GWAHODDIAD TAER I BECHADURIAID I droi at DDUW, Ac i dderbyn Jechydwriaeth Dragwyddol.
FY ngharedigion, am y rhai yr wyf yn hiraethus, yr wyf yn fy nghydnabod fy hun yn ddyledwr i chwi oll, i roddi i bob un o honoch ei gyfran fel y mynwn fynghael yn oruchwiliwr ffyddlon i deulu Duw. Ond y mae'r Pysygwr a'r gofal mwyaf ynghylch y cyfryw gleifion ac fydd yn y perigl mwyaf, ac ymyscaroedd y tâd a dosturia fwyaf wrth y plentyn a fo ar drangcedigaeth. Lliaws y rhai diadgenedledig yn eich plith, sy'n galw am fy nosturi tyneraf, a'm diwydrwydd cyflymmaf iw cipio allan o'r tan. Jude 23. O herwydd hynny attynt hwy yr wyf yn gosod y liniau hyn yn y fan gyntaf.
[Page 2]Ond o ble y cyrchaf fy rheswmau, a pha fodd y dewisaf fy ngeiriau? Arglwydd pa fodd y denaf hwynt, â pha beth yr ennillaf hwynt? O nas gwyddwn i! Yscrifennwn attynt âm dagrau ac â'm gwaed, ymbiliwn â hwynt ar fyngliniau, a byddwn dradiolchgar iddynt os cymerent eu perswadio i edifarhau ac i droi.
O gyhyd y bym i mewn gwewyr escor o'ch herwydd chwi! O fynyched y ceisiais eich casclu chwi, o daered a fum i wrthych chwi! Mi weddiais ac a studiais er's llawer o flynyddoedd er mwyn eich dwyn chwi at Dduw, O na thyccie 'r peth! ai gwiw etto ddymuno arnoch? O ddedwydded y gallech fy ngwneuthur i wrth wrando arnaf, a gadel i mi eich dwyn at Jesu Grist!
Ond Arglwydd mor annigonol wyfi ir gorchwyl hwn, pa ryw dasc a osodaisti arnafi? Och â pha beth y trywanaf y Lefiathan, ac y gwnaf ir galon gareg deimlo, a hi fel maen melin! A ddywedafi wrth y beddau am ir meirw dyfod allan? A areithiafi wrth y creigiau iw perswadio a rhesymmau? A allafi berid ir dall weled? Ni chlybwyd er dechreuad y bŷd i neb agoryd llygaid y dall: Ond tydi Arglwydd elli drywanu'r croendew, a dwysbigo calon y pechadur. Nid allafi ond tynnu'r bŵa ac ergydio ar antur, pâr di ir saeth gyfeirio, a descyn rhwng cyssylltiadau'r llurig, a llâdd y pechod, ond achub enaid y pechadur a ddarlleno hyn o waith. Oh nas gwyddwn pa fodd i weithio arnoch chwi, y rhai im hanfonwyd attoch! Ni wrthodwn boen yn y bŷd. Chwi a wyddoch fel yr ymbiliais â chwi yn y dirgel gystal ac ar gyhoedd, gan ddwyn yr Efengyl i'ch dryssau, a thystiolaethu i chwi reitied ydyw 'r ailanedigaeth: Ni cheisiais mo'm bûdd fy hun; [Page 3] chwi a glywsoch yr un gwirioneddau yn gyhoeddus, ac yn y dirgel, nas gall neb fyned i mewn i deyrnas nef onid drwy ffordd gyfyng yr ailanedigaeth, Na gweled Duw heb sancteiddrwydd. Heb. 12. 14. Oh fyngharedigion, llonnwch fy ymyscaroedd yn yr Arglwydd, od oes ddim diddanwch yn Christ, od oes dim cyssur cariad, od oes dim cymdeithias yr yspryd, od os dim ymyscaroedd a thosturiaethau, cyflawnwch fy llawenydd, yn awr rhoddwch eich hunain ir Argwlydd. 2 Cor. 8. 5. Yr awr hon ymroddwch iw geisio ef, gosodwch yr Arglwydd Jesu yn eich calonnau, a'ch teuluoedd: Yr awrhon deuwch, a chofleidwch gynygion trugaredd, a chussenwch y Mâb, Psal. 2. 12. Cyffyrddwch â'i deyrnwialen ef, a byw fyddwch, pa ham y byddwch feirw? Nid wyf mor daer e'r fy mwyn fy hun yn unic, ond er eich gwneuthur chwi yn ddedwydd, dyma'r faeler yr wyf yn rhedeg am dani, a'r nôd gwyn yr wyf yn faethu atto. Gwir ewyllys fy nghalon a'm gweddi ar Ddaw drosoch sydd ar i chwi fod yn gadwedig, Rhuf. 10 1.
Lycurgus enwog wedi gwneuthur cyfreithiau da iw bobl, a ddywedodd iddynt ei fod yn myned oddi cartref, ac a gafodd ganddynt ymrwymo drwy lŵ ar gadw y cyfreithiau hynny, nes ei ddychwelydd; A chwedi hynny aeth o'r wlâd oi wirfodd, ac ni ddychwelodd drachefn, fel y cadwent ei gyfreithiau byth. Byddwn inneu fodlon ir faeth ammod caled, er fy mod ym eich hoffi, os gallwn felly roddi cwbl rwymedigaeth arnoch chwi i fod yn eiddo Jesu Grist.
Fy ngharedigion os mynnech lonni calon eich gweinidog, derbyniwch gynghorion yr Arglwydd drwyddo fi, ymwrthodwch a'ch pechodau, gweddiwch, ac addolwch Dduw yn eich teuluoedd, ymgedwch oddiwrth bechodau'r amseroedd: Pa [Page 4] lawenydd mwy all fod i weinidog na chlywed ynnill eneidiau at Grist drwyddo ef, A bod ei blant yn rhodio yn y gwirionedd? 2 Joan. 4.
Fy mrodyr goddefwch fy mhlaender cariadus yn eich achosion pwysfawr. Nid wyf yn gwneuthur araith ddysgedig i chwi, nac yn trwssio saig â chymendod i ryngu eich bodd: Mae'r liniau hyn yn dyfod ar neges difrifol; sef i'ch argyoeddi, a'ch troi, a'ch achub chwi. Nid wyf yn abwydo fy enwair a phraethineb, nac yn pyscotta am ganmoliaeth, ond am eich eneidiau chwi. Fyngwaith yw ceisio eich safio, ac nid eich hudo, ach pigo nid eich gogleisio, nid cosi eich clustiau, ond archolli eich calonnau, ac onide canwn dôn arall, a dywedwn chwedl esmwythach, a gwniwn glustogau dan eich penelinau, a llefarwn dangnheddyf i chwi, canys nid all un Ahab hoffi'r Micaiah a brophwydo ddrwg iddo yn oestadol, 1 Brenh. 22. 8 Ond gwell yw archollion cyfaill ffyddlon, na geiriau têg gan buttain, yr hon a wenheithiae â'i gwefusau, nes i saeth ddryllio'r afu, a hela'r enaid gwerthfawr, Dihar. 6. 26. ac 7. 21, 22, 23. Pan rodder plentyn i gyscu sûir iddo, ond pan gipier ef o'r tân nid oes neges roddi iddo degan. Mi wn oni chodwch a dyfod ymaith ddarfod fyth am danoch chwi, heb droedigaeth, heb jechydwriaeth.
Yma y mae anhawstra fy ngwaith yn dyfod i'm herbyn etto. Arglwydd dewis i mi gerrig o'r graig, yr wyf yn dyfod yn enw Arglwydd y Lluoedd, Duw byddynoedd Israel, yr wyf yn dyfod fel llangc disumm yn erbyn Goliah; i Ymdrech nid yn erbyn gwaed a chnawd yn unic, ond yn erbyn tywysogaethau, a llywiawdwyr tywyllwch y bŷd hwn. 1 Sam. 17. 40, 45, 49. Ephes. 6. 12. Bydded ir Arglwydd heddyw daro'r Philistiad, ac yspeilio'r gŵr cryf oi arfau, a [Page 5] gwaredu 'r caethion allan oi law ef. Arglwydd dewis di fyngeiriau am harfau i mi, a phan roddwyf fy llaw yn y gôd, a chymeryd carreg O honi, ai hergydio, bydded iti ei dwyn at y nôd, a pheri iddi foddi, nid yn unic i dalcen ond i galon y pechadur dienwaededig, iw daflu i lawr, ie cafed fel Saul gwymp ai gwnelo'n ddedwydd, Act. 9. 4. Ti am anfonaist i fel yr anfonodd Abraham Eliezer i gyrchu gwraig im Meistr, dy Fâb; ac yr wyf yn ofni na bydd y wraig fodlon im dilyn i: O Arglwydd Dduw fy Meistr attolwg pâr i mi lwyddiant heddyw, a gwna garedigrwydd â'm Meistr, ac anfon dy Angel o'm blaen a llwydda fy ffordd fel y cymerwyf wraig i'th Fâb, Gen 24. 4, 12. Ac megis y dug y gwâs hwnnw Isaac a Rebecah ynghyd, bydded i mineu ddwyn eneidiau fy mhobl a Christ ynghyd cyn ymadel.
Ond yr wyf yn dychwelyd attoch chwi eilwaith, gan fod bagad o honoch heb wybod beth i ddeall wrth ddychweliad, dangosaf i chwi beth yw. A chan fod eraill yn rhyfygu am drugaredd hebddi, dangosaf mor rheidiol yw. Y mae eraill yn ymgadarnhau mewn gau dŷd oi bod wedi eu dychwelyd yn barod▪ iddynt hwy y dangosaf arwyddion o rai annychweledig. Eraill wrth eu bod heb deimlo niwed, ydynt heb ei ofni hefyd, ac felly yn cyscu ar ben yr hwylbren; ir rheini yr amlygaf drueni'r annychweledig. Y mae Eraill yn aros yn ei drwg cyflwr heb weled y ffordd i ddyfod allan o hono; caiff y rheini weled moddion dychweliad. Ac yn ddiweddaf er mwyn cynhyrfu pawb o honynt, dibenaf drwy roddi annogaethau i ddychwelyd.
PEN. I. Yn dangos beth nid yw dychweliad, ac yn diwygio camgymeriadau yn ei gylch.
ER ir Samariaid deillion addoli'r peth ni wyddent; Joan 4. 22. ac ir Atheniaid digred drwy yscrifen anrhegu eu hallor i'r Duw nid adwaenir, Act. 17. 23. Ac ir Papistiaid twyllodrus alw anwybodaeth yn fam duwioldeb, a hi yn fam dinystr, Hosh. 4. 6. Etto pawb a'r a ddeallant natur ddynol, a gweithrediadau 'r Enaid rhesymmol, yr hwn y mae'r meddwl iw reoli, a ddirnadant reitied iw gollwn goleuni iw fewn os mynnir ei berswadio Ignorantis non est consensus. Sâl yw cyttundeb yr anwybodus. Am hynny fel na chamgymeroch, dangosaf i chwi beth yw'r dychweliad a fynwn i chwi ymegnio am dani.
Dywed ystori genhedlig i Jau ollwn coronau aur o'r nef i lawr, a'u dwyn hwy i gyd ond un, gan ladron: ar hynny rhag colli hwnw hefyd ydoedd beth mor werthfawr; gwnaethpwyd rhai eraill cyn debycced iddo, fel os caisie neb ei ddwyn, na allei wybod rhagor rhyngtho a'r lleill. Ac yn ddinam fy ngharedigion y mae'r Cythrael yn gwneuthur lluniau dychweliad, ac yn twyllo'r naill â hwn, ac arall a'r llall, ac y mae ei gelfydded ef mor gywrain yn y dirgelwch yma, ac y bydde iddo pedfai bossibl dwyllo 'r Etholedigion. Am hynny er mwyn didwyllo y rhai a dybiant eu bod wedi eu dychwelyd, er na bont felly, ac er diddanu 'r Sawl a ofnant nad ydynt wedi dychwelyd, er eu bod felly, dangosaf i chwi natur dychweliad, beth nid yw, a pheth ydyw.
[Page 7]1. Nid proffess diffrwyth o Gristnogaeth yw. Diammeu fod gwir Gristnogaeth yn beth mwy nag enw. Dywed Paul nad mewn ymadrodd y mae ond mewn gallu, 1 Cor. 4. 20. Nid oedd Eglwysydd Sardis a Laodicea nac Juddewon na phaganiaid, eithr Cristnogion wrth broffes, a chanddynt Enw o fod yn fyw; ac o herwydd nad oedd ganddynt ond yr enw, mae Christ yn bwgwth eu chwydy hwy allan, Datc 3. 1, 16. Y mae llawer yn Enwi'r Arglwydd Jesu, ac beb ymadel ag anwiredd, 2 Tim. 2. 19. Ac yn professu yr adwaenant Dduw, ac ar weithredoedd yn ei wadu. Tit. 1. 16. Nid all y rhain fod wedi eu troi oddiwrth bechod, a nhw yn byw ynddo. Pettai lamp proffess yn ddigonol, ni chauasid allan mor Morwynion angell, Math. 25. 3. 12. Troir heibio yn nydd y farn lawer o'r rhai a broffessant Grist, ac o'r rhai ai pregethant ef hefyd, er darfod iddynt wneuthur gwrthiau yn ei enw ef; damnir hwy am eu bod yn weithredwyr anwireddau, Math. 7. 22, 23.
2. Nid y Bedydd gweledig mono. Mae llawer yn gwisco lifreu Christ, heb wneuthur gwasanaeth iddo, ac yn derbyn peth cyflog ganddo, ac yn ymhonni oi bod dan ei faner ef, etto heb fod yn ffyddlon iddo ef, ac heb wr: hwynebu ei Elynion ef. Bedyddiwyd Ananias a Saphira a Magus. O faint fel hyn sydd yn twyllo ac yn cael eu twyllo, gan dybied fod grâs effeithiawl yn gyssylltedig bob amser wrth y bedydd â dwfr. Fel y taera'r Papistiaid fod y Sacramentau yn gweithio grâs ex opere operato, o ran y gorchwyl Sacramentawl: Cam hyder ar eu bedydd a wna lawer yn ddiofal am eu cyflwr. Ped ailgenid y plant i gyd wrth eu bedyddio, byddent cadwedigol oll, canys y mae addewid o jechydwriaeth ir adgenedledig, Act. 3. 19. 1 Pet. 1. 3. 4. [Page 8] Math. 19 28. Ein galwad, ein troad, a'n sancteiddiad (y rhai ydynt yr un peth dan amryw enwau) yw canol y gadwen aur, pen cyntaf yr hon a gyssylltir wrth ein Etholedigaeth, a'r olaf wrth ein gogoneddiad, Rhuf. 8. 30. 2 Thess. 2. 13. 1 Pet. 1. 2. Ni wasnaetha torri'r llinyn arian. sef y cyssylltiad rhwng gras a gogoniant, Math. 5. 8. Os ydym mewn gwirionedd wedi ein hadgenhedlu y mae i ni ditl i etifeddiaeth anllygredig, ac ynghadw yn y nefoedd ini, a gallu Duw a addawodd ein cadw ninnau iddi hitheu, 1 Pet. 1. 3, 4, 5. Ped fai'r adgenedledig iw colli yneu pechodau ar y diwedd, ni ddywedasai 'r Apostol nad yw'r hwn a aned o Dduw yn gwneuthur pechod, sef i farwolaeth, am fod ei hâd ef yn aros ynddo ef, 1 Joan 3. 9. Ni ddywedasai 'r Efengyl chwaith fod yn ammbossibl dwyllo'r Etholedigion.
Yn ddiau pettai pob un a fedyddiwyd yn gadwedig, ni byddai raid ini ond chwilio coflyfr y Plwyf i wybod a yw'n henwau ni yn yscrifennedig yn y nefoedd. Pettai tystiolaeth o'n bedyddio yn rhoi siccrwyd o'r nef, byddei esmwyth yr helynt; yna ni byddei raid wrth farw ond dangos honno, fel y ceid porth gogoniant yn agored; fel y mynnodd Philosophydd ei gladdu â'r fond yn ei law, yr hon a seliasiei athro iddo, y telid ei elusenau iddo ef yn y bŷd arall. Hefyd pettai pob proffess o'r Grefydd Gristianogol yn gwasanaethu am adgenedliad, ni ddywedai yr yscrythur mai cyfyng yw 'r porth, a chûl yw'r ffordd, Math. 7. 14. Canys os yw pawb a fedyddir ac a broffessant y wir Grefydd yn gadwedig, gallwn ddywedyd mae chang yw'r porth, a llydan yw'r ffordd sydd yn arwain i fywyd; yna galleu teyrnasoedd cyfain fyned ynghyd iddi; ac nis gellid ddywedyd mai braidd yr achubir y cyfiawn, ac mai rhaid cymeryd [Page 9] teyrnas nefoedd drwy drais, ac ymdrechu i fyned iddi. Pettai ddigon ini gael ein bedyddio, a dywedyd Arglwydd trugarhâ, a derbyn gollyngdod gan weinidog yn ein diwedd, ni byddai raid mor rhedeg, a'r ceifio, a'r curo, a'r ymladd a ofyn y gair, gan y rhai a fynnant iechydwriaeth: ie nid ellid dywedyd am fywyd tragwyddol mai ychydig sydd yn ei chael, ond yn hytrach ychydig sydd yn ei cholli: Na dywedyd llawer a elwir ac ychydig a ddewisir, Math. 22. 14. Ac mai gweddill a achubir o Israel, Rhuf. 11. 5. Na dywedyd gyd a'r dyscyblion, pwy a all fod yn gadwedig? Marc 10. 26. Ond pwy nis gall fod yn gadwedig? Yna os bydd un a elwir yn frawd (sef yn Gristion) ac a fedyddier, er iddo fod yn oddinebwr, yn difenwr, yn gybydd, yn feddw, caiff etifeddu teyrnas Dduw, yn erbyn geirieu 'r Apostol, 1 Cor. 5 11. ac 6. 9, 10. Os dywed Arminiaid fod y cyfryw Gristnogion yn syrthio oddiwrth y grâs a dderbyniasant yn eu bedydd, a bod yn rheidiol eu hailgeni drachefn: Yr wyf yn atteb, 1. Fod Cyssylltiad siccr rhwng yr ailanedigaeth ac jechydwriaeth; 2. Fel nad yw dyn yn cael ei genhedlu ond unwaith ir bywyd naturiol, felly nid yw yn cael ei adgenhedlu ond unwaith ir bywyd ysprydol: 3. Mae'n eglur, beth bynnag a dderbynio rhai yn y bedydd, os y nhw wedi hynny a diônt i fod yn annuwiol, mai rhaid eu hailgeni, ac onide y caeir hwynt allan o deyrnas Dduw.
Ynteu garedigion na thwyller monoch, ni watworir Duw, Gal. 6. 7. Er i chwi dderbyn crêd a bedydd, os byddwch aflan a malaisus, a chybyddus, heb weddio Duw, heb ddilyn Sanctciddrwydd, nis gallwch fod yn gadwedig oddieithr eich adnewyddu drwy edifeirwch, Job 15. 14. Dihar 13. 20. Heb. 12. 14. Math. 16. 24.
[Page 10]Rhaid imi yma ystyried un gwrthddadl; sef bod y Sacramentau yn effeithiawl ibawb ni rwystro eu gweithrediad, yr hyn ni wna plant bychain.
Atteb. Ped ordeiniasid y bedydd i adgenhedlu ni buasei wedi ei attal i blant y ffyddloniaid yn unic, canys y mae cyfraith Dduw, a chariad yn gofyn genym gynnig moddion troedigaeth i bawb, fel y caffom achlysur: Ac felly bydde dda ini gipio plant Turciaid, a Phaganiaid iw bedyddio, beth bynag a wneid gwedi hynny, trwy na thrinid hwynt fel y gwnaeth rhai gwaedlyd â Phrotestaniaid ydoedd dan eu dwylo hwynt, sef eu tyngu hwynt i ddyfod ir offeren, ac wedi hynny lladdasant hwynt, gan ddywedyd y caent farw tra faent mewn meddwl da. Je ordeiniwyd y bedydd yn hytrach i gadarnhau 'r ailanedigaeth nag iw gweithredu: Am hynny yr Edifeiriol a'r credadwy ai derbynieu, Act. 8. 37. Act. 2. 38. ac 10. 47. Marc 16. 16. a direswm yw tybied ordeinio bedydd i wneuthur y peth ydoedd wedi ei wneuthur eisioes. Y rhai mewn oed a droeu 'n gristnogion ac a gyffessent eu ffydd a fedyddid, ac ni fedyddid eu plant hwy ond ar eu hol hwynt, ac yn eu hawl hwynt, nid oeddent yn cael Bedydd cyn iddynt ymroddi i fod yn ddyscyblion, Math. 28. 19.
Hefyd wrth fod y bedydd yn insel y cyfamod grasol, nid all siccrhau'r trugareddau grasol i neb ond ar yr ammodau sydd wedi eu mynegi yn yr efengyl, sef ffydd, ac edifeirwch, heb y rhai ni chaiff pobl oedranus faddeuant, Act. 3. 19. ac 16. 31. Nid oes un sêl yn cadarnhau dim mwy nag y fo gynwysedic yn yr yscrifen wrth yr hon y Cyssylltir hi.
3. Nid Cyfiawnder Moesol mono; canys oni bydd yn gyfiawnder helaethach nâ'r eiddo'r scrifennyddion a'r pharisæaid ni ddichon ein dwyn ni i [Page 11] deyrnas nefoedd, Math. 5. 20. Yr ydoedd Paul cyn troi'n Gristion yn ol y cyfiawnder hwnw yn ddiargyoedd, Phil. 3. 6. Ni ddywedei neb wrtho du dy lygad. Dywedai 'r Pharisaead, nad oedd draws, nac anghyfiawn, na godinebwr, Luc. 18. 11. Rhaid bod genit fwy na hyn, ac onidê er iti dy gyfiawnhau dy hun, Duw ath condemnadi. Nid yw uniondeb Moesol beth yw Oganu, etto gochela roi goglud arno; y mae duwioldeb yn ei gynwys ynddo, megis ac y mae grâs yn cynwys rheswm ynddi.
4. Nid yw yn unic gydffurfiad oddiallan i rcolau duwioldeb; ysoweth y mae'n rhy amlwg fod gan bobl ffurf. duwioldeb heb y grym: 2 Tim. 3. 5. Gall rhai weddio'n hir, Math. 23. 14. Ac ymprydio'n fynych, Luc. 18. 12. A gwrando 'n hyfryd, Marc 6. 20. A bod yn draulgar ar wasanaeth Duw, Esay 1. 11. Ac etto'n ddieithraid ir ailanedigaeth. Rhaid bod ganddynt ychwaneg yw ddywedyd drostynt eu hunain na'i bod hwy yn cadw'r Eglwys, ac yn rhoi elusen, ac yn darllen gweddi, iw profi eu hunain yn wir ddychweledig. Gall rhagrithiwr wneuthur pob gwasanaeth oddiallan, gan rannu ei dda ir tlodion, a dioddef erlid, 1 Cor. 13. 3.
5. Nid attaliad Llygredigaeth mono. Gall dugiad i fynu, ofn cyfreithiau dynol, a thrymder custuddiau gadw llygredigaeth i mewn; fel y digwyddodd i Jehoash, yr hwn a hyfforddodd wasanaeth Duw tra fu ei ewythr Jehoiadah yn fyw, gan ofalu am adgyweirio tŷ Dduw, 2 Brenh. 12. 2, 7. Ond dugiad da y fynu a barodd iddo hynny, tra yr oedd efe dan olugiad a chyngor Jehoiadah; ac wedi marw ei Athro daionus, trôdd at eulyn-addoliaeth, ac amlygodd nad oedd efe o'r blaen ond megis blaidd wedi ei rwymo.
[Page 12]6. Nid yw hi oleuad, ac argyoeddiad meddwl yn unic, na dywygiad hannerog o feiau. Gall gwrthgiliwr fod wedi ei oleuo, Heb. 6. 4. A Felix grynu dan argyoeddiad, Act. 24. 25. A Herod wneuthur llawer o bethau, Marc 6. 20. Dychrynu pechod drwy argyoeddiad sydd lai nai groeshoelio drwy râs. Y rhai a gythryblwyd yn eu cydwybodau am bechod a dybiant ou cyflwr yn dda: Ond bu pigiad a gwŷn cydwybod yn Cain, nes iddo drwy adeiladu a thrin y byd adel ymmaith ymwrando â hi, Gen. 4. 13, 14. Eraill wedi troi ymmaith oddiwrth gyfeillach ddrwg, a sobri peth, a dybiant hynny yn droedigaeth safadwy; gan anghofio fod llawer yn ceisio myned i mewn i deyrnas nef, Luc. 13. 24. Ac heb fod bell oddiwrthi, Marc 12. 34. Ac agos yn Gristnogion, Act. 26. 28. Ac etto yn dyfod yn fyr: Tra fo cydwybod yn dal y fflangell uwch eu pennau, bagad a wrandawant y gair, a ddarllenant, a weddiant, ac a ymattaliant oddiwrth rai pechodau; Ond gynted ac y cysco'r llew hwn, tront yn ddiofn at y drwg eilwaith fel Ci at ei Chwdfa: Tra 'r ydoedd llaw Dduw ar yr Iuddewon byddent grefyddol, Psal. 78. 34, 35. Ond cyn gynted ac yr ai'r custydd heibio anghofient Dduw, ac amlygent nad oedd eu defosiwn ond cysymmeth, Adn. 36, 37. Gelli fwrw rhyw bechod na byddo 'n dy gymmod â thi, a diangc rhag halogedigaeth y bŷd, ac etto heb newid natur mochyn, 2 Pet. 2. 20, 22. Gellir taflu plwm toddedig i fewn mold i fod ar ystum anifail; ai doddi eilwaith ai dywallt i fewn mold arall i fod ar ystum dŷn, ac etto heb fod ond plwm er hynny: Ac felly y dichon y pechadur gael ei newid o afradlondeb i sobrwydd, o anwybodaeth i ddeallt wriaeth, o ymarweddiad annuwiol i ffurf grefyddol; a bob heb wîr ras er hynny.
[Page 13] Defnydd. Gwrandewch ynteu o bechaduriaid, a deuwch, gwrandewch fel y byddo byw eich Enaid, Esay 55. 3. Pam y twyllwch chwi eich hunain, ac yr adeiledwch eich gobaith ar y tywod? Gwn mae gwaith blin a gaiff yr hwn a geisio ddadwreiddio eich gobaith, gorchwyl gwrthwynebus yw i chwi, ac annifyr i minneu. Yr wyf yn myned yn ei gylch ar fath feddylfryd a meddig, a fyddo i dorri ymmaith aelod pwdr oddiwrth gorph ei gyfaill anwyl, yr hyn a wna a chalon dosturiol, ai law yn crynu: Ond ystyriwch frodyr mai tynny i lawr yr wyf yr adeilad frau rhag iddi syrthio arnoch, a cheisio codi un arall deg, gadarn yn ei llê, a barhao byth. Gobaith y drygionus a gyfrgollir, Dihar. 11. 7. Ac onid gwell iti bechadur adel ir gair dy argyoeddi di yr awr hon mewn pryd, a gadel ymmaith dy obaith twyllodrus, na bod i farwolaeth yn rhy hwyr dy geryddu, a syrthio i uffern yn ddiarwybod. Mi fyddwn fugail anffyddlon oni ddangoswn i chwi eich amryfussedd, os ydych yn adeiladu eich gobaith ar y fath sylfeini ac a ragfanegwyd, gadewch eich cydwybodau lefaru; beth sydd gennwch i ddywedyd drossoch eich hunain? Ai eich bod chwi yn gwisco lifreu Christ, ai enw ef arnoch, ach bod o'r Eglwys weledig, ac yn hyddysc ar brifannau crefydd? Ai eich bod yn weddol ac yn gwneuthur dyledswyddau crefyddol, ach bod yn gywyr mewn achosion, ac weithiau yn gythryblus o herwydd eich pechodau? Tystiolaethaf i chwi na bydd yr Escusodion hyn gymeradwy ger bron brawdle Duw; er bod y pethau hyn yn dda yn eu rhyw, etto nid ydynt ddigon tuag at jechydwriaeth, ac ni phrofant eich bod yn ddychweledig at Dduw. Oh edrychwch attoch eich hunain, ymosodwch i weddio, i ddarllen, ac i'ch chwilio eich hunain, ac na [Page 14] orphwysych nes i Dduw wneuthur ei gyflawn waith ynoch.
Ac od yw y rhain heb gywyr ddychweliad beth a ddywedaf wrth y pechadur halogedig amlwg? Fe allei nad Edrych ef, ac na wrendi ef ar hyn o draethawd; ond os bydd ir cyfryw ei ddarlen, na'i wrando, gwybydded yn enw'r 'Arglwydd ai gwnaeth ei fod ef ymmhell oddiwrth deyrnas Dduw. Os yw'r rhai Moesol heb eu troi, ple'r ymddengus y meddw a'r glwth? Os caeir allan rai a ymgymdeithaso a morwynion doeth cyfeillion i ynfydion a ddifethir, Dihar. 13. 20. Os gall rhai fod yn gyfiawn ger bron dynion, gan drin eu achosion yn onest, ac etto heb fod wedi eu cyfiawnhau gan Dduw, beth a ddaw o honoti y sydd ath gydwybod yn tystiolaethu iti dy fod ti yn dwyllodrus yn dy ffyrdd, ac yn elwa drwy dafod celwyddog? os yw y rhai a oleuwyd ac a gyflawnant fagad o ddyledswyddau sanctaidd, ac ydynt yn gorphwyso arnynt y tu yma i wir râs, yn dyfod yn fyr o jechydwriaeth, beth a ddaw o'r teuluoedd diweddi ydynt yn byw megis heb Dduw yn y bŷd, ac nid yw Duw yn eu holl feddyliau, y rhai o herwyd eu hanwybodaeth ni fedrant, neu o ran esceulusdra ni fynnant weddio Duw. O Edifarhewch a dychwelwch, torrwch ymmaith eich pechodau drwy gyfiawnder, ewch at Grist am faddeuant, a grâs i'ch adnewyddu, ymroddwch iddo ef i rodio mewn sancteiddrwyd, ac onide ni chewch weled Duw. Oh na chymerech rybuddion Duw, yn ei enw ef yr wyfi unwaith etto yn eich cynghori, dychwelwch wrth fy ngherydd, Dihar. 1. 23. Ymadewch â'r rhai ffôl a byddwch fyw, Dihar. 9. 6. Byddwch sobr, a chyfiawn, a duwiol, Tit. 2. 12. Glânhewch eich dwylo chwi bechaduriaid, [Page 15] a phurwch eich calonnau chwi a'r meddwl dauddyblyg, Jag. 4. 8. Peidiwch a gwneuthur drwg, dysgwch wneuthur daioni, Esay 1. 16, 17. Ac onide meirw a fyddwch, Ezec. 33. 11.
PEN. II. Yn dangos beth yw Dychweliad.
NI wasnaetha i mi eich gadel a'ch llygaid wedi eu hanner egor, fel yr hwn a welai ddynion megis preniau yn rhodio, Marc 8. 24. Y mae'r gair yn fyddiol i athrawiaethu, megis ac i geryddu. 2 Tim. 3. 16. Am hynny gan imi eich hwylio chwi heibio i gymaint o greigiau amryfussedd peryglus, chwenychwn er diwedd eich dwyn chwi i fewn porthladd gwirionedd.
Dychweliad ynteu ar ychydig eiriau yw cwbl newidiad y galon, a'r fuchedd. Mi ai darluniaf ef yn ei natur ai achosion.
1. Yspryd Duw sydd yn ei weithio, am hynny ei gelwir sancteiddiad yr yspryd, 2 Thess. 2. 13. Ac adnewyddiad yr Yspryd Glân, Tit. 3. 5. A hynny ynghyd â'r Tâd a'r Mâb; o herwydd dysc yr Apostol ni i fendithio Tâd ein Harglwydd Jesu Grist, o herwydd iddo ein hadgenedlu ni i obaith bywiol, 1 Pet. 1. 3. Ac y mae Christ yn rhoddi Edifeirwch i Israel, Act. 5. 31. A gelwir ef y Tâd trag wyddol, Esa. 9. 6. A ninnau ei hâd ef, a'r plant a roddes Duw iddo ef, Heb. 2. 13. Esay 53. 10. O anedigaeth fendigedig! Saith o ddinasoedd a ymhonnent o anedigaeth Homer: Y mae 'r Drindod yn Dâd ir creadur newydd, yr hwn a enir o'r Yspryd, Joan 3. 8.
[Page 16]Ynteu gwaith yw y sydd uwchlaw gallu dynol; Genir ni nid o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr eithr o Dduw, Joan 1. 13. Na thybia y gelli dy droi dy hun: Os mynni ddychweliad safadwy na ddisgwyl mono drwy dy nerth dy hun; Adgyfodiad ydyw oddiwrth y meirw, Datc. 20. 5. Ephes. 2. 1. Creadigaeth newydd, Gal. 6. 15. Ephes. 2. 10. Gwaith yr Hollalluog, Ephes. 1. 19. Gwaith goruwchnaturiol yw. Onid oes ynot bethau amgenach nag sydd ddilynawl ir ganedigaeth cyntaf, sef natur addfwyn, neu dymer ddiwair, ni chesaist mo'r cywyr ddychweliad.
2. Yr annogaeth sy'n cynhyrfu Duw iw weithio ydyw ei râd râs ef. Nido weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, drwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd Glân, Tit. 3. 5. Oli wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, Jag. 1. 18. Etholwyd a galwyd ni fel y byddem ni sanctaidd, ac nid am ein bod ni felly o'r blaen, Ephes. 1. 4.
Nid yw Duw yn cael dim ynom ni i gynhyrfu ei gariad, ond digon i gyffroi digofaint. O Gristion edrych yn ol arnat dy hun, cymmer ith law dy garpiau pryfedlyd; Edrych fel yr oeddit yn dy waed, Ezec. 16. 6. Oh atcofia dy natur mochyn a'th soeg, a'th dom a hoffaist, 2 Pet. 2. 22. A elli di feddwl am danynt heb wrthwyneb calon? Egor dy fedd, Math. 23. 27. Edrych ar dy Enaid drewllyd, a'th aelodau ffiaidd, onid yw archwaith agos yn dy ladd di? O aroglau anoddefadwy lygredigaeth! Psal. 14. 3. Gwêl fod i'th trochwyd yn y pwll, a'th ddillad a'th ffieiddiant, Job 9. 31. Pa fodd ynteu y dichon sancteiddrwydd a phurdeb dy garu di? O chwi nefoedd synnwch wrth hyn a chynhyrfer y ddaiar, Jer. 2. 12. Rhaid i bawb [Page 17] weiddi Rhâd, Rhâd, Zechar. 4. 7. Gwrandewch a chwilyddiwch o chwi blant y goruchaf, am nad yw rhâd râs yn fynychach yn eich safnau a'ch meddyliau, ac na baech yn ei ryfeddu ac yn ei ganmol yn fwy. Dylech chwi foliannu a rhyfeddu cariad Duw ymmha gyflwr bynnag y byddoch. Pa fodd y gellwch ei anghofio, neu sôn yn anfynych am dano? Beth oedd ynoch chwi ond casineb, a gwrthuni, chwdfa, a phudredd? Nid alleu y rheini annog Duw i'ch caru chwi. Am hynny y mae Pedr yn derchafu ei ddwylo ac yn dywedyd, Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn yn ol ei fawr drugaredd a'n hadgenbedlodd ni, 1 Pet. 1. 3. Ac mor deimladwy y mae Paul yn mawrhau rhâd drugaredd Duw yn y peth? Duw yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, a'n Cydfywhâodd ni gyd â Christ, trwy râs yr ydych yn gadwedig, Ephes. 2. 4. 5.
Annogaeth arall yw haeddiant ac erfyniad yr Jesu Bendigedig. Efe a dderbyniodd roddion i ddynion cyndyn, Psal. 68. 18. A thrwyddo ef y mae Duw yn gweithio ynom yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef, Heb. 13. 21. A thrwyddo ef y rhoddir ini bob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd, Ephes. 1. 3. Efe a erfyn dros y rhai Etholedig y sydd etto heb gredu, Joan. 17. 20. Frwyth llafur ei enaid ef yw dychweliad un, Esay 53. 11. Erioed ni anwyd plentyn ir byd drwy gymmaint gwewyr, ac a ddioddefodd Crist drosom ni. Oh mor dosturus y bu iddo ochain! Ei ddioddefiadau ef ar y groes ydoedd ei wewyr ef i'n ganedigaeth ni, Act. 2. 24. Rhyddhaewyd ef o'r gofidiau a oddefodd ef er ein mwyn ni, gwnaed ef yn sancteiddrwydd i ni, 1 Cor. 1. 30. Efe a ymsancteiddiodd [Page 18] (sef a ymroddodd i fod yn aberth) fel y sancteiddid ni, Joan 17. 19. Sancteiddir ni trwy offrymmiad ei gorph ef unwaith, Heb. 10. 10.
Ynteu erfyniad, a haeddiant Crist, gyda ei ymyscaroedd cariadus ei hun, sydd yn cynhyrfu Duw i roddi i ni râs a'n dychwelo atto ef. Os ydwyt greadur newydd ti a wyddost i bwy y mae iti ddiolch, sef i râd gariad Duw, ac i Grist am ei ofidiau ai weddiau. Am hyn y mae serch y credadyn ar Grist fel un y plentyn ar ei fam anwyl. At bwy arall yr eit ti? Os gall neb ryw un ddangos mwy i ennill dy galon atro, gad iddo ei chael. A ydyw Satan yn ei cheisio, neu'r pechod? Gwybydd na chroeshoeliwyd y rhain drosoti, 1 Cor. 1. 13. O Gristion hoffa a gwasanaetha'r Arglwydd tra fyddech byw, canys y mae'r publicanod yn caru y Sawl ai carant hwy, Math. 5. 46, 47.
3. Yr offerau drwy ba rai y gweithir dychweliad mewn pechaduriaid yw gair Duw, a'i weinidogaeth. Myfi a'ch cenhedlais chwi yn Ghrist Jesu trwy'r Efengyl, 1 Cor. 4. 15. Gweinidogion Crist a anfonir i agoryd Llygaid dynion, ac iw troi at Dduw, Act. 26. 18.
O bobl anniolchgar, ni wyddoch chwi beth yr ydych arno tra fyddoch yn erlid cennadon yr Arglwydd, y rhai sydd i'ch achub chwi dan Grist. Pwy a ddifenwasoch ac a gablasoch, ac yn erbyn pwy y derchafasoch eich llêf, ac y cyfodasoch yn uchel eich Llygaid? Esay 37. 23. Y dynion byn ydynt weision y Duw Goruchaf y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd jechydwriaeth, Act. 16. 17. Ai hyn a delwch ir Arglwydd ac iddynt hwytheu o bobl ynfyd ac angall? Deut. 32. 6. O feibion anniolchgarwch yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr Estynnwch dafod? Esay 57. 3, 4. Drwy y rhain y mae Duw [Page 19] arferol o'ch troi chwi a'ch achub, ac a boerwch chwi yn wynebau eich Pysygwyr, ac a deflwch chwi eich Llywiaid o'r llong? O Dâd maddeu iddynt, canys ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur.
Offeryn enwedigol yw gair Duw. Cenhedlwyd ni drwy air y gwirionedd. Hwn sydd yn goleuo'r llygaid ac yn troi'r enaid, Psal. 19. 7, 8. yn gwneuthur yn ddoeth i jechydwriaeth, 2 Tim. 3. 15. Hwn yw'r hâd anllygredig o'r hwn y genir ni drachefn, 1 Pet. 1. 23. Os golchwyd ni, drwy'r gair y bu hynny, Ephes. 5. 26. Os sancteiddwyd ni, trwy'r gair y gwnaed felly, Joan 17. 17. Hwn sydd yn cenhedlu ffydd, ac yn ein ailgenedlu ninneu, Rhuf. 10. 17. Jag. 1. 18.
O rai sanctaidd llwyr y dylech hoffi'r gair, canys trwy hwnw y dychwelwyd chwi! O chwi bechaduriaid dyfal gyrchwch atto, canys trwyddo y rhaid i chwi gael eich troi, nid oes fôdd arferol arall: O chwi y rhai a deimlasoch ei allu ef yn eich adnewyddu, gwnewch yn fawr o honaw tra y byddoch fyw, byddwch ddiolchgar am danaw, rhwymmwch ef am eich gyddfau, yscrifenwch ef ar eich dwylo, gosodwch ef yn eich monwesau, Dihar. 6. 21, 22. Pan gerddoch gedwch iddo eich arwain, pan gysgoch gedwch iddo eich gwiliad, pan ddeffrowch gedwch iddo ymddiddan â chwi: Dywedwch fel Dafydd sanctaidd, byth nid anghofiaf dy orchymynion, canys â hwynt i'm bywheaist, Psal. 119. 93. A chwitheu y rhai annychweledig, darllenwch y gair yn ddiwyd, ymgesglwch atto lle y pregethir ef yn rymmus, llenwch y pyrth, fel y gwnaeth y lliaws o'r bobl weiniaid, ddeillion, cloffion, a gwywedig, tra disgwilient am gynhyrfiad y dwfr, Joan 5. 3. Gweddiwch am ir Yspryd ddyfod gyda'r gair: Oddiar dy liniau dos at y bregeth, [Page 20] a phan ddychwelych oddiwrthi dos ar dy liniau eilwaith. Nid yw'r hâd yn egino ac yn ffrwytho eisieu ei ddyfrhau â dagrau, a gweddiau, ai blannu drwy ddwfnfyfyrdod.
4. Yr achos enwedigol a dibennol yw jechydwriaeth dyn, a gogoniant Duw. Etholwyd ni i jechydwriaeth drwy sancteiddiad, 2 Thess. 2. 13. Galwyd ni fel i'n gogoneddid, Rhuf. 8. 30. Ac yn enwedig fel y caffai Duw ogoniant, Esay 60. 21. Ac y myneger ei rinweddau ef, pan fo ni ffrwythlon mewn gweithredoedd da, Col. 1. 10.
O Gristion nac anghofia'r achos y galwyd di oi herwydd; discleiried dy oleuni fel y gogonedder dy Dâd, Math. 5. 16. Bydded dy ffrwyth yn dda, yn anil ac yn dymhoraidd, Psal. 1. 3. Bydded dy fwriadau di yn gyttunol ag amcannion Duw, fel y mawrhaer ef ynoti, Phil. 1. 20. Pam yr edifarai Duw am dy wneuthur di yn Gristion, megis yr edifarodd am wneuthur pobl yr hên fyd yn ddynion? Gen. 6. 6. Na fydd anharddwch iw winllan ef wrth dy anffrwythlondeb: Luc. 13. 7. Na Mâb a wnel gywilydd, ac a bair ddigllonedd iw dâd, a chwerwder iw fam, Dihar. 10. 5. ac 17. 25. Bydded ir grôeth ath ymddug di, dy fendithio: yr hwn a genhedlo un ffôl a ennill iddo ei hun dristwch, ac ni bydd llawen tâd yr ynfyd, Dihar. 17. 21.
5. Yr hwn a ailenir yw'r pechadur etholedig, ac efe a gweirir yn drwyawdl, yn holl rannau ei gorph a galluoedd ei enaid: y rhai a raglluniodd Duw a eilw efe hefyd, Rhuf. 8. 30. Ni thynnir at Grist drwy eu galw, ac ni ddaw atto ef drwy ffydd, ond y defaid hynny a roddes y Tâd iddo ef, Joan 6. 37, 44. Galwad effeithiawl sydd yn cyfatteb etholedigaeth dragwyddawl, 2 Pet. 1. 10.
[Page 21]Yr ydwyti yn dechreu yn chwithig os ceisi weled dy Etholedigaeth yn gyntaf peth: bydd siccr o'th alwad, ac yna nid rhaid itti ammeu dy Etholiad: Ac onid yw dy alwad hynod iti yn barod, yr awr hon ymrodda i ddychwelyd at Dduw yn hollawl. Y mae arfaeth Duw yn ddirgel i ni, ond y mae ei addewidion ef yn eglur. Y mae'r anufydd yn argumennu yn ddibrus wrth ddywedyd, os etholwyd fi achubir fi beth bynnag a wnelwyf, ac onide collir fi er gwneuthur fyngoreu. O bechadur gwrthnyssig a fynni di ddechreu, lle y dyliti ddiweddu, onid yw'r gair ger dy fron di? Beth a ddywed hwnnw? Edifarhewch a dychwelwch fel y deleer eich pechodau, Act. 3. 19. Os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corph trwy'r yspryd, byw fyddwch, Rhuf. 8. 13. Crêd a bydd gadwedig, Act 16. 31. Beth all fod amlyccach? Na segura dan ymddadlu yngylch dy etholedigaeth, ond ymosod i edifarhau ac i gredu: Gwaedda ar Dduw am râs. Pethau datcuddiedig a berthyn iti, bydd ddiwyd yn eu cylch. Barn gyfiawn yw ir rhai hynny ymdagu ag escyrn, y rhai ni fynnant gymeryd ymborth iachus y gair. Nid elli wybod amcanion Duw, ond di elli wybod ei addewidion ef, ac hyderu arnynt, canys disiommedig ydynt. Gelli fod yn ddiogel, os edifarhei a chredu cadwedig fyddi, onidê colledig fyddi; Dyma ffordd wastad iw cherdded, pam ydringi di'r creigiau?
6. Ymmhellach y mae dychweliad yr Etholedig yn drwyadl: Gall fod gan un cnawdol beth fitrach gonestrwydd bydol, ond nid yw ei frethyn yn dda drwyddo, sef ei holl fuchedd yn Gristianogol a sanctaidd: Teimlwch ef tuar canol, a chewch weled mai darn twyllodrus yw. Nid yw grâs yn cluttio'r hên adeilad, ond [Page 22] yn ei thynnu i lawr, ac yn cyfodi un newydd o'r sylfaen hyd y drym. Dŷn newydd a chreadur newydd yw, Ephes 4. 24. Pob peth yn newydd ganddo, 2 Cor. 5. 17. Y mae dychweliad yn waith dwfn, ac yn y galon, Act. 2. 37. ac 6. 14. y mae'n gwneuthur i ddyn fod mewn cyflwr newydd, y mae'n treiddio drwy'r meddwl, a'r aelodau, a'r fuchedd oll.
Trwy'r meddwl, gan wneuthur llwyr gyfnewidiad oddi fewn, try'r cloriau yn y dealltwriaeth, pwysfawr y fydd Duw ai ogoniant yn ei dŷb ef, ac yscafn y fydd gwagedd fydol. Act. 20. 24. Phil. 1. 20. egoriff lygaid y meddwl a gwnaiffi'r cenn o anwybodaeth syrthio oddiwrthynt, gan droi pobl o dywyllwch i oleuni. Act. 26. 18. Ephes. 5. 8. 1 Pet. 2. 9. Ac yna censydd dyn ei berigl ai gyflwr enbydus, na wyddai oddiwrtho o'r blaen, Act. 2. 37. A barna ei hun yn golledig oddieithr ei lwyr adnewyddu drwy râs. Er iddo o'r blaen dybied nad oedd fawr niwed yn y pechod, yn awr ai cydnebydd yn ddrwg pennaf: Gwel mor anrhesymol, mor anghyfiawn, mor wrthun, ac mor ffiaidd yw; oni byddo yn llaru arno, yn ei arswydo, ac yn ei ochelyd, ac yn ddig wrtho ei hun am gymeryd ei hudo ganddo gynt. Rhuf 7. 15. Job. 42. 6. Ezek. 36. 31. yr hwn ni theimleu fawr bechod ynddo ei hun, ac nis gweleu achos i gyffessu'n edifeiriol, (fel y dywedwyd am yr Ignoramus dyscedig Bellarmin, yr hwn a wyddai lawer o'r byd ar led, etto ydoedd anghydnabyddus â'i galon ei hun, yn gymaint ac na wyddai fod un bai arno ei hun iw gyffessu ir offeiriad, nes edrych o hono yn ol at ffyrdd ei jeuenctid) yn awr a wêl bechod ynadfywio, ac ef ei hun yn marw. Rhuf 7. 9. gwêl fudreddi ei galon, a'i natur, a llefa aflan, aflan, L'evit. [Page 23] 13. 45. dywediff Arglwydd golch fi yn llwyrddwys oddiwrth fy anwiredd, glanhâ fi ag Yssop, crea galon lân ynof. Psal. 51. 2, 7, 10. Gwêl ei hun wedi cwbl ymddifwyno, Psal. 14. 3. Ac yn bren drwg, llygredig ei wraidd, ai ffrwyth, Math. 7. 17, 18. Yn aflan ei aelodau, a'i alluoedd, a'i weithredoedd. Esay. 64. 6. Rhuf. 7. 18. Cenfydd y corneleu aflan oeddent o'r blaen yn guddiedig gan dywyllwch, y Cabledd, lledrad, mwrdwr, a'r godineb yn y galon, oeddent yn llechu yno yn ddiarwybod. O'r blaen ni welai degwch yn Ghrist, na phrŷdferthwch fel y dymunai ef: Ond yn awr y mae yn caffel y tryssor cuddiedig, a gwerthiff y cwbl i brynu'r maes lle mae, Math. 13. 44. Crist yw'r perl gwerthfawr y mae'n ei geisio, a'r pechod yw'r pwll brwnt y mae yn ei ffieiddio. Yn awr wrth y goleufyneg hwn bydd dyn o dyb amgenach nag oedd ynddo o'r blaen: Gwerthfawr ganddo Dduw ac ni chyffelyba ddim yn y nefoedd na'r ddaiar iddo, Psal. 73. 25. Perchiff ef yn fwy na'r hollfyd, ei fywyd sydd yn ei ffafr ef; gwell ganddo lewyrch ei wyneb ef nag ŷd na gwîn, ac olew, y da ydoedd efe o'r blaen yn eu ceisio, ac yn eu serchu, Psal. 4. 6, 7. Yn awr er gosod y byd oll ar y naill du, a Duw yn unic ar y tu arall, ac er ir byd ymdrwsio a lliwiau têg, a gogoniant teyrnasoedd y ddaiar i geisio denu'r Enaid (fel y bu wrth demptio Crist) etto ni syrth yr Enaid i lawr i addoli'r byd, onid cyfrififf Crist croeshoeliedig, erlidieidig, yn well na'r cwbl a all y ddaiar ei gynnig, Phil. 3. 8. 1 Cor. 2. 2. pe rhôn i ragrithiwr addef mae Duw yw'r daioni pennaf, (megis y gwnaeth rhai paganiaid dyscedig) etto ni ddaw cyn belled a chydnabod Duw yn bennaf daioni iddo ef, ac felly ei ddymuno uwchlaw pob peth, ac [Page 24] ymfodloni ynddo yn unig, ai hoffi yn fwy na neb ryw beth arall, a dywedyd yr Arglwydd yw fy rhan i medd fy Enaid: Pwy sydd genifi yn y nefoedd ond tydi? Ac ni Ewyllyssiaf ar y ddaiar neb gydâ thydi. Nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd, Psal. 73. 25, 26. Galaru. 3. 24.
Bydd cyfnewidiad yn yr ewyllus hefyd, mae dymuniad a bwriad yr Enaid am ogoneddu Duw uwchlaw pob peth, Ezec. 36. 26. Jer. 31. 33. Esay 26. 8, 9. Philip. 1. 20. Cyfrififf ei hun yn ddedwydd pan allo ddwyn gogoniant i Dduw yn ei genhedlaeth, yr nôd y mae yn annelu atto yw mawrhau Enw'r Jesu yn y bŷd, a bod i yscubau ei frodyr ymgrymmu i yscub Crist. O ddarllenydd, yma hola dy hun a ydyw'r peth hyn ynoti, ystyria ennyd arno.
Bydd y dyn yn dewis Duw, ai ddedwyddwch, a Christ yn bennaf, a duwioldeb iw gymhwyso i fwynhau Duw, Psal. 119. 30. Joan 14. 6. Rhuf. 2. 7. Dewis yr Jesu yn Arglwydd iddo, Col. 2. 6. Nid yw yn rhedeg at Grist er mwyn gochel cafod yn unig, nag yn ei gymeryd ef, fel y mae'r hwn a gaffo ei arbed ar y prendioddef, yn cymeryd y wraig ai hachubo ef oddiwrth y tenyn: ond dewisiff Grist oi wirfodd. Nid priodas mewn dychryn yw, megis y bydd yn fynych pan fyddo pechaduriaid ymmron marw, y rhai y pryd hynny sy well ganddynt fyned at Grist, na myned i uffern, y mae n Ysturiol yn rhoddi ei fryd ar Grist, gan ei fod yn oreu, Phil. 1. 23. A gwell ganddo ei gael ef na'r holl fyd a'i fwyniant: y mae hefyd yn cymeryd ffordd duwioldeb, a hynny nid o ran angenrhaid, ond o gariad ai wirfodd, dy orchymmynion di a ddewissais, Psal. 119. 173. Cymmer dystiolaethau Duw, nid megis caethiwed, ond yn Etifeddiaeth, a hynny dros byth, [Page 25] adn. 3. cyfrif hwynt nid yn faich ond yn fendith, nid yn rhwymau ond yn ryddhâd, nid yn gystudd ond yn gyssur, ymddigrififf ynddynt, 1. Joan 5. 3. Psal. 119. 14, 15, 16. Nid yw yn unig yn dwyn Croes Crist ond yn ei chymeryd i fynu hefyd. Nid yw yn cymeryd grâs a duwioldeb iw fewn, fel y cymer y clâf bysygwriaeth y fyddo gwrthwynebus iw eneu ai gulla, yr hwn a lynge ef rhag marw; ond cymer hwy yn hyfryd fel y newynog ei fwyd. Nid oes well difyrrwch ganddo nag ymarferion duwiol, y rhai ydynt iddo yn lluniaeth a melystra, yn ddymuniad ei lygaid ac yn llawenydd ei galon, Job 23. 12. Psal. 63. 5. ac 119. 82, 131, 162. Gosod y pethau hyn at dy gydwybod fel yr elech ymmlaen, i ddirnad ai ti yw'r dŷn, os ê dedwydd wyt: ond chwilia yn ddilachr.
Y mae grâs yn troi tueddiad y serch, 2 Cor. 7. 11. Gyrrir yr Jorddonen yn ol, a'r ffrwd tuag i fynu.
Crist yw ei obaith, 1 Tim. 1. 1. A'r elw a'r gamp y mae yn ymegnio oi herwydd, Phil. 3. 8, 14. Arno y mae ei lygad ai galon: Bodloniff i fwrw pob peth allan o'r llong fel y gwna'r morwyr mewn tymhestl, am y cadwo'r perl hwn.
Ei ddeisyfiadau penuaf nid ydynt am aur, ond am râs, Phil. 3. 13. Cais hynny fel arian, a chloddia am dano fel am dryssor cuddiedig: Gwell ganddo ddaioni na mawrhydi, a bod yn dduwiol na bod yn oludog, neu glodfawr. Tra yr oedd gnawdol efe ddymunai fod iddo goel, a digonedd o gyfoeth, a hyfrydwch iddo ei hun, ac iw dylwyth: Ond pan droffo yn ysprydol newid ei araith, gan ddeisyf cael darostwng ei [Page 26] lygredigaethau, a chael mwy o sancteiddrwydd a chymundeb â Duw, ped fai ond mewn cyflwr distadl yn y byd, tybiai ei hun yn ddedwydd. Darllenydd, ai hyn yw lleferydd dy Enaid di?
Newidir llawenydd y cyfryw. Bydd mor llawen ganddo ffordd tystiolaethau Duw â'r holl olud, Psal. 119. 14. Hyfrydiff yn ghyfraith yr Arglwydd (ydoedd ddiflas ganddo o'r blaen) ac yn myfyrio ar Grist, ac yn mwynhau ei gymundeb.
Ei ofalon hefyd a newidir. Er ei fod gynt wedi ymosod at y byd, ac heb feddwl am ei enaid ond yn anfynech, yn awr peidia a gofalu am yr assynnod, a gesid ei galon ar y deyrnas, ai waedd yw, beth sydd raid imi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig? Act. 16. 30. Ei ofal mwyaf yw am achub ei enaid: Oh fel y bendithiai ef y neb ai cynnorthwyai ef i fod yn ddiamheuys ynghylch hynny o beth!
Ei ofn ef fydd mwy rhag pechu na rhag dioddef erlld, Heb. 11. 25, 27. Gynt mawr oedd ei ofn ef rhag colli ei olud, ei barch, ei gyfeillion, yn enwedig y rhai mawrion: Ni wnai dim mono ef mor ddychrynllyd a bygwth gofid corphorol, tlodi, neu amharch; ond yn awr nid yw 'r fath bethau ond bychain yn ei olwg ef, wrth eu cyffelybu i ddianrhydedd a dig Duw. Dichlin y rhodia rhag iddo sengi ar neb ryw fagl, ac edrych yn wiliadwrus yn ei gylch, ai lygad ar ei galon yn fynech, ac edrych dros ei ysgwydd rhag i ryw bechod ei oddiwes ef, Psal. 39. 1. Dihar. 28. 14. Preg. 2. 14. Gofid calon iddo feddwl y colliff ffafr Duw, gwybydd mai dyna 'r unig beth ai tyr ef, Psal. 51. 11, 12. ac 119. 8. Meddwl am ymadel a Christ ai clwyfa dostaf.
[Page 27]Ei serch a osodir ar Grist, a dywed fel Ignatius fynghariad a groeshoelwyd, sef fy 'n Ghrist, Dyma fy anwylyd, medd yr Eglwys, Can. 5. 16. Aml y byddai Awstin yn tywallt ei serch ar Grist, O Ddeddwydwch tragwyddol, &c. Gad imi dy weled yr hwn wyt oleuni fy llygaid, tyred, o tydi wyt lawenydd fy yspryd, gad imi dy ganfod o hyfi ydwch fy nghalon, gad imi dy hoffi di yr hwn wyt fywyd fy enaid i, datcuddia dy hun imi o fy melys gyssur, o fy Nuw, fy mywyd, a gogoniant fy enaid. Bydded i mi dy gael di yr hwn wyt ddeisyfiad fy enaid, bydded i mi dy ddala di o hoffder fy enaid i, gad i mi dy gofleidio di o Briodfab Nefol, bydded i mi dy fwynhau di.
Ei dristwch sydd newydd hefyd, 2 Cor. 7. 9, 10. Golugiad oi bechodau ac o Grist croeshoeliedig yn awr a bwysa ar ei galon ef, er na chynhyrfent mono o'r blaen.
Ei ddigofaint ef a boetha yn erbyn pechod, Psal. 119. 104. Mae 'n annioddefgar wrtho ei hun, geilw ei hun ynfyd ac yn anifail, pan lidio wrth ei bechod, Psal. 73. 22. Dihar. 30. 2. Er iddo gynt ymserchu ar bechod yn hyfrydlawn, yn awr ffieiddia ddychwelyd atto gymmaint ac y gwnai wrth lyfu chwdfa.
Ynteu ymddiddan a'th galon, tua phle y mae cynnefin ffrwd dy nwydau yn rhedeg, ai tuag at Dduw yn Ghrist, ai tuag at Bethau 'r bŷd? Gall fod cynhyrfiadau byrbwyll a chryfion yn nwydau rhagrelthwyr, yn enwedig yn y cyfryw ac a fyddo â u tymer naturiol yn dueddol iddynt: A gall rhai sanctaidd o dymer sych arafaidd, fod heb nemawr o gynhyrfiadau teimladwy. Am hynny rhaid Edrych a fyddo dyn wedi rhoddi ei fryd ar Dduw yn ysturiol, ac yn ddisygl, gan farnu ei fod ef yn well na [Page 28] phôb mwyniant arall, ac os bydd yr Ewyllys a'r serch yn ufydd-ddilyn grweiniad y meddwl difrifol, nid oes ammeu na bo 'r dychweliad hwnw yn safadwy, er na byddo ynddo gymaint o gynhyrfiadau teimladwy ac mewn eraill o dymer frawychus.
Gwelir cyfnewidiad yn aelodau 'r grasol; yr aelodau oeddent o'r blaen yn arfau pechod a fyddant offerau yn nheml fywiol Crist, Rhuf. 6. 16. 1 Cor. 3. 16. Yr hwn ydoedd yn halogi ei gorph ag aflendid a meddwdod, a feddianna ei lestr mewn sancteiddiad, a pharch, cymmeddroldeb, a diweirdeb, gan ei gyssegru ir Arglwydd, 1 Thess. 4. 4. Gal. 5. 22, 23. 1 Cor. 6. 19, 20.
Y llygad oedd o'r blaen yn wibiog, yn falch, yn gybyddus, yn anllad, yn awr fel Mary a wyla am bechod, Luc, 7. 38. A graffa ar weithredoedd Duw, Psal. 8. 3. A'i air, Act. 8. 30. A'r truenus, ac ar bob achlyssur i wasanaethu Duw.
Y glust ydoedd unwaith yn agored i alwad Satan, ac ni chlywai flâs ar ymddiddan yn y byd, ond yr hwn a fae am y byd, ond yr hwn a fae yn aflan, neu ofer, neu ddigrifwch ynfyd, yn awr sydd wedi ei dullu wrth ddrws tŷ Dduw, ac yn agored iw athrawiaeth, dywediff llefara Arglwydd, canys dy was a wrendy, a llefa, veniat verbum Domini, deled gair yr Arglwydd; a disgwiliff am dano fel am y glaw, a hoffa ef fel ei ymborth angenrheidiol, Job. 23. 12. Je fel y mêl a'r dîl mêl, Psal. 19. 10.
Y pen ydoedd weithdy ystrywiau bydol, yn awr a lenwir â meddyliau eraill, â myfyrdodau ynghylch ewyllys Duw. Psal. 1. 2. ac 119. 97. Ac ni ofala ei ben ef gymaint am ei elw, ac [Page 29] am ei ddyledswydd, pa fodd i ryngu bodd Duw, ac i ochelyd pechod.
Ei galon ydoedd gutt i chwantau aflan, a wneir yn awr yn allor i arogl-darth, a geidw dân a gwresogrwydd cariad Duw ynddi yn oestadol. o'r hon yr Escyn aberth beunyddiol, gweddi, a mawl, ac arogldarth hyfryd, dymuniadau, a dyhead nefol, a hynny yn gynnefinol, Psal. 108. 1. ac 119. 20. ac 139. 17, 18.
Bydd y safn yn ffynnon bywyd, a'r tafod fel arian dewissol, a'i wefusau a borthant lawer. Yn awr halen grâs a wnaiff ei ymadrodd yn flasus, ac a dynn ymmaith y llygredigaeth oddiwrtho, Col. 4. 6. A glanheiff y safn oddiwrth serthedd, gweniaith, ymffrost, celwydd, rhêg, absendrwg, ymsywen, y rhai o'r blaen a dorrent allan fel ffaglau oddiwrth uffern yn y galon, Jag. 3. 6, 7. Y gêg a ydoedd fel bêdd agored, Rhuf. 3. 13. Yn awr a anadla weddi, ac ymadrodd sanctaidd, a llefara 'r dŷn jaith Canaan, ac ni bydd un amser mwy bodlongar, na thra fyddo yn sôn am Dduw, a Christ, a helyntiau'r byd arall, ei enau a draetha ddoethineb, a'i dafod sydd fel udcorn arian, i seinio mawl ei Greawdwr, a bydd iddo yn ogoniant, ac yn un o'r aelodau goreu a fedd.
Wele yma y dirnedir y rhagrithiwr yn cloffi: Ni hwyrach iddo lefaru fel angel, ond bydd ganddo lygad cybyddus, a bydd elw anghyfiawnder yn ei law. Ond os bydd ei law yn wen, ei galon ef fydd yn llawn pudred, Math. 23. 27. Yn llawn o ofalon budol, yn ffwrn o drachwant poeth, yn weithdy malis, a thryssordy balchder, ni hwyrach fel Delw Nebuchadnezzar fod iddo ben o aur, a llawer o wybodaeth ynddo, eithr bydd ei draed o bridd; ei serch yn fudol, a'i ymarweddiad yn gnawdol, os olrheinir [Page 30] ei rodfa ddirgel gwelir ol ei draed mewn llwybrau ceimion, pechadurus, nid yw rasol bob ffordd.
Y mae troedigaeth rasol yn dywygio'r fuchedd oll. Y mae 'r dyn newydd yn dilyn ymarweddiad newydd, Ephes. 2. 2, 3. Yr hon sydd yn y nêf, Phil. 3. 20. Yr hwn a alw Crist drwy râs effeithiawl yn gyflym a dry yn ddilynwr iddo ef, Math. 4. 20. Pan roddo Duw galon newydd i ddyn, ac yscrifennu ei gyfraith yn ei feddwl, ymroddiff i rodio yn ei orchymynion ef, ac i gadw ei farnedigaethau ef, Ezec. 36. 26, 27.
Er i bechod lynu ynddo, a thrigo oi fewn, fel gwestwr digressaw. etto ni chaiff arglwyddiaethu arno, Rhuf. 6. 7, 14. Mae iddo ffrwyth yn sancteiddrwydd, Rhuf. 6. 22. Er iddo frychu a diwyno ei waith yn fynech, etto cyfraith a buchedd Crist yw'r copi y mae ei lygaid ef arno, ac y mae ynteu yn ceisio ei ddilyn, Psal. 119. 30. Heb. 12. 2. Yn ddiragrith edrych at holl orchymynion Duw, a rhydd ufydddod iddynt, Psal. 119. 6. Gocheliff esceuluso y dyledswyddau lleiaf, ac arswyda wneuthur y pechodau lleiaf, Psal. 119. 113. Y gwendid sydd ynddo oi anfodd, sydd drwm ganddo. ac megis brychewyn mewn llygad, er ei fod yn fychan etto mae 'n ofidus. [O ddyn na ddarllen hyn heb edrych i'th galon drwy ymholiad ddifrifol.] Nid yw'r gwir edifeiriol, Gristion yn yr Eglwys, a Phagan yn ei dŷ, sanct ar ei liniau, a thwyllwr yn ei siop; nid yw yn degymmu Mintys, a'r Cwmmin, ac yn gadel heibio drugaredd a barn, a phethau trymmmaf y gyfraith, nac yn ghyscod crefydd yn gweithredu anghyfiawnder, Math. 23. 14, 23. Eithr try ymmaith oddiwrth ei holl anwireddau, i gadw [Page 31] holl gyfreithiau Duw. Ezec. 18. 21. Cais hynny mewn cywirdeb calon, er nad allo yn gwbl berffaith, ni rydd gennad iddo ei hun i droseddu 'r un o honynt, Rhuf. 7. 15. Yn awr ymhyfryda yn y gair, a gweddiau, ac yn ol ei allu egir ei law, a thyn allan ei enaid ir newynog, Rhuf. 7. 22. Pfal. 109. 4. Esay 58. 10. Tyrr ymmaith ei bechodan trwy gyfiawnder, a'i anwireddau trwy drugarhau wrth drueniaid, Dan. 4. 27. Y mae ganddo gydwybod dda, gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth, Heb. 13. 18. Ac iw gadw yn ddidramgwydd tuag at Dduw a dynion.
Ll'yma drachefn yr argyhoeddir bagad ai tybiant eu hunain yn Gristianogion da, ond cewch hwynt yn rhai afiachus, gan fod yn dueddol yn y gyfraith, Mal. 2. 9. Gwnant y y rhan oddiallan ir dyledswyddau hawdd, a rhâd ond nid ant drwy 'r gwaith, yn enwedig yr anhawsaf. Y maent fel teisen heb ei throi, ai hanner wedi crasu, a'r hanner arall yn does. Ni hwyrach eu bod yn eirwir, ac yn ddisiom eu marchnadoedd, etto heb ymarferu a duwioldeb, na bod yn gydnabyddus au calonnau eu hunain, gan ei holi a'u llywodraethu. Deuant yn brydlon ir Eglwys, ond ni feddyliant yn eu teuluoedd am ddim ond y bŷd: Ac os arferant grefydd teuluaidd, esceulusant hynny yn eu stafell ddirgel pan fyddant unig. Fe allai yr ymdda ngosant mewn bagad o bethau yn grefyddol, etto heb attal eu tafodan oddiwrth anwir, ac yna ofer fydd eu crefydd, Jag. 1. 26. Ac os' arferant weddi deuluaidd a dirgel yn eu stafell, byddant dwyllodrus yn eu siop. Fel hyn nid yw 'r rhagrithiwr yn rhoddi ufydddod i Dduw ym mhob peth.
[Page 32] 7. Y pethau y troiff yr edifeiriol oddiwrthynt ac attynt sydd yw ystyried hefyd.
Y pethau y troiff efe oddiwrthynt yw'r pechod, a Satan, a'r bŷd, a'i gyfiawnder ei hun.
Yn gyntaf, Troiff oddiwrth y pechod, je oddiwrth bob pechod, Psal. 119. 128. Oddiwrth ei bechod ei hun, oddiwrth bechod ei fonwes, Psal. 18. 23. Y pechod yw 'r nôd y saetha ei ddig atto, 2 Cor. 7. 11. Pechod a bair dristwch iddo ef, y sydd yn ei drywanu, ac yn ei glwyfo ef, teimla ef fel draen yn ei ystlys, ai lygad, ymdrecha ac ochneidia dano, gan lefain yn dosturus, Ys truan o ddyn ydwyfi! Nid yw mor anoddefgar dan faich yn y byd, ac yw dan bwys ei bechod, Psal. 40. 12. Pe canhiedid iddo dewisai bob cystydd er cael ymadel a'i anwiredd, yr hwn sydd iddo fel mân gerrig yn ei Escidiau, yn ei friwo pa ffordd bynnag y cerddo. Cyn ei droedigaeth, ysgafn oedd ganddo ei bechod, meithrinai ef yn ei fynwes, fel y gwnai Uriah ei oenig, efe ai mageu oni gynyddeu gyd ag ef. Cai fwytta o'r un saig, ac yfed o'r un cwppan, a gorwedd yn ei fonwes ef, a bod iddo megis Merch. Ond pan agoro Duw ei lygaid ef drwy ras, bwrw ef ymmaith gan ei lwyr gashau, Esay 30. 22. Fel y gwnai gŵr â llyffant du pan ei canfyddei, er iddo yn y tywyll ei lochi yn ei wisc, gan dybied mae aderyn oedd. Canys bydd y dyn ynawr yn deimladwy o berygl, ac o halogrwydd pechod, am hynny taer erfyn ar Dduw am gael ei lanhau, bydd yn ffiaidd ganddo ei hun nes hynny, Ezec. 36. 31. Daw at Grist, a theist ei hun ir ffynnon iw olchi oddiwrth bechod ac anwiredd, Zech. 13. 1. Os syrth, [Page 33] bydd frawychus a diwyd i ymlanhau eilwaith oddiwrth bob balogrwydd cnawd ac yspryd. Mor gâs ganddo 'r pechod yr ydoedd unwaith yn ei hoffi, Psal. 18. 23. Ac a sydd gan un glanweithiol y cafan, a'r dom y mae môch yn ymhyfrydu yndynt.
Y mae efe yn rhyfela yn erbyn pechod yn galonnog, er ei orchfygu yn fynych, nid ymroiff iddo, ac ni theifl ei arfau i ffwrdd. Maddeuiffiw Elynion eraill a gweddia drostynt, Act. 7. 60. Ond bydd yn anghymmodol â'r pechod, pettai fel ei law neu ei lygad deheu, er iddo fod yn elwgar neu 'n hyfryd iw gnawd, ac iw gyfeillion, etto ymwrthodiff ag ef, ac ni chyd-ddwg ag ef ei hun mewn un ffordd bechadurus drwy wybod, Luc 19. 8. Eithr brocha pan drawo wrtho, gan ddywedyd, a gefais i di o fy ngelyn?
Ddarllenydd, a ystyriasti 'r pethau hyn yn dy galon? A chwiliasti 'r llyfr oddifewn i edrych ydyw felly ynoti? Gwna i'th gydwybod atteb.
A groeshoeliasti 'r cnawd ynghyd a'i wynniau a'u chwantau, a gyffessaisti dy bechodau, au gadel yn dy ymarweddiad, gan fod yn ystyriol, ac yn sychedig am râs? A ydyw dy gydwybod yn cyfodi 'n dy erbyn tra fyddych yn darllen, gan haeru dy fod ti yn arfer twyll a chelwydd yn dy alwedigaeth; a'th fod yn byw mewn anniweirdeb ddirgel? Na'th sioma dy hun, yr ydwyti mewn bustl chwerwedd, a rhwymedigaeth anwiredd.
Onid yw dy ryddion ymddiddanion, a'th anghymedroldeb, a'th gyfeillach ddrwg, a'th esceulusdra o weddio, ac o wrando, a darllen y gair, yn tystiolaethu yn dy erbyn, ac yn dywedyd [Page 34] nyni yw dy weithredoedd di, ac ni a'th canlynwn di? Onid oes aderyn o'th fewn yn dywedyd iti dy fod yn cynwys ynot dy hun ryw ffordd ddrwg, er mwyn rhyw ddiben cnawdol? Os felly y mae dy gyflwr yr ydwyt yn ddiadgenedledig hyd hyn, a rhaid iti geisio dy droi neu ti a gyfrgollir.
Yn ail, Troiff yr Edifeiriol oddiwrth Satan. Rhwymir y gwr cryf, a dygir ei arfau, a bwrir allan ei ddodrefn, A throir y dŷn o feddiant Satan at Duw, Act. 26. 18. O'r blaen gynted ac y cyfodei Satan ei fŷs iw wahodd ef at gyfeillach ddrwg, chwareuon pechadurus, hyfrydwch aflan, yn gyflym efe a ddilynei fel ŷcch yn myned i'r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned ir cyffion iw gospi, ac fel aderyn yn pryssuro i'r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei enioes ef, Dihar. 7. 22, 23. Pan barai Satan iddo dwyllo, byddei 'r celwydd barod ar flaen ei dafod ef, Act. 5. 3. Pan osodei Satan achlysur trachwant yn ei olwg ef, brethid ef ganddo. Os rhodei Satan wŷn yn ei galon ef yn erbyn dyledswyddau teuluaidd, a dirgel digon anaml fyddent yn ei dŷ ef. Gwnai fwy er Satan nag er Duw. Ond wedi ei droi gwasanaethiff feistr ar all, sef yr Arglwydd Jesu, Col. 3, 24. Ac di rêd ir rhyssedd gynt, 1 Pet. 4. 4. Os deil Satan ei droed ef weithiau mewn trap, nid ymroddiff i fod yn garcharol iddo oi wirfodd, tyrr trwy ei faglau ef, a gwilia rhagddynt rhagllaw, gan graffu ar ei ddichellion ef, au gochelyd hwy yn ddichlyn; ymdrechiff yn eu erbyn, a derbyn eu gennadon fel y gwnai rai ei gelynion marwol, gan eu golugu rhag iddynt ymhyrddu iw feddyliau ai ddyledswyddau ef.
Yn drydydd, Troiff y grasol oddiwrth y bŷd. Cyn cael ffydd jachusol gorchfygir dŷn gan y [Page 35] bŷd, plygiff ir. Mammon, neu addola ei anrhydedd, neu efe a gara felys chwant yn fwy na Duw, 2 Tim. 3. 4. Dymma achos trueni dyn er ei gwymp, sef iddo droi oddiwrth Dduw at y creadur, a rhoddi 'r parch iddo, a'r hyder a'r serch arno, yn lle'r Arglwydd goruchaf, Rhuf. 1. 27. Math. 10. 37. Dihar. 18. 11. Jer. 17. 5. Och ddyn anedwydd ir pechod dy wneuthur di yn anghenfil mor wrthyn! Gwnaeth Duw di ychydig is na'r angelion, a gwnaeth pechod di ynghylch cyn-ddrwg a'r cythreuliaid, Joan 6. 70. ac 8. 44. Anghenfil a'th ben a'th galon lle dyleu dy draed fod, a'th draed yn gwingo yn erbyn y nefoedd, a phob peth allan oi lê: y byd sydd yn dy reoli di, a wnaed ith wasanaethu di. Y buttain dwyllodrus a'th hudodd di a'i dewiniaeth, ac a wnaeth iti blygu iw gwasanaethu hi.
Ond y mae grâs wrth droi'r pechadur yn rhoi pethau mewn trefn eilwaith, gan osod Duw ar yr orseddfaingc, a'r bŷd wrth ei droedfaingc, Psal. 73. 25. Crist yn y galon, a'r bŷd dan y traed, Eph. 3. 17. Datc. 12. 1. Felly y dywed Paul, Croeshoelwyd y bŷd i mi, a minneu i'r bŷd, Gal. 6. 14. Cyn y cyfryw newidiad y gweiddi yw, pwy a ddengys i ni ddaioni (bydol)? Wedi hynny dywed Arglwydd dercha arnafi lewyrch dy wyneb, pwy bynnag a gaffo 'r ŷd a'r gwin, Psal. 4. 6, 7. O'r blaen difyrrwch y galon oedd yn y bŷd, ai ganiad oedd, fy Enaid cymmer dy Esmwythdra, bwytta ac yf, a bydd lawen, y mae gennit gyfoeth ddigon dros lawer o flynyddoedd. Yn awr ymddengis y pethau hynny fel pethau wedi gwywo, ac ni wêl brydferthwch ynddynt yw ddymuno, a phyngcia fel canwr melisgerdd Israel, yr Arglwydd [Page 36] yw rhan fy Etifeddiaeth i, y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd, ie y mae imi etifeddiaeth dêg, Psal. 16. 5. 6. Yn yr Arglwydd yn mae yn ymfendithio ac yn gorfoleddu, Psal. 34. 2. Galarn. 3. 24. Nis gall neb ryw beth arali ei fodloni. Yscrifenna ar bob peth a fwynhae gynt, gwagedd a gorthrumder yspryd, Pregeth 1. 2. Ac ar bob godidowgrwydd dynol colled a thom, Phil. 3. 7, 8. Y mae efe yr awrhon yn erlyn ar ol bywyd ac anfarwolder, Rhuf. 2. 7. Ei fasnach sydd am râs a gogoniant, ac ymdrecha am goron anllygredic, 1 Cor. 9. 25. Rhydd ei frŷd ar geisio'r Arglwydd. 1 Cronic. 22. 19. ac 2 Cron. 15. 15. Cais deyrnas nefoedd ai chyfiawnder yn gyntaf, nid yw crefydd beth iw drin weithiau pan gaffo ennyd, ond y peth penuaf yn ei ofal ef, Math. 6. 33. Psal. 27. 4. Bydd yr Eulyn disclair yn Nehushtan ganddo. 2 Brenh. 18. 4. A sethriff arno fel y gwnaeth Diogenes ar lenni Plato, gan ddywedyd ei fod yn mathru ei falchder ef. O'r blaen ŷ bŷd oedd y peth anhepcor ganddo, a gwnai fwy er mwyn elw nac er mwyn duwioldeb, 1 Tim. 6. 6. Mwy er boddhau ei gyfaill, neu ei gnawd, nac er bodloni ei Greawdwr: Gadawai i Dduw aros, nes ir bŷd gael ei wasanaethu yn gyntaf; Yr awrhon cânt hwythau sefyll heibio, ac anwylach ganddo Grist na thâd, na mam, na bywyd, na'r cwbl oll.
Wele ynteu, ystyria ennyd, ac edrych o'th fewn, onid yw hyn yn berthynol iti? Pa un ai Crist ai'r bŷd sydd yn dy reoli di? Ymmha un o'r ddau yr ymhyfrydi fwyaf? Onid wyti yn ymglywed yn yscafnach pan fo'r bŷd yn tyccio iti, a phethau cnawdol yn dy lonni, na phan fyddeoh mewn gweddia myfyrdod ddirgel, [Page 37] neu yn ghyhoeddus addoliad Duw? Eglur fod cyflwr y dyn hwnnw yn anrasol a fyddo a'r bŷd yn uchaf yn ei serch, ai amcanion, 1 Joan 2. 15. Jag. 4. 4.
Christ sydd yn cael y bennaduriaeth yn y gwir rasol. Ei Enw sydd anwyl ganddo, ai arogl yn beraidd iddo. Can. Sol. 1. 3. Psal. 45. 8. Mae Enw yr Jesu wedi ei argraphu ar ei galon ef, Gal. 4. 19. A bydd fel pwysi myrh rhwng ei fronnau, Can. 1. 13. Pan ymddangoso Christ ir enaid gwelir nad yw anrhydedd fydol ond gwynt, na chwerthin ond gwallgofi, a syrth Mammon fel Dagon o flaen yr Arch, ai ddwylo ai ben wedi torri. Christ yw gobaith, a thryssor, a maen gwerthfawr y dychweledig, Math. 13. 44, 45. Ei orfoledd ef ydyw bod ei anwylyd yn eiddo ef, ac yntef yn eiddo ei anwylyd, Can. Sol. 2. 16. Gal. 6. 14. A hynny sydd well ganddo na bod y bŷd yn eiddo ef.
Yn bedwerydd, troiff grâs ddŷn oddiwrth gau hyder ar ei gyfiawnder ei hun. Cais pechadur guddio ei noethni â dail a darddo o hono ef, a llyfn ei friwiau âi dafod ai ddyledswyddau ei hun, Phil. 3. 6, 7. Mic. 6. 6, 7. Tueddol yw i hyderu arno ei hun, Luc. 16. 15. ac 18. 9. Ac i dybied fod ei hatlingau yn aur; ac wrth geisio gosod ei gyfiawnder ei hun nid ymostwng i gyfiawnder Duw, Rhuf. 10. 3. Ond grâs a newid ei feddwl, ac a beriff iddo weled nad yw ei gyfiawnder ef ond cadachau pryfedog, misglwyfus, Esay 64. 6. A gwna hynny ef yn dlawd yn ei yspryd, Math. 5. 3. Gan ei holi ai farnu ei hun, Rhuf. 7. A chwyno ei fod yn druan yn resynol, yn dlawd, yn dall, ac yn noeth, Datc. 3. 17. Cydnebydd fod llawer o anwireddau [Page 38] yn ei bethau goreu ef, ac nad yw ei gyfiawnder ef ond cnawd a cholled, ac ni fynniff er yr holl fyd ei gael ynddo, Phil. 3. 4, 7, 8, 9. Bydd ei fŷs yn oestadol ar ei friwiau, ei bechodau, ai ddeffygion, Psal. 51. 3. A gweliff fod cyfiawnder Crist yn beth gwerthfawr, a dymunol ac anghenrheidiol iw gyfiawnhau ef, ai ddyledswyddau: Ni lefis ddyfod i ŵydd Duw mewn gweddi heb Grist gyd ag ef. Pwysa ar law Christ, ac felly yr ymgrymma yn nhy ei Dduw: Ei fywyd ef sydd guddiedig yn Christ, fel y bywyd naturiol yn y galon: Ac mae ei enaid ef yn gwreiddio yn ei Achubwr, fel pren yn y ddaiar, ac yn cael ymborth, tŵf, a chadernid oddiwrtho ef; o'r blaen diflas oedd ganddo yr Efengil, ond yn awr melys yw hi iddo. Cyn ei droi difyr oedd gan Augustin ddarllen llyfreu Cicero, ond gwedi cwynodd a diflasodd hwy, eisieu cael enw Christ ynddynt; a thra serchog y llefara efe wrth Grist yn ei fyfyrdodau; o felysaf, anwylaf, garedicaf, haelionusaf, werthfawroccaf Arglwydd, pa bryd y caf dy weled, am llonni a'ch brydferthwch di? Dywed pob un grasol fel y merthyr, neb ond Christ.
Y rhai y troiff y grasol attynt yw r Drindod fendigedig, y Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glan. Pan droer ac y sancteiddier dyn, gesid ei galon ar Dduw yn bennaf, a dywed wrtho fy rhan ydwyti, Psal. 119. 57. Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid, Psal. 34. 2 Fy enaid, sydd oddiwrtho ef; efe yw fy nghraig, a'm hiechydwriaeth, a'm hymdiffynfa. Yn Nuw y mae fy jechydwriaeth, a'm gogoniant, craig fy nghadernid, am noddfa sydd yn Nuw, Psal. 18. 1, 2. ac 62. 1, 6, 7.
Os mynni wybod ydwyti wedi cael troedigaeth ddiragrith, ystyr y pethau a ganlyn â'th enaid, a chwbl ac sydd ynot.
[Page 39]A gymeraisti Dduw yn ddedwyddwch iti? ym mha beth y mae dy galon yn ymfodloni fwyaf? O b'le y daw y cyssur pennaf iti? Tyred ynteu, ac fel Abraham derchafa dy olwg tua'r dwyrain a'r gorllewin, tua'r gogledd a'r deheu, edrych o'th amgylch, beth a fynniti o'r nefoedd neu o'r ddaiar ith wneuthur yn ddedwyddol? Os cynnigiau Duw iti dy ddewis fel y gwnaeth i Solomon, neu os dywedai wrthiti fel Ahashuerus wrth Esther, beth a fynnit ti, a pha beth yw dy ddeisyfiad? a rho ddir it, Ystyr pa beth a ofynniti ganddo. Dos ir gerddi hyfryd, a hel lysiau peraroglus, a fodlonent hwy di? Dos i dryssordai Mammon, a chymer lawnder oddiyno. Dos i uchelderau anrhydedd, beth meddi di am fod yn enwog megis rhai mawrion y ddaiar? A eill y rhain i gyd dy fodloni di, ath wneuthur yn ddedwydd yn dy dŷb dy hun? Os gallant, yr wyti etto yn gnawdol, ac heb dy ddychwelyd drwy râs. Ac onī allant, dos ymmhellach at odidowgrwydd Duw, Edrych ar dryssorau ei drugareddau, amddiffynfa ei Hollalluogrwydd ef, ddyfnderau ei anfeidrol lawnder, ai Hollddigonolrwydd ef; a ydyw'r rhai hyn yn gymwys i'th ddeffygion di, ac yn rhyngu bodd iti oreu? Ydwyti yn dywedyd da ydyw bod yma, Math. 17. 4. Yma yr arhosaf, yma y byddaf fyw a marw: A fodloni di i golli pob peth yn y bŷd yn hytrach na phethau Duw? Yna dedwydd wyti o ddyn, gwyn dy fyd er ioed dy eni, Canys Duw ath wnaiff yn fendigedig, wrth ei gymeryd ef i fod yn Dduw iti, Deut. 26. 17. Os wyti yn dywedyd wrth Grist fel y mae ef yn dywedyd wrthym ni, Dy Dâd ti a fydd yn Dâd i mi, a'th Dduw di fydd yn Dduw i mi, Joan 20. 17. Dyma'r peth sydd yn troi'r cloriau [Page 40] wrth bwyso cyflwr dyn. Nid yw proffesswr afiachus yn cymeryd ei orphwystra yn Nuw. Ond gwir ras sydd yn troi 'r galon oddiwrth ei holl eulynod at y Duw byw, 1 Thess. 1. 9. Yna medd yr Enaid, Arglwydd at bwy yr afi? Gennit ti y mae geiriau bywyd tragwyddol, Joan 6. 68. Dyma lle mae 'n sefydlu, a llawenydd nefol iddo gael gweled ei hawl yn Nuw, a phan fyddo hynny yn Eglur iddo, dywed, dychwel o fy Enaid i'th orphwysfa, canys yr Arglwydd fu dda wrthit, Psal. 116. 7. A Pharodol fydd i anadlu can Simeon, yr awrhon Arglwydd y gallyngi dy wâs mewn tangnedlyf, Luc. 2. 29. A dywed fel Jacob pan adfywiodd ei hên galon ef wrth y newyddion cressawys, digon ydyw, Gen. 45. 28. Pan welo fod ganddo Dduw mewn cyfammod i fyned atto, hynny fydd ei holl jechydwriaeth, ai holl ddymuniad, 2 Sam. 23. 5. O ddyn ai fel hyn y mae dy gyflwr, a gefaisti brawf o hyn? Yna bendigedig ydwyti gan yr Arglwydd, yr hwn ai gweithiodd ynoti.
Yn enwedigol try'r edifeiriol at Grist gan ei fod i gyfryngu trosto, 1 Tim. 2. 5. Ai waith yw ein dwyn ni at ei Dâd, 1 Pet. 3. 18. Ac ynteu yn ffordd atto, Joan 14. 6. A'r drws drwy ba un yr eir i mewn iw ŵydd ef, ac iw gariad. Derbyniff yr enaid Grist yn ewyllyscar ac ynteu yr unic Enw drwy ba un y rhaid i ni fod yn gadwedig Col. 2. 6. Act. 4. 12. Nid Edrych am jechydwriaeth oddiwrth neb arall, bwrw ei hun arno ef yn unic, fel y neidia'r nofiwr o longddrylliad ir môr ai freichiau ar lêd: Medd efe dyma 'r lle y ceisiaf noddfa ynddo, ac os derfydd am danaf, darfydded: Ond Arglwydd edrych arnaf â golugon dy [Page 41] drugaredd; na phar i mi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: Dyma lle'r ymroddaf, os methri, os lleddifi, nid af oddiwrth dy ddrws, Job 13. 15.
Fel hyn y bydd ir Enaid grasol lwyr fwriadu glynu wrth Grist, er iddo cyn hynny roddi ei frŷd ar dyddyn, cyfeillion, a masnach, Math. 22. 5. Yn awr bydd Christ yn guach ganddo na'i ymborth angenrheidiol fel bywyd ei galon, ai chynhaliad, Phil. 3. 9. Ei awydd-fryd yw ar fawrygu Crist ynddo, Phil. 1. 20. Unwaith dywedodd ei galon fel y rhai gynt wrth y briodas-ferch, beth yw dy anwylyd rhagor Anwylyd arall? Can. Sol. 5. 9. Pan gafai fwy dyfyrrwch mewn cyfeillach ofer, a chwareuon drwg, ac hyfrydwch daiarol, ac y tybiai nad oedd crefydd ond breuddwyd; ond yr awr hon, gwêl fwy godidowgrwydd mewn gwybodaeth o Grist, Phil. 3. 8. A da fydd ganddo bob peth perthynol i Grist, nid y gwobr yn unic ond y gwaith hefyd, Rhuf. 7. 12. Nid y fael yn unic ond ei faich hefyd, nid yw ewyllyscar yn unic i drin yr ŷd, ond i dynny dan yr jau hefyd, i dderbyn ei orchymynion a'i groes ef, Math. 11. 29. ac 16. 24.
Nid una y rhagrithiwr â Christ ond yn hannerog, bodloniff i dderbyn cadwedigaeth oddiwrtho, ond ni fynn sancteiddiad: Bodlona i dderbyn rhoddion Christ, ond ni waeth ganddo am ei orchymynion ef, nai swydd: Dyma gamgymeriad yn sail jechydwriaeth: yr hwn sydd hoff ganddo ei fywyd gocheled rhagddo, amryfussedd peryglus yw, ac etto y mae'n gyffredinol y mysc pobl. Er bod enw yr Jesu yn hyfryd, etto ni hoffant mono mewn purdeb, Eph. 6. 24. Ni fynnant mono fel y mae Duw [Page 42] yn ei gynnfg ef, i fod yn dywysog ac yn jachawdwr, Act. 5. 31. Gwnaeth Duw ef yn Frenin, ac yn offeiriad, a nhwytheu a wahanant yr hyn a Gyssylltodd Duw; mynnant warediad oddiwrth ddialeddau, ond nid oddiwrth eu pechodau; ac os gadawant rai, nid ymwrthodant â hwynt yn gwbl, nid ymyscarant oddiwrth Dalila ac Herodias. Nid allant ddigio wrth y llaw a'r llygad deheu, yn y peth hynny rhaid 'ir Arglwydd faddeu iddynt, 2 Brenh. 5. 18. Och! am fywyd eich enaid byddwch ddichlin yma: Pob gwir gredadyn a dderbyn Grist yn gyflawn heb na'i rannu, na'i derfynu, ac ar ei ammodau ei hun, i reoli ac i achub; dywed fel Paul, Arglwydd beth a fynni di i mi ei wneuthur? Act. 9. 6. Cynnig ei hun fel memrwn i Grist, fel y byddo iddo ef yscrifennu arno'r peth a fynno, Act. 2. 37. ac 16. 30.
Ymosodiff y gwir edifeirol i roddi ufydddod i holl orchymynion Christ, er iddo eu tybied yn rhy gaethion gynt, Psal. 119. 111, 112.
Y mae pedwar peth hynod a weithia Duw yn y Cyfryw iw dueddu i ufyddhau, ac wrthynt y gellwch chwi ddirnad eich cyflwr o byddwch ffyddlon ich eneidiau eich hunain; am hynny bydded eich golwg ar eich calonnau fel yr eloch rhagoch.
1. Daw 'r meddwl i ddirnad daioni ffyrdd Duw, a gweliff eu bod yn gyfiawn, a da, a chymeradwy, Psal. 119. 112, 128, 137, 138. A'r rhagfarn galed anghyfiawn ydoedd yn eu herbyn, a deflir allan o'r meddwl drwy oleuad rasol, A'r deall a gydnebydd eu bod yn sanctaidd, ac yn uniawn, Rhuf. 7. 12. Dirfawr y cydnabyddei Dafydd eu godidowgrwydd hwy, [Page 43] ae aml fyddei yn ei canmol, Psal. 19. 8, 9, 10.
Berniff Christion fod gorchymynion Christ yn dda cyffredinol, ac yn dda iddo ef yn neilltuol; a'u bod nid yn unic yn oddefadwy, ond yn ddymunol hefyd, ie yn fwy dymunol nag aur, ie nag aur coeth, nag aur coeth lawer, Psal. 19. 10.
Bydd ynddo farn ddiymmod fod sancteiddrwydd yn oreu ar ei lês, fel y gwelir wrth y ganlyn. Gwn o Arglwydd fod dy farnedigaethau yn uniawn. Hoffais dy orchymynion yn fwy nag aur, ie yn fwy nag aur coeth. Uniawn y cyfrifais dy orchymynion am bob peth, a chaseais bob gau lwybr, Psal. 119. 127, 128. Gwelai yn dda bob peth yr oedd Duw yn ei ofyn, ac yn ddrwg bob peth yr oedd efe yn ei warafun. O Arglwydd dy holl orchymynion ydynt wirionedd, a'th farnedigaethau yn gyfiawn, Psal. 119. 86, 160.
2. Bydd deisyfiad y galon i wybod holl ewyllys Christ, Psal. 119. 124, 125, 169. ac 25. 4, 5. Ni fynnai fod un pechod heb ei argyoeddi ynddo, nac un dyledswydd heb ei yspyssu iddo. Anadliad ei enaid yw am ir Arglwydd ei chwilio, a dangos iddo os oes ffordd anwiredd ynddo, a dyscu iddo yr hyn nis gŵyr, a lle gwnaeth ddrwg, dymuna nerth gras, fel nas gwnelo mono mwy. Ond y mae'r rhagrithiwr yn anwybodus o'i wirfodd, 2 Pet. 3. 5. A chas ganddo ddyfod ir golenni, Joan 3. 20. Y mae rhyw bechodau y mae ef yn ewyllysio eu cadw, am hynny ni fynn wybod eu bod hwy yn bechodau, ac ni ollwn oleuni i mewn drwy 'r ffenestr a fyddo'n agos attynt. Y galon rasol a gais wybod ehengdra cyfraith [Page 44] ei wneuthurwr, Psal. 119. 18, 19, 27, 33, 64, 68, 78, 108, 124. Gwel y gair yn haeddu pob derbyniad ai argoeddo o ryw bechod oedd guddiedig rhagddo or blaen, ac ai annogo i ryw ddyledswydd yr ydoedd heb feddwl am dano, Psal. 119. 11.
3. Yr Ewyllys rasol yn gadarn ac yn rhwydd a ddewis Christ o flaen mwyniant pechod, a llwyddiant y bŷd, Psal. 119. 103. 127, 162. Bwriada na throsseddo, Psal. 17. 3. A dewis ffordd gwirionedd, Psal. 119. 30. Nid yw yn cydsynnio o ran gofid iw gymell, nac yn fyrbwyll, ond oi wirfodd wrth hir ystyried godidowgrwydd y pethau sanctaidd a ddewis. Siccr yw y bydd i'r cnawd wrthryfela, er hynny deil y rhan gryfaf oi ewyllys ef gyda chyfreithiau Christ, a'i reoliad, ac ni thybia hwynt yn faich ond yn fendith iddo, 1 Joan 5. 3 Psal. 119. 60, 72. Pan fo rhai diras yn cerdded ar ffordd Christ megis yn lleffetheiriog, bydd ir ysprydol redeg yn siriol ynddynt, Psal. 40. 8. Jer. 31. 33. A chyfrif gyfraith Christ yn rhydddid, Psal. 119. 32, 45. Jag. 1. 25. Bydd ewyllyscar mewn harddwch sancteiddrwydd, Psal. 110. 3. A gwell fydd ganddo fuchedd dduwiol na chyflwr llwyddianus yn y bŷd. Byddin o'r rhai y cyffwrddasai Duw â'i calon a aeth ar ôl Saul, 1 Sam. 10. 26. A phan gyffyrddo â chalonnau ei Etholedigion ânt ar ôl Crist, Math. 4. 22. Ac wedi i râs eu tynny, rhedant yn rhwydd ar ei ôl, ac ymhyfrydant ynddo. Can. Sol. 1. 4. Ceisiant yr Arglwydd a'i holl ewyllys, 2 Chron. 15. 15. Ac ymgynnigiant i wasanaeth yr Arglwydd yn rhwydd. Y mae ofn yn fuddiol, ond nid yr unic gynhyrfwr mono yn y galon rasol. Y mae Christ yn frenin ar bobl ewyllyscar, [Page 45] ac nid rhaid iddo eu cadw dano drwy drais, am fod grâs yn eu gwneuthur yn blant, nid yn gaethweision, ac ufyddhant o ran cariad; canys cyfraith Christ yw hoffder y gwir gredadyn, Psal. 119. 159, 163, 167. ai ddeisyfiad, adn. 5, 20, 40. ai ddigrifwch, adn. 77, 92, 103, 111, 143. ai fyfyrdod, adn. 97, 99. Psal. 1. 2.
4. Bydd ei ogwydd ai egni ar gadw cyfreithiau Duw yn holl ystod ei fuchedd, Psal. 119. 4, 8, 167, 168. Ei ofal beunyddiol ef sydd ar rodio gyda Duw. Annela at berffeithrwydd, dymmuna hynny, ac ymestyn atto, ni pheidia ag ymegnio am dano, ac ni orphwys nes caffael gwared o bechod, a dyfod o hyd i gyflawn sancteiddiad, Philip. 3. 11, 12, 13, 14.
Yma yr ymddengis pudredd y rhagrithiwr, ewyllysia sancteiddiad yn unic fel pont iw drosglwyddo i'r nef, ac ymofyn yn fanwl beth yw 'r mesur lleiaf o râs, a wasanaetha iw ddwyn yno, ac nis gwaeth ganddo am ddim ychwaneg. Ond y gwir Gristion a ddymuna ychwaneg o râs, o herwydd fod sancteiddiad yn hyfryd ganddo, Psal. 119. 97. Math. 5. 6. Ni ddeisyf yn unic gymaint ac ai cadwo allan o uffern, ond y mesur mwyaf a'r a allo ei gyrhaeddyd, ac at hynny y bydd ei hynt, ai ymarweddiad, Rhuf 8. 1. Math. 25. 16. Phil. 1. 20.
Defnyddion o hyn i gyd.
1. Ynteu y mae'r hyn a ragfynegwyd ynghylch troedigaeth rasol, yn dangos i ni fod y porth yn gyfyng, a'r ffordd yn gul sydd yn arwain i fywyd, ac mai ychydig sydd yn ei chael, a bod mawr allu Duw yn dra rheidiol i droi pechadur yn jachusol at Jesu Grist.
2. Annoger ditheu Ddarllenydd i edrych attat dy hun, a pha beth a ddywed dy gydwybod [Page 46] wrthiti; onid ydyw yn dechreu dy bigo di, gan ofyn ai 'r hyn a ragfynegwyd yw dy ffordd di, a'th farn, a'th ddewis? Onid wyti yn byw mewn rhyw bechod yn erbyn dy gydwybod, ac yn escculuso rhyw ddyledswydd? Onid yw dy gydwybod yn myned gydâ thi ith ystafell ddirgel, ac yn dwyn ar gôf iti anfynyched y darllenaisti, ac y gweddiaisti yno? Ac onid yw yn cofio iti dy deulu, ath esceulusdra am eneidiau dy blant ath weinidogion? Onid yw hefyd yn dy ganlyn ith shop a'th grefft, ac yn annod iti ryw ddirgelwch anwiredd yno? Onid yw yn ail-cofio iti y tafarndai, a'r drwg gyfeillach yno, a'r amser gwerthfawr a'r talentau a dreulaisti yno yn ofer? Onid yw yn dy ganlyn ith wely, ac yn darllen llith iti yno o fewn y llenni?
O gydwybod gwna dy swydd yn enw 'r Duw byw: Cymer afel ar y pechadur hwn, dôd gŵyn arno, taro ef ar ei ysgwydd ai galon, dangos iddo'r gwir: Na wenheithia iddo na fyddo byw yn ei bechod. Deffro o gydwybod, pa beth sydd yn dy fryd o gyscadur? Oes un cerydd yn dy safn? A oddefi ir pechadur farw yn esceulus am Dduw a thragwyddoldeb, heb ddywedyd dim wrtho? O deffro at dy waith. Yn awr bydded ir pregethwr yn y fonwes lefaru, gwaedda nac arbeda, derchafa dy lais fel udcorn, fel na ofynner Gwaed y pechadur hwn ar dy law di.
PEN. III. Yn dangos mor rheidiol yw Troedigaeth Rasol.
NI hwyrach y dywedwch, pa ham y mae cymmaint o drwst ac o daerni ynghylch yr un peth hyn, sef y rhaid edifarhau a dychwelyd, Act. 3. 19. Ond rhaid i mi ddywedyd wrthych chwi fod yr achos yn ei ofyn: Pe gallech fod gadwedig yn eich cyflwr presenol, myfi ach gadawn chwi yn llonydd. Ond nid oes gennif obaith gweled wyneb un pechadur yn y nef, oddieithr ei droi yn drwyadl, ac ymroi i newydd-deb buchedd. Dywed Christ na ddichon dyn weled teyrnas Dduw oddieithr ei eni drachefn, Joan 3. 3. Gan hynny ni ddylech ryfeddu fod eich gweinidogion mewn gwewyr escor o'ch plegid chwi, ac yn daer am weled delw Duw arnoch. Nid yw'r troedigaeth a ddosparthwyd gynneddf tra-rhagorol o ryw Gristion tal, onid cyfnewidiad rheidiol i bob un cadwedigol.
Dywedodd Rhyfeinwr anrhydeddus ydoedd ar frys i ddwyn ŷd ir ddinas ar amser prinder a newyn, a'r morwyr yn rhufo hwylio o herwydd bod yr hin yn arw, Necessarium est Navigare, non est necessarium vivere: Rheitiach yw ein taith na'n bywyd: Y mae troedigaeth yn Rheitiach i titheu na'th fara, na'th anadl; yr un peth angenrheidiol yw troi at Dduw. Nid yw dy olud mor rheidiol iti, gelli werthu'r cwbl, i brynu'r perl gwerthfawr, a bod yn ennillwr hefyd, Math. 13. 46. Gelli ymadel a'th fywyd er mwyn [Page 48] Crist, a gwellhau arnat dy hnn: A chael dy ddifenwi er mwyn enw Christ, a bod yn wynfydedig: Je llawer gwell iti wradwydd er ei fwyn ef, nag anrhydedd ffordd arall, 1 Pet. 4. 4. Math. 5. 10, 11, 12. Oni chei droedigaeth rasol darfu am danati byth, anoddefadwy fydd dy gyflwr yn dragywydd. Ymddengis hyn mewn pum peth, canys heb y newidiad grasol hwn.
1. Ofer yw dy fod. Ond gresyn dy fod yn faich anfuddiol ir ddaiar, neu fel dafaden yn ghorph y bŷd, heb fod yn dda i ddim; felly yr wyti heb râs. O herwydd ewyllys Duw yr wyti, ac y crewyd di, Datc. 4. 11. Yr Arglwydd a'th wnaeth di er ei fwyn ei hun, Dihar. 16. 4. Gan dy fod yn ddyn a rheswm ynot, ystria i ba beth ith wnaethpwyd.
Edrych ar waith Duw yn dy gorph, a gofyn i ba beth y cododd efe yr adail hono? Meddwl am gynneddfau godidawg dy enaid goruchel, a pha ham y rhoddes Dnw hwynt iti, mai nid er mwyn boddhau dy gnawd llygredig. Ni anfonodd Duw ddynion ir bŷd i fod fel y gwennoliaid, i hel pricciau a phridd i adeiladu nythod, ac i fagu. Cydnabyddai paganiaid fod i ddŷn ryw ddiben mwy na hynny. Yn ofnadwy ac yn rhyfeddol i'th wnaed, fel y byddai iti glodfori Duw, Psal. 139. 14. Y peth sydd waith godidowg a nefol.
O ddyn! gad i'th reswm gael y gader, oni weli yn resyn godi'r fath adail yn ofer? yr hyn a ddigwydd oni wasanaethi Dduw. Heb râs i ba beth y byddi da? yr wyti fel offer cerdd gywraint a'i holl dannau wedi eu torri, ac allan o dymer: Oddiethr i yspryd Duw dy gyweirio di drwy râs, a'th wneuthur yn felys dy Sain, ni bydd dy weddi ond udo anhyfryd iw glustiau ef, Ephes. 2. 10. Phil. 2. 13. Hos. 7. 14. Esay 1. 15. [Page 49] Yn dy gyflwr naturiol y mae dy holl alluoedd yn llygredig, a rhaid ei glanhau oddiwrth weithredoedd meirwon, cyn y gallech wasanaethu'r Duw byw, Heb. 9. 14. Tit. 1. 15.
Nid all yr aflan wneuthur gwaith Duw, mae'n anghynefin â gwaith megis â gair cyfiawnder, Heb. 5. 13. Y mae dirgelwch yn ymarferion gydag yn nghwyddorion duwioldeb, ac ni ŵyr yr anrasol ddirgeledigaethau teyrnas nefoedd, Math. 13. 11. 1 Tim. 3. 16. Nid gwiw disgwyl ir dŷn naturiol wneuthur gwasanaeth cymeradwy i Dduw, mwy nag ir anllythrennog ddarllen; canys rhaid yn gyntaf iddo gael ei ddyscu gan Dduw, Joan. 6. 45. Ei ddyscu i weddio. Luc. 11. 1. i wellhau, Esay 48. 17. i gerdded, Hos. 11. 3. A chydâ bod y naturiol yn anfedrus ir da, y mae efe hefyd yn ddinerth iddo, ai galon yn wan, Ezec. 16. 30. Ac yn hawdd ganddo flino; dywed am y Sabbath, pa flinder yw? Mal. 1. 13. Je nid yw wan yn unic, Rhuf. 5. 6. Ond yn farw hefyd mewn pechod, Ephes. 2. 5. Je nid oes ganddo chwant at ddim da, ni ewyllysia wybod ffyrdd Duw, Job. 21. 14. Ni wyddant ac ni ddeallant, Psal. 82. 5. Nid oes ganddo chwaith mor offerau na denfydd tuag at wneuthur daioni, gan ei fod heb rasau yspryd Duw. Nid yw cardod wasanaeth i Dduw ond i wag-ogongiant oddieithr i gariad duwiol estyn y llaw iw rhoddi: Nid yw gweddi o'r gwefusau heb râs yn y galon, ond corph heb fywyd: Ni thal cyffessu pechod ddim oni bydd ynddo Sorriant duwiol ac edifeirwch ddifrifol: Nac erfyniad heb ffydd yn addewidion Duw, a dymyniad dduwiol: na diolch geneu heb deimlad o ddaioni Duw yn y galon: Gall un ddisgwyl ir coed lefaru, ac ir anifeiliaid ymresymmu, ac ir marw gerdded, [Page 50] gystal ac ir dyn annuwiol wneuthur y peth y fyddo da gan Dduw: Tra fyddo'r pren yn ddrwg, nid all ei ffrwyth mor bod yn dda, Math. 7. 18.
Ac nid yw'r anianol yn unic yn ddiduedd ir da, ond yn llawn drwg hefyd, fel cawell o adar aflan, Datc. 18. 2. A bêdd llawn o bydredd, Math. 23. 27. Corph marw ffiedd yn llawn pryfed ac arogl drewllyd, Psal. 14. 3. Ystum flin! ynteu gwel rheitied iti dderbyn grâs. Blin oedd ir Juddewon weled llestri aur y deml yn nŵylaw anghred, ai harferu at feddwdod ac eulyn-addoliad, Dan. 5. 2, 3. A gweled Antiochus yn gosod llun Mochyn yn agos at gyntedd y deml: Blinach fuasai iddynt weled pesci Môch yn y deml, a gwneuthur y sanctaidd sancteiddiolaf yn dom-dŷ fel y gwnawd teml Baal, 2 Bren. 10. 27. Och! hyn yw cyflwr yr anrasol. Troir ei holl aelodau yn offerau angbyfiawnder, Rhuf. 6. 19. Yn weision i Satan: Ai alluoedd pennaf yn gelloedd aflendid, Ephes. 2. 2. Tit. 1. 15. Gellir dirnad y pethau sydd oddifewn wrth y pethau sydd yn dyfod allan o honaw: O'i galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau, Math. 15. 19. Y gâd ddu hon sy'n dangos fod uffern oddifewn.
Ond gresyn gweled yr enaid goruchel wedi ei wneuthur yn gaeth-wâs i frunti, ac arglwydd y bŷd, gogoniant y creadigaeth, y pennaf o ffyrdd Duw, wedi troi yn afradlon, ac yn haffio yn y cafn gyda Môch, ac yn llyfy chwdfa. Galar oedd gynt weled y rhai a feithrinwyd mewn scarlad yn cofleidio yr tommennydd, a gwerthfawr feibion Sion cystal ag aur pûr, yn cael eu cyfrif fel stenau pridd, Galar-nad 4. 2, 5. [Page 51] Ac onid yw yn chwithach weled yr Enaid anfarwol ydoedd ar lun Duw, wedi myned yn llestr heb hoffder ynddo? Jer. 22. 28. O ddirmig anoddefadwy!
2. Ofer fyddei 'r creadigaeth gweledig hefyd heb fod rhai a derbynient râs. Gwnaed pob peth i wasanaeth dyn, efe ddylei lefaru dros y Creaduriaid eraill, fel y tafod dros yr holl aelodau. Nid all y creaduriaid foliannu eu gwneuthurwr ond wrth fud-amneidio ar ddyn i lefaru drostynt. Dyn yw archoffeiriad y creaduriaid, i offrwm diolch drostynt hwy oll, Psal. 147. ac 148. ac 150. Ardreth moliant sydd ddyledus ir Arglwydd oddiwrth ei holl weithredoedd. Psal. 103. 22. yr hyn y mae 'r creaduriaid eraill yn ei ddanfon drwy law dyn, ac os efe a fydd anffyddlon, gwneir cam i Dduw, a siomir ef am y cwbl, fel na chaffo ogoniant presenol oddiwrth ei weithredoedd.
O beth erchill iw ystyried! A ddarfu i Dduw adeiladu 'r bŷd mawr hwn, a dangos cymmaint oi anfeidrol allu ac oi ddoethineb, ac oi ddaioni ynddo, ac a fynni di fyned o'r cwbl yn ofer wrth fod Dŷn ar y bai, yn ei yspeilio ef o'r gogoniant a haeddei efe am y cwbl? Och! meddwl am hyn, tra fyddech di yn anrasol, y mae'r creaduriaid yn dy wasanaethu di yn ofer. Gwaith ofer ith fŵyd dy borthi di, ag ir ser a'r haul oleuo iti a'th wasanaethu, Hos. 2. 21, 22. Barn 5. 20. Ofer ith ddillad dy gynhesu, ac ith anifail dy ddwyn, ac ir creadigaeth oll lafurio er dy fwyn di, rhoddant eu ffrwyth iti fel y byddo iti â hynny ogoneddu eu creawdwr, ac onis gwnei hynny y maent yn cyd-ocheneidio, ac yn cyd-ofidio, Rhuf. 8. 22.
3. Heb râs ofer fydd dy grefydd, Jag. 1. 26. [Page 52] Nid all dy ddyledswyddau crefyddol na rhyngu bodd Duw, Rhuf. 8. 8. Na lleshau dy enaid, 1 Cor. 13. 2, 3. Er ith wasanaeth fod yn olygus, etto heb râs ni bydd hyfryd gan Dduw mono, Esay 1. 14. Mal. 1. 10. Peryglus yw cyflwr y dyn y byddo ei aberth yn ffiaidd, ai weddi fel anadliad drewllyd, Esay 66. 3. Dihar. 28. 9. Bagad dan gnofa cydwybod a fwriadant wellhau peth, ac a dybiant y gallant ymjachau drwy ychydig Elusenau, a gweddiau, heb ystyried nad all eu dyledswyddau leshau, eisieu eu dyfod oddiwrth galon sanctaidd. Gwrthodwyd Jehu er maint y wnaeth o herwydd nad oedd ei galon yn uniawn, 2 Brenh. 10. Hos. 1. 4. Er bod Paul yn ddiargyoedd mewn bagad o bethau, etto collodd y cwbl a wnaethei cyn ei droi, Phil. 3. 6, 7. Meddwl pobl wrth ddyfod at addoliad Duw, eu bod yn haeddu yn dda; a byddant barod i ddwyn hynny ar gôf ger bron Duw, er ei annog ef iw gobrwyo, Esay, 58. 3. Math. 7. 22. Heb ystyried fod ei gweithredoedd yn anghymeradwy tra fyddo eu calonnau yn aflan.
O Enaid pechadurus! pan fyddo dy anwireddau yn pwyso arnat, na thybia y gall, ychydig weddio neu ddiwygio heddychu Duw, rhaid iti ddechreu ar y galon, oni bydd hono wedi ei hadnewyddu, ni elli fodloni Duw, mwy nag y gallai un a wnai gam â thi, ac a syrthiai mewn brunti ymgymmodi â thi wrth dy gofleidio a'i freichiau tomlyd.
Gofidus yw cymeryd poen yn ofer. Dychymygau 'r Prydyddion benyd Sifiphus yn flin, orfod iddo yn oestadol dreiglo maen mawr yn erbyn y rhiw, a phan fyddai agos wedi dyfod i fynu i ben yr allt, dychwelai tuag i wared [Page 53] eilwaith, a gwnai ei boen yn ofer. Y mae Duw yn bwgwth pobl anufydd y gorfydd iddynt adeiladu tai heb drigo ynddynt, a phlannu coed heb gasclu eu ffrwyth, ond y cafai pryfed a dieithraid eu bwyta, Deut. 28. 30, 38, 39, 41. Ac os blin genym golli ein llafur naturiol, i hau ac i adeiladu yn ddifudd, pa faint flinach i ni golli ein gwaith crefyddol, i ni weddio, a gwrando, ac ymprydio yn ofer, canys colled tragwyddol yw hynny? Oh! na thwyller di, os parhei mewn ffordd ddrwg, er iti estyn allan dy ddwylo, fo guddia Duw ei lygaid, er iti weddio llawer ni wrendi efe, Esay 1. 15. Os un anfedrus aiff yn chwithig ynghylch eich gwaith, ai anrheithio, ni roddwch iddo ond ychydig ddiolch, er iddo gymeryd cryn boen. Torrodd Duw ar y rhai ni cheisiasent ef yn y modd y dylasent, 1 Chron. 15. 13. Rhaid gwneuthur gwaith Duw yn ol ei orchymmyn ef, sef a chalon sanctaidd, 2 Chron. 25. 2.
4. Heb râs ofer fydd dy obaith, Job 8. 12, 13. Yr Arglwydd a wrthododd dy byder di, Jer. 2. 37. Nid oes dim cyssur yw gael yma hebddo; pwy bynnag a rodio mewn llwybrau ceimion nid edwyn heddwch, Esay 59. 8. Yn unic y Sawl a rodio yn ofn yr Arglwydd a gaiff ddiddanwch yr Yspryd glân, Act. 9. 31. Y mae 'r Arglwydd yn traethu heddwch yn unic iw bobl ac iw Sainct, Psal. 85. 8. Nid Duw sydd yn llefaru 'r heddwch twyllodrus yr ydych yn ei gael yn eich pechodau. Clefyd yw'r pechod, Esay 1. 5. A gwahanglwyf yn y pen, Lef. 13. 44. ie plâ yn y galon, 1 Brenh. 8. 38. A drylliad escyrn, Psal. 51. 8. Y mae 'n archolli ac yn gwanu, 1 Tim. 6. 10. Am hynny nid gwiw disgwyl esmwythdra ynddo.
[Page 54]O ddyn annedwydd, nid elli gael gronyn o esmwythâd yn dy gyflwr, onid a geffech oddiwrth drymder dy ddolur! Dan ymleferydd dywed ei fod yn wych, pan fyddo marwolaeth yn ei wyneb ef; cais godi er bod y cam nesaf ir bêdd. Er ir anwireddus ei dybiaid ei hun yn jach, a gwrthod y physygwr, tra peryglus yw ei gyflwr.
Y mae pechod yn cythryblu'r enaid, y mae temestl yn y meddwl anfodlongar, a gofal sydd yn cnoi 'r galon, a gwŷn ddig yn ei phoethi, a thrachwant yn ei rhoddi ar dân. Beth yw balchder onid chŵydd marwol, a ch; bydd-dod onid syched a chysp annigonol, a malis onid gwenwyn yn y galon? Beth yw 'r diogelwch cnawdol onid hun-glwyf marwol? A pha fodd y gall yr enaid hwnw gael gwir gyssur a fyddo dan gymmaint o glefydau? Ond y mae grâs yn jachau 'r meddwl, ac yn cymhwyso 'r enaid i esmwythdra parhaus: Heddwch mawr fydd i'r rhai a garant gyfraith Dduw, ac nid oes dramgwydd iddynt. Psal. 119. 165. Ffyrdd doethineb sydd ffyrdd hyfrydwch, ai llwybrau yn heddwch, Dihar. 3. 17. Cafodd Dafydd fwy hyfrydwch yn y gair nag yn ei lys. Psal. 119. 103, 127. Nid all y gydwybod gael ei heddychu nes ir galon gael ei glanhau, Heb. 10. 22. Yr heddwch pechadurus a felldithir, Deut. 29. 19, 20. Cyttundeb â phechod a heddwch ynddo, sydd waeth na holl helbulon y bŷd.
Hefyd ofer yw gobaith am jechydwriaeth yn ol hyn, heb râs yma; ie gwaeth nag ofer, sef dinistriol ir dŷn ei hun, a gwrthnebus i Dduw. Y mae marwolaeth a chabledd ym mol y cyfryw ryfyg: Ei hyder a dynnir allan o'i luestŷ, ac ai harwain at frenin dychryniadau, [Page 55] Job 18. 14. Er iddo bwyso ar ei dŷ ni saif, Job 8. 15. Fel adail amharus syrth ar ben y Sawl a breswylio dano: diweddiff mewn anobaith; Pa obaith sydd i'r rhagrithwr pan dynno Duw ei Enaid ef allan? Job 27. 8. Yna y bydd diben ar y cyfryw obaith: Yn Siccr diweddiff gobaith y cyfiawn, ond bydd hynny mewn perffeithrwydd, pan gaffo fwynhau'r peth a obeithiodd efe am dano; ond gobaith y drwg a ddiweddiff mewn siomedigaeth, Dihar. 10. 28. Wrth farw gall y duwiol ddywedyd gorphenwyd, a'r unnuwiol dinystrwyd. A dywedyd am dano ei hun mewn gwirionedd, y peth a ddywedodd un arall mewn amryfusedd, yr ydys yn fy nestrywio oddiamgylch, ac yr ydwyf yn myned ymmaith, efe a Symmudodd fy ngobaith fel pren, Job 19. 10. Ond y cyfiawn a obaithia pan fyddo yn marw, Dihar. 14. 32. Pan fyddo ei gorph yn wan bydd ei obaith ef yn grŷf, Ei obaith ef sydd fywiol, 1 Pet. 1. 3. Ond gobaith rhai drwg sydd farwol, a chynnorthwyol iw damnedigaeth. Pan fyddo marw dyn drygionus, Fe a ddarfu am ei obaith ef, a gobaith y traws a gyfrgollir, Dihar. 11. 7. Torrir ymmaith ei obaith ef, ac fel tŷ pryf coppyn y bydd ei hyder ef, Job 8. 14. Er iddo hyderu arni, etto daw marwolaeth ac ai yscyba ymmaith. Llygaid yr annuwolion a deffygiant, ai gobaith fydd fel ymadawiad yr Enaid, Job 11. 20. Deil rhai cnawdol eu gobaith yn dynn nes i farwolaeth eu cymell i ollwn eu gafel: Pan darawo arf angeu drwy'r afu gollyngir yr enaid ai obaith allan ar unwaith. Yn y bywyd hwn yn unic y mae gobaith yr annuwiol, 1 Cor. 15. 19. Am hynny truanaf o'r holl ddynion ydynt, canys marwolaeth ai gollwn i lawr ir pwll ofnadwy o anobaith dragwyddol.
[Page 56]Y mae cabledd yn ghobaith yr annuwiol hefyd, canys cais wneuthur Duw yn gelwyddog. Dywed yr Arglwydd er trugarocced yw, nad achub efe yr neb a barhao yn ei anwiredd, Esay 27. 11. 1 Cor. 6. 9. Ac nad all neb gael jechydwriaeth oddieithr ei wneuthur yn greadur newydd, Gal. 6. 15. Ac os un a ryfyga yn erbyn hyn▪ tybia na saif Duw yn ei air. Ni wasanaetha meddwl y bydd anghydfod rhwng priodoliaethau Duw, ac yr aiff ei Drugaredd ef yn erbyn ei wirionedd, fel y caiff y pechadur rhyfygus weled iw ofid tragwyddol.
Gobeithiai Dafydd yn ghair Duw, Psal. 119. 81. Ond gobaith ddiedifeiriol sydd yn erbyn ei air ef, am hynny y mae efe yn ei gwrthod, ac yn barnu yn euog y Sawl a ymgynhaliant wrth yr Arglwydd ac a ant ymmlaen yn eu hanwireddau, Mic. 3. 11. Ni fynn efe moi wneuthur yn atteg i bechod, eithr yscydwiff y rhyfygus oddiwrtho fel yr yscwyd un eithin, a mieri oddiwrth ei wisc, Esay 48. 1, 2. Gwir obaith a bura ddyn, 1 Joan 3. 3. Ond gau yw 'r hon sydd yn meithrin drwg: Rhaid gochelyd rhyfyg mewn cyflwr annuwiol, Act. 2. 37. Canys heb sancteiddiad ni chaiff neb weled wyneb Duw. A gochelyd anobaith hefyd pan edifaro un, ac yr ymroddo i arfer moddion grâs.
5. Heb droedigaeth rasol ofer fydd iti yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd Christ, Joan 13. 8. Tit 2. 14. Canys ni chei jechydwriaeth hebddi. Bu farw Christ dros bechaduriaid, etto ni chaiff neb ond yr Edifeiriol y bûdd o hynny, 2 Tim. 2. 19. Ynteu ceisiwn wybod beth a wnaeth Christ erddom ni, [Page 57] a pheth a wnaeth efe ynom ni. Heb yr ailanedigaeth nid oes hawl i neb ym mreintiau prynedigaeth. Nid achub Christ neb ond yn y drefn yr ordeiniodd y Tâd Nefol, ac fel y rhoddwyd awdurdod iddo, Esay 42. 1. Ioan 17. 2. Am hynny y mae Christ cyn gadel y bŷd yn rhoddi cyfrif ir Tâd am y ddwy ran hynny oi swydd, Ioan 17. 4, 6, 12.
Y drefn a osododd y Tâd ac a ddilyn Christ, yw dwyn pobl drwy sancteiddiad i jechydwriaeth, 2 Thess. 2. 13. Dewiswyd rhai i sancteiddiad, ac i gael maddeuant a bywyd oddiwrth Grist drwyddi, Eph. 1. 4. 1 Pet. 1. 2. Nid elli di newid Cyngor Duw, na gwneuthur ir hwn a seliodd efe fyned yngwrthwyneb iw ewyllys ef. Y mae Christ yn achub y rheini yn unic a roddes y Tâd iddo drwy Etholedigaeth, ac a dynnodd atto ef drwy alwad effeithiawl, Ioan 6. 34, 37, 38.
Hefyd y mae priodoliaethau Duw yn gofyn hyn, sef ei gyfiawnder ef y dal i bawb yn ol eu gweithredoedd, Rhuf. 2. 5, 6. Pe gallai pobl hau ir cnawd, ac o'r yspryd fedi bywyd tragwyddol, Gal. 6. 7, 8. tywyllei hynny ogoniant cyfiawnder Duw; a phe rhoddid ir drwg yn ol gweithredoedd y cyfiawn. Ni oddef sancteiddrwydd Duw i neb gael pres-wylio gydag ef ond rhai sanctaidd: Y mae 'r allan yn ei olwg ef yn waeth na môch a nadroedd, Math. 23. 33. 2 Pet. 2. 22. Ni chyd ddwg neb glanwaith â môch tomlyd wrth ei fwrdd, neu yn ei stafell-wely. Ac ni fyn purdeb anfeidrol Duw bobl fruntion i breswylio gydag ef, Nid allant sefyll yn ei farn, nac yn ei ŵydd, Psal. 1. 5. ac 5. 4, 5. Gan na oddefai Dafydd dduwiol y fath hynny yn ei [Page 58] dŷ, nac yn ei olwg, Psal. 101. 3, 7. Anrhesymmol i ni dybied y gwna Duw hynny. Pe cymmerai Duw bobl o'r Cutt a'r Pntteindŷ ir nef, tybid nad yw mor gâs ganddo bechod ac y dywed yr yscrythyr ei fod: Ai fod ef yn debyg iddynt hwy, fel y meddyliodd rhai o herwydd ei ddioddefgarwch ef, Psal. 50. 21. Gwirionedd Duw hefyd sydd yn siccrhau hyn. Canys efe a ddywed os ymfendithia dŷn yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn ghyndynrwydd fy nghalon: Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo, eithr mŷga digllonedd yr Arglwydd yn erbyn y gŵr hwnnw, Deut. 29. 19, 20. Ac na chaiff neb drugaredd ond y Sawl a addefo, ac a adawo eu pechodau, Dihar. 28. 13. Ac nad escyn i fynydd yr Arglwydd, ac na saif yn ei le sanctaidd ef, ond y glân ei ddwylo a'r pur ei galon, Psal. 24. 3, 4. O Bechadur anhydyn, na feiddia feddwl yr aiff Duw yn erbyn ei air i arbed dy bechod di. Ni âd Doethineb Duw iddo roddi y trugareddau pennaf i'r rhai na wnant gyfrif o honynt, ac na bo gymwys iddynt, Math. 22. 5. Ni fwy gan y diedifeiriol am Grist, na chan yr jach am feddig, Math. 9. 12. Gwael ganddo ei eli, a sethriff ar ei waed, Heb. 10. 29. Ni saif gyda doethineb Duw iddo gymmell maddeuant a bywyd ar y rhai ni rônt ddiolch am danynt: Ni theifl efe mo'i bethau sanctaidd i'r cŵn, na'i berlau i'r môch, y rhai a geisiant ei rwygo ef, gan iddo ommedd i ni wneuthur felly, Math. 7. 6. Gwnai hynny Drugaredd yn dra dirmygus. Edrych Duw at ei ogoniant ei hun gyd ac at jechydwriaeth dŷn. Ni fynn efe golli gogoniant ei râs, a'i daflu ymmaith i rai anewyllyscar ac anniolchgar. Gwelir doethineb [Page 59] Duw yn cymhwyso pethau iw gilidd, goleuni ir llygad, Sŵn ir Glust, melysdra ir archwaeth, a'r rhodd ir derbyniwr. Pe dygid yr annuwiol ir nêf, ni chaent yho ddim a hoffent. Nid yr un pethau fydd hyfryd i anifeiliaid ac i ddynion. Byddai Dyn drwg yn y nef, fel pyscodyn ar dir sych, allan oi elfen, ni byddai 'r gymdeithas nefol gymwys iddo, nid all fod cymundeb rhwng tywyllwch a golleuni, rhwng brunti a gogoniant, ni byddai 'r mawl sydd yno yn gymwys iw eneu na'i glust. Nid yw cerddoriaeth felys gan anifeiliaid, na 'r seigiau goreu yn flasus ir cleifion. Yr hwn a dybia bregeth yn hir, a'r Sabbath yn flinder, Mal 1. 13. A benydid yn ddigon tost wrth ei ddal ef attynt tros byth: Cyfraith anghysnewidiol Duw ydyw na chaiff neb ond y pur o galon weled Duw, Math 5. 8. Nid all neb ymhyrddu ir nef yn ei gyflwr pechadurus heb wybod i Dduw, am fod ei wybodaeth ef yn anfeidrol; nac yn erbyn ewyllys Duw, am ei fod ef yn Hollallnog. Ai er di fwyn di bechadur traws y Symmudir y graig allan o'i llê? Job 18. 4. Ac y dymchwelir sylfeini cyfiawnder? Geiriau Christ yw y rhain, sef, oddieithr eich troi chwi, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd, Math 18. 3. rhaid eich geni drachefn, Joan, 3. 7. Oni olchaf di, nid oes iti gyfran gydâ myfi, Ioan 13. 8. Onid edifarhewch chwi a ddifethir, Luc 13. 3. Tybiai un fod un gair oddiwrth Grist yn ddigon etto y mae efe yn fynych ac yn ddifrifol yn ailadrodd y peth hyn, yn wir, yn wir, yn wir, yn wir, oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw, Joan 3. 3, 5. Ac fel y mae 'n haeru, felly y mae efe hefyd yn profi mor anghenrheidiol yw'r ailanedigaeth [Page 60] o herwyd aflendid y cyntaf, Ioan 3. 6. y wnaiff ddyn mor anghymwys ir nef, ac yw anifail i stafell Brenin. Ynteu na choelia ith ryfyg dy hun o flaen gair Christ. Tyngodd yr Arglwydd na chaiff yr anufydd fyned i mewn iw orphwysfa ef, Psal. 95. 11. Heb 3. 18. Trwy lŵ y siccrhawyd, a thrwy waed y seliwyd cyfammod y grâs, Heb. 6. 17. ac 9. 16, 18, 19. Math 26. 28. Ac oni wnei hynny yn ofer, nid elli fod gadwedig heb Sancteidiadd. Y mae Duw yn cynnig iti jechydwriaeth ar yr ammodau hawsaf ac y gynnygier byth.
Fel y mae Duw yn dangos cariad ir pechadur, mae ei anrhydedd yn gofyn iddo ddangos casineb ir pechod; am hynny rhaid ir hwn a henwo Enw 'r Jesu ymadel â ei anwiredd, 2 Tim 2. 19. A naccau annuwioldeb. Rhaid ir hwn sydd ganddo obaith bywyd drwy Grist ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr, 1 Ioan 3. 3. Tit. 2. 12. ac onide tybid fod christ yn hoffi pechod. Myn Duw ir bŷd wybod nad ydyw efe yn llochi pechod, er ei fod yn ei faddeu. Gan i Ddafydd dduwiol ddywedyd, ciliwch oddiwrthif holl weithredwyr anwiredd, Psal. 6. 8. Ac iddo gau 'r drws yn eu herbyn, Psal. 101. 7. Oni ddisgwyl y cyfryw 'r un fâth beth gan Grist sanctaidd? Ni byddei hardd iddo ollwn y cŵn ar ei fwrdd, neu adel ir môch letteua gydâ ei blant, a gwneuthwr monwes Abraham yn nyth gwiberod.
Y mae swydd Christ hefyd yn gofyn iddo ddarostwng y balch, ac arbed yr ufydd. Swydd tywysog yw bod yn ofn i weithredwyr drwg, ac yn glôd ir Sawl a wnêl dda, Rhuf. 13, 3, 4. Gweinidog Duw, yw efe, dialudd llid ir hwn sydd yn gwneuthur drwg. Pe cynhaliai [Page 61] Christ bobl yn eu hannuwioldeb, a chymeryd y rheini i reoli gydag ef, y rhai ni fynnant iddo ef reoli arnynt, byddai hynny yngwrthwyneb iw swydd ef, Luc. 19. 27. Canys y mae efe yn rheoli i osod ei elynion dan ei draed, 1 Cor. 15. 25. Perthyn i Grist ddarostwng calonnau, a llâdd trachwantau ei rai dewisol, Psal. 45. 5. ac 110. 3. Ni chymer tywysog wrthryfelwyr amlwg iw lŷs rhag y frâd eu canlyn. Gan fod Christ yn frenin, efe a fynn anrhydedd, ac ufydd-dod, Mal. 1. 6. Fel na thywyller ei ogoniant, ac na ddirmyger ei awdurdod.
Fel y mae Crist yn jachawdwr, hefyd ei swydd yw gwaredu ei bobl oddiwrth eu pechodau, Math. 1. 21. Ac nid eu cynwys ynddynt. Achubiff hwynt oddiwrth benid pechod a'i aflendid nefyd. Fel y mae yn waredwr efe a dry ymmaith annuwioldeb oddiwrth Jacob, Rhuf. 11. 26. Anfonwyd ef i fendithio dynion trwy droi pob un o honynt ymmaith oddiwrth eu drygioni, Act 3. 26. ac i ddibennu camwed, Dan. 9. 24.
Cymmwysiad. Ynteu cyfod o gyscadur, deffro di bechadur diofal rhag dy ddifetha yn dy anwireddau. Dywed fel y rhai Gwahanglwyfus gynt, os trigwn yma ni a fyddwn feirw, 2 Brenh. 7. 3, 4. Nid oes ond drws Edifeirwch iti i ddiangc drwyddo. Cyfod ddiogyn ac ysgwyd ymmaith dy Escusodion, pa hyd y mynni hepian a phlethu dy ddwylo i gyscu? Dihar. 6. 10, 11. A gysci di ynghanol y môr, a gysci di ym mhen yr hwylbren? Dihar. 23. 34.
Cyfod o ddyn a thyred ymmaith. Rheidiol iti weddio ar ir Arglwydd Jesu estyn ei law Drugarog iti, fel y gwnaeth yr Angylion i Lot, Gen. 19. 15, 16. Y rhai a fuont daer arno, gan ddywedyd cyfod rhag dy ddifetha: Yntef [Page 62] a oedd hwyrfrydic, a'r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, am dosturio o'r Arglwydd wrtho ef, ac ai dygasant ef allan o'r ddinas gan ddywedyd diangc am dy enioes, ac na saf yn yr holl wastadedd, diangc ir mynydd rhag dy ddifetha.
Oh mor gyndyn fyddi i'th ddinystr os ymgaledi ychwaneg yn dy gyflwr pechadurus! Nid all neb o honoch ddywedyd na chawsoch ddigon o rybydd; er hynny ni wn i pa fodd ich gadel chwi, nid digon gennif waredu fy enaid fy hun, a myned ymmaith heb rai o honoch chwitheu gydâ mi. A fum i gyhyd o amser yn llefaru wrth y gwynt, neu 'n ceisio gwastat-hau tonnau 'r môr â rhesymmau, neu yn swyno i neidr fyddar? A lefarais i wrth gynnulleidfa o bobl fyw; ai wrth feddau 'r meirwon? Ai wrth brenni y llefarais, ai wrth ddynion? Os oes genych ddealltwriaeth dynion, ystyriwch i ba le yr ydych yn myned, ac na feiddiwch ruthro ir tân, a neidio i uffern a'ch llygaid yn agored, ond yn hyttrach ymosodwch i edifarhau. A ydych chwi 'n ddynion, ac a redwch chwi o'ch gwirfodd ir Pwll dwfn, pryd nad ellwch gymmell anifeiliaid i neidio iddo! A gynnyscaeddwyd chwi â deall, ac etto a chwarewch chwi yu ymyl uffern, a digofaiut yr Holl-alluog, heb bryssuro i ddiangc rhag gofidiau tragwyddol! Anrhesymmol i chwi wrthwyneby'r Arglwydd a'ch gwnaeth, Esay 45. 9. Ac ymgaledu yn erbyn ei air ef, Job 9. 4. Canys cadernid Israel ni ddywed gelwydd, 1 Sam. 15. 29. Anoddefadwy yw bod dyn a greawdd Duw iw amlygu ei hun iddo, ac iw ogoneddu, etto yn anghydnabyddus â'i Greawdwr, ac yn anwasanaethgar iddo, ie yn elyn iddo, ac yn poeri gwenwyn yn ei wyneb ef. Gwrandawed y [Page 63] y nefoedd, a chlywed y ddaiar, a barned y creaduriaid di-deimlad, ydyw resymmol i ddyn wrthryfela yn erbyn Duw ai magodd, ac ai meithrinodd ef, Esay 1. 2. Ai synhwyrol i fieri a drain ymosod mewn rhyfel yn erbyn tân yssol, Esay 27. 4. Ac i'r llestr pridd ymdrechu â'r Crochenydd?
O ddarllenydd ystria dy gyflwr, a'r pethau a ddywedpwyd, nac Eistedda ar y traeth nes ir llanw dy amgylchu. O feddwyn na ddos mwy at dy chwdfa, na'r ffyrnig at dy dwyll, na'r anllad at dy odineb, na'r rhagrithiwr at dy ffurf farwaidd. Yr wyf yn ofni mae'r un peth a wnei rhag-llaw ac y wnaethost hyd yn hyn: Am hynny gorfydd i mi alaru am gymeryd poen y ofer, ac ochneidio dros y gwrandawyr a'r darllenwyr colledig.
O bechaduriaid gwylltion! beth a fydd en diwedd? Beth a wnant hwy yn nydd yr ymweliad, ac yn y destryw a ddaw, at bwy y ffoant am gynhorthwy, a pha le y gadawant eu gogoniant? Esay 10. 3. Och mor gadarn y dartu ir pechod eu hudo, a duw 'r byd hwn eu dallu! Och mor gadarn yw eu hamryfussedd, mor galed eu calonnau! Gallaf alw arnynt, ac ymresymmu a hwynt yn ddigon o hŷd, ond ni attebant: Hwy a ddilynant eu pechodau er maint a ddywedwyf; er i mi daeru fod y ffordd lydan yn arwain i ddestryw, etto ant ymmlaen ynddi. Weithiau tybias y toddiff trugareddau Duw eu calonnau, weithiau y bydd i ddychryn yr Arglwydd tu perswadio, ond nid oes dim ysowaeth yn eu hennill: Canmolant y gair, ond nid ufyddhant iddo; Perchant weinidogion yr efengyl, ac ydwyfi iddynt fel cân un hyfrydlais, etto [Page 64] metha genif gael ganddynt dderbyn iau Crist. Addawant yn deg heb gyflawni fel y Mâb a ddywedodd, myfi a âf Arglwydd, ac nid aeth efe, Math. 21. 30. Ni chaf ganddynt ddyscu egwyddorion crefydd, eithr mynnant farw heb wybodaeth, Job 36. 12.
Och fy ngwrandawyr truain! A gollir chwi yn finteioedd er a allwyf ei wneuthur? Pa fodd y gwnaf o herwydd merch fy mhobl? Jer. 9. 7. O Arglwydd Dduw cynnorthwya, oni wrandawant hwy fi, gwrando di fi; Arglwydd achub hwynt, a gwared hwynt oddiwrth y tân y sydd yn ei hamgylchu hwynt, onidê derfydd am danynt, gwna hyn â'th fawr allu.
PEN. IV. Yn dangos Nodau y rhai annychweledig.
TRA fyddom yn bwrw at rai o hir bell ni friwir neb, ond yr ymladd llawlaw sydd yn archolli. Ni ddeffrôdd Dafydd tra'r oedd y Prophwyd yn llefaru ar ddammeg, nes iddo ddyfod yn nes atto, a dywedyd ti yw yr gŵr, 2 Sam. 12. 7. Braidd y gwada un dyn nad yw'r ailanedigaeth yn rheidiol, ond y mae gau hyder iw twyllo, sef ddarfod iddynt ei chael eisoes, heb ammeu yr rhagrith main sydd anhawdd ei ganfod, ac yn perid i ddyn dwyllo ei enaid ei hun, Jag. 1. 24. Ac [Page 65] y mae twyll calon dyn mor aml, mor alluog, ac mor annirnadwy, onid yw yn dra rheidiol ei argoeddi, etto yn anhawdd ac yn beryglus ei ddinoethi.
Yma Arglwydd yr hwn wyt oleuni'n chwilio pob peth, amlyga sail pwdr ei amryfussedd ir hwn y sydd yn ei dwyllo ei hun; ac arwain fi o Arglwydd Dduw, fel yr arweiniaisti'r prophwyd ir delw-gelloedd, a chloddia ym mharewydydd calonnau pechaduriaid, a dangos iddynt y ffieidd-dra cuddiedig: Ac anfon dy Angel o'm mlaen i agoryd cilfacheu eu calonnau, fel y gwnaethost o flaen Pedr, a gwna ir pyrth haiarnaidd ymagoryd o'u gwaith ei hun: Ac megis y digwyddod i Jonathan wrth brofi'r mêl, gael lleuferydd ei lygaid; felly caniat-ha o Arglwydd ir Eneidiau amryfusseddus a ddarllenant y liniau hyn gael goleuo eu deall, ac argyoeddi eu cydwybodau, fel y byddo iddynt weled â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calonnau, a dychwelyd fel y byddo iti eu jachau hwyat.
Rhagrybyddier di ddarllenydd y gall dynion ryfygu bod eu Calonnau a'u cyflwr yn dda pryd na byddant onid yn afiach. Mae'r gwirionedd am hynny yn ymddangos yn ghyflwr Laodicea, y gall pobl fod yn druein, yn resynol, yn dlodion, yn ddeillion ac yn noethion, ac etto heb wybod hynny, ond yn taeru eu bod yn gyfoethogion mewn grâs, Datc. 3. 17. Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddiwrth ei haflendid, Dihar. 30. 12. Yr ydoedd Paul cyn ei droi yn hyderus o honaw ei hun, Rhnf. 7. 9. Am hynny ymochel fod gennitti gamgymeriad grêf yn lle profedigaeth siccr am dy gyflwr ysprydol.
[Page 66]Fel y dywedir am ddilynwyr Anghrist, felly y digwydd mewn messur i bob maeth ar bechaduriaid, annychweledig, bod rhai o honynt yn dwyn Nodau yn eu talcennau yn amlwg, ac eraill yn ei dwylo yn ddirgelach. Ar rai pechaduriaid y mae'r Apostol yn yscrifennu barn marwolaeth, Eph. 5. 5, 6. Canys yr ydych yn gwybod hyn am bob puttein-wr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addol-wr, nad oes iddynt Etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer, canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod, Datc. 21. 8. Ond i'r rhai ofnog, a'r digrêd, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r putteinwŷr, a'r swyngyfareddwŷr, a'r Eulyn-addolwŷr, a'r holl gelwyddwŷr, y bydd eu rhan yn y llunn sydd yn llosci â thân a brwmstan, yr hwn yw 'r ail farwolaeth. 1 Cor. 6. 9, 10. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn ettifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi; ni chaiff na godineb-wŷr, nac Eulyn-addol-wŷr, Na thorwŷr priodas, na masweddwŷr, na gwrryw gydwŷr, na Lladron na chybyddion, na meddwon, na difenwŷr, na chribdeilwŷr etifeddu teyrnas Dduw. Edrychwch hefyd yn, Gal. 5. 19, 20, 21. Gwae y rhai sydd a'u henwau o'r rhifedi yma, gall y rheini wybod yn ddiammeu eu bod yn annuwiol a than ddigofaint Duw. Sef:
1. Yr Aflan. Cyfrifir y rhai hyn ym mysc y geifr yn oestadol, a rhoddir eu henwau hwynt i lawr ym mhob cof-restr du, pwy bynnag a adawer allan, fel y gwelwch yn yr yscruthyrau a grybwyllwyd uchod.
2. Y Cybyddion. Nodir y rhain am eulynaddolwŷr, a chaeir drws y deyrnas yn eu herbyn hwynt.
[Page 67]3. Meddwon. Nid yn unic y rhai sydd yn boddi eu synwyr, ond y rhai hefyd sydd gryfion i yfed ac i ddal diod gadarn. Y mae'r Arglwydd yn adrodd llawer gwae yn erbyn y rhain, ac yn mynegi nad oes iddynt Etifeddiaeth yn nheyrnas Duw, Esay 5. 11, 12, 22. Gal. 5. 21.
4. Celwyddwŷr. Dywed y Duw geirwir nad oes le i'r rhain yn ei deyrnas ef, nac escyniad iw fynydd ef, ond bod eu rhan gydâ thâd y celwydd yn y llyn poeth, a hwythau yn blant iddo, Psal. 15. 1, 2. Datc 21. 8, 27. Joan 8. 44. Dihar. 6 17.
5. Tyngwŷr. Diwedd y rhain heb edifeirwch gywyr yw dinystr cyflym, a damnedigaeth, Jag. 5. 12. Zech. 5. 1, 2, 3.
6. Difenwŷr ac absenwŷr. Y rhai a ymhyfrydant yn bwrw tom yn wynebau eu cymydogion, ac oni feiddiant hynny yn eu gŵydd hwy, archollant hwynt yn ddirgel o ôl eu cefnau, Psal. 15. 1, 3. 1 Cor. 6. 10. ac 5. 11.
7. Lladron, a gorthrymwŷr, a thwyllwŷr, a phawb a ddaliant drwynau eu brodyr wrth y maen llifo, ac a barant golled iddynt; Rhaid i'r cyfryw ystyried fod yr Arglwydd yn ddialudd arnynt oll, 1 Thess. 4. 6. Gwrandewch hyn chwi weinidogion anffyddlon, a chwithau grefftwŷr twyllodrus, a boneddigion traws: derbyniwch eich barn. Cauiff Duw ei ddrws ich erbyn chwi, a throiff eich tryssorau anghyfiawnder yn dryssorau digofaint, a pheriff ir aur a'r arian a ennillasoch chwi ar gam, fod fel plwm toddedig yn eich ymyscaroedd chwi i'ch penydio, 1 Cor. 6. 9, 10. Jag. 5. 2, 3.
8. Holl Ddirmygwŷr addoliad Duw; y rhai a Esceulusant wrando ei air, a galw ar ei enw; [Page 68] ni feddyliant am eu heneidiau eu hunain, nac eneidiau eu reuluoedd, eithr byw heb Duw yn y bŷd, Job 15. 4. Psal. 14. 4. ac 79. 6. Eph. 2. 12. ac 4. 18.
9. Y rhai sydd yn hoffi cyfeillach ddrwg. Hyspysa Duw y difethir y cyfryw, ac na chant ddyfod iw orphwysfa ef, Dihar. 9. 6. ac 13. 20. Psal. 15. 4.
10. Gwawdwŷr crefydd, a watworant gennadon ffyddlon, a gweision diwyd yr Arglwydd, ac a wnant ddigrifwch o gystuddiau a gwendid pobl Dduw. Gwrandewch eich barn ofnadwy, Dihar. 19. 29. ac 3. 34. 2 Cron. 36. 16.
O bechadur ystyr yn ddyfal a ydwyti yn yr un o'r llech-resau a ragfanegwyd, ac os wyti gwybydd dy fod ti ym mustl chwerwder a rhwymedigaeth anwiredd, canys y mae y rhai hyn i gyd a'r nôd yn eu talcennau, ac ydynt blant marwolaeth yn ddiammeu.
Ac os felly, Duw a dosturio wrth ein Cynnylleidfaoedd ni. Pan dynner y dêg mâth a henwyd uchod o'u plith, och leied fydd rhifedi y lleill! Ar ba Sawl drws, ac wyneb y rhaid yscrifennu yr geiriau hyn, sef, Yr Arglwydd a drugarhao wrthym, megis yr arferir pan fyddo haint marwol. Nid gwiw i ddynion ymegnio i gynnal ei rhyfyg tra fyddo Duw mor eglur yn tystio iw herbyn. Pa fodd y dywedi ni halogwyd fi, edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost, Jer. 2. 23. Onid yw dy gydwybod, a'th gydnabod, a'th dylwyth yn tystiolaethu dy annuwioldeb, a'th dwyll, a'th falis, a'th gybydd-dod. Y scrifenwyd yn Eglur megis â phelydr yr haul, yn y llyfr o'r hwn i'n bernir ni, nad y w'r pechodau a grybwyllwyd frychau plant Duw.
[Page 69]O na bae ir cyfryw yr awr hon ddychwelyd a throi oddiwrth eu holl gamweddau, Fel na byddo anwiredd yn dramgwydd iddynt, Ezec. 18. 30. Ond pa un bynnag a wnelo pobl ai gwrando ai peidio gadawaf yr Yscrythyrau hyn gyda hwynt, iw deffro neu iw serio, Psal. 68. 21. Duw yn ddiau a archolla ben ei Elynion, a choppa walltoc yr hwn a rodia rhagddo yn ei gamweddau, Dihar. 29. 1. Gwr a gerydder yn fynych ac a galeda ei warr, a ddryllir yn ddisymmwth fel na byddo meddiginiaeth, Dihar. 1. 24. Yn gymmeint ac i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; minneu hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi, pan ddêl destryw arnoch megis corwynt.
Bellach yr ydwyf yn meddwl y bydd i bagad ymfendithio am eu bod yn ddiangol oddiwrth y pechodau gwrthyn a henwyd eisoes: Ond rhaid i mi ddywedyd i chwi fod math arall o rai pechadurus y sydd yn dwyn ei nodau yn eu dwylo, heb fod mor amlwg ar lleill yn y talcennau, ac yn eu twyllo eu hunain ac eraill, wrth gael eu cymmeryd am Gristianogion da, er eu bod yn Sâl eu Sail. Llawer un a gollir dryw ryw bechod y fo cuddiedig rhag eraill, ac ni hwyrach i'r dŷn ei hun, eisieu craffu ar ei galon yn ddiwyd ac yn ofalus. Y mae deuddeg o bechodau dirgel a ddygant laweroedd i gelloedd angeu. Creffwch arnynt megis Nodau ar gyflwr peryglus. A'r rheini yw,
1. Anwybodaeth, yr hwn sydd yn lladd llawer enaid yn y tywyll, Hosh 4. 6. Ac ynteu yn ei dybied ei hun yn dda, ac ar y ffordd ir nef. Dyma un sydd yn lladd llawer [Page 70] enaid dan dewi, pryd na byddont druein yn ammeu dim; nac yn canfod y peth ai niweidia, Esay. 27. 11. 2 Thess. 1. 8. 2 Cor. 4. 3. Oh! ond gofidus ydoedd y golwg pan gaewyd ar liaws o brotestantiaid mewn yscybor, ac y tywyswyd hwynt o fesur un ag un a mwgwd ar eu llygaid at gyff, lle lladdod cigidd gwaedlydd hwynt y naill ar ol y llall? a phan feddyliom ni fel y mae anwybodaeth yn dirgel gigyddio miloedd o eneidiau, gan eu tywys yn ddeillon at y cyff, nid all ein calonnau amgen na gresynu. Nac escusodwch anwybodaeth; os arbedwch chwi ef, ni arbed efe monoch chwi: A lochi di leiddiad yn dy fonwes?
2. Cadw rhyw beth oddiwrth Grist: Tybied yn rhy galed ymadel â phob peth er ei fwyn ef, â thâd, â mam, â bywyd: Luc. 14. 26. Bodloni i rai dyledswyddau a cholledion er mwyn yr Efengyl, ond nid ir cwbl. Eisieu cwbl ymroddiad o honynt eu hunain i Grist a bwrw'r draul wrth osod sail adeiladaeth eu crefydd, maent yn llaccio mewn profiad, Luc 14. 28. Math. 13. 21.
3. Furf grefyddol oddiallan: llawer a ymfodlonant ar fliscyn crefydd heb y cynhwillin, ac a dybiant yn dda o honynt eu hunain wrth wneuthur y tu allan o ddyledswyddau, Math. 23. 25. llawer enaid a dwyllir felly, ac a gyfrgollir; a digwydd fod ffûg crefydd yn waeth iddynt nag aflendid cyhoedd, megis y gwelir wrth y Pharisaeaid, Math 23. 31. Gwrandawant y gair, ymprydiant, a gweddiant, a rhoddant Elusen, am hynny ymhonnant o gyflwr da Luc 18. 11. Gorphywys yn y gorchwyl oddiallan, a bod heb fywyd oddimewn, [Page 71] a chynwys gobaith gwenheithus eu bod ar y ffordd ir nef, ai dwg hwynt lle ni fynnent, Math 7. 22, 23. O dwyll ofnadwy!
4. Gau ddibenion mewn dyledswyddau crefyddoll: hynny a anrheithiodd y pharisaeaid, Math 23. 14. ac a fodda lawer un cyn dirnad ei amryfussedd. Cyflawniff ddyledswyddau yn rhyw fodd, a thybia fod pob peth yn dda, heb holi 'r annogaeth gnawdol y Sydd yn ei gynhyrfu iddynt. Y mae 'n rhy wir ysoweth y teri 'r fath ddibenion i fewn dyledswyddau 'r grasol, ond ymddarostwng oi herwydd, ac ymosodiff yn eu herbyn, ac ni chant yn oestadol ei feistroli, Rhuf 7. 15. ond yr hwn yn gyffredinol a wnaiff ddyledswyddau crefyddol o ran peri i dynion dybied yn dda o hono ef, neu i ryw gyffelyb ddiben bydol, sydd heb fod yn uniawn ger bron Duw, Hos: 10, 1. Zech. 7. 5, 6, Am hynny O Gristianogion rhag eich twyllo eich hunain, edrychwch nid yn unic at eich gweithredoedd, ond at eich dibenion hefyd.
5. Ymddiried i hunan gyfiawnder, Luc. 18. 9. Pan fo pobl yn ymddiried iw cyfiawnder eu hun, gwrthodant gyfiawnder Christ. Rhuf. 10. 3. Y mae yn dra rheidiol i ni edrych o'n dauru ac onidê gall ein pethau goreu ein difetha ni, gystal a'n pethau gwaethaf. Y mae llawer un heb feddwl am hyn, ond cymerwch rybydd yn awr rhag eich cyfiawnder amryfuseddus eich niweidio gymaint â'ch pechodau amlyccaf: Yr hyn a ddigwydd pan ddisgwilioch i'ch gweithredoedd amherffaith fodloni cyfiawnder, a throi ymmaith ddicter Duw oddi wrthych, a haeddu ei gariad ef tuag attoch. Y mae hynny yn ceisio gweithio Christ allan [Page 72] oi swydd. Pan wneloch oreu ewch at Grist am gyssur, a chyfrifwch eich cyfiawnder eich hun megis brattiau budron, Psal. 143. 2. Phil. 3. 8. Esay. 64. 6. Heb. 13. 21.
6 Casineb ddirgel i ysprydol fywiogrwydd a dyfalwch crefyddol. Y mae bagad o foeseu gweddol, ac yn onest mewn achosion bydol, ac heb gwbl esceuluso ffurf crefydd, etto 'n ddiflas ganddynt ei bywyd a'i grym. Hynny oedd dymer Paul cyn ei droi 'n Gristion, Phil. 3. 6. Act. 9. 1. Tybiant zêl yn anghallineb, ac ymattal oddiwrth feiau cyffredinol yn fursendod coeg. Pettai 'r Cyfryw yn hoffi Duwioldeb yn gywyr, goreu fyddai ganddynt y grâdd mwyaf o honi, a'r diwydrwydd mwyaf am dani.
7. Gorphwys mewn rhyw fesur bychan o grefydd. Pan dybio rhai fod ganddynt gymmaint o grefydd ac a wasanaetho iw hachub, ni cheisiant chwanegu dim atto, na thyfu ynddo. Ond lle byddo gwir râs ymestyn at berffeithrwydd, a chynnydd, Phil. 3. 13. Dihar. 4. 18.
8. Mawr-serch i'r byd, y mae hynny yn arwydd siccr o galon anrasol, Mat. 10. 37. 1 Joan 2. 15. Y mae 'r pechod hwn yn fynych yn llechu dan broffess dêg, Luc 8 14. ac mor effeithiawl i hudo ac i dwyllo dyn, ac na welo mo'i fai er bod eraill yn canfod ac yn dannod ei gybydd-dra a'i fydolrwydd. Eithr bydd cymmaint o escusodion am drin y bŷd, ai ofal yn ei gylch, ac a ddallo ei lygaid ef, ac a ddyhudda ei gydwybod ef, oni ddarfyddo am dano yn ei dwyll. Och faint sydd o Gristianogion yn hoffi 'r bŷd yn fwy na Christ! wrth synnied pethau daiarol rhodiant [Page 73] yn ol y cnawd, a'u diwedd sydd dinystr, Rhuf. 8. 5. Phil. 3. 19. Etto dywed y cyfryw yn hyderus fod Crist yn werthfawroccach ganddynt na dim. Ond pettent yn craffu ar eu calonnau yn astud, canfyddent fod eu bodlonrwydd mwyaf yn y bŷd, Luc. 12. 19. A'u gofal, a'u poen am dano yn bennaf. Y mae gormod serch ar berthynasau, a meddianau cyfreithlawn yn y bŷd yn cadw pobl oddiwrth Grist, cyn gryfed a phethau anghyfreithlawn, a hynod eu drygioni, Math. 22. 5. Luc 14. 18, 19, 20, 24.
9. Cenfigen a malis yn erbyn y Sawl a wnelo gam a hwynt, 1 Joan 2. 9, 11. Llawer a ymhonnant o fod yn Gristianogion, a gofiant anghymwynasau, ac a ddaliant gilwg, a dalant y pwyth ir Sawl a wnêl sar-had idynt, talant ddrwg ir Sawl a wnelo gam â hwynt: Er bod hynny yn bendant yn erbyn rheol yr Efengyl ac Esampl Christ, a natur Duw, Rhuf. 12. 14, 17. 1 Pet. 2. 21, 23. Nehem. 9. 17. Diammeu lle mae 'r pechod hwn yn berwi yn y galon heb ei wrthsefyll na'i farweiddio, ond yn cael rheoli'r dyn, fod yr Enaid hwnw mewn cyflwr enbydus, Math. 18. 24, 35. 1 Joan 3. 14, 15.
Darllenydd, chwilia yn ofalus rhag dy fod yn euog o'r pechodau a ragfynegwyd, a bod dy grefydd yn ofer.
10. Balchder. Pan fyddo pobl yn caru gogoniant dynion yn fwy na gogoniant Duw, Joan 12. 43. Gal. 1. 10. Y mae llawer Enaid yn meithrin y pechod hwn yn ei galon, ac heb ymwrando ag ef, Joan 9. 40.
11. Cariad mwy i felys chwant nag i Dduw, 2 Tim. 3. 4. Boddhau chwantau'r cnawd yn lle eu gwarafun, sydd arwydd o gyflwr llygredig, [Page 74] Rhuf. 16. 18. Tit. 3. 3. Y Sawl sydd yn eiddo Crist a groeshoeliant y cnawd, ac ai darostyngant fel gelyn, Gal. 5. 24. 1 Cor. 9. 25, 26, 27.
12. Diofalwch rhyfygus. Tybied eu cyflwr yn dda pryd na byddo, Datc. 3. 17. Llawer a addawant iddynt eu hunain dangneddyf a diogelwch pan fyddo dinistr disymmwth yn dyfod ar eu gwartha, 1 Thess. 5. 3. Hyn a wnaeth ir morwynion anghall gyscu pan ddylasent, weithio, a bod ar eu gwlau pan ddylasent fod yn y Marchnadoedd, Math. 25. 5, 10. Dihar. 10. 5. Ni wybuont fod arnynt eisieu olew nes dyfod y briodfâb, a phan aethont i brynu caewyd y drws. Y mae llawer etto o'r un fath forwy nion. Os oes gennych heddwch, ystyriwch ei hachosion, a ydynt yscrythyrol. A oes ynoch chwi gynneddfau amgenach nag mewn rhagrithwr! Onid oes, ofnwch eich heddwch yn fwy na helbul yn y bŷd, canys tra fyddo yn gwenu ar ddyn efe ai trywana ef dan y bumed ais.
Erbyn hyn tebygwn y dylwn glywed y darllenydd yn llefain gydâ'r dyscyblion, a phwy a all fod yn gadwedig? Marc 10. 26. Erbyn y tynner allan o'n cynnulleidfaoedd y deg math o'r annuwiolion amlwg, a'r deuddeg math o'r rhagrithwyr twyllodrus, a ddosparthwyd uchod, cydnabyddir mae gweddill a fydd cadwedig; Ni bydd y defaid ond ychydig wrth y geifr. Ac o'm holl wrandawyr lliosog nid oes gennif obaith gweled un o honynt yn y nef, ac a gaffer ym mysc y ddau fath ar hugain hyn, oddeithr eu dwyn i gyflwr arall drwy ras jachusol.
Cymhwysiad. Bellach O Gydwybod gwna dy swydd, a dywed y gwir yn ddwys wrth bob un a ddarlleno neu a glywo'r liniau hyn; o [Page 75] chei 'r Nodau hyn arno barna ef yn aflan, Levit. 13. 44. Na chymer gelwydd yn dy enau, ac na lefara heddwch. Na fydded i drachwant dy ddobri, nac i hunan gariad a rhagfarn cnawdol dy ddallu. Yr wyf yn rhoddi iti ddyfyn o lŷs y nef i ddwyn tystiolaeth, ac i ddyfod gydâ mi a chwilio'r ty a ddrwgdybier, fel y byddo iti atteb dan dy berigl mynega'r gwir ynghylch cyflwr y darllenydd. A dewi di yn y fath amser a hwn? Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy 'r Duw byw ddywedyd o honoti 'r gwir imi, Math. 26. 63. A ydyw'r dŷn wedi dychwelyd at Dduw, ai nad yw? A ydyw efe yn cynwys iddo ei hun fyw yn bechadurus, ai nad yw? A ydyw efe yn hoffi, ac yn mawrhau ac yn rhyngu bodd Duw, ai nad yw? Tyred, barna, a chais ddibenu 'r ddadl.
Pa hyd y bydd yr Enaid dan amheuon, O gydwybod dwg dy verdit i mewn? ydyw hwn ddyn newydd ai nid yw? Pa fodd yr ydwyti yn cael ei gyflwr ef? A gwbl newidwyd ei Enaid ef, ai na ddo? Ar ba amser, ym mha le, a thrwy ba foddion y cafodd efe'r ailanedigaeth, a pha ryw arwydd yscrythyrol sydd o'r cyfryw waith ynddo ef? A ddwysbigwyd ac a lwyr argyoeddwyd ef o'i bechod ai berigl, ac a ymroddodd efe i Jesu Grist? Neu a ydwyti yn ei gael ef mewn anwybodaeth a bruuti annuwioldeb, a welaisti ef yn derbyn elw anghyfiawnder, yn esculuso gair Duw a gweddi, yn hoffi'r bŷd presennol, yn arferu celwydd, a malis, a thrachwant? A elli di ddiheuro 'r gwr a'r wraig hon, nad ydynt o'r ddau fath ar ugain a ragfynegwyd? Os ydyw un o honynt, tro ef heibio, nid oes [Page 76] iddo gyfran gydâ'r sainct, nes bod yn greadur Newydd. O Garedigion na fyddwch fradwyr i'ch eneidiau eich hunain, na thwyllwch mo'ch calonnau, gosodwch frawdle o'ch mewn, at y gyfraith a'r dystiolaeth, Esay 8. 20. Barried dy gydwybod dy gyflwr wrth y gair. Y mae'r galon, a'r pechod, a Satan yn dwyllodrus, ac yn ymwneuthur i dwyllo'r Enaid, Jer. 17. 9. 2 Cor. 11. 3. Heb. 3. 13. Am hynny chwiliwch eich cyflyrau ysprydol yn fanwl, a bernwch yn ddiduedd; goleuwch ganwyllau, ymbwyswch mewn clorian, dewch at fesur y Cyssegr, dwgwch y mettel at y maen iw brofi. Yr ydych i holi 'r siomwŷr pennaf yn y bŷd, y mae Satan yn feistr ar dwyll, meidr ddarlunio grâs yn gywraint, a dynwared gwaith Duw, fel y gwna Eurych arian drwg i debygu ir arian cyfreithlon: Nag ymddiriedwch i'ch calonnau eich hunain, eithr ceisiwch gan Dduw eich cynnorthwyo i ymholi, ac i brofi eich arennau, Psal. 25. 2. ac 139 23, 24. Ac os gwelwch yn rheidiol dangoswch eich cyflwr i ryw weinidog duwiol. Mal. 2. 7. Na orphwyswch nes siccrhau eich dedwyddwch tragwyddol, 2 Pet. 1. 10. A chwiliwr y calonnau a'ch cynhyrso ac a'ch hyfforddo yn y peth y sydd mor bwysfawr.
PEN. V. Yn dangos trueni yr Annychweledig.
WRth fod cyflwr anrasol mor ofnadwy tybiais weithieu nad oedd raid ond argyoeddi pobl eu bod yn anrasol, ac yna y byddeu hawdd gael ganddynt geisio grâs. Ond y mae prawf trist yn dangos fod y fath surthni a thrymgwsc yn meddiannu yr annuwiol, ac yr ymroddant i aros yn ei cyflwr anianol er iddynt addef ei fod yn bechadurus, ac yn beryglus, Rhuf. 11. 8. Math. 13. 15. A rhwng dyfyrtwch cnawdol, ac achosion bydol, a gofalon daiarol, Luc 8. 14. Nid yw cydwybod yn cael ei gwrando, ac nid â pobl ddim pellach nag ychydig ddymuniadau a bwriadau oerion i edifarhau a dywygio, Act 24. 25.
Am hynny y mae yn dra angenrheidiol, nid yn unic ddangos i bobl eu bod mewn cyflwr annychweledig, ond ceisio eu gwneuthur yn deimladwy hefyd o'i drueni.
Ac yma wrth hwylio i gychwyn, mi glywaf fy llestr yn glynu ar y traeth, canys pa dafod a ddichon fynegi dosted yw dialedd etifeddion uffern, oddieithr un Dives a benydir yn ei dân? Luc 16. 24. Pa le y mae 'r yscrifenydd buan a ddichon â'i bin ddarlunio trueni y rhai sydd heb Dduw yn y bŷd? Ephes. 2. 12. Nid ellir hynny yn gyslawn, oddieithr allu o honom wybod y dedwyddwch anfeidriol y sydd yn y Duw bendigedig, y mae pechaduriaid anghymmodol yn ei golli. Medd Moses [Page 78] pwy a edwyn nerth dy Sorriant? Psal. 90. 11. Apha fodd y mynegaf i ddynion y peth nis gwn? Etto yr hyn a wyddom a fyddei ddigon i berid i bob dŷn grynu y fyddo y gronyn lliaff o fywyd a theimlad ynddo.
Och dyma'r peth sydd yn chwanegu 'r anhawstra, fy mod i lefaru wrth rai byddar, ie wrth rai meirwon mewn camweddau a phechodau, Ephes. 2. 1.
Pe gallwn ddwyn Paradwys ir golwg, ac herddangos teyrnas nef yn y modd godidoccaf, fel y dangoswyd teyrnasoedd y bŷd a'u gogoniant i'n Hachubwr; neu pe gallwn ddinoethi wyneb Llyngc lynn dwfn Topher, ac agor dorau yr odyn uffernol fawr, ai holl ddychryniadau, och nid oes ganddynt lygaid i weled, Math. 13. 14, 15. Pe medrwm ddarlunio prydferthwch sancteiddrwydd, a gogoniant yr Efengyl yn fywiol, neu pe medrwn ddatcuddio gwrthuni diafolig pechod, nis gallent ddirnad tegwch y naill, nac aflendid y llall, mwy nag y gall y deillion ddirnad lliwiau. Canys y maent wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithro oddiwrth fuchedd Dduw drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon, Ephes. 4. 18. Nis gallant wybod y pethau sydd o yspryd Duw, oblegid yn Ysprydol y bernir hwynt, 1 Cor. 2. 14. Ni ddichon neb ond grâs Duw agoryd eu llygaid, Act. 26. 18. Plant tywyllwch ydynt, ac yn rhodio ynddo, 1 Joan 1. 6. Je yr goleuni ynddynt sydd dywyllwch, Math. 6. 23. A ganafi eu Marwnâd, a ddarllenaf eu barn, a wnaf i udcorn ofnadwy Duw seinio yn eu clustiau, fal y bo iddynt ferwino, ac ir fath ddychryn eu cymeryd, ac a ddigwyddodd i Belshazzar, i beri iw hwynebau lasu, ac iw cymmalau ymddattod, ac [Page 79] iw gliniau daro wrth eu gilidd? Er hynny y sowaeth ni synniant ac ni wrandawant. Neu a alwafi ynghyd holl ferched cerdd, i ganu cân Moses, a chân yr oen?
Er hynny ni chynhyrfant. A ddenafi hwynt â hyfryd lais, â chân beraidd, â newyddion da'r Efengyl, â diddanwch addewidion Duw, y sydd fawr iawn a gwerthfawr? 2 Pet. 1. 4. Ni chynhyrfir hwynt er hynny chwaith, oni bae i mi allu rhoddi iddynt glustiau, Math. 13. 15. gydâ mynegi y newyddion.
A osodaf ger eu bronnau wledd o bascedigion, a gwin doethineb, bara Duw, a phren y bywyd, a'r Manna cuddiedig? Nid oes ganddynt chwant iddynt, 1 Cor. 2. 14. Math. 22. 5. Pe gwascwn y grawnwin goreu o freiniau efangylol, ac yfed attynt yn y gwîn cyfoethoccaf yn nhŷ Dduw, ac a ddaeth oi ystlys ef; neu os rhoddwn o'u blaen y diliau mêl o dystiolaethau Duw, Psal. 19. 10. Och! nid oes ganddynt archwaith iw blasu. Ni chyfyd y marw i brofi'r hyn a gyfrenir yn ei gladdedigaeth ef, na'r meirw mewn pechod i brofi 'r ymborth Sanctaidd â'r hwn yr hiliodd yr Arglwydd ei fwrdd.
Beth ynteu a wnafi? A loscafi frwmstan uffern dan eu ffroenau, neu a egoraf y blwch o Ennaint, o nard gwlyb gwerthfawr, y sydd yn llenwi tŷ Dduw â'i ber-arogl, Joan 12. 3. Marc 14. 3. A gobeithio y bydd i arogl y myrr, Aloes, a Chasia, sydd ar wiscoedd Crist eu denu hwy atto ef? Psal. 45. 8, 9. Sywaith y mae pechaduriaid meirwon fel yr Eulunod mudion, y sydd ganddynt enau heb lefaru, a llygaid heb weled, a chlustiau heb glywed, ffroenau sydd ganddynt ond ni aroglant, dwylo sydd iddynt, [Page 80] ond ni theimlant, traed sydd iddynt ond ni cherddant, ni leisiant chwaith â'i gwddf, Psal. 115. 5, 6, 7. Nid oes ynddynt na synwyr na chynhyrfiad ysprydol. Mi a brofaf beth y wna'r galon, y rhan o'r corph sydd yn marw olaf, ac yn bywhau gyntaf; tynnaf allan gleddyf llym y gair, a dewisaf rai o saithau Duw, ac annelaf atti, a cheisiaf ei dwysbigo. ond nid oes deimlad ysprydol yn hon chwaith, eithr y mae wedi ymgaledu, a myned yn ddiddarbod, Eph. 4. 19. Er bod digofaint Duw yn aros ar y pechadur, a miloedd o bechodau fel mynyddoedd ar ei Enaid ef, etto ni chlyw moi pwys hwy. Y mae ganddo enaid marw mewn corph byw, ei gnawd sydd Arch rodienog i feddwl llygredig, y sydd ddwywaith yn farw, ac yn Pudru mewn chwantau drewllyd, Math. 23. 27, 28.
Ynteu pa fodd y deuaf at y trueniaid yr wyfi yn eu ceisio? Pwy all wneuthur i'r galon garreg ymroi? Zech. 7. 12. Neu ir Corph marw deimlo a symud? Duw all hynny yr hwn a ddichon o'r cerrig gyfodi plant i Abraham, Math. 3. 9. Yr hwn sydd yn cyfodi'r meirw, 2 Cor. 1. 9. Yn toddi'r mynyddoedd, Nab. 1. 5. Yn taro dwfr o'r callestr, Deut. 8. 15. A'i waith uwchlaw gobaith, a chrediniaeth dyn, yn lliosi pobl ei Eglwys ag escyrn sychion, ac yn peri i blanhigion gwywedig flaguro yn ei winllan: Am hynny yr wyf yn plygu fy nglin ir Duw Goruchaf, Ephes. 3. 14. Ac megis y gweddiodd ein jachawdwr wrth fedd Lazarus, Joan 11. 38, 41. Ac y rhedodd y Shunamites at ŵr Duw am ei phlentyn marw, 2 Brenh. 4. 25. Felly y mae eich gweinidog prudd yn eich dwyn chwitheu ym mreichiau ei weddi at Dduw yn yr hwn y mae cymmorth i chwi.
[Page 81] O Arglwydd Hollallung, yr hwn a weithi, ac nid all neb dy luddias, tosturia wrth yr Eneidiau pechadurus, a dywed wrthynt fel wrth Lazarus, am ddyfod allan o'i cyflwr marw. Goleua eu tywyllwch hwy, O Arglwydd, yr hwn wyt oleuni, a bydded i godiad haul o'r uchelder ymweled â'r tywyll, wrth y rhai yr wyf yn llefaru. Tydi elli agor y llygaid a gaeodd marwolaeth, a chan dy fod yn llunio'r glust gelli ddychwelyd y clywed. Dywed wrth glustiau gwrandawyr dy air, agorer chwi. Dod iddynt lygaid i ganfod dy odidowgrwydd, ac archwaith i flasu dy felystra, a phar iddynt arogli dy ennaint, a theimlo pwys pechod a digofaint, fel y delont at Grist am orphwystra. Gorchymmyn i'th weision brophwydo i'r escyrn sychion, fel yr elont yn bobl fywiol a lliosog.
Bellach ystyriwn fod trueni 'r annychweledig yn dra mawr, ie yn fwy nag y gall calon dyn marwol ei ddeall, na'i dafod ei draethu; canys,
1. Y mae'r Duw anfeidrol yn eu herbyn. Tosturus yw bod heb Dduw yn y byd. Ephes. 2. 12. Gwaeddodd Micah yn groch ar ol meibion Dan, fy Nuwiau a ddygafoch chwi ymmaith, a pheth sydd gennifi mwyach? Barn. 18. 24. Tost y cwynodd Saul yn ei gyfyngder, y mae'r Philistiaid yn dyfod yn fy erbyn, a Duw a giliodd oddiwrthifi, 1 Sam. 28. 15. Pan fyddoch yn ymadel a'r byd heb gymmod â Duw, i ba le 'r ewch chwi? Beth a wnewch chwi yn nydd eich ymweliad, at bwy y ffowch am gynnorthwy, a pha le y gedwch eich gogoniant? Esay. 10. 3. Y rhai sydd ganddynt Dduw i fyned atto yn eu cyfyngder, i roddi eu pwys arno yn eu blinderau, ac i ddywedyd eu cwyn wrtho pan gaffant gam, a wyddant mor druenus yw bod hebddo.
[Page 82]Ac nid yw'r annychweledig yn unic heb Dduw, ond y mae Duw yn ei erbyn ef hefyd, Ezec. 5. 8, 9. Nah. 2. 13. Pan yw dynion yn elynol i un mae ei gyflwr yn flin: Ond pan fydd yr Hollalluog yn elyn dyn, annodefadwy yw ei helynt. Ofnadwy yw syrthio yn nwylo'r Duw byw, Heb. 10. 31. Dinistr yr anwiriaid a ddaw oddi ger bron yr Arglwydd, 2 Thess. 1. 9. Dyfnhawyd ac ehengwyd Tophet, anadl yr Arglwydd megis afon o frwmstan sydd yn ei hennyn hi, Esay 30. 33. Os bydd Duw ith erbyn pwy all fod gydâ thi? Os gwr a becha yn erbyn gwr y swyddogion a'i barnant ef: Ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gwr, pwy a eiriol trosto ef? 1 Sam. 2. 25. Tydi, Tydi wyt ofnadwy, a phwy a saif o'th flaen, pan enynno dy ddigier? Psal. 76. 7. Nid all neb waredu o'i law ef, ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint, Dihar. 11. 4. Bydd ir milwyr, a'r gwyr mawr ddywedyd wrth y mynyddoedd a'r creigiau syrthiwch arnom ni a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lîd yr oen: Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a ddichon sefyll? Datc. 6. 15, 16, 17.
O bechadur dylei hyn bigo dy galon di, sef bod Duw yn elyn iti, i ba le yr aei di, ac ym mha le y llechi di? Nid oes iti obaith, oddieithr iti geisio maddeuant a chymmod drwy Grist, oni bae hyn gellit ammhwyllo mewn anobaith. Canys y mae wyneb Duw ith erbyn di, Psal. 34. 16. Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddiar y ddaiar. Pan osodo Duw ei wyneb yn erbyn gŵr, efe ai gwnaiff yn arwydd ac yn ddihareb, a thorriff ef ymmaith o fysc ei bobl, fel y gwyper mae efe yw yr Arglwydd, Ezec. 14. 8. Y [Page 83] mae calon Duw yn erbyn y rhai drwg, câs ganddo weithredwyr anwiredd, Jer. 15. 1. Medd efe, pe safei Moses a Samuel ger fy mron, etto ni byddai fy serch ar y bobl yma, bwrw hwy allan o'm golwg. Y mae ei law ef hefyd iw herbyn, 1 Sam. 12. 15. Ie y mae ei holl briodoliaethau ef yn erbyn yr anwiriaid.
1. Ei gyfiawnder ef sydd fel cleddyf wedi ei dynny ith erbyn: Medd efe os hogaf fy nghleddyf disclair, ac ymaflyd o'm llaw mewn barn, dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i'm caseion, Deut. 32. 41. Nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer, Exod. 20. 7. Adroddiff drallod ac ing, llid a digofaint i bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg, Rhuf. 2. 8, 9. A bod pob un yn felldigedig nad yw yn aros ym mhob peth sydd scrifenedig yn llyfr y ddeddf iw gwneuthur hwynt, Gal. 3. 10. Y mae digofaint Duw yn fwy ofnadwy i'r pechadur argyoeddedig, nag yw echwynŵr i'r dyledŵr, neu 'r ystys ir lleidr a'r llofrudd. Canys pan eisteddo cyfiawnder arno, periff rwymo ei draed a'i ddwylo, a'i daflu i'r tywyllwch eithaf, lle y bydd wylofain a rhingcian dannedd, Math. 22. 13. A pherir iddo fyned i'r tân tragwyddol, Math. 25. 41.
2. Sancteiddrwydd Duw sydd ith erbyn, Psal. 5. 4, 5. Y mae yn dy ffieiddio di â'r hyn a wnelech hefyd, ie yn ei wasanaeth ef, Zech. 11. 8. Esay 1. 14. Mal. 1. 10. Pan gymmyscer gwenwyn neu dom â bwyd, ffiaid fydd.
Och flined yw helyat y dyn a fyddo dan gâs Duw, Preg. 5. 4. Hos. 9. 15. Pa fodd yn dy aflendid y gelli feddwl am sancteiddrwydd Duw? Y sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef, Job 25. 5. Y mae yn ymddarostwng i edrych ar y [Page 84] pethau yn y nefoedd; câs gan ei enaid ef y dryg. ionus, Psal. 11. 5. Ynteu dywed fel gwyr Bethsemes, pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd sanctaidd hwn? 1 Sam. 6. 20.
3. Gallu Duw hefyd sydd yn erbyn y diedifeiriol. Eu ddinistr fydd oddiwrth ogoniant ei gadernid ef, 2 Thess. 1. 9. Wrth ddangos ei ddigofaint periff adnabod ei allu, Rhuf. 9. 22. Nid elli ddal allan i ymdrechu â'th wneuthurwr, mwy na chorsen i daro wrth dderwen.
Fel y mae gallu, y mae digofaint Duw ith erbyn hefyd, a phan fyddo'r ddau ynghyd gwnant waith ofnadwy, Psal. 90. 11. Nid elli ddiangc o'i ddwylo ef, na thorri ei garchar ef. Pwy a ddeall daranau ei gadernid ef, Job 26. 14. Truenus y dyn ai deall wrth ei deimlad. Os myn dyn ymryson â Duw, ni all atteb iddo am un peth o fil: Y mae efe yn ddoeth o galon ac yn alluog o nerth: Pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef ac a lwyddodd? Yr hwn sydd yn summud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint: yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaiar allan oi lle, fel y cryno ei cholfnau hi: yr hwn a ddywed wrth yr haul ac ni chyfyd, ac a selia ar y sêr. Wele efe a sclyfaetha, pwy a'i lluddia? pwy a ddywed wrtho pa beth yr wyt yn ei wneuthur? oni thrŷ Duw ei ddigllonedd ymmaith, tano ef y crymma cynnorthwywŷr balchder, Job. 9. 3, 4, 5, 6. A wyti gymmar i'r fath ymdrechwr? Deellwch hyn yn awr y rhai ydych yn anghofio Duw, rhag iddo eich rhwygo, ac na byddo gwaredudd, Psal. 50. 22. Na fydded i lestr pridd ymdrechu a'r Holl-alluog, nad ymosoded mieri a drain yn ei erbyn ef mewn rhysel, canys efe aiff trwyddynt, ac ai llosciff hwynt ynghyd: Yn hytrach gwnelont [Page 85] heddwch ag ef, Esay 27. 4, 5. Gwae a ymrysono â'i luni-wr, Esay 45. 9.
4. Y mae doethineb Duw ith erbyn. Oni ddychwel yr annuwiol hoga Duw ei gleddyf, annela ei fwa, paratôdd befyd arfau anghefol, efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr, Psal. 7. 12, 13. Ei ddychymmygion ef sydd yn darparu at dy ddinistr, Jer. 18. 11. Chwardd am dy ben, canys gwêl fod dy ddydd ar ddyfod, Psal. 37. 13. Y mae efe yn rhagweled fel y gwesci di dy ddwylo, ac y tynni di wallt dy ben, ac yr yscyrnygi di dy ddannedd, pan syrthiech ir pwll dinistriol.
5. Y mae Gwirionedd Duw yn erbyn y diedifeiriol, Psal. 95. 11. Dywedodd oni Edifarhei y difethir di, Luc 13. 3. Ezec. 33. 11. Os ydymni heb gredu, etto y mae efe yn aros yn flyddlon: Nis gall efe ei wadu ei bnn, 2 Tim. 2. 13. Ses y mae ese yn eirwir yn ei fygythion gystal ag yn ei addewidion; oni chredwn ni, dengis ei ffyddlondeb yn ein dinistr ni. Dywedodd efe yn ddigon eglur, Oni olchaf di nid oes iti gyfran gydâ myfi, Ioan 13. 8. Ac os hyw yr ydwyt yn ol y cnawd, marw frddi, Rhuf. 8. 13. Ac oddieithr dy droi nid aei ddim i mewn i deyrnas nefoedd, Math. 18. 3. Fel y mae dianwadalwch addewid, a llŵ Duw yn peri Cyssur crŷf ir ffyddloniaid, Heb. 6. 18. Felly y mae dianwadalwch ei fygythion yn peri dychryn cryf ir diedifeiriol, y mae'r yserythur yn llwyr gondemnio yr diediseiriol, ac fel y plyg llyfr a anfonwyd i Ezeciei, ydoedd wedi ei scrifennu wyneb a chefn, ac yr oedd wedi scrifennu arno, Galar, a Griddfan, a Gwae, Ezec. 2. 10. A die y bydd i hynny dy orddiwes, oni throi at Duw. Deut. 28. 15. Y nefoedd [Page 86] a'r ddaiar ânt heibio, ond nid â un jot, nac un tippyn o'r gyfraith heibio hyd oni chwplaer oll, Math. 5. 18. Efe a dyngodd na chaiff yr anghredadwy fyned i mewn iw orphwysfa, Heb. 3. 18.
2. Y mae holl greadigaeth Duw yn erbyn y diedifeiriol. Y mae pob creadur yn cydocheneidio ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn, Rhuf. 8. 22. A hynny o achos eu bod yn ddarostyngedig i wasanaethu chwantau pobl anrasol, ac yn tuchan am gael rhydd-hâd. Canys y ereadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd, nid o'i fôdd, Rhuf. 8. 19, 20, 21. Pettai gan y creaduriaid difywyd rhesswm, a lleferydd, cwynent yn drwm, fod yr annuwiol yn eu eam arferu, yngwrthwyneb iw natur, aci drefniad eu creawdwr, fel y gwnaeth yr assyn pan bwyodd Balaam hi ar gam: Grwgnachei 'r ddaiar ei bod yn eu cynnal hwy, a'r awyr ei bod yn rhoddi anadl iddynt hwy, tra fyddent yn byw'n bechadurus yn erbyn Duw. Dylit ofni rhag iti fod yn fwrn ir creadigaeth, ac ir Arglwydd ddywedyd wrth ei winllannudd, torr ef i lawr, pa ham y mae efe yn ddiffrwytho'r tîr, Neu rhag ith ymborth ddywedyd, Arglwydd a gynhaliafi'r fath anghenfil a hwn, ith ddianrhydeddu di? Neu rhag ir awyr ddywedyd, a raid imi roddi anadl i hwn, i dyngu, ac i regu, ac ith gablu di? Tra fyddo Arglwydd y lluoedd yn erbyn dŷn, bydd llucedd yr Arglwydd hwnw yn ei erbyn ef hefyd, nes iddo gymmodi â Duw, ac yno bydd y creaduriaid mewn heddwch ag ef, Job 5. 22, 23, 24. Hos. 2. 18, 19, 20.
3. Bydd ir llew rhuadwy awdurdod ar yr annuwiol. Delir y cyfryw ym magl diafol wrth ei ewyllys ef, 1 Pet. 5. 8. 2 Tim. 2. 26. Yr [Page 87] yspryd drwg sydd yn gweithio ym mhlant yr anufydd-dod, Eph. 2. 2. Ei gaethweision ef ydynt, ai drachwantau ef a gyflawnant. Ese yw llywiawdwr tywyllwch y bŷd hwn, Eph. 6. 12. Sef y rhai sydd yn byw'n ddrwg.
Gresynwn fod yr Indiaid yn gwasanaethu diafol yn lle Duw heb ystyried mae dyna gyflwr pob dyn annuwiol yn ein plith ein hunain, fod Diafol yn Dduw iddo, 2 Cor. 4. 4. Er iddynt ei wadu ef â'u geiriau, gwasanaethant ef a'u gweithredoedd, ac ufyddhant iw reoliad. Y maent yn weision i'r hwn yr ydynt yn ufyddhan iddo, Rhus. 6. 16. Pan roddo Satan dwyll, a chelwydd, a dial, a thrachwantau drwg yn y galon, cofleidir hwynt yn ewyllyscar; er bod gan y pechadur amcanion daiarol, yn y drygioni a wnelo, etto Satan sydd yn guddiedig yn eu rhoddi oi fewn, Act. 5. 3. Joan 8. 44. Pan werthod Judas ei feistr am arian, a phan yspeiliodd y Sabeaid Job, nid oeddent yn bwriadu rhyngu bodd ir Cythrael yn y pethau hynny, ond bodloni eu cybydd-dod eu hunain: Er hynny efe ai cynhyrfodd hwynt heb wybod iddynt, Joan 13. 27. Job 1. 12, 15, 17. Gall pobl fod yn weision i Satan, a thybied eu bod yn rhyddion, 2 Pet. 2. 19. Act. 26 18. 1 Joan 3. 8. Y Sawl sydd yn byw mewn cenfigen, a chynnen, a malis, sydd ag ef yn dâd iddynt, Joan 8. 40, 41. Ac er iddo dros ychydig ennyd eu llithio ag amryw feluswedd, Tit. 3. 3. Nid yw hynny ond er mwyn eu twyllo i ddinistr didrangcedig; dengis y sarph yr afal, a chuddia 'r colyn yn ei chynfon. Er iddo yn awr dy lithio, yn ol hyn efe ath benydia. Oh na welit ddued, a chruloned yw'r Meistr yr ydwyt yn ei wasanaethu!
[Page 88]4. Y mae Euogrwydd eu holl bechodau yn gorwedd ar y diedifeiriol. Ni ddeleuwyd moi pechodau, Act 3. 19. Y rhai sydd heb ei sancteiddio y maent heb eu cyfiawnhau hefyd, 1 Cor. 6. 11. 1 Pet. 1. 2. Heb. 9. 14. Baich trwm yw 'r pechod: Bwgwth ofnadwy yw hwnw, Joan 8. 24. Chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau; Pettai marwolaeth yn cymeryd ymmaith dy bechodau di, gystal ath feddiannau, byddei iti beth cyssur, ond dy bechodau ath ganlyniff pan fyddo dy gyfnesifiaid yn dy adel, 2 Cor. 5. 10. Darc. 20. 12. Dy bechodau ath ganlyn ir farn, ac yno y byddant iti yn gyhudd-wyr. ac i uffern, ac yno y byddant iti yn benydwyr; ynteu tyred at Grist am noddfa a chymer afael yn y gobaith a osodwyd o'th flaen di, Heb. 6. 18.
5. Y mae ei drachwantau yn meistroli yn greulon ar yr annychweledig, Joan 8 34, 36. Tit. 3. 3. Rhuf. 6. 12, 14, 16, 17. Ond erchill gweled pobl yn cymeryd cymmaint poen i hel cynnyd iw llosci eu hunain, ac yn ymdrafferthu mewn gwasanaeth brwnt i gaffel marwolaeth yn gyflog, Rhuf. 6 23. Ac yn eu briwo eu hunain fel y dyn a'r lleng yn ldo, Marc 5. 5. ie yn trywanu eu calonnau, 1 Tim. 6. 10
6. Y mae dialedd tragwyddol wedi ei boethi ir annuwiol, Esay 30. 33. Y mae dinistr yn lledu ei sasn iw llyngcu, Esay 5. 14. Os yw digter dyn sel rhuad llew, Dihar. 20. 2. A chyn drymmed a'r tywod, Dihar. 27. 3. Beth yw digofaint Duw? Os poethwyd ffwrn Nebuchadnezzar cyn dosted o herwydd ei ddigrer ef, Dan. 3. 19, 22. Beth a ddigwydd pan losco llid Duw megis ffwrn? Mal. 4. 1. A bery dy [Page 89] galon, a gryfhâ dy ddwylo yn y dyddiau y byddo i Dduw a wnel â thi? Ezec. 22. 14. O ddyn truenus, a elli di breswylio gydâ lloscfeydd tragwyddol! Esay 33. 4. Anodd gennit oddef yma pan fyddo Duw yn dy geryddu a gwialennodiau, pa sodd y bydd iti pan ith gospo a Scorpionau? Os bu i ŵr ymmyneddgar dan gyftudd felltithio y dydd y ganwyd ef, Job. 3. 1. Ac ewyllysio cael marwolaeth i ddiweddu ei drueni, Job. 7. 15, 16. Pryd nad oedd y sorriant arno ond fel defnyn, pa sodd y goddefi pan dywallter arnati holl phiolau digosaint Duw? Pan fyddo dy drueni yn barhaus ac yn dragwyddol. Yn awr tydi fedri bellhau'r dydd drwg, a bod yn llawen, ac anghofio dychryn yr Arglwydd, 2 Cor. 5. 11. Ond pa fodd y gwnei pan fwrio Duw di ar wely cystudd mawr, Datc. 2. 22. Ac y gorfyddo iti orwedd mewn gofid, Esay 50. 11. Y pryd hynny ni bydd iti gerddoriaeth ond udo a chabledd, na diod, ond gwin digofaint Duw yr hwn yn ddigymmysc a dywelltir yn phiol ei lid ef, Datc. 14. 10. Nac anadl ond ffaglau, nac aroglau ond oddiwrth y brwmstan, na gorphwysfa yn dy gydwybod, nath escyrn, na dydd na nôs, eithr byddi yn rheg, ac yn felldith yn dragwydd, Jer. 42. 18.
O bechadur, saf ac ystyria: Os wyt ddŷn ac nid Cyph dideimlad, ystyria: Edrych lle yr wyti yn sefyll ar fin y ffwrn fawr, nid oes ond cam thyngoti ac angeu, 1 Sam. 20. 3. Ni wyddost gynted y gelli syrthio i mewn. Meddwl dosted iti sod yn llestr digofaint, ir hwn y tywallt Duw angerdd ei lid yn dragywydd, Rhuf. 9. 22.
[Page 90]Y mae digofaint Duw yn dân yssol, Esay 33. 14. Tragwyddol, Math. 25. 41. Anniffoddadwy, Math. 3. 12. A'th enaid a'th gorph fydd gynnyd iddo byth, oddieithr iti droi at yr Arglwydd yn gywyr. Y rhai a ddeifwyd gan y tan hwn, er na chawsent ond tippyn or sawr arnynt, a gwynasant yn ofidus, ac a ddychrynasant eraill, fel y gwnaeth Spira, a Chaloner, gan lefain, dialedd boen, dialedd boen!
7. Y mae 'r Gyfraith yn saethu melltithion a bwgythion yn erbyn yr anrasol, Gal. 3. 10. Rhuf. 7. Oh mor ddychrynllyd yw'r taranau oddiwrthi hi! Poera dân yn ei wyneb: Ei geiriau sydd fel cleddyfau noethion, a saethau lym y cedyrn. Gofyn iawn hyd yr eithaf, gan lefain am gyfiawnder: Ergydia lawer o blaau, Deut. 28. 15. A'r pechadur anrasol yw'r nôd yr annela atto. Oh diangc ir noddfa gadarn, rhêd ir cyssegr, sef at Jesu Grist, ymguddia ynddo, ac onidê se ddarsu syth am danat. Zech. 9. 12. Heb. 13. 13.
8. Y mae'r Efengyl yn adrodd barn damnedigaeth yn erbyn y Sawl a wrthodo edifarhau, a derbyn Crist, Marc 16. 16. ie dengys y bydd dostach helynt y Sawl ai gwrthodo, na helynt y rhai a esculusant y cyfamod cyntaf. Ofnadwy yw helynt yr hwn y mae yr Efengyl yn ei fwgwth, y neb ni chredo a gondemnir. Yr Arglwydd a rua o Sion, Joel 3. 16. Hon yw'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r bŷd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, Joan 3. 19, 36. Mae digofaint Duw yn aros ar yr hwn nid yw yn credu. Os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy Angelion, ac os derbyniodd pob trossedd ac anufydd-dod gyfiawn daledigaeth, pa [Page 91] fodd y diangwn ni os Esceuluswn iechydwriaeth gymmaint? Heb. 2. 2. 3. Yr un a ddirmygai gyfraith Moses a fyddei farw heb drugaredd: Pa faint mwy cospedigaeth y bernir haeddu o'r hwn a sathrodod Fâb Duw? Heb. 10. 28, 29.
Cymwysiad. Ynteu bechadur cysclyd deffro, onid oes enaid yn dy gorph di, ni throwd ef yn gnawd, y mae yn anfarwol, pa ham ynteu nad wyt yn gwneuthur rhagddarbod am dano? Onis gwnei bydd dy helynt lawer gwaeth na'r anifail, oblegid gwaeth yw pechu yn erbyn rheswm, na bod hebddo.
O Enaid yr hwn oeddit unwaith yn gyfaill i angelion, yn lûn Duw, yn bennaeth ar y creaduriaid, a fodloni yn awr i fod yn wâs ith fol, neu ir bŷd, yr hyn nid yw gymwys ith natur ansarwol? Y mat'r barnwr wrth y drws, Jag. 5. 9. Ni wyddosti na wnei dy wely yn uffern y nos y foru, onid edifarhei heddyw.
Dywed bechadur, i ba le yr wyti yn myned? Oni ddiengi rhag y digofaint sydd ar ddyfod? Y mae'r Cythreuliaid yn credu ac yn crynu, Jag. 2. 19. Ac a syddi di galettach dy galon na hwynt? A redi di ar fin y graig ac a chwarei di wrth dwll yr Asp? O wallgofi ynfydrwydd a deifl benteuynion tân, saethau ac arsau marwolaeth, ac a ddywed onid cellwair yr ydwyf? Dihar. 26. 18. A aei di o ran chwarydeliaeth i ymdrochi yn y llyn sydd yn berwi gan dân a brwmstan? Datc. 21. 8. Ai bychan genniti fod priodoliaethu Duw ith erbyn di? a elli di ddiangc oi ddwylo ef, neu ddioddef ei ddigosaint ef?
Gwregysa yn awr dy lwynau fel gwr, a myfi a ofynnaf iti, mynega ditheu i mi, A wyti y fath Lefiathan, a'r fath falchder yn dy emman, wedi eu [Page 92] cau ynghyd fel na allo dy wneuthur-wr dy archolli? A yw dy galon yn galed fel carreg a dorri gleddyf yr hwn ath darawo? A gyfrifi ei saethau fel gwellt; ai arfau marwolaeth fel pren pwdr? Ai tydi yw'r pennaf o feibion balchder, fel y cyfrifit biccellau fel sofl, a chwerthin wrth yscwyd gwaywffon? A wnaethpwyd ti heb ofn? Job. 40. 7. ac 41. A ydwyti fel y march a lawenycha yn ei gryfder, ac a aiff allan i gyfarfod arfau? A ddiystyri arswyd, ac oni ddychweli yn ôl rhag cleddyf Duw, pan fyddo ei gawell saethau yn trystio ith erbyn, ei ddisclair waiwffon, ai darian? Job 39. 21, 22, 23.
O Ceisiwch yr Arglwydd tra y geller ei gael ei; gelwch arno tra fyddo yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei feddyliau, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, o herwydd efe a arbed yn helaeth, Esay 55. 6, 7.
PEN. VI. Yn rhoi Cyfarwyddyd i Ddychwelyd.
MArc 10. 17. Rhedodd un atto, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, o Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd Tragwyddol? Ddarllenydd, megis ac y darfu i mi geisio Duw, a chwilio ei air i roddi iti gyngor, felly bydded i titheu ei dderbyn drwy barch a bwriad o ufydd-dod.
[Page 93] Yn awr gwrandewch. Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn en tystiolaethu wrthych heddyw, canys nid gair ofer yw hwn i chwi, o herwydd eich enioes chwi yw efe, Deut. 32. 46, 47. Dyma fy amcan yn yr holl bethau a ragddywedpwyd, sef eich dwyn chwi i osod ar waith dychweliad, ac i arferu moddion Duw sydd berthynol iddo. Ni cheisiaswn eich cythryblu, na'ch penydio cyn yr amser â rhagfeddyliau am eich trueni Tragwyddol, ond er mwyn eich hyfforddi i ddiangc rhagddo. Pettech wedi cau arnoch yn y trueni presennol heb obaith o warediad, cymmwynas fyddai eich gadel yn llonydd, fel y cymmeroch yr ychydig gyssur a alloch ei gaffael yn y bŷd hwn: Ond y mae'n bossibl i chwi etto gyrhaeddyd dedwyddwch, oddeithr i chwi wrthod y moddion i ddyfod o hyd iddo. Wele fi yma yn agor y drws i chwi, cyfodwch, a diengwch, yr wyfi yn rhoddi o'ch blaen chwi enioes ac angeu, dewiswch yr enioes fel y byddoch fyw, Deut. 30. 19. Jer. 9. 16. Gresyn eich gweled yn eich llâdd eich hunain. Cofiwch beth y ddywedodd Paul wrth geidwad y carchar, na wna iti dy hun ddim niwed; Yscrifennir i ferch tywysog yn yr Hispaen annog ei thâd i ddial am ei threisio, a chwedi iddi weled gymmaint o ddrwg a ddigwyddodd yn y rhyfel, chwithodd arni, ac aeth i dŵr uchel ym mhlas ei thâd, a galwodd ar ei rhieni i edrych arni yn cymeryd ei chodwm oddiyno, ac ni rusodd er iddynt ddymuno arni nas dinistriai moni ei hun, ai tristhau nhwythau, ond ni wrandawodd arnynt: Yr un modd y mae pobl yn eu bwrw eu hunain is golledigaeth, er a aller ei ddywedyd wrthynt. [Page 94] Gofidus gweled pobl yn amser haint mor gyndyn ac na chymerant bysygwriaeth jachus. Am hynny yn ewyllyscar derbyniwch y cyfarwyddyd a ganlyn.
1. Bydd siccr yn dy feddwl nad elli fyned ir nef yn dy gyflwr Annychweledig. Crist sydd yn cadw agoriad y nef, ac y mae efe yn dywedyd na chaiff dyn fyned yno oddieithr ei eni drachefn, Joan 3. 3.
2. Bydd deimladwy oth bechodau, Nes bod pobl yn flinderog ac yn llwythog, a chwedi eu dwysbigo at eu calonnau o herwydd eu pechodau, ni ddeuant at Grist am jachâd, ac esmwythdra, ac ni ymofynnant o ddifrif beth a wnawn ni? Math. 11. 28. Act. 2. 37. Math. 9. 12. Nes iddynt ddirnad mai pobl feirwon ydynt mewn euogrwydd, ni ddeuant at Grist am fywyd, Joan 5. 40. Cais osod dy bechodau mewn trefn ger dy fron, bydded ith yspryd chwilio yn dyfal, Psal. 77. 6. Hola dy galon a'th fuchedd yn fanwl, Psal. 119. 59. A galw am gymmorth oddiwrth yspryd Duw, gan dy fod ti yn egwan dy hun ir gwaith hwn; a bod ei swydd briodol yntef i argyoeddi o bechod, Joan 16. 8. Tana'r cwbl o flaen golwg dy gydwybod, nes ith galon ath lygaid ymollwn, na pheidia ag ymdrechu â Duw, ac â'th enaid dy hun, nes iddo lefain o herwydd dy bechodau fel ceidwad y carchar yn ei fraw, Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y bydwyf gadwedig? Act. 16. 30. Ac er mwyn hyn, ystyr amled yw dy bechodau, llewygodd calon Dafydd pan feddyliodd fel yr oedd ei bechodau yn amlach na'i wallt, Psal. 40. 12. A gwaeddodd ar Dduw am iddo ddeleu y anwireddau ef yn ol lliaws ei dosturiaethau, Psal. [Page 95] 51. 1. Nid yw'r burgyn ffieiddaf amlach o bryfed, nag yw'r galon aflan o drachwantau, y rhai a lenwant y pen, a'r galon, y llygaid, a'r geneu. Edrych o'th ôl, ple y mae'r man, a'r amser yn yr hwn ni pechaist? Edrych ith fewn pa gynneddf sydd yn dy enaid, a pha ran yn dy gorph sydd heb i bechod ei wenwyno? Pa orchwyl ysprydol a wnei heb ei fod yn halogedig? O faint yw dy ddylêd, gan iti yn oestadol redeg mewn cyfrifon heb dalu un geiniog? Cofia dy Esceulusdra a'th ryfyg; pechodau dy feddyliau, a'th eiriau a'th weithredoedd, anwireddau dy jeuengctid ath oedran; na fydd fel mersiandwr methedig yn wrthwynebus gennit edrych yn y llyfrau: Darllen gof-lyfrau y gydwybod, agorir hwynt i gyd ryw amser, Datc. 20. 12. Ystyr drymmed dy bechodau gan eu bod yn erbyn Duw dy fywyd, ath Enaid, ac yn elynion i holl ddynol ryw. Y mae Dafydd, Ezra, Daniel, a'r Lefiaid daionus yn cwyno pwys eu pechodau, o herwydd eu gwneuthur yn erbyn cyfreithiau uniawn Duw, yn erbyn ei drugareddau a'i rybuddion, Nehem. 9. Ezra 9. Dan. 9. Oh faint o ddrwg a wnaeth pechod yn y byd, efe yw'r gelyn a ddug farwolaeth ar y byd, a yspeiliodd ddyn o'i ddedwyddwch, ac ai caethiwodd; a dduodd Satan, ac a boethodd uffern, Rhuf. 5. 12. 2 Pet. 2. 4. Joan 8. 34. Dyma 'r gelyn a ddymchwelod y creadigaeth, a barodd anghydfod rhwng dyn a'r creaduriaid eraill, rhwng dyn a dyn, ie rhwng dyn ag ef ei hun, gan osod ei chwant yn erbyn ei reswm, ai ewyllys yn erbyn ei gydwybod. A'r peth tostaf o'r cwbl iddo beri anghydfod rhwng dyn a Duw, a gwneuthur casineb rhyngthynt, Zech. 11. 8. [Page 96] Pechod yw 'r bradwr a sugnodd waed Mâb Duw, ai gwerthodd, ai gwatwarodd, ai fflangellodd, a boerodd yn ei wyneb, a drywanodd ei ddwylo, a'i ystlys, a wascodd ar ei Enaid ef, ac a anrheithiodd ei gorph ef, ac ni pheidiodd nes ei rwymo, ai gondemnio, ai groeshoelio, ai wradwyddo o flaen y bŷd, Esay 53. 4, 5, 6. Dyma 'r gwenwyn marwol yr hwn wrth ddefnynnu ar wreiddyn dynol ryw a lygrodd y canghennau, au holl ffrwyth, Rhuf. 5. 18, 19. Pechod yw 'r dihenyddiwr gwaedlyd, a laddodd bobloedd, a ddifethodd ddinasoedd, a theyrnasoedd, Rhuf. 6. 23. Ped fai bossibl yscafnu 'r holl gyrph meirwon ar eu gilidd, oni chyrhaeddent hyd y nefoedd, a gofyn pwy au lladdodd hwynt i gyd, cefyd mai pechod sydd euog o ddwyn eu bywyd hwynt i gyd. Myfyria ynghylch natur a drugioni pechod, nes ith galon ei ffieiddio, yn enwedig am iti droseddu yn erbyn rhybuddion, a chyngorion, a gweddiau, a thrugareddau, a goleuni, a rhâd gariad, a cheryddon, a bwriadau, ac addewidion. Bydded ith galon gywilyddio o herwydd y pethau hyn, ac ymffieiddio, Ezra 9. 6. Yystyr hefyd beth yw haeddiant pechod. Y mae yn gwaeddi hyd y nefoedd am ddialedd, Gen. 18. 21. Marwolaeth a damnedigaeth yw ei ddyledus gyflog; a thynn felldith ar enaid a chorph, Gal. 3. 10. Deut. 28. Un meddwl a gair pechadurus sydd yn dy wneuthur yn ddarostyngedig i ddigofaint yr Holl-alluog, Rhuf. 2. 8, 9. Math. 12. 36. Och pa fath lwyth o felldithion, pa fath dryssor o ddigofaint y mae miliwn oth bechodau yn eu haeddu? Rhuf. 2. 5. Joan 3. 36. Barna dy hun fel na bo i'r Arglwydd dy farnu, 1 Cor. 11. 31.
[Page 97]Ystyria wrthuni ac halogrwydd pechod: y mae cyn ddued ag uffern, llun diafol wedi ei ddarlunio ar yr Enaid yw, 1 Joan 3. 8, 10. Pan agorer llygaid dy ddeall, bydd ddychrynllyd gennit dy weled dy hun. Nid oes dom mor aflan, na chwdfa mor wrthwynebus, na burgyn mor ddrwgsawrllyd, na chlwyf mor heintus ac yw'r pechod, yr hwn sydd yn dy lenwi, ac yn dy amgylchu â'i frunti, ac yn dy wneuthur yn ffiaidd i bur olygon Duw, Job 15. 15, 16. Nid yw'r llyffant du mor erchyll genniti, ac ydwyti i burdeb Duw, nes dy lanhau drwy râs Christ.
Yn enwedig ystyr dy lygredigaeth gwreiddiol: ofer yw toccio 'r canghennau tra fyddo 'r bôn heb dderbyn un dyrnod. Nid gwiw gwehin lle byddo dwfr yn codi, lleinw eilwaith gynted ag ei gwaccaer. Gosoder bwyall edifeirwch wrth wreiddin anwiredd, fel y gwnaeth Dafydd, Psal. 51. 5. Ystyr ddyfned yw llygredigaeth yn dy natur di, ac fel y mae wedi ymdanau ynoti, ac wedi ymgymmyscu â thydi, fel gydâ'r Apostol y crochlefech rhag corph marwolaeth, Rhuf. 7. 21. Ac y cwynech gydag Awstin dy fod yn llestr i ddal brunti a drewi. Hwn sydd yn dy wneuthur di yn anhydyn i ddaioni ac yn dueddol i ddrwg, Rhuf. 7. 15. Hwn sydd yn tywyllu dy feddwl, yn gwyr-droi dy ewyllys, yn anhymmheru dy serch, yn syfrdanu dy gydwybod, yn gwanhau dy goffadwriaeth am ddaioni, ac yn dy wneuthur yn uffern fechan, Jag. 3. 6. Hwn sydd yn gwneuthur dy aelodau yn arfau anghyfiawnder, Rhuf. 6. 19. Yn llenwi'r Pen ag ystrywiau drwg, Mic. 2. 1. Y dwylo â gwaed, Esay 1. 15. Y llygaid ag anlladrwydd 2 Pet 2. 14. Y tafod â gwenwyn marwol, [Page 98] Jag. 3. 8. Y sydd yn agor y clustiau i weniaeth, ac ymddiddauion drwg, ac yn eu cau yn erbyn addysc bywyd, zech. 7. 11, 12. Yn gwneuthur y galon yn grôth felltigedig i ymddwyn pob peth drwg, Math. 15. 16. Ac ai tywallt allan yn ddibaid, fel y ffynnon ddwfr, Jer. 6. 7. neu'r mor dom a llaid, Esay 57. 20. Ac a ddywedi di bellach fod dy galon di yn dda? Yn hytrach cwyna fel Ephraim, Jer. 31. 18. A chura dy ddwyfron fel y publican, Luc 18. 13. Ac fel Job bydded ffiaidd gennit ti dy hun, ac edifarhâ mewn llwch a ludw, Job 42. 6. Ac fel y mae'n rhaid fod yn daer yn erbyn llygredigaeth wreiddiol, felly yn erbyn y pechod eryfaf ac anwylaf a'r sydd yn tarddu o honaw. Sumia drymmed yw, a maint y sydd o fwgythion Duw iw erbyn. Edifeirwch a ymlid yr holl yrr o'r geifr uffernol oi flaen, ond bydd tra gofalus i frathu'r saeth yn y pechod anwylaf, fel y marweiddio ef yn anad un, Psal. 18. 23. Gwna ith enaid gashàu hwnw, a gwilio rhagddo yn ofalus, am ei fod yn ddianrhydeddus i Dduw, ac yn beryglus i titheu.
3. Cais deimlad yn dy galon o'th drueni presennol, cofia pan gyscech di, y gelli ddeffro yn y tân uffernol, a phan gyfodech, y gelli syrthio iddo cyn yr hwyr. Pe gwelit un colledig ynghrog gerfydd ei ganol wrth edef uwch ben ffwrn danllyd Nebuchadnezzar, a honno ym mron torri bob mynud iw ollwn i lawr, oni thosturiai dy galon dros y cyfryw un? Wele tydi ydyw'r dŷn, os ydwyti etto yn dy bechod. Os torriff edef fregus dy fywyd ti heno, i ba le y syrthi di, onid ir llynn sydd yn berwi o dân a brwmstan? Ac oni chryni wrth ddarllen hyn, o ba beth y gwnawd dy galon [Page 99] di? Oes genniti nac ofn tuag at Dduw, na serch tuag attat dy hunan? Meddwl am dy drueni, nes ith galon weiddi am Grist, fel y gwnae dyn ar foddi am gafn, neu'r archolledig am feddig, Math. 9. 12. Ni ffoiff y lleiddiad ir ddinas noddfa nes i ddialudd y gwaed erlyn ar ei ôl ef; Ni ddaw pobl at Grist nes eu curo allan o honynt eu hunain. Ni ddychwelodd yr afradlon nes i wall ac eisieu ei gymmell ef, Luc 15. 16, 17. Ni chais Laodicea nac aur na gwiscoedd, nac ennaint Crist, nes gwybod ei bod yn dlawd, yn noeth, ac yn ddall, Datc. 3. 17, 18. Gwell iti ofidio yn awr o herwydd dy drueni, a cheisio ei ochelyd, na dioddef ynddo dros byth.
4. Cydnebydd dy anallu i'th waredu dy hun o'th gyflwr truenus, a phechadurus: na thybia y gall dy weddiau, na'th ddarlleniad, na'th wrandawiad, na'th ddywygiad dy waredu: Dyfal ymarfera â hwynt, ond na orphywys ynddynt, Rhuf. 10. 3. Canys ni ddichon neb ond Crist dy waredu, Act 4. 12. Y rhai sydd ganddynt hyder yn y cnawd ni ddeuant at Grist, Luc 18. 9. Phil. 3. 3. Rhaid iti wybod nad yw dy elw ond colled, a'th nerth ond gwendid, na'th gyfiawnder ond brattiau bydron, ac onide nid ymuni â Christ, Phil. 3. 7, 8, 9. 2 Cor. 3. 5. Esay 64. 6. Fel nad all y corph marw gyfodi o'r bêdd, a thorri rhwymau marwolaeth, felly nid elli ditheu y sydd farw mewn pechodau, a chamweddau, dy adfywhau, a'th waredu dy hun o'th gyflwr enbydus, na gwneuthur gwasanaeth cymmeradwy ith Greawdwr, Rhuf. 8. 8. Heb. 11. 6. Er hynny nag esceulusa mo 'r rhan oddiallan ir dyledswyddau crefyddol, eithr disgwyl ar ffordd [Page 100] Duw, a galw am gynnorthwy ei yspryd ef, a gorwedd wrth y llynn i edrych a gei jachâd. Tra yr ydoedd yr Eunuch yn darllen, yr ansonodd yr yspryd glân Philip iw gyfarwyddo, Act 8. 28, 29. Tra 'r ydoedd y dyscyblion yn gweddio, a Chornelius a'i gyfeillion yn gwrando, y syrthiodd yr yspryd Glân arnynt iw cyflawni o râs a doniau, Act 4. 31. ac 10. 44. Ymegnia am Grist wrth weddio, a myfyrrio; a gwna hynny ganwaith a chanwaith, cais wneuthur hynny fel y gellych, a thra fyddech yn ymegnio, gobeithia y cynnorthwya Duw dy wendid, Dihar. 1. 23.
5. Yn ddioed ymwrthod â'th holl bechodau. Ofer iti obeithio am fywyd a dedwyddwch oddiwrth Grist, heb ymadel ag anwiredd, Rhuf. 6. 17. 2 Tim. 2. 19. Yr hwn a adawo ei bechod a gaiff drugaredd. Dihar. 28. 13. Dim priodi Crist oni ymyscarir oddiwrth anwiredd. Na ddal Dalilah ar dy liniau. Rhaid iti golli un ai dy bechod ai dy enaid, Psal. 68. 21. Ezec. 18. 21. Chwiliau yr Iuddewon eu tai â chanwyllau rhag i ddim lefen lechu mewn un cornel tra fyddent yn cadw 'r Pasc; ac mor ofalus a hynny y dylem nineu fod i garthu ymmaith bob pechod o'n heneidiau, ac iw boeri allan, Job 20. 11.
6. Dewis Dduw yn etifeddiaeth iti, Deut. 26. 17. Jos. 24. 15. Cymmer dy orphwysfa yn Nuw, Joan 6. 68. Eistedd dan ei gyscod ef, Can. Sol. 2. 2. Y mae Duw ei hun yn fwy, ac yn well iti na'r holl fyd, Psal. 4. 6, 7. Ac er iti syrthio allan ag ef, y mae yn cynnig cymmodi â thi, 2 Cor. 6. 17, 18. Job 14. 6. 1 Thess. 1. 9. Rhuf. 1. 24. Psal. 73. 25. Cymmer ef yn ei holl berthynasau personawl, [Page 101] yn Dâd iti, Jer. 3. 4, 19, 22. Fel y gwnaeth y Mâb afradlon, ymostwng iddo, ymddiried iw ragluniaeth ai ofal ef drosoti.
Y Mâb yn Achubwr iti, Jo. 1. 2. Heb. 7. 25. Diosc wisc dy gaethiwed, a chymer y wisc briodas am danat, ac ymuna â Christ, a dod ei enw ef ar yr hyn a feddych.
Yr yspryd i'th sancteiddio, Rhuf. 8. 9, 14. Gal. 5. 16, 18. I'th gynghori, i'th ddiddanu, ac i ymddadleu drosoti, Rhuf. 8. 26. Psal. 73. 24. Joan 14. 16, 26. Ephes. 1. 14. Ephes. 4 30. Cymer ef yn ei berffeithrwydd hanffodol; a thebyga iddo, i fod yn sanctaidd, megis ac y mae yntef, 1 Pet. 1. 16. Esay 1. 16, 17, 18. Ymfodlona arno o herwydd ei fod yn Hollalluog, a chyflawn o ddaioni, Gen. 17. 1. ac 15. 1. Psal. 84. 11. Math. 13. 46. Ymrodda i fod dan ei awdurdod a'i reolaeth ef yn unig, Math. 6. 24. Ymddirieda iw ffyddlondeb ef ai wirionedd, 2 Tim. 1. 12. Dihar. 3. 5. Bodlona i aros am y gwobr o'th wasanaeth hyd yr amser a ddaw, os gwel efe yn dda ei oedi, Math. 9. 21. Luc 14. 14. Heb. 10. 36.
7. Derbyn Grist yn ei holl swyddau, i'th waredu, a'th gynnorthwyo, Heb. 7. 25. Ioan 3. 36. Esay 45. 22. Os deuei atto ni fwrw monot allan, Ioan 6. 37. Y mae efe yn galw yn yr heolydd, yn curo wrth y dryssau i geisio gan bobl ei dderbyn, a phreswylio gydag ef, Dihar. 1. 20. Datc. 3. 20. Ai gymeryd ef iddynt yn Frenin, yn Offeiriad, ac yn Brophwyd, ac i gymeryd eu croes iw ddilyn ef.
8. Dod i'r Arglwydd gwbl ac sydd ynoti: Medd yr Apostol, hwy ai rhoddasant eu hunain i'r Arglwydd, 2 Cor. 8. 5. Rhoddwch eich Cyrph [Page 102] yn Aberth byw, Rhuf. 12. 1. Dod iddo dy Enaid â'i holl gynneddfau, a'th gorph, â'i holl aelodau, fel y gogonedder ef â'th gorph ac â'th yspryd y sydd eiddo ef, 1 Cor. 6. 20. Bydded dy feddwl yn cydnabod fod Duw yn haeddu pob derbyniad, a'i fod yn bennaf o ddeng mîl, ac nad oes dim mor ddymunol ag ef, Dihar. 3. 13, 14, 15. Math. 13. 44. Gwel ei fod yn haeddu ei foliannu, Datc. 5. 12. Bydded dy ewyllys yn rhwydd yn uno ag ef. Bydded dy goffadwriaeth yn dryssor-dŷ i gadw gwirioneddau Duw ynddo, ei addewidion. ei orchymmynion, ei drugareddau. Bydded dy gydwybod yn rhybuddiwr ffyddlon iti, i'th arwain yn ffyrdd Duw. Bydded ith serch fod yn glaf am Grist, ai gydnabod ef yn ddymuniad cenhedloedd. Bydded dy ofn yn plygy'r glin iddo, gan ei addoli'n ostyngedig. Bydded dy dristwch am ddianrhydeddu Duw, a throseddu ei orchymynion ef. Bydded dy ddig, a'th gâs yn erbyn pechod, a'r hyn sydd gâs gan Dduw. Bwriada yn dy galon ymadel â phob peth a feddech er mwyn Iesu Grist, dy berthynasau, a'th feddiannau, a'th fywyd hefyd, pan ddigwyddo erlid ar yr Efengyl, Luc 14. 26, 27, 33. Math. 10. 37.
9. Dewis gyfreithiau Crist yn rheol i'th eiriau a'th feddyliau, a'th weithredoedd, Psal. 119. 30. A hynny yn gwbl, Psal 119. 6, 128, 160. Ezec. 18. 21. Rhaid iti gymmeryd y gofal mwyaf am y dyledswyddau pennaf, ac i ochclyd y pechodau trymaf, etro bydd gydwybodus ynghylch y pethau lleiaf, Psal. 119. 6, 113. Math. 23. 23. A phôb amser mewn hawddfyd, ac adfyd, ni thry 'r gwir rasol mo'i gefn at y gwynt a'i wyneb at y drwg y [Page 103] byddo 'r bŷd yn tywynnu arno. Medd y Psalmydd, Glynais wrth dy dystiolaethau, Cymmerais dy orchymmynion yn etifeddiaeth dros byth, ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol, Psal. 119. 31, 93, 111, 117. A gwir fwriad nid addaw yn dêg heb gyflawni, fel y bobl yn Deut. 5. 27, 29. Ym mlaen llaw ystyria fod gorchymynion Duw yn ysprydol, i reoli meddyliau, a chynnyrfiadau 'r galon, yn gofyn iti wadu dy dueddiad cnawdol, Math. 16. 24. ac 7. 14. Y maent yn eheng, Psal. 119. 96. Yn gyffredinol ac yn neilltuol; ymagel anufyddhau i'r rhai fyddont yn erbyn dy ewyllys lygredig, Jer. 42. 1, 2, 3, 4, 5, 6. ac Pen. 45. 2. Os ymosody yn erbyn pob pechod ac i gyflawni pob dyledswydd, di fyddi ddiargyoedd, ac ni chwilyddi di, Psal. 119. 80. Psal. 18. 23.
10. Rhwyma 'r holl bethau hyn ar dy enaid drwy gyfammod difrifol rhyngoti a Duw, Psal. 119. 106. Nehem. 10. 29. Ond bydd daer ar Dduw am roddi o honaw ef nerth iti iw gyflawni, ac edrych ar dy fod yn wir ewyllysgar i wasanaethu Duw mewn Sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau dy fywyd, heb laesu, ac heb gilio yn ôl; Ac os ymglywi felly, dymuna ar Dduw er mwyn haeddedigaethau ei Fâb dy dderbyn, gan addef dy ddrygioni, a mynegi dy fwriad i ymwrthod â phôb eulun, ac â phob math ar bechod, i fyw yn ol gorchymynion Duw dy holl ddyddiau, ac i ymroddi i Jesu Grist, fel y byddo efe iti yn ddoethineb ac yn gyfiawnder.
11. Gochel oedi troi at Dduw, eithr gosod ar y gwaith yn gyflym. Brysiais ac nid oedais gadw dy orchymynion, Psal. 119. 60. Cofia ffolineb y morwynion a ddaethant yn rhy ddiweddar [Page 104] wedi cau drws y drugaredd. Math. 25. a thwyll Felix yr hwn wedi ei argyoeddi, a ollyngodd Paul ymmaith hyd ryw amser arall, Act. 24. 25. ac ni ddarllenir iddo gael amser addas byth gwedi hynny. O tyred heddyw rhag dy galedu drwy dwyll pechod, a bod y pethau perthynol i'th heddwch yn guddiedig oddiwrth dy lygaid ti: yrawr hon y mae Crist yn disgwyl wrthiti, a 'r yspryd yn ymdrechu â thydi, a gweinidogion y gair yn galw arnati; cais olew tra fyddo 'r farchnad yn agored, a thitheu yn cael achlyssur i brunu. Na wrthod y gwahawdd rhag dy gau allan o'r wledd, Luk. 14. 24.
12. Dyfal ddilyn foddion troedigaeth Jag. 1. 18, 19. 1 Cor. 4. 15. A hynny nid mewn dull arferol ond difrifol, gan ddymuno grâs i'th adnewyddu.
13. Meithrina waith yr yspryd yn dy galon pan fyddo yn dechreu dy argyoeddi a'th gynhyrfu na ddiffodd mo hynny. Na ddiffodd ac na wrthwyneba 'r Yspryd. Pan gyfodo ynoti feddyliau gofidus o herwydd dy bechodau. neu ofalon am dy gyflwr tragwyddol, na fydded iti adel i gymdeithas ddrwg, neu achosion bydol eu tagu, eithr gweddia ar Dduw am eu cadw hwynt at dy enaid, nes iti roddi diofryd ar y drwg, ac ymroddi i Grist; gâd i argyoeddiad bigo dy friw, nes ir llygredigaeth redeg allan.
14. Ymosod i weddio yn daer, ac yn wastadol. Annuwiol fydd yr hwn sydd yn attal gweddi ger bron Duw, Job. 15. 4. a rhagrithiwr fydd anwadl ynddi, Job. 27. 10. pan fyddo grâs yn troi dŷn, un o'r pethau cyntaf a wnaiff yw gosod y dychrynedig i weddio, Act. 9. 11. [Page 105] Cymmer amser beunydd i weddio yn ddirgel, ac yn dy deulu. Gwae fydd i'r teulnoedd ni alwant ar enw Duw, Jer. 10. 25. Bydded dy weddi yn wresog ac yn egniol, ni chymmerir teyrnas nef heb drais, Math. 11. 12. Ac ymdrech, Luk. 13. 24. Ni cheir y fendith heb ymbil a dagrau, Gen. 32. 24. Hosh. 12. 4. Peth anhepcor yw grâs, na chymer nâg wrth ei ofyn. Os gwrthddadleua neb yma, nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid, Joan. 9. 31. Rhaid i ni wneuthur dosparth ar bechaduriaid: rhai o honynt sydd wrthnyssig, ac yn parhau yn eu drugioni yn gyndyn, gweddiau y rheini sydd gâs gan Duw: ond y mae rhai pechaduriaid yn edifarus, a phan weddio y rheini gwrendy Duw arnynt, a daw iw cyfarfod â thrugaredd, Luc. 15. 20. Je gwnaeth Duw lawer er gweddiau y sawl a edifarhasant yn hannerog. Nid ofer fu ei ostyngiad i Ahab, nag ympryd i Niniveh, Jonah 3. 8, 9, 10. 1 Brenh. 21. 27. Pethau amserol yr oeddent hwy yn ei ofyn, ac os gofynni di bethau ysprydol di fyddi debyccach iw caffael, am fod yn fodlonach gan Dduw y sawl ai ceisio, a hynny drwy Grist hefyd. Dihar. 2. 1, 2, 3, 4, 5, 6. Luc 11. 9. 10, 11, 12, 13. Dihar. 8. 34, 35. Ond cyssur iti ei fod ef yn dy alw di, Marc 10. 49. Gan iddo orchymyn iti arferu moddion ni fioma efe monoti yn dy ufydd-dod. O gweddia heb diffygio, Luc 18. 1. Y Sainct sydd yn awr mewn gogoniant, a fuont unwaith mor wael a thitheu, am hynny eiriol ar y Goruchaf a ddichon wneuthur cymmaint erddoti ac erddynt hwy.
[Page 106]15. Gad ymmaith gyfeillion drwg. Dihar. 9. 6. a phob achlyssur a'th ddeno i bechod, Dihar. 23. 31. Os byddi'n blysio 'r abwyd tydi a lyngci 'r bâch, ac os chwareui â'r fagl, tydi a ddelir. Na themtia Dduw drwy fyned heb raid i gyfeillach ddiffaith, canys y cyfryw sydd yn anrheithio bucheddau, ac eneidiau, a theuluoedd lawer, ac yn gwyrdrol llawer un edifeiriol ac yn ei wneuthur yn blentyn vffern saith waeth nag oedd, Ymadewch â'r rhai ffôl os mynnwch fyw, Dihar. 9. 6. yr hwn sydd gyfaill i ynfydion a gystuddir, Dihar. 13. 20. Newidiad y galon a ymddengls wrth newidiad Cymdeithas. Cymdeithion drwg wrth watwor a chablu crefydd a annogant eu gilidd iw dirmygu. Cofia rybyddion yr Yspryd Glân, Fy Mâb os pechaduriaid a'th ddenant, na chyttuna, os dywedant tyred gydâ ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion, bwrw dy goelbren yn ein mysc, fy Mâb na rodia yn y ffordd gydâ hwynt, attal dy droed rhag eu llwybr hwynt. Y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun, am eu henioes eu hun y maent hwy yn llechu. Gochel ffordd y drygionus, na ddôs ar hyd-ddi, cilia oddiwrthi hi, a dôs heibio, canys tywyllwch yw, ac ni wyddant wrth babeth y tramgwyddant, Dihar. 1. 10, 11, 18. ac 4. 14, 19. A chan fod drwg gyfeillach mor beryglus, dywedaf wrthych unwaith etto, fel y dywedodd Moses wrth yr Israeliaid, Num. 16. 26. Pan lefarodd efe wrth y gynnylleidfa gan ddywedyd, Ciliwch attolwg oddiwrth hebyll y dynion drygionus hun. Oh ffowch rhag y cyfryw fel y gwnaech rhag rhai a fyddei â'r cornwyd arnynt, ac yn rhedeg yn eu talcennau; canys hudo y maent i golledigaeth.
[Page 107]16. Ymneilltua weithieu i weddio ac i ymprydio yn ddirgel, er mwyn gwneuthur dy galon yn deimladwy o'th bechod, a'th drueni. Ystyr y gorchymynion o fesur un ac un; a dirnad dy droseddau iw herbyn, er ymddarostwng oi herwydd.
Ymddiddan byr rhwng pechadur a'i Enaid.
Och, ys truan o ddyn ydwyfi! I ba le y dug pechod fi? Mi welaf ddarfod im calon fy nhwyllo i wrth fy ngwenheithio i; mi welaf, mi welaf fy mod yn golledig oddieithr yr Arglwydd fy ngwaredu; Fy mhechodau, fy mhechodau, och ffieiddied peth ydwyfi! Gwaeth fy sawr yn nhyb Duw, nag yw'r burgyn yn fy nhyb i. Och o'r uffern bcchadurus y sydd yn y galon yma, a dybaswn ei bod yn dda! Holl ddychymygion fy nghalon sydd ddrwg yn oestadol: yr wyf yn wan ir da, ie yn wrthwynebus iddo, ac yn dueddol i bob drwg. Och o'r sybwll drwg yw fy ngalon, a maint o lyffaint duon sydd yn ymlusco allan o honi. Och fel y mae fy mhechodau yn fy nghuhuddo i, ac yn rhythu eu llygaid arnafi: Y mae fy holl ddyledion yn dyfod arnafi ar unwaith, pob gorchymyn sydd yn rhoi cwyn arnafi am gantoedd a miloedd. Er bod y Mynyddoedd yn fawrion nid ydynt yn aneirif, er bod y tywod yn aneirif, nid ydynt yn fawrion, ond gwae fi fod fy mhechodau i yn aml fel y tywod, ac yn fawrion fel mynyddoedd. Y mae'r pwys arnaf yn drwm, oni wareda trugaredd fi darfu am danaf, a foddaf i ddyfnder y pydew diwaelod. Och fy enaid! fy ngogoniant, Ichabod ith elwir, ymadawodd dy harddwch â thi, ac aeth dy anrhydedd yn warth.
[Page 108]Och faint fy aflwydd o herwydd fy mhechodau, melldithion ar fy enaid a nghorph, a phob peth a feddafi; Pa beth a wnafi, ac i ba le yr afi? Os Edrychafi tuag i fynu, yr wyfi 'n ofni fod Duw yn ddig, os tuag i wared, mae uffern yn lledu ei safn arnafi, os im mewn, mae fy nghydwybod yn fy nghoi, os allan, y mae profedigaethau a pheryglon yn fy amglychu. Oh, i ba le y diangafl, pa le all fy nghuddio i oddiwrth yr hwn sydd yn gweled pob peth, pa ddalfa gadarn a ddichon fy niogelu i oddiwrth yr Holl-alluog. Och fy Enaid beth yr ydwyti yn ei feddwl wrth fyned ym mhlaen yn dy ddrwg? A ydwyti mewn cyngrair ag uffern, ac mewn cyfammod â marwolaeth, ac mewn serch i aflwydd? O bendithia Dduw, am iddo ddisgwil wrthiti cyhyd, ac yn awr tro atto 'n edifeiriol iw wasanaethu mewn sancteiddrwydd byth: Ymdderchefwch ddrysau tragwyddol, fel y delo brenin y gogoniant i mewn.
PEN. VII. Yn cynwys Annogaethau i Ddychwelyd at Dduw.
O Arglwydd cynnorthwya fi yn hyn o waith, ac od oes un enaid wedi darllen hyd yma, ac heb gael cynhyrfiad etto, yr awr hon cymer afel arno o gerfydd ei galon, nes iddo addef dy fod yn drech nag ef, O Arglwydd northa fi yr unwaith hon. [Page 109] Hawyr frodyr y mae'r nefoedd a'r ddaiar yn eich annog i edifarhau. Y mae athrawon grasol mewn gwewyr am eich geni eilwaith, Gal. 4. 19. Byddau Angylion nefol yn llawenu wrth eich edifeirwch rasol, ac yn canu gogoniant i Dduw yn yr uchelder. Y sêr boreuol a gydganent, a meibion Duw a floeddient o lawenydd am yr ail creadigaeth, fel y gwnaethont am y cyntaf. Gwna ir Angelion wlêdd am dy eni di i Dduw, a bod iddynt un brawd ychwaneg nag oedd o'r blaen, ac un etifedd ychwaneg iw Harglwydd goludog. Dagrau edifeiriol sydd wîn yn sirioli Duw, a dynion, ac Angelion. Ac onid yw well iti lawenhau 'r nef, na bod cwn uffern yn ymborthi arnati, ac yn dy watwor am dy ynfydrwydd a'th drueni? Ond hyfryd iti ystyried fel y llawenychai Duw wrth dy dderbyn iw râs, â llawenydd priodfâb am briodferch, y llawenychai dy Dduw o'th blegit ti, a gorphwysai yn ei gariad, Esay 62. 5. Mwy fyddai ei hyfrydwch nag oedd un Iacob wrth gyffwrdd a Ioseph, ai gofleidio. Darllen ddammeg yr Afradlon, Luc 15. 9, 20. Oni weli fel y darfu iw Dâd caredig anghofio ei fawrhydi, ai oedran, a rhedeg yn gyflym iw gyfarfod? Gwêl mor wisgi y rhêd, ac y bryssia trugaredd i'th gyfarfod, pan ddychwelech adref. Fel y cynhesodd ymyscaroedd Ioseph wrth weled Benjamin, y cynhesa'r Arglwydd wrth yr Edifeiriol. Ac fel y bu Tâd yr Afradlon yn gyflym, felly yn graff hefyd, efe a ganfu ei Fâb o hirbell, ac aeth iw gofleidio ac iw gussanu. Y mae ei serch yn gwneuthur iddo anghofio ei ddig, ac anufydd-dod ei fâb. Nid yw yn rhuso ei gymeryd ef iw freichiau, er bruntied ei garpiau, a bod sawr y môch arnynt. Buan y gwnaeth ef yn garuaidd ac yn hardd, [Page 110] er gwaeled oedd ei ystum. Nid arbedodd y Tâd na'r wisc oreu; na'r llô pascedic, ac ni fynnai gadw'r llawenydd mewn lle cûl, gwahoddodd ei garedigion i gydwledda hefyd, a'r mâb newydd eni wrth glûn ei Dâd; yr hwn yn haelionus a barodd iddynt fod yn llawen, a dangosodd achos da, canys eb efe, fy mâb hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn, ac efe a gollesid, ac a gaed, adn. 24. Os mynni ychwaneg o yspysrwydd am y ddammeg, deall mae Duw yw'r Tâd, a Christ yw 'r lluniaeth melys, a'i gyfiawnder ef yw 'r wisc hardd, ei sainct a'i Angylion yw 'r caredigion a'r gweinidogion, a thitheu ddarllenydd, os edifarhei yn gywyr, wyt y Mâb a gei gresaw, ac a beri lawenydd.
O Graig onid oes gynnwrf ynoti etto i ddychwelyd at drugaredd! Gwrando ynteu ar leferydd un oddiwrth y meirw a'r damnedig yn dy rybyddio i Edifarhau; yr hwn a ddywedodd wrth Abraham yr wyf yn attolwg iti o Dâd, Ddanfon o honot i dŷ fy nhâd, canys y mae imi bump o frodyr, fel y tystiolaetho un iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd ir lle poenus hwn; os â un oddiwrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt, Luc 16. 27, 28, 30. Clyw o bechadur fel y mae un o'th ragflaenoriaid ti mewn anwiredd a chalwedwch calon yn pregethu iti oddiar y pren dioddef yn uffern, ar iti Edifarhau. Och! edrych i lawr ir pydew diwaelod, a gwel fel y mae mwg eu poenedigaeth hwy yn escyn i fynu yn oes oesoedd, Datc. 14. 11. Och ddued a mileinied yw eu penydwyr! cerddoriaeth ganddynt glywed eu gwaedd. Beth meddi di am angerdd y tân, am gadwynau'r tywyllwch, am y ffwrn ddu, a glywi di arnat wneuthur yno breswylfa iti [Page 111] byth? Dod dy glust wrth ddrws y carchar tragwyddol, a gwrando 'r galarnad, a'r rhegon, a'r melltithion sydd yno. Math. 22. 13. Datc. 16. 9. Nid oedd gwaedd y bobl yr ydoedd y ddaiar yn eu llyngcu, a barodd i bawb ffoi oddiwrthynt, elfydd mor ddychrynllyd ac yw 'r udo a'r yscyrnygu dannedd y sydd ym mysc y rhai damnedig, Num. 16. 33, 34. Och ddyfned eu ocheneidiau hwynt, mor anoddefadwy yw eu poenau hwynt! Pe tynnai Duw yr Caead mawr y sydd ar wyneb y pwll diwaelod, fel y delei 'r sŵn erchyll sydd yno i glyw dynion daiarol, o faint fyddai'r chwithder a'r braw! Yn enwedig y cwynfan fod y trueni i barhau byth bythoedd, ac nid oes ond ychydig rhyngot titheu a syrthio yno, oddieithr iti edifarhau.
Mawr yw 'r annogaethau y mae Duw yn ei osod o'n blaen ni i'n dychwelyd ni atto ei hun.
1. Y mae ei hynawsedd trugarog ef yn ein gwahodd ni. Ei drugareddau ef sydd uwch na'n meddyliau ni, Cyfuwch a'r nefoedd ydynt, beth a wnei di, a dyfnach nag uffern, beth a elli di ei wybod? A'u mesur yn hwy na'r ddaiar, ac yn lled nâ'r mor, Job 11. 7, 8, 9. Yr Arglwydd sydd Dduw trugarog a graslawn, hwyrfrydic i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd, Psal. 86. 15. Ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw, o herwydd graslawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydic i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg, Joel 2. 13. Pa Dduw sydd fel tydi yn maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth; ni ddeil efe ei ddig byth am fod yn hoff ganddo drugarodd. Efe a ddychwel, efe a drugarhâ wrthym, efe a ddarostwng ein [Page 112] hanwireddau, a thi a defli eu holl bechodau i dyfnderoedd y môr, Micah 7. 18, 19. Dychwelwch attafi medd Arglwydd y lluoedd, a mi a ddychwelaf attoch chwithau, Mal. 3. 7. Zech. 1. 3. Nid yw pechaduriaid yn cyfeiliorni wrth dybied trugareddau Duw yn fawrion, ond wrth esculuso meddwl am ei gyfiawnder ef, ac addaw iddynt eu hunain drugaredd allan o ffor dd Duw. Ond ir gwir edifeiriol y mae yn yr Arglwydd aml drugareddau, 1 Cron. 21. 13. Ac aml dosturiaethau, Nehem. 9. 19. A siccr drugareddau drwy gyfammod tragwyddol, Esay 55. 3. A thrugaredd dragwyddol, Esay 54. 8. Psal. 103. 17.
2. Y mae addewidion Duw yn taer alw ar bechaduriaid i ddyfod am drugaredd. Tŷ Israel wrthnysig dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnoch; canys trugarog ydwyfi, ni ddaliaf lîd yn dragywydd. Trowch chwi blant gwrthnysig medd yr Arglwydd. Ymchwelwch feibion gwrthnysig ac mi a jachâf eich gwrthnysigrwydd chwi, Jer. 3. 12, 14, 22. Fel y mai byw fi medd yr Arglwydd Ddaw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol, ond troi o'r annuwiol oddiwrth ei ffordd a byw: Dychwelwch, dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drygionus, canys (tŷ Israel) pa ham y byddwch feirw? Ezec. 33. 11. O's yr annuwiol a ddychwel oddrwrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd hyw, ni bydd efe marw. Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth. Dychwelwch a throwch oddiwrth eich holl gamweddau, a gwnewch iwch galon newydd, ac yspryd newydd, canys pa ham, tŷ Israel; y byddwch feirw? Canys nid oes ewyllys gennif i farwolaeth y marw medd yr Arglwydd [Page 113] Dduw, dychwelwch gan hynny a byddwch fyw, Ezec. 18. 21, 22, 31, 32.
Edrych ar ogoniant y bŷd arall, fel y mae'r Efengyl yn ei ddarlunio; dos i ben Pisgah, a derchafa dy lygaid ar dir yr addewid, sef y tir da, y sydd y tu hwnt ir Iorddonen, Paradwys Duw, a ddyfrheir ag afonydd llawnion o hyfrydwch gogoneddus; cyfod a rhodia ynddo drwy fyfyrdod nefol, ystyr ei hyd ai lêd, canys yr Arglwydd ai rhydd iti yn etifeddiaeth dragwyddol, os tydi a ddychwell atto ef mewn cywirdeb calon.
Os esceulusi 'r fath gynnig yr ydwyt heb ffydd, neu heb refwm, neu heb gydwybod. Canys cynnig yr Efengyl ir credadyn deyrnas ogoneddus, 2 Thess. 1. 5. Gyfiawn, dangneddefus, dragwyddol, 2 Pet. 3. 13. Rhuf. 14. 17. 2 Pet. 1. 11. A choron o fywyd, o gyfiawnder, o ogoniant, jag. 1. 12. 2 Tim. 4. 8. 1 Pet. 5. 4. A gwisc o anllygredigaeth, ac anfarwoldeb, a chymaint discleirdeb a'r haul, 1 Cor. 15. 53. Math. 13. 43. A chyflwr cyffelyb i angylion Duw, Luc. 20. 36. Beth os gorfydd i Griftion fyned drwy ymbell filltir o ffordd arw cyn dyfod i baradwys, ni bydd edifar ganddo ei daith wedi y delo ir Gorphwysfa:
3. Y mae 'r Arglwydd yn yr amser presenol yn rhoddi bagad o freintiau ir grasol, gan ganiattau iddynt hawl i bob peth a fyddo da ar eu llês tra fyddynt yma; pob peth sydd eiddynt, 1 Cor. 3. 22. A hwythau 'n freintiol o'r fam ddinas nefol, ac unol â Duw, a'i sainct, Heb. 12, 22, 23, 25. Yma y mae Duw yn rhyddhau ei bobl oddrwrth gathiwed pechod a Satan, Ioan 8. 36. Ac yn eu gwaredu allan o feddiant y tywyllwch, ac yn eu symmud i deyrnas ei [Page 114] anwyl fâb, Col. 1. 13. Gwaredir hwy oddiwrth ddrwg y byd presenol, Gal. 1. 4. Ni chaiff llwyddiant moi llygru, nac adfyd eu gwahanu oddiwrth Dduw, Rhuf. 8. 35, 37, 38. Gwaredir hwynt o feddiant uffern, a bydd angeu nid yn frenin dychryniadau iddynt, ond yn gennad heddychol, Psal. 49. 15. Tynnir y felldith oddiwrth y groes, Psal. 119. 71. A bydd cystudd yn bysygwriaeth iw jachau, ac fel pair iw puro, neu wintill iw nithio, Dan. 12. 10. Esay 27. 9.
Bydd yr Arglwydd yn Dduw ir ffyddloniaid, Gen. 17. 7. Yn haul ac yn darian iddynt, Psal. 84. 11. Gan roddi grâs a gogoniant, heb attal oddiwrthynt ddim a fyddo da iddynt. Cânt ddyfod iw ŵydd ef, a chânt wrando eu gweddiau, Eph. 1. 6. ac 3. 12. 1 Ioan 5. 14. A mwynhau cymmundeb ag ef, Ioan 14. 23. ac 15. 15. 1 Ioan 1. 3. A chaiff pôb peth gydweithio er daioni iddynt, Psal. 115. 13. Rhuf. 8. 28.
4. Y mae trugaredd Duw wedi cweirio ffordd iechydwriaeth ai gwneuthur yn rhwydd ir grasol. Danfonodd Duw ei Fâb ei hun i wneuthur erddom yr hyn nid allai y ddeddf, Rhuf. 8. 3. Gofynnai 'r gyfraith iawn gyflawn am y pechodau a wnaed eisoes, a chyflawn ufydd-dod am yr amser i ddyfod, yr hyn ydoedd amhossibl i gnawd llygredig. Ond wele faddeuant Duw ym mhob un o'r ddau. Bodloniff i gymeryd gan y meichiau (a hwnw o'i drefniad ef hefyd) yr hyn a allei efe, ei ofyn gennym ni, 2 Cor. 5. 19. a dywed iddo gael jawn, Job. 33. 24. 1 Tim. 2,6. ac nad yw efe yn disgwyl ond ini dderbyn ei Fab ef, ac y bydd efe yn gyfiawnder ac yn brynedigaeth [Page 115] i ni, Joan 1. 12. 1 Cor 1. 30. Ac am yr ufudd dod i ddyfod cyd-ddygiff a'chgwendid, ac ni bydd Feistr sarrug; er bod ufudd-dod gyflawn yn ddyledus iddo, etto derbyn un a diffig ynddi, am y byddo yn ddiffuant, Gen. 17. 1. Dihar. 11. 20. Er nad alloch dalu eich holl ddyled, efe a gymmer yn dda y peth sydd gennwch, yr ewyllys yn lle'r gallu, a'r bwriad cywyr ynghyfer y cyflawniad gwan 2 Cor. 8. 12. 2 Chron. 5. 8. Heb. 11. 17. Wrth ystyried fel y mae hynawsedd eich gwneuthurwr yn plygu attoch, gallaf ddywedyd wrthych fel y dywedodd ei weision wrth Naaman, fy nhâd, pe dywedasei y prophwyd beth mawr wrthit ti, onis gwnelsit? Pa faint mwy gan iddo ddywedyd wrthit ymolch a bydd lân 2 Brenh. 5. 13. Pe gofinnasei Duw gennwch ryw beth anhawdd tost, fel y byddei i chwi ddiangc rhag damnedigaeth dragwyddol, oni wnaech hynny? Beth os parei i chwi dreulio eich holl ddyddiau mewn anialwch anghyfannedd, ac mewn sorriant a newyn; neu i offrwm ffrwyth eich corph dros bechod eich eneidiau, oni dderbyniech chwi brynedigaeth dragwyddol yn ddiolchgar ar y fath ammodau? ie pe gorfyddei i chwi fod yn y tan dros lawer oes, a chwedi hynny cael gwarediad, ni byddei'r cynnig iw wrthod, am nad yw 'r boen ddim wrth dragwyddoldeb.
Yma y gall ddigwydd gwrthddadl, sef bod cymmaint anallu dyn i gyflawni dyledswyddau 'r Efengyl, ac i gyflawnu ammodau 'r gyfraith, a bod ffydd ac edifeirwch ac ufydd-dod ddiffuant. cyn anhawsed a'r hyn y mae'r gyfraith yn ei ofyn.
Attebaf i chwi, y gall y ffyddloniaid gyflawni [Page 116] dyledswyddau 'r Efengyl wrth dderbyn y grâs y mae Duw yn ei gynnig ynddi, am hynny syniwch yr hyn a ganlyn.
5. Y mae Grâs Duw yn barod i gynnorthwyo pobl i wneuthur y pethau sanctaidd nid allant ei cyflawni yn eu nerth eu hunain. Y mae Duw yn gwahodd ac yn estyn ei law Dihar. 1. 24. Er eich bod wedi cwympo i'r fath bwll o drueni ac nas gellwch ymgodi allan o honaw etto y mae Crist yn estyn ei law attoch, ac os boddwch yr achos yw am i chwi wrthod ei gynnorthwy ef. Y mae efe yn sefyll wrth y drws ac yn curo, os egir neb iddo, efe a ddaw i mewn atto, Datc. 3. 20. Er eich bod yn dlawd, yn druenus, yn ddeillion, ac yn noethion, y mae Crist yn cynnig jachau eich dallineb, a chuddio eich noethni, a diwallu eich tlodi, gan werthu i chwi aur fel ich cyfoethoger, a gwisc wen fel ich dillader, ac ennaint i'ch llygaid, fel y caffoch weled, Datc. 3. 17, 18. Ac os dywedwch nad oes gennych fodd i brynu, gwybyddwch y gellwch brynu heb arian ac heb werth, Esay 55. 1. Y prynu yma sydd wrth ofyn a diwyd arferu moddion Duw, Dihar. 2, 3, 4. Y mae efe yn cynnig goleuo dy feddwl, a dyscu iti ei ofni ef: Dy ddinystr yw gwrthod a chasau gwybodaeth, a bod heb ddewis ofn yr Arglwydd, Dihar. 1. 29. Na fynni ddeall, ac na ewyllysi wybodaeth o ffyrdd Duw, Job 21: 14. Pe gwaeddit ar ol gwybodaeth, ai cheisio fel arian, a chwilio am dani fel am dryssor cuddiedig; yna ceit ddeall ofn yr Arglwydd, ac y ceit wybodaeth o Dduw, Dihar. 2. 3, 4, 5. Dychwelwch wrth fy ngherydd (medd Duw) wele mi a ddywalltaf fy yspryd i chwi, Dihar. 1. 23. Wedi derbyn yspryd Duw, gellwch wneuthur y peth [Page 117] nid allech o honoch eich hunain o'r blaen: Perir i chwi ymolchi yn lân, Esay 1. 16. O Jerusalem a ymlanhei di, pa bryd bellach? Jer. 13. 27. ni wyddoch saint o gymmorth a wnaiff Duw i chwi, o byddwch daer yn gofyn iddo, Luc 11. 8. ac 18. 5. Pan baro rhyw ŵr cyfoethog i ddyn rheidus ddyfod at ei dŷ, mae hynny'n achos o obaith ir tlawd y caiff wellhâd wrth dyfod yno. Nid iw gwatwor y mae Duw yn gwahodd pobl i ddyfal gyrchu at foddion grâs, ond i wneuthur llês iddynt.
PEN. VIII. Yn Cynwys y Cload.
BEllach fy mrodyr beth a wnewch chwi, ai aros yn eich cyflwr pechadurus a marw, ai dychwelyd at Dduw am fywyd tragwyddol? Pa hyd yr ymdrowch chwi ac yr ymwy dynwch chwi yn Sodom, ac y cloffwch chwi rhwng dau feddwl? 1 Bren. 18. 21. Oni ddarfu i chwi fwriadu pa un a ddewiswch chwi ai Crist ai Barabbas, ai hyfrydwch ai gofid, ai Paradwys ai tir Cabul? 1 Bren. 9. 13. A ydych chwi yn ymddadlu pa un oreu ai Abana a Pharnar afonydd Damuscus, ai ffrydiau Eden? A yw pwllau drewllyd pechod yn well na dyfroedd y bywyd, y rhai sydd loiw fel grisial, ac yn dyfod allan oddiwrth orseddfaingc Duw a'r Oen? A wna'r bŷd gymmaint erddoch chwi, ac y wna Crist, ac a ddescin golud gyda [Page 118] chwi ir bêdd, Psal. 49. 17. 1 Tim. 6. 7. O blant anedwydd, pa hyd y glynwch rhwng y bru a'r bŷd? A orfydd i mi eich gadel fel y gorfu i Paul adel Agrippa o fewn ychydig wedi eich ennill i fod yn Gristianogion cywyr? Chwi a ellwch fod yn golledig felly; ni thal yr ychydig ddim oni byddwch gwbl Gristianogol. Os oes ynoch beth dymyniad am râs, rhoddwch eich bryd yn gryfach arno, na fydded i Satan beri i chwi oedi; tra fyddoch yn bwriadu gwellau gellwch farw cyn diwygio dim o'ch buchedd.
Os yn yr amser presenol hwn yr oedwch hyd amser arall, gall y cynwrf sydd ynoch oeri, a'ch Calon galedu drwy dwyll pechod: Dyma'r amser cymeradwy, a dydd jechydwriaeth. Nid yw heddyw rhy fuan iti i ddechreu bod yn fendigedig. O na wyddit ti, ie yn dy ddydd hwn y pethau a berthynant i'th heddwch, cyn eu bod yn guddiedig oddiwrth dy lygaid, Luc 19. 42. Hwn yw dy ddydd di, ac nid yw onid diwrnod, Joan 9. 4. Cafodd eraill eu dydd, a chwedi hynny derbyniasant eu barn. Oni wnei ditheu ddewis doeth yn awr, darfu am danat byth: Bydd dy gyflwr tragwyddol fel y bo dy ddewis presenol, Luc 10. 42. ac 16. 25. Dihar. 1. 27, 28, 29. Y mae bywyd a marwolaeth ar dy ddewis di, Deut. 30. 19. Tra yr oedd un o'r merthyron yn gweddio wrth yr stanc, cynnygied ei fywyd iddo, ond efe ai gwrthododd am fod yr ammodau yn bechadurus; ond y mae Crist yn cynnig ammodau hawdd ac anrhydeddus: Nac ymffrostia o'r dydd y foru, canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod, Dihar. 27. 1. Nac i ba letty y dwg y nôs di.
[Page 119]O Garedigion yn awr y mae yspryd Duw yn ymdrechu â chwi, ni wnaiff ef felly bob amser: Oni chlywaist dy galon yn cynhesu, a'th feddwl ym mron ymroi i Dduw? Na fydd fel Samuel ievangc heb wybod fod Duw yn dy alw, 1 Sam. 3. 6, 7. Buan y clyw'r Etholedigion lais eu hanwylyd, Can. Sol. 2. 8. Na fydd ditheu fyddar. Nid yw y lleferydd y sydd yn rhwygo'r cedrwydd, ac yn gwneuthur ir Mynyddoedd lammu fel lloi, nid turanau Sinai yw, ond y llais tawel araf. Nid swn y felldith, ond y fendith yw, a newyddion llawen o bethau da, Eph. 6. 15. 2 Cor. 5. 18, 20. Gallaf ddywedyd wrthit ti fel Martha wrth ei chwaer, Yr Athro a ddaeth ac y mae yn galw am danat, Joan 11. 28, 29. Ynteu fel Mair cyfod yn fuan a thyred atto. Y mae ei wahoddiad ef yn hael, nid iw yn gommedd neb, yr hwn sydd yn ewyllysio cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd, Datc. 22. 17. Dewch attafi medd Crist, cymmerwch fy jau i arnoch, a dyscwch gennifi, ac chwi a gewch orphwysfa i'ch eneidiau, Math. 11. 28, 29. A'r hwn a ddelo attafi, ni fwriaf ef allan ddim, Joan 6. 37. Y mae ef yn eich cael yn y tywyllwch a'r Carchar, ac oni fynnwch dyfod allan, Esay 42. 6, 7. Y mae efe yn eich galw i rydd-did, Gal. 5. 13. Ac i gerdded Uwybrau hyfryd, Dihar. 3. 17. Psal. 119. 165. 1 Pet. 1. 8. Chwi gleifion dewch at y pysygwr sydd yn jachau pob math ar ddoluriau ym mysc pobl, Math. 4. 24. Chwi rai annwybodus dewch atto ef, a fydd i chwi yn oleuni ac yn brophwyd, Esay 42. 6. Epn. 5. 14. Chwi dyngwyr, dewch atto, a maddeuir i chwi eich cabledd, Marc 3. 28. Chwi rai aflan dewch atto ef; a gwnaiff chwi yn [Page 120] llestri sanctaidd, 1 Thess. 4. 4. Gwrandewch watwarwyr sy'n gwawdio crefydd dewch atto ef a chymmer chwi iw drugaredd, Dihar. 1. 22, 23. Yn awr pw'r atteb a ddygaf oddiwrthych at fy Meistr? Gadewch i mi ddywedyd wrthych fel y dywedodd gwâs Abraham wrth rieni Rebecca, yn awr od ydych chwi yn gwneuthur caredigrwydd a ffyddlondeb a'm Meistr, mynegwch i mi, Gen. 24. 49. O na roddit ti yr fath atteb ac a roddes Rebecca panofynwyd iddi, a ei di gyda'r gwr hwn, hi ddywedodd, âf. Gen. 24. 57, 58. Och! na wnewch i mi droi 'r ymddiddanion serchog drwy y rhai y ceisiais eich denu at Grist yn Achwynion ich erbyn yn nydd y Farn? och! bydd esmwythach i Tyr a Sidon, i Sodom a Gomorrah yn y dydd hwnw nag i chwi, os gwrthodwch y drugaredd y mae 'r Efengyl cyn fynyched yn ei gynnig i chwi, Math. 11. 22, 24. Gwiliwch rhag i hyn i gyd fyned yn ofer, ac i'r farn draethu i'ch erbyn fel yn Jer. 6. 29, 30. lloscodd y fegin, gan dân y darfu'r plwm, yn ofer y toddodd y toddudd, canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymmaith. Yn arian gwrthodedic y galwant hwynt, am wrthod o'r Arglwydd hwynt.
O Arglwydd Tâd yr ysprydoedd, cymmer di yr galon y sydd ry galed i'm gwendid i i'th law dy hûn, ac na pheidia di lle'r wyfi yn gorphwys. Hanner gair oddiwrth dy awdurdod ti, a ddichon wneuthur y peth. Genniti y mae agoriad Dafydd, pan agorech di, ni all neb gau, agor di galon y Darllenydd fel y gwnaethost yr eiddo Lydia, a thi frenin y gogoniant dos i mewn iddi. Na âd ir hudwr ei chaledu drwy oedi, nac ir dyn ollwng [Page 121] y pethau o'r blaen o'i feddwl, nes iddo roi cwbl o'i fryd ar adel ei bechodau a derbyn bywyd. Yn dy enw di O Arglwydd y cymmerais i hyn o waith mewn llaw, ac yn dy enw di y dibenaf ef: Anfon gyfarwyddyd dy yspryd i'r darllenydd fel yr anfonaist i'r Eunuch, tra yr ydoedd efe yn darllen y gair, ac ennillir ei Enaid iti drwy athrawiaeth y llyfran hwn.
Amen.
PEN. IX. Yn Cynwys Cyngor i Dduwioldeb personawl a Theuluaidd.
FY ngharedigion, nid oes genif obaith weled eich wynebau chwi yn y nefoedd, oddieithr i chwi ymarferu a sancteiddrwydd yma ar y ddaiar. Am hynny cymerwch ofal diwyd am ollwn yr Arglwydd Jesu i reoli yn eich calonnau chwi eich hunain yn gyntaf: Ac edrychwch yn ddyfal ar i chwi drin eich holl achosion bydol wrth ei fodd ef. Edrychwch ar holl orchymynion Duw, a threfnwch eich holl feddyliau a'ch geiriau a'ch gweithredoedd wrthynt, Psal. 119. 6, 34. Os yn ystyriol ac yn arferol, ac yn ewyllysgar y llochwch un pechod, derfydd am danoch byth, Psal. 68. 21. Ezec. 18. 20. ceisiwch eich calon yn wir rasol, ac onidê chwi adeiledwch yn ofer heb sylfaen Siccr. A phan gaffoch ras oddifewn, arferwch ef yn eich bucheddau oll. Rhoddwch yr eiddo Duw iddo: Nac esceuluswch [Page 122] weddio atto ef; dyn diweddi sydd ddiras, Psal. 14. 4. Job 15. 4. Chwiliwch yr yscrythyrau beunydd, Joan 5. 39. Nid all neb roi hawl i wynfyd ond yr hwn sydd ai ewyllys ynghyfraith yr Arglwydd, ac yn myfyrio ynddi ddydd a nôs, Psal. 1. 1, 2. Cymmerwch ofal am gyssylltu ynghyd grefydd tuag at Dduw, a chariad tuag at ddyn. Bydded uniondeb a thrugaredd yn eich holl farchnadoedd ach achosion. Bydded diweirdeb a sobrwydd ich dilyn. Bydded gwirionedd a difrifwch, a gweddeidd-dra yn harddu eich ymadroddion chwi, a gostyngeiddrwydd a dioddefgarwch, a symlrwydd, a diniweidrwydd yn eich holl ymarweddiad chwi. Maddeuwch ir neb a wnelo gam i chwi, a gwnewch dda iddynt am eu drwg, fel y byddoch blant ir goruchaf. Byddwch arafaidd yn addaw, a gofalus yn cwplau. Cyflawnwch y dyledswyddau perthynol i'ch cyfneseifiaid. Na fydded neb o honoch yn dyngwr, nac yn gelwyddwr, nac yn dilyn' cyfeillach ddrwg, nac yn feddwyn, nac yn watwarwr, nac yn faleisus, nac yn gybyddus, nac yn dwyllwr, nac yn Gynhenwr, nac yn lleidr, canys dinistr yw diwedd y cyfryw rai, Dihar. 13. 20. Jag. 5. 12. Datc. 21. 8. 1 Cor. 6. 9, 10. Gal. 5. 19, 20, 21.
Yn ail cymerwch ofal am fod duwioldeb yn eich teulu. Yr hwn sydd hoff ganddo ddaioni yn ei galon, a fydd hoff ganddo ei weled yn ei dŷ hefyd. O na bie pob teulu fel Eglwys Gristianogol, a phob tŷ yn dŷ gweddi, 1 Cor. 16. 19. A phob pen teulu yn dywedyd fel Joshua, Myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd, Josh. 24. 15. Ac fel Dafydd, Rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ, [Page 123] Psal. 101. 2. Ac er mwyn hynny gwnewch y ganlyn.
1. Na thybiwch fod pethau crefyddol iw cyflawni yn eich teuluoedd yn unic pan gaffoch ennyd oddiwrth achosion bydol, eithr edrychwch ar weddiau mor rheidiol a'ch prydiau bwyd. Cydnabydded teuluoedd fod eneidiau ei deiliaid wedi eu rhoddi dan eu golugiad hwynt, ac y gofynnir ganddynt hwy gyfrif am y rhai a gyfrgoller drwy eu esceulusdra hwy: A'r pryd hynny y cant weled fod gwaed eneidiau yn euogrwydd trwm, mogelont ynteu rhag ei gael yn eu godreu hwy, a rhagddarparont fwy na bwyd tuag at eu plant a'u gweinidogion, canys rhoddant borthiant iw haneifeiliaid.
2. Ymarferwch a darllen y gair, ac a chanu Psalmau yn eich teuluoedd, Psal. 118. 15. Esay 34. 16. Joan 5. 39. Darllenir i Grist ganu hymnau gydâ ei ddiscyblion, y rhai oeddent ei dylwyth ef, Math. 26. 30. Luc 9 18.
3. Megis ac yr ydych yn mynnu cyfrif gan eich deiliaid o'r gorchwylion bydol dan eu dwylo, felly holwch hwynt beth a gofiant o air Daw a glywont, a pha fodd y bônt yn llesau wrtho. Ystyriwch Esampl Crist yn holi ei ddiscyblion, Math. 16. 11, 13, 15. Diammeu os arferwch hyn y cewch chwi weled cynnydd eich deiliaid mewn gwybodaeth a dawn dâ. Yn ddyfal ceisiwch wybod eu cyflyrau ysprydol, a'u hargyoeddi o drueni, a lygredigaeth eu patur, ac o angenrhaid yr ailanedigaeth, gan geryddu ei beiau yn ddifrifol, a choleddu pob rhinwedd dda ynddynt er gwanned fyddo. Crybwyll yr Efengyl pan fyddei Crist yn y tŷ, ac wrtho ei hun, yr arferei efe yspyssu iw ddiscyblion [Page 124] byngciau rheidiol eu deall, a'u holi oeddent yn eu cofio, ac yn dirnad, Math. 13. 10, 36, 51. Marc 4. 10, 11.
4. Edrychwch ar i'ch tylwyth gadw dydd yr Arglwydd yn sanctaidd, Exod. 20. 9. Lev. 23. 3. O byddwch mor ystig tuag at orchwylion Duw ar y dydd hwnw, ac y fyddwch yn eich gorchwylion eich hun hyd yr wythnos, diammeu y cewch weled budd ysprydol wrth hynny.
5. Bob boreu a hwyr yn barchedig ac yn ddifrifol offrymmer ir Arglwydd aberth gweddi a moliant gan yr holl deulu ynghyd, Psal. 92. 1, 2. Exod. 30. 7, 8. Luc 1. 9. 10. Gwae'r teuluoedd ni alwant ar enw Duw, tywelltir digofaint arnynt, Jer. 10. 25. Gofynnir i ni weddio bob amser, â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr yspryd; a gweddi deuluaidd sydd gynwysedic yn y lle hwnw, Eph. 6. 18. Y mae pechodau a deffygion teuluaidd, a llwyr y dyleu fod gweddiau teuluaidd hefyd, a diolchgarwch teuluaidd am eu thrugareddau. Na ddywedwch nad ydych yn cael amser i hyn, canys er mwyn hyn yr ydych yn cael eich holl amser gan Dduw. Ac na ddywedwch fod eich gwaith budol ich rhwystro, canys nid oes waith yn y byd reitiach na gwasanaeth Duw, ac iechydwriaeth eneidiau, ac y mae gweddi deilwng yn dwyn bendith ar bob peth a ddrinioch, Jer. 29. 12. 13. .2 Sam. 7. 29. Na ddywedwch chwaith nad oes gennych ddoniau cymwys i weddio: iawn arferwch yr un dalent sydd gennych, a Duw ai chwanega. y mae help iw gael nes i chwi gryfhau. Gall y teulu gwan uno ag un a fyddo gryfach: Da gan Dduw fod pobl yn cydweddio, Jag 5. 14, [Page 125] 16. hyd 19. adn Act. 12. 5, 10, 12. 2 Cor. 1. 11. Am hynny gwnewch eich goreu ar ryngu bodd Duw ynghylch y ddyledswydd hon mewn teuluoedd gyd ag mewn Eglwysydd.
6. Ceisiwch hefyd gan bob un o'ch teulu weddio beunydd ar ei ben ei hun. Mynnwch wybod a fyddont yn gwneuthur felly, a phwy bynnag o honynt a fyddo anfedrus yn y ddyledswydd, ceisiwch eu helpu, gan roddi iddynt ffurf o weddi hyd oni allont adrodd eu dymuniadau â'u geiriau eu hunain. Cyfarwyddwch hwynt pa fodd y dylent weddio, canys felly y gwnai Crist ac Joan Fedyddiwr er y rhai ai dilynent, Luc 11. 1, 2.
7. Arferwch gateceisio eich plant a'ch gweinidogion o'r lleiaf unwaith yn yr wythos. Yn ddyfal ufuddhawn i orchymyn Duw, am ddyscu crefydd i'r rhai a fyddo dan ein golugiad ni, ac hyspyssa ei eirian ef i'n plant, a chrybwyll aw danynt pan eisteddom yn y tŷ, a phan gerddom ar y ffordd, Deut. 6. 7, 8, 9. ac 4. 9, 10. ac 11. 18, 19, 20. Ac y mae yr yscrythur yn rhoi calon ynom i'r gwaith, gan ddywedyd, Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi, Dihar. 22. 6. Canmolodd Duw Abraham am orchymyn iw blant ac iw dylwyth ar ei ol gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, Gen. 18. 19. A bod ganddo weision hyfforddus, Gen. 14. 14. Ac wrth grybwyll hynny addawodd ddaioni iddo. Bydded i chwithou geisio cyfran yn y cyfryw gammoliaeth, ac addewid. Arhosodd Crist yn ieuangc ym mysc yr Athrawon oeddent yn catecheisio yn y deml, Luc 2. 46.
Os bydd eich tylwyth yn anhydyn i ddyscu, arferwch eich awdurdod arnynt yn y peth [Page 126] hynny, gystal ac mewn pethau eraill: ie yn hytrach o lawer am fod y peth yn perthyn i ogoniant Duw, a lleshâd iw heneidiau hwynt. Chwi au gelwch hwynt i fynu, ac au cymellwch hwynt i'ch gwaith, ac oni ddylech fod mor daer iw gosod ar waith Duw? Ac o bydd neb ryw rai o honynt a dealltwriaeth gwan, byddwch ddiwyd ac ymarhoes wrthynt, hyd oni ddyscont wyddorion eglur crefydd, gystal a dirgelwch eich crefft. Os mynech weled crefydd yn ffynnu, ac annuwioldeb yn lleihau, byddwch ddiwyd yn y ddyledswydd hon. Bydded eich calonnau a'ch teuluoedd yn demlau i'r Duw byw, lle caffo efe ei addoli yn ddifrifol beunydd, fel y byddoch fendigedig, ac yn fendith i'ch tylwythau.
PEN. X. Yn cynwys y rhagoriaeth y sydd Rhwng gwir Gristianogion ac eraill.
MAth. 5. 47. Pa rhagoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? Y mae 'r yscrythyr hon yn rhoi achlysur i ni i chwilio beth a ddylai gwir Gristianogion ei wneuthur y tu hwnt i bobl eraill, ynghylch yr hyn destyn cawn oleu-fyneg wrth ystyried y pethau a ganlyn.
1. Cywyr Gristion a gâr y Sawl ai casânt ef, ac a ewyllysia yn dda ir Sawl a geisiant [Page 127] wneuthur iddo ddrwg. Y mae hyn yn hyspys yn y geiriau sydd yn rhagflaenori 'r testyn. Math. 5. 44, 46. Medd Crist yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: Gwnewch dda i'r Sawl a'ch casânt, a gweddiwch tros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant: Oblegid os cerwch y Sawl a'ch caro pa wobr sydd i chwi? Oni wna'r Publicanod hefyd yr un peth? Ac os cyferchrwch well i'ch brodyr yn unig, onid ydyw y publicanod befyd yn gwneuthur felly? Meidr pawb hoffi'r Sawl ai hoffant hwy, ond dymuno'n dda ir Sawl a wnelo ddrwg ini sydd anaml, a phriodol i wir Gristion yn unig. Dywedodd Athro enwog am un ydoedd yn anghyttuno ag ef mewn rhai pethau, yn ei wŷn pe galwei fi 'n gi, tystiolaethwn ei fod: ef yn wâs i Grist er hynny. Yscrifennir am y merthyr Escob Cranmer y gellid ei gael ef yn dirion wrth wneuthur anghymwynas iddo, a rhai oi eiriau diweddaf ef a ddywed, na chawsei efe fwy hyfrydwch mewn dim yn y bŷd nag wrth faddeu 'r cam a wneid iddo, a gwneuthur tiriondeb ir rhai a geisient niwed iddo. Meddwl ditheu ddarllenydd am y rhai sydd yn chwareu yn attcas â thi, ac ystyria pa fodd y gellych wneuthur iddynt leshâd, gan weddio drostynt, fel y byddech blentyn i'th Dâd yr hwn sydd yn y nefoedd, yr hwn sydd yn peri iw haul godi ar y drwg a'r da, Math. 5. 45.
2. Cywyr Gristion a gerdd tua'r nef er ir byd geisio ei rwystro ef, nofia yn erbyn ffrwd y lliaws, fel y gwna'r pyscod byw yn erbyn y dwfr, y rhai marw a dreiglant gydâ'r llifeiriaint. Trodd llawer yn Iuddewon pan oedd y byd yn gwenu arnynt, Esth. 8. 17. Pan fyddo [Page 128] crefydd mewn ardderchawgrwydd bydol aml fydd y Sawl a wisco ei lifreu; cais llawer ymwisco â hi tra fyddo mewn ffasiwn, ac yn peri iddynt harddwch a chymeriad ym mysc pobl: Ond pan fyddo'r bŷd yn ei herlid, a'r rhan fwyaf o ddynion yn ymwrthod â hi, ac yn ei mathru dan draed, bydd ir Cristion cywyr y pryd hynny ddilyn duwioldeb yn ofalus, ac yn hynny efe a ragora ar eraill. Tra bu Alexander yn Swccro'r Juddewon, ymhonneu'r Samariaid eu bod hwytheu yn Juddewon hefyd. Ond wedi hynny pan darfu i Antiochus waedlyd erlyd yr Juddewon yn filen, darfu ir Samariaid wadu 'r garennydd oedd rhyngthynt, yna taerasant eu bod o genedl arall. Ond un grasol fel Joshua a ddengis fwriad cryf i wasauaethu Duw er i eraill wrthod hynny. Fel Noah bydd wr perffaith yn ei oes, er ei bod yn dra godinebus a ffiaidd, a rhodia gyda Duw, er bod pawb yn taro eu hysgwyddau wrtho iw daflu yn ol, ac iw dynny i'r fuchedd, lygredig y fyddo gyffredinol. Ac fel y tri phlentyn, yn hytrach y tri chedyrn, y rhai ni rusasant addoli Duw, ai gyffessu, er maint ydoedd gwawd y lliaws, a bygythion y gwyr mawr iw tynny at eulynod. Er ir tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, tryssorwyr, cyfreithwyr, llywodraethwyr y taleithiau, a'r holl bobloedd, a'r cenhedloedd, a'r ieithoedd syrthio ac adddoli 'r ddelw, a bod ffwrn o dân poeth i dderbyn y sawl nis gwnai felly, etto y tri Israeliaid ffyddlon a safasant yn erbyn y cwbl, gan wrthod y llygredigaeth yr ydoedd eraill yn ei chofleidio yn ewyllyscar, Dan. 3. 3, 7, 18. Safodd Athanasius gyda Christ pan oedd yr holl fyd agos yn ei erbyn, ac felly y gwnaeth Luther hefyd.
[Page 129]3. Cymer y gwir rasol y gofal mwyaf am yr hyn sydd allan o olwg dynol: Edrych at ei galon, ac yn hynny y bydd ei gyfiawnder ef yn rhagori ar un y Pharisaeaid, y rhai a ofalent yn unic am wneuthur y tu allan yn lân, yn y dirgel y cais yr enaid ffyddlon gymundeb enwedigol â Duw. Ymegniai Paul i gadw 'r tu fewn yn bur, ai gydwybod yn ddidramgwydd tuag at Dduw a dŷn, Act. 24. 16. Ac astud y glynodd Job yn ei berffeithrwydd, ac ni chai ei galon ei wradwyddo ef tra fyddai byw, Job 27. 16. Edrych hefyd at ei obaith am y bywyd arall, na frycho efe mo'i yscrifenadau am ei etifeddiaeth dragwyddol.
4. Bydd ddiccach wrtho ei hun am bechu, nag wrth neb arall, fel meddig chwilia friwiau, a chuddia noethni eraill, ond galara am yr eiddo ei hun yn fwy, a chwilia hwynt yn ddwysach, nid oes mor fath feddwl yn un rhageithiwr, yr hwn ny fynn weled y trawst yn ei lygad ei hun. Cerydda 'r gwir Gristion feiau rhai eraill yn addfwyn, ai rai ei huu yn llym.
5. Ymroddiff y gwir rasol i ddioddef yn hytrach nag i bechu, pan gymeller ef i un or ddau. Felly y dewisodd Moses adfyd gydâ phobl Dduw yn hytrach na mwyniant pechod. Heb. 11. 25. Ond yn y gwrthwyneb y rhagrithiwr a ddewis bechod o flaen cystydd. Tra fyddo llwyddiant bydol a'r efengyl yn myned ynghyd hyd yr un ffordd, gall dyn llygredig eu dilyn; ond pan ddelont at groesffordd ac iddynt ymadel ai gilydd, yna y troiff ynteu ar ol yr hyn bydol, a gedi'r Efengyl oi ol. Gwell ganddo 'r budd nai ddyledswydd. Gommeddodd y Merthyr dan [Page 130] Julian roddi dimmeu tuag at deml eulun i achub ei fywyd. A phan geisiodd pendefigion gan Eleazer yr Archoffeiriad fwyta cig arall yn rhith cig môch, fel y gallent felly fwrw niwl yn llygaid Antiochus, dewisodd y gwr sanctaidd farwolaeth yn hytrach na llygru ei grefydd ag ymddangosiad o ddrwg. Pan fyddo Cristion mewn cystudd, a chynnig iddo warediad os pecha, ac ynteu yn ei gwrthod, fel y gwnaeth y merthyron gynt, yn hynny y rhagora efe ar ragrithiwr, Heb. 11. 35. Canmoliff yr Apostol y rhai a ddirdinnwyd heb dderbyn ymwared, fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.
6. Je daw 'r gwir rasol i ddioddes colledion er mwyn Crist yn Siriol, ac i orfoleddu dan y groes. Gwywa rhai dyscyblion pan ddel brwdaniaeth erlid, ond y rhai fydd â gwlith grâs yn en calonnau a dyfant, ac a orfoleddant mewn gorthrumderau er mwyn Crist, Rhuf. 5. 3. A llawenychant eu cyfrif yn deilwng i ddioddef gwradwydd er mwyn ei enw. Canodd Paul a Silas fawl i Dduw yn y Cyffion o fewn y carchar, an cefneu yn ddolurus wedieu fflangellu yn filen; yr ydoedd y Merthyron diweddaraf yn cofleidio 'r coed, ac yn cussanu'r stangc, pan rwymid hwynt iw llosci yn fyw. Dywedodd Philpot fywiol am ei garchar, ei fod ef yn cael yno ddiddanwch nefol er bod y byd yn ei dybied yn uffern. Yn y pethau hyn y mae Cristianogion cywyr yn dra godidog.
7. Ymgynnal y gwir rasol ar addewidion Duw pan fyddo eraill yn rhoddi eu holl hyder ar eu meddiannau, ac yn cyfrif geiriau Duw yn wynt; ond yn addewidion Duw y mae etifeddiaeth y grasol, attynt y cyrchiff ym [Page 131] mhob llescedd, bydd ei obaith yn y gair, pan fyddo eraill au gobaith yn eu golud.
8. Y grasol a wada ac a gaethiwa ei gnāwd, pan fyddo eraill yn ei foddhau. Da gan y llygredig gyflawni eu chwantau, ond gwell gan y grasol en gorchfygu.
9. Bydd eu zel hefyd am ogoniant Duw, yn fwy nag am eu hachosion eu hun. Yr ydoedd Paul mor addfwywn a'r oen yn goddef y cam a wneid iddo ef, 1 Cor. 4. 12. Ond cythryblyd ei yspryd pan welai ddianrhydeddu Duw, Act. 17. 16. Yr ydoedd Moses yn wr addfwyn, ond ennynnodd ei ddig wrth weled y llô.
10. Bydd arswyddus rhag gwneuthur y pechodau lleiaf, ond yn enwedig rhag gwneuthur y rhai mwyaf, os gochel rhageithiwr bechodau amlwg preiffion, ni rufa ef y rhai mân: Ac os bydd gofalus am bethau bychain, efe a Esceulusa bethau pwysfawr. Y Pharisaeaid a hidlent y gwybed, ac a lyngcent gamelod, Math. 23. 24. Ni fynnent i Grist iachau ar y Sabboth, nac ir dyscyblion fwyta 'r pen tywys pan oedd arnynt chwant bwyd, ac etto llwyr fwyitaent dai gwragedd gweddwon, Math. 23. 14. Ni feithrina Cristion diffuant un anwiredd; gofidia, a thuchan, a gwaedda, ac ymdrecha yn erbyn ei wendid dynol yn y pethau lleiaf, a bydd tra diwyd yn y dyledswyddau mwyaf eu pwys, wrth ddegymu Cummin, nid esceulusa farn, a thrugaredd, a ffydd: er gwybod traddodiadau dynion, gofeliff rhag troseddu gorchymynnion Duw, Math. 15. 2. & 23. 23. Ei zêl mwyaf a fydd am y pethau fydd nesaf at galon Crefydd.
11. Ceriff y sawl ai argyceddo o feiau; yn [Page 132] hyn y rhagorodd Dafydd ar Ahab, 1 Brenh. 22. 8. Psal. 141. 5.
12. Annela at ogoniant Duw ym mhob peth a wnelo. Diben fydol a fydd gan y rhagrithiwr yn gwneuthur pethau ysprydol, a diben dduwiol a fydd gan y gwir Gristion yn gwneuthur pethau bydol. Rhodia gyda Duw heb ymadel, ac ni rydd weithiau drô byr gydag ef, ac yna dychwelyd yn hollhawl at y bŷd, neu ir pechod: eithr yn y modd taeraf cais deyrnas nef yn bennaf, a'i galon a ddywed fel Dafydd, un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf, Psal. 27. 4.
13. Tra fo'r rhagrithiwr yn ceisio cyflog crefydd yn unig, ymhyfryda'r gwir Gristion yn y gwaith: A chydâ Dafydd, Dewis orchymynion Duw, a hynny yn etifeddiaeth iddo, ac nid yn gaethiwed, yn hyfrydwch, ac nid yn boen. Nid yw'n arfer dyledswyddau ysprydol fel pysygwriaeth yn unig rhag cnofa cydwybod, ond fel ymborth jachus a melys.
14. Yr hwn sydd ganddo gywyr râs a gais gyflawn râs. Eraill ni cheisiant ond prin ddigon iw dwyn ir nef, a goreu ganddynt pa lleiaf a wasanaetho iw dwyn yno; ond ymgyrhaeddiff y dyn pur am berffeithrwydd o sancteiddrwydd, Phil. 3. 14.
PEN. XI. Yn cynwys y modd y cais gwir Gristion fodloni Duw.
CYn y gallo neb ryngu bodd Duw rhaid Iddo geissio cymmod ag ef drwy Jesu Grist, Heb gymod nid all dau gydrodio yn heddychol. Cyssenwch y mâb, Psal. 2. 12. Ac ymroddwch iddo, ac yna dilynwch y rheolau hyn.
1. Ymwrthodwch â phob pechod. Canys eich anwireddau sydd yn gwahanu rhwng Duw a chwi; os hoffi bechod yn dy galon ni wrendi Duw arnati, Psal. 66. 18. Os ymhyfrydi mewn anghyfiawnder, nid ymhyfryda Duw ynoti, canys câs ganddo weithredwŷr anwiredd. Os arbedi un Agag, nac Herodias, na'r llygad deheu, ni arbed Duw monoti; dywed wrth dy holl eulynod, ewch ymmaith.
2. Gwisc am danat yr Arglwydd Jesu Grist. Cafodd Enoch dystiolaeth iddo foddhau Duw, a thystiolaethwyd yn fynychach mai yn Ghrist y bodlonir Duw. Na thyred at Dduw yngharpiau budron dy gyfiawnder dy hun, onid â Christ yn dy freichiau. Cais y fendith yngwisc dy frawd hynaf, rhag iti gael melltith yn ei lle. Pe gellit ymolchi yn heli dy ddagrau, ni ddeleuit aflendid pechod heb waed Crist. A chydâ cyfiawnhâd cais ganddo Sancteiddiad. Tra fyddech yn y cnawd ni elli ryngu bodd Dduw, Rhuf. 8. 8. Nes gwneuthur y pren yn dda, nid all ei ffrwyth fod yn beraidd, ac nes glanhau'r ffynnon ni all yr aber fod yn groiw. Yn [Page 134] enwedig ymarferwch â'r rhadau hyn; sef (i) ymdrwsiwch oddifewn a gostyngeiddrwydd, 1 Pet. 5. 5. Rhaid gwasanaethu'r Arglwydd gydâ phob gostyngeiddrwydd, Act. 20. 19. (2.) Ag uniondeb calon. Gen. 17. 1. Gweddi yr union sydd hoff ganddo. Dihar. 15. 8. A hoff ganddo ef y rhai sydd berffaith yn eu flyrdd. Dihar. 11. 20. Nid ettil yr Arglwydd ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn uniawn, am hyn y canmolodd Duw Noah, a Job.
3. Bydded ynoch yspryd zêl a bywiogrwydd. Bodlonodd Duw yn dirfawr i zêl Phineas, Numeri. 25. 11, 12, 13. A thrôdd ei ddigofaint oddiwrth yr holl gynnulleidfa er ei fwyn. Ond y rhai sydd yn ddifatter ganddynt am ffyrdd Duw, sydd diflas ganddo: A chwydiff allan o'i enau y rhai nid ydynt nac oer na brwd, Datc. 3. 16. Y rhai a brynodd Crist a fyddant awyddus i weithredoedd da, Tit. 2. 14. Nid yn ddiog mewn diwydrwydd, ond yn wresog yn yr yspryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd, Rhuf. 12. 11: Act. 18. 25. ac 26. 6, 7.
4. Byddwch fyw drwy ffydd, ac onidê nid ymfodlona Duw ynoch: Na fyddwch o'r rhai sy yn tynny yn ôl i golledigaeth, namyn o ffydd i gadwedigaeth yr Enaid, Heb. 10. 38, 39. Gwerthfawr yw ffydd yngolwg Duw, 1 Pet. 1. 7. ac 2 Pet. 1. 1. Heb ffydd amhossibl yw rhyngu bodd Duw, Heb. 11. 6. Rhuf. 4. 20. Ffydd y Canwriad a barodd iddo gael canmoliaeth gan Grist, Math. 8. 10. Ffydd y wraig o Ganaan a annogodd Grist iw chanmol, ac i ganiattau ei deisyfiad, Math. 15 28. Attebodd yr Jesu ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded iti fel yr wyt yn ewyyllysio. A'i merch a jachawyd o'r awr honno allan. Arferwch ffydd i orchfygu profedigaethau'r bŷd, 1 Joan 5. 4. [Page 135] Mewn llwyddiant cedwch y ddaiar dan eich traed, a thrwy ffydd edrychwch ar dragwyddoldeb. Mewn adfyd wylwch megis pettech heb wylo, gan edrych ar Grist; a dioddef y groes, a dirmygu gwradwydd, ai gymeryd yn glôd i chwi, a chyffelybu'r byr yscafn gystudd a'r tragwyddol bwys o ogoniant, Heb. 12. 2. Act. 5. 41. 2 Cor. 4. 17. Rhuf. 8. 18.
5. Ymdrwsiwch â chuddiedig ddŷn y galon, mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr, 1 Pet. 3. 4. Ceisiwch debygu i'ch Tâd gan fod yn hwyrfrydic i ddig, ac yn rhwydd i drugarhau, Psal. 103. 8. 8, 9. Ceisiwch addfwynder, ni thrig y glomen yn y galon ddigllon; oen yw Crist, na fydd di flaidd. â'r trugarog y gwna Duw drugaredd ond â'r cyndyn yr ymgyndynna, Psal. 18. 25, 26.
6. Gwedwch yr hunan ynoch. Bodlonwch Dduw yn fwyaf, pan foddhaoch eich llygredigaethau leiaf. Byddwch fodlon i ddarostyngiad fel y caffo Crist ei ddyledus dderchafiad, Joan 3. 29. 30. Yn ddirfawr y gwadodd Abraham ei hun pan ufuddhaodd i orchymyn Duw i aberthu ei fab, ei unig fab o Sara, ac heir yr addewid, pan oedd ei fywyd ef wedi ei rwymo ym mywyd y llangc, Gen. 22. 15, 16, 17, 18. Rhyfeddol fu Moses yn gwrthod ei alw yn fâb merch Pharao, gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gydâ phobl Dduw, na chael mwyniant pechod tros amser, Heb. 11. 24, 25. Ac mor rhyfeddol fu ei gymeriad ef gyda Duw, canys cafodd adnabod yr Arglwydd wyneb yn wyneb, Deut. 34. 10. Fel y llefara gwr wrth ei gyfaill, a chai ei wrando ym mhob deisyfiad, ac er ei fwyn arbedid y bobl, pan fyddei dialedd yn barod i syrthio arnynt: A phwy bynnag a ddywedai yn [Page 136] ei erbyn, cai ddwyn ei anwiredd, Num. 12: 8, 9. A digofaint yr Arglwydd a ennynnai yn eu herbyn hwynt.
Wedi glanhau eich eneidiau fel y rhagddywedpwyd, edrychwch at eich gweithredoedd ar eu bod wrth y rheolau a ganlyn: Sef
1. Bod gennych air Duw yn gorchymyn y peth a wneloch, ac na byddoch yn dilyn dychymygion eich calonnau eich hunain, Num. 15. 39. Eithr bod Duw yn gofyn ac yn ceisio ar eich llaw chwi, yr hyn yr ydych yn myned yn ei gylch, Esay 1. 12.
2. Bod eich Amcan ar ogoneddu Duw yn y pethau a wneloch. Eisieu cywyr ddiben pechodd y Pharisaeaid, a Jehu wrth wneuthur y pethau oedd orchymynedig.
3. Bod eich gweithredoedd yn deilliaw oddiwrth wir radau ynoch: megis ffydd, ni thal gweddi ddim hebddi, Jag. 1. 6, 7. A chariad, pe rhoddem ein da ir tlodion, a'n cyrph ir tân heb gariad, ni lesaeu i ni. Lle byddo caeth ofn, neu bigiad cydwybod, neu wâg ogoniant yn gosod pobl ar ryw orchwylion, ni byddant gymeradwy gan Dduw. Bydded ynoch ofn duwiol, a pharch i enw Duw, ac ystyriaeth pwyllog o'i bresennoldeb ef, ac y dylem fwriadu gogoniant Duw yn ein holl orchwylion ysprydol a bydol, gan wasanaethu 'r Arglwydd Crist ynddynt, Col. 3. 24. Y mae 'r grasol yn gwasanaethu Duw drwy ei lafur ar ddyddiau gwaith, gydag ar orphwyssa'r Sabbath. Nid oes un o blant Duw yn byw iddo ei hun, Rhuf. 14. 7. Eich dyledswydd yw ceisio dyscu ar y Sabbath, pa fodd i wasanaethu Duw drwy'r wythnos. Teilwng yw 'r Arglwydd i dderbyn gogoniant ac anrhydedd, canys efe a greawdd bob peth, ac o herwydd ei ewyllys ef y maent, ac y crewyd hwynt, Datc. 4, 11.
[Page 137]Mawr yw 'r cyssur i'r rhai a ymegniant i fodloni Duw, canys byddant anwyl ganddo ef, a gwae fydd ir neb a'i niweidio, gwell fyddei iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a'i daflu i'r môr, nag iddo rwystro un o'r cyfryw, Luc. 17. 2. Y neb a wnel gam a Sainct Duw a friwant ganwyll ei lygad ef, Zech. 2. 8. Y neb a gyffyrddo â hwynt ni bydd dieuog; ni edi i neb eu gorthrymmu yn rhâd, ceryddiff frenhinoedd o'i plegit, gan ddywedyd, na chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi, Psal. 105. 14. 15. A bendithia y sawl a'u bendithiant, Gen. 12. 3. Eithr dial ar yr annuwiol am bob gair caled a ddywedont yn eu herbyn, Jude 15. O ddarllenydd, oni weli mai dedwydd ywr bobl y mae felly iddynt, y mae Duw mor dyner tuag attynt, a chyfrif y caredigrwydd a wneler iddynt hwy, megis pe gwnelid iddo ei hun, Math. 25 40, 45. A phob cam a wnelir iddynt hwy, megis pe gwneid iddo ef Act. 9. 4. A chaiff y rhai a fodlonont Dduw ddiddanwch tragwyddol oddiwrth eu hufudddod amserol. Y rhagrithwyr a geisiant eu bodloni eu hunain, a dynion eraill, a dderbyniant eu gwobr yma, ond nid yw ond gwael, Math. 6. 5. cant dipyn yn yr amser presennol, ond ni chant ddim yn dragywydd. Doethineb pobl Dduw yw mudo 'r pethau sydd ganddynt o'u blaen i'r nefoedd, lle cânt breswylio byth. Nid oes i neb ond cymeriad byr ar ei drigfa yn y bŷd hwn, am hynny goreu i bob un adeiladu a phlannu ar yr etifeddiaeth dragwyddol, lle caiff breswylio yn oes oesoedd. Yr hyn a hauo 'r Sainct ir yspryd yma hwy yn ol hyn a fedant o hono fywyd tragwyddol, wrth ryngu bodd Duw yma y maent yn tryssori iddynt eu hunain dryssor yn y nefoedd, a hynny [Page 138] wrth bob daioni a wnelont beunydd, ni bydd un boen yn ofer a gymeront yngwaith Duw, 1 Cor. 15. 58. na chymaint a chwppaned o ddwfr oer a estynnont i ddyscybl Crist heb wobr bythol. Difudd ir annuwiol a fydd y pethau a wnant wrth ewyllys eu cnawd, os cânt edifeirwch a maddeuant am danynt, ni chant mor gwobr o'u herwydd, ac onid edifarhânt cânt ddialedd anoddefa lwy, am nad yw gymwys ir llestr fod heb wasanaethu 'r crochenydd, nac ir hwn a gaffo ei luniaeth a'i fod gan ei Arglwydd, wrthod ufyddhau iddo. Y mae Duw yn yscrifennu yn ei lyfr beth a wnelo rhai beunydd; ni bydd cyflog dda wedi ei roddi ar lawr yno wrth enw un dyn, ond am y peth a wnelo i ogoniant Duw. A hynny a bar i bechaduriaid ddywedyd pan ddel amser cyfrif, er i ni boeni ar hyd y nôs ni ddaliasom ni ddim. Luc. 5. 5. Fel plant man, er iddynt fod yn bryssur drwy 'r dydd, etto ni wnant ond oferedd.
Ym mhellach rhaid ir sawl a fynnont fodloni Duw ystyried fod ei orchymyn ef yn dra ehang, Psal. 119. 96. A dyledswyddau cariad yn llydain, ac yn aml. Am hynny tra gwnelom un peth, mogelwn esceuluso 'r llall. Tra 'r edrychom attom ein hunain, nac esceuluswn ein teuluoedd a'n cymmydogion. Gan geryddu cerydda dy gymmydog, ac na ddioddef bechod ynddo, Levit. 19. 17. Os bydd ŷch neu assyn cymydog ynglyn mewn suglen ym mron trigo, ni a geisiwn eu tynnu allan, ac a esculuswn ni ei Enaid ef? Perthyn yr yscrythyr honno i bob dyn grasol yn Dihar 11. 30. Efrwyth y cyfiawn sydd megis pren y bywyd, a'r neb a enillo eneidiau sydd ddoeth. Gwnewch eich goreu i ennill eich cymmydog, gan wneuthur [Page 139] iddo gymwynas bydol fel y derbynio yn rhwyddach eich caredigrwydd ysprydol. O na bae'r naill gymydog yn galw 'r llall i fyned ynghyd at addoliad Duw, ac at bob daioni, gan fod yn un fryd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd, 1 Pet. 3. 8. Y mae'n crefydd yn gofyn gennym feddwl am y pethau sydd hawddgar, a chanmoladwy, ac a fyddo debygol i enill pobl at Jesu Christ.
Hefyd rhaid i ni ofalu am wneuthur pob dyledswydd mewn jawn drefn a thymmor, fel na byddo i'n achosion bydol rwystro y rhai ysprydol, nac i'n crefydd rwystro ein crefft. Yr jawn drefn yw i ni ddechreu daioni gartref; yr hwn wyt yn addyscu arall oni 'th ddyscu dy hun? Rhuf. 2. 21. Creffwch ar drefn yr Arglwydd, Deut. 6. 6. Bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn iti heddyw, yn dy galon (dyna 'r peth cyntaf, a chwedi i ni ein hunain ddyscu'r wers yn dda, yna y mae'n rhaid ini ei chyfrannu i eraill) adn. 7. Ac hyspyssa hwynt i'th plant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, &c. Ac wrth argoeddi 'r drwg, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, Math. 7. 5. bwriwn y garreg gyntaf attom ein hunain, os ydym yn euog o'r un pechod ac yr ydym iw labyddio mewn arall. Na fydd fammaeth ith lygredigaeth dy hun, tra fych feddig llym i lygredigaethay rhai eraill. Glanhâ yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn ir Cwppan, Math. 23. 26. Ac fel y mae i ni ddechreu gartref, felly gyda Duw yn enwedig. Bob boreu gâd i Dduw gael blaenffrwyth dy feddyliau a'th ddymyniadau. Digiodd Duw wrth yr offeiriaid a fynnent eu rhan o'r Aberthau oi flaen ef 1 Sam. 2. 15. 16. Da yw 'r cyngor a rhydd un, ar i ni y boreu gadw drws y galon [Page 140] yn gaead yn erbyn y bŷd, nes iddi. yn gyntaf dderbyn grâs a nerth o'r nef i wrthsefyll y profedigaethau a drawo arnom pan elom at ein pethau bydol. Cyn y dydd yn blygeinol jawn yr aeth Crist i le anghyfannedd, ac yno y gweddiodd, Marc. 1. 35. Cymer afel ar yr achlyssur wrth y cydyn blaenaf, a dechreu bob gorchwyl, fel y mae rhai yn dechreu eu ewyllys pan font glaf, yn Enw Duw. Rhaid i bawb a fodlonant Dduw gymeryd gofal ar ddilyn rheolau ei air ef yn y pethau a wnelont, yn euwedig y pethau perthynol i addoliad, Heb chwanegu at y gorchymyn, na thynnu oddiwrtho, Deut. 12. 32. na addola Dduw yn y modd ni orchymynodd, ac ni feddyliodd ei galon. Jer. 7. 31. Ac mewn pethau bydol rhaid i ni Edrych ar eu bod yn gyfreithlon ac yn onest eu defnydd, a'n dibenion ninnau ar ogoneddu Duw drwyddynt, a lleshau ein brodyr ac nid eu niweidio, 1 Cor. 10. 31. Rhuf. 14. 2. ond os byddwn yn gosod ein budd ein hunain uwchlaw gogoniant Duw, byddwn eulunaddolwyr, a chollwn y gwobr bythol am y pethau a wnellom, pa un bynnag fyddont ai crefyddol ai bydol, Math. 6. 5. ac 23. 5. A pha ddaioni bynnag a gyflawnech dod i Duw ogoniant a diolch am ei ras, a'th nerthodd iw gyflawni a dywed fel Paul, 1 Cor. 15. 10. Nid myfi ond grâs Duw yr hwn oedd gydâ mi. Os fel hyn y byddi yn ymarferu â duwioldeb, 1 Tim 4. 7. ac yn ofni yr Arglwydd ar hyd y dydd, Dihar. 23. 17. Cei weled nad yw'r cyfryw fuchedd gaethiwed ond rhydd-did a hyfrydwch, ac ni flini arni. Rhodiodd Enoch gydâ Duw drychant o flynyddoedd, ac ni flinodd Gen 5. 22. Cafodd y prif Gristianogion ynddi lawenydd anrhaethadwy a gogoneddus, a thangneddyf y sydd uwchlaw pob deall.
[Page 141]Yn awr ddarllenydd ymrodda i wasanaethu Duw, y mae efe yn Arglwydd hawdd rhyngu ei fodd: Os dy galon a ewyllysia wneuthur iddo anrhydedd, cymer hynny yn dda, er nas gallych ei gyflawni, maddeuiff y gwendid, gwobrwyiff yr ewyllys da, 2 Cron. 6. 8. Dywedodd yr Arglwydd wrth Dasydd, o herwydd bod yn dy fryd di adiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon. Y mae efe wedi yscrifenny ger dy fron beth ai bodlona, ac nid oes dim anrhesymol ym mysc y pethau a ofyn ef, dewis dicheu fel y rhai gynt, yr hyn a ewyllysio ef, Esay 56. 4, 5 a rhydd iti Enw tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith. Gosododd ynoti reol uniawn ith gyfarwyddo yn dy achosion tuag at ddynion, sef, ar iti wneuthur â hwynt, fel y mynnit ti iddynt hwythau wneuthur a thi yn y cyfryw achlyssur, ac oni weli hynny yn gymwys ac yn weddol? Ac fel y mae yn rhoddi cyfarwyddyd, felly hefyd y mae efe yn rhoddi help ir credadyn i wneuthur yr hyn sydd fodlon ganddo ef. Rhydd iddynt yspryd Crist. 1 Cor. 2. 12. yr hwn a gynnorthwya eu gwendid fel y byddo iddynt dywallt gweddi a gwneuthur dyledswyddau eraill wrth ei fodd Rhuf. 8. 26.
Dirfawr hefyd fydd y bûdd a gei di wrth rodio yn ddiargoedd ger bron Duw, fel y rhagfynegwyd, canys cei felly siccrwydd o jechydwriaeth, arwydd amlwg o blentyn Duw yw bod bryd ei galon wedi ei gosod ar ogoneddu 'r Goruchaf, a rhyngu ei fodd, ac ei fod yn brofedig yn ei olwg ef. A byddwch siwr oi bresennoldeb cariadus ef gydâ chwi ym mhob man. Medd Crist ni adawodd y Tâd fi yn unic oblegid yr wyfi yn gwneuthur bob amser y [Page 142] pethau sydd fodlon ganddo ef, Joan. 8. 29. A'th wobr yn y nefoedd a fydd fwy nag a all dy lygad marwol ei ganfod, na'th galon ei ddeall y pryd hyn; amlhaed dy ffrwyth erbyn dy gyfrif yno, fel y dangoser y pryd hynny dy weithredoedd da, megis ac y dangosodd y gwragedd gweddwon y gwiscoedd a wnaethi Dorcas. Act. 9. 39.
PEN. XII. Yn Cynwys ychwaneg o Gynghorion i Gristianogion.
1. CYmmered pob un ofal am gael yn ei enaid yr elw grasol y sydd mewn duwioldeb, fel os digwydd iddo ddioddef cystudd a cholled fudol am broffessu Cristianagaeth, nad elo ei lafur yn ofer, eithr bod ennill ei enaid, yn fwy na cholled ei gorph.
2 Gwneled ddefnydd o bôb trugaredd, nid i fodloni'r cnawd yn unic, ond i amlygu gogoniant Duw, ac i hyfforddi ei jechydwriaeth dragwyddol. Ni lesâ'r bŷd i neb heb gariad a bendith Dduw arno. Nid yw 'r llythyren gron ar ei phen ei hun yn arwyddoccau dim mewn rhifyddiaeth, ond pan gyssyllter hi wtth lythrennau cyfrifol eraill, hi a chwanega 'r fwmm yn dirfawr: ac felly y gwna trugareddau bydol pan fyddont gyssylltedig â rhai efangylol; megis pan fyddo golud ynghyd â grâs yn cynnorthwyo Cristion i wneuthur da, ac i wasanaethu'r Arglwydd â diwydrwydd, ac â chalon siriol, am helaethrwydd pob peth.
[Page 143]3. Na orphywyswch mewn rhyw obaith yscafn am y nef, ond ymegniwch i geisio siccrwydd o honi, yn ol cyngor yr Apostol, a ddywed, byddwth ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth, a'ch etholedigaeth yn siccr. 2 pet. 1. 10. Y mae prawf y sainct yn dangos y gellir cael y fath hyder cryf, Canys dywedant, nyni wyddom ddarfod ein Summud o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru y brodyr, 1 Joan 3. 14. Ac y mae gallu yn yr Enaid iw holi ei hun, canys yspryd dŷn yr hwn sydd ynddo ef a edwyn bethau dŷn' 1 Cor. 2 11. Anwadal yw 'n meddiannau bydol ni, ac os gorfydd i ni ymadel â phob peth er mwyn. Crist, a bod heb siccrwydd o hono yntef hefyd, onid ofnadwy a fydd ein cyflwr? ac os ymfodlona dŷn i fod yn ammheus ynghylch yr etifeddiaeth nefol, mae'n dangos ei fod yn ddifatter am dani. O ceisiwn allu dywedyd mewn gwirioned, y gwyddom os ein daiarol dŷ o'r babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw tragwyddol yn y nefoedd. 2 Cor. 5. 1.
4. Cymerwch ofal am fod gwir râs ynoch, ac ar iddo gynnyddu hefyd. pwy bynnag sydd â chywyr râs ynddo, a gais ei berffeithio. Y mae plant Duw yn tyfu wrth borthiant efangylol, ac ni fyddant gorriaid.
5. Na wrthodwch ddioddef erlid er mwyn Crist pan welo Duw yn dda ei anfon. Canys dyna 'r amser i chwi i ddangos gwir serch a ffyddlondeb iddo ef.
6. Ymroddwch i Dduw, ac hyderwch ar yr addewidion daionus y mae efe yn eu cyflawni ir Sawl a ufuddhânt iddo. Canys addef fod iddynt yn Dâd, ac y cânt hwytheu fod iddo ef yn feibion ac yn ferched, 1 Cor. 6. 18. Trefna iddynt luniaeth, a gwiscoedd, Math. 6. 26. - 32. A phan fo'r achos yn gofyn cerydda hwynt mewn [Page 144] mesur a thrugaredd, Deut. 8. 5. bydd iddynt yn Arglwydd ac yn Frenin. Os dynion a wna gam â hwynt, efe a farna eu hachos, ac a ddeffin eu cyfiawnder: Er i ddynion eu cyhuddo ar gam, efe a'u cyfiawnhâ hwy. Efe a fydd hefyd yn fugail iw ddefaid, efe ai portha, ac-ni ollwn monynt ar gyfeiliorn. Addewiff yr Arglwydd fod yn Dduw iw bobl, Gen. 17. 7. A rhoddi ei Fâb iddynt yn gyfammod ac yn oleuni, Esay. 42 6. ad 9. 6. a'i Yspryd i fod iddynt yn Ddiddanudd, Joan. 14. 16. A chydnebydd y ffyddloniaid iddynt eu dderbyn; 1 Cor. 2. 12. Nyni a dderbyniasom yr Yspryd sydd o Dduw. Maddeuiff Duw eu perchodau ir edifeiriol, Heb. 8. 10, 12. Trugarog fydd with eu hanghyfiawnderau, a'u pechodau, &c. Addewiff eu gwaredu oddiwrth eu holl elynion. Gorfydd i blant Duw ymdrechu, er hynny cant y goreu. Gorchfygant farwolaeth a'u holl elynion eraill, 1 Cor. 3. 22. ac 15. 54. Sathrant ar Satan Rhuf. 16. 20. diangant rhag uffern, nid oes ddamnedigaeth ir rhai sydd yn Grist Jesu, Rhuf. 8. 1. ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnynt, Rhuf. 6. 13. 14.
Addawodd yr Arglwydd gynnorthwyo eu blant ym mhob cyflwr. Yn yr anialwch efe a ddywed wrth fodd eu calonnau, Hos. 2. 14. A bydd gyda hwynt yn y tân a'r dwfr, Esay. 43. 2. Bydd yn nerth ir tlawd, a chadernid ir anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag temhestl, yn gyscod rhag gwrês, pan fo gwynt y cedyrn fel temhestl yn erbyn mur, Esay. 25. 4. Hefyd addewiff ofalu dros ei bobl, 1 Pet. 5. 7. Rhoddiff ymborth ir rhai a'i hofnant ef, Psal. 111. 5. Am hynny gan fod gennymyr addewiddion hyn ymlanhawn oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac Yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw, 2 Cor. 7. 1.