylch mewn gwelâu rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fôd ef.

56 Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn i bentrefi, neu ddina­soedd, neu wlâd, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a attolygent iddo gael o honynt gyffwrdd cymmaint ac ag ymyl ei wisc ef: a cynnifer ac a gyffyr­ddasant ag ef, a iachawyd.

PEN. VII.

1 Y Pharisæaid yn beio ar y discy­blion am fwytta heb ymolchi: 8 yn torri gorchymmyn Duw trwy draddodiadau dynion. 14 Nad yw bwyd yn halogi dyn. 24 Christ yn iachâu merch y wraig o Syro­phenicia, [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] oddiwrth yspryd aflan,31 ac un oedd fyddar, ac ag at­tal dywedyd arno.

YNa yr ymgasclodd atto 'r Pharisæaid, a rhai o'r Scrifen­nyddion, a ddaethei o Jerusalem.

2 A phan welsant rai o'i ddi­scyblion ef â dwylo cyflredin (hynny ydyw heb olchi) yn bwytta bwyd, hwy a argyoedda­sant.

3 Canys y pharisæaid, a'r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwyt­tânt, gan ddal traddodiad yr hy­nafiaid.

4 A phan ddelont o'r farchnad oni bydd iddynt ymolchi, ni fwyt­tânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant iw cadw, megis golchi cwppanau, ac ystenau, ac efyddennau, a byr­ddau.

5 Yna y gofynnodd y Pharisae­aid a'r Scrifennyddion iddo, Pa ham nad yw dy ddiscyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hyna­fiaid, ond bwytta eu bwyd â dwy­lo heb olchi?

6 Ond efe a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, Da y prophwy­dodd Esaias am danoch chwi ra­grithwŷr: fel y mae yn scrifen­nedig, Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i â'u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthif.

7 Eithr ofer y maent yn fy a­doli, gan ddyscu yn lle dysceidi­aeth, orchymynnion dynion.

8 Canys gan adel heibio or­chymmyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion, sef golchia­dau stenau a chwppanau: a llawer eraill o'r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.

9 Ac efe a ddywedodd wr­thynt. Gwŷch yr ydych yn rhoi heibio orchymmyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.

10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dâd a'th fam: a'r hwn a felldigo dâd neu fam, by­dded farw 'r farwolaeth.

11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dŷn wrth ei dâd neu ei fam, Corban, (hynny yw, rhodd) trwy ba beth bynnag y ceit lês o­ddi wrthi fi difai fydd.

12 Ac nid ydych mwyach yn gadel iddo wneuthur dim i'w dâd neu i'w fam:

13 Gan ddirymmu gair Duw â'ch traddodiad eich hunain, yr hwn a draddosoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr y­dych yn eu gwneuthur.

14 A chwedi galw atto yr holl dyrfa efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch chwi oll arnaf, a deellwch.

15 Nid oes dim allan o ddŷn yn myned i mewn iddo, a ddi­chon ei halogi ef: eithr y pethau sy yn dyfod allan o honaw, y rhai hynny yw 'r pethau sy yn ha­logi dŷn.

16 Od oes gan neb glustiau i wrando gwrandawed.

17 A phan ddaeth efe i mewn i'r tŷ, oddi wrth y bobl, ei ddi­scyblion a ofynnasant iddo am y ddammeg.

18 Yntef a ddywedodd wr­thynt, Ydych chwithau hefyd mor ddi-ddeall? oni wyddoch am bôb peth oddi allan a êl i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef?

19 Oblegid nid yw yn myned [Page] i'w galon ef, ond i'r bol: ac yn myned allan i'r gau-dŷ, gan gar­thu yr holl fwydydd.

20 Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o ddŷn, hyn­ny sydd yn halogi dŷn.

21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion y daw drwg feddy­liau, torr-priodasau, putteindra, llofruddiaeth.

22 Lledradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwyd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfy­drwydd.

23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dŷn.

24 Ac efe a gyfodes oddi yno ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Si­don: ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnasei i nêb wybod: eithr ni allei efe fôd yn guddiedig.

25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ac yspryd aflan ynddi fôn am da­no, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef:

26 (A Groeges oedd y wraig, Sy­rophaeniciaid o genedl) a hi a at­tolygodd iddo fwrw 'r cythrael allan o'i merch.

27 A'r Jesu a ddywedodd wr­thi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cymmwys yw cymmeryd bara 'r plant, a'i daflu i'r cenawon cŵn.

28 Hithau a attebodd, ac a ddy­wedodd wrtho, Gwîr ô Argl­wydd: ac etto y mae y cenawon tan y bwrdd, yn bwytta o friwsion y plant.

29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dôs ymmaith, aeth y cythrael allan o'th ferch.

30 Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cy­thrael allan, a'i merch wedi ei bwrw ar y gwely.

31 Ac efe a aeth drachefn ym­maith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilæa, trwy ganol terfynau Decapolis.

32 A hwy a ddygasant atto un byddar ag attal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef.

33 Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo boeri, efe a gy­ffyrddodd â'i dafod ef:

34 A chan edrych tua 'r nêf e­fe a ocheneidiodd, ac a ddywe­dodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, ymagor.

35 Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd, ac efe a lefarodd yn eglur.

36 Ac efe a waharddodd i­ddynt ddywedyd i neb: ond pa mwyafy gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.

37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r beddair glywed, ac i'r mudion ddywedyd.

PEN. VIII.

1 Christ yn porthi y bobl yn rhy­feddol: 10 yn naccau rhoddi arwydd i'r Pharisæaid: 14 yn rhybuddio ei ddiscyblion, i oche­lyd surdoes y Pharisæaid, a sur­does Herod: 22 yn rhoddi ei o­lwg i ddyn dall: 27 yn cydna­bod mai efe yw Christ yr hwn a ddioddefei, ac a gyfodei eilwaith: [Page] 34 ac yn annog i fod yn ddioddef­gar mewn erlid o achos proffessu yr Efengl.

YN y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwytta, y gal­wodd yr Jesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt,

2 Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dri­diau weithian yn aros gyd â mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta:

3 Ac os gollyngaf hwynt ym­maith ar eu cythlwng, i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaeth o bell.

4 A'i ddiscyblion ef a'i hatte­basant, O ba le y gall nêb ddi­goni y rhai hyn â bara, ymma yn yr anialwch.

5 Ac efe a ofynnod iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith.

6 Ac efe a orchymynnodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr, ac a gym­merodd y saith dorth, ac a ddi­olchodd, ac a'u torodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddiscyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bron­nau: a gosodasant hwynt ger bron y bobl.

7 Ac yr oedd ganddynt ychy­dig byscod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt.

8 A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briw-fwyd gweddill, saith fa­scedaid.

9 A'r rhai a fwyttasent o­edd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ym­maith.

10 Ac yn y man wedi iddo fy­ned i long gyd â'i ddiscyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.

11 A'r Pharisæaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o'r nêf, gan ei demtio.

12 Yntef gan ddwys ochenei­dio yn ei yspryd, a ddywedodd, Beth a wna 'r genhedlaeth ymma yn ceisio arwydd? yn wîr meddaf i chwi, ni roddir arwydd i'r gen­hedlaeth ymma.

13 Ac efe a'u gadawodd hw­ynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymmaith i'r lan arall.

14 A'r discyblion a adawsent yn angof gymmeryd bara, ac nid o­edd ganddynt gŷd â hwynt onid un dorth yn y llong.

15 Yna y gorchymynnodd efe iddynt gan ddywedyd, Gwiliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phari­sæaid, a surdoes Herod.

16 Ac ymresymmu a wnae­thant y naill wrth y llall, gan ddy­wedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara.

17 A phan wybu 'r Jesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ym­resymmu 'r ydych, am nad oes gennych fara? ond ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon etto gennych wedi caledu?

18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio?

19 Pan dorrais y pum torth hynny, ym mysc y pum mil, pa sawl bascedaid yn llawn o friw­fwyd [Page] a godasoch i fynu? Dywe­dasant wrtho, Deuddeg.

20 A phan dorrais y saith ym­mhlith y pedair mîl, lloneid pa sawl basced o friwfwyd a goda­soch i fynu? A hwy a ddyweda­sant, Saith.

21 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa fodd nad ydych yn deall?

22 Ac efe a ddaeth i Bethsaida: a hwy a ddygasant atto un dall, ac a ddeisyfiasant arno, ar iddo gy­ffwrdd ag ef.

23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i twysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo ar­no, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.

24 Ac wedi edrych i fynu efe a ddywedodd, yr ydwyf yn gwe­led dynion megis preniau yn rho­dio.

25 Wedi hynny y gosodes efe ei ddwylo drachefn ar ei lygaid ef, ac a barodd iddo edrych i fynu: ac efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell ac yn eglur.

26 Ac efe a'i hanfonodd ef a­dref i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddôs i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.

27 A'r Jesu a aeth allan ef a'i ddiscyblion, i drefi Caesaræa Phi­lippi: ac ar y ffordd, efe a ofyn­nodd iw ddiscyblion, gan ddywe­dyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy môd i?

28 A hwy a attebasant, Ioan Fedyddiwr: a rhai, Elias: ac e­raill, un o'r prophwydi.

29 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy môd i? A Phetr a at­tebodd, ac a ddywedodd wrtho, Ti yw 'r Christ.

30 Ac efe a orchymynnodd i­ddynt na ddywedent i nêb am dano.

31 Ac efe a ddechreuodd eu dyscu hwynt, fôd yn rhaid i Fâb y dŷn oddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch-offe­riaid, a'r Scrifennydion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi.

32 A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phetr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreu­odd ei geryddu ef.

33 Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddiscyblion, efe a geryddodd Petr, gan ddywedyd, Dôs ymmaith yn fy ôl i Satan: am nad wyt yn fynnied y pe­thau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.

34 Ac wedi iddo alw atto y dyrfa gŷd â'i ddiscyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes a dilyned fi.

35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei enioes, a'i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei enioes er fy mwyn i a'r Efengyl, hwnnw a'i ceidw hi,

36 Canys pa lesâd i ddŷn os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?

37 Neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid am ei enaid?

38 Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, yn yr odinebus a'r bechadurus gen­hedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fâb y dŷn yntef hefyd, pan ddêl yngogoniant ei Dâd, gŷd â'r An­gelion sanctaidd.

PEN. [...]

1 Gwedd-newidiad yr Jesu. 11 Efe yn dyscu ei ddiscyblion ynghylch dyfodiad Elias: 14 yn bwrw allan yspryd mûd, a byddar: 30 Yn rhag-fyneg [...] ei farwolaeth a'i adgyfodiad: 33 Yn annog ei ddi­scyblion i ostyngeiddrwyd: 38 gan erchi iddynt, na luddient y rhai nid ydynt yn eu herbyn, ac na roddent rwystr i neb o'r ffyddloniaid.

AC efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd rhai o'r rhai sy yn se­fyll ymma, ni phrofant angeu, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2 Ac wedi chwe diwrnod y cymmerth yr Jesu Betr, ac Jaco, ac Ioan; ac a'u dug hwynt i fy­nydd uchel, eu hunain o'r naill­tu; ac efe a wedd-newidiwyd yn eu gŵydd hwynt.

3 A'i ddillad ef a aethant yn ddisclair, yn gannaid iawn fel ei­ra, y fath ni feidr un pannwr ar y ddaiar eu cannu,

4 Ac ymddangosodd iddynt Elias gŷd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Jesu.

5 A Phetr a attebodd ac a ddy­wedodd wrth yr Jesu, Rabbi, da yw i ni fôd ymma: a gwnawn dair pabell, i ti un, ac i Foses un, ac i Elias un.

6 Canys ni's gwyddei beth yr oedd yn ei ddywedyd, canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7 A daeth cwmmwl yn cysco­di trostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmmwl gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fâb, gwran­dewch ef.

8 Ac yn ddisymmwth, pan e­drychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Jesu yn unig gyd â hwynt.

9 A phan oeddynt yn dyfod i wared o'r mynydd, efe a or­chymynnodd iddynt na ddango­sent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfodei Mâb y dŷn o feirw.

10 A hwy a gadwasant y gair gŷd â hwynt eu hunain, gan gŷd-ymholi beth yw 'r adgyfodi o feirw.

11 A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ham y dywed yr Scrifennyddion, fôd yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf.

12 Ac efe a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Elias yn ddi­au gan ddyfod yn gyntaf, a ed­fryd bôb peth: a'r modd yr Scri­fennwyd am Fâb y dŷn, y dio­ddefai lawer o bethau, ac y dir­mygid ef.

13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Elias yn ddiau, a gwneuthur o honynt iddo 'r hyn a fynnasant, fel yr scrifen­nwyd am dano.

14 A phan daeth efe at ei ddi­scyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn en cylch hwynt, a'r Scrifennyddion yn cyd-ymholi â hwynt.

15 Ac yn ebrwydd yr holl dyr­fa, pan ganfuant ef, a ddychryn­nasant, a chan redeg atto, a gyfar­chasant iddo.

16 Ac efe a ofynnodd i'r Scri­fennyddion, Pa gŷd-ymholi yr ydych yn eich plith?

17 Ac un o'r dyrfa a attebodd, ac a ddywedodd, Athro, mi a ddu­gym fy mâb attat, ac yspryd mud ynddo.

18 A pha le bynnag y cymmero ef, efe a'i rhwyga; ac yntef a fwrw ewyn, ac a yscyrnyga ddan­nedd, ac y mae yn dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddiscyblion, ar iddynt ei fwrw ef allan, ac ni's gallasant.

19 Ac efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth an­ffyddlon, pa hŷd y byddaf gŷd â chwi? pa hŷd y goddefaf chwi? dygwch ef attafi.

20 A hwy a'i dygasant ef atto: a phan welodd ef, yn y man yr yspryd a'i drylliodd ef, a chan syrthio ar y ddaiar, efe a ymdrei­glodd tan falu ewyn.

21 A gofynnodd yr Jesu i'w dâd ef, Beth sydd o amser, er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntef a ddy­wedodd, Er yn fachgen.

22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i'r dyfroedd, fel y dife­thai efe ef; ond os gelli di ddim, cymmorth ni, gan dosturio wr­thym.

23 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Os gelli di gredu, pôb peth a all fod i'r neb a gredo.

24 Ac yn y fan tâd y bachgen, tan lefain ag wylofain, a ddywe­dodd; Yr wyfi yn credu o Ar­glwydd: cymmorth fy anghredi­niaeth i.

25 A phan welodd yr Jesu fôd y dyrfa yn cŷd-redeg atto, efe a geryddodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi yspryd mud a byddar, yr wyf fi yn gor­chymmyn i ti, Tyred allan o ho­naw, ac na ddôs mwy iddo ef.

26 Ac wedi i'r yspryd lefain a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel vn marw, fel y dywedodd llawer ei sarw ef,

27 A'r Jesu a'i cymmerodd ef erbyn ei law, ac a'i cyfododd: ac efe a safodd i fynu.

28 Ac wedi iddo fyned i mewn i'r tŷ, ei ddiscyblion a ofynna­sant iddo o'r nailltu, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?

29 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.

30 Ac wedi ymadel oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Ga­lilæa: ac ni fynnai efe wybod o nêb.

31 Canys yr oedd efe yn dyscu ei ddiscyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mâb y dŷn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef, ac wedi ei ladd, yr adgyfodai y trydydd dydd.

32 Ond nid oeddynt hwy yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt ofyn iddo.

33 Ac efe a ddaeth i Caperna­um: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oe­ddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ffordd?

34 Ond hwy a dawsant â sôn: canys ymddadleuasent â'u gilydd ar y ffordd, pwy a fyddei fwyaf.

35 Ac efe a eisteddodd, ac a al­wodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fôd yn gyn­taf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gwenidog i bawb.

36 Ac efe a gymmerth sach­gennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt, ac wedi iddo ei gymmeryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,

37 Pwy bynnag a dderbynio vn o'r cyfryw fechgyn, yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy [Page] bynnag a'm derbyn i, n'd myfi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm danfonodd i.

38 Ac Joan a'i hattebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wel­som vn yn bwrw allan gythreuli­aid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni, ac ni a wahardda­som iddo, am nad yw yn ein di­lyn ni.

39 A'r Jesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo: canys nid oes nêb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi dryg air i mi.

40 Canys y neb nid yw i'n her­byn, o'n tu ni y mae,

41 Canys pwy bynnag a ro­ddo i chwi i'w yfed gwppaneid o ddwfr yn fy enw i, am eich bôd yn perthyn i Grist, yn wîr me­ddaf i chwi, ni chyll efe ei o­brwy.

42 A phwy bynnag a rwystro vn o'r rhai bychain hyn sy yn cre­du ynofi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daffu i'r môr.

43 Ac os dy law a'th rwystra, torr hi ymmaith: gwell yw i ti fy­ned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag a dwy law gennit, fyned i vffern, i'r tân anniffoddadwy:

44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

45 Ac os dy droed a'th rwy­stra, torr ef ymmaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennit dy daflu i vffern, i'r tân anniffoddad­wy:

46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.

47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymmaith, gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn vn-llygeidiog, nag â dau lygad gennit dy daflu i dân vffern:

48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw na'r tân yn diffodd.

49 Canys pôb vn a helltir â thân, a phôb aberth a helltir â ha­len.

50 Da yw 'r halen: ond os bydd yr halen yn ddihallt, â pha beth yr helltwch ef? Bid gen­nych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â'i gi­lydd.

PEN. X.

2 Crist yn ymresymmu â'r Phari­sæaid ynghylch yscar: 13 yn ben­dithio y plant a ddycpwyd atto: 17 yn atteb i wr goludoc, pa fodd y cai etifeddu bywyd tragwyddol: 23 yn dangos i'w ddiscyblion be­rygl golud: 28 yn addo gwobrau i'r sawl a ymadawo â dim er mwyn yr Efengyl: 32 yn rhag­fynegi ei farwolaeth a'i adgyfo­diad: 35 yn gorchymmyn i feibion Zebedaeus a geisient barch gantho, feddwl yn hytrach am ddioddef gy­dag ef; 46 ac yn rhoddi ei olwg i Bartimaeus.

AC efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Judæa, trwy 'r tu hwnt i'r Jorddonen: a'r bobloedd a gŷd-gyrchasant at­to ef drachefn: ac fel yr oedd yn arseru, efe a'u dyscodd hwynt dra­chefn.

2 A'r Pharisæaid wedi dyfod atto, a ofynnasant iddo, ai rhydd i ŵr roi ymmaith ei wraig? gan ei demptio ef.

3 Yntef a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Beth a or­chymynnodd [Page] Moses i chwi?

4 A hwy a ddywedasant, Mo­ses a ganhiadodd scrifennu lly­thyr yscar, a'i gollwng hi ym­maith.

5 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, O achos eich ca­lon-galedwch chwi, yr scrifen­nodd efe i chwi y gorchymmyn hwnnw.

6 Ond o ddechreuad y creadi­gaeth, yn wr-ryw a benyw y gw­naeth Duw hwynt.

7 Am hyn y gâd dŷn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig.

8 A hwy ill dau a fyddant vn cnawd, fel nad ydynt mwy ddau, onid vn cnawd.

9 Y peth gan hynny a gyssyll­todd Duw, na wahaned dŷn.

10 Ac yn y tŷ drachefn, ei ddi­scyblion a ofynnasant iddo am yr vn peth.

11 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pwy bynnag a roddo ym­maith ei wraig, ac a briodo vn arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.

12 Ac os gwraig a ddyry ym­maith ei gŵr, a phriodi vn arall, y mae hi yn godinebu.

13 A hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r discyblion a gery­ddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.

14 A'r Jesu pan welodd hynny fa anfodlon, ac a ddywedodd wr­thynt, Gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.

15 Yn wir meddaf i chwi pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn-bach, nid â efe i mewn iddi.

16 Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwy­lo arnynt, ac a'u bendithiodd.

17 Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd vn atto, a go­styngodd iddo, ac a ofynnodd i­ddo, O athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol.

18 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Pa ham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond vn, sef Duw.

19 Ti a wyddost y gorchymmy­nion, Na odineba; Na ladd, Na ledratta, Na cham dystiolaetha; Na cham-golleda; Anrhydedda dy dâd a'th fam.

20 Yntef a attebodd, ac a ddy­wedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gŷd a gedwais o'm hieuengctid.

21 A'r Jesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wr­tho, Vn peth sydd ddyffigiol i ti: dôs, gwerth yr hyn sydd gennit, a dyro i'r tlodion, a thi a gei dry­sor yn y nef: a thyred, a chym­mer i fynu y groes, a dilyn fi.

22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymmaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23 A'r Jesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt, i deyrnas Dduw.

24 A'r discyblion a frawycha­sant wrth ei eiriau ef. Ond yr Jesu a attebodd drachefn, ac a ddywe­dodd wrthynt, O blant, mor an­hawdd yw i'r rhai sy a'u hym­ddiried yn eu golud, fyned i deyr­nas Dduw.

25 Y mae yn haws i gamel fy­ned trwy grau 'r odwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

26 A hwy a synnasant yn ddir­fawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fôd yn gad­wedig?

27 A'r Jesu wedi edrych ar­nynt, a ddywedodd, Gyd â dyni­on ammhossibl yw, ac nid gyd â Duw: canys pob beth sydd bossibl gyd â Duw.

28 Yna y dechreuodd Petr ddy­wedyd wrtho, Wele, nyni a adaw­som bob peth, ac a'th ddilyna­som di.

29 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd, Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r Efengyl,

30 Ar ni dderbyn y can cym­maint, yr awron y pryd hyn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mam­mau, a phlant, a thiroedd, yn­ghŷd ag erlidiau, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.

31 Ond llawer rhai cyntaf, a fyddant ddiweddaf: a'r diweddaf fyddant gyntaf.

32 Ac yr oeddynt ar y ffordd, yn myned i fynu i Jerusalem: ac yr oedd yr Jesu yn myned o'u blaen hwynt; a hwy a frawycha­sant, ac fel yr oeddynt yn canlyn yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd y deuddeg, efe a ddechreu [...]dd fynegi iddynt y pethau, a ddigwyddent iddo ef.

33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem, a Mab y dyn a draddodir i'r Arch-offei­riaid, ac i'r Scrifennyddion, a hwy a'i condemnant ef i farwo­laeth, ac a'i t [...]dodant ef i'r cen­hedloedd:

34 A hwy a'i gwatwarant ef ac a'i fflangellant, ac a boerant ar­no, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr adgyfyd.

35 A daeth atto Jaco ac Joan meibion Zebedaeus, gan ddywe­dyd, Athro, ni a fynnem wneu­thur o honnot i ni yr hyn a ddy­munem.

36 Yntef a ddywedodd wr­thynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?

37 Hwythau a ddywedasant wrtho, canhiadhâ i ni eistedd, vn ar dy ddeheu-law, a'r llall ar dy asswy yn dy ogoniant.

38 Ond yr Jesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych vn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwppan yr wyfi yn ei yfed, a'ch bedyddio â'r bedydd i'm bedyddir i ag ef?

39 A hwy a ddywedasant wr­tho, Gallwn. A'r Jesu a ddywe­dodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwppan yr yfwyfi; ac i'ch bedy­ddir â'r bedydd y bedyddir fin­neu:

40 Ond eistedd ar fy neheu-law a'm hasswy, nid eiddo fi ei roddi, ond i'r rhai y darparwyd.

41 A phan glybu y dêg, hwy a ddechreuasant fôd yn anfodlon ynghylch Jaco ac Joan:

42 A'r Jesu a'i galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fôd y rhai a dy­bir eu bôd yn llywodraethu ar y cenhedloedd, yn tra-arglwyddiae­thu arnynt, a'u gwŷr mawr hwynt, yn tra awdurdodi arnynt.

43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy byn­nag a ewyllysio fôd yn fawr yn eich plith, bydded wenidog i chwi;

44 A phwy bynnag o honoch a fynno fôd yn bennaf bydded wâs i bawb.

45 Canys ni ddaeth Mâb y dŷn i'w wasanaethu, ond i wasanae­thu, ac i roi ei enioes yn brid­werth tros lawer.

46 A hwy a ddaethant i Jeri­cho: ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe, a'i ddiscy­blion, a bagad o bobl, Barti­maeus ddall mâb Timaeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn car­dotta.

47 A phan glybu mai'r Jesu o Nazareth ydoedd, efe a ddechreu­odd lefain, a dywedyd, Jesu fâb Dafydd, trugarhâ wrthif.

48 A llawer a'i ceryddasant ef i geisio ganddo dewi i ond efe a le­fodd yn fwy o lawer, Mâb Da­fydd, trugarhâ wrthif.

49 A'r Jesu a safodd, ac a ar­chodd ei alw ef: a hwy a alwa­sant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymmer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di.

50 Ond efe wedi taflu ei gochi ymmaith, a gyfododd ac a ddaeth at yr Jesu.

51 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddy­wedodd wrtho, Athro, caffael o honof fy ngolwg.

52 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Jesu ar hŷd y ffordd.

PEN. XI.

1 Christ yn marchogaeth mewn go­ruchafiaeth i Jerusalem: 12 yn melltithio y pren deiliog diffrwyth: 15 yn glanhau y Deml: 20 yn annoc ei ddiscyblion i fôd yn ddi­sigl mewn ffydd, ac i faddeu iw gelynion: 27 ac yn amddiffyn fôd ei weithredoedd ef yn gyfreithlon, trwy dystiolaeth Joan, yr hwn oedd ŵr wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw.

AC wedi eu dyfod yn agos i Jerusalem, i Bethphage a Bethania, hyd fynydd yr Ole­wydd, efe a anfones ddau o'i ddi­scyblion.

2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymmaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb: go­llyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymma:

3 Ac os dywed neb wrthych, Pa ham y gwnewch hyn? dywed­wch, Am fôd yn rhaid i'r Ar­glwydd wrtho: ac yn ebrwydd efe a'i denfyn ymma.

4 A hwy a aethant ymmaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym, wrth y drws oddi allan mewn croes-ffordd, ac a'i gollyngasant ef yn rhydd.

5 A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant [...]rthynt, Beth a wnewch chwi yn gollwng yr ebol yn rhydd?

6 A hwy a ddywedasant wr­thynt fel y gorchymynnasei 'r Jesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymmaith.

7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Jesu, ac a fwriasant eu dillad arno: ac efe a eisteddodd arno.

8 A llawer a danasant eu dillad [Page] ar hŷd y ffordd: ac eraill a dorra­sant gangau o'r gwydd, ac a'u ta­nasant ar y ffordd.

9 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Ho­sanna, bendigedig fyddo yr hwn sydd yn dyfod yn enw 'r Arg­lwydd.

10 Bendigedig yw y deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tâd Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.

11 A'r Jesu a aeth i mewn i Je­rusalem, ac i'r Deml, ac wedi iddo edrych ar bob peth o'i am­gylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Bethania gyd â'r deuddeg;

12 A thrannoeth wedi iddynt ddyfod allan o Bethania yr oedd arno chwant bwyd.

13 Ac wedi iddo ganfod o hir­bell ffigysbren, ac arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno: a phan ddaeth atto, ni chafodd efe ddim ond y dail, canys nid oedd amser ffigys.

14 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, Na fwyttaed neb ffrwyth o honot byth mwy, A'i ddiscyblion ef a glywsant.

15 A hwy a ddaethant i Jeru­salem: a'r Jesu aeth i'r Deml, ac a ddechreuod [...] fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y Deml: ac a ymchwelodd drestelau 'r a­rian-wŷr a chadeiriau y gwerth­wŷr colommennod.

16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy 'r Deml.

17 Ac efe a'u dyscodd gan ddy­wedyd wrthynt, Onid yw yn scri­fennedig. Y gelwir fy nhŷ i, yn dy gweddi i'r holl genhedloedd, ond chwi a'i gwnaethoch yn o­gof lladron.

18 A'r Scrifennyddion, a'r Arch-offeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fôd yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.

19 A phan aeth hi yn hŵyr, efe a aeth allan o'r ddinas.

20 A'r boreu wrth fyned hei­bio, hwy a welsant y ffigys-bren wedi crino o'r gwraidd.

21 A Phetr wedi atgofio, a ddy­wedodd wrtho, Athro, wele y ffigys-bren a felldithiaist wedi crino.

22 A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw.

23 Canys yn wir yr wyf yn dy­wedyd i chwi, pwy bynnag a ddy­wedo wrth y mynydd hwn, Tyn­ner di ymmaith, a bwrier di i'r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo a fydd iddo.

24 Am hynny meddaf i chwi, beth bynnag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi.

25 A phan safoch i weddio, maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb: fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y ne­foedd i chwithau eich camwe­ddau.

26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y ne­foedd, ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau.

27 A hwy a ddaethant drachefn i Jerusalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, yr Arch-offeiriaid, [Page] a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid, a ddaethant atto:

28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon, i wneuthur y pethau hyn?

29 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau vn gair, ac at­tebwch fi, ac mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:

30 Bedydd Joan, ai o'r nef yr oedd, ai o ddynion? attebwch fi.

31 Ac ymresymmu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywe­dyd, os dywedwn, o'r nef, efe a ddywed, Pa ham gan hynny na chredech iddo?

32 Eithr os dywedwn, o ddy­nion, yr oedd arnynt ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Joan, mai prophwyd yn ddiau ydo­edd.

33 A hwy a attebasant ac a ddy­wedasant wrth yr Jesu, Ni wy­ddom ni. A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddyweddaf finneu i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

PEN. XII.

1 Trwy ddammeg y winllan a log­wyd i lafurwyr anniolehgar, y mae Crist yn rhag ddangos gwr­thodiad yr Iddewon, a galwad y cenhedloedd: 13 Y mae yn goche­lyd magl y Pharisæaid, a'r Hero­dtaniaid ynghylch talu teyrnged i Caesar, 18 Yn argyoeddi amryfu­sedd y Sadducæaid, y rhai a wa­dent yr adgyfodiad: 21 yn atteb yr Scrifennydd oedd yn ymofyn am y gorchymyn cyntaf: 35 yn beio ar dyb yr Scrifennyddion am Grist: 38 ac yn gorchymyn i'r bobl ochelyd ei huchder a'i rhagrith hwy: 41 Ac yn canmol y weddw dlawd am ei dwy hatling, yn fwy nâ nêb.

AC efe a ddechreuodd ddywe­dyd wrthynt ar ddamhegion, Gŵr a blannodd win-llan, ac a ddodes gae o'i hamgylch, ac a gloddiodd le i'r gwîn-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-wyr, ac a aeth o­ddi cartref.

2 Ac efe a anfonodd wâs mewn amser at y llafur-wŷr, i dderbyn gan y llafur-wŷr o ffrwyth y win­llan.

3 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrrasant ym­maith yn waglaw.

4 A thrachefn yr anfonodd efe attynt wâs arall: a hwnnw y ta­flasant gerrig atto, ac yr archolla­sant ei ben, ac a'i gyrrasant ym­maith yn amharchus.

5 A thrachefn yr anfonodd efe vn arall; a hwnnw a laddasant: a llawer eraill, gan faeddu rhai, a lladd y lleill.

6 Am hynny etto, a chanddo vn mâb, ei anwylyd, efe a anfo­nodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i.

7 Ond y llafur-ŵyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hu­nain, Hwn yw 'r etifedd, deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.

8 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r win-allan.

9 Beth gan hynny a wna ar­glwydd y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha y llafur-wŷr, ac a rydd y win-llan i eraill.

10 Oni ddarllennasoch yr Scry­thur hon? Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwn a wnath­pwyd yn ben y gongl.

11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.

12 A hwy a geisiasant ei ddala ef: ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddanimeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymmaith.

13 A hwy a anfonasant atto rai o'r Pharisæaid ac o'r Herodiani­aid, i'w rwydo ef yn ei yma­drodd.

14 Hwythau pan ddaethant a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fôd ti yn eir-wir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: ca­nys nid wyti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd: ai cyfreithlawn rhoi teyrn-ged i Caesar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn hi?

15 Ond efe, gan wybod eu rha­grith hwynt, a ddywedodd wr­thynt, Pa ham y temtiwch fi? dy­gwch i mi geiniog, fel y gwelwyf hi?

16 A hwy a'i dygasant, Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw 'r ddelw hon a'r ar­graph? A hwy a ddywedasant, eiddo Caesar.

17 A'r Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Caesar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnae­thant o'i blegid.

18 Daeth y Saduceaid hefyd atto, y rhai a ddywedant nad oes adgyfodiad: a gofynnasant iddo, gan ddywedyd,

19 Athro, Moses a scrifennodd i ni, o bydd marw brawd neb, a gadu ei wraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd.

20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerth wraig, a phan fu farw, ni ada­wodd hâd.

21 A'r ail a'i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntef hâd: a'r trydydd yr vn modd.

22 A hwy a'i cymmerasant hi eill saith, ac ni adawsant had: yn ddiweddaf o'r cwbl, bu farw y wraig hefyd.

23 Yn yr adgyfodiad gan hyn­ny, pan adgyfodant, gwraig i ba vn o honynt fydd hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig:

24 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, Ond am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad y­dych yn gwybod yr Scrythyrau na gallu Duw?

25 Canys pan adgyfodant o feirw, ni wreiccant, ac ni wrant: eithr y maent fel yr angelion sydd yn y nefoedd.

26 Ond am y meirw, yr adgyfo­dir hwynt, oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddy­wedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?

27 Nid yw efe Dduw 'r meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni yn fawr.

28 Ac vn o'r Scrifennyddi­on a ddaeth, wedi eu clywed [Page] hwynt yn ymresymmu, a gwy­bod atteb o honaw iddynt yn gymmwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw 'r gorchymmyn cyntaf o'r cwbl?

29 A'r Jesu a attebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchymmynion yw, Clyw Israel, yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:

30 A châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth: hwn yw 'r gor­chymmyn cyntaf.

31 A'r ail sydd gyffelyb iddo, Câr dy gymmydog fel ti dy hun: nid oes orchymmyn arall mwy nâ'r rhai hyn.

32 A dywedodd yr Scrifen­nydd wrtho, Da, athro, mewn gwirionedd y dywedaist, mai un Duw sydd, ac nad oes arall ond efe:

33 A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl e­naid, ac â'r holl nerth, a charu ei gymmydog megis ei hun, sydd fwy nâ'r holl boeth-offrymmau a'r aberthau.

34 A'r Jesu pan welodd iddo atteb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi-wrth deyrnas Dduw, Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.

35 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd, wrth ddyscu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Scrifennyddion fôd Crist yn fâb Dafydd?

36 Canys Dafydd ei hun a ddy­wedodd trwy 'r Yspryd glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar sy neheu­law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i'th draed.

37 Y mae Dafydd ei hun gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd: ac o ba le y mae efe yn fâb iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.

38 Ac efe a ddywedodd wr­thynt yn ei athrawiaeth, Ymoge­lwch rhag yr Scrifennyddion, y rhai a chwennychant rodio mewn gwiscoedd llaesion, a chael cy­farch yn y marchnadoedd,

39 A'r prif-gadeiriau yn y Sy­nagogau, a'r prif-eisteddleoedd mewn swpperau.

40 Y rhai sydd yn llwyr-fw­ytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio, y rhai hyn a derbyniant farnediga­eth fwy.

41 A'r Jesu a eisteddodd gyfer­byn a'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysor-fa: a chyfoetho­gion lawer a fwriasant lawer.

42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyr­ling.

43 Ac efe a alwodd ei ddiscy­blion atto, ac a ddywedodd wr­thynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn, mwy nâ'r rhai oll a fwriasant i'r drysor-fa.

44 Canys hwynt hwy oll a fw­riasant o'r hyn a oedd yngweddill ganddynt: ond hon o'i heisieu a fwriodd i mewn yr hyn oll a fe­ddei, sef ei holl fywyd.

PEN. XIII.

1 Christ yn rhag-fynegi dinistr y Deml: 9 yr erlidiau o achos yr Efengyl: 10 bydd rhaid pre­gethu [Page] yr Efengl i'r Cenhedloedd oll: 14 y mawr gystuddiau a ddigwyddai i'r Iddewon: 24 a dull ei ddyfodiad ef i'r farn: 32 o ran na wyr nêb yr awr, y dylai bôb dyn wilied a gweddio, rhac ein cael yn ammharod pan ddêl ef at bôb un trwy farwola­eth.

AC fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, un oi ddiscy­blion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath a­deiladau sy ymma.

2 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, A weli di yr adei­ladau mawrion hyn? ni edir ma­en ar faen a'r ni's dattodir.

3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd gyferbyn a'r Deml, Petr, ac Jaco ac Joan, ac Andreas, a ofynnasant iddo o'r nailltu:

4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd fydd pan fo y pethau hyn oll ar ddi­bennu.

5 A'r Jesu a attebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, E­drychwch rhag twyllo o neb chwi.

6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw: ac a dwyllant lawer.

7 Ond pan glywoch am ryfelo­edd, a sôn am ryfeloedd, na chy­ffroer chwi: canys rhaid i hynny fôd, ond nid yw y diwedd etto.

8 Canys cenedl a gyfyd yn er­byn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daiar-grynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thra­llod fyddant.

9 Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn: eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cynghoreu, ac i'r Synagogau: chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron rhaglawiaid a Brenhinoedd, o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy.

10 Ac y mae yn rhaid yn gyn­taf bregethu yr Efengyl ym mysc yr holl genhedloedd.

11 Ond pan ddygant chwi a'ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywettoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwy-chwi sy yn dywedyd, ond yr Yspryd glân.

12 A'r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhie­ni: ac a'u rhoddant hwy i far­wolaeth.

13 A chwi a fyddwch gâs gan bawb, er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhâo hyd y diwedd, hwn­nw a fydd cadwedig.

14 Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanneddol, yr hwn a ddywetpwyd gan Ddaniel y prophwyd, wedi ei osod lle ni's dylid, (y neb a ddarlenno dealled) yna y rhai fyddant yn Iudæa, ffo­ant i'r mynyddoedd.

15 A'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddescynned i'r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o'i dŷ.

16 A'r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl, i gymmeryd ei wisc.

17 Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

18 Ond gweddiwch na by­ddo [Page] eich ffoedigaeth yn y gayaf.

19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu y fath o ddechreu y creaduria­eth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith.

20 Ac oni bai fôd i'r Argl­wydd fyrhau y dyddiau, ni cha­dwesid un cnawd: eithr er mwyn, yr etholedigion a etholodd, efe a fyrrhaodd y dyddiau.

21 Ac yna os dywed neb wr­thych, Wele, llymma y Christ, neu wele accw, na chredwch.

22 Canys gau Gristiau, a gau brophwydi a gyfodant, ac a ddan­gosant [...]rwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymmaith, pe byddai bo­ssibl, ie yr etholedigion.

23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bôb peth.

24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi 'r gorthrymder hwnnw, y tywylla 'r haul, a'r lloer ni rydd ei goleuni.

25 A sêr y nef a syrthiant, a'r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.

26 Ac yna y gwelant Fâb y dŷn yn dyfôd yn y cymmylau, gyd â gallu mawr, a gogoniant.

27 Ac yna yr enfyn efe ei An­gelion, ac y cynnull ei etholedi­gion, oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaiar hyd eithaf y nêf.

28 Ond dyscwch ddammeg o­ddi wrth y ffigys-bren, pan fo ei gangen eusys yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fôd yr hâf yn agos:

29 Ac felly chwithan, pan we­loch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.

30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi nad â yr oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.

31 Nef a ddaiar a ânt heibio, ond y geiriau maufi nid ânt hei­bio ddim.

32 Eithr am y ddydd hwnnw a'r awr, ni ŵyr neb, na 'r ange­lion sydd yn y nef, na'r Mâb, ond y Tâd.

33 Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

24 Canys mâb y dŷn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi ga­del ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bôb un ei waith ei hun, a gorchymmyn i'r drysor wilio.

35 Gwiliwch gan hynny, (ca­nys ni's gwyddoch pa brŷd y daw meistr y tŷ, yn yr hŵyr, ai han­ner nôs, ai ar ganiad y ceiliog, ai 'r boreu-ddydd.)

36 Rhag iddo ddyfod yn ddi­symmwth, a'ch cael chwi yn cy­scu.

37 A'r hyn yr wyf yn eu ddy­wedyd wrthy-chwi, yr wyf yn eu ddywedyd wrth bawb, Gwili­wch.

PEN. XIV.

1 Cyd-fwriad yn erbyn Christ. 3 Gwraig yn tywallt ennaint gwerth-fawr ar ei ben ef. 10 Iu­das yn gwerthu ei feistr am arian. 18 Christ ei hun yn rhag-ddywe­dyd y bradychai un a'i ddiscyblion ef. 22 Wedi darparu a bwytta y Pasc, y mae yn ordeinio ei Swp­per: 27 yn yspysu ymlaen llaw, y ffoai ei holl ddiscyblion, ac y gwadai Peter ef. 43 Judas yn ei [Page] fra­dychu ef â chusan. 46 Ei ddala ef yn yr ardd. 53 Cynnulleidfa yr Iddewon yn achwyn arno ef ar gam, ac yn ei farnu yn annuwi­ol,65 ac yn ei ammherchi yn gywilyddus. 66 Petr yn ei wadu ef deir-gwaith.

AC Wedi deu-ddydd yr oedd y Pasc, a gwyl y bara croyw: a'r Arch-offeiriaid a'r Scrifenny­ddion a geisiasant pa fodd y da­lient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef.

2 Eithr dywedasant, Nid ar yr wŷl, rhag bôd cynnwrf ym-mlith y bobl.

3 A phan oedd efe yn Betha­nia, yn nhŷ Simon y gwahan­glwyfus, ac efe yn eistedd i fwyt­ta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint, o nard glwyb gwerth­fawr, a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef:

4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywe­dyd, I ba heth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?

5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw trychan-ceiniog, a'u roddi i'r tlodion. A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi.

6 A'r Jesu a ddywedodd, Ge­dwch iddi; pa ham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth wei­thred dda arnafi.

7 Canys bôb amser y cewch y tlodion gyd â chwi, a phan fyn­noch y gellwch wneuthur da i­ddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.

8 Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinnio fy ngorph erbyn y cla­ddedigaeth.

9 Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon, yn yr holl fŷd, yr hyn a w­naeth hon hefyd, a adroddir er coffa am deni.

10 A Iudas Iscariot, un o'r deuddeg, a aeth ymmaith at yr Arch-offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.

11 A phan glywsant, fe fu la­wen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntef a geiffodd pa fodd y gallai yn gymmwys ei fra­dychu ef.

12 A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y Pasc, dywedodd ei ddiscyblion wrtho; I ba le yr wyt ti yn ewy­llysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwytta y Pasc?

13 Ac efe a anfonodd ddau o'i ddiscyblion, ac a ddywedodd wr­thynt, Ewch i'r ddinas, a chyfer­fydd â chwi ddŷn yn dwyn steneld o ddwfr: dilynwch ef.

14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fôd yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae 'r llettŷ, lle y gallwyf, mi a'm discyblion, fwytta yr Pasc?

15 Ac efe a ddengys i chwi o­ruwch-stafell fawr wedi ei thanu, yn barod: yno paratowch i ni.

16 A'i ddiscyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas, ac a gaw­sant megis y dywedasei efe wrth­ynt, ac a baratoesant y Pasc.

17 A phan aeth hi yn hwyr, e­fe a ddaeth gyd â'r deuddeg.

18 Ac fel yr oeddynt yn ei­stedd, ac yn bwytta, yr Jesu a ddy­wedodd, Yn wir meddaf i chwi, un o honoch, yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, a'm brady­cha i.

19 Hwythau a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho bôb vn ac vn, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?

20 Ac efe a attebodd ac a ddy­w [...]dodd wrthynt, Vn o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddyscl yw efe.

21 Mab y dŷn yn wir sydd yn myned ymmaith, fel y mae yn scrifennedig am dano: ond gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da fuasai i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid.

22 Ac fel yr oeddynt yn bwyt­ta, yr Jesu a gymerodd fara, ac ai bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph.

23 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant o honaw.

24 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r Testament newydd, yr hwn a dy­welltir tros lawer.

25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y win-wŷdden, hyd y dydd hwn­nw, pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.

26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.

27 A dywedodd yr Jesu wr­thynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i, y nos hon: canys scri­fennedig yw, Tarawaf y bugail, a'r defaid a wascerir.

28 Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.

29 Ond Petr a ddywedodd wr­tho, Pe byddai bawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi.

30 A dywedodd yr Jesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, heddyw o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, y gwedi fi deir-gwaith.

31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai i mi farw gŷd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r vn modd y dyweda­sant oll.

32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio.

33 Ac efe a gymmerth gyd ag ef Petr, ac Jaco, ac Joan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristau yn ddirfawr.

34 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: arhoswch ymma, a gwiliwch,

35 Ac efe a aeth ychydig ym­mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaiar, ac a weddiodd, o bai bossibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.

36 Ac efe a ddywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bossibl i ti; tro heibio y cwppan hwn oddi wrthif: eithr, nid y peth yr yd­wyfi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.

37 Ac efe a ddaeth, ac a'u ca­fodd hwy yn cyscu, ac a ddywe­dodd wrth Petr, Simon, ai cyscu yr wyti? oni allit wilio vn awr?

38 Gwiliwch, a gweddiwch, rhag eich myned mewn temta­siwn: yr yspryd yn ddiau sydd ba­rod; ond y cnawd sydd wan.

39 Ac wedi iddo fyned ym­maith drachefn, efe a weddiodd, gan ddywedyd yr vn ymadrodd.

40 Ac wedi iddo ddychwelyd efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cyscu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau) ac ni wy­ddent beth a attebent iddo.

41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cyscwch weithian, a gorphwys­wch: digon yw, daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mâb y dŷn i ddwylo pechaduriaid.

42 Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos.

43 Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru daeth Judas, vn o'r deu­ddeg, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifenny­ddion a'r Henuriaid.

44 A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnao a gusan­wyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymmaith yn siccr.

45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi? ac a'i cusanodd ef.

46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.

47 A rhyw vn o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ym­maith ei glust ef.

48 A'r Jesu a attebodd, ae a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddy­fau, ac â ffynn i'm dala i?

49 Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni 'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni 'r Scrythyrau.

50 A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.

51 A rhyw ŵr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisco â lli­ain main ar ei gorph noeth a'r gŵyr ieuaingc a'i daliasant ef.

52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffôdd oddi wrthynt yn no­eth.

53 A hwy a ddygasant yr Jesu at yr Arch-offeiraiad: a'r holl Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, a'r Scri­fennyddion, a ymgasclasant gyd ag ef.

54 A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr Arch-offei­riad: ac yr oedd efe yn eistedd gyd â'r gwasanaeth-wŷr, ac yn ymdwymno wrth y tân.

55 A'r Arch-offeiriaid, a'r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Jesu, i'w roi ef i'w far­wolaeth, ac ni chawsant.

56 Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson.

57 A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn ef, gan ddywedyd,

58 Ni a'i clywsom ef yn dywe­dyd, Mi a ddinistriaf y Deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall, heb fôd o waith llaw.

59 Ac etto nid oedd eu tystio­laeth hwy felly yn gysson.

60 A chyfododd yr Arch-offei­riad yn y canol, ac a ofynnodd i'r Jesu, gan ddywedyd, on i attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

61 Ac efe a dawodd, ac nid at­tebodd ddim. Drachefn yr Arch-offeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Ghrist, Mâb y Bendigedig?

62 A'r Jesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dŷn yn eistedd ar ddeheulaw y gallu, ac yn dyfod yng-hymmylau y nef.

63 Yna 'r Arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?

64 Chwi a glywsoch y gab­ledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemnasant ef, ei fôd yn euog o farwolaeth.

65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ci wyneb, a'i ger­nodio, a dywedyd wrtho, Proph­wyda. A'r gweinidogion a'i ta­rawsant ef â gwiall.

66 Ac fel yr oedd Petr yn y llys i wared, daeth vn o forwy­nion yr Arch-offeiriad:

67 A phan ganfu hi Petr yn ymdw ymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Titheu hefyd oeddyt gyd â'r Jesu o Nazareth.

68 Ac efe a wadodd, gan ddy­wedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth: a'r cei­liog a ganodd.

69 A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn vn o honynt.

70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyti yn vn o honynt, canys Galilæad wyt, a'th leferydd sydd debyg.

71 Ond efe a ddechreuodd re­gu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn ymma yr ydych chwi yn dywe­dyd am dano.

72 A'r ceiliog a ganodd yr ail waith: a Phetr a gofiodd y gair a ddywedasei 'r Jesu wrtho. Cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, ti a'm gwedi deir-gwaith. A chan ystyried hynny efe a wylodd.

PEN. XV.

1 Dwyn yr Jesu yn rhwym, ae achwyn arno ger bron Pilat. 15 Wrth floedd y bobl gyffredin, gollwng Barabbas y llofrudd yn rhydd, a thraddodi yr Jesu iw groes-hoelio. 17 Ei goroni ef â drain. 19 poeri arno, a'i wat­wor: 21 Ef yn deffygio yn dwyn ei groes: 27 Ei grogi ef rhwng dau leidr. 29 Y mae yn diodd [...]f difenwad yr Iddewon, 39 Etto y Canwriad yn cyffesu ei fod ef yn fâb Duw: 43 A Joseph yn ei gladdu ef yn barchedig.

AC yn y fan y boren, yr ym­gynghorodd yr Arch-offeiri­aid gyd â'r Henuriaid â'r Scrifen­nyddion, a'r holl gyngor, ac wedi iddynt rwymo 'r Jesu, hwy a'i dy­gasant ef ymmaith, ac a'i traddo­dasant at Pilat,

2 A gofynnodd Pilat iddo, ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

3 A'r Arch-offeiriaid a'i cyhu­ddasant ef o lawer o bethau, eithr nid attebodd efe ddim.

4 A Philat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau ŷ maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.

5 Ond yr Jesu etto nid atte­bodd ddim; fel y rhyfeddodd Pilat.

6 Ac ar yr wŷl honno y golly­ngai efe yn rhydd iddynt vn car­charor, yr hwn a ofynnent i­ddo.

7 Ac yr oedd vn a elwid Ba­rabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd â'u gyd-terfysc-wŷr, y rhai yn y derfysc a wnaethent lofru­ddiaeth.

8 A'r dyrfa gan groch-lefain, a ddechreuodd ddeisyf arno vineu­thur fel y gwnaethai bôb amser iddynt.

9 A Philat a attebodd iddynt, gan ddywedyd, a fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Fre­nin yr Iddewon?

10 (Canys efe a wyddai mai o gynfigen y traddodasai yr Arch­offeiriaid ef.)

11 A'r Arch-offeiriaid a gyn­hyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.

12 A Philat a attebodd, ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?

13 A hwythau a lefasant dra­chefn, Croes-hoelia ef.

14 Yna Pilat a ddywedodd wr­thynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwy­fwy, Croes-hoelia ef.

15 A Philat yn chwennych bodloni 'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas, a'r Jesu wedi iddo ei fflangellu, a draddo­dodd efe i'w groes-hoelio.

16 A'r milwŷr a'i dygasant ef i few a y llys, a elwit Praetorium: a hwy a alwasant ynghŷd yr holl fyddin.

17 Ac a'i gwiscasant ef â phor­phor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben:

18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Hanffych well, Brenin yr Iddewon.

19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef.

20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan iw groes-hoelio.

21 A hwy a gymmellasant vn Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlâd, sef tâd Alexander a Rufus, i ddwyn ei groes ef.

22 A hwy a'i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha: yr hyn o'i gyfieithu yw, lle 'r benglog:

23 Ac a roesant iddo i'w yfed win myrhllyd; eithr efe ni's cym­merth.

24 Ac wedi iddynt ei groes­hoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coel-bren amynt, beth a gai bob vn.

25 A'r drydedd awr oedd hi, a hwy a'i croes-hoeliasant ef.

26 Ac yr oedd yscrifen ei a­chos ef wedi ei hargraphu, BRE­NIN YR IDDEWON.

27 A hwy a groes-hoeliasant gyd ag ef ddau leidr; vn ar y llaw dde­heu ac vn ar yr asswy iddo.

28 A'r Scrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfri­fwyd gyd â'r rhai anwir.

29 A'r rhai oedd yn myned hei­bio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio y Deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau;

30 Gwared dy hun, a descyn oddi ar y groes.

31 Yr un ffun yd yr Arch-offei­riaid hefyd yn gwatwar, a ddy­wedasant wrth ei gilydd, gyd â'r Scrifennyddion, Eraill a ware­dodd, ei hun ni's gall ei wared.

32 Descynned Christ Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom, A'r rhai a groes-hoeliesid, gyd ag ef, a'i difenwasant ef.

33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr.

34 Ac ar y nawfed awr y do­lefodd yr Jesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lamma sa­bachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw; Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?

35 A rhai o'r rhai a safent ger llaw, pan glywsant a ddywe­lasant, Wele, y mae efe yn ga­lw ar Elias.

36 Ac un a redodd, ac a lan­wodd yspwrn yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i dio­dodd ef, gan ddywedyd, Peidi­wch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.

37 A'r Jesu a lefodd â llef u­chel, ac a ymadawodd â'r yspryd.

38 A llen y Deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wa­ [...]ed.

39 A phan welodd y Canwri­ad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn lefain felly ymado â'r yspryd, efe [...] ddywedodd, Yn wir, Mab Duw oedd y dŷn hwn.

40 Ac yr oedd hefyd wragedd, [...]n edrych o hir-bell: ym-mlith [...] rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iaco fychan, a Iose, a Salôme.

41 Y rhai hefyd pan oedd efe yn Galilæa, a'i dilynasant ef, ac a weinasant iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gyd ag ef i fynu i Jerusalem.

42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bôd hi yn ddar­par-ŵyl, sef y dydd cyn y Sab­bath.)

43 Daeth Joseph o Arimathæa, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntef yn disgwil am deyr­nas Dduw; ac a aeth yn hŷ i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorph yr Jesu.

44 A rhyfedd oedd gan Pilat o buasei efe farw eusys: ac wedi iddo alw y Canwriad atto, efe a ofynnod iddo a oedd efe wedi ma­rw er ysmeityn.

45 A phan wybu gan y Ca­nwriad, efe a roddes y corph i Jo­seph.

46 Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnod ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a' dodes ef mewn bedd a nadda­sid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.

37 A Mair Fagdalen a Mair mam Jose, a edrychasant pa le y dodid ef.

PEN. XVI.

1 Angel yn mynegi adgyfodiad Christ i dair o wragedd. 9 Christ ei hun yn ymddangos i Fair Fagdalen, 12. i ddau oedd yn myned i'r wlâd: 14 yna i'r Apostolion, 15 y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu 'r Efengyl: 19 ac yn escyn i'r nefoedd.

AC wedi darfod y dydd Sab­bath, Mair Fagdalen, a Mair mam Jaco, a Salôme, a brynasant ber-aroglau, i ddyfod i'w ennei­nio ef.

2 Ac yn foreu iawn, y dydd cyntaf o'r wythnos, y daethant at y bedd, a'r haul wedi codi.

3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymmaith oddi wrth ddrws y bedd?

4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fôd y maen wedi ei drei­glo ymmaith:) canys yr ôedd efe yn fawr iawn.

5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieu­angc yn eistedd o'r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisc wen-laes, ac a ddychrynasant.

6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch: ceisio yr y­dych yr Jesu o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliwyd: efe a gyfodes, nid yw efe ymma: wele 'r man y dodasant ef.

7 Eithr ewch ymmaith, dywe­dwch i'w ddiscyblion ef, ac i Petr, ei fôd efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilæa: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi.

8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd ar­nynt: ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.

9 A'r Iesu wedi adgyfodi y boreu, y dydd cyntaf o'r wythnos, efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Fagdalen, o'r hon y bwria­sei efe allan saith o gytheuliaid.

10 Hitheu a aeth ac a fynegodd i'r rhai a fuasent gyd ag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.

11 A hwytheu pan glywsant ei fôd ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12 Ac wedi hynny yr ymddan­gosodd efe mewn gwedd arall, i ddau o honynt, a hwynt yn ymdei­thio, ac yn myned i'r wlâd.

13 A hwy a aethant ac a fyne­gasant i'r lleill: ac ni chredent i­ddynt hwythau.

14 Ac yn ôl hynny, efe a ym­ddangosodd i'r un ar ddêg, a hwynt yn eistedd i fwytta, ac a ddannododd iddynt eu hanghre­diniaeth, a'u calon galedwch: am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi adgyfodi.

15 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Ewch i'r holl fyd, a phre­gethwch yr Efengyl i bob crea­dur.

16 Y neb a gredo, ac a fedy­ddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.

17 A'r arwyddion hyn a gan­lynant y rhai a gredant, Yn fy e­nw i y bwriant allan gythreuliaid: ac â thafodau newyddion y llefa­rant.

18 Seirph a godant ymmaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed: ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fy­ddant iach.

19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i'r nef, ac a eisteddodd ar dde­heu-law Dduw.

20 A hwythau a a [...]thant allan, ac a bregethasant ym-mhôb man a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau 'r gair, trwy arwy­ddion y rhai oedd yn canlyn Amen.

YR EFENGYL YN OL SANCT LUC.

PEN. I.

1 Rhag-ymadrodd yr holl Efengyl. 5 Cenhedliad Joan Fedyddiwr, 26 a Christ. 39 Prophwydoliaeth Elizabeth a Mair, am Grist. 57 Genedigaeth ac enwaediad Ioan. 67 Prophwydoliaeth Zacharias am Grist, 76 ac Joan.

YN gymmaint a darfod i lawer gymmeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddiammeu yn ein plith,

2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled, ac yn wel­nidogion y gair?

3 Minneu a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddy­fal o'r dechreuad, scrifennu mewn trefn attat, o ardderchoccaf The­ophilus.

4 Fel y ceit wybod siccrwydd am y pethau i'th ddyscwyd yn­ddynt.

5 YR oedd yn nyddiau Herod frenin Judæa, ryw offei­riad a'i enw Zacharias, o ddydd­gylch Abia: a'i wraig oedd o fer­ched Aaron, a'i henw Elizabeth.

6 Ac yr oeddynt ill dau yn gyfi­awn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymmynion a deddfau 'r Arglwydd, yn ddiargyoedd.

7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fôd Elizabeth yn am-mhlan­tadwy, ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.

8 A bu, ac efe yn gwasanae­thu swydd offeiriad ger bron Duw, yn nhrefn ei ddydd-gylch ef.

9 Yn ôl arfer swydd yr offei­riad, ddyfod o ran iddo arogldar­thu, yn ôl ei fyned i Deml yr Ar­glwydd.

10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddio, ar awr yr arogl­darthiad.

11 Ac ymddangosodd iddo Angel yr Arglwydd, yn sefyll o'r tu dehau i allor yr arogl­darth.

12 A Zacharias pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.

13 Eithr yr Angel a ddywe­dodd wrtho, Nac ofna Zacharias, canys gwrandawyd dy weddi: a'th wraig Elizabeth a ddwg i ti fab a thi a elwi ei enw ef Ioan.

14 A bydd i ti lawenydd a gor­foledd; a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.

15 Canys mawr fydd efe yng­olwg yr Arglwydd, ac nid ŷf na gwin na diod gadarn, ac efe a gy­flawnir o'r Yspryd glân, ie o groth ei fam:

16 A llawer o blant Israel a drŷ efe at yr Arglwydd eu Duw.

17 Ac efe â o'i flaen ef yn ys­pryd a nerth Elias, i droi calon­nau y tadau at y plant, a'r anu­fydd i ddoethineb y cyfiawn: i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod.

18 A dywedodd Zacharias wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddafi hyn? canys henaf-gŵr ŵyfi, a'm gwraig hefyd mewn gwth o oe­dran.

19 A'r Angel gan atteb a ddy­wedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wr­thit, ac i fynegi i ti y newyddion da hyn.

20 Ac wele, ti a fyddi fud, ac heb allu llefaru, hyd y dydd y gw­neler y pethau hyn, am na chre­daist i'm geitiau i, y rhai a gy­flawnir yn eu hamser.

21 Ac yr oedd y bobl yn dis­gwil am Zacharias: a rhyfeddu a wnaethant ei fôd ef yn aros cy­hyd yn y Deml.

22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt: a hwy a wybuant weled o honaw weledi­gaeth yn y Deml, ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt: ac efe a arhosodd yn fud.

23 A bu, cyn gynted ac y cy­flawnwyd dyddiau ei weinidoga­eth ef, fyned o hono i'w dŷ ei hun

24 Ac yn ôl y dyddiau hynny y cafodd Elizabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,

25 Fel hyn y gwnaeth yr Ar­glwydd i mi, yn y dyddiau'r e­drychodd arnaf, i dynnu ymmaith fy ngwradwydd ym-mhlith dy­nion.

26 Ac yn y chweched mis, yr anfonwyd yr Angel Gabriel oddi­wrth Dduw, i ddinas yn Galilæa, a'i henw Nazareth.

27 At forwyn wedi ei dywe­ddio i ŵr a'i enw Joseph, o dŷ Ddafydd: ac enw'r forwyn oedd Mair.

28 A'r Angel a ddaeth i mewn atti ac a ddywedodd, Hanffych well, yr hon a gefaist râs, yr Ar­glwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ym-mhlith gwragedd.

29 A hitheu pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef: a meddylio a wnaeth, pa fath gyfarch oedd hwn.

30 A dywedodd yr Angel wr­thi, nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafor gyd â Duw.

31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a escori ar fab, ac a elwi ei enw ef Jesu.

32 Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orse­ddfa ei Dâd Dafydd.

33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Ja­cob yn dragywydd, ac ar ei fren­hiniaeth ni bydd diwedd.

34 A Mair a ddywedodd wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr?

35 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a nerth y goru­chaf a'th gyscoda di: am hyn­ny hefyd, y peth sanctaidd a a­ner [Page] o honot ti, a elwir yn Fab Duw.

36 Ac wele Elizabeth dy ga­res, y mae hithau wedi beichi­ogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw 'r chweched mis iddi hi, yr hon a elwyd yn am-mhlanta­dwy.

37 Canys gyd â Duw ni bydd dim yn am-mhossibl.

38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd, by­dded i mi yn ôl dy air di. A'r An­gel a aeth ymmaith oddi wrthi hi

39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r my­nydd-dir ar frys, i ddinas o Iuda:

40 Ac a aeth i mewn i dŷ Za­charias, ac a gyfarchodd well i Elizabeth.

41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lammu: ac Elizabeth a lanwyd o'r Yspryd glân.

42 A llefain a wnaeth â llef u­chel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ym mhlith gwragedd, a bendi­gedig yw ffrwyth dy groth di.

43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd at­tafi.

44 Canys wele, er cynted y da­eth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fy nghroth.

45 A Bendigedig yw 'r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywetpwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau yr Argl­wydd.

47 A'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.

48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oble­gid wele, o hyn allan yr holl genhedlaethau a'm geilw yn wyn­fydedig:

49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd, a san­ctaidd yw ei enw ef.

50 A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd, ar y rhai a'i ofnant ef.

51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wascarodd y rhai beil­chion ym mwriad eu calon.

52 Efe a dynnodd i lawr y ce­dyrn o'u heisteddfau, ac a dder­chafodd y rhai iselradd.

53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da, ac efe a anfo­nodd ymmaith y rhai goludog yn weigion.

54 Efe a gynnorthwyodd ei wâs Israel, gan gofio ei drugaredd.

55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i hâd, yn dra­gywydd.

56 A Mair a arhosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwe­lodd i'w thŷ ei hun.

57 A chyflawnwyd tymp Eli­zabeth i escor, a hi a escorodd ar fab.

58 A'i chymydogion a'i che­nedl a glybu fawrhau o'r Argl­wydd ei drugaredd arni: a hwy a gyd-lawenychasant â hi.

59 A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwadu ar y dŷn bach, ac a'i galwasant ef Za­charias, ar ôl enw ei dâd.

60 A'i fam a attebodd ac a ddy­wedodd, Nid felly: eithr Ioan y gelwir ef,

61 Hwythau a ddywedasant wrthi Nid oes neb o'th genedla elwir ar yr enw hwn.

62 A hwy a wnaethant amnaid [Page] ar ei dâd ef, pa fodd y mynnei efe ei henwi ef.

63 Yntef a alwodd am argraph­lech, ac a scrifennodd, gan ddy­wedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhy­feddu a wnaethant oll.

64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef, ac efe a le­farodd, gan fendithio Duw.

65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Judæa y cyhoe­ddwyd y geiriau hyn oll.

66 A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bach­gennyn hwn? A llaw yr Argl­wydd oedd gyd ag ef.

67 A'i dâd ef Zacharias a gy­flawnwyd o'r Yspryd glân, ac a brophwydodd gan ddywedyd,

68 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, canys efe a ymwe­lodd ac a wnaeth ymwared i'w bobl.

69 Ac efe a dderchafodd gorn icchydwriaeth i ni, yn nhŷ Dda­fydd ei wasanaethwr:

70 Megis y llefarodd trwy e­nau eu sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o ddechreuad y byd,

71 Fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n cascion.

72 I gwplau y drugaredd â'n ta­dau, ac i gofio el sanctaidd gyfam­mod:

73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tâd Abraham ar roddi i ni,

74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddiofn,

75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

76 A thitheu fachgennyn, a el­wir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Ar­glwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;

77 I roddi gwybodaeth iechy­dwraeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,

78 O herwydd tiriondeb truga­redd ein Duw, trwy yr hon yr ym­welodd â ni godiad haul o'r u­chelder,

79 I lewyrchu i'r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch a chys­god angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf.

80 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd ef i'r Israel.

PEN. II.

1 Augustus yn trethu holl Ymero­draeth Rufain. 6 Genedigaeth Christ. 8 Un Angel yn ei fynegi i'r bugeiliaid, 13 a llawer yn canu moliant i Dduw am dano. 21 Enwaedu Christ. 22 Pu­redigaeth Mair. 28 Simeon ac Anna yn prophwydo am Grist: 40 ac ynteu yn cynyddu mewn doethineb, 46 yn ymresymu â'r Doctoriaid yn y Deml, 51 ac yn ufydd iw rieni.

BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymmyn allan o­ddiwrth Augustus Caesar, i drethu yr holl fyd.

2 (Y trethiad ymma a wnaeth­pwyd gyntaf, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)

3 A phawb a aethant i'w tre­thu, bôb un i'w ddinas ei hun.

4 A Joseph hefyd a aeth i fynu o Galilæa o ddinas Nazareth, i Judæa, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, (am ei fôd o dŷ a thŷlwyth Dafydd.)

5 Iw drethu gŷd â Mair yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.

6 A bu, tra 'r oeddynt hwy y­no, cyflawnwyd y dyddiau i escor o honi.

7 A hi a escorodd ar ei mab cyntafanedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dodes ef yn y preseb: am nad oedd iddynt le yn y lletty.

8 Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwilied eu praidd liw nos.

9 Ac wele, Angel yr Argl­wydd a safodd ger llaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisclei­riodd o'u hamgylch, ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.

10 A'r Angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch; canys we­le yr wyfi yn mynegi i chwi ne­wyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:

11 Canys ganwyd i chwi he­ddyw geidwad yn ninas Dafydd, (yr hwn yw Christ yr Arglwydd.)

12 A hyn fydd arwydd i chwi, Chwi a gewch y dŷn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i ddodi yn y preseb.

13 Ac yn ddisymmwth yr oedd gyd â'r Angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywe­dyd.

14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaiar tangneddyf, i ddynion ewyllys da.

15 A bu, pan aeth yr Angelion ymmaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddyweda­sant wrth ei gilydd, Awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a wnaethpwyd, yr hwn a yspysodd yr Arglwydd i ni.

16 A hwy a ddaethant ar frys, ac a gawsant Mair a Joseph, a'r dŷn bach yn gorwedd yn y pre­seb.

17 A phan welsant, hwy a gy­hoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.

18 A phawb a'r a'u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeliaid wr­thynt.

19 Eithr Mair a gadwodd y pe­thau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.

20 A'r bugeiliaid a ddychwe­lasant, gan ogoneddu a moliannu Duw, am yr holl bethau a glyw­sent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt:

21 A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dŷn bach, galwyd ei enw ef Jesu, yr hwn a henwasid gan yr Angel, cyn ei ymddwyn ef yn y groth.

22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn oll deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Jeru­salem, iw gyflwyno i'r Arglwydd.

23 (Fel yr scrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwr-ryw cyntaf-anedig, a elwir yn san­ctaidd i'r Arglwydd.)

24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywetpwyd yn neddf yr Arglwydd, pâr o durturod, neu ddau gyw colommen.

25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Jerusalem, a'i enw Simeon, a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwi­ol, yn disgwyl am ddiddanwch [Page] yr Israel: a'r Yspryd glân oedd ar­no.

26 Ac yr oedd wedi ei yspysu iddo gan yr Yspryd glân, na welai efe angeu, cyn iddo weled Christ yr Arglwydd.

27 Ac efe a ddaeth trwy'r Ys­pryd i'r Deml: a phan ddûg ei ri­eni y dŷn bach Jesu, i wneuthur trosto yn ôl defod y gyfraith;

28 Yna efe a'i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,

29 Yr awr hon Arglwydd, y gollyngi dy wâs mewn tangne­ddyf, yn ol dy air:

30 Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth,

31 Yr hon a baratoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd:

32 Goleuni i oleuo y cenhed­loedd, a gogoniant dy bobl Israel.

33 Ac yr oedd Joseph a'i fam ef, yn rhyfeddu am y pethau a ddy­wedpwyd am dano ef.

34 A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Fair ei Fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp, ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn:

35 (A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf) fel y datcuddi­cr meddyliau llawer o galonnau.

36 Ac yr oedd Anna brophwy­des, merch Phanuel, o lwyth A­ser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyd â gŵr saith mly­nedd, o'i morwyndod.

37 Ac a fuasai yn weddw yn­gylch pedair a phedwar ugain mhlynedd, yr hon nid ai allan o'r Deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddiau, ddydd a nôs.

38 A hon hefyd yn yr awr hon­no, gan sefyll ger llaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am da­no ef wrth y rhai oll oedd yn dis­gwil ymwared yn Jerusalem.

39 Ac wedi iddynt orphen pôb peth, yn ôl deddf yr Argl­wydd, hwy a ddychwelasant i Ga­lilæa, i'w dinas eu hun Nazareth.

40 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr Yspryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A'i rieni ef a aent i Jerusa­lem bôb blwyddyn, ar ŵyl y Pasc.

42 A phan oedd efe yn ddeu­ddeng mlwydd oed, hwynt hwy a aethant i fynu i Jerusalem, yn ôl defod yr ŵyl.

43 Ac wedi gorphen y dyddi­au, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Jesu yn Jerusalem, ac ni wyddai Joseph a'i fam ef.

44 Eithr gan dybied ei fôd ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod, ac a'i ceisiasant ef ym­mhlith eu cenedl a'i cydnabod.

45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio ef.

46 A bu, yn ôl tri-diau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn ei­stedd ynghanol y Doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a'i attebion.

48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt: a'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mâb pa ham y gw­naethost felly â ni? wele, dy dâd a mynneu yn ofidus a'th geisiasom di.

49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, [Page] Pa ham y ceisiech fi? oni ŵy­ddech fôd yn rhaid i mi fôd ynghylch y pethau a berthyn i'm Tâd?

50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasei efe wrthynt.

51 Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52 A'r Jesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gyd â Duw a dynion.

PEN. III.

1 Pregeth a bedydd Ioan: a'i dystio­laeth ef am Grist. 20 Herod yn carcharu Joan. 21 Christ wedi ei fedyddio yn derbyn tystiolaeth o'r nef. 23 Oedran ac achau Christ, o Joseph i fynu.

YN y bymthegfed flwyddyn o ymmerodraeth Tiberius Cae­sar, a phontius Pilat yn rhag­law Judæa, a Herod yn detrarch Galilæa, a'i frawd Philip yn de­trarch Ituræa, a gwlâd Tracho­nitis, a Lysanias yn detrarch Abi­lene.

2 Tan yr Arch-offeiriaid An­nas, a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Joan fab Zacharias, yn y diffaethwch.

3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Jorddonen, gan bre­gethu bedydd edifeirwch, er ma­ddeuant pechodau:

4 Fel y mae yn scrifennedig yn llyfr ymadroddion Esaias y pro­phwyd, yr hwn sydd yn dywe­dyd, Llef vn yn llefain yn y di­ffaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn vniawn.

5 Pôb pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyr-geimion a wneir yn vni­awn, a'r geirwon yn ffyrdd gwa­stad.

6 A phob cnawd a wêl iechyd­wriaeth Duw.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobloedd yn dyfod i'w be­dyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddi­odd chwi, i ffoi oddi wrth y di­gofaint sydd ar ddyfod?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch, ac na ddech­reuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abra­ham yn dâd: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abra­ham.

9 Ac yr awrhon y mae'r fwyall wedi ei gosod ar wreiddyn y pren­nau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gym­mynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10 A'r bobloedd a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11 A efe a attebodd ac a'ddy­wedodd wrthynt, Y neb sydd gan­ddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr vn: a'r neb sydd gan­ddo fwyd, gwnaed yr vn modd.

12 A'r Publicanod hefyd a ddae­thant i'w bedyddio, ac a ddy­wedasant wrtho Athro, beth a wnawn ni?

13 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14 A'r milwŷr hefyd a ofyn­nasant iddo, gan ddywedyd, A [Page] pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fydd­wch draws wrth neb, ac na cham­achwynwch ar neb, a byddwch fodlon i'ch cyflogau.

15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwil, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Joan, ai efe oedd y Christ;

16 Joan a attebodd, gan ddy­wedyd wrthynt oll, Myfi yn ddi­au ŵyf yn eich bedyddio chwi â dwfr, ond y mae yn cryfach nâ myfi yn dyfod, yr hwn nid ŵyfi deilwng i ddattod carrei ei esci­diau, efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd glan, ac a thân.

17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lŵyr-lanhâ ei lawr­dyrnu, ac a gascl y gwenith i'w yscubor, ond yr ûs a lŷsc efe â thân anniffoddadwy.

18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19 Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Hero­dias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod.

20 A chwanegodd hyn hefyd, heb law'r cwbl, ac a gaeodd ar Joan yn y carchar.

21 A bu, pan oeddid yn bedy­ddio yr holl bobl, a'r Jesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddio, agoryd y nef:

22 A descyn o'r Yspryd glân mewn rhith corphorawl, megis colommen, arno ef: a dyfod llef o'r nef, yn dywedyd, Ti yw fy anwyl Fab, ynot ti i'm bodlon­wyd.

23 A'r Jesu ei hun oedd yng­hylch dechreu ei ddeng-mlwydd ar hugein oed, mab (fel y tybid) i Joseph fab Eli,

24 Fab Matthat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseph,

25 Fab Mattathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai.

26 Fab Maath, fab Mattathias, fab Semei, fab Joseph, fab Juda,

27 Fab Joanna, fab Rhesa, fab Zorobabel, fab Salathiel, fab Neri,

28 Fab Melchi fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,

29 Fab Jose, fab Eliezer, fab Jorim, fab Matthat, fab Lefi,

30 Fab Simeon, fab Juda, fab Joseph, fab Jonan, fab Eliacim,

31 Fab Melea, fab Mainan, fab Mattatha, fab Nathan, fab Da­fydd,

32 Fab Jesse, fab Obed, fab Booz, fab Salmon, fab Naasson,

33 Fab Aminadab, fab Aram, fab Esrom, fab Phares, fab Juda,

34 Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Na­chor,

35 Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,

36 Fab Cainan, fab Arphaxad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech,

37 Fab Mathusala, fab Enoch, fab Jared, fab Maleleel, fab Cai­nan,

38 Fab Enos, fab Seth, fab A­dda, fab Duw.

PEN. IV.

1 Temtiad, ac ympryd Christ. 13 Y mae efe yn gorchfygu y cythrael: 14 Yn dechreu pregethu: 19 Pobl Nazareth yn rhyfeddu am ei ei­riau grasusol ef: 33 y mae efe yn iachau vn cythreulig, 38 a mam [Page] gwraig Petr, 40 a llawer o glei­fion eraill. 41 Y cythreuliaid yn cydnabod Christ, ac yn cael cerydd am hynny, 43 Y mae ef yn prege­thu trwy y dinasoedd.

A'R Jesu yn llawn o'r Yspryd glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Jorddonen, ac arweinwyd gan yr Yspryd i'r anialwch:

2 Yn cael ei demptio gan ddia­fol ddeugain nhiwrnod: ac ni fwyttaodd efe ddim o fewn y dy­ddiau hynny: ac wedi en diwe­ddu hwynt, yn ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.

3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyti, dywed wrth y garreg hon, fel y gwneler hi yn fara.

4 A'r Jesu a attebodd iddo, gan ddywedyd, Scrifennedig yw, nad ar fara yn vnic y bydd dŷn fyw, ond ar bôb gair Duw.

5 A diafol wedi ei gymmeryd ef i fynu i fynydd vchel, a ddan­gosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaiar mewn munyd awr.

6 A diafol a ddywedodd wr­tho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt, canys i mi y rhoddwyd, ac i bwy bynnag y mynnwyf, y rhoddaf finneu hi.

7 Os tydi gan hynny a addoli o'm blaen, eiddo ti fyddant oll.

8 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, Dos ymaith Satan yn fy ôl i: canys scrifennedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac efe yn vnic a wasanaethi.

9 Ac efe a'i dug ef i Jerusalem, ac a'i gosodes ar binacl y Deml, ac addywedodd wrtho, Os Mâb Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi ymma.

10 Canys scrifennedig yw, Y gorchymmyn efe i'w Angelion o'th achos di, ar dy gadw di:

11 Ac y cyfodant di yn eu dwy­lo, rhag i ti vn amser daro dy droed wrth garreg.

12 Ar Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, Dywedpwyd, Na themptia'r Arglwydd dy Dduw.

13 Ac wedi i ddiafol orphen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef tros amser.

14 A'r Jesu a ddychwelodd trwy nerth yr Yspryd i Galilæa, a sôn a aeth am dano ef trwy 'r holl fro oddi amgylch.

15 Ac yr oedd efe yn athrawiae­thu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb,

16 Ac efe a ddaeth i Nazareth, lle y magesid ef: ac yn ol ei arfer, efe a aeth i'r Synagog ar y Sab­bath, ac a gyfododd i fynu i ddar­llein.

17 A rhodded a'to lyfr y pro­phwyd Esaias: ac wedi iddo a­goryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn scrifennedig,

18 Yspryd yr Arglwydd ar­nafi, o herwydd iddo fy enneinio i: i bregethu, i'r tlodion yr an­fonodd fi, i iachau y drylliedig o galon; i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai yssig mewn rhydd-deb;

19 I bregethu blwyddyn gym­meradwy 'r Arglwydd.

20 Ac wedi iddo gau 'r llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd: a llygaid pawb oll yn y Synagog oedd yn craffu arno.

21 Ac efe a ddechreuodd ddy­wedyd [Page] wrthynt, Heddyw y cy­flawnwyd yr Scrythur hon yn eich clustiau chwi.

22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddae allan o'i enau ef, a hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseph?

23 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Yn hollawl y dywedwch y ddihareb hon wrthif, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glyw­som ni eu gwneuthur yn Ca­pernaum, gwna ymma hefyd yn dy wlâd dy hun.

24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, nad yw un prophwyd yn gymmeradwy yn eu wlâd ei hun.

25 Eithr mewn gwirionedd me­ddafi chwi, llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn ny­ddiau Elias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu new­yn mawr trwy 'r holl dir:

26 Ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.

27 Allawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisaeus y prophwyd, ac ni lanhawyd yr un o honynt, ond Naaman y Sy­riad.

28 A'r rhai oll yn y Synagog, wrth glywed y pethau hyn, a la­nwyd o ddigofaint.

29 Ac a godasant i fynu, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael y bryn, yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.

30 Ond efe, gan fyned drwy eu canol hwynt, a aeth ymmaith:

31 Ac a ddaeth i wared i Ca­pernaum, dinas yn Galilæa: ac yr oedd yn eu dyscu hwynt ar y dyddiau Sabbath.

32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef, canys ei yma­drod ef oedd gyd ag awdurdod.

33 Ac yn y Synagog yr oedd dŷn a chanddo yspryd cythrael aflan, ac efe a waeddodd â llef uchel.

34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom a thi, Jesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n di­fetha ni? myfi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.

35 A'r Jesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedydd, Distawa, a dôs allan o honaw. A'r cythrael wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan o honaw, heb wneuthur dim niwed iddo.

36 A daeth braw arnynt oll: a chydymddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn, gan ei fôd ef, trwy awdur­dod a nerth, yn gorchymmyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn myned allan?

37 A sôn am dano aeth allan i bôb man ô'r wlâd oddi am­gylch.

38 A phan gyfododd yr Jesu o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon: ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o grŷd blin: a hwy a attolygasant arno trosti hi.

39 Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y crŷd: a 'r cryd a'i gadawodd hi, ac yn y fan hi a gyfodes, ac a wasanaethodd arnynt hwy.

40 A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai clei­fion, [Page] o amryw glefydau, a'u dy­gasant hwy atto ef: ac efe a ro­ddes ei ddwylo ar bob un o ho­nynt, ac a'u hiachaodd hwynt.

41 A'r cythreuliaid hefyd a ae­thant allan o lawer, dan lefain a dywedyd, Ti yw Christ Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddy­wedyd y gwyddent mai efe oedd y Christ

42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gy­chwynnodd i le diffaeth, a'r bo­bloedd a'i ceisiasant ef, a hwy a ddaethant hyd atto, ac a'i hattali­asant ef rhag myned ymmaith o­ddi wrthynt.

43 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddina­soedd eraill hefyd, canys i hyn i'm danfonwyd.

44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn Synagogau Galilæa.

PEN. V.

1 Christ yn dyscu y bobl allan o long Petr: 4 Trwy helfa ryfeddol o byscod, yn dangos pa fodd y gw­nai efe ei gyfeillion yn byscodwyr dynion; 12 yn glanhau y gwa­han glwyfus: 16 yn gweddio yn y diffaethwch: 18 yn iachau un claf o'r parlys: 27 yn galw Mat­thew y Publican: 29 Megis Phy­sygwr eneidiau yn bwytta gyd â pechaduriaid: 34 Yn rhag-fyne­gi ymprydiau a chystuddiau i'r A­postolion, ar ôl ei dderchafiad ef: 39 Ac yn cyffelybu discyblion llwrf gweiniaid, i gostrelau hên, a dillad wedi treulio.

BU hefyd a'r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, yr oedd yntef yn sefyll yn ymyl llyn Genesareth;

2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pyscodwŷr a aethent allan o honynt, ac oe­ddynt yn golchi eu rhwydau.

3 Ac efe a aeth i mewn i un o'r llongau, yr hon oedd eiddo Si­mon, ac a ddymunodd arno wthi­o ychydig oddi wrth y tîr: ac efe a eisteddodd, ac a ddyscodd y bo­bloedd allan o'r llong.

4 A phan beidiodd a llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.

5 A Simon a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, O feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddalia­som ni ddim: etto ar dy air di, mi a fwriaf y rhwyd.

6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.

7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion oedd yn y llong arall, i ddyfod iw cynnorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy long onid oeddynt hwy ar soddi.

8 A Simon Petr pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau 'r Jesu, gan ddywedyd Dôs ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pecha­durus wyfi, o Arglwydd.

9 Oblegid braw a ddaethai ar­no ef, a'r rhai oll oedd gyd ag êf, o herwydd yr helfa byscod a dda­liasent hwy:

10 A'r un ffunyd ar Jaco a Joan hefyd, meibion Zebedaeus y rhai oedd gyfrannogion â Si­mon. [Page] A dywedodd yr Jesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.

11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.

12 A bu fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahan-glwyf: a phan welodd efe yr Jesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewy­llyssi, ti a elli fynglânhau.

13 Yntef a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddy­wedyd, Yr ŵyf yn ewyllysio, bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan­glwyf a aeth ymmaith oddi wrtho

14 Ac efe a orchymynnodd iddo na ddywedei i neb: eithr dôs ymmaith a dangos dy hun i'r o­ffeiriad, ac ossrwm tros dy lanhâd, fel y gorchymynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

15 A'r gair am dano a aeth yn Fwy ar lêd: a llawer o bob­loedd a ddaethant ynghŷd i'w w­rando ef, ac i'w hiachau ganddo o'u clefydau.

16 Ac yr oedd efe yn cilio o'r nailltu yn y diffaethwch, ac yn gwedddio.

17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fôd Pharisæaid, a Doctoriaid y gy­fraith yn eistedd yno, y rhai a ddae­thent o bôb pentref yn Galilæa, a Judæa, a Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd i'w hiachau hwynt.

18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddŷn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn efi mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.

19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o a­chos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i wared yn y gwely, trwy y pridd­lechau, yn y canol, ger bron yr Jesu.

20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy be­chodau.

21 A'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid, a ddechreuasant ym­resymmu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddeu pechodau ond Duw yn unig.

22 A'r Jesu yn gwybod eu hym­resymmiadau hwynt, a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymmu yn eich calonnau yr y­dych?

23 Pa un hawsaf, ai dywedyd Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?

24 Ond fel y gwypoch fôd gan Fab y dŷn awdurdod ar y ddaiar i faddeu pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys) Yr ŵyf yn dywedyd wrthit, Cy­fod, a chyrmmer dy wely, a dôs i'th dŷ.

25 Ac yn y man y cyfodes e­fe i fynu yn eu gwydd hwynt, ac efe a gymmerth yr hyn y gor­weddai arno, ac a aeth ym­maith i'w dŷ ei hun, gan ogone­ddu Duw.

26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddy­wedyd, Gwelsom bethau anhy­goel heddyw.

27 Ac yn ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd Bubli­can [Page] a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywedodd wr­tho, Dilyn fi.

28 Ac efe a adawodd bôb peth, ac a gyfodes i fynu, ac a'i dily­nodd ef.

29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o Bublicanod, ac eraill, yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.

30 Eithr eu Scrifennyddion a'u Pharisæaid hwynt, a fur­murasant yn erbyn ei ddiscybli­on ef, gan ddywedyd, Pa ham yr ydych chwi yn bwytta ac yn y­fed gyd â Phublicanod a phecha­duriaid?

31 A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

32 Ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edi­feirwch.

33 A hwy a ddywedasant wr­tho, Pa ham y mae discyblion Jo­an yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddiau, a'r un modd yr eiddo y Pharisæaid, ond yr eiddo ti yn bwytta ac yn yfed?

34 Yntef a ddywedodd wr­thynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo 'r priodas-fâb gyd â hwynt?

35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodas-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant yn y dyddi­au hynny.

36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hên dilledyn: os amgen, y mae y newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chydtûna â'r hên.

37 Ac nid yw neb yn bwrw gwîn newydd i hên gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddry­llia'r costrelau, ac efe a rêd allan, a'r costrelau a gollir.

38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau ne­wyddion: a'r ddau a gedwir.

39 Ac nid oes neb gwedi iddo yfed gwin hên, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw 'r hên.

PEN. VI.

1 Christ yn argyoeddi dallineb y Pha­risæaid ynghylch cadw y Sab­both, trwy Scrythyrau, a rheswm, a gwrthiau: 13 yn dewis deu­ddeg Apostl, 17 yn iachau y clei­fion: 20 a cher bron y bobl, yn pre­gethu iw ddiscyblion fendithion a melltithion. 27 Pa fodd y mae i ni garu ein gelynion: 46 a chydsyll tu ufydd-dod gweithredoedd dâ yng­hyd a gwrandaw y gair; rhag yn nryg-ddydd profedigaeth, ini syr­thio fel tŷ wedi ei adeiladu ar wy­neb y ddaiar, heb ddim sylfaen.

A Bu ar yr ail prif Sabbath, fy­ned o honaw trwy 'r ŷd: a'r discyblion a dynnasant y tywys, ac a'u bwyttasant, gwedi eu rhw­bio â'u dwylo.

2 A rhai o'r Pharisæaid a ddy­wedasant wrthynt, Pa ham yr y­dych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabbathau?

3 A'r Jesu gan atteb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllennasoch hyn ychwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd ag ef?

4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymmerth, ac y bwyttaodd y bara gosod, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd ag ef: yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwytta, ond i'r offeiriaid yn unig?

5 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, y mae Mab y dŷn yn Ar­glwydd ar y Sabbath hefyd.

6 A bu hefyd ar Sabbath a­rall, iddo fyned i mewn i'r Sy­nagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddŷn, a'i law ddehau wedi gwywo.

7 A'r Scrifennyddion a'r Pha­risæaid a'i gwiliasant ef a iachâi efe ef ar y dydd Sabbath: fel y ca­ffent achwyn yn ei erbyn ef.

8 Eithr efe a ŵybu eu meddy­liau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dŷn oedd â'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.

9 Yr Jesu am hynny a ddywe­dodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabbathau; gwneuthur da, yn­teu gwneuthur drwg? cadw eni­oes, ai colli?

10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dŷn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fell y llall.

11 A hwy a lanwyd o ynfy­drwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Jesu.

12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned o honaw ef allan i'r my­nydd i weddio: a pharhau ar hŷd ynôs yn gweddio Duw.

13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd atto ei ddiscyblion: ac o honynt efe a etholes ddeu­ddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn Apostolion:

14 (Simon, yr hwn hefyd a'hen­wodd efe Petr, ac Andreas ei frawd, Jaco ac Joan, Philip a Bar­tholomeus,

15 Matthew a Thomas, Jaco fab Alphaeus, a Simon a elwir Zelotes,

16 Judas brawd Jaco, a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.)

17 Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwa­stattir: a'r dyrfa o'i ddiscyblion, a lliaws mawr o bobl, o holl Ju­dæa a Jerusalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i'w hiachau o'u clefydau:

18 A'r rhai a flinid gan yspry­dion aflan: a hwy a iachawyd.

19 A'r holl dyrfa oedd yn cei­sio cyffwrdd ag ef: am fôd nerth yn myned o honaw allan, ac yn ia­chau pawb.

20 Ac efe a dderchafodd ei o­lygon ar ei ddiscyblion, ac a ddy­wedodd, Gwyn eich bŷd y tlo­dion: canys eiddoch chwi yw teyr­nas Dduw.

21 Gwyn eich bŷd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awrhon, ca­nys chwia ddigonir. Gwyn eich bŷd y rhai ydych yn wylo yr awr­hon, canys chwi a chwerddwch.

22 Gwyn eich bŷd pan i'ch cafâo dynion, a phan i'ch dido­lant oddiwrthynt, ac i'ch gwrad­wyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dŷn.

23 Byddwch lawen y dydd hwn­nw, [Page] a llemmwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr vn ffunyd y gwnaeth eu tadau hwynt i'r Prophwydi.

24 Eithr gwae chwi 'r cyfoe­thogion, canys derbyniasoch eich diddanwch.

25 Gwae chwi y rhai llawn: canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a aler­wch, ac a wŷlwch.

26 Gwae chwi pan ddywedo pob dŷn yn dda am danoch: ca­nys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau-brophwydi.

27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi, y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i'r rhai a'ch ca­sânt.

28 Bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: a gweddiwch tros y rhai a'ch drygant.

29 Ac i'r hwn a'th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd: ac i'r hwn a ddygo ymmaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.

30 A dyro i bob vn a geisio gennit; a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilch­wel.

31 Ac fel y mynnech wneu­thur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr vn ffunyd.

32 Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechadu­riaid hefyd yn caru y rhai au câr [...]wythau.

33 Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddi­olch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn gwneu­thur yr vn peth.

34 Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y ce­wch chwithau ganddynt, pa ddi­olch fydd i chwi? oblegid y mae 'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y der­byniont y cyffelyb.

35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a roddwch ech­wyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys dai­onus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.

36 Byddwch gan hynny dru­garogion, megis ac y mae eich Tâd yn drugarog.

37 Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemnwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a ma­ddeuir i chwithau:

38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi: mesur da, dwysedig, ac wedi ei yscwyd, ac yn myned tro­sodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r vn mesur ac y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

39 Ac efe a ddywedodd ddam­meg wrthynt, A ddichon y dall dwyso 'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?

40 Nid yw 'r discybl vwch law ei athro: eithr pob vn perffaith a fydd fel ei athro.

41 A pha ham yr wyti yn e­drych ar y brycheuyn sydd yn lly­gad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

42 Neu pa fodd y gelli di ddy­wedyd wrth dy frawd, fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw [Page] allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eg­lur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.

43 Canys nid yw pren da, yn dwyn ffrwyth drwg: na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.

44 Oblegid pob pren a adwae­nir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casclant ffi­gys, nac oddi ar berth yr heliant rawn-win.

45 Y dyn da o ddaionus dry­ssor ei galon, a ddwg allan ddai­oni: a'r dŷn drwg o ddrygionus dryssor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei eneu yn llefaru.

46 Pa ham hefyd yr ydych yn fy ngalw i Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?

47 Pwy bynnag a ddêl attafi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a'u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb.

48 Cyffelyb yw i ddŷn yn a­deiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llif-ddyfroedd a gu­rodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo: canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.

49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddŷn a a­deiladai dŷ ar y ddaiar, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfro­edd, ac yn y fan y syrthiodd, a chwymp y tŷ hwnnw oedd sawr.

PEN. VII.

1 Christ yn caffael mwy o ffydd yn y Canwriad, vn o'r cenedloedd, nag yn yr vn o'r Jddewon: 10 yn iachau ei wâs ef yn ei absen: 11 yn cyfodi o farw i fyw fab y wraig weddw o Nalm. 19 Yn atteb cennadon Joan, trwy ddan­gos ei wrthiau: 24 yn tystiolaethu i'r bobl ei feddwl am Joan: 30 yn bwrw bai ar yr Iddewon, y rhai ni ellid eu hynnill na thrwy ymarweddiad Joan, na'r eiddo 'r Jesu: 36 ac yn dangos trwy ach­lysyr Mair Magdalen, pa fodd y mae efe yn gyfaill i bechaduriaid, nid iw maentumio mewn pecho­dau, ond i faddeu iddynt eu pe­chodau, at eu ffydd a'i hedifeir­wch.

AC wedi iddo orphen ei holl ymadroddion, lle y clywei y bobl, efe a aeth i mewn i Caper­naum.

2 A gwâs rhyw Ganwriad, yr hwn oedd anwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymmron ma­rw.

3 A phan glybu efe sôn am yr Jesu, efe a ddanfonodd atto he­nuriaid yr Iddewon, gan attolwg iddo ddyfod ag iachau ei wâs ef.

4 Y rhai pan ddaethant at yr Jesu, a attolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o ho­not hyn iddo.

5 Canys y mae yn caru ein ce­nedl ni, ac efe a adeiladodd i ni Synagog.

6 A'r Jesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fôd neppell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a an­fonodd gyfeillion atto, gan ddy­wedyd wrtho, Arglwydd, na phoe­na, canys nid wyfi deilwng i ddy­fod o honot tan fy nghrong­lwyd.

7 O herwydd pa ham ni'm ty­biais fy hun yn deilwng i ddyfod attat: eithr dywed y gair, ac iach fydd fy ngwâs.

8 Canys dŷn wyf finneu wedi fy ngosod tan awdurdod, a chen­nif filwŷr tanaf, ac meddaf wrth hwn, dôs, ac efe a ddaw; ac wrth a­rall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

9 Pan glybu 'r Jesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, yr ydwyf yn dywedyd i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Is­rael.

10 A'r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i'r tŷ, a gaw­sant y gwâs a fuasei glaf, yn holl­iach.

11 A bu drannoeth, iddo ef fy­ned i ddinas a elwid Nain: a chyd ag ef yr aeth llawer o'i ddiscybli­on, a thyrfa fawr.

12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele vn marw a ddygid allan, yr hwn oedd vnig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi.

13 A'r Arglwydd pan y gwe­lodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wŷla.

14 A phan ddaeth attynt, efe a gyffyrddodd â'r elor: (a'r rhai oedd yn ei dwyn a safasant) ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.

15 A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddes i'w fam.

16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, prophwyd mawr a gy­fododd yn ein plith: ac Ymwe­lodd Duw a'i bobl.

17 A'r gair hwn a aeth allan am dano drwy holl Judæa, a thrwy gwbl o'r wlâd oddi am­gylch.

18 A'i ddiscyblion a fynega­sant i Joan hyn oll.

19 Ac Joan wedi galw rhyw ddau o'i ddiscyblion atto, a anfo­nodd at yr Jesu, gan ddywedyd, Ai ti yw 'r hwn sy 'n dyfod, ai vn arall yr ym yn ei ddisgwil?

20 A'r gwŷr pan ddaethant at­to, a ddywedasant, Joan Fedy­ddiwr a'n danfonodd ni attat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw 'r hwn sy 'n dyfod, ai arall yr ym yn ei ddisgwil?

21 A'r awr honno efe a iachâ­odd lawer oddi wrth glefydau, a phlaau, ac ysprydion drwg: ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.

22 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, Ewch a my­negwch i Joan y pethau a wel­soch, ac a glywsoch: fôd y dei­llion yn gweled eilwaith, y clo­ffion yn rhodio, y gwahan glwy­sus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr Efengyl.

23 A gwyn eî fyd y neb ni rwy­strir ynofi.

24 Ac wedi i gennadau Joan fyned ymmaith, efe a ddechreu­odd ddywedyd wrth y bobloedd am Joan, Beth yr aethoch allan i'r diffaethwch iw weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?

25 Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dŷn wedi ei [Page] ddilladu â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn arfer dillad anrhyde­ddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.

26 Eithr beth yr aethoch a­llan i'w weled? Ai prophwyd? yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phrophwyd.

27 Hwn yw efe am yr vn yr scrifennwyd, Wele, yr wyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wy­neb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.

28 Canys meddaf i chwi, ym­mhlith y rhai a aned o wragedd nid oes brophwyd mwy nag Joan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.

29 A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r Publicanod, a gyfi­awnhasant Dduw, gwedi eu be­dyddio â bedydd Joan.

30 Eithr y Pharisæaid a'r cy­freith-wŷr, yn eu herbyn eu hu­nain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.

31 A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?

32 Tebyg ydynt i blant yn ei­stedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch: cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.

33 Canys daeth Joan Fedy­ddiwr, heb na bwytta bara, nac yfed gwin: a chwi a ddywedwch, Y mae cythrael ganddo.

34 Daeth Mâb y dŷn yn bwyt­ta ac yn yfed, ac yr ydych yn dy­wedyd, Wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Publicanod a phechaduriaid.

35 A doethineb a gyfiawnha­wyd gan bawb o'i phlant.

36 Ac vn o'r Pharisæaid a ddy­munodd arno fwytta gyd ag ef: ac yntef a aeth i dŷ 'r Pharisæad, ac a eisteddodd i fwytta.

37 Ac wele, gwraig yn y ddi­nas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fôd yr Jesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ 'r Pharisæad, a ddug flwch o ennaint.

38 A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ôl, ac ŵylo, hi a ddech­reuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r ennaint.

39 A phan welodd y Phari­sæad, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broph­wyd, efe a wybasei pwy, a pha fath wraig yw 'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.

40 A'r Jesu gan atteb a ddywe­dodd wrtho, Simon, y mae gen­nif beth i'w ddywedyd wrthit, Yntef a ddywedodd, Athro, dy­wed.

41 Dau ddyledwr oedd i'r vn echwynwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddylêd, a'r llall ddêg a deugain.

42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd i­ddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?

43 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyfi yn tybied mai 'r hwn y maddeuodd efe i­ddo fwyaf. Yntef a ddywedodd wrtho, Vniawn y bernaist.

44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A [Page] weli di y wraig hon? mi a ddae­thym i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.

45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddaethym i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhra­ed.

46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhuaed ag en­naint.

47 O herwydd pa ham, y dywe­daf wrthit, maddeuwyd ei haml bechodau hi: oblegid hi a ga­rodd yn fawr. Ond y neb y ma­ddeuer ychydig iddo, a gâr ychy­dig.

48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.

49 A'r rhai oedd yn cyd-ei­stedd i fwytta, a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddeu pe­chodau hefyd?

50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, dy ffydd a'th gadwodd: dôs mewn tangneddyf.

PEN. VIII.

1 Y gwragedd yn gweini i Grist â'i golud. 4 Christ wedi iddo bregethu o fan i fan, a'i A­postolion yn ei ganlyn, yn gosod allan ddammeg yr hauwr: 16 a'r ganwyll: 21 yn dangos pwy ydyw ei fam a'i frodyr: 22 yn ceryddu y gwyntoedd: 26 yn bwrw y lleng gythreuliaid allan o'r dyn, i'r genfaint foch. 36 Y Gadareniaid yn ei wrthod ef: 43 Yntau yn iachau y wraig o'i diferlif gwaed, 49 ac yn bywhau merch Jairus.

A Bu wedi hynny, iddo fyned trwy bôb dinas a thref, gan bregethu, ac efangylu reyrnas Dduw: a'r deuddeg oedd gyd ag ef:

2 A gwragedd rai, ar a iachesid o­ddi wrth ysprydion drwg a gwen­did, Mair yr hon a elwid Magda­len, o'r hon yr aethai saith cy­thrae! allan:

3 Joanna, gwraig Chufa, go­ruchwiliwr Herod: a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gwei­ni iddo o'r pethau oedd ganddynt.

4 Ac wedi i lawer o bobl ym­gynnull ynghŷd, a chyrchu atto o bôb dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg.

5 Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd: ac wrth hau, peth a syr­thiodd ar ymyl y ffordd, ac a fath­rwyd, ac ehediaid y nef a'i bwyttaodd.

6 A pheth arall a syrthiodd ar y graig, a phan eginodd y gwy­wodd, am nad oedd iddo wlybwr.

7 A pheth arall y syrthiodd ym mysc drain, a'r drain a gyd-tyfa­sant, ac a'i tagasant ef.

8 A pheth arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddy­wedyd y pethau hyn efe a lefodd, y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.

9 A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddam­meg oedd hon?

10 Yntef a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw, eithr i eraill ar ddamhegion, fel yn gweled na we­lant, ac yn clywed na ddeallant.

11 Ac dymma 'r ddammeg, Yr hâd yw gair Duw.

12 A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw y rhai sy yn gwrando: wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymmaith y gair o'u ca­lon hwynt, rhag iddynt gredu a bôd yn gadwedig.

13 A'r rhai ar y graig, yw y rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen: a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu tros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.

14 A'r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai a wrandaw­sant, ac wedi iddynt fyned ym­maith, hwy a dagwyd gan ofa­lon, a golud, a melyswedd bu­chedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.

15 A'r hwn ar y tîr da, yw y rhai hyn, y rhai â chalon hawdd­gar a da, ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.

16 Nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi tan wely: eithr yn ei gosod ar ganhwyll­bren, fel y caffo y rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.

17 Canys nid oes dim dirgel, a'r ni bydd amlwg: na dim cu­ddiedig, a'r ni's gwybyddir, ac na ddaw i'r goleu.

18 Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: Canys pwy byn­nag y mae ganddo y rhoddir i­ddo: a'r neb nid oes ganddo, ie yr hyn y mae yn tybied ei fôd gan­ddo, a ddygir oddi arno.

19 Daeth atto hefyd ei fam a'i frodyr, ac ni allent ddyfod hyd at­to gan y dorf.

20 A mynegwyd iddo gan rai yn dywedyd, Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.

21 Ac efe a attebodd ac a ddywe­dodd wrthynt, Fy mam i, am brodyr i, yw y rhai hyn sy 'n gw­rando gair Duw, ac yn ei wneu­thur.

22 A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddiscyb­lion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llynn. A hwy a gychwynnasant.

23 Ac fel yr oeddynt yn hwy­lio, efe a hunodd: a chafod o wynt a ddescynnodd ar y llynn: ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.

24 A hwy a aethant atto ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O feistr, feistr, darfu am danom. Ac efe a gyfododd, ac a gery­ddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.

25 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni a ryfe­ddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fôd yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwynteu yn vfyddhau iddo?

26 A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilæa.

27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o'r ddi­nas, yr hwn oedd ganddo gy­threuliaid, er ys talm o amser; ac ni wiscai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.

28 ( Hwn gwedi gweled yr Jesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddy­wedodd â llef vchel, Beth sydd i [Page] mi â thi, o Jesu fâb Duw goru­chaf? yr wyf yn attolwg i ti na'm poenech.)

29 Canys efe a orchymynnasei i'r yspryd aflan ddyfod allan o'r dŷn, canys llawer o amserau y cippiasai ef: ac efe a gedwyd yn rhwym â chadwynau, ac â llyffe­theiriau; ac wedi dryllio y rhwy­mau, efe a yrrwyd gan y cythrael ir diffaethwch.

30 A'r Jesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntef a ddywedodd, Lleng; canys llawer o gythreuliaid a ae­thant iddo ef.

31 A hwy a ddeisyfiasant arno, na orchymynnai iddynt fyned i'r dyfnder.

32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y my­nydd: a hwynt hwy a attolyga­sant iddo adel iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.

33 A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dŷn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn: ac a fodd­wyd.

34 A phan welodd y meichi­aid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynega­sant yn y ddinas, ac yn y wlad.

35 A hwy a aethant allan, i weled y peth a wnelsid, ac a ddae­thant at yr Jesu, ac a gawsant y dŷn, o'r hwn yr aethai y cythreu­liaid allan, yn ei ddillad a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Jesu: a hwy a ofnasant.

36 A'r rhai a welsent a fyne­gasant hefyd iddynt, pa fodd yr iachaesid y cythreulig.

37 A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid, a ddymunasant arno fyned ymmaith oddi wr­thynt, am eu bôd mewn ofn mawr: ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd,

38 A'r gŵr o'r hwn yr aethai y cytheuliaid allan, a ddeisyfiodd arno gael bôd gyd ag ef: eithr yr Jesu a'i danfonodd ef ymmaith, gan ddywedyd,

39 Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth tan bregethu trwy gwbl o'r ddinas faint a wnaethai 'r Jesu iddo.

40 A bu, pan ddychwelodd yr Jesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwil am dano ef.

41 Ac wele, daeth gŵr a'i enw Jairus, ac efe oedd lywodraethwr y Synagog, ac efe a syrthiodd wrth draed yr Jesu, ac a attolygodd i­ddo ddyfod i'w dŷ ef:

42 O herwydd yr oedd iddo ferch vnic-anedig ynghylch deu­ddeng-mlwydd oed, a hon oedd yn marw. (Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a'i gwa­scent ef.)

43 A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deu­ddeng mhlynedd, yr hon a dreu­l afai ar physygwyr ei holl fywyd, ac ni's gallai gael gan neb i hia­chau,

44 A ddaeth o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.

45 A dywedodd yr Jesu, Pwy yw a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd ag ef, O feistr, y mae y bobloedd yn dy [Page] wascu, ac yn dy flino, ac a ddy­wedi di, Pwy yw a gyffyrddodd â mi?

46 A'r Jesu a ddywedodd. Rhyw vn a gyffyrddodd â mi: ca­nys mi a wn fyned rhinwedd allan o honof.

47 A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a dda­eth tan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo y­ngwŷdd yr holl bobl, am ba a­chos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd.

48 Yntef a ddywedodd wrthi, Cymmer gyssur ferch, dy ffydd a'th iachâodd: dôs mewn tang­neddyf.)

49 Ac efe etto yn llefaru, daeth vn o dŷ llywodraethwr y Syna­gog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo 'r Athro.

50 A'r Jesu pan glybu hyn, a'i attebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn vnig, a hi a ia­cheir.

51 Ac wedi ei fyned ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Petr, ac Jaco, ac Joan, a thâd yr eneth a'i mam.

52 Ac wŷlo a wnaethant oll, a chwynfan am dani: eithr efe a ddywedodd, Nac wŷlwch: nid marw hi, eithr cyscu y mae.

53 A hwy a'i gwatwarasant ef, am iddynt wŷbod ci marw hi.

54 Ac efe a'u bwriodd hwynt oll allan, ac a'i cymmerth hi er­byn ei llaw, ac a lefodd, gan ddy­wedyd, Herlodes, cyfod.

55 A'i hyspryd hi a ddaeth dra­chefn, a hi a gyfododd yn e­brwydd: ac efe a orchymynodd roi bwyd iddi.

56 A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchymynnodd iddynt na ddywedent i neb y pethawnae­thid.

PEN. IX.

1 Christ yn anfon ei Apostolion i wneuthur rhyfeddodau, ac i bre­gethu. 7 Herod yn chwennych gwe­led Christ: 17 Christ yn porthi pum mil: 18 yn ymofyn beth yr oedd y byd yn ei dybied am dano: yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 23 yn gosod allan i bawb siampl o'i ddioddefgarwch. 28 Ei wedd-no­widiad ef. 37 Mae efe yn iachau y lloerig: 43 a thrachefn yn rhag­rybuddio ei ddiscyblion am ei ddi­oddefaint: 46 yn canmol gosty­ngeiddrwydd: 51 yn gorchymmyn iddynt ddangos llarieidd-dra tuac at bawb, heb chwennych dial. 57 Rhai yn chweunych ei ganlyn ef, ond tan ammod.

AC efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg discybl; ac a ro­ddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau.

2 Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i ia­chau y rhai cleifion.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymmerwch ddim i'r daith, na ffyn, nac yscreppan, na bara, nac arian: ac na fydded gennych ddwy bais bob vn.

4 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.

5 A pha rai bynnag ni'ch der­byniant, pan eloch allan o'r ddi­nas honno, escydwch hyd yn oed y llwch oddiwrth eich traed, yn [Page] dystiolaeth yn eu herbyn hwynt.

6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy 'r trefi, gan bregethu 'r Efengyl, ac iachau ym mhob lle.

7 A Herod y tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo: ac efe a betrusodd, am fôd rhai yn dywedyd gyfodi Joan o feirw:

8 A rhai eraill, ymddangos o Elias: a rhai eraill, mai pro­phwyd, un o'r rhai gynt, a adgy­fodasai.

9 A Herod a ddywedodd, Joan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.

10 A'r Apostolion wedi dy­chwelyd, a fynegasant iddo y cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymmerth hwynt, ac a aeth o'r nailltu, i le anghyfannedd yn perthynu i 'r ddi­nas a elwir Bethsaida.

11 A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'i der­byniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a ia­chaodd y rhai oedd arnynt eisieu eu hiachau.

12 A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau: a'r deuddeg a ddae­thant, ac a ddywedasant wrtho, Go­llwng y dyrfa ymmaith, fel y ga­llont fyned i'r trefi ac i'r wlad o­ddi amgylch i letteu, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni ymma mewn lle anghyfannedd.

13 Eithr efe a ddywedodd wr­thynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta. A hwythau a ddy­wedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth a dau byscodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.

14 Canys yr oeddynt yngh­ylch pum-mil o ŵyr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscybli­on, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bôb yn ddeg a deu­gain.

15 Ac felly y gwnaethant, a hwy a wnaethant iddynt oll ei­stedd.

16 Ac efe a gymmerodd y pum torth, a'r ddan byscodyn, ac a e­drychodd i fynu i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u tor­rodd, ac a'u rhoddodd i'r discy­blion, i'w gosod ger bron y bobl.

17 A hwynt hwy oll a fwytta­sant, ac a gawsant ddigon: a chy­fodwyd a weddillasai iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg bascedaid.

18 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddio ei hunan, fôd ei ddi­scyblion gyd ag ef: a efe a ofyn­nodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae 'r bobl yn dywedyd fy môd i?

19 Hwythau gan atteba ddy­wedasant, Joan Fedyddiwr: ond eraill, mai Elias; ac eraill mai rhyw brophwyd o'r rhai gynt a adgyfododd.

20 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy môd i? A Phetr gan atteb a ddywedodd, Christ Duw.

21 Ac efe a roes orchymmyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb.

22 Gan ddywedyd, Mae yn rhaid i Fab y dŷn oddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifenny­ddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd adgyfodi.

23 Ac efe a ddywedodd wrth bawb. Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ym waded ag ef ei hun a ehoded ei groes beunydd, a di­lyned fi.

24 Canys pwy bynnag a ewy­llysio gadw ei enioes, a'i cyll, ond pwy bynnag a gollo ei enioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi,

25 Canys pa lesâd i ddŷn er ennill yr holl fŷd, a'i ddifetha ei hun, neu fôd wedi ei golli?

26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dŷn, pan ddelo yn ei ogoni­ant ei hun, a'r Tâd, a'r Angelion sanctaidd.

27 Eithr dywedaf i chwi yn wîr, y mae rhai o'r sawl sy yn sefyll ymma, a'r ni archwaethant an­geu, hyd oni welont deyrnas Dduw.

28 A bu ynghylch wyth niwr­nod wedi y geiriau hyn, gymme­ryd o honaw ef Petr, ac Joan, ac Jaco, a myned i fynu i'r mynydd i weddio.

29 Ac fel yr oedd efe yn gwe­ddio, gwedd ei wyneb-pryd ef â newidiwyd, a'i wisc oedd yn wenn ddisclair.

30 Ac wele dau ŵr a gŷd-ym­ddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses, ac Elias.

31 Y rhai a ymddangosa­sant mewn gogoniant, ac a ddy­wedasant am ei ymadawiad ef, vr hwn a gyflawnai efe yn Jeru­salem.

32 A Phetr a'r rhai oedd gyd ag ef oeddynt wedi trymhau gan gyscu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr, y rhai oedd yn sefyll gyd ag ef.

33 Abu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Jesu, O feistr, da yw i ni fôd ymma: a gwnawn dair pa­bell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34 Ac fel yr oedd efe yn dy­wedyd hyn, daeth cwmwl ac a'i cyscododd hwynt: a hwynt hwy a ofnasant wrth fyned o honynt i'r cwmwl.

35 A daeth llef allan o'r cw­mwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab an wyl, gwrandewch ef.

36 Ac wedi bôd y llef, cafwyd yr Jesu yn unic: a hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny, ddim o'r pethau a wel­sent.

37 A darfu drannoeth, pan ddaethont i wared o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.

38 Ac wele gwr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O A­thro, yr wyf yn attolwg i ti, e­drych ar fy mab, canys fy unic­anedig yw.

39 Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntef yn ddi­symmwth yn gwaeddi, ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni [...]alo e­wyn: a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei yssigo ef.

40 Ac mi a ddeisyfiais ar dy ddiscyblion di ei fwrw ef allan, ac ni's gallasant.

41 A'r Jesu gan atteb a ddywe­dodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hŷd y byddaf gyd â chwi, ac i'ch goddefaf? dwg dy fâb ymma.

42 Ac fel yr oedd efe etto yn dyfod, y cythrael a'i rhwygodd ef ac a'i drylliodd: a'r Jesu a gery­ddodd [Page] yr yspryd aflan, ac a ia­chaodd y bachgen, ac a'i roddes ef iw dad.

43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw: ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai yr Jesu, efe a ddywe­dodd wrth ei ddiscyblion.

44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: ca­nys Mab y dŷn a draddodir i ddwylo dynion.

45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel na's deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.

46 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddei fwyaf o ho­nynt.

47 A'r Jesu wrth weled me­ddwl eu calon hwynt, a gym­merth fachgennyn, ac a'i goso­dodd yn ei ymyl,

48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bach­gennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a'm anfonodd i: canys, yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll hwnnw a fydd mawr.

49 Ac Joan a attebodd ac a ddywedodd, O feistr, ni a wel­som ryw un yn dy enw di yn bw­rw allan gythreuliaid, ac a wahar­ddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.

50 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i'n herbyn trosom ni y mae.

51 A bu, pan gyflawn wyd y dyddiau y cymmerid ef i fynu, yn­tef a roddes ei fryd ar fyned i Je­rusalem.

52 Ac efe a ddanfonodd gen­nadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi i­ddo ef.

53 Ac ni's derbyniasant hwy ef, oblegid sôd ei wyneb ef yn tueddu tu a Jerusalem.

54 A'i ddiscyblion ef, Jaco, ac Joan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd o honom am ddyfod tân i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gw­naeth Elias?

55 Ac efe a drôdd, ac a'u ce­ryddodd hwynt, ac a ddywedodd, ni ŵyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.

56 Canys ni ddaeth Mâb y dŷn i ddestrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57 A bu, a hwy yn myned, ddy­wedyd o ryw un ar y ffordd wr­tho ef, Arglwydd, mi a'th ganly­naf i ba le bynnag yr elych.

58 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Y mae gan y llwynogod ffau­au, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.

59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntef a ddy­wedodd, Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad:

60 Eithr yr Jesu a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw, ond dôs di a phregetha deyrnas Dduw.

61 Ac un arall hefyd a ddywe­dodd, Mi a'th ddilynaf di, ô Ar­glwydd; ond gâd i mi yn gyntaf ganu yn iach i'r rhai sy yn fy nh ŷ.

62 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, [Page] Nid oes neb ac sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pe­thau sydd o'l ôl, yn gymmwys i deyrnas Dduw.

PEN. X.

1 Christ yn anfon allan ar un­waith ddêg discybl a thrugain, i wneuthur gwrthiau, ac i brege­thu: 17 Yn eu rhybuddio hwy i fôd yn ostyngedic, ac ym­mha beth y gorfoleddent: 21 yn diolch iw dâd am ei râs: 23 yn mawrygu dedwydd gyflwr ei Egl­wys: 25 yn dyscu y cyfreithiwr y modd i gael bywyd tragywyddol, ac i gymmeryd pawb yn gymmy­dog iddo, ac a fo ac eisieu ei dru­garedd ef arno: 41 yn argyoeddi Martha, ac yn canmol Mair ei chwaer hi.

VVedi y pethau hyn yr or­deiniodd yr Arglwydd ddêg a thrugain eraill hefyd, ac a'u danfones hwynt bob yn ddau, o flaen ei wyneb, i bob dinas a man, lle 'r oedd efe ar fedr dyfod.

2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt. Y cynhayaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwŷr yn an­aml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cynhayaf am ddan­fon allan weithwŷr i'w gynhay­af.

3 Ewch: wele, yr wŷfi yn eich danfon chwi fel wŷn ym mysc bleiddiaid.

4 Na ddygwch gôd, nac yscrep­pan, nac escidiau: ac na chyfer­chwch well i neb ar y ffordd.

5 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangne ddyf i'r tŷ hwn.

6 Ac o bydd yno fab tangne­ddyf, eich tangneddyf a orphwys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi.

7 Ac yn y tŷ hwnnw arho­swch, gan fwytta ac yfed, y cy­fryw bethau ac a gaffoch gan­ddynt: canys teilwng yw i'r gwei­thwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ,

8 A pha ddinas bynnag yr e­loch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwyttewch y cyfryw bethau ac a rodder ger eich bronnau:

9 Ac iachewch y cleifion a fy­ddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos at­toch.

10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich der­byn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch.

11 Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch di­nas, yr ydym yn ei sychu ymmaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fôd teyrnas Dduw wedi ne­sau attoch.

12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.

13 Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithre­doedd nerth ol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarha­sent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain, a lludw.

14 Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.

15 A thitheu Capernaum yr hon a dderchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.

16 Y neb sydd yn eich gwran­do chwi, sydd yn fy ngwrando i, a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i, a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu yr hwn a'm hanfo­nodd i.

17 A'r dêg a thrugain a ddy­chwelasant gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.

18 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.

19 Wele, yr ydwyfi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph, ac yscorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.

20 Eithr yn hyn na lawen­hewch, fôd yr ysprydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawen­hewch yn hytrach, am fôd eich henwau yn scrifennedig yn y ne­foedd.

21 Yr awr honno yr Jesu a la­wenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti ô Dad, Arglwydd nef a daiar, am guddio o honot y pethau hyn o­ddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datcuddio o honot i rai by­chain: yn wír ô Dâd, oblegid fe­lly y gwelid yn dda yn dy olwg di.

22 Pôb peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw'r Mâb, ond y Tâd; na phwy yw 'r Tâd ond y Mâb, a'r neb y myn­no 'r Mâb ei ddatcuddio iddo.

23 Ac efe a drôdd at ei ddiscy­blion, ac a ddywedodd o'r naill­tu, Gwyn fyd y llygaid sy yn gwe­led y pethau yr ydych chwi yn eu gweled.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi ewyllysio o lawer o bro­phwydi a brenhinoedd, weled y pethau yr ydych chwi yn eu gwe­led, ac ni's gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu cly­wed, ac ni's clywsant.

25 Ac wele, rhyw gyfreithwr a gododd, gan ei demptio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael, etifeddu bywyd tragwy­ddol?

26 Yntef a ddywedodd wrthe, Pa beth sydd scrifennedig yn y gyfraith? pa fodd y darlenni?

27 Ac efe gan atteb a ddywe­dodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: a'th gymmydog fel di dy hun.

28 Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi.

29 Eithr efe, yn ewyllyfio ei gyfiawnhau ei hun a ddywedodd with yr Jesu, A phwy yw sy nghymmydog?

30 A'r Jesu gan atteb a ddywe­dodd, Rhyw ddŷn oedd yn my­ned i wared o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd ym mysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc ef a'i archolli, a aethant ymmaith, gan ei adael yn hanner marw.

31 Ac ar ddamwain, rhyw offeiri­ad a ddaeth i wared y ffordd hon­no, a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu a all heibio.

32 A'r un ffunyd Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.

33 Eithr rhyw Samariad wrth ymdaith, a ddaeth atto ef, a phan ei gwelodd, a dosturiodd:

34 Ac a aeth atto, ac a rwy­modd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwîn: ac a'i go­fododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dûg ef i'r lletty, ac a'i ymge­leddodd.

35 A thrannoeth wrth fyned ymmaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletteu-wr, ac a ddywedodd wr­tho, Cymmer ofal trosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn y­chwaneg, pan ddelwyf drachefn mi a'i talaf i ti.

36 Pwy gan hynny o'r tri hyn yr ydwyt ti yn tybied ei fôd yn gymmydog i'r hwn a syrthiasai ym-mhlith y lladron?

37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Jesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dôs a gwna ditheu yr un modd.

38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod o honaw i ryw dref, a rhyw wraig a'i henw Martha, a'i derbyniodd ef i'w thŷ.

39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eiste­ddodd wrth draed yr Jesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.

40 Ond Martha oedd draffer­thus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywe­dodd, Arglwydd, onid oes o fal gennit am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu; dywed wr­thi gan hynny am fy helpio.

41 A'r Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus, a thrafferthus wyt, yng­hylch llawer o bethau.

42 Eithr un peth sydd angen­rheidiol, a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.

PEN. XI.

1 Christ yn dyscu gweddio, a hynny heb ddyffygio: 11 gan siccrhau y rhydd Duw folly i ni bethau da. 14 Wrth fwrw allan gythrael mûd, y mae efe yn ceryddu y Pharisæaid cablaidd: 28 Ac yn dangos pwy sydd fendigedig: 29 ac yn pregethu i'r bobl, 37 ac yn argyoeddi ffûg sancteiddrwydd y Pharisæaid, a'r Scrifennyddion, a'r cyfreithwyr.

A Bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddiscyblion wrtho, Arglwydd; dysc i ni we­ddio, megis ac y dyscodd Joan i'w ddiscyblion.

2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch, Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw: deued dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, me­gis yn y nef, felly ar y ddaiar he­fyd.

3 Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.

4 A maddeu i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sy yn ein dyled. Ac nac ar­wain ni i brofedigaeth eithr gwa­red ni rhag drwg.

5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac â atto hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn.

6 Canys cyfaill i mi a ddaeth attaf wrth ymdaith, ac nid oes gennif ddim i'w ddodi ger ei fron ef.

7 Ac yntef oddi mewn a ettyb [Page] ac a ddywed, na flina fi: yn awr y mae 'r drws yn gaead, a'm plant gyd â mi yn y gwely: ni allaf godi a'u rhoddi i ti.

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fôd yn gyfaill iddo, etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd ac a rydd iddo gynnifer ac y sydd ar­no eu heisieu.

9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch: curwch, ac fe a agorir i chwi.

10 Canys pôb un sydd yn go­fyn, sydd yn derbyn, a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael: ac i'r hwn, sydd yn curo, yr agorir.

11 Os bara a ofyn mab i un o honoch chwi sy dâd, a ddyry efe garreg iddo? ac os pyscodyn, a ddyry efe iddo sarph yn lle pys­codyn?

12 Neu os gofyn efe wŷ, a ddy­ry efe scorpion iddo.

13 Os chwy-chwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tâd or nef yr Yspryd glân, i'r rhai a o­fynno ganddo?

14 Ac yr oedd efe yn bwrw a­llan gythrael, a hwnnw oedd fud: a bu wedi i'r cythrael fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ryfeddasant.

15 Eithr rhai o honynt a ddy­wedasant, Trwy Beelzebub pen­naeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

16 Ac eraill gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.

17 Yntef yn gwybod eu me­ddyliau hwynt, a ddywedodd, wrthynt, Pob teyrnas wedi ym­rannu yn ei herbyn ei hun, a a­nghyfanneddir: a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth:

18 Ac os Satan hefyd sydd we­di ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid.

19 Ac os trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hyn­ny y byddant hwy yn farnwŷr arnoch chwi.

20 Eithr os myfi trwy fŷs Duw, ydwyf yn bwrw allan gythreuli­aid, diammau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.

21 Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch.

22 Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymmaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddi­ried, ac a ran ei anrhaith ef.

23 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casclu gŷd â mi, sydd yn gwa­scaru.

24 Pan êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia mewn lleodd sychion, gan geifio gorphwysdra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y daethum allan.

25 A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei yscubo a'i dref­nu.

26 Yna yr â efe ac y cymmer atto saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun, a hwy a ânt i mewn, ac a arhossant yno: a diwedd y dŷn [Page] hwnnw fydd gwaeth nâ'i ddech­renad.

27 A bu fel yr oedd efe, yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llêf, ac a ddy­wedodd wrtho, Gwyn fŷd y grôth a'th ddug di, a'r bronnau a fu­gnaist.

28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fŷd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.

29 Ac wedi i'r bobloedd ym­dyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd, ac arwydd ni roddir i­ddi, ond arwydd Jonas y proph­wyd.

30 Canys fel y bu Jonas yn ar­wydd i'r Ninifeaid, felly y bydd Mab y dŷn hefyd i'r genhedlaeth hon.

31 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â gwŷr y genhed­laeth hon, ac a'u condemna hwynt: am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaiar i wrando doethineb Solo­mon: ac wele, vn mwy nâ Solo­mon ymma.

32 Gwŷr Ninife a godant i fynu yn y farn gyd â'r genhed­laeth hon, ac a'i condemnant hi: am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele, vn mwy nâ Jonas ymma.

33 Ac nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr: eithr ar gan­hwyll-bren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.

34 Canwyll y corph yw 'r lly­gad: am hynny pan syddo dy ly­gad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu: ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorph hefyd fydd tywyll.

35 Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot, fôd yn dywyll­wch.

36 Os dy holl gorph gan hynny sydd oleu, heb vn rhan dywyll yn­ddo, bydd y cwbl yn oleu, megis pan fo can wyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.

37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhyw Pharisæad a ddymunodd ar­no giniawa gyd ag ef, ac wedi i­ddo ddyfod i mewn, efe a eiste­ddodd i fwytta.

38 A'r Pharisæad pan welodd, a ryseddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen ciniaw.

39 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, yn awr chwychwi 'r Pha­risæaid ydych yn glânhau y tu allan i'r cwppan a'r ddysel, ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.

40 O ynfydion, ond yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn fydd o fewn he­fyd?

41 Yn hytrach rhoddwch elu­sen o'r pethau sy gynnych: ac wele, pôb peth sydd lân i chwi.

42 Eithr gwae chwi 'r Phari­sæaid, canys yr ydych chwi yn de­gymmu y mintys, a'r ryw, a phôb llysienyn, ac yn myned hei­bio i farn a chariad Duw. Y pe­thau hyn oedd raid eu gwneu­thur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.

43 Gwae chwi 'r Pharisæaid, canys yr ydych yn caru y prif­gadeiriau yn y Synagogau, a chy­sarch yn y marchnadoedd.

44 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wyr, am [Page] eich bôd fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wy­bod oddi wrthynt.

45 Ac vn o'r cyfreithwŷr a at­tebodd, ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn yr wyti yn ein gwradwyddo ninnau hefyd.

46 Yntef a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd y cyfreith-wŷr, canys yr ydych yn llwytho dyni­on â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau, ag vn o'ch bysedd.

47 Gwae chwy-chwi, canys yr ydych yn adeiladu beddau 'r pro­phwydi, a'ch tadau chwi a'u lla­ddodd hwynt.

48 Yn wîr yr ydych yn tystio­laethu, ac yn gyd-fodlon i weith­redoedd eich tadau: canys hwynt hwy yn wîr, a'u lladdasant hwy, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.

49 Am hynny hefyd y dywe­dodd doethineb Duw, Anfonaf at­tynt brophwydi, ac Apostolion, a rhai o honynt a laddant, ac a er­lidiant.

50 Fel y gofynner i'r genhed­laeth hon, waed yr holl broph­wydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y bŷd,

51 O waed Abel hyd waed Za­charias, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a'r Deml. Diau, meddaf i chwi, gofynnir ef i'r genhedlaeth hon.

52 Gwae chwy-chwi y cyfreith­wŷr, canys chwi a ddygasoch ym­maith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd yn myned a wahar­ddasoch chwi.

53 Ac fel yr oedd efe yn dywe­dyd y pethau hyn wrthynt, y de­chreuodd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid, fôd yn daer iawn ar­no, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau:

54 Gan ei gynllwyn ef, a chei­fio hela rhyw beth o'i ben ef, i gael achwyn arno.

PEN. XII.

1 Christ yn pregethu iw ddiscyblion am ochel rhagrith, ac ofn wrth ddatcan ei athrawiaeth ef: 13 yn rhybuddio y bobl i ochelyd cybudd­dra, trwy ddammeg y gwr golu­dog a adeiladodd yscuboriau mwy. 22 Ni wasanaetha i ni fôd yn rhŷ ofalus am bethau bydol, 31 ond ceisio teyrnas Dduw, 33 a rhoddi elusen, 36 a bôd yn barod i agoryd i'n Harglwydd pan guro, pa bryd bynnag i delo. 41 Y dylai gweinidogion Christ edrych ar ei siars, 49 a disgwyl am erlid. 54 Rhaid ir bobl dderbyn yr amser hwn o râs, 58 oblegid peth ofnad­wy yw marw heb gymmodi.

YN y cyfamser, wedi i fyr­ddiwn o bobl ymgasclu yng­hŷd, hyd oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddiscyblion yn gyntaf, gwiliwch arnoch rhag surdoes y Pharisæaid, yr hwn yw rhag­rith.

2 Canys nid oes dim cuddiedig a'r na's datcuddir: na dirgel, a'r ni's gwŷbyddir.

3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu: a'r peth a ddy­wedasoch yn y glust mewn stafell­oedd, a bregethir ar bennau tai.

4 Ac yr wyf yn dywedyd wr­thych, fy nghyfeillion, Nac ofn­wch y rhai fy yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy iw wneuthur.

5 Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn wedi y darffo iddo ladd, sydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern, ie meddaf i chwi, hwnnw a ofn­wch.

6 Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling, ac nid oes vn o honynt mewn angof ger bron Duw?

7 Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll, am hynny nac ofnwch: yr y­dych chwi yn well nâ llawer o adar y tô.

8 Ac meddaf i chwi, Pwy byn­nag a'm haddefo i ger bron dyni­on, Mab y dŷn hefyd a'i haddef ynteu ger bron Angelion Duw.

9 A'r hwn a'm gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron Angelion Duw.

10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dŷn, fe a fa­ddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd glân, ni fa­ddeuir.

11 A phan i'ch dygant i'r Sy­nagogau, ac at y llywiawdwŷr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch.

12 Canys yr Yspryd glân a ddysc i chwi yn yr awr honno, beth sydd raid ei ddywedyd.

13 A rhyw vn o'r dyrsa a ddy­wedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi 'r etifeddiaeth.

14 Yntef a ddywedodd wrtho, Y dŷn, pwy a'm gosododd i yn farn-wr, neu yn rhan-wr arnoch chwi?

15 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Edrychwch, ac ymogel­wch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.

17 Ac efe a ymresymmodd yn­ddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennif le i ga­sclu fy ffrwythau iddo?

18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: mi a dynnaf i lawr fy yscu­boriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casclaf fy holl ffrwythau a'm da:

19 A dywedaf wrth fy enaid, fy enaid, y mae gennit dda lawer wedi eu rhoi i gadw tros lawer o flynyddoedd: gorphywys, bwytta, ŷf, bydd lawen.

20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, o ynfyd, y nos hon y go­fynnant dy enaid oddi wrthit, ac eiddo pwy fydd y pethau a bara­toaist?

21 Felly y mae 'r hwn sydd yn tryssori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.

22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmer­wch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch, nac am eich corph, beth a wiscoch.

23 Y mae 'r bywyd yn fwy nâ'r ymborth, a'r corph yn fwy nâ'r di­llad.

24 Ystyriwch y brain: cany [...] nid ydynt yn hau, nac yn medi: [Page] i'r rhai nid oes gell, nac yscubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o bâ faint mwy yr ydych chwi yn well nâ'r adar?

25 A phwy o honoch gan gy­meryd gofal a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faintioli?

26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, pa ham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?

27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisc­wyd Solomon yn ei holl ogoni­ant, fel vn o'r rhai hyn.

28 Ac os yw Duw felly yn dilla­du y llysieuyn, yr hwn sydd he­ddyw yn y maes, ac y foru a de­flir i'r ffwrn, pa faint mwy y di­llada efe chwy-chwi, ô rai o ychy­dig ffydd?

29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: ac na fyddwch amheus.

30 Canys y pethau hyn oll, y mae cenhedloedd y bŷd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwŷbod fôd arnoch chwi eisieu 'r pethau hyn.

31 Yn hytrach ceisiwch deyr­nas Dduw, a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn ychwaneg.

32 Nac ofnu, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.

33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen. Gwnewch i chwi byrsau, y rhai ni heneiddiant, tryssor yn y ne­foedd yr hwn ni dderfydd: lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra prŷf.

34 Canys lle y mae eich try­ssor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.

35 Bydded eich lwynau wedi eu hamwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu goleu:

36 A chwithau yn debyg i ddy­nion yn disgwil eu harglwydd, pa brŷd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront i­ddo yn ebrwydd.

37 Gwyn eu bŷd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu hargl­wydd pan ddêl, yn neffro: yn wir meddaf i chwi, efe a ym wregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy.

38 Ac os daw efe ar yr ail wi­liadwriaeth, ac os ar y drydedd wiliad wriaeth y daw, a'u cael hwynt felly, gwyn eu bŷd y gwei­sion hynny.

39 A hyn gwybyddwch, pe gwybasai gŵr y tŷ pa awr y denai 'r lleidr, efe a wiliasai, ac ni a­dawsai gloddio ei dŷ trwodd.

40 A chwithau gan hynny, by­ddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mâb y dŷn.

41 A Phetr a ddywedodd wr­tho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyti yn dywedyd y ddammeg hon, a'i wrth bawb hefyd?

42 A 'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruch wiliwr ffydd­lawn, a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyflyniaeth iddynt mewn prŷd?

43 Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pan ddêl, yn gwneuthur felly.

44 Yn wîr meddaf i chwi, efe a'i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ac sydd eiddo.

45 Eithr os dywed y gwâs hwn­nw [Page] yn ei galon, y mae fy ar­glwydd yn oedi dyfod: a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwytta, ac yfed, a meddwi:

46 Daw arglwydd y gwâs hwn­nw mewn dydd nad yw efe yn disgwil, ac ar awr nad yw efe yn gwŷbod, ac a'i gwahana ef, ac a esyd ci ran ef gyd â'r anffyddlo­niaid.

47 A'r gwas hwnnw, yr hwn a ŵybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod:

48 Eithr yr hwn ni ŵybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffon­nodiau, a gurir ag ychydig ffou­nodiau: ac i bwy bynnag y rhodd­wyd llawer, llawer a ofynnir gan­ddo: a chyd â'r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant gan­ddo.

49 Mi a ddaethym i fwrw tân ar y ddaiar, a pheth a fynnaf os cynneuwyd ef eusus?

50 Eithr y mae gennif fedydd i'm bedyddio ag ef, ac mor gyfyng yw arnaf, hyd oni orphenner.

51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y daethym i i'w roddi ar y daiar? nag ê, meddaf i chwi, ond yn hytrach ymrafael.

52 Canys bydd o hyn allan, bump yn yr vn tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.

53 Y tâd a ymranna yn erbyn y mâb, a'r mâb yn erbyn y tâd: y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam: y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, y mae cafod yn dyfod: ac, felly y mae.

55 A phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwrês: ac fe fydd.

56 O ragrithwŷr chwi a fe­drwch ddeall wyneb-prŷd y ddai­ar a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?

57 A pha ham nad ydych, ie o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?

58 Canys tra fyddech yn my­ned gyd â'th wrthwynebwr at ly­wodraeth-wr, gwna dy oren ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho: rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy ro­ddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yngharchar.

59 Yr wyf yn dywedyd i ti, nad ai di ddim oddi yno, hyd oni the­lych, ie'r hatling cithaf.

PEN. XIII.

1 Christ yn pregethu edifeirwch wrth gospedigaeth y Galilæaid ac eraill. 6 Y ffigys-bren diffrwyth ni chaiff sefyll. 11 Christ yn ia­chau y wraig oedd wedi crymmu: 18 yn dangos galluog weithre­diad y gair ynghalonnau ei etho­ledigion, trwy ddammeg y gronyn mwstard: a'r sur-does: 24 yn an­noc i fyned i mewn i'r porth cy­fyng, 31 ac yn argyoeddi Herod, a Jerusalem.

AC yr oodd yn bresennol y cy­famser hwnnw, rai yn my­negi iddo am y Galilæaid, y rhai y cymmyscasei Pilat eu gwaed ynghyd a'u haberthau.

2 A'r Jesu gan atteb a ddywe­dodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fôd y Galilæaid hyn, yn be­chaduriaid mwy nâ'r holl Gali­læaid, am iddynt ddioddef y cy­fryw bethau?

3 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr onid edifarhewch; chwi a ddifethir oll yn yr vn modd.

4 Neu'r deu-naw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt; a ydych chwi yn tybied eu bôd hwy yn becha­duriaid mwy nâ'r holl ddynion o­edd yn cyfanneddu yn Jerusalem?

5 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr vn modd.

6 Ac efe a ddywedodd y ddam­meg hon, Yr oedd gan vn ffigys­bren wedi ei blannu yn ei win-llan, ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth ar­no, ac ni's cafodd.

7 Yna efe a ddywedodd wrth y gwin-llannudd, Wele, tair bly­nedd yr ydwyf yn dyfod, gan gei­sio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid ydwyf yn cael dim: torr ef i lawr: pa ham y mae efe yn di­ffrwytho 'r tir?

8 Ond efe gan atteb a ddywe­dodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail:

9 Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid ê, gwedi hynny torr ef i lawr.

10 Ac yr oedd efe yn dyscu yn vn o'r Synagogau ar y Sab­bath.

11 Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi yspryd gwendid, ddeu­naw mlynedd: ac oedd wedi cyd­grymmu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ym-vniawni.

12 Pan welodd yr Jesu hon, efe a'i galwodd hi atto, ac a ddy­wedodd wrthi, Ha wraig, rhydd­hawyd ti oddi wrth dy wendid.

13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a vni­awnwyd, ac a ogoneddodd Dduw.

14 A'r Arch-synagogydd a at­tebodd yn ddigllon, am i'r Jesu ia­chau ar y Sabbath, ac a ddywe­dodd wrth y bobl, Chwe diwr­nod sydd yn y rhai y dylid gwei­thio: ar y rhai'n gan hynny, deu­wch, ac iachâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath.

15 Am hynny yr Arglwydd a'i attebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pôb vn o honoch ar y Sabbath ei ŷch neu ei assyn o'r preseb, a'u harwain i'r dwfr?

16 Ac oni ddylei hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwy­modd Satan, wele ddeunaw mly­nedd, gael ei ryddhau o'r rhwym hwn, ar y dydd Sabbath.

17 Ac fel yr oedd efe yn dywe­dyd y pethau hyn, ei holl wrth­wyneb-wŷr ef a gywilyddiasant: a'r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo.

18 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn de­byg? ac i ba beth y cyffelybaf hi?

19 Tebyg yw i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmerodd dŷn, ac a'i hauodd yn ei ardd, ac efe a gynnyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a ny­thasont yn ei ganghennau ef.

20 A thrachefn y dywedodd, [Page] I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?

21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll.

22 Ac efe a dramwyodd drwy ddinasoedd a threfi, gan athra­wiaethu, ac ymdeithio tuâ Jeru­salem.

23 A dywedodd vn wrtho, Ar­glwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt:

24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: ca­nys llawer, meddaf i chwi, a gei­siant fyned i mewn, ac ni's gallant.

25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll oddi allan, a churo 'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Ar­glwydd, agor i ni: ac iddo yntef atteb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim o honoch o ba le yr ydych:

26 Yna y dechreuwch ddywe­dyd, Ni a fwyttasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddyscaist yn ein heolydd ni.

27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymmaith oddi wrthif, chwi holl weithred­wyr anwiredd.

28 Yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.

29 A daw rhai o'r dwyrain, ac o'r gorllewin, ac o'r gogledd, ac o'r dehau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.

30 Ac wele, olaf ydyw y rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw y rhai a fyddant olaf.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth atto ryw Pharisæaid, gan ddywe­dyd wrtho, Dôs allan a cherdda oddi ymma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.

32 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, ewch a dywedwch i'r cad­naw hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iachâu, heddyw ac y foru, a'r try­dydd dydd dydd i'm perffeithir.

33 Er hynny, rhaid i mi ym­daith heddyw, ac y foru, a thren­nydd: canys ni all fôd y derfydd am brophwyd allan o Jerusalem.

34 O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a anfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn ga­sclu dy blant ynghŷd, y modd y cascl yr iâr ei chywion tan ei ha­denydd, ac ni's mynnech?

35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wîr yr wyf yn dywedyd wrthych, na welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywettoch, Bendige­dig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

PEN. XIV.

2 Christ yn iachâu y dropsi ar y Sabbath: 7 yn dyscu gostyngei­ddrwydd: 12 a gwneuthur ci­niawau i'r tlodion: 15 wrth ddammeg y Swpper mawr, yn dangos pa fodd i cauir dynion a meddyliau bydol, y rhai a ddiysty­rant air Duw, allan o'r nef. 25 Rhaid i'r rhai a synnai fod yn ddiscyblion iddo ddwyn ei groes, [Page] wneuthur eu cyfrifon ymlaen llaw, rhag iddynt trwy gywilydd syr­thio oddiwrtho ar ôl hynny, a my­ned yn gwbl ddiles, mal halen we­di colli ei flâs.

BU hefyd, pan ddaeth efe i dŷ vn o bennaethiaid y Phari­sæaid ar y Sabbath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wilied ef.

2 Ac wele, 'r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o'r dropsi.

3 A'r Jesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreith-wŷr, a'r Phari­sæaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbath?

4 A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymmerodd atto, ac a'i ia­chaodd ef, ac a'i gollyngodd ym-maith:

5 Ac a attebodd iddynt hwy­thau, ac a ddywedodd, Assyn neu ŷch pa vn o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd n'is tynn ef allan ar y dydd Sabbath?

6 Ac ni allent roi atteb yn ei er­byn ef am y pethau hyn.

7 Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd vchaf: gan ddy­wedyd wrthynt,

8 Pan i'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bôd vn anrhydeddusach nâ thi, wedi wahodd ganddo.

9 Ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntef, ddyfod a dywedyd wr­thit, Dyro le i hwn, ac yna dech­reu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf.

10 Eithr pan i'th wahodder, dôs ac eistedd yn y lle isaf, fes pan ddelo 'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthit, Y cyfaill, eistedd yn vwch i fynu: yna y bydd i ti glôd yngwŷdd y rhai a eisteddant gŷd â thi ar y bwrdd.

11 Canys pôb vn a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyr­chefir.

12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasei ef, Pan wnelych ginio neu swpper, na alw dy gyfeillion, na'th fro­dyr, na'th geraint, na'th gymmy­dogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwel dy wahodd ditheu, a gwneuthur taledigaeth i ti.

13 Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:

14 A dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: ca­nys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw vn o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd, y pethau hyn, efe a ddywe­dodd wrtho, Gwyn ei fŷd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.

16 Ac yntef a ddywedodd wr­tho, Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer:

17 Ac a ddanfonodd ei wâs brŷd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, ca­nys weithian y mae pôb peth yn barod.

18 A hwŷ oll a ddechreuasant yn vn-fryd ymescusodi, Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a bry­nais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol.

19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr [Page] ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn escu­sodol.

20 Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig ac am hynny ni's gallafi ddyfod.

21 A'r gwâs hwnnw, pan dda­eth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ wedi digio, a ddywedodd wrth ei wâs, dôs allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn ymma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.

22 A'r gwâs a ddywedodd, Ar­glwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynnaist, ac etto y mae lle.

23 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, Dôs allan i'r prif­ffyrdd a'r caeau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr vn o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.

25 A llawer o bobl a gyd-ger­ddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt.

26 Os daw neb attafi, ac ni chasâo ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, îe a'i enioes ei hun hefyd, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.

27 A phwy bynnag ni ddyc­co ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.

28 Canys pwy o honoch chwi a'i frŷd ar adeiladu tŵr, nid ei­stedd yn gyntaf, a bwrw 'r draul, a oes ganddo a'i gorphenno?

29 Rhac wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a'i gwelant, ei watwar ef,

30 Gan ddywedyd, Y dŷn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni a­llodd ei orphen.

31 Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil, gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef, ac vgain mil?

32 Ac os amgen, tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a enfyn gennadwri, ac a ddeisyf ammo­dau heddwch.

33 Felly hefyd, pob vn o ho­noch chwithau, nid ymwrthodo â chymmaint oll ac a feddo, ni all fôd yn ddiscybl i mi.

34 Da yw 'r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?

35 Nid yw efe gymmwys nac i'r tir, nac i'r dommen, ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

PEN. XV.

1 Dammeg y ddafad a gallesid, 8 y darn arian 11 a'r mâb afrad­lon.

AC yr oedd yr holl Bublicanod a'r pechaduriaid yn nessau atto ef i wrando arno.

2 A'r Pharisæaid a'r Scrifen­nyddion a rwgnachasant, gan ddy­wedyd, Y mae hwn yn derbyn pe­chaduriaid, ac yn bwytta gyd â hwynt.

3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywe­dyd,

4 Pa ddŷn o honoch a chan­ddo gant o ddefaid, ac os cyll vn [Page] o honynt, nid yw yn gadel yr amyn un pum ugain yn yr ania­lwch, ac yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?

5 Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dŷd hi ar ei yscwyddau ei hun yn llawen.

6 A phan ddêl adref, efe a ei­lw ynghŷd ei gyfeillion a'i gym­mydogion, gan ddywedyd wr­thynt, Llawenhewch gyd â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.

7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nêf am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid i­ddynt wrth edifeirwch.

8 Neu pa wraig, a chanddi ddêg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni oleu ganwyll, ac yscubo'r tŷ, a cheisio yn ddysal, hyd onis caffo ef?

9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghŷd ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys ce­fais y dryll a gollaswn.

10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yngwydd Ange­lion Duw am un pechadur a edi­farhao.

11 Ac efe a ddywedodd, Yr cedd gan ryw ŵr ddau fab:

12 A'r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy nhâd, dyro i mi y rhan a ddi­gwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.

13 Ac yn ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasclodd y cwbl ynghŷd, ac a gymmerth ei daith i wlâd bell: ac yno efe a wascarodd ei dda, gan fyw yn a­fradlon.

14 Ac wedi iddo dreulio 'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy 'r wlâd honno: ac yntef a dde­chreuodd fôd mewn eisieu.

15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinas-wŷr y wlâd honno, ac efe a'i anfonodd ef iw faesydd i borthi môch.

16 Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwyttai'r môch, ac ni roddodd neb iddo.

17 A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwâs cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd yn cael eu gwala a'i gweddill o fara, a minneu yn marw o newyn?

18 Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd; ac a ddywedaf wrtho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;

19 Ac mwyach nid ydwyf dei­lwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.

20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd. A phan oedd efe etto ym-mhell oddi wrtho, ei dâd a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a re­dodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.

21 A'r mab a ddywedodd wr­tho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen ditheu, ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fâb i ti.

22 A'r tâd a ddywedodd wrth ei weision. Dygwch allan y wisc oreu, a gwiscwch am dàno ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac escidiau am ei draed,

23 A dygwch y llo pascedig, a lleddwch ef: a bwyttawn, a by­ddwn lawen,

24 Canys fy mâb hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn, ac efe a gollasid, ac a gaed. A [Page] hwy a ddechreuasant fôd yn lla­wen.

25 Ac yr oedd ei fâb hynaf ef yn y maes, a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gyngha­nedd a dawnsio:

26 Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.

27 Yntef a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a la­ddodd y llo pascedig am iddo ei dderbyn ef yn iâch.

28 Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn. Am hynny y daeth ei dâd allan, ac a ymbiliod ag ef.

29 Yntef a attebodd ac a ddy­wedodd wrth ei dâd, Wele, cyn­nifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throse­ddais i un amser dy orchymmyn, ac ni roddaist fynn erioed i mi, i fod yn llawen gyd â'm cyfei­llion.

30 Eithr pan ddaeth dy fâb hwn, yr hwn a ddifaodd dy fy­wyd ti gyd â phutteiniaid, ti a le­ddaist iddo ef y llô pascedig.

31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mâb, yr wyt ti yn oestadol gyd â mi, a'r eiddof fi oll ydynt ei­ddot ti.

32 Rhaid oedd llawcnychu a gorfoleddu, oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn, ac a fu golledig, ac a gafwyd.

PEN. XVI.

1 Dammeg y goruchwiliwr anghyfi­awn 14 Christ yn ceryddu rha­grith y Pharisæaid cybydd. 19 Y glwth goludog a Lazarus y Car­dottyn.

AC efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddiscyblion, yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwiliwr, a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.

2 Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am da­nat? dyro gyfrif o'th oruchwi­liaeth: canys ni elli fôd mwy yn oruchwiliwr.

3 A'r goruchwiliwr a ddywe­dodd ynddo ei hun, Pa beth a w­naf, canys y mae fy Arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth oddi ar­naf, cloddio ni's gallaf, a chardot­ta sydd gywilyddus gennif.

4 Mi a wn beth a wnaf, fel pan i'm bwrier allan o'r oruchwili­aeth, y derbyniont fi i'w tai.

5 Ac wedi iddo alw atto bôb un o ddyled-wŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnati o ddyled i'm har­glwydd?

6 Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywe­dodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac eistedd ar frys, ac scrifenna ddeg a deugain.

7 Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywe­dodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cym­mer dy scrifen, ac scrifenna bed­war ugain.

8 A'r Arglwydd a ganmolodd y goruchwiliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth, nâ phlant y goleuni.

9 Ac yr wyf yn dywedyd i [Page] chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r Mammon anghyfiawn: fel pan fo eisieu arnoch, i'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.

10 Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.

11 Am hynny, oni buoch ffy­ddlon yn y Mammon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?

12 Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?

13 Ni ddichon un gwâs wasa­naethu dauarglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ag a gar y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga 'r llall: ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon.

14 A'r Pharisæaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwara­sant ef.

15 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Chwy-chwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion; eithr Duw a wŷr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw.

16 Y gyfraith a'r prophwydi oedd hyd Joan: er y prŷd hynny y pregethir teyrnas Dduw, a phôb dŷn sydd yn ymwthio iddi.

17 A haws yw i nêf a daiar fy­ned heibio, nag i un tippyn o'r gyfraith ballu.

18 Pwy bynnag a ollyngo ym­maith ei wraig, ac a briodo un a­rall, y mae efe yn godinebu, a phwy bynnag a briodo yr hon a ollyngwyd ymmaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.

19 Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wiscid â phorphor a lliain main, ac yr oedd yn cymme­ryd bŷd da yn helaeth-wych beu­nydd:

20 Yr oedd hefyd ryw gardo­ttyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gorn­wydlyd:

21 Ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiei o­ddi ar fwrd y gwr cyfoethog, ond y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.

22 A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr Angelion i fynwes Abraham: a'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd.

23 Ac yn uffern, efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Laza­rus yn ei fynwes.

24 Ac efe a lefodd, ac a ddy­wedodd, O dâd Abraham, truga­rhâ wrthif, a danfon Lazarus, i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poe­nir yn y fflam hon.

25 Ac Abraham a ddywedodd, Hâ fâb, coffa i ti derbyn dy wyn­fyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd, ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir ditheu.

26 Ac heb law hyn oll, rhyng­om ni a chwithau y siccrhawyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, drammwy oddi yma attoch chwi, na'r rhai oddi yna drammwy attom ni.

27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn attolwg i ti, gan hynny, ô dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy nhâd:

28 Canys y mae i mi bump o [Page] frodyr; fel y tystiolaetho i­ddynt hwy, rhag dyfod o ho­nynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.

29 Abraham a ddywedodd wr­tho, Y mae ganddynt Moses a'r Prophwydi; gwrandawant ar­nynt hwy.

30 Yntef a ddywedodd, Nag ê, y tâd Abraham; eithr os â un oddi wrth y meirw attynt, hwy a edi­farhânt.

31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith, pe codei un oddi wrth y meirw.

PEN. XVII.

1 Christ yn dyscu gochelyd achosion rhwystr. 3 Am faddeu bawb iw gilydd. 6 Gallu ffydd. 7 Pa fodd 'r ydym ni yn r hwymedig i Dduw, ac nid efe i ni. 11 Y mae yn iachau dêc o wahanglei­fion. 22 Am deyrnas Dduw, a dyfodiad Mâb y dyn.

AC efe a ddywedodd wrth y discyblion, Ni all na ddêl rhwystran, ond gwae efe trwy 'r hwn y deuant.

2 Gwell fyddei iddo pe rho­ddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a'i daflu i'r môr, nac iddo rwystro un o'r rhai bychain hyn.

3 Edrychwch arnoch eich hu­nain. Os pecha dy frawd yn dy er­byn, cerydda ef, ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.

4 Ac os pecha yn dy erbyn seith-waith yn y dydd, a seith­waith yn y dydd droi attat, gan ddywedyd, y mae yn edifar gen­nif, maddeu iddo.

5 A'r Apostolion a ddyweda­sant wrth yr Arglwydd, Anghwa­nega ein ffydd ni.

6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddel gennych ffydd gym­maint a gronyn o hâd mwstard, chwi a ellych ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadw­reiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhae i chwi.

7 Eithr pwy o honoch chwl ac iddo wâs yn aredig, neu yn bu­geilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, dôs ac ei­stedd i lawr i fwytta?

8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnafi, nes i mi fwytta ac yfed, ac wedi hynny y bwyttei, ac yr yfi ditheu.

9 Oes ganddo ddiolch i'r gwâs hwnnw, am wneuthur o hono y pethau a orchymmynnasid iddo? nid wyf yn tybied.

10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ac a orchymmynn wyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilæa.

12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ac ef ddeg o wŷr gwanangleision, y rhai a safasant o hirbel.

13 A hwy a godasant eu llêf, gan ddywedyd, Jesu feistr, tru­garhâ wrthym.

14 A phan welodd efe hwynt efe a ddywedodd wrthynt, Ewch [Page] a dangoswch eich hunain i'r o­ffeiriaid. A bu fel yr oeddynt yn myned, fe a'i glanhâwyd hwynt.

15 Ac vn o honynt, pan we­lodd ddarfed i iachâu, a ddych­welodd, gan foliannu Duw â llêf vchel.

16 Ac efe a syrthiodd ar ei wy­neb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo: a Samariad oedd ef.

17 A'r Jesu gan atteb a ddywe­dodd, Oni lânhawyd y dêg? ond pa le y mae 'r naw?

18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19 Ac efe a ddywedodd wr­tho, Cyfod, a dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd.

20 A phan ofynnodd y Phari­sæaid iddo pa brŷd y deuei deyr­nas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyr­nas Dduw wrth ddisgwil.

21 Ac ni ddywedant, Wele ymma, neu, wele accw: canys wele, teyrnas Dduw o'ch mewn chwi y mae.

22 Ac efe a ddywedodd wrth y discyblion, Y dyddiau a ddaw, pan chwennychoch weled vn o ddyddiau Mâb y dŷn, ac ni's gwelwch.

23 A hwy a ddywedant wr­thych, wele ymma, neu, wele accw: nac ewch, ac na chanlyn­wch hwynt,

24 Canys megis y mae y fell­ten a felltenna o'r naill ran tan y nêf, yn disclairio hyd y rhan arall tan y nêf; felly y bydd Mâb y dŷn hefyd yn ei ddydd ef.

25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y gen hedlaeth hon.

26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn ny­ddiau Mâb y dŷn.

27 Yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn gwreicca, yn gwra; hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch, a daeth y diluw, ac a'u difethodd hwynt oll.

28 Yr vn modd hefyd ac y bu yn nyddiau Lot; yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn pry­nu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu:

29 Eithr y dydd yr ae [...]h Lot allan o Sodoma, y glawiodd tân a brwmstan o'r nêf, ac a'u difethodd hwynt oll.

30 Fel hyn y bydd yn y dydd y dadcuddir Mâb y dŷn.

31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, ai ddodrefn o fewn y tŷ, na ddescynned iw cym­meryd hwynt: a'r hwn a fyddo yn y maes, yr vn ffunyd na ddych­weled yn ei ôl.

32 Cofiwch wraig Lot.

33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy byn­nag a'i cyll, a'i bywhâ hi.

34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y nos honno y bydd dau yn yr vn gwely: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.

35 Dwy a fydd yn malu yn yr vn lle: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.

36 Dau a fyddant yn y maes: y naill a gymmerir, a'r llall a ade­wir.

37 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le Ar­glwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y by­ddo 'r corph, yno yr ymgasgl yr cryrod.

[...]
[...]
[...]
[...]

PEN. XVIII.

1 Am y weddw daer. 9 Am y Pha­risæad a'r Publican. 15 Dwyn plant at Grist. 18 Y llywydd a fynnei ganlyn Christ, ond a rwy­strir gan ei gyfoeth. 28 Gwobr y rhai a ymadawant â'r cwbl ôll, er ei fwyn ef. 31 Y mae efe yn rhag fynogi ei farwolaeth, 35 ac yn rhoddi i ddyn dall ei olwg.

AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, fôd yn rhaid gweddio yn wastad, ac heb ddeffygio:

2 Gan ddywedyd, Yr oedd ryw farn-ŵr mewn rhyw ddinas yr hwn nid ofnei Dduw, ac ni pharchei ddŷn.

3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a dda­eth atto ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrth wyneb-ŵr.

4 Ac efe n'is gwnai dros amser: eithr wedi hynny, efe a ddywe­dodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddŷn:

5 Etto am fôd y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddy­fod a'm syfrdanu i.

6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barn-ŵr anghyfiawn:

7 Ac oni ddial Duw ei ethole­digion, sy yn llefain arno ddydd a nos, er ei fôd yn hir oedi tro­stynt?

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi y dial efe hwynt ar frŷs: eithr Mâb y dŷn pan ddel, a gaiff efe ffydd ar y ddaiar?

9 Ac efe a ddywedodd y dam­meg hon hefyd, wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bôd yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill,

10 Dau ŵr a aeth i fynu i'r Deml i weddio: vn yn Pharisæad, a'r llall yn Bublican.

11 Y Pharisæad o'i sefyll a weddiodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn, O Dduw, yr wyf yn di­olch i ti nad wyfi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghy­fiawn, yn odinebwŷr; neu fel y Publican hwn chwaith.

12 Yr wyf yn ymprydio ddwy­waith yn yr wyth-nos, yr wyf yn degymmu cymmaint oll ac a fe­ddaf.

13 A'r Publican gan sefyll o hirbell, ni fynnei cymmaint a chodi ei olygon tu a'r nêf, eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd dru­garog wrthif bechadur.

14 Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared iw dŷ, wedi ei gyfiawn­hau yn fwy nâr llall: canys pôb vn ac sydd yn ei dderchafu ei hun, a ostyngir: a phôb vn ac sydd yn ei ostwng ei hun, a dderchefir.

15 A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyffyrddei efe â hwynt: a'r discyblion pan wel­sant, a'u ceryddasant hwy.

16 Eithr yr Jesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Ga­dewch i'r plant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyr­nas Dduw.

17 Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bâch, nid â efe i mewn iddi.

18 A rhyw Lywodraeth-wr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddafi fywyd tragwyddol?

19 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Pa ham i'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond vn, sef Duw.

20 Ti a wyddost y gorchymynni­on, Na odineba, Na ladd, Na le­dratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Anrhydedda dy dad a'th fam.

21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm ieuengtid.

22 A'r Jesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae vn peth etto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennit, a dyro i'r tlodion, a thi a gai drysor yn y nêf: a thy­red, canlyn fi.

23 Ond pan glybu efe y pe­thau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.

24 A'r Jesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywe­dodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw.

25 Canys haws yw i gamel fy­ned trwy grau y nodwydd ddur, nac i oludog fyned i mewn i deyr­nas Dduw,

26 A'r rhai a glywsent a ddy­wedasant, A phwy a all fôd yn gadwedig?

27 Ac efe a ddywedodd, Y pe­thau sy ammhossibl gyd â dynion, sydd bossibl gyd â Duw.

28 A dywedodd Petr, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganlynasom di.

29 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

30 A'r ni's derbyn lawer cym­maint yn y pryd hwn, ac yn y bŷd a ddaw fywyd tragwyddol.

31 Ac efe a gymmerodd y deu­ddeg atto, ac a ddywedodd wr­thynt, Wele, yr ydym ni yn my­ned i fynu i Jerusalem, a chyflaw­nir pôb peth a'r sydd yn scrifen­nedig trwy 'r prophwydi am Fâb y dyn.

32 Canys efe a draddodir i'r cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:

33 Ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.

34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywetpwyd.

35 A bu, ac efe yn nesau at Jericho, i ryw ddŷn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn car­dotta.

36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.

37 A hwy a ddywedasant iddo mae Jesu o Nazareth oedd yn my nēd heibio.

38 Ac efe a lefodd, gan ddy­wedyd, Jesu fâb Dafydd trugarhâ wrthif.

39 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi▪ eithr efe a lefodd yn fwy o laŵer, Mâb Dafydd trugarhâ wr­thif.

40 A'r Jesu a safodd, ac a or­chymynnodd ei ddwyn ef atto: a phan ddaeth yn agos, efe a ofyn­nodd iddo,

41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? [Page] Yntef a ddywedodd, Arglwydd, cael o hon of fy ngolwg.

42 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Cymmer dy olwg; dy ffydd a'th iachaodd.

43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw: a'r holl bobl pan welsant, a roesant foliant i Dduw.

PEN. XIX.

1 Am Zacchaeus y Publican. 11 Y dêc darn o arian. 28 Christ yn marchogaeth i Jerusalem mewn gorfoledd: 41 yn wylo trosti: 45 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r Deml: 47 gan athrawiaethu beunydd yn­ddi. Y llywodraeth-wyr a fyn­nent i ddifetha ef, oni bai rhag ofn y bobl.

A'R Jesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho.

2 Ac wele ŵr a elwyd wrth ei enw Zacchaeus; ac efe oedd Ben­publican, a hwn oedd gyfoethog.

3 Ac yr oedd efe yn ceisio gwe­led yr Jesu, pwy ydoedd: ac ni allei gan y dyrfa, am ei fôd yn fy­chan o gorpholaeth.

4 Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycomorwy­dden, fel y gallei ei weled ef: ob­legid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.

5 A phan ddaeth yr Jesu i'r lle, efe a edrychodd i fynu, ac a'i canfu ef, ac a ddywedodd wrtho, Zacchaeus, discyn ar frŷs; canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.

6 Ac efe a ddescynnodd ar frŷs, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.

7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fy­ned o hono ef i mewn i letteua at ŵr pechadurus.

8 A Zachaeus a safodd, ac a ddy­wedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, o Arglwydd, yr yd­wyf yn ei roddi i'r tlodion, ac os dugym ddim o'r eiddo neb drwy gam-achwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.

9 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Heddyw y daeth iechydwri­aeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fôd yntef yn fâb i Abraham.

10 Canys Mâb y dŷn a ddaeth i geisio, ac i gadw yr hyn a golla­sid.

11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd ac a ddywedodd ddammeg, am ei fôd efe yn agos at Jerusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosei teyrnas Dduw yn y fan.

12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlâd bell, i dderbyn teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.

13 Ac wedi galw ei ddeg gwâs, efe a roddes iddynt ddêg punt, ac a ddywedodd wrthynt, March­nattewch hyd oni ddelwyf.

14 Eithr ei ddinas-wŷr a'i ca­sasant ef, ac a ddanfonasant gen­nadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu ar­nom.

15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl wedi derbyn y deyrnas, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i'r rhai y rhoddasei efe yr arian; fel y gwybyddei beth a elwasei bob vn wrth farchnatta.

16 A daeth y cyntaf, gan ddy­wedyd, Arglwydd dy bunt a yn­nillodd ddeg pu [...].

17 Yntef a ddywedodd wrtho, Da was da, am i ti fôd yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddêg dinas.

18 A'r ail a ddaeth, gan ddy­wedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.

19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw; Bydd ditheu ar bum dinas.

20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennif wedi ei dodi mewn napkyn.

21 Canys mi a'th ofnais, am dy fôd yn ŵr tôst: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni ro­ddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.

22 Yntef a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun i'th farnaf, ty­di wâs drwg: ti a wyddit fy môd i yn ŵr tôst, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn me­di y peth ni heuais;

23 A pha ham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fal pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyd â llôg?

24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd a dêg punt ganddo.

25 A hwy a ddywedasant wr­tho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt.

26 Canys yr wyfi yn dywe­dyd i chwi, Mai i bôb un y mae ganddo y rhoddir iddo: eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie yr hyn sydd ganddo.

27 A hefyd, fy ngelynion hyn­ny, y rhai ni fynnasent i mi deyr­nasu arnynt, dygwch hwynt ym­ma, a lleddwch ger fy mron i.

28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fynu i Jerusalem.

29 A fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i'r mynydd a elwir Oliwydd, efe a anfonodd ddau o'i ddiscyblion.

30 Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer: yn yr hwn gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dŷn erloed: gollyngwch ef, a dygwch ym­ma.

31 Ac os gofyn neb i chwi, Pa ham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fôd yn rhaid i'r Arglwydd wr­tho.

32 A'r rhai a ddanfonasid a ae­thant ymmaith, ac a gawsant fel y dywedasei efe wrthynt.

33 Ac fel yr oeddynt yn go­llwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Pa ham yr ydych yn gollwng yr ebol?

34 A hwy a ddywedasant, mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.

35 A hwy a'i dygasant ef at yr Jesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Jesu arno.

36 Ac fel yr oedd efe yn my­ned, hwy a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd.

37 Ac weithian, ac efe yn ne­sau at ddescynfa mynydd yr Oli­wydd, dechreuodd yr holl liaws discyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl wei­thredoedd nerthol a welsent,

38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw 'r brenin sydd yn dyfod yn e­nw'r Arglwydd: tangneddyf yn y nef, a gogoniant yn y goru­chaf.

39 A rhai o'r Pharisæaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, A­thro, cerydda dy ddiscyblion.

40 Ac efe a attebodd ac a ddy­wedodd [...] wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, pe tawai y rhai hyn, y llefei y cerrig yn y fan.

41 Ac wedi iddo ddyfod yn a­gos, pan welodd efe ŷ ddinas, efe a wylodd trosti,

42 Gan ddywedyd, Pe gwyba­sit ditheu, ie yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th he­ddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy ly­gaid.

43 Canys daw y dyddiau ar­nat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgyl­chant, ac a'th warchaeant o bôb parth:

44 Ac a'th wnânt yn gyd-wa­stad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.

45 Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw a­llan y rhai oedd yn gwerthu yn­ddi, ac yn prynu:

46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn scrifennedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gw­naethoch yn ogof lladron.

47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y Deml: a'r Archoffeiriaid, a'r Scrifennyddi­on, a phennaethiaid y bobl, a gei­sient ei ddifetha ef.

48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho, i wrando arno.

PEN. XX.

1 Christ yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Joan. 9 Dam­meg y winllan. 19 Am roddi teyrnged i Caesar. 27 Y mae efe yn gorchfygu y Saducæaid y rhai a wadent yr Adgyfodiad. 41 Y modd y mae Christ yn fâb Da­fydd. 25 Y mae efe yn rhybuddio ei ddiscyblion, i ochelyd yr Scri­fennyddion.

A Digwyddodd ar un o'r dy­ddiau hynny, ac efe yn dy­scu y bobl yn y Deml, ac yn pre­gethu yr Efengyl, ddyfod arno yr Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddi­on, gyd â'r Henuriaid.

2 A llefaru wrtho, gan ddy­wedyd, Dywed i ni drwy ba aw­durdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon.

3 Ac efe a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, a minneu a o­fynnaf i chwithau un gair: a dy­wedwch i mi.

4 Bedydd Joan, ai o'r nef yr y­doedd, ai o ddynion?

5 Eithr hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddy­wedyd, Os dywedwn, O'r nef efe a ddywed, Pa ham gan hynny na chredech ef?

6 Ac os dywedwn, O ddynion, yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gre­du fôd Joan yn brophwyd.

7 A hwy a attebasant na's gwy­ddent o ba le.

8 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Ac nid wyf finneu yn dywedyd i chwi trwy ba awdur­dod yr wyf yn gwneuthur y pe­thau hyn.

9 Ac efe a ddechreuodd ddy­wedyd y ddammeg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd win­llan, ac a'i gosododd i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref tros dalm o amser.

10 Ac mewn amser efe a anfo­nodd wâs at y llafurwŷr, fel y rho­ddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafur-wŷr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymmaith yn wâg-law.

11 Ac efe a chwanegodd anfon gwâs arall; eithr hwy a gurasant, ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i anfonasant ymmaith yn wag-law.

12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfa­sant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.

13 Yna y dywedodd arglwydd y win-llan, Pa beth a wnâf? mi a anfonaf fy anwyl fâb: fe allai pan welant ef y parchant ef:

14 Eithr y llafur-wŷr, pan wel­sant ef, a ymresymmasant a'u gi­lydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etisedd? deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn ei­ddom ni.

15 A hwy a'i bwriasant ef a­llan o'r winllan, ac ai lladdasant. Pa beth gan hynny a wna ar­glwydd y winllan iddynt hwy?

16 Efe a ddifetha y llafur-wŷr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddy­wedasant, Na atto Duw.

17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hyn­ny yw hyn a scrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeilad­wŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?

18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.

19 A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion, a geisiasant ro­ddi dwylo arno yr awr honno: ac yr oedd arnynt ofn y bobl: ca­nys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasei efe y ddam­meg hon.

20 A hwy a'i gwiliasant ef, ac a yrrasant gynllwynwŷr, y rhai a gymmerent arnynt eu bôd yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, iw draddodi ym­meddiant ac awdurdod y rhag­law.

21 A hwy a ofynnasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wy­ddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd.

22 A'i cyfraithlon i ni roi teyr­nged i Caesar, ai nid yw?

23 Ac efe a ddeallodd eu cy­frwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y temtiwch fi?

24 Dangoswch i mi geiniog: llun ac ar-graff pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddyweda­sant, Yr eiddo Caesar.

25 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Caesar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw.

26 Ac ni allasant feio ar ei ei­riau ef ger bren y bobl: a chan ry­feddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â sôn.

27 A rhai o'r Saducæaid, (y rhai sy yn gwadu nad oes adgyfo­diad) a ddaethant atto ef, ac a o­fynnasant iddo,

28 Gan ddywedyd, Athro, Mo­ses a scrifennodd i ni, Os byddei farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddi blant, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd iw frawd.

29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr; a'r cyntaf a gymme­rodd wraig ac a fu farw yn ddi­blant.

30 A'r all a gymmerth y wraig, ac a fu farw yn ddi blant.

31 A'r trydydd a'i cymmerth hi: ac yr un ffunyd y saith hefyd, ac ni adawsant blant, ac a fuant feirw.

32 Ac yn ddiweddaf oll, bu fa­rw y wraig hefyd.

33 Yn yr adgyfodiad gan hyn­ny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig,

34 A'r Jesu gan atteb a ddy­wedodd wrthynt, Plant y bŷd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra.

35 Eithr y rhai a gyfrifer yn deilwng i gael y bŷd hwnnw, a'r adgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwrcica, nac yn gwra.

36 Canys ni's gallant farw mwy: oblegid cyd-stâd ydynt â'r Angelion: a phlant Duw y­dynt, gan eu bôd yn blant yr adgy­fodiad.

37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a yspysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.

38 Ac nid yw efe Dduw y mei­rw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.

39 Yna rhai o'r Scrifennyddi­on, gan atteb a ddywedasant, A­thro, da y dywedaist.

40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.

41 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa fodd y maent yn dy­wedyd fôd Christ yn fâb i Dda­fydd?

42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu­law,

43 Hyd oni osodwyf dy ely­nion yn droedfaingc i'th draed ti.

44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, a pha fodd y mae efe yn fâb iddo?

45 Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion.

46 Ymogelwch rhag yr Scri­fennyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad lleision, ac a garant gyfarchiadau yn y march­nadoedd, a'r prif-gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif-eisteddleoedd yn y gwleddoedd.

47 Y rhai sydd yn llwyr fwyt­ta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir-weddio, y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.

PEN. XXI.

1 Christ yn canmol y weddw dlawd: 5 Yn rhag-fynegi dinistr y Deml, a dinas Jerusalem, 25 a'r arwyddion a fydd o flaen y dydd diwaethaf: 34 yn eu hannoc hwy [Page] i fôd yn wiliadwrus. 37 Arfer Christ tra fû yn Jerusalem.

AC wedi iddo edrych i fynu, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.

2 Ac efe a ganfu hefyd ryw w­raig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3 Ac efe a ddywedodd, yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy nâ hwynt oll

4 Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fw­riasant at offrymmau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr hull fywyd a oedd gan­ddi.

5 Ac fel yr oedd rhai yn dywe­dyd am y Deml, ei bôd hi wedi ei harddu â meini têg a rhoddion, efe a ddywedodd.

6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen a'r ni's dattodir.

7 A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa brŷd gan hynny y bydd y pethau hyn, a pha arwydd fydd pan fo'r pe­thau hyn ar ddyfod?

8 Ac efe a ddywedodd, Edry­chwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Christ, a'r am­ser a nesaodd: nac ewch gun hyn­ny ar eu hôl hwynt.

9 A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfyscoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.

10 Yna y dywedodd efe wr­thynt, Cenedl a gyfyd yn er­byn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.

11 A daiar-grynfau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a ne­wyn, a heintiau, a phethau ofna­dwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nêf.

12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, we­di eich dwyn ger bron brenhi­noedd a llywodraeth-wŷr, o achos fy enw i.

13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.

14 Am hynny rhoddwch eich brŷd, ar na rag-fyfyrioch beth a atteboch.

15 Canys myfi a roddaf i chwi enau, a doethineb, yr hon ni's gall eich holl wrthwyneb-wŷr na dywedyd yn ei herbyn, na'i gwrth-sefyll.

16 A chwi a fradychir, ie gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chy­feillion: ac i rai o honoch y parant farwolaeth.

17 A châs fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i.

18 Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.

19 Yn eich amynedd meddien­nwch eich eneidiau.

20 A phan weloch Jerusa­lem wedi ei hamgylchu gan lu­oedd yna gwybyddwch fôd ei anghyfannedd-dra hi wedi ne­sau.

21 Yna y rhai fyddant yn Ju­dæa, ffoant i'r mynyddoedd: a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, y­madawant: a'r rhai a fyddant yn y meusydd, nac elont i mewn iddi▪

22 Canys dyddiau dial yw y rhai hyn, i gyflawni yr holl be­thau a scrifennwyd.

23 Eithr gwae y rhai beichio­gion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny: canys bydd angen mawr yn y tîr, a digofaint ar y bobl hyn.

24 A hwy a syrthiant drwy fin y cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bôb cenhedlaeth: a Jerusalem a fydd wedi ei mathru gan y cen­hedloedd, hyd oni chyflawnir amser y cenhedloedd.

25 A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, ac ar y ddaiar ing cenhedloedd gan gy­fyng-gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo.

26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwil am y pethau sy yn dyfod ar y ddaiar: oblegid ner­thoedd y nefoedd a yscydwir.

27 Ac yna y gwelant Fâb y dŷn yn dyfod mewn cwmmwl, gydâ gallu a gogoniant mawr.

28 A phan ddechreuo 'r pe­thau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesau.

29 Ac efe a ddywedodd ddam­meg iddynt, Edrychwch ar y ffi­gys-bren, a'r holl breniau;

30 Pan ddeiliant hwy weithi­an, chwi a welwch, ac a wŷddoch o honoch eich hun, fôd yr hâf yn agos.

31 Felly chwithau, pan we­loch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fôd teyrnas Dduw yn agos.

32 Yn wir meddaf i chwi, nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddel y cwbl i ben.

33 Y nêf a'r ddaiar a ânt heibi­o, on fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un am­ser drymhau drwy lothineb a me­ddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth.

35 Canys efe a ddaw fel magl, ar wartha pawb oll a'r sy yn tri­go ar wyneb yr holl ddaiar.

36 Gwiliwch gan hynny, a gweddiwch bôb amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sy ar ddy­fod, ac i sefyll ger bron Mâb y dŷn.

37 A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y Deml, a'r nôs yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd, a elwid yr O­liwydd.

38 A'r holl bobl a foreu-gyr­chent atto ef yn y Deml, iw gly­wed ef.

PEN. XXII.

1 Yr Iddewon yn cyd-fwriadu yn erbyn Christ. 3 Satan yn paratoi Judas iw fradychu ef. 7 Yr A­postolion yn arlwyo y Pasc. 19 Christ yn ordeinio ei Swpper san­ctaidd, 21 yn guddicdic yn rhag­ddywedyd am y bradychwr, 24 yn annoc y rhan arall o'i Aposto­lion i ochelyd rhyfyg, 31 yn sic­crhau Petr na phallci ei ffydd ef: 34 ac er hynny y gwadei efe ef dair gwaith: 39 yn gweddio yn y mynydd, ac yn chwysu 'r gwaed, 47 yn cael ei fradychu â chusan, 50 yn iachâu clust Malchus, 54 yn cael ei wadu dair gwaith [Page] gan Petr, 63 a'i amherchi yn gywylyddus, 66 ac yn cyfaddef ei fôd yn Fab Duw.

A Nessaodd gwyl y bara croyw, yr hon a elwir y Pasc.

2 A'r Arch-offeiriaid a'r Scri­fennyddion a geisiasant pa sodd y difethent ef: oblegid yr oedd ar­nynt ofn y bobl.

3 A Satan a aeth i mewn i Ju­das, yr hwn a gyfenwyd Iscariot, yr hwn oedd o rifedi 'r deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymmaith, ac a ymddiddanodd â'r Arch-offeiri­aid, a'r blaenoriaid, pa fodd y bra­dychei efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen gan­ddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd: ac a gei­siodd amser cyfaddas iw fradychu ef iddynt, yn absen y bobl.

7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasc.

8 Ac efe a anfonodd Petr ac Joan, gan ddywedyd, Ewch, pa­ratowch i ni'r Pasc, fel y bwyt­taom.

9 A hwy a ddywedasant wr­tho, Pa le y mynni baratoi o ho­nom?

10 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ lle yr êl efe i mewn.

11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae 'r Athro yn dywedyd wr­thit, Pa le y mae 'r lletty, lle y gallwyf fwytta 'r Pasc gyd â'm discyblion.

12 Ac efe a ddengys i chwi o­ruwch-ystafell sawr, wedi ei tha­nu: yno paratowch.

13 A hwy a aethant ac a gaw­sant fel y dywedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc.

14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg A­postol gŷd ag ef.

15 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta 'r Pasc hwn gyd â chwi, cyn dioddef o honof:

16 Canys yr ydwyf yn dywe­dyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o honaw, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith.

18 Canys yr ydwyf yn dywe­dyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyr­nas Dduw.

19 Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i tor­rodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy ngorph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch; gwnewch hyn er coffa am danaf,

20 Yr un modd y cwppan he­fyd wedi swperu, gan ddywe­dyd, Y cwppan hwn yw 'r Te­stament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt tro­soch.

21 Eithr wele law'r hwn sydd yn fy mradychu, gŷd â mi ar y bwrdd.

22 Ac yn wir, y Mae Mab y dŷn yn myned, megis y mae we­di ei luniaethu: eithr gwae 'r dŷn hwnnw, trwy 'r hwn y bra­dychir ef.

23 Hwythau a ddechreuasant [Page] ymofyn yn eu plith en hun, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.

24 A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fôd yn fwyaf.

25 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt: a'r rhai fy mewn aw­durdod arnynt, a elwir yn ben­defigion.

26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf, a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.

27 Canys pa un fwyaf, a'i 'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai 'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc fel un yn gwasanaethu.

28 A chwy-chwi yw y rhai a arhosasoch gŷd â mi yn fy mhro­fedigaethau.

29 Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeini­odd sy Nhâd i minneu.

30 Fel y bwyttaoch ac yr y­foch ar fy mwrdd i yn fy nheyr­nas, ac yr eisteddoch ar orsedd­feydd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel.

31 A'r Arglwydd a ddywe­dodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:

32 Eithr mi a weddiais tro­sot, na ddiffygiei dy ffydd di: di­theu pan i'th droer cadarnhâ dy frodyr.

33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyfi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac i an­geu.

34 Yntef a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.

35 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pan i'ch anfonais heb na phwrs, na chôd, nac escidiau; a fu arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant, Na ddo ddim.

36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr, y neb sydd ganddo bwrs, cymmered, a'r un modd gôd: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gle­ddyf.

37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd yn rhaid etto gyflawni ynofi y peth hyn a scrifennwyd, sef, A chyd â'r anwir y cyfrifwyd ef. Canys y mae diben i'r pethau am danafi.

38 A hwy a ddywedasant, Ar­glwydd, wele ddau gleddyf ym­ma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.

39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth yn ôl ei arfer, i fynydd yr olewydd: a'i ddiscyblion hefyd a'i canlynasant ef.

40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gwe­ddiwch nad eloch mewn profedi­gaeth.

41 Ac efe a dynnodd oddiwr­thynt tu ag ergyd carreg, ac we­di iddo fyned ar ei liniau, efe a weddiodd.

42 Gan ddywedyd, O Dâd, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthif: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.

43 Ac Angel o'r nêf a ymddan­gosodd iddo yn ei nerthu ef.

44 Ac efe mewn ymdrech me­ddwl, [Page] a weddiodd yn ddyfalach, a'i chwys ef oedd fel defnynnau, gwaed, yn descyn ar y ddaiar.

45 A phan gododd efe o'i we­ddi, a dyfod at ei ddiscyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch:

46 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn cyscu? cod­wch a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.

47 Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa, a hwn a elwir Judas, vn o'r deuddeg, oedd yn myned o'i blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Jesu, iw gusanu ef.

48 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Judas ai â chusan yr wyti yn bradychu Mâb y dŷn?

49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef, y peth oedd ar ddy­fod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darawn ni â chle­ddyf?

50 A rhyw vn o honynt a da­rawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust dde­hau ef.

51 A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn, Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i iachaodd ef.

52 A'r Jesu a ddywedodd wrth yr Archoffeiriaid, a blaenoriaid y Deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent atto, A'i fel at leidr y dacthoch chwi allan â chleddy­fau, ac â ffyn?

53 Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y Deml, nid estynna­soch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu 'r tywyllwch.

54 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ'r Arch-offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hirbell.

55 Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y neuadd, a chyd-ei­stedd o honynt, eisteddodd Petr yntef yn eu plith hwynt.

56 A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sulw arno, hi a ddywedodd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef.

57 Yntef a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, ni adwaen i ef.

58 Ac ychydig wedi, vn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt titheu hefyd yn un o ho­nynt. A Phetr a ddywedodd, O ddŷn, nid ydwyf.

59 Ac ar ôl megis yspaid vn awr, rhyw vn arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilæad yw.

60 A Phetr a ddywedodd, y dŷn, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog.

61 A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd ar Betr: a Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasei efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deir­gwaith.

62 A Phetr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

63 A'r gwŷr oedd yn dal yr Jesu a'i gwatwarasant ef, gan ei daro.

64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, Pwy yw 'r hwn a'th darawodd di?

65 A llawer o bethau eraill gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.

66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynnullodd Henuriaid y bobl, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifenny­ddion, ac a'i dygasant ef iw Cyn­gor hwynt.

67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Christ? dywed i ni. Ac efe a ddy­wedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:

68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni 'm hattebwch, ac ni 'm gollyng­wch ymmaith.

69 Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law ga­llu Duw.

70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mâb Duw gan hynny ydwyti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy môd.

71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiola­eth? canys clywsom ein hunain o'i enau ef ei hun.

PEN. XXIII.

1 Cyhuddo 'r Jesu ger bron Pilat, a'i anfon at Herod; 8 A Herod yn ei watwar ef. 12 Herod a Philat yn cymmodi â'i gilydd. 18 Y bobl yn deisyf cael Barabbas, a Philat yn ei ollwng ef iddynt, ac yn rhoddi yr Jesu iw groes-hoelio. 27 Yntef yn mynegi i'r gwra­gedd a alarent o'i blegid ef, ddi­nystr Jerusalem: 34 yn gweddio tros ei elynion. 39 Crogi dau­ddrwg-weithredwr gydag ef. 46 Ei farwolaeth, 50 a'i gladdedi­gaeth ef.

A'R holl liaws o honynt, a gy­fodasant, ac a'i dygasant ef at Pilat;

2 Ac a ddechreuasant ei gyhu­ddo ef, gan ddywedyd, Ni a gaw­som hwn yn gŵyrdroi 'r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Cae­sar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Christ frenin.

3 A Philat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw brenin yr Iddewon? ac efe a attebodd iddo ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dy­wedyd.

4 A dywedodd Pilat wrth yr Arch-offeiriaid a'r bobl, Nid wyfi yn cael dim bai ar y dŷn hwn.

5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi 'r bobl, gan ddyscu trwy holl Ju­dæa, wedi dechreu o Galilæa hyd ymma.

6 A phan glybu Pilat sôn am Galilæa, efe a ofynnodd ai Gali­læad oedd y dŷn.

7 A phan wŷbu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfo­nodd ef at Herod, yr hwn oedd yntef yn Jerusalem y dyddiau hynny.

8 A Herod, pan welodd yr Jesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ystalm ei weled ef, oblegid i­ddo glywed llawer am dano ef: ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9 Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau: eithr efe nid at­tebodd ddim iddo.

10 A'r Arch-offeiriaid a'r Scri­fennyddion a safasant gan ei gy­huddo ef yn haerllyg.

11 A Herod a'i filwŷr, wedi iddo ei ddiystyru ef a'i watwar, a'i wisco â gwisc glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat.

12 A'r dwthwn hwnnw yr aeth [Page] Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gely­niaeth â'i gilydd.

13 A Philat, wedi galw yng­hŷd yr Arch-offeiriaid, a'r lly­wiawd-wŷr, a'r bobl,

14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dŷn hwn attafi, fel vn a fyddai yn gŵyrdroi 'r bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gwŷdd chwi, ac ni che­fais yn y dŷn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:

15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele, dim yn haeddu marwolaeth ni's gwnaed iddo.

16 Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymmaith.

17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng vn yn rhydd iddynt ar yr wŷl.

18 A'r holl liaws a lefasant ar vnwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymmaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd.

19 (Yr hwn, am ryw derfysc a wnelsid yn y ddinas, a llofruddi­aeth, oedd wedi ei daflu i gar­char.)

20 Am hynny Pilat a ddywe­dodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Jesu yn rhydd.

21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd Croes-hoelia, cro­es-hoelia ef.

22 Ac efe a ddywedodd wr­thynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo: am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.

23 Hwythau a fuant daerion â llefau vchel gan ddeisyfu ei groes­hoelio ef: a'u llefau hwynt a'r Arch-offeiriaid a orfuant.

24 A Philat a farnodd wneu­thur eu deisyfiad hwynt.

25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysc a llo­fruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynnasant: eithr yr Jesu a draddododd efe iw hewy­llys hwynt.

26 Ac fel yr oeddynt yn ei ar­wain ef ymmaith, hwy a ddalia­sant vn Simon o Cyrene, yn dy­fod o'r wlâd, ac a ddodasant y groes arno ef, iw dwyn ar ôl yr Jesu.

27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd: y rhai hefyd oedd yn cwynfan, ac yn galaru o'i blegid ef.

28 A'r Jesu wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, nac wŷlwch o'm plegid i, eithr wŷlwch o'ch plegid eich hun, ac oblegid eich plant:

29 Canys wele, y mae 'r dy­ddiau yn dyfod, yn y rhai y dy­wedant, Gwyn eu bŷd y rhai am­hlantadwy, a'r crothau ni heppi­liasant, a'r bronnau ni roesant sugn.

30 Yna y dechreuant ddywe­dyd wrth y mynyddoedd, Syrthi­wch arnom: ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.

31 Canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y [...]rîn?

32 Ac arweinwyd gyd ag ef hefyd ddau ddrwg-weithred-wŷr eraill, iw rhoi iw marwolaeth.

33 A phan ddaethant i'r lle a elwir Calvaria, yno y croes-ho­liasant ef a'r drwg-weithred-wyr: [Page] vn ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr asswy.

34 A'r Jesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goel­bren.

35 A'r bobl a safodd yn e­drych, a'r pennaethiaid hefyd gŷd â hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe, gwareded ef ei hun, os hwn yw Christ, etholedig Duw.

36 A'r milwŷr hefyd a'i gwat­warasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr,

37 A dywedyd, Os tydi yw brenin yr Iddewon, gwared dy hun.

38 Ac yr ydoedd hefyd arscri­fen wedi ei scrifennu vwch ei ben ef, â llythyrennau Groeg, a Lladin, ac Ebrew, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.

39 Ac vn o'r drwg-weithred­wŷr a grogasid, a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Christ, gwared dy hun a ninnau.

40 Eithr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr vn ddamnedigaeth?

41 A nyni yn wir yn gyfiawn: (canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddei y pethau a wnaethom) eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le.

42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Jesu, Arglwydd, cofia fi, pan ddelych i'th deyrnas.

43 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Yn wir meddaf i ti, He­ddyw y byddi gŷd â mi ymmha­radwys.

44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr.

45 A'r haul a dywyllwyd, a llen y Deml a rwygwyd yn ei cha­nol.

46 A'r Jesu gan lefain â llef vchel a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylo di y gorchymynnaf fy ys­pryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.

47 A'r Canwriad pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogone­ddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wîr yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.

48 A'r holl bobloedd, y rhai a ddaethent ynghŷd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaeth­pwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.

49 A'i holl gydnabod ef a sa­fasant o hirbell, a'r gwragedd, y rhai a'i canlynasent ef o Galilæa, yn edrych ar y pethau hyn.

50 Ac wele, gŵr a'i enw Jo­seph, yr hwn oedd gynghôrwr, gŵr da a chyfiawn.

51 (Hwn ni chyttunasei â'u cyngor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathæa dinas yr Iddewon, (yr hwn oedd yntef yn disgwil hefyd am deyrnas Dduw.)

52 Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Jesu.

53 Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dŷn erioed.

54 A'r dydd hwnnw oedd ddar­parwyl, a'r Sabbath oedd yn ne­sau.

55 A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gyd ag ef o Galilæa, [Page] a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef.

56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant bêr-aroglau ac en­naint, ac a orphwysasant ar y Sab­bath, yn ôl y gorchymmyn.

PEN. XXIV.

1 Y ddau Angel yn mynegi adgy­fodiad Christ i'r gwragedd, oedd yn dyfod at y bedd; 9 a'r rhai hynny yn ei adrodd i eraill. 13 Christ ei hun yn ymddangos i'r ddau ddiscybl oedd yn myned i Em­maus: 36 ac wedi hynny i'r Apostolion, ac yn ceryddu eu ha­ngrediniaeth hwy: 47 yn rhoddi gorchymmyn iddynt: 49 ac yn addo yr Yspryd glân: 51 ac felly yn escyn i'r nefoedd.

A'R dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddae­thant at y bedd, gan ddwyn y pêr­aroglau a baratoesent, a rhai gŷd â hwynt.

2 A hwy a gawsant y maen we­di ei dreiglo ymmaith oddi wrth y bedd.

3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Jesu.

4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hyn, wele, dau ŵr a sa­fodd yn eu hymyl mewn gwisco­edd disclair.

5 Ac wedi iddynt ofni, a go­stwng eu hwynebau tu a'r ddaiar, hwy a ddywedasant wrthynt, Pa ham yr ydych yn ceisio y byw ym mysc y meirw?

6 Nid yw efe ymma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe etto yn Galilæa,

7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mâb y dŷn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groes-hoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.

8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef,

9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r vn ar ddeg, ac i r lleill oll.

10 A Mair Fagdalen, a Joanna, a Mair mam Jaco, a'r lleill gŷd â hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethan hyn wrth yr Apostolion.

11 A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt, fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.

12 Eithr Petr a gododd i fynu, ac a redodd at y bedd: ac wedi ymgrymmu efe a ganfu y lliei­niau wedi eu gosod o'r nailltu, ac a aeth ymmaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun, am y peth a ddarfuasei.

13 Ac wele, dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch trugain stâd oddi wrth Jerusalem:

14 Ac yr oeddynt hwy yn ym­ddiddan â'i gilydd, am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.

15 A bu, fel yr oeddynt yn ym­ddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Jesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt.

16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel na's adwaenent ef.

17 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wy­nebdrist?

18 Ac vn o honynt a'i enw Cleo­pas, gan atteb a ddywedodd wr­tho, A wyt ti yn vnig yn ymdei­thydd yn Jerusalem, ac ni wy­buost y pethau a wnaeth pwyd yn­ddi hi, yn y dyddiau hyn.

19 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau yn­ghylch Jesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr o brophwyd, gallnog mewn gweithred a gair, ger bron Duw a'r holl bobl.

20 A'r môdd y traddodes yr Arch-offeiriaid a'n llywodraeth­wŷr ni ef, i farn marwolaeth, ac a'r croes-hoeliasant ef.

21 Ond yr oeddym ni yn go­beithio mai efe oedd yr hwn a waredei 'r Israel: ac heb law hyn oll, heddyw yw 'r trydydd dydd, er pan wnaethpwyd y pethau hyn.

22 A hefyd rhai gwragedd o honom ni, a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fôd yn foreu wrth y bedd:

23 A phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaethant, gan ddywe­dyd weled o honynt weledigaeth o Angelion, y rhai a ddywedent ei fôd efe yn fyw.

24 A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni, a aethant at y bedd, ac a gaw­sant felly, sel y dywedasei y gwra­gedd; ond ef ni's gwelsant.

25 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, O ynfydion, a hwyr-frydig o galon, i gredu 'r holl bethau a ddywedodd y prophwydi.

26 Ond oedd raid i Grist ddi­oddef y pethau hyn, a myned i mewn iw ogoniant?

27 A chan ddechreu ar Mose [...], a'r holl brophwydi, efe a espo­niodd iddynt yn yr holl Scry­thyrau, y pethau am dano ei hun.

28 Ac yr oeddynt yn nesau i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn myned ym-mhellach.

29 A hwy a'i cymmellasant ef, gan ddywedyd, Aros gŷd â ni, ca­nys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gŷd â hwynt.

30 A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i tor­rodd, ac a'i rhoddes iddynt.

31 A'u llygaid hwynt, a agor­wyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddifannodd allan o'i golwg hwynt.

32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosci ynom, tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni 'r Scrythyrau?

33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jeru­salem, ac a gawsant yr vn ar ddêg wedi ymgasclu ynghŷd, a'r sawl oedd gŷd â hwynt,

34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddan­gosodd i Simon.

35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef gan­ddynt, wrth dorriad y bara.

36 Ac a hwy yn dywedyd y pe­thau hyn, yr Jesu ei hun a safodd yu eu canol hwynt, ac a ddywe­dodd wrthynt, Tangneddyf i chwi.

37 Hwythau wedi brawychu, ac ofni, a dybiasant weled o ho­nynt yspryd.

38 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Pa ham i'ch trallodir, a pha ham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?

39 Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch, canys nid oes gan yspryd gnawd ac escyrn, fel y gwelwch fôd gennifi.

40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.

41 Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gyn­nych chwi ymma ddim bwyd?

42 A hwy a roesant iddo ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.

43 Yntef a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gwŷdd hwynt.

44 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Dymma 'r geiriau a ddy­wedais i wrthych, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cy­flawni pôb peth a scrifennwyd ynghyfraith Moses, a'r Prophwy­di, a'r Psalmau, am danafi.

45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr Scrythy­rau.

46 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Felly yr scrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddio­ddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:

47 A phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef, ym-mhlith yr holl genhedlo­edd, gan ddechreu yn Jerusa­lem.

48 Ac yr ydych chwi yn dysti­on o'r pethau hyn.

49 Ac wele, yr ydwyfi yn anfon addewid fy Nhâd arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerusa­lem, hyd oni wiscer chwi â nerth o'r vchelder.

50 Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'i bendithiodd hwynt.

51 Ac fe a ddarfu, tra 'r oedd efe yn eu bendithio hwynt, yma­del o honaw ef oddi wrthynt, ac efe a ddugpwyd i fynu i'r nêf.

52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gyd â llawenydd mawr.

53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml, yn moli, ac yn bendi­thio Duw. Amen.

YR EFENGYL YN ol Sanct IOAN.

PENNOD I.

1 Duwdab, dyndab, â swydd Jesu Grist. 15 Testiolaeth Joan. 39 Galwad Andreas, Petr, Philip, a Nathanael.

YN y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gŷd â Duw, a Duw oedd y Gair.

2 Hwn oedd yn y dechreuad gŷd â Duw.

3 Trwyddo ef y gwnaeth­pwyd pôb peth; ac hebddo ef, ni wnaethpwyd dim a'r a wnaeth­pwyd.

4 Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion:

5 A'r goleuni sydd yn lle­wyrchu yn y tywyllwch, a'r ty­wyllwch nid oedd yn ei amgy­ffred.

6 Yr ydoedd gŵr wedi ei an­fon oddi wrth Dduw, a'i cnw Joan:

7 Hwn a ddaeth yn dystiola­eth, fel y tystiolaethei am y go­leuni, fel y credei pawb trwy­ddo ef.

8 Nid efe oedd y goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethei am y goleuni.

9 Hwn ydoedd y gwir oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pôb dŷn a'r y sydd yn dyfod i'r bŷd.

10 Yn y byd yr oedd efe, a'r bŷd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r bŷd nid adnabu ef.

11 At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun ni dderbyniasant ef.

12 Ond cynnifer ac a'i derby­niasant ef, efe a roddes iddynt allu i fôd yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef.

13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.

14 A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr vnig-ane­dig oddiwrth y Tâd) yn llawn grâs a gwirionedd.

15 Joan a dystiolaethodd am dano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr vn y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.

16 Ac o'i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a grâs am râs.

17 Canys y gyfraith a rodd­wyd trwy Moses, ond y grâs a'r gwirionedd a ddaeth trwy Jesu Grist.

18 Ni welodd neb Dduw er­ioed: yr vnig-anedig Fâb, yr hwn sydd ym-monwes y Tâd, hwnnw a'i hyspysodd ef.

19 A hon yw tystiolaeth Joan, pan anfonodd yr Iddewon o Je­rusalem offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti?

20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd, a chyffesodd, Nid myfi yw 'r Christ.

21 A hwy a ofynnasant iddo, Beth ynteu? ai Elias wyt ti? Yn­tef a ddywedodd, Nagê. Ai 'r Prophwyd wyt ti? Ac efe a atte­bodd, Nagê.

22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom at­teb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am da­nat dy hun?

23 Eb efe, Myfi yw llêf vn yn gwaeddi yn y diffaethwch, Vni­awnwch ffordd yr Arglwydd; sel y dywedodd Esay y Prophwyd.

24 A'r rhai a anfonasid, oedd o'r Pharisæaid.

25 A hwy a ofynnasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Pa ham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na'r Christ, nac E­lias, na'r Prophwyd?

26 Joan a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sy yn bedyddio â dwfr, ond y mae vn yn fefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid ad­waenoch chwi.

27 Efe yw'r hwn sydd yn dy­fod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o'm blaen i: yr hwn nid ydwyfi dei­lwng i ddattod carrei ei escid.

28 Y pethau hyn a wnaeth­pwyd yn Bethabara, y tu hwnt i'r Jorddonen,, lle yr oedd Joan yn bedyddio.

29 Trannoeth, Joan a ganfu yr Jesu yn dyfod atto, ac efe a ddy­wedodd, Wele oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r bŷd.

30 Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.

31 Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y daethym i, gan fedyddio a dwfr.

32 Ac Joan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Yspryd yn descyn megis colom­men o'r nêf, ac efe a arhosodd ar­no ef.

33 A myfi nid adwaenwn ef, eithr yr hwn a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthif, Ar yr hwn y gwelych yr Yspryd yn descyn ac yn aros arno, hwnnw yw'r un sy'n bedyddio â'r Yspryd glân.

34 Ac mi a welais, ac a dy­stiolaethais, mai hwn yw Mâb Duw.

35 Trannoeth drachefn y sa­fodd Joan, a dau o'i ddiscyblion:

36 A chan edrych ar yr Jesu yn rhodio, efe a ddywedodd. Wele oen Duw.

37 A'r ddau ddiscybl a'i clyw­sant ef yn llefaru ac a ganlyna­sant yr Iesu,

38 Yna yr Jesu a droes, a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr y­dych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi (yr hyn o'i gyfieithu yw, Athro) pa le yr wyt ti yn trigo?

39 Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. A hwy a dda­ethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arhosasant gŷd âg ef y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.

40 Andreas brawd Simon Petr, oedd un o'r ddau a glyw­sent hynny gan Joan, ac a'i dilyna­sant ef.

41 Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddy­wedodd wrtho, Nyni a gawsom y Messias, yr hyn o'i ddeongl yw, y Christ.

42 Ac efe a'i dug ef at yr Jesu. A'r Jesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mâb Jona, ti a elwir Cephas, yr hwn a gyfieithir, carreg.

43 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Jesu fyned allan i Galilæa, ac efe a gafodd Philip, ac a ddywe­dodd wrtho, Dilyn fi.

44 A Philip oedd o Bethsaida, o ddinas Andreas a Phetr.

45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Caw­som yr hwn yr scrifennodd Mo­ses yn y gyfraith, a'r prophwydi am dano, Jesu o Nazareth mâb Joseph.

46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred a gwêl.

47 Jesu a ganfu Nathanael yn dyfod atto, ac a ddywedodd am dano Wele Israeliad yn wîr, yn yr hwn nid oes dwyll.

48 Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd i'm hadwaenost? [Page] Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y figys-bren, mi a'th welais di.

49 Nathanael a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw, ti yw brenin Israel.

50 Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrtho ef, O herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di tan y ffigys-bren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy nâ'r rhai hyn.

51 Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac Angelion Duw yn e­scyn, ac yn descyn, ar Fab y dŷn.

PEN. II.

1 Christ yn troi y dwfr yn wîn, 12 yn myned i wared i Capernaum a Jerusalem, ac yno yn bwrw y prynwyr ar gwerthwyr allan o'r Deml: 19 Yn rhag fynegi ei farwolaeth, a'i adgyfodiad. 25 Llawer yn credu ynddo, o her­wydd ei wrthiau, ond er hynny nid ymddiriedei ef iddynt am dano ei hun.

A'R trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilæa: a mam yr Jesu oedd yno.

2 A galwyd yr Jesu hefyd a'i ddiscyblion i'r briodas.

3 A phan ballodd y gwîn, mam yr Jesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo'r gwin.

4 Jesu a ddywcdodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi wraig? ni ddaeth fy awr i et­to.

5 Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaeth-wŷr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

6 Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini, wedi eu go­sod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bôb un ddau ffircyn neu dri.

7 Jesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfr-lestri o dwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.

8 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at llywodraeth-ŵr y wledd. A hwy a ddygasant.

9 A phan brofodd llywodraeth­ŵr y wledd y dwfr a wnaethid yn wîn, (ac ni wyddei o ba le yr y­doedd, eithr y gwasanaeth-wŷr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent) llywodraeth-wr y wledd a alwodd ar y priod-fab.

10 Ac a ddywedodd wrtho, Pôb dŷn a esyd y gwîn da yn gyntaf, ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: titheu a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.

11 Hyn o ddechreu gwrthiau a wnaeth yr Jesu yn Cana Gali­læa, ac a eglurodd ei ogoniant, a'i ddiscyblion a gredasant ynddo.

12 Wedi hyn, efe a aeth i wared i Capernaum, efe a'i fam, a'i frodyr, a'i ddiscyblion; ac yno nid arhosasant nemmor o ddyddiau:

13 A Phasc yr Iddewon oedd yn agos, a'r Jesu a aeth i fynu i Jerusalem.

14 Ac a gafodd yn y Deml rai yn gwerthu ychen a defaid, a cho­lomennod, a'r newid-wŷr arian yn eistedd.

15 Ac wedi gwneuthur fflan­gell o fân reffynnau, efe a'i gyr­rodd hwynt oll allan o'r Deml; y defaid hefyd a'r ychen, ac a dy­walltodd allan arian y newid-wŷr, ac a ddymchwelodd y byrddau.

16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomen­nod, Dygwch y rhai hyn oddi ymma, na wnewch dŷ fy Nhâd i, yn dŷ marchnad.

17 A'i ddiscyblion a gofiasant fôd yn scrifennedig, Zêl dy dŷ di am hysodd i.

18 Yna'r Iddewon a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef, Pa ar­wydd yr ydwyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fôd yn gwneuthur y pethau hyn?

19 Yr Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, Dinistriwch y Deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.

20 Yna'r Iddewon a ddyweda­sant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y' Deml hon, ac a gyfodi di hi mewn tri-diau?

21 Ond efe a ddywedasei am Deml ei gorph.

22 Am hynny, pan gyfododd efe o feirw, ei ddiscyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr Scrythur, a'r gair a ddyweda­sei yr Jesu.

23 Ac fel yr oedd efe yn Je­rusalem, ar y Pasc, yn yr wŷl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnae­thei efe.

24 Ond nid ymddiriedodd yr Jesu iddynt am dano ei hun, am yr adwaenei efe hwynt oll;

25 Ac nad oedd raid iddo dy­stiolaethu o neb iddo am ddŷn: o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dŷn.

PEN. III.

1 Christ yn dyscu Nicodemus mor a­ngenrheidiol yw a denedigaeth. 14 Am ffydd yn ei farwolaeth ef. 16 Mawr gariad Duw tuac at y byd. 18 Condemniad am anghredini­aeth. 23 Bedydd, tystiolaeth, ac a­thrawiaeth Joan am Grist.

AC yr oedd dŷn o'r Pharisae­aid, a'i enw Nicodemus, pennàeth yr Iddewon.

2 Hwn a ddaeth at yr Jesu liw nôs, ac a ddywedodd wrtho, Rab­bi, nyni a ŵyddom mai dyscaw­dwr ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Dduw, canys ni allei neb w­neuthur y gwrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fôd Duw gyd ag ef.

3 Jesu a attebodd ac a ddywe­dodd wrtho, Yn wîr, yn wîr, me­ddaf i ti, oddi eithr geni dŷn dra­chefn, ni ddichon efe weled teyr­nas Duw.

4 Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hên? a ddichon efe fyned i grôth ei fam eilwaith, a'i eni?

5 Jesu a attebodd ac a ddywe­dodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddi eithr geni dŷn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.

6 Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd: a'r hyn a aned o'r Ys­pryd, sydd yspryd.

7 Na ryfedda ddywedyd o ho­nofi wrthit. Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn.

8 Y mae 'r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei swn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: Felly y mae pôb un a'r a aned o'r Yspryd.

9 Nicodemus a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fôd?

10 Jesu a attebodd ac a ddywe­dodd wrtho, A wyt ti yn ddys­cawdwr yn Israel, ac ni ŵyddost y pethau hyn?

11 Yn wîr, yn wîr meddaf i ti, mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n ty­stiolaeth ni nid ydych yn el der­byn.

12 Os dywedais i chwi bethau daiarol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?

13 Ac ni escynnodd nêb i'r nêf, oddi eithr yr hwn a ddescyn­nodd o'r nêf, sef Mâb y dŷn, yr hwn sydd yn y nêf.

14 Ac megis y derchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid derchafu Mâb y dŷn:

15 Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragwyddol.

16 Canys felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei unig anedig Fâb, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw sywyd tragywy­ddol.

17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fâb i'r bŷd, i ddamnio 'r bŷd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.

18 Yr hwn sydd yn credu yn­ddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamnwyd eusys: o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fâb Duw.

19 A hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r bŷd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy nâ'r goleuni: canys yr oedd eu gwei­thredoedd hwy yn ddrŵg.

20 O herwydd pôb un a'r sydd yn gwneuthur drŵg, sydd yn casâu y goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyoedder ei wei thredoedd ef.

21 Ond yr hwn sydd yn gw­neuthur gwirionedd, sydd yn dy­fod i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.

22 Wedi y pethau hyn, daeth yr Jesu a'i ddiscyblion i wlâd Ju­dæa; ac a arhosodd yno gŷd â hwynt, ac a fedyddiodd.

23 Ac yr oedd Joan hefyd, yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Sa­lim, canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy a ddaethant, ac a'u bedyddiwyd.

24 Canys ni fwriasid Joan etto yngharchar.

25 Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddiscyblion Joan a'r Idde­won, ynghylch puredigaeth.

26 A hwy a ddaethant at Joan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gŷd â thi y tu hwynt i'r Jorddonen, am yr hwn y tystio­laethaist di, wele y mae hwnnw yn bedyddio, a phawb yn dyfod atto ef.

27 Joan a attebodd ac a ddy­wedodd, Ni ddichon dŷn dder­byn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r nef.

28 Chwy-chwi eich hunain [Page] ydych dystion i mi ddywedyd o honofi, Nid myfi yw y Christ, ei­thr fy môd wedi fy anfon o'i flaen ef.

29 Yr hwn sydd ganddo y bri­od-ferch, yw 'r priod-fab: ond cyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oble­gid llef y priod-fab: y llawenydd hwn maufi gan hynny a gyflaw­nwyd.

30 Rhaid ydyw iddo ef gynny­ddu, ac i minneu leihau.

31 Yr hwn a ddaeth oddi u­chod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o'r ddaiar, sydd o'r ddai­ar, ac am y ddaiar y mae yn llefa­ru: yr hwn sydd yn dyfod o'r nef, sydd goruwch pawb.

32 A'r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.

33 Yr hwn a dderbyniodd ei dy­stiolaeth ef, a seliodd mai geir­wir yw Duw.

34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw: oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Yspryd.

35 Y mae y Tâd yn caru y Mâb, ac efe a roddodd bôb peth yn ei law ef.

36 Yr hwn sydd yn credu yn y Mâb, y mae ganddo fywyd tra­gwyddol: a'r hwn sydd heb gre­du i'r Mab, ni wêl fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

PEN. IV.

1 Christ yn ymddiddan â gwraig o Samaria, ac yn ei ddatcuddio ei ei hûn iddi. 27 Ei ddiscyblion yn rhyfeddu. 31 Ac ynteu yn yspysu iddynt ei zel tuac at ogoniant Duw. 39 llawer o'r Samariaid yn credu ynddo. 43 Ac ynteu yn my­ned ymmaith i Galilæa, ac yn ia­chau mâb y llywydd oedd yn gor­wedd yn glaf yn Capernaum.

PAn wybu 'r Arglwydd gan hynny, glywed o'r Pharisae­aid fôd yr Jesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddiscyblion nag Joan:

2 (Er na fedyddiasei yr Jesu ei hun, eithr ei ddiscyblion ef.)

3 Efe a adawodd Judæa, ac a aeth drachefn i Galilæa.

4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.

5 Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, ger llaw y rhandir a roddasei Ja­cob iw fab Joseph.

6 Ac yno yr oedd ffynnon Ja­cob, Yr Iesu gan hynny yn dde­ffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.

7 Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a'r Iesu a ddywe­dodd wrthi, Dyro i mi i yfed.

8 (Canys ei ddiscyblion ef a ae­thent i'r ddinas i brynu bwyd.)

9 Yna'r wraig o Samaria a ddy­wedodd wrtho, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennifi, a myfi yn wraig o Sama­ria? oblegid nid yw'r Iddewon yn ymgyfeillach â'r Samariaid.

10 Yr Iesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthit, Dyro i mi i ysed, tydi a ofynnasit iddo ef, [Page] ac efe a roddasei i ti ddwfr by­wiol.

11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes g [...]nniti ddim i godi dwfr, a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae gennit ti y dwfr bywiol hwnnw?

12 A'i mwy wyt ti nâ'n Tâd Jacob, yr hwn a roddodd i ni y py­dew, ac efe ei hun a yfodd o ho­naw, a'i feibion, a'i anifeiliaid?

13 Iesu a attebodd ac a ddywe­dodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn.

14 Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyfi iddo, ni sy­cheda yn dragywydd: eithr y dwfr a roddwyfi iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr, yn tarddu i fy­wyd tragywyddol.

15 Y wraig a ddywedodd wr­tho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na dde­lwyf ymma i godi dwfr.

16 Jesu a ddywedodd wrthi, Dôs, galw dy ŵr, a thyred ym­ma

17 Y wraig a attebodd, ac a ddy­wedodd, Nid oes gennif ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi, Da y dywe­daist, nid oes gennif ŵr:

18 Canys pump o ŵyr a fu i ti, a'r hwn sydd gennit yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wîr.

19 Y wraig a ddywedodd wr­tho ef, Arglwydd, Mi a welaf mai Prophwyd wyt ti.

20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusa­lem y mae 'r man lle y mae 'n rhaid addoli.

21 Iesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, crêd fi, y mae 'r awr yn dyfod, prŷd nad addoloch y Tâd, nac yn y mynydd hwn, nac yn Ierusalem.

22 Chwy-chwi ydych yn a­ddoli y peth ni wyddoch, ninnau ydym yn addoli y peth a wyddom: canys iechydwriaeth sydd o'r I­ddewon:

23 Ond dyfod y mae 'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo y gwir addol-wŷr y Tâd mewn ys­pryd a gwirionedd; canys y cy­fryw y mae 'r Tâd yn eu ceisio iw addoli ef.

24 Yspryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gw irionedd.

25 Y wraig a ddywedodd wr­tho, Mi a wn fôd y Messias yn dy­fod, yr hwn a elwir Christ: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.

26 Iesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddi­ddan â thi, yw hwnnw.

27 Ac ar hyn y daeth ei ddi­scybllon, a bu ryfedd ganddynt ei fôd ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, pa ham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?

28 Yna 'r wraig a adaw odd ei dwfr-lestr, ac a aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion.

29 Deuwch, gwelwch ddŷn, yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum, onid hwn yw'r Christ?

30 Yna hwy a aethant allan o'r ddinas, ac a ddaethant atto ef.

31 Yn y cyfamser, y discyblion a attolygasant iddo, gan ddywe­dyd, Rabbi, bwytta.

32 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, [Page] Y mae gennifi fwyd iw fwytta, yr hwn ni wyddoch chwi oddi wrtho.

33 Am hynny y discyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, a ddug neb iddo ddim iw fwytta?

34 Jesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewy­llys yr hwn a'm hanfonodd, a gor­phen ei waith ef.

35 Onid ydych chwi yn dy­wedyd, Y mae etto bedwar mis, ac yna y daw'r cynhayaf? Wele, yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, Derchefwch eich llygaid ac edry­chwch ar y meusydd: canys gwy­nion ydynt eusus i'r cynhayaf.

36 A'r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casclu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, ac i'r hwn sydd yn medi lawenhau ynghyd.

37 Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.

38 Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn iw llafur hwynt.

39 A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno a gredasant ynddo, o herwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, efe a ddywe­dodd i mi'r hyn oll a wneuthum.

40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid atto ef, hwy a attolyga­sant iddo aros gyd â hwynt: ac efe a arhosodd yno ddeu-ddydd.

41 A mwy o lawer a greda­sant ynddo ef, oblegid ei air ei hun,

42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, nid ydym ni wei­thian yn credu oblegid dy yma­drodd di: canys ni a'i clywsom ef ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw'r Christ, Ia­chawdur y bŷd.

43 Ac ym mhen y ddeu-ddydd, efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a aeth i Galilæa.

44 Canys yr Jesu ei hun a dy­stiolaethodd nad ydyw Prophwyd yn cael anrhydedd yn ei wlâd ei hun.

45 Yna pan ddaeth efe i Gali­læa, y Galilæaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl be­thau a wnaeth efe yn Jerusalem ar yr wŷl: canys hwythau a ddac­thant i'r wŷl.

46 Felly yr Iesu a ddaeth dra­chefn i Cana yn Galilæa, lle y gw­naeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig yr hwn yr oedd ei fab yn glâf yn Capernaum,

47 Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Iudæa i Galilæa, efe a aeth atto ef, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ym-mron marw.

48 Yna Iesu a ddywedodd wr­tho ef, oni welwch chwi arwyddi­on a rhyfeddodau, ni chredwch.

49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i wa­red cyn marw fy machgen.

50 Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dôs ymmaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasei Iesu wrtho, ac efe a aeth ymmaith.

51 Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fach­gen yn fyw.

52 Yna efe a osynnodd iddynt yr awr y gwellhasei arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr y gadawodd y crŷd ef.

53 Yna y gwybu 'r Tâd mai yr awr honno oedd, yn yr hon y dy­wedasei Iesu wrtho ef, Y mae dy fâb yn fyw. Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ.

54 Yr ail arwydd ymma dra­chefn a wnaeth yr Iesu, wedi dy­fod o Iudæa i Galilæa.

PEN. V.

1 Yr Iesu ar y dydd Sabboth yn ia­chau'r hwn a fuasei glâf namyn dwy flynedd deugain: A'r Iddewon am hynny yn cwerylu, ac yn ei er­lid ef. 17 Ac yntef yn atteb trosto ei hun, ac yn eu hargyoeddi hwy, gan ddangos pwy yd yw ef, trwy dystiolaeth ei Dâd, 32 ac Joan, 36 a'i weithredoedd ei hun, 39 a'r Scrythyrau.

WEdi hynny yr oedd gwŷl yr Iddewon, a'r Iesu a aeth i fynu i Ierusalem.

2 Ac y mae yn Ierusalem, wrth farchnad y defaid, lynn a elwir yn Hebreaeg Bethesda, ac iddo bum porth:

3 Yn y rhai y gorweddei lliaws mawr o rai cleifion, deillion, clo­ffion, gwywedigion, yn disgwil am gynnhyrfiad y dwfr,

4 Canys Angel oedd ar amse­rau yn descyn i'r llynn, ac yn cyn­nhyrfu 'r dwfr: yna yr hwn a e­lei i mewn yn gyntaf ar ôl cyn­hyrfu y dwfr, a ai yn iach o ba glefyd bynnag a fyddei arno.

5 Ac yr oedd rhyw ddŷn yno, yr hwn a fuasei glâf namyn dwy flynedd deugain:

6 Yr Iesu pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fôd ef felly yn hîr o amser bellach, a ddywe­dodd wrtho, A fynni di dy wneu­thur yn iach?

7 Y clâf a attebodd iddo, Ar­glwydd, nid oes gennif ddŷn i'm bwrw i'r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyfi yn dyfod, arall a ddescyn o'm blaen i.

8 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod, cymmer dy wely i fynu, a rhodia.

9 Ac yn ebrwydd y gwnaed y dŷn yn iach: ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd: a'r Sabbath oedd y diwrnod hwnnw.

10 Am hynny yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a w­naethid yn iach, y Sabbath yw hi: nid cyfraithlon i ti godi dy wely.

11 Efe a attebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, ef a ddywedodd wrthif, Cyfod dy we­ly, a rhodia.

12 Yna hwy a ofynnasant iddo, Pwy yw'r dŷn a ddywedodd wr­thit ti, Cyfod dy wely a rhodia?

13 A'r hwn a iachasid ni wŷ­ddei pwy oedd efe: canys yr Iesu a giliasei o'r dyrfa oedd yn y fan honno.

14 Wedi hynny 'r Iesu a'i ca­fodd ef yn y Deml, ac a ddywe­dodd wrtho, Wele, ti a wnaeth­pwyd yn iach: na phecha mwyach rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth.

15 Y dŷn a aeth ymmaith, ac a fy­negodd i'r Iddewon mai'r Iesu, oedd yr hwn a'i gwnaethei ef yn iach.

16 Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Sabbath.

17 Ond yr Jesu a'u hattebodd hwynt, Y mae fy Nhâd yn gwei­thio hyd yn hyn, ac yr ydwyf fin­neu yn gweithio.

18 Am hyn gan hynny yr Idde­won a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn vnig iddo dorri 'r Sabbath, ond hefyd iddo ddywe­dyd fôd Duw yn Dâd iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal a Duw.

19 Yna'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, ni ddichon y Mâb wneuthur dim o honaw ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tâd yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae y Mâb yr vn ffunyd yn ei wneuthur.

20 Canys y Tâd sydd yn caru y Mâb, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur, ac ac efe a ddengys iddo ef weithre­doedd mwy nâ'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.

21 Oblegid megis y mae y Tâd yn cyfodi y rhai meirw, ac yn eu bywhau, felly hefyd y mae 'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.

22 Canys y Tâd nid yw yn bar­nu neb, eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:

23 Fel yr anrhydeddei pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd, Yr hwn nid yw yn anrhy­deddu y Mab, nid yw yn anrhy­deddu y Tâd, yr hwn a'i hanfo­nodd ef.

24 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd trag­wyddol: ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

25 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, y mae 'r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y meirw lêf Mab Duw: a'r rhai a glywant a fyddant byw.

26 Canys megis y mae gan y Tâd fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fôd ganddo fywyd ynddo ei hun:

27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, o her­wydd ei fôd yn fab dŷn.

28 Na ryfeddwch am hyn: ca­nys y mae 'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef.

29 A hwy a ddeuant allan, y rhai a wnaethant dda, i adgyfo­diad bywyd, ond y rhai a wnae­thant ddrwg, i adgyfodiad barn.

30 Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn: canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hu­nan, ond ewyllys y Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i.

31 Os ydwyfi yn tystiolaethu am danaf fy hunan nid yw fy nhy­stiolaeth i wir.

32 Arall sydd yn tystiolaethu am danafi, ac mi a wn mai gwîr yw y dystiolaeth y mae efe yn ei dystiolaethu am danafi.

33 Chwy chwi a anfonasoch at Joan, ac efe a ddûg dystiolaeth i'r gwirionedd.

34 Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddŵn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.

35 Efe oedd gan wyll yn llosci, ac yn goleuo: achwithau oeddych ewyllysgar i orfoleddu tros amser yn ei oleuni ef.

36 Ond y mae gennifi dystio­laeth fwy nag Joan: canys y gwei­thredoedd a roddes y Tad i mi iw gorphen, y gweithredoedd hyn­ny, y rhai yr ydwyfi yn eu gwneu­thur, sy 'n tystiolaethu am danafi, mai 'r Tâd a'm hanfonodd i.

37 A'r Tad, yr hwn a'm han­fonodd i, efe a dystiolaethodd am danafi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef vn amser, ac ni welsoch ei wedd ef.

38 Ac nid oes gennych chwi mo'i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.

39 Chwiliwch yr Scrythyiau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd trag­wyddol: a hwynt hwy yw y rhai sy'n tystiolaethu am dana fi.

40 Ond ni fynnwch chwi ddy­fod attafi, fel v caffoch fywyd.

41 Nid ydwyfi yn derbyn go­goniant oddi wrth ddynion:

42 Ond myfi a'ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw y­noch.

43 Myfi a ddaethym yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.

44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan ei gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn vnig?

45 Na thybiwch y cyhuddafi chwi wrth y Tâd: y mae a'ch cy­hudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.

46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i min­neu: oblegid am danafi yr yscri­fennodd efe.

47 Ond os chwi ni chredwch iw Scrifennadau ef, pa fodd y credwch i'm geiriau i?

PEN. VI.

1 Christ yn porthi pum mil o bobl â phum torth a dau byscodyn. 15 A'r bobl o herwydd hynny yn ceisio ei wneuthur ef yn frenin. 16 Ac yntau yn cilio o'r nailltu, ac yn rhodio ar y môr at ei ddiscyblion: 26 Ac yn ceryddu y bobl oedd yn heidio ar ei ôl, a holl gnawdol wrandawyr ei air: 32 ac yn dan­gos mai efe yw bara y bywyd i'r ffyddloniaid. 66 Llawer o ddiscy­blion yn ymadel ag ef. 68 Petr yn ei gyffesu ef. 70 Bôd Judas yn gythrael.

VVEdi y pethau hyn yr aeth yr Jesu tros fôr Galilæa, hwnnw yw môr Tibe­rias.

2 A thyrfa fawr a'i canlynodd ef, canys hwy a welsent ei arwy­ddion, y rhai a wnaethei efe ar y cleifion.

3 A'r Jesu a aeth i fynu i'r my­nydd, ac a eisteddodd yno gyd â'i ddiscyblion.

4 A'r Pasc, gwŷl yr Iddewon, oedd yn agos.

5 Yna 'r Jesu a dderchafodd ei lygaid, ac a welodd fôd tyrfa fawr yn dyfod atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyt­ta?

6 (A hyn a ddywedodd efe iw brofi ef: canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedr ei wneu­thur.)

7 Philip a'i hattebodd ef, Gwerth [Page] dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb vn o honynt gymmeryd y­chydig.

8 Vn o'i ddiscyblion a ddywe­dodd wrtho, Andreas brawd Si­mon Petr,

9 Y mae ymma ryw fachgen­nyn, a chanddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer?

10 A'r Jesu a ddywedodd, Per­wch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glas-wellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eistedda­sant i lawr, ynghylch pum mîl o nifer.

11 A'r Jesu a gymmerth y tor­thau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannod i'r discyblion, a'r discyb­lion ir rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pyscod cymmaint ac a fynnasant.

12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddiscy­blion, Cesclwch y briw-fwyd gweddill, fel na choller dim.

13 Am hynny hwy a'i cascla­sant, ac a lanwasant ddeuddeg ba­scedaid o'r briwfwyd, o'r pum torth haidd, a weddillasei gan y rhai a fwyttasent.

14 Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethei 'r Jesu a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Prophwyd oedd ar ddyfod i'r bŷd.

15 Yr Jesu gan hynny, pan wŷbu eu bôd hwy ar fedr dyfod, a'i gippio ef i'w wneuthur yn fre­nin, a giliodd drachefn i'r my­nydd, ei hunan yn vnig.

16 A phan hwyrhaodd hi, ei ddiscyblion a aethant i wared at y môr.

17 Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant tros y môr i Capernaum: ac yr oedd hi wei­thian yn dywyll: a'r Jesu ni ddae­thei attynt hwy.

18 A'r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.

19 Yna, wedi iddynt rwyfo ynghylch pump a'r hugain neu ddeg a'r hugain o stadiau, hwy a welent yr Jesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesau at y llong; ac a ofnasant.

20 Ond efe a ddywedodd wr­thynt, Myfi yw, nac ofnwch.

21 Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn e­brwydd yr oedd y llong wrth y tîr yr oeddynt yn myned iddo.

22 Trannoeth pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt i'r môr, nad oedd vn llong arall yno, ond yr vn honno, i'r hon yr aethei ei ddiscyblion ef, ac nad aethei 'r Jesu gyd â'i ddiscyblion ef i'r llong, ond myned o'i ddis­cyblion ymmaith ei hunain:

23 Eithr llongau eraill a ddae­thent o Tiberias yn gyfagos i'r fan, lle y bwyttasent hwy fara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:

24 Pan welodd y dyrfa gan hyn­ny nad oedd yr Jesu yno, na'i ddis­cyblion, hwythau a aethant i long­au, ac a ddaethant i Capernaum, dan geisio 'r Jesu.

25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i'r môr, hwy a ddyweda­sant wrtho, Rabbi, pa bryd y dae­thosti ymma?

26 Yr Jesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid o herwydd i chwi weled y gwrthiau, eithr o [Page] herwydd i chwi fwytta o'r tor­thau, a'ch digoni.

27 Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mâb y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Tâd.

28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gwei­thredom weithredoedd Duw?

29 Yr Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd efe.

30 Dywedasant gan hynny wr­tho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?

31 Ein tadau ni a fwyttasant y Manna yn yr anialwch; fel y mae yn scrifennedig, Efe a roddodd iddynt fara o'r nêf i'w fwytta.

32 Yna 'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, nid Moses a roddodd i chwi y bara o'r nêf: eithr fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y gwîr fara o'r nef.

33 Canys bara Duw ydyw yr hwn sydd yn dyfod i wared o'r nêf, ac yn rhoddi bywyd i'r bŷd.

34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni y bara hwn yn oestadol.

35 A'r Jesu a ddywedodd wr­thynt, Myfi yw bara 'r bywyd: yr hwn sydd yn dyfod attafi, ni newyna: a'r hwn sydd yn credu ynofi, ni sycheda vn amser.

36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.

37 Yr hyn oll y mae 'r Tâd yn ei roddi i mi, a ddaw attafi: a'r hwn a ddêl attafi, ni's bwriaf ef allan ddim.

38 Canys myfi a ddescynnais o'r nêf, nid i wneuthur fy ewy­llys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd.

39 A hyn yw ewyllys y Tâd a'm hanfonodd i, o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim o honaw, eithr bôd i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf.

40 A hyn yw ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i, cael o bôb vn sydd yn gweled y Mâb, ac yn cre­du ynddo ef, fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf.

41 Yna yr Iddewon a rwgna­chasant yn ei erbyn ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw 'r bara a ddaeth i wared o'r nêf.

42 A hwy a ddywedasant, Ond hwn yw Jesu mâb Joseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dy­wedyd, O'r nêf y descynnais?

43 Yna 'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmur­wch wrth ei gilydd:

44 Ni ddichon neb ddyfod at­tafi, oddieithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y dydd di­weddaf.

45 Y mae yn scrifennedig yn y prophwydi, A phawb a fyddant wedi eu dyscu gan Dduw. Pôb vn gan hynny a glywodd gan y Tâd, ac a ddyscodd, sydd yn dy­fod attafi.

46 Nid o herwydd gweled o Neb y Tâd, ond yr hwn sydd o Dduw, efe a welodd y Tâd.

47 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu yno­fi, [Page] sydd ganddo fywyd tragwy­ddol.

48 Myfi yw bara 'r bywyd.

49 Eich tadau chwi a fwytta­sant y Manna yn yr anialwch, ac a fuant feirw.

50 Hwn yw 'r bara sydd yn dy­fod i wared o'r nêf, fel y bwyttao dŷn o honaw, ac na byddo marw.

51 Myfi yw 'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i wared o'r nef: os bwytty nêb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd: a'r bara a roddafi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddafi tros fywyd y bŷd.

52 Yna 'r Iddewon a ymryso­nasant â 'i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dichon hwn roddi i ni ei gnawd iw fwytta?

53 Yna 'r Jesu a ddywedodd wrthynt, yn wîr, Yn wîr, meddaf i chwi, oni fwyttewch gnawd Mâb y dŷn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.

54 Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwy­ddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf.

55 Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wîr, a'm gwaed i sydd ddiod yn wîr.

56 Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros ynofi, a minneu ynddo yntef.

57 Fel yr anfonodd y Tâd byw fi, ac yr ydwyfi yn byw drwy 'r Tâd: felly yr hwn sydd yn fy mwytta i, yntef a fydd byw trwofi.

58 Dymma 'r bara a ddaeth i wa­red o'r nêf: nid megis y bwytta­odd eich tadau chwi y Manna, ac a buant feirw: y neb sydd yn bwyt­ta 'r bara hwn, a fydd byw yn dra­gywydd.

59 Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y Synagog, wrth athraw­iaethu yn Capernaum.

60 Llawer gan hynny o'i ddi­scyblion, pan glywsant, a ddywe­dasant, Caled yw 'r ymadrodd hwn: pwy a ddichon wrando arno?

61 Pan wŷbu 'r Jesu ynddo ei hun fôd ei ddiscyblion yn grwg­nach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?

62 Beth gan hynny os gwel­wch Fâb y dŷn yn derchafu, lle 'r oedd efe o'r blaen?

63 Yr Yspryd yw 'r hyn sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn llesau dim: y geiriau yr ydwyfi yn eu llefaru wrthych, Yspryd yd­ynt, a bywyd ydynt,

64 Ond y mae o honoch chwi rai nid ydynt yn credu. Canys yr Jesu a wŷddei o'r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn cre­du, a phwy oedd yr hwn a'i bra­dychei ef.

65 Ac efe a ddywedodd, Am hynny, y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod attafi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhâd.

66 O hynny allan, llawer o'i ddiscyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gyd ag ef.

67 Am hynny yr Jesu a ddy­wedodd wrth y deuddeg, A fyn­nwch chwithau hefyd fyned ym­maith?

68 Yna Simon Petr a'i hatte­bodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennit ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.

69 Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod, mai tydi yw [Page] y Christ, Mâb y Duw byw.

70 Jesu a'i hattebodd hwynt, Oni ddewisais i chwy-chwi y deuddeg, ac o honoch y mae vn yn ddiafol?

71 Eithr efe a ddywedasei am Judas Iscariot, mâb Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef: ac efe yn vn o'r deuddeg.

PEN. VII.

1 Jesu yn argyoeddi rhyfyg a hyf­der ei geraint: 10 yn myned i fynu ô Galilæa i ŵyl y Pebyll, 14 yn dyscu yn y Deml. 40 Amryw dŷb am dano ef ymhlith y bobl. 45 Y Pharisæaid yn ddigllon am na ddaliasai eu swyddogion hwy ef, ac yn rhoddi sen i Nicodemus am gymmeryd ei blaid ef.

A'R Jesu a rodiodd, ar ôl y pe­thau hyn, yn Galilæa: ca­nys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Judæa, oblegid bôd yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.

2 A gwyl yr Iddewon, sef gwŷl y Pebyll oedd yn agos.

3 Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ym­maith oddi ymma, a dôs i Judæa, fel y gwelo dy ddiscyblion dy weithredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.

4 Canys nid oes neb yn gwneu­thur dim yn ddirgel, ac yntef yn ceisio bôd yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.

5 Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo.

6 Yna'r Jesu a ddywedodd wr­thynt hwy, Ni ddaeth fy amser i etto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.

7 Ni ddichon y byd eich casau chwi, ond myfi y mae yn ei ga­sau, o herwydd fy môd i yn ty­stiolaethu am dano, fôd ei wei­thredoedd ef yn ddrwg.

8 Ewch chwi i fynu i'r wŷl hon: nid wyfi etto yn myned i fynu i'r wŷl hon, oblegid ni chy­flawnwyd fy amser i etto.

9 Gwedi iddo ddywedyd y pe­thau hyn wrthynt, efe a arhosodd yn Galilæa.

10 Ac wedi myned o'i frodyr ef i fynu, yna yntef hefyd a aeth i fynu i'r wŷl, nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.

11 Yna yr Iddewon a'i ceisiasant ef yn yr wŷl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?

12 A murmur mawr oedd am dano ef ymmysc y bobl: canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nagê, eithr twyllo y bobl y mae;

13 Er hynny ni lefarodd neb yn eglur am dano ef, rhag ofn yr Iddewon.

14 Ac yr awron ynghylch ca­nol yr wŷl, yr Jesu a aeth i fynu i'r Deml, ac a athrawiaethodd.

15 A'r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y meidr hwn ddysceidiaeth, ac ynteu heb ddyscu.

16 Yr Jesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Fy nysceidiaeth, nid eiddo fi yw, eithr eiddo yr hwn a'm hanfonodd i.

17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wŷbod am y ddysceidiaeth, pa'vn ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru.

18 Y mae 'r hwn sydd yn lle­faru o honaw ei hun, yn ceisio ei [Page] ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd, hwnnw sydd eir-wîr, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.

19 Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb o honoch yn gwneuthur y gyfraith? pa ham yr ydych yn ceisio fy lladd i?

20 Y bobl a attebodd ac a ddy­wedodd, Y mae gennit ti gythrael: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?

21 Yr Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrthynt, Yn weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.

22 Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad, (nid o her­wydd ei fôd o Moses, eithr o'r ta­dau) ac yr ydych yn enwaedu ar ddŷn, ar y Sabbath.

23 Os yw dŷn yn derbyn en­waediad ar y Sabbath, heb dorri cyfraith Moses, a ydych yn lli­diog wrthifi, am i mi wneuthur dŷn yn holliach ar y Sabbath?

24 Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.

25 Yna y dywedodd rhai o'r Je­rosolymitaniaid, Ond hwn yw 'r vn y maent hwy yn ceisio ei ladd?

26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywe­dyd dim wrtho ef: a wybu y Pen­naethiaid mewn gwirionedd, mai hwn yw Christ yn wir?

27 Eithr nyni a adwaenom hwn, o ba le y mae; eithr pan ddêl Christ, ni's gwŷr neb o ba le y mae.

28 Am hynny yr Jesu, wrth athrawiaethu yn y Deml a lefodd, ac a ddywedodd, Chwi a'm had­waenoch i, ac a wŷddoch o ba le yr ydwyfi; ac ni ddaethym i o honof fy hun, eithr y mae yn gy­wir yr hwn a'm hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.

29 Ond myfi a'i hadwen, ob­legid o honaw ef yr ydwyfi, ac efe a'm hanfonodd i.

30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethei ei awr ef etto.

31 A llawer o'r bobl a greda­sant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Christ, a wna efe fwy o arwyddion, nâ'r rhai hyn a wna­eth hwn?

32 Y Pharisæaid a glywsant fôd y bobl yn murmur y pethau hyn am dano ef; a'r Pharisæaid, a'r Arch-offeiriaid, a anfonasant swyddogion iw ddal ef.

33 Am hynny y dywedodd yr Jesu wrthynt hwy, Yr ydwyfi ychydig amser etto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd.

34 Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyfi, ni ellwch chwi ddyfod.

35 Yna y dywedodd yr Idde­won yn eu mysc eu hun, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sy ar wascar ymmhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dyscu 'r Groegiaid?

36 Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisi­wch, ac ni'm cewch: a lle 'r yd­wyfi, ni ellwch chwi ddyfod.

37 Ac ar y dydd diweddaf, y dydd mawr o'r wŷl, y safodd yr Jesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued attafi, ac yfed.

38 Yr hwn sydd yn credu ynofi, [Page] megis y dywedodd yr Scrythyr, afonydd o ddwfr bywiol a ddyli­fant o'i grôth ef.

39 (A hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn a gai y rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: ca­nys etto nid oedd yr Yspryd glân wedi ei roddi, o herwydd na ogo­neddasid yr Jesu etto.)

40 Am hynny llawer o'r bobl, wedi clywed yr ymadrodd hwn, a ddywedasant, Yn wîr, hwn yw'r prophwyd.

41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Christ: eraill a ddywedasant, Ai o Galilæa y daw Christ?

42 Oni ddywedodd yr Scry­thyr mai o hâd Dafydd ac o Beth­lehem, y dref lle y bu Ddafydd, y mae Christ yn dyfod?

43 Felly yr aeth ymrafael ym­mysc y bobl o'i blegid ef.

44 A rhai o honynt a fynna­sent ei ddal ef: ond ni osododd neb ddwylo arno.

45 Yna y daeth y swyddogion at yr Arch-offeiriaid, a'r Phari­sæaid: a hwy a ddywedasant wr­thynt hwy, Pa ham na ddygasoch chwi ef?

46 A'r swyddogion a atteba­sant, Ni lefarodd dŷn erioed fel y dŷn hwn.

47 Yna y Pharisæaid a atteba­sant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?

48 A gredodd neb o'r pennae­thiaid ynddo ef, neu o'r Phari­sæaid.

49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wŷddant y gyfraith, melldigedig ydynt.

50 Nicodemus (yr hwn a ddae­thei at yr Jesu o hŷd nôs, ac oedd vn o honynt) a ddywedodd wr­hynt,

51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dŷn, oddi-eithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwŷbod beth a wnaeth efe?

52 Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt ti­theu o Galilæa? chwilia a gwêl, na chododd prophwyd o Galilæa.

53 A phôb vn â aeth iw dŷ ei hun.

PEN. VIII.

1 Christ yn gwaredu y wraig a dda­liesid mewn godineb: 12 Yn pre­gethu ei fôd ef ei hûn yn oleuni y byd, ac yn gwirio ei athrawiaeth: 33 Yn atteb yr Iddewon a wnaent ei bôst o Abraham, 59 ac yn go­chelyd ei creulondeb hwy.

A'R Jesu a aeth i fynydd yr Oliwydd:

2 Ac a ddaeth drachefn y boreu i'r Deml, a'r holl bobl a ddaeth at­to ef: yntef a eisteddodd, ac a'u dyscodd hwynt.

3 A'r Scrifennyddion a'r Pha­risæaid, a ddygasant atto ef wraig, yr hon a ddaliasid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol.

4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.

5 A Moses yn y gyfraith a or­chymynnodd i ni labyddio y cy­fryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?

6 A hyn a ddywedasant hwy gan ei demtio ef, fel y gallent ei gy­hudo ef. Eithr yr Jesu, wedi ym­grymmu tu a'r llawr, a scrifen­nodd â'i fys ar y ddaiar, heb gym­meryd arno eu clywed.

7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ym­vniawnodd, [Page] ac a ddywedodd wr­thynt, Yr hwn sydd ddi-bechod o honoch, tafled yn gyntaf garreg atti hi.

8 Ac wedi iddo eilwaith ym­grymmu tua 'r llawr, efe a scrifen­nodd ar y ddaiar.

9 Hwythau pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o vn i vn, gan ddechreu o'r hynaf, hyd yr olaf: a gadawyd yr Jesu yn vnig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.

10 A'r Jesu wedi ymvniawni, ac heb weled neb, ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhudd-wyr di? oni chondemnodd neb di?

11 Hitheu a ddywedodd, Na ddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Jesu wrthi, Nid wyf finneu yn dy gondemno di: dôs, ac na phe­cha mwyach.

12 Yna y llefarodd yr Jesu wr­thynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni y bŷd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn ty­wyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd.

13 Am hynny y Pharisæaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun, nid yw dy dystiolaeth di wîr.

14 Yr Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt hwy, Er fy môd i yn tystiolaethu a'm danaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wîr: oblegid mi a wn o ba le y daethym, ac i ba le yr ydwyf yn myned, chwithau ni's gwyddoch o ba le yr wyf fr yn dyfod, nac i ba le yr wyfi yn myned.

15 Chwy-chwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd, nid ydwyf fi yn barnu neb.

16 Ac etto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyfi yn vnig, ond myfi a'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i.

17 Y mae hefyd yn scrifennedig yn eich cyfraith chwi, mai gwir yw tystiolaeth dau ddŷn.

18 Myfi yw 'r hwn sydd yn ty­stiolaethu am danaf fy hun, ac y mae 'r Tâd, yr hwn a'm hanfo­nodd i, yn tystiolaethu am danafi.

19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy dâd ti? Yr Jesu a attebodd, Nid adwaenoch na myfi na'm Tad; ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhâd i he­fyd.

20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Jesu yn y tryssor-dy, wrth athraw­iaethu yn y Deml: ac ni ddali­odd neb ef, am na ddaethei ei awr ef etto.

21 Yna y dywedodd yr Jesu wr­thynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymmaith, a chwi a'm cei­siwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn my­ned, ni ellwch chwi ddyfod.

22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ef ei hun? gan ei fod yn dywedyd, lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddy­fod.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwy-chwi sydd oddisod, minneu sydd oddi vchod, chwy­chwi sydd o'r bŷd hwn, minneu nid wyf o'r bŷd hwn.

24 Am hynny y dywedais wr­thych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chred­wch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pecho­dau.

25 Yna y dywedasant wrtho, [Page] Pwy wyt ti? A'r Iesu a ddywe­dodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o'r dechreuad.

26 Y mae gennifi lawer o be­thau iw dywedyd, ac iw barnu am danoch chwi: eithr cywir yw'r hwn a'm hanfonodd i: a'r pethau a glywais i ganddo, y rhai hyn yr ydwyfi yn eu dywedyd i'r bŷd.

27 Ni wyddent hwy mai am y Tâd yr oedd efe yn dywedyd wr­thynt hwy.

28 Am hynny y dywedodd yr Jesu wrthynt, Pan ddercha­foch chwi Fab y dŷn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyfi yn gwneuthur dim o ho­nof fy hun, ond megis y dyscodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pe­thau hyn.

29 A'r hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â myfi: ni adawodd y Tâd fi yn unic, oblegid yr wyfi yn gwneuthur bôb amser, y pethau sy fodlon ganddo ef.

30 Fel yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.

31 Yna y dywedodd yr Jesu wrth yr Iddewon a gredasent yn­ddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, discyblion i mi ydych yn wir.

32 A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddhâ chwi.

33 Hwythau a attebasant iddo, Hâd Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?

34 Yr Iesu a attebodd iddynt Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn wâs i be­chod.

35 Ac nid yw y gwâs yn aros yn y tŷ byth: y mâb sydd yn aros byth.

36 Os y mâb gan hynny a'ch rhyddhâ chwi, rhyddion fyddwch yn wîr.

37 Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi.

38 Yr wyfi yn llefaru yr hyn a welais gyd â'm Tâd i: a chwi­theu sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyd â'ch tâd chwi­thau.

39 Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, Ein tâd ni yw Abraham. Yr Jesu a ddywe­dodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abra­ham a wnaech:

40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dŷn a ddywe­dais i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.

41 Yr ydych chwi yn gwneu­thur gweithredoedd eich tâd chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy butteindra y cenhedlwyd ni: un Tâd sydd gen­nym ni, sef Duw.

42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddei eich Tâd, chwi am carech i: canys o­ddiwrth Dduw y deilliais, ac y daethym i, oblegid nid o honof fy hun y daethym i, ond efe a'm hanfonodd i.

43 Pa ham nad ydych yn deall fy lleferydd i? a'm na ellwch wrando fy ymadrodd i.

44 O'ch tâd diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tâd a fynnwch chwi eu gwneuthur: llei­ddiad dyn oedd efe o'r dechreuad, ac ni safodd yn y gwirionedd, ob­legid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd; canys y mae yn gelwyddog: ac yn dâd iddo.

45 Ac am fy môd i yn dywedyd y gwirionedd nid ydych yn credu i mi.

46 Pwy o honoch a'm argyoe­dda i o bechod? ac od wyfi yn dy­wedyd y gwir, pa ham nad ydych yn credu i mi?

47 Y mae yr hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw; am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.

48 Yna 'r attebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Ond da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bôd gennit gythrael?

49 Yr Iesu a attebodd, Nid oes gennif gythrael, ond yr wyfi yn anrhydeddu fy Nhâd, ar yr y­dych chwithau yn fy ni-anrhy­deddu inneu.

50 Ac nid wyfi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn.

51 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragy­wydd.

52 Yna y dywedodd yr I­ddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennit gythrael: bu Abraham farw, a'r Prophwy­di, ac meddi di, Os ceidw neb sy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.

53 Ai mwy wyt ti nag Abra­ham ein tâd ni, yr hwn a fu fa­rw? a'r prophwydi a fuant fei­rw: pwy yr wyt ti yn dy wneu­thur dy hun.

54 Yr Jesu a attebodd, Os wyfi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngo­goniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw 'r hwn sydd yn fy ngogo­neddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw.

55 Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef: âc os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei yma­drodd ef.

56 Gorfoledd oedd gan eich tâd Abraham weled fy nydd i: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawe­nychodd.

57 Yna y dywedodd yr Idde­won wrtho, Nid wyt ti ddeng­mlwydd a deugain etto, ac a we­laist ti Abraham?

58 Yr Jesu a ddywedodd wr­thynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi cyn bôd Abraham, yr wyf fi.

59 Yna hwy a godasant ger­rig iw taflu atto ef. A'r Jesu a ym­guddiodd, ac a aeth allan o'r Deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.

PEN. IX.

1 Y dyn a anesid yn ddall yn cael ei olwg: 13 a'i ddwyn ef at y Phari­sæaid; 16 Hwythau yn ymrwy­stro, ac yn ei escymmuno ef: 36 Ac yntau yn cael ei dderbyn gan yr Jesu, ac yn ei gyffesu ef. 39 [Page] Pwy yw y rhai y mae Christ yn eu goleuo.

AC with fyned heibio, efe a ganfu ddŷn dall o'i enedi­gaeth.

2 A'i ddiscyblion a ofynna­sant iddo, gan ddywedyd, Rabbi pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rie­ni, fel y genid ef yn ddall?

3 Yr Jesu a attebodd, Nid hwn a bechodd, na'i riêni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithre­doedd Duw ynddo ef.

4 Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd, tra y­dyw hi yn ddydd: y mae y nôs yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.

5 Tra yr ydwyf yn y bŷd, go­leuni y byd ydwyf.

6 Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall:

7 Ac a ddywedodd wrtho, Dôs, ac y molch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, anfonedig) Am hynny efe a aeth ymmaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.

8 Y cymmydogion gan hynny, a'r rhai a'i gwelsent ef o'r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw'r un oedd yn ei­stedd, ac yn cardotta?

9 Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn de­byg iddo. Yntef a ddywedodd, Myfi yw efe.

10 Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy ly­gaid di?

11 Yntef a attebodd ac a ddy­wedodd, Dŷn a elwir Jesu a w­naeth glai, ac a irodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrth if, Dôs i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.

12 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntef a ddywe­dodd, Ni wn i.

13 Hwythau ai dygasant ef, at y Pharisæaid, yr hwn gynt a fuasei yn ddall.

14 A'r Sabbath oedd hi, pan wnaeth yr Jesu y clai, a phan ago­rodd efe ei lygaid ef.

15 Am hynny y Pharisæaid hefyd a ofynnasant iddo dra­chefn, Pa fodd y cawsei efe ei o­lwg. Yntef a ddywedodd wrthynt, clai a osododd efe ar fy llygaid i, ac mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.

16 Yna rhai o'r Pharisæaid a ddywedasant, Nid yw y dŷn hwn o Duw, gan nad yw efe yn cadw y Sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.

17 Hwy a ddywedasant dra­chefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef, am agoryd o honaw dy lygaid di? Yntef a ddywedodd, Mai Pro­phwyd yw efe,

18 Am hynny ni chredei yr I­ddewon am dano ef, mai dall fua­sei, a chael o honaw ef ei olwg nes galw o honynt ei rieni ef, yr hwn a gawsei ei olwg.

19 A hwy a ofynnasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mâb chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn dall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr.

20 Ei rieni ef a attebasant i­ddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mâb ni, ac mai yn dall y ganwyd ef:

21 Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni, neu pwy a agorodd eu lygaid ef, ni's gwyddom ni: y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef, efe a ddywed am dano ei hun:

22 Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bôd yn ofni yr Idde­won: oblegid yr Iddewon a gyd­ordeiniafent eusys, os cyfaddefei neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o'r Synagog.

23 Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef.

24 Am hynny hwy a alwa­sant eilwaith y dŷn a fuasei yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro 'r gogoniant i Duw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dŷn hwn.

25 Yna yntef a attebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw ni's gwn i; un peth a wn i, lle yr oe­ddwn i yn ddall, yr wyfi yn awr yn gweled.

26 Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth e­fe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?

27 Yntef a attebodd iddynt, mi a ddywedais i chwi ensys, ac ni wrandawsoch: pa ham yr y­dych yn ewyllysio clywed tra­chefn? a ydych chwithau yn ewy­llysio bôd yn ddiscyblion iddo ef?

28 Hwythau a'i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddi­scybl iddo ef, eithr discyblion Moses ydym ni,

29 Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses; eithr hwn ni's gwyddom ni o ba le y mae efe.

30 Y dŷn a attebodd, ac a ddy­wedodd wrthynt, Yn hyn yn ddi­au y mae yn rhyfedd na wy­ddoch chwi, o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.

31 Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond of yw nêb yn addol-wr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.

32 Ni chlybuwyd erioed ago­ryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.

33 Oni bai fôd hwn o Dduw, ni allei efe wneuthur dim.

34 Hwy a attebasant, ac a ddy­wedasant wrtho, Mewn pecho­dau y ganwyd ti oll, ac a wyt ti yn ein dyscu ni? A hwy a'i bwria­sant ef allan.

35 Clybu yr Jesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym-Mab Duw?

36 Yntef a attebodd ac a ddy­wedodd, Pwy yw efe o Arglwydd, fel y credwyf ynddo?

37 A'r Jesu a ddywedodd wr­tho, Ti a'i gwelaist ef, a'r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe.

38 Yntef a ddywedodd, Yr wyfi yn credu, o Arglwydd, ac efe a'i haddolodd ef.

39 A'r Jesu a ddywedodd, I farn y daeth ym i'r bŷd hwn: fel y gwelei y rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elei y rhai sy yn gweled, yn ddeillion.

40 A rhai o'r Pharisæaid a oedd-gyd ag ef, a glywsant y pe­thau [Page] hyn, ac a ddywedasant wr­tho, Ydym ninnau hefyd yn ddei­llion?

41 Yr Jesu a ddywedodd wr­thynt, Pe deillion fyddech, ni by­ddei arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled: am hynny y mae eich pe­chod yn aros.

PEN. X.

1 Christ yw 'r drws, a'r bugail da. 19 Amryw dyb am dano. 24 Y mae efe yn profi trwy ei weithre­doedd, mai efe yw Christ Mab Duw, 39 ac yn diangc rhag yr Iddewon, 40 ac yn myned tra­chefn tros yr Jorddonen, lle y cre­dodd llawer ynddo ef.

YN wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy 'r drws i gorlan y de­faid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeiliwr yw.

2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy 'r drws, bugail y de­faid ydyw.

3 I hwn y mae y dryssor yn a­goryd, ac y mae y defaid yn gw­rando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn en henw, ac yn eu harwain hwy allan.

4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn my­ned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.

5 Ond y dieithr ni's canly­nant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais diei­thriaid.

6 Y ddammeg hon a ddy­wedodd yr Jesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau yd­oedd y rhai yr oedd efe yn eu lle­faru wrthynt.

7 Am hynny yr Jesu a ddywe­dodd wrthynt drachefn, Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.

8 Cynnifer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron, ac yspeil-wŷr ŷnt: eithr ni wrandawodd y de­faid arnynt.

9 Myfi yw y drws: os â neb i mewn drwofi, efe a fydd cadwe­dig: ac efe a â'i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.

10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddestry­wio, myfi a ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helae­thach.

11 Myfi yw'r bugail da: y bu­gail da sydd yn rhoddi ei enioes dros y defaid.

12 Eithr y gwâs cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn ei sclyfio hwy, ac yn gwascaru y defaid.

13 Y mae 'r gwâs cyflog yn ffoi, oblegid mae gwâs cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y de­faid.

14 Myfi yw y bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm had­weinir gan yr eiddo fi.

15 Fel yr edwyn y Tâd fyfi, felly yr adwaen inneu y Tâd: ac yr yd wyf yn rhoddi fy enioes dros y defaid.

16 A defaid eraill sy gennif, y rhai nid ŷnt ô'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyr­chu, [Page] a'm llais i a wrandawant, a bydd un gorlan, ac un bugâil.

17 Am hyn y mae y Tâd yn fy ngharu i, am fy môd i yn dodi fy enioes fel y cymmerwyf hi dra­chefn.

18 Nid oes neb yn ei dwyn o­ddi arnafi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun: y mae gennif feddiant iw dodi hi i lawr, ac y mae gennif feddiant iw chymmeryd hi drachefn: y gor­chymmyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhâd.

19 Yna y bu drachefn ymrafel ym mysc yr Iddewon, am yr yma­droddion hyn.

20 A llawer o honynt a ddy­wedasant, Y mae cythrael ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: pa ham y gwrandewch chwi arno ef?

21 Eraill a ddywedasant Nid yw y rhai hyn eiriau un â chythrael ynddo: a all cythrael agoryd lly­gaid y deillion?

22 Ac yr oedd y Gyssegr-wŷl yn Jerusalem, a'r gayaf oedd hi:

23 Ac yr oedd yr Jesu yn rho­dio yn y Deml, ym-mhorth So­lomon:

24 Am hynny y daeth yr Idde­won yn ei gylch ef, ac a ddywe­dasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i ni ammeu? os tydi yw y Christ, dywed i ni yn eglur.

25 Yr Jesu a attebodd iddynt, mi a ddywedais i chwi, ac nid y­dych yn credu, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhâd, y mae y rhai hyn yn ty­stiolaethu am danafi.

26 Ond chwi nid ydych yn cre­du: canys nid ydych chwi o'm de­faid i, fel y dywedais i chwi.

27 Y mae fy nefaid i yn gw­rando fy llais i, ac mi a'u had wen hwynt, a hwy a'm canlynant i.

28 A minneu ydwyf yn rho­ddi iddynt fywyd tragwyddol: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.

29 Fy Nhâd i, yr hwn a'u rho­ddes i mi, sydd fwy nâ phawb: ac ni's gall neb en dwyn hwynt a­llan o law fy Nhâd i.

30 Myfi a'r Tâd un ydym.

31 Am hynny y cododd yr I­ddewon gerrig drachefn iw laby­ddio ef.

32 Yr Jesu a attebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhâd: am ba un o'r gweithred­oedd hynny yr ydych yn fy lla­byddio i?

33 Yr Iddewon a attebasant i­ddo, gan ddywedyd, Nid am wei­thred dda yr ydym yn dy labyddi­o, ond am gabledd, ac am dy fôd ti, a thitheu yn ddŷn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.

38 Yr Jesu a attebodd iddynt, Onid yw yn scrifennedig yn eich cyfraith chwi? Mi a ddywedais, duwiau ydych.

35 Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, a'r Scrythur ni's gellir ei thorri:

36 A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tâd, ac a'i hanfonodd i'r bŷd, Yr wyti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?

37 Onid wyfi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhâd, na chre­dwch i mi.

38 Ond os ydwyf yn eu gw­neuthur, er nad ydych yn cre­du [Page] i mi, credwch y gweithred­oedd, fel y gwybyddoch ac y cre­doch, fôd y Tâd ynofi, a minneu ynddo yntef.

39 Am hynny y ceisiasant dra­chefn ei ddal ef: ac efe a ddiang­odd allan o'u dwylo hwynt.

40 Ac efe a aeth ymmaith dra­chefn tros yr Jorddonen, i'r man lle y buasei Joan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.

41 A llawer a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant, Joan yn wîr ni wnaeth un arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Joan am hwn, oedd wîr.

42 A llawer yno a gredasant ynddo.

PEN. XI.

1 Christ yn cyfodi Lazarus, yr hwn â gladdesid er ys pedwar diwrnod. 45 Llawer o Iddewon yn credu. 47 Yr Arch-offeiriaid a'r Phari­sæaid yn casclu cyngor yn erbyn Christ. 49 Caiaphas yn prophwy­do, 54 Jesu yn ymguddio: 55 Hwyhau ar y Pasc yn ymofyn am dano, ac yn gosod cynllwyn iddo.

AC yr cedd un yn glâf, Lazarus o Bethania, o dref Mair a'i chwaer Martha:

2 (A Mair ydoedd yr hon a en­neiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt; yr hon yr oedd ei brawd Lazarus yn glâf)

3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonafant atto ef, gan ddywe­dyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn fydd hoff genniti yn glâf.

4 A'r Jesu pan glybu, a ddywe­dodd, Nid yw y clefyd hwn i far­wolaeth, ond er gogoniant, Duw, fel y gogonedder Mâb Duw trwy hynny.

5 A hoff oedd gan yr Jesu Far­tha, a'i chwaer, a Lazarus.

6 Pan glybu ef gan hynny, ei fôd ef yn glâf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod:

7 Yna wedi hynny efe a ddywe­dodd wrth y discyblion, Awn i Judæa drachefn.

8 Y discyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di, ac a wyt ti yn myned yno dra­chefn?

9 Yr Jesu a attebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda: am ei fôd yn gweled goleuni y bŷd hwn:

10 Ond os rhodia neb y nôs, e­fe a dramgwydda: am nad oe [...] go­leuni ynddo.

11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno: ond yr wyfi yn myned i'w ddi­huno ef.

12 Yna ei ddiscyblion a ddy­wedasant wrtho, Arglwydd, os hu­no y mae, efe a fydd iach.

13 Ond yr Jesu a ddywedasei am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hûn ewsc yr oedd efe yn dywedyd.

14 Yna y dywedodd yr Jesu wr­thynt yn eglur, Bu farw Lazarus;

15 Ac y mae yn llawen gennif nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi (fel y credoch:) ond awn atto ef.

16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddiscyblion, Awn ninnau [Page] hefyd, fel y byddom feirw gyd ag ef.

17 Yna yr Jesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bôd weithian bed­war diwrnod yn y bedd.

18 A Bethania oedd yn agos i Jerusalem, ynghylch pymtheg stâd oddi wrthi:

19 A llawer o'r Iddewon a ddaethent at Martha a Mair, iw cyssuro hwy am eu brawd.

20 Yna Martha, cyn gynted ac y clybu hi fôd yr Jesu yn dyfod, a aeth iw gyfarfod ef; ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.

21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Jesu, Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni buasei farw fy mrawd.

22 Eithr mi a wn hefyd yr aw­ron, pa bethau bynnag a ddy­munech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.

23 Yr Jesu a ddywedodd wr­thi, Adgyfodir dy frawd dra­chefn.

24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf.

25 Yr Jesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad a'r by­wyd: yr hwn sydd yn credu ynofi, er iddo farw, a fydd byw.

26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynofi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn?

27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf Arglwydd: yr wyfi yn credu mai ti yw y Christ, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r bŷd.

28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymmaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw am danat.

29 Er cynted ac y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth atto ef.

30 (A'r Jesu ni ddaethei etto i'r dref; ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasei Martha ag ef.)

31 Yna yr Iddewon, y rhai oedd gŷd â hi yn y tŷ, ac yn ei chyssuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frŷs, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi gan ddywedyd, Y mae hi yn myned at y bedd, i wŷlo yno.

32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Jesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni buasei fy mrawd farw.

33 Yr Jesu gan hynny, pan we­lodd hi yn wylo, a'r Iddewon y rhai a ddaethei gyd â hi, yn wŷlo, a riddfanodd yn yr yspryd, ac a gynhyrfwyd;

34 Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywe­dasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.

35 Yr Jesu a wylodd.

36 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele fel yr oedd efe yn ei garu ef.

37 Eithr rhai o honynt a ddy­wedasant, Oni allasei hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasei hwn farw chwaith?

38 Yna 'r Jesu drachefn a ridd­fanodd ynddo ei hun, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd; a maen oedd wedi ei ddodi arno.

39 Yr Jesu a ddywedodd, Cod­wch ymmaith y maen. Martha [Page] chwaer yr hwn a fuasei farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: her­wydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.

40 Yr Jesu a ddywedodd wr­thi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw?

41 Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A'r Jesu a gododd ei olwg i fynu, ac a ddywedodd, Y Tâd, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.

42 Ac myfi a wyddwn dy fôd ti yn fy ngwrando bôb amser; eithr er mwyn y bobl sydd yn se­fyll o amgylch, y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i.

43 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef vchel, La­zarus, tyred allan.

44 A'r hwn a fuasei farw a dda­eth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo: a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcin. Yr Jesu a ddywedodd wrthynt, Go­llyngwch ef yn rhydd, a gedwch iddo fyned ymmaith.

45 Yna llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a wel­sent y pethau a wnaethei yr Jesu, a gredasant ynddo ef.

46 Eithr rhai o honynt a aeth­ant ymmaith at y Pharisæaid, ac a ddywedasant iddynt, y pethau a wnaethei yr Jesu.

47 Yna yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid, a gasclasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr y­dym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dŷn ymma yn gwneuthur llawer o arwyddion.

48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo, ac fe a ddaw y Rhufeiniaid, ac a ddife­thant ein lle ni, a'n cenedl hefyd.

49 A rhyw vn o honynt, Caia­phas, yr hwn oedd Arch-offeriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwy­bod dim oll:

50 Nac yn ystyried mai bu­ddiol yw i ni farw o vn dŷn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl:

51 Hyn ni ddywedodd efe o ho­naw ei hun, eithr ac efe yn Arch­offeriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddei yr Jesu farw dros y genedl:

52 Ac nid tros y genedl yn vnic, eithr fel y casclei efe ynghyd yn vn, blant Duw hefyd y rhai a wa­scarasid.

53 Yna, o'r dydd hwnnw allan, y cydymgynghorasant, fel y lla­ddent ef.

54 Am hynny ni rodiodd yr Jesu mwy yn amlwg ym mysc yr Iddewon, ond efe a aeth oddi yno i'r wlâd yn agos i'r ania­lwch, i ddinas a elwir Ephraim; ac a arhosodd yno gyd â'i ddiscy­blion.

55 A Phasc yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o'r wlâd i fynu i Jerusalem, o flaen y Pasc, i'w glanhau eu hunain.

56 Yna y ceisiasant yr Jesu, a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y Deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i'r wŷl?

57 A'r Arch-offeiriaid, a'r Pha­risæaid, a roesent orchymmyn, os gwyddei neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.

PEN. XII.

1 Yr Jesu yn escusodi Mair am en­neinio ei draed ef. 9 Y bobl yn ymgasclu i weled Lazarus. 10 Yr Arch offeiriaid yn ymgynghori iw lâdd ef. 12 Christ yn marchogaeth i Jerusalem. 20 Groegwyr yn ewyllysio gweled yr Jesu. 23 Y mae efe yn rhagfynegi ei farwo­laeth. 37 Yr Iddewon i gyd gan­mwyaf wedi eu dallu: 42 Er hyny llawer o bennaethiaid yn cre­du, ond heb ei gyffesu ef. 44 Yr Jesu gan hynny yn galw yn daer am gyffessu ffydd.

YNa 'r Jesu, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fu­asei farw, yr hwn a godasei efe o feirw.

2 Ac yno y gwnaethant iddo swpper, a Martha oedd yn gwasa­naethu: a Lazarus, oedd vn o'r rhai a eisteddent gyd ag ef.

3 Yna y cymmerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerth­fawr, ac a enneiniodd draed yr Jesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.

4 Am hynny y dywedodd vn o'i ddiscyblion ef, Judas Iscariot mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef.

5 Pa ham na werthwyd yr en­naint hwn er trychan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion?

6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o herwydd bôd arno ofal dros y tlodion, ond am ei fôd yn lleidr, a bôd ganddo y pwrs, a'i fod yn dwyn yr hyn a fwrid yn­ddo.

7 A'r Jesu a ddywedodd, Gâd iddi: erbyn dydd fy nghladdedi­gaeth y cadwodd hi hwn.

8 Canys y mae gennych y tlo­dion gyd â chwi bôb amser, eithr myfi nid oes gennych bôb amser.

9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Iddewon ei fôd efe yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Jesu yn vnic, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a godasei efe o feirw.

10 Eithr yr Arch-offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent La­zarus hefyd.

11 Oblegid llawer o'r Iddewon a aethant ymmaith o'i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Jesu.

12 Trannoeth, tyrfa fawr, yr hon a ddaethei i'r wŷl, pan glyw­sant fôd yr Jesu yn dyfod i Jeru­salem,

13 A gymmerasant gangau o'r palmwŷdd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Ho­sanna, bendigedig yw brenin Is­rael yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

14 A'r Jesu wedi cael assynnan, a eisteddodd arno, megis y mae yn scrifennedig,

15 Nac ofna, ferch Sion; wele y mae dy frenin yn dyfod, yn ei­stedd ar ebol assyn.

16 Y pethau hyn ni wybu ei ddiscyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Jesu, yna y cofiasant fôd 'y pethau hyn yn scrifennedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.

17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gyd ag ef, pan alwodd efe Lazarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.

18 Am hyn y daeth y dyrfa he­fyd [Page] i gyfarfod ag ef, am glywed o honynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.

19 Y Pharisæaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hu­nain, A welwch chwi nad ydych yn tyccio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.

20 Ac yr oedd rhai Groegiaid ym-mhlith y rhai a ddaethei i fynu i addoli ar yr wŷl:

21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilæa, ac a ddy­munasant arno, gan ddywedyd, Syre, ni a ewyllysiem weled yr Jesu.

22 Philip a ddaeth, ac a ddy­wedodd i Andreas: a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i'r Jesu.

23 A'r Jesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dŷn.

24 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn gwe­nith i'r ddaiar, a marw, hwnnw a erys yn vnic: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.

25 Yr hwn sydd yn caru ei ci­nioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casau ei einioes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragywyddol.

26 Os gwasanaetha neb fi, di­lyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i han­rhydedda ef.

27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r awr hon: eithr o herwydd hyn y daethym i'r awr hon.

28 O Dâd, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef, Mi a'i gogone­ddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.

29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddy­wedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.

30 Yr Jesu a attebodd, ac a ddy­wedodd, Nid o'm hachos i y bu y llef hon, ond o'ch achos chwi.

31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywy­sog y byd hwn.

32 A minneu, os dyrchefir fi oddi ar y ddaiar, a dynnaf bawb attaf fy hun.

33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angeu y byddei farw.)

34 Y dyrfa a attebodd iddo, Ni a glywsom o'r ddeddf, fôd Christ yn aros yn dragywyddol; a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd fôd yn rhaid derchafu Mâb y dŷn? Pwy ydyw hwnnw Mâb y dŷn.

35 Yna yr Jesu a ddywedodd wrthynt, Etto ychydig ennyd y mae 'r goleuni gyd a chwi: rho­diwch tra fyddo gennych y goleu­ni, fel na ddalio 'r tywyllwch, chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni wŷr ba le y mae yn myned.

36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y by­ddoch blant y goleuni. Hyn a ddy­wedodd yr Jesu, ac efe a ymada­wodd, ac a ymguddiodd rhag­ddynt.

37 Ac er gwneuthur o honaw ef gymmaint o arwyddion yn eu gwŷdd hwynt, ni chredasant yn­ddo:

38 Fel y cyflawnid ymadrodd Esaias y Prophwyd, yr hwn a ddy­wedodd efe, Arglwydd, pwy a [Page] gredodd i'n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Ar­glwydd?

39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Esaias dra­chefn,

40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â'u llygaid, a deall â'u calon, ac ymchwelyd o honynt, ac i mi eu hiachâu hwynt.

41 Y pethau hyn a ddywedodd Esaias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd am dano ef.

42 Er hynny llawer o'r pen­naethiaid hefyd a gredasant yn­ddo: ond oblegid y Pharisæaid ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o'r Synagog.

43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion, yn fwy nâ go­goniant Duw.

44 A'r Jesu a lefodd, ac a ddy­wedodd, Yr hwn fydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a'm danfonodd i.

45 A'r hwn sydd yn fy ngwe­led i, sydd yn gweled yr hwn a'm danfonodd i.

46 Mi a ddaethym yn oleuni i'r byd, fel y bo i bôb vn sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y ty­wyllwch.

47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wŷf yn ei farnn ef. Canys ni ddaethym i farnu 'r byd, eithr i achub y byd.

48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo vn yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a'i barn ef yn y dydd diweddaf.

49 Canys myfi ni leferais o ho­nof fy hun, ond y Tad yr hwn a'm hanfonodd i, efe a roddes or­chymmyn i mi beth a ddywedwn, a pheth a lefarwn.

50 Ac mi a wn fôd ei orchym­myn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyfi yn eu lle­faru, sel y dywedodd y Tâd wr­thif, felly yr wyf yn llefaru.

PEN. XIII.

1 Yr Jesu yn golchi traed ei ddiscy­blion: yn eu hannoc i ostyngei­ddrwydd, a chariad perffaith: 18 yn rhag-ddywedyd, ac yn datcu­ddio i Joan trwy arwydd, y bra­dychu Judas ef: 31 yn gorchym­myn iddynt garu ei gilydd: 36 ac yn rhybuddio Petr y gwadai efe ef.

A Chyn gwŷl y Pasc, yr Jesu yn gwŷbod ddyfod ei aw [...]f i ymadel a'r bŷd hwn at y Tâd, efe yn carn yr eiddo, y rhai oedd yn y bŷd, a'u carodd hwynt hyd y diwedd.

2 Ac wedi darfod swpper, (wedi i ddiafol eusus roi ynghalon Ju­das Iscariot, fab Simon, ei frady­chu ef.)

3 Yr Jesu yn gwŷbod roddi o'e Tâd bôb peth oll yn ei ddwylo ef, a'i fôd wedi dyfod oddiwrth Dduw, ac yn myned at Dduw.

4 Efe a gyfododd oddiar swp­per, ac a roes heibio ei gochl-wisc, ac a gymmerodd dywel, ac a ym­wregysodd.

5 Wedi hynny efe a dywall­todd ddwfr i'r cawg, ac a ddech­reuodd olchi traed y discyblion, a'u sychu â'r tywel, â'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.

6 Yna y daeth efe at Simon Petr; ac efe a ddywedodd wrtho, Ar­glwydd, wyt ti yn golchi fy nhra­ed i?

7 Yr Jesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost di yr awron: eithr ti a gei wybod yn ôl hyn.

8 Petr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Jesu a attebodd iddo, Oni ol­chaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi,

9 Simon Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn vnic, eithr fy nwylo a'm pen hefyd.

10 Yr Jesu a ddywedodd wr­tho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.

11 Canys efe a wyddei pwy a'i bradychei ef; am hynny y dy­wedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.

12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei gochl­wisc, efe a eisteddodd drachefn, [...]c a ddywedodd wrthynt, A wy­ddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi?

13 Yr ydych chwi yn fy nga­lw i, Yr Athro, a'r Arglwydd: a da y dywedwch: canys felly yr yd wyf.

14 Am hynny os myfi yn Ar­glwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi, chwithau a ddy­lech olchi traed ei gilydd.

15 Canys rhoddais ensampl i chwi, fel y gwnelech chwithau, megis y gwneuthum i chwi.

16 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i arglwydd, na'r hwn a ddanfon­wyd, yn fwy nâ'r hwn a'i danfo­nodd.

17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich bŷd os gwne­wch hwynt.

18 Nid wyfi yn dywedyd am danoch oll; mi a wn pwy a etho­lais, ond fel y cyflawnid yr Scry­thur, yr hwn sydd yn bwytta bara gyd â mi, a gododd ei sodl yn fy erbyn.

19 Yn awr yr wyf yn dywe­dyd wrthych, eyn ei ddyfod, fel pan ddel, y credoch mai myfi yw efe.

20 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyfi, sydd yn fy nerbyn i: a'r hwn sydd yn fy ner­byn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

21 Wedi i'r Jesu ddywedyd y pethau hyn, ef a gynhyrfwyd yn yr yspryd; ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wîr, y dywe­daf wrthych, y bradycha vn o ho­noch fi.

22 Yna y discyblion a edrycha­sant ar ei gilydd, gan ammeu am bwy yr oedd efe yn dywedyd.

23 Ac yr oedd vn o'i ddiscybli­on yn pwyso ar fonwes yr Jesu, yr hwn yr oedd yr Jesu yn ei garu.

24 Am hynny yr amneidiodd Simon Petr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd.

25 Ac yntef yn pwyso ar ddwy­fron yr Jesu a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?

26 Yr Iesu a attebodd, Hwnnw yw efe, i'r hwn y rhoddaf fi dam­maid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu y tammaid, efe a'i rhoddodd i Judas Iscariot fab Simon.

27 Ac ar ôl y tammaid, yna yr [Page] aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wr­tho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.

28 Ac ni wyddei neb o'r rhai oedd yn eistedd, i ba beth y dywe­dasei efe hyn wrtho.

29 Canys rhai oedd yn tybied, am fôd Judas a'r gôd ganddo, fôd yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sy arnom eu heisieu er­byn yr wŷl: neu ar roi o honaw beth i'r tlodion.

30 Ynteu gan hynny wedi der­byn y tammaid, a aeth allan yn ebrwydd: ac yr oedd hi yn nôs.

31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mâb y dŷn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.

32 Os gogoneddwyd Duw yn­ddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i gogo­nedda ef yn ebrwydd.

33 O blant bychain, etto yr wyf ennyd fechan gyd â chwi. Chwi a'm ceisiwch; ac megis y dywe­dais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddy­fod; yr ydwyf yn dywedyd wr­thych chwithau hefyd yr aw­ron.

34 Gorchymmyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch ei gilydd: fel y cerais i chwi, ar garu o honoch chwithau bawb ei gilydd.

35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai discyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad iw gilydd.

36 A Simon Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti yn myned? Yr Iesu a atte­bodd iddo, Lle yr ydwyfi yn my­ned, ni elli di yr awron fy nghan­lyn: eithr yn ôl hyn i'm canlyni.

37 Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa ham na allafi dy gan­lyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot.

38 Yr Iesu a attebodd iddo, A roddi di dy einioes drofof fi? Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.

PEN. XIV.

1 Christ yn cyssuro ei ddiscyblion â gobaith teyrnas nêf: 6 yn pro­ffessu mai efe yw 'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd; a i fôd yn vn â'r Tâd: 13 yn gwarantu y bydd ei gweddiau hwy yu ei enw ef yn ffrwythlawn: 15 yn dy­muno cariad, ac vfydd-dod: 16 yn addo yr Yspryd glân y Didda­nudd, 27 ac yn gadel ei dangne­ddyf gyd â hwynt.

NA thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finneu hefyd.

2 Yn nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoi lle i chwi.

3 Ac os myfi a âf, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymmeraf chwi attaf sy hun: fel lle yr wyfi, y byddoch chwithau hefyd.

4 Ac i ba le yr wyfi yn myned, chwi a wŷddoch, a'r ffordd a wŷ­ddoch.

5 Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wŷbod y ffordd?

6 Yr Iesu a ddy wedodd wrtho [Page] ef, Myfi yw 'r ffordd, a'r gwiri­onedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tâd, ond trwof fi.

7 Ped adnabasech fi, fy Nhâd hefyd a adnabasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwel­soch ef.

8 Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni.

9 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid adnabuost fi, Phi­lip: y neb a'm gwelodd i, a we­lodd y Tâd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tâd?

10 Onid wyt ti yn credu fy môd i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finneu? y geiriau yr wyfi yn eu llefaru wr­thych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tâd yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.

11 Credwch fi, fy môd i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finneu: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweith­redoedd eu hun.

12 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu y­nofi, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur, ynteu hefyd a'u gwnâ, a mwy nâ'r rhai hyn a wnâ efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhâd.

13 A pha beth bynnag a ofyn­noch yn fy enw i, hynny a wnaf: fel y gogonedder y Tâd yn y Mâb.

14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.

15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchymynnion.

16 A mi a weddiaf ar y Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddiddanudd a­rall, fel yr arhoso gyd â chwi yn dragywyddol:

17 Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i had­waenoch ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe.

18 Nis gadawaf chwi yn ym­ddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi.

19 Etto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy: eithr chwi a'm gwel­wch, canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.

20 Y dydd hwnnw y gwybydd­wch fy môd i yn fy Nhad, a chwi­thau ynofi, a minneu ynoch chwi­thau.

21 Yr hwn sydd am gorchy­mynnion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minneu a'i caraf ef, ac a'm he­gluraf fy hun iddo.

22 Dywedodd Judas wrtho, (nid yr Iscariot) Arglwydd, pa beth yw 'r achos yr wyt ar fedr dy eglur­hau dy hun i ni, ac nid i'r byd?

23 Yr Iesu a attebodd ac a ddy­wedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr yntef, a nyni a ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef.

24 Yr hwn nid yw yn fy ngha­ru i, nid yw yn eadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddofi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i.

25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gŷd â chwi.

26 Eithr y Diddanudd, yr Ys­pryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddŷsc i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i [Page] chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi.

27 Yr wyf yn gadel i chwi dangnheddyf, fy nhangneddyf yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi: nid fel y mae y bŷd yn rhoddi, yr wyfi yn rhoddi i chwi: na thralloder eich calon, ac nac ofned.

28 Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ym­maith, ac mi a ddeuaf attoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned. at y Tâd: canys y mae fy Nhâd yn fwy nâ myfi.

29 Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddel, y credoch.

30 Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynofi.

31 Ond fel y gwypo 'r bŷd fy môd i yn caru y Tâd, ac megis y gorch ymynnodd y Tâd i mi, fell y yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi ymma.

PEN. XV.

1 Y diddanwch, a'r caredigrwydd sydd rhwng Christ a'i aelodau, trwy ddammeg y winllan. 18 Cyssur mewn casineb, ac erlid by­dol. 26 Swydd yr Yspryd glân, a'r Apostolion.

MYfi yw y wîr win-wydden, a'm Tâd yw'r llafurwr.

2 Pôb cangen ynofi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phôb un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth.

3 Yr awron yr ydych chwi yn lân, trwy'r gair a leferais i wr­thych.

4 Arhoswch ynofi, a mi ynoch chwi: megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, o­nid erys yn y win-wydden: felly ni ellwch chwithau, onid arho­swch ynofi.

5 Myfi yw 'r win-wydden, chwithau yw 'r canghennau: yr hwn sydd yn aros ynofi, a minneu ynddo yntef, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid he­bofi ni ellwch chwi wneuthur dim.

6 Onid erys un ynofi efe a da­flwyd allan megis cangen, ac a wywodd, ac y maent yn eu casclu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a loscir.

7 Os arhoswch ynofi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac fe a fydd i chwi.

8 Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer; a discyblion fyddwch i mi.

9 Fel y carodd y Tâd fi, felly y cerais inneu chwithau: arhofwch yn fy nghariad i.

10 Os cedwch fy ngorchymy­nion, chwi a arhoswch yn fy nghariad: fel y cedwais i orchy­mynion fy Nhâd, ac yr wyf yn a­ros yn ei gariad ef.

11 Hyn a ddywedais wrthych. fel yr arhosei fy llawenydd, ynoch ac y byddei eich llawenydd yn gyflawn.

12 Dymma fy ngorchymyn i, ar i chwi garu ei gilydd, fel y ce­rais i chwi.

13 Cariad mwy nâ hwn nid oes gan neb, sef bôd i un roi [Page] ei einioes dros ei gyfeillion.

14 Chwy-chwi yw fy nghy­feillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchym­myn i chwi.

15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision: oblegid y gwas ni wŷr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gel­wais chwi yn gyfeillion, oblegid pôb peth a'r a glywais gan fy Nhâd, a yspysais i chwi.

16 Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosei eich ffrwyth, megis pa beth byn­nag a ofynnoch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.

17 Hyn yr wyf yn ei orchym­myn i chwi, garu o honoch ei gilydd.

18 Os yw'r bŷd yn eich casau chwi, chwi a wyddoch gasau o ho­naw fyfi o'ch blaen chwi.

19 Pe byddech o'r bŷd, y bŷd a garei 'r eiddo: ond oblegid nad ydych o'r bŷd, eithr i mi eich dewis allan o'r bŷd, am hyn­ny y mae 'r bŷd yn eich casâu chwi.

20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych, Nid yw 'r gwas yn fwy nâ'i Arglwydd: os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant,

21 Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn am hanfo­nodd i,

22 Oni bai fy nyfod a llesaru wrthynt, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt escus am ei pechod.

23 Yr hwn sydd yn fy ngha­sâu i, sydd yn casâu fy Nhâd he­fyd.

24 Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasei ar­nynt bechod, ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i, a'm Tâd hefyd.

25 Eithr fel y cyflawnid y gair sydd scrifennedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddi­achos.

26 Eithr pan ddêl y Didda­nudd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, ( sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn dei­lliaw oddi wrth y Tâd,) efe a dy­stiolaetha am danafi.

27 A chwithau hefyd a dysti­olaethwch, am eich bôd o'r de­chreuad gyd â mi.

PEN. XVI.

1 Christ yn cyssuro ei ddiscyblion yn erbyn blinder, trwy addewid o'r Yspryd glân, a thrwy ei Ailgyfo­diad, a i escyniad: 23 yn eu sic­crhau y bydd eu gweddiau hwy yn ei enw ef, yn gymmeradwy gan ei Dâd. 33 Tangneddyf ynghrist, ac yn y byd gorthrymder.

Y Pethau hyn a ddywedais i chwi fel na rwystrer chwi.

2 Hwy a'ch bwriant chwi a­llan o'r Synagogau: ac y mae 'r awr yn dyfod, y tybia pwy byn­nag a'ch lladdo, ei fôd yn gwneu­thur gwasanaeth i Dduw.

3 A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad aduabuant y Tâd, na myfi:

4 Eithr y pethau hyn a ddy­wedais [Page] i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreu­ad, am fy môd gyd â chwi.

5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned?

6 Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lan­wodd eich calon.

7 Ond yr wyfi yn dywedyd gwirionedd i chwi, buddiol yw i chwi fy myned i ymmaith: ca­nys onid â fi, ni ddaw y Didda­nudd attoch: eithr os mi a âf, mi a'i hanfonaf ef attoch.

8 A phan ddêl, efe a argyoedda y bŷd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn.

9 O bechod, am nad ydynt yn credu ynofi:

10 O gyfiawnder, am fy môd yn myned at fy Nhâd, ac ni'm gwelwch i mwyach:

11 O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd.

12 Y mae gennif etto lawer o bethau iw dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron.

13 Ond pan ddêl efe, sef Ys­pryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bôb gwirioned: canys ni lefara o honaw ei hun, ond pa be­thau bynnag a glywo, a lefara e­fe, a'r pethau sy i ddyfod a fyne­ga efe i chwi.

14 Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i my­nega i chwi.

15 Yr holl bethau sy eiddo 'r Tâd, ydynt eiddofi; o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddofi y cymmer, ac y mynega i chwi.

16 Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thrachefn ychydig en­nyd a chwi a'm gwelwch, am fy môd yn myned at y Tâd,

17 Am hynny y dywedodd rhai o'i ddiscyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddy­wedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch: a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwe­lwch: ac, Am fy môd yn myned at y Tâd.

18 Am hynny hwy a ddywe­dasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd: ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.

19 Yna y gwybu 'r Iesu eu bôd hwy yn ewyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymo­fyn yr ydych â'i gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thra­chefn ychydig ennyd a chwi a'm gwelwch.

20 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, chwi a wylwch, ac a ale­rwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawe­nydd.

21 Gwraig wrth escor, sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plentyn, nid yw hi yn cofio ei gofid mwy­ach, gan lawenydd geni dŷn i'r bŷd.

22 A chwithau am hynny y­dych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi dra­chefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.

23 A'r dydd hwnnw ni ofyn­nwch ddim i mi, Yn wîr, yn wîr, [Page] meddaf i chwi, pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tâd yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.

24 Hyd yn hyn ni ofyn nafoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

25 Y pethau hyn‘a leferais wr­thych mewn damhegion: eithr y mae yr awr yn dyfod, pan na lefar­wyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tâd.

26 Y dydd hwnnw y gofyn­nwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddiafi ar y Tâd trosoch:

27 Canys y Tâd ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.

28 Mi a ddaethym allan oddi wrth y Tâd, ac a ddaethym i'r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd, ac yn myned at y Tâd.

29 Ei ddiscyblion a ddyweda­sant wrtho, Wele, yr wyti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddammeg.

30 Yn awr y gwyddom y gwy­ddost bôb peth, ac nac rhaid it y­mofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot a­llan oddi wrth Dduw.

31 Yr Iesu a'u hattebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?

32 Wele, y mae yr awr yn dy­fod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwascerir chwi bôb un at yr ei­ddo, ac y gadewch fi yn unic: ac nid wyf yn unic, oblegid y mae y Tâd gyd â myfi.

33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangneddyf ynof; Yn y bŷd gorthrymder a gewch: eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y bŷd.

PEN. XVII.

1 Christ yn gweddio ar ei Dâd am ei ogoneddu ef, 6 am gadw ei A­postolion 11 mewn undeb, 17 a gwirionedd, 20 am eu gogone­ddu hwy, a'r holl ffyddloniaid e­raill gydâ hwynt, yn y nefoedd.

Y Pethau hyn a lefarodd yr Iesu: ac efe a gododd ei ly­gaid i'r nêf, ac a ddywedodd, y Tâd, daeth yr awr: gogonedda dy Fâb, fel y gogoneddo dy fab ditheu.

2 Megis y rhoddaist iddo aw­durdod ar bôb cnawd, fel an y cwbl a roddaist iddo, y rhoddei efe iddynt fywyd tragwyddol.

3 A hyn yw'r bywyd tragwy­ddol, iddynt dy adnabod di yr u­nic wir Dduw, a'r hwn a anfonai­sti Iesu Grist.

4 Mi a'th ogoneddais di ar y ddaiar: mi a gwplheais y gwaith a roddaist i mi iw wneuthur.

5 Ac yr awron, o Dâd, gogone­dda di fyfi gyd â thi dy hun, â'r gogoniant oedd i mi gyd â thi, cyn bôd y bŷd.

6 Mi a eglurais dy enw i'r dy­nion a roddaist i mi allan o'r bŷd: eiddot ti oeddynt, a thi a'i rho­ddaist hwynt i mi, a hwy a gad­wasant dy air di.

7 Yr awron y gwybuant, mai o­ddi wrthit ti y mae'r holl bethau a roddaist i mi:

8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: a hwy a'u derbyniasant, ac a wybu­ant [Page] yn wîr mai oddi wrthyt ti y daethym i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.

9 Trostynt hwy yr wyfi yn gwe­ddio: nid tros y bŷd yr wyf yn gweddio, ond tros y rhai a roddaist i mi; canys eiddoti ydynt.

10 A'r eiddofi oll sy eiddot ti, a'r eiddot ti sy eiddo fi: ac mi a o­goneddwyd yndynt.

11 Ac nid wŷf mwyach yn y bŷd, ond y rhai hyn sy yn y bŷd, a myfi sydd yn dyfod attat ti. Y Tâd sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a ro­ddaist i mi: fel y byddont un, me­gis ninnau.

12 Tra fum gyd â hwynt yn y bŷd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi a gedwais, ac ni chollwyd o honynt ond mâb y golledigaeth: fel y cyflawnid yr Scrythur.

13 Ac yr awron yr wyf yn dy­fod attat: a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y bŷd, fel y ca­ffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.

14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r bŷd a'u casaodd hwynt, oblegid nad ydynt o'r bŷd, megis nad ydwyf finneu o'r bŷd.

15 Nid wŷf yn gweddio ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r bŷd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.

16 O'r bŷd nid ydynt, megis nad wŷf fynnen o'r bŷd.

17 Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirio­nedd.

18 Fel yr anfonaist fi i'r bŷd, felly yr anfonais inn [...]u hwythau i'r bŷd:

19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y bont hwythau wedi eu sanctei­ddio yn y gwirionedd.

20 Ac nid wŷf yn gweddio dros y rhai hyn yn unic, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynofi, trwy eu hymadrodd hwynt.

21 Fel y byddont oll yn un: megis yr wyt ti y Tâd ynof fi, a minneu ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y cre­do y bŷd mai tydi a'm hanfo­naist i.

22 A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy, fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un.

22 Myfi ynddynt hwy, a thi­thau ynof fi, fel y bônt wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo 'r bŷd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt megis y ce­raist fi.

24 Y Tâd, y rhai a roddaist i mi, yr wŷf yn ewyllysio, lle yr wŷf fi, fôd o honynt hwythau hefyd gyd â myfi: fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi, oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y bŷd.

25 Ŷ Tâd cyfiawn, nid adnabu y bŷd dydi: eithr mi a'th adna­bûm, a'r rhai hyn a wŷbu mai ty­di a'm hanfonaist i.

26 Ac mi a yspysais iddynt dy enw, ac a'i hyspysaf: fel y by­ddo ynddynt hwy y cariad, â'r hwn y ceraist fi, a minneu yn­ddynt hwy.

PEN. XVIII.

1 Judas yn bradychu 'r Iesu, 6 y swyddogion yn syrthio i'r llawr [Page] 10 Petr yn torri clust Malchus. 12 Dal yr Iesu, a'i ddwyn at Annas, a Chaiaphas. 15 Petr yn gwadu Christ. 19 Holi'r Iesu ger bron Caiaphas. 28 A cher bron Pi­lat. 36 Ei deyrnas ef. 40 Yr Iddewon yn dymuno cael gollwng Barabbas yn rhydd.

GWedi i'r Jesu ddywedyd y rgeiriau hyn, efe a aeth allan, efe a'i ddiscyblion, tros afon Ce­dron, lle 'r oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i ddiscyblion.

2 A Iudas hefyd yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenei y lle: oblegid mynych y cyrchasei yr Ie­su a'i ddiscyblion yno.

3 Iudas gan hynny, wedi iddo gael byddyn, a swyddogion, gan yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid, a daeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.

4 Yr Iesu gan hynny yn gwybod pôb peth a oeddar ddy­fod arno, a aeth allan, ac a ddy­wedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?

5 Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Iudas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd he­fyd yn sefyll gyd â hwynt.

6 Er cynted gan hynny ac y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wŷsc eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.

7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddyweda­sant, Iesu o Nazareth.

8 Yr Iesu a attebodd, mi a ddywe­dais i chwi mai myfi yw: am hyn­ny os myfi yr ydych yn ei geisio, gedwch i'r rhai 'n fyned ymmaith:

9 Fel y cyflawnid y gair a ddy­wedasei efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i'r un.

10 Simon Petr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a darawodd wâs yr Arch-offei­riad ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef: ac enw y gwâs oedd Malchus.

11 Am hynny yr Iesu a ddywe­dodd wrth Petr, Dôd dy gleddyf, yn y wain: y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid ysaf ef?

12 Yna 'r fyddin, a'r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a dda­liasant yr Iesu, ac a'i rhwyma­sant ef,

13 Ac a'i dygasant ef at An­nas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaphas, yr hwn oedd Arch-o­ffeiriad y flwyddyn honno y­doedd efe.

14 A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasei i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw un dŷn tros y bobl.

15 Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu Simon Petr, a discybl arall: a'r discybl hwnnw oedd adnaby­ddus gan yr Arch-offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â'r Iesu, i lŷs yr Arch-offeiriad.

16 A Phetr a safodd wrth y drws allan, Yna y discybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Petr i mewn.

17 Yna y dywedodd y llangces oedd ddrysores wrth Petr, O­nid wyt titheu o ddiscyblion y dŷn hwn? Dywedodd yntef, Nac wŷf.

18 A'r gweision a'r swyddogi­on gwedi gwneuthur tân glo, o [Page] herwydd ei bôd hi yn oer, oe­ddynt yn sefyll, ac yn ymdwymno: ac yr oedd Petr gyd â hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymno.

19 A'r Arch-offeiriad a ofyn­nodd i'r Iesu am ei ddiscyblion, ac am ei athrawiaeth.

20 Yr Iesu a attebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y bŷd: yr oeddwn bôb amser yn athrawiaethu yn y Synagog, ac yn y Deml, lle mae 'r Iddewon yn ymgynnull bôb amser: ac yn ddir­gel ni ddywedais i ddim.

21 Pa ham yr wyti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a ŵyddant pa be­thau a ddywedais i.

22 Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, un o'r swyddogion, a'r oedd yn sefyll ger llaw, a ro­ddes gernod i'r Iesu, gan ddy­wedyd, Ai felly yr wyt ti yn at­teb yr Arch-offeiriad?

23 Yr Iesu a attebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o'r drwg; ac os da, pa ham yr wyt yn fy nharo i?

24 Ac Annas a'i hanfonasei ef yn rhwym at Caiaphas yr Arch­offeiriad.

25 A Simon Petr oedd yn se­fyll, ac yn ymdwymno: hwythau a ddywedasant wrtho, onid wyt ritheu hefyd o'i ddiscyblion ef? Yntef a wadodd, ac a ddywedodd, nac wŷf.

26 Dywedodd un o weision yr Arch-offeiriad, câr i'r hwn y tor­rasei Petr ei glust, Oni welais i di gŷd ag ef yn yr ardd?

27 Yna Petr a wadodd dra­chefn, ac yn y man y canodd y ceiliog.

28 Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaphas, i'r dableu-dŷ: a'r boreu ydoedd hi; ac nid ae­thant hwy i mewn i'r dadleu-dŷ, rhag eu halogi, eithr fel y gallent fwytta y Pasc.

29 Yna Pilat a aeth allan at­tynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dŷn hwn?

30 Hwy a attebasant, ac a ddy­wedasant wrtho, Oni bai fôd hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thra­ddodasem ni ef attat ti.

31 Am hynny y dywedodd Pi­lat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cy­fraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfraith­lon i ni lâdd nêb.

32 Fel y cyflawnid gair yr Ie­su, yr hwn a ddywedasei ef gan arwyddocau o ba angeu y byddei farw.

33 Yna Pilat a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon?

34 Yr Iesu a attebodd iddo; Ai o honot dy hun yr wyti yn dywe­dyd hyn, ai eraill ai dywedasant i ti am danafi?

35 Pilat a attebodd, Ai Iddew ydwyf fi? dy genedl dy hun, a'r Arch-offeiriaid, a'th draddoda­sant i mi: beth a wnaethost ti?

36 Yr Jesu a attebodd, Fy mren­hiniaeth i nid yw o'r bŷd hwn: pe o'r byd hwn y byddei fy mren­hiniaeth i, fy ngweision i a ym­drechent, fel na'm rhoddid i'r I­ddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi ymma.

37 Yna y dywedodd Pilat wrtho, wrth hynny ai brenin [Page] wyti? Yr Iesu a attebodd, yr yd­wyti yn dywedyd mai brenin wyf fi: er mwyn hyn i'm ganed, ac er mwyn hyn y daethym i'r bŷd, fel y tystiolaeth wn i'r gwirionedd: pôb vn a'r sydd o'r gwirionedd fydd yn gwrando fy llyferydd i.

38 Pilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nyd wyfi yn câel dim achos ynddo ef.

39 Eithr y mae gennwch chwi ddefod, i mi ollwng i chwi un ŷn rhydd ar y Pasc: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi frenint yr Idde­won?

40 Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas: a'r Barabbas hwnnw oedd leidr.

PEN. XIX.

1 Fflangellu Christ, a'i goroni â drain, a'i guro. 9 Pilat yn chwen­nych ei ollwng ef yn rhydd, etto wedi ei orchfygu gan lefain yr Iddewon, yn ei roddi ef i'w gro­es-hoelio. 23 Bwrw coel brennau ar ei ddillad ef. 26 Yntef yn gor­chymmyn ei fam i Joan, 28 ac yn marw. 31 Gwanu ei ystlys ef. 38 Joseph a Nicodemus yn ei gla­ddu ef.

YNa gan hynny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflange­llodd ef.

2 A'r mil-wŷr a blethasant go­ron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisc o bor­phor am dano:

3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon, ac a roe­sant iddo gernodiau.

4 Pilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wr­thynt, Wele yr wŷfi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wŷfi yn cael ynddo ef yn bai.

5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwein y goron ddrain, a'r wisc borphor. A Philat a ddywedodd wrthynt, Wele y dŷn.

6 Yna yr Arch-offeiriaid a'r swy­ddogion, pan welsant ef, a lefa­sant, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef a chroes-holiwch: canys nid wŷfi yn cael dim bai ynddo.

7 Yr Iddewon a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni, efe a ddylei farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fâb Duw.

8 A phan glybu Pilat yr yma­drodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy:

6 Ac a aeth drachefn i'r dad­leu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu atteb iddo.

10 Yna Pilat a ddywedodd wr­tho, Oni ddywedi di wrthif fi? oni wyddost di fôd gennyf awdur­dod i'th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd?

11 Yr Iesu a attebodd, Ni by­ddei i ti ddim awdurdod arnafi, oni bai ei fôd wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti sydd fwy ei be­chod.

12 O hynny allan y ceisiodd Pi­lat [Page] ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywe­dyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Caesar: pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn er­byn Caesar.

13 Yna Pilat pan glybu yr y­madrodd hwn, a ddug allan yr Iesu, ac a eisteddodd ar yr orsedd­faingc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebrew Gabbatha.

14 A darpar-wŷl y Pasc oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Idde­won, wele eich Brenin.

15 Eithr hwy a lefasant, Ym­maith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilat a ddywe­dodd wrthynt, A groes-hoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r Arch-offei­riaid a attebasant, Nid oes i ni fre­nin ond Caesar.

16 Yna gan hynny, efe a'i tra­ddodes ef iddynt i'w groes-hoelio: a hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymmaith.

17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid lle 'r Benglog, ac a elwir yn Hebrew Golgotha.

18 Lle y croes-hoeliasant ef, a dau eraill gyd ag ef, vn o bôb tu, a'r Iesu yn y canol.

19 A Philat a scrifennodd ditl, ac a'i dododd ar y groes. A'r scri­fen oedd, IESU O NAZARETH, BRENIN YR IDDEWON.

20 Y titl hwn gan hynny a ddarllennodd llawer o'r Iddewon: oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croes-hoeliwyd yr Iesu, ac yr oedd wedi ei scrifennu yn He­brew, Groeg, a Lladin.

21 Yna Arch-offeiriaid yr Idde­won a ddywedasant wrth Pilat, Na scrifenna, Brenin yr Iddewon, eithr dywedyd o hono ef, Brenin yr Iddewon ydwyfi.

22 Pilat a attebodd, Yr hyn a scrifennais, a scrifennais.

23 Yna 'r mil-wŷr wedy iddynt groes-hoelio yr Iesu, a gymmera­sant ei ddillad ef, (ac a wnaethant bedair rhan, i bôb milwr ran) a'i bais ef hefyd: a'i bais ef oedd ddi­wniad, wedi ei gwau o'r cwr vchaf trwyddi oll.

24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau am de­ni, eiddo pwy sydd hi: fel y cy­flawnid yr Scrythur sydd yn dy­wedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysc, ac am fy mhais y bwria­sant goel-brennau. A'r mil-wŷr a wnaethant y pethau hyn.

25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleophas, a Mair Fagdalen.

26 Yr Iesu gan hynny pan we­lodd ei fam, a'r discybl, yr hwn a garei efe, yn sefyll ger llaw, a ddy­wedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.

27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y discybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan, y cymmerodd y discybl hi iw gartref.

28 Wedi hynny yr Iesu yn gwŷbod fôd pôb peth wedi ei or­phen weithian, fel y cyflawnid yr Scrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.

29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: a hwy a lanwasant yspwrn o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch ysop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.

30 Yna pan gymmerodd yr Iesu [Page] y finegr, efe a ddywedodd, Gor­phennwyd; a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr ys­pryd.

31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoei y cyrph ar y groes ar y Sabbath, o herwydd ei bôd yn ddarpar-wŷl, (canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw) a ddeisy­fiasant ar Pilat, gael torri eu he­sceiriau hwynt, a'u tynnu i lawr.

32 Yna y mil-wŷr a ddaethant, ac a dorrasant esceiriau y cyntaf, a'r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef:

33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef:

34 Ond un o'r mil-wŷr a wa­nodd ei ystlys ef â gwaywffon, ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.

35 A'r hwn a'i gwelodd a dy­stiolaethodd, a gwîr yw ei dystio­laeth: ac efe a wŷr ei fôd yn dy­wedyd gwîr, fel y credoch chwi.

36 Canys y pethau hyn a wna­ethpwyd, fel y cyflawnid yr Scry­thur, Ni thorrir ascwrn o honaw.

37 A thrachefn, Scrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edry­chant ar yr hwn a wanasant.

38 Ac yn ôl hyn, Joseph o A­rimathæa, (yr hwn oedd ddis­cybl i'r Iesu, eithr yn guddiedig rhag ofn yr Iddewon) a ddeisy­fiodd ar Pilat gael tynnu i lawr gorph yr Iesu. A Philat a ganiad­hâodd iddo. Yna y daeth efe, ac a ddug ymmaith gorph yr Iesu.

39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethei at yr Iesu o hyd nôs) ac a ddug myrr ac aloes ynghymmysc, tua chan­pwys.

40 Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn llieiniau gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.

41 Ac yn y fangre lle y croes­hoeliasid ef, yr oedd gardd, a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dŷn erioed.

42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar-wŷl yr Iddewon, am fôd y bedd hwnnw yn agos, y rhodda­sant yr Iesu.

PEN. XX.

1 Mair yn dyfod at y bedd, 2 A Phetr hefyd ac Joan heb wybod adgyfodi o'r Jesu. 11 Yr Iesu yn ymddangos i Mair Magdalen, 19 Ac iw ddiscyblion. 24 Anghre­diniaeth, a chyffes Thomas. 30 Bôd yr Scrythur lân yn ddigonol i iechydwriaeth.

Y Dydd cyntaf o'r wythnos; Mair Magdalen a ddaeth y boreu, a hi etto yn dywyll, at y bedd, ac a weles y maen wedi ei dynnu ymmaith oddi ar y bedd.

2 Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a'r discybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymmaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.

3 Yna Petr a aeth allan, a'r discybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd.

4 Ac a redasant ill dau ynghyd: a'r discybl arall a redodd o'r blaen, yn gynt nâ Phetr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.

Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y ilieiniau wedi eu gosod: [Page] er hynny nid aeth efe i mewn.

6 Yna y daeth Simon Petr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac a ganfu y llieiniau wedi eu gosod:

7 A'r napcin a fuasei am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyd â'r lliei­niau, ond o'r nailltu, wedi ei bly­gu mewn lle arall.

8 Yna yr aeth y discybl arall he­fyd i mewn, yr hwn a ddaethei yn gyntaf at y bedd, ac a welodd, ac a gredodd.

9 Canys hyd yn hyn ni wŷddent yr Scrythur, fôd yn rhaid iddo gyfodi o feirw.

10 Yna y discyblion a aethant ymmaith drachefn at yr eiddynt.

11 Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wŷlo, hi a ymostyn­godd i'r bedd;

12 Ac a ganfu ddau Angel mewn gwiscoedd gwynion yn ei­stedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corph yr Iesu.

13 A hwy a ddywedasant wr­thi, O wraig, pa ham yr wyti yn wŷlo? Hithau a ddywedodd wr­thynt, Am ddwyn o honynt hwy fy Arglwydd i ymmaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef.

14 Ac wedi dywedyd o honi hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac ni's gwyddei hi mai yr Iesu oedd efe.

15 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig pa ham yr wyti yn wŷlo? pwy yr wyti yn ei geisio? Hitheu yn tybied mai 'r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syre, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymme­raf ef ymmaith.

16 Yr Iesu a ddywedodd wr­thi, Mair. Hitheu a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athro.

17 Yr Iesu a ddywedodd wr­thi, Na chyffwrdd â mi: (oblegid ni dderchefais i etto at fy Nhâd) eithr dôs at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wŷf yn derchafu at fy Nhâd i, a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i, a'ch Duw chwithau.

18 Mair Magdalen a ddaeth, ac a fynegodd i'r discyblion, weled o honi hi yr Arglwydd, a dywedyd o honaw y pethau hyn iddi.

19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead, lle yr oedd y dis­cyblion wedi ymgasclu ynghyd, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu ac a safodd yn y canôl, ac a ddywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi.

20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo, a'i ystlys. Yna 'r discybli­on a lawenychasant, pan welsant yr Arglwydd.

21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangneddyf i chwi: megis y danfonodd y Tâd fi, yr wŷf finneu yn eich danfon chwi.

22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyni­wch yr Yspryd glân.

23 Pwy bynnac y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac, a attalioch, hwy a attaliwyd.

24 Eithr Thomas, un o'r deu­ddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt, pan dda­eth yr Iesu.

25 Y discyblion eraill gan hyn­ny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntef a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoe­lion, a dodi fy mŷs yn ôl yr hoe­lion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.

26 Ac wedy wyth niwrnod, drachefn yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Yna yr Iesu a ddaeth a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangneddyf i chwi.

27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys: ac na fydd anghredadyn, ond creda­dyn.

28 A Thomas a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw.

29 Yr Iesu a ddywedodd wr­tho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.

30 A llawer hefyd o arwyddi­on eraill a wnaeth yr Iesu yng­wŷdd ei ddiscyblion, y rhai nid ydynt scrifennedig yn y llyfr hwn.

31 Eithr y pethau hyn a scri­fennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Christ, Mab Duw, a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.

PEN. XXI.

1 Ei ddiscyblion yn adnabod Christ ar ei ail ymddangosiad, wrth y ddalfa fawr o byscod. 12 Yntef yn ciniawa gyd â hwynt: 15 Yn rhoddi gorchymmyn mawr ar Petr, iborthi ei ŵyn ef a'i dde­faid, 18 yn ei rybuddio ef o'i far­wolaeth. 22 yn ceryddu ei bry­surdeb ef ynghylch Joan. 25 Y diben.

GWedi y pethau hyn yr Iesu a ymddangosodd drachefn iw ddiscyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymdangosodd.

2 Yr oedd ynghyd Simon Petr a Thomas, yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilæa, a meibion Zebedaeus, a dau eraill o'i ddiscyblion ef.

3 Dywedodd Simon Petr wr­thynt, Yr wyfi yn myned i bys­cotta. Dywedasant wrtho, Yr y­dym ninnau hefyd yn dyfod gyd â thi. A hwy a aethan allant, ac a ddringasant i long yn y man: ar nôs honno ni ddaliasant ddim.

4 A phan ddaeth y boreu wei­thian, safodd yr Iesu ar y lan: eithr y discyblion ni wyddent mai'r Iesu ydoedd.

5 Yna yr Iesu a ddywedodd wr­thynt, O blant, a oes gennwch ddim bwyd? Hwythau a atteba­sant iddo, Nac oes.

6 Yntef a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu dehau i'r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny, ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pyscod.

7 Am hynny y discybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu, a ddy­wedodd wrth Petr, yr Arglwydd yw. Yna Simon Petr pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregy­sodd ei amwisc, (canys noeth oedd efe) ac a'i bwriodd ei hun i'r môr.

8 Eithr y discyblion eraill a [Page] ddaethant mewn llong, (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd) dan lusco y rhwyd a'r pyscod,

9 A chyn gynted ac y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physcod wedi eu dodi arno, a bara.

10 Yr Iesu a ddywedodd wr­thynt, Dygwch o'r pyscod a dda­liasoch yr awron.

11 Simon Petr a escynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o byscod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bôd cymmaint, ni thorrodd y rhwyd.

12 Yr Iesu a ddywedodd wr­thynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiei nêb o'r discyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bôd yn gwŷbod mai yr Arglwydd oedd.

13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymmerth fara, ac a'i rhoddes i­ddynt, a'r pyscod yr un môdd.

14 Y drydedd waith hyn yn awr, yr ymddangosodd yr Iesu iw ddiscyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.

15 Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon mâb Iona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ'r rhai hyn? Dywedodd yntef wrtho, Ydwyf Arglwydd; ti a wŷddost fy môd yn dy garu di. Dywedodd ynteu wrtho, Portha fy wŷn.

16 Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mâb Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntef wrtho, Yd­wyf Arglwydd: ti a wŷddost fy môd yn dy garu di. Dywedodd ynteu wrtho, Bugeilia fy nefaid.

17 Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon mâb Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Petr a dristaodd am iddo ddywedyd wr­tho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bôb peth; ti a wŷddost fy môd i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywe­dodd wrtho, Portha fy nefaid.

18 Yn wîr, yn wîr meddaf i ti: pan oeddit ieuangach, ti a'th wre­gysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hên, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a'th wregysa, ac a'th arwain lle ni fynnit.

19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo drwy ba fath an­geu y gogoneddei efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.

20 A Phetr a drôdd, ac a we­lodd y discybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn: yr hwn he­fyd a bwysasei ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedasei, Pwy, Arglwydd, yw yr hwn a'th frady­cha di?

21 Pan welodd Petr hwn, efe a ddywedodd wrrh yr Iesu, Ar­glwydd, ond beth a wna hwn?

22 Yr Iesu a ddywedodd wr­tho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth yw hynny i ti? can­lyn di fy-fi.

23 Am hynny yr aeth y gair ymma allan ym mhlith y brodyr, na fyddei y discybl hwnnw farw: ac ni ddywedasei yr Iesu wrtho, na fyddei efe farw: ond, Os myn­naf iddo aros hyd oni ddelwŷf, beth yw hynny i ti?

24 Hwn yw'r discybl sydd yn tystiolaethu am y pethan hyn, ac [Page] a scrifennodd y pethau hyn: ac ni a wyddom fôd ei dystiolaeth ef yn wîr.

25 Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped yscrifennid hwy bôb yn un ac un, nid wŷf yn tybied y cynhwysei y bŷd y llyfrau a scri­fennid. Amen.

ACTAU NEU WEITHREDOEDD YR APOSTOLION.

PEN. I.

1 Christ er mwyn paratoi ei Apo­stolion i weled ei dderchafiad ef, yn eu casclu hwy ynghyd i fy­nydd yr Olewydd, ac yn gorchym­myn iddynt ddisgwyl yn Jerusa­lem am ddanfon yr Yspryd glân, ac yn addo cyn nemmawr o ddy­ddiau ei anfon ef; trwy rinwedd yr hwn y byddynt yn dystion iddo ef hyd eithafoedd y ddaiar. 9 Ar ôl ei ymdderchafiad ef, y mae dau An­gel yn eu rhybuddio hwy i ymadel, ac i roddi eu meddyliau ar ei ail ddyfodiad ef. 12 Hwythau felly yn dychwelyd, a chan ymroi i we­ddi, yn dewis Matthias yn Apostol yn lle Judas.

Y Traethawd cyntaf a wnae­thum, o Theophilus, am yr holl bethau a ddech­reuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dyscu,

2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i synu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân reddi gorchymynnion i'r Apostolion a etholasei.

3 I'r rhai hefyd yr ymddango­sodd efe yn fyw wedi iddo ddio­ddef, trwy lawer o arwyddion [...]eer, gan fôd yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, a dywe­dyd y pethau a berthynent i deyr­nas Dduw.

4 Ac wedi ymgynnull gyd â hwynt, efe a orchymynnodd i­ddynt nad ymadawent o Ierusa­lem, eithr disgwyl am addewid y Tâd, yr hwn eb efe a glywsoch gennyfi.

5 Oblegid Ioan yn ddiau a fedy­ddiodd â dwfr, ond chwi a fedy­ddir â'r Yspryd glân, cyn nem­mawr o ddyddiau.

6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a'i 'r pryd hyn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?

7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wŷbod yr am­seroedd, na'r prydiau, y rhai a o­sodes y Tâd yn ei feddiant ei hun:

8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Yspryd glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dysti­on i mi yn Ierusalem, ac yn holl Iudæa, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaiar.

9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt hwy yn e­drych, efe a dderchafwyd i fynu: a chwmmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.

10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua 'r nêf, ac efe yn my­ned i fynu, wele dau ŵr a safodd ger llaw iddynt, mewn gwisc wen:

11 Y rhai hefyd a ddyweda­sant, Chwi wŷr o Galilæa, pa ham y sefwch yn edrych tu a'r nêf? yr Iesu hwn, yr hwn a gymmer­wyd i fynu oddi wrthych i'r nêf, a ddaw felly yn yr un môdd ac y gwelsoch ef yn myned i'r nêf.

12 Yna y troesant i Ierusalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Ierusalem, sef taith diwrnod Sabbath.

13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fynu i oruch-sta­fell, lle yr oedd Petr ac Iacob, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Tho­mas, Bartholomew, a Matthew, Iaco mab Alphaeus, a Simon Ze­lotes, a Iudas brawd Iaco, yn aros.

14 Y rhai hyn oll oedd yn par­hau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyd â'r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyd â'i frodyr ef.

15 Ac yn y dyddiau hynny Petr a gyfododd i fynu ynghanol y discyblion, ac a ddywedodd; (a nifer yr henwau yn yr un man oedd ynghylch ugain a chant.)

16 Ha-wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr Scrythur ymma a rag-ddywedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd, am Iudas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddalia­sant yr Iesu:

17 Canys efe a gyfrifwyd gyd â ni, ac a gawsei ran o'r weinido­gaeth hon.

18 A hwn a bwreasodd faes â gwobr anwiredd, ac wedi ymgro­gi, a dorrodd yn ei ganol: a'i holl ymyscaroedd ef a dywalltwyd a­llan.

19 A bu hyspys hyn i holl bresswyl-wŷr Jerusalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, maes y gwaed.

20 Canys scrifennwyd yn llyfr y Psalmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na bydded a drigo ynddi: A chymmered arall ei escobaeth ef.

21 Am hynny mae yn rhaid, o'r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Ar­glwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,

22 Gan ddechreu o fedydd Joan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fy­nn oddi wrthym ni; bod un o'r rhai hyn gyd â ni, yn dŷst o'i ad­gyfodiad ef.

23 A hwy a osodasant ddau ger bron, Joseph yr hwn a henwid Bar­sabas, ac a gyfenwyd Justus, a Mat­thias:

24 A chan weddio, hwy a ddy­wedasant, Tydi Arglwydd, yr hwn a wŷddost galonnau pawb, dangos pa un ô'r ddau hyn a etholaist,

15 I dderbyn rhan o'r weinido­gaeth hon, a'r Apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Judas, i fyned iw le ei hun.

26 A hwy a fwriasant eu coel­brennau hwynt: ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gy­frifwyd gyd â'r un Apostol ar ddeg.

PEN. II.

1 Yr Apostolion wedi eu llenwi â'r Yspryd glân, yn lle faru ag amryw dafodau, a rhai yn rhyfeddu o'i plegid, ac eraill yn eu gwatwar: 14 A Phetr yn eu hargyoeddi hwy, ac yn dangos fôd yr Apostolion yn llefaru trwy nerth yr Yspryd glân, [Page] a bôd yr Jesu wedi cyfodi oddi­wrth y meirw, a derchafu i'r ne­foedd, a thywallt o hono yr Yspryd glân, ac mai efe oedd y Messias, gŵr a wyddent hwy ei fôd yn bro­fedig gan Dduw, trwy ei wrthiau, a'i ryfeddodau, a'i arwyddion, a chwedi ei groes-hoelio, nid heb ei derfynedig gyngor, a'i rag-wybo­daeth ef: 37 Petr yn bedyddio llawer o'r rhai a droesid. 41 Y rhai wedi hynny sydd yn cyttal yn dduwiol ac yn gariadus: yr Apostolion yn gwneuthur gwrthiau lawer, a Duw beunydd yn chwanegu ei Eglwys.

AC wedi dyfod dydd y Pente­cost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle.

2 Ac yn ddisymmwth y daeth sŵn o'r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ, lle yr oeddynt yn eistedd.

3 Ac ymddangosodd iddynt da­fodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bôb un o ho­nynt.

4 A hwy oll a llanwyd â'r Ys­pryd glân, ac a ddechreuasant le­faru â thafodau eraill, megis y rho­ddes yr Yspryd iddynt ymadrodd.

5 Ac yr oedd yn trigo yn Jeru­salem, Iddewon, gwŷr bucheddol o bôb cenedl dan y nêf.

6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a dra­llodwyd, o herwydd bôd pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.

7 Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddy­wedyd wrth ei gilydd, wele onid Galilæaid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru?

8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt, bôb un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon i'n ga­ned ni?

9 Parthiaid, a Mediaid, ac E­lamitiaid, a thrigolion Mesopota­mia, a Judæa, a Chappadocia, Pontus, ac Asia:

10 Phrygia, a Phamphilia, yr Aipht, a pharthau Libya, yr hon sydd ger llaw Cyrene: a dieithri­aid o Rufein-wŷr, Iddewon a phroselytiaid.

11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein iaith ni, fawrion weithredoedd Duw.

12 A synnasant oll, ac a ammheu­asant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fôd?

13 Ac eraill gan watwar a ddy­wedasant, llawn o wîn melus y­dynt.

14 Eithr Petr yn sefyll gyd â'r un ar ddeg, a gyfododd ei lefe­rydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded yspysol hyn i chwi, a chlust-ym-wrandewch â'm geiriau.

15 Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon, fei yr ydych chwi yn tybied, (oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.)

16 Eithr hyn yw y peth a ddy­wedpwyd trwy y Prophwyd Joel,

17 A bydd yn y dyddiau diwe­ddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hyspryd ar bôb cnawd: a'ch mei­bion chwi, a'ch merched a broph­wydant, a'ch gwŷr ieuaingc a we­lant weledigaethau, a'ch hynaf­gwŷr a freuddwydiant freuddwy­dion:

18 Ac ar fy ngweision, ac ar fy llaw-forwynion, y tywalltaf [Page] o'm Hyspryd yn y dyddiau hyn­ny a hwy a brophwydant,

19 Ac mi a roddaf ryfeddodau yn y nêf uchod, ac arwyddion yn y ddaiar isod, gwaed, a thân, a tharth mŵg.

20 Yr haul a droir yn dywy­llwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.

21 A bydd, pwy bynnac a alwo ar Enw yr Arglwydd, a fydd cad­wedig.

22 Ha-wŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu o Nazareth, gŵr profedig gan Duw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd, a rhyfeddodau, ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ac y gwyddoch chwithau,

23 Hwn wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhag-wybo­daeth Duw, a gymmerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groes­hoeliasoch, ac a laddasoch.

24 Yr hwn a gyfodes Duw, gan ryddhau gofidiau angeu: canys nid oedd bossibl ei attal ef ganddo.

25 Canys Dafydd sydd yn dy­wedyd am dano, Rhag-welais yr Arglwydd ger fy mron yn oestad, canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm yscoger.

26 Am hynny y llawenhaodd fy nghalon, ac y gorfoleddod fy nhafod; ie, a'm cnawd hefyd a orphywys mewn gobaith,

27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i'th Sanct we­led llygredigaeth.

28 Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd y bywyd: ti a'm cyflawni o lawenydd â'th, wyneb-pryd.

29 Ha-wŷr frodyr, y mae yn rhydd i mi ddywedyd yn hŷ wr­thych, am y Patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyd â ni hyd y dydd hwn.

30 Am hynny, ac efe yn Bro­phwyd, yn gwŷbod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd y cy­fodei efe Grist, i eistedd ar ei or­feddfa ef.

31 Ac efe yn rhag-weled a le­faroddd am adgyfodiad. Christ, na adawyd ei enaid ef yn u­ffern, ac na's gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth.

32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu, o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.

33 Am hynny wedi ei dder­chafu ef drwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tâd, yr a­ddewid o'r Yspryd glân, efe a dy­walltodd y peth ymma yr ydych chwi yr awron yn ei weled, ac yn ei glywed.

34 Oblegid ni dderchafodd Dafydd i'r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Ar­glwydd a ddywedodd wrth fy Ar­glwydd, Eistedd ar fy neheu-law,

35 Hyd oni osodwyf dy elyni­on yn droed-faingc i'th draed.

36 Am hynny, gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groes­hoeliasoch chwi.

37 Hwythau wedi clywed hyn, a ddwys-bigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Petr, a'r A­postolion eraill, Ha-wyr frodyr, beth a wnawn ni?

38 A Phetr, a ddywedodd wr­thynt, [Page] Edifarhewch, a bedyddier pôb un o honoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau: a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd glân.

39 Canys i chwi y mae yr a­ddewid, ac i'ch plant, ac i bawb ym-mhell, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni atto.

40 Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd, ac y cyng­horodd efe, gan ddywedyd, Ym­gedwch rhag y genhedlaeth dro­faus hon.

41 Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar, a fedy­ddiwyd: a chwanegwyd attynt y dwthwn hwnnw, ynghylch tair mil o eneidiau.

42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac ynghymdeithas yr Apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddiau.

43 Ac ofn a ddaeth ar bôb e­naid: a llawer o ryfeddodau, ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr Apostolion.

44 A'r rhai a gredent oll oe­ddynt yn yr un man, a phôb peth ganddynt yn gyffredin:

45 A hwy a werthasant eu me­ddiannau a'u da, ac a'u rhanna­sant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb.

46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y Deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymmerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a sym­ledd calon:

47 Gan foli Duw, a chael ffa­for gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr E­glwys y rhai fyddent gadwedig.

PEN. III.

1 Petr wrth bregethu i'r bobl a ddaethei i weled y clôff a roesid âr ei draed, 12 yn proffessu nad trwy ei rym a'u dduwioldeb ef, neu Io­an, y gwnaethid ef yn iâch, ond trwy Dduw, a'i fâb Iesu, a thrwy ffydd yn ei Enw ef: 13 gan eu ceryddu hwy hefyd am groes-hoelio yr Iesu. 17 Yr hyn beth gan i­ddynt ei wneuthur mewn anwy­bod, ac wrth hynny gyflawni ter­fynedic gyngor Duw, ar Scrythy­rau: 19 Y mae efe yn eu hannog hwy trwy edifeirwch a ffydd, i gei­sio maddeuant o'i pechodau, ac iechydwriaeth yn yr unrhyw Iesu.

PEtr hefyd ac Ioan a aethant i fynu i'r Deml ynghyd, ar yr awr weddi, sef y nawfed:

2 A rhyw ŵr clôff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y Deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn e­lusen gan y rhai a elai i mewn i'r Deml.

3 Yr hwn, pan welodd ef Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ddeisyfiodd gael elusen.

4 A Phetr yn dal sulw arno gyd ag Ioan, a ddywedodd, Edrych ar­nom ni.

5 Ac efe a ddaliodd sulw ar­nynt, gan obeithio cael rhyw beth ganddynt.

6 Yna y dywedodd Petr, Ari­an ac aur nid oes gennif; eithr yr hyn sydd gennif, hynny yr wŷf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nazareth cyfod a rhodia.

7 A chan ei gymmeryd ef er­byn ei ddeheu-law, efe a'i cyfo­dodd ef i fynu: ac yn ebrwydd ei draed ef a'i fferau a gadarnhawyd:

8 A chan neidio i fynu, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyd [Page] a hwynt i'r Deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw.

9 A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.

10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen, wrth borth prydferth y Deml: a hwy a lan­wyd o fraw a synnedigaeth am y peth a ddigwyddasei iddo.

11 Ac fel yr oedd y cloff a ia­chasid yn attal Petr ac Ioan, yr holl bobl, yn frawychus, a gyd-redodd attynt, i'r porth a elwir porth So­lomon.

12 A phan welodd Petr, efe a attebodd i'r bobl, Ha wŷr Israe­liaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a w­newch chwi yn dal sulw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun, neu ein duwioldeb, y gwnaethem i hwn rodio?

13 Duw Abraham, ac Isaac, ac Jacob, Duw ein tadau ni, a o­goneddodd ei Fâb Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwada­soch ger bron Pilat, pan farnodd efe ef iw ollwng yn rhydd.

14 Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfia­soch roddi i chwi ŵr llofruddiog.

15 A thywysog y bywyd a la­ddasoch, yr hwn a godes Duw o feirw, o'r hyn yr ydym ni yn dy­stion.

16 A'i Enw ef, trwy ffydd yn ei Enw ef, a nerthodd y dyn ym­ma a welwch, ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd drwy­ddo ef, a roes iddo ef yr holl­iechyd hwn, yn eich gwydd chwi oll:

17 Ac yn awr frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnae­thoch, megis y gwnaeth eich pen­defigion chwi hefyd.

18 Eithr y pethau a rag-fyne­godd Duw trwy enau ei holl Bro­phwydi, y dioddefei Christ, a gy­flawnodd efe fel hyn.

19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y delcer eich pe­chodau, pan ddelo yr amseroedd i orphywys o olwg yr Arglwydd:

20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi.

21 Yr hwn sydd raid i'r nêf ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw drwy enau ei holl sanctaidd Brophwydi, erioed.

22 Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Brophwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ymmhôb peth a ddywetto wrthych.

23 A bydd, pob enaid ni wran­dawo ar y Prophwyd hwnnw, a lwyr-ddifethir o blith y bobl.

24 A'r holl Brophwydi hefyd o Samuel, ac o'r rhai wedi, cyn­nifer ac a lefarasant, a rag-fynega­sant hefyd am y dyddiau hyn.

25 Chwychwi ydych blant y Prophwydi, a'r cyfammod, yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy hâd ti y bendithir holl dylwythau y ddaiar.

26 Duw gwedi cyfodi ei fab Iesu, a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un o honoch ymmaith oddi-wrth eich dry­gioni.

PEN. IV.

1 Llywodraethwyr yr Iddewon yn anfodlon i bregeth Petr, 4 (er troi miloedd i'r ffydd o'r bobl a glyw­sent y gair,) ac yn ei garcharu ef, ac Ioan. 5 Wedi hynny Petr wrth ei holt, yn dywedyd yn hyderus, mai trwy Enw yr Iesu yr iacha­sid y cloff, ac mai trwy Iesu yn u­nic y bydd rhaid i ninnau gael ie­chydwriaeth dragwyddol: 13 hwy­thau yn gorchymmyn iddo ef ac i Ioan, na phregethent mwyach yn yr enw hwnnw, ac yn eu bygwth hwy. 23 Yr Eglwys ar hynny yn ymroi i weddio: 31 A Duw trwy gynnhyrfu y lle 'r oeddent wedi ymgynnull ynddo, yn tystiolaethu glywed o hono ef eu gweddi hwynt: ac yn cadarnhau yr E­glwys trwy roddi yr Yspryd glân, a chariad perffaith tuac at ei gi­lydd.

AC fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a blaenor y Deml, a'r Saducæaid, a ddaethant arnynt hwy:

2 Yn flin ganddynt am eu bôd hwy yn dyscu y bobl, ac yn pre­gethu trwy yr Iesu, yr adgyfodiad o feirw.

3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a'u dodasant mewn dalfa, hyd trannoeth, canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.

4 Eithr llawer o'r rhai a glyw­sant y gair a gredasant, a rhifedi y gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.

5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraeth-wŷr hwy, a'r Henuriaid, a'r Scrifen­nyddion, ymgynnull i Jerusa­lem.

6 Ac Annas yr Arch-offeiriad, a Chaiaphas, ac Ioan, ac Alexan­der, a chymmaint ac oedd o ge­nedl yr Arch-offeiriaid.

7 Ac wedi iddynt eu gosodd hwy yn y canol, hwy a ofynna­sant; trwy ba awdurdod, neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?

8 Yna Petr, yn gyflawn o'r Yspryd glân, a ddywedodd wr­thynt, chwy-chwi Bennaethiaid y bobl, a Henuriaid Israel:

9 Od ydys yn ein holi ni he­ddyw am y weithred dda i'r dŷn clâf, sef pa wedd yr iachawyd ef.

10 Bydded hyspys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.

11 Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi yr adeiladwŷr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.

12 Ac nid oes iechydwriaeth yn neb arall: canys nid oes e­nw arall tan y nef, wedi ei roddi ymmhlith dynion, drwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fôd yn gad­wedig.

13 A phan welsant hyfder Pe­tr ac Ioan, a deall mai gwŷr an­llythyrennog, ac annyscedig oe­ddynt, hwy a ryfeddasant. A hwy a'i adwaenent, eu bod hwy gyd â'r Iesu.

14 Ac wrth weled y dŷn a ia­chasid, yn sefyll gyd â hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywe­dyd yn erbyn hynny.

15 Eithr wedi gorchymmyn i­ddynt [Page] fyned allan o'r gynghor­fa, hwy a ymgynghorasant â'i gilydd,

16 Gan ddywedyd, beth a w­nawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hyspys i bawb a'r sydd yn presswylio yn Jerusa­lem, ac nis gallwn ni ei wadu.

17 Eithr fel na's taner ym­mhellach ymmhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na le­faront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.

18 A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orchymynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddyscent yn enw'r Iesu.

19 Eithr Petr ac Ioan a atteba­sant iddynt ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wran­do arnoch chwi yn hyttrach nag ar Dduw? bernwch chwi.

20 Canys ni allwn ni na ddy­wedom y pethau a welsom, ac a glywsom.

21 Eithr wedi eu bygwth ym­mhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cospi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.

22 Canys yr oedd y dŷn uwch­law deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o ie­chydwriaeth.

23 A hwythau wedi eu go­llwng ymmaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasei yr Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid wr­thynt.

24 Hwythau pan glywsant, o un-frŷd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, ô Ar­glwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnaethost y nêf, a'r ddaiar, a'r môr, ac oll sydd ynddynt:

25 Yr hwn trwy yr Yspryd glân. yngenau dy wâs Dafydd, a ddy­wedaist, pa ham y terfyscodd y Cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?

26 Brenhinoedd y ddaiar a s [...] ­fasant i fynu, a'r llywodraeth­wŷr a ymgasclasant yngh ŷd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynhu­llodd yn erbyn dy Sanct Fâb Iesu, yr hwn a enneiniaisti, Herod a Phontius Pilat, gyd â'r Cenhed­loedd, a phobl Israel:

28 I wneuthur pa bethau byn­nag a ragluniodd dy law a'th gyn­gor di, eu gwneuthur.

29 Ac yn awr, Arglwydd, e­drych ar eu bygythion hwy, a cha­niadhâ i'th weision draethu dy air di gyd â phôb hyfder:

30 Trwy estyn o honot dy law i iachâu, ac fel y gwneler arwy­ddion a rhyfeddodau, trwy enw dy sanctaidd Fâb Iesu.

31 Ac wedi iddynt weddio, sig­lwyd y lle yr oedd ynt wedi ym­gynnull ynddo, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd glân; a hwy a lefa­rasant air Duw yn hyderus.

32 A lliaws y rhai a gredasent oedd o un galon, ac un enaid, ac ni ddywedodd neb o honynt, sod dim ar a feddei, yn eiddo ei hu­nan, eithr yr oedd ganddynt bôb peth yn gyffredin.

33 A'r Apostolion, trwy nerth mawr, a roddasant dystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a grâs mawr oedd arnynt hwy oll.

34 Canys nid oedd un ang­henus yn eu plith hwy, oblegid cynnifer ac oedd berchen tir­oedd neu dai, au gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,

35 Ac a'i gosodasant wrth draed yr Apostolion: a rhannwyd i bôb un megis yr oedd yr angen arno.

36 A Ioseph, yr hwn a gyfen­wid Barnabas gan yr Apostolion, (yr hyn o'i gyfieithu yw, mâb di­ddanwch) yn Lefiad, ac yn Cypri­ad o genedl,

37 A thîr ganddo, a'i gwer­thodd, ac a ddug yr arian, ac a'i gosodes wrth draed yr Apostolion.

PEN. V.

1 Wedi i Ananias a Sapphira ei w­raig, am ei rhagrith gwympo i lawr yn feirw, wrth gerydd Petr, 12 ac i'r Apostolion eraill w­neuthur llawer o wrthiau, 14 er cynnydd i'r ffydd: 17 y mae yr A­postolion yn cael eu carcharu eil­waith, 19 ac er hynny yn cael eu gwaredu gan Angel, yr hwn sydd yn erchi iddynt bregethu i bawb ar gyhoedd: 21 hwythau wedi iddynt bregethu felly yn y Deml, 29 a cher bron y cyngor, 33 mewn perygl o gael eu llâdd, eithr trwy gyngor Gamaliel, cyn­ghorwr mawr ymhlith yr Iddewon, yn cael eu cadw yn fyw, 40 ac yn unic eu curo, a hwythau yn go­goneddu Duw am hynny, ac heb beidio â phregethu.

EIthr rhyw ŵr, a'i enw Anani­as, gyd â Sapphira ei wraig, a werthodd dir.

2 Ac a ddarn-guddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd o'r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac ai gosododd wrth draed yr A­postolion.

3 Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, pa ham y llanwodd Sa­tan dy galon di, i ddywedyd cel­wydd wrth yr Yspryd glân, ac i ddarn-guddio peth o werth y tir?

4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddi­ant di? pa ham y gosodaist y peth hyn yn dy galon? ni ddywedaist di gelwydd wrth ddynion, onid wrth Dduw.

5 Ac Ananias pan glybu y gei­riau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd: a daeth ofn mawr ar bawb a glybu y pethau hyn.

6 A'r gwŷr ieuaingc a gyfo­dasant, ac a'i cymmerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i cla­ddasant.

7 A bu megis yspaid tair awr, a'i wraig ef heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.

8 A Phetr a attebodd iddi, dy­wed ti i mi, ai er cymmaint y gwerthasoch chwi y tîr? Hitheu a ddywedodd, ie, er cymmaint.

9 A Phetr a ddywedodd wr­thi, pa ham y cyttunasoch i dem­tio Yspryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddy­gant ditheu allan.

10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuaingc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn fa­rw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn y­myl ei gŵr.

11 A bu ofn mawr ar yr holl Eglwys, ac ar bawb oll a glybu y pethau hyn.

12 A thrwy ddwylaw yr Apo­stolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer, ym-mhlith y bobl, (ac yr oeddynt oll yn gyt­tûn ym-mhorth Solomon.

13 Eithr ni feiddiei neb o'r lleill ymgyssylltu â hwynt, ond y bobl oedd yn eu mawrhau.

14 A chwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd.)

15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hŷd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cyscodei cyscod Petr, pan ddelei heibio, rai o ho­nynt.

16 A lliaws a ddaeth hefyd yng­hyd, o'r dinasoedd o amgylch Jerusalem, gan ddwyn rhai clei­fion, a rhai a drallodid gan ys­prydion aflan, y rhai a iachawyd oll.

17 A'r Arch-offeiriad a gyfo­dodd, a'r holl rai oedd gyd ag ef (yr hon yw heresi y Saducæaid) a lanwyd o gynfigen.

18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr Apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.

19 Eithr Angel yr Arglwydd o hyd nôs, a agorodd ddrysau y car­char, ac a'u dûg hwynt allan: ac a ddywedodd,

20 Ewch, sefwch a l'eferwch yn y Deml wrth y bobl, holl eiriau y fuchedd hon.

21 A phan glywsant, hwy a ae­thant yn foreu i'r Deml ac a a­thrawiaethasant: eithr daeth yr Arch-offeiriad, a'r rhai oedd gyd ag ef, ac a alwasant ynghyd y Cyn­gor, a holl Henuriaid plant yr Is­rael, ac a ddanfonasant i'r carchar, iw dwyn hwy ger bron.

22 A'r swyddogion pan ddae­thant, ni chawsant hwynt yn y carchar, eithr hwy a ddychwela­sant, ac a fynegasant,

23 Gan ddywedyd; yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath siccraf, a'r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau, eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.

24 A phan glybu yr Arch-o­ffeiriad, a blaenor y Deml, a'r O­ffeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, ammau a wnaethant yn eu cylch hwy, beth a ddoe o hyn.

25 Yna y daeth un ac a fyne­godd iddynt, gan ddywedyd, wele y mae y gwŷr y ddodasoch chwi yngharchar, yn sefyll yn y Deml, ac yn dyscu y bobl.

26 Yna y blaenor gyd â'r swy­ddogion, a aeth ac a'u dug hwy heb drais: (oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llaby­ddio.)

27 Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y Cyngor, a'r Arch-offeiriad a ofynnodd iddynt.

28 Gan ddywedyd, oni orchy­mynnasom ni, gan orchymmyn i chwi na athrawiaethech yn yr e­nw hwn? ac wele, chwi a lanwa­soch Jerusalem â'ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dŷn hwn.

29 A Phetr, a'r Apostolion, a a [...]tebasant, ac a ddywedasant: rhaid yw nfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.

30 Duw ein tadau ni a gyfo­dodd i fynu Jesu, yr hwn a ladda­soch chwi, ac a groef-hoeliasoch ar bren.

31 Hwn a dderchafodd Duw â'i ddeheu-law, yn dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.

32 A nyni ydym ei dystion ef o'r pethau hyn, a'r Yspryd glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn ufyddhau iddo ef.

33 A phan glywsant hwy hyn­ny, hwy a frommasant, ac a ym­gynghorasant am eu lladd hwynt.

34 Eithr rhyw Pharisæad a'i enw Gamaliel, Doctor o'r gy­fraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fynu yn y Cyngor, ac a archodd yrru yr Apostolion allan dros ennyd fechan;

35 Ac a ddywedodd wrthynt, Ha-wŷr o Israel, edrychwch ar­noch eich hunain, pa beth yr y­dych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn.

36 Canys o flaen y dyddiau hyn, cyfododd Theudas i fynu, gan ddywedyd, ei fôd ef yn rhyw un, wrth yr hwn y glynodd rhife­di o wŷr, ynghylch pedwar cant, yr hwn a laddwyd, a chynnifer oll a ufyddhasant iddo a wascarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.

37 Yn ôl hwn y cyfododd Iu­das y Galilæad, yn nyddiau y drêth, ac efe a drôdd bobl lawer ar ei ôl, ac yntef hefyd a ddarfu am dano, a chynnifer oll a ufy­ddhasant iddo a wascarwyd.

38 Ac yr awron, meddaf i chwi, ciliwch oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, oblegid os o ddynion y mae y cyngor hwn, neu'r weithred hon, fe a ddi­ddymmir.

39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymmu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.

40 A chytuno ag ef a wnae­thant; ac wedi iddynt alw yr A­postolion attynt, a'u curo, hwy a orchymmynnasant iddynt na le­farent yn enw yr Iesu, ac a'u go­llyngasant ymmaith.

41 A hwy a aethant allan o o­lwg y Cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddio­ddef ammarch o achos ei enw ef.

42 A pheunydd yn y Deml, ac o dŷ i dŷ ni pheidiasant a dyscu, a phregethu Iesu Grist.

PEN. VI.

1 Yr Apostolion yn chwennych nad esceulusid y tlodion, o ran eu lluniaeth corphorol, ac yn ofalus hefyd eu hunain am gyfrannu gair Duw, lluniaeth yr enaid: 3 yn ordeiuio swydd Diaconiaeth i saith o wyr etholedig, 5 o'r rhai y mae Stephan, gwr llawn o ffydd ac o'r Yspryd glân, yn un: 12 a'i ddal ef gan y rhai a wradwyddodd efe wrth ymre­symmu: 13 ac achwyn arno ar gam, am gablu yn erbyn y gy­fraith, a'r Deml.

AC yn y dyddiau hynny, a'r di­scyblion yn amlhau, bu grw­gnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebræaid, am ddirmygu eu gw­ragedd gweddwon hwy, yn y weinidogaeth feunyddol.

2 Yna 'r deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws ddiscyblion, ac a ddywedasant: nid yw gymhesur i ni adel gair Duw, a gwasanae­thu byrddau.

3 Am hynny frodyr, edrychwch yn eich plith, am seith wŷr da eu gair, yn llawn o'r Yspryd glân, a [Page] doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.

4 Eithr nyni a barhawn mewn gweddi, a gweinidogaeth y gair.

5 A bodlon fu 'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd, ac o'r Yspryd glân, a Philip, a Phro­chorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas, proselyt o Antiochia:

6 Y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apostolion, ac wedi i­ddynt weddio, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy.

7 A gair Duw a gynnyddodd, a rhifedi y discyblion yn Jerusa­lem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufydd­hasant i'r ffydd.

8 Eithr Stephan yn llawn ffydd, a nerth, a wnaeth ryfeddodau, ac arwyddion ym-mhlith y bobl.

9 Yna y cyfodes rhai o'r Syna­gog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadleu ag Stephan.

10 Ac ni allent wrthwynebu y doethineb a'r Yspryd, drwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.

11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn er­byn Moses a Duw.

12 A hwy a gynhyrfasant y bobl, a'r henuriaid, a'r Scrifen­nyddion, a chan ddyfod arno, a'i cippiasant ef, ac a'i dygasant i'r Gynghorfa.

13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent: nid yw y dŷn hwn yn peidio a dywedyd cabl-eiriau, yn erbyn y lle san­ctaidd hwn a'r gyfraith.

14 Canys nyni a'i clywsom ef yn dywedyd, y destrywiei yr Iesu hwn o Nazareth y lle ymma, ac y y newidiei efe y defodau a dra­ddododd Moses i ni.

15 Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y Cyngor yn dal sulw arno, hwy a welent ei wyneb ef, fel wyneb Angel.

PEN. VII.

1 Stephan, wrth gael cennad i at­teb trosto ei hun am y gabledd, 2 yn dangos ddarfod i Abraham addoli Duw yn iawn, a pha fôdd y dewisodd Duw y Tadau, 20 cyn geni Moses, a chyn adeiladu y Ba­bell, a'r Deml: 37 a thystiolaethu o Moses ei hun am Grist: 44 ac na pharhae y Ceremoniau oddi­allau, y rhai a ordeiniesid ar ddull y portreiad nefawl, ond tros am­ser: 51 Gan eu ceryddu hwy, am eu gwaith yn gwrthwynebu ac yn llâdd Christ y Cyfiawn hwnnw, am yr hwn y rhagddywedasei y prophwydi y doe efe i'r byd. 54 Hwythau ar hynny, yn ei labyddio ef i farwolaeth, ac yntef yn gor­chymmyn ei enaid i'r Jesu, ac yn gweddio trostynt hwy.

YNa y dywedodd yr Arch-offei­riad, A ydyw y pethau hyn felly?

2 Yntef a ddywedodd; Ha-wŷr, frodyr a thadau, gwrandewch, Duw y gogoniant a ymddango­sodd i'n tâd Abraham, pan oedd efe ym Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran;

3 Ac a ddywedodd wrtho; Dôs allan o'th wlâd, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i'r tîr a ddan­goswyf i ti.

4 Yna y daeth efe allan o dîr y Caldeaid, ac y presswyliodd yn Charran: ac oddi yno wedi marw ei dâd, efe a'i symmudodd ef i'r tîr ymma, yn yr hwn yr ydych chwi yn presswylio yr awr hon.

5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, na ddo lêd troed, ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w fe­ddiannu, ac i'w hâd yn ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.

6 A Duw a lefarodd fel hyn, Dy hâd ti a fŷdd ymdeithydd mewn gwlâd ddieithr, a hwy a'i caethi­want ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.

7 Eithr y genedl yr hon a wa­sanaethant hwy, a farna fi, medd Duw, ac wedi hynny y dônt allan, ac am gwasanaethant i yn y lle hwn.

8 Ac efe a roddes iddo gyfam­mod yr enwaediad; felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwae­dodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob, ac Ja­cob a genhedlodd y deuddec Pa­triarch.

9 A'r Patrieirch gan gynfigen­nu a werthasant Joseph i'r Aipht: ond yr oedd Duw gyd ag ef,

10 Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb, yngo­lwg Pharao brenin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodra­ethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dŷ.

11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aipht, a Chanaan, a gorthrymder mawr, a'n tadau ni chawsant lyniaeth.

12 Ond pan glybu Jacob fôd ŷd yn yr Aipht, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.

13 A'r ail waith yr adnabuwyd Joseph gan ei frodyr, a chenedl Joseph a aeth yn hyspys i Pharao.

14 Yna yr anfonodd Joseph ac a gyrchodd ei dâd Jacob, a'i holl genedl, pymthec enaid a thru­gain.

15 Felly yr aeth Jacob i wared i'r Aipht, ac a fu farw, efe a'n ta­dau hefyd.

16 A hwy a symmudwyd i Si­chem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasei Abraham er arian, gan feibion Emor tâd Sichem.

17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasei Duw i Abraham, y bobl a gynnyddodd, ac a amlhâodd yn yr Aipht,

18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenei mo Jo­seph.

19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel na heppilient.

20 Ar yr hwn amser y ganwyd Moses, ac efe oedd dlŵs i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dâd.

21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharao a'i cyfodes ef i fy­nu, ac a'i magodd ef yn fâb iddi ei hun.

22 A Moses oedd ddyscedig yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau, ac mewn gweithredoedd.

23 A phan oedd efe yn llawn ddeugein-mlwydd oed, daeth iw galon ef ym weled â'i frodyr plant yr Israel.

24 A phan welodd efe un yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymmid, gan daro yr Aipht­ŵr.

25 Ac efe a dybiodd fôd ei fro­dyr yn deall, fôd Duw yn rho­ddi iechydwriaeth iddynt trwy ei law ef, eithr hwynt hwy ni ddeallasant.

26 A'r dydd nesaf yr ymddan­gosodd efe iddynt, a hwy yn ym­rafaelio, ac a'i hannogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, ha­wŷr, brodyr ydych chwi, pa ham y gwnewch gam â'i gilydd.

27 Ond yr hwn oedd yn gw­neuthur cam a'i gymmydog, ai cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, pwy a'th osododd di yn llywo­draethŵr ac yn farnwr arnom ni.

28 A leddi di fi, y môdd y lle­ddaist yr Aiphtiwr ddoe?

29 A Moses a ffoawdd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhîr Ma­dian, lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.

30 Ac wedi cyflawni deugain mhlynedd, yr ymddangosodd i­ddo, yn anialwch mynydd Sina, Angel yr Arglwydd, mewn fflam dân mewn perth.

31 A Moses pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg, a phan nessaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd atto, gan ddywedyd,

32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses wedi my­ned yn ddychrynnedig, ni feiddiai ystyried.

33 Yna y dywedodd yr Ar­glwydd wrtho, Dattod dy escidiau oddi am dy draed, canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo, sydd dir san­ctaidd.

34 Gan weled y gwelais ddryg­fyd fy mhobl, y rhai sy yn yr Aipht, ac mi a glywais eu gridd­fan, ac a ddescynnais iw gwared hwy; Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht.

35 Y Moses ymma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywe­dyd, Pwy a'th osododd di yn lly­wodraethŵr, ac yn farnwr, hwn a anfonodd Duw yn llywydd, ac yn waredwr, trwy law yr Angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.

36 Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhy­feddodau ac arwyddion, yn nhîr yr Aipht, ac yn y môr côch, ac yn y diffaethwch, ddeugain mhly­nedd.

37 Hwn yw'r Moses a ddywe­dodd i feibion Israel, Prophwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi, o'ch brodyr, fel myfi, arno ef y gwrandewch.

38 Hwn yw efe a fu yn yr Eg­lwys yn y diffaethwch, gyd â'r Angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Sina, ac â'n tadau ni, yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol iw rhoddi i ni.

39 Yr hwn ni fynnei ein tadau fôd yn ufydd iddo, eithr cilgw­thiasant ef, a throesant yn eu ca­lonnau i'r Aipht,

40 Gan ddywedyd wrth Aa­ron, Gwna i ni dduwiau i'n blae­nori, oblegid y Moses ymma, yr hwn a'n dûg ni allan o dir yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddig­wyddodd iddo.

41 A hwy a wnaethant lô yn y dyddiau hynny, ac a offrymma­sant aberth i'r eulyn, ac a ymla­wenhasant yngweithredoedd eu dwylo ei hun.

42 Yna y trôdd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fynu i wasanaethu llû y nef, fel y mae yn scrifenne­dic [Page] yn llyfr y Prophwydi: A o­ffrymmasoch i mi laddedigion ac aberthau, ddeugain mhlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?

43 A chwi a gymmerasoch ba­bell Moloch, a seren eich Duw Remphan, lluniau y rhai a wnae­thoch iw haddoli, minneu a'ch symmudaf chwi tu hwnt i Babi­lon.

44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymmhlith ein tadau yn yr anial­wch, fel y gorchymynnasei yr hwn a ddywedei wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsei.

45 Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymmeryd, a'i ddwyn i mewn gyd ag Iesu i berchennoga­eth y cenhedloedd, y rhai a yr­rodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;

46 Yr hwn a gafodd ffafor ger bron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob.

47 Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef.

48 Ond nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwy­lo, fel y mae y Prophwyd yn dy­wedyd,

49 Y nêf yw fy ngorsedd-faingc, a'r ddaiar yw troed-faingc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd, neu pale fydd im gorphwysfa i.

50 Ond fy llaw i a wnaeth hyn oll?

51 Chwi rai gwar-galed, a dienwaededig o galon, ac o glu­stiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Yspryd glân, me­gis eich tadau, felly chwithau.

52 Pa un o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y cyfiawn, yr hwn yr awron y buoch chwi fradwŷr a llofruddion.

53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith drwy drefnid angelion, ac ni's cadwasoch.

54 A phan glywsant hwy y pethau hyn, hwy a ffrommasant yn eu calonnau, ac a yscyrnyga­sant ddannedd arno.

55 Ac efe yn gyflawn o'r ys­pryd glân, a edrychodd yn ddyfal tu a'r nêf, ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheu­law Dduw.

56 Ac efe a ddywedodd; we­le, mi a welaf y nefoedd yn ago­red, a Mâb y dŷn yn eistedd a'r ddeheu-law Dduw.

57 Yna y gwaeddasant â llef u­chel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno.

58 Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant, a'r ty­stion a ddodasant eu dillad wrth draed dŷn ieuangc a elwid Saul.

59 A hwy a labyddiasant Ste­phan, ac efe yn galw a'r Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu der­byn fy yspryd.

60 Ac efe a ostyngodd ar ei li­niau, ac a lefodd â llef uchel, Ar­glwydd na ddôd y pechod hyn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddy­wedyd hyn, efe a hunodd.

PEN. VIII.

1 Yr Eglwys, o achos yr erlid yn Ie­rusalem, wedi ei phlannu yn Sa­maria, 5 trwy waith Philip y Diacon, yr hwn a bregethodd, ac a wnaeth wrthiau, ac a fedyddi­odd lawer, ymhlith eraill Simon y [Page] Swynwr, hudol mawr ymmysc y bobl: 14 Petr ac Joan yn dyfod i gadarnhau, ac i chwanegu 'r Eglwys, gan roddi yr Yspryd glân trwy weddi ac arddodiad dwylaw: 18 A Simon yn ceisio prynu y cy­ffelyb awdurdod ganthynt, 20 a Phetr yn ei geryddu ef yn dôst, am ei ragrith a'i gybydd-dod, ac yn ei annoc ef i edifarhau, ac yn dych­welyd i Jerusalem, tan bregethu gair yr Arglwydd, efe ac Joan. 26 Ac Angel yn anfon Philip, i ddy­scu ac i fedyddio yr Efnuch o E­thiopia.

A Saul oedd yn cyttûno iw lâdd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr Eglwys oedd yn Jerusalem: a phawb a wascarwyd ar hŷd gwledydd Ju­dæa a Samaria, ond yr Apostolion.

2 A gwŷr bucheddol a ddyga­sant Stephan iw gladdu ac a wnae­thant alar mawr am dano ef.

3 Eithr Saul oedd yn anrhei­thio yr eglwys, gan fyned i mewn i bôb tŷ, a llusco allan wŷr a gw­ragedd, efe a'u rhoddes ynghar­char.

4 A'r rhai a wascarasid, a dram­wyasant gan bregethu y gair.

5 Yna Philip a aeth i wared i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt.

6 A'r bobl yn gyttûn, a ddali­odd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed o honynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.

7 Canys ysprydion aflan, gan lefain â llêf uchel, a aethant allan o lawer a berchennogid ganddynt, a llawer yn gleifion o'r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd.

8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno,

9 Eithr rhyw ŵr a'i enw Si­mon, oedd o'r blaen yn y ddinas, yn swyno, ac yn hudo pobl Sama­ria, gan ddywedyd ei fôd ef ei hûn yn rhyw un mawr.

10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, yn gw­rando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yn hwn.

11 Ac yr oeddŷnt a'u coel arno, o herwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion.

12 Eithr pan gredasant i Phi­lip, yn pregethu y pethau a ber­thynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd.

13 A Simon yntef hefyd a gre­dodd, ac wedi ei fedyddio, a ly­nodd wrth Philip; a synnodd ar­no wrth weled yr arwyddion, a'r nerthoedd mawrion a wneid.

14 A phan glybu yr Apostolion yn Jerusalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant attynt Petr ac Joan.

15 Y rhai wedi eu dyfod i wa­red, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Yspryd glân.

16 Canys etto nid oedd efe we­di syrthio ar nêb o honynt, ond yr oeddynt yn unic wedi eu bedy­ddio yn enw yr Arglwydd Iesu.

17 Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt; a hwy a dderby­niasant yr Yspryd glân.

18 A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylaw yr Aposto­lion y rhoddid yr Yspryd glân, efe a gynnygiodd iddynt arian.

19 Gan ddywedyd, rhoddwch i minneu hefyd yr (awdurdod hon, fel ar bwy bynnac y gosod­wyf [Page] fy nwylo, y derbynio efe yr Yspryd glân.

20 Eithr Petr a ddywedodd wrtho, bydded dy arian gyd â thi i ddestryw, am i ti dybied y me­ddiennir dawn Duw trwy arian.

21 Nid oes i ti na rhan, na chy­fran yn y gorchwyl hyn, canys nid yw dy galon di yn uniawn ger bron Duw.

22 Edifarhâ gan hynny am dy ddrygioni hyn, a gweddia Dduw a faddeuir i ti feddyl-fryd dy ga­lon.

23 Canys mi a'th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwy­medigaeth anwiredd.

24 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, gweddiwch chwi drosofi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o'r pethau a ddy­wedasoch.

25 Ac wedi iddynt dystiolae­thu, a llefaru gair yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant yr Efengyl yn llawer o bentrefi y Samariaid.

26 Ac Angel yr Arglwydd a le­farodd wrth Philip, gan ddywe­dyd, Cyfod a dôs tu a'r deau, i'r ffordd sydd yn myned i wared o Jerusalem i Gaza: yr hon sydd anghyfannedd.

27 Ac efe a gyfododd ac a aeth, ac wele gŵr o Ethiopia, Eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd ar ei holl dryssor hi, yr hwn a ddaethei i Jerusalem i addoli:

28 Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn dar­llein y Prophwyd Esaias.

29 A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, dôs yn nês, a glŷn wrth y cerbyd ymma.

30 A Philip a redodd atto, ac a'i clybu ef yn darllein y Proph­wyd Esaias; ac a ddywedodd; A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllein?

31 Ac efe a ddywedodd, pa fodd y gallaf, oddi eithr i ryw un fy nghyfarwyddo i. Ac efe a ddy­munodd ar Philip ddyfod i fynu, ac eistedd gyd ag ef.

32 A'r lle o'r Scrythur yr oedd efe yn ei ddarllein, oedd hwn, fel dafad i'r lladdfa yr arweinwyd ef, ac fel oen ger bron ei gnei­fiwr yn fûd, felly nid agorodd efe ei enau.

33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymmaith, eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oble­gid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaiar.

34 A'r Efnuch a attebodd Phi­lip, ac a ddywedodd, Attolwg i ti, am bwy y mae'r Prophwyd yn dy­wedyd hyn? am dano ei hûn, ai am ryw un arall?

35 A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr Scrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Iesu.

36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr, a'r Efnuch a ddy­wedodd, wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio?

37 A Philip a ddywedodd, os wyti yn credu â'th holl galon, fe a ellir. Ac efe a attebodd ac a ddy­wedodd, Yr wyf yn credu fôd Iesu Grist yn fab Duw.

38 Ac efe a orchymynnodd se­fyll o'r cerbyd, a hwy a aethant i wared ill dau i'r dwfr, Philip a'r Efnuch, ac efe a'i bedyddiodd ef.

39 A phan ddaethant i fynu o'r [Page] dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gip­piodd Philip ymmaith, ac ni we­lodd yr Efnuch ef mwyach. Ac efe a aeth ar hyd ei ffordd ei hun yn llawen.

40 Eithr Philip a gaed yn A­zotus; a chan dramwy, efe a efang­ylodd ym mhôb dinas, hyd oni ddaeth efe i Caesarea.

PEN. IX.

1 Saul yn myned i Damascus; a'i daraw ef i lawr i'r ddaiar, 10 a'i alw i fôd yn Apostol, 18 a'i fe­dyddio gan Ananias. 20 Yntef yn pregethu Christ yn hyderus. 23 Yr Iddewon yn cynllwyn iw lâdd ef: 29 a 'r Groegwyr hefyd; yn­tef yn diangc rhag y ddwy blaid. 31 Yr Eglwysi yn cael llonyddwch, Petr yn iachau Aeneas o'r parlys, 36 ac yn codi Tabitha o farw i fyw.

A Saul etto yn chwythu bygy­thiau a chelanedd, yn erbyn discyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Arch-offeriad,

2 Ac a ddeisyfodd ganddo ly­thyrau i Ddamascus, at y Syna­gogau, fel os cai efe nêb o'r ffordd hon, na gwŷr, na gwragedd, y ga­llei efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerusalem.

3 Ac fel yr oedd efe yn ym­daith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus, ac yn ddisymmwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r nêf.

4 Ac efe a syrthiodd ar y ddaiar, ac a glybu lais yn dywedyd wr­tho, Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid i.

5 Yntef a ddywedodd, pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd; Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Caled yw i ti wingo yn erbyn y swmby­lau.

6 Ynteu gan grynu, ac a braw ar­no, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cy­fod, a dôs i'r ddinas, ac fe a ddy­wedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.

7 A'r gwŷr oedd yn cyd-teithio ag ef, a safasant yn fûd, gan gly­wed y llais, ac heb weled nêb.

8 A Saul a gyfododd oddi ar y ddaiar: a phan agorwyd ei lygaid, ni welei efe nêb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dygasant ef i mewn i Ddamascus.

9 Ac efe a fu dridiau heb we­led, ac ni wnaeth na bwytta, nac yfed.

10 Ac yr oedd rhyw ddiscybl yn Damascus, a'i enw Ananias. A'r Arglwydd a ddywedodd wr­tho ef mewn gweledigaeth; Ana­nias. Yntef a ddywedodd, wele fi, Arglwydd.

11 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs i'r heol a elwir Uniawn, a chais yn nhŷ Ju­das, un a'i enw Saul, o Tharsus: canys wele y mae yn gweddio.

12 Ac ef a welodd mewn gwe­ledigaeth, ŵr a'i enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelei eilwaith.

13 Yna yr attebodd Ananias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th Sainct di yn Jeru­salem.

14 Ac ymma y mae ganddo aw­durdod oddi wrth yr Arch-offei­riaid, i rwymo pawb sy'n galw ar dy enw di.

15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho: dôs ymmaith, canys y mae hwn yn llestr etholedic i mi, i ddwyn fy enw ger bron cenhed­loedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.

16 Canys myfi a ddangosaf i­ddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef, er mwyn fy enw i.

17 Ac Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddy­wedodd, Y brawd Saul, yr Ar­glwydd a'm hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost) fel y gwelych drachefn, ac i'th lanwer â'r Ys­pryd glân.

18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef, megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddi­wyd.

19 Ac wedi iddo gymmeryd bwyd, efe a gryfhâodd. A bu Saul gyd â'r discyblion oedd yn Damas­cus, dalm o ddyddiau.

20 Ac yn ebrwydd yn y Syna­gogau, efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mâb Duw.

21 A phawb a'r a'i clybu ef, a synnasant ac a ddywedasant, Ond hwn yw 'r un oedd yn difetha yn Jerusalem, y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn, fel y dygei hwynt yn rhwym at yr Arch-offeiriaid?

22 Eithr Saul a gynnyddodd fwy-fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan gadarnhau mai hwn yw 'r Christ.

23 Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cyd-ymgynghorodd yr Iddewon, iw ladd ef.

24 Eithr eu cyd-fwriad hwy a wybuwyd gan Saul, a hwy a ddis­gwiliasant y pyrth ddydd a nôs, iw ladd ef.

25 Yna y discyblion a'i cym­merasant ef o hŷd nôs, ac a'i go­llyngasant i wared dros y mûr, mewn basced.

26 A Saul, wedi ei ddyfod i Jerusalem, a geisiodd ymwascu â'r discyblion, ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod efe yn ddiscybl.

27 Eithr Barnabas a'i cymme­rodd ef, ac a'i dug at yr Aposto­lion, ac a fynegodd iddynt, pa fôdd y gwelsei efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan o honaw ag ef, ac mor hŷ a fuasei efe yn Damascus, yn enw yr Iesu.

28 Ac yr oedd efe gyd â hwynt, yn myned i mewn, ac yn myned allan, yn Jerusalem.

29 A chan fod yn hŷ yn enw 'r Arglwydd Iesu, efe a lefarodd, ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid, a hwy a geisiasant ei ladd ef.

30 A'r brodyr pan wybuant, a'i dygasant ef i wared i Caesarea, ac a'i hanfonasant ef ymmaith i Tharsus.

31 Yna 'r Eglwysi drwy holl Judæa, a Galilæa, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeilad­wyd, a chan rodio yn ofn yr Ar­glwydd, ac yn niddanwch yr Ys­pryd glân, hwy a amlhawyd.

32 A bu, a Phetr yn tramwy drwy 'r holl wledydd, iddo ddyfod i wared at y Sainct hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Lyda.

33 Ac efe a gafodd yno ryw ddŷn a'i enw Aeneas, er ys wyth [Page] mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glâf o'r parlys.

34 A Phetr a ddywedodd wr­tho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iachau di, Cyfod a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn e­brwydd.

35 A phawb a'r oedd yn press­wylio yn Lyda, a Saron, a'i gwel­sant ef, ac a ymch welasant at yr Arglwydd.

36 Ac yn Joppa yr oedd rhyw ddiscybles, a'i henw Tabitha, (yr hon, os cyfieithir, a elwir Dor­cas,) hon oedd yn llawn o wei­thredoedd da, ac elusenau, y rhai a wnaethei hi.

37 A digwyddodd yn y dy­ddiau hynny, iddi fôd yn glâf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn llofft.

38 Ac o herwydd bôd Lyda yn agos i Joppa, y discyblion a glyw­sant fod Petr yno, ac a anfona­sant ddau ŵr atto ef, gan ddei­syf nad oedei ddyfod hyd attynt hwy.

39 A Phetr a gyfodes, ac a aeth gyd â hwynt; ac wedi ei ddyfod, hwy a'i dygasant ef i fy­nu i'r llofft. A'r holl wragedd gwe­ddwon a safasant yn ei ymyl ef, yn wylo, ac yn dangos y peisiau, a'r gwiscoedd a wnaethei Dorcas, tra ydoedd hi gyd â hwynt.

40 Eithr Petr wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddiodd, a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid, a phan welodd hi Petr, hi a go­dodd yn ei heistedd.

41 Ac efe a roddodd ei law i­ddi, ac a'i cyfododd hi i fynu. Ac wedi galw y Sainct, a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi ger bron yn fyw.

42 Ac yspys fu drwy holl Jop­pa: a llawer a gredasant yn yr Ar­glwydd.

43 A bu iddo aros yn Joppa lawer o ddyddiau, gyd ag un Si­mon, Barcer.

PEN X.

1 Cornelius, gwr defosionol, 5 wrth orchymmyn Angel, yn danfon i gyrchu Petr: 11 Ynteu, trwy wele­digaeth, 15 20 a ddyscir na ddiy­styrei mo'r Cenhedloedd. 34 Ac efe yn pregethu Christ i Cornelius, a'r rhai oedd gydag ef, 44 yr Yspryd glân yn discyn arnynt, 48 a'i be­dyddio hwynt.

YR oedd rhyw ŵr yn Caesarea, a'i enw Cornelius, Canwriad o'r fyddyn a elwid yr Italaidd.

2 Gŵr defosionol, ac yn ofni Duw, ynghyd â'i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusenau i'r bobl, ac yn gweddio Duw yn wa­stadol.

3 Efe a welodd mewn gwele­digaeth yn Eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn atto, ac yn dy­wedyd wrtho, Cornelius.

4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywe­dodd, Beth sydd, Arglwydd? ac efe a ddywedodd wrtho, Dy we­ddiau di, a'th elusenau a ddercha­fasant yn goffadwriaeth ger bron Duw.

5 Ac yn awr anfon wŷr i Jop­pa, a gyrr am Simon yr hwn a gy­fenwir Petr.

6 Y mae efe yn lletteua gyd ag [Page] un Simon Barcer, tŷ'r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur,

7 A phan ymadawodd yr An­gel oedd yn ymddiddan â Chor­nelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosio­nol, o'r rhai oedd yn aros gyd ag ef.

8 Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a'u hanfonodd hwynt i Joppa.

9 A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy ym ymdeithio, ac yn nessau at y ddinas, Petr a aeth i fynu ar y tŷ i weddio, ynghylch y chwe­ched awr.

10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwennychei gael bwyd. Ac a hwynt yn pa­ratoi iddo, fe syrthiodd arno le­wyg.

11 Ac efe a welei y nef yn ago­red, a rhyw lestr yn descyn arno, fel llen-lliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwng i wared hyd y ddaiar.

12 Yn yr hon yr oedd pôb rhyw bedwar-carnolion y ddaiar, a gwyllt-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nêf.

13 A daeth llef atto; Cyfod Petr, lladd, a bwytta.

14 A Phetr a ddywedodd; nid felly, Arglwydd; canys ni fwyt­teais i erioed ddim cyffredin neu aflan.

15 A'r llef drachefn a ddywe­dodd wrtho yr ail waith: Y pethau a lanhâodd Duw, na alw di yn gyffredin.

16 A hyn a wnaed dair gwaith, a'r llestr a dderbyniwyd drachefn i fynu i'r nef.

17 Ac fel yr oedd Petr yn am­mau ynddo ei hûn, beth oedd y weledigaeth a welsei: wele, y gwŷr a anfonasid oddiwrth Cor­nelius, wedi ymofyn am dŷ Si­mon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.

18 Ac wedi iddynt alw, hwy a o­fynnasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletteua yno.

19 Ac fel yr oedd Petr yn me­ddwl am y weledigaeth, dywe­dodd yr Yspryd wrtho; wele dry­wŷr yn dy geisio di.

20 Am hynny, cyfod, descyn, a dôs gyd â hwynt, heb ammau dim, o herwydd myfi a'u hanfo­nais hwynt.

21 A Phetr wedi descyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cor­nelius atto, a ddywedodd, wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio; beth yw yr achos y daethoch o'i herwydd?

22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y Canwriad, gŵr cyfi­awn, ac yn ofni Duw, ac a gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan Angel san­ctaidd, i ddanfon am danati i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennit.

23 Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletteuodd hwy. A thrannoeth yr aeth Petr ymmaith gyd â hwy: a rhai o'r brodyr o Joppa a aeth gyd ag ef.

24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Caesarea, ac yr oedd Cornelius yn disgwil am danynt, ac efe a alwasei ei geraint a'i an­wyl gyfeillion ynghyd.

25 Ac fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.

26 Eithr Petr a'i cyfododd ef i [Page] fynu, gan ddywedyd; Cyfod, Dŷn wyf finneu hefyd.

27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd.

28 Ac efe a ddywedodd wr­thynt, Chwi a wyddoch mai ang­hyfreithlawn yw i ŵr o Iddew ym wascu, neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin, neu yn aflan.

29 O ba herwydd, iê yn ddi­nâg y daethym, pan anfonwyd am danaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch am danaf.

30 A Chornelius a ddywe­dodd, Er ys pedwar diwrnod i'r awr hon o'r dydd, yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddio yn fy nhŷ: ac wele, sa­fodd gŵr ger fy mron mewn gwisc ddisclair.

31 Ac a ddywedodd: Corneli­us, gwrandawyd dy weddi di, a'th elusenau a ddaethant mewn coffa ger bron Duw.

32 Am hynny anfon i Ioppa, a galw am Simon yr hwn a gy­fenwir Petr, y mae efe yn lletteua yn nhŷ Simon Barcer, ynglann y môr, yr hwn pan ddelo attat a lefara wrth it.

33 Am hynny yn ddioed myfi a anfonais attat, a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresen­nol ger bron Duw, i wrando yr holl bethau a orchymynnwyd i ti gan Dduw.

34 Yna yr agorodd Petr ei e­nau, ac a ddywedodd, yr wŷf yn deall mewn gwirionedd, nad y­dyw Duw dderbyniwr wyneb.

35 Ond ym-mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gwei­thredu cyfiawnder, sydd gymme­radwy ganddo ef.

36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangneddyf trwy Iesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll.

37 Chwy-chwi a wyddoch y gair a fu yn holl Judæa, gan ddechreu o Galilæa, wedi y be­dydd a bregethodd Joan:

38 Y môdd yr enneiniodd Duw Iesu o Nazareth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef.

39 A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlad yr Iddewon, ac yn Jerusalem, yr hwn a laddasant, ac a groes-hoe­liasant, ar bren,

40 Hwn a gyfododd Duw y try­dydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg,

41 Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytta­som, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei ad-gyfodi ef o feirw.

42 Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolae­thu mai efe yw 'r hwn a ordeini­wyd gan Dduw, yn farn-wr byw a meirw.

43 I hwn y mae 'r holl Broph­wydi yn dwyn tystiolaeth, y der­byn pawb a gredo ynddo ef fa­ddeuant pechodau, drwy ei enw ef

44 A Phetr etto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Yspryd glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.

45 A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynnifer ac a ddaethent gyd â Phetr, a synnasant, am dywallt dawn yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd.

46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr at­tebodd Petr.

47 A all nêb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd glân, fel ninnau.

48 Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Ar­glwydd: yna y deisyfiasant arno aros tros ennyd o ddyddiau.

PEN. XI.

1 Petr wedi achwyn arno am fyned i mewn at y Cenhedloedd, yn gw­neuthur ei amddiffyn, 18 ac yn cael ei dderbyn. 19 Wedi cyrheu­ddyd o'r Efengyl hyd Phaenice, a Cyprus, ac Antiochia, yr ydys yn danfon Barnabas iw cadarnhau hwynt: 26 Y discyblion yno yn cael yn gyntaf rhai eu galw yn Gri­stianogion. 27 Ac yn anfon ym­wared i'r brodyr yn Judea yn amser newyn.

A'R Apostolion a'r brodyr oedd yn Judæa, a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw.

2 A phan ddaeth Petr i fynu i Jerusalem, y rhai o'r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,

3 Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwytteaist gyd â hwynt.

4 Eithr Petr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,

5 Yr oeddwn i yn ninas Joppa yn gweddio, ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn descyn, wedi ei gollwng o'r nef, erbyn ei phedair congl, a hi a ddaeth hyd attaf fi.

6 Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwar­carnolion y ddaiar, a gwyllt-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nêf.

7 Ac mi a glywais lef yn dywe­dyd wrthif, Cyfod Petr, lladd, a bwytta.

8 Ac mi a ddywedais, nid felly Arglwydd, canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i'm genau.

9 Eithr y llais a'm hattebodd i eilwaith o'r nêf, Y pethau a lan­hâodd Duw, na alw di yn gyffre­din.

10 A hyn a wnaed dair gwaith: a'r holl bethau a dynnwyd i fynu i'r nef drachefn.

11 Ac wele, yn y man yr oedd trywyr yn sefyll wrth y tŷ yr oe­ddwn ynddo, wedi eu hanfon o Caesarea attafi.

12 A'r Yspryd a archodd i mi fyned gyd â hwynt heb ammau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddae­thant gyd â mi, ac nyni a ddae­thom i mewn i dŷ y gŵr.

13 Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsei efe Angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho; Anfon wŷr i Joppa, a gyrr am Simon a gyfenwir Petr:

14 Yr hwn a lefara eiriau wr­thit, trwy y rhai i'th iacheir di, a'th holl dŷ.

15 Ac a myfi yn dechreu llefaru, syrthiodd yr Yspryd glân arnynt, [Page] megis arnom ninnau yn y de­chreuad.

16 Yna y cofiais air yr Ar­glwydd, y modd y dyweda sei efe; Ioan yn wîr a fedyddiodd â dwfr, eithr chwi a fedyddir â'r Yspryd glân.

17 Os rhoddes Duw gan hyn­ny iddynt hwy gyffelyb rôdd ac i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Jesu Grist, pwy oe­ddwn i, i allu lluddias Duw.

18 A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogo­neddu Duw, gan ddywedyd, fe ro­ddes Duw gan hynny i'r Cenhed­loedd hefyd edifeirwch i fywyd.

19 A'r rhai a wascarasid o herwydd y blinder a godasei yng­hylch Stephan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac An­tiochia, heb lefaru y gair wrth nêb, ond wrth yr Iddewon yn u­nig.

20 A rhai o honynt oedd wŷr o Cyprus, ac o Cirene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.

21 A llaw yr Arglwydd oedd gyd â hwynt, a nifer mawr a gre­dodd, ac a drodd at yr Arglwydd.

22 A'r gair a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem, am y pethau hyn; A hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Antiochia.

23 Yr hwn pan ddaeth, a gwe­led grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon i lynu wrth yr Arglwydd.

24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o'r Yspryd glân ac o ffydd: a llawer o bobl a chwa­negwyd i'r Arglwydd.

25 Yna yr aeth Barnabas i Thar­sus, i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.

26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr Eglwys, a dyscu pobl lawer, a bôd galw y discybli­on yn Gristianogion yn gyntaf yn Antiochia.

27 Ac yn y dyddiau hynny, daeth prophwydi o Jerusalem i wared i Antiochia.

28 Ac un o honynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwy­ddocaodd drwy yr Yspryd, y by­ddei newyn mawr dros yr holl fŷd; yr hwn hefyd a fu tan Clau­dius Caesar.

29 Yna 'r discyblion, bôb un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Judæa.

30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant gan ddanfon at yr He­nuriaid, drwy law Barnabas a Saul.

PEN. XII.

1 Brenin Herod yn erlid y Christia­nogion, yn llâdd Jaco, ac yn car­charu Petr: a'r Angel yn ei wa­redu ef wrth weddiau yr Eglwys, 20 Herod trwy falchder yn cyme­ryd iddo ei hun y gogoniant oedd ddyledus i Dduw, ac yn cael ei da­ro gan yr Angel, ac yn marw yn resynol. 24 A'r Eglwys yn llwy­ddo, ar ôl ei farwolaeth ef.

AC ynghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin, ei ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys.

2 Ac efe a laddodd Jacob brawd Ioan â'r cleddyf.

3 A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a [Page] chwanegodd ddala Petr hefyd: (A dyddiau y bara croyw ydoedd hi.)

4 Yr hwn wedi ei ddal a ro­ddes efe yngharchar, ac a'i traddo­dodd at bedwar pedwariaid o fil­wŷr, i'w gadw, gan ewyllysio a'r ôl y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl.

5 Felly Petr a gadwyd yn y car­char, eithr gweddi ddyfal a w­naethpwyd gan yr Eglwys at Dduw drosto ef.

6 A phan oedd Herod a'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nôs honno yr oedd Petr yn cyscu rhwng dau fil wr, wedi ei rwymo â dwy gad­wyn, a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.

7 Ac wele Angel yr Arglwydd a safodd ger llaw, a goleuni a ddi­scleiriodd yn y carchar, ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i cyfo­dodd ef, gan ddywedyd; Cyfod yn fuan: a'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.

8 A dywedodd yr Angel wr­tho, Ymwregysa, a rhwym dy san­dalau, ac felly y gwnaeth efe; Yna y dywedodd, bwrw dy wisg am danat, a chanlyn fi.

9 Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef, ac nis gwybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr Angel, eithr yr oedd yn ty­bied mai gweled gweledigaeth yr oedd.

10 Ac wedi myned o honynt heb law y gyntaf a'r ail wilia­dwriaeth, hwy a ddacthant i'r porth haiarn, yr hwn sydd yn ar­wain i'r ddinas, yr hwn a ymago­rodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a ac­thant ar hyd un heol, ac yn e­brwydd yr Angel a aeth ymmaith oddi wrtho.

11 A Phetr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei An­gel, a'm gwared i allan o law He­rod, ac oddi wrth holl ddisgwili­ad pobl yr Iddewon.

12 Ac wedi iddo gymmeryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair, mam Ioan, yr hwn oedd a'i gyfe­nw Marcus, lle yr oedd llawer we­di ymgasclu, ac yn gweddio.

13 Ac fel yr oedd Petr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ym wrando, a'i henw Rhode.

14 A phan adnabu hi lais Petr, nid agorodd hi y porth gan lawe­nydd, eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fôd Petr yn sefyll o flaen y porth.

15 Hwythau a ddywedasant wr­thi, yr wyt ti yn ynfydu. Hitheu a daerodd mai felly yr oedd, Eithr hwy a ddywedasant, ei Angel ef ydyw.

16 A Phetr a barhâodd yn cu­ro; ac wedi iddynt agori, hwy a'i gwelsant ef, ac a synnasant.

17 Ac efe a amnediodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasei yr Ar­glwydd ef allan o'r carchar: ac e­fe a ddywedodd, mynegwch y pethau hyn i Iaco, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd ac a aeth i le arall.

18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallodd nid by­chan ym mhlith y mil-wŷr, pa beth a ddaethei o Petr.

19 Eithr Herod pan ei ceisiodd ef, a heb ei gael, a holodd y ceid­waid, ac a orchymmynnodd eu cymmeryd hwy ymmaith. Yntef a [Page] aeth i wared o Iudæa i Caesarea, ac a arhosodd yno.

20 Eithr Herod oedd yn lli­diog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon; a hwy a ddaethant yn gyttûn atto, ac wedi ennill Bla­stus, yr hwn oedd stafellydd y brenin, hwy a ddeisyfiasant dang­neddyf: am fôd eu gwlâd hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlâd y brenin.

21 Ac ar ddydd nodedig, Herod gwedi gwisco dillad brenhinol, a eisteddodd ar yr orsedd-faingc, ac a araithiawdd wrthynt.

22 A'r bobl a roes floedd, Lle­ferydd Duw, ac nid dŷn ydyw.

23 Ac allan o law y tarawodd, Angel yr Arglwydd ef, am na roe­sei y gogonedd i Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24 A gair Duw a gynnyddodd, ac a amlhâodd.

25 A Barnabas a Saul, wedi cy­flawni eu gwenidogaeth, a ddy­chwelasant o Jerusalem, gan gym­meryd gyd â hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc,

PEN. XIII.

1 Dewis Paul a Barnabas i fyned at y Cenhedloedd. 7 Sergius Pau­lus, ac Elymas y Swynwr. 14 Paul yn pregethu yn Antiochia, mai Iesu yw Christ. 42 Y Cen­hedloedd yn credu: 45 Yr Idde­won yn gwrthwynebu, ac yn ca­blu: 46 Paul a Barnabas ar hyn­ny yn troi at y Cenhedloedd. 48 Y rhai a ordeiniesid i fywyd yn credu.

YR oedd hefyd yn yr Eglwys ydoedd yn Antiochia, rai prophwydi ac athrawon, Barna­bas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lucius o Cyrene, a Ma­naen brawd-maeth Herod y Te­trarch, a Saul.

2 Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd glân; Neillduwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.

3 Yna wedi iddynt ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymmaith.

4 A hwythau wedi eu danfon ymmaith gan yr Yspryd glân, a ddaethant i Seleucia, ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.

5 A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn Synagogau yr Iddewon, ac yr oedd hefyd-ganddynt Ioan yn wei­nidog.

6 Ac wedi iddynt dramwy trwy 'r ynys hyd Paphus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau bro­phwyd o Iddew, a'i enw Bariesu.

7 Yr hwn oedd gydâ'r Rhag­law Sergius Paulus, gŵr call: hwn wedi galw atto Barnabas a Saul, a ddeisyfiodd gael clywed gair Duw.

8 Eithr Elymas y swynwr (ca­nys felly y cyfieithir ei enw ef) a'i gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyr-droi y Rhaglaw o­ddiwrth y ffydd.

9 Yna Saul, yr hwn hefyd a el­wir Paul, yn llawn o'r Yspryd glân, a edrychodd yn graff arno e [...].

10 Ac a ddywedodd, O gyflawn o bôb twyll, a phôb scelerder, tydi mâb diasol▪ a gelyn pôb cyfiawn­der, oni pheidi di a gŵyro uniawn ffyrdd yr Arglwydd?

11 Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros am­ser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen, a thywyllwch, ac efe a aeth oddiamgylch gan geisio rhai i'w arwain erbyn ei law.

12 Yna y Rhaglaw, pan we­lodd yr hyn a wnaethid, a gre­dodd, gan ryfeddu wrth ddyscei­diaeth yr Arglwydd.

13 A Phaul a'r rhai oedd gyd ag ef, a aethant ymmaith o Pa­phus, ac a ddaethant i Perga yn Pamphilia; eithr Ioan a ymada­wodd oddi-wrthynt, ac a ddy­chwelodd i Jerusalem.

14 Eithr hwynt hwy, wedi y­mado o Perga, a ddaethant i An­tiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i'r Synagog ar y dydd Sab­bath, ac a eisteddasant.

15 Ac yn ôl darllein y gyfraith a'r Prophwydi, llywodraethwyr y Synagog a anfonasant attynt, gan ddywedyd, Ha-wŷr frodyr, od oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch.

16 Yna y cyfododd Paul i fy­nu, a chan amneidio â'i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Is­rael, a'r rhai ydych yn ofn i Duw, gwrandewch.

17 Duw y bobl hyn Israel, a e­tholodd ein tadau ni, ac a dder­chafodd y bobl, pan oedd yn ym­deithio yngwlâd yr Aipht, ac â braich uchel y dug efe hwynt o­ddi yno allan.

18 Ac ynghylch deugain mhly­nedd o amser, y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.

19 Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choel-bren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy.

20 Ac wedi y pethau hyn, dros yspaid ynghylch pedwar-cant a dêng mhlynedd a deugain, efe a roddes farn-wyr iddynt hyd Sa­muel y prophwyd.

21 Ac yn ôl hynny y dymuna­sant gael brenin: ac fe roddes Duw iddynt Saul fâb Cis, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mhly­nedd.

22 Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Ddafydd yn fre­nin iddynt, am hwn y tystiola­ethodd, ac y dywedodd; Cefais Ddafydd fâb Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl Ewyllys.

23 O hâd hwn, Duw yn ôl ei addewid a gyfododd i Israel yr Iachawdr Iesu.

24 Gwedi i Ioan rag-bregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Is­rael.

25 Ac fel yr oedd Ioan yn cy­flawni ei redfa, efe a ddywedodd, pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? nid myfi yw efe, eithr we­le, y mae yn dyfod ar fy ôl i yr hwn nid wyfi deilwng i ddattod escidiau ei draed.

26 Ha-wŷr frodyr, plant o ge­nedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwri­acth hon.

27 Canys y rhai oedd yn press­wylio yn Jerusalem, a'u tywysogi­on, heb adnabod hwn, a lleferydd y Prophwydi, y rhai a ddarllen­nid bob Sabbath, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.

28 Ac er na chawsant ynddo ddim achos angeu, hwy a ddymu­nasant ar Pilat ei ladd ef.

29 Ac wedi iddynt gwblhau pôb peth a'r a scrifennasid am dano ef, hwy a'i descynnasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.

30 Eithr Duw a'i cyfododd ef oddiwrth y meirw.

31 Yr hwn a welwyd, dros ddy­ddiau lawer, gan y rhai a ddaethei i fynu gyd ag ef o Galilæa i Jeru­salem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl.

32 Ac yr ydym ni yn efangylu i chwi, yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hyn i ni eu plant hwy, gan iddo ad-gyfod i'r Iesu.

33 Megis ac yr yscrifennwyd yn yr ail Psalm, Fy mâb i ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.

34 Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd sel hyn, Rhoddaf i chwi siccr drugareddau Da fydd.

35 Ac am hynny y mae yn dy­wedyd mewn psalm arall, Ni ade­wi i'th Sanct weled llygrediga­eth.

36 Canys Dafydd wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a we­lodd lygredigaeth.

37 Eithr yr hwn a gyfodes Duw, ni welodd lygredigaeth.

38 Am hynny, bydded hyspys i chwi, Ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau.

39 A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cy­fiawnhau oddi wrthynt.

40 Gwiliwch gan hynny, na ddel arnoch y peth a ddywed­pwyd yn y Prophwydi.

41 Edrychwch, ô ddirmyg­wŷr, a rhyfeddwch, a diflen­nwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.

42 A phan aeth yr Iddewon allan o'r Synagog, y Cenhedloedd a attolygasant gael pregethu y gei­riau hyn iddynt y Sabbath nesaf.

43 Ac wedi gollwng y gynnu­lleidfa, llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid crefyddol, a ganlyna­sant Paul a Barnabas, y rhai gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngrâs Duw.

44 A'r Sabbath nesaf, yr holl ddinas agos, a ddaeth ynghŷd i wrando gair Duw.

45 Eithr yr Iddewon pan wel­sant y torfeydd, a lanwyd o gen­figen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrth-ddywedyd a chablu.

46 Yna Paul a Barnabas a ae­thant yn hŷ, ac a ddywedasant, Rhaid oedd lesaru gair Duw wr­thych chwi yn gyntaf, eithr o herwydd eich bôd yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele yr ydym yn troi at y Cen­hedloedd.

47 Canys felly y gorchymyn­nodd yr Arglwydd i ni, gan ddy­wedyd, mi a'th osodais di yn o­leuni i'r Cenhedloedd, i fôd o ho­not yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar.

48 A'r Cenhedloedd pan glyw­sant, a fu lawen ganddynt, [...]c a ogoneddasant air yr Arglwydd, a [Page] chynnifer ac oedd wedi eu hor­deinio i fywyd tragywyddol a gre­dasant.

49 A gair yr Arglwydd a dan­wyd drwy 'r holl wlâd.

50 A'r Iddewon a annogasant y gwragedd crefyddol ac anrhyde­ddus, a phennaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u terfynau.

51 Eithr hwy a escydwasant y llŵch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwy, ac a ddaethant i Ico­nium.

52 A'r discyblion a gyflawn­wyd o lawenydd, ac o'r Yspryd glân.

PEN. XIV.

1 Eilid Paul a Barnabas allan o Iconium. 7 Paul yn iachâu y cloff efrydd yn Lystra: ac ar hynny y bobl yn tybied mai Duwiau oe­ddynt hwy. 19 Llabyddio Paul. 21 Hwynt hwy yn myned trwy fa­gad o Eglwysi gan gadarnhau y discyblion yn y ffydd, ac mewn dioddefgarwch: 26 ac wedi dych­welyd i Antiochia, yn mynegi yno beth a wnaethei Duw trwyddynt hwy.

A Digwyddodd yn Iconium i­ddynt fyned ynghyd i Syna­gog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o'r Idde­won ac o'r Groeg-wyr hefyd.

2 Ond yr Iddewon anghreda­dyn a gyffroesant feddyliau y Cen­hedloedd, ac a'u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.

3 Am hynny hwy a arhosasant yno [...]mser mawr, gan fôd yn hŷ yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei râs, ac yn canhiadu gwneuthur arwyddi­on a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.

4 Eithr lliaws y ddinas a ran­nwyd, a rhai oedd gyd â'r Idde­won, a rhai gyd â'r Apostolion.

5 A phan wnaethpwyd rhuthur gan y Cenhedloedd, a'r Iddewon, ynghŷd â'u llywodraeth-wŷr, i'w hammerchi hwy, ac i'w llaby­ddio,

6 Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, di­nasoedd o Lycaonia, ac i'r wlâd oddi amgylch.

7 Ac yno y buant yn Efangylu.

8 Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra, yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd glôff o grôth ei fam, ac ni rodiasei erioed.

9 Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff ar­no, a gweled fôd ganddo ffydd i gael iechyd,

10 A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn uniawn: ac efe a neidiodd i fynu, ac a rodi­odd.

11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethei Paul, hwy a godasant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, y Duwiau yn rhith dynion a ddescynnasant at­tom.

12 A hwy a alwasant Barnabas yn Jupiter, a Phaul yn Mercurius: oblegid efe oedd yr ymadrodd-wr pennaf:

13 Yna offeiriad Jupiter yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddûg dei­rw a garlantau i'r pyrth, ac a fyn­nasei gŷd â'r bobl aberthu.

14 A'r Apostolion Barnabas, a [Page] Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidia­sant ymmhlith y bobl, gan lefain,

15 A dywedyd, Ha wŷr pa ham y gwnewch chwi y pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion ymma, at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nêf a daiar, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt.

16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i'r holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.

17 Er hynny ni adawodd efe mo honaw ei hun yn ddi-dŷst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thym­horau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â llyniaeth, ac â lla­wenydd.

18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

19 A daeth yno Iddewon o An­tiochia ac Iconium, a hwy a ber­swadiasant y bobl, ac wedi llaby­ddio Paul, a'i lluscasant ef allan o'r ddinas, gan dybieid ei fôd ef wedi marw.

20 Ac fel yr oedd y discyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfo­dodd, ac a aeth i'r ddinas: a thran­noeth efe a aeth allan, efe a Barna­bas, i Derbe.

21 Ac wedi iddynt bregethu yr Efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddiscyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Ico­nium, ac Antiochia,

22 Gan gadarnhau eneidiau y discyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o or­thrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.

23 Ac wedi ordeinio iddynt Henuriaid ym mhôb Eglwys, a gweddio gyd ag ymprydiau, hwy a'u gorchymynnasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent yn­ddo.

24 Ac wedi iddynt drammwy drwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamphilia.

25 Ac wedi pregethu y gair yn Perga, hwy a ddaethant i wared i Attalia.

26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymmyn i râs Duw, i'r gorchwyl a gyflawnasant.

27 Ac wedi iddynt ddyfod a chynnull yr Eglwys ynghyd, ad­rodd a wnaethant faint o bethau a wnaethei Duw gyd â hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.

28 Ac yno yr arhosasant hwy, dros hîr o amser, gydâ 'r discy­blion.

PEN. XV.

1 Ymryson mawr yn cyfodi ynghylch yr Enwaediad. 6 Yr Apostolion yn ymgynghori ynghylch hynny, 22 ac yn anfon eu meddwl trwy ly­thyrau at yr Eglwysi. 30 Paul a Barnabas wedi bwriadu myned i ymweled â'r brodyr, yn ymrafaelio ac yn ymadel â'i gilydd.

A Rhai wedi dyfod i wared o Judæa, a ddyscasant y brodyr gan ddywedyd, onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig.

2 A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Bar­nabas, [Page] yn eu herbyn, hwy a or­deiniasant fyned o Paul a Barna­bas, a rhai eraill o honynt, i fynu i Jerusalem, at yr Apostolion, a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn ymma.

3 Ac wedi eu hebrwng gan yr Eglwys, hwy a dramwyasant drwy Phaenice, a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd. A hwy a barasant lawenydd mawr i'r bro­dyr oll.

4 Ac wedi eu dyfod hwy i Je­rusalem, hwy a dderbyniwyd gan yr Eglwys, a chan yr Apostolion, a chan yr Henuriaid, a hwy a fy­negasant yr holl bethau a wnae­thei Duw gyd â hwynt.

5 Eithr cyfododd rhai o sect y Pharisæaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymmyn ca­dw Deddf Moses.

6 A'r Apostolion a'r Henuri­aid a ddaethant ynghŷd, i edrych am y matter ymma.

7 Ac wedi bod ymddadleu mawr, cyfododd Petr ac a ddywe­dodd wrthynt, Ha-wŷr frodyr, chwi a wŷddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni, fy ethol i, i gael o'r Cenhedloedd drwy fy ngenau i, glywed gair yr Efengyl, a chredu.

8 A Duw, adnabydd-ŵr calon­nau, a ddûg dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Yspryd glân, megis ac i ninnau.

9 Ac ni wnaeth efe ddim gwa­haniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.

10 Yn awr, gan hynny, pa ham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau y discyblion, yr hon ni allodd ein tadau ni, na ninnau ei dwyn?

11 Eithr trwy râs yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bôd yn gadwedig, yr un môdd a hwythau.

12 A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint, a wnaethei Duw ym mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13 Ac wedi iddynt ddistewi, attebodd Jaco, gan ddywedyd, Ha-wŷr frodyr, gwrandewch ar­naf fi.

14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymmeryd o'r Cenhedloedd bobl iw Enw.

15 Ac â hyn y cyttûna geiriau y Prophwydi; megis y mae yn scrifennedig:

16 Yn ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn Dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syr­thio, a'i fylchau ef a adeiladaf drachesn, ac a'i cyfodaf eil-chwyl:

17 Fel y byddo i hyn a weddi­ller o ddynion, geisio yr Ar­glwydd, ac i'r holl genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.

18 Yspys i Dduw yw ei wei­thredoedd oll erioed.

19 O herwydd pa ham, fy marn i yw, na flinom y rhai o'r cenhed­loedd a droesant at Dduw.

20 Eithr scrifennu o honom ni attynt, ar ymgadw o honynt oddi­wrth halogrwydd delwau, a godi­neb, ac oddi wrth y peth a dag­wyd, ac oddi wrth waed.

21 Canys y mae i Moses, ym mhôb dinas, er yr hên amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fôd yn ei ddarllen yn y Synagogau bôb Sabbath.

22 Yna y gwelwyd ŷn dda gan yr Apostolion a'r Henuriaid, yng­hŷd a'r holl Eglwys, anfon gwŷr etholedic o honynt eu hunain, i Antiochia, gyd â Phaul a Barna­bas, sef Judas â gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ym-mhlith y brodyr.

23 A hwy a scrifennasant gyd â hwynt fel hyn; Yr Apostolion, a'r Henuriaid, a'r brodyr, at y bro­dyr y rhai sy o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch.

24 Yn gymmaint a chlywed o honom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni, eich trallodi chwi â geirian gan ddymch welyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fôd yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw y Ddeddf, i'r rhai ni roe­sem ni gyfryw orchymmyn.

25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gyttûn, anfon gwŷr etholedig attoch, gyd â'n hanwylyd Barnabas a Phaul:

26 Gwŷr a roesant eu henei­diau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist.

27 Ni a anfonasom, gan hynny, Judas a Silas, a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau.

28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd glân, a chennym nin­nau, na ddodid arnoch faich ych­waneg nâ'r pethau angenrheidiol hyn.

29 Bôd i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eu­ [...]nod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odi­neb, oddi wrth yr hyn bethau, os ymgedwch, da y gwnewch. Bydd­wch iach.

30 Felly, wedi eu gollwng hwynt ymmaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr.

31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y di­ddanwch.

32 Judas hefyd a Silas, a hwy­thau yn Brophwydi, trwy lawer o ymadrodd, a ddiddanasant y bro­dyr, ac a'u cadarnhasant.

33 Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ym­maith mewn hedelwch, gan y bro­dyr, at yr Apostolion.

34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno.

35 A Phaul a Barnabas a ar­hosasant yn Antiochia, gan ddy­seu ac efangylu gair yr Arglwydd, gyd â llawer era [...]ll hefyd.

36 Ac wedi rhai dyddiau, dy­wedodd Paul wrth Barnabas, dychwelwn, ac ymwelwn â'n bro­dyr, ym mhôb dinas y pregetha­som air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy.

37 A Barnabas a gynghorodd gymmeryd gyd â hwynt Joan, yr hwn a gysen wid Marcus.

38 Ond ni welei Paul yn addas gymmeryd hwnnw gyd â hwynt, yr hwn a dynnasei oddi wrthynt o Pamphilia, ac nid aethei gyd â hwynt i'r gwaith.

39 A bu gymmaint cynhwrf rhyngddynt fei yr ymadawsant o­ddi wrth ei gilydd, ac y cymmerth Barnabas Marc gyd ag ef, âc y mordwyôdd i Cyprus.

40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymmaith, wedi ei orchymmyn i râs Duw gan y brodyr.

41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau yr Eglwysi.

PEN. XVI.

1 Paul wedi enwaedu ar Timothe­us, 7 ac wedi ei alw gan yr Ys­pryd, 14 yn troi Lydia: 16 yn bwrw allan yspryd dewiniaeth: 18 Ac am hynny Silas ac yntef, yn cael eu fflangellu, a'i carcharu. 26 Egoryd drysau y carchar. 31 Troi ceidwad y carchar. 37 a'i gwaredu hwythau.

YNa y daeth efe i Derbe ac i Lystra; ac wele, yr oedd yno ryw ddiscybl, a'i enw Timotheus, mâb i ryw wraig, yr hon oedd I­ddewes, ac yn credu, a'i dâd oedd Roegŵr.

2 Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.

3 Paul a fynnei i hwn fyned allan gyd ag ef, ac efe a'i cym­merth, ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lle­oedd hynny: canys hwy a wy­ddent bawb, mai Groeg-ŵr oedd ei dâd ef.

4 Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy y dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw y gorchymynnion a ordeiniasid gan yr Apostolion a'r Henuriaid, y rhai oedd yn Jeru­salem.

5 Ac felly yr Eglwysi a gadarn­hawyd yn y ffydd, ac a gynnydda­sant mewn rhifedi beunydd.

6 Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia a gwlâd Galatia, a gwa­rafun iddynt gan yr Yspryd glân bregethu y gair yn Asia.

7 Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia, ac ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt.

8 Ac wedi myned heibio i My­sia, hwy a aethant i wared i Tro­as.

9 A gweledigaeth a ymddan­gosodd i Paul liw nôs: Rhyw ŵr o Macedonia a safai, ac a ddei­syfai arno, ac a ddywedai, Tyred trosodd i Macedonia, a chym­morth ni.

10 A phan welodd efe y wele­digaeth, yn ebrwydd ni a geisia­som fyned i Macedonia, gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni, i efangylu iddynt hwy.

11 Am hynny, wedi myned ymmaith o Troas, ni a gyrchasom yn uniawn i Samothracia, a thran­noeth i Neapolis.

12 Ac oddi yno i Philippi, yr hon sydd brif-ddinas o barth o Ma­cedonia, dinas rydd; ac ni a fu­om yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai.

13 Ac ar y dydd Sabbath, ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle byddid arferol o weddio; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.

14 A rhyw wraig a'i henw Ly­dia, un yn gwerthu porphor, o ddinas y Thiatyriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a le­ferid gan Paul.

15 Ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd arno [...] [Page] gan ddywedyd, os barnasoch fy môd i yn ffyddlawn i'r Ar­glwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cym­mhellodd ni.

16 A digwyddodd, a ni yn my­ned i weddio, i ryw langces, yr hon oedd ganddi yspryd dewini­aeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i'w meistraid, wrth ddywedyd dewiniaeth.

17 Hon a ddilynodd Paul a nin­neu, ac a lefodd gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iechydw­riaeth.

18 A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer, eithr Paul yn flin ganddo; a drodd; ac a ddywe­dodd wrth yr yspryd, Yr ydwyf yn gorchymmyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan o honi. Ac efe a aeth allan yr awr honno.

19 A phan welodd ei meistreid hi, fyned gobaith eu helw hwynt ymmaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u lluscasant hwy i'r farchnadfa, at y llywodraeth­wŷr.

20 Ac a'i dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, y mae y dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni.

21 Ac yn dyscu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn, na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufein-wŷr.

22 A'r dyrfa a safodd i fynu ynghŷd yn eu herbyn hwy, a'r swyddogion gan rwygo eu dillad, a orchymynnasant eu curo hwy â gwiail.

23 Ac wedi rhoddi gwialen­nodiau lawer iddynt, hwy a'u ta­flasant i garchar; gan orchymyn i geidwad y carchar, eu cadw hwy yn ddiogel.

24 Yr hwn wedi derbyn y cy­fryw orchymyn a'u bwriodd hwy i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn siccr yn y cyffion.

25 Ac ar hanner nôs, Paul a Silas oedd yn gweddio, ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion a'u clywsant hwy.

26 Ac yn ddisymmwth y bu daiar-gryn mawr, hyd oni sigl­wyd seiliau y carchar: ac yn eb­rwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.

27 A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau y car­char yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hûn; gan dybied ffoi o'r carcha­rorion ymmaith.

28 Eithr Paul a lefodd â llef uchel gan ddywedyd, na wna i ti dy hûn ddim niwed; canys yr ydym ni ymma oll.

29 Ac wedi galw am oleu, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddych­rynnedic ef a syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas.

30 Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistred, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig.

31 A hwy a ddywedasant, Crêd yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.

32 A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.

33 Ac efe a'u cymmerth hwy yr a wr honno o'r nos, ac a ol­chodd [Page] eu briwiau, ac efe a se­dyddiwyd, a'r eiddo oll, yn y man.

34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gre­du i Dduw, efe a'i holl deulu.

35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisi­aid, gan ddywedyd, gollwng ym­maith y dynion hynny.

36 A cheidwad y carchar a fy­negodd y geiriau hyn wrth Paul, Y Swyddogion a anfonasant i'ch gollwng chwi ymmaith, yn awr gan hynny cerddwch ymmaith: ewch mewn heddwch.

37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau yn Rhufein-wŷr, hwy a'n bw­riasant ni i garchar, ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nid felly: ond deu­ant hwy eu hunain, a dygant ni allan.

38 A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r Swyddogion, A hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.

39 A hwy a ddaethant ac a at­tolygasant arnynt, ac a'i dygasant allan, ac a ddeisyfiasant arnynt fy­ned allan o'r ddinas.

40 Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy aethant i mewn at Lydia; ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cyssurasant, ac a yma­dawsant.

PEN. XVII.

1 Paul yn pregethu yn Thessalonica: 4 lle y mae rhai yn credu, ac er­aill yn ei erlid ef. 10 Ei anfon ef i Beræa, ac yntef yn pregethu yno. 13 Ac wedi ei erlid yn Thes­salonica, 15 yn dyfod i Athen, ac yno yn ymresymmu, ac yn prege­thu idd ynt hwy y Duw byw, yr hwn nid adwaenent: 34 ac wrth hynny bagad yn troi at Grist.

GWedi iddynt dramwy drwy Amphipolis, ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessalonica, lle yr oedd Synagog i'r Iddewon.

2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn attynt, a thros dri Sabbath a ymresymmodd â hwynt, allan o'r Scrythyrau.

3 Gan egluro, a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw y Crist Iesu, yr hwn yr wyfi yn ei brege­thu i chwi.

4 A rhai o honynt a gredasant, ac a ymwascasant â Phaul a Silas, ac o'r Groegwŷr crefyddol lliaws mawr, ac o'r gwragedd pennaf nid ychydig.

5 Eithr yr Iddewon, y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymmerasant attynt ryw ddynion drwg o gyrwydriaid; ac wedi casclu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant a r dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.

6 A phan na chawsant hwynt, hwy a luscasant Jason, a rhai o'r brodyr, at bennaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflony­ddu y bŷd, y rhai hynny a ddae­thant ymma hefyd.

7 Y rhai a dderbyniodd Jason, ac y mae y rhai hyn oll yn gwneu­thur yn erbyn ordeiniadau Caesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu.

8 A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraeth-wŷr y ddinas he­fyd, wrth glywed y pethau hyn.

9 Ac wedi iddynt gael siccrwydd gan Iason a'r llaill, hwy a'u golly­ngasant hwynt ymmaith.

10 A'r brodyr yn ebrwydd o hŷd nôs, a anfonasant Paul a Si­las i Beræa: y rhai wedi eu dy­fod yno, a aethant i Synagog yr Iddewon.

11 Y rhai hyn oedd fone­ddigeiddiach nâ'r rhai oedd yn Thessalonica, y rhai a dderbynia­sant y gair gyd â phôb parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr Scrythyrau, a oedd y pethau hyn felly.

12 Felly llawer o honynt a gre­dasant, ac o'r Groegesau parche­dig, ac o wŷr nid ychydig.

13 A phan wybu yr Iddewon o Thessalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Beræa he­fyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi y dyrfa.

14 Ac yna yn ebrwydd, y bro­dyr a anfonasant Paul ymmaith, i fyned megis i'r môr, ond Silas a Thimotheus a arhosasant yno.

15 A chyfarwydd-wŷr Paul a'i dygasant ef hyd Athen: ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod atto ar ffrwst, hwy a aethant ym­maith.

16 A thra ydoedd Paul yn aros am danynt yn Athen, ei yspryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth we­led y ddinas wedi ymroi i eu­lynnod

17 O herwydd hynny yr ymre­symmodd efe yn y Synagog â'r I­ddewon, ac â'r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd, â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.

18 A rhai o'r Philosophyddi­on, o'r Epicuriaid, ac o'r Stoici­aid, a ymddadleuasant ag efe; a rhai a ddywedasant beth a fynnei y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, tebyg yw ei fod ef yn myne­gi duwiau dieithr, am ei fôd yn pregethu yr Iesu, a'r ad-gyfodiad, iddynt.

19 A hwy a'i daliasant ef ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywe­dyd; A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysc newydd hon, a drae­thir gennit?

20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n clusti­au ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a alle i y pethau hyn fôd.

21 (A'r holl Atheniaid, a'r di­eithriaid, y rhai oedd yn ymdei­thio yno, nid oeddynt yn cym­meryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd, neu i glywed rhyw newydd.)

22 Yna y safodd Paul yngha­nol Areopagus, ac a ddywedodd, ha-wŷr Atheniaid, mi a'ch gwe­laf chwi ym-mhob peth yn dra­choel grefyddol.

23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosionau, mi a gefais allor, yn yr hon yr scri­fennasid; I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn, gan hynny, yr ydych chwi heb ei ad­nabod, yn ei addoli, hwnnw yr wyfi yn ei fynegi i chwi.

24 Y Duw a wnaeth y bŷd, a phôb peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daiar, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo.

25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai ar­no [Page] eisieu dim, gan ei fôd efe yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phôb peth oll.

26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bôb cenedl o ddynion, i breswy­lio ar holl wyneb y ddaiar, ac a bennodd yr amseroedd rhag-oso­dedig, a therfynau eu preswylfod hwynt.

27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano ef a'i gael, er nad yw efe yn ddiau neppel oddi wrth bôb un o ho­nom.

28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bôd: megis y dywedodd rhai o'ch Poetau chwi eich hunain: canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.

29 Gan ein bod ni gan hynny, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn de­byg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd, a dychymmyg dŷn.

30 A Duw gwedi esceuluso am­seroedd yr an wybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymmyn i bôb dŷn, ym-mhob man, edifarhau.

31 O herwydd iddo osod di­wrnod, yn yr hwn y barna efe y bŷd mewn cyfiawnder, drwy y gŵr a ordeiniodd efe, gan ro­ddi ffydd i bawb, o herwydd dar­fod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.

32 A phan glywsant sôn am adgyfodiad y meirw, rhai a wat­warasant, a rhai a ddywedasant, ni a'th wrandawn drachefn am y peth hyn.

33 Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.

34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant, ym-mhlith y rhai yr oedd Dionysius Areopa­gita, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyd â hwynt.

PEN. XVIII.

1 Paul yn gweithio â'i ddwylaw, ac yn pregethu yn Corinth i'r Cen­hedloedd. 9 Yr Arglwydd yn ei gyssuro ef trwy weledigaeth. 2 A­chwyn arno ef ger bron Galio y rhaglaw: yntef yn cael ei ollwng ymmaith: 18 ac wedi hynny yn tramwy o ddinas i ddinas, ac yn nerthu y discyblion. 24 Apollos wedi ei ddyscu yn fanylach gan A­quila a Phriscilla, 28 yn pregethu Christ, gydâ nerth mawr.

YN ôl y pethau hyn, Paul a y­madawodd ag Athen, ac a ddaeth i Corinth.

2 Ac wedi iddo gael rhyw I­ddew, ai enw Aquila, un o Pon­tus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, a'i wraig Priscilla, (am or­chymmyn o Claudius i'r Idde­won oll fyned allan o Rufain) efe a ddaeth attynt.

3 Ac o herwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arhoes gyd â hwynt, ac a weithiodd (canys gw­neuthur-wŷr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.)

4 Ac efe a ymresymmodd yn y Synagog bôb Sabbath, ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groe­giaid.

5 A phan ddaeth Silas a Thi­motheus o Macedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr Yspryd, ac efe a dy­stiolaethodd i'r Iddewon, mai Ie­su oedd Christ.

6 A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a e­scydwodd [Page] ei ddillad, ac a ddywe­dodd wrthynt; Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain, glân ydwyf fi; o hyn allan, mi âf at y cenhedloedd.

7 Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a'i enw Ju­stus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r Sy­nagog.

8 A Chrispus yr Arch-synago­gydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthi­aid wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.

9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nôs, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw.

10 Canys yr wyfi gyd â thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur ni­wed i ti: o herwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.

11 Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dyscu gair Duw yn eu plith hwynt.

12 A phan oedd Gal-lio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn un-fryd yn erbyn Paul, ac a'i dygasant ef i'r frawd­le.

13 Gan ddywedyd; Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y Ddeddf.

14 Ac fel yr oedd Paul yn am­canu agoryd ei enau, dywedodd Gal-lio wrth yr Iddewon; Pe bu­asei gam, neu ddrwg weithred, ô Iddewon, wrth reswm myfi a gyd ddygaswm â chwi.

15 Eithr os y qwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a'r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edry­chwch eich hunain, canys ni fy­ddafi farnwr am y pethau hyn.

16 Ac efe a'u gyrrodd hwynt oddiwrth y frawdle.

17 A'r holl Roeg wŷr a gym­merasant Sosthenes yr Arch-syna­gogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle, ac nid oedd Gal-lio yn gofalu am ddim o'r pethau hyn­ny.

18 Eithr Paul wedi aros etto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ym­maith i Syria, a chyd ag ef Pri­scilla ac Aquila, gwedi iddo gnei­fio ei ben yn Cenchrea, canys yr oedd arno adduned.

19 Ac efe a ddaeth i Ephesus, ac a'u gadawodd hwynt yno, eithr efe a aeth i'r Synagog, ac a ymre­symmodd â'r Iddewon.

20 A phan ddymunasant arno aros gyd â hwynt dros amser hwy, ni chaniattâodd efe.

21 Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae yn anghenrhaid i mi gadw yr wŷl sy'n dyfod yn Jerusalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl attochwi drachefn: ac efe a aeth ymmaith o Ephesus.

22 Ac wedi iddo ddyfod i wa­red i Caesarea, efe a aeth i fynu, ac a gyfarchodd yr Eglwys, ac a ddaeth i wared i Antiochia.

23 Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymmaith gan dramwy trwy wlâd Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarn­hau yr holl ddiscyblion.

24 Eithr rhyw Iddew, a'i e­nw Apollos, Alexandriad o ge­nedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr Scrythyrau, a ddaeth i E­phesus.

25 Hwn oedd wedi dechreu dyscu iddo ffordd yr Arglwydd, ac [Page] efe yn wresog yn yr Yspryd, a le­farodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig.

26 A hwn a ddechreuodd le­faru yn hŷ yn y Synagog: a phan glybu Aquila a Phriscilla, hwy a'i cymmerasant ef attynt, ac a ago­rasant iddo ffordd Duw yn fany­lach.

27 A phan oedd efe yn ewy­llysio myncd i Achaia, y brodyr gan annog, a scrifennasant at y discyblion i'w dderbyn ef. Yr hwn wedi ei ddy-fod, a gynnorth wy­odd lawer ar y rhai a gredasent trwy râs.

28 Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egniol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy yr Scrythyrau mai Iesu yw Christ.

PEN. XIX.

6 Rhoddi 'r Yspryd glân trwy ddwylaw Paeul. 9 Yr Iddewon yn cablu ei athrawiaeth ef, yr hon a gadarnheir trwy wrthiau. 13 Y Consurwyr Iddewaidd, 16 yn cael eu curo gan y cythrael. 19 Llosci y llyfrau consurio. 24 Demetrius, o chwant elw yn codi terfysc mawr yn erbyn Paul: 35 ac yscolhaig y ddinas yn llonyddu 'r derfysc.

A Digwyddodd tra fu Apollos yn Corinth, wedi i Paul drammwy trwy y parthau uchaf, ddyfod o honaw ef i Ephesus, ac wedi iddo gael rhyw ddiscyblion.

2 Efe a ddywedodd wrthynr, a dderbyniasoch chwi yr Yspryd glân, er pan gredasoch. A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymmaint a chlywed a oes Ys­pryd glân.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddi­wyd chwi? hwythau a ddyweda­sant, I fedydd Ioan.

4 A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edi­feirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yn Grist Iesu.

5 A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Ar­glwydd Iesu.

6 Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylaw arnynt, yr Yspryd glân a ddaeth arnynt, a hwy a drae­thasant â thafodau, ac a brophwy­dasant.

7 A'r gwŷr oll oeddynt yng­hylch deuddec.

8 Ac efe a aeth i mewn i'r Sy­nagog, ac a lefarodd yn hŷ dros dri mis, gan ymresymmu a chy­nghori y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

9 Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywe­dyd yn ddrwg am y ffordd honno, ger bron y lliaws, efe a dynnodd ymmaith oddi wrthynt, ac a naill­tuodd y discyblion, gan ymrefym­mu beunydd yn yscol un Tyran­nus.

10 A hyn a fu dros yspaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Idde­won a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu.

11 A gwrthiau rhagorol a wnaeth Duw drwy ddwylo Paul;

12 Hyd oni ddygid at y cleifi­on oddi wrth ei gorph ef, nap­kynnau [Page] neu foledau; a'r clefydau a ymadawei â hwynt, a'r ysprydi­on drwg a aent allan o honynt.

13 Yna rhai o'r Iddewon cyr­wydraidd y rhai oedd gonsur-wŷr, a gymmerasant arnynt henwi uwch ben y rhai oedd ac ysprydi­on drwg ynddynt, enw 'r Ar­glwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.

14 Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac arch­offeiriad, y rhai oedd yn gwneu­thur hyn.

15 A'r Yspryd drwg a attebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen, eithr pwy ydych chwi?

16 A'r dŷn, yr hwn yr oedd yr yspryd drwg ynddo, a ruth­rodd arnynt, ac a'u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn, hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion, ac yn arch­olledig.

17 A hyn a fu hyspys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid he­fyd, y rhai oedd yn presswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd ar­nynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.

18 A llawer o'r rhai a greda­sent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd.

19 Llawer hefyd o'r rhai a fua­sei yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u lloscasant yngwydd pawb, a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'u cawsant yn ddeng-mîl a deugain o ddarnau arian.

20 Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.

21 A phan gyflawnwyd y pe­thau hyn, arfaethodd Paul yn yr yspryd, gwedi iddo drammwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Jerusalem, gan ddywedyd, gwe­di i mi fôd yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd.

22 Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.

23 A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno.

24 Canys rhyw un a'i enw Demetrius, gôf arian, yn gwneu­thur temlau arian i Ddiana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefft­wŷr.

25 Y rhai a alwodd efe ynghyd â gweithwŷr y cyfryw bethau he­fyd, ac a ddywedodd, Ha-wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni.

26 Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Ephesus, eithr agos tros Asia oll, ddarfod i'r Paul ymma berswadio a throi llawer o bobl ymmaith, wrth ddy­wedyd nad ydyw dduwian y rhai a wnair â dwylo.

27 Ac nid yw yn unig yn en­byd i ni ddyfod y rhan hon i ddir­myg, eithr hefyd bod cyfrif Teml y dduwies fawr Diana yn ddi­ddim, a bôd hefyd ddestrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll, a'r byd yn ei haddoli.

28 A phan glywsant, hwy a lan­wyd o ddigofaint, ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.

29 A llanwyd yr holl ddinas o gythryfwl, a hwy a ruthrasant yn [Page] un-fryd i'r orsedd, gwedi cippio Gaius ac Aristarchus o Macedonia, cydymdeithion Paul.

30 A phan oedd Paul yn ewylly­sio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y discyblion iddo.

31 Rhai hefyd o bennaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrrasant atto i ddeisyf arno, nad ymroddei efe i fyned i'r orsedd.

32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall. Canys y gynnu­lleidfa oedd yn gymmysg: a'r rhan fwyaf ni wyddent o herwydd pa beth y daethent ynghŷd.

33 A hwy a dynnasant Alex­ander allan o'r dyrsa, a'r Iddewon yn ei yrru ef ym-malen. Ac Alex­ander a amneidiodd â'i law am osteg, ac a fynnasei ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.

34 Eithr pan ŵybuant mai I­ddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.

35 Ac wedi i yscolhaig y ddi­nas lonyddu y bobl, efe a ddywe­dodd, Ha-wŷr Ephesiaid, pa ddŷn sydd nis gwyr fod dinas yr Ephe­siaid yn addoli y dduwies fawr Diana, a'r ddelw a ddisgynnodd oddi with Jupiter?

36 A chan fôd y pethau hyn heb allu dywedyd i'w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byr-bwyll.

37 Canys dygasoch ymma y gwŷr hyn, y rhai nid y dynt, nac yn yspeilwŷr temlau, nac yn ca­blu eich duwies chwi.

38 Od oes, gan hynny, gan Dde­metrius a'r crefftwŷr sy gyd ag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i'w chael, ac y mae rhag­lawiaid, rhodded pawb yn erbyn ei gilydd.

39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynnu­lleidfa gyfraithlawn y terfynir hynny.

40 O herwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysc he­ddyw, gan nad oes un achos, trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.

41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynnu­lleidfa ymmaith.

PEN. XX.

1 Paul yn myned i Macedonia, 7 yn gwasanaethu swpper yr Arglwydd, ac yn pregethu. 9 Eutychus wedi cwympo i lawer yn farw, yn cael ei godi i fynu yn fyw. 17 Paul ym Miletum yn galw yr Henu­riaid ynghyd, ac yn mynegi i­ddynt beth a ddigwyddai iddo, 28 yn gorchymmyn praidd Duw iddynt, 29 yn eu rhybuddio hwynt am y gau athrawon, 36 yn gwe­ddio gydâ hwynt, ac yn myned ymmaith.

AC ar ôl gostegu y cythryfwl, Paul wedi galw y discybli­on atto, a'u cofleidio, a ymada­wodd i fyned i Macedonia.

2 Ac wedi iddo fyned tros y parthau hynny, a'i cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i di [...] Groeg.

3 Ac wedi aros dri-mis, a gw­neuthur o'r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ai fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwe­lyd trwy Macedonia.

4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, ac o r Thessaloniaid Aristarchus, a Secundus, a Gaius o Derbe, a Thi­motheus; [Page] ac o'r Asiaid Tychicus, a Throphimus.

5 Y rhai hyn a aethant o'r blaen, ac a arhosasant am danom yn Troas.

6 A nin [...]au a fordwyasom ym­ma [...]th oddi wrth Philippi, yn ôl dyddiau y bara croyw, ac a ddae­thom attynt hwy i Troas mewn pum nhiwrnod, lle yr arhosasom saith niwrnod.

7 Ac ar y dydd cyntaf o'r wyth­nos, wedi i'r discyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ym­resymmodd â hwynt, ar fedr my­ned ymmaith drannoeth, ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd han­ner nôs.

8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ym­gasclu.

9 A rhyw ŵr ieuange, a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffe­nestr, ac efe a syrthiodd mewn trym-gwsg, tra yr oedd Paul yn ymresymmu yn hîr, wedi ei orch­fygu gan gwsc, ac a gwympodd i lawr o'r drydedd lofft, ac a gyfod­wyd i fynu yn farw.

10 A Phaul a aeth i wared, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei go­fleidio, a ddywedodd, Na chyffro­ed arnoch; canys y mae ei enaid ynddo ef.

11 Ac wedi iddo ddyfod i fynu, a thorri bara, a bwytta, ac ym­ddiddan llawer hyd torriad y dydd; felly efe a aeth ymmaith.

12 A hwy a ddygasant y llange yn fyw, ac a gyssurwyd yn ddir­fawr.

13 Ond nyni a aethom o'r blaen i'r llong, ac a hwyliasom i Assos, ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.

14 A phan gyfarfu ef â ni yn Assos, nyni a'i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.

15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod trannoeth gyferbyn â Chios, a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arhosasom yn Trogi­lium, a'r ail dydd y daethom i Mi­letus.

16 Oblegid Paul a roddasei ei fryd ar hwylio heibio i Ephesus, fel na byddei iddo dreulio amser yn Asia, Canys bryssio yr oedd, os bai bossibl iddo, i fod yn Jerusalem erbyn dydd y Sulgwyn.

17 Ac o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd atto He­nuriaid yr Eglwys.

18 A phan ddaethant atto, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wŷddoch er y dydd cyntaf y da­ethym i Asia, pa fodd y bum i gyd â chwi dros yr holl amser,

19 Yn gwasanaethu yr Ar­glwydd gŷd â phob gostyngeidd­rwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau; y rhai a ddig­wyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon:

20 Y môdd nad atteliais ddim o'r pethau buddiol heb eu myne­gi i chwi, a'ch dyscu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ,

21 Gan dystiolaethu i'r Idde­won, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tu ag at Dduw, a'r ffydd sydd tu ag at ein Har­glwydd Iesu Grist.

22 Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr yspryd yn myned i Jerusa­lem, heb wybod y pethau a ddig­wydd i mi yno:

23 Eithr bôd yr Yspryd glân [Page] yn tystio i mi ym-mhôb dinas, gan ddywedyd, fôd rhwymau a blinderau yn fy aros.

24 Ond nid wyfi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennif fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystio­laethu Efengyl grâs Duw.

25 Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch ehwi oll (ymmysc y rhai y bûm i yn trammwy, yn pregethu teyrnas Dduw) weled fy wyneb i mwyach.

26 O herwydd pa ham, yr yd­wyf yn tystio i chwi y dydd he­ddyw, fy môd i yn lân oddi wrth waed pawb oll.

27 Canys nid ymmatteliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

28 Edrychwch, gan hynny, ar­noch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Yspryd glân chwi yn olygwŷr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed.

29 Canys myfi a wn hyn, y daw yn ôl fy vmadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd.

30 Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyr-draws, i dynnu di­scyblion ar eu hôl.

31 Am hynny gwiliwch a cho­fiwch, dros dair blynedd na phei­diais i nôs a dydd â rhybuddio pob un o honoch â dagrau.

32 Ac yr awr hon frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymmyn i Dduw, ac i air ei râs ef, yr hwn a all adeiladu chwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ym-mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.

33 Arian, neu aur, neu wisg nêb, ni chwennychais.

34 Ie chwi a wyddoch eich hunain ddarfod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfraidiau i, ac i'r rhai oedd gyd â mi.

35 Mi a ddangosais i chwi bôb peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynnorthwyo y gweini­aid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd o honaw ef, mai dedwydd yw rhoddi yn hyttrach nâ derbyn.

36 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei li­niau i lawr, ac a weddiodd gŷd a hwynt oll.

37 Ac wylo yn dôst a wnaeth pawb, a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant ef,

38 Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasei efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.

PEN. XXI.

1 Paul yn gwrthod ei gynghori i beidio a myned i Jerusalem. 9 Merched Philip yn Brophwydesau, 15 Paul yn dyfod i Jerusalem: 24 lle y daliwyd ef, ac y bu mewn mawr berygl: 31 a'r pen­capten yn ei achub ef, ac yn rhoi cennad iddo i lefaru wrth y bobl.

A Digwyddodd wedi i ni osod allan, ac ymadel â hwynt, ddyfod o honom ag uniawngyrch i Coos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.

2 A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice; ni a [Page] ddringasom iddi, ac a aethom ym­maith.

3 Ac wedi ymddangos o Cy­prus i ni, ni a'i gadawsom hi ar y llaw asswy, ac a hwyliasom i Sy­ria, ac a diriasom yn Tyrus; ca­nys yno yr oedd y llong yn dad­lwytho y llwyth.

4 Ac wedi i ni gael discyblion, nyni a arhosasom yno saith niwr­nod; y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, nad elei i fynu i Jerusalem.

5 A phan ddarfu i ni orphen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gych wynnasom: a phawb yng­hyd, a'r gwragedd, a'r plant, a'n hebryngasant ni hyd allan o'r ddi­nas, ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddi­asom.

6 Ac wedi i ni ymgyfarch a'i gilydd, ni a ddringasom i'r llong, a hwythau a ddychwelasant i'w cartref.

7 Ac wedi i ni orphen hwylio o Tyrus, ni a ddaethom i Ptole­mais: ac wedi i ni gyfarch y bro­dyr, ni a drigasom un diwrnod gyd â hwynt.

8 A thrannoeth y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Caesaria. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr Efengylwr, (yr hwn oedd un o'r saith) ni a arhosasom gyd ag ef.

9 Ac i hwn yr oedd pedair mer­ched, o forwynion, yn proph­wydo.

10 Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i wa­red o Judæa brophwyd a'i enw Agabus.

11 Ac wedi dyfod attom, a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylaw ef a'i draed, efe a ddywedodd, hyn a ddywed yr Yspryd glân, Y gŵr biau y gw­regys hwn, a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerusalem, ac a'i traddo­dant i ddwylo y Cenhedloedd.

12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni a'r rhai oedd o'r fan honno hefyd, a ddeisyfiasom nad elei efe i fynu i Jerusalem.

13 Eithr Paul a attebodd, beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyfi, nid i'm rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerusalem, er mwyn Enw yr Arglwydd Iesu.

14 A chan na ellid ei berswa­dio, ni a beidiasom, gan ddy­wedyd; Ewyllys yr Arglwydd a wneler.

15 Hefyd, yn ôl y dyddiau hynny, ni a gymmerasom ein bei­chiau, ac a aethom i fynu i Jeru­salem.

16 A rhai o'r discyblion o Caesa­rea a ddaeth gyd â ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hên ddi­scybl, gyd â'r hwn y lletteuem.

17 Ac wedi ein dyfod i Jerusa­lem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.

18 A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyd â ni i mewn at Jaco; a'r holl Henuriaid a ddaethant yno.

19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt▪ efe a fynegodd i­ddynt bôb yn un ac un, bôb peth a wnaethei Duw ym-mhlith y Cenhedloedd trwy ei weinido­gaeth ef.

20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd [Page] o'r Iddewon y rhai a gredasant, ac y maent oll yn dwyn zel i'r Ddeddf.

21 A hwy a glywsant, am da­nat ti, dy fôd ti yn dyscu yr Idde­won oll, y rhai sydd ym mysc y Cenhedloedd, i ymwrthod â Mo­ses, ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rho­dio yn ôl y defodau.

22 Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddy­fod ti.

23 Gwna gan hynny, yr hyn a ddywedwn wrthit, y mae gen­nym ni bedwar-gwŷr, a chanddynt adduned arnynt.

24 Cymmer y rhai hyn, a glan­haer di gyd â hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau, ac y gwŷpo pawb am y pethau a glywsant am danat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y Ddeddf.

25 Eithr am y Cenhedloedd, y rhai a gredasant, ni a scrisenna­som, ac a farnasom na bo iddynt gadw dim o'r cyfryw beth, eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pe­thau a aberthwyd i eulynnod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag putteindra.

26 Yna Paul a gymmerth y gwŷr, a thrannoeth gwedi iddo ymlan hau gyd â hwynt, efe a aeth i mewn i'r Deml; gan yspysu cy­flawni dyddiau y glanhâd, hyd oni offrymmid offrwm dros bôb un o honynt.

27 A phan oedd y saith niwr­nod ar ddarfod, yr Iddewon oe­ddent o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfyscasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,

28 Gan lefain, ha-wŷr Israeli­aid, cynnhorthwywch, dymma 'r dŷn sydd yn dyscu pawb ym­mhôb man yn erbyn y bobl, a'r gyfraith, a'r lle ymma, ac ym mhe­llach, y Groegiaid hefyd a ddûg efe i mewn i'r Deml, ac a halo­godd y lle sanctaidd hwn.

29 Canys hwy a welsent o'r blaen Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gyd ag ef, yr hwn yr oe­ddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r Deml.

30 A chynnh yrfwyd y ddinas oll, a'r bobl a redodd ynghyd, ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynnasant ef allan o'r Deml; ac yn ebrwydd, caewyd y dry­sau.

31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben-capten y fyddin, fôd Jerusa­lem oll mewn terfysc.

32 Yr hwn allan o law a gym­merodd filwŷr, a chanwriaid, ac a redodd i wared attynt: hwy­thau, pan welsant y pen-capten a'r milwŷr, a beidiasant a churo Paul.

33 Yna y daeth y pen-capten yn nês, ac a'i daliodd ef, ac a ar­chodd ei rwymo ef â dwy gad­wyn, ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha beth a wnaethei.

34 Ac amryw rai a lefent am­ryw beth yn y dyrfa: ac am nas gallei wybod yspysrwydd, o her­wydd y cythryfwl, efe a orchym­mynnodd ei ddwyn ef i'r castell.

35 A phan oedd efe ar y grisi­au, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwŷr, o achos trais y dyrfa.

36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymmaith ag ef.

37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wr­thit? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?

38 Ond tydi yw yr Aiphti-ŵr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn, a gyfodaist derfysc, ac a arweiniaist ir anialwch bedair mîl o wŷr llo­fruddiog?

39 A Phaul a ddywedodd, gŵr yd wyfi yn wîr o Iddew, un o Tharsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.

40 Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl; ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebrae-aec, gan ddywedyd.

PEN XXII.

1 Paul yn mynegi yn helaeth y môdd y troesid ef i'r ffydd, 17 ac y ga­lwesid ef i fod yn Apostol. 22 Y bobl wrth glywed crybwyll am y Cenhedloedd, yn llefain yn ei erbyn ef: 24 Ac ynteu yn debyg i gael ei fflangellu, 25 ac etto yn diangc, trwy ymhonni o ddinas-fraint Rufain.

HA-wŷr, frodyr a thadau, gw­randewch fy amddiffyn wr­thych yr awr hon.

2 A phan glywsant mai yn Hebrae-aec yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell, ac efe a ddywedodd:

3 Gŵr wyfi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Tharsus yn Ci­licia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon, wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn zêl i Duw, fel yr ydych chwithau oll heddyw.

4 A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a dodi yngharchar wŷr a gwragedd he­fyd.

5 Megis ac y mae yr Arch-o­ffeiriad yn dŷst i mi, a'r holl he­naduriaeth, gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr aethym i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerusalem, iw cospi.

6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesau at Ddama­scus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, i fawr oleuni o'r nêf ddiscleirio o'm hamgylch.

7 A mi a syrthiais ar y ddaiar, ac a glywais lais yn dywedyd wr­thif; Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid?

8 A minnau a attebais. Pwy wyt ti, ô Arglwydd? Yntef a ddywedodd wrthif, myfi yw Ie­su o Nazareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

9 Hefyd y rhai oedd gyd â my­fi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant, ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthif.

10 Ac myfi a ddywedais; Beth a wnaf, ô Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, Cyfod, a dôs i Ddamascus, ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.

11 A phryd nad oeddwn yn gweled g [...]n ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyd â mi [Page] yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddaethym i Ddamascus.

12 Ac un Ananias, gŵr defo­sionol yn ôl y Ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll, ar oeddynt yn presswylio yno,

13 A ddaeth attaf, ac a safodd ger llaw, ac a ddywedodd wrth if, Y brawd Saul, cymmer dy olwg, ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.

14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th rag-ordeiniodd di i wŷbod ei Ewyllys ef, ac i we­led y Cyfiawn hwnnw, ac i gly­wed lleferydd ei enau ef.

15 Canys ti a fyddi dŷst iddo wrth bôb dŷn, o'r pethau a we­laist, ac a glywaist.

16 Ac yr awron, beth yr wyt ti yn ei aros? Cyfod, bedy­ddier di, a golch ymmaith dy bechodau, gan alw ar Enw yr Ar­glwydd.

17 A darfu wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerusalem, fel yr oe­ddwn yn gweddio yn y Deml, i mi syrthio mewn llewyg;

18 A'i weled ef yn dywedyd wrthif, Brysia, a dôs ar frŷs allan o Jerusalem; o herwydd ni dder­byniant dy dystiolaeth am danaf fi.

19 A minneu a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wŷddant fy môd i yn carcharu, ac yn baeddu ym-mhôb Synagog, y rhai a gre­dent ynot ti.

20 A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr o­ddwn i hefyd yn sefyll ger llaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.

21 Ac efe a ddywedodd wrthif, Dôs ymmaith, canys mi a'th an­fonaf ym-mhell at y Cenhed­loedd.

22 A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn. A hwy a goda­sant eu llef, ac a ddywedasant, Ym­maith â'r cyfryw un oddi ar y ddaiar, canys nid cymmwys ei fôd ef yn fyw.

23 Ac fel yr oeddent yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr.

24 Y pen-capten a orchymyn­nodd ei ddwyn efe i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau, fel y gallei wybod am ba a­chos yr oeddynt yn llefain arno felly.

25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwy­mo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw. Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemno hefyd.

26 A phan glybu y Canwri­ad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen-capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneu­thur; canys Rhufeiniad yw y dŷn hwn.

27 A'r pen-capten a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, îe.

28 A'r pen-capten a attebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas­fraint hon. Eithr Paul a ddywed­odd, A minnau a anwyd yn freiniol.

29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho, y rhai oedd ar fedr ei holi ef. A'r pen-capten hefyd a ofnodd, pan wŷbu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oble­gid darfod iddo ei rwymo ef.

30 A thrannoeth, ac efe yn ewy­llysio [Page] gwybod yspysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Idde­won, efe a'i gollyngodd ef o'r rhwymau, ac a archodd i'r Arch offeiriaid a'u cyngor oll ddyfod yno, ac efe a ddug Paul i wared, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.

PEN. XXIII.

1 Paul yn atteb trosto ei hun. 2 A­nanias yn gorchymmyn ei daro ef. 7 Ymryson ymysc ei gyhuddwyr ef. 11 Duw yn ei gyssuro ef. 14 Yr Iddewon yn cynllwyn iddo: 20 a dangos hynny i'r pen-capten: 27 Yntef yn ei anfon ef at Phaelix y Rhaglaw.

A Phaul yn edrych yn graff ar y Cynghor a ddywedodd, Hawŷr, frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddyw.

2 A'r Arch-offeiriad Ananias, a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymmyl, ei daro ef ar ei enau.

3 Yna y dywedodd Paul wr­tho, Duw a'th dery di bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y Ddeddf, a chan droseddu y Ddeddf yn peri fy nharo i?

4 A'r sefyll-wŷr a ddyweda­sant wrtho, A ddifenwi di Arch-offeiriad Duw?

5 A dywedodd Paul, Ni wy­ddwn i, frodyr, mai yr Arch-offeiriad oedd efe: canys scrifen­nedic yw, Na ddywaid yn ddrwg am bennaeth dy bobl.

6 A phan wybu Paul fôd y naill ran o'r Saducæaid, a'r llall o'r Pharisæaid, efe a lefodd yn y Cyn­gor, Hawyr frodyr, Pharisæad wyfi, mâb i Pharisæad: am obaith ac adgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.

7 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Pharisae­aid a'r Saducæaid; a rhannwyd y lliaws.

8 Canys y Saducæaid yn wîr a ddywedant nad oes nac adgyfo­diad, nac Angel, nac Yspryd: eithr y Pharisæaid sydd yn addef pôb un o'r ddau.

9 A bu llefain mawr, A'r Scri­fennydion o ran y Pharisæaid a godasant i fynu, ac a ymrysona­sant, gan ddywedyd; Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dŷn hwn; eithr os yspryd a lefarodd wrtho, neu Angel, nac ymryso­nwn â Duw.

10 Ac wedi cyfodi terfysc mawr, y pen-capten yn ofni rhac tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a ar­chodd i'r mil-wŷr fyned i wared, a'i gipio ef o'i plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.

11 Yr ail nôs, yr Arglwydd a sa­fodd ger llaw iddo, ac a ddywe­dodd, Paul, cymmer gyssur; canys megis y tystiolaethaist am danafi yn Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.

12 A phan aeth hi yn ddydd; rhai o'r Iddewon, wedi llunio cy­farfod, a'i rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd; na fwyttaent, ac nad yfent, nes iddynt ladd Paul.

13 Ac yr oedd mwy nâ deu­gain, o'r rhai a wnaethant y cyn­grair hwn.

14 A hwy a ddaethant at yr Arch-offeiriaid a'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwyma­som [Page] ein hunain â diofryd, na archwaethem ddim, hyd oni la­ddem Paul.

15 Yn awr gan hynny, yspys­wch gyd â'r Cyngor i'r pen-capten, fel y dygo efe ef i wared y foru attoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef, a ninnau cyn y delo efe yn agos, ydym barod iw ladd ef.

16 Eithr pan glybu mâb chwaer Paul y cynllwyn ymma; efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fyne­godd i Paul.

17 A Phaul a alwodd un o'r Canwriaid atto, ac a ddywedodd; Dwg y gŵr ieuangc hwn at y pen-capten; canys y mae ganddo beth iw fynegi iddo.

18 Ac efe a'i cymmerth ef, ac a'i dug at y pen-capten, ac a ddy­wedodd; Paul y carcharor a'm galwodd i atto, ac a ddymunodd arnaf, ddwyn y gŵr ieuangc ym­ma attati, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthit.

19 A'r pen-capten a'i cymme­rodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r nailldu, ac a ofynnodd, Beth yw yr hyn sydd genit i'w fynegi i mi?

20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddei­syf arnat ddwyn Paul i wared y foru i'r Cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.

21 Ond na chyttuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo mwy nâ deugeinŵr o honynt, y rhai a roesant ddiofryd na bwytta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod yn disgwil am addewid gennit ti.

22 Y pen-capten, gan hynny, a ollyngodd y gŵr ieuangc ym­maith, wedi gorchymyn iddo na ddywedei i neb, ddangos o hono y pethau hyn iddo ef.

23 Ac wedi galw atto ryw ddau Ganwriad, efe a ddywedodd, pa­ratowch ddau cant o fil-wyr, i fy­ned hyd yn Cæsarea, a dêc a thru­gain o wŷr meirch, a deu-cant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o'r nôs.

24 A pharatowch yscrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Phælix y Rhaglaw.

25 Ac efe a scrifennodd lythyr yn cynnwys yr ystyriaeth ymma.

26 Claudius Lysias at yr ardder­choccaf Raglaw Phælix, yn an­fon annerch.

27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos a'i ladd ganddynt, ac a achubais i, gan ddyfod a llû arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.

28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dugym ef i wared i'w Cyngor hwynt.

29 Yr hwn y cefais fôd yn ach­wyn arno am arholien o'u cy­fraith hwy, heb fôd un cwyn arno yn haeddu angeu neu rwymau.

30 A phan fynegwyd i mi fôd yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law attati: ac a rybuddiais y cy­huddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef, ger dy fron di. Bydd iach.

31 Yna y milwŷr, megis y gor­chymynnasid iddynt, a gymmera­sant Paul, ac a'i dygasant o hyd nôs i Antiparis.

32 A thrannoeth, gan adel i'r gwŷr meirch fyned gyd ag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell.

33 Y rhai gwedi dyfod i Cae­sarea, a rhoddi y llythyr at y Rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.

34 Ac wedi i'r Rhaglaŵ ddar­llen y llythr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe, a gwybod mai o Ci­licia yr ydoedd,

35 Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchymynnodd ei gadw ef yn nadleu-dŷ Herod.

PEN. XXIV.

1 Paul wedi ei gyhuddo gan Tertu­lus yr araithiwr, 10 yn atteb tros ei fuchedd a'i athrawiaeth, 24 Yn pregethu Christ i'r Rhaglaw a'i wraig. 26 Y Rhaglaw yn gobeithio cael brib, eithr yn ofer: 27 ac o'r diwedd wrth fyned a­llan o'i swydd yn gadel Paul yng­harchar.

AC yn ôl pum nhiwrnod y da­eth Ananias yr Arch-offeiriad i wared, a'r Henuriaid, ac un Ter­tulus areithiwr, y rhai a ymddan­gosasant ger bron y Rhaglaw yn erbyn Paul.

2 Ac wedi ei alw ef ger bron, Tertulus a ddechreuodd ei gyhu­ddo ef, gan ddywedyd,

3 Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bôd pethau llwyddiannus i'r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym-mhôb man yn eu cyd­nabod, (o ardderchoccaf Phaelix) gyd â phob diolch.

4 Eithr, fel na rwystrwyf di ym­mhellach, yr ydwyf yn deisyf ar­nat; o'th hynawsedd, wrando ar­nom ar fyrr eiriau.

5 Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn blâ, ac yn cyfodi ter­fysg ym-mysc yr holl Iddewon drwy y bŷd, ac yn ben ar sect y Nazareniaid.

6 Yr hwn a ameanodd halogi y Deml; yr hŵn hefyd a ddalia­som ni, ac a fynnasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.

7 Eithr Lysias y pen-capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni:

8 Ac a archodd iw gyhudd­wŷr ddyfod ger dy fron di, gan yr hwn wrth ei holi, y gelli dy hûn gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9 A'r Iddewon a gyd syniasant hefyd, gan ddywedyd, fôd y pe­thau hyn felly.

10 A Phaul a attebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddy­wedyd, Gan i mi wŷbod dy fod ti yn farn-ŵr i'r genedl hon, er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cyssurus yn atteb trosof fy llûn.

11 Canys ti a elli wŷbod nad oes tros ddeuddec diwrnod er pan ddaethym i fynu i addoli yn Je­rusalem:

12 Ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu â neb, nac yn gw­neuthur terfysc i'r bobl, nac yn y Synagogau, nac yn y ddinas.

13 Ac ni allant brofi y pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'i plegid.

14 Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffessu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, [Page] felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau, gan gredu yr holl bethau sy scrifennedic yn y Ddeddf a'r Prophwydi.

15 A chennif obaith ar Dduw, yr hon y mae y rhai hyn eu hu­nain yn ei disgwyl, y bydd adgy­fodiad y meirw, i'r cyfiawnion, ac i'r anghyfiawnion.

16 Ac yn hyn yr ydwyfi fy hûn yn ymarfer, i gael cydwybod ddi­rwystr tu ag at Dduw a dynion, yn wastadol.

17 Ac yn ôl llawer o flynydd­cedd, y daethym i wneuthur elu­senau i'm cenedl, ac offrymmau.

18 Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y Deml, nid gyd â thorf na therfysc.

19 Y rhai a ddylasent fôd ger dy fron di ac achwyn, os oedd gan­ddynt ddim i'm herbyn.

20 Neu dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim cam­wedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y Cyngor,

21 Oddieithr yr un llêf hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith, Am adgyfodiad y meirw i'm bernir heddyw gennych.

22 Pan glybu Phaelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn yspysach y pethau a berthynent i'r ffordd hon, ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen-capten i wared, mi a gâf wybod eich matterion chwi yn gwbl.

23 Ac efe a archodd i'r Can­wriad gadw Paul, a chael o hono esmwythdra, ac na leis [...]eiriei nêb o'r eiddo ef iw wasanaethu, nac i ddyfod atto.

24 Ac yn ôl talm o ddyddian, y daeth Phaelix gyd â'i wraig Dru­silla, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwranda­wodd ef ynghylch y ffydd yng­hrist.

25 Ac fel yr oedd efe yn ymre­symmu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd; Phaelix a ddych­rynodd, ac a attebodd; dôs ym­maith ar hyn o amser: a phan ga­ffwyfi amser cyfaddas, mi a alwaf am danat.

26 A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yh rhydd: o herwydd pa ham efe a anfonodd am dano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27 Ac wedi cyflawni dwy fly­nedd, y daeth Portius Ffestus yn lle Phaelix. A Phaelix yn ewy­llysio gwneuthur cymmwynas i'r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.

PEN. XXV.

1 Yr Iddewon yn achwyn ar Paul gar bron Ffestus: 8 ac ynteu yn atteb trosto ei hûn, 11 ac yn ap­pelio at Caesar: 14 Ac wedi hyn­ny Ffestus yn yspyssu ei achos ef i frenin Agrippa, 23 a'i ddwyn ef gar bron; 25 Ffestus yn ei ddi­heuro ef, na wnaethai efe ddim a haeddai farwolaeth.

FFestus, gan hynny, wedi dyfod i'r dalaith, yn ôl tri diwrnod a aeth i fynu i Jerusalem, o Cae­sarea.

2 Yna yr ymddangosddd yr Arch­offeiriad a phennaethiaid yr Idde­won, ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,

3 Gan geisio ffafor yn ei erbyn ef, fel y cyrchei efe ef i Jerusalem: gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.

4 A Ffestus a attebodd, y ced­wid Paul yn Caesarea, ac yr al efe ei hun yno ar fyrder.

5 Y rhai gan hynny, a allant yn eich mysc, eb efe, deuant i wa­red gyd â ni, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.

6 A phryd na thrigasei efe gyd â hwy dros ddeng nhiwrnod, efe a aeth i wared i Caesarea, a thran­noeth efe a eisteddodd yn yr or­sedd, ac a archodd ddwyn Paul atto.

7 Ac wedi ei ddyfod, yr Idde­won a ddaethent o Jerusalem i wared, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion try­mion yn erbyn Paul, y rhai ni's gallent eu profi.

8 Ac yntef yn ei amddiffyn ei hûn, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn er­byn Caesar.

9 Eithr Ffestus yn chwennych dangos ffafor i'r Iddewon, a atte­bodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fynu i Jerusalem i'th farnu yno ger fy mron i, am y pethau hyn?

10 A Phaul a ddywedodd; O flaen gorseddfaingc Caesar yr wyfi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu; ni wnaethum i ddim cam â'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.

11 Canys os ydwyf yn gwneu­thur cam, ac os gwneuthym ddim yn haeddu angeu, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onld oes dim o'r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Appelio yr wyf at Caesar.

12 Yna Ffestus, wedi ymddi­ddan â'r Cyngor, a attebodd, A ap­peliaist di at Caesar? at Caesar y cei di fyned.

13 Ac wedi talm o ddyddiau, Agrippa y brenin, a Bernice, a ddaethant i Caesarea i gyfarch Ffestus.

14 Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fyne­godd i'r brenin hanes Paul, gan ddywedyd; Y mae ymma ryw ŵr wedi ei adel gan Phaelix ynghar­char.

15 Ynghylch yr hwn, pan oe­ddwn yn Jerusalem, yr ymddan­gosodd Arch-offeiriaid a henuri­aid yr Iddewon ger bron, gan ddei­syf cael barn yn ei erbyn ef.

16 I'r rhai yr attebais, nad oedd arfer y Rhufein-wŷr, roddi nêb rhyw ddŷn iw ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhudd-wŷr yn ei wyneb, a chael lle iw amdde­ffyn ei hûn rhag y cwyn.

17 Wedi eu dyfod hwy ymma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orsedd-faingc, ac a orchy­mynnais ddwyn y gŵr ger bron.

18 Am yr hwn ni ddûg y cy­hudd-wŷr i fynu ddim achwyn, o'r pethau yr oeddwn i yn ty­bied.

19 Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef, ryw ymofynion yng­hylch eu coel-grefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasei fa­rw, yr hwn a daerei Paul ei fôd yn fyw.

20 A myfi yn anhyspys i ymo­fyn am hyn, a ddywedais, a [Page] fynnei efe fyned i Jerusalem a'i farnu yno am y pethau hyn.

21 Eithr gwedi i Paul appelio i'w gadw i wybyddiaeth Augu­stus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Caesar.

22 Yna Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, minneu a ewylly­siwn glywed y dŷn. Yntef a ddy­wedodd, Ti a gei ei glywed ef y foru.

23 Trannoeth, gan hynny, wedi dyfod Agrippa, a Bernice, a rhwysc fawr, a myned i mewn i'r orsedd, a'r pen-capteniaid, a phendefigion y ddinas, wrth or­chymmyn Ffestus fe a ddugpwyd Paul ger bron.

24 A Ffestus a ddywedodd; O frenin Agrippa, a chwi wŷr oll sydd gyd â ni yn bresennol, chwi a welwch y dŷn hwn, oblegit pa un y galwodd holl liaws yr I­ddewon arnafi, yn Jerusalem ac ymma, gan lefain, na ddylei efe fyw yn hwy.

25 Eithr pan ddeellais na wnae­thei efe ddim yn haeddu angeu, ac yntef ei hun wedi appelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef.

26 Am yr hwn nid oes gennif ddim siccrwydd iw scrisennu at fy Arglwydd; o herwydd pa ham, mi a'i dugym ef ger eich bron chwi, ac yn enwedic ger dy fron di, ô frenin Agrippa, fel wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i'w scrifennu.

27 Canys allan o reswm y gwe­laf fi anfon carcharor, heb yspysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef.

PEN. XXVI.

1 Paul yngwydd Agrippa yn dan­gos ei fuchedd o'i febyd, 12 ac mor rhyfeddol y troesid ac y gal­wesid ef i fôd yn Apostol. 24 Ffestus yn teuru ei fôd ef wedi ynfydu, yntef ar hynny yn atteb yn llariaidd. 28 Agrippa ymron myned yn Gristion. 31 Yr holl gynnulleidfa yn ei farnu ef yn ddieuog.

AC Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd trosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a'i hamddeffynnodd ei hun.

2 Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, ô frenhin A­grippa, gan fy môd yn cael fy am­ddeffyn fy hun ger dy fron di he­ddyw, am yr holl bethau yr ach­wynir arnaf gan yr Iddewon.

3 Yn bendifaddeu gan wŷbod dy fôd di yn gyd-nabyddus â'r holl ddefodau, a'r holion sydd ym mhlith yr Iddewon: o her­wydd pa ham, yr ydwyf yn dei­syf arnat fy ngwrando i yn ddio­ddefgar.

4 Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad, ym mhlith fy nghenedl yn Jerusalem, a ŵyr yr Iddewon oll,

5 Y rhai am hadwaenent i o'r dechreu, (os mynnant dystiolae­thu) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni, y bûm i fyw, yn Phari­sæad.

6 Ac yn awr, am obaith yr a­ddewid a wnaed i'n tadau gan Dduw yr wyf yn sefyll i'm barnu.

7 I'r hwn addewid y mae ein deuddec llwyth ni, heb dorr yn gwasanaethu Duw nôs a dydd, yn gobeithio dyfod; am yr hon o­baith yr achwynir arnaf, ô fre­nin [Page] Agrippa, gan yr Iddewon.

8 Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?

9 Minneu, yn wîr a dybiais ynof fy hûn, fôd yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn er­byn enw Iesu o Nazareth.

10 Yr hyn hefyd a wneuthym yn Jerusalem; a llawer o'r Sainct a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch­offeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.

11 Ac ym mhôb-Synagog yn fynych mi a'i cospais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfy­du yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.

12 Ac yn hyn, a myfi yn my­ned i Ddamascus, ag awdurdod a chennad oddi wrth yr Arch-offei­riaid;

13 Ar hanner dydd, ô frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nêf, mwy nâ disclairdeb yr haul, yn disclairio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyd â mi.

14 Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaiar, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthif, ac yn dywedyd yn Hebrae-aec, Saul, Saul, pa ham yr ydwyt yn fy erlid i? caled yw i ti wingo yn erbyn y swm­bylau.

15 Ac mi a ddywedais, Pwy wyti, Arglwydd? Ac efe a ddy­wedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16 Eithr cyfod, a sâf ar dy draed, canys i hyn yr ymddango­sais i ti, i'th osod ti yn weinidog, ac yn dŷst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti yn­ddynt:

17 Gan dy wared di oddi wrth bobl a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr aw­ron;

18 I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oseuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymmysc y rhai a san­cteiddiwyd trwy y ffydd sydd y­nof fi.

19 Am ba achos, ô frenin A­grippa, ni bum anufydd i'r wele­digaeth nefol.

20 Eithr mi a bregethais ir rhai yn Damascus yn gyntaf, ac yn Je­rusalem, a thros holl wlâd Judæa, ac i'r Cenhedloedd: ar iddynt e­difarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.

21 O achos y pethau hyn, yr Iddewon a'm daliasant i yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd i â'u dwylô eu hun.

22 Am hynny wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolae­thu i fychan a mawr, ac heb ddy­wedyd dim amgen nag a ddywe­dasei y Prophwydi a Moses, y de­lent i ben:

23 Y dioddefei Christ, ac y byddei efe yn gyntaf o adgyfodi­ad y meirw, ac y dangosei oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.

24 Ac fel yr oedd efe yn dy­wedyd y pethau hyn trosto, Ffe­stus; a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddyse sydd yn dy yrru di yn yn­syd.

25 Ac efe a ddywedodd, Nid wyf i yn ynfydu, ô ardderchoc­caf Ffestus; eithr geiriau gwirio­nedd [Page] a sobrwydd, yr wyfi yn eu hadrodd.

26 Canys y brenin a wŷr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyfi yn llefaru yn hŷf▪ o her­wydd nid wyf yn tybied fôd dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhag­ddo, oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.

27 Oh frenin Agrippa, A wyt ti yn credu i'r Prophwydi? mi a wn dy fôd yn credu.

28 Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, yr wyti o fewn ychy­dig i'm hynnyll i fôd yn Gristion.

29 A Phaul a ddywedodd; Mi a ddymunwn gan Dduw, o sewn yehydig, ac yn gwbl oll, fôd nid tydi yn unic, ond pawb he­fyd ar sydd yn fy ngwrando he­ddyw, yn gyfryw ac wyfi, ond y rhwymau hyn.

30 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a'r Rhag­law, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyd â hwynt.

31 Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw 'r dŷn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angeu neu rwymau.

32 Yna y dywedodd Agrippa wrth Ffestus, fe allasid gollwng y dŷn ymma ymmaith, oni buasei iddo appelio at Caesar.

PEN. XXVII.

1 Paul wrth forio tua Rhufain, 10 yn rhag-ddywedyd perygl y daith: 11 ac heb gael ei goelio. 14 Hwy­thau yn cael eu taflu draw ac ym­ma gan y dymestl: 41 y llong yn torri arnynt: 42, 43, 44 ac er hynny yn dyfod i gyd i dir yn ddi­angol.

A Phan gyttunwyd forio o ho­nom ymmaith i'r Ital▪ hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at Ganwriad a'i enw Iulius, o fyddin Augustus.

2 Ac wedi dringo i long o A­dramyttium, ar fedr hwylio i due­ddau Asia, ni a aethom allan o'r porth-ladd, a chyd â ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thes­salonica.

3 A thrannoeth ni a ddygpwyd i wared i Sidon, a Julius a ymddûg yn garedigol tu ac at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion, i gael ymgeledd.

4 Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom tan Cyprus, am fôd y gwyntoedd yn wrthwy­nebus.

5 Ac wedi hwylio o honom tros y môr sydd ger llaw Cilicia a Phamphilia, ni a ddaethom i My­ra, dinas yn Lycia.

6 Ac yno y Canwriad wedi cael llong o Alexandria, yn hwylio i'r Ital, a'n gosodes ni ynddi.

7 Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dy­fod yn brin ar gyfer Gnidus, am na adawei y gwynt i ni; ni a hwyliasom îs law Creta, ar gyfer Salmône.

8 Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, ni a ddaethom i ryw le a elwir y porthladdoedd pryd­ferth, yr hwn yr oedd dinas Lasæa yn agos iddo.

9 Ac wedi i dalm o amser fy­ned heibio, a bôd morio weithian yn enbyd, o herwydd hefyd ddar­fod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd,

10 Gan ddywedyd wrthynt, Ha-wŷr, yr wyf yn gweled y [Page] bydd yr hynt hon ynghyd â sar­hâed a cholled fawr, nid yn unic am y llwyth a'r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.

11 Eithr y Canwriad a gredodd i lywydd, ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedyd gan Paul.

12 A chan fôd y porthladd yn anghyfleus i aiafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os, gallent ryw fôdd gyrhaeddyd hyd Phaenice, i aia­fu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau-orllewin, a'r gogledd-orllewin.

13 A phan chwythodd y de­heu wynt yn araf, hwynt hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau a foriasant heibio yn agos i Creta.

14 Ond cyn nemmawr, cyfo­dodd yn ei herbyn hi wynt tem­hestlog, yr hwn a elwir Eurocly­don.

15 A phan gippiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu y gwynt, ni a ymroesom, ac a ddyc­pwyd gyd â'r gwynt.

16 Ac wedi i ni redeg goris y­nys fach, a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bâd:

17 Yr hwn a godasant i fynu, ac a wnaethant gynnorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani a hwy yn ofni rhag syrthio a'r sugn-draeth, wedi gostwng yr hwyl, a dducpwyd felly.

18 A ni yn flin iawn arnom gan y demestl, trannoeth hwy a yscafnhasant y llong.

19 A'r trydydd dydd y bwria­som, â'n dwylo ein hunain, da­clau y llong allan.

20 A phan nad oedd na haul, na sêr yn ymddangos, dros lawer o ddyddiau, a themestl nid bychan yn pwyso arnom, pôb gobaith y byddem cadwedic a ddycpwyd o­ddi arnom o hynny allan.

21 Ac wedi bôd hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha-wŷr, chwi a ddylasech wrando arnafi, a bod heb ymadaw o Creta, ac ennill y syrhaed-ymma, a'r go­lled.

22 Ac yr awr hon yr wyf yn eich cynghori chwi i fôd yn gys­surus; canys ni bydd colled am einioes un o honoch, ond am y llong yn unic.

23 Canys safodd yn fy ymyl y nôs hon Angel Duw yr hwn a'm piau, a'r hwn yr wyf yn ei addoli;

24 Gan ddywedyd, Nac ofna Paul, rhaid i ti sefyll ger bron Caesar ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyd â thi.

25 Am hynny, Hawyr, cym­merwch gyssur, canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y môdd y dywedpwyd i mi.

26 Ond mae yn rhaid ein bw­rw ni i ryw ynys.

27 Ac wedi dyfod y bedwaredd nôs ar ddec, fe a ddigwyddodd a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nôs, dybied o'r morwŷr eu bod yn nessau i ryw wlâd.

28 Ac wedi iddynt blymmio, hwy â'i cawsant yn ugain gw­rhyd, ac wedi myned ychydig pellach, a phlymmio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gw­rhyd.

29 Ac a hwy yn ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi [Page] iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfiasant ei myned hi yn ddydd.

30 Ac fel yr oedd y llong-wŷr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i wared i'r môr, yn rhith bod ar fedr bw­rw angorau o'r pen blaen i'r llong,

31 Dywedodd Paul wrth y Canwriad a'r milwŷr, onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fôd yn gadwedig.

32 Yna y torrodd y milwyr ra­ffau y bâd, ac a adawsant iddo syr­thio ymmaith.

33 A thra 'r ydoedd hi yn dy­ddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymmeryd llyniaeth, gan ddywe­dyd, heddyw yw y pedwerydd dydd a'r ddec yr ydych chwi yn disgwil, ac yn aros ar eich cyth­lwng, heb gymmeryd dim.

34 O herwydd pa ham, yr yd­wyf yn dymuno arnoch gymme­ryd llyniaeth, oblegid hyn sydd er iechyd i chwi, canys blewyn i'r un o honoch ni syrth oddiar ei ben.

35 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymmerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a dde­chreuodd fwytta.

36 Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gyssurol, a hwy a gym­merasant lyniaeth hefyd.

37 Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bym­thec a thrugain oeneidiau.

38 Ac wedi eu digoni o lyni­aeth, hwy a yscafnhasant y llong, gan fwrw y gwenith allan i'r môr.

39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tîr; ond hwy a ganfuant ryw gilfach, a glan iddi, i'r hwn y cynghora­sant (os gallent) wthio y llong iddo.

40 Ac wedi iddynt godi yr an­gorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a goda­sant yr hwyl i'r gwynt, ac a gei­siasant y lan.

41 Ac wedi i ni syrthio ar le deu-fôr-gyfarfod, hwy a wthia­sant y llong, a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddi-yscog, eithr y pen ôl a ymddattododd gan nerth y tonnau.

42 A chyngor y milwyr oedd ladd y carcharorion, rhag i neb o honynt nofio allan, a diangc ym­maith.

43 Ond y Canwriad yn ewy­llysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan, ac a ar­chodd i bawb ar a fedrei nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a my­ned allan i'r tîr:

44 Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwyddodd dyfod o bawb i dîr yn ddiangol.

PEN. XXVIII.

1 Paul wedi torri y llong arno, yn cael ei dderbyn yn rhywiogaidd gan y Barbariaid. 5 Y wiber ar ei law ef, heb wneuthur iddo niwed: 8 ac ynteu yn iachau llawer o glefydau yn yr ynys. 11 Hwynt hwy yn myned ymmaith tua Rhu­fain. 17 Yntef yn mynegi i'r Idde­won achos ei ddyfodiad, 24 we­di iddo bregethu, rhai yn cre­du, a rhai heb gredu: 30 ac yn­tau [Page] er hynny yn pregethu yno ddwy flynedd.

AC wedi iddynt ddiangc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.

2 A'r Barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan; oblegid hwy a gynneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll, o her­wydd y gafod gynnyrchiol, ac o herwydd yr oerfel.

3 Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a'i dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o'r gwrês, ac a lynodd wrth ei law ef.

4 A phan welodd y Barbariaid y bwystfil yngrhog wrth ei law ef; hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, yn siccr, llawruddiog yw y dŷn hwn, yr hwn er ei ddiangc o'r môr ni adawodd dialedd iddo fyw.

5 Ac efe a yscydwodd y bwyst­fil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.

6 Ond yr oeddynt hwy yn dis­gwil iddo ef chwyddo, neu syr­thio yn ddisymmwth yn farw. Eithr wedi iddynt hîr ddisgwil, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.

7 Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a'i enw Publius, yr hwn a'n der­byniodd ni, ac a'n lletteuodd dri­diau yn garedig.

8 A digwyddodd, fôd tâd Pub­lius yn gorwedd yn glâf o gryd a gwaedlif, at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddio, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a'i iachaodd.

9 Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd a heinti­au arnynt yn yr ynys, a ddaethant atto, ac a iachawyd.

10 Y rhai hefyd a'n parcha­sant ni â llawer o urddas, a phan oeddym yn ymadel, hwy a'n llwythasant ni â phethau angen­rheidiol.

11 Ac wedi tri-mis yr aethom ymmaith mewn llong o Alexan­dria, yr hon a aiafasei yn yr ynys: a'i harwydd hi oedd Castor a Phollux.

12 Ac wedi ein dyfod i Syra­cusa, ni a drigasom yno dridiau.

13 Ac oddiyno wedi myned oddi amgylch ni a ddaethom i Rhegium, ac yn ôl un diwrnod y deheu-wynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Pute­oli:

14 Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyd â hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.

15 Ac oddi yno pan glybu 'r brodyr am danom, hwy a ddae­thant i'n cyfarfod ni hyd Appii fforum, a'r tair Tafarn; y rhai pan welodd Paul, efe a ddiol­chodd i Dduw, ac a gymmerodd gyssur.

16 Eithr pan ddaethom i Ru­fain, y Canwriad a roddes y car­charorion at ben-capten y llu: eithr canhiadwyd i Paul aros wr­tho ei hûn, gyd â milwr oedd yn ei gadw ef.

17 A digwyddodd yn ôl tridi­au, alw o Paul ynghŷd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac we­di iddynt ddyfod ynghŷd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha-wŷr frodyr, er na wnaethym i ddim [Page] yn erbyn y bobl, na defodau y ta­dau, etto mi a roddwyd yn gar­charor o Jerusalem i ddwylo y Rhufeinwŷr.

18 Y rhai wedi darfod fy holi, a fynnasent fy ngollwng ymmaith, am nad oedd dim achos angeu y­nof.

19 Eithr, am fôd yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i appelio at Caesar, nid fel pettei gennif beth i achwyn ar fy nghenedl.

20 Am yr achos hwn, gan hynny, y gelwais am danoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddi­ddan â chwi: canys o achos go­baith Israel i'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.

21 A hwythau a ddywedasant wrtho, ni dderbyniasom ni lythy­rau o Judæa yn dy gylch di, ac ni fynegodd, ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno, ddim drwg am danat ti.

22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennit ti beth yr yd­wyt yn ei synied, oblegid am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fôd ym-mhôb man yn dywedyd yn ei herbyn.

23 Ac wedi iddynt nodi diwr­nod iddo, llawer a ddaeth atto ef, i'w lettŷ, i'r rhai y tystiolae­thodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gy­fraith Moses, a'r Prophwydi, o'r boreu hyd yr hwyr.

24 A rhai a gredasant i'r pe­thau a ddywedasid, a rhai ni chre­dasant.

25 Ac a hwy yn anghyttûn â'u gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Yspryd glân trwy Esaias y prophwyd wrth ein tadau ni,

26 Gan ddywedyd, Dôs at y bobl ymma, a dywed, Yn cly­wed y clywch, ac ni ddeellwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ni chan­fyddwch.

27 Canys brâs-hawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â'u clustiau, a'u llygaid a gaeasant, rhag iddynt weled â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a dychwelyd, ac i mi i hia­chau hwynt.

28 Bydded hyspys i chwi gan hynny, anfon iechydwriaeth Duw at y Cenhedloedd, a hwy a wran­dawant,

29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon: a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.

30 A Phaul a arhoes ddwy fly­nedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hûn, ac a dderbyniodd bawb ar oedd yn dyfod i mewn atto,

31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Jesu Grist, gyd â phôb hyfder, yn ddiwahardd.

Diwedd Gweithredoedd yr Apostolion.

EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y RHUFEINIAID.

PENNOD I.

1 Paul yn dangos ei alwedigaeth i'r Rhufeiniaid, 4 a'i chwant i ddy­fod attynt hwy. 16 Beth yw ei E­fengyl ef, a'r cyfiawnder y mae hi yn ei ddangos. 18 Bôd Duw yn ddigllon wrth bôb mâth a'r be­chod. 21 Pa beth oedd becbodau y cenhedloedd.

PAul gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fôd yn Apostol, ac wedi ei nailltuo i Efengyl Dduw:

2 (Yr hon a rag-addawsei efe, trwy ei Brophwydi, yn yr Scry­thurau sanctaidd.)

3 Am ei fâb ef Iesu Grist ein Arglwydd ni, yr hwn a wnaed o hâd Dafydd o ran y cnawd,

4 Ac a eglurwyd yn fâb Duw mewn gallu, yn ôl Yspryd san­cteiddiad, trwy'r adgyfodiad oddi wrth y meirw:

5 Trwy 'r hwn y derbyniasom râs ac apostoliaeth i ufydd-dod ffydd, ym-mhlith yr holl Genhed­loedd, er mwyn ei enw ef.

6 Ym-mysc y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist.

7 At bawb sydd yn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw i fôd yn Sainct; Grâs i chwi a thangneddyf oddiwrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

8 Yn gyntaf yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist trosoch chwi oll, oblegid bôd eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fŷd.

9 Canys tŷst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd, yn Efengyl ei fâb ef, fy môd i yn ddibaid yn gwneu­thur coffa o honoch, bôb amser yn fy ngweddiau.

10 Gan ddeisyf a gawn ryw fôdd, rwy amser bellach, rwydd-hynt gyd ag ewyllys Duw, i ddyfod at­toch chwi.

11 Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gy­frannu i chwi ryw ddawn Yspry­dol, fel i'ch cadarnhaer.

12 A hynny sydd i'm cyd-ym­gyssuro ynoch chwi, trwy ffydd ei gilydd; yr eiddoch chwi, a'r ei­ddof finnau.

13 Eithr ni fynnwn i chwi fôd heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ac yn y Cenhedloedd eraill.

14 Dyledŵr ydwyf i'r Groe­giaid, ac i'r Barbariaid hefyd, i'r doethion, ac i'r annoethion he­fyd.

15 Felly, hyd y mae ynofi, pa­rod ydwyf, i bregethu yr Efengyl i chwithau hesyd, y rhai ydych yn Rhufain.

16 Canys nid oes arnaf gywi­lydd [Page] o Efengyl Grist; oblegit ga­llu Duw yw hi er iechydwriaeth, i bôb un ar sydd yn credn: i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groeg-wr.

17 Canys ynddi hi y dateu­ddir cyfiawnder Duw, o ffydd i ffydd, megis y mae yn scrifenne­dig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

18 Canys digofaint Duw a ddatcuddiwyd o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb, ac anghyfiawn­der dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn anghyfiawn­der.

19 O herwydd yr hyn a ellir ei ŵybod am Dduw sydd eglur yn­ddynt hwy: canys Duw a'i heglu­rodd iddynt.

20 Canys ei anweledig bethau ef, er creaduriaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef ei drag­wyddol allu ef, a'i Dduwdod, hyd onid ydynt yn ddiescus.

21 Oblegit a hwy yn adnabod Duw, ni's gogoneddasant ef me­gis Duw, ac na buant ddiolchgar iddo; eithr ofer fuant yn eu rhe­symmau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.

22 Pan dybient eu bôd yn ddoethion, hwy a aethant yn ffy­liaid.

23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw, i gyffelybi­aeth llun dŷn llygredig, ac ehedi­aid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusciaid.

24 O ba herwydd, Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fynu yn nrach­wantau eu calonnau, i aflendid, i ammherchi eu cyrph eu hun yn eu plith eu hunain.

25 Y rhai a newidiasant wiri­onedd Duw yn gelwydd, ac a a­ddolasant, ac a wasanaethasant y creadur yn fwy nâr creawdr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwy­ddol. Amen.

26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fynu i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newi­diasant yr arfer anianol, i'r hon sydd yn erbyn anian.

27 Ac yn gyffelyb y gwŷr he­fyd, gan adel yr arfer naturiol o'r wraig, a ymloscent yn eu hawydd i'w gilydd: y gwŷr ynghŷd â gwŷr yn gwneuthur brynti; ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni, ag ydoedd raid.

28 Ac megis nad oedd gymme­radwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fynu i feddwl anghym­meradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd.

29 Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwi­redd, cybydd-dod, drygioni: yn llawn cynfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau:

30 Yn hustyng-wŷr, yn ath­rodwŷr, yn gâs ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrost­wyr, yn ddychymgwŷr drygi­oni, yn anufydd i rieni.

31 Yn anneallus, yn dorrwŷr ammod, yn angharedig, yn ang­hymmodlon, yn annhrugarogion:

32 Y rhai yn gwŷbod cyfiawn­der Duw, (fod y rhai sy yn gwneu­thur y cyfryw bethau, yn haeddu marwolaeth) ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cyd ymfodloni â'r rhai sy yn eu gwneuthur hwynt.

PEN. II.

1 Na all y rhai sydd yn pechu, er eu bôd yn condemnio pechod mewn eraill, mo'i hescusodi eu hunain, 6 ac mai anhaws o lawer iddynt ddiangc rhag barn Duw, 9 pa un bynnac fônt ai Iddewon ai Cen­hedloedd. 14 Nas gall y Cenhed­loedd ddiangc, 16 Na'r Iddewon chwaith. 25 ac na wna eu En­waediad leshâd iddynt, oni chad­want y Ddeddf.

O Herwydd pa ham diescus wyt ti, ô ddyn, pwy byn­nag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau.

2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.

3 Ac a wyt ti yn tybied hyn, ô ddyn yr hwn wyt yn barnu y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pe­thau, y diengi di rhag barn Duw?

4 Neu a wyt ti yn diystyru go­lud ei ddaioni ef, a'i ddioddef­garwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?

5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint, er­byn dydd y digofaint, a dadcu­ddiad cyfiawn farn Duw.

6 Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd:

7 Sef i'r rhai trwy barhâu yn gwneuthur da, a geisiant ogo­niant, ac anrhydedd, ac anllygre­digaeth, bywyd tragwyddol:

8 Eithr i'r rhai sy gynhennus, ac anufydd i'r gwirionedd, eithr yn ufydd i anghyfiawnder, y bydd llid, a digofaint,

9 Trallod, ac ing, ar bôb e­naid dŷn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd.

10 Eithr gogoniant, ac anrhy­dedd, a thangneddyf, i bôb un sydd yn gwneuthur daioni; i'r Iddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd.

11 Canys nid oes derbyn wy­neb ger bron Duw.

12 Oblegid cynnifer ac a be­chasant yn ddiddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddiddeddf. A chynnifer ac a bechasant yn y Ddeddf, a fer­nir wrth y Ddeddf.

13 Canys nid gwrandawŷr y Ddeddf sydd gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwŷr y Ddeddf a gyfiawnheir.

14 Canys pan yw'r Cenhedlo­edd y rhai nid yw y Ddeddf gan­ddynt, wrth naturiaeth yn gwneu­thur y pethau sydd yn y Ddeddf, y rhai hyn heb fod y Ddeddf gan­ddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain.

15 Y rhai sydd yn dangos gwei­thred y Ddeddf yn scrifennedig yn eu calonnau, a'u cydwybod yn cyd-tystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn escu­sodi:

16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy E­fengyl i, trwy Iesu Grist.

17 Wele, Iddew i'th elwir di, ac yr wyt yn gorphwys yn y Ddeddf, ac yn gorfoleddu yn-Nuw.

18 Ac yn gŵybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fôd wedi dy addyscu o'r Ddeddf.

19 Ac yr wyt yn coelio dy fôd yn dywysog i'r deillion, yn lle­wyrch i'r rhai sydd mewn tywyll­wch.

20 Yn athro i'r anghall, yn ddyscawdr i'r rhai bach, a chen­nit ffurf y gwybodaeth, a'r gwi­rionedd yn y Ddeddf.

21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addyscu arall, oni'th ddysci dy hun? Yr hwn wyt yn prege­thu, Na ladratter; a ladretti di?

22 Yr hwn wyt yn dywedyd. Na odineber; a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gyssegr-yspeili di?

23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y Ddeddf, drwy dorri y Ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw.

24 Canys Enw Duw o'ch ple­gid chwi a geblir ym-mlith y Cenhedloedd; megis y mae yn scrifennedig.

25 Canys Enwaediad yn wîr a wna lês, os cedwi y Ddeddf: eithr os trosseddwr y Ddeddf ydwyt, aeth dy Enwaediad yn ddienwae­diad.

26 Os dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y Ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad?

27 Ac oni bydd i'r dienwae­diad, yr hwn sydd o naturiaeth (os ceidw y Ddeddf) dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren, a'r enwaediad, wyt yn troseddu y Ddeddf?

28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg, sydd Iddew: ac nid Enwaediad yw yr hyn sydd yn yr amlwg, yn y cnawd:

29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew, ac enwaediad y galon sydd yn yr yspryd, nid yn y llythyren: yr hwn y mae ei glôd nid o ddynion ond o Dduw.

PEN. III.

1 Rhagor-fraint yr Iddewon; 3 yr hwn ni chollasant: 9 E [...] hynny y mae y Ddeddf yn eu barnu hwy­thau hefyd yn euog o bechod: 20 gan hynny ni chyfiawnheir un cnawd trwy'r Ddeddf, 28 Eithr pawb heb wahaniaeth, trwy ffydd yn unic: 31 ac etto ni ddiddym­wyd y Ddeddf.

PA ragoriaeth, gan hynny sydd i'r Iddew? neu pa fûdd sydd o'r Enwaediad?

2 Llawer ym mhôb rhyw fodd, Yn gyntaf o herwydd darfod ym­ddiried iddynt hwy am ymadro­ddion Duw.

3 Oblegit beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?

4 Na atto Duw. Eithr bydded Duw yn eir-wîr, a phob dŷn yn gelwyddog: megis yr scrifen­nwyd, fel i'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan i'th farner.

5 Eithr os yw ein hanghyfi­awnder ni yn canmol cyfiawn­der Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dŷn yr wyf yn dywedyd.)

6 Na atto Duw. Canys wrth hynny, pa fodd y barna Duw y byd?

7 Canys os bu gwirionedd Duw drwy fy nghelwydd i, yn helae­thach [Page] i'w ogoniant ef, pa ham i'm bernir inneu etto megis pe­chadur?

8 Ac nid (megis i'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bôd yn dywedyd) gwnawn ddrwg fel y dêl daioni; y rhai y mae eu dam­nedigaeth yn gyfiawn.

9 Beth gan hŷnny? A ydym ni fwy rhagorol? Nac ydym ddim. Canys ni a brofasom o'r blaen fôd pawb, yr Iddewon, ar Groegwŷr, tan bechod,

10 Megis y mae yn scrifenne­dig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un.

11 Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.

12 Gwyrasant oll, aethant i gŷd yn anfuddiol; nid oes un yn gw­neuthur daioni, nac oes un.

13 Bedd agored yw eu cêg; â'u tafodau y gwnaethant ddi­chell; gwenwyn aspiaid sydd tan eu gwefusau.

14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.

15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed.

16 Destryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:

17 A ffordd tangneddyf nid adnabuant.

18 Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid.

19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae y Ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sy tan y Ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y cauer pôb ge­nau, ac y byddo yr holl fŷd tan farn Duw.

20 Am hynny trwy weithre­doedd y Ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy y Ddeddf y mae adnabod pe­chod.

21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y Ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y Ddeddf a'r Prophwydi.

22 Sef cyfiawnder Duw, yr hon sydd trwy ffydd Iesu Grist i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth.

23 Oblegit pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw.

24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhâd trwy ei râs ef, trwy 'r prynedigaeth sydd yn Ghrist Iesu:

25 Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw:

26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hyn, fel y byddei efe yn gy­fiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

27 Pa le gan hynny y mae yr gorfoledd? Ef a gaewyd allan. Trwy ba Ddeddf? Ai Deddf gwei­thredoedd? nag ê, eithr trwy Ddeddf ffydd.

28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawn­heir dyn, heb weithredoedd y Ddeddf.

29 Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? Onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? yn wîr y mae efe, i'r Cenhedloedd hefyd.

30 Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnhâ yr Enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.

31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y Ddeddf yn ddirym trwy ffydd? Na atto Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau y Ddeddf.

PEN. IV.

1 Ffydd Abraham a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, 10 cyn enwaedu arno. 13 Trwy ffydd yn unic y derbyniodd ef a'i hâd yr addewid. 16 Abraham yw Tâd pawb ac sydd yn credu. 24. Ein ffydd ninnau hefyd a gyfrifir i ni yn gyfiawnder.

PA beth, gan hynny, a ddywe­dwn ni ddarfod i Abraham ein tâd ni ci gael, yn ôl y cnawd?

2 Canys os Abraham a gyfiawn­hawyd trwy weithredoedd y mae iddo orfoledd, eithr nid ger bron Duw.

3 Canys pa beth a ddywed yr Scrythur? Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfi­awnder.

4 Eithr i'r neb sydd yn gwei­thio, ni chyfrifir y gwobr o râs, onid o ddyled.

5 Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, onid yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr an­nuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir, yn gyfiawnder.

6 Megis y mae Dafydd hefyd yn datcan dedwyddwch y dŷn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder i­ddo heb weithredoedd, gan ddy­wedyd,

7 Dedwydd yw y rhai y ma­ddeuwyd eu hanwireddau, a'r rhai ŷ cuddiwyd eu pechodau.

8 Dedwydd yw y gŵr nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.

9 A ddaeth y dedwyddwch hwn, gan hynny, ar yr Enwae­diad yn unig, ynteu ar y dienwae­diad hefyd? Canys yr ydym yn dy­wedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abra­ham yn gyfiawnder.

10 Pa fodd gan hynny y cyfri­fwyd hi? Ai pan oedd yn yr En­waediad, ynteu yn y dienwaedi­ad? Nid yn yr Enwaediad, ond yn y dienwaediad.

11 Ac efe a gymmerth arwydd yr Enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad, fel y byddei efe yn dâd pawb a gredent yn y dien­waediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:

12 Ac yn dâd yr Enwaediad, nid i'r rhai o'r Enwaediad yn u­nig, onid i'r sawl hefyd a ger­ddant lwybrau ffydd Abraham ein tâd ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad.

13 Canys nid trwy y Ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu iw hâd, y byddei ef yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.

14 Canys os y rhai sydd o'r Ddeddf, yw'r etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a'r addewid yn ddirym.

15 Oblegit y mae y Ddeddf yn peri digofaint, canys lle nid oes Deddf, nid oes gamwedd.

16 Am hynny o ffydd y mae, fel y byddei yn ôl grâs, fel y by­ddei yr addewid yn siccr i'r holl hâd: nid yn unig i'r hwn sydd o'r Ddeddf; onid hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll,

17 (Megis y mae yn scrifenne­dig, Mi a'th wnaethym yn dâd llawer o Genhedloedd) ger bron y neb y credodd efe iddo, fef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac sydd yn galw y pethau nid y­dynt, fel pe byddent:

18 Yr hwn yn erbyn gobaith, a gredodd tan obaith, fel y byddei efe yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a ddywedasid, felly y bydd dy hâd di.

19 Ac efe yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorph ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marwei­ddio, ac ef ynghylch can-mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara.

20 Ac nid amheuodd efe adde­wid Duw drwy ang-rhediniaeth, eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw.

21 Ac yn gwbl siccr ganddo, am yr hyn a addawsei efe ei fod ef yn abl i'w wneuthur he­fyd.

22 Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.

23 Eithr nid scrifennwyd hyn­ny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo,

24 Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfo­des Iesu ein Harglwydd ni o feirw.

25 Yr hwn a draddodwyd tros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni.

PEN. V.

1 Wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae i ni dangneddyf rhyngom a Duw, 2 a llawenydd yn ein go­baith: 8 gan ein cymmodi trwy ei waed ef, a nyni yn elynion iddo, 10 y cawn yn hytrach fòd yn gad­wedig wedi ein cymmodi. 12 Me­gis y daeth pechod a marwolaeth trwy Adda, 17 Felly yn hytrach y daw cyfiawnder a bywyd trwy Iesu Grist. 20 Lle 'r amlhaodd pe­chod, y rhagoramlhaodd grâs.

AM hynny, gan ein bôd wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tu ag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

2 Trwy yr hwn hefyd y caw­som ddyfodfa trwy ffydd, i'r grâs hyn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, ac yn gorfoleddu tan obaith go­goniant Duw.

3 Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgar­wch:

4 A dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith:

5 A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy yr Ys­pryd glân, yr hwn a roddwyd i ni.

6 Canys Christ, pan oeddym ni etto yn weiniaid, mewn pryd, a fu farw dros yr annuwiol.

7 Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn, oblegid dros y da ys-gatfydd fe feiddiai un farw hefyd.

8 Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tu ag attom, oblegid, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.

9 Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, i'n achubir rhag digo­faint trwyddo ef.

10 Canys os pan oeddym yn ely­nion, i'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei fâb ef, mwy o lawer wedi ein heddychu, i'n a­chubir trwy ei fywyd ef.

11 Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr-hon [Page] y derbyniasom y cymmod.

12 Am hynny, megis trwy un dŷn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod, ac fel­ly yr aeth marwolaeth ar bôb dŷn, yn gymmaint a phechu o bawb.

13 Canys hyd y Ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes Deddf.

14 Eithr teyrnasodd marwo­laeth, o Adda hyd Moses, îe ar­nynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod.

15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlhaodd grâs Duw, a'r dawn trwy râs yr un dŷn Iesu Grist, i lawero­edd.

16 Ac nid megis y bu drwy un a bechodd, y mae 'r dawn; ca­nys y farn a ddaeth o un cam­wedd i gondemniad, eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfi­awnhâd.

17 Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un, mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosogrwydd o râs, ac o ddawn cyfiawnder, deyr­nasu mewn bywyd trwy un Iesu Grist.

18 Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bôb dŷn i gondemniad, felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bôb dŷn i gyfiawnhâd bywyd.

19 Oblegit megis trwy anu­fydd-dod un dŷn, y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid: felly trwy ufydd-dod un, y gwneir llawer yn gyfiawn.

20 Eithr y Ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhaai y camwedd: eithr lle 'r amlhaodd y pechod, y rhagor-amlhaodd grâs.

21 Fel megis y teyrnassodd pe­chod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasei grâs trwy gyfiawnder, i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

PEN. VI.

1 Na ddylem ni fyw mewn pechod, 2 a ninnau wedi marw iddo, 3 megis y mae ein bedydd ni yn dangos. 12 Na theyrnased pechod mwyach, 18 gan ddarfod i ni ymroi i wasanaeth cyfiawnder, 23 ac o herwydd mai cyflog pechod yw marwolaeth.

BEth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao grâs?

2 Na atto Duw. A ninnau we­di meirw i bechod, pa wedd y by­ddwn fyw etto ynddo ef?

3 Oni wyddoch chwi am gyn­nifer o honom ac a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i'w farwolaeth ef?

4 Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ac y cyfodwyd Christ o fei­rw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn ne­wydd-deb buchedd.

5 Canys os gwnaed ni yn gŷd­blanhigion i gyffelybiaeth ei far­wolaeth ef, felly y byddwn i gy­ffelybiaeth ei adgyfodiad ef.

6 Gan wŷbod hyn, ddarfod [Page] croes-hoelio ein hên ddŷn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanae­thom bechod.

7 Canys y mae yr hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.

8 Ac os buom feirw gyd â Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn fyw hefyd gyd ag ef.

9 Gan wŷbod nad yw Christ yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach, nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.

10 Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw.

11 Felly chwithau hefyd, cy­frifwch eich hunain yn feirw i bechod, eithr yn fyw i Dduw, yn-Ghrist Iesu ein Harglwydd.

12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol, i ufyddhau o honoch iddo yn ei chwantau,

13 Ac na roddwch eich aelo­dau yn arfau anghyfiawnder i be­chod, eithr rhoddwch eich hu­nain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cy­fiawnder i Dduw.

14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, oblegid nid ydych chwi tan y Ddeddf, eithr tan râs.

15 Beth wrth hynny? A be­chwn ni o herwydd nad ydym tan y Ddeddf eithr tan râs? Na atto Duw.

16 Oni wŷddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufyddhau iddo, eich bôd yn wei­sion i'r hwn yr ydych yn ufydd­hau iddo, pa un bynnag ai i be­chod i farwolaeth, ynteu i ufydd­dod i gyfiawnder.

17 Ond i Dduw y bo 'r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod, eithr ufyddhau o honoch o'r galon ir ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.

18 Ac wedi eich rhyddhau o­ddi wrth bechod, fe a'ch gwnaeth­pwyd yn weision i gyfiawnder.

19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon, rho­ddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder; i sancteiddrwydd.

20 Canys pan oeddych yn wei­sion pechod, rhyddion oeddych o­ddiwrth gyfiawnder.

21 Pa ffrwyth, gan hynny, oedd i chwi y pryd hynny o'r pe­thau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o'u plegid: canys di­wedd y pethau hynny yw marwo­laeth,

22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn san­cteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol.

23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

PEN. VII.

1 Nad oes un Ddeddf yn arglwyddi­aethu ar ddyn, ond tra fyddo byw: 4 ond ein bod ni wedi meirw [Page] i'r ddeddf. 7 Etto nad yw'r Ddeddf bechod: 12 eithr san­ctaidd, a chyfiawn, a da, 16 fel yr ydwyfi yn cydnabod, ac yn ddrwg cennif nas gallaf ei chadw.

ONi wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sy'n gwy­bod y Ddeddf yr wyf yn dywe­dyd) fod y Ddeddf yn arglwy­ddiaethu ar ddŷn tra fyddo efe byw.

2 Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y Ddeddf i'r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ry­ddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr.

3 Ac felly, os a'r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os ma­rw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf, fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gwr arall.

4 Ac felly chwithau, fy mro­dyr, ydych wedi meirw i'r Ddeddf trwy gorph Christ, fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.

5 Canys pan oeddym yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy 'r Ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.

6 Eithr yn awr y rhyddha­wyd ni oddi wrth y Ddeddf, we­di ein meirw i'r peth i'n attelid, fel y gwasanaethem mewn ne­wydd-deb yspryd, ac nid yn hen­der y llythyren.

7 Beth wrth hynny a ddywe­dwn ni? Ai pechod yw'r Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y Ddeddf. Ca­nys nid adnabuaswn i drachwant, oni bae ddywedyd o'r Ddeddf, Na thrachwanta.

8 Eithr pechod wedi cymme­ryd achlysur drwy'r gorchym­myn, a weithiodd ynofi bôb tra­chwant.

9 Canys heb y Ddeddf, marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y Ddeddf, ond pan ddaeth y gorchymyn, yr ad­fywiodd pechod, a minneu a fûm farw.

10 A'r gorchymyn yr hwn y­doedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth.

11 Canys pechod wedi cym­meryd achlysur trwy 'r gorchym­myn, am twyllodd i, a thrwy hwn­nw am lladdodd.

12 Felly yn wîr, y mae 'r Ddeddf yn sanctaidd, a'r gorchymmyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.

13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na atto Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosei yn bechod, gan weithio marwolaeth ynofi, drwy'r hyn sydd dda, fel y byddei pechod drwy 'r gorchymmyn yn dra phechadurus.

14 Canys ni a wyddom fod y Ddeddf yn ysprydol, eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu tan bechod.

15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gen­nif. Canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf ei wneuthur, eithr y peth sydd gâs gennif, hyn yr ydwyf yn ei wneu­thur.

16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei w­neuthur, yr wyfi yn cyd-synio â'r Ddeddf, mai da ydyw.

17 Felly yr awron, nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynofi.

18 Canys mi a wn nad oes y­nofi, hynny yw yn fy nhgnawd i, ddim da yn trigo: oblegit yr ewy­llysio sydd barod gennif; eithr ewplau yr hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno.

19 Canys nid wyf yn gwneu­thur y peth da yr wyf yn ei ewy­llysio, ond y drwg, yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.

20 Ac os ydwyfi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei w­neuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynofi.

21 Yr ydwyfi gan hynny, yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gw­neuthur da, fôd drwg yn bresen­nol gydâ mi.

22 Canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ôl y dyn oddi mewn.

23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwr­thryfela yn erbyn deddf fy me­ddwl, ac yn fynghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.

24 Ys truan o ddŷn wyfi: pwy am gwared i oddiwrth gorph y farwolaeth hon?

25 Yr wyfi yn diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly, gan hynny, yr wyfi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu Cy­fraith Dduw, ond â'r cnawd cy­fraith pechod.

PEN VIII.

1 Bôd y rhai sydd yn Ghrist, ac yn byw yn ôl yr Yspryd, yn rhyddion oddiwrth ddamnedigaeth. 5, 13 Pa niwed sydd yn digwydd oddi­wrth y cnawd, 6▪ 14 a pha lês oddiwrth yr Yspryd: 17 ac o fôd yn blentyn i Dduw: 19 yr hwn y mae pob peth yn hiraethu am ei ogoneddus ymwared: 29 yr hwn a rag-ordeiniwyd gan Dduw. 38 Na all dim ein gwahanu ni oddi­wrth ei gariad ef.

NId oes gan hynny, yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sy yn Ghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr yspryd.

2 Canys deddf yspryd y bywyd yn Ghrist Iesu, a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a mar­wolaeth.

3 Canys yr hyn ni allai y Ddeddf o herwydd ei bôd yn wan drwy'r cnawd, Duw a ddanfonodd ei fâb ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechoda gondemnodd bechod yn y cnawd:

4 Fel y cyflawnid cyfiawnder y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr yspryd.

5 C [...]nys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau'r cnawd y maent yn syniaw: eithr y rhai sy yn ôl yr yspryd, am bethau yr yspryd.

6 Canys syniad y cnawd, mar­wolaeth yw, a syniad yr yspryd, bywyd a thangneddyf yw.

7 Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedic i Ddeddf Duw: oblegid ni's gall chwaith.

8 A'r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bôdd Duw.

9 Eithr chwy-chwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr yspryd; od yw Yspryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Yspryd Christ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.

10 Ac os yw Christ ynoch, y mae'r corph yn farw o herwydd pechod: eithr yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder.

11 Ac os Yspryd yr hwn a gy­fododd Iesu o feirw, sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywocca hefyd eich cyrph marwol chwi, trwy ei Ys­pryd, yr hwn sydd yn trigo y­noch.

12 Am hynny, frodyr, dyled­wyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.

13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd meirw fyddwch; eithr os ydych yn marweiddio gwei­thredoedd y corph trwy'r Yspryd, byw fyddwch.

14 Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.

15 Canys ni dderbyniasoch ys­pryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch yspryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd.

16 Y mae yr Yspryd hwn yn cyd-tystiolaethu â'n hyspryd ni, ein bôd ni yn blant i Dduw.

17 Ac os plant, etifeddion he­fyd, sef etifeddion i Duw, a chyd­etifeddion â Christ; os ydym yn cyd ddioddef gydag ef, fel i'n cyd­ogonedder hefyd.

18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cy­ffelybu i'r gogoniant a ddatcuddir i ni.

19 Canys awydd-fryd y crea­dur sydd yn disgwil am ddadcu­ddiad meibion Duw.

20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd, nid o'i fôdd, eithr oblegit yr hwn a'i da­rostyngodd.

21 Tan obaith y rhyddheir y creadur ynteu hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i rydd-did gogoni­ant plant Duw.

22 Canys ni a wyddom fod pôb creadur yn cyd ocheneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn.

23 Ac nid yn unic y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaen-ffrwyth yr Yspryd, yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwil y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph.

24 Canys trwy obaith i'n hia­chawyd: eithr y gobaith a welir, nid yw obaith; oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae etto yn ei obeithio?

25 Ond os ydym ni yn gobei­thio yr hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn dis­gwil am dano.

26 A'r un ffunyd y mae'r Ys­pryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddiom, megis y dylem, eithr y mae 'r Yspryd ei hun yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annrhaethadwy.

27 A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau, a wŷr beth yw me­ddwl yr Yspryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn tros y Sainct.

28 Ac ni a wyddom fod pôb peth yn cydweithio er daioni, i'r rhai sy yn caru Duw, sef i'r [Page] rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.

29 Oblegid y rhai a ragwŷbu, a ragluniodd efe hefyd, i fôd yn un ffurf â delw ei fâb ef, fel y by­ddei efe yn gyntaf-anedig ym­mhlith brodyr lawer.

30 A'r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe; y rhai hyn­ny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a'r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.

31 Beth gan hynny a ddywe­dwn ni wrth y pethau hyn? os yw Duw trosom; pwy a all fod i'n herbyn?

32 Yr hwn nid arbedodd ei briod fâb, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gyd ag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?

33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw 'r hwn sydd yn cyfiawnhau:

34 Pwy yw 'r hwn sydd yn damnio? Christ yw'r hwn a fu farw, ie yn hytrach, yr hwn a gy­fodwyd hefyd: yr hwn hefyd sydd ar ddeheu-law Duw; yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.

35 Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Christ? ai gorthrym­der, neu ing, neu ymlid, neu ne­wyn, neu noethni neu enbyd­rwydd, neu gleddyf?

36 Megis y mae yn scrifenne­dig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hŷd y dydd, cyfrifwyd ni fel desaid i'r lladdfa.

37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy nâ chwnewer­wyr trwy 'r hwn a'n carodd ni.

38 Canys y mae yn ddiogel gen­nif na all nac angeu, nac einioes, nac Angelion, na thywysoga­ethau, na meddiannau, na phe­thau presennol, na phethau i ddy­fod,

39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Ghrist Iesu ein Har­glwydd.

PEN. IX.

1 Paul yn ddrwg cantho tros yr Iddewon. 7 Nad oedd holl hâd Abraham yn blant yr addewid. 18 Bod Duw yn trugarhau wrth y neb y mynno. 21 Y gall y crochenydd wneuthur â'i bridd y peth a fynno. 25 Dar­fod rhag-fynegi galwedigaeth y Cenhedloedd, a gwrthodiad yr Idde­won. 32 Yr achos pa ham y croesawodd cyn lleied o'r Idde­won gyfiawnder ffydd.

Y Gwirionedd yr wyfi yn ei ddywedyd yn Ghrist nid wyf yn dywedyd celwydd, am cydwy­bod hefyd yn cyd-tystiolaethu â mi, yn yr Yspryd glân,

2 Fod i mi dristyd mawr, a go­fid dibaid i'm calon.

3 Canys mi a ddymunwn fy môd fy hun yn anathema oddi wrth Grist, dros fy mrodyr, sef fy nghe­nedl yn ôl y cnawd:

4 Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw y mabwysiad, a'r gogo­niant, a'r cyfammodau, a dodiad y Ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r addewidion:

5 Eiddo y rhai yw 'r tadau, ac o'r rhai yr hanoedd Christ yn ôl y enawd, yr hwn sydd uwch-law pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.

6 Eithr nid possibl yw myned gair Duw yn ddirym: canys nid Israel yw pawb ac sydd o Israel.

7 Ac nid ydynt, oblegid eu bôd yn hâd Abraham, i gŷd yn blant: eithr yn Isaac y gelwir i ti hâd.

8 Hynny ydyw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sy blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.

9 Canys gair yr addewid yw hwn, Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mâb i Sara.

10 Ac nid hyn yn unig, eithr Rebecca hefyd, wedi iddi feichi­ogi o un, sef o'n Tâd Isaac,

11 Canys cyn geni y plant etto, na gwneuthur o honynt dda na drwg, fel y byddei i'r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw,

12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha yr ieuangaf.

13 Megis yr scrifennwyd, Ja­cob a gerais, eithr Esau a gase­ais.

14 Beth gan hynny a ddywe­dwn ni? a oes anghyfiawnder gyd â Duw? Na atto Duw.

15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhâf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tostu­riwyf.

16 Felly gan hynny, nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith, ond o Dduw, yr hwn sydd yn tru­garhau.

17 Canys y mae yr Scrythur yn dywedyd wrth Pharao, I hyn ymma i'th gyfodais di, fel y dan­goswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datcenid fy Enw trwy 'r holl ddaiar.

18 Felly gan hynny, y nêb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.

19 Ti a ddywedi gan hynny wr­thif, Pa ham y mae efe etto yn beio? canys pwy a wrthwyne­bodd ei ewyllys ef?

20 Yn hytrach, ô ddŷn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn er­byn Duw? A ddywed y peth ffur­fiedic, wrth yr hwn a'i ffur­fiodd, Pa ham i'm gwnaethost fel hyn?

21 Onid oes awdurdod i'r cro­chenydd ar y priddgist, i wneu­thur o'r un telpyn pridd, un llestr i barch, ac arall i amharch?

22 Beth os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri ad­nabod ei allu, a oddefodd drwy hir-ymaros, lestri digofaint, we­di eu cymhwyso i golledigaeth:

23 Ac i beri gwybod golud ei ogoniant a'r lestri trugaredd, y rhai a rag-baratôdd efe i ogo­niant?

24 Sef nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn unig, eithr hefyd or Cenhedloedd.

25 Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi: a'r hon nid yw anwyl yn an­wyl.

26 A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, nid fy mhobl i ydych chwi, yno y gelwir hwy yn feibion i'r Duw byw.

27 Hefyd, y mae Esaias yn llefain am yr Israel, cyd byddei nifer mei­bion Israel fel tywod y môr, gwe­ddill a achubir.

28 Canys efe a orphen, ac a gwttoga y gwaith mewn cyfiawn­der: oblegid byrr waith a wna yr Arglwydd ar y ddaiar.

29 Ac megis y dywedodd Esai­as yn y blaen, Oni buasei i Ar­glwydd y Sabbath adel i ni hâd, megis Sodoma y buasem, a gw­neuthid ni yn gyffelyb i Go­morra.

30 Beth gan hynny a ddy­wedwn ni? bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfi­awnder, wedi derbyn cyfiawn­der, sef y cyfiawnder sydd o ffydd?

31 Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyr­haeddodd Ddeddf cyfiawnder.

32 Pa ham? am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y Ddeddf; ca­nys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd,

33 Megis y mae yn scrifenne­dig: wele fi yn gosod yn Sion faen tramgwydd, a chraig rhwystr, a phôb un a gredo ynddo ni chywi­lyddir.

PEN. X.

1 Bod yr Scrythur lan yn dangos y rhagor, sy rhwng cyfiawnder y gyfraith, a'r hwn sydd o ffydd, 11 ac na chywilyddir neb a gre­do, pa un bynnac ai Iddew a'i Ce­nedlddyn fyddo, 18 ac y derbyn y Cenhedloedd y gair, ac y credant. 19 Nad oedd y pethau hyn anyspys i'r Iddewon.

OH frodyr, gwir-ewyllys fyng­halon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iechyd­wriaeth.

2 Canys yr wy fi yn dŷst iddynt, fôd ganddynt zêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.

3 Canys hwynt hwy heb wŷ­bod cyfiawnder Duw, ac yn cei­sio gosod eu cyfiawnder eu hu­nain, nid ymostyngasant i gyfi­awnder Duw.

4 Canys Christ yw diwedd y Ddeddf, er cyfiawnder i bôb un sy'n credu.

5 Canys y mae Moses yn scri­fennu am y cyfiawnder sydd o'r Ddeddf, mai 'r dŷn a wnêl y pe­thau hynny a fydd byw trwyddynt

6 Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, pwy a escyn i'r nêf? hynny yw dwyn Christ i wared oddi uchod.

7 Neu pwy a ddescyn i'r dyfn­der? hynny yw dwyn Christ dra­chefn i fynu oddi wrth y meirw.

8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae 'r gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon; hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu,

9 Mai os cyffessi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon, i Dduw ei gyfodi ef o fei­rw, cadwedig fyddi.

10 Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffes­sir i iechydwriaeth.

11 Oblegid y mae 'r Scrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.

12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groeg-wr, oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb ac sydd yn galw arno.

13 Canys pwy bynnac a alwo ar Enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

14 Pa fôdd gan hynny y gal­want ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant heb bre­geth-wr?

15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? megis y mae yn scrifennedig, Mor brydferth yw traed y rhai sy yn efangylu tangneddyf, y rhai sydd yn efan­gylu pethau daionus.

16 Eithr nid ufyddhasant hwy oll i'r Efengyl; canys y mae Esaias yn dywedyd; O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni?

17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.

18 Eithr meddaf; oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaiar yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.

19 Eithr meddaf; oni wybu Israel? Yn gyntaf y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wŷn-fydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus i'ch digiaf chwi.

20 Eithr y mae Esaias yn ym­hŷf-hau ac yn dywedyd; Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf.

21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr e­stynnais fy nwylo at bobl anu­fydd, ac yn gwrth-ddywedyd.

PEN. XI.

1 Na fwriodd Duw ymaith holl Israel: 7 ond rhai a ddewis­wyd, er darfod caledu 'r lleill. 16 Y mae gobaith y troir hwynt. 18 Na ddylai y Cenhedloedd, or­foleddu yn eu herbyn hwy: 26 oblegid y mae addewid o'i hie­chydwriaeth hwythau. 33 Bod barnedigaethau Duw yn anchwi­liadwy.

AM hynny meddaf, A wrtho­dodd Duw ei bobl? Na atto Duw. Canys yr wyf finneu hefyd yn Israeliad, o hâd Abraham, o lwyth Benjamin.

2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o'r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae yr Scrythur yn ei ddywedyd am Elias? pa fodd y mae efe yn er­fyn ar Dduw yn erbyn Israel gan ddywedyd:

3 Oh Arglwydd, hwy a ladda­sant dy Brophwydi, ac a gloddia­sant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unic, ac y maent yn ceisio fy einioes inneu.

4 Eithr pa beth y mae atteb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gli­niau i Baal.

5 Felly gan hynny, y prŷd hyn hefyd, y mae gweddill yn ôl etho­ledigaeth grâs.

6 Ac os o râs, nid o weithre­doedd mwyach: os amgen nid yw grâs yn râs mwyach. Ac os o wei­thredoedd, nid yw yn râs mwyach: os amgen nid yw gweithred yn weithred mwyach.

7 Beth gan hynny? ni chafas Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a'i cafas, a'r lleill a galedwyd.

8 Megis y mae yn scrifenne­dic; Rhoddes Duw iddynt yspryd [Page] trym-gwsc; llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd heddyw.

9 Ac y mae Dafydd yn dywe­dyd; Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dram­gwydd, ac yn daledigaeth iddynt.

10 Tywyller eu llygaid hwy, fal na welant, a chyd-grymma di eu cefnau hwy bob amser.

11 Gan hynny meddaf, a dram­gwyddasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw. Eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iechydwri­aeth i'r cenhedloedd, i yrru eiddi­gedd arnynt.

12 O herwydd pa ham, os y­dyw eu cwymp hwy yn olud i'r byd, a'u lleihâd hwy yn olud i'r Cenhedloedd, pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy?

13 Canys wrthych chwi y Cen­hedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymmaint a'm bôd i yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawr­hau fy swydd:

14 Os gallaf ryw fodd yrru ei­ddigedd ar fynghig a'm gwaed fy hun, ac achub rhai o honynt.

15 Canys os yw eu gwrthodi­ad hwy yn gymmod i'r byd, beth fydd eu derbyniad hwy, ond by­wyd o feirw?

16 Canys os sanctaidd y blaen­ffrwyth, y mae 'r clamp toes he­fyd yn sanctaidd. Ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae 'r canghennau hefyd felly.

17 Ac os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymmaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a'th wnaethpwyd yn gyfrannog o'r gwreiddyn, ac o frasder yr olew­wydden:

18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

19 Ti a ddywedi gan hynny, torrwyd y canghennau ymmaith, fel yr impid fi i mewn.

20 Da: trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymmaith, a thitheu sydd yn sefyll trwy ffydd, na fydd uchel-fryd, eithr ofna.

21 Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, gwilia rhag nad arbedo ditheu chwaith.

22 Gwêl am hynny, ddaioni a thoster Duw, sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhosi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir ditheu hefyd ym­maith.

23 A hwythau, onid arhosant yn anghrediniaeth, a impir i mewn, canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.

24 Canys os tydi a dorrwyd ym­maith o'r olewydden, yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olew-wydden; pa faint mwy y caiff y rhai hyn sydd wrth naturi­aeth, eu himpio i mewn yn eu holew-wydden eu hun?

25 Canys ni ewyllysiwn, frodyr, eich bôd heb wybod y dirgelwch hyn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.

26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig fel y mae yn scrifenne­dic, Y gwaredwr a ddaw allan o Sion, ac a dry ymmaith annuwi­oldeb oddiwrth Jacob.

27 A hyn yw 'r ammod sydd [Page] iddynt gennifi, pan gymmerwyf ymmaith eu pechodau hwynt.

28 Felly o ran yr Efengyl, ge­lynion ydynt, o'ch plegid chwi; eithr o ran yr etholedigaeth, care­digion ydynt, oblegid y tadau.

29 Canys diedifarus yw doni­au, a galwedigaeth Dduw.

30 Canys megis y buoch chwi­thau gynt yn annufydd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch dru­garedd, drwy annufydd-dod y rhai hyn:

31 Felly hwythau hefyd yr awr­on a annufyddhasant, fel y caent hwythau drugaredd, drwy eich trugaredd chwi.

32 Canys Duw a'i caeodd hwynt oll mewn anufydd-dod, fel y tru­garhaai wrth bawb.

33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw; mor anchwi­liadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd mor anolrheinadwy ydynt!

34 Canys pwy a wŷbu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gyng­hor-wr iddo ef?

35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo dra­chefn.

36 Canys o honaw ef, a thrwy­ddo ef, ac iddo ef y mae pôb peth: iddo ef y byddo gogoniant yn dra­gywydd. Amen.

PEN. XII.

1 Y dylai trugareddau Duw ein cynhyrfu ni i ryngu ei fodd ef. 3 Na ddylai neb feddwl yn rhy­dda o hono ei hun, 6 eithr bôd yn ddiwyd yn yr alwedigaeth y go­sodwyd ef ynddi. 9 cariad a lla­wer eraill o rinweddau a ofynnir cennym ni: 19 A dial yn bendifa­ddeu a warafunir i ni.

AM hynny yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cym­meradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymmol wasanaeth chwi.

2 Ac na chyd-ymffurfiwch â'r bŷd hwn, eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus a chymmeradwy, a pherffaith ewy­llys Duw.

3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y grâs a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na by­ddo i nêb uchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.

4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corph, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd;

5 Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corph yn Grist, a phôb un yn aelodau i'w gilydd;

6 A chan fôd i ni amryw ddo­niau, yn ôl y grâs a roddwyd i ni, pa un bynnac ai brophwydo­liaeth, prophwydwn yn ôl cysson­deb y ffydd:

7 Ai gweinidogaeth byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu 'r hwn sydd yn athrawiaethu yn yr athrawiaeth.

8 Neu 'r hwn sydd yn cyngho­ri, yn y cyngor; yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn syml­rwydd: yr hwn sydd yn llywo­draethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.

9 Bydded cariad yn ddiragrith: cassewch y drwg, a glynwch wrth y da.

10 Mewn cariad brawdol by­ddwch garedig i'w gilydd, yn rho­ddi parch yn blaenori ei gilydd.

11 Nid yn ddiog mewn diwy­drwydd, yn wresog yn yr Yspryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd,

12 Yn llawen mewn gobaith, yn ddioddefgar mewn cystudd, yn dyfal-barhau mewn gweddi,

13 Yn cyfrannu i gyfreidiau 'r Sainct, ac yn dilyd lletteuga­rwch.

14 Bendithiwch y rhai sy yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felldithiwch.

15 Byddwch lawen gyd â'r rhai sydd lawen, ac wylwch gyd â'r rhai sy'n wylo.

16 Byddwch yn un fryd â'i gi­lydd: heb roi eich meddwl a'r u­chel bethau: eithr yn gydostyn­gedig â'r rhai isel-radd. Na fy­ddwch ddoethion yn eich tŷb eich hunain.

17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yngolwg pôb dŷn.

18 Os yw bossibl, hyd y mae y­noch chwi, byddwch heddy­chlawn â phôb dŷn.

19 Nac ymddielwch, rai an­wyl, onid rhoddwch le i ddigo­faint: canys y mae yn scrifenne­dic, I mi y mae dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.

20 Am hynny, os dy elŷn a newyna, portha ef: os sycheda, dyro iddo ddiod; canys wrth w­neuthur hyn, ti a bentyrri farwor tanllyd am ei ben ef.

21 Na orchfyger di gan ddry­gioni, eithr gorchfyga di ddrygio­ni trwy ddaioni.

PEN. XIII.

1 Ymddarostwng, a llawer o bethau eraill sydd ddyledus i'r llywo­draethwyr. 8 Mai cariad yw cy­flawnder y Ddeddf: Bod glothi­neb, a meddwdod, a gweithre­doedd y tywyllwch, yn annhymmo­raidd yn amser yr Efengyl.

YMddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel, [...] nid oes awdurdod onid oddiwrth Dduw: a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi ei hor­deinio.

2 Am hynny, pwy bynnac sydd yn ymosod yn erbyn yr awdur­dod, sydd yn gwrthwynebu or­dinhâd Duw: a'r rhai a wrthwy­nebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.

3 Canys tywysogion nid y­dynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna 'r hyn sydd dda; a thi a gai glôd ganddo.

4 Canys gweinidog Duw ydyw ef i ti er daioni: eithr os gwnei ddrwg, ofna, canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Oblegid gweinidog Duw yw efe, dialudd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg.

5 Herwydd pa ham, anghen­rhaid yw ymddarostwng, nid yn unic o herwydd llid, eithr o her­wydd cydwybod hefyd.

6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd, oblegid gwasanaeth-wŷr Duw ydynt hwy, yn gwilied ar hyn ymma.

7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion, teyrn-ged i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, toll i'r hwn y mae toll; ofn i'r hwn y mae ofn; parch i'r hwn y [Page] mae parch yn ddyledus:

8 Na fyddwch yn nlêd nêb o ddim, ond o garu bawb ei gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y Gyfraith.

9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ledratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Na thrachwanta: âc [...]es un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymmy­dog fêl ti dy hun.

10 Cariad ni wna ddrŵg iw gymmydog; am hynny cyflawn­der y gyfraith, yw cariad.

11 A hyn, gan wybod yr am­ser, ei bôd hi weithian yn brŷd i ni i ddeffroi o gyscu; canys yr awr hon y mae ein iechydwri­aeth ni yn nês nâ phan greda­som.

12 Y nôs a gerddodd ym-mhell, a'r dydd a nessaodd, am hynny bw­riwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni.

13 Rhodiwn yn weddus, me­gis wrth liw dydd, nid mewn cy­feddach, a meddwdod; nid mewn cyd-orwedd, ac anlladrwydd; nid mewn cynnen a chenfigen:

14 Eithr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na w­newch rag-ddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.

PEN. XIV.

1 Na ddylai dynion na dirmygu, na chondemnio ei gilydd, am be­thau nid ydynt na da na drwg, o honynt eu hunain: 13 Eithr go­chelyd rhoddi achos tramgwydd ynddynt: 15 oblegid hynny y mae 'r Apostol yn ei brofi ei fôd yn an­ghyfraithlawn, trwy lawer o ri­symmau.

YR hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch attoch, nid i ym­rafaelion rhesymmau.

2 Canys y mae un yn credu y gall fwytta pôb peth: ac y mae a­rall yr hwn sydd wan, yn bwytta dail.

3 Yr hwn sydd yn bwytta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwytta: a'r hwn nid yw yn bwyt­ta, na farned ar yr hwn sydd yn bwytta: canys Duw a'i derbyni­odd ef.

4 Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwâs un arall? I'w ar­glwydd ei hun y mae efe yn se­fyll, neu yn syrthio; ac efe a gyn­helir, canys fe a all Duw ei gyn­nal ef.

5 Y mae un yn barnu diwrnod uwch-law diwrnod, ac arall, yn barnu pôb diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pôb un yn siccr yn ei fe­ddwl ei hun.

6 Yr hwn sydd yn ystyried di­wrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a'r hwn sydd heb ysty­ried diwrnod, i'r Arglwydd y mae heb ei ystyried, Yr hwn sydd yn bwytta, i'r Arglwydd y mae yn bwytta: canys y mae yn diolch i Dduw. A'r hwn sy heb fwytta, i'r Arglwydd y mae heb fwytta, ac y mae yn diolch i Dduw.

7 Canys nid oes yr un o ho­nom yn byw iddo ei hun, ac nid yw yr un yn marw iddo ei hun.

8 Canys pa un bynnac yr y­dym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw. i'r Ar­glwydd yr ydym yn marw. Am [Page] hynny, Pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.

9 O blegit er mwyn hyn y bu farw Christ, ac yr adgyfodes, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr ar­glwyddiaethei ar y meirw, a'r byw hefyd.

10 Eithr pa ham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu pa ham yr wyt yn dirmygu dy frawd? Canys gosodir ni oll ger bron gorsedd­faingc Christ.

11 Canys y mae yn scrifenne­dig, Byw wyfi, medd yr Arglwydd; Pôb glîn a blyga i mi, a phob tafod a gyffessa i Dduw.

12 Felly gan hynny, pôb un o honom trosto ei hun, a rydd gy­frif i Dduw.

13 Am hynny na farnwn ei gi­lydd mwyach; ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i'w frawd, neu rwystr.

14 Mi a wn, ac y mae yn siccr gennif trwy'r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o honaw ei hun, onid i'r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.

15 Eithr os o achos bwyd y tri­steir dy frawd, nid wyt ti mwy­ach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddestrywia ef â'th fwyd, tros yr hwn y bu Christ farw.

16 Na chabler gan hynny eich daioni chwi.

17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod, ond cyfiawnder, a a thangneddyf, a llawenydd yn yr Yspryd glân.

18 Canys yr hwn sydd yn gwa­sanaethu Christ yn y pethau hyn, sydd hôff gan Dduw, a chymme­radwy gan ddynion.

19 Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a'r pethau a berthynant i adeila­daeth ei gilydd.

20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pôb peth yn wîr sydd lân; eithr drŵg yw i'r dŷn sydd yn bwytta drwy dram­gwydd.

21 Da yw na fwyttaer cîg, ac nad ŷfer gwîn, na dim drwy'r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd.

22 A oes ffydd gennit ti? bydded hi gyd â thi dy hun ger bron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun, yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda.

23 Eithr yr hwn sydd yn pe­truso, os bwytty, ef a gondem­nwyd, am nad yw yn bwytta o ffydd. A pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.

PEN. XV.

1 Rhaid i'r crŷf gyd-ddwyn â'r gwan. 2 Na ddylem ni ryngu ein bôdd ein hunain, 3 gan na wnaeth Christ hynny, 7 ond der­byn bôb un ei gilydd, megis y der­byniodd Christ ninnau i gyd, 8 I­ddewon, 9 a Chenhedloedd. 15 Paul yn escusodi ei scrifen, 28 ac yn addaw ymweled â hwynt, 30 ac yn deisyf eu gweddiau.

ANyni, y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweniaid, ac nid rhyngu ein bôdd ein hunain.

2 Boddhaed, pôb un o honom ei gymmydog, yn yr hyn sy dda iddo er ade ladaeth.

3 Canys Christ nis boddhaodd [Page] ef ei hun, eithr megis y mae yn scrifennedig, Gwradwyddiadau y rhai a'th wradwyddent di, a syr­thiasant arnafi.

4 Canys, pa bethau bynnag a scrifennwyd o'r blaen, er addysc i ni yr scrifennwyd hwynt, fel trwy ammynedd a diddanwch yr Scrythyrau, y gallem gael go­baith.

5 A Duw yr ammynedd ar di­ddanwch, a roddo i chwi synied yr un peth tu ag at ei gilydd yn ôl Christ Iesu:

6 Fel y galloch, yn un-fryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thâd ein Harglwydd Jesu Grist.

7 O herwydd pa ham, der­byniwch ei gilydd, megis ac y derbyniodd Christ ninnau i ogo­niant Duw.

8 Ac yr wyf yn dywedyd, w­neuthur Iesu Grist yn wenidog i'r enwaediad, er mwyn gwirio­nedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion a wnaethpwyd i'r tadau.

9 Ac fel y byddei i'r Cenhed­loedd ogoneddu Duw am ei dru­garedd, fel y mae yn scrifennedig; Am hyn y cyffesaf i ti ym-mhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th Enw.

10 A thrachefn y mae yn dywe­dyd; Ymlawenhewch Genhed­loedd gyd â'i bobl ef.

11 A thrachefn, Molwch yr Ar­glwydd yr holl Genhedloedd, a chlodforwch ef yr holl bobloedd.

12 A thrachefn y mae Esaias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Iesse, a'r hwn a gyfyd i lywodrae­thu y Conhedloedd: ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd:

13 A Duw 'r gobaith a'ch cy­flawno o bôb llawenydd a thang­neddyf gan gredu, fel y cynny­ddoch mewn gobaith, trwy nerth yr Yspryd glân.

14 Ac yr wyfi fy hun, fy mro­dyr, yn credu am danoch chwi, eich bôd chwithau yn llawn dai­oni, wedi eich cyflawni o bôb gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio ei gilydd hefyd.

15 Eithr mi a scrifennais yn hyfach o beth attoch, o frodyr, fel un yn dwyn ar gôf i chwi, trwy y grâs a roddwyd i mi gan Dduw.

16 Fel y byddwn wenidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i Efengyl Dduw, fel y by­ddei offrymmiad y Cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sanctei­ddio gan yr Yspryd glân.

17 Y mae i mi, gan hynny, or­foledd yn Grist Iesu, o ran y pe­thau a berthyn i Dduw.

18 Canys ni feiddiafi ddywe­dyd dim o'r pethau ni weithre­dodd Christ trwofi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufydd, ar air a gweithred:

19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Yspryd Duw: hyd pan, o Jerusalem, ac o amgylch hyd Illyricum, y llen­wais Efengyl Grist.

20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu 'r Efengyl, nid lle yr hen­wid Crist, fel nad adeiladwn ar sail un arall:

21 Eithr megis y mae yn scri­fennedic; I'r rhai ni fynegwyd am dano, hwynt hwy a'i gwe­lant ef; a'r rhai ni chlywsant, a ddeallant.

22 Am hynny hefyd i'm llu­ddiwyd yn fynych i ddyfod attoch chwi.

23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennif le mwyach yn y gwle­dydd hyn, a hefyd bôd arnaf hi­raeth erys llawer o flynyddoedd am ddyfod attoch chwi.

24 Pan elwyf i'r Hispaen, my­fi a ddeuaf attoch chwi. Canys yr wyf yn gobeithio wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi o honoch.

25 Ac yr awr hon yr wyfi yn myned i Ierusalem, i weini i'r Sainct.

26 Canys rhyngodd bôdd i'r rhai o Macedonia ac Achaia, wneuthur rhyw gymmorth i'r rhai tlodion o'r Sainct sydd yn Ierusalem.

27 Canys rhyngodd bôdd i­ddynt, a'u dyled-wŷr hwy ydynt: oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u pethau ysprydol hwynt,, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwytheu, mewn pe­thau cnawdol.

28 Wedi i mi, gan hynny, orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i'r Hispaen.

29 Ac mi a wn pan ddelwyf attoch, y deuaf â chyflawnder ben­dith Efengyl Grist.

30 Eithr yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Har­glwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Yspryd, ar gyd-ymdrech o ho­noch gyd â myfi mewn gweddiau trosofi at Dduw,

31 Fel i'm gwareder oddiwrth y rhai anufydd yn Iudæa, ac ar fôd fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennif i Ierusalem, yn gym­meradwy gan y Sainct.

32 Fel y delwyf attoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac i'm cyd-lonner gyd â chwi.

33 A Duw 'r heddwch fyddo gyd â chwi oll. Amen.

PEN XVI.

1 Paul yn ewyllysio i'r brodyr an­nerch llawer, 17 ac yn eu cyng­hori hwy, i ochelyd y rhai sydd yn peri anghydfod, a rhwystrau, 21 ac ar ôl amryw annherchion, yn diweddu gydâ moliant a diolch i Dduw.

YR wyf yn gorchymmyn i chwi Phaebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i Eglwys Cenchrea:

2 Dderbyn o honoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i Sainct, a'i chynnorthwyo hi ym­mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hitheu he­fyd a fu gymmorth i lawer, ac i minneu fy hun hefyd.

3 Annherchwch Priscilla, ac Aquila, fy nghydweith-wŷr yn Grist Iesu.

4 (Y rhai dros fy mywyd i a ddo­dasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i'r rhai nid wyfi yn unic yn diolch, onid hefyd holl Eglwysydd y Cenhedloedd.)

5 Anherchwch hefyd yr Eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anherchwch fy anwyl Epenetus, yr hwn yw blaen-ffrwyth Achaia yn Ghrist.

6 Annherchwch Mair, yr hon a gymmerodd lawer o boen e­rom ni.

7 Annherchwch Andronicus, a Iunia, fy ngheraint, am cyd-garcharorion, y rhai sy hy­nod ym-mlith yr Apostolion, y [Page] rhai hefyd oeddent yn Grist o'm blaen i.

8 Annherchwch Amplias fy anwylyd yn yr Arglwydd.

9 Annerchwch Urbanus ein cydweithwr yn Grist, ac Stachys fy anwylyd.

10 Annherchwch Apelles y profedic yn Grist. Annherchwch y rhai sy o dŷlwyth Aristobulus.

11 Annherchwch Herodion fy nghâr. Annherchwch y rhai sy o dŷlwyth Narcissus y rhai sydd yn yr Arglwydd.

12 Annherchwch Tryphaena a Thryphosa, y rhai a gymmerasant boen yn yr Arglwydd. Annher­chwch yr anwyl Persis, yr hon a gymmerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.

13 Annherchwch Rufus etho­ledig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minneu.

14 Annherchwch Ascyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mer­curius, a'r brodyr sy gyd â hwynt.

15 Annherchwch Philologus, a Iulia, a Nereus a'i chwaer, ac O­lympas, a'r holl Sainct, y rhai sydd gyd â hwynt.

16 Annherchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae Eglwysi Christ yn eich annerch.

17 Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhaisy yn peri anghydfod a rhwystrau, yn erbyn yr athrawiaeth a ddyscasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt.

18 Canys y rhai sy gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Har­glwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd têg a gweniaith yn twyllo calonnau y rhai diddrwg.

19 Canys eich ufydd-dod chwi a ddaeth ar lêd at bawb. Yr wyfi gan hynny yn llawen o'ch rhan chwi, eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tu ag at y peth sy dda, ac yn wirion tu ag at y peth sy ddrwg.

20 A Duw y tangneddyf a sathr Satan tan eich traed chwi ar frys. Grâs ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â chwi. Amen.

21 Y mae Timotheus fy nghyd­weith-wr, a Lucius, a Iason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch.

22 Yr wyfi Tertius, yr hwn a scrifennais yr Epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd.

23 Y mae Gaius fy lletteu-wr i, a'r holl Eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwiliwr y ddinas, yn eich annerch, a'r brawd Quartus.

24 Grâs ein Harglwydd Iesu Christ a fyddo gyd â chwi oll. A­men.

25 I'r hwn a ddichon eich ca­darnhau, yn ôl fy Efengyl i, a phregethiad Iesu Christ, yn ôl dat­cuddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd am dano er dechreuad y byd;

26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy Scrythyrau y Prophwydi yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ym-mhlith yr holl Genhedloedd, er mwyn u­fydd-dod ffydd.

27 I Dduw yr unic ddoeth y byddo gogoniant trwy Iesu Christ yn dragywydd. Amen.

¶At y Rhufeiniaid yr scrifennwyd o Corinthus, gyd â Phaebe gweinidoges yr Eglwys yn Cenchrea.

YR EPISTOL CYNTAF I PAUL yr Apostol at y CORINTHIAID.

PENNOD I.

1 Ar ôl iddo gyfarch iddynt a diolch trostynt, 10 y mae efe yn eu han­nog i undeb ac 12 yn beio ar eu anghytundeb hwy. 18 Bôd Duw yn difetha 'r doethion, 21 trwy ffolineb pregethu, ac 26 nad yw efe yn galw y doethion, na'r ga­lluoc, na'r boneddigion, ond 27, 28. y ffôl, a'r gwan, a'r di­stadl.

PAUL wedi ei alw ei fôd yn Apostol Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes.

2 At Eglwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, at y rhai a san­cteiddiwyd yn Ghrist Iesu, a al­wyd yn Sainct, gŷd â phawb ac sydd yn galw ar enw ein Har­glwydd Iesu Ghrist, ym-mhôb man, o'r eiddynt hwy a ninnau:

3 Grâs fyddo i chwi a thang­neddyf oddiwrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Ghrist.

4 Yr ydwyf yn diolch i'm Duw bôb amser drosoch chwi, am y grâs Duw a rodded i chwi yng Ghrist Iesu:

5 Am eich bôd ym-mhôb peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pôb ymadrodd a phôb gwy­bodaeth:

6 Megis y cadarnhawyd tysti­olaeth Christ ynoch.

7 Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwil am ddatcu­ddiad ein Harglwydd Iesu Ghrist:

8 Yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, yn ddiar­gyoedd, yn nŷdd ein Harglwydd Iesu Ghrist.

9 Ffyddlawn yw Duw, trwy yr hwn i'ch galwyd i gymdeithas ei fâb ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.

10 Ac yr wyf yn attolwg i chwi frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb o honoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith, eithr bôd o honoch wedi eich cyfan-gyssylltu, yn yr un meddwl, ac yn yr un farn.

11 Canys fe ddangoswyd i mi am danoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sy o dŷ Chloe, fôd cynhen­nau yn eich plith chwi.

12 A hyn yr ydwyf yn ei ddy­wedyd, bôd pob un o honoch yn dywedyd, Yr ydwyfi yn eiddo Paul, minneu yn eiddo Apollos, minneu yn eiddo Cephas, minneu yn eiddo Christ.

13 A rannwyd Christ? Ai Paul a groes-hoeliwyd trosoch? neu ai yn enw Paul i'ch bedyddiwyd chwi.

14 Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb o honoch, ond Crispus a Gaius,

15 Fel na ddywedo nêb fedy­ddio o honofi yn fy enw fy hun.

16 Mi a fedyddiais hefyd dyl­wyth Stephanas: heb law hyn­ny [Page] ni's gwn a fedyddiais i neb a­rall.

17 Canys ni anfonodd Christ fi i fedyddio, onid i efangylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Christ yn ofer,

18 Canys yr ymadrodd am y groes, i'r rhai colledig ynfyd­rwydd yw; eithr i ni y rhai cad­wedig, nerth Duw ydyw.

19 Canys scrifennedic yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethi­on, a deall y rhai deallus a ddi­leaf.

20 Pa le y mae'r doeth? Pa le mae'r Scrifennydd? Pa le y mae ymholydd y byd hwn? Oni wna­eth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?

21 Canys o herwydd yn noe­thineb Duw nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw; fe welodd Duw yn dda trwy ffoli­neb pregethu, gadw y rhai sy yn credu.

22 Oblegit y mae yr Iddewon yn gofyn arwydd, a'r Groegwŷr yn ceisio doethineb.

23 Eithr nyni ydym yn prege­thu Christ wedi ei groes-hoelio, i'r Iddewon yn dramgwydd, ac i'r Groeg-wŷr, yn ffolineb.

24 Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groeg-wŷr yn Ghrist, gallu Duw, a doethineb Duw.

25 Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach nâ dynion, a gwen­did Duw yn gryfach nâ dynion.

26 Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd.

27 Eithr Duw a etholodd ffôl­bethau y byd, fel y gwradwyddei y doethion, a gwan bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwradwy­ddei y pethau cedyrn:

28 A phethau distadl y bŷd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymmei y pethau sydd.

29 Fel na orfoleddei un cnawd ger ei fron ef.

30 Eithr yr ydych chwi o ho­naw ef yn Ghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn bryne­digaeth.

31 Fel, megis ac y mae yn scri­fennedig, Yr hwn sydd yn ym­ffrostio, ymffrostied yn yr Ar­glwydd.

PEN. II.

1 Mae efe yn dangos fod ei bregeth ef, er nad ydoedd yn dwyn gydi hi odidawgrwydd ymadrodd, 4 neu ddoethineb dynawl: etto yn se­fyll mewn 4, 5 nerth Duw, ac yn rhagori cymmaint 6 ar ddoethineb y byd yma, a 9 synwyr dynawl, ac nas 14 gall y dyn anianol mo'i deall.

A Myfi pan ddaethum attoch, frodyr, a ddaethum nid yn ôl godidawgrwydd ymadrodd neu ddoethineb, gan fynegi i chwi dystiolaeth Dduw.

2 Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Ghrist, a hwnnw wedi ei groes-hoelio.

3 A mi a fûm yn eich mysc mewn gwendid, ac ofn, a dych­ryn mawr.

4 A'm hymadrodd, a'm pre­geth i, ni bu mewn geiriau denu, o ddoethineb ddynawl, ond yn eglurhâd yr Yspryd, a nerth:

5 Fel na byddei eich ffydd mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw.

6 A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymmysc rhai perffaith; eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sy yn diflannu.

7 Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a rag-ordeiniodd Duw cyn yr oe­soedd, i'n gogoniant ni.

8 Yr hon ni adnabu neb o dy­wysogion y byd hwn, o herwydd pes adwaenasent, ni chroes-hoel­iasent Arglwydd y gogoniant.

9 Eithr fel y mae yn scrifen­nedic: Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clûst, ac ni ddaeth i ga­lon dŷn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef.

10 Eithr Duw a'u heglurodd i ni trwy ei Yspryd, canys yr Yspryd sydd yn chwilio pob peth; ie dyfnion bethau Duw hefyd.

11 Canys pa ddŷn a edwyn be­thau dŷn, ond yspryd dŷn yr hwn sydd ynddo ef; felly hefyd, pe­thau Duw nid edwyn neb ond Ys­pryd Duw.

12 A nyni a dderbyniasom, nid Yspryd y bŷd, ond yr Yspryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a râd-roddwyd i ni gan Dduw.

13 Y rhai yr ydym yn eu lle­faru hefyd, nid â'r geiriau a ddy­scir gan ddoethineb dynol, ond a ddyscir gan yr Yspryd glân; gan gyd farnu pethau Ysprydol a pe­thau Ysprydol.

14 Eithr dŷn anianol nid yw yn derbyn y pethau sy o Yspryd Duw; canys ffolineb ydynt gan­ddo ef, ac nis gall eu gwybod; oblegid yn Ysprydol y bernir hwynt.

15 Ond yr hwn sydd Ysprydol sydd yn barnu pôb peth, eithr efe nis bernir gan nêb.

16 Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a'i cyfar­wydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Christ.

PEN. III.

1 Bôd llaeth yn gymmwys i blant; 3 Cynhen ac ymbleidio yn arwyddi­on o feddwl bydol. 7 Nad yw 'r hwn sydd yn plannu, na'r hwn sydd yn dyfrhau ddim. 9 Bod y gweinidogion yn gydweithwyr i Dduw. 11 Christ yw yr unic syl­faen. 16 Bod dynion yn Demlau Duw, y rhai 17 sydd raid eu cadw yn sanctaidd. 19 Nad yw doethi­neb y byd yma, ond ffolineb gydâ Duw.

A Myfi frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai Ys­prydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bâch yn Ghrist.

2 Mi a roddais i chwi laeth i'w yfed, ac nid bwyd; canys hyd yn hyn ni's gallech, ac ni's gellwch chwaith etto yr awron ei dderbyn.

3 Canys cnawdol ydych chwi etto. Canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnhen, ac ymbleidio, onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddy­nol.

4 Canys tra dywedo un, myfi ydwyf eiddo Paul, ac arall, Myfi [Page] wyf eiddo Apollos; ond ydych chwi yn gnawdol.

5 Pwy gan hynny yw Paul? A phwy Apollos? ond gweinidogi­on, trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bôb un.

6 Myfi a blennais, Apollos a ddyfrhaodd, ond Duw a roddes y cynnydd.

7 Felly nid yw yr hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoi y cynnydd.

8 Eithr yr hwn sydd yn plan­nu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt; a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei la­fur ei hun.

9 Canys cyd-weithwŷr Duw ydym ni: llafur-waith Duw, adei­ladaeth Duw ydych chwi.

10 Yn ôl y grâs Duw a rodd­wyd'i mi, megis pen-saer celfydd, myfi a osodals y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch-adeiladu, ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch-adeiladu.

11 Canys sylfaen arall ni's gall neb ei osod, heb law yr un a osod­wyd, yr hwn yw Iesu Ghrist.

12 Eithr os goruwch-adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl.

13 Gwaith pôb dŷn a wneir yn amlwg: canys y dydd a'i den­gys, oblegid trwy dân y dadcuddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.

14 Os gwaith nêb a erys, yr hwn a oruwch-adailadodd ef; efe a dderbyn wobr.

15 Os gwaith nêb a loscir, efe a gaiff golled; eithr efe ei hûn a fydd cadwedig, etto felly megis trwy dân.

16 Oni wŷddoch chwi, mai Teml Dduw ydych, a bôd Yspryd Duw yn trigo ynoch?

17 Os llygra nêb Deml Dduw, Duw a lygra hwnnw. Canys san­ctaidd yw Teml Dduw, yr hon ydych chwi.

18 Na thwylled neb ei hunan, Od oes neb yn eich mysc yn ty­bied ei fôd ei hun yn ddoeth yn y byd hwn; bydded ffôl fel y by­ddo doeth.

19 Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyd â Duw: o her­wydd scrifennedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwy­stra.

20 A thrachefn, Y mae 'r Ar­glwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.

21 Am hynny na orfoledded neb mewn dynion, canys pôb peth sydd eiddoch chwi.

22 Pa un bynnac ai Paul, ai Apollos, ai Cephas, ai'r bŷd, ai bywyd, ai angeu, ai pethau pre­sennol, ai pethau i ddyfod; y mae pôb peth yn eiddoch chwi.

23 A chwithau yn eiddo Christ, a Christ yn eiddo Duw.

PEN. IV.

1 Pa gyfrif a ddyleid ei wneuthur o weinidogion. 7 Nad oes gen­nym ni ddim ar nas derbyniasom. 9 Bod yr Apostolion yn ddry­chau i'r byd, i'r Angylion, ac i ddynion, 13 yn yscubion, ac yn sorod y byd: 15 ac er hynny eu bod yn dadau i ni yn Ghrist, 16 ac y dylem ni eu dilyn hwy.

FElly cyfrifed dŷn nyni, megis gweinidogion i Ghrist a go­ruchwyl-wŷr ar ddirgoledigae­thau Duw.

2 Am ben hyn, yr ydys yn dis­gwil mewn goruchwyl-wyr, gael un yn ffyddlon.

3 Eithr gennifi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dŷn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.

4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cyfiawn­hawyd, eithr yr Arglwydd yw yr hwn sydd yn fy marnu.

5 Am hynny, na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a e­glura fwriadau y calonnau, ac y­na y bydd y glôd i bôb un gan Dduw.

6 A'r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i at­taf fy hun, ac at Apollos, o'ch a­chos chwi, fel y gallech ddyscu ynom ni, na synier mwy nag sydd scrifennedig, fel na bôch y naill tros y llall yn ymchwyddo yn er­byn arall.

7 Pwy sydd yn gwneuthur rha­gor rhyngoti ac arall? A pha beth sydd gennit a'r na's derbyniaist? Ac os derbyniaist, pa ham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn.

8 Yr ydych chwi yr awron we­di eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni; ac och Dduw na baech yn teyrna­su, fel y caem ninnau deyrnasu gyd â chwi.

9 Canys tybied yr wyf, ddar­fod i Dduw ein dangos ni, yr Apostolion diweddaf, fel rhai wedi eu bwrw i angeu; oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrŷch i'r bŷd, ac i'r Angelion, ac i ddy­nion.

10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Christ, a chwithau yn ddoe­thion yn Ghrist; nyni yn weini­aid, a chwithau yn gryfion; chwy­chwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.

11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr y­dym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd.

12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylo ein hunain. Pan i'n difenwir, yr ydym yn ben­dithio; pan i'n herlidir, yr ydym yn ei ddi oddef.

13 Pan i'n ceblir, yr ydym yn gweddio, fel yscubion y bŷd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim hŷd yn hyn.

14 Nid i'ch gwradwyddo chwi yr ydwyf yn scrifennu y pethau hyn, ond eich rhybuddio yr wyf, fel fŷ mhlant anwyl.

15 Canys pe byddei i chwi ddeng-mil o athrawon yn Ghrist, er hynny nid oes i chwi nemmawr o dadau: canys myfi a'ch cenhed­lais chwi yn Ghrist Iesu trwy yr Efengyl.

16 Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi; byddwch ddilyn-wyr i mi.

17 Oblegid hyn yr anfonais at­toch Timotheus, yr hwn yw fy anwyl fâb, a ffyddlawn yn yr Ar­glwydd, yr hwn a ddwg ar gôf i chwi fy ffyrdd i yn Ghrist; megis yr wyf ym-mhob man yn athraw­iaethu ym-mhob Eglwys.

18 Ac y mae rhai wedi ym­chwyddo, [Page] fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod attoch chwi.

19 Eithr mi a ddeuaf attoch ar fyrder, os yr Arglwydd a'i mynn, ac a fynnaf wybod, nid yma­drodd y rhai sy wedi chwyddo, ond ei gallu.

20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu.

21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod o honofi attoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac yspryd addfwynder.

PEN V.

1 Bod y gwr godinebus yn achos o gywilydd iddynt, yn hytrach nag o orfoledd. 7 Rhaid yw ymlan­hau oddiwrth yr hên Lefain. 10 Y dylid cilio oddiwrth anfad ddrwgweithredwyr.

MAE yr gair yn hollawl, fôd yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb, ac na henwir un-waith ym mysc y Cenhed­loedd: sef cael o un wraig ei dâd.

2 Ac yr ydych chwi wedi ym­chwyddo, ac ni alarasoch yn hy­trach, fel y tynnid o'ch mysc chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

3 Canys myfi yn ddiau fel absen­nol yn y corph, etto yn bresennol yn yr yspryd; a fernais eusys, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hyn felly:

4 Yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist, pan ymgynnulloch yng­hyd, a'm hyspryd inneu, gydâ gallu ein Harglwydd Iesu Ghrist,

5 Draddodi y cyfryw un i Sa­tan, i ddinystr y cnawd, fel y by­ddo yr yspryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6 Nid da eich gorfoledd chwi; Oni wyddoch chwi fôd ychy­dig lefein yn lefeinio yr holl does.

7 Am hynny certhwch allan yr hên lefein, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Christ ein Pasc ni a aberthwyd trosom ni.

8 Am hynny cadwn wŷl, nid â hên lefein, nac a lefein malis a drygioni, ond â bara croyw pur­deb a gwirionedd.

9 Mi a scrifennais attoch mewn llythyr, na chyd-ymgymmyscech â godineb-wŷr.

10 Ac nid yn hollawl â godi­neb-wŷr y bŷd hwn, neu â'r cy­byddion, neu â'r crib-ddeil-wŷr, neu ag eulyn-addolwŷr; oblegid felly, rhaid fyddai i chwi fyned allan o'r bŷd.

11 Ond yn awr mi a scrifennais attoch na chyd-ymgymmyscech; os bydd neb a henwir yn frawd, yn odineb-wr, neu yn gybydd, neu yn, eulyn-addolwr, neu yn ddifennwr, neu yn feddw, neu yn grib-ddeiliwr; gydâ'r cy­fryw ddŷn, na chyd fwytta chwaith.

12 Canys beth sydd i mi a farn­wyf ar y rhai sy oddi allan? Onid y rhai sy oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu.

13 Eithr y rhai sy oddi allan, Duw sy yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymmaith y dŷn drygi­onus hwnnw o'ch plith chwi.

PEN. VI.

1 Na ddylai y Corinthiaid flino eu [Page] brodyr trwy fyned i'r gyfraith â hwynt 6 yn enwedic ger bron rhai digred. 9 Na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw. 15 Bod ein cyrph ni yn aelodau i Ghrist, 19 ac yn demlau i'r Yspryd glân: 16, 17 ac am hynny na ddylid mo'i halogi.

A Feiddia neb o honoch, a chanddo fatter yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai ang­hyfiawn, ac nid o flaen y Sainct.

2 Oni wŷddoch chwi y barna y Sainct y byd? Ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i sarnu y pethau lleiaf.

3 Oni wŷddoch chwi y bar­nwn ni Angelion? pa faint mwy y pethau a berthyn i'r bywyd hwn.

4 Gan hynny, od oes gennwch farnedigaethau am bethau a ber­thyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y faingc y rhai gwaelaf yn yr E­glwys.

5 Er cywilydd i chwi yr yd­wyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith cymmaint ac un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6 Ond bôd brawd yn ymgyfrei­thio â brawd, a hynny ger bron y rhai di gred.

7 Yr awron gan hynny y mae yn hollawl ddiffyg yn eich plith, am eich bôd yn ymgyfreithio â'i gilydd. Pa ham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? Pa ham nad ydych yn hytrach mewn colled?

8 Eithr chwy-chwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hyn­ny i'r brodyr.

9 Oni wŷddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyr­nas Dduw. Na thwyller chwi, ni chaiff na godinebwŷr, nac culyn-addolwyr, na thorwŷr pri­odas, na maswedd-wŷr, na gwr-ryw-gydwŷr,

10 Na lladron, na chybyddi­on, na meddwon, na difenwyr, na chribddeil-wŷr, etifeddu teyr­nas Dduw.

11 A hyn fu rai o honoch chwi. Eithr chwi a olchwyd; ei­thr chwi a sancteiddiwyd; eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn Enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Yspryd ein Duw ni.

12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn lles­hau; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir i dan aw­durdod gan ddim.

13 Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd; eithr Duw a ddinistria hwn, a hwythau. A'r corph nid yw i odineb, ond i'r Arglwydd; a'r Arglwydd i'r corph.

14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.

15 Oni ŵyddoch chwi fôd eich cyrph yn aelodau i Ghrist? gan hynny a gymmeraf fi aelodau Christ, a'u gwneuthur yn aelodau puttain? Na atto Duw.

16 Oni wŷddoch chwi fôd yr hwn sydd yn cydio â phuttain yn un corph? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.

17 Ond yr hwn a gysyllter â'r Arglwydd, un yspryd yw.

18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dŷn, oddi allan iw gorph y mae; ond yr hwn sydd [Page] yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun.

19 Oni wŷddoch chwi fôd eich corph yn Deml i'r Yspryd glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?

20 Canys er gwerth y pryn­wyd chwi; gan hynny gogone­ddwch Dduw yn eich corph, ac yn eich yspryd, y rhai sydd eiddo Duw.

PEN. VII.

1 Y mae efe yn crybwyll am briodas, 4 ac yn dangos mai rhwymedi yw yn erbyn godineb: 10 ac na ddy­lid dattod y cwlwm hwnnw mewn yscafnder. 18, 20 Rhaid i bob dyn fôd yn fodlon iw alwe­digaeth. 25 Pa ham y dylid maw­rhau gwyryfdod: 35 ac ar ba achosion y gallwn ni briodi, neu beidio â phriodi.

AC am y pethau yr scrifenna­soch attaf; da i ddyn na chy­ffyrddei â gwraig.

2 Ond rhag godineb, bydded i bôb gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bôb gwraig ei gŵr ei hun.

3 Rhodded y gŵr i'r wraig ddyledus ewyllys da, a'r un wedd y wraig i'r gŵr.

4 Nid oes i'r wraig feddiant ar ei chorph ei hun; ond i'r gŵr; ac yr un ffunyd, nid oes i'r gŵr; seddiant ar ei gorph ei hun, ond i'r wraig.

5 Na thwyllwch ei gilydd, o­ddieithr o gydsyniad tros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temptio o Satan chwi o herwydd eich anllad­rwydd.

6 A hyn yr wyf yn ei ddywe­dyd o ganniad-tâd, nid o orchym­myn.

7 Canys mi a fynnwn fôd pôb dŷn fel fi fy hun, eithr y mae i bôb un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.

8 Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb priodi, a'r gwragedd gwedd­won; Da yw iddynt os arhosant fel finneu.

9 Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.

10 Ac i'r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymmyn, nid my­fi chwaith ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddiwrth ei gŵr.

11 Ac os ymedy hi, arhoed heb priodi, neu gymmoder hi â'i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ym­maith.

12 Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyfi, nid yr Arglwydd; Os bydd i un brawd wraig ddigrêd, a hi­theu yn fodlon i drigo gyd ag ef, na ollynged hi ymmaith.

13 A'r wraig, yr hon y mae i­ddi ŵr digred, ac yntef yn fodlon i drigo gyd â hi, na wrthoded hi ef.

14 Canys y gŵr di-grêd a san­cteiddir trwy y wraig: a'r wraig ddigrêd a sancteiddir trwy y gŵr. Pe amgen aflan yn ddiau fy­ddei eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.

15 Eithr os yr anghredadyn a ymedy, ymadawed; nid yw y brawd neu y chwaer gaeth yn y [Page] cyfryw bethau; eithr Duw a'n gal­wodd ni i heddwch.

16 Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost titheu ŵr, a gedwi di dy wraig?

17 Ond megis y darfu i Dduw rannu i bôb un, megis y darfu i'r Arglwydd alw pôb un felly rho­died. Ac fel hyn yr wyf yn or­deinio yn yr Eglwysi oll.

18 A alwyd neb wedi ei en­waedu? nac adgeisied ddienwae­diad. A alwyd neb mewn dien­waediad? nac enwaeder arno.

19 Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchymynion Duw.

20 Pob un yn y galwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.

21 Ai yn wâs i'th alwyd? na fydded gwaeth gennit; etto os gelli gael bôd yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.

22 Canys yr hwn, ac ef yn wâs, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i'r Arglwydd ydyw. A'r un ffunyd yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd a alwyd, gwas i Ghrist yw.

23 Er gwerth i'ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.

24 Yn yr hyn y galwyd pôb un, frodyr, yn hynny arhosed gyd â Duw.

25 Eithr am wyryfon, nid oes gennif orchymmyn yr Arglwydd. Ond barn yr ydwyf yn ei roi fel un a gafas drugaredd gan yr Ar­glwydd, i fod yn ffyddlon.

26 Am hynny yr wyf yn ty­bied mai da yw hyn o herwydd yr angen rhaid presennol; mai da meddaf i ddŷn fôd felly.

27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddiwrth wraig? na chais wraig.

28 Ac os priodi hefyd ni phe­chaist, ac os prioda gwyryf, ni phe­chodd. Er hynny, y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.

29 A hyn yr ydwyf yn ei ddy­wedyd, frodyr, am fodyr amser yn fyrr. Y mae yn ol, fod o'r rhai sy a gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt:

30 A'r rhai a wŷlant, megis heb wŷlo; a'r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a'r rhai a brynant, megis heb feddu.

31 A'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gam-arfer. Ca­nys y mae dull y byd hwn yn my­ned heibio.

32 Eithr mi a fynnwn i chwi fôd yn ddiofal. Yr hwn sydd heb priodi, sydd yn gofalu am bethau yr Arglwydd, pa wedd y bodlona 'r Arglwydd:

33 Ond y neb a wreiccâodd, sydd yn gofalu am bethau y byd; pa wedd y bodlona ei wraig.

34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyryf. Y mae yr hon sydd heb briodi, yn go­falu âm y pethau sydd yn perthyn i'r Arglwydd, fel y byddo hi san­ctaidd ynghorph, ac yspryd: ac y mae yr hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol; pa fodd y rhynga hi fôdd i'r gŵr.

35 A hyn yr ydwyf yn ei ddy­wedyd er llesad i chwi eich hu­nain: nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahan.

36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tu ag ar ei wy­ryf, [Page] od a hi tros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly: gwnaed a fynno; nid yw yn pe­chu; priodant.

37 Ond os yw neb yn sefyll yn siccr yn ei galon, ac yn afraid iddo; ac a meddiant ganddo ar ei ewy­llys ei hun; ac a rôdd ei frŷd ar hynny yn ei galon, ar gadw o ho­naw ei wyryf; da y mae yn gw­neuthur.

38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.

39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno, yn unic yn yr Arglwydd.

40 Eithr dedwyddach yw hi, os erys hi felly yn fy marn i: ac yr ydwyf finneu yn tybied fôd Yspryd Duw gennif.

PEN. VIII.

1 Bod iddynt ymgadw oddiwrth y bwydydd a offrymmir i eulynnod. 8. 9. Na ddylem ni gamarferu ein rhydd-did Christianogaidd, i rwystro ein brodyr: 11 Eithr ffrwyno ein gwybodaeth â chariad perffaith.

EIthr am yr hyn a aberthwyd i eulynnod, ni a wŷddom fôd gan bawb o honom wŷbodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.

2 Eithr os yw neb yn tybied ei fôd yn gwybod dim, ni wŷr efe etto ddim fel y dylei wŷbod.

3 Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir gando ef.

4 Am fwytta gan hynny, o't pethau a aberthir i eulynnod, ni a wŷddom nad yw eulyn ddim yn y byd, ac nad oes un Duw arall, onid un.

5 Canys er bôd rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaiar, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi la­wer)

6 Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Ar­glwydd Iesu Ghrist, trwy yr hwr y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.

7 Ond nid yw yr wŷbodaeth hon gan bawb; canys rhai a char­ddynt gyd-wybod o'r eulyn, hyd y pryd hyn, sydd yn bwytta fel peth a aberthwyd i eulynnod; a'r cyd-wŷbod hwy, a hi yn wan a halogir.

8 Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymmeradwy gan Dduw, canys nid ydym o [...] bwyttawn, yn helaethach; nac onis bwyttawn, yn brinnach.

9 Ond edrychwch rhag mewn un môdd i'ch rhydd-did hwn, fôd yn dramgwydd i'r rhai sy wei­niaid.

10 Canys os gwêl neb dydi sydd a gwybodaeth gennit, yn ei­stedd i fywtta yn nheml yr eulyn­nod; oni chadarnheir ei gydwy­bod ef, ac ynteu yn wan, i fwytta y pethau a aberthwyd i eulynnod?

11 Ac a ddifethir y brawd gwan, trwy dy wŷbodaeth di, tros yr hwn y bu Christ farw?

12 A chan bechu felly yn er­byn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi [Page] yn pechu yn erbyn Christ.

13 O herwydd pa ham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwyttaf fi gig fyth, rhag i mi rwy­stro fy-mrawd.

PEN. IX.

1 Y mae efe yn dangos ei rydd-did, 7 ac y dylai y gweinidoc fyw wrth yr Efengyl: 15 Etto ddar­fod iddo ef o'i wir-fodd ymgadw, 18 rhag na'i gyrru hwy mewn traul, 22 na bod yn achos o rwystr i nêb, mewn pethau cyffre­din. 24 Bôd ein bywyd ni yn de­byg i yrfa.

ONid wyfi yn Apostol? Onid wyfi yn rhydd? Oni welais i Iesu Ghrist ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd.

2 Onid wŷf yn Apostol i eraill, etto yr wŷf i chwi: canys sêl fy Apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.

3 Fy amddiffyn i i'r rhai a'm holant, yw hyn.

4 Onid oes i ni awdurdod i fwytta ac i yfed?

5 Onid oes i ni awdurdod i ar­wain o amgylch wraig a fyddei chwaer, megis ac y mae i'r Apo­stolion eraill, ac i frodyr yr Ar­glwydd, ac i Cephas?

6 Ai myfi yn unig a Barnabas nid oes gennym awdurdod i fôd heb weithio?

7 Pwy sydd un amser yn rhy­fela ar ei draul ei hun? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwytta o'i ffrwyth hi? Neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwytra o laeth y praidd?

8 Ai yn ôl dŷn yr wyf yn dy­wedyd y pethau hyn? Neu onid yw y Ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?

9 Canys scrifennedic yw yn Neddf Moses; Na chae safn yr ŷch sydd yn dyrnu. Ai tros y­chen y mae Duw yn gofalu?

10 Ynteu er ein mwyn ni yn hollawl y mae yn dywedyd? Ca­nys er ein mwyn ni yr scrifen­nwyd, mai mewn gobaith y dylei yr arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith, i fôd yn gyfrannog, o'i obaith.

11 Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnaw­dol:

12 Os yw eraill yn gyfranno­gion o'r awdurdod hon arnoch; onid ydym ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bôb peth, fel na roddom ddim rhwystr i Efengyl Grist.

13 Oni wŷddoch chwi fôd y rhai sy yn gwneuthur pethau cy­ssygredig, yn bwytta o'r cyssygr, a'r rhai sy yn gwasanaethu yr allor, yn gyd-gyfrannogion o'r allor.

14 Felly hefyd, yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sy'n pre­gethu yr Efengyl, fyw wrth yr Efengyl.

15 Eithr myfi nid arferais yr un o'r pethau hyn: ac nid scri­fennais y pethau hyn, fel y gwne­lid felly i mi. Canys gwell yw i mi farw nâ gwneuthur o neb fy ngor­foledd yn ofer.

16 Canys os pregethaf yr Efen­gyl, nid oes orfoledd i mi. Canys angenrhaid a osodwyd arnaf; a [Page] gwae fydd i mi, oni phregethaf yr Efengyl.

17 Canys os gwnaf hyn o'm bôdd y mai i mi wobr: ond os o'm hanfodd, ymddiriedwyd i mi am y gorchwyl.

18 Pa wobr sydd i mi gan hyn­ny? Bod i mi pan efangylwyf, osod Efengyl Grist yn rhâd; fel na cham-arferwyf fy awdurdod yn yr Efengyl.

19 Canys er fy môd yn rhydd oddiwrth bawb, mi a'm gwneu­thym fy hun yn wâs i bawb, fel yr ennillwn fwy.

20 Ac mi a ymwneuthym i'r Iddewon megis yn Iddew, fel yr ennillwn yr Iddewon. I'r rhai tan y Ddeddf, megis tan y Ddeddf; fel yr ennillwn y rhai sy tan y Ddeddf.

21 I'r rhai di-ddeddf, megis di­ddeddf (a minnau heb fôd yn ddi­ddeddf i Dduw, ond tan y Ddeddf i Ghrist) fel yr ennillwn y rhai di­ddeddf.

22 Ymwneuthym i'r rhai gwei­niaid, megis yn wan, fel yr ennill­wn y gweiniaid. Mi a ymwneu­thym yn bôb peth i bawb, fel y gallwn yn hollawl gadw rhai.

23 A hyn yr wyfi yn ei wneu­thur er mwyn yr Efengyl: fel i'm gwneler yn gydgyfrannog o honi.

24 Oni wŷddoch chwi fôd y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, i gŷd yn rhedeg, ond bod un yn derbyn y gamp. Felly rhedwch fel y caffoch afael.

25 Ac y mae pob un a'r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym­mhob peth; a hwynt hwy yn wîr, fel y derbyniont goron lygredig, eithr nyni, un anllygredig.

26 Yr wyfi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel un yn curo yr awyr.

27 Ond yr wyf yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn ga­eth; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy.

PEN. X.

1 Bôd Sacramentau yr Iddewon, 6 yn gyscodau i ni, 7 a'i cospedigae­thau hwy, 11 yn siamplau i ni. 14 Rhaid i ni ochelyd gauddu­wiaeth. 21 Na ddylem ni wneu­thur bwrdd yr Arglwydd yn fwrdd cythreuliaid: 24 ac y dylem, mewn pethau cyffredin, ystyried ein bro­dyr.

AC ni fynnwn i chwi fod heb wŷbod, frodyr, fod ein ta­dau oll tan y cwmwl, a'u myned, oll trwy y môr;

2 A'u bedyddio hwy oll i Mo­ses, yn y cwmwl, ac yn y môr;

3 A bwytta o bawb o honynt yr un bwyd Ysprydol,

4 Ac yfed o bawb o honynt yr un ddiod Ysprydol: (canys hwy a yfasant o'r graig Ysprydol a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Grist.)

5 Eithr ni bu Dduw fodlon i'r rhan fwyaf o honynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffaeth­wch.

6 A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenny­chem ddrygioni, megis ac y chwennychasant hwy.

7 Ac na fyddwch eulyn-addol­wŷr, megis rhai o honynt hwy, fel y mae yn scrifennedic, Eiste­ddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, [Page] ac a gyfodasant i chwareu.

8 Ac na odinebwn, fel y godi­nebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.

9 Ac na themtiwn Ghrist, me­gis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd gan seirph.

10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai o honynt hwy, a'i destrywiwyd gan y di­nistrydd.

11 A'r pethau hyn oll a ddig­wyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhai y daeth terfy­nau yr oesoedd.

12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edry­ched na syrthio.

13 Nid ymaflodd ynoch dem­tasiwn onid un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temptio uwch-law yr hyn a alloch, eithr a wna ynghŷd a'r temtasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.

14 O herwydd pa ham, fy an­wylyd, ffowch oddiwrth eulyn addoliaeth.

15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.

16 Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Christ ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymmun corph Christ yw?

17 Oblegid nyni yn llawer y­dym un bara, ac un corph; canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion o'r un bara.

18 Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw y rhai sy yn bwytta yr ebyrth, yn gyfran­nogion o'r allor.

19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bôd yr eulyn yn ddim? neu 'r hyn a aberthwyd i eulyn yn ddim?

20 Ond y pethau y mae y Cen­hedloedd yn eu haberthu, i gyth­reuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fôd yn gyfrannogion â'r cythreu­liaîd.

21 Ni ellwch yfed o phiol yr Arglwydd, a phiol y cythreuli­aid. Ni ellwch fôd yn gyfranno­gion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.

22 Ai gyrru 'r Arglwydd i ei­ddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?

23 Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr nid yw pôb peth yn llesâu. Pôb peth sydd gyfreith­lon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.

24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond pob un yr eiddo arall.

25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwyttewch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod.

26 Canys eiddo 'r Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder.

27 Os bydd i neb o'r rhai di­grêd eich gwahodd, ac os myn­nwch fyned; bwyttewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwy­bod,

28 Eithr os dywed neb wr­thych; peth wedi ei aberthu i eu­lynnod yw hwn: na fwyttewch, er mwyn hwnnw, yr hwn a'i myne­godd, ac er mwyn cydwybod: ca­nys eiddo 'r Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder.

29 Cydwybod meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall. Ca­nys pa ham y bernir fy rhydd-did i, gan gydwybod un arall?

30 Ac os wyfi trwy ras yn cym­meryd eyfran, pa ham i'm ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi di­olch amdano?

31 Pa un bynnag, gan hynny, ai bwytta, a'i yfed, ai beth bynnag a wneloch gwnewch bôb peth er gogoniant i Dduw.

32 Byddwch ddiachos tram­gwydd i'r Iddewon, ac i r Cenhed­loedd hefyd, ac i Eglwys Dduw.

33 Megis yr ydwyf finneu yn rhyngu bôdd i bawb ym mhôb peth, heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y by­ddont hwy gadwedig.

PEN. XI.

1 Y mae efe yn eu ceryddu hwy. 4 am fod eu gwŷr yn y cynnulleid­faoedd sanctaidd yn gweddio â pheth am eu pennau, a'u 6 gw­ragedd yn bennoethion: 17 Ac o ran eu bod hwy yn gyffredinawl yn cyfarfod nid i'r gwell ond i'r gwaeth, 21 gan halogi swpper yr Arglwydd â'u gwleddoedd eu hunain. 25 Yn ddiweddaf y mae efe yn eu galw hwy yn eu hôl, at ordinhâd cyntaf y Swpper hwnnw.

BYddwch ddilyn-wŷr i mi, me­gis yr wyf finnau i Ghrist.

2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bôd yn fy nghofio i ym mhôb peth, ac yn dal y tra­ddodiadau, fel y traddodais i chwi

3 Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Christ, a phen y wraig yw 'r gŵr, a phen Christ yw Duw.

4 Pob gŵr yn gweddio, neu yn prophwydo â pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben.

5 Eithr pob gwraig yn gwe­ddio neu yn prophwydo, yn ben­noeth, sydd yn cywilyddio ei phen; canys yr un yw a phe by­ddei wedi ei heillio.

6 Canys os y wraig ni wisc am ei phen, cneifier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisced.

7 Canys gŵr yn wîr ni ddylei wisco am ei ben, am ei fôd yn ddelw a gogoniant Duw: a'r wraig yw gogoniant y gŵr.

8 Canys nid yw y gŵr o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.

9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, eithr y wraig er mwyn y gŵr.

10 Am hynny y dylei y wraig fôd ganddi awdurdod ar ei phen, o herwydd yr Angelion.

11 Er hynny nid yw na'r gŵr heb y wraig, na'r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.

12 Canys un wedd ac y mae y wraig o'r gŵr, felly y mae y gŵr drwy y wraig: a phob peth sydd o Dduw.

13 Bernwch ynoch eich hu­nain, ai hardd yw i wraig weddio Duw yn bennoeth?

14 Ond yw naturiaeth ei hun yn eich dyscu chwi, os gwallt-laes a fydd gŵr, mai ammharch yw iddo,

15 Eithr os gwraig a fydd gwallt-laes clôd yw iddi, oblegid ei llaes-wallt a ddodwyd yn orchudd iddi.

16 Od oes nêb a fyn fôd yn [Page] ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw.

17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bôd yn dyfod ynghŷd, nid er gwell, ond er gwaeth.

18 Canys yn gyntaf, pan dde­loch ynghŷd yn yr Eglwys, yr ydwyf yn clywed fod amrafaelion yn eich mysc chwi, ac o ran yr wyfi yn credu.

19 Canys rhaid yw bôd hefyd heresiau yn eich mysc; fel y by­ddo y rhai cymmeradwy yn eglur yn eich plith chwi.

20 Pan fyddoch chwi gan hyn­ny yn dyfod ynghŷd i'r un lle, nid hwytta swpper yr Arglwydd ydyw hyn.

21 Canys y mae pôb un wrth fwytta yn cymmeryd ei swpper ei hun o'r blaen, ac un sydd a newyn arno, ac arall sydd yn feddw.

22 Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? Ai dirmygu yr ydych chwi Eglwys Dduw? A gwradwyddo y rhai nid oes gan­ddynt? Pa beth, a ddywedaf wr­thych? a ganmolaf i chwi yn hyn? nid wyf yn eich canmol.

23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bôd i'r Ar­glwydd Iesu y nôs y bradychwyd ef, gymmeryd bara.

24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd, Cym­merwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph, yr hwn a dorrir tro­soch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

25 Yr un modd efe a gymmerodd y cwppan wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw'r Testament newydd yn fy ngwaed, gwnewch hyn cynnifer gwaith bynnac yr yfoch, er coffa am danaf.

26 Canys cynnifer gwaith byn­nag y bwyttaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dan­goswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.

27 Am hynny, pwy bynnag a fwyttâo y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd yn annhei­lwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.

28 Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwyttaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan.

29 Canys yr hwn sydd yn bwyt­ta, ac yn yfed yn annheilwng; sydd yn bwytta ac yn yfed barne­digaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Ar­glwydd.

30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno.

31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid.

32 Eithr pan i'n bernir, i'n ce­ryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damner gyd â'r bŷd.

33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhos­wch ei gilydd.

34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwyttaed gartref, fel na dde­loch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.

PEN. XII.

1 Bod amryw ddoniau ysprydawl. 7 Eithr y cwbl er lleshâd: 8 ac o ran hynny hwy a gyfrennir mewn amryw foddion: 12 Megis [Page] y mae aelodau 'r corph naturiol yn gwasanaethu bob un 16 er harddwch iw gilydd, 22 er gwa­sanaeth, a 26 chymmorth i'r un corph: 27 felly yr un modd y dylem ni wneuthur y naill er y llall, er mwyn gorphen dirgel gorph Christ.

EIthr am Ysprydol ddoniau fro­dyr, ni fynnwn i chwi fôd heb wŷbod.

2 Chwi a wyddoch mai Cen­hedloedd oeddych, yn eich arwain ymmaith at yr eulynnod mudion, fel i'ch tywysid.

3 Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Iesu yn escymmun-beth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Iesu, eithr trwy yr Yspryd glân.

4 Ac y mae amryw ddoniau, eithr yr un Yspryd.

5 Ac y mae amryw weinidogae­thau, eithr yr un Arglwydd.

6 Ac y mae amryw weithre­diadau, ond yr un yw Duw yr hwn sydd yn gweithredu pôb peth ym mhawb.

7 Eithr eglurhâd yr Yspryd â roddir i bôb un er lles-hâd.

8 Canys i un trwy yr Yspryd y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gwybodaeth, trwy yr un Yspryd.

9 Ac i arall ffydd, trwy yr un Yspryd; ac i arall ddawn i iachau, trwy yr un Yspryd.

10 Ac i arall wneuthur gwr­thiau, ac i arall Brophwydoliaeth, ac i arall wahaniaeth Ysprydoedd; ac i arall amryw dafodau, ac i a­rall gyfieithiad tafodau.

11 A'r holl bethau hyn, y mae 'r un a'r unrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bôb un o'r nailltu, megis y mae yn ewy­llysio.

12 Canys fel y mae 'r corph yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau 'r un corph, cyd bônt la­wer, ydynt un corph; felly y mae Christ hefyd.

13 O herwydd trwy un Yspryd y bedyddiwyd ni oll yn un corph, pa un bynnag ai Iddewon ai Groegwŷr, ai caethion ai rhyddi­on, ac ni a ddiodwyd oll i un Ys­pryd.

14 Canys y corph nid yw un aelod, eithr llawer.

15 Os dywed y troed, am nad wyf law, nid wyf o'r corph; ai am hynny nid yw efe o'r corph.

16 Ac os dywed y glust, am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph; ai am hynny nid yw hi o'r corph.

17 Pe yr oll gorph fyddei lygad, pa le y byddai 'r clywed? pe 'r cwbl fyddei glywed, pa le y byddai 'r arogliad.

18 Eithr yr awr hon, Duw a osododd yr aelodau, bôb un o ho­nynt yn y corph, fel yr ewylly­siodd efe.

19 Canys pe baent oll un aelod, pa le y byddai 'r corph.

20 Ond yr awron, llawer yw 'r aelodau, eithr un corph.

21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wr­thit; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.

22 Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph y rhai a dy­bir eu bôd yn wannaf, ydynt ang­enrheidiol.

23 A'r rhai a dybiwn ni eu bôd yn ammharchediccaf o'r corph, ynghylch y rhai hynny y [Page] gosodwn ychwaneg o barch: ac y mae 'n aelodau anhardd, yn cael ychwaneg o harddwch.

24 Oblegid ein aelodau hardd ni, nid rhaid iddynt wrtho. Eithr Duw a gydtymherodd y corph, gan roddi parch ychwaneg i'r hyn oedd ddeffygiol:

25 Fel na byddei anghydfod yn y corph, eithr bôd i'r aelodau o­falu 'r un peth tros ei gilydd.

26 A pha un bynng ai dioddef a wna un aelod, y mae 'r holl ae­lodau yn cyd-ddioddef; ai an­rhydeddu a wneir un aelod, y mae 'r holl aelodau yn eyd-lawen­hau.

27 Eithr chwy-chwi ydych gorph Christ, ac aelodau o ran.

28 A rhai yn wîr a osododd Duw yn yr Eglwys, yn gyntaf A­postolion, yn ail Prophwydi, yn drydydd Athrawon, yna gwyr­thiau, wedi hynny doniau i ia­châu, cynhorthwyau, llywodrae­thau, rhywiogaethau tafodau.

29 Ai Apostolion pawb? ai Prophwydi pawb? Ai Athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyr­thiau pawb?

30 A oes gan bawb ddoniau i iachâu? A yw pawb yn llefaru â thafodau? A yw pawb yn cyfi­eithu.

31 Eithr deisyfiwch y doniau goreu. Ac etto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.

PEN. XIII.

1 Nad yw'r doniau godidawcaf ddim heb gariad. 4 Canmoli­aeth cariad perffaith, a'i 13 ar­dderchawgrwydd rhagor gobaith, a ffydd.

PE llefarwn â thafodau dyni­on, ac Angelion, ac heb fôd gennif gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tingeian.

2 A phe byddei gennif brophwy­doliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phôb gwybodaeth; a phe bai gennif yr holl ffydd, fel y gallwn symmudo mynydd­oedd, ac heb fod gennif gariad; nid wyfi ddim.

3 A phe porthwn y tlodion â'm holl dda; a phe rhoddwn fy nghorph i'm llosci, ac heb ga­riad gennif, nid yw ddim llesâd i mi.

4 Y mae cariad yn hir-yma­ros, yn gymwynascar, cariad nid yw yn cynfigennu nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwy­ddo;

5 Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd; nid yw yn ceisio yr eiddi ei hun; ni chythruddir; ni feddwl ddrwg;

6 Nid yw lawen am anghyfi­awnder, onid cyd-lawenhau y mae â'r gwirionedd.

7 Y mae yn dioddef pôb dim, yn credu pôb dim, yn gobei­thio pôb dim, yn ymaros â phôb dim.

8 Cariad byth ni chwymp ym­maith: eithr pa un bynnag ai pro­phwydollaethau, hwy a ballant: ai tafodau, hwy a beidiant: ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.

9 Canys o ran y gwydom, ac o ran yr ydym yn Prophwydo.

10 Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddeleuir.

11 Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bach­gen y deallwn, fel bachgen y [Page] meddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a rois heibio bethau bach­gennaidd.

12 Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrŷch mewn dam­meg, ond yna, wyneb yn wŷneb. Yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf megis i'm had­waenir.

13 Yr awr hon y mae yn aros, ffydd, gobaith, cariad; y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.

PEN. XIV.

1 Canmol prophwydoliaeth, 2, 3, 4 a'i osod o flaen llefaru â tha­fodau, 6 trwy gyffelybrwydd o­ddiwrth offer cerdd: 12 Rhaid yw cyfeirio pôb un o'r ddau tuac at adeiladaeth, 22 megis tuac at eu gwîr a'u priodawl bennod. 26 Iawn arfer pôb un or ddau, 27 a'u cam-arfer. 34 Gorafun gw­ragedd i lefaru yn yr Eglwys.

DIlynwch gariad, a deisyfiwch ddoniau ysprydol, ond yn hy­trach fel y prophwydoch.

2 Canys yr hwn sydd yn lle­faru â thafod dieithr, nid wrth ddy­nion y mae yn llefaru, onid wrth Dduw: canys nid oes neb yn gwrando: er hynny yn yr ys­pryd y mae efe yn llefaru dirgele­digaethau.

3 Eithr yr hwn sydd yn pro­phwydo, sydd yn llefaru wrth ddy­nion, er adeiladaeth, a chyngor, a chyssur.

4 Yr hwn sŷdd ŷn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adei­ladu ei hunan; eithr yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn adeiladu yr Eglwys.

5 Mi a fynnwn pettych chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr, ond yn hytrach brophwydo o honoch: canys mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo, nâ'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddi eithr iddo ei gyfieithu, fel y der­bynnio yr Eglwys adeiladaeth.

6 Ac yr awr hon frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafo­dau, pa lesâd a wnaf i chwi; oni lefaraf wrthych naill ai trwy we­ledigaeth, neu trwy wŷbodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth.

7 Hefyd, pethau di-enaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwyddir y peth a genir ar y bibell, neu ar y delyn?

8 Canys os ŷr udcorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel?

9 Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a lefe­rir? canys chwi a fyddwch yn lle­faru wrth yr awyr.

10 Y mae cymmaint, ysgat­fydd, o rywogaethau lleisiau yn y bŷd, ac nid oes un o honynt yn aflafar.

11 Am hynny, oni wn i rym y llais,, myfi a fyddaf Farbariad i'r hwn sydd yn llefaru: a'r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn Far­bariad.

12 Felly chwithau, gan eich bôd yn awyddus i ddoniau yprydol, ceisiwch ragori tu ag at adeila­daeth yr Eglwys.

13 O herwydd pa ham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddied ar iddo allu cyfieithu.

14 Canys os gweddiaf â tha­fod dieithr, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.

15 Beth gan hynny? mi a we­ddiaf â'r yspryd, ac a weddiaf â'r deall hefyd: canaf â'r yspryd, a chanaf â'r deall hefyd.

16 Canys os bendithi â'r ys­pryd, pa wedd y dywed yr hŵn sydd yn cyflawni lle 'r anghyfar­wydd, Amen, ar dy ddodiad di­olch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd.

17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.

18 Yr ydwyf yn diolch i'm Duw, fy môd i ŷn llefaru â tha­fodau, yn fwy nâ chwi oll.

19 Ond yn ŷr Eglwys, gwell gennif lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dyscwyf eraill hefyd, nâ myrddiwn o eiriau mewn ta­fod dieithr.

20 O frodyr, Na fyddwch fech­gyn mewn deall, eithr mewn dry­gioni byddwch blant, ond mewn deall byddwch berffaith.

21 Yn y Ddeddf y mae yn scri­fennedig, Trwy rai estroniai­thus, a thrwy wefusau estronol y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Ar­glwydd.

22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sy yn credu, ond i'r rhai di-grêd; eithr pro­phwydoliaeth nid i'r rhai digrêd, ond i'r rhai sy yn credu.

23 Gan hynny, os daw yr E­glwys oll ynghŷd i'r un lle, a lle­faru o bawb â thafodau dieithr, a dyfod o rai annyscedig neu ddi­gred i mewn; oni ddywe­dant eich bôd yn ynfydu.

24 Eithr os prophwyda pawb, a dyfod o un di-grêd neu annysce­dig i mewn, efe a argyoeddir gan bawb, a fernir gan bawb.

25 Ac felly y gwneir dirge­lion ei galon ef yn amlwg, ac felly gan syrthio ar ei wyneb, efe a a­ddola Dduw, gan ddywedyd fôd Duw yn wîr ynoch.

26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bôb un o honoch Psalm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae gan­ddo dafodiaith, y mae ganddo ddatcuddiad, y mae ganddo gyfiei­thiad: gwneler pob peth er adei­ladaeth.

27 Os llefara neb â thafod diei­thr, gwneler bôb yn ddau, neu o'r mwyaf bôb yn dri, a hynny ar gylch, a chyfieithed un.

28 Eithr oni bydd cyfiei­thydd, tawed yn yr Eglwys; ei­thr llefared wrtho ei hun, ac wrth Dduw.

29 A llefared y prophwydi, ddau neu dri, a barned y llaill.

30 Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.

31 Canys chwi a ellwch oll brophwydo bôb yn un, fel y dysco pawb, ac y cyssurer pawb.

32 Ac y mae ysprydoedd y Prophwydi yn ddarostyngedic i'r Prophwydi.

33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangneddyf; fel yn holl Eglwysi y Sainct.

34 Tawed eich gwragedd yn yr Eglwysi, canys ni chaniadha­wyd iddynt lefaru, ond bôd yn ddarostyngedig, megis ac y mae y gyfraith yn dywedyd.

35 Ac os mynnant ddyscu dim, ymofynnant âu gwŷr gartref, ob­legid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr Eglwys.

36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? Neu ai at­toch chwi yn unig y daeth ef.

37 Os ydyw neb yn tybied ei fôd yn Brophwyd neu yn yspry­dol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, mai gorchymynnion yr Arglwydd y­dynt.

38 Eithr od yw neb heb wŷ­bod, bydded heb wŷbod.

39 Am hynny frodyr, by­ddwch awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr.

40 Gwneler pôb peth yn we­ddaidd, ac mewn trefn.

PEN. XV.

1 Wrth Adgyfodiad Christ 12 y mae efe yn profi y bydd rhaid i ninnau adgyfodi, yn erbyn y rhai a wa­dant adgyfodiad y cnawd. 21 Ffrwyth, 36 a dull yr adgyfodi­ad; ac fel y newidir y rhai a ga­ffer yn fyw ar y dydd dyweddaf.

HEfyd yr ydwyf yn yspysu i chwi frodyr yr Efengyl a bre­gethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr y­dych yn sefyll.

2 Trwy yr hon i'ch cedwir he­fyd, os ydych yn dal yn eich côf â pha ymadrodd yr efangylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.

3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf, yr hyn hefyd a dder­byniais; farw o Grist tros ein peehodau ni, yn ôl yr Scrythy­rau.

4 Ai gladdu, a'i gyfodi y try­dydd dydd, yn ôl yr Scrythyrau.

5 A'i weled ef gan Cephas, yna gan y deuddec.

6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar un waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; ei­thr rhai â hunasant.

7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iaco, yna gan yr holl Apo­stolion.

8 Ac yn ddiweddaf oll y gwel­wyd ef gennif finneu hefyd, megis gan un an-nhymmig.

9 Canys myfi yw'r lleiaf o'r A­postolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol, am i mi er­lid Eglwys Dduw.

10 Eithr trwy râs Duw yr yd­wyf yr hyn ydwyf; a'i râs ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach nâ hwynt oll; ac nid myfi chwaith, ond grâs Duw yr hwn oedd gyd â mi.

11 Am hynny pa un bynnag, ai myfi ai hwynt hwy; felly yr y­dym yn pregethu, ac felly y cre­dasoch chwi.

12 Ac os pregethir Christ, ei gyfodi ef o fcirw, pa fôdd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes adgyfodiad y meirw.

13 Eithr onid oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Christ chwaith.

14 Ac os Christ ni chyfodwyd, ofer yn wîr yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwi­thau.

15 Fe a'n ceir hefyd yn gau­dystion i Dduw: canys ni a dysti­asom [Page] am Duw, ddarfod iddo gy­fodi Christ, yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir.

16 Canys os y meirw ni chy­fodir, ni chyfodwyd Christ chw­aith.

17 Ac os Christ ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi: yr ydych etto yn eich pechodau.

18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yn Ghrist.

19 Os yn y byd ymma yn unig y gobeithiwn yn Grist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.

20 Eithr yn awr Christ a gy­fodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.

21 Canys, gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgyfodiad y meirw.

22 Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn Ghrist y bywheir pawb.

23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun, Y blaenffrwyth yw Christ, wedi hynny y rhai ydynt eiddo Christ, yn ei ddyfodiad ef.

24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddeleu pob pen­defigaeth, a phob awdurdod a nerth.

25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed.

26 Y gelyn diweddaf a ddini­strir yw yr angeu.

27 Canys efe a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth we­di eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo.

28 A phân ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun he­fyd a ddarostyngir, i'r hwn a dda­rostyngodd bôb peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.

29 Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y mei­rw ni chyfodir ddim? Pa ham yn­teu y bedyddir hwy tros y mei­rw?

30 A pha ham yr ydym ninnau mewn perygl bôb awr?

31 Yr ydwyf bennydd yn ma­rw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennif yn Grist Iesu ein Har­glwydd.

32 Os yn ôl dull dŷn yr ymle­ddais ag anifeiliaid yn Ephesus, pa lef-hâd sydd i mi oni chyfodir y meirw? Bwyttawn, ac yfwn, ca­nys y foru marw yr ydym.

33 Na thwyller chwi, y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da.

34 Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw, er cy­wilydd i chwi yr wyf yn dywe­dyd hyn.

35 Eithr fe a ddywaid rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? Ac a pha ryw gorph y deuant.

36 Oh ynfyd; y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw.

37 A'r peth yr wyt yn ei hau: nid y corph a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, yscatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall.

38 Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph, fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorph ei hun.

39 Nid yw pob cnawd un rhyw gnawd; eithr arall yw cnawd dyni­on, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i byscod, ac a­rall i adar.

40 Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol; ond arall yw go­goniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol.

41 Arall yw gogoniant yr haul; ac arall yw gogoniant y lloer; ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.

42 Felly hefyd y mae adgyfo­diad y meirw: efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth.

43 Efe a heuir mewn ammarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gy­fodir mewn nerth: efe a heuir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol.

44 Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol.

45 Felly hefyd y mae yn scri­fennedig, Y dŷn cyntaf Addaf a wnaed yn enaid byw, a'r Adda di­weddaf yn yspryd yn bywhau.

46 Eithr nid cyntaf yr yspry­dol, ond yr anianol; ac wedi hyn­ny yr ysprydol.

47 Y dŷn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol; yr ail dŷn yr Arglwydd o'r nef.

48 Fel y mae y daiarol, felly y mae y rhai daiarol; ac fel y mae y nefol, felly y mae rhai nefol hefyd.

49 Ac megis y dygasom ddelw y daiarol, ni a ddygwn hefyd dde­lw y nefol.

50 Eithr hyn meddaf, o frodyr na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygre­digaeth yn etifeddu anllygredi­gaeth.

51 Wele, yr wyfyn dywedyd i chwi ddirgelwch; Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr udcorn diweddaf.

52 Canys yr udcorn a gân, â'r meirw a gyfodir yn anllygredic, a ninnau a newidir.

53 O herwydd rhaid i'r llygra­dwy hwn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisco anfar­woldeb.

54 A phan ddarffo i'r llygra­dwy hwn wisco anllygredigaeth; ac i'r marwol hwn wisco anfar­woldeb, yna y bydd yr ymadrodd a scrifennwyd, Angeu a lyngewyd mewn buddugoliaeth.

55 O angeu pa le y mae dy go­lyn? O uffern pa le mae dy fuddu­goliaeth?

56 Colyn angeu yw pechod, a grym pechod yw 'r gyfraith.

57 Ond i Dduw y byddo 'r di­olch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Har­glwydd Iesu Grist.

58 Am hynny fy mrodyr an­wyl, byddwch siccr, a diymmod, a helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.

PEN XVI.

1 Y mae yn eu hannog i borthi ang­en y brodyr yn Ierusalem: 10 yn canmol Timotheus, 13 ac ar ôl rhybuddion caredic, 16 yn diweddu ei Epistol ag amryw annerchion.

HEfyd am y gasel i'r Sainct, megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.

2 Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan dryssori, fel y llwy­ddodd [Page] Duw ef, fel na byddo casel pan ddelwyfi.

3 A phan ddelwyf, pa rai byn­nag a ddangosoch eu bod yn gym­meradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhôdd i Ierusalem.

4 Ac os bydd y peth yn haeddu i minneu hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyd â mi.

5 Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia: (canys trwy Macedonia yr wyf yn myned.)

6 Ac nid hwyrach yr arhosaf gyd â chwi, neu y gayafaf hesyd, fel i'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.

7 Canys nid os i'm bryd eich gweled yn awr ar fy hynt, ond yr wyf yn gobeithio 'r arhosaf en­nyd gyd â chwi, os canhiada yr Arglwydd.

8 Eithr mi a arhosaf yn Ephe­sus hyd y Sulgwyn.

9 Canys agorwyd i mi ddrŵs mawr a grymmus, ac y mae gwrth­wynebwŷr lawer.

10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fôd yn ddiofn gydâ chwi; canys gwaith yr Ar­glwydd y mae yn ei weithio, fel finneu.

11 Am hynny na ddiystyred neb ef; ond hebryngwch ef mewn he­ddwch, fel y delo attafi: canys yr wyfi yn ei ddisgwil ef gyd â'r brodyr.

12 Ac am y brawd Apollos, mi a ymbillais lawer ag ef am ddyfod attoch chwi gyd â'r brodyr, eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron, ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.

13 Gwiliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryf­hewch.

14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.

15 Ond yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y Sainct.)

16 Fod o honoch chwitheu yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bôb un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.

17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas, a Fortuna­tus, ac Achaicus; canys eich di­ffyg chwi, hwy a'i cyflawnasant.

18 Canys hwy a esmwythasant ar fy yspryd i, a'r eiddoch chwi­thau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.

19 Y mae Eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Aquila a Phriscilla, gyd â'r Eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd, yn fy­nych.

20 Y mae y brodyr oll yn eich annerch, Anherchwch ei gilydd â chusan sancteiddiol.

21 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun.

22 Od oes neb nid yw yn caru yr Arglwydd Iesu Grist, bydded A­nathema Maranatha.

23 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyd â chwi.

24 Fy serch inneu a fo gyd â chwi oll yn Ghrist Iesu. Amen.

¶Yr Epistol cyntaf at y Corin­thiaid a scrifennwyd o Phi­lippi, gydag Stephanas a Ffortunatus, ac Achaicus, a Timotheus.

AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL at y CORINTHIAID.

PENNOD I.

1 Y mae 'r Apostol yn eu cysuro hwy yn erbyn trallod, trwy 'r diddan­wch a'r ymwared â roesei Duw iddo ef, megis yn ei holl gyfyng­derau,8 felly yn enwedic yn ei berygl diweddar yn Asia,12 a chan gymmeryd tystiolaeth o'i gyd­wybod ei hun, a'r eiddynt hwy­thau, am ei ddidwyll ddull yn pre­gethu anghyfnewidiol wirionedd yr Efengyl, 15 Y mae efe yn ei es­cusodi ei hun nas daethei attynt, gan iddo wneuthur hynny nid o yscafnder meddwl, eithr o'i dyner­wch tuag attynt hwy.

PAUL Apostol Iesu Ghrist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at Eg­lwys Dduw, yr hon sydd yn Corinth, gyd â'r hol Sein­ctiau, y rhai sy yn holl Achaia,

2 Grâs fyddo i chwi, a thang­neddyf oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Bendigedig fyddo Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tâd y trugareddau, a Duw pob diddanwch,

4 Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu y rhai sy mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch, â'r hwn i'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.

5 Oblegid fel y mae dioddefia­dau Christ yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddan­wch ni hefyd yn amlhau.

6 A pha un bynnac ai ein gor­thrymmu yr ydys, er diddanwch ac iechydwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros tan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef: ai ein di­ddanu yr ydys, er diddanwch ac iechydwriaeth i chwi y mae hynny.

7 Ac y mae ein gobaith yn siccr am danoch, gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion o'r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r diddanwch.

8 Canys ni fynnem i chwi fod heb ŵybod, frodyr, am ein cy­studd a ddaeth i ni yn Asia, bwy­so arnom yn ddirfawr uwch ben ein gallu, hyd onid oeddem yn ammeu cael byw hefyd.

9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angeu, fel na byddei i ni ymddiried ynom ein hunain, onid yn Nuw, yr hwn sydd yn cy­fodi y meirw.

10 Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr an­geu, ac sy yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio, y gwared ni hefyd rhag llaw:

11 A chwitheu hefyd yn cyd­weithio trosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni o herwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer trosom.

12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwy­bod, [Page] mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doe­thineb cnawdol, ond trwy râs Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tu ac attoch chwi.

13 Canys nid ydym yn scrifen­nu amgen bethau attoch, nâg yr ydych yn eu darllein, neu yn eu cydnabod; ac yr wyf yn gobei­thio a gydnabyddwch hyd y di­wedd hefyd.

14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd, yn nydd yr Arglwydd Iesu.

15 Ac yn yr hyder hyn, yr oe­ddwn yn ewyllysio dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail grâs:

16 A myned heb eich llaw chwi i Macedonia a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy he­brwng gennwch i Judæa.

17 Gan hynny pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i yscafn­der? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadau, ai ar ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu? fel y byddai gydâ mi, iê, iê, ac Nac ê, Nac ê.

18 Eithr ffyddlon yw Duw, a'n ymadrodd ni wrthych chwi, ni bu iê, a nagê.

19 Canys Mab Duw Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennifi a Sil­fanus, a Thimotheus, nid ydoedd, iê, ac nagê, eithr ynddo ef, iê [...]doedd.

20 Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac yntho ef Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni.

21 A'r hwn sydd yn ein ca­darnhau ni gyd â chwi yn Ghrist, ac a'n eneiniodd ni, yw Duw.

22 Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roes ernes yr Yspryd yn ein calonnau.

23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dŷst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi, na ddaethym etto i Corinth.

24 Nid am ein bôd yn ar­glwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gydweithwŷr i'ch llawenydd: oblegit trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

PEN. II.

1 Wedi iddo ddangos yr achos na ddaethei efe attynt, 6 y mae efe yn erchi iddynt faddeu i'r dyn a escymmunasid, a'i gyssuro: 10 megis y maddeuasei yntef iddo, ar ei wîr edifeirwch: 12 gan ddan­gos hefyd yr achos pa ham yr aethei efe o Troas i Macedonia, 14 a'r llwyddiant a'r ffynniant â roesai Duw iw bregeth ef ym mhôb lle.

EIthr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn draehefn mewn tristwch attoch.

2 Oblegit os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw 'r hwn a'm llawen­hâ i, ond yr hwn a dristawyd gen­nifi?

3 Ac mi a scrifennais hyn ym­ma attoch, fal pan ddelwn na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau: gan hyderu am danoch oll, fôd fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.

4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon yr scrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel i'ch tristâid chwi, eithr fel y gwyby­ddech y cariad sydd gennif yn he­laethach tu ag attoch chwi.

5 Ac os gwnaeth nêb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau ond o ran, rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.

6 Digon i'r cyfryw ddŷn y ce­rydd yma a ddaeth oddi wrth la­weroedd.

7 Yn gymmaint ac y dylech yn y gwrthwyneb yn hytrach faddeu iddo a'i ddiddanu, rhag llyngcu y cyfryw, gan ormod trist­wch.

8 Am hynny yr ydwyf yn at­tolwg i chwi gadarnhau eich ca­riad tu ag atto ef.

9 Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais, fel y gwybyddwn brawf o honoch, a ydych ufydd ym-mhob peth.

10 I'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, yr wyf finneu: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y ma­ddeuais, er eich mwyn chwi y ma­ddeuais, yngolwg Christ.

11 Fel na'n siommer gan Sa­tan: canys nid ydym heb wŷbod ei ddichellion ef.

12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Troas, i bregethu Efengyl Grist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,

13 Ni chefais lonydd yn fy Ys­pryd, am na chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a euthym ymmaith i Macedonia.

14 Ond i Dduw y byddo'r di­olch, yr hwn yn oestad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yn Ghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wŷbodaeth trwom ni, ym mhôb lle.

15 Canys per-arogl Christ y­dym ni i Dduw, yn y rhai cadwe­dig, ac yn y rhai colledig.

16 I'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r llaill yn arogl bywyd i fywyd; a phwy fydd ddigonol i'r pethau hyn?

17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw, eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yngwydd Duw, yr ydym yn llefaru yn Ghrist.

PEN. III.

1 Rhag iw gau athrawon hwy roi gwâg orfoledd yn ei erbyn ef, y mae efe yn dangos fôd ffydd a doniau y Corinthiaid yn canmol ei weini­dogaeth ef yn ddigon helaeth. 6 Ac ar hyn trwy gyffelybrwydd rhwng gweinidogion y ddeddf a'r Efengyl, 12 y mae efe yn profi fôd ei weinidogaeth ef yn rhagori, [...] gymmaint ac y mae Efengyl y by­wyd, a rhydd-did, yn fwy gogone­ddus nâ chyfraith damnedigaeth.

AI dechreu yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? Ai rhaid i ni, megis i rai, wrth ly­thyrau canmoliaeth attoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?

2 Ein llythyr ni ydych chwi, yn scrifennedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir, ac a ddarllen­nir gan bôb dyn.

3 Gan fôd yn eglur mai llythyr Christ ydych, wedi ei weini gen­nym ni, wedi ei scrifennu nid ag ingc, ond ag Yspryd y Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.

4 A chyfryw hyder sydd gen­nym trwy Grist ar Dduw:

5 Nid o herwydd ein bôd yn [Page] ddigonol o honom ein hunain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.

6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymmwys y Testament newydd, nid i'r llythy­ren ond i'r Yspryd. Canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr Ys­pryd sydd yn bywhau.

7 Ac os bu gweinidogaeth an­geu mewn llythyrennau wedi ei hargraphu ar gerrig, mewn gogo­niant, fel na allei plant yr Israel edrych yn graff yn wŷneb Moses, gan ogoniant ei wynebpryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd,

8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?

9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o llawer y mae gweinidogaeth cy­fiawnder yn rhagori mewn gogo­niant.

10 Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra rhagorol.

11 Oblegid os bu yr hyn a dde­leuid, yn ogoneddus; mwy o la­wer y bydd yr hyn sydd yn aros, yn ogoneddus.

12 Am hynny, gan fôd gen­nym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr.

13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wŷneb, fel nad edrychei plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid.

14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt, Canys hyd y dydd heddyw y mae yr un gorchudd, wrth ddar­llen yr hên Destament, yn aros heb ei ddatcuddio, yr hwn yn Grist a ddileir,

15 Eithr hyd y dydd heddyw, pan ddarllennir Moses, y mae 'r gorchudd ar eu calon hwynt.

16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymmaith y gor­chudd.

17 Eithr yr Arglwydd yw 'r Yspryd: a lle mae Yspryd yr Ar­glwydd, yno y mae rhydd-did.

18 Eithr nyni oll, ag wyneb a­gored yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd, megis mewn drŷch, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogo­niant i ogoniant, megis gan Ys­pryd yr Arglwydd.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn dangos arferu o ho­naw ef bôb mâth ar burdeb a di­wydrwydd ffyddlawn, wrth bre­gethu yr Efengyl, 7 a bôd y blinderau a'r erlid yr oedd efe beunydd yn eu ddioddef o achos yr Efengyl, er moliant i allu Duw, 12 a lles-hâd i'r Eglwys, a 16 gogoniant tragwyddol iddo yntef.

AM hynny gan fôd i ni y wei­nidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu.

2 Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrîn gair Duw yn dwyllodrus: eithr trwy eglurhâd y gwirionedd, yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dynion, yngolwg Duw.

3 Ac os cuddiedig yw ein Efeng­yl ni, yn y rhai colledig y mae yn gûddiedig.

4 Yn y rhai y dallodd Duw y bŷd hwn feddyliau y rhai di­grêd, fel na thywynnei iddynt le­wyrch [Page] Efengyl gogoniant Christ, yr hwn yw delw Dduw.

5 Canys nid ydym yn ein pre­gethu ein hunain, ond Christ Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn weisi­on i chwi er mwyn Iesu.

6 Canys Duw yr hwn a or­chymynnodd i'r goleuni lewyr­chu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth go­goniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.

7 Eithr y mae gennym y tryssor hwn mewn llestri pridd, fel y by­ddei godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.

8 Ym mhôb peth yr ym yn gy­studdiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn eyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith.

9 Yn cael ein herlid, ond heb yn llwyr-adel; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha.

10 Gan gylch-arwain yn y corph bôb amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer he­fyd fywyd Iesu yn ein corph ni.

11 Canys yr ydys yn ein rho­ddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn oe­stad i farwolaeth, er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12 Felly y mae angeu yn gwei­thio ynom ni, ac enioes ynoch chwithau.

13 A chan fôd gennym yr un yspryd ffydd, yn ôl yr hyn a scri­fennwyd, credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninneu he­syd yn credu, ac am hynny yn lle­faru.

14 Gan ŵybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninneu hefyd trwy Iesu, a'n gosod ger bron gyd â chwi.

15 Canys pôb peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i [...] wedi amlhâu, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoni­ant Duw.

16 O herwydd pa ham, nid y­dym yn pallu, eithr er llygru en dŷn oddi allan, er hynny y dŷn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17 Canys ein byrr yscafn gy­studd ni, sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwy gogoniant i ni:

18 Tra'na bôm yn edryeh ar y pe­thau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sy tros amser, ond ŷ pethau ni welir sy dragwyddol.

PEN. V.

1 Ei fod ef, mewn siccr obaith o'r gogoniant tragwyddol, 6 a dis­gwyl am dano, ac am y farngy­ffredinawl, yn ymegnio i gadu cydwybod dda, 12 nid er mwyn ymffrostio yn hynny, 14 eithr me­gis un wedi derbyn bywyd oddi wrth Grist, yn ceisio byw fel crea­dur newydd i Grist yn unic, 18 chymmodi eraill a Duw yn Ghrist, trwy weinidogaeth y cymmod.

CAnys ni a wyddom, os ein daiarol dŷ o'r babell hon ddattodir, fôd i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.

2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisco â'n tŷ sydd o'r nef.

3 Os hefyd wedi ein gwisco, nid yn noethion i'n ceir.

4 Canys ninnau hefyd y rhai [Page] ŷm yn y babell hon, ydym yn ochneidio, yn llwythog, yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosc, ond ein harwisco, fel y llyngcer yr hyn sydd farwol gan fywyd.

5 A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn ymma, yw Duw, yr hwn he­fyd a roddodd i ni ernes yr Ys­pryd.

6 Am hynny yr ydym yn hyde­rus bôb amser, ac yn gwybod tra ydym yn gartrefol yn y corph, ein bôd oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.

7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth o­lwg.

8 Ond yr ydym yn hŷ, ac yn gweled yn dda yn hytrach fôd o­ddi cartref o'r corph, a chartrefu gyd â'r Arglwydd.

9 Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gar­tref y byddom, ai oddi cartref, ein bôd yn gymmeradwy ganddo ef.

10 Canys rhaid i ni oll ym­ddangos ger bron brawdle Christ, sel y derbynio pôb un y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da, ai drwg.

11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn per­swadio dynion, eithr i Dduw i'n gwnaed yn hyspys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hyspys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.

12 Canys nid ydym yn ein can­mol ein hunain drachefn wr­thych, ond yn rhoddi i chwi ach­lysur gorfoledd o'n plegit ni, fel y caffoch beth i atteb yn erbyn y rhai sy yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.

13 Canys pa un bynnag ai am­hwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym: ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym.

14 Canys y mae cariad Christ yn ein cymhell ni, gan farnu o honom hyn, os bu un farw tros bawb, yna meirw oedd pawb.

15 Ac efe a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw, fyw mwy­ach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac a gyfod­wyd.

16 Am hynny nyni o hyn a­llan nid adwaenom nêb yn ôl y cnawd, ac os buom hefyd yn ad­nabod Christ yn ôl y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.

17 Gan hynny od oes nêb yn­Ghrist, y mae efe yn greadur ne­wydd. Yr hên bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pôb peth yn newydd.

18 A phôb peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Jesu Grist, ac a ro­ddodd i ni weinidogaeth y cym­mod.

19 Sef bôd Duw yn Ghrist; yn cymmodi y bŷd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau, ac we­di gosod ynom ni air y cymmod.

20 Am hynny, yr ydym ni yn gennadau tros Grist, megis pe byddei Duw yn deisyf arnoch trwyddom ni; yr ydym yn er­fyn tros Grist, cymmoder chwi â Duw.

21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel yn gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

PEN. VI.

1 Darfod iddo ei ddangos ei hun [Page] yn wenidog ffyddlawn i Ghrist, trwy ei gynghorion, 3 â dini­weidrwydd ei fuchedd, 4 a'i ddioddefgarwch mewn pôb mâth ar gystudd, ac ammarch, er mwyn yr Efengyl: 10 am yr hon y mae ef yn hyfach yn llefaru yn euplith, am fod ei galon ef yn agored i­ddynt: 13 ac y mae efe yn dis­gwyl am y cyfryw ewyllysgarwch drachefn oddiwrthynt hwy, 14 gan eu hannoc i ochelyd cym­deithas ac aflendid eulyn-addol­wyr, a hwythau yn Demlau y Duw byw.

A Ninnau gan gydweithio, y­dym yn attolwg i chwi, na dderbynioch râs Duw yn ofer:

2 (Canys y mae efe yn dywe­dyd, Mewn amser cymmeradwy i'th wrandewais, ac yn nydd ie­chydwriaeth i'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmera­dwy, wele yn awr ddydd yr ie­chydwriaeth.)

3 Heb roddi dim achos tram­gwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth.

4 Eithr gan ein dangos ein hu­nain ymmhôb peth fel gweini­dogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau.

5 Mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poenau, mewn gwiliad wriaethau, mewn ymprydiau,

6 Mewn purdeb, mewn gwy­bodaeth, mewn hîr-ymaros, mewn tiriondeb yn yr Yspryd glân, mewn cariad diragrith.

7 Yngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder, ar ddchau, ac ar asswy,

8 Trwy barch ac amharch, trwy anglod a chlôd, megis twyllwyr, ac er hynny yn eir-wir:

9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus, megis yn meirw, ac wele byw ydym; me­gis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd,

10 Megis wedi ein tristau, ond yn oestad yn llawen; megis ya dlodion, ond yn cyfoethogi lla­wer: megis heb ddim cennym, ond etto yn meddiannu pôb peth.

11 Ein genau ni a agorwyd wr­thych chwi o Gorinthiaid, ein ca­lon ni a ehengwyd.

12 Ni chyfyngwyd arnoch y­nom ni, eithr cyfyngwyd ar­noch yn eich ymyscaroedd eich hunain.

13 Ond am yr un tâl, yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant: ehenger chwithau hefyd.

14 Na iauer chwi yn anghym­harus gyd â'r rhai di-grêd. Canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawn­der, ac anghyfiawnder, a pha gymmundeb rhwng goleuni a thywyllwch?

15 A pha gysondeb sydd rhwng Christ a Belial? neu pa ran sydd i gredadyn gŷd ag anghredadyn.

16 A pha gydfod sydd rhwng Teml Dduw ac eulynnod; canys Teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw; Mi a bresswyli­af ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysc, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.

17 O herwydd pa ham, dewch allan o'u canol hwy, ac ymddido­lwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi:

18 Ac a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibi­on, ac yn ferched i mi; medd yr Arglwydd Holl-alluog.

PEN VII.

1 Y mae efe ym mhellach yn eu han­nog hwy i burdeb buchedd, 2 ac i ddwyn y cyfryw ewyllys da tuac atto ef, ac yr oedd yntau yn ei ddwyn tuag attynt hwy. 3 A rhag iddynt hwy feddwl ei fôd ef yn ammeu hynny, y mae efe yn dangos pa gysur a gymmerodd e­fe yn ei flinderau, pan fynegodd Titus y tristwch duwiol a wei­thiasei ei Epistol cyntaf ef yn­ddynt hwy, 13 a'u caredigrwydd hwynt, a'u hufydd-dod tuac at Titus, megis y bostiasei efe o'r blaen am danynt hwy.

AM hynny gan fôd gennym yr addewiddion hyn (anwy­lyd) ymlanhawn odiwrth bôb halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.

2 Derbyniwch ni, ni wnae­thom gam i nêb; ni lygrasom nêb; nid yspeiliasom nêb.

3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd; canys mi a ddywe­dais o'r blaen eich bôd chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyd â chwi.

4 Ymae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych, mae gennif orfo­ledd mawr o'ch plegid chwi; yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra-chyflawn o lawenydd, yn ein holl orthrymder.

5 Canys wedi ein dyfod ni i Ma­cedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ymmhôb peth, cystuddiedig fuom, oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau.

6 Eithr Duw yr hwn sydd yn di­ddanu y rhai cystuddiedig, a'n di­ddanodd ni wrth ddyfodiad Titus.

7 Ac nid yn unig wrth ei ddy­fodiad ef, ond hefyd wrth y di­ddanwch â'r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awydd-fryd chwi, eich ga­lar chwi, eich zêl tuag attafi, fel y llawenheais i yn fwy.

8 Canys er i mi eich tristâu chwi mewn llythyr nid yw edisar gennif, er bôd yn edifar gennif; canys yr wyf yn gweled dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond tros amser.

9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristâu chwi, ond am eich tristâu i edifeirwch; canys tristâu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.

10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iechy­dwriaeth ni bydd edifeirwch o honi, eithr tristwch y bŷd sydd yn gweithio angeu.

11 Canys wele hyn ymma, eich tristâu chwi yn dduwiol, Pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch? ie pa amddiffyn, ie pa sor­riant, ie pa ofn, ie pa awydd-fryd, ie pa zêl, ie pa ddial? ym mhôb peth y dangosasoch eich bôd yn bur yn y peth hyn.

12 O herwydd pa ham, er scri­fennu o honof attoch, ni scrifen­nais o'i blegid ef a wnaethei y cam, nac oblegit yr hwn a gawsei gam, ond er mwyn bôd yn eglur i chwi ein gofal trosoch ger bron Duw.

13 Am hynny, ni a ddiddanwyd yn oich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawen­ydd Titus: oblegid esmwythâu ar ei yspryd ef gennych chwi oll.

14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef am danoch, ni'm cywi­lyddiwyd: eithr megis y dyweda­som wrthych bôb dim mewn gwi­rionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bôst ni, yr hwn a fu wrth Titus.

15 Ac y mae ei ymyscaroedd ef yn helaethach tu ag attoch, wrth gofio o honaw eich ufydd-dod chwi oll, pa fôdd trwy ofn a dy­chryn, y derbyniasoch ef.

16 Am hynny llawen wyf, am fôd i mi hyder arnoch ym mhôb dim.

PEN. VIII.

1 Y mae efe yn eu hannog hwynt i gyfrannu yn helaeth i'r Sainct tlodion yn Ierusalem, trwy siampl y Macedoniaid, 7 trwy ganmol eu parodrwydd hwy o'r blaen, 9 trwy siampl Christ, 14 a thrwy y llessâd ysprydawl a ddaw i­ddynt hwy o hynny: 16 gan ddangos iddynt burdeb ac ewyllys­garwch Titus, ac eraill o'r brodyr, y rhai ar ei ddeisyfiad, a'i annog, a'i orchymmyn ef, a ddaethent at­tynt hwy yn bwrpasol yng hylch y peth hyn.

YR ydym ni hefyd yn yspysu i chwi frodyr, y grâs Duw a ro­ddwyd yn Eglwysi Macedonia:

2 Ddarfod mewn mawr brofi­ad cystudd, i helaeth rwydd eu llawenydd hwy, a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.

3 Oblegid yn ôl eu gallu, (yr wyfi yn dŷst) ac uwch-law eu ga­llu, yr oeddynt yn ewyllysgar o ho­nynt eu hunain.

4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o ho­nom ni y rhôdd, a chymdeithas gwoinidogaeth y Sainct.

5 A hyn a wnaethant nid fel yr oeddym ni yn gobeithio, ond hwy a'i rhoddasant eu hunain yn gyn­taf i'r Arglwydd, ac i ninneu trwy ewyllys Duw.

6 Fel y dymunasom ni a'r Ti­tus, megis y dechreuasei efe o'r blaen, felly hefyd orphen o ho­naw yn eich plith chwi y grâs hwn hefyd.

7 Eithr, fel yr ydych ym-mhôb peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phôb a­studrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni, edrychwch a'r fôd o honoch yn y grâs hwn hefyd yn ehelaeth.

8 Nid trwy orchymmyn yr yd­wyf yn dywedyd, ond oblegid di­wydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.

9 Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd Iesu Ghrist, iddo ef, ac ynteu yn gyfoethog fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy eî dlodi ef.

10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyn­gor yn hyn, canys hyn sy dda i chwi, y rhai a rag-ddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.

11 Ac yn awr, gorphennwch wneuthur hefyd, fel, megis ac yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwplau hefyd, o'r hyn sydd gennych.

12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o'r blaen; yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymmera­dwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.

13 Ac nid fel y byddai esm­wythdra i eraill, a chystudd i chwithau,

14 Eithr o gymhwysdra: y pryd hyn bydded eich helaeth­rwydd chwi, yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau, fel y byddo cymhwys­dra.

15 Megis y mae yn scrifenne­dig, Yr hwn a gasclodd lawer, nid oedd ganddo weddill, ac a gas­clodd ychydig, nid oedd arno ei­sieu.

16 Eithr i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch ynghalon Titus.

17 Oblegid yn wîr, efe a dder­byniodd y dymuniad, a chan fôd yn fwy diwyd, a aeth attoch o'i wir-fôdd eu hun.

18 Ni a anfonasom hefyd gyd ag ef, y brawd yr hwn y mae ei glôd yn yr Efengyl, trwy 'r holl Eglwysi:

19 Ac nid hynny yn unic, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr Egl­wysi i gydymdaith â ni, â'r grâs hyn, yr hwn a wasanaethir gen­hym, er gogoniant i'r Arglwydd ei hun, ac i amlygn parodrwydd eich meddwl chwi.

20 Gan ochelyd hyn, rhag i hêb feio arnom yn yr helaeth­rwydd ymma, yr hwn a wasanae­thir gennym.

21 Y rhai ydym yn rhag ddar­par pethau onest, nid yn unig yng­olwg yr Arglwydd, ond hefyd yngolwg dynion.

22 Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a bro­fasom mewn llawer o bethau, la­wer gwaith, ei fôd ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gen­nif ynoch.

23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chydweithydd tu ag attoch chwi; neu am ein brodyr, cennadau yr Eglwysi ydynt, a gogoniant Christ.

24 Am hynny dangoswch i­ddynt hwy Yspysrwydd o'ch ca­riad, ac o'n bôst ninneu am da­noch chwi, yngolwg yr Eglwysi.

PEN. IX.

1 Y mae efe yn dangos yr achos pa ham y danfonasei efe Titus a'i frodyr o'r blaen, er ei fod yn gwy­bod eu parodrwydd hwy. 6 Ac y mae efe yn eu cynhyrfu hwy i ro­ddi elusen yn helaeth, gan fod hyn megis mâth ar hauad hâd, 10 yr hwn a ddwg iddynt gynnyrch, 13 ac a bair aberth mawr o fo­liant i Dduw.

CAnys, tu ag at am y weinido­gaeth i'r Sainct, afraid yw i mi scrifennu attoch.

2 O herwydd mi a adwaen ba­rodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid am danoch chwi, fôd Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd, a'r zêl a ddaeth oddi­wrthych chwi a annogodd lawer iawn.

3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bôst ni am da­noch [Page] chwi yn ofer yn y rhan hon, sel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi.

4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â mi, a'ch cael chwi yn ammharod, bod i ni (ni ddywedaf, i chwi) gael cywilydd yn y fôst hyderus ymma.

5 Mi a dybiais gan hynny, yn anghenrheidiol attolwg i'r bro­dyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen attoch, a rhag-ddarparu eich ben­dith chwi, yr hon a fynegwyd, fel y byddo parod, megis ben­dith, ac nid megis o gybydd-dra.

6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, yr hwn sydd yn hau yn brin, a fêd hefyd yn brin, a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd hefyd yn helaeth.

7 Pôb un megis y mae yn rhag­arfaethu yn ei galon, felly rhodded, nid yn athrist, neu trwy gymmell, canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

8 Ac y mae Duw yn abl i heri i bôb grâs fôd yn helaeth tu ag at­toch chwi, fel y byddoch chwi ŷm-mhôb peth, bôb amser, a chen­nych bôb digonoldeb, yn helaeth i bôb gweithred dda:

9 (Megis yr scrifennwyd, Efe a wascarodd, rhoddodd i'r tlo­dion, ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.

10 A'r hwn sydd yn rhoddi hâd i'r hauwr, rhodded hesyd sara yn ymborth, ac amlhaed eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder.)

11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth, i bôb haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.

12 Canys y mae gweinidoga­eth y swydd hon, nid yn unic yn cyflawni diffygion y Sainct, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;

13 Gan eu bôd trwy brofiad y weinidogaeth hon yn gogoneddu Duw o herwydd darostyngiad eich cyffes chwi i Efengyl Ghrist, ac o herwydd haelioni eich cyfran­niad iddynt hwy, ac i bawb:

14 A thrwy en gweddi hwy­thau trosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu am danoch chwi, am y rhagorol râs Duw, yr hwn sydd ynoch.

15 Ac i Dduw y byddo 'r di­olch am ei ddawn annrhaethol.

PEN. X.

1 Yn erbyn y gau-Apostolion, y rhai a ddiystyrent wendid ei bresennol­deb corphorawl ef, y mae efe yn gosod allan y nerth a'r awdurdod Ysprydawl, y gwiscid ef â hwynt yn erbyn pob gwrthwyneb allu, 7 gan eu siccrhau hwy y ceir ef ar ei ddyfodiad, mor nerthol mewn gair, ac ydyw ef yr awrhon yn ab­sennol yn ei scrifen: 12 a cha [...] feio ar y gau athrawon am ymgy­rhaeddyd y tu hwnt iw mesur, a [...] ymffrostio yn llafur gwyr eraill.

A Myfi Paul wyf fy hun yn at­tolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Christ, yr hwn yn bresennol wŷf wael yn eich plith▪ ond yn absennol ydwyf yn hŷ ar­noch.

2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hyf, â'r hyder yr wyf yn meddwl bôd tu ag at rai, y sy yn ein cyfrif ni me­gis rhai yn rhodio mogis ar ôl y cnawd.

3 Canys er ein bôd ni yn rho­dio yn y cnawd, nid ydym yn mil­wrio yn ôl y cnawd.

4 Canys arfau ein milwriaeth ni, nid ydynt gnawdol, ond ner­thol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr.

5 Gan fwrw dychymmygion i lawr, a phôb uchder ac sy yn ym­godi yn erbyn gŵybodaeth Dduw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufydd-dod Christ:

6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anufydd-dod, pan gyflawn­er eich ufydd-dod chwi.

7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? os ymddi­ried nêb ynddo ei hun, ei fôd efe yn eiddo Christ, meddylied hyn drachefn o honaw ei hun, me­gis ac y mae efe yn eiddo Christ, felly ein bôd ninnau hefyd yn ei­ddo Christ.

8 Oblegid pe bostiwn beth ych­waneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich di­nistr chwi, ni'm cywilyddid.

9 Fel na thybier fy môd megis yn eich dychrynu chwi trwy ly­thyrau.

10 Oblegid y llythyrau yn wîr, meddant, sy drymion, a chryfion, eithr presennoldeb y corph sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus.

11 Y cyfryw un, meddylied hyn, mai y fâth ydym ni ar air, drwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn a'r weithred ya bresennol.

12 Canys nid ŷm ni yn be [...] ­ddio ein cydstadlu, neu ein cyffe­lybu ein hunain, i rai sy yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt hwy gan eu mesur eu hunain wr­thynt eu hunain, a'i cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid y­dynt yn deall.

13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o'n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur, i gyrhaeddyd hyd at­toch chwi hefyd.

14 Canys nid ydym, megis rhai heb gyrhaeddyd hyd attoch chwi, yn ymystyn allan tu hwnt i'n mesur: canys hyd attoch chwi hefyd y daethom ag Efen­gyl Grist.

15 Nid gan fostio hyd at be­thau allan o'n mesur, yn llafur rhai eraill, eithr gan obeithio pan gynnyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol, yn ehelaeth:

16 I bregethu yr Efengyl tu hwnt i chwi: ac nid i fostio yn rheol un arall, am bethau parod eusys.

17 Eithr yr hwn sydd yn ymffro­stio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymme­radwy, ond yr hwn y mae yr Ar­glwydd yn ei ganmol.

PEN. XI.

1 Allan o'i eiddigedd tros y Corin­thiaid, y rhai oedd yn dangos en bod yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r gau-Apostolion nag o hono ef, y mae yn gorfod arno yn erbyn ei ewyllys, ei ganmol ei hun, 5 trwy et gystadlu ei hun â'r Apostolion pennaf, 7 a'i fod yn pregethu yr Efengyl yn rhâd, ac yn ddigôst, iddynt hwy, 13 gan ddangos nad oedd efe ddim gwaeth nâ'r gwei­thredwyr twyllodrus hynny, mewn [Page] un rhagorfraint o'r ddeddf, 23 a'i fod yn rhagori arnynt yngwa­sanaeth Christ, ac ym mhôb math a'r ddioddefiadau o achos ei wei­nidogaeth.

O Na chŷd-ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb, eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi.

2 Canys eiddigus wyf trosoch, ag eiddigedd duwiol; canys mi a'ch dyweddiais chwi i un gŵr, i'ch rhoddi chwi megis morwyn bûr i Grist.

3 Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn môdd yn y bŷd, megis y twyllodd y sarph Efa, trwy ei chy­frwysdra, felly bôd eich meddy­liau chwi wedi eu llygru oddi wrth y symlrwydd sydd yn Ghrist.

4 Canys yn wîr os ydyw yr hwn sydd yn dyfod, yn pregethu Iesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn Yspryd arall, yr hwn ni's derbyniasoch, neu Efengyl arall, yr hon ni dderbyniasoch, têg y cyd-ddygech ag ef.

5 Canys yr ydwyf yn meddwl, na bûm i ddim yn ôl i'r Aposto­lion pennaf.

6 Ac os ydwyf hefyd yn ang­hyfarwydd ar ymadrodd, etto nid wyf felly mewn gwybodaeth, eithr yn eich plith chwi, nyni a eglurhawyd yn hollawl ym-mhôb dim.

7 A wneuthym i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y derchefid chwi; oblegid pregethu o honof i chwi Efengyl Dduw yn rhâd?

8 Eglwysi eraill a yspeiliais, gan gymmeryd cyflog ganddynt hwy, l'ch gwasanaethu chwi.

9 A phan oeddwn yn bresen­nol gyd â chwi, ac arnaf eisieu, ni ormesais ar neb, canys fy eisieu i a gyflawnodd y brodyr a ddae­thent o Macedonia: ac ym mhôb dim i'm cedwais fy hun heb pwy­so arnoch, ac mi a ymgadwaf.

10 Fel y mae gwirionedd Christ ynof, ni argaeir yr ymffrost hyn yn fy erbyn, yngwledydd Achaia.

11 Pa ham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a'i gŵyr.

12 Eithr yr hyn yr ŵyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd: fel y torrwyf ymmaith achlysur oddi wrth y rhai sy yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y caer hwynt megis ninnau hefyd.

13 Canys y cyfryw gau Apo­stolion sy weithwŷr twyllodrus, wedi ymrithio yn Apostolion i Grist.

14 Ac nid rhyfedd, canys y mae Satan yntef yn ymrithio yn Ang­el goleuni.

15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gwei­thredoedd.

16 Trachefn meddaf, na thy­bied neb fy môd i yn ffôl: os am­gen, etto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf fineu hefyd ymffro­stio ychydig.

17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywe­dyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fôst hy­derus.

18 Gan fôd llawer yn ymffro­stio yn ôl y cnawd, minneu a ym­ffrostiaf hefyd.

19 Canys yr ydych yn go­ddef ffyliaid yn llawen, gan [Page] fôd eich hun yn synhwyrol.

20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i'ch caethiwo, os bydd un i'ch llwyr-fwytta, os bydd un yn cymmeryd gennych, os bydd un yn ymdderchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb.

21 Am amharch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni wei­niaid: eithr ym mha beth byn­nag y mae nêb yn hyf, (mewn ffo­lineb yr wyf yn dywedyd) hŷ wyf finneu hefyd.

22 Ai Hebræaid ydynt hwy? felly finneu. Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finneu. Ai hâd Abra­ham ydynt hwy? felly finneu.

23 Ai gweinidogion Christ y­dynt hwy? (yr ydwyf yn dywe­dyd yn ffôl) mwy wyf fi. Mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn mar­wolaethau yn fynych.

24 Gan yr Iddewon bum-waith y derbyniais ddeugain gwialennod onid un.

25 Tair gwaith i'm curwyd â gwiail; unwaith i'm llabyddi­wyd; teir-gwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfn-fôr.

26 Mewn teithiau yn fynych, ym mheryglon llif-ddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mhe­ryglon fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mhery­glon ym mhlith brodyr gan.

27 Mewn llafur a lludded: mewn anhunedd yn synych; mewn new­yn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a no­ethni.

28 Heb law y pethau sy yn dig­wydd oddi allan, yrymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal tros yr hôll Eglwysi.

29 Pwy sy wan, nad ŵyf fin­neu wan? pwy a dramgwyddir, nad wys finneu yn llosci?

30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sy yn per­thyn i'm gwendid.

31 Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendi­gedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.

32 Yn Damascus, y llywydd tan Aretas y brenin, a wiliodd ddinas y Damasciaid, gan ewylly­sio fy nal i.

33 A thrwy ffenestr mewn bas­ced i'm gollyngwyd a'r hyd y mur, ac y diengais o'i ddwylaw ef.

PEN. XII.

1 Er gallu o hono ef orfoleddu yn ei ddatcuddiadau rhyfeddawl, er mwyn gosod allan ei Apostoliaeth, 9 etto mae yn well gantho orfo­leddu yn ei wendid: 11 gan fwrw bai arnynt hwy am ei yrru ef i wag-fostio fel hyn. 14 Mae efe yn addo dyfd attynt hwy dra­chefn, ac er hynny trwy dadawl garedigrwydd: 23 er ei fôd yn ofni y caiff efe yno lawer o ddrwg­weithredwyr, ac anhrefn cyffredi­nawl.

YMffrostio yn ddiau nid yw fuddiol i mi; canys myfi a ddeuaf at weledigaethau, a datcu­ddiedigaethau yr Arglwydd.

2 Mi a adwaenwn ddŷn yn Ghrist, er ys rhagor i bedair bly­nedd [Page] ar dêc, (pa un ai yn y corph, ni wn, ai allan o'r corph, ni wn i, Duw a ŵyr,) y cyfryw un a gippiwyd i fynu hyd y drydedd nef.

3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn (pa un ai yn y corph, ai allan o'r corph ni wn i; Duw a ŵyr.)

4 Ei gippio ef i fynu i Barad­wys, ac iddo glywed geiriau an­nhraethadwy, y rhai nid yw gy­freithlon i ddŷn eu hadrodd.

5 Am y cyfryw un yr ymffro­stiaf, eithr am danaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.

6 Canys os ewyllysiaf ymffro­stio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwîr: eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthyr cy­frif o honofi, uwch law y mae yn gweled fy môd, neu yn ei gly­wed gennif.

7 Ac fel na'm tra derchafer gan odidowgrwydd y datcuddiedigae­thau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i'm cerno­dio, fel na'm tra derchefid.

8 Am y peth hyn mi a attoly­gais i'r Arglwydd deir-gwaith, ar fôd iddo ymadel â mi.

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, Digon i ti fy ngrâs i; canys fy nerth i a berffeithir mewn gwen­did: yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi, yn hytrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Christ ynofi.

10 Am hynny yr wyf yn fod­lawn mewn gwendid, mewn am­march, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau er mwyn Christ: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.

11 Mi a euthym yn ffôl wrth ymffrostio; chwychwi a'm gyr­rasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ôl i'r A­postolion pennaf, er nad yd-wyfi ddim.

12 Arwyddion Apostol yn wît a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pôb amynedd, mewn ar­wyddion, a rhyfeddodau, a gwei­thredoedd nerthol.

13 Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ôl am dano, mwy nâ'r Eglwysi eraill, oddieithr am na bûm i fy hun ormesol ar­noch? Maddeuwch i mi hyn o gam.

14 Wele, y drydedd waith yr wyfi yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf ormesol arnoch; canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwy-chwi; canys ni ddylei y plant gasclu tryssor i'r rhieni, ond y rhieni i'r plant.

15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf tros eich eneidiau chwi, er fy môd yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.

16 Eithr bid, Ni phwysais i arnoch: ond gan fôd yn gyfrwys, mi a'ch deliais chwi, trwy ddi­chell.

17 A wneuthum i elw o ho­noch chwi drwy neb o'r rhai a ddanfonais attoch?

18 Mi a ddeisyfiais ar Titus, a chyd ag ef mi a anfonais frawd: a elwodd Titus ddim arnoch? Onid yn yr un Yspryd y rho­diasom? Onid yn yr un llwy­brau?

19 Drachefn, A ydych chwi yn tybied mai ymescusodi yr ydym [Page] wrthych? Ger bron Duw yn Ghrist yr ydym yn llefaru: a phôb peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.

20 Canys ofni yr wyf, rhag pan ddelwyf, na'ch caffwyf yn gy­fryw rai ac a fynnwn; a'm cael inneu i chwithau yn gyfryw ac nis mynnech, rhag bôd cynhen­nau, cenfigennau, llidiau, ymryso­nau, goganau, hustingau, ymch­wyddiadau, anghydfyddiaethau.

21 Rhac pan ddelwyf drachefn, fôd i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eusys, ac nid edifarhasant am yr aflen­did, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.

PEN. XIII.

1 Y mae efe yn bygwth pechaduri­aid diedifeiriol â thoster a gallu ei Apostoliaeth: 5 a chan eu cy­nghori hwynt i brofi eu ffydd, 7 ac i ddiwygio eu beiau cyn ei ddy­fod ef, 11 y mae efe yn diwe­ddu ei Epistol trwy eu hannoc hwy yn gyffredinawl a gweddio.

Y Drydedd waith hon yr yd­wyf yn dyfod attoch. Ynge­nau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.

2 Rhag-ddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhag-ddywedyd, fel pe bawn yn bresennol, yr ail waith, ac yn absennol yr awron, yr y­dwyf yn scrifennu at y rhai a be­chasant eusys, ac at y lleill i gŷd, os deuaf drachefn, nad arbe­daf:

3 Gan eich bôd yn ceisio pro­fiad o Grist, yr hwn sydd yn lle­faru ynof, yr hwn tu ag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd ner­thol ynoch chwi.

4 Canys er ei groes-hoelio ef o ran gwendid, etto byw ydyw drwy nerth Duw; canys nin­nau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gyd ag ef, trwy nerth Duw tu ag attoch chwi.

5 Profwch chwychwi eich hu­nain, a ydych yn y ffydd; ho­lwch eich hunain. Ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bôd Iesu Ghrist ynoch, oddi eithr i chwi fôd yn anghymme­radwy?

6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy.

7 Ac yr wyf yn gweddio ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg, nid fel yr ymddangosom ni yn gym­meradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bôd o honom ni megis rhai anghymme­radwy.

8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd.

9 Canys llawen ydym, pan fy­ddom ni yn weiniaid, a chwi­thau yn gryfion. A hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef elch perffeithrwydd chwi.

10 Am hynny, myfi yn ab­sennol ydwyf yn scrifennu y pe­thau hyn, fel pan fyddwyf bresen­nol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roes yr Arglwydd i mi, er adeilad, ac nid er dinystr.

11 Bellach frodyr byddwch wych; byddwch berffaith; di­ddaner chwi; syniwch yr un peth; byddwch heddychol. A Duw y [Page] cariad a'r heddwch a fydd gyd â chwi.

12 Anherchwch ei gilydd â chusan sanctaidd. Y mae 'r holl Sainct yn eich annerch chwi.

13 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chym­deithas yr Yspryd glân, a fyddo gyd â chwi oll. Amen.

¶Yr ail at y Corinthiaid a scri­fennwyd o Philipi ym-Mace­donia, gyd â Titus a Luc.

EPISTOL PAUL YR APOSTOL at y GALATIAID.

PENNOD I.

6 Y mae efe yn rhyfeddu iddynt ei adel ef a'r Efengyl cyn gynted: 8 ac yn melltithio y rhai a bre­gethant Efengyl amgen nâ'r hon a bregethai efe. 11 Nad gan ddynion y dyscodd efe yr Efengyl, eithr gan Dduw: 14 Ac y mae efe yn dangos pa beth ydoedd efe cyn ei alw, 17 a pha beth a wnaeth efe yn y man wedi ei alw.

PAUL Apostol, nid o ddy­nion, na thrwy ddŷn, eithr trwy Iesu Ghrist, a Duw Tâd, yr hwn a'i cy­fododd ef o feirw,

2 A'r brodyr oll, y rhai sy gyd â mi, at Eglwysi Galatia:

3 Gras fyddo i chwi, a hedd­wch oddiwrth Dduw Tâd, a n Harglwydd Iesu Grist:

4 Yr hwn a'i rhoddes ei hun tros ein pechodau, fel i'n gwa­redei ni oddi wrth y bŷd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a'n Tâd ni:

5 I'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

6 Y mae yn rhyfedd gennif eich symmud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i râs Crist, at Efengyl arall:

7 Yr hon nid yw arall: ond bôd rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych dattroi Efengyl Grist.

8 Eithr pe byddei i ni, neu i Angel o'r nef, efangylu i chwi, amgen nâ'r hyn a efangylasom i chwi, bydded anathema.

9 Megis y rhag-ddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, os efangyla neb i chwi amgen nâ'r hyn a dderby­niasoch, bydded anathema,

10 Canys yr awron, ai peri credu dynion yr wŷf, ynteu Duw? neu a ydwyfi yn ceisio rhyngu bôdd dynion: canys pe rhyngwn fôdd dynion etto, ni byddwn wâs i Grist.

11 Eithr yr ydwyf yn yspysu i chwi, frodyr, am yr Efengyl a bregethwyd gennifi, nad yw hi ddynol.

12 Canys nid gan ddŷn y derbyniais i hi, nac i'm dys­cwyd: eithr trwy ddatcuddiad Iesu Grist.

13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y Gre­fydd [Page] Iddewig, i mi allan o fesur erlid Eglwys Dduw, a'i hanrhei­thio hi.

14 Ac i mi gynyddu yn y Gre­fydd Iddewig, yn fwy nâ llawer o'm cyfoedion, yn fy nghenedl fy hun, gan fôd yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.

15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm nailltuodd i o grôth fy mam, ac a'm galwodd i trwy ei râs,

16 I ddatcuddio ei Fâb ef yno­fi, fel y pregethwn ef ym mhlith y Cenhedloedd; yn y fan nid ym­gynghorais â chig a gwaed:

17 Ac nid aethym yn fy ôl i Jerusalem at y rhai oedd o'm blaen i yn Apostolion: ond mi a aethym i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.

18 Yna yn ôl tair blynedd y daethym yn fy ôl i Jerusalem i ymweled â Phetr: ac a arhosais gyd ag ef bymtheng nhiwrnod.

19 Eithr neb arall o'r Aposto­lion ni's gwelais, ond Jaco, brawd yr Arglwydd.

20 A'r pethau yr wŷf yn eu scrifennu attoch, wele, ger bron Duw nad wyf yn dywedyd cel­wydd.

21 Wedi hynny y daethym i wledydd Syria a Cilicia;

22 Ac yr oeddwn heb fy ad­nabod wrth fy wyneb yn Eg­lwysi Judæa, y rhai oedd yn Grist.

23 Ond yn unic hwy a glwy­sant, fôd yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pre­gethu y ffydd, yr hon gynt a an­rheithiasei.

24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynofi.

PEN. II.

1 Y mae efe yn dangos pa bryd yr aeth efe i fynu i Ierusalem, ac i ba beth: 3 ac nad enwaedasid ar Titus, 11 a gwrthwynebu o ho­no ef Petr, 14 Pa ham y mae efe ac eraill, a hwythau yn Idde­won, yn credu y cant ei cyfiawn­hau yn Ghrist trwy ffydd ac nid trwy weithredoedd 20 ac na bo iddynt hwy y rhai a gyfiawnha­wyd felly fyw mewn pechod.

YNa wedi pedair blynedd ar ddêc yr aethym drachefn i fynu i Ierusalem gyd â Barnabas, gan gymmeryd Titus hefyd gydâ mi.

2 Ac mi a aethym i fynu yn ôl datcuddiad, ac a fynegais iddynt yr Efengyl, yr hon yr wyf yn ei phregethu ym-mhlith y Cenhed­loedd: ond o'r nailltu, i'r rhai cy­frifol, rhag mewn un môdd fy môd yn rhedeg yn ofer, neu ddar­fod i mi redeg.

3 Eithr Titus yr hwn oedd gyd â mi, er ei fôd yn Roegwr, ni chymmhellwyd chwaith i enwae­du arno.

4 A hynny o herwydd y gau-frodyr a ddygasid i mewn, y rhaï a ddaethent i mewn i yspio ein rhydd-did ni, yr hon sydd gen­nym yn Ghrist Iesu, fel i'n cae­thiwent ni:

5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, na ddo tros awr: fel yr arhosai gwirionedd yr Efen­gyl gyd â chwi.

6 A chan y rhai a dybid eu bôd yn rhyw beth, (pa fâth gynt oe­ddynt, nid yw ddim i mi, nid yw [Page] Duw yn derbyn wyneb dŷn:) ca­nys y rhai cyfrifol ni chwanega­sant ddim i mi.

7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am Efengyl y dienwaediad, me­gis am Efengyl yr Enwaediad i Petr:

8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Petr, i apostoliaeth yr Enwaediad, a ner­thol weithredoedd ynofinnau he­fyd tu ac at y Cenhedloedd.)

9 A phan wŷbu Iaco, a Cephas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bôd yn golofnau; y grâs a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barna­bas, ddeheu-ddwylo cymdeithas: fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr Enwaediad.

10 Yn unic ar sôd i ni gofio 'r tlodion: yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd iw wneuthur.

11 A phan ddaeth Petr i Anti­ochia, mi a'i gwrth-wynebais yn ei wyneb, am ei fôd iw feio.

12 Oblegid cyn dyfod rhai o­ddi wrth Iaco, efe a fwyttâodd gyd â'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd ac a'i nailltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni y rhai oedd o'r Enwae­diad.

13 A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gym­maint ac y dygwyd Barnabas he­fyd iw rhagrith hwy.

14 Eithr pan welais i nad oe­ddynt yn iawn-droedio at wirio­nedd yr Efengyl, mi a ddywedais wrth Petr yn eu gwŷdd hwy oll, Os wyt ti a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon pa ham yr wyti yn cym­mell y Cenhedloedd i fyw yn I­ddewaidd?

15 Nyni y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o'r Cen­hedloedd yn bechaduriaid;

16 Yn gwŷbod nad ydys yn cyfiawnhau dŷn trwy weithred­oedd y Ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist: ninneu hefyd a greda­som yn Ghrist Iesu, fel i'n cyfiawn­hâer trwy ffydd Ghrist, ac nid trwy weithredoedd y Ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y Ddeddf.

17 Ac os wrth geisio ein cyfi­awnhau yn Ghrist, i'n caed ninneu hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Christ am hynny yn wenidog pe­chod? Na atto Duw.

18 Canys os wyfi yn adeiladu drachefn y pethau a ddestrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn drosseddwr.

19 Canys yr wyfi trwy y Ddeddf wedi marw i'r Ddeddf, fel y by­ddwn fyw i Dduw.

20 Mi a groes-hoeliwyd gyd â Christ: eithr byw ydwyf, etto nid myfi, ond Christ sydd yn byw ynofi: a'r hyn yr ydwyf yr aw­ron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mâb Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosofi.

21 Nid wŷf yn dirymmu grâs Duw: canys os o'r Ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Christ farw yn ofer.

PEN. III.

1 Y mae efe yn gofyn pa beth a'i cyn­hyrfodd hwy i ymadel â'r ffydd ac i lynu wrth y gyfraith. 6 Y rhai a gredant a gyfiawnheir, 9 ac a fendithir gydag Abraham: 10 a hyn y mae efe yn ddangos trwy lawer o resymmau.

O Y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygadtynnodd chwi, fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd: i ba rai o flaen eu llygaid y portreiad­wyd Iesu Grist, wedi ei groes­hoelio yn eich plith?

2 Hyn yn unic a ewyllysiaf ei ddyscu gennwch: ai wrth wei­thredoedd y Ddeddf y derbynia­soch yr Yspryd, ynteu wrth wran­dawiad ffydd?

3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechreu yn yr Ys­pryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?

4 A ddioddefasoch gymmaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwrthiau yn eich plith, a'i o weithredoedd y Ddeddf, ynteu o wrandawiad ffydd y mae?

6 Megis y credodd Abraham i Dduw ac y cyfrifwyd iddo yn gy­fiawnder.

7 Gwŷbyddwch felly y mae y rhai sy o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.

8 A'r Scrythur yn rhag-weled mai trwy ffydd y mae Duw yn cy­fiawnhau y Cenhedloedd, a rag­efangylodd i Abraham, gan ddy­wedyd, Ynot ti y bendithir yr holl Genhedloedd.

9 Felly gan hynny, y rhai sy o ffydd a fendithir gyd ag Abraham ffyddlon.

10 Canys cynnifer ac y sy o wei­thredoedd y Ddeddf, tan felldith y maent: canys scrifennwyd, Mell­digedig yw pôb un nid yw yn a­ros yn yr holl bethau a scrifennir yn llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.

11 Ac na chyfiawnheir nêb trwy 'r Ddeddf ger bron Duw, e­glur yw: oblegid y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

12 A'r Ddeddf nid yw o ffydd: eithr y dŷn a wna y pethau hyn­ny, a fydd byw ynddynt.

13 Christ a'n llwyr-brynodd oddi wrth felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn scrifennedig, Mell­digedig yw pôb un sydd ynghrôg ar bren:

14 Fel y delai bendith Abra­ham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu: fel y derbyniem addewyd yr Yspryd trwy ffydd.

15 Y brodyr, dywedyd yr wŷf ar wedd ddynol, Cyd na byddo ond ammod dŷn, wedi y cadarn­haer, nid yw neb yn ei ddirymmu, neu yn rhoddi atto.

16 I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac iw hâd ef. Nid yw yn dywedyd, ac iw hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i'th hâd ti: yr hwn yw Christ.

17 A hyn yr wŷf yn ei ddy­wedyd: am yr ammod a gadarn­hawyd o'r blaen gan Duw yn-Ghrist, nad yw y Ddeddf oedd bedwar cant a dêc ar hugain o fly­nyddoedd wedi, yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ofer.

18 Canys os o'r Ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw hayach o'r addewid: ond Duw a'i rhâd­roddodd i Abraham drwy adde­wid.

19 Beth gan hynny yw 'r Ddeddf? oblegid trosseddau y rho­ddwyd hi yn chwaneg, hyd oni ddelei yr hâd, i'r hwn y gwnae­thid yr addewid: a hi a drefu­wyd [Page] trwy Angelion, yn llaw Cy­fryngwr.

20 A chyfryngwr, nid yw i un: ond Duw sydd un.

21 A ydyw y Ddeddf gan hyn­ny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw: canys pe rhoesid Deddf a allasei fywhau, yn wîr o'r Ddeddf y buasai cyfiawnder.

22 Eithr cyd-gaeodd yr Scry­thur bôb peth tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist, i'r rhai sy yn credu.

23 Eithr cyn dyfod ffydd, i'n cadwyd tan y Ddeddf, wedi ein cyd-gau i'r ffydd, yr hon oedd iw dad-cuddio.

24 Y Ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Ghrist, fel i'n cy­fiawnhaid drwy ffydd.

25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach tan athro.

26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw, drwy ffydd yn­Ghrist Iesu.

27 Canys cynnifer o honoch ac a fedyddiwyd yn Ghrist, a wisca­soch Grist.

28 Nid oes nac Iddew, na Groeg­wr: nid oes na chaeth na rhydd: nid oes na gwrryw, na benyw: canys chwi oll un ydych yn Ghrist Iesu:

29 Ac os eiddo Christ ydych y­na hâd Abraham ydych, ac etife­ddion yn ôl yr addewid.

PEN. IV.

1 Ein bod ni tan y Ddeddf hyd ddy­fodiad Christ, fel y mae 'r eti­fedd tan ei ymgeleddwr, nes ei ddyfod iw oed: 5 Eithr darfod i Ghrist ein rhyddhau ni oddiwrth y Ddeddf: 7 Nad ydym ni gan hynny weision iddi mwyach. 14 Y mae efe yn cofio eu hewyllys da hwynt tuag atto ef, a'r eiddo yn­tef tuag attynt hwythau, 22 ac yn dangos mai meibion i Abraham ydym ni, o'r wraig rydd.

A Hyn yr wŷf yn ei ddywe­dyd: dros gymmaint o am­ser ac y mae 'r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwâs, er ei fôd yn Arglwydd ar y cwbl.

2 Eithr y mae efe tan ymge­ledd-wŷr a llywodraeth-wŷr, hyd yr amser a osodwyd gan y tâd.

3 Felly ninnau hefyd, pan oe­ddym fechgyn, oeddym gaethion tan wyddorion y bŷd:

4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fâb, wedi ei wneuthur o wraig wedi ei wneuthur tan y Ddeddf:

5 Fel y prynei y rhai oedd tan y Ddeddf, fel y derbyniem y mab­wysiad.

6 Ac o herwydd eich bôd yn feibion, yr anfonodd Duw Yspryd ei Fâb, i'ch calonnau chwi yn lle­fain, Abba Dâd.

7 Felly nid wyti mwy yn wâs, ond yn fâb: ac os mâb, etifedd he­fyd i Dduw trwy Grist.

8 Eithr y pryd hynny, pan oe­ddych heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth na­turiaeth nid ydynt dduwiau.

9 Ac yn awr, a chwi yn adna­bod Duw, ond yn hytrach yn ad­nabyddus gan Dduw, pa fôdd yr ydych yn troi drachefn at y gwy­ddorion llesc a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?

10 Cadw yr ydych ddiwrno­diau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

11 Y mae arnaf ofn am danoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.

12 Byddwch fel fyfi, canys yr wyfi fel chwi, y brodyr, attolwg i chwi, ni wnaethoch i mi ddim cam.

13 A chwi a wŷddoch mai trwy wendid y cnawd yr efangy­lais i chwi y waith gyntaf:

14 A'm profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiy­styrasoch, ac ni ddirmygasoch: eithr chwi a'm derbyniasoch megis Angel Duw, megis Christ Iesu.

15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wŷf i chwi, pe buasei bossibl, y tynnasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.

16 A aethym i gan hynny yn elyn i chwi wrth ddywedyd i chwi y gwîr?

17 Y maent yn rhoi mawr­serch arnoch, ond nid yn dda, eithr chwennych y maent eich [...]au chwi allan, fel y rhoddoch awr-serch arnynt hwy.

18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, [...]e nid yn unic tra fyddwyf bre­ [...]ennol gyd â chwi.

19 Fy mhlant bychain y rhai [...]r wyf yn eu hescor drachefn, hyd [...]ni ffurfier Christ ynoch.

20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn wr gyd â chwi, a newidio fy llais, o herwydd yr wyf yn ammau o honoch.

21 Dywedwch i mi y rhai ydych [...]n chwennych bôd tan y Ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y Ddeddf?

22 Canys y mae yn scrifenne­dig fôd i Abraham ddau fâb: un o'r wasanaeth-ferch, ac un o'r w­raig rydd.

23 Eithr yr hwn oedd o'r wasa­naeth-ferch, a aned yn ôl y cnawd: a'r hwn oedd o'r wraig rydd, trwy 'r addewid.

24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw y ddau Destament, un yn ddiau o fynydd Sina, yn cenhedlu i gae­thiwed, yr hon yw Agar.

25 Canys yr Agar ymma, yw mynydd Sina yn Arabia; ac y mae yn cyf-atteb i'r Ierusalem sydd yn awr, ac y mae yn gaeth hi a'i phlant.

26 Eithr y Ierusalem honno uchod, sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll.

27 Canys scrifennedig yw, Lla­wenhâ di yr ammhlantadwy yr hon nid wyt yn heppilio: torr allan a llefa, yr hon nid wyt yn escor: canys i'r unic y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi ŵr.

28 A ninneu, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr a­ddewid,

29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn â anwyd yn ôl y cnawd a er­lidiai yr hwn a anwyd yn ôl yr Yspryd: felly yr awrhon hefyd.

30 Ond beth y mae'r Scrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaeth-ferch, a'i mâb: canys ni chaiff mâb y wasanaeth-ferch eti­feddu gyd â mâb y wraig rydd.

31 Felly, frodyr, nid plant i'r wasanaeth-ferch ydym, ond i'r wraig rydd.

PEN V.

1 Y mae efe yn eu hannog hwy i sefyll yn eu rhydd-did, 3 ac nad arferont Enwaediad. 13 Eithr yn hytrach cariad, yr hwn yw cy­flawnder y Gyfraith. 19 Y mae efe yn rhifo gweithredoedd y Cnawd, 22I a ffrwythau yr Yspryd, 25 a [...] yn eu hannog i rodio yn yr Yspryd.

SEfwch gan hynny yn y rhydd­did â'r hon y ryddhaodd Christ ni, ac na ddalier chwi dra­chefn dan iau caethiwed.

2 Wele, myfi Paul ŵyf yn dy­wedyd wrthych, os enwaedir chwi, ni les-hâ Christ ddim i chwi.

3 Ac yr ŵyf yn tystiolaethu drachefn i bôb dŷn a'r a enwae­dir, ei fôd efe yn ddyledwr i ga­dw yr holl Ddeddf.

4 Chwi a aethoch yn ddifudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y Ddeddf: chwi a fyrthiasoch ymmaith oddi wrth râs.

5 Canys nyni yn yr Yspryd drwy ffydd ydym yn disgwil go­baith cyfiawnder.

6 Canys yn Ghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na di-enwaedi­ad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.

7 Chwi a redasoch yn dda, pwy a'ch rhwystrodd chwi, fel nad u­fyddhaech i'r gwirionedd?

8 Y cyngor hyn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.

9 Y mae ychydig lefein yn le­feinio yr holl does.

10 Y mae gennifi hyder am da­noch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb fydd yn eich trallodi a ddwg farnedi­gaeth, pwy bynnag fyddo.

11 A myfi, frodyr, os yr Enwae­diad etto yr ŵyf yn ei bregethu, pa ham i'm erlidir etto? yn wir tynnwyd ymmaith dramgwydd y groes.

12 Mi a fynnwn, iê pe torrid ymmaith y rhai sy yn aflonyddu arnoch.

13 Canys i rydd-did i'ch gal­wyd chwi, frodyr: yn unic nac ar­ferwch y rhydd-did yn achlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwasa­naethwch ei gilydd.

14 Canys yr holl Ddeddf a gy­flawnir mewn un gair, sef yn hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.

15 Ond os cnoi a thraflyngce [...] ei gilydd yr ydych, gwiliwch n [...] ddifether chwi gan ei gilydd.

16 Ac yr ŵyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd.

17 Canys y mae y cnawd yn chwennychu yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrth-wynebant ei gi­lydd fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.

18 Ond os gan yr Yspryd i'ch arweinir, nid ydych tan y Ddeddf.

19 Hefyd amlwg yw gweithre­doedd y cnawd, y rhai yw, tor­priodas, godineb, aflendid, anllad­rwydd,

20 Delw-addoliaeth, swyn-gy­faredd, casineb, cynhennau, gwŷn fydau, llîd, ymrysonau, ymblei­dio, heresiau.

21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach; a chy­ffelyb i'r rhai hyn, am y rhai yr ŵyfi yn rhag-ddywedyd wrthych, megis ac y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.

22 Eithr ffrwyth yr Yspryd, yw cariad, llawenydd, tangne­ddyf, hîr-ymaros, cymmwynas­garwch, daioni, ffydd, addfwyn­der, dirwest.

23 Yn erbyn y cyfryw nid oes Ddeddf.

24 A'r rhai sydd yn eiddo Christ, a groes-hoeliasant y cnawd, a'i wy­ [...]iau, a'i chwantau.

25 Os byw yr ydym yn yr Ys­pryd, rhodiwn hefyd yn yr Ys­pryd.

26 Na fyddwn wâg-ogonedd­gar, gan ym-annog ei gilydd, gan ymgenfigennu wrth ei gilydd.

PEN. VI.

1 Y mae efe yn eu hannog hwy i ym­ddwyn yn llariaidd tuac at frawd a lithrodd, 2 ac i ddwyn bôb un faich ei gilydd: 6 i fôd yn hael tuag at eu dyscawdwyr, 9 ac na ddeffygiont yn gwneuthur da. 12 Y mae efe yn dangos pa beth yw amcan y rhai sy'n pregethu 'r Enwaediad. 14 Nad yw efe yn gorfoleddu mewn dim ond yn­groes Christ.

Y Brodyr, os goddiweddir dŷn ar ryw fai, chwy-chwi y rhai ysprydol adgyweiriwch y cyfryw un, mewn yspryd addfwynder: gan dy ystyried dy hun, rhag dy demptio ditheu.

2 Dygwch feichiau ei gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Christ.

3 Oblegid os tybia neb ei fôd yn rhyw beth, ac yntef heb fôd yn ddim y mae efe yn ei dwyllo ei hun.

4 Eithr profed pôb un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd yn­ddo ei hun yn unic, ac nid mewn arall.

5 Canys pôb un a ddwg ei faich ei hun.

6 A chyfranned yr hwn a ddy­scwyd yn y gair, â'r hwn fydd yn ei ddyscu, ym-mhôb peth da.

7 Na thwyller chwi: ni wat­worir Duw: canys beth bynnac a hauo dŷn, hynny hefyd a fêd efe.

8 Oblegid yr hwn sydd yn hau iw gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragwyddol.

9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn brŷd y medwn, oni ddeffygiwn.

10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai fy o deulu 'r ffydd.

11 Gwelwch cyhyd y llythyr a scrifennais attoch, a'm llaw fy hun.

12 Cynnifer ac sy yn ewyllysio ymdeccâu yn y cnawd, y rhai hyn sy yn eich cymmell i'ch en­waedu, yn unic fel nad erlidier hwy oblegid croes Christ.

13 Canys nid yw y rhai a enwae­dir, eu hunain yn cadw y Ddeddf: ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.

14 Eithr na utto Duw i mi [Page] ymffrostio, ond ynghroes ein Har­glwydd Iesu Grist; drwy yr hwn y croes-hoeliwyd y bŷd i mi, a minneu i'r bŷd.

15 Canys yn Ghrist Iesu ni di­chon Enwaediad ddim, na di-en­waediad, ond creadur newydd.

16 A chynnifer ac a rodiant yn ôl y rheol hon, tangneddyf arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.

17 O hyn allan, na flined neb fi: canys dwyn yr ŵyf yn fy nghorph nodau'r Arglwydd Iesu.

18 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyd â'ch yspryd chwi frodyr. Amen.

¶At y Galatiaid yr scrifen­nwyd o Rufain.

EPISTOL PAUL YR APOSTOL at yr EPHESIAID.

PEN. I.

1 Ar ôl cyfarch yr Ephesiaid, 3 a di­olch trostynt, 4 y mae efe yn cry­bwyll am ein etholedigaeth ni, 6 a'n mabwysiad trwy râs, 11 yr hyn yw gwîr ffynnon iechydwri­aeth dyn: 13 ac am na ellir yn bawdd gyrhaeddyd uchder y dirge­lwch hwn, 16 y mae efe yn gwe­ddio a'r iddynt ddyfod, 18 i gy­flawn wybodaeth, a 20 meddi­ant o hono yn Ghrist.

PAUL Apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, at y Sainct sydd yn Ephesus, a'r ffyddloniaid yn Ghrist Iesu.

2 Grâs fyddo i chwi a thangne­ddyf oddi wrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Bendigedig fyddo Duw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist yr hwn a'n bendithiodd ni â phôb bendith ysprydol, yn y nefolion leoedd yn Ghrist,

4 Megis yr etholodd efe ni yn­ddo ef cyn seiliad y bŷd, fel y by­ddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:

5 Wedi iddo ein rhagluniae­thu ni i fabwysiad trwy Iesu Ghrist iddo ei hun, yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys ef.

6 Er mawl gogoniant ei râs ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr anwylyd:

7 Yn yr hwn y mae i ni bryne­digaeth trwy ei waed ef, fef ma­ddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei râs ef:

8 Trwy yr hwn y bu efe he­laeth i ni ym mhôb doethineb a deall:

9 Gwedi iddo yspysu i ni ddirge­lwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlon­rwydd ei hun, yr hon a arfaetha­sei efe ynddo ei hun:

10 Fel yngorchwiliaeth cy­flawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yn Ghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaiar, ynddo ef;

11 Yn yr hwn i'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gwei­thio pôb peth wrth gyngor ei e­wyllys ei hun.

12 Fel y byddem ni er mawl iw ogoniant ef, y rhai o'r blaen a obeithiasom yn Ghrist.

13 Yn yr hwn y gobeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi gly­wed gair y gwirionedd, Efengyl eich iechydwriaeth, yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, i'ch seliwyd trwy lân Yspryd yr adde­wid:

14 Yr hwn yw ernes ein etife­ddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.

15 O herwydd hyn, minneu he­fyd wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tu ac at yr holl Sainct,

16 Nid wyf yn peidio â diolch trosoch, gan wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddiau:

17 Ar i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tâd y gogoniant, ro­ddi i chwi Yspryd doethineb, a datcuddiad, trwy ei adnabod ef:

18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau: fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth yw golud gogoniant ei eti­feddiaeth ef yn y Sainct:

19 A pheth yw rhagorol faw­redd ei nerth ef, tu ac attom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gwei­thrediad nerth ei gadernid ef:

20 Yr hon a weithredoedd efe yn Ghrist, pan y cyfododd ef o feirw; ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheu-law ei hun, yn y ne­folion leoedd,

21 Goruwch pôb tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwy­ddiaeth, a phôb enw a henwir, nid yn unic yn y bŷd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw;

22 Ac a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef: ac a'i rho­ddes ef yn ben, uwch law pob peth i'r Eglwys.

23 Yr hon yw ei gorph ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cy­flawni oll yn oll.

PEN. II.

1 Trwy gyffelybu yr hyn oeddym ni wrth, 3 naturiaeth, a'r hyn ydym ni 5 trwy râs: Y mae efe yn dangos ddarfod ein creu ni i wei­thredoedd da, a 13 chan ein bôd ni wedi ein dwyn yn agos trwy Ghrist, na ddylem ni fyw megis 11 Cenhedloedd, ac 12 estroniaid gynt, ond megis 19 cyd-ddinasy­ddion â'r Sainct, a theulu Duw.

A Chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau, a phechodau,

2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y bŷd hwn, yn ôl ty­wysog llywodraeth yr awyr; yr Yspryd sydd yr awron yn gwei­thio ym-mhlant anufydd-dod:

3 Ym mysc y rhai hefyd y bu ein ymarweddiad ni oll gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneu­thur ewyllysiau y cnawd, a'r me­ddyliau: ac yr oeddym ni wrth na­turiaeth yn blant digofaint, megis eraill.

4 Eithr Duw, yr hwn sydd gy­foethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y ca­rodd efe ni,

5 Ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cyd-fywhaodd ni gyd â Christ: (trwy râs yr ydych yn gadwedig:)

6 Ac a'n cyd-gyfododd, ac a'n gosododd i gyd-eistedd yn y nefo­lion leoedd yn Ghrist Iesu.

7 Fel y gallei ddangos yn yr oesoedd a ddeuei ragorol olud ei râs ef, trwy ei gymmwynascar­wch i ni yn Ghrist Iesu.

8 Canys trwy râs yr ydych yn gadwedig trwy ffydd: a hynny nid o honoch eich hunain; rhôdd Duw ydyw:

9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai nêb.

10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yn Ghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag­ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad gan yr hyn a elwir Enwaediad o waith llaw yn y cnawd:

12 Eich bôd chwi y pryd hyn­ny heb Grist, wedi eich dieithro oddi-wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth ammodau yr addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y bŷd:

13 Eithr yr awron yn Ghrist Iesu, chwy chwi y rhai oeddych gynt ym-mhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Christ.

14 Canys efe yw ein tangne­ddyf ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddattododd ganolfûr y gwahaniaeth rhyngom ni:

15 Ac a ddirymmodd, drwy ei gnawd ei hun, y gelyniaeth, sef Deddf y Gorchymmynion mewn ordeiniadau: fel y creai y ddau ynddo ei hun yn un dŷn newydd, gan wneuthur heddwch,

16 Ac fel y cymmodei y ddau â Duw, yn un corph, trwy 'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.

17 Ac efe a ddaeth, ac a bre­gethodd dangneddyf i chwi y rhai pell, ac i'r rhai agos.

18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ys­pryd at y Tâd.

19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieith­riaid a dyfodiaid, ond yn gyd­ddinasyddion â'r Sainct, ac yn deulu Duw.

20 Wedi eich goruwch adei­ladu ar sail yr Apostolion a'r Pro­phwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben-congl-faen:

21 Yn yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei chymmwys gyd­gyssylltu yn cynnyddu yn Deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

22 Yn yr hwn i'ch cyd-adei­ladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy yr Yspryd.

PEN. III.

1 Darfod yspyssu i Paul trwy ddat­cuddiad, guddiedig ddirgelwch 6 cadwedigaeth y Cenhedloedd: 8 ac mai iddo efe y rhoesid y grâs iw 9 bregethu ef. 13 Y mae efe yn dymuno arnynt nâ lwfrhaont ob­legid ei flinderau ef, 14 ac yn gweddio 19 ar iddynt wybod mawr gariad Duw tu ag attynt.

ER mwyn hyn myfi Paul, car­charor Iesu Grist trosoch chwi y Cenhedloedd,

2 Os clywsoch am orch wili­aeth grâs Duw, yr hon a rodd­wyd i mi tu ac attoch chwi:

3 Mai trwy ddatcuddiad yr Ys­pysodd efe i mi y dirgelwch, (me­gis yr scrifennais o'r blaen ar y­chydig eiriau:

4 Wrth yr hyn y gellwch, pan [Page] ddarllennoch, ŵybod fy neall i yn nirgelwch Christ.)

5 Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatcuddio iw sanctaidd Apostolion a'i Bro­phwydi trwy 'r Yspryd;

6 Y byddai y Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorph, ac yn gyd-gyfrannogion o'i adde­wid ef yn Ghrist, trwy 'r Efengyl:

7 I'r hon i'm gwnaed i yn wei­nidog, yn ôl rhôdd grâs Duw, yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymmus weithrediad ei allu ef.

8 I mi y llai nâ'r lleiaf o'r holl Sainct y rhoddwyd y grâs hyn, i efangylu ym mysc y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Christ;

9 Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y bŷd yn Nuw, yr hwn a greawdd bôb peth trwy Iesu Ghrist:

10 Fel y byddei yr awron yn hyspys i'r tywysogaethau, ac i'r awdurdodau, yn y nefolion leoedd, trwy 'r Eglwys, fawr amryw ddoe­thineb Duw:

11 Yn ôl yr arfaeth dragywy­ddol, yr hon a wnaeth efe yn Ghrist Iesu ein Harglwydd ni:

12 Yn yr hwn y mae i ni hyf­dra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

13 O herwydd pa ham yr wŷf yn dymuno na lwfrhaoch oble­gid fy mlinderau i trosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

14 O herwydd hyn yr ŵyf yn plygu fy ngliniau at Dâd ein Har­glwydd Iesu Grist,

15 O'r hwn yr henwir yr holl deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaiar;

16 A'r roddi o honaw ef i chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fôd wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dŷn oddi­mewn:

17 Ar fôd Christ yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi;

18 Fel y galloch wedi eich gw­reiddio, a'ch seilio mewn cariad, ymgyffred gyd â'r holl Sainct, beth yw 'r llêd, a'r hŷd, a'r dyfn­der, a'r uchder:

19 A gwybod cariad Christ, yr hwn sydd uwch-law gŵybodaeth: fel i'ch cyflawner â holl gyflawn­der Duw.

20 Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn drarhagorol, y tu hwnt i bôb peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni.

21 Iddo efe y byddo y gogoni­ant yn yr Eglwys trwy Ghrist Iesu, tros yr holl genhedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

PEN. IV.

1 Y mae yn eu hannoc hwynt i un­deb: 7 ac yn dangos bôd Duw yn rhoddi amryw11 ddoniau i ddy­nion er mwyn 13 adeiladaeth ei Eglwys, a'i 16 chynnydd yn Ghrist. 18 Y mae efe yn eu galw hwynt oddiwrth amhurdeb y Cenhedloedd, 24 i wisco y dyn newydd, 25 ac i fwrw ymaith gelwydd, ac 29 ymadrodd llygredic.

DEisyf gan hynny arnoch yr wyfi y carcharor yn yr Ar­glwydd, ar rodio o honoch yn addas i'r alwedigaeth i'ch gal­wyd iddi:

2 Gyd â phob gostyngeidd­rwydd ac addfwynder, ynghŷd a hir-ymaros, gan oddef ei gilydd mewn cariad:

3 Gan fôd yn ddyfal i gadw un­deb yr Yspryd, ynghwlwm tang­neddyf.

4 Un corph sydd, ac un Ys­pryd, megis ac i'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth.

5 Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd.

6 Un Duw a Thâd oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.

7 Eithr i bôb un o honom y rhoed grâs, yn ôl mesur dawn Christ.

8 O herwydd pa ham, y mae efe yn dywedyd, Pan dderchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gae­thiwed, ac a roddes roddion i ddynion.

9 (Eithr, efe a dderchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddescyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaiar?

10 Yr hwn a ddescynnodd, yw yr hwn hefyd a escynnodd goru­wch yr holl nefoedd, fel y cy­flawnei bôb peth.)

11 Ac efe a roddes rai yn Apo­stolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon:

12 I berffeithio y Sainct, i waith y weinidogaeth, i adeilad corph Christ:

13 Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gŵybodaeth Mâb Duw, yn ŵr perffaith, at fe­sur oedran cyflawnder Christ.

14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwmman ac yn ein cylch-arwain â phob awel dyscei­diaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwysdra, i gynllwyn i dwyllo:

15 Eithr gan fôd yn gywir mewn cariad, cynyddu o honom iddo ef ym-mhôb peth, yr hwn yw 'r pen, sef Christ:

16 O'r hwn y mae yr holl gorph wedi ei gydymgynnull a'i gyd­gyssylltu, trwy bôb cymmal cyn­haliaeth, yn ôl y nerthol weith­rediad ym mesur pôb rhan, yn gwneuthur cynnydd y corph, iw adeilad ei hun mewn cariad.

17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolae­thu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach, fel y mae y Cen­hedloedd eraill yn rhodio yn oferedd eu meddwl:

18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithro oddi wrth fu­chedd Dduw, drwy 'r anwyboda­eth sydd ynddynt trwy ddallineb eu calon:

19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneu­thur pôb aflendid yn un chwant:

20 Eithr chwy-chwi nid felly y dyscasoch Grist:

21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dyscwyd chwi ynddo, me­gis y mae 'r gwirionedd yn yr Iesu:

22 Dodi o honoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hên ddŷn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus:

23 Ac ymadnewyddu yn Ys­pryd eich meddwl,

24 A gwisco y dŷn newydd yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteidd­rwydd.

25 O herwydd pa ham, gan fwrw ymmaith gelwydd, dywed­wch [Page] y gwîr bôb un wrth ei gym­mydog: oblegid aelodau ydym iw gilydd.

26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich di­gofaint chwi:

27 Ac na roddwch le i ddiafol.

28 Yr hwn a ledrattâodd, na ledratted mwyach, eithr yn hy­trach cymmered boen, gan wei­thio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gy­frannu, i'r hwn y mae angen arno.

29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi: ond y cyfryw un ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro râs i'r gwrandawŷr.

30 Ac na thristêwch lân Ys­pryd Duw, trwy 'r hwn i'ch seli­wyd hyd ddydd prynedigaeth.

31 Tynner ymmaith oddi wr­thych bôb chwerwedd, a llîd, a dîg, a llefain, a chabledd, gyd â phôb drygioni.

32 A byddwch gymmwynas­gar iw gilydd, yn dosturiol, yn maddeu iw gilydd, megis y ma­ddeuodd Duw er mwyn Christ i chwithau.

PEN. V.

1 Ar ôl cynghorion cyffredinawl i garu ei gilydd, 3 ac i ochelyd godineb, a 4 phob aflendid, 7 ac i beidio a chyttal â'r annu­wiol, 15 ac i rodio yn ddiesceu­lus, 18 ac i fod yn llawn o'r Yspryd: 22 y mae efe yn dyfod at ddledion gwahanredol, pa fodd y dylai wragedd ufuddhau iw gwyr, 25 a gwyr garu eu gw­ragedd, 32 megis y mae Christ yn caru ei Eglwys.

BYddwch gan hynny ddilyn­wŷr Duw, fel plant anwyl:

2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Christ ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun trosom ni yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd.

3 Eithr godineb, a phôb aflen­did, neu gybydd-dra, na henwer chwaith yn eich plith, megis y gweddei i Sainct:

4 Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg-ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hy­trach rhoddi diolch.

5 Canys yr ydych chwi yn gwŷbod hyn, am bôb puttein-ŵr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw addolwr, nad oes i­ddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw.

6 Na thwylled neb chwi â gei­riau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dy­fod ar blant yr anufydd-dod.

7 Na fyddwch gan hynny gy­frannogion â hwynt.

8 Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron go­leuni ydych yn yr Arglwydd: rho­diwch fel plant y goleuni,

9 (Canys ffrwyth yr Yspryd sydd ym mhôb daioni, a chyfi­awnder, a gwirionedd.)

10 Gan brofi beth sydd gym­meradwy gan yr Arglwydd:

11 Ac na fydded i chwi gyd­gyfeillach â gweithredoedd an­ffrwythlgwn y tywyllwch, eithr yn hytrach argyoeddwch hwynt.

12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.

13 Eithr pôb peth, wedi 'r ar­gyoedder, a eglurir gan y goleuni: [Page] canys beth bynnag sydd yn eglu­ro, goleuni yw.

14 O herwydd pa ham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

15 Gwelwch gan hynny, pa fôdd y rhodioch yn ddiesceulus: nid fel annoethion, ond fel doe­thion;

15 Gan brynu 'r amser, oble­gid y dyddiau sy ddrwg.

17 Am hynny na fyddwch an­noethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18 Ac na feddwer chwi gan wîn, yn yr hyn y mae gormo­dedd, eithr llanwer chwi a'r Ys­pryd:

19 Gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau, ac odlau ysprydol: gan ganu a phyng­cio yn eich calon i'r Arglwydd:

20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tâd, am bôb peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist:

21 Gan ymddarostwng iw gi­lydd yn ofn Duw.

22 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Ar­glwydd:

23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ac y mae Christ yn ben i'r Eglwys, ac efe yw iachaw­dur y corph.

24 Ond fel y mae yr Eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly he­fyd bydded y gwragedd iw gŵyr priod, ym mhôb peth.

25 Y gwŷr, cerwch eich gw­ragedd, megis ac y carodd Christ yr Eglwys, ac a'i rhoddes ei hun trosti:

26 Fel y sancteiddiei efe hi, a'i glânhau â'r olchfa ddwfr, trwy 'r gair.

27 Fel y gosodei efe hi yn o­goneddus iddo ei hun, yn Eglwys heb arni na brycheuyn na chry­chni, na dim o'r cyfryw, ond fel y byddei yn sanctaidd, ac yn ddi­feius.

28 Felly y dylei y gwŷr garu eu gwragedd megis eu cyrph eu hunain: yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun:

29 Canys ni chasaodd neb eti­oed ei gnawd ei hun, eithr ei fa­gu, a'i feithrin y mae, megis ac y mae 'r Arglwydd am yr Eglwys:

30 Oblegid aelodau ydym o'i gorph ef, o'i gnawd ef, ac o'i es­cyrn ef.

31 Am hynny y gâd dŷn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.

32 Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Ghrist, ac am yr Eglwys yr wyfi yn dywedyd.

33 Ond chwithau hefyd cym­main un, felly cared pôb un o ho­noch ei wraig, fel ef ei hunan: a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.

PEN. VI.

1 Dled-swydd plant tuagat eu rhi­eni: a gweision tuac at eu har­glwyddi. 10 Mai milwriaeth yw ein bywyd ni, 12 nid yn unic yn erbyn cîg â gwaed, eithr hefyd yn erbyn gelynion ysprydawl. 13 Cy­flawn arfogaeth Cristion, 18 a'r modd yr arferir. 21 Canmol Ty­chicus.

Y Plant, ufyddhewch i'ch rhi­eni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.

2 Anrhydedda dy dâd a'th fam (yr hwn yw y gorchymmyn cyn­taf mewn addewid.)

3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hîr-hoedlog ar y ddaiar.

4 A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio, ond maeth­wch hwynt yn addysc ac athrawi­aeth yr Arglwydd.

5 Y gweisio [...] [...]fyddhewch i'r rhai sydd Arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gŷd ag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist,

6 Nid a golwg-wasanaeth, fel bodlon wŷr dynion: ond fel gwei­sion Christ, yn gwneuthur ewy­llys Duw o'r galon:

7 Trwy ewyllys da yn gwneu­thur gwasanaeth, megis i'r Ar­glwydd, ac nid i ddynion.

8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pôb un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo.

9 A chwithau feistred gwnewch yr un pethau tu ac attynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wŷ­bod fôd eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gyd ag ef.

10 Heb law hyn, fy mrodyr, ymner thwch yn yr Arglwydd, ac ynghadernid ei allu ef:

11 Gwiscwch oll-arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

12 Oblegid nid yw ein hym­drech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywyso­gaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwŷr ty­wyllwch y bŷd hwn, yn erbyn drygau Ysprydol yn y nefolion le­oedd.

13 Am hynny cymmerwch at­toch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrth-sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pôb peth, sefyll.

14 Sefwch gan hynny wedi amgylch-wregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisco dwyfron­neg cyfiawnder:

15 A gwisco am eich traed es­cidiau paratôad Efengyl tangne­ddyf.

16 Uwch law pôb dim, wedi cymmeryd tarian y ffydd, â'r hwn y gellwch ddiffoddi holl bicce­llau tanllyd y fall.

17 Cymmerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Ys­pryd, yr hwn yw gair Duw:

18 Gan weddio bôb amser, â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, a bôd yn wiliadwrus at hyn ymma, trwy bôb dyfal­bara, a deisyfiad tros yr holl Sainct:

19 A throsof finneu, fel y rho­dder i mi ymadrodd drwy ago­ryd fy ngenau yn hŷ, i yspysu dir­gelwch yr Efengyl:

20 Tros yr hon yr ŵyf yn gen­nad mewn cadwyn: fel y traeth­wyf yn hŷ am deni, fel y perthyn i mi draethu.

21 Ond fel y gwypoch chwi­thau hefyd fy helynt, beth yr ŵyf yn ei wneuthur, Tychicus y brawd anwyl, a'r gwenidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a yspysa i chwi bôb peth.

22 Yr hwn a anfonais attoch er mwyn hyn ymma, fel y caech ŵybod ein helynt ni, ac fel y di­ddanai efe eich calonnau chwi.

23 Tangneddyf i'r brodyr, a chariad gyd â ffydd oddi wrth Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Ghrist.

24 Grâs fyddo gyd â phawb sy yn caru ein Harglwydd Iesu Ghrist mewn purdeb. Amen.

¶At yr Ephesiaid yr scrifennwyd o Rufein gyd â Tychicus.

EPISTOL PAUL YR APOSTOL at y PHILIPPIAID.

PENNOD I.

1 Y mae efe yn tystiolaethu ei ddi­olchgarwch i Dduw, a'i serch tuag attynt hwythau, am ffrwy­thau ei ffydd hwynt, a'u cym­deithas yn ei ddioddefiadau ef, 9 gan weddio beunydd, ar iddynt gynnyddu mewn grâs: 12 Y mae efe yn dangos pa ddaioni a ddaeth i ffydd Ghrist trwy ei flin­derau ef yn Rhufain, 21 ac mor barod ydyw ef i ogoneddu Christ, pa un bynnac ai trwy fywyd, a'i trwy farwolaeth: 27 gan eu han­nog hwy i undeb, 28 ac i fod yn gryfion mewn erlid.

PAUL a Thimotheus gwei­sion Iesu Ghrist, at yr holl Sainct yn Ghrist Iesu, y rhai sy yn Philippi, gyd â'r Escobion a'r Diaconiaid.

2 Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 I'm Duw yr ydwyf yn di­olch, ym mhôb coffa am danoch,

4 Bôb amser ym mhôb deisy­fiad o'r eiddof trosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyd â llawenydd:

5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr Efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon:

6 Gan fôd yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist:

7 Megis y mae yn iawn i mi synied hyn am danoch ôll, am eich bôd gennif yn fy nghalon, yn gymmaint a'ch bôd chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddiffyn, a chadarnhâd yr Efeng­yl, yn gyfrannogion â mi o râs.

8 Canys Duw sydd dŷst i mi, mor hiraethus ŵyf am danoch oll yn ymyscaroedd Iesu Grist.

9 A hyn yr ŵyf yn ei weddio, ar amlhau o'ch cariad chwi etto fwy-fwy, mewn gwybodaeth, a phôb synwyr.

10 Fel y profoch y pethau sy a gwahaniaeth rhyngddynt: fel y byddoch bûr a didramgwydd hyd ddydd Christ.

11 Wedi eich cyflawni â ffrwy­thau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moli­ant i Dduw.

12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi ŵybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod o ho­nynt yn hytrach er llwyddiant i'r Efengyl:

13 Yn gymmaint a bôd fy rhwy­mau [Page] i yn Ghrist, yn eglur yn yr holl lŷs, ac ym mhôb lle arall:

14 Ac i lawer o'r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bôd yn hy­fach o lawer i draethu y gair yn ddiofn.

15 Y mae rhai yn wîr yn prege­thu Christ trwy genfigen ac ym­ryson: a rhai hefyd o ewyllys da.

16 Y naill sy 'n pregethu Christ o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i'm rhwymau i.

17 A'r lleill o gariad, gan ŵy­bod mai er amddeffyn yr Efengyl i'm gosodwyd.

18 Beth er hynny? etto ym mhôb môdd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirio­nedd, yr ydys yn pregethu Christ: ac yn hyn yr ydwyfi yn llawen, ie a llawen fyddaf.

19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iechydwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynnor­thwy Yspryd Iesu Grist:

20 Yn ôl fy awydd-fryd a'm gobaith, na'm gwradwyddir mewn dim, eithr mewn pôb hy­der, fel bôb amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Christ yn fy nghorph i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.

21 Canys byw i mi yw Christ, a marw sydd elw.

22 Ac os byw fyddaf yn y enawd, hyn yw ffrwyth fy llafur; a pha beth a ddewisaf, ni's gwn.

23 Canys y mae yn gyfyng ar­naf o'r ddeu tu, gan fôd gennif chwant i'm dattod, ac i fôd gyd â Christ: canys llawer iawn gwell ydyw:

24 Eithr aros yn y cnawd, sydd fwy angenrheidiol o'ch ple­gid chwi.

25 A chennyf yr hyder hyn, yr ŵyf yn gŵybod yr arhosaf, ac y cyd-trigaf gyd â chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd,

26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yn Ghrist Ie­su o'm plegid i, drwy fy nyfodi­ad i drachefn attoch.

27 Yn unic ymddygwch yn a­ddas i Efengyl Grist, fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bôd yn absennol, y clywyf oddiwrth eich helynt chwi, eich bôd yn sefyll yn un ys­pryd, ac un enaid gan gyd-ym­drech gyd â ffydd yr Efengyl:

28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim gan eich gwrthwyneb­wŷr: yr hyn iddynt hwy yn wir fydd arwydd siccr o golledigaeth, ond i chwi o iechydwriaeth, a hynny gan Dduw.

29 Canys i chwi y rhoddwyd bôd i chwi er Christ, nid yn unic gredu ynddo ef, ond hefyd ddio­ddef erddo ef.

30 Gan sôd i chwi yr un ym­drin ac a welsoch ynofi, ac yr aw­ron a glywch ei fôd ynofi.

PEN II.

1 Y mae efe yn eu hannog hwynt i undeb, ac i bôb gostyngeiddrwydd meddwl, trwy siampl ufydd-dod a derchafiad Christ: 12 ac i fyned rhagddynt yn ofalus yn ffordd ie­chydwriaeth, fel y bônt megis yn oleuadau i'r byd annuwiol, 16 ac yn ddiddanwch iddo yntef, eu A­postol hwynt, yr hwn sydd bellach barod iw offrymmu i Dduw. 19 Y [Page] mae efe yn gobeithio danfon Timo­theus attynt, yr hwn y mae efe yn ei ganmol yn fawr, 25 ac fe­lly Epaphroditus, yr hwn y mae ef ar fedr ei ddanfon attynt yn ddiattreg.

OD oes gan hynny ddim di­ddanwch yn Grist, od oes dim cyssur cariad, od oes dim cymdei­thas yr Yspryd, od oes dim ymy­scaroedd a thosturiaethau;

2 Cyflawnwch fy llawenydd, fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a'r un cariad gennych, yn gyttûn, yn synnied yr un peth.

3 Na wneler dim drwy gyn­nen, neu wâg-ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dy­bied ei gilydd yn well nâ chwi eich hunain.

4 Nac edrychwch bôb un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pôb un ar yr eiddo eraill hefyd.

5 Canys bydded ynoch y me­ddwl ymma, yr hwn oedd hefyd yn Ghrist Iesu:

6 Yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogy­suwch â Duw;

7 Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymmeryd arno agwedd gwâs, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion:

8 A'i gael mewn dull fel dŷn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fôd yn ufydd hyd angeu, ie angeu 'r groes.

9 O herwydd pa ham Duw a'i tra-derchafodd yntef, ac a roddes iddo Enw, yr hwn sydd goruwch pob enw:

10 Fel yn Enw Iesu y plygei pob glîn o'r nefolion, a'r dai­arolion, a than-ddaiarolion be­thau:

11 Ac y cyffesei pob tafod fôd Iesu Grist yn Arglwydd, er gogo­niant Duw Tâd.

12 Am hynny fy anwylyd, me­gis bôb amser yr ufyddhasoch, nid fel yn fy ngwydd yn unic, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy ab­sen, gweithiwch allan eich iechy­dwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn.

13 Canys Duw yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu, o'i ewyllys da ef.

14 Gwnewch bôb dim heb rw­gnach, ac ymddadleu.

15 Fel y byddoch ddiargyoedd, a diniwed, yn blant difeius i Dduw, ynghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus: ym mhlith y rhai yr ydych yn disclairio, me­gis goleuadau yn y bŷd;

16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nŷdd Christ, na redais yn ofer, ac na chymme­rais boen yn ofer.

17 Ie, a phe i'm hoffrymmid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau 'r ŵyf, a chyd-lawen­hau â chwi oll.

18 Oblegid yr un peth hefyd, by­ddwch chwithau lawen, a chyd­lawenhewch â minneu.

19 Ac yr ŵyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu, anfon Timo­theus, ar fyrder attoch, fel i'm cys­surer inneu hefyd, wedi i mi ŵy­bod eich helynt chwi.

20 Canys nid oes gennif nêb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wîr ofala am y pethau a berthyn i chwi.

21 Canys pawb sy yn ceisio yr eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.

22 Eithr y prawf o honaw ef, chwi a'i gŵyddoch, mai fel plentyn gyd â thâd, a gwasanae­thodd efe gyd â myfi yn yr E­fengyl.

23 Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gyn­ted ac y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.

24 Ac y mae gennif hyder yn yr Arglwydd, y deuaf finneu he­fyd ar fyrder attoch.

25 Eithr mi a dybiais yn an­genrheidiol ddanfon attoch Epa­phroditus fy mrawd, a'm cyd­weithwr, a'm cyd-filwr, ond eich cennad chwi, a gwenidog i'm cy­freidiau inneu.

26 Canys yr oedd efe yn hirae­thu am danoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fôd ef yn glâf.

27 Canys yn wîr efe a fu glâf, yn agos i angeu: ond Duw a dru­garhaodd wrtho: ac nid wrtho ef yn unic, ond wrthif finnau he­fyd, rhag cael o honof dristwch ar dristwch.

28 Yn fwy diwyd gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn inneu yn llai fy nhristwch.

29 Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd, gyd â phôb lla­wenydd: a'r cyfryw rai gwnewch gyfrif o honynt.

30 Canys oblegid gwaith Christ y buefe yn agos i angeu, ac y bu di-ddarbod am ei einioes, fel y cyflawnei efe eich diffyg chwi, o'ch gwafanaeth tu ac at­tafi.

PEN. III.

1 Y mae efe yn eu rhybuddio hwy i ochelyd gau-Athrawon yr En­waediad, ac 4 yn dangos fod i­ddo ef fwy o achos nag iddynt hwy, i hyderu ynghyfiawnder y Ddeddf: 7 yr hyn, er hynny y mae efe yn ei gyfrif yn dom ac yn golled, er mwyn ynnill Christ, a'i gyfiawnder ef, 12 gan gydnabod ei amherffeithrwydd ei hun yn hyn. 15 Y mae efe yn eu hannog hwy i fod o'r meddwl hwn, 17 ac iw ddynwared ef, 18 ac i ochelyd ffyrdd Christianogion cnawdol.

VVEithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd: scrifennu yr un pe­thau attoch, gennifi yn wîr nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddio­gel.

2 Gochelwch gŵn. Gochelwch ddrwg-weithwŷr. Gochelwch y cyd-torriad.

3 Canys yr enwaediad ydym ni y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr yspryd, ac yn gorfole­ddu yn Ghrist Iesu, ac nid yn ym­ddiried yn y cnawd.

4 Ac er bôd gennif achos i ym­ddiried, ie yn y cnawd: os yw neb arall yn tybied y gall ymddiri­ed yn y cnawd, myfi yn fwy:

5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Beniamin, yn Hebraewr o'r Hebræaid, yn ôl y Ddeddf yn Pha­risæad:

6 Yn ôl zêl, yn erlyd yr Eglwys: yn ôl y cyfiawnder sydd yn y Ddeddf, yn ddiargyoedd.

7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny y gyfrifais i yn golled er mwyn Christ.

8 Ie yn ddiammeu yr wyf he­fyd yn cyfrif pôb peth yn golled, o [Page] o herwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Christ Iesu fy Ar­glwydd: er mwyn yr hwn i'm colledwyd ym mhôb peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr ennill wyf Grist.

9 Ac i'm caer ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Grist, sef y cy­fiawnder sydd o Dduw trwy ffydd.

10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chym­deithas ei ddioddefiadau ef, gan fôd wedi fy nghyd-ffurfio â'i far­wolaeth ef:

11 Os mewn un môdd y gallwn gyrrhaeddyd adgyfodiad y mei­rw;

12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eusys, neu fôd eusys wedi fy mherffeithio: eithr dilyn yr wyf fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.

13 Y brodyr, nid wyfi yn bw­rw ddarfod i mi gael gafael; ond un peth, gan anghofio y pethau sy o'r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o'r tu blaen,

14 Yr ydwyf yn cyrchu at y nôd, am gamp uchel alwedigaeth Duw yn Ghrist Iesu.

15 Cynnifer gan hynny ac y­dym berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synnied dim yn amge­nach, hyn hefyd a ddatcuddia Duw i chwi.

16 Er hynny y peth y daethom atto cerddwn wrth yr un rheol, syniwn yr un peth.

17 Byddwch ddilynwŷr i mi fro­dyr, ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi.

18 (Canys y mae llawer yn rho­dio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr aw­ron hefyd, tan wylo yn dywe­dyd, mai gelynion croes Christ ydynt:

19 Diwedd y rhai yw destryw; duw y rhai yw eu bol, a'u gogo­niant yn eu cywilydd: y rhai sydd yn synied pethau daiarol.)

20 Canys ein hymarweddiad ni sydd yn nefoedd, o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawd­wr, yr Arglwydd Iesu Grist:

21 Yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorph gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy 'r hwn y dichon efe, ie dda­rostwng pôb peth iddo ei hun.

PEN. IV.

1 Yn ol rhybuddion nailltuol, 4 y mae efe yn myned rhagddo at gy­nghorion cyffredinawl, 10 ac yn dangos pa fôdd y llawenychodd efe wrth eu haelioni hwy tuag atto e, pan oedd yngharchar, nid yn gymmaint am iddynt borthi ei anghenion ef, ac am y grâs Duw oedd ynddynt hwy. 19 Ac felly y mae ef yn diweddu, gan weddio, a'i hannerch hwy.

AM hynny, fy mrodyr anwyl a hoff, fy llawenydd a'm co­ron, felly sefwch yn yr Arglwydd anwylyd.

2 Yr ydwyf yn attolwg i Euodi­as, ac yn attolwg i Syntyche syni­ed yr un peth yn yr Arglwydd:

3 Ac yr ydwyf yn dymuno arnat titheu fy ngwîr gymmar, cymmorth y gwragedd hynny, y [Page] rhai yn yr Efengyl a gyd-lafuria­sant â mi, ynghyd a Chlement he­fyd, a'm cydweithwŷr eraill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd.

4 Llawenhewch yn yr Ar­glwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, llawenhewch.

5 Bydded eich arafwch yn hy­spys i bôb dŷn. Y mae 'r Arglwydd yn agos.

6 Na ofelwch am ddim: eithr ym mhôb peth mewn gweddi ac ymbil, gyd â diolchgarwch gwne­ler eich deisyfiadau chwi yn hy­spys ger bron Duw.

7 A thangneddyf Dduw yr hwn sydd uwch law pôb deall, a geidw eich calonnau a'ch meddy­liau yn Ghrist Iesu.

8 Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wîr, pa be­thau bynnag sydd onest, pa be­thau bynnag sydd gyfiawn, pa be­thau bynnag sydd bûr, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy; od oes un rhinwedd, ac od oes dim clôd; meddyliwch am y pethau hyn:

9 Y rhai a ddyscasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a welsoch ynof fi: y pethau hyn gwnewch, a Duw 'r heddwch a fydd gyd â chwi.

10 Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi am danafi, yr aw­rhon o'r diwedd, adnewyddu: yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisieu amser cyfaddas oedd ar­noch.

11 Nid am fy môd yn dywe­dyd o herwydd eisieu: canys myfi a ddyscais, ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon iddo.

12 Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhôb lle, ac ym mhôb peth, i'm haddyscwyd, i fod yn llawn, ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd, ac i fod mewn prinder.

13 Yr ŵyf yn gallu pôb peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.

14 Er hynny da y gwnaeth­och gyd-gyfrannu â'm gorthrym­der i.

15 A chwithau Philippiaid he­fyd, a wyddoch, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethym i ymmaith o Macedonia, na chyfrannodd un Eglwys â mi, o ran rhoddi a der­byn, ond chwy-chwi yn unic.

16 Oblegid yn Thessalonica he­fyd yr anfonasoch i mi unwaith, ac eilwaith wrth fy anghen­rhaid.

17 Nid o herwydd fy môd i yn ceisio rhôdd, eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.

18 Ond y mae gennif bôb peth, ac y mae gennif helaethrwydd; mi a gyflawnwyd, wedi i mi dder­byn gan Epaphroditus, y pethau a ddaethant oddi wrthych chwi, sef argol peraidd, aberth cymerad­wy, bodlon gan Dduw.

19 A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi, yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yn Ghrist Iesu.

20 Ond i Dduw, a'n Tâd ni, y byddo gogoniant yn oes oesoeddd. Amen.

21 Anherchwch yr holl Sainct yn Ghrist Iesu: y mae y brodyr [Page] sy gyd â mi, yn eich annerch.

22 Y mae y Sainct oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Caesar.

23 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â chwi oll. Amen.

¶At y Philippiaid yr scrifen­nwyd, o Rufein gyd ag Epa­phroditus.

EPISTOL PAUL YR APOSTOL at y COLOSSIAID.

PEN. I.

1 Ar ôl cyfarch iddynt, y mae efe yn diolch i Dduw am eu ffydd hwy; 7 ac yn cadarnhau dysceidiaeth Epaphras: 9 ac yn gweddio ym­hellach ar iddynt gynnyddu mewn grâs: 14 yn portreiadu y gwir Grist, 21 ac yn eu hanog hwy i dderbyn Iesu Grist, ac yn canmol ei weinidogaeth ei hun.

PAUL Apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thi­motheus ein brawd,

2 At y Sainct a'r ffydd­lon frodyr yn Ghrist, y rhai sydd yn Colossa: grâs i chwi a thang­neddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thâd ein Arglwydd Iesu Grist, gan weddio trosoch chwi yn wa­stadol.

4 Er pan glywsom am eich ffydd yn Ghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tu ac at yr holl Sainct.

5 Er mwyn y gobaith a rodd­wyd i gadw i chwi yn y nefo­edd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yngair gwirionedd yr Efe­ngyl,

6 Yr hon sydd wedi dyfod attoch chwi, megis ac y mae yn yr holl fŷd: ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ac yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch râs Duw mewn gwirionedd.

7 Megis ac y dyscasoch gan E­paphras ein hanwyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffydd­lon weinidog i Grist:

8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ys­pryd.

9 O herwydd hyn, ninnau he­fyd, er y dydd y clywsom, nid y­dym yn peidio â gweddio trosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwy­bodaeth ei ewyllys ef, ym mhôb doethineb a deall ysprydol:

10 Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gw­eithred dda, a chynnyddu yng­wybodaeth am Dduw:

11 Wedi eich nerthu a phob nerth, yn ol ei gadernid gogone­ddus ef, i bob dioddefgarwch a hîr ymaros, gyd â llawenydd:

12 Gan ddiolch i'r Tâd yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni:

13 Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symmudodd i deyrnas ei an­wyl Fâb:

14 Yn yr hwn y mae i ni bry­nedigaeth trwy ei waed ef, sef ma­ddeuant pechodau:

15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob crea­dur:

16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaiar yn weledig, ac yn anweledig: pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau: pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.

17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cyd­sefyll.

18 Ac efe yw pen corph yr Eglwys, efe yr hwn yw'r dech­reuad, y cyntaf-anedig oddiwrth y meirw, fel y byddei efe yn blae­nori ym mhob peth.

19 Oblegid rhyngodd bodd i'r [...]id drigo o bob cyflawnder ynddo ef:

20 Ac (wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef) trwyddo ef gymmodi pob peth ag ef ei hun, trwyddo ef meddaf, pa [...]n bynnag ai pethau ar y ddaiar, ai pethau yn y nefoedd.

21 A chwithau y rhai oeddych [...]dieithraid, a gelynion mewn me­ddwl, trwy weithredoedd drwg, [...]r awron hefyd a gymmododd efe.

22 Yngorph ei gnawd ef, trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi [...]n sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn [...]diargyoedd ger ei fron ef.

23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch siccr­hau, ac heb eich symmud oddi wrth obaith yr Efengyl, yr hon a glywsoch ac a bregethwyd ym mysc pôb creadur a'r sydd tan y nef: i'r hon i'm gwnaethpwyd i Paul yn wenidog:

24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau trosoch, ac yn cyflawni yr hyn sydd yn ol o gystuddiau Christ yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw 'r Eglwys:

25 I'r hon i'm gwnaethpwyd i yn wenidog, yn ol gorchwyli­aeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tu ac attoch chwi, i gyflawni gair Duw:

26 Sef y dirgelwch oedd gu­ddiedig er oesoedd, ac er cenhed­laethau, ond yr awrhon, a eglur­wyd iw Sainct ef:

27 I'r rhai yr ewyllysiodd Duw hyspysu beth yw golud gogoni­ant y dirgelwch hyn, ymmhlith y Cenhedloedd: yr hwn yw Christ ynoch chwi, gobaith y go­goniant:

28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dŷn, a dyscu pob dŷn, ym mhob doe­thineb, fel y cyflwynom bob dŷn yn berffaith yn Ghrist Iesu.

29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ol ei weithrediad ef, yr hon sydd yn gweithio ynofi yn nerthol.

PEN. II.

1 Y mae efe etto yn eu hannog hwy i fôd yn ddianwadal yn-Grist, 8 ac i ochelyd Phylosophy­ddiaeth, a thraddodiadau ofer: 18 ac addoli Angylion, 20 a Ce­remoniau [Page] y gyfraith, y rhai sy we­di terfynu yn Ghrist.

CAnys mi a ewyllysiwn i chwi ŵybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynnifer ac ni welsant fy wyneb i yn y cnawd:

2 Fel y cyssurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgyssylltu mewn cariad, ac i bôb golud siccrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tâd, a Christ:

3 Yn yr hwn y mae holl drys­sorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.

4 A hyn yr ydwyf yn ei ddy­wedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.

5 Canys er fy môd i yn absen­nol yn y cnawd, er hynny yr yd­wyf gyd â chwi yn yr yspryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yn Ghrist.

6 Megis gan hynny y derbyni­asoch Ghrist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo:

7 Wedi eich gwreiddio, a'ch adeiladu ynddo ef a'ch cadarnhau yn y ffydd, megis i'ch dyscwyd, gan gynnyddu ynddi mewn di­olchgarwch.

8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi, a gwâg dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl gwyddorion y bŷd, ac nid yn ôl Christ.

9 Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn pres­wylio yn gorphorol.

10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pôb tywysogaeth ac awdur­dod:

11 Yn yr hwn hefyd i'ch en­waedwyd, ag Enwaedlad nid o waith llaw, trwy ddiosc corph pechodau y cnawd, yn Enwaediad Christ;

12 Wedi eich cyd-gladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd i'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfodes ef o feirw.

13 A chwithau, pan oeddych yn feirw mewn camweddau, a dien­waediad eich cnawd, a gydfywhâ­odd efe gyd ag ef, gan faddeu i chwi yr holl gamweddau,

14 Gan ddileu yscrifen law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yngwrth­wyneb i ni, ac a'i cymmerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes:

15 Gan yspeilio y tywysogae­thau, a'r awdurdodau, efe a'u har­ddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newydd-loer, neu Sabbathau:

17 Y rhai ydynt gyscod pe­thau i ddyfod: ond y corph sydd o Grist.

18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad Angelion, gan ruthro i bethau ni's gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun:

19 Ac heb gyfattal y pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, trwy 'r cymmalau a'r cyssylltiadau, yn derbyn llyniaeth, ac wedi ei gyd­gyssylltu, yn cynnyddu gan gyn­nydd Duw.

20 Am hynny os ydych wedi meirw gyd â Christ oddi wrth wyddorion y bŷd, pa ham yr y­dych megis pettych yn byw yn y bŷd, yn ymroi i ordeiniadau?

21 Na chyffwrdd, ac na arch­waetha, ac na theimla,

22 Y rhai ydynt oll yn llygredi­gaeth wrth eu harfer, yn ôl gor­chymynnion ac athrawiaethau dynion.

23 Yr hyn bethau sydd gan­ddynt rîth doethineb mewn e­wyllys-grefydd, a gostyngeidd­rwydd, a bod heb arbed y corph, nid mewn bri, i ddigoni y cnawd.

PEN. III.

1 Y mae efe yn dangos pa le y dy­lem ni geisio Christ. 5 Ac yn ein hannog i'n marwolaethu ein hu­nain, 10 i ddiosc yr hêu ddyn, ac i wisco Christ am danom, 12 yn ein cynghori ni i gariad perffaith, a gostyngeiddrwydd, ac amryw rinweddau eraill.

AM hynny os cyd-gyfodasoch gyd a Christ, ceisiwch y pe­thau sydd uchod: lle mae Christ yn eistedd ar ddeheu-law Duw.

2 Rhoddwch eich serch ar be­thau sydd uchod, nid ar bethau sy ar y ddaiar.

3 Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyd â Christ, yn Nuw.

4 Pan ymddangoso Christ, ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddan­goswch chwithau gyd ag ef mewn gogoniant.

5 Marwhewch gan hynny eich aelodau y rhai sy ar y ddaiar, go­dineb, aflendid, gwŷn, dryg­chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulyn-addoliaeth:

6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod.

7 Yn y rhai hefyd y rhodia­soch chwithau gynt, pan oeddych yn byw ynddynt.

8 Ond yr awrhon rhoddwch chwithau ymmaith yr holl be­thau hyn, digter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch ge­nau.

9 Na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosc yr hên ddŷn, ynghyd a'i weithredoedd:

10 A gwisco 'r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwy­bodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creawdd ef.

11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na di-en­waediad, Barbariad na Scythiad, caeth, na rhydd: ond Christ sydd bôb peth, ac ym mhôb peth.

12 Am hynny megis etholedigi­on Duw, sanctaidd ac anwyl, gwis­cwch amdanoch ymyscaroedd trugareddau, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros:

13 Gan gyd-ddwyn â'i gilydd, a maddeu iw gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ac y maddeuodd Christ i chwi, felly gwnewch chwithau.

14 Ac am ben hyn oll, gwis­chwch gariad, yr hwn yw rhwy­myn perffeithrwydd.

15 A llywodraethed tangne­ddyf Dduw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd i'ch galwyd yn un corph: a byddwch ddiolchgar.

16 Preswylied gair Crist ynoch [Page] yn helaeth, ym mhob doethineb: gan ddyscu, a rhybuddio bawb ei gilydd, mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysprydol, gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd.

17 A pha beth bynnag a wne­loch, ar air neu ar weithred, gw­newch bôb peth yn enw 'r Ar­glwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tâd trwyddo ef.

18 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.

19 Y gwŷr, cerwch eich gwra­gedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

20 Y plant, ufyddhewch i'ch rhieni, ym mhôb peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Ar­glwydd yn dda.

21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

22 Y gweision, ufyddhewch ym mhôb peth i'ch meistred yn ôl y cnawd, nid â llygad-wasanaeth, fel bodlon-wŷr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw.

23 A pha beth bynnag a wne­loch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:

24 Gan wybod mai gan yr Ar­glwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Ar­glwydd Grist yr ydych yn ei wa­sanaethu.

25 Ond yr hwn sydd yn gw­neuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wy­neb.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn eu hanog hwy i fôd yn wresog mewn gweddi, 5 i ro­dio yn ddoeth tu ac at y rhai ni ddaethant etto i wir wybodaeth am Grist:10 Ac yn eu hannerch hwy, ac yn ewyllysio iddynt bôb rhyw lwyddiant.

Y Meistred, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfi­awn, ac uniawn, gan ŵybod fôd i chwithau feistr yn y nefoedd.

2 Parhewch mewn gweddi, gan wilied ynddi gyd â diolch­garwch.

3 Gan weddio hefyd trosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dir­gelwch Christ, am yr hwn yr yd­wyf hefyd mewn rhwymau:

4 Fel yr eglurhawyf ef, me­gis y mae yn rhaid i mi ei drae­thu,

5 Rhodiwch mewn doethi­neb tu ac at y rhai sy allan, gan brynu 'r amser,

6 Bydded eich ymadrodd bôb amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi atteb i bôb dŷn.

7 Fy holl helynt i a fynega Ty­chicus i chwi, y brawd anwyl, a'r gwenidog ffyddlon, a'r cydwas yn yr Arglwydd:

8 Yr hwn a ddanfonais attoch er mwyn hyn, fel y gwybyddei eich helynt chwi, ac y diddanei eich calonnau chwi:

9 Gyd ag Onesimus y ffyddlon a'r anwyl frawd, yr hwn sydd o honoch chwi: hwy a yspysant i chwi bôb peth a wneir ymma.

10 Y mae Aristarchus fy nghyd­garcharor yn eich annerch, a Marcus nai Barnabas fâb ei [Page] chwaer, (am yr hwn y derbynia­soch orchymynnion: os daw efe attoch, derbyniwch ef:)

11 A Iesus yr hwn a elwir Iu­stus, y rhai ydynt o'r Enwaedi­ad: y rhai, hyn yn unic yw fy nghydweith-wŷr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gyssur i mi.

12 Y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwâs Christ, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol trosoch mewn gweddi­au, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn, ynghwbl o ewyllys Duw.

13 Canys yr ydwyf yn dŷst i­ddo, fôd ganddo zêl mawr tro­soch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.

14 Y mae Luc y physygwr an­wyl, a Demas yn eich annerch.

15 Anherchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymphas, a'r Eg­lwys sydd yn ei dŷ ef.

16 Ac wedi darllein yr Epistol hwn gyd â chwi, perwch ei ddar­llen hefyd yn Eglwys y Laodice­aid: a darllen o honoch chwithau yr un o Laodicea.

17 A dywedwch wrth Archip­pus, edrych ar y wenidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi:

18 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Grâs fyddo gyd â chwi. Amen.

¶At y Colossiaid yr scrifen­nwyd o Rufein gyd â Tychi­cus ac Onesimus.

EPISTOL CYNTAF PAUL YR Apostol at y THESSALONIAID.

PEN. I.

1 Paul yn dwyn ar ddeall i'r Thessa­loniaid nid yn unic mor feddylgar oedd efe am danynt hwy bôb am­ser, mewn diolchgarwch a gwe­ddi: 5 Eithr hefyd gystal yr oedd ef yn tybied am wirion [...]dd a phur­deb eu ssydd hwynt, a'i dychweli­ad at Duw.

PAUL a Siluanus a Thi­motheus at Eglwys y Thessaloniaid, yn Nuw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist: grâs i chwi a thangneddyf, oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Ar­glwydd Iesu Grist.

2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol trosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau:

3 Gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur eich cari­ad, ac ymaros eich gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron Duw a'n Tâd:

4 Gan wybod, frodyr anwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.

5 Oblegid ni bu ein Efengyl ni tu ac attoch mewn gair yn unic, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Yspryd glân, ac mewn siccrwydd mawr, megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich [Page] plith, er eich mwyn chwi,

6 A chwi a aethoch yn ddilyn­wŷr i ni, ac i'r Arglwydd, wedi derbyn y gair mewn gor­thrymder mawr, gyd â llawenydd yr Yspryd glân.

7 Hyd onid aethoch yn siam­plau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.

8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unic ym Macedonia ac yn A­chaia, ond ym mhôb man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw, a aeth ar lêd, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.

9 Canys y maent hwy yn my­negi am danom ni, pa ryw ddy­fodiad i mewn a gawsom ni at­toch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eulynnod, i wasanaethu 'r bywiol a'r gwir Dduw:

10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, sef Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digo­faint sydd ar ddyfod.

PEN II.

1 Pa fodd y daeth, ac y pregeth­wyd yr Efengyl i'r Thessaloniaid, a pha fodd y derbyniasant hwy­thau hi. 18 Yr achos pa ham y bu S. Paul cyhyd yn absennol o­ddi wrthynt hwy, a pha ham yr ydoedd efe mor chwannoc iw gwe­led hwynt.

CAnys chwi eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfo­diad ni i mewn attoch, nad ofer fu:

2 Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael ammharch, fel y gwyddoch chwi, yn Philippi, ni [...] fuom hŷ yn ein Duw, i lefaru wr­thych chwi Efengyl Duw trwy fawr ymdrech.

3 Canys ein cyngor ni nid oell o hudoliaeth, nac o aflendid, nac mewn twyll.

4 Eithr megis i'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiriedl ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru: nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.

5 Oblegid ni buom ni un amser mewn ymadrodd gweniaithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod: Duw yn dyst:

6 Nac yn ceisio moliant gan ddy­nion na chennych chwi, na chan eraill: lle y gallasem bwyso arnoch fel Apostolion Christ.

7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysc chwi, megis mammaeth yn maethu ei phlant.

8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu a chwi, nid yn unic Efengyl Dduw, ond ein heneidiau ein hunain he­fyd, am eich bôd yn anwyl gen­nym.

9 Canys cof yw gennych fro­dyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nôs a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a bregethasom i chwi Efengyl Dduw.

10 Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gy­fiawn, a diargyoedd yr ymddyga­som yn eich mysc chwi, y rhai ydych yn credu.

11 Megis y gwyddoch, y modd y buom yn eich cynghori, ac yn [Page] eich cyssuro bôb un o honoch, fel tâd ei blant ei hun:

12 Ac yn ymbil ar rodio o ho­noch yn deilwng i Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi iw deyrnas a'i ogoniant.

13 Oblegit hyn yr ydym nin­nau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dder­byn ef nid fel gair dŷn, eithr (fel y mae yn wîr) yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol­weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.

14 Canys chwy-chwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilyn-wŷr i Eglwysi Duw, y rhai yn Judæa sydd yn Ghrist Iesu; oblegid chwi­thau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon:

15 Y rhai a laddasant yr Ar­glwydd Iesu, a'i prophwydi eu hunain, ac a'n herlidiasant nin­neu ymmaith; ac ydynt heb ryn­gu bodd Duw, ac yn erbyn pôb dŷn:

16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr ia­cheid hwy, i gyflawni eu pecho­dau hwynt yn wastadol: canys di­gofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.

17 A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn ymddifaid am da­noch dros ennyd awr, yngolwg, nid ynghalon; a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr.

18 Am hynny 'r ewyllysiasom ddyfod attoch, (myfi Paul) yn ddiau un-waith a dwy-waith he­fyd, eithr Satan a'n lluddiodd ni.

19 Canys beth yw ein gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwy chwi, ger bron ein Harglwydd Iesu Grist, yn ei ddyfodiad ef?

20 Canys chwy-chwi yw ein gogoniant a'n llawenydd ni.

PEN. III.

1 S. Paul yn tystiolaethu ei fawr ga­riad tuac at y Thessaloniaid, trwy anfon Timotheus attynt hwy, iw cadarnhau, ac iw diddanu: trwy lawenychu yn eu gweithredoedd da hwy: 10 a thrwy weddio tro­stynt, a dymuno cael dyfod yn ddi­ogel attynt.

AM hynny gan na allem ym­mattal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadel ni ein hunain yn Athen.

2 Ac a ddanfonasom Timothe­us ein brawd, a gwenidog Duw, a'n cyd-weithwr yn Efengyl Grist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch di­ddanu ynghylch eich ffydd.

3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwy-chwi eich hunain a wyddoch, mai i hyn i'n gosodwyd ni.

4 Canys yn wir pan oeddym gyd â chwi, ni a rag-ddywedasom i chwi y gorthrymmid ni: megis y bu, ac y gwyddoch chwi.

5 O herwydd hyn, minneu heb allu ymattal yn hwy, a ddanfo­nais i gael gwŷbod eich ffydd chwi: rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein lla­fur ni yn ofer.

6 Eithr yr awron wedi dyfod Timotheus attom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am [Page] eich ffydd chwi a'ch cariad, a bôd gennych goffa da am danom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninneu am eich gweled chwithau:

7 Am hynny y cawsom gyssur frodyr, am danoch chwi, yn ein holl orthrymder a'n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi:

8 Oblegid yr awron byw y­dym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.

9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei adtalu i Dduw am danoch chwi, am yr holl lawenydd, â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi, ger bron ein Duw ni?

10 Gan weddio mwy nâ mwy, nôs a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygi­on eich ffydd chwi.

11 A Duw ei hun, a'n Tâd ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfar­wyddo ein ffordd ni attoch chwi.

12 A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhôb cari­ad iw gilydd ac i bawb, megis ac yr ydym ninnau i chwi.

13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyoedd mewn san­cteiddrwydd, ger bron Duw a'n Tâd, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist gyd â'i holl Sainct.

PEN IV.

1 Y mae efe yn eu hannog hwynt i fyned rhagddynt mewn pôb mâth ar dduwioldeb, 6 i fyw yn san­ctaidd ac yn gyfiawn, 9 i garu ei gilydd, 11 a thrwy lonyddwch i wneuthur y pethau a berthyn i­ddynt eu hunain: 13 ac yn ddi­weddaf i dristâu yn gymhedrol tros y meirw. 17 A chydâ 'r cyn­gor diwaethaf hwn y mae of yn cyssylltu dosparth byrr o'r Adgyfo­diad, ac o ail-dyfodiad Christ i'r farn.

YM mhellach gan hynny, fro­dyr, yr ydym yn attolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gen­nym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynny­ddu fwy fwy.

2 Canys chwi a wyddoch pa orchymynnion a roddasom i chwi trwy 'r Arglwydd Iesu.

3 Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ym­gadw o honoch rhag godineb:

4 Ar fedru o bôb un o honoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd, a pharch.

5 Nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw.

6 Na byddo i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialudd yw 'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dy­wedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.

7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.

8 Am hynny, y neb sydd yn dirmygu, nid dŷn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Yspryd glân ynom ni.

9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi scrifennu o honof at­toch: canys yr ydych chwi, eich hunain wedi eich dyscu gan Dduw i garu ei gilydd.

10 Oblegid yr ydych yn gw­neuthur hyn i bawb o'r brodyr, y rhai sy trwy holl Macedonia: [Page] ond yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, gynnyddu o honoch fwy fwy:

11 A rhoddi o honoch eich brŷd ar fôd yn llonydd, a gwneu­thur eich gorchwilion eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hu­nain, (megis y gorchymynnasom i chwi:)

12 Fel y rhodioch yn weddaidd tu ac at y rhai sy oddi allan, ac na byddo arnoch eisieu dim.

13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fôd heb wybod am y rhai a hunasant, na thrislaoch, megis eraill, y rhai nid oes ganddynt o­baith.

14 Canys os ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi, felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gyd ag ef.

15 Canys hyn yr ydym yn el ddywedyd wrthych yngair yr Ar­glwydd, na bydd i ni y rhai byw, y rhai a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y rhai a hu­nasant.

16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddescyn o'r nef gyd â bloedd, â llef yr Arch-angel, ac ag udcorn Duw: a'r meirw yn Ghrist a gyfo­dant yn gyntaf:

17 Yna ninnau y rhai byw, y thai adawyd, a gippir i fynu gyd â hwynt yn y cymmylau, i gyfar­fod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyd â'r Arglwydd.

18 Am hynny diddenwch ei gilydd â'r ymadroddion hyn.

PEN. V.

1 Y mae efe yn myned rhagddo, ac yn dangos (fel o'r blaen) ddull dyfodiad Christ i'r faru, 16 ac yn rhoddi amryw orchymynnion, 23 ac felly yn diweddu ei Epistol.

EIthr am yr amserau a'r pridiau, frodyr, nid rhaid i chwi scri­fennu o honof attoch.

2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hyspys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd, fel llidr yn y nôs.

3 Canys pan ddywedant, Tang­neddyf, a diogelwch; yna y mae dinistr disymmwth yn dyfod ar eu gwartha, megis gwewyr escor ar un a fo beichiog; ac ni ddiang­ant hwy ddim.

4 Ond chwy-chwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y dydd hwnnw chwi megis lleidr.

5 Chwy-chwi oll plant y go­leuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nôs, nac o'r ty­wyllwch.

6 Am hynny na chysewn, fel rhai eraill, eithr gwiliwn, a by­ddwn sobr.

7 Canys y rhai a gyscant, y nôs y cyscant: a'r rhai a feddwant, y nôs y meddwant.

8 Eithr nyni, gan ein bôd o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwi­sco â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iechydwriaeth yn lle helm.

9 Canys nid appwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i ga­ffael iechydwriaeth trwy ein Har­glwydd Iesu Ghrist.

10 Yr hwn a fu farw trosom, fel pa un bynnag a wnelom a'i gwi­lied, ai cyscu, y byddom fyw gyd ag ef.

11 O herwydd pa ham cyng­horwch [Page] ei gilydd, ac adeiledwch bôb un ei gilydd, megis ac yr y­dych yn gwneuthur.

12 Ac yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy yn llafurio yn eich mysc, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Ar­glwydd, ac yn eich rhybuddio:

13 A gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith: byddwch dangneddefus yn eich plith eich hunain.

14 Ond yr ydym yn deisyf ar­noch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tu ac attoch ei gilydd, a thu ac at bawb.

16 Byddwch lawen yn wastadol.

17 Gweddiwch yn ddibaid.

18 Ym mhôb dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yn-Ghrist Iesu tu ac attoch chwi.

19 Na ddiffoddwch yr yspryd.

20 Na ddirmygwch brophwy­doliaethu.

21 Profwch bôb peth; deli­wch yr hyn sy dda.

22 Ymged wch rhag pob rhith drygioni.

23 A gwir Dduw y tangneddyf a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich yspryd oll, ach e­naid, a'ch corph, yn ddiargyoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist.

24 Efyddlon yw 'r hwn a'ch gal­wodd, yr hwn hefyd a'i gwna.

25 O frodyr, gweddiwch dro­som.

26 Anherchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol.

27 Yr ydwyf yn eich tynghe­du yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythr hwn i'r holl frodyr san­ctaidd.

28 Grâs ein Harglwydd Iesu Christ fyddo gyd â chwi. Amen.

¶Y cyntaf at y Thessaloniaid a scrifennwyd o Athen.

AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL at y THESSALONIAID.

PEN I.

1 Y mae S. Paul yn yspysu iddynt ddaied yr oedd efe yn meddwl am eu ffydd, a'i cariad, a'i hamynedd hwynt: 11 a chydâ hynny yn gosod llawer o resymmau ar lawr, iw cysuro hwy mewn erlid; a'r pennaf o'r rhai hyn a gymmerir oddiwrth gyfiawn farn Duw.

PAUL, a Siluanus, a Thimo­theus, at Eglwys y Thessalo­niaid, yn Nuw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist:

2 Grâs i chwi, a thangneddyfo­ddi wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3 Diolch a ddylem ni i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bôd eich ffydd chwi yn mawr gynnyddu, a cha­riad pôb un o honoch oll tu ac at ei gilydd yn chwanegu:

4 Hyd onid ydym ni ein hu­nain yn gorfoleddu ynoch chwi yn Eglwysi Duw, o herwydd eich [Page] amynedd chwi a'ch ffydd, yn eich oll erlidiau, a'r gorthrym­derau yr ydych yn eu goddef.

5 Yr hyn sydd argoel goleu, o gyfiawn farn Duw, fel i'ch cyfri­fer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef:

6 Canys cyfiawn yw ger bron Duw, dalu cystudd i'r rhai sy yn eich cystuddio chwi:

7 Ac i chwithau y rhai a gystu­ddir, esmwythdra gyd â ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyd â'i angelion nerthol,

8 A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, [...]c nid ydynt yn ufyddhau i E­fengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

9 Y rhai a ddioddefant yn go­spedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi ger bron yr Arglwydd, ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef:

10 Pan ddêl efe iw ogoneddu yn ei Sainct, ac i fôd yn rhyfe­ddol yn y rhai oll sy'n credu (o [...]erwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysc chwi gael ei chredu) yn y [...]ydd hwnnw.

11 Am ba achos yr ydym he­ [...]yd yn gweddio yn wastadol tro­ [...]och, ar fôd i'n Duw ni eich cy­ [...]rif chwi yn deilwng o'r alwedi­gaeth hon, a chyflawni holl fod­ [...]onrwydd ei ddaioni, a gwaith [...]ydd, yn nerthol:

12 Fel y gogonedder Enw ein [...]arglwydd Iesu Grist ynoch [...]hwi, a chwithau ynddo yntef, [...]n ôl grâs ein Duw ni a'r Ar­ [...]lwydd Iesu Grist.

PEN. II.

[...] Mae efe yn ewyllysio iddynt bar­hau yn ddisigl yn y gwirionedd a dderbyniasant, 3 a c yn dangos y bydd ymadawiad oddiwrth y ffydd, 9 ac y datcuddir Anghrist, cyn dyfod dydd yr Arglwydd: 15 ac yno yn ail adrodd ei gyngor o'r blaen, ac yn gweddio trostynt hwy.

AC yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Har­glwydd Iesu Grist, an cydgynhu­lliad ninneu atto ef,

2 Na'ch sigler yn fuan oddi­wrth eich meddwl, ac na'ch cyn­hyrfer, na chan Yspryd, na chan air, na chan lythyr megis oddi wrthym ni, fel pe bai ddydd Christ yn gyfagos.

3 Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw y dydd hwnnw hyd oni ddêl yma­dawiad yn gyntaf, a datcuddio dŷn pechod, mâb y golledigaeth,

4 Yr hwn sydd yn gwrthwyne­bu, ac yn ymdderchafu goruwch pôb peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe megis Duw, yn eistedd yn-Nheml Dduw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.

5 Onid côf gennych chwi, pan oeddwn i etto gyd â chwi, ddy­wedyd o honof y pethau hyn I chwi?

6 Ac yr awron chwi a ŵy­ddoch yr hyn sydd yn attal, fel y datcuddier ef yn ei bryd ei hun.

7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eusys: yn unic yr hwn sydd yr awron yn at­tal, a ettyl nes ei dynnu ymmaith.

8 Ac yna y datcuddir yr anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha 'r Ar­glwydd ag yspryd ei enau, ac a ddilea â discleirdeb ei ddyfodiad:

9 Sef yr hwn y mae ei ddyfo­diad [Page] yn ôl gweithrediad Satan gyd â phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,

10 A phôb dichell anghyfiawn­der, yn y rhai colledig: am na dderbyniasant gariad y gwitio­nedd, fel y byddent gadwedig.

11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:

12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghy­fiawnder.

13 Eithr nyni a ddylem ddi­olch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Ar­glwydd, oblegid i Dduw o'r de­chreuad eich ethol chwi i iechyd­wriaeth, trwy sancteiddiad yr Ys­pryd, a ffydd i'r gwirionedd:

14 I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Efengyl ni, i feddian­nu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddys­casoch, pa un bynnag ai trwy y­madrodd, ai trwy ein Epistol ni.

16 A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tâd, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes i ni ddi­ddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy râs,

17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch siccrhâo ym mhob gair, a gwreithred dda.

PEN. III.

1 Y mae efe yn deisyfu eu gwe­ddiau hwy trosto ei hun, 3 yn ty­stiolaethu pa hyder oedd gantho ar­nynt, 5 ac yn gweddio ar Dduw trostynt hwy, 6 ac yn rhoddi am­ryw orchymynnion, yn enwedic i ochelyd seguryd, a chymdeithas rhai drwg, 16 ac yn diweddu trwy weddio, a'i hannerch hwy.

BEllach, frodyr, gweddiwch trosom ni, ar fod i air yr Ar­glwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyd â chwithau:

2 Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a dry­gionus; canys nid oes ffydd gan bawb.

3 Eithr ffyddlon yw 'r Ar­glwydd, yr hwn a'ch siccrhâ chwi, ac a'ch ceidw rhac drwg.

4 Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bôd yn gwneuthur, ac y gwne­wch, y pethau yr ydym yn eu gorchymmyn i chwi.

5 A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist.

6 Ac yr ydym yn gorchymmyn i chwi, frodyr, yn enw ein Har­glwydd Iesu Grist, dynnu o ho­noch ymmaith oddi wrth bob brawd a'r sydd yn rhodio yn a­freolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni.

7 Canys chwi a wyddoch eich hunain, pa fodd y dylech ein di­lyn ni; oblegid ni buom afreol [...] yn eich plith chwi:

8 Ac ni fwyttasom fara neb yn rhâd: ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nôs a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch chwi.

9 Nid o herwydd nad oes gen­nym awdurdod, ond fel i'n rho­ddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.

10 Canys pan oeddym hefyd gyd â chwi, hyn a orchymynna­som [Page] i chwi, os byddai nêb ni fyn­nai weithio, na chai fwytta chwaith.

11 Canys yr ydym yn clywed fôd rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bôd yn rhodresgar.

12 Ond i'r cyfryw gorch ymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyt­ta eu bara eu hunain.

13 A chwithau, frodyr, na dde­ffygiwch yn gwneuthur daioni.

14 Ond od oes neb heb ufydd­hau i'n gair, trwy 'r llythyr ym­ma, yspyswch hwnnw: ac na fy­dded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

15 Er hynny na chymmerwch of megis gelyn, eithr cynghorwch of fel brawd.

16 Ac Arglwydd y tangneddyf ei hun a roddo i chwi dangneddyf yn wastadol, ym mhôb modd. Yr Arglwydd a fyddo gyd â chwi oll.

17 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun: yr hyn sydd arwydd ym mhôb Epistol: fel hyn yr ydwyf yn scrifennu.

18 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist gyd â chwi oll. Amen.

¶Yr ail at y Thessaloniaid a scrifennwyd o Athen.

EPISTOL CYNTAF PAUL yr APO­STOL at TIMOTHEUS.

PENNOD I.

[...] Y mae Paul yn dwyn ar gôf i Timotheus y siars a roddasei efe iddo, wrth fyned i Macedonia. 5 Iawn arfer a diwedd y Gy­fraith. 11 ynghylch galw S. Paul i fod yn Apostol. 20 Am Hymenaeus ac Alexander.

PAUL Apostol Iesu Ghrist yn ôl gorchymmyn Duw ein Iachawdr, a'r Ar­glwydd Iesu Grist, ein gobaith:

2 At Timotheus fy mab naturiol [...]n y ffydd; grâs, trugaredd, a tha­ngneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a Christ Iesu ein Harglwydd,

3 Megis y deisyfiais arnot aros yn Ephesus, pan aethym i Mace­donia, fel y gellit rybyddio rhai na ddyscont ddim amgen:

4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorphen, y rhai sy'n peri cwesliwnau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly.

5 Eithr diwedd y gorchymmyn yw cariad o galon bur, a chydwy­bod dda, a ffydd ddiragrith.

6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant hei­bio at ofer siarad:

7 Gan ewyllysio bôd yn athra­won o'r Ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu ddywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru.

8 Eithr nyni a ŵyddom mai da yw 'r Gyfraith, os arfer dŷn hi yn gyfreithlon:

9 Gan ŵybod hyn, nad i'r cy­fiawn y rhoddwyd y Gyfraith, eithr i'r rhai digyfraith, ac anu­fydd, i'r rhai annuwiol, a phe­chaduriaid, i'r rhai disanctaidd a halogedig, i dâd-leiddiaid, a mam-leiddiaid, i leiddiaid dynion,

10 I buttein-wŷr, i wrryw­gydwŷr, i ladron dynion, i gel­wydd-wŷr, i anudon-wŷr: ac os oes dim arall yn wrth-wyneb i athrawiaeth iachus:

11 Yn ôl Efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.

12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, sef Christ Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngo­lod yn y weinidogaeth:

13 Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais druga­redd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth:

14 A grâs ein Harglwydd ni a dra-amlhâodd gyd â ffydd a cha­riad, yr hwn sydd yn Grist Iesu.

15 Gwîr yw'r gair, ac yn hae­ddu pôb derbyniad, ddyfod Christ Iesu i'r bŷd i gadw pechaduriaid, o ba rai pennaf ydwyfi.

16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosei Iesu Grist ynofi yn gyntaf, bôb hir­oddef, er siampl i'r rhai a gre­dant rhag-llaw ynddo ef, i fywyd tragwyddol.

17 Ac i'r brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i'r Duw unic ddoeth, y byddo anrhydedd, a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

18 Y gorchymmyn hwn yr yd­wyf yn ei roddi i ti, fy mâb Ti­motheus, yn ôl y prophwydoli­aethau a gerddasant o'r blaen am­danat, ar filwrio o honot ynddynt filwriaeth dda:

19 Gan fôd gennit ffydd, a chyd­wybod dda, yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant long ddey­lliad am y ffydd.

20 O ba rai y mae Hymenaeus ac Alexander: y rhai a roddais i Satan, fel y dyscent na chablent.

PEN. II.

1 Bod yn iawn gweddio a diolch tros bob dyn; 9 pa fodd y dylei gwragedd ymdrwsio. 12 Nad y­dys yn canhiadu iddynt na dyscu na bod yn ben: 15 y byddant hwy gadwedig, er bod ynddynt arwydd o ddigofaint Duw, wrth ddwyn plant i'r byd, os hwy a arhosant yn y ffydd.

CYnghori yr ydwyf am hynny ym mlaen pôb peth fôd ym­biliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bôb dôn:

2 Dros frenhinoedd, a phawb sy mewn goruchafiaeth: fel y ga­llom ni fyw yn llonydd ac yn he­ddychol, mewn pôb duwioldeb ac honestrwydd.

3 Canys hyn sydd dda a chym­meradwy ger bron Duw ein Ceid­wad,

4 Yr hwn sydd yn ewyllysio bôd pôb dyn yn gadwedig, a'i dy­fod i wybodaeth y gwirionedd.

5 Canys un Duw sydd, ac un cy­fryngŵr hefyd rhwng Duw a dy­nion, y dŷn Christ Iesu.

6 Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, iw dysti­olaethu yn yr amseroedd priawd.

7 I'r hyn i'm gosodwyd i yn bregethwr ac yn Apostol, (y gwît yr wyf yn ei ddywedyd yn Ghrist, [Page] nid wyf yn dywedyd celwydd) yn Athro y Cenhedloedd, mewn ffydd a gwirionedd.

8 Am hynny yr wyf yn ewylly­sio i'r gwŷr weddio ym mhôb man, gan dderchafu dwylo san­ctaidd, heb na digter na dadl.

9 Yr un môdd hefyd, bod i'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyd â gwyl­der a fobrwydd, nid â gwallt ple­thedig, neu aur, neu gemmau, neu ddillad gwerthfawr:

10 Ond (yr hyn sydd yn gwe­ddu i wragedd a fo yn proffessu du­wioldeb) â gweithredoedd da.

11 Dysced gwraig mewn di­stawrwydd gyd â phob gostyngei­ddrwydd.

12 Ond nid wyf yn canbiadu i wraig athrawiaethu, nac ymaw­durdodi ar y gŵr, eithr bôd mewn distawrwydd:

13 Canys Addaf a luniwyd yn gyntaf, yna Efa.

14 Ac nid Addaf a dwyllwyd: eithr y wraig wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.

15 Etto cadwedig fydd, wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteidd­rwydd, ynghyd â sobrwydd.

PEN. III.

1 Cynneddfau Escobion, a Diaco­niaid, a'i gwragedd; 14 A pha ham y mae 'r Apostol yn scrifennu 'r pethau hyn at Timotheus, 15 Ynghylch yr Eglwys, a'r gwirio­nedd a ddyscir ynddi.

GWîr yw 'r gair, Od yw neb yn chwennych swydd Escob, gwaith da y mae yn ei chwen­ [...]ych.

2 Rhaid gan hynny i Escob fôd yn ddi-argyoedd, yn ŵr un wraig, yn wiliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletteugar, yn ath­rawaidd:

3 Nid yn wîn-gar, nid yn da­rawudd, nid yn budr-elwa: eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddi-arian-gar:

4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufydd-dod, ynghyd â phob ho­nestrwydd:

5 (Oblegid oni feidr un lywo­draethu ei dŷ ei hun, pa fôdd y cymmer efe ofal dros Eglwys Dduw?)

6 Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol.

7 Ac y mae yn rhaid iddo ef he­fyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan: rhag iddo syrthio i wradwydd, ac i fagl diafol.

8 Rhaid i'r Diaconiaid yr un ffunyd, fôd yn honest, nid yn ddau-eiriog, nid yn ymroi i wîn lawer, nid yn budr-elwa:

9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

10 A phrofer y rhai hynny he­fyd yn gyntaf, yna gwasanaethant swydd Diaconiaid, os byddant ddiargyoedd.

11 Y mae yn rhaid iw gwragedd yr un môdd fôd yn honest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth.

12 Bydded y Diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant, a'u tai eu hunain, yn dda.

13 Canys y rhai a wasanae­thant swydd Diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hu­nain râdd dda, a hyfder mawr [Page] yn y ffydd sydd yn Ghrist Iesu.

14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu scrifennu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder.

15 Ond os tariaf yn hir fel y gwypech pa fôdd y mae yn rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw Eglwys y Duw byw, co­lofn a sylfacn y gwirionedd.

16 Ac yn ddi-ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb: Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gy­fiawnhawyd yn yr Yspryd, a wel­wyd gan Angelion, a bregethwyd i'r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y bŷd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.

PEN. IV.

1 Y mae efe yn prophwydo ymada­wiad oddi wrth y ffydd, yn yr am­seroedd diwaethaf: 6 Ac er mwyn na byddei i Timotheus ballu yn ei swydd, y mae efe yn rhoi iddo amryw gynghorion ynghylch hyn­ny.

AC y mae 'r Yspryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diweddaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ys­prydion cyfeiliornus, ac i athra­wiaethau cythreuliaid,

2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haiarn poeth.

3 Yn gwahardd Priodi, ac yn erchi ymattal oddiwrth fwydydd, y rhai a greawdd Duw i'w derbyn trwy roddi diolch gan y ffyddlo­niaid, a'r rhai a adwaenant y gwi­rionedd.

4 Oblegid y mae pob peth a gre­odd Duw yn dda, ac nid oes dim iw wrthod, os cymmerir trwy dalu diolch.

5 Canys y mae wedi ei sanctei­ddio gan air Duw, a gweddi.

6 Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi wenidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng­eiriau 'r ffydd, ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.

7 Eithr gâd heibio halogedig, a gwrachiaidd chwedlau: ac ymar­fer dy hun i dduwioldeb.

8 Canys i ychydig y mae ymar­fer corphorol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bôb peth, a chenddi addewid o'r by­wyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.

9 Gwir yw 'r gair, ac yn hae­ddu pôb derbyniad.

10 Canys er mwyn hyn yr y­dym yn poeni, ac yn cael ein gw­radwyddo, o herwydd i ni obei­thio yn y Duw byw, yr hwn yw achubydd pôb dŷn, yn enwedig y ffyddloniaid.

11 Y pethau hyn gorchymmyn a dysc.

12 Na ddiystyred neb dy ieu­engctid ti, eithr bydd yn esampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn yspryd, mewn ffydd, mewn purdeb.

13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllein, wrth gynghori, wrth athrawiaethu.

14 Nac esceulusa y dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy brophwydoliaeth, gyd ag arddo­diad dwylo yr Henuriaeth.

15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros: fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.

16 Gwilia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth: aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a'th ged­wi [Page] dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat.

PEN. V.

1 Rheolau i'w dilyn wrth geryddu. 3 Ynghylch gwragedd gwedd­won, 17 a Henuriaid. 23 Cyn­gor ynghylch iechyd Timotheus. 24 Bod pechodau rhai yn myned o'r blaen i farn, a'r eiddo eraill yn canlyn.

NA cherydda Henaf-gŵr eithr cynghora ef megis tâd, a'r rhai ieuaingc, megis brodyr:

2 Yr hên wragedd, megis mam­mau: y rhai ieuaingc, megis chwi­orydd, gyd â phob purdeb.

3 Anrhydedda 'r gwragedd gwe­ddwon, y rhai fy wîr weddwon.

4 Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu wyrion, dyscant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu 'r pwyth iw rhieni: canys hynny sydd dda, a chymmeradwy ger bron Duw.

5 Eithr yr hon sydd wîr we­ddw ac unic, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ym­biliau, a gweddiau, nôs a dydd.

6 Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bôd yn fyw.

7 A gorchymmyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyoedd.

8 Ac od oes nêb heb ddarbod tros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw nâ'r di-ffŷdd.

9 Na ddewiser yn weddw un a fo tan driugein-mlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr:

10 Yn dda ei gair am weithredo­edd da: os dygodd hi blant i fynu, os bu letteugar, o golchodd hi dra­ed y Sainct, o chynhorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bôb gorchwyl da.

11 Eithr gwrthodd y gweddwon ieuaingc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Christ, priodi y fynnant:

12 Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyn­taf.

13 A hefyd y maent yn dyscu bôd yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ: ac nid yn segur yn u­nic, ond hefyd yn wâg-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pe­thau nid ŷnt gymmwys.

14 Yr ŵyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuaingc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i'r gwrthwynebŵr i ddifenwi.

15 Canys y mae rhai eusus wedi gŵyro ar ôl Satan.

16 Od oes gan ŵr nêu wraig ffyddlon, wragedd gweddwon, cynnorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr Eglwys, fel y gallo hi ddiwallu y gwîr weddwon.

17 Cyfrifer yr Henuriaid sy'n llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dau ddyblyg: yn enwedig y rhai sy yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.

18 Canys y mae yr Scrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ŷch sydd yn dyrnu yr ŷd: Ac, Y mae'r gweithiŵr yn haeddu ei gyflog.

19 Yn erbyn Henuriad na dder­byn achwyn oddieithr tan ddau neu dri o dystion.

20 Y rhai sy'n pechu, cerydda yngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y llaill.

21 Gorchymmyn yr ydwyf ger bron Duw, a'r Arglwydd Iesu [Page] Grist, a'r etholedig Angelion, gadw o honot y pethau hyn heb rag-farn, heb wneuthur dim o gydbartiaeth.

22 Na ddôd ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o be­chodau rhai eraill: cadw dy hun yn bûr.

23 Nac ŷf ddwfr yn hwy: eithr arfer ychydig wîn, er mwyn dy gylla, a'th fynych wendid.

24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhag­flaenu i farn: eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.

25 Yn un ffunyd hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o'r blaen: a'r rhai sy amgenach, ni's gellir eu cuddio.

PEN. VI.

1 Dyled gweision i'w meistred. 3 Am ochelud athrawon newydd. 6 Duwioldeb sydd elw mawr. 10 a chwant arian ydyw gwrei­ddyn pob drwg. 11 Beth a ddylei Timotheus i ochelyd a'i ddilyn: 17 Am ba beth yr oedd iddo rybuddio y cyfoethogion. 20 Am gadw yr athrawiaeth iawn: a gochelud si­aradach ofer.

CYnnifer ac sy wasanaethwŷr tan yr iau, tybiant eu mei­stred eu hun yn deilwng o bôb anrhydedd; fel na chabler Enw Duw, a'i athrawiaeth ef.

2 A'r rhai sy a meistred ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, o herwydd eu bôb yn frodyr: eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bôd yn credu, ac yn anwyl, yn gyfrannogion o'r llesâd. Y pe­thau hyn dysc, a chynghora.

3 Od oes neb yn dyscu yn am­genach, ac heb gyttûno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â'r athrawiaeth sydd ar ôl du­wioldeb,

4 Chwyddo y mae, heb ŵybod dim, eithr ammhwyllo ynghylch cwestiwnau, ac ymryson ynghylch geiriau: o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau yn dyfod,

5 Cyndyn ddadlau dynion lly­gredig eu meddwl, heb fôd y gwi­rionedd ganddynt; yn tybied mai elw yw duwioldeb; cilia oddi wrth y cyfryw.

6 Ond elw mawr yw duwiol­deb gyd â bodlonrwydd.

7 Canys ni ddygasom ni ddim i'r bŷd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.

8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.

9 Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd, a niweidiol, y rhai sy yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.

10 Canys gwreiddyn pôb drwg yw arian-garwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfei­liornasant oddi wrth y ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.

11 Eithr tydi, gŵr Duw, go­chel y pethau hyn: a dilyn gyfi­awnder, duwioldeb, ffydd, cariad, ammynedd, addfwyndra.

12 Ymdrecha hardd-deg ym­drech y ffydd, cymmer afael ar y bywyd tragwyddol, i'r hwn hefyd i'th alwyd, ac y proffessaist broffes dda ger bron llawer o dystion.

13 Yr ydwyf yn gorchymmyn i [Page] ti ger bron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pôb peth, a cher bron Christ Iesu yr hwn tan Pontius Pilat a dystiodd broffess dda:

14 Gadw o honot y gorchym­myn hwn, yn ddifeius, yn ddiar­gyoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist.

15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a'r unic Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi.

16 Yr hwn yn unic sydd gan­ddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto: yr hwn ni's gwelodd un dŷn, ac ni's dichon ei weled: i'r hwn y byddo anrhydedd, a gallu tragywyddol. Amen.

17 Gorchymmyn i'r rhai sy oludog yn y bŷd ymma, na by­ddont uchel-feddwl, ac na obei­thiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bôb peth iw mwynhau:

18 A'r iddynt wneuthur daio­ni, ymgyfoethogi mewn gwei­thredoedd da, fôd yn hawdd gan­ddynt roddi a chyfrannu:

19 Yn tryssori iddynt eu hu­nain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.

20 O Timotheus, cadw yr hyn a roddwydd iw gadw attat, gan droi oddi wrth halogedig ofersain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gam-henwir felly:

21 Yr hon tra yw rhai yn ei phroffessu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Grâs fyddo gyd â thi. Amen.

¶Y cyntaf at Timotheus a scrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prif ddinas Phry­gia Pacatiana.

AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL at TIMOTHEUS.

PEN I

1 Serch Paul tuag at Timotheus: a'r ffydd ddiffuant oedd yn Timothe­us, ac yn ei fam, a'i nain. 6 Ei annog ef i gyffroi rhoddiad Duw oedd ynddo ef: 8 I fod yn ddian­wadal, ac yn ddioddefgar mewn erlid: Ac i barhau yn y wir a­thrawiaeth a ddyscasei ganddo ef.15 Ynghylch Phygelus a Hermo­mogenes: a chlôd Onesiphorus.

PAUL Apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yn Ghrist Iesu.

2 At Timotheus, fy mab anwyl; grâs, trugaredd, a thangneddyf o­ddi wrth Dduw Tâd, a Christ Ie­su ein Harglwydd.

3 Y mae gennif ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanae­thu o'm rhieni â chydwybod bur, mor ddibaid y mae gennif goffa am danat ti, yn fy ngweddiau, nôs a dydd:

4 Gan fawr ewyllysio dy we­led, gan gofio dy ddagrau, fel i'm llanwer o lawenydd:

5 Gan alw i'm côf y ffydd ddi­ffuant sydd ynot ti, yr hon a dri­godd [Page] yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Eunice, a diammeu gennif ei bod ynot titheu hefyd.

6 O herwydd pa achos yr yd­wyfyn dy goffau i ail ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy ar­ddodiad fy nwylo i.

7 Canys ni roddes Duw i ni ys­pryd ofn, onid yspryd nerth, a cha­riad, a phwyll.

8 Am hynny na fid arnat gy­wilydd o dystiolaeth ein Har­glwydd, nac o honof finneu ei garcharor ef: eithr cyd-oddef di gystudd â'r Efengyl, yn ôl nerth Duw:

9 Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd; nid yn ôl ein gwei­thredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a'i râs, yr hwn a roddwyd i ni yn Ghrist Iesu, cyn dechreu 'r bŷd:

10 Eithr a eglurwyd yr aw­ron trwy ymddangosiad ein Ia­chawdr Iesu Grist, yr hwn a ddi­ddymmodd angeu, ac a ddug fy­wyd ac anllygredigaeth i oleuni, trwy'r Efengyl.

11 I'r hon i'm gosodwyd i yn bregethŵr ac yn Apostol, ac yn a­thro y Cenhedloedd.

12 Am ba achos yr ydwyf he­fyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy y credais, ac y mae yn ddiammeu gennif ei fôd ef yn abl i gadw yr hyn a roddais atto erbyn y dydd hwnnw.

13 Bydded gennit ffurf yr y­madroddion iachus, y rhai a gly­waist gennif fi, yn y ffydd, a'r ca­riad sydd yn Ghrist Iesu.

14 Y peth da a rodded iw ga­dw attat, cadw trwy 'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

15 Ti a ŵyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sy yn Asia droi oddi wrthifi: o'r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.

16 Rhodded yr Arglwydd dru­garedd i dŷ Onesiphorus: canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i.

17 Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd.

18 Rhodded yr Arglwydd i­ddo gael trugaredd gan yr Ar­glwydd, yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Ephesus, goreu y gwyddost ti.

PEN. II.

1 Ei annog ef i ddianwadalwch, ac i barhau, ac i wneuthur rha [...] gwenidog ffyddlon yr Arglwydd, gan gyfrannu gair Duw yn iawn, ac attal siaradach ofer. 17 Am Hymenaeus a Philetus. 19 Bod sylfaen yr Arglwydd yn sicr. 22 Y mae yn dyscu iddo beth sydd iw o­chelud ac iw ddilyn, a pha fodd y gweddei i wenidog yr Arglwydd ymddwyn.

TYdi gan hynny, fy mâb, ym­nertha yn y grâs sydd yn Ghrist Iesu:

2 A'r pethau a glywaist gennif trwy lawer o dystion, traddoda y rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymmwys i ddyscu eraill hefyd.

3 Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milŵr da i Iesu Ghrist.

4 Nid yw neb ar sydd yn mil­wrio yn ymrwystro â negeseuau y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn fil-ŵr.

5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gy­freithlon.

6 Y llafur-ŵr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau.

7 Ystyria yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd: a'r Arglwydd a ro­ddo i ti ddeall ym mhôb peth.

8 Cofia gyfodi Iesu Grist o hâd Dafydd, o feirw, yn ôl fy Efen­gyl i:

9 Yn yr hon yr ydwyf yn go­ddef eystudd hyd rwymau, fel drwg-weithred-wr, eithr gair Duw nis rhwymir.

10 Am hynny yr ydwyf yn go­ddef pôb peth, er mwyn yr etho­ledigion, fel y gallent hwythau gael yr iechydwriaeth sydd yn-Ghrist Iesu, gyd â gogoniant tra­gwyddol.

11 Gwîr yw'r gair: canys os buom feirw gyd ag ef, byw fyddwn hefyd gyd ag ef:

12 Os dioddefwn, ni a deyrna­swn gyd ag ef: os gwadwn ef, yn­ [...]eu hefyd a'n gwâd ninnau:

13 Os ŷm ni heb gredu, etto y mae efe yn aros yn ffyddlon: ni's gall efe ei wadu ei hun.

14 Dwg y pethau hyn ar gôf, gan orchymmyn ger bron yr Ar­glwydd na byddo iddynt ymry­son ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddad­ymchwelyd y gwrandawyr.

15 Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-sefl, yn iawn-gyfran­nu gair y gwirionedd,

16 Ond halogedig ofer-sain, gochel: canys eynnyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.

17 A'u hymadrodd hwy a yssa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymenaeus a Philetus.

18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr adgyfodiad eusys: ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai:

19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sêl hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a phôb un sydd yn hen­wi Enw Christ, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.

20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd: a rhai i barch, a rhai i ammarch.

21 Pwy bynnag gan hynny a'i glanhâo ei hun oddi wrth y pe­thau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymmwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bôb gweithred dda.

22 Ond chwantau ieuengctid, ffô oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangneddyf, gyd â'r rhai sy yn galw ar yr Arglwydd o galon bûr.

23 Eithr gochel ynfyd ac an­nyscedig gwestiwnau, gan ŵybod eu bod yn magu ymrysonau.

24 Ac ni ddylei gwâs yr Ar­glwydd ymryson, ond bod yn di­rion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar:

25 Mewn addfwynder yn dys­cu y rhai gwrthwynebus, i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser, edifeirwch i gydnabod y gwirionedd:

26 A bôd iddynt ddyfod i'r [Page] iawn allan o fagl diafol y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.

PEN. III.

1 Y mae yn ei rybuddio ef am am­seroedd blinion: 6 yn dangos pa fath ydyw gelynion y gwirion edd: 10 yn ei osod ei hun yn siampl i­ddo: 16 Ac yn canmol yr Scrythur lân.

GWybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddi­au diweddaf.

2 Canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hunain, yn arian­gar, yn ymffrost-wyr, yn feilchi­on, yn gabl-wŷr, yn anufyddion i rieni, yn anniolchgar, yn annu­wiol,

3 Yn angharedig, yn torri cy­fammod, yn enllibaidd, yn ang­hymhesur, yn anfwyn, yn ddi­ferch i'r rhai da.

4 Yn frâd-wŷr, yn waed-wyllt, yn chwyddedig, yn caru melys­chwant yn fwy nag yn caru Duw:

5 A chanddynt iîth duwiol­deb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a'r rhai hyn gochel di.

6 Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sy yn ymlusco i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwy­thog o bechodau, wedi eu har­wain gan amryw chwantau:

7 Yn dyscu bôb amser, ac heb allu dyfod un amser i ŵybodaeth y gwirionedd.

8 Eithr megis y safodd Iannes a Iambres yn erbyn Moses, felly y mae y rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o fe­ddwl llygredig, yn anghymmerad­wy o ran y ffydd,

9 Eithr nid ânt rhagddynt ym mhellach: canys eu hynfyd­rwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau.

10 Eithr ti a lwyr-adwaenost fy nysceidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hîr-ymaros, cariad, ammynedd:

11 Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; yr erlidiau a ddioddefais; eithr oddi wrthynt oll i'm gwaredodd yr Arglwydd.

12 Ie, a phawb a'r sy yn ewy­llysio byw yn dduwiol yn Ghrist Iesu, a erlidir.

13 Eithr drwg-ddynion a thwyll-wŷr a ânt rhagddynt waeth-waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.

14 Eithr âros di yn y pethau a ddyscaist, ac a ymddiried wyd i ti amdanynt, gan ŵybod gan bwy y dyscaist:

15 Ac i ti er yn fachgen ŵybod yr Scythur lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i ie­chydwriaeth, trwy'r ffydd sydd yn Ghrist Iesu.

16 Yr holl Scrythur sydd we­di ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac sydd fuddiol i athra­wiaethu, i argyoeddi, i gery­ddu, i hyfforddi mewn cyfiawn­der,

17 Fel y byddo dŷn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.

PEN. IV.

1 Y mae yn ei annog ef i fod yn ofalus ac yn ddiwyd i gwplau ei swydd, 6 Yn ei rybuddio nef [...]d [Page] oedd ei farwolaeth ef, 9 yn e­wyllysio iddo ddyfod atto ef ar fyrder: 14 ac yn ei rybuddio ef i ochelud Alexander y gôf: 16 Yn dangos iddo beth a ddigwyddasei iddo wrth ei atteb cyntaf. 19 Ac ar ôl hynny y mae efe yn di­bennu.

YR ydwyfi gan hynny yn gor­chymmyn ger bron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna y by w a'r meirw, yn ei ym­ddangosiad a'i deyrnas:

2 Pregetha 'r gair, bydd daer, mewn amser, allan o amser; ar­gyoedda, cerydda, annog, gydâ phôb hîr-ymaros ac athrawi­aeth.

3 Canys daw yr amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus: eithr yn ôl eu chwantau eu hu­nain, y pentyrrant iddynt eu hu­nain athrawon, gan fôd eu clusti­au yn merwino:

4 Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymmaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.

5 Eithr gwilia di ym mhôb peth, dioddef adfyd: gwna waith Efengylŵr, cyflawna dy weini­dogaeth.

6 Canys myfi yr awron a aber­thir, ac amser fy ymdattodiad i a nesaodd.

7. Mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orphennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd.

8 O hyn allan rhoddwyd co­ron cyfiawnder iw chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y bar­nwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unic i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddan­gosiad ef.

9 Bydd ddyfal i ddyfod attaf yn ebrwydd:

10 Canys Demas a'm gada­wodd, gan garu y byd presennol, ac a aeth ymmaith i Thessalo­nica, Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.

11 Lucas yn unic sydd gyd â mi. Cymmer Marc, a dŵg gyd â thi: canys buddiol yw efe i mi i'r weinidogaeth.

12 Tychicus hefyd a ddanfo­nais i Ephesus.

13 Y cochl a adewais i yn Troas gyd â Charpus pan ddelych dŵg gyd â thi, a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn.

14 Alexander y gôf copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: ta­led yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd.

15 Yr hwn hefyd gochel di­theu: canys efe a safodd yn ddir­fawr yn erbyn ein hymadroddion ni.

16 Yn fy atteb cyntaf ni safodd neb gyd â mi, eithr pawb a'm ga­dawsant: mi a archaf i Dduw, nas cyfrifer iddynt.

17 Eithr yr Arglwydd a safodd gyd â mi, ac a'm nerthodd: fel trwofi y byddei y pregethiad yn llawn hyspys, ac y clywei yr holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.

18 A'r Arglwydd a'm gwared i rhag pôb gweithred ddrwg, ac a'm ceidw iw deyrnas nefol: i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oe­soedd. Amen.

19 Annerch Prisca, ac Aquila, a theulu Onesiphorus.

20 Erastus a arhosodd yn Co­rinth: Ond Trophimus a adewais ym Milctum yn glâf.

21 Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gayaf. Y mae Eubulus yn dy annereh, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll.

22 Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyd â'th yspryd di, Grâs fyddo gyd â chwi. Amen.

¶Yr ail Epistol at Timotheus, yr Escob cyntaf a ddewiswyd ar Eglwys yr Ephesiaid, a scri­fennwyd o Rufain, pan ddyg­pwyd Paul yr ail waith ger bron Cæsar Nero.

EPISTOL PAUL YR APOSTOL at TITUS.

PEN. I.

7 I ba beth y gadawodd Paul Titus yn Creta. 6 Pa gynneddfau a ddylei fod mewn eglwyswyr. 11 Rhaid yw cau safnau y rhai a ddyscant y pethau ni ddylent. 12 A pha fath wyr ydynt.

PAUL gwâs Duw, ac A­postol Iesu Grist yn ôl ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwi­rionedd, yr hon sydd yn ôl duwi­oldeb:

2 I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y di-gelwy­ddog Dduw cyn dechreu 'r bŷd:

3 Eithr mewn amseroedd pri­odawl efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ym­ddiriedwyd i mi, yn ôl gorchy­myn Duw ein Iachawdwr:

4 At Titus fy mâb naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol, Grâs, tru­garedd, a thangneddyf oddi wrth Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Iachawdwr ni.

5 Er mwyn hyn i'th adewais yn Creta, fel yr iawn-drefnit y pe­thau sy yn ôl, ac y gosodit Henu­riaid ym mhôb dinas, megis yr or­deiniais i ti.

6 Os yw neb yn ddi-argyoedd, yn ŵr un wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fôd yn afradlon, neu yn anufydd.

7 Canys rhaid i Escob fôd yn ddiargyoedd, fel gorchwyliwr Duw: nid yn gyndyn, nid yn ddigllon, nid yn wîn-gar, nid yn darawudd, nid yn budr-elwa.

8 Eithr yn lletteugar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymmherus:

9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysc, fel y gallo gyng­hori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyoeddi y rhai sy yn gwrth­ddywedyd.

10 Canys y mae llawer yn anu­fydd, yn ofersiaradus, ac yn dwyll­wŷr meddyliau, yn enwedig, y rhai o'r Enwaediad.

11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau: y rhai sy yn dymchwe­lyd tai cyfan, gan athrawiaethu y pethau ni ddylid, er mwyn bu­dr-elw.

12 Un o honynt hwy eu hu­nain, un o'i prophwydi hwy eu hunain a ddywedodd, Y Cretiaid sydd bôb amser yn gelwyddog, drwg fwyst-filod, boliau gorddi­og:

13 Y dystiolaeth hon sydd wîr: [Page] am ba achos argyoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd:

14 Heb ddal ar chwedlau I­ddewaidd, a gorchymmynnion dynion yn troi oddi wrth y gwi­rionedd.

15 Pur yn ddiau yw pôb peth i'r rhai pur: eithr i'r rhai halo­gedig a'r di-ffydd, nid pur dim, eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a'u cydwybod hwy.

16 Y maent yn proffessu yr adwaenant Dduw, eithr ar wei­thredoedd ei wadu y maent, gan fôd yn ffiaidd, ac yn anufydd, ac at bôb gweithred dda yn anghym­meradwy.

PEN. II.

1 Y mae efe yn hyfforddi Titus yn ei a­thrawiaeth, ac yn ei fuchedd, 9 Rhan gweision, a phôb mâth ar Gristianogion.

EIthr llefara di y pethau a we­ddo i athrawiaeth iachus:

2 Bod o'r henaf-gwŷr yn sobr, yn honest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, ynghariad, mewn am­mynedd:

3 Bod o'r henaf-gwragedd yr un ffunyd mewn ymddygiad, fel y gweddai i sancteiddrwydd, nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i wîn lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

4 Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuaingc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant:

5 Yn sobr, yn bûr, yn gwar­chad gartref, yn dda, yn ddaro­styngedig iw gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.

6 Y gwŷr ieuaingc yr un ffu­nyd, cynghora i fod yn sobr:

7 Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn esampl i weithred­oedd da, a dangos mewn athrawi­aeth, anllygredigaeth, gweddeidd­dra, purdeb,

8 Ymadrodd iachus, yr hwn ni aller beio arno: fel y byddo i'r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg iw ddywedyd am danoch chwi.

9 Cynghora weision i fod yn dda­rostyngedig iw meistred eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym-mhob peth, nid yn gwrth-ddywedyd:

10 Nid yn darn-guddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Dduw ein Iachawdur, ym mhob peth.

11 Canys ymddangosodd grâs Duw, yr hon sydd yn dwyn ie­chydwriaeth i bôb dŷn:

12 Gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y bŷd sydd yr awron:

13 Gan ddisgwil am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Ia­chawdur Iesu Grist:

14 Yr hwn a'i rhoddes ei hun trosom, i'n prynu ni oddiwrth bôb anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.

15 Y pethau hyn llefara, a chynghora, ac argyoedda gyd â phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

PEN III.

1 Y mae Paul yn hyfforddi Titus pa bethau a ddyse, a pha bethau [Page] ni ddysc efe iddynt. 10 Am o­chelud haeretic cyndyn. 12 Y mae yn dangos iddo i ba fan, a pha bryd y deuai atto ef: ac felly y mae yn dibennu.

DWg ar gôf iddynt fôd yn ddarostyngedig i'r tywyso­gaethau, a'r awdurdodau, fôd yn nfydd, fôd yn barod i bob gwei­thred dda:

2 Bod heb gablu neb, yn an­ymladdgar, yn dirion, gan ddang­os pob addfwynder tu ac at bob dŷn.

3 Canys yr oeddym ninneu hefyd gynt yn annoethion, yn anufydd, yn cyfeiliorni, yn gwa­sanaethu chwantau ac amryw fe­lyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casau ei gilydd.

4 Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Achu­bwr tu ac at ddŷn.

5 Nid o weithredoedd cyfi­awnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achu­bodd efe nyni, trwy olchiad yr ad­enedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd glân,

6 Yr hwn a dywalltodd efe ar­nom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Iachawdwr:

7 Fel gwedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, i'n gwneid yn eti­feddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.

8 Gwir yw 'r gair: ae am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fôd yn daer, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flae­nori mewn gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda, a buddiol i ddynion.

9 Eithr gochel gwestiwnau ffôl, ac achau, a chynnhennau, ac ymrysonau ynghylch y Ddeddf: canys anfuddiol ydynt, ac ofer.

10 Gochel y dyn a fyddo He­retic, wedi un ac ail rhybydd:

11 Gan ŵybod fôd y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi, ac yn pe­chu, gan fôd yn ei ddamnio ei hunan.

12 Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddŷfod attaf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aiafu.

13 Hebrwng Zenas y cyfreithi­ŵr, ac Apollos yn ddiwyd, fel na byddo arnynt eisieu dim.

14 A dysced yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth.

15 Y mae yr holl rai sy gyd â mi yn dy annerch. Annerch y rhai sy yn ein caru ni yn y ffydd, Grâs fyddo gyd â chwi oll. A­men.

¶At Titus, yr Escob cyntaf a ddewiswyd ar Eglwys y Cretiaid, yr scrifennwyd o Nicopolis ym Mace­donia.

EPISTOL S. PAUL AT PHILEMON.

PEN. I.

1 Y mae yn wych gantho ef glywed am ffydd a chariad Philemon: 9 Ac yn dymuno arno faddeu iw was Onesimus: 12 Ai gymeryd ef adref yn garedig drachefn.

PAUL carcharor Christ Iesu, a'r brawd Timothe­us, at Philemon ein han­wylyd, a'n cydweithiwr;

2 Ac at Apphia ein hanwylyd, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr Eglwys sydd yn dy dŷ di.

3 Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Ar­glwydd Iesu Ghrist.

4 Yr ŵyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coffa am danat yn wastadol yn fy ngweddiau,

5 Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennit tu ac at yr Ar­glwydd Iesu, a thu ac at yr holl Sainct:

6 Fel y gwneler cyfranniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pôb peth daionus ar sydd ynoch chwi yn Ghrist Iesu.

7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd, a diddanwch yn dy ga­riad ti, herwydd bod ymyscaroedd y Sainct wedi eu llonni trwot ti, frawd.

8 O herwydd pa ham, er bôd gennif hyfdra lawer yn Ghrist, i orchymmyn i ti y peth sydd we­ddus,

9 Etto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn attolwg, er fy môd yn gyfryw un a Phaul yr henaf-gŵr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Ghrist.

10 Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:

11 Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fu­ddiol i ti ac i minneu hefyd.

12 Yr hwn a ddanfonais dra­chefn: a derbyn ditheu ef, yr hwn yw fy ymyscaroedd i.

13 Yr hwn yr oeddwn i yn e­wyllysio ei ddal gyd â mi, fel tro­sot ti y gwasanaethei efe fi yn rhwymau yr Efengyl.

14 Eithr heb dy feddwl di, ni ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddei dy ddaioni di megis o ang­henrhaid, onid o fôdd.

15 Canys yscatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd tros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd:

16 Nid fel gwâs bellach, eithr uwchlaw gwâs, yn frawd anwyl, yn enwedig i mi, eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd, ac yn yr Arglwydd hefyd?

17 Os wyti gan hynny yn fy nghymeryd i yn gydymmaith, derbyn ef fel myfi.

18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddy­led, cyfrif hynny arnafi.

19 Myfi Paul a'i scrifennais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthit dy fôd yn fy [Page] nyled i ym mhellach am danat dy hun hefyd.

20 Ie frawd, gâd i mi dy fwyn­hau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymyscaroedd i yn yr Arglwydd.

21 Gan hyderu ar dy ufydd­dod yr scrifennais attat, gan ŵy­bod y gwnei, ie mwy nag yr ŵyf yn ei ddywedyd.

22 Heb law hyn hefyd, paratoa i mi lettŷ: canys yr ydwyf yn go­beithio trwy eich gweddiau chwi, y rhoddir fi i chwi.

23 Y mae yn dy annerch Epa­phras fy nghŷd-garcharor yn-Ghrist Iesu,

24 Marcus, Aristarchus, De­mas, Lucas, fy nghŷd-weith­wŷr.

25 Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist gyd â'ch yspryd chwi. Amen.

¶At Philemon yr scrifennwyd o Rufain gŷd â'r gwâs One­simus.

EPISTOL PAUL yr APOSTOL at yr HEBRÆAID.

PENNOD. I.

1 Duw yn y dyddiau diweddaf a lefarodd wrthym ni trwy ei Fab ei hun: yr hwn o ran ei berson a'i swydd sydd yn rhagori ar yr An­gelion. 14 Swydd yr angelion.

DUw wedi iddo lefaru la­wer gwaith, a llawer môdd gynt wrth y ta­dau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a le­farodd wrthym ni yn ei Fab,

2 Yr hwn a wnaeth efe yn eti­fedd pôb peth, trwy 'r hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd.

3 Yr hwn ac efe yn ddisclair­deb ei ogoniant ef, ac yn wîr lun ei berson ef, ac yn cynnal pôb peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheu-law y maw­redd, yn y goruwch-leoedd:

4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ'r Angelion, o gym­maint ac yr etifeddodd efe Enw mwy rhagorol nâ hwynt hwy.

5 Canys wrth bwy o'r Ange­lion y dywedodd efe un amser? fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais di. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dâd, ac efe a fydd i mi yn Fâb.

6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y cyntaf-anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac, addoled holl Ange­lion Duw ef.

7 Ac am yr Angelion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneu­thur ei Angelion yn ysprydion, a'i weinidogion yn fflam dân:

8 Ond wrth y Mâb, Dy orsedd­faingc di, o Dduw, sydd yn oes oe­soedd: teyrnwialen uniondeb, yw teyrn-wialen dy deyrnas di.

9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd, am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion.

10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaiar, [Page] a gwaith dy ddwylo di yw y ne­foedd.

11 Hwynt-hwy a ddarfyddant, ond tydi sydd yn parhau: a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant.

12 Ac megis gwisc y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.

13 Ond wrth ba un o'r Ange­lion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed­faingc i'th draed?

14 Onid ysprydion gwasanaeth­gar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iechydwriaeth?

PEN. II.

1 Y dylem ni fôd yn ufydd i Ghrist Iesu, 5 gau fod yn wiw gantho ef ei hun gymmeryd ein naturiaeth ni arno 14 fel yr oedd yn anghen­rhaid.

AM hynny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom, rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli.

2 Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy Angelion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anu­fydd-dod gyfiawn daledigaeth:

3 Pa fôdd y diangwn ni, os esceuluswn iechydwriaeth gym­maint, yr hon wedi dechreu ei thraethu trwy 'r Arglwydd, a siccr­hawyd i ni, gan y rhai a'i clyw­sant ef:

4 A Duw hefyd yn cyd-tysti­olaethu trwy arwyddion a rhy­feddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Yspryd glân, yn ôl ei ewyllys ei hun?

5 Canys nid i'r Angelion y da­rostyngodd efe y byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.

6 Eithr vn mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dŷn, i ti feddwl am dano? neu fâb dŷn i ti i ymweled ag ef?

7 Ti a'i gwnaethost ef ychy­dig îs nâ'r Angelion: â go­goniant ac anrhydedd y coro­naist i ef, ac a'i gosodaist ef ar wei­thredoedd dy ddwylo.

8 Ti a ddarostyngaist bob peth tan ei draed ef. Canys wrth dda­rostwng pob peth iddo, ni ada­wodd efe ddim heb ddarostwng iddo: ond yr awron nid ydym ni etto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.

9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu yr hwn a wnaed ychydig yn îs nâ'r Angelion o her­wydd dioddef marwolaeth: wedi ei goroni â gogoniant ac anrhy­dedd: fel trwy râs Duw y profei efe farwolaeth tros bob dŷn.

10 Canys gweddus oedd iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy 'r hwn y mae pob peth, wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio ty­wysog eu hiechydwriaeth hwy trwy ddioddefiadau.

11 Canys yr hwn sydd yn san­cteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r vn y maent oll: am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr,

12 Gan ddywedyd, Myfi a fy­negaf dy Enw di i'm brodyr, yng­hanol yr Eglwys i'th folaf di.

13 A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thra­chefn, Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.

14 Oblegid hynny, gan fôd y plant yn gyfrannogion o gîg a gwaed, yntef hefyd yr un môdd a fu gyfrannog o'r un pethau: fel trwy farwolaeth y dinistriei efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw diafol:

15 Ac y gwaredei hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt tros eu holl fywyd tan gaethiwed.

16 Canys ni chymmerodd efe naturiaeth Angelion, eithr hâd Abraham a gymmerodd efe.

17 Am ba achos y dylei efe ym mhob peth fôd yn gyffelyb iw frodyr, fel y byddei drugarog, ac Arch-offeiriad ffyddlon mewn pe­thau yn perthyn i Dduw, i wneu­thur cymmod tros bechodau 'r bobl.

18 Canys yn gymmaint a dio­ddef o honaw ef, gan gael ei dem­tio, efe a dichon gynnorthwyo y rhai a demtir.

PEN. III.

1 Bod Christ yn rhagori ar Moses: 7 am hynny oni chredwn ni iddo ef, yr ydym ni yn haeddu ychwa­neg gospedigaeth nâ'r Israeliaid gwrthnysig.

OHerwydd pa ham, frod yr sanctaidd, cyfrannogion o'r galwedigaeth nefol, ystyriwch A­postol ac Arch-offeiriad ein cyffes ni, Christ Iesu:

2 Yr hwn sydd ffyddlon i'r hwn a'i hordeiniodd ef, megis ac y bu Moses yn ei holl dŷ ef:

3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant nâ Moses, o gymmaint ac y mae 'r hwn a adeiladodd y tŷ, yn cael mwy o barch nâ'r tŷ.

4 Canys pôb tŷ a adeiledir gan ryw un: ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw.

5 A Moses yn wîr a fu ffydd­lon yn ei holl dŷ ef, megis gwâs, er tystiolaeth i'r pethau oedd iw llefaru:

6 Eithr Christ, megis mâb ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyfder, a gorfoledd ein gobaith, yn siccr hyd y diwedd.

7 Am hynny megis y mae yr Yspryd glân yn dywedyd, Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef,

8 Na chaledwch eich calon­nau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffaethwch:

9 Lle y temptiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mhlynedd.

10 Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, a cy dywe­dais, Y maent bob amser yn cy­feiliorni yn eu calonnau: ac nid adnabuant fy ffyrdd i:

11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorph­wysfa.

12 Edrychwch, frodyr, na by­ddo un amser yn neb o honoch galon ddrwg o anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.

13 Eithr cynghorwch ei gilydd bôb dydd, tra y gelwir hi he­ddyw; fel na chaleder neb o ho­noch trwy dwyll pechod.

14 Canys fe a'n gwnaed ni yn gyfrannogion o Ghrist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn siccr hyd y diwedd.

15 Tra y dywedir, Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad.

16 Canys rhai wedi gwrando a'i digiasant ef, ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aipht trwy Moses.

17 Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mhlynedd? onid wrth y rhai a bechasant, y rhai y syrthiodd eu cyrph yn y diffae­thwch;

18 Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn iw orphwysfa ef, onid wrth y rhai ni chredasant?

19 Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn o her­wydd anghrediniaeth.

PEN. IV.

Trwy ffydd y mae cael gorphywysfa y Christianogion. 12 Gallu gair Duw. 14 Trwy ein Arch-offeiriad Iesu fâb Duw, yr hwn oedd heb pechod, ond nid heb ei wendid, 16 y mae i ni gyrchu yn hyf at or­seddfaingc gras.

OFnwn gan hynny gan fod addewid wedi ei adel i ni i fyned i mewn iw orphwysfa ef, rhac bod neb o honoch yn debyg i fod yn ôl.

2 Canys i ninneu y pregeth­wyd yr Efengyl, megis ac iddynt hwythau: eithr y gair a glybu­wyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.

3 Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orphywysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, os ânt i mewn i'm gorphywysfa i: er bôd y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y bŷd.

4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn, A gorphywysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithre­doedd.

5 Ac ymma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorphywysfa i.

6 Gan hynny gan fôd hyn wedi ei adel, fôd rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, o herwydd anghrediniaeth:

7 Trachefn y mae efe yn pen­nu rhyw ddiwrnod, gan ddywe­dyd yn Nafydd, Heddyw, ar ol cymmaint o amser; megis y dy­wedir, Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.

8 Canys pe dygasei Iesus hwynt i orphywysfa, ni soniasei efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.

9 Y mae gan hynny orphywys­fa etto yn ôl i bobl Dduw.

10 Canys yr hwn a aeth i mewn iw orphywysfa ef, hwnnw hefyd a orphywysodd oddi wrth ei wei­thredoedd ei hun, megis y gw­naeth Duw oddi wrth yr eiddo yntef.

11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orphywysfa honno: fel na syrthio neb, yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.

12 Canys bywiol yw gair Duw a nerthol, a llymmach nag un cle­ddyf dau-finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd, a'r cymmalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau, a bwria­dau y galon.

13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth, ac yn agored iw lygaid ef, am er hwn yr ydym yn sôn.

14 Gan fod wrth hynny i ni [Page] Arch-offeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein prôffess.

15 Canys nid oes i ni Arch-offeiriad, heb fedru cyd-ddioddef gyd â'n gwendid ni, ond wedi ei demptio ym mhob peth yr un ffunyd a ninneu, etto heb pechod.

16 Am hynny, awn yn hyde­rus at orsedd-faingc y grâs, fel y derbyniom drugaredd, ac y ca­ffom râs, yn gymmorth cyfamse­rol.

PEN. V.

Awdurdod a braint Offeiriadaeth ein Hachubwr. 11 Y mae efe yn beio arnynt am eu bod mor esceu­lus, ac mor ddiwybod yn y pe­thau hynny.

CAnys pob Arch-offeiriad we­di ei gymmeryd o blith dy­nion, a osodir tros ddynion yn y pethau sy tu ac at Dduw, fel yr offrymmo roddion ac aberthau tros bechodau.

2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sy mewn anwyboda­eth ac amryfusedd: am ei fôd yn­teu hefyd wedi ei amgylchu â gwendid:

3 Ac o achos hyn y dylei, megis tros y bobl, felly hefyd trosto ei hun offrymmu tros bechodau.

4 Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron:

5 Felly Christ hefyd ni's gogo­neddodd ei hun i fod yn Arch-offeiriad; ond yr hwn a ddywe­dodd wrtho, Tydi yw fy Mab, my­fi heddyw a'th genhedlais di.

6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd, yn ôl urdd Mel­chisedec.

7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddiau ac erfyniau at yr hwn oedd abl iw achub ef oddi wrth farwol­aeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd:

8 Er ei fod yn Fab, a ddyscodd ufydd-dod, trwy y pethau a ddi­oddefodd:

9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethbwyd yn awdur iechyd­wriaeth dragwyddol, i'r rhai oll a ufuddhânt iddo:

10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Arch-offeiriad yn ôl urdd Mel­chisedec.

11 Am yr hwn y mae i ni lawer iw ddywedyd: ac anhawdd en traethu: o achos eich bod chwi yn hwyr-drwm eich clustiau.

12 Canys lle dylech fod yn ath­rawon o ran amser, mae arnoch drachefn eisieu dyscu i chwi beth ydyw gwyddorion dechreuad y­madroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth ac nid bwyd cryf.

13 Canys pob un ac sy yn y­marfer â llacth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder: canys maban yw.

14 Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai perffaith, y rhai o her­wydd cynnefindra y mae gan­ddynt synhwyr, wedi ymarfer i ddosparthu drwg a da.

PEN. VI.

Y mae efe yn eu cynghori hwy na chilient oddi wrth y ffydd: 11 ond bod yn ddianwadal, 22 yn [Page] ddiwyd, ac yn ddioddefgar, i ddis­gwyl wrth Dduw: 13 Am fod Duw yn siccr yn ei addewid.

AM hynny gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dech­reu rhai yn Ghrist, awn rhagom at berffeithrwydd: heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meir­won, ac i ffydd tu ac at Dduw:

2 I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac adgy­fodiad y meirw, a'r farn dragwy­ddol.

3 A hyn a wnawn, os caniad­hâ Duw.

4 Canys amhossibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofa­sant y rhôdd nefol, ac a wnaeth­bwyd yn gyfrannogion o'r Ys­pryd glân.

5 Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw;

6 Ac a syrthiant ymaith; y­madnewyddu drachefn i edifeir­wch, gan eu bôd yn ail-croes-hoe­lio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwor.

7 Canys y ddaiar, yr hon sydd yn yfed y glaw sy yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymmwys i'r rhai y llafurir hi ganddynt; sydd yn derbyn ben­dith gan Dduw:

8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymme­radwy, ac agos i felldith, diwedd yr hon yw ei llosci.

9 Eithr yr ydym ni yn coelio am danoch chwi, anwylyd, be­thau gwell, a phethau ynglŷn wrth iechydwriaeth, er ein bôd yn dy­wedyd fel hyn,

10 Canys nid yw Duw yn ang­hyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tu ac at ei Enw ef, y rhai a weiniasoch i'r Sainct, ac ydych yn gweini.

11 Ac yr ydym yn chwennych fôd i bôb un o honoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn siccrwydd gobaith hyd y diwedd:

12 Fel na byddoch fuscrell, ei­thr yn ddilynwyr i'r rhai, trwy ffydd ac ammynedd, sy yn etifeddu yr addewidion.

13 Canys Duw wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allei dyngu i neb oedd fwy a dyngodd iddo ei hun,

14 Gan ddywedyd, Yn ddian gan fendithio i'th fendithiaf, a chan amlhau i'th amlhaâf.

15 Ac felly wedi iddo hîr-yma­ros efe a gafodd yr addewid.

16 Canys dynion yn wîr sydd yn tyngu i un a fo mwy; a llŵ er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bôb ymryson.

17 Yn yr hyn, Duw yn ewy­llysio yn helaethach ddangos i eti­feddion yr addewid, ddianwada­lwch ei gyngor ef, a gyfryngodd trwy lŵ:

18 Fel trwy ddan beth dianwa­dal, yn y rhai yr oedd yn ammhos­sibl i Dduw fôd yn gelwyddog, y gallem ni gael cyssur crŷf, y rhai a ffoesom i gymmeryd ga­fael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen:

19 Yr hwn sydd gennynr na megis angor yr enaid, yn ddio­gel ac yn siccr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r llen:

20 I'r man yr aeth y rhag-flaenor trosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethbwyd yn Arch-offeiriad yn dragwyddol, ar ôl urdd Mel­chisedec.

PEN. VII.

Christ Iesu sydd Offeiriad yn ôl urdd Melchisedec: 11 Ac felly yn rhagori llawer ar yr Offeiriaid oedd ar ôl urdd Aaron.

CAnys y Melchisedec hwn, bre­nin Salem, Offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwclyd o ladd y brenhinoedd, ac a'i bendi­godd ef:

2 I'r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bôb peth: yr hwn yn gyntaf, o'i gyfieithu, yw brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd brenin Salem: yr hyn yw brenin heddwch:

3 Heb dâd, heb fam, heb achau, heb fôd iddo na dechreu dyddiau, na diwedd enioes: eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fâb Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd.

4 Edrychwch faint oedd hwn, i'r hwn hefyd y rhoddodd A­braham y patriarch ddegwm o'r anrhaith.

5 A'r rhai yn wîr sy o feibion Lefi yn derbyn swydd yr Offeiria­daeth, y mae ganddynt orchym­myn i gymmeryd degwm gan y bobl, ar ôl y Gyfraith, sef gan eu brod yr, er eu bôd wedi dyfod o lwynau Abraham:

6 Eithr yr hwn nid oedd ei a­chau o honynt hwy a gymmerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendi­thiodd yr hwn yr oedd yr adde­widion iddo.

7 Ac yn ddi-ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well.

8 Ac ymma y mae dynion, y rhai sy yn meirw, yn cymmeryd degymmau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd am dano ei fôd efe yn fyw.

9 Ac (fel y dywedwyf felly) yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cym­meryd degymmau.

10 Oblegid yr ydoed efe etto yn lwynau ei dâd: pan gyfarfu Melchisedec ag ef.

11 Os ydoedd gan hynny ber­ffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi (oblegid tan honno y rhodd­wyd y gyfraith i'r bobl) pa raid oedd mwyach godi offeiriad arall ar ôl urdd Melchisedec, ac na's gelwid ef ar ôl urdd Aaron?

12 Canys wedi newidio yr O­ffeiriadaeth, angenrhaid yw bôd cyfnewid ar y gyfraith hefyd.

13 Oblegid am yr hwn y dy­wedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o'r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu yr allor.

14 Canys hyspys yw mae o Iuda y cododd ein Harglwydd ni: am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tu ag at offeiriadaeth.

15 Ac y mae yn eglurach o la­wer etto, od oes ar ôl cyffelyb­rwydd Melchisedec, Offeiriad arall yn codi,

16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymmyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annher­fynol.

17 Canys tystiolaethu y mae, O­ffeiriad wyt ti yn dragywydd, ar ôl urdd Melchisedec.

18 Canys yn ddiau y mae di­rymmiad i'r gorchymmyn sydd yn myned o'r blaen, o herwydd ei lescedd a'i afles.

19 Oblegid ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim, namyn dwyn go­baith gwell i mewn a berffeithiodd, trwy yr hwn yr ydym yn nesau at Dduw.

20 Ac yn gymmaint nad heb lŵ: y gwnaethbwyd ef yn offei­riad.

21 (Canys y rhai hynny yn wîr, ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lŵ, ond hwn, trwy lŵ, gan yr hwn a ddywedodd wr­tho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd ar ôl urdd Melchisedec.)

22 Ar Destament gwell o hyn­ny y gwnaethpwyd Iesu yn fach­niudd.

23 A'r rhai hynny yn wîr, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, o herwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau:

24 Ond hwn, am ei fôd ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offei­riadaeth dragwyddol ganddo.

25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwy­ddo ef, sy yn dyfod at Dduw gan ei fôd ef yn byw bôb amser, i eiri­ol trostynt hwy.

26 Canys y cyfryw Arch-offei­riad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechadu­riaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch nâ'r nefoedd, oedd weddus i ni:

27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i'r offeiriaid hyn­ny, offrymmu aberthau yn gyntaf tros ei bechodau ei hun, ac yna tros yr eiddo 'r bobl: canys hyn­ny a wnaeth efe unwaith, pan o­ffrymmodd efe ef ei hun.

28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn Arch-offeiriaid, eithr gair y llŵ, yr hwn a fu wedi y gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mâb, yr hwn a berffeithiwyd yn dragy­wydd.

PEN. VIII.

Offeiriadaeth Aaron a ddiflannodd, pau ddaeth Christ yr Offeiriad tragwyddol. 7 A'r ammod a w­naed â'r tadau tros amser a ro­ddes le i gyfammod tragwyddol yr Efengyl.

A Phen ar y pethau a ddywed­wyd, yw hyn: y mae gen­nym y fâth Arch-offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfaingc y mawredd yn y nefoedd,

2 Yn wenidog y Gyssegrfa, a'r gwîr Dabernacl, yr hwn a osodes yr Arglwydd, ac nid dŷn.

3 Canys pôb Arch-offeiriad a osodir i offrymmu rhoddion ac a­berthau: o herwydd pa ham rhaid oedd bôd gan hwn hefyd yr hyn a offrymmei.

4 Canys yn wîr pe bai efe ar y ddaiar, ni byddei yn offeiriad chwaith, gan fod offeiriaid, y rhai sydd yn offrymmu rhoddion yn ôl y Ddeddf.

5 Y rhai sy yn gwasanaethu i siampl a chyscod y pethau nefol, megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gor­phen y babell. Canys gwêl, medd efe, ar wneuthur o honot bôb peth [Page] ar ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

6 Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol; o gymmaint ac y mae yn gy­fryngŵr Cyfammod gwell, yr hwn fydd wedi ei ofod ar addewidion gwell.

7 Oblegid yn wîr pe buasei y cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail.

8 Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe, Wele, y mae y dyddi­au yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel, ac â thŷ Iuda, gyfammod newydd:

9 Nid fel y cyfammod a wneu­thum â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt, iw dwyn hwy o dîr yr Aipht: ob­legid ni thrigasant hwy yn fy nghyfammod i, minneu a'u he­sceulusais hwythau medd yr Ar­glwydd.

10 Oblegid hwn yw y cyfam­mod a ammodafi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Ar­glwydd, Myfi a ddodaf sy nghy­freithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr scrifennaf hwynt: mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minneu yn bobl;

11 Ac ni ddyscant bôb un ei gymmydog, a phôb un ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Ar­glwydd: oblegid hwynt hwy oll a'm adnabyddant i, o'r lleiaf o ho­nynt, hyd y mwyaf o honynt.

12 Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau, a'u pechodau hwynt, a'u hanwire­ddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.

13 Wrth ddywedyd, Cysammod newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hên: eithr yr hyn aeth yn hên ac yn oedrannus sydd agos i ddi­flannu.

PEN IX.

1 Y mae yn dangos dull ceremoniau, ac aberthau gwaedlyd y Gyfraith: 11 A'i bod yn llai eu teilyngdod a'i perffetthrwydd, nag Aberth Christ, a'i waed.

AM hynny yn wîr yr ydoedd hefyd i'r Tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chy­ssegr bydol.

2 Canys yr oedd Tabernacl wedi ei wneuthur, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod; yt hwn Dabernacl a elwyd y Cys­segr.

3 Ac yn ôl yr ail llen, yr oedd y Babell, yr hon a elwid y Cyssegr sancteiddiolaf:

4 Yr hwn yr oedd y thusser aur ynddo, ac Arch y Cyfammod wedi ei goreuro o amgylch: yn yr hon yr oedd y crochan aur, a'r Manna ynddo, a gwialen Aaron, yr hon a flagurasei, a llechau y Cyfammod.

5 Ac uwch ei phen Cherubi­aid y gogoniant, yn cyscodi y Drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.

6 A'r pethau hyn wedi eu tre­fnu felly, i'r Tabernacl cyntaf yn ddiau yr ai bôb amser yr offeiri­aid, y rhai oedd yn cyflawni gwa­sanaeth Duw:

7 Ac i'r ail, unwaith bôb blwy­ddyn yr ai yr Arch-offeiriad yn unic: nid heb waed, yr hwn a o­ffrymmer [Page] mei efe trosto ei hun, a thros an­wybodaeth y bobl.

8 A'r Yspryd glân yn yspysu hyn, nad oedd y ffordd i'r Cysse­gr sancteiddiolaf yn agored etto, tra fyddei y Tabernacl cyntaf yn sefyll.

9 Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth tros yr amser presennol, yn yr hwn yr offiymmid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio yr a­ddoludd,

10 Y rhai oedd yn sefyll yn unic ar fwydydd, a diodydd, ac am­ryw olchiadau, a defodau cnaw­dol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.

11 Eithr Christ wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus berhau a fyddent, trwy Dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeila­daeth ymma,

12 Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe unwaith i mewn i'r Cyssegr, gan gael i ni dragwy­ddol ryddhâd.

13 Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedl ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd.

14 Pa faint mwy y bydd i waed Christ, yr hwn trwy yr Yspryd tragwyddol a'i hoffrymmodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth wei­thredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw?

15 Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y Cyfammod ne­wydd, megis trwy fôd marwo­heth yn ymwared oddi wrth y trosseddau oedd tan y Cyfammod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dder­byn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.

16 Oblegid lle byddo Testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y Testament-ŵr.

17 Canys wedi marw dynion y mae Testament mewn grym, oble­gid nid oes etto nerth ynddo, tra fyddo y testament-ŵr yn fyw.

18 O ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed.

19 Canys gwedi i Moses adrodd yr holl orchymmyn, yn ôl y gy­fraith, wrth yr holl bobl, ef a gym­merodd waed lloi a geifr, gyd â dwfr, a gwlân porphor, ac yssop, ac a'i taenellodd ar y llyfr, a'r bobl oll:

20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y Testament a orchymyn­nodd Duw i chwi.

21 Y Tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth, a daenellodd efe â gwaed yr un môdd,

22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y Gyfraith, ac heb ollwng gwaed nid oes ma­ddeuant.

23 Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau y pethau sy yn y ne­foedd, gael eu puro â'r pethau hyn: a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell nâ'r rhai hyn,

24 Canys nid i'r Cyssegr o waith llaw portreiad y gwîr Gys­segr, yr aeth Christ i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni:

25 Nac fel yr offrymmei ef ei hun yn fyn ych, megis y mae yr Arch-offeiriad yn myned i mewn i'r Cyssegr bôb blwyddyn, â gwaed arall:

26 Oblegid yna rhaid fuasei i­ddo yn fynych ddioddef er de­chreuad y bŷd: eithr yr awron unwaith yn niwedd y bŷd yr ym­ddangoses efe, i ddeleu pechod trwy ei aberthu ei hun.

27 Ac megis y gosodwyd i ddy­nion farw unwaith, ac wedi hyn­ny bod barn:

28 Felly Christ hefyd, wedi ei offrymmu unwaith i ddwyn ym­maith bechodau llawer, a ym­ddengys yr ail waith heb pechod, i'r rhai fy yn ei ddisgwyl, er ie­chydwriaeth.

PEN X.

Gwendid aberthau y Gyfraith. 10 A­berth corph Christ a offrymmwyd unwaith, 14 sydd byth yn tyn­nu ymmaith bechodau. 19 Cyngor i lynu yn lew yn y ffydd, trwy ammynedd a diolch.

OBlegid y Gyfraith, yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwîr dde­lw y pethau, ni's gall trwy yr a­berthau hynny, y rhai y maent bôb blwyddyn yn eu hoffrymmu yn wastadol, byth berffeithio y rhai a ddêl atti.

2 Oblegid yna hwy a beidia­sent â'u hoffrymmu, am na buasei gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glan­hau unwaith:

3 Eithr yn yr aberthau hynny y mae adcoffa pechodau bôb blwy­ddyn.

4 Canys amhossibl yw i waed teirw a geifr, dynnu ymmaith be­chodau.

5 O herwydd pa ham y mae efe wrth ddyfod i'r bŷd, yn dy­wedyd, Aberth ac offrwn ni's mynnaist, eithr corph a gym­mhwysaist i mi.

6 Offrymmau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt.

7 Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod (y mae yn scrifennedig yn nechreu y llyfr am danaf) i wneu­thur dy ewyllys di, o Dduw.

8 Wedi iddo ddywedyd u­chod, Aberth, ac offrwn, ac offrym­mau poeth, a thros bechod ni's mynnaist, ac nid ymfodlonaist yn­ddynt, y rhai yn ôl y Gyfraith a offrymmir;

9 Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw: y mae yn tynnu ym­maith y cyntaf, fel y gosodei yr ail.

10 Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymmiad corph Iesu Grist unwaith.

11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymmu yn fynych, yr un aberthau, y rhai ni allant fyth dde­leu pechodau.

12 Eithr hwn, wedi offrym­mu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar dde­heu-law Dduw:

13 O hyn allan yn disgwil hyd oni osoder ei elynion ef yn droed­faingc iw draed ef.

14 Canys ag un offrwm y per­ffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sy wedi eu sancteiddio.

15 Ac y mae yr Yspryd glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen,

16 Dymma'r Cyfammod, y [...] hwn a ammodafi â hwynt ar ôl y [Page] dyddiau hynny, medd yr Ar­glwydd, Myfi a osodaf fy nghy­freithiau yn eu calonnau, ac a'u scrifennaf yn eu meddyliau:

17 A'u pechodau, a'u hanwi­reddau, ni chofiaf mwyach.

18 A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm tros bechod.

19 Am hynny, frodyr, gan fôd i ni rydd-did i fyned i mewn i'r Cyssegr trwy waed Iesu,

20 Ar hŷd ffordd newydd, a by­wiol, yr hon a gyssegrodd efe i ni, trwy'r llen, sef ei gnawd ef:

21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:

22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glânhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân.

23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, (canys ffyddlon yw 'r hwn a addawodd:)

24 A chyd-yst yriwn bawb ei gilydd, i ymannog i gariad a gwei­thredoedd da:

25 Heb esceuluso ein cyd-gyn­hulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ei gilydd, a hynny yn fwy, o gym­maint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesau.

26 Canys os o'n gwîr fodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybo­daeth y gwirionedd, nid oes a­berth tros bechodau wedi ei adel mwyach.

27 Eithr rhyw ddisgwyl of­nad wy am farnedigaeth, ac ang­erdd tân, yr hwn a ddifa y gwrth­wyneb-wŷr.

28 Yr un a ddirmygai Gyfraith Moses, a fyddei farw heb druga­redd tan ddau neu dri o dystion.

29 Pa faint mwy cospedigaeth (dybygwch chwi) y bernir hae­ddu o'r hwn a fathrodd Fâb Duw, ac a farnodd yn aflan waed y Cy­fammod, trwy'r hwn y sanctei­ddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ys­pryd y grâs?

30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, myfi pieu dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a far­na ei bobl.

31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo, y Duw byw.

32 Ond gelwch i'ch côf y dy­ddiau o'r blaen, yn y rhai wedi eich goleuo, y dioddefasoch ym­drech mawr o helbulon;

33 Wedi eich gwneuthur wei­thieu yn wawd, trwy wradwydd­iadau, a chystuddiau; ac weithieu yn bôd yn gyfrannogion â'r rhai a drinid felly.

34 Canys chwi a gyd-ddiodde­fasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymmerasoch eich yspeilio am y pethau oedd gennych, yn llawen: gan ŵybod fôd gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y ne­foedd, ac un parhaus.

35 Am hynny na fwriwch ym­maith eich hyder, yr hon sydd iddi fawr wobr.

36 Canys rhaid i chwi wrth ammynedd: fel wedi i chwi wneu­thur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.

37 Oblegid ychydig bachigyn etto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.

38 A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thynn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodlo­ni ynddo.

39 Eithr nid ydym ni o'r rhai sy 'n tynnu yn ôl i golledigaeth, namyn o ffydd i gadwedigaeth yr enaid.

PEN. XI.

1 Beth ydyw ffydd. 6 Heb ffydd ni allwn ni ryngu bodd Duw. 7 Ei ffrwythau rhagorol hi yn yr hên dadau gynt.

FFydd yn wîr yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicr­wydd y pethau nid ydys yn eu gweled.

2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr Henuriaid air da.

3 Wrth ffydd yr ydym yn de­all wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymmaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.

4 Trwy ffydd yr offrymmodd Abel i Dduw aberth rhagorach nâ Chain, trwy 'r hon y cafodd efe dystiolaeth ei fôd yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth iw ro­ddion ef: a thrwyddi hi y mae e­fe wedi marw, yn llefaru etto.

5 Trwy ffydd y symmudwyd Enoch, fel na welei farwolaeth: ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symmud ef: canys cyn ei symmud, efe a gawsei dystio­laeth, ddarfod iddo ryngu bôdd Duw.

6 Eithr heb ffydd amhossibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fôd ef, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef.

7 Trwy ffydd Noe wedi ei ry­buddio gan Dduw am y pethau ni's gwelsid etto, gyd â pharche­dig ofn a ddarparodd arch i a­chub ei dŷ: trwy 'r hon y con­demnodd efe y bŷd, ac a wnaeth­pwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.

8 Trwy ffydd Abraham pan ei galwyd a ufyddhâodd, gan fy­ned i'r man yr oedd efe iw dder­byn yn etifeddiaeth: ac a aeth a­llan heb ŵybod i ba le yr oedd yn myned.

9 Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn-nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai, gyd ag Isaac, ac Iacob, cyd-etifeddion o'r un a­ddewid.

10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ac iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.

11 Trwy ffydd, Sara hitheu yn ammhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddwyn hâd, ac wedi amser oedran a escorodd, oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsei.

12 O herwydd pa ham he­fyd y cenhedlwyd o un, a hwn­nw yn gystal a marw, cynnifer a sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn an­eirif.

13 Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr a­ddewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phe­rerinion oeddynt ar y ddaiar.

14 Canys y mae y rhai sy yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bôd yn ceisio gwlâd.

15 Ac yn wîr pe buasent yn [Page] meddwl am y wlâd honno, o'r hon y daethant allan, hwy a alla­sent gael amser i ddychwelyd:

16 Eithr yn awr gwlâd well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw un nefol: o achos pa ham nid cyw lydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oble­gid efe a baratôdd ddinas iddynt.

17 Trwy ffydd yr offrymmodd Abraham Isaac, pan ei profwyd, a'i unic anedig fâb a offrymmodd efe, yr hwn y dderbyniasei yr a­ddewidion.

18 Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti hâd:

19 Gan gyfrif bôd Duw yn abl iw gyfodi ef o feirw: o ba le y cawsei efe ef hefyd mewn cyffe­lybiaeth.

20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Iacob ac Esau, am bethau a fyddent.

21 Trwy ffydd, Iacob wrth fa­rw a fendithiodd bôb un o feibi­on Ioseph: ac a addolodd a'i bwys ar ben ei ffon.

22 Trwy ffydd, Ioseph wrth farw a goffaodd am ymadawiad plant Israel, ac a roddodd orchym­myn am ei escyrn.

23 Trwy ffydd, Moses pan an­wyd a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bôd yn ei we­led yn fachgen tlws: ac nid ofna­sant orchymmyn y brenin.

24 Trwy ffydd, Moses wedi my­ned yn fawr, a wrthodes ei alw yn fab merch Pharao:

25 Gan ddewis yn hytrach o­ddef adfyd gyd â phobl Dduw, nâ chael mwyniant pechod tros am­ser:

26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Christ, nâ thryssorau yr Aipht: canys edrych yr oedd efe a'r daledigaeth y gobrwy.

27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.

28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y Pasc a gollyngiad y gwaed, rhag i'r hwn ydoedd yn dinistrio y rhai cyntaf-anedig, gyffwrdd â hwynt.

29 Trwy ffydd, yr aethant trwy'r môr côch, megis ar hyd tîr sych: yr hyn pan brofodd yr Aiphtiaid, boddi a wnaethant.

30 Trwy ffydd y syrthiodd cae­rau Iericho, wedi eu amgylchu tros saith niwrnod.

31 Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y buttain gyd â'r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi yr yspiwyr yn heddychol.

32 A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballei i mi i fy­negi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Iephthae, am Ddafydd hefyd a Samuel, a'r Prophwydi:

33 Y rhai trwy ffydd a ores­cynnasant deyrnasoedd, a wnae­thant gyfiawnder, a gawsant a­ddewidion, a gauasant safnau llewod:

34 A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddiangasant rhag mîn y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio:

35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy adgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared, fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.

36 Ac eraill a gawsant bro­fedigaeth [Page] trwy watwar a fflan­gellau, ie trwy rwymau hefyd a charchar.

37 Hwynt hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llîf, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf, a grwydrasant mewn crwyn de­faid, a chrwyn geifr, yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cy­flwr;

38 (Y rhai nid oedd y bŷd yn deilwng o honynt) yn crwydro mewn anialwch, a mynydd­oedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaiar.

39 A'r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderby­niasant yr addewid:

40 Gan fôd Duw yn rhag-we­led rhyw beth gwell am danom ni, fel na pherffeithid hwynt he­bom ninnau.

PEN XII.

1 Cyngor i ffydd ddianwadal, am­mynedd, a duwuioldeb. 22 Can­mol y Testament newydd rhagor yr bên.

OBlegid hynny, ninnau hefyd gan fôd cymmaint cwmmwl o dystion wedi ei osod o'n ham­gylch, gan roi heibio bôb pwys, a'r pechod sydd barod i'n ham­gylchu, trwy ammynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni.

2 Gan edrych ar Iesu penty­wysog a pherffeithydd ein ffydd ni, yr hwn yn lle y llawen­ydd a osodwyd iddo, a ddiodde­fodd y groes, gan ddiystyru gw­radwydd, ac a eisteddodd ar dde­heu-law gorsedd-faingc Duw.

3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid, fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.

4 Ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.

5 A chwi a ollyngasoch tros gôf y cyngor, yr hwn sydd yn dy­wedyd wrthych megis wrth blant, Fy mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan i'th argyoedder ganddo.

6 Canys y neb y mae yr Ar­glwydd yn ei garu, y mae yn ei ge­ryddu: ac yn fflangellu pôb mab a dderbynio.

7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tu ac attoch, megis tu ac at feibion; canys pa fâb sydd, yr hwn nid yw ei dâd yn ei geryddu?

8 Eithr os heb gerydd yr y­dych, o'r hon y mae pawb yn gy­frannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.

9 Heb law hyny, ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dâd yr ysprydoedd, a byw?

10 Canys hwynt hwy yn wîr tros ychydig ddyddiau a'n cery­ddent, fel y gwelent hwy yn dda: eithr hwn er llesâd i ni, fel y by­ddem gyfrannogion o'i sancteidd­rwydd ef.

11 Etto ni welir un cerydd tros yr amser presennol yn hyfryd, ei­thr yn anhyfryd: ond gwedi hyn­ny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sy wedi eu cynnefino ag ef.

12 O herwydd pa ham, cyfodwch i fynu y dwylo a laesasant, a'r gli­niau a ymollyngasant:

13 A gwnewch lwybrau uni­awn i'ch traed: fel na throer y cloff allan o'r ffordd, ond yr ia­chaer efe yn hytrach.

14 Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd:

15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth râs Duw: rhag bôd un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fynu, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw lly­gru llawer:

16 Na bo un putteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd, a werthodd ei enedigaeth-fraint.

17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wr­thod ef, pan oedd efe yn ewylly­sio etifeddu y fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer-geisio hi.

18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy, sydd yn llosci gan dân a chwmwl a thy­wyllwch, a thymestl,

19 A sain vdcorn, a llef geiriau: yr hon pwy bynnac a'i clywsant, a ddeisyfiasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt.

20 Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchymynnasid. Ac os bwylifil a gyffyrddei â'r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phic­cell.

21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ac y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.

22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Sion, ac i ddinas y Duw byw, y Ierusalem nefol, ac at fyr­ddiwn o Angelion,

23 I gymmanfa a chynnulleid­fa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a scrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw barnwr pawb, ac at yspry­doedd y cyfiawn, y rhai a berffei­thiwyd,

24 Ac at Iesu cyfryngwr y Te­stament newydd, a gwaed y tae­nelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell nâ'r eiddo Abel.

25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddiangodd y rhai a wrthoda­sant, yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaiar, mwy o lawer ni's diangwn ni, y rhai ydym yn troi ymmaith oddiwrth yr hwn sydd yn llefaru o'r nef.

26 Llef yr hwn y pryd hyn­ny a escydwodd y ddaiar: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Etto unwaith yr wyf yn cynnhyr­fu, nid yn unic y ddaiar, ond y nef hefyd.

27 A'r Etto-unwaith hynny, sydd yn yspysu symmudiad y pe­thau a yscydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nid yscydwir.

28 O herwydd pa ham, gan ein bôd ni yn derbyn teyrnas ddi­sigl, bydded gennym râs, drwy 'r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fôdd, gydâ gwylder, a phar­chedig ofn.

29 Oblegid ein Duw ni sydd dân yssol.

PEN. XIII.

1 Amryw gynghorion, megis i garu ei gilydd: 4 i fyw yn honest: 5 i ochelyd cybydd-dra: 7 i berchi pregethwyr Duw: 9 i ochel ath­rawon dieithr: 10 i gyfaddef Crist: 16 i roi elusen 17 i ufydd­hau [Page] i swyddogion: 18 i weddio tros yr Apostol. Y diwedd.

PArhaed brawd-garwch.

2 Nac anghofiwch letteugar­wch: canys wrth hynny y lletteu­odd rhai Angelion yn ddiarwy­bod.

3 Cofiwch y rhai sy yn rhwym, fel pettech yn rhwym gyd â hwynt: y rhai cystuddiol, megis yn bôd eich hunain hefyd yn y corph.

4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a'r gwelŷ dihalogedig: eithr putteinwŷr a godinebwŷr a farna Duw.

5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar: gan fôd yn fodlon i'r hyn sydd gennych. Canys efe a ddywedodd, Ni'th roddaf di i fynu, ac ni'th lwyr adawaf chwaith.

6 Fel y gallom ddywedyd yn hŷ, Yr Arglwydd sydd gymmorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.

7 Meddyliwch am eich blaeno­riaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai, dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarwe­ddiad hwynt.

8 Iesu Grist ddoe, a heddyw yr un, ac yn dragywydd.

9 Na'ch arweinier oddi am­gylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bôd y galon wedi ei chryfhâu â grâs, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt, fudd.

10 Y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sy yn gwasanaethu y Tabernacl i fwytta.

11 Canys cyrph yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr Arch-offeiriad i'r Cyssegr tros bechod, a loscir y tu allan i'r gwersyll.

12 O herwydd pa ham Iesu he­fyd, fel y sancteiddiei y bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i'r porth.

13 Am hynny awn atto ef o'r tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei wradwydd ef.

14 Canys nid oes i ni ymma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwil.

15 Trwyddo ef gan hynny, [...] offrymmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth gwefusau yn cyffessu iw Enw ef.

16 Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwch: ca­nys â chyfryw ebyrth y rhyngir bôdd Duw.

17 Ufyddhewch i'ch blaeno­riaid, ac ymddarostyngwch: ob­legid y maent hwy yn gwilio tros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif: fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys di­fudd i chwi yw hynny.

18 Gweddiwch trosom ni: ca­nys yr ydym yn credu fôd gen­nym gydwybod dda, gan ewylly­sio byw yn onest ym mhob peth.

19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur o honoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi dra­chefn yn gynt.

20 A Duw 'r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y mei­rw ein Harglwydd Iesu, bugail mawr y defaid, trwy waed y Cy­fammod tragywyddol,

21 A'ch perffeithio ym mhob [Page] gweithred dda, i wneuthur ei e­wyllys ef: gan weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef, trwy Iesu Grist: i'r hwn y byddo y gogoniant yn oes oesoedd, Amen.

22 Ac yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, goddefwch air y cyngor: oblegid ar fyrr eiriau yr scrifennais attoch.

23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd, gyd â'r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.

24 Anherchwch eich holl flae­noriaid, a'r holl Sainct. Y mae y rhai o'r Ital yn eich annerch.

25 Grâs fyddo gyd â chwi oll, Amen.

¶At yr Hebræaid yr scrifen­nwyd o'r Ital gyd â Thimo­theus.

EPISTOL CYFFREDINOL IACO YR APOSTOL.

PENNOD. I.

1 Cyngor i lawenychu mewn blin­der, 5 i ofyn doethineb gan Dduw: 13 Na fwrier y bai arno ef o ran ein gwendid na'n pechodau ni: 22 I wrando ac i fyfyrio ar air Duw: ac i wneuthur ar ei ôl. 26 Os amgen fe all rhai ymddan­gos yn grefyddol oddi allan, ond ni allant fod felly mewn gwirionedd.

IAco, gwasanaethwr Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deu­ddeg-llwyth sydd ar wascar, annerch.

2 Cyfrifwch yn bôb llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau:

3 Gan ŵybod fôd profiad eich ffydd chwi yn gweithredu am­mynedd,

4 Ond caffed ammynedd ei pher­ffaith waith, fel y byddoch ber­ffaith a chyfan, heb ddeffygio mewn dim.

5 O bydd ar neb o honoch ei­sieu doethineb, gofynned gan Dduw yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddan­nod: a hi a roddir iddo ef.

6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb ammeu dim. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.

7 Canys na feddylied y dŷn hwnnw, y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.

8 Gwr dau ddyblyg ei feddwl, sydd anwastad yn ei holl ffyrdd.

9 Y brawd o râdd isel, llaweny­ched yn ei oruchafiaeth:

10 A'r cyfoethog, yn ei ddaro­styngiad: canys megis blodeuyn y glâs-welltyn y diflanna efe.

11 Canys cyfododd yr haul gyd â gwres, a gwywodd y glâs-well­tyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei brŷd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna y cyfoethog yn ei ffrydd.

12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a adda­wodd [Page] yr Arglwydd i'r rhai a'i ca­rant ef.

13 Na ddyweded neb pan dem­ptier ef, gan Dduw i'm temptir: canys Duw ni's gellir ei demptio â drygau, ac nid yw efe yn tem­ptio neb.

14 Canys yna y temptir pob un, pan y tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun:

15 Yna chwant wedi ymddwyn, a escor ar bechod: pechod hefyd pan orphenner, a escor ar farwo­laeth.

16 Fy mrodyr anwyl, na chy­feiliornwch.

17 Pôb rhoddiad daionus, a phôb rhôdd berffaith, oddi uchod y mae, yn discyn oddiwrth Dâd y goleuni, gyd â'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chyscod troedi­gaeth.

18 O'i wîr ewyllys yr ennillodd efe nyni, trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaen-ffrwyth o'i greaduriaid ef.

19 O achos hyn, fy mrodyr an­wyl, bydded pôb dŷn escud i wr­ando, diog i lefaru, diog i ddigo­faint.

20 Canys digofaint gŵr, nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw.

21 O herwydd pa ham, rhodd­wch heibio bôb budreddi, a he­laethrwydd malis, a thrwy add­fwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.

22 A byddwch wneuthur-wŷr y gair, ac nid gwrandawŷr yn u­nic, gan eich twyllo eich hunain.

23 Oblegid os yw neb yn wr­andaŵr y gair, a heb fod yn wneuthur-ŵr, y mae hwn yn de­byg i ŵr yn edrych ei wyneb­pryd naturiol mewn drych.

24 Canys efe a'i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymmaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath y­doedd.

25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhydd did, ac a barhao ynddi, hwn heb fôd yn wrandaŵr anghofus, ond gwneu­thur-ŵr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred.

26 Os yw neb yn eich mysc yn cymmeryd arno fôd yn grefyddol, heb attal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn.

27 Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tâd, yw hyn, ymweled a'r ymddifaid, a'r gw­ragedd gweddwon, yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y bŷd.

PEN. II.

1 Nad gweddol i Gristianogion ddi­ystyru eu brodyr tlodion: 13 Ond bod yn gariadus, ac yn drugaro­gion.14 Na ddylid ymffrostio o ffydd lle ni bytho gweithredoedd­da: 17 nad yw 'r ffydd honno ond ffydd farw, 19 a ffydd y cythreu­liaid: 21 Ac nid ffydd Abraham, 25 a Rahab.

FY mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gydâ derbyn wyneb.

2 Oblegid os daw i mewn i'ch cynnulleidfa chwi, ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn di­llad gwael,

3 Ac edrych o honoch ar yr [Page] hwn sydd yn gwisco y dillad gwy­chion, a dywedyd wrtho, Eistedd di ymma mewn lle da: a dywe­dyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd ymma islaw fy stôl droed i:

4 Onid ydych chwi dueddol y­noch eich hunain, ac onid aethoch yn farn-wŷr meddyliau drwg?

5 Gwrandewch, fy mrodyr an­wyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn, yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?

6 Eithr chwithau a ammhar­chasoch y tlawd. Onid yw y cy­foethogion yn eich gorthrymmu chwi, ac yn eich tynnu ger bron brawdleoedd?

7 Onid ydynt hwy yn cablu yr Enw rhagorol, yr hwn a elwir ar­noch chwi?

8 Os cyflawni yr ydych y Gŷ­fraith frenhinol, yn ôl yr Scry­thur, Câr dy gymmydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gwneuthur.

9 Eithr os derbyn wyneb yr y­dych, yr ydych yn gwneuthur pe­chod, ac yn cael eich argyoeddi gan y Gyfraith, megis trosedd­wŷr.

10 Canys pwy bynnag a gatwo 'r Gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnge, y mae efe yn euog o'r cwbl.

11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, na ladd. Ac os ti ni odinebi, erto a leddi, yr wyt ti yn troseddu y Gyfraith.

12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth Gyfraith rhydd-did.

13 Canys barn ddi-drugaredd, fydd i'r hwn ni wnaeth druga­redd, ac y mae trugaredd yn gor­foleddu yn erbyn barn.

14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed nêb fôd ganddo ffydd, ae heb fôd ganddo weithredoedd? â ddichon ffydd ei gadw ef?

15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu beunyddol ymborth,

16 A dywedyd o un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch, etto heb roddi iddynt angenrhei­diau 'r corph, pa lês fydd?

17 Felly ffydd hefyd, oni bydd genddi weithredoedd, marw y­dyw, a hi yn unic.

18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi, ffydd sydd gennit, minneu, gweithredoedd sy gennif: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithre­doedd, a minneu wrth fy ngweith­redoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd in neu.

19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd: da yr wyti yn gwneuthur: y mae y cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.

20 Eithr a fynni di ŵybod, o ddyn ofer, am ffydd heb weith­redoedd, maï marw yw?

21 Abraham ein Tâd ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd efe Isaac ei fab ar yr allor?

22 Ti a weli fôd ffydd yn cyd­weithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fôd ffydd wedi pherffeithio.

23 A chyflawnwyd yr Scry­thur, yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chy­frifwyd iddo yn gyfiawnder, a chyfaill Duw y galwyd ef.

24 Chwi a welwch gan hyn­ny [Page] mae o weithredoedd y cyfi­awnheir dŷn, ac nid o ffydd yn unic.

25 Yr un ffunyd hefyd, Rahab y buttain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyni­odd hi y cennadau, a'u danfon ymmaith ffordd arall?

26 Canys megis y mae y corph heb yr yspryd yn farw, felly he­fyd ffydd heb weithredoedd, ma­rw yw.

PEN. III.

1 Na ddylem ni fod yn brysur i feio ar eraill: 5 ond yn hytrach ffrwyno y tafod, yr hwn er nad ydyw ond aelod bychan, etto y mae efe yn achos llawer o ddaioni, ac o ddrygioni. 13 Y rhai sydd wîr synhwyrol, y maent yn fwy­nion, yn heddychlon, heb gynfi­gennu, a heb ymryson.

NA fyddwch feistred lawer, fy mrodyr, gan ŵybod y der­byniwn ni farnedigaeth fwy.

2 Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro: od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno 'r holl gorph hefyd.

3 Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ymmhennau 'r meirch, i'w gwneuthur yn ufydd i ni, ac yr ydym yn troi eu holl gorph hwy oddi amgylch.

4 Wele, y llongau hefyd er eu maint, ac er eu gyrru gan wyn­toedd creulon, a droir oddi am­gylch â llyw bychan, lle y mynno 'r llywydd.

5 Felly hefyd y tafod, aelod by­chan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion: wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn.

6 A'r tafod, tân ydyw, bŷd o anghyfiawnder: felly y mae y ta­fod wedi ei osod ym-mhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi 'r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflamm, ac wedi wneuthur yn fflamm gan uffern.

7 Canys holl natur gwyllt-filod, ac adar, ac ymlusciaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir, ac a ddofwyd gan natur ddynol:

8 Eithr y tafod ni ddichon un dŷn ei ddofi. Drwg anllywodrae­thus ydyw: yn llawn gwenwyn marwol.

9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw, a'r Tâd: ag ef hefyd yr y­dym yn melldithio dynion a wna­ethpwyd ar lun Duw.

10 O'r un genau y mae yn dy­fod allan fendith a melldith; fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.

11 A ydyw ffynnon, o'r un llygad, yn rhoi dwfr melus a chwerw?

12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu win­wydden ffigys? felly ni dichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.

13 Pwy sydd ŵr doeth a dea­llus yn eich plith? dangosed drwy ymarweddiad da, ei weithredo­edd mewn mwyneidd-dra doe­thineb.

14 Eithr od oes gennych gen­figen chwerw; ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrost-wŷr, a chelwyddog yn erbyn y gwirio­nedd

15 Nid yw y doethineb hyn yn descyn oddi uchod: ond daiarol, anianol, cythreulig yw.

16 Canys lle mae eenfigen ac ymryson, yno y mae terfysc, a phob gweithred ddrwg.

17 Eithr y doethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pûr ydyw, wedi hynny heddychol, boneddigaidd, hawdd ei thrîn, llawn trugaredd a ffrwythau da, di-duedd, a di-ra­grith.

18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch, i'r rhai sy'n gw­neuthur heddwch.

PEN. IV.

Rhaid i ni ymrysson yn erbyn trach­want: 4 ac anghymmedrolder: 5 a balchder: 11 ac enllib a barnu ar eraill: 13 ac na roddom ormod hyder ar lwyddiant bydol: nac ar einioes dyn: ond rhoi y cwbl ar Dduw.

O Ba le y mae rhyfeloedd, ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melys-chwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau?

2 Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych, ac eiddigeddu, ac nid y­dych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd, a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.

3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bôd yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melus chwantau.

4 Chwi odineb-wŷr, a godi­neb-wragedd, oni ŵyddoch chwi fôd cyfeillach y bŷd, yn elyniaeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fôd yn gyfaill i'r bŷd, y mae yn elyn i Dduw.

5 A ydych chwi yn tybied fôd yr Scrythur yn dywedyd yn ofer? At genfigen y mae chwant yr ys­pryd a gartrefa ynom ni:

6 Eithr rhoddi grâs mwy y mae: o herwydd pa ham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn gwrth­wynebu 'r beilchion, ond yn rho­ddi grâs i'r rhai gostyngedig.

7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw, gwrthwynebwch ddia­fol, ac efe a ffŷ oddi wrthych.

8 Nessewch at Dduw, ac efe a nessâ attoch chwi: glânhewch eich dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch eich calonnau, chwi â'r meddwl dau-ddyblyg.

9 Ymofidiwch, a galerwch, ac ŵylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn dristwch.

10 Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch derchafa chwi.

11 Na ddywedwch yn erbyn ei gilydd, frodyr: y neb sydd yn dy­wedyd yn erbyn ei frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dy­wedyd yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu 'r Gyfraith: ac od wyt ti yn barnu 'r Gyfraith, nid wyt ti wneu­thur-ŵr y Gyfraith, eithr barnwr.

12 Un Gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli: pwy wŷt ti yr hwn wyt yn barnu arall?

13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddyw neu y foru ni a awn i gyfryw ddinas, ac a ar­hoswn yno flwyddyn, ac a farch­nattawn, ac a ennillwn:

14 Y rhai ni ŵyddoch beth a fydd y foru: canys beth ydyw eich enioes chwi? canys tarth ydyw, yr hwn sydd tros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.

15 Lie y dylech ddywedyd, Os [Page] yr Arglwydd a'i mynn, ac os by­ddwn byw, ni a wnawn hyn neu hynny.

16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pôb cy­fryw orfoledd, drwg ydyw.

17 Am hynny i'r neb a feidr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.

PEN. V.

1 Rhaid i wyr cyfoethogion dry­gionus ofni dialedd Duw. 7 Ni a ddylem fod yn ddioddefgar mewn adfyd, yn ol ensampl y Prophwydi a Job: 11 a go­chelud tyngu: 13 a gweddio mewn adfyd, a chanu mewn hawddfyd: 16 a chyfaddef ein beiau iw gilydd, a gweddio tros ei gilydd,19 a dwyn i'r iawn y brawd a fytho yn my­ned ar gyfeiliorn.

IDdo yn awr, chwi gofoethogi­on, wŷlwch ac ydwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch.

2 Eich cyfoeth a bydrodd, a'ch gwiscoedd a fwyttawyd gan bry­fed.

3 Eich aur a'ch arian a rydodd, a'u rhŵd hwynt a fydd yn dysti­olaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tân: chwi a gasclasoch dryssor yn y dy­ddiau diweddaf.

4 Wele, y mae cyflog y gweith­wŷr a fedasant eich meusyddchwi, yr hwn a gamartaliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a feda­sant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.

5 Moethus fuoch ar y ddaiar, a thrythyll: meithrin eich calon­nau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.

6 Condemnasoch, a lladdasoch y cyfiawn, ac ynteu heb sefyll i'ch erbyn.

7 Byddwch gan hynny yn y­marhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae y lla­fur-ŵr yn disgwil am werth fawr ffrwyth y ddaiar, yn dda ei am­mynedd am dano, nes iddo dder­byn y glaw cynnar a'r diweddar.

8 Byddwch chwithau hefyd dda eich ammynedd, cadernhewch eich calonnau, oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nessâodd.

9 Na rwgnechwch yn erbyn ei gilydd, frodyr, fel na'ch condem­ner: wele, y mae y barnwr yn se­fyll wrth y drŵs.

10 Cymmerwch, fy mrodyr, y Prophwydi, y rhai a lesarasant yn Enw 'r Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hîr ymaros.

11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadel y rhai sy ddioddefus. Chwi a glywsoch am ammynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegid tosturiol iawn yw'r Ar­glwydd, a thrugarog.

12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaiar, nac un llw arall: either bydded eich îe chwi, yn îe, a'ch nag-ê, yn nag-ê, fel na syrthioch i farnedigaeth.

13 A oes nêb yn eich plith mewn adfyd? gweddied. A oes nêb yn esmwyth arno? caned Psalmau.

14 A oes nêb yn eich plith yn glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto, gan ei enneinio ef ag olew yn Enw 'r Arglwydd:

15 A gweddi 'r ffydd a iachâ 'r [Page] claf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fynu: ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.

16 Cyffeswch eich camweddau bawb iw gilydd, a gweddiwch tros ei gilydd, fel i'ch iachaer: llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.

17 Elias oedd ddŷn yn rhaid iddo ddioddef fel ninneu, ac mewn gweddi efe a weddiodd na byddei law; ac ni bu glaw ar y ddaiar dair blynedd a chwe mîs.

18 Ac efe a weddiodd drachefn, a'r nêf a roddes law, a'r ddaiar a ddug ei ffrwyth.

19 Fy mrodyr, od aeth nêb o honoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef,

20 Gwybydded y bydd i'r hwn a drôdd bechadur oddiwrth gy­feiliorni ei ffordd, gadw enaid, rhag angeu, a chuddio lliaws o bechodau.

EPISTOL CYNTAF CYFFREDINOL PETR yr APOSTOL.

PENNOD. I.

1 Y mae efe yn bendithio Duw am ei amryw râd ysprydol: 10 Gan ddangos nad ydyw yr iechydwri­aeth yn Ghrist beth newydd, eithr peth a brophwydwyd am dano er ystalm. 13 Cyngor i fyw yn ddu­wiol, gan eu bod hwy wedi eu geni o newydd trwy air Duw.

PETR, Apostol Iesu Ghrist, at y dieithriaid sy ar was­car ar hyd Pontus Galatia Cappadocia, Asia, a Bi­thynia:

2 Etholedigion yn ôl rhag-wy­bodaeth Duw Tâd, trwy sanctei­ddiad yr Yspryd i ufydd-dod, a thaenelliad gwaed Iesu Ghrist: grâs i chwi a heddwch a amlhaer.

3 Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a'n had­genhedloedd ni i obaith bywiol trwy adgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,

4 I etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a di-ddiflannedig, ac ynghadw yn y nefoedd i chwi,

5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd, i iechyd­wriaeth parod iw dat-cuddio yn yr amser diweddaf.

6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bôd ychydig yr awron (os rhaid yw) mewn tristwch, trwy amryw brofedigae­thau:

7 Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werth-fawru­sach nâ'r aur colladwy, cyd pro­fer ef trwy dân, er mawl, ac an­rhydedd, a gogoniant, yn ym­ddangosiad Iesu Grist:

8 Yr hwn, er na's gwelsoch, yr ydych yn ei garu: yn yr hwn heb fôd yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawen­hau â llawenydd annhraethadwy, a gogoneddus:

9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iechydwriaeth eich e­neidiau:

10 Am yr hon iechydwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y Prophwydi, y rhai a brophwydasant am y grâs a ddeuai i chwi;

11 Gan chwilio pa brŷd, neu pa ryw amser, yr oedd Yspryd Christ yr hwn oedd ynddynt, yn ei yspysu, pan oedd efe yn rhag­dystiolaethu dioddefaint Christ, a'r gogoniant ar ôl hynny.

12 I'r rhai y dadcuddiwyd nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni yr oeddynt yn gweini yn y pe­thau a fynegwyd yn awr i chwi gan y rhai a efangylasant i chwi trwy'r Yspryd glân, yr hwn a ddanfonwyd o'r nêf, ar yr hyn be­thau y mae 'r Angelion yn chwen­nychu edrych.

13 O herwydd pa ham, gan wregysu lwynau eich meddwl a bod yn sobr, gobeithiwch yn ber­ffaith am y grâs a ddygir i chwi yn nat-cuddiad Iesu Ghrist:

14 Fel plant ufydd-dod, heb gyd-ymagweddu â'r trachwan­tau o'r blaen yn eich anŵybo­daeth:

15 Eithr megis y mae y neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd byddwch chwithau hefyd sanct­aidd ym mhôb ymarweddiad:

16 Oblegid y mae yn scrifen­nedig, Byddwch sanctaidd, ca­nys sanctaidd ydwyfi.

17 Ac os ydych yn galw ar y Tâd, yr hwn sydd, heb dderbyn wyneb, yn barnu yn ôl gwei­thred pôb un, ymddygwch mewn ofn tros amser eich ymdeithiad:

18 Gan ŵybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, i'ch prynwyd oddi wrth eich o­fer ymarweddiad, yr hon a gaw­soch trwy draddodiad y tadau:

19 Eithr â gwerthfawr waed Christ, megis oen difeius a difry­cheulyd.

20 Yr hwn yn wîr a rag-ordel­niwyd cyn sylfaenu y bŷd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd di­weddaf, er eich mwyn chwi,

21 Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cy­fododd ef oddi wrth y meirw, ae a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddei eich ffydd chwi a'ch go­baith yn Nuw.

22 Gwedi puro eich eneidiau, gan ufyddhau i'r gwirionedd trwy'r Yspryd, i frawdgarwch di­ragrith, cerwch ei gilydd o galon bur yn helaeth:

23 Wedi eich ail-eni, nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw, ac yn parhau yn dragy­wydd.

24 Canys pôb cnawd fel glâs­welltyn yw, a holl ogoniant dŷn fel blodeuyn y glas-welltyn: gwy­wodd y glas-welltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd.

25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd: a hwn yw 'r gair a bregethwyd i chwi.

PEN. II.

Y mae efe yu eu cynghori na wne­lout ddim yn erbyn cariad: 4 ac yn dangos mai Christ ydyw 'r syl­faen yr adeiladwyd hwynt arno: 11 ac yn dymuno arnynt ymga­dw rhag chwantau cnawdol: 13 a bod yn ufydd i swyddogion. 18 Ac y mae yn dyscu i weision ufydd­hau iw meistred, 20 a bod yn ddio­ddefgar wrth esampl Christ, er eu bod yn cael cam.

VVEdi rhoi heibio gan hynny bôb drygioni a phôb twyll, a rhagrith, a chenfi­gen, a phôb gogan-air,

2 Fel rhai bychain newydd e­ni, chwennychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynnydoch trwyddo ef:

3 Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.

4 At yr hwn yr ydych yn dyfod megis at faen bywiol, a wrthod­wyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr.

5 A chwithau megis meini by­wiol ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysprydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymmu aberthau ysprydol, cymmeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.

6 O herwydd pa ham y cyn­nwysir yn yr Scrythur, Wele yr wyf yn gosod yn Sion ben-congl­faen, etholedig, a gwerthfawr: a'r hwn a grêd ynddo, ni's gw­radwyddir.

7 I chwi gan hynny y rhai y­dych yn credu, y mae yn urddas: eithr i'r anufyddion, y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,

8 Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sy yn tram­gwyddo wrth y gair, gan fôd yn anufydd; i'r hwn beth yr ordeini­wyd hwynt hefyd.

9 Eithr chwy-chwi ydych ry­wogaeth etholedig, brenhinol o­ffeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw: fel y myne­goch rinweddau-yr hwn a'ch gal­wodd allan o dywyllwch i'w ry­feddol oleuni ef.

10 Y rhai gynt nid oeddych bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech dru­garedd, ond yr awron a gawsoch drugaredd.

11 Anwylyd, yr wyf yn atto­lwg i chwi megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid:

12 Gan fôd a'ch ymarweddi­ad yn honest ymmysc y Cenhed­loedd: fel, lle maent yn eich go­ganu megis drwg-weithredwŷr, y gallont o herwydd eich gweith­redoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad.

13 Ymddarostyngwch oblegid hyn i bôb dynolord inhâd, o her­wydd yr Arglwydd: pa un byn­nag ai i'r brenin, megis goru­chaf:

14 Ai i'r llywiawd-wŷr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwg weithredwŷr, a mawl i'r gweithredwŷr da.

15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni, ostegu anwybodaeth dy­nion ffolion:

16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhydd-did gennych megis cochl malis, eithr fel gwasanaethwŷr Duw.

17 Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.

18 Y gweision, byddwch ddaro­styngedig gydâ phôb ofn, i'ch meistred, nid yn unic i'r rhai da a chyweithas, eithr i'r rhai anghy­weithas hesyd.

19 Canys hyn sydd rasol, os yw neb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam.

20 Oblegid pa glôd yw, os pan [Page] bechoch a chael eich cernodi­o, y byddwch dda eich ammy­nedd? eithr os a chwi yn gwneu­thur yn dda, ac yn dioddef, y by­ddwch dda eich ammynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw.

21 Canys i hyn i'ch galwyd hefyd, oblegid Christ yntef a ddioddefodd trosom ni, gan adel i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef.

22 Yr hwn ni wnaeth be­chod, ac ni chaed twyll yn ei e­hau.

23 Yr hwn pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn, pan ddio­ddefodd ni fygythiodd: eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn.

24 Yr hwn ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren: fel gwedi ein marw i be­chodau, y byddem byw i gyfiawn­der: trwy gleisiau yr hwn yr ia­chawyd chwi.

25 Canys yr oeddych megis defaid yn myned ar gyfeiliorn: eithr yn awr chwi a ddychwe­lwyd at fugail ac escob esch enei­diau.

PEN. III.

1 Y mae yn dyscu i wyr a gwr a­gedd eu dyled iw gilydd; 8 yn annog pawb i undeb a chariad; 14 ac i ddioddef erlid; 19 ac yn adrodd daioni Duw i'r hên fyd gynt.

YR un ffunyd bydded y gwra­gedd ostyngedig iw gwŷr pri­od: fel od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hynnill hwy heb y gair,

2 Wrth edrych ar eich ymar­weddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.

3 Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-osodiad aur, neu wiscad dillad:

4 Eithr bydded cuddiedig ddŷn y galon, mewn anllegredigaeth ys­pryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werth­fawr.

5 Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fôd yn ddarostynge­dig iw gwŷr priod:

6 Megis yr ufyddhâodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn Ar­glwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dy­chryn.

7 Y gwŷr yr un ffunyd, cyd­gyfanneddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i'r wraig, megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sy gyd-etifeddion grâs y bywyd, rhag rhwystro eich gwe­ddiau.

8 Am ben hyn, byddwch oll yn unfryd, yn cyd-oddef â'i gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:

9 Nid yn talu drwg am ddrwg, neu senn am senn: eithr yngwrth­wyneb, yn bendithio: gan ŵybod mai i hyn i'ch galwyd, fel yr eti­feddoch fendith.

10 Canys y neba ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, attalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll.

11 Gocheled y drwg, a gw­naed [Page] y da: ceisied heddwch, a di­lyned ef.

12 Canys y mae llygaid yr Ar­glwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tu ac at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Ar­glwydd yn erbyn y rhai sy yn gw­neuthur drwg.

13 A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda.

14 Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhac eu hofn hwynt, ac na'ch cynnhyrfer:

15 Eithr sancteiddiwch yr Ar­glwydd Dduw yn eich calonnau: a byddwch barod bôb amser i atteb i bôb un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gyd ag addfwynder ac ofn:

16 A chennych gydwybod dda: fel yn yr hyn y maent yn eich go­ganu megis drwg-weithredwyr, y cywilyddio y rhai sydd yn beio areich ymarweddiad da chwi yn Ghrist.

17 Canys gwell ydyw, os ewy­llys Duw a'i mynn, i chwi ddio­ddef yn gwneuthur daioni nag yn gwneuthur drygioni:

18 Oblegid Christ hefyd un­waith a ddioddefodd tros becho­dau, y Cyfiawn tros yr anghyfi­awn; fel y dygei ni at Dduw, we­di ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Yspryd:

19 Trwy'r hwn yr aeth efe he­fyd ac a bregethodd i'r ysprydion yngharchar,

20 Y rhai a fu gynt anufydd, pan unwaith yr oedd hir-ammy­nedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra y darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a a­chubwyd trwy ddwfr.

21 Cyffelybiaeth cyf attebol i'r hwn, sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd (nid bwrw ym­maith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tu ac at Dduw,) trwy adgyfodiad Iesu Grist,

22 Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef, a'r An­gelion, a'r awdurdodau, a'r gallu­oedd, wedi eu darostwng iddo.

PEN. IV.

1 Y mae yn eu hannog hwy i beidio â phechu, trwy esampl Christ, a thrwy ystyried fôd diwedd pob peth yn pwyso yn agos. 12 Y mae yn eu cyssuro yn erbyn erlid.

AM hynny, gan ddioddef o Grist trosom ni yn y cnawd, chwi­thau hefyd byddwch wedi eich arfogi â'r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod;

2 Fel n a byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, tros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.

3 Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r enioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trach wantau, meddwdod, cyfeddach, diotta, a ffiaidd eulyn-addoliad.

4 Yn yr hyn y maent yn ddieitht yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cyd-redeg gyd â hwynt i'r un rhyw ormod rhysedd:

5 Y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu y byw a'r meirw.

6 Canys er mwyn hynny yr esangylwyd i'r meirw hefyd, fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr yspryd.

7 Eithr diwedd pôb peth a ne­sâodd: am hynny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddiaw.

8 Eithr o flaen pôb peth bydded gennych gariad helaeth tu ac at ei gilydd: canys cariad a guddia li­aws o bechodau.

9 Byddwch letteugar y naill i'r llall, heb rwgnach.

10 Pôb un megis y derbyniodd rôdd, cyfrennwch â'i gilydd, fel daionus orch wylwŷr amryw râs Duw.

11 Os llefaru a wna nêb, llefa­red megis geiriau Duw: os gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhôb peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo yr gogoniant a'r gallu, yn oes oes­oedd, Amen.

12 Anwylyd na fydded ddi­eithr gennwch am y profiad tan­llyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi:

13 Eithr llawenhewch, yn gym­maint a'ch bôd yn gyfrannogion o ddioddefiadau Christ, fel pan ddatcuddier ei ogoniant ef, y by­ddoch yn llawen, ac yn gorfoleddu.

14 Os difenwir chwi er mwyn Enw Christ, gwyn eich bŷd: oble­gid y mae Yspryd y gogoniant, ac Yspryd Duw yn gorphywys ar­noch: ar eu rhan hwynt yn wîr efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.

15 Eithr na ddioddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg weithredŵr, neu fel un yn ymmyrreth â matterioh rhai e­raill:

16 Eithr os fel Christion, na fydded gywilydd ganddo, ond go­gonedded Dduw yn hyn o ran.

17 Canys daeth yr amser i dde­chreu o'r farn o dŷ Dduw: ac os dechreu hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i Efengyl Duw?

18 Ac os braidd y mae'r cyfi­awn yn gadwedig, pa le yr ym­ddengys yr annuwiol a'r pechadur?

19 Am hynny y rhai hefyd sy yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchymmynnant eu heneidiau i­ddo ef, megis i greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

PEN. V.

1 Y mae yn annog yr Henuriaidi borthi defaid Christ: 5 a'r ieuaingc i ufyddhau: 8 A phawb i wilied, ac i fôd yn sobr, ac yn ddianwadal yn y ffydd: 9 Ac i wrthwynebu y cythrael, y gwrthwynebwr creulon.

YR Henuriaid sy yn eich plith, attolwg iddynt yr ydwyfi, yr hwn wyf gydhenuriad, a thŷst o ddioddefiadau Christ, yr hwn he­fyd wyf gyfrannog o'r gogoniant a ddad-cuddir,

2 Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt, nid trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar, nid er mwyn budr-elw, eithr o barodrwydd me­ddwl:

3 Nid fel rhai yn tra arglwyddi­aethu ar etifeddiaeth Dduw, ond gan fôd yn esamplau i'r praidd.

4 A phan ymddangoso y Pen­bugail, chwi a gewch dderbyn an­niflannedig goron y gogoniant.

5 Yr un ffunyd yr ieuainge, by­ddwch ostyngedig i'r Henuriaid: a byddwch bawb yn ostyngedig iw gi­lydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchi­on, ac yn rhoddi grâs i'r rhai go­styngedig:

6 Ymddarostyngwch gan hyn­ny tan alluog law Dduw, fel i'ch derchafo mewn amser cyfaddas:

7 Gan fwrw eich holl ofal ar­no ef, canys y mae efe yn gofalu trosoch chwi.

8 Byddwch sobr, gwiliwch: oblegid y mae eich gwrth-wyne­bwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan gei­sio y nêb a allo ei lyngcu.

9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd, gan ŵybod fôd yn cyflawni yr un blinderau yn eich brodyr, y rhai sydd yn y bŷd.

10 A Duw pôb grâs, yr hwn a'ch galwodd chwi iw dragwy­ddol ogoniant trwy Grist Iesu, we­di i chwi ddioddef ychydig; a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhâo, a'ch cryfhâo, a'ch sefydlo.

11 Iddo ef y byddo y gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.

12 Gyd â Silvanus brawd ffydd­lon i chwi (fel yr wyf yn tybied) yr scrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori a thestiolaethu mai gwîr râs Duw yw yr hwn yr y­dych yn sefyll ynddo.

13 Y mae 'r Eglwys sydd yn Ba­bylon yn gyd-etholedig â chwi, yn eich annerch a Marcus fy mâb i.

14 Anherchwch ei gilydd â chusan cariad, Tangneddyf i chwi oll, y rhai ydych yn Ghrîst Iesu. Amen.

AIL EPISTOL CYFFREDINOL PETR YR APOSTOL.

PEN. I.

1 Y mae efe yn eu cadarnhau mewn gobaith o gynnydd grâs Duw: ac yn eu hannog i wneuthur eu gal­wedigaeth yn siccr trwy ffydd a gweithredoedd. 12 Y mae yn ofa­lus i ddwyn hynny ar gôf iddynt, gan wybod fod ei farwolaeth ef ei hun yn agos. 16 Y mae yn eu rhybuddio hwy i fod yn ddianwa­dal yn ffydd Grist, gwir fab Duw, trwy dystiolaeth yr Apostolion a welsant ei ogoniant ef, a thrwy dystiolaeth y Tâd, a'r Prophwydi.

SIMON Petr, gwasanacth-ŵr ac Apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werth­fawr ffydd â ninnau, trwy gyfi­awnder ein Duw ni, a'n Achubwr Iesu Grist:

2 Grâs i chwi, a thangneddyf a amlhaer, trwy adnabod Duw, ac Iesu ein Harglwydd ni,

3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bôb peth a berthyn i fy­wyd a duwioldeb, trwy ei adna­bod ef, yr hwn a'n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd:

4 Trwy'r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawriawn a gwerth­fawr, fel trwy y rhai hyn y by­ddech gyfrannogion o'r duwiol anian, wedi diangc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y bŷd trwy drach want.

5 A hyn ymma hefyd, gan ro­ddi [Page] cwbl ddiwydrwydd, chwane­gwch at eich ffydd rinwedd, ac at rinwedd ŵybodaeth;

6 Ac at ŵybodaeth gymme­drolder, ac at gymmedrolder am­mynedd, ac at ammynedd duwiol­aeb;

7 Ac at dduwioldeb garedig­rwydd brawdol, ac at garedig­rwydd brawdol, cariad.

8 Canys os yw y pethau hyn gennych, ac yn amlhwynt, y maent yn peri na bôch na segur na diffrwyth yngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.

9 Oblegid, yr hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ym-mhell, wedi gollwng tros gôf ei lanhâu oddiwrth ei be­chodau gynt.

10 O herwydd pa ham yn hy­trach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn siccr: ca­nys tra fôch yn gwneuthur y pe­thau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth.

11 Canys felly yn helaeth y tref­nir i chwi fynediad i mewn i dragwyddoi deyrnas ein Har­glwydd a'n achubwr Iesu Grist.

12 O herwydd pa ham, nid es­ceulusaf eich coffau bôb amser am y pethau hyn, er eich bôd yn eu gwybod, ac wedi eich siccrhau yn y gwirionedd pre­sennol.

13 Eithr yr ydwyf yn tybied fôd yn iawn, tra fyddwyf yn y taber­nacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gôf i chwi.

14 Gan wybod y bydd i mi ar frŷs roddi sy nhabernacl hwn heibio, megis ac yr yspysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi.

15 Ac mi a wnaf fy ngoreu he­fyd ar allu o honoch bôb amser, ar ôl fy ymadawiad i wneuthur co­ffa am y pethau hyn.

16 Canys nid gan ddilyn chwe­dlau cyfrwys yr yspysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â'n llygaid.

17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Tâd barch a gogoni­ant, pan ddaeth y cyfryw lêf atto oddi wrth y mawr ragorol ogoni­ant, Hwn yw fy anwyl Fâb i, yn yr hwn i'm bodlonwyd.

18 A'r llêf yma, yr hon a ddaeth o'r nef, a glywsom ni, pan oeddym gyd ag ef yn y my­nydd sanctaidd.

19 Ac y mae gennym air sic­crach y prophwydi: yr hwn da y gwnewch fôd yn dal arno, megis ar ganwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio'r dydd, ac oni chodo 'r seren ddydd yn eich calonnau chwi:

20 Gan ŵybod hyn yn gyntaf, nad oes un brophwydoliaeth o'r Scrythur, o ddeongliad priod.

21 Canys nid trwy ewyllys dŷn y daeth gynt brophwydoliaeth, eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynnhyrfwyd hwy gan yr Yspryd glân.

PEN. II.

1 Y mae efe yn prophwydo am a­thrawon ffeilsion, ac yn dangos eu hanwireda a'i dialedd hwy, a'i dilynwyr: 7 oddiwrth y rhai y gwaredir y rhai duwiol, fel y gwa­redwyd Lot o Sodom. 10 Y mae efe yn dangos yn helaethach gynnedd­fau y twyllwyr annuwiol hynny, [Page] fel y galler eu hadnabod hwy yn haws, a'i gochelyd.

EIthr bu gau-brophwydi hefyd ym-mhlith y bobl, megis ac y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel, a ddygant i mewn heresiau dini­striol, a chan wadu yr Arglwydd, yr hwn a'u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddi­nistr buan.

2 A llawer a ganlynant eu de­stryw hwynt, o herwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd:

3 Ac mewn cybydd-dod trwy chwedlau gwneuthur, y gwnant farsiandiaeth o honoch: barnedi­gaeth y rhai er ystalm nid yw se­gur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn heppian.

4 Canys onid arbedodd Duw 'r Angelion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, iw cadw i farnedigaeth:

5 Ac onid arbedodd efe yr hên fŷd, eithr Noe pregethwr cyfi­awnder a gadwodd efe ar ei wyth­fed, pan ddug efe y Diluw ar fŷd y rhai anwir:

6 A chan droi dinasoedd So­doma a Gomorrha yn lludw, a'u damnodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol:

7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwi­riaid.

8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysc hwynt, yn gwe­led ac yn clywed, ydoedd yn poe­ni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd, trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt.)

9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghy fiawn i ddydd y farn iw poeni:

10 Ac yn bennaf y rhai sy'n rhodio ar ôl y cnawd, mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth: rhyfygus ydynt, cyn­dyn, nid ydynt yn arswydo cablu urddas:

11 Lle nid yw'r Angelion, y rhai sy fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu her­byn hwynt ger bron yr Arglwydd:

12 Eithr y rhai hyn, megis ani­feiliaid anrhesymmol, anianol, y rhai a wnaed iw dal ac iw difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain:

13 Ac a dderbyniant gyflog ang­hyfiawnder, a hwy yn cyfrif moe­theu beunydd yn hyfrydwch, bry­cheu a meflau ydynt, yn ymddigri­fo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyd â chwi:

14 A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod: yn llithio eneidiau an­wadal, a chanddynt galon wedi ymgynnefino â chybydd-dra, plant y felldith:

15 Wedi gadel y ffordd uniawn, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam, mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfi­awnder:

16 Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: assyn fûd arferol â'r iau, gan ddywedyd â llef ddy­nol, a waharddodd ynfydrwydd y Prophwyd.

17 Y rhai hyn ydynt ffynhon­nau diddwfr, cymmylau a yrrid gan dymestl, i'r rhai y mae niwl [Page] tywyllwch ynghadw yn dragy­wydd.

18 Canys gan ddywedyd chwy­ddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy trwy chwantau 'r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio y rhai a ddiangasei yn gwbl oddi wrth y rhai sy yn byw ar gyfeiliorn:

19 Gan addo rhydd-did iddynt, a hwythau eu hunain yn wasa­naeth-wŷr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd nêb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.

20 Canys os wedi iddynt ddi­angc oddiwrth halogedigaeth y bŷd, trwy adnabyddiaeth yr Ar­glwydd a'r Achubwr Iesu Ghrist, y rhwystrir hwy drachefn â'r pe­thau hyn, a'u gorchfygu, aeth di­wedd y rhai hynny yn waeth nâ'i dechreuad.

21 Canys gwell fuasei iddynt, fôd heb adnabod ffordd cyfiawn­der, nag wedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gorchymmyn san­ctaidd, yr hwn a draddodwyd i­ddynt.

22 Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wîr ddihareb, Y cî a ymch­welodd at ei chwdiad ei hun: a'r hŵch wedi ei golchi, iw hym­dreiglfa yn y dom.

PEN. III.

1 Y mae efe yn eu siccrhau hwy am ddyfodiad Christ i'r farn, yn er­byn y gwatwarwyr a ymresym­mai yn y gwrthwyneb: 8 gan ry­buddio y rhai duwiol i brysuro eu hedifeirwch, o ran hir ammynedd Duw: 10 Ac y mae yn dangos pa fodd y dinistrir y byd: 11 Ac yn eu hannog hwy i sancteiddrwydd buchedd, trwy ddisgwil hyny: 15 A hefyd i feddwl mai er mwyn en iechydwriaeth hwynt y mae Duw yn ddioddefgar, megis yr scrifen­nodd Paul attynt.

YR ail Epistol hwn anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei scri­fennu attoch, yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gôf i chwi:

2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a rag-ddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a'n gor­chymmyn ninnau, Apostolion yr Arglwydd, a'r Jachawdwr:

3 Gan ŵybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watwar-wŷr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain:

4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pôb peth yn parhau, fel yr oeddynt o­ddechreuad y creaduriaeth.

5 Canys y mae hyn yn ddiar­wybod iddynt o'u gwîr-fodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ystalm, a'r ddaiar yn cyd-sefyll o'r dwfr, a thrwy 'r dwfr.

6 O herwydd pa ham, y bŷd a oedd y pryd hynny, wedi ei orch­guddio â dwfr a ddifeth wyd.

7 Eithr y nefoedd a'r ddaiar sy yr awrhon, ydynt trwy 'r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, er­byn dydd y farn, a distryw yr an­wir ddynion.

8 Eithr yr un peth hyn na fy­dded yn ddiarwybod i chwi, an­wylyd, fôd un dydd gyd â'r Ar­glwydd megis mîl o flynyddoedd, a mîl o flynyddoedd megis un dydd.

9 Nid ydyw 'r Arglwydd yn [Page] oedi ei addewid, (fel y mae rhai yn cyfrif oed) ond hir-ymarhous yw efe tu ac attom ni, heb ewylly­sio bôd nêb yn golledig, ond dy­fod o bawb i edifeirwch.

10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nôs, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gydâ thwrwf, a'r defnyddiau gan wîr wres a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a loscir.

11 A chan fôd yn rhaid i hyn i gŷd ymollwng, pa ryw fâth ddy­nion a ddylech chwi fôd, mewn sanctaidd ymarweddiad a duwi­oldeb,

12 Yn disgwil ac yn bryssio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losci a ymollyn­gant, a'r defnyddiau gan wir wres a doddant?

13 Eithr nefoedd newydd, a daiar newydd yr ydym ni, yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwil, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.

14 O herwydd pa ham, anwy­lyd, gan eich bôd yn disgwyl y pethau hyn, gwnewch eich goreu ar eich cael ganddo ef mewn tang­neddyf, yn ddi-frycheulyd, ac yn ddi-argyoedd:

15 A chyfrifwch hir-ammy­nedd ein Harglwydd, yn iechyd­wriaeth: megis ac yr scrifennodd ein hanwyl frawd Paul attoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef:

16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr annyscedig a'r an­wastad yn eu gŵyr-droi, megis yr Scrythurau eraill, iw dinistr eu hunain.

17 Chwy-chwi gan hynny, an­wylyd, a chwi yn gwybod y pe­thau hyn o'r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymmaith trwy amry­fusedd yr annuwiol, a chwympo o honoch oddiwrth eich siccrwydd eich hun.

18 Eithr cynnyddwch mewn grâs a gŵybodaeth ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon, ac yn dragwyddol. Amen.

EPISTOL CYNTAF Cyffredinol IOAN yr Apostol.

PENNOD I.

Y mae efe yn gosod allan berson Christ, yn yr hwn y mae i ni fywyd tragwy­ddol, trwy gymdeithas â Duw. 5 Rhaid i ni ymroi i sancteiddrwydd buchedd, i dystiolaethu gwirionedd y gymdeithas honno, a'n ffydd: a hefyd i'n siccrhau ein hunain o fa­ddeuant pechodau, trwy farwolaeth Crist.

YR hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a wel­som â'n llygaid, yr hyn a edrycha­som arno, ac a deimlodd ein dwy­lo am air y bywyd:

2 (Canys y bywyd a eglurha­wyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi y bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyd â'r Tâd, ac a eglurhawyd i ni,)

3 Yr hyn a welsom ac a glyw­som, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gym­deithas gyd â ni: a'n cymdeithas ni yn wîr sydd gyd â'r Tâd, a chyd â'i Fab ef Iesu Grist:

4 A'r pethau hyn yr ydym yn eu scrifennu attoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

5 A hon yw 'r gennadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn eu hadrodd i chwi, mai goleu­ni yw Duw, ac nad ces ynddo ddim tywyllwch.

6 Os dywedwn fôd i ni gym­deithas ag ef, a rhodio yn y ty­wyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwiri­onedd.

7 Eithr os rhodiwn yn y goleu­ni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'i gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glânhau ni oddi wrth bôb pechod.

8 Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.

9 Os cyfaddefwn ein pecho­dau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhâo oddi wrth bôb ang­hyfiawnder.

10 Os dywedwn na phecha­som, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i air ef nid yw ynom.

PEN. II.

Y mae efe yn eu cyssuro hwy yn er­byn pechodau o wendid. 3 Adna­bod Duw yn iawn yw cadw ei or­chymynnion ef: 9 a charu ein bro­dyr: 15 ac na roddom ein serch ar y byd. 15 Rhaid i ni ochelud twyllwyr: 20 y rhai y mae y du­wiol yn ddiogel oddiwrth eu twyll, trwy barhâu yn y ffydd, ac mewn sancteiddrwydd buchedd.

FY mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu scrifennu at­toch, fel na phechoch: ac o phe­cha nêb, y mae i ni eiriolwr gyd â'r Tâd, Iesu Grist y Cyfiawn:

2 Ac efe, yw 'r iawn tros ein pechodau ni: ac nid tros yr eidd­om ni yn unig, eithr tros bechodau yr holl fŷd.

3 Ac wrth hyn y gwyddom yr ad waenom ef, os cadwn ni ei or­chymmynion ef.

4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei or­chymmynion ef, celwyddog yw, a'r gwirionedd nid yw ynddo.

5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wîr yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gŵyddom ein bôd ynddo ef.

6 Yr hwn a ddywed ei fôd yn aros ynddo ef, a ddylei yntef fe­lly rodio, megis ac y rhodiodd ef.

7 Y brodyr, nid gorchymmyn newydd yr wyf yn ei scrifennu at­toch, eithr gorchymmyn hên, yr hwn oedd gennych o'r dechreu­ad: yr hên orchymmyn yw'r gair a glywsoch o'r dechreuad.

8 Trachefn, gorchymmyn ne­wydd yr wyf yn ei scrifennu at­toch, yr hyn sydd wîr ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y ty­wyllwch a aeth heibio, a'r gwîr oleuni sydd yr awron yn ty­wynnu.

9 Yr hwn a ddywed ei fôd yn y goleuni, ac a gasâo ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y prŷd hyn.

10 Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.

11 Eithr yr hwn sydd yn casau [Page] ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rho­dio: ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae y tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.

12 Scrifennu yr wyf attoch chwi, blant bychain, oblegid ma­ddeu i chwi eich pechodau, er mwyn ei Enw ef.

13 Scrifennu yr wyf attoch chwi, dadau, am adnabod o ho­noch yr hwn sydd o'r dechreuad: scrifennu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, am orchfygu o ho­noch yr un drwg: scrifennu yr wyfattoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tâd.

14 Scrifennais attoch chwi, da­dau, am adnabod o honoch yr hwn sydd o'r dechreuad: scrifen­nais attoch chwi, wŷr ieuaingc, am eich bôd yn gryfion, a bôd gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu o honoch yr un drwg.

15 Na cherwch y bŷd, na'r pe­thau sy yn y bŷd: o châr neb y bŷd, nid yw cariad y Tâd ynddo ef.

16 Canys pôb peth a'r y sydd yn y bŷd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd; nid yw o'r Tâd, eithr o'r bŷd y mae.

17 A'r bŷd sydd yn myned hei­bio, a'i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.

18 O blant bychain, yr awr ddiweddaf ydyw: ac megis y clyw­soch y daw Anghrist, yr awron hefyd y mae Anghristiau lawer: wrth yr hyn y gŵyddom mai yr awr ddiweddaf ydyw.

19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt o honom ni: canys pe buasent o ho­nom ni, hwy a arhosasent gyd a ni: eithr hyn a fu fel yr eglurid nad ydynt hwy oll o honom ni.

20 Eithr y mae gennych chwi enneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bôb peth.

21 Ni scrifennais attoch oble­gid na ŵyddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wŷ­bod, ac nad oes un celwydd o'r gwirionedd.

22 Pwy yw 'r celwyddog, ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw 'r Christ? Efe yw 'r Anghrist, yr hwn sydd yn gwadu y Tâd â'r Mâb.

23 Pôb un ac sydd yn gwadu y Mâb, nid oes ganddo y Tâd chwaith: yr hwn sydd yn cyffesu y Mâb, y mae y Tâd ganddo hefyd.

24 Arhosed gan hynny ynoch chwi, yr hyn a glywsoch o'r de­chreuad: od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad, chwi­thau hefyd a gewch aros yn y Mâb, ac yn y Tâd.

25 A hwn yw 'r addewid a adda­wodd efe i ni, sef bywyd tragwy­ddol.

26 Y pethau hyn a scrifennais attoch ynghylch y rhai sy yn eich hudo.

27 Ond y mae yr enneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisieu dyscu o nêb chwi: eithr fel y mae yr un enneiniad yn eich dyscu chwi am bôb peth, a gwîr yw, ac nid yw gelwydd: ac me­gis i'ch dyscoddi chwi, yr arhos­wch ynddo.

28 Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddc: fel pan ymddan­goso [Page] efe, y byddo hyder gen­nym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef, yn ei ddyfodiad.

29 Os gwyddoch ei fôd ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pôb un sydd yn gwneuthur cyfiawn­der, wedi ei eni o honaw ef.

PEN. III.

1 Y mae efe yn dangos rhagorol ga­riad Duw tuag attom ni, yn ein gwneuthur ni yn blant iddo ei hun. 3 Ac am hynny y byddai raid i ninnau fod yn ufydd i gadw ei orchymynnion: 11 A charu bawb ei gilydd fel brodyr.

GWelwch pa fâth gariad a roes y Tâd arnom, fel i'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y bŷd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.

2 Anwylyd, yr awrhon meibi­on i Dduw ydym, ac nid amlyg­wyd etto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom pan ymddangoso ef, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ac y mae.

3 Ac y mae pôb un sydd gan­ddo y gobaith hyn ynddo ef, yn ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr.

4 Pôb un ac sydd yn gwneu­thur pechod, sydd hefyd yn gw­neuthur anghyfraith: oblegid ang­hyfraith yw pechod.

5 A chwi a ŵyddoch ym­ddangos o honaw ef, fel y deleai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod.

6 Pob un ac sydd yn aros yn­ddo ef, nid yw yn pechu: pôb un ac sydd yn pechu, ni's gwelodd ef, ae ni's adnabu ef.

7 O blant bychain, na thwy­lled nêb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gy­fiawn, megis y mae yntef yn gy­fiawn.

8 Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: canys y mae diafol yn pechu o'r dechreu­ad: i hyn yr ymddangosodd Mâb Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.

9 Pôb un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod: oble­gid y mae ei hâd ef yn aros ynddo ef, ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.

10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: pôb un ac sy heb wneuthur cyfiawn­der, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd.

11 Oblegid hon yw'r gennad­wri a glywsoch o'r dechreuad, bôd i ni garu ei gilydd.

12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd: a pha ham y lladdodd ef? Oblegid bôd ei weithredoedd ef yn ddrwg, ar eiddo ei frawd yn dda.

13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw'r bŷd yn eich casâu chwi.

14 Nyni a wyddom ddarfod ein symmud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bôd yn caru y brodyr: yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.

15 Pôb un ac sydd yn casau ei frawd, lleiddiad dŷn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi o honaw ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes tros y brodyr.

17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda 'r bŷd hwn, ac a wêlo ei frawd mewn eisieu, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fôdd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?

18 Fy mhlant bychain, na cha­rwn ar air, nac ar dafod yn unic, eithr mewn gweithred a gwirio­nedd.

19 Ac wrth hyn a gwyddom ein bôd o'r gwirionedd, ac y sic­crhawn ein calonnau ger ei fron ef.

20 Oblegid os ein calon a'n condemna, mwy yw Duw nâ'n calon, ac efe a ŵyr bôb peth.

21 Anwylyd, os ein calon ni'n condemna, y mae gennym hyder ar Dduw:

22 A pha beth bynnag a ofyn­nom, yr ydym yn ei dderbyn gan­ddo ef, oblegid ein bôd yn cadw ei orchymynnion ef, ac yn gwneu­thur y pethau sy yn rhyngu bôdd yn ei olwg ef.

23 A hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom yn Enw ei Fâb ef Iesu Grist, a charu ei gilydd, megis y rhoes efe orchymmyn i ni.

24 A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynnion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynddo yntef: ac wrth hyn y gwyddom ei fôd ef yn aros ynom, sef o'r Yspryd a roddes efe i ni.

PEN. IV.

Y mae efe yn eu rhybuddio hwynt na wnaent goel ar bôb athro sydd yn ymffrostio o'r Yspryd, eithr eu profi hwy yn hytrach trwy reolau y ffydd Gatholig. 7 Ac y mae efe trwy amryw resymmau yn eu han­nog hwy i gariad brawdol.

ANwylyd, na chredwch bôb Yspryd, eithr profwch yr Ys­prydion ai o Dduw y maent: ob­legid y mae gau brophwydi lawer wedi myned allan i'r bŷd.

2 Wrth hyn adnabyddwch Ys­pryd Duw: pôb Yspryd ac sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.

3 A phôb Yspryd a'r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw Yspryd Anghrist, yr hwn y clywsoch ei fôd yn dyfod, a'r awron y mae efe yn y bŷd eusus.

4 Chwy-chwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfyga­soch hwy: oblegid mwy yw'r hwn sydd ynoch chwi, nâ'r hwn sydd yn y bŷd.

5 Hwynt-hwy o'r bŷd y maent: am hynny y llefarant am y bŷd, a'r bŷd a wrendy arnynt.

6 Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gw­rando ni: wrth hyn yr adwaenom Yspryd y gwirionedd, ac Yspryd y cyfeiliorni.

7 Anwylyd, carwn ei gilydd: oblegid cariad o Dduw y mae: a phôb un ac sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn ad­nabod Duw.

8 Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw ca­riad yw.

9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tu ac attom ni, oblegid dan­fon o Dduw ei unic-anedig Fâb i'r bŷd, fel y byddem fyw trwy­ddo ef.

10 Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fâb i fôd yn iawn dros ein pechodau.

11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ei gilydd.

12 Ni welodd neb Dduw eri­oed: os carwn ni ei gilydd y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.

13 Wrth hyn y gwyddom ein bôd yn trigo ynddo ef, ac yntef y­nom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Yspryd.

14 A ninnau a welsom, ac y­dym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tâd ddanfon y Mâb, i fod yn Ia­chawdwr i'r bŷd.

15 Pwy bynnag a gyffeso fôd Iesu yn Fâb Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntef yn Nuw.

16 A nyni a adnabuom, ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tu ac attom ni. Duw cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cari­ad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntef.

17 Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd farn: oblegid megis ac y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y bŷd hwn.

18 Nid oes ofn mewn cariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth: a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.

19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.

20 Os dywed nêb, yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fôdd y gall efe garu Duw yr hwn ni's gwelodd?

21 A'r gorchymmyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef, bôd i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.

PEN. V.

Y neb sydd yn caru Duw sydd yn ca­ru ei blant ef hefyd, ac yn cadw ei orchymynnion ef. 3 Y rhai sydd yscafn, ac nid trymion i'r ffydd­loniaid. 9 Y mae Iesu yn fab Duw, ac yn abl i'n hachub ni: 14 ac i wrando ein gweddiau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur trosom ein hunain, a thros eraill.

POb un ac sydd yn credu mai Iesu yw'r Christ, o Dduw y ganed ef, a phôb un ac sy yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd hefyd yn caru yr hwn a genhedlwyd o honaw.

2 Yn hyn y gŵyddom ein bôd yn caru plant Duw, pan fôm yn caru Duw, ac yn cadw ei orchy­mynnion ef:

3 Canys hyn yw cariad Duw, bôd i ni gadw ei orchymynnion: a'i orchymynnion ef nid ydynt drymion.

4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu 'r bŷd: a hon yw 'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu y bŷd, sef ein ffydd ni.

5 Pwy yw yr hwn sydd yn gorchfygu 'r bŷd, onid yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mâb Duw?

6 Dymma yr hwn a ddaeth trwy [Page] ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist: nid trwy ddwfr yn unic, ond trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Yspryd sydd wirio­nedd.

7 Oblegid y mae tri yn tystio­laethu yn y nêf, y Tâd, y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn un y­dynt.

8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn un y maent yn cyttûno.

9 Os tystiolaeth dynion yr y­dym yn ei dderbyn, y mae tystio­laeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystio­laethodd efe am ei fâb.

10 Yr hwn sydd yn credu ym Mâb Duw, sydd ganddo y dŷstio­laeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn credu i Dduw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chre­dodd y dystiolaeth a dystiolaeth­odd Duw am ei Fâb.

11 A hon yw 'r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragy­wyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fâb ef.

12 Yr hwn y mae y Mâb gan­ddo, y mae y bywyd ganddo: a'r hwn nid yw ganddo Fâb Duw, nid oes ganddo fywyd.

13 Y pethau hyn a scrifennais attoch chwi, y rhai ydych yn credu yn Enw Mâb Duw: fel y gwypoch fôd i chwi fywyd tra­gywyddol, ac fel y credoch yn enw Mâb Duw.

14 A hyn yw 'r hyfder sydd gennym tu ac atto ef, ei fôd ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.

15 Ac os gwyddom ei fôd ef yn ein gwrando ni, pa beth byn­nag a ddeisyfom, ni a ŵyddom ein bôd yn cael y deisyfiadau a ddeisyfiasom ganddo.

16 Os gwêl nêb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwo­laeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sy'n pechu nid i farwolaeth: y mae pechod i farwolaeth, nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf o honaw.

17 Pôb anghyfiawnder pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.

18 Ni a wyddom nad yw'r nêb a aned o Dduw, yn pechu: eithr y mae yr hwn a aned o Dduw yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.

19 Ni a wyddom ein bôd o Dduw, ac y mae yr hôll fŷd yn gorwedd mewn drygioni.

20 Ac a wyddom ddyfod Mâb Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir: ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fâb ef Iesu Grist. Hwn yw y gwîr Dduw, a'r by­wyd tragwyddol.

21 Y plant bychain, ymged­wch oddi wrth eulynnod. Amen.

AIL EPISTOL IOAN YR APOSTOL.

Y mae efe yn annog rhyw Arglwy­ddes urddasol a'i phlant. i barhâu mewn cariad a ffydd Grist: 8 rhac iddynt golli gwobr eu proffess o'r blaen: 10 Ac na byddei i­ddynt a wnelent â'r twyllwŷr nid oedd yn dyscu gwir athrawiaeth Christ Iesu.

YR Henuriad at yr etho­ledig Arglwyddes, a'i phlant, y rhai yr wyfi yn eu caru yn y gwiri­onedd, ac nid myfi yn unic, ond pawb hefyd a adnabuant y gwiri­onedd;

2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyd â ni yn dragywydd.

3 Bydded gyd â chwi râs, tru­garedd, a thangneddyf, oddi wrth Dduw Tâd, ac oddi wrth yr Ar­glwydd Iesu Grist, Mâb y Tâd, mewn gwirionedd a chariad.

4 Bu lawen iawn gennif i mi gael o'th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbynia­som orchymmyn gan y Tâd.

5 Ac yn awr yr wyf yn attolwg i ti, Arglwyddes, nid fel un yn scrifennu gorchymmyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu o honom ei gilydd.

6 A hyn yw 'r cariad, bôd i ni rodio yn ôl ei orchymynnion ef. Hwn yw'r gorchymyn, megis y clywsoch o'r dechreuad, fôd i chwi rodio ynddo.

7 Oblegid y mae twyll-wŷr lawer wedi dyfod i mewn i'r bŷd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddy­fod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw 'r twyll-ŵr a'r Anghrist.

8 Edrychwch arnoch eich hu­nain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bôd i ni dderbyn llawn wobr.

9 Pôb un ac sy yn trosseddu, ac heb aros yn nysceidiaeth Christ, nid yw Duw ganddo ef; yr hwn sydd yn aros yn nysceidiaeth Christ, hwnnw y mae y Tâd a'r Mâb gan­ddo.

10 Od oes nêb yn dyfod at­toch, ac heb ddwyn y ddysceidi­aeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch Duw yn rhwydd wrtho.

11 Canys yr hwn sydd yn dy­wedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef.

12 Er bôd gennif lower o be­thau iw scrifennu attoch, nid oe­ddwn yn ewyllysio scrifennu â phapir ac ingc: eithr gobeithio'r ydwyf ddyfod attoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.

13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch, A­men,

TRYDYDD EPISTOL IOAN YR APOSTOL.

Y mae efe yn Canmol Gaius am ei dduwioldeb: 5 ac am groesawu pregeth-wyr. 9 Y mae efe yn a­chwyn rhag angharedigrwydd ac uchder Diotrephes: 11 yr hwn ni ddylid dilyn ei ddrwg esampl. 12 Y mae efe yn rhoi canmoliaeth mawr i Demetrius.

YR Henuriad at yr anwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.

2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fôd yn llwyddo, ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.

3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thy­stiolaethu am dy wirionedd di, megis ac yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.

4 Mwy llawenydd nâ hyn nid oes gennif, sef cael clywed bôd fy mhlant yn rhodio mewn gwirio­nedd.

5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur, tu ac at y brodyr, a thu ac at ddieithri­aid:

6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di, ger bron yr Eglwys: y rhai os hebryngi, fel y gweddei i Dduw, da y gwnei.

7 Canys er mwyn ei Enw ef yr aethant allan, heb gymmeryd dim gan y Cenhedloedd.

8 Ni a ddylem gan hynny dder­byn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gŷnorthwy-wŷr i'r gwirio­nedd.

9 Mi a scrifennais at yr Eg­lwys: eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim o honom.

10 O herwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gôf ei weithred­oedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wâg-siarad i'n herbyn â gei­riau drygionus: ac heb fôd yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, a'r rhai sy yn ewyllysio, y mae yn eu gwa­hardd, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys.

11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daio­ni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.

12 Y mai i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu, a chwi a ŵyddoch fôd ein tystiolaeth ni yn wîr.

13 Yr oedd gennif lawer o be­thau iw scrifennu, ond nid wyf yn chwennych scrifennu ag ingc a phin attat ti:

14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.

15 Tangneddyf i ti. Y mae y cy­feillion i'th annerch. Annerch y cyfeillion wrth en henwau.

EPISTOL CYFFREDINOL IUDAS yr APOSTOL.

Y mae yn eu hannog i broffessu ffydd Grist yn ddianwadal: 14 Bod gau athrawon wedi ymlusco i mewn iw hudo hwynt: a bod dialedd creulon wedi ei ddarparu iw hathrawiaeth a'i cynneddfau melltigedig hwynt: 20 Ond bôd y rhai duwiol trwy gynhorthwy yr Yspryd glân, a thrwy weddio ar Ddww, yn abl i barhau, ac i gyn­nyddu mewn grâs: ac iw cadw eu hunain, ac i achub eraill rhac maglau y twyllwyr hynny.

IUDAS, gwasaneth wr Ie­su Grist, a brawd Iaco, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Tâd, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:

2 Trugaredd i chwi, a thang­neddyf, a chariad a luosoger.

3 Anwylyd, pan roddais bôb diwydrwydd ar serifennu attoch, am yr iecnydwriaeth gyffredinol, anghenrhaid oeddi mi scrifennu attoch, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a ro­dded un-waith i'r Sainct.

4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusco i mewn, y rhai a rag­ordeiniwyd er ystalm i'r farnedi­gaeth hom, annuwiolion, yn troi grâs ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu yr unic Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist.

5 Ewyllysio gan hynny yr yd­wyf eich coffâu chwi, gan eich bôd un-waith yn gŵybod hyn, i'r Arglwydd wedi iddo waredu y bobl o dîr yr Aipht, ddestrywio eilwaith y rhai ni chredasant.

6 Yr Angelion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trifga eu hun, a gad­wodd efe mewn cadwynau trag­wyddol tan dywyllwch, i farn y dydd mawr.

7 Megis y mae Sodoma a Go­morrha, a'r dinasoedd a'u ham­gylch mewn cyffelyb fôdd â hwynt wedi putteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.

8 Yr un ffunyd hefyd y mae y breuddwyd-wŷr hyn, yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu y rhai sy mewn aw­durdod.

9 Eithr Michael yr Arch-an­gel, pan oedd efe wrth ymddad­leu â diafol, yn ymresymmu yng­hylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Ar­glwydd dydi.

10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu y pethau ni's gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn anianawl, fel anifeiliaid di-reswm yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.

11 Gwae hwynt-hwy: oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng­wrthddy wediad Core.

12 Y rhai sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cyd-wledda â chwi, yn ddiofn yn eu pesci eu hunain: cymylau diddwfr ydynt, a gylch-arwei­nir gan wyntoedd: preniau di­flannedig, heb ffrwyth, dwy­waith yn feirw, wedi eu di­wreiddio.

13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain: sêr gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.

14 Ac Enoch hefyd y seithfed o Addaf, a brophwydodd am y rhai hyn gan ddywedyd, wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyd â myr­ddiwn o'i Sainct,

15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr-argyoeddi yr holl rai annuwiol o honynt, am holl weithredoedd eu hannuwiol­deb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pe­chaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.

16 Y rhai hyn sydd rwgnach­wŷr, tuchan-wŷr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain: ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn maw­ygu wynebau dynion er mwyn bûdd.

17 Eithr chwi, o rai anwyl, co­fiwch y geiriau a rag-ddywed­pwyd gan Apostolion ein Har­glwydd Iesu Grist:

18 Ddywedyd o honynt i chwi y bydd yn yr amser di­weddaf watwar-wŷr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.

19 Y rhai hyn yw y rhai sy yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fôd yr Yspryd ganddynt.

20 Eithr chwy-chwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddio yn yr Yspryd glân,

21 Ymgedwch ynghariad Duw, gan ddisgwil trugaredd ein Har­glwydd Iesu Grist, i fywyd trag­wyddol.

22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:

23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cippio hwy allan o'r tân, gan gasâu hyd yn oed y wisc a halogwyd gan y cnawd.

24 Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod ger bron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,

25 I'r unic ddoeth Dduw, ein Iachawdwr ni, y byddo gogoni­ant a mawredd, gallu ac awdur­dod, yr awrhon ae yn dragywydd. Amen.

DADCUDDIAD SAINCT IOAN Y DIFINYDD.

PENNOD I.

1 Ioan yn scrifennu ei Ddatcuddiad at y saith Eglwys o Asia, yr rhai a arwyddocceir wrth y saith gan­hwyll-bren aur. 7 Dyfodiad Christ: 14 a'i allu gogoneddus, a'i ardderchawgrwydd ef.

DAd-cuddiad Iesu Grist, yr hon a roddes Duw i­ddo ef, i ddangos iw wa­sanaeth-wŷr y pethau fy raid eu dyfod i ben ar fyrder: a chan ddanfon trwy ei Angel, efe a'i hyspysodd iw wasanaeth-wr Ioan:

2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a'r holl bethau a welodd.

3 Dedwydd yw 'r hwn sydd yn darllen, a'r rhai sy 'n gwran­do geiriau y brophwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sy yn scrifennedig ynddi: canys y mae 'r amser yn agos.

4 Ioan at y saith Eglwys sydd yn Asia; Grâs fyddo i chwi a thangneddyf, oddi wrth yr hwn fydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod: ac oddi wrth y saith yspryd sydd ger bron ei orsedd-faingc ef:

5 Ac oddi wrth Iesu Grist yr hwn yw y tŷst ffyddlon, y cyntaf a­nedig o'r meirw, a thywysog bren­hinoedd y ddaiar: iddo [...]f yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun:

6 Ac a'n gwnaeth ni yn fren­hinoedd ac yn offeiriaid i Dduw, a'i Dâd ef, iddo ef y byddo y gogo­niant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.

7 Wele, y mae efe yn dyfod gyd â'r cymmylau, a phôb llygad a'i gwêl ef, îe y rhai a'i gwana­sant ef: a holl lwythau y ddaiar a alarant o'i blegid ef: felly. Amen.

8 Mi yw Alpha ac Omega, y de­chreu a'r diwedd, medd yr Ar­glwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, ar hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.

9 Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac ammy­nedd Iesu Grist, oeddwn yn yr y­nys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.

10 Yr oeddwn i yn yr Yspryd a'r ddydd yr Arglwydd; ac a gly­wais o'r tu ôl i mi, lêf fawr, fel llais udcorn.

11 Yn dywedyd, Mi yw Alpha ac Omega, y cyntaf a'r diweddaf: a'r Hyn yr wyt yn ei weled, scri­fenna mewn llyfr, a danfon i'r saith eglwys; y rhai sy 'n Asia: i Ephe­sus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Phi­ladelphia, a Laodicea.

12 Ac mi a droais i weled y llêf a lefarai wrthif: ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyll­bren aur,

13 Ac ynghanol y saith gan­hwyllbren, un tebyg i Fâb y dŷn, wedi ymwisco â gwisc laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu yng­hylch ei fronnau â gwregys aur.

14 Ei ben ef a'i wallt, oedd wy­nion fel gwlân cyn wynned a'r ei­ra: a'i lygaid fel fflamm dân,

15 A'i draed yn debyg i brês coeth, megis yn losci mewn ffwrn: a'i lais fel sŵn llawer o ddy­froedd.

16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddehau saith seren: ac o'i e­nau yr oedd cleddau llym dau­finiog yn dyfod allan: a'i wy­neb-pryd fel yr haul yn discleirio yn ei nerth.

17 A phan welais ef, mi a syr­thiais wrth ei draed ef fel marw: ac efe a osododd ei law ddehau arnafi, gan ddywedyd wrthif, Nac ofna: myfi yw y cyntaf a'r diweddaf,

18 A'r hwn wyf fyw, ac a fûm farw: ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen: ac y mae gennifagoriadau uffern a marwo­laeth.

19 Scrifenna y pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a fydd ar ôl hyn.

20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddehau, a'r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, Angelion y saith Eglwys ydynt: a'r saith ganhwyllbren a welaist, y saith Eglwys ydynt.

PEN. II.

Pa beth a orchymmynnir ei scrifen­nu at Angylion, hynny yw, gwei­nidogion Eglwysi Ephesus, 8 Smyr­na, 12 Pergamus, 18 Thyatira: a pha beth sydd ganmoladwy, neu ddeffygiol ynddynt.

AT Angel yr Eglwys sydd yn Ephesus, scrifenna. Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, yr hwn sydd yn rhodio ynghanol y saith ganhwyll-bren aur, yn eu dywedyd:

2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th lafur, a'th ymmynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi o honot y rhai sy'n dywe­dyd eu bôd yn Apostolion, ac nid ydynt: a chael o honot hwynt yn gelwyddog.

3 A thi a oddefaist, ac y mae ymmynedd gennit, ac a gymme­raist boen er mwyn fŷ Enw i, ac ni ddiffygiaist.

4 Eithr y mae gennif beth yn dy erbyn, am i ti ymadel â'th Ga­riad cyntaf.

5 Cofia gan hynny o ba le y syr­thiaist, ac edifarhâ, a gwna y gwei­thredoedd cyntaf: ac onid ê, yr wyfi yn dyfod attati ar frŷs, ac mi a symmudaf dy ganhwyll­bren di allan o'i le, oni edifarhei di.

6 Ond hyn sydd gennit, dy fôd ti yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr ŵyfi hefyd yn eu casâu.

7 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed pa beth y mae 'r Ys­pryd yn ei ddywedyd wrth yr Eg­lwysi: i'r hwn sydd yn gorchfy­gu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol Paradwŷs Dduw.

8 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Smyrna, scrifenna, Y pe­thau hyn y mae y cyntaf, a'r [Page] diweddaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd:

9 Mi a adwaen dy weithred­oedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, eithr cyfoethog wyt: ac mi a ad­waen gabledd y rhai sy yn dywe­dyd eu bôd yn Iddewon ac nid y­dynt ond Synagog Satan.

10 Nac ofna ddim o'r pethau yr ydwyt iw dioddef: wele y cy­thraul a fwrw rai o honoch chwi i garchar, fel i'ch profer: a chwi a gewch gystudd ddeng-nhiwr­nod. Bydd ffyddlon hyd angeu, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.

11 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Ys­pryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, Yr hwn sydd yn gorch­fygu ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.

12 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Pergamus, scrifenna, Y pethau hyn y mae yr hwn sydd ganddo y cleddyf llym dau-finiog, yn eu dywedyd.

13 Mi a adwaen dy weithred­oedd di, a pha le yr wyt yn tri­go, sef lle mae gorsedd-faingc Sa­tan: ac yr wyt yn dal fy Enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, îe yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi, yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi lle y mae Sa­tan yn trigo.

14 Eithr y mae gennif ychy­dig bethau yn dy erbyn di, oble­gid bôd gennit yno rai yn dal a­thrawiaeth Balaam, yr hwn a ddyscodd i Balac fwrw rhwystr ger bron meibion Israel, i fwytta pethau wedi eu haberthu i eulyn­nod, ac i odinebu.

15 Felly y mae gennit titheu hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid: yr hyn beth yr wyfi yn ei gasâu.

16 Edifarhâ: ac os amgen, yr wyfi yn dyfod attat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau.

17 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o'r Manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg henw newydd wedi ei scrifennu, yr hwn nid ed­wyn nêb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.

18 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Thyatira, scrifenna, Y pethau hyn y mae Mâb Duw yn eu dy­wedyd, yr hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i brês coeth:

19 Mi a adwaen dy weithre­doedd di, a'th gariad, a'th wa­sanaeth, a'th ffydd, a'th ymmy­nedd di, a'th weithredoedd: a bôd y rhai diweddaf yn fwy nâ'r rhai cyntaf.

20 Eithr y mae gennif ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fôd yn gadel i'r wraig honno, Ie­zabel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn brophwydes, ddyscu, a thwyllo fy ngwasanaeth-wŷr, i odinebu, ac i fwytta pethau wedi eu haberthu i eulynnod.

21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.

22 Wele, yr ŵyfi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn go­dinebu gyd â hi, i gystudd mawr, onid edifarhant am eu gweithre­doedd.

23 A'i phlant hi a laddaf â [Page] marwolaeth: a'r holl Eglwysi a gânt wŷbod mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arennau a'r ca­lonnau: ac mi a roddaf i bôb vn o honoch yn ôl eich gweithre­doedd.

24 Eithr wrthych chwi yr ŵyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysceidiaeth hon, a'r rhai ni adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant: ni fwriaf arnoch faich arall:

25 Eithr, yr hyn sydd gennwch, deliwch hyd oni ddelwyf.

26 A'r hwn sydd yn gorchfy­gu, ac yn cadw fy ngweithredo­edd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y Cenhedlo­edd:

27 (Ac efe a'u bugeilia hwy â gwialen haiarn: fel llestri pridd y dryllir hwynt;) fel y derbyniais inneu gan fy Nhâd:

28 Ac mi a roddaf iddo y seren foreu.

29 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi.

PEN. III.

2 Argyoeddi Angel Eglwys Sardis, 3 a'i annoc ef i edifarhau, a'i fygwth oni edifarhâe. 8 Angel Eglwys Philadelphia 10 yn cael ei ganmol am ei ddiwydrwydd, a'i ammynedd. 15 Angel Laodicea yn cael ei geryddu am na bai na brwd nac oer, 19 a'i rybuddio i fôd yn fwy ei zêl. 20 Christ yn sefyll wrth y drws, ac yn curo.

AC at Angel yr Eglwys sydd yn Sardis, scrifenna, Y pe­thau hyn y mae yr hwn sydd â saith Yspryd Duw, a'r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; mi a ad­wen dy weithredoedd di: oblegid y mae gennit enw dy fôd yn fyw, a marw ydwyt.

2 Bydd wiliadwrus, a siccrhâ y pethau sy yn ôl, y rhai sydd ba­rod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn ger bron Duw.

3 Cofia gan hynny pa fôdd y derbyniaist ac y clywaist; a cha­dw, ac edifarhâ. Os tydi gan hyn­ny ni wili, mi a ddeuaf arnati fel lleidr, ac ni chei di ŵybod pa awr y denaf arnat.

4 Eithr y mae gennit ychydig enwau, îe yn Sardis, y rhai ni ha­logasant eu dillad, a hwy a rodiant gyd â mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt.

5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wiscir mewn dillad gwynion: ac ni ddeleuaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei Angelion ef.

6 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Ys­pryd yn ei ddywedyd wrth yr Eg­lwysi.

7 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Philadelphia, scrifenna, Y pe­thau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw nêb yn cau; ac yn cau, ac nid yw nêb yn agoryd;

8 Mi a adwaen dy weithredo­edd: wele, rhoddais ger dy fron ddrŵs agored, ac ni ddichon nêb ei gau: canys y mae gennit ychy­dig nerth, a thi a gedwaist fy [Page] ngair: ac ni wedaist fy Enw.

9 Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bôd yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd cel­wydd y maent: wele meddaf, gw­naf iddynt ddyfod, ac addoli o flaen dy draed, a gŵybod sy môd i yn dy garu di.

10 O achos cadw o honot air fy ymmynedd i, minneu a'th gad­waf di oddi wrth awr y brofedi­gaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fŷd, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar.

11 Wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs: dal yr hyn sydd gennit, fel na ddygo nêb dy goron di.

12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf yn golofn yn Nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwy­ach: ac mi a scrifennaf arno ef henw fy Nuw i, a henw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Ierusalem newydd, yr hon sydd yn descyn o'r nêf oddi wrth fy Nuw i, ac mi a scrifennaf arno ef fy Enw ne­wydd i.

13 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Ys­pryd yn ei ddywedyd wrth yr Eg­lwysi.

14 Ac at Angel Eglwys y Lao­diceaid, scrifenna, Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y rŷst ffyddlon a chywir, dechreuad creaduriaeth Duw:

15 Mi a adwaen dy weithredo­edd di, nad ydwyt nac oer, na brwd: mi a fynnwn pe pait oer, neu frŵd.

16 Felly, am dy fôd yn glayar, ac nid yn oer nac yn frŵd, mi a'th chwydaf di allan o'm ge­nau:

17 Oblegid dy fôd yn dywe­dyd, Goludog ŵyf, ac mi a gy­foethogais, ac nid oes arnaf eisieu dim: ac ni ŵyddost dy fôd yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth.

18 Yr ŵyf yn dy gynghori i brynu gennifi aur wedi eu buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger: a dillad gwynion, fel i'th wiscer, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; îra hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech.

19 Yr ŵyfi yn argyoeddi, ac yn ceryddu y sawl yr ŵyf yn eu caru; am hynny bydded zêl gennit, ac edifarhâ.

20 Wele, yr ŵyf yn sefyll wrth y drŵs ac yn curo: os clyw nêb fy llais i, ac agoryd y drŵs, mi a ddeuaf i mewn atto ef, ac a swp­peraf gyd ag ef, ac yntef gyd â minneu.

21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyd â mi ar fy ngorsedd-faingc, megis y gorchfygais inneu, ac yr eisteddais gyd â'm Tâd ar ei orsedd-faingc ef.

22 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Ys­pryd yn ei ddywedyd wrth yr Eg­lwysi.

PEN. IV.

2 Joan yn gweled gorsedd-faingc Duw yn y Nef: 4 Y pedwar He­nuriad ar hugain: 6 Y pedwar anifail yn llawn llygaid ymlaen ac yn ôl: 10 Yr Henuriaid yn bwrw i lawr eu coronau, ac yn addoli 'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc.

YN ôl y pethau hyn yr edry­chais, ac wele ddrŵs wedi ei agoryd yn y nêf, a'r llais cyntaf a glywais, oedd fel llais vdcorn yn ymddiddan â mi; gan ddywedyd, Dring i fynu ymma, a mi a ddan­gosaf i ti y pethau sy raid eu bôd ar ôl hyn.

2 Ac yn y man yr oeddwn yn yr Yspryd: ac wele, yr oedd gor­sedd-faingc wedi ei gosod yn y nêf, ac un yn eistedd ar yr orsedd-faingc:

3 A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwgarno i faen Jaspis a Sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-faingc, yn de­byg yr olwg arno i Smaragdus.

4 Ac ynghylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gorsedd-faingc ar hugain: ac ar y gorsedd-feingciau y gwelais bedwar Henuriad ar hu­gain yn eistedd, wedi eu gwisco mewn dillad gwynion: ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur.

5 Ac yr oedd yn dyfod allan o'r orsedd-faingc, fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lam­pau tân yn llosci ger bron yr or­sedd-faingc, y rhai yw saith Ys­pryd Duw.

6 Ac o flaen yr orsedd-faingc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grystal: ac ynghanol yr orsedd-faingc, ae ynghylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ôl.

7 A'r anifail cyntaf oedd de­byg i lew, a'r ail anifail yn de­byg i lô, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dŷn, a'r ped­werydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg.

8 A'r pedwar anifail oedd gan­ddynt, bôb un o honynt, chwech o adenydd o'u hamgylch, ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn lly­gaid: ac nid oeddynt yn gorphy­wys ddydd a nôs, gan ddywe­dyd, Sanct, Sanct, Sanct, Ar­glwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfod.

9 A phan fyddo yr anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhy­dedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,

10 Y mae y pedwar Henuriad ar hugain yn syrthio ger bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac yn addoli yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd: ac yn bw­rw ei coronau ger bron yr orsedd-faingc, gan ddywedyd,

11 Teilwng ŵyt ô Arglwydd i dderbyn gogoniant, ac anrhy­dedd, a gallu: canys ti a greaist bôb peth, ac o herwydd dy ewy­llys di y maent, ac y crewyd hwynt.

PEN. V.

1 Y llyfr wedi selio â saith sêl: 9 yr hwn yr oedd yr Oen a laddesid yn unic yn deilwng iw agoryd. 12 Yr Henuriaid, o ran hynny yn ei foliannu ef, ac yn cyfaddef mae efe a'i prynasei hwy â'i waed.

AC mi a welais yn neheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, lyfr wedi ei scri­fennu oddi fewn ac oddi allan, wedi ei selio â saith sêl.

2 Ac mi a welais Angel crŷf yn cyhoeddi â llef vchel, Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei seliau ef?

3 Ac nid oedd nêb yn y nêf, nac yn y ddaiar, na than y ddaiar, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno.

4 Ac mi a ŵylais lawer, o achos na chaed nêb yn deilwng i ago­ryd, ac i ddarllen y llyfr, nac i e­drych arno.

5 Ac vn o'r Henuriaid a ddy­wedodd wrthif, Nac ŵyla; wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Iuda, gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei saith sêl ef.

6 Ac mi a edrychais, ac wele, ynghanol yr orsedd-faingc a'r ped­war anifail, ac ynghanol yr He­nuriaid, yr oedd Oen yn sefyll, me­gis wedi ei lâdd, a chanddo saith gorn, a saith lygad: y rhai ydyw saith Yspryd Duw, wedi eu dan­fon allan i'r holl ddaiar.

7 Ac efe a ddaeth, ac a gym­merth y llyfr o ddeheu-law yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc.

8 A phan gymmerth efe y llyfr, ŷ pedwar anifail, a'r pedwar He­nuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr Oen, a chan bôb yn o ho­nynt yr oedd telynau, a phialau aur, yn llawn o arogl-darth: y rhai ydyw gweddiau 'r Sainct.

9 A hwy a ganasant ganiad ne­wydd, gan ddywedyd, Teilwng ŵyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i a­goryd ei selau ef: oblegid ti a la­ddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bôb llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl:

10 Ac a'n gwnaethost ni i'n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offei­riaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaiar.

11 Ac mi a edrychais, ac a gly­wais lais Angelion lawer yng­hylch yr orsedd-faingc, a'r ani­feiliaid, a'r Henuriaid: a'u rhifedi hwynt oedd fyrddiwnau o fyr­ddiwnau, a miloedd o filoedd:

12 Yn dywedyd â llêf vchel, Teilwng yw 'r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chy­foeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a ben­dith.

13 A phôb creadur ac sydd yr y nêf, ac ar y ddaiar, a than y ddai­ar, a'r pethau sydd yn y môr, ac oll ac sy ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn ei­stedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Oen y byddo y fendith, a'r anrhy­dedd, a'r gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd.

14 A'r pedwar anifail a ddy­wedasant, Amen. A'r pedwar He­nuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

PEN. VI.

1 Agoryd y seliau, y naill ar ol y llall, a pha beth a ddigwyddodd ar hynny, yr hyn sydd yn cynwy prophwydoliaeth hyd ddiwedd y byd.

AC mi a welais pan agorodd yr Oen vn o'r seliau, ac mi a glywais vn o'r pedwar anifail yn dywedyd, fel trŵst taran, Tyred a gwêl.

2 Ac mi a welais, ac wele farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo: a rhoddwyd iddo goron, ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

3 A phan agorodd efe yr ail sel, mi a glywais yr ail anifail [Page] yn dywedyd, Tyred a gwêl.

4 Ac fe aeth allan farch arall, un côch: a'r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd iddo gymmeryd heddwch oddi ar y ddaiar, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

5 A phan agorodd efe y dry­dedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl. Ac mi a welais, ac wele farch dû, a'r hwn oedd yn eistedd arno, â chlorian ganddo yn ei law.

6 Ac mi a glywais lais yngha­nol y pedwar anifail yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog: a'r olew a'r gwîn, na wna niwed i­ddynt.

7 A phan agorodd efe y bed­waredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl.

8 Ac mi a edrychais, ac wele farch gwelwlas: a henw yr hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwola­eth; ac yr oedd Uffern yn can­lyn gyd ag ef: a rhoddwyd i­ddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaiar, i lâdd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwyst-filod y ddaiar.

9 A phan agorodd efe y bum­med sêl, mi a welais tan yr allor eneidiau y rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.

10 A hwy a lefasant â llêf v­chel, gan ddywedyd, Pa hyd Ar­glwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu, ac yn dial ein gwaed ni, ar y rhai sy yn trigo ar y ddaiar?

11 A gŷnau gwynion a roed i bôb un o honynt, a dywedpwyd wrthynt ar iddynt orphywys etto ychydig amser, hyd oni chy­flawnid rhîf eu cyd-weision, a'u brodyr, y rhai oedd i gael eu llâdd, megis ac y cawsent hwy­thau.

12 Ac mi a edrychais pan a­gorodd efe y chweched sêl, ac wele, bu daiar-gryn mawr: a'r haul a aeth yn ddû fel sach­len flew, a'r lleuad a aeth fel gwaed.

13 A sêr y nêf a svrthiasant ar y ddaiar, fel y mae 'r ffigys-bren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hescydwer gan wynt mawr.

14 A'r nêf a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd, a phôb mynydd, ac ynys a symmudwyd allan o'u lleoedd.

15 A brenhinoedd y ddaiar, a'r gwŷr mawr, a'r cyfoethogion, a'r pen-capteniaid, a'r gwŷr ce­dyrn, a phôb gŵr caeth, a phôb gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogfeydd, ac ynghreigiau y myny­ddoedd;

16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau, Syr­thiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lîd yr Oen:

17 Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef; a phwy a ddichon sefyll?

PEN. VII.

1 Angel yn selio gwasanaethwyr Duw yn eu talcennau. 4 Ni­fer y rhai a seliwyd: o lwythau Israel rhifedi yspysawl: 9 o bôb Cenhedloedd eraill tyrfa aneirif, y rhai sydd yn sefyll ger bron yr or­sedd-faingc, [Page] a gynau gwynion am danynt, ac â phalmwydd yn eu dwylaw. 14 Bôd eu gŷnau wedi eu golchi yngwaed yr Oen.

AC yn ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar Angel yn se­fyll ar bedair congl y ddaiar, yn dal pedwar gwynt y ddaiar, fel na chwythei 'r gwynt ar y ddaiar, nac ar y môr, nac ar vn pren.

2 Ac mi a welais Angel arall yn dyfod i fynu oddi wrth go­diad haul, a sel y Duw byw gan­ddo: ac efe a lefodd â llêf vchel ar y pedwar Angel, i'r rhai y rho­ddasid gallu i ddrygu'r ddaiar a'r môr,

3 Gan ddywedyd, Na ddryg­wch y ddaiar, na'r môr, na'r pre­niau, nes darfod i ni selio gwasa­naeth-wŷr ein Duw ni yn eu tal­cennau.

4 Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filo­edd, o holl lwythau meibion Is­rael.

5 O lwyth Juda, yr oedd deu­ddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Ruben, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Gâd, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio:

6 O lwyth Aser, yr oedd deu­ddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Nephthali, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Ma­nasses, yr oedd deuddeng-mil we­di eu selio:

7 O lwyth Simeon yr oedd deu­ddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Lefi, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Isachar, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio:

8 O lwyth Zabulon, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: O lwyth Joseph, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Ben­jamin yr oedd deuddeng-mil we­di eu selio.

9 Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allei neb ei rhifo, o bôb cenedl, a llwy­thau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron yr Oen, wedi eu gwisco mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo:

10 Ac yn llefain â llêf vchel, gan ddywedyd, Jechydwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Oen.

11 A'r holl Angelion a safasant o amgylch yr orsedd-faingc, a'r Henuriaid, a'r pedwar anifail: ac a syrthiasant ger bron yr orsedd-faingc ar eu hwynebau, ac a addo­lasant Dduw,

12 Gan ddywedyd, Amen: y fendith, a'r gogoniant, a'r doethi­neb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r galiu, a'r nerth, a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.

13 Ac vn o'r Henuriaid a atte­bodd, gan ddywedyd wrthif, Pwy ydyw y rhai hyn sy wedi eu gwi­sco mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?

14 Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a ŵyddost. Ac efe a ddywedodd wrthif, Y rhai hyn yw y rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr: ac a olchasant eu gŷnau, ac a'u cannasant hwy yn gwaed yr Oen.

15 O herwydd hynny y maent ger bron gorsedd-faingc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nôs yn ei Deml: a'r hwn sydd yn ei­stedd [Page] ar yr orsedd-faingc, a drîg yn eu plith hwynt.

16 Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach: ac ni ddescyn arnynt na'r haul, na dim gwrês.

17 Oblegid yr Oen, yr hwn sydd ynghanol yr orsedd-faingc, a'i bugeilia hwynt, ac a'u har­wain hwynt at ffynnhonnau by­wiol o ddyfroedd: a Duw a sŷch ymmaith bôb deigr oddiwrth eu llygaid hwynt.

PEN. VIII.

1 Wrth agoryd y seithfed sêl, 2 y rhoddwyd saith o udcyrn i saith o Angylion. 6 Pedwar o honynt yn udcanu â'i hudcyrn, a phlaau mawr yn canlyn. 3 Angel arall yn rhoddi arogl-darth at weddiau y Sainct ar yr Allor aur.

A Phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nêf, megis tros hanner awr.

2 Ac mi a welais y saith Angel, y rhai oedd yn sefyll ger bron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o vdcyrn.

3 Ac Angel arall a ddaeth, ac a safodd ger bron yr allor, a thusser aur ganddo: a rhoddwyd iddo a­rogl darth lawer, fel yr offrym­mei ef gyd â gweddiau yr holl Sainct ar yr allor aur, yr hon oedd ger bron yr orsedd-faingc.

4 Ac fe aeth mŵg yr arogl­darth gyd â gweddiau 'r Sainct, o law 'r Angel, i fynu ger bron Duw.

5 A'r Angel a gymmerth y thu­sser, ac a'i llanwodd hi o dân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaiar: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daiar-gryn.

6 A'r saith Angel, y rhai oedd â'r faith vdcorn ganddynt, a ym­baratoesant i vdcanu.

7 A'r Angel cyntaf a vdcanodd, a bu cenllysc, a thân wedi eu cym­myscu â gwaed, a hwy a fwri­wyd i'r ddaiar: a thraian y pre­niau a loscwyd, a'r holl lâswellt a loscwyd.

8 A'r ail Angel a vdcanodd, a megis mynydd mawr yn llo­sci gan dân a fwriwyd i'r môr: a thraian y môr a aeth yn waed.

9 A bu farw traian y creadu­riad, y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt: a thraian y llongau a ddinistriwyd.

10 A'r trydydd Angel a vd­canodd, a syrthiodd o'r nêf se­ren fawr, yn llosci fel lamp, a hi a syrthiodd ar draian yr afo­nydd, ac ar ffynhonnau y dyfro­edd:

11 A henw 'r seren a elwir Wermod, ac aeth traian y dyfro­edd yn wermod, a llawer o ddy­nion a fuant feirw gan y dyfro­edd, oblegid eu myned yn chwer­won.

12 A'r pedwerydd Angel a vdcanodd, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thrai­an y sêr: fel y tywyllwyd eu traian hwynt, ac ni lewyrehodd y dydd ei draian, a'r nôs yr vn ffunyd.

13 Ac mi a edrychais, ac a gly­wais Angel yn ehedeg ynghanol y nêf, gan ddywedyd a llêf vchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sy'n trigo ar y ddaiar, rhag lleisiau e­raill vdcorn y tri Angel, y rhai sydd etto i vdcanu.

PEN. IX.

1 Seren yn syrthio o'r Nef, wrth vdcanu o'r pummed Angel, i'r hwn y rhoddwyd agoriad y pwll heb waelod: 2 Yntef yn agoryd y pwll, a locustiaid fel Scorpionau yn dyfod allan. 12 Y wae gyntaf wedi myned hei­bio. 13 Y chweched vdcorn yn canu: 14 a gollwng pedwar An­gel yn rhydd, y rhai oedd wedi eu rhwymo.

A'R pummed Angel a vdcanodd, ac mi a welais seren yn syr­thio o'r nêf i'r ddaiar; a rhodd­wyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.

2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod: a chododd mŵg o'r py­dew, fel mŵg ffwrnes fawr: a thy­wyllwyd yr haul, a'r awyr, gan fŵg y pydew.

3 Ac o'r mŵg y daeth allan locustiaid ar y ddaiar: a rhodd­wyd awdurdod iddynt, fel y mae gan scorpionau 'r ddaiar awdur­dod.

4 A dywedpwyd wrthynt na wnaent niwed i las-wellt y ddai­ar, nac i ddim gwyrdd-las, nac i vn pren: ond yn vnic i'r dyni­on oedd heb sêl Duw yn eu tal­cennau.

5 A rhoddwyd iddynt na la­ddent hwynt, ond bôd iddynt eu blino hwy bum mîs: ac y byddei eu gofid hwy, fel gofid oddi wrth scorpion, pan ddarfyddai iddi fra­thu dŷn.

6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac ni's cânt: ac a chwennychant farw, a mar­wolaeth a gilia oddi-wrthynt.

7 A dull y locustiaid oedd de­byg i feirch wedi eu paratôl i ryfel: ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dy­nion.

8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9 Ac yr oedd ganddynt luri­gau, fel llurigau haiarn: a llais eu hadenydd oedd fel llais cerby­dau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.

10 Ac yr oedd ganddynt gyn­ffonnau tebyg i scorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy, a'u gallu oedd i ddrygu dy­nion bum mis.

11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef Angel y pydew di-wae­lod: a'i henw ef yn Ebrew ydyw Abad-don, ac yn Roeg y mae iddo enw Apol-lyon.

12 Vn wae a aeth heibio, wele y mae yn dyfod etto ddwy wae yn ôl hyn.

13 A'r chweched Angel a vd­canodd, ac mi a glywais lêf allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd ger bron Duw,

14 Yn dywedyd wrth y chwe­ched Angel, yr hwn oedd a'r vd­corn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar Angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Euphrates.

15 A gollyngwyd y pedwar An­gel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent, y traian o'r dynion.

16 A rhifedi y llu o wŷr meirch oedd, ddwy fyrddiwn o fyrddiw­nau, ac mi a glywais eu rhifedi hwynt.

17 Ac fel hyn y gwelais i y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chan­ddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacint a brwmstan: a phennau 'r meirch oedd fel pennau lle­wod, ac yr oedd yn myned allan o'u safnau dân, a mŵg, a brwm­stan.

18 Gan y tri hyn y llâs traian y dynion, gan y tân, a chan y mŵg, a chan y brwmstan oedd yn dy­fod allan o'u safnau hwynt.

19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys eu cynffonnau oedd debyg i seirph, a phennau ganddynt: ac â'r rhai hynny y maent yn dry­gu.

20 A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plaau hyn, nid e­difarhasant oddi wrth weithred­oedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phrês, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gwe­led, na chlywed, na rhodio:

21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lledrad.

PEN. X.

1 Angel cryf cadarn yn ymddangos, a llyfr agored yn ei law; 6 Ac yn tyngu i'r hwn sydd yn byw yn dragywydd, na bydd amser mwy. 9 Gorchymmyn i Ioan gymmeryd y llyfr a'i fwytta.

AC mi a welais Angel crŷf a­rall yn descyn o'r nêf, wedi ei wisco â chwmmwl: ac enfys oedd ar ei ben: a'i wyneb ydoedd fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân.

2 Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd: ac efe a osododd ei droed ddehau ar y môr, a'i asswy ar y tîr.

3 Ac a lefodd â llêf uchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo lefain, y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau.

4 Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llesau, yr oeddwn ar fedr scrifennu; ac mi a gly­wais lêf o'r nêf yn dywedyd wrthif, Selia y pethau a lefa­rodd y saith daran, ac na scrifenna hwynt.

5 A'r Angel, yr hwn a welais i yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr, a go­dodd ei law i'r nêf,

6 Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nêf, a'r pethau sydd yn­ddi, a'r ddaiar a'r pethau sydd yn­ddi, a'r môr a'r pethau sy ynddo, na byddei amser mwyach.

7 Ond yn nyddiau llêf y seith­fed Angel, pan ddechreuo efe ud­canu, gorphennir dirgelwch Duw, fel y mynegodd efe iw wasanaeth­wŷr y Prophwydi.

8 A'r llêf a glywais o'r nêf, a lefarodd drachefn wrthif, ac a ddywedodd, Dôs, cymmer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw yr Angel, yr hwn sydd yn se­fyll ar y môr, ac ar y tîr.

9 Ac mi a aethym at yr Angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi y llyfr bychan. Ac efe a ddywe­dodd wrthif, Cymmer a bwytta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di: e [...]r yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.

10 Ac mi a gymmerais y llyfr bychan o law'r Angel, ac a'i bwyt­têais ef, ac yr oedd efe yn fy nge­nau megis mêl yn felys; ac wedi i mi ei fwytta ef, fy mol a aeth yn chwerw.

11 Ac efe a ddywedodd wr­thif, Rhaid i ti drachefn bro­phwydo i bobloedd, a chenhed­loedd, ac ieithoedd, a brenhin­oedd lawer.

PEN. XI.

3 Y ddau dyst yn prophwydo. 6 Bod ganthynt awdurdod i gau 'r nef, rhag iddi lawio: 7 Yr ymladd y Bwystfil yn eu herbyn, ac y llâdd hwynt. 8 Hwythau yn gorwedd heb eu claddu, 11 ac ar ôl tridiau a hanner yn adgyfodi. 14 Yr ail wae yn myned heibio. 15 Y seith­fed udcorn yn canu.

A Rhoddwyd i mi gorsen de­byg i wialen: a'r Angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura Deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sy yn addoli ynddi.

2 Ond y cyntedd sydd o'r tu allan i'r Deml, bwrw allan, ac na fesura ef, oblegid efe a roddwyd i'r Cenhedloedd: a'r ddinas san­ctaidd a fathrant hwy ddeu-fîs a deugain.

3 Ac mi a roddaf allu i'm dau dŷst: a hwy a brophwydant, fîl, a deu-cant a trugain o ddyddiau, wedi ymwisco â sachliain.

4 Y rhai hyn yw y ddwy ole­wydden, a'r ddau ganhwyll­bren sydd yn sefyll ger bron Duw 'r ddaiar.

5 Ac os ewyllysia nêb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn my­ned allan o'u genau hwy; ac yn difetha eu gelynion: ac os ewy­llysia nêb i drygu hwynt, fel hyn y mae 'n rhaid ei lâdd ef.

6 Y mae gan y rhai hyn aw­durdod i gau y nêf, fel na lawio hi yn nyddiau eu prophwydoli­aeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, iw troi hwynt yn waed, ac i daro yr ddai­ar â phôb plâ, cyn fynyched ac y mynnont.

7 A phan ddarfyddo iddynt or­phen eu tystiolaeth, y Bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll di-waelod a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u llâdd hwynt.

8 A'u cyrph hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysprydol a elwir Sodoma, a'r Aipht: lle hefyd y croes-hoeliwyd ein Harglwydd ni.

9 A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r Cen­hedloedd, a welant eu cyrph hwynt dri-diau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrph hwy mewn beddau.

10 A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaiar a lawenhânt o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant ro­ddion iw gilydd: oblegid y ddau brophwyd hyn oedd yn poeni y rhai oedd yn trigo ar y ddaiar.

11 Ac yn ôl tridiau a hanner, yspryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy: a hwy a safasant ar eu traed, ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'i gwelodd hwynt.

12 A hwy a glywsant lêf uchel o'r nêf, yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fynu ymma. A hwy a aethant i fynu i'r nêf mewn cwm­mwl: [Page] a'u gelynion a edrychasant arnynt.

13 Ac yn yr awr honno y bu daiar-gryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd, a lladdwyd yn y ddaiar-gryn saith mîl o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw 'r nêf.

14 Yr ail wae a aeth heibio, wele, y mae y drydedd wae yn dy­fod ar frys

15 A'r seithfed Angel a ud­canodd, a bu llefau uchel yn y nêf, yn dywedyd, Aeth teyrnas­oedd y bŷd yn eiddo ein Har­glwydd ni, a'i Grist ef: ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd.

16 A'r pedwar Henuriaid ar hugain y rhai oedd ger bron Duw yn eistedd ar eu gorsedd-feingci­au, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti ô Arglwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wyt yn dyfod: ob­legid ti a gymmeraist dy allu mawr, ac a deyrnasaist.

18 A'r Cenhedloedd a ddigia­sant, a daeth dy ddîg di: a'r amser i farnu 'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwŷr y Prophwydi, ac i'r Sainct, ac i'r rhai sydd yn ofni dy Enw, fychain a mawrion: ac i ddifetha y rhai sydd yn dife­tha 'r ddaiar.

19 Ac agorwyd Teml Dduw yn y nêf, a gwelwyd arch ei gy­fammod ef yn ei Deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daiar­gryn, a chenllysc mawr.

PEN. XII.

1 Gwraig wedi ei gwisce â'r haul yn trafaelu ar ei thymp i escor. 4 Y ddraig fawr gôch yn sefyll o'i blaen hi i ddifa ei phlentyn hi. 6 Wedi iddi escor, y mae hi yn cilio i'r diffaethwch. 7 Michael a'i Angylion yn ymladd â'r ddraig, ac yn myned yn drêch nâ hi. 13 Y ddraig wedi ei thaflu i'r ddaiar yn erlid y wraig.

A Rhyfeddod mawr a welwyd yn y nêf: gwraig wedi ei gwisco â'r haul, a'r lleuad tan ei thraed; ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren:

2 A hi yn feichiog, a lefodd gan fôd mewn gwewyr, a gofid i escor.

3 A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nêf, ac wele ddraig gôch fawr, a saith ben iddi, a dêg corn; ac ar ei phennau saith go­ron.

4 A'i chynffon hi a dynnodd draian sêr y nêf, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaiar: a'r ddraig a safodd ger bron y wraig yr hon ydoedd yn barod i escor, i ddisa ei phlentyn hi, pan escorei hi arno.

5 A hi a escorodd ar fâb gwr­ryw, yr hwn oedd i fugeilio yr holl Genhedloedd â gwialen hai­arn: a'i phlentyn hi a gymmer­wyd i fynu at Dduw, ac at ei or­seddfaingc ef.

6 A'r wraig a ffôdd i'r diffae­thwch, lle mae genddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fîl, a deu-cant, a thrugain o ddyddiau.

7 A bu rhyfel yn y nêf: Mi­chael a'i Angelion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfe­lodd, a'i hangelion hithau.

8 Ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni's cafwyd mwyach yn y nêf.

9 A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn twyllo 'r holl fŷd, efe a fwriwyd allan i'r ddaiar, a'i angelion a fw­riwyd allan gyd ag ef.

10 Ac mi a glywais lêf uchel yn dywedyd yn y nêf, Yr awron y daeth iechydwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni, ddydd â nôs.

11 A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt: ac ni cha­rasant eu heinioes hyd angeu.

12 O herwydd hyn llawen­hewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar, a'r môr, canys diafol a ddescynnodd at­toch chwi, a chanddo lîd mawr, o herwydd ei fôd yn gŵybod nad oes iddo ond ychydig amser.

13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaiar, hi a erlidiodd y wraig a escorasei ar y mâb.

14 A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffaethwch iw lle ei hûn: lle yr ydys yn ei maethu hi yno tros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarph.

15 A'r sarph a fwriodd allan o'i safn, a'r ôl y wraig, ddwfr me­gis afon: fel y gwnai ei dwyn hi ymmaith gyd â'r afon.

16 A'r ddaiar a gynhorthwy­odd y wraig, a'r ddaiar a agorodd ei genau, ac a lyngcodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.

17 A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw, ac sy a thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.

PEN. XIII.

1 Bwystfil yn cyfodi allan o'r môr, â saith ben gantho, a dêc corn, i'r hwn y mae y ddraig yn rhe­ddi ei gallu. 11 Bwystfil arall yn dyfod i fynu allan o'r ddaiar: 14 Ac yn peri gwneuthur delw y Bwystfil cyntaf: 15 ac yn peri i ddynion ei addoli ef: 16 a der­byn ei nôd ef.

AC mi a sefais ar dywod y môr, ac a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben a dêg corn; ac ar ei gyrn ddêg coron, ac ar ei bennau henw ca­bledd.

2 A'r Bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard, a'i draed fel traed arth, a'i safn fel safn llew, a'r ddraig a roddodd iddo ei gallu▪ a'i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr.

3 Ac mi a welais un o'i benna [...] ef megis wedi ei lâdd yn farw, a'i friw marwol ef a lachawyd, a'i holl ddaiar a ryfeddodd ar ôl y Bwystfil.

4 A hwy a addolasant y ddraig yr hon a roes allu i'r Bwystfil ac a addolasant y Bwyst-fil, ga [...] ddywedyd, Pwy sydd debyg i' Bwystfil? Pwy a ddichon ryfel ag ef?

5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo aw­durdod i weithio ddau fîs a deu­gain.

6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef a'i Dabernacl, a'r rhai sy yn trigo yn y nêf.

7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r sainct, a'u gorchfygu hwynt. A rhoddwyd iddo awdur­dod ar bôb llwyth, ac iaith, a che­nedl.

8 A holl drigolion y ddaiar a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn scrifennedig yn llyfr bywyd yr Oen, yr hwn a ladd­wyd er dechreuad y bŷd.

9 Od oes gan nêb glust, gwran­dawed.

10 Os yw nêb yn tywys i gae­thiwed, efe a â'i gaethiwed: os yw nêb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd ynteu â chleddyf: dymma ymmynedd a ffydd y Saicnt.

11 Ac mi a welais fwyst-fil a­rall yn codi o'r ddaiar, ac yr oedd ganddo ddau gorn, tebyg i oen: a llefaru yr oedd fel draig.

12 A holl allu y bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef; ac yn peri i'r ddaiar, ac i'r rhai fy yn trigo ynddi, addoli y bwyst-fil cyntaf, yr hwn yr ia­chawyd ei glwyf marwol.

13 Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddescyn o'r nêf i'r ddaiar, yngolwg dynion.

14 Ac y mae efe yn twyllo y rhai sy yn trigo ar y ddaiar, trwy y rhyfeddodau y rhai a roddwyd i­ddo ef eu gwneuthur ger bron y Bwyst-fil: gan ddywedyd wrth drigolion y ddaiar, am iddynt wneuthur delw i'r Bwyst-fil, yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.

15 A chaniattawyd iddo ef roddi anadl i ddelw y bwyst-fil, fel y llefarei delw y bwystfil hefyd, ac y parei gael o'r sawl nid addolent ddelw y bwyst-fil, eu lladd:

16 Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nôd ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau:

17 Ac na allei nêb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddei ganddo nôd, neu henw y Bwyst­fil, neu rifedi ei henw ef.

18 Ymma y mae doethineb, Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi y bwyst-fil: canys rhifedi dŷn ydyw: a'i rifedi ef yw chwe­chant, a thrugain, a chwech.

PEN. XIV.

1 Tra 'r oedd yr Oen yn sefyll ar fy­nydd Sion gydâ'i fintai, 6 Angel yn pregethu 'r Efengyl. 8 Cwymp Babylon. 15 Cynhaiaf y byd, a dodiad y crymman i mewn. 20 Gwin-gynhaiaf, a gwinwryf di­gofaint Duw.

AC mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chyd ag ef bedair mîl, a saith­ugein-mîl, a chanddynt Enw ei Dâd ef yn scrifennedig yn eu tal­cennau.

2 Ac mi a glywais lêf o'r nêf, fel llêf dyfroedd lawer, ac fel llêf taran fawr: ac mi a glywais lêf te­lynorion yn canu ar eu telynau.

3 A hwy a ganasant megis ca­niad [Page] newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar ani­fail, a'r Henuriaid: ac ni allodd nêb ddyscu y gân, ond y pedair mîl a'r saithugein-mil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaiar:

4 Y rhai hyn yw y rhai ni ha­logwyd â gwragedd: canys gwy­r [...]fon ydynt: y rhai hyn yw y rhai sy 'n dilyn yr Oen, pa le bynnag yr elo: y rhai hyn a brynwyd o­ddiwrth ddynion, yn flaen­ffrwyth i Dduw ac i'r Oen:

5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt ger bron gorsedd-faingc Duw.

6 Ac mi a welais Angel arall yn ehedeg ynghanol y nêf, a'r E­fengyl dragywyddol ganddo, i e­fangylu i'r rhai sy yn trigo ar y ddaiar, ac i bôb cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl;

7 Gan ddywedyd â llêf uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant, oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nêf, a'r ddaiar, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.

8 Ac Angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syr­thiodd Babylon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl Genhedloedd, â gwîn llid ei godineb.

9 A'r trydydd Angel a'u dily­nodd hwynt, gan ddywedyd â llêf uchel, Os addola nêb y Bwyst-fil, a'i ddelw ef, a derbyn ei nôd ef yn ei dalcen, neu yn ei law.

10 Hwnnw hefyd a ŷf o wîn digofaint Duw, yr hwn yn ddi­gymmysc a dywalltwyd yn phiol ei lid ef: ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yngolwg yr Angelion sanctaidd, ac yngolwg yr Oen:

11 A mŵg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fynu yn oes oef­oedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorphywysdra ddydd a nôs, y rhai sydd yn addoli y bwyst-fil a'i dde­lw ef, ac os yw nêb yn derbyn nôd ei enw ef.

12 Ymma y mae ymmynedd y Sainct: ymma y mae y rhai sy yn cadw gorchymynnion Duw, a ffydd Iesu.

13 Ac mi a glywais lêf o'r nêf, yn dywedyd wrthif, Scrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sy yn marw yn yr Arglwydd o hyn a­llan, medd yr Yspryd, fel y gor­phywysont oddi wrth eu llafur: a'u gweithredoedd sy yn eu can­lyn hwynt.

14 Ac mi a edrychais, ac wele gwmmwl gwyn, ac ar y cwmmwl un yn eistedd, tebyg i Fâb y dŷn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law grymman llym.

15 Ac Angel arall a ddaeth allan o'r Deml, gan lefain â llêf uchel, wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmmwl. Bwrw dy grymman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid addfe­dodd cynhaiaf y ddaiar.

16 A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmmwl, a fwriodd ei grymman ar y ddaiar: a'r ddaiar a fedwyd.

17 Ac Angel arall a ddaeth allan o'r Deml sydd yn y nêf, a chanddo ynteu hefyd grymman llym.

18 Ac Angel arall a ddaeth a­llan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd a gallu ganddo ar y tân, ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â'r crymman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy grymman llym, a chasel ganghen­nau [Page] gwinwydden y ddaiar, oble­gid addfedodd ei grawn hi.

19 A'r Angel a fwriodd ei grym­man ar y ddaiar, ac a gasclodd win-wydden y ddaiar, ac a'i bwri­odd i gerwyn fawr digofaint Duw,

20 A'r gerwyn a sathrwyd o'r tu allan i'r ddinas, a gwaed a ddaeth allan or gerwyn hyd at ffrwynau y meirch, ar hŷd mil a chwechant o stadau.

PEN. XV.

1 Y saith Angel, a'r saith blâ diwe­ddaf. 3 Caniad y rhai a orchfygant y Bwystfil. 7 Y saith phiol yn llawn o ddigofaint Duw.

AC mi a welais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith Angel, a chanddynt y saith blâ di­weddaf, oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llîd Duw.

2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymmyscu â thân: a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwyst-fil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nôd ef, ac ar rifedi ei enw ef; yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt:

3 A chanu y maent gân Moses gwasanaeth wr Duw, a chân yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhy­fedd yw dy weithredoedd, ô Ar­glwydd Dduw Holl-alluog, cyfi­awn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y Sainct.

4 Pwy ni'th ofna di, o Ar­glwydd, ac ni ogonedda dy Enw? oblegid tydi yn unic wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di: oblegid dy farnau di a eglur­wyd.

5 Ac yn ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd Teml pabell y dystiolaeth yn y nêf, yn agored.

6 A daeth y saith Angel, y rhai yr oedd y saith blâ gan-ddynt, a­llan o'r Deml, wedi eu gwisco mewn lliain pûr a disclair, a gw­regysu eu dwyfronnau, â gwregy­sau aur.

7 Ac un o'r pedwar anifail a roddodd i'r saith Angel saith phi­ol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

8 A llanwyd y Deml o fŵg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allei nêb fy­ned i mewn i'r Deml, nes dar­fod cyflawni saith blâ y saith Angel.

PEN. XVI.

2 Yr Angelion yn tywallt allan ei phioleidiau digofaint. 6 y plaau yn canlyn ar hyn. 15 Christ yn dy­fod fel lleidr. Gwyn eu byd y rhai a wiliant.

AC mi a glywais lêf uchel a­llan o'r Deml, yn dywedyd wrth y saith Angel, Ewch ymaith a thywelltwch phiolau digofaint Duw ar y ddaiar.

2 A'r cyntaf a aeth, ac a dy­walltodd ei phiol ar y ddaiar: a bu cornwyd drŵg, a blîn, ar y dy­nion oedd â nôd y bwystfil ar­nynt, a'r rhai a addolasent ei dde­lw ef.

3 A'r ail Angel a dywalltodd ei phiol ar y môr, ac efe a aeth fel gwaed dŷn marw: a phôb enaid byw a fu farw yn y môr.

5 A'r trydydd Angel a dywall­todd ei phiol ar yr afonydd, ac ar [Page] y ffynhonnau dyfroedd: a hwy a aethant yn waed.

5 Ac mi a glywais Angel y dy­froedd yn dywedyd, Cyfiawn, o Arglwydd, ydwyti, yr hwn ŵyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn a fyddi, oblegid barnu o honot y pethau hyn:

6 Oblegid gwaed Sainct a Phro­phwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt iw yfed: canys y maent yn ei haeddu.

7 Ac mi a glywais un arall allan o'r allor yn dywedyd, le Ar­glwydd Dduw Holl-alluog, cywir a chyfiawn, yw dy farnau di.

8 A'r pedwerydd Angel a dy­walltodd ei phiol ar yr haul: a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân.

9 A phoethwyd y dynion â gwrês mawr, a hwy a gablasant Enw Duw, yr hwn sydd ag aw­durdod ganddo ar y plaau hyn: ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef.

10 A'r pummed Angel a dy­walltodd ei phiol ar orsedd-faingc y bwystfil: a'i deyrnas ef aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu ta­fodau gan ofid:

11 Ac a gablasant Dduw y nêf, o herwydd eu poenau, ac o her­wydd eu cornwydydd: ac nid e­difarhasant oddi wrth eu gwei­thredoedd.

12 A'r chweched Angel a dy­walltodd ei phiol ar yr afon fawr Euphrates: a sychodd ei dwfr hi, f [...]l y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain.

13 Ac mi a welais dri yspryd aflan, tebyg i lyffaint, yn dyfod a­llan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwyst-fil, ac allan o enau y gau-brophwyd.

14 Canys ysprydion cythreuli­aid yn gwneuthur gwyrthiau y­dynt, y rhai sy 'n myned allan ar frenhinoedd y ddaiar, a'r holl fŷd, iw casclu hwy i ryfel y dydd hwnnw, dydd mawr Duw Holl-alluog.

15 Wele, yr ŵyfi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fŷd yr hwn sydd yn gwilio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef.

16 Ac efe a'u casclodd hwynt ynghŷd i le a elwir yn Ebrew, Ar­maged-don.

17 A'r seithfed Angel a dy­walltodd ei phiol i'r awyr, a daeth llêf uchel allan o Deml y nêf, o­ddi wrth yr orsedd-faingc, yn dy­wedyd, Darfu.

18 Ac yr oedd lleisiau, a thara­nau, a mellt: ac yr oedd daiar­gryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaiar, cymmaint daiar-gryn, ac mor fawr.

19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y Cenhedloedd a syrthiasant: a Ba­bylon fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwin digofaint ei lîd ef.

20 A phôb ynys a ffôdd ymmaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd.

21 A chenllysc mawr fel talen­tau a syrthiasant o'r nef ar ddyni­on: a dynion a gablasant Dduw am blâ 'r cenllysc: oblegid mawr iawn ydoedd eu plâ hwynt.

PEN. XVII.

3, 4 Gwraig wedi eu gwisco â phor­phor ac yscarlat, a chwppan aur yn ei llaw, yn eistedd ar y Bwystfil, 5 yr hon yw Babylon [Page] fawr, mam pôb ffieidd-dra. 9 Deongliad y saith ben: 12 a'r dêc corn. 16 Cospedigaeth y Buttain, 14 a goruwchafiaeth yr Oen.

A Daeth vn o'r saith Angel, o­edd â'r saith phiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthif, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y But­tain fawr sydd yn eistedd ar ddy­froedd lawer:

2 Gŷd â'r hon y putteiniodd brenhinoedd y ddaiar, ac y medd­wyd y rhai sy yn trigo ar y ddaiar gan wîn ei phutteindra hi.

3 Ac efe a'm dygodd i i'r di­ffaethwch yn yr Yspryd, ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwyst­fil o liw scarlad, yn llawn o hen­wau cabledd, â saith ben iddo, a dêc corn.

4 A'r wraig oedd wedi ei di­lladu â phorphor ac yscarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerth fawr a pherlau, a chan­ddi gwppan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra, ac aflendid ei phutteindra.

5 Ac ar eu thalcen yr oedd he­nw wedi ei scrifennu, DIRGEL­WCH, BABYLON FAWR, MAM PVTTEINIAID, A FFIEIDD-DRA 'R DDAI­AR.

6 Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y Sainct, a chan waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfe­ddod mawr.

7 A'r Angel a ddywedodd wr­thif, Pa ham y rhyfeddaist? my­fi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig, a'r bwyst-fil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sy a'r saith ben ganddo, a'r dêc corn.

8 Y bwyst-fil a welaist, a fu ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fynu o'r pydew heb waelod, a myned i ddestryw: a rhyfeddu a wnae y rhai sy yn trigo ar y ddai­ar, (y rhai ni scrifennwyd eu hen­wau yn llyfr y bywyd er seiliad y bŷd) pan welont y bwyst-fil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fôd.

9 Dymma 'r meddwl sydd â doethineb ganddo, Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae 'r wraig yn eistedd arnynt.

10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac vn sydd, a'r llall ni ddaeth etto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig.

11 A'r bwyst-fil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntef yw 'r wyth­fed, ac o'r saith y mae, ac i dde­stryw y mae yn myned.

12 A'r dêc corn a welaist, dêc brenin ydynt, y rhai ni dderby­niasant frenhiniaeth etto, eithr awdurdod fel brenhinoedd, vn awr y maent yn ei dderbyn gyd â'r bwyst-fil.

13 Yr vn meddwl sydd i'r rhai hyn, a hwy a rhoddant eu nerth, a'u hawdurdod, i'r bwyst-fil.

14 Y rhai hyn a ryfelant â'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi y­dyw, a Brenin brenhinoedd: a'r rhai sy gyd ag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlon.

15 Ac efe a ddywedodd wrthif, Y dyfroedd a welaist, lle mae 'r Buttain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd, ac ieithoedd.

16 A'r dêc corn a welaist ar y bwyst-fil, y rhai hyn a gasânt y Buttain, ac a'i gwnant hi yn vnic ac yn noeth, a'i chnawd hi a [Page] fwyttânt hwy, ac a'i lloscant hi â thân.

17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr un ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i'r bwyst-fil, hyd oni chyflawner gei­riau Duw.

18 A'r wraig a welaist, yw y ddinas fawr sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaiar.

PEN. XVIII.

1 Cwymp Babilon. 4 Gorchymmyn pobl Dduw i gilio allan ô honi hi. 9 Brenhinoedd y ddaiar,11 gydâ 'r marsiand-wyr, a'r llongwyr, yn ddrwg ganthynt trosti hi. 20 Y Sainct yn llawenychu o achos barn Duw arni hi.

AC yn ôl y pethau hyn, mi a welais Angel arall yn dyfod i wared o'r nêf, ac awdurdod mawr ganddo: a'r ddaiar a oleu­wyd gan ei ogoniant ef.

2 Ac efe a lefodd yn grôch, â llêf vchel gan ddywedyd, Syrthi­odd, syrthiodd Babylon fawr hon­no, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwriaeth pôb yspryd aflan, ac yn gadwriaeth pôb aderyn a­flan, ac atcas.

3 Oblegid yr holl Genhedloedd a yfasant o wîn digofaint ei godi­neb hi: a brenhinoedd y ddaiar a butteiniasant gyd â hi, a march­nattawyr y ddaiar a gyfoethog­wyd gan amlder ei moetheu hi.

4 Ac mi a glywais lêf arall o'r nêf yn dywedyd, Deuwch allan o honi hi fy mhobl i, fel na by­ddoch gyd-gyfrannogion o'i phe­chodau hi, ac na dderbynioch o'i phlâau hi:

5 Oblegid ei phechodau hi a gyrhaeddasant hyd y nêf, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi.

6 Telwch iddi fel y talodd hi­thau i chwi, a dyblwch iddi y dau cymmaint yn ôl ei gweithredo­edd: yn y cwppan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddau ddyblyg:

7 Cymmaint ac yr ymogone­ddodd hi, ac y bu mewn moe­theu, y cymmaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr ŵyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar ni's gwelaf ddim.

8 Am hynny yn vn dydd y daw ei phlâau hi, sef marwola­eth, a galar, a newyn; a hi a lwyr­loscir â than; oblegid crŷf yw 'r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.

9 Ac wŷlo am dani, a galaru trosti a wna brenhinoedd y ddaiar, y rhai a butteiniasant, ac a fuant fyw yn foethus gyd â hi, pan we­lont fŵg ei llosciad hi:

10 Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi; a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno Ba­bylon, y ddinas gadarn, oblegid mewn vn awr y daeth dy farn di.

11 A marchnattawŷr y ddaiar, a wŷlant, ac a alarant trosti, oble­gid nid oes nêb mwyach yn prynu eu marsiandiaeth hwynt:

12 Marsiandiaeth o aur, ac ari­an, a meini gwerth-fawr, a pher­lau, a lliain main, a phorphor, a sidan, ac yscarlad: a phôb coed Thynon, a phôb llestr o Ifori, a phôb llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o brês, ac o haiarn, ac o faen marmor,

13 A cinamon, a phêr-arog­lau, [Page] ac ennaint, a thus, a gwîn, ac olew, a pheillieid, a gwenith; ac yscrybliaid, a defaid, a meirch a cherbydau, a chaeth-weision, ac eneidiau dynion.

14 A'r aeron a chwennychodd dy enaid a aethant ymmaith oddi wrthit, a phôb peth dainteithiol, a gwych a aethant ymmaith oddi wrthit: ac ni chei hwynt ddim mwyach.

15 Marchnatawŷr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd gan­ddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wŷlo a galaru:

16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon o­edd wedi ei gwisco â lliain main, a phorphor, ac yscarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerth­fawr, a pherlau:

17 Oblegid mewn vn awr yr anrheithiwyd cymmaint cyfoeth. A phôb llong lywydd, a phôb cwmpeini mewn llongau, a llong­wŷr, a chynnifer ac y sy a'u gw­aith ar y môr, a safasant o hir­bell,

18 Ac a lefasant, pan welsant sŵg ei llosciad hi, gan ddywedyd, Pa ddinas debyg i'r ddinas fawr honno?

19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant gan wŷlo, a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longan ar y môr, trwy ei chôst hi, oblegid mewn vn awr yr anrheithiwyd bi.

20 Llawenha o'i phlegid hi y nêf, a chwi Apostolion sanctaidd a Phrophwydi, oblegid dialodd Duw arni trosoch chwi.

21 Ac Angel cadarn a gododd faen, megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywe­dyd, Fel hyn gydâ rhuthr y teflir Babylon y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach.

22 A llais telynorion, a cher­ddorion, a phibyddion, ac vdcan­wŷr, ni chlywir ynot mwyach; ac vn crefft-wr o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach, a thrŵst maen melin ni chlywir y­not mwyach:

23 A llewyrch can wyll ni welir ynot mwyach: a llais priodas-fâb a phriodas-ferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatta­wŷr di oedd wŷr mawr y ddaiar, oblegid trwy dy swŷn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl Genhedloedd.

24 Ac ynddi y caed gwaed Prophwydi a Sainct, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaiar.

PEN. XIX.

1 Clodfori Duw yn y nefoedd am farnu y Buttain fawr, a dial gwaed ei Sainct. 7 Priodas yr Oen. 10 Yr Angel heb fynnu ei addoli. 17 Galw 'r ehediaid i'r lladdfa fawr.

AC yn ôl y pethau hyn mi a gly­wais megis llef vchel gan dvrfa fawr yn y nêf, yn dywedyd, Ale­luia; iechydwriaeth a gogoniant, ac anrhydedd a gallu, i'r Ar­glwydd ein Duw ni:

2 Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a far­nodd y Buttain fawr, yr hon a ly­grodd y ddaiar â'i phutteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.

3 Ac eilwaith y dywedasant, [Page] Aleluia: A'i mŵg hi a gododd yn oes oesoedd.

4 A syrthiodd y pedwar Henu­riad ar hugain, a'r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Amen, A­leluia.

5 A llêf a ddaeth allan o'r or­sedd-faingc, yn dywedyd, Moli­ennwch ein Duw ni, ei holl wei­slon ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd.

6 Ac mi a glywais megis llêf tyrfa fawr, ac megis llêf dyfroedd lawer, ac megis llêf taranau cry­fion, yn dywedyd, Aleluia: oble­gid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Holl-alluog.

7 Llawenychwn, a gorfole­ddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.

8 A chaniataŵyd iddi gael ei gwisco â lliain main glân a dis­clair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y Sainct.

9 Ac efe a ddywedodd wrthif, Scrifenna, Bendigedig yw y rhai a clwir i swpper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthif, Gwîr eiriau Duw yw y rhai hyn-

10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, iw addoli ef: ac efe a ddywedodd wrth if, Gwêl na wne­lych hyn: cyd-wâs ydwyf i ti, ac i'th frodyr, y rhai sy ganddynt dystiolaeth Iesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw yspryd y brophwydoliaeth.

11 Ac mi a welais y nêf yn ago­red, ac wele farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwyd Ffy­ddlon a Chywir, ac mewn cyfi­awnder y mae efe yn barnu, ac yn rhyfela.

12 A'i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coro­nau lawer: ac yr oedd ganddo henw yn scrifennedig, yr hwn ni wyddei neb ond efe ei hun.

13 Ac yr oedd wedi ei wisco â gwisc wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, Gair Duw.

14 A'r lluoedd oedd yn y nef a'i canlynasant ef ar feirch gwyni­on, wedi eu gwisco â lliain main, gwyn, a glân.

15 Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen hai­arn: ac efe sydd yn sathru cer­wyn wîn digofaint a llîd Duw Holl-alluog.

16 Ac y mae ganddo ar ei wisc, ac ar ei forddwyd henw wedi ei scrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWY­DDI.

17 Ac mi a welais Angel yn sefyll yn yr haul: ac efe a lefodd â llêf vchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nêf. Deuwch ac ymgefcl­wch ynghŷd i swpper y Duw mawr,

18 Fel y bwyttaoch gîg brenhi­noedd, a chîg pen-capteniaid, a chîg y cedyrn, a chîg meirch, a'r rhai sy yn eistedd arnynt, a chîg holl ryddion a chaethion, a by­chain a mawrion.

19 Ac mi a welais y bwyst-fil, a brenhinoedd y ddaiar, a'u lluo­edd wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lû ef.

20 A daliwyd y bwyst-fil, a chyd ag ef y gau-brophwyd, yr hwn a wnaeth wrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nôd y bwyst-fil, a'r rhai a addolasant ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i'r llyn tân yn llosci â brwmstan:

21 A'r lleill a laddwyd â chle­ddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cîg hwynt.

PEN. XX.

1 Rhwymo Satan tros fil o flyny­ddoedd. 6 Yr Adgyfodiad cyn­taf: mai gwyn eu byd y rhai sydd iddynt gyfran ynddo. 7 Go­llwng Satan yn rhydd drachefn. 8 Gog a Magog. 10 Bwrw Dia­fol i'r pwll o dân a brwmstan. 12 Yr adgyfodiad diwaethaf cy­ffredinawl.

AC mi a welais Angel yn de­scyn o'r nêf, a chanddo ago­riad y pydew di-waelod, a chad­wyn fawr yn ei law.

2 Ac efe a ddaliodd y ddraig, yr hên sarph yr hon yw diafol, a Satan: ac a'i rhwymodd ef tros fil o flynyddoedd,

3 Ac a'i bwriodd ef i'r pydew di-waelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwy­llei efe y Cenhedloedd mwyach, nes cyflawni 'r mîl o flynyddo­edd: ac yn ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd tros ychydig amser.

4 Ac mi a welais orsedd-feing­ciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau y rhai a dor­rwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai ni addolasent y bwyst-fil, na'i ddelw ef: ac ni dderbyniasent ei nôd ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo: a hwy a fuant fyw, ac a deyrnafasant gyd â Christ fil o flynyddoedd.

5 Eithr y lleill o'r meirw ni fuant fyw drachefn nes cyflawni 'r mil blynyddoedd. Dymma 'r ad­gyfodiad cyntaf.

6 Gwynfydedig a sanctaidd yw 'r hwn sydd a rhan iddo yn yr adgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdur­dod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw, ac i Grist, ac a deyrnasant gyd ag ef fil o flyny­ddoedd.

7 A phan gyflawner y mîl-bly­nyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar.

8 Ac efe a â allan i dwyllo y Cen­hedloedd sydd ym-mhedair congl y ddaiar, Gog a Magog, iw casclu hwy ynghyd i ryfel, rhif y rhai sydd fel tywod y môr.

9 A hwy a aethant i fynu ar lêd y ddaiar, ac a amgylchasant wersyll y Sainct, a'r ddinas an­wyl, a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i wared o'r nêf, ac a'u hy­sodd hwynt.

10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae y bwyst-fil a'r gau-brophwyd: a hwy a boenir ddydd a nôs, yn oes oesoedd.

11 Ac mi a welais orsedd-faingc wen fawr, a'r hwn oedd yn ei­stedd [Page] arni, oddi wrth wŷneb yr hwn y ffôdd y ddaiar a'r nêf: a lle ni chafwyd iddynt.

12 Ac mi a welais y meirw, fy­chain a mawrion, yn sefyll ger bron Duw, a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu scri­fennu yn y llyfrau, yn ôl eu gwei­thredoedd.

13 A rhoddodd y môr i fynu y meirw oedd ynddo, a marwo­laeth ac vffern a roddasant i fynu y meirw oedd ynddynt hwythau: a hwy a farnwyd bôb vn yn ôl eu gweithredoedd.

14 A marwolaeth ac vffern a fwriwyd i'r llyn o dân: hon yw 'r ail farwolaeth.

15 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei scrifennu yn llyfr y by­wyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.

PEN. XXI.

1 Nêf newydd, a daiar newydd. 10 Jerusalem nefol, a'i chyfl­awn bortreiad. 23 Nid rhaid iddi wrth haul: Gogoniant Duw yw ei goleuni hi. 24 Brenhinoedd y ddaiar yn dwyn eu cyfoeth i­ddi hi.

AC mi a welais nêf newydd, a daiar newydd: canys y nêf gyntaf, a'r ddaiar gyntaf a aeth heibio: a'r môr nid oedd mwy­ach.

2 A myfi Ioan a welais y ddi­nas sanctaidd, Jerusalem newydd yn dyfod oddi wrth Dduw i wa­red o'r nêf, wedi ei pharatoi fel priodas-ferch wedi ei thrwssio iw gŵr.

3 Ac mi a glywais lêf vchel allan o'r nêf yn dywedyd, Wele y mae pabell Duw gyd â dynion, ac efe a drig gyd â hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyd â hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.

4 Ac fe sŷch Duw ymmaith bôb deigr oddi wrth eu llygaid hwynt, a marwolaeth ni bydd mwyach: na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach, oblegid y pe­thau cyntaf a aeth heibio.

5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, We­le, yr ŵyf yn gwneuthur pôb peth yn newydd. Ac efe a ddywe­dodd wrthif Scrifenna: canys y mae y geiriau hyn yn gywir, ac yn ffyddlon.

6 Ac efe a ddywedodd wrthif, Darfu: myfi yw Alpha ac Ome­ga, y dechreu, a'r diwedd: i'r hwn sydd sychedic y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhâd.

7 Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda bôb peth, ac mi a fy­ddaf iddo ef yn Dduw, ac yntef a fydd i minneu yn fâb.

8 Ond i'r rhai ofnog, a'r di gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puttein-wŷr, a'r swyn-gyfaredd­wŷr, a'r eulyn-addolwŷr, a'r holl gelwydd-wŷr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosci â thân a brwm­stan, hwn yw 'r ail farwolaeth.

9 A daeth attaf vn o'r saith Angel yr oedd y saith phiol gan­ddynt yn llawn o'r saith blâ di­weddaf: ac ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddan­gosaf i ti y briodas-ferch, gwraig yr Oen.

10 Ac efe a'm dûg i ymmaith yn yr yspryd i fynydd mawr ac [Page] uchel, ac a ddangosodd i mi y ddinas fawr, Jerusalem sanctaidd, yn descyn allan o'r nêf oddi wrth Dduw:

11 A gogoniant Duw gan­ddi: a'i goleu hi oedd debyg i faen o'r gwerthfawroccaf, me­gis maen Iaspis, yn loyw fel Gri­sial:

12 Ac iddi fûr mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg Angel, a hen­wau wedi eu scrifennu arnynt, y rhai yw henwau deuddeg-llwyth plant Israel.

13 O du y dwyrain, tri phorth: o du y gogledd, tri phorth: o du y dehau, tri phorth: o du y gor­llewin, tri phorth.

14 Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac yn­ddynt henwau deuddeg Apostol yr Oen.

15 A'r hwn oedd yn ymddi­ddan â mi, oedd â chorsen aur gan­ddo, i fesuro y ddinas, a'i phyrth hi, a'i mûr.

16 A'r ddinas sydd wedi ei go­sod yn bedeir-congl, a'i hŷd sydd gymmaint a'i llêd; ac efe a fesu­rodd y ddinas â'r gorsen, yn ddeuddeng-mil o stadau: a'i hŷd, a'i llêd, a'i huchder, sydd yn o­gymmaint.

17 Ac efe a fesurodd ei mûr hi yn gant a phedwar cufydd a deu­gain, wrth fesur dŷn, hynny yw, eiddo 'r Angel.

18 Ac adeilad ei mûr hi oedd o faen Iaspis: a'r ddinas oedd aur pûr, yn debyg i wydr gloyw.

19 A seiliau mûr y ddinas oedd wedi eu harddu â phôb rhyw faen gwerthfawr: y sail cyntaf, oedd faen Iaspis: yr ail, Saphir: y try­dydd Calcêdon: y pedwerydd, Smaragdus:

20 Y pummed, Sardonix, y chweched, Sardius: y seithfed, Chrysolithus: yr ŵythfed, Be­ril: y nawfed, Topazion: y dec­fed Chrysophrasus: yr unfed ar ddeg, Hyacinthus: y deuddegfed, Amethystus.

21 A'r deuddeg porth, deu­ddeg perl oeddynt, a phôb un o'r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pûr, fel gwydr gloyw:

22 A Theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Holl-alluog, a'r Oen, yw ei Theml hi.

23 A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw yr Oen.

24 A Chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddai­ar yn dwyn eu gogoniant a'u han­rhydedd iddi hi.

25 A'i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd: canys ni bydd nôs yno.

26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y Cenhedloedd i­ddi hi.

27 Ac nid âi mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffi­eldd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu scrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.

PEN. XXII.

1 Afon dwfr y bywyd. Pren y by­wyd. 5 Duw sydd oleuni iw [Page] ddinas ei hûn. 9 Yr Angel heb fynnu ei addoli. 18 Ni ellir rho­ddi dim at air Duw, na thynnu dim oddiwrtho ef.

AC efe a ddangosodd i mi afon bûr o ddwfr y bywyd, disclair fel grisial, yn dyfod allan o orsedd­faingc Duw, a'r Oen.

2 Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu 'r afon, yr oedd pren y by­wyd, yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth, bôb mîs yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren oedd i ia­chau y Cenhedloedd.

3 A phôb melldith ni bydd mwyach: ond gorsedd-faingc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi: a'i wei­sion ef a'i gwasanaethant ef.

4 A hwy a gânt weled ei wy­neb ef, a'i Henw ef a fydd yn eu talcennau hwynt.

5 Ac ni bydd nôs yno: ac nid rhaid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul, oblegid y mae yr Ar­glwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oes­oedd.

6 Ac efe a ddywedodd wrth i fi, Y geiriau hyn sy ffyddlon a chy­wir. Ac Arglwydd Dduw y Pro­phwydi sanctaidd, a ddanfonodd ei Angel, i ddangos i'w wasa­naeth-wyr y pethau sy raid iddynt fôd ar frŷs.

7 Wele, yr ŵyf yn dyfod ar frŷs. Gwyn ei fŷd yr hwn sydd yn cadw geiriau prophwydoli­aeth y llyfr hwn.

8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais: a phan ddar­fu i mi glywed, a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli ger bron traed yr Angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn.

9 Ac efe a ddywedodd wrthifi, Gwêl na wnelych: canys cydwâs ydwyf i ti, ac i'th frodyr y Pro­phwydi, ac i'r rhai sy yn cadw gei­riau y llyfr hwn: addola Dduw.

10 Ac efe a ddywedodd wrthi­fi, Na seilia eiriau prophwydoli­aeth y llyfr hwn: oblegid y mae 'r amser yn agos.

11 Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn etto; a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt etto: a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfi­awn etto, a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd etto.

12 Ac wele yr ŵyf yn dyfod ar frŷs, am gwobr sydd gyd â mi, i ro­ddi i bôb un, fel y byddo ei waith ef.

13 Myfi yw Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, y cyntaf a'r diweddaf.

14 Gwyn eu byd y rhai sy yn gwneuthur ei orchymyn­nion ef, fel y byddo iddynt fraint ym-mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy 'r pyrth i'r ddinas.

15 Oddiallan y mae 'r cŵn, a'r sŵyngyfaredd-wŷr a'r put­tein-wŷr, a'r llofruddion, a'r eu­lyn-addol-wŷr, a phôb un ac sy yn caru, ac yn gwneuthur cel­wydd.

16 Myfi Iesu a ddanfonais fy An­gel i dystiolaethu i chwi y pethau hyn yn yr Eglwysi, myfi yw gw­reiddyn a hiliogaeth Dafydd, a'r seren foreu eglur.

17 Ac y mae yr Yspryd a'r bri­odas-ferch yn dywedyd, Tyred: a'r hwn sydd yn clywed, dyweded; Tyred: a'r hwn sydd a syched ar­no, deued, a'r hwn sydd yn ewy­llysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd.

18 Canys yr wyfi yn tystiolae­thu i bôb un sydd yn clywed gei­riau prophwydoliaeth y Llyfr hwn: Os rhydd nêb ddim at y pe­thau hyn, Duw a rydd atto ef y plâau sy wedi eu scrifennu yn y llyfr hwn.

19 Ac o thynn nêb ymmaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y bro­phwydoliaeth hon, Duw a dynn ymmaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas san­ctaidd, ac oddi wrth y pethau sy wedi eu scrifennu yn y llyfr hwn.

20 Yr hwn sydd yn tystiolae­thu y pethau hyn sydd yn dywe­dyd, Yn wîr yr ŵyf yn dyfod ar frŷs: Amen. Yn wîr, tyred Ar­glwydd Iesu.

21 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â chwi oll. A­men.

DIWEDD.
I'r vnic Dduw y byddo 'r gogoniant.
LLYFR Y PSALMAU, Wed …

LLYFR Y PSALMAU, Wedi eu Cyfieithu, A'i Cy­fansoddi ar Fesur Cerdd, yn GYMRAEG.

Drwy Waith EDMWND PRYS Archdia­con Meirionnydd.

Iaco. 5.13. A oes nêb yn eich plith mewn adfyd? gweddied. A oes nêb yn esmwyth arno? caned Psalmau.

Col. 3.16. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, ym mhob doe­thineb: gan ddyscu, a rhybuddio bawb ei gilydd, mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysprydol, gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd.

Printiedig Yn LLƲNDAIN. 1672.

Psal. 1.

Y Sawl ni rodia, dedwydd yw,
yn ol drwg ystryw gyngor,
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffôl,
nid eiste 'n stôl y gwatwor.
2 Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,
ar ddeddf yr Arglwydd uchod:
Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nôs,
yn ddiddos ei fyfyrdod.
3 Ef fydd fel pren plan ar lan dôl,
dwg ffrwyth amserol arno:
Ni chrina 'i ddalen, a'i holl waith,
a lwydda 'n berffaith iddo.
4 Nid felly bydd y drwg di-rus,
ond fel yr ûs ar gorwynt:
Yr hwn o'r tir â'i chwyth a'i chwâl,
anwadal fydd ei helynt.
5 Am hyn y drwg ni saif mewn barn,
o flaen y cadarn uniawn:
Na'r pechaduriaid mawr eu bâr,
ynghynulleidfa 'r cyfiawn.
6 Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni âd byth i barhau,
mo lwybrau pechaduriaid.

Psal. 2.

PAham y terfysc gwyr y byd,
a pham y cyfyd rhodres?
Pam y mae'r bobloedd yn cyd-wau,
yn eu bwriadau diles:
2 Codi y mae brenhinoedd byd,
a'i bryd yn gyd-gynghorol:
Yn erbyn Duw a'i Ghrist (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.
3 Drylliwn eu rhwymau, meddant hwy,
ni wnawn ni mwy ufydd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
Ni chânt yn frau 'mo'n gorfod.
4 Ond Duw'r hwn sydd uwch wybrol len
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwydd nef a wel eu bâr,
efe a'i gwatwar hwythau.
5 Yna y dywaid yn ei lid,
a hyn fydd rhybrid iddyn:
O'i eiriau ef y cyfyd braw,
a'i ddig a ddaw yn ddychryn.
6 Gosodais innau (meddai ef)
â llaw gref yn dragywydd:
Fy mrenin i, yn llywydd llon,
ar sanctaidd Sion fynydd.
7 Dyma'r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,
hon gan yr Arglwydd clywais:
Ti yw fy' mab (o'm perffaith ryw)
a heddyw i'th genhedlais.
8 Gofyn im, a mi it' a'i rhydd,
holl wledydd iw 'tifeddu:
Y cenedlaethau dros y byd,
i gyd a gai'meddiannu.
9 Ti a'i briwi hwynt yn dy farn,
â gwialen hayarn hayach:
Ti a'i maluri, hwythau an
mor fân a llestri priddach.
10 Am hyn yn awr frehhinoedd coeth,
byddwch ddoeth a synhwyrol:
A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,
i ostwng terfysg fydol.
11 Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,
ac ofnwch ef drwy oglud:
A byddwch lawen yn Nuw cu,
etto drwy grynu hefyd.
12 Cusenwch y mab rhag ei ddig,
a'ch bwrw yn ffyrnig heibio:
A gwyn ei fyd pob calon lân,
a ymddiriedan yntho.

Psal. 3.

O Arglwydd, amled ydyw 'r gwyr,
y sydd drallodwyr imi:
A llawer iawn i'm herbyn sydd,
o ddydd i ddydd yn codi.
2 Dwedai lawer o'r gwrthgyrch blaid,
yn drwm am f' enaid eisoes:
Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,
chwaith mawr y stor o'i einioes.
3 Tithau O Arglwydd ymhob man,
ydwyd yn darian i mi:
Fy' ngogoniant wyt: tu a'r nen,
y codi 'ymhen i fyny.
4 Ar Dduw yr Arglwydd a'm holl lais
y gelwais yn dosturaidd;
Ac ef a'm clybu i ar frys,
o'i uchel freinllys sanctaidd.
5 Mi orweddais, ac a gysgais,
ac mi a godais gwedi:
Canys yr Arglwydd oedd i'm dal,
i'm cynnal, ac i'm codi.
6 Nid ofnaf fi, o'r achos hwn,
'mo fyrddiwn sydd yn barod;
O bobloedd, o'm amgylch yn dyn,
i'm herbyn wedi dyfod.
7 Cyfod ti Arglwydd, achub fi,
drwy gosbi fy' ngelynion:
Trewaist yr ên, torraist eu daint,
er maint yr annuwiolion.
8 I'r Arglwydd byth (o achos hyn)
y perthyn iechydwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith,
ei fendith yn dra helaeth.

Psal. 4.

DUw fy' nghyfiawnder clywaist fi,
i'm cyni pan i'th elwais:
Rhyddheaist fi, dod i'm un wedd
drugaredd, clyw fy oerlais.
2 O feibion dynion hyd ba hyd
y trowch trwy gyd ymgabledd,
Fy' mharch yn warth? a hynny sydd
drwy gelwydd a thrwy wagedd.
3 Gwybyddwch ethol o Dduw cûn,
iddo 'i hûn y duwiolaf:
A phan alwyf arno yn hy,
efe a wrendy arnaf.
4 Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,
meddyliwch ar eich gwely:
5 Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,
rhodd cyfiawnder yw hynny.
6 Pwy (medd llaweroedd) y pryd hyn,
a ddengys in' ddaioni?
O Arglwydd, dercha d'wyneb-pryd,
daw digon iechyd ini.
7 Rhoist i'n calon lawenydd mwy,
(a hynny trwy dy fendith:)
Nag a fyddai gan rai yn trin,
amlder o'i gwin a'i gwenith.
8 Mi orweddaf ac a hunaf,
a hynny fydd mewn heddwch:
Cans ti Arglwydd o'th unic air,
a bair im ddiogelwch.

Psal. 5.

ARglwydd clyw 'ngweddi yn ddiball,
Duw deall fy myfyrdod:
2 Erglyw fy llais a'm gweddi flin,
fy Nuw, a'm brenin hyglod.
3 Yn forau gwrando fi fy Naf,
yn forau galwaf arnad:
4 Cans nid wyd Dduw i garu drwg,
ni thrig i'th olwg anfad.
5 Ni saif ynfydion yn dy flaen,
na'r rhai a wnaen anwiredd:
Y rhai hyn sydd gennyt yn gâs,
sef diflas it bob gwagedd.
6 Y rhai a ddwedant ffug a hud,
a phob gwyr gwaedlud creulon,
Ti a'i tynni hwynt hwy o'r gwraidd,
fel ffiaidd annuwiolion.
7 Dof finnau tu a'th dy mewn hedd,
am dy drugaredd galwaf:
Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,
i'th sanctaidd eglwys treiglaf.
8 I'th gyfiownder arwain fi, Ner,
rhag blinder a chasineb.
Duw gwna dy ffordd rhag ofn eu brâd
yn wastad rhag fy wyneb.
9 Cans iw genau nid oes dim iawn,
mae llygredd llawn iw ceudod:
Eu gyddfau fel ceulannau bedd,
a gwagedd ar eu tafod.
10 Distrywia hwynt iw camwedd, Ion,
o'i holl gynghorion cwympant,
Hwnt a hwy, a'i holl ddrygioni,
i'th erbyn di rhyfelant.
11 A'r rhai a'mddiried ynot ti
am it' gysgodi drôstynt:
(Llawen a fydd pob rhai a'th gâr)
cei fawl yn llafar ganthynt,
12 Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith
dy fendith ar y cyfion:
A'th gywir serch fel tarian gref,
rhoi drosto ef yn goron.

Psal. 6.

O Arglwydd na cherydda fi,
ymhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid,
oblegid fy enwiredd.
2 O Arglwydd dy drugaredd dôd,
wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:
O Arglwydd dyrd, iacha fi'n chwyrn,
mae f' esgyrn i mewn cystudd.
3 A'm henaid i o'r llesgedd hyn,
y sydd mewn dychryn sceler:
Tithau O Arglwydd, pa ryw hyd?
rhoi arnaf ddybryd brudd-der.
4 Duw gwared f' enaid, dychwel di,
iacha fi a'th drugaredd:
5 Nid oes yn angau gof na hawl,
a phwy ath fawl o'r pridd-fedd.
6 Diffygiais gan ochain bôb nos,
mewn gwal anniddos foddfa:
Rwy'n gwlychu drwy y cystudd mau,
a'm dagrau fy' ngorweddfa.
7 O ddig i'm cas a goddef drwg,
fy' ngolwg sy'n tywyllu:
A chan y dwfr a red yn rhaff,
ynt angraff ac yn pylu.
8 Pob vn a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd;
Cans clybu yr Arglwydd fy llais,
pan lefais am drugaredd.
9 Yr Arglwydd clybu ef fy arch,
rhof finnau barch a moliant:
Fe dderbyn fy' ngweddi, a'm gwaedd,
am hyn yr haedd ogoniant.
10 Fe wradwyddir, fe drallodir,
yn ddir fy' ngelynion:
Ac fo'i dychwelir drwy fesl glwth,
hwynt yn ddisymwth ddigon.

Psal. 7.

O Achub fi fy Nuw, fy Ner,
cans mae fy hyder ynod:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
cans mae o'r rheini ormod.
2 Rhag llarpio f' enaid fel y llew,
heb vn dyn glew a'm gweryd:
A'm rhwygo i yn ddrylliau mân,
fal dyna amcan gwaedlyd.
3 O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,
os drwg y sy 'n fy'nwylaw:
4 Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,
pe bawn wrthwyneb iddaw;
5 I erlid f' oes y gelyn doed,
dalied, a rhoed fi'n isaf,
A sathred f' urddas yn y llwch,
drwy'r diystyrwch eithaf.
6 Cyfod o Dduw, cyfod i'th ddig,
a gostwng big pob gelyn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn yw d' orchymyn.
7 Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,
a ddaw o'th ddautu attad:
Duw dychwel i'th farn er eu mwyn,
a gwrando o'n cwyn yn wastad.
8 Duw dyro i'r bobl y farn dau,
a barn di finnau Arglwydd:
Ac fel yr haeddais dod farn iawn,
yn ol fy llawn berffeithrwydd.
9 Derfid anwiredd y rhai drwg,
gwna'n amlwg ffordd y cyfion:
Cans vnion wyd, a chraff, Duw cu,
yn chwilio deutu 'r galon.
10 Ac am fod Duw yn canfod hyn,
Duw yw f' amddiffyn innau:
Duw sydd iachawdwr i bob rhai,
sydd lân ddifai 'i calonnau.
11 Felly mae Duw byth ar yr iawn,
a Duw yw'r cyfiawn farnydd:
Wrth yr annuwiol ar bob tro
mae Duw yn digio beunydd.
12 Ac oni thry'r annuwiol câs,
fo lifa'i loywlas gleddau:
Ar ynnyl y mae bwa'r Ion,
a'i barod lymion saethau.
13 Sef arfau angau at y nod,
y maent yn barod ddigon:
Ac ni saetha ef ergyd byrr
at yr elidwyr poethion.
14 Wele hanes y gelyn drwg,
efe a ymddwg ar draha:
O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,
ar gelwydd yr esgora.
15 Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,
o fwriad mawr i'r truan:
Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,
i'r dyfn iw glawdd ei hunan.
16 E'i holl enwiredd ar ei ben,
o vchder nen a ddisgyn:
A Duw a ddymchwyl yr vn wedd,
ei gamwedd ar ei goryn.
17 Im harglwydd Dduw rhof finnau glod,
câf ganfod ei gyfiownder.
A chanmolaf ei enw yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r vchelder.

Psal. 8.

O Arglwydd ein Ior ni a'n nerth,
mor brydferth wyd drwy'r holl fyd,
Dy enw, a'th barch, a roist vwch ben
daiar ac wybren hefyd.
2 Peraist it nerth o enau plant,
a rhai a sugnant beunydd,
Rhag d'elynion: tawed am hyn,
y gelyn a'r dialydd.
3 Wrth edrych ar y nefoedd faith,
a gweled gwaith dy fysedd:
Y lloer, y ser, a threfn y rhod,
a'i gosod mor gyfannedd.
4 Pa beth yw dyn it' iw goffau,
o ddoniau ac anwylfraint?
A pheth yw mâb dyn yr vn wedd,
lle rhoi ymgeledd cymaint?
5 Ti a wnaethost ddyn o fraint a phris,
ychydig is Angylion:
Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,
rhoist arno brydferth goron.
6 Ar waith dy ddwylo îs y nef,
y gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod pob peth dan ei draed,
iddo y gwnaed llywodraeth,
7 Defaid, gwartheg, a holl dda maes,
a'r adar llaes eu hesgyll:
Ehediaid nef, a'r pysg o'r don,
sy'n tramwy'r eigion erchyll.
8 O Arglwydd ein Ior ni a'n nerth,
mor brydferth wyd drwy'r hollfyd!
Dy enw a'th barch a roist vwchben,
daiar ac wybren hefyd.

Psal. 9.

CLodforaf fi fy' Arglwydd Ion,
o'm calon, ac yn hollawl:
Ei ryfeddodau rhof ar led,
ac mae'n ddyled eu canmawl.
2 Byddaf fi lawen yn dy glod,
ac ynod gorfoleddaf:
I'th enw (o Dduw) y canaf glod,
wyd hynod, y Goruchaf.
3 Tra y dychwelir draw'n ei hol,
fy holl elynol luoedd,
Llithrant o'th flaen, difethir hwy,
ni ddon hwy mwy iw lleoedd.
4 Cans rhoist fy' marn yn fatter da,
gwnaethost eisteddfa vnion:
Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,
tydi yw'r barnwr cyfion.
5 Ceryddaist, a distrywiaist di
y cenhedlaethi cyndyn:
Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,
ni bydd byth son am danyn.
6 Distrywiaist dithau (elyn glâs)
do lawer dinas hyfryd:
Darfu dy nerth byth, darfu hyn,
a'r cof o honyn hefyd.
7 Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,
ac yn dragywydd pery:
A pharod fydd ei faingc i farn,
a chadarn ydyw hynny.
8 Cans efe a farna y byd,
a'r bobl i gyd sydd yntho:
Trwy gyfiownder, heb ofni neb,
a thrwy vniondeb rhagddo.
9 Gwna'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
trueiniaid fo'i hymddiffyn:
Noddfa a fydd i'r rhai'n mewn pryd,
pan fo caledfyd arnyn.
10 A phawb a'th edwyn rhon eu cred,
a'i holl ymddiried arnad:
Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,
a geisio 'i wyneb attad.
11 Molwch chwi'r Arglwydd, yr hwn sydd
yn sanctaidd fynydd Seion:
A dwedwch i'r bobl fal yr oedd
ei holl weithredoedd mowrion.
12 Pan chwilio efe am waed neu drais,
fe gofia lais y truain:
Pan eisteddo a'r faingc y frawd,
fe glyw y tlawd yn germain.
13 Dy nawdd Arglwydd, dydi im'sydd
dderchafydd o byrth angau,
A gwel fy' mlinder gan fy 'nghâs
y sydd o'm cwmpas innau:
14 Fel y mynegwyf dy holl wyrth,
a hyn ymhyrth merch Sion:
Ac fel y bwyf lawen a ffraeth,
i'th iechydwriaeth dirion.
15 Y cenhedloedd cloddiasent ffos,
lle'i suddent, agos boddi:
I arall lle cuddiasant rwyd,
eu traed a faglwyd ynthi.
16 Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,
adwaenir wrth ei farnau:
A'r annuwiol a wnaethai'r rhwyd,
yn hon y daliwyd yntau.
17 Yr annuwiol i uffern aed,
ac yno gwnaed ei wely:
A'r rhai' ollyngant Dduw dros gof,
bydd yno fyth eu lletty.
18 Cans byth y gwirion a'r dyn tlawd
hyd dyddbrawd nis anghofir:
Y gweiniaid a'r trueiniaid, hwy,
eu gobaith mwy ni chollir.
19 O cyfod Arglwydd yn dy wyn,
na âd i ddyn mo'th orfod:
Barna 'r cenhedloedd gar dy fron,
a'th farn yn union gosod.
20 Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy rym,
yn awchlym i'th elynion:
Fel y gwybyddont, pe baent mwy,
nad ydynt hwy ond dynion.

Psal. 10.

O Arglwydd pa'm y sefi di,
oddiwrthym ni cyn belled?
Pa'm yr ymguddi di i'th rym,
pan ydym mewn caethiwed?
2 Y drygrai sydd yn blino'r tlawd,
gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnai' rhai'n,
hwynt hwy eu hunain dalier.
3 Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,
pawb yn gytûn â'i bechod:
Bendithio mael ydyw eu swydd,
a'r Arglwydd maent iw wrthod.
4 Yr annuwiol ni chais Dduw ner,
(mae ef iw falchder cyfuwch:)
Ni chred ef, ac ni feddwl fod,
un fâth awdurdod goruwch.
5 Am fod ei ffyrdd mewn llwyddiant hir,
ni wyl mo'th wir gyfammod:
Bydd dordyn wrth elynion mân,
fel chwythu tân mewn sorod.
6 Fe ddwedodd hyn â'i feddwl syth,
ni ddigwydd byth i'm adfyd:
Ni'm symudir o oes i oes,
ni chaf na gloes, na drygfyd.
7 Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,
a'i safn yn llawn melldithion:
Tan ei dafod y mae camwedd,
a thraws enwiredd creulon.
8 Mewn cilfechydd y disgwyl fan,
i lâdd y truan gwirion:
Ac ar y tlawd â llygad llym
yn dangos grym ei galon.
9 Fe orwedd fel y llew iw ffau,
i fwrw ei faglau trowsion:
Y gwan a'r tlawd a dynn iw rwyd,
ac yno y daliwyd gwirion.
10 Fe duchan, fe a'mgrymma ei hun,
fel un ar farw o wendid,
Ac ef yn gryf, â fel yn wael,
ar wan i gael ei ergyd.
11 Yn ei galon, dwedodd am Dduw,
nad ydyw yn gofiadur:
Cuddiodd ei wyneb, ac ni wel
pa beth a wnel creadur.
12 Cyfod Arglwydd, dercha dy law,
dy fod i'n cofiaw dangos:
Ac nag anghofia, pan fo rhaid,
dy weiniaid a'th werinos.
13 Pa ham y cablant hwy wir Dduw,
yr enwir annuw lledffrom?
Pam y meddyliant arnat ti,
nad ymofynni am danom?
14 Gwelaist hyn: cans canfyddi drais,
a chospi falais anfad:
Tydi yw gobaith tlawd, a'i borth,
a chymorth yr ymddifad.
15 Tor ymaith yr annuwiol rym,
yn gyflym, a'r maleisus,
Cais allan eu hanwiredd hwy,
ni chai di mwy'n ddrygionus.
16 Yr Arglwydd sydd yn frenin byth,
ef yw'r gwehelyth lywydd:
Distrywiwyd pob cenhedlaeth gref
o'i dir ef, yn dragywydd.
17 Duw, gweddi'r gwan a glywaist di,
ac a gysuri 'r galon:
Tro eilwaith attom'y glust dau,
a chlyw weddiau ffyddlon.
18 Tros yr ymddifaid y rhoi farn,
a'r gwan fydd cadarn bellach:
Megis nas gall daiarol ddyn
mo'r pwyso arnyn mwyach.

Psal 11.

CRedaf i'r Arglwydd yn ddi-nam:
paham y dwedwch vveithian
Wrth f'enaid, hwnt, a hed i'th fryn,
fel wrth aderyn bychan?
2 Wele'r annuwiol a'i bwâu,
a'i cawell saetha u'n barod,
Am wirioniaid yn llechu'n fain,
i saethu'r rhai'n o gysgod.
3 Y seilfain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?
4 Mae'r Arglwydd yn ei ddinas gref,
fe weryd ef y cyfion.
Yr Arglwydd o'i orseddfa fry
at y tlawd try ei olwg,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,
iw lygaid ydyn amlwg.
5 Mae'r Arglwydd o'r naturiaeth hon,
prawfgyfion er y mgeledd,
Ond câs yw gan ei enaid fo
ddyn ddrwg a hoffo wagedd.
6 Ar bechaduriaid marwor, tân,
a brwmstan a ddaw'n gawod,
A gwynt tymestlog uchel iawn,
fal dyna lawn wialennod.
7 Cans cyfion ydyw'r Arglwydd ner,
cyfiownder mae'n ei garu;
A'i wyneb ar yr union try,
a hynny yw ymgleddu.

Psal. 12.

O Achub bellach Arglwydd cu,
fe ddarfu'r trugarogion:
A'r holl wirionedd a'r ball aeth
o blith hiliogaeth dynion.
2 A gwefus gweniaith dwedant ffug,
er twyll a hug i'r eiddyn:
A chalon ddyblyg yr un wedd
y cair oferedd ganthyn.
3 Yr Arglwydd torred o'i farn faith
wefusau'r gweniaith diles:
A'r holl dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres.
4 Gallwn orfod o nerth tafod,
dwy wefus y sydd eiddom:
Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,
a phwy sydd Arglwydd arnom?
5 Yntau ein Duw a ddwedodd hyn
rhag llethu'r gwaelddyn codaf:
Y dyn gofidus, tlawd, a'r caeth,
mewn iechydwriaeth dodaf.
6 Pur iawn yw geiriau'r Arglwydd nef,
a'i ddewid ef sydd berffaith,
Fel arian o ffrwn, drwy aml dro
wed'i goeth buro seithwaith.
7 Ti Arglwydd, yn ôl dy air di,
a'i cedwi mewn hyfrydwch
Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,
dy weision i gael heddwch.
8 Pan dderchafer y trowsion blin,
da ganthyn drin anwiredd:
Felly daw dynion o bob parth
i fwyfwy gwarth o'r diwedd.

Psal. 13.

PA hyd fy Arglwydd, Dduw dilyth?
a'i byth yr wyf mewn angof?
Pa guddio'r wyd, (o Dduw) pa byd?
dy lân wynebpryd rhagof?
2 Pa hyd y rhed meddyliau tro
bob awr i flino 'nghalon?
Pa hyd y goddefaf y dir?
dra codir fy nghaseion.
3 O Arglwydd edrych arnaf fi,
a chlyw fy 'ngweddi ffyddlon.
Egor fy llygaid, rhag eu cau
ynghysgfa angau ddigllon.
4 Pe llithrwn ddim (rhag maint yw'r llid)
fo ddwedid fy 'ngorchfygu:
A llawen fyddai fy holl gâs:
dal fi o'th râs i fynu.
5 Minnau'n dy nawdd a rois fy ffydd,
a'm holl lawenydd eithaf:
Canaf i'm Duw am helpodd i.
gwnaf gerddi i'r Goruchaf.

Psal. 14.

FE ddwedai'r ynfyd nad oes Duw,
ac felly byw drwy goegni;
Y mlygru'n ffiaidd, ni chais gel:
nid oes a wnel ddaioni.
2 O'r nef yr edrychodd yr Ion
ar holl drigolion daiar,
A roddai neb ei goel a'r Dduw,
a cheisio byw'n ddeallgar.
3 Fe giliodd pawb at lygredd byd,
ymdroent i gyd mewn brynti:
Nid oes un a wnel well nâ hyn,
nac un a fyn ddaioni.
4 Eu gwddf sy fedd agoredd cau,
maent â thafodau 'strywgar.
A gwenwyn lindis sy'n parhau
dan eu gwefusau twyllgar.
5 A'i genau llawn (fel gwenwyn llith)
o felldith, ac o fustledd:
Ac anian esgud yw eu traed,
i dywallt gwaed a dialedd.
6 Distryw ac anhap sy'n eu ffyrdd,
ni'dwaenant brif-ffyrdd heddwch:
Nid oes ofn Duw'n eu golwg hwy,
ni cheisiant mwy difeirwch.
7 Pam? oni wyddant hwy eu bod
drwy bechod, y modd yma,
Yn ysu fy'mhobl a'i cildroi,
un wedd a chnoi y bara?
8 Gweddio 'r Arglwydd hwy ni wnânt▪
yn hyn dychrynant luoedd:
Am fod Duw'n dala gydâ'r iawn,
yn un a'r cyfiawn bobloedd.
9 Gwradwyddech gynt gyngor y tlawd
fal y gwnewch drallawd etto:
Am i'r tlawd gredu y doe llwydd
oddiwrth yr Arglwydd iddo.
10 Pwy a all roi i Israel,
o Sion uchel iechyd?
Pwy ond ein Duw? yr hyn pan wnel,
bydd Iago ac Israel hyfryd.

Psal. 15.

DYwaid i mi pa ddyn a drig,
i'th lys barchedig Arglwydd?
A phwy a erys ac a fydd
ym mynydd dy sancteiddrwydd?
2 Yr hwn a rodia'n berffaith dda,
yr hwn a wna gyfiawnder:
A'r hwn a draetha o'i galon wir,
a drig ar dir uchelder.
3 Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,
ddim ond o'r da bigilydd:
Ac ni chynnwys y rhai a ron,
iw cymydogion gwilydd.
4 Y'r hwn sydd isel yn ei fryd,
yn caru'i gyd gristnogion,
Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw,
ac sydd yn byw yn ffyddlon.
5 Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,
er dir neu niwed iddo:
Ac niro ei arian yn llog,
er dwyn cymydog dano.
6 Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,
er dal yn erbyn gwirion.
7 A wnelo hy n ni lithra fyth,
fe gaiff y ddilyth goron.

Psal. 16.

CAdw fi Duw, cans rhois fy 'mhwys
a'm coel yn dradwys arnad:
2 Fy Arglwydd wyd: mae dan fy'mron,
y gyffes hon yn wastad.
Nad lles it yw, na'm da, na'm rhin:
3 ond i drin sanct daiarol,
I lesu'r rhai'n fy wyllys yw
y rhai sy'n byw'n rhinweddol.
4 I'r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymmaf fi un amser.
5 Ni henwaf chwaith, Yr Arglwydd yw
sy modd i fyw, a'm phiol:
A thydi Ior, sy'n rhoi'mi ran,
a chyfran yn ddigonol.
6 A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran,
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwyddodd i mi er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.
7 Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor immi,
F'arennau hefyd ddydd a nos,
sydd im yn dangos hynny.
8 Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,
o'r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy nehau law,
yma na thraw ni syflaf.
9 O herwydd hyn, llawen a llon
yw fy'nghalon: ac eilwaith
Hyfryd yw fy'mharch a di-ddig,
a'm cnawd a drig mewn gobaith.
10 Cans yn uffern ni edi di
mo'm henaid i, i aros:
Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)
i weled llygredd ceuffos.
11 Dangosi im lwybr i fyw 'n iawn,
dy fron yw'r llawn llawenydd,
Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,
mae digrifwch tragywydd.

Psal. 17.

O Clyw gyfiownder Arglwydd mâd,
ystyr fy' nâd i'th grybwyll,
Clust ymwrando a'r weddi fau
sydd o wefusau didwyll.
2 Disgwilia' marn oddiwrthyt ti,
cans da y gweli'r union:
Profaist a gŵyddost ganol nos
mor ddiddos y dyw nghalon.
3 Pan chwiliaist fi (da yw dy gof)
ni chefaist ynof gamwedd,
Fy'my fyr mâd na'm meddwl llaes,
na ddoed ymaes o'm dannedd.
4 I ochel cydwaith dynion drwg,
drwy d'air a'th amlwg cyngor,
Ffordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,
fe ddysgwyd im ei hepgor.
5 Ond yn dy union lwybrau di,
Duw, cynal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o'th iawn hwyl,
Duw disgwyl fy'ngherddediad.
6 Galw yr wyf arnad, am dy fod
yn Dduw parodi wrando,
Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd
fy holl ymadrodd etto.
7 Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)
I'r rhai sy'n ymroi dan dy law,
rhag broch, a braw y trowsion.
8 Cadw fi'n anwyl rhag eu twyll,
os anwyl canwyll llygad:
Ynghysgod dy adenydd di,
o cadw fi yn wastad.
9 Rhag yr annuwiol a'i mawr bwys:
a rhag fy'nghyfrwys elyn,
Y rhai a gais fy enaid i,
gan godi yn fy erbyn.
10 Maent hwy mor dordyn ac mor frâs
ac yn rhy gâs eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrost ar led,
gan falched eu parablau.
11 Maent hwy yn amgylchu yn flin
y lle yr ym ni'n cyniwer,
Ac â'i golygon tua'r llawr
mewn gwg a thramawr hyder.
12 Maent hwy fel llew, dan godi gwrych
a fai'n chwennych ysglyfaeth:
Neu fel llew ifaingc (er ei les)
a geisiai loches hyfaeth.
13 Cyfod Arglwydd, o'i flaen ef saf,
dy help y gaf i'm henaid,
A tharo i lawr â'th gleddyf noeth
yr enwir fflamboeth tanbaid.
14 Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd,
sy'ai rhan i gyd oddiymma,
Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plant
yn fawr eu chwant a'i traha.
15 Minnau mewn myfyr fel mewn hun
a welaf lun d'wynebpryd,
A phan ddihunwyf o'r hun hon
y byddaf ddigon hyfryd.

Psal. 18.

O Iorfy'ngrym caraf di 'n fawr,
fy' nghreiglawr, twr f'ymwared.
2 Fy Nâf, f, nawdd, fy Nuw
hwn yw fy holl ymddiried.
3 Pan alwyf ar fy Ior hynod,
i'r hwn mae clod yn gyfion,
Yna i'm cedwir yn ddiau
rhag drygau fy nghaseion.
4 Gofidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i'm herbyn,
A llifodd afonydd y fall
yn ddiball, er fy'nychryn.
5 Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
am câs yn nesu attaf;
6 Yna y gelwais ar fy Nêr,
ef o'r uchelder clywodd,
A'm gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,
a thirion y croesafodd.
7 Pan ddigiodd Duw, daeth daiargryn,
a sail pob bryn a siglodd:
A chyffro drwy'r wlad ar' ei hyd,
a'r holl fyd a gynhyrfodd.
8 O'i enau tân, o'i ffroenau tarth;
yn nynnu pob parth wybren:
9 A chan gymylau dan ei draed,
du y gwnaed y ffurfafen.
10 Ac fel yr oedd ein Ior fel hyn,
uwch Cherubyn yn hedeg:
Ac uwch law adenydd y gwynt,
mewn nefol helynt hoywdeg.
11 Mewn dyfroedd a chymylau fry,
mae'i wely heb ei weled:
12 Ac yn eu gyrru'n genllyfg mân,
a marwor tân i wared.
13 Gyrrodd daranau, dyna 'i lef,
gyrrodd o'r nef gennadon.
14 Cenllysg, marwor tân, mellt, yn gwau,
fal dyna'i saethau poethion.
15 Distrywiwyd dy gas: felly gynt
gan chwythiad gwynt o'th enau:
Gwasgeraist di y moroedd mawr,
gwelwyd y llawr yn olau.
16 Felly gwnaeth Duw a mi'r un modd,
anfonodd o'r uchelder,
Ac a'm tynnodd, o'r lle yr oedd
i'm hamgylch ddyfroedd lawer.
17 Fe a'm gwaredodd Duw fal hyn,
oddiwrth fy' ngelyn cadarn;
Yn rhy drwm imi am ei fod,
rhof finnau glod hyd dyddfarn.
18 Safent o'm blaen ni chawn ffordd rydd,
tra fum yn nydd fy' ngofid:
Ond yr Arglwydd ef oedd i'm dal,
a'm cynal yn fy 'ngwendid.
19 Fy naf ei hûn a'm rhoes yn rhydd,
fe fu waredydd imi:
Ac o dra serch i mi y gwnaeth,
na bawn i gaeth ond hynny.
20 Yr Arglwydd am gobrwya'n ol,
fy' ngwastadol gyfiawnder:
Ac yn ol glendid fy nwy law,
tâl i'm a ddaw mewn amser.
21 Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,
ni wneuthym hyder ormod,
Na dim sceler erbyn fy' Nuw,
gochelais gyfryw bechod.
22 Cans ei ddeddfau, maent ger fy mron,
ai hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio'r un o'r rhai'n,
hwy ynt fynghoelfain innau.
23 Bum berffaith hefyd o'i flaen, ac
ymgedwais rhag byw'n rhyddrwg:
24 A'r Arglwydd gobrwyodd fi'n llawn
yr hyn fu'n iawn iw olwg.
25 I'r trugarog trugaredd rhoi,
i'r perffaith t'roi berffeithrwydd:
26 A'r glan gwnei lendid, ac i'r tyn,
y byddi gyndyn Arglwydd.
27 Cans mawr yw dy drugaredd di,
gwaredi'r truan tawel:
Ac a ostyngi gar dy fron,
rhai a golygon uchel.
28 Ti a oleui 'nghanwyll i,
am hynny ti a garaf,
Tydi a droi fy' nos yn ddydd,
a'm tywyll fydd goleuaf.
29 Oblegid ynot ti fy Naf,
y torraf trwy y fyddin:
Ie yn fy Nuw y neidia'n llwyr,
be tros y fagwyr feinin.
30 Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,
a'i air ef sydd buredig:
Ac i bob dyn yntho a gred
mae'n fwccled bendigedig.
31 Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,
pwy ond yr Arglwydd nefol?
A phwy sydd graig onid ein Duw,
sef, disigl yw'n dragwyddol.
32 Duw a'm gwregysodd i a nerth,
a rhoes im brydferth lwybrau.
33 Fo roes fy'nrhaed ar hy-lwybr da,
gorseddfa'r uchel fannau.
34 Efe sy'n dysgu rhyfel im,
gan roi grym i'm pawennau:
Fel y torrir bwa o ddur
yn brysur rhwng fy mreichiau.
35 Daeth o'th ddaioni hyn i gyd,
rhoist darian iechyd i mi:
A'th law ddeau yr wyd im dwyn,
o'th fwynder yr wy'n tyfy.
36 Ehengaist i mi lwybrau teg,
i redeg buan gamrau:
Nid oes ynof un cymal gwan,
ni weggian fy mynyglau.
37 Erlidiais i fy nghas yn llym,
a daethym iw goddiwedd:
Ac ni throis un cam i'm hol mwy,
nes eu bod hwy'n gelanedd.
38 Gwnaethym arnynt archollion hyll,
fel sefyll nas gallasant:
Ond trwy amarch iw cig, a'i gwaed,
i lawr dan draed syrthiasant.
39 Gwregysaist fi a gwregys nerth,
at wres ac angerth rhyfel,
A'r rhai a ddaeth i'm herbyn i,
a gwympaist di'n ddiogel.
40 Fal hyn y gwnaethost i mi gau
ar warrau fy' ngelynion,
A'm holl gas a ddifethais i,
rhois hwynt i weiddi digon.
41 Ac er gweiddi drwy gydol dydd,
ni ddoe achubydd attynt,
Er galw'r Arglwydd: ni ddoe neb
a roddai atteb iddynt.
42 Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt▪
fal dyna helynt efrydd;
Ac mi a'i sethrais hwynt yn ffrom,
fel pridd neu dom heolydd.
43 Gwaredaist fi o law fy nghas,
rhoist bawb o'm cwmpas danaf:
Doe rai ni welsent fi erioed
a llaw, a throed, hyd attaf.
44 A ddaw ufydd-dod, ond fo gaid
gan blant estroniaid gelwydd:
45 A phlant estroniaid twyll a wnant,
ond [...]rynant iw stafellydd.
46 Eithr byw yr Arglwydd ar fymlhaid,
fy' nghraig fendigaid hefyd,
Derchafer Duw: yntho ef trig
fy' nerth a'm unig Iechyd.
47 Fy Nuw tra fo a'i nerth i'm dal,
rhoi dial hawdd y gallaf.
A rholi pobloedd: cans efo
sydd yn eu twyso attaf.
48 Fy ngwaredydd, a'm derchafydd,
o chyfyd rhai i'm herbyn,
Wyt ti o Dduw: am dug ar gais
rhag drwg a thrais y gelyn.
49 Am hyn canmolaf di yn rhwydd
o Arglwydd, Dduw y lluoedd:
Canaf dy glod: a hyn fydd dysg,
ymysg yr holl genhedloedd.
50 Duw sydd yn gwneuthyr (o'i fawr rad)
faw rhâd i frenin Dafydd,
Ac iw eneiniog ei wellâd,
ac iw hâd yn dragywydd.

Psal. 19.

DAtgan y nefoedd fowredd Duw,
yr unrhyw gwna'r ffurfafen.
2 Y dydd i dydd, a'r nos i nos,
sy'n dangos cwrs yr wybren.
3 Er nad oes ganthynt air nac iaith,
da y dywaid gwaith Duw lywydd,
Diau nad oes na môr, na thir,
na chlywir eu lleferydd.
4 Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,
a'i geitiau hyd eithafoedd.
Yr haul teg a'i gwmpas sydd bell,
a'i babell yn y nefoedd.
5 O'r hon y cyfyd ef yn rhod,
fel priod o'i orweddfa.
Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawr,
fel cawr yn rhedeg gyrfa.
6 O eithaf hyd eithafoedd nef
y mae ef a'i amgylchiad,
Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)
ymguddio o'i oleuad.
7 Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn
a dry i'r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei wir dystiolaeth
wybodaeth i'r ffyddloniaid.
8 Deddfau Duw Ion ydynt union,
llawenant galon ddiddrwg,
A'i orchymyn sydd bur diau,
a rydd olau i'r golwg.
9 Ofn yr Arglwydd sydd lân: ac byth
y pery'n ddilyth hyfryd,
Barnau'r Arglwydd ynt yn wir llawn
i gyd, a chyfiawn hefyd.
10 Mwy deisyfedig ynt nac aur,
ie na choeth aur lawer,
Melysach hefyd ynt nâ'r mel,
sef dagrau terfel tyner.
11 Cans ynthynt dysgir fi, dy wâs
ar addas, a'r unionder:
A'r holl gamp sy o'i cadw nhwy,
felly cair gobrwy lawer.
12 Er hynny i gyd, pwy a all
iawn ddeall ei gamweddau?
O gwna fi'n lân, (a bydd ddiddig)
o'm holl guddiedig feiau.
13 Duw attal feiau rhyfig, chwant,
na thyfant ar fy ngwarthaf:
Yno byddaf wedi 'nglanhau
o'm holl bechodau mwyaf.
14 O Arglwydd, fy mhrynwr a'm nerth,
bydded yn brydferth gennyd
Fy 'madrodd, pan ddel gar dy fron,
a'm myfyr calon hefyd.

Psal. 20.

GWrandawed di yr Arglwydd Ner
pan ddel cyfyngder arnad,
Enw Duw Iacob ein Duw ni,
a'th gadwo di yn wastad.
2 O'i gysegr rhoed i't help a nerth,
a braich o brydferth Sion:
3 Cofied dy offrwm poeth a'th rodd,
bo'rhai'n wrth fodd ei galon.
4 Rhoed itti wrth dy fodd dy hûn,
dy ddymun a'th adduned:
Dy fwriad iach a'th arfaeth tau,
a'th weddiau gwrandawed.
5 Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn faner:
A'th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,
Yr Arglwydd o'r uchelder.
6 Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o'i gysegr drwn ei eneiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.
7 Rhai ar gerbydau rhont eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minnau ar enw'r Arglwydd Dduw,
mai hwnnw yw'n ymwared.
8 Hwy a'mroesant a syrthiasant,
yn eu nerth eisoes yno:
Codasom a safasom ni,
O Dduw, a thi i'n llwyddo.
9 Cadw ni Arglwydd a'th law gref,
boed brenin y nef drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni,
a'n gweddi pan y llefom.

Psal. 11.

O Arglwydd, yn dy nerth a'th rin,
mae'r brenin mewn llawenydd:
Ac yn dy iechyd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunydd.
2 Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fodd,
ac o un rhodd ni phellaist.
3 Cans da'r achubaist ei flaen ef,
â doniau nef yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddaionus Ion,)
rhoist goron aur o'r puraf.
4 Ef a ofynnodd gennyd oes,
a rhoddaist hiroes iddo:
A hon cy rodd, dros byth y bydd,
nid â'n dragywydd heibio.
5 I'th iechydwriaeth y mae'n byw,
a mawr yw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth yw ei lwyddiant.
6 Rhoist dy fendithion uwch pob tawl,
yn rhodd dragwyddawl iddo:
A llewyrch d'wyneb byth a fydd,
yn fawr lawenydd arno.
7 Am fod y brenin yn rhoi'i gred,
a'i'mddiried yn yr Arglwydd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddo dramgwydd.
8 A thydi Arglwydd â'th law lân,
cei allan dy elynion:
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
ni ddiangant dy gaseion.
9 Di a'i gosodi'n nydd dy ddig,
fel ffwrnais ffyrnig danllyd:
Yr Arglwydd iw lid a'i difa,
a'r tân a'i hysa'n enbyd.
10 Diwreiddi di eu ffrwyth o'r tir,
a'i had yn wir ni thyccian:
11 Am fwriadu it ddrwg ddilen,
heb ddwyn i ben mo'i hamcan.
12 Ti a'i gosodi hwy'r naill du,
a thi a'th lu iw herbyn:
Ac a lefeli dy fwau,
at eu hwynebau cyndyn.
13 Y mddercha dithau f' Arglwydd gûn,
i'th nerth dy hûn a'th erfid:
Ninnau a ganwn, o'n rhan ni,
i foli dy gadernid.

Psal. 22.

DAngos fy Nuw, fy Nuw, a'm grym,
ba achos ym gadewaist:
Fell wyd o'm iechyd, ac o nâd
fy'mloeddiad, llwyri'm pellaist.
2 Fy Nuw'rwy'n llefain, tithau heb
roi im' mor atteb etto,
Bob dydd a nos mae 'nghri'n ddi-ffael,
a heb gael mo'm dihuddo.
3 A thi wyd sanct, sanct i barhau,
lle daw gweddiau'n wastad:
A holl dy Israel a'i elod,
a'i pwys a'i hystod attad.
4 Ynot' gobeithiai'n tadau ni,
a thydi oedd eu bwccled:
Ymddiried ynot, Arglwydd hael,
ac felly cael ymwared.
5 Llefasant drwy ymddiried gynt,
da fuost iddynt, Arglwydd:
Eu hachub hwynt a wnaethost di
rhag cyni a rhag gwradwydd.
6 Fo'm rhifir innau megis pryf,
nid fel gwr cryfeiarfod:
Fel dirmyg dynion, a gwarth gwael,
a thybiant gael eu hystod.
7 Pawb a'm gwelent a'm gwatworent
ac a'm min-gamment hefyd,
Ysgwyd eu pennau yn dra hy,
a chwedi hynny dwedyd,
8 Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chrêd,
doed ef iw wared allan,
Os myn ei ollwng ef ar lêd,
cymered iddo ei hunan.
9 Duw tynnaist fi o groth fi mam,
rhoist ynof ddinam obaith,
Pan oeddwn i yn sugno hon,
ac o'i dwy fron am harchwaith.
10 Arnat ti bwriwyd fi o'r bru,
arnat ti bu fy'mddiried:
Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,
ffyddiais it am fy ngwared.
11 Oddiwrthif fi yn bell na ddos,
tra fo yn agos flinder,
I'm cymorth i', gan nad oes neb
a drotho'i wyneb tyner.
12 Bustych lawer, a chryfion iawn,
daethant yn llawn i'm gogylch;
A theirw Basan o bob parth,
yn codi tarth o'm hamgylch.
13 Egorant arnaf enau rhwth
i'm bygwth, fel y llewod,
A faent yn rhuo eisiau maeth,
o raib ysclyfaeth barod.
14 Fel dwfr rwy fi yn diferu'n chwyrn,
a'm hesgyrn, sigla'r rhei'ni:
Fy 'nghalon o'm mewn darfu'n llwyr,
fel cwyr a fai yn toddi.
15 Fel priddlestr mae fy nerth mor swrth,
ynglyn wrth fy'ngorchfanau
Mae fy'nhafod, yr wyf mor drwch,
fy'nghyfle yw llwch angau.
16 Cans cwn cylchasant fi fy Nêr,
a chadfa sceler ddiffaith:
Cloddiasant fy nwy law a'm traed,
ac felly gwnaed fy artaith.
17 A rhifo fy holl esgryn i,
gan gulni hawdd y gallaf,
Maent hwythau'n gweled hynny'n wych,
bob tro yn edrych arnaf.
18 Rhyngthynt iw mysg y dillad mau
yn rhannau dosbarthasant,
A hefyd ar fy mrhif-wisc i
coelbrenni a fwriasant.
19 Tithau fy nerth a'm harglwydd da,
nac ymbellâ oddiwrthi,
O bryssia, tydi yw fy mhorth,
a thyr'd, a chymorth imi.
20 O dyr'd, ac achub yr oes fau,
rhag ofn y cleddau ffyrnig,
A gwared o feddiant y ci
fy enaid i sy'n unig.
21 Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,
dwg o'i safn rhwth fy enaid,
Achub a gwrando fi yn chwyrn
rhag oyrn yr unicorniaid.
22 Mynegaf finnau d'enw yn bur
i'm brodur yn yr orsedd,
Lle mwya'r gynnulleidfa lân,
dy glod a wna'n gyfannedd.
23 Hâd Iaco ac Israel, chwychwi
rhai ych yn ofni'r Arglwydd,
Drwy ofn y rhowch iddo foliant,
a rhowch ogoniant ebrwydd.
24 Cans ni'ch llysodd, ni'ch dirmygodd,
ni chuddiodd ei wynebpryd,
Eithr gwrandawodd weddi y gwan,
a'i duchan yn ei adfyd.
25 Honot ti bydd, ac i ti gwedd
mewn aml orsedd fy moliant.
I Dduw rhof f'addunedau'n llon
gar bron y rhai a'i hofnant.
26 Diwellir y tlodion: a'r rhai
a geisiai at yr Arglwydd
A'i molant ef, so gaiff (gwir yw)
eich enaid fyw'n dragywydd.
27 Trigolion byd a dront yn rhwydd
at yr Arglwydd pan gofiant:
A holl dylwythau'r ddaiar hon
dônt gar ei fron, ymgrymant.
28 Cans yr Arglwydd biau'r dyrnas,
a holl gwmpas y bydoedd:
Ac uwch eu llaw, ef unig sydd
ben llywydd y cenhedloedd.
29 Y cyfoethogion a fwytânt,
addolant yn eu gwnfyd:
Rhai a ânt i'r llwch gar ei fron,
a rhai, braint meirwon hefyd,
30 Y rhai'n oll a'i hâd, yn un fryd
gwnânt iddo gyd wasanaeth:
A'r rhai'n ir Arglwydd drwy'r holl dir
a rifir yn genhedlaeth.
31 Dont, dangosant ei uniondeb
y rhai sydd heb eu geni:
Hyn a addawodd, ef a'i gwnaeth,
hynny a ddaeth o ddifri.

Psal 23.

YR Arglwydd yw fy mugail clau,
ni âd byth eisiau arnaf:
2 Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,
ar lan dwfr gloywlas araf.
3 fe goledd f'enaid, ac a'm dwg
rhyd llwybrau diddrwg cyfion,
Fr mwyn ei enw mawr dilys
fo'm tywys ar yr union.
4 Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)
yn nyffryn cysgod angau,
Wyd gydâ mi, â'th nerth, â'th ffon,
ond tirion ydyw'r arfau?
5 Gosodaist fy mwrdd i yn frâs,
lle'r oedd fy'nghâs yn gweled:
Olew i'm pen, a chwppan llawn,
ddaionus iawn fu'r weithred.
6 O'th nawdd y daw y doniau hyn
i'm canlyn byth yn hylwydd:
A minnau a breswyliaf byth
a'm nyth yn nhy yr Arglwydd.

Psal. 24.

YR Arglwydd piau'r ddaiar lawr,
a'i llownder mawr sy'n eiddo:
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
a'r bobl i gyd sydd ynddo.
2 Cans fo roes ei sail hi a'i gwedd,
yn rhyfedd uwch y moroedd:
Ac a'i gosododd hi yn lân,
yn drigfan uwch llif-ddyfroedd.
3 Er hyn: pwy a ddringa yn hy
igysegr fry yr Arglwydd?
A phwy a saif, a theilwng wedd,
yngorsedd ei sancteiddrwydd:
4 Dyn â llaw lân, a meddwl da,
ac yn ddidraha ei enaid,
Diorwag, ac ni roes ûn tro
er twyllo 'i gyfneseifiaid.
5 Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlith
ei rallawn fendith helaeth,
A chyfiawnder i bob cyfryw
gan Dduw yr iechydwriaeth.
6 Hon sy gan Dduw'n genhedlaeth gref,
a'i ceisiant ef yn effro,
A geisiant d'wyneb, dyma eu maeth,
sef gwir genhedlaeth Iago.
7 Derchefwch chwi byrth eich pennau,
a chwithau ddorau bythol,
Cans brenin mawr daw i'ch mewn chwi,
sef pen bri gogoneddol.
8 Pwy yw'r brenin hwn gogonedd?
Arglwydd rhyfedd ei allu:
Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,
a chadarn i ryfelu.
9 Derchefwch chwi byrth eich pennau,
chengwch ddorau bythol,
Cans brenin mawr daw i'ch mewn chwi
brenin o frigogonol.
10 Pwy meddwch ydyw'r brenin hwn,
a gofiwn ei ogoniant?
Ior y lluoedd yw, brenin hedd,
a gogonedd, a ffyniant.

Psal. 25.

FArglwydd derchefais f' enaid i
hyd attad ti yn vnion.
Fy Nuw, fy'ngobaith, gwarth ni châ,
na lawenhâ 'ngelynion:
Sawl a obeithiant ynot ti,
y rheini ni wradwyddir,
Gwarth i'r rhai a wnel am i ham
ryw dwyll neu gam yn ddihir.
Arglwydd dangos im' dy fford di,
a phâr i mi ei deall:
Dysg ac arwain fi yr vn wedd
yn dy wirionedd diball.
Cans tydi ydwyd Dduw fy maeth,
a'm iechydwriaeth vnig.
Dy ddisgwyl yr wyf rhyd y dydd,
a hynny fydd i'm diddig.
6 O cofia dy nawdd a'th serch dî,
a'th fawr dosturi Arglwydd,
Cofia fod ynot ti erioed,
lawn ddioed drugarogrwydd.
7 Na chofia yr enwiredd mau,
na llwybrau fy ieuenctyd:
Ond Arglwydd, coffa fy nghûr i,
er dy ddaioni hyfryd.
8 Yr Arglwydd sydd vnion a da,
a'i ffyrdd im noddfa ydynt:
Fe arwain, (fel y mae yn rhaid)
y pechaduriaid ynthynt.
9 Fe ddysg ei lwybrau mewn barn iawn,
i'r rhai vfyddiawn ystig,
Hyddysg yw ei ffyrdd i bob rhai
a fyddai ostyngedig.
10 I'r sawl a gatwo ddeddfau'r Iôn,
a'i vnion dystiolaethau,
Gwirionedd, a thrugaredd fydd
ei lywydd yn ei lwybrau:
11 Er mwyn dy enw (o Arglwydd mau)
Duw maddau fy enwiredd,
Cans fy'nrhoseddiad i mawr yw,
mwy ydyw dy drugaredd.
12 Mae, pa ryw wr yn ein mysg ni
sydd yn pûr ofni'r Arglwydd?
Fe ddengys y ffordd iddaw fo,
hon a ddewiso'n ebrwydd.
13 O hyn y caiff fy enaid cu
le i letteu'n esmwyth:
A'r holl ddaear hon a'i gwellâd,
a gânt ei hâd a'i dylwyth.
14 Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,
i'r sawl a ofno'r Arglwydd:
Ac oi' holl gyfanneddau glân,
efe a'i gwna'n gyfarwydd.
15 Tueddu'r wyf fy Arglwydd mâd,
yn wastad â'm golygon:
Cans ef yn vnic, (yn ddi oed)
rhydd fy nau droed yn rhy ddion.
16 Tro attaf, dod im nawdd diddig,
cans vnic wyf, a rhydlawd.
17 Gofidiau'nghalon ynt ar lêd,
Duw gwared fi o'm nychdawd.
18 Duw, gwêl fy mlinder, a'm poen fawr,
a madde'n awr fy 'mhechod:
19 Gwêl fy 'ngelynion a amlhânt,
ac a'm casânt yn ormod.
20 Cadw f' enaid, ac achub fi,
na wnelo'r rheini 'm wradwydd:
Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwydd.
21 Cadwed fi fy vniondeb maith,
cans rhois fy 'ngobaith ynod.
22 Duw, cadw di holl Israêl,
gwared, a gwêl ei drallod.

Psal. 26.

BArn fi (o Dduw) a'chlyw fy llais,
mi a rodiais mewn perffeithrwydd:
Ac ni lithraf'am im'roi 'mhwys,
yn llownddwys ar yr Arglwydd.
2 Prawf di fy muchedd Arglwydd da,
a hola dull fy mywyd,
A manwl chwilia'r galon fau,
a phrawf f'arennau hefyd.
3 O flaen fy llygaid, wyf ar lêd
yn gweled dy drugaredd:
Gwnaeth dal ar hynny ar bob tro,
im'rodio i'th wirionedd.
4 Nid cyd eistedd gyd â gwagedd,
neu goegwyr yn llawn malais:
5 Câs gennif bob annuwiol rith,
ac yn eu plith ni 'steddais.
6 Mi olchaf fy nwy law yn lân,
canys felly byddan, f' Arglwydd,
Ac a dueddaf tua'th gor,
ac allor dy sancteiddrwydd,
7 Y modd hyn teilwng yw i mi,
Inosogi dy foliant:
Sef, addas i mi fod yn lân,
i ddatcan dy ogoniant.
8 Arglwydd cerais drigfan dy dy,
lle 'r ery'dy anrhydedd:
9 N'âd f' enaid i a'm hoes ynghyd
â'r gwaedlyd llawn enwiredd.
10 Eu dwylaw hwynt sy sceler iawn,
y maent yn llawn maleisiau.
A dehau law yr holl rai hyn,
sy'n arfer derbyn gwobrau.
11 Minnau'n ddiniwed, (felly gwedd)
ac mewn gwirionedd rhodiaf:
Gwared fi drwy dy ymgeledd,
cymer drugaredd arnaf.
12 Fe saif fy nhroed i ar yr iawn,
ni syfl o'r uniawn droedfedd:
Mi a'th plodforaf, Arglwydd da,
lle bytho mwya'r orsedd,

Psal. 27.

YR Arglwydd yw fy ngolau'gyd,
a'm iechyd: rhag pwy'r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth fo'es: am hyn,
rhag pwy doe ddychryn arnaf?
2 Pan ddaeth rhai anfad, sef fy 'nghas,
o'm cwmpas er fy llyngcu,
Llithrasant a chwympasant hwy,
ni ddaethont mwy i fynu.
3 Ni ddoe ofn ar fy 'nghalon gu,
pe cyrchai llu i'm herbyn:
Neu pe codai gâd y modd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronyn.
4 Un arch a erchais ar Dduw nâf,
a hynny a archaf etto:
Cael dyfod i dy'r Arglwydd glân,
a bod a'm trigfan yntho:
I gael ymweled a'i Deml deg,
a hyfryd osteg ynthi
Holl ddyddiau f' einioes: sef wyf gaeth
o fawr hiraeth am dani.
5 Cans y dydd drwg fo'm cudd efe
iw Babell neu ddirgelfa:
Iw breswylfod, fel mewn craig gref,
caf gantho ef orphwysfa.
6 Bellach fo'm codir vwch fy'nghâs,
sydd mewn galanas i mi;
Aberthaf caraf, mola'r Ion
yn ffyddlon byth am hynny.
7 Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,
bryssia a chlyw fy oernâd:
Trugarhâ wrthif, gwyl fy 'nghlwyf,
y pryd y galwyf arnad.
8 Fel hyn mae'nghalon o'm mewn i
yn holi ac yn atteb,
Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:
fy Nuw rwy'n ceisio d' wyneb.
9 Na chudd d' wyneb, na lys dy wâs,
fy mhorth a'm urddas fuost:
Duw fy iechyd na wrthod fi,
o paid a sorri'n rhydost.
10 O gwrthyd fi fy nhâd a'm mam
a'm dinam gyfneseifiaid:
Gweddia'r Arglwydd, ef er hyn
o'i râs a dderbyn f 'enaid.
11 Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
o herwydd fy 'ngelynion,
Ac arwain fi o'th nawddol râd
yn wastad ar yr union.
12 Ac na ddyro fi, er dy râs,
wrth fodd yr atcas elyn,
Cans ceisiodd fy'nghaseion mau
dystion gau yn fy erbyn.
13 Oni bai gredu honof fi,
bum wrth fron torri'nghalon,
Y cawn i weled da Duw 'n rhâd
o fewn gwlâd y rhai bywion.
14 Disgwyl di ar yr Arglwydd da,
ymwrola dy galon:
Ef a rydd nerth i'm galon di,
os iddo credu 'n ffyddlon.

Psal. 28.

A Ttad (Ion fy nerth) y rhof lef,
Duw nef na fydd di fyddar:
Os tewi, rhag fy mynd mor drist,
a bod mewn cist dan ddaiar.
2 O Arglwydd, erglyw fy llais i,
a derbyn weddi bruddaidd;
Pan gottwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
3 Ac na ddarostwng fi, fy Ior,
dan ddwylo'r annuwolion,
Y rhai sy'n arwain minau mel,
a rhyfel yn eu calon.
4 Yn ol bwriad eu calon gau,
a'r twyll ddyfeisiau eiddynt,
Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,
Duw tâl eu gobrwy iddynt.
5 Am na 'styriant weithredoedd Duw,
ef a wna ddistryw arnynt:
Am na welent ei wyrth a'i râd,
ni wna adeilad honynt.
6 Bendigaid fytho'r Arglwydd nef,
fe glybu lef fy 'ngweddi.
7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm rhan,
a'm tarian, a'm daioni.
Ymddiriedais iddo am borth
a chefais gymorth gantho:
Minnau o'm calon, drwy fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.
8 Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhai,
a ymddiriedai'n hylyn:
A'i eneiniog ef a fydd maeth,
ac iechydwriaeth iddyn.
9 Gwared dy bobl dy hun yn dda,
bendithia d' etifeddiaeth.
Bwyda, cyfod hwy, am ben hyn
dod iddyn dragwyddolfaeth.

Psal. 29.

RHowch i'r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,
chwi blant y cedyrn, foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a'i nerth,
mor brydferth, a'i ogoniant.
2 Rhoddwch i enw yr Arglwydd glod,
heb orfod mwy mo'ch cymmell,
Addolwch Arglwydd yr hollfyd:
mor hyfryd yw ei Babell!
3 Llais yr Arglwydd sydd vwch dyfroedd,
Duw cryf pair floedd y daran:
Vwch dyfroedd lawer mae ei drwn;
nid yw ei swn ef fychan.
4 Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,
a ddengys rym a chyffro:
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
fel y bo cymwys gantho.
5 Llais yr Arglwydd a dyr yn fân
y Cedrwydd hirlân vnion,
Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,
y Cedrwydd o Libânon.
6 Fel llwdn vnicorn neu lo llon
fe wna'i Libanon lammu,
7 A Sirion oll: llais ein Ior glân
a wna'i fflam dân wasgaru.
8 Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,
a godai ddychryn eres:
Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwch
drwy holl anialwch Cades:
9 Llais yr Arglwydd y piau'r glod,
pair i'r ewigod lydnu:
Dinoetha goed: iw deml iawn yw
i bob rhwy ei foliannu.
10 Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,
ar y llif-ddyfroedd cethrin:
Yr Arglwydd fu, ef etto sydd,
ac byth a fydd yn frenin.
11 Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth,
drwy brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwydd a rydd ei bobl ymhlith
ei fendith, a hir heddwch.

Psal. 30.

F' Arglwydd mi a'th fawrygaf di,
cans myfi a ddyrchefaist,
A'm gelynion i yn llawen
vwchlaw fy mhen ni pheraist.
2 Fy Nuw, pan lefais arnat ti
y rhoddaist i mi iechyd,
3 Cedwaist fy enaid rhag y bedd,
a rhag diwedd anhyfryd.
3 Cenwch i'r Ion chwi ei holl sainct,
a maint yw gw [...]i [...]u'r Arglwydd;
A chlodforwch'ef gar ei fron:
drwy gofion o'i sancteiddrwydd.
5 Ennyd fechan y sai'n ei ddig,
o gael i fodd trig bywyd:
Heno brydnawn wylofain fydd,
y borau ddydd daw iechyd.
6 Dywedais yn fy llwyddiant hir,
ni'm syflir yn dragywydd:
O'th ddaioni dodaist, Dduw Ner,
sail cryfder yn fy mynydd.
7 Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,
a blinder mawr a gefais.
8 Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,
fy Arglwydd, i'r ymbiliais.
9 Pa fydd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed,
pan fwyf dan draed yn gorwedd?
A phwy a gân it'yn y llawr,
dy glod a'th fawr wirionedd?
10 Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,
dôd gymorth da i'm bywyd,
11 Canys yn rhâd y troist fy mâr,
a'm galar, yn llawenfyd:
Am itri ddattod fy sâch grys,
rhoist wregys o lawenydd:
12 Molaf a chanaf â'm tafod,
i'm Arglwydd glôd dragywydd.

Psal. 31.

MI a'mddiriedais ynod Ner,
fel na'm gwradwydder bythoedd:
Duw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy'nghri hyd nefoedd.
2 Gogwydd dy glust attaf ar frys,
o'th nefol lys i wared,
3 A bydd im' yn graig gadarn siwr,
yn dy a thwr i'm gwared.
4 Sef fy'nghraig wyd, a'm castell cryf,
wyf finau hyf o'th fowredd.
Er mwyn dy enw tywys fi,
ac arwain i drugaredd.
5 A thynn fy fi o'r rhwyd i'r lann,
a roesan er fy maglu:
Cans fy holl nerth sydd ynot ti,
da gelli fy'ngwaredu.
6 Dodaf fy yspryd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da y gwaredaist fi yn fyw:
(O Arglwydd Dduw'r gwirionedd)
7 Llwyr y caseis y neb a fâg,
iw galon or wag aflwydd,
Ac mi a osodais yn llwyr faith
fy'ngobaith yn yr Arglwydd.
8 Mi a'mhyfrydaf ynot ti,
canfuost fi mewn amfer,
Ac adnabuost, wrth fy rhaid,
fy enaid mewn cyfyngder.
9 Llawen fyddaf finnau am hyn,
i'm gelyn ni'm gwarcheaist;
Eithr fy'nrhaed i yn eang rydd
da beunydd y sefydlaist.
10 O dangos dy drugaredd Dduw,
cans cyfyng ydyw arnaf,
Fy llygaid, f' enaid, a'm bol sydd
yn dioddef cystydd gwaelaf.
11 Fy mywyd im' gwir ofid oedd,
fy holl flynyddoedd, blinion,
12 Fy nerth a ballodd o'm drwg cynt,
a'm esgyrn ydynt bydron.
13 A gwatwor im' gelynion wyf,
fy'nghydblwyf a'm gwatworent:
Fy holl gym'dogion, a phob dyn,
gan ddychryn a'm gochelent.
14 Fe a'm gollyngwyd 'i dros gof,
fal marw a fo esgeulus:
A hawdd yw hepgor y llestr twn,
o byddai hwn drwg-flasus.
15 Cans clywais ogan llawer dyn
o'm dautu, dychryn oerloes:
Hwy a'mgynghorent a'r bob twyn,
bwriadent ddwyn fy einioes.
16 Ond yn fy'ngobaith (Arglwydd byw)
y dwedais sy Nuw ydwyd,
Y mae f' amseroedd a'r dy law,
nid oes na braw nac arswyd.
17 Dyred o gwared fi dy wâs,
oddiwrth fy'nghâs a'm herlid:
18 A dangos d'wyneb im'oth râd,
rhag brâd y rhai sy'm hymlid.
19 O Arglwydd, na wradwydder fi
a rois fy'ngweddi arnad:
Ond i'r annuwiol gwarth a wedd,
yn fud i'r bedd o lygriad.
20 Cae gelwyddog wefusau y rhai'n
y sydd yn darstain crasder,
O ddiystyrwch, a thor tynn,
yn erbyn y cyfiawnder.
21 O mor fawr yw dy râd di-drai,
a roist i'r rhai a'th ofnant!
Cai o flaen meibion dynion glod,
ac ynod ymddiriedant.
22 Oddiwrth syth fellchion (o'th flaen di)
y cuddi hwynt yn ddirgel:
Cuddi yn dda i'r babell dau,
rhag senn tafodau vchel.
23 Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:
dangosawdd im' ei gariad,
A gwnaeth ryfeddod dros ei was,
mewn cadarn ddinas gaead.
24 Ofnais i gynt o'm gobaith drwg
fy'nrhoi o'th olwg allan;
25 Eithyr pan lefais arnat ti
y clywaist fi yn fuan.
26 O cerwch Dduw ei holl sainct ef,
da y clyw lef ffyddloniaid:
Ac ef a dâl yn helaeth iawn,
i'r beilch ânghyfiawn tanbaid.
27 Cymmerwch gysur yn Nuw Ion,
ef a rydd galon ynoch:
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
ei law yn gref bydd drosoch.

Psal. 32.

Y Sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,
drwy fadde 'i gyd el drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
a'i bechod, a'i anwiredd.
2 A'r dyn (a gwnfyd Duw a'i llwydd)
ni chyfri'r Arglwydd iddo
Mo'i gamweddau: yr hwn ni châd
dim twyll dichell frâd yntho.
3 Minnau, tra celwn i fy mai
yn hen yr ai' mhibellion:
A thrwy fy rhuad i bob dydd,
cystuddio y bydd fy'nghalon.
4 Dy law dithau, y dydd a'r nos,
sydd drom drwy achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgyrn mêr
fel sychder y gorphennaf.
5 Yna y trois innau ar gais,
addefais fy enwiredd:
6 Tyst yn fy erbyn fy hûn fûm,
maddeuaist im fy'nghamwedd.
7 Amserol weddiau am hyn,
a rydd pob glanddyn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na chaer mo'r daith hyd attad.
8 Rhyw loches gadarn wyd i mi,
rhag ing i'm cedwi 'n ffyddlon▪
Amgylchyni fy fi ar led,
a cherdd ymwared gyson.
9 Dithau (o ddyn) dysg geni fi
y ffordd y rhodi'n wastad,
Mi a'th gynghoraf di rhag drwg,
y mae fy' ngolwg arnad.
10 Fel y march neu y fûl na fydd,
y rhai y sydd heb ddeall:
Mae yn rhaid genfa neu ffrwyn den,
i ddal eu pen yn wastad:
11 Caiff annuwolion, a wnant gam,
fawr ofid am eu traha:
A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,
trugaredd a'i cylchyna.
12 Chwithau'r cyfion yn dirion ewch,
a llawenhewch yn hylwydd,
A phob calon sydd vnion syth,
clodforwch fyth yr Arglwydd.

Psal. 33.

PA rai bynnag, yn Nuw yr Ion,
sy gyfion, llawenychwch:
I bawb y sydd yn iawn yn byw
gweddus yw diolchgarwch.
2 A thannau telyn molwch ef,
rhowch hyd y nef ogoniant:
Ar y nabyl gywair ei thôn,
ac ar y gyson ddectant.
3 Cenwch i'r Ion fawl a mawrhâd,
wiw gerdd o ganiad newydd:
Cenwch iddo yn llafar glod,
bid parod eich lleferydd.
4 Am mai vnion ydyw ei air,
ffyddlon y cair ei weithred.
5 Cyfiownder a barn ef a'i câr,
a'r ddaiar llawn o'i nodded.
6 Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,
a'i Y spryd ef eu lluoedd:
7 Casclai efe ynghyd y môr,
a'i drysor yw'r dyfnderoedd.
8 Yr holl ddaiar ofned ein Duw,
a phob dyn byw a'i preswyl:
9 Ei arch a saif, a'i air a fydd,
a hynny sydd i'w ddisgwyl.
10 Ef a ddirymmodd, (fy Nuw lor)
holl gyngor y cenhedloedd:
A thrwy lysiant gwnai yn ddirym,
amcanion llym y bobloedd.
11 Ond ei gyngor ef oddi fry,
a bery 'n dragwyddoliaeth:
A'i galon fryd efe ei hun,
vwch para vn genhedlaeth.
12 A phob cenhedloedd, dedwydd ynt,
os Duw iddynt sydd Arglwydd:
A'i etholion, efe a'i gwnaeth
yn etifeddiaeth hylwydd.
13 O'r nefoedd fry yr edrych Duw,
ar lwybrau pob rhyw ddynion,
Ac o'i breswylfa edrych ar,
y ddaiar a'i thrigolion.
14 Yr hwn a luniodd galon dyn,
a edwyn ei weithredoedd:
15 Ac ni chedwir vn bydol gûn,
o'i nerth ei hun na'i luoedd.
16 A pheth palledig ydyw march,
i gael parch ac ymwared:
Ac ni all achub o law'r Ner,
mo'i farchog er ei gryfed.
17 Wele lawn olwg Duw a'i wawl,
maent ar y sawl a'i hofno:
A'i drugaredd ef sydd ar led,
i'r sawl a'mddiried yntho.
18 Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,
rhag angau enaid adyn:
Ac i borthi y tlawd yn glau,
rhag eisiau, a rhag newyn.
19 Ein henaid gan yr Arglwydd hael,
sy'n disgwyl cael ei bywyd:
Efe a byrth ein henaid gwan,
efe yw'n tarian hefyd.
20 Sef yn vnig yn Nuw yr Ion,
mae'n calon yn llawenu:
Ac yn ei Enw sanctaidd ef,
mae hon yn gref yn credu.
21 Duw dy drugaredd dôd i ni,
sef ynot ti y credwn:
Dy drugaredd a'th nawdd i'n dôd,
Cans ynod ymddiriedwn.

Psal. 34.

DIolchaf fi â chalon rwydd,
i'r Arglwydd bob amserau:
Ei foliant ef, a'i wir fawrhâd,
sy'n wastad yn fy'ngenau.
2 Fy enaid sydd yn bostio'n rhwydd,
o'm Harglwydd, ac o'm perchen:
A phob difalch hynny a glyw,
ac a fydd byw yn llawen.
3 Molwch fy Arglwydd gyd â mi,
cydfolwn ni ei enw ef:
4 Criais arno yn fy ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ynglef,
5 Y sawl a edrych arno ef,
â llewyrch nef eglurir:
Ni wradwyddir o honynt neb,
a'i hwyneb ni chwilyddir.
6 Wele, y truan a roes lef,
a Duw o'r nef yn gwrando
A'i gwaredodd ef o'i holl ddrwg,
a'i waedd oedd amlwg iddo.
7 Angel ein Duw a dry yn gylch,
o amgylch pawb a'i hofnant:
Ceidw ef hwynt: a llawer gwell
na chastell yw eu gwarant.
8 O profwch, gwelwch, ddaed yw,
yr Arglwydd byw i'r eiddc:
A gwyn ei fyd pob dyn a gred,
roi ei ymddiried yntho.
9 Ofnwch Dduw ei holl sainct (heb gêl)
a'i gwnel ni bydd pall arnyn:
10 Nag eisiau dim sydd dda: er bod,
ar gnawon-llewod newyn.
11 Chychwi feibion deuwch yn nes,
gwrandewch hanes ystyriol.
Dowch a dysgaf i chwi yn rhwydd,
ofni yr Arglwydd nefol.
12 Y sawl a chwennych fywyd hir,
a gweled gwir ddaioni:
Cae dy enau rhag drwg di bwyll,
a'th safn rhag twyll a gwegi.
13 Gwrthod ddrwg, gwna dda: a chais hedd,
hon hyd y diwedd dilyn:
A chadw'r heddwch wedi ei chael,
fal dyna ddiwael destyn.
14 Y mae yr Arglwydd a'i olwg
ar y dyn diddrwg cyfion:
A'i glustiau ef o'i lawn wir fodd,
egorodd i'r thai gwirion.
15 Weneb yr Ion a'i guwch sy dynn,
yn erbyn gweithwyr diffaith:
Y coffa o honynt ef a'i tyrr;
ar fyrr o'r ddaiar ymaith.
16 Hawdd y clybu fy Naf o'r nef,
leferydd llef y cyfion:
A thrâ buan (o'i râd a'i rodd)
y tynnodd o'i trallodion.
17 Agos iawn yw ein Duw at gur
y galon bur ddrylliedig:
A da y ceidw ef bob pryd
yr yspryd cystuddiedig.
18 Trwch, ie ac aflwyddiannus iawn,
a fydd gwr cyfiawn weithiau.
Ei ddrygau oll, Duw oddi fry
a'i tyn, a'i try i'r gorau.
19 Ceidw ei esgyrn ef ei hun,
o honynt un ni ddryllir:
A drwg a laddo y drwg was,
a ffrwyth ei gas y leddir.
20 Eithr holl wasnaethwyr Duw ei hun,
yr Arglwydd gun a'i gwared:
I'r sawl a'mddiried yntho ef,
ni all llaw gref mo'r niwed.

Psal. 35.

PLeidia (o Arglwydd) yn fy hawl,
â'r sawl a dery'n f' erbyn:
Lle'r ymrysonant â myfi,
ymwana di â'r gelyn.
2 Mae dy gymorth? o moes ei gael,
ymafael yn y tarian:
O cyfod cais dy astalch gron,
a dwg dy waywffon allan.
3 Argaua ar y rhai sy ar gam,
i'm herlid am fy mywyd:
Wrth fy enaid dywaid fel hyn,
fyfi a fynn it' iechyd.
4 Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,
a geisio ladd fy enaid:
A thrwy gywilydd troed iw hol
y ffals niweidiol gablaid.
5 Fel yr ûs o flaen gwynt y bon,
Angel yr Ion i'w chwalu:
6 A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,
a hwn wrth gefn iw gyrru.
7 Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,
a wnaethbwyd im heb achos:
Heb achlysur, maglau a wnaid
i'm henaid yn y cyfnos.
8 O deued, cwymped yn ei rwyd,
yr hon a guddiwd allan:
Syrthied a glyned iw delm rhwyll,
a'i drapp o'i dwyll ei hunan.
9 Eithr am fy enaid i (Amen)
bid llawen yn yr Arglwydd:
Fe a fydd hyfryd gantho hyn,
lle daw i'r gelyn aflwydd.
10 O Arglwydd dywaid f' esgyrn i,
pwy sydd a thi vn gyflwr?
Rhag ei drech yn gwared y gwan,
a'r truan rhag ei 'speiliwr.
11 Tystion gau a godent yn llym,
a holent im' beth anfad:
12 Drwg im' dros dda talent heb raid,
a'm henaid braint ymddifad.
13 Ond fi tra fyddent hwy yn glâf,
rhown i'm nesaf liein-sach:
Drwy hir ymostwng ac ympryd,
cymrais fy myd yn bruddach.
Yr vn dosturiol weddi fau,
a ddaeth o'm genau allan,
a droes eilwaith (er fy lles)
i'm mynwes i fy hunan.
14 Mi a ymddygais mor brudd dlawd,
fel am fy mrawd neu 'nghymar:
Neu fel arwyl dyn dros ei fam,
ni cherdda'i gam heb alar.
15 Hwythau yn llawen doent ynghyd,
pan bwysodd adfyd attaf;
Ofer ddynion, ac echrys lû
fyth yn mingammu arnaf.
16 Rhai'n rhagrithwyr, rhai'n watwor­wyr,
torrent hwy eiriau mwysaidd:
Hwy a'sgyrnygent arnaf fi,
bob daint, a'r rheini'n giaidd.
17 Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd
yw'r pryd y dof o'i harfod?
Gwared fy enaid rhag y bedd,
f'oes o ewinedd llewod.
18 Minneu a ganaf i ti glod,
lle bo cyfarfod lluoedd:
Ac a folaf dy enw a'th ddawn,
wrth lawer iawn o bobloedd.
19 Na fydded lawen fy'nghâs ddyn,
i'm herbyn heb achossion:
Ac na throed (er bwriadu 'mrâd)
mo gwr ei lygad digllon.
20 Nid ymddiriedant ddim mewn hedd,
dychmygant ryfedd gelwydd:
Dirwyn dichell, a gosod cryw
i'r rhai sy'n byw yn llonydd.
21 Lledu safnau, taeru yn dyn,
a dwedyd hyn yn vnblaid,
Fei ffei o honot, hwnt a thi,
ni a'th welsom di â'n llygaid.
22 Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,
mor daer yn f' erbyn fuon:
Ac na ddos oddiwrthif ymhell,
rhag dichell fy'nghaseion:
23 Cyfod, deffro, fy Nuw i'm barn,
yn gadarn gydâ'm gofid:
24 Dydi a fynni'r vniondeb,
ni watwar neb o'm plegid.
25 Na [...]d i'r gelyn calon wael
ddiweddu cael i wynfyd:
Na rhodresu fy llyncu'n grwn,
llyncaswn hwn yn ddybryd.
26 Gwarth a gwradwydd iddynt a ddel
sy'n codi vchel chwerthin;
Gwisger hwynt â mefl ac â châs,
sydd im alanas ryflin.
27 Llawen fo'r llaill a llawn o glod,
sy'n coelio 'mod yn gyfion.
Dwedant, bid i'n Duw ni fawrhânt,
am roillwyddiant iw weision.
28 Minnau fy Arglwydd gyda'r rhain
myfyriaf, arwain beunydd
Dy gyfiownder di, a'th fawr glod,
a'm tafod yn dragywydd.

Psal. 36.

WRth gamwedd dyn annuwiol sur,
mae'n eglur yn fy'nghalon,
Nad oes ofn Duw, na'i farn, na'i ddrwg
o flaen ei olwg trowsion.
2 Mae yn cyd ddwyn â'i fai ei hun,
ni wyl mo'i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i'r holl fyd
ei gâs wyd, a'i anwiredd.
3 Os ei ymadrodd, mae heb wir,
ei enau dihir hydwyll,
Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,
yr adyn diffaith dibwyll.
4 Ef yn ei wely ni chais hûn,
ond gosod llun ar gelwydd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith annedwydd.
5 Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)
sydd hyd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd di sydd yn gwau,
hyd y cymylau dyfroedd.
6 Dy vniondeb fel mynydd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion.
Dy nerth fyth felly a barhâ,
i gadw da, a dynion.
7 O mor werthfawr, (fy Arglwydd Dduw)
i bawb yw dy drugaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
ynghysgod dy adanedd.
8 Cyflawn o frasder yw'r ty tau,
lle lenwir hwythau hefyd:
Lle y cânt ddiod gennyt Ion,
o flasus afon hyfryd.
9 Gyda thi mae y loywffrwd hon,
a dardd o ffynnon einioes:
A'th deg oleuni, ac â'th râd,
y cawn oleuad eisoes.
10 O ystyn etto i barhau,
dy drugareddau tirion:
Ni a'th adwaenom di, a'th ddawn,
i'r rhai sydd vniawn galon.
11 O Dduw im'herbyn i na ddoed,
na ffyrdd, na throed y balchffol,
A llestair attaf, fel na ddaw
na gwaith, na llaw'r annuwiol.
12 Felly y syrthiodd gynt, yn wir,
y rhâi enwir a'i drygwaith,
Felly gwthiwyd i lawr hwynthwy,
heb godi mwy yr eilwaith.

Psal. 37.

NA ddala ddrygdyb yn dy ben,
nac o gynfigen ronyn,
Er llwyddo'r enwir, a wnai gam:
cai weled llam yn canlyn.
2 Sef hwŷ a dorrir fel gwellt glâs,
neu lysiau diflas gwywon:
A hwy a grinant yn ddilwydd,
a hynny 'n ebrwydd ddigon.
3 Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,
gobeithia yr hyn gorau:
Bydd ymarhous yn y tîr,
di a borthir yn ddiau.
4 Bydd di gysurus yn dy Dduw,
di a gei bob gwiw ddymuniad:
5 Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilys
fe rydd d'ewyllys attad.
6 Cred yntho ef, fo'th ddwg i'r lann▪
myn allan dy gyfiownder:
Mor olau a'r haul hanner dydd,
fal hynny bydd d'eglurder.
7 Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,
a heb ymddigiaw gronyn▪
Er llwyddo'i ddrygddyn ei fawr fai,
yr hwn o wnai yn gyndyn.
8 Paid â'th ddig, na ofidia chwaith:
gâd ymaith wyllt gynddaredd:
Rhag i hynny dyfu i fod,
yn bechod yn y diwedd.
9 O herwydd hyn, disgwil yr Ion,
gwyl ddiwedd dynion diffaith:
A disgwyl ef: meddianna'r tir,
a'r drwg f'oi torrir ymaith.
10 Goddef y ddrygddyn dros dro bâch,
ni welir mwyach honaw,
Ti a gai weled y lle y bu,
heb ddim yn ffynnu ganthaw.
11 Ond y rhai ufydd a hawddgâr,
y ddaiar a feddiannant:
A'r rhei'ni a thagnhefedd hîr,
diddenir yn eu meddiant.
12 Bwriada'r drygddyn o'i chwerw ddaint
ar ddrygu braint cyfiownddyn:
13 Duw yn ei watwar yntau a sydd,
sy'n gweled dydd ei derfyn:
14 Ynnylu bwa, tynnu cledd,
yw trowsedd yr annuwiol,
Er llâdd y truan: fel dydd brawd,
i'r tlawd a' defosionol.
15 Ei fwa torrir yn ddellt mân,
a'i gledd a â'n ei galon:
16 Mawr yw golud yr ysceler,
ond gwell prinder y cyfion.
17 Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,
tyr freichiau'r rhai annuwiol,
Ac ef a gynnail yn ddi ddig,
y cyfion, ystig, gweddol.
18 Sef edwyn Duw ddyddiau, a gwaith,
pob rhai o berffaith helynt:
Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,
deg etifeddiaeth iddynt.
19 Efe a'i ceidw hwynt i gyd,
na chânt ar ddrygfyd wradwydd,
Amser newyn hwyntwy a gânt,
o borthiant ddigonolrwydd.
20 Y rhai traws enwir, heb ddim cwyn
fel brasder wyn a doddant:
Caseion Duw fydd dynion drwg,
hwy gyda'r mwg diflannant.
21 Y gwr annuwiol a fyn ddwyn
yn echwyn, byth ni thalai:
A'r gwr cyfion trugarog fydd,
ac a rydd, nis gommeddai.
22 Sawl a fendigo Duw (yn wir)
y tir a etifeddan:
A'r rhai a felldithio, o'r tir
i gyd a fwrir allan.
23 Duw a fforddia, ac a hoffa,
hyffordd y gwr calonnog:
24 Er ei gwympo efe ni friw,
fo'i deil llaw Dduw'n sefydlog.
25 Aethym i bellach yn wr hên,
bum fachgen'rwy'n cydnabod:
Ni welais adu hâd gwr da,
na cheisio'i bara 'ngherdod.
26 Echwyn a benthyg cair bob dydd,
trugarog fydd y cyfion:
A'i hâd ef drwy y nefol wlith,
a gaiff o'i fendith ddigon.
27 Arswyda ddrwg, a gwna di dda,
a chyfannedda rhag llaw:
28 Cans Duw a gâr y farn ddidwn,
ninnau a roddwn arnaw.
Nid ymedy efe â'i Saint,
ceidw heb haint y rhei'ni:
Ond hâd yr annuwolion gau
a ddont i angau difri.
29 Y ddaear caiff y cyfion gwyl,
lle y preswyl byth mewn iawndeb:
30 A'i enau mynaig wybodaeth,
a'i dafod traeth 'ddoethineb.
31 Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,
a'i draed (gan hou) ni lithrant:
32 Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,
ond ni chaiff yna ffyniant.
33 Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,
nac er ei falais lidiog:)
Y gwirion yn ei waedlyd law,
i hwn ni ddaw barn euog.
34 Gobeithia yn yr Arglwydd tau,
a chadw ei lwybrau'n gywir:
Cei feddiannu, cei uwch o radd,
a gweled lladd yr enwir.
35 Gwelais enwir yn llym ei big,
a'i frig fel gwyrddbren lawri:
36 Chwiliais, a cheisiais yr ail tro,
'r oedd efo wedi colli,
37 Ystyria hefyd y gwr pûr
ac edrych du'r cofiownedd:
Di a gei weled cyfryw ddyn,
ma'i derfyn fydd tangnhefedd.
38 A gwyl y rhai drwy drais sy'n byw,
ynghyd i ddistryw cwympant:
Fe a ddiwreiddir plant y fall,
i ddiwedd gwall a methiant.
39 Iechyd y cyfion sy o Dduw Nêr,
a'i nerth mewn amser cyffro:
40 Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,
a hyn am gredu yntho.

Psal. 38.

FY Arglwydd, na cherydda fi
ym mhoethni dy gynddaredd▪
Ac na chosba fi yn dy lid
oblegid fy enwiredd,
2 Cans glyn dy saethau ynof fi,
a phennau'r rheini'n llymion:
A dodaist arnaf y llaw dau,
a rhoist ddyrnodiau trymion.
3 Nid oes mo'r iechyd gan dy lid,
i'm cnawd, ond gofid creulon:
Ac nid oes (gan fy' mhechod chwyrn)
mor hedd i'm hesgryn sychion.
4 Cans fy 'nghamweddau aent i'r nen
a thros fy 'mhen tyfasant,
Un wedd a baich rhy drwm o bwys:
fal hyn mor ddwys i'm llethant.
5 Fy 'nglheisiau sydd fal yn bwdr ddu
yn llygru gan f'ynfydrwydd:
6 Crymais, a phellais beth bob dydd,
sef galar sydd ac aflwydd.
7 Cans mae fy lwynau'n llawn o wres,
a'm cnawd heb les nac iechyd.
8 Llesg wan ac ysig, yw fy mron,
lle gwaedda calon nychlyd.
9 Clyw Arglwydd fi, herwydd o'th flaen
yn hollawl mae'nymuniad,
Ni chuddiwyd mo'm ochenaid i,
oddiwrthit di fy 'ngheidwad.
10 Llamma'nghalon, palla fy nerth,
a'm golwg prydferth hefyd.
11 Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,
hwy aent ym mhell i'm hadfyd.
12 A'm caseion i yn nessau,
a'i maglau ffug a'i ddichell,
Safai fy 'ngheraint i yn synn,
i edrych hyn o herbell.
13 Minnau fel dyn byddar a awn,
megis pe bawn heb glywed;
Neu fel y mudan (dan dristau)
heb enau yn egored.
14 Yn fud fel hyn y gwn fy mod,
fel un a thafod efrydd;
Heb ddwedyd unwaith air o'm pen,
i dalu sen a cherydd.
15 Gan im'gredu i ti yn rhwydd,
o Arglwydd Dduw goruchaf,
Rhwydd a hysbys iawn gennif fi
yw y gwrandewi arnaf.
16 Mi a ddymunais arnat hyn,
rhag bod i'm gelyn wowdio,
O llithrai fy nrhoed ronyn bach,
fo fydd llawenach gantho.
17 Cloffi yn barod rwyf yn wir,
a dolur hir sy'm poeni:
18 Addef yr wyf mai iawn im'fod,
fy mhechod sy'n ei beri.
19 A'm gelynion y sydd yn fyw
yn aml ei rhyw, a chryfion;
Sydd yn dwyn câs i mi ar gam,
sef am fy mod yn gyfion.
20 Y rhai a dalant ddrwg dros dda
a'm gwrthwyneba'n efrydd,
A hyn am ddilyn honof i
y pur ddaioni beunydd.
21 Duw, nac ymâd, na fydd ym'mhell,
pen ddelo dichell ffyrnig,
22 Brysia, cymorth fi yn y byd,
fy Nuw, a'm iechyd unig.

Psal. 39.

ADdewais gadw 'ngenau'n gu,
rhag pechu yn fy'ngeiriau,
2 Y dyn annuwiol lle y bo
bwriedais ffrwyno'ngenau.
3 Tewais, tewais fel y dyn mud,
rhag dwedud peth daionus,
Pan y cyffroais o hir ddal,
ymattal oedd ofidus;
4 Yn fy'nghalon y cododd gwres:
a'm mynwes o'm myfyrdod,
Fel y tân ynynnu a wnaeth,
a rhydd yr aeth fy'nhafod.
5 O dangos im' (fy Arglwydd ner)
pa amser y diweddaf:
Rifedi'nyddiau: a pha hyd,
o fewn y byd y byddaf.
6 Rhoddaist fy'nyddiau fel lled llaw;
i'm heinioes daw byr ddiwedd.
Diau yn d'olwg di (o Dduw)
fod pob dyn byw yn wagedd.
7 Sef mewn cysgod y rhodia gwr,
dan gasclu pentwr ofer,
Odid a wyr wrth dyrru da
pwy a'i mwynha mewn amser.
8 Beth bellach a obeithiaf fi,
Duw rhois i ti fy'nghalon.
9 Tyn fi o'm camweddau yn rhwydd,
nâd fi'n wradwydd i ffolion.
10 Yn fudan gwael yr aethym i,
a hyn tydi a'i parodd:
11 O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,
sef pwys dy ddwrn a'm briwodd,
12 Pan gosbech di am bechod wr
fo wywa'n siwr ei fowredd,
Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hyn
nad yw pob dyn ond gwagedd.
13 Clyw fy'ngweddi o Dduw or nef,
a'm llef: a gwyl fy'nagrau:
Dy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)
ac felly'roedd fy'nheidiau.
14 O paid a mi gâd im gryfhau,
cyn darfod dyddiau 'mywyd.
15 O gwna â mi sy'mron fy medd
drugaredd a syberwyd.

Psal. 40.

BUm yn dyfal ddisgwyl fy Ner,
ef o'r uchelder clybu,
Clust y mwrandawodd ef fy llais,
pan lefais ar i fynu.
2 Cododd fyfi or pydew blin,
a'r pridd tra gerwyn tomlyd,
A rhoes ar graig fy'nrhoed i wau,
a threfn fy'nghamrau hefyd.
3 A newydd gerdd i'm genau rhoes,
clod iddo troes yn hylwydd.
4 Pawb ofnant pan y gwelant hyn
a chredan yn yr Arglwydd.
5 Pob gwr yn ddiau dedwydd yw
a rotho ar Dduw ei helynt:
A'r beilch, a'r ffeils a'r chwedlau tro
nid edrych efo arnynt.
6 Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,
fel dy feddyliau ynny,
A heb un dyn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynny.
7 Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,
eu rhoi ar led, a'i canu,
Mwy amlach ydynt nag y gall
un dyn heb pall eu traethu.
8 Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth
na chwaith un aberth cennyf;
Er hyn fy'nghlustiau i mewn pryd,
hwy a egoryd imi.
9 Hyn pan wrthodaist dwedais i
Duw wele fi yn dyfod.
10 Megis o honof mae gwir pur
yn dy ysgrythur hynod.
11 Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,
(o Dduw) rwy'n fodlawn ddigon.
Dy ewyllys di a'th lân ddeddf.
sy'n greddf yn nautu'r galon.
12 Mi a bregethais [...]ir cu
ynghanol llu mawr anian.
Ac ni thawaf (fy' Arglwydd gwyn)
ti wyddost hyn dy hunan.
13 Dy iownder, iechyd, a'th air gwir
ni bum chwaith hir i'w celu,
Na'th drugaredd, na'th roddion da
rhag un gynlleidfa meithlu.
14 Dithau (o Dduw) rhagof na chel
dy dawel drugareddau,
Dy nawdd a'th wir gosod ar led,
bont byth i'm gwared innau.
15 Dagrau o'm hamgylch fydd uwch rhif,
a throso'n llif mae pechod.
Amlach ydynt na'm gwallt i'm brig,
a'm calon ddig sy'n darfod.
16 Tyred (fy Arglwydd) helpa'n rhodd,
a rhynged bodd it' hynny.
Bryssiâ i'm gwared, na thrig yn hwy,
a bydd gynhorthwy imi.
17 A chyd wradwydder hwynt ar gais
a fyn drwy drais fy nifa:
A throer iw hol y rhai y sy
yn chwennych imi ddirdra.
18 Bont hwy annedd-wâg yn lle tâl
y rhai a dyfal dafod
Er gwradwydd im' a ddwedant hyn,
ffei, ffei, ar destyn dannod.
19 Y rhai a'th geisiant di bob pryd
bont lawen hyfryd hylwydd,
A dweded a'th gâr di (Dduw ner)
mawryger enw'r Arglwydd.
20 Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,
ac yn druan a dyred,
(O Dduw fynerth) na thrig yn hir,
dyrd rhag y dir i'm gwared.

Psal. 41.

GWyn ei fyd yr ystyriol frawd,
a wnel a'r tlawd syberwyd.
Yr Arglwydd ystyriol o'r nef
a'i ceidw ef rhag drygfyd.
2 Duw a'i ceidw, a byw a fydd
yn ddedwydd yn ddaiarol:
O na ddyro efo yn rhodd,
wrth fodd y rhai gelynol.
3 Yn ei wely pan fo yn glâf
rhydd y Goruchaf iechyd:
A Duw a gweiria oddi fry
ei wely yn ei glefyd.
4 Dywedais innau [...]na'n rhwydd,
dod f' Arglwydd dy drugaredd,
Iachâ di' r dolur sy dan fais,
lle y pechais mewn anwiredd.
5 Traethu y gwaethaf a wnai' nghâs
am danaf, atcas accen:
Pa bryd y bydd marw y gwan,
a'i enw o dan yr wybren?
6 Os daw i'm hedrych, dywaid ffug,
dan gasglu crug iw galon,
Ac a'i traetha pan el ei ffwrdd
i gyffwrdd a'i gyfeillion.
7 Fy holl gaseion doent ynghyd,
i fradu 'i gyd yn f'erbyn,
Ac i ddychmygu'i mi ddrwg,
a minneu'n ddiddrwg iddyn.
8 Yna dywedent hwy yn rhwydd
tywalldwyd a flwydd arno,
Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,
ni chyfyd byth oddiyno.
9 Fânwyl gyfaill rhwym i'm wrth gred
fy'mddiried a'm dewisddyn,
A fu yn bwytta' mara erioed,
a godai'i droed yn f'erbyn.
10 Eithr dy hun an cyfod fi
o'th ddaioni Duw or nef;
Felly y gallaf fi ar hynt,
gael talu iddynt adref.
11 Da y gwn fy mod i wrth dy fôdd,
wrth hyn, na chafodd casddyn,
A gwna na chaiff un gelyn glas
ddim urddas yn fy erbyn.
12 Felly y gwn am danaf fi,
di a'm cynheli'n berffaith:
Gan fy rhoi i byth gar dy fron,
o fysg y dynion diffaith.
13 I Dduw Israel boed yn flith
y fendith, (Ior goruchaf)
Yn oes oesoedd: a thrwy air llen,
Amen, Amen a draethaf.

Psal. 42.

YR un wedd ag y bref yr hydd
am yr afonydd dyfroedd:
Felly y mae fy hiraeth i
am danat ti o'r nefoedd.
2 Fy enaid i sychedig yw,
am fy Nuw byw, a'i gariad:
Pa bryd y dof fi gar dy fron?
fy Nuw a'm cyfion ynad.
3 Fy nagrau oeddynt ddydd a nôs
yn fwyd im', achos gofyn
Im am fy Nuw bob pen awr bach,
ple mae fo bellach? meddyn.
4 O gofio hyn wrthif fy hûn
fel tywallt ffun fy enioes:
Ynghyd a theulu Duw yr awn,
be cawn fy meddwl eisoes.
Hyd at dy Dduw yn ystig iawn
yr awn dan ganu clodydd,
Fel tyrfa a fai'n cadw gwyl,
hyn bum iw ddisgwyl beunydd.
5 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
6 Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.
7 Fy enaid o'm mewn pan fo prudd,
a â yn rhydd o'th gofion,
A chofio yr Iorddonen iâch,
ar mynydd bâch o Hermon.
8 Dyfnder is dyfnderau y sydd,
ac ar eu gilydd galwant;
A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,
hwy dros fy mron a aethant.
9 Fy Nâf a roes y dydd im'hedd,
a'r nos gyfannedd ganu,
I ganmawl fy Nuw hwn a roes
im'einioes iw foliannu.
10 Paham im'gedyt dros gof cyd?
Duw, wrthyd yr achwynaf,
Er gorthrymder y gelyn cam,
mewn galar pa'm y rhodiaf?
12 Trwy f'esgyrn taro cleddyf llym
mewn gwarthlid im, oedd edliw,
Im'om gely nion er fy'ngwae,
dy Dduw p'le mae fo heddiw?
13 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
14 Disgwyl wrth Dduw, a doi ger bron
ei wyneb tirion cannaid.

Psal 43.

BArn fi (o Dduw) a dadleu'n dynn
yn erbyn pobloedd enwir,
Rhag y gwr twyllgar gwared fi,
a rhag drygioni'r dihir.
2 Cans ti yw Duw fy nerth i gyd,
paham im'bwryd ymaith?
A pha'm yr âf mor drwm a hyn,
gan bwys y gelyn diffaith?
3 Gyr dy olau, a moes dy wir.
ac felly twysir finnau,
A'm harwain i i'th breswyl fydd,
i'th fynydd, ac i'th demlau.
4 Yna yr âf at allor Duw,
sef goruchel Dduw hyfryd,
Ac ar y delyn canaf fawl,
Duw, Duw, fy hawl a'm gwnfyd.
5 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.

Psal. 44:

CLywsom â'n clustiau (o Dduw cu)
a'n tadau fu'n mynegy
I ni, dy wyrthiau gynt a oedd
yn yr amseroedd hynny.
2 Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,
a'th bobl yn fwyfwy plennaist.
Llâdd estroniaid heb ado un,
a'th bobl dy hun a gedwaist.
3 Cans nid â'i cledd eu hun yn wir,
y cowsant dir na thyddyn,
Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,
y cadwyd heddwch iddyn:
Ond dy law ddeau, a'th fawr nerth,
â'th olwg prydferth effro,
O herwydd it' eu hoffi: hyn
a barodd iddyn lwyddo.
4 Ti Dduw, fy'mrenin ydwyd: o
Duw, pâr i Iago lwyddiant:
5 Lladdwn a sathrwn yn d'enw di
y rheini a'n cassaant.
6 Nid yn fy' mwa mae fy'ngrym,
na'm cleddyf llym f'amddiffyn,
7 Ond tydi Dduw, achubaist fi,
a rhoist warth fri i'r gelyn.
8 Am hynny molwn di bob dydd,
cai yn dragywydd fowredd,
Canwn i'th enw gerdd gan dant,
o glôd a moliant ryfedd.
9 Ond ti a giliaist ymaith beth,
daeth arnom feth a gwradwydd;
Nad ait ti allan gyd â'n llu,
cyfagos fu i dramgwydd.
10 Gwnaethost i nyni droi heb drefu,
ein cefn at y gelynion.
Felly yr aeth ein da o'n gwlad
vn felyfiad i'n caseion.
11 Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)
ar wasgar i'r cenhedloedd,
12 A gwerthaist dy bobl ar bris bach,
nid hyttrach dy oludoedd.
13 Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)
i'n cymydogion gwrthrym,
A diystyrwch oll a gwarth,
i bawb o bobparth ydym.
14 Dodaist ni yn ddihareb chwith
ym-mhlith yr holl genhedloedd,
Ac yn arwydd i ysgwyd pen,
a choeg gyfatcen pobloedd.
15 Fy'ngwarth byth o'm blaen daw yn hawdd,
fy chwys a dawdd fy rhagdal,
16 Gan lais gwarthruddwr, cablwr câs,
a gwaith galanas dial.
17 Er dyfod arnom hynny i gyd
ni throes na'n bryd na'n cofion,
Ac ni buom i'th air (o Ner)
un amser yn anffyddlon.
18 Ein calon yn ei hôl ni throed,
ni lithrai'n troed o'th lwybrau;
19 Er ein gyrru i ddreigiaidd gell
a'n toi a mantell angau.
20 Os aeth enw ein Duw o'n co,
ac estyn dwy lo'i arall.
21 Oni wyl Duw y gaugred hon?
ein calon mae'n ei deall.
22 O herwydd er dy fwyn yn wir
o Dduw i'n lleddir beunydd,
Fal y defaid ymron eu llâdd,
fal dyna râdd y llonydd.
23 O deffro cyfod Dduw, mewn pryd,
pa'm yr wyd cyd yn gorwedd?
A dihuna, a clyw fy'nghri,
a chofia fi o'r diwedd.
24 Paham y cuddi d' wyneb pryd?
o darbod hyd ein blinder,
Ein henaid mathrwyd yn y llwch,
gan dristwch a gorthrymder.
25 Wrth y llwch mae ein bol y nglyn
fal dyna derfyn gwagedd.
26 Duw, cyfod, cymorth, gwared ni
o egni dy drugaredd.

Psal 45.

TRaethodd fy'nghalon bethauda,
i'r brenin gwna fyfyrdod:
Fy'nhafod fel y pin, y sydd
yn llaw scrifennydd parod.
2 Uwch meibion dynion tegach wyd,
tywalldwyd rhâd i'th enau,
Herwydd i Dduw roi arnat wlith
ei fendith byth a'i radau.
3 Gwisg dy gleddau yngwasg dy glun,
o gadarn gun gogonedd:
A hyn sydd weddol a hardd iawn,
mewn llwydd a llawn orfoledd.
4 Marchog ar air y gwir yn rhwydd,
lledneisrwydd a chyfiownedd,
A'th law ddeau di a â drwy
bethau ofnadwy rhyfedd.
5 A thanat ti pobloedd a syrth,
gan wyrth dy saethau llymion;
Briwant hwy, a glynant yn glau
ym mronnau dy elynion.
6 Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)
a bery o dragwyddoldeb,
Awdurfaingc dy deyrnas y sydd
awdurol: rhydd uniondeb.
7 Ceraist uniondeb, case'ist gam,
o achos pa'm; Duw lywydd,
Dy Dduw rhoes arnat rhagor fraint,
sef ennaint y llawenydd.
8 Aroglau myrh, ac aloes da,
a chasia sy ar dy ddillad,
Pan ddelych di o'th Ifyrn dai
lle i'th lawenai'r hollwlad.
9 Sef merched brenhinoedd yn gwau
gydâ'th garesau cywir,
O'th du deau'r frenhines doeth
mewn gwisg aur coeth o Ophir.
10 Clyw hyn o ferch, a hefyd gwel,
ac â chlust isel gwrando:
Mae'n rhaid it ollwng pawb o'th wlâd,
a thy dy dâd yn ango'.
11 Yna'i bydd (gan y brenin) wych
gael edrych ar dy degwch:
Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,
i gael i'th oes hyfrydwch.
12 Merched Tyrus oedd â rhodd dda:
a'r bobloedd appla o olud,
A ymrysonent gar dy fron,
am roi anrhegion hefyd.
13 Ond merch y brenin, glân o fewn,
anrhydedd llawn sydd iddi,
A gwisg o aur a gemmau glân
oddiallan sydd am dani.
14 Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon
yn wych ger bron ei harglwydd,
Ac â'i gwyryson gydâ hi
daw attad ti yn ebrwydd.
15 Ac mewn llawenydd mawr a hedd
ac mewn gorfoledd dibrin,
Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwys
i gyd i lys y brenin.
16 Dy feibion yn attegion tau
yn lle dy dadau fyddant.
Tywysogaethau drwy fawrhâd,
yn yr holl wlâd a feddant.
17 Coffâf dy enw di ymhob oes
tra caffwyf einioes imi:
Am hyn y bobloedd a rydd fawl,
byth yn dragwyddawl itti.

Psal. 46.

GObaith a nerth i'n yw Duw hael;
mae help iw gael mewn cyfwng,
2 Daiar, mynydd, aent hwy i'r mor:
nid ofnaf f'angor deilwng.
3 Pe ymgymysgai'r tir a'r dwfr,
nid ofnwn gynwfr rhuad,
Ped ai'r mynyddoedd i'r môr mawr
a'r brynnieu i lawr y gwastad.
4 Dinas Duw lle llawen a fydd,
cyfagos glennydd afon,
Cyssegr preswylfa y rhad,
gan ddyfal rediad Cedron.
5 Duw sydd yn trigo o'i mewn hi
ni âd hi scogi unwaith:
Duw a'i cymyrth ar wawr ddydd,
a phreswylfeydd perffaith.
6 Y cenhedloedd pan fyddent ddig,
a ffyrnig y tyrnesydd,
Toddai y ddaiar o'i flaen ef
pan glywid llef Duw ddofydd.
7 Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri'y lluoedd:
Y mae Duw lago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o'r nefoedd.
8 Y wlâd, o dowch i gyd yn rhwydd,
a gwaith yr Arglwydd gwelwch,
Y môdd y gosododd ef ar
y ddaiar anniddanwch.
9 Gwna i ryfeloedd beidio'n wâr
hyd eitha'r ddaiar lychlyd:
Dryllia y bwa, tyr y ffon,
llysg y cerbydon hefyd.
10 Peidiwch, gwybyddwch mai fi yw
eich unig Dduw a'ch gwanar,
Ymysg cenhedloedd mi a gâf barch,
a'm cyfarch ar y ddaiar.
11 Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri y lluoedd,
Y mae Duw Iago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o'r nefoedd.

Psal. 47.

CEnwch, a churwch ddwylo'nghyd
holl bobl y byd cyfannedd,
A llafar-genwch i Dduw nêf,
gan leisio â llef gorfoledd.
2 Sef ofnir Duw uwch daiar gron,
ef fydd dros hon yn frenin,
3 Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,
a than ein traed fo'i disgin.
4 Fe a rydd ini feddiant siwr,
gwlad Iago, gwr a garai.
5 Duw a dderchafodd wrth y sain,
yr utgorn gain pan leisiai.
6 O cenwch, cenwch, glôd ein Duw,
ein brenin yw, o cenwch,
7 Duw dros y byd sy frenin call,
drwy ddeall ymhyfrydwch.
8 Brenin yw ef, a da y gwnaeth
lywodraeth ar wŷr bydol,
Ac y mae'n eistedd yn ei drwn,
gorseddfa swn sancteiddiol.
9 Ymgasglant bendefigion byd:
ynghyd â llu Duw Abra'm,
Duw biau tariannau y tîr,
drwy foliant hîr yn ddinam.

Psal. 48.

MAwr ei enw'n ninas ein Duw,
a hynod yw yr Arglwydd
A'i drigfan ef yno y sydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd.
2 Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,
yw Seion lathriad fynydd,
Yn ystlysau y gogledd lawr,
tre'r brenin mawr tragywydd.
3 Adweinir Duw'mhalasau hon
yn gymorth digon hynod.
4 Ac wele nerth brenhinoedd byd
doent yno i gyd gyfarfod.
5 A phan welsant, rhyfedd a fu,
ar frys brawychu rhagor.
6 Dychryn a dolur ar bob ffaig,
fel dolur gwraig wrth esgor.
7 Ti â dwyreinwynt drylli'n frau
eu llongau ar y moroedd.
8 Fal y clywsom y gwelsom ni,
yn ninas rhi'y lluoedd:
Sef hyn yn ninas ein Duw ni,
siccrha Duw hi byth bythoedd.
9 Duw disgwyliasom am dy râs
i'th deml, ac addas ydoedd.
10 Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,
felly drwy'r byd i'th folir.
Dy law ddeau y sydd gyflawn,
a chyfiawn i'th adweinir.
11 A bryn Sion a lawenhâ,
a merched Iuda hefyd;
A'i llawenydd hwy yn parhau
O ran dy farnau hyfryd.
12 Ewch, ewch oddiamgylch Sion Sail,
a'i thyrau adail rhifwch.
Ei chadarn fur a'i phlasau draw
i'r oes a ddaw mynegwch.
13 Cans ein Duw ni byth yw'r Duw hwn
hyd angau credwn yntho,
A hyd angau hwnnw a fydd
yn dragywydd i'n twyso.

Psal. 49.

GWrandewch chwi y bobloedd i gyd
trigolion byd deellwch,
2 Gwerin, tlawd, bonheddig, a chryf,
cyfoethog hyf ystyriwch.
3 O'm genau daw doeth air didwyll,
â'm calon pwyllf fyriaf,
4 A'm clust gwrandawaf ddameg ddwys
â'm llais cerdd fwys a ganaf.
5 Paham yr ofnaf ddrygau'r byd
yn amser adfyd atcas?
Pan fo anwiredd wedi cau,
wrth fy sodlau o'm cwmpas.
6 Mae llawer rhai o wyr y byd,
mewn golud a'mddiriedant,
A thrwy siarad am werth, a rhi,
y rhei'ni y rhodresant.
7 Ond ni wareda neb mo'i frawd,
ni thâl yn ddidlawd drosto,
Ac ni chymer Duw y fâth dâl,
nac iawn mor sâl am dano.
8 Sef pryniad enaid dyn drud fydd,
a hyn byth gorfydd peidio,
9 Fel y gallo efe fyw byth,
heb fynd i nyth yr amdo.
10 Gwelir mai'r bedd yw lletty'r doeth
y ffôl ar anoeth unwedd:
Marw yw'r naill, a marw yw'r llall,
i arall gâd ei annedd.
11 Meddwl am ei hadeilad byth,
yn ddilyth y parhâant,
Am hyn wrth eu henwau yn wir
henwau eu tir a alwant.
12 Ni phery dyn o gnawdol drâs,
mewn urddas er ei adail,
Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,
a dderfydd fal anifail.
13 Dyma eu ffordd, ffordd ffoledd fydd,
na welant ddydd yn passio.
Er hyn eu hil a ddel iw'hol
fydd yn eu canmol etto.
14 Angeu yw terfyn pob dyn byw,
i hwn nid yw ond tamaid;
Myned sydd raid o'r ty i'r bedd;
yn rhwym un wedd ar'defaid.
15 Daw dydd i'r cyfion dranoeth teg,
daw im' ychwaneg ystyn:
Daw im' o'r bedd godiad i fyw,
deheulaw Duw am derbyn.
16 Er codi o wr mewn parch neu dda,
nac ofna di un gronyn:
Ei olud ef, na'i barch, na'i dda,
i'r bedd nid â iw ddilyn.
17 Hwn tra fu fyw yn rhodio llawr,
gwnai'n fawr o hono'i hunan.
Gwna honot ti dy hun yn fwy,
a hwynt hwy a'th ganmolan.
18 At oes ei dadau hwn pan ddel
â i'r bedd dirgel efrydd,
19 Dyn mewn anrhydedd heb ddeall
(fal llwdn o wâll) a dderfydd.

Psal. 50.

DUw y duwiau, yr Arglwydd cu,
gan lefaru a alwodd,
O godiad haul hyd fachlud hwn,
yr hollfyd crwn cyffroodd.
2 O fryn Sion y daeth Duw naf,
hon sydd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch a goleuni mawr,
a llewych gwawr o'i gwmpas.
3 Doed rhagddo'n Duw, na fid fel mud,
o'i flaen fflam danllud yssed,
A mawr dymestloedd iw gylch ef,
pan ddel o nêf i wared.
4 Geilw ef am y nefoedd fry,
a'r ddaiar obry isom
I gael barnu ei bobloedd ef,
fal hyn rhydd lef am danom.
5 O cesglwch attaf fi fy Saint,
y rhai drwy ryddfraint brydferth,
A wnaethan ammod a myfi,
a'i rhwymo hi drwy aberth.
6 A phan ddangoso mintai nef
ei farnau ef yn union,
Sef Duw fydd yn barnu ei hun,
yr unic gun sydd gyfion.
7 Clyw di fy'mhobl, traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbyn.
Dithau Israel: ac iawn yw,
Duw, sef dy Dduw a'th ofyn.
8 Ni chai di am yr ebyrth tau,
na'th boeth offrymau gerydd;
Nac am na baent hwy gar fy'mron,
y cyfryw roddion beunydd,
9 Ni chymeraf o'th dy un llo,
na hyfr a fo'n dy gorlan,
10 Mi biau'r da'n y maes sy'n gwau
ar fil o frynniau allan.
11 Pob aderyn erbyn ei ben,
a adwen ar y mynydd,
Pob da maesydd, y lle y maen,
y maent o'm blaen i beunydd.
12 Nid rhaid ymddangos i ti hyn,
pe delai newyn arnaf,
Ac yn eiddo fi yr holl fyd,
a'i dda i gyd yn llownaf.
13 A'i cig y teirw fydd fy'mwyd?
na thyb: nid wyd ond angall,
Ai gwaed hyfrod fydd fy'niod?
dysg o newydd ddeall.
14 Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thal yr offrwm pennaf;
Can ei fawl ef: a dod ar led
d'adduned i'r Goruchaf;
15 Galw arnaf yn dy ddydd blin,
yno cai fi'n waredydd.
Yna y ceni i'mi glod
am droi y rhod mor ddedwydd.
16 Duw wrth yr enwir dywaid hyn:
ai ti perthyn fy' neddfau?
Paham y cym'ri di, na'm clôd,
na'm hamod yn dy enau?
17 Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysg,
ac addysg ni chymeraist,
A'm geiriau i (fel araith ffol)
i gyd o'th ôl a deflaist.
18 A phan welaist leidr, rhedaist,
a'rhwydaist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt aflan,
mynnaist ti gyfran gantho.
19 Gollyngaist di dy safn yn rhydd,
yn efrydd ar ddrygioni,
A'th dafod a lithrai ym mhell
at ddichell a phob gwegi.
20 Eisteddaist di, dwedaist ar gam
ar fab dy fam er enllib.
21 Pan wnaethost hyn, ni'th gosbais di,
a thybiaist fi'n gyffelyb.
22 Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,
mi a'th geryddaf bellach,
Mi a ddangosaf dy holl ddrwg,
o flaen dy olwg hayach.
23 Gwrandewch: a pheidiwch tra foch byw
a gollwng Duw yn angof;
Pan ni bo neb i'ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwygo.
24 Yr hwn a abertho 'i mi fawl
yw'r sawl a'm gogonedda,
I'r neb a drefno'i ffordd yn wiw
gwir iechyd Duw a ddysgaf.

Psal. 51.

TRugaredd dôd i mi,
Duw, o'th ddaioni tyner;
Ymmaith tyn fy'enwiredd mau
o'th drugareddau lawer.
2 A golch fi yn llwyr ddwys
oddiwrth fawr bwys fy'meiau:
Fy Arglwydd, gwna'n bur lân fyfi,
rhag brynti fy'nghamweddau.
3 Cans adwen fy'nghamwedd,
a'm brwnt anwiredd yssig,
Sef beunydd maent gar fy' mron i.
Yn derbyn di yn unig,
4 Y gwneuthym hyn oedd ddrwg,
yn dy lân olwg distrych,
Fel i'th gyfiowner yn ol d'air,
yn burair pan y bernych.
5 Mewn pechod lluniwyd fi,
ac mewn drygioni dygas,
Felly yr wyf o grôth fy'mam
yn byw bob cam yn argas.
6 Ac wele ceri'r gwir
o fewn y gywir galon.
Am hyn dysgaist ddoethineb îach
im o'th gyfrinach ffyddlon.
7 Ag Isop golch fi'n lan,
ni byddaf aflan 'mwyach.
Byddafi o'm golchi mal hyn,
fel eira gwyn neu wynnach.
8 Par i mi weled hedd,
gorfoledd a llawenydd,
I adnewyddu f' esgyrn i,
a ddrylliaist di â cherydd.
9 O cuddia d'wyneb-pryd
rhag fy'mhechodau i gyd,
Fy anwireddau tyn eu lliw,
o Arglwydd bid wiw gennyd.
10 Duw, crea galon bur,
dôd i mi gysur beunydd,
I fyw yn well tra fwi'n y byd,
dôd ynof yspryd newydd.
11 O Dduw na ddyro chwaith,
fi ymaith o'th olygon,
Ac na chymer dy Yspryd glân
oddiwrthif, druan gwirion.
12 Gorfoledd dwg i mi,
drwy roddi im dy iechyd,
A chynnal â'th ysprydol ddawn
fi, i fyw'n uniawn hefyd.
13 A dysgaf dy ffordd wîr
i'r enwir, a'th addoliad:
A phob pechadur try i'r iawn,
a chyrch yn uniawn attad.
14 Rhag gwaed gwared fi Dduw,
sef Duw fy iechydwriaeth,
A'm tafod o'th gyfiawnder di
a gân gerdd wisgi hyffraeth.
15 Duw, egor y mia mau,
â'm genau mi a ganaf,
O Arglwydd, gerdd o'th fawl, a'th nerth
fal dyna'r aberth pennaf.
16 Cans aberth ni's ceisi,
ac ni fynni offrwm poeth:
Pe y mynasyt cowsyt hyn,
nid rhaid it dderbyn cyfoeth.
17 Aberthau Duw i gyd,
yw yspryd pur drylliedig,
Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)
y galon gystuddiedig,
18 Bydd dda wrth Sion fryn,
o Arglwydd, hyn a fynni,
Ac wrth Gaersalem, dy dretâd,
a gwna adeilad arni.
19 Cei aberth iownedd coeth,
cei offrwn poeth yn rhagor,
Cei aberth llosg, a bodlon fych,
cei fustych ar dy allor.

Psal. 52.

PA'm y rhodresi yn dy frâd,
a'th ddrwg fwriad (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bob dydd,
ac felly bydd hyd dyddfarn.
2 Dychymyg drwg yw'r fyfyrdawd,
a gwaith dy dafawd sceler,
Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,
a'i swydd yw gwneuthur ffalsder.
3 Ni hoffaist dda, gwnait ddrwg yn haws,
a'r traws, yn fwy nâ'r union,
4 Hoffaist eiriau distryw a bâr,
ti golyn twyllgar, creulon.
5 Duw a'th ddistrywia dithau byth,
fo dyn dy chwyth o'th gaban:
Ac a dyn dy wraidd di i gyd,
o dir y bywyd allan.
6 Rhai a'i gwelant a arswydant,
cans hwy a ydynt gyfion,
A hwy a chwarddant am ei ben,
pan welont ddilen greulon.
7 Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys
ar Dduw na'i bwys na'i oglud,
Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,
a rhif a gwerth ei olud.
8 Minnau fel oliwydden werdd
yn nhy Dduw, cerdd a ganaf,
Ymddiriedaf iddo yn hawdd,
byth dan ei nawdd y byddaf.
9 Mi a'th folaf, ac obeithiaf,
bythoedd drwy ymddiried.
Da yw dangos gar bron dy Saint
dy enw, a maint dy weithred.

Psal. 53.

DWedai'r ynfyd wrtho'i hun
nad oes un Duw na dîal:
Ei ddrwg ffieidd-dra a'i drais tynn,
a ddengys hyn yn ddyfal.
Edrychodd Duw i lawr o'r nef,
ar ddynion ef a graffodd,
Oedd neb yn deall, oedd vn byw,
yn ceisio Duw o'i wirfodd.
3 Ciliasai bawb yn ol ei gefu,
a hwy drachefn cydlygrynt:
Nid oedd neb a wnelai yr iawn,
nac un yn gyfiawn honynt.
4 Pa'm na'styria gweithwyr traha
eu bôd yn bwyta'mhobloedd;
Fel y bara? ac heb ddim bri;
ni alwent fi o'r nefoedd.
5 Ofn heb achos arnynt a ddaeth
y rhai a'ch caeth warchaeodd:
Cans trwy eu gwasgar hwy i bob parth
mewn gwarth Duw a'i gwasgarodd.
6 Och fi na roid i Israel,
o Sion vchel iechyd:
Pan roddo Duw ei bobl ar led
o drom gaethiwed adfyd:
7 Yna y bydd Iago yn iach,
ac Israel bâch yn hyfryd:
Yna y bydd Iago yn iach,
ac Israel bâch yn hyfryd.

Psal. 54.

DUw yn d'enw cadw fi'n dda,
a barna i'th gadernid,
Duw clyw fy ngweddi, gwrando'nghwyn,
a'm llef yn achwyn wrthyd.
3 Cans codi'm herbyn i yn chwyrn
mae cedyrn ac estroniaid.
Ac heb osod Duw gar eu bron,
mor greulon ynt i'm henaid.
4 Wele Duw fydd im' cymorth rhag
pwy bynnag a gais ddial;
Duw sydd gydâ'r rhai sy'ar blaid
fy enaid, er ei gynnal.
5 Efe a dâl o'r achos hon
i'm gelynion eu drygedd,
O torr di ymaith hwynt (fy Ion)
yn eigion dy wirionedd.
6 Rhof aberth it o wllys da,
a chlod-fora'dy enw,
Fy Arglwydd cymmwys ydyw hyn,
sef ti wyd yn fy'nghadw.
7 Gwir yw, Duw a'm gwaredodd i
o'm cyni a'm trallodion,
A'm llygad a gafodd ei fryd,
a'i wynfyd o'm caseion.

Psal. 55.

O Dduw gwrando fy'ngweddi brudd,
nac ymgudd rhag fy'nghwynfan,
3 Erglyw a pwyl fy'ngwael ystâd,
a llais fy nâd a'm tuchan:
3 Hyn rhag rhuadaidd lais fy'nghâs,
a phwys dyn llym-iâs enwir,
Y rhai a daerant arnaf ddrwg,
a'i llid yn amlwg gwelir.
4 Gofid calon sy'n dwyn fy oes,
daeth angau loes hyd attaf.
5 Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,
a dychryn daeth ar f'ychaf.
6 O dra ofn dwedwn yn fy'nghri,
gwae fi am esgyll clommen,
Yna'r ehedwn i le rhydd,
I gael im'lonydd amgen.
7 Wele, awn i gyrwydro ym mhell,
He cawn ystatell fachog.
8 Yna y bryssiwn ar fy hynt,
rhac rhuad gwynt tymestlog.
9 Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)
gwahana eu tafodau.
Sef yn y ddinas amlwg drais
a welais, a chynennau.
10 Dydd a nos ei chylchu yn dro
a rhodio rhyd ei chaerau,
O'i mewn y mae enwiredd mawr,
ac ar ei llawr bechedau.
11 Gan faint ei hanwireddâu hi,
a maint drygioni beunydd,
Nid ymâd twyll na dichell chwaith
fyth ymaith o'i heolydd.
12 Ac ni wnaeth fy'nghâs y gwaith hyn:
pe'gelyn, goddefaswn:
A phe dyn atgas yn ei rôch,
yn hawdd y gochelaswn.
13 Ond tydi wr, fy'nghyfaill gwar,
fy'nghymmar a'm cydnabod,
14 A fu mewn cyd-gyfrinach ddwys
yn eglwys Dduw'n cyfarfod.
15 Terfysg angau arnaw y del,
i'r pwll yr êl yn lledfyw:
Sef ymherfedd eu cartref cau
nid oes ond drygau distryw.
16 Minnau gweddiaf ar Dduw byw,
yr hwn a'm clyw mewn amser,
17 Hwyr a borau, a chanol dydd,
a hyn a fydd drwy daerder.
18 Gwaredodd Duw yr enioes fau
mewn hedd yn nyddiau drygnaws,
Lle'r oedd o'r blaen yn ferbyn lu,
sef ar fy'nhu troes liaws.
19 Duw a'i gostwng hwynt, ac a'm clyw,
sef brenin yw er cynnoes.
Hwythau heb ymado â'i chwant
fy Nuw nid ofnant eisoes.
20 Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,
dyrw godi braw a frochodd,
Ef â'r vn llaw (yn erbyn hedd)
yr vn glyfaredd torrodd.
21 Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,
a'i fwriad ffyrf am ryfel:
Pan fo oel ar ei dafod doeth
tyn gleddyf noeth yn ddirgel.
22 O bwrw d' ofal ar dy Dduw,
o mynni fyw heb syrthio,
Duw a geidw y cyfion byth,
a'r drwg f'oi chwyth i gwympo.
23 Sef pob dyn gwaedlyd bradog dro
nid oesa fo hyd hanner,
(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot ti
mae'ng obath i bob amser.

Psal. 56.

DUw dy nawdd im rhag marwol ddyn
hwn yn ei wyn a'm llyngcai;
Set ymryfelu â mi bydd,
a beunydd i'm gorthrymmai.
2 Llyngcent fi beunydd o dra châs,
(dy râs o Dduw goruchaf)
Rhai beilch rhy dynion maent yn llu
yn poeth ry felu arnaf.
3 Y dydd y bai mwyaf fy ofn
rhown ynot ddofn ymddiried.
4 Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,
doi yn ddidlawd i'm gwared.
5 Yn fy ymadrodd i fy hun,
y ceisiant lun i'm maglu;
Ac ar bob meddwl a phob tro
y maent yn ceisio'nrygu.
6 Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,
a disgwyl fy holl gerdded,
Drwy ymfwriadu i mi loes,
a dwyn i'm heinioes niwed,
7 A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,
dôd iddynt ffrwyth 'i enwiredd:
Disgyn y bobloedd yn dy lid,
Duw felly bid eu diwedd.
8 Duw rhifaist bob tro ar fy rhôd,
fy'nagrau dôd i'th gostrel:
Ond yw pob peth i'th lyfrau di
a wneuthym i yn ddirgel?
9 Y dydd y llefwyf, gwn yn wir
dychweler fyngelynion,
Am fôd drosof fy Nuw â'i law,
mi a wn y daw yn vnion.
10 Gorfoleddaf yngair fy Nuw,
gair f' Arglwydd byw a folaf,
11 Yn Nuw y rhof ymddiried siwr,
beth a wnel gŵr nid ofnaf.
12 O Duw mae arnaf fi yn ddled
lawer adduned ffyddlon,
Ac mi a'i talaf hwynt yn rhwydd
i ti fy Arglwydd cyfion.
13 Am it ludd dwyn fy oês a'm gwaed,
a llestair i'm traed lithro,
Fel y rhodiwyf fi gar dy fron
yn golau'r bywion etto.

Psal. 57.

DY râs, dy nawdd (fy Nuw) im'dôd
sef ynod ymddiriedaf.
Nes myned heibio'r â flwydd hyn
dan d'edyn ymgyscodaf.
2 Ymddiried f' enaid ar Dduw sydd,
ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,
Ac a gwblhâf ei air yn iawn,
sef cyfiawn yw'r Goruchaf.
3 O'r nêf yr enfyn geidwad i'm,
rhag nerth dyn llym a'm llyngcai:
Enfyn fy Nuw ei nawdd, a'i hedd,
a'i lân wirionedd didrai.
4 Ym mysg y llewod mae fy oes,
plant dynion poethfoes eiriau,
Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,
a'i tafod gwaeth nâ'r cleddau.
5 Ymddercha Dduw y nêf uwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar, a'i thrigolion.
6 O flaen fy'nhraed y rhoesant rwyd,
ac felly'm rhwymwyd weithian,
Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,
i'r hwn yn hawdd syrthiasan.
7 Parod yw fy'nghalon (o Dduw)
o parod yw fy'nghalon.
Canaf it' a datcanaf wawd
o fawl fy'nhafawd cyson.
8 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Nabl a thelyn, eb ado un,
deffrof fy hûn ar las-ddydd.
9 Mawl it (o Arglwydd) pan ddeffrôf
a rôf ymysg y bobloedd,
A chlodfori dy enw a wnâf
lle amlaf y cenhedloedd.
10 Cans cyrhaeddyd y mae dy râs
hyd yn'nhyrnas y nefoedd,
A'th wirionedd di hyd at len
yr wybren, a'i thyrnasoedd.
11 Ymddercha (Dduw) y nef uwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a'i thrigolion.

Psal. 58.

AI'r vniondeb (o bobloedd wych)
yr ydych yn ei ddwedyd?
A ydych chwi, o blant dynion,
yn barnu'r vnion hefyd?
2 Hyttrach malais sy yn eich bron
ac ystryw calon dwyllgar:
A gwaith eich dwylo trowsder blin,
tra foch yn trin y ddaiar.
3 Y rhai annuwiol aent ar gam,
o grôth eu mam newidient,
Ac ar gyfeilorn mynd o'r bru,
a chelwydd fu a draethent.
4 Un wedd a gwenwyn y sarph yw
y gwenwyn byw sydd ynddyn.
Neu'r neidr fyddar yn trofau
dan gai ei chlustiau cyndyn:
5 Yr hon ni wrendi ddim ar lais,
na'r wers a gais y rhinwyr,
Nac un gyfaredd ar a wna
y cyfarwydda'o swyn-wyr.
6 Duw, torr eu dannedd yn eu safn,
diw reiddia'r llafn o dafod:
Duw dryllia'r bonau, a gwna'n donn
bôb grudd i'r c'naw on llewod.
7 Todder hwynt fel dwr ar y tir,
felly diflennir hwythau:
Os mewn bwa rhoesant saeth gron,
boed torri hon yn ddrylliau.
Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdd
â malwen dawdd y todder:
Neu fel rhai bâch ni welai'r byd,
o eisiau pryd ac amser.
9 Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,
cynt nao [...] llosgid ffagldan:
Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,
cyn twymnai cig mewn crochan.
10 A phan weler y dial hyn,
fo chwardd y glanddyn cyfion.
Pan fo rhydd iddo olchi eu draed
yngwaed yr annuwolion.
11 Yna dywaid dynion fôd iawn
a ffrwyth i gyfiawn bobloedd,
A bôd ein Duw yn farnwr ar
y ddaiar a'i therfynoedd.

Psal. 59.

FY Nuw gwared fi rhac brâd
a rhac twyll fwriad gelyn,
Derbyn di drosof rhac y rhai
a godai yn fy erbyn.
2 Ac ymddiffyn fi yn bybyr
oddiwrth weithredwyr camwedd,
Achub fy fi rhac câs y byd,
a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.
3 Ac wele, maent hwy i'm cynllwyn,
amcanent ddwyn fy mywyd,
Nid ar fy mai yr haeddais hyn,
ond tynder gelyn gwaedlyd.
4 Duw rhedent hwy yn barod iawn,
a dim ni wnawn iw herbyn.
Edrych dithau, fy Arglwydd rhêd,
a thyred i'm hymddiffyn.
5 Ti Dduw y llu: Duw Israel,
o deffro gwel enwiredd,
I'r cenhedloedd na âd di'n rhâd,
lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.
6 Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr,
o'mdroi ar wyr o bob parth,
A thrwy y ddinas elywch eu swn,
un wedd a'r cwn yn cyfarth.
7 Wele maent â thafodau rhydd,
awch cledd a fydd iw genau,
Pwy meddant hwy all glywed hyn?
ac a wna i'n herbyn ninnau.
8 Ond tydi fy Arglwydd a'm Duw,
a'i gwel, ai clyw, a'i gwatwar,
Am ben eu gwaith y chwerddi di
y cenhedlaethi twyllgar.
9 Ti a attebi ei nerth ef,
a'th law gref a'm hamddiffyn:
10 Duw a'm rhagflaena innau chwip,
caf weled trip i'm gelyn.
11 Na lâdd hwynt rhag i'm pobloedd i
anghofi dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth
Duw darian prydferth lluoedd.
12 Am bechod eu tafodau hwy,
a'i geiriau, mwyfwy balchedd,
Telir iddynt, ni ront air teg
ond celwydd, rheg, a choegedd.
13 Duw difa, difa hwynt i'th lid,
a byth na fid un 'mwyach,
Gwybyddant mai Duw Iago sydd
drwy'r byd yn llywydd hyttra [...]h,
14 Maent hwy yn arfer gydâ'r hwy:
o'mdroi yn llwyr o bobparth,
A thrwy y ddinas clywch ei swn,
un wedd a chwn yn cyfarth.
15 I gael ymborth crwydro a wnant,
ac oni chânt eu digon,
Nes cael byddant ar hyd y nôs
yn aros dan ymryson.
16 Minnau a ganaf o'r nerth tau,
a'th nawdd yn forau molaf:
Nerth im' a nawdd buost (o Ner)
pan fu gorthrymder arnaf.
17 I ti canaf, o Dduw fy' nerth,
a'm hymadferth rymusol,
Sef tydryw, fy Nuw, fy Naf,
fy'nhwr, fy'noddfa rasol.

Psal. 60.

O Dduw, dydi a'n gwrthodaist,
ar wasgar gyrraist ymaith,
O sorraist wrthym yn ddigêl,
tro attom, dychwell eilwaith.
2 Dychrynaist di y ddaiar gron
a holltaist hon yn ddrylliau,
Cans o'th lid ti siglo y mae,
iachâ, a chae ei briwiau.
3 Dangosaist i'th elynion di
o bwys caledi ormod,
A'r ddiod a roist yn eu min,
oedd megis gwin madrondod.
4 Rhoddaist faner, er hyn i'gyd,
i bawb o'r byd a'th ofnant,
I faneru drwy dy air gwir,
dros lu y tir lle y trigant:
5 Fel y gwareder drwy lân hwyl,
bob rhai o'th anwyl ddynion.
O achub hwynt â'th law ddeau.
a gwrando finnau'n ffyddlon.
6 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw fy'nghy famod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
7 Myfi biau y ddwy dref tâd,
sef Gilead a Manasse,
Ephraim hefyd yw nerth fy'mhen,
a Juda wen f'anneddle.
8 Ym Moab ymolchi a wnaf,
drôs Edom taflaf f'esgid,
A chwardded Palestina gaeth,
a'i chwetthin aeth yn rhybrid.
9 Duw, pwy a'm dwg i'r ddinas grêf?
pwy a'm dwg i dref Edom?
10 Er it ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw a'mleddi drosom?
Ynot yn unig mae'n coel ni,
pe rhon i ti a'n gwrthod,
Er nad aethost o flaen ein llu,
bydd ar ein tu-mewn trallod.
11 O unig Dduw, bydd di' ni'n borth,
ofer yw cymorth vndyn.
12 Yn Nuw y gwnawn wroliaeth fawr
fo sathra'i lawr y gelyn.

Psal. 61.

ERglyw (o Dduw) fy llefain i,
ac ar fy'ngweddi gwrando:
2 Rhof lef o eitha'r ddaiar gron,
a'm calon yn llysmeirio.
Dwg fi i dollgraig vwch nâ mi,
ac iddi bydd i'm derbyn,
3 Cans craig o obaith, twr difost,
i'm fuost rhag y gelyn.
4 O fewn dy Babell y bydd byth,
fy'nrhigfan dilyth dedwydd:
A'm holl ymddiried a fyn fod
ynghysgod dy adenydd.
5 Sef tydi Dduw clywaist yn glau,
fy addunedau puraidd:
Rhoist etifeddiaeth i bôb rhai
a ofnai dy enw sanctaidd.
6 Rhoi oes i'r brenin: nid oes ferr,
fo fydd fyw lawer blwyddyn,
7 (Duw) gar'dy fron y trig yn hir,
dôd nawdd a gwir iw ganlyn.
8 A thrwy y rhai'n y molaf fi
dy enw di yn dragywydd.
Ac felly peri i mi gwplau
fy addunedau beunydd.

Psal. 62.

FY vnig Dduw ydyw fy'mlhaid,
mae f'enaid yn ei ddisgwyl,
O honaw ef, a thrwy ei rym
daw iechyd im' o'm hanhwyl.
2 Duw yw fy'nghraig, a'm vnig nerth
ac ymadferth fy einioes,
Ac am hyn drwy ymddiffyn hir
mi ni'm ysgogir eisoes.
3 Ba hyd y mae'n eich bryd barhau,
i fwrw eich maglau aflwydd,
Lleddir chwi oll; gwthir yn llwyr
fel magwyr ar ei gogwydd.
4 Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,
iw roi i lawr o'i fowredd,
Ar eu tafodau rhoi bendith
a melldith dan ei dannedd.
5 Fy enaid dôd (er hyn i gyd)
ar Dduw dy fryd yn ddyfal,
Yntho gobeithiaf fi er hyn,
efo a'm tyn o'm gofal.
6 Sef craig ymddiffyn yw ef im,
fy' nhwr, a grym fy mywyd,
Am hynny y credaf yn wir
na'm mawr ysgogir ennyd.
7 Yn Nuw yn vnig mae i gyd,
fy iechyd, a'm gogoniant,
Fy'nghraig yw, a'm cadernid maith,
a'm gobaith yn ddilyssiant.
8 Gobeithiwch yntho: gar ei fron
tywelltwch galon berffaith,
Ac ymddiriedwch tra foch hyw:
a dwedwch, Duw yw'n gobaith.
9 Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,
plant gwyr sydd hûd a gwegi,
Gwagach nâ gwagedd yn eu tawl,
mewn mantawl wrth eu codi.
10 Na rowch eich coel ar gam na thrais
rhaid yw i falais drwccio:
Os cynnydda cyfoeth y byd
na rowch mo'ch goglyd arno.
11 Duw a lefarodd hyn unwaith,
mi a glywais ddwywaith hynny
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
gostyngiad byd, neu ffynnu.
12 O Arglwydd, ti hefyd a fedd
drugaredd a daioni,
I bawb dan gwmpas wybren faith
yn ôl ei waith y teli.

Psal. 63.

TYdi o Dduw yw y Duw mau,
mi a geisiai'n foreu attad,
Y mae fy enaid yn dra sych,
a'm cnawd mewn nych am danad.
2 Mewn lle heb ddwfr, mewn crindir crâs,
ceisiais o'th râs dy weled,
Mal i'th welswn yn y Deml gynt,
ar helynt nerth gogoned.
3 Cans dy drugaredd (o Dduw byw)
llawer gwell yw nâ'r bywyd,
A'm gwefusau y rhôf it fawl,
a cherdd ogonawl hyfryd.
4 Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
ac felly'th folaf etto,
Ac yn dy enw di sydd gu
y câf dderchafu'nwylo.
5 Digonir f'enaid fel â mer
a chyflawn frasder hefyd,
A'm genau a gân y moliant tau,
â phur wefusau hyfryd.
6 Tra fwy fi yn fy'ngwely clyd,
câf yn fy'mryd dy gofio,
Ac yngwiliadwriaethau'r nos
câf achos i fyfyrio.
7 Ac am dy fôd yn gymmorth im,
drwy fawr rym'dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fôd
dan gysgod dy adanedd.
8 Y mae f'enaid wrthyd ynglyn
dy ddeau sy'n ynghynnal.
9 Elont i'r eigion drwy drom loes,
y rhai a'm rhoes mewn gofal.
10 Syrthiant hwyntwy ar fin eu harf,
sy' noeth er tarf i'r gwirion.
A chwedi eu meirw hwyntwy dôd
yn fwyd llwynogod gwylltion.
11 Ond y brenin yn enw ei Dduw
boed tra fo byw yn llawen.
A phawb a dyngo iw fowredd
a gaiff orfoledd amgen.
12 Ond o'r diwedd y daw yn wîr,
fe a dywell dir tywod,
I gau safnau y rhai y sydd
yn tywallt celwydd parod.

Psal. 64.

O Arglwydd Dduw, erglyw fy llêf,
a chlyw, o'r nêf fi'n erfyn:
O Dduw cadw fy einioes i
y sydd yn ofni'r gelyn.
2 A chuddia fi dros ennyd bach
rhag cyfrinach y rhai drwg,
A rhag terfysg y rhai sy'n gwau,
i wneuthur cammau amlwg.
3 Hogi tafodau fel y cledd,
a dwedyd bustledd ddigon,
Saethant ergydion i'm syrhau,
a'r rhai'n oedd eiriau, chwerwon.
4 I saethu'n ddirgel bigau dur,
yn erbyn pur ei galon,
Yn ddisymwth heb ofni neb,
a thrwy gasineb creulon.
5 Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,
gan guddio'n gall eu rhwydau,
Yna y dwedant pwy a'n gwel
yn bwrw dirgel faglau?
6 Gan chwilio dyfnder drygau trwch,
o fewn dirgelwch eigion,
A phawb iw gilydd yn rhoi nôd
o geuedd gwaelod calon.
7 Ond y mae Duw a'i saeth ynghudd,
rhydd yn ddirybudd ergyd,
Ef a dal adref yr hawl hon,
yn ddyfn archollion gwaedlyd.
8 Gwaith y tafodau drwg lle y bo,
a fynn lwyr syrthio arnynt,
Pob dyn a'i gwel a dybia'n well
gilio ymhell oddiwrthynt.
9 Yna y dywaid pawb a'i gwel
gwaith y Goruchel yw hyn,
Cans felly y deallant hwy
y cosbir fwyfwy'r gelyn.
10 Ond yn yr Arglwydd llawenhâ,
ac y gobeithia'r cyfion,
A gorfoledda yntho'n iawn
pob dyn ag uniawn galon.

Psal. 65.

I Ti (o Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Sion,
I ti y telir drwy holl gred,
bob gwir adduned calon.
2 Pawb sydd yn pwyso attad ti,
a wrendy weddi dostur,
Ac attad ti y daw bôb cnawd,
er mwyn gollyngdwad llafur.
3 Pethau trowsion, a geiriau mawr,
myfi i'r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
4 Dy etholedig dedwydd yw,
caiff nesnes fyw i'th Babell,
Trig i'th gynteddau, ac i'th lys,
a'th sanctaidd weddus gangell.
5 Duw'n ceidwad attebi i ni
o'th ofni i'th gyfiownedd,
Holl obaith wyd drwy'r ddaiar hon,
a'r môr cynhyrfdon rhyfedd.
6 Hwn a sicchrâ bob vchel fryn
â'i wregys yn gadernyd,
7 Hwn a ostega'r môr, a'r don,
a rhuad eigion enbyd.
8 A holl breswylwyr eithaf byd
sy'n ofni'gyd d'arwyddion,
I ti gan forau, a chan hwyr,
y canant lafwyr ffyddlon.
9 Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lif-ddyfr rhyd ei llawr
iw thramawr gyfoethogi.
10 Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,
a'i chwysau'r wyd iw gostwng,
A'i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,
iw chnwd rhoi fendith deilwng.
11 Coroni'r ydwyd ti fal hyn
y flwyddyn â'th ddaioni,
Y ffordd hyn a'r môdd (Duw fy'ner)
diferaist frasder arni.
12 Ef a ddifera ffrwyth dy serch
ar bob rhyw lannerch ddyrys,
Pob mynydd sych yn uchder gwlâd
o ffrwyth dy râd y dengys.
13 Drwy dy fendith y gwastad dir
a guddir oll â defaid,
Crechwennant, canant bawb ynghyd,
a'r wlâd ac yd ei llonaid.

Psal. 66.

YN Nuw ymlawenhewch i gyd,
yr hollfyd, a datcenwch
2 Ogoniant ei enw hyd y nêf,
a'i foliant grêf a draethwch.
3 Wrth Dduw dwedwch fo bair dy law
i'th elyn oerfraw anfad,
Rhag amled yw nerth y llaw hon,
â dy gaseion danad.
4 Felly'r holl fyd i gyd a'i rhi,
i ti a ymostyngant,
Canant it' fawl, ac ânt hyd lawr,
i'th enw mawr y canant.
5 O dowch, edrychwch, ofnus yw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rydd ddysg
ymysg holl feibion dynion.
6 Fo droes y môr coch yn dir sych,
â'i wyr yn droed-sych drwyddo,
A thrwy yr afon: llawen fu,
ei bod heb wlychu yno.
7 Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,
a'i olwg edrych beunydd,
Ar y cenhedloedd drwy'r holl fyd,
ni chyfyd rhai anufydd.
8 O bobloedd molwch Dduw ar gais,
a moeswch lais ei foliant;
9 Hwn sy'n dal bywyd yn y gwaed
a ddeil ein traed na lithrant.
10 O Dduw profaist a choethaist ni
vn wedd a choethi arian.
11 Yn gaeth y dygaist ni i'th rwyd,
ein cyrph a wasgwyd weithian.
12 Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,
bu rai'n marchogaeth arnom:
O peraist hyn: ni bu chwaith hir,
i ddiwall dir y daethom.
13 Ac offrwm poeth i'th dy yr âf
talaf fy addunedau,
14 Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais
addewais â'm gwefusau.
15 Poeth ebyrth breision it a rôf,
aroglaeth côf cyfammod,
Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,
ac etto rhoddaf fychod.
16 O dowch yn nes, a gwiandewch chwi
sy'n ofni Duw tragfythoes,
Mi a fynegaf i chwi'n ffraeth
pa les a wnaeth i'm heinioes.
17 Llefais i arno â'm genau,
a'r tafod mau a'i molawdd,
18 Pe troeswn fy'nghalon at fai,
Duw a'm gwrandaw sai'n anawdd.
19 Diau Duw a'm clybu yn hawdd,
gwrandawawdd ar fy'ngweddi,
Bendigaid yw: fo a'm clywawdd,
ni throes mo'i nawdd oddiwrthi,

Psal. 67.

TRugaredd Duw i'n plith,
a rhoed ei fendith drosom,
A thywynned ei wynneb-pryd,
a'i nawdd, a'i iechyd arnom.
2 Fel y gwyper dy ffyrdd
drwy'r ddaiar gydwyrdd gnydoedd,
A'th iechydwriaech di (o Dduw)
y'mysg pob rhyw genhedloedd,
3 Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri drwy'r holl fyd.
4 A'r holl genhedloedd îs wybren,
byddant lawen a hyfryd.
Cans ti a ferni'n iawn
y bobl drwy lawn wybodaeth,
Ac a roi'r holl genhedloedd ar
y ddaiar mewn llywodraeth.
5 Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri trwy'r holl fyd.
6 Yna rhydd y tir ffrwyth i'n plith,
a Duw ei fendith hefyd.
7 A Duw, sef Duw ein tâd,
a rotho ei râd a thycciant,
A therfynau y ddaiar gron,
a phawb ar hon a'i hofnant.

Psal. 68.

YMgyfoded un Duw ein Ner,
gwasgarer ei elynion,
Un drygddyn honynt nac arhoed,
o'i flaen ffoed ei gaseion.
2 Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,
os tawdd cwyr wrth eiriasdan,
fel hynny o flaen Duw (yn wir)
yr enwir a ddiflannan.
3 Ond llawenycher ger bron Duw
y cyfion, iw orfoledd;
A'i hyfrydwch hwyntwy a fydd
yn llawenydd cyfannedd.
4 Cenwch, a molwch enw Duw,
sef hwn yw uwch y nefoedd
Yn marchogaeth, megis ar farch,
iw enw rowch barch byth bythoedd.
5 A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion, tâd ymddifaid,
Ac i'r gweddwon mae'n farnwr da
yn ei bryswylfa gannaid.
6 Duw a wna rai mewn ty'n gytun,
ei hun mae'n gollwng gefyn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs
i ddynion atcas cyndyn.
7 Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,
dy daith a fu drwy ddrysni,
8 Y ddaiar crynodd o flaen Duw,
a'r nêf rhoes amryw ddefni.
Ac felly Sinai o flaen Duw,
sef (Unduw Israel howddgar.)
9 Ar d'ettifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.
10 Gwrteithiast hon, dy bobloedd di
sydd ynthi yn preswylio:
O'th râd darperaist Dduw i'r tlawd,
i gael digonawd yno.
11 Yr Arglwydd Dduw a roddai'r gair
mawr mintai'r cantoressau:
12 Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,
yr ysbail rhont yn rhannau.
13 Pes ymdroech mewn parddu a llwch
chwi a fyddwch fel y glommen,
A'i phlu yn aur ac arian teg,
yn hedeg is yr wybren.
14 Hon pan wasgarodd Duw yn chwyrn,
bôb cedyrn o'i gaseîon,
Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wen,
ac eira'ar ben bryn Salmon.
15 Mynydd Duw (sef Sion) y sydd
fel Basan fynydd tirion:
Mynydd Basan uchel ei grib
cyffelib yw i Sion.
16 Chwychwi fynyddoedd cribog pam
y bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar Seion ei serch a roes,
lle myn ef eisoes drigo.
17 Rhif ugain mil o filoedd yw
angylion Duw mewn cerbyd:
Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,
bydd Duw iw plith hwy hefyd.
18 I'r uchelder y derchefaist,
a chaethgludaist gaethiwed,
Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,
i ddynion oedd ddiniwed.
19 Bendigaid fyth fo'r Arglwydd mau
am ddoniau ei ddaioni.
A'i iechydwriaeth i ni'n llwyth
o berffrwyth ei haelioni.
20 Efe ei hun yw'n Duw ni i gyd,
sef Duw ein iechyd helaeth,
Drwy'r Arglwydd Dduw cawn yn ddiswrth
ddiangc oddiwrth farwolaeth.
21 Duw yn ddiammau a dyrr ben,
a thalcen ei elynion,
A choppa walltog rhai a fo
yn rhodio mewn drwg creulon.
22 Dygaf fy'mhobloedd (meddai ef)
hyd adref fel o Basan,
A dygaf hwynt iw hol drachefn,
fel o'r mor donlefn allan.
23 Fel y gwlychech ditheu dy draed
yn llif gwaed dy ddigassau,
Ac y llyfo dy gwn heb gel
y gwaed a ddel o'i briwiau.
24 Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy'Nuw frenin fry,
fel hyn iw dy cysegraidd.
25 Y cantorion, aent hwy o'r blaen,
cerddorion aen ol ynol,
Yna'r gweryfon, beraidd gân,
a'r tympan yn y canol.
26 Clodforwch Dduw hynny sydd dda,
ym mhob cynlleidfa ddiwael,
A chlodforwch yr Arglwydd Ion,
chwi sydd o ffynnon Israel.
27 Doed Benjamin y llywydd bach,
doed bellach dugiaid Iuda,
Doed Nephthali, a Zabulon,
a'i tywysogion yna.
28 Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,
a'i law sydd brydferth geidwad,
Duw cadarnhâ etto yn faith
arnom ni waith dy gariad.
29 Er mwyn Caersalem adail deg
rhydd cedyrn anrheg iti.
30 Difetha dyrfa y gwaywffyn,
a'r rhai a fyn ryfely.
Dewr fel teirw, nwyfus fel lloe,
y rhei'ni a roe yr arian:
Delont i'r iawn: tyn nerth a nwy
a gostwng hwy yn fuan.
31 Y pendefigion o'r Aipht draw
a ddaw, ac Ethiopia,
Ar Dduw yn brysur i roi rhodd,
ac aberth gwirfodd yna.
32 Holl deyrnasoedd y ddaiar lawr,
i Dduw mawr cenwch foliant,
Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,
sef Arglwydd y goniant.
33 Hwn a farchogodd y nef fry,
a hynny o'r dechreuad:
Wele, daw nerthol sain ei lef
o eitha'r nef i wastad.
34 Rhoddwch gadernid i Dduw ner,
sef uchder ei ragoriaeth,
Y sydd ar Israel, a'i nerth
uwch wybrau prydferth gywaeth.
35 Duw, o'th gysegr i'th ofnir di
Duw Israel dodi nerthoedd,
A chadernid mawr wyd i'th blaid,
bendigaid fych oes oesoedd.

Psal. 69.

AChub fi Dduw (yr hwn a'm gwnaeth)
tros f'enaid daeth llif-ddyfr-loes,
2 Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,
heb le i'mddiffyn f'einioes.
O'r dyfnder daethym fel ar fawdd,
a'r ffrwd a lifawdd uchod:
3 Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,
â'm llygaid pellais ganfod.
4 A hyn wrth ddisgwyl Duw a'i râs,
wele fy'nghâs yn amlach
Nâ'r gwallt ar ben fy'nghoppa fry,
a'r trowsion sy'n gadarnach.
Y rhai celwyddog, taerion ynt
rhois iddynt beth ni chefais.
5 Adwaenost (Dduw) f'ynfydrwydd mau,
a'm beiau fi ni chuddiais.
6 O'm plegid i dim gwarth ni chânt,
y rhai a goeliant arnad,
Na âd (Dduw'r lluoedd) fefl na thrai [...]
i'r rhai a ymgais attad.
7 (Duw Israel) sef er dy fwyn,
yr wyf yn dw yn gwarthrudd-deb,
A thrwy gywilydd ymarhois,
mewn chwys y tois fy wyneb.
8 I bobl dieithr wyfi, (gwn pa'm)
i blant fy'mam fel estron.
9 A'm fod fy serch a'm zel i'th dy
i'm hysu hyd fy'nghalon.
Cans cabl y rhai a'th gablant di
ar f'ucha i mae'n disgyn.
10 Fy' nagrau, cystudd, a'm hun-pryd,
ynt warth i gyd i'm herbyn.
11 A phan wisgwn i liain sâch,
bum ddiystyrach lawer,
12 Bum ehwedyl drws i gryfa thlawd,
i'r meddw yn wawd iw harfer.
13 Ond f' Arglwydd Dduw, gwnaf attad ti
fy'ng weddi yn amserol,
O gwrando fi i'th wirfawr hedd,
ac i'th wirionedd grasol.
14 Duw gwared fi, a gwna fi'n rhydd,
o'r dom y sydd i'm suddo,
Sef caseion, dyfroedd dyfnion,
a mi nid ofnaf gyffro.
15 Na lifed dwfr drosof' yn ffrwd,
na'm llynced amrwd ddyfnder,
Na chaued pydew arnaf chwaith,
mo'i safn diffaith ysceler.
16 Gwrando fi bellach Arglwydd Dduw
cans da yw dy drugaredd,
Yn amlder dy dosturi mawr
edrych i lawr rhag trowsedd.
17 O'm cyfyngder oddi wrth dy wâs
na chudd mo râs dy wyneb,
Rwyf yn gweddio yn fy'ngloes,
Duw bryssia moes im atteb.
18 Nes-hâ ar f'enaid Arglwydd mau,
er fy' rhyddhau a'm gwared,
Moes ymddiffyn rhag cael o hon
gan fy'ngelynion niwed.
19 Duw di a weli o bob parth
fy'ngwradwydd, gwarth, a'm cwilydd
O herwydd rhodio gar di fron
mae fy'ngelynion beunydd.
20 Mewn gorthrwm ofid yr wyf fi
a gwarth yn torri'nghalon:
Disgwyl cymhorthwyr, ni ddoe neb,
ni chawn gysurdeb tirion.
21 Bustl a roesan yn fwyd i mi,
finegr i dorri syched.
22 Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,
a'i llwydd yn dramgwydd bydded.
23 Ar eu llygaid dallineb doed,
iw lwynau boed crynfeydd.
24 Tywallt arnynt dy ddig a'th lid,
doed iddynt ofid beunydd.
25 Boed eu palasau'n wâg heb wedd,
ac anghyfannedd iddyn,
Na allo neb na dydd na nos
mo'r aros yn eu tyddyn.
26 Cans yr hwn a darawsyd ti
mae' rhei'ni yn ei erlyd,
A'r doluriau y sydd o'th friw
y maent iw hedliw hefyd.
27 Dod gamwedd ar eu camwedd hwy
na ddont mwy i'th gyfiownder,
28 Ymaith o lyfr y bywyd llawn,
o fysg y cyfiawn tynner.
29 Finnau pan fwyf ofidus wan,
a phan fwyf druan hefyd,
Dy iechydwriaeth di (o Dduw)
eilchwyl i fyw a'm cyfyd.
30 Moliannaf d'enw Dduw ar gân,
fal dyna f'amcan innau.
31 A hyn sydd gwell gan Dduw deyrn
nag ych â chyrn a charnau.
32 A phob truan, pan welir hyn,
a ennyn o lawenydd,
A'ch'calon chwi sy'n ceisio Duw
cyfyd i fyw o newydd.
33 Duw gwrendy dlawd, ni ddirmyg llef
ei gaeth was ef sy fethiant.
34 Nef, a daiar,, a môr, a hyn
a ymlysg ynthyn molant.
35 Cans Duw a geidw Sion deg,
a threfna'n chwaneg Iuda,
Adeilada ddinefydd hon,
i ddynion yn breswylfa.
36 Ie ei weision ef a'i hîl,
a'i heppil, a'i meddiannant,
A'r rhai a hoffa ei enw fo,
yn honno a breswyliant.

Psal. 70.

DUw prysura i'm gwared i,
Ion, bryssia di i'm cymmorth.
2 Gwarth a gwradwydd a ddel i'r blaid
a gais i'm henaid ammorth.
Drwy wradwydd troer y rhai a ddwg
i mi ddim drwg ewyllys.
3 Mefi fo'i gwobr, a draeth hâ hâ,
am danaf yn ddirmygus.
4 Y sawl a'th gais calonnog fydd,
o dra llawenydd ynod,
Dweded sawl a'th gâr bob amser,
mawrhyger ein Duw hynod.
5 Minnau'n dlawd, ac yn druan sydd,
Duw bryssia bydd yn agos:
Fy mhorth a'm ceidawd wyd yn wis,
(o Arglwydd) na hir aros.

Psal. 71.

MI a'mddiriedais ynod (Ner)
na'm gwradwydder byth bythoedd
2 Duw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy'nghri hyd nefoedd.
3 Duw bydd yn graig o nerth i mi
i gyrchu atti'n wastad,
A phar fy'nghadw i yn well,
ti yw fy'nghastell caead.
4 Duw gwared fi o law'r trahaus
a'r gwr trofau [...], a'r trowsddyn.
5 Ynot ti Dduw bu'ngoglud maith,
a'm gobaith er yn ronyn.
6 O groth fy' mam y tynnaist fi,
rhoist ynof egni etto,
I tithau fyth, am hyn o hawl,
y canaf fawl heb peidio.
7 I lawer dyn bum anferth iawn,
ti yw fy nerthlawn lywydd,
8 Fy safn bydd lawn o'th fawl gan [...]
ac o'th ogoniant beunydd.
9 Nac esgeulusa fi na'm braint
yn amser benaint truan.
Er pallu'r nerth, na wrthod fi,
Duw edrych di ar f'oedran:
10 Medd fy'nghaseion r'wyfyn wann
hwy a ddisgwilian f'anaf:
Ymgynghorasant yn ddi-synn,
gan ddwedyd hyn am danaf:
11 Duw a'i gwrthododd, (meddant hwy)
erlidiwch fwyfwy bellach,
A deliwch ef nid oes drwy'r byd
yr un a'i gweryd haiach.
12 Er hyn o frâd, (Duw) bydd di well,
na ddos ymhell oddiwrthi,
Fy Nuw prysura er fy'mhorth,
ac anfon gymmorth immi.
13 Angau gwarthus pob rhai a gânt
a wrthwynebant f'enioes,
Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,
a gynnig i mi ddrygloes.
14 Fy'ngobaith innau a saif byth
yn ddilyth a safadwy.
Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,
ac a'th foliannaf fwyfwy.
15 Dy iechydwriaeth sy i'm genau,
yr hwn ni thau funudyn,
A'th gyfiawnder, ac ni wn i
ddim o'r rhifedi arnyn.
16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw
tra fwy fi byw y credaf.
A'th gyfiownder di hyd y brig,
yn unig hyn a gofiaf.
17 Duw, di a ddysgaist i mi hyn,
do, er yn blentyn bychan.
A hyd yn hyn r'wyf yn parhau
i osod d'wrthiau allan.
18 O Dduw na wrthod fi yn hên,
a'm pen, a'm gên yn llwydo,
Nes i'm ddangos i'r rhai sy'n ol
dy wrthiau nerthol etto.
19 Dy gyfiownder yn uchel aeth,
yr hwn a wnaeth bôb mowredd,
Duw pwy y sydd debyg i ti?
nid ydym ni ond gwagedd.
20 Duw gwnaethost di i'm'fyw yn brudd,
a gweled cystudd mynych,
Troist fi i fyw, dychwelaist fi,
drwy'nghodi o'r feddrod-rych.
21 Mwy fydd fy mawredd nag a fu,
troi i'm diddanu innau.
22 Yna y molaf dy air am hyn,
ar nabl offeryn dannae.
O Sanct Israel, canaf hyn,
ar delyn, ac â'm genau,
23 Am itti wared f'enaid i,
gwnâf i ti hyfryd leisiau.
24 Canaf it hefyd gyfion glod
â'm tafod: wyt iw haeddu,
Am it warthau a gwarthruddiaw,
fy'nghas sy'n ceisiaw 'nrygu.

Psal. 72.

DUw dod i'r brenin farn o'r nef,
dod iw fâb ef gyfiowndeb,
2 Yna y rhydd rhwng pobl iawn frawd
ac i'r dyn tlawd uniondeb.
3 Hedd a chyfiownder yn ol hyn,
cair ym hob bryn a mynydd.
4 Y gwan a'r llesg achub a wna,
fe ddryllia y gorthrymmydd.
5 Hwy a'th ofnant byth ar bob tro,
tra treiglo haul a lleuad,
6 Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,
neu gafod frâs ar wastad,
7 Iw ddyddiau ef cerir yr iawn,
a'r cyfiawn a flodeu a,
Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,
tra fo'r lloer hon yn para.
8 Llwydda efe o fôr hyd fôr,
o'r ffrwd hyd oror tiredd,
9 Ei gâs ymgrymmant, llyfant lwch,
hyd yr anialwch cyrredd.
10 Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o'r ynysoedd canol,
O Seba ac Arabia deg,
doe bawb â'i anrheg reiol.
11 Yr holl frenhinoedd doent yn llu,
a than ymgrymmu atto,
A'r holl genhedloedd, fel yn gaeth,
a wnant wasanaeth iddo.
12 Canys y dyn rheidus, a'r gwr gwan,
fo'i gweryd pan weddio,
Bydd i bob dyn yn nerthol-dwr,
ar ni bo pleidiwr gantho.
13 Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,
fo achub enaid glanddyn:
14 Fo a'i gweryd rhag twyll a drwg,
gwerthfawr iw olwg ydyn.
15 Felly bydd byw: rhoir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwydd,
Hwy a weddiant arno fo,
gan ei fendithio beunydd.
16 Rhyd pen y mynydd yd a gân,
fel brig coed Liban siglant,
A'r plant cyn amled ar gwellt glâs,
o'r ddinas a flagurant.
17 Os haul cylch wybren byth a dry,
byth pery enw iddaw,
Pawb a'i bendithia ef yn wir,
pawb a fendithir ynthaw.
18 Bendigaid fo yr Arglwydd Dduw
(sef Duw yr Israel dirion)
Efe'n unig byth sy'n parhau,
i wneuthur gwrthiau mowrion.
19 Bendigaid fytho i enw byth,
gogonedd dilyth iddo,
A'i glod llenwir y ddaiaren:
Amen, Amen, hyn fytho.

Psal. 73.

YS da yw Duw i Israel,
wrth bawb a wnêl yn union:
2 Minnau lithrais, braidd na syrthiais
swrth wael fu f'amcanion.
3 Cans cynfigennais wrth y ffôl.
ar dyn annuwiol dihir,
Braidd na chwympais pan y gwelais
eu hedd a'i golud enwir.
4 Can nad oedd arnynt rwymau caeth
i gael marwolaeth ddynol,
Lle maent yn byw yn heini hyf,
yn iraidd gryf ddigonol.
5 Ac ni ddoe arnynt lafur blin
hyd y bawn i'n eu deall,
Na dim dialedd, na dim gwyn,
fel y doe ar ddyn arall.
6 Am hynny syth maent yn ymddwyn,
fel o fewn cadwyn balchder,
A gwisgant am danynt yn dynn
(megis dilledyn) drowsder.
7 A'i llygaid hwyntwy wrth dewhau
doent yn folglymmau drosodd,
A'i golud hwy, er hyn o wyn,
uwch meddwl dyn a dyfodd.
8 Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,
a bostio hyn ar wasgar;
9 Egori safn at wybren fry,
a thafod cry'drwy'r ddaear.
10 Am hyn rhai o'i bobl ef â chwant
a ymddychwelant yma,
Yn gweled y dwfr yn loyw lân,
a thybio y cân eu gwala.
11 Cans ymresymmant hyn yn syw,
pa'm? ydyw Duw yn canfod
Pwy sydd yn ddrwg, a phwy sy'n dda?
ydyw'r gorucha'n gwybod?
12 Wele y drygddyn mwya'i chwant
caiff fwyaf llwyddiant gwastad;
Yn casclu golud a mawr dda,
hwnnw sydd fwya'i godiad.
13 Ofer iawn fu i mi warhau,
a llwyr lanhau fy'nghalon:
Golchify'nwylo, caru gwir,
a bod yn hir yn gyfion:
14 Cael fy'maeddu ar hyd y dydd:
ond trwstan fydd uniondeb,
Os y borau, ac os pryd nawn,
myfi a gawn wrthwyneb.
15 Hyn os dwedwn, a feddyliwn,
o ryw feddalaidd ammau.
Wele, a'th blant di y gwnawn gam,
i ddwyn un llam a minnau.
16 Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,
o nerth fy synwyr ddynol,
Hynny i'm golwg i oedd flin,
nes cael rhyw rin ysprydol.
17 Ond pan euthym i gysegr Duw,
lle cefais amryw olau,
Yna deallais i pa wedd,
y bydd eu diwedd hwythau.
18 Gwybum i ti eu gosod hwy,
lle caent lam mwy'n y diwedd,
Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,
anialwch anghyfannedd:
19 Ond gwedi dodaist iddynt wth,
disymmwth y pallasant,
Mynd o'r byd heb na lliw na llûn,
o'i hofn eu hun darfyddant.
20 Fel breuddwyd pan ddihunai un,
y gwnai di iddun f'Arglwydd,
O'r newid hon y caiff fy'nghâs,
drwy yr holl ddinas wradwydd.
21 Bum i ddig wrthyf fi fy hûn,
ac oerni fu'n fy'nghalon,
22 Nas deallaswn hyn yn gynt,
bum ffol un hynt ac eidion.
23 Er hyn etto bum gydâ thi,
lle i'm twysi yn ddilysiant,
24 Wrth fy llaw ddeau: wedi hyn
fy'nerbyn i gogoniant.
25 Pa'm? pwy (o Dduw) sydd gennyf fi
ond tydi yn y nefoedd?
Dim ni ddymunwn gy dâ thi,
wrth weini daiar leoedd.
26 Fy'nghalon i, a'm nerth, a'm cnawd
y sydd mewn palldawd beunydd,
Ond tydi Dduw fydd ar fy rhan,
a'm tarian yn dragywydd.
27 A elo ymhell oddiwrthyd ti,
y rhei'ni gwnaent yn ddiffaith:
Ac a butteiniant rhagot ti,
y rhei'ni torrir ymaith.
20 Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,
fy'ngobaith yw i'm calon,
29 Y traethaf fi ei nerth, a'i wyrth,
o fewn dy byrth, merch Sion.

Psal. 74.

PAham (o Dduw) oddiwrthym ni
y cili yn dragywydd)
Paham y digi mor danbaid
wrth ddefaid dy borfeydd?
2 Cofia y bobl a brynaist gynt,
rhoist iddynt etifeddiaeth,
Mynydd Seion, dy breswylfa,
i'r rhai'n yn drigfa helaeth.
3 Ymddercha (Arglwydd taro'n drwm,
pob gelyn gorthrwm difa
Yn dragywydd, a wnaeth na thrais,
na dyfais i'th gysegrfa.
4 Dy elynion daethant i'n mysg,
rhuasant derfysg greulon:
A gosodasant dan gryfhau,
fanerau yn arwyddion.
5 Iw cherfio'r saeri gorau gynt,
a roesan wynt iw bwiyll.
6 Drylliant i'r llawr gerfiadau hon
ag eirf, gyfeillion erchyll.
7 Llosgasant oll dy eglwys lân,
a'i phyrth â thân yn ulw,
A halogasant mewn dull dig,
y noddfa'y trig dy enw.
8 Awn, gwnawn gyd-artaith meddant hwy,
a dinystr drwy yr hollwlad:
Llosgasant holl demlau y tir,
gwnaethant yn wir eu bwriad.
9 Nid oes un arwydd in' iw gael,
na phrophwyd diwael destyn,
Na gwybedydd, a wyr pa hyd,
y pery'r byd in herbyn.
10 Dywaid di pa hyd (o Dduw Ion)
y gwna d'elynion warthrudd?
A rydd dy gâs ei gabledd fri
arnat ti yn dragywydd?
11 Paham y tynni'n ol dy law,
(sef dy ddeheulaw berffaith,
Hon sydd i'th fonwes) allan tynn,
a difa d'elyn diffaith.
12 Cans o'r dechreuad Duw ei hûn
ydyw fy'nghûn a'm brenin,
Fe a wna iechydwriaeth hir,
i bawb trwy'r tir a'i dilin.
13 Parthu a wnaethost di â'th nerth
y mor, a'i anferth donnau,
Gwahenaist, torraist, uwch y don,
bennau y blinion ddreigiau.
14 Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)
y Lefiathan anferth,
I'th bobl yn fwyd dodaist efo,
wrth dreiglo yn y ddiserth.
15 Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,
ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn,
A diysbyddaist yn dra sych
afonydd dyfr-grych cedyrn.
16 Di biau'r dydd, di biau'r nôs,
golau a haul-dlos geinwedd:
17 Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf;
a gauaf, o'th ogonedd.
18 Fy Arglwydd bellach cofia hyn,
i'r gelyn gynt dy gablu,
Ac i'r ynfydion roi drwg fri,
a'th enw di dirmygu.
19 Oes dy durtur na ddôd ar gawdd,
dan nawdd anifail creulon.
Na âd o'th gôf (o Arglwydd da)
dy dyrfa, y rhai tlodion.
20 Duw, edrych ar dy gyfammod,
a gwyl waelod y gwledydd:
Mae ym-mhob man drigfa dyn traws,
mae honynt liaws efrydd.
21 Na ddychweled y truan tlawd
mewn difrawd ac mewn gwradwydd:
Y dyn anghenus, llesg, a gwan,
a ddatcan dy enw, Arglwydd.
22 Cyfod, dadlau dy ddadl (o Dduw)
dy enw yw yn dragywydd:
Coffa gabledd, yr hon drwy'r byd
a gayt gan ynfyd beunydd.
23 Duw: nac anghofia lais a son
d'elynion y cenhedloedd,
Eu swn, a'i rhodres, a'i dadwrdd
a ddring i gwrdd â'r nefoedd.

Psal. 75.

CLodforwn di (dragwyddol Dduw)
a'th enw yw yn agos.
Maint yw dy enw a'th nerth i'th hynt
dy wrthiau ynt iw ddangos.
2 Dwedaist, pan dderbyniwyf y llu
mi a rof farn gu ac union.
3 Fel y nerthais sylfeini'r byd
oedd rydd, a'i gyd trigolion.
4 Minnau a ddwedais hyn o'm bryd
wrth y rhai ynfyd, peidiwch,
Wrth annuwolion poethion chwyrn,
eich mebcyrn na dderchefwch.
5 Och: na dderchefwch chwi mo'ch cyrn,
na siglwch rychwyrn ragdal,
Ac na ddwedwch chwi yn warr-syth
nid rhaid in' fyth mo'r gofal.
6 O herwydd, nid o'r dwyrain draw
i ddyn ydaw derchafiad,
Nid o'r gorllewin, na'r deau,
y daw i chwithau godiad,
7 Cans ar law Duw y mae y farn,
na fid gwr cadarn rygry',
Gostwng heddyw y naill heb pall,
a chodi'r llall y fory.
8 Cans yn llaw'r Arglwydd phiol sydd
cymysgwin hyd wydd ynthi,
Tywalldodd hwn: drwg ddynion byd,
yfant i gyd o honi.
9 Mynegaf finnau, ac i'm cof,
ei gerdd (Duw Iagof) canaf:
Torraf gyrn yr annuwiolawn,
a phen y cyfiawn codaf.

Psal. 76.

YN Iuda ac Israel dir
adweinir ein Duw cyfion.
2 Ei babell ef yn Salem sydd,
a'i breswylfydd yn Sion.
3 Yno drylliodd y bwa a'r saeth,
a'r frwydr a wnaeth yn ddarnau:
A thorrodd ef yn chwilfriw mân
bob tarian, a phob cleddau.
4 Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,
mewn yspail helynt uchel,
Uwch a chryfach wyt na hwyntwy,
nid rhaid byth mwy mo'i gochel.
5 Pob cadarn galon a ymroes,
ac ni ddeffroes o'i gyntyn.
Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,
ni chae un llaw ei dderbyn.
6 O'th waith (Duw Iagof) a'th amharch
cerbyd a'r march rhoi i huno.
7 Ofnadwy wyd pwy i'th lid wg,
a saif i'th olwg effro?
8 Pan ddaeth o'r nefoedd dy farn di,
yr wyd yn peri' i chym'ryd,
Y ddaiar ofnodd, a'i holl lu,
rhoist i ostegu ennyd.
9 I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fyw y gwirion,
A'r rhai oedd lonydd yn y tir,
yr oeddyn gywir galon.
10 Cans poethder dyn yw dy fawl di,
felly gostegi drallod:
Eu gwres, i'r da a fag gref ffydd,
i'r drwg a fydd yn ddyrnod.
11 Eich rhodd i'r Arglwydd Dduw addewch,
a llawn gwblhewch eich gobrwy,
Pawb sydd o amgylch Sion deg,
rhowch anrheg i'r ofnadwy.
12 Ef a ostyngodd uchel fryd,
ac yspryd gwyr rhyfelgar:
Fo a yr ofn ynghanol hedd,
ar holl frenhinedd daiar.

Psal. 77.

FY llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o'r neffo'i clybu;
A'm llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.
2 Y dydd y rhedai' mriw, a'r nos
ni pheidiai achos llafur,
Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,
a'm hoes yn gwrthod cyfur.
3 Yna y cofiwn Dduw a'i glod,
pan syrthia i drallod enbyd:
Y na gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
4 Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,
5 Y styriais yna'r dyddiau gynt,
a'r helynt hen o'r cynfyd.
6 Cofiwn fy'ngherdd y nos fy hun,
heb gael amrantun, chwiliwn
A chalon effro, genau mud,
â'm hyspryd ymddiddanwn:
7 A i'n dragywydd y cilia'r Ion?
a fydd ef bodlon mwyach?
8 A ddarfu byth ei nawdd a'i air?
a gair ei addaw bellach?
9 Anghofiodd Duw i drugarhau?
a ddarfu cau ei galon?
A baid efe byth (meddwn i)
fal hyn â sorri'n ddigllon?
10 Marwolaeth im' yw'r meddwl hwn:
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnaf,
waith y Goruchaf etto.
11 Cofiaf dy weithredoedd (f' Arglwydd)
a'th wrthiau hylwydd cofiaf,
12 Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
â myfyr maith y traethaf.
13 O Dduw, pa Dduw sydd fal ti Dduw?
dy ffordd di yw'n sancteiddiol:
14 Dy waith dengys dy nerth i'r byd,
pair in'i gyd dy ganmol.
15 Dy nerth fawr hon a ro'ist ar led,
wrth wared yr hên bobloedd,
Iagof, a Ioseph a fu gaeth,
a'i holl hiliogaeth luoedd.
16 Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud.
17 Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,
a mellt fal saethau enbyd.
18 Dy daran rhuodd fry'n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiair isod a gyffrodd,
ac a ddychrynodd hithau.
19 Yn eigion môr mae y ffordd dau,
a'th lwybrau mewn deifr sugnedd,
Ac ni adweinir byth mo'th ol,
yn dy anfeidrol fowredd.
20 Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a'i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.

Psal. 78.

FY'mhobl i gyd gwrandewch fy neddf,
a boed fy'ngreddf i'ch calon,
Clust ymostyngwch a'm genau,
i ystyr geiriau ffyddlon.
2 Mewn diharebion, i barhau,
fy'ngenau a egoraf,
A hên ddamhegion oedd ar hyd
y cynfyd a ddangosaf.
3 Y rhai a glywsom gynt eu bod,
ac ym yn gwybod hefyd,
Ac a fynegodd yn ddiau,
ein tadau er y cynfyd.
4 Heb gel mynegwn ninnau'n ffraeth,
hyn iw hiliogaeth hwythau:
Canmolwn Dduw i'r oes a ddel,
ei nerth a'i uchel wrthiau.
5 Felly gorchmynnodd ef fod cof,
yn Iagof: ac i'r hynaf
Yn Israel ddysgu iw blant,
ogoniant y goruchaf.
6 Fel y gwypid o oes i oes,
y rhoes ef ei dystiolaeth:
O Dâd i fâb, o fâb i wyr,
i gadw llwyr wybodaeth.
7 Gobeithio'n Nuw, cofio ei waith:
y sydd mal rhaith eneidiol:
I gael cadw ei orchymmyn,
rhoes Duw'r wers hyn yn rheidiol.
8 Rhag ofn mynd o'r genhedlaeth hyn
yn gyndyn ac anufydd:
A chalon wan ac yspryd gwael
heb afael gyda'i llywydd.
9 Eu tadau, fel plant Ephraim,
yn arfog lym er saethu,
Troesant eu cefnau yn y gâd,
ymroi a dadynylu.
10 Cyfammod Duw a wrthodent,
ni rodient yn ei Gyfraith,
11 Anghofio'i wyrth a welsent gynt,
a'i ddeddfau oeddynt berfiaith.
12 Yn nhir yr Aipht: ym maes Zoan,
gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy.
13 Rhoi dwfr y môr yn ddau dwrr crych
a'r llawr yn sych i drammwy.
14 Y dydd mewn niwl, y nos a thân,
twysai'n lân ei bobloedd:
15 Holldi'r creigiau a'i troi'n llynniau,
a llenwi ei lu a dyfroedd.
16 Er tynnu dwfr o'r garreg lâs,
er llithro'n loyw lâs ffrydau:
17 Yn yr anialwch digient Dduw,
chwanegent amryw feiau.
18 Yn y diffaethwch profent Dduw,
oes fwyd i fyw? meddylient:
19 A all Duw gael i'n ymma fwyd,
mewn cyfryw lochwyd? dwedent.
20 Er taro'r graig a rhedeg dwr,
yn ffrydau, cyflwr diball:
A eill efe roi i'n fara'a chig,
i'n cadw yn ddiddig ddiwall?
21 Pan glybu Duw yr araith hon,
fel tân yn wreichion nynnodd,
Yn Iago ac yn Israel,
gan lid yn vchel digiodd.
22 A'i ddig oedd am na chredent hwy,
i Dduw a'i fwyfwy fowredd,
Ac na welent pa iechyd oedd
yn ei weithredoedd rhyfedd.
23 Gorchymmyn wybren, a'i gwarhau,
egoryd drysau'r nefoedd:
24 A Manna'n fwyd, fel gwenith nef,
a lawiodd ef iw luoedd.
25 Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,
sef bara yr Angylion:
26 Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt
gydâ'r deheuwynt nerthlon.
27 Fel y llwch y rhoes gig iw hel,
ac adar fel y tywod:
28 Ynghylch eu gwersyll a'i trigfydd,
y glawiai beunydd gawod.
29 Bwyta digon o wledd ddiwael,
a chael eu bwyd dymunol:
30 Ac heb ommedd dim ar eu blys,
nac mo'i hewyllys cnawdol.
31 A'i tameidiau hwy iw safnau,
(ys ofnwn y Goruchaf:)
Yn Israel lladdodd iw ddig
wyr etholedig brasaf.
32 Er hyn pechent, ac ni chredent,
iw iach radau rhyfedd:
33 Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,
mewn dychryn ac oferedd.
34 Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,
os ceisient dramwy atto:
Os doent drwy hiraeth at ei râs,
yn forau glâs iw geisio:
35 Os cofient fod Duw iw holl hynt,
graig iddynt a gwaredydd:
36 (Er ceisio siommi Duw'n y daith,
â'i gweiniaith, ac â'i celwydd:
37 Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gyfammod:)
38 Er hyn trugarhaei Duw o'r nef,
a'i nodded. ef oedd barod.
Rhag eu difa, o'i lid y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:
39 Cofiodd ddyn, os marw a wnai,
nas gallai ddychwyl eilwaith.
40 Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy
wrth fyned trwy'r anialwch?
Gan ddigio Duw a'i lwyr dristhau,
ynghreigiau y diffeithwch.
41 Troesant, profasant Dduw â'i chwant,
gan demptio Sanct yr Israel:
42 Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,
rhag cael o'i casddyn afael.
43 Rhoesai'n yr Aipht arwydd o'i râs
a'i wyrth yn ninas Zoan:
44 Y modd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glan-ddwfr allan.
45 Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau▪
waed, gwybed, llau, a llyffaint:
46 Lindys, locust, i ddifa'i ffrwyth,
a chenllysg lwyth, a mall-haint.
47 Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt, gwydd
48 Eu coedydd, a'i han'feiliaid:
A chenllysg cessair, mellt a roes,
bu wrth eu heinioes danbaid.
49 Rhoes arnynt bwys ei lid, a'i fâr,
ac ing anghreugar digllon:
Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a'i wg,
anfonodd ddrwg angylion.
50 Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,
heb ludd iw heinioes angau,
Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,
yn ei ddigofaint yntau.
51 Yna y tarawodd vn Duw naf
y plant cyntaf-anedig:
Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,
sef am ei fod yn llawnddig.
52 Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd)
foi twysawdd drwy'r anialfan,
Fel arwain defaid, lwybrau pell,
yn wael ddiadell fechan.
53 Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,
drwy'r môr (ffordd ddofn) heb wlychu,
A'i holl elynion heb fwy stor,
fe wnaeth i'r môr eu llyngcu.
54 Rhoes hwy i etifeddu'n rhydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd:
Yr hwn a ddarfu ei warhau,
â llaw ddeau yr Arglwydd.
55 Rhoes ef y wlâd i ddwyn pob ffrwyth,
rhoes i bob llwyth ei gyfran
O Israel, ac yn eu plaid,
rhoi'r hen drigoliaid allan.
56 Er hyn temptient, a digient Dduw
hwn vnic yw sancteiddiol:
Ac ni fynnent mo'r vfyddhau,
iw dystiolaethau nefol.
57 Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,
fel eu holl dadau twyll naws:
Megis bwa a fai mewn câd,
ac yntho dafliad gwyrdraws.
58 Hwyntwy yn fynych a'i cyffroent,
mewn camwedd troent oddiwrtho
At wylfa nos, a delw o bren,
fal hyn y digien efo.
59 Ond y Gorucha 'n gweled hyn,
a ddigiodd wrthyn hwythau:
Felly dirmygodd Israel,
a gadel ei ammodau.
60 Yna'r ymadawodd efo,
â chysegr Shilo dirion:
Ei bebyll a'i brif ysgol ddysg,
lle' buasa i'mysg ei ddynion.
61 Ei nerth a roes i garchar caeth,
dan elyn daeth eu mowredd:
62 Ei bobl ei hûn i'r cleddau llym',
(f [...]l dyna rym' ei 'ddigedd:)
63 Ei wyr ieuainc fo'i rhoes i'r tân,
gweryfon glân rhoes heibio:
64 Ei offeiriaid i'r cleddyf glâs,
a'i weddw ni chafas wylo.
65 Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,
fal un a ddoe o gysgu:
Neu fal gwr cadarn wedi gwin,
yn erwin iw dychrynu.
66 Taflodd y gelyn yn ei ol,
rhoes mewn tragwyddol wradwydd,
67 Rhoes wyrion Joseph dan vn pwyth,
ac Ephraim lwyth i dramgwydd.
68 Gwedi cwlio y rhai'n i gyd,
fo roes ei fryd ar Juda:
Ar fynydd Seion (ei dretâd)
o gariad yw breswylfa.
69 Yna yr adeiladodd ef
adeilad gref a howddgar,
Yn gysegr-lys byth i barhau,
fel hen seiliadau'r ddaiar.
70 Etholodd ef Ddafydd ei wâs,
yr hwn oedd ddisas fugail:
Ac a'i dug ef ir maes yn lân,
o'i gorlan a'i ddefeid-gail,
71 O borthi defaid mammau wyn,
iw ddwyn i borthi dynion:
Iagof, ac Israel, a'i plant,
dyna ei feddiant ffyddlon.
72 Yntau a'i porthodd hwynt yn ol
ei berffaith resol galon:
Ac a'i trinodd hwy yn brydferth,
o nerth ei ddwylaw cyfion.

Psal. 79.

LLawer cenedl (o Dduw) a ddaeth,
i'th etifeddiaeth vnig:
Rhoed Caerselem a'i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.
2 Rhoi cyrph dy weision, wrth eu rhaid
i hediaid y ffurfafen:
I'nfeiliaid maes rhoi cig dy saint,
fel dyma fraint aflawen.
3 Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amgylch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bedd,
fel dyna ddiwedd atgas.
4 Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,
i bawb o'n pobparth ydym.
5 O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?
ai fel tân ffyrnig poethlym?
6 Tywallt dy lid ar bobl estron,
rhai nid adwaenon m'onot:
Ac ar dyrnasoedd ni eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.
7 Cans wyrion Iagof (bobl oedd gu)
y maent iw hyfu'n rhyfedd:
Ac a wnaethant i'r rhei'ni fod
preswylfod anghyfannedd.
8 Na chofia'n camwedd gynt i'n hoes,
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a'n rhagflaeno ni
sy' mewn trueni'n gorwedd.
9 O Dduw ein iechyd cymorth ni,
er mwyn dy fri gogonol:
A gwared er mwyn dy enw tau,
ni rhag pechodau marwol.
10 Pan y gofynnant ple mae'n Duw,
dod arnynt amryw ffonnod:
I ddial gwaed dy ddwyfol blant,
ac yno cânt hwy wybod.
11 Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhygaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffyn blant marwolaeth.
12 Ein cymdogion a'th gablodd di,
tâl i'r rhei'ni yn gwbl ol
Eu cabledd iw mynwesau'i hun,
o Arglwydd gun gorchestol.
13 Ninnau dy bobl a'th ddefaid mân,
a wnawn it gân ogonawl,
O oes i oes byth i barhau,
ac i'th fawrhau'n dragwyddol.

Psal. 80.

CLyw di fugail i Israel,
sy'n arwain fel y defaid,
Hil Iagof, a llewyrcha di,
a'steddi ar Gerubiaid.
2 Fel y gwelo Ephraim hyn,
Benjamin a Manasses:
Cyfod, cymorth a gwared ni,
o'th fawr ddaioni cynnes.
3 Llewyrcha d'wyneb, dychwel ni,
Duw di a'n cedwi'n gyflym:
4 Duw y lluoedd, clyw ein gweddi,
pa hyd y sorri wrthym?
5 Llewa'i bara, drwy wylo yn dost,
a wnaethost di i'r eiddod:
A rhoi iddynt ddagrau bob awr,
drwy fesur mawr yn ddiod.
6 Duw i'n gelynion o bob parth
rhoist ni yn warth i'n gwatwar:
7 Llewyrcha d'wyneb, dychwel ni,
felly i'n cedwi'n gynnar.
8 Dugost o'r Aipht winwydden ir,
rhoist iddi dir i dyfu:
A'r holl genhedloedd o bob man,
troist allan cyn ei phlannu.
9 Arloesaist y tir o'i blaen hi,
a pheraist iddi wreiddio:
10 Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawr
fel cedrwydd mawr yn brigo.
11 A'i hiraidd frig ysthyn yr oedd
hyd foroedd ac afonydd:
12 Pam y rhwygaist gae'r fâ'th ber lwyn
i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?
Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,
pan oedd hi'n llawn ffrwyth arni:
13 A'r baedd o'r coed yn tirio 'i llawr,
a'r bwystfil mawr iw phori.
14 O Dduw y lluoedd, edrych, gwyl,
a dychwyl i 'mgleddu
Y winllan hon a blennaist di,
â'th law, a'i rhoddi 'dyfa.
15 Lle cadarnheist i ti dy hun,
dy brif blanhigyn dedwydd:
16 Llygrwyd â'r cledd, a'r tân yn faith,
a hyn o waith dy gerydd:
17 I gryfhau gwr dy ddehau law,
boed drostaw dy fraich nerthol:
Hwn a sicchreist i ti dy hun,
sef dros fab dyn dewisol.
18 Tros hwn tra rhoddych di dy law,
oddiwrthaw ni ddychwelwn:
O Dduw, dadebra, by wha ni,
ar d'enw di y galwn.
19 A dadymchwel nyni i fyw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd:
Tywynna arnom d'wyneb-pryd,
ni a gawn iechyd bythoedd.

Psal. 81.

O Cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a genau ffraeth,
gerddwriaeth i Dduw Iago.
2 Cymerwch gathl y psallwyr lân,
a moeswch dympan hefyd:
A cheisiwch ganu gydâ hyn
y nabl a'r delyn hyfryd.
3 Cenwch vdcyrn ar loer newydd,
y pryd sydd nodol iddo:
4 Sef deddf yw hon ar wyl vchel,
Duw Israel ac Iago.
5 Yn Joseph clymmodd hyn yn ddyfg,
pan ddaeth o fyfg yr Aiphtwyr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im',
heb ddeall dim o'i hystyr.
6 Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwyddau:
Ac felly tynnais eich dwy law,
i'madaw a'r ffwrneisiau.
7 I'th flinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di Sut yma:
Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meribba.
8 Fy mhobl Israel gwrando fi,
os ystyri yn ffyddlon:
9 Na fid ynot arall yn Dduw,
na chrymma'i gaudduw estron.
10 Myfi yr Arglwydd Dduw a'th ddug
o'r Aiphtir caddug allan:
Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,
lleda dy safn yn llydan.
11 Ni choeliai Israel fy rhybudd,
ni fyddent vfydd imi:
12 Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hun,
iw cyngor cyndyn hynny.
13 Och na wrandaŵsai Israel,
gan rodio'n ffel fy llwybrau:
14 A phwys fy llaw llethaswn fron
eu holl elynion hwythau.
15 Caseion ein Duw, yn ei lid,
a ostyngêsyd iddaw.
Ac ef a roesai yn y tir
ammodau hir i'r eiddaw.
16 Ein Duw a roesai iddynt borth,
drwy frasder cymorth rhadol:
Rhoi mel o'r graig, rhoi llaeth yn flith,
a gwenith yn ddigonol.

Psal. 82.

HOll farnwyr byd mae Duw'n eu mysg,
pe cymrent addysg gantho:
Duw yw ymysg y duwiau mân,
a'i farn sy lân heb wyro.
2 Pa hyd y rhoddwch farn ar dro,
gan bleidio gydâ'r trowsion?
3 I'r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,
pa ham na fernwch vnion.
4 Gwrandewch chwi ar y gwan a'r gwael,
a'r tlawd heb gael mo'i gyfraid,
(Pan ddel y rhei'ni gar eich bron)
o ddwylo'r trowsion diriaid.
5 Gwyr heb wybod, heb ddeall chwaith
sy'n rhodio taith tywyllni:
Ni syflent hwy, pe siglai'nghyd,
yr hollfyd a'i sylfeini.
6 Dwedais mai duwiau ych yn siwr,
a phlant i'r Gwr goruchaf:
Er hyn mal dyn marw a wnewch,
vn gwymp a gewch a'ch hynaf.
7 Duw cyfod, a dyro farn ar
y ddaiar a'i thyrnasoedd:
Cans mawr yw d'etifeddiaeth, di
a feddi'r holl genhedloedd.

Psal. 83.

NA ostega, na thaw, na fydd
di lonydd Duw y lluoedd:
2 Wele, d'elynion yn cryfhau,
gan godi 'pennau i'r nefoedd.
3 Ymgyfrinachu dichell ynn',
y lle mae ganthyn fwriad,
A dychymygu dilen brudd,
i ni sy'n ymgudd danad.
4 Dwedasant, dewch difethwn hwynt
na byddo honynt genhedl:
Ac na byddo byth (meddant hwy)
am Israel mwy mor chwedl.
5 Ymgynghorasant bawb ynghyd,
ac yn vn fryd i'th erbyn,
6 Edom, Ismael, Moab blaid,
a'r holl Hagariaid cyndyn.
7 Gebal, Ammon, Amalechiaid,
Philistlaid a gwyr Tyrus:
8 Assur, yn gydfraich â phlant Lot,
fal dyna gnot maleisus.
9 Tâl dithau adref yn y man,
megis i Madian greulon,
I Sisera, ne'i Jabin swrth,
a laddwyd wrth lan Cizon.
10 Yn Endor gynt bu laddfa fawr
ar hyd y llawr ar wasgar:
Gwna honynt hwythau laddfa ail,
a'i cyrph yn dail i'r ddaiar.
11 Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,
ac Oreb yr vn diwedd:
A'i twysogion fel Zeba,
a Salmunna i orwedd.
12 Dwedent y 'mynnent yn eu byw
gysegrfa Duw i'w meddiant:
13 Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,
dyna yr hynt a gaffant.
14 Fal y llysg y tân bob pren crin,
a'r fflam yr eithin mynydd;
15 Felly â'th 'storm, ymlid hwy'n gynt
nâ dychryn corwynt efrydd.
16 Llanw eu tâl o warth a chwys,
ceisiant ar frys yr Arglwydd.
17 Ac yn dragwyddol iddynt bydd,
gywilydd, mefl, a gwradwydd.
18 Difether hwynt: gwyped dyn byw
mai d'enw di yw Jehovah:
Ac mai ti vnic Dduw sydd ar
y ddaiar yn oruchaf.

Psal. 84.

DY Babell di mor hyfryd yw
(o Arglwydd byw y lluoedd)
2 Mynych chwenychais weled hon,
rhag mor dra-thirion ydoedd.
Mae f'enaid i (fy Ion) mewn blys,
i'th gyssegr lys dueddu:
Fy'nghalon i, a'm holl gnawd yw,
yn Nuw byw'n gorfoleddu.
3 A deryn y to cafodd dy,
a'r wennol fry iw chywion
Le wrth dy allor di iw trin,
fy Nuw a'm brenin tirion,
4 Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,
caiff dy folianny ddigon:
5 Ac ynot ti sy'n cadarnhau,
a'th lwybrau yn eu calon.
6 Pe rhon a gorfod ar y rhai'n
rhyd glyn wylofain dramwy:
Gosodant ffynnon iddyn nhw,
a'r glaw a leinw fwyfwy.
7 Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,
nes cael yn brydferth ddyfod:
I'mddangos i Dduw gar ei fron,
yn Sion ei breswylfod.
8 Arglwydd Dduw y lluoedd clyw fi,
a'm gweddi o Dduw Jagof:
9 Gwel wyneb d'eneiniog, a'i stâd,
Duw'n tarian nâd fi'n angof.
10 Gwell yw nâ mil, un dydd i'th dy,
am hynny mwy dewisol.
Im fod ar riniog y drws tau,
nâ phlasau yr annuwiol.
11 Sef, haul a tharian yw Duw mâd,
a rydd râd a gogoniant:
Ni lestair ef ddaioni maith,
i'r rhai a berffaith rodiant.
12 O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
anfon i lawr dy gymmod:
Dedwydd yw'r dyn a rotho'i gred,
a'i holl ymddiried ynod.

Psal. 85.

DA wyd i'th dir (Jehova Ner)
dychwelaist gaethder Iago:
2 Maddeuaist drowsedd dy bobl di,
mae'i camwedd wedi'i guddio.
3 Tynnaist dy lid oddiarnom ni,
troist dy ddiglloni awchlym:
4 (O Dduw ein nerth) tro ninnau'n well,
a'th lid bid bell oddiwrthym.
5 A'i byth y digi wrthym ni?
a sorri di hyd ddiwedd?
A saif dy lid o oes i oes?
Duw gwrando, moes drugaredd.
6 Pam? oni throi di a'n bywhau,
a llawenhau yr eiddod?
7 O dangos in dy nawdd mewn pryd,
felly cawn iechyd ynod.
8 Beth a ddywaid Duw am danaf,
mi a wrandawaf hynny:
Fe draetha hedd iw bobl, a'i Sainct,
rhag troi ym mraint ynfydu,
9 I'r rhai a ofnant Arglwydd nef,
mae 'i iechyd ef yn agos:
Felly y caiff gogonia [...] hir,
o fewn ein tir ni ar [...]s.
10 Ei drugaredd, a'i wirionedd,
ar unwaith cyfarfuant:
Ei uniondeb, a'i hedd ynghyd,
drwy'r tir a'm gydgusanant.
11 Gwirionedd o'r ddaiar a dardd,
uniondeb chwardd o'r nefoedd:
12 Duw a ddenfyn in' ddaioni,
a'n tir i roddi cnydoedd.
13 Uniondeb oedd o flaen Duw nef,
a'r cyfion ef aed rhagddo:
A Duw a rodia yn ei waith,
fel i'r un daith ac efo.

Psal. 86.

GOstwng o Arglwydd y glust dau,
clyw fy'ngweddiau trymion:
Gwrando fi sy'druan a thlawd,
o'th barawd drugareddion.
2 Cadw fy oes, gwr cynnwys wy,
ac itti'r ydwy'n credu:
Duw bydd achubwr da i'th wâs,
o'th râs dyrd i'm gwaredu.
3 Trugarha wrthif Arglwydd mâd,
cans arnad llefa'n ddibaid:
4 Einioes dy wâs Duw llawenhâ,
cans attad coda' f'enaid:
5 Cans ti o Arglwydd ydwyd dda
i'th bobloedd a thrugarog,
I'r rhai a alwant atnat ti,
mae dy ddaioni'n bleidiog.
6 O Arglwydd clyw fy llais mor llym,
a'm gweddi y'm myfyrdod:
7 Clywi fy llais, gweli fy'nglwyf,
y dydd y bwyf i'm trallod.
8 Ymysg y duwiau nid oes un,
fel dydi gun gogoned:
Ymysg gweithredoedd cymmain hûn,
nid oes yr un un-weithred.
9 Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)
o'th flaen don ac addolant:
A pha le bynnag ar y bont
i'th enw rhont ogoniant.
10 Cans tydi ydwyd fawr a phur
yn gwneuthur rhyfeddodau:
A thydi'n unig wyd yn Dduw,
ni cheifiwn amryw dduwiau.
11 Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)
câf yn rhwydd dy wirionedd:
Gwna fy nghalon yn un â thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.
12 Fy Arglwydd Dduw moliannaf di
â holl egnify nghalon:
Ac i'th fawr enw byth gan dant,
y rhof ogoniant cyfon.
13 Cans mawr yw dy drugaredd di
tu ac attaf fi yn barod,
Gwaredaist f'enaid i o'r bedd,
ac o'r gorddyfnedd isod.
14 Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,
fel llu o weilch ewin-ddrud:
Ceisient ddwyn f'einioes o'r byd hwn,
iw golwg gwn nad oeddud.
15 Ond tydi'n unig wyd hawddgâr,
a chlaear dy drugaredd.
Hwyr i'th lid, ac i gymmod hawdd,
llawn o nawdd a gwirionedd.
16 O edrych arnaf, moes dy râs
i'th wâs y sydd i'th orllwyn:
Dod im'dy nerth, cadw fal hyn
fi, plentyn dy lawforwyn.
17 O Dduw dod o'th serch im'arwydd,
er gwradwydd i'm caseion:
Pan welant dy fod yn rhoi nerth
im', ac ymadferth ddigon.

Psal. 87.

SAilfeini hon (sef Sion) sydd,
ar gyssegr fynydd ucho:
2 Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,
uwch pob trig-lannerch Iago.
3 O ddinas Duw, preswylfa'r Ion,
mawr ydyw'r son am danad:
A gogoneddus air it' sydd,
uwch trigfennydd yr holl-wlad.
4 Rahab, Babel, a Phalestin,
a Thirus flin, a'r Mwriaid,
A fu i'th blant elynion gynt,
mae rhai o honynt unblaid.
5 Ond dwedir hyn am Sion ber,
so anwyd llawer ynthi,
Nid ymbell un: cans swccwr da
yw Duw gorucha' iddi.
6 Fe rydd yr Arglwydd yn ei rif,
y neb fo cyfrif hono:
Efe a esyd hyn ar led
sef, Hwn a aned yno.
7 Cantor tafod, a cherddor tant,
pob rhai it' canant fawr-glod:
A thrwy lawenydd mae'n parhau,
fy holl ffynhonnau ynod.

Psal. 88.

O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,
mae'ngweddi'n ufydd arnad,
2 Gostwng dy glust, O Arglwydd nef,
a doed fy llef hyd attad.
3 Cans mae fy enaid mewn dull caeth,
a'm heinioes aeth i'r beddrod:
4 Fel gwr marw y rhifwyd fi,
a'm nerth oedd wedi darfod.
5 Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a'i taflu 'nghlâdd mewn angof,
A laddyt di mor siwr a hyn,
na bai byth honyn atgof.
6 Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,
ac mewn tywyllwch eithaf.
7 Rhoist bwys dy ddig ar y corph mau,
a'th holl for-donnau arnaf.
8 Pellheist fy holl gydnabod da,
r'wyf yn ffieidd-dra iddyn:
Ni chaf fi fyned at un câr,
yr wyf mewn carchar rhydyn.
9 Y mae fy'ngolwg (gan dy lid)
mewn gofid o fawr gystydd.
Duw llefais arnad yn fy mraw,
gan godi nwylaw beunydd.
10 Ai i'r meirw dangosi wyrth?
a ddônt i'th byrth i'th foli?
11 A draethir dy fawl yn y bedd,
a'th lân wirionedd heini?
12 Ai mewn tywyll y mae dy râd?
a'th iowndeb yngwlâd angof?
13 Fal hyn (Duw) llefais arnat ti,
o clyw fy'ngweddi etto.
14 Pam (o f' Arglwydd a'm Duw) i'm rhaid
y rhoi f'enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wyneb pryd?
fy'nghoel i gyd sydd ynod.
15 Truan mron marwolaeth wyf,
mewn trymglwyf o'm ieuenctyd
A'th ofni bum yn 'nychbeth gwael,
gan ammau cael mo'r iechyd.
16 Dy ddig a lifodd drofof fi,
d'ofn sydd i'm torri'n efrydd,
Fel deifr y daethant yn fy'nghylch,
do, do, o'm hamgylch bounydd.
17 Y mhell oddiwrthyf rhoist bob câr,
pob cyfaill hygar heibio,
A'm holl gydnabod a fu gynt,
yr ydynt yn ymguddio.

Psal. 89.

MYfyriaf gerdd byth i barhau,
o drugareddau'r Arglwydd:
A 'i wirionedd i'm genau fydd,
hyd dragywydd yn ebrwydd.
2 Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,
adeiledir trugaredd:
I barhau byth cair yn y nef
dy gadarn gref wirionedd.
3 Fal hyn (o Dduw) attebaist im',
mi a wneuthym rwym gan dyngu
I Ddafydd f'etholedig wâs,
a'r gair o'm grâs yn tarddu.
4 Fal hyn sicrhâf dy hâd di byth,
a gwnaf wehelyth drefniad.
I'th gadarn faingc o oed i oed,
mi a rof bob troed yn wastad.
5 Am hyn y siccrwyd tragwyddawl
y nef a fawl dy wyrthiau,
Yngorsedd Sainct, ynghyrchfa hedd,
am bur wirionedd d'eiriau.
6 Pwy sydd cystal â'n harglwydd cu,
pe chwilid llu'r wybrennau?
Ymysg Angylion pwy mal Ion,
sef ymhlith meibion duwiau?
7 Drwy gynnulleidfa ei Sainct ef,
Duw o'r nef sydd ofnadwy:
A thrwy'r holl fyd o'n hamgylch ni,
i ofni sydd ddyladwy.
8 Pwy sydd debig i ti Dduw byw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd?
Yn gadarn Ior, a'th wir i'th gylch,
o amgylch yr holl nefoedd.
9 Ti a ostyngi y môr mawr,
a'r don hyd lawr yn ystig:
10 A nerth dy fraich curi dy gâs,
yr Aipht, fal gwâs lluddedig.
11 Eiddod nef a daiar i gyd,
seiliaist y byd a'i lanw:
12 Gogledd, deau, Tabor, Hermon,
sy dirion yn dy enw.
13 l'th fraich mae grym', mae nerth i'th law,
a'th gref ddeheulaw codi:
14 Nawdd a barn yw dy orsedd hir,
a nawdd a gwir a geri.
15 Eu gwnfyd i'r holl bobl a fydd,
a fo'i llawenydd ynod:
Ac yn llewyrch dy wyneb glân
y rhodian i gyfarfod.
16 Yn d'unig enw di y cânt,
fawl a gogoniant beunydd,
Yn dy gyfiownder codi'a wnânt,
ac felly byddant ddedwydd.
17 Cans tiwyd gryfder eu nerth hwy,
lle y caffent fwy o dycciant:
Dydi a ddarchefi eu cyrn,
ac felly cedyrn fyddant.
18 Cans o'r Arglwydd a'i ddaioni,
y daw i ni amddiffin:
O Sanct Israel drwy ei law,
oddiyno daw ein brenin.
19 I'th sanct y rhoist gynt wybodaeth,
drwy weledigaeth nefol:
Gosodais gymorth ar gryf gun,
derchefais un dewisol,
20 Cefais (eneiniais ef yn ol)
fy'ngwâs dewisol Dafydd
Ag olew sanct: 21 Braich a llâw gref,
rhoist gyd ag ef yn llywydd.
22 Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,
na'i ddrygu un mab enwir:
23 O'i flaen y coetha'i elynion,
a'i holl gaseion dihir.
24 Fy'ngwirionedd, a'm trugaredd,
rhof fi trwy gariad iddo,
Ac yn fy enw fi 'yn ddi orn,
dyrchefir ei gorn efo.
25 Gosodaf ei law ar y môr,
ac o'r goror bwygilydd:
A gosodaf ei law ddeau,
hyd terfynau'r afonydd.
26 Efa weddia arnaf fi
iw galedi, gan ddwedyd,
Ti yw fy'nhad, fy Nuw, fy'ngharn,
yn gadarn o'm ieuenctyd.
27 Minnau gwnaf yntau im yn fab,
yn gynfab ac etifedd,
Ar frenhinoedd y ddaiar las,
yn uwch ei ras a'i fowredd.
28 A chadwaf iddo (yr un wedd)
drugaredd yn dragwyddol:
A'm cyfammod iddo yn llawn,
yn ffyddlawn, ac yn nerthol.
29 Gosodaf hefyd byth i'w had,
nerth a mawrhâd nwch bydoedd:
A'i orsedd-faingc ef i barhau.
un wedd a dyddiau'r nefoedd.
30 Ond os ei blant ef (drwy afrol)
nid ânt yn ol fy nghyfraith,
Os hwy ni rodiant, gan barhau,
i'm beirn a'm llwybrau perffaith.
31 Os fy neddfau a halogant,
ni chadwant fy holl eirchion,
32 Yna ymwelaf a'i cam gwrs,
â gwiail scwrs, neu goedffon.
33 Ond ni thorraf ag ef un nod,
o'm hammod a'm trugaredd:
Ac ni byddaf fi ddim yn ol,
o'm ystyriol wirionedd.
34 Ni thorraf fy nghyfammod glân,
a ddaeth allan o'm genau,
Ac ni newidiaf air o'm llw,
mi a rois hwnnw'n ddiau.
35 Yn fy sancteiddrwydd tyngais im
na phallwn ddim i Ddafydd,
36 Bydd ei had a'i drwn, yn ddi draul
o'm blaen fel haul tragywydd.
37 Yn dragywydd y siccrheir ef,
fel cwrs (is nef) planedau,
Haul neu leuad felly y bydd
ei gwrs tragywydd yntau.
38 Ond ti a'n ffieiddiaist ar fyrr,
ac yn ddiystyr lidiog;
Di a gyffroaist yn dra blin,
wrth dy frenin eneiniog.
39 Diddymaist di dy air i'th was,
a'th râs, a'th a ddewidion:
Ac a'i halogaist ef yn fawr,
gan daflu'i lawr ei goron.
40 A drylliaist ei fagwyrydd ef,
a'i gaer gref rhoi'st yn adwy,
41 Yn egored felly y mae
yn brae i bawb sy'n tramwy.
42 Iw gym'dogion gwarthrudd yw ef,
a than law gref ei elyn,
A llawen iawn y codent floedd,
bob rhai a oedd i'w erbyn.
43 Troist hefyd fin ei gleddau ef,
a'i law oedd gref a blygaist:
44 Darfu ei lendid ef a'i wawr,
a'i drwn i'r llawr a fwriaist.
45 Pryd ei ieuenctyd heibio'r aeth,
a thi a'i gwnaeth cyn fyrred,
A bwriaist drosto wradwydd mawr,
o nen hyd lawr y torred.
46 Pa hyd fy Nuw y byddi'nghudd?
ai byth, fy llywydd nefol?
A lysg dy lid ti fel y tân
yn gyfan yn dragwyddol:
47 O cofia f'oes ei bod yn ferr,
ai'n ofer gynt y gwnaethost
Holl blant dynion? o dal dy law,
ac in' ni ddaw yn rhydost.
48 Pa wry sydd a'i oes dan sel,
na ddel marwolaeth atto?
Pwy a all ddiangc, ac ni ddaw
y caib a'r rhaw i'w guddio?
49 O mae dy nodded Arglwydd gynt?
mae helynt dy drugaredd?
Mae dy lw, o ystyriol ffydd,
i Ddafydd i'th wirionedd?
50 Cofia Arglwydd yn wradwydd llym
lle'r ydym ni, dy weision;
Yr hwn a dawdd i'm monwes i,
gan ffrost y Cowri mowrion.
51 Yr hwn warth'r oedd d'elynion di
it' yn ei roddi'n eidiog,
(Fy Arglwydd Dduw) a'r un syrrhâd
i droediad dy eneiniog.
52 Moler yr Arglwydd byth, Amen,
a byth Amen, hyn fytho.
Moler yr Arglwydd byth, Amen,
a byth Amen, hyn fytho.

Psal. 90.

DUw buost in' yn Arglwydd da,
ac yn breswylfa i drigo,
O bryd i bryd, felly yr aeth
pob rhyw genhedlaeth heibio.
2 Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,
cyn llunio llawr cw mpas-fyd,
Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,
hyd dragwyddoldeb hefyd.
3 Weithiau i ddinistr y troi ni,
troi dithau wedi'n rhydda,
A dwedi cyn ein mynd i'r llwch,
dychwelwch meibion Adda.
4 Cans dec can mlynedd fel doe ynt,
pan elo 'i helynt heibio,
Oth flaen di, megis gwylfa nos,
ni chaiff ymddangos etto.
5 Nid yw dyn ond fel hûn, neu ail
i addail, neu lifeiriant.
Neu megis glâs lysieun gwan,
moi fuan y new idiant.
6 Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,
a gwawr o newydd arno:
Ond pan y torrir ef brydnawn,
yn fuan iawn mae'n gwywo.
7 Cans yn dy lid difethwyd ni
gan ofni dy ddigofaint,
8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,
a'n holl ddirgelion dryghaint:
9 Cans drwy dy ddig mae'n dyddiau ni
a'n tegwch gwedi darfod,
A'n holl flynyddoedd ynt ar ben,
fel gorphen hen-chwedl gorfod.
10 Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,
dau bump chwaneg os bydd grym:
Yna ein nerth ai'n boen blin iawn,
i ffordd yr awn yn gyflym.
11 Ond pwy a edwyn nerth dy lid?
mawr ofid sydd o'th sorri:
Sef fel y mae dy ofn di'n fawr,
dy ddig sydd ddirfawr inni.
12 Dysg felly'n rifo'n dyddiau gwael,
i'n calon gael doethineb.
13 Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawdd
i'th weision nawdd ac undeb.
14 Yn forau iawn diwalla ni
â'th fawr ddaioni eisoes,
Fel y caffom ni lawen fyd
yn hyfryd droes ein heinioes.
15 Gwna ni yn llawen, buom brudd
ban oedd in' gystudd dybryd:
A chwedi llawer blwyddyn drom,
y rhai y cowsom adfyd.
16 O Dduw, gwna weled dy fawr waith
a'th wrthiau maith i'th weision,
A'th odidowgrwydd a'th ffyniant,
ymysg eu plant a'i hwyrion.
17 Arnom ni doed rhâd Duw a'i nerth,
i allu prydferth weithiaw,
Duw dod ein gwaith mewn trefnid dda,
Duw trefna waith ein dwylaw.

Psal. 91.

Y Sawl a drigo, doed yn nes,
yn lloches y Goruchaf,
Ef a ymerys i gael bod
ynghysgod hwn sydd bennaf.
2 Fy holl ymddiffyn wyd a'm llwydd,
wrth fy Arglwydd y dwedaf,
A'm holl ymddiried tra fwy fyw
sydd yn fy Nuw Goruchaf.
3 Cans ef a weryd yr oes dau,
oddiwrth faglau yr heliwr,
A hefyd oddiwrth bla, a haint,
echrysaint, ac anghyflwr.
4 Ei esgyll drosod ef a rydd,
dan ei adenydd byddi
Yn ddiogel: a'i wiredd gred
fydd gylch a bwccled itti.
5 Ni ddychryni er twrf y nos,
na'r dydd o achos hedsaeth,
6 Er haint, neu blâ, mewn tywyll fydd,
neu hanner dydd marwolaeth.
7 Wrth dy ystlys y cwympa mil,
a dengmil o'th law ddeau:
Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,
a thi a'i gwyl yn ddiau.
8 A'th lygaid y gweli di dâl
i'r enwir gwammal anian.
9 Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)
ac uchel yw dy drigfan.
10 Ni ddigwydd niwed it', ond da,
na phla, na dim' echryslon,
I'th eglwys a'th gynlleidfa nawdd,
11 cans archawdd iw Angylion,
I'th ffyrdd dy gadw, a'th gynllwyn,
a'th ddwyn â'i dwylaw hardd-deg,
12 Rhag digwydd it ddrwg hyd yn oed
taro dy droed wrth garreg.
13 Dy sangfa fydd ar y llew dig,
a'r asp wenwynig sethri:
Ar greulon genau'r llew o'r graig,
ac ar y ddraig y sengi.
14 Mi a'i gwaredaf ef rhag brâd,
am roi ei gariad arnaf,
Am adnabod fy enw mau,
yn ddiau y derchafaf.
15 Geilw arnaf, mi'ai gwrandawaf,
mewn ing y byddaf barod,
Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,
a chaiff drwy urddas fowrglod.
16 Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,
caiff yn y byd hir ddyddiau.
Dangosaf iddo radlawn faeth,
a'm iechydwriaeth innau.

Psal. 92.

MOliannu'r Arglwydd da iawn yw,
a chyfarch Duw yn bennaf:
A chanu i'th enw di fawl,
a'th ganmawl (y Goruchaf.)
2 Y borau am dy drugaredd,
a'th wirionedd son y nos,
3 Ar ddectant, nabyl, a thelyn,
myfyrio hyn a'i ddangos.
4 Sefdrwy dy weithred llawen wyf,
ynnyn rwyf yn fy Nuw Naf:
Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,
beunydd y gorfoleddaf.
5 Dy weithredoedd ond mowrion ynt?
6 Dy helynt nis gwyr anghall:
Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,
hyn nis gwyr ynfyd ddeall.
7 Pan flodeuo yr enwir ddyn,
megis llyseuyn iraidd,
Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,
Duw yno rhaid eu diwraidd.
Y drwg flagur uchel yr ânt,
a hwy a syrthiant beunydd:
8 Tithau yr Arglwydd yn ddigel,
wyt uchel yn dragywydd.
9 O Arglwydd wele d'elynion,
dy gaseion difethir;
A holl weithredwyr trais a cham,
yn ddinam a wasgerir.
10 Tydi a dderchefi fy'nghorn,
fel yr unicorn perffaith.
Hefyd â gwerthfawr olew ir,
i'm taenellir i eilwaith.
11 Fy llygaid a welant hefyd,
fy'ngwynfyd o'm gelynion.
A'm clustiau y glywant ar frys
f'ewyllys am ddrwg ddynion.
12 Y cyfion blodeua i'r nen,
fal y balm wydden union,
Cynyddu yn iraidd y bydd,
fel cedrwydd yn Libanon.
13 Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,
yn goedwydd byw y tyfant,
Ac ynghynteddau ein Duw ni
y rhei'ni a flodeuant.
14 A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint
yn amser henaint etto,
Tirfion, iraidd, a phrofadwy
a fyddant hwy yn hilio.
15 I ddangos nad traws, ac nad cam
yw f'Arglwydd, a'm cadernyd,
Ac nad oes yntho na chamwedd,
na dim anwiredd hefyd.

Psal. 93.

TEyrnasu y mae yr Arglwydd,
mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:
Ymwisgodd f'Arglwydd yn brydferth,
a nerth yr ymwregysodd.
2 Fe a sicrhâodd sail y byd
heb sy flyd, yn ddihareb;
Dy faingc erioed a ddarparwyd,
ti wyd er tragwyddoldeb.
3 Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) faint
y llifeiriant yn codi,
Tyrfau a llif yn rhwygo'r llawr,
a thonnau mawr yn coethi.
4 Cadarn yw tonnau y moroedd,
gan dyrfau dyfroedd lawer.
Cadarnach yw yr Arglwydd mau,
yn nhyrau yr uchelder.
5 Dy dystiolaethau ynt siwr iawn;
sef cyfiawn yw sancteiddrwydd,
A gweddus yn dy dy di fydd,
byth yn dragywydd f'Arglwydd.

Psal. 94.

O Arglwydd Dduw, Duw mawr ei rym,
dialwr llym pob traha,
O Dduw y nerth, ti biau'r tâl,
a'r dial, ymddisgleiria.
2 Ymddercha di farnwr y byd,
a thâl i gyd eu gobrwy,
I'r beilchion a'r trahaus dod,
y tâl a fo dyladwy.
3 Ba hyd? (o Arglwydd) o ba hyd,
y chwardd gwyr byd drygionus?
4 Yr ymfalchiant yn eu drwg,
gan fygwth amlwg ffrostus?
5 A'th bobl di (Arglwydd) a faeddant,
a chystuddiant dy dretâd,
6 Y weddw, a'r dieithr a laddant,
lliasant yr amddifad.
7 Dwedasant hyn heb geisio cel,
ein gwaith ni wel yr Arglwydd,
Ac ni ddeall Duw Iago hyn,
inni ni ddisgyn aflwydd.
8 Ymysg y bobloedd difraw don,
ystyriwch ddynion angall,
Chwithau ynfydion, o ba bryd
y rhowch eich bryd ar ddeall?
9 Hwn a wnaeth y glust i bob byw,
oni chlyw ef yn amlwg?
Ac oni wyl hwnnw yn hawdd
a luniawdd i ni olwg?
10 oni cherydda hwnnw chwi
sy'n cosbi pob cenhedlaeth?
Ac oni wyr hwnnw y sy'n
dysgu i ddyn wybodaeth?
11 Gwyr yf Arglwydd feddyllau dyn
mai gwagedd ydyn diffaith,
12 Duw dedwydd yw a gosbech di,
a'i fforddi yn dy gyfraith:
13 Yr hon a ddysg i ddyn warhau,
i fwrw dyddiau dihir.
Tra foer yn darparu y clawdd,
y fan y bawdd yr enwir.
14 Cans ein lor ni ei bobl ni âd,
a'i wir dretâd ni wrthyd,
15 Ef at iawn farn a gadarnhâ,
a phob dyn da a'i dilyd.
16 Pwy a gyfyd gydâ myfi,
yn erbyn egni trowsedd?
Pa rai a safant ar fy nhu
yn erbyn llu anwiredd?
17 Oni bai fod Duw imi yn borth,
ac ystyn cymorth imi,
Braidd fu na ddaethai im' y loes
a roesai f'oes i dewi.
18 Pan fawn yn cwyno dan drymhau,
rhag bod i'm camrau lithro.
Fy Arglwydd, o'th drugaredd drud,
di a'm cynhelud yno.
19 Pan fo ynof amlaf yn gwau,
bob rhyw feddyliau trymion,
Doe dy ddiddanwch di ar dro,
i gysuro fy'nghalon.
20 A oes gyfeillach i ti Dduw,
a maint yr annuwolion?
Hwn a lunia enwiredd maith,
yn lle y gyfraith union.
21 Y rhai sy'n ymdyrru ynghyd,
ar fryd dwyn oes y cyfion:
Ac yn eu cyngor yr ymwnaed
i geisio gwaed y gwirion.
22 Ond yr unic Ior sydd er hyn,
yn llwyr amddiffyn f'enaid:
Ef' yw fy' nerth o'm hol a'm blaen,
a seilfaen fy ymddiriaid.
23 Efe a dâl i bob dyn drwg,
yn amlwg am ei gamwedd:
I maleisus tyn Duw o'r byd,
am ei chwyd o enwiredd.

Psal. 95.

O Dowch a chanwn i'r Arglwydd,
efe yw llwydd ein bywyd:
Ac ymlawenhawn yn ei nerth,
ef yw ein prydferth iechyd.
2 O down yn un-fryd gar ei fron,
â chalon bur ddiolchgar:
Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,
a chanwn psalmau'n llafar.
3 Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,
y sy Dduw mawr yn ddiau:
Tywysog mawr yw ef mewn trin,
a brenin yr holl dduwiau.
4 Efe biau 'r holl ddaiar gron,
a'r dyfnder eigion danaw:
Uchelder hefyd, eithafoedd,
mynyddoedd sydd yn eiddaw.
5 Ef biau'r moroedd vwch pob traeth,
ac ef a'i gwnaeth i ruo:
Ei ddwylaw ffurfiasant yn wir
y sych-dir ac sydd yntho.
6 O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,
ac ymostyngwn iddaw:
Ef yw ein Arglwydd vn-ben rhi,
ef a'n gwnaeth ni â'i ddwylaw.
7 Cans ef i ni y sydd Dduw da,
a phobl ei borfa ydym:
A'i ddefaid ym, os chwi a glyw
ei air ef heddyw'n gyflym.
8 Meddyliwch fod eich bai ar led,
na fyddwch galed galon:
Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,
lle cofir bod ymryson.
9 Y lle temtiodd eich tadau fi,
a'm profi i'm adnabod:
Faint ydoedd y gweithredoedd mau,
yn ddiau cawsant wybod.
10 Dros ddeugain mlynedd â'r llin hon
drwy fawr ymryson, dwedais,
Pobloedd ynt cyfeiliornus iawn,
a'i calon yn llawn malais.
Cans nid adwaenent y ffyrdd mau,
onid amlhau eu tuchan:
11 Wrthynt i'm llid y tyngais hyn,
na ddelyn i'm gorphwysfan.

Psal. 96.

O Cenwch glod i'r Arglwydd mâd,
a moeswch ganiad newydd:
Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,
yr Arglwydd nefawl beunydd.
2 Cenwch chwi glod i'r Arglwydd nef,
a'i enw ef bendigwch,
A'i iechydwriaeth drwy grefydd,
o ddydd i ddydd cyhoeddwch.
3 Datcenwch byth ei glod a'i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd,
A'i ryfeddodau ef ym 'mhlith,
pob amryw, amrith bobloedd.
4 Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr
a rhagawr canmoladwy,
Uwch yr holl dduwiau y mae ef,
yn frenin nef ofnadwy.
5 Duwiau y bobl eulynnod ynt,
ni ellynt mwy na chysgod:
A'n Duw ni a wnaeth nef a llawr
fal dyna ragawr gormod.
6 Cans mawr ydyw gogoniant nef,
ac o'i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gyssegr ef y mae nerth,
a phrydferth yw'r hyfrydwch.
7 Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i'r Arglwydd,
I'r Arglwydd rhowch ogonedd fry,
a nerth, a hynny'n ebrwydd.
8 Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwydd nef byth bythoedd,
A bwyd offrwm iddo a rowch,
a chwi dowch iw gynteddoedd.
9 Addolwch f' Arglwydd gar ei fron,
iw gyssegr, digon gweddol:
A'r ddaiar rhagddo, hyd, a lled,
dychryned yn aruthrol.
10 I'r holl genhedloedd dwedwch hyn,
yr Arglwydd sy'n teyrnasu:
Nid ysgog y byd sy'n siccr iawn,
ef a wyr vniawn farnu.
11 O llawenhaed nefolaidd do,
i'r ddaiar bo gorfoledd:
Rhued y môr a'i donnau llawn,
a'r pysg sy'mewn ei annedd.
12 A gorfoledded y maes glâs,
ei dwf, a'i addas ffyniant:
A phob pren gwyrdd sydd yn y coed,
i'r Arglwydd rhoed ogoniant.
13 Am ei ddyfod, am ei ddyfod,
a'i farn sydd hynod iownwedd:
Barna yn gyfion yr holl fyd,
a'r bobl, â'i gyd-wirionedd.

Psal. 97.

YR Arglwydd ydyw ein pen rhaith,
bo perffaith y ddaiaren:
Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,
bont hwy i gyd yn llawen.
2 Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,
hyfrydwch nef gyfannedd:
Iawnder a barn ydynt yn sail,
ac adail maingc ei orsedd.
3 Tân â o'i flaen ef, ac a lysg
ym mysg ei holl elynion:
4 A'i fellt yn fflamio trwy'r holl fyd,
oedd olwg enbyd ddigon.
5 O flaen Duw fel y tawdd y cwyr,
y bryniau'n llwyr a doddent:
O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ar
y ddaiar y diflannent.
6 Yr holl nefoedd yn dra hysbys
a ddengys ei gyfiownedd,
A'r holl genhedloedd a welsant
ei fawr ogoniant rhyfedd.
7 Gwradwydd i'r rhai a wasnaethan,
y delwau mân cerfiedig:
Addolwch ef (nid eulun cau)
holl dduwiau darfodedig.
8 Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)
a glybu Sion ddedwydd;
Merched Juda (o herwydd hyn)
sy'n ynnyn o lawenydd.
9 Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,
oruchaf dros y ddaiar:
Rhagorol yw'r derchafiad tau
uwchlaw'r holl dduwiau twyllgar.
10 Pob drygioni chwi a gasewch,
caru a wnewch yr Arglwydd,
Hwn sydd yn cadw oes ei Sainct,
i'w dwyn o ddrygfraint afrwydd.
11 Mewn daiar yr egina 'i hâd,
goleuad daw i'r cyfion,
Yn ol tristwch fo dry y rhod,
i lân gydwybod union.
12 Yn yr Arglwydd, o'r achos hon,
chwi gyfion llawenychwch,
Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,
â llais hyd nêf moliennwch.

Psal. 98.

CEnwch i'r Arglwydd newydd gân,
ei waith fu lân ryfeddod:
Ei law ddeau a'i fraich a wnaeth,
i'n iechydwriaeth parod.
2 Yr Arglwydd hysbys in'y gwnaeth
ei iechydwriaeth gyhoedd,
A'i gyfiownder ef yn dra hawdd
datguddiawdd i'r cenhedloedd.
3 Fe gofiodd ei drugaredd hir,
A'i wir i dy Israel,
Fel y gwelodd terfynau'r byd
ei iechyd yn ddiymgel.
4 I'r Arglwydd â chaniad llafar,
chwi yr holl ddaiar cenwch,
A llafar lais, ac eglur lef,
fry hyd y nef y lleisiwch.
5 Cenwch i'r Arglwydd Dduw fal hyn
â'r delyn, a chywirdant:
A chydâ'r delyn lais a thôn,
rhowch iddo gyson foliant.
6 Canu yn llafar ac yn rhwydd,
o flaen yr Arglwydd frenin:
Ar yr udcyrn, a'r chwythgyrn pres,
fal dyna gyffes ddibrin.
7 A rhued y môr mawr i gyd,
a'r byd, ac oll sydd ynthynt,
8 Y llif-ddyfroedd, a'r mynyddoedd,
y mae yn addas iddynt.
9 Curant, canant, o flaen Duw cu,
yr hwn sy'n barnu'r bydoedd.
I'r byd y rhydd ei farn yn iawn,
ac yn uniawn i'r bobloedd.

Psal. 99.

YR Arglwydd Dduw yw ein brenin,
er maint yw trin y bobloedd.
Mae'n eistedd rhwng dau gerubyn,
fe gryn' pob daiar leoedd.
2 Canys brenin mawr ydyw'r Ion
yn Seion o'i dderchafel:
Ac uwchlaw pobloedd yr holl fyd,
y sydd o rydyd uchel.
3 Cydfoliannant o'r nef i'r llawr
dy enw mawr rhagorol:
Ofnadwy, sanctaidd, yw iw drin.
4 tithau (o frenin nerthol)
A geri farn, darperi iawn:
yn gyfiawn heb draws osgo,
A barnedigaeth bur ddidost,
a wnaethost di yn Jago.
5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw,
sef sanctaidd yw i'w fawredd:
Ymgrymmwch o flaen ei stol draed,
felly parhaed ei fowledd.
6 Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,
ymhlith offeiriaid gyrrodd:
Samuel galwai ei enw ef,
yntau o'r nef attebodd.
7 Mewn colosh o niwl y bu wiw,
gan Dduw lefaru wrthynt,
Tra fuant hwy yn cadw ei fodd,
a'r ddeddfa roddodd iddynt.
8 Gwrandewaist arnynt dodaist ged,
a'i harbed, gan ymattal:
Duw ein Nâf, dy nawdd parod fu,
a hwythau 'n haeddu dial.
9 Derchefwch ein Duw Ior am hyn,
yn Sion fryn cyssegraidd,
Y mgrymmwch iddo yn eich byw,
sef unig Dduw sydd sanctaidd.

Psal. 100.

I'R Arglwydd cenwch lafar glod,
a gwnewch ufydd-dod llawen fryd,
2 Dowch o flaen Duw a pheraidd don,
trigolion y ddaear i gyd.
3 Gwybyddwch mai'r Arglwydd sydd Dduw,
a'n gwnaeth ni'n fyw fel hyn i fod,
Nid ni'n hunain, ei bobl ym ni,
a defaid rhi' eiborfa a'i nod.
4 O ewch i'w byrth a diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
Bendithiwch enw Duw hynod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.
5 Cans da yw'r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a dilyth,
A'i wirionedd ini a roes.
o oes, i oes, a bery byth.

Psal. 101.

DAtcanaf drugaredd a barn,
i'r Arglwydd cadarn canaf.
2 Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,
hyd oni ddelych attaf.
A rhodiaf yn fy' nhy yn rhwydd,
a thrwy berffeithrwydd calon.
3 Pob peth drwg sydd gennif' yn gâs,
a childyn ddyrras ddynion.
4 Calon gyndyn ynof ni bydd,
drwg weithydd ni'dnabyddas.
5 Sclandrwr dirgel, a'r balch uchel
o'r achos ni oddefaf.
6 Ar ffyddloniaid mae 'ngolwg i,
fe lyn y rhei'ni wrthy:
7 A'r hwn a rodio mewn ffordd dda,
hwn a wasanaetha immi.
8 Ni chaîff aros o fewn fy'nhy,
un dyn ac sy dwyllodrus,
Yn fy'ngolwg un dyn ni bydd,
a unic gelwydd trefnus,
9 Holl annuwolion fy' ngwlâd faith,
yn forau ymaith torraf:
Fel na ddelont i ddinas Dduw,
y cyfryw a ddiwreiddiaf.

Psal. 102.

O Arglwydd, erglyw fy'ngweddi,
a doed fy'nghri hyd attad:
2 Na chudd d'wyneb mewn ing tra fwyf,
clyw, clyw, pan alwyf arnad.
3 Fy' nyddiau aethant fel y mwg,
sef cynddrwg im cystuddiwyd:
Fy esgyrn poethant achos hyn,
fal tewyn ar yr aelwyd.
4 Fy' nghalon trawyd â chryn iâs,
ac fel y gwellt-glas gwywodd:
Fel yr anghofiais fwyta 'mwyd;
dirmygwyd fi yn ormodd.
5 Glynodd fy esgyrn wrth fy'nghroen
gan faint fy' mhoen a'm tuchan,
6 Fel un o'r anialwch lle y trig
y pelig, neu'r dylluan.
7 Neu fel un o adar y to,
a fai yn gwilio 'i fywyd,
Yn rhodio'n unic ben y ty:
wyf anhy ac anhyfryd.
8 Fy'ngelynion â thafod rhydd,
hwy beunydd a'm difenwant:
A than ynfydu yn ei gwyn,
i'm herbyn y tyngasant.
9 Fel llwch a lludw yn fy' mhla,
fu'r bara a fwyteais:
Yr un wedd yn y ddiod fau
fy' nagrau a gymysgais.
10 A hyn fu o'th ddigofaint di,
am it' fy' nghodi unwaith:
Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,
i'r llawr i'm teflaist eilwaith.
11 Fy' nyddiau troesant ar y rhod,
ac fel y cysgod ciliant;
A minnau a wywais achos hyn.
fel y glaswelltyn methiant.
12 Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,
a barhei yn dragwyddol,
O oes i oes dy Enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.
13 O cyfod bellach trugarhâ,
o Dduw bydd dda wrth Sion:
Mae'n fadws wrthi drugarhau,
sel dyma 'r nodau 'n union:
14 Cans hoff iawn gan dy weision di
ei meini a'i magwyrau,
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
a'i thristwch, a'i thrallodau.
15 Yno yr holl genhedloedd byw
yr Arglwydd Dduw a ofnant,
A'r holl frenhinoedd trwy y byd,
a ront it gyd-ogoniant.
16 Pan adeileder Sion wych,
a hon yn ddrych i'r gwledydd;
Pan weler gwaith yr Arglwydd nef,
y molir e'n dragywydd.
17 Edrychodd hwn ar weddi'r gwael,
rhoes iddynt gael ei harchau:
18 Scrifennir hyn: a'r oes yn ol
a gaiff ei ganmol yntau.
19 Cans Duw edrychodd o'r nef fry,
ar ei gyssegrdy, Sion:
20 Clybu ei griddfan, er rhyddhau
plant angau 'i garcharorion.
21 Fel y cydleisient hwy ar gân
yn Seion lân, ei foliant;
Ac ynghaer-Salem yr un wedd,
ei fowredd a'i ogoniant.
22 Hyn sydd pan gafglo pawb ynghyd,
yn unfryd iw foliannu:
A'r holl dyrnasoedd dont yngwydd
yr Arglwydd, iw wasanaethu.
23 Duw ar y ffordd lleihâdd fy'nerth,
byrrhâdd fy' mrhydferth ddyddiau,
A mi'n disgwyl rhyddhâd ar gais,
24 yno y dywedais innau:
O Dduw na thorr fy oes yn frau,
ynghanol dyddiau f'oedran:
Dy flynyddoedd di sydd erioed,
o oed i oed y byddan.
25 Di yn y dechrau dodaist sail,
odd'isod adail daiar:
A chwmpas wybren uwch ein llaw,
yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.
26 Darfyddant hwy, parhei di byth,
treuliant fel llyth trwssiadau.
27 Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant
felly newidiant hwythau:
Titheu Arglwydd, yr un wyt ti,
a'th flwyddau ni ddarfyddant.
28 Holl blant dy weision gar dy fron,
a'i hwyrion a bresswyliant.

Psal. 103.

FY enaid mawl sanct Duw yr Ion,
a chwbl o'm eigion ynof.
2 Fy enaid n'âd fawl f' Arglwydd nef,
na'i ddoniau ef yn angof.
3 Yr hwn sy'n maddau dy holl ddrwg,
yr hwn a'th ddwg o'th lesgedd;
4 Yr hwn a weryd d'oes yn llon,
drwy goron o'i drugaredd.
5 Hwn a ddiwalla d'enau di
â'i lawn ddaioni pybyr:
Drwy adnewyddu it' dy nerth,
mor brydferth a'r hen eryr.
6 Yr Ion cyfiawnder, barn a wnai
i'r rhai sydd orthrymedig.
7 Dangos a wnaeth ei brif ffyrdd hen
i Foesen yn nodedig:
Ac i Israel ei holl ddawn.
8 Duw llawn yw o drugaredd:
Hwyr yw ei lid, parod ei râd,
fal dyna gariad rhyfedd.
9 Nid ymryson ef â ni byth,
nid beunydd chwyth digofaint,
10 Nid yn ol ein drygau y gwnai
â ni: ni'n cosbai cymmaint.
11 Cyhyd ac yw'r ffurfafen fawr
oddi ar y llawr o uchder,
Cymaint i'r rhai a'i hofnant ef.
fydd nawdd Duw nef bob amser.
12 Os pell yw'r dwyrain olau hin
oddiwrth orllewin fachlud;
Cyn belled ein holl bechod llym,
oddiwrthym ef a'i symmud.
13 Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwant,
tâd da iw blant naturiol,
Felly cawn serch ein tâd o'r nef,
os ofnwn ef yn dduwiol.
14 Efe a'n hedwyn ni yn llwyr,
fe wyr mai llwch yw'n defnydd:
15 Oes dyn fel gwellt-glas sy'n teghau
neu ddail, neu flodau maesydd.
16 Yr hwn, cyn gynted ac y del
y gwynt â'i awel drosodd,
A chwythir ymaith felly o'i le,
na wyddis ple y tyfodd.
17 Ond graslawn drugaredd a fydd,
yn lân dragywydd feddiant,
O oes i oes heb drangc, heb drai,
gan Dduw i'r rhai a'i hofnant.
18 A'i gyfiownder i blant y plant
a gadwant ei gyfammod:
O chofiant ei orchmynion ef,
mae teyrnas nef yn barod.
19 Yno mae ei orseddfa ef,
sefyn y nef tragwyddol:
A llywio y mae ef bob peth,
drwy ei frenhinieth nefol.
20 Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,
angylion, a'i holl gedyrn.
Ei lân orchymmyn ef a wnewch,
a'i lais gwrandewch yn drachwyrn.
21 Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner
ei luoedd tyner tirion.
Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir
chwychwi ei gywir weision.
22 Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef
ei hollwaith ef sy hylwydd:
Ym mhob mân oll o'i drefn a'i hawl,
O f'enaid mawl di'r Arglwydd.

Psal. 104.

FY' enaid mola'r Arglwydd byw,
o f' Arglwydd Dduw y mawredd,
Mawr wyt, gogoniant a gai di,
ym wisgi ag anrhydedd.
2 Megis ei ddillad y gwysg fo
am dano y goleuad:
Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,
yn llydan, fel llen wastad.
3 Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,
gwnaeth y cymylau iddo
Yn drwn olwynog: mae ei hynt
uwch esgyll gwynt yn rhodio.
4 Gwnaeth bob chwythad iddo'n gennad,
gogonedd y ffurfafen:
A'i weinidogion o fflam dân,
a wibian rhyd yr wybren.
5 Cref y rhoes sail y ddaiar gron,
fel na syfl hon oddiyno:
Yr hon a bery fel y rhoes,
o oes i oes, heb siglo.
6 Tydi (Dduw) a ddilledaist hon
â'r eigion yn fantellau;
Ac oni bai dy ddehau law,
ai'r deifr uwchlaw y bryniau.
7 Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,
fel pan y synio taran:
Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,
y deifr iw hol a lithran.
8 Weithiau y codai'r deifr yn fryn:
weithiau fel glyn panhylent,
Lle trefnaist iddynt bannwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.
9 Gosodaist derfyn lle yr arhont,
ac fel nad elont drosto:
Ac na ddelônt hwy fyth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.
10 Rhoes Duw ffynnon i bob afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhed y ffrydau rhyd y glynn,
a rhwng pob bryn a'i gilydd.
11 Yfant yno anfeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon.
12 Ac adar awyr dont gar llaw,
i leisiaw rhwng y coedydd:
Yn canu ei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen ufydd.
13 Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlych â glaw oddiarno:
A'r gwastad tir efe a'i gwlych,
bob grwn a rhych i ffrwytho.
14 Parodd i'r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliad: a'r llysiau,
Er da i ddyn: Lle rhoes o'r llawr,
ymborthiant mawr rhag angau.
15 A gwin llawena calon dyn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gwr,
mewn cyflwr digonoldeb.
16 Preniau'r Arglwydd o sugn llawn,
o'i unic ddawn y tyfan.
Sef y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e'n llawr y Liban.
17 Lle y mae nythodd yr adar mân,
mewn preniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn
mae ty'r aderyn trwynhir.
18 Y mynydd uchel a'r bryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wna les,
yn lloches i'r cwningod.
19 Fe roes i'r lleuad i chwrs clau,
a'i chyfnewidiau hefyd:
A'r haul o amgylch y byd crwn,
fo edwyn hwn ei fachlyd.
20 Tywyllwch nos a roed wrth raid
fwystfiliaid y coedydd.
21 Y llewod rhuaut am gael maeth
gan Dduw, ysclyfaeth beunydd.
22 A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddel haul attyn unwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
ac iw llochesau eilwaith.
23 Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,
ac iw orchwyliaith esgyd;
Ac felly yr erys tân yr hwyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
24 O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o'th synwyr berffaith dradoeth!
Gwnaethost bob peth â doethder dawn,
a'r tir sy lawn o'th gyfôeth.
25 A'r llydan fôr, y deifr ymmysg,
lle aml yw pysc yn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr od,
bwy stfilod mawr a bychain.
26 Yna yr â y llongau glân
dros y Leviathan heibio.
Yr hwn osodaist di, lle y mae
yn cael ei chwarae yntho.
27 Hwynt oll disgwiliant yn ei bryd
am gael oddiwrthyd borthiant.
I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,
ie am ei bywyd byddant.
28 Duw, pan agorech di dy law,
oddi yno daw daioni:
Pob anifail a phob rhyw beth,
a ddaw yn ddifeth ini.
29 Pan guddiech di dy wyneb-pryd,
a chasglu d' yspryd allan,
Crynant, trengant, ac ant iw llwch,
mewn diwedd trwch a thwrstan.
30 Duw, pan ollyngech di dy râd,
fel rhoddi cread newydd,
Y modd hyn wyneb yr holl dir
a adnewyddir beunydd.
31 Yr Arglwydd gogoneddus fydd
drwy fawr lawenydd bythoedd.
Yr Arglwydd yn ddiau a fedd,
orfoledd yn y nefoedd.
32 Ein Duw o'r nef a edrych ar
y ddaiar, a hi a ddychryn.
Os cyffwrdd a'r mynyddoedd draw,
y mwg a ddaw o honŷn.
33 Canaf i'r Arglwydd yn fy myw,
canaf i'm Duw tra fythwyf:
34 Mi a lawenhaf yn fy Ion,
Bydd ffyddlon hyn a wnelwyf.
35 Y trawsion oll o'r tir ânt hwy,
ni bydd mwy annuwolion.
Fy enaid, mola Dduw yn rhodd:
mae hyn wrth fodd fy nghalon.

Psal. 105.

CLodfored pawb yr Arglwydd nef,
ar ei enw ef y gelwch,
A'i weithredoedd ymmysc pobloedd,
yn gyhoedd a fynegwch.
2 Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a'i ddidwn ryfeddodau.
3 Y rhai a gais ei enw, (y Sanct)
llawenant yn eu calonnau.
4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth mawr,
a'i fodd bob awr yn rhadlon,
5 Cofiwch ei holl ryfeddodau,
a barn ei enau cyfion.
6 O hâd Abraham ei wâs fo,
o feibion Jaco'r ethol:
7 Efe yw'n Duw, a'i farn ef aeth
dros holl diriogaeth fydol.
8 Bob amser cofiodd ei gyn-grair,
ei air, a'i rwym ammodau
9 Ag Abraham, Isaac, a'i hil,
a mil o genhedlaethau.
10 Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,
ac yn rwym greddf dragwyddol.
11 Ac i Israêl y rhoes lân
wlâd Canaan yn gartrefol.
12 Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,
a hwy 'n ddieithriaid ynddi;
13 Ac yn rhodio o'r wlad i'r llall,
yn dioddef gwall a chyni:
14 Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o'r achos hyn brenhinoedd
A geryddodd ef yn eu plaid:
a'i air a gaid yn gyhoedd,
15 A'm eneiniog na chyffyrddwch;
na ddrygwch fy' mrhophwydi.
16 Galwodd am newyn ar y tir,
yn wir dug fara' honi.
17 O flaen ei blant y gyrrodd râs,
Joseph yn wâs a werthwyd.
18 Ar ei draed y rhoed hayarn tyn,
mewn gefyn y cystuddiwyd.
19 Gwisgodd y gefyn hyd y byw,
nes i air Duw amseru:
Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,
a phrifiad er ei garu.
20 Yna y gyrrwyd iw gyrchu fo
gar bron hen Pharo frenin:
Ac y gollyngwyd ef ar led,
o'i gam gaethiwed ryflin.
21 O hyn ei osod ef a wnaeth
yn bennaeth ar ei deuly,
Ac o'i holl gyfoeth ef a'i wlâd,
ys da fawr-hâd oedd hynny.
22 I ddyscu'i reolwyr ei lys,
ei wllys a'i fodlondeb:
I fforddio henuriaid y wlâd,
yn wastad mewn doethineb.
23 Daeth Israel i'r Aipht tir Cham,
lle'r oedd yn ddinam estron;
24 Lle llwyddodd Duw hil Iago bach
yn amlach nâ'i caseion.
25 Yna y troes ei calon gau,
i lwyr gasau ei bobloedd:
Iw weision ef i wneuthur twyll,
a llid (nid amwyll ydoedd.)
26 Duw gyrrodd Foesen ei was hen,
ac Aaron llen dewisol.
27 Yn nhir Ham i arwyddoccau
ei nerth a'i wrthiau nodol.
28 Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,
er hyn ni châd vfydd-dod.
29 Eu dyfroedd oll a droed yn waed,
a lladd a wnaed eu pysgod.
30 Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,
yn stefyll ei brenhinoedd:
31 Daeth ar ei air wybed, a llau,
yn holl fannau eu tiroedd.
32 Fe lawiodd arnynt genllysc man,
a'i tir â thân a ysodd;
33 Eu gwinwydd a'i ffigyswydd mâd,
a choed y wlâd a ddrylliodd.
34 Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,
yn difa cnwd eu meusydd,
35 Vwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,
a hyn drwy air Duw ddofydd.
36 Cyntaf-anedig pob pen llwyth,
a'i blaen ffrwyth ef a drawodd;
Ym mhob man drwy holl dir ei gâs:
a'i bobl o'i râs a gadwodd.
37 Ac a'i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,
o'winedd eu caseion:
Heb fod o honynt vn yn wan,
ac aur ac arian ddigon.
38 A llawen fu gan wyr y wlad,
o'r Aipht pan gâd eu gwared:
Daeth arnynt arfwyd y llaw gref,
a ddaeth o'r nef i wared.
39 Rhoes Duw y dydd gwmwl uwchben,
fel mantell wen y toôdd,
A'r nos goleuodd hwynt â thân,
fal hyn yn lân y twysodd.
40 Fo a roes iddynt ar y gair
gig sofl-iair iw bodloni:
A bara, o'i orchymmyn ef,
a ddaeth o'r nef iw porthi.
41 Holltodd y graig, daeth deifr yn llif,
fel be baent brif afonydd:
Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlych
rhyd pob lle sych o'r gwledydd.
42 Cofio a wnaeth ei air a'i râs,
i Abram ei wâs ffyddlon.
43 A thrwy fawr nerth yn rhydd o gaeth
y gwnaeth ei ddewisolion.
44 Tir y cenhedloedd iddynt rhoes,
a'i llafur troes iw meddiant:
45 Er cadw ei air a'i gyfraith ef,
rhowch hyd y nef ei foliant.

Psal. 106.

MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd:
Oblegid ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
2 Yr Arglwydd pwy all draethu ei nerth
a'i holl dirion ferth foliant?
3 A wnel gyfiownder gwyn eu byd,
ei farn i gyd a gadwant.
4 O Arglwydd, cofia fi dy wâs,
yn ol dy râs i'r eiddod:
Ymwel â mi i'm cystudd caeth,
â'th iechydwriaeth barod.
5 Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,
wych urddas d' etifeddiaeth.
Ac y cydganwyf fawl vn don,
a'th ddewisolion odiaeth.
6 Pechod, camwedd, ac annoethedd,
gwnaethom gyda'n tadau:
Ef a gaed arnom ormod gwall,
heb ddeall dy fawr wyrthiau.
7 Yngwlâd yr Aipht wrth y môr coch,
yn gyndyn groch anufydd:
Heb gofio amled fu dy râs
haeddasom atgas gerydd.
8 Etto er mwyn ei enw ei hun,
Duw cun a ddaeth i'n gwared:
I bery i'r byd gydnabod hyn,
ei fod ef cyn gadarned.
9 Y dyfnfor coch a'i ddyfrllyd wlych,
a wnaeth e'n sych â'i gerydd:
Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,
fel mynd rhyd ystlys mynydd.
10 Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,
o ddwylaw eu caseion:
Ac y tywysodd ef ei blant
o feddiant eu gelynion.
11 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,
nid oedd vn byw heb foddi:
12 Yna y credent iw air ef,
a'i gerdd hyd nef ai'n wisgi.
13 Er hyn, tros gof mewn amser byrr,
y rhoent ei bybyr wrthiau:
Heb sefyll wrth air vn Duw Ior,
na'i gyngor, na'i ammodau.
14 Ond cododd arnynt chwant a blys,
yn nyrys yr anialwch:
Gan demptio Duw â rheibus fol,
ynghanol y diffeithwch.
15 Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,
rhoes annhycciannys a flwydd.
16 Lle digient Foses wrth eu chwant,
ac Aron Sant yr Arglwydd:
17 Egorai'r ddaiar yn y man,
a llyngcai Ddathan ddybryd;
Ac a gynhullodd i'r vn llam,
holl lu Abiram hefyd.
18 Ac yn ei ddig enynnodd tân,
yn fuan yn eu canol:
Llosgi y rhai'n, eu terfyn fu,
yn vlw, y llu annuwiol.
19 Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun llo
ac iddo ymgrymmasant:
20 I lun llo a borai wellt mân'
y troesan eu gogoniant.
21 Anghofient wrthiau Duw ar hynt,
(a fuasai gynt achubwr.
Yngwlâd yr Aipht. 22 Môr coch, tir Ham)
heb feddwl am eu cyflwr.
22 Dwedodd mai eu difetha wnai,
oni bai iw was Moesen
Drwy sefyll o'i blaen iw lid maith
droi ymaith eu drwg ddilen.
23 Dirmygent hwy y prydferth dir,
ac iw air gwir ni chredent:
24 Ond yn eu pebyll grwgnach tro,
ac arno ni wrandawent.
25 Yno y derchafodd Duw ei law,
iw cwympiaw drwy'ranialwch:
26 Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,
iw tanu mewn distyrwch.
27 A Baal-Peor aent ynghyd,
ymgredu i gyd ag efo:
Ebyrth y meirwon a fwytent,
a Duw a roddent heibio.
28 Fal hyn digiasant f'Arglwydd Dduw,
â chyfryw goeg ddychmygion:
Yntau anfonodd bla'n eu mysg,
fal dyna derfysg greulon.
29 Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wres i ddial:
A phan roes hwn ei farn yn dda,
Duw ar y pla rhoes attal.
30 A chyfrifwyd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes, i oes (drwy air Duw Ion)
pan ddelai son am dano.
31 Ac wrth lan dwfr Meribbah gynt,
yno 'y cyffroynt gynnen,
Lle 'y digient Dduw â'i crasder ffraeth,
am hyn bu'n waeth i Foesen,
32 Wrth gythruddo yspryd y Sanct,
hwy a barasant hefyd
Iw enau draethu gair ar fai,
ar na pherthynai 'i ddwedyd.
33 Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,
34 Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.
35 Gwasanaethu eu duwiau gau,
y rhai fu faglau iddyn.
36 Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,
o serch i'r cythraul eulyn.
37 A thywalltasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tir (wrth aberthu eu plant)
â gwaed llygrasant weithian.
38 Felly o'i gweithredoedd eu hûn,
yn vn ymhalogasant.
Putteinio wrth ei cwrs a'i bryd,
ac felly cyd-lygrasant.
39 Wrthynt enynnodd Duw mewn dig
am hyn â ffyrnig gyffro.
Câs a ffiaidd felly yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.
40 O'r achos hyn eu rhoddi a wnaeth,
dan bob cenhedlaeth gyndyn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a'i câs yn feistraid arnyn.
41 Eu gelynion aethant yn ffrom,
a'i llaw fu drom a ffyrnig,
Felly y darostyngwyd hwy,
a mwyfwy fu eu dirmig.
42 Mynych-waredodd Duw ei blant,
hwy a'i digiasant yntau
A'i cwrs eu hun: daeth cystudd hir,
am waith eu henwir feiau.
43 Pan welai arnynt ing na thrais,
fo glywai lais eu gweddi,
44 Gan gofio'i air troi nawdd a wnaeth
o'i helaeth fawr ddaioni,
45 A throi yn drugarog a wnaeth,
y gwyr yn gaeth a'i cludynt,
Y rhai y buasai'n fawr eu câs:
cael mwy cymwynas ganthynt.
46 Achub ninnau o blith y rhai'n
i arwain d' enw hyglod,
O Arglwydd Dduw, cymell ni'n gu
i orfoleddu ynod.
47 Duw Israel bendigaid fydd,
yn dragywydd Jehova:
A dweded yr holl bobl Amen,
molwch Dduw llen gorucha.

Psal. 107.

MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliennwch Dduw ein llywydd,
O blegid ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
2 Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
Y sawl a'achubwyd, caned hyn,
o law y gelyn creulon.
3 A gasglodd o bedwar-rhan byd,
dowch chwi i gyd-ganeuau.
O dir y dwyrain dowch mewn hedd,
gorllewin, gogledd, deau.
4 Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,
y buasent gynt yn crwydro
Allan o'r ffordd: heb dref na llan,
lle caent hwy fan i drigo.
5 Drwy newyn, syched bu'rdaith hon,
a'i calon ar lewygu:
6 Ar Dduw y galwent y pryd hyn,
pan oeddyn ymron trengu.
Yna eu gwared hwynt a wnaeth,
o'i holl orthrym-gaeth foddion,
7 Rhyd yr iawn ffordd fe'i dug mewn hedd
i dref gyfannedd dirion,
8 Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac er plant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau:
9 Ddiwallu honaw einioes dyn,
rhag newyn a rhag syched:
Ac o'i fawr râs eu cadw i gyd,
pan oedd y byd yn galed.
10 Y rhai mewn tywyllwch a drig,
ynghysgod llewig angau,
Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,
a heyrn ar eu sodlau.
11 A hyn o herwydd iddynt fod,
mewn anufydd-dod eithaf,
A llwyr ddirmygu gair Duw Ior,
a chyngor y Goruchaf.
12 A thrymder calon cwympiwyd hwy
nid oedd neb mwy a'i cododd.
13 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
ac yntef a'i gwaredodd.
14 Ef a'i gwaredodd hwynt o'i drwg,
sef o dywyllwg caeth-glud,
O gysgod angau eu rhyddhau,
a thorri eu rhwymau hefud.
15 Addefent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
16 Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrn
a'r barriau heyrn hefyd:
17 Am eu bai a'i camwedd yn wir,
y poenir y rhai ynfyd.
18 A hwynt yn laru ar bob bwyd,
fe'i dygwyd at byrth angau.
19 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
achubodd ef hwynt hwythau,
20 Gan yrru ei air iw iachau,
ac iw rhyddhau yn fuan,
A hwynt â'i air tynnu a wnaeth
o'i methedigaeth allan.
21 Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddan:
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
22 Aberthant hefyd aberth mawl,
iw ogoneddawl fowredd,
A mynegant ei waith a'i wyrth,
yn ei byrth mewn gorfoledd,
23 Y rhai a ânt mewn llongau i'r don,
a'i taith uwch mowrion ddyfroedd,
24 A welsant ryfeddodau'r Ion,
a hŷn mewn eigion moroedd.
25 A'i air cyffroe dymestloedd gwynt,
y rhai'n a godynt donnau
26 Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,
ac ofn bob awr rhag angau.
27 Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,
dull meddwyn, synnai arnynt.
28 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
daeth ef a chymorth iddynt,
29 Gwnaeth e'r ystorm yn dawel deg,
a'r tonnau'n osteg gwastad.
30 Yn llawen ddistaw doen i'r lan,
i'r man y bai 'i dymuniad.
31 Cyffesent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
32 Holl gynulleidfa ei bobl ef,
clod Duw hyd nef dyrchafant:
Holl eisteddfeydd pennaethiaid hen,
yn llawen a'i moliannant.
33 Y ffrydau'n ddyrys dir a wnai,
fe sychai ddwfr lle tarddo.
34 A thir ffrwythlawn a wnai'n ddiffrwyth,
lle trig drwg dylwyth yntho.
35 Troes yr anialwch yn llyn glâs,
a'r tir cras yn ffynhonnydd,
36 Lle y gwnai ef drigfan i'r gwael ddyn,
i dorri ei newyn beunydd.
37 Lle yr hauasant faesydd glân,
a llawer gwinllan dyner,
Y rhai a rhoddant lawnder ffrwyth
a chnydlwyth yn ei amser.
38 Cans cynyddasant hwy gan wlith
grasol fendith vn Duw cun,
A'i hanifeiliaid hysb a blith,
rhoes yr vn fendith arnun.
39 Daeth caethder gwedi hyn i gyd,
a drygfyd er eu gostwng.
Gadawodd eu gorthrymmu a'i plau,
cawsant flinderau teilwng.
40 Eu dirmyg ar y beilchion troes,
ac ef a'i rhoes i grwydro
Mewn drysni heb lun ffordd i'w chael,
lle buant wael eu gortho.
41 Yna rhoes y tlawd i well fri,
dug o'r trueni allan,
Gan lwyddo ei deulu, a'i holl blaid,
fel defaid wrth y gorlan.
42 Y rhai cyfiawn a welant hyn,
a chanthyn bydd yn hyfryd,
A'r enwir ceuir ei ddwy ên
ar ei gynfigen fowlyd.
43 Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,
fe roddir iddyn wybod
Faint yw daioni f' Arglwydd in,
wrth hyn y cân gydnabod.

Psal. 108.

PArod yw fy'nghalon (o Dduw)
o parod yw fy' nghalon,
Canaf it a datcanaf wawd,
o fawl fy'nhafawd ffyddlon.
2 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Y nabl ar delyn yn gytun,
deffrof fy hun ar las-ddydd.
3 Mawl itti f' Arglwydd, pan ddeffrof,
a rof ymmysc y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnaf,
lle amlaf y cenhedloedd.
4 Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,
hyd yn nheyrnas nefoedd.
A'th wirionedd di hyd at len
yr wybren a'i therfynoedd.
5 Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion.
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a'i thrigolion.
6 Fal y gwareder drwy hon hwyl,
bob rhai o'th anwyl ddynion.
O achub hwynt â'th law ddehau,
a gwrando finnau'n ffyddlon.
7 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw fy' nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
8 Myfi piau y ddwy dretâd,
sef Gilead a Manasse.
Ac Ephraim yw nerth fy' mhen,
a Juda wen fy' neddf-le.
9 Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f'esgid:
A chwardded Palestina gaeth,
ei chwerthin aeth yn rhybrid.
10 Duw pwy a'm dwg i'r ddinas gref,
pwy a'm dwg i dref Edom?
11 Er it ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw, a'mleddi drosom?
12 O vnic Dduw, bydd i'n yn borth,
mae'n ofer cymorth vndyn.
13 Yn Nuw y gwnawn wrolaeth fawr,
fe sathr i lawr ein gelyn.

Psal. 109.

O Dduw fy'moliant i na thaw,
2 cans genau'r annuwiolion,
A'i tafod twyllgar, a'i safn rhwth,
arnaf sy'n bygwth digon.
3 Daethant i'm cylch â geiriau câs,
rhoent ddiflas sen anynad.
4 Fal hyn i'm talent ddrwg dros dda▪
5 a chas a gaf am gariad.
Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,
i'm herbyn wedi codi,
Fy wyneb attad ti a drois,
ac arnat rhoes fy' ngweddi.
6 Bid Sathan ar ei ddehau law,
i'r swydd y daw yn barod,
7 A phan roer barn, yn euog boed,
a'i weddi troed yn bechod.
8 Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,
a'i swydd arall iw chymryd.
9 Poed yn ymddifaid y bo ei blant,
a'i weddw yn fethiant hefyd.
10 A boed ei blant yn crwydro byd,
i gymryd mân gerdodau:
A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,
lle y bytho hir eu prydiau.
11 Yn rhwyd y ceisiad êi dda syrth
ai lafur pyrth ddieithriaid:
12 Na ddel iddo nawdd am ei fai,
na chwaith i'w rai ymddifaid.
13 Doed distryw dial ar ei hil,
a'i eppil a ddileer,
14 Am bechodau ei dâd a'i fam
y caiff ef lam ryw amser.
15 A bydded hyn i gyd gar bron
yr Arglwydd gyfion farnwr,
Yr hwn a'i torro, fel na bo
mwy gofio eu anghyflwr.
16 Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,
na thrugaredd i ddyn gwan,
Ond erlid tlawd ar isel radd,
a cheisio lladd y truan.
17 Hoffodd felldith a hi a ddaeth,
ac fel y gwnaeth bid iddo,
Casâodd fendith, ac ni chai,
ond pell yr ai oddiwrtho.
18 Gwisgodd felldith fel dillad gwr,
a daw fel dwr iw galon,
Fel olew doed iw esgyrn fo,
hyd oni chaffo ddigon.
19 A'r felldith bid iw gylch yn dyn,
fel yn ddilledyn iddo:
A'i gwisgo hi bid iddo'n dasg,
fel gwregys gwasg am dano.
20 A hyn gan Dduw a gaf yn dâl,
i'r gelyn gwamal enbyd,
A ddweto neu a wnelo gam,
neu niwed am fy' mywyd.
21 Dithau Dduw er mwyn d' enw gwna,
herwydd mai da d'ymwared;
Gwna dy drugaredd a myfi,
a bryssia di i'm gwared.
22 O herwydd tlawd a rheidus wyf,
a dirfawr glwyf i'm calon,
23 Symudiad cyscod a fai'n ffo,
hyn er na welo dynion.
Mor ansefydlog yw fy'stad:
a'r mudiad geiliog rhedyn,
24 Fy'nghnawd yn gul, fy'ngliniau'n wan ddrych,
a tiglan o dra newyn.
25 Gwarth wyf i'm câs yn fy'ngwael
a hwynt wrth edrych arnaf
A'm diystyrent dan droi tro,
a than ben siglo attaf.
26 Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,
cadw fi'n fyw â'th nodded:
27 Fel y gwyper mai gwaith dy law,
yw'r lles a ddaw i'm gwared.
28 Melldithiant nac eiriechant hwy,
dod fendith fwy i minnau,
Bid gwarth i'm gwrthwynebwyr câs
gorfoledd i'th wâs dithau.
29 A gwarth a gwradwydd gwisger hwy
ac fwyfwy y del attynt:
A mantell laes o gwilydd mawr,
gwisg di hyd lawr am danynt.
30 Ond fi, gan ddiolch i'm Ior mau,
â'm genau mawl a ganaf:
Ac a rof glod iw enw cu,
lle bytho 'r llu yn amlaf.
31 O herwydd ar ddeheulaw'r tlawd
y saif ddydd brawd yn gefnog;
I gadw ei enaid ef yn gu,
rhag ei farnu yn euog.

Psal. 110.

DWedai'r Arglwydd wrth f'Arglwydd mau,
ar fy llaw ddeau eistedd:
Nes rhoddi rhai a gais dy waed
yn faingc draed it, i orwedd.
2 'R Arglwydd denfŷn ffrewyll dy nerth
o ddinas fowrwerth Seion,
Pan lywodraethech yn eu mysg,
gwna derfysg ar d'elynion.
3 Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,
ag aberth llaw'n wyllysgar,
Yn sanctaidd hardd daw'r cynnyrch tau
o wlith y borau hawddgar.
4 Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,
ti sy'n offeiriad bythol,
Wrth vrdd Melchisedech odd' fry,
a bery yn dragwyddol.
5 Yr Arglwydd ar dy ddehau law,
brenhinoedd draw a friwa,
Yn nydd ei ddig gwna'n archollion
frenhinoedd cryfion, meddaf.
6 Ar y cenhedloedd rhydd farn iawn,
a'i gwlad gwna'n llawn celanedd
A llawer pen dros wledydd mawr,
a dyrr ei lawr yn vnwedd.
7 O wir frys i'r gyflafan hon,
fe yf o'r afon nesaf,
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,
a'r Arglwydd a'i derchafa.

Psal. III.

CLodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o wyllys calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl.
2 Mawr iawn yw gwrthiau'n Arglwydd nef
hysbys i bawb a'i hoffant.
3 Ei waith a'i iownder pery byth,
a'i wehelyth ogoniant.
4 Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,
am ryfeddodau nerthol.
Cans Arglwydd nawdd fawr yw i ni,
llawn o dosturi grasol.
5 Ef i bob rhai a'i hofnant ef,
rhydd gyfran gref at fywyd:
Ac yn dragywydd y myn fod
cof o'i gafammod hefyd.
6 Mynegodd ef iw bobl i gyd,
gad r [...]yd ei weithredoedd:
A rhoddi iddynt hwy a wnaeth
'tifeddiaeth y cenhedloedd.
7 Gwirionedd a barn ydyw gwaith
ei ddwy law berffaith efo:
A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,
a da y gwnawn eu gwrando.
8 Y rhai'n sy gwedi eu sicrhau,
dros byth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,
a thrwy wirionedd union.
9 Anfonodd gymmorth iw bobl ef,
cyfammod gref safadwy,
Archodd hyn: bo iw enw fawl,
sancteiddiawl ac ofnadwy.
10 Dechreuad pob doethineb ddofn
i bawb yw ofn yr Arglwydd,
Da yw deall y sawl a'i gwnai,
a'i ofn a sai'n dragywydd.

Psal. 112.

DEdwyddol yw mewn buchedd dda
y sawl a ofna'r Arglwydd,
A'i orchymynion anwyl ynt,
bydd iddo helynt hylwydd.
2 Ei hâd fydd nerthol yn y tir,
bendithir hil rhai vnion:
3 Golud a chyfoeth yn ei dy,
tros byth y pery'n gyfion.
4 Yr vnion yn y tywyll cau
caiff fodd i olau weled:
Ystyriol, a thosturiol iawn,
a chyfiawn fydd ei weithred.
5 Gwr da a fydd trugarog fwyn,
rhydd echwyn a chymwynas,
A'i air mewn pwyll a barn a rydd,
a'i weithred fydd yn addas.
6 Ni 'sgogir byth y cyfiawn, gwna
ei goffa yn dragywydd;
7 A chalon ddisigl, ddwys, ddiofn,
a sail ddofn yn yr Arglwydd.
8 Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,
ac atteg sydd iw galon:
Hyd oni chaffo drwy lawn wys,
ei wyllys o'i elynion.
9 Rhannodd a rhoes i'r tlawd yn hy,
byth pery ei gyfiownedd,
A chryfder ei goron yn wir,
dyrchefir mewn gogonedd.
10 Yr anwir edrych, ffromma o ddig,
drwy ffyrnig ysgyrnygiad:
Yr annuwiol a dawdd: fal hyn
fydd terfyn eu dymuniad.

Psal. 113.

CHwi weision Duw molwch yr Ion,
Molwch ei enw â llafar don,
2 Bendigaid fytho ei enw ef.
3 O godiad haul hyd fachlud dydd,
Mawr enw yr Ion moliannus fydd,
yn y byd hwn, ac yn y nef.
4 Derchafodd Duw uwch yr holl fyd,
A'i foliant aeth uwch nef i gyd,
5 pwy sy gyffelyb i'n Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nef,
6 I'r ddaiar hon darostwng ef,
gwyl ef ein cam, clyw ef ein cri.
7 Yr hwn sy'n codi'r tlawd o'r llwch,
A'r rheidus o'i ddiystyrwch,
8 iw gosod uwch pennaethiaid byd.
9 I'r ammlhantadwy mae'n rhoi plant,
Hil teg, a thylwyth, a llwyddiant;
am hyn moliennwch Dduw i gyd.
Gogoniant fyth a fytho i'r Tâd,
A bid gogoniant i'r Mâb rhad,
i'r Yspryd glân gogoniant fo;
Megis gynt yn y dechreu yr oedd;
Ac y bydd byth yn oes oesoedd;
dwedwn Amen, poed felly y bo.

Psal. 114.

PAn ddaeth Israel o'r Aipht faith,
A thy Iaco o estron iaith,
2 Juda oedd ei sancteiddrwydd ef,
Israel oedd benaethiaeth Ior,
3 Gwelodd hyn a chiliodd y môr,
a throes iw hol Jorddonen gref.
4 Neidiai'r mynyddoedd megis hyrdd,
A'r bryniau mal wyn llament ffyrdd,
cawsant wastad megis llawr dol.
5 Ciliaist (o fôr) dywaid pa ham?
Tithau Jorddonen lathraidd lam,
pa'm y dadredaist dithau'n d'ol?
6 Chwychwi fynyddoedd p'am y ffoech,
Fel hyrddod? a ph'am nad arhoech?
a chwithau fryniau fal wyn man?
7 Am mai rhaid ofni Duw Iago,
8 Yr hwn sy'n troi'r graig yn llyn tro,
a'r callestr yn ffynnon ddwfr glân.
Gogoniant fyth, &c. fel yn y Psal. 113.

Psal. 115.

NId ini Arglwydd, nid i ni,
y dodi y gogonedd:
Ond i'th enw dy hun yn hawdd,
er mwyn dy nawdd a'th wiredd.
2 Pa'm y dwedant am danat ti
y cenhedlaethi estron:
A thrwy edliw hynny yn fwy,
ple'y mae'u Duw hwy yr awron.
3 Sef ein Duw ni mae yn y nef,
lle y gwnaeth ef a fynnodd.
4 Eu delwau hwy, aur, arian yn,
a dwylo dyn a'i lluniodd.
5 Safn heb draethu: llun llygaid glân,
y rhai'n ni welan ronyn:
6 Trwyn heb arogl, clustiau ar lled
heb glywed, y sydd ganthyn.
7 Ac i bob delw y mae dwy law
heb deimlaw, traed heb symyd:
Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,
fal dyna ddyfais ynfyd.
8 Fel hwyntwy ydyw' rhai a'i gwnant
a'r rhai a gredant iddynt:
Am hyn ni ddylai neb drwy gred
roi mo'i ymddiried arnynt.
9 O Israel, dod ti yn rhwydd
ar yr Arglwydd dy hollfryd,
Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan,
eu porth a'i tarian hefyd.
10 O ty Aron, dod tithau'n rhwydd,
ar yr Arglwydd dy hollfryd:
Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan,
eu porth a'i tarian hefyd.
11 Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,
rhowch arno'ch vnion hollfryd:
Efe yw'r neb a'ch dwg i'r lan,
eich porth a'ch tarian hefyd.
12 Duw naf a'n cofiodd, ac i'n plith
fo roes ei fendith rhadlon:
I dy Israel rhydd ei hedd,
ac unwedd i dy Aaron.
13 Sawl a'i hofnant bendithiant ef,
yr Arglwydd nef canmolan,
A'i enw sanct o'r nef i'r llawr,
bendithied mawr a bychan:
14 Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach:
Ac a chwanega ar eich plant
ei fwyniant yn rymusach.
15 Y mae iwch fendith a mawr lwydd
gan y gwir Arglwydd cyfiawn,
Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,
a'r ddaiar obry yn gyflawn.
16 Y nef, ie'r nefoedd uwchlaw,
sy yn eiddaw Duw yr Ion,
A'r ddaiar, lle y preswyliant,
a roes ef i blant dynion.
17 Pwy a folant yr Arglwydd? pwy?
gwn nad hwyntwy y meirwon,
Na'r rhai a ânt i'r bedd yn rhwydd,
lle y mae distawrwydd ddigon.
18 Ond nyni ddaliwn yn ein cof
fyth fyth fendithio'r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd yn vn wedd,
â mawl gyfannedd ebrwydd.

Psal. 116.

DA gennif wrando' or Arglwydd nef
ar lais fy llef a'm gweddi:
2 Am iddo fy'nghlywed i'n hawdd,
byth archaf ei nawdd imi.
3 Mae maglau angau i'm cynllwyn,
ym mron fy' nwyn i'm beddrod:
Cefais ing. 4 Ond galwaf fy Ner
i'm hoes, moes dyner gymmod.
5 Cyfion yw'r Ion trugarog iawn,
ein Duw sy lawn o nodded.
6 Duw a geidw'r gwirion: bum i,
mewn cyni, daeth i'm gwared.
7 O f'enaid dadymchwel o'r llwch;
dyrd i'th lonyddwch bellach:
Am i'r Arglwydd fod i ti'n dda,
saf i'th orphwysfa hauach.
8 O herwydd i Dduw wared f' oes,
a'm cadw rhag gloes angau,
Fy' nrhaed rhag llithro i lam ddrwg,
a'm golwg i rhag dagrau.
9 Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,
ym mysg gwyr byw y rhodiaf.
10 Fel y credais felly tystiais,
ar y te-estyn ymma.
11 Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,
mae pob dyn yn gelwyddog,
12 Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,
am dy ddaioni cefnog?
13 Mi a gymmeraf, gan roi mawl,
y phiawl iechydwriaeth,
Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,
ar enw yr Arglwydd bennaeth,
14 I'r Arglwydd talaf yn forau,
fy addunedau ffyddlon,
Y pryd hyn o flaen ei holl lu,
y modd y bu'n fy'nghalon.
15 Marwolaeth ei sainct gwerthfawr yw
yngolwg Duw: 16 O cenfydd,
Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,
mab dy forwynig ufydd.
16 Dattodaist fy' rhwymau yn rhydd,
fy offrwm fydd dy foliant,
17 Enw'r Arglwydd nid â o'm co,
i hwnnw bo gogoniant.
18 I'r Arglwydd bellach tala'n frau
fy addunedau cyfion.
19 Ynghaer Selem dy sanctaidd dy,
o flaen dy deulu ffyddlon.

Psal. 117.

O Cenwch fawl i'r Arglwydd nef,
moliennwch ef genhedloedd,
Molwch ei Enw ef drwy'r byd,
chwithau i gyd y bobloedd.
2 Am ei fod inni yn dda iawn,
yr Arglwydd llawn trugaredd,
A'i air effydd yn parhau byth,
sef ei ddilyth wirionedd.

Psal. 118.

MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugareddau,
sydd yn parhau'n dragywydd.
2 Dweded Israel da yw ef,
a'i nawdd o'r nef ni dder fydd,
3 Dweded ty Aaron mai da yw,
trugaredd Duw'n dragywydd.
4 Y rhai a'i hofnant ef yn lân,
a ganan yr un cywydd,
Rhon iw drugaredd yr un glod,
sef ei bod yn dragywydd.
5 Im hing gelwais ar f' Arglwydd cu
hawdd gantho fu fy' nghlywed:
Ef a'm gollyngodd i yn rhydd
o'i lân dragywydd nodded.
6 Yr Arglwydd sydd i'm gyda'mi,
nid rhaid i'm ofni dynion.
7 Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,
er cosbi fy'ngelynion.
8 Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,
nag mewn un dyn o'r aplaf:
9 Gwell yw gobeithio yn yr Ion,
nâ'r tywysogion pennaf.
10 Doed y cenhedloedd arna'i gyd,
a'i bryd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw'r gwir Arglwydd Naf,
myfi a'i torraf y maith.
11 Daethant i'm cylch ogylch i'm cau,
ac ar berwylau diffaith,
Ond yn enw'r gwir Arglwydd Naf,
myfi a'i torraf ymaith.
12 Daethant i'm cylch fel gwenyn mân▪
fal diffodd tân mewn goddaith,
Yn enw yr Arglwydd yr wyf fi
yn eu diffoddi ymaith.
13 Fy'nghas ddyn gwthiaist atta'n gryf
i geisio gennyf syrthio.
Duw a'm cadwodd, 14 sef Ion fy'ngrym,
fy iechyd i'm ac etto.
15 Am orfoledd Duw y bydd son
yn nhai rhai cyfion dwyfol,
Mai'r Arglwydd Dduw â i law ddehau,
a wnaeth y gwrthiau nerthol.
16 Deheulaw'r Arglwydd drwy ei nawdd
ef a'i derchafawdd arnom,
A dehau law yr Arglwydd ner,
a wnaeth rymusder drosom.
17 Nid marw onid byw a wnaf,
mynegaf waith yr Arglwydd,
18 Hwn a'm cospodd, ond ni'm lladdodd,
yn hyttrach luddiodd aflwydd.
19 Agorwch i'm byrth cyfiownder,
o'i mewn Duw ner a folaf.
20 Porth yr Arglwydd fal dyma fo.
ânt iddo'r rhai cyfiownaf.
21 Minnau a'th folaf yn dy dy,
o herwydd itti 'nghlywed,
Yno y canaf nefol glod
it, am dy fod i'm gwared.
22 Y maen sy ben congl-faen i ni,
a ddarfu i'r seiri ei wrthod.
23 O'r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn
sy gan ddyn yn rhyfeddod.
24 Yr Arglwydd a'i gwnaeth, dyma'r dydd
er mawr lawenydd inni,
Yntho cymrwn orfoledd llawn,
ymlawenhawn am hynny.
25 Attolwg Arglwydd y pryd hyn
yr ym yn erfyn seibiant:
Adolwyn Arglwydd Dduw pâr in,
y pryd hyn gaffael llwyddiant.
26 Bendigaid yw y sawl a ddel
yn Enw yr uchel Arglwydd.
O dy Dduw bendithiasom chwi,
drwy weddi a sancteiddrwydd.
27 Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni,
rhoes i'n oleuni ragor;
Deliwch yr oen a rhowch yn chwyrn
yn rhwym wrth gyrn yr allor.
28 Tydi o Dduw wyt Dduw i mi,
am hyn tydi a folaf:
(Da gwedd it fawl, fy Nuw mau fi)
a thydi a ddyrchafaf.
29 Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd;
O nerwydd ei drugaredd fry,
a bery yn dragywydd.

Psal. 119.

Aleph Rhan. 1.
POb cyfryw ddyn y sydd a'i daith,
yn berffaith, mae fe'n ddedwydd,
Y rhai'n fucheddol a rodian
ynghyfraith lân yr Arglwydd.
2 Y rhai i gyd gwynfyd a gânt,
a gadwant ei orchmynion:
Ac a'i ceisiant hwy yn ddilys,
â holl ewyllys calon.
3 Diau yw nad â y rhai hyn,
i galyn llwybrau gwammal,
4 Ond cadw dy air (a erchaist inn)
a dilyn hyn yn ddyfal.
5 Och fi na chawn unioni'n glau,
fy llwybrau at dy ddeddfod;
6 Byth ni'm gwradwyddid y modd hwn,
tra cadwn dy gyfammod.
7 Mi a'th glodforaf di er neb,
ac mewn uniondeb calon:
Pan ddysgwyf adnabod dy farn,
sy gadarn, ac sy gyfion.
8 Am dy farn mae fy holl amcan,
dy ddeddsau glân a gadwaf.
Na âd fyth fyth fi yn fy nych,
o, tro i edrych arnaf.
Beth Rhan. 2.
9 Pa fodd (o Dduw) y ceidw llanac,
sydd ieuangc, eu holl lwybrau?
Wrth ymgadw yn ol dy air?
pob llwybr a gair yn olau.
10 Dy orchmynion â'm holl galon,
a'i dirgelwch ceisiais oll,
O lluddias fi ar ofer hynt,
oddiwrthynt ar gyfyrgoll.
11 I'm calon cuddiais dy air cu,
rhag imi bechu'n d'erbyn:
12 O Arglwydd bendigaid wyt ti,
o dysg i mi d'orchymmyn.
13 Dy gyfiawn feirn, a'r gwir air tau
a mawl gwefusau traethais,
14 A'th dystiolaethau di i gyd,
uwch holl dda'r byd a hoffais.
15 Dy ddeddf fy' myfyr yw a'm drych,
dy ffyrdd rwy'n edrych arnyn.
16 Mor ddigrif imi yw dy air,
o'm cof nis cair un gronyn.
Gimel Rhan. 3.
17 Bydd dda i'th wâs, a byw a wna,
a'th air a gadwa'n berffaith:
18 A'm llygaid egor di ar lled,
i weled rhin dy gyfraith.
19 Dieithr ydw y fi'n y tir,
dy ddeddf wir na' chudd rhagof,
20 O wir awydd i'r gyfraith hon,
mae'n don fy enaid ynof.
21 Curaist feilch: daw dy felltith di
i'r rhai sy'n torri d'eirchion,
22 Tro oddiwrthif fefl ar gais,
cans cedwais dy orchmynion.
23 Er i swyddogion roi barn gas,
rhoes dy wâs ei fyfyrdod
24 Yn dy ddeddf, hon sydd im i gyd,
yn gyngor hyfryd ynod.
Daleth. Rhan. 4.
25 F' enaid ymron llwch y bedd yw:
o'th air gwna fi'n fyw eilwaith:
26 Mynegais fy ffyrdd, clywaist fi,
o dysc imi dy gyfraith.
27 Par i mi ddeall ffordd dy air,
ar hwnnw cair fy myfyr.
28 Gan ofid f'enaid fu ar dawdd,
a'th air gwnai'n hawdd fi'n bybyr.
29 O'th nawdd oddiwrthif tyn ffyrdd gau
a dysg i'm ddeddfau crefydd.
30 Dewisais ffordd gwirionedd, hon
sydd ger fy mron i beunydd.
31 Glynais wrth dy air, o Arglwydd,
o lludd i'm wradwydd digllon.
32 Yn dy ddeddfau fy rhediad fydd
pan wneych yn rhydd fy'nghalon.
He. Rhan. 5.
33 Duw, ffordd dy ddeddfau dysg i mi,
dros f'eini es hi a gadwaf.
34 O par i'm ddeall y ddeddf hon,
o'm calon mi a'i cyflownaf.
35 Par i'm fynd lwybr dy ddeddf ar frys,
hyn yw fy' wyllys deilwng;
36 A'm calon at dystiolaeth dda,
nid at gybydd-dra gostwng.
37 Tro fi rhag gweled gwagedd gwael
bywha fi'i gael dy ffordd di.
38 Cyflowna d'air â mi dy was,
yna caf râs i'th ofni.
39 Ofnais warth, o tro heibio hon,
da yw d'orchmynion tyner.
40 Wele, f 'awydd i'th gyfraith yw,
gwna im'fyw o'th gyfiownder.
Vau. Rhan. 6.
41 Arglwydd dod dy drugaredd im,
a hyn o rym d'addewid.
42 Drwy gredu'n d'air rhof atteb crwn
i'm cablwr hwn a'm dilid.
43 O'm genau na ddwg-dy air gwir,
i'th farnau hir yw'ngobaith.
44 Minnau'n wastadol cadwaf byth
dy lân wehelyth gyfraith.
45 Mewn rhyddid mawr rhodio a wnaf,
a cheisiaf dy orchmynion.
46 A'th dystiolaethau rhof ar goedd,
o flaen brenhinoedd cryfion.
47 Heb wradwydd llawen iawn i'm cair
yn d'air, yr hwn a hoffais.
48 Codaf fy'nwylo at dy ddeddf
drwy fyfyr, greddf a gredais.
Zain. Rhan. 7.
49 Cofia i'th was dy air a'th raith,
lle y rhois fy' ngobaith arno,
50 Yn d'air mae nghysur i i gyd,
yr hwn mae mywyd yntho.
51 Er gwatwar beilch ni throis ychwaith,
oddiwrth dy gyfraith hoyw-bur.
52 Cofiais (o Dduw) dy ddeddf erioed,
yn honno rhoed i'm gyfur.
53 Y trowsion a ofnais yn faith,
sy'n torri'r gyfraith eiddod:
54 O'th ddeddf y cenais gerdd yn hy,
yn nhy fy' mhererindod.
55 Cofiais d'enw (fy Ion) bob nos,
o serch i'th ddiddos gyfraith.
56 Cefais hynny am gadw o'm bron
dy ddeddf: sef hon sydd berffaith.
Cheth. Rhan. 8.
57 Ti Arglwydd wyt i mi yn rhan,
ar d'air mae f'amcan innau.
58 Gweddiais am nawdd gar dy fron
o'm calon yn ol d'eiriau.
59 Meddyliais am ffyrdd dy ddeddfau,
a throis fy'nghamrau attym.
60 Dy eirchion ar frys a gedwais,
nid oedais ddim o honynt.
61 Er i draws dorf fy speilio i,
dy gyfraith ni anghofiais.
62 Gan godi ganol nos yn frau,
dy farnau a gyffesais.
63 Cyfaill wyf i'r rhai a'th-ofnant,
ac a gadwant dy eiriau.
64 Dy nawdd drwy'r tir sy lawn i'n mysg
Duw dysg i mi dy ddeddfau.
Teth. Rhan. 9.
65 Arglwydd gwnaethost yn dda a'th wâs
yn ol dy râs yn addo.
66 Dysg i'm ddeall dy air yn iawn,
'r wy'n credu'n gyflawn yntho.
67 Cyn fy' ngostwng euthym ar gam,
yn awr wyf ddinam eilwaith.
68 Da iawn a grassawn ydwyt ti,
o dysg i mi dy gyfraith.
69 Dy air er beilch yn clyttio ffug,
â'm calon orug cadwaf.
70 Breision ynt hwy, er hyn myfi,
dy gyfraith di a hoffaf.
71 Fy' mlinder maith da iawn i'm fu,
i ddysgu dy statusoedd.
72 Gwell fu i'm gyfraith d'enau glân,
nag aur ac arian filoedd.
Jod. Rhan. 10.
73 A'th ddwylaw gwnaethost fi dy hân
a rhoist i'm lun yn berffaith:
O par i'm ddeall dy air di,
a dyscaf fi dy gyfraith.
74 Y sawl a'th ofnant gwelant hyn,
bydd llawen genthyn weled,
Am fod fy' ngobaith yn dy air,
yr hwn a gair ei glywed.
75 Duw gwn fod dy farnau'n deilwng,
a'm gostwng i yn ffyddlon:
76 Dod nawdd er cyssur i'm dy wâs,
o'th râs a'th addewidion.
77 Dod i'm dy nawdd, a byddaf byw,
dy gyfraith yw yn felys.
78 Gwradwydder beilch a'm plyg ar gam,
myfyriafam d'ewyllys.
79 Y rhai o Dduw a'th ofnant di,
troer y rhei'ni attaf:
A'r rhai adwaenant er eu maeth,
dystiolaeth y Goruchaf.
80 Bydded fy' nghalon yn berffaith,
yn dy lân gyfraith Arglwydd,
Fel nas gorchuddier yn y byd,
fy wyneb-pryd a gwradwydd.
Caph. Rhan. 11.
81 Gan ddisgwil am dy iechyd di,
mae f'enaid i mewn diffig:
Yn gwilied beunydd wrth dy air,
o Arglwydd cair fi'n ddiddig.
82 Y mae fy llygaid mewn pall ddrych
yn edrych am d'addewyd,
Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i)
i'm diddeni â'th iechyd?
83 Cans wyf fel costrel mewn mwg cau:
cofiais dy eiriau cyfion,
84 Pa hyd yw amser dy wâs di?
Pa bryd y berni'r trowsion?
85 Cloddiai'r beilchion i'm byllau: hyn
sy'n erbyn dy gyfreithiau.
86 Gwirionedd yw d'orchmynion di,
cymmorth fi rhag cam faglau.
87 Braidd na'm difent o'r tir ar gais:
ond glynais wrth d'orchmynion.
88 Bywha fi Dduw, i gadw'yn glau,
dystiolaeth d'enau ffyddlon.
Lamed. Rhan. 12.
89 Byth yn y nef y pery d'air,
o Dduw cair dy wirionedd
O oes i oes: siccrheist y tir
na siglir mo'i amgylchedd.
90 Safant byth wrth dy farnau di,
maent i ti'n weision ufudd.
91 Oni bai fod dy ddeddf yn dda,
i'n difa buasai gystudd.
92 A'th orchmynion y bywheist fi,
am hyn y rhei'ni a gofiais.
93 Eiddo ti wyf, Duw achub fi,
dy ddeddfau di a geisiais.
94 Disgwyl fy lladd mae'r anwir sur:
'r wy'n ystyr dy dystiolaeth.
96 Ar bob perffeithrwydd mae terfyn,
ond ar d'orchymmyn helaeth.
Mem. Rhan. 13.
97 Mor gu (o Arglwydd) gennyf fi,
Dy ddeddf di a'th gyfammod:
Ac ar y rhai'n o ddydd i ddydd,
y bydd fy holl fyfyrdod.
78 Gwnaethost fi â'th orchmynion iach,
yn ddoethach nâ'm gelynion:
Cans gyd â mi yn dragywydd,
y bydd dy holl orchmynion.
99 Gwnaethost fi'n ddoethach (o Dduw Ion)
nâ'r athrawon a'n dyscynt:
Oblegid fy'myfyrdod mau,
dy dystiolaethau oeddynt.
100 Am gadw o honof dy ddeddf di,
mwy nâ'm rhieni delldais:
101 Rhag dryg-lwybr, fel y cadwn d'air
fy' nhraed yn ddiwair cedwais.
102 Rhag dy farnau ni chiliais i,
cans ti a'm dysgaist ynthynt.
103 Mor beraidd gennif d'eiriau iach,
nâ'r mel melusach ydynt.
104 O Arglwydd â'th orchmynion di,
y gwnaethost fi yn bwyllawg:
Am hynny 'r ydwyf yn casau
pob cyfryw lwybraugeuawg.
Nun. Rhan. 14.
105 Dy air i'm traed i llusern yw,
a llewyrch gwiw i'm llwybrau.
106 Tyngais, a chyflowni a wnaf,
y cadwaf dy lân ddeddfau.
107 Cystuddiwyd fi'n fawr, Arglwydd da:
bywha fi'n ol d'addewyd:
108 Bodloner di, o Arglwydd mau,
ag offrwm genau diwyd,
A dysg i'm dy holl farnau draw.
109 f' enaid sy' im llaw'n wastadol:
Am hynny nid anghofiais chwaith,
dy lân gyfraith sancteiddiol.
110 Yr annuwolion i'r ffordd fau,
rhoddasant faglau geirwon:
Ni chyfeiliornais i er hyn,
ond dylyn dy orchmynion.
111 Cymrais yn etifeddiaeth lân,
byth weithian dy orchmynion,
O herwydd mai hwyntwy y sydd,
lawenydd mawr i'm calon.
112 Gostyngais i fy' nghalon bur,
i wneuthur drwy orfoledd,
Dy ddeddfau di tra fwy'n y byd,
a hynny hyd y diwedd.
Samec. Rhan. 15.
113 Dychmygion ofer caseis i,
a'th gyfraith di a hoffais.
114 Lloches a tharian i'm i'th gair:
wrth dy air y disgwyliais.
115 Ciliwch rai drwg oddiwrthifi,
fy Nuw cadwaf ei gyfraith,
116 Cynnal fi â'th air, a byw a wnaf,
ni wridaf am fy'ngobaith.
117 O cynnal fi, fy' Arglwydd Naf,
a byddaf iach dragwyddol:
Ac yn dy ddeddfau iach y bydd
fy llawenydd gwastadol.
118 Sethraist o Arglwydd, yr holl rai
a ai oddiwrth dy ddeddfau:
Am mai oferedd ger dy fron
oedd eu dychmygion hwythau.
119 Difethaist holl rai drwg y tir,
fel y difethir sothach.
Am hyn dy dystiolaethau di,
a gerais i'n anwylach.
120 O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,
fy'ngnhawd am cig a synnodd.
Rhag dy farnedigaethau di,
sy yspryd i a ofnodd.
Ain. Rhan. 16.
121 Barn a thrugaredd a wneuthym,
na ddod fi im caseion:
122 O Arglwydd, dysg ddaioni i'th wâs,
achub rhag câs y beilchion.
123 Pallai'n golwg yn disgwil llawn
iechyd o'th gy fiawn eiriau.
124 Yn ol trugaredd â'th was gwna,
dysg imi'n dda dy ddeddfau.
125 Dy was wyf fi, deall i'm dod,
i wybod dy amodau.
126 Madws it (Arglwydd) roddi barn,
torrwyd dy gadarn ddeddfau.
127 Mwy nag aur hoffais dy ddeddf di,
pe rhon a'i goethi yn berffaith.
128 Yn uniawn oll y cyfrifais,
caseais lwybrau diffaith.
Pe. Rhan. 17.
129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau,
fy enaid innau a'i cadwodd.
130 Egoriad d'air yn olau y caid,
i weiniaid pwyll a ddysgodd.
131 Dyheais gan chwant (o Dduw Ion)
i'th lân orchmynion croyw.
132 Edrych di arnaf, megis ar
y rhai a gâr dy enw.
133 Yn ol d'air cyfarwydda 'nhroed,
anwiredd na ddoed arnaf.
134 O gwared fi rhag trowsedd dyn,
a'th orch ymmyn a gadwaf;
135 Llewyrcha d'wyneb ar dy was:
dysg imi flas dy ddeddfau.
136 Dagrau om golwg llifo'a wnânt,
nas cadwant dy gyfreithiau.
Tsade. Rhan. 18.
137 Cyfiawn ydwyt (ô Arglwydd Dduw)
ac uniawn yw dy farnau.
138 Dy dystiolaethau yr un wedd,
ynt mewn gwirionedd hwythau.
139 Fy serch i'th air a'm difaodd,
pan anghofiodd y gelyn.
140 D'ymadrodd purwyd drwy fawr ras,
hoffodd dy wâs d'orchymyn.
141 Nid anghofiais dy gyfraith lân,
er bod yn fychan f'agwedd.
142 Dy gyfiawnder di cyfiawn fydd:
a'th ddeddf di sydd wirionedd.
143 Adfyd cefais, a chystudd maith:
dy gyfraith yw 'nigrifwch.
144 Gwna i'm ddeall cyfiownder gwi [...]
a byddaf fyw mewn heddwch.
Koph. Rhan. 19.
145 Llefais â'm holl galon, o clyw,
a'th ddeddfau Duw a gadwaf.
146 Arnati llefais, achub fi,
a'th lwybrau di a rodiaf.
147 Gwaeddais, achubais flaen y dydd,
wrth d'air yn ufydd gwiliais.
148 Deffroe fy llygaid ganol nos,
o achos d'air a hoffais.
149 Clyw fi'n ol dy drugaredd dda,
bywha fi'yn ol dy farnau.
150 Arnaf rhai sceler a nessânt:
troseddant dy gyfreithiau.
151 Tithau bydd agos, Arglwydd Dduw:
gwirionedd yw d'orchmynion.
152 Gwyddwn fod dy dystiolaethau,
gwedi eu siccrhau yn gryfion.
Resh. Rhan. 20.
153 Gwel fy nghystudd, gwared ar gais,
cans cofiais dy gyfreithiau.
154 Dadleu fy'nadl, rhyddha fi'n rhodd
yn ol ymadrodd d'enau.
155 Ffordd iechydwriaeth sydd bell iawn
oddiwrth anghyfiawn ddynion,
Am nad ydynt yn ceisio'n glau,
mo lwybr dy ddeddfau union.
156 Dy drugaredd Arglwydd aml yw,
gwna i'm fyw'n ol dy farnau.
157 Llawer sy'm herlid, r'wyfer hyn,
yn dilyn dy lân ddeddfau.
158 Gwelais y traws, a gresyn fu,
iddynt ddirmygu d'eiriau.
159 Hoffais dy ddeddf bywha fi'Arglwydd
herwydd dy drugareddau.
160 Dechrau dy air gwirionedd yw,
o Arglwydd Dduw y llywydd:
A'th gyfiawn farnedigaethau,
sydd yn parhau'n dragywydd.
Schin. Rhan. 21.
161 Y cryf ar gam f 'erlid a wnai,
rhag d'ofn y crynai' nghalon.
162 Oblegid d'air wyf lawen iawn,
fel pe cawn dlysau mowrion.
163 Celwydd ffieidd-dra a gasais,
a hoffais dy gyfreithiau:
164 Seith waith bob dydd y rhof it glod,
am fod yn dda dy farnau.
165 Y sawl a gâr dy air, cânt hedd,
drwg nis goddiwedd 'mhonyn.
166 Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd
gan wneuthyd dy orchymmyn.
167 Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,
a hi yn fawr a hoffais.
168 Am fod fy llwybrau gar dy fron,
d'orchmynion nid anghofiais.
Tau. Rhan. 22.
169 O'th flaen Arglwydd nessaed fy'nghri,
dysg i mi ddeall d'eiriau,
170 Gwared fi'n ol d'ymadrodd rhâd,
del attad fy'ngweddiau.
171 Dy fawl a draetha'ngenau'n wych
pan ddysgych im' dy ddeddfau.
172 Datgan fy nhafod d'air yn rhwydd
herwydd dy gyfiawn eiriau.
173 Cymhorthed dy law fi ar gais,
Dewisais dy orchmynion.
174 Cerais dy iechyd, a'th ddeddf sydd
lawenydd mawr i'm calon.
175 Bo f'enaid byw, a mawl it rhoed:
dy farn boed i'm amddiffyn.
176 Crwydrais fel oen, dy was o cais,
cans cofiais dy orchymmyn.

Psal. 120.

I'M ing y gelwais ar f'Arglwydd,
ac ef yn rhwydd a'm clybu.
2 Duw gwared fi rhag tafod gau,
a genau yn bradychu.
3 Dywaid i mi oes les neu fael,
iw gael, oh dafod distryw?
4 Geiriau fel llymion saethau cawr,
ynghyd a marwawr meryw.
5 Gwae fi aros honof yn llech,
ynghyd â Mesech dwyllgar:
A chyfanneddu a'm gwersyll,
yn nrhowsion bebyll Cedar:
6 Hir y bu f'enaid i sut hon
ymysg caseion heddwch.
7 Os son am lonydd a wnawn î,
rhyfelai rhei'ni'n rhyfflwch.

Psal. 121.

DIsgwyliaf o'r myny doedd draw,
lle y daw i'm help wyllysgar.
2 Yr Arglwydd rhydd i'm gymmorth gref
hwn a wnaeth nef a daiar.
3 Dy droed i lithro ef nis gâd,
a'th geidwad fydd heb huno:
4 Wele, ceidwad Israel lan,
heb hûn na heppian arno.
5 Ar dy law ddeau mae dy Dduw,
yr Arglwydd yw dy geidwad,
6 Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
ar nos nid rhydd i'r lleuad.
7 Yr Ion a'th geidw rhag pob drwg,
a rhag pob cilwg anfad:
8 Cai fynd a dyfod byth yn rhwydd,
yr Arglwydd fydd dy geidwad.

Psal. 122.

I Dy 'r Arglwydd (pan ddwedent) awn
i'm llawen iawn oedd wrando.
2 Sai'n traed o fewn Caer Salem byrth
yr un ni syrth oddiyno.
3 Caersalem lân ein dinas ni,
ei sail sydd ynddi 'i hunan;
A'i phobl sydd ynddi yn gytun,
a Duw ei hun a'i drigfan.
4 Cans yno y daw y llwythau 'nghyd,
yn unfryd llwythau'r Arglwydd:
Tystiolaeth Israel a'i drig-fod,
a chlod iw fawr sancteiddrwydd,
5 Cans yno cadair y farn sydd:
eisteddfod Dafydd yno.
6 Erchwch i'r ddinas hedd a mawl:
a llwydd i'r sawl a'th garo.
7 O fewn dy gaerau heddwch boed,
i'th lysoedd doed yr hawddfyd.
8 Er mwyn fy'mrodyr mae'r arch hon,
a'm cymydogion hefyd.
9 Ac er mwyn ty'r Arglwydd ein Duw
hwn ynot yw'n rhagorol:
O achos hyn yr archaf fi,
i ti ddaioni rhadol.

Psal. 123.

TUedda' ngolwg at y ne'
(fy Nuw) dy le trigianhol.
2 Fel y try gweision eu llygaid
at ddwylo i meistraid bydol.
Llygaid llaw forwyn ar bob tro,
a ddylyn ddwylo'i meistres,
Disgwyliwn arnat (Dduw)'r un wedd
am dy drugaredd gynnes.
3 Dy nawdd Arglwydd, dy nawdd yn rhodd,
dygasom ormodd dirmig.
4 Gan watwar y tynn a'r balch iawn,
yr ym yn llawn boenedig.

Psal. 124.

DYma'r amser yn ddi ymgel,
gall Israel, fynegi,
Yr Arglwydd nef oni bai ei fod,
a'i arfod gydâ nyni.
2 Gydâ ni oni bai ei fod,
pan ddaeth gwrth-drafod dynion:
3 Pan gododd llid i'n, a phoeni,
llyngcasent ni yn fywion.
4 Y dyfroedd a'n boddasent ni,
an hoes dan gefn lli buan:
5 Chwyddasent drosom fel chwydd dwr
fal dyna gyflwr truan.
6 Bendigaid Ior ei law a droes:
ac ef ni roes mo honom
Yn ysglyfaeth i'n rhwygo'n frau,
iw gwâg efeiliau llymion.
7 Ein henaid aeth yn rhydd o lyn
fal yr aderyn gwirion,
Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,
a ninnau aeth yn rhyddion.
8 Ein holl gynnorthwy ni, a'n llwydd,
sy'n nerth yr Arglwydd howddgar,
Yr hwn drwy waith ei ddwylaw ef,
a greawdd nef a daiar.

Psal. 125.

SAwl a'mddiriedant yn Nuw Ion,
byddant fel Seion fynydd,
Yr hwn ni syfl: a'i sylwedd fry,
a bery yn dragywydd.
2 Fel y saif sail Caersalem fry,
a'i chylchu mae mynyddoedd:
Felly yr Arglwydd yn gaer sydd,
dragywydd cylch ei bobloedd.
3 Er na orphywys rhwysg cledd hir
yr enwir ar gyfiowniaid,
Rhag i'r rhai cyfiawn ystyn llaw
i deimlaw campau diriaid.
4 O Arglwydd Dduw yn brysur gwna
i bob dyn da ddaioni;
Sef union attad ti yn glau
y bydd calonnau' rhei'ni.
5 Onid y dryg-ddyn Duw a'i gyrr
gydâ gweithwyr anwiredd;
Mewn drwg ymdroes, felly ymroed,
ar Israel boed tangnhefedd.

Psal. 126.

Pan ddychwelodd ein gwir Dduw Ion,
gaethiwed Seion sanctaidd;
Mor hyfryd gennym hyn bob un,
a rhai mewn hun nefolaidd.
2 Nyni â'n genau yn dda'n gwedd,
gorfoledd ar ein tafod,
3 Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn
fe wnaeth Duw drostyn ystod.
4 Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,
ein dwyn i'n tir cynnefin.
O gaethiwed y gelyn llym,
am hyn yr ym yn chwerthin.
5 O cynnull ein gweddillion ni,
tro adre' rhei'ni eilwaith,
Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlych
y dehau sych a diffaith.
6 Y rhai sy'n hau mewn dagrau blin,
hwyntwy dan chwerthin medant.
Felly f' Arglwydd dan droi y byd,
dwg ni i gyd i'r meddiant.
7 Y rhai dan wylo aeth o'r wlâd,
fel taflu hâd rhyd gryniau;
Drwy lawenydd y dont ynghyd,
fel casglu yd yn dyrrau.

Psal. 127.

YTy ni adeilado'r Ner,
ai'n ofer gwaith y saeri;
A'r ddinas hon nis ceidw efo,
ni thyccia gwilio ynthi.
2 Os borau godi, os hun hwyr,
a hyw drwy lwyr ofidio,
Ofer i gyd: Duw a rydd hun
i bob rhyw un a'i caro.
3 Wele, y plant a roir i ddyn,
hiliogaeth yn i'r Arglwydd:
Ac o'i rodd ef daw ffrwyth y bru,
iw magu mewn sancteiddrwydd.
4 Fel gwr cryf, ple bynnag y daw,
ac yn ei law ei saethau:
Plant yr ieuenctid felly y maen,
yn barch o flaen y tadau.
5 Sawl honynt sydd a'i gwifr yn llawn
mae'n ddedwydd iawn ei foddion
Hwy nis gwradwyddir pan ddel man
i'mddiddan â'i gelynion.

Psal. 128.

A Ofno'r Arglwydd gwyn ei fyd,
a rhodiaw rhyd ei lwybrau,
2 Bwyttei o ynnill gwaith dy law,
a blith y daw i tithau.
3 Dy wraig ar du dy dy is nen,
fel per winwydde n ffrwythlon.
Dy blant ynghylch dy fwrdd a fydd
fel olewydd blanhigion:
4 Wele, fal dyma'r modd yn wir
bendithir y gwr cyfion,
A ofno'r Arglwydd Dduw yn ddwys,
rhydd arno bwys ei galon.
5 Cei gyflawn fendith gan Dduw Ion,
bydd dithau Seion ddedwydd,
Fel y gwelych â golau drem,
Gaersalem mewn llawenydd.
Holl ddyddiau d'einioes. 6 Plânt dy blant
cei weled llwyddiant iddynt,
Ac ar holl deulu Israel,
daw hedd diogel arnynt.

Psal. 129.

LLawer gwaith cefais gysrudd mawr
Israel yn awr dyweded,
O'm hieuengctyd hyd yr awr hon,
fe wyr fy mron eu trymed.
2 A llawer gwaith y cefais lid,
o'm gwan ieuengctid allan,
A blin gystudd ar lawer tro,
ac etto ni'm gorfuan'.
3 Yr arddwyr arddent y cefn mau,
drwy rwygo cwyfau hirion:
4 Y cyfion Ner torrodd yn frau,
bleth didau'r annuwolion.
5 Pa rai bynnag a roesant gâs
ar degwch dinas Seion,
Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,
y rhai annuwiol creulon.
6 Byddant fel y glas wellt a fai
ar bennau tai yn tyfu,
Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,
yn gwywo, ac yn methu.
7 Ni leinw'r medelwr ei law,
ni chair o honaw ronyn:
I'r casclwr nis tal ddim mo'i droi,
na'i drin, na'i roi mewn rhwymyn:
8 Fel na bai byth gwiw gan y rhai
ar a dramwyai heibio,
Ddwedyd unwaith Duw a ro llwydd,
neu'r Arglwydd a'ch bendithio.

Psal. 130.

O'R dyfnder gelwais arnat Ion,
2 O Arglwydd tirion gostwng
Dy glust, ystyria y llais mau,
clyw fy' ngweddiau teilwng.
3 Duw, pwy a saif yn d'wyneb di,
os creffi ar anwiredd?
4 Ond fel i'th ofner di yn iawn,
yr wyd yn llawn trugaredd.
5 Disgwyliais f'Arglwydd, wrth fy rhaid,
disgwyliodd f'enaid arno.
Rhois fy holl obaith yn ei air,
6 f'enaid a gair yn effro.
Ac am yr Arglwydd gwilio y bydd,
fwy nâ gwiliedydd difri,
A edrych blygain bob pen awr,
a welo'r wawr yn codi.
7 Un wedd disgwylied Israel,
yn ddirgel am yr Arglwydd:
Cans mae nawdd gydâ'r Arglwydd nef
mae yntho ef rywiowgrwydd.
Ei drugareddau ânt ar led,
fe rydd ymwared ini.
8 Fe weryd Israel: fal hyn,
fo'i tyn o'i holl ddrygioni.

Psal. 131.

YN fy' nghalon ni bu falch chwydd,
o Arglwydd, na dim tynder,
Ni chodais chwaith drahaus wg
i'm golwg o dra uchder.
2 ac ni rodiais yma a thraw,
i dreiglaw pethau mowrion:
Ni fanwl chwiliais am wybod
rhyfeddod a dirgelion.
3 Gostyngais f'enaid i mewn pryd,
fel pan ddiddyfnyd herlod:
Fy enaid sydd fel un a fu
gwedi ei ddiddyfnu'n barod.
4 Ond disgwilied ty Israel
wrth wir Imanuel beunydd,
Sef wrth yr Arglwydd o'r pryd hyn,
heb derfyn yn dragywydd.

Psal. 132.

O Cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,
a'i holl wrth-flinder hefyd;
2 Pa lw adduned a roes fo
i Dduw Jaco, gan ddwedyd,
3 Nid âf o fewn pabell fy' nhy,
a'm gwely mwy nis dringaf;
4 Ni roddaf i'm dau lygad hun,
amrantun chwaith ni chysgaf:
5 Nes caffwyf gyfle yn ddi rus,
i Arglwydd grymus Jaco.
6 Wele'n Ephrata clywsom fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.
7 Pawb doed iw bebyll tirion,
Awn, ymgrymwn, pawb vfyddhaed,
wrth ei faingc draed yn vnion.
8 F'arglwydd, cyfod i'th esmwyth lys,
a'th arch o rymmus fowredd.
9 Gwisged d'offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
10 Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyneb dy enneiniog.
11 I Ddafydd rhoes yr Ion lw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,
it iraidd gaingc i eistedd.
12 Fy'neddfau a'm cyfammod i,
dy feibion di os cadwant;
O blann i blann, o gaingc i gaingc,
hwy ar dy faingc a farnant.
13 Canys fy Arglwydd, o serch a bodd,
a rag-ddewisodd Seion:
I drigo ynthi rhoes ei fryd,
gan ddwedyd geiriau tirion;
14 Hon fyth fydd fy' ngorphwysfa i,
o hoffder ynthi trigaf.
15 Bendithiaf hi a bwyd di ball,
a'i thlawd diwall o fara.
16 Ag iechydwriaeth, medd Duw naf
y gwisgaf ei heglwyswyr,
A rhoddaf yngenau pob Sanct
o'i mewn, ogoniant psallwyr.
17 Paraf hyn oll, ac felly y bydd,
corn Dafydd yn goronog:
Felly darperais, gan fy'mhwyll,
brif ganwyll i'm eneiniog.
18 Am ei elynion, o bob parth,
y gwiscaf warth a gwradwydd,
Paraf hefyd iw goron fo
flodeuo: medd yr Arglwydd.

Psal. 133.

WEle, fod brodyr yn byw'nghyd,
mor dda, mor hyfryd ydoedd,
2 Tebig i olew o fawr werth,
mor brydferth ar y gwisgoedd:
Fel pe discynnai draw o'r nen,
rhyd barf a phen offeiriad,
Sef barf Aron a'i wisg i gyd,
yn hyfryd ei arogliad.
3 Fel pe dyscynnai gwlith Hermon
yn do dros Seion fynydd,
Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlith
ei fendith, yn dragywydd.

Psal. 134.

WEle, holl weision Arglwydd nef,
bendithiwch ef, lle yr ydych,
Yn sefyll yn nhy Dduw y nos,
a'i gyntedd diddos trefn-wych.
2 Derchefwch chwi eich dwylo glân,
yn ei gyssegr-lân annedd:
A bendithiwch â chalon rwydd,
yr Arglwydd yn gyfannedd.
3 Yr Arglwydd, a'i ddeheulaw gref,
hwn a wnaeth nef â daiar,
A rotho ei fendith a'i râs,
i Seion ddinas howddgar.

Psal. 135.

O Molwch enw'r Arglwydd nef,
ei weision ef moliennwch,
2 Y rhai a saif iw dy a'i byrth,
i'n Duw a'i fawrwyrth cenwch.
3 Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
clod i'r Ior byw a berthyn:
Cenwch ei glod dros yr holl fyd,
a hyfryd yw y destyn.
4 Oblegid yr Arglwydd, a'i nawdd,
ef a etholawdd Iaco,
Ac Israel, iw mysg y trig,
yn deulu vnic iddo.
5 Cans mawr yw'r Arglwydd yn ei lys
mi a wn yn hysbys hynny:
Ym mhell uwchlaw'r holl dduwiau mân,
mae'r Arglwydd glân a'i allu.
6 Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,
yn vchder nef eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y môr cau,
a holl ddyfnderau'r eigion.
7 O eithaf daiar cyfyd tarth,
daw'r mellt o bobparth hwythau,
Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,
a godynt o'i drysorau.
8 Yn nhir yr Aipht dynion, a da,
â llawer pla y trawodd,
Cyntaf-anedig o bob vn,
a'i law ei hûn a laddodd.
9 I'th ganol di, o Aipht greulon,
rhoes Duw arwyddion rhyfedd,
Ar Pharo' a'i holl weision i gyd:
dug drwy'r holl fyd orfoledd.
10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth feirwon:
A lladdodd lawer yr vn wedd
o ben brenhinedd cryfion.
11 Sef o'r Amoriaid Sehon fawr,
ac Og, y cawr o Fasan:
A'r vn ddinystriad arnynt aeth,
a holl frenhiniaeth Canan.
12 A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
gyd â'i holl fywyd bydol,
I Israel i roi a wnaeth
yn etifeddiaeth nerthol.
13 Dy Enw (o Arglwydd) a'th nerth cry'
a bery yn dragywydd,
Ac o genedl i genedlaeth
dy goffadwriaeth, lywydd.
14 Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,
yr Arglwydd cadarn cyfion,
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
bydd dostur wrth ei weision.
15 Y Delwau oll, gwaith dwylaw yn,
a dyfais dyn anffyddlon;
O aur ac arian dyn a'i gwnaeth,
o hil cenhedlaeth weigion.
16 O waith dyn, genau rhwth y sydd,
heb ddim llyferydd iddyn:
Ac mae llun llygaid mawr ar led,
a'r rhai'n heb weled gronyn.
17 Dwy glust dynion sydd i bob vn,
heb glywed mymryn erto,
Eu safn yn ehang, ac ni chaid
na chwyth, nag enaid yntho.
18 Vn fodd a'r delwau fydd y rhai
a'i gwnelai hwynt â'i dwylo,
Ac nid yw well nâ'r rhai'n yr un,
ynthyn a ymddirietto.
19 Ty Israel na choeliwch chwi:
ty Aron: Lefi vfydd,
20 I'r rhai'n ddim, ond i'r Arglwydd nef,
bendithiwch e'n dragywydd.
21 Bendithier fyth mawr Enw'r Ion,
o Seion hen a barchem,
Bendithier moler ei enw fo,
sy'n trigo ynghaer Selem.

Psal. 136.

MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
2 Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd,
3 ac Arglwydd yr arglwyddi,
4 Hwn vnic a wnaeth wrthiau mawr,
drwy ei ddirfawr ddaioni.
5 Gwnaeth â'i ddoethineb nef wchben,
6 a'r ddaiaren a'r dyfredd,
Y rhai yw prif sylwedd y byd,
ac i gyd o'i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
7 R' hwn a wnaeth oleuadau mawr,
o'r nef hyd lawr a'i fowredd.
8 Haul y dydd, 9 â'r lleuad y nos,
i ddangos ei drugaredd.
10 Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig
a'r blaen-anedig ynthi,
11 Ac a ddug Israel i'r daith,
ac ymmaith o'i holl gyni.
12 A hyn drwy law gref a braich hir,
o rym ei wir ogonedd:
13 A hollti'r môr coch yn ddwy ran,
o anian ei drugaredd.
14 Dug Israel i'r lan yn wych,
fel dyna ddrych gorfoledd:
15 Yscyttiau Pharo, a'i holl lu,
a hyn a fu'i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd, &c.
16 A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,
drwy wledydd dyrys anian:
17 Taro brenhinoedd er eu mwyn,
ac felly eu dwyn hwy allan.
18 Lladd llawer brenin cadarn llon,
19 sef Sehon yr Amoriaid:
20 Ac Og o Fasan yn vn wedd,
o'i fawr drugaredd dibaid.
21 A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
eu rhoi yn fywyd bydol
22 I Israel ei was a wnaeth,
yn etifeddiaeth nerthol.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch, &c.
23 Hwn i'n cystudd a'n cofiodd ni,
o'i fawr ddaioni tirion.
24 Ac a'n aehubodd yn ddiswrth
oddiwrth ein holl elynion.
25 Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd
yn ddidlawd o'i drugaredd.
26 Clodforwch Dduw brenin y nef,
rhoweh iddo ef ogonedd.
27 Molwch Arglwydd yr arglwyddi,
uwchben pob rhi o fowredd,
Duw'r duwiau, Ion uwchben pob Ion,
a ffynnon y drugaredd.
28 Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd, &c.

Psal. 137.

PAn oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prif afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau'n loyw.
2 Rhoddasom ein telynau 'nghrog,
ar goed canghennog irion.
Lle yr oedd preniau helyg plan,
o ddeutu glann yr afon.
3 Y rhai a'n dug i garchar caeth,
ini yn ffraeth gofynnen,
A ni'n bruddion, gerddi Seion,
sywaeth peth nis gallen.
4 O Dduw pa fodd y canai neb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlad estronol?
5 Os â Caersalem o'r cof mau,
anghofied dehau gany:
6 Na throed fy'nhafod, oni bydd,
hi'n ben llawenydd imy.
7 Gofia di Dduw, blant Edom lemm,
yn nydd Caersalem howddgar:
Noethwch dynoethwch (meddei rhain)
ei mur a'i main i'r ddaiar.
8 Bydd gwyn eu byd i'r sawl a wnel
iti, merch Babel rydost,
Yr vnrhryw fesur, gan dy blau,
i ninnau fel y gwnaethost.
9 Y sawl a gymro dy blant di,
bo'r rhei'ni fendigedig,
Ac a darawo'r eppil tau,
a'i pennau wrth y cerrig.

Psal. 138.

RHof fawrglod iti, fy' Nuw Ion,
o ddyfnder calon canaf:
Yngwydd holl Angylion y nef,
â'm holl lef i'th foliannaf.
2 Ymgrymmaf tua'th sanctaidd dy,
dan ganu o'th drugaredd,
A'th enw mawr uwchlaw pob peth,
a'th air difeth wirionedd.
3 Y dydd y gelwais arnat ti,
gwrandewaist fi yn fuan:
Yno y nerthaist â chref blaid,
fy enaid i oedd egwan.
4 Doed brenhinoedd y ddaiar hon,
a rhoen it vnion foliant:
Addolent oll ein gwir-dduw ni,
cans d'eiriau di a glywsant.
5 Yn ffyrdd yr Arglwydd yr vn wedd,
ac am ei fowredd canant:
Gan ddangos drwy'r holl fyd ei fraint,
a maint yw ei ogoniant.
6 Vchel yw'r Ion, etto fe wel
yr vfydd isel ddynion:
A gwyl o hirbell, er eu plau,
y beilch a'r gwarrau sythion.
7 Pe bai yn gyfyng arna'r byd,
ti a'm byw-heyd eilwaith:
Gan ystyn llaw i ddwyn dy wâs
oddiwrth rai atcas ymaith.
8 Yr Arglwydd a gyflowna â mi,
Duw dy ddaioni rhag llaw,
Ac yn dragywydd i mi dod:
na wrthod waith dy ddwylaw.

Psal. 139.

ARglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i'm adwaeni hefyd:
2 Fisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a'm meddwl cyn ei ddwedyd.
3 Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a'm ffyrdd sydd itti'n hysbys:
4 Nid oes air nas gwyddost ei sod
ar flaen fy'nhafod ofnys.
5 O'm hol, ac o'm blaen i'm lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
6 Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a'i deall hi nis medraf.
7 I ba le r'af fi i roi tro,
i'mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
8 Os dringaf tua'r nefoedd fry,
wyd yno i'th dy perffaith:
Os tua'r dyfndwr, gostwng tro
yr wyd ti yno eilwaith.
9 Pe cawn adenydd borau wawr,
a mynd i fôr mawr anial,
10 Yno bydd dy ddeheu-law di,
i'm tywys i a'm cynnal.
11 A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywyllwg,
Canol y nos fel hanner dydd,
mor olau fydd yn d'olwg.
12 Nid dim tywyllach nos i ti
nag yw goleuni haf-ddydd:
A'r ddau i ti maent yr vn ddull,
y tywyll a'r goleu-ddydd.
13 Da y gwyddost y dirgelwch mau,
f' arennau a feddiennaist,
Ynghrôth fy'mam pan oeddwn i,
yno dydi a'm cuddiaist.
14 Cans rhyfedd iawn y gwnaethbwyd fi,
a'th waith di sy ryfeddod,
A'm henaid a wyr hynny'n dda:
a hon a wna it fowrglod:
15 Ni chuddiwyd fy'ngrym rhagot ti,
pan wnaethost fi yn ddirgel,
Fel llunio dyn o'r ddaiar hon,
o fewn pridd eigion isel.
16 Dy lygaid gwelsant fy'nhrefn wael,
cyn imi gael perffeith-lun:
Roedd pob peth yn dy lyfr yn llawn,
cyn bod yn iawn vn gronun.
17 Mor anwyl dy feddyliau im,
mor fawr yw sum y rhei'ni:
18 Wrth fwrw, amlach gwn eu bod
nâ'r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowyf fi,
'r wyf gyd'â thi yn gwblol.
19 O Dduw, ba achos yn dy lid,
na leddid yr annuwiol?
O Dduw pe cospid rhai o'r rhai'n
y sydd yn arwain traha;
Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,
dydi dos oddiymma.
20 Y rhai am danad f' Arglwydd cu,
sy'n treuthu pethau sceler,
A'th elynion dibrys eu llw,
cymrasant d'enw'n ofer.
21 Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,
dy holl gaseion gwaedlyd?
Ond ffiaidd gennyf fi bob dyn,
a ai yn d'erbyn hefyd?
22 A llawn gâs y caseais hwynt,
ynt fel ar bwynt gelynion.
23 O chwilia fi o Dduw yn hy,
cei hynny yn fy' nghalon.
Duw prawf fy' meddwl i'n fy'mol,
24 Oes ffordd annuwiol genni;
Gwel fi, tywys, dwg fi yn f'ol,
dod ffordd dragwyddol imi.

Psal. 140.

RHag y gwr drwg gwared fi (Ner)
rhag gwr y trowsder efrydd,
2 Rhai sy'n bradychu yn ddirgel,
a chasglu rhyfel beunydd.
3 Fel colyn sarph yn llithrig wau,
yw eu tafodau llymion:
Gwenwyn yr asp sydd yn parhau
dan eu gwefusau creulon.
4 Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws
sy'n myfyr lliaws faglau,
Duw gwared fi, rhag gosod brâd,
ynghylch fy ngwastad lwybrau.
5 Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,
wrth hon gosodwyd tannau;
Ar draws fy ffyrdd, i ddal fy' nrhoed,
ynghudd, y rhoed llinynnau.
6 Dwedais wrth f' Arglwydd fy Nuw wyd,
tyn fi o'i rhwyd a'i maglau:
O gwrando'n fuan Arglwydd nef,
ar brudd lef fy'ngweddiau.
7 Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,
a'm coel a'm iechyd calon;
Ti a roist gudd tros fy' mhen mau,
yn nydd yr arfau gloywon.
8 I'r dyn annuwiol, Duw, na âd
ddymuniaid drwg ei'wllys;
Rhag ei wneuthur efo yn gry,
a'i fynd yn rhy drahâus.
9 A'i holl ddymuniad drwg i mi,
a'i rhegen weddi greulon,
Y rhai'n yn llwyr a ddont ymmhen
y capten o'm caseion.
10 Syrthied arnynt y marwor tân,
ac felly llosgan ymaith.
Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant
fel na chyfodant eilwaith.
11 Dyn llawn siarad fydd anwastad,
ni eistedd ef yn gryno:
A drwg a ymlid y gwr traws,
o hyn mae'n haws ei gwympo.
12 Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâl
i ddial cam y truan;
Ac yr iawn farna y dyn tlawd
sy'n byw ar gerdawd fechan.
13 Y rhai cyfiawn drwy yr holl fyd,
dy enw a gyd-foliannant.
A'r holl rai vnion, heb ofn neb,
o flaen dy wyneb trigant.

Psal. 141.

O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad;
O'r man lle'i bwyf gwrando fy llef,
a doed i'r nef hyd attad.
2 Fy'ngweddi gar dy fron a ddaw,
gan godi dwylaw'n vchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel vnion ddiwyr lefel.
3 O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy' ngenau,
Rhag i'm gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy'ngwefusau.
4 Na phwysa 'nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â'r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.
5 Boed cosp a cherydd y cyfiawn,
fel olew gwerthlawn arnaf;
Ni friw fy' mhen, bo mwyaf fo,
mwy trosto a weddiaf.
6 Eu barnwyr pe bwrid i'r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrys:
Gwrandawent ar f'ymadrodd i,
a chlywent hi yn felys.
7 Fel darnau cynnyd o goed mân,
a fwrian rhyd ŷ ddaiar,
Mae'n hesgyrn ninnau yr un wedd,
ym mron y bedd ar wasgar.
8 Mae 'ngolwg a'm holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan.
Duw bydd di'n vnic yn fy'mhlaid,
na fwrw f'enaid allan.
9 Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,
hon a osodwyd imi,
Telm yr annuwiol, hoenyn main,
rhag ofn i'r rhai'n fy magly.
10 Yr anwireddwyr b'ado vn,
cwympant eu hûn iw rhwydau,
Ymddiried ynot ti a wnaf,
ac felly diangaf innau.

Psal. 142.

RHois weddi ar yr Arglwydd nef,
yn llym fy llef ymbiliais;
2 A'm holl fyfyrdod gar ei fron,
o'm calon y tywelltais.
3 Ond pan fynegais it fy' nghur,
a'm dolur o'm meddyliau,
Da gwyddit ti bob ffordd a'r man,
y rhoesan i mi faglau.
4 O'r tu deau nid oedd im' neb,
trown f'wyneb, a'm hadwaenai,
Na nawdd, na neb, o du'n y byd,
fy' mywyd a'mgeleddai.
5 Arnad llefais, wrthyt dwedais,
Duw, di a ydwyd vnion:
Fy' nghwbl obaith wyt ti yn wir,
a'm rhan yn nhir y bywion.
6 O ystyr Arglwydd 'faint fy'nghri,
wyf mewn trueni digllon:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
mae rhei'ni yn rhy gryfion.
7 O garchar caeth fy enaid tynn,
dy enw am hyn a folaf:
Pan weler dy fod ar fy rhan,
y cyfion twysgan attaf.

Psal. 143.

ERglyw fy arch, o Arglwydd mâd,
wyf arnad yn gweddio:
O'th wirionedd, a'th gyfiownedd,
gofynnaf it fy' ngwrando.
2 Ac na ddos i'r farn â'th wâs gwael,
(pa les i'm gael cyfiownder?)
Am nad oes dyn byw gar dy fron
yn gyfion pan ei teimler.
3 Y gelyn a erlidiodd f'oes,
mewn llwch i'm rhoes i orwedd;
Fal y rhai meirwon a fai'n hir,
[...]s tywyll dir a'i hannedd,
4 Yna fy ysbryd, mewn blin ing,
a fu mewn cyfing-gyngor:
5 Ac ar fy'nghalon drom daeth braw:
ond wrth fyfyriaw rhagor,
Mi a gofiais y dyddiau gynt,
a helynt gwaith dy ddwylo,
Am hyn myfyriais fy' Nuw Nâf,
am hyn myfyriaf etto.
6 Fy'nwylaw attad rhois ar led,
lle y mae f'ymddiried vnig,
Am danad f'eniad sydd yn wir,
vn wedd â'r tir sychedig.
7 Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,
o Arglwydd, pallodd f' yspryd:
Rhag imi fyned i'r pwll du,
fel rhai a ddarfu eu bywyd.
8 Par i'm ar frys glywed dy nawdd,
cans ynot hawdd y credais:
A dysg i'm rodio dy ffyrdd rhâd,
cans f'enaid attad codais.
9 A gwared fi fy' Nuw, a'm Ion,
rhag fy' ngelynion astrys,
Am fod fy lloches gydâ thi:
10 o dysg i mi d'ewyllys:
Cans tydi ydwyt y Duw mau,
boed d' Yspryd tau i'm tywys
Ar yr vniondeb yn y tir,
dyna dy wir ewyllys.
11 Duw, er mwyn d'enw fi bywhâ,
a helpa f'enaid tyner,
Allan o ing Duw cais ei ddwyn,
ac er mwyn dy gyfiownder.
12 A gwna ar yr elynol blaid,
cascion f'enaid, gerydd:
Difetha hwynt er mwyn dy râs,
cans mi wyf dy was vfydd.

Psal. 144.

BEendigaid fo'r Arglwydd fy' nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy' nwylo' i ymladd, a'r vn wedd,
fy' mysedd i ryfela.
2 Fy' nawdd, fy' nerth, fy' nug, fy nghred,
fy'nhwr, f'ymwared vnig:
Cans trwyddo ef fy' mhobl a gaf
tanaf yn ostyngedig.
3 Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,
pan fyddyt iw gydnabod?
A mab dyn pa beth ydyw fo,
pan fych o hono'n darbod?
4 Pa beth yw dyn? peth yr vn wedd
a gwagedd heb ddim hono;
A'i ddyddiau'n cerdded ar y rhod,
fal cysgod yn mynd heibio.
5 Gostwng y nefoedd, Arglwydd da,
ac edrych draha dynion:
Duw cyffwrdd a'r mynyddoedd fry,
gwna iddynt fygu digon.
6 Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,
iw lladd gyrr saethau tanbaid.
7 Discyn, tyn fi o'r dyfroedd mawr:
hyn yw, o law'r estroniaid.
Duw gwared fi. 8 Geneuau 'rhai'n,
a fydd yn arwain gwegi:
A'i dehau-law sy yr vn bwyll,
ddeheu-law twyll, a choegni.
9 I ti Dduw, canaf o fawrhâd,
yn llafar ganiad newydd,
Ar nabl, ac ar y deg-tant,
cei gerdd o foliant beunydd.
10 Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,
ei swccraeth at iawn reol:
Dan ymwared Dafydd ei was,
rhag cleddyf câs niweidiol.
11 Duw gwared, achub fi wrth raid,
rhag plant estroniaid digus,
A'i safn yn llawn o ffalsder gau,
a'i dehau yn dwyllodrus.
12 Bydd ein meibion mal plan-wydd cu
o'r bon yn tyfu'n iraidd:
A'n merched ni fel cerrig nadd,
mewn conglau neuadd sanctaidd.
13 A'n conglau'n llawnion o bob peth,
a'n defaid, difeth gynnydd,
Yn filoedd (mawr yw'r llwyddiant hwn)
a myrddiwn i'n heolydd.
14 A'n hychen cryfion dan y wedd,
yn hywedd, ac yn llonydd:
Heb dorr na soriant i'n mysg ni,
na gweiddi i'n heolydd.
15 Dedwydd ydyw y bobl y sy,
a phob peth felly ganthynt:
Bendigaid yw'r bobl y rhai'n yw,
a'r Arglwydd yn Dduw iddynt.

Psal. 145.

MI a'th fawrygaf di, fy Nuw,
cans tydi yw fy llywydd:
Bendithio dy enw byth a wnaf,
mi a'i molaf yn dragywydd.
2 Dy enw a folaf fi bob dydd,
a'th glod a fydd heb orphen.
3 Yr Arglwydd sydd glod-fawr heb wedd,
a'i fowredd sydd heb ddiben.
4 Cenedl wrth genedl a ront fawl
i'tn ogoneddawl wrthiau;
Gan danu dy nerth rhyd y byd,
a dwedyd dy gynheddfau.
5 Am dy ogonedd mawr, fy Naf,
mynegaf, a'th gadernyd.
6 Son am dy bethau ofnadwy,
gwnant hwy a minnau hefyd.
7 Llwyr goffadwriaeth honot ti,
a'th fawr ddaioni traethant;
Ac o'th gyfiownder, fy Nuw Ion,
a llafar don y canant:
8 Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,
ac o dosturi rhyfedd:
Hwyr ac anniben yw i ddig:
llawn frydig i drugaredd.
9 Da yw yr Arglwydd i bob dyn,
a'i nodded sy'n dycciannol:
Ac ar ei holl weithredoedd ef
daw nawdd o'r nef yn rasol.
10 Dy holl weithredoedd di i'th lwydd,
o Arglwydd a'th glodforant:
Dy wyrth pan welo dy Sainct di,
y rhei'ni a'th fendithiant:
11 Gan sôn am drugaredd a grâs
dy deyrnas, a'i chadernyd:
Fal dyna'r gerdd sydd yn parhau,
yn eu geneuau hyfryd.
12 Fel y parent drwy hyfryd glod,
gydnabod â'th dyrnassiad,
A'th nerth ym mysg holl ddynol blant,
a'th lawn ogoniant gwastad.
13 Brenhiniaeth dy deyrnas di fry,
a bery yn wastadol,
A'th lywodraeth o oed i oed,
hon a roed yn dragwyddol.
14 Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,
y rhai sy'mron eu cwympod:
Ac ef a gyfyd bawb yn wir,
ar â ostyngir isod.
15 Wele, mae llygaid yr holl fyd
yn disgwyl wrthyd Arglwydd,
Dithau a'i porthi hwynt i gyd,
bawb yn ei bryd yn ebrwydd.
16 A phan agorech di dy law,
o honi daw diwall-faeth:
D'ewyllys da yw ymborth byw,
a hynny yw eu llyniaeth.
17 Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt
a'i wrthiau ydynt sanctaidd:
18 Agos iawn i bawb ydyw fo,
a eilw arno'n buraidd.
19 Sef ar y gwyr a'i hofnant ef,
fo glyw eu llef iw gwared,
Fo rydd eu wyllys hwynt a'i harch,
o'i wir barch, Ion gogoned.
20 Pob dyn a garo'r Arglwydd nef,
caiff gantho ef ei 'mddiffyn:
A chan ddifetha rhydd oes ferr,
i bob ysceler cyndyn.
21 Fy enaid traethed fendith rhwydd,
a mawl yr Arglwydd nefol:
A phob cnawd rhoed iw enw, y Sainct,
ogoniant yn dragwyddol.

Psal. 146.

FY enaid mola'r Arglwydd nef,
2 Mi'ai molaf ef i'm bywyd;
Dangosaf glod i'm Harglwydd Dduw,
tra gallwyf fyw na symmyd.
3 Na wnewch hyder ar dwysogion,
nac ar blant dynion bydol:
Am nad oes ynthynt hwy i gyd,
na help nac iechyd nerthol.
4 Pan el y ffun o'r genau gwael,
a'r corph i gael daiar-lan;
Felly dychwyl, fel dyna'r dydd,
y derfydd ei holl amcan.
5 Y pryd hwn gwyn ei fyd efo
a rotho ei holl obaith
Ar Dduw Jaco yn gymorth da,
pan el oddi yma ymaith.
6 Hwn Dduw a wnaeth nef, daiar, môr
a'r holl ystor fydd ynthynt:
Hwn a saif yn ei wir ei hun,
pryd na bo un o honynt.
7 Yr hwn i'r gwael a rydd farn dda,
a bara i'r newynllyd,
Fe ollwng Duw y rheidus gwâr;
o'i garchar ac o'i gaethfyd.
8 Yr Arglwydd egyr lygaid dall,
ef a dyr wall gwael ddynion:
Ymgleddu'r gwan mae'n Harglwydd nî
a hoffi y rhai cyfion.
9 Dieithraid, a'r ymddifad gwan,
a'r weddw druan unig,
Duw a'i pyrth: ond dyrysu wnai
holl ffyrdd pob rhai cythreulig.
10 Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,
dy Dduw tragywydd Seion:
O oes i oes pery dy lwydd:
molwch yr Arglwydd tirion.

Psal. 147.

MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
canu i Dduw yn llafar:
O herwydd hyfryd, yw ei glod,
a da yw bod yn ddiolchgar.
2 Caersalem dinas gyflawn fydd,
yr Arglwydd sydd iw darpar:
Gan gasglu Israel ynghyd,
a fu drwy'r byd ar wasgar.
3 Yr unic Arglwydd sy'n iachâu,
yn rhydd o friwiau'r galon;
Yr Arglwydd rhwym' eu briwiau'n iawn
y rhai dolur-lawn cleifion.
4 Yr Arglwydd sydd yn rhifo'r ser,
a phob rhyw nifer honynt:
Ef a'i geilw hwynt oll yn glau,
wrth briod enwau eiddynt.
5 Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth
a phrydferth o rasoldeb;
Ac mae'n bell iawn uwch ben pob rhif,
son am ei brif ddoethineb.
6 Yr Arglwydd unic sydd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac ef a ostwng hyd y llawr
y dorf fawr annuwoliaid.
7 Cenwch i'r Arglwydd mal y gwedd
clodforedd iddo a berthyn:
O cenwch, cenwch gerdd i'n Duw,
da ydyw gydâ'r delyn.
8 Hwn â chymylau toes y nen,
a glaw'r ddayaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,
a llysiau'i ddynion parodd.
9 Hwn i'r anifail ar y bryn
a rydd yr hyn a'i portho:
Fe bortha gywion y cigfrain,
pan fo'n yn llefain arno.
10 Nid oes gantho mewn grym un march,
na serch, na pharch, na phleser:
Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,
fal dyna gyflwr ofer.
11 Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn
yr hwn y sy'n ei hoffi:
Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,
caiff hwn yn hawdd ddaioni.
12 O Caersalem gyflawn o lwydd,
molianna'r Arglwydd eiddod;
O Seion sanctaidd, dod un wedd
i'th Dduw glodforedd barod;
13 Herwydd yr Arglwydd â'i fawr wyrth
a wnaeth dy byrth yn gryfion;
A rhoes ei fendith, a thycciant,
ymhlith dy blant a'th wyrion.
14 Hwn a roes heddwch yn dy fro,
fel y cynnyddo llwyddiant,
Ac a ddiwallodd yn eich plith,
o frasder gwenith, borthiant.
15 Ei orchymmyn ef a ddenfyn,
o'i ddown-fawr air cymhesur,
Hwn ar y ddaiar â ar lêd,
ac yno rhêd yn brysur.
16 Eirch i'r eira ddisgyn sel gwlân:
eirch rew fe'i tan fel lludw,
17 Eirch ia, fe ddaw yn defyll cri;
pwy'erys oerni hwnnw?
18 Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,
fe bair i'r gwynt ochneidio
I doddi'r rhai'n, ac felly y bydd
i'r holl afonydd lifo.
19 Grym ei air, a'i ddehau-law gref,
a ddengys ef i Jaco,
A'i ffyrdd a'i farn i Israel,
a'r rhai a ddel o hono.
20 Ni wnaeth efe yn y dull hwn,
â neb rhyw nassiwn arall;
Ni wyddent farnau'r Arglwydd nef,
O molwch ef yn ddiball.

Psal. 148.

O Molwch yr Arglwydd o'r nef,
rhowch lef i'r uchel-leoedd.
2 Molwch hwn holl angylion nef,
molwch ef ei holl luoedd,
3 Yr haul, a'r lleuad, a'r holl ser,
y gloywder, a'r goleuni,
4 Nef y nefoedd, a'r ffurfafen,
a'r deifr uwch ben y rhei'ni.
5 Moliannant enw'r Arglwydd nef,
hwynt â'i air ef a wnaethbwyd.
Dwedodd y gair, a hwy fal hyn
ar ei orchymmyn crewyd.
6 Rhoes reol iddynt i barhau,
fel deddfau byth yw dilyn.
Rhoes bob peth yn ei le'n ddi os,
nad elo dros ei derfyn.
7 Molwch yr Arglwydd o'r ddaiar,
chwychwi ystrywgar ddreigiau,
8 Y tân, a'r cenllysg, eira, a tharth,
a'r gwynt o bob parth yntau,
9 Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlon wydd
a'r tirion gedrwydd brigog.
10 An'feiliaid, ac ymlusgiaid maes,
ac adar llaes asgellog.
11 Brenhinoedd daiar, barnwyr byd,
swydd wyr ynghyd â'r bobloedd,
12 Gwyr ieuaingc, gwŷryfon, gwyr hen,
pob bachgen ym mhob oesoedd.
13 Molant ei enw ef ynghyd,
uchel a hyfryd ydoedd,
Ei enw ef sydd uchel ar
y ddaiar oll, a'r nefoedd.
14 Cans corn ei bobl a dderchafawdd,
yn fawl a nawdd i'r eiddo,
I Israel ei etholedig,
a drig yn agos atto.

Psal. 149.

CEnwch i'r Arglwydd, ac iawn sydd,
ryw ganiad newydd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfa'r Sainct,
ei fawr fraint a'i orfoledd.
2 Boed Israel lawen a ffraeth,
yn Nuw a'i gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfryd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.
3 Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelyn;
4 Cans bodlon yw iw bobl i gyd,
rhydd iechyd i'r lledneis-ddyn.
5 Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gwelau, (yn llawen ddull)
ac yn eu stefyll canant.
6 Yn eu genau bydd cerdd bob awr,
ein Duw a'i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,
y cleddyf deufin parod;
7 Ar estroniaid i'n dial ni,
ac i gosb-boeni'r bobloedd:
8 I roi mewn caethder gadwyn dro,
i rwymo ei brenhinoedd.
I roi eu pendefigion chwyrn,
mewn gefyn heyrn ffyrnig.
9 I wneuthur arnynt vnion farn,
yn gadarn scrifennedig.
Dymma'r glan ardderchowgrwydd fydd
iw Sanct y sydd yn credu;
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
o molwch ef am hynny.

Psal. 150.

MOlwch Dduw yn ei gyssegr len,
sef ei ffurfafen nerthol,
2 Molwch ef iw gadernid llym,
ac amlder grym rhagorol.
3 Ar lais udcorn rhowch y mawl hyn,
ar nabl, telyn, tympan.
4 Molwch chwi ef â llawn glod glau,
a thannau, pibell, organ.
5 Ar y symbalau molwch ef,
ar rhai'n â'i llef yn seingar:
O molwch ef â moliant clau,
ar y symbalau llafar.
6 Holl bethau (molent vn Duw byth)
sydd ynthynt chwyth y bywyd.
Rhoent gyd-gerdd foliant i barhau:
clod-forwn ninnau hefyd.
Gogonedd a fytho i'r Tâd,
i'r Mab rhad a'r glân Yspryd:
Mal y bu, y mae, ac y bydd
vn Duw tragywydd hyfryd.
Terfyn Psalmau Dafydd.

Cân Zacharias. Luc. 1.

68 HWn sydd dros Israel Arglwydd Dduw,
bendigaid yw uwch oesoedd:
Am ymweled â ni mor gu,
ac am brynu ei bobloedd.
69 Yr hwn a roes gorn a nerth faeth,
yn iechydwriaeth ddedwydd,
A'i godi i ni o'i air a'i ras
o deulu ei was Dafydd.
70 Yr hwn addewid nid oedd au
o enau y prophwydi,
Y rhai oedd o ddechrau y byd:
wele ei gyd-gyflowni.
71 Sef, y rhoe'i ni'r ymwared hon
rhag ein gelynion hynny:
A'n gwared o ddwylo 'n holl gas,
wel dyna'i ras yn ffynny.
72 Y rhoe nawdd i'n tadau nyni,
a chofio 'i sanct ddygymod,
73 A'i lw i Abraham ein Tad,
yn rhwymiad o'r cyfamod.
74 Sef gwedi' rhoddi ni ar led
oddiwrth gaethiwed gelyn:
Cael heb ofn' ei wasnaethu ef,
heb vn llaw gref i'n herbyn,
75 Holl ddyddiau'n heinioes gar ei fron
yn vnion ac yn sanctaidd,
Holl ddyddiau'n heinioes, gar ei fron
yn vnion ac yn Sanctaidd.
76 Tithau fab bychan, fo'th elwir
yn brophwyd i'r Goruchaf;
Cans ai o'i flaen i baratoi
ei ffyrdd, a'n troi iw noddfa:
77 I roi gwybodaeth iw bobl ef
ddyfod o'r nef ag iechyd,
Drwy ei faddeuant i'n rhyddhau
oddiwrth bechodau enbyd.
78 O ferion trugaredd Duw tad
a'i ymwelediad tyner
Tywynnodd arnom ymhob man
yr haulgan o'r vchelder,
79 I roddi llewyrch disglair glod
i rai sy' nghysgod angau,
A chyfeirio ein traed i'w ol
ar hyd heddychol lwybrau.
Gogoniant fyth a fô i'r Tâd
i'r mâb rhâd, a'r glân Yspryd,
Fal y bû, y mae, ac y bydd,
vn Duw tragywydd hyfryd.

Cân Mair forwyn. Luc. 1.

46 FY enaid a fawrha'r Arglwydd,
yr vnswydd gwna fy yspryd,
47 Yr hwn ynofi hyfryd yw,
drwy gredu'n Nuw fy iechyd.
48 Cans edrychodd ar isel wedd
a gwaeledd ei law forwyn.
A dedwydd fyth y gelwir fi
gan bob rhieni addwyn,
49 Cans hwn sydd alluog bennaeth,
a'm gwnaeth i yn fawrhygar:
Bendigaid fytho ei enw ef,
yr Arglwydd nef a daiar.
50 A'i drugaredd ef byth a sai'
dros bob rhai ar a'i hofnant.
51 A'r beilch gwasgarodd ef â'i nerth,
mae'n brydferth ei ogoniant.
52 Fe dynnodd y rhai cedyrn mawr,
i lawr o'i holl gadernyd:
Fe a gododd ac a fawrhadd
y rhai isel-radd hefyd.
53 A phethau da y llanwodd rai
a fyddai yn newynog:
Ac ef a anfonodd yn wag,
drwy nag, y rhai goludog.
54 Fe helpiodd Israel ei was,
gan gofio ei ras a'i ammod:
I'n tadau (Abraham a'i had)
hyd byth, a'i rad gyfammod.
Gogoniant, &c.

Cân Simeon a'r Iesu yn ei freichiau. Luc. 2.

29 ARglwydd bellach gollwng dy was
mewn heddwch addas imi,
Yn ol dy air, hwn oedd ynghyd
a'm hyspryd i'm diddany.
30 Cans gwelais i â'r golwg hyn
y Christ a bryn ein iechyd,
31 Hwn a roist inni yn Arglwydd
a hyn yngwydd yr hollfyd.
32 Hwn a osodaist di yn ddrych,
i lewyrch i'r cenhedloedd:
Hefyd i Israel, dy blant
yn ogoniant byth bythoedd.
Gogoniant, &c.

Neu fel hyn.

WRth d'air cafbellach Arglwydd cu
ymadu yn heddychlon,
30 Canys i 'm golwg i y daeth
dy iechydwriaeth dirion:
31 Hon a ddarperaist yn ddiddrwg,
yngolwg pawb o'r hollfyd,
32 Yn oleu i'r byd, i Israel blant
yn fawr ogoniant hyfryd.
Gogoniant, &c.

ER cymmaint o ofal a gymmerwyd i atgyweirio 'r Llyfr hwn wrth ei brintio, fe ddiangodd er hynny ychydig feiau llytherennol yntho, fel y maent arferedig o ddiangc ar yr atgyweirw yr goreu, ymmhôb mâth o lyfrau, fel y gŵyr rhai gwyr dyscedig yn ddigon da. Od oes yntho feiau heb law y rhai llytherennol hyn, a'r cyffe­lyb, (megis Proenech, a hytrarch; Mar. 5.7, 26. yn lle poenech, a hy­trach. a Mar. 6, 20.29. Sanctaid a bed, yn lle Sanctaidd a bêdd, &c.) Y mae hynny wedi digwyddo trwy wall y Printwyr.

Y Mae'r Llyfr a elwir Holl Ddled-swydd Dyn iw gael ar werth gan Richard Royston gwerthwr Llyfrau i ardderchog fawrhydi y Brenin, tan lûn yr Angel ym Monwent Powls yn Llundain. yn 8 o. am 3. s. 6. d.

AC y mae Chatechism Mr. Perkins, a rheolau duwiol i drin ein bywyd yn ei hôl, ac Amdo neu amwisc i Babyddiaeth o waith Mr. Baxter, a Holl waith ficcer Llanddyfri, sef y tri llyfr, a phedwrydd ran y nawr gynta yn brintiedig wedi bindio ynghyd, iw cael ar werth yn Llandain, Bristol, Caerlleon, Abergafenny, Caerfyrddyn, Abertawe, Peny bont ar Ogwr, Llanfyllyn, Wrecsam, Croes-Oswallt, &c.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.