Holl Ddled-swydd Dyn,
Gwedi ei osod ar lawr Mewn ffordd hynod ac Eglur, Defnyddiol i bawb, ond yn Enwedig i'r Darllenydd mwyaf Annyscedig. Gwedi ei Ddosparthu i XVII. o Bennodau; Y rhai, trwy ddarllen un o honynt bòb Dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y Flwyddyn.
Angenrheidiol i bób Teuluoedd.
Ynghyd a DWYWOLDER NEILLDUOL ar amryw ACHOSION.
A Gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford A.M.
London, Printed for R. Royston Bookseller to the King's Most Excellent Majesty, 1672.
NI buasei raid i chwi wrth Gyfryngiad yn y byd i osod y gwaith hwn arna'i yr hwn a ddygodd ei Wahoddiad a'i wobr gydag ef. Mi a ddarlleniais yn ewyllysgar iawn yr holl Papirau drostynt, yn gystal y Traethawd, a'r Defosionau a gyssylltwyd wrtho ef, ac a welaf achos mawr i fendithio Duw am bób un o'r ddau, gan nad wyf' yn canfod dim yn ddiffygiol mewn un rhan o honynt i'w gwneuthur hwynt trwy fendith a nawdd Duw yn gwbl-ddigonol a chymwys i'r diben mawr yr amcanwyd hwynt, sef i fod yn gymmorth ysprydol, ac yn fanteisiol i bawb a'i harfero hwynt. Y Peth a grynhóir ynddynt yw yn wir (fal y mae'r Titl yn hyspysu) Holl Ddled-swydd Dyn, gwedi ei osod ar lawr yn ei holl Rannau, a'r cyfryw gyfaddasrwydd o grynodeb a Dosparthiadau, i wahodd, i hyfforddi, ac i annog y Darllenydd, ac a'r cyfryw ddisgynniad at y rhai mwyaf annyscedig, ac hefyd ar cyfryw Resymau pwysfawr Ysprydol, lle y bydd yn dda gan y rhai mwyaf dyscedig [Page] gael ei cynnorthwyo, a'i fód ef i'm tyb i gwedi ei gyfaddasu yn gymmhedrol at bób máth o Ddarllenydd, a chwennycho yn ddifrifol lesháad iddo i hun presennol neu i ddyfod. Nid yw'r rhan Defosionawl yn y cynghlo ddim yn fyrr i'r llall, yr hwn sydd yn gymmorth cymwys i wendid pob rhyw ddyn, ac yn cyrrhaedd yn neillduol at ein holl achosion arbennig ni; y mae'r Dygiad i mewn yn gwasanaethu yn lle Rhag-ymadrodd, yr hwn yr ydych chwi yn chwennych ei gael o'm llaw i; ac heb adael mo'r lle i mi i adroddi ddim ychwaneg na'm Gweddiau at Dduw, Na bo i'r Awdur, yr hwn a gymmerodd boen i ddwyn Elusen mor hael i'r Corban mor ddirgel, fethu cael ei obrwyo yn amlwg, yngallu a bûdd gweledig y Gwaith hwn ar galonnau yr holl Genhedlaeth hon, yr hon ni bu arni erioed fwy o eisieu'r cyfryw gynnorthwyau ac a osodir ymma ar lawr, nac yr awrhon. Ar fod i'w gwbl-ddigonol Râs ef fendithio'r hâd a hauwyd, a rhoddi cynnydd helaeth, yw ufudd erfynniad
Y RHAG-YMADRODD
I'r Traethawd sy'n calyn, yn dangos mor angenrheidiol yw gofalu am yr Enaid.
1. UNic fwriad y Traethawd sy'n calyn, yw i fod yn Gyfarwyddiad byrr ac Eglur i'r Darllenydd gwaelaf, pa fodd i'w ymddwyn ei hun felly yn y bŷd hwn, fal y byddo ef dedwydd yn dragywydd yn y byd a ddaw. Ond oblegid mai ofer yw dywedyd i ddynion ei Dyled-swydd, nes ei dwyn hwynt ar ddeall mor angenrheidiol yw ei chwplhau hi, cyn i mi fyned ymlaen at y Pethau Neillduol a ofynnir gan bób rhyw Gristion, mi a wnaf fy ngoreu i'w hannog nhw i ymarfer un Ddled-swydd gyffredinol rhagbarattóus i'r lleill oll, sef i ddyfal-ystyried ac i ofalu am ei Heneidiau, heb ba un ni thybian nhw fod y llall yn perthyn fawr iddynt.
2. Dyn, ni a wyddon, a wnaethpwyd i fynu o ddwy Ran, CORPH ac ENAID: y Corph nid yw ond cibyn neu flisgyn yr Enaid, dernyn o gnawd, gogwyddedig i amryw ddoluriau [Page] a phoenau yn y bŷd hwn, ac o'r diwedd i Angeu, ac yna y mae ef cymmhelled o fod yn gyfrifol, nad ellir mo'i oddef ef uwch daiar, eithr fe'i gosodir ef i bydru yn y Pridd. Etto am y rhan waelaf ymma o honom yr ydyn ni yn gofalu fwyaf; ein holl lafur ni a'n lludded yw i gynnal hwnnw i fynu. Ond y rhan oreu, sef yr Enaid, ni feddylir ac ni ofelir fawr am dano yn y cyfamser, eithr fal pette fo yn beth ni pherthynei i ni, a esgeulusir yn hollawl gennini.
2. Y Diofalwch ymma am yr Enaid yw gwreiddyn pob pechod yr ym ni yn ei gwneuthur, ac am hynny pwy bynnag sy'n bwriadu ymosod ar fuchedd Gri [...]anogawl, rhaid iddo yn gyntaf wellhau hynny, i wneuthur pa un nid rhaid wrth ddysgeidiaeth ddofn, y mae gan y gwirionaf o ddŷn (oddigaeth ei fód ef yn ffól ania [...]tol) wybodaeth ddigon i hynny, os gwná fo ond yn ól yr unrhyw Reolau o Reswm cyffredinol, ac y bo fo yn ei arferu yn ei negeseuau bydol. Mi a osodaf gan hynny yr awrhon ar fyrr i lawr rai o'r Annogaethau hynny, y rhai sydd arferol o gyffroi ein gofal ni mewn pethau oddiallan, ac yna ei cyfaddasu nhw at yr Enaid.
4. PEDWAR peth yn enwedig sydd arferol o gyffrhoi ein gofal ni; yn gyntaf gwerthfawrogrwydd y Peth y bon ni yn gofalu am dano; yn ail y Ddeunyddiaeth o hono i ni, pan na allon ni ymadel ac ef heb niwed neu golled ddirfawr; yn drydydd y Perigl mawr am dano; ac yn Bedwerydd, y Cyffelybrwydd na fydd [Page] ein gofal ni yn ofer, ond y ceidw ef y peth y bon ni yn gofalu am dano.
5. Am y Cyntaf, ni a wyddon fod ein gofal ni am ryw beth bydol yn gyfattebol i'w Bris ef; y peth sydd fwyaf gwerthfawr, yr ydyn ni yn fwyaf gwiliadwrus i'w gadw, ac yn fwyaf arswydus o'i golli; nid oes neb yn cloi i fynu domm yn ei gîst, ond ei arian, new ryw beth y bo fo yn ei gyfrif yn werthfawr. Yr awrhon yn yr ystyriaeth ymma, fo haedda'r Enaid fwy o ofal am dano, na'r holl bethau yn y bŷd heb law hynny, oblegid ei fod ef yn fwy gwerthfawr o anfeidrol. Yn gyntaf o herwydd ei fod ef wedi ei wneuthur ar ól Delw Dduw, Duw a anadlodd i ddyn yr anadl bywyd hwn, Gen. 2.7. Yr awrhon gan fod Duw o fwyaf godidowgrwydd, po tebyccaf y bo rhyw beth iddo ef, gwerthfawroccach ydyw ef. Ond yn ddiammeu nid oes un Creadur ar y ddaiar yn debyg i Dduw, ond Enaid dŷn, ac am hynny nid oes dim a haedda gymmaint o'n gofal ni. Yn ail, ni bydd yr Enaid marw byth. Yr ym ni yn arfer o brisio pethau yn ól ei parháad: y peth mwyaf parháus sydd fwyaf gwerthfawr: Yn awr y mae'r Enaid yn beth a bery byth, pan fo Golud, Tegwch, cryfder, iè a'n cyrph ei hunain yn pallu, y mae'r Enaid etto yn parhau. Gan hynny oblegid hyn hefyd y mae'r Enaid yn fwyaf gwerthfawr; ac yna pa ryw gynddaredd ryfeddol yw i ni ei hesgeuluso hwynt fal yr ydyn ni? Ni a fedrwn dreulio Dyddiau, ac Wythnosau, a Misoedd, a Blynyddoedd, iè ein holl fywyd yn hela ar ól ychydig olud bydol, [Page] yr hwn ni phery ddim, ac yn y cyfamser gadael i'r Cythrael ddwyn ymmaith y tryssor mawr parhaus hwn, sef ein Heneidiau, oddiarnon ni.
6. Yr ail peth a annog ein gofal ni am ryw beth yw ei Ddefnyddiaeth ef i ni, neu'r niwed mawr a ddychwel i ni trwy ei golli ef; y mae Rheswm naturiol yn dyscu i ni hyn mewn pethau o'r bywyd hwn: os syrth ein Gwallt ni, nid ydyn ni yn prisio cymmaint, oblegid y gallwn ni yn hawdd fod hebddynt hwy:: Ond os byddwn ni mewn perigl o golli ein llygaid neu ein haelodau, bychan gennin ni ein holl ofal i ragachub hynny, oblegid y gwyddon ni mae trueni mawr a fydd y cyfryw golled. Ond yn ddiammeu nid oes unrhyw drueni yn gyfattebol i'r trueni hwnnw o golli'r Enaid. Gwir yw, ni allwn ni golli mo'n Heneidiau, mewn un ystyriaeth, hynny yw, fal na bônt; ond ni allwn ei colli hwynt mewn modd arall, fal y chwennychon ni ei colli hwynt hefyd yn hollawl: Hynny yw, ni allwn golli'r cyflwr dedwydd hwnnw i ba un y creuwyd hwynt, a'i suddo hwynt mwyn trueni tra-echryslon. Ar fyrr, ni a allwn ei colli hwynt yn Ʋffern, o ba le nid oes dim dychweliad yn ól, ac felly y maent yn golledig yn dragywydd. Iè y mae ein hanwyl Gyrph hefyd, tros ba rai yr ym ni fwyaf yn gofalu, yn gyfrannogion o'r golled ymma: canys fe'i had-gyfodir hwynt yn ddiammeu gwedi angeu, ac a'i cyssylltir hwynt drachefn a'r Enaid, i gymmeryd cyfran gydag ef ym mha gyflwr bynnag; os bydd gan hynny i'n gofal ni am [Page] ein Cyrph gymmeryd i fynu ein holl amser a'n meddyliau ni; heb adael i ni ddim i'w dreulio ar yr Enaid truan, fe fydd yr Enaid yn ddiau o eisieu'r gofal hwnnw yn druenus yn dragywydd; ond y mae mor ddiogel y bydd raid i'r Corph fod felly hefyd. Ac am hynny os oes gennichwi ddim gwir garedigrwydd i'ch Cyrph, dangoswch ef trwy ofalu am eich Heneidiau. Meddyliwch wrthych eich hunain pa fodd y gellwch chwi ddioddef lloscfeydd tragywyddol; os yw gwreichionyn bychan o dân, pan syrthio ar y rhan leiaf o'r Corph mor annodd ei oddef, beth a fydd gael taflu'r cyfan i'r fflammau poethaf? a hynny nid am ychydig oriau neu ddyddiau, ond yn dragywydd? Yn gymmaint a chwedi i chwi fod lawer Miloedd o flynyddoedd yn y penyd annrhaethadwy hwnnw, na byddwch chwi ddim nés i ddyfod allan o honaw, nag yr oeddech chwi'r dydd cyntaf yr aethoch chwi i mewn: cofiwch hyn medda'i, a meddyliwch hyn ymma hefyd, mai hyn yn ddiammeu a fydd y diben o esgeuluso'r Enaid, ac am hynny gofelwch beth am dano ef, pette ond o dosturi i'r Corph, yr hwn sydd raid iddo ddwyn rhan o'i drueni ef.
7. Y Trydydd Peth a annog ein gofal ni am ryw beth yw ei fod ef mewn PERIGL; yr awrhon fe ddichon peth fod mewn perigl ddwy ffordd: yn gyntaf, trwy Elynion oddiallan: Dena gyflwr y Defaid, y rhai sydd yn wastad mewn enbydrwydd o gael ei difa gan fleiddiaid, ac ni a wyddon mai hynny sy'n gwneuthur i'r bugail fod yn fyw gwiliadwrus drostynt. Felly y mae gyda'r Enaid, yr hwn [Page] sydd mewn perigl dirfawr oblegid ei Elynion: y rhai hynny ni a wyddon yw'r Byd, y Cnawd, a'r Cythraul; y rhai oll ydynt yn elynion mor hynod iddo ef, ac mae'r weithred gyntaf yr ydyn ni yn ei wneuthur ym mhlaid ein Heneidiau yw addunedu Rhyfel ddibaid i'w herbyn hwynt. Hyn yr ydyn ni oll yn ei wneuthur yn ein Bedydd; ac y mae pwy bynnag sy'n gwneuthnr cyngrair a'r un o honynt, yn ffals nid yn unig i'w Enaid, ond i'w Adduncd hefyd; trwy fod yn greadur anudonaidd: Ystyriaeth a haeddai yn dda ei gosod at ein calonnau. Ond er mwyn i ni Ddeall yn well, pa berigl y mae'r Enaid yntho, ystyriwn ychydig gynneddfau'r gelynion hyn.
8. Chwi a wyddoch fod amryw bethau mewn rhyfel a wna i elyn fod i'w arswydo: y cyntaf yw cyfrwysder a dichell, trwy ba un yn unig yr ennillwyd amryw fuddugoliaethau; ac o herwydd hyn y mae'r Cythraul yn elyn peryglus; fe roes brawf hynod o'i gyfrwysder er ystalm, trwy dwyllo ein Rhieni cyntaf, y rhai oeddynt yn ddoethach o lawer na nyni, ac am hynny nid rhyfedd os siomma fo nyni. Yn ail, y mae gwiliadwraeth a diwydrwydd gelyn yn ei wneuthur ef yn fwy ofnadwy; ac yn hyn y mae'r Cythraul yn myned tu hwynt i bawb; ei neges a'i farsiandiaeth ef yw ein distrywio ni, ac nid yw ef yn segura, y mae fo yn myned i fynu ac i wared gan geisio y neb a allo ei draflyngeu, 1 Pet. 5.8. y mae fo yn gwilio am bób odfa o fantes i'n herbyn ni, a'r cyfryw ddiwydrwydd, na esgeulusa fo'r un un amser. Yn Drydydd, y mae Gelyn ger llaw yn [Page] fwy i'w arswydo nag un o hirbell, oblegid os bydd ese pell oddiwrthon ni, ni allwn gael amser i'n harfogi, a'n paratoi ein hunain i'w erbyn ef, ond os bydd efe yn agos, fe all ddyfod ar ein gwartha ni yn ddisymwth. A'r cyfryw un yw'r Cnawd, yr hwn sydd elyn, wrth ein dryssau ni, a ddyweda'i? iè yn ein monwesau ni, y mae fo yn wastad yn agos attom ni, i gymmeryd odfa i wneuthur i ni niwed. Yn Bedwerydd, po baweiddiaf a ffalsaf y bo Gelyn, mwyaf peryglus yw ef; fe ddichon yr hwn a guddia ei falis tan gochl caredigrwydd wneuthur mwy niwed o lawer. A'r cyfryw un drachefn yw'r Cnawd, yr hwn fel Joab wrth Abner, 2 Sam. 3.27. a gymmer arno siarad yn dangnheddyfus a ni, ond a'n harcholla ni i farwolaeth; y mae fo yn barod iawn i baratoi Pleserau a dyfyrrwch i ni, ac felly yn ymddangos yn fwyn iawn, ond y mae gantho fâch tan yr abwyd hwnnw, ac os nyni ai cippiwn ef fe ddarfu am danon ni. Yn Bummed, y mae rhifedi Gelynion yn ei gwneuthur hwynt i'w harswydo yn fwy; ac y mae'r Byd yn llu ddirfawr i'n herbyn ni: Nid oes unrhyw gyflwr yntho ef, iè na phrin un creadur nad yw ryw amser neu'i gilydd yn ymladd yn erbyn yr Enaid: y mae Anrhydedd bydol yn ceisio ein harcholli ni trwy falchder; Golud, trwy Gybydd-dod; hawddfyd yn ein llithio ni i anghofio Duw, Adfyd i wrwgnach yn ei erbyn ef. Y mae hyd yn oed ein Bwrdd yn fagl i ni, y mae'n bwyd yn ein denu ni i lwthineb; ein Diod, i feddwdod, ein cymdeithion, iè ein caredigion nessaf yn fynych yn pleidio yn y Rhyfel ymma i'n herbyn ni, tra'i bo nhw naill [Page] a'i trwy ei siampl neu'i hannogaethau yn ein llithio ni i bechu.
9. Ystyriwch hyn i gyd, ac yna dywedwch i mi, a oes i Enaid sydd fal hyn gwedi ei amgylchu ennyd i gyscu: fe fedrei Dalila ddywedyd wrth Samson, ei bod hi yn amser i ddeffro pan oedd y Philistiaid arno ef. Ac y mae Crist yn dywedyd i ni, pe gwybuasei gwr y ty ym mha awr y daethe'r lleidr, fe a wiliasei, ac ni adawsei i'w dy gael ei dorri i fynu, Mat. 24.43. Ond yr ydyn ni yn byw yn ghanol lladron, ac am hynny rhaid i ni ddisgwyl am danynt bób awr, ac etto pwy yn ein mysg ni sydd gantho y gofal cyffredin hwnnw am y rhan werthfawr ymma o honaw, ei Enaid, a'r sydd gantho am ei dŷ, neu yn wir am y peth gwaelaf ar ei helw? Y mae arna'i ofn y geill ein Heneidiau ni ddywedyd wrthon ni, megis y dywedodd Crist wrth ei Ddiscyblion, Mat. 26.40. Pa betb? oni allech cbwi wilied gydá mi un awr? Oblegid yr wyf fi yn meddwl na wyr llawer o hono ni pa bryd y treuliasom ni un awr arnynt hwy, er i ni wybod ei bod nhw yn wastad gwedi ei hamgylchu a gelynion tra-enbydus. Ac yna och! beth debygwch chwi a fydd cyflwr yr Eneidiau truain hyn, pan yw ei caseion mor ddiwyd a gofalus iw destrywio hwynt, a ninnau heb ofalu dim am ei cadw hwynt? Yn ddiau yr un modd ac y digwydd i dréf warchaedig, lle ni chedwir yr un wiliadwraeth nag amddiffynfa, yr hon yn ddiammeu a syrth yn ysglyfaeth i'r gelyn. Ystyriwch hyn y rhai sy'n anghofio Duw (neu yn hytrach y rhai ydych [Page] yn eich angofio eich hunain) rbag iddo eich difetha chwi, ac na bo gwaredudd, Psal. 50.22.
10. Modd arall i beth fod mewn enbydrwydd yw oddiwrth ryw afreol neu annhymmer oddimewn. Hyn yn fynych yw Cyflwr ein Cyrph ni; nid ydyn nhw yn unic mewn perigl o drais oddiallan, ond y maent hwy ynddynt ei hunain yn gláf ac yn ddolurus. Ac yna ni a fedrwn fod yn ddigon teimladwy ei bod nhw mewn enbydrwydd, ac nid rhaid ein rhybuddio ni i geisio moddion i'w hiachau hwynt. Ond hyn yw Cyflwr yr Enaid hefyd; yr ydyn ni yn cyfrif y rhannau hynny o'r Corph yn glwyfus, y rhai nid ydynt yn iawngwplhau ei Swyddau; yr ym ni yn cyfrif hwnnw yn enau clwyfus yr hwn ni archwaetha yn iawn, cylla glwyfus, yr hon ni threulia'r bwyd. Ac felly y mae gyda'r Enaid, pan fo ei hamryw rannau hi heb gwplhau ei Swyddau yn iawn.
11. Rhannau yr Enaid yw'r tri hyn yn enwedig: y Deall, yr Ewyllys, a'r Anwydau. Ac y mae yn rhy hawdd profi fod y rhain allan o drefn; edryched dŷn ond yn ddifrifol at ei galon ei hun, ac ystyried leied y mae fo yn ei wybod o bethau ysprydol, ac yna dyweded i mi onid yw ei Ddeall ef yn dywyll? Pa faint parottach yw efe i ewyllysio drwg na da, ac yna dyweded i mi onid yw ei Ewyllys ef yn wyrgam? A pha ryw Ddeisyfiadau haerllug sydd gantho ar ol pleserau pechadurus, a pha rai diwres egwan tu ac at Dduw a daioni, ac [Page] yna dyweded i mi onid yw ei Anwydau ef yn afreolus, ac yn wrthryfelgar, ié yn erbyn llef ei Reswm naturiol ei hun. Yr awrhon megis mewn clefydau Corphorol, y râdd gyntaf tu ac at y feddiginiaeth yw gwybod achos y clefyd; felly ymma y mae yn dra-angenrheidiol i ni wybod pa fódd y syrthiodd yr Enaid gyntaf i'r Cyflwr clwyfus hwn, a hynny a ddyweda'i i chwi yr awrhon ar fyrr.
12. Fe Greawdd Duw y Dŷn cyntaf Adda yn ddibechod, ac a gynnysgaeddodd ei Enaid ef a gwybodaeth gyflawn o'i Ddled-swydd, ac a chyfryw rym ac y gallei ef, os mynne fo, gwplhau'r hyn óll a ofynnid gantho ef. Gwedi ei greui ef fal hyn, fe a wnaeth Gyfammod neu gyttundeb ac ef i'r pwrpas hwn, os efe a barhde mewn Ʋfudd-dod i Dduw heb pechu; yna yn gyntaf fe gae' grym hwnnw'r Enaid barhau gydag ef yn wastad, yr hwn oedd gantho ef y pryd hynny; ac yn ail, na bydde fo byth marw, ond cael ei gymmeryd i fynu i'r Nefoedd, yno i fod yn ddedwydd yn dragywydd. Ond o'r tu arall, os peche fo ac anufuddhau Duw, yna y cae fo a'i holl heppil ar ei ól golli'r gwybodaeth a'r grym perffaith hwnnw, yr hwn oedd yn ei wneuthur ef yn abl i gwplhau yr hyn oll yr oedd Duw yn ei ofyn gantho ef: ac yn ail, y bydde fo yn euog o farwolaeth, ac nid hynny yn unic, ond o ddamnedigaeth dragywyddol yn uffern.
13. Dymma'r Cyttundeb a wnaethpwyd ac Addas, ac a holl ddynol ryw yntho ef (yr hyn a alwn ni yn gyffredinol y CYF AMMOD [Page] CYNTAF) ar hyn fe roddes Duw i Addaf Orchymyn neillduol, yr hwn nid oedd ond hyn, na fwytáe fo o un pren yn unic o'r Ardd lle y gosodwyd ef ynthi. Ond trwy hudoliaeth Diafol fe fwytáodd ef o'r pren hwnnw, ac felly fe anufuddháodd Dduw, ac a ddygodd y felldith honno arno'i hun, a'i holl heppil. A trwy'r un pechod hwnnw fe gollodd yn gystal y cyflawn wybodaeth o'i Ddled-swydd, a'r Gallu i'w gwplhau ef. A ninnau gan ein bod ni wedi ein geni ar ól ei Ddelw ef, a wnaethon felly hefyd, a thrwy hynny a ddaethon i fod yn anneallus i ddirnad y peth a ddyleu ni ei wneuthur ef, trwy fod gennin ni annhuedd i bób daioni, a thueddiad a pharodrwydd i bób drŵg fal cylla glwyfus, yr hon sy'n ffieiddio pób ymborth iachus, ac yn hiraethu am y cyfryw bethau gwael ac a faetha'r dolur.
14. Ac yr awrhon chwi a welwch pa le y cawsom ni'r clefyd Enaid ymma, a'i fód ef hefyd yn debyg i fod yn angheuol; ac am hynny yr wyf fi'n meddwl nad rhaid i mi draethu dim ychwaneg er mwyn eich Siccrhau chwi fod ein heneidiau ni mewn enbydrwydd. Cyffelypach yw wrth y peth a draethwyd y tybiwch chwi ei bod hwy tu hwnt i bob gobaith. Ond rhag i chwi gymmeryd escus oddiwrth y cyfryw feddyliau i'w hesgeuluso hwynt, mi a bryssuraf i ddangos i chwi y gwrthwyneb, trwy adrodd y Pedwerydd Annogaeth o'n gofal ni.
15. Y Pedwerydd peth i'n hannog ni i ofalu am yr Enaid yw y Cyffelybrwydd na fydd ein [Page] GOFAL ni ddim yn OFER, ond yn hyttrach yn foddion i gadw'r Enaid; lle y mae hyn yn ddiffygiol, fe lwfrhá ein gofal ni. Y mae'r Pysygwr yn ymadel a'r dŷn cláf pan welo fo ef yn ddiobaith, gan wybod nad yw ond ofer roi iddo ef ddim y prŷd hynny; ond o'r tu arall pan ganfyddo fo fod gobaith gwellháad, y mae fo yn rhoi iddo feddiginiaethau. Yr awrhon y mae i ni achos mawr o herwydd hyn ymma i ofalu am ein Heneidiau, sef o herwydd nad ydynt hwy gwedi myned cymmhelled, nad ellir ei hailoresgyn hwynt, iè yn ddiammeu fe gynnhalia ein gofal ni hwynt, os gwnawn ni ein rhan tu ac at hynny.
16. Oblegid er bod holl ddynol ryw trwy bechod cyntaf Adda tan farn damnedigaeth dragywyddol, etto fe welodd Duw yn dda dosturio cymmhelled wrth ein trueni ni, a rhoddi i ni ei Fâb, a gwneuthur Cyfammod newydd a nyni yntho ef gwedi i ni dorri'r cyntaf.
17. Yr AIL CYFAMMOD hwn a wnaethpwyd ac Adda, ac yntho ef a ninnau, yn ebrwydd ar ól ei gwymp, ac a gynnhwysir ar fyrr yn y geiriau hynny, Gen. 3.15. lle y mae Duw yn datgan mae HAD Y WRAIG A YSSIGEI BEN Y SARPH; a hwn a wnaethpwyd i fynu, megis y cyntaf, o rai trugareddau i'w rhoddi gan Dduw ac o rai Dledswyddau i'w cwplhau gennim ninneu.
18. Duw yno a addawodd anfon ei uni [...] fáb i'r bŷd (yr hwn sydd Dduw gogyfuwch [Page] ac ef ei hun) i'w wneuthur yn ddyn cyffelyb i ni ymmhób peth, ond pechod yn unic, ac i wneuthur troston ni'r amryw bethau hyn.
19. Yn gyntaf i hyspysu i ni holl Ewyllys ei Dâd, trwy gwplhau pa un ni a fyddwn siccr o fod yn gymmeradwy ac o gael ein gwobrwyo gantho ef. A dymma un rhan fawr o'r peth a gwplháodd efe yn yr amryw Bregethau ac athrawiaethau hynny a osodir ar lawr yn yr Efengyl. Ac yn hyn y mae ef yn BROPHWYD i ni, gan mai gwaith Prophwyd gynt oedd nid yn unic rhagddywedyd, ond Dyscu hefyd. Ein dyledswydd ni o ran hynny yw gwrando yn ddiwyd arno ef, bod yn barod ac yn ewyllysgar iawn i ddyscu Ewyllys Duw, yr hwn y daeth ef o'r Nefoedd i'w ddadcuddio i ni.
20. Yr ail peth yr oedd ef i'w wneuthur troston ni oedd bodloni Duw am ein Pechodau ni, nid Pechod Adda yn unic, ond Pechodau holl ddynol ryw a wir edifarháo, ac a wellháo ei buchedd, a thrwy'r moddion hyn caffael i ni faddeuant Pechodau, a ffafor Duw, ac felly ein gwaredu ni oddiwrth Ʋffern, a'r damnedigaeth tragywyddol yr hyn oedd y cospedigaeth dyledus am ein Pechodau ni. Hyn oll a wnaeth efe trosto ni trwy ei farwolaeth. Efe a'i hoffrymmodd ei hun yn aberth tros bechodau pawb a ymofidia yn ddifrifol o'i plegid, ac a ymadawo a hwynt. Ac yn hyn y mae efe yn OFFEIRIAD i ni, gan mae swydd Offeiriad yw offrym aberth am bechodau y bobl. Ein dyled ni o ran hyn yw yn gyntaf edifarhau yn [Page] ddifrifol ac ymadel a'n Pechodau, heb ba un ni faddeuir byth mo honynt i ni, er darfod i Grist farw. Yn ail, Credu yn ddiogel, os gwnawn ni hynny, y cawn ni y bûdd o'i Aberth ef, y maddeuir i ni ein holl bechodau, er maint ac amled fyddont, ac y cedwir ni oddiwrth y Penydiau tragywyddol hynny y rhai oedd ddyledus i ni am danynt. Rhan arall o Swydd yr OFFEIRIAD oedd Bendithio, a Gweddio tros y bobl; a hyn hefyd a wnaeth Crist i ni: y Gennadwri enwedigol a dderbyniodd ef gan ei Dâd oedd ein Bendithio ni, fal y dywed S. Petr, Act. 3.26. Duw a anfonodd ei Fâb Jesu i'ch bendithio chwi; ac y mae'r geiriau sy'n calyn yno yn dangos ymmha beth y mae'r fendith honno yn sefyll, sef yn troi pób un o honochwi oddiwrth ei anwiredd; o'r holl fendithion eraill rhaid yw cyfrif y moddion hynny a arferodd ef i'n troi ni oddiwrth ein Pechodau yn fwyaf: ac am y rhan arall, sef o Weddio, fe a gwplháodd hynny nid yn unic ar y ddaiar, ond y mae fo yn parhau i wneuthur hynny etto yn y Nef; Y mae of yn eistedd ar ddeheulaw Duw, ac yn eiriol troston ni, Rhuf. 8.34. Ein dyléd ni yn hyn yw gwiliad gwrthwynebu'r cyfryw fendith anrhaethadwy, ond bód yn fodlon i gael fal hyn ein bendithio, trwy ein troi oddiwrth ein Pechodau, ac nid gwneuthur ei holl Weddiau a'i Gyfryngiad ef troston ni yn ofer ac yn ddiddim, y rhai ni thyccian ddim er ein llés ni, tra'i boni yn parhau yn ein pechodau.
21. Y Trydydd peth yr oedd Crist i'w wneuthur troston ni cedd rhoddi i ni Allu i [Page] wneuthur yr hyn y mae Duw yn ei ofyn gennim ni. Hyn y mae fo yn ei wneuthur, yn gyntaf, trwy ysgafnhau trymder y gyfraith a roddwyd i Adda, yr hon oedd yn gorchymyn na pechen ni byth y pechod lleiaf tan boen damnedigaeth, ac yn gofyn yn unic gennin ni ymegniad onest diwyd i wneuthur hyn a allon ni, a lle y bon ni yn ddiffygiol, yn derbyn Edifeirwch ddiffuant. Yn ail, trwy ddanfon ei Yspryd glân i'n cabonnau ni, i'n rheoli ac i'n llywodraethu ni, i roddi i ni allu i wrthladd pob rhyw brofedigaethau i bechod, ac i wneuthur yr hyn oll y mae ef yr awrhon tan yr Efengyl yn ei ofyn gennin ni. Ac yn hyn y mae fo yn FRENIN i ni, gan mae swydd Brenin yw rheoli, a llywodraethu, a gorchfygu gelynion. Ein dyléd ni yn hyn yw ein rhoddi ein hunain i fynu yn ddeiliaid ufudd iddo ef, i'n rheoli a'n llywodraethu gantho ef, i ufuddhau ei holl Gyfreithiau ef, nid cymmeryd plaid un gwrthryfelŵr, hynny yw, nid llochi unrhyw bechod, ond gweddío yn ddiwyd am ei Râs ef i'n cynnorthwyo ni i orchfygu pób pechod, ac yna gwneuthur defnydd o hono ef yn ofalus i'r pwrpas hwnnw.
22. Yn Ddiweddaf, fe a bwrcasodd i'r rhai a ufuddhaánt yn ffyddlon iddo ef etifeddiaeth dragywyddol ogoneddus, sef Teyrnas Nêf, lle y mae efe gwedi myned o'r blaen i gymmeryd meddiant troston ni. Ein dyléd ni yn hyn yw bod yn ofalus iawn na fforffedion ni mo'n cyfran ynthi hi, yr hyn yn ddiammeu a wnawn ni, os parháwn ni mewn unrhyw bechod yn ddiedifeiriol. Yu ail, bod heb sefydlu ein [Page] Meddylfryd ar y bŷd hwn, ond derchafu ein meddyliau yn ól gorchymyn yr Apostol, Col. 3.2. Rhoddwch eich bryd ar bethau sydd uchod, ac nid ar bethau sydd ar y ddaiar; gan hiraethu yn oestadol am ddyfod i feddiant yr Etifeddiaeth fendigedig honno, mewn cystadliad i ba un ni a ddylen dybied yn wael ac yn ddiystyr o bób pethau ifod ymma.
23. Hyn yw sylwedd yr AIL CYF AMMOD hwnnw yr ydyn ni yr awrhon tano, lle y gwelwch chwi beth a wnaeth Crist, pa fodd y mae fo yn cwplhau y Tair Swydd ddirfawr hynny o FRENIN, OFFEIRIAD a PHROPHWYD, ac hefyd pa beth a ofynnir gennim ni: heb ein Cwplháad ffyddlon ni, ni wná yr hyn oll a wnaeth efe ddim lesháad i ni; oblegid ni bydd ef fyth yn Offeiriad i achub neb ond y rhai ai cymmero ef yn gystal yn Brophwyd i'w dyseu hwynt, ac yn Frenin i'w llywodraethu hwynt; iè, os nyni a esgeuluswn ein rhan ni o'r Cyfammod hwn, fe fydd ein Cyflwr ni yn waeth na phe buase fo erioed heb ei wneuthur; oblegid yna fe sydd rhaid i ni atteb nid am drosseddiad Cyfraith yn unic, megis yn y Cyntaf, ond am wneuthur cam a thrugaredd, yr hyn sydd bechod a annog Duw yn ddirfawr i ddigofaint. O'r tu arall, os nyni a gwplháwn hynny yn ffyddlon, hynny yw, a ymofodwn ein hunain yn ddifrifol i ufuddhau pób gorchymyn Crist, heb fyned ymlaen yn fyrbwyll mewn rhyw bechod, ond edifarhau ac ymadel a pha beth bynnag y buon ni yn euog o honaw o'r blaen, yna yn ddiammeu [Page] y mae'r holl rag-ddywededig roddion Crist yn perthyn i ni.
24. Ac yr awrhon chwi a welwch leied achos sydd i chwi i Esgeuluso Gofalu am yr Enaid gan dybied ei bod nhw mewn cyflwr diobaith, gan fod yn eglur nad ydynt hwy; iè yn ddiammeu y mae nhw yn yr unic gyflwr hwnnw, yr hwn yn anad dim arall a'i cymmhwysa nhw fwyaf i'n gofal ni. Oni bae ddarfod i Grist ei Gwaredu nhw, yna nhw a fuasen mor ddiobaith, ac y buasei ein holl ofal ni yn ofer; o'r tu arall, os buasei ei brynedigaeth ef yn gyfryw ac y cawsei pawb ei gwaredu wrtho ef, er iddin nhw fyw fal y mynnon, ni a fuasen yn tybied yn afraid gofalu am danynt, oblegid ei bod nhw yn ddiogel heb hynny. Ond fe welodd Duw yn dda drefnu'r peth felly, ac mae ein gofal ni sydd raid bod y moddion trwy ba un y bydd raid iddynt hwy dderbyn y budd o'r holl bethau a wnaeth Crist drostynt hwy.
25. Ac yr awrhon, os nyni gwedi'r cwbl a wnaeth Duw er mwyn achub ein Heneidiau hyn, ni wnawn cymmeint a Gofalu ychydig drostynt ein hunain, ni haeddwn yn dda iawn fod yn golledig. Os cymmere Pysygwr arno jachau un a fo mewn clefyd gresynol, a'i ddwyn ef trwy ei gelfyddid cymmhelled allan o hono ef, ac y bydde fo yn siccr o atgryfháu, os gwnáe fo ond gofalu trosto'i hun, ac ystyried y rheolau hynny a osodei 'r Pysygwr iddo ef, oni thybiech chwi fod hwnnw yn flin o'i fywyd a wrthodei wneuthur hynny? felly yn ddiammeu y [Page] mae'r dyn hwnnw yn flin o'i Enaid, ac yn ei daflu ef ymmaith o'i wirfodd, yr hwn ni chydsynia a'r ammodau hawdd hynny er mwyn ei gadw ef.
26. Chwi a welwch faint o garedigrwydd sydd gan Dduw tu ac at ein Heneidiau hyn; fe wnaeth yr holl Drindod, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân ei rhan drostynt. Fe roddodd y Tâd ei unic Fâb; fe roddes y Mâb efe 'i hun, fe ymadawodd a'i ogoniant, ac a ddioddefodd angeu chwerw-dóst y groes, er mwyn cadw ein Heneidiau ni rhag colli. Y mae'r Yspryd glán megis yn wasanaeth-wr i ni, i weini i ni trwy gynnyg yn wastad ei râs, i'n gwneuthur ni yn abl i gwplhau'r cyfryw bethau ac a'i ceidw hwynt; iè y mae fo yn ewyllysio cymmeint i ni gymmeryd yn ddilysiant ei gynnygion ef, ac y dywedir ei fod ef yn tristhau pan wrthodon ni hwynt, Eph. 4.30. Yr awrhon pa ryw Sarháad neu ammharch fwy a allwn ni ei roddi ar Dduw na dirmygu'r peth y mae fo fal hyn yn ei brisio, pan fo ni yn tybied na thâl ein Heneidiau ni i ni ofalu ychydig am danynt, y rhai a dybiodd Crist yn deilwng o bób Defnyn o'i waed? Yr ydyn ni yn arfer mewn pethau bydol o'i prisio hwynt yn ól tŷb y rhai cyfarwyddaf ynddynt; yn awr Duw yn ddiammeu yr hwn a wnaeth ein Heneidiau ni a ŵyr oreu ei prîs hwynt, a chan ei fod ef yn gwneuthur cymmeint cyfrif o honynt, bid cywilydd gennim ni (pette ond o barch iddo ef) ei hesgeuluso hwynt: yn enwedig gan ei bód nhw yr awrhon mewn cyflwr mor obeithiol, na ddichon dim ond ein diofalwch ni ei dinistrio hwynt.
[Page]27. Mi a draethais bellach ar fyrr am y Pedwar annogaeth o ofal, y rhai ynt bób un o honynt yn gyfryw ac a gyffrŷ yn ddiammeu ein gofal ni tu ac at bethau'r Bŷd hwn; ac mi a ddangosais i chwi hefyd faint mwy rhesymol, ie angenrheidiol yw iddynt wneuthur yr unrhyw tros yr Enaid. Ac yn awr beth sydd i mi i'w ddywedyd ychwaneg, ond dibennu a geiriau, Esay 46.8. Cofiwch hyn, ac ymddangoswch yn wyr. Hynny yw, gwnewch a'ch heneidiau fal y mae eich Rbeswm yn dyscu i chwi wneuthur a phób peth arall ar sydd yn perthyn i chwi; ac yn ddiammeu, y mae Cyfiawnder cyffredin yn eich rhwymo chwi i hyn ymma; oblegid oddiwrth yr Enaid y mae'r Rheswm hwnnw yn tarddu, yr hwn yr ydych yn ei arferu yn eich holl negeseuau bydol, ac oni chaiff yr Enaid ei hun dderbyn dim Bûdd oddiwrth y Rheswm hwnnw y mae hi yn ei roddi i chwi? Y mae hyn fal pette pennaeth ty, yr hwn sydd yn rhagddarparu ymborth i'w weision, yn cael ganddynt hwy ei gadw rhag bwyta dim ei hun, ac felly bód yr unic un newynllyd yn ei dŷ.
28. Ac fal y mae Cyfiawnder, felly hefyd y mae Trugaredd yn eich rhwymo chwi i hyn ymma; chwi a wyddoch y syrth yr Enaid truan i drueni tragywyddol ac annhraethadwy, os parhewch chwi i'w esgeuluso ef, ac yna rhy hwyr i chwi feddwl am dano ef. Y noddfa diwaethaf a ellwch ehwi ei ddisgwyl yw Trugaredd Dduw, ond fe ddarfu i chwi ddirmygu a cham-arferu honno yn barod. A pha-fodd y gellwch chwi fod mor ddigywilydd ac erfyn yn eich angen [Page] mwyaf ei drugaredd ef i'ch Heneidiau, pan na ddangosech chwi ddim trugaredd iddynt hwy eich hunain? ié na'r Cariad cyffredin hwnnw ychwaith o feddwl am danynt, na threulio ychydig o'r Oriau segur hynny arnynt hwy, na wyddech chwi ond prin pa fodd i'w bwrw heibio.
29. Gosodwch hyn at eich calonnau, ac fal yr ydych chwi yn gobeithio cael trugaredd Dduw pan fo arnoch fwyaf ei eisieu ef, byddwch siccr o dosturio wrthych eich hunain mewn pryd, trwy gymmeryd y Gofal dledus hwnnw am eich Heneidiau Gwerthfawr ar sydd yn perthyn iddynt.
30. Os darfu i hyn a adroddwyd eich hannog chwi i'r Ddyled-swydd hon sy mor angenrheidiol, fy ngorchwyl nessaf i a fydd dangos i chwi pa fodd i iawn-drefnu'r gofal hwn, a hynny, mewn gair, a grynhóir yn gwneuthur yr holl bethau hynny a wná'r Enaid yn ddedwydd, yr hyn yw diben ein Gofal ni; a pheth yw'r pethau hynny yr wyf fi yr awrhon yn dyfod i ddangos i chwi.
Tabl o'r pethau a grynhoir yn yr Amryw Bennodau neu Ddosparthiadau yn y llyfr hwn: y rhai, yn ól y Cyfranniad hwn, trwy ddarllen un o'r Pennodau hyn bò [...] Dydd yr Arglydd, a ddarllennir i gyd trostynt deirgwaith yn y Flwyddyn. | ||
DOSPARTHIAD I. | ||
Sul. 1. | AM Ddled-swydd dyn trwy oleuni Natur, trwy oleuni y Scrythur: y tair caingc fawr o ddled-swydd Dyn, i Dduw, iddo ei hunan, iw gymydog: ein Dled-swydd i Dduw; am Ffydd, yr Addewidion, Gobaith, Cariad, Ofn, ac Hyder. | Pag. 1. |
DOSPARTHIAD. II. | ||
Sul. 2. | Am Ostyngeiddrwydd, Ymddarostyngiad i Ewyllys Duw trwy Ʋfydd-dod; Am Ammynedd ymmhôb mâth ar Benydiau, ac am Anrhydedd dlêdus i Dduw mewn amryw ffyrdd, yn ei Dy, ei Feddiannau, ei Ddydd, ei Air, a'i Sacramentau, &c. | Pag. 36. |
DOSPARTHIAD. III. | ||
Sul. 3. | Am y Sacrament o Swper yr Arglwydd, Am Rag-ymbaratóad, megys prawf o'n Hedifeirwch, Ffydd, Ʋfydd-dod; am Ddled-swyddau, i'w gwneuthur wrth Gymmuno, a chwedi, &c. | Pag. 70. |
DOSPARTHIAD. IV. | ||
Sul. 4. | Anrhydedd dledus i Enw Duw; Pechodau yn erbyn hynny; Tyngu; am Lwon Haerig, Addewidiol, Anghyfreithlon: am Anudonedd, Llwon ofer, a'i Pechod hwynt, &c. | Pag. 101. |
DOSPARTHIAD. V. | ||
Sul. 5. | Am Addoliant dledus i Enw Duw. Am Weddi, a'i hamryw Rannau. Am Weddiau cyhocdd yn yr Eglwys, yn y Teulu. Am Weddi neillduol. Am Edifeirwch, &c. Am Ympryd. | Pag. 113. |
DOSPARTHIAD. VI. | ||
Sul. 6. | Dledswydd i ni ein Hunain; am Sobrwydd; Gostyngeiddrwydd; y Pechod mawr o Falchder; am wâg-Ogoniant, a'i Berigl, a'i Ffoledd; y modddion i'w ochelyd ef: am Addfwynder, &c. | Pag. 141. |
DOSPARTHIAD. VII. | ||
Sul. 7. | Am Foddlonrhwydd, a'r pethau Gwrthwyneb i hynny; Gwrwgnach, Traha, Cybydddod, Cenfigen: Cymmorth i Foddlonrhwydd; am Ddledswyddau a berthyn i'n Cyrph; am Ddiweirdeb, &c. Cymmorth i hynny; am Gymmedrolder. | Pag. 165. |
DOSPARTHIAD. VIII. | ||
Sul. 8. | Am Gymmedrolder yn Ʋfed, Gau Ddibennion o Ʋfed, sef Cymdeithas dda, bwrw ymmaith Ofalon, &c. | Pag. 186. |
DOSPARTHIAD. IX. | ||
Sul. 9. | Cymmedrolder yn Cyscu: y Rheol o hynny, &c. Drwg Syrthni; am Atgyweiriadau, Gocheliadau iw hystyried yn hynny; am Wisg, &c. | Pag. 207. |
DOSPARTHIAD. X. | ||
Sul. 10. | Am ein Dled-swydd tu ac at ein Cymydogion. Am Gyfiawnder, o Ommedd, ac o weithrediad. Am y pechod 'o Lofruddiaeth, ei Faint ef, y Cospedigaethau am dano ef, a'i ryfeddol Ddadcuddiadau ef. Am Archolli, &c. | Pag. 217. |
DOSPARTHIAD. XI. | ||
Sul. 11. | Am Gyfiawnder ynghylch Meddiannau ein Cymydog, yn erbyn gwneuthur Cam ag ef ynghylch ei wraig, ei olud. Am Orthrymder, Lledrad. Am dalu Dyledion, &c. | Pag. 238. |
DOSPARTHIAD. XII. | ||
Sul. 12. | Am Ledrad; am Dwyll mewn ymddiried, mewn marsiandiaeth; am Atgyweiriad, &c. | Pag. 252. |
DOSPARTHIAD. XIII. | ||
Sul. 13. | Am Ddrwg-Absen, Cam-dystiolaeth, Enllib, Hustyng; gwawdio am Wendid, Trallodau, Pechodau, &c. Am Gyfiawnder gweithredol, am Wirionedd, Celwydd, &c. Am Genfigen ac Anair. Am Ddiolchgarwch, &c. | Pag. 266. |
DOSPARTHIAD. XIV. | ||
Sul. 14. | Am Ddledswydd tu ac at Lywiawd-wyr, Bugeiliaid. Am Ddledswydd Rhiéni tu ac at ei Plant, &c. Plant tu ac at ei Rhiéni, &c. | Pag. 295. |
DOSPARTHIAD. XV. | ||
Sul. 15. | Am Ddledswyd tu ac ein Brodyr a'n Cyfneseifiaid, Gwr, Gwraig, Ceraint, meistred, Gweision. | Pag. 324. |
DOSPARTHIAD. XVI. | ||
Sul. 16. | Dosparthaidau eraill o'n Dledswydd tu ac ein Cymydog. Am Gariad i Eneidiau dynion, i'w Cyrph, i'w Golud, a'i Henwau da hwynt. | Pag. 350. |
DOSPARTHIAD. XVII. | ||
Sul. 17. | Am Gariad, Elusen, &c. Am Gariad a berthyn i Enw da ein Cymydog, &c. Am wneuthur Tangnheddyf: Am fyned i'r Gyfraith: am Gariad i'n Gelynion, &c. | Pag. 381. |
TABL O'R DEFOSIONAU NEILLDUOL. | |
CYfarwyddiad am y Boreu. | Pag. 413 |
Gweddiau Boreuol. | 415 |
Gweddiau Pridnhawnol. | 423 |
Colectau am amryw Rasau. | 430 |
Esponiad O Weddi'r Arglwydd. | 446 |
Ocheneidiau Sanctaidd wedi ei cymmeryd allan O Lyfr y Psalmau. | 450 |
Pyngciau byrrion i ni ymholi ein hunain, &c. | 453 |
Gweddiau o flaen derbyn y Cymmun. | 471 |
Ocheneidiau wrth fwrdd yr Arglwydd. | 477 |
Diolwch ar ol derbyn y Cymmun. | 479 |
Cyfarwyddiad am amser Clefyd. | 489 |
Gweddi tros ddyn claf. | 490 |
Ocheneidiau byrrion. | 499 |
Gweddiau mewn Trallodau Cyffredin, &c. | 505 |
Gweddi tros yr Eglwys hon. | 509 |
Gweddi am heddwch yr Eglwys, | 511 |
Y DOSPARTHIAD,
I.
Am ddled-swydd
DYN trwy oleuni Natur, trwy oleuni y Scrychur: y tair caingc fawr o ddled-swydd Dyn, i Dduw, iddo ei hunan, iw gymydog: ein Dled-swydd i Dduw; am Ffydd,
yr Addewidion, Gobaith, Cariad, Ofn, ac Hyder.
YMae'r Rhagor-freintiau a bwrcasodd Crist i ni yn gyfryw ac a wna yr Enaid yn ddiammau yn wynfydedig; oblegid Gwynfŷd tragwyddol yw ûn o honynt: ond o herwydd nad yw'r Rhagor-freintiau hyn yn perthyn i ni nes i ni gyflawni yr ammod dledus arnom ni; rhaid i bwy bynnag a chwennycho happusrwydd ei enaid, ymosod i hun i gyflawni yr Ammod hwnnw. Mi adroddais yn barod yn Gyffredinol beth iw'r Ammod hwn, sef, ymegniad diwyd, diragrith i ufyddhau i holl ewyllus Duw. Ond gan fod amryw neillduol bethau yn gynhwysedig tan ewyllus Daw, y mae'n anghenrheidiol i ni wybod beth ydiw rheini: sef, beth yw'r amyrw bethau [Page 2] y mae Duw yr awrhon yn i ofŷn ar ein dwylo ni, Cyflawniad pa rai an dŵg ni i ddedwyddch tragwyddol, ai hesculusdra i drieni annherfynol.
Am oleuni Natur.2. Or rhain y mae Duw gwedi argraffu rhai ar ein heneidiau ni, yn gymaint ac y gwyddom ni hwynt trwy Natur; hynny yw, ni a wyddasen ei bôd nhw yn ddledus arnom ni, pe buasei'r scrythur eiriod heb ein harddyscu ni. Ni a allwn weled fôd hyn felly, trwy'r Cynhedloedd, y rhai ni chlwysent eriod son am yr hên Destament na'r Newydd ag etto sydd yn Cydnabod ei bod nhw yn rhwymm i gyflawni rhai Dled-swyddau Cyffredinol, megis i addoli Duw, i fod yn gyfiawn ▪ i anrhydeddau ei Rhieni, a'r cyffelib; ac y mae, St. Paul yn dywedyd, Rhuf. 2.15. Fod ei Cydwybodau nhw yn y pethau hynny, yn ei Cyhuddo, neu yn ei hescusodi nhw; sef, yn dywedyd iddynt hwy, a wnaethont, y peth a ddylesynt hwy, yn y pethau hynny, ai nat to.
3. Yr awrhon er darfod i Grist ddwyn goleuni mwy i'r bŷd, etto ni feddyliodd ef erioed trwy hwnnw ddiffodd dim or Goleuni Naturiol yr hwn a osododd Duw yn ein Heneidiau ni: Gadewch inni gan hynny yn awr eich rhybudddio chwi na rodioch yngwrthwyneb i'r Goleuni lleiaf hwn, hynny yw, na anturioch ar y rûn or gweithedroedd hynn, rhai y mae Cydwybod Naturiol yn dwedyd ei bod yn bechodau.
4. Y mae yn achos Cyfiawn o dristwch i galon [Page 3] Christion weled rhai yn y dyddiau hyn yn proffessu llawer o Grefydd, ac etto yn buw yn y fath bechodau, ac y Ffieiddiau anghredadun fyw ynddynt; dynion yn gwneuthur lliw o uwch graddau o oleuni, a Sancteiddrwydd na' i Brodyr, etto yn ymarferu ynghwrthwyneb i bôb rheol Gonestrwydd cyffredinol, ac yn gwneuthyd yn rhan o'i rhydddid Gristianogawl i wenuthur felly; oddiwrth hudoliaeth pa rai y perthyn i bôb rhai a garo ei heneidiau, ymogelyd: ac ir perwyl hynny, gosoder hyn yn sylfaen, sef, Na all y Grefydd, neu'r Opiniwn honno, yr hon sydd yn Cynnwys dynion mewn nebriw anwiredd, fod o Dduw.
5. Ond er na ddylem ni ddiffodd y Goleuni hwn a osododd Duw yn ein Heneidiau ni, etto nid hwn yw 'r unig ffordd trwy ba ûn y datcuddiodd Duw ei ewyllus; ag am hynny ni ddylem ni Orphywys ymma; ond myned ymlaen, i wybodaeth o'r pethau eraill hynny, y rhai y darfu i Dduw trwy foddion eraill ei datcuddio.
6. Goleuni y Scrythyrau. Y modd i ni i ddyfod iw gwybod hwynt yw trwy 'r Scrythyrau, y'mha rai y gosodir ar lawr yr amrhyw orchmynion hynny y rhai a roddes Duw i fod yn rheol o'n dled-swydd ni.
7. Rhai or rhoini a roddwyd cyn dyfod Crist i'r bŷd, sef, y Deddfau hynny, y rhai sydd wascaredig drwy'r hén Destament, ond yn enwedig y rhai a gynnhwysir yn y Dêg-gorchymmun, a'r Llyfr rhagorol hwnnw Deuteronoinium; eraill a roddwyd gan Grîst yr hwn a [Page 4] anghwanegodd lawer at y Gyfraith yr hon a wreiddied ynom ni trwy Natûr, ag Gyfraith y'r hên Destament, a'r rhai hyn a ellwch chwi ei gweled yn y Testament newydd mewn amryw orchmynion a roddwyd gantho ef, a'i Apostolion, ond yn enwedig yn y bregeth ragorol honno ar y Mynûdd, yr hon a osodwyd i lawr, yn y bummed, chweched, a'r seithfed bennodau ô Efengyl St Mathew.
8. Mi a ddylwn draethu yn neillduol ar bôb ûn o'r rhai hyn, ond ô herwydd y gwnai hynny yr gwaith yn rhy-hîr, ac fellu yn llai cymmwys i'r râdd waelaf o ddynion, i fwyniant pa rai yn unig y bwriaded ef, mi a ddewisais yn hytrach fyned ymlaen mewn modd arall; trwy gydsylltu hyn ôll, ag fellu gosod i lawr cyn eglûred ac y medra'i pa beth ydiw Dled-swydd pôb Christion.
Y tair caingc fawr ô ddlêd Dyn.9. Hyn sydd yn fyrr yn gynhwysedig yngeiriau'r Apostl, Tit. 2.12 [...]. Bod i' ni fuw yn sobr, yn gyfiawn ac yn ddiwiol yn y byd sydd yr awrhon; ymha fan y mae'r gair [yn sobr] yn Cynnwys ynddo ein dlêd-swydd tu ag attom ein hunain; [yn gyfiawn] ein Dled-swydd tu ag at ein Cymydogion; ag [yn Ddiwiol] ein dlêd-swydd tu ag at Dduw. Hyn gan hynny a fydd prif byngciau fy ymadrodd ei, ein dlêd i Dduw, ein Hunain, ac i'n Cymydogion. Mi dechreuaf an Ddled i Dduw gan fod hynny yn sylfaen goreu i' ni i adeiladu y ddaû eraill arno.
Dlêd-swydd, Dduw.10. Y Mae amryw rannau on dlêd-swydd i Dduw; y ddau bennafyw y rhai hyn, yn gyntaf [Page 5] ei Gydnabod ef i fod yn Dduw; yn ail na fytho gennym ni y rûn arall. Tán y rhain y Cynhwysir yr holl bethau neilduol hynny, y rhai a wna i fynuu ein Holl Ddled-swedd i Dduw, yr hyn a ddangosir yn ei Trefn.
11. Cydnabod ei fod ef yn Dduw, Cydnabod i fod ef yn Dduw. ydiw credu i fôd ef yn ysbryd gogoneddûs anherfynedig, yr hwn oedd o Dragwyddoldeb heb ddechreuad, ag a fydd hyd Dragwyddoldeb heb ddiwedd. Ei fod ef yn Greawdr, Waredwr, a Sancteiddiwr, y Tâd, y mab, a'r Ysbryd-glân, ûn Duw bendigedig yn oes oesoedd. Nad yw bossibl iddo ef mewn ûn modd Newidio, ond i fod ef yn anghefnewidiol; nad ydiw ef sylwedd Corphorol y cyfriw ag a eill ein Liygaid ni ei amgyffred, either Ysbrydol ac anweledig, yr hwn ni welodd ûn Dyn erioed, ac nis dichon neb ei weled, 1 Tim. 3.16. Ei fod ef yn anherfynol mewn Mawredd a Godidowgrwydd, uwch law y cwbl oll a all ein Synwyr ni a'n meddwl i fwriadu; na dderbyniodd ef ei sylwedd gan neb, ac ei fôd ef yn rhoddi sylwedd a dechreuad i bob pethau.
12. Hyn oll a ddylem ni i gredu am dano efo herwydd ei sylwedd, a'i hanfod: ond heb law hyn y mae'r Scrythur yn i osod ef allan i ni trwy ei amriw ardderchowgrwydd, sef gan i fôd ef ô annherfynol ddaioni, a thrugaredd, a gwirionedd, a chyfiawnder, a doethineb, a gallu, ac oll-alluowgrwydd, a mawrhydi; ei fod ef yn dosparthu ac yn Llywiaw pôb pethau trwy ei Ragluniaeth; ei fod ef yn gwybod pôb peth, ac yn bresennol ymmhob mann; yr hun y mae Difinyddion yn ei galw Prodioliaethau Duw, a'r holl [Page 6] bethau hyn sydd raid i ni yn ddisigl ei Cydnabod, sef, Credu yn ddiogel fod yr holl ddwywawl ardderchowgrwydd hyn yn Nuw, ac hynny yn y radd berffeithiaf, fal nad allan nhw, na bython ynddo ef, nid eill ef na bo'yn annherfynol ddaionus, trugarog, graslawn, &c.
13. Ond ei gydnabod êf ei fod yn Dduw i ni sydd yn arwyddoccau etto chwaneg na hyn; sef, y dylem ni gyflawni iddo ef yr holl ddlêd-swyddau hynny a berthyn oddiwrth Greadur i'w Dduw: mi a ddangosaf i chwi yr awrhon pa beth yw y rhai hynny.
sydd.14. Y Cyntaf ydyw Ffydd neu grediniaeth, nid yn vnig iw rhagddywededig Hanfod ai briodoliaethau ond iw Air, sef Credu yn ddiogel fôd pób peth a ddywed ef yn gwbl wîr. Mae hyn yn anghenrheidiol yn traddu allan o'i Briodoliaeth honno, sef ei Wirionedd, gan fod yn naturiol i' ni gredu beth bynnag a ddywdir gan un, ô wirionedd r' hwn, yr ydym yn hyderus. Yn awr gan fôd y Scrythyrau Sanciaidd yn Air Duw, rhaid i' ni gredu yn ddisigl fôd pôb peth a gynnhwy sir ynthynt hwy yn gwbl wîr.
Traethiadau.15. Y Pethau a gynnhwysir ynthynt hwy, sydd o'r pedwar rhywogaeth hyn: yn gyntaf, Traethiadau, y cyfriw ydyw holl Historiau 'r Bibl, pan ddywedir y peth a'r peth a ddigwyddodd fal hyn ac fal hyn; Crist a anwyd ô Forwyn, a ddodwyd mewn Preseb, &c. A'r cyffelyb, hefyd yw amryw byngciau ô Athraweaith, megys fôd tri Pherson yn y Duwdod, fod Crist yn fab Duw &c. Mae'n rhaid i' ni gredu fôd pôb peth [Page 7] o'r fath hyn a osodir i lawr yn y Scrythur yn gwbl wir. Ag nid fellu yn ûnig ond ô herwydd ei bod nhw oll gwedi ei scrifennu er ein haddysc ni, rhaid i' ni ei ystyried nhw i'r perwyl hwn, sef, trwy y rhai hyn i osod ár lawr sylfaen gwybodaeth Gristionogawl, ar ba un y gallwn adeiladu Buchedd Gristionogawl.
16. Yr ail mâth ar bethau a gynnhwysir yn y Scrythur yw Gorchymynion, sef, Gorchymynion. amryw bethau a orchymynnodd Duw i' ni ei Cyflawni: rhaid i' ni gredu ddyfod o'r rhain oddiwrtho ef, ai bôd nhw yn drachyfiawn, ag yn gymmwys iddo ef i gorchymyn: Ond y mae'n anghenrhaid yn y cyfamser i'r Ffydd hon ddwyn allan Ʋfydd-dod, megis fal y gwnelom yn ddiwyd y peth yr ydym ni yn ei gredu sydd gymmwys i' ni i wneuthur; onid-ê, ni thâl ein Ffŷdd ini ddim ond i'n gwneuthur ni yn fwy anescusodol.
17. Yn drydydd, Bygythion. y mae'r Scrythur yn cynnwys ynddi Fygythion; y mae amryw leoedd yn bygwth i'r rhai a ân ymlaen yn ei pechodau ddigofaint Duw, trwy ba ûn yr arwyddocceir holl Gospedigaethau a thrueni y bŷd hwn yn gystal ysbrydol ac Amserol, a destryw Tragwyddol yn y bŷd a ddaw. Mae'n rhaid i' ni yn awr yn draddiogel gredu mae Bygythion Duw iw'r rhai hyn ac y cânt hwy yn siccr ei cyflawni ar bôb anedifeiriol bechadur. Ond yn y cyfamser y Defnydd sydd raid i n'i ei wneuthur o'r Ffŷdd hon ydyw ymgadw oddiwrth y pechodau hynny i ba rai y bygythir y Destryw hyn, onid-ê ni wna'n Ffydd ni ond anghwanegu ein heyogrwydd ni, y rhai ydym yn fyrbwyll yn [Page 8] myned ymlaen, er y'r holl fygythion hynny.
Addewidion.18. Yn bedwerydd, y mae'r Scrythur yn cynnwys Addewidion yn gystal i'n Cyrph ac i'n Heneidiau; i'n Cyrph y mae amryw Addewidion y rhagddarpara Duw i' ni ypeth a welo êf yn anghenrhaid; ni henwai ond ûn, Mat, 6.33. Yn gyntaf ceisiwch Deyrnas Dduw ai gyfiawnder ar holl bethau hyn, hynny yw pôb anghenrheidiau oddiallan, a roddir i chwi yn chwaneg. Ond yma ystyriwn mai rhaid i' ni yn gyntaf geisio Teyrnas Dduw ai Gyfiawnder, sef, dodi yn gofal cyntaf a mwyaf i wasanaethu, ac iw Ufyddhau êf cyn i'r addewid hwn, ie ô bethau da Amserol berthyn i' ni. I'r Enaid y mae llawer o Addewidion mawrion, megis yn gyntaf ô Esmwythaâd, ac Edfryd presennol, fal y gwelwn ni Mat. 11.29. Cymmerwch fy iau arnoch a dyschwch gennif, a chwi a gewch Esmwythdra i'ch Eneidiau: Ond yma y mae 'n hysbus, fôd yn rhaid i' ni, cyn i'r Esmwythdra hwn berthyn i' ni gymmerud Jau Crîst arnom, ag yn gwneuthur ein hunain yn Weision ac yn Ddiscyblion iddo êf. Yn ddiweddaf y mae i'r Enaid Addewidion ô holl Ragor-freintiau Crist; ond etto i'r rhai hynny yn ûnig a gyflawno y Cyfammod erfynnedig; sef, maddeuant Pechodau i'r rhai a edifarhao, Cynnhyddiad grâs ir sawl a wna Ddefnydd yn ddiwyd o'r Grasau sydd ganthynt, ag a weddiant yn ostyngedig am ychwaneg; ag Jechydwriaeth Tragwyddol i'r rhai barhânt hyd ddiwedd ei Bywyd mewu Vfydd-dod diragrith iw Orchymynion êf.
19. Rhaid gan hynny i'r Ffydd hon o'r [Page 9] Addewidion yn Cynnhyrfu ni i gyflawni'r Cyfammod cyn gallon'i mewn rheswm ddisgwyl dim daioni trwyddynt hwy: ac i' ni ddisgwyl bûdd oddiwrthynt ar dermau eraill ydyw 'r unrhyw ryfyg. Ffôl a phe gofynnei gwâs wobr gan ei feiftr am escluso gwneuthur ei waith êf, i'r hwn yn vnig yr adawesyd y gwobr; chwi ellwch yn hawdd fwriadu pa atteb a roddyd i'r cyfriw Wâs; ar unrhyw a ddisgwyliwn ninnau gan Dduw yn y Cyflwr hwn. Jê ymmhellach, siccr yw na roddodd Duw mo'i Addewidion i ddiben arall namyn i'n gwahodd ni i Sancteiddrwydd buchedd; ie, fo roddodd ei Fâb, ymha ûn y cyflawnir ei holl Addewidion êf, ir perwyl hwn. Yr ydym ni arferol ô edrych yn gymmaint ar ddyfodiad Crist i dalu iawn troson 'i, ag yr anghofiwn ni y rhan arall yma oi neges êf. Ond nid oes dim siccrach nad i blannu buchedd dda ymysg dynion ydoedd diben mwyaf ô ddyfodiad Christ i'r bŷd.
20. Y mae hyn gwedi i addroddi yn y Scrythur cyn fynyched, fal nad all neb, a ystyria ac â gredo y peth mae yn i ddarllen, ammeu ô hono êf. Mae Crist ei hûn yn dywedyd i' ni Mat. 9.13. Y daeth ef i alw pechaduriaid i edifeirwch. Ac y mae St. Petr, Act. 3.26. yn dywedyd, Dddanfon o Dduw ei Fâb JESƲ i'n bendithio ni, gan droi pôb ûn o honon i oddiwrth ein drygioni, wrth hynny ein Troead ni oddiwrth ein drygioni, oedd y fendith fwyaf hynodol, ar a oedd Duw yn i amcanu i ni ynghrist.
[Page 10]21. Ie ni a'n dyscir gan St Paul mae hyn hefyd oedd diben ei farwolaeth ef Tit. 2.14. Yr hwn ai rhoddes ei hûn trosom fel in pryne ni yn rhydd oddiwrth bôb anwiredd, ac y glanhae ni yn bôbl briod iddo ei hûn, yn awyddus i weithredoedd da. A thrachefn Gal. 1.4. Yr hwn ai rhoddes ei hûn dros ein pechodau, er ein gwared oddiwrth y byd drwg presennol, hynny iw, oddiwrth bechodau ac arferau drwg y bŷd. Y Mae amryw leoedd eraill i'r pwrpas hwn, ond yr wyf yn meddwl fod hyn yn ddigon i ficcrhau ûndyn am y gwirionedd mawr hwn, fod Cymmaint ac a wnath Crîst yn tueddu i'r diben hwn; sef, i'n dwyn ni i fyw yn Gristionogawl, neu yngeiriau St. Paul, i'n dyscu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a bod i' ni fyw yn sobr, ac yn gyfiawn ac yn ddywiol yn y bŷd sydd yr awrhon. Tit. 2.12.
22. Ni wyddon mae Crist yw sylfaen yr holl addewidion; boll Addewidion Duw ynddo ef ydynt ie ac Amen. 2 Cor. 1.20. Ac am hynny os rhoddes Duw Grist i'r pwrpas hwn, eglur yw fod yr Addewidion i'r ûnrhiw hefyd. Ac yna pa gamarfer yr Addewidion ydyw gwneuthur yddynt hwy wasanaethu i berwyl gwrthwyneb i'r peth yr amcanwyd hwynt? sef i'n Cyssuro ni mewn Pechodau yr hyn beth a wnant hwy yn siccr, os nyni a fyddwn hygoel i gredu i bod nhw yn perthyn i' ni, er annuwioldeb y byddwn fyw. Y mae 'r Apostl yn dyscu i' ni Ddefnydd arall ô hononyn 'hw 2. Cor. 7.1. Am hynnu gan fod i', ni'r Addewidion hyn, ymlanhawn oddiwrth bob halogrwydd, cnawd ag Ysbryd gan berffeithio Sancteiddrwydd yn ofn [Page 11] Duw. Pan wnelon fal hyn; ni allwn yn gyfiawn gymmhwyso 'r Addewidion i' ni ein hunain a disgwyl yn gyssurus ein rhan ynddynt hwy. Ond hyd hynny er bôd yr Addewidion hyn ô wirionedd disigl, etto ni allwn ni ddisgwyl dim budd oddiwrthynt, o herwydd nad ydym y cyfriw, i'r rhai y gwnaethpwyd hwynt, hynny yw nid ydym yn Cyflawni y cyfammod sydd i roddi i' ni iawn ynddynt hwy.
23. Hyn yw'r Ffydd neu'r Gredinaeth a ddisgwylir gennim ni tu-ag at y pethau, a ddadcuddiodd Duw i' ni yn y Scrythur, sef, y cyfryw ac a eill atteb y Diben, am ba ûn y dadcuddwyd hwynt felly, hynny yw, ein dygiad ni i fucheddau da; heb hyn, nid ydyw credu yn vnig iw Gwirionedd hwynt ddim mwy nag y mae'r Cythreliaid yn ei wneuthur fal y dywed St. Jaco Pen. 2.19. Yn Vnig nid ydynt hwy mor anresymmol ac ydyw a rhai o honon 'i, canys nhw a grynnan gan wybod yn dda, na wna'r Ffydd hon iddi' nhw fyth ddaioni. Ond mae llawer ô honon'i yn myned ymlaen yn fyrbwyll, heb ammau nad yw'n Ffydd ni yn abl, er nadoes gennyni y ffrwyth lleiaf ô Ufydd-dod i brofi'r Ffydd hon wrtho; gwrandawed y cyfryw rai farn St. Jaco yn y Cyflwr hwn, Pen. 2.26. Megys y mae'r Corph heb yr ysbryd yn farw, felly Ffydd beb weithredoedd marw yw.
24. Yr ail Dlêd-swydd i Dduw yw Gobaith, Gobaith. hynny yw, difgwyliad Cyssurûs y pethau da hynny, a addawodd ef. Ond rhaid i hwn (fal y ragddywedais am Ffydd) fôd gwedi [Page 12] ei gymmhwyso i natur yr Addewidion, y rhai gan ei bôd nhw yn gyfryw ac sydd yn disgwyl Cyfammod O'n tu-ni, ni allwn ni Obeithio ddim pellach nag y gwnawn i'r Ammod yn dda; neu os gwnawn ni amgen yr ydym ni cymmhelled oddiwrth gyflawni'r Ddlêd-swydd hon ô Obaith, Rhyfyg. ac yn bod ni yn gwneuthur y pechod mowr hwnnw ô Rhyfyg, yr hwn nid ydyw ddim amgen namyn gobeithio lle ni roes Duw ddim achles i Obeithio: hyn y mae pob Dyn yn ei wneuthur ar sydd yn Gobeithio cael maddeuant Pechodau a bywyd Tragwyddol heb'r Edifeirwich a'r Ufydd-dod hynny, i ba rai yn vnig yr addawyd [...] hwynt; y gwir Obaith yw 'r hwn an pura ni, 1 Jo. 3.3. Pob ûn sydd ganddo y Gobaith hyn ynddo, ai pûra ei hûn, megys y mae yntef yn Bùr; hynny yw, fe a wnâ iddo ymadel ai Bechodau, ag ymegnio yn ddiwyd i fôd yn Sanctaidd, megis y mae Crist; a'r hwn nid ydyw felly, er tra-hyderus y bo fo, a ellir yn hawdd wybod nad yw ê ond Gobaith y Rhagrythiwr, yr hwn y mae Job yn ei siccrhau i' ni a ddiflanna.
Anobaith.25. Ond y me ffordd arall i droseddu y Ddlêd-swydd hon heb law honno, ô Ryfyg, ac honno yw trwy Anobaith, wrth ba ûn nid wyfi yn meddwl yr hon â elwir felly yn gyffredinol, sef, Anobeithio am Drûgaredd tra' i boni 'n parhau yn ein Pechodau, canys nid y wond cyfiawn i' ni wneuthur fellu: Ond yr wyfi'n meddwl y fâth Anobaith ac a bair i ni adael heibio ymegnio, hunny yw, pan fo dyn yn bwriadu na ddigwydd iddo, fyth fôd y cyfryw ûn ac y perthyn yr Addewidion iddo, oblegid ei fôd êf yn gweled nad ydyw êf yn y [Page 13] Cyfamser, y Cyfryw ûn, ac am hynny yn Esceuluso pôb Ddlêd-swydd, ac yn myned ymlaen yn ei Bechodau. Hwn yn wir yw'r Anobaith Pechadurus, yr hwn os parheir ynddo, a ddibenna mewn Destryw.
26. Gwaith Gobaith gan hanny ydyw Rhagflaenu hwn, trwy osod o'n blaen ni Gyffredinoldeb yr Addewidion, sef, i bôd nhw yn perthyn i bawb a gyflawna 'r cyfammod. Ag am hynny er na ddarfu i ddŷn hyd yn hyn ei gyflawni ef, etto fo Gobaith iddo, a geill efo etto i ennill ef os efe'r awrhon a ymrû'n ddiwyd i chwilio am dano. Ffolineb rhyfeddol ydyw hi gan hynny i ddŷn, er Annuwiol a fytho fo, i roddi ei hûn i fynnu yn golledig, pan all êf (os ef a adnewydda ei Fûchedd) fôd cyn siccred ô gyfrannu o'r Addewidion trugaredd, a phe buasei fo erioed heb fyned ymlaen yn ei Bechodau.
27. Hyn y mae Crist yn i ddangos i' ni trwy ddammeg y Mâb afradlon, Luc. 15. lle y gwelwn'i y Mâb hwnnw, yr hwn â redasei ymmaith oddiwrth ei Dâd, ac ac a ddifrodasei ei gyfran a roddwyd iddo, mewn bucheddafradlon, etto ar ei droead a'i Edifeirwch yn cael i groesawu gan ei Dâd, a'r y fâth Laryeidd dra, a phe na throseddasai ef erioed. Vnig fwriad y Ddammeg hon ydyw i ddal allan i' ni mor raslawn y derbyn ein Tâd nefol nyni, er maint oedd ein Pechodau ni or blaen, os y ni a ddychwelwn atto êf a gŵir ofid am a bassiodd, ac Ufydd-dod diragrith am'r amser sydd i ddyfod; ie, mae dychweliad pechadur oddiwrth ei ffordd gyfeiliornus, mor gymmeradwy gan [Page 14] Dduw, â bôd mâth ô orfoledd yn y Nêf am hynny, y mae llawenydd yng-wydd Angelion Duw; am ûn pechadur a edifarhao, Luc. 15.10. Pwy gan hynny na ddewisai yn hyttrach ddwyn Llawenydd i'r nêf sef i Dduw, ac iw Angelion Sanctaidd trwy Edifeirwch mewn prŷd, na boddhau Satan ai Ysbrydion melldigedig trwy annobaith sarrug; yn enwedig gan ein bôd ni yn ennill trwy 'r naill happusrwydd tragwyddol i' ni ein hunain, a thrwy'r llall Boenau annherfynol?
Cariad.28. Y drydydd Ddled-swydd i Dduw, ydyw Cariad; y mae dau Annogaeth gyffredinol i gariad ymysg Dinion. Un yw daioni, a godidowgrwydd y Person; ar llall yw ei fwyneiddra neillduol ai gariad êf tû ag attom ni; y mae pôb ûn or rhain yn Nuw mewn Grâdd berffeithlawn.
Godidowgrwydd Duw.29. Yn gyntaf, mae êf yn ddaioni a godidowgrwydd ahnherfynol yntho ei hûn; hyn a ddysgwyd i chwi gredu am dano êf o'r blaen, ac nid all neb ammau hyn ar a ystyria r' ûn peth hwn, sef, nad oes dim da yn y bŷd, ond a dderbyniodd ei holl Ddaioni gan Dduw; y mae ei Ddaioni êf fal y môr; a daioni holl Greaduriad ond megis Afonydd bychain yn tarddu allan or Môr; yrawrhon chwi a ddybygech i fôd êf yn ddŷn gwallgofus, yr hwn na ddywedai nad yw'r Môr yn fwy na rhyw Afon fechan; a diammau nid yw è ddim llai ffolineb i dybied nad ydyw Daioni Duw yn rhagori cymmaint (iè anfeidrolŷchwaneg) ar holl ddaioni y Creaduriaid. Heb law hyn y [Page 15] mae Daioni y Creaduriaid yn amherffaith ac yn gymmyscedig a llawer ô ddrŵg; ond y mae ei Ddaioni ef yn bûr ag yn anllygredig heb ddim o'r fath Gymmyscedd. Y mae êf yn gyflawn Sanctaidd, ag nid ellir mo'i argyoeddi ef o'r ammhuredd lleiaf, ni ddichon êf ychwaith fod yn Awdwr o hynny i' ni; canys er ei fòd êf yn achos o' bôb daioni i' ni, nid yw êf yn achos o' rûn o'n pechodau ni. Hyn y mae St, Jaco yn i draethu yn eglur, Pen. 1.13. Na ddyweded nêb pan demptier êf, ei demptio gan Dduw, canys ni ellir temptio Duw â drŵg, ac nid yw ef yn Temptio nêb.
30. Ond yn ail, Ei Diriondeb ef i ni. nid ydyw Duw yn ûnig fal hyn yn dda ynddo ei hûn, ond y mae ef hefyd yn dda rhyfeddol, sef Tirion a Thurgarog i' ni; yr ydym ni wedi ein gwneuthyd i fynu ô ddwy ran, Enaid a Chorph, ac i bôb ûn o'r rhai hyn yr eglurodd Duw, ei Anfeidrol Drugaredd a'i Diriondeb. Yn ûnig ystyriwch beth a ddewedwyd i chwi o'r blaen am yr Ail Cyfammod, ar Trugareddau a gynnygwyd yna, sêf Crîst ei hûn a'i holl Ragorfreintiau, ac i fôd êf hefyd yn ei cynnyg hwynt mor Galonnog a diragrith, fal nad eill neb fethu ei mwynhau hwynt, ond trwy ei fai ei hûn, Canys y mae ef yn chwennychu i' ni yn dra-ddirfawr ei Cofleidio nhw a buw; fol y mae'n amlwg trwy'r Llŵ cyhoedd hwnnw, Ezek. 33.11. Nid byw fi medd'r Arglwydd Dduw os ymhoff af mewn Marwolaeth yr Annuwiol, onid ar drot o'r Annuwiol oddiwrth ei Ffordd ei hûn a byw: ag yn ebrwydd y mae yn dra-dosturus, yn adrodd, Dychwelwch, Dychwelwch, oddiwrth eich Ffyrdd drygionus, canys pa [Page 16] ham y byddwch feirw? chwi ellwch ddarllen i'r unrhyw ddiben, Ezek. 18. Ystyriwch hyn meddaf'i, ac yna diammau yw nad ellwch lai na dywedyd fôd gantho êf diriondeb mawr i'n heneidiau ni, Ie cofied pob dŷn yn ddifrifol ond yr amryw wahoddiadau a gafodd ef i edifeirwch a gwellhaád weithiau oddiallan trwy'r Gair, weithiau oddifewn trwy ymsisial cyfrinachol Ysbryd Duw yn ei galon, y rhai ydoedd yn ûnig iw daer-ymbil, ai eiriol ef, i ochelyd Trueni tragwyddol, ae i ddilysu dedwyddwch annherfynol; cofied medda'i hyn, ynghŷd a llaweroedd eraill o foddion â arferodd Duw tu ag atto êf, i'r ûnrhyw ddiben, ac è fydd iddo êf achos i gyfaddef Tiriondeb Duw, nid yn ünig i Eneidiau dynion yn gyffredinol ond i'w Enaid ei hûn yn neillduol.
31. Ni bu Duw ychwaith yn ddiffygiol i'n Cyrph ni, ô blegid ei ddoniau ef yn vnig ydyw 'r holl bethau da y maent hwy yn ei mwynhau; megys Iechyd, nerth, Lluniaeth, dillad, ar Cyffelyb bethau sydd yn perthyn iddynt hwy; yn gymmaint yn wir nad yw bossibl i' ni fôd yn anghydnabyddus a'i Drugaredddau ef tu ag attynt hwy, gan fod yr holl ddiddanwch oddiallan a'r esmwythdra 'r ydym ni beunydd yn ei mwynhau, yn Effeithiau parhaus, ac yn dystion o hynny; ac er bôd rhai yn mwynhau ychwaneg o'r pethau hyn nag eraill, etto nid oes nêb, nad yw yn mwynhau mewn rhyw fôdd neu i gilydd cymmaint ac a ddengys yn amlwg drugaredd a Thiriondeb Duw tu ag at ei Gorph ef.
[Page 17]32. Nid yw gan hynny ond rhesymmol 'i ni Garu ef, 'r hwn sydd fal hyn ymhôb ystyriaeth yn hawddgar: ie, mae hon yn ddled-swydd mor gyffredinol, fall pe gofynnech chwi i undŷn a ydyw ef yn Carû Duw, ai nad ydyw, fe dybygai eich bôd chwi yn gwnenthyd iddo gam mawr Ammau hynny; etto er hyn ei gŷd y mae yn rhŷ eglur, nad eos ond ychydig yn i wîr garu ef, a hyn a brofir yn eglur trwy ymholi ychydig,, beth yw Effeithiau Cyffredinol Cariad, yr hwn sydd genim ni tu-ag at ddynion fal ni ein huain, ac yno Profi a allwn i ddangos y Cyfryw Ffrwythau o'n Cariad i Dduw.
33. Y mae amrhyw o'r fâth hyn, Chwant Bodloni. ond i fòd yn fyrr ni henwai ond Dau. Y cyntaf iw, Chwant bodloni, yr ail iw Chwant mwynhau ▪ Y rhai hyn yn wastadol iw Ffrwythau Cariad. Am y cyntaf, fe wyr pawb fôd y nêb a garo rhyw ŵr yn chwennych i wneuthyd ei hûn yn gymmeradwy iddo ef, gan wneuthur beth bynnag a dybygo fo ai bodlona êf; ac y mae 'r Chwant hwn yn fwy neu lai yn ôl mesur y Cariad; lle 'r ydym ni yn Caru yn ddifrifol, yr ydym yn dra-ddiwyd a gofalus i fodloni. Os oes gennym ni gan hynny y gwîr Gariád hwnnw i Dduw ac yr ydym ni yn Cymmeryd ararnon fôd fe a ddwg allan y ffrwyth hwn, sef, ni fyddwn ofalus iw fodloni ef ymhob peth. O herwydd pa ham fal y barnwch chwi am y Pren wrth ei Ffrwythau, fellu y gallwch farnu am eich Cariad i Dduw trwy'r Ffrwyth hwn o honaw ef; yn wîr hon ydyw'r ffordd o brofiad [Page 18] a draddododd Crist ei hûn i'ni, Joan 14.15. O cherwch fi, cedwch fyngorchymynion; ac y mae St. Joan yn dywedyd i' ni 1 Ep. 5.3. Mae hyn yw Cariad Duw, bôd i ni rodio yn ôl ei Orchymynion ef; a lle bo'r Profiad hwn yn ûnig yn ddiffygiol amhossibl yw Tystiolaethu am ein Cariad i Dduw.
34. Ond rhaid ydyw ystyriad ymhellach na wasaenaetha i'r Cariad hwn ô Dduw fôd mewn grâdd isel wann; Oblegid heb law fòd y Cynhyrfiadau i hyn, sef, ei Odidowgrwydd ai Diriondeb ef yn y râdd uchaf, y mae'r unrhyw Orchymyn yr hwn sydd yn erchi i'ni garu Duw, yn erchu i'ni hefyd ei garu ef an holl Galon, ac a'n holl nerth, hynny yw, cymhelled ac ydyw bossibl i' ni, ac uwch-law pôb peth arall. Ac am hynny er mwyn i'ni gyflawni 'r Gorchymyn hwn, anghenrhaid yw i' ni ei Garu êf yn y râdd honno. Ac os gwnawn i felly, ni bydd gennym ni yn vnig ryw fwriad gwael a Llêsg i'w fodloni êf, ond y cyfryw ac a fydd mwyaf diwyd a difrifol, sêf, y fâth ac a'n gesyd ni ar Ddled-swyddau tra-helbulus a gwerthfawr, gan ein gwneuthur ni yn ewyllysgar i ymadel a'n Llonyddwch, a'n Dâ ac a'n Ceraint ein hunain, iê an Bywyd hefyd pan nad allwn ni ei cadw hwynt heb anufyddhau Duw.
35. Yn awr prawf di dy hûn wrth hyn; a oes gennyt i y Ffrwyth ymma ô Gariad i ddangos? wyt i'n gwneuthyd hynny yn wastadol dy ofail mwyaf, i gadw Gorchymynion Duw? i ufyddhau iddo ef ymhob peth? gan chwennychu yn ddifrisol i fodloni êf, i'th allu cymhelled [Page 19] ac i ymadel a'r peth sydd annwylaf genniti yn y bŷd hwn? Os felly di a elli yn wîr ddywedyd dy fod yn Caru Duw. Ond or tu arall os wyti'n parhau yn fyrbwyll mewn troseddiad llawer, ie, rhyw ûn o'i Orchymynion êf, na thwyll mo honot dy hûn, nid yw Cariad Duw yn presswylio ynot. Hyn a ymlygir itti os ystyri pa beth y mae 'r Scrythur yn ei ddywedyd am y Cyfryw; sef, ei bôd nhw yn Elynion i Dduw trwy ei gweithredoedd drwg. Col 1.21. fod y meddwl cnawdol (a'r cyfryw yw pôb ûn ac a barhao yn fyrbwyll mewn pechod) yn elyniaeth i Dduw. Rhuf. 8.7. Fôb y nêb a becha yn fyrbwyll, yn sathru mâb Duw tan draed, ac yn difenwi ysbrŷd y Grâs. Heb, 10.29. a llawer o'r, cyffelyb. Ag am hynny na chredwch eich bôd yn Carû Duw, tra 'i bythoth yn myned ymlaen mewn rhyw An-ufydd-dod byrbwyll iddo êf, oddigaeth i chwi dybied fôd Gelyniaeth a sathriad, a difenwod yn ffrwythau ô Gariad.
Chwant mwynhau.36. Yr ail Ffrwyth ô Gariad fal y dywedais i chwi yw Chwant mwynhau. Hyn a welwn'i yn wastadol yn ein cariad y naill i'r llall. Os bydd genny chwi gyfaill yr hun yr ydych yn ei garu yn ddirfawr, chwi chwennychwch ei gefeillach ef a bôd yn wastad yn ei gymdeithas ef; ac felly y bydd hefyd yn ein Cariad i Dduw, os bydd ef Cymmaint ag mor ddiragrith a hwn.
37. Y mae dau fath o Fwyniant ô Dduw, ûn yn Amherffaith y yn bŷd hwn, y llall yn Berffeithach, ac yn gyflawnach, yn y bŷd y ddaw: yr hwn sydd yn y bŷd hwn yw ymgyfeillach (fal y dywed wn i) sydd genin'i a Duw yn ei Ordnihadau, [Page 20] trwy Weddio, Myfyrio, Gwrando ei Air, Derhyn y S. Commun, yr hyn oll a fwriedir i'r pwrpas hwn, sef i'n dwyn ni i Gymdeithas, a chynnefindra a Duw trwy siarad ag êf, a' i wrando yntef yn Siarad a ninnau.
38. Yn awr os ydym yn gwir garu Duw ni a brisiwn ac a chwennychwn yn ddirfawr y moddion hyn ô ymgyfeillachu ac ef gan fôd hyn yn gwbl oll a allwn i gaffael yn y bŷd hwn, fe a'n gwna ni gyda Dafydd, i brisio ûn Diwrnod ynghynteddau Duw yn fwy na Mîl. Psal, 84.10. fe fydd hyfryd gennyn'i gael 'r Odfau hyn i neshau atto êf cyn fynyched ac bo possibl, ac a fyddwn ofalus i'w harferu nhw yn ddiwyd i'r perwyl hwn, sef, i'n uno ni yn fwy ac êf; ie, ni a ddeuwn mor hoyw i'r cymmanfan ysbrydol hyn, ac a deuen'i at ein cydymmaith annwylaf. Ac os gwnawn'i yn wîr fal hyn, y mae 'n Arwydd da o'n Cariad ni.
39. Ond yr wyf yn ofni nad oes fawr a eill ddangos hyn, fal y mae yn amlwg trwy Annhuedd gyffredinol ac anewyllyscarwch dynion i ddyfod i'r rhai hyn; a'i hesg e ulusdra, a' difraw-wch pan ddellon 'hw; ac a allwn ni dybied y cydnebydd Duw ni yn garwŷr iddo êf tra bo gennyn'i y fath anfoddgarwch iw gymdeithas êf, ac na ddeuwni ûn amser iddo ef ond pan i'n lluscir ni trwy Gywilydd neu Ofn dynion, neu ryw gyffelyb annogaeth Bydol? Yn ddiammau ni thybiech'wi fòd y Dyn hwnnw yn eich Caru chwi yr hwn a welwch 'wi 'n rhusio eich cymdeithas chwi. Ag am hynny na fyddwch mor anrhesymmol a dywedyd ych bôd yn [Page 21] caru Duw a chwi etto yn ymgadw oddiwrtho êf cymmhelled ac y galloch.
40. Ond heb law hyn y mae Mwyniant arall ô Dduw, yr hwn sydd yn fwy Perffaith a chyflawn, sef ein Mwyniant Tragwyddol ô honaw êf yn y nêf, lle y cawn ein cyssylltu yn ûn ag êf yn dragywydd, a i fwynhau êf nid weithian yn vnig tros amser byrr, fal yma, ond yn wastadol heb ddim Rhwystr na Gwahaniaeth. A os oes gennyn 'i y mesur hynny ô Gariad i Dduw, ac a ddyle fôd, nid allwn 'i lai na chwennych hyn yn ddirfawr, yn gymmint na thybiwn'i Lafur yn y bŷd yn ormod i'w fwynhau êf. Y saith mlynedd hynny y gwasanaethodd Jacob am Rachel, (Gen. 29.2.) oeddynt yn ei olwg ef ond ychydig ddyddiau, am fôd yn hôff ganddo efe y hi: ac yn wîr os oes gennyn'i Gariad i Dduw ní thybiwn' i fôd gwasanaeth ein holl fywyd ni yn ormod prîs am y mwyniant perffaith hwn ô honaw êf, iê ni thybiwn 'i holl fwyniant y bŷd yn talu edrych arnynt trwy ei cystadlu a hwn.
41. Os gallwn'i ein siccrhau 'n hunain yn bod ni fal hyn yn hiraethu am fwyniant ô Dduw, ni allwn gredu [...]i ein bôd ni yn ei garu ef. Ond yr wyf yn ofni drachefn nad oes fawr a all fal hyn brofi ei Cariad trwy resymmau. Canys os edrychwn ar fucheddau Dynion, ni a gawn weled nad ydyw yn gyffrednol mor hôff ganthynt y Mwyniant hwn, ac y Cymeran' hw ddim poen iw bwrcasu ef. Ac nid hynny yn vnig, ond y mae yn gyffelybus fod Llawer y rhai pe caent ei dewys naill ai byw yma yn wastad i fwynhau Bydd a Phleser y Bŷd, neu fyned i'r nef i fwynhau Duw, [Page 22] a osodent yn hyttrach ei gorphwysfa, fal meibion Gad a Ruben y tu yma i'r Jorddonen, Numb. 32. heb fyth chwennych y nêfol Ganaan; mor gaeth y mae ei hanwydau nhw gwedi i gosod ar bethau oddi-isod, yr hyn sydd yn arwyddocau yn eglur na wnethon' hw Dduw yn dryssor iddynt, canys yna ar ôl rheol Crist ( Mat. 6.21.) fe sydde ei calon gyda ag ef. Ie ymmhellach etto; y mae yn rhu eglur fôd Llawer o honon'i yn prisio cyn lleied o fwynhau Duw, a'n bôd ni yn Prisio mwy o'n Pechodau gwaelaf a diystyraf, nag o hono ef, ag yn dewys ei mwynhau hwynt, er ein bôd nini trwy hynny yn llwyr golli yn cyfran ynddo êf, yr hwn yw cyflwr pob dŷn ar sydd yn parhau yn fyrbwyll yn y pechodau hynny.
42. Ag yma'r wyf yn ofni y gellir gweled fôd llawer, yn ôl y Rheolau hyn ô Brofiad, y rhai sydd yn proffessu caru Duw, heb wneuthyd felly, mi a ddibennaf y cwbl a geiriau St. Joan 1 Epist. 3.18. yr hyn a berthyn yn gymmwys i'r Cariad hwn o Dduw, er y dywedir yno am Gariad i'n Brodyr, nacharwn ar Air, nac ar Dafod yn ûnig, either mewn gweithred a Gwirionedd.
43. Y Pedwerydd Dled-swydd i Dduw ydyw Ofn; Ofn: yr hwn a ddychwel o ystyriaeth ei Gyfiawnder a'i Allu ef; oblegid fòd ei Gyfiawnder ef yn gyfryw, ac na ryddha ef y Drygionus, a'i Allis yn gyfryw ai fod ef yn abl i ddodi y Poenedigaethau trymmaf arnynt hwy; ac y mae Crîst i hûn yn dywedyd i' ni, fòd hyn yn achos cymmwys ô Ofn Mat. 10.28. Ofnwch yr hwn a ddichon ddestruwio yr Enaid gydà 'r Corph yn [Page 23] Ʋffern. Y mae amryw fannau eraill o'r Scrythur yn gorchymyn y Ddled-swydd hon i'ni, megys Psal. 2.11. Gwasanaetbwch yr Arglwydd mewn Ofn. Psal. 34.9. Ofnwch yr Arglwydd ei Sainct ef Dihareb. 9.10. Dechreuad Doethineb yw Ofn yr Arglwydd, ar cyffelyb; ac yn wîr nid ydyw'r holl Fygythion ô lîd yn erbyn pechaduriaid, a gyfarfyddwn ni yn y Scrythur ddim ond i'r diben hwn, sef, i weithredu yr Ofn hwn yn ein calonnau ni.
44. Nid ydyw 'r Ofn hwn ddim amgen ond y fath Brisiad parchedig ô Dduw, ac an ceidw ni rhag ei anfoddhau ef: hyn a ddywed y gŵr doeth, Ofn yr Arglwydd yw dychwelyd oddiwrth ddrwg: yn gymmaint nad oes neb yn gŵir ofni Duw, nad yw tryw hynny yn ymgadw odiwrth Bechod; ac nid yn ydyw hyn ond cyffattebol i'r Ofn Gyffredinol sydd gennyn ni tu ag at Ddynion; ni a ochelwn gyffroi y nêb a dybion ni a eill wneuthyd niwed i' ni; ac am hynny oni byddwn ni mor Ofalus rhag Anfoddhau Duw, hyspus yw ein bod ni yn ofni Dynion yn fwy nag êf.
45. Fe ymddengys pa ynfydrwdd yw i' ni fal hyn ofni Dynion uwch-law Duw os cyffellybwn 'i beth a all dŷn i wneuthur i' ni, Folineb ofni dynion uwchlaw Duw. a pha beth a all Duw. Yn gyntaf, sicc'r yw, nad ydyw yn gallu Dŷn (iê, na Chythreuliaid ychwaith) wneuthyd i ni ddim niwed, oddieithr i Dduw ganniattau iddin' hw gennad i hynny; fal os cadwn'i ef yn anwyl i' ni, ni allwn ddywedid gyda Dafydd, yr Arglwydd sydd gyd â mi nid ofnaf beth a wnêl dŷn i'mi. Canys er maint a fo ei cenfigen, [Page 24] fe ddichon êf i hattal nhw, a'i cadw nhw rhag gwneuthur niwed i' ni; iê, fe ddichon newid ei meddyliau nhw tu ag attom ni, megis y dywed y Gŵr-doeth Dihar. 16.7. Pan fydd ffyrdd gŴr yn rhyngu bôddi'r Arglwydd, efe a bâr i'w Elynion fôd yn heddychol ag éf. Y mae i' ni esampl nodidog o hyn yn Jacob, Gen. 32. yr hwn pan oedd ei fraŵd Esau yn dyfod yn ei erbyn megis Gelyn, fe drodd Duw ei galon ef yn rhyfeddol, fal y cyfarfu ac ef a Charedigrwydd brawdol, fal y gellwch ddarllen yn y bennod nessaf.
46. Ond yn ail, bwriwch fod Dynion wedi i gadael i'w rhyddyd ei hunain, i wneuthyd itti yr holl Ddrwg â allant; och, nid yw ei gallu nhwy yn cyrredd ond ychydig ffordd; ond odid nhw allant ddwyn oddiarnat dy Dda, fe allai y gallant ddwyn ymmaith dy Rydddyd, neu dy Barch, neu ysgatfydd dy hoedl hefyd, ond di a wyddost mae dena'r eithaf. Ond fe all Duw wneuthyd hyn oll pan fynno, ac aneirif ychwaneg, y mae Dial Duw yn cyrredd tu hwnt i farwolaeth, sef, i drueni tragywyddol Corph ac Enaid, yn Ʋffern; twry gyffelybiaeth i ba ûn y mae marwolaeth yn beth mor anystyriol, na ddylen 'i edrych arno êf ac Arswyd yn y bŷd. Nag ofnwch y rhai sydd yn Lladd y Corph, ac wedi bynny nid oes ganddynt ddim a wnelant mwy, medd Crist, Luc. 12.4. ac yn ebrwydd y mae yn canlyn, Rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch, ofnwch ef, yr hwn, pan ddarffo iddo lâdd, sydd ac awdurdod gantho i fwrw i Ʋffern: yn ddiau meddaf i chwi ofnwch hwnnw. Ymha eiriau y mae cyffelybiaeth wedi i gosod ar lawr rwng y drŵg mwyaf a allwn 'i ddioddef, gan Ddnyion, sef, [Page 25] colled hoedl, a'r drygau tostaf hynny a eill Duw i roddi arnon 'i; ac fe welir mae rhain yw'r unic bethau ofnadwy, am hynny Duw yn unic sydd raid ei ofni.
47. Ond y mae etto ûn peth ymhellach iw ystyried yn hyn, sêf fôd yn bossibl i' ni drawseddu yn erbyn Dynion, ac hwythau heb wybod hynny: mi allaf ysgatfydd ledratta da fynghymydog, neu odinebu ai Wraig êf, a chadw hyn mor ddirgel fal na ammeu fe mono 'i, ac felly heb fyth y nwyn i gospedigaeth am hynny; ond nid allwn wneuthyd felly a Duw, êf a wyr bôb peth, iê meddyliau dirgelaf ein Calonnau ni; ac am hynny er i ni bechu yn dra-gyfrinachol, fe fydd siccr os nyni ni edifarhawn mewn amser, i'n cospi ni yn dragywyddol am hynny.
48. Ac yn awr nid ellwn lai na chyffessu fôd yn fwy diangol anfodloni dynion na Duw; etto y sowaeth y mae ein bucheddau ni yn gyfryw a phe bydden 'i yn credu yn union yn y gwrthwyneb, gan nad oes dim yn fwy cyffredin gyda ni, na rhuthro ar Lidiawgrwydd Duw er mwyn gochelyd rhyw enbydrwydd presennol yr ydyn yn i ofni oddiwrth ddynion. Ac fal hyn y mae, pan wnelon 'i ryw bechod, naill ai i gadw ein Da, neu ein henwau da, neu ein bywyd, canys eglur yw trwy hyn, ein bôd ni yn dewis yn hyttrach ddigio Duw, na Dŷn.
49. Ond fe wyr Duw mae nid trwy Ofn dynion yn unic yr ydym ni yn beiddio i anfodloni êf; oblegid yr ydyn 'i yn gwneuthur Llawer ô Bechodau, i ba rai nid oes gennin 'i mo'r hudoliaeth [Page 26] hon, nag y rûn arall; megys Llwon Cyffredinol, i ba rai nid oes na phleser na budd i'n hannog ni. Iê llawer gwaith, nyni, y rhai ydym yn gymmaint yn ofni drygau a eill rhai eraill i gwneuthur i n'i, a'n Bôd ni yn barod iw' prynnu nhw' ymmaith ar Pechodau mwyaf, ydym o'n gwirfodd yn dwyn yr holl ddrygau hynny arnom ein hunain. Fal hyn y mae 'r Afradlon diofal yn i yspeilio ei hûn o'i Ddda; y Dŷn twyllodrus anonest, neu yr hwn sydd yn byw mewn pechod ffiaidd hynod, yn ei ddinoethu ei hûn o'i Enw da; y meddwyn a'r Glwth yn dwyn clefydau arnynt ei hunain i fyrrhau ei hoes. Ac a allwn ni dybied ein bôd ni yn gwir ofni Duw, pan yw'r Ofn hwn yn llywodraethu cyn lleied arnon'i, ac er bôd amryw ddrygau presennol y' rhai sydd yn dilyn pechod, i'n hattal ni, etto ni attelir y monon'i oddiwrthynt? Diammau ydyw fôd y cyfryw ddynion, cymmhelled oddiwrth ofni Duw, ac y gellid tybied yn hyttrach i bôd nhwy yn i ddibrisio ef, ac yn ymroi yw ddigio ef, beth bynnag a gostia iddin 'hwy yn y bŷd hwn, neu yn y bŷd a ddaw. Etto y mae mor hoff gennin i ein siommi ein hunain, a bôd y cyfryw rai, a rhain yn cymmeryd arnynt fôd ganthyn 'hwy yr ofn hwn: chwi a ellwch holi lluoedd o bechaduriaid hynod sarháus, cyn cyfarfod ac ûn a gydnebyddo ei fod ef heb ofni Duw. Rhyfeddol yw fod bossibl i Ddynion fal hyn i siommi ei hunain; ond pa ûn bynag, diammau yw nad allwn ni dwyllo Duw, ni fyn ef moi Watwor, ac am hynny, oni ofnwn'i êf yr awrhon yn gymmaint ac i ochelyd pechod, ni a gawn ûn Dŷdd i ofni êf, pan fytho rhy hwyr i ochelyd cospedigaeth.
[Page 27]50. Y Pummed Dlêd-swydd i Dduw ydyw Ymddiried ynddo ef, hynny yw, Hyder. rhoddi ein goglud a'n hyder arno ef: ac hynny, yn gyntaf, ymmhob peryglon; yn ail ymmhob Diffygion. Ni a ddylen hyderu arno êf yn ein holl beryglon, yn gystal Ysprydol a Phresennol. O'r fath gyntaf, yw, yr holl Brofedigaethau hynny, trwy ba rai yr ydym mewn perigl i gael ein llithio i bechod. Ac ó herwydd hyn yr addawodd ef i'ni os nyni a wrthwynebwn Ddiafol, efe a gilia oddiwrthym ni, Ymmhob Peryglon Ysprydol. Jaco. 4.7. Am hynny ein Dlêd-swydd ni ydyw yn gyntaf weddio yn ddefosionol am Rás Duw i'n nerthu ni i orchfygu y brofedigaeth, ac yn ail ymroi yn wrol i ymladd ac ef, heb gilio yn ôl neu gydsynnio ac êf yn y râdd issaf; a thra' i gwnelom fal hyn, ni allwn yn drahyderus ymddiried yn Nuw, y bydd ei Râs ef yn ddigonol i'ni, ac naill ai y tynn êf ymmaith y Brofedigaeth, neu y cadarnba ef ni i'w gwrthwynebu hi.
51. Yn ail ni a ddylen Hyderu arno êf ymmhob Peryglon Presennol oddi allan, A Phresennol. gan wybod i fod ef, yn abl i'n gwaredu ni, ac y gwna ef felly os gwêl ef fod hynny yn orau i 'ni, ac os ydym ni y cyfryw, i ba rai yr addawodd ef ei nodded, sef y cyfryw ac sydd yn ei wîr ofni êf. I'r diben hwn y mae amryw Addewidion yn y Scrythur, Ps. 34.7. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai ai hofnant ef ac ai gwared hwynt. felly Psal. 34.22. Yr Arglwydd a wareda Eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef nid anrheithir hwynt: ac amryw o'r cyffelyb. Ac y mae i 'ni hesyd lawer o esamplau megis am y tri llangc yn y Fwrn: Dan. 3 Am Ddaniel yn [Page 28] ffau 'r llewod, Dan. 6. A llawer eraill; y rhai oll a wasanaetha i ddy scu i'ni yr ûn wers hon, os nyni a barhawn i wneuthyd ein Dlêd-swydd yn gydwybodus, ni bydd raid i ysgogi am ddim a all ddychwel i'ni, canys y Duw yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu sydd abl i'n gwared ni.
52. Am hynny ymmhob Peryglon ni a ddylem yn gyntaf Weddio yn ostwngedig am ei nodded ef, ac yna hyderu arno ef yn llawen, gan ein siccrhau ein hunain y rhydd ef i'ni y fâth Ddibendod ac a fo goreu er ein llês. Ond ywchlaw pob peth, rhaid i'ni fôd yn siccr i osôd ein gogwyddiad yn gwbl arno êf, heb hyderu a'r y Creaduriaid am gymmorth, llai ô lawer y dylen' i geisio yn gwaredu ein hunain, trwy ryw foddion anghyfreithlon, megys trwy wneuthur rhyw bechod. Canys tebyg yw hynny i Saul, 1 Sam. 28.7. yn myned at y ddewines, hynny yw, y Cythrel am gynnorthwy: y mae y cyfryw foddion gan mwyaf yn twyllo ein Gobaith ni yn y Cyfamser, ac yn lle ein gwaredu ni allan o'n cyfyngderau, yn ein hymdrobaeddu ni mewn rhai mwy ô lawer, a mwy anghyssurûs canys trwy hyn y mae arnon'i eisiau yr hyn beth yw'r unic gynhaliawdr, sef ffafor a chymmorth Duw, yr hyn yr ydym'ni yn ddiamau yn ei fforffettio, pan fon'i fal hyn yn ceisio ein hachub ein hunain trwy foddion pechadurus. Ond bwriwch allu ô honon'i trwy y cyfryw fodd, yn rhyddhau ein hunain oddiwrth Berigl Presennol; etto yr ydyn ymmhell oddiwrth ennill Achles i ni ein hunain trwy hynny; ni ddarfu i'ni yn unic ond symmud y perigl oddiwrth yr hyn beth ydoedd lai ystyriol, ai ddwyn ef [Page 29] ar y rhan werthfawroccaf o honon'i, sef, ein Heneidiau; fal Meddyg anghelfyddgar, yr hwn er mwyn Symmud ymmaith ddolur ô ben Bŷs, ai teri ef i'r galon; yr ydym ni gan hynny yn camgymmeryd yn anfeidrol, trwy dybied ein ein bôd yn gynnildda wrth gadw ein Rhydddyd, neu'n da, neu'n Hoedl, trwy bechod; ni ddarfu i'ni moi cadw nhwy ond yn wylltffôl ei prynu nhw yn rhy ddrûd, gan dalu ein Heneidiau am danynt: Ac y mae Crist yn dywedyd i 'ni beth a ennillwn' i wrth y fâth Farchnadoedd, Mat. 16.26. Pa llesâd i Ddŷn, er ennill yr holl fŷd, a cholli ei Enaid ei hûn? Gadewch i ni gan hynny ymroi na phrisio ni cymmaint a'r ddim a feddon'i yn y bŷd hwn, ac y cadwon'i ef a'r brîs y pechod lleiaf, ond pa brŷd bynnag y dychwel i bethau ddyfod i'r cyfryw ddiben, ac y bŷdd rhaid i 'ni naill ai ymadel a pheth, neu ysgatfydd ein holl Dda bydol, iê ein hoedl, neu wneuthur Pechod, cofiwn mae dyma 'r odfa i'ni i gyflawni y Ddled-swydd fawr ragorol honno, o Gymmeryd y Groes, yr hyn beth nid allwn ûn amser ei wneuthur mor gyfleus, ac yn y cyflwr hwn; canys nid yw goddef y peth nid allwn' i, mewn ûn môdd ei ochelyd, o'r eithaf ddim ychwaneg ond dwyn y Groes, ond yr amser hynny yn unic y gellir dywedyd ein bôd ni yn i chymmeryd hi i fynu, pan ddewison 'i yn hyttrach ddioddef yr Groes na gwneuthur Pechod, pan fo genini fodd iw gochelyd hi trwy bechod; canys yr amser hynny ni osodir y moni'hi arnon'i trwy ryw anghenrhaid anocheladwy, ond yr ydyni o'n gwirfodd yn ei dewis hi; ac y mae hyn yn gymmeradwy jawn gan Dduw, iê fe erchir hyn mor gaeth ganddo êf, [Page 30] fal na'n cyfrifir ni ddim yn ddilynwyr i Grîst, os diffygiwn ni o gyflawni hyn pan brofir ni, canys felly y mae êf yn dywedyd yn Eglur, Mat. 16.24. Os myn nêb ddyfod ar fy ôl i, gwaded ef ei hûn, a chymmered ei Groes, a dilyned fi; a thrachefn Mar. 8.34. Doethineb ysbrydol gan hynny a fydde i'ni weithian, trwy arferu ein gwadu ein hunain mewn pethau gwael, ein cymmhwyso ein hunain i'r Ddled-swydd fawr hon, pan i'n gelwir i hynny; ni a wyddom fôd y nêb sydd yn amcanu rhedeg gyrfa yn fynych yn ei arferu ei hûn i hynny ymlaen llaw, rhag iddo ddiffygio pan ddêl i redeg am y fuddugoliaeth; yn yr ûn môdd y dylen ninnau weithian ein byrrhau ein hunain o'n Pleser cyfreithlon, neu 'n Esm wythdra, neu fŷdd, er mwyn meistroli ein hunain cymmaint ac i allu ymadel a'r cwbl, pan fo ein hufydd-dod i Dduw yn gofyn hynny.
Ymhob eisiau Ysbrydol.53. Ac fal y dylen i hyderu yn Nuw am Ymwared oddiwrth beryglon, felly y dylen i hefyd am Gyflawniad ein heisiau, yn gystal Ysbrydol a Phresennol: Ein heisiau Ysbrydol yw o'i Râs ef ei'n cymmhwyso ni i'w wasanaethu êf, heb yr hwn nid allwn' i wneuthur dim; ac ni ddylem gwbl-hyderu arno ef am hyn, os nyni ni esgeuluswn y moddion, y rhai yw Gweddi ac Arferu yn ddiwyd, yr hyn a roddodd ef i 'ni yn barod: canys yna y mae gennym ni yr Addewid hwn am dano, y rhydd efe yr Ysbryd glân i'r rhai a ofynno ganddo, Luc. 11.13. Ac i'r nêb y byddo ganddo y rhoddir, Mat. 25.29. hynny yw, fe rydd Duw ychwaneg i'r nêb a arfera yn dda 'r Grâs sydd ganddo yn barod. Ni ddylen'i gan hynny mo'n dychrynnu ein hunain ac anhawsder y pethau [Page 31] hynny y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni, eithr cofio nad yw ef yn gorchymyn dim ond y peth a hyffordda ef nyni iw gyflawni, oni byddwn yn diffygiol i ni ein hunain. Am hynny gwnawn ni ein rhann yn ddiffuant, a siccrháwn ein hunain yn drahyderus ná phalla Duw o'i rann yntau.
A phresennol.54. Ond y mae arnon' hefyd eisiau Presennol a Chorphorol, am gyflawniad pa rai y dylem ni hefyd gwbl-hyderu arno êf. Ac nid oes arnon'i eisiau Addewidion am hyn hefyd, os bwriwn ein bôd ô nifer y cyfryw i ba rai y gwnaethpwyd hwynt, hynny yw, ffyddlawn Wasanaeth-wŷr Duw: nid oes eisiau ar y rhai ai hofnant êf, Psal. 34.9. a'r 10. wers, Ysawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim Daioni. A thrachefn, Psal. 33.18, 19. Wele lygad yr Arglwydd ar y rhai ai hofnant ef: sef, ar y rhai a ymddiriedant yn ei drugaredd êf, er mwyn gwaredu ei heneidiau rhag angeu: ac i'w cadw yn fyw yn amser mewyn. Y mae i' ni siamplau hefyd o hyn ynghyflwr Elisha, a'r Weddw dlawd 1 Bren. 17. a lla wer eraill.
Rhaid i' ni gan hynny edrych i fynu atto êf am ragddarpariad pôb pethau anghenrheidiol i' ni, yn ôl geiriau y Psalmydd, Llygaid pawb a ddisgwyliant wrthit, ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddyut yn ei bryd. Ac fe ddysgodd ein Jachawdwr i' ni weddio am ein bara beuny ddiol; wrth hyn yn ein dyscu ni y dyle 'ni fyw mewn goglud dibaid ar Dduw am dano ef. Etto nid wyf yn meddwl wrth hyn, y dylem ni felly ei ddisgwyl ef gan Dduw, ac y gallwn' i ymroi ein hunain i seguryd, a disgwyl ein porthi trwy Ryfeddodau. [Page 32] Nagé ddim ein diesceulus ddiwydrwydd a llafur yw'r moddion trwy ba rai y mae Duw yn gyffredinol yn rhoddi i' ni y pethau angenrheidiol i'r bywyd hwn; ac am hynny ni ddylen'i er dim esgeuluso hynny. Os bydd nêb ni weithia na fwyttaed ychwaith medd yr Apostl, 2 Thes. 3, 10. Ac ni allwn gredu y Traetha Duw yr un▪ rhyw farn, ac y gedi fo ar y Dŷn diog eisiau ymborth anghenrheidiol. Ond pan dddarffo i ni arferu yn ffyddlon ein hegni ein hunain, ni a ddylem hefyd edrych i fynu at Dduw am ei fendith ef arno ef, heb ba ûn, nid all ef byth gynnyddu i'ni. Ac wedi hyn ni allwn yn drâ-chyssurus hyderu ar ei Ragluniaeth ef am y cyfryw fesur o'r pethau yma oddiallan ac a wêl ef gymmhwysaf i' ni.
56. Ond os ein cyflwr ni a fydd cyfryw ac nad allwn i la furio, ac heb fôd gennin'i foddion eraill i ddwyn i mewn ein hymborth anghenrheidiol, etto ni ddylen y prŷd hynny hyderu yn Nuw yn gyssurus, gan gredu mae yr hwn sydd yn porthi y Cigfrain a ddarpara i' ni ein hangenrheidiau tra'i bon'i yn y bŷd hwn trwy ryw foddion neu i gilydd, er na wyddom ni pa fôdd; ac am hynny na phenydiwn mo honon ein hunain a meddyliau trym-drist anobeithgar, eithr gyda 'r Apostl, 1 Pet. 5.7. Bwriwch gwbl o' ch gofal arno êf canys y mae êf yn gofalu trosoch.
57. Hyn y mae ein Jachawdwr yn ei annog yn ddifrifol. Mat. 6. lle y mae efo yn dangos yn helaeth ffolineb Anhyder. Y mae yn lle rhagorol am hynny mi ai gosodaf êf i lawr ô hŷd; Adnod, [Page 33] 25, &c. Am hynny meddaf i chwi na ofelwch am eich bywyd pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich Cyrph pa beth a wiscoch: onid yw r bywyd yn fwy nâ'r bwyd? a'r Corph yn fwy nâ'r dillad? Edrychwch ar Adar y nefoedd, oblegit nid ydynt nac yu medi, nac yn cywain i'r ysguboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn ee porthi bwynt onid ydych chwi yn rhagori arnynt hwy? A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu ûn Cufydd at ei faint? A pha ham yr ydyth chwi yn gofalu am ddillad? dysewch pa wedd y mae Lili 'r maes yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu, either yr wyf yn dywedyd i chwi na bu Solomon yn ei holl Ogoniant mor drwsiadus ac ûn o'r rhai hyn. Am hynny os dillada Duw Lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir, i'r ffwrn, oni ddillada es chwi yn fwy ô lawer, O rai ô y chydig ffŷdd? Am hynny na ofelwch, gan ddywedy beth a fwytawn? neu beth a yfwn? neu â pha beth yr ymddilladwn? Canys am y pethau hyn oll yr ymofyn y Cenhedloedd, oblegit eich Tad nefol a wyr fôd arnôch eisiau yr holl bethau hyn. Eithr yn gyntaf ceisiwch Deyrnas Duw, a'i Gyfiawnder; a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn chwaneg. Na ofelwch gan hynny dros drannoeth, canys trannoeth â of ala trosto ei hunan, digors i'r diwrnod ei ddryganniaeth ei hûn. Mi allwn roddi a'r lawr amryw leoedd yn angwaneg i'r pwrpas hwn, ond y mae hyn mor gyflawn, ac aglur, fal na bydde ond afraid roddi augwaneg.
58. Cymmaint oll ac a draetha 'i yn angwaneg am y Ddled-swydd hon a fydd i'ch Coffau chwi o'r Breintiau o hono ef; megys yn gyntaf, trwy hyderu fal hyn yn Nuw yr ydych [Page 32] [...] [Page 33] [...] [Page 34] yn ei rwymo ef i ofalu trosoch: Chwi wyddoch fôd Dynion yn gofalu yn ddiwyd na siommon' hw mor rhai sydd yn ymddiried, ac yn hyderu arnynt hwy; A diammau, sod Duw yn fwy o lawer felly. Ac yn Ail y mae llawer o Esm wythdra a Llonydd wch yn ymarfer y Ddlêd-swydd hon; y mae yn ein gwared ni oddiwrth y gofalon Trimdrist anghymmedrol hynny y rhai sddd yn rhwystro ein Meddyliau ni, yn torri ein Cŵsg ni, iê ac yn yssu ein Calonnau ni. Yr wŷf yn meddwl na bydd rhaid dywedyd i'r nêb a'i teimlodd hwynt, ei bôd nhw yn anesmwyth. Ond mi debygwn gan hynny y dylei yr Anesmwythdra hwn ein gwneuthur ni yn chwannog i gofleidio y moddion i'w symmudo hwynt, felly y gwelwn yn fynych mewn pethau anghyfreithlon; fe a dwylla Dynion, a ledrattant, a ddywedant gelwydd, iê a wnânt y peth a fynnir er mwyn ei gwared ei hunain rhag Ofn Eisiau. Ond och! nid yw y rhain yn gyffredinol yn prifio i fòd ond rhwymedi twyllodrus; y maent yn dwyn melldith Duw arnon 'i, ac felly y maent yn fwy cyffelybus i'n traddodi ni i eisiau, nag i'n cadw ni rhag eisiau. Ond os ydych yn ewyllysio meddiginiaeth siccr ac anhwyllodrus rhag gofalon; Cymmerwch hwn o hyderu ar Dduw.
59. Canys pa achos i'r dŷn hwnnw ofni angen, yr hwn sydd gantho ûn i ofalu trosto, yr hwn sydd gwgl-ddigonol, ac ni âd fôd arno ef eisiau y peth a fydd cymmwys idddo êf? fe fydde yn gyssur mawr i ŵ r Tlaŵd pe gwnai ŵr goludog addewid ffyddlon iddo êf, na adawei fo fyth eisiau arno ef, ac ni thybia y cyfryw ûn y [Page 35] prŷd hynny fôd yn gymwwys iddo fod mor dra-ofalus, ac o'r blaen, ac etto fe all addewid Dŷn ballu canys fe all naill ai myned yn dlaŵd ac heb allu, neu fe all brifio yn dwyllodrus, ac felly yn anfodlon i gywirio ei Air. Ond ni a wyddon nad all Daw fôd nag yn dlawd, nag yn ddichellgar. Pa ammarth atgas gan hynny yr ydyn yn ei wneuthur i Dduw pan na feiddiwn'i hyderu cymmaint a'r ei Addewid ef ac a wnaen'ni ar Ddyn? Iê pa ddrwg mawr yr ydyn yn ei wneuthur i' ni ein hunain trwy lwytho ein meddyliau a blinderau lawer, a gofalon trafferthus, pan allon'i mor ddiogel fwrw ein baich a'r Dduw? Mi a ddibennaf hŷn a geiriau 'r Apostl. Phil; 4.6. Na ofelwcĥ am ddim, eithr ym mhôb dim dangoser eich dymuniad i Dduw mewn Gweddi a deisyfiad gyd â diolch.
Y DOSPARTHIAD.
II.
Am Ostyngeiddrwydd, Ymddarostyngiad i Ewyllys Duw trwy Ʋfydd-dod; Am Ammynedd ymmhôb mâth ar Benydiau, ac am Anrhydedd dlêdus i Dduw mewn amryw ffyrdd, yn ei Dŷ ei Feddiannau, ei Ddydd, ei Air, a'i Sacramentau, &c.
Gostyngeiddrwydd.1. Y Chweched Ddlêd-swydd i Dduw ydyw Gostyngeiddrwydd, hynny yw y fath deimlad o'n gwaeledd ein hunain a'i Odidowgrwydd ef, ac a weithreda ynom Ymddarostyngiad isel a difrifol iddo êf: y mae'r Ymddarostyngiad hwn ô ddau fâth; yn gyntaf i'w Ewyllys ef; yn Ail i'w Ddoethineb êf.
Ufydddod.2. Y mai 'r Ymddarostyngiad i'w ewyllys êf hefyd o ddau fâth, sef Ymddarostyngiad naill o Ufydd-dod, neu o Ammynedd; y cyntaf yw ein Parodrwydd ni i'n traddodi ein hunain i fynu i wneuthur ei Ewyllys ef, yn gymmaint ac i wneuthur yn bryssur, ac yn rhadlon, pan ddadcuddio Duw i ni trwy ei Orchymyn beth ydyw ei Ewyllys. Y mae gostyngeiddrwydd yn draangenrheidiol i'n cymmhwyso ni i hyn; canys nid oes neb anghymwysach i ufyddhau na'r Dŷn balch, ac ni a welwn, nad yw Dynion ûn amser yn talu Ufydd-dod ond lle y cydnabyddant fôd [Page 37] y gwr sydd yn gorchymyn mewn rhyw fôdd uwch ei llaw hwynt. Ac felly y mae ymma, ni thalwn'i fyth mo'n hufydd-dod dlêdus oni ddygir ni ar ddeall fod Duw yn anfeidrol uwch ein llaw ni, a'n bôd ni yn waeledd, iê, yn ddim trwy ymgystadlu ac êf.
Rhagoriaeth rhwng Duw a nyni.3. Am hynny os ydych yn amcanu ufyddhau yn ddifrifol (fal y bydd rhaid i chwi os mynnwch fôd yn gadwedig) perchennogwn ein Calonnau a theimlad o'r mawr ac anrhaethadwy Ragoriaeth sydd rhwng Duw a nyni. Ystyriwch êf megys y mae yn Dduw ô anfeidrol fawredd a gogoniant; a ninnau yn bryfed gwael o'r ddaiar; efe yn anfeidrol mewn gallu, yn dichon gwneuthur pôb peth, a ninnau heb allu gwneuthur dim; iê heb ddichon gwneuthur un blewyn yn wyn, fal y dywed ein Jachawdwr Mat. 5.36. Efe o anrhaethadwy burdeb a sancteiddrwydd, a ninnau yn halogedig, ac yn llygredig, yn ymdrobaeddu mewn pôb mâth o Bechodau ac Aflendid; efe yn anghyfnewidiol ac yn ddianwadal, a ninnau yn barod i fod yn gyfnewidiol, ac yn anwadal pob munudûn o'n bywyd. Efe yn dragywyddol ac yn anfarwol, a ninnau yn farwolion druain, yn gymmaint a phan gymmero êf ymmaith ein hanadl ni, y trengwn, ac y dychwelwn i'n llŵch, Ps. 104.29. Ystyriwch medda' [...] hyn ôll, ac nid ellwch lai na chydnabod fôd Rhagoriaeth fawr rhwng Duw a Dŷn, ac am hynny chwi a ellwch lefain gyd â Jôb pan nessaodd efe mor agos att Dduw, ac i ymgyffred ychydig o'i Odidowgrwydd ef, Jôb 42.5.6. Yn awr fy llygad a'th welodd di, am hynny y bydd ffiaidd gennif fi fy hûn, ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.
[Page 38]4. Nid rhaid i'ni daflu ymmaith y Gostyngeiddrwydd hwn gwedi iddo ein dwyn ni i Ufydd-dod megis pe bai i'ni ddim mwy Defnydd o honaw êf; canys y mae etto Ddefnydd mawr ac angen ô honaw êf, i'n cadw ni rhâg meddyliau uchel o'n gweithrediad, yr hyn beth os Cynnhwyswn'i unwaith, fe anrheithia y rhai goreu o honynt hwy, ac a'i gwnant hwy yn gwbl anghymmeradwy gan Dduw; fal Sarrugrwydd y Pharisaead, yr hyn pan ymffrostiodd êf unwaith o honaw, fe gyfrifwyd y Publican yn well nag ef, Luc. 18. Y mae ein Gweithredoedd goreu ni mor llawn ô wendid ac o ammhuredd fal os Cystadlwn ni hwynt i'r purdeb hwnnw a'r Perffeithrwydd sydd yn Nuw, ni allwn ddywedyd gyda 'r Prophwyd, megys dilledyn ô Frattiau yw ein holl gyfiawnder ni, Es. 64.6. Ac am hynny yr ûnrhyw ynfydrwydd yw i'ni ymfalchio o honynt hwy, ac a fydde i Gardottyn ymffrostio o'i ddillad, y rhai nid ydynt ond Brattiau gwael a Charpiau. Rhaid i'ni yn hyn ô beth gofio yn wastad Orchymyn ein Hiachawdr, Luc. 17.10. Gwedi i chwi wneuthur y cwbl ôll ar â orchymynwyd i chwi, dywedwch gweision anfuddiol ydym; os gwedi i ni wneuthur y cwbl oll, nid allwn roddi dim gwell clôd i ni ein hunain, pa beth a ddylen' i ei gyfrif o honon ein hunain pan fôn ni cymmhelled oddiwrth wneuthur y rhan leiaf o'r peth a Orchymynwyd i ni? Nid oes reswm i'ni i dybied fôd y Titl hwnnw o wâs drwg a diog, Mat. 25.26. yn rhy ddrwg i 'ni.
Ammynedd.5. Yr ail fath ô Ymddarostyngiad i'w Ewyllys [Page 39] ef, yw trwy Ammynedd; y mae hyn yn sefyll a'r ddioddef ei Ewyllys êf (megis y mae Ufydddod yn gwneuthur ei Ewyllys ef) ac nid yw ddim amgen ond ymroad diddig, ac ewyllysgar i ba gystuddiau bynnag a welo Duw yn dda ei rhoddi arnon 'i, fe wnâ y rhagddywededig Ostyngeiddrwydd hyn yn hawdd i'ni, canys pan fo ein Calonnau ni gwedi i cwbl perchennogi a'r fâth barchedig brisiad o Dduw fe fydd amhossibl i'ni ffrommi ni rwgnach am ba beth a wnelo êf. Ni a welwn Siampl o hyn yn hên Eli 1 Sam. 3. Yr hwn pan glywodd êf fygythion echryslon Duw yn ei erbyn, ac am ddinistr ei Deulu êf, colled yr Offeiriadeth, torriad ymmaith ei ddau Fâb yn yr ûn Dŷdd, y rhai oeddent i gid yn Gystuddiau tra-echryslon, etto yr ystyriaeth hon yn unic, sêf, mae 'r Arglwydd ydoedd êf, ai nerthodd êf i ymroi iddynt hwy yn distaw ac yn heddychol; gan ddywedyd, gwnaed a fyddo dda yn ei Olwg, Adnod 18. fal hyn y digwyddodd i DDafydd hefyd yn ei orthrymder, Ps. 39.9. Aethum yn fûd, ac nid agorais fyngenau, canys ti a wnaethost hyn: Gwneuthyd o Dduw hyn a ddista wodd bôb grwgnach a chythryfwl ynddo êf. Ac felly y dylem ninnau os chwennychwn wneuthur ein gostyngeiddrwydd i Dduw yn gymmeradwy.
6. Canys chwi a wyddoch nad oes gan y bachgen hwnnw, Ostyngeiddrwydd dlêdus i'w Rieni, neu'r Gwâs i'w Feistr, y rhai pan ei ceryddir, a gyfodant yn erbyn ei Rhieni, neu ei Meistred. Ond fal hyn yr ydyn ni yn gwneuthur pan ffrommon 'i a grwgnach am y peth a esyd Duw arnon'i. Ond heb law diffyg Gostyngeiddrwydd [Page 40] wrth wneuthur felly, y mae hefyd ddiffyg yn hynny; canys y mae i Dduw hawl arnon'i, megys yr ydym ni yn Greaduriaid iddo ef, i wneuthur a ni y peth a fynno, ac am hynny yr Anghyfiawnder mwyaf ar a all fôd ydyw i ni wrth-sefyll ei hawl ef; ië ymhellach, yr ynfydrwydd mwyaf yn y bŷd yw hynny, canys nid yw Duw yn bwriadu ond Daioni i ni wrth ein cystuddio; nid yw ein Tâd nefol ni fal y rhai Daiarol, y rhai a geryddant ei Plant weithiau er mwyn bodloni ei gwyniau digllon yn ûnig, yn fwy nac i wneuthur Daioni iddynt hwy. Ond nid all ef syrthio i'r fâth wendid, Nid oi fodd y blina êfe, nac y Cystuddia efe Ddynion, Galar. 3.33. Ein pechodau ni yw y rhai nid yn ûnig sydd yn rhoi iddo êf achos, ond yn ei gynnhyrfu a'i annog êf yn anghenrheidiol i'n ceryddu ni. Y mae gantho ef ymyscaroedd ac affeithiau y Tâd anwylaf tu ag attom ni: a phan welo Tâd ei blentyn yn gyndyn ac yn wrthryfelgar, ac yn rhedeg ymlaen mewn ffordd yr hon yn ddiammau a'i destrywia ef, pa werthred mwy ô Garedigrwydd Tâdol a all ef i wneuthyd na 'i gospi, a'i geryddu êf, i edrych a wellha ef trwy 'r moddion hynny? ië yn wîr, nid ellir dywedyd ei fod ef yn ei wîr garu êf, oni wna fo fellu. Ac fal hyn y mae Duw pan wêl ef nyni yn rhedeg ymlaen i bechod, rhaid iddo naill ai peidio a'n Carû ni, ac felly yn gadel ni i ni ein hunain, i gymmeryd ein ffordd ein hunain, (a hynny yw'r melldith trymmaf a all ddychwell i ddŷn) neu os parhá ef i'n Caru ni, rhaid iddo ein ceryddu, a'n cospi ni er mwyn ein dwyn ni i wellhaád. Am hynny pan drawo ef ni, nid y'w ond Rhesymmol i ni, nid yn ûnig ddioddefei [Page 41] wialen êf yn Ymmyneddgar, ond ei chusanu hi hefyd; hynny y'w, bôd yn dra-diolchgar iddo ef fod yn wiw gantho ein hattal ni oddiwrth Drachwantau ein Calonnau ein hunain, Psal. 18.12. a pharhau ei Ofal troson'i trwy ddanfon Cystuddiau, megis cynnifer o gennadon i'n dwyn ni adref atto ei hûn. Chwi a welwch gan hynny pa Ynfydrwydd ydyw grwgnach am y cernodiau hynny y rhai sydd a bwriad mor raslawn; cyffelyb y'w hynny i ŵr Clâf trofaus, yr hwn a wradwydda ac ddirmyga y Pysygwr yr hwn sydd yn dyfod i'w iachau êf, ac os gadewir y cyfryw ûn i farw o'i Glefyd, fe wyr pawb i bwy y mae iddo ddiolch.
7. Ond nid yn unig Ymmynedd, Ffrwythlondeb, tan Gystuddiau. iê na Diolchgarwch hefyd tan Gystuddiau, yw'r cwbl o'nd Dledswydd ni yn y peth hyn; rhaid bod gennym ni hefyd Ffrwythlondeb, neu ni thâl y cwbl ddim; hynny yw, dygiad allan y peth hynny, er mwyn gweithredu pa ûn yr anfonwyd Cystuddiau arnom ni; viz. Gwellhaád Buchedd. Am hynny tra-angenrheidiol yw i ni yn amser Gorthrymder, ymholi a ni ein hunain, a phrofi ein Calonnau a'n Bucheddau, a dyfal chwilio pa Bechodau sydd ynon'i yn annog Duw i'n ceryddu ni fal hyn; a pha bethau bynnag a wyddom ni ein bôd yn euog o honynt, ei Cyfaddef yn ostyngedig o flaen Duw, ac yn ebrwydd ymwrthod a hwynt y rhan arall o'n hamser.
8. Y cwbl a draetha 'i yn angwaneg am y Ddled-swydd hon, yw, Ym hôb mâth ô Gystuddiau. ein bôd ni yn rhwym i fod yn ddioddefgar yn gystal yn y naill fâth o [Page 42] Gystuddiau a 'r llall, pa ûn bynnag ai oddiwrth law Duw yn ûnig, megys Clefyd, neu'r cyffelyb, ymha rai nid oes i ûn Creadur (yn y bŷd) ddim a wnêl; neu yntau y cyfryw ymha rai y mae Dynion yn Offerau o'n cystuddiad ni. Canys diammau yw, pan wnêl rhyw Ddŷn niwed i ni, na allei êf wneuthur hynny beb gennad Duw, ac fe all Duw yn gystal ei gwneuthur hwynt yn Offerau i'n cystuddio ni, ac y gall êf wneuthur hynny, a'i Law ei hûn, ac nid yw ond rhîth Ammynedd pan fon yn cymmeryd arnon ymddarostwng i Dduw, heb allu cŷd-ddwyn dim a Dynion; ni welwn, na wnaeth Jôb ddywiol (yr hwn a osodir allan megys yn bortreiad ô wîr Ammynedd) ddim o'r fâth wahaniaeth yn ei Gystuddiau: fe a gymmerodd y golled o'i Anifeiliaid, y rhai a ddygasei y Caldeaid a'r Sabèaid oddiarno, a'r fâth Addfwynder, ac y cymmerodd ef y golled trwy Dân o'r Nef. Pan ddioddefon 'i gan hynny ryw beth gan ddynion, rhaid i ni gydnabod, er anghyfiawned a fo'r peth o'i plegid hwynt, ei fôd ef yn dychwelyd yn gyfiawn oddiwrth Dduw; ac am hynny yn lle edrych arnynt a llygad cynddaredd, a dial (fal y mae arfer gyffredinol y Bŷd) ni a ddylem godi ein golwg at Dduw, a chydnabod ei Gyfiawnder êf yn y Cystudd, gan ddeisyf yn daer faddenant am y pechodau hynny y rhai a annogasant Dduw i'w ddanfon êf, a'i ddwyn êf yn Amyneddgar ac yn ddiolchgar, hyd pan welo Ef yn gymmwys i dynnu ef ymmaith, gan ddywedyd yn wastad gyda Jôb, Bendigedig fytho enw'r Arglwydd.
[Page 43]9. Ond mi a ddywedais fod Ʋfydd-dod yn cynnwys Ymddarostyngiad, nid yn unig iw Ewyllys ef, ond hefyd i'w Ddoethineb; hynny yw, Ymddarostyngiad i Ddoethineb Duw. cydnabod i fôd ef yn ddoeth annherfynol, ac am hynny fod beth bynnag a wnêl ef yn orau ac yn gymmhwysaf i'w wneuthur. Ac hyn sydd raid i ni gyffessu yn gystal pan fo ef yn Gorchymyn a phan fytho yn Ordeinio ac yn trefnu pethau: Yn ei Orchymynion. yn gyntaf, pa beth bynnag a Orchymynno ef i ni ei gredu, neu i wneuthur, rhaid i ni ymddarostwng i'w Ddoethineb ef ymhôb ûn o'r ddau, Credu pa beth bynnag a baro ef i ni gredu, er i'r peth ymddangos yn ammhossibl i'n Dealltwriaeth gwan ni, a gwneuthur pa beth bynnag a Orchymynno êf i'ni wneuthur, er mor wrthwynebus a fo'r peth i'n Rheswn cnawdol ni; ac ym hob ûn feddwl, fod ei Orchymynion ef yn gymmhwysaf ac yn Rhesummol pa fodd bynnag yr ymddangosant i ni.
10. Yn ail, Yn ei Ordinháad. rhaid ini ymddarostwng i' w Ddoethineb ef, pan fo yn Ordeinio ac yn trefnu pethau; sef, cydnabod ei fôd êf yn Trefnu pob peth, yn dra-ddoeth, a hynny nid yn unic mewn pethau a berthyn i'r Bŷd yn gyffredinol; ond hefyd mewn pethau á berthyn i bôb ûn o honon'i yn neillduol; yn gymmaint ac y dylen ein siccrhau ein hunain ymha gyflwr bynnag y gosodo êf nyni, fôd hynny yn oreu i'ni, gan ei fod ef yn dewis hynny i ni yr hwn nid all gamgymmeryd. Am hynny ni ddyle fôd gennim ni ddymaniad hiraethol am ddim yn y bŷd yma, ond gadael i Dduw ein cymmhwyso ni yn y fâth fywiolaeth a chyflwrac a welo ef yn oreu i 'ni, a gorphowys ar hynny yn fodlon ac yn ddirwgnach; [Page 44] iê, er dychwel iddo a bôd y cyflwr mwyaf gwrth wynebus i'ni. Ac nid all hyn na ymddengys yn rhesymmol i'r sawl a fo gantho Ostyngeiddrwydd; canys gwedi i addyscu êf, fôd Duw yn Ddoeth anfeidrol, ac yntau yn llawn Folineb, ni ammau êf, nad gwell iddo êf o lawer fod Duw yn dewis trosto, nag ef ei hûn: megys y mae yn well i'r plentyn fôd ei Rieni yn dewis trosto ef, na 'i adael i'r dewis fôl a wnai êf ei hun: Canys mor fynnych y torrei, y lloscei, ac y gwnai ef ddrŵg iddo ei hûn, os cai ef bôb peth a ddymunai êf? Ar cyfryw blant ydym ni; yr ydym lawer gwaith yn dymuno y pethau hynny yn daer y rhai an dinistriei ni pe caen ni hwynt. Fal hyn yr ydym ni lawer gwaith yn chwennych, Golud, Anrbydedd, a Phrydferthwch, a'r cyffelyb, y rhai pe caen ni hwynt a ddychwelei i fôd yn Rhwydau i ni trwy ein harwain ni i bechu. Ac hyn y mae Duw, yr hwn a wyr bôb peth, yn ei weled, er nad ydyn ni, ac am hynny y mae ef yn neccau rhoddi i'ni lawer gwaith y pethau hynny, y rhai y mae ef yn ei weled fôd yn cyfeirio i'n dinistr ni; ai anfeidrol Drugaredd ef y'w, i fod êf yn gwneuthur hynny. Am hynny pan ddeuwn ni ûn amser yn fyrr o'n hamcanion, a'n dymuniadau, gadewch i'ni ymddarostwng i hynny, nid yn unic yn Amyneddgar, ond yn llawen hefyd, gan wybod yn ddiammau fôd hynny yn oreu i'ni, yr hyn a ddewiswyd gan anghyfeiliornus Ddoethineb ein Tâd nefol.
Anrhydedd.11. Y seithfed Ddlêd-swydd tuag at Dduw ydyw Anrhydedd, hynny yw, talu iddo ef y fâth Barch ac Ʋrdduniant ac a berthynei i'r fâth [Page 45] anfeidrol Fawrhydi. Ac y mae hyn naill ai oddifewn neu oddiallan. Y Barch oddifewn y'w ei Ddyrchafu ef yn ein Colonnau trwy fod genim y debygoliaeth a'r bri uchaf a godidoccaf ô hono êf. Y Barch oddiallan yw amlygu ac egluro y barch oddifewn; a hynny ydyw 'r peth cyntaf cyffredinol yn holl gwrs ein bywiolaeth ni, sefbyw fal Dynion y rhai sydd ganddynt yn ddifrifol y fath debygoliaeth uchel o Dduw. Chwi a wyddoch os bydd gennim ni ryw barch neillduol ond i Ddŷn, ni syddwn ofalus na wnelon i yrûn weithred front a ffraidd yn ei ŵydd êf; felly y rûn ffunyd, os yden yn gwir anrhydeddu Duw ni a ffreidien wneuthar ûn weithred anheilwng yn ei wydd êf. Ond y mae Duw yn gweled pôb peth, ac am hynny os gwnawn ni 'r peth, nid oes fodd na wnelon'i yn ei wŷdd ef; Os ydym ni gan hynny fal hyn yn ei Berchu ef, gwiliwn wneuthur un amser weithred bechadurus.
Amryw foddion ô anrhydeddu Duw.12. Ond heb law 'r modd gyffredinol hon o Anrhydeddu Duw, y mae llawer o Weithredodd neillduol trwy ba rai y gallwn ni Anrhydeddu ef; ac y mae 'r Gwethredoedd hynny yn amryw, yn ôl yr amryw bethau neillduol ynghylch ba rai yr ymarferir hwynt. Canys rhaid i' ni dalu ei anrhydedd ef nid yn unic yn Ddigyfrwng iddo ei Hûn; ond hefyd trwy roddi prisiad ddyladwy a'r holl bethau hynny y rhai sydd nessaf yn perthyn iddo ef. Y rhai hynny yn enwedigol ydynt Chwech; yn gyntaf, ei Dŷ yn ail, ei Deyrnged, neu ei ardreth (fal y dywedwn ni); yn drydydd ei Ddŷdd; yn bedwerydd, ei Air; yn bummed, ei Sacramentau; ac yn chweched, ei Enw; ac y mae pob ûn or' rhain i gael [Page 46] rhyw faint o barch ac Anrhydedd oddiwrthym ni.
13. Yn Gyntaf, Eu Dŷ, sef yr Eglwys, yr hwn yw'r lle neillduol i'w wasanaeth cyffreddinol êf: rhaid i' ni edrych ar y' lle hwn megys sanctaidd, nid o hono ei hûn, yn eu Dy. ond o herwydd yr arser i ba ûn yr ordeinwyd ef, ac am hynny gwiliwn halogi y lle hwn, trwy ei arferu ef i'n hachosion ein hunain. Hyn a ddysgodd Crist i' ni Mat. 21.12. trwy daflu allan y pryn-wŷr a'r gwerth-wyr o'r Deml, gan ddywedyd Tû gweddi y gelwir fy nbŷ i: a thrachefn, Joan 2.16. Na wnewch dŷ fy nhâd i yn dŷ Marchnad. Trwy hyn y mae yn eglur y dylid arferu Eglwysau yn unic i wasanaethu Duw, ac ni a ddylen wneuthur hynny yn unic ddiben a'n dysodiad yno, ac nid dysod i'r Eglwys megis i Farchuad, i wneuthur Bargenion, neu i ddibennu negesau a'n Cymydogion, fel y mae yn rhy gyffredinol ymysg llaweroedd. Ond pan eli di i mewn i'r Eglwys, cofia mai Tû Dduw ydyw, lle y mae ef mewn modd enwedigol yn bresennol, am hynny cymmer Gyngor y gŵr Doeth, Eccles. 4 17. A Gwilia a'r dy droed pan fyddech yn myned i Dŷ Dduw; hynny yw, ymddwyn dy hûn ar fath ofn ac Anrhydedd duwiol ac a berthynei i' r fath Fawrhydi yr wyt o'i flaen. Cofia mai dy neges di yno ydyw ymddidan a Duw, ac am hynny bwrw allan bôb meddyliau Cnawdol; iê o'th negesau mwyaf Cyfreithlon, y rhai er i bôd yn gymmeradwy amser arall, ydynt ymma yn bechadurus. Pa euogrwydd echryslon gan hynny, ydyw croesawy y fath feddyliau, ac ydynt ynddyn ei hunain yn ddrŵg? y mae yn ail i Fradwriaeth Judas yr [Page 47] hwn a gymmerodd arno yn wîr ddyfod i gusanu ei Feister ond a ddygadd gyda ac êf fyddyn ô Filwŷr i'w ddal ef, Math. 26. yr ydyn i trwy ddyfod i'r Eglwys yn gwneuthur rhîth o wasanaethu ac addoli Duw, ond yr ydyni yn dwyn gyda ni Fydyn o'i Elynion ef i'w gyffroi ac i'w ddirmygu ef. Y mae hyn yn ddrygioni a all fyned tu hwynt i halogrwydd y dyddiau hynny, pan oeddid yn troi Eglwysydd yn Bresebau; canys meddyliau pechadurus halogedig ydynt y fâth waethaf o anifeiliaid.
14. Yr ail peth i ba ûn y perthyn parch yw ei Deyrnged ai olud; hynny y'w, Eu Feddiiannau. pa beth bynnag ydyw ei feddiannau neillduol ef, gwedi ei neillduo er cynhaliaeth y rhai sydd yn trîn ei wasanaeth êf y rhai hynny oedd yr Offeiriadau, yn amser y Gyfraith, acyr awrhon, Gwenidogion yr Efengyl: Ac y mae yn rhaid i 'ni edrych a'r fath barch ar y peth a neillduwyd fal hyn, fal na ryfygoni i droi ef i ûn diben arall. O'r fath hyn rhai yw Offrwmg ŵir-fodd Dynion, y rhai ryw amser a roesant o'i gŵir fodd beth o'i Golud, neu ei Tiroedd i' r diben sanctaidd hwn; a pha beth bynnag a roddir fal hyn, nid all na' r gŵr ai rhoddodd, nag ûn arall ei ddwyn ef ymmaith, heb fôd yn evog o'r Pechod mawr hwnnw ô Gyssegr-yspeiliad.
15. Ond heb lawy rhai hyn, yr oedd ymysg yr Iddewon ac holl Genhedlaethau Cristianogol oestadol ryw beth gwedi ei drefnu wrth Gyfraith y Genedl er ymborth a chynhaliaeth y rhai oedd yn trîn Gwasanaeth Dduw. Ac nid ydyw ond cyfiawn ac angenhreidiol i hynny fôd, sef, i'r rhai trwy [Page 48] gymmeryd arnynt yr Alwedigaeth honno, nid oes ganddynt fodd i ennill ei bywiolath yn y bŷd, gael ei Cynhaliaeth gan y rheini, tros Eneidiau barai y maent yn Olyg-wŷr gwiliadwrus. Ac am hynny iniawn a chymmys yw 'r peth y mae 'r Apostl yn ei adrodd yn ypeth hyn; 1 Cor. 9.11. Os hauasom i chwi bethau Ysprydol, a'i mawr yw, os nyni a fedwn eich pethau Cnawdol? Hynny yw, y mae yn anresymmol iaun i Ddynion wrwgnach rhoddi ychydig bethau Cnawdol sef, angenrheidiau oddiallan yn yb ŷd hwn, i'r rheini gan ba rai y maent yn derbyn pethau ysbrydol, sef, Athrawiaeth a chymmorth tu ag at gaffaeliad bywyd tragywyddol.
Cyssegryspeiliad.16. Pa beth bynnag gan hynny a drefnwyd i 'r diben hwn, nid ellir mewn modd yn y bŷd i arferu i ddiben arall. Ac am hynny nid ellir cadw yn ôl y Degymmau y rhai a ordeinwyd yma trwy Gyfraith er cynhaliaeth y Gwenidogion, ac ni ddylid mewn modd yn y bŷd arferu twyll, neu ddichellion er gochelyd i Talu hwynt yn hollawl, neu mewn rhan. Canys yn gyntaf, diammau yw, fod hynny yn lledrad cyn siccred ac y gall ûn Yspeil arall fôd. O herwydd fôd gan wenidogion hawl i'w Degymmau, trwy 'r un Gyfraith, ac sydd yn rhoddi i ûn gŵr arall hawl i'w Feddiannau. Ond yn ail y mae yn amgenach mâth ar' Ledrad, nag yr ydym ni yn i feddwl, y mae yn yspeilio Duw, i gynnal gwasanaeth pa ûn y rhoddwyd hwynt; a rhag i chwi ammau a yw hyn yn wîr, nid yw ddim ychwaneg nag a ddywed Duw ei hûn, Mal. 3.8. A yspeilia Dyn Dduw? Etto chwi am hyspeiliasochi: a chwi a ddywedwch, ym-mha beth i'th yspeiliasom? yn y [Page 49] Degwm ac Offrwn. Yma y mae 'n eglur fod yn nhebygoliaeth Duw y nêb a attalio Ddegymmau yn ei yspeilio êf. Ac os mynnwch chwi a ellwch weled yn y wers nessaf fudd y Lledrad hwn, Melldigedic ydych drwy felldith. Melldith yw 'r cwbl a ennillir drwy hynny; ac y mae profiad gyffredinol yn dangos i ni fôd dial Duw mewn môdd hynodol yn cynllwyn y pechod hwn o Gyssegr-ypseiliad, pa ûn bynnag a fo ai attal Degymmau, ynteu gorddiwes ar y meddiannau hynny a gyssegrwyd o wir fodd i Dduw. Y mae Dynion wrth hyn yn meddwl ei cyfoethogi ei hunain, ond y rhan fynychaf y mae yn dychwelyd yn y gwrthwyneb; y mae 'r elw ahghyfreithlon hwn yn prifio i fòd yn gyfryw Rŵd yn ei golud hwynt, ac sydd lawer gwaith yn difa 'r peth yr oedd ganddynt hawl gyfiawn iddo. Ac am hynny os ydych yn caru (nid wyf yn dywedyd eich Eneidiau, ond) eich golud, cedwch hwynt rhag y pericl hwnnw, trwy ofal mawr nag ymdrafferthoch ûn amser a'r y pethau a niellduwyd i Dduw.
17. Y Trydydd peth trwy ba ûn y dylen ddangos ein Hanrhydedd i Dduw, ydyw, Amserau i'w Wasanaeth êf. sancteiddio 'r Amserau a neillduwyd i'w wasanaeth ef. Efe yr hwn aroddes i'ni ein holl amser, sydd yn ceisio genim ni dalu yn ôl, ryw ran o hono ef, megys Teyrnged neu Ardreth o'r cwbl. Fal hyn yr oedd yr Iddewon yn cadw y saithfed dŷdd yn Sanctaidd; a ninnau y Cristianogion y Dŷdd-Sûl neu Ddydd yr Arglwydd; yr oedd yr Iddewon ar ei sabbath yn cofio yn bennaf Greadwrîaeth y Bŷd; a ninnau ar ein sabbothau Adgyfodiad Crist, trwy ba ûn y gwnaethpwyd i ni ffordd i'r Bŷd gwell hwnnw, yr [Page 50] hwn yr ydymni yn ei ddisgwyl ar ôl hyn. Y mae 'n rhaid arferu y dŷdd hwn fal hyn gwedi ei neillduo, yngwasanaeth ac addoliant Duw; ac hynny yn gyntaf, yn fwy cyffredinol a chyhoeddus yn y Gyunulleidfa, o ba fan ni ddyle neb fôd y absennol heb achos cyfiawn: ac yn ail, yn neillduol Gartref, trwy gyd-weddio, ac Athrawiaethu ein Teuluodd; neu etto yn fwy neillduol yn Nlêd-swyddau 'r stafell, megys Gweddiau per [...]hynasol, darllen, myfyrio, ar Cyffelyb.
Ac er mwyn cael o honom gyfleusdra i hyn, fe Orchymynnir Gorphwysfa oddiwrth bôb negesau bydol; na thybied neb gan hynny mae Gorphwysfa yn unic oddiwrth Lafur yw 'r cwbl a ofynnir gantho ar Ddyd yr Arglwydd, ond y mae yn rhaid iddo dreulio 'r amser hwn a ynnill ef oddiar weithredoedd i alwedigaeth, ar Ddledswyddau ysbrydol. Canys ni ordeinwyd Dŷdd yr Arglwydd i roddi i ni esgus o seguryd, ond yn unic i gyfnewid ein Trafferthion Bydol, am Nefol; llai o lawer yr ordeniwyd ef, fal trwy ein Gorphwysfa oddiwrth ein Galwedigaethau, y gallom gael mwy o amser cyfleus i dreulio ar ein pechodau, megys y mae gormod yn gwnenthur, y rhai ydynt on fanylach, ar y Dŷdd hwnnw yn y Tafarn-dŷ, nag yn yr Eglwys. Ond fe orchymynnwyd y Gorphwysfa hwn, yn gyntaf i Arwyddoccau i ni y Gorphysfa hwnnw oddiwrth bechod i ba ûn yr ydym yn rhwym holl Ddyddiau ein Bywyd: ac yn ail i'n tynnu ni ymmaith oddiwrth ein Trafferthion bydol, ac i roddi i'ni amser i ymorol yn ddiwyd ar ôl Gwasaneth Duw ac angen ein Heneidiau.
18. Ac yn wir os iawn ystyriwn'i, y mae yn [Page 51] dra Buddiol i ni fod y fath amser gosodedig fal hyn, yn dychwelyd bob wythnos i'r perwyl hwn. Yr ydyni▪ yn rhy Dueddus a Thrafferthus ar y Bŷd hwn, ac oni bae fôd ryw fâth amser gwedi ei Ordeinio at ein Dwylaw ni, onid iawn a fyddei i ni appwyntio ûn Amser: Ac yma ymmhâ gyflwr rheibus y byddei raid ein Heneidiau ni fôd, i'r rhai ni chyfrennir ûn prŷd? Pan y mae 'r awrhon gynhaliaeth oestadol gwedi ei arlwyio iddynt bôb Sûl, os nyni ai harferwn ef yn gydwybodus, fe all ddwyn i ni y fath Luniaeth ysprydol ac a'n meithrina ni i fywyd Tragwyddol. Ni ddylen'i edrych ar y Dŷdd hwn, trwy wrwgnach, fal y Bôbl hynny yn Amos. 8.5. Y rhai a ddywedent, pa bryd yr aiff y Sabboth heibio, fel yr agorom y Gwenith? fal pe byddei 'r Amser hwnnw, yr hwn a gymmerir oddiwrth ein Trafferthion bydol, gwedi i gwblgolli. Ond rhaid i ni ystyried hwn megys y Dydd lawenaf, a mwyaf buddiol o'r holl wythnos, ymmha ûn y mae 'n rhaid i ni dryssori tros yr holl wythnos, iê tros ein holl fywyd.
19. Ond heb law Dydd yr Arglwydd, Gwyliau 'r Eglwys. y mae Amseroedd eraill, y rhai a neillduodd 'r Eglwys, er mwyn Coffáu rhyw hynodol Drygareddau Duw, megys Genedigaeth, ac Adgyfodiad Crist, Descynniad yr Ysbryd glân, ar cyffelyb; a'r Dyddiau hyn sydd raid i'ni i cadw yn y modd yr Ordeiniodd yr Eglwys, sef, mewn Cyhaeddus Addoliant Duw, ac mewn neillduol Ddiolchgarwch am y fendith briodol, yr ydyn'i y Prŷd hynny yn ei goffau. Ac yn wir pwy bynnag sydd yn gwbl-ddiolchgar am yr anfeidrol Drugareddau hynny, nid alla nhw dybied yn ormod neillduo [Page 52] ychydig Ddyddiau yn y Flwyddin i'r diben hwnnw.
Ond rhaid i ni Edrych, am fod ein Gwyliau ni yn Ysprydol, trwy arferu 'r Dydd yn Sanctaidd, ac nid i wneuthur ef yn achlysur o Anghymmedrolder ac Afreoledigaeth, fal llaweroedd, y rhai nid ydynt yn Ystyried dim arall, ond y Bwydydd da, a'r llawenydd yn nyddiau Natalic, a dyddiau da eraill. Canys dirmygu yn lle Anrhydeddu Crîst, yw hynny, yr hwn a ddaeth i ddwyn Purdeb, a Sobrwydd 'ir Bŷd, ac am hynny ni fynn ef goffau ei ddyfodiad ef mewn modd arall.
20. Y mae dyddiau eraill gwedi i neillduo, er mwyn coffau 'r Apostolion a Seintiau eraill, ar ba rai y dylen ddiolch i Dduw am ei Rasau iddynt hwy; yn bendifaddef, am iddo ei gwneuthur hwynt yn Offerau o Ddadcuddio i'ni Jesu Grist, a ssordd Iechydwriaeth, fal y gwyddoch ddarfod i'r Apostylion yn ei Pregethiad trwy'r holl fŷd. Ac ymmhellach ni a ddylen fyfyrio ar y Siamplau hynny o fuchedd sanctaidd a roefant hwy i 'ni, a'n cyffroi ein hunain i ddilyn ei hôl hwynt. A phwy bynnag a ymrydd yn ddifrifol i wneuthur y Defnyddiau hynny, o'r amryw Ddyddiau gwylion hyn, fe fydd iddo ef achos, oblegid y llês a dderbyn ef oddiwrthynt, i ddiolch, ac nid i feio'r Eglwys am ei hordeinio hwynt.
21. Y mae math arall ar Ddyddiau sydd raid ei cadw, sef Dyddiau Ymprŷd a Gostyngeiddrwydd; a pha Amserau bynnag o'r cyffelyb a Orchymynno 'r Eglwys, pa ûn bynnag ai yn oestadol ar Amserau gosodedig o'r Flwyddyn neu ar ryw [Page 53] Achosion neillduol a disymmwth, rhaid i ni ei Cadw hwynt yn y modd y mae hi yn ein cyfarwyddo ni; hynny yw, nid yn unig trwy ymgadw oddiwrth fwyd, yr hyn yw Cospedigaeth y Corph yn unig; ond trwy orthrymmu ein Heneidiau, gan ei gostwng hwynt yn isel o flaen Duw, a chyffessu o ddyfnder ein Calonnau, a galaru yn chwerwdost am ein pechodau ein hunain, ac eraill, a thrwy weddio yn ddifrifol am Ollyngdod a Maddeuant Duw, ac iddo ef ymchwelyd y Baruedigaethau hynny, y rhai yr oedd y Pechodau hynny yn galw am danynt: ond yn bendifaddeu, ar iddo ef ein hymchwelyd ni oddiwrth ein Pechodau gan ddattod Clymmau Anwiredd, fal y dywed Esay, Pen. 56.6. ac i ni ymarferu ein hunain yngweithredoedd Trugaredd, sef, Torri ein bara i'r newynog, ar Cyffelyb, fal y mae yno yn canlyn.
22. Yn bedwerydd, Gair▪ Duw. rhaid i 'ni ddangos ein bôd yn Anrhydeddu Duw, trwy berchi ei Air ef; ac hyn sydd angenrheidiol i ni i wneuthur, os ydyn i yn i wîr Anrhydeddu ef, oblegid nid oes dim yn Arwydd mwy hynod o'n bod ni yn diystyri rhyw ûn, na phan fôni yn dirmygu ei Eiriau ef; megys yn y gwrthwyneb, os ydyni yn perchu gŵr, y mae pob peth a ddywed ef, yn Gû ac yn werthfawr gennim ni. Y mae 'r Gair Duw ymma yn gynnhwysedig yn hynodol yn y Scrythur-lân, Y Scrythr-lân. sef yr Hên Destament ar Newydd, lle y mae ef yn Traethu wrthymni i ddangos i'ni ei Ewyllus ef, a'n Dled-swydd ninnau. Am hynny rhaid yw bod gennim ni barch rhyfeddol i'r Gair hwn, edrych arno, megys y Rheol wrth ba ûn y mae yn rhaid ini gyfeirio holl weithredoedd ein [Page 54] bywyd; ac i'r diben hwn rhaid i'ni roi ein meddyliau arno, a'i ddarllen ef cyn fynyched ac y gallom, a gwiliad gadael (os bydd bossibl) ûn Dydd fyned heibio heb ddarllen, neu glywed Darllen rhyw ran o hono êf.
23. Ond nid hyn yw'r cwbl: rhaid i ni nid yn unig ddarllen ond dal Sulw ar y peth a ddarllenion i, ac ystyried yn ddiwyd pa Ddled-swyddau y mae Duw yn Gorchymyn i ni ei cwplhau, pa Gamweddau y mai Duw yn gwahardd i'ni ei gwneuthur, a'r Gwobrau a addewir i'r naill, a'r Cospedigaethau a fygythir i'r llall. Gwedi i ni fal hyn ddal Sulw, rhaid i ni hefyd i Coffau hwynt; iê a'i plannu hwynt yn ein Coffad wriaeth ni trwy Feddwl a myfyrio yn fynych arnynt fal y byddont barod i ni i wneuthur Defnydd o honynt. Y Defnydd hwn y'w cyfarwyddiad ein bywyd ni, am hynny pa brŷd bynnag i'n Temptir ni, i wneuthur rhyw ddrwg ni a ddylen yr amser hynny goff hau y peth a waherddir gan Dduw yn y Scrythur a'r holl Ddialeddau hynny y rhai a fygythir yn ei erbyn ef; ac felly y rûn ffunyd dygwn ar Gôf, pan gynnygir i'ni ryw odfa i wneuthur Daioni, mae hyn yw'r Ddledswydd a gynghorwyd i mi yn y cyfryw Scrythr, a'r fath Wobrau gogoneddus a addawwyd i'r rhai a wnánt hynny; a thrwy 'r Ystyriaethau hyn sefydlwn ein hunain i wrthwynebu 'r drŵg, ac i wneuthur y Dá.
24. Ond heb law 'r Gair Scrifennedig fe ryngodd bodd i Dduw ddarparu ymmhellach er mwyn ein hathrawiaeth ni trwy ei Wenidogion, sŵydd pa rai yw dyscu i ni Ewyllus Duw nid trwy [Page 55] ddywedyd dim yngwrthwyneb i'r Gair Scrifennedig (canys pa beth bynnag sydd felly nid all fod yn Ewyllus Duw) ond trwy ei eglurhau ef, a'i wneuthur yn fwy hynaws i'n Deallwriaeth ni, ac yna ei gyssylltu ef at ein hamryw achosion, a'n cynghori, a'n cynnhyrfu ni i wneuthur ar ei ôl ef; yr hyn oll yŵ'r diben at ba ûn y mae ei hathrawiaeth hwynt trwy Egwyddorion, a'i Pregethau yn cyfeirio. Ac y mae yn rhaid hefyd bôd gennim ni barch ddyladwy i hyn, nid yn unig wrth fôd yn bresennol yn yr Eglwys, ac naill ai cysgu yr amser allan, neu feddwl am ryw beth arall, ond dal Sulw yn ddifrifol ar y peth a ddywedir i'ni. Ac yn ddiammau pe iawn-ystyrien'i cymmaint y mae hyn yn perthyn i'ni, ni a gyfadden fôd hyn yn dra-rhesymmol i 'ni i wneuthur.
25. Canys yn gyntaf, Egwyddorion. Athrawiaeth trwy Egwyddorion ydyw gosodiad y Sylfaen a'r ba ûn y bydd rhaid adailadu holl ymarferiad Gristianogawl; canys trwy hyn yr addyscir i ni ein Dlêd-swydd, heb yr hyn bêth nid allwn mo'i gyflawni ef. Ac er ei fôd yn wir, mae'r Scrythyrau yw'r Ffynnhonnau ô ba rai y mae Gwybodaeth ein Dled-swydd ni yn Tarddu, etto y mae llawer y rhai ni fedran mo'i Dynnu ef allan o'r Ffynnon yma ei hunain, ac am hynny y mae 'n angenrheidiol i ddwyn êf attynt gan eraill.
26. Fe edrychir yn gyffredinol, ar yr Athrawiaeth hon drwy Egwyddorion, yn beth a berthyn yn unic i Jeüenctid, ac felly yn wîr y dylei, nid o herwydd na raid i'r rhai hynaf ddyscu, os ydynt yn anhynod, ond o herwydd y dylei [Page 56] bôb plant fòd felly, gweddi i haddyscu, fal na bo bossibl iddynt fòd mewn anwybodaeth pan ddelont i oedran. Ac y mae 'n Ddled-swydd ar bôb Rhieni, y rhai a chwennych i rhyddhau ei hunain oddiwrth euogrwydd Dinistr Tragwyddol ei plant, fòd yn ofalus i weled i hathrawiaethu hwynt ymmhôb pethau angenrheidiol; ac i'r diben hwn fe fydd cymmwys ddysgu iddynt mewn prŷd rhyw Catechism byr, a'r cymhwysaf ydyw Catechism yr Eglwys; etto nid digon iddynt hwy Orphwys ar ei hegni a'i Diwydrwydd ei hunain; ond deisyf hefyd gymmorth yr Offeiriad, modd y gallo ef ei hadeiladu hwynt ymmhellach mewn gwybodaeth Gristionogawl.
27. Ond y mae yn rhy hynod y sowaeth fôd Rhieni yn Esgeuluso yn ddirfawr y Ddled-swydd hon, a dena'r achos fod y fâth Luoedd o wŷr ac o wragedd, y rhai a elwir yn Gristiannogion, heb wybod dim am Grîst, nac am bethau a berthyn i'w Heneidiau, mwy na Phaganiaid anghredadwy.
28. Ond er mai bai ei Rhieni nhw ydoedd na addyscwyd hwynt yn ei Hieuenctid, etto ei Bai nhw ei hunain ydyw yr awrhon, os parhaánt i fyw mewn Anwybodaeth; a diammau yw os ânt hwy ymlaen felly yn fyrbwyll, mae ei Dinistr ai Trueni hwynt ei hunain a fydd hynny. Am hynny pwy bynnag ydyw, o ba oedran, neu râdd bynnag y bytho, yr hwn sydd yn y Cyflwr anwybodol hwn, neu yn y cyfryw fesur o hono ef, a bòd arno eisiau rhyw ran o wybodaeth angenrheidiol i Jechydwriaeth, megys y mae yn Caru ei Enaid, ac fal y chwennych ef ddiangc [Page 57] oddiwrth ddamnedigaeth dragywyddol, chwilied yn fanwl am Athrawiaeth ac na rwystred Ofn Cywilydd neb rhag hynny: Canys yn gyntaf, diammau yw fôd cywilydd yn perthyn yn unig i'r rhai sydd yn parháu yn ewyllyslawn mewn Anwybodaeth, i ba un y mae deisyfiad Dŷsc, ac Athrawiaeth yn dra-gwrthwynebol; ac am hynny y mae cyn belled, oddiwrth fòd yn gywilyddus, a bôd hynny yn beth tra-chanmoladwy, ac a gyfrifiir felly gan wŷr da synnhwyrol. Ond yn ail bwriwch fôd rhyw Bobl ffôl ac halogedig yn gwatwor hynny, etto nid ydyw ond rheswm cyd-ddwyn a hynny yn llawen, yn hytrach nac anturio a'r y cywilydd a'r gwradwydd wyneb, yr hwn a ddychwel yn Nŷdd y Farn, i'r rhai a aethant ymlaen, er mwyn gochelyd rhyw rîth o Gywilydd ymysg Dynion, mewn Anwybodaeth fyrbwyll o'i Dlêdswydd, yr hwn Anwybodaeth a fŷdd cymmhelled oddiwrth esgusodi ûn o'i pechodau hwynt, ai fod ef yn ychwanegu ûn pechod mawr echryslon at y lleill, sef dirmygu y Gwybodaeth hwn a gynnygwyd iddynt. Chwi a ellwch ddarllen mor echryslon yw'r Pechod hwn yn Diharebion 1.29. lle y dywedir mae cashau gwybodaeth yw'r peth sydd yn dwyn i lawr y dialeddau creulon hynny a draethwyd o'r blaen, sef ymwrthod o Dduw a Dynion, a chwerthyn am ben ei Dialeddau hwynt yn lle ei cynnorthwyo: yr hyn yw'r cyflwr mwyaf gresynol yn y bŷd, a diammau yw ei bôd hwynt yn drafyrbwyll y rhai o'i gwirfodd a redant iddo.
29. Am y rhai sydd ganddynt y sylfaen hon yn barod wedi ei gosod trwy wybodaeth ô Seiliau [Page 58] Crefydd Gristianogawl y mae iddynt gynnorthwg ymmhellach drwg Bregethiad. Ac nid yw hynny ddim mwy nac sydd angenrheidiol, Pregethiad. canys fe ŵyr Duw fod y rhai sydd yn deall ei Dled-swydd yn dda jawn, yn rhy barod iw hangofio ef; iê, weithiau trwy angerdd ei Trachwantau i Droseddu pan fyddont yn coffhau ei Dled-swydd, ac am hynny y mae yn dra-ddefnyddiol i ni gael ein mynych rybuddio, er mwyn rhagflaenu ein gwan-goffadwriaeth ni, a chael hefyd ein mynych gynghori a'n cynnorthwyo, er mwyn gwrthladd y Trachwantau hynny y rhai sydd yn ein denu ni i'r Troseddiadau hynny. Ac i'r diben hwn, y mae Pregethiad yn tueddu, sef, yn gyntaf, i'n rhybuddio ni i fôd yn wiliadwrus yn erbyn ein Gelyn Ysprydol, ac yna i ddarparu i ni Arfau i ryfel: hynny yw y moddion, a'r Cymmorth goreu i'n dichoni ni i guro ymmaith Brofedigaethau, ac i gael y fuddugoliaeth arnynt hwy.
30. O ran mae hyn gan hynny yw diben. Pregethiad, na thybiwn ddarfod i 'ni wneuthur ein Dlêd-swydd gwedi ini wrando Pregeth, er mor Ystyriol, ond rhaid i ni osod i fynu yr Athrawiaethau, a'r Cyngorion a dderbynion i yno yn ein Calonnau, a'i harferu hwynt yn ffyddlon i'r diben hwnnw o orchfygu ein Pechodau. Am hynny pa brŷd bynnag y deui di at Bysygwr dy Enaid, gwna y rûn môdd ac y gwnei di a Physygwr dy Gorph; nid wyti yn dyfod atto ef i yn unig i wrando arno ef yn chwedleua, ac yn dywedyd it i pa beth a'th iachâ di, ond hefyd i wneuthur yn ol ei hyfforddiad ef; ac onid wyti yn gwneuthur felly ymma, yr wyt mor [Page 59] ofer ac un sydd yn disgwyl cael ei jachau trwy gyfarwyddiad ei Bysygwr, er na wnelo ef Ddefnydd yn y byd ô hono. Iê yr wyt yn oferath ac yn ynfyttach ô lawer, canys hynny er na wna ef ddim Daioni, ni wna ef ddim drŵg ychwaith, oblegid ni bŷdd neb ddim gwaeth er dyscu Meddyginiaeth, er na wnelo ef ddefnydd yn y bŷd o hono: Ond nid felly y mae Meddyginiaethau Ysprydol, oddigaeth i ni wneuthur defnydd o honynt er ein llês, nhw a wnán i'ni lawer o ddrŵg, nhw a gyfodant i fynu yn y Farn i'n herbyn, ac a wnánt ein Damnedigaeth ni yn drymmach o lawer. Gwilia gan hynny rhag dwyn y perigl hwn arnat dy hûn; ond gwedi iti wrando Pregeth Ystyria wrthit dy hûn pa gyfarwyddiad oedd ynthi hi, i'th hyfforddi di i ymadel a'r drŵg, ac i wneuthur y da. Ac os oedd dim a berthynei yn enwedigol i'th anwylbechod dy hûn, gosod hynny yn dwys at dy Galon, a bydded hynny yn Sail dy Fyfyrdod di yr holl▪ wythnos sydd yn canlyn; os bydd dy Amser yn brin, meddwl ar hynny tra fyddoch di ar dy waith; ac nid meddwl yn unig ond ymosod dy hûn, i'w arferu ef, a gwneuthur y peth a gynghorwyd iti, er mwyn gorchfygu pechodau, a bywhau grâs ynot. Yn ddiweddaf, bydd ofalus i wneuthyr defnydd o gyngor yr Apostol, Jac. 1.22. Byddwch wneuthur-wyr y gair ac nid gwrandawyr yn unic gan eich Twyllo eich hunain. Nid yw gobeithio Cael Daioni oddiwrth y Gair, heb ei wneuthur ef ddim amgen ond ein twyllo ein hunain: Na fesurwn gan hynny mo'n Dywioldeb wrth nifer y Pregethau a glowon i, fal pe byddei gwrandawiad llawer yn arwydd hynod o wîr Gristion, ond trwy amlder y ffrwythau [Page 60] a ddygomni trwyddynt, heb ba ûn ni wnâ'n holl wrandawiad ni ond chwagegu nifer y gwialennodau, y rhai a berthyn ir nêb a wyr ewyllus ei Arglwydd, ac ni wna yn ôl hynny, Luc. 12.47. Ond nid rhaid talu yr anrhydedd yma yr hwn sydd ddledus i Bregethiad i bob ûn ar a elwir felly yn yr amseroedd ymma, oblegid fe wŷr Duw fyned o gau-Brophwydi lawer allan i'r bŷd fal y dywed yr Apostol, 1 Jo. 4.1. Ac os bu erioed, yr awrhon y mae ei gyngor êf yn angenrheidiol, i brofi yr Ysbrydion ai o Dduw y maent. Ond y peth a ddywedais i o'r blaen, yr wyfi 'n meddwl am Bregethiad y rhai hynny, y rhai, yn gyntaf, a gafodd alwedigaeth gyfreithlon i'w fwydd; ac yn ail y rhai sydd yn ffurfio ei hathrawiaeth yn ôl y wîr Reol, sef, Gair scrifennedig Duw. Ond os dywed ûn, nad ydyw ef abl i farnu pa ûn a wná 'r Athrawiaeth ai bôd yn ôl y Gair ai nad yw; profed o'r lleiaf wrth y Rheolau gyffredinol ô Ddlêd-swyddau, y rhai y mae ef yn ei ddeall; ac os gwêl ef fod yr athrawiaeth yn rhoddi Rhydd-dyd i Ddynion i wneuthur y pethau hynny, y rhai a gydnebyddir gan bawb ei bôd yn bechodau, megys Gwrthryfelgarwch, anghyfiawnder, anrrhugarogrwydd, aflendyd, neu'r cyffelyb, gwybydded fòd hynny yn gwbl gwrthwynebus i Dduw, ac i'w Air; ac yna dirmygiad, ac nid Anrhydedd a berthyn iddo.
Sacramentau.31. Yn bummed, rhaid i ni hyspysu ein hanrydedd i Dduw trwy berchi ei Sacramentau ef: y rhai hynny ydyw dau; Bedydd, a swpper yr Arglwydd. A hyn sydd raid i'ni wneuthur, yn gyntaf, trwy ein Tebygoliaeth uchel o honynt; [Page 61] yn ail, trwy ei harferu hwynt yn barchedig; rhaid i ni yn gyntaf ei prisio nhw yn uchel, gan edrych arnynt megis yr Offrau y rhai sydd yn ein dwyn ni at y Bendithion mwyaf ar a allwn ei derbyn. Y Cyntaf o honynt, Beddydd, sydd yn ein harwain ni i gyfammod a Duw, yn ein gwneuthur ni yn aelodau o Grîst ac yn rhoddi i' ni hawl yn yr holl Ragorfreintiau gwerthfawr hynny y rhai sydd yn tarddu, o hono ef, megis maddeuant pechodau Grasau Sanctaidd, a'r Nef hefyd tan ammod i 'ni gwplhau ein rhannau ni o'r cysammod. Ac am swpper yy Arglwydd, nid arwydd yn unic, a choffadwriatih ydyw ef o Grist ai farwolaeth; ond y mae 'n rhrddi Crist, ac holl ffrwythau ei Farwolaetb ef i bôb derbynni wr teilwng; ac am hynny y mae prisiad a bri tra-ûchel yn ddyledûs, i bôb ûn o honynt.
32. Ac nid felly y unig, Bedydd. ond yn ail mae yn rhaid i ni ddangos ein parch yn ei harferu hwynt, a hynny yn gyntaf cyn, yn ail, wrth, yn drydyddd, gwedi ei dêrhyn hwynt. Gwir yw gan ein bod ni yn derbyn y Sacrament o Fedydd yn Blant, na ddisgwylir ini wnenthur dim êin hunain na chyn, nâg, wrth ei dderbyn ef, y pethau hynny a ofynnwyd gan y rhai o Fedyddwyd yn oedrannûs. Ond am danom ni digon yw i roddi i ni yr hawl hwn i Fedydd, ein geni o fewn cyffiniau r' Eglwys, hynny yw, o rieni Cristianogawl; a'r cwbl a ddisgwylir y pryd hynny yw, y peth a allun ei cyflawni trwy eraill, trwy ei bod nhw yn addo trustoni y cwplhawn ni ein Rhannau ni, or Cyfammod pan ddelomi oedran. Ond gan nad allwni y pryd hynny wneuthur dim, yr ydyn yn fwy rhwymedig i gwplhau [Page 62] y Dledswyddau a ofynnir ar ein dwylo ni gwedi hynny, trwy ba rai y mae i ni gyflawni diffyg y pethau cŷntaf.
33. Ac os mynnwch wybod parai yw 'r Dledswyddau hynny, edrychwch ar yr addewidion hynny a wnaeth eich Tadau-Bedydd, a'ch Mammaubedydd yn eich enw chwi, ac yna chwi a'i dyscwch hwynt. Nid alla 'i mo 'i hadrodd nhw mewn ffurf well nag ymaent gwedi ei gosod ar lawr yn Ghatechism yr Eglwys, lle y dywedir ddarfod i'n Tadau-Bedydd, an Mammaubedydd addaw ac addunedu tri pheth yn ein heuwau ni; yn gyntaf, ymwrthod o honom a Diafol, ac a'i holl weithredoedd a'i rodres, gorwagedd y byd anwir, a phcchadurus chwantau y cnawd, lle wrth Ddiafol y deellir, yn gyntaf, addoliad pob gau-dduwiau, yr hyn nid yw yn wir ond addoli Diafol: Pechod, yr hwn ar ddysodiad Crist i'r bŷd oedd yn dra-chyffredinol, gan fod y rhan swyaf o ddynawbryw y pryd hynny yn byw mewn Delw-addoliaeth. Ac am hynny pan ordeinwyd Bedydd yn gyntaf, angenreidiol ydoedd gwneuthur ymwrthod a'r Gau-dduwiau, hynny yn rhan bennaf o'r adduned. Ac er bôd y Delw-addoliaeth hynny yr awrhon yn anghynnefinach o lawer, etto fe ellir ofni fod un rhan arbennig o honynt etto yn rhy gyffredinol yn cin mysg ni, hynny yw, pob máth a'r aflendid, ac er nad ydym ni yn gwueuthur Ceremoniau a'n Crefydd megys y Cenhedloedd gynt, etto y mae gwnethur aflendid yn bechod dirfawr yngolwg Duw, cyfryw ac a' hannogodd ef i ddinistrio Dinasoedd cyfan a thân a brimstan, fel y darllennir, Gen, 29. ie yr bollfŷd a dwfr, Gen. 6. [Page 63] ac yn ddiammeu a ddwg i lawr farnedigaethau trymion a rhyfeddol ar y neb a bery yntho ef, ac am hynny fe ddylid edrech ar ymwrthod a hwynt megis rhan hynodol o'r addewid hwn. Heblaw hyn, fe addunedir ymma yn erbyn pob ymdriniad a Diafol, pa un bynnag ai trwy arferu Dewiniaeth ein hunain, ai ymoralw ar rhai y sydd yn gwneuthur felly ar ba achos bynnag, megys ail-gaffaeliad ein hiechyd, ein da, neu'r cyfryw; canys y mae hwn yn râdd o'r pechod arall, y mae yn ymwrthod ar Arglwydd, ac yn gosod i fynu'r Cythrel yn Dduw i ni, tra 'i byddon yn myned atto ef am gymmorth yn ein hanyenrheidiau.
34. Yr ydyni hefyd yn ymwrthod ac holl weithredoedd y Cythrel: a'r rhai hyn ydynt naill ai yn gyffredinol yr holl bechodau y mae ef yn ein hudo ni iddynt, neu yntau y pechodau neillduol hynny, y rhai sydd fwyaf a'i Ddelw ef arnynt; sef, y rhai y mae ef yn eí arferu fwyaf, megys Balchder, (yr hwn ai dygodd ef o fod yn Angel goleuni i'r cyflwr melldig edic y mae ef yr awrhon yntho) a Chelwydd, y mae ef fal y dywed ein Iachawdr, Joan, 8.44. yn gelwyddog ac yn Dàd iddo hefyd; a'r cyfelyb hefyd yw ysgelerder a Chenfigen, yn enwedig llâdd a Difet ha rhai eraill, canys llofrudd oedd efe o'r dechreuad; ond vwchlaw'r cwbl nid oes dim yn ein gwneuthur ni yn debyccach iddo, na Themptio a denu rhai eraill i bechod, yr hyn yw ei holl fwriad a'i gelfyddyd ef, ac os gwnawn ninnau felly, yr ydyni yn debyg, i'r llew rhuadwy hwnnw, yr hwn sydd yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu. 1 Pet. 5.8.
[Page 64]35. Yr. ail peth yr ydyni yn addunedu ymwrthod, yw rhodres a gorwagedd y byd anwir; trwy rodres a gorwagedd y deallir amryw bethaus rhai o honynt yw 'r cyfryw ac a arferwydd gan y Cenhedloedd mewn rhyw chwarddyion anghyfreithlon, y rhai nid ydynt yn perthyn cymmaint i ni yr awrhon, gan nad ydynt arferedig yn ein mysg ni; ond heb law hynny, fe ddeallir wrthynt hwy bôb gormodedd; naill ai mewn lluniaeth neu bleserau, neu ddillad, pan foni yn myned tu hwnt i'r cymmedroldeb hynny, i ba ûn yr ydyn yn rhwym, naill ai trwy 'r Rheol gyffredinol o sobrwydd, neu trwy, r' amgylcheddau neillduol o'n cynneddfau a'n galwedigaethau. Yn nessaf, trwy 'r byd anwîr, deallwn, yn gyntaf, olud, a mawredd y bŷd, y rhai er nad ydyn i yn hollawl yn ymwrthod a hwynt, megys pe byddei yn anghyfreithlon i Gristion fòd yn oludog, neu yn fawr, etto yr ydyni yn addaw ymwrthod a hwynt cymmelled ac na bo i ni osod ein calonau arnynt hwy, nag ychwaith ei ceisio na'i cawdw hwynt trwy foddion anghyfeithlon yn y bŷd. Yn ail, ni allwn ddeall wrth y bŷd anwîr, cefeillach ac arferion y bŷd, y rhai cymmhelled ac y maent yn ddrygionus, yr ydyni ymma yn ym wrthed a hwynt, hynny yw, yr ydyn yn addaw na ddenir ni fŷth gangyfeillion i ûn pechod, eithr yn hytrach y mogelyd y cyfeillion anwylaf, na dioddef ein twyllo ganddynt, nac ychwaith gan arfer, eithr yn hytrach anturio dwyn cywilydd, trwy dybied o ddynion ein bod yn neillduol, ac ynfydffól, yn rhodio megys mewn llwybr ar ein pennau ein hunain, na'n gosodi ein hunain a'r y [Page 65] ffordd ehang honno sydd yn denv i ddistryw, trwy ein rhoi ein hunain i fynu i ûn arfer bechadurus, er mor gyffredinol y bo hi yn y bŷd. Pe ystyrien i yn ddifrifol y rhan yma o'n hadduned ni, fe a'n harfogai ni gan mwyaf yn erbyn holl brofedigaethau y bŷd, gan mae cyfeillach, ac arfer, yw 'r offerau penaf trwy ba rai y mae ef yn gweithio arnoni.
36. Y Trydydd peth yr yndyni yn ymwrthod ac ef, yw holl bechadurus chwantau'r cnawd; lle y cymmerir y cnawd (fal y mae 'r Scrythr yn fynych yn ei arferu ef) am ffynnon pob anwydau afreolus. Canys er y deallir wrth hyn y trachwantau amhûr hynny, y rhai a elwir yn gyffredinol chwantau'r cnawd, etto nid hynny yn unic a gynnhwysir ymma, gan fod amryw bethau eraill y rhai y mae 'r yn i galw yn weithredoedd y cnawd; nid allâ ei hadrodd nhw yn yn well nac y mae S. Paul yn ei roddi nhw ar lawr, Gal. 5.19.20.21. Amlwg yw gweithredoedd y cnawd y rhai ynt, torri Priodas, godineb, afflendid, ddgywilyddra, Addoliad eulynnod, swyn-gyfaredd, easineb llîd, gelyniaeth, digofaint, ymrysonau, terfyscau, heresi, cenfigenau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, ar cyffelyb▪ Hyn ynghyd ar adroddiadau eraill sydd yn wascaredig mewn amryw fannau o'r Scrythur a ddengys i ni fôd llawer o bethau eraill yn gynnhwysedig tan y rhan ymma o'n hadduned ni, sef, ymwrthod a holl bechadurus chwantau 'r cnawd.
37. Yr ail peth a addawodd ein Tadau-bedydd, an Mammau-bedydd troston, oedd y credeni holl [Page 66] Byngciau y flydd Gristianogawl. Y rhai hyn a gynnhwysir ar fyr yn yr hwn a elwir Credo 'o Apostolion, yr hyn gan ein bôd ni yn addaw ei credu, fe a rag-debygir, ein bod ni hefyd yn addww ei dyscu hwynt, a hynny nid yn unic y geriau, ond ei hystyriaeth eglur hwynt; canys pwy a ddichon gredu'r peth ni chlywso nhw erioed sôn am dano, neur' peth ni fedran mo'i ddeall? Trwy gredu y deallir nid yn unic cydsynniad a'i gwirionedd hwynt, ond hefyd bôd i ni fyw yn debyg i rai a fo'n credu: megys trwy Esample, os credwn mae Duw a'n creuodd ni, fe ddyle hynny wneuthur i ni fyw yn y cyfryw ddar ost yng eiddrwydd ac ufyod-dod ac a weddai i Greaduriaid tu ac at ei Creawdr; credu he fid ddarfod i Grist ein prynu ni, a ddyle wneuthur i ni ein rhoddi ein hunain i fynu iddo ef megys ei bwrcas, i'n trafferthu ein hunain yn unic yn ei wasaneth ef. Credu barn i ddyfod, a ddyle ein gwneuthur ni yn ofalus pafodd y rhodion, fel na'n bernir ni'n evog y prŷd hynny- A chredu o honom y bywyd traggwyddol, a ddyle ein gwneuthur ni yn ddiwyd i treulio ein munudŷn firr o amser ymma, fal y bo ein bywyd tragywyddol ni yn fywyd o lawenydd, ac nid drueny i ni. Yn y modd hyn y dyleni allan o holl Byncciau ein ffŷdd dynnu Cynnhyrfiadau i'n cadarnhau ni mwen pob arfer Gristianogawl, i ba ddiben yn unic yr ydyn yn ei dyscu ac yn ei credu hwynt, ac am hynny heb hyn yr ydym ni ymmhell iawn oddiwrth gwplhau y rhan yma o'n hadduned, sef Credu holl Byngciau y ffydd Gristianogawl.
38. Y Rhan ddiwaddaf o'n hadduned yw fôd i ni gadw sanctaidd ewyllys Duw, a'i orchymynion, a [Page 67] rhodio ynddynt holl ddyddiau ein bywyd. Lle, wrth gadw o honom sanctaidd ewyllys Duw, ai orchymynion y deallir, gadw honom yr holl bethau hynny, y rhai a eglurhaodd ef i ni fod ei ewyllys ef ar i ni ei cwplhau; er mwyn hyn fe'a roddodd i ni ei Air sanctaidd n'i haddyscu, ac i hyspysu i ni pa beth y mae ef yn ei ofyn ar ein dwylo ni, ac y mae ef yr awrhon yn disgwyl i ni wneuthur hynny yn ffyddlon heb ein heiriach ein hunain mewn trawseddiad ûn o'i orchymynion ef. Ac y maen rhaid i ni rodio yn yr ufydd-dod gyflawn ymma holl ddyddiau ein bywyd: hynny yw, rhaid i' ni fyned ymlaen mewn rheol barchaus o ufydd-dod i Ddu; nid yn unic rhoi ychydig gamrau yn ei ffyrdd ef, ond rhodio ynddynt, a hynny nid tros ran bychan o'n hamser; ond holl ddydiau ein bywyd, heb droi un amser allan o honynt; ond myned ymlaen ynddynt yn barhaus, tra 'i byddonibyw yn y bŷd hwn.
39. Gan ddarfod i ni yr awrhon eglurhau ar fyrr i chwi yr Adduned ymma a wnaethoth wrth eich BEDYDDIO, ni ddyweda'i ddim ychwaneg yngchylch hyn, ond yn unic eich coffhau chwi mor agos y mae 'n perthyn i chwi ei chadw hi: a hynny yn gyntaf, o herwydd cyfiawnder; yn ail, o herwydd bûdd allesháad. Eich bôd chŵi mewn cyfiawnder yn rhwmedic i hyn, sydd eglur, oblegid ei fod ef yn addewid, ac y mae cyfiawnder yn gofyn ar law pôb dŷn gadw ei Addewid. Ond y mae hwn yn rhwymo yn gaethach na phob addewidion eraill, canys y mae yn adduned, hynny yw, addewid a wnaethpwyd i Dduw, ac am hynny pan dorroni ûn rhan o hwn, nid ydyni yn unic yn anghyfiawn ond yn anudonol.
[Page 68]40. Ond yn ail y mae hyn yn perthyn ini yn ddirfawr o herwydd ein bûdd ein hunain. Mi a ragddywedais i chwi, fod Bedydd yn ein dwyn ni i Gyfammod a Duw; ac y mae mewn pôb Cyfammod ddwy ran, hynny yw, rhyw beth a addewir gan y nail blaid, er rhyw beth gan y llall yr hwn sydd yn gwneuthur y Cyfammod. Ac os tyrr un ei ran or Cyfammod, hynny yw, peidio a chyflawni 'r péth a gyttûnodd ef iddo, nid all ef mewn rheswm ddisgwyl i'r llall gwplhau ei ran yntau. Ac felly y mae ymma, y mae Duw yn siccr yn addaw yr holl gymmhwynasau rhagddywededig, ac hynny yw ei ran ef o'r Cyfammod. Ond yr ydym ninnau hefyd yn cymmeryd arnon gwplhau yr amryw bethau a gynnhwysir yn yr Adduned ymma o Fedydd a dena 'n rhan ninnau o hono, ac oddigaeth i ni yn ffyddlon ei cyflawni hwynt, nid yw Duw yn rhwymedig i gwplhau ei ran yntau, ac felly yr ydyn yn colli 'r holl fûdd a'r rhagorfreintiau gwerthfawr hynny, i'n gadewir hefyd yn ein cyflwr anianol a thruenus, sef, yn blánt digofaint, yn elynion i Dduw, ac yn etifeddion damnedigaeth dragywyddol. A pha hyfrydwch a all fod yn ein holl bechodau ni i dalu i ni'r jawn lleiaf am y cyfryw golled, sef, colled o ffafor a grâs Duw ymma, a cholled ein Heneidiau ein hunain ar ôl hyn? Canys (fel y dywed ein Jachawdwr, Mart. 8.36.) pa lesáad i ddyn ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei bun? Etto dymma'r farsiandiaeth ynfyd ffol, yr ydyn yn ei wneuthur pan fo'n yn torri ûn rhan o'n hadduned hon o Fedydd. Fe berthyn i ni gan hynny Ystyried hyn yn ddifrifol, a choffhau fòd pób pechod a wneloni yn droseddiad hynod yr Adduned hon, ac am hynny pan 'ith demtir i ryw bechod, er [Page 69] gwaeled yr ymddengys ef iti, na ddywed am dano fal y dywedodd Lot am Zoar, Gen. 19.20. O nid ûn buchan ydyw ef? ond Ystyria, pa beth bynnag ydyw ef, ddarfod i ti yn dy Fedydd addunedu yn ei erbyn ef, ac yna er llei [...]d a fytho, y mae ef yn denu ûn mawr ar ei ol, nid amgen nár pechod o Anudonedd, yr hwn pwy bynnag a'i gwnelo, fe ddywedodd Duw yn eglur yn y trydydd gorchymyn, na fydd ef di-euog o'i flaen ef. Ac er mwyn cadw o honom yr adduned yma yn well, tra-fuddiol a fydde i ni atgofio yn fynych yr amryw Ddosparthiadau o honaw, fal y bytho ef yn wastad yn barod yn ein meddyliau ni, i wrthwynebu pób profedigaethau; ac yn ddiammeu y mae hwn yn arf mor dra-rhagorol, mae oddigaeth i ni ei daflu ef ymmaith, neu ei arferu ef yn ddiofal, fe an gwná ni yn abl trwy gymmorth Duw, i yrru ein gelyn Ysprydol i ffo. A dymma'r parch a'r anrhydedd sydd raid i ni ei dalu i'r Sacrament cyntaf yma, sef, Bedydd.
DOSPARTHIAD,
III.
Am y Sacrament o Swper yr Arglwydd, Am Rag-ymbaratóad, megys prawf o'n Hedifeirwch, Ffydd, Ʋfydd-dod, am Ddled-swyddau i'w gwneuthur wrth Gymmuno, a chwedi, &c.
YR awrhon y canlyn y Parch dledus i'r Sacrament o swper yr Arglwydd; ac yn hyn y mae 'n rhaid i mi ganlyn fy Nosparthiad cyntaf, a gosod ar lawr, yn gynraf pa beth sydd i'w wneuthur Cyn; yn ail, Ar; yn drydydd, Gwedi Cymmuno; oblegid yn y Sacrament hwn nid ellir mo'n hescusodi ni oddiwrth y rûn or rhain, er y gellir yn y llall.
2. Ac yn gyntaf, am y peth sydd i'w wneuthur Cyn, y mae St. Paul yn dywedyd mae ein holi ein hunain, 1 Cor. 11.28. Eithr holed Dyn ef ei hûn, ac felly bwytaed, o'r Bara, ac yfed o'r Cwpan. Ond cyn i mi fyned ymlaen i bô [...]b neillduol ran o'r Holiad yma, rhaid i mi ddywedyd i chwi yn gyffredinol mae'r hyspysol sydd i ni i'w wneuthur yn y Sacrament hwn, yw Ailadrodd, ac adnewyddu 'r Cyfammod hwnnw a wnaethoni a Duw yn ein Bedydd yr hwn a ddarfu i ni amryw ffyrdd yn orthrwm ei droseddu, y mae 'n rhyngu bôdd i Dduw oi fawr Drugaredd adael i ni ddyfod i'w adnewyddu ef yn y [Page 71] Sacrament hwn, yr hyn os gwnawni mewn Symlrwydd Calon, efe a addawodd ein derbyn ni, a rhoddi i ni yr holl Gymmwynasáu hynny yn hwn, y rhai yr oedd ef yn barod i'w canniadhau i ni yn y Sacrament arall, pe ni buasei i ni trwy ein bai ein hunain i fforffedio nhwy. O herwydd pa ham gan mae Adnewyddu ein Cyfammod y'w ein neges ni y prŷd hyn, fe galyn fod y tri pheth hyn yn aygenrheidiol tuagat hynny: yn gyntaf, fôd i ni ddeall pa beth yw'r Cyfammod hwnnw; Yn ail fod i 'ni ystyried beth ydyw ein Trosseddiadau ni o honaw êf; ac yn drydydd bôd i ni lawnfwriadu i gadw ef yn gryno y rhan arall o'n bywyd. A'n ymholi ein hunain ymmhôb ûn o'r rhain yw'r Profiad hynny a ofynnir gennini cyn i ni ddyfod i'r Sacrament hwn.
3. Ac yn gyntaf, rhaid i ni ymholi a ydym i yn deall pa beth yw'r Cyfammod hwn; y mae hyn yn dra-angenrheidiol, gan fôd hyn yn Sylfaen y ddau arall. Oblegid heb hyn nid yw bossibl i ni na dadcuddio ein Pechodau a aeth heibio, na llawnfwríadu yn ei herbyn nhw rhag llaw. Yn y man cyntaf gan hynny, profwch a ydych chwi yn jawn ddeall pa beth yw'r Cyfammod hwnnw yr hwn a wnaethochwi ar eich Bedydd, beth yw 'r Trugareddau a addaw-wyd ar ran Duw, a'r Dled-swyddau ar eich rhan chwithau. Ac oblegid nad yw'r Cyfammod yr hwn a wnaethpwyd a phôb ûn o honon'i ym Medydd namyn cyfaddasu attoni yn neillduol y Cyfammod a wnaethpwyd gan Dduw ynghrîst, ac holl ddynol ryw yn gyffredinol, rhaid i chwi ystyried a ydy'chwi yn deall hwnnw; onid [Page 72] ydych, rhaid i chwi yn ebrwydd geisio Athrawiaeth yn hynny. Ac hyd ni chaffôchwi foddion i gael gwell, edrychwch yn ôl ar y peth a ddywedpwyd ar fyrr yn nechreu'r Traethawd hwn, am yr Ail Cyfammod, yr hwn yw Sylwedd y Cyfammod hwnnw yr hwn a wnaeth Duw a ni yn ein Bedydd. Ac oblegid y cewch chwi weled yno, mae Ufydd-dod i holl Orchymynion Duw yw'r Ammod a osynnir ar ein Dwylo ni, ac yw hefyd y peth yr ydyni yn eglur yn ei addunedu yn ein Bedydd, angenrheidiol hefyd yw i chwi wybod beth yw Gorchymynion Duw hynny. Am hynny os gwelwch eich bôd yn anwybodus o honynt, na Orphwysch nes i chwi gael eich haddyscu ynddynt ac ennill y cyfryw fesur o wybodaeth ac ach cyfarwydda chwi i gwplhau 'r Holl Ddled-swydd Dyn hynny y mae Duw yn ei ofyn ar eich llaw. A rhoddi iti 'r Athrawiaeth hon yw unig fwriad y llyfr hwn, yr hwn; po mwyaf anneallus wyti, mi a erfyniaf arnat ei ddarllen ef yn fwy diwyd. Ac os dydi o 'r blaen a fuost gyfrannog o'r Sacrament Sancteiddiol hwn mewn llwyr anwybodaeth o'r pethau angenrheidiol hyn, galara am dy bechod hynny, ond na ryfyga ddyfod trachefn, nes iti trwy gael y wybodaeth angenrheidiol hon dy gymmhwyso dy hun iddo ef, yr hyn sydd raid iti bryssuro i'w wneuthur. Canys er na ddyle nêb yn y cyfryw anwybodaeth ddyfod i'r Sacrament, etto os efe yn wyllysgar a beru yntho ef, ni bydd hynny yn escus iddo ef i ymgadw oddiwrth y bwrdd Sanctaidd hwn.
4. Yr ail rhan o'n Profiad ni yw ynghylch ein Troseddiadau o'r Cyfammod hwn; ac yma y cei [Page 73] di weled y Defnydd o'r wybodaeth honno y Traethais i am dani. Canys nid oes ûn modd i Ddadcuddio ein Pechodau, ond trwy brofi ein Gweithredoedd, trwy Gyfraith Duw yr hon a ddyle fod ei Rheol hwynt. Pan ymosodi di gan hynny at y rhan yma o Brofiad, cofia yr amryw Ddosparthiadau o'th Ddled-swydd, ac yna ymofyn a'th Calon dy hûn yn neillduol pa fodd y cwplhéaist ef. Ac na fodlona dy hûn i wybod yn gyffredinol ddarfod iti droseddu Cyfraith Dduw, ond gwna dy orau i ddadcuddio ymmha bethau neillduol y gwnaethost felly. Galw yn ol yn oreu ac y medryth holl neillduol weithredoedd dy fywyd, ac ymmhôb ûn o honynt Ystyria pa ran o'th Ddled-swydd y trosseddaisti yntho. A hynny nid yn unig mewn Gweithred gyhoedd, ond hefyd mewn Gair, ie ymhellach yn dy feddyliau dirgelaf. Canys er nad yw Cyfraith Dŷn yn cyrrhaedd attynt hwy, etto y mae 'r eiddo Duw; yn gymmeint a pha beth bynnag y mae ef yn ei wahardd yn y weithred, y mae ef hefyd yn gwahardd yn y meddyliau a'r Deisyfiadau, ac y mae ef yn ei gweled hwynt mor amlwg a'n Gweithredoedd mwyaf cyhoeddus. Y dyfal chwiliad neillduol ymma sydd dra-angenrheidiol; canys nid oes addewid o faddeuant ûn pechod ond i'r neb ai haddefo ac a ymadawo ac efo. I bôb ûn o'r rhain y mae 'n angenhreidiol fod gennini union a neillduol wybodaeth o'n Pechodau. Canys pa fodd y gall ef gyffessu ei bechod, yr hwn ni ŵyr ef ei fôd yn euóg o hono? Neu pa fodd y gall ef lawnfwriadu ymadel ac efo, yr hwn nid yw yn dirnad ddarfod iddo ef o 'r blaen lynu wrtho ef? Am hynny ni allwn yn ddiammau draethu fod y Profiad hwn nid yn unic [Page 74] yn Ddefnyddiol, ond yn angenrheidiol i gyflawn a pherffaith Edifeirwch; canys yr hwn nid ydyw yn cymmeryd y Golygiad neillduol ymma o'i bechodau, a fydd debyg i edifarhau ond yr hanner, yr hyn ni thâl iddo ddim, tu ag at ei bardwn; gan nad oes dim ond ymadawiad hollawl a phôb ffordd ddrwg yn ddigonol i hynny. Ond yn ddiammau yn anad amser fe berthyn i 'ni, pan fon 'i yn dyfod i'r Sacrament fôd ein hedifeirwch yn berffaith a chyflawn; ac am hynny y mae 'r dyfal-chwiliad ymma o'n Calonnau (y prŷd hynny yn enwedig) yn angenrheidiol. Ac er mae gŵir yw, nad yw bossibl i ni a 'n holl ddiwydrwydd ddadcuddio neu goffau pob rhyw neillduol bechod o 'n bywyd: ac er mae gwir yw hefyd, y gellir cael maddeuant am y peth sydd mor anocheladwy yn guddiedig rhagom, heb ddim mwy cyffes neillduol nag a wnaeth Dafydd, Psal. 19.12. Glanhá fi oddiwrth fy meiau cuddiedig; etto ni bydd hyn yn ddadl i ni os nhw a ddeuant i fôd yn guddiedig yn unic o herwydd ein bôd ni yn esgeulus am ei chwilio nhw allan. Am hynny gwilia dy Siommi dy hûn yn yr achos Defnyddfawr ymma, ond chwilia dy Enaid hyd y gwaelod, heb yr hyn beth nid yw bossibl 'iw Friwiau ef byth gael yn hollawl ei hiachau.
5. Ac megys y mae 'n rhaid i chwi fal hyn ymoralw yn fanwl ynghylch yr amryw Rywogaethau o Bechodau, felly hefyd y bydd rhaid i chwi ynghylch y Graddau o honynt, canys y mae amryw Amgylchiadau, y rhai sydd yn anghwanegy, ac yn mwyhau 'r Pechod. Y mae llawer o'r fâth ymma; megys yn gyntaf, pan [Page 75] bechoni yn erbyn gwybodaeth, hynny yw, pan fôni 'n gwybod yn ficcr fod y cyfryw beth yn bechod, etto er mwyn y Pleser neu 'r Bûdd presennol (neu ryw annogaeth arall) ni á anturiwn arno ef. Hyn a fernir gan Grist ei hûn i fod yn angwanegiad mawr o'r pechod. Yr hwn a wyr Ewyllys ei Arglwydd, ac heb ei wneuthur a gurir a llawer o fonnodiau, Luc. 12.47. Yn ail pan bechoni trwy Ragfyfyrdod, hynny yw pan fyddoni heb Syrthio iddo ef yn ddisymmwth, heb allu ymogelyd, ond pan gaffoni amser i Ystyried am hynny, dymma radd arall o'r Pechod. Ond yn drydydd, Gradd uwch etto yw, pan wneloni ef yn erbyn Gwrthymegniad ac Argyoeddiad ein Cydwybod ein hunain, pan fo hwnnw y prŷd hynny yn dywedyd ini, ni ddylit i wneuthur y peth ymma: ië, ac yn gosod o'n blaen ni 'r perigl yn gystal a'r Pechod o' i wneuthur ef, etto yr ydyn i yn myned ymlaen i wneuthur y pechod o anfodd Rhybuddiau y Cydwybod; y mae hwn yn anghwanegiad mawr o'r pechod yn gyfryw ac a dderchafa 'r pechod lleiaf i gyffroad tramawr; Canys eglur yw fôd y pechod a wneir felly yn ûn byrbwyll, ac yna er gwaeled a fo'r Defnydd o honaw, y mae ef yn dra-echryslon yngolwg Duw. Iê y mae hwn yn amgylchiad o'r fáth rym, ac y geill wneuthur gweithred diduedd, (yr hon nid ydyw ynthi i hûn yn bechod) yn bechod. Canys er dychwelyd fôd i'm Cydwybod i gyfeiliorni yn dywedyd i'mi fôd y peth a'r peth yn anghyfreithlon, etto tra' i byddo i yn coilio hynny, fe fydde yn bechod i mi wneuthur y peth hynny; oblegid yn hynny y mae fy Ewyllys i yn cydsynnio i wneuthur y peth yr [Page 74] [...] [Page 75] [...] [Page 76] hyn yr wyfi 'n i gredu sydd yn anfodd-hau Duw, ac y mae Duw (yr hwn sydd yn ein barnu ni wrth ein Hewllys, nid ein Deall) yn cyfrif hynny i ni yn bechod yn gystal a phe buase 'r peth o hono i hûn yn anghyfreithlon, ac am hynny yn ddiammau ni allwn ddywedyd yn bendant, fôd pa beth bynnag sydd o hono i hûn yn bechadurus, yn fwy o lawer felly, trwy fôd yn ei wneuthur ef yn erbyn argyoeddiad Cydwybod. Y Pedwerydd môdd o helaethu a'r bechod yw, pan fyddo ef gwedi ei fynych ailgyrchu, canys yna nid oes yn unig euogrwydd cynnifer ychwaneg o Weithredoedd, ond y mae pôb Gweithred hefyd yn myned (o hynny) gwaeth, ac yn fwy anescusodol. Yr ydyn i yn wastad yn barnu fal hyn, am feiau a wneir yn ein herbyn ein hunain, ni a allwn faddeu ûn camwedd yn hawsach na'r unrhyw gwedi ei ailgyrchu, a pho mynychaf y gwneir ef yr ydyn i yn ei gyfrif ef yn fwy anfad. Ac felly yn siccr y mae am feiau yn erbyn Duw hefyd. Yn bummed y Pechodau a wnaethpwyd ar ol Addunedau a llawn fwriadau o wellháad, ydynt etto yn fwy echryslon; canys y mae hynny yn cynnwys hefyd droseddiad yr Addewidion hynny. Y mae peth o hyn ymmhôb pechod rhyfugus. Canys y mae pôb cyfryw ûn yn droseddiad yr Adduned honno a wnaethoni yn ein Bedydd. Ond heb law hynny, fe ddarfu i ni yn ôl hyn ein rhwymo ein hunain trwy Addunedau newyddion, oni wnaethon i amser arall, etto yn ddiammau ar ein dyfodiad i Swper yr Arglwydd, gan fôd hwnnw (fal y dywedwyd o'r blaen) yn bwrpasol i adnewyddu 'r Adduned a wnaethoni yn ein Bedydd. A pho mwyaf o'r addunedau [Page 77] hyn a wnaethoni, mwy-fwy yw ein heuogrwydd ni, os nyni a Syrthiwn yn ôl i ryw bechod a ymwrthodason i ac ef y pryd hynny. Y mae hyn yn beth, a dâl yn ddá ei ystyried, ac am hynuy ymhola by hûn yn neillduol wrth ddynessâu at y Sacrament, ynghylch dy droseddiadau o'r Addunedau a wnaethosti o'r blaen wrth y Bwrdd sanctaidd. Ac os gwnaethost ûn amser ar ryw achosion eraill, megys Clefyd, cythryfwl meddwl, neu 'r cyffelyb, ryw Adduned arall, galw dy hûn i gyfrif twys pa fodd y cwplheaist hwynt hefyd, a chofia fod pob pechod a wnaethost yn erbyn cyfryw Addunedau, heb law ei euogrwydd naturiol i hûn, yn Anudonedd hefyd. Yn chweched, Grâdd uwch etto yw, pan fo Pechod gwedi i wneuthur cyn fynyched a'n bôd ni gwedi dyfod i arfer a Chynnefindra o honaw ef; a hynny yn wir sydd yn râdd uchel.
6. Etto o'r Arferion yma y mae rhai yn waeth na'r lleill, megys yn gyntaf, os bydd ef gwedi i gadarnhau a'n bôd ni gwedy dyfod i galedrwydd Calon, heb fôd gennini ddim teimlad o'r pechod: Neu yn ail os awn ni ymlaen yntho ef yngwrthwyneb i ryw foddion rhagorol a arfera Duw i'n hadgyweirio ni, megys Clefyd, neu ryw orthrymder arall yr hwn sydd megys gwedi ei ddanfon yn bwrpasol i 'n troi ni. Neu yn drydydd, os ni bydd holl Argyoeddion, a chynghorion Gwenidogion neu geraint neillduol yn gweithio dim arnoni, ond naill ai ein gwneuthur ni yn ddigllon wrth ein hargyoedd-wŷr, neu ein gosod ni ar ymddiffyn y pechod. Neu yn ddiweddaf, os bydd yr Arfer bechadurus hon mor grŷf ynom ni, a gwneuthur i ni nid yn unic garu 'r Pechod [Page 78] ynom ein hunain, ond mewn rhai eraill, os, fal y dywed yr Apostol Rhuf 1.32. nid ydyn i yn unic yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn Cydsynnio a'r rhai sy yn ei gwneuthur hwynt. Ac am hynny yn llithio ac yn denu cynnifer ac a alloni i'r unrhyyw Bechodau gydá ni: yna y mae ef gwedi Cyfodi, i'r Grîs uchaf o ddrygioni, ac y'w edrych arno megys y Râdd eithaf o bechod ac enbydrwydd. Fal hyn y gwelŵch pa fodd y mae i chwi eich Profi eich hunain ynghylch eich Pechodau, ymmôb ûn o ba rai y mae 'n rhaid i chwi ystyried pa faint a fu o'r amgylchiadau mawr hyn, modd y galloch chwi iawn fesur ei hechryslonrwydd hwynt.
7. Yn awr diben yr Ymholiad hwn yw i'ch dwyn chwi i'r fâth Olygiad o'ch Pechodau, Gostyngeiddrwydd. ac a'ch gwná chwi yn wîr Ostyngedig, ac yn deimladwy o'ch perigl, y rhai a annogasoch i ddigofaint, y fáth fawrhydi goruchel yr hwn a ddichon ymddial ei hûn mor echryslon arnoch'wi. A diammau yr ymddengys hyn yn achos rhesymol o dristwch i'r Galon mwyaf cnawdol. Ond nid hynny yw 'r cwbl; y mae yn rhaid i hyn hefyd eich dwyn chwii fôd yn deimladwy, ac i ffieiddio eich bryntni, a'ch anniolchgarwch, y rhai fal hyn a bechasoch yn erbyn Duw mor Ddaionûs a grasol, ac sydd mor annheilwng yn talu'r echwyn i'w drugareddau anfeidrol ef. A'r ystyriaeth ymma yn enwedig sydd raid doddi eich Calonnau chwi, i ddwys ofid a chystudd calon, grádd pa ûn sydd raid bod mewn rhyw fesur yn gyfattebol i faentioli eich pechodau. A pho mwyaf y byddo (trwy na bo fo yn gyfryw ac a gai allan obaith a Drugaredd Duw) mwyaf cymmeradwy a fydd [Page 79] ef i Dduw, yr hwn a addawodd na ddirmygei galon ddrylliog gystuddiedig, Psal. 51.17. A chyffelypaf hefyd a fydd hyn i n dwyn ni i wellháad: Canys os nyni unwaith a fyddwn yn deimladwy o angerdd Ysbrŷd cystuddiedig, ni fyddwni mor ewyllysgar i anturio ar bechod trachefn.
8. Canys pan i'n temptir ac ûn o bleserau byrrion pechod, ni a allwn y prŷd hynny o'n cyfarwydd ein hunain osod yn ei herbyn hwynt ofidiáu tôst, ac arswydau Cydwybod euog, yr hyn yn anrhaethadwy a ragbwysa 'r lleill i bwy bynnag a fu deimladwy o honynt. Ymegniwch gan hynny i ddwyn eich Heneidiau i'r tymmerusrwydd tyner hwn, i'r twys a diffuant ofid hwn, ac hynny nid yn unic am y perigl a ddygasoch'wi arnoch eich hunain; canys er bôd hynny yn Ystyriaeth a ddylei weithredu Tristwch ynom ni, etto lle y mae hynny yn unic yn achos o'n tristwch, nid dena 'r tristwch hynny yr hwn a wná lês er maddeuant; ac y mae y rheswm am hyn yn eglur, canys y mae 'r tristwch hwnnw yn unic yn tarddu allan o gariad i'ni ein hunain, yr ydyni yn drîst, oblegid ein bôd ni yn debyg i ddolurio. Ond y mae 'n rhaid i dristwch y gwîr edifeiriol, fod hefyd gwedi ei gyssylltu a chariad Duw, Cystudd calon. ac hynny a wna i'ni ymofidio am drosseddu yn ei erbyn ef, er na ddychwelei dim cospedigaeth i'ni ein hunain. Y modd gan hynny i gyffroi 'r tristwch hwn ynom ni, yw, yn gyntaf, gyffroi ein Cariad i Dduw trwy ail-adrodd rhyngom a'n hunain yr amryw weithrediadau grasusol o'i Drugaredd ef tu ag atton i, yn enwedig y drugaredd honno, o'n harbed ni, heb ein torri ni ymmaith yn ein pechodau. Ystyria wrthit dy [Page 80] hûn gynnifer a chymmaint o annogaethau i ddigofaint a roddaist iddo ef, ysgatfydd mewn trefn barháus o anufydd-dod gwrthnysig tros lawer o flynyddoedd, am ba rai y gallesit, yn dra-chyfiawn gael dy ergydio yn fyw i ûffern: iê ond odid y mae genniti o'th flaen lawer o Esamplau o bechaduriaid llai na thi dy hûn y rhai a gippwyd ymmaith yn ddisymmwth ynghanol ei pechodau, a pha achos a elli di ei roddi, pa ham y diengaist ti cyhyd, ond yn unic oblegid darfod i'w lygad ef dy arbed di? a pha achos o'r arbediad hynny, ond ei dyner ymyscaroedd ef tu agattati, ai anewyllysgarwch ef i ti fôd yn golledig? Nid all yr ystyriaeth ymma lai, os bydd hi gwedi ei gwasgu hyd adref ar dy Enaid ti (oddigaeth bôd dy galon yn galedach na'r maen melin) na chyffrhoi peth Cariad ynoti tu agat y Duw graslawn hir-ymarhous hwn, a'r Cariad hwnnw yn ddiammau a ddengys iti mae peth drwg a chwerw ydyw, wrthod o honot yr Arglwydd, Jer. 2.19. ddarfod iti cynddrwg dalu yn ôl iddo êf am y cyfryw drugaredd; fe wna hyn iti gywilyddio a digio wrthit dy hûn, dy fôd di yn gyfryw greadur anniolchgar. Ond os yw ystyriaeth yr ûn máth ymma o drugaredd yn unic, sef Dioddefgarwch Duw, yn fáth rwymedigaeth a chynnorthwy i'r tristwch duwiol hwn, beth gan hynny a fydd yr aneirif o'r trugareddau eraill hynny, y rhai a fedr pôb dŷn ei cyfrif iddo i hun? Ac am hynny bydded pôb dŷn mor neillduol yn hyn ac y medr, ac adgoffhau cymmaint o honynt ac a allo ef, modd y gallo ef gyrrhaeddid mesur mwy o wîr dristwch Calon.
[Page 81]9. Ac at yr holl egni mae 'n rhaid adroddi Gweddiau difrifol at Dduw a'r fôd iddo ef trwy ei Ysbryd-glân ddangos, i chwi eich Pechodau, a meddalhau eich Calonnau, modd y galloch yn hollawl ymofidio a galaru am danynt.
Cyffes.10. At hyn y mae'n rhaid cyssylltu gostyngedig Gyffes o'n pechodau ger bron Duw, ac hynny nid yn unic yn gyffredinol, eithr hefyd yn neillduol, cymmhelled ac y cyrrhaedd eich Coffad wriaeth o honynt, ac hynny ynghyd a'i holl amgylchiadau tra-mawr, y rhai a ddarfu i chwi trwy'r rhagddywededig Ymholiad ei dadcuddio. Jë y mae 'n rhaid cydnabod yn gyffredinol y pechodau dirgel, a ollyngwyd yn angôf, oblegid diammeu y'w fod aneirif o'r cyfryw; yn gymmaint a bôd yn angenrheidiol i bôb ûn o hononi ddywedyd gyda Dafydd, Psal. 19.12. Pwy a ddeall ei Gamweddau? Glanha fi oddiwrth fy meiau cyddiedig. Gwedi i chwi fal hyn gyffessu eich pechodau trwy alar twys, a diragrithiol gasineb o honynt, chwi a ellwch y pryd hynny (ac nid dim Cynt) eich Siccrhau eich hunain, ych bod chwi mor deimladwy o'ch Clefyd, a'i bôd hi yn amser i chwi i gyfaddasu'r meddiginiaeth.
Ffydd.11. Yn y man nessaf gan hynny rhaid yw i chwi edrych arno ef yr hwn a osodes Duw i fòd yn jawn am ein pechodau, Rhuf. 3.25. sef, Jesu Grist, Oên Duw, yr hwn sydd yn dileu pechodau'r Byd, Jo. 1.29. Ac erfyn yn ddifrifol ar Dduw, fôd i'ch Pechodau chwi gael ei golchi ymmaith trwy ei werthfawroccaf waed ef; ac i Dduw er ei fwyn ef gymmodi a chwi. Ac hyn sydd raid [Page 82] i chwi gredu a fydd yn ddiammeu, os chwchwi am y rhan arall o'ch amser a ymedu a'ch Pechodau, ac a ymrowch yn ddiragrithiol i Ʋfyddhau Duw yn ei holl Orchymynion. Ond heb hyn, ofer yw disgwyl dim llesháad oddiwrth Grîst, na'i ddioddefaint. Ac am hynny y rhan nessaf o'ch Paratóad chwi a fydd sefydlu y llawnfwriadau hynny ô Ʋfydd-dod, yr hwn a ddywedais i chwi oedd y trydydd peth i chwi i ymholi eich hunain am dano, cyn nessau at swper yr Arglwydd.
12. Ynghylch y rhannau neillduol o'r Llawnfwriad hwn, Llawnfwriadau ó Ufydddod. nid rhaid i mi draethu dim ychwaneg, ond bôd yn rhaid iddo atteb pôb rhan a chaingc o'n Dlêdd-swydd ni; hynny yw, rhaid i ni nid yn unic lawnfwriadu yn gyffredinol cadw Gorchymynion Duw, ond pôb Gorchymyn ar ei ben eu hûn; ac yn enwedig ble y gwelsom ein hunain fwyaf yn diffygio o'r blaen, yna yn bendifaddeu adnewyddu ein hamcanion. Ac yma fe berthyn i ni edrych yn fanwl ar fod yr amcanion hyn yn ddiragrithiol a diffuant, ac nid y cyfryw rai oer esgeulus ac a fydd rhai arferol o gymmeryd i fynu wrth ddyfod i'r Sacrament, y rhai ni choffháan nhw fŷth ei cadw gwedi hynny, canys y mae hyn yn wirionedd siccr, fôd, pwy bynnag a ddelo i'r Bwrdd Sanctaidd hwn hêb gâs hollawl i bôd pechod, yn dyfod yn annheylwng; ac y mae cyn siccred, fôd i'r neb a gasháo yn hollawl bôb pechod, lawnfwriadu ymadel ac ef; canys chwi a wyddoch fôd ymadawiad yn naturiol yn dilyn cassineb, nid oes nêb o'i wirfodd yn aros gyda 'r peth y mae yn ei gashau. Ac am hynny y nêb ydyw yn bwriadu [Page 83] felly, modd ac y gallo Duw yr hwn yw chwiliwr y galon weled ei fôd yn ddiragrithiol, nid ellir tybied ei fôd ef yn cashau pechod, ac felly nid all fód yn dderbyniwr teilwng y Sacrament Sancteiddiol hwnnw. Am hynny profwch eich bwriadau yn hollawl, rhag i chwi eich twyllo eich hunain ynddynt, eich perigl mawr eich hûn yw, os gwneuch felly; canys diammeu yw, nad ellwch chwi dwyllo Duw, na gwneuthur dim yn gymmeradwy iddo ef nad yw yn wîr berffaith a diffuant.
Am y moddion.13. Yr awrhon fal y mae 'n sefyll arnoch lawn-fwriadau ar yr Ʋfydd-dod newydd hwn, felly hefyd y bŷdd raid i chwi lawnfwriadu ar y Moddion y rhai a'ch cynnhorthwya chwi i gwplhau hyn. Ac am hynny ystyriwch ymmhób Dlêd-swydd, beth yw'r Moddion i'ch cynnorthwy chwi yntho, a bwried wch eu harferu hwynt, er anhawsed fyddont i'ch Cnawd chwi; felly or tu arall ystyriwch pa bethau sydd debyg i'ch arwain chwi i Bechod, a llawnfwriedwch ei gochelyd a ffo oddiwrthynt: hyn sydd raid i chwi i wneuthur o herwydd pób rhyw bechod, ond yn enwedig y rhai hynny y buoch euog o honynt o'r blaen. Canys yna ni bydd anhawdd i chwi wybod trwy ba raddau i'ch twyswyd chwi iddynt, pa gyfeillach, a pha achos a'ch maglodd chwi, ac hefyd i ba fáth o Brofedigaethau yr ydych chwi barottaf i ymroi. Ac am hynny rhaid i chwi yn neillduol eich arfogi eich hûn yn erbyn y Pechod, trwy óchelyd yr Achosion o honaw ef.
[Page 84]14. Ond nid digon yw i chwi amcanu gwneuthur hyn oll ar ól hyn, ond rhaid i chwi ymosod ar hyn yn ebrwydd, a dechreu 'r drefn hon trwy wneuthur ar yr amser presennol pa beth bynnag y mae gennych'wi odfa i'w wneuthur. Ac y mae amryw bethau y rhai a ellwch chwi, ië, sydd raid i chwi ei gwneuthur cyn dyfod o honoch i'r Sacrament.
15. Megys yn gyntaf, rhaid i chwi daflu ymmaith bôb pechod, heb ddwyn gyda chwi i'r Bwrdd hwnnw, ûn trachwant heb ei farwhau; canys nid digon yw amcanu eu bwrw hwynt ymmaith yn ól hyn, ond rhaid i chwi osod ar wneuthur hynny y prŷd hynny, trwy dynnu ymmaith pób grádd o Gariad ac Ewyllysgarwch oddiwrthynt; rhaid i chwi y prŷd hynny roddi llythr-yscar i'ch holl hén Bechodau anwylaf, ac onid é nid ydych'wi mewn ffordd gymwys i gael eich priodi a Christ. Y mae y rheswm am hyn yn eglur; canys y Sacrament hwn yw ein hymborth Ysbrydol ni; yn awr cyn i ni dderbyn ymborth Ysbrydol, rhaid yw bôd gennini fywyd Ysbrydol (canys ni rydd néb ymborth i ddŷn marw.) Ond pwy bynnag sydd yn parhau, nid yn unic yn y weithred, ond mewn Cariad o ûn pechod trwy wybod, nid oes ganddo ef fywyd Ysbrydol, ond y mae ef yngolwg Duw yn ddim gwell na Scerbwd marw, ac am hynny ni ddichon ef dderbyn yr ymborth Ysbrydol hwnnw. Gwir yw fe a ddichon fwyta'r Bara, ac yfed y Gwîn, ond nid yw ef yn derbyn Crîst, eithr yn ei le ef, yr hyn sydd yn dra-echryslon; fe ddywed yr Apostol i chwi [Page 85] pa beth, 1 Cor. 11.29. Y mae ef yn bwyta ac yn yfed ei ddamnedigaeth ei hûn. Chwi a welwch gan hynny pa angenrhaid mawr sydd arnoch'wi daflu ymmaith bôb rhyw bechod yn ebrwydd, cyn dyfod i'r Bwrdd hwn.
16. Ac y mae 'r Ail peth sydd yw gyflawni y prŷd hyn mor angenrheidiol i chwi, sef, gosod eich henaid mewn tymmer nefol a Christianogawl; trwy ei gynnhysgaeddu ef a'r holl Rasau hynny, y rhai a'i gwna ef yn gymmeradwy ger bron Duw. Canys gwedi i chwi droi allan Satan, gyda 'i lû melldigedig ef, gwiliwch adael eich henaid yn wâg; os gwnewch chwi, fe ddywed Crîst i chwi, Luc. 11.26. Y dychwel ef yn ebrwydd yn ei ól, ac y bydd eich cyflwr diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Ond rhaid i chwi trwy Weddi ddifrifol wahodd yr Ysbryd glân gyda 'i holl Rasau i'ch henaid, neu, os ydynt mewn rhyw fesur yno yn barod, rhaid i chwi Weddio ar fôd iddo ef gymmeryd mwy cyflawn feddiant o honaw ef, a rhaid i chwi ei deffro a'i cynnhyrfu nhw i fynu.
17. Megys er esampl, rhaid i chwi gynnhyrfu eich gostyngeiddrwydd, trwy Ystyried ríf a maentioli eich pechodau; eich ffydd, trwy fyfyrio a'r Addewidion Duw, i bôb pechadur edifeiriol; eich Cariad i Dduw trwy ystyried eu drugareddau ef, yn enwedig y rhai a goffheir yn y Sacrament, iddo roddi Crîst i farw trosoni; a'ch Cariad i'ch cymydogion, ié i'ch gelynion, trwy ystyried yr Esampl ddirfawr honno o'i ddioddefaint ef trosoni y rhai oedden Elynion iddo ef. Ac fe ddisgwylir gennini yn fwy neillduol pan ddeloni [Page 86] i'r Bwrdd hwn gopió allan ei esampl ef yn hyn trwy faddeu yn hollawl i bawb a wnaethant i'n herbyn, ac nid maddeu yn unic eithr dangos hefyd addfwyndra tu ac attynt mewn pób swydd o Gariad a chymmwynasgarwch.
18. Ac os darfu i chwi o'r blaen felly lwyr anghofio ei Esampl bendigedíg ef, a gwneuthur yn union yn y gwrthwyneb; os gwnaethoch annhiriondeb neu gam i ûn dŷn, yna mae'n rhaid i chwi geisio maddeuant ganddo ef: Ac i'r diben hwn, yn gyntaf Cydnabod eich bai, ac yn ail talu yn ôl iddo ef, hyd yn eithaf o'ch gallu, beth bynnag a ddygasoch'wi oddiarno ef, pa ûn bynnag ai yn ei Ddâ, neu 'i Air-da. Y Cymmod hwn a'n Brodyr sydd yn gwbl-angenrheidiol er mwyn gwneuthur yr ûn o'n gwasanaeth ni yn gymmeradwy gyda Duw, fal y mae 'n eglur yn y Gorchymyn hwnnw o eiddo Crîst, Mat. 5.23, 24. Os dygi dy rôdd i'r Allor, ac yno dyfod i'th gôf fôd gan dy frawd ddim yn dy erbyn: Gâd ti yno dy Offrwm ger bron yr Allor a dos ymmaith: yn cyntaf, cymmod a'th Frawd, ac yno tyret ac offrwm dy rôdd; lle y gwelwch, er bôd y rhodd yn barod wrth yr Alior, rhaid yw ei gadael hi yno heb ei offrwm, yn hyttrach na'i hoffrwm hi gan ddŷn nad yw mewn perffaith dangnheddyf a'i Gymydog. Ac os yw 'r Cariad hwn mor angenrheidiol yn ein holl wasanaeth ni, mwy o lawer yn hwn, lle trwy gyd-gyfrannu o'r ûnrhyw ddirgeledigaethau Sanctaidd, yr ydyn i yn arwyddoccau ein bôd gwedi ein huno a'n cyssylltu, nid yn unic a Chrîst ein pen, ond hefyd a'n gilydd, megys cyd-aelodau. Os nyni gan hynny a ddeuwn a malais yn y bŷd yn ein Calonnau, [Page 87] yr ydyni yn gnenthur y weithred fwyaf o Ragrith ar a all fod, trwy wneuthur yn y Sacrament hwn gyfaddefiad cyhoedd o addfwyndra a Chariad brawdol 'o ba rai y mae 'n Calonnau yn hollawl yn wâg. Dwywolder.
19. Gras tra-angenrheidiol arall ar yr amser yma yw Dwywolder, er mwyn cael pa ûn rhaid i ni roddi i ni ein hunain beth amser i ymneillduo oddiwrth ein negeseuau bydol, a'n gosed ein hunain yn hollawl ar y gwaith hwn o baratóad; o ba baratóad ûn rhan tra-arbennig yw derchafu ein heneidiau i dymmer defosionawl a nefawl. Ac er mwyn hyn y mae 'n dra-angenrheidiol i ni fwrw ymmaith bob meddyliau bydol, canys fe fydd y rhai hynny yn diammeu megys cynniferio ly ffetheiriau i rwystro i'n heneidiau ni dderchafu tua'r nefoedd. Un ymarfer arbennig o'r Dwywolder hwn yw Gweddi, yr hon sydd raid i ni ei harferu yn fynych ac yn ddiwyd ar ein dyfodiad i'r Sacrament, gan fod hyn yn ûn offer mawr trwy ba ûn y mae i ni gael yr holl Rasau eraill hynny anghenrheidiol yn ein paratóad. Am hynny byddwch yn siccr na esgeulusoch 'wi ffordd arall, a gadael heibio hyn, yr ydych'wi yn myned i weithio yn eich grym eich hûn, heb edrych am gymmorth Duw, ac yna ammhossibl yw i chwi lwyddo yntho: canys nidydyni yn ddigonol o bonom ein hunain i feddwl dim megys o honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw, 2 Cor. 3.5. Byddwch daer gan hynny arfod iddo ef felly eich cymmorth chwi a'i Râs, modd y gallôch 'wi ddyfod i'r Bwrdd hwn gwedi eich cymmhwyso felly, fal y byddoch gyfranogion o'r Rhagorfreintiau a gynnygir yno i bób derbyn-wyr teylwng.
[Page 88]20. A'r rhain ac a phób Grasau ysbrydol eraill y bydd raid i'n heneidiau ni fôd gwedi ei harwisco, pan ddeloni i'r wledd hon, canys y rhai hyn yw 'r wiscbriodas, heb ba ûn, pwy bynnag a ddelo a fydd tebyg i gael yr ûn croesaw ac a gafodd y Dŷn hwnnw yn y ddammeg, yr hwn a ddaeth i'r Briodas heb wisc briodas Mat. 22.13 Yr hwn a daflwyd allan i'r tywyllwch eithaf, lle y mae wylofain, a rhingcian dannedd. Canys er ysgatfydd yr eistedd ef allan yn y cyfamser heb ei gippio oddiar y Bwrdd, etto y mae St. Paul yn ei siccrhau ef, ei fôd ef yn yfed damnedigaeth idd ei hûn, a pha cyn gynted y syrth hi arno ef sydd anhyspys: Ond diammeu yw, y syrth hi oddigaeth i edifeirwch eu rhag-attal hi, a chyn siccred yw, pan ddelo hi, ei bôd hi yn dra-echryslon; cannys pwy o honom a a bresswylia gyda lloscfeudd Tragwyddol? Esa. 33.14.
21. Ni adrodd a'i ond ûn peth anghwaneg am y pethau sydd raid eu gwneuthur cyn y Sacrament, ac hynny yw Cynghor na bo i neb, hyderu yn hollawl ar ei synwr eu hûn, os gwedi iddo ef ei fanwl chwilio ei hûn, na fedr ef mo fodloni eu Enaid ei hûn am ei uniondeb a'i Ddiragrithrwydd, ac felly ammeu a eill ef dyfod i'r Sacrament: Canys os bydd ef yn wîr edifeiriol, y mae 'n debyg y, barna ef yn rhy galed, o hono 'i hûn, os ni bydd, y mae 'n debyg iawn y traetha ef yn y man farn rhy gu a thirion arno ei hûn, os gadewir iddo ef wneuthur bodlonrhwydd iw ammheuon eu hún. Neu pa un bynnag a fytho ef ai 'r naill ai 'r llall, os daw ef i'r Sacrament yn yr ammheuaeth hwnnw, y mae fo'n ddiammeu yn ei suddo ei hûn i anghwaneg o [Page 89] ammheuon a phetrusder, onid ydyw i bechod; o'r tu arall, os oblegid hyn yr ymgeidw ef rhag dyfod, os dychwel i'r arswyd hwn fod heb achos; yna y mae efe yn ei ymabsennu eu hûn oddiwrth yr Ordinháad Sanctaidd honno yn ddiachos, ac felly yn dinoethi eu Enaid o ddim llesháad oddiwrthi. Am hynny ynghanol yr holl beryglon sydd yn amgylchu 'r neb a'i cammgymmero ei hûn, mi chwennychwn, fal y dywedais i o'r blaen, eu gynghori ef na ymddiriedo fo i'w farn eu hûn, ond gwneuthur eu gyflwr yn agored i ryw Wenidog pwyllog Duwiol, ac yn hyttrach cymmeryd eu gyfarwyddo ganddo ef, yr hwn mewn cyffelybrwdd (os bydd y y Cyflwr wedi ei osod yn eglur ar lawr ac yn ddiffuaut) a ddichon yn well farnu o hono ef, nag ef ei hûn. Dymma 'r Cyngor y mae'r Eglwys yn ei roddi yn y Cyngor o flaen y Cymmun, lle y rhybuddir, os bydd neb trwy foddion eraill, a rag-draethwyd yno, heb fedru heddychu eu gydwybod ei hûn, ond yn chwennych Cyngor a a chyssur ymmhellach, yna aed at ryw Wenidog Gair Duw a fyddo pwyllus a dysgedig, a dadcuddied ei ddolur, er mwyn cael y cyfryw gyngor ac addysc ysbrydol tu ag at lonyddu ei gydwybod &c. Y mae hwn yn wîr yn gyngor na ddylid mo' i esgeuluso, nag ar yr amser o ddyfodiad i'r Sacrament, nag ûn amser arall pan foni tan ryw ofn neu achos o ammheuaeth ynghylch Cyflwr ein Heneidiau. Ac o ddifyg hyn, y rhedodd llawer i ddrwg dirfawr, trwy adael i'r Petrusder der fraenu cyhyd, nes iddo ef naill ai ei suddo hwynt i ddrifawr Cyfygnder Cydwybod, neu peth fydd waeth, nes iddynt hwy er mwyn dyhuddo'r anfodlonrhwydd hwnnw o'u mewn ymroi i bób [Page 90] pleserau pechadurus, ac felly yn llwyr ymwrthod a phób gofalon o'i Heneidiau.
22. Ond at hyn ei gyd ysgatfydd fe ddywedir, nad ellir gwneuthur hyn heb ddadcuddio noe thni a brychau 'r Enaid ac y mae cywilydd yn hynny, ac am hynny y mae dynion yn anfodlon i wneuthur hynny. Ond mi a attebafi hyn, mae tra-anrhesymmol yw bod hynny yn rhwystr. Oblegid yn gyntaf, yr wyf yn meddwl na ddewiswch chwi ond y cyfryw ûn ac a geidw yn ffyddlon pa gyfrinach bynnag a ddywedoch wrtho ef, ac felly nid rhaid i chwi ofni dim cywîlydd cyhoeddus. Ac os bydd hynny o herwdd y dyn hwnnw yn neillduol, nid rhaid i chwi ofni hynny ychwaith; canys bwrich ei fod ef yn wr duwiol, ni thybia fo yn waeth, ond yn well o honoch'wi, eich bod chwi mor ewyllysgar i Uniawni pób péth rhwng Duw a'ch Henaid. Ond pe byddei [yn wîr] gywilydd yn y peth, etto tra y dichon hyn fôd yn foddion i iachau 'ch cythr wblaeth a'ch pechod hefyd (megys diammeu y gall cyugor duwiol a ffyddlon dueddu llawer tu ag at bob ûn o'r ddau) fe ddylid diystyru 'r cywilydd hwnnw; a diammeu y gwneid felly, pe caren ni ein heneidiau cystal a'n cyrph: canys mewn doluriau 'r Corph, er mor ffiaid a chywilyddus syddont, ni a'i tybiwn ef ynfyd yr hwn yn hytrach na'i dadcuddio hwynt, a gyll y feddiginiaeth; ac ymma rhaid yw i hynny fód yn fwy ynfydrwydd, o gymmaint ac y mae 'r Enaid yn werthfawroccach na'r Corph.
63. Ond fe ŵyr Duw, mae nid yn unic i ddynion ammheus y gall y Cynghor hwn fod yn [Page 91] fuddiol, y mae rhai fáth arall, trahyder pa rai yw ei Clefyd, y rhai héb achos a ryfyga o ddaioni eu Cyflwr. Ac am y rheini nhw a fydden dedwydd, pe gellid ei dwyn nhw i wrando rhai barnau uniawnach na'i heiddo 'i hûn mewn matter mor bwysfawr a hyn. Y gwirionnedd yw, yr ydyni yn gyffredinol mor chwannog i'n ffafrio ein hunain, ac y gallei fód yn fuddiol iawn i'r rhan fwyaf, yn enwedig y rhai mwyaf diwybod, ymgynghori weithiau a Chyfarwyddwr Ysprydol, er mwyn eu haddyscu hwynt i farnu yn uniawnach o honynt eu hunain; ac nid hynny yn unic ond derbyn hefyd gyfarwyddiad, pa fódd i orchfyga a marwhau 'r pechodau hynny, at ba rai y maent fwyaf yn tueddu, yr hwn sydd yn beth mor anhawdd, nad oes reswm i ni ddirmygu foddion yn y bŷd a'n cynnorthwya ni yntho.
24. Ar Amser Derbyn. Myfyrdod o'th annheylyng-dod. Mi a dreiddiais bellach trwy yr amryw rannau hynny o Ddled-swydd sydd raid i ni eu cwplhau Cyn Derbyn. Mi a draethaf i chwi, yn y man nessaf, beth sydd raid lei wneuthur Ar amser Derbyn. Pan fóch di wrth y Bwrdd Sanctaidd, yn gyntaf, ymddarostwng dy hûn gan gydnabod dy ddirfawr annheylyngdod i gael dy gynnwys yno; ac i'r diben hwn adgoffá rhwng Duw a'th Enaid dy hûn, rhai óth Bechodau mwyaf a ffieidiaf, dy drosseddiadau or Addunedau a wnaethosti or blaen wrth y Bwrdd hwnnw, Dioddefiadau Crist. yn enwedig er pan Gymmunaisti ddiwaethaf. Yna myfyria ar Dioddefiadau chwerwdóst, y rhai a osodir allan i ni yn y Sacrament: pan ganfyddoch di'r Bara wedi ei dorri, cofia pa fódd dryllwyd ei Gorph bendigedig êf a hoelion [Page 92] ar y Groes; pan weloch di 'r Gŵin gwedi ei dywallt allan, cofia pa fodd, oy tywalltwyd yno ei werthfawr waed ef; ac yna ystyria, mae de Bechodau di oedd yr achos bób o ûn. Ac yma meddwl, pa anfadwr annheilwng wyti ddarfod iti wneuthur y peth a barodd y cyfryw arteithiau iddo ef: iê, pa faint gwaeth wyt na'i Groeshoelwyr ef. Hwynthwy ai crashoeliasant ef unwaith, ond fe ddarfu iti, hyd yr oedd ynot, ei Groeshoelio ef beunydd. Hwynthwy a'i croeshoeliasant ef, oblegid nad adwaenent ef; ond dydi a adwaenit yn gystal beth ydyw ef yntho ei hûn Arglwydd y Gogoniant, a peth ydyw ef i ti, sef Jachawdwr tra-graslawn a thrugarog, ac er hynny fe ddarfu i ti yn ddibaid barhau fal hyn i'w groshoelio ef o newydd. Ystyria hyn, a gâd iddo weithio ynoti yn gyntaf, dristwch dirfawr am dy bechodau a aeth heibio, ac yna casineb mawr, a llawn fwriad twys yn ei herbyn hwynt rhag llaw.
Y Cymmod a wnaed ganddynt.25. Gwedi iti fal hyn tros amser feddwl am Ddioddefiadau Crist, er mwyn anghwanegu dy Ostyngeiddrwyd a'th gystudd calon; yna yn y man nessaf, meddwl am danynt drachefn, er mwyn cynnhyrfu dy Ffŷdd, edrych arno ef megys yr Aberth a offrymwyd i fynu tros dy Bechodau di, er dyhuddo digofaint Duw, ac adgyweirio ei ffafr a'i Drugareddau ef tu -ag attati: Ac am hynny yn ostyngedig erfynia ar Dduw trwy ffŷdd dderbyn y bodlondeb a wnaed gan ei anwyl Fâb ef yr hwn nid adnabu bechod, ac er eu ddeylyngdod ef faddeu i ti yr hyn oll a aeth heibio, ac yn hollawl gymmodi a thi.
[Page 93]26. Yn drydydd, Ystyria hwynt drachefn er mwyn annog dy Ddiolchgarwch Meddwl pa faint o gywilydd a gofid a ddioddefodd ef yno, ond yn enwedig y dirfawr ing Enaid hynny yr hwn a dynnodd oddiwrtho ef y waedd chwerwdóst honno, fy Nuw, fy Nuw, pabam i'm gwrthodaist? Mat. 27.45. Yn awr hyn oll a ddioddefodd ef yn unic er mwyn dy gadw di rhag bód yn golledig. Am hynny Ystyria pa Ddiolchgarwch anrhaethadwy sydd yn ddledus arnati iddo ef; ac ymegnia i dderchafu dy Enaid i wir a difrifol ddiolchgarwch: canys moli a mawrhygi y drugaredd honno, yr hon a'n gwaredodd ni a phris mor ddrûd, yw rhan arbennig o'n Dlêd ni y prŷd hyn. Fe weddai i ti yma yn dda gan hynny ddywedyd gyda Dafydd, Phiol Jechydwriaeth a gymmeraf, ac ar Enw 'r Arglwydd y galwaf.
27. Yn bedwaredd, edrych ar Ddioddefiadau Crist i annog y Cariad hwn; a diammeu na ddichon fod moddion mwy affeithiawl i wneuthur hyn; canys yma y mae Cariad Crist tu ag attati yn fwyaf hynod, fal y dywed yr Apostol, 1 Jo. 3.16. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, gan iddo ef roddi ei einioes drosom ni. Ac hyn yw y rádd uchaf o Gariad, canys fel y dywed ef ei hûn, Jo. 15.13. Cariad mwy na hyn nid oes gan nêb, na rhoi o ûn ei einioes tros ei gyfeillion. Etto yr oedd ei Gariad ef yn fwy na hynny; canys Efe nid yn unic a fu farw, ond a fu farw'r Farwolaeth fwyaf penydiol a dirmygus, ac hynny nid tros ei Gyfeillion, ond ei Elynion pennaf. Os gan hynny gwedi 'r holl Gariad hyn o'i ran ef, ni thalwn ninnau ddim Gariad yn ól iddo yntau, yr ydyni [Page 94] yn waeth na'r fáth waethaf o ddynion, canys y mae 'r Pwblicanod yn caru' r neb a'i caro hwythau, Mat. 5.46. Yma gan hynny cerydda a gwradwydda dy hûn fód dy Gariad tu ag atto ef mor llêsg ac oer, pan oedd ei eiddo ef tu ag attati mor ddirfawr ac awyddus. Ac ymegnia i gynneu 'r fflamm Sanctaidd hon yn dy Enaid, Sef ei garu ef yn y fâth fesur, ac y gellych di fód yn barod i gopió allan ei Esampl ef, i ymado a'r cwbl, jé a'th fywyd hefyd pa bryd bynnag y galwo ef am dano, hynny yw, pan fo dy Ʋfydd-dod i nebrhyw o'i Orchymynion ef yn dy alw di i'r Dioddefiadau hynny. Ond yn y cyfamser llawn-fwriada na wnei di gyngrair a'i Elynion éf mwyach, na chroesawu, na lletteua ûn pechod yn dy fonwes. Ond os arhosodd y rûn o'r cyfryw hyd yn hyn gydá thi, cymmer yr odfa hon i'w Ladd, a'i groeshoelio ef; offrymma ef i fynu y munydyn hwn, yn Aberth iddo ef yr hwn a offrymwyd trosoti, ac yn bendifaddeu i'r diben hwnnw, modd y gallei ef dy waredu di oddiwrth pob anghyfiawnder. Llawnfwriada gan hynny y prŷd hyn yn gyhoeddus ymadel a phob rhyw bechod, yn enwedig, y rhai y buost arfer fynychaf o Syrthió iddynt. Ac er mwyn gallael o honot wîr-gwplhau 'r amcanion hynny, taer-ymbilia ar yr Jachawdr croeshoeliedig hwn, ar fód iddo ef, trwy allu ei farwolaeth, farwolaethu a llâdd dy holl Lygredigaethau.
28. Pan fo'ch di yn barod i dderbyn y bara a'r Gwîn cyssegredig, cofia fôd Duw y pryd hyn yn cynnyg selio i ti y Cyfammod newydd hwnnw a wnaethpwyd a dynol ryw yn ei Fáb. Canys gan ei fod ef yn rhoddi ei Fâb hwnnw yn y Sacrament, [Page 95] y mae ef gydág ef yn rhoddi yr holl lesháad o'r Cyfammod hwnnw, sef Maddeuant Pechodau, Grâs Sancteiddiol, a Thitl i etifeddiaeth dragywyddol. Ac yma synna yn ddirfawr oblegid anfeidrol Ddaioni Duw, yr hwn sy'n cynnyg i ti dryssor mor werthfawr. Ac yna cofia nad yw hyn i gyd ond tan Ammod i ti gyflawni dy ran o'r Cyfammod. Sefydla gan hynny yn dra-difrifol yn dy Enaid lawnfrŷd o Ufydddod, ac yna cyttuna mor ddefosionawl ac y bo possibl gyda 'r Gwenidog yn y weddi fer ragorawl honno, a arferir wrth roddi 'r Sacrament, Corph ein Harglwydd, &c.
29. Yn ebrwydd gwedi i ti dderbyn, offrymma i fynu foliant tra-defosionawl am y drugaredd fawr honno, ynghyd a'th Weddiau difrifol am y cyfryw gynnorthwy 'r Yspryd glân ac a'th hyffordda di i gwplhau'r Adduned a wnaethosti 'r awrhono. Yna gan gofio fod Crist yn jawn nid am ein pechodau ni yn unig, ond hefyd am bechodau'r holl fyd, cyrrhaedded dy Gariad ti cymmhelled a'r eiddo ynteu, a gweddia, tros holl ddynol Ryw ar fód i bawb dderbyn y llesháad o'r Aberth hwn; gorchymyn hefyd i Dduw gyflwr yr Eglwys, honno yn enwedig o ba ûn yr wyti yn Aelod. Ac na anghofia Weddio tros bawb y mae 'n ddledus arnati Ʋfydd-dod iddynt, yn gystal yn yr Eglwys a'r Deyrnas; ac felly dós ymlaen i Weddio tros y cyfryw rai yn neillduol ac y bo naill ai'th Gyfueseifiaid, neu 'i hangenrheidiau hwynt, yn ei gorchymyn i'th weddi. Os bydd Cascl i'r Tlawd (fal y dylei fód yn wastad, ar yr amser ymma) dód yn rhwydd yn ól dy allu; neu os trwy fai rhai eraill ni bydd y [Page 96] cyfryw Gascl, etto gosod ti heibio ryw beth tu ag at gymmorth tlodion, a bydd Siccr o'i roddi ef yr odfa gyfleus nessaf, ar a geffych di. Hyn oll sydd raid i ti ragluniaethu ei wneuthur yn yr amser y bo rhai eraill yn Cymmuno, modd y gellych di, pan dechreuo 'r Gweddiau cyffredinol, ar ól y Wenidogaeth, fod yn barod i gyttuno ynddynt, yr hyn sydd raid i ti hefyd gymmeryd meryd gofal i'w wneuthur yn dra-defosionnawl: ac hyn ymma am dy ymddygiad wrth dderbyn y Cymmun.
30. Yr awrhon y mae 'n canlyn y Trydydd peth a'r diweddaf, hynny yw, beth sydd iti yw wneuthur Ar ól Derbyn. Y peth sydd raid i ti allan o law ei wneuthur, yw, cyn gynted ac yr ymnailldui oddiwrth y Gynnulleidfa, offrwm i fynu drachefn i Dduw dy Aberth o Foliant am yr holl drugareddau gwerthfawr hynny a drosglwyddwyd i ti yn y Sacrament Sancteiddiol hwn, ac erfyn hefyd yn ostyngedig barhaus gymmorth ei Râs ef i'th gynnorthwyo di i wneuthur yn dda yr holl Fwriadau hynny o Ufydd-dod a wnaethosti 'r awrhono Ac ymmha beth bynnag y gwyddost dy fod dy hûn fwyaf mewn perigl, naill ai oblegid rhyw arfer gynt, neu dueddiad naturiol, yna yn enwedig deisyfia ac erfyn yn daer eu gymmorth ef.
31. Gwedi i ti wneuthur fal hyn, na ollwng mo honot dy hûn yn ebrwydd yn rhŷdd i'th ofalon a negeseuau bydol. Ond treylia 'r holl Ddiwrnod hwnnw, naill ai yn myfyrio, yn Gweddio, yn darllain, mewn ymddiddanion da, neu 'r cyffelyb; fal y bo goreu i gynnal y fflamm [Page 97] Sanctaidd honno a gynneuwyd yn dy Galon. Gwedi hyn, pan fo dy alwedigaeth yn erchi i ti Syrthio at dy negeseuau arferol, gwna hynny, ond etto cofia yn wastad fód yn Sefyll arnati nati orchwyl mwy na hwnnw, sef, Cwplhau 'r holl Addewidion hynny a wnaethosti mor ddiweddar i Dduw: ac am hynny (beth bynnag a fo dy drafferthion oddiallan) bydded dy Galon gwedi eu gosod ar hynny, cofia dy holl neillduol fwriadau, a pha brŷd bynnag i'th demptir i nebrhyw o'th hén bechodau, yna Ystyria dymma'r peth a addunedaisti mor gyhoeddus yn ei erbyn, ac hefyd cofia pa euogrwydd echryslon a fydd arnati, os dydi 'r awrhon a wnei o'th wirfodd ddim yngwrthwyneb i'r Adduned honno; iè, a pha ddrwg echryslon hefyd a fydd hynny i ti dy hûn. Canys wrth dderbyn y Cymmun, fe ddarfu i Dduw a thithau ymwneuthur mewn Cyfammod, a Chyngrair o Garedigrwydd ac addfwynder. A chyhyd ac yr ymgedwi di yn y caredigrwydd hwn a Duw▪ yr wyt yn ddiogel, nid all holl Falais dynion neu Cythreuliaid wneuthur i ti mo'r niwed: canys fal y dywed yr Apostol, Rhuf. 8.31. Os bydd Duw gydá ni, pwy a all fod i'n herbyn? Ond os dydi a dorri 'r Cyfammod hwn (megys yr wyti yn ddiammeu yn gwneuthur, os tydi o'th wirfodd a ymroi i ûn pechod) yna y mae Duw a thydi yn Elynion, ac yna pe bydde 'r holl Fŷd gyda thi, ni thycciei 'r ewbl ddim.
32. Jê tydi a gei elyn o fewn dy fynwes dy hûn, dy Gydwybod yn dy gyhuddo ac yn dy wradwyddo di; a phan fo Duw a' th gydwybod [Page 98] dy hûn fal hyn yn dy erbyn di, nid elli na byddi yu druan resynol, ié, yn y bŷd hwn, heb law'r aruthrol ddisgwyliad digofaint yn y bŷd a ddaw. Cofia hyn pan i'th ganllwynir gan ryw brofedigaeth, ac yna diammeu nad elli ond edrych ar y Brofedigaeth honno megys twyll, yr hon sydd yn dyfod i'th Yspeilio di o'th Dangnheddyf, dy Dduw, ié a'th Enaid hefyd. Ac yna yn ddiammeu fe ymddengys megys yn anghymmwys jawn ei groesawu ef, megys y tebygiti o lochesu ûn yn dy Dŷ yr hwn a wyddosti a ddaeth i'th Yspeilio di o'r peth sydd anwylaf genniti.
33. Ac na ád i unrhyw Brofiad o drugaredd Dduw yn dy bardynu di o'r blaen dy gyssuro di i annog Duw trachefn i ddigofaint; canys heb law fód hyn yn rádd uchaf o anwiredd ac anniolchgarwch wneuthur ei Ddaioni ef, yr hwn a ddylei ein tywys ni i edifeirwch, yn annogiad i bechod: heb law hyn meddaf, po mynychaf o'th bardynwyd, llai o reswm sydd iti i ddifgwyl hynny trachefn, oblegid fod dy bechod o hynny yn fwy, gan i ti bechu yn erbyn cymmeint trugaredd. Os pardynodd Brenin amryw weithiau drosseddwr, etto os efe a bery i ddychwelyd i'r unrhyw fai, fe annog hynny y Brenin or diwedd (os bydd gantho ddim Cariad i Gyfiawnder) i'w gospi ef am dano. Felly y mae yma, y mae Duw yn gyfiawn, cystal ac yn drugarog, ac yn ddiammeu fe ddiala ei Gyfiawnder ef o'r diwedd yn drwm gamarferiad eu Drugaredd ef; ac nid all fód mwy ammharch o'i Drugaredd ef na phechu mewn gobaith o honaw: Ni wnei di gan hynny ond dy Siommi [Page 99] dy hûn yn ddirfawr fal hyn Ryfygu ar eu Drugaredd ef.
34. Yr awrhon nid digon yw i'r gofal hwn o gwplhau dy Adduned barhau gydá thi tros ychydig ddyddiau yn unic, ac yna ei ollwng yn angof, ond rhaid iddo barhau gydá thi holl ddyddiau dy fywyd. Canys os tydi a dorri dy Adduned, nid oes fatter pa ûn ai yn füan, ynteu yn hwyr. Je, Ysgatfydd mewn rhyw fódd fe all yr euogrwydd fód yn fwy, os yn hwŷr y bydd hyn; canys os aethosti ym mlaen tros hîr o amser i'w chadw hi, y mae hynny yn dangos fód y péth yn bossibl i ti; ac felly nid yw dy Drosseddiadau ar ól hynny, o wendid, oblegid nad ellir ei gochelyd hwynt, ond o gyndynrwydd, oblegid na fynniti ei cadw hwynt: heb law hyn, rhaid yw i ymarfer buchedd Gristianogawl ei gwneuthur hi yn esmwythach iti. Oblegid yn wir yr holl anhawsder o hynny sydd yn unic oddiwrth ymarfer y gwrthwyneb: Ac am hynny, os gwedi peth cydnabyddiaeth ac hi, gwedi gorchfygu peth o'r anhawsder, y rhoi di 'r swydd i fynu, fe fydd hynny yn gwbl anescusodol. Bŷdd ofalus gan hynny holl Ddyddiau dy fywyd i gad w'r cyfryw wiliad wriaeth arnat dy hûn a gochelyd pób achosion o brofedigaethau, modd y gellych ymgadw oddiwrth bob Trosseddiadau byrbwyll o'r Adduned hon.
35. Ond er bód rhwymedigaeth pób cyfryw neillduol Adduned yn cyrrhaeddid hyd y Dŷdd diweddaf o'th heinioes, etto rhaid i ni yn fynych ei Adnewyddu ef, hynny yw, rhaid i ni yn fynych dderbyn y Sacrament Sanctaidd, gan mae hynny [Page 100] yw'r moddion i drosglwyddo i ni y fáth lesháad annrhaethadwy; a chan fód hyn yn Orchymyn Crîst, ar fód i ni wneuthur hyn er coffa am dano ef, ein rhesymmol ddléd ni yw na esgeuluson i ûn odfa gymmwys o gyfrannu o'r Cymmun Sanctaidd hwnnw. Mi a ddangosais i chwi'r awrhon béth yw'r Anrhydedd dledus arnoni i Dduw yn y Sacrament hwn.
DOSPARTHIAD,
IV.
Anrhydedd dledus Enw Duw; Pechodau yn erbyn hynny; Tyngu; am Lwon Haerig, Addewidiol; Anghyfreithlon: am Anudonedd, Llwon ofer, a'i Pechod hwynt, &c.
1. Anrhydedd dledus i enw Duw. Y Peth diweddaf trwy ba ûn y mae i ni egluro ein Hanrhydedd iddo ef wy Anrhydeddu ei Enw. Ni a ddeallwn yn well beth yw'r Anrhydeddiad ymma o'i Enw ef, os ystyriwn beth ydyw'r pethau hynny trwy ba rai y di-anrhydeddir ef, ymogelyd pa rai yw'r módd i'w anrhydeddu ef. Pechodau yn erbyn hynny.
Y Cyntaf yw pob Cabledd, neu ddywedyd dim drŵg am Dduw, y rádd uchaf o ba un yw ei felldithio ef, neu os ni thraethwn hynny, etto os gwnawn hynny yn ein Calonnau, trwy feddwl dim yn annheilwng o hono ef, y mae Duw, yr hwn sydd yn canfod y galon, yn edrych ar hynny, megys yr ammarch diystyraf. Ond y mae hefyd Gabledd y gweithredoedd, hynny yw, pan fo dynion, y rhai sydd yn ei proffessu eu hunain yn wasanaethyddion i Dduw, yn byw mor annuwiol a dwyn drwg-absen arno ef, yr hwn y maent yn ei gydnabod yn feistr ac yn Arglwydd iddynt. Y Cabledd hwn y mae 'r Apostol yn dal Sulw arno, Rhuf. 2.24. lle y dywed ef wrth y rhai sy'n proffessu cad w'r Ddeddf, y ceblir [Page 102] Enw Duw ymysc y Cenhedloedd oblegid eu drwg weithredoedd hwynt. Y Cenhedloedd hynny a annog wyd i dybio'n ddrŵg o Dduw, megys dadleuwr dros bechod, pan welfant ý rhai oedd yn ei galw ei hunain yn wasanaeth-ŵyr iddo ef, yn pechu.
Tyngu.Ail módd o Ddi-anrhydeddu Enw Duw yw trwy Dyngu, ac y mae hynny o ddau fáth, naill a'i trwy Lwon celwyddog, neu yntau trwy rai byrbwyll a gwagsaw: fe all llw Celwyddog hefyd fód o ddau fáth, megys yn gynt af yr hwn trwy ba ûn y byddaf yn haeru rhyw béth, neu yn ail, yr hwn trwy ba ûn yr addawaf ryw beth. Y Cyntaf yw, pan ddywedwyf ddarfod gwneuthur y cyfryw beth fal hyn neu fal hyn, a chadarnhau fyngeiriau hynny trwy Lw; Llwon haerig os gwn i y prŷd hynny nad yw gwbl wîr, y peth yr wyf yn ei draethu, y mae hyn yn Anudonedd eglur: jê os tyngaf i Wirionedd y péth, or hwn yr wyf yn unic yn ammheus, er dychwelyd i'r peth fod yn wir, etto y mae hyn yn dwyn arnafi Euogrwydd Anudonedd; oblegid yr wyfi'n tyngu ar Ddamwain, ac fe allasei 'r peth, am a wyddwn i, fód yn gystal yn gelwydd ac yn ŵir, lle na ddylwn i un amser dyngu i ûn peth, ond a wypwyf yn Siccr ei fod yn wîr.
2. Ond heb law'r fath ymma o Lwon y mae máth arall, trwy ba rai yr addawyf ryw beth. A'r addewid hwnnw a all fod naill ai i Dduw, neu i Ddyn, pan wneir ef i Dduw, fe 'i gelwir Adduned, Addewidiol. am ba ûn y traethais yn barod tan bwngc y Sacramentau, mi a draethaf yr awrhon yn unic am yr hwn a wneir i Ddynion; a hwn a áll ddychwel, i fód yn llŵ celwyddog, naill [Page 103] ai wrth, neu gwedi ei gymmeryd. Ar amser ei gymmeryd ef, y mae 'n gelwyddog, os naill ai nid oes gennifi y prŷd hynny fwriad difrifol i'w gwplhau ef, neu pan gymmerwyf ef mewn synniad amgenach nag y gwn ei fôd ef, i ba ûn yr wyf yn gwneuthur yr Addewidd, yn ei deall ef, canys gan mae Defnydd llwon y'w i ficcrhau nhw i ba rai y gwneir hwynt, rhaid y w ei cymmeryd nhw yn ei synniad hwynt. Ond er mor ddiragrith fyddwyf wrth gymmeryd y llŵ, os myfi gwedi hynny ni chwplháf ef, yr wyfi 'n ddiammeu gwedi tyngu anudon.
3. Llwon anghyfreithlon. Gan fód Natur llŵ gan hynny fal hyn yn rhwymo, fe weddai'n dda i ni edrych ar fod Defnydd ein llŵon ni yn gyfreithlawn, onidè 'r ydyni ein taflu ein hunain i fagl resynol, megys er Esampl, bwriwch i mi dyngu y lladda 'i ŵr, os cyflawnaf fy llŵ yr wyf yn euog o lofruddiaeth, os torrraf ef, o anudonedd; Ac felly 'mae'n rhaid i mi bechu'r nail fford neu'r llall: ond nid oes dim ân dŵg ni i uwch râdd o'r angenrhaid annedwydd hwn, na phan dyngon ni ddau lŵ, y naill yn union yn groes ac yngwrthgwyneb i'r llall. Canys os tynga 'i y rho'i i ddŷn fy holl olud, ac ar ól hynny tyngu y rho'i y cwbl neu ran o'r Golud hwnnw i ûn arall, rhaid i mi yn ddiammeu dorri fy llŵ i un o honynt hwy, oblegid ammhossibl yw gwplhau a phób ûn o honynt, ac felly mae'n rhaid i mi dyngu anudon. Ac y mae pób dŷn yn ei ddwyn ei hûn i'r cyfyngdra dyrys hwn, yr hwn a gymmer ûn llŵ sydd yn croesu ûn arall a gymmerodd ef o'r blaen; yr hyn a ddylei beri i bawb sydd yn caru Duw neu'i Heneidiau ei hunain lawnfwriadu na rwydan [Page 104] nhw byth mo honynt ei hunain felly trwy gymmeryd un llŵ i groesu a gwrthwynebn 'r llall. Ond ysgatfydd fe ofynir ymma, beth a wná 'r hwn a'i dygodd ei hûn yn barod i'r cyflwr ymma? mi attebaf, rhaid iddo yn gyntaf yn ddifrifol edifarbau am y pechod mawr hwnnw o gymmeryd llŵ anghyfreithlon, a chwedi hynny Sefyll yn unic wrth yr ûn Cyfreithlon yr hyn yw'r cwbl yn ei allu ef i adgy weirio ei fai, ac i'w gymmhwso 'i hûn i bardwn Duw am hynny.
4. Gwedi i ni draethu hyn ynghylch y Rhywogaethau o'r Pechod hwn o Anudonedd, mi a addroddaf yn unig ychydig eiriau i ddangos i chwi faint y di-anrhydeddir Enw Duw trwy hyn. Ymmhób llwon, chwi a wyddoch, fód yn galw Duw yn barchedig i dystiolaethu gwirionedd y peth a draethir, yn awr os celwyddog a fydd y péth▪ nid all fód fwy o wradwydd ac ammharch i Dduw. Canys mewn rheswn y mae 'n arwyddoccáu ûn or ddau béth hyn, naill ai'n bód ni yr credu na ŵyr ef pa ûn a'i gwir a'i peidio yn ydyn i yn ei dyywedyd (ac hynny yw i wneuthur ef heb fôd yn Dduw, sef tybied ei fôd ef mor hawdd ei dwyllo a'i siommi ac ûn o'n Cymydogion anneallus) neu ynteu ei fód ef yn fodlon i amddiffyn ein celwyddau ni; y mae'r cyntaf yn ei yspeilio ef o'r Rhagorfraint rhagorol honno, ei f [...]d ef yn gwybod pób péth, yr hyn sydd yn ddiammeu yn ammarch ddirfawr o hono ef, gan fód Dynion yn cyfrif hynny yn fwyaf ammarch, gael ei cyfrif yn gymmwys i'w siommi; etto felly 'r ydyni 'n gwneuthur a Duw, os nyni a ryfygwn dyngu anudon tan obaith nad yw Duw yn dirnad hynny. Ond y mae 'r llall etto [Page 105] yn waeth, oblegid tybied ei fód ef yn amddiffyn ein Celwy ddau ni, yw ei wneuthur ef yn gyfrannog o honynt; ac nid yw yn unic yn ei ddadwneuthur ef yn Dduw (gan mae ammhossibl yw i Dduw ddywedyd celwydd ei hûn, nag ychwaith bodloni iddo mewn ûn arall) ond y mae hynny yn ei wneuthur ef yn debyg i'r Cythrael: Canys efe sydd yn gelwyddog, ac yn Dâd iddo, Jo. 8.44. Ac yn ddiammeu nid rhaid i mi ddywedid ychwanneg i brofi mae hyn yw 'r râdd uchaf o Ddianrhydeddu Enw Duw.
5. Lwon Ofer. Ond os oes neb etto yn ammeu echryslonrwydd y pechod hwn, ystyried ond y peth a ddywed Duw ei hun am dano ef yn y Trydydd Gorchymyn, lle y mae ef yn traethu yn gyhoeddus, nad gwirion gantho ef yr hwn a gymmero ei Enw ef yn ofer; a diammeu fod adroddi hyn at y Gorchymyn hwn, ac heb at yr ûn o'r lleill, yn nodi hwn allan am yr Euogrwydd echryslonaf. Ac os edrychwch yn Zac. 5. chwi a gewch weled yno, fòd y gospedigaeth yn gyffattebol, iè i lwyr ddinistr nid y dŷn yn unic, ond ei Dy hefyd, Fe berthyn gan hynny i bôb dŷn, fal y maent yn caru ei Dedwyddwch amserol neu dragywyddol, ei cadw ei hunain yn ddiwyd, oddiwrth y pechod hwn.
Ond heb-law hwn o Anudonedd, mi a dywedais i chwi fôd máth arall o lwon, trwy ba rai yr ammherchir Enw Duw; y rhai hynny yw llwon ofr ysgoewan, y cyfryw ac sydd mor arferol yn ein haraith gyffredinol, ac a waherddir yn amlwg gan Grist, Matth. 5.34. Ond yr wyfi'n dywedyd i chwi, na thwng ddim, nac i'r nêf, canys [Page 106] gorseddfa Duw yw; nac i'r Ddaiar; canys mainge ei droed ef ydyw: lle y gwelwch nad ydys yn rhoddi cennad i ni i dyngu myn hŷd yn oed y Creaduriaid, oblegid y Perthynas sydd rhyngddynt a Duw. Pa anraslondeb difawr gan hynny yw halogi ei Enw Sanctaidd ef trwy fyrbwyll ac Ofer lwon? Y mae hwn yn bechod yr hw (ni wn i trwy ba Swyn-gyfaredd Satan) a dyfodd yn arfer yn ein mysg ni; ac ar awrhon gan ei bôd hi felly, y mae hi 'n denu beunydd fwy o ddynion atti: Ond cofiwn pan ymddangoson ni ger bron gorseddfainge Duw, i atteb am Halogi felly ei Enw ef, na bydd ond escus gwael i' ni ddywedydd, mae'r Arfer oedd gwneuthur felly: yn hyttrach fe anghwanega ein Heuogrwydd ni, ddarfod i' ni trwy ein ymarfer ein hunain helpu ar gadarnhau 'r arfer ddiffaith honno, yr hon a ddlesyn ni ei churo i lawr a'i gwrthsefyll.
6. A diammeu béth bynnag y mae yr Oes halogedig hon yn ei dibied, y mae hyn yn bechod aruthrol. Canys heb law fód hynny yn drosseddiad eglur Gorchymyn Crist, y mae yn dangos, yn gyntaf dybygoliaeth wael ac issel iawn o Dduw: y mae pób llŵ a dyngon ni yn appelad at Dduw i farnu gwirionedd y peth yr ydyni yn ei draethu, a chan ei fôd ef o gymmaint mawrhydy, fe ddyle 'r achos, ynghylch pa ûn yr appelioni fal hyn atto ef, fod yn béth pwysfawr, sef, rhywbeth a berthyn naill a'i i'w Ogoniant ei hûn, neu ryw ddaioni hynod i ddŷn. Ond pan dyngon ni yn ein haraith gyffredinol, y mae ymmhell oddiwrth hynny; fe a wasanaetha'r peth gwaelaf, a diystyraf i fód yn ddefnydd [Page 107] o Lŵ iê, gan mwyaf fe fydd Dynion yn tyngu i'r cyfryw bethau ofer ac ynfŷd, ac y byddei gywilydd gan ŵr pwyllog yn unig ei traethu. Ac onid yw 'n ddirmygiad dirfawr o Dduw, ei alw ef yn gyhoeddus farnu mewn pethau mor wael a babanaidd? Duw yw Brenin mawr y Bŷd, yn awr er y gellir cynniweirio at Frenin ynghylch pethau pwysfawr, etto yn ddiammeu fe debygei fôd yn ddiystyru ef yn ddirfawr, os gelwid arno ef i farnu rhwng Plant yn ei chwaryddion bachgennaidd: ac fe wyr Duw fód llawer o'r pethau y byddwn i'n fynych yn tyngu iddynt, yn gwbl cyn waeled, ac ydynt gan hynny yn arwydd nad ydyni yn iawn ystyried o Dduw.
7. Yn ail y mae 'r llwon cyffredinol ymma yn bechod sy'n denu yn union i'r llall o anudonedd; canys yr hwn trwy ymarfer tyngu a wnaeth Llwon yn gynnefin iddo, a fydd tebyg i gymmeryd y llw creulonaf yn ddiarwybod. Canys pa fodd y dichon ef yr hwn sydd yn tyngu bób awr, edrych yn barchedig ar Lŵ? a'r neb nid yw felly, y mae 'n rhaid diolch i'w ddamwain ef yn fwy na'i ofal, os efe a ymgeidw oddiwrth Anudonedd. Ië ymmhellach, y neb sydd arferol o dyngu, nid ydyw ef yn unic yn barod i dyngu anudon pan gynnygi'r iddo Lŵ cyhoeddus, ond sydd mewn cyffelybrwydd yn fynych yn tyngu anudon yn ei Lwon Disymmwyth hynny: canys bwriedwch ei bôd hwynt yn dyfod oddiwrth ddyn yn fyrbwyll (yr hwn yw'r peth goreu a ellir i ddywedyd am danynt) pa siccrwydd sydd gan ûn Dyn a dynga yn fyrbwyll, na ddywed ef hefyd gelwydd felly? Ac os gwna fo 'r Ddau hyn o'r unwaith, y mae [Page 108] fe 'n ddiammeu gwedi Tyngu anudon. Ond y néb a ddeil sulw ar y rhai a fyddant arferol o dyngu ni ammheua fo nad ydynhw'n fynych gwedi tyngu anudon eusys. Canys y maent yn arferol o dyngu'n ddiragor i wîr neu gelwydd, i bethau ammheus neu hyspus. Ac yn ddiammeu pe ond ymmholai y rhai sydd yn euog o'r pechod hwn, a'i hymarfer eu hunain yn ddidueddol, fe fyddei eu Calonnau nhw yn unfryd a mifi yn yr ystyriaeth hon.
8. Yn drydydd y mae hwn yn bechod nad oes dim Temptasiwn iddo, nid oes dim pleser na Llesháad i'w gael oddiwrtho: y mae 'rhan fwyaf o bechodau eraill yn cynyg i nibéth o'r naill, neu'r llall, ond nid oes yn hwn ddim o'r ûn ddau. Yn gymmaint nad yw'r Cythrael yn y pechod hwn yn chwareu'r marsiandwr am ein Heneidiau ni, megys y mae fo mewn pechodau eraill; nid ydyw ef cymmaint ai bargennio nhw, ond yr ydyni yn ei rhoddi nhw i'w ddwylo ef yn rhaâd, heb ddim mewn cyfnewid. Nid ydyw bossibl i ddynion ddisgwyl ennill ond ûn peth trwyddo ef, a hynny yw, cael ei coelio yn y péth y bónt yn ei draethu, gan ei bod fal hyn yn ei rwymo ef a Llŵ. Ond y maent yn wastad yn dyfod yn fyrr o hyn; canys nid oes néb a goelir lai na 'r rhai a fo 'n Tyngu yn gyffredinol. A Rheswm da, oblegid y néb nid yw fal hyn yn gwneuthur cydwybod o halogi Enw Duw, pa ham y credá ûn Dŷn y gwná ef gyd wybod o ddywedyd Celwydd? Iê y mae'n hyttarch ei parodrwydd nhw i gadarnhau pob pêth gwaelaf trwy Lŵ, yn rhoi ychwaneg o Achos i dybied fôd ganddynt o'i mewn ryw enogrwydd o ffalsedd, tros [Page 109] ba ûn y bydd raid i'r llw hwnnw fod yn Orthgudd. Chwi a welwch gan hynny cyn lleied a dál hyn iddynt, jë i'r pwrpas hwnnw i ba ûn y gallant hwy yn unig gymmeryd arnynt ei fód yn fuddiol: ac i ûn bûdd arall nid yw ef yn gwneuthur yr hawl lleiaf; y mae hwn gan hynny yn bechod heb demptasiwn, ac felly 'n anescusodol; canys y mae ef yn dangos y gwradwydd a'r anniolchgarwch mwyaf i Dduw ar á all fód, pan foni fal hyn yn ei annog ef i ddigofaint heb ddim i'n llithio ni. Er darfod gan hynny i gyffredinoldeb y pechod hwn wneuthur iddo bassio am ûn gwael, etto y mae fo'mhell o fód felly yntho'i hûn, nag yngolwg Duw.
9. Bydded pawb gan hynny, y rhai ni syrthiasant etto i arferu'r pechod hwn, yn draofalus na chydsynniont a'r dechreuad lleiaf o hono; ac am y rhai sydd mor druenus, a bód gwedi ei maglu'n barod yntho ef, ceisant yn ebrwydd, fal y Carant ei Heneidiau, ymadel ac ef. Ac na ddadleued néb, megys yn escus o'i barháad yntho ef, Anhawsder ymadel ac hén arfer, eithr yn hyttrach po hwyaf y bû ef yntho, pryssured yn gynt o hynny i ymadel ac efo, gan dybied yn ormod ddarfod iddo cyhyd barhau mewn pechod mor ddirfawr. Ac os darfu i barháad yr Arfer ymma wneuthur yn anhawsach ymadel ac hi, fe a ddyle'n hyttrach ymosod allan o law i'w thaflu hi ymmaith, rhag i'r anhawsder hwnnw gynnyddu o'r diwedd i ammhossiblrwydd, a pho anhawfaf y gwél ef hyn yn y cyfamser, fe ddylei fód o hynny yn fwy diwyd a gwiliadwrus i arferu'r holl foddion hynny, y rhai a duedda tu ag at orchfygu 'r afer bechadurus honno: ni bydd [Page 110] ar fai crybwyll ymma am rai o'r moddion hynny.
10. Yn gyntaf, meddianned ei feddwl yn hollawl o resynoldeb y pechod, ac nid ei fesur ef yn ól bri cyffredinol y bŷd yn unic. A chwedi iddo ei ddwyn ei hûn i jawn ddeall eu euogrwydd ef, yna ymmhellach, ystyried ei enbydrwydd ef, Sef i fôd yn ei Yspeilio ef o ffafr Duw yn y cyfamser, ac aí teifl ef, os efe a barháa yntho, i Ʋffern yn dragywydd. Ac yn ddiammeu pe iawn Ystyrid hyn, fe attaliei hynny'r pechod hwn. Canys mi a ofynnwn i'r cyfryw ûn ac sydd yn cymmeryd arno fôd yn ammhossibl iddo ymadel ar arfer hon pe byddei 'n siwr o gael ei grogi y Llw nessaf ar a dyngai ef, oni wnai Ofn hynny iddo ymgadw rhag tyngu? Prýn y Creda fi fod ûn dyn (yn ei gôf) cyn lleied Meistr arno 'i hûn, na wnai hynny. Ac yna'n ddiammeu y mae Damnedigaeth yn waeth na chrogfia, yn gymmaint ac y dyle ofn hynny fod yn fwy attal rhag Tyngu. Yr wyf yn ammeu, naill ai nad yw Dynion yn credu 'n ddifrifol y Damnu, ' [...] Pechod hwynt, neu os ydynt, y maent yn edryoh ar hynny megys peth o hirbell, ac felly nid yw'n cynnhyrfu fawr arnynt; ond y mae pôb ûn o'r ddau hyn yn anrhesymmol iawn. Am y Cyntaf, diammeu yw, fód pób dyn, tra'i bo fo o'i wirfodd yn parhau mewn ûn pechod, mewn cyflwr Damnedigaeth tros y prŷd hynny, a thra'i parheir gan hynny felly yn hwn, rhaid yw i ddyn fod yn y cyflwr hwnnw. Am yr ail, Ysgatfydd y mae fe 'n camgymmeryd, gan dybied, ei fód ef cymmhelled oddiwrtho, canys pa fódd y gŵyr ûn dyn na thare wir ef yn farw a Llw yn ei enau? Neu pe byddei'n siccr na bydd hynny, [Page 111] etto y mae damnedigaeth dragywyddol i'w harswydo uwchlaw pób beth, er pelled fytho oddiwrthym ni.
11. Yr ail módd yw bôd yn gwbl Eir-wir yn dy holl ymadroddion, fal y Credo pób Dyn dydi ar dy Air noeth, ac yna ni bydd iti fŷth achos i'w gadarnhau a Llw, er mwyn eu wneuthur ef yn fwy credadwy, yr hyn yw'r unic ríth neu reswm a all dyn ei gymmeryd arno ûn amser am Dyngu.
12. Yn drydydd Ystyria pa beth sydd fwyaf yn dy fradychu di i'r pechod hwn, pa ûn a'i diod, a'i digter, neu gyfeillach, ac esampl rhai eraill, neu pa beth bynnag arall, ac yna os wyti ûn amser yn bwriadu ymwrthod a'r pechod, ymwrthod a'r achosion hynny o honynt.
13. Yn bedwerydd, ymegnía i feddiannu dy galon a pharaus Anrhydedd o Dduw, ac os cynnydda hynny unwaith yn arfer gyda thi, fe a ddadymchwel yn ebrwydd y llall o halogi ei Enw ef. Arfera gan hynny a chynnefina dy hûn i'r Anrhydedd ymma o Dduw, ac yn enwedig i'r cyfryw barch o'i Enw ef, ac os bydd bossibl, na bo i ti ûn amser ei grybwyll ef heb ryw dderchafiad o'th Galon atto ef. Jë pa brŷd bynnag y cymmeri di yn dy ymadroedd cyffredinol ei Enw ef yn dy enau, bydded hynny yn achos o dderchafu i fynu dy feddyliau atto ef. Ond er dim na oddefa i ti dy hûn ei arferu ef yn dy Siaradach ofer, neu 'r cyffelyb. Os tydi a'th cynnefini dy hûn i dalu'r Anrhydedd hwn wrth grybwyll yn unig am ei Enw ef, fe fydd hynny [Page 112] yn amddiffynfa ragorol yn erbyn ei balogi ef trwy Lwon.
14. Y pummed modd yw, gwilio yn ddiwyd ac yn wastadol arnat dy hûn na chyfeiliorkech fal hyn a'th dafod, heb ba ûn ni thál yr holl foddion eraill ddim. A'r módd diweddaf yw Gweddi, yr hon sy raid ei hadroddi at dy holl ymegnion di; gweddia gan hyuny yn ddifrifol ar fod i Dduw dy gynnorthwyo di i orchfygu'r arfer ddrwg hon; dywed gyda'r Psalmydd, Gosod gadwriaeth, o Arglwydd o flaen fyngenau, a chadw ddrws fyngwefusau; Ac os dydi a'th ymesyd dy hûn yn ddiragrith i arferu'r moddion er mwyn hynny, di a elli fód yn siccr na bydd Duw yn ól o'i Gymmorth iti. Mi a fum yn hŵy ar hwn, oblegid ei fód ef yn bechod mor llywodraethus yn ein mysg ni. Duw o'i Drugaredd a ganniadhao i bawb sydd yn euog o honaw jawn ganfod ei echryslonrwydd ef.
15. Chwi a ellwch ddeall wrth yr amryw ffyrdd hyn o ddi-anrhydeddu Enw Duw, beth yw'r Ddlêdd-swydd o'i Anrhydeddu ef, sef ymgadw yn ddiwyd oddiwrth bób ûn o'r rhai hyn, a sylfaenu'r ymattal hwnnw a'r Anrhydedd ac Ʋrdduniant parchedig i'r Enw cyssegredig hwnnw, yr hwn sydd fawr, ofnadwy, a Sanctaidd, Psal. 99.3. Mi a dreuddiais bellach trwy'r amryw rannau o'r Ddled-swydd fawr honuo o Anrhydeddu Duw.
DOSPARTHIAD.
V.
Am Addoliant dledus i Enw Duw. Am Weddi, a'i hamryw Rannau. Am Weddiau cyhoedd yn yr Eglwys, yn y Teulu▪ Am Weddi neillduol. Am Edifeirwch, &c.
Am Ympryd.
1. YR Wythfed Ddled-swydd sydd arnoni i Dduw yw Addoliant; Addoliant. hynny yw 'r Ddled-swydd fawr honno, trwy ba ûn yn bennaf yr ydyn i yn cydnabod ei Dduwdod ef, gan fòd Addoliant yn unic yn briodol i Dduw, ac am hynny, rhaid yw edrych ar hon megys Dled-swydd pwysfawr▪ Hon a gyflawnir, yn gyntaf gan ein Heneidiau, yn ail, gan ein Cyrph: Rhan yr Enaid yw Gweddio. Gweddi▪ ei hamryw rannau. Yn awr Gweddi yw ymddiddan a Duw, ac y mae amryw rannau o honi, yn ól yr amrafael bethau y boni yn ymddiddan am danynt.
2. Megys yn gyntaf, Cyffes, hynny yw, Cyffes. cydnabod ein Pechodau ger bron Duw. Ac hyn a ddichon fód, naill ai'n gyffredinol neu yn neillduol; gyffredinol yw pan fòni yn unic yn cyffessu yn hollawl, ein bód ni yn bechadurus; y neillduol, pan foni yn adrodd yr amryw weithrediadau a rhywogaethau o'n pechodau. Rhaid yw i'r cyntaf fód yn wastad yn rhan o'n Gweddiau cyhoeddus ni, pa ûn bynnag ai'n Bublic, ai'n neiliduol. [Page 114] Y llall a berthyn i weddi neillduol, ac yno goreu po mynychaf yr arferir hi; jë, fe weddai i ni yn ein Gweddi neillduol feunyddiol gofio yn wastad rai o'n Pechodau mwyaf ac echryslonaf, er cymmaint sydd er pan aethant hwy heibio. Canys y cyfryw rai ni ddyleni byth dybied ddarfod i ni ei cyffessu a galaru yn ddigonol o'i plegid. A rhaid yw i'r Galar hwn yn wastad fyned ynghyd a Chyffes; rhaid i ni ymofidio yn ddifrifol am y pechodau y boni yn ei cyffessu, a chydnabod o eigion ein Calonnau ein annheilyngdod dirfawr yn ei gwneuthur hwynt. Canys nid diben ein Cyffes ni yw addyscu Duw, yr hwn a ŵyr ein pechodau ni yn well na ni ein hunain, ond i'n darostwng ein hunain; am hynny na thybiwn ddarfod i ni gyffessu yn jawn, nes y bo hynny gwedi i wneuthur.
Archiad.3. Yr ail rhan o Weddi iw Archiad, hynny yw, erfynniad ar Dduw beth bynnag a fo arnoni eisieu i'n Heneidiau neu'n Cyrph. Am ein Heneidiau. I'n Heneidiau rhaid yw i ni yn gyntaf, erfyn Maddeuant o'n pechodau, a hynny er mwyn Jesu Grist, yr hwn a dywalltodd ei waed er mwyn hynny. Yna rhaid i ni eiriol Grâs a chymmorth Yspryd Duw i'n cynnorthwyo ni i ymadel a'n pechodau, a rhodio mewn Ʋfydd-dod iddo ef. Ac ymma angenrhaid fydd erfyn yn neillduol yr holl amryw Rinweddau, megys Ffydd, Cariad, Zél, Purdeb, Edifeirwch, a'r cyffelyb, ond yn enwedig y rhai hynny sydd arnati fwyaf ei heisiau: Am hynny Ystyria beth yw dy angenrheidiau, ac os wyti 'n falch gweddiá 'n daer am Ostyngeiddrwydd; os anllad, am Ddiweirdeb: ac felly am bób Grasau craill, yn ól y gweli dy Angenrheidiau. Ac yn [Page 115] yr holl bethau hyn a berthyn i'r Enaid, bydd yn daer iawn ac yn haerllug; na chymmer ûn naccá gan Dduw, ac na ddyro heibio, er nad wyti yn y mann yn cael y peth yr wyti 'n ei geisio, canys er cyhyd y darfu i ti weddio am Râs, ac etto heb ei gael, na flina'n gweddio, eithr yn hyttrach chwilia beth yw'r achos sydd yn gwneuthur dy Weddi mor anghymmeradwy; edrych a'i ti dy hûn sydd yn ei rhwystro hwynt; ysgatfydd, yr wyti 'n gweddió ar i Dduw dy gymmorth di i orchfygu rhyw Bechod, ac etto heb ûn amser ymroi i ymladd yn ei erbyn ef, na gwneuthur gwrthymdrech yu y bŷd iddo, ond ymroi iddo cyn fynyched ac y delo, jé, dy osod dy hûn ar ei ffordd ef, ac yn llwybr pobrhyw Brofedigaethau. Os fal hyn y mae, nid rhyfedd os ni thyccia dy Weddiau-di ddim, oblegid ni óddefi di iddynt. Am hynny, diwygia hyn, ac ymro 'n ddifrifol i wneuthur dy ran di, ac yna nid rhaid i ti ofni na wná Daw ei ran ynteu.
4. Yn ail, rhaid i ni erfyn hefyd tros ein Cyrph, Am ein Cyrph. hynny yw, rhaid i ni ofyn gan Dduw y cyfrywbethau ac sydd angenrheidiol i'n bywyd; tra y byddoni byw ymma. Ond y rhai hyn yn unic yn y cyfryw rádd a mesur ac y gwelo ei Ddiethineb éf fod yn oreu i ni; ni wasanaetha i ni ryfygu torri atton ein hunain, neu weddio am yr holl olud, neu fawredd hynny, y bo ein Calonnau ni ysgatfydd yn ei chwennych, ond yn unic am ý cyfryw gyflwr oddiallan, ac a welo ef fód fwyaf yn tueddu at y dibennion mawr hynny o'n bywyd ymma, ei Ogoneddu ef, a chadw ein Heneidiau.
[Page 116]5. Trydydd ran o Weddi yw Adolwyn, hynny yw, Adolwyn. pan weddion ar i Dduw droi ymmaith rhyw ddrwg oddiwrthym ni. Yn awr fe áll y drwg hwn fod naill ai drŵg Pechod, neu ddrwg Cospedigaeth. Rhaid i ni yn enwedig weddio yn erbyn drŵg Pechod gan erfyn yn daer ar Dduw, Drwg Pechod. fód iddo éf trwy allu ei Râs ein cadw ni rhag Syrthio i Bechod. Ac yn enwedig ymbilia 'n ddifrisol ar fód i Dduw dy gadw di rhag y Pechodau hynny y gwyddost dy fôd fwyaf yn tueddu attynt. Hyn sydd raid ei wneuthur beunydd, ond yn fwy enwedig y prŷd hynny, pan foni tan ryw Brofedigaeth bresennol, ac mewn perigl o Syrthio i ryw Bechod, ymmha gyflwr y mae i ni achos i waeddu allan gyda St. Pedr, pan welodd ef ei hûn ym mron suddo, Achub Arglwydd, neu fe ddârfu am danaf; gan erfyn yn ostyngedig arno ef naill ai tynnu ymmaith y Temptasiwn, neu'n cryfhau ni i'w wrthsefyll ef; ac nid allwn wneuthur na'r naill na'r llall o honom ein hunain.
Drwg cospedigaeth.6. Yn ail Rhaid i ni hefyd weddio yn erbyn Drwg Cospedigaeth, ond yn bennaf yn erbyn Cospedigaethau ysprydol, megys Digofaint Duw, Gwaharddiad ei Rás ef, a Damnedigaeth dragywyddol. Yn erbyn y rhai hyn nid allwni byth weddio yn rhy ddifrifol: ni a allwn hefyd weddio yn erbyn Cospedigaethau amserol, hynny yw, trallod oddiallan, ond hyn trwy ymddarost yngiad i Ewyllus Duw, yn ol Esampl Crîst, Mat. 26.39. Nid fel yr cwyllyswyfi, ond fel yr ewyllysiech di.
Cyfryngiad.7. Pedwerydd ran Gweddi yw Cyfryngiad, hynny yw, Gweddio tros eraill. Rhaid i ni [Page 117] wneuthur hyn yn gyffredinol tros holl ddynol Ryw, yn gystal dieithriaid a chyfnesseifiaid, ond yn fwy neillduol, tros y rhai sydd o Berthynas yspysol i ni, naill ai 'n gyffredinol, megys ein Lywiawd-wyr gystal yn yr Eglwys a'r Deyrnas; neu yn wahanredol, megys Rhieni, Gwr, neu wraig-briod, Plant, Ceraint, &c. Rhaid yw i ni weddio hefyd tros bawb a'r sydd mewn trallod, a'r cyfryw rai yn neillduol, y boni yn enwedig yn ei ddirnad i fód felly: jé rhaid i ni weddio tros y rhai a wnaeth gam a ni, ac a'n drygant ac a'n herlidiant, canys hyn yw hynod Orchymyn Crîst, Mat. 5.44. Ac fe roes ef ei hûn i ni'r Esampl fwyaf o hyn trwy weddió tros ei groeshoelwyr, Luc. 23.34. O Dad maddeu iddynt. Tros yr holl fáth ymma o ddynion y mae 'n rhaid i ni weddió, a hynny am yr unrhyw bethau daionus ac a erfynioni troson ein hunain, ar fôd i Dduw roddi iddynt yn ei hamryw leoedd a'i galwedigaethau bób Bendithion Ysprydol ac amserol a welo ef fôd yn diffygiol arnynt, a throi ymmaith oddiwrthynt bób drwg, pa ún bynnag ai o Bechod neu o Gospedigaeth.
8. Pummed Rhan gweddi yw Diolchgarwch, Diolchgarwch. hynny yw, Moliannu a Bendithio Duw, am ei holl Drugareddau, pa ûn bynnag ai i ni ein hunain, ai i'n perthynas nessaf, neu yntau i'r Eglwys a'r Deyrnas yr ydyni yn aelodau o honynt, neu etto yn fwy cyffredinol i holl Ddynol ryw; a hynny am ei holl Drugareddau yn gystal Ysprydol ac amserol. Yn yr Ysprydol, yn gyntaf, am y rhai sydd yn perthyn i ni i gyd yn gyffredinol, megys rhoddiad ei Fâb, danfoniad ei Yspryd, a'r holl foddion hynny a arferodd ef er [Page 118] mwyn tynnu Dynion pechadurus atto'i hûn. Yna yn ail, am y Trugareddau hynny a dderbyniasom ni yn neillduol, megys ein bód gwedi ein geni o fewn corlan yr Eglwys, a'n dwyn i fynu yn y Grefydd Cristianogawl, trwy ba ûn y buon gyfrannogion o'r holl Ragorfreintiau gwerthfawr hynny o'r Gair, a'r Sacramentau, ac felly a gáwsom, heb ein gofal na'n poen ein hunain, foddion ein bywyd tragywyddol gwedi ei dodi yn ein dwylo. Ond heblaw hyn, nid oes y rún o hononi na dderbyniasoni drugareddau ysprydol eraill oddiar law Duw.
Trugareddau ysprydol.9. Megys yn gyntaf, Dioddefgarwch ac amynedd Duw, yn hir aros am ein Hedifeirwch, heb ein torri ni ymmaith yn ein Pechodau. Yn ail, ei Alwad a'i wahoddiad ef i ni i'r edifeirwch hwnnw, nid yn unic oddiallan, trwy weini dogaeth y Gair, ond hefyd oddifewn, trwy gynnhyrfiadau ei Yspryd. Ond os darfu i'r Galwedigaethau hyn trwy gynnorthwy Grâs Duw weithio arnati, a'th ddwyn o fuchedd fydol halogedig i fuchedd Gristianogawl, yna 'n ddiammeu 'r wyti yn y râdd uchaf yn rhŵym i fawrhygu a moliannu ei ddaioni ef, gan iti dderbyn gantho ef y Drugaredd fwyaf a all fôd.
Amserol.10. Rhaid i ni hefyd ddiolch am Fendithion Amserol, pa ûn bynnag ai y cyfryw rai ac a berthyn i bawb yn gyffredyn, megys Llwyddiant yr Eglwys, neu 'r Deyrnas, a phob ymwaredau hynod i bób ûn o'r ddau; neu yntau y cyfryw ac a berthyn i ni ein hunain yn neillduol; y rhai ydyw 'r holl bethau da y bŷd hwn yr ydyn i 'n i fwynhau; megys Iechyd, Ceraint, Ymborth, [Page 119] Gwiscoedd, a'r cyffelyb; ac hefydd am yr amddiffynniadau hynny trwy ba rai i'n cedwir bôb munyd rhag perigl trwy rasusol ragluniaeth Duw; a'r ymwared enwedigol a roddes Duw i ni yn amser yr Enbydrwydd mwyaf. Ammhossibl yw gosod ar lawr yr amryw Drugareddau y mae pob dŷn yn ei derbyn gan Dduw, oblegid ei bôd yn rhagori mewn rhyw a mesur rhwng y naill ddyn a'r llall. Ond y mae'n siccr fôd i'r hwn a dderbyniodd leiaf ddigon o achos i dreulio' i holl fywyd yn Moliannu Duw. Ac fe syddei 'n dra-chymwys i bôb dyn ystyried yr amryw rannau o'i fywyd, a'r Trugareddau a dderbynniodd ef ymmhób ûn, ac felly cynnull ynghydd megys Llyfran, neu Gatalog o honynt, o'r lleiaf y rhai pennaf o honynt, y rhai a ddichon ef yn wastad ei coffhau, a'i hadrodd yn fynych ger bron Duw a chalon ddiolchgar.
11. Y rhai hyn yw amryw Rannau Gweddi, Gweddi gyffredinnol yn yr Eglwys. a'r cwbl i'w harferu yn gystal yn gyhoeddus ac yn neillduol. Yr arfer gyhoeddus o honynt sydd yn gyntaf, yn yr Eglwys lle y mae pawb yn ymgyfarfod i gydsylltu yn y Gweddiau hynny y rhai a berthyn i bawb yn gyffredinol. Ac nyni a a ddylen (lle y mae y Gweddiau yn y módd y dylent fôd) gyrchu yn wastadol at y rhai hyn, gan fod Bendith enwedigol gwedi ei haddaw i ddeisyfiadau cyssylltiedig y ffyddloniaid, ac y mae 'r neb a' habsenno ei hunan heb achos cyfreithlawn oddiwrth y cyfryw Weddiau cyffredin, yn ei torri ei hunain oddiwrth yr Eglwys, yr hin yn wastad a edrychwyd arno yn beth mor annedwydd, a'i fôd efyn Gospedigaeth trymmaf a all Llywodraeth-wŷr yr Eglwys ei osod ar y Trosseddwr [Page 120] gwaethas; ynfydrwydd rhyfeddol gan hynny yw, i Ddynion osod hynny arnynt ei hunain. Yn y Teulu.
12. Ail máth ar Weddi Gyffredin yw honno yn y Teulu, lle y mae 'r holl Dylwyth yn cydsylltu yn eu deisyfiadau cyffredin; a hon hefyd a ddylid yn ofalus ei harferu ai dyfal ystyried, yn gyntaf gan y Penteulu, yr hwn sydd i edrych ar fod y cyfryw Weddiau, oblegid fód yn perthyn iddo ef yn gystal baratoi i Enediau ei Blant a'i Wasanaethyddion, a pharatoi ymborth i'w Cyrph hwynt. Nid oes neb gan hynny, hyd yn oed y Penteulu gwaelaf na ddylei ofalu am hyn. Os medr naill ai ef ei hûn, ai un o'i Dylwyth ddarllen, fe a all arferu rhai Gweddiau allan o ryw Lyfr da, os allan o Lyfr-gwasanaeth yr Eglwys, mae ef yn dewis yn dda; os ni fedrant ddarllen, yna fe fydd yn agenrheidiol iddynt ddyscu heb law 'r Llyfr ryw ffurf o weddia allont hwy ei harferu yn y Teulu, i ba ddiben trachefn fe fydd rhai o weddiau'r Eglwys yn dra-chymwys gan ei bod hwynt yn hawdd iawn i'w coffadwraeth nhw, oblegid eu byrdra, ac etto yn cynnwys llawer o Ddefnydd. Ond pâ ddewisiad bynnag o weddiau a wnelont, byddant yn siccr o fôd ganddynt rai, ac na chadwed neb a'r sydd yn ei broffessu ei hún yn Gristion, Deulu mor ddigredd, ac na welo of addoli Duw yntho beunydd. Ond gwedi i'r Penteulu wneuthur ei Ddlêd ei hun yn paratoi hyn, Dledswydd pob ûn o'r Tylwyth yw gwneuthur Defnydd o'r Paratóad hwnnw trwy fod yn wastadol ac yn ddiwyd ar y Gweddiau Teuluaidd hynny.
[Page 121]13. Gweddi wahanredol neu ddirgel yw 'r hon a arfera dyn yn unic ar wahan oddiwrth bawb eraill, Gweddi wahanredol. ymmha ûn y bydd raid i ni fôd yn fwy neillduol yn ól ein hamryw neillduol angenrheidiau, nag y gweddai i ni fod yn gyhoeddus. A'r Weddi wahanredol hon sydd yn Ddled-swydd nad ellir mo'i hescusodi trwy gwplhau 'r llall o Weddi gyhoeddus. Fe ddisgwylir pob ûn o'r ddwy, ac nid ellir cymmeryd y naill yn gyfnewid am y llall. A phwy bynnag sydd yn ddiwyd mewn Gweddiau cyffredin, ac etto yn esgeulus yn y neillduol y mae i'w ofni 'n ddirfawr ei fôd ef yn ceisio ei wneuthur ei hun yn gymmeradwy i ddynion yn hyttrach nag i Dduw; yngwrthwyneb i Orchymyn ein Hiachawdr, Mat. 6. yr hwn sydd yn gorchymyn i ni 'r Weddi neillduol hon, sef gweddio ar ein Tád yn y dirgel, oddiwrth bwy ûn yn unic y mae i ni ddisgwyl ein gwobr, ac nid oddiwrth ofer Glôd gan Ddynion.
14. Yn awr rhaid yw cwplhau 'r Dyledswydd hon o weddi yn fynych, Amlder Gweddiau. o'r lleias gan bawb y Boreu a Phrŷdnhawn, gan fod yn draangenrheidiol i ni fal hyn ddechreu a diweddu 'n holl orchwylion gydá Duw, ac hynny nid yn unic o herwydd y Ddled-swydd dledus arnoni iddo ef, ond hefyd o'n plegid em hunain, y rhai ni all bŷth fôd nag yn ddiogel nag yn Uwyddiannus, ond trwy 'n gorchymyn ein hunain iddo ef; ac am hynny a ddylen arwsydo osod ar Beryglon y Dŷdd na 'r nós hebei nodded ef. Rhaid yw barnu mor fynych y bydd raid cwplhau 'r Ddled-swdd hon yn ol y gorchwyla'r neges a fydd gan ddynion; lle nid wyfi 'n meddwl, wrth Orchwyl, y cyfryw ac a fydd Dynion yn anfuddiol [Page 122] yn ei torri allan iddynt ei hunain, ond y gorchwyl angenrheidiol o Alwedigaeth dŷn, yr hwn ni ddyry i rai lawer o amser i weddi gyhoeddus osodedig. Ond fe all y rhai hyn yn fynych yn y dydd dderchafu ei Calonnau at Dduw mewn rhyw rai Gweddiáu byrrion, iê tra 'i bonhw ynghylch ei gorchwyl. Am y rhai sydd ganddynt fwy o ennyd, fe ddylenhw mewn pob rheswm osod heibio fwy o amser i'r Ddledswydd hon. Ac na ddyweded néb yr hwn sydd gantho ddigon o amser i'w dreulio ar eu wagedd, ac ysgatfydd ar eu Bechodau, fod arno ef eisiau amser i weddio, ond ymegniéd yn awr i adbrynnu 'r hyn a dreuliodd ef ar gam, trwy roi heibio o hyn allan fwy o amser yn y Ddledswydd hon: A diammeu pe iawn ystyrien 'i pa lesháad ddirfawr sydd i ni ein hunain o gwplhau 'r Ddledswydd hon, ni a dybien en synhwyrol fôd cyn fynyched arni hi, ac ydyni gan mwyaf yn anfynych ynthi hi.
Lesháad Gweddi. Anrhydedd.15. Canys yn gyntaf, y mae 'n Anrhydedd fawr i ni bryfed gwael o'r Ddaiar gael ein cynnwys i draethu mor hŷf a Mawrhydu 'r Nêf. Os tybiei Brenin yn deilwng adael i un o'i Ddeiliaid gwaelaf siarad yn dráhyf ac yn hyderus ac ef, fe a eddrychyd ar hynny megys Anrhydedd ddirfawr; fe fydde 'r Dŷn hwnnw er mor ddirmygus oedd ef o'r blaen, yn genfigen i'w hol gymydogion; a diammeu efe a fydde bodlon i gymmeryd pód achlysur i dderbyn cymmaint o barch. Ond och! nid ydyw hyn ddim i'r Anrhydedd a gynnygir i ni, y Rhai sydd gennim gennad, iê a wahoddir i siarad, ac ymresymmu a Brenin y Brenhinoedd, mor barod gan hynny a ddyleni fôd i hynny?
[Page 123]16. Yn ail y mae 'n llesháad mawr, iê 'rmwyaf a ellir i ddychymmig; Lesháad. oblegid Gweddi yw'r offer i ddwyn i lawr i ni bòb pethau da, yn gystal ysprydol ac amserol; nid oes ûn Weddi, yr hon a wneir fal y dylyd nad yw yn dwyn i lawr fendith, fal y dywed y gŵr Doeth, Ecclus. 35.17. Gweddi y Gostyngedig a aiff trwy cymmylau, ac nid ymedy hines i'r Goruchaf edrych arni. Chwi a dybiech hwnnw yn ŵr dedwydd, yr hwn a fydde gantho ûn modd diogeli'w helpu fo i beth bynnag a fo arno eisieu, er costio o hynny iddo ef lawer o boen a llafur; y cyfryw ddŷn dedwydd a elli di fôd, os mynni. Gweddi yw 'r modd siccr o ddwyn iti cymmaint oll ac sydd arnati ei eisieu, hynny yw, cymmaint ac a wél Duw fôd yn gymmwys, er ysgatfydd nid cymmaint ac a debygi di fôd arnati ei eisieu. Ac am hynny er maint o flinder i'r Cnawd a fo yn y Ddled-swydd, etto wrth ystyried fod arnati yn wastad eisieu rhyw beth neu 'i gilydd gann Dduw, ynfydrwydd yw gadael i'r anhawsder hynny dy ddigalonni di, a'th gadw oddiwrth y moddion siccr hyn o gyflawni dy angenrheidiau.
Hyfrydwch.17. Ond yn drydyd y mae 'r Ddle-swydd hon ynthi hun cymmhelled oddiwrth fód yn flín a'i bôd hi en drahyfryd. Duw yw ffynnon pob Dedwyddweh ac ar ei ddeheu-law ef y mae digrifwch yn dragywydd, Ps. 16.11. Am hynny po nessaf y deuwn ni atto ef, dedwyddach a fyddwn ni, gan fôd Llawenydd ternas Nêf yn tarddu allan o'n nesder ni at Dduw. Yn awr nid oes i ni yn y bùd hwn ûn modd o ddyfod cyn nessed atto es, a thrwy Weddi, ac am hynny yn ddiammeu y mae hiynthi ei hun yn beth a ddichon beri digrifwch [Page 124] ac hyfrydwch dirfawr; os dychwel iddi fód yn amgenach i ni, y mae hynny oddiwrth ryw annhymmhoreiddrwydd yn ein Calonnau ein hunain, yr hwn fal genau clwyfus ni ddichon archwaethu y Bwyd blasussaf. Y mae Gweddi yn Ddled-swydd hyfryd, ond y mae hi hefyd yn ûn Ysprydol; ac am hynny os yw dy galon di gnawdol, a chwedi i gosod yn y gwrthwyneb a'r Blesserau 'r cnawd, neu sothach y bŷd, yna nid rhyfedd os ni archwaethu di ddim hyfrydwch ynthi hi, neu os fal yr Israeliaid y dirmygi di'r Manna, ac hiraethu am grochanau cîg yr Aipht. Am hynny os wyti yn gweled blinder, yn y Ddled-swydd hon, ammheua dy hún, púra a glanhá dy Galon oddiwrth Gariad i bób-rhyw Bechod, ac ymegnia i'w gosod hi mewn trefn nefol ac Ysprydol, ac yna ti a ganfyddi nad yw hon yn Ddled-swydd annifir, ond yn llawn o Hyfrydwch a Bodlonrhwydd. Yn y cyfamser na achwyna ar anhawsder y Ddledswydd, ond gwrthnyssigrwydd dy Galon dy hûn.
18. Ond fe all fod hefyd reswm arall iddi hi i ymweled i fód yn annifir i ni, sef, eisieu ymarfer. Chwi a wyddoch fod llawer o bethau y rhai sydd yn edrych megys yn anhawdd ar y profiad cyntaf, y rhai gwedi i ni ymarfer a hwynt a fydd yn dra-hyfryd, ac os hyn yw dy gyflwr di, yna di a wyddost feddiginiaeth barod, sef, ei harferu hi yn fynychach, ac felly y mae'r ystyriaeth ymma yn naturiol yn annog ac yn cynghori bód ymarferu'r Ddled-swydd hon yn fynych.
[Page 125]19. Ond nid digon yw i ni yn unic ystyried mor fynyched, ond mor dda y cwplháon ni hon. I ofyn dim anghyfreithlon. I'r perwyl hwn, rhaid yw i ni yn gyntaf edrych ar ddeunydd ein Gweddiau, sef edrych na bo i ni ofyn dim anghyfreithlon; megys dial ar ein Gelynion, neu'r cyffelyb; yn ail, y modd; ac hynny sydd raid bôd yn gyntaf mewn ffydd; I ofyn mewn Ffydd. rhaid i ni gredu os gofynnwn ni fal y dyleni, y rhŷdd Duw i ni naill ai'r peth y bo'ni yn ei ofyn, neu ynteu ryw beth a welo ef fôd yn well i ni. Ac yna yn ail, mewn Gostyngeiddrwydd, rhaid i ni ein cydnabod ein hunain yn hollawl yn annheylwng o' rún o'r pethau daionus hynny yr ym ni yn ei gofyn, Mewn Gostyngeiddrwydd ac am hynny ei herfyn nhw yn unic er mwyn Crîst. Yn drydydd gyda dyfalystyriad, rhaid yw i ni feddwl beth y boni arno, ac nid cymhwys i'n meddyliau wibio at bethau eraill. Mi a ddywedais i chwi ar y cyntaf, Dyfalystyriad. mae Dled-swydd yr Enaid yw Gweddi, ond os bydd ein Meddyliau ni yn myned ar ddisperod, gweithred Tafod a'r gwefusau yn unic ydyw hi, yr hyn sydd yn ei gwneuthur hi yngolwg Duw ddim gwell nag ofer-ddadwrdd, ac felly ni ddwg bŷth fendith arnoni. Jë, fal y dywedodd Jacob wrth ei Fam, Gen. 27.12. fe a fydd cyffelypach i ddwyn melldith arnoni na bendith, canys y mae hyn yn halogi ûn o'r rhannau mwyaf cyhoeddus o wasanaeth Duw, y mae 'n ddarn o Ragrith, nessau atto ef a'n gwefusau, pan fo ein Calonnau ymhell oddiwrtho; ac yn ddirmyg a diystyrwch mawr o'r Mawrhydi ofnadwy hwnnw yr ydyni yn dyfod o'i flaen: ac hefyd o'n rhan ein hunain y mae 'n ffolineb dirfawr fód i ni y rhai sydd yn dyfod at Dduw ar y fáth achosion [Page 126] pwysfawr, ac yw'r holl bethau sy'n perthyn i'n Heneidiau a'n Cyrph, ynghanol y cwbl ollwng ein Neges yn angof, a dilyn pób peth gwael y bo naill ai'n ffansi ofer ein hunain, neu Ddiafol (gwaith pa ûn yw ein rhwystro ni ymma) yn ei gynnig i ni. Y mae hyn fal pe dychwelai i Lofrudd, yr hwn a ddeuai at y Brenin i eiriol am ei fywyd, ynghanol ei ddeisyfiad, ganfod Gwybedyn, ac ar hynny ymadel a'i erfynniad, a rhedeg ar ól y gwybedyn hwnnw: oni thybiechwi 'n anghymwys iawn daflu ymmaith Bardwn ar y fáth greadur ynfyd-ffol? Ac yn ddiammeu fe a fydd mor anresymmol ddisgwyl i Dduw ystyried a channiadhau ein Gweddiau hynny, y rhai nid ydyni ein hunain yn ei ystyried.
Cymmorth rhag Cyfeiliorni.20. Y mae'n sefyll arnoni yn fawr ein harfogi ein hunain rhag cyfeiliorni fal hyn mewn gweddi, gan ein bód ni oll trwy natur yn tueddu yn ddirfawr at hynny. I'r diben hwn fe fydd angenrheidiol i ni yn gyntaf, ar ein dyfodiad i Weddi, Ystyriaeth o Fawrhydi Duw. ddwys-ystyried y Mawrhydi tra-gogoneddus yr ydyni yn Nessau atto módd y galloni arswydo fód yn ofer ag yn wagsaw yn ei wydd ef. Ein Heisiau. Yn ail, rhaid ini ystyried mor bwysfawr yw'r pethau yr ydyni yn ei gofyn, rhai o honynt sydd yn gyfryw ac os ni channhiadheid hwynt i ni truanaf o'r holl greaduriaid fyddeni, ac etto 'r gwagfawrwydd hwn yw'r módd i rwystro i ni gael ein gwrando ynddynt. Yu drydydd Rhaid i ni erfyn nawdd a chymmorth Duw yn hyn: Erfynniad am Gymmorth Duw. Ac am hynny, pan ddechreuoch di dy Weddi, bydded dy Erfynniad cyntaf y grâs hwn o Ddyfal-ystyriad.
[Page 127]21. Yn ddiweddaf bydd mor wiliadwrus ac y gellych ar gadw allan o'th galon ar amser gweddi pób meddyliau cyfeiliornus, neu os daeth y rûn i mewn yn barod, na chroesawa mo honynt, ond cyn gynted ac y gelli ei dirnad hwynt, na âd iddynt aros yno ûn munydyn, eithr tafl nhw allan mewn digllondeb, ac erfynia faddeuant gan Dduw am danynt. Ac os dydi fal hyn a ymdrechi yn ddiwyd yn ei herbyn hwynt, naill ai fe rydd Duw i ti nerth i'w gorchfygu hwynt mewn rhyw fesur, neu o'i Drugaredd fe a faddeua i ti y péth ni elli di mo'i ochelyd: Ond os bydd hynny trwy di esgeulusdra dy hún, nid elli di ddisgwyl y rún o'r ddau, tra' i parhao 'r esgeulusdra hwnnw.
22. Yn bedwerydd rhaid i ni edrych ar fód ein Gweddiau ni mewn Zêl a difrifwch; Zêl. nid digon i ni ei hystyried hwynt yn unic cymmhelled ac i wybod pa beth y boni yn ei ddywedyd; ond rhaid i ni ddodi holl egni a defosiwn ein Heneidiau ar waith, a hynny (fal y rhagddywedais i) yn ól amryw Rannau Gweddi. Ni chaiff y ddeisyfiad lêsg ddifraw ddim gan Dduw; ni a welwn nad yw hi 'n cael dim gennini ein hunain; canys os gofyn cardottyn wellháad gennimni, a hynny mewn rhyw fôdd ddicra, fal pe byddei fe'n ddifatter pa ûn a wná ef a'i gael a'i peidio, ni a dybien fôd arno ef naill ai ond ychydig eisieu, neu falchder mawr, ac felly ni a fydden yn ddifraw am roddi iddo ef. Yr awrhon yn ddiammeu y mae'r pethau'r ydyni yn ei ofyn gan Dduw cymmaint uchlaw prîs Elusenau cyffredinol, nad allwn ni byth ddisgwyl y rhoddir [Page 128] hwynt i ddeisyfiadau ysgoewan diofal. Felly yn yr ûn môdd, ni bydd ein haberth ni o Foliant a Diolchgarwch yn gymmeradwy gantho ef, oni offrymmir hi o galon wîr deimladwy o'i Drugareddau ef; onid-é nid yw ond máth ar wâg rodres yr hyn ni bŷdd byth yn gymmeradwy gantho ef yr hwn sydd yn gofyn y Galon ac nid y gwefusau yn unic. A'r cyffelyb a ellir ei draethu am holl rannau eraill o Weddi. Bydd ofálus gan hynny pan nessáoch di at Dduw mewn Gweddi, ar dderchafu dy Enaid i'r pwynt uchaf y gellych o Zel a difrifwch. Ac oblegid nad wyti o honot dy hún yn unic yn abl i wneuthur dim, erfynia ar Dduw wresogi dy galon di a'r Tán nefol ymma o Ddefosiwn, a chwedi iti gaffael hynny, gwilia rhag naill ai i ddiffod ef trwy ryw Bechod rhyfygus, neu adael iddo fyned allan o eisieu ei gynnhyrfu ef a gwneuthur defnydd o honaw.
Pûrdeb.23. Yn bummed, rhaid i ni Weddio gydá Phurdeb, hynny yw, rhaid i ni buro ein Calonnau oddiwrth bób Cariad i Bechod. Hyn yn ddiammeu y mae'r Apostol yn ei feddwl, 1 Tim. 2.8. pan yw yn gorchymyn i ddynion dderchafis dwylo purion mewn gweddi, ac yno y mae fo'n rhoi ar lawr un máth arbennig ar bechod, Digter ac Ammheuaeth; lle trwy ammheuaeth y mae fo'n meddwl yr ymrysonau a'r cynnhennau anfwyn hynny sydd mor gyffredinol ymysg dynion. Ac yn wir nid all y néb a groesawo hynny, neu unrhyw bechod arall yn ei galon, fyth dderchafu 'r dwylo Sanctaidd hynny a ofynnir yn y Ddled-swydd hon. Ac yna yn ddiammeu ni thál ei Weddiau iddo ef ddim, er mor [Page 129] ddifrifol ac er amled fyddont. Fe ddywed y Psalmydd iddo na chaiff ef moi wrando, Psal. 66.18. Os edrychaf ar Anwiredd yn fynghalon ni wrendy 'r Arglwydd arnaf. Jë, fe ddywed Solomon etto yn waeth, nad yw Gweddi y cyfryw ún yn unic yn ofer, ond yn ffiaidd, Dihar. 15.8. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. Ac i gael fal hyn droi 'n Gweddiau ni i Bechod yw ûn o'r pethau tostaf a all ddychwelyd i ûn dyn: ni a welwn i bód hi gwedi ei gosod ar lawr yn y rhól honno o felldithion Psal. 109.7. Na fyddwn gan hynny mor greulon i ni ein hunain ai dynnu ef ar ein pennau ein hunain, yr hyn yr ydyni yn ddiammeu yn ei wneuthur, os nyni a offrymmwn i fynu ein Gweddiau o galon ammhúr.
24. Yn ddiweddaf, I Ddibennion uniawn. rhaid i ni gyfarwyddo ein Gweddiau i Ddibennion uniawn; ac hynny naill ai o herwydd y Weddi ei hún, neu ynteu'r pethau y boni yn gweddio am danynt; yn gyntaf, rhaid i ni Weddio nid i ennill clód o Ddwywolder ymysg dynion, fal y Rhagrithwyr hynny, Math. 6.5. Nag ychwaith yn unic er mwyn cymdeithas, neu arfer o wneuthur fal y gwná eraill: ond y mae 'n fefyll arnoni ei chyflawni hi, yn gyntaf megys gweithred o Addoliant i Dduw; yn ail megys cydnabyddiaeth mae efe yw'r ffynnon fawr honno, o ba ún yn unic y mae i ni ddisgwyl pób daioni; ac yn drydydd, er ennill cyflawniad o'n holl angenrheidiau ein hunain a rhai eraill. Yna o herwydd y Pethau y boni yn gweddio am danynt; rhaid i ni edrych yn ofalus na bo gennini ddim amcanion drŵg arnynt hwy; gwiliwn ofyn pethau fal y treuliom ni hwynt ar ein Trachwantau, Jaco 4.3. Megys y gwná y rhai [Page 130] sydd yn gweddio am Olud, modd y gallont fyw mewn glwthineb a gormodedd, ac am Awdurdod fal y gallont ddrygu ei Gelynion, neu'r, cyffelyb. Ond rhaid yw i'n diben ni yn y cwbl fód, yn gyntaf, gogoniant Duw, ac ar ól hynny, ein Hiechydwriaeth ein hunain a rhai eraill, a phób peth arall sydd raid i gymmeryd i mewn yn unic fal y byddont yn tueddu at y pethau hynny, yr hyn ni's gallant byth mo'i wneuthur, os nyni a'i camarferwn hwynt i bechod. Fe ddarfu i mi bellach am y rhan gyntaf honno o Addoliant, sef honno o'r Enaid.
Addoliant y Corph.25. Y llall yw Addoliant y Corph ac nid yw hynny ddim ond y cyfryw ymddygiad gostyngedig, ac anrhydeddus yn ein dynessáad at Dduw, ac a ddengys allan barch yr Enaid oddifewn, ac a dalo hefyd iddo ef béth teyrnged oddiwrth ein Cyrph, a pha rai y mae'r Apostol yn gorchymyn i ni Ogoneddu Duw, yn gystal ac a'n Heneidiau; a rheswm da, gan ddarfod iddo ef greu a phrynu y naill yn gystal a'r llall: pa bryd bynnag yr offrymmi di dy weddiau i Dduw, bydded mewn cwbl ostyngeiddrwydd yn gystal y Corph a'r meddwl, yn ól cyngor y Psalmydd, Psal. 95.6. O deuwch addolwn, syrthiwn i lawr a gostyngwn ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr.
Ediseirwch.26. Y Nawfed Ddled-swydd i Dduw ydyw Edifeirwch: fe a'n dyscir gan yr Apostol fód hon yn Ddled-swydd i Dduw, Act. 20.21. lle wrth draethr am Edifeirwch, y mae ef yn ei galw hi yn Edifeirwch tu ag at Dduw. Ac y mae rheswm da ar fód hon yn Ddled-swydd iddo ef, gan nad oes ún pechod yr ydyni yn ei [Page 131] wneuthur nad yw ryw fódd neu 'i gilydd yn ei erbyn ef. Canys er bód pechodau yn ein herbyn ein hunain a'n cymydygion, etto gan ei bód hwynt gwedi di gwahardd gan Dduw y maent hefyd yn Drosseddiadau o'i Orchymynion ef, ac felly yn bechodau yn ei erbyn ef. Mewn gair, nid yw'r Edifeirwch hwn ddim ond troi oddiwrth Bechod at Dduw, a thaflu ymmaith ein holl Bechodau o'r blaen, ac yn ei lle hwynt arferu yn ddibaid yr holl Ddled-swyddau Christianogawl hynny y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni. Ac y mae hon yn Ddled-swydd mor angenrheidiol, ac y derfydd am danoni yn ddiammeu hebddi hi, y mae i ni Air Crîst am hyn, Luc. 13.5. Onid edifarheuwch, derfydd am danochichwi oll yn yr ûn môdd.
27. Y cyfarwyddiad i gwplhau'r amryw rannau o'r Ddled-swydd hon, a osodwyd ar lawr yn barod yn y Paratóad i swper yr Arglwydd, ac yno yr wyf yn cyfeirio 'r Darllenydd. Yn unic mi a'i coffháf ef ymma nad yw hi yn Ddled-swydd i'w harferu yn unic wrth dderbyn y Cymmun. Amserau i'r Ddledswydd hon. Canys gan fód hyn yn unic feddiginiaeth yn erbyn gwenwyn pechod, rhaid yw i ni ei hadnewyddu hi cyn fynyched ac yr ailgyrchoni ein pechodau, hynny yw, Beunydd. Sef, rhaid i ni bob dydd Edifarhau am bechodau y Dydd hwnnw, canys y peth y mae Crist yn ei ddywedyd am ddrygau eraill, sydd yn wîr hefyd am hyn, digon yw i'r Diwrnod ei ddrwg ei bún; Bob dydd. y mae gennini Bechodau ddigon bób dydd i arferu edifeirwch beunyddiol, ac am hynny rhaid yw i bób dŷn fal hyn ei alw ei hun beynydd i gyfrif.
[Page 132] Ar amserau gosodedig.28. Ond megys ac y mae mewn cyfrifon fe fydd gan y neb a osodo yn ddyfal ar lawr ei draul feunyddol, ryw amser gosodedig i fwrw'r cwbl i fynu ynghyd, megys ar ddiwedd yr wythnos, neu 'r mîs; felly hefyd y dyle fód ymma, ni a ddylen osod heibio rhyw amser i'n hymddarostwng ein hunain yn gyhoedd ger bron Duw am ein Pechodau, nid o'r dydd hwnnw yn unic, ond o'n holl fywyd. A pho mynychaf y bo'r amserau hynny goreu fydd. Canys po mynychaf fal hyn y bwrion ni i fynu ein cyfrifon gyda Duw, ac edrych pa ddyledion mawr y rhedason ni iddynt, mwy isel a gwael y tybiwn ni o hononi ein hunain, ac ni a hiraethwn yn fwy am ei Drugaredd ef, a'r ddau hyn yw 'r prif bethau sydd yn rhaid ein cymmhwyso ni i'w bardwn ef. Y mae ef gan hynny yn cymmeryd cwrs ragorol ar lés ei Enaid, yr hwn a'i gesyd ei hún ún dŷdd yn yr wythnos yn bennodol i'r pwrpas hwn. Neu os bydd cyflwr bywyd rhyw ddŷn mor drafferthus, fal nad allo ef wneuthur hyn cyn fynyched, deued cyn nessed at y mynychdra hwnnw ac y bo possibl iddo, gan gofio yn wastad, na ddichon yr ûn o'i negeseuau bydol ef ddwyn i mewn iddo y filed ran o'r Budd ar a ddŵg yr ún Ysprydol ymma, ac am hynny y mae 'n hwsmonaeth ddrwg iawn gynllwyn y rhai hyn trwy esgeuluso 'r llall.
Yn amser cystudd a Thrallod.29. Heblaw 'r amserau pennodol hyn, y mae hefyd amserau damweiniol i gwplhau'r Ddled-swydd hon, y cyfryw rai yn enwedig yw Amserau cystudd a Thrallod; canys pan ddychwelor cyfryw i ni, ni a ddylen edrych arno megys [Page 133] cennad gwedi i anfon o'r néf i'n galw ni i'r Ddled-swydd hon, ac am hynny gwiliwn un amser ei hesceuluso hi pan i'n rhybuddir fal hyn i'w chwplhau hi, rhag i ni fód o nifer y rhai a ddirmyga Gospedigaethau'r Arglwydd, Heb. 12.5.
30. Y mae etto amser arall o Edifeirwch, Ar amser marwolaeth. yr hwn yn ymarfer dynion a aeth ar fuddugoliaeth ar y lleill i gyd, ac hwnnw yw amser marwolaeth, yr hwn, gwir yw, sydd yn amser trachymwys i adnewyddu ein Hedifeirwch, nid iw ddechreu ef; canys ynfydrwydd tra-gresynol yw ei oedi ef tan hynny. Oblegid i ddywedyd y goreu am hynny, y mae ûn trwy hyn yn peryglu ei Enaid ar y fáth betrusder resynol ar na feiddie gŵr synhwyrol ymddiried y pêth gwaelaf arno. Canys yn gyntaf, mi a chwennychwn ofyn i ryw ûn sydd yn bwriadu edifarhau ar amser Marwolaeth, pa fodd y gŵyr ef y ceiff fo awr o amser i hynny? Onid ydeni beunydd yn gweled cippio ymmaith rhai dynion mewn munydyn? A phwy a all ddywedyd nad hynny a sydd ei gyflwr ei hun? Ond yn ail, bwriwch iddo gael marwolaeth mwy arafaidd, sef, i ryw ddolur ei. rybuddio fo fód Angeu yn nessau, etto ysgatfydd ni ddealla ef mor rhybudd hwnnw, eithr parhau i'w wenheithio ei hun trwy obaith o fywyd hyd y diwedd, fal y gwná rhai cleifion yn dra-mynych: ac felly fe all ei farwolaeth ef sód yn ddisymmwth iddo, er iddo ddyfod trwy raddau araf iawn. Ond trachefn, yn drydydd, os efe a ddirnad ei Berigl, etto pa fódd y mae ef yn siccr y dichon ef y prŷd hynny edifarhau? Rhódd rasol Duw yw Edifeirwch, nid wrth ein harchiad ni; ac y mae 'n gyfiawn ac yn arferol [Page 134] gyda Duw, gwedi i Ddynion yn hîr o amser wrthod a dirmygu y Grâs hwnnw, wrthwynebu ei holl alwad a'i wahoddiadau ef i Edifeirwch a Gwellháad buchedd, ei rhoddi nhw i fynu o'r diwedd i galedwch ei Calonnau ei hunain, heb ganiadhau iddinhw ddim anghwaneg o'r Grâs hwnnw a ddirmygason'hw cyhyd. Etto bwriwch, yn bedwerydd, i Dduw o'i anfeidrol ammynedd barhau etto i gynnyg i ti y Grás hwnnw, etto fe ddarfu i ti ei wrthwynebu ef ysgatfydd ddég ar hugain, deugain, neu ddengmhlynedd a deugain o'r ûn tû, pa fódd y gwyddosti y gelli di fwrw heibio yn ddisymmwth y ddull arferol honno o wrthwynebiad, a gwneuthur Defnydd o'r Grâs a gynnygir iti? Y mae'n siccr fód genniti lawer mwy o achlysur tu ag at wneuthur hynny yr awrhon nag a fydd genniti y prŷd hynny.
31. Canys yn gyntaf, po hwyaf y cadwodd pechod feddiant yn dy galon di, annhawsach a fydd ei fwrw ef allan. Gwir yw, pe bydde Edifeirwch ddim ond gorphwys presennol oddiwrth weithredu pechod, y Clâf-wely a fydde gymhwysaf i hynny, canys yr amser hynny nid ydyni yn abl i weithredu y rhan fwyaf o Bechodau; ond mi a ddangosais i chwi o'r blaen fód Edifeirwch yn cynnwys llawer mwy na hynny, rhaid yw bód ynthi hi gassineb di-ragrithiol o bechod, a chariad o Dduw. Yn awr pa gyffelybrwydd sydd iddo ef, yr hwn yn ei holl fywyd oedd yn caru pechod, yn ei gyfleiddio ef yn ei fynwes, ac yn y gwrthwyneb oedd yn llwyr-gashau Duw a daioni, newid yn ddisymmwth ei anwydau, a chashau 'r pechod hwnnw [Page 135] yr oedd ef yn ei garu a charu Duw a daioni, y rhai yr oedd ef o'r blaen yn hollawl yn ei gashau?
32. Ac yn ail fe fydde y penydau Corphorawl ar dy gláf-wely yn dy rwystro di ac yn dy wneuthur yn anghymmwys iawn i'r weithred o Edifeirwch, yr hon sydd yn béth mor bwysfawr ac anhawdd, ác y gesyd hi dy holl nerth a'th egni di ar waith, ië pan fóch di gryfaf ac iachaf.
33. Ystyria y rhwystrau hynny a pha rai y bydd raid i ti ymdrechu yr amser hwnnw, ac yna dywed i mi pa obaith sydd y gwnei di y pryd hynny y peth ni wnei di yr awrhon pan yw hawsach o lawer iti. Ond yn drydydd, y mae perigl etto yn ól tu hwynt i'r rhain i gyd, sef na bydd yr Edifeirwch hwnnw i ba ûn y llithia Angeu di yn wir Edifeirweh; canys y mae 'n eglur yn y cyflwr hwnnw mae ofn Ʋffern yn unic sydd yn dy osod ti ar waith, yr hyn er ei fod yn ddechreuad da, lle y byddo amser ar ôl hynny i'w berffeithio ef, etto lle ni bo ond hynny yn unic ni thyccia fo byth er Jechydwriaeth. Yn awr y mae 'n rhy debyg mae o'r cyfryw fáth yn unic, gan mynychaf, ydyw yr Edifeirwch diweddar ymma ar y cláf-wely, os ystyrir, fôd llawer o ddynion a gymmerasant arnynt Edifarhau, pan oeddynt yn tybied ei bôd yn agos at angeu, y rhai gwedi i Dduw weled yn dda ei hadferu nhw drachefn i'w Hiechyd, fuant cynddrwg, ysgatfydd yn waeth nag erioed o'r blaen; yr hyn sydd yn dangos yn eglur nad oedd ynddynt ddim gwir gyfnewidiad, ac yna yn ddiammeu pe buse 'r cyfryw ûn farw yn yr Edifeirwch [Page 136] ragrithiol hwnnw, ni buasei Duw, yr hwn sydd yn chwilio yr galon, yn derbyn y cyfryw Edifeirwch amherffaith. Pan osodir y peryglon hyn i gyd yn yr ûnlle, fe ymddengys yn eglur mae Rhyfyg tra-gresynol yw i un dyn ymddiried i Edifeirwch Clâf-wely. Ac nid yw hi ychwaith ddim llai er siampl y Leidr Edifeiriol ar y Groes, Luc. 23.43. yr hyn y mae llawer cymmaint yn hyderu arno. Oblegid diammeu yw fód ei gyflwr ef a'n heiddo ni yn rhagori yn ddirfawr; ni chlywsei ef erioed son am Grist o'r blaen, ac felly nid ellid disgwyl dim ychwaneg gantho ef na'i gyfleidio ef cyn gynted ac y cynnygwyd ef iddo: ond fe 'i cynnygwyd ef i ni, ië ac fe fued yn daer arnoni o'n mebyd am ei dderbyn ef, ac etto nyni a'i gwrthodasom ef. Ond pe bae y Rhagoriaeth ymma heb fód, nid yw hi ond gobaith egwan yr hon a adeiledir ar ûn esampl yn unig, ac ni welwn ni yr ûn arall yn yr holl Scrythrl ân. Yr ydyni yn darllen fód yr Israeliaid yn cael ei porthi a Manna, o'r néf, etto oni welwchwi fo'n ynfyd iawn, yr hwn trwy ddisgwyl y cyffelyb peth, a esgeulusei baratoi ymborth iddo i hûn? Etto y mae 'n gwbl mor rhesymmol hyderu ar y naill Esampl ac ar y llall. Mi ddibendaf y cwbl a geiriau 'r gŵr Doeth, Preg. 12.1. Cofia dy Greawdr yn nyddiau dy Ieuengtid cyn dyfod y dyddiau drŵg arnat ti.
Ympryd.34. At y Ddledswydd ymma o Edifeirwch fe fydd yn gymmwys iawn gyssylltu Ympryd. Y mae 'r Scrythur yn fynych yn ei cwplhysu nhw ynghyd; Ymysg yr Iddewon yr oedd rhaid cadw'r dydd mawr o iawn gyda'g Ympryd, fal y mae i weled wrth gyffelybu, Levit. 16.31. ac [Page 137] Isai. 58.5. a hyn trwy gyhoeddus Orchymyn Duw i hún. Ac yn y Prophwydi pan elwir ar y Bobl i Eddifarhau, ac i'w hymddarostwng ei hunain, fe elwir hefyd arnynt hwy i Ymprydio. Fal hyn y mae, Joel, 2.12. Am hyuny yr awr hon medd yr Arglwydd, dychwelwch attafi a' ch holl galon, mewn Ympryd, ac wewn wylofain, &c. Iè mor briodol y cyfrifid Ympryd i Ddarostyngeiddrwydd, a bó Ahab ddrŵg yn ei harferu hi yn ei Ymddarostyngiad ef, Bren. 21.27. A'r Ninifeaid Digred yn ei Hedifeirwch hwythau. Jonah, 3.5. Nag ydyw hi lai cymmwys na llai cymmeradwy er amser Crist, nag o'r blaen. Oblegid ni a welwn ei fôd ef yn ei bwriadu hi yn Ddled-swydd weithian i'w chwplhau, pan yw ef yn rhoddi cyfarwyddiad i ochelyd gwâg Orfoledd ynthi hi, Math, 6.6. Ac y mae efe hefyd yn ein siccrhau ni os cwplheir hi fal y dylid, nid i foddhau Dynion ond Duw, y caiff hi yn ddiammeu ei gwobru gantho ef. Ac felly y gwelwn ni fód y Seinctiau yn ei harferu hi. Yr oedd Anna Luc. 2.37. yn gwasanaethu Duw mewn Ympryd a Gweddi: lle y mae i'w nodi, ei bôd hi yn cael ei chyfrif megys gwasanaeth i Dduw yn gymmwys i'w chyssylltu gydá Gweddi. Ac yr oedd y Prif Gristianogion gynt yn gyffredinol yn arferu Ympryd yn fynych. Yn awr er bôd Ympryd yn bendifaddeu yn berthynasol i amser o ymddarostwngeiddrwydd, etto nid ydyw hi felly gwedi i hattal, na ddichon hi fôd yn gyfaddas pa brŷd bynnag y bo gennini ryw beth rhagorol, i'w erfyn gan Dduw. Fal hyn pan ydoedd Esther yn ymegnio ymwared i'w phobl rhag dinistr, fe gadwodd hi a'r holl Iddewon ympryd cyhoeddus, Est. 4.16. Fal hyn hefyd pan ydoedd Paul a [Page 130] [...] [Page 131] [...] [Page 138] Barnabas i'w Hurddo yn Apostolion, yr oedd Ympryd gwedi i gyssylltu at Weddi, Act. 13.3. Ac felly y bydd yn dra-chymmwys i ninnau, pabrŷd bynnag y bo arnoni efieu rhyw gyfarwyddiad ragorol, neu gymmorth gan Dduw, naill ai ynghylch ein perthynasau amserol neu Ysprydol, fal hyn gynnhyrfu ein Gweddiau trwy Ympryd. Ond uchlaw pób Achosion, fe ofyn amser ymddarost yngeiddrwydd hynn y ar ein dwylo ni, canys heb law 'r achlysur o gynneu ein Zél ni, yr hyn nid ydyw ún amser mor angenrheidiol a phan foni yn gweddio am Faddeuant pechodau, y mae Ympryd yn cynnwys ynddi hi beth dial, yr hyn a gyfrifir megys yn rhan enwidegol o Edifeirwch, 2 Cor. 7.11. Canys trwy naccau i'n cyrph ein hymborth arferedig, yr ydyni yn gosod Gospedigaeth arnoni ein hunain am ein gormodedd o'r blaen, neu am ba Bechodau bynnag eraill yr ydyni y prýd hynny yn ein eyhuddo ein hunain o'i plegid, yr hyn yw ffrwyth briodol y digllonrhwydd hwnnw a ddyle fód gan bob pechadur yn ei erbyn ei hun. Ac yn wir y mae 'r neb sydd mor dyner o hono i hûn, ac na chlyw fo un amser ar ei galon omeddu prŷd o fywyd, mewn módd o Gospedigaeth am ei feiau, yn dangos nad ydyw ef gwedi syrthio allan fawr ac efó i hun, am ei gwneuthur hwynt, ac felly y mae fo 'n ddiffygiol o'r digllonrhwydd hwnnw yr hwn y mae yr Apostol yn y Testyn rhagddywededig yn i wneuthur yn rhan o wir Edifeirwch.
35. Nid oes ammeu nad ydyw 'r cyfryw ddial Sanctaidd arnoni ein hunain am ein pechodau yn gymmeradwy iawn gan Dduw; Er hynny gwiliwn [Page 139] dybied y dichon hyn, na dim arall ar a wneloni, wneuthur iawn am ein camweddau ni, canys nid oes dim ond Gwaed Grist a ddichon hynny. Ac am hynny ar hwnnw yn unic, ac nid ar yr un o'n gweithredoedd ein hunain mae i ni hyderu am faddeuant. Etto gan na chaiff nêb y búdd o'r gwaed hwnnw ond pechaduriaid edifeiriol, y mae 'n gymmaint yn sefyll arnoni ddwyn allan holl ffrwythau o Edifeirwch, a phe bae ein Gobaith ni yn sefyll arnynt hwy yn unic.
36. Amserau o Ymprydio. Nid ydyw'r Sorythur yn un lle yn ein cyfarwyddo ni fynyched y bydd rhaid i ni gwplhau'r Dledswydd hon o Ympryd. Rhaid ydyw trefnu hynny gan Dduwioldeb dynion, yn ôl fal y bo ei Iechyd neu Achosion eraill yn rhoddi cennad. Ond megys ac y mae mewn ymddarostyngeiddrwydd, po mynychaf y gosodoni amser neillduol iddo, goreu yw; felly hefyd y mae mewn Ympryd, po mynychaf, goreu, trwy na bo hynny yn niweidiol i'n Hiechyd ni, neu i ryw Ddledswydd arall a ofynnir gennin i. Ie, ysgatfydd, fe all Ympryd helpio rhai dynion i ychwaneg o'r amserau hynny o Ddarostyngeiddrwydd, nag a ennillenhw oni bae hynny: oblegid fôd rhai ysgatfydd, nad allant, heb rwystr ddirfawr i'w Galwedigaeth, osod heibio Ddydd cyfan i'r gorchwyl hwnnw, etto fe all y cyfryw ûn o'r lleiaf osod hebio yr amser hwnnw a dreulia fe yn Bwyta: Ac felly fe fydd Ympryd ddwy ffordd yn fuddiol tu ag at Ymddarostyngiad y cyfryw ûn, yn gystal trwy ei gynnorthwyo fo yn y Dleddswydd, a thrwy ennill iddo ef Amser i'w chwplhau hi.
[Page 140] Yr ail gaingc o'n Dlêdswydd i Dduw.37. Mi a dreiddiais bellach y rhan gyntaf o'n Ddledswydd i Dduw, sef, ei gydnabod ef i fód yn Dduw. yr ail yw na bo i ni gymmeryd yr ún arall. Am ba un nid rhaid i ni ddywedyd fawr, megys ac y mae 'n waharddiad o'r fáth waethaf hynny o Eulyn-addoliaeth Baganaidd, addoli delwau yr hyn er ei fód unwaith yn gyffredinol yn y bŷd, etto sydd yr awrhon mor anaml, nad ydyw gyffelyb y bydd néb a ddarllenno 'r Llyfr hwn yn euog o hono. Yn unic rhaid i ni ddywedyd, fód talu Addoliant perthynol i Dduw, i un Creadur, bydded yn Sainct neu Angel, iê neu Ddelw Crist i hûn, en drosseddiad o'r ail rhan ymma o'n Dled-swydd i Dduw, gan fôd hynny yn rhoddi cyfran i'r Creadur o'r peth sydd yn unic yn ddledus i Dduw, ac am hyny fe ddylid yn llwyr-ddwys ymwrthod ac ef.
Eulyn-addoliaeth oddifewn.38. Ond y mae máth arall o Eulyn-Addoliaeth, o ba ún yr ydyni oll yn gyffredinol yn euog, sef, pan foni yn talu yr ún o'r anwydau hynny o Gariad, Ofn, Hyder, a'r cyffelyb i ún Creadur mewn Grâdd uwch nag i Dduw: canys nid yw hynny ddim llai na gosod i fynu hwnnw, pa beth bynnag a fytho, yn Dduw i ni. Ac y mae'r fath ymma o Eulyn-addoliaeth oddifewn yn annog Duw i eiddigedd yn gystal ac Addoli Delw oddiallan, Mi a allwn ehangi llawer ar hyn, ond oblegid i mi grybwyll am amryw rai o honynt yn y Traethawd o'r blaen, yr wyfi 'n meddwl nad yw hynny angenrheidiol; mi a áf ymlaen gan hynny yr awrhon at yr ail Pwngc o Ddled-swydd, sef ein Dlêd tu ag attom ein Hunain.
DOSPARTHIAD,
VI.
Dledswydd i ni ein Hunain; am Sobrwydd; Gostyngeiddrwydd; y Pechod mawr o Falchder; am wâg-Ogoniant, a'i Berigl, a'i Ffoledd; y modddion i'w ochelyd ef: am Addswynder, &c.
1. Dledswydd tu ag attom ein Hunain. YDdledswydd hon tu ag attom ein Hunain a grynhoir gan St. Paul Tit. 2.12. Yn yr ûn Gair hwn [yn sobr] trwy ba Air deallir ein cadw ein Hunain, o fewn y Terfynau dledus hynny y rhai a osododd Duw i ni Fy mwriad i gan hynny a fydd traethu i chwi beth yw'r rhannau neillduol o'r Sobrwydd hwn, a hynny yn gyntaf, Oblegid yr Enaid; yn ail oblegid y Corph: Y mae sobrwydd yr Enaid yn sefyll mewn iawn lywodraethiad ei Anwydau a'i Affeithiau ef, ac i'r diben hwn y mae amryw Rinweddau yn angenrheidol. Mi a'i dangosaf nhw ymma i chwi yn neillduol.
2. Gostyngeiddrwydd. Y cyntaf o honynt hwy yw Gostyngeiddrwydd yr hon a haedda yn dda y lle cyntaf nid yn unic oblegid godidogrwydd y Rhinwedd, ond hefyd oblegid mor ddefnyddiol ydyw hi tu ag at ddyfod i hyd i'r lleill i gyd: gan fód hon yn [Page 142] Sylfaen ar ba ún y bydd raid adeiladu yr holl rai eraill. A'r neb a obeithio ei hennill hwynt heb hon a fydd tebyg i'r Adeiladwr ffól ynfyd hwnnw y mae Crist yn fôn am dano, Luc. 6.49. Tr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod. Am Ostyngeiddrwydd tu ag at Dduw mi a draethais yn barod, ac a ddangosais mor angenrheidiol ydoedd. Rhaid i mi 'r awrhon draethu am Ostyngeiddrwydd megys ac y mae 'n perthyn i ni ein hunain, yr hon a geir ei weled i fod mor angenrheidiol ar llall.
3. Y mae 'r Ostyngeiddrwydd ymma o ddau fáth, y cyntaf yw bód gennini dyb isel a gwael o honom ein hunain, yr ail yw bodloni i eraill hefyd feddwl felly am danoni. Y cyntaf sydd wrthwyneb i Falchder, a'r llall i wâg-orfoledd. Y mae yn y mrŷd i ddangos i chwi yr awrhon fód pób ûn, o'r rhain yn gwbl angenrheidiol i Gristianogion; yr hyn, yr wy 'n meddwl, a wneir oreu trwy osod o'ch blaen chwi yn gyntaf, y pechod, yn ail y Perigl, yn drydydd y beiau gwrthwyneb iddynt.
Y pechod mawr o Falchder.4. Ac yn gyntaf, am Falchder; y mae fo 'n Bechod cymmaint ac y taflodd ef yr Angylion allan o'r nef; ac am hynny os gallwn ni farnu o Bechod wrth y gospedigaeth, nid oedd ef yn unic y cyntaf ond y pechod mwyaf y bu Diafol i hun erioed yn euog o honaw. Ond nid rhaid i ni wrth well profedigaeth o'i echryslonrh wydd ef na dirfawr gassineb Duw tu ag atto ef, yr hyn (heb law'r Esampl o gospi 'r Cythrel) a welwn ni yn fynych yn y Scrythyrau, Dihar. 16.5. ffiaidd gan yr Arglwydd bób dyn uchel galon. A [Page 143] thrachefn, Pen. 6.16. lle y crybwyllir am amryw bethau sydd ffiaidd gan yr Arglwydd, a llygaid beilchion a osodir yn gyntaf o honynt: felly Jac. 4.6. Duw sydd yn gwrthwynebu 'r Beilchion; ac amryw fannau eraill sydd i'r unrhyw bwrpas, y rhai sydd yn dangos yr atgasrwydd mawr sydd gan Dduw i'r pechod hwn o Falchder. Yn awr gan mae siccr yw, nad yw Duw yr hwn sydd gwbl ddaioni, yn cashau dim ond fal y mae ef yn ddrŵg, eglur yw, mae lle y mae Duw yn cashau mewn mesur cymmaint, fód yno fesur mawr iawn o Ddrygioni.
5. Ond yn ail, Y Perigl. nid ydyw Balchder yn unic yn dra-phechadurus, ond yn Beryglus iawn hefyd; a hynny yn gyntaf, oblegid ein denu ni i Bechodau eraill; yn ail, ein bradychu ni i boenau. Yn gyntaf, y mae Balchder yn ein denu ni i bechodau eraill, ymmha beth y mae yn ei ddangos i hún yn uniawn yngwrthwyneb i Ostyngeiddrwydd; canys megys ac y mae hwnnw yn Wreiddin pób Rhinwedd felly y mae hwn o bôb Drŵg. Oblegid y mae 'r Balch yn ei osod ei hun i fynu, megys yn Dduw iddo i hun. Y mae 'r annuwiol medd y Psalmydd, mor falch nad yw ef yn meddwl am Dduw, Psal. 10.4. lle y gwelwch chwi mae ei Falchder efsydd yn gwneuthur iddo ddirmygu Duw. A chwedi i ddyn ddyfod unwaith i hynny y mae fo'n barod i wneuthur pób rhyw Bechod. Mi a allwn adrodd i chwi liaws o bechodau neillduol sydd yn naturiol yn tarddu allan o'r Pechod hwn o Falchder; megys yn gyntaf, Llid, yr hwn y mae'r Gŵr Doeth yn ei osod ar lawr megys ffrwyth Balchder, Dihar. 21.24. gan ei alw ef Digllondeb [Page 144] balch; yn ail cynnen ac ymryson, yr hyn y mac efe hefyd yn ei nodi i fod yn heppil Balchder, Dihar. 13.10. Trwy Falchder yn unic y cyffrû cynnen. Ac yn wir y mae'r ddau hyn yn ffrwythau Naturiol o Falchder: canys y mae'r neb sydd yn tybied yn dra-uchel o hono 'i hun yn disgwyl llawer o Ostyngeiddrwydd ac Anrhydedd gan rai eraill, ac am hynny ni fedr ond ymgynddeiriogi a chwerylu pa brŷd bynnag y tybia fo nad yw efo 'n cael digon o barch. Fe fydde annherfynol i mi draethu am holl ffrwythau 'r gwreiddyn chwerw hwn: ni henwa'i ond ún ychwaneg, sef nad yw Balchder yn unic ein bradychu ni i lawer o bechodau, ond hefyd yn ei gwneuthur hwynt yn anfeddiginiaethol ynom ni, canys y mae 'n rhwystro gweithrediad pób cymmorth a diwygiad.
6. Rhaid yw i'r meddiginiaethau hynny ddyfod naill ai oddiwrth Dduw, neu Ddŷn; os oddiwrth Dduw, rhaid iddynt hwy fod naill ai mewn módd o Laryeidd-dra ac addfwynder, neu ynteu o yscymmundra a chospedigaeth. Yn awr os bwriada Duw trwy ei ddaioni ddenu dŷn balch i Edifeirwch, y mae ef yn hollawl yn camgymmeryd meddwl Duw, ac yn tybied nad yw 'r holl Drugareddau y mae ef yn ei dderbyn ond gwobr ei haeddedigaeth ei hùn, a thra 'i parháo ef felly siccr yw na thybia fo bŷth fód arno ef eisieu Edifeirwch. Ond os Duw o'r tu arall a'i harfera ef yn arwach ac a esyd drallodau a chospedigaethau arno ef, ni weithia' rhai hynny mewn Calon falch ond gwrwgnach a chassineb o Dduw, megys pe bae ef yn gwneuthur ac efo gam yn y Cospedigaethau hynny. Am y meddiginiaethau [Page 145] a ellir ei harferu gan ddynion, rhaid iddynt hwythau hefyd fòd naill ai mewn môdd o Gerydd neu o Gyngor; ac yn ddiammeu ni weithia ceryddon oddiwrth ddynion ddim mwy ar galon falch, nag y gwná y rhai hynny gan Dduw, canys y néb a ddichon dybied fod Duw yn anghyfiawn ynddynt hwy, a greda hynny yn fwy o lawer gan ddŷn. Ac fe a wná cynghorion hefyd cyn lleied. Canys er mor llaryaidd a chariadus yr argyoeddir gŵr balch, efe a edrych ar hynny megys yn ddirmyg: ac am hynny yn lle cyffessu neu ddiwygio ei fai, efe a syrth ar enllibio ei argyoeddwr megys dŷn rhodresgar, neu farnus, ac am y weithred werthfawr ragorol honno o addfwynder, a edrych arno ef megys gelyn. Ac y mae 'n rhaid i'r neb a fo fal hyn mor gyndyn yn gwrthwynebu pób moddion o Feddiginiaeth, fód mewn cyflwr tra-pheryglus.
7. Ond heb law'r perigl hwn o bechod mi a ddywedais i chwi fod ún arall hefyd o gospedigaeth; ac nid rhaid fawr boen i brofi hyn pan Ystyrir fód Duw yn elyn cyhoedd i'r dŷn balch, a'i fód ef yn ei gashau ac yn ei wrthwynebu ef, megys ac y mae 'n eglur yn y mannau rhagddywededig: Ac yna yn ddiammeu rhaid yw i'r neb sydd gantho elyn mor alluog fód yn siwr o ofidio yn ddirfawr am hynny. Etto heb law'r rheswm cyffredinol hwn, fe fydd yn gymwys ddodi ar lawr rai o'r lleoedd hynny yn neillduol y sydd yn bygwth y pechod hwn, megys Dihar. 16.18. Balchder sydd yn myned o flaen dinistr, ac uchelder yspryd o flaen cwymp. Trachefn, Dihar. 16.6. ffiaidd gan yr Arglwydd bôb dyn uchelgalon: er maint fydd ei gymmorth, ni bydd efe [Page 146] dieuog. Y mae 'r ordinháad gan hynny yn anghyfnewidiol, mae ofer yw'r holl foddion a arferir i gadw'r balch, canys ni bydd efe dieuog. Ac y mae hyn yn hynod iawn yn histori Nebuchadon [...]sor, Dan. 4. Yr hwn er ei fód yn Frenin mwyaf yn y bŷd, etto a yrrwyd am ei Falchder oddiwrth ddynion, i gyfanneddu, ac i ymborthi gydá bwy [...]tfilod. Ac fe a welir yn fynych, fód y pechod hwn yn cyffwrdd a barnedigaethau tra-echryslon, ie yn y bŷd hwn. Ond os hynny ni ddychwelei, na thybied y dyn balch iddo ddiangc dial Duw, canys diammeu yw y bydd cyfrif gresynol yn y bŷd a ddaw; oblegid os ni arbedodd Duw yr Angylion am y pechod hwn, eithr ei taflu nhw i Uffern, na edryched neb arall am ddiangc yn well.
Y Ffoledd8. Yn drydydd mi a ddangosaf i chwi ddirfawr ffoledd y pechod hwn; ac er mwyn hyn fe fydd angenrheidiol ystyried yr amryw bethau y bydd dynion arferol o fód yn falch o honynt; y rhai ydynt o dri máth, naill ai 'r rhai yr ydyni yn ei alw yn Ddâ natur, neu Ddâ cyfceth, neu Dda Grâs.
Da natur.9. Trwy Ddâ natur yr wyf yn meddwl Wyneb pryd, Nerth, Synwyr, a'r cyffelyb, ac ynfyd wydd dirfawr yw bód yn falch o'r ûn o'r rhain: canys yn gyntaf yr ydyni yn barod iawn i gamgymmeryd, ac i'n tybio ein hunain yn hawddgar neu yn Synhwyrol pan na boni, ac yna nid all bód mwy ffoledd na bód yn falch o'r péth nid oes gennim ni; ac fal hyn y tybia pób dŷn mewn ûn arall, er nad yw ef yn meddwl felly yn ei gyflwr ei hun, ac felly nid yw ef ún amser [Page 147] yn dirnad hynny yntho'i hún. Ac am hynny nid oes dim yn fwy dirmygus ymysg dynion na Flwl Balch; etto nid oes neb y sydd gantho dŷb uchel o'i Synwyr i hun nad yw yn debyg i gael fal hyn ei Siommi, gan y dyle ddŷn hyderu leiaf i'w farn ei hun am dano' i hun. Ond yn ail, bwriwch i ni farnu yn uniawn, etto pa beth sydd yn yr ún o'r holl gynneddfau naturiol hyn a dâl bód yn falch o'i plegid, gan nad oes nemmawr o honynt nad ydynt mewn rhyw greadur neu 'i gilydd mewn grâdd fwy na mewn dŷn? Pa faint y mae gwynder y Lili, a chochder y Rhosyn yn rhagori ar wyn a chóch y wynebpryd glanaf? Pa nifer o Greaduriaid sydd yn myned tu hwynt o lawer i ddŷn mewn nerth a chyflymder? Ac y mae amryw rai eraill y rhai cymmhelled ac y perthyn i ryw ddiben defnyddiol iddynt ei hunain, sydd yn gweithredu yn llawer synhwyrolach na'r rhan fwyaf o honom ni; ac am hynny a osodir i lawr yn fynych yn y Scrythur megys yn Esampl i ni. Y mae gan hynny yn anrhesymmol iawn i ni dybied yn uchel o honom ein hunain am y cyfryw bethau ac sydd yn gyffredinol i ni ac i fwystfwylod a phlannhigyn. Ond yn drydydd pe byddent hwy mor rhagorol ac yr ym ni yn ei ffansio hwynt, etto nid ydynt yn barhaus, eithr yn ddarfodedig ac yn golledig trwy amryw foddion; Cynddaredd a ddinistria 'r Synwyr godidoccaf; Clefyd a lygra 'r wynebpryd glánaf, a'r cryfder mwyaf, neu pa un bynnag fe wná henaint y cwbl. Ac am hynny o herwydd hyn hefyd ynfydrwydd ydyw ymfalchió o honynt. Ond yn ddiweddaf, pa beth bynnag ydynt, ni roesoni mo honynt hwy i ni ein hunain. Nid all néb dybied ddarfod iddo ef wneuthur [Page 148] dim tu ag at achosio ei wynebpryd, neu 'i Synwyr naturiol ei hun, ac felly nid all ef mewn Rheswm roi bri arno ef ei hún am danynt.
Dá Ffortun.10. Y ail y mae'n gymmaint ynfydrwydd ymfalchio o ran Dâ Ffortun; megys Golud, Anrhydedd, a'r cyffelyb; canys diammeu yw nad ydyw y rhai hyn yn adroddi dim at wîr Odidowgrwydd dŷn, nhw a allan ei helpu fo i beth rhwysg ac ardderchowgrwydd oddiallan, ond nid yw hynny yn gwneuthur cyfuewidiad yn y byd yn y dŷn. Chwi a ellwch lwytho Assyn ac arian, neu 'i harddu ef ac Addurnau gwerthfawr, etto ni wnewch chwi mo hono ef ddim yn fáth anrhydeddusach o anifail trwy yr ûn o'r rhain. Trachefn, yn ail, y mae y rhain yn bethau nad oes gennini ddim siccrwydd o honynt, y maent hwy yn diflannu yn ddisymmwth; fe all ún a fo yn gyfoethog heddyw fód yn dlawd y foru, ac yna po bal chaf yr oedd ef pan ydoedd yn oludog, lleiaf o dosturi a fydd gan bawb iddo ef yn ei dlodi. Yn drydydd nid ydyw'r cwbl gennini ond megys gan Oruchwil-wyr i'w gosod allan i elw ein Meistr; ni a ddylen gan hynny yn hyttrach feddwl, pa fódd i wneuthur ein cyfrifon, nag ymffrostio o'r pethau yr ydyni yn ei dderbyn. Yn ddiweddaf pa beth bynnag o'r rhain sydd gennini, nid ydynt hwy yn ddledus, mwy na'r lleill, i ni ein hunain: oblegid os cafwyd hwynt yn gyfreithlon, yr ddyni yn rhwymedig am danynt i Dduw yn unic, Bendith pwy ún sydd yn cyfoethogi, Dihar. 10.22. Os yn anghyfrethlon, yr ydyni yn ei perchennogi nhw ar y cyfryw dermau, nad oes i ni ond achos [Page 149] fechan i ymffrostio o honynt. Ac fal hyn y gwelwch chwi yn ar amryw ffyrdd hyn Ffoledd yr ail fáth ymma o Falchder.
11. Y drydydd fáth yw oblegid Dá Grâs, Dâ Grâs. hynny yw, rhyw rhinwedd a fo gan ddŷn. Ac ymma nid alla 'i ddywedyd nad yw'r pethau yn werthfawr iawn gan i bód yn odidoccach o aneirif na'r holl fŷd, er hynny i gyd y mae hwn yn fwy ynfydrwydd na'r lleill i gyd: a hynny nid yn unic o herwydd y Rhesymmau o'r blaen, nad ydynt hwy yn dyfod trwom ein hunain (oblegid y mae Duw ei hûn uchlaw pób péth yn gweithredu grâs ynom ni;) ond yn enwedig yn hyn, mae bód yn falch o Râs yw'r ffordd siccr i'w golli ef. Duw, yr hwn sydd yn rhoddi Grâs i'r Gostyngedig, a'i dwg ef ymmaith oddiar y balch. Canys os dygwyd y dalent oddiarno ef fal y gwelwn ni yn y ddammeg, Math. 25.28. yr hwn yn unic ni roddes mo honi allan yn llóg, pa fódd y disgwyl ef i mwynhau hi rhag llaw yr hwn a'i harferodd hi cyn-ddrŵg, ac yn lle marchnatta a hi tros Dduw, a farsiandiodd a hi tros Satan? Ac megys ac y cyll ef y Grâs rhag llaw, felly y cyll ef yr holl w [...]br o honi hi am yr amser a bassiodd. Canys er maint o weithredoedd dâ a wnaeth dŷn, etto os efe a fydd Balch o honynt, fe gyfrifir y balchder hwnnw iddo ef i'w ddinistr, ond ni chofir byth mor daioni er gwobr iddo. Ac y mae hyn yn yn dangos mae ffoledd tra-echryslon yw ymfalchió o Râs. Y mae 'n debyg i blant y rhai a dynnan yn dippian y pethau a fo mwyaf hôff ganddynt, ond yn waeth o lawer na hynny, canys nid ydyni yn unic yn colli 'r peth (a hynny [Page 150] yn beth gwerthfawroccaf yn y bŷd) ond rhaid i ni hefyd gael ein Cospi'n dragywydd am wneuthur felly, gan nad oes dim y bydd cyfrif tostach am dano yn y bŷd a ddaw, nag am gam-arferu Grâs, ac yn ddiammeu nid all bôd mwy camarfer o hono na'i wneuthur ef i wasanaethu i ddiben mor hollawl yn wrthwynebus i hwnnw er mwyn pa ûn y rhoddwyd ef, canys fe'i rhoddwyd ef i'n gwneuthur ni yn ostyngedig, nid yn falch; i fawrygu Duw, nid ni ein hunain.
Moddion o Ossyngeiddrwydd.12. Yn awr gan ddarfod i mi ddangos i chwi gymmaint am y Pechod hwn, yr wyf yn meddwl yr ymddengys fôd yn dra-angenrheidiol ei ochelyd ef; ac er mwyn hynny fe fydd yn fuddiol, yn gyntaf, ystyried pa béth a draethwyd yn barod am dano ef, a hynny mor ddifrifol ac i weithredu ynom ni nid yn unic rhyw anfodlonrhwydd ysgoewan iddo, eithr casineb dirfawr annhyhuddol o'r pechod: yn ail, bod yn wiliad wrus iawn ar dy galon rhag iddi achlesu ûn dechreuad o hono; a gochelyd ûn amser gynnwys i' th ffansi fyfyrio ar dy haeddedigaeth dy hûn; ond pa brŷd bynnag y cyfyd y cyfryw feddwl ynoti, cura ef i lawr yn ebrwydd, trwy gôffhau rhai o'th ffoledd, a'th Bechodau o'r blaen, ac felly y gwna 'r cynnhyrfiad ymma i Falchder, yn achlysur o Ostyngeiddrwydd. Yn drydydd, na chystadla mo honot dy hûn ûn ams [...]r a'r rhai y tybioch di ei bod yn ffolach neu yn annuwiolach na thi dy hun, môdd y galloch di fâl y Pharisaead, Luc. 18.11. dy fawrygu dy hún am fód yn well; eithr os chwennychi di ymgystadlu, gwna hynny a 'r Doeth ac a'r Duwiol, ac yna y cei di weled dy [Page 151] fôd cymmhelled or ôl, ac y bydd iti achos i'th ymddarostwng dy hun, ac i dynnu i lawr y tebygoliaeth uchel honno o honot dy hûn. Yn ddiweddaf, Bydd ddifrifol iawn mewn Gweddi, ar fôd i Dduw ddiwreiddio allan pôb grâdd o'r Pechod hwn ynoti, a'th wneuthur di yn ûn o'r rhai Tlodion hynny yn yr Yspryd, Math. 5.3. i ba rai yr adde wir y fendith o Deyrnas nêf ei hùn.
13. Gwagorfoledd. Yr ail péth gwrthwynebus i Ostyngeiddrwydd mi a ddywedais i chwi oedd Gwag-orfoledd; hynny yw, syched dirfawr am Glód gan ddynion. Ac yn gyntaf nid rhaid i mi ddim pellach i brofi fôd hwn yn Bechod na geiriau ein Hiachawdr ei hûn, Jo. 5.44. Pa fód y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan ei gilydd? lle y mae 'n eglur nad y dyw ef yn unic yn bechod, Y Pechod. eithr yn gyfryw un ac sydd yn rhwystro derbyn Crîst i'r galon, canys felly y mae credu yno yn arwyddoccáu. Y mae hyn gan hynny yn yr ail man yn dangos i chwi hefyd Enbydrwydd y Pechod hwn, oblegid os yw ef yn gyfryw ac sydd yn cadw Crist allan o'r galon, Y Perygl. diammeu yw ei fôd ef yn dwyn anneirif o Beryglon, gan fôd ein holl ddiogelwch ni, a'n holl Obaith o ochelyd y digofaint a ddaw yn sefyll ar ei dderbyn ef. Ond heb law awdurdod y Testyn hwn, y mae cyfarwyddyd cyffredinol yn dangos, mae pa le bynnag y bô gan y Pechod hwn feddiant, ei fod ef yn peryglu dynion i syrthio i amryw bechodau eraill. Canys y néb sydd felly yn ystyried clôd gan ddyniou, na chyll ef moni hi mewn ûn môdd, pa brŷd bynnag y daw 'r Pechodau mwyaf i barch ac arfer (megys [Page 152] y gŵyr Duw fòd llawer yn y dyddiau hyn) efe a fydd yn siccr o'i gwneuthur hwynt yn hyttrach na chymmeryd arno 'r anghlód o fôd yn unig ac yn bendant; yr wyf' yn meddwl fôd llawer o gydwybodau a ddichon dystiolaethu 'r gwirionedd ymma, fal nad rhaid i mi ddywedyd dim anghwaneg i brofi perigl y pechod hwn.
14. Y Trydydd peth i mi i'w ddangos yw ei ffoledd ef; Y Ffoledd. a hynny a ymddengys yn gyntaf, trwy ysteried beth ydyw'r hyn yr ydyni fal hyn yn ei chwennych mor ddirfawr, dim ond ychydig awel, chwŷth, ac Anadl dynion, nid yw yn dwyn i ni ddim gwir-fûdd: Canys nid wyf na doethach na gwell er i ddynion ddywedyd fy môd yn ddoeth neu yn dda. Heb law hynny, os canmolir fi, rhaid i hynny fód naill ai o flaen yngwyneb, neu yn ôl fynghefn; os y cyntaf, y mae hynny gan mywyaf yn weniaith ac yn fwyaf Cam a ellir ei gynnig i mi, ac yna nid wyfi ond ffôl iawn ymfodloni ac efo. Ond os y tû ól i'm cefn, nid oes gennifi cymmaint a'r pleser o wybod hynny; ac am hynny, ynfydrhwydd rhyfeddol yw fal hyn gynllwyn péth mor anfuddiol. Ond yn ail, nid yw hynny yn unig yn anfuddiol, ond yn boenus ac yn anhywedd hefyd. Nid yw 'r néb sydd yn chwennych clód yn ddirfawr yn feister arno 'i hun, Ond rhaid iddo gynnhwyso 'i holl weithredoedd i'r diben hwnnw, ac yn lle gwneuthur y péth y bo 'i reswm a'i gydwybod (iê ac ysgatfydd ei gyfleusdra bydol) yn ei gyfarwyddo ef, rhaid iddo ofalu am wneuthur y péth a ddŵg iddo ganmoliaeth, ac felly ei wneuthur ei hûn yn gaethwâs i bôb dŷn a fo gantho dafod i'w ganmol ef. Ië, y mae yn hyn etto [Page 153] ymmhellach gythrwblaeth mwy, ac hynny yw, pan ballo'r cyfryw ddŷn o'i amcanion, a methu cael Clód, iè ac ysgatfydd yn lle hynny cael dirmyg a gogan, (yr hyn nid yw yn dychwelyd i néb yn fynychach nag i'r gwag-orfoleddus, gan nad oes dim yn gwneuthur dŷn mwy dirmygus) yna pa aflonyddwch a chythryfwl meddwl y mae efe tano? Y mae i ni Esampl ragorawl am hyn yn Achitophel, 2 Sam. 17.23. Yr hwn pan welodd Absalom yn dirmygu ei gyngor ef, a ddewisodd ymwrthod a'r gwradwydd hwnnw trwy ei grogi ei hûn. A diammeu fód y penyd hwn sydd yn dilyn y Pechod ymma yn brawf ddigonol o'i ffoledd ef. Etto nid hyn yw'r cwbl, y mae fo etto yn niweidiol iawn. Canys os bydd y Gwâg-ogoniant ymma ynghylch rhyw Weithred ddaionus, neu Gristianogawl, y mae'n diddynnu 'r holl ffrwyth o honi hi; rhaid yw i'r néb a fo 'n Gweddio, neu 'n rhoddi Elusen er mwyn i weled gan ddynion, gymmeryd hynny megis yn wobr iddo, Math. 6.2. Yn wir meddaf i chwi y maent yn derbyn ei gwobr; na ddisgwylian ddim gan Dduw ond cyfran y Rhagrith-ŵyr hynny y rhai sydd yn caru Clôd gan ddynion yn fwy na Chlôd gan Dduw. Ac nid yw ond ffoledd gresynol wneuthur y cyfryw gyfnewid. Y mae 'n debyg i'r Cî yn y Chwedl, yr hwn pan ganfu yn y dwfr gyscod y bwyd a oedd gantho ef yn ei safn, a geifiodd gipio'r cyscod, ac felly a ollyngodd ei fwyd i golli. Y cyfryw Gwn, y cyfryw greaduriaid anrhesymmol ydyni pan foni fal hyn yn gwllwng ymmaith wobr tragywyddol yn y nêf i ymgais ac ychydig eiriau têg gan ddynion. Ac etto, nid ydyni yn unic yn colli 'r llawenydd [Page 154] tragwyddol hwnnw, eithr o'r tu arall yn dwyn arnom ein hunain drueni tragywyddol, yr hyn yn ddiammeu yw'r râdd uchaf o ffoledd ac ynfydrwdd. Ond y mae'r Gwâg-Orfoledd ymma yn niweidiol iawn, os ni bydd hi ynghylch rhyw Weithred rinweddol, eithr rhyw beth diduedd yn unic; canys y mae gwâg-ogoniant yn bechod yr hwn pa le bynnag y gosodir ef, a berygla ein cyflwr tragywyddol ni yr hyn yw'r drŵg mwyaf a áll fód. Ië ac yn y cyfamser fe ellir Ystyried fod hwn, yn anad pechod yn y býd, yn sefyll fwyaf yn ei oleuni ei hún, ac yn ei rwystro'i hun o'r peth hwnnw y mae'n i gynllwyn. Canys nid oes nemmawr o rai ar sydd fal hyn yn dyfal geisio Clôd, nad ydys yn dirnad ei bôd nhw felly, ac yna fe leihá hynny lawer ar béth bynnag a wnelon'hw yn ganmoladwy, ac a ddŵg wradwydd arnynt hwy yn lle Clód ac Urddas. Ac yna mor gyfiawn y gellwni euog-farnu'r pechod hwn o ffoledd yr hwn sydd cyn-ddrŵg yn trefnu ei arfaeth ei hún.
15. Chwi a welwch mor echryslon yw'r Pechod hwn o Wâg-orfoledd yn yr amryw ffyrdd hyn, Cymmorth yn erbyn Gwagorfoledd. dyfal Ystyriad pa ûn, a ddichon fód yn ûn modd rhagorawl i'w orchfygu ef, ac at hynny fe fydd yn angenrheidiol anghwanegu, yn gyntaf, wiliadwriaeth ddiesceulus trosom ein hunain; Ystyria 'n fanwl a wyti mewn ûn Ddled-swydd Gristianogawl yn edrych am Glôd gan ddynion, ac Ystyria hefyd a wyti mewn ún weithred ddiduedd yn ei chwennych hi yn ddirfawr, ac os canfyddi di dy fòd yn tueddu at y ffordd honno, bydd wiliadwrus iawn arnat dy hûn, a phan gynnhyrso hyn ynoti, gwrthládd ac attal ef yn [Page 155] ebrwydd ac na oddefa i hynny fód yn ddiben o'th weithredoedd di: Ond mewn pób péth a berthyn i Grefydd bydded dy Ddled-swydd yn unic Annogaeth i ti: mewn pób péth annhueddol a berthyn i'th fywyd gád i'th Reswm dy gyfarwyddo di; ac er i gelli di yn y pethau hynny Ystyried týb dynion cymmhelled ac i ddal sulw ar y rheolau o weddeidd-dra cyffredinol, etto na thybia un amser y tâl ûn g'ód a ddychwel i ti yn y môdd hynny ymdrech am dano: yn ail, gofod i fynu amcan a diben arall i ti dy hûn, sef, bwriad o foddhau Duw, pan fóch di yn myned ynghylch rhyw béth Ystyria ydyw'r péth yn gymmeradwy gantho ef, ac yna ni bydd genniti mor ennyd i feddwl pa Glôd a gei di gan ddynion oddiwrth hynny. Ac yn ddiammeu pwy bynnag a ddyfal Ystyria o ba faint gwerthfawroccach yw bodloni Duw, yr hwn a ddichon roddi i ni wobr tragywyddol, na dynion, geir da pa rai ni all byth wneuthur i ni lesháad, yn ddiammeu fe a dybia 'n rhesymmol iawn ofalu yn unic am y cyntaf. Yn drydydd, os canmolir di ûn amser, na lawenhá ormod oblegid hynny, ac na thybia ddim gwell o honot dy hûn; ond cofia os am Rinwedd i'th clodforir, mae Duw a'i gweithredodd ef ynoti, a dyro iddo ef y Gogoniant, heb dybied ûn amser fód ûn rhan o hono ef yn perthyn iti: os am ryw Weithred annhu eddol; yna cofia na haedda hi mor Glôd, gan nad oes dim daioni ynthi hi: Ond os am ryw Weithred ddrwg (megis ac y mae 'n gyffelypaf i'r cyfryw rai gael ei canmol y mysg dynion) fe ddyle hynny dy osod ti i arswydo 'n ddirfawr yn lle llawenychu, canys yna y mae 'r Gwae hwnnw o eiddo ein Hiachawdr yn perthyn iti, Luc. 6.26. Gwae [Page 156] chwi pan ddywedo pôb dyn dda am danoch, canys felly y gwnaeth ei Tadau hwynt i'r gau-brophwydi; ac nid oes ûn arwydd mwy o galon galed, na phan allo dynion wneuthur ei Pechodau yn achos o'i Gorfoledd. Yn ddiweddaf bydded dy Weddi yn gymmorth iti yn yr ymdrech ymma a'th Lygredigaeth.
Llaryeidddra.16. Yr ail Rhinwedd yw Llaryeidddra, hynny yw tawelwch a llonyddwch Yspryd, yngwrthwyneb i gynddeirogrwydd ac aflonyddwch Digofaint. Fe a ellir arferu 'r Rhinwedd ymma naill ai o herwydd Duw neu'n Cymydog. Mi a draethais yn barod am yr hwn a berthyn i Dduw tan y pwngc o Ostyngeiddrwydd; ac am yr hwn a berthyn i'n Cymydog mi a draethaf rhag llaw. Cymmaint ac sydd gennif i ymma i'w draethu am dani hi, yw, pa fódd y mae hi yn Ddled-swydd i ni ein hunain; ac y mae hi felly oblegid y Bûdd mawr yr ydyni yn ei gael oddiwrthi hi; yr hyn, o wîr garedigrwydd i ni ein hunain, sydd raid i ni edrych am dano. Ac er mwyn profi fôd hwn yn dwyn i ni Fùdd mawr, nid rhaid i mi ddywedyd dim ychwaneg na darfod i Grist addaw Bendith i'r Addfwynder hwn, Mat. 5.5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn, nid yn unic yn y bŷd a ddaw, ond yn hwn hefyd, canys hwy a feddiannant y Ddaiar. Yn wîr nid oes néb ond y rhai addfwyn yn gwîr feddiannu dim yn y bŷd, oblegid fôd y rhai ffromm digllon yn debyg i bobl gleifion, y rhai nid ydynt yn mwynhau'r hawddfyd mwyaf: canys er tecced a fo pób péth oddiallan nhw a godan gythryfwl oddifewn ei mynwes ei hunain. Ac yn ddiammeu pwy bynnag a ddalio [Page 157] Sulw ar aflonyddwch y wŷn ymma o Ddigllonrhwydd naill ai yntho ei hun, ai mewn rhai eraill, nid all ef lai na chydnabod mae péth hyfryd iawn yw Llaryeidd-dra.
17. Heb law hynny y mae ef yn béth traanrhydeddus, oblegid wrth hynny 'r ydyni yn yn Tebygu i Grîst, Dyscwch gennifi, medd ef, am fy mód yn fwyn ac yn ostyngedig o galon, Mat. 11.29. Trwy hwn hefyd yr ydyni yn cael yr oruchafiaeth fwyaf ac anrhydeddusaf. Yn ddiweddaf, hwn sydd yn gwneuthur i ni ein hymddwyn ein hunain fal dynion, lle y mae digofaint yn ein gwneuthur ni yn nawswyllt ac yn greulon fal Bwystfilod Gwylltion. Ac yn ól hynny y mae 'r naill yn cael parch a Chariad, a'r llall Gasineb ac atgasrwydd, gan fód pawb yn gochelyd dŷn gŵyllt fal anifail cynddeiriog.
18. Trachefn, Addfwynder, yw Sobrwydd y meddwl, ond digllonrhwydd yw llŵyrgynddeiriogrwydd; y mae 'n hollawl yn gosod Dŷn allan o'i allu' i hûn, ac i wneuthur y cyfryw bethau ac y bo arno' i hûn yn sobr gywilydd o'i plegid; pa sawl ûn a wnaeth y cyfryw bethau yn ei cynddeiriogrwydd, am ba rai y bu edifar ganddynt tros ei holl fywyd ar ól hynny? Ac am hynny yn ddiammeu y mae'r Rhinwedd ymma o Addfwynder yn myned tu hwynt mewn Anrhydedd i Ddigllonrhwydd, cymmaint ac y mae dŷn yn anrhydeddusach nag anifail, neu ûn sobr pwyllog na meddwyn cynddeiriog.
19. Heb law hyn y mae Addfwynder yn gwneuthur pob cyflwr yn hawdd ei oddef. Y [Page 158] mae 'r néb sydd yn cyd-ddwyn a thrueni yn llaryaidd, yn ei ddifinio ef fal na allo mo'i archolli ef; ond y mae 'r néb a fo yn brawychu ac yn ymgynddeiriogi am hynny, yn ei hogi ef, ac yn ei wneuthur ef yn llymmach nag y bydde fo; jë, mewn rhai pethau y mae 'n gwneuthur hynny felly, yr hyn oni bae hynny ni bydde felly ddim, megys Geiriau gwradwyddus, y rhai ni ddichon wneuthur i ni ddim niwed ynddynt ei hunain, nid ydynt nag yn briwo'n Cyrph ni, nac yn lleihau ein Golud, yr unic ddrŵg a allant ei wneuthur i ni yw ein gwneid ni yn ddigllon, ac yna fe ddichon ein Digllonrhwydd ni wneuthur i ni lawer o ddrŵg ychwaneg. Ond nid yw'r néb a bassio heibio iddynt yn addfwyn ddim gwaeth erddynt, jë yn hyttrach yn well; canys fe a gaiff wobr gan Dduw am yr Ammunedd hwnnw. Llawer ychwaneg a ellid ei draethu er mwyn canmol y Rhinwedd hon i ni, oblegid ein Bûdd presennol ein hunain, ond yr wyfi'n meddwl fód hyn yn ddigon i annog dynion i dybied yn barchus o honi hi. Anhawsach o lawer yw ei dwyn hwynt i'w harferu hi y rhai sydd yn lledrithio ryw Rwystrau yn ardymmyr naturiol y Corph, a'r cyffelyb; etto yn ddiammeu nid oes néb o dymher mor Nowswyllt, na welei fo, os efe a osodai yn ddiwyd ynghylch hynny, nad yw ammhossibl mewn rhyw fesur da eu gorchphygu hi: ond rhaid iddo fôd yn ddiesceulus yn arferu'r moddion i'r diben hwnnw. Y mae amryw o'r moddion hynny, ni thraetha'i ond am ychydig o honynt.
[Page 159]20. Megys, yn gyntaf, argraphu 'n ddwys yn ein Calonnau a'n meddyliau brŷdferthwch a Bûdd Llaryeidd-dra, ynghyd ac anharddwch a drŵg Digofaint. Yn ail gosod Siampl Crist o'n blaen, yr hwn a oddefodd bôb dirmyg, iê ac arteithiau yn ammuneddgar iawn, yr hwn a arweinwyd fal Dafad i'r lladfa, Esai 53.7. Yr hwn pan ddirmygwyd, ni ddirmygodd eilwaith, pan ddioddefodd, ni fygythiodd, 1 Pet. 2.23. Ac os dioddefodd Arglwydd y Gogoniant fal hyn yn Addfwyn ac yn anghyfiawn gan ei greaduriaid ei hûn, a pha wyneb y gallwn ni bŷth gwyno am ûn cam a wnelir i ni? Yn drydydd bôd yn wiliadwrus iawn i ragflaenu dechreuad Digofaint, ac i'r diben hwnnw marwhau pób cyndynrhwydd ac anynadrwydd y meddwl, yr hwn sydd yn bechod yntho'i hûn, er nad elo ddim pellach, eithr a fydd siwr, os achlesir ef, o dorri allan i ffrwythau hynod o Ddigofaint. Pan ganfyddoch di gan hynny ei gynnhyrfiad lleiaf ef ynoti, bydd mor bryssur i'w ysdwrdio ac i'w attal ef ac a fydditi i ddiffodd Tân yn dy dû; ond edrych yn ddyfal rhag dwyn o honot danwydd atto ef, trwy groesawu dim meddyliau a ddichon ei anghwanegu ef. Ac yn enwedig ar y cyfryw amser cadw wiliadwraeth gaeth ar dy dafod, rhag iddo dorri allan i ryw eiriau digllon, canys fe chwytha'r Awel hwnnw'r Tân, nid yn unic yn dy wrthwynebwr, ond ynot dy hún hefyd; am hynny er bôd dy galon yn boeth oddifewn, taga'r fflamm, ac na âd iddo dorri allan; a pho mwyaf a fo'r Brofedigaeth, derchafa yn fwy difrifol dy galon at Dduw ar fód iddo ef dy gymmorth di i'w gorchfygu hi. [Page 160] Yn bedwerydd, Cofia yn fynych pa gospedigaethau trymmion a haeddodd dy Bechodau di, ac yna byddant oddiwrth Dduw neu ddŷn, ti a gydnabyddi ei bód hwynt yn fyrr iawn o'th Haeddedigaeth, ac am hynny a gywilyddi fód yn anfoddog o honynt.
Ystyriaeth.21. Y drydydd Rinwedd yw Ystyriaeth; a hon mewn môdd enwedigol sydd yn ddledus arnoni i'n Heneidiau. Canys héb hyn ni a'i rhuthrwn hwynt, fal y bydd pobl chwidr byrrbwyll yn arfer o wneuthur, i beryglon aneirif. Y mae'r Ystyriaeth ymma naill ai o'n Hystâd neu o'n Gweithredoedd. Trwy'r gair hwn (Ystâd) yr wyf' yn meddwl béth yw ein cyflwr ni tu ag at Dduw, O'n Hystâd. pa ûn ydyw ef ai bôd yn gyfryw ac y gallwn ni ddywedyd mewn Rheswm ein bód ni yn ei ffafor ef. Y mae'n sefyll arnoni yn ddirfawr Ystyried a phrofi hyn, a hynny nid trwy'r rheolau hawdd hynny y bŷdd Dynion yn barod i'w cymmhwyso iddynt ei hunain, megys, pa ûn ai Credu ddarfod i Grist farw tros ei pechodau hwynt, neu a ydynt hwy o nifer yr Etholedigion, ac a fyddant yn ddiammeu yn gadwedig; os y rhai hyn neu 'r cyffelyb fydde 'r cwbl a ddisgwylid i'n gosod ni mewn ffafor Duw, ni bydde néb allan o hono ef oddigaeth rhyw ûn athrist meddylgar; Canys yr ydyni yn gyffredinol yn barod iawn i gredu yn gyssurus am danom ein hunain. Ond y Rheolau a roddodd Duw i ni yn ei Air yw y rheini trwy ba rai y bŷdd raid ein profi ni y dŷdd diweddaf, ac am hynny yn ddiammeu yw'r unic rai siccr i ni i'n profi ein hunain wrthynt yr awrhon. A Sylwedd y rhai hynny yw mae pwy bynnag a [Page 161] barháo mewn unrhyw Bechod o'i wirfodd, nid yw hwnnw yn ei ffafor ef, ac os bydd efe marw felly, nid gwiw iddo ef ddsigwyl am ûn drugaredd ar ei law ef.
22. Yn awr y mae 'n dra-angenrheidiol i ni ystyried beth yw ein cyflwr ni oblegid hyn; canys gan nad yw'n bywyd ni ddim ond Awel o wynt yn ein ffroenau, yr hwn am a wyddoni a ddygir oddiarnoni y munudyn nessaf, fe a berthyn i ni yn ddirfawr wybod pa fòdd yr ydyni gwedi ein paratoi tú ag at fŷd arall, fal os oes arnoni eisiau yr awrhon yr Olew hwnnw yn ein Llusernau, a pha ûn y bydd raid i ni gyfarfod y Priod-fad, Math. 25.8. y bo i ni ei geifio ef mewn prŷd, ac nid o'i ddiffyg ef cael fel y morwynion angall ein Cau allan am bŷth o'i bresennoldeb ef. Esgeluso 'r Ystyriaeth ymma a ddistrywiodd lawer o Eneidiau, rhai trwy gredu yn rhy hygoel ei bôd mewn cyflwr dá, heb ystyried na 'i Profi ei hunain wrth y Rheol o'r blaen either rhyfygu naill ai ar ryw weithred wael oddiallan, neu ar y cyfryw gau ffydd ac a draethais i am dani yr awrhon; eraill trwy fyned ymlaen yn ddiofal, heb gymmaint ac ymoralw beth yw ei cyflwr, ond yn gobeithio y dichwel iddynt yn gystal ac i'w Cymydogion, ac felly heb edrych bŷth ymmhellach; yr hwn ddiofalwch echryslon a ddestrywia 'r cyflwr Ysprydol, cyn siccred ac y gwna 'r cyffelyb i'r amserol; etto yny cyflwr amserol ymma y mae pôb dŷn yn abl doeth i ragweled, fòd y nêb nid yw ûn amser yn cymmeryd cyfrifon o'i gyflwr i weled a ydyw ef yn talu dim neu beidio, yn siccr o fod yn garddotyn o'r diwedd. Ond yn y péth ymma [Page 162] ma sydd fwy pwysfawr o lawer ni a fedrwn yn gyffredinol fód yn ddiofal ac yn esgeulus.
Ein Gweithredoedd.23. Yr ail péth i ni i'w Ystyried yw ein Gweithreddodd, a hynny naill ai cyn neu Gwedi eu gwneuthur hwynt. Yn gyntaf, rhaid i ni ysteried ymlaen llaw, na wneloni ddim yn ehud nag yn fyrbwyll; ond yn gyntaf ymgynghori a'n Cydwybodau a ydw 'r peth yn gyfreithlawn i'w wneuthur, canys, y nêb a ddilyno ei ffansi a'i ogwygddiad ei hûn, cyn ei gwneuthur. ac a wnelo bôb péth y bo hwnnw yn ei gynnhyrfu efiddo, a fydd siccr o syrthio i liaws o Bechodau. Am hynny ystyriwch yn ddifrifol, a byddwch siccr o fôd y péth yn gyfreithlon cyn i chwi feiddio i wneuthur ef. Fe a gyfrifir yr ymgynghoriad hwn mewn pôb pethau bydol yn ran o Ddoethineb mor angenrheidol, nad ydys yn cyfrif neb yn ddoeth hebddi hi; yr ydyni yn edrych ar ddŷn byrbwyll megys y rádd nessaf at ûn gwallgofus: Ac etto yn ddiammeu, nid oes gymmaint o achos i edrych o'n Cwmpas mewn dim ac yn y peth a berthyn i'n Heneidiau, a hynny nid yn unic o herwydd ei prîs mawr hwynt uchlaw pôb pethau eraill, ond hefyd oblegid y Perigl mawr y maent yntho, fal y dangoswyd yn helaeth yn nechreu 'r Traethawd.
Gwedi ei gwneuthur hwynt.24. Yn ail, rhaid i ni hefyd Ystyried ein Gweithredoedd gwedi iddynt fyned heibio, hynny yw, rhaid i ni holi ac ymofyn a oeddynt hwy, yn gyfryw ac sydd yn gymmeradwy trwy Gyfreithiau Crist. Y mae hyn yn dra-angenrheidiol pa ûn bynnag fyddont ai da ai drŵg; os da fyddant, y mae ei hailgoffháad hwynt yn ein [Page 163] hel pu ni i gyssur Cydwybod dda, ac y mae 'r cyssur hwnnw drachefn yn rhoi calon ynom ni i wneuthur felly rhag-llaw; ac heb law hyn, y mae hynny yn ein cyffroi ni i roddi diolch i Dduw, trwy râs pa ûn yn unic i'n nerthwyd i'w cwplhau hwynt. Ond os drŵg ydnt, yna yn enwedig y mae 'n angenrheidiol i ni fal hyn ein profi ein hunain, oblegid heb hynny ammhossibl yw i ni byth wellhau; canys oddigaeth i ni ddal sulw ei bôd hwynt ar fai, ni thybiwn ni byth yn angenrheidiol i ni wellhau, ond ni a redwn ymlaen yn wastad o'r naill ddrygioni i'r llall, yr hyn yw 'r felldith fwyaf a ddichon fôd ar ûn dŷn.
25. Po mynychaf gan hynny yr arferoni yr Ystyriaeth ymma goreu a fydd, oblegid anghyffelypaf a fydd i'r ûn o'n Pechodau ni ochelyd ein gwybodaeth ni. Peth dymunol iawn yw fôd i bôb dŷn fal hyn brofi bób nôs weithredoedd y Dŷdd, môdd y gallo ef os gwnaeth ef ddim ar fai yn ebrwydd ei geryddu ei hûn am dano, a llawnfwria du yn ei erbyn ef, héb gynnwys iddo gyny ddu i gynnefindra ac arfer: ac er mwyn iddo hefyd erfyn maddeuant gan Dduw mewn prŷd, yr hwn po cyntaf y gofynnir hawsaf y ceir, gan fôd pôb oediad o hynny yn anghwanegu 'r pechod yn ddirfawr. Ac yn ddiammeu pwy bynnag sydd yn amcanu cymmeryd cyfrif o hono ei hûn a genfydd mai hon yw'r môdd esmwythaf, gan fôd yn hawsach gwneuthur hynny fesur ychydig o'r unwa ith. Yn awr os ystyrir fòd yn rhaid edifarhau yn neillduol am bôd pechod rhysygus cyn y maddeuir ef, mi debygwn y dyle ddynion arswydo [Page 164] yn fawr gyscu heb yr edifeirwch hwnnw; canys pa siccrwydd sydd gan ûn dŷn ar sydd yn gorwedd yn ei wely y cyfyd ef byth drachefn? ac yna mor beryglus yw cyflwr y dŷn hwnnw yr hwn sydd yn cysgu mewn pechod heb edifarhau am dano? Twysystyried yr amryw Annogaethau hyn a ddichon fôd, trwy fendith Duw, yn foddion o'n dwyn ni i ymarfer y Ddled-swyd hon o Ystyriaeth yn ei holl Rannau hi.
DOSPARTHIAD,
VII.
Am Foddlonrhwydd, a'r pethau Gwrthwyneb i hynny; Gwrwgnach, Traha, Cybydd-dod, Cenfigen: Cymmorth i Foddlonrhwydd; am Ddledswyddau a berthyn i'n Cyrph; am Ddiweirdeb, &c.
Cymmorth i hynny; am Gymmedrolder.
1. Y Bedwerydd Rinwedd yw Bodlonrhwydd, Bodlonrhwydd. ac y mae hon yn Ddledswydd sydd yn ddledus arnom tu ac attom ein hunain, gan nad yw bossibl i ni fôd yn ddedwydd hebddi hi. Y Rhinwedd ymma yw cwblfodlonrhwydd i'r cyflwr hwnnw, béth bynnag fytho, y gwelodd Duw yn dda ein syfydlu ni yntho, heb wrwgnach wrth ein cyflwr, eithr croesawu 'n ewyllysgar pa beth bynnag a ddanfono Duw. Fe ellir gwelled mor fawr ac mor hyfryd yw 'r Rhinwedd ymma wrth ystyried cynnifer o feiau dirfawr a phoenus y mae hi yn ei gwrthwynebu; yn gymmaint a lle y bo hon gwedi ei gwreiddio yn y Galon, nid yw hi yn unic yn gorchfygu rhyw ûn pechod neillduol, eithr lliaws o honynt o'r unwaith
2. Ac yn gyntaf, y mae hi 'n wrthwynebus i [Page 166] bôb Gwrwgnach yn gyffredinol, yr hwn sydd yn bechod câs iawn gan Dduw, yn wrthwinebus i Wrwg nach. fel y mae'n eglur trwy ei gospedigaethau tôst êf ar yr Israeliaid yn yr anialwch, am dano ef, megys y mae i chwi i ddarllen mewn amryw fannau o Lyfr Exodus a Numeri. Ac yn ddiammeu y mae ef hefyd yn flîn iawn, ac yn ofidus i ddŷn ei hún, oblegid os, fal y dywed y Psalmydd, pêth hyfryd a llawen i'w talu diolch, y mae 'n hynod iawn o'r tu arall mae péth trîst ac anhyfryd yw gwrwgnach; ac nid wyfi 'n ammeu na chadarnhá pód dŷn trwy ei wybodaeth ei hûn y Gwirionedd hwn.
3. Yn ail y mae 'r Rhinwedd ymma yn wrthwynebus i Draha; i Draha. y mae 'r dŷn trahaus yn wastad yn anfodlon i'w gyflwr presennol, a hynny a wná iddo mor awyddus geisio yn uwch, ond y mae 'r néb sydd yn fodlon i'w gyflwr ei hûn yn gorwedd yn llonydd ac yn heddychol allan o lwybr y brofedigath hon. Yn awr nid yw Traha yn unic yn bechod mawr ynth' i hûn, eithr y mae 'n gosod dynion ar lawer o rai eraill; nid oes dim mor echryslon, na feiddia 'r neb, a fo'n dra-chwannog yn ceisio Mawredd, ei wneuthur; dywedyd Celwydd, tyngu anudon, llofruddio, neu ûn drŵg arall a wná fo 'n hylaw, os bydd hynny tebyg i dueddu tu ag at ei Dderchafiad ef: ac y mae ei flnder ef yn gyffattebol i'r Pechod, hyn ni ammheua néb os ŷstyria fe pa liaws o arswydau, eiddigeddau, gofalon a chythryddau sydd en dilyn Traha 'n wastad, heb law 'r adwyth a'r tramgwyddiadau dirfawr a chyhoeddus a sydd gan mwyaf yn dychwelyd iddo ef yn y diwedd. Yn ddiammeu gan hynny y mae Bodlonrhwydd oblegid hyn yn gy stal yn Ddedwyddwch ac yn Rhinwedd.
[Page 167]4. Yn drydydd y mae ef yn wrthwynebus i Gybydd-dod; i Gybydd-dod. hyn y mae 'r Apostol yn ei dystiolaethu, Hebr. 13.5. Bydded eich ymarweddiad yn ddiserch i arian, gan fôd yn fodlon i'r hyn sydd gennych; lle y gwelwch ei fód ef yn gosod Bodlonrhwydd yn union yngwrthwyneb i Gybydddod. Ond o hyn nid rhaid wrth ûn profiad ymmhellach na chyfarwyddid cyffredinol; canys ni a welwn nad yw 'r Cybydd ûn amser yn gweled fód gantho ddigon, ac am hynny ni ddichon fŷth ymfodloni; oblegid nid ellir dywedyd fôd néb felly a'r sydd yn hiraethu am ryw beth nid oes gantho. Yr awrhon er mwyn i chwi weled mor rhagorol ac angenrhediol yw 'r Rhinwedd ymma yr hon sydd yn ein diogeli ni yn erbyn Cybydd-dod, fe fydd yn gymmwys ystyried ychydig natur y Pechod hwn.
5. Yn ddiammeu y mae hwn yn fai dirfawr, oblegid ei fód ef yngwrthwyneb i sylfaen pôb buchedd dda; séf y tair Ddled-swydd dirfawr hynny, i Dduw, i ni ein Hunain, a'n Cymydogion. Yn gyntaf, y mae ef mor wrthwynebus i'n Dledswydd i Dduw, a bód Crist ei hún yn dywedyd i ni Luc. 16.13. nad allwni wasanaethu Duw a Mammon: rhaid yw i'r néb a osodo ei Galon ar olud, ei thynnu hi ymmaith oddiwrth Dduw. Ac hyn a welwni beunydd yn ymarfer y cybydd, y mae efo mor dra-chwannog ac awyddus i ennill Cyfoeth, nad oes gantho ddim amser na gofal am gwplhau ûn Ddledswydd i Dduw; os daw ond marchnad dda yn ei ffordd ef, neu ryw odfa o elw, rhaid yw esgeuluso [Page 168] Gweddi a phòb Dledswyddau Crefyddol er mwyn cynllwyn hynny. Ië, os bydd ef tebyg i ennill neu i safio dim iddo ei hun trwy wneuthur y pechod mwyaf yn erbyn Duw, y mae ei serch ef i olud yn ebrwydd yn ei annog ef i hynny.
6. yn ail, y mae 'r pechod hwn yn wrthwynebus i'r Ddlêd sydd arnoni i ni ein Hunain, a hynny yn gystal i'n Heneidiau ni ac i'n Cyrph. Y mae 'r Cybydd yn diystyru ei Enaid ac yn ei werthu ef am ychydig fliloreg gwael i ddinistr tragywyddol: canys felly y mae pawb yn gwneuthur ar sydd yn ceisio trwy ryw foddion anghyfreithlon ei gyfoethogi ei hunain; ië, er na wnelo fo hynny trwy foddion anghyfreithlon, etto os efe unwaith a osododd ei galon ar olud, efe yw 'r Cybydd hwnnw am ba ûn y traethodd yr Apostol, na chaiff ef feddiannu Teyrnas Dduw, 1 Cor. 6.10. Ac nid ydyw ef yn unic yn trosseddu yn erbyn ei Enaid, ond ei Gorph hefyd; oblegid y mae ef yn fynych yn neccau iddo ef ei gynhaliaeth angenrheidiol, er mwyn pa ûn (yn gymmaint ac y perthyn iddo ef) y rhoddwyd iddo 'i olud. Y mae hyn mor ddibaid yn arfer y cribddeiliaid cyfoethogion nad rhaid i' mi mo brofi hyn i chwi.
7. Yn drydydd, y mae Cybydd-dod, yn wrthwynebus i'r Ddlêd arnoni i'n Cymydogion. A hynny yn y ddwy Ran o honi hi, sef Cyfiawnder a Chariad: y néb sydd yn Caru arian yn anghymmedrol, ni waeth gantho ef pwy a dwyllo ac a siommo, am y dycco ef Elw iddo ei hún: ac o hyn y mae 'n tarddu 'r amryw ddichellion [Page 169] hynny o dwyll a hocced ar sydd mor gyffredinol yn y bŷd. Ac am Gariad nid yw et béth i'w ddisgwyl gan Gybydd, yr hwn sydd yn arswydo yn fwy leihau ei bent wrr ei hún na newynnu ei frawd anghenus. Chwi a welwch pa bechod dirfawr yw hwn, fal y gallwn ni ddywedyd yn dda gyda 'r Apostol, 1 Tim. 6.10. Mae gwreiddin pób drŵg yw arian-garwch. Ac nid yw ef fawr lai anesmwyth na drŵg, oblegid rhwng y gofal yn ceisio ar ofn o golli, nid yw'r Cybydd yn mwynhau ún awr o Esmwythdra. Y mae 'n sefyll yn fawr gan hynny ar bob dŷn, megys ac y' mae ef yn disgwyl dedwyddwch naill ai yn y bŷd hwn ai'r nessaf, ei amddiffyn ei hún rhag y pechod hwn, yr hyn ni ddichon ef mewn módd yn y bŷd ei wneuthur ond trwy feddiannu ei galon a'r Rhinwedd ymma o Fodlonrhwydd.
8. Yn bedwerydd, I Genfigen. y mae'r Rhinwedd ymma yn wrthwynebus i Genfigen, canys nid oes gan y néb sydd yn fodlon i'w gyflwr ei hún, ûn tentasiwn i genfigennu eraill: Mi a ddangosaf rhag llaw mor anghristianogaidd yw'r pechod hwn o Genfigen: yn y cyfamser, md rhaid i mi ddywedyd dim ychwaneg, na'i fôd ef hefyd yn un tra-anesmwyth, y mae ef yn cnoi ac yn cythruddo calon y néb a'i llocheso ef. Ond po gwaethaf yw'r pechod hwn, mwy rhagorol fŷth yw'r grâs ymma o Fodlonrhwydd, yr hwn sydd yn ein rhyddhau ni oddiwrtho ef. Yr wyfi 'n meddwl ddarfod i mi draethu digon i wneuthur i chwi dybied hwn yn Rhinwedd hawddgar a dymunol. Ac yn ddiammeu ni bydde ammhossibl i neb ei hennill hi ar a Ystyria ond yr ychydig reolau hyn.
[Page 170] Cymmorth i Fodlonrhwydd.9. Yn gyntaf, Ystyried, beth bynnag yw'n stâd a'n cyflwr ni, mae hynny a ordeinwyd i ni gan Dduw, a chan hynny sydd yn ddieu yn oreu i ni, gan y dichon ef yn well farnu trosoni, na nyni troson ein hunain, ac am hynny anfodloni i hynny yw cystal a dywedyd ein bôd ni yn ddoethach nag efo. Yn ail, Ystyriwch yn ddyfal wagedd pob pethau bydol, leied sydd ynddynt tra y bytho hwynt gennimni, ac mor annilys ydyni o'i cadw hwynt; eithr uwchlaw'r cwbl, leied a dalan'hw i ni yn nŷdd Angeu neu'r farn, ac yna nid elli di dybied y tál yr ún o honynt ei dymuno, ac felly ni byddi di anfodlon, oblegid bôd arnati ei heisiau hwynt. Yn drydydd, na oddefa i'th feddwl redeg ar y pethau nid oes genniti: y mae llawer gwedi ei gosod ei hunain allan o gariad ar peth sydd ganddynt, yn unic wrth feddwl am y peth nid oes ganddynt. Y mae'r néb a welo ryw béth ym meddiant ei gymydog nad oes gantho ef i hún yn barod i feddwl mor ddedwydd a fydde ef, pe byddei ynghyflwr y dŷn hwnnw, ac yn y cyfamser heb feddwl am fwynhau ei eiddo 'i hûn, yr hwn ysgatfydd mewn amryw ffyrdd sydd yn ddedwyddach na'r cyflwr hwnnw o eiddo'i Gymydog, yr hwn y mae fo cymmaint yn rhyfeddu o'i blegid. O herwydd nid ydyni yn edrych ond ar y tú allan o gyflwr rhai eraill, ac y mae gan lawer dŷn yr hwn a genfigennir gan ei gymydogion megys ûn dedwydd anfeidrol, ryw gythryfwl dirgel, yr hwn a wná iddo dybied yn amgen o lawer am dano ei hún. Am hynny na chystadla ún amser mo'th gyflwr mewn dim a'r rhai a dybioch di ei bôd yn fwy llwyddiannus na [Page 171] thi dy hún, eithr yn hyttrach gwna hynny a'r rhai a wyddosti ei bôd yn fwy annedwydd, ac yna ti a ganfyddi achos i ymorfoleddu oblegid dy gyfran dy hûn. Yn bedwerydd, Ystyria cymmhelled yr wyti oddiwrth haeddu dim dá gan Dduw, ac yna nid elli lai na chydnabod gydá Jacob, Gen. 32.10. Nad wyti deilwng o'r lleiaf o'r Trugareddau hynny yr wyti 'n ei mwynhau, ac yna yn lle gwrwgnach nad ydynt hwy yn ychwaneg, ti a ganfyddi achos i ryfeddu ac i foliannu haelioni Duw, ei bôd nhw yn gymmaint. Yn bummed, Myfyria yn fynych am y llawenydd a osodwyd i fynu i ti yn y nefoedd; edrych ar Nêf megys dy gartref, ac ar y bŷd hwn ond yn unic megys Lletty, lle y mae 'n rhaid i ti gymmeryd i fynu yn dy ymdaith; ac yna megys na ddisgwylia Trafailiwr y rún cyfleusdra mewn Lletty ac yn ei gartref, felly y mae i tithau achos i ymfodloni i ba letteugarwch bynnag a geffych di ymma, gan wybod dy fód ar dy daith i le o happusrwydd annherfynol, yr hwn a dál hyd adref am yr holl anesmwythdra a'r helbul a elli di ei ddioddef ar y ffordd. Yn ddiweddaf Gweddia ar Dduw, oddiwrth pa ún y mae pób péth da yn dyfod, ar fód iddo ef anghwanegu at ei holl Fendithion eraill, hon o feddwl bodlongar, heb ba ún nid elli di byth archwaethu y rûn arall fal y dylech.
10. Y Bummed Ddled-swydd yw Diwydrwydd, yr hon a wneir i synu o ddwy ran, Diwydrwydd. sef Gwiliadwraeth, a dyfalwch, ac y mae pób ûn o'r rhain yn ddledus arnoni i'n Heneidiau.
[Page 172] Gwiliadwraeth yn erbyn Pechod.11. Yn gyntaf Gwiliadwraeth, yn Ystyried pób peryglon a'i Bygythia hwynt. Yr awrhon yn gymmaint nad oes dim a ddichon beryglu ein Heneidiau ni ond Pechod, rhaid yw arferu'r Wiliadwraeth hon yn bennaf yn erbyn hwnnw: Ac megys mewn Dinas warchaedig, yno y mae'n angenrheidiol cadw'r wiliadwraeth gadarnaf, lle y bo'r rhan wannaf; felly y mae ymma pa le bynnag a gweli di fôd dy dueddiadau di gyffelypaf i'th fradychu di i bechod, yno yn enwedig y mae'n sefyll arnati fôd yn Wiliadwrus: Ystyria gan hynny yn ddiwyd i ba bechodau, y mae naill ai'th dymmer naturiol, dy gyfeillach, neu dy ddull o fuchedd yn neillduol yn dy ddenu di, a gwilia arnat dy hûn yn fanwl iawn yn y rhai hynny. Etto na osod felly mo'th holl ofal ar y rheini, megys ac i'th adael dy hún yn agored i rai eraill, canys fe a rydd hynny gymmaint mantes i Satan o'r tu arall; eithr bydded dy Wiliadwraeth yn gyffredinol, yn erbyn pób rhyw bechod, er yn fwy enwedigol yn erbyn y cyfryw rai ac a fo tebyg i'th gynllwyn di fynychaf.
Dysalwch yn anghwanegu Doniau.12. Yr ail rhan o Ddiwydrwydd yw Dyfalwch neu Lafur, ac hyn hefyd sydd yn ddledus arnoni i'n Heneidiau, oblegid heb hyn nhw a ffynnant cyn lleied a gwinllan y dŷn diog, am ba ún y traetha Salomon, Dihar, 24.30. Canys y mae hwsmonaeth o'r Enaid, yn gystal ac o'r Estâd, a diben y naill, megys ac o'r llall, yw anghwanegu ei golud. Yr awrhon y mae golud yr Enaid naill ai yn Naturiol, ai yn Ddifynyddiol. Y Naturiol yw Grym a gallu Rheswm, megys Synwyr, côf, a'r cyffelyb; y Difynyddiol [Page 173] yw Grafau Duw, y rhai ni pherthynant i'r Enaid trwy Natur, eithr a roddir gan Dduw ei hún; ac y mae'n rhaid i ni ofalu am wneuthur y defnydd goreu o bób ún o'r rhain, gan ei bód hwynt yn Dalentau a ymddiriedwyd i ni i'r diben hwnnw.
13. Y ffordd i wellhau rhai Naturiol, Natûr. yw trwy ei harferu hwynt yn y módd a ddygo fwyaf ô ogoniant i Dduw: ni wasanaetha i ni adael iddynt orwedd yn Segur yn ein hymyl trwy Syrthni, nag ychwaith ei gorchfygu hwynt trwy Anghymmedrolder, a phleserau anifeiliaidd, ond rhaid i ni i harferu hwynt a'i gosod nhw ar waith. Ond gwiliwn rhag bôd hynny yngwasanaeth y Cythrael; fal llaweroedd, y rhai sydd yn unic yn arferu ei synwyr i halogi Enw Duw, neu i dwyllo ei Cymydogion, neu i lenwi ei coffadwraeth a'r cyfryw aflendid na ddyle fôd unwaith yn ei meddyliau; fe a ddyle ein harfer ni o honynt fód yn gyfryw ac a fo tebyccaf i ddwyn mwyaf o ogoniant i Dduw, mwyaf o Fudd i'n Cymydogion, ac a'n cymhwysa ni oreu i wneuthur ein cyfrifon, pan ddelo Duw i gyfrif a ni am danynt.
14. Ond y mae y rhan arall o gyfoeth yr Enaid yn werthfawroccach etto, sef, Grâs, Grâs. am ba ûn y mae 'n rhaid i ni fôd yn bendifaddeu yn ofalus, ar ei hwsmonaethu ai anghwanegu ef. Dled-swydd yw hon a orchymynnir i ni yn bendant gan yr Apostol, 2 Pet. 3.18. Cynnyddwch mewn Grâs, a thrachefn, Pen. 1.5. Rhoddwch bôb Diwydrwydd i gyssylltu att ffydd Rinwedd, att rinwedd Wybodaeth, &c. Yn awr arferu [Page 174] Grâs yw'r modd oreu i'w anghwanegu ef, a hynny nid yn unic oblegid yr esmwythdra, y mae arfer o ryw béth yn ei dwyn tú ac at ei wneuthur ef, ond yn enwedig, megys y mae iddo addewid Duw, yr hwn a addawodd, Math. 25.29. i bób ûn y byddo ganddo (hynny yw, a wnelo ddeunydd o'r péth sydd ganddo) y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd. Y neb a arfero yn ddiwyd ac yn ffyddlon y dechreuad cyntaf o Râs a gaiff etto anghwaneg, ac felly yr hwn hefyd a hwsmonaetho'r anghwaneg hynny, a gaiff râdd mwy drachefn; yn gymmaint a bôd y péth a ddywed Solomon am olud amserol, yn wîr hefyd am yr Ysprydol, llaw y diwyd a gyfoethoga.
15. Pa brŷd bynnag gan hynny y canfyddi di ûn cynhyrfiad da yn dy galon, cofia mae dena 'r odfa i'r hwsmonaeth Ysprydol ymma: Os bŷdd dy gydwybod di ond yn dy gyhuddo am ryw bechod y bóch di yn byw yntho, gyrr hynny ymlaen nes iddo ddyfod i gassineb; ac yna y cassineb hwnnw, nes iddo ddyfod i lawn fwriad, ac yna o'r llawn fwriad hwnnw dôs ymlaen i ryw ymegniad yn ei erbyn ef. Gwná hyn yn ffyddlon ac yn ddiragrith, ac yna yn ddiammeu ti a gei weled y cynnorthwya Grâs Duw dydi, nid yn unic ymmhôb ûn o'r graddau hyn, ond i'th dderchafu di etto yn uwch nes i ti ddyfod i gael y fuddugoliaeth arno ef. Er hyn i gŷd edrych yn ofalus am adroddi at y Diwydrwydd hwn dy Weddiau hefyd, gan fód addewid y rhydd Duw'r Yspryd glan i'r sawl a'i gofynant ef, Matth. 7.11. Am hynny nid oes reswm i'r rhai nid ydynt yn ei ofyn ef, mo'i [Page 175] ddisgwyl ef. Ond rhaid yw ofyn ef ar cyfryw ddifrifwch ac a fo mewn rhyw fódd yn gyffattebol i odidowgrwydd y péth, yr hwn gan ei fôd ô aneirif yn werthfawroccach na'r holl fŷd, yn gystal o herwydd ei brîs ei hûn, a'i lés i ninnau, rhaid yw i ni eiriol am dano ef a llawer mwy o zêl a difrifwch, nag am bób Bendithion amserol, neu ni a ymddangoswn yn ddirmygwyr o hono ef.
16. Gan ddarfod i mi eich cyfarwyddo chwi i'r moddion o anghwanegu Grâs, mi a adroddaf, er mwyn eich cyffroi chwi i hynny, y Perigl mawr o'r gwrthwyneb. Ac nid yw hynny, megys mewn pethau eraill, yn unic yn golled o'r graddau uwch hynny, y rhai a gawson ni trwy ein Diwydrwydd, ond y maé hefyd yn golled o'r pethau sydd gennini yn barod; Canys oddiar yr hwn nid oes ganddo (hynny yw ni wnaeth Ddefnydd o'r peth sydd ganddo) y dygir oddiarno yr hyn sydd ganddo, Matth. 25.29. Fe ddŵg Duw ymmaith y Grâs, yr hwn a welo fo fal hyn ei esgeuluso, megys y gwelwn ni yn y ddammeg honno, lle y cymmerwyd y Dalent oddiwrtho ef, yr hwn yn unic a'i cuddiase hi mewn cadach, ac ni dyygodd i mewn ddim elw i'w Arglwydd. Ac y mae hyn yn gospedigaeth tra-gresynol, ië 'r fwyaf a all ddychwelyd i ûn dŷn, cyn myned o hono i Uffern, ië yn wîr y mae hyn yn rhyw fáth o rag-archwaethiad o honi hi, nid yw ddim llai na rhoddiad ûn i fynu i allu'r Cythrel, a'i yrru ef ymmaith o olwg Duw, y rhai nid ydynt y rhan leiaf o drueni y Damnedig. Ac y mae hyn hefyd yn rwymiad dŷn i fynu i gyflwr mwy echryslon yn y bŷd a [Page 176] ddaw; canys dena eithaf barn y gwâs anfuddiol, Matth. 25.30. Bwriwch y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf, yno y bydd wylofain a Rhingcian dannedd. Chwi a welwch nad peryglon gwael sydd yn dilyn yr esgeulustra ymma o Râs, ac am hynny os oes gennini ddim cariad, iè na thosturi cyffredinol i'n Heneidiau, rhaid i'ni ymosod ein hunain i'r Diwydrwydd ymma. Fe ddarfu i mi bellach a'r Rhinweddau hynny, y rhai a berthyn i'n Heneidiau, yr wyfi 'n dyfod yr awrhon at y rhai a berthyn i'n Cyrph.
Diweidrwydd.17. Y cyntaf o ba rai yw Diweirdeb neu Burdeb, yr hon a ellir yn dda ei osod yn Nhálwyneb y Dledswyddau hynny fŷdd yn ddledus arnoni i'n Cyrph, gan fód yr Apostol, 1 Cor. [...].18. yn gosod y gwrthwyneb megys yn bechod dirfawr yn ei herbyn hwynt, yr hwn a wnâ odineb sydd yn pechu yn erbyn ei Gorph ei hûn.
18. Yn awr y mae'r Rhinwedd ymma o Ddiweirdeb yn sefyll mewn perffaith ymattal rhag pób máth a'r aflendid; nid yn unic rhag godineb dineb a phutteidra, ond pób rhyw fáth annaturiolach o hono ef a wneir naill ai a ni ein hunain, neu gyda rhyw ún arall. Mewn gair, y mae pób rhyw Weithred o'r cyfryw fáth yn hollawl yn erbyn Diweirdeb, oddieithr yn unic mewn Pri [...]das gyfreithlon. Ac yno hefyd ni wasanaetha i ddynion dybied ei bód hwynt yn rhŷdd i foddhau ei gwyniau anifeiliaidd, ond y mae'n rhaid iddynt ei cadw ei hunain o fewn y cyfryw Reolau o Gymmedrolder ac a gyttuna a dibennion Priodas, sef ennill Plant, ac ymgadw rhag Putteindra; ni ddylid gwneuthur dim ar a [Page 177] rwystra y cyntaf o'r dibennion hyn; a chan fód yr ail yn unic yn tueddu at orchfygu trachwant, a chadw dynion oddiwrth y ffrwythau pechadurus o hono ef, y mae'n wrthwynebus iawn i'r diben hwnnw wneuthur Priodas yn achlysur o'i anghwanegu, a'i enynnu ef.
19. Ond nid yw'r Rhinwedd ymma o Ddiweirdeb yn cyrraedd i wahardd y weithred yn unic, ond hefyd i bób rhyw raddau îs; y mae 'n gosod gwiliadwraeth ar ein Llygaid ni, Mat. 5.28. Pwy bynnag a edrycho ar Wraig i'w chwennychu hi, y mae fo gwedi gwneuthur eusus a hi odineb yn ei galon; ac ar ein Llaw, megys y mae 'n eglur wrth y péth a ddywed Crist ymmhel [...]ch yn y lle hwnnw, Os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymmaith; felly hefyd ar ein Tafodau na thraethant hwy ddim geiriau anfoesol neu ffiaidd, Na ddeued ún ymadroedd llygredig allan o'ch genau chwi, Eph. 4.29. Ië ymmhellach ar ein meddyliau ni a'n ffansi, rhaid i ni wiliad croesawu ún deisyfiad brwnt a ffiaidd, nag ychwaith cymmaint a meddwl am cyfryw béth. Yr hwn sydd gan hynny yn ymgadw oddiwrth y weithred, ac yn cynnwys yntho'i hûn y rún o'r rhain, fe ellir ammeu mae rhyw rwystr oddiallan sydd yn ei gadw ef rhagddo, yn hyttrach na chydwybod o'r pechod. Onid-é, fe a gadwai hwn ef rhag y rhain hefyd, gan ei bód hwythau hefyd yn bechodau, ac yn rai dirfawr iawn yngolwg Duw▪ Heb law hyn y mae'r nêb ai cynnhwysa ei hún yn y rhai hyn, yn ei osod ei hún mewn enbydrwydd tramawr o'r llall, gan fod yn hawsach o lawer ymgadw oddiwrth y cwbl, nag oddiwrth [Page 178] y naill, pan gynnhwysir y llall. Ond uwchlaw 'r cwbl, y mae i'w ystyried fôd hyd yn oed y graddau lleiaf hyn yn gyfryw ac a wná dynion yn ffiaidd iawn gngolwg Duw, yr hwn sydd yn canfod y Galon, ac heb garu néb ond y rhai sŷdd bûr yno.
Drygioni Aflendid.20. Nid rhaid gosod allan Brydferthwch y Rhinwedd ymma o Ddiweirdeb yn well na thrwy ystyried ffiaidd-dra a drygioni y Pechod sydd yngwrth-wyneb iddo ef, yr hwn sydd yn gyntaf, yn anifeiliaidd iawn; nid yw 'r deisyfiadau hynny ond yr unrhyw ac sydd gan Anifeiliaid, a pha cyn belled gan hynny y mae rheim gwedi suddo îflaw Natur dynion, y rhai a ymffrostiant o'r cyfryw bechodau a hyn megis o'i godidowg [...] wydd pennaf? Pan yw Bŵch (os dena 'r mesur) yn odidoccach creadur. Ond yn wîr nid yw 'r nêb a fo 'n dilyn yn ddyfal y rhan ymma o Anifeiliaidd-dra yn gadael iddynt ei hunain gan mwyaf ond ychydig, i'r Enaid. heblaw ei gŵedd ddynol, i'w rhagori hwynt oddiwrth anifeilaid. Y mae 'r pechod hwn felly yn cymylu 'r dealltwraeth, ac yn gwrthuno 'r Enaid Rhesymol. Y mae Solomon gan hynny yn gosod ar lawr yn rhagorol ddull y gŵr ieuangc yn myned i dŷ 'r buttain, Dihar 7.22. Y mae fo yn ei chalyn hi, fel yr ŷch yn myned i'r lladfa.
i'r Corph.21. Ac yn ail nid yw 'r ffrwythau o hyn yn well i'r Corph nag i'r Enaid. Y mae'r amryw ddoluriau brwnt a ffiaidd (heb law poenus) y rhai sydd yn fynych yn dilyn y pechod hwn, yn tystiolaethu yn hynod mor ddrŵg ydyw ef i'r Corph. Ac och, faint sydd y rhai fal hyn a'i [Page 179] gwnaethant ei hunain yn ferthyron i'r Cythrel? A ddioddefasant y cyfryw benydiau wrth ddilyn y pechod hwn, na fedre 'r gorthrymmwr creulonaf ddychymygu mo'r cyffelyb? Yn ddiau y rhai a dâl mor ddrûd am ddamnedigaeth nhw a haeddant yu dda feddiannu 'r pwrcas.
22. Ond yn drydydd heblaw 'r ffrwythau naturiol o'r pechod hwn, y mae Barnedigaethau mawr echryslon oddiwrth Dduw yn ei ddilyn ef; y farnedigaeth greulonaf a rhyfeddaf a ddychwelodd erioed i ûn lle, sêf Tân a Brwmstan o'r Nêf ar Sodoma a Gomorra oedd am y pechod hwn o Aflendid. A fe ellir gweled amryw siamplau o ddial Duw ar Ddynion neillduo [...] am y pechod hwn. Fe gostiodd trais Amnon iddo ei fywyd; 2 Sam. 13. Zimri a Chozbi a laddwyd ar y weithred, Num. 25.8. ac nid oes gan néb ar a fo 'n gwneuthur y cyffelyb péth, siccrwydd yn y bŷd na ddychwel felly iddo ynteu. Canys er mor ddirgel y gwnelir hynny, nid ellir mo 'i guddio ef oddiwrth Dduw, yr hwn sydd yn ddialwr dilys pób cyfryw anwiredd. Ië, fe fygythiodd Duw yn dra-neillduol y pechod hwn▪ 1 Cor. 3.17. Os llygra nêb Deml Dduw, Duw a lygra hwnnw. Y mae 'r pechod hwn o Aflendid yn fáth ar gyssegr-Yspeiliad, llygriad y Cyrph hynny y rhai a etholodd Duw yn Demlau iddo ei hún, ac am hynny nid rhyfedd os Cospir ef fal hyn yn drwm.
23. Yn ddiweddaf, y mae 'r pechod hwn yn cin cae ni allan o Deyrnas Nêf, lle nid all dim aflan fyned i mewn. Ac ni welwn ni ún amser ûn Rhôl o'r pechodau hynny, y rhai sydd yn [Page 180] llestr dynion oddiyno, nad oes gan y pechod hwn o Aflendid le hynod yn ei mysg hwynt. Fal hyn y mae Gal. 5.19. ac felly drachefn, 1 Cor. 6.9. Os nyni fal hyn a'n halogwn ein hunain, nid ydyni yn gymdeithas gymwys ond i'r Ysprydion aflan hynny yn unic, y Cythrel a'i Angylion; ac am hynny rhaid i ni ddisgwyl ein cyfran gydá hwynt, lle y dibenna ein fflammau o drachwant mewn fflammau o Dân.
24. Y mae hyn i gyd wrth ei gosod yn yr ûnlle yn canmol y Rhinwedd o Ddiweirdeb, Gymmorth- i Ddiwirdeb. er mwyn cynnal pa ûn, rhaid i ni fôd yn ofalus iawn, yn gyntaf, i attal dechreuad y Brofedigaeth, ac i fwrw ymmaith trwy lidiogrwydd y ffansi gyntaf o Drachwant; canys os chwychwy un waith a ymrŷ i ymsisial ac i ymddiddan ac efo, efe a ennill yn wastad ychwaneg arnochwi, acyna fe fydd yn anhawsach ei wrthwynebu ef; Am hyny 'r ffordd i chwi yn y Brofedigaeth ymma yw ffó yn hyttrath nag ymladd ac efo. Y mae hyn yn angenrheidio liawn, nid yn unic er mwyn i ni ochelyd y Perigl o fyned ymlaen i weithred y pechod, eithr hefyd oblegid y bai presennol o groesawu y cyfryw feddyliau, y rhai o honynt ei hunain, er nad elont hwy ddim pellach, sydd, fal y dangoswyd o'r blaen, en ffieidd-dramawr o flaen Duw. Yn ail, byddwch ofalus iawn am seguryd, yr hwn yw 'r tîr priodol i'r cyfryw sothach i dyfu yntho, a chadw dy hûn yn wastad yn ofalus mewn rhyw negeseuau diniwed a rhinweddol canys yna ni bŷdd y meddyliau hyn mor barod i'w cynnyg ei hunain. Yn drydydd, na oddefa iti dy hûn ailgyrchu i'th feddwl trwy hyfrydwch ûn weirhred aflan o'th fuchedd o'r blaen, oblegid y mae hynny yn gweithredu 'r pechod [Page 181] pechod trachefn drosto, ac efe a gyfrifir felly gerbron Duw; iê ysgatfydd, fe all meddwl am dano ef fal hyn trwy bwyll a chyngor fôd yn fwy euogrwydd na gweithredu yr pechod yn fyrbwyll: Canys y mae hyn yn dangos fód dy galon di gwedi ei gosod ar ffieidd-dra, ac y mae hynny hefyd yn baratóad i wneuthur ychwaneg o'r cyffelyb. Yn bedwerydd, gochela gymdeithas y cyfryw rai nwyfus ac anllad ac a ddichon fod naill ai trwy ffieidd-dra ei hymadrodd, neu ryw foddion eraill, yn fagl i ti. Yn bummed, gweddia 'n ddifrifol ar i Dduw roddi iti Yspryd Purdeb, yn enwedig ar amser rhyw brofedigaeth bresennol. Dŵg y Cythrel aflan at Grist i'w fwrw allan fal y gwnaeth y Dŷn yn yr Efengyl. Ac oni fwrir ef allan trwy Weddi yn unic, adrodda Ympryd hefyd; ond gwilia er▪ ddim gynnal i fynu 'r flamm trwy ryw ymborth uchel anghymmedrol. Y Cymmorth diweddaf, os y lieill a brifia 'n ofer, yw Priodas, yr hon a ddychwel i fod yn Ddledswydd i' nêb ni ddichon fyw yn ddifeius hebddi hi. Ond rhaid yw cymmeryd gofal ymma hefyd, rhg i'r péth a ddyle fód er daioni, ddychwelyd i fód yn achos o dramgwydd o eisieu sobrwydd yn amser Priodas. Ond mi a dracthais am hyn o'r blaen, ac am hynny nid rhaid i mi addroddi dim ychwaneg, ond deisyfiad difrifol, ar fôd i ddynion ystyried yn ddigellwair fryntni a pherigl y pechod hwn o Aflendid, ac na bo iddynt ei gashau ef ddim lai oblegid ei gyffredinoldeb, eithr yn hyttrach oblegid hynny ffieiddio digywilydd-dra trahy 'r bŷd, yn gwneathur cyn lleied cyfrif o'r pechod hwn, yn erbyn pa ún y cyhoeddodd Duw y cyfryw felldithion trwm; y Putteinwŷr a'r rhai godinebus a farna Duw, [Page 182] Heb. 13.4. ac felly yn ddiammen y gwná ef a phób rhyw fáth o ddynion aflan.
Cymmedrolder.25. Yr ail Rhinwedd ar a berthyn i'n Cyrph ni yw Cymmedrolder: Ac y mae amryw ffyrdd o'i ymarferu ef, megys yn gyntaf Cymmedrolder yn Bwyta; yn ail, yn Yfed; yn drydydd, yn Cysgu; yn bedwerydd, yn Esmwythyd; yn bummed, mewn Ymwisciad. Mi a draetha am danynt ôll yn neillduol, ac yn gyntaf, am Gymmedrolder yn Bwyta. yn Bwyta. Y Cymmedrolder hwn a gedwir pan fo ein Bwyta ni yn gyfattebol i'r dibennion hynny er mwyn pa rai yr Ordeinwyd Bwyta gan Dduw a Natur, y rhai yw, er mwyn i'n Cyrph, yn gyntaf, fôd; yn ail, fôd yn dda.
26. Y mae Dŷn o'r cyfryw Ddull a bod Bwyta yn angenrheidiol iddo ef er mwyn cynnal ei Fywyd, gan fôd Newyn yn glŵyf naturiol, yr hwn, onis rhagflaenir, a brifia 'n farwol; a'r unic feddiginiaeth iddo ef yw Bwyta, yr hwn gan hynny a ddaeth i fôd yn fôdd angenrheidiol i'n cadw ni yn fyw. A dena 'r diben cyntaf o Fwyta; Ac megys ni bydd dynion arferol o gymmeryd Pysygwraeth er Pleser, ond llesháad, felly hefyd ni ddylent fwyta.
27. Ond yn ail yn mae Duw mor haelionus a pharatoi nid yn unic i Fywyd, ond hefyd i Hawddfyd ein Cyrph ni, ac am hynny nid ydyni gwedi ein rhwymo i'r cyfrw dwysder, nad allwn ni fwyta dim ond yn union a'n cadwo rhag llewygu, ond ni allwn hefyd fwyta naill ai mewn rhyw, neu faintioli, pa béth bynnag a fo goreu i'n Hiechyd a'n hawddfyd: yn awr y [Page 183] mae'r Ymborth yr hwn sydd gydsynniol a'r didibennion hyn, o fewn terfynau Cymmedrolder, megys o'r tu arall y mae béth bynnag sydd yngwrthwyneb iddynt yn drosseddiad yn ei erbyn es; y neb gan hynny o osodo iddo ei hún ddibennion eraill o Fwyta, megys naill a'i boddhau 'r archwaeth, neu (yr hyn sydd etto yn waeth) yn Porthi mwythau i'w Gorph er mwyn iddo wasanaethu ei drachwant yn well, y mae efe yn union yn gwrthwynebu ac yn croesu 'r dibennion hyn o eiddo Duw; oblegid y mae 'r nêb sydd gantho 'r amcanion hynny yn gwneuthur yr hyn sydd yn dra-gwrthwhwynebus i Iechyd, ië, i Fywyd hefyd, fal y mae 'n eglur trwy 'r amryw glefydau, a'r Marwolaethau disymmwth hynny y rhai y mae syrthni ac Aflendid yn ei dwyn beunydd ar ddynion.
Rheolau Cymmedrolder yn Bwyta.28. Rhaid yw gan hynny i'r néb a arfero 'r Rhinwedd ymma o Gymmedrolder, na bwyta cymmaint, nag o'r cyfryw rywogaethau o Fwyd (os efe a ddichon gael péth arall) ar a wnelo niwed i'w Iechyd ef: ammhossibl yw gosod ar lawr beth yw 'r rhywogaethau neu 'r maentioli, canys y maent hwy yn rhagori yn ol amryw gyflwr dynion; fe a ddichon rhai dynion trwy Gymmedrolder fwyta llawer iawn, oblegid fód ei Cylla yn gofyn hynny, pan fo ûn arall yn euog o Anghymmedrolder yn bwyta ond yr hanner cymmaint, oblegid ei fôd yn fwy nag sydd yn arferol iddo. Ac felly hefydam y Rhywogaeth o fwyd fe ddichon fód yn fwythusder ac yn drythyllwch i rai fôd yn rhodresgar yn y pethau y rhai mewn rhyw fesur sydd angenrheidiol i wendid Cylla glwyfus, yr hon nid o fwythusder ond o glefyd [Page 184] ni ddichon fwyta bwydydd garwach. Ond yr wyfi 'n tybied y gellir dywedyd▪yn gyffredinol, mae 'r bwydydd mwyaf cyffredin sydd iachusaf gan mwyaf i Gyrph iachus, ond rhaid yw gadael i bób dyn farnu o hóno 'i hûn yn hyn, ac er mwyn iddo wneuthur hyn yn iawn, bydded yn ofalus na oddeso fo iddo 'i hûn fód yn gaethwas i'w Enau, canys fe fydd hwnnw 'n siccr o'i fodloni ei hun, béth bynnag a ddychwelo i'r Iechyd, neu i'r hoedl.
29. Er mwyn ei siccrhau fo 'n well, ystyried yn gyntaf, mor anrhesymol yw i'r holl gorph fód yn ddarostyngedig i'r ûn synwyr ymma o Archwaethiad, a mentrio pób péth yn unic i foddhau hwnnw. Ond y mae 'n fwy o lawer etto, fôd i'r rhan oreu, yr Enaid, gael fal hyn ei gaethiwo; etto fal hyn y mae mewn dyn annhymmerus; rhaid iddo aberthu hyd yn oed ei Enaid i'r trachwant anifeiliaidd hwn: oblegid y Pechod hwn o Anghymmedrolder, er bôd y Corph yn unig yn ei weithredu ef, rhaid i'r Enaid hefyd fôd yn cyfrannog o'i gospedigaeth tragywyddol ef. Yn ail, ystyria mor fyrr iawn a darfodedig yw 'r pleser hwn, y mae 'n dibennu mewn munudyn, ond y mae 'r penydiau a ddychwel am dano ef yn fwy parhaus o lawer, ac y nanidyw 'n cyttuno a 'n rheswm ni, megys yr ym ni yn ddynion, osod ein Calonnau arno ef. Ond etto yn drydydd, y mae 'n cyttuno 'n waeth a thymmer Cristion, yr hwn a ddyle fód a 'i galon gwedi ei buro a'i lanhau felly trwy ddisgwyliad a gorfoledd mwy ysprydol hynny yn y bŷd a ddaw, fal y dylei ddirmygu 'n ddirfawr y Pleserau gwael anifeiliaidd hyn, y rhai y mae [Page 185] bwystfilod mor gyfaddas o honynt a ninnau, ac iddynt hwy y dyleni fód yn fodlon i'w gadael hwynt, gan na ddichon ei naturiaetth hwynt gyrrhaeddid ddim uwch; ond am danom ni y rhai sydd gennnim obaith mwy rhagorol o lawer, cywilydd anfeidrol yw i ni ei cyfrif hwynt megys ûn rhan o'n dedwyddwch. Yn ddiweddaf, y mae 'r pechod o Lwthineb yn gymmaint ac mor bergylus a darfod i Grist dybied yn gymmwys roddi siars arbennig y ei erbyn ef, Edrychwch arnoch eich hunain, rhag gorchfygu eich Calonnau a glwthineb, &c. Luc. 11.34. Ac chwi a wyddoch béth oedd diben y glwth goludog, Luc. 16. Yr hwn oedd yn cymmeryd ei fwyd yn ddain eiddiol beunydd, oedd arno eifieu o'r diwedd ddroppyn o ddwfr i oeri ei dafod. A hyn am y fáth gyntaf o Gymmedrolder, sef, am Fwyta.
DOSPARTHIAD.
VIII.
Am Gymmedrolder yn Ʋfed, Gau Ddibennion o Ʋfed, sef Cymdeithas dda, bwrw ymmaith Ofalon, &c.
Cymmedrolder yn Ufed.1. YR Ail yw Cymmedrolder yn Yfed, a chan mae'r unrhyw gan mwyaf yw'r Dibennion o Fwyta ac Yfed, nid alla'i roi ûn Rheol arbennig yn hwn mwy nag a rois i yn y llall, fef, na bo i ni Yfed nag o'r cyfryw rywogaethau o ddiodydd, nag i'r cyfryw faentioli ac na chyttuna ar iawn ddibennion o Yfed, sef cynnal ein bywyd a'n hiechyd: Yn unic fe fydd angenrheidiol ymma osod ar lawr ûn Gocheliad; oblegid gan fôd ein Dealltwraeth ni mewn mwy o berigl o gael ei ddrygu trwy Yfed na thrwy Fwyta, rhaid i ni yn hyttrach fód yn ofalus am gadw hwnnw yn ddiogel, a dewis yn hyttrach beidio ac Yfed, ond a fytho angenrheidiol i'n Hiechyd, os bydd Yfed yn debyg i annhymmeru ein rheswm. Hyn yr wyfi 'n ei ddywedyd oblegid fe allei fôd mennyddiau rhai mor egwan na ddichon ei pennau hwynt ddwyn mo'r maentioli cyffredinol hynny o ddiod, yr hyn ni wnai ddim niwed i'w Cyrph hwynt. A phwy bynnag sydd o'r tymmer hwn, rhaid iddo ef ymgadw'n fanwl oddiwrth y maentioli hynny, neu'r rhywogaeth hynny o Ddiod, yr hyn a wêl ef a wná niwed iddo, ié er i hynny ymddangos i fód oblegid rhyw bethau eraill nid [Page 187] yn unic yn ddiogel, eithr yn fuddiol i'w iechyd. Canys er bód yn rhaid i ni gynnal ein Hiechyd, etto ni ddylen ni wneuthur mo hynny trwy bechod, megys y mae meddwdod yn ddiammeu.
2. Ond och! Gau Ddibennion o Yfed. o'r holl liaws o Feddwon y sydd yn y bŷd, nid yw hyn ond cyflwr ychydig iawn, gan fôd y rhan fwyaf o honynt yn myned tû hwynt i'r péth y bo ei hiechyd yn ei ofyn, nag a ddichon ef ychwaith ei ddwyn, ié hyd yn oed ei lwyr ddinistr ef. Ac am hynny y mae'n eglur fód dynion wedi gosod i fynu iddynt ei hunain rhyw Ddibennion amgenach o Ʋfed, na'r rhai cyfreithlon hynny o'r blaen; ny fydde anghymmwys eglurhau ar fyrr béth ydynt hwy, a dangos hefyd mor anresymmol ydynt.
3. Y cyntaf a'r mwyaf yw Cymdeithas dda; Cymdelthas ddâ. y naill ddŷn a ŷf i gadw cyfeillach i ûn arall. Ond mi a ofynnwn i'r cyfryw ûn, pe bydde 'r dŷn hwnnw yn Yfed pûr wenwyn a barchai fe ef o wîr gymdeithas? Os dywed efe na wnai, rhaid i mi ddywedyd iddo ef, mae trwy'r unrhyw, neu well rheswm, y dylei fo ochelyd gwneuthur hyn. Oblegid Yfed yn ang hymmedrol yw'r gwenwyn hwnnw; Ysgatfydd ni weithia fo yn wastad farwolaeth yn erbrwydd (etto y mae i ni lawer o siamplau o hynny, a darfod i laweroedd farw ynghanol ei meddwdod) ond y mae'n hynod iawn fod yr ymarfer o'r pechod hwn gan mwyaf yn dwyn dynion i'w diwedd, ac am hynny er bód y gwenwyn yn gweithio'n araf, etto y mae fo 'n wenwyn. Ond pa ûn bynnag y mae fe yn y cysamser yn gweithio'r péth a gashá gwr Synhwyrol yn fwy nag Angeu; sef Cynddaredd, [Page 188] ac y mae gwallgof yn troi dŷn yn anifail, trwy foddi 'r Rheswm hwnnw yr hwn a ddyle ei ragori ef ac anifail. Yn ddiammeu y mae y ffrwythau o yfed yn gyfryw, a phe buasid ar y cyntaf yn ordeinio meddwdod megys yn gospedigaeth, ni a'i tebygasem ef yn Orthrymmwr creulon yr hwn a'i dychymmygasei ef.
Cynnal Caredigrwydd.4. Yr ail diben o Yfed, meddant, yw cynnal Caredigrwydd, a chymwynasgarwch ymysg dynion. Ond y mae hyn yn anresymmol ryfeddol, i ddynion wneuthur y péth hynny er mwyn cynnal Caredigrwydd, yr hyn yn wir yw'r drŵg mwyaf a ellir ei wneuthur i ûn dŷn. A dybiodd ûn erioed ddangos Caredigrwydd i ddŷn trwy ei helpu fo i ddestrywio 'i olud, ei Enw dá, a'i fywyd? Etto y mae'r néb a yfo fal hyn gydá dŷn yn gwneuthur hynny, ac ychwaneg o lawer, y mae fo'n dinistrio 'i reswm ef, ié, ei Enaid, ac etto rhaid yw galw hyn yn fódd i gynnal Caredigrwydd; y mae hyn yn béth mor ynfyd-ffól ac y tybiei ûn, nad oes néb ond ún yn ei feddwdod a fyddei o'r meddwl hwn. Ond o'r tú arall ni a welwn yn gyffredinol fód hyn yn gymmhwysach i wneuthur cwerylon nag i gynnal cymmwynasgarwch, megys y tystiolaetha'r amryw gynnhennau a welwn ni beunydd, ynghyd a'r archollion, ac weithiau'r llofruddiau a fydd yn ei dilyn hwynt.
Llonni'r Galon.5. Y Trydydd diben, meddant, yw llonni'r Galon, ei gwneuthur hi yn llawen ac yn hyfryd. Ond diammeu na thál y llawenydd hwnnw fawr, yr hwn y bydd raid troi Rheswm tros y drŵs cyn iddo ddechreu; fe all ûn ddywedyd [Page 189] gydá Solomon, Preg. 2.2. Chwerthin y cyfryw ffyliaid sydd ynfydrwydd, ac yn ddiammeu y rhai a fyddant feddw er mwyn ei gosod ei hunain yn y tymmer hwn, fe fydd yn hyfryd ganddynt hefid Wallgôf, am y byddant siccr ei fód ef yn ûn llawen. Ond ychydig y mae'r cyfryw rai llawen yn ei feddwl pa dristwch y maent yn y cyfamser yn ei dryssori iddynt ei hunain, yn fynych yn y bŷd hwn, pan fo'nt trwy chwareu rhyw gampau ynfyd-ffôl, yn dwyn niwed arnynt ei hunain, ond pa ûn bynnag yn ddiammeu yn y bŷd a ddaw, lle y bŷdd yn rhaid rhoddi cyfrif gresynol am y Llawenydd ymma.
6. Y pedwerydd diben, meddant, Bwrw ymmaith Ofalon▪ yw bwrw heibio Gofalon; ond mi a ofynnaf beth yw'r Gofalon hynny? A ydyn hw'n gyfryw rai ac y dylid ei bwrw hwynt heibio? fe allai mae rhyw dymmhigiad a chyhuddiad Cydwybod ydynt hwy, y rhai sydd raid fal hyn ei tynghedu. Ac yr wyfi'n ofni ddarfod i hyn weithio cymmhelled gydá llawer ac i osod ei Cydwybodau hwynt i gyscu. Ond dena'r ynfydrwydd annuwiolaf yn y bŷd; oblegid onid wyti'n tybied fód rhyw béth dirfawr yn y cyhuddiadau hyn, pa ham y maent yn dy gythrwblio di? Ond os ydwyti, ammhossibl i ti ddisgwyl y dichon hyn dy ddiogeli yn hîr rhagddynt. Ti a elli fal hyn ei distawu nhw dros dro, ond nhw a gróch-lefan yn uwch rhyw ddydd am hynny. Bwriwch y gwyddei Leidr neu Lofrudd fód rhai yn ei gynllwyn ef i'w ddwyn i dderbyn Cyfiawnder, a syrthiei fo, debygechwi, i yfed, er mwyn bwrw ymmaith yr ofn o gael ei grogi, ac yn y cyfamser esgeuluso 'r moddion i ddiangc? neu oni [Page 190] thybiechwi fo'n ynfyd resynol os gwnai fo hynny? Etto dena'r uniawn gyflwr ymma; y mae dy gydwybod yn traethu i ti dy berigl, y bydd rhaid dy ddwyn di ar fyrder ger bron gorseddfaingc Duw; ac onid ynfydrwydd yw i ti yn lle ymegnio i geisio dy bardwn, yfed allan bôb coffa o'th Berigl? Ond yn ail bwriwch fôd y Gofalon hyn yn rhai bydol, ac yn gyfryw ac y bydde'n gymwys iawn ei bwrw hwynt ymmaith; yna rhag cywilydd na ammharcha cymmaint ar dy Reswm, a'th Gristianogrwydd, nad allant hwy fôd mor abl i'r diben hwnnw ac ychydig ddiod. Fe ddy wed dy Reswm iti mae ofer yw Gofalu, lle ni bo gofal yn fuddiol: ac fe a gyfarwydda dy Gristianogrwydd di at Un, ar ba ûn y gelli di yn ddiogel fwrw dy Ofalon, canys y mae efe yn gofalu trosoti, 1 Pet. 5.7. Ac am hynny oddigaeth dy fód ti yn amcanu gwadu dy fôd nag yn Ddŷn nac yn Gristion, na arfera bŷth mor fáth ddichell Ystrowgar wael i'th waredu di o'th Ofalon. Ond heb law hynny ni wná hyn mor gwaith ychwaith; canys er y dichon hyn yn y cyfamser, tra 'i bóch di ynghanol dy feddwdod mwyaf, dy gadw di rhag bôd yn deimladwy o'th Ofalon, etto gwedi yr elo hynny heibio, nhw a ddychwelan drachefn a mwy o nerth; ac nhw a ddygan, os oes genniti ddim Cydwybod, ofal newydd gyda hwynt, sef, yr hwn a dardda allan o euogrwydd pechod mor ffiaidd.
Bwrw'r Amser heibio.7 Y pummed diben, meddant hwy, yw i fwrw heibio 'r Amser. Er bôd hyn mor anresymmol a'run o'r lleill, etto fe a wasanaetha i argyoeddi seguryd, yr hwn sydd, chwi a [Page 191] welwch, yn béth mor helbulus, ac y dewisir yr Arfer ffieiddiaf hon o'i blaen hi. Ond nid yw hyn mewn llawer ond escus celwyddog. Canys y maent hwy yn fynych yn treulio Amser yn y dafarn nid yn unic pan na bo ganddynt ddim arall i'w wneuthur, eithr hefyd i esgeuluso ei negeseuau mwyaf angenrheidiol. Pa ûn bynnag, nid yw hyn ond escus anrhesymmol ymmhób dŷn, canys nid oes néb na ddichon gael rhyw béth neu'r gilydd i'w ymdrafferthu i hún yntho. Os nid oes gantho ef ond ychydig negeseuau bydol o'i eiddo 'i hûn, efe a all wneuthur rhyw béth er llesháad i eraill; ond pa ún bynnag nid oes néb nad oes gantho Enaid, ac os efe a edrych yn ddiwyd at hwnnw, nid rhaid iddo mor achwyn o eisieu Neges; lle y mae cynnifer o lygredigaethau i'w marweiddio, cynnifer o ffyrdd i'w gwilio, cynnifer o Brofedigaethau (o ba rai nid yw hwn o feddwdod yn lleiaf) i'w gwrthwynebu; Grasau Duw i'w cynnhyrfu a'i anghwanegu ynom ni, a'r esgeulusdra o hyn o'r blaen i'w alaru am dano, yn ddiammeu nid all fód ar néb eisieu negesau ûn amser; oblegid fôd pób ûn o'r rhain yn gofyn amser, fal y caiff pób dŷn ddeall ar awr Angeu; canys y rhai a fu tros ei holl fywyd yn edrych pa fódd i dreulio ei hamser, a roddai'r holl fŷd y prŷd hynny i brynnu'r unrhyw. Ac y mae Duw yn ddiammeu yn disgwyl i'r rhai a fod yn cael mwyaf o ennyd gan ei negesau bydol, dreulio mwy o Amser mewn Dledswyddau Ysprydol. Ond nid yw gyffelybus y bydd y rádd waelaf o ddynion (i ba rai yr amcenir y Llyfran hwn) o'r nifer hynny, y rhai ni wyddant pa fôdd i dreulio ei hamser, ac am hynny [Page 192] ni safa'i ddim pellach ar hyn, ond yn unic adrodd hyn yma, fód yn sefyll arnynt hwy a phawb dreulio hynny o Ennyd a gánt er llesháad i'w Heneidiau, ac nid i'w dinistr hwynt, megys y gwná y rhai hynny y rhai sydd yn ei dreulio ef i Yfed.
Gochelyd gwradwydd.8. Y chweched Diben, meddant, yw i ochelyd y gwradwydd a'r dirmyg, yr hwn a deflir gan y bŷd ar y rhai a fo yn fwy twys-bwyllog yn hyn ymma na'i Cymydogion. Ond i atteb hyn, mi a ofynnaf yn gyntaf, pa niwed a wna'r cyfryw wradwydd? Ni ddichon ef gystadlu'r lleiaf o'r drygau hynny y mae meddwdod yn ei ddwyn arnoni. Ië os coeliwn ni eiriau ein Hiachawdr, y mae hynny yn ddedwyddwch i ni, Gwyn eich byd, medd ef, pan eich cablo dynion, a dywedyd pób rhyw ddrygair am danoch er fy mwyn i, Matth. 5.11. Ac y mae St. Petr yn dywedyd i ni, 1 Pet. 4.14. Os dirmygir chwi er mewn Enw Crist, dedwydd ydych; ac yn ddiammeu cael ein gwradwyddo er mwyn Ʋfydd-dod i'w Orchymyn ef, yw ein gwradwyddo er mwyn ei Enw ef. Yn ail, cofiwn i ni yn ein Bedydd ymwrthod a gwâg-orfoledd y bŷd; ac ydyw mor hóff gennini 'r awrhon y bŷd, ac rhag ofn ychydig watwor, y rhedwn ni'n fyrbwyll ar yr holl ddrygau amserol hynny y treuthais i am danynt; a'r hyn sydd waeth o lawer digofaint Duw a dinistr tragywyddol? Ond yn Drydydd, os ydych yn ofni Gwradwydd, pa ham yr ydych yn gwneuthur y péth a ddŵg wradwydd arnochwi oddiwrth bób dŷn da Synhwyrol, barn pa ûn yn unig a haeddai ei Ystyried? Yr hyn yn ddiammeu a wná meddwdod. A'th gyssuro-dy [Page 193] hûn yn erbyn hyn, trwy dybied dy fód yn cael Clôd gan ynfydion a'r fáth waethaf o ddynion, nid yw ddim amgen na phe bae'r hóll ddynion gwallgofus yn y bŷd yn cydsynio i'w cyfrif ei hunain yn unic yn rai Sobr, a phawb eraill yn ynfydion; ac etto ni wná hyn moninhw fŷth yn lai gwallgofus, na'r lleill yn llai Sobr. Yn ddiweddaf Ystyria pa farn echryslon a adroddodd Crist ar y rhai a fo cywilydd ganddynt ef, ac felly y gwná pawb a wrthodant ufyddhau iddo rhag ofn gwradwydd, Marc. 8.38. Pwy bynnag a fo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon: bydd cywilydd gan fâb y dyn yntef hefyd, pan ddêl yngogoniant ei Dâd gyda 'r Angelion Sanctaidd. Fe chwennych pawb y dydd hwnnw fód mewn ffafor gyda Christ: ond pwy bynnag ni chyffessant mono ef ymma; hynny yw, ni lwyr-ufyddháant i'w Orchymynion ef, er maint gwatorgerdd, iê, erledigaeth y bŷd, a fwrir ymmaith yn ddiammeu y prŷd hynny ganddo yntef. Ac ni haedda'r nêb a ddewisa fal hyn faintumio ei Enw da ymysg rhai ynfyd a gwallgofus ddim gwell damwain iddo: Ond gwedi'r cwbl nid ydyw siccr y diystyra 'rhain dydi am dy Sobrwydd, fe allai mae cymmeryd arnynt wneuthur felly y byddant er mwyn dy frawychu di allan o hono ef: ond pe chwilid ei Calonnau nhw, fe welid ei bôd nhw yn rhoddi parch dirgel i ddynion Sobr megys o'i hanfodd, ac nad ydynt hwy yn gwradwyddo nag yn dirmygu néb fwy na'r rhai sy'n rhedeg gyda hwynt i'r unrhyw ormodedd a thrythyllwch; oblegid y néb ni arbeda ei hûn feddwi, etto efe a chwardda am ben ûn arall a welo fo felly.
[Page 194] Pleser y Ddiod.9. Y Seithfed diben, yw'r pleser y maent yn ei gymmeryd yn y ddiod, yr hyn sydd rŷ hynod mewn llaweroedd, er bód yn gywilydd ganddynt gydnabod hynny; ond yr wyf yn cyfaddef nad ydyw gymwys draethu llawer wrth y rhai hyn: oblegid y rhai sydd gwedi dyfod i'r râdd resynol hon o drythyllwch, nid ydynt hwy debyg ei dderbyn llês oddiwrth ddim ar a ddywedir wrthynt: etto hyn a ddywedai wrth y cyfryw ddŷn, fód iddo ef fwy o foddion i ddirnad ei fai na rhai eraill; oblegid gan fód hyn yn gyfryw ddiben o Yfed na fyn nêb mo'i gydnabod y mae efe gwedi ei euog-farnu gantho 'i hunan; iè, a chan ei hóll gyd-feddwon hefyd; oblegid gan ei bód nhw yn gwadu hyn, arwydd hynod yw, ei bod nhw yn cydnabod hynny yn béth tra-ffiaidd. Ac os gelwid Esau yn ddŷn halogedig, Heb. 12.6. am werthu ond ei anedigaeth-fraint am saig o gawl, a hynny hefyd pan oedd newyn arno ef; pa henw digon gwradwyddus a geir i'r néb a wertho ei Jechyd, ei Synwyr, ei Dduw, a'i Enaid am gwppaned o ddiod, a hynny pan fo ef cymmhelled oddiwrth fod arno ei heisiau hi, ac ysgatfydd fód gantho yn barod fwy nag a allo fo i gynnwys o'i fewn? Ni ddywedai ddim anghwaneg wrth y cyfryw ddynion, ond gadewch i mi rybuddio y rhai ôll sydd yn myned ymlaen yn y pechod hwn ár y run o'r dibennion eraill, mae ychydig amser a'i dŵg nhw i hyn ymma y maent hwy yn proffessu cymmaint ei ffieiddio, gan ein bôd ni beunydd yn gweled fod y rhai a ddenwyd i'r pechod hwn ar y cyntaf o Gariad i gymdeithas, yn parhau yntho ef o'r diwedd o gariad i'r Ddiod.
[Page 195]10. Bargenio. Ni fedrai feddwl am ûn Diben anghwaneg ond ûn, sef Bargenio. Rhai a ddywed mae angenrheidiol iddynt hwy Yfed wrth farchnatta a'i Cymydogion, gan fôd yn gymwys iawn ddibennu Bargennion ar y cyfryw ymgyfarfod. Ond y mae hyn etto yn waeth Diben na'r lleill i gyd, oblegid amcan hyn ymma yw bwriadu Siommi a thwyllo eraill; yr ydyni yn tybied y gallwn ni yn hawsach fyned trostynt hwy, pan fyddont mewn Diod; ac y mae hyn yn anghwanegu'r pechod o dwyll a hocced at Feddwdod. Yr awrhon y mae 'n eglur mae hyn yn unig yw ei bwriad nhw, oblegid pe byddent yn unig yn amcanu pryssuro ei marchnad, nhw a ddewisent yn hyttrach gymmeryd dynion a'i Synwyr o'i cwmpas; am hynny ei cymmeryd nhw pan fo Diod gwedi ei annhymmeru nhw nid yw ddim ond i graffu ar fantes arnynt. Etto fe ddychwel hyn yn fynych i fôd yn ynfydrwydd mawr yn gystal ac yn bechod; canys y mae'r nêb a yfo ag ûn arall ar fedr ei siommi ef, yn prifio yn fynych yn fwy penchwiban, ac felly meddwi yn gyntaf, ac yna 'mae fe 'n rhoi y run odfa i'w dwyllo 'i hûn ar a fwriadodd ef i siommi 'r llall: Yr awrhon y mae'r Diben hwn o Yfed cymmhelled oddiwrth escusodi a'i fód ef yn gwneuthur y pechod yn fwy o lawer; oblegid os ni ddyleni Yfed yn anghymmedrol ar achos yn y bŷd, llai o lawer ar y cyfryw ûn drŵg ag yw twyllo a siommi ein brodyr.
11. Yr awrhon yr wyfi'n meddwl ddarfod i mi ddangos mor anresymmol yw'r Annogaethau hynny y rhai a ddygir i mewn gan mwyaf i [Page 196] escusodi 'r pechod hwn. Rhaid i mi ddywedyd i chwi ymmhellach, mae nid y mesur eithaf hynny o Feddwdod yn unig, yr hwn sy'n gwneuthur i ddynion fethu rhodio a siarad, sydd i'w gyfrif yn bechod, eithr pób rhyw Râdd îs, yr hwn a weithia ar y synwyr naill a'i i'w bylu ef ai wneuthur yn anghymwys i unrhyw neges, neu iw wneuthur ef yn rhŷ ysgafn, yn hyblyg i ddifyrrwch gwâg ynfyd, neu yr hyn sydd waeth, yr hwn a ennynna ddynion i gymddeiriogrwydd a gwylltineb. Y rhai'n neu ba rai bynnag eraill a wnâ gyfnewid yn y bŷd mewn dŷn a gyfrifir yn y pechod hwn o Feddwdod: Ié, ymmhellach, Yfed tu hwynt i'r dibennion naturiol o yfed, hynny yw, tu hwynt i Gymmedrolder gweddus, sydd yn bechod, er trwy nerth pen dŷn nid yw hynny yn newid mo'i dymmer ef yn y mesur lleiaf, ac am hynny y mae y rhai sydd héb fód yn gwbl-feddw, etto a ddichon dreulio Dyddiau cyfan, neu ryw ran ystyriol o honynt yn Yfed, cymmhelled oddiwrth fôd yn ddieuog, a bôd y wae fwyaf honno yn perthyn iddynt, a adroddir, Esa. 5.22. Yn erbyn y rhai sydd nerthol i Yfed. Oblegid er y dichon y cyfryw ûn, ond odid, gadw ei Synwyr, etto ni wasanaetha'r cyfryw Synwyr ond i ychydig bwrpas, gan ei fôd ef yn treulio'i amser yn yr ûn módd ar meddwyn anifeiliaidd, hynny yw, i dywallt i wared ddiod.
12. Ié, y mae'r dŷn hwnnw yn euog o fwy o afradlonrhwydd; yn gyntaf, o greaduriaid da Duw: y ddiod yr hon a amcenir trwy Ragluniaeth Duw er iechyd a chymmorth i ni, a gamarferir ac a afradlonir pan yr yfir hi tû hwynt [Page 197] i'r mesur hwnnw y mae'r dibennion hynny yn ei ofyn, ac yn ddiammeu nid yw'r gwaelaf o'r Creaduriaid hyn yr ydyni yn ei mwynhau, na bŷdd yn rhaid i ni roddi cyfrif ryw ddydd am ei cam-arferu hwynt, a'r hwn a yfo hwyaf sydd arno fwyaf o'r eüogrwydd ymma. Ond yn ail, y mae hyn yn afradlonrhwydd o béth sydd werthfawroccach o lawer, ein hamser, yr hwn a roddir i ni gan Dduw i weithio allan ein Hiechydwraeth yntho, ac sydd raid roi cyfrif twys am dano, ac am hynny y dylid hwsmonaethu pób munudyn o hono ef mor gynnil ac y bo possibl i'r diben hwnnw yngweithredoedd buchedd ddâ; ond pan dreulir ef fal hyn, y mae'n union yn y gwrthwyneb, sef, gweithio allan ein Damnedigaeth. Heb-law hyn, y mae'r nêb a yfo fal hyn, er iddo ddiangc rhag meddwi ei hûn, yn euog o holl feddwdod ei Gymdeithion; oblegid y mae ef trwy ei Esampl ei hún yn rhoi Calon yn y lleill i yfed rhag llaw, yn enwedig os bŷdd ef ûn o ryw awdurdod; ond os bŷdd ef ûn yr hwn y bydd y lleill yn hóff ganddynt ei gymdeithas ef, yna y mae ei gyfeillach ef yn ddiammeu yn rŵyd iddynt, oblegid nhw óll a yfant hefyd yn hyttrach na cholli ei gymdeithas ef. Y mae etto fai mwy, y mae llawer o'r rhai nerthol ymma i Yfed yn euog o hono, sef, ei gosod ei hunain yn bwrpasol i feddwi eraill, gan chwareu megys camp ar hynny, a chyfrif hynny yn achos o Orfoledd a buddugoliaeth weled eraill yn Syrthio o'i blaen hwynt: y mae hyn yn bechod tra-echryslon, nid amgen na'n gwneuthur ein hunain y Blaid i'r Cythrel, gan ymegnio hyd yr eithaf o'n gallu i ddenu ein cyd-frodyr i drueni tragywyddol, [Page 198] trwy ei bradychu nhw i'r cyfryw bechod echryslon; ac am hynny fe ellir yn dda gyfrif hyn yn râdd uchaf o'r pechod hwn o Yfed, gan fôd yntho ef, heb law ein gormodedd ein hunain, y pechod o ddrygu eraill yn ddirfawr. Ac er bód y bŷd yn edrych ar hyn ond megys achos o gellwair a digrifwch, meddwi eraill, môdd y gallon ni chwerthin am ben ei hymddŷgiad ynfyd-ffôl hwynt, etto fe ddibenna'r cyfryw ddigrifwch mewn Tristwch, gan fôd Duw gwedi bygwth gwae yn arbennig i'r pechod hwn, Hab. 2.15. Gwae a roddo ddiod i'w gymydog, gan gyd-osod dy gostrel, a'i feddwi befyd er cael gweled ei noethni: Ac yn ddiammeu y mae efe yn prynu ei goeg-ddifyrrwch yn ddrûd iawn, yr hwn a'i cymmer ef a'r cyfryw wae i'w galyn.
13. Mi a dreuthais bellach am yr amryw Annogaethau a Graddau o'r pechod hwn o Feddwdod, lle y búm i yn fwy neillduol, oblegíd ei fód ef yn bechod yn Rheoli mor rhyfeddol yn ein mysg ni, gan nad oes na chyflwr, nag Oedran, na grâdd yn y bŷd o ddynion, yn rhŷdd oddiwrtho, i fawr ddi-anrhydedd Duw, dirmyg Cristianogrwydd, a dinistr nid yn unig ein Heneidiau ein hunain ar ôl hyn, ond hefyd ein hóll fudd a'n dedwyddwch presennol yn y bŷd hwn; gan nad oes ûn pechod yn bradychu pób rhyw ddŷn neillduol ar a'i gwnelo i fwy o ddrygau yn ei Synwyr, ei Iechyd, ei fri, a'i Ddâ bydol, nag y mae hwn yn unig. Ac y mae i ni achos i gredu fòd y pechod hwn yn ûn o'r pechodau dirfawr cyffredinol hynny y rhai tros hîr amser a bwysasant yn drwm ar y Genhedlaeth hon, ac a dynnasant i lawr yr amryw farnedigaethau [Page 199] echryslon hynny y gróch-lefasom ni tanynt.
14. Am hynny, O Ddarllennydd Cristianogawl, gâd i mi yr awrhon ddeisyf arnati, neu yn hyttrach dy dynghedu di trwy'r holl dymherwch a'r cariad sydd ddledus arnati i anrhydedd Duw, Brî dy broffes Gristianogawl, dedwyddwch tragywyddol dy enaid dy hûn, Llwyddiant yr Eglwys a'r Genhedl, o ba ûn yr wyti 'n aelod; ie, trwy 'r Cariad hwnnw sydd yn ddiammeu genniti i'th happusrwydd amserol dy hun, i feddwl yn ddwys ac yn ddiwyd am y péth a draethwyd; Ac yna barna, a oes pleser yn y bŷd yn y pechod hwn a ddichon wneuthur iawn cymwys am yr holl ddrygau hynny y mae ef yn ei ddwyn gyda'g ef; y mae 'n ddiogel gennifi nad oes ûn dŷn yn ei iawn bwyll a dybia fòd, ac os nid oes, yna bíd cywilydd genniti fôd rhag llaw yn gyfryw ûn ynfyd a gwneuthur bargen mor resynol, eithr dechreu y munudyn hwn lawnfwriadu yn gadarn na bo iti byth rhag llaw fôd yn euog o r pechod anifeiliaidd hwn, er mynyched hyd yn hyn y syrthiaisti iddo, ac ymosod dy hûn yn ofn Duw i Gymmedrolder cyflawn, yr hyn pan wnelych, ti a ganfyddi i ti wneuthur nid yn unig gyfnewidiad buddiol ond ûn hyfryd hefyd; oblegid nid oes nêb a archwaethodd obób ûn o'r ddau na ddywed ei galon ei hûn iddo ef fôd anfeidrol mwy o gyssur ac hyfrydwch mewn Sobrwydd a Chymmeddrolder, nag a gafodd ef erioed yn ei hóll Feddwdod a'i Drythyllwch.
15. Torri ymmaith yr Arfer ar y cyntaf ydyw'r anhawsder mwyaf, a hynny sy'n dychwelyd o ran o'n plegid ein hunain, ac o ran oblegid eraill. Yr [Page 200] anhawsder o'n plegid ein hunain a ddichon fôd o ddau fáth; yn gyntaf, pan foni trwy hîr ymarfer o yfed, gwedi dŵyu y fáth gau-syched arnom ein hunain, a bód ein Cyrph megys yn gofyn y Ddíod, ac nid oes eisieu ond ychydig ammynnedd i orchfygu hyn ymma. Ymarbed ond tros ychydig Ddyddiau, ac ar ól hynny fe fydd yn ddigon esmwyth i ti; oblegid gan mae arfer a wnaeth yr anhawsder ymma, torr hwnnw ymmaith, a thi a wnaethost y gwaith. Os dywedi, y mae 'n anhawdd iawn gwdeuthur felly, ystyria, pe byddei arnati ryw glefyd a'th laddeu di yn ddiammeu oddigaeth i ti tros ychydig amser ymgadw rhag yfed yn anghymmedrol, oni fydde well genniti ymgadw na marw. Os ni bydde, yr wyti 'n fáth hurtyn anifeiliaidd nad yw ond ofer dy gynghori di; ond os bydde, yna ystyria mor anresymmol yw, na wnei di felly ymma hefyd; fe ddichon ymarfer o yfed yn dda iawn bassio am Glefyd marwol, y mae ef yn dychwelyd felly yn fynych iawn i'r Corph, ond yn ddiammeu fe a fydd felly i'r Enaid; ac am hynny cynddaredd gwallgofus yw sefyll ar yr anhawsder ymma yn meddiginiaethu 'r Enaid, yr hwn a ymro it i yn ewyllysgar iddo mewn llai perigl o'r Corph. Gosod gan hynny ond dy lawn fwriad i ddioddef yr ychydig helbul hwnnw, tros amser byrr, a thi a gei 'r oruchafiaeth ar yr anhawsder cyntaf ymma, canys gwedi iti ymarbed tros dro, fe fydd yn hawdd iawn i ti wneuthur felly rhag llaw,
16. Yr ail anhawsder yw treulio 'r Amser, yr hwn ni wŷr bêb a fu arfer o wneuthur yfed yn Neges ac yn orchwyl, ond pryn pa fôdd i'w fwrw [Page 201] heibio. Ond y mae hyd yn oed henwi 'r anhawsder ymma yn ein cyfarwyddo ni at feddiginiaeth; cais iti ryw orchwyl, rhyw béth i'th ymosod dy hûn yn ei gylch, yr hyn (fal y dangosais i o'r blaen) a fydd yn hawdd iawn i bób máth ar ddŷn ei gael; ond siwr ni all fód ar y râdd waelaf o ddynion, at ba rai yr wyfi 'r awrhon yn scrifennu, eisieu gorchwyl yn barod ger llaw, gan i bód nhw gan mwyaf i ennill ei bywiolaeth trwy ei llafur, ac am hynny nid rhaid i mi ond yn unic roi 'r cyngor hwn iddynt hwy, fód yn ddiwyd yn y gorchwyl hwnnw sydd ganddynt, a dilyn hwnnw yn fanwl fal y dylent; ac ni bydd iddynt ond ychydig achos i chwilio allan am ffordd i dreulio 'i hamser.
17. Y mae máth arall ar anhawsder, yr hwn a ddywedais i sydd yn dychwelyd oddiwrth eraill a hynny yw naill a'i oddiwrth ei hannogaethau, neu'i gwradwyddau hwynt. Y mae yn debyg iawn, os dy hen gymdeithion a'th wêl di yn dechreu syrthio ymmaith, y gosodan nhw yn galed arnati i'th ddwyn di yn ôl i'th hên arfer, nhw ahaeran mor angharedig yw iti ymwrthod a Chymdeithas dy gyfeillion, mor drîst yw i ti ymadel a'r holl Lawenydd a'r Digrifwch hwnnw, yr hwn y mae Cymdeithion da (fal y galwant hwynt) yn ei fwynhau: ac onid ellir dy ennill di fal hyn, nhw a'th frawychant di a gwradwydd y bŷd, ac felly profi a allant hwy dy wawdio di allan o'th sobrwydd.
18. Y módd i orchfygu 'r anhawsder ymma yw ei ganfod ef ymlaen llaw; am hynny pan amcenych di gyntaf osod ar dy gwrs o Gymmedrolder, [Page 202] bwriada y cyfarfyddi a'r rhain, ac ysgatfydd a llawer eraill o Brofedigaethau, ac módd y gellych iawn-farnu a ydynhw deilwng i ti wneuthur cyfrif o honynt, ystyria a haedda'r gau-garedigrwydd a gynnyddir ymysg dynion trwy Yfed, ei gystadlu a gŵir dragywyddol garedigrwydd Duw yr hwn a gollir trwy hynny; neu a oes gymmesurwydd yn y bŷd rhwng y gwâg-ddifyrrwch, ffôl hwnnw, a llawenydd presennol Cydwybod ddâ ymma, neu 'r llawenydd mwy hwnnw yn y Nêf ar ôl hyn. Yn ddiweddaf, a yw gwradwydd annheilwng dynion drŵg, neu gywilydd y bŷd mor echryslon ac yw cyfiawn argyoeddiad dy Gydwybod dy hûn yn y cyfamfer, a'r tragywyddol warthrudd wyneb hynny yr hwn a ddychwel i bawb, ar y dydd diweddaf, ar a elo ymlaen yn y pechod hwn; dyfal-bwysa hyn óll, meddaf, nid rhaid i mi ddywedyd, ynghlorian y Cyssegr, ond ynghlorian Rheswn cyffredinol, ac yn ddiammeu, nid elli di lai na chydnabod, fôd yr Annogaethau i Gymmedrolder yn llwyr bwyso i lawr y lleill. Gwedi i ti fal hyn farnu yn bwyllog, yna sefydla dy lawn fwriad yn gyf-attebol, a pha brŷd bynnag y daw rhai o'r Profedigaethau hyn i'th siglo di, cofia i ti o'r blaen ei pwyso hwynt, a'th fôd yn gwybod ei prîs nhw a'i bód nhw yn bethau annheilwng iawn o'r Rhagorfreintiau gwerthfawr hynn sydd raid i ti roddi yn gyfnewid am danynt. Am hynny parhá yn ddyfal yn dy lawnfwriad, a bwrw ymmaith trwy Lidiawgrwydd bob-rhyw gynhyrfiadau i'r gwrthwyneb.
[Page 203]19. Ond bydd siccr o'i bwrw hwynt ymmaith fal hyn ar y cynnyg cyntaf, ac nag ymroá iddynt yn y mesur lleiaf; oblegid os tydi unwaith a roddi dîr iddo, y may perigl mawr y mynn y pechod bôb ychydig ac ychydig y llaw uchaf arnati. Dymma fal i gwelwn ni laweroedd y rhai addefasant yn hyderus fwriadu Cymmedrolder dirfawr, etto o eisièu 'r gofal ymma, a anturiasant a'r gyfeillach ofer-ŵyr; pan ddaethant yno, trwy daer ymbil ar y cyntaf nhw agymmerasant gwppaned, gwedi hynny ûn arall, nes o'r diwedd iddynt ei chymmeryd hi o gwmpas cyn rhwydded a'r lleill, ac yn y Llifeiriant hwnnw o ddiod, nhw a foddasant ei holl amcanion sobr. Pwg bynnag gan hynny wyti a'r sydd yn chwennych yn difrifol ymwrthod a'r pechod, edrych am ochelyd yr Achosion a'r Dechreuad o honaw; i'r diben hwn fe fŷdd yn dda i ti draethu allan ar gyhoedd dy amcanion o sobrwydd, ac felly ti a ddigalonni ddynion rhag syrthio arnati. Ond os bydd naill ai yn gywilyd genniti gyfaddef hynny, neu, os tybir dy fôd di felly, nhw a wnán ddefnydd o'r Cywilydd hwnnw i'th ddwyn di i'w dorri ef.
20. Os byddi di fal hyn yn wiliadwrus i'th gadw dy hûn rhag y cynnhyrfiadau cyntaf, yna 'r wyti 'n siccr na oddiwedda 'r pechod hwn bŷth monoti. Canys y mae hynn y debyg i gadw 'r muriau oddiallan i Ddinas warchaedig, y rhai tra'r amddeffynnir nhw yn nerthol, nid oes dim perigl; ond os gorescynnir hwynt, neu ei rhoddir hwynt i fynu, ni ddichon y Ddinas ddlal allan yn hîr: Y mae gan hynny Gyngor y [Page 204] gŵr doeth yn dra-chymmesurol i'r pwrpas hwn, Eccles. 19.1. Yr hwn sydd yn diystyru ychydig, a syrth o fesur ychydig. Ond oblegid fal y dywed y Psalmydd. Psal. 127.1. Os yr Arglwydd ni cheidw 'r Ddinas, ofer y gwilia 'r Ceidwad: am hynny anghwanega at dy wiliadwraeth dy hûn Weddi ddifrifol, ar fôd i Dduw hefyd wilio trosoti, a thrwy rym ei Râs ef dy wneuthur di yn alluog i wrthsefyll yr hóll Brofedigaethau i'r pechod hwn.
21. Os tydi mewn symlrwydd dy Galon a arferi 'r moddion hyn, nid oes ammeu nad elli di gael yr oruchafiaeth ar y pechod hwn, er cyhyd yr ymarferaisti ac ef, am hynny os wyti etto tan ei Lywodraeth ef, na escusoda monot dy hûn gan ddywedyd fôd y gwaith yn ammhossibl, eithr yn hyttrach cyhudda ffûg dy Galon dy hun yr hon sydd etto mor hôff ganthi hi 'r pechod hwn, ac na ymosodi yn ddifrifol i arferu 'r moddion i'w orchfygu ef.
22. Fe ddarfu ysgatfydd i gyffredinoldeb y pechod hwn, a'th ymarfer neillduol di o hono ef, wncuthur ef mor hóff a chartrefol iti, a bód yn anhawdd genniti feddwl yn galed o hono ef, neu dybied i fód ef, yn amcanu dim niwed i ti, ac am hynny mae 'n hawdd genniti draethu heddwch i ti dy hûn, gan obeithio naill ai nad ydyw ef Bechod, neu o'r eithaf ond Gwendid, yr hwn ni 'th rwystra di rhag dyfod i'r Nêf: Ond na thwylla monot dy hûn, oblegid tia elli yn gystal ddywedyd nad oes ûn Nêf, ac na cheidw Meddwdod di allan o honi; y mae 'n ddiogel gennifi mae 'r ún Gair Duw yr hwn sy 'n dywedyd i ni fód y cyfryw lo [Page 205] o ddedwydwch, sydd hefyd yn dywedyd i ni nad yw Meddwon o nifer y rhai a'i hettifeddant hi. 1 Cor 6.10. a thrachefn Gal. 5.21. Fe gyfrifir Meddwdod ymysg gweithreddoed y Cnawd, y rhai pwy bynnag ai gwnêl, ni chánt etifeddu Teyrnas Dduw. Ac yn wîr pette 'r scrythur heb sôn, fe ddywedai Rheswm naturiol i ni yr ûn péth, sef bôd y Nêf yn fangre o anfeidrol bûrdeb, yn gyfryw ac na ddichon cîg a gwaed, nes ei buro a'i addnewyddu, fyned i mewn iddo, fal y dywed yr Apostol, 1 Cor. 15.53. Ac os ydyni megys yn ddynion yn rhŷ ammhur ac amrosgo iddi hi, yr ydyni yn ddiammeu yn fwy o lawer felly, gwedi i ni ein cyfnewid ein hunain i fòch, y budraf o Anifeiliaid; yna yr ydyni 'n barod i'r Cythreuliaid i fyned i'n mewn, megys ac yr aethant i'r genfaint, Marc. 5.13. A hynny nid yn unic ûn neu ddau, ond Lleng; byddin a lliaws o honynt. Ac yr ydyni beunydd yn gweled Siamplau o hyn oblegid lle y mae 'r pechod hwn o Feddwdod gwedi cymmeryd meddiant, y mae efe gan mwyaf yn dwyn aneirif o rai eraill gydág ef; y mae pób gweithred o bechod yn paratoi dŷn, nid yn unic i ûn arall o'r unrhyw, ond i rai eraill hefyd; y mae trachwant a chynddaredd a phób gwiniau anifeliaidd y Prŷd hynny yn agored, ac felly y mae dyn yn ei ddwyn ei hún tan y felldith honno yr hon oedd yr echryslonaf ar a wyddei Dafydd pa fódd i'w rag-ddywed i ún dŷn, Psal. 69.28. Syrthio o'r naill Anwiredd i'r lláll. Os ni thyccia hyn i gyd i'th ddychrynnu di allan o'th Feddwddod, dós ymlaen i ymdrybaeddu yn dy chwdiad, parhá yn y cyflwr budr amfeiliaidd hwn, nes i fflammau Uffern dy ddeffró di, ac yna ti a ganfyddi, i'th ddidrangc drueni, [Page 206] mae Diwedd y pethau hynny, fal y dywed yr Apostol Rhuf. 6.21. yw Marwolaeth. Duw o'i anneirif drugaredd a ddadebro galonnau y rhai óll sydd yn eüog o'r pechod, módd y gallont mewn prŷd ymadel ac ef, ac felly gochelyd y Llid sydd i ddyfod. Fe ddarfu i mi bellach dracthu am yr ail Rhan o Gymmedrolder, ynghylch Yfed.
DOSPARTHIAD,
IX.
Cymmedrolder yn Cyscu: y Rheol o hynny, &c.
Drwg Syrthni; am Atgyweiriadau, Gocheliadau iw hystyried yn hynny; am Wisg, &c.
1. Cwsg▪ YTrydydd Rhan o Gymmedrolder sydd yn perthyn i Gysgu: Ac y mae'n rhaid mesur y Cymmedrolder yn hynny hefyd trwy'r diben er mwyn pa ûn yr ordeinwyd Cwsg gan Dduw, yr hyn oedd yn unig i atgyweirio ac i gynnal i fynu ein Cyrph gwael ni, y rhai gan ei bôd o'r cyfryw dymmer a bód llafur a lludded wastadol yn peri iddynt flino, a bód yn ddeffygiol, y mae Cwsg yn dyfod megys meddiginiaeth i'r Blinder hwnnw, ac atgyweiriad i'r deffygiad hwnnw, fal y boni yn gymwys i'r cyfryw lafur ac y bo Dledswyddau Crefydd, neu weithredoedd ein Galwedigaeth yn ei gofyn gennini. Cwsg a fwriadwyd i'n gwneuthur ni yn fwy buddiol, nid yn fwy Segur; megys yr ydyni yn rhoddi esmwythdra i'n Hanifeiliaid, nid oblegid ein bod ni yn bodloni iddynt fód heb wneuthur dim, ond fal y gallont wneuthur ein Gwasanaeth ni yn well.
2. Y Rheol o Gymmedrolder yntho. Trwy hyn gan hynny chwi a ellwch farnu pa béth yw Cwsg Cymmedrol; sef yr hwn a'n hatgyweiria ni, ac a'n gwná ni yn fwy cymwys [Page 208] i Lafur, ac i'r diben hwnnw grâdd gymmhedrol o hono sydd oreu. Ammhossibl a fydd gosod ar lawr yn union pa sawl Awr yw'r rádd gymmhedrol honno, oblegid megys yn bwyta, felly hefyd yn Cysgu, y mae tymmer rhai Cyrph yn gofyn ychmaneg na'r lleill: Rhaid i bòb dŷn farnu hyn wrth ei Gyfarwyddid ei hûn, ond edryched am farnu yn union, heb ymofyn a'i Syrthni yn hyn ymma, oblegid hwnnw a waedda allan yn wastad gyda diogyn Solomon, Ychydig ychwaneg o Gysgu, ychydig heppian, ychydig wasgu'r dwylo i orwedd; Dihar. 24.33. Ond cymmered yn unig cymmaint ac a wêl ef a duedda i'r diben rhagddywededig.
Drwg Syrthni.3. Y mae'r neb nid yw fal hyn yn ei gadw ei hûn i mewn, tan yr ûn pechod Cyffredinol hwn o Syrthni, yn Syrthio i amryw Bechodau eraill: megys yn gyntaf y mae ef yn treulio ei amser, sef y Dalent werthfawr honno a roddes Duw iddo ef i'w anghwanegu, ond y mae'r neb a'i cwsg hi allan yn gwneuthur yn debyg i'r Dŷn yn yr Efengyl, Matth. 25.18. Yr hwn a'i cuddiodd hi yn y Ddaiar, pan ddylasei fe farchnatta a hi; a chwi a wyddoch béth a ddychwelodd ir gwâs anfuddiol hwnnw, wer. 30. Bwriwch ef i'r tywllwch eithaf: y nêb sydd yn ei ymroi ei hûn i dywyllwch Gwsg ymma, a gaiff yno dywyllwch hêb Gwsg, ond gydág Wylofain a rhingcian dannedd. Yn ail, y mae ef yn gwneuthur cam a'i Gorph, y mae Cwsg anghymmedrol yn llenwi hwnnw o ddoluriau, ac yn ei wneuthur ef yn ryferthwy pób ffieiddglwyf, megys y mae Cyfarwyddid feunyddiol yn dangos i ni. Yn drydydd, y mae efe yn [Page 209] gwneuthur niwed i'w Enaid hefyd, a hynny nid yn unic trwy rwystro iddo ef wasanaeth y Corph, ond trwy bylu ei ddoniau priodol ef, a'i gwneuthur hwynt yn annefnyddiol ac yn anghymwys i'r Gorchwylion hynny, i ba rai yr ordeiniodd Duw hwynt; ac fe fydd yn rhaid i'r Enaid ryw ddŷdd rhoddi cyfrif am yr holl ddrwg-oruchwyliaeth hyn. Ië, yn ddiweddaf, y mae ef yn dirmygu Duw ei hûn yn hyn, trwy groesi diben ei greadigaeth ef, yr hyn oedd i wasanaethu Duw trwy Ufydd-dod weithredol; ond y mae'r hwn sydd yn Cyscu allan ei fywyd, yn croesu yn hollawl ac yn gwrthwynebu hynny, a phan fo Duw yn dywedyd, Dyn a aned i Lafur, y mae ei ymarweddiad ef yn dywedyd yn union yn y gwrthwyneb, mae Dyn a aned i Seguryd. Gochel gan hynny dy roddi dy hûn i fynu i gwsg anghymmedrol, yr hŵn sydd yn cynnwys yntho lawer o Bechodau yn ûn.
4. Ond heb law ei fód ef yn Bechod, y mae ef mewn moddion eraill hefyd yn niweidiol iawn, y mae ef yn ddiammeu yn llwgr i'th olud bydol, yr hwn ni chynnydda bŷth i'r diogyn, fal y dywed y gŵr Doeth, gormod Cysgu a bár fyned mewn gwisg ddrylliog, Dihar. 23.21. Ië yn wîr pryn y gellir dywedyd fod dŷn cysgadur yn fyw: chwi a wyddoch mae máth ar Farwolaeth i'w Cwsg, a pha béth a wná'r hwn a'i rhoddo ei hûn i fynu i Gwsg ond marw cyn ei amser? Am hynny os edrychir ar Farwolaeth anamserol megys melldith, ynfydrwydd rhyfeddol yw i ddŷn ddewis hynny wrth ei Syrthni ei hún, yr hwn y mae ef yn ei arswydo cymmaint oddiar law Duw.
[Page 210] Cymmedrolder mewn Atgy weiriadau.5. Y pedwerydd Ran o Gymmedrolder a berthyn i Atgyweiriadau, y rhai sydd weithiau yn angenrheidiol i Gorph ac i Feddwl Dŷn, gan na ddichon yr ûn o honynt oddef lludded ddibaid, héb beth cyfwng o lonniad ac esmwythdra; ac am hynny y mae arfer tra-chyfreithlon o honynt; ond er mwyn ei hiawn-arferu hwynt, fe fŷdd angenrheidiol Ystyried y Gocheliadau hyn.
Gocheliadau i'w hystyried ynddynt.6. Yn gyntaf, Cymmerwn ofal ar ei bód nhw yn rai cyfreithlon, sef rhai na bo dim o bechod ynddynt; ni wasanaetha i ni i'n diluddedu ein hunain wneuthur dim a fo yn dianrhydeddu Duw, neu yn niweidiol i'n Cymydog, megys y gwna y rhai sydd yn gwneuthur ymadroddion ffiaidd halogedig enllibaidd yn atgyweiriad. Yn ail, cymmerwn ofal ar i ni ei arferu ef mewn cymmedrolder: ac er mwyn hyn gochelwn dreulio gormod o Amser arno ef eithr cofiwn mae diben Atgyweiriad yw, i'n cymmhwyso ni i ryw orchwyl, ac nid i fôd ei hún yn orchwyl i ni: yn ail na arferwn mono ef yn rhy gerth a difrifol, ac na osodwn ein Calonnau ormod arno ef, oblegid fe rwyda hynny ni i'w arferu ef ormod, ac a drŷ hefyd ein Meddyliau ni ymmaith oddiwrth ein negesau mwy angenrheidiol: Fal Ysgolheigion, y rhai, gwedi hîr chwareu, ni wyddant pa fódd i'w ymosod ei hunain at ei Llyfrau drachefn. Yn ddiweddaf na osodwn i ni ein hunain ûn diben arall'o Atgyweiriadau, ond yr ûn cyfreithlon hwnnw, sef o roddi i ni ddiludded cymmhesurol.
[Page 211]7. Megys yn gyntaf ni wasanaetha i ni arferru difyrrwch y unic i bassio heibio 'r amser, yr hwn a ddyleni trwy bób módd ei waredu ac nid ei daflu ymmaith; ac os cofiwn ni pa waith mawr sydd i ni i'w wneuthur ymma, gwneuthur ein galwedigaeth a'n hetholedigaeth yn siccr, siccrhau ein braint i'r Nefoedd ar ôl hyn, ac mor anilys ydyni pa amser a gawn ni i'r pwrpas hwnnw, fe ymddengys mae ein hamser yn anad dim a ddyloni ei hwsmonaethu oreu. Ac am hynny nid oes i ni fawr achos i fwriadu ffyrdd ei dreulio hwnnw yr hwn sydd yn myned ymmaith cyn gynted o hono 'i hûn, ac sydd yn ammhossibl ei ailgyrchu. Ystyried y rhai a fedr dreulio Dyddiau a nosweithiau cyfan ar Gardiau a Disiau, a chwaryddiaeth ofer a ddarfu iddin hw erioed hepcor y bedwerydd Ran o'r Amser hwnnw ynghylch y gorchwyl mawr hwnnw o'i bywyd, er mwyn pa ûn y rhoddwyd iddynt ei holl Amser, ac yna ystyriant pa gyfrif gresynol y maent yn debyg i'w wneuthur, pan ddelont o'r diwedd i roddi cyfrif am y tryssor gwerthfawr hwnnw, ei Hamser. Yn ail gwiliwn fód i'n Cybydd-dod ddim a wnelo yn ein chwareuon, os chwarawn ni ryw Chwaryddiaeth bydded ein diben ni yn unig i'n diluddedu ein hunain, ac nid i ennill arian; ac i'r pwrpas hwnnw edrych na bo iti ûn amser chwareu am ryw bêth mawr, canys os gwnei ti a'th ddygi dy hún i ddau berigl, ûn o Gybydd-dod, a chwant dirfawr o ennill, a'r llall o Gynddaredd a digofaint wrth dy damwain ddrŵg, os digwydd iti golli; pôb ún o'r rhain a fŷdd tebyg i'th denu di i Bechodau eraill heblaw ei hunain: Cybydd-dod [Page 212] a'th tywys di i dwyllo ac i hoccedu wrth chwareu, a digofaint, i dyngu a rhegu, fal y gwelwn ni yn rhy fynych yn gyffredinol. Os gweli di dy hûn yn hygŵydd i' rûn o'r rhain yn dy chwareu, rhaid iti naill ai ceisio rhyw foddion i'th arfogi dy hûn yn ei herbyn hwynt neu adael heibio chwareu yn hollawl: oblegid, er nad yw chwaryddiaeth gymmedrol ynthi ei hûn yn anghyfreithlon, etto os bydd hi yn achos o bechod, y mae hi felly iti, ac am hynny na anturia arno ef. Canys os ydyw Crîst yn gorchymyn i ni mor gaeth ochelyd Profedigaethau, ac os bydd ein llygaid neu 'n dwylo yn ein rhwystro ni (hynny yw, yn rhwyd i ni) rhaid i ni yn hyttrach ymadel a hwynt, na goddef ein denu i bechod ganddynt: pa faint mwy y dyleni ymadel a'r gwag ddifyrrwch hyn, yn hyttrach na rhedeg i enbydrwydd o ddigio Duw trwyddynt? Y mae 'r hwn sydd felly yn chwareu yn rhoddi ei Enaid yn wystl ar lawr yr hwn sydd béth rhŷ werthfawr i'w chwareu ymmaith. Heblaw hynny y mae efe 'n colli 'r holl ddifyrrwch a'r diludded y mae ef yn ei fwriadu ei gael wrth chwareu, ac yn lle hynny yn gosod mwy o Ludded arno 'i hûn nag yw 'r llafur y mae efe yn chwennych ei ysgafnhau ei hún o hono: oblegid yn ddiammen y mae deisyfiadau ac ofn y Cybydd, annioddefgarwch a chynddaredd dŷn digllon yn fwy lludded, nag y dichon y gorchwyl mwyaf poenus fôd.
Cymmedrolder mewn Gwisgoedd.8. Y rhan ddiweddaf o Gymmedrolder, yw, ynghylch Gwisgoedd, yr hwn sydd raid i ni drachefn ei fesur wrth y cymmesurwydd a fydd ynddynt i'r dibennion er mwyn pa rai y dylid [Page 213] arferu dillad: y rhai hynny yn enwedig yw 'r tri hyn; yn gyntaf, cuddio noethni. Cuddio noethni. Hyn oedd yr achos cyntaf o ddillad fal y darllennir, Gen. 3.21. ac oedd ffrwyth y pechod cyntaf, ac am hynny pan gofion ni ddechreuad Dillad, y mae i ni cyn lleied o achos i ymfalchió o'i plegid, a bôd i ni o'r tu arall achos i gywilyddio a bôd yn ddarostyngedig, megys rhai a gollodd y Diniweidrwydd hwnnw, yr hwn oedd yn Addurn mwy o lawer nag y dichon y Gwiscoedd gwychaf fòd. Oddiwrth y diben hwn o wisciad yr ydyn i hefyd yn rhwymedig ar fôd ein Dillad yn foddus a chymmedrol, yn gyfryw ac a fo yn gyfattebol i'r diben hwn o Guddio ein cywilydd: Ac am hynny rhaid yw gochelyd pób máth o Ddillad anweddus, y rhai naill ai a ddengys allan drythyllwch y gwisgwr, neu a demtia 'r edrychydd.
Cadw'r Corph rhag Anwyd.9. Yr ail Ddiben o Wisciad yw cadw'r Corph rhag Anwyd, ac felly i gynnal ei Iechyd ef; a'r diben hwn hefyd sydd raid i ni ei ystyried yn ein Dillad; rhaid i ni wisgo y cyfryw fáth o Dddilliadau, ac a'n cadwo ni yn y cynnhesrwydd cymhesurol hwnnw, yr hwn sydd angenrheidioll i'n hiechyd. Ac yn hyn y cyfeiliornir pan foni o wâg-falchder i fôd mewn pób rhyw drwsiad rhodresgar, yn ein hamwisgo ein hunain ar cyfryw ddillad ac naill ai ni 'n ceidw ni rhag Anwyd, neu a fo ryw ffordd mor anesmwyth a bôd yn rhwystr yn hyttrach na lesháad yn y bŷd i'n Cyrph ni. Y mae hyn yn ynfydrwydd dirfawr, ac etto yn gyfryw ac y bydd y rhai a fo yn ymfalchío yn ei Dillad yn fynych yn euog o hono.
[Page 114]10. Y Trydydd diben o Ddillad yw er mwyn gwneuthur Rhagoriaeth rhwng y naill ar llall; Rhagoraerh rhwng y naill ar llall. a hynny yn gyntaf, oblegid Rhîth; yn ail, oblegid Breintiau a chynneddfau. Yn gyntaf, Dillad sydd i wneuthur Rhagoriaeth rhwng Rhith; hyn a arferwyd gan bôb Cenhedloedd, yr oedd yn wastad gan wŷr a gwrogedd amryw drwsiad. Ac fe ddarfu i Dduw ei hún ordeinio hyn yn hynod ymysg yr Iddewon, trwy orchymyn na byddi i 'r gŵr wisgo Dillad y wraig, na 'r wraig Ddillad y gŵr. Ond yn ail y mae yn rhaid cadw Rhagoriaeth Breintiau a chynneddfau mewn Dillad; fe osododd Duw rai mewn cyflwr uwch na 'r lleill, ac fe weddai iddynt ei dilladu ei hunain yn gyf-attebol i'w cyflwr; Dillad anrhydeddus a Masswedd, mêdd ein Iachawdr, a weddai i balasau Brenhinoedd, Luc. 7.25. Y mae 'n rhaid hefyd gadw 'r diben hwn o Wisgiad. Fe ddyle wŷr a gwragedd ymfodloni ei hunain a'r cyfryw fáth o Wisgoedd ac a fo yn gyf-attebol i'w cyflwr a'i cynneddfau, nid ymegnió i fyned tu hwynt neu i gystadlu a rhai o uwch rádd, nag ychwaith cenfigennu rhai o'i cyflwr ei hunain, gan ymorthestu pwy a fydd wychaf, either gwisged pób dŷn ef ei hún yn y cyfryw ddillad gweddaidd ac a fo cymmwys i'w Le a'i alwedigaeth, ac nid meddwl ei fód ef yn cael i ddirmygu os bydd Cymydog arall yn wychaf nag efo.
11. A chofied pawb nad ydyw Dillad yn anghawanegu gwîr fraint ún gŵr, am hynny gwagedd anfeidrol yw treulio nemmawr o'n Meddyliau, o'n Hamser, neu o'n Golud arnynt hwy, neu i rai dybied yn well o honynt ei hunain o'i plegid hwynt, neu ddiystyru ei Brodyr tlodion a [Page 215] fo hebddynt. Eithr os chwennychant ei haddurno ei hunain, bydded fal y mae St. Petr yn cynghori y gwragedd o'i amser ef, 1 Pet. 3.4. Yn nirgel ddyn y Galon, sef Addurn Yspryd addfwyn a llonydd. Ymwisgan ei bunain mor drefnus ac y bo possibl a Rhinweddau Cristianogawl, a dena 'r Gwisgiad a'i gwná hwynt yn hawddgar yngolwg Duw, ië a dynion hefyd, y rhai, oddigaeth ei bód yn ynfydion neu huttanod, a'th barcha di yn fwy am dy ddaioni na'th wychder, ac yn ddiammeu y mae ûn Bais glŷd a roddech di ar gefn dŷn tlawd yn fwy gweddus i ti nag ugain o rai gwychion am dy gefn dy hûn.
12. Mi a draethais bellach am yr amryw Rannau o Gymmedrolder; yr awrhon i ddibennu, mi a addrodda hyn yn gyffredinol, er na ddarfu i mi yn yr holl Rannau neillduol hŷn ddal sulw ond ar yr ûn bai hwnnw yn unig o Ormodedd, etto fe ddichon fód ún ar y llaw arall: fe ddichon Dynion neccau i'w Cyrph yr hyn sydd angenrheidiol i'w cynnhaliaeth. Nid ydyw hyn, yr wyf yn credu, yn fai mor gyffredinol a'r llall, etto ni a welwn rai tra-chrwydrus weithiau yn euog o hono ef, y rhai ni âd ei Calonnau iddynt fenthycco cymmaint gan ei coffrau ac a bortha ei Boliau, neu a ddillada ei cefnau hwynt, a'r rhai sydd a'i meddyliau mor dwys ar y bŷd, yn poeni ac yn ymdrafferthu cymmaint yntho ef, nad allanhw gymmeryd iddynt ei hunain yr amser cymmhesurol hwnnw o Gwsg, ac o ddiludded ar sydd angenrheidiol. Os oes ûn dŷn, a ddarllenniodd y rhan gyntaf o'r Traethawd hwn, o'r tymmer yma, na chyssured ei hûn nad yw ef yn euog o'r beiau hynny o Ormodedd [Page 114] [...] [Page 215] [...] [Page 216] a achwynir arnynt yno, ac am hynny a'i tybia ei hûn yn Gristion da, oblegid nad yw ef yn anghymmedrol; canys pwy bynnag yw 'r Creadur cybyddaidd hwn, ni chyfrifir iddo mo i' ddirwest yma megys y Rhinwedd o Gymmedrolder, oblegid nid o gariad i Gymmedrolder, ond i gyfoeth y mae efe yn ymattal; ac y mae hynny cymmhelled oddiwrth haeddu Clôd, ac mae 'r pechod mawr hwnnw ydyw ef yr hwn, medd yr Apostl, 1. Tim. 6.10, Yw Gwreiddyn pób drwg; fe gyfyd Corph y cyfryw ddŷn ryw ddydd yn y farn yn ei erbyn, am ei siommi ef o'i gyfran ddyledus, sef y llonniad a'r diddanwch Cymmedrol hwnnw yr oedd Duw yn ei ganhiadu iddo ef. Y mae hyn yn Eulyn-addoliaeth tu hwynt offrwm y plant i Moloch, Lev 20.3. Ni offrymmasant hwy ond ei Plant, ond y mae 'r cybydd gresynol hwn yn ei aberthu ei hunan i'w Dduw Mammon, pan fo ef yn fynych yn dinistrio ei iechyd, ei hoedl, iè ac or diwedd ei Enaid hefyd i i safio ei Bwrs. Fe ddarfu i mi bellach am yr ail rhan o'n Dled-swydd, séf ein Dyléd tu ag atom ein hunain, yr hon a gynnhwysir gan yr Apostol tan y Gair hwn, yn Sobr.
DOSPARTHIAD.
X.
Am ein Dled-swydd tu ac at ein Cymydogion. Am Gyfiawnder, o Ommedd, ac o weithrediad. Am y pechod o Lofruddiaeth, ei Faint ef, y Cospedigaethau am dano ef, a'i ryfeddol Ddadcuddiadau ef. Am Archolli, &c.
1. YR wyfi yr awrhon yn dyfod at y drydyd Ran o Ddledswyddau sef, Ddledswyddau tu ac at ein Cymydog. tu ag ein Cymydog, yr hwn ar fyrr a grynhair gan yr Apostol yn y Gair hwn [Cyfiawnder] yr hyn sydd yn Arwyddoccau nid yn unig Ʋniondeb, ond hefyd pób máth ar Gariad, oblegid y mae hwnnw hefyd trwy gyfraith Crîst gwedi dyfód yn ddylêd arnoni i'n Cymydog, ac anghyfiawnder yw i ni ei dwyllo ef o honi: Mi a adeiladaf gan hynny yr holl Ddledswyddau neillduol hynny sydd yn ddledus arnoni i' n Cymydog, ar y ddau gyffredinol hynny, Cyfiawnder, a Chariad.
2. Mi a ddechreuaf a Chyfiawnder, o ba ûn y mae dwy Ran, y naill o Ommeddiad, Cyfiawnder. a'r llall o Weithrediad: Cyfiawnder o ommeddiad yw gochelyd gwneuthur cam, na thrais yn y bŷd i nêb: Cyfiawnder o weithrediad yw gwneuthur Uniondeb a phawb; hynny yw, rhoddi iddynt béth bynnag a berthyn, neu sydd yn ddledus [Page 218] iddynt. Mi a draethaf, yn gyntaf am y Cyfiawnder o Ommedd, O Ommedd. sef peidio gwneuthur cam neu niwed i ûn dŷn. Gan y dichon dŷn yn awr dderbyn cam amryw ffyrdd y mae y rhan gyntaf ymma o Gyfiawnder yn ei hymystyn ei hún i amryw geingciau, cyfattebol i'r amryw ffyrdd o wneuthur cam. Fe a ddichon dŷn dderbyn cam naill a'i yn ei Enaid, a'i ei Gorph, a'i feddiannau, neu 'i Enw da; ac am hynny y mae'r Ddledswydd ymma o Gyfiawnder yn ein gwarchau ni ymmhób ún o'r rhain: na bo i ni wneuthur cam a nêb yn ei Enaid, na 'i Gorph, na 'i feddiannau, na 'i Enw da.
I'r Enaid.3. Yn gyntaf, y mae 'r Cyfiawnder hwn yn ein rhwymo ni na wnelon i ddim niwed i'w Enaid ef; ac ymma fyngwaith cyntaf i sydd raid bôd i holi pa niwed a ddichon yr Enaid i dderbyn. Y mae 'r Enaid, ni a wyddon, yn Sylwedd anweledig, yr hwn nid allwni mo 'i gyrhaeddid a'n llygaid, llai o lawer a'n Cleddyfau a'n harfau, etto er hyn i gyd fe a ddichon gael ei friwo a'i archolli; a hynny hyd farwolaeth.
Yn Naturiol.4. Yr awrhon fe ellir ystyried yr Enaid, megys y mae yn naturiol, neu yn Ysprydol; megys y mae ef yn naturiol, y mae yn arwyddoccan, yr hwn a alwn ni yn arferol, meddwl dŷn, ac fe ŵyr pawb y dichon hwn gael ei archolli gan ofid a thristwch, fal y dywed Solomon, Dihar. 15.13. Trwy dristwch calon y dryllir yr Ysbryd. Am hynny pwy bynnag yn ddiachos a gythrwblia neu a flina ei Gymydog, y mae ef yn cyfeiliorni yn erbyn y rhan ymma o Gyfiawnder, [Page 219] ac yn drygu ei Enaid ef. Y mae Dynion sarhaus a maleisus yn fynych iawn yn euog or fáth ymma o gamwedd; nhw a wnán y pethau hynny y rhai ni wná ddaioni yn y bŷd eithr yn hyttrach niwed iddynt ei hunain, yn unic er mwyn cythryblu a gorthrymmu eraill; y mae hynny yn natur tra-chreulon a nawswyllt, ymddigrifo mewn tristwch a thrallodau rhai eraill; a phwy bynnag sydd yn meddwl hyn yn ei galon, fe ellir dywedyd yn ŵir ei fód ef gwedi ei feddiannu gan Gythrael, oblegid natur yr ysprydion melldigedig hynny yn unig yw ymhyfrydu yn nhrueni dynion; ac nes taflu hwnnw allan, nid ydynhw gymwys i gyfanneddu ond fal y dŷn cythreulig hwnnw, Mar. 5.2. Ymysg beddau, lle nid oes neb a ddichon dderbyn aflonyddwch a thrallod oddiwrthynt.
5. Ond fe ellir ystyried yr Enaid trachefn mewn módd ysprydol, Yn Ysprydol. ac felly y mae yn arwyddoccau y rhan anfarwol hwnnw o hononi, yr hwn a fydd byw yn dragywydd, naill ai mewn gwynfyd neu drueni yn yn bŷd a ddaw. Ac fe ddichon yr Enaid, wrth ei Ystyried fal hyn, dderbin dau fáth ar Niwed: Yn gyntaf, Pechod; yn ail, Cospedigaeth; y mae 'r diwaethaf yn wastad yn dilyn y cyntaf; acer mae Duw sydd yn anfon Cospedigaeth, etto gan mae ffrwyth pechod yw efe, fe ellir cyfrif fód yr hwn a ddeno dŷn i bechod yn ei fradychu ef hefyd i gospedigaeth, megys y mae yr hwn a rydd i ddŷn archoll marwol yn achos o'i farwolaeth ef; am hynny y mae pób ûn o'r ddau yn gynnhwysedig tan ddrwg pechod, fal nad rhaid i mi draethu ond am hwnnw yn unig.
[Page 220]6. Ac yn ddiammeu nid ellir gwneuthur mwy o gam na dwyn y drŵg mawr hwn ar yr Enaid: Pechod yw clefyd ac Archoll yr Enaid, gan ei fód ef yn union yngwrthwyneb i Râs, yr hwn yw iechyd yr Enaid: yr awrhon yr archoll hwn yr ydyni yn ei roddi i bob Enaid ar a ddenoni trwy foddion yn y bŷd i Bechod.
Moddion o ddonn i Bechod.7. Y mae amryw ffyrdd i wneuthur hynny, ni chrybwylla 'i ond am rai o honynt, ac er bod rhai yn fwy cyfeiriol na'r lleill, etto y mae 'r cwbl yn tywys i'r unrhyw ddiben. O'r rhai mwyaf cyfeiriol y cyntaf yw, Gorchymyn pechod, hynny yw, pan fo dŷn sydd gantho awdurdod ar ûn arall yn gorchymyn iddo wneuthur rhyw béth anghyfreithlon; y mae i ni siampl o hyn yn Nabuchodnosor yn gorchymyn addoli 'r Ddelw aur, Dan. 3.4. ac y mae pob rhieni neu feistred, y rhai a orchymyn i'w plant neu i'w gwenidogion wneuthur rhyw weithred anghyfreithlon, yn dilyn ei lwybr ef. Yn ail, y mae Cynghori i bechu, pan fo dynion yn annog ac yn ymynhedd eraill i ryw ddrŵg: fal hyn y cynghorodd gwraig Jób ei gŵr i felldigo Duw, Job, 2.7. Ac Achitophel a gynghorrod Absalom i fyned i mewn att ordderchwragedd ei Dâd, 2 Sam. 16.21. Yn drydydd, y mae llithio a hudo i bechod, trwy osod o flaen dynion y pleserau a'r bûdd a gánt hwy oddiwrtho ef. O'r fáth ymma o hudoliaeth y mae Solomon yn rhoi i ni rybudd, Dihar. 1.10. fy mâb os pechaduriaid a'th ddenant, na chydtuna a hwynt: os dywedant, tyret gydá ni, cynllwynwn am waed, nyni a ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos, [Page 221] &c. a gwer. 13. Chwi a ellwch weled a pha hûd y maent yn ceisio ei denu hwynt, Nyni a gawn bób cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein teiau ag yspail: Bwrw dy goelbren yn ein mysc, bydded ûn pwrs i ni ôll. Yn Bedwerydd y mae Cymmorth i bechu; hynny yw, pan fo dynion yn helpu ac yn cynnorthwyo eraill naill ai i fwriadu, neu i withredu Pechod. Fal hyn y cynnorthwyodd Jonadab Amnon i fwriadu treisio ei chwaer, 2. Sam. 13. Y rhai hyn ôll yw 'r moddion cyfeiriol i ddwyn y drŵg mawr hwn o Bechod ar ein brodyr.
8. Y mae etto foddion eraill, y rhai er iddynt ymddangos i fod yn fwy anghywair etto nhw a ddichon fód mor effeithiol i'r unrhyw ddiben drŵg: megys yn gyntaf, siampl mewn Pechod; y mae 'r hwn sydd yn gosod cynllun drŵg i eraill, yn gwneuthur ei Ran ef ar fód i eraill ei galyn ef, ac y mae hynny yn rhy fynych yn damwain: gan nad oes yn gyffredinol ddim mwy affeithiol i ddwyn dynion i ryw ymarfer bechadurus, na gweled eraill yn arferu 'r unrhyw, fal y gellir profi mew llawer o bechodau, i ba rai nid oes ûn hudoliaeth arall ond ei bód nhw mewn ffasiwn. Yn ail, y mae annos i bechod pan foni yn achlesu eraill i fyned ymlaen yn ei drygioni, naill ai trwy gyd-synnio a hwynt, neu o'r lleiaf trwy fód heb ddangos anfodlonrhwydd yn y bŷd iddynt. Y trydydd módd yw trwy gyfiawnhau ac amddiffyn rhyw weithred bechadurus mewn ûn arall, oblegid felly nid ydyni yn unig yn ei gadarnhau ef yn ei ddrŵg eithr yn enbydu denu eraill i'r cyffelyb y rhai a fydd ond odid yn fwy tueddol [Page 222] iddo ef, pan glywanhw fal hyn ddadleu trosto ef. Yn ddiweddaf, dwyn rhyw ddirmyg ar fuchedd dda Gristianogawl, fal y gwná y rhai sydd yn gwatwor ffyrdd Duw; dymma fódd i ddychrynnu dynion allan o ymarfer Duwioldeb, pan welont y dwg hynny nhw i gael ei gwawdio a'i dirmygu; y mae hyn yn waeth na'r lleill ei gŷd, nid yn unig oblegid y dŷn sydd yn euog o hono ef (megys y mae hyn yn nód o halogedigrwydd dirfawr ei galon ef) eithr hefyd oblegid eraill, gan fód yn gyffredinol fwy o ddrŵg yn dychwelyd o hyn nag oddiwrth y rûn o'r lleill; oblegid y mae hyn yn bradychu dŷn nid yn unig i rai gweithredoedd neillduol o anufydd-dod i Grîst, eithr i wrthod yn hollawl fód yn ddeiliad iddo ef: trwy 'r holl foddion hyn ni a allwn dynny arnom ein hunain yr euogrwydd mawr hwn o niweidio ac archolli eneidiau ein brodyr.
9. Fe fydde yn rhy hîr i mi osod ar lawr yr hóll armyw bechodau ymmhá rai y mae dynion yn arferol o dwyllo eraill; megys Meddwdod, aflendid, gwrthryfelgarwch, ac aneirif ychwaneg. Ond fe a berthyn i bób dŷn yn neillduol ystyried yn ddiwyd pa ddrŵg o'r fáth hyn a wnaeth ef i ûn dŷn trwy 'r cwbl neu rai o'r moddion hyn, ac i bwyso yn fanwl faint y cam y wnaeth ef. Y mae dynion yn barod iawn i ymffrostio o'i diniweidrwydd tu ag at ei Cymydogion, na wnaethonhw gam ac ûn dŷn, ond fe ŵyr Duw fôd llawer o'r rhai sydd fal hyn yn ymffrostio yn anad néb yn drachamweddol: ni ddarfu iddynt ysgatfydd mo archolli ei gorph ef, na lledratta ei ddâ ef: [Page 223] ond och! nid yw 'r Corph ond blisgyn neu gaead y dŷn, a'r Da bydol ond rhyw berthynasau iddo ef; yr Enaid yw 'r dŷn, ac nhw fedran archolli a thrywanu hwnnw yn ddiarswydus, ac etto dywedyd gyda 'r odineb-wraig, Dihar. 30.20. Ni wnaethum i anwiredd; eithr gorfoleddu o'i hymddygiad caredigol tu ag at y rhai a fradychasant hwy fal hyn i ddinistr tragywyddol; oblegid pwy bynnag a hudaisti i unrhyw bechod, ti a wnaethost dy oreu i'w hebrwng ef i'r tân tragywyddol: ac yna meddwl wrthit dy hûn pa ryw fradwraeth creulon yw hwn; ti a'i gelwit ef yn ddihiryn fradychus yr hwn pan fo yn cymmeryd arno gofleidio gŵr, a'i rhêd ef trwyddo; ond y mae 'r pechod hwn o'r eiddoti cymmhelled tu hwynt i hynny, ac y mae 'r Enaid yn werthfawroccach na 'r Corph; ac Uffern yn waeth nag Angeu. A chofia etto ymmhellach mae heb law 'r creulondeb o hynny tu at dy frawd truan, ei fód ef hefyd yn dra-phergylus iti dy hûn, gan ddarford i Grist ddadcan gwae yn erbyn hynny, Mat. 18.7. a gwer. 6. y mae ef yn dywedyd i ni mae pwy bynnag a rwystro (hynny yw, a ddeno i bechod ( ûn o'r rhai bychain hyn, gwell oedd ef pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yngwaelod y môr. Ti a elli suddo dy frawd truan mewn dinistr, ond megys ac y mae gydá rhai yn ymaflyd cwymp, y mae 'r hwn a roddo i' i'r llall y codwm, gan fynychaf yn cwympo gydag ef, felly yr wyt titheu yn debyg y gadw iddo gymdeithas i'r lle hwnnw o boen ac artaith.
[Page 224]10. Gwnaed gan hynny dy enbydrwydd dy hûn ac yntau wneuthur i ti fód yn deimladwy o faintioli 'r pechod hwn, sef yr anghyfiawnder echryslon hwn tu ag at Enaid gwerthfawr dy Gymydog. Meddwl wrthit dy hún yn difrifol a phwy y buosti mor greulon; pwy a hudaisti i feddwi, pwy a gynghoraisti i wrthryfelgarwch, a lithiasti i drachwant, a gyffróaisti i gynddaredd, pwy a gynnorthwyaisti neu a gydddygaisti ac ef mewn rhyw weithred ddrŵg, neu a anghyssuraisti ac a ddigalonnaisti trwy wawdio yn halogedig am ben Duwioldeb yn gyffredinol, neu ei fuchedd dda Gristianogol ef yn neillduol; yna summia 'r cwbl i fynu; cyhudda a barna a dy hûn yn euog, megys Cain, llofrudd dy fraŵd, ac ymofidia yn ddirfawr am bób euogrwydd o'r fáth hyn, a llawnfwriada na fyddi di bŷth rhag llaw yn achos tramgwydd neu rwystr i'th frawd.
11. Ond nid hyn yw 'r cwbl, rhaid i rai ffrwythau o'r Edifeirwch hwn darddu allan; yn awr mewn pob pechod o anghyfiawnder, y mae adferiad yn ffrwyth angenrheidiol o edifeirwch, ac felly y mae ymma, ti a wnaethost weithred (ysgatfydd llaweroedd) o anghyfiawnder dirfawr i Enaid dy frawd; ti a'i dinoethist ef o'i ddiniweidrwydd, o'i hawl i'r Nêf, rhaid i ti ymegnío i adferu hyn ôll iddo es drachefn, trwy fôd yn fwy dyfal ac astud i'w ennill ef i edifeirwch, nag y buosti erioed i'w ddenu ef i bechod, arfera yn awr gymmaint o gelfyddyd i'w argyoeddi ef yn eglur o'i berigl, ac a wnaethosti erioed i'w wenheithio ef [Page 225] ac hyfrydwch o'i bechod; mewn gair, arfera 'r holl hyfforddrwydd a'r moddion i'w atgyweirio ef, ac a wnaethosti i'w ddinistrio ef, a bŷdd yn hyn yn fwy dyfal a diwyd, canys y mae hynny yn angenrheidiol yn gystal o'th plegid dy hûn ac ynteu: yn gyntaf, o'i blegid ef, gan fód natur dyn yn llawer hwylusach a pharottach i ddrwg, nag i dda, y mae eisieu mwy o boen a diwydrwydd i dywallt y naill iddo ef na 'r llall: heb law hyn fe ellir bwriadu fod y dŷn yn barod trwy hîr ymarfer yn hyffordd i'r ffordd waethaf, ac fe wná hynny y gwaith yn anhawsach o lawer. Yna o'th blegid dy hûn, os wyti wîr edifeiriol, ti a'th dybi dy hûn yn rhwymedig, fal St Paul, i lafurio yn helaethach o lawer, ac fe fydd cywilydd genniti pan foch di yn marsiandiaeth tros Dduw, i ddwyn yn ôl Enaid atto ef, oni chynllwyni di hynny a mwy o ddiwydrwydd na phan oedditi yn ddeiliad i Satan; ymmhellach fe fydd y coffadwraeth mae tydi oedd yr achos o ddwyn yr Enaid truan hwn i'th Rwyd, yn cynnhyrfu dy astudrwydd di i'w geisio ef allan drachefn. A hyn am y rhan gyntaf o gyfiawnder o Ommeddiad, yr hwn a berthyn i Eneidiau ein brodyr.
12. Yr ail a berthyn i'r Cyrph, Cyfiawnder o Ommedd i'r Corph. ac y mae 'r Cyfiawnder hwn yn dy rwymo di na wnelych gam yn y bŷd na thrais i rheini ychwaith. Yr awrhon y mae amryw raddau o gamweddau tu ag at y corph, y mwyaf o honynt yw Llofruddiaeth, dwyn ymmaith hoedl dŷn; hyn a waherddir yn llythyren y chweched Gorchymyn Ná lâdd.
[Page 226] Amryw Fsyrd'd o Lofruddi aeth.13. Fe ellir fód yn euog a Lofruddiaeth nail ai trwy drais hynod oddillan; pan fo dŷn yn dwyn hoedl ún arall, naill ai a Chleddyf, neu ryw offeryn arall; neu ynteu yn ddirgel ac yn sradychus megys ac a lladdodod Dafydd Ʋriah, nid ai gleddyf ei hûn, ond a chleddyf meibion Amm [...]n 2 Sam. 11.17. Ac y lladdodd Iezabel Naboth trwy gam-achwyn, 1 Bren. 21.13. Ac felly llaweroedd a fu yn euog o'r pechod hwn o Lofruddiaeth trwy Wenwyn, cam-dystiolaeth, neu ryw gyffelyb foddion Dirgel. Y mae 'r cyntaf yn tarddu allan gan mwyaf o Gynddaredd ffrychwyllt, ond i'r llall y mae amryw ddechreuadau; weithiau y mae efe yn tarddu oddiwrth ryw hên falis gwedi ei sefydlu yn y galon tu ag at ddŷn; weithiau oddiwrth ryw ddeisyfiadau cybyddaidd trahaus; y mae 'r cyfryw ûn yn sesyll ar ffordd ún arall i'w fudd neu 'i oruchafiaeth; ac am hynny rhaid yw ei symmud ef ymaith; ac weithiau trachefn i guddio Cywilydd, fal Putteiniaid, y rhai sy 'n lladd ei Plant rhag i'w bryntni hwynt ymddangos. Ond heb law 'r ffyrdd hwylus hyn o Lâdd, y mae ún arall, sef, pan fo ni trwy annogaethau, ac hudoliaeth yn denu dŷn i wneuthur y péth o fo achos o fyrrhau ei fywyd; os bydd i ddŷn trwy feddwdod gael rhyw anaf marwol, yr hwn a fuasei fo yn ei ochelyd, pe buasei fo yn sobr, nid yw 'r hwn a'i meddwodd ef yn ddieuog o'i Farwolaeth ef; ac os efe ni bydd marw trwy 'r cyfryw ddamwain ddisymmwth, etto os dŵg yfed ryw glefyd arno ef, a'r Clefyd hwnnw ei ládd ef, ni wn i pa fodd y gall yr hwn, a'i denodd ef i'r Gormodedd hwnnw, ei [Page 227] wneuthur ei hún yn ddieuog o Lofruddiaeth yngolwg Duw, er nad yw Cyfreithithiau dynol yn ei gyrrhaeddid ef. Mi a fynnwn pe bydde i'r rhai sydd arferol i ddenu eraill ir cyflwr ffiaidd cywilyddus hwn, ystyried hyn ymma. Y mae etto ffordd arall o ddwyn yr euogrwydd hwn arnom ein hunain, a hynny yw trwy annog a chyffroi eraill i'w wneuthur ef, neu i'r rádd honno o Lidiawgrwydd a Dial ac a bâr hynny; megys yr hwn a osodo ddau ddyn ynghyd, neu yn gweled rhai felly yn barod, a chwytha 'r tân i ennynnu ymmhellach, os dychwel Llofruddiaeth, y mae efe yn ddiammeu yn gyfrannog o'r Euogrwydd, yr hon sydd yn ystyriaeth a ddyle ddechrynu pawb rhag bód iddynt a wnelont yn cynneu, neu yn anghwanegu Cynnen.
14. Echryslonrhwydd y pechod hwn. Yr awrhon am echryslonrhwydd y pechod hwn o Lofruddiaeth, yr wyfi 'n meddwl nad yw dieithr i nêb ei fód ef o'r fa'th greulonaf, yn bechod sydd yn gwaeddu allan yn uchel; hyn sydd i ni i'w weled yn y weithred gyntaf a fu erioed o'r fáth ymma, yr oedd gwaed Abel yn gwaeddi o'r Ddaiar, fal y dywed Duw wrth Gain, Gen. 4.10. Ié y mae euogrwydd y pechod hwn yn gyfryw a'i fod ef yn gadael adwyth ar y tîr, lle 'i gwneir ef, y cyfryw ac nad ellir ei olchi allan ond a gwaed y Lofrudd, fal y mae 'n eglur, Deut. 19.12, 13. Nid ellir puro 'r ddaiar o waed, ond a gwaed yr hwn a'i tywalltodd ef; ac am hynny er bôd mewn pethau eraill rhedeg i'r Allor yn sicchrau dŷn, etto ni chanhiedyd ún cyfryw noddfa i Lofruddiaeth gwirfodd, ond yr oedd yn rhaid cymmeryd y cyfryw ûn oddiyno, a'i draddodi i gyfiawnder, [Page 228] Exod. 21.14. Cymmer ef i farwolaeth oddiwrth fy Allor. Ac y mae ymmhellach i'w Ystyried mae'r unig ddau orchymyn y mae'r Scrythur yn són am danynt, megys a roddwyd i Noah a'r ôl y Dilyw, oeddynt ill ddau ynghylch y pechod hwn; yr oedd gwahardd bwyta gwaed, Gen. 9.4. yn ddefod i beri i ddynion arswydo yn fwy y pechod hwn o Lofruddiaeth, ac felly a amcanwyd er mwyn ei luddias ef. Y llall oedd ynghylch ei gospedigaeth ef, Gen. 9.6. A dywalldo waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntef ▪ a'r rheswm am hyn a adroddir yn y geiriau nessaf, o herwydd ar Ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn, lle y gwelwch chwi nad yw'r pechod hwn yn unig yn gamwedd yn erbyn ein brawd, ond y dirmyg a'r diystyrwch mwyaf o Dduw ei hún, séf anrheithio ei Ddelw ef, a brintiodd ef ar ddŷn. Ié ymmhellach, nid yw hyn ddim llai na thrais-feddiannu awdurdod a brain [...] briodol Duw ei hún; oblegid gan Dduw y [...] unig y mae awdurdod i drefnu hoedl dŷn: ef [...] yn unig a'i rhoddodd ef, a chantho ef yn unig y mae gallu i'w gymmeryd ef ymmaith; on [...] y mae▪r hwn a laddo ŵr megys yn dwyn ymmaith yr awdurdod hon allan o law Duw, y [...] hyn yw'r pwyth eithaf o Ryfyg gwrthyfelgar [...] all fód.
Y Cospedigaethau am dano ef.15. Ac fal y mae'r pechod yn fawr, felly hefyd y mae'r Cospedigaeth am dano ef; ni a [...] gwelwn ef yn fynych yn fawr iawn, ac yn dra hynod, ié yn y byd hwn, (heb law'r ffrwytha [...] tra-echryslon hynny o hono ef yn y nessaf) [...] mae gwaed nid yn unic yn gwaeddi, eithr y [...] gwaeddi am ddial, ac ni ommedda Duw'r di [...] [Page 229] [...]al y mae ef yn ei alw ei hún, ei wrando ef: [...]lawer iawn o siamplau y mae'r Scrythur yn ei [...]oddi i ni o hyn: Ahab a Jezabel, y rhai a [...]addasant Naboth wirion, o chwant i'w winllan [...]f, a labyddwyd ei hunain, a'r Cwn a lyfasant [...]i gwaed hwynt yn y lle y tywylltasant hwy ei [...]waed ef, fal y mae i chwi i'w ddarllen yn yr [...]istori honno; felly Absalom gwedi iddo ef ládd ei frawd Amnon, a Syrthiodd i bechod arall o wrthryfelgarwch yn erbyn ei Frenin a'i Dâd, ac yn hynny a ddinistrwyd yn resynol. Rachab [...] Baanah, y rhai a laddasant Ishb [...]she [...]h, a roddwyd ei hunain i farwolaeth, a hynny gan yr hwn y tybiasant wneuthur o honynt gymhwynas [...]ddo; llawer ychwaneg o siamplau a ellid ei roddi o hyn allan o'r histori gyssegr-lân a dynol, gan nad oes ûn Oes na roddodd aneirif o siamplau o'r fáth hyn, fal y dichon pób dŷn ei fod [...]oni ei hùn yn hyn allan o ystyriaeth ei amser ei hûn.
16. Ac fe haeddai ein hystyriaeth ni, Ei ryfeddol Ddadcuddiadau ef. pa foddion rhyfeddol a welodd Duw yn dda ei harferu yn fynych i ddadcuddio'r pechod hwn; fe fu'r bwystfilod mudion yn fynych yn offerau o [...]yn; ié, fe wnaeth aruthrol ddychryn cydwybod dŷn iddo yn fynych ei fradychu ei hûn, yn gymmaint ac na ddichon dirgelwch yn y bŷd a arfera dŷn i weithredu 'r pechod hwn ei siccrhau ef rhag derbyn dial, oblegid ni ddichon dŷn bŷth gau allan eu gydwybod ei hûn, yr hon heb yn waethaf iddo ef a wyr oddiwrth y weithred, ac y mae honno yn fynych yn dychwelyd i fód yn fódd o'i ddadcuddio ef i'r bŷd, ac os ni wná hi hynny, etto hi a fydd siwr o [Page 230] ymddial arno ef, ac a fydd yn gyfryw Uffern o'i fewn ef ac a fydd yn llawer gwaeth na marwolaeth: hyn a welsoni mewn llaweroedd, y rhai ni allent gwedi gwneuthur y pechod hwn fwynhau ún munudyn o esmwythdra, ond a gawsant y fáth angerddol ingder meddwl ac a dewisasant hwy yn hytrach ei llabyddio ei hunain na byw yntho ef. Dymma 'r ffrwythau arferol o'r pechod hwn yn y bŷd hwn, ond y mae y rhai yn y bŷd a ddaw etto yn fwy echryslon o lawer, lle yn ddiammeu y bydd y rádd fwyaf o benyd yn perthyn i'r drŵg mawr hwn, oblegid os, fal y dywed ein Hiachawdr, Mat. 5.22. Tân Uffern yw cyfran y rhai a alwant ei brawd yn ynfyd, pa ryw râdd o'r lloscfeydd hynny a dybiwn ni yn gyf-attebol i'r pechod tramawr hwn?
17. Yr Ystyriaeth o hyn ei gyd a ddyle ein llenwi ni o ddychryn anfeidrol a chassineb o'r pechod hwn, a'n gwneuthur ni yn wiliadwrus iawn arnom ein hunain, rhag i ni ûn amser syrthio iddo ef, ac i'r diben hwnnw ochelyd yr holl achosion hynny a'n dena ni yn ŵysg ein pennau i'r pydew hwn. Mi a draethais ar y cyntaf am amryw bethau sydd arferol o fód yn ddechreuad o hono ef, ac a'r rheini y mae ini ddechreu, os mynnwn ein hymddiffyn ein hunain yn ddiogel. Os mynni di gan hynny fód yn siccr na laddoch di ddŷn yn dy gynddaredd, bŷdd siwr na bóch di yn y Cynddaredd hwnnw, canys os llochesu di hwnnw o'th fewn, nid all fód genniti siccrwydd yn y bŷd yn erbyn y llall, gan fod digofaint pan feddianno fo ni unwaith, yn gyfryw ynfydrwydd, na rŷdd ef mor amser i ni i ystyried [Page 231] na gwybod pa béth y boni yn ei wneuthur. Am hynny pan welych di dy hún yn dechreu ennynnu, meddwl mewn prŷd i ba le y dichon hyn dy ddenu di, os goddefi di iddo ef, ac yn ebrwydd ffrwyna 'r ŵyn Ystyfnig hon; felly trachefn os chwennychi di siccrhau dy hûn na bo i falis dy dywys di iddo ef, gwilia arnat rhag croesawu ûn meddwl maleisus yn dy galon, canys os efe unwaith a'i sefydla ei hún yno, efe a gascla 'r cyfryw nerth ac y byddi di ar fyrder yn hollawl tan ei allu ef, fal y gallo ef dy dywys di i'r pechod echryslon hwn pan fynno; bydd ofalus gan hynny ar nessáad cyntaf yr ymdeithudd bradychus hwn, ar gau'r drysau yn ei erbyn ef, heb adael iddo ûn amser fyned i mewn i'th feddwl di; felly yn gyffelyb os mynni di dy siccrhau dy hûn na bo i'th gybydd-dod, i'th drachwant, nag ûn gŵyn pechadurus arall dy fradychu di i'r pechod hwn, bŷdd siccr na bo'i rûn o honynt reoli o'th fewn, oblegid os cánhw unwaith yr oruchafiaeth, fal y cánhw yn ebrwydd, os cynhwysir nhw unwaith yn y galon, nhw a án tu hwynt i'th Reolaeth di, ac a'th daflan di i hwn neu i ryw bechod arall a wasanaetha ei tró hwynt. Yn gyffelyb os mynnit ti ochelyd bód yn euog o'rûn o'r effeithiau marwol o feddwdod dy Gymydog, bydd siccr na lithioch di mono ef iddo, nag ymgymdeithasu ac ef yntho, ac i'r pwrpas hwnnw nag ymhyfryda yn y cyfryw ymarfer, canys os gwnei, ti a fyddi yn ymegnio i geisio cyfeillion atto ef. Yn ddiweddaf, os ni fynni di fód yn euog o Lofruddiaeth, a wná ún arall, gwilia ún amser annog ûn dyn i hynny, neu i gymmorthi ef yn ei ddigter ai gynnen, y rhai [Page 232] a all fód yn achos o hynny. Canys gwedi iti unwaith gynneu, neu chwythu'r tân, béth a wyddosti pwy a ddifa ef? Dŵg yn wastad gymmaint ac a ellych di o ddwfr i ddiffodd, ond na ddŵg ûn defnyn o Olew i anghwanegu'r fflamm. Y cyffelyb a ellir ei ddywedyd am bób achosion eraill o'r pechod hwn, ar na chrybwyllir am dano ymma; a'n hymgadw ein hunain yn ddiwyd rhag y rhain yw'r unig fódd siccr i'n cadw ni rhag y pechod hwn: megys gan hynny ac y mynniti dy ymgadw dy hûn yn ddieuog oddiwrth y trosseddiad mawr hwn, gochela yn ddyfal y cyfryw raddau, hûd, a thueddiad tu ag atto ef.
Anafu yn Gammawr.18. Ond er mae Llofruddiaeth yw'r mwyaf, etto nid yw ef yr unig Cam a ellir ei wneuthur i Gorph ein Cymydog; y mae rhai eraill hefyd y rhai sydd yn dra-mawr; y nessaf ún mewn grâdd at hwn yw ei Anafu ef, ei ddifeddu ef o ryw aelod, neu o'r lleiaf o allu ei arfer ef, ac y mae hyn yn ddrŵg ac yn gam mawr iddo ef, megys ac y gallwni ddirnad wrth farnedigaeth Duw ei hûn, ynghyflwr y Caethwâs, yr hwn o achos ei feistr a gollei aelod, Exod. 21.26. ni thybid ei rydd-dyd ef tros ei holl fywyd ond iawn rhesymol iddo ef am hynny, Gollynged ef yn rhydd, medd y Testyn, am ei Lygad, ié, er iddo fód ond rhyw ran gwaelach o lawer, megys ei Ddant, yr hwn yn anad dim o'i Gorph a all dŷn yn hawsaf ei hepcor, etto yr oedd yn rhaid iddo gael y rûn iawn, gwer. 27.
19. Ond nid rhaid i ni ddim arall i fesur y Cam hwn, na barn pób dŷn yn ei gyflwr ei [Page 233] hûn; pa faint y mae pób dŷn yn ofni Colli aelod? Fal os bydd iddo trwy ryw ddamwain, neu ddolur fód mewn perigl am dano, ni thybia fo boen na chóst yn y bŷd yn ormod i'w gynnal ef. Ac yna pa anghyfiawnder ddirfawr, ac mor wrthwynebus i'r Rheol ragorawl honno, o wneuthur fal y chwennychoni i eraill wneuthur a ninnau, ydyw i ddŷn wneuthur hynny i arall, yr hyn y mae ef mor anfodlon i ddioddef ei hun? Ond y mae'r Cam etto yn fwy o lawer, os y dŷn a fydd tlawd, ac yn gorfod iddo Lafurio am ei fywyd, y mae hynny yn fáth o Lofruddiaeth hefyd; canys fal y dywed y gŵr Doeth, Ecclus. 34.24. Bywyd y tlodion yw ei bara, a dyn gwaedlyd yw'r hwn trwy dwyll a'i dygo ef. Ac am hynny nid yw ef yn ddiammeu ddim llai dieuog yr hwn a gymmero ymmaith y moddion o ennill ei fara, gan ei wneuthur ef trwy anaf yn anghymwys i lafurio. Yn y Gyfraith fe gannhiedid î bob dŷn a dderbynniase'r cyfryw niwed gan ei Gymydog, fyned i erfyn gan y Swyddog roddi yr unrhyw gôsp arno ynteu, Llygad am lyg ad, dant am ddant, Exod. 21.24.
20. Ac er na chynnhwysir yr awrhon i ni sydd Gristianogion ddial anfuddiol, etto yn ddiammeu rhan pob dyn ar a wnaeth y Cam hwn yw gwneuthur iawn am dano ef hyd yr eithaf o'i allu; gŵir yw, nid all ef atgyweirio aelod trachefn (yr hyn a ddyle wneuthur rhai yn ofalus iawn pa fódd y gwnánt y drŵg hwn yr hwn sydd mor ammhossibl ei ddiwygio) ond etto fe áll wneuthur bodlonrhwydd am rai o ddrŵg-ffrwythau'r golled honno: os dygodd hynny'r dŷn i brinder ac eisieu, rhaid iddo ef, [Page 234] os bydd gantho'r gallu lleiaf, ei gynnal a'i gynnorthwyo ef, ié, er i hynny fód trwy ei chwys a'i Lafur dirfawr ei hûn: oblegid os Dlêd yw hi ar bawb o hononi fód yn llygaid i'r deillion, ac yn draed i'r cloffion, fal y dywed Jób, mwy o lawer y bydd yn rhaid i ni fod felly i'r rhai a wnaethon ni ein hunain yn ddall ac yn glóff. Pwy bynnag gan hynny a wnaeth y cam hwn i rûn o'i frodyr tlodion, gwybydded ei fód ef yn rhwymedig i'w ddiwygio ef hyd yr eithaf o'i allu; yr hyn os efe nis gwná, fe gyfyd pób rhyw neillduol adfyd a ddychwel i'r dŷn truan o herwydd ei angen, yn achwyn ac yn gyhuddiad newydd yn ei erbyn ger bron gorsedd-faingc y Barnwr cyfiawn.
Archollion a chernodiau yn Gamweddau hsfyd.21. Y mae etto raddau eraill o gam i Gorph ein Cymydog, ni thraetha'i ond yn unic am ddau anghwaneg, sef, Archollion a Chernodiau; fe a ddichon dŷn archolli ún arall, yr hyn er na bo fo yn achos o golli na bywyd nag aelod, etto a berygla bób ûn a'r ûn péth a ellir ei ddywedyd am Gernodiau; y mae pób ún o'r rhain yn boenus yn y cyfamser, ié ac ysgatfydd tros hîr o amser, a phoen sydd i'w gyfrif yn fwyaf o'r holl ddrygau amserol, oblegid nid yw ef yn unig yn ddrŵg yntho 'i hún, eithr yn gyfryw ún ac a'n rhwystra ni, tra 'i bo fo arnoni, fwynhau unrhyw ddaioni arall; gan na ddichon dŷn mewn poen archwaethu'r ûn or pleserau mwyaf: Os bydd i néb ddirmygu' rhain megys camweddau gwael, gofynned trachefn iddo ei hûn pa fódd y bodlonei ef gael archolli neu yssigo ei Gorph ei hûn, a'i roddi tan y moddion poenus hynny o feddiginiaeth y rhai gan mwyaf sydd angenrheidiol [Page 235] yn y cyflwr hwnnw? Yr wyfi'n meddwl nad oes ûn dŷn a ddioddefai hyn o'i wirfodd gan ún arall, a pha ham gan hynny y cynnygi di hynny iddo ef?
22. Y gwirionedd yw, y mae'r creulondeb ryfeddol hwn tu ag at eraill yn tarddu allan o Falchder tra-mawr, ac Ʋchder calon; yr ydyn ni yn edrych a'r fáth ddiystyrwch ar eraill, ac nad ydyni yn tybied fód fatter yn y byd pa béth a wneir iddynt; yr ym ni yn meddwl fód yn rhaid iddinhw ddioddef dyrnodiau gennini, pan foni yn y cyfamser mor dynner o honom ein hunain, nad allwn ni wrando ar y gair lleiaf o ammarch, heb ennynnu o Ddigofaint. Y mae'r Annogaethau i'r trawsni ymma gan mwyas mor wael, ac oni bae fód y. Balchder ymma o'n mewn yn trefnu y cyfryw ŵyn lidiog ynom ni, a bód pób péth yn ein creuloni ni, ammhossibl a fydde iddynt ein cyffroi ni. Ié, y mae rhai gwedi dyfod i fynu i'r fáth drythyllwch o greulondeb ac y medranhw heb ymherriad yn y bŷd, mewn gwaed oet, fal y dywedanhw, wneuthur Cam a'i brodyr tlodion, a gwneuthur penydio eraill yn rhan o'i diludded a'i difyrrwch. Fal hyn y bŷdd rhai Gorthrymmŵyr trahaus yn ymhyfrydu yn penydio eraill a fo tan ei llywodraeth nhw, yn gymmaint a bod yn llawen ganddynt gael rhyw escus i boeni eraill, ac yna nhw a wnán hynny yn annhrugarog iawn; ac eraill, a osodant ddynion i ymrafaelio, yn unig er mwyn Cael digrifwch yn gweled yr ymryson; fal yr hên Rufeiniaid, ûn o chwaryddion cyhoeddus pa rai oedd, edrych ar y naill ddŷn yn lládd y llall; ac yn wîr y mae [Page 236] gennini cyn lleied o Gristianogrwydd ac hwythau, os medrwn ni edrych yn ddifyr ar y cyfryw bethau.
23. Y mae'r gwylltineb a'r creulondeb meddwl hwn mor anghymwys i natur dŷn, ac na chynnhwysir iddo ei arseru ef tu ag ei anifail; mor echryslon gan hynny yw iddo ei arferu ef tu ag at rai o'rûn natur ac ef ei hûn, a phéth sydd fwy, a'r rhai sydd etifeddion o'r ûn gobaith tragywyddol gydá ni? Y mae y rhai a drosseddant fal hyn yn erbyn ei Cymydogion yn yr ûn o'r ffyrdd neillduol hyn, neu mewn dim arall ar a fo yn niweidiol i'r Corph, yn ddynion anghyfiawn, heb ganddynt y fáth issaf ymma o Gyfiawnder tu ag at ei Cymydogion, sef yr hyn a berthyn i'w Cyrph hwynt.
24. Ac ni all néb ei escusodi ei hûn gan ddywedyd nad yw'r péth a wnaeth ef ond troi'n ól rhyw Gam a gynnygwyd iddo ef gan ûn arall, oblegid bwriedwch iddo dderbyn rhyw niwed mawr, etto ni ddichon efe fód yn ddialwr iddo ei hûn, heb wneuthur cam ar dyn hwnnw, yr hwn nid yw yn gaethwâs iddo ef, i wneuthur a fynno ac ef, trwy fôd yn elyn iddo; nid oes iti ddim anghwaneg o achos i arglwyddiaethu arno ef, oblegid iddo ef wneuthur Cam a thydi, ac am hynny nid wyti yn unig yn anghariadus (yr hwn sydd o hono'i hûn yn ddigon o Bechod i'th ddamnio di) eithr hefyd yn anghyfiawn ymmhób rhyw weithred o Sarháad a wnelych di iddo ef. Ié, y mae'r anghyfiawnder hwn yn escyn yn uwch, séf at Dduw ei hún, yr hwn a gadwodd ddial, [Page 237] megys péth a berthyn yn briodol iddo 'i hûn, i mi y mae Dial, mi a'i talaf médd yr Arglwydd, Rhuf, 12.19. Ac yna pa béth a wná 'r hwn a ymddiala trosto'i hûn ond dynessu yn rhy agos at briodoraeth neillduol Duw ei hûn, a chippio'r cleddyf megys o'i law ef, fal pe gŵydde ef pa fódd i'w reoli ef yn well? yr hyn sydd o'r unwaith yn Yspeiliad ac yn ddirmyg o'r Duwiol Fawrhydi.
DOSPARTHIAD,
XI.
Am Gyfiawnder ynghylch Meddiannau ein Cymydog, yn erbyn gwneuthur Cam ag ef ynghylch ei wraig, ei olud. Am Orthrymder, Lledrad. Am dalu Dyledion, &c.
Ei Feddiannau.1. Y Trydydd Ran o'r Cyfiawnder ymma o Ommeddiad yw ynghylch Meddiannau ein cymydogion; nid alla'i eglurhau yn well pa béth yr wyfi'n ei feddwl wrth Feddiannnau, na'ch gyrru chwi at y Ddegfed Gorchymyn, diben pa ûn y'w i ffrwyno pób chwantau a deisyfiadau cybyddaidd tu ag at Feddiannau ein Cymydog. Ni a welwn yno bennodi nid yn unig ei Dŷ ef a'i wasanaethwŷr a'i anifeiliaid, y rhai a all bassio i gyd tan yr ún Enw cyffredinol hwnnw o'i Dda neu'i olud, ond yn bendant ei Wraig ef, megys rhan enwedigol o'i Feddiannau ef, ac am hynny pan Ystyrion ni'r Ddled-swydd hon o Gyfiawnder a berthyn i Feddiannau ein Cymydog, rhaid i ni gyfaddasu hynny yn gystal at ei Wraig ef, ac at ei Ddá bydol eraill ef.
Ei wraig.2. Y mae'r briodoraeth enwedigol sydd gan bób gŵr yn ei Wraig, mor hyspus na fydde ond ofer i mi ddywedyd dim i brofi hynny; y mae'n eglur fód pawb yn y bŷd yn ei deall hi yn dda, [Page 239] wrth yr annoddefgarwch mawr o'r anfodlonrhwydd sydd gan bób gŵr priod wrth weled néb yn gosod ar ei briodoraeth hwn, ac hynny ni ddichon néb ar sydd yn gwneuthur y Cam hwn i ún arall fod heb wybod mor fawr yw ef; fe gydnabyddir gan bawb fod halogi gwraig gwr, trwy ei hudo hi i wely dieithr, yn fáth waethaf o Ledrad, yn anfeidrol tu hwynt i hwnnw o'r Dâ.
3. Yn wîr y mae yn yr ûn hwn bentwrr o gamweddau dirfawr ynghyd; rhai tu ag at y Wraig, a rhai tu ag at y gwr: tu ag at y Wraig y mae y rhai mwyaf a all fód, sef Camweddau yn erbyn ei Henaid hi, y rhai, fal y dywedais i o'r blaen, sydd tu hwynt i bób rhai eraill, y mae hynny yn ei dinoethi hi o'i diniweidrwydd, ac yn ei gosod hi ar gwrs o ddrygioni tra-echryslon (nid dim llai na thrachwant ac anudonedd) oddiwrth bá rai y mae yn debyg na ddychwel hi bŷth, ac yna y maent yn ei damnio hi yn dragywydd. Yn nessaf y mae hyn o herwydd y bŷd hwn yn dwyn ymmaith ei henw da hi, gan ei gwneuthur hi yn ffiaidd ac yn ddirmygedig, a'i henw hi yn wradwydd ymysg pób rhyw ddyilion; ac heb law hynny, y mae hyn yn ei hyspeilio hi o'r holl hyfrydwch trwy ei bywyd, yr hyn sydd yn tarddu allan o'r addfwynder a'r Caredigrwydd yr hwn sydd rhwng gwr a gwraig, ac yn lle hynny yn peri i'r naill ffieiddio a chasau'r llall, yr hyn a wná lawer iawn o ddrŵg, rhy ormod i'w hadrodd ymma, ymmhób ún o ba rai y mae i'r gŵr ei gyfran hefyd.
[Page 240]4. Ond heb law y rhai hynny, y mae hyn yn gam mawr iddo ynteu; oblegid yn gyntaf, y mae hyn yn tynnu oddiwrtho yr hyn y mae ef yn ei gyfrif yn werthfawroccaf péth yn y bŷd, sef Cariad a ffyddlodneb ei wraig, ar péth hefyd yn yr hwn y mae iddo ef y cyfryw anghyfrannol hawl, ac nas gall ef ei hun, os mynnei, ei rhoddi hi fynu i ûn arall; ac am hynny yn ddiammeu nid ellir heb yr anghyfiawnder eithas ei dwyn hi oddiarno ef. Ac nid hynny yw 'r cwbl ychwaith, ond y mae hyn ymmhellach yn ei lenwi ef (os daw efe fŷth i ddirnad hynny) o'r wŷn dra-phoenus honno ô eiddigedd, yr hon o'r holl wyniau sydd yn anhawsach ei goddef, a'r hon sydd yn fynych yn gosod dynion ar bethau tanbaid a ffromwyllt, oblegid fal y dywed Solomon, Cynddaredd gwr yw efe, Dihar. 6.34. Y mae hyn ymmhellach yn dwyn arno ef yr holl ddirmyg a'r gwradwydd hwnnw yr hwn trwy anghyfiawn fesurau 'r bŷd sydd arferol o syrthio ar y rhai a drythyllir fal hyn, yr hyn y mae llawer yn ei gyfrif yn rhan fwyaf o'r Cam; ac er mae gwîr yw, mae anghyfiawn iawn yw iddo ef ddioddef gwradwydd, yn yn unig am iddo ef dderbyn Cam, etto oddigaeth ail-gyweirio 'r bŷd, fe fydd hynny yn bod, ac am hynny y mae hyn yn anghwanegu 'r Cam yn ddirfawr. Trathefn, fe a ddichon hyn fód yn yspeiliad, oblegid ysgatfydd fe all hynny ddychwelyd i fód yn gwthio i mewn Blentyn y Godineb i'w deulu ef, i gyfrannu ac ymborth a chyfran ei blant ei hûn, ac y mae hyn yn Ledrad cyhoeddus: yn gyntaf, os edrychwn ni ar y gŵr, yr hwn nid yw yn ddiammeu yn bwriadu llafurio am gynhaliaeth i blentyn [Page 241] gŵr arall; a thrachefn y mae hynny yn lledrad os edrychwn ar ei blant ef, y rhai sydd yn cael ei twyllo o gymmaint ac y mae hwnnw yn ei gael oddiwrthynt. Ac am hynny pwy bynnag a wir edifarhâo am y pechod hwn, os gwná ef hynny yn effeithiol, rhaid iddo dalu yn ól i'r teulu cymmaiut ac a ddarfu iddo trwy 'r moddion ei hyspeilio hwynt o hono.
5. Y mae 'rhain i gŷd gwedi ei gosod yn yr ún lle yn gwneuthur hyn yn fwyat camwedd a ellir ei wneuthur i ddŷn; a'r péth fydd etto yn ei wneuthur ef yn fwy o lawer yw ei fod ef yn gyfryw ac nad ellir mo 'i ddiwygio; oblegid, oddiethr mewn ûn péth y traethais i am dano, nid oes ûn rhan o'r pechod hwn y gellir ei ddiwygio; i'r pwrpas hwn y mae i ni i'w ystyried yn y Gyfraith Iddewaidd y gorchymynnir i'r Lleidr dalu yn ól ar ei bedwerydd, a bód hynny yn ei ryddháu ef; ond rhaid oedd i'r Godineb-ŵr, gan nad oedd bossibl iddo ef wneuthur atgyweiriad ac iawn, roddi ei Enioes ar lawr am ei Gamwedd, Levit. 20.10. Ac er bôd Godineb-wŷr yn llwyddo yn well yn y dyddian ymma, ac yn byw llawer o ddyddiau i adnewyddu ei heuogrwydd, ac ysgatfydd i chwerthin am ben y rhai y maent yn gwneuthur cam fil hyn yn ei herbyn, etto gwybyddan yn siccr, y bydd rhaid iddynt roddi cyfrif tôst am hyn, ryw ddŷdd, a hynny pa ûn bynnag a wnánt a'i edifarhau a'i peidio; os deuan hw trwy Ras Duw i edifeirwch, nhw a ganfyddant nad yw hwn' bechod rhâd; rhaid yw iddo gostio iddynt lawer o gythrwblaeth enaid, llawer o gyfyngder [Page 242] ac ing Cydwybod, llawer o riddfannau a dagrau; ac yn wîr pe bae ddŷn yn treulio hóll ddyddiau ei fywyd yn y cyfryw weithredoedd o edifeirwch, fe fydde 'r cwbl yn ddigon bychan i ddileu euogrwydd ûn weithred neillduol o'r fáth ymma; pa ryw ofidiau llifeiriol gan hynny sydd angenrheidiol i'r rhai sydd yn gwneuthur y fáth fasiandiáeth o'r pechod hŵn ac y mae rhy ormod o ddynion yn ei wneuthur? Ya ddiammeu y mae ef yn orchwyl cymmaint, a bód yn dra-angenrheidiol i'r néb y mae ef yn perthyn, ymosod atto allan o law, rhag bod arnynt eisieu amser i fyned trwyddo ef; oblegid na thwylled néb mono 'i hûn gan dybied y gellir golchi ymmaith ymarfer a chynnefindra o'r pechod hwn ac ûn weithred neillduol o edifeirwch; nag ellir ddim ond rhaid i'r edifeirwch fód yn gyfattebol i'r bai; a fal y bu'r naill yn hir-ymarfer a chynnefindra, felly 'bydd raid i'r llall fód. Ac yna pa ryw wall-góf ryfeddol yw i ddynion redeg i'r pechod hwn (a'i gynllwyn ef mor boenus ac y mae llawer yn gwneuthur) yr hwn a ŵyr efe y bydd rhaid iddo dalu mor ddrûd am dano, er dysod o'r péth ir goreu, hynny yw, er bwriadu iddo ef edifarháu, yn ddruttach o aneirif; séf, y mae yn colli iddo ef ei holl hawl i'r Néf, ylle hwnnw o burdeb, ac yn rhoddi iddo 'i gyfran yn y pydew tanllyd, lle y dibenna poethni ei drachwant ef yn y lloscfeydd tragwyddol hynny: Canys er darfod iddo ef wneuthur y pechod hwn mor ddirgel ac y dichon ef ddywedyd gyda 'r Godineb-ŵr Jôb, 24.15. Nid oes ûn llygad yn fyngweled i, etto yn siccr nid alle fo yn ei ddirgelwch mwyaf ei gyscodi ei hûn rhag [Page 243] golwg Dyw, gyda pha ûn nid yw tywyllwch yn dywyllwch, Psal. 139.12. Ac efe yw 'r hwn a fygythiodd yn bennodol farnu 'r fáth ymma ar drossedd-wŷr, Heb. 13.4. Godineb-wyr Duw a farna. Duw a ganniadháo i bawb a'r sydd yn byw yn y pechod ffiaidd hwn, ei barnu ei hunain yn hollawl mewn prŷd, fal y gallont ochelyd y Farnedigaeth erwin echryslon honno gan Dduw.
Ei Dd▪6. Yr ail péth at ba ûn y mae 'r Cyfiawnder hwn tu ag at Feddiannau ein Cymydog yn cyrrhaeddyd yw ei Ddá ef, tan ba air cyffredinol y cynnhwysir ei Dŷ ef, a'i Dîr, a'i Anifeiliaid, a'i Arian, a'r cyffelyb, ymmha rai y mae gantho iawn a phriodoldeb; rhaid i ni trwy Reol y Cyfiawnder hun oddef iddo fwynhau y rhain heb geisio na'i golledi ef yn yr ûn o honynt, na'i ceisio nhw ychwaith i ni ein hunain: Yr wyfi 'n gwneuthur rhagoriaeth rhwng y ddau hyn, oblegid fe a ddichon fód dau achos neu annogaeth o'r pechod hwn; ûn, malis, a'r llall, Cybydd-dod.
Anghyfiawnder maleisus.7. Y mae 'r dŷn maleisus yn chwennych gwneuthur drŵg i'w Gymydog, er na ennill ef ei hûn ddim wrth hynny; fe a welir yn gyffredinol fód dynion yn arteithio ac yn difrodi Dá ûn y bo ganddynt genfigen iddo, er nad ydynt yn bwriadu ennill dim iddynt ei hunain wrth hynny, ond y pleser o wneathur twrn drŵg i'r llall: y mae hyn yn feddylfryd cythreulig, yn union yn gyfattebol i'r eiddo diafol, yr hwn sydd yn rhoddi ei hóll boen a'i ddiwydrwydd, nid i ddwyn dim daioni i mewn iddo 'i hún, ond yn unig i ddinstrio ac i ddifetha [Page 244] rhai eraill: a chwi a ellwch weled mor wrthwynebus yw hyn i bób rheol Cyfiawnder, wrth y Gorchymyn a roddes Duw i'r Iddewon ynghylch dá gelyn; lle yr oeddynt cymmhelled oddiwrth gael rhydd-dyd i'w anrheithio a'i dinistrio hwynt, a'i bód nhw yn enwedigol yn rhwymedig i ragflaenu hynny, Exod, 23.4.5. Os cyfarfyddi ag Eidion dy elyn, neu a'i Assyn yn myned ar gyfrgoll, dychwel ef adref iddo: Os gweli Assyn yr hwn a'th gasháa di yn gorwedd dan ei phwnn: paid a gadel iddi, gan gynnorthwyo cynnorthwya gydag ef. Lle y gwelwch chwi ei bód hi yn ddylêd arnoni, ié, i'n gelynion, ragattal y niwed a'r golled honno, yr hon trwy unrhyw ddamwain y mae efe mewn perigl o honi: a hynny hefyd trwy béth llafur a phoen arnom ein hunain. Pa anghyfiawnder echryslon gan hynny yw i ni ddwyn yn bwrpasol y golled a'r niwed hwnnw arno ef? Pwy bynnag sydd yn euog o hyn, na escusoded mono 'i hûn gan ddywedyd na ddarfu iddo fo mo 'i gysoethogi ei hûn wrth anrhaith ei Gymydog, na lynodd dim o hono ef wrth ei fysedd ef, oblegid yn ddiammeu nid yw 'r anghyfiawnder maleisus hwn yn ddim llai bai na 'r ún Cybyddaidd, ié, yr wyfi 'n meddwl ei fód ef yn fwy os edrychwn ni ar yr achos ar gwreiddyn o ba ûn y mae efe yn tarddu, gan fôd y Cafineb hwn i ún arall, yn waeth na 'n gormod Cariad i ni ein hunain; y mae 'r hwn a ddrygodd ei Gymydog fal hyn yn rhwymedig i ddiwygio 'r Cam, ac i wneuthur jawn am y golled, a phe buasei fo gwedi ei gyfoethogi ei hun wrth hynny.
[Page 245]8. Ond o'r tu arall, na farned y twyllwr, Cybyddaidd oblegid hynny ei bechod yn fychan, Anghyfiawnder Cybyddaidd. o herwydd bôd ûn arall mewn ûn môdd yn fwy nag ef; oblegid ysgatfydd mewn rhyw foddion eraill fe ddichon eiddo yntau droi 'r clorian; y mae ef yn ddiammeu yn hyn, séf o ran bód yr hwn sydd anghyfiawn o chwant elw, yn debyccach i amlhau 'r unrhyw Bechod trosto drachefn, na'r hwn sydd felly allan o Falis; oblegid ammhossibl yw i ûn dŷn gael cynnifer o wrthrychiau o'i Falis, ac a ddichon ef ei gael o'i Gybydd-dod; nid oes néb mor llwyr-atgas gantho hóll ddynol ryw a chasau pôb dŷn; ond y mae gan y Cybydd gynnifer o o wrthrychiau o'i bechod, ac sydd o bethau yn y bŷd y mae efe yn ei gyfrif a dâl ddim. Ond ni safa 'i ddim hwy ar y gyffelybiaeth hon, y mae pòb ûn o'r ddau yn ddiammeu yn bechod dirfawr, ac y mae hynny yn ddigon o achos i gashau pôb ûn o honynt: Ni a ddescynnwn yn awr at yr awryw rannau o Anghyfiawnder Cybydddaidd; gwîr yw y gallanhw i gyd fyned tan yr enw o Ledrad neu Yspeiliad, oblegid y maent i gyd mewn effaith, etto er mwyn hyfforddrwydd ni a'i rhannwn nhw i'r tri hyn; séf, Gorthrech, Lledrad, a Thwyll.
Gorthrech.9. Trwy Orthrech yr wyfi 'n meddwl y Lledrad cyhoeddns hwnnw o syrthio ar Feddiannau rhai eraill, a pherchennogi ac ymddiffyn hynny. Ac i wneuthur hyn y mae amryw foddion ac offerau, megys, yn gyn [...]af, Gallu, trwy ba ûn y troŵyd amryw Genhedloedd a Brenhinoed allan o'i Cyfiawnder, a llawer o ddynion eraill allan o'i meddiannau: weithiau drachefn, [Page 246] fe a wneir Defnydd o'r Gyfraith i'r diben hwn; y mae 'r hwn a chwennych dîr neu Ddâ ei gymydog yn haeru hawl ynddynt, ac yna naill ai trwy lygru Cyfiawnder a Gwobrau a Rhoddion, neu trwy ei gorchfygu hi a'i fawredd a'i Awdurdod, y mae efe yn cael y farn o'i dû ef, y mae hyn Orthrymder mawr, ac o'r fáth waethaf, gwneuthur ŷ Gyfraith, yr hon a amcanwyd yn noddfa ac ym ddiffynfa i ddynion am ei hawl, i fod yn foddion o orchfygu Cyfiawnder: ac y mae hyn yn euogrwydd traechryslon, yn gystal ar yr hwn a geisiodd, a'r hwn a draethodd y cyfryw farn, ié, ac ar y Cyfreith-ŵr yr hwn a ddadleuodd tros y Cyfryw achos, oblegid trwy wneuthur hynny, y mae efe yn cynnorthwyo 'r gorthrymder; weithiau trachefn, y mae angen y Gorthrymmedig yn foddion ac yn achos o'i Orthrymder, felly y mae mewn Usuriaeth a Thrais: y mae dŷn mewn caledi dirfawr am arian, ac y mae hynny yn rhoi achlysur ir Gorthrymmwr i wasgu yn anghydwybodus arno ef, yr hyn sydd rhaid i'r dŷn tlawd gyd-ddwyn ac ef er mwyn cyflawni ei angen presennol. Ac fal hyn hefyd y mae yn fynych gydá meistred tîr cribddeiliaidd, y rhai, pan na ŵyr ei tenantiaid tlodion pa fôdd i gael lle mewn mann arall, a'i gwasga nhw ac a fynn ganddynt fwy nag a dál y péth. Nid yw y rhain óll ac amryw foddion eraill o'r cyffelyb ond amryw ffyrdd o weithredu 'r ûn pechod hwn o Ortrech, yr hwn sydd etto yn fwy o lawer po digynnorthwyaf a fo'r Gorthrymmedig, am hynny y mae'r scrythur yn rhoi ar lawr Orthrymder y weddw a'r ymddifaid megys y rádd eithaf o'r pechod hwn.
[Page 247]10. Y mae hwn yn wîr yn bechod gresynol iawn, yn erbyn pa ûn y bygythiodd Duw Ddial tôst, mewn amryw fannau or Scrythur: megys, Ezec- 18-12,'13. Yr hwn a orthrymma 'r anghenus a'r tlawd, ac a dreisia drais gan farw efe a sydd farw, ei waed a sydd arno 'i hûn; ac y mae efe 'n addrodd y 'rûn péth trachefn, gwer 18. Yn wîr y mae Duw gwedi cymmeryd arno mor bennodol ymddiffyn y tlawd a'r anghenus, a'i fôd yn rhwym megys mewn Anrhydedd i ddial ei Cam hwynt, ac yn gyfattebol i hyn, ni a welwn Dduw, Psa. 12. yn dadcan yn gyhoeddus ei feddwl a'i fwriad i ymddangos trostynt, gwer. 5. O herwydd anrhaith y Cystuddiedig ac o herwydd uchenaid y tlodion y cyfodaf yn awr, médd yr Arglwydd, ac a'i rhoddaf ef mewn Iechydwraeth. Y mae cyngor Solomon gan hynny yn rhagorol, Dihar. 22.22, 23. Nac yspeilia mo'r tlawd o herwydd ei fód yn dlawd: ac na sathr yr anghenus mewn barn: canys yr Arglwydd a ddadleua drostynt ac a orthrymma enaid y nêb o'i gorthrymmo hwynt; nid ydynhw debyg o'r diwedd i gael ond ychydig lawenydd oddiwrth yr elw a gánt trwy Orthrech, gan fòd hynny yn troi Duw i fôd ynelyn iddynt.
11. Yr ail fáth o'r anghyfiawnder hwn yw Lledrad, Lledrad. ac y mae o hwnnw drachefn ddau fath ûn yw, Attal y péth a ddyleni dalu, a'r llall yw Dwyn oddiar ein Cymydog y péth sydd yn barod yn ei Feddiant ef.
12. Or fáth gyntaf yw bôd heb dalu dyledion, pa ún bynnag ai 'r cyfryw bethau ac a fenthygasom ni, ynteu 'r pethau sydd yn ddledus arnoni, [Page 248] trwy ein haddewid ewyllysgar, oblegid y mae pob ún, o honynt yn ddledus i'r hwn a allo roddi y rûn o'r holion hyn iddynt; ac am hynny Lledrad yw atral y rûn o honynt oddiwrrhynt hwy; séf, Cadw oddiwrth dy Gymydog ei eiddo 'i hún, etto 'r cyntaf yw 'r mwyaf camweddus o'r ddau oblegid yr wyfi felly yn cymmeryd oddiarno ef yr hyn oedd unwaith ganddo ef yn ei feddiant (bid Arian neu ryw béth arall) ac felly yn ei wneuthur ef yn waeth nag y cefais i ef. Y mae hwn yn anghyfiawnder tra-mawr, a chyffredinol iawn; y mae dynion yn y dyddian ymma mor hŷf yn neccau rhai a ofynno ei beiddo 'i hûn, ac ún a ofynno elusen; ie, y mae yn achos o gweryl yn synych i ddŷn ofyn ei eiddo 'i hún: heb law 'r amryw wasanaethgarwch y bydd raid i'r coeliwr ei wneuyn cynllwyn am danynt, ac y mae hynny yn anghwanegu 'r camwedd, trwy ei fód ef yn treulio 'i amser, ac yn cael ei gymmeryd ymma'th oddiwrth ei negesau eraill, ac felly y mae i fe yn golledwr y ffordd honno hefyd. Y mae hyn yn anghyfiawnder cymmaint, ac na wela 'i pa fódd y dichon dŷn edrych ar ddim ar sydd yn ei feddiant ef megys ei eiddo 'i hûn, tra y bo so fal hyn yn neccau i ûn arall ei eiddo. Dledswydd pób dŷn mewn dylêd yw, yn hyttrach ei ddinoethi ei hún o'r cwbl, a'i daflu ei hûn drachefn yn noethlwm ar Ragluniaeth Duw, na llenwi ei nŷth fal hyn ag yspail ei gymydogion. Ac yn ddiammeu fe brifiai hynny yn ffordd ddedwyddach, nid yn unig o herwydd y fendith honno sŷdd yn dilyn Cysiawnder, wrth ei chyffelybu i'r felldith sydd yn dilyn y gwrthwyneb, eithr hefyd mewn synwyr bydol, oblegid pwy [Page 249] bynnag sydd yn rhoi heibio talu Dyledion a gymmhellir i hynny o'r diwedd trwy Gyfraith, a hynny ar ammodau gwaeth o lawer nag y gallasei fo yn ewyllysgar, séf trwy fwy o gôst, a thrwy golli ei enw dâ hefyd cymmhelled ac nas gŵyr ef ar ól hynny pa le i fenthycca pan so arno fwyaf angen. Ond y fford ddiogelaf i ddŷn i'w siccrhau ei hun oddiwrth euogrwydd yr anghyfiawnder hwn, ydyw gochelyd benthycca ûn amser ddim mwy nag a ŵyr ef pa fôdd i dalu yn ôl, oddigaeth gan ún a wŷr ei brinder ef, ac a fydd bodlon i fód yn y perygl. Onid-ë y mae fe 'n euog o'r pechod hwn y prŷd y bo fo yn benthycca; oblegid y mae fo 'n cymmeryd y péth hynny gan ei Gymydog ar ei addewid o'i dalu fo 'n ôl, pan ŵyr ef nad ydyw ef yn debyg byth i'w dalu fo adref, yr hyn sydd Ledrad cyhoedd.
13. Yr unrhyw Gyfiawnder ac sydd yn rhwymo dynion i dalu ei Dyledion ei hunain, sydd hesyd yn rhwymo pôb Meichiau i dalu Dyledion rhai eraill, am ba rai y mae efe 'n rhwym os y pen-dyledwr ni bydd nag yn abl, nag yn fodlon: oblegid trwy ymfeichnío fe 'i gwnaeth ef yn ddyled iddo 'i hûn, ac mae'n rhaid iddo mewn pób cyfiawnder atteb am dano ef i'r coeliwr, yr hwn, fe ellir tybied a ddenwyd i roddi benthyg a'r hyder ei siccrwydd ef, ac am hynny a dwyllir yn hollawl ac a fradychir gantho ef, oddigaeth iddo ef weled ei fodloni ef. Or tybiir fôd hynny yn galed, i ddŷn dalu am y péth ni dderbynniodd ef ddim bûdd oddiwrtho, mi a ganhiadaf hynny cymmhelled ac i roddi aclros cyfiawn i bôb dyn i ymogelyd pa fôdd yr ymrwyma [Page 250] fo tros arall; ond ni dichon hynny byth fód yn escus i dorri y rhwymedigaethau hynny gwedi ei gwneuthur.
14. Am y fáth arall o Ddyled, yr hyn a ddŵg dyn arno ei hûn trwy addewid ewyllysgar, nid ellir attal mo hynny ychwaith heb drawsder mawr: oblegid y mae hynny bellach yn eiddo 'r dŷn hwnnw i'r hwn y gwnaethpwyd yr addewid, ac yna nid oes fatter pa fôdd y daeth ef felly, Am hynny ni a welwn Ddafydd yn gwneuthur hyn yn rhan o Bortreiad gŵr cyfiawn, Psal, 15.4. Ei fod ef yn cadw ei Addewidion er iddynt fód i'w niwed ei hûn; ac yn ddiammeu y mae efe yn anghymwys iawn i escyn i fynydd Duw y sonir yno am dano, naill ai fal y mae efe yn arwyddoccau yr Eglwys ymma, ynteu 'r Nêf ar ól hyn, yr hwn nid yw yn cadw yn gydwybodus y rhan ymma o Gyfiawnder. Gyda 'r fáth yma o Ddyled y gellir cynnhwyso cyflogau y Gwasanaeth-ŵr a'r Llafur-ŵr, camattal pa rai sydd bechod dirfawr, ac y mae cwynfau ý rhai a Orthrymmir felly yn derchafu i fynu at Dduw. Wele (medd St Jaco) y mae cyflog y gweith-wyr y rhai a fedasant eich meusydd (yr hwn a attaliasocb trwy dwyll) yn llefain: a llêf y rhai a fedasant a ddaeth i glistian Arglwydd y lluoedd, Jac. 5.4. Ac y mac Gorchymyn caeth am hyn, Deut. 24.14, 15. Na orthrymma wenidog tlawd ac anghenus; yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog, ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac, ar hyn y mae yn cynnal ei enioes, fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn a bód pechod ynot. Dymma ûn o'r pechodau [Page 251] uchel hynny, y rhai ni pheidiant a chróch-lefain, nes iddynt ddwyn i lawr ddial Duw; ac am hynny er nad oes genniti ddim Cyfiawnder tu ac at dy frawd tlawd, etto bydded o'r lleiaf genniti gymmaint o Drugaredd i ti dy hûn, ac na thynnoch di i lawr farnedigaethau ar dy wartha trwy wneuthur y cyfryw gam a'r anghenus.
DOSPARTHIAD.
XII.
Am Ledrad; am Dwyll mewn ymddiried, mewn marsiandiaeth; am Atgyweiriad, &c.
Lledratta Dâ ein Cymydog1. YR Ail Rhan o Ledrad yw dwyn oddiar ein Cymydog y péth sydd yn barod yn ei feddiant ef; a hyn a ellir ei wneuthur naill a'i yn fwy angerddol ac yn gyhoeddus, neu ynteu yn ddirgel ac yn gyfrwys; y môdd cyntaf yw arfer y rhai a fo yn lledratta ar y ffordd fawr, neu yn Yspeilio tai, lle y maent yn dwyn ymmaith Ddâ dŷn trwy drais; y llall yw arfer y lleidryn ysgafnllaw, yr hwn a ddŵg ymmaith Ddâ dŷn heb wybod iddo ef; ni ymddadleua'i ddim pa ún o'r rhain sydd waethaf, dygon yw fód pób ûn o honynt yn gyfryw weithredoedd o anghyfiawnder ac a wná dynion yn atgás gan Dduw, yn anghymys i gymdeithas ddynol ac yn bradychu y gwneuthur-wŷr i'r drŵg mwyaf yn y bŷd hwn, gan fód y Gyfraith gwedi ordeinio marwolaeth yn wobr am y pechod hwn; ac nid oes nemmawr ar sydd yn dilyn y cwrs. ymma yn hîr, nad ydynt o'r diwedd yn cyfarfod ar gwobr hwn. Yn ddiammeu Ynfydrwydd yw i ddŷn gredu y gall efe Ledratta yn wastad yn ddiogel, oblegid y mae efo i ymdrechu a diwydrwydd y rhai oll a dderbyniant y Cam hwn gantho ef, colled pa rai a'i hannoga [Page 253] nhw yn gyflym i'w chwilio ef allan, a phéth sydd yn fwy o anfeidrol, rhaid iddo ef ymorchestu a Chyfiawnder Duw, yr hwn sydd arferol o gynllwyn y cyfryw rai i ddinistr, ié, yn y bŷd hwn; fal y mae'n eglur wrth yr amryw ddadcuddiadau rhyfeddol a wnaethpwyd o'r Lladron cyfrwysaf. Ond pa ún bynnag os diangc ef rhag Dial ymma, yn ddiammeu nid oes dim ond edifeirwch ac adnewyddiad buchedd a ddichon ei siccrhau ef rhag dial am dano ef ar ôl hyn. Ac yr awrhon gwedi Ystyried y peryglon hyn y mae'n eglur fód y lleidr yn gwneuthur bargen resynol, y mae efe yn lledratta arian ei gymydog, neu ei anifeiliaid, ac yn gyfnewid am danynt y mae efe yn talu ei hoedl, neu ei Enaid, ysgatfydd pób ûn o'r ddau; ac os yw'r holl fyd yn brîs rhy wael am enaid, fal y dywed ef i ni, Mar. 8.36. Yr hwn a wydde orau ei gwerth hwynt, oblegid efe a'i prynnodd hwynt, pa ryw wallgof ryfeddol yw ddŷn ei cyfnewid nhw am bób ceriach wael, fal y gwná llaweroedd, y rhai a gawsant y cyfryw arfer o Ledratta, na ddichon y péth gwaelaf ddiangc ei bysedd nhw? Tan y pechod hwn o Ledrad y cyfrifir derbyn-wyr Lledrad, pa ûn bynnag a'i y rhai sy'n ei cymmeryd nhw, megys cyfrannogion yn y Lledrad, neu y rhai a'i prynna hwynt pan fónt yn gwybod neu yn credu mae Lledrad ydynt. Y mae llaweroedd (y rhai a gymmerant arnynt ffieiddio Lledrad) yn euog o hyn, pan allont hwy trwy hyn brynnu'r péth ychydig rhadach na'r prîs cyffredinol. Ac ymma hefyd y crynhóir y pechod o gelu rhyw Ddâ a ddelo dŷn ei hŷd iddo o eiddo ei Gymydog, yr hwn pwy bynnag na'i rhydd yn ei ôl, os [Page 154] gŵyr ef, neu os dichon ef ddysgu pwy yw ei berchennog, nid yw efe wéll na lleidr; oblegid y mae efe yn attal oddiwrth ei Gymydog yr hyn yn briodol a berthyn iddo ef: ac yn ddiammeu ni throsseddir cariad, os dywedir, y gwnae'r cyfryw ddŷn y fáth waethaf o Ledrad, pe bydde fo wrth hynny mor ddiofal oddiwrth ddial y Gyfraith, ac y mae fo yn hyn ymma.
Twyll.2. Y Trydydd Rhan o Anghyfiawnder yw Twyll; ac y mae cynnifer o Rannau o hwn ac sydd o achosion i'r naill ddŷn i negeseua a'r llall. Ammhossibl yw ei henwi hwynt ei gyd, ond yr wyfi'n meddwl y gellir ei cynhwys hwynt tan y ddau fáth gyffredinol hyn o Dwyll, sef, mewn Ymddiriedd a Marsiandiaeth; oddigaeth y Twyll hwnnw mewn Chwaryddiaeth, yr hwn (rhaid i mi ddywedyd i chwi ar y ffordd) sydd gymmaint dichell a Thwyll a'run o'r lleill.
Mewn Ymddiried.3. Y mae'r hwn a dwylla ddŷn mewn rhyw Ymddiried a orchymynnir iddo, yn euog o Anghyfiawnder dirfawr a thra-bradychus, sef cyssylltu dau bechod mawr yn ûn, hocced, a thoraddewid; oblegid ymmhob ymddiried y mae Addewid yn gynnhwysedig er na threuthir mono' allan; canys wrth dderbyn yr ymddiried y mae dŷn yn addo ffyddlondéb; fe a dorrir yr ymddiried hwn weithiau a'r Byw, weithiau a'r marw; a'r byw y mae amryw ffyrdd o'i dorri ef, yn ól yr amryw rywogaethau o Ymddiried; y mae'r Ymddiried weithiau yn fwy cyffredinol, fal eiddo Potiphar i Joseph, [Page 255] Gen. 39.4. pan fo dyn yn ymddiried i ûn arall am yr hyn óll a fedd efe, ac fal hyn yr ymddiriedir i Ymgeledd-ŵyr plant, ac weithiau i Oruchwyl-ŵyr; weithiau trachefn y mae ef ynghylch rhyw ún péth neillduol: y mae'r naill ddyn yn Ymddiried i'r llall i farchnatta rhyw béth trosto ef, neu mae fe 'n rhoddi rhyw ûn péth yn ei ddwylo ef i'w oruchwylio a'i drefnu: fal hyn ymysg Gwasanaeth-wyr y mae'n arferol o ymddiried i'r naill ûn rhan o Ddâ ei feistr, ac i ûn arall ran arall o honynt. Yr awrhon pwy bynnag yn y rhai'n, neu'r cyffelyb, ni wná mor ffyddlon tros y néb a ymddiriedo iddo ef, ac y gwnae efe trosto'i hún, ond naill a'i ai cyll nhw trwy ddiofalwch, neu ai difroda hwynt yn afradlon, neu ai perchennoga hwynt ei hún, y mae efe yn euog or pechod mawr hwn o dorri addewid a'r Byw. Yn gyffelyb, yr hwn a ymddiriedir iddo am gwplhau Llythyr-Cymmun gwr marw, os efe ni wná hyd yr eithaf o'i wybodaeth yn ól meddwl y gŵr marw, eithr a'i cyfoethoga'i hûn a'r pêth a adawyd i arall, y mae efe yn euog o'r pechod hwn tu ag at y marw; yr hyn sydd yn fwy na'r llall, o gymmaint ac nad oes gan y marw foddion o ymwared a diwygiad, fal y dichon fód gan y byw. Y mae hyn yn fáth o Yspeilio beddau yr hyn sydd yn gyfryw Ledrad, ac y mae dynion trwy natur yn ei sfieiddio a'i arswydo, yn gymmaint a'i fód ef yn Lleidr calon-galed, a feiddia ymosod at hynny. Ond y mae pób ún o'r rhain etto yn fwy echryslon, pan fónt yn ddigyfwng yn erbyn Duw, neu'r tlawd, hynny yw, pan roddir rhyw béth mewn ymddiried i ddŷn i ddefnyddiau o Dduwioldeb neu elusen; [Page 256] y mae hyn ýn anghwanegu Cyssegr-yspeiliad at y twyll a'r brâd, ac felly yn ei gymmhwyso fo i'r holl felldithion hynny a fygythir i'r amryw bechodau hynny, y rhai sydd mor drwm, a bód yr hwn a anturia ei gwneuthur hwynt er mwyn bûdd presennol yn gwneuthur cynddrwg, ie gwaeth Marchnad na Gehazi, 2 Bren. 5.27. yr hwn Gydá diliad Naaman a gafodd ei wahanglwyf of hefyd.
Mewn Marsiandiaeth.4. Yr ail fáth o Dwyll sydd mewn marsiandiaeth a bargen, lle y dichon fód Twyll yn gystal yn y Pryn-ŵr, a'r Gwerth-ŵr; twyll y gwerth-ŵr gan mwyaf yw celu beiau ei farchnad, neu rhoi gormod o brîs arnynt.
Yn y gwerthwr, cuddio beiau.5. Y ffyrdd o gelu ei beiau hwynt yw yn gyffredinol y rhai hyn, naill a'i yn gyntaf, trwy wadu fód y cyfryw fai yntho ef, a'i ganmol ef ysgatsydd am y gwrthwyneb, ac y mae hyn yn gelwydd hylithr, ac felly yn anghwanegu'r pechod hwnnw at y llall, ac os cadarnhéir y celwydd hwnnw trwy lw, fal y mae yn rhy arferol, yna mae'r euogrwydd mawr hwnnw o Anudonedd yn dyfod i mewn hefyd; ac yna, pa ryw bentwr o bechodau a geselir ymma ynghŷd? llawn ddigon i fuddo Enaid truan i ddinistr, a'r cwbl yn unig i geisio trwy daerni ychydig ychwaneg o Arian o bwrs ei gymydog, ac hynny lawer gwaith cyn lleied, a bód yn rhyfeddol iawn y dichon ûn dŷn ar sydd yn tybied fód gantho ef Enaid, ei osod ef ar brîs mor wael a dirmygus. Yr ail módd o gelu ei beiau hwynt yw arferu rhyw gelfyddyd i wneuthur iddo ef edrych yn dêg ac i giddio ei feiau [Page 257] ef; er nad traethu celwydd yw hyn, etto y mae ef yn gelwydd yn y weithred, yr hyn sydd cynddrŵg, ac y mae yn ddiammeu cymmaint bwriad o dwyllo a siommi yn hyn yma ac a all fód yn yr anudonedd mwyaf. Y Trydydd môdd yw pigo allan, farchnat-wŷr gwirion; yr wyfi'n creda fód hyn yn gelfyddid rŷ hynod ymyfg Marsiand-wŷr, y rhai ni ddangosant mo'i Marsiandiaeth waethaf i ddynion cyfarwydd, eithr a'i cadwant i rai anghelfyddgar: a'r unrhyw fáth o hocced yw hyn a'r llall; oblegid y mae pób ûn o'r ddau yn tueddu i'r unrhyw ddiben, sef twyllo'r Marchnat-ŵr, ac yna ni waeth pa ûn a wnelo'i a'i gwneuthur deunydd o'm Celfyddyd fy hûn ynteu o'l wendid ef i ddwyn hynny i ben. Y mae hyn yn ddiammeu, y dyle'r néb a wnelo yn uniawn, wneuthur ei farchnat-ŵŕ yn gydnabyddus a'r péth y bo fo yn ei brynnu; ac os ni bydd efe mor gelsyddgar a gallu barnu (iè os efe ni chenfydd y bai o hono'i hûn) yr wyti'n rhwym i'w ddadcudddio ef, onid-ë yr wyti'n gwneuthur iddo ef dalu am ryw béth nid yw yno, gan ei fód ef yn bwriadu fód y cynneddf da hwnnw yntho ef, yr hyn a wyddosti nad ydyw, ac am hynny ti a elli mor gydwybodus gymmeryd ei arian ef am ryw Ddâ o eiddo gŵr arall, yr hyn a wyddosti nad elli di byth roddi yn ei feddiant ef, yr hyn fe gydnebydd pawb ei fód yn hocced dirfawr. Ymma hefyd y gellir cyfrif y dwyll honno o bwysau a mesurau ffeilsion, canys y mae hyn yn cadw 'n ddirgel rhag y pryn-ŵr ddiffygiad ym maentioli, fal y mae'r llall ynghynneddf, y pêth a farchnettir, ac y mae hefyd yn gwneuthur iddo dalu am y pêth [Page 258] nid yw yn ei gael. Y fáth ymma o hocced a grybwyllir am dano yn neillduol gan Solomon Dihar. 11.1. sêf bód hyn yn ffiaidd gan yr Arglwydd.
Rhoi gormod Prîs.6. Yr ail fáth o hocced yn y gwerth-ŵr, yw rhoi gormod prîs ar ei farchnad; er na ddarfu iddo ef na chelu na chiddio ei feiau ef, etto os efe a esyd brîs anrhesymmol arno ef y mae efe yn twyllo'r pryn-ŵ [...]: yr wyfi'n galw hynny yn brîs anrhesymmol, yr hyn sydd tu hwynt i ŵir werth y pêth, trwy Ystyried y bûdd gweddol hynny a fodlonir i'w ganniadu i Grefft-ŵyr yn y gwerthiad: Pa bêth bynnag sydd tn hwynt i hyn a ddygir i mewn, ond odid, trwy rai o'r ffyrdd hyn; megys yn gyntaf trwy gymmeryd mantes o Anwybodaeth y pryn-ŵr ymmhrîs y pêth, yr hyn sydd gymmaint Twyll a cham-ganmol ei ddaioni ef: Neu yn ail trwy gymmeryd mantes o'i angen ef; ti a weli ddyn ac arno yn bresennol eisieu rhyw bêth yn ddirfawr, ac am hynny wyt' yn cymmeryd achlysur i'w siommi ef; ond dyma'r pechod hwnnw yn uniawn o Drais a gorthrech a grybwyllwyd am dano o'r blaen; canys yn ddiammeu nid oes dim a ddichon godi prîs rhyw béth yn gyfiawn, ond naill a'i fód efe yn ddruttach iti, neu'i fod ef yn well yntho'i hûn; ond nid ydyw angen dy frawd yn achos o'rûn o'r rhain; nid ydyw ei noethni ef nag yn gwneuthur i'r dillad yr wyti 'n i werthu iddo ef sefyll iti mewn ychwaneg, nag yn ei gwneuthur nhw ychwaith yn well; ac am hynny os codi di ei prîs nhw oblegid hynny, yr wyti'n cyfnewid dy ffordd o Farsiandiaeth, ac yn gwerthu angen ac eisicu dy [Page 159] Gymydog, yr hyn sydd yn ddiammeu yn alwedigaeth anghyfreithlon iawn. Neu yn Drydydd ysgatsydd trwy gymmeryd mantes o ddiddarbodaeth y marchnat-ŵr: Y mae rhyw ddŷn ysgatfydd yn ffansío y cyfryw béth yn dramawr, ac felly yn goddef i'w ffansi draarglwyddiaethu ar ei Reswm cymmhelled, a'i fód éf yn llawnfwriadu ei gael ef béth bynnag a gostio ef. Os canfyddi di hyn yntho ef, ac ar hynny wyt yn codi ei brîs ef, y mae hyn yn gwneuthur iddo brynu ei ynfydrwydd, yr hyn yw'r pwrcas drudaf o'r cwbl: yn ddiammeu nid yw ei ffansi ef yn anghwanegu dim at wîr brîs y bêth, mwy nag yr oedd ei angen ef yn y cyflwr or blaen, am hynny ni ddylid mo brisio'r péth yn uwch oblegid hynny. Y nêb gan hynny a chwennycho werthu mewn módd gonest a chyfiawn, gwilied gymmeryd gafael ar bôd mantes y bo tymmer ei Farchnat-wr yn ei roddi iddo, eithr ystyried yn ddifrisol, béth a dâl y pêth, ac am ba faint y gwerthei ef fo i ûn arall, yr hwn ni chae efe mo'r cyfryw fantes arno, ac felly ei ganniadu ef yn yr ûn brîs iddo yntef.
7. Nid oes yn gyffredinol gynnifer o oddfau i'r Pryn-wr i dwyllo; Twyll yn y Prynwr. etto fe all ddigwydd i ddŷn weithiau werthu rhyw bêth na ŵyr efe mo'i brîs ef, ac yna fe fydd mor anghyfiawn i'r pryn-ŵr wneuthur bûdd trwy ei anwybodaeth ef, ac oedd i'r gwerth-ŵr yn y cyflwr o'r blaen. Ond y péth sydd yn damwain fynychaf yw oblegid angen, yr hyn a ddichon ddychwelyd yn gystal i'r gwerth-ŵr a'r pryn-ŵr: y mae angen dŷn yn gwneuthur iddo werthu, [Page 260] ac heb oddef iddo ef aros i wneuthur gwell bargen, ond yn ei gymmell ef i gymmeryd y cynnyg cyntaf; ac ymma 'ir pryn-ŵr bwyso arno ef, oblegid iddo ei weled ef yn y cyfyngder ymma, ydyw'r unrhyw bechod ac a ddangosais i o'r blaen ei fod yn y gwerth-ŵr.
8. Y mae mewn matter o Farsiandiaeth gynnifer o Brofedigaethau i dwyllo, ac y dylei ddŷn ei arfogi ei hûn a llawnfwriad gadarn yn y gwrthwyneb, ié a chariad dirfawr o Gyfiawnder, onid-ë fe fydd mewn perigl o Syrthio tan demtasiwn; oblegid fal y dywed y gŵr Doeth, Ecclus. 27.2. Fal y gyrrir gwanas rhwng cysswlt carreg, felly rhwng prynu a gwerthu yr ymwthia pechod; y mae hocced gwedi ei gyd-gyssylltu felly a phób marsiandiaeth, a chwedi ei gymmyscu felly a'r gwreiddyn a'r sylfaen cyntaf o honynt, ac y byddys arferol o gyd-ddyscu'r naill a'r llall; ac felly y mae Twyll yn dychwelyd i fód yn gyfran o'r gelfyddyd; yn gymmaint ac na thybir yn y dyddiau yma fód néb yn gymwys i arferu Trâd yn y bŷd ond y néb a fedr dwyllo, ac y mae'r néb sydd gantho fwyaf o'r gelfyddid resynol yma o siommi yn ei ymoleithio ac yn ei ganmol ei hûn, ié, ac ysgatfydd yn ymffrostio wrth eraill, pa fódd yr aeth ef tros ei gymydog mewn rhyw fargen.
9. Pa gywilydd anrhaethadwy yw hyn, fód i ni Gristianogion, y rhai trwy orchymynion ein Meistr a rybuddir i gwplhau'r Dledswyddau uchaf hynny o Gariad, yn lle ymarferu hynny, yn llwyr dad-ddyscu'r rheolau cyffredinol hynny, o Gyfiawnder, y rhai y mae Natur ei han [Page 261] yn ei dyscu? Oblegid yr wyfi'n meddwl nad oes y rûn o'r amryw ddosparthiadau hynny o anghyfiawnder tu ag at Feddiannau ein Cymydog, na farnei pób Pagan sobr ei bód felly; fal y dywed St. Paul gan hynny wrth y rhai o'r Enwaediad fód Enw Duw yn cael ei gablu ymysg y Cenhedloedd, trwy 'r anghyssondeb oedd rhwng ei hymarfer hwynt a'i Cyfraith, Rhuf, 2.24. felly y gellir yr awrhon ddywedyd am danon ninnau, y ceblir Enw Crîst ymysg y Tyrciaid a'r Cenhedloedd, oblegid ein bucheddau ffiaidd a Sarháaus ni y rhai sydd yn ein galw ein hunain Gristianogion, ac yn neillduol yn y pechod hwn o anghyfiawnder; gadewch i ni rhag Cywilydd o'r diwedd ymegnío i fwrw ymmaith y gwradwydd hwn oddiar ein Proffes, trwy ymadel a'r cyfryw ymarfer, yr hyn, debygwni, a ddyle'r Ystyriaeth hon yn unig ein hannog ni i wneuthur.
10. Etto heb law hyn y mae ychwaneg o annogaethau i'n cynnhyrfu ni; ymysg pa rai y mae ûn o'r cyfryw Natur ag a ddichon gyffrhoi'r Cybydd mwyaf, sef, na wîr gyfoethoga 'r helynt yma monynt hwy bŷth; y mae melldith dirgel yn ei gynllwyn ef, yr hwn fal rhŵd a yssa'r hóll fûdd a ddisgwylwyd oddiwrtho ef. Ni ammheua nêb mo hyn a'r sydd yn credu'r Scrythur, lle y mae llaweroedd o byngciau i'r pwrpas hwn: megys Dihar. 22.16. Y néb a wasgo ar y tlawd er chwanegu ei gyfoeth, a ddaw i dlodi. Felly Habac. 2.6, 7. Gwae a helaetho y péth nid yw eiddo ef: pa hyd? ac a lwytho arno y Clai tew: oni chyfyd vn ddisymmwth y rhai a'th frathant? ac oni ddeffru y rhai a'th [Page 262] chwalant? ac oni byddi yn wasarn iddynt? Hyn sydd yn damwain yn gyffredinol i'r rhai sydd yn gorthrechu ac yn Twyllo eraill, y maent o'r diwedd yn cyfarfod a'r rhai a wnánt y cyffelyb iddynt hwythau. Ond y mae'r lle yn Zacharias yn gyflawn i'r pwrpas hwn, Pen. 5. lle tan arwydd y Llyfr hedegoc yr arwyddocceir y felldith sydd yn myned allan yn erbyn y pechod hwn, gwer. 4. Dygaf hi allan, medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i Dy y lleidr, ac i dy y néb a dyngo yn gelwyddog i'm henw, ac hi a erys ynghanol ei dy, ac a'i difa ef, a'i goed a'i gerric. Lle y gwelwch mae lledrad ac anudonedd yw'r ddau bechod, yn erbyn pa rai y bwriedir y felldith hon (ac y maent hwy yn rhy fynych yn ymgyfarfod ynghyd mewn Twyll) a Natur y felldith hon yw difa'r Tŷ, a llwyrddinistrio'r cwbl óll a berthyno i'r nêb a fo euog o' rûn o'r pechodau hyn. Am hynny tra'i bóch di fal hyn yn rheipus ar ôl dâ neu dŷ dy Gymydog, nid wyti ond casglu tân-wŷdd i losci yr eiddo dy hûn. Ac ni a welwn beynydd y ffrwyth o'r bygythion ymma o eiddo Duw, yn yr aflwyddiant rhyfeddol o gyfoeth a gesclir ar gam, yr hyn y mae pób dŷn yn ddigon parod i ddal sulw arno mewn cyflwr rhai eraill: yr hwn a welo'i gymydog yn myned yn ôl llaw, fe fedr yn ebrwydd ddwyn ar gòf, Fe a gasclwyd hwn trwy orthrymder a thwyll; etto yr ydyni mor orphwyllus, a chwedi yn llygattynu cymmaint a chariad elw, ac na ddichon yr hwn sydd yn ystyried hyn mewn arall, wneuthur deunydd o hyn iddo'i hûn ond yn anfynych, nid yw efe ddim llai rheipus, nag anghyfiawn ei hûn, er yr hóll ddial y mae efe yn ei ddirnad i ddychwelyd i eraill.
[Page 263]11. Ond och! pe byddit siccr na rwygid odddiwrthiti dy Feddiannau anghyfiawn, etto pan gofiech di mor ddrûd y bydd rhaid iti dalu am danynt mewn bŷd arall, nid oes iti ond achos bychan i ymffrostio o'th fargen. Yr wyti'n meddwl y buosti yn gywraint iawn, pan dwylaisti dy gymydog; ond fe ŵyr Duw yn y cyfamser fôd ûn arall yn dy siommi dithau, ac yn dy Dwyllo di o béth sydd yn aneirif yn wertfawroccach, sef, dy Enaid: y mae 'r Cythrel yn gwneuthur a thydi yn hyn fal y mae arfer Pysgodwŷr; y mae y rhai a chwennychantd dal pysgodyn mawr yn abwydo ei bâch ac ûn llai, ac felly 'r mawr yn dyfod yn rheipus i lyngcu r' llall a ddelir ei hunan: felly tydi yr hwn wyt yn safn-rythu i lyngcu i fynu dy frawd tlawd, a wneir yn ysglyfaeth i'r Dinistrydd mawr hwnnw. Ond och! béth a esmwythá hynny arnati yn Uffern, ddarfod i ti adael cyfoeth o'th ôl ar y ddaiar, pan fo arnati eisieu yno y péth y mae 'r cardottyn gwaelaf ymma yn ei fwynhau, sef defnyn o ddwfr i oeri dy dafod? Ystyria hyn, ac ymróa o hyn allan i roi 'r hóll boen a'r ddiwydrwydd hynny a arferaisti i dwyllo eraill, i'th achub dy hûn rhag hocced y twyllwr mawr.
12. I'r diben hwn y mae 'n gwbl angenrheidiol i ti wneuthur Adferiad i bawb ar y gwnethosti gam iddynt; oblegid tra y cedwi di yn dy feddiant ddim o'r elw anghyfiawn, y mae hynny megys ceiniog-ernes oddiwrth y Cythrel, yr hon sydd yn rhoddi iddo ef gwbl hawl i'th Enaid ti. Ond ysgatfydd, fe ddywedir nad yw [Page 264] bossibl mewn pób rhyw gyflwr wneuthur Atgyweiriad i'r nêb y gwnaethpwyd Cam ag ef, fe allei fód ef gwedi marw; os felly gwná ef i'w Etifeddion ef, i ba rai y mae ei hawl ef yn descyn. Ond fe ellir heuru trachefn ddarfod ond odid i'r néb a arferodd Dwyllo yn hîr, wneuthur cam a llaweroedd, nad yw ef yr awrhon yn medru ei cofio, a llaweroedd trachefn nid oes iddo fódd yn y bŷd i gael gafael arnynt: yn y cyflwr yma y cwbl a alla'i gynghori yw hyn: Yn Gyntaf bód mor ddiwyd ac y bo possibl i atgoffhau pwy oeddynt, ac hefyd i ymegnío ar ddyfod i hŷd iddynt; ac os methu di hynny ar ól dy hóll ddiwydrwydd, gwná 'r Diwygiad i'r Tlodion, ac fal na bónt mewn rhan yn unig, bydd mor ofalus ac y gellych i gyfrif hyd yn oed y ffyrling leiaf o elw anghyfiawn; ond lle nid ellir gwneuthur mo hynny yn hollawl, fal yn ddiammeu ni all y rha sydd gwedi amlhau y gweithredoedd hyn o Dwyll, etto yno gwnánt ryw fesur cyffredinol, trwy by ûn i gymmhwyso ei hadferiad: megys, er Esampl, Marsiand-wr yr hwn ni fedr gofio pa faint a Dwyllodd ef mewn pób rhw gyfran neillduol, etto a all, ond odid, ddyfalu yn gryno a oedd ef yn arfer o siommi hyd y drydydd neu 'r bedwaredd ran o'r farsiandiaeth, ac yna pa ddogn bynnag a dybio fo ddarfoed iddo ef felly ei dwyllo, rhoed yn gyfattebol i hynny allan o'r golud a gasclodd efe wrth ei farchnad: ond yn hyn y mae 'n sefyll ar bób dŷn wneuthur yn uniawn, megys ger bron Duw, ac nid cymmeryd mantes o'i angôf ei hún i gwttogi 'r Adferiad, eithr yn hyttrach myned ar y llaw arall, a bôd yn siccr o roddi yn hyttrach ormod na rhŷ fychan. Os digwydd iddo [Page 265] ef rôddi ychydig tros ben, nid rhaid iddo wrwgnach mo drául y cyfryw Aberth tros Bechod, ac yn ddiammeu ni wná efe, os ydyw efe yn ddiffúant yn deisyfu Cymmod. Llawer eraill o anhawsder a ddichon fôd yn y matter yma o Adferiad, y rhai ni ellir mo'i rhag-weled, ac felly ni ellir mor traethu am danynt yr awrhon yn neillduol; ond po mwyaf o'r rheini sydd, mwyaf a ddyle dynion arswydo rhedeg i'r pechod o Anghyfiawnder, yr hwn sydd mor anhawdd, onid yw ammhossibl, iddynt ei Ddiwygio, a mwy ofalus a ddylent hwy fôd i farw-hau Cybydd-dod, yr hwn yw gwreiddyn pób anghyfiawnder.
DOSPARTHIAD,
XIII.
Am Ddrwg-Absen, Cam-dystiolaeth, Enllib, Hustyng; gwawdio am Wendid, Trallodau, Pechodau, &c.
Am Gyfiawnder gweithredol, am Wirionedd, Celwydd, &c.
Am Genfigen ac Anair. Am Ddiolchgarwch, &c.
ei Frî.§. 1. YPedwerydd Caingc o Gyfiawnder o Ommeddiad a berthyn i Fri ein Cymydogion, yr hwn ni ddylen ni mo 'i leihau na 'i waethygu mewn môdd yn y bŷd, yn enwedig nid trwy ddrwg-Absen: o ba rai y mae dau fáth, ûn yw pan fo dŷn yn dywedyd rhyw béth am ei gymydog yr hyn a wŷr efe yn hollawl ei fod yn gelwydd y llall yw pan fo gantho ef ysgatfydd ryw debygoliaeth wael, neu eiddigedd o'r péth; ond hynny ar y cyfryw Sylfaen gwan, a bod y péth mor debyg i fôd y ffals ac yn wîr. Ymmhób ûn o'r rhain y mae euogrwydd mawr yn fefyll ar y Traeth-ŵr. Fôd felly yn y cyntaf o'r rhain nid oes néb yn ammeu gan fôd pawb yn cydnabod mae 'r brynti mwyaf yw dychymmig celwydd ar ûn aral; ond y mae cyn lleied o reswm i ammeu 'r llall, oblegid pwy bynnag a draetha ryw béth megys gwirionedd, yr hyn nid yw ond ammheus, sydd yn gelwydd-ŵr, neu os efe [Page 267] ni thraetha mono ef megys siccrwydd, ond yn unic megys cyffelybrwydd i fôd yn ŵir, etto er nad yw efe yn hynny yn euog o gelwydd, y mae efe o anghyfiawnder yn yspeilio ei gymydog o'i Enw dâ; oblegid y mae y fáth dueddiad mewn dynion i goelio yn ddrŵg am eraill, ac y gwasanaetha 'r cyffelybrwydd lleiaf i'r diben hwnnw, os tenir hynny ûnwaith allan; ac yn ddiammeu anghyfiawnder tra-echryslon yw ar bôb tebygoliaeth a ffansi wae [...] peryglu dwyn cymmaint o ddrŵg ar ûn arall; yn enwedig pan ystyrir, fôd y dychymygion hynny gan mwyaf yn tarddu allan oddiwrth ryw ragfarn, drŵg-nawsrwydd, neu falis yn y drwg-dybŵr, yn hyttrach nag ûn bai cyhoeddus yn y dŷn a enllibir.
2. Nid yw 'r môdd o danu 'r ddau fáth yma o Ddrwg-absen yn unrhyw yn wastad; Cam-d [...] stiolaet [...] y mae ef weithiau yn fwy cyhoeddus ac agored, weithiau yn fwy dirgel a chuddiedig: y módd cyhoeddus yw yn fynych trwy gam-dystiolaeth o flaen y Barn-ŵyr yn y Dadleu-dŷ: ac nid yw hyn yn unig yn briwo dŷn yn ei enw dá, eithr mewn moddion eraill hefyd: y mae hynny yn ei roi fo i fynu i gospedigaeth y Gyfraith, ac yn gwneuthur iddo ef niwed mwy neu lai, yn ôl maentioli 'r bai y cyhuddir ef am dano; ond os bŷdd efe o'r fáth uchaf, fe all gyrrhaeddid ei fywyd ef, fal y gwelwn ni wneuthur o hono ef ynghyflwr Naboth, 1 Bren. 21. mor fawr ac echryslon yw 'r pechod hwn o herwydd hyn, ac oblegid yr anudonedd hefyd, chwi a ellwch ddyscu wrth y péth a draethwyd am bób ún o'r pechodau hynny. [Page 268] Yr ydwyfi 'r awrhon i'w Ystyried ef yn unig megys ac y mae efe 'n cyrrhaeddid yr enw dá; ac i hwnnw y mae efe yn archoll resynol, cael fal hyn dystiolaethu bai yn gyhoeddus yn erbyn ûn, a'r cyfryw nad ellir mo 'i ddiwygio ond pryn trwy ddim er a ellir ei wneuthur ar ôl hynny i'w ddiheuro ef; ac am hynny y mae pwy bynnag sydd yn euog o hyn yn gwneuthur anghyfiawnder tra-echryflon a'i gymydog; dymma 'r péth a waherddir yn hynod yn y Nawfed Gorchymyn ac a ordeinwyd gan Dduw i'w gospi trwy roddi arno ef yr unrhyw gospedigaeth, ac a amcanodd ei gau-dystiolaeth ef ei ddwyn ar y llall Deut. 19.16, 17, &c.
Enllib choeddus.3. Yr ail modd cyhoeddus o danu'r drŵgabsen ymma yw ei mynegi nhw yn safn-rhwth yn gyffredinol; er nid o flaen Swydd-ŵr, megys o'r blaen, etto mewn pób cyfeillach, ac oflaen cyfryw rai ac a fo debyg i'w ddwyn ef ymmhellach, a hyn a wneir gan mwyaf ynghŷd a sarháad a dirmyg chwerw-dóst, gan mae arferol gelfyddyd Enllib-wŷr yw rhoi senn a drygair i'r néb y bónt yn ei enllibio, fal trwy doster yr achwyniad y gallont roddi dyfnach seliad ym meddyliau y gwranda wŷr; Y mae hyn yn gystal o herwydd yr Enllib, a'r drygfri, yn gam mawr, a phób ún o honynt yn gyfryw ac a gau y rhai a'i gwnánt allan o'r Mêf; felly Psal. 15. lle y Portréir y gŵr cyfiawn, a gaiff ei gyfran yno, hyn yw ûn péth arbennig, gwer. 3. Nad ydyw ef yn enllibio ei gymydog; ac am ddrygfri a sarháad y mae 'r Apostol mewn amryw fannau yn ei cyfrif hwynt ymysg y gweithredoedd hynny o'r Cnawd y [Page 269] rhai a gau ddynion allan yn gystal o'r Eglwys ymma trwy escymmundod, fal y gellwch weled 1 Cor. 15.11. ac allan o Deyrnas Dduw ar ôl hyn, megys y mae, 1 Cor. 6.10.
4. Y môdd arall mwy dirgel a chuddiedig o danu y cyfryw ddrŵg-absen yw ffordd y Hustyngwr, Hustyng. yr hwn sydd yn amgylchu o'r naill i'r llall, ac yn bytheirio allan ei sarháad yn ddirgel, nid o fwriad i'w gwneuthur hwynt yn llai cyhoeddus, eithr yn hyttrach yn fwy; gan fôd y ffordd gyfrwys-ddrŵg yma o'i traethu hwynt yn ddirgel, yn fôdd i wneuthur iddynt gael ei coelio yn hawsach, a bôd mwy o sôn am danynt hefyd: oblegid yr hwn a dderbynnio 'r cyfryw chwedl megys péth cyfrinachol gan ûn, a feddwl foddhau rhyw ûn arall hefyd, trwy ei draethu fo megys péth cyfrinachol iddo ynteu hefyd, ac felly mae fo 'n myned o'r naill law i'r llall, nes iddo danu a'r diwedd trwy 'r hôll Drêf: Y fáth ymma o Enllibiwr yw 'r perycclaf o'r cwbl, oblegid ei fód efyn gweithio yn y tywyll, ac yn rhwymo pawb y traetho fo wrthynt na bo iddynt gyfaddes mae efe yw 'r Awdur, felly lle y dichon dyn a argyoeddir yn gyhoeddus gael rhyw foddion i'w amddiffyn ei hûn, ac o ddadcuddio ei gyhuddŵr ymma nid yw bossibl iddo ef gael hynny, gan fôd yr Enllib, fal gwenwyn dirgel, yn gweithredu effeithiau anfeddyginiaethol, cyn i'r dŷn ei ddirnad ef. Y mae St Paul yn rhoi ar lawr y pechod hwn o hustyng, ymysg y pechodau mawr hynny y rhai sydd yn tarddu allan o feddwl anghymmeradwy, Rhuf. 1.29. mae ef yn wîr yn un o'r archollion anfeddyginiaethol y cleddyf [Page 170] ddyf hwn, sef y tafod; adwyth a dinistr cyfeillach ddynol; a'r cyfryw ac yw yn Yspeilio nid yn unig ddynion neillduol o'i henwau dá, ond yn fynych teuluoedd cyfan, ié a chyfeillach gyffredinol ddynion o'i heddwch: pa ryw dinistr a chythryfwl a wnaeth yr ûn pechod hwn yn y bŷd? Y mae Solomon yn nodi, Dibar. 16.28. fod yr hustyngwr yn neillduo'r cyfeillion anwylaf, ac fe all dŷn yn ddiammeu ddywedyd am dafodau a arferir fal hyn, ei bôd nhw gwedi ei gosod ar dán gan Ʋssern fal y dywed St. Jaco Pen. 3.6.
5. Y mae hwn yn gyfryw euogrwydd, ac y dyleni ochelyd hób rhyw râdd o hono ef, y rhai ydynt amryw; y râdd gyntaf yw clûst-ymwrando, a chofleidio y rhai a ddaw i enllibio, oblegid y mae'r neb sydd yn ei dderbyn, ac yn ei croesawu hwynt, yn ei hachlefu nhw yn ei hymarfer; oblegid fal y dywed ein Dihareb gyffredinol ni, ni bydde ûn lleidr oni bae bod Derbyniwr, felly pe bydde néb yn ymwrando a chwedlau, ni bydde dim Hustyngwŷr. Yr ail râdd yw bód yn rhŷ barod i'w coelio hwynt, oblegid y mae hynny yn ei helpu nhw, i gael rhan oi' diben, y maent yn chwennychu i bawb yn gyffrodinol dybied yn ddrŵg o'r cyfryw ddŷn, ond y ffordd i hynny yw gwneuthur yn gyntaf i ddynion neillduol dybied felly: Os goddefi di iddynt hwy wneuthur hyn ynoti, y maent hwy cymmhelled a hynny gwedi llwyddo yn ei bwriad. Ac o'th ran dithau yr wyti'n gwneuthur anghyfiawnder mawr a'th gymydog, credu yn ddrŵg am dano ef heb achos cyfiawn, yr hyn yn ddiammeu nid yw achwyniad y cyfryw [Page 271] ddŷn. Y Drydydd râdd yw cyhoeddi i eraill y péth a ddywedir i ti fal hyn, yr wyti felly yn dy wneuthur dy hún yn blaid yn yr Enllib, a chwedi iti yn anghyfiawn dynnu ymmaith dy debygoliaeth ddá dy hún oddiwrth dy gymydog, wyt yn ymegnio i'w yspeilio ef o dŷb da rhai eraill hefyd. Nid yw hyn fawr llai pechod na hwnnw o eiddo'r hustyng-wr cyntaf, ac y mae fe'n tueddu cymmaint i ddestrywio Enw da ein Cymydog. Ac y mae'r amryw raddau hyn yn crogi mor agos y naill ar y llall, fal mae annodd iawn a fydd i'r néb a groesawo'r cyntaf ochelyd y lleill; ac yn wîr fe ellir tybied am y dŷn hwnnw a ymhyfryd a yn clywed enllibio ei gymydog, ei fód ef o'r fáth feddwl faleisus na ommedda fo gyhoeddi allan yr Enllib. Yr hwn gan hynny a fynno gadw ei ddiniweidrwydd yn hyn ymma, gwilied yn y râdd leiaf groesawu na chynnwys y néb a ddycco'r cyfryw ddrŵg-absen. Ac y mae hynny mor angenrheidiol er mwyn ei heddwch ef, a'i ddiniweidrwydd; oblegid nid all y néb a dderbynnio 'r cyfryw hustyng-wŷr fŷth ddisgwyl llonyddwch, ond ei gyffrhoi yn ddibaid hyd yn oed yn erbyn ei geraint nessaf a charediccaf; am hynny edryched pawb ar yr hustyng-ŵr a'r enllibŵr megys gelyn cyffredinol, gan ei fód ef felly yn gystal i'r rhai wrth ba rai, ac am ba rai, y bo fo yn traethu.
6. Ond heb law'r ffordd gyhoeddus ymma o enllibi [...], y mae ûn arall, Dirmyg a Gwawdio trwy ba ún y gallwn ni ddrygu enw dá ein Cymydog, sef trwy ddirmyg a gwradwydd, ûn effaith gyffredinol o ba [Page 272] ûn i'w ei wawdio a'i watwor ef, ac y mae hyn yn gam mawr i'w enw dá éf: oblegid y mae y rhan fwyaf o ddynion yn cymmeryd i fynu opiniwnau o ymddiried, yn hyttrach nag o farn bwyllog; ac am hynny os, gwelanhw ddŷn yn cael ei ddibrisio a'i ddirmygu, fe fyddan hwythau yn debyg iawn i wneuthur y cyffelyb. Ond heb law hyn y mae anghyfiawnder, presennol yn y weithred hon o ddirmygu eraill. Nid oes ond tri phéth yn gyffredinol a wneir yn achos o'r gwradwydd hwn, (oddigaeth gydá rhai sydd yn gwneuthur Rhinwedd, a Duwioldeb yn beth mwyaf gwradwyddus, ac nid yw'r cyfryw ddirmyg yn erbyn ein cymydog yn unig, eithr hefyd yn erbyn Duw ei hún, er mwyn pa ún y mae efe yn cael fal hyn ei ddirmygu) y tri hynny yw, yn gyntaf gwendid, yn ail trueni, yn drydydd pechodau dŷn, ac y mae pób ún o'r rhain ymmhell oddiwrth fód yn achos o'i ddiystyru ef.
Am wendid.7. Yn gyntaf am Wendid, pa ún bynnag a'i o'r Corph a'i o'r Meddwl, gwrthuni ac anharddwch y naill, neu wendid a ffoledd y llall, y maent yn bethau tu hwynt i'w allu ef i'w helpu, nid ei fai of ydynt, ond doeth-drefniad y Creadur mawr, yn hwn sydd yn rhoddi godidawgrwydd y Corph a'r Meddwl, fal y gwêl ef yn ddá, ac am hynny nid yw gwatwor dŷn oblegid eifieu' rhain, ddim llai na dirmygu Duw yr hwn ni roddes iddo ef monynt.
Am Drallodau.8. Felly hefyd am Drallodau a thrueni y rhai a ddychwel i ddŷn, pa ûn bynnag, a'i eisieu new glefyd, neu béth bynnag arall, y mae y [Page 273] rhain hefyd yn dychwelyd trwy ragluniaeth Duw yr hwn sydd yn derchafu i fynu, ac yn tynnu i lawr, fal y gwêl ef yn ddá, ac ni pherthyn i ni farnu béth sydd yn ei annog ef i wneuthur felly, fal y gwná llawer y rhai pan welant ryw helbul yn dychwelyd i ddŷn a fwriadant yn ebrwydd mae rhyw euogrwydd dirfawr yn ddiammeu sydd yn tynnu hyn ar ei wartha ef, er na fedrant bennodi ar y'rûn neillduol. Y farn fyrbwyll hon y mae ein Hiachawdr yn ei argyoeddi yn yr Iddewon, Luc. 13. lle ar yr achlysur o drueni dirfawr y Galiléaid, y mae ef yn gofyn iddynt, gwer. 2. a ydych chwi yn tybied fod y Galiléaid hyn yn fwy pechaduriaid na'r holl Galiléaid eraill am iddynt oddef y cyfryw bethau? Nac oeddynt meddaf i chwi: ac oni edifarhewch chwithau, chwi a gollir yn yr ûn môdd ôll. Pan welon ni law Dduw yn dromm ar eraill, nid ein rhan ni yw ei barnu hwynt, ond ni ein hunain, a rhagflaenu trwy edifeirwch y péth a haeddodd ein pechodau ni. Ond gwradwyddo a dirmygu rhai mewn trueni yw'r creulondeb echryslon hynny y mae'r Psalmydd yn ei bennodi megys y drygioni eithaf, Psal. 69.26. Erlidiafant yr hwn a darawsit ti, ac am ofid y rhai a archollaist ti y crybwyllant: Mewn pób trueni rhai eraill, y mae tosturi yn Ddlêd arnon ni; mor anghyfiawn gan hynny yw y rhai yn lle talu iddynt y ddlêd honno, a'i tralloda hwynt ymmhellach a gwatwor a dirmyg?
9. Ná, pechodau dynion, Am Bechodau. er fal y mae ynddynt fwy o'i hewllys hwynt, nhw a allant ymddangos i haeddu dirmyg yn fwy, etto yn ddiammeu y maent hwy hefyd yn ein rhwymo ni [Page 274] i'r Ddlêd-swydd rag-ddywededig o dosturi, a hynny yn y râdd uchaf, gan ei bód hwynt, uwchlaw pób péth arall, yn gwneuthur dŷn yn dra-thruenus; os Ystyriwn ni yn hyn i gŷd▪ mor dueddol ydyn ni ein hunain i'r cyfryw bethau, ac mae trugaredd Dduw yn unig tu ag attoni sydd i'n cadw ni rhag y cyflwr gwaethaf y mae ûn dŷn arall tano, fe weddai yn well i ni yn ddiammeu, edrych i fynu atto ef trwy ddiolchgarwch, nag i wared arnynt hwy trwy ddirmyg a gwradwydd. Fal hyn y gwelwch chwi pa anghyfiawnder dirfawr ydyw gwatwor a diystyru ein brodyr, at pa ûn pan adroddir y llall, yr hwn yn naturiol a'i dilyna ef, séf, gwneuthur i eraill hefyd yn yr ûn módd ei ddirmygu ef, nid oes ammeu nad yw hynny yn anghyfiawnder dirfawr ac echryslon tu ag at ein Cymydog o herwydd ei fraiut ef a'i Enw da.
Dinistrio Enw dá yn Gamwedd mawr.10. Yr awrhon fe ellir mesur mor fawr yw'r Camwedd o ddinistrio Enw da dŷn trwy'r ddau béth hyn; yn gyntaf gwerth y péth yr Yspeilir ef o hono; ac yn ail anhawsder gwneuthur diwygiad am dano. Am y cyntaf, fe wyddir yn gyffredinol mae enw da dŷn yw'r péth y mae ef yn ei gyfrif yn werthfawroccaf, iê, yn fynych yn gúach na'i fywyd, fal y gwelwn ni wrth y perigl y mae dynion weithiau yn rhedeg iddo, er mwyn cynnal ei bri ffugiol; ond yn ddiammeu y mae ef yn gyfryw béth ac a gyfrifwyd gan ddynion sobr yn ûn o ddedwyddwch mwyaf y bŷd hwn: Ac i rai máth ar ddynion, yn enwedig y cyfryw ac sydd yn cael ei bywiolaeth trwy negeseuau bydol, y mae ef mor angenrheidiol [Page 275] ac y gellir yn ddá ei gyfrif ef megys moddion ei bywiolaeth▪ ac yna yn ddiammeu, nid yw béth gwael Yspeilio dŷn o béth mor werthfawr iddo.
11. Yn ail y mae'r Anhawsder o wneuthur diwygiad yn anghwanegu'r Camwedd, Ac nis gallir ei ddiwygio ac y mae hynny yn gyfryw yn y cyflwr hwn o Enllib, ac y galla'i yn hyttrach ei alw ef yn ammhossiblrhwydd nag yn anhawsder: oblegid pan gynnwys dynion unwaith ddrŵg dŷb am ryw ddŷn, annodd iawn yw gweithio hynny allan o honynt; yn gymmaint a bód yr Enllibiwr yn hyn ymma, yn debyg i Gonsur-wr ieuange yr hwn a gyfyd Gythrel na wyr efe pa fodd i'w ostwng trachefn. Ié, bwriwch fód dynion yn gyffredinol mor barod i feddwl yn dda ac y maent i feddwl yn ddrŵg o'i Cymydogion, etto mor ammhosfibl yw i ddŷn, er iddo alw yn ól yn gyhoeddus yr Enllib, wneuthur i bób dŷn ar y glowodd y naill ddyfod i glywed y llall? Ac os bŷdd ûn dŷn heb glywed hynny (fal ond odid y bydd llawer) y mae'r diwygiad yn dyfod yn fyrr o'r Camwedd.
12. Y mae'r Ystyriaeth ymma yn ddigon i beri i ddynion arswydo gwneuthur y Cam hwn i'w Cymydogion; ond na wneler deunydd o hyn ymma i escusodi y rhai a wnaeth y cam yn barod, rhag ymegnío i wneuthur diwygiad hyd yr eithaf o'i gallu; oblegid er mae odid iddo ef fód mor ehang a'r camwedd, er hynny gwnánt yr hyn a allont tu ac at hynny: Ac y mae hyn mor angenrheidiol tu ac at gaffaeliad maddeuant o'r pechod, nad all néb ddisgwyl y naill [Page 276] ond a gwplháo'r llall. Pwy bynnag gan hynny a ymrŷ i edifarhau o'r cyfryw feiau, rhaid iddo ef trwy bób moddion pwyllog ymegnío i edfryd i'w gymydog ei fri ef a'i enw da cymmhelled ac y dygasei efe ef oddiarno o'r blaen, ac os efe ni ddichon wneuthur hynny heb ddwyn y cywilydd arno ei hún, trwy gydnabod yr enllib yn gyhoeddus, rhaid iddo yn hyttrach ymroi i hynny, na bód yn ddeffygiol o gwplhau'r rhan angenrheidiol ymma o gyfiawnder, sy'n ddledus arno i'r néb y troseddwyd yn ei erbyn.
Cyfiawnder yn y Meddyliau.13. Mi a draethais bellach am y pedair rhan o Gyfiawnder o ommeddiad tu ag at ein Cymydog; lle y mae yn rhaid i ni etto Ystyried ymmhellach, nad ydyw'r Cyfiawnder hwn yn ein rhwymo ni oblegid ein Geiriau yn unig, a'n Gweithredoedd, ond oblegid ein Meddyliau hefyd, a'n haffeithiau; nid ydys yn unic yn ein gwahardd ni i niweidio, ond i gashau; nid digon i ni ymgadw yn unig rhag dwyn yr ûn o'r rhagddywededig ddrygau arno ef, ond ni ddyleni cymmaint a'i hewyllyfio hwynt ymlaen llaw, nag ymhyfrydi ynddynt gwedi iddynt ddychwelyd iddo ef: ni ddyleniymddigrifo nag ymmhechod ei Enaid ef, nag yn niwed ei Gorph ef; ni ddyleni genfigennu iddo ddim da y mae fo'n ei fwynhau, na chymmint ac ewllysio meddiannu dim o'i eiddo ef: ac nid digon i ni ffrwyno ein tafod rhag enllibio a rhoddi drygair, os bydd gennini y malis hwnnw yn ein Calonnau i chwennych ei ddrwgabsen ef; neu ymhyfrydi yn clywed eraill yn gwneuthur hynny. Priodoldeb neillduol Cyfreithiau [Page 277] Duw yw, ei bôd hwynt yn cyrrhaeddid y galon; pan na ddichon yr eiddo dynion gyrrhaeddid ond y Geiriau a'r gweithredoedd yn unig; ac y mae y rheswm yn eglur, oblegid efe yw 'r unig Ddeddf-ŵr; yr hwn a ddichon ganfod béth sydd yn y galon; am hynny pe bydde 'r diniweidrwydd mwyaf yn ein tafod a'n dwylo ni, etto os ni bydd purdeb calon, ni ryddhéir ni bŷth gar ei fron ef. Rhagorol gan hynny yw cyngor Solomon, Dihar. 4.23. Cadw dy galon yn draddiesceulus, canys allan o honi y daw bywyd. Cadwn honno yn ddyfal, na bo 'i ún meddwl maleisus anghyfiawn fyned i mewn iddi; a hynny nid yn unig, megis ac y dichon hynny fôd yn foddion o'n bradychu ni i'r weithred o Genfigen, ond hefyd megys ac y mae hynny yntho 'i hún yn gyfryw ffieidd-dra yngolwg Duw, ac a'n anghymwysa ni i'r weledigaeth fendigedig honno o Dduw, yr hon nid oes i néb addewid o'i gweled on i'r pûr ei galon, Matth. 5.8. Gwyn eu byd y rhai glân o galon, canys hwy a welant Dduw.
14. Yr wyfi 'r awrhon yn dyfod i draethu am y rhan Bendant o Gyfiawnder, Cyfiawnder Gweithredol yr hon yw talu i bób dŷn yr hyn trwy fáth yn y bŷd o Gyfiawnder a all ef i ofyn gennini. O'r Dledion hyn y mae rhai yn gyffredinol i bôb dynol ryw, eraill a grynhôir tan ryw gyflwr neillduol, a chynneddfau dynion, ac ydynt yn unig yn ddlédus oblegid y cynneddfau hynny.
15. Or fáth gyntaf, Gwirionedd yn sef y rhai sy'n ddledus ar bôb dyn, ni a allwn gyfrif yn gyntaf, ddywedyd [Page 278] y Gwirionedd, yr hyn sydd yn Ddlêd gyffredinol arnoni i bôb dynol ryw; Ddlêd i bawb. ymadroddiad a roddwyd i ni megys offer o gyfeillach a chyweithasrwydd rhwng y naill a'r llall, y moddion o ddadcuddio 'r meddwl, yr hwn oni bae hynny a fydde yn ddirgel ac yn guddiedig, yn gymmaint oni bae hwn, ni bydde ein hymarweddiad ni ond fal yr eiddo anifeiliaid: yr awrhon gan yr amcanwyd hwn er Daioni a mantes dynol ryw, y mae ef yn ddléd i'r unrhyw, fôd ei arferu ef i'r diben hwnnw; ond y mae 'r hwn a ddywedo Gelwydd cymmhelled oddiwrth dalu 'r Ddléd hon no, ai fôd ef yn y gwrthwyneb yn gwneuthur ei ymadrodd yn fôdd o niweidio a thwyllo 'r néb y bo fo yn ymddiddan ac ef.
Celwydd a waharddir yn eglur yn y Scrythur.16. Llawer a ellid ei drathu i ddangos yn yr amryw rywogaethau o Rwymedigaethau sydd arnoni i ddywedyd y Gwirionedd wrth bôb dŷn; ond gan fy môd i yn scrifennu i Gristianogion, nid rhaid i mi sefyll ar yr ún o honynt, namyn y Gorchymynion sydd i ni am hyn yn y Scrythur, Eph. 4.25. Y mae 'r Apostol yn gorchymyn gan fwrw ymmaith gelwydd, fód i bawb ddywedyd y gwîr wrth ei Gymyd [...]g: a thrachfn, Col. 3.9. Na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd: a Dihar. 6.17. fe a roddir ar lawr yno dofod celwyddog megys ûn o'r pethau hynny sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. Ié, cymmhelled y mae ef yn chashau Celwydd, na ddichon y diben mwyaf duwiol a chrefyddol ei gymmodi ef ac efo; y dŷn a ddywedo gelwydd er mewn zêl i ogoniant Duw, etto a fernir megys pechadur, Rhuf. 3.7. béth gan [Page 279] hynny a ddychwel i'r lliaws hynny o ddynion sydd yn dywedyd celwydd ar ddibennion gwrthwyneb i hyn? Rhai o falis, i ddrygu eraill; rhai o gybydd-dod, i dwyllo 'i Cymydogion; rhai o falchder, i'w gosod ei hunain allan, a rhai o ofn, i ochelyd rhyw enbydrwydd, neu i guddio rhyw fai. Ond máth mwy rhyfeddol na 'r rhain óll yw y rhai sydd yn gwneuthur hynny heb unrhyw demtafiwn i'w hannog, ond a ddywedant gelwyddau yn gyffredinol fal chwedlau, ac a ymhyfrydant yn traethu pethau rhyfeddol, er nad ydynt yn ennill dim wrth hynny, ond yr Enw o fod yn gelwydd-ŵyr gwág-rodresgar.
17. Ymysg yr amryw rywogaethau hyn o ffalsder, y mae Gwirionedd yn béth mor estronaidd yn ein mŷsg ni a bód yn annodd iawn cael y cyfryw ddŷn ac y mae Dafydd yn ei bortreio, Psal. 15.2. Yr hwn a ddywed wîr o'i galon. Y mae dynion gwedi cynnefino ei tafodau mor fynych i gelwyddau, a'i bôd nhw yn gwneuthur hynny yn arferedig ar bôb rhyw achosion, heb ystyried fód Duw neu ddŷn yn ei canfod hwynt. Ond y maent hwy yn cam-gymmeryd ymmhell ymmhòb ún; oblegid nid oes nemmawr o bechod (yr hwn a ymegniir i'w gadw 'n gyfrinachol) a ddadcuddir yn gynt gan ddynion: annodd iawn i'r rhai sydd wedi ei harferu ei hunain i gelwydd (er cystal ei côf hwynt) na fradychant hwy ei hunain ar ryw amser neu i gilydd; a phan wnelont hwy hynny, nid oes unrhyw fáth ar bechod a ddiystyrir ac a ddirmygir fwy na hwn; oblegid y mae pawb yn cyfrif celwyddŵr [Page 280] yn ditl o fwyaf dirmyg a gwradwydd a all fôd. Ond am Dduw, ynfydrwydd yw gobeithio y dichon ei holl gyfrwysdra ei cuddio hwynt rhagddo ef, yr hwn nid rhaid iddo wrth y moddion damweiniol hynny o ddadcuddiad fal y rhaid i ddynion, ond y mae ef yn canfod y galon, ac felly yn gwybod ffalsedd ein geiriau ni tra 'i boni yn ei traethu hwynt: ac yma y mae ef yn rhwym trwy ei Ditl o Dduw y Gwirionedd, nid yn unic i gashau, ond i'w cospi hwynt; ac felly ni a welwn, Dadc. 21.8. fód y rhai celwyddog yn nifer y rhai hynny, y rhai a gueir allan o'r Gaersalem newydd; ac nid hynny yn unic, ond hefyd sydd a'i cyfran yn y pwll hwnnw yr hwn sydd yn llosci o dân a Brwmstan. Oddigaeth gan hynny iti fód o feddwl y Barn-ŵr anghyfiawn hwnnw y mae Crist yn son am dano, Luc. 18.2. yr hwn nid of ne Dduw, ac ni pharche ddyn, rhaid iti lawn-fwriadu ar y rhan ymma o Gyfiawnder, sef, rhoi heibio gelwydd, yr hwn a ffieiddir gan bób ún o'r ddau.
Mwynder amoesgarwch yn Ddlêd [...] bawb.18. Yr ail péth y sydd yn ddledus arnoni i bawb i'w Mwynder a Moesgarwch yngwrthwyneb i'r tauogrwydd sarrug hwnnw a ddywedir ei fód yn Nabal, yr hwn oedd or cyfryw dymmer nad allai ddyn ymddiddan ac efo, 1 Sam. 25.17. Y mae yn ddiammeu gymmint o barch yn ddlédus i ddynol ryw, na ddichon ún rhagorfraint damweiniol o iechyd neu anrhydded, sydd gan y naill uwchlaw 'r llall, ei ryddhau ef oddiwrth y Ddlêd honno, ié, tu ag at y gwaelaf o ddŷn; ac am hynny y mae'r ymddygiad anynad drwg-nawsus honno [Page 281] tu ag at y néb a fo gantho ond gŵedd dŷn, yn anghyfiawnder tu ag at y Natur honno y mae ef yn gyfrannog o honi. A phan ystyrioni faint y mae 'r Natur honno gwedi ei hanrhydeddu, trwy i fâb Duw ei chymmeryd hi arno ef, y mae 'r rhwymedigaeth i'w pherchi hi etto yn fwy, ac felly y mae 'r pechod o'i dirmygu hi yn fwy.
19. Hyn yw bai cyffredinol pób rhai balch ac uchel, y rhai sydd mor ddiwyd yn ei mawrygu ei hunain, a'i bód yn dirmygu pób péth sydd yn werthfawr mewn eraill, ac felly 'maent yn meddwl nad oes cymmint ac hynawsedd cyffredinol yn ddledus arnynt hwy i eraill, tra 'i bo 'nhw yn ei gosod ei hunain i fynu, megys y gwnaeth Nebuchadnezzar ei ddelw, i'w haddoli gan bawb. Y mae hyn yn dra-gwrthwynebus i'r péth y mae 'r Apostol yn ei gynghori, Rhuf. 12.10. Byddwch yn blaenori eu gîlydd yn rhoddi parch: a thrachefn, Phil, 2.1. Na edrychwch bób ún ar yr eiddoch eich hunain, eithr edryched pób ún hefyd ar yr eiddo eraill; a chofied y cyfryw rai eiriau ein Iachawdr bendigedig, Luc. 14.11. Y néb a'i derchafo ei hún a ddarostyngir, a'r néb a'i darostwngo ei hún a dderchefir, yr hyn a welwn ni yn fynych ei wneuthur yn dda mewn cwympiadau rhyfeddol dynion beilchion. Ac nid rhyfedd, oblegid fód y pechod hwn, yn gwneuthur Duw a dynion yn elynion i ni; y mae Duw, megys y tystiolaetha 'r Scrythur mewn amryw fannau, yn ei ffieiddio ef, a phawb a'r sydd yn euog o honaw; ac nid oes ûn pechod yn annog dynion i'w gashau yn fwy na hwn, [Page 282] oblegid ymddygiad uchel a dirmygus y rhai sydd yn euog o hono ef; ac yna pwy a ddichon siccrhau a chynnal i fynu y rhai y mae Duw a dynion fal hyn yn ei wrthwynebu?
Llaryeidddra yn Ddlêd i bawb.20. Y Trydydd péth dyledus arnon ni i bawb, yw Llaryeidd-dra; hynny ydyw y cyfryw ammynedd a mwyneidd-dra tu ag at bawb, ac a ffrwyna'r digosaint a'r Cynddaredd hynny, yr hyn nid yn ùnig sydd yn anesmwyth i ni ein hunain, megys y dangoswyd o'r blaen, ond sydd hefyd yn dra-niweidiol i'n Cymydogion, fal y mae'r amryw gwerylon horphwyllus a wneir ynddynt hwy yn tystiolaethu yn helaeth. Fód y Ddledswydd ymma o Laryeidd-dra yn ddledus i bawb nid oes ammeu, gan fód yr Apostol yn gorchymyn hynny yn hynod, 1 Thess. 5.14. byddwch ymarbous wrth bawb, a hynny megys heb yn waethaf i bób rhyw annogaeth i'r gwrthwyneb, fel y calyn yn y geiriau nessaf, Gwelwch na thalo néb ddrwg dros ddrwg i neb, neu ddirmyg am ddirmyg; ac fo orchymynir i Timotheus ymarfer y Llaryeidd-dra ymma, ie, tu ag at y rhai a wrthwynebant Athrawiaeth yr Efengyl, 2 Tim. 2.25. Ac fe debygid y gellid cyd-ddwyn a phéth poethni yn yr achos hwn, os gellid mewn dim.
21. Y mae'r Rhinwedd ymma o Laryeidd-dra mor angenrheidiol i gynnal heddwch y bŷd, nad yw ryfedd ddarfod i Grist, yr hwn a ddaeth i sefydlu tangnheddyf ymŷsg dynion, ei orchymyn ef i bawb. Y mae yn rhŷ hynod fód yr effeithiau gwrthwynebus iddo of, sef llíd a chynddaredd, yn amlwg ymmhób man; y maent [Page 283] yn gwneuthur cythryblaeth mewn Teymafoedd, Cymydogaeth, Teuluoedd, iè, ac ymysg y ceraint nessaf; y maent yn gyfryw anwydau, a bód Solomon yn ein cynghori ni i ochelyd gwneuthur cymdeithas a'r néb a fo yn euog o honynt, Dihar. 22.24. Na fydd gydymmaith i'r dig llon ac na chyd-gerdd a gwr llidiog. Y maent yn gwneuthur dŷn yn anghymwys i fôd yn gyfaill nag yn gydymmaith; ac y maent yn wîr yn gwneuthur ún yn gâs ac yn annoddefus gan bawb, fel i'n dyscir trachefn gan Solomon, Dihar. 21.19. lle y dywed ef, Mae gwell yw aros yn yr anialwch, na chydá gwraig anynad ddigllon; ac etto nid oes gan wraig, gan mwyaf, ond ún offeryn yn unig, séf y tafod, i wneuthur niwed. Yn wîr nid oes nemmawr o béth anesmwythach gan ûn dŷn, ond a fo o'r unrhyw ddull ffromllud ei hún, nag ymgymdeithasu a'r cyfryw rai, er dychwelyd i'r péth nád elo ddim pellach na geiriau. Ni a allwn farnu mor ddirfawr yw'r pechod hwn, wrth y péth a ddywed ein Iachawdr am dano ef, Mat. 5. lle yr ordeinir amryw raddau o gospedigaeth i amryw raddau o hono ef; Ond och! yr ydyni beunydd yn myned tu hwynt i'r râdd uchaf a osodir i lawr yno; nid yw galw ûn yn ynfyd ond máth dymherus ar wradwyddo, wrth y lliaws hynny o ddirmygion chwerwon yr ydyn ni yn ei harferu yn ein cynddeiriogrwydd.
22. Ié, yr ydyni yn fynych yn myned etto yn uwch, nid yw gwradwyddiadau yn gwasanaethu 'n tró ni, ond rhaid i ni regu hefyd; mor gyffredin yw clywed dynion yn arferu rhegu a melldithio ar [...] bób rhyw achosion gwael [Page 284] o anfodlonrhwydd? Ié, Ysgatfydd heb aehos yn y bŷd; mor hollawl yr anghofiason ni reol yr Apostol, Rhuf. 12.14. Bendithiwch ac na felldithiwch; ié, a gorchymyn ein Jachawdr bendigedig ei hún, Mat. 5.44. Gweddiwch tros y rhai a wnél niwed i chwi. Y mae Crist yn erchi i ni weddio tros y rhai a wnánt a ni fwyaf o gam, ac yr ydyn ni yn fynych yn rhegu y rhai ni wnaethant ddim i ni. Y mae hyn yn fáth ar ddywedyd ein Gweddiáu yn y gwrthwyneb, yr hyn yw rhan, medd rhai, o Ceremoni 'r Cythrel wrth wneuthur Dewines, ac y mae i ninnau hefyd achos i edrych ar hyn megys moddion i'n dwyn ni i gydnabyddiaeth, a chyngrair a'r Yspryd melldigedig hwnnw yn y bŷd hwn, ac i aros gyda'g ef yn dragywydd ar ôl hyn. Araith Uffern yw hi, yr hon ni ddichon bŷth ein cymhwyso ni i fôd yn Ddinasyddion y Gaersalem newydd, eithr sydd yn ein nodi ni allan am bresswyl-wŷr y tîr hwnnw o dywyllwch. Mi a ddibennaf hyn a chyngor yr Apostol, Eph. 4.31. Tynner ymmaith oddiwrthych bób chwerwedd, a llîd, a dîg, a llefain, a chabledd ynghyd a phób drygioni.
Dledfwyddau cyffredinol.23. Gwedi i mi draethu cymmhelled am y Dledswyddau cyffredinol hynny a berthyn i bób rhyw ddŷn, mi a âf bellach ymlaen at y rhywogaethau eraill hynny o Ddledswyddau a berthynant i ryw rai neillduol o herwydd rhyw gynneddfau arbennig. Y Cynneddfau hynny a ddichon fód o dri mâth, séf o Odidowgrwydd, o Eisieu, neu o Garennydd.
[Page 285]24. Trwy Odidowgrwydd yr wyfi'n meddwl pób máth o ddoniau rhagorol neu gynnescaeddiad Dŷn, megys Doethineb, dysceidiaeth, Parch yn ddledus i wyr o ddoniau rhagorol. a'r cyffelyb, ond yn enwedig Grâs: y mae i rhai'n sydd yn ddoniau rhagorol Duw, brîs dirfawr a pharch yn ddledus, pa le bynnag y cansyddir hwynt; a hyn sydd raid i ni yn ewyllysgar ei dalu, trwy gydnabod yn llonn ac yn fodlongar ei ddoniau hynny ym mhwy bynnag y darfu iddo ei rhoddi hwynt, a thrwy ei perchi a'i hanrhydeddu hwynt yn gyfattebol i hynny, ac nid allan o dŷb rhy dda o'n godidowgrwydd ein hunain, dirmygu a dibrisio yr eiddo eraill, megys y gwná y rhai ni chydnabyddant fód dim yn rheswm, ond y péth a draethant hwy ei hunain, na bód dim yn Dduwioldeb, ond a gydsynnia a'i hymarfer ei hunain.
25. Ni wasanaetha i ni ychwaith genfigennu na gwrwgnach fód ganddynt hwy'r doniau hynny, oblegid nid yw hynny yn unig yn gamwedd yn ei herbyn hwynt, ond yn erbyn Duw hefyd yr hwn a'i rhoddodd hwynt, megys y gosodir yn helaeth ar lawr yn nammeg y llafurwyr, Mat. 20. lle y mae ef yn gofyn iddynt hwy oedd yn gwrwgnach am haelioni y Meistr i eraill, Onid yw gyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf' am heiddo fy hún, a ydyw dy lygad ti yn ddrwg am fy mód i yn dda? Y Cenfigennu ymma am ddaioni Duw i eraill nid yw amgen na gwrwgnach yn erbyn Duw, yr hwn sydd yn trefnu pethau fal hyn, ac ni ddichon bód mwy ac unionach wrthosod yn ei erbyn ef, nag i mi gashau ac ewyllysio yn ddrŵg i ddŷn, heb ûn achos, ond am ddarfod i Dduw ei garu ef, [Page 186] a gwneuthur yn dda erddo ef. A thrachefn os edrychwn ni ar y dyn, y péth mwyaf anrhesymol yn y bŷd yw ei garu ef yn llai, yn unig oblegid fód gantho ef y cynneddfau da hynny, oblegid pa rai y dylwn i ei garu ef yn fwy.
26. Ni wasanaetha i ni ychwaith oganu godidowgrwydd rhai eraill, na cheisio ei lleihau na'i tywyllu hwynt, trwy neccau naill ai'r rhywogaethau, ai'r graddau o honynt, fal trwy'r moddion hynny i dynnu ymmaith y parch hwnnw sydd yn ddyledus iddynt. Y mae'r pechod hwn o ddrŵg-absen yn gyffredinol yn tarddu allan o'r llall, sef Cenfigen; fe fydd yr hwn a genfigenna odidowgrwydd ún, yn barod i wneuthur oymmaint ac a allo i'w leihau ef yn nhebygoliaeth eraill, ac i'r pwrpas hwnnw, naill a'i ef a draetha yn ysgoewan am danynt; neu os byddant mor gyhoedd, na ŵyr efe pa fôdd i'w gorchguddio hwynt, efe a ymegnia, trwy draethu allan, ryw wîr neu ffugiol wendid yntho ef, i leihau prîs y llall, ac felly trwy daflu i mewn rhai gwybed meirwon, fal y dywed y gŵr Doeth, Preg. 10.1. efe a gais ddifwyno Sawyr yr Ennaint. Y mae hyn yn gamwedd tra-mawr, ac yn union yngwrthwyneb i'r Ddlêd sydd arnoni o gydnabod ac anrhydeddu doniau Duw yn ein brodyr.
27. Ac y mae pób ûn o'r pechodau hynny, séf cenfigen a gogan gan mwyaf mor ynfyd ac y maent yn anwireddus; y mae'r genfigen yn wastad yn dwyn poen ac artaith ar ddyn ei hún, lle pe gallei fo ond edrych yn Suriol ac yn llawen, ar y doniau da hynny o eiddo eraill; [Page 287] ni fethai fo bŷth fód ei hún yn well o'i plegid hwynt; fe fydde'r hyfrydwch o'i gweled hwynt yn beth mantes iddo ef: ond heb law y dichon y doniau hynny o eiddo'i frawd fód amryw ffyrdd yn fuddiol iddo ef, fe all ei Ddoethineb a'i ddysceidiaeth ef roddi iddo ef athrawiaeth: ei dduwioldeb a'i Rinwedd ef roddi iddo, Esampl, &c. Ond hyn óll y mae'r gŵr cenfigennus yn ei golli, ac nid oes gantho ddim yn gyfnewid am hyn ond arteithio yn ddibaid, a chnoi i galon ei hûn.
28. A thrachesn am Enllib, anhawdd iawn yw ei drefnu ef felly, fel nas dadcuddir ef; yr hwn a fydd yn wastad yn ymosod i geisio cwmylu enw da rhai eraill, a ddadcuddia yn ebrwydd ei fód ef yn gwneuthur hynny o genfigen, ac yna yn ddiammeu fe wná hynny i rai feddwl yn waeth o hono ef, ond nid o'r néb y bo fo yn ei genfigennu, gan fód yr Enllib hwnnw yn dwyn máth o dystiolaeth i'r godidowgrwydd hynny, y rhai y mae ef yn ei dybied a haedda'i genfigen ef.
29. Y péth a ddywedwyd yn awr am y parch a'r brî dyledus i'r godidowgrwydd hynny o'r meddwl, a ellir mewn grâdd îs ei cyfaddasu at y Rhagorfreintiau oddiallan, o anrhydedd, mawrhydi a'r cyffelyb. Y rhai hyn er nad ydynt mor odidog a'r lleill (ac yn gyfryw na ddyle néb dybied yn well o hono'i hún o'i plegid) etto o herwydd bód y graddau hyn a'r rhagoriaeth o ddynion trwy ddoeth Ragluniaeth Duw gwedi ei trefnu er llywodraethu'r bŷd yn well, y mae'r cyfryw barch foesawl [Page 288] yn ddyledus i'r rhai'y rhoddodd Duw hyn iddynt, ac a ddichon yn oreu gynnal y drefn honno er mwyn pa ún yr amcanwyd hwynt. Am hynny rhaid i bób rhai o isel râdd ei hymddwyn ei hunain yn foesawl ac yn barchedig tu ag at ei blaenoriaid, ac nid trwy ei hyfdra diwybod terfyscu'r drefn honno a welodd Duw yn dda ei gosod yn y bŷd, ond fel y mae Catechism ein Heglwys yn dyscu, ei hymddwyn ei hunain yn ostyngedig, gan berchi pawb o'i gwell. Ac yma y mae'r cyfarchwyl rhagddywededig yn erbyn cenfigen yn dra-chymmedrol; gan fód dynion yn gyffredinol yn fwy teimladwy o'r rhagorfreintiau ymma oddiallan, nag o'r lleill, ac am hynny nhw fyddánt parottach i genfigennu a gwrwgnach yn gweled eraill yn myned tu hwynt iddynt yn y pethau hyn; i hyn gan hynny y mae'r holl ragddywededig. Ystyriaethau yn erbyn Cenfigen yn dra-chymwys a phriodol, ac yn fwy angenrheidiol gwneuthur deunydd o honynt yn hyn, o gymmaint ac y mae'r brofedigaeth yn hyn yma yn fwy i'r rhan fwyaf o ddynion.
Dlêd i'r rheini sy mewn neb-rhyw Eisieu.30. Yr ail cynneddf yw hwnnw o Eisieu; pwy bynnag sydd arno eisieu rhyw béth y gallo▪ i ei roddi iddo, y mae ei gyfryw ddiffyg yn ei gwneuthur hi yn Ddled-swydd arna'i ei gymmorth ef, a hynny mewn pób math ar angen. Yr achos o hynny yw hyn, Duw a gynnysgaeddodd dynion a doniau, nid er ei mwyn ei hunain yn unig, ond hefyd er búdd a llês i eraill, ac am hynny pa brŷd bynnag y bo ei hangen nhw yn gofyn; y mae'n ddyléd arnynt ei diwallu hwynt, a'r péth a roddwyd iddynt [Page 289] i'r deunydd hwnnw. Rhaid i'r annoeth a'r annysgedig gael ei addyscu a'i gyfarwyddo gantho ef yr hwn sydd gantho wybodaeth, a dena ún diben arbennig, er mwyn pa ûn y rhoddwyd yr wybodaeth hón iddo ef; y tafod dyscedic a roddwyd i fedru llefaru gair mewn pryd, Esa. 50.4. Rhaid i'r llawen a'r hyfryd gyssuro 'r athrist a'r helbulus. Y mae St. Paul yn gwneuthur hyn yn ddiben er mwyn pa ún yr oedd Duw yn ei gyssuro ef, fel y galle ddiddanu y rhai sydd mewn dim gorthrymder, 2 Cor. 1.14. Rhaid i'r néb a fo gantho odfa a doniau i hynny, argyoeddi a chyngori 'r hwn a fo mewn rhyw gwrs o bechod. Y mae 'n eglur fód hyn yn ddyléd arnoni i'n cymydogion; trwy 'r testyn hwnnw, Levit, 19.17. Na chasa dy frawd yn dy galon gan geryddu cerydda dy gymydog, ac na ddioddef bechod ynddo; lle yr ydyni tan yr ún rhwymedigaeth i'w argyoeddi a'i geryddu ef, ac ydyni i beidio a'i gashau ef. Rhaid i'r néb a enllibir ar gam gael ei amddiffyn gan yr hwn a wypo oddiwrth ei ddiniweidrwydd ef, ac onid-é, y mae éf yn ei wneuthur ei hún yn euog o'r Enllib, oblegid iddo esgeuluso gwneuthur y péth a ddichon ei dynnu ef ymmaith; ac mi a ddangosais i chwi yn barod faint o anghyfiawnder yw enllibio ein cymydog.
31. Yn ddiweddaf, I'r Tlawd rhaid i'r hwn a fo mewn amlder a helaethrwydd gynnothwyo 'r tlawd a'r anghenus; ac y mae ef yn rhwym i hynny, nid yn unig o elusen, ond o gyfiawnder hefyd. Y mae Solomon yn galw hyn yn ddyléd, D [...]har. 3.27. Na attal ddaioni oddiwrth y [Page 290] rhai y mae ef yn ddyledus iddynt pan allech ei wneuthur: ac y mae fo yn hyspysu yn y wers nessaf, béth yw 'r daioni hwnnw; Na ddywed wrth dy gymydog, cerdda ymmaith, a thyret amser arall, y foru mi a roddaf i' ti, a chennit béth yn awr i roddi iddo. Wrth hyn ni a welwn mai attal dyléd yw oedi rhoddi elusen i'n cymydog tlawd. Ac yr oedd Duw ymys yr Iddewon yn didoli rhyw gyfran o gynnydd pób dŷn i'r tlodion, sef y ddegfed bób trydydd flwyddyn (yr hyn yw 'r ûn faint a'r ddegfed rhan ar hugain bob blwyddyn) Deut. 14.28, 29. Ac yr oedd yn rhaid talu hyn nid megys rhódd neu elusen, ond megys dyléd; yr oedden nhw yn anghyfiawn os attalien nhw ef. Ac yn ddiammeu nid oes i ni reswm i feddwl fód Cyfiawnder Gristianogaidd cymmint îslaw 'r Iddewaidd, ac nad oes yr awrhon ddim, neu lai dogn yn dledus arnoni nag oedd arnynt hwy. Mi a synnwn pette ein hymarfer ni yn gyfattebol i'n rhwymedigaeth yn hyn ymma, yna yn diammeu ni a gaen weled llai o gardotteion yn gorwedd yn ddiymwared wrth ein drysau, gan fòd iddynt well hawl i'n gormodedd ni nag sydd i ni hunain, ac yna béth ydyw ond pûr ledrad dreulio ei cyfran hwynt ar ein hoseredd, neu ein pechodau ni?
32. Yn yr holl bethau rhagddywededig, rhaid yw i'r néb a fo mewn gallu edrych arno'i hún, megys gorchwyliŵr Duw, yr hwn a roddodd béth yn ei dwylaw hwynt i'w ddosparthu i'r anghenus; ac am hynny nid yw ddim llai anghyfiawdder na thwyll esgeuluso hyn, nag a fydde i ryw oruchwyliwr gadw [Page 291] iddo ei hún yr arian hynny a ymddiriedwyd iddo er mwyn cynhaliaeth yr hòll deulu; a'r néb a wnelo hyn disgwylied yn dra-chyfiawn, farnedigaeth y gorchwyliwr anghyfiawn, Luc. 16. cael ei fwrw allan o'r oruchwyliaeth, sêf, cymmeryd ymmaith y doniau hynny oddiarno ef, y rhai a arferodd ef mor anffyddlon. Ac megys am yr holl ddonniau hynny, felly yn enwedig am olud, se welir yn gyffredinol y dygir ef oddiar y rhai fal hyn a dwyllant y tlodion o'i cyfran, ac fe fydd y cybydd cribddeiliog yn syrthio yn fynych i dlodi trwy foddion rhyfeddol disymmwth; ac nid rhyfedd gan nad oes iddo ef fraint i fendith Dduw ar ei bentwrr, yr hwn nid yw yn cyssegru cyfran iddo ef yn ei aelodau tlodion. Ac am hynny ni welwn yr Iraeliaid cyn gallu o honynt osod hawl i'r Addewid ar i Dduw ei bendithio hwynt, Deut. 26.15. Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, a bendithia dy bobl Israel, &c. fod yn rhaid iddynt yn gyntaf dalu degymmau 'r tlodion, gwer, 12. Y mae 'r arbed ymma yn fwy nag a weddai, fal y dywed Solomon, Dihar. 11.24. yn tueddu i dlodi; ac am hynny fel y chwennychit ti chwareu yr hwsmon da trosot dy hún, edrych am gwplhau 'r Cyfiawnder hwn yn ôl dy allu i bawb a fo mewn Eisieu.
33. Y Trydydd cynneddf yw Carennydd, Dledswyddau o herwydd Carennydd. ac o honno y mae amryw fáth, yn tarddu o'r unrhyw achosion a Dledswyddau cyfattebol i bôb un o honynt. Yn gyntaf y mae perthynasrwydd rhwng Dlédŵr a Choeliwr; a phwy bynnag sydd felly yn rhwym, pa ûn bynnag a'i trwy farchnad, [Page 292] a'i benthyg, a'i addewid, ei ddlêd ef ydyw talu yn gywir, y péth sydd arno hyd y gallo (megys o'r tu arall, os nid all, dléd y Coeliwr yw ymddwyn yn gariadus ac yn Gristionogaidd tu ag atto ef, ac nid taer-gymmell arno tu hwynt i'w allu.) Ony nid rhaid i mi sefyll ar hyn, gan ddarfod i mi yn barod draethu am y Ddledswydd hon, trwy ddangos y pechod o gam-attal dyledion.
34. Y mae Dléd hefyd ar ddyn rhwymedig i'w Gymmwynas-wr, hynny yw ún a wnaeth iddo dwrn da, o ba fáth bynnag, pa ún bynnag a'i Ysprydol a'i Corphorol; a dléd y cyfryw ún yw yn gyntaf, Diolchgarwch, hynny yw, cydnabyddiaeth barod ddifrifol o'r cymmwynas a dderbynwyd: yn ail, gweddi am fendithion Duw a gwobrau arno ef; ac yn drydydd, ymegníad, fal y bo odfa a gallu yn gwasanaethu i dalu adref gymmwynasgarwch, trwy wneuthur daioni iddo ef trachefn. Y mae pawb, hyd yn oed y creulonaf a'r nawswylltaf o ddynion, yn cydnabod mor gyffredinol y Ddledswydd hon o ddiolchgarwch i gymmwynas-wŷr, ac y bydd raid iddo ef a neccu ei chwplhau hi fwrw heibio llawer o'i natur dynol. Y mae'r Publicanod a'r pechaduriaid yn gwneuthur daioni i'r néb a wnánt ddaioni iddynt hwythau.
35. Etto pa sawl ún o hono ni sydd yn dyfod yn fyrr o hyn? mor aml y gwelir dynion, nid yn unic yn esgeuluso talu adref gymmwynesau, eithr yn ail-roddi cam a Sarháad yn lle hynny? Y mae hyn yn rhy hynod mewn amryw bethau neillduol, ond nid mewn dim mwy [Page 293] nag mewn rhybudd a chyngor, yr hyn yn anad ún yw'r cymmwynas godidoccaf, a'r twrn da goreu a ddichon y naill ddŷn ei wneuthur i'r llall. Ni a ddylen gan hynny fód yn fwyaf rhwymedig i'r rhain, megys ein cymmwynaswŷr goreu ni. Ond och! mor anaml yw y rhai sydd ganddynt nid yn unic ddiolchgarwch, ond ammynedd am y cyfryw gymmwynas? Argyoeddwch ddŷn am ei fai, neu ddywedwch iddo ei gamwedd, yn ebrwydd fe a edrych arnoch chwi megys ei elyn, yr ydych chwi (fal y dywed St. Paul am y Galatiaid, Pen. 4.16.) Yn elyn iddo am ddywedyd iddo'r gwîr; y mae'r cyfryw falchder ynghalonnau dynion, na fynnan nhw glywed són am ei beiau, er na bo dyn yn bwriadu wrth hynny ond ei gwellháad hwynt. Ynfydrwydd rhyfeddol yw hyn, fel pe bydde i ddŷn cláf ruthro yngwyneb ei Bysygwr, wrth feddwl ei fód ef yn ei ddibrisio fo, am dybied ei fód ef yn gláf; fal y gellwn ni yn dda ddywedyd gyda'r gŵr Doeth, Dihar. 12.1. Y nèb a gasháo gerydd anifeiliaidd yw. Ni ddichon bód yn y bŷd waeth dymmer na hon, obleǵid y mae hi yn cadarnhau dŷn yn ei bechodau; y mae'n codi'r cyfryw amddiffynsau o'i cwmpas hwynt, na ddichon ún dŷn ddyfod i osod arnynt; ac os credwn ni Solomon Dihar. 29.1. Dinistr yn ddiammeu a'i gorescyn ef. Y gwr (medd ef yno) a gerydder yn fynych ac a galeda ei warr, a ddryllir yn ddisymmwth fell na byddo meddiginiaeth. Ond trachefn os edrychir ar y cynghor-ŵr y mae hyn yn anghyfiawnder, ié, yn greulondeb tra-echryslon i'w erbyn ef; y mae ef yn dyfod mewn tynnerwch a chariad i'th achub di rhag [Page 294] perigl; ac i'r diben hwnnw yn ei osod ei hún ar neges anesmwyth; canys felly y mae hi yr awrhon, oblegid annioddefgarwch cyffredinol dynion i gynghorion; a pha ryw Siommedigaeth a gofid yw hyn iddo ef, dy weled ti yn lle ail-ddiwygu y bai cyntaf, yn rhedeg i ún arall, séf o ddigllonrhwydd diachos yn ei erbyn ef? Dymma'r fáth waethaf, ac etto mae arna'i ofn, y fáth gyffredinolaf o anniolchgarwch i Gymmwynas-wŷr, ac felly mae diffyg mawr o gwplhau'r Ddléd ymma. Ond fe edrychir ar y rhain ysgatfydd megys rhai o berthynas hirbell, (etto yn ddiammeu y mae'r hóll Ddledswyddau rhagddywededig yn gwbl ddyledus iddynt) mi a af ymlaen yn y mann nessaf i draethu am y perthynasau hynny y rhai a gydnabyddir gan bawb i fod o'r nesder mwyaf.
DOSPARTHIAD,
XIV.
Am Ddledswydd tu ac at Lywiawd-wyr, Bugeiliaid. Am Ddledswydd Rhiéni tu ac at ei Plant, &c.
Plant tu ac at ei Rhiéni, &c.
1. Y Cyntaf o'r fáth nessaf hynny o garennydd, yw Rhiéni; Dledswyd tu ac at Riéni. ac ymma fe fydd yn angenrheidiol Ystyried yr amryw fáth ar Rieni, yn gyfattebol i ba rai y bydd yn rhaid cymmhwyso 'r amryw Ddledswyddau. Y rhai hynny yw'r tri hyn, Rhieni Dinasaidd, Ysprydol, Naturiol.
2. Y Tâd Dinasaidd yw'r hwn a osododd Duw yn Ben-llywiawdr, sef, Dledswyddau i'r Pen-Llywiawdr. yr hwn trwy gyfiawn hawl sydd yn meddiannu'r Deyrn-gader mewn Teyrnas. Hwn yw Tâd cyffredinol pawb tan ei Lywodraeth ef. Y Ddléd arnon ni i'r Tâd ymma, yw, yn gyntaf, Anrhydedd. Anrhydedd a Pharch, trwy edrych arno ef, megys ún, ar ba ún yr argraphodd Duw lawer o'i allu a'i awdurdod ei hûn, ac am hynny rhaid talu iddo ef bób anrhydedd ac Urddas, heb feiddio tan ríth ac esgus yn y bŷd, ddywedyd yn ddrwg am Lywodraeth-wr ein pobl. Act. 23.5.
3. Yn ail, talu Teyrnged; Teyrnged. Hyn a orchymynnir yn hynod gan yr Apostol. Rhuf. 13.6. Telwch [Page 296] deyrn-géd, oblegid gwasanaeth-wyr Duw ydynt, yn ymroi i'r péth ymma. Duw a'i neillduodd hwynt megys Gwenidogion er cyffredinol ddaioni yr hóll bobl, ac am hynny tra chyfiawn iddynt gael ei cynnal ganddynt hwy. Ac yn wîr pan Ystyrir gofalon ac helbul yr alwedigaeth uchel honno, a pha faint o ddrain a blethir ymmhób Coron, nid oes ond achos fechan i ni i genfigennu iddynt y dyledion hyn; ac fe ellir dywedyd am wirionedd, nad oes yr ún o'i Deiliaid poenus hwynt yn ennill ei bywyd mor galed.
Gweddiau trostynt.4. Yn drydydd, rhaid i ni weddío trostynt; hyn hefyd a orchymynnir yn hynod gan yr Apostol i'w wneuthur tros Frenhinoedd a phawb a osodwyd mewn awdurdod; 1 Tim. 2.2. Y mae negesau'r alwedigaeth honno mor bwysfawr, y peryglon a'r enbydrwydd mor ddirfawr, a bód arnynt hwy yn anad néb arall eisieu ein gweddiau ni, am gyfarwyddiad, cymmorth, a bendith Dduw, a'r Gweddiáu hyn trostynt hwy a ddychwel i'n monwesau ein hunain, oblegid y mae'r bendithion a dderbyniant hwy gan Dduw yn tueddu at ddaioni 'r bobl, fel y gallont hwy fyw yn llonydd, ac yn heddychol, fel y mae yn niwedd y wers rhagddywededig.
Ʋfydd-dod.5. Yn Bedwerydd, rhaid i ni dalu iddynt Ʋfydd-dod. Hyn hefyd a orchymynnir yn gaeth gan yr Apostol, 1. Pet. 2.13. Ymddarostyngwch i bób dynol ordinhád er mwyn yr Arglwydd, séf i'r Brenin fel i'r Goruchaf, Ac i'r Llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir. Y mae'r cyfryw Ufydd-dod yn ddledus arnon ni i'r gallu [Page 297] goruchaf, a bod yn rhaid i ni ymddarostwng i bwy bynnag a awdurdodir gantho ef; Ac y mae St. Paul hefyd yn dra-helaeth yn hyn, Rhuf. 13.1. Ymddarostynged pób enaid i'r awdurdodau goruchel; a thrachefn gwer. 2. Pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordeinhâd Duw. Ac y mae i'w Ystyried y rhoddwyd y gorchymynion hyn ar amser, pan oedd yr awdurdodau hynny yn Baganaidd, ac yn erlid-wŷr creulon Cristianogion; i ddangos i ni, na ddichon rhîth yn y bŷd o ddrygioni ein Llywodraeth-wŷr ein rhydd-hau ni oddiwrth y Ddledswydd hon. Rhaid i ni dalu Ufydd-dod naill ai Gweithredol neu trwy ddioddef: y weithredol mewn pób gorchymynion cyfreithlon; hynny yw, pan orchymynno'r Llywiawdr ryw béth nad yw wrthwyneb i ryw Orchymyn Duw, yna yr ydyni yn rhwym i wneuthur yn ól gorchymyn y Swyddwr. Ond pan orchymynno ef ryw béth yngwrthwyneb i orchymyn Duw, yna nid rhaid i ni dalu iddo ef yr Ʋfydd-dod weithredol hon (ond ymma edrychwn yn ddyfal ar i'r péth fód felly yn wrthwyneb, ac nid gwneuthur lliw o gydwybod i orchuddio ystyfnigrwydd) yn y cyflwr hwnnw, medda'i, rhaid i ni Ʋfydd-hau i Dduw yn hyttrach nac i ddyn. Ond ymma rhaid yw dangos yr Ʋfydd-dod honno trwy ddioddef; rhaid i ni ddioddef yn ammyneddgar y péth a roddo ef arnon ni am y cyfryw neccáad, ac nid ein siccrhau ein hunain trwy godi i fynu yn ei erbyn ef. Canys pwy a ddichon estyn ei law yn erbyn enneiniog yr Arglwydd a bód yn ddieuog? médd Dafydd wrth Abishai, 1. Sam. 26.9. a hynny ar amser pan oedd Dafydd tan erledigaeth [Page 298] fawr gan Saul, ié, a phan oedd gantho ef hefyd siccrwydd o'r Deyrnas ar ei ôl ef: ac y mae Sentens St. Paul yn y cyflwr ymma yn dra-gresynol, Rhuf. 13.2. Yr hwn a wrthwynebo a dderbyn ddamnedigaeth iddo ei hún. Nid oes ymma ond cyssur gwael i néb i godi i fynu yn erbyn Swyddwr cyfreithlon, canys er iddynt lwyddo cymmhelled ymma, a'i siccrhau ei hunain oddiwrtho ef trwy'r moddion hyn, etto y mae Brenin y Brenhinoedd oddiwrth ba ûn ni ddichon gallu yn y bŷd ei cysgodi nhw, ac fe fydd y damnedigaeth hon yn y diwedd yn wobr gresynol ei buddugoliaeth hwynt. Ofer i mi draethu ymma béth o'r tu arall yw Dledswydd y Llywiawd-ŵr tu ac at y bobl, gan nad oes y rún o'r râdd honno yn debyg i ddarllen y Traethawd hwn, ac y mae yn annefnyddiol iawn ir bobl ymoralw béth yw Dledswydd ei Pen-llywydd, ym mhá ûn y mae y rhan fwyaf etto yn fwy hyddysc o lawer nag yn ei Dledswydd ei hunain; digon iddynt hwy wybod béth bynnag ydyw ei ddléd ef, a pha fódd bynnag y cwplheír ef, nad ydyw ef rwym ei roddi cyfrif i néb ond i Dduw, ac ni ddichon ún rhyw drosseddiad ar ei ran ef, ei gwarantu hwynt i drosseddu ar ei rhan hwythau.
Dledswyddau tu ac at ein Gwenidogion.6. Yr ail máth o Rieni yw'r Ysprydol; hynny yw, Gwenidogion y Gair, pa ún bynnag a'i Llywodraeth-wyr yn yr Eglwys, neu eraill tanynt hwy, y rhai sydd i gwplhau'r unrhyw Ddledswyddau i'n Heneidiau ni, ac y mae ein Rhieni naturiol i'n Cyrph ni. Fal hyn y dywed St. Paul wrth y Corinthiaid, ddarfod iddo ef ei cenhedlu hwynt yn Ghrist Jesu trwy'r Efengyl, 1 Cor. 4.15. [Page 299] ac wrth y Galatiaid, Pen. 4.19. ei fód ef yn ei hail esgor-hwynt, hyd oni ffurfer Crist ynddynt: A thrachefn, 1 Cor. 3.2. Efe ai porthodd hwynt a llaeth; hynny yw, a'r cyfryw Athrawiaethau ac oedd gyfaddas i'r cyflwr mabanaidd hwnnw o Gristianogrwydd yr oeddynt hwy yntho y prŷd hynny; ond yr oedd gantho fwyd cryfach i rai o gyflawn oedran, Hebr. 5.14. Y mae y rhai hyn óll yn Ddledswydd Rhiéni, ac am hynny y néb a'i cwplháo nhw i ni, fe ellir yn dda ei cyfrif nhw yn gyfryw.
7. Ein dyléd i'r rhain yw yn gyntaf, Cariad, ei Caru hwynt, dwyn y cyfryw garedigrwydd iddynt, ac a weddai i'r rhai a wnánt y daioni mwyaf i ni. Hyn y mae St. Paul yn ei ofyn, 1 Thessal. 5.13. Yr wyfi'n attolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy yn llafurio yn eich mysc, ac yn eich llywodraethu yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; a rhoddwch eich traserch arnynt er mwyn ei gwaith hwy. Y mae ei gwaith hwy yn gyfryw, ac a haeddai yn dda gariad, oblegid ei fód ef yn llesol iawn i ni.
8. Yn ail ein dléd yw ei perchi a'i hanrhydeddu hwynt, Parch▪ fal y gwelwn ni yn y testyn a osodais yr awrhon ar lawr; ac yn ddiammeu y mae hyn yn dra-rhesymol, os Ystyriwn ni ond natur ei gwaith hwynt, neu pwy sydd yn ei gosod hwynt ar waith. Y mae natur ei gwaith hwynt uwchlaw pób máth arall yn drarhagorol; Yr ydyn ni arferol o brisio galwedigaethau eraill yn gyfattebol i odidowgrwydd a phrîs y pethau y bónt hwy yn ei drîn. Nid oes yn ddiammeu yr ún farsiandiaeth mor [Page 300] werthfawr ac honno o'r Enaid; a dymma ei maeleriaeth hwynt, achub Eneidiau gwerthfawr o golledigaeth. Ac os ystyriwn ni ymmhellach pwy sydd yn ei gosod hwynt ar waith, fe anghwanega hynny at y barch ddyledus iddynt. Cennadon ydynt tros Grist, 2 Cor. 5.20. ac y mae Cennadon trwy Gyfreithiau pób Teyrnasoedd i'w perchi yn ól braint y rhai a'i densyn hwynt. Am hynny y mae Crist yn dywedyd wrth ei ddiscyblion, pan yw efe yn ei hanfon hwynt allan i bregethu, yr hwn sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i, a'r hwn sydd yn fy nirmygu ei, sydd yn dirmygu yr hwn am danfonodd i, Luc. 10.16. Y mae ynteu fwy yn sefyll ar ddirmygu Gwenidogion, nag y mae dynion yn ei ystyried yn gyffredinol, y mae hynny yn ddirmygiad o Dduw a Christ hefyd. Meddylied y rheini am hyn, y rhai sydd yn gwneuthur gwawd a difyrrwch o ddrygu a gwradwyddo'r alwedigaeth hon. A rheini hefyd, y rhai a feiddiau ryfygu arferu ei Swyddau hi, heb ei galw i hynny yn gyfreithlon, yr hyn sydd yn rhyfyg dirfawr; y mae hyn fel pette ddŷn mewn gwîb yn myned o hono'i hún yn negeseuwr oddiwrth ei Frenin. Y mae'r Apostol yn dywedyd wrth Offeiriadau'r Gyfraith, y rhai ydynt îs na rhai 'r Efengyl, Nad oes néb yn cymmeryd yr Anrhydedd hon iddo ei hún, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, Heb. 5.4. Pa fódd gan hynny y meiddia ún dŷn gymmeryd yr anrhydedd fwyaf ymma iddo ei hun, heb ei alw iddi hi? Ac nid digon yw dywedyd fód ganddynt alwad yr Yspryd oddifewn; oblegid er pan sefydlodd Duw drefn yn yr Eglwys, er mwyn danfon dynion i'r swydd [Page 301] hon, y mae y rhai a'i cymmerant hi arnynt heb yr awdurdod honno, yn gwrthwynebu yr ordinhâd honno, ac o nifer y lladron a'r Yspeil-wŷr hynny, fel y dywed ein Jachawdr, Jo. 10. Y rhai nid ydynt yn dyfod i mewn trwy'r drws. Heb law hyn y mae ymarfer resynol yr amseroedd hyn yn dangos fód llawer o'r rhai sydd yn cymmeryd arnynt fwyaf yr alwedigaeth hon o'r Yspryd oddimewn, gwedi ei galw trwy ryw Yspryd arall, ac nid gan Yspryd Duw, gan fód ei hathrawiaethau nhw gan mwyaf yn union yngwrthwyneb i air Duw, ar ba ún y bydd rhaid sylfaenu pób gwîr athrawiaethau. Rhaid yw edrych ar y cyfryw rai megys y twyll-wŷr a'r gau-brophwydi hynny am ba rai y rhybuddir cyn fynyched yn Epistolau'r Apostolion. Ac y mae pwy bynnag a'i nodda, neu a'i dilyn hwynt, yn gyfrannog o'i pechod hwynt. Fe a osodir ar lawr megys pechod tragresynol yn Jeroboam, wneuthur gwihilion y bobl yn offeiriadau; hynny yw, y cyfryw nad oedd iddynt hawl i'r swydd honno trwy Ordinhâd Duw, ac y mae'r néb a wrandawo ar y cyfryw Bregth-wyr, yn rhedeg i'r unrhyw bechod; oblegid oni bae bód rhai yn ei hachlesu ac yn ei dilyn hwynt, ni pharhae nhw yn hîr yn y cwrs hwnnw, ac am hynny y mae i'r rhai sydd yn rhoddi iddynt yr achles honno lawer i atteb am dano, ac y maent yn ddiammeu yn euog o'r pechod o ddirmygu ei gwîr fugeiliaid, pan fónt yn gosod i fynu y gau-Apostolion hyn yn ei herbyn hwynt. Pechod yw hwn y mae'r oes ymma yn rhŷ euog o hono; Duw o'i drugaredd a'n gwnelo ni yn deimladwy o hono mewn prŷd, fal yr attalier yr annhrefn a'r annuwioldeb [Page 302] a all ddyfod yn dra-chyfiawn ar ein gwartha ni o'i oblegid ef.
Cynhaliaeth.9. Yn drydydd, y mae 'n ddyledus arnoni iddynt hwy gynhaliaeth, ond mi a dreuthais yn barod am hyn yn y Rhan gyntaf o'r Llyfr hwn, ac ni adrodda 'i ymma ddim ynghwaneg. Yn Bedwerydd, Ufydd-dod. mae Ʋfydd-dod yn dledus arnoni iddynt hwy. Ʋfyddhewch (medd yr Apostl) eich Prel [...]diaid, ac ymddarostyngwch: oblegid gwilio y maent tros eich Heneidiau chwi, Heb. 13.17. Rhaid yw talu 'r Ʋfydd-dod hwn iddynt mewn pethau Ysprydol; hyny yw, rhaid i ni yn ddiwyd ufyddhau béth bynag a draeathant hwy megys gorchymynion Duw, allan o Air Duw, gan goffhau nad hwynthwy, ond Duw sydd yn gofyn hynny, yn ôl geriau Crist, yr hwn sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fyngwrando i, Luc 10.16. A hynny pa fodd bynnag y treuthir hwynt, a'i trwy bregethiad cyhoedd, neu gyngor neillduol, oblegit ymhob ún o'r ddau, os dilynant hwy y rheol, sef Gair Duw, Cennadon Anglwydd y lluoedd ydynt hwy, Mal. 2.7. Y mae 'r Apostol yn haeru 'r Ufydd-dod hwn oddiwrth ddeuryw annogaeth, ún a gymmerwyd oddiwrth y wenidogaeth, a'r llall oddiwrthynt ei hunain; y maent yn gwilio, medd ef, tros eich eneidiau chwi, megys rhai sydd rhaid iddynt roddi cyfrif, fel y gallant wneuthur hynny yn llawen ac nid yn drîst. Rhaid i'r bobl trwy ei hufydd-dod wneuthur ei Bugeiliaid yn abl i roddi cyfrif cyssurus o'i heneidiau hwynt, a drŵg iawn y telir y pwyth i'w holl ofalon a'i llafur hwynt, trwy wneuthur iddynt dristhau am ei drŵg-lwyddiant [Page 303] hwy. Ond yn ail, ei perthynas ei hún hesyd ydyw hynny; nhw a allant dristhau ei Gwenidogion pan welant ei hôll boen yn ofer, ond ni ennillan nhw ei hunain fawr wrth hynny, Difudd (medd yr Apostol) fydd hynny i chwi; chwychwi eich hunain a gyll wrth hynny o'r diwedd, yr ydych yn colli 'r holl wobrau gogoneddus hynny y rhai a addewir megys Coron yr Ufydd-dod hon; nid ydych yn ennill dim ond anghwanegiad eich pechod a'ch cospedigaeth, canys fel y dywedodd ein Iachawdr wrth y Phariseaid. Oni buasei i mi ddyfod ac ymddiddan a hwynt, ni buasei arnynt bechod, Jo. 15.22. hynny yw, mewn cyffelybiaeth i'r hyn oedd y pryd hynny; felly yn ddiammeu y mae y rhai ni chlywsant erioed bregethu 'r Efengyl iddynt yn llawer mwy dieuog na 'r rhai a glywsant, ac a'i gwrthwynebasant ef. Ac am y gospedigaeth, ni allwn yn ddiammeu ddisgwyl y péth a ddywedodd Christ wrth y rhai y pregethasei ef iddynt, y bydde esmwythach i Tyrus a Sidon, y rhai oeddynt yn Ddinasoedd Paganaidd, nag iddynt hwy.
10. Yn ddiweddaf, Gweddiau trostynt. Rhaid i ni weddio trostynt; hyn y mae St. Paul yn ei ofyn mewn amryw fannau gan ei blant Ysprydol; fal hyn Eph. 6.18, 19. gwedi iddo ef orchymyn gweddio tros yr holl Seinctiau, y mae ef yn adroddi, a throsof finne, ar roddi i mi ymadrodd i agoryd fy ngenau yn hyf, i wneuthur yn eglur ddirgelwch yr Efengyl; ac felly trachefu, Col. 4.3. Ac y mae hyn yn parhau fŷth yn ddléd i'n Tadau Ysprydol, gweddio am gyfryw gymmorth Yspryd Duw iddynt ac a wná [Page 304] iddynt iawn ddibennu 'r alwedigaeth Sanctaidd honno. Ni osoda 'i ar lawr ymma Ddlêd y Gwenidogion i'r bobl, oblegid yr unrhyw ystyriaeth ac y gadewais i heibio són am Ddledswydd swyddogion.
Anrhydedd.11. Y Tryddydd máth o Rieni yw 'r Naturiol, sef Tadau ein Cyrph ni, fal y mae 'r Apostol yn ei galw hwynt, Heb. 12.9. Ac i'r rhain y mae 'n ddledus arnoni amryw Ddledswyddau; megys yn gyntaf parch ac Anrhydedd; rhaid i ni ein hymddwyn ein hunain tu ac attynt a a phob rhyw barch a gostyngeiddrwydd; a gochelyd, tan rîth gwendid yn y bŷd ynddynt hwy, ei dibrisio a'i diystyru hwynt; naill a'i yn ein hymddygiad oddiallan, neu cymmint ac yn ein Calonnau oddifewn. Os dychwel bód rhyw wendid ynddynt hwy, rhaid i ni er dim ei cuddio a'i celu hwynt; fal Sem a Japheth y rhai a guddiasant noethni ei Tâd, pan ddarfu i Cam felldigedic ei ddadcuddio a'i gyhoeddi ef, Gen. 9.23. ié, ac a'i cuddiasant yn y cyfryw fodd hefyd, nad allent hwy ei hunain mo 'i weled ef. Rhaid i ni hyd y gallom ymgadw ein hunain rhag edrych ar noethni ein Rhieni, yr hyn a all ein temptio ni i dybied yn ammarchus o honynt. Y mae hyn yn dra-gwrthwynebus i ymddygiad llawer plant, y rhai nid ydynt yn unic y cyhoeddi ac yn gwatwor gwendid ei Rhieni, ond yn dywedyd fôd ynddynt y gwendid hynny nad yw; y mae gan mwyaf y cyfryw fcalhder ac ystyfnigrwydd mewn ieuengtid, nad allan nhw aros ymostwng i gynghorion a chyfarwyddiad ei Henuriaid, ond ei taflu nhw heibio megys effeithiau lled- wŷredd, pan fónt yn wir yn [Page 305] ffrwythau sobrwydd a Doethineb. I'r cyfryw rai y mae cyngor Solomon yn dra-angenrheidiol, Dihar. 23.22. Gwrando ar dy Dâd a'th genhedlodd, ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio. Y mae amryw leoedd eraill yn y Llyfr hwnnw i'r purpas hwn, yr hyn a ddengys fód y doethaf o ddynion yn gweled yn angenrheidiol i blant ystyried cyngor ei Rhieni. Ond y mae arfer ein hoes ni yn gosod i fynu ddoethineb yn union yngwrthwyneb i hon, ac yn tybied rhai y prŷd hynny yn synhwyrol, pan dderchefir hwynt i'r râdd honno o ddirmygu cyngor, iè ac o watwor personau ei Rhieni. Os ni wrendŷ y cyfryw rai ar gynhorion, etto coffánt fygythiad y gŵr doeth, Dihar. 30.17. Llygad yr hwn a watwaro ei Dâd, neu a diystyro lywodraeth ei fam, a dynno cig-frain y dyffryn, a'r Eryrod a'i bwytáo.
12. Yr ail Ddylèd iddynt yw Cariad; Cariad. rhaid yw bód gennin ni garedigrwydd perffaith iddynt y cyfryw ac a wná i ni ddeifyfu yn ddifrifol bób máth a'r ddaioni iddynt, a chashau gwneuthur dim a'i cythrwblio neu a'i digio hwynt. Ni ymddengys hyn ond diolchgarwch cyffredinol pan gofir béth a wnaeth ein Rhieni troston ni; pa fódd y buon nhw nid yn unic yn foddion o'n dwyn ni ar y cyntaf i'r bŷd, ond hefyd o'n meithrin a'n cynnal ni gwedi hynny; ac yn wir pwy bynnag a iawn ystyrio 'r gofalon a'r ofn sydd yn dwyn plentyn i fynu, ni farnan nhw gariad plentyn ond tâl rhesymol i'w Rhieni am y cwbl. Rhaid yw dangos y Cariad hwn amryw ffyrdd, yn gyntaf, mewn pób rhyw ymddygiad llargaidd, gan ein hymddwyn ein hunain, nid yn unic yn barchus, [Page 306] ac yn ostyngedic, ond yn llaryaidd hefyd ac yn addfwyn, trwy wneuthur yn llawen ac yn ewyllysgar, bêth bynnag a ddŵg lawenydd a chyssur iddynt, a gochelyd yn ofalus bób péth a'i cythruddo ac a'i thistháo hwynt.
13. Yn ail rhaid yw dangos y Cariad hwn trwy weddío trostynt; y mae Dlêd plentyn i'w Rieni mor fawr, na ddichon ef byth gwplhau ef ei hún, rhaid iddo gan hynny alw i mewn gymmorth Duw, ac erfyn arno ef obrwyo'r holl ddaioni a wnaeth ei Rieni trosto ef, trwy amlhau ei fendithion arnynt; bêth gan hynny a ddywedwn ni am y Plant hynny, y rhai yn lle galw am fendithion o'r Nêf ar ei Rhieni, ydynt yn chwillotta Uffern am felldithion arnynt, ac yn tywallt allan regfáu tra-echryslon yn ei berbyn hwynt? Y mae hyn yn bêth mor resynol, ac y tybie ún na bydde raid yr ûn ymynhédd yn ei erbyn ef, oblegid na alle néb fód mor a atgás a syrthio iddo; ond fe welodd Duw ei hûn, yr hwn a edwyn ein calonnau ni oreu, hyn yn bossibl ac am hynny a osododd y y gospedigath dostaf arno ef: Rhodder i farwolaeth yr hwn a felldithio ei Dâd neu 'i fam▪ Ezod. 21.17. Ond och! ni a welwn beunydd nad yw hyn bossibl yn unic ond cyffredin, sef, rhegu yn gyhoeddus. Ond fe ellir ofni, fôd ûn arall etto yn fwy cyffredinol, sef ewyllysio melldithiau, er bód ofn neu gywilydd yn ei cadw hwynt rhag traethu allan. Pa sawl Plentyn naill ai o annoddefgarwch llywodraeth, neu o chwant i feddiannau ei Rieni, a chwennychodd ei marwolaeth hwynt? Ond pwy bynnag sydd felly, meddylied er dirgeled [Page 307] a thecced yr ymddangoso ef o flaen dynion, fôd ûn yn canfod y dymuniadau dirgelaf hynny o'r galon, ac yn ei olwg ef ei fôd ef yn passio am y trosseddwr gresynol hwn, séf melldithiwr ei Rieni. Ac yna Ystyrier, y dichon Duw yn gystal gospi, a chanfod; ac am hynny gan ddarfod iddo ef ddadcan marwolaeth i fód yn wobr y pechod hwn, nid yw anthesymmol disgwyl iddo am gyflawni hynny; sef i'r rhai sy'n gwilio am farwolaeth el Rhieni, gyfarfod yn ddisymmwth a'i marwolaeth ei hún. Y mae'r pummed Gorchymyn yn addaw hîr hoedl megys gwobr am anrhydeddu Rhieni, at ba ún y mae yn dra-chysson fód angeu disymwth yn gospedigaeth am y gwrthwyneb bechod; ac yn ddiammeu nid oes dim mwy hynod yng wrthwyneb i'r Ddledswydd honno nag ydyw Rhegu ein Rhieni.
14. Ufydd-dod. Y Trydydd Ddledswydd ddledus arnon ni iddynt, yw Ʋfydd-dod; nid yw hyn yn unic yn gynnhwysedig yn y Pummed Gorchymyn, ond a orchymynnir yn eglur mewn lleoedd eraill o'r Scrythur, Y Plant ufyddhewch eich Rhieni yn yr Arglwydd, canys hynny sydd gyfiawn; a thrachefn, Col. 3.30. Y Plant ufyddhewch eich Rhieni ymmhób dim, canys hynny sydd ddá iawn gan yr Arglwydd. Y mae'n ddledus arnon ni Ufydd-dod iddynt ymmhób péth, ond lle y mae ei gorchymynion hwynt yn gwrthwynebu gorchymynion Duw, ac yna rhaid i'n Dléd i Dduw gael y rhagor; ac am hynny os bydde ryw Rieni mor ddrŵg a cheisio gan ei Blentyn ledratta, dywedyd celwydd, neu wneuthur rhyw béth anghyfreithlon, nid yw'r Plentyn yn trosseddu yn erbyn ei Ddledswydd, er [Page 308] iddo anufyddhau'r cyfryw Orchymyn, iè, rhaid iddo anufyddhau, neu fe a drossedda yn erbyn Dledswydd uwch o lawer, sef yr hon sydd yn ddledus arno i Dduw, ei Dâd Nefol. Etto pan fo fal hyn yn angenrheidiol neccau Ufydd-dod, fe ddyle ofalu am wneuthur hynny yn y cyfryw fódd gostyngedic a pharchus, fal yr ymddangoso mae Cydwybod yn unic, ac nid Ystyfnigrwydd sydd yn ei annog ef i hynny. Ond mewn pob gorchymynion cyfreithlon, hynny yw, pan fo'r pêth a orchymynnir naill ai yn dda, neu heb fód yn ddŵg, sef, pan na bo dim yntho yngwrthwyneb i'n Dledswydd i Ddûw, yna' mae'r plentyn yn rhwym i ufyddhau, bydded y gorchymyn yn fawr neu yn fychan. Y mae'n rhŷ hynod ymmhób man o'r bŷd leied cyfrif a wneir o'r Ddledswydd hon, lle nid yw Rhieni gan mwyaf yn cael gan ei plant fód dim mwy tan ei llywodraeth, nag y byddont tan y wialen; pan gynnyddant hwy mewn oedran, 'maent yn ei tybied ei hunain yn rhyddion oddiwrth bód Ufydddod iddynt; ac os pery rhai yn ufydd, etto os chywilir yr achos fe geir gweled mewn gormod mae Synwyr bydol yn unic sydd yn ei hannog hwynt; y maent yn ofni anfodloni ei Rhieni, rhag iddynt hwy gwttogu ei llaw tu ag attynt, ac felly iddynt golli rhyw béth oddiwrthynt trwy hynny; Ond pa sawl ún sy'n ufyddhau yn unic o ran Cydwybod o'i Dledswydd? Yr oedd y pechod hwn o anufydd-dod i Rieni trwy Gyfraith Moses i'w gospi a marwolaeth, fal y darlleniwn ni, Deut. 21.18. ond pette Rhieni yr awrhon yn gwneuthur felly a'i Plant, fe wnai llawer ei hunain yn ebrwydd yn ammhlantadwy.
[Page 309]15. Ond o holl rywogaethau o anufydd-dod, Yn en wedig yn ei Priodas. ún o'r mwyaf yw, Priodi yn erbyn cydsynniad Rhieni. Da a meddiannau Rhieni yw Plant, yn gymmint nad allant hwy, heb fáth a'r ledrad, ei rhoddi ei hunain ymmaith heb gydsynniad y néb a'i pieu hwynt; ac am hynny ni a ddarllenniwn tan y Gyfraith, na oddefid i ùn fenyw gwplhau unrhyw adduned a wnaethe hi heb gydsynniad ei thâd, Num. 30.5. Yr oedd hawl y Tâd yn ei ferch cymmint, ac y galle fo ddiddymmu rhwymedigaeth, ié, o adduned; ac yn wîr fe ddylen ninnau edrych arnihi yn gymmint ac i ymogelyd gwneuthur y cyfryw béth ac a ddiddymmo neu a leiháo'r hawl honno.
Gweini i'w Hangenrheidiau hwynt.16. Y Pedwerydd Dledswydd i Riéni yw ei cymmorth hwynt a gweini iddynt yn ei hóll angenrheidiau o ba fáth bynnag, megys gwendid, clefyd ei cyrph, diffyg deall, neu dlodi, ymmhób ún o'r rhain, y mae'r plentyn yn rhwym, yn ól ei allu, i'w cymmorth a'i cynnorthwyo hwynt; am y ddau gyntaf, sef llesgedd y Corph, a gwendid y meddwl, ni ddichon néb ammeu'r Ddledswydd, pan goffhánt môdd y darfu i bób plentyn yn ei febyd dderbyn yr unrhyw gymwynas gan ei Rieni, pan nad oedd gan y Plentyn ddim nerth i'w gymmorth, na synwyr i'w gyfarwyddo ei hún; r'oedd yn rhaid i ofal ei Rieni gwplhau pób ún o'r ddau hyn trosto ef, ac am hynny mewn módd o Ddiolchgarwch cyffredinol, pan ddychwelo y rún o'r rhain i'r Rhieni, megys weithiau trwy henaint, neu rhyw ddamwain arall y maent yn dychwelyd, rhaid i'r Plentyn [Page 310] gwplhau yr unrhyw swyddau yn ól iddynt hwy. Am ei cymmorth hwynt yn ei tlodi, y mae'r unrhyw rwymedigaeth arnynt ac i'r lleill, gan nad ydyw ond cyfiawn i ti gynnal dy Rieni, y rhai o'r blaen a'th gynhaliasant di: Ond heb law hyn y mae Crist ei hún yn ein dyscu ni fód hyn yn gynnhwysedig tan y gorchymyn o Anrhydeddu Rhieni; oblegid pan yw ef Mar. 7.13. yn argyoeddi'r Pharisaeaid, am ddirmygu gorchymyn Duw i lynu wrth ei traddodiadau ei hunain, y mae fo'n pennodi yn neillduol ynghylch y Ddledswydd hon o gynnorthwyo Rhieni, lle y mae'n hynod fód hyn yn rhan o'r Ddledswydd honno a ofynnir yn y pummed Gorchymyn, fal y gellwch weled yn elelaeth yn y Testyn, ac y mae hi yn gyfryw Ddledswydd, na ddichon esgus na rhíth yn y bŷd ein rhyddhau ni oddiwrthi hi. Pa fódd gan hynny yr ettyb y rhai hynny y sydd yn neccau cymmorth i'w Rhieni tlodion, y rhai ni ddichon ymadel a'i gweddill a'i gormodedd (y rhai yn wîr ydynt ei pechodau hwynt) i fodloni angen y rhai tan Dduw a roddodd iddynt ei bywyd? Ié, y mae rhai etto yn waeth, y rhai o wîr falchder nid yw wiw ganddynt gydnabod ei Rhieni yn ei tlodi: fal hyn y dychwel yn fynych pan dderchefir y Plentyn i olud neu fawredd, y maent yn tybied yn ammarch iddynt edrych ar ei Rhieni o isel râdd, oblegid fód hynny, fal y tybiant hwy, yn eglurhau i'r bŷd waeledd ei hâch hwynt, ac felly y mae'n waeth ar y Rhieni tlodion oblegid llwyddiant ei Plentyn. Y mae hyn yn gyfryw falchder ac annaturiolwch ynghŷd, ac a dderbyn yn ddiammeu ddíal chwerwdóst gan Dduw: oblegid [Page 311] os dywed Solomon am falchder yn unic ei fód ef yn myned o flaen dinistr, Dihar. 16.18. ni a allwn yn hyfach draethu hynny am y ddau ymma ynghŷd.
17. Yn ddiweddaf, nid oes ún anghyweithasrwydd na bai yn y Rhieni a ddichon rydddhau'r Plentyn oddiwrth y Ddledswydd hon; ond fel y dywed St. Petr. i wasanaeth-wŷr, 1 Pet. 2.18. Y bydd raid iddynt ymostwng mewn pób ofn i'w meistred, nid yn unic i'r rhai da cyweithas, ond i'r rhai anghyweithas befyd; felly yn ddiammeu y dyle Plant gwplhau'r Ddledswydd hon nid yn unic i Rieni addfwyn a Rhinweddol, ond i'r rhai gwaethaf a thostaf. Canys er bód addfwynder Rhieni yn annogaeth ddirfawr i blentyn i dalu ei Ddledswydd, etto nid hynny yw'r unic achos na'r mwyaf 'chwaith; hynny a osodir i lawr yngorchymyn Duw, yr hwn sydd yn peri i ni fal hyn anrhydeddu ein Rhieni, ac am hynny er dychwelyd i Rieni fód mor annaturiol, a bód heb roi erioedd ar ei Plentyn unrhyw rwymedigaeth o gariad (yr hyn nid ellir ond prin ei dybied) etto y mae Gorchymyn Duw yn parhau mewn grym, ac o ufudd-dod i hwnnw, rhaid i ni gwplhau'r Ddléd honno i Rieni, er na bo dim arall ar ei rhan ei hunain i'n hannog ni.
Ond megys ac y mae hyn yn ddledus ar y Plentyn tu ac at ei Rieni, Dléd rhiéni tu ac at ei plant felly o'r tu arall y mae pethau eraill yn ddledus ar y Rhieni tu ac at y Plentyn, a hynny o'i febyd allan.
[Page 312] Ei Meithrin nhw.18. Y cyntaf yw, gofal am ei feithrin a'i gynnal ef, yr hon Ddledswydd sydd yn dechreu o'i enedigaeth ef, ac yn parhau nes i'r Plentyn fód yn abl i wneuthur hynny trosto'i hún; dledswydd yw hon y mae Natur yn ei ddyscu; gan fód gan y bwystfilod gwylltaf ofal mawr a thynnerwch yn meithrin ei rhai ieuangc, yr hyn a argyoedda ac a euogfarna pób rhyw Rieni ac a esgeulysa hynny. Nid â'i ymma i són am y Testyn hwnnw, sef, A yw Mam yn rhwym i roddi i'w Phlentyn ei faethiad cyntaf, trwy roddi bron iddo ef ei hún, oblegid ammhossibl yw traethu dim yn gyffredinol am hynny, gan fód amryw bethau a ddichon newid hyn, a'i wneuthur nid yn unic yn gyfreithlon, ond yn oreu peidio a hynny; y cwbl a ddyweda'i am hyn yw, mae lle ni bo ún rhwystr o ran clefyd, gwendid, neu'r cyffelyb yn lluddias, goreu yn ddiammeu yw i'r Fam ei hún gwplhau'r swydd hon, gan y bydd hynny yn llesol iawn i'r Plentyn, yr hyn a ddyle Mam dda ei Ystyried cymmhelled na escenluso hi mo hynny, er mwyn porthi ei Syrthni, neu'i balchder rodresgar, neu'r cyffelyb.
Ei dwyn hwynt i Fedydd.19. Ond heb law'r gofal cyntaf hwn, a berthyn i gyrph Plant, y mae ún arall, a ddyle ddechreu agos cyn gynhared, a berthyn i'w Heneidiau hwynt, a hynny yw ei dwyn hwynt i'r Sacrament o Fedydd, módd y gallon trwy hynny gael hawl mewn prŷd i'r holl ragorfreintiau gwerthfawr hynny, y mae'r Sacrament honno yn ei roddi iddynt. Dledswydd yw hon na ddyle Rhieni mo'i hoedi, gan mae [Page 313] tra-rhesymol yw i'r rhai a fú yn offerau o ddwyn aflendid a llygredigaeth pechod a'r y dŷn bâch, fód yn ddiwyd iawn ac y ofalus i'w olchi ef ymmaith cyn gynted ac y bo possibl: Heb law hyn nid yw bywyd y cyfryw grynddŷn ond megis a wel, yr hon sydd yn fynych yn myned ymmaith mewn munudyn; ac er na ddylen ni anobeithio o Drugaredd Dduw i'r cyfryw blant truain, y rhai sydd yn marw heb fedydd, yn diammeu y mae y Rhieni hynny yn euog o bechod mawr, y rhai sydd yn esgeuluso ei dwyn hwynt i'w Bedydd mewn prŷd.
20. Yn ail, Ei dwyn i fynu. Rhaid i Rieni edrych am ddwyn ei Plentyn i fynu; rhaid iddynt, fel y dywed Solomon, Dihar. 22.6. Hyfforddio plentyn ym when ei ffordd. Cyn gynted gan hynny ac y delo Plant i ddeall rheswn, rhaid yw ei hathrawiaethu hwynt, a hynny yn gyntaf yn y pethau a berthyn i'w llywyddiant tragywyddol, rhaid yw ei haddyscu hwynt bób ychydig ac ychydig yn yr holl bethau hynny y mae Duw yn ei orchymyn iddynt, megys ei Dledswydd i'w gwplhau; ac hefyd pa ryw wobrau gogoneddus a barotóodd ef iddynt, os gwnaent hwynt, a pha gospedigaethau echryslon a thragywyddol os nis gwnaent. Fe ddylid tywallt y pethau hyn i feddyliau plant cyn gynted ac y bo possibl, y rhai (fel llestri newyddon) a fydd gan mwyaf yn cadw blâs y pethau a roddir ynddynt yn gyntaf; ac am hynny y mae'n sefyll yn fawr a'r bób Rhieni edrych ar iddynt gael fal hyn ei pereiddio ar y cyntaf a Rhinwedd dda a Chrefydd. Yn ddiammeu os esgeulusir hyn, y mae ún gar llaw yn barod i'w [Page 314] llenwi hwynt a'r union wrthwyneb, fe fydd y Cythrael yn ddigon diwyd i dywallt i mewn iddynt bób drygioni a pechod, a hynny o'i mebyd; a chan fód yn ein hanian ni i gŷd lawer mwy parodrwydd i ddrŵg nac i dda, rhaid bód gofal a gwliadwraeth mawr i rag-rwystro bwriad y gelyn Eneidiau hwnnw, yr hyn ni ddichon fód mewn môdd yn y bŷd ond trwy gynnysgaeddu ei meddyliau hwynt ar y cyntaf a phethau da, trwy ei dwyn hwynt i garu Rhinwedd dda, ac i gashau pôb pechod, fel pan ddelo profedigaethau, y bônt gwedi ei harfogi yn ei herbyn hwynt. Hyn yn ddiammeu a ddyle Rhieni uwchlaw pôb péth edrych ar ei ól, ac y mae yr esgeulusdra o hyn yn greulondeb echryslon; yr ydyn ni yn edrych ar y Rhieni hynny megys rhai dihir tra-annaturiol, y rhai a ladda ei plant; ond och! y mae hynny yn drugaredd ac yn dynnerwch wrth ei gyffelybu a'r esgeulusdra ymma o'i dygiad i fynu; oblegid yr ydys trwy hynny yn dinistrio ei Heneidiau hwynt, ac yn ei gwneuthur hwynt yn druenus yn dragywyddol; ac fe ŵyr Duw, fôd aneirif o'r cyfryw Rieni gwaedlyd yn y bŷd, y rhai sydd fal hyn yn rhoi ei Plant i fynu i'w meddiannu gan y Cythrel, o eisieu ei gwneuthur nhw yn gydnabyddus mewn prŷd a ffyrdd Duw; ié, yn wŷr y mae yn rhŷ hynod, trwy y tauogrwydd rhyfeddol a'r anwybodaeth sydd yn gyffredinol ymysg ieuengtid, leied sydd yn gwneuthur cydwybod o gwplhau'r Ddlédswydd hon: gan fôd Plant y rhai sydd yn ei galw ei hunain yn Gristianogion yn fynych heb wybod mwy am Dduw a Christ, na'r Paganaidd a'r di-dduw. Ond pwy bynnag ydynt sydd fal [Page 315] hyn yn esceuluso'r Ddledswydd fawr hon, gwybyddant nad ydynt hwy yn unic yn dwyn trueni gresynol ar ei Plant, ond euogrwydd echryslon hefyd arnynt ei hunain. Oblegid megys y dywed Duw wrth y gwiliedyddion diofal, Ezec. 3.18. Os cyfr-gollir ùn Enaid trwy ei hesgeulusdra hwynt, y gofynnir yr Enaid hwnnw o'i dwylaw hwynt; felly yn ddiammeu y bydd i bód Rhieni, i'r rhai yr ymddiriedodd Duw y swydd hon o wilio tros ei Plant ei hunain. Yr ail Rhan o feithrin yw ei dwyn hwynt i fynu mewn rhyw alwedigaeth, trwy ei gosod hwynt ar waith mewn rhyw gelfyddid onest, módd y gallont ochelyd y rhwyd fawr honno o eiddo 'r Cythrael, sef, Diogi; ac y gallont hefyd gael ei hyfforddi mewn rhyw gywreinrwydd neu gelfyddid ddefnyddiol, fal pan ddelont mewn oedran, y bónt yn fuddiol i'r llês gyffredin, ac yn abl i ennill bywiolaeth onest iddynt ei hunain.
21. Fe ofynnir megys moddion angenrheidiol o'r Ddléd fawr hon o ddwyn Plant i fynu ddau béth; yn gyntaf, Rhoddi Cyssur, yn ail, Moddion o ddwyn Plant i fynu. Cerydd. Rhaid yw profi, yn gyntaf, ddywedyd yn dêg, ac ymegnío i wneuthur Plant mewn Cariad a Dledswydd, trwy gynnyg iddynt wobrau i'w llithio hwynt ac edrych pan wnelont yn dda ar roi calon ynddynt i fyned ymlaen. Dull drŵg mewn rhai Rhieni yw meddwl na ddylent ymddangos o flaen ei Plant, ond a gwyneb sûr sarrug; hyn ond odid y mae St. Paul yn rhag-rybyddio Rhieni o'i blegid, pan yw efe yn peri i dadau ochelyd annog ei Plant i ddigofaint, Col. 3.21. Bód mor Sarrug ac [Page 316] anhywaith tu ac attynt, pan wnelont yn dda, a phan wnelont yn ddrŵg, yw'r módd i'w hannog hwynt i ddigofaint; ac yna fe ddywed yr Apostol i ni yn yr unrhyw adnod, béth a fydd y ffrwyth o hynny, ni bydd ganddynt mor galon i fyned ymlaen mewn ún ffordd dda, pan fo ei Rhieni heb edrych yn dêg arnynt ún amser. Yr ail módd yw Cerydd, yr hon a ddylid yn unic ei harferu pan na wná 'r llall mor daioni, pan fetho annogaethau ac ymbil, a phób moddion tég, yna angenrheidiol yw arferu rhai garwach; a rhaid yw profi hynny yn gyntaf mewn geiriau, nid wyfi'n meddwl trwy gynnen a drŵg araith, ond trwy argyoeddiad pwyllog a thwys; ac os metha hynny hefyd, yna rhaid yw arferu cernodiau; ac yn y cyflwr hwn, fal y dywed Solomon; Yr hwn a arbeda ei wialen sydd yn cashau ei fâb, Dihar. 13.24. Ynfydrwydd creulon yw i ddyn trwy arbed ychydig wialennodiau yn y cyfamser, enbydu ei blentyn i'r drygau gresynol hynny, y rhai gan mwyaf a ddigwyddant i'r hwn a adewir iddo ei hún. Ond rhaid yw rhoi'r Cerydd hwn yn yn cyfryw fódd, ac a fo cyffelypaf i wneuthur llesháad; séf yn gyntaf mewn prŷd; ni wasanaetha gadael i blentyn redeg ymlaen mewn rhyw ddrŵg, nes iddo ef trwy hîr ymarfer, ddyfod i fód yn gyndyn ac yn Ystyfnig yntho ef. Bai mawr yw hyn mewn amryw Rieni, nhw a adawan ei Plant yn llonydd tros amryw flynyddoedd, i wneuthur a fynnon, trwy oddef iddynt ddywedyd celwyddau, a lledratta, heb gymmint a'i hargyoeddi hwynt ún amser, iè, ysgatfydd ei boddhau ei hunain yn gweled dychymygion digris-gall y Plentyn, a [Page 317] thybied na waeth pa béth a wnelont tra a bónt yn fychain: ond och! y mae'r pechod yr hóll amser hynny yn casclu gwraidd, a hynny yn fynych mor ddyfn, na ddichon moddion yn y bŷd ar ól hynny, na geiriau, na gwialennodiau fŷth mo'i ddadwreiddio ef. Yn ail, rhaid i'r Cerydd fód yn gymmhedrol, heb ragori cynneddf y bai, na thynnerwch y Plentyn. Yn drydydd ni wasanaetha ceryddu mewn llidiowgrwydd, onid-é, fe fydd y Cerydd nid yn unic mewn enbydrwydd o fód yn anghymmedrol, ond yn anfuddiol hefyd i'r Plentyn, yr hwn a dybia ei fôd yn cael ei geryddu nid am ei fai, ond am fôd ei Rieni yn ddigllon, ac felly a fwrw'r bai yn hytrach ar y Rhieni nag arno ei hún; lle o'r tu arall y dylid bôd mor ofalus i wneuthur y Plentyn yn deimladwy o'r bai, ac o'r boen, heb ba ûn ni wellhá fo bŷth yn hollawl.
22. Gwedi i Blant gynnyddu mewn oedran, Y Rhieni i wilio tros ei heneidiau gwedi iddynt gynnyddu mewn oedran. y mae Dledswyddau eraill etto ar Rieni i'w cwplhau iddynt; sef, gwilio yn ddibaid tros ei Heneidiau hwynt, ac ystyried pa fôdd y maent yn arferu 'r rheolau a'r athrawiaethau hynny a roddwyd iddynt yn ei hieuengtid ac yn gyfattebol i hynny ei rhybuddio, ei cyssuro, neu'i hargyoeddi hwynt, fal y gwelont yr achos.
23. Felly hefyd am ei cyflwr oddiallan, rhaid iddynt ei rhoddi hwynt mewn rhyw ffordd i fyw yn y bŷd; os bendithiodd Duw y Rhieni a golud, rhaid iddynt gyfrannu a'i Plant yn ól y péth a fo ganddynt, gan gofio, mae fel y [Page 318] buont hwy yn offerau o'i dwyn hwynt i'r bŷd fod yn sefyll arnynt, yn ol ei gallu, baratoi bywiolaeth gyssurus iddynt yn y bŷd; rhiéni annaturiol iawn gan hynny yw y rheini, y rhai am y caffont ddigon i'w treulio ar ei trythyllwch a'i gormodedd ei hunain, ni waeth ganddynt béth a ddelo o'i Plant, ac ni feddyliant ún amser am baratoi iddynt hwy. Bai arall arferol iawn ymysg Rhieni yn hyn, yw oedi paratoi iddynt, nes iddynt hwy ei hunain farw; casclu ynghŷd, ysgatfydd, bentwrr mawr iddynt erbyn y prŷd hynny, ond bód yn y cyfamser heb roddi iddynt cymmint, ac a wasanaetho yn gymwys iddynt i fyw yn y bŷd. Y mae amryw ddrygau yn tarddu o hyn: Yn gyntaf, y mae yn lleihau Cariad y Plentyn tu ac at ei Rieni, ié y mae hyn lawer gwaith yn cyrrhaeddid cymmhelled, ac i'w annog ef i ewyllysio ei farwolaeth ef; yr hyn er ei fód yn gyfryw bechod, na ddichon profedigaeth yn y bŷd ei esgusodi mewn plentyn, etto y mae'n fai mawr mewn Rhieni roi iddynt y temtasiwn hwnnw. Yn ail y mae hyn yn gosod y Plentyn yn fynych, ar ryw ddichellion anonest, i gwplhau ei angenrheidiau; hyn yn ddiammeu sydd yn dychwelyd yn gyffredinol: fe ddarfu i galedwch Rhieni osod dynion ar foddion anghyfreithlon, y rhai gwedi iddynt unwaith ymgynnefino a hwynt, fe fydd annodd iddynt ymadel a hwynt, er i'r achos cyntaf o hyn beidio; ac am hynny fe ddyle Rhieni wilied rhag enbydu ei Plant fal hyn. Heb law hyn y mae'r Rhiéni yn colli'r bodlonrhwydd hynny a allei fo'i gacl yn gweled ei Blant yn byw yn gyssurus, yr hyn ni newidie néb ond crintachwr [Page 319] budr am y gwâg-bleser o fwynhau arian yn ei gîst. Ond ymma rhaid yw edrych ymmhellach ar fôd i Rieni ennill y golud hwnnw, a adawant i'w Plant, yn onest: onid-é fe fydd ymmhell iawn oddiwrth fôd yn gynnhysgaeth dda iddynt, gan y bydd y cyfryw felldith yn dilyn, fal nad yw'r hwn a adawo'r cyfryw gyfoeth o'i ôl i'w blentyn, ond yn ei siommi a'i dwyllo ef, trwy wneuthur iddo ef goelio ddarfodd iddo adael golud iddo, pan yw ef hefyd gwedi gosod y cyfryw rŵd yn ei gymysg ac a fydd siccr o'i yssu ef allan a'i ddifetha ef. Y mae hyn yn béth mor hynod a chyffredinol, nad rhaid i mi ddywedyd dim i gadarnhau y gwirionedd o honaw; Mi a fynnwn pe bae pawb mor barod i ystyried hyn yn ei calonnau, ac y maent yn cymmeryd arnynt yn gyffredinol ddal Sulw arno: yna yn ddiammeu ni thybie Rhieni mor rhesymol arferu moddion anghyfiawn er mwyn casclu i'w Plant ar ei hól; oblegid nid dena'r ffordd i gasclu iddynt, eithr yn hyttrach i'w hyspeilio hwynt o'r péth a ddarsuasei iddynt ei gasclu iddynt o'r blaen yn gyfreithlon, gan fód y gronyn lleiaf o elw anghyfreithlon o'r ún natur a Surdoes, yr hwn a sura'r hóll does, trwy ddwyn melldithion i lawr ar bód péth a fedd dŷn. Ymfodloned pób Rhieni gan hynny a'r cyfryw gyfran i'w Plant, ac a welo Duw yn dda iddynt allu ei gasclu yn onest, gan ei siccrhau ei hunain er lleied a fo hynny, fód hynny yn well na'r golud mwyaf a gesclir yn anghyfiawn, fal y dywed Solomon, Dihar. 16.8. Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam.
[Page 320] Rhoddi iddynt Siampl dda.24. Y Pedwerydd péth dyledus ar Rieni i'w Blentyn yw Siampl dda; nid digon iddo ef yn unic osod ar lawr iddo Reolau o Rinwedd, a Duwioldeb; ond rhaid iddo hefyd roddi iddo ef Esampl yn ei fuchedd ei hûn ni a welwn fod grym esampl yn anfeidrol tu hwynt i rym Gorchymyn, yn enwedig pan fo 'r hwn sy'n gorchymyn yn ûn y boni yn ei berchi, neu y bo ein hymarweddiad beunyddol ni gydág ef; ac y mae pôb ûn o'r ddau gan mwyaf yn ymgyfarfod mewn Rhieni. Fe ddyle pób Rhieni gan hynny edrych yn ddiwyd ar ei hymddwyn ei hunain felly o flaen ei Plant, fal y bo ei esampl nhw yn foddion i'w hennill hwynt i Rinwedd; Ond och! nid oes ond ychydig O'r gofal hwn yn yr oes hon, ond y mae cymmhelled oddiwrth hynny, nad oes néb yn offerau o lygru Plant yn fynychach na 'i Rhieni ei hunain. Ac yn wir pa fódd y dichon fód yn amgenach? tra 'i bo dynion, yn rhoddi iddynt ei hunain rydd-dyd i bób drygioni, nid ellir disgwyl, na bydd i Blant, sydd yn ystyried hyn, galyn ei hôl hwynt: Y Plentyn a welo ei Dád yn feddw, a dybia yn ddiammeu, y gall yntau fód felly hefyd yn gystal a'i Dâd. Felly yr hwn a glywo ei Dâd yn tyngu, a wna 'r cyffelyb, ac felly am bób trosseddau eraill; ac os dychwel ryw Rieni a fo fal hyn yn drŵg ei hûn, fôd etto yn fwy gofalus am Enaid ei Blentyn na 'i eiddo i hûn, cymmhelled ac i warasun iddo ef y pethau y bo fo ei hûn yn ei wneuthur, neu i geryddu ef am ei gwneuthur hwynt, fe feddwl y Plentyn yn ddiammeu fód hyn yn anghyfiawnder [Page 321] mawr yn ei Dâd, ei gospi fo am y péth y mae fo ei hun yn, ei wneuthur yn hylaw, ac felly nid yw efe debyg i wellhau bŷth wrth hynny. Fe ddyle 'r Ystyriaeth hon roddi rhwym caeth iawn ar bôb Rhieni i fyw yn Gristianogawl, canys onid-é nid ydynt hwy yn unig yn Peryglu ei Heneidiau ei hunain, ond eiddo 'i Plant hefyd, ac megys yn pwrcasu iddynt etifeddiaeth yn Uffern.
25. Y pummed Dled-swydd ar Rieni yw bendithio ei Plaut; Ei Bendithio hwynt, a'r môdd o wneuthur hynny sydd o ddau fâth, yn gyntaf, trwy ei Gweddi; nhw a ddylen beunydd trwy weddi ddifrifol ei Gorchymyn hwynt i nodded Duw a'i fendith, yn gystal am ei llywyddiant ysprydol ac amserol; ac yn ail, trwy ei Duwioldeb; rhaid iddynt fód yn gyfryw rai ei hunain ac y bo i fendith ddescyn oddiwrthynt ar ei heppil. Hyn a addewir yn fynych yn y scrythyrau i'r duwiol, y bydd ei hâd hwynt yn fendigedig. Felly yn yr ail Gorchymyn, y mae Duw yn addaw dangos trugaredd i filoedd o'r rhai a'i carant ef, ac a gadwant ei Orchymynnion ef. Ac y mae 'n addas i ddal sulw arno am yr Iddemon, er ei bôd yn genhedlaeth war-galed, ac iddynt annog Duw yn ddirfawr i ddigofaint, etto yr oedd Duwioldeb ei henafiaid hwynt▪ Abraham, Isaac, a Jacob, yn annog Duw yn fynych i'w gwared hwynt rhag dinistr; o'r tu arall ni a welwn ddarfod i ddynion da lwyddo yn waeth oblegid anwireddau ei Tadau; felly pan ddestrywiasei Josiah Ddelw-addoliaeth, ac yr adferasei wasanaeth Duw, ac y gwnaethai ddaioni tu [Page 322] hwynt ir hôll Frenhinoedd a fuasei o'i flaen ef, etto yr oedd hên relyw o eiddo ei Daid Manasseh, yr hyn nid allei ei holl dduwioldeb ef mo 'i ddeleu, ond y mae Duw yn ymroi yn ddisigl i fwrw Juda hefyd o'i olwg, fal y darllennir yn ehelaeth yn, 2 Bren. 23. Os oes gan hynny ddim ymyscaroedd gan Rieni, na dim tynnerwch tu ac ei Plant, neu wîr ddymuniad ei llwyddiant hwynt, cymmerant ofal trwy ei buchedd dduwiol ei hunain i adael bendith iddynt o'i hol.
Rhoddi nebrhyw Orchymynion anrhesymol.26. Yn chweched, Rhaid i Rieni ofalu ar iddynt arferu ei hawdurdod tros ei Plant trwy bwyll a Chymmedrolder, heb ei gorthrymmu nhw a Gorchymynion anrhesymol, yn unic er mwyn dangos ei hawdurdod ei hunain, ond mewn pôb péth pwysfawr ystyried gwîr ddaioni ei Plant, a gochelyd ei cymmell nhw i ddim a fo gwrthwyneb i hynny. Rheol yw hon a ddyle Rhieni yn fynych ei harferu, ond yn enwedig wrth Briodi ei Plant ymmhá béth y bu llawer ar fai, y rhai oeddynt mewn pethau eraill yn Rhieni da; pan font o wîr awydd i'w rhoi nhw yn gyfoethog, yn ei cymmell hwynt i briodi yn hollawl yn erbyn ei meddwl, yr hyn sydd greulondeb mawr, ac sydd yn fynych yn dwyn arnynt liaws o ddrygau, y cyfryw ac na ddichon hôll olud y bŷd ei diwygio. Y mae dau béth a ddyle Rhieni ei ystyried yn enwedig wrth Briodi ei Plant; yn gyntaf pa fodd y gallont fyw yn Gristianogawl; ac i'r diben hwnnw nhw a ddylen ddewis iddynt ún rinweddol a duwiol; yn ail pa fodd y gallont fyw yn llawen, ac yn gyssurus yn y bŷd hwn, [Page 323] ac i'r diben hwnnw edrychan am gymmedroldeb, ond nid gormodedd o olud, yr hyn ni ddylen nhw yn rhŷ daer ei chwennychu; y péth a wná 'r cyflwr hwnnw yn ddewyddach o lawer, yw i'r ddwy blaid garu a hoffi ei gilydd, heb pa ûn Priodas yw'r anghyssuraf cyflwr yn y bŷd, ac am hynny ni ddyle ûn Rhiéni wthio ei Blentyn ar hynny o'i anfodd.
DOSPARTHIAD,
XV.
Am Ddledswyd tu at ein Brodyr a'n Cyfneseifiaid, Gwr, Gwraig, Ceraint, meistred, Gweision.
Dled tu ac at Frodyr.§. 1. YR ail fath o Garennydd yw Brawd; y mae Brawdgarwch o ddau fáth, naill a'i anianol neu Ysprydol; fe ddichon yr anianol yn ei ystyriaeth helaethaf gynnwys tano holl ddynol ryw, ar sydd yn gyfrannog o'r unrhyw natur; ond nid felly y cymmera 'i fo ymma gan ddarfod i mi yn barod osod ar lawr y Dledswyddau cyffredinol, a berthyn i bawb yn yr ystyriaeth honno. Yr wyfi'r awrhon yn traethu am y Brawdgarwch naturiol hwnnw sydd rhwng Plant y rûn Rhieni; a Dledswydd y rhain yw bód ganddynt ûn galon, Naturiol. ac un meddwl: hyn y mae natur yn ei ddangos iddynt, gan ei bôd nhw yn gyfrannogion mewn môdd mwy arbennig o sylwedd ei gilydd, ac am hynny fe ddyle fôd ganddynt yr addfwynder a'r caredigrwydd mwyaf y naill tu ac at y llall; fal hyn y gwelwn ni Abraham yn ymresymmu, na ddyle bód ymryss [...]n rhyngddo ef a Lot oblegid brodyr oeddynt, Gen. 13.8. Ac er nad ydys yno yn medd wl wrth frodyr ond yn unic cefnderoedd, etto y mae hyn yn cadarnhau 'r péth yn well, sef y [Page 325] dyle 'r Carennydd nés ymma fôd yn achos o fwy rhwystr i ymrysson, ac hefyd fôd i'r caredigrwydd hwn gyrrhaeddid mewn rhyw fesur at bôb Carennydd o waed i ni.
2. Fe ddyle 'r addfwynder a'r Cariad hwn rhwng Brodyr a Chwiorydd fôd gwedi ei sylfaenu yn disigl yn ei Calonnau hwynt, onid-é fe fyddant hwy yn anad nêb; eraill mewn perigl o amrafaelio; oblegid fe fydd yr ymarweddiad gwastadol sydd rhyngddynt tra 'i bònt gartref yn nhŷ ei Tâd yn debyg i roi rhyw achos o ymrysson. Heblaw hyn y mae ei gogystadledd nhw, oblegid ei gwladoliaeth, yn gwneuthur iddynt yn fynych dueddu i genfigennu ei gilydd, pan dderchefir y naill mewn môdd yn y bŷd uwch law 'r llall. Fal hyn y gwelwn ni frodyr Joseph yn ei genfigennu ef, am fôd ei Dâd yn ei garu ef yn fwyaf, a Rachel oedd yn cenfigennu ei chwaer Leah am ei bód hi yn ffrwythlon; am hynny er mwyn gochelyd y cyfryw brofedigaethau, bydded gan y rhai, sydd ganddynt frodyr a Chwiorydd, wír a difrifol gariad iddynt gwedi ei sefydlu yn ei meddyliau, gan edrych arnynt megys rhan o honynt ei hunain, ac yna ni thybian nhw byth yn gymwys gwerylu a hwynt, na chenfigennu iddynt ei llywyddiant, mwy nag y cenfigenna ûn rhan o'r Corph lwyddiant y llall, ond a ymegniant i gynnorthwyo ac i osod ymlaen ddaioni ei gilydd.
[Page 326] Brawdgarwch-Ysprydol.3. Yr ail fáth o frawd-garwch yw 'r Ysprydol; mae hwn yn cynnwys y rhai ôll sydd yn proffessu 'r ûn ffŷdd a nyni: Y mae 'r Eglwys yn ein Bedydd yn dyfod i fôd yn fam i bôb ûn a fedyddir; ac yna yn ddiammeu y rhai sydd yn Blant iddi hi, sydd hefyd yn frodyr y naill i'r llall; ac y mae 'n ddyledus arnon ni i'r fáth ymma o frodyr hefyd lawer iawn o dynnerwch a chariad; fe ddyle Rhwymyn yfprydol Crefydd, yn anad yr ûn arall, ûno ein Calonnau ni fwyaf. Dymma 'r brawdoliaeth y mae St. Petr yn ein cynghori ni i'w garu; 1 Pet. 2.17. Ac i hwn yr ydyn ni yn rhwymedig mewn môdd enwedigol i wneuthur pób twrn da ar a allon ni; Gwnawn dda medd yr Apostol, i bób dyn ond yn enwedîg i'r rhai sy o deulu 'r ffydd; Gal. 6.10. Rhaid i'n hymysgaroedd ni fôd yn dynnerach tu ac attynt hwy yn ei hóll angenrheidiau na thu ac at néb arall; y mae Crist yn dywedyd i ni, Pwy bynnag a roddo ond phioled o ddwfr oer i un yn enw Discybl, ni chyll efe ei wobr, Mat. 10.42. O ba le ni a allwn ein siccrhau ein hunain fôd y Cariad neillduol hwn i Gristianogion, megis i Gristianogion, yn gymmeradwy iawn yn ei olwg ef.
Ein Dléd yw cadw cyfundeb, a'n Brodyr hyn.4. Fe ofynnir gennim ni amryw Ddledswyddau tu ac at y Brodyr hyn, un arbennig yw cadw cyfundeb a hwynt, a hynny yn gyntaf mewn Athrawiaeth; rhaid i ni barhau 'n ddibaid i gredu a phroffessu 'r holl wirionedd angenrdeidiol hynny, trwy ba rai y gellir ein nodi ni allan megys dilyn-wŷr a Discyblion i [Page 327] Grist; dymma 'r ffydd y mae St Judas yn són am dani, yr hon a rodded unwaith i'r Sainct, Jud. 3. trwy gadw pa ûn yr ydyn ni oblegid ein proffes, yn parhau 'n wastad mewn undeb a'r brawdoliaeth ysprydol hwn, yr hyn sydd raid i ni yn ddibaid wneuthur, er maint o demhestloedd ac o erledigaethau a fo 'n calyn, yn ôl cyngor yr Apostol, Heb. 10.23. Cadwn gyffes ein gobaith yn ddisigl. Yn ail, rhaid i ni hefyd ar bôb odfa gyfrannogi a hwynt mewn pôb swyddau sanctaidd; rhaid i ni fynych-gyrchu yn ddiwyd gymmanfáu 'r seinctiau, yr hyn yw megys arwydd hynod ein Proffes ni, ac am hynny y mae pwy bynnag a ymgeidw oddiwrthynt yn ewyllysgar, yn rhoi achos i ammeu ei fod ef yn barod i ymwrthod a'r llall hefyd. Ond ni a welwn fôd y Grstianogion cyntaf yn cadw yn fanwl y rhan ymma o gyfundeb, Act. 2.42. Yr oeddynt yn parhau yn Athrawiaeth yr Apostolion, a chymdeithas, ac yn torri bara, ac mewn Gweddiau: yr oeddynt yn parhau, a hynny yn ddiyscog, ni chythruddwyd monynt oddiwrth hynny trwy nebrhyw erledigaeth, er ei bód yn yr amseroedd hynny yn cael ei Prcfi a'r Penydiau tostaf; yr hyn a dichon ein dyscu ni, nad all yr enbydrwydd sydd yn dilyn y ddledswydd hon ein rhyddhau ni oddiwrthi hi
5. Yn ail, Cydddwyn a'i Gwendid. Rhaid i ni gyd-ddwyn a Gwendid ein Brodyr Cristianogawl, yn ôl cyngor St. Paul, Nyni y rhai cedyrn a ddylem ddwyn gwendid yr anghedyrn, Rhuf. 15.1. Os dychwel i ûn sydd yn dal holl angenrheidiol [Page 328] wirionedd Gristianogawl, mewn rhyw béth gyfeiliorni, ni wasanaetha i ni am hynny ymwrthod a'i gysundeb ef, na dirmygu ei berson ef. Hyn y mae St. Paul yn ei ddyscu i ni ynghyflwr y brawd gwann hwnnw yr hwn trwy dmryfusedd oedd yn petruso yn ddiachos ynghylch bwydydd Rhuf. 14. lle y mae fo'n gorchymyn i'r Cristianogion cedyrn, hynny yw, y rhai trwy gael ei haddyscu yn well, oeddynt yn dirnad ei fôd ef yn cam-synniad, etto i'w dderbyn ef er hynny i gŷd, ac nid ei ddirmygu ef; fal o'r tu arall, y mae fo'n gorchymyn i'r gwann na farno fo'r hwn sydd yn gadarnach; rhaid yw cyd-ddwyn o'r ddeutu a'r amryfuseddau lleiaf mewn tŷb, a gochelyd gadael iddynt leihau ein Cariad brawdol ni y naill tu ac at y llall.
Ei hadferu gwedi iddynt Gwympo.6. Yn drydydd, rhaid i ni ymegnío i adferu pôb brawd a gwympodd, hynny yw, ei ddwyn ef i edifeirwch, gwedi iddo gwympo i ryw bechod. Fal hyn y mae St. Paul yn gorchymyn i'r Galatiaid adferu 'r hwn a ddalwyd ar ryw fai, gan ystyried rhag ei temtio hwythau hefyd. Na edrychwn arno ef megys adyn, neu ún gwedi ei lwyr fwrw heibio, ac na ymorfoleddwn ychwaith trosto ef, oblegid ein diniweidrwydd ein hunain, fal y Pharisaead balch tros y Pwblican truan, Luc. 18.11. ymegníwn i edfrydu ef trwy fwyneidd-dra, gan gofio fód ein breuolder ninnau yn gyfryw nad ydyn ni yn ddiogel oddiwrth y cyfryw feiau.
Cyd-oddef a hwynt.7. Yn Bedwerydd, rhaid ini gyd-oddef a'n Brodyr hyn, trwy fod yn wîr deimladwy o béth bynnag a ddychwelo iddynt, naill a'i fel [Page 329] yr ystyrir hwynt mewn cyfeillach, ac felly y maent yn gwneuthur i fynu Eglwys; a honno naill ai'r gyffredinol, yr hon a wneir i fynu o'r holl ffyddloniaid yn y bŷd, neu ynteu ryw Eglwys neillduol, yr hon a wneir i fynu o'r holl ffyddloniaid yn y genhedl neillduol honno; a pha béth bynnag a ddychwelo i'rún o'r rhain, naill ai'r holl Eglwys yn gyffredinol, neu ún cyfryw ran neillduol o honi hi, yn enwedig honno o ba ún yr ydyn ni ein hunain yn aelodau, rhaid i ni fód yn wir deimladwy o honaw, llawenychu yn ei holl lwyddiant hi, a galaru ac a ymofidio am ei holl ddifrawd a'i rhwygiadau hi, a gweddío beunydd ac yn ddifrifol gydá Dafydd, Psal. 51.18. Bydd dda wrth Sion o herwydd dy ewyllyfgarwch, adeiliada di furiau Jerusalem; a hynny yn enwedig pan welon ni hi mewn helbul ac erledigaeth. Pwy bynnag nid yw fal hyn yn deimladwy o gyflwr yr Eglwys nid ellir edrych arno megys aelod bywiol o honi hi; canys megys yn y Corph anianol, y mae pób aelod yn deimladwy o lwyddiant y cyfan, felly yn ddiammeu y mae ymma; Ystyriaeth y Psalmydd oedd, fód gweision Duw yn h [...]ffi meini Sion, ac yn tosturio wrth ei gweled hi yn y llwch, Psal. 102.14. Ac yn ddiammeu y mae ei hôll weision ef etto o'r ún meddwl, ni allant edrych ar ddinistr a difrawd yr Eglwys, heb y gofid a'r galar mwyaf. Yn ail rhaid ini gyd-oddef gyda'n Brodyr, wrth ei hystyried nhw, megys dynion neillduol; Rhaid ini ein cyfrif ein hunain megys a pherthynas ini ymmhób rhyw neillduol Gristion, yn gymmaint ac i gyfrannu gydág ef yn ei holl achosion naill ai o lawenydd neu o [Page 330] dristwch. Fal hyn y mae'r Apostol yn cynghori, Rhuf. 12.15. Byddwch lawen gyda'r llawen, ac wylwch gyda'r wylofus: a thrachefn, 1 Cor. 12.26. tan gyffelybrwydd y Corph naturiol y mae fo'n gosod ar lawr y Ddledswydd hon, os dioddefa ún aelod, yr holl aelodau a gyd-ddioddefant, neu os anrhydeddir ún aelod, yr holl aelodau a gyd-lawenhânt. Yr holl amryw effeíthiau hyn o gariad sydd yn ddledus arnon ni i'r brodyr Ysprydol hyn. A dymma'r Cariad hwnnw y mae Crist yn ei wneuthur yn arwydd hynod o'i Ddiscyblion ef, Jo. 13.35. Wrth hyn yr adnebydd pawb eich bód yn Ddiscyblion i mi, os bydd Cariad rhwng pawb o honoch a'i gilydd; felly onid oes yn ein brŷd ni fwrw heibio bód yn Ddiscyblion i Grist, na esgeuluswn y Cariad ymma tu ac at ein Brodyr.
Y mae'r Wraig yn dylu i'r Gwr.8. Y Trydydd Perthynasrwydd ydyw hwnnw rhwng Gwr a Gwraig: y mae hwn yn nês o llawer na'r ún o'r lleill, fal y mae'n eglur trwy'r Testyn hwnnw, Eph. 5.31. Dyn a ymedu a'i Dâd ac a'i Fam, ac a lyn wrth ei wraig, ac hwynt hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. Y mae amryw Ddledswyddau yn ddledus ar bób ún o'r ddau hyn i'w gilydd: ac yn gyntaf am y Wraig y mae'n ddledus arni hi Ʋfydd-dod. Ufydddod. Hyn a orchymynnir gan yr Apostol, Col. 3.18. Y Gwragedd byddwch ostyngedig i'ch gwyr priod, megys y mae yn weddaidd yn yr Arglwydd. Rhaid iddynt roddi Ufydd-dod i'w Gwŷr priod yn yr Arglwydd; hynny yw, mewn pób Gorchymynion cyfreithlon, oblegid onid-ë, rhaid yw ymma (megys y traethwyd o'r blaen am [Page 331] Swyddogion) ufyddhau Duw yn hyttrach na dŷn, ac ni raid i'r Wraig wneuthur ar archiad ei Gŵr ddim ar y mae Duw yn ei wahardd. Ond mewn pób péth nad yw yn gwrthwynebu Gorchymyn Duw, y mae'r gorchymyn ymma mewn grym, ac a wasanaetha i euogfarnu ystyfnigrwydd difiog llawer gwragedd, y rhai a wrthwynebant Orchymynion cyfreithlon ei Gwŷr, yn unic oblegid ei bód nhw yn annoddefus o'r Ddledswydd hon o ddarostyngeiddrwydd, yr hyn y mae Duw ei hún yn ei ofyn ganddynt. Ond fe ellir gofyn ymma, béth os gorchymyn y gŵr ryw béth, yr hwn, er nad yw yn anghyfreithlon, etto sydd yn anweddaidd iawn, ac yn ammhwyllog, a raid i'r Wraig ymddarostwng i'r cyfryw Orchymyn? I hyn mi a attebaf, nad anufydd-dod a fydd ynthi hi, ond Dledswydd, ddangos iddo ef yn llaryaidd ac yn dawel anghymmwysdra 'r péth, a'i annog ef trwy dêg i alw yn ól y gorchymyn hwnnw; ond os hi ni ddichon ei ennill ef i hynny trwy erfynion têg, ni wasanaetha iddi hi brofi araith arw, nag etto yn hollawl wrthod Ufyddhau, gan nad oes dim ond anghyfreithlonrwydd y gorchymyn a ddichon fod yn ddigonol warant iddi hi am hynny.
9. Yn ail, Ffyddlondeb. y mae'n ddledus ar y Wraig ffyddlondeb i'w Gwr, a hynny o ddau fâth; yn gyntaf, y Ffyddlondeb a berthyn i'r gwely, rhaid iddi hi ei chadw ei hún yn ddihalog ac yn ddiwair oddiwrth bób cofleidiad dieithr, ac am hynny rhaid iddi wilied cymmaint a gwrando ar néb a chwennycho ei llithio hi, ond bwrw heibio a'r dygn-gâs mwyaf bób cyfryw [Page 332] ddeisyfiadau, a gochelyd byth roddi i'r cyfryw ún yr achlysur lleiaf i wneuthur yr unrhyw erfyniad trachefn. Yn ail, y mae'n ddyledus arni hi yr ún wédd ffyddlondeb yn trefnu'r pethau bydol hynny y mae'r gŵr yn ei rhoddi tan ei dwylo hi, rhaid iddi hi felly ei trefnu hwynt, fal y bo mwyaf er llesháad i'w Gŵr; ac nid trwy ei dwyllo a'i siommi ef arferu ei dda ef i'r cyfryw ddefnyddian nad yw ef fodlon idydnt.
Cariad.10. Yn Drydydd, y mae Cariad yn ddyledus arni hi iddo ef, a chydá hynny bób cynnwynasgarwch a llaryeidd-dra o ymarweddiad: rhaid iddi hi ymegnío i ddwyn cymmaint o gymmorth iddo, ac o gyssur yn ei fywyd, ac yw bossibl, módd y gallo hi trwy hynny atteb y diben arbennig hwnnw o greadigaeth Gwraig, séf, i fód yn gynnorthwy i'w gwr, Gen. 2.13. A hyn sydd raid iddi hi ei wneuthur iddo ef ymmhób cyflwr, pa ún bynnag a'i iechyd ai clefyd, cyfoeth ai tlodi, neu pa gyflwr bynnag arall a ŵel Duw yn dda yn ei ragluniaeth ei osod ef yntho. Llwyr wrthwyneb i hyn yw pôb Sarrugrwydd a Surni, pôb cynnen ac anniddigrwydd, oblegid y mae hynny yn gwneuthur y Wraig yn faich trwm ac yn bla i'r gŵr yn lle cymmorth a diddanwch: Ac yn ddiammeu os yw yn fai i ddŷn ei ymddwyn ei hún tu ac at arall felly, fal y dangoswyd yn barod, mwy o lawer yw i ún wneuthur felly tu ac atto ef, i ba ún y mae'r Cariad a'r addfwynder mwyaf yn ddledus.
[Page 333]11. Ac na thybied y cyfryw Wragedd y dichon beiau na throsseddau yn y bŷd yn y gŵr gyfiawnhau ei hystyfnigrwydd hwynt; oblegid ni wnánt, os ystyrir na Chrefydd, na phwyll. Nid o ran Crefydd, canys lle y gorchymynnodd Duw yn bendant ryw Ddledswydd i'w thalu, ni ddichon annheilyngdod dŷn yn y bŷd esgusodi oddiwrth hynny; nac o ran Pwyll ychwaith; oblegid po gwaethaf a fo'r gŵr, rheitiaf gwbl i'r wraig ei hymddwyn ei hún yn addfwyn ac yn llaryaidd, oblegid fe ddichon hynny ei ennill ef. Dymma'r cyngor a roddes St. Petr. i wragedd yn ei amser ef, 1 Pet. 3.1. Bydded y Gwragedd ostyngedig i'w gwyr priod, fel y galler os bydde rhai yn anufydd i'r gair, trwy ymarweddiad diwair y gwragedd ei hennill hwynt heb y gair. Fe dybiid fód ymddygiad da'r gwragedd yn foddion galluog i ennill dynion o Baganeiddrwydd i Gristianogrwydd; ac yn ddiammeu fe fydde rai ffrwythau da o hyn yn yr oes hon, pe bydde gyn y gwragedd gymmaint o ammynedd ac i brofi hyn: O'r lleiaf fe fydde hyn, fe gadwei béth diddigrwydd mewn teuluoedd, lle o'r tu arall y mae y ffrwythau drŵg o anniddigrwydd y gwragedd mor hynod, nad oes ond ychydig o gymydogaethau na ddichon roddi Esampl o hyn. Pa sawl ún sydd yr hwn er mwyn gochelyd trŵst gwraig ffromm a syrthiodd i gadw Cwmpeini, a thrwy hynny i feddwdod, tlodi, a lliaws o ddrygau? Gocheled pób Gwraig gan hynny, roddi'r temtasiwn hwn. Ond pa brŷd bynnag y dychwelo rhyw beth, yr hyn y dyle hi, o wîr garedigrwydd i'w gŵr, ei rybuddio ef o'i blegid [Page 334] gwnaed hynny a'r cyfryw fwynder a llaryeidddra, fal yr ymddangoso, mae cariad ac nid digofaint sydd yn gwneuthur iddi hi Siarad.
12. Y mae hefyd amryw Ddledswyddau ar ran y Gwr; Mae'r Gwr yn dylu i'r Wraig, Cariad. megys yn gyntaf, Cariad, yr hyn y mae St. Paul yn gorchymyn i fôd yn dyner ac yn dosturiol tu ac at y Wraig, fal y mae'n eglur trwy'r cyffelybiathau y mae fo yn ei arferu i'r diben hwn, Eph. 5. Un yw o'r Cariad sydd gan ddŷn i'w gorph naturiol ei hûn, Ni chasáodd néb erioed medd ef, gwer. 29. ei gnawd ei hûn, eithr ei fagu a'i faethu ef. Y llall yw o'r Cariad sydd gan Grist tu ag at ei Eglwys; yr hwn sydd yn fwy o lawer, gwers, 25.26. Pob ûn o'r rhain y mae fo'n ei osod ar lawr megys Esampl o'r Cariad a ddyle fôd gan wŷr tu ac at ei Gwragedd. Y mae hyn yn hollawl yn gwahardd pób creulonder a garwder iddynt; fe ddyle gwŷr ei harferu hwynt megys rhannau o honynt ei hunain, a'i caru nhw megys ei cyrph ei hunain ac felly gochelyd gwneuthur dim a fo trallodus na niweidiol iddynt, mwy nac y torren neu y rhwygen nhw ei cnawd ei hunain. Ystyried y gwŷr hynny sydd yn meistroli ei gwragedd yn greulon, a phrin yn ei harferu nhw fal dynol ryw, ai ei caru hwynt fal ei Cyrph ei hunain yw hynny.
Ffyddlondeb.13. Ail Ddledswydd y Gwr yw ffyddlondeb i'r gwely. Hyn y mae Duw yn ei ofyn yn gystal gan y gŵr, a'r wraig; ac er bód y bŷd gan mwyaf yn edrych ar drosseddiad y Ddledswydd hon a llai diflaswch a ffieidd-dra yn y gŵr, etto ger bron y Barnŵr cyfiawn ni ymddengys [Page 335] y trosseddiad ddim llai ar du'r gŵr na'r wraig. Hyn sydd siccr fód hynny ymmhób ún o honynt yn drosseddiad o'r adduned a wnaethant hwy i'w gilydd yn ei Priodas, ac felly heb law'r Aflendid, yn anudonedd hynod; ac nid yw y rhagoriaeth sydd yn ei wneuthur ef i edrych yn llai yngolwg dynion ond oblegid ystyriaeth bydol, yn hyttrach nac o herwydd y pechod ei hun.
Cynnhaliaeth.14. Trydydd Ddléd y Gwr yw darparu a chasclu cynnhaliaeth i'r wraig. Rhaid iddo ef adael iddi hi gyfrannu gydag ef yn yr holl bethau daionus hynny oddiallan, a'r rhai y bendithiodd Duw ef, ac nid trwy grintachrydd attal oddiwrthi hi y péth a fo cymwys iddi hi, nag ychwaith trwy afradlonrhwydd treulio felly ei dda, fal nad allo ef rhag llaw ei chynnal hi. Y mae hyn yn ddiau yn ddléd ar y gŵr, yr hwn gan ei fod, fal y dywedwyd o'r blaen, i gyfrif ei wraig megys rhan o'i gorph ei hun, rhaid yw bód gantho ef yr unrhyw ofal i'w chynnal hi, ac y sydd gantho ef trosto ei hun. Ond nid ydwyfi'n meddwl wrth hyn escusodi 'r wraig oddiwrth ei rhan hithau o lafur a diwydrwydd, pan fo hynny yn angenrheidiol, gan mae anrhesymmol yw i'r Gŵr lafurio yn galed i gadw'r Wraig mewn seguryd.
15. Yn bedwerydd, Addysg. rhaid i'r Gŵr addysgu'r wraig, yn y pethau a berthyn i'w hawddfyd tragywyddol hi, os bydd hi yn anhyspys o honynt. Felly y mae St. Paul yn peri i'r gwragedd ddysgu gan ei gwyr gartref, 1 Cor. 14.36. ac os [Page 336] felly, yna rhaid i'r gŵr ei haddyfgu hi. Yn wîr fe berthyn i bób penteulu wneuthur ei oreu ar fód i bawb tan ei siars ef gael ei haddysgu mewn pób péth angenrheidiol o'r fáth hyn, ac yna yn ddiammeu yn fwy enwedig ei wraig, yr hon sydd yn nês iddo ef o lawer na'r lleill i gŷd. Fe ddyle hyn wneuthur pobl yn ofalus i geisio gwybodaeth ei hunain, módd y gallont gwplhau 'r Ddledswydd hon tu ac at eraill.
Gwyr a gwragedd i wedd io tros, ac i gynnorthwyo y naill y llall ymmhob Daioni.16. Yn ddiweddaf, rhaid i wŷr a gwragedd Weddio, ac erfyn pób rhyw fendithion yn gystal Ysprydol ac Amserol, y naill tros y llall, ac ymegnío hyd yr eithaf o'i gallu i wneuthur pób daioni i'w gilydd, yn enwedig i Eneidiau 'i gilydd, trwy annog i gwplháad Dledswydd, a lluddias a thynnu yn ól oddiwrth pób pechod, a thrwy fod fel gwîr iau-gymdeithion yn gymmorth i'w gilydd, i wneuthur pôb máth ar ddaioni yn gystal i'w ei teulu ei hún ac i bawb eraill o fewn ei cyrrhaeddiad hwynt. Hyn yn anad dim arall yw'r Cariad cywiraf a'r gwerthfawroccaf. Ié yn wîr pa fodd y gellir dywedyd fòd ganddynt fáth yn y bŷd ar gariad y rhai a ddichon oddef i'w gilydd yn fodlon redeg ymlaen mewn ffordd a'i dŵg hwynt i drueni tragywyddol? A phe bydde Cariad gwŷr a gwragedd fal hyn gwedi ei sylfaenu mewn Rhinwedd a Chrefydd, fe wnai hynny ei bywyd nhw yn fáth ar Nêf ar y Ddaiar; fe rag-flaenei'r holl ymryssonau a'r amrafaelion hynny sydd mor gyffredinol yn ei mŷsg hwynt, y rhai yw dirfawr bláau teuluoedd, a'r Uffern leiaf yn yr ymdaith i'r fwyaf; ac yn wîr lle nid yw efe fal hyn gwedi ei sylfaenu, nid oes [Page 337] ond ychydig gyssur i'w ddisgwyl mewn priodas.
17. Fe ddyle pôb dŷn gan hynny a'r sy'n bwriadu myned i'r cyflwr hwn ystyried yn ddarbodus ymlaen llaw, a dewis ún, a pha ún y gallo ef gael y gymdeithas Ysprydol hon, hynny yw, y cyfryw ún ac sydd ýn gwîr ofni Duw. Y mae amryw gau-ddibennion Priodas yn y bŷd: rhai yn priodi o ran Cyfoeth, eraill o ran Glendid, ac yn gyffredinol rhyw gyfleusdra bydol yn unic yw'r cwbl a ystyrir; ond yr hwn a briodo fal y dyle, a ddylei ddychymmig pa fôdd i wneuthur ei Briodas yn fuddiol i'r dibennion gwell hynny o wasanaethu Duw, a chadw ei Enaid ei hûn; o'r lleiaf fe ddyle fôd yn siccr na bo'r cyflwr hwn yn rhwystr iddynt, ac i'r pwrpas hwnnw y mae Rhinwedd y néb a ddewisir yn fwy buddiol na hôll olud y bŷd, er nad wyf fi yn dywedyd, na ddylid hefyd edrych am gymmedrolder o hwnnw.
18. Ond o flaen dim, bydded i bawb ofalu na wnelont y cyfryw Briodasau, ac nid yn unic a all ddamwain i fôd yn ddrŵg rhag llaw, ond sydd yn bechodau yn y cyfamser; o'r fath hyn yw Priodasau 'r rhai a addawyd o'r blaen i ún arall, y rhai yn ddiammeu ydynt yn perthyn i'r néb y gwnaethant hwy'r addewid cyntaf iddo; ac yna i ún arall ei Priodi hwynt tra'i bo hwnnw byw, nid yw ddim amgenach na chymmeryd gŵr neu wraig y cyfryw ún, yr hyn yw godineb, fal y dywed St. Paul Rhuf. 7.3. Anghyfreithlon hefyd yw Priodasau'r cyfryw [Page 338] rai ac sydd o fewn y graddau hynny o garennydd a waherddir gan Dduw, y rhai i osodir ar lawr yn neillduol yn y 18, a'r 20. o Levit. ac y mae pwy bynnag a briodo ún o fewn y graddau hynny o garennydd, naill a'i iddo ei hun, neu'i wraig o'r blaen, yr hyn sydd cyn-ddrwg, yn gyneuthur y pechod mawr hwnnw o Drallosgach, a thra'i parhâo fo i fyw gydá 'r cyfryw wraig anghyfreithlon, y mae fo'n aros yn yr euogrwydd gresynol hwnnw. Yr astudrwydd hwn yn dewis cymmar a attaliai lawer o'r ffrwythau gresynol hynny a welwn ni beunydd yn dilyn y cyfryw briodasau byrbwyll neu anghyfreithlon; da fydde gan hynny pe edrychei pobl ar Briodas, fal y mae ein Heglwys ni yn cynghori, megys péth nid i'w gymmeryd mewn byrbwyll, o yscafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn digoni deisyfiad a chwantau cnawdol; eithr yn barchedig, yn bwyllog, yn sobr, ac mewn ofn Duw; ac yn gwneuthur felly nid oes ammeu na bydd bendith yn calyn, yr hyn os amgen nid oes ond achos bychan i'w ddisgwyl. Fe ddarfu i mi bellach a'r Carennydd hwnnw rhwng Gŵr a Gwraig.
Cyfeillach.19. Y nessaf yw rhwng Cyfeillion; ac y mae'r perthynasrwydd hwn, os iawn ystyrir ef yn agos iawn ac yn dra-defnyddiol; ond nid oes yr ún a gam-gymmerir fynychach yn y bŷd na hwn; y mae dynion yn arfer o alw' rheini yn gyfeillion iddynt a pha rai y byddant fynychaf a chynnefinaf yn ymarweddi, er dychwelyd i'r cynnefindra cú hwn fod dim ond cyttundeb a chydsynniad mewn pechod. Y mae'r Meddwyn yn ei dybied ef yn garedigol yr hwn a gadwo [Page 339] gymdeithas ac efo; y dyn twyllodrus, yr hwn a'i cynnorthwya ef yn ei ddichellion; y dyn balch, yr hwn a'i gwenhieithio ef: Ac felly yn gyffredinol ymmhób rhyw ddrygau, y rhai hynny a edrychir arnynt megys cyfeillion anwylaf y rhai a'n helpa ni ymlaen ynddynt. Ond fe ŵyr Duw fód hyn ymmhell oddiwrth wîr gyfeillach; y cyfryw gyfell a hyn yw'r Cythrel ei hún yn y rádd uchaf, yr hwn nid yw ún amser yn ddiffygiol yn y cyfryw swyddau. Y gwîr gyfeillach ydyw ún yn union yn y gwrthwyneb; sef cydsynniad a chyttundeb mewn Rhinwedd, ac nid mewn pechod: mewn gair, y mae gwîr gyfaill yn caru ei gyfaill felly, yn gymmaint ac i fod yn drachwannog o'i ddaioni ef; ac yn ddiammeu pwy bynnag sydd fal hyn, ni bydd ef bŷth yn achos o'i ddwyn ef i'r drygau mwyaf. Dledswyddau Cyfeillach yw. Dledswydd cyffredinol cyfell gan hynny a grynhoir mewn diwyd gynllwyniad gwîr fudd a llesháad ei gyfaill, ymmha ûn y cynnhwysir amryw rannau neillduol.
Ffyddlondeb.20. Megys yn gyntaf ffyddlondeb mewn pób rhyw ymddiried a orchymynnir iddo ef gan ei gyfaill, a hynny pa ûn bynnag ai o dda, neu o ddirgelwch; yr hwn a fradycho ymddiried ei gyfaill, yn y' rûn o'r rhain, fe fydd pôb dŷn yn ei gashau ac yn ei ffieiddio ef, gan mae ûn o'r ffalsder a'r anffyddlondeb mwyaf yw hynny, ac oddiwrth y cyfryw archollion twyllodrus y ffy pób cyfaill ymmaith, fel y dywed y Gŵr doeth, Ecclus. 22.25.
[Page 340] Cymmorth.21. Yn ail, Dléd cyfaill yw cymmorth ei gyfaill yn ei holl angenrheidiau oddiallan; ei gynghori ef, pan fo arno eisieu cyngor; ei lonni ef, pan fo arno ef eisieu cyssur; rhoddi iddo, pan fo arno ddiffyg porth; ac ymegnío i'w wared ef allan o bób helbul, neu enbydrwydd. Esampl ragorol sydd i ni o hyn yn Jonathan tu ac at Ddafydd, yr oedd ef yn ei garu ef fal ei enaid ei hun, ac ni a'i gwelwn ef nid yn unic yn llunio módd i'w amddiffyn ef pan oedd ef mewn enbydrwydd, ond yn ei beryglu ei hûn ei achub ac i waredu ei gyfaill, ac yn dwyn digofaint ei Dâd arno ei hûn, er mwyn ei dynnu ef oddiwrth Ddafydd, fal y darllennir yn helaeth, 1 Sam. 20.
Rhybudd a Chyngor.22. Y Drydydd Ddledswydd cyfaill a'r fwyaf yw cymmorth a gwneuthur llesháad i Enaid ei gyfaill, ymegnío i osod hwnnw ymlaen mewn Duwioldeb a Rhinwedd, trwy bób rhyw foddion ar a allo, séf trwy annog a chyffroi i bób rhinwedd, ei droi ef yn daer ac yn ddifrifol oddiwrth bób pechod, ac nid hynny yn unic yn gyffredinol, ond yn ól ei angenrheidiau neillduol ef, trwy ei argyoeddi ef yn llymm ac yn gariadus, lle y gwypo ef, neu y tybio fo mewn rheswm iddo ef wneuthur arfai. Hyn yn anad dim yw gwîr arbennig Ddledswydd cyfaill, gan nad oes néb yn wîr yn gymwys i hynny ond y cyfryw ûn. Y mae'r cyfryw anewyllysgarwch yn y rhan fwyaf o ddynion i glywed són am ei beiau, a bód yn rhaid i'r néb a gymmero'r gwaith hwn arno fód gwedi rhagfeddiannu ei calonnau hwynt yn ddirsawr, [Page 341] er mwyn ei gwneuthur hwynt yn oddefus o hynny: ié, fe gydnabyddir mor gyffredinol mae priodol waith cyfaill yw argyoeddi, yn gymmaint ac os ommedda fo hynny, y mae fo'n bradychu y trossedd-ŵr i ddiofalwch: fe wná ei fód ef heb argyoeddi, i'r llall feddwl ond odid nad yw efe yn gwneuthur dim a haedda argyoeddiad, ac felly y mae fo tan dewi yn chwareu'r gwenhieithi-wr, trwy ei achlesu a'i druthio ef yn ei bechod; pan ystyrir etto ymmhellach faint o eifieu'i gynghori a'i argyoeddi sydd ar bób dŷn ar ryw amser, fe welir mae péth anghariadus, ie creulon iawn yw esgeuluso hynny; y mae gennin ni'r cyfryw dueddiad naturiol tu ac attom ein hunain, na fedrwn ni amgyffred mor barod ein camweddau ein hunain, a'r eiddo eraill, ac am hynny traangenrheidiol yw i ni, gael gan rai eraill ei dangos hwynt i ni, y rhai sydd yn ei canfod hwynt yn eglurach; a gwneuthur hyn ar y cyntaf a ddichon lestr i ún ei amlhau hwynt ymhellach; lle os cynnhwysir i ni fyned ymlaen heb ein hargyoeddi, fe a ddigwydda'n synych yn gyfryw gynnefin arfer, na wná ceryddion i ni mo'r llesháad. Ac yna pa fódd y dichon y cyfryw ún atteb am hyn nag i Dduw, nag iddo ei hún, yr hwn trwy ei ddistawrwydd a fradychodd ei gyfaill i'r drŵg mawr hwn? Gair Duw ei hún yw yn traethu am gyfaill, Dy gyfaill yr hwn sydd fal dy enaid dy hun, Deut. 13.6. Ac yn wîr ni a ddylen yn hyn gyfrif ein cyfeillion fal ein heneidiau ein hunain, trwy fód gennini yr unrhyw dynnerwch eiddigus a gofal tros ei heneidiau hwynt, ac sydd gennini tros ein heiddo ein [Page 342] hunain. Cymwys iawn gan hynny a fydd i bób rhai a fo gwedi ei rhwymo ei hunain mewn anwyl gymdeithas wneuthur hyn yn ún pwngc arbennig yn ei cyttundeb, séf, bód iddynt rybuddio ac argyoeddi y naill y nall; ac felly fe ddigwydda hyn i fód yn gyfryw ran addunedus o'i cyfeillach hwynt, na cham-gymmera 'r ûn o honynt yr argyoeddiad hwn am sarrugrwydd neu anghardigrewydd.
Gweddi.23. Yn Bedwerydd, rhaid yw anghwanegu Gweddi at yr amryw rannau hyn o fwyneidddra; nid digon i ni gymmorth ein cyfeillion ein hunain i'n gallu, ond rhaid i ni alw hefyd am gymmorth yr Holl-alluog iddynt, trwy ei taer orchymyn hwynt i Dduw am ei holl fendithion, yn gystal amserol ac Ysprydol.
24. Yn ddiweddaf, rhaid i ni fôd yn Ddiysgog yn ein Caredigrwydd, Bód yn Ddiysgog. ac nid o wîr ysgafndra meddwl blino ar gyfaill, yn unig oblegid ei fód ef gennin ni yn hir. Y mae hyn yn anghyfiawnder mawr tu acc atto ef, yr hwn os ymddygodd ef ei hún yn dda, a ddyle gael gwneuthur mwy cyfrif o hono, po hwyaf y parháodd ef felly: Ac y mae hyn yn ynfydrwydd mawr ynom ein hunain, oblegid nid yw hyn ond bwrw ymmaith y tryssor mwyaf yn y bŷd hwn, canys y cyfryw yn ddiammeu yw Cyfaill profedig. Y mae 'r doethaf o ddynion yn rhybuddio am hyn, Dihar. 27.10. Nag ymado a'th gydymaitb dy hún, na chydymaith dy Dâd. Ié ymmhellaeh, ni ddyle pób camwedd gwael dy gyfail wneuthur i ti ymado a'i gymdeithas ef, rhaid yw cyd-ddwyn [Page 343] péth a gwendid dynion, ac os bydd i ti achos i faddeu iddo fo ryw béth heddyw, fe all ynteu ysgatfydd gael odfa i dalu hynny yn ôl i ti y foru; am hynny ni ddyle dim ond anffyddlondeb, neu ryw fai tra-echryslon dorri y rhwymedigaeth hwn.
25. Y Perthynasrwyd ddeweddaf sydd rhwng Meistraid a Gweision, ac y mae ar bôb ûn o'r rhain Ddledswydd i'w gilydd: Y Gweslon yn dylu i'w meistraid, Ufydd-dod. Y Cyntaf o eiddo 'r Gwâs yw Ʋfydd-dod i bób Gorchymynion cyfreithlon; hyn a ofynnir yn bendant gan yr Apostl, Col. 3.22. Y Gweision ufyddbewch i'ch meistred ymmhób dim, &c. Ac ni wasanaetha i'r ufydd-dod hwn fôd yn ún gwrwnachus anfodlon, ond yn ewyllysgar ac yn llawen, megys yr â fo ymlaen i gynghori, gan wneuthur gwasanaeth trwy ewyllys da; ac i'w helpu nhw yn hyn, ystyrian mai i'r Arglwydd y mae hynny ac nid i ddynion; Duw a orchymynnodd i weision fal hyn, ufyddhau i'w meistred; ac am hynny yr Ufydd-dod y maent yn ei dalu sydd i Dduw, ac y mae hyn yn ddigon i beri iddynt wneuthur hynny yn surriol, er mor sarrug ac annheilwng a fo 'r Meistr, yn enwedig os ystyrir ymmhellach béth y mae 'r Apostol yn yn ei ddywedyd Eph. 6.8. y derbyn ef wobr gan Dduw am hynny.
26. Ail Ddledswyd gwas yw ffyddlondeb, Ffyddlondeb. a hwnnw sydd o ddau fáth; ûn yngwrthwyneb i lygad-wasanaeth, a'r llall i dwyll a hocced. Y rhan gyntaf o ffyddlondeb yw gwneuthur pób gwasanaeth cywir i'w feistr, nid yn unig pan fo ei olwg arno ef, a phan ddisgwylio ef gerydd am ei esgeulusdra, ond bób amser, iè [Page 344] pan ni bo'i feistr yn debyg i ganfod ei faî ef; ac y mae 'r gwâs hwnnw, ymmhell oddiwrth fód yn wenidog ffyddlon, yr hwn ni wná gydwybod o hyn; Y mae 'r Apostol yn gosod y llygad-wasanaeth ymma yn gwrthwyneb i'r symlrwydd calon hwnnw, a ddisgwyhr gan weision, Eph. 6.5. yr ail fath ar ffyddlondeb yw trefnu a goruchwylio yn onest bób béth a ymddiriedir iddo gan ei feistr, peidio a cham-dreulio ei dda ef (fal y dywedir i'r goruchwyliwr anghyfiawn wneuthur, Luc. 16.) pa ún bynnag a'i trwy ei afradloni nhw yn ddiofal, neu droi dim o honynt i'w berchenogaeth ei hún heb gennad ei feistr, yr hyn yw 'r twyll hwnnw y mae 'r Apostol yn rhybuddio gweision o'i blegid, Tit. 2.10. Yr hyn nid yw yn wîr ddim amgenach na lledrad; o'r fáth hyn yw 'r holl ffyrdd hynny sydd gan y gwenidog i ennill iddo ei hun trwy golledi ei feistr, megys trwy dderbyn gwobr er gwneuthur drŵg-farchnad trosto ef, a'r cyffelyb: Ié, yn wîr y mae 'r cyfryw anffyddlondeb a hyn yn waeth na lledrad cyffredinol, o gymmaint ac yr ymddiriedir mwy iddo ef, ac y mae bradychu 'r ymddiried hwnnw yn anghwanegu 'r bai. Am y fàth arall o anffyddlondeb, sef treulio ei dda ef o esgeulusdra, heb ennill dim iddynt ei ei hunain, nid oes fawr ragor rhyngddo ef a'r llall, gan y dichon y meistr golli cymmaint y naill ffordd a'r llall, ac yna pa ragor iddo ef gael ei yspeilio trwy gybydd-dra neu esgeulusdra ei wenidog? Ac y mae hyn yn torri ymddiried yn gystal a'r llall; canys y mae pôb meistr yn ymddiried ei orchwylion yn gastal i [Page 345] ofal ac i onestrwydd ei wâs: Oblegid pa lês i'r meistr fód yn siccr, nad yw ei wâs ef ei hún yn ei dwyllo ef, pan yw ef yn y cyfamser trwy ddiofalwch yn rhoddi odfa i eraill i wneuthur hynny; y mae gan hynny yr hwn nid yw yn edrych yn ofalus am fûdd ei feistr, yn gwneuthur twyll trwy ymddiried, iyn gystal a'r hwn a gascla 'n anghyfiawn iddo ei hûn.
Llaryeidd-dra. tan Argyoeddion.27. Trydydd Ddledswydd gŵas yw ammynedd a llaryeidd-dra tan argyoeddion ei feistr, heb ail-ddywedyd, fal y cynghora'r Apostol, Tit. 2.9. hynny yw, heb roddi 'r cyfryw attebion sarrug diwybod, ac a anghwanega ddigofaint y meistr. Péth rhy gynnefin ymysg gweision, iè yn yr argyoeddion cyfiawnaf; lle y mae St. Petr, yn ei cynghori nhw i ddioddef yn ammyneddgar y ceryddon ni bónt yn ei haeddu, sef pan fónt yn gwneuthur yn dda, ac yn goddef er hynny, 1 Pet. 2.20. Ond nid goddef argyoeddion yn ammyneddgar yw 'r cwbl a ofynnir gan weision yn hyn ymma, rhaid iddynt hefyd ddiwygio 'r bai yr argyoeddir hwynt o'i blegid, ac nid tybied iddynt wneuthur digon, gwedi iddynt (er mor ostyngedig) wrando ar ei meistr.
28. Pedwerydd Ddledswydd gwâs yw Diwydrwydd: Diwydrwydd. rhaid iddo ef yn wastad wilied ar hôll Ddledswyddau ei le, heb ymroi i ddiogi a syrthni, nag ychwaith i gadw ofer-gyfeillach, na chwaryddiaeth, nag unrhyw gwrs afreolus arall, yr hyn a dichon ei dynnu ef ymmaith oddiwrth achosion ei feistr. Y mae hyn oll yn Ddledswyddau angenrheidiol ar [Page 346] wâs y rhai sydd raid iddo ei cwplhau yn ofalus ac yn gydwybodus nid cymmint er mwyn gochelyd digofaint ei feistr, a Duw, yr hwn yn ddiammeu eilw ar bòb ún o honynt i gyfrif, pa fodd yr ymddygasant hwy tu ac at ei meistred daiarol.
29. Y mae hefyd ar tu arall rai pethau yn ddyledus ar y Meistred tu at ei Gweision: Meistraid yn dylu i'r Gweision, Gyfiawnder. megys yn gyntaf, y mae 'r meistr yn rhwym i fòd yn gyfiawn tu ac attynt, yn cyflawni 'r ammodau hynny ar ba rai y llogwyd ef, y cyfryw yn gyffredinol yw rhoddi iddynt ymborth a chyflog, ac y mae 'r meistr hwnnw a attallio y rhai hyn yn Orthrym-ŵr.
Cyngor.30. Rhaid i'r meistr Gynghori ac argyoeddi ei wâs am ei fai, a hynny nid yn unic am feiau yn ei erbyn ei hún, lle nid oes ond ychydig feistred yn ddiffygiol, ond hefyd ac yn fwy enwedig am feiau yn erbyn Duw, o achos pa rhai y dyle dôb meistr ei gythrwblio ei hún yn fwy nag am feiau sydd yn unig yn tueddu at ei golled neu 'i anghyfleusdra ei hûn, gan yr haedda ddianrhydedd Duw, ac enbydrwydd Enaid y gwaelaf o ddyn, ein cythryfwl ni yn fwy o anfeidrol, na dim arall. Ac am hynny pan fo meistred yn ebrwydd ar dân am ryw esgeulusdra bychan ei gwâs tu ac attynt ei hunain, ac etto a fedran edrych arnynt yn ddi-gynnwrf yn rhedeg i'r pechodau mwyaf yn erbyn Duw, arwydd yw hynny ei bôd nhw yn ystyried gormod ei hachosion ei hunain, a gogoniant Duw ac Eneidiau ei Gwenidogion rŷ fychan. Hyn yn rhŷ gyffredinol yw tymmer Meistraid y maent hwy gan mwyaf yn [Page 347] ddi-fatter pa fódd yr ymddŵg ei gweision hwy ei hunain tu ac at Dduw, ni waeth ganddynt er mor afreolus ac halogedig a fo ei teuluoedd, ac am hynny ni rònt hwy ûn rhybudd, na chyngor iddynt, i'w hannog hwynt i Rinwedd; y mae 'r cyfryw Feistred yn anghofio y bydd raid iddynt ryw ddydd roddi cyfrif pa fodd y llywodraethasant ei teuluoedd. Yn ddiammeu Dledswydd pôb Llywiawdwr yw, ymegnío i anghwanegu Duwioldeb a Chrefydd ymŷsg pawb a fo tan ei ofal ef, a hynny yn gystal yn y Llywodrath leiaf hon o deulu ac yn y fwyaf honno o Deyrnas neu genhedl. Yr oedd Dafydd mor ofalus am hyn, a'i fôd ef yn proffessu, Psal. 101.7. Na thrig o fewn ei dy ef y rún wnelo dwyll, na chadarnheuid yn ei olwg ef yr hwn a ddywedai gelwydd; roedd ef yn ei dybied ei hún cymmhelled yn rhwym i weled fôd ei deulu ef yn fáth ar Eglwys, neu Gymmanfa o wŷr duwiol dihalog: a phe bydde pôb Meistred teuluoedd o'r ún feddwl, nhw a gaen heb law'r gwobr tragywyddol am hynny ar ôl hyn, weled bûdd presennol yn hynny, fe ái ei hachosion bydol hwynt, yn well ymlaen o lawer; canys, os dygid ei gweision hwynt i wneuthur cydwybod o'i ffyrdd, yna ni feiddien nhw fôd nag yn esgeulus nag yn ffals.
31. Ond megys ac mae Dledswydd Meistraid yw Rhybuddio ac argyoeddi ei Gwenidogion, felly rhaid iddynt edrych hefyd am wneuthur hynny mewn modd ddyladwy, hynny yw fal y bo cyffelypaf wneuthur daioni iddynt; nid mewn gwŷn a chynddaredd, yr hyn ni [Page 348] wná i'r gwenidog ond ei ddirmygu a'i gashau ef; ond a'r cyfryw ymadroddion Sobr a phwyllog, ac a'i gwnelo ef yn deimladwy o'i fai, ac a'i siccrháo ef hefyd mai gwîr ddeisysiad o'i wellháad ef (ac nid ewyllys i ddangos allan ei gynddaredd ei hún) sydd yn gwneuthur i'r Meistr fal hyn ei argyoeddi ef.
Esampl dda.32. Trydydd Dledswydd Meistr yw gosod Esampl dda o onestrwydd a Duwioldeb i'w weision, heb ba ún ni wná ei holl gynghorion, na'i argyoeddion ef ddim llesháad; oblegid onid-é y mae fo yn tynnu i lawr mwy a'i Esampl, nag yw bossibl iddo ef ei adeiladu a'r llall; ac ynfydrwydd yw i feistr meddw, neu halogedig ddisgwyl teulu sobr, a duwiol.
Moddion o Addysg.33. Yn Bedwerydd, rhaid i'r Meistr edrych na bo ar ei Wenidogion ef eisieu moddion o gael ei haddyscu yn ei Dledswyddau, ac hefyd ar fód iddynt gael amserau arbennig i addoli Duw yn gyhoeddus trwy gael Gweddiau yn y teulu: Ond mi a rois hyn ar lawr yn barod wrth draethu am Weddi, ac am hynny ni adrodda'i ymma ddim anghwaneg.
Cymmedrolder yn ei Orchymyn.34. Yn bummed, Rhaid i'r Meistr yn ei holl negeseuau ei hunan, roddi Gorcbymynion rhesymol a chymmedrol, heb osod ar ei Weision fwy beichiau nag a allont ei ddwyn, yn enwedig na ofynno gymmaint o waith ganddynt, ac na bo iddynt ddim amser i'w dreulio ar ei Heneidiau; megys o'r tu arall ni wasanaetha iddo ef oddef iddynt fyw mor segur, ac a'i gwnelo hwynt nag yn anfuddiol iddo ef, nag a'i bradycho hwynt i ddrŵg yn y bŷd.
[Page 349]35. Yn chweched, rhaid i'r Meistr gyssuro, Cyssur i wneuthur yn yda. a rhoi calon yn ei Wenidogion i wneuthur yn dda, trwy ymddwyn mor hael a chariadus tu ac attynt ac y bo ei ffyddlondeb a'i diwydrwydd a'i Duwioldeb hwynt yn haeddu: ac yn ddiweddaf yn ei hóll ymddygiad tu ac attynt, rhaid iddo ef gofio fód gantho ef ei hún, fal y dywed yr Apostol, Eph. 6.9. Feistr yn y Néf, i ba ún y bydd raid iddo ef roddi cyfrif o'i ymddygiad tu ac at ei Wenidog gwaelaf ar y ddaiar. Fe ddarfu i mi bellach redeg ar fyrr trwy'r holl amryw berthynasau hynny, i ba rai y mae ún Ddledswydd neillduol yn ddyledus, ac felly fe ddarfu i mi ar gaingc gyntaf o Ddledsŵydd tu ac at ein Cymydogion, sef Cyfiawnder.
DOSPARTHIAD.
XVI.
Dosparthau eraill o'n Dledswydd tu ac ein Cymydog. Am Gariad i Eneidiau dynion, i'w Cyrph, i'w Golud, a'i Henwau da hwynt.
Cariad.1. YR Ail Dosparth o'n Dléd tu ac at ein Cymydogion yw Cariad. Hon yw'r Ddledswydd Efenylaidd fawr honno a orchymynnir i ni cyn fynyched gan Grist; y Gorchymyn Newydd, fal y mae efe ei hún yn ei alw ef, Jo. 13.34. ar fód i chwi garu ei gilydd, a hyn a adroddir drachefn ddwywaith yn yr unrhyw bennod, séf Jo. 15.12, 17. Ac Epistol cyntaf St. Joan a dreulir agos yn hollawl mewn annogaeth i'r ûn Ddledswydd hon, trwy hyn óll y gwelwn ni nad péth gwael yw hwn, ond péth a orchymynnir yn gaeth iawn ar bawb sy'n proffessu Crist. Yn wîr fe roddes ef ei hûn hyn allan megys nôd ac arwydd ei Ddiscyblion ef, Jo. 13.35. Wrth hyn yr adnebydd pawb eich bód yn Ddiscyblion i mi, os bydd Cariad rhwng pawb o honoch ai gilydd.
Mewn Tuedd meddwl.2. Fe ellir ystyried y Cariad hwn ddwy ffordd; yn gyntaf, mewn tuedd meddwl; yn ail, mewn Gweithredoedd. Cariad mewn Tuedd meddwl yw mwyneidd-dra diffuant, yr hon a'n cymmhwysa ni i ewyllysio pôb rhyw [Page 351] ddaioni i eraill, a hynny yn ei hóll leoedd a'i hamgyffred yn yr únrhyw fódd ac y mae Cyfiawnder yn ein rhwymo ni na ewyllysion ni ddim niwed i ún dŷn, nag i'w Enaid, nag i'w Gorph, na'i Olud, na'i henw da: felly y mae'r rhan gyntaf ymma o Gariad yn ein rhwymo ni i ewyllysio pób rhyw ddaioni iddynt ymmhób ún o'r rhain.
3. An yn gyntaf am yr Enaid. Os oes gennini ond y gwreichionyn lleiaf o Gariad, i Eneidiau Dynion. nid allwn ni lai nag ewyllysio yn dda i Eneidiau dynion; nid yw ond rhesymol i ni ddangos ein Caredigrwydd mwyaf a'n hewyllys da i'r pethau gwerthfawr hynny y tybiodd Crist a haeddai ei prynu a'i waed ei hún; ac am hynny os nyni ni charwn ein gilydd fal hyn, yr ydyn ni ymmhell oddiwrth Ufyddhau'r Gorchymyn hwnnw o garu megys y carodd ef; canys Eneidiau dynion a garodd ef mor dyner, a darfod iddo wneuthur a dioddef cymmaint trostynt. Y mae dau ffrwyth mawr ac arbennig o'r cariad hwn o'i eiddo ef tu ac at Eneidiau: yn gyntaf, ei Puro hwynt ymma trwy'i râs; yn ail, ei gwneuthur hwynt yn ddedwydd yn dragywyddol yn ei ogoniant; a rhaid i ninnau goppío allan bób ún o'r rhain cymmhelled yn ein Caredigrwyd, a dymuno o eigion ein Calonnau i bób dŷn ddyfod i'r purdeb a'r Sancteiddrwydd hynny ymma, fal y gallo ef fód yn gyfrannog o ddedwyddwch tragywyddol ar ól hyn. Fe ellid gobeithio nad allei néb y sydd gantho Enaid o'i eiddo ei hún fód mor greulon i Enaid ún arall, ac nad ewyllysio fo hyn yn ddifrifol, oni bae ein bód ni yn gweled fód [Page 352] rhai a'i malis mor gythreulig, ac i gyrrhaeddid yn union i'r gwrthwyneb, séf i ddeisyfu nid yn unig pechod, ond hefyd damnedigaeth rhai eraill. Fal hyn y bydd rhai, pan ddioddefant ryw gam neu orthrech, yn ei cyssuro ei hunain, am fód ei gelynnion yn ei damnio ei hunain wrth hynny; pan ddyle hynny fód yn fwy gresynol o lawer i Gristion, na phenyd yn y bŷd neu orthrymder a allant hwy ei ddwyn arno ef. Y mae'r hwn sydd o'r dymmer ymma yn Ddiscybl i Satan, ac nid i Grist, gan fód hyn yn union yn y gwrthwyneb i hóll fwriad y Gorchymyn mawr Cristianogaidd hwnnw, o garu ein Cymydogion fel ni ein hunain. Oblegid yn ddiammeu nid oes néb ar sydd yn credu fód y cyfryw béth a damnedigaeth, yn ei ewyllysio ef iddo ei hún; er hoffed gantho'r ffyrdd sydd yn denu iddì hi, etto ni ewyllysia fo i hynny fód yn ben ei Siwrne; ac am hynny trwy'r rheol honno o Gariad fe ddyle arswydo cymmaint rhag dychwelyd o hynny i'w gymydog.
I'w cyrph, i'w Golud, a'i henwau da hwynt.4. Yn ail, rhaid ini ewyllysio pob daioni i Gyrph dynion, sef pob rhyw iechyd a dedwyddwch; yr ydyni gan mwyaf yn dyner iawn o'n Cyrph ein hunain, yn ofni'r boen neu'r niwed leiaf a áll ddigwydd iddynt: yr awrhon y mae Cariad, trwy rinwedd y Gorchymyn rhagddywededig, yn estyn allan y tynnerwch ymma at bawb eraill, a pha béth bynnag a dybion ni yn ofidus i ni ein hunain, rhaid i ni fód yn anfodlon iddo ddychwelyd i eraill. Yr ûn péth sydd i'w ddywedyd am y ddau eraill, séf ei Golud, a'i henwau da hwynt, [Page 353] fal megys ac yr ydyni yn ewyllysio ein gwellháad a'n brî ein hunain, felly y dylen ni hefyd eiddo eraill, onid-ë nid ellir byth ddywedyd ein bód ni yn caru ein Cymydog fal ni ein hunain.
5. Fe fydd i'r Cariad hwn mewn Tuedd meddwl, os bydd ef yn ddiffûant, Ffrwythau Cariad yr amryw ffrwythau hyn, y rhai sydd mor ddiwahan oddiwrtho ef, a'i bód hwynt yn fynych yn y Scrythur yn cael ei cyfrif megys rhannau o'r Ddledswydd, ac felly a ofynnir yn dra-chaeth gennini; Yn gyntaf, fe a geidw'r meddwl mewn tymmer heddychlon a llaryaidd tu ac at eraill, cymmhelled oddiwrth geisio achosion o ymrysonau, na ddichon annogaeth yn y bŷd ein denu ni i hynny; oblegid anhawdd iawn i ni gwerylu lle y bo gennini Garedigrwydd, gan mae ûn o arbennig cynnheddfau Cariad yw, na chythruddir mono ef yn hawdd, 1 Cor. 13.5. Ac am hynny y mae pwy bynnag sydd yn annhangneddyfus yn dangos nad yw'r Cariad hwn yn ei galon ef. Yn ail fe a gyd-tosturia a holl drueni rhai eraill; y mae pób anffawd a ddigwydd lle y bo ni yn ewyllysio yn dda, yn fáth ar drychineb ac aflwydd i ni ein hunain; ac am hynny, os ydyn ni yn ewyllysio yn dda i bawb, ni a ddylen fal hyn ein hymddwyn ein hunain am drueni pawb, séf, ymofidio yn ddifrifol wrth weled néb mewn helbul, a hynny yn ól fel y bo'r gofid arnynt. Yn Drydydd, fe a wná i ni lawenhychu yn llwyddiant rhai eraill; fe ddywed Solomon Dihar. 13.19. Mae dymuniad wedi ei gyflawni sydd hyfryd gan yr Enaid; ac os felly, yna pwy [Page 354] bynnag sydd gantho'r ewyllys difrifol hwn o ddedwyddwch ei Gymydog, y mae ei ddymuniad ef gwedi ei gyflawni yn ei lwyddiant ef, ac felly nid all ef ond ymfodloni, ac ymhyfrydu yn ddirfawr yn hynny. Y mae St. Paul yn yr ûn man yn gorchymyn pób ûn o'r rhain, Rhuf. 12.15. bód yn llawen gyda'r llawen, ac wylo gyda'r wylofus. Yn Bedwerydd, fe a'n hannog ni i weddío tros eraill: yr ydyni o honon ein hunain yn greaduriaid llésg egwan, heb allu rhoddi bendithion lle yr ewyllysion ni fwyaf, am hynny os ydyn ni yn gwir-ddeisyfu daioni eraill, rhaid i ni geisio hynny drostynt gantho ef, oddiwrth ba ûn y mae pôb rhódd dda a pherffaith yn dyfod, Jaco. 1.17. Y mae hyn yn rhan mor angenrheidiol o Gariad, nad yw ein mwynder ni heb hyn ond péth disylwedd, a máth ar ofer-foes gwâg. Oblegid pa fódd y gellir credu fôd gantho ef wîr ewyllys da i ûn yr hwn ni chlyw ar ei galon weddío trosto, heb yr hyn béth nid yw ei ewyllysion ef ond gwâg a difuddiol? Nid oedd yr Apostol yn tybied yn gymwys adael dynion i'w hewyllysion da yn unig, ond y mae efe yn annog fód ymbil gweddiau, a thalu diolch dros bôb dyn, 1 Tim. 2.1. Yr hwn orchymyn fe gyd-ffurfia pób dŷn ac ef yn barod, ar sydd gantho'r gwîr garedigrwydd calon ymma. Y mae'r amryw bethau hyn mor naturiol yn ffrwythau o'r Cariad hwn, fal nad yw'r dŷn hwnnw ond ei siommi ei hûn ar sydd yn meddwl fód y Cariad hwn gantho, yr hwn ni ddichon brofi hynny yn eglur trwy'r ffrwythau hyn.
[Page 355]6. Mae ef yn bwrw allan Genfigen. Ond y mae etto odidowgrwydd anghwaneg o'r grâs hwn; y mae ef yn cadw'r meddwl yn ddiogel oddiwrth amryw drosseddiadau dirfawr a pheryglus; megys yn gyntaf, oddiwrth Genfigen; hyn, medd yr Apostol, yw priodoldeb Cariad, 1 Cor. 13.4. Cariad ni chenfigenna; ac yn wîr fe all rheswm cyffredin gadarnhau hyn i ni, oblegid Cenfigen gofid yw am lwyddiant arall, ac am hynny rhaid iddo fód yn union yngwrthwyneb i'r deisyfiad hwnnw, yr hwn a ddangosasom o'r blaen sydd yn tarddu o Gariad; yn gymmaint, ac os yw Cariad yn rheoli yn y galon, yn ddiau fe a ymlid allan genfigen. Mor ofer gan hynny y cymmer y rheini arnynt fód ganddynt y Rhinwedd hon, y rhai ydynt yn wastad yn gwrwgnachu, ac yn ymofidio am bób damwain da i eraill?
7. Yn ail, Balchder. y mae ef yn cadw i lawr Falchder ac Ʋchder. Hyn hefyd y mae'r Apostol yn ei ddyscu ini, 1 Cor. 13.4. Cariad nid yw anhydyn, nid yw yn ymchwyddo; ac yn gyfattebol i hyn ni a welwn, mae lle y gorchymynnir y Rhinwedd hon o Gariad, yna y cyssylltir hefyd ddarostyngeiddrwydd: megys Col. 3.12. Gwiscwch ymysgaroedd tosturiaeth, gostyngeiddrwydd, addfwynder, a Rhuf. 12.10. mewn Cariad brawdol byddwch garedig i'w gilydd, gan flaenori ei gilydd yn rhoddi parch; lle y gwelwch chwi mor agos y cyd-sylltir y ddau ymma, gostyngeiddrwydd a Chariad. Y mae hwn yn wîr yn tarddu yn naturiol o gariad, canys y mae Cariad, yn wastad yn gosod brî a pharch ar y péth a gerir; fal hyn y gwelwn ni yn rhŷ fynych mewn [Page 356] priod-gariad, fe a wná i ni feddwl yn uchel o honom ein hunain, ein bód ni yn fwy rhagorol na dynion eraill. Yr awrhon os ymddug Cariad a fo fal hyn gwedi ei sefydlu arnon ein hunain falchder, trown ond yn y gwrthwyneb, a throswn y Cariad hwn ar ein▪ Brodyr, ac efe yn siccr a ymddug ostyngeiddrwydd, canys yna ni a welen ac a barchen y donniau a'r godidowgrwydd hynny o eiddo eraill, y rhai y mae ein balchder ni yr awrhon, neu ein Casineb yn gwneuthur i ni ei dirmygu, neu ei hesgeuluso; ac nid tybied yn rhesymol na'i dibrisio hwynt, na'n mawrygu ein hunain ar y cyfryw gyffelybiaeth; ni a welen yn ddiammeu achos i arferu cyngor yr Apostol, Phil. 2.3. i dybied eraill yn well na ni ein hunain. Pwy bynnag gan hynny sydd cyfuwch ei feddwl ac i ddirmygu a dibrisio eraill, gwybydded yn ddiamm [...]u nad yw'r Cariad hwn gwedi gwreiddio yn ei galon ef.
Cam-dyb.8. Yn drydydd, y mae ef yn bwrw ymmaith Cam-dyb, a barn fyrbwyll; Cariad, medd yr Apostol, 1 Cor. 13.5. ni feddwl ddrwg, ond o'r tu arall, fal y mae'n calyn, gwer. 7. y mae'n credu pób dim, ŷn goheithio, pób dim; hynny yw, y mae ef yn barod i gredu ac i obeithio 'r goreu am bób dŷn; ac yn wîr y mae'n profiad ein hunain yn dywedyd i ni yr ûn péth, canys lle y bo ni yn caru, nid ydyw mor hawdd gennini ganfod beiau, er maint fyddont (fal y tystia'r dallineb mawr sydd gennini yn gyffredinol tu ac at yr eiddom ein hunain) ac felly yn ddiammeu ni a fyddwn pell oddiwrth wneuthur beiau, lle ni bónt, neu'i gwneuthur [Page 357] nhw yn fwy nag yn wîr y maent: Ac yna o bale y mae'r tŷb annrhugarog a'r barnau byrbwyll o eraill, mor gyffredinol ymysg dynion yn tarddu, ond o eisieu 'r Cariad hwn?
Lledrith.9. Yn Bedwerydd y mae'r Cariad ymma yn bwrw heibio Ledrith a llaryeidd-dra ffugiol; lle y mae'r gwîr a'r diffúant gariad hwn, y mae'r ún ffals eulunaidd hwnnw yn diflannu, a dymma'r Cariad a orychmynnir i fód gennini, séf, Cariad-heb ragrith, Rhuf. 12.9. Yn wîr lle y bo hwn wedi ei wreiddio yn y galon, ni ddichon bód defnydd yn y bŷd o Ragrith: oblegid y mae hwn mewn gwirionedd yn gymmaint óll ac y chwennychei'r ún ffals ymddangos i fód, ac felly y mae ef cymmhelled tu hwynt iddi hi, ac y mae Natur tu hwynt i gelfyddid; neu yn hyttrach cymmhelled ac y mae rhinwedd dduwiol tu hwynt i bechod ffiaidd, canys y cyfryw ún yw'r Caredigrwydd ffugiol hwnnw; ac etto fe ellir ofni fód hwnnw yn rhŷ fynych yn trais-feddiannu lle'r gwîr gariad hwn; y mae'r ffrwythau o hyn yn rhŷ hynod yn ein mysg ni, gan nad oes dim yn fwy cyffredin na gweled dynion yn gwneuthur addewidion helaeth o Gariad i'r rhai cyn gynted ac y tróant ei cefnau y bónt hwy naill ai'n ei gwatwor neu'i drygu.
10. Yn bummed, Bûddgynllwyn. Nid yw Cariad yn ceisio yr eiddi ei hunan, 1 Cor. 13.5. Y mae ef o dymmer mor hynaws a bonheddigaidd, a'i fód yn dirmygu pób cynllwynion er mwyn ei fúdd, neu'i elw ei hunan. Ac am hynny y mae'r fáth wael farsiandiaidd honno o Gariad mor gynnefin [Page 358] yn y bŷd, yr hon sy'n ei sefydlu ei hûn yn unig lle y bo bûdd i'w ddisgwyl, ymmhell iawn oddiwrth y Cariad hwn.
Díal.11. Yn ddiweddaf, y mae'r Cariad yma yn torri allan o'r galon bób malis a chwennych díal, yr hyn sydd yn hollawl mor wrthnebus iddi hi, nad ydyw bossibl iddynt ill dau aros yn yr ûn fonwes; Priodoldeb Cariad yw, goddef pób dim, 1 Cor. 13.7. Cyd-ddwyn a'r cam mwyaf, heb feddwl gwneuthur tál yn y bŷd am danynt ond gweddiau a Bendithion, ac am hynny y dŷn maleisus, a'r ymddial-ŵr yw'r dieithraf yn y bŷd i'r Cariad hwn.
12. Gwîr yw, os bydd rhaid arferu'r Rhinwedd hon ond tu ac at rai máth ar ddynion, hi a ddichon gyd-sefyll a malis tu ac at eraill, gan y dichon ûn sydd yn llwyr gashau'r naill ddŷn, garu'r llall; ond rhaid i ni ystyried na wasanaetha gosod terfyn felly i'r Cariad hwn, ond rhaid iddo ymystyn allan, a chyrrhaeddid pób dŷn yn y bŷd, yn bendifaddeu Gelynnion, neu onid-ë nid yw ef y Cariad duwiol hwnnw a orchymynnir i ni gan Grist. Y mae caru ein cyfeillion a'r sawl a'n caro ninnau yn râdd mor isel o gariad ac y gallei 'r Pwblicanod a'r Pechaduriaid ei chyrrhaeddid hi, séf, y gwaethaf o ddynion, Mat. 5.46. Ac am hynny ni chyfrifir moni hi i haeddu gwobr mewn Discybl i Grist; na, fe ddisgwylia fo i ni ehedeg yn uwch, ac am hynny y gosododd ef i ni y Gorchymyn mwy Ysprydol a rhagorol hwn o garu ein gelynnion, Mat. 5.44. Yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, cerwch eich Gelynnion, bendithiwch [Page 359] y rhai a'ch melldithiant, a gweddiwch tros y rhai a nél niwed ichwi ac a'ch erlidiant; a phwy bynnag ni wnelo fal hyn, ni chymmerir mono fŷth am Ddiscybl i Grist. Rhaid i ni gan hynny wybod fód y cwbl ar a draethwyd ynghylch y Cariad hwn yn perthyn yn gystal i'n gelyn mwyaf ac i'n gelyn carediccaf. Ond oblegid mae Dledswydd yw hon i bâ ûn y mae natur ffromm dŷn yn annhueddus iawn iddi, mi a safaf ychydig ar rai ystyriaethau i'n hannog ni iddi hi.
13. Ac yn gyntaf ystyriwch béth a ddywedwyd yn barod, mae Gorchymyn Crist yw hyn yn y Testyn a osodwyd ar lawr uchod, ac yn amryw eraill, gan nad oes ond prin ûn Gorchymyn a roddir ar lawr mor fynych yn y Testament newydd, a hwn o garu a maddeu ein gelynnion; megys Eph. 4.32. Byddwch gymmwynascar i'w gilydd, a thrugarogion, gan faddeu i'w gilydd; a thrachefn, Col. 3.13. Gan gydddwyn a'i gilydd, a maddeu i'w gilydd, os bydd gan ún gweryl yn erbyn néb: megys y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau; felly hefyd, 1 Pet. 3.9. Nid yn talu drwg am ddrwg neu ddirmyg am ddirmyg; eithr yngwrthwyneb, bendithiwch. Aneirif o leoedd a ellid ei ddwyn i'r pwrpas hwn, ond y mae y rhain yn ddiammeu yn ddigon i brofi yn eglur fód Crist yn gorchymyn i ni hyn yn gaeth; ac yn wir yr wyfi'n meddwl nad oes nemmawr a glywodd erioed son am yr Efengyl, na ŵyr hyn; mwy rhyfedd aruthrol yw fód dynion sy'n ei galw ei hunain yn Gristianogion heb roddi Ufydd-dod yn y bŷd iddo ef, ac nid hynny yn [Page 360] unic ond adrodd ar gyhoedd ac addef y gwrthwyneb, fal y gwelwn ni rai beunydd yn gwneuthur, yn gymmaint a bód yn arferol i ddynion lawn-fwriadu a chyhoeddi na faddeuan nhw byth i'r cyfryw a'r cyfryw ddŷn, ac ni ddichon yr ystyriaeth o Orchymyn Crist ei troi nhw o'r meddwl hwnnw. Yn ddiammeu nid yw'r cyfryw ddynion yn deall beth ydys yn ei feddwl wrth y gair Cristion, yr hwn sy'n arwyddoccau gwás a Discybl i Grist, a'r Cariad hwn yw arwydd y naill, a gwers y llall: ac am hynny anghysson iawn a direswm yw i rai ei proffessu ei hunain yn Gristianogion, ac etto yn yr ún amser gwrthwynebu y Gorchymyn arbennig hwn o eiddo Crist, yr hwn y maent yn ei gydnabod megys yn feistr iddynt. Os ydwyf fi feistr, medd Duw, pa le y mae fy ofn? Mal. 1.6. Y mae Ufydd-dod a Pharch yn Ddledswyddau gweision, yn gymmaint na thybiir, fód néb yn edrych arno ef yn feistr, i ba ún nid yw ef yn ei talu hwynt. Pa ham yr ydych yn fyngalw i Arglwydd, Arglwydd, gan nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd? medd Crist, Luc. 6.46. Yr hóll fŷd a gyfrennir yn ddau deulu mawr, eiddo Crist, ac eiddo Satan, ac y mae'r Ufydd-dod y mae pób dŷn yn ei dalu yn arwyddoccau i ba ún o'r meistred ymma y mae ef yn perthyn; os ydyw ef yn Ufydd-hau Crist, i Grist; os Satan, i Satan. Yr awrhon nid ellir mewn dim Ufydd-hau mwy i'r Yspryd drŵg hwnnw, na thrwy'r pechod hwn o falis a dial, yr hwn yw cymmeriad ei wîsg ef am ein cefnau, a chyhoeddiad hynod gweision i bwy ydyn ni. Pa ddigywilydd-dra rhyfeddol gan hynny yw i ddynion y [Page 361] rhai a'i hymroesant ei hunain fal hyn i fód o deulu Satan, gymmeryd arnynt fod yn weision i Grist? Gwybydded y cyfryw rai yn ddiammeu na chymmer Crist mo honynt yn eiddo ef, eithr y trŷ efe hwynt, ar y dydd mawr o gyfrif, at ei Meistr priodol, i dderbyn ei gwobrau mewn tân a brwmstan.
14. Yr ail ystyriaeth yw Esampl Dduw: Rheswm yw hwn y gwelodd Crist ei hún yn gymmwys i'w arferu, er mwyn ymhyrddu'r Ddledswydd hon arnon ni, Luc. 6.35, 36. lle gwedi iddo ef roddi'r Gorchymyn o garu gelynion, y mae ef yn annog i'r ymarfer o hynny, trwy ddywedyd mae hynny a'n gwná ni yn Blant y Goruchaf (hynny yw, a'n gwná ni yn debyg iddo ef, fal y mae Plant i'w Rhieni) Canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg; ac i'r unrhyw bwrpas y darllennir, Mat. 5.45. Y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn. Ac y mae hyn yn ddiau yn ystyriaeth rymmus iawn i'n hannog ni i'r Ddledswydd hon. Ni a wyddon mae Duw yw ffynnon perffeithrwydd, a bód yn debyg iddo ef yw summ y cwbl a allon ni ei ewyllysio; ac er mae cwymp Lucifer oedd ei chwant ef i fód yn debyg i'r Goruchaf, etto pe buasei fo yn chwennych ond yn unig fód yn debyg iddo mewn Sancteiddrwydd a daioni, fe allasei etto fód yn Angel goleuni: Yr ewyllys hwn o ddilyn Esampl ein Tâd Nefol yw arbennig nôd plentyn iddo ef. Yr awrhon y mae'r addfwynder a'r daioni hwn i elynion yn dra hynod a rhagorol yn Nuw, ac hynny nid yn unic o herwydd [Page 362] y trugareddau amserol, y rhai y mae efe yn ei rhoddi i bawb yn ddiwahan, sef ei haul a'i law ar yr anghyfiawn, fal yn y Testyn uchod, ond yn enwedig yn ei drugareddan Ysprydol. Yr ydyn ni oll trwy ein drŵg weithredoedd yn Elynnion iddo ef, Col. 1.21. ac fe syrthiasei echrys y gelyniaeth hwnnw yn hollawl arnom ein hunain, nid oedd gan Dduw annogaeth yn y bŷd heb law ei dosturi tu ac atton ni i chwennych cymmod, etto cymmhelled oedd efe oddiwrth ddial arnon ni am ein gelyniaeth ni, (fall y gallasei fo'n hawdd i'n tragywyddol ddinistr ni) a'i fôd ef yn dychymmig ac yn bwriadu pa fódd i'n dwyn ni i fód mewn heddwch ac efo. Grâdd anfeidrol o drugaredd a charedigrwydd yw hyn, ond y mae'r moddion a arferodd ef i ddwyn hynny i ben, tu hwynt etto i hynny; Efe a anfonodd ei fâb ei hún o'r Nefoedd i weithio hyn allan, a hynny nid yn unic trwy addysc a chynghorion, ond trwy ddioddefiadau hefyd; cymmaint brî a osododd ef arnon ni greaduriaid truain, ac na thybiodd ef yn rhŷ ddrûd iddo ein prynu ni a gwaed ei Fâb ei hún. Yr unrhyw Esampl o drugaredd ac ammynedd a welwn ni yn Ghrist, yn gystal yn gosod ei einioes i lawr troston ni ei Elyunion ef, ac hefyd yn y módd llaryaidd hwnnw o wneuthur hynny, yr hyn a osodir ar lawr yn rhagorol gan yr Apostol, 1 Petr. 2.22, 23, 24. ac sydd er siampl i ninnau, gwer. 21. Yr awrhon yn ddiammeu pan ystyrir hyn óll, ni a allwn yn dda ddywedyd gyda St. Joan, Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau a ddylem garu ei gilydd, 1 Jo. 4.11. Mor gywilyddus o bóth yw i ni gadw digofaint yn erbyn ein [Page 363] Brodyr, pan yw Duw fal hyn yn dodi hebio ei ddigofaint ef tu ac atton ni, a hynny gwedi i ni ei annog ef mor ddirfawr?
15. Hyn a'n cyfarwydda ni i'r drydydd ystyriaeth, cyffelybu ein pechodau ni yn erbyn Duw, a chamweddau ein brodyr yn ein herbyn ni, yr hyn cyn gynted ac a gwnelon, fe geir gweled rhagoriaeth ddirfawr rhyngddynt, a hynny mewn amryw bethau; canys yn gyntaf y mae: Mawrbydi yr hwn yr ydyn ni yn trosseddu i'w erbyn, yn anghwanegu 'r euogrwydd yn ddirfawr, lle ni ddichon bód cymmaint cyfrwng rhwng dŷn a dŷn, canys er bôd rhai dynion gwedi ei derchafu gan Dduw i'r cyfryw uchder breiniol, ac a wná 'r camwedd a wneir i'w herbyn hwynt yn fwy, etto nid ydynt hwy ond dynion o'r ún anian a ninnau, lle y mae fo yn Dduw bendigedig yn oes oesedd; Yn ail, y mae ei oruchafiaeth a'i allu ef, yr hyn sydd o'r dechreuad yn Nuw, oblegid ei greaduriaid ef ydyn ni, ni a derbyniasom ein cwbl fôd oddiwrtho ef, ac am hynny ydyn yn rhwymedig yn y mesur eithaf i berffaith ufydd-dod, lle nid yw'r holl oruchafiaeth a dichon fód gan y naill ddŷn tros y llall, ond gwedi ei roddi iddo gan Dduw, a chan mwyaf nid oes dim o hyn ychwaith yn y matter, gan fód cwerylon yn gynnefinaf rhwng rhai cydradd. Yn drydydd, y mae ei annherfynol haelioni a'i ddaioni ef tu ac atton ni, gan mai ei rôdd ef yn hollawl yw 'r cwbl yr ydyn ni yn ei fwynhau, pa ûn bynnag ai a berthyn i'r bywyd hwn, neu i ûn gwell, ac felly fe adroddir yr anniolchgarwch [Page 364] mwyaf at ein camweddau eraill; o herwydd yr hyn béth hefyd ammhossibl yw i'r naill ddŷn drosseddu yn erbyn y llall yn y cyfryw fesur, oblegid er y dichon ûn fód (ac y mae gormod ysowaith) yn euog o anniolchgarwch tu ac at ddynion, etto o herwydd fôd y doniau mwyaf a ddichon dŷn ei rhoddi, o anfeidrol yn fyrr o'r rhai y mae Duw yn ei rhoddi, nid all yr anniolchgarwch o lawer fód cymmaint a hwnnw tu ac at Dduw. Yn ddiweddaf, y mae mawredd a lliaws ein pechodau ni yn erbyn Duw yn fwy o anfeidrol na 'r hôll rai a ddichon y dŷn mwyaf camweddog ei gwneuthur yn ein herbyn ni; oblegid yr ydyn ni ôll yn pechu yn fynychach o lawer ac yn echryslonach yn ei erbyn ef, nag y medr ûn dŷn, er mor faleisus y bo, gael odfáu i ddrygu ei frodyr. Yr anghyfartalrwydd a'r anghymmesurwydd hwn y mae ein Hiachawdr yn crybwyll am dano yn y ddammeg, Matth. 18. lle yr arwyddocceir ein camweddau ni yn erbyn Duw trwy 'r deng mîl o dalentau, ac y portreiir eiddo ein brodyr yn ein herbyn ninnau trwy 'r can ceiniog; y mae Talent yn drymmach o anfeidrol na cheiniog, a deng mil yn fwy o rîf o lawer na chant, etto cymmaint a hynny a mwy o lawer y mae pŵys a nifer ein pechodau ni tu hwynt i holl gamweddau rhai eraill i'n herbyn ni: llawer mwy a ellid ei ddywedyd i ddangos yr anghymmesurwydd dirfawr rhwng y beiau y mae Duw yn ei maddeu i ni, a'r rhai a all fód gennin ni i faddeu i'n Brodyr: Ond yr wyfi 'n meddwl fôd hyn yn ddigon i ostegu y cwbl a all dynion creulon ac ymddial-wŷr ei draethu [Page 365] yn erbyn y Caredigrwydd hwn i Elynion. Y maent hwy yn barod i edrych ar hyn megys péth anghysson a direswm, ond gan fôd Duw yn gwneuthur hyn mewn mesur uwch o lawer, pwy a ddichon heb gabledd ddywedyd fód hynny yn ddireswm? Os ymddengys hon; neu unrhyw Dledswydd ysprydol arall felly i ni, ni a allwn ddyscu yr achos o hynny gan yr Apostol, 1 Cor. 2.14. Dyn anianol nid yw yn deall y pethau sydd o Yspryd Duw, canys ffolineb ydynt gantho ef; cnawdoliaeth ein Calonnau ni sydd yn gwneuthur iddynt ymddangos felly, ac am hynny gadewch i ni yn lle ymddadleu yn erbyn y Ddledswydd, bûro ein calonnau oddiwrth hynny, ac yna ni a ganfyddwn hynny yn wîr, yr hyn y mae Doethineb ysprydol yn ei draethu am ei hathrawiaethau, Dihar. 8.9. Y maent hwy oll yn amlwg i'r neb a ddeallo, ac yn uniawn i'r rhai a chwenychant wybodaeth.
16. Ië, y mae caru Gelynion nid yn nnic yn Ddledswydd rhesymol, ond yn ûn hyfryd hefyd, Hyfrydwch y Ddledswydd hon. a dena'r bedwerydd Ystyriaeth; y mae llawer iawn o felusdra ac o ddifyrrwch i'w gael ynthi hi; yr wyf i'n cynabod na dichon néb farnu yn gystal o hyn, ar' rhai a'i harferasant hi, gan fôd natur pleserau diarol hefyd yn gyfryw, ac mai ei mwynháad nhw yn unic a ddichon gwneuthur i ddŷn ei gwir-hadnabod hwynt, ni ddichon ûn dŷn felly draethu i arall archwaeth rhyw béth danteithiol, fal y gallo ef wrth hynny wybod ei flâs ef; rhaid iddo yn gyntaf ei archwaethu ef ei hún ac yn ddiammeu y mae yn fwy o lawer felly mewn pleserau [Page 366] Ysprydol, ac am hynny pwy bynnag a chwennycho wybod yn gyflawn felusdra ac hyfrydwch y Ddledswydd hon, ymroed i'w harferu hi, ac yna ei brofiad ei hún a ddwg hynny iddo ef oreu ar ddeall: Ond yn y cyfamser, mor dra-anghyfiawn ac ynfyd yw traethu yn ddrwg am dano cyn profiad? I ddynion ddywedyd, fôd hyn yn flin ac yn anoddefus, y rhai ni chynnigiasant erioed brofi a yw hynny yn bòd mewn gwirionedd, a'i nad yw? Etto trwy 'r moddion hyn y dygir tŷb ddrwg o'r Ddledswydd dra-hyfryd hon, ac y mae dynion yn hygoel iawn o hyn, lle mewn pôb cyfiawnder, ni ddylid mor cymmeryd tystiolaeth o hyn ond gan y rhai a'i profasant hi, a rheini yn ddiammeu a roddei gyfrif amgenach o honi hi.
17. O [...]d er nad ellir cael llawn wybodaeth o hyn ond yn unic trwy 'r cydnabyddiaeth agos ymma, etto mi debygwn y galle y rhai sy'n edrych arni hi ond o hirbell ddirnad péth hawddgarwch ynddi hi, pette ond trwy ei chyffelybu hi ac aneswwythdra y gwrthwyneb: malis a díal yw 'r anwydau anesmwythaf a blinaf ar a ddichon feddiannu meddwl dŷn, y maent yn cadw dynion mewn astudrwydd a gofal duibaid pa fòdd i ddwyn ei hamcanion drŵg i ben, y maent yn aflonyddu ei cŵsg hwynt, fal y dywed Solomon, Dihar. 4.16. Ni chyscant nes gwneuthur drwg, a'i cwsg a gollant nes iddynt gwympo dyn: Ië, y maent yn chwerwi 'r holl bethau daionus y maent yn ei fwynhau, fal nad ydynt yn ei harchwaethu nag yn clywed blâs arnynt; esampl eglur o hyn sydd [Page 367] i ni yn Haman, yr hwn er bôd gantho ddigonedd ac helaethrwydd o fawredd a dedwyddwch y bŷd, ettó yr oedd y malis oedd gantho i ddŷn truan dirmygus, Mordecai, yn rhwystro iddo ef archwaithu bodlonrhwydd yn y bŷd yn y cwbl, fal y gellwch weled, Est. 5. lle gwedi iddo ef draethu i'w gyfneseifiaid ei holl wynfŷd, gwer. 11. y mae fo yn dibennu fal hyn, gwer. 13. Ond nid yw hyn oll yn lleshaw i mi, tra 'r ydwyf fi yn gweled Mordocêus yr Iddew yn eistedd ymmhorth y brenin. O'r tu arall y mae 'r Yspryd heddychlon, yr hwn a ddichon basio heibio bób camwedd a sarháad yn llonydd, yn mwynhau tawelwch dibaid, ac y mae ef uwchlaw malis ei elynion, canys gwnánt hwy a allont, nid allant ddwyn ei lonyddwch ef oddiarno, y mae efe yn gadarn fal y graig, yr hon ni ddichon na thymestl na gwynt mo 'i symmud, pan yw 'r dŷn nawswyllt a'r ûn sy 'n hoffi diall fall tonn, yr hon y mae 'r awel leiaf yn ei thaflu ac yn ei bwhwmman o'i lle. Ond heb law 'r aflonyddwch ymma oddimewn sydd i'r ymddialwŷr y maent hwy yn fynych yn dwyn llawer o helbul oddiallan arnynt ei hunain, y maent yn cythruddo ei gelynion, ac yn ei hannog hwynt i wneuthur y drygau mwyaf iddynt ar a allont, ië y maent yn fynych yn ei rhedeg ei hunain ar y trueni mwyaf wrth gynllwyn ei dial, i ba ûn y mae 'n gyffredinol gweled rhai yn aberthu ei Golud, Esmwythdra, Enw da, Bywyd, ië a'i Heneidiau hefyd, heb fôd yn waeth ganddynt beth a ddioddefont ei hunain am y caffont ddrygu ei gelyn; mor rhyfeddol y mae 'r wŷn echryslonhon yn ynfydu ac yn dallu dynion. [Page 368] O'r tu arall y mae 'r dŷn llaryaidd yn fynych yn toddi digofaint ei wrthwyneb-ŵr, atteb arafaidd a ddettry lîd, medd Solomon, Dihar. 15.1. Ac yn wîr nid oes dim well i'r diben hwnnw; ond os digwydd i'w elyn ef fôd mor greulon, fal na thyccia hyn, etto y mae efe yn ennill-ŵr trwy 'r cwbl a all ef ei ddioddef. Canys yn gyntaf, y mae efe 'n ennill odfa i arferu 'r grâs tra-christianogaidd honno o gariad a maddeuant; ac felly o'r unwaith o ufyddhau 'r gorchymyn, a dilyn siampl ei Iachawdr, yr hyn sydd fudd gwerthfawr i'r gwîr Gristion; a thrachefn yn ail y mae fo 'n ennil cynnydd ac anghwannegiad ei wobr ar ôl hyn. Ac os dywedir, na ddylid cyfrif hynny yn bleser presennol y Ddledswydd: mi a attebaf, fôd y disgwyliad o hynny trwy ffydd yn bleser, ac y mae hynny yn unic yn fwy gwîr hyfrydwch o lawer nac y dichon mwynháad presennol holl ddifyrrwch bydol fòd.
18. Y Pummed Ystyriaeth yw'r Enbydrwydd o esgeuluso 'r Ddledswydd hon; y rhai ydynt amryw, ond mi a safaf yn unic ar yr ún fawr honno, yr hon sy'n cynnwys y lleill ei gyd tani, a honno, yw fforffedio ein holl bardwn ein hunain gan Dduw. Y mae hon yn ystriaeth debygwn i a ddyle ein dychrynu ni i natur dda, onyd-ë mae 'n malis ni yn fwy i ni ein hunain nag i'n gelynion. Oblegid och! pa drŵg a elli di ei wneuthur i arall eyfattebol i'r hwn yr wyt ti yn ei wneuthur i ti dy hún, trwy golli maddeuant o 'th bechodau? yr hyn sydd yn ddrŵg mor annrhaethadwy na ddichon y Cythrel ei hún a'i hôll falis ewyllysio i ti ûn mwy; [Page 369] dena'r cwbl y mae efe yn ei geisio, yn gyntaf, i ni bechu, ac yna na bo i'r pechodau hynny gael byth ei pardynu, oblegid yna fe a wyr ei fód yn ddigon siccr o honom ni; gan mae Uffern a dinistr heb law'r holl ffrwythau eraill o ddigofaint Duw yn y bŷd hwn, yn ddiammeu yw cyfran pób pechadur a'r nís maddeuir iddo; Ystyria hyn, ac yna dywed i mi bêth a ennillaisti trwy'r díal mwyaf a wneift ti erioed ar arall. Ymadrodd Cythreulig yng enau dynion yw, melus yw díal: ond a'i possibl y dichon fód (ië i'r gêg annhymmerusaf) y cyfryw felusdra ynthi hi ac a wná iawn am y chwerwder tragywyddol hwnnw sy'n ei dilyn hi? Yn ddiammeu, ni ddichon néb yn ei gôf ar farn bwyllog a dybia hynny. Ond och! nid ydyn ni yn canniadu amser i ni ein hunain i bwyso pethau, ond goddef ini ein hunain gael ein chwyl-droi gan boethni gwŷn ddigllon, heb ystyried ún amser mor ddrûd y bŷdd raid ini dalu am hynny: fal y Wenynen ffôl yr hon mewn digofaint a âd ar unwaith ei cholyn a'i bywyd o'i hôl, fe all y colyn ysgatfydd ofidio péth am dró y cnawd y bo fo yntho, ond etto nid oes néb na wél mae'r Wenynen sy'n cael y gwaethaf, yr hon sy'n talu ei bywyd am ddíal mor wael; felly y mae yn ein díal mwyaf ninnau, ni a allwn ysgatfydd adael ein colyn mewn eraill, ei rhoi nhw i ychydig ofid presennol, ond nid yw hynny wrth ei gystadlu a'r niwed a ddychwel i ni ein hunain wrth hynny, ddim mwy na'r boen ferr honno i farwolaeth; ië, na chymmaint ychwaith, oblegid y mae'r drygau'r ydyn ni yn ei dwyn arnom ein hunain yn dragywyddol, i ba rai ni ddichon dim [Page 370] terfynol ddwyn cymmesurwydd yn y bŷd. Cofia gan hynny, pa brŷd bynnag y boch di yn dychymmig ac yn llunio díal, dy fód ti yn hollawl yn cam-gymmeryd y nôd; yr wyt ti yn meddwl taro dy elyn, ond och! yr wyti yn dy archolli dy hún i farwolaeth. Ac na thraethed neb heddwch iddo'i hún, neu feddwl mai dychryniadau ofer yw y rhai hyn, ac y gall ef gael maddeuant gan Dduw, er na faddeu fo i'w frodyr: Canys yr hwn sydd wirionedd ei hún a'n siccrhaodd ni o'r gwrthwyneb, Mat. 6.15. Oni faddeuwch i ddynion ei camweddau, ni faddeu eich Tâd i chwithau eich camweddau. A rhag ini anghofio morangenrheidiol yw'r Ddledswydd hon, efe a'i cyfléodd hi yn ein Gweddiau beunyddiol ni, lle yr ydyn ni yn gwneuthur hyn yn ammod, ar ba ún yr ydyn ni yn erfyn maddeuant gan Dduw; Maddeu ini ein Dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n Dyled-wyr. Pa ryw felldith resynol gan hynny y mae pób ymddialydd yn ei osod arno'i hún, pan yw ef yn adrodd y Weddi hon? Y mae fo ar y matter yn erfyn na bo i Dduw faddeu iddo; ac yn rhŷ siccr fe wrandewir y rhan honno o'i Weddi ef, fe faddeuir iddo yr ûn módd, ac y maddeu yntau. Hyn a eglurir i ni etto ymmhellach yn Nammeg yr Arglwydd a'r Gwâs, Mat. 18. fe a gawse'r gwâs gan ei Arglwydd faddeuant o Ddléd ddirfawr, deng mîl o dalentau, etto yr oedd efe mor greulon wrth ei gydwâs, a mynnu gantho trwy drais ddyléd fechan wael o gan ceiniog, ar hyn fe alwodd ei Arglwydd yn ôl ei faddeuant, ac a holodd drachefn oddiarno yr holl Ddléd: a hyn y mae Crist yn ei gyfaddasu i'n pwrpas presennol ni, [Page 371] gwer. 35. Felly y gwná fy Nefol Dâd i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bób ún i'w frawd eu camweddau. Un gyfryw weithred o angharedigrwydd sydd abl i fforffedio 'r pardwn a ganiadháodd Duw i ni, ac yna y mae ein holl bechodau ni yn ymchwel arnoni trachefn, ac yn ein suddo ni i lwyr ddinistr. Yr wyfi'n meddwl mai afraid imi bentyrru ychwaneg o fannau o'r Scrythur i dystiolaethu 'r gwirionedd o hyn; y mae'r rhai hyn mor eglur, ac a wasanaetha yn dddiammeu i beri i ún dŷn, a'r sy'n cydnabod y Scrythur, goelio enbydrwydd mawr gresynol y pechod hwn o anghariad. Yr Arglwydd a feddianno ein Calonnau ni a'r cyfryw iawn deimlad o honaw ac a wnelo i ni ei ochelyd ef.
19. Yr Ystyriaeth ddiweddaf yw Diolchgarwch i Dduw. Fe ddangosodd Duw drugareddau rhyfeddol i ni, fe ddioddefodd Crist bethau creulon i'n dwyn ni i fód yn gymwys o'r drugaredd a'r maddeuant hwnnw gan Dduw: oni thybiwn ni ein hunain yn rhwym i fód yn ddiolchgar am y cwbl? Os cymmerwn ni farn yr Apostol, y mae fo'n dywedyd i ni, 2 Cor. 5.15. Gan ddarfod i Grist farw troston ni óll, nid yw ond cymwys na bo i ninnau fyw o hyn allan i ni ein hunain, ond i'r hwn a fu farw troston ni. Yn wîr pette bób munudyn o'n bywyd gwedi ei gyssegru i'w wasanaeth ddigyfwng ef, ni fydde hynny ddim mwy nag y mae diolchgarwch cyffredinol yn ei ofyn, ac yn llai nag y mae'r cyfryw ddoniau annrhaethadwy yn ei haeddu; pa ryw anniolchgarwch cywilyddus gan hynny yw i ni neccau iddo'r cyfryw fodlondeb [Page 372] gwael a hyn, séf, madden i'n brodyr? Bwriwch fód i ddŷn a ryddhawyd naill ai oddiwrth angeu neu gaethiwed, trwy haelioni a dioddefaint ún arall, gael ar ei ryddháad ei siarsio gyn yr hwn a'i rhyddháodd ef, i faddeu rhyw ddyléd wael oedd yn ddyledus iddo ef oddiwrth ryw ún arall, oni thybiech chwi fo yn anniolchgaraf dŷn yn y bŷd, yr hwn ni chydnabydde'r cyfryw gymwynas o'r blaen, eithr a neccáu ganhiadu hyn iddo ef? Etto 'r cyfryw ún, ië a gwaeth o lawer yw pób dŷn maleisus a'r ymddial-ŵr. Crist a'n prynnodd ni allan o gaethiwed tragywyddol, a hynny nid a phethau llygradwy, megys aur ac arian, 1 Petr. 1.8. ond a'i werthfawr waed ei hun, ac a orchymynnodd i ni yn daer garu ein brodyr, a hynny trwy resymmau cadarn, a gymmerwyd oddiwrth fawredd ei gariad ef tu ac atton ni; ac os nyni yn wrthnyfig a neccawn iddo béth mor gyfiawn a rhesymol a hynny, pa ryw waeledd a budredd annrhaethadwy yw hynny? Ac etto hyn yr ydyn ni yn bendant yn ei wneuthur, os cadwn ni lîd yn y bŷd na malis i néb. Ië ymmhellach, nid yw hyn yn unic yn anniolchgarwch, ond y mae hefyd yn ddirmygiad ac yn ddibrisiad gresynol o hono ef. Yr oedd y Tanghneddyf hwn a'r Undeb ymysg brodyr yn béth mor rhagorol a gwerthfawr yn ei olwg ef, a phan oedd efe yn ymadel a'r bŷd, yr oedd efe yn edrych arno ef megys y péth gwerthfawroccaf a alle fo'i adael o'i ôl, ac am hynny fe a'i gadawodd ef megys trwy Lythr Cymmun i'w Ddiscyblion, Jo. 14.27. Yr wyf yn gadel i chwi Danghneddyf; yr ydyn ni arferol o osod prîs mawr ar y pethau lleiaf [Page 373] a adawo ein cyfneseifiaid i ni wrth farw, ac i fód yn ofalus iawn rhag ei colli hwynt, ac am hynny os nyni yn fyrbwyll a daflwn ymmaith y rhôdd mor werthfawr hon o eiddo Crist, arwydd hynod yw hynny nad oes gennin ni gymmaint o barch ac o gariad iddo ef, ac sydd gennin ni i'n cyfeillion daiarol, a'n bód ni yn ei ddirmygu ef yn gystal a'i Ródd. Gorfodaeth dirfawr y pechod hwn o anghariad a wnaeth i mi sefyll ar yr ystyriaethau hyn cyhyd, er mwyn ei orchfygu ef. Duw a ganniadbáo fôd iddynt weithio cymmhelled ar galon y darllenydd, ac i'w gymhwyso ef i'r pwrpas hwnnw.
20. Ni adrodda'i ond ún cyngor ychwaneg, séf bód yn rhaid arferu'r rhain, neu ddiwygiadau eraill yn erbyn y pechod hwn, mewn pryd: y mae meddiginiaethau Corphorol yn myned yn fynych yn ofer eisieu ei harferu mewn prŷd, ac y mae hynny yn dychwelyd yn fynychach o lawer mewn rhai Ysprydol: Am hynny, os bydd possibl, bydded yr Ystyriaethau hyn, a'r cyffelyb, gwedi ei sefydlu mor wastadol yn dy galon, fal y bo iddynt ei thymmeru hi i'r cysryw addfwynder, ac a luddio pób dechreuad malis a díal ynot ti, canys gwell o lawer yw iddynt wasanaethu megys arf i ragflaenu, nag megys ennaint i iacháu'r archoll. Ond os bydd y wŷn hon etto heb ei gorchfygu ynot ti, eithr yn cynnhyrfu peth ynot, etto yna bydd siccr o'i gymmeryd ef ar y codiad cyntaf, ac na âd i'th feddwl gnoi'r cîl megys ar y camwedd, trwy fyfyrio arno ef yn fynych, ond cofia mewn prŷd yr Ystyriaethau o'r blaen, ac hefyd, mae amser a phrŷd profedigaeth iti yw [Page 374] hwn, ymmhá ûn y gelli di ddangos pa fódd y gwellhéaist yn yscol Grist, gan fod iti yr awrhon odfa naill ai i ufyddhau a bodloni Duw, trwy faddeu'r camwedd hwn i'th frawd, neu ynteu i ufyddhau a bodloni Satan, carwr ymryson, trwy feithrin casineb i'w erbyn ef. Cofia hyn, meddaf, mewn pryd, cyn iti ymennynnu, canys os cynneu'r tân hwn trwyddo, efe a fwrw allan y cyfryw fŵg, ac a ddalla dy reswm di, ac a'th wná di yn anghymmwys i farnu o hyn er mor eglur yw, sef, pa un oreu a'i pwrcasu i ti dy hûn wynfyd tragywyddol trwy ufyddhau Duw; neu trwy ufyddhau Satan, boenau tragywyddol. Lle os gofynni di hyn iti dy hún cyn y cynnwrf hwn, a chythrwblaeth dy feddwl, yn ddiammeu fe ddadcan dy synwyr di tros Dduw; ac yna oddigaeth iti fód mor anhynaws a dewis marwolaeth yn rhagfyfyriol, yn ddiau ti a arferu yn ól barn dy ddeall; Ni adrodda'i ddim anghwaneg, ar y rhan gyntaf ymma o Gariad, séf, mewn Tuedd meddwl.
Cariad mewn Gweithredoedd.21. Yr awrhon mi a âf ymlaen at y rhan arall o Gariad, sef mewn Gweithredoedd; ac wrth hwn yn wîr y bydd raid profi'r llall; ni a allwn gymmeryd arnon fód gennin ni gariad mawr o'n mewn, ond os ni thardda dim allan yn y Gweithredoedd, ni a allwn ddywedyd am y Cariad hwnnw, fal y dywed St. Jaco am y ffydd y mae so'n són am dani, ei bód hi yn farw, Jac. 2.20. Cariad mewn Gweithred a gwirionedd a gymmeradwya ein Calonnau ni ger bron Duw, 1 Jo. 3.18. fe ellir dosparthu'r Cariad hwn hefyd mewn Gweithredoedd, fel y llall, [Page 375] yn ól pedwar ehangrwydd gwahanredol ein brodyr, sef, ei Heneidiau hwynt, ei Cyrph, eu Golud, a'i Henwau da.
22. Fe ellir ystyried yr Enaid, Tu ac at Feddwl ein cymydog. fal y dywedais i o'r blaen, naill ai mewn synniad Naturiol, neu Ysprydol, ac ymmhób ún o honynt y mae Cariad yn ein rhwymo ni i wneuthur yr holl ddaioni a allon ni. Megys ac yr arwyddoccá'r Enaid feddwl dŷn, felly y bydd raid i ni ymegnío cyssur a diddanwch ein Brodyr, ac ewyllysio rhoddi iddynt bób rhyw wîr achos o lawenydd a llonder, yn enwedig pan welon ni hwynt tan ryw dristwch neu drymder, yna ymegnio trwy bób rhyw foddion cristianogaidd a chymmwys i lonni Yspryd helbulus ein Brodyr, diddanu y rhai sydd mewn gorthrymder, fal y dywed yr Apostol, 2 Cor. 1.4.
23. Ond y mae'r Enaid mewn Ystyriaeth Ysprydol etto yn fwy rhagorol, Ei Enaid. ac y mae siccrhau hwnnw yn beth mwy pwysfawr, na llonni'r meddwl yn unic, yn gymmaint ac y mae gofidiau tragywyddol Uffern yn myned tu hwynt i ofidiau mwyaf y bŷd hwn; ac am hynny er na ddylen ni esgeuluso'r cyntaf, etto yn hyn y bydd raidd i ni ddangos ein Cariad eithaf, lle nid digon yw i ni ewyllysio yn dda i Eneidiau ein Brodyr, nid yw hynny yn unic ond máth swrth ar garedigrwydd, rhŷ wael ac annheilwng o'r rhai sydd raid iddynt ddilyn Esampl Iachawdr Eneidiau, yr hwn a wnaeth ac a ddioddefodd cymmaint er mwyn ei prynu nhw: ond rhaid i ni hefyd ymegnio i'w gwneuthur hwynt yn gyfryw, ac yr ydyn ni yn ewyllysio [Page 376] iddynt fód; i'r pwrpas hwn tra-chymwys a rhesymol yw i ni yn ein holl ymddygiad tu ac eraill fwriadu gwneuthur rhyw ddaioni i'w heneidiau hwynt. Pe bydde 'r bwriad hwn gwedi ei fefydlu yn ein meddyliau ni, yna ni a ganfydden ysgatfydd lawer odfa i wneuthur daioni ar yr ydyn ni yr awrhon yn esgeuluso. Fe fydde anwybodaeth ddirfawr y naill yn galw arnat ti i ymegnío ei addyscu ef; pechod hynod y llall, i'w argyoeddi a'i gynhori ef; Rhinwedd lêsg egwan ûn arall i'w gadarnhau a'i lonni ef. Fe a ddichon pôb angen ysprydol dy frawd rodddi i ti ryw achos i arferu rhyw ran o'r Cariad hwn; neu os wyt ti yn tybied, gwedi ystyried yn bwyllog, mai ofer yw i ti dy hun, ymosod at hyn ymma, megys os bydd dy waelder di, neu 'th anghydnabyddiaeth, neu ryw gyffelyb rwystr yn debyg i wneuthur dy gynghorion di yn ddirym, etto os byddi di ddiwyd yn dy Gariad, ti a elli ond odid ganfod rhyw foddion eraill, trwy ba rai y gelli wneuthur hyn yn fuddiol. Ni all neb ymosod ar Orchwyl anrhydeddusach na bwriadu pa fòdd i leshau Eneidiau dynion, ac am hynny lle bo 'r naill foddion yn anaddas, ni a ddylen ddyfal-chwilio a myfyrio am rai eraill. Yn wir cywilydd yw na bo ni mor ddiwyd ynghylch y pethau a berthyn i Eneidiau dynion, ac ydyn ni am wael-drafferthion bydol o'n heiddo ein hunain; etto yr ydyn ni yn y pethau hyn yn ddigon diflin, ac yn profi 'r, naill foddion ar ól y llall nes i ni ddwyn ein hamcan [...] ben. Ond os bydd cyndynrwydd dynion gwedi ein holl ddiwydrwydd ni, yn rhwystro i ni, neu yn hyttrach iddynt hwy leshau trwy 'r [Page 377] cwbl, os ni thyccia ein holl ymegníad ni a'n gofal yn annog ac yn erfyn ar ddynion drugarhau wrth ei Heneidiau ei hunain, etto er dim parháa i'w hannog nhw trwy dy siampl; bydded i'th fawr ofal di a'th dynnerwch am dy Enaid dy hûn bregethu iddynt odidowgrwydd a phrîs ei heneidiau hwythau, ac nac attal dy dosturi oddiwrthynt, eithr gyda 'r Prohwyd Jerem. 13.17. Wyled dy Enaid yn ddirgel trost ynt; a chyda 'r Psalmydd, Bydded i afonydd o dyfroedd redeg o'th lygaid, am na chadwant dy Gyfraith di, Psal. 119.136. iê a chyda Crist ei hun, wyla trostynt, am na fynnant wybod y pethau a berthyn i'w heddwch. Luc. 19.42. A phan na thyccia taerni yn y bŷd gydá hwynt, etto na phaid ti ac ymbil ar Dduw trostynt, ar fód iddo ef ei tynnu nhw atto ei hun: felly y gwelwn ni Samuel, pa nad alle fo gynghori'r bobl i ymadel a'r bwriad pechadurus yr oeddynt arno, etto er hynny ei gŷd y mae fo yn addaw, na phaid ef a Gweddío trostynt; ié yr oedd ef yn edrych ar hynny yn ddyléd arno, yn gymmaint ac mai pechod fydde iddo esgeuluso hynny, Na atto Duw, médd ef, i ni bechu yn erbyn yr Arglwydd, a pheidio a gweddío trossoch, 1 Sam, 12.23. Ac na ofnwn y bydd ein Gweiddiau ni yn ofer, canys os ni wnáant hwy lesháad i'r rhai y bo ni yn ei tywallt hwynt trostynt, etto pa un bynnag nhw a ddychwelant i'n monwesau ein hunain, Psal. 35.13. Yn ddiammeu ni ddeuwn ni ddim yn yn fyrr o wobr y Cariad hwnnw.
24. Yn ail, Cariad tu ac at y Corph. rhaid i ni arferu 'r Cariad Gweithred rol hwn tu ac Cyrph ein Gymydogion; nid [Page 378] digon i ni yn unic dosturio tros ei helbul a'i trueni hwynt, ond hefyd gwneuthur a allon ni er ei cymmorth a'i hesmwytháad hwynt. Ni buaisid byth yn gosod y Samaritan da, Luc. 10. megys yn siampl i ni, oni bae ddarfod iddo gynnorthwyo 'r dŷn archolledig yn gystal a thosturio trosto. Nid deisyfiadau da, ié na geiriau da ychwaith sydd ddigon yn hyn ymma, fal y dywed St. Jaco, Os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac eisieu beunyddol ymborth, a dywedyd o un o honoch wrthynt, ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymlenwch, ac etto heb roddi iddynt angenrheidiau 'r Corpb, pa lês fydd? Jac. 2.15.16. Dim yn ddiammeu, ni wná hynny lês yn y bŷd i'w Cyrph hwynt nag i'th Enaid tithau, ni chyfrifir mo hynny i ti byth megys Cariad. Y mae achlesu ein brodyr yn ei hangenrheidiau Corphorol yn beth a ofynnir mor gaeth ar ein dwylo ni, ac y gosodir hynny ar lawr, megys y péth enwedigol trwy ba ûn y profir ni, ar y Dŷdd Diwaethaf, ar ommeddiad pa ûn yr adroddir y farn echryslon honno, Mat. 25.41. Ewch oddiwrthif rai melldigedig i'r tân tragywyddol yr hwn a baratowyd i Ddiafol ac i'w angelion. Ac os gofynnir béth yw 'r pethau neillduol hynny sydd raid i ni ei cwphlhau, ni allwn ni ddyfod i'w hadnabod hwynt yn hyspysach nag o'r bennod hon, lle y gosodir ar lawr yr amryw rai hyn, rhoddi bwyd i'r newynog; a diod i'r sychedig, lletteua 'r dieithr, dilladu'r noeth ac ymweled a'r clâf a'r carcharedig; trwy ba ymweliad ni ddeallir yn unig dyfod i'w gweled hwynt, ond dyfod felly megis ac i'w cyssuro a'i cynnorthwyo hwynt; canys [Page 379] onid-ë ni bydde hynny ond fel y gwnaeth y Le fiad yn yr efengyl, Luc. 10. yr hwn a ddaeth ac a edrychodd ar y dyn archolledig, ond ni waeth ddim anghwaneg, yr hyn ni bydd byth gymmeradwy gan Dduw. Y mae y rhain yn arferion cyffredinol o'r cariad hwn, i ba rai nid all bód eisieu aml odfau. Ond heb law 'r rhai hyn, fe ddichon, trwy arbennig ragluniaeth Duw, ddychwelyd i ni achlysur i wneuthur swyddau da eraill i gyrph ein Cymydogion; ni a allwn weithiau gyda 'r Samariad weled dŷn archolledig, ac yna ein Dléd ni yw gwneuthur fal y gwnaeth ef; ni a allwn weithiau weled dŷn di-euog gwedi ei farnu i farwolaeth; megis y gwnaed a Susanna, ac yna rhaid i ni gyda Daniel arferu pôb moddion i'n gallu er ei waredu ef: Hyn y mae Solomon ond odid yn pennodi atto, Dihar. 24.11, 12. Os ni waredu 'r rhai a luscir i angeu, a'r néb a ddywysir i'w llâdd, Os dywedi, wele, ni wyddom ni hyn; onid yw mesur-wr y Calonnau yn deall? a'r néb sydd yn cadw dy Enaid oni wyr efe? ac oni thát efe i bawb yn ôl ei weithred? Ni wafanaetha i ni fwrw 'r péth heibio ac escusion ofer, eithr cofio y bydd i Dduw yr hwn a wŷr ein meddyliau dirgelaf ni, brofi yn fanwl a esceuluson ni o'n gwirfodd gwplhau 'r cyfryw weithred o Gariad: weithiau trachefn (ië yn fynych, fe ŵyr Duw, yn y dyddiau ymma) ni a allwn weled Dŷn trwy anghymmedrolder mewn enbydrwydd o destrywio ei Iechyd, a byrrhau ei ddyddiau, ac yna Cariad ddyledus nid yn unig i'w Enaid, ond i'w Gorph ef hefyd yw ymegnío i'w dynnu fo o hynny. Amhossibl yw gosod ar lawr yr holl rywogaethau o'r Cariad [Page 380] Corphorol hwn ar a allo ddychwelyd, oblegid fe ddichon damwain weithiau y cyfryw odfáu na all néb ei rhag-weled; rhaid i ni gan hynny yn wastad lawn-fwriadu yn ddifrifol wneuthur pa ddaioni bynnag o'r fáth hyn ar a ganfyddon ni achos am dano, ac yna pa brŷd bynnag y dychwel y cyfryw odfa, edrychwn ar hynny megys galwad arnon ni o'r Néf i osod y llawnfwriad hwnnw ar waith. Y mae y rhan ymma o Gariad wedi ei gwreiddio cymmhelled yn ein calonnau ni, megys yr ydyn ni yn ddynion, a'n bôd ni yn gyffredinol yn ei cyfrif hwynt nid yn unic yn anghristianogaidd, eithr yn annhirion a chreulon y rhai sydd ddeffygiol o hono ef; ac am hynny yr wyf fi 'n gobeitho na fydd eisieu llawer: o annogaethau i hyn ymma, gan fôd ein hanian ni yn tueddu at hynny: Ond yn ddiau fe wasanaetha 'r Ystyriaeth hono i anghwanegu 'n ddirfawr euogrwydd y rhai sydd ddeffygiol o'r Cariad hwn: oblegid gan fôd y Gorchymyn hwn mor gysson i gîg a gwaed, ni ddichon ein hanufudd-dod ni iddo ef darddu ond oddiwrth ein cyndynrwydd a'n gwrthryfelgarwch yn erbyn Duw yr hwn sydd yn ei roddi ef.
DOSPARTHIAD,
XVII.
Am Gariad, Elusen, &c.
Am Gariad a berthyn i Enw da ein Cymydog, &c.
Am wneuthur, Tangnheddyf: Am fyned i'r Gyfraith: am Gariad i'n Gelynion, &c.
§ 1. Cariad tu ac Dda ein Cymydog. YTrydydd modd o ddangos y Cariad hwn yw tu ac at Dda neu Gyflwr ein Cymydog oddiallan; rhaid i ni ddyfal-geisio ei wellháad a'i lwyddiant ef yn y pethau da ymma oddiallan; ac i'r diben hwnnw, ymfodloni i'w gynnorthwyo ef i'w cynnal ac i'w hangwanegu hwynt ym mhób ffordd onest, trwy wneuthur iddynt bób rhyw swydd gymydogaidd a charedig: y mae odfáu i hyn ymma yn dychwelyd yn fynych iawn. Fe all dŷn weithiau naill ai trwy gryfder neu annogaeth waredu da ei gymydog allan o ddwylaw lleidr neu orthrym-ŵr; weithiau trachefn fe a ddichon trwy ei gyngor ei osod ef mewn ffordd i lwyddo, neu ei droi fo oddiwrth ryw ffordd dramgwyddus a dinistriol; ac amryw achosion eraill a ddichon fód o wneuthur llesháad i arall, heb ein drygu na'n colledi ein hunain, ac yna rhaid i ni ei gwneuthur hwynt, ië i'n Cymydogion goludog, y rhai sydd mor gyfoethog, Tu ac at y Goludog. ië ysgatfydd yn gyfoethoccach o lawer na ni ein hunain; canys er nad yw Cariad yn ein rhwymo [Page 382] ni i roddi i'r rhai sydd a llai angen arnynt na ni ein hunain, etto y mae'n gofyn hyn ar ein dwylo ni, pa brŷd bynnag y gallon ni ei gwellhau nhw, heb leihau ein golud ein hunain: iè os bydd y golled ond ysgafn i ni wrth ei chyffelybu a'r budd a ddychwel iddo ef, fe weddai i ni yn hyttrach enbydu'r golled fechan honno, na cholli iddo ef y budd mwyaf hwnnw.
Tu ac at y Tlawd.2. Ond y mae Cariad yn ein rhwymo ni i wneuthur mwy o lawer i'n brawd Tlawd; rhaid ini yno edrych yn unic am gyflawni ei eisieu ef, ac nid sefyll ac ymadel a'n heiddo ein hunain er mwyn ei gymmorth ef, ond rhoddi yn rhwydd iddo hyd y gallon ni y péth sydd arno ei eisieu. Y mae'r Ddledswydd hon o roddi Eleusen yn hollawl yn angenrheidiol er egluro ein Cariad nid yn unig i ddynion, eithr hefyd i Dduw ei hun, fal y dywed St. Joan, 1 Jo. 3.17. Pwy bynnag sydd ganddo olud y byd hwn, ac a wêl ei frawd mewn eisieu, ac a geidw ei dosturi oddiwrtho, pa fódd y mae Cariad Duw yn aros yntho ef? Ofer yw i'r dýn hwnnw gymmeryd arno ei fòd yn caru na Duw na Dŷn, yr hwn sy'n caru ei arian cymmaint, ac yr edrych ef ar ei frawd tlawd (yr hwn sydd yn ddŷn, ac yn dwyn delw Dduw arno) yn dioddef pób adfyd a chyni, yn hytrach nag yr ymedy ef a dim i'w gynnorthwyo fo: Or tu arall, y mae cwplháad y Ddledswydd hon yn gymmeradwy iawn gyda Duw, yn gystal a chyda dynion.
[Page 383]3. Fe elwir hyn, Hebr. 13.16. Yn aberth a pha un y bodlonir Duw; a thrachefn, Phil. 4.18. Y mae St. Paul yn galw ei Eluseni nhw iddo ef yn aberth gymmeradwy a boddlon gan Duw; ac yr oedd yr Eglwys bób amser yn edrych arni hi felly, ac am hynny a'i cyssylltodd hi a'r rhan gyhoeddaf o Addoliad, sef y Cymmun Sanctaidd. Ond oblegid y gwneid hyn yn oed yr aberthau ei hunain tan y Gyfraith yn fynych yn anghymmeradwy trwy ei bod yn glóff neu yn anafus, angenrheidiol a fydd ymma edrych beth ydyw iawn gynneddfau'r Aberth hon y rhai a'i gwná hi yn gymmeradwy.
4. O'r rhai hyn y mae dau fâth, Annogaethau o roddi Elusen. rhai o herwydd yr annogaeth, a rhai o herwydd y módd o roddi Elusen; fe ddichon yr annogaeth fód yn dri dyblyg, a hynny o herwydd Duw, ein Cymydog, a ni ein hunain. Yr annogaeth oblegid Duw, yw Ufydd-dod a Diolchgarwch iddo ef: fe a orchymynnodd ef i ni roddi Elusen, ac am hynny dena un diben arbennig o hyn, sef Ufyddhau ei Orchymyn ef. Ac o'i haelioni ef yn unig yr ydyn ni yn derbyn ein holl lawndra, a hon yw'r módd gymmhwysaf o ddangos ein diolchgarwch iddo ef am hynny; Canys fal y dywed y Psalmydd, nid yw ein Da ni ddim i Dduw, Psal. 16.2. Nid allwn ni dalu iddo ef y deyrnged a chwennychen ni ei thalu allan o'n golud. Y tlodion yw y rhai sydd yn derbyn trosto ef, ac am hynny ein Heuluseni ni yw'r modd o dalu beth bynnag a ddylen ni mewn modd o Ddiolchgarwch ei roi yn ôl drachefn i Dduw. Yn ail, yr annogaeth oblegid [Page 384] ein Cymydog, yw gwîr gariad a thosturi trosto ef, cyd-teimlad tyner o'i eisieu ef, a deisyfiad o'i ddiddanwch ef, ac o roddi cymmorth iddo. Yn Drydydd, rhaid i'r gobaith o'r gwobr tragywyddol hwnnw a addawyd i'r rhai a wnelont hyn ein hannog ni, o'n plegid ein hunain, i'r Ddledswydd hon. Hyn y mae Crist yn ei ddywedyd i ni pan yw yn gorchymyn i ni osod ein tryssor yn y Nef, Mat. 6.20. A gwneuthur i ni gyfeillion o'r golud twyllodrus, fel pan fo eisieu arnom i'n derbyniont i'r tragywyddol bebyll, Luc. 16.9. hynny yw, fal y gallon ni trwy roddi yn gariadus o'n golud amserol i'r tlodion, osod i fynu dryssor yn y nefoedd, ac ennill hawl i'r dedwyddwch tragywyddol hynny a addawodd Duw i'r Elusengar. Dena'r cynhayaf sydd i ni i'w ddisgwyl o'r péth a hauon ni yn y gweithredoedd hyn o drugaredd, yr hwn a fydd mor berffaith-gwbl ac a dâl yn helaeth i ni hyd adref, pe rhoen, fal y dywed yr Apostol, 1 Cor. 13.3. a phe porthen ni'r tlodion a'n holl Dda. Ond rhaid i ni fód yn siccr mai hyn yw ein hunig ddiben ni, ac nid yn lle hyn, addaw i ni ein hunain glôd dynion, oblegid hynny a'n hyspeilia ni o'r llall; Hyn a ddywed Crist yn eglur, Mat. 6. Rhaid i'r rhai sydd yn gosod ei calonnau ar y glôd a ennillant hwy gyda dynion gymmeryd hynny megys ei gwobr, gwer. 3. Yn wîr meddaf i chwi y maent yn derbyn ei gwobr; nhw a ddewisasant yn hytrach gael dynion yn dál-wŷr iddynt na Duw, ac am hynny y troir nhw attynt hwy, a'r awel wael honno o glôd y maent yn ei dderbyn ganddynt hwy yw'r holl wobr sydd iddynt i'w ddisgwyl: Ni chewch dâl gan fy nhâd yr hwn [Page 385] sydd yn Nefoedd, gwer. 1. Y mae'n sefyll arnon ni gan hynny wilio ar ein calonnau yn fanwl, na bo i'r chwant ymma o wág-orfoledd ledratta i'n mewn ni, a'n twyllo ni i'r gyfuewid resynol honno o chwythad wael anadl dynion am y gwîr a'r didrangc lawenydd hynny yn y nefoedd.
5. Yn ail, Y modd o roddi Elusen. rhaid i ni edrych yn ofalus ar y modd o roddi Elusen; ac yn gyntaf, rhaid ini roddi'n llawen; y mae dynion yn arferol o brisio yn fwy ryw béth bychan a roddir iddynt yn llawen, ac a chalon rwydd, na rhôdd fwy o lawer a dynnir megys o anfodd oddiar ddŷn gwrwgnachus anewyllysgar; Yn llawen. ac y mae Duw o'r ûn meddwl, y mae fo yn caru rhoddwr llawen, 2 Cor. 9.7. Yr hyn y mae'r Apostol yn ei osod ar lawr megys rheswm o'r Cyngor o'r blaen, sef nid rhoddi yn athrist, neu megys o gymmell. Ac yn wir nid yw hyn a ofynnir gennin ni yn béth anrhesymol, gan nad oes yr ún Ddledswydd yn rhoddi mwy o bleser ac o ddifyrrwch i natur ddynol, na hon, oddigaeth lle y darfu i Gybydd-dod a chreulondeb yn llwyr fwrw allan y dŷn, a gosod anifail rheipus yn ei le ef. Ond hyfrydwch anrhaethadwy yw i'r dŷn fydd ganddo ddim ymysgaroedd weled y llawenydd y mae Elusen mewn prŷd yn ei ddwyn i ddŷn truan? Pa fodd y mae hynny yn ei lonni ef, ac yn rhoddy Yspryd o newydd yntho ef, yr hwn oedd ym mron suddo gan drymder? Yn ddiammeu ni ŵyr y dŷn mwyaf trachwantus yn y bŷd pa fodd i osod ei arian allan ar ddim a ddŵg i mewn iddo gymmaint o ddiddanwch, ac am hynny, mi a [Page 386] debygwn na bydde anhawdd gennin ni roddi, nid yn unic heb wrwgnach, ond yn suriol iawn ac yn llawen, gan fôd hynny yn dwyn i mewn ddifyrrwch i ni ein hunain.
6. Nid oes ond ûn péth a ellir ei ddywedyd yn erbyn hyn, sef y dichon yr enbydrwydd o'n tlodi ein hunain trwy ein rhoddion, dynnu ymmaith y diddanwch hwnnw, a gwneuthur naill ai na rothon ni ddim, neu nid mor llawen. I hyn mi a attebaf: Yn gyntaf, pette 'r enbydrwydd hwn yn hynod, etto gan mae Gorchymyn Duw yw i ni roddi fal hyn, rhaid i ni ufuddhau yn ewyllysgar, a bód mor fodlon i ymadel a'n Dá bydol er mwyn dilyn y Ddledswydd hon, ac y gelwir ni lawer gwaith i wneuthur ar ryw Ddledswydd arall. Yn yr hyn beth y mae Crist yn dywedyd ini, na ddichon ef fód yn ddiscybl iddo ef, yr hwn ni ymedy a chymmaint oll ac a fêdd efe.
7. Ond yn ail, ofer ini feddwl hyn, gan ddarfod i Dduw addaw yn bendant y gwrthwyneb i'r Elusengar; y dŵg elusen fendithion arnynt, ië yn y pethau ymma oddiallan. Y Gwr hael a gaiff ddigon: a'r néb a ddwfrbáo a ddwfrhéir, Dihar. 11.25. A thrachefn, y néb a roddo i'r Tlawd, ni bydd angen arno, Dihar. 28.27. Ac amryw leoedd o'r fâth hynny sydd, yn gymmaint ac y dichon dŷn ddywedyd yn hŷf, fôd yr ammheuaéth hwn wedi ei sylfaenu ar anghrediniaeth. Mewn gair, ni feiddiwn ni gredu gair Duw am hyn: rhoddi i'r tlawd yw gosod ein golud yn union yn ei ddwylaw ef. Y néb a gymmero drugaredd ar y tlawd sydd yn [Page 387] rhoddi echwyn i'r Arglwydd, Dihar. 19.17. a hynny hefyd ar addewid cyhoedd o dalu yn ôl, fal y calyn yn y wers honno, a'i rodd a delir iddo drachefn. Fe debygir yn ammarch mawr ymysg dynion, pan neccáon ni ymddiried iddynt; y mae hynny yn dangos ein bód ni yn meddwl ei bód hwynt naill ai heb fód yn abl i gyflawni, neu yn anonest: Pa ammarch anfeidrol gan hynny i Dduw, yw ei ammeu fo fal hyn? ié yn wîr pa gabledd echryslon yw, ammeu siccrwydd y peth y mae fo mor hynod gwedi rhoddi ei air am dano, yr hwn sydd yn Arglwydd pób péth, ac am hynny yn abl; a'r hwn sydd Dduw y gwirionedd, ac am hynny yn barod i gwplhau ei addewidion? Na bydded gan hynny i'r Ofn anghredadwy hwnnw o eisieu ar ôl hyn gloi i fynu dy ymysgaroedd di oddiwrth dy frawd anghenus; oblegid er nad yw ef debyg i dalu i ti byth, etto y mae Duw yn ymrwymo megys meichiau trosto ef, ac efe a dál iti yn ddiammeu gydá llôg. Am hynny y mae rhoddi fal hyn cymmhelled oddiwrth fód yn golled i ti, a'i fód ef yn fudd dirfawr i ti: fe ddewisei pób dŷn roddi ei arian mewn rhyw law ddiogel, lle y gallo fo ei anghwanegu nhw, a bód yn siccr o honynt wrth ei raid, yn hytrach na gadael iddynt orwedd yn anfuddiol wrtho ef, yn enwedig os bydd ef yn ofni lladron; neu ryw ddam weiniau eraill, trwy ba rai y gall efe ei colli hwynt: Yr awrhon y mae'r cwbl yr ydyn ni yn ei feddiannu mewn enbydrwydd o golli bob munudyn; y mae aneirif o ddamweiniau a ddichon yn ddisymwth ddwyn gŵr goludog i dlodi, y néb sydd yn ammeu hyn, darllenned ond Histori Jôb, [Page 388] ac fe a gaiff weled yno siampl o hyn: am hynny pa gwrs synhwrolach a allwn ni ei gymmeryd am ein golud, na'i gosod hwynt allan o gyrrhaedd y damweiniau hynny, trwy roddi ei benthyg nhw fal hyn i Dduw, lle y gallwn ni fód yn ddiogel o'i cael nhw yn barod wrth ein hangen mwyaf, a hynny hefyd gydá llôg▪ O blegid hyn y mae'r Apostol yn cyffelybu Elusen i hâd, 2 Cor. 9.10. Ni a wyddon mai natur hâd a heuir yw amlhau ac anghwanegu, ac felly y gwná ein hôll weithredoedd ni o drugaredd, nid ydynt yn dychwelyd yn unig ac yn llwmm i ni, eithr yn dorethog, trwy ddwyn cynhayaf helaeth i mewn. Nid yw Duw yn gwneuthur a'n Helusenau ni, fal yr ydyn ni yn gwneuthur a'i rasau ef yn synych, ei rhwymo nhw i fynu mewn cadach, fal na ddycco nhw fûdd yn y bŷd i ni, eithr y mae fo yn ei talu nhw yn ôl i ni yn helaeth: ac am hynny y mae i ni achos dirfawr i ymosod yn llawen ac yn gyssurus ar y Ddledswydd hon, i ba ûn y mae i ni gymmaint gwahodd, yn gystal o herwydd ein bûdd ein hunain, ac angen ein Cymydogion.
Mewn pryd cyfaddas.8. Yn ail, rhaid ini roddi mewn pryd cyfaddas: gwîr yw fód rhai mor dlawd, a bôd Elusen yn wastad yn amserol iddynt, oblegid fód arnynt eisieu bób amser, etto i'r rhai hyn fe ddichon bód rhyw brŷd yn fwy cyfamserol i'w bûdd hwynt na'r llall; oblegid fe ddichon Elusen weithiau nid yn unig waredu dŷn tlawd o'i angenoctyd presennol, ond hefyd, wrth ei roddi ef mewn pryd, ei osod ef mewn rhyw ffordd i fyw yn gyssurus rhag llaw. A chan [Page 389] mwyaf, yr wyfi'n meddwl mae Rheol dda yw cyfrannu i'r néb y bon ni yn amcanu cyn gynted ac y gallon ni, o blegid niweidiol yw oedi yn fynych iddynt hwy, ac i ninnau hefyd; yn gyntaf, am danynt hwy, diammeu yw, mai po hwyaf yr oedon ni, hwyaf y parhán nhw tan ei hangen presennol, a chwedi ini unwaith amcanu cymmorth iddynt, máth ar greulonder yw oedi ei roddi ef, canys tros hynny o amser yr ydyn ni yn hwyau ei helbul hwynt; chwi a'i tybiech ef yn Bysyg-ŵr calon-galed yr hwn a chanddo feddiginiaeth a allai fo ei roddi yn ebrwydd i ddŷn mewn penyd, a oedai heb fód yn rhaid, ac felly a gadwai 'r dŷn truan yn hwy mewn gofid: ac felly y mae ymma; y mae arnon ni eisieu iawn dosturi ac ymysgaroedd, os medrwn ni ymfodloni i'n brawd tlawd fód ûn awr mewn penyd, a chennini yn y cyfamser fódd ac odfa i'w gynnorthwyo ef, neu os efe ni bydd yn y cyfryw eisieu dirfawr, etto béth bynnag yr ydyn ni yn ei amcanu iddo ef er ei ychwaneg gyssur, y mae fo yn colli o hynny cymmaint ac ydyw'r amser o oedi. Yn ail drwg yw oedi o'n plegid ein hunain; canys trwy hyn yr ydyn ni yn rhoddi achlysur naill ai i brofedigaethau Satan, neu ein Cybydd-dod ein hunain i droi ein meddyliau ni oddiwrth hynny. Fal hyn y mae yn rhŷ fynych gydá llawer o Ddledswyddau Cristianogawl; eisieu ei cwplhau nhw allan o law, y mae ein hamcanion ni yn oeri, ac heb ddyfod byth i ben; felly y mae llawer yn bwriadu edifarhau, ond o blegid nad ydyn nhw yn ymosod at hynny yn ebrwydd, y maent yn oedi o amser bigilydd, ac ysgatfydd byth heb wneuthur [Page 390] hynny; ac felly y dychwel yn fynych yn hyn ymma, yn enwedig gydá dynion cybyddaidd, ac am hynny ni ddylent hwy yn anad néb ryfygu oedi fal hyn.
Yn bwyllog.9. Yn Drydydd, rhaid i ni gymmeryd gofal am roddi yn bwyllog, hynny yw, roddi yn fwyaf lle y mae mwyaf o eisieu, ac yn y cyfryw fódd ac a wnelo fwyaf llês i'r derbyniwr: Y mae Cariad yn fynych yn mynd ar féth o eisieu'r gofal hwn; oblegid os rhoddwn ni ar ddamwain i bawb a dybion ni i fód mewn eisieu, ni a allwn weithiau roddi mwy i rai sydd mewn angen oblegid ei syrthni a'i direidi, nag i'r rhai a'i haedda fo oreu, ac felly cadarnhau 'r naill yn ei diogi a'n gwneuthur ein hunain yn anghymmwys i roddi i'r lleill. Etto nid wyfi'n ammeu na ddichon bód rhai anheilwng iawn mewn cymmaint eisieu yn y cyfamser, ac y dylen ni ei cynnorthwyo hwynt, ond lle ni bo'r cyfryw ddirfawr angen yn gofyn, gwell yw i ni ddewis allan y rhai a haedda ein helusen ni yn well, sef y rhai naill ai nid ydynt yn abl i lafurio, neu y sydd ganddynt fwy o fiars nag a all ei llafur hwynt ei gadw; ac i'r rheini hefyd rhaid yw rhoddi ein helusen yn y cyfryw fódd ac a fo tebyccaf i wneuthur iddynt fwyaf llesháad; ac fe ddichon bód amryw foddion o hynny yn gyfattebol i'w hamryw gyflwr hwynt; i rai ysgatfydd goreu yw rhoddi iddynt o fesur ychydig ac ychydig; i eraill fe ddichon bód yn fwy buddiol roddi iddynt y cwbl a'r unwaith: ac weithiau fe all benthyg mewn prŷd fód yn gystal a rhodd, ac fe ddichon hynny weithiau fód mewn gallu y [Page 391] rhai nid ydynt abl i roi ond ychydig: ond pan fenthyccon ni fal hyn mewn Cariad, rhaid i ni fenthycca héb lôg, ac hefyd bwriadu, os dychwel iddo fôd heb allu talu, maddeu cymmaint o'r Corph iddo, ac y bo ei angen ef yn gofyn, a'n gallu ninnau yn rhoddi cennad. Y mae arnynt hwy eisieu llawer o'r cariad hwn, y rhai sydd yn taflu ei Dléd-wyr tlodion i garchar, pan wypont nad oes ganddynt ddim i atteb y Ddléd, yr hyn sy'n greulonder mawr, gwneuthur un arall yn helbulus, pan na bo ni ein hunain yn ennill dim wrth hynny.
10. Yn Bedwerydd, ni a ddylen roddi yn hael, Yn hael. ni wasanaetha i ni fód yn grintach yn ein Helusenau, a rhai yn y cyfryw fesur prin, ac na ddŵg agos ddim cymmorth i'r derbyniwr, canys máth ar watwor yw hynny: nid yw hynny ond fel pe bae dŷn yn cymmeryd arno borthi ún ar lewygu o newyn trwy roi iddo friwsionyn o fara; fe fydde'r cyfryw Gardodau a hynny yn beth i'w chwerthin am ei ben, etto mae arna'i ofn fôd Elusenau rhai yn rhŷ agos at hyn ymma; y mae y cyfryw ddynion islaw'r Discyblion hynny yr ydyn ni yn darllen am danynt, y rhai ni wyddent ond oddiwrth Fedydd Joan yn unig, canys fe ellir ystyried fód Joan Fedyddiwr, yr hwn nid oedd ond cennad o flaen Crist, yn gwneuthur yn rhan arbennig o'i athrawiaeth, ar fód i'r nêb sydd ganddo ddwy bais, roi i'r néb sydd heb yr ûn, Luc. 3.11. Nid yw ef yn dywedyd yr hwn sydd gantho gîst fawr o ddilladau, ond yr hwn nid oes gantho ond dwy bais, rhaid iddo ymadel ac ûn honynt: wrth hyn y deallwn y [Page 392] dylid fel hyn gyfrannu béth bynnag sydd gennin ni uwchlaw (nid ein gwagedd, ond) ein hangen, pan fo angen ein brodyr yn gofyn hynny. Ond os edrychwn ni ar amser cyntaf yr Etengyl, ni a gawn weled Cristianogrwydd yn rhagori llawer ar ddiscyblaeth Joan; 'r oedd y rhai a drowyd i'r ffydd yn appwyntio nid rhan yn unig, eithr yn rhoi'r cwbl yn rhwydd i'r Brodyr, Act. 4. Ac er nad yw hynny, oblegid ei fód ef ar achosion anghyffredin, yn fesur o'n hymarfer beunyddol ni, etto fe all ddangos i ni pa ryw ran arbennig a sylfaenus o gristianogrwydd yw'r Cariad hwn, gan yr arferwyd ef mewn cymmaint mesur, pan seiliwyd yr Eglwys gyntaf; ac os ystyriwn ni ymmhellach pa ryw Orchymynion o gariad a roddir ini yn yr Efengyl, hyd yn oed rhoi ein heinioes i lawr tros y Brodyr, 1. Jo. 3.16. Ni allwn ni feddwl fôd Duw yn cyfrif ein golud ni yn werthfawroccach na'n bywyd, yn gymmaint ac y gorchymynne fo i ni fód yn afradlon o'r naill; ac etto bodloni i ni arbed y llall yn gynnil.
11. Aneirif o Resymmau a ellid ei ddwyn i ganmol yr haelioni hwn wrth bawb ar sydd yn proffessu Crist; ni osoda'i ar lawr ond dau yn unig, y rhai y mae St. Paul yn ei arferu at y Corinthiaid ar yr unrhyw achos, 2 Cor. 8.9. Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd Jesu Grist, ac efe yn gyfoethog, ei fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef. Fe waccáodd Crist ei hun o'r holl ogoniant hwnnw a'r mawredd oedd gantho ef gyda'i Dâd yn y Nefoedd, ac a'i hymddarostyngodd ei hun i fuchedd wael a thlawd iawn [Page 393] yn unic i'n cyfoethogi ni. Ac am hynny rhag cywilydd na ruswn ninnau waccháu ein cistiau, a lleihau péth o'n pentwr, er mwyn cynnorthwyo ei aelodau tlodion ef. Yr ail Rheswm yw, disgwyliad gwobr, yr hwn a fydd yn fwy, neu yn llai yn ol y mesur o'n Helusenau, 2 Cor. 9.6. A hauo yn brin, a féd hefyd yn brin, ac a hauo yn helaeth a féd hefyd yn helaeth. Yr ydyn ni yn edrych arno ef megys hwsmon ansynhwyrol iawn, yr hwn er mwyn arbed ychydig hâd yn y cyfamser a haua mor deneu, ac i anrheithio ei gnŵd; a'r unrhyw ynfydrwydd a fydd ynom ninnau, os trwy arbed ein heluseni, y gwnawn ni i ni ein hunain gynhayaf teneu ar ôl hyn, trwy golli'r cwbl, neu ran fawr o'r gwobrau hynny a baratóodd Duw i'r Elusen-ŵr hael. Ni chymmera'i arnaf osod ar lawr, béth yw'r cymmesurwydd a ellir ei alw yn rhódd hael, gan fód graddau mewn haelder; fe ddichon un roddi yn hael, ac etto ún arall yn haelach nag yntau; heb law hyn, rhaid yw mesur haelder, nid cymmaint yn ôl y péth a roddir, a gallu y rhoddŵr. Fe ddichon dŷn o Ystâd wael roddi llai nag un cyfoethoccach nag ef, ac etto bód yn haelach dŷn, oblegid y dichon yr ychydig hynny fód yn fwy allan o'i eiddo ef, na'r llawer allan o eiddo'r llall. Fal hyn y gwelwn ni Crist yn dadcan ddarfod i'r wraig weddw dlawd roddi mwy i'r Tryssor-dy, na'r holl wyr goludog, Luc. 21.8. nid fel pe buase ei dwy hatling hi yn fwy na'i rhoddion goludog hwynt, ond o ran bód hynny yn fwy iddi hi, gan nad oedd ganthi hi ddim gwedi ei adael, lle yr oeddynt hwy yn rhoddi o'i llawnder y péth a allen nhw [Page 394] yn hawdd ei hepcor. Rhaid i bób dŷn yn hyn ymma farnu trosto'i hun; ni a welwn yr Apostol, er ei fód ef yn annog y Corinthiaid yn daer i haelioni, etto heb osod ar lawr iddynt, pa faint y roent, eithr yn gadael hynny i'w hymysgaroedd ei hunain, 2 Cor. 9.7. Pób ún fel y mae yn amcanu yn ei galon, felly rhodded. Ond cofiwn yn wastad mae mwy cymmeradwy a fydd gan Dduw po mwyaf a rothon ni (trwy na wnelon ni wrth hynny gam a'r rhai yr ydyn ni yn rhwym i'w cynnal) a mwy gwobr a dderbyniwn ni gantho ef. Ac er mwyn siccrhau cwplháad y Ddledswydd o roddi elusen, da a fydd i ni ddilyn y cyngor y mae St. Paul yn ei roddi i'r Corinthiaid yn hyn, 1 Cor. 16.2. Pód dydd cyntaf o'r wythnos rhodded pob ún o honoch heibio wrtho ei hun ynghadw yn ól fel y llwyddodd Duw ef; Pe gwnae dynion felly, sef rhoddi heibio beth bob wythnos ynghadw i'r weithred hon o Elusen, dena'r módd siccraf o fód péth yn wastad yn barod i'w roddi, pan ddychwelo achos, a thrwy roddi felly o fesur ychydig ac ychydig, ni a fydden yn llai teimladwy o'r draul, ac ni bydde mor fath wrwgnachu a murmur ddirgel a fydd gan ddynion wrth roddi llawer o'r unwaith: ac yn wîr fe fydde hyn yn rheol dda iawn mewn pethau eraill hefyd, canys pan fo crefftwr neu Farsiand-wr yn bwrw ei gyfrifon bób wythnos, ac yn gweled ei elw, dena'r amser cymmesuraf i offrwm y Deyrnged hon i Dduw allan o'r peth a ennillodd ef trwy ei fendith ef; os dywed rhai na allan nhw yn gystal gyfrif ei helw bób wythnos, a thrwy gymmeryd hwy o amser, ni ymryssona'i a nhw am yr amser [Page 395] nodedig hwnnw, ond gwnán bôb mis neu bód chwarter, am y gwnelont hynny: Ond yn ddiammeu iawn yw fód rhoddi peth heibio ir defnyddiau hyn yn hytrach na gadael hyn yn rhydd i'n Helufenau disymmwth ni; ac nid wyfi'n ammeu pwy bynnag a wnelo brawf o hyn, na chydnabydda fo hynny ar brofiad.
12. Yn Bedwerydd, Cariad tu tu ac at Enw dà. rhaid i ni arferu ein Cariad tu ac at Enw-dâ ein Cymydog: ac ni a allwn gael amryw achosion i hyn ymma; weithiau tu ac at y gwirion, ac weithiau tu ac at yr euog hefyd. Os bydd ûn a wypon ni fód yn ddieûog yn cael ei enllibio, a'i ddifenwi, y mae Cariad yn ein rhwymo ni i wneuthur a allon ni er eglurhau ei ddiniweidrwydd ef, a'i waredu ef oddiwrth yr enllib hwnnw, a hynny nid yn unic trwy dystiolaethu pan elwir arnon ni i hynny ond trwy gynnyg ein tystiolaeth o'n gwir-fodd yn ei blaid ef, neu os ni bydd y cyhuddiad o flaen Gorfedd Cyfiawnder, ac felly heb fod lle i'n tystiolaeth mwy cyhoeddus ni, eithr ei fôd yn unic yn enllib yn passio or naill i'r llall, rhaid i ni yno hefyd wneuthur a allon ni i eglurhau ei wiriondeb ef, trwy gymmeryd pób odfa i fynegu yn gyhoeddus y péth a wypon ni am ei ddiniweidrwydd ef Ond y mae 'n rhaid i ni gwplhau peth Cariad or fáth ymma tu ac at yr euog hefyd, trwy gelu ei fai ef, os bydd ef yn gyfryw, na bydd rhan arall yn y bŷd o Gariad yn gwneuthur bód yn angenrheidiol ei ddadcuddio ef, neu os ni bydd y bai mor hynod, a bód yn siccr o'i fradychu ei hun. Y mae 'r archollion a roddir i fri ac [Page 396] Enw da dynion o'r holl rhai eraill yn anhawsaf ei meddiginiaethu, ac am hynny fe weddai yn dda i Gariad Cristianogawl ei rhagflaenu hwynt, ië lle yr haeddwyd hwynt; ac fe ddichon ysgatfydd y cyfryw dynnerwch yn cuddio 'r bai ddwyn y Trossedd-ŵr yn gynt i Edifeirwch, os bydd hynny (fal y dyle fod) ynghyd a phob rhyw gyngor dirgel a difrifol: Ond os bydd y bai yn gyfryw, na ellir mo'i gadw fo yn gyfrinachol, etto er hynny fe ddichon bód lle i'r Cariad hwn, trwy ei leihau ef, cymmhelled ac y bo'r achos yn rhoddi cennad; megys os gwnaethpwyd ef yn ddisymmwth ac yn fyrbwyll, fe leihá Cariad hynny, trwy gyfaddaseu péth atto ef ar a berthyn i weithred bwyllog a rhag-fyfyriol; ac felly yn gyfattebol mewn amgylchiadau eraill. Ond y mae 'n dychwelyd gan mwyaf i ni arferu 'r Cariad hwn tu ac at y rhai ni wypon ni ddim oddiwrth na'i diniweidrwydd na'i heuogrwydd hwynt, ond sydd trwy ryw weithredoedd ammheus gwedi ei dwyn i ddrwg-dŷb: Ac ymma cofiwn mai priodoldeb Cariad yw bod heb feddwl drwg, ond barnu 'r goreu; ac am hynny rhaid i ni ochelyd oddiwrth feddwl anghariadus o honynt ein hunain, ac hyd y gallon ni, cadw eraill hefyd oddiwrth hynny, ac felly ymegnio i gynnal Enw da ein Cymydog, yr hwn sydd synych mewn cymmaint enbydrwydd trwy ammheuaeth anghyfiawn, a thrwy 'r achwyniad cywiraf. I hyn yr wyfi'n meddwl y perthyn Gorchymyn Crist, Mat. 7.1. Na fernwch; a phan ystyrion ni 'r geiriau sydd yn calyn, fel na 'ch barner, ni edrychwn ni ddim ar hynny megys péth [Page 397] cyn waeled ac y mae 'r bŷd yn arfer o'i gyfrif ef; fe a delir adref i ni ein barn anrhugarog o eraill, trwy ddwys a gerwyn barn Dduw.
13. Mi a eis bellach trwy 'r Cariad Gweithredol hwnnw a berthyn i'n brodyr yn ei pedwar amryw leoedd a'i sefyllfa, llawer o'r rhai neillduol o honynt y crybyllwyd ar fyrr am danynt o'r blaen, pan draethasom am Gyfiawnder. Os tybia néb yn anaddas gwneuthur yr unrhyw weithredoedd yn rhan o Gyfiawnder ac o Gariad hefyd, mi a ddymunaf arnynt ystyried, gan fód Cariad trwy Orchymyn Crist yn ddyléd arnon ni i'n brodyr, fe ddyle 'r holl rannau o Gariad yn yr ystyiaeth honno gael ei crynhoi tan y Prif-bwngc o Gyfiawnder, gan fód talu dléd yn ddiammeu yn rhan o honi hi: Etto oblegid ein bod ni yn gyffredinol yn gwneuthur rhagoriaeth rhwng swyddau Cyfiawnder a Chariad, mi a ddewisais draethu arnynt, megys y maent yn perthyn yn neillduol i Gariad. Ond yr wyfi'n deisyf fód cofio yn wastad, béth bynnag sydd tan Orchymyn, ei fôd ef yn gymmaint yn Ddléd arnon ni, a'n bôd ni yn trosseddu nid yn unic yn erbyn Cariad, ond Cyfiawnder hefyd, os nyni a'i hesgeuluswn ef; yr hyn a haedda ei ystyried, er mwyn cynnhyrfu ein gofal ni i gwplhau hynny, ac yn hytrach, oblegid fód dynion gan mwyaf yn cyfeiliorni yn hyn ymma; trwy edrych ar weithredoedd o drugaredd megys pethau yn sefyll yn hollawl ar ei hewyllys da nhw, heb fôd arnynt Rwymedigaeth yn y bŷd i hynny; a'r ffrwyth o hynny yw, fôd dynion yn barod i dybied yn fawr o honynt ei hunain, pan [Page 398] ddangoson nhw 'r Cariad lleiaf, ond ni fwriant fai arnynt ei hunain, er iddynt esgeuluso hynny yn hollawl. Os oes unrhyw gariad arall, yr hwn ni pherthyn i Gyfiawnder, y maent yn gyfryw rai ac na ofynnir oblegid ei graddau megis Dléd gaeth arnon ni, hynny yw, ni orchymynnir mo honynt yn y cyfryw fesur gan Dduw, ac etto am y rhain fe fydd resymol yn iawn i ni ymegnío; ond nid allwn ni wneuthur hynny heb gymmeryd y graddau angenrheidiol yn ein ffordd, ac am hynny bydded ein gofal cyntaf ni am danynt hwy.
14. I'n hyfforddio ni yn hyn ni ddichon bôd gwell moddion, na chadw o flaen ein llygaid y rheol ragorol honno o garu ein Cymydogion fel ni ein hunain; hyn y mae 'r Apostol yn ei wneuthur yn grynhóad o'n hól Ddledswydd ni tu ac at ein Cymydogion, Rhuf. 13.9. Bydded hyn gan hynny yn rheol i fesur ein holl weithredoedd ni tu ac at eraill wrtho; pan ganfyddi di angen yn y bŷd o eiddo dy gymydog, gofyn i ti dy hún, Pe byddit ti yn yr un cyflwr, oni wnai 'r Cariad sydd gennit ti i ti dy hun iti ymegnio am gymmorth, ac yna llawn-fwriada ar fòd dy gariad tithau yn gyfryw tu ac at dy Gymydog. Hon yw 'r Gyfraith Frenhinol honno, fel y mae St. Jaco. yn ei galw hi, Jac. 2.8. wrth ba un y bydd yn rhaid i bawb ar sydd yn ddeiliaid i Grist gael ei llywodraethu; a phwy bynnag sydd felly, fe fydd siwr o gwplhau pób Dledswydd o Gariad i eraill, oblegid y chwennychei fo i eraill, ar yr unrhyw achosion, ei cwplhau nhw [Page 399] iddo yntau. Nid oes néb na ewyllysiei cael ymddiffyn ei Enw da, cymmorth ei dlodi, a chynnorthwyo ei ddioddefaint corphorol, yn unic fe ellir dywedyd, am angenrheidiau Ysprydol, fod rhai mor esgeulus o honynt ei hunain na chwennychan nhw ddim cynnorhwy, ni ewyllysiant nag argyoeddiad, nag athrawiaeth, ië nhw a fyddant ddigllon pan roddir hwynt; fe all rhai gan hynny ddywedyd, nad ydyw 'r cyfryw rai yn rhwym trwy rinwedd y rheol hon i'r rhywogaethau hynny o Gariad. I hyn mi attebaf y deallir wrth y Cariad hwnnw o honom ein hunain, yr hwn a osodir yma ar lawr megis mesur o'n Cariad tu ac at ein cymydog, y cariad rhesymol hwnnw a ddyle fód gennin ni i ni ein hunain; ac am hynny er dyfod o ddŷn yn fyrr o'r cariad hwnnw, sydd ddledus arno iddo 'i hun, etto ni fforffediodd ei Gymydog ei gyfiawnder ef trwy hynny, y mae iddo ef etto hawl i'r cyfryw fesur o'n Cariad ni, ac a ddyle fód gennim ni i ni ein hunain, a'r cyfryw yn ddiau yw 'r gofal hwn am ein cyflwr ysprydol; ac am hynny er i ni esgeuluso ein Heneidiau ein hunain, ni ryddhâa hynny mononi oddiwrth y cariad dledus i eraill; ond ni phoena 'i yn pwyso llawer ar y cyfryw ddynion am gwplhau 'r Ddledswydd hon, gan nad ydyw debyg y gellir ei hannog nhw i hynny, nag y gwnaen nhw ddaioni trwy hynny pe gellid, gan y gorchfygai ei siampl ddrŵg ei holl gynhorion da hwynt, ac felly gwneuthur y cwbl yn ofer ac yn anfuddiol.
[Page 400] Gwneuthur Tangnheddyf15. Y mae etto ún weithred o Gariad yn ól, yr hon ni pherthyn yn briodol i'r un o'r rhai or blaen, ac etto mewn ffordd a ddichon berthynu iddynt oll, a honno yw, Gwneuthur Tangnheddyf a chymdeithas da ymysg eraill; trwy ba ûn y gallwn ni wneuthur llês mawr i Eneidiau, Cyrph, i olud, ac i Enw da ein Brodyr; oblegid y mae 'rhain o'l mewn enbydrwydd trwy gynnen ac ymryson. Y mae atgymmodi gelynion yn weithred tra-bendigedig, ac a ddŵg fendith ar y rhai a'i harferont: Y mae i ni air Crist am hynny, Gwyn-fyd y Tangnheddyf-wyr, Mat. 5.9. ac am hynny y mae i ni annogiad i gymmeryd gafael yn ddiwyd ar bôb odfa o wneuthur y swydd hon o Gariad, trwy arferu ein holl gelfyddyd a'n hegni i ddiffodd▪ pób cwerylon ac ymryssonau a ganfyddon ni ymysg eraill; ac nid digon i ni yn unic ymegnío i edfrydu heddwch lle'i collwyd ef, ond ei gynnal ef lle y bo: Yn gyntaf, yn gyffredinol, trwy geisio fefydlu ynghalon pôb dŷn o'n cydnabyddiaeth wîr brîs y Tlŵs gwerthfawr hwnnw, Tangnheddyf; Yn ail, yn neillduol, trwy ragflaenu mewn prŷd y cynnhennau a'r amrafaelion hynny a welon ni yn debyg i ddychwelyd. Fe ddichon cyfaill neu Gymydog pwyllog yn fynych ddiwygio'r camgymmeriad a'r camsyniadau hynny y rhai yw dechreuad ymryssonau ac amryfuseddau, ac fe fydd yn hawsach ac yn fwy buddiol fal hyn rag-flaenu, nag heddychu amrafaelion. Y mae yn hawsach yn ddiammeu, oblegid pan fo ymryson unwaith gwedi tarddu allan, y mae ef fal [Page 401] fflamm angerddol, yr hon ni ellir ei diffodd cyn gynted, ac y gallesid pan ydoedd yn dechreu cynneu. Ac hefyd y mae hynny yn fwy buddiol, o blegid y mae ef yn rhagflaenu llawer o bechodau, y rhai ni ellir ond yn anhawdd ei gochelyd mewn parháad cynnen cyhoeddus. Y mae Solomon yn dywedyd, yn amlder geiriau ni phalle fod pechod, Dihar. 10.19. Yr hyn ni ellir yn gymmhwysach ei draethu am unrhyw fáth ar eirieu, nag am y rhai hynny 'sy'n passio mewn digofaint; ac yna er i'r amrafael fód ar ôl hyn gwedi ei wneuthur i fynu, etto fe erys y pechodau hynny rhag llaw, ar ei cyfrif hwynt; ac am hynny Cariad mawr yw ei rhag-flaenn hwynt.
16. Ond i gymmhwyso dŷn i'r swydd ragorol hon o wneuthur Tangnheddyf, angenrheidiol yw ei fód ef mewn módd enwedigol yn dangnheddyfus ei hunan; canys a pha ryw wyneb y gelli di gynghori ac annog eraill i'r péth ni chwplhei di dy hun? Neu pa fodd y gelli ei ddisgwyl i'th gyngor dyccio? Atteb parod yngenau pób dŷn a fydd, Tydi ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst allan o'th lygad dy hun, Mat. 7.5. Ac am hynny edrych yn ddyfal am dy gymmhwyso dy hun i'r gorchwyl hyn. Y mae un pwngc o dangnheddyf na wneir fawr gyfrif o hono ymysg dynion, a hynny yw mewn trosseddiadau ymgyfreithiol; nid yw dynion yn meddwl fód niwed yn y bŷd yn myned i'r Gyfraith ynghylch pób ffiloreg gwael, a thra'i caffon nhw ond y Gyfraith o'i tu, ni thybian nhw fód bai yn y bŷd arnynt: ond yn ddiammeu, pe bydde gennin ni y gwîr [Page 402] Yspryd heddychol hwnnw a ddyle fod gennin ni, ni fydden ni ddim parod am gyfryw achosion gwael i gythrwblio ac aflonyddu ein Cymydogion. Am fyned i'r Gyfraith. Nid fal pe bydde pób mynediad i'r Gyfraith yn hollawl yn anghristianogaidd, ond y cyfryw Gwynion, ac a sylfaenir ar gynnen ac Uchder meddwl, i amddiffyn y cyfryw hawl gwael, na bydde i ni fawr golled na niwed er ymadel ac ef, neu 'r hyn sydd waeth etto, i ddíal y cyfryw gamwedd. Ac yn wir yr hwn mewn achosion mawr a ymedy a pheth o'i hawl er mwyn Tangnheddyf, sydd yn gwneuthur fwyaf Cristianogaidd, a mwyaf cyfattebol i gyngor yr Apostol, 1 Cor. 6.7. Yn hytrach dioddef cam, a chymmeryd colled. Ond os bydd y niwed cymmaint, a bód yn angenrheidiol i ni fyned i'r Gyfraith, etto yno rhaid i ni edrych yn ofalus am gynnal Tangnheddyf; yn gyntaf, trwy fód gennin ni dymmer cymdeithgar a Christianogaidd tu ac at ein gwrthwyneb-ŵr, heb oddef i'n calonnau ymddieithro oddiwrtho ef; yn ail, trwy fód yn fodlon i ymroi i bób termau rhesymol o gyttundeb, pa bryd bynnag y cynnygir hwynt; ac yn wir oni bydd gennin ni'r meddwl addfwyn tymmherus hwn yn ymgyfreithio, ni wela'i pa fodd y gellir ei cymmodi nhw a'r Yspryd tangnheddyfus hwnnw a ofynnir mor gaeth gan bób Cristion. Ystyried y rheini hyn y rhai sydd yn ddigrif ganddynt aflonyddu ei Cymydog, neu Swydd pa rai yw cynnhyrfu eraill i hyn ymma. Y mae hoffi Tangnheddyf yn gystal ynom ein hunain, ac eraill, yn hollawl yn angenrheidiol i bawb ar sydd yn ei haddef ei hunain i fód yn wasanaeth-wŷr iddo ef, yr hwn a elwir Twysog Tangnheddyf, Esa. 9.6.
[Page 403]17. Cymmaint ac sydd yn ôl i'w draethu am y Cariad hwn mewn Gweithredoedd, yw ei gyrrhaeddiad ef, yr hwn sydd raid fód mor ehang a'r llall yn yr anwydau, sef i gynnhwyso tano nid yn unic ddieithraid, ac estroniaid i ni, eithr hefyd ein gelynion mwyaf. Mi a draethais gymmaint yn barod am y Rhwymedigaeth sydd arnon ni i faddeu iddynt, na ddyweda'i ddim anghwaneg ymma am hynny, ond os cydnabyddir hynny yn Ddledswydd, ni ymddengys ond yn rhesymol iawn i ni fyned ymlaen ûn rádd ymmhellach, sef, i wneuthur cymwynasau iddynt; oblegid gwedi i ni unwaith faddeu iddynt, ni allwn ni ei cyfrif hwynt yn Elynion mwyach, ac felly ni bydd yn béth anhawdd iê i gîg a gwaed wneuthur pób rhyw gymwynas iddynt. Ac yn wîr dymma'r módd i ni i brosi gwirionedd ein maddeuant. Hawdd yw dywedyd, yr wyf'n maddeu i'r cyfryw ddŷn, ond os gommeddi di wneuthur daioni iddo pan geffych odfa, amlwg yw fód yr hên falis etto yn llechu yn dy galon di; lle y mae maddeuant hollawl, fe fydd cymmaint parodrwydd i wneuthur cymwynas i Elyn ac i gyfaill: iê ysgatfydd mewn rhai pethau ychwaneg, gan fód dŷn gwîrgariadus yn edrych arno megys goruchafiaeth odidog, pan gyfarfyddo ef ac odfa i eglurhau gwirionedd ei gymmod, ac i ufyddhau Gorchymyn ei Iachawdr, trwy wneuthur daioni i'r rhai a'i casháant ef, Mat. 5.44. Gwybyddwn gan hynny fód yn rhaid i ni gwplhau póob rhyw weithredoedd o garedigrwydd i'n gelynion, am yr hyn béth y mae ini nid yn unic Orchymyn, eithr hefyd siampl [Page 404] Crist, yr hwn nid oedd yn unic yn tosturio troston ni ei elynion gwrthnysig a gwrthryfelgar, eithr a ddangosodd hynny mewn gweithredoedd, a hynny nid rhai gwael ac esmwyth, ond y cyfryw ac a gostiodd iddo ef ei werthfawroccaf waed. Ac yn ddíau ofer i ni gymmeryd arnom nag ufyddhau ei Orchymyn ef, na dilyn ei siampl ef, os bydd yn anhawdd gennini ddangos allan ein Cariad tu ac at ein gelynion trwy'r ffyrdd esmwythach hynny o'i porthi nhw yn ei newyn, neu'r cyffelyb a osodir ar lawr i ni gan yr Apostol, Rhuf. 12.20. Ond os gallen ni gwplhau'r gweithredoedd hyn o garedigrwydd i'n gelynion yn y cyfryw, fódd ac a'i tynne nhw oddiwrth ei gelyniaeth, ac a'i hennille nhw i heddwch, fe fydde'r Cariad yn ddau ddyblyg; Ac at hyn y dylen ni ymegnío, oblegid hynny y mae'r Apostol yn ei osod ar lawr megys y diben o'r gweithredoedd rhagddy wededig o borthi, &c. Fel y bo i ni bentyrru marwor am ei pennau hwynt, nid marwor i'w llosgi, ond i'w toddi nhw i bód rhyw Gariad a thynnerwch tu ac atton ni; a hyn yn wîr a fydde'r módd berffeithiaf o ddilyn siampl Crist, yr hwn, yn y cwbl a wnaeth ef, ac a ddioddefodd ef troston ni, oedd yn rhag-luniaethu ein cymmodi ni ac ef ei hun.
Priawdserch yn rhwysir i'r Cariad hwn.18. Mi a ddongosais i chwi bellach yr amryw rannau o'n Dlêd iu ac at ein cymydog, er mwyn cwplhau pa ûn ni wn ni ddim mwy angenrheidiol na diyspyddu ein Calonnau o'r Priod-gariad hwnnw, yr hwn sydd mor fynych yn ei meddiannu hwynt, a hynny mor hollaw, nad yw yn gadael lle i Gariad, iê nag i [Page 405] yfiawnder ychwaith tu ac at ein Cymydog. Nid wyfi'n meddwl trwy'r Priod-gariad hwn y gwîr-gariad hwnnw o honom ein hunain, sef y Cariad a'r gofal am ein Heneidiau, ond y Cariad anghymedrol hwnnw o'n bûdd a'n mantes bydol, yr hyn yn ddíau yw gwreiddyn pób anghyfiawnder ac angharedigrwydd tu ac at eraill. Y mae'r Apostol yn gosod y pechod hwn o serch i ni ein hunain ym mhen lliaws o bechodau, 2 Tim. 3.2. fel pe bydde fo yn ryw Swyddwr cyfrifol ym myddin Satan; ac yn wîr nid heb achos, oblegid nid yw ef ûn amser yn myned heb lu melldigedig o amryw bechodau eraill, y rhai fel cynffon y Ddraig, Dadc. 12.4. sydd yn tynnu ymmaith bób gofal am Ddledswydd tu ac at eraill. Fe'n gwneir ni trwy hynny mor ddyfal a bwriadus ar ein boddhau ein hunain, na waeth gennin ni am néb arall, yngwrthwyneb i gyfarwyddiad St. Paul, Rhuf. 15.2. yr hyn yw, nid i'n boddhau ein hunain, ond i bawb foddhau ei gymydog yn yr hyn sydd dda i adeilad; yr hyn y mae fo yn ei annog o ran siampl Crist, gwer. 3. Canys Crist nis boddháodd ei hunan: Os oes gan hynny ewyllys diffúant gennin ni o gael y Rhinwedd ymma o gariad wedi ei gwreiddio yn ein calonnau ni, rhaid i ni fód yn ofalus am chwynnu allan y pechod hwn o serch i ni ein hunain, oblegid ammhossibl yw iddynt hwy ill dau lwyddo yn yr ûn lle.
19. Ond gwedi i ni symmud ymmaith y Rhwystr hwn, rhaid i ni gofio nad yw hyn, mwy na grasau eraill, yn tarddu o honom ein hunain, dawn Duw yw efe, ac am hynny rhaid [Page 406] i ni Weddio yn daer arno ef am ei weithredu ef ynom ni, trwy ddanfon ei Yspryd glân, yr hwn a ymddangosodd unwaith mewn dull Clommen creadur llaryaidd a di-fustl, i ffurfio ein calonnau ni i'r unrhyw dymmer, ac i'n gwneuthur ni yn abl i gwplhau yn iawn y Ddledswydd hon.
Dledswyddau Cristianogawl yn bossibl ac yn hyfryd20. Mi a eis bellach trwy'r amryw Ddosparthiadau hynny a osodais i ar lawr ar y cyntaf, ac a ddangosais i chwi béth yw ein Dledswydd i Dduw, i ni ein Hunain, ac i'n Cymydog: Ac mi a allaf ddywedyd am hyn megis y mae, Luc. 10.28. Gwná hyn a byw fyddi. Ac yn ddiammeu nid gorchwyl ammhossibl yw cwplhau hyn yn y cyfryw fesur ac y mae Duw yn fodlon i'w dderbyn yn rasusol, sef, mewn Purdeb, er nid mewn Perffeithrwydd, oblegid nid yw Duw yn gyfryw Feistr tôst, Luc. 19.20. Yn medi 'r péth ni hauodd; nid yw efe yn gofyn dim gennin ni ond y péth y mae fo yn barod trwy ei Râs i'n helpu ni i'w gwplhau, oddigaeth i ni fód yn ddiffygiol i ni ein hunain, naill ai yn ei ofyn ef trwy Weddi, neu yn ei arferu ef trwy Ddiwydrwydd. Ac megys nad ydyw ef yn ammhossibl, felly hefyd nid yw ef yn orchwyl mor drwm, ac athrist, ac y mae dynion yn barod i feddwl o honaw. Cyfrwysder arbennig Satan yw gwneuthur fel y gwnaeth y Spiwyr, Num. 13.32. dwyn anglod i'r Tîr da hwn, sef, buchedd Gristianogawl, i'n harswydo a'n digalonni ni rhag myned i mewn iddi hi, ac i'n brawychu ni ac ni wn ni pa Gawri a gawn ni ei cyfarfod; ond na siommer ni fal hyn, eithr ymwrolwn i brofi, ac yna ni [Page 407] a gawn ei gweled hi yn Ganaan▪ yn wlâd yn llifeirio o laeth a mêl: Nid yw Duw yn anialwch i'w bobl, nag yn dîr Tywyllwch. Jer. 2.31. Nid yw ei wasanaeth ef yn ein difeddu ni o ddim gwîr lawenydd, ond yn ein helpu ni i lawer iawn: y mae jau Grist yn esmmyth, iê ac yn hyfryd hefyd, y mae ei faich ef yn ysgafn, iê ac yn rasusol hefyd. Y mae mewn ymarfer Dledswyddau Cristianogawl lawer iawn o bleser presennol, ac os nid ydyn ni yn deimladwy o hynny, hynny sydd o ran y gwrthwynebiad y mae ein hymarweddiad trofaus bechadurus ni yn ei wneuthur, y rhai trwy'r ymrafael sydd yn codi anesmwythdra. Ond ymma yn gyntaf rhaid i ni roddi hyn ar ein cyfrif ein hunain, am i ni gael y drŵg arferion hyn, ac felly gwneuthur hynny yn anhawdd i ni, yr hwn o hono 'i hûn sydd yn dra-hyfryd; ni wasanaetha bwrw bai ar y Dledswyddau am hynny. Ac yna yn ail, y mae'r hyfrydwch o orchfygu 'r arferion drŵg hynny yn gyfryw, ac a lwyr bwysa i lawr yr holl drafferth o'r frwydr.
21. Ond fe ddywedir ysgatfydd fód rhai rannau o Dduwioldeb yn gyfryw, ac a fydd yn debyg iawn i ddwyn arnon ni erledigaethau a blinderau yn y bŷd, ac nad yw y rheini yn hyfryd, eithr yn ofidus. Mi a attebaf, fód yn y rheini achos o orfoledd: ni welwn fód yr Apostolion yn meddwl felly, yr oeddynt yn llawénychu am ei cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef er mwyn Enw 'r Jesu, Act. 5.41. Ac y mae St. Petr yn dywedyd i ni, os bydd i néb oddef fel Cristion y dyle ef foliannu [Page 408] Duw am hynny, 1 Pet. 4.16. Y mae 'r cyfryw rym a rhinwedd yn nhystiolaeth Cydwybod dda ac sydd abl i newid y Penydiau tostaf i'r gorfoledd mwyaf, ac ni allwn ni byth gael y dystiolaeth honno yn eglurach ac yn fywioccach na phan oddefon ni er mwyn Cysiawnder; felly, chwi a welwch fód Cristianogrwydd yn dra-hyfryd yn ei hymwisgiad gresynolaf, y mae ei diddanwch hi oddi mewn yn rhagori llawer ar yr holl flinderau oddiallan sydd yn ei dilyn hi, a hynny yn y cyfamser, tra 'i boni yn y cyflwr o filwraeth ar y ddair. Ond os edrychwn ni ymlaen ar y Goron o'n buddugoliaeth ni, sef y gwobrau tragywyddol hynny yn y Nêf ni thybiwn ni byth fób y dioddefiadau hynny yn ofidus, na 'r Dledswyddau Cristianogawl ychwaith, er na bo dim gennini yn y cyfamfer i'w pereiddio hwynt, gan fod y cyfryw dâl am danynt yn yn diwedd; bŷdded ein llafur ni mor dôst ac y mynno, ni all fôd achos i ni ddffygio tanynt. Gadewch i ni gan hynny pan gyfarfyddon ni a rhyw rwystrau yn ein hymdaith, sefydlu ein golwg ar y gyngwystl ŵerthfawr hon, ac yna rhedeg trwy ammynedd yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni, Hebr. 12.1. a dylin Pen-iwysog ein hiechydwraeth ni trwy 'r gofidiau trymmaf, iè trwy 'r unrhyw Fôr côch o waed yr aeth ef trwyddo, pan fo ein husydd-dod ni iddo ef yn gofyn hynny; oblegid er i'n ffyddlondeb ni iddo ef ein tywys ni i angeu, yr ydyn ni yn siccr na byddwn ni golled-wŷr wrth hynny; oblegid i'r cyfryw rai yr addawodd ef Goron y bywyd, disgwyliad pa ûn a ddichon wneuthur Cristion yn fwy cyssurus [Page 409] yn ei efynnau a phydew tomlyd, na cherlyn bydol ynghanol ei lwyddiant mwyaf.
22. Cymmaint ac sydd i mi i'w draethu yn anghwaneg yw, i ddeisyf ac i daer-ymbil ar y Darllenydd, ar iddo yn ddiattreg ymosod ar y Ddledswydd hon sydd mor fuddiol a hyfryd, trwy ymarferu yn ddiffúant yr holl bethau hynny a genfydd ef trwy'r Llyfr hwn, neu ryw foddion eraill, i fód yn ddyledus arno, a pho pellaf yr aeth ef o'r blaen allan o'r ffordd, pryssurach y dyle fo geisio dyfod iddi hi, a bód yn fwy diwyd i rodio ynthi hi. Yr hwn sydd iddo siwrne fawr i fyned, ac a wêl iddo golli rhan fawr o'i ddydd mewn ffordd gyfeiliornus, nid rhaid mor cymmell llawer arno i droi i'r ffordd union, nag i bryssuro ei fynediad ynthi hi. A dymma gyflwr y rhai óll a fuont fyw mewn rhyw gwrs o bechod, y maent hwy mewn llwybr cyfeiliornus, yr hwn ni ddŵg monynt byth i'r lle y maent yn amcanu, iè a'i dŵg hwynt yn ddiammeu i'r lle y maent yn ei gashau ac yn ei arswydo fwyaf; llawer o'i dydd a dreulwyd, ni ŵyr néb pa faint a adewir iddynt i orphen ei taith yntho, ysgatfydd yr awr neu 'r munudyn nessaf y daw nosweth marwolaeth ar ei gwartha hwynt; pa ynfydrwydd gan hynny yw iddynt oedi ûn munudyn ymchwelyd allan o'r llwybr hwnnw sydd yn arwain i ddinistr anocheladwy, ac i ymosod yn y ffordd honno a'i dŵg hwynt i wynfyd a gogoniant? Etto y mae dynion gwedi ei llygattynu a'i hudo gan Dwyll pechod cymmhelled, [Page 410] na thyccia deisyfiad nac annogaeth yn y bŷd ddim gydá hwynt, i wneuthur y cyfnewid hwn sydd mor resymol ac angenrheidiol; nid fal pe byddent heb gydnabod fod hyn yn angenrheidiol, ond ei bôd yn anfodlon i wneuthur hynny etto; nhw a chwennychent fwynhau holl bleserau pechod tra 'i bônt byw, ac yna maent yn gobeithio gwneuthur y cwbl a berthyn i'w Heneidiau ar ei marwolaeth, neu ychydig amser cyn hynny. Ond och! Y mae 'r Nêf yn rhŷ uchel i neidio fal hyn iddi hi, y mae 'r ffordd iddi hi yn állt hír a pharhaus, yr hon a ofyn amser i'w rhodio. Fe draethwyd yn helaethach am y peryglon o oedi hyn yn y Traethawd am Edifeirweh: Nid á 'i ymma i'w hail-adrodd hwynt, ond deisyf yn unig ar y Darllenydd ei gosod nhw yn ddifrifol at ei galon, ac yna yn ddiammeu fe dybia mai cyngor mewn prŷd a roddir gan y gŵr doeth, Eccles 5.8. Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac na oeda o ddydd i ddydd.
Dwywolder NEILLDUOL Ar amryw ACHOSION, Yn Gystal CYFFREDINOL Ac ANGHYFFREDINOL.
LONDON, Printed for R. Royston, 1671.
Y DARLLENYDD CRISTIANOGAWL,
FE ddarfu i mi er Cymmorth i'th Ddefosiwnau di osod ar lawr rai FFURFAU o WEDDIAU NEILLDUOL ar amryw Achosion: Os tybíir yn fyrr ynof nad oes yr un i Deuluoedd, rhaid i mi atteb trossof fy hun, nad oedd hynny o herwydd fy mód i yn meddwl na ddylid addoli Duw yn gystal yn y Teulu ac yn y Stafell; ond o herwydd darfod i Ragluniaeth Duw a'r Eglwys baratoi yn barod i'r pwrpas hwnnw tu hwynt o anfeidrol i'r eithaef a allasei fe niwydrwydd i ei wneuthur, sef y LITYRGY PUBLIC neu'r LLYFR GWEDDI GYFFREDIN, y rhai am bób dynessáad cyhoeddus at Dduw (a'r cyfryw yw Gweddiau Teuluaidd) ydynt mor rhagorol a defnyddiol, ac y galla'i ddywedyd am danynt, fal y dywedodd Dafydd am gleddyf Goliah gynt, 1 Sam. 21.9. Nid oes yr un tebyg iddo ef.
CYFARWYDDIAD am y BOREU.
Cyn gynted ae y deffróech di 'r boreu, derchafa dy galon at Dduw Yn hon neu ryw gyffelyb Weddi ferr arall.
ARGLWYDD, megis ac y deffróaist ti fy nghorph i o gwsg, felly trwy dy Râs deffro fy Enaid o bechod; a gwná i mi felly rodio ger dy fron di 'r dydd hwn, a holl ddyddiau [Page 414] fy mywyd rhag llaw, fal pan ddeffrŷ 'r udcorn diweddaf fi o'm bédd; y gallwyf gyfodi i'r fuchedd anfarwol, trwy Jesu Grist.
GWedi iti ddechreu fal hyn, na ád (heb ryw achos tra-angenrheidiol) a feddyliau bydol dy rwystro di, nes darfod i ti befyd dalu dy Ddyléd mwy arbennig i Dduw holl-alluog, ac am hynny tra'i bóch di yn dy ymwisco dy hun (yr hyn ni ddyle gymmeryd dim mwy o amser nac y bo gweddeidd-dra cyffredinol yn gofyn) myfyria ar ryw bethau Ysprydol: megys hyn, ystyria i ba ryw brofedigaethau y mae dy Orchwylion neu'th gyfeillach y dydd hwnnw debyccaf i'th ddenu di, ac arfera dy hun a llawn-fwriadau yn ei herbyn hwynt; neu ymmhellach, ystyria pa achlysur yr wyt ti debyccaf i'w gael y dydd hwnnw wasanaethu Duw, neu i wneuthur daioni i'th gymydog, ac ymróa i gymmeryd gafael arno ef; a bwriada hefyd pa fódd y bydd iti wneuthur y defnydd goreu o'r cyfryw odfa. Ond yn enwedig chwilia yn ddyfal a fuost ti yn euog o unrhyw bechod er dy ymholiad y nôs o'r blaen. Os bydd i ti ar ól yr ystyriaethau hyn ychwaneg o ennyd, yna myfyria am yr Adgyfodiad cyffredinol (cyffelybiaeth i ba ún yw ein Cyfodiad ni o'n gwelâu) ac am y farn echryslon honno sydd yn calyn, ac yna meddwl wrthit dy hun mewn pa fâth barodrwydd yr wyt ti erbyn hynny, a llawnfwriada hwsmonaethu yn ddiwyd bób munudyn o'th amser i'th gymhwyso dy hûn erbyn y cyfrif mawr a fydd raid i ti roddi y pryd hynny. Cyn gynted ac y byddoch di yn barod, cyfeiria i ryw le dirgel, ac yna offryma i fynu i Dduw dy aberth Foreuol o Foliant a Gweddi.
GWEDDIAU BOREUOL.
Wrth ymostwng ar dy liniau, dywed.
Y Gogoned, lân fendigaid Drindod, tri pherson ac ûn Duw, trugarhá wrthif wîr bechadur.
O Arglwydd, ni's gwn i pa béth i Weddío am dano fal y dylwyf; o bydded i'th Yspryd di gynnorthwyo fy ngwendid i, am gwneuthur i yn abl i offrwm i fynu Aberth ysprydol gymmeradwy gennit ti, trwy Jesu Grist.
Diolwch.
O Arglwydd Grasusol, yr hwn y mae ei Drugareddau yn parhau yn dragywydd, yr wyf fi dy wâs annheilwng yr hwn a archwaethais mor helaeth o honynt, yn chwennych talu i ti deyruged o foliant gostyngeiddiaf am danynt: Ynot ti, o Arglwydd, yr wyf' yn byw, yn symmud, ac yn bód; tydi ar y cyntaf a wnaethost i mi fód, ac yna fal na byddwn yn druenus eithr yn ddedwydd, ti a anfonaist dy fâb o'th fonwes i'm gwaredu i oddiwrth allu fy mhechodau trwy ei Râs, ac oddiwrth gospedigaeth am danynt trwy ei waed, a thrwy bób ûn i'm dwyn i'w ogoniant. Tydi o'th drugaredd a wnaethost i mi gael [Page 416] fy ngeni o fewn dy Gorlan briodol dy hûn, yr Eglwys Gristianogol, lle i'm cyssegrwyd yn gynnar i ti trwy fedydd, ac y búm gyfrannog o'r holl gymmorthau ysprydol hynny a allei fy nghynnorthwyo i i gwplhau'r Adduned a wnaethum i yno i ti; a chwedi i mi o'm gwirfodd neu trwy esgeulusdra ei dorri ef, etto o'th anfeidrol drugareddau ni ddarfu iti mo'm gwrthod i, eithr a'm gwahoddaist i yn rasusol i Édifeirwch, ac a ganniadhéaist i mi bób rhyw foddion oddimewn ac oddiallan i hynny, a thrwy ddirfawr ammynedd a arbedaist fy nhorri i ymmaith yn gweithrediad yr amryw bechodau dinistriol hynny a wneuthum i, megys yr haeddais i yn dra-chyfiawn. Dy Râs di, O Arglwydd, yn unic a'm hattaliodd i oddiwrth y pechodau mwyaf, ac a'm gwnaeth i yn abl i wneuthur y daioni lleiaf; Nid i mi gan hynny, nid i mi, ond i'th Enw dy hun y bo'r moliant. Am y rhai hyn a phób ryw fendithion ysprydol eraill, fy Enaid a fawryga 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof a fawl ei Enw Sanctaidd ef. Yr wyfi'n dy foliannu di hefyd am yr amryw fendithion hynny oddiallan yr wyf' yn ei mwynhau, megys Iechyd, cyfneseifiaid, ymborth, a dillad, y Cyssurau yn gystal a'r angenrheidiau o'r bywyd hwn, am amddiffyniad beunyddol dy law, trwy ba ûn i'm cedwir i a'm heiddo oddiwrth beryglon, a'r ymwared grasusol hynny a ganniadhéaist ti yn fynych allan o'r cyfryw rai a ddychwelodd i mi, ac am dy drugaredd hefyd yn pereiddio ac yn ardymmheru'r blinderau hynny y rhai ni welaist ti yn dda yn hollawl ei symmud ymmaith: am fy amddiffyniad neillduol y nôs [Page 417] hon, a phób rhwy ddaioni arall tu ac attafi; Caniadhá, O Arglwydd, fód i mi dalu i ti nid yn unic ffrwyth fy ngwefusau, ond hefyd ufudd-dod fy muchedd, fal y bo'r bendithion hyn yn wystl o'r bendithion gwerthfawroccaf hynny a baratóaist ti i'r sawl a'th garant di, a hynny er ei fwyn ef yr hwn a wnaethost ti yn Awdur iechydwraeth dragywyddol i bawb a ufuddháant i ti, sef Jesu Grist.
Cyffes.
O Arglwydd Cyfiawn yr hwn wyt yn cashau anwiredd, wele fi dy greadur pechadurus yn ymddarostwng fy hûn wrth dy draed di, gan gydnabod i mi haeddu yn dra-chyfiawn i ti yn hollawl fy ffieiddio am gwrthod i; canys mi a yfais anwiredd fal dwfr, ac a eis ymlaen mewn trefn ddibaid o bechod a gwrthryfelgarwch i'th erbyn, gan wneuthur yn wastad y pethau'r wyt ti yn ei gwahardd, a gadael heb wneuthur y pethau'r wyt ti yn ei gorchymyn; Y mae fy nghalon, yr hon a ddyle fód yn drigfa i'th Yspryd ti, yn lloches adar aflan, sef anwydau ffiaidd ac afreolus, ac allan o ormodedd y galon y mae fy 'ngenau yn llefaru, a'm dwylo yn gweithio, yn gymmaint a'm bód i mewn meddwl, gair, a gweithred, yn ddibaid yn trosseddu i'th erbyn di [ymae adrodda dy bechodau mwyaf.] Ie, O Arglwydd, mi a ddirmygais dy ddaioni hynny a ddylasei fy nhywys i i edifeirwch, gan galedu fy nghalon yn erbyn yr holl foddion hynny a arferaist ti, er fy ngwelláad. Ac yn a wr, O Arglwydd, béth sydd i mi i'w ddisgwyl oddiwrthit ti ond [Page 418] barn, a llidiawgrwydd tanllyd, yr hyn yn wîr yw dledus wobr fy mhechodau i? Ond y mae trugaredd gyda thydi, O Arglwydd, fel i'th ofner, O cymhwysa fi i'r drugaredd honno trwy roddi i mi ddiffúant a difrifol Edifeirwch, ac yna yn ól dy ddaioni, ymchweler dy lîd a'th ddigofaint oddiwrthif; Edrych arnaf fi yn dy Fâb fy Jachawdr bendigedig, ac er teilyngdod ei ddioddefaint ef maddeu fy hóll bechodau: Ac yr wyf' yn attolwg i ti, O Arglwydd, trwy allu dy Râs, felly adnewyddu a glanhau fy nghalon i, fal y byddwyf yn greadur newydd, trwy ymwrthod yn hollawl a phób ffordd ddrŵg, a byw mewn diffúant, parhaus, a chyflawn Ufydd-dod i ti y rhan arall o'm dyddiau, módd y gallwyf trwy fy ymddwyn fy hûn megys gwâs dá a ffyddlon, gael gan dy drugaredd fy nerbyn i lawenydd fy Arglwydd: Canniadhá hyn er mwyn Jesu Grist, Amen.
Gweddi am Râs.
O Dduw tra-grasusol, oddiwrth pa un y mae pób rhodd dda a pherffaith yn dyfod, yr wyf fi greadur truan yr hwn nid allaf o honof fy hun gymmint a meddwl ûn meddwl da, yn erfyn arnat ti weithredu ynof fi 'r ewyllysio a'r gwneuthur yn ôl dy ewyllys da di. Goleua sy meddwli, fal y gallwyf dy adnabod di, ac na âd i mi fôd yn hysp ac yn anffrwythlon yn y wybodaeth honno; O Arglwydd, gweithia yn fy nghalon i wîr ffydd, gobaith puraidd, a diffúant gariad tu ac attat ti; dyro i mi gyflawn ymddiried ynot [Page 419] zêl trostot, a pharch i bób péth a berthyn i ti; gwna i mi fód yn ofnus o wneuthur dim i'th erbyn di, yn ddiolchgar am dy Drugareddau, yn ostyngedig tan dy geryddon di, yn ddefosionawl yn dy wasanaeth di, yn ofidus am fy mhechodau; a channiadhá i mi felly fy ymddwyn fy hûn ym mhób péth, fal y gweddai i greadur tu ac at ei Greawdwr, i wâs tu ac at ei Arglwydd: Cynnorthwya fi hefyd i gwplhau 'r Ddledswydd honno sydd yn ddledus arnaf fi i mi fy hún; Dyro i mi yr Addfwynder, y Gostyngeiddrwydd, a'r bodlonrhwydd hynny trwy ba rai y gallwyf yn wastad feddiannu fy Enaid mewn ammynedd a diolchgarwch; gwná fi yn ddiwyd yn fy holl Ddledswyddau, yn wiliadwrus rhag pôb profedigaethau, yn gwbl ddihalog ac Ardymmherus, ac mor gymmhedrol yn y pethau mwyaf cyfreithlon yr wyfi 'n ei mwynhau, fal na byddont byth yn fagl i mi; gwná i mi hefyd, O Arglwydd, felly fy ymddwyn fy hun tu ac at fy 'nghymydog, fal na throsseddwyf 'byth dy gyfraith frenhinol di o'i garu ef fal fify hun; Canniadhá i mi gyflawni yn hollawl bób rhyw ran o Gyfiawnder, trwy dalu i bawb béth bynnag trwy fódd yn y bŷd o Gyfiawnder sydd yn ddyledus iddynt, a dyro i mi y cyfryw ymsgaroedd o drugaredd a thosturi, fal na deffygwyf byth yn gweithredu pób máth a'r Gariad tu ac at bób dŷn pa ún bynnag ei Cyfeillion ai gelynion, yn ôl dy Orchymyn di a'th Esampl. Yn ddiweddaf, yr wyfi 'n attolwg i ti, O Arglwydd, fy Sancteiddio i yn hollawl, fal y bo i'm holl Yspryd, a'm Henaid, a'm Corph, gael ei gadw [Page 420] dw yn ddiargyoedd hyd ddyfodiad ein Harglwydd Jesu Grist, i'r hwn gydá thydi a'r Yspryd glân y bo 'r holl Anrhydedd a'r Gogoniant yn dragywydd, Amen.
Gyfryngiad.
O Arglwydd bendigedig, yr hwn y mae dy Drugaredd tu hwnt i'th holl weithredoedd, yr wyfi'n attolwg i ti drugarhau wrth bôb dŷn, a channiadhá fód y prîs gwerthfawr, a rodwydd ar lawr gan dy Fâb tros bawb, yn effeithiol i jachau pawb. Dyro dy Râs disclair i'r rhai sydd mewn tywyllwch, a'th ymchweledig Râs i'r rhai sydd mewn pechod, edrych a'th dynneraf dosturi ar yr Eglwys gyffredinol; Gwná ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Sion, adeilada furiau Caersalem: Una a thi dy hún bawb ar sydd yn cyffessu dy Enw, trwy burdeb, a Sancteiddrwydd; ac a nhw ei hunain, trwy gariad brawdol. Trugarhá wrth yr Eglwys hon, a gwná i bób aelod o honi hi wîr edifarhau am y pechodau hynny a annogasant dy farnedigaethau, módd y bo i ti hefyd droi, ac edifarhau, a gweddill bendith o'th ôl. Bendithia di y rhai a ordeiniaist ti yn Llywodraeth-wŷr arnon ni pa ûn bynnag ai yn yr Eglwys, ai 'r Deyrnas; rheola felly ei Calonnau hwynt, a chadarnhá ei dwylo, fal na bo arnynt eisieu ewyllys na gallu i gospi drygioni a chamwedd, ac i sefydlu gwîr grefydd Dduw a Rhinwedd dda. Trugarhá, O Arglwydd, wrth bawb ar fydd mewn trueni a helbul; bydd yn Dâd i'r ymddifad, a dadleu achos y weddw, cyssura y rhai o wan galon, [Page 421] cynnal y gweiniaid, iacha'r cleifion, adfera 'r anghenus, amddiffyn y gorthrymmedig, a chyfranna i bawb yn ôl ei hamryw angenrheidiau, gorphywysed dy fendithion ar bawb sydd agos o râdd ac yn gû gennifi, a channiadhá iddynt beth bynnag a weli di yn angenrheidiol naill ai i'w Cyrph hwynt, neu 'i Heneidiau. [Yma henwa dy Geraint nessaf.] Gobrwya y rhai óll a wnaethant i mi ddaioni a phardyna y rhai óll a wnaethant, neu a ewyllysiant i mi ddrŵg, a gweithréda ynddynt hwy a minneu yr holl ddaioni hynny a ddichon ein gwneuthur ni yn gymmeradwy yn dy olwg di, trwy Jesu Grist, Amen.
Am ymwared.
O Dduw trugarog, trwy ródd pa ún yn unic yr anghwanegir y dydd hwn at fy einioes i, yr wyf' yn attolwg i ti felly fy hyfforddio i yntho ef trwy dy Râs, modd na wnelwyf ddim a'th ddianrhydedda di, neu a archolla fy Enaid fy hun, ond bód i mi fy ymroi fy hún yn ddiwyd i wneuthur yr holl weithredoedd da hynny a baratoaist ti i mi i rodio ynddynt; ac, O Arglwyd, yr wyf' yn attolwg i ti roddi i'th Angylion orchymyn am danaf i'm cadw i yn fy holl ffyrdd, fal na bo i ddim drŵg ddigywyddo i mi, nag i unrhyw blâ nessau at fy nhrigfa, ond bód i mi, a'm heiddo, fôd yn ddiogel tan dy nawdd a'th gymmorth grasusol di, trwy Jesu Grist.
[Page 422]OArglwydd, maddeu gyfeiliorni ac oerder yr erfynion hyn, a gwná a mi nid yn ôl fy ngweddiau a'm haeddedigaethau, eithr yn ôl fy angenrheidiau i, a'th ddirfawr drugareddau dy hún yn Ghrist Jesu, yn Enw ac yn geiriau bendigedic pa ûn y terfynaf fy ammherffaith weddiau hyn, gan ddywedyd, Ein Tâd yr hwn wyt, &c.
GYFARWYDDIAD am y NOS.
Y Nôs, pan fo amser gorphwysfa yn nessau, myfyria wrthit dy hun, pa fódd y treuliaist ti 'r dydd; hola dy galon pa bechod a wnaethost ti mewn meddwl, gair, neu weithred, pa odfa o wneuthur daioni a esgeulusaist ti, a pha béth bynnag a ganfyddi di dy hun yn euog o hono, cyffessa yn ostyngedig ac yn edifeiriol ger bron Duw, adnewydda dy amcanion, a'th fwriadau o wellháad, ac erfyn ei bardwn ef yn Ghrist, a hynny nid yn ysgoewan, neu megis o arfer yn unic, ond a phób rhyw daerni defosionawl, megis ac y gwneit ti pe byddit siccr fód dy farwolaeth mor agos attat ac yw dy gwsg, yr hyn am a wyddost ti a all fód felly, ac am hynny ni ddylit ti feiddio cysgu heb wneuthur dy gymmod a Duw, mwy nac y meiddit ti farw felly. Yn nessaf ystyria pa Drugareddau arbennig a rhagorol a dderbyniaist ti y Dydd hwnnw, megis os cefaist ryw ymwared mawr, naill ai yn dy Ddyn oddi mewn, oddiwrth ryw Brofedigaethau peryglus, neu yn dy ddyn oddiallan, oddiwrth ryw [Page 423] enbydrwydd mawr hynod, ac offrymma i Dduw ddifrifol a defosionawl foliant am hynny, neu os ni ddigwyddodd dim o'r fáth béth i ti, eithr, cael honot dy gadw oddiwrth bób dynessáad enbydrwydd, nid oes iti ddim llai, ond mwy achos o lawer i fawrygu Duw, yr hwn trwy ei nodded a'th amddiffynnodd di felly, na ddarfu cymmint ac i ofn drwg syrthio arnat ti. Ac am hynny na esgeulusa dalu iddo ef deyrnged o ddiolchgarwch gostyngedíg, yn gystal am ei nodded arferol a beunyddiol, ac am ei ymwaredau mwy rhagorol. Ac uwchlaw pób peth ymegnía yn wastad ar fód i'th galon trwy fyfyrio am ei Drugareddau ef, gael ei chyssylltu yn nês atto ef gan goffhau fód pób cymwynas a dderbynnir oddi ar ei law ef yn rhwymedigaeth arnat ti o newydd i'w garu ef ac i ufuddhau iddo ef.
GWEDDIAU am y NOS.
Y Gogoned lân fendigaid Drindod, tri pherson ac un Duw, trugarhá wrthif wir bechadur.
O Arglwydd ni's gwn i pa beth i weddío am dano fal y dylwyf, bydded i'th Yspryd di gynnorthwyo fy ngwendid i, a'm gwneuthur i yn abl i offrwm i fynu aberth ysprydol gymmeradwy gennit ti trwy Jesu Grist.
Cyffes.
O Arglwydd Dduw Sancteiddiaf, yr hwn wyt o olygon purach, nac i edrych ar anwiredd; pa fodd y meiddia 'i greadur gwael truan ymddangos o'th flaen di, yr hwn nid wyf ddim ond ffieidd- dra? yr wyfi'n halogedig yn fy natur, a chennif annhueddiad at bób daioni, a pharodrwydd i bób drŵg; ond myfi am halogais fy hun etto yn waeth o lawer trwy fy mhechodau gweithredol fy hûn, am harferion drygionus; Mi a drosseddais fy nledswydd tu ac attat ti, fy nghymydog, a mi fy hûn, a hynny mewn meddwl, gair, a gweithred, trwy wneuthur y pethau hynny a waherddaist ti yn eglur, ac esgeuluso gwneuthur y pethau hynny a orchymynnaist ti i mi: a hynny nid yn unic trwy anwybobaeth a gwendid, ond trwy wybod, ac yn rhyfygus, yn erbyn cynnhyrfiadau dy yspryd ti, ac argyoeddion fy nghyd wybod fy hun i'r gwrthwyneb. Ac i wneuthur hyn oll yn dra-phechadurus, mi a eis ymlaen mewn trefn feunyddiol o ail-gyrchu 'r anwireddau hyn i'th erbyn di, er maint dy alwad ti, a'm bwriadau innau o wellháad; iê 'r dydd hwn ni rusais i anghwanegu pechodau newyddion at fy euogrwydd o'r blaen. [yma benwa dy bechodau neillduol.] Ac yn awr, O Arglwydd, beth a ddyweda'i, neu pa fodd yr agora 'i fy ngenau, gan i mi wneuthur y pethau hyn? Myfi a wn mai cyflog y pechodau hyn yw marwolae [...]h; Ond tydi yr hwn nid ewyllysi farwolaeth pechadur, trugarhá wrthif, gweithia [Page 425] ynof, yr wyf' yn attolwg i ti, wir gystudd Calon, a chasineb hollawl o'm pechodau; ac na âd i mi beunydd ei cyffessu hwynt, ac mor fynych ei hadnewyddu hwynt; eithr canniadhá, O Arglwydd, fód i mi o hyn allan roddi Llythr yscar i'm holl drachwantau anwylaf, ac yna bid gwiw gennit ti fy mhriodi i a thi dy hûn mewn gwirionedd, cyfiawnder, a Sancteiddwydd. Ac am fy holl bechodau a bassiodd, O Arglwydd, derbyn gymmod; derbyn y pridwerth hwnnw a dalodd dy Fendigedig Fâb trossof fi, ac er ei fwyn ef yr hwn a osodaist ti yn iawn, maddeu fy hôll drosseddau i, a derbyn fi i'th ffafor drachefn. A chwedi i ti fal hyn draethu heddwch wrth fy enaid i, cynnal fi, Arglwydd, fal na ddychwelwyf mwyach i ynsydrwydd, eithr sefydla fi felly a'th Râs, fal na bo i unrhyw brofedigaeth y bŷd, y Cythraul, na'm cnawd fy hûn byth fy hudo i i drosseddu i'th erbyn, fal trwy fód yn rhŷdd oddiwrth bechod, ac yn wasanaethydd i Dduw, i bo i mi gael fy ffrwyth i Sanctiddrwydd, a'r diben bywyd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd.
Diolwch.
O Dâd y Trugareddau, yr hwn wyt yn addfwyn i'r anniolchgar, yr wyfi'n cydnabod i mi archwaethu yn helaeth o'th rasol brioldeb hynny; oblegid er maint fy mhechodau beunyddiol i'th erbyn, yr wyt ti yn parhau i lwytho trugareddau a chymwynasgarwch arnaf fi. Ni ddarfu i'm holl ddirmygiad [Page 426] ad a'm dibrisiad i o'th drugareddau wneuthur i ti etto ei tynny nhw ymmaith, eithr yn amlder dy ddaioni a'th hir-ymaros yr wyt ti etto yn parhau i gynnyg i mi Râs a bywyd yn dy Fâb. Ac ni chospaist ti fy holl gam-arferiad i o'th fendithion amserol trwy ei dwyn nhw yn hollawl ymmaith, ond y mae'n deilwng gennit etto ganniadhau i mi gyfran helaeth o honynt. Ni thelaist ti adref bechodau'r dydd hwn mor union ac y gallesit, trwy fy yscubo i ymmaith a destryw ddisymwth, eithr a'm harbedaist ac a'm cynnheliaist i yn ól mawredd dy drugaredd. [Yma adrodda drugareddau neillduol y dydd hwnnw.] Béth a dalaf i'r Arglwydd am yr holl ddaioni hyn a ddangosodd ef i mi? Bydded i'th Drugareddau hyn, o Arglwydd, fy nhywys i i Edifeirwch, a channiadhá na bo i mi yn unic offrwm i ti ddiolch a moliant, ond trefnu hefyd fy ymarweddiad yn union, módd y gallwyf o'r diwedd weled Iechyd wraeth Duw, trwy Jesu Grist.
Yna arfera 'r Weddi am Râs a Chyfryngiad appwyntiedig am y Boreu.
Am Ymwared.
O Arglwydd Bendigedig, Ceidwad Israel, yr hwn nid wyt yn cyscu nag yn heppian, rhynged fódd i ti o'th drugaredd wilio trossof fi 'r nôs hon, cadw fi trwy dy Râs oddiwrth bob rhyw weithredoedd y tywyllwch, ac amddiffyn fi trwy dy Allu oddiwrth bób peryglon, canniadhá i mi gŵsg esmwyth a chymmedrol, [Page 427] y cyfryw ac a'm cymhwysa i i Ddledswyddau'r dydd sy'n calyn. A gwná i mi, O Arglwydd, feddwl yn wastad am yr amser hynny pan orweddwyf yn y llŵch; ac oblegid na wn i na'r dydd na'r awr o ddyfodiad fy Meistr, dyro i mi Râs i fod yn wastad yn bairod, fal na byddwyf byth byw yn y cyfryw gyflwr ac yr ofnwyf farw yntho, eithr pa ûn bynnag a wna'i ai byw, bód i mi fyw i'r Arglwydd, neu farw, i mi farw i'r Arglwydd, fal yn fyw ac yn farw y byddwyf eiddot ti, trwy Jesu Grist.
Arfera'r ûn Weddi i ddibennu a'r Boreu.
WRth ddiosc oddi am danat, meddwl wrthit dy hún fód yr amser yn nessau y bydd rhaid i ti ddiosc dy gorph hefyd, ac yna y bydd yn rhaid i'th Enaid ti ymddangos yn noeth o flaen gorseddfaingc Duw; ac am hynny y mae'n sefyll arnat ti fod yn ofalus i'w wneuthur ef mor bûr a glân trwy Edifeirwch a Sancteiddrwydd, fal y bo iddo ef, yr hwn ni edrych ar anwiredd, edrych yn rasol ac yn gymmeradwy arno ef.
Bydded i'th wely wneuthur i ti feddwl am dy Fêdd, a phan orweddych di i lawr, dywed.
O Jachawdr bendigedig, yr hwn trwy dy werthfawr angeu, a'th gladdedigaeth a dynnaist ymmaith golyn angeu, a gallu'r Bêdd, canniadhá i mi lawen ffrwythau dy fuddugoliacth honno, a bydd di ym mywyd ac angeu yn elw i mi.
Mi a orweddaf mewn heddwch, ac a hunaf; canys tydi, Arglwydd, yn unic a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
[Page 428]I'th ddwylaw di yr wyf' yn gorchymyn fy Yspryd, canys tydi a'm prynaist, O Arglwydd, tydi Dduw y gwirionedd.
YN y BRIF EGLWYS gynt heb law'r boreu a'r nôs, yr oedd pedwar o amserau eraill bób dydd, a elwid ORIAU GWEDDI; ac yr oedd zél y Cristianogion cyntaf hynny yn gyfryw, ac a wnae iddynt ei cadw hwynt yn ddibaid. Fe debygid yn ormod caethder yr awrhon yn yr oes lled-oer hon orchymyn ei cadw hwynt mor fynych; etto nid alla'i lai na gosod ar lawr y siampl, a dywedyd, am y rhai nid yw achosion traangenrheidiol yn ei lludias, nad yw ond rhesymol iddynt wneuthur yr ûn modd a chyflawnú yn Bublic ac yn Brifat y PEDWAR AMSERAU hynny o WEDDI, heb law'r Dledswyddau hynny a osodwyd yn barod ar lawr am y BOREU a'r NOS. Ac fal na bo i néb fód heb wybod pa fodd i arferu ei Ddefosiwn ar yr amserau hynny, mi a osodais ar lawr amryw GOLECTAU am amryw Rasau, o ba rai y dichon pób dyn arferu ar bób cyfryw amser Gweddi cynnifer ac y bo ei zél, a'i ennyd yn roddi iddo gennad, gan anghwanegu, os mynn ef, ûn o'r Cyffesau appwyntiedig am y Boreu, neu'r Nôs, ynghyd a GWEDDI'r ARGLWYDD bób amser.
Ond os bydd cyflwr buchedd ûn dyn mor wîr drafferthus, na chaiff ef amser, i ddefosiwnau cyhyd ac mor arbennig, etto yn ddiammeu nid oes néb mor drafferthus, na chaiff ef ennyd yn fynych yn y dydd i ddywedyd GWEDDI'r [Page 429] ARGLWYDD yn unic, ac am hynny arfered honno, onid all ef ychwaneg. Ond oblegid mai nôd Cristion yw, Phil. 3.20. fod a'i ymarweddiad yn y Nêf, gweddus iawn fydd iddo, heb law'r amserau gosodedig hyn o Weddi, dderchafu ei Enaid yn fynych yn y dydd trwy OCHNEIDIAU byrrion disymwth. Ac i'r fâth ymma ar Ddefosiwn ni all fód ar neb ddiffyg ennyd, gan y gellir cwplhau hyn ynghanol goruchwylion; fe ddichon y Celfyddwr wrth ei waith, a'r Hwsmon wrth ei arad ei harferu hi. Yn awr megys na all fód eisieu amser, felly fel na bo ar néb eisieu defnydd i hynny, mi a dybiais yn fuddiol osod ar lawr rai Mannau allan o'r Tryssor-dy llawn hwnnw, sef, LYFR Y PSALMAU, y rhai a ellir yn dra-chymwys ei harferu i'r diben hwn; y rhai gwedi ei dyscu heb law'r Llyfr a fydd yn wastad yn barod ger llaw i drefnu ein Dwywolder ar waith; a chan fód y sylwedd o honynt o amryw dull, rhai am faddeuant pechodau; rhai am Râs; rhai am lewyrch wyneb-pryd Duw, rhai tros yr Eglwys; rhai i dalu diolch, &c. fe ddichon pób dyn gymmhwyso iddo 'i hûn yn ól ei angen presennol a thymmer ei Enaid. Mi a osodais y rhai hyn ar lawr nid megys casgliad cyflawn, ond megys archwaeth yn unic i godi blys ar y Darllennydd i chwilio am ychwaneg yn y Llyfr hwnnw, a rhannau eraill o'r Scrythur lân.
COLECTAU am amryw RASAU.
Am Ffydd.
O Arglwydd Bendigedig, yr hwn heb Ffydd ammhossibl yw ei fodloni, bid i'th Yspryd ti, yr wy'n attolwg i ti, weithio ynof y cyfryw ffydd ac a fo cymmeradwy yn dy olwg, sef y cyfryw ac a weithia trwy Gariad. O na âd i mi orphwyso mewn Ffydd farwaidd ddiffrwyth, ond canniadhá iddi hi fód yn gyfryw ac a'i heglurháo ei hûn trwy fy ngweithredoedd, fal y bo hi y Ffydd fuddugoliaethus honno a'm gwnelo i yn abl i orchfygu'r bŷd, ac i'm cyd-ffurfio i Ddelw Crist, i'r hwn yr wyfi'n credu, fal y gallwyf o'r diwedd dderbyn diben fy Ffydd, sef Iechydwraeth fy Enaid, trwy'r Unrhyw Jesu Grist.
Am Obaith.
O Arglwydd, yr hwn wyt unic O baith holl derfynau'r ddaiar, na âd i'mi fód byth yn ddiffygiol o Obaith disigl, na'm meddiannu fy hun ychwaith a gwag-ryfyg; na âd i mi feddwl y byddi di fodlon i'm Pechodau, nac y gwrthodi di fy Edifeirwch i, ond dyro i mi, yr wyf'yn attolwg i ti, y cyfryw Obaith ac a fo cyfattebol i unic sylfaen fy ngobaith, sef dy Addewidion di, a'r cyfryw ac a'm cymhwysa ac a'm hyfforddia i i'm glanhau fy hun oddiwrth bób aflendid Cnawd ac Yspryd, fal y bo hi yn Angor wîr-ddisigl a diogel yr Enaid, sef yn cyrrhaeddid [Page 431] i fewn y llenn, lle'r aeth y gennad o'r blaen trossof fi, sef Jesu Grist fy Archoffeiriad a'm Prynwr bendigedig.
Am Gariad Duw.
O Arglwydd grasol a Sanctaidd, yr hwn wyt dra-rhagorol ynot dy hûn, ac yn hael iawn a thosturiol tu ac attaf fi, na âd, yr wy'n attolwg i ti, i'm calon i fód cymmhelled wedi ei chaledi trwy hudoliaeth pechod ac i wrthwynebu y cyfryw swynau o Gariad ond bydded iddynt wneuthur argraph dwfn a pharhaus ar fy Enaid i. Y mae'n deilwng gennit ti, O Arglwydd, ofyn fy nghalon i, ac iti yn unic y mae hi o gyfiawnder yn perthyn: O na âd i mi fôd mor gyssegr-yspeiliaidd ac anghyfiawn a neillduo ûn rhan o honi hi oddiwrthit ti, ond gwná i mi ei rhoddi hi fynu yn hollawl ac yn gyfan i ti▪ Ond ti a weli, O fy Nuw, ei bod hi yn barod gwedi ei thrais-feddiannu gan y bŷd a'i wagedd, yr hwn fal gŵr cryf arfog sy'n cadw meddiant ynddi hi, ond tyred ti sydd gryfach, a chymmer megis dy Yspail dy hûn fy nghalon annheilwng hon oddiarno ef, adgyweiria hi a'r tân puraidd hwnnw o'th Gariad ti, fal y bo hi yn drigfa gymwys i'th Yspryd ti: Os wyt ti, O Arglwydd, yn gweled yn gymwys, bid gwiw gennit adael i mi archwaethu o'r llawenydd hwnnw, sef eigion dy Gariad ti, yr hwn a fu mor dra-hyfryd i'th Seinctiau. Ond os yn hyn ni wn beth yr wyfi'n ei ofyn, os ni allaf ddewis fy lle yn dy deyrnas, etto na neccá i mi, O Arglwydd, yfed o'th gwppan di, gád i mi gael y cyfryw [Page 432] râdd ddiffúant o'th gariad ac a wnelo i mi ddioddef pob peth er dy fwyn di, sef y cyfryw gariad perffaith ac a fwrw heibio bob rhyw betrusder a Syrthni, fal na bo i mi edrych ar ddim nag yn rhŷ ofidus i'w oddef, nac yn rhŷ anhawdd i'w wneuthur mewn ufudd-dod i ti, módd gan eglurhau fy nghariad trwy gadw dy Orchymynion, y gallwyf o'r diwedd gael gan dy drugaredd y Goron honno o fywyd a addewaist i'r sawl a'th garant di trwy Jesu Grist ein Harglwydd.
Am Ddiragrithrwydd.
O Arglwydd Sanctaidd, yr hwn a geri wirionedd oddi mewn, yr wyfi'n ostyngedig yn attolwg i ti fy mhuro i oddiwrth bób ffúg a rhagrith. Y mae'r galon, O Arglwydd, yn dwyllodrus uwchlaw pob peth, a'm calon i yn dwyllodrus uwchlaw pob calonnau; O tydi yr hwn wyt yn chwilio 'r calonnau a'r arennau, prawf fi, a chais allan ddyfnder fy nghalon i, ac na âd i ddim ffieidd-dra nac escymmun-beth lochesu ynof, ond pura fi iè a'th dân, am y difethech di fy sothach i. Ni alla'i O Arglwydd, mo'th dwyllo di, ond mi allaf yn hawdd iawn fy nhwyllo fy hun, O na âd i mi aros yn ddifraw yn y cyfryw dwyll, eithr dŵg fi i ganfod ac i gashau fy llygredigaethau dirgelaf, fal na bo i mi achlesu unrhyw drachwant anwyl o'm mewn, ond llwyr-ddinistrio pob Amalcciad; O na fydded i mi draethu heddwch wrthif fy hun, pan na bo heddwch, ond cánniadhá fód i mi farnu o honof fy hun megys yr wyt ti yn barnu o honof, fal na byddwyf [Page 433] byth mewn heddwch a mi fy hun nes i mi fód mewn perffaith dangnheddyf a thydi, a chael trwy burdeb calon fy nghymwyso i'th weled ti yn dy Deyrnas, trwy Jesu Grist.
An Ddwywolder mewn Gweddi.
O Arglwydd Dduw grasusol, yr hwn wyt nid yn unic yn rhoddi cennad, ond gwahodd Creaduriaid truain anghenus, i roddi i fynu ei herfynion attat; bydded i gynniwei [...]fa fy ngweddi, yr wy'n attolwg i ti, fód mewn rhyw fesur yn gyfattebol i'r eisieu gwastadol sydd arna'i o'th drugaredd: yr wy'n cydnabod, O Arglwydd, mae'r budd a'r Anrhydedd mwyaf yw cael cennad i nessau attat ti fal hyn, etto y mae'nghalori halogedig i mor synn a hurt a diangc ymmaith oddiwrth, neu ddiddymu'r cyfryw odfáu. Y mae f' Enaid, O Arglwydd, gwedi ei feddiannu ac yspryd gwendid, a chwedi ei grýmmu ynghyd, fal na ddichon ef mewn modd yn y bŷd ei dderchafu ei hun attat ti. O rhynged fodd i ti feddiginiaethu y clefyd tóst gofidus hwn, trwy ysprydoliaethu a bywoccau'r galon ammhur ddaiarol hon, modd y gallo hi dderchafu i fynu yn rhwydd attat ti, ac y bo i mi iawn brisio y Rhagorfraint ragorol hon ac ymhyfrydu yn nessau attat, ac fal y bo hefyd nessáad attat ti gydá pharch cyfattebol mewn rhyw fesur i'r Mawredd ofnadwy 'r wyf' yn dyfod gar ei fron, a chydá thaerni ac haerllugrwydd cyfattebol i'm hangenrheidiau dirfawr i; a chydá 'r cyfryw ddyfalwch hefyd ac astudrwydd meddwl, fal na bo i nebrhyw feddyliau [Page 434] trofáus fy rhwystro i; fel na byddwyf yn euog rhag llaw o nessau attat ti a'm gwefusau, a'm calon ymmhell oddiwrthit, neu o droi fy ngweddíau yn bechod; ond fal y bo i mi felly ofyn fel y derbynwyf, geisio fal y caffwyf, a churo fal yr agorer i mi: modd y gallwyf o weddío attat ti ymma gael fy nhrosglwyddo i'th foliannu di yn dragywydd yn dy ogoniant, trwy haeddedigaethau a chyfryngdod Jesu Grist.
Am Ostyngeiddrwydd.
O Tydi uchel a derchafadwy, yr hwn wyt yn presswylio Tragywyddoldeb, etto sydd yn wiw gennit gyfanneddu gydá 'r Yspryd gostyngedig, tywallt i mewn i'm calon i, yr wyf'yn attolwg i ti, y grâs rhagorol hwnnw o ostyngeiddrwydd, yr hwn a ddichon yn hollawl ddiwreiddio 'r holl dŷb uchel ofer hynny sydd gennifi o honof fy hun; gwná fi, Arglwydd, yn llwyr-deimladwy o'm gwaeledd fy hun, ac i ganfod fy mód yn druenus, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth, ac nid yn unic yn llŵch, eithr yn bechod; fal yn dy holl ymddygiad rhagluniaethus tu ac attaf fi, y gallwyf' osod fy llaw ar fy ngenau, a chydnabod yn ddifrifol fy mód i yn llai na'r lleiaf o'th drugareddau di, ac yn fwy na'r mwyaf o'th farnedigaethau. A channiadhá i mi, O Arglwydd, nid yn unic rodio yn ostyngedig gyda'm Duw, ond gyda dynion hefyd, fel na bo i mi yn unic ymddarostwng i'th geryddon di, ond hefyd i argyoeddion fy nghyd, Gristianogion, a thrwy addfwyndra derbyn ac ufuddhau [Page 435] hau ei ceryddon a'i cyhuddiadau hwynt. A gwná i mi fy ymddwyn fy hun felly tu ac at bawb, fal na wnelwyf ddim byth trwy gynnen neu wâg-orfoledd; ac i'r diben hwnnw canniadhá fód i mi mewn gostyngeiddrwydd meddwl dybied yn well o bob dŷn nag o honof fy hun, a bodloni i eraill feddwl felly hefyd; na bo i mi ûn amser faethu ûn tŷb uchel o honof fy hun, na chwennychu 'r un ymysg eraill, ond gan ddirmygu gwâg glód gan ddynion, y gallwyf geifio'r glôd honno 'fydd yn dyfod oddiwrthit ti yn unic: fal yn lle'r Celfyddau gwael hynny a arferais i er mwyn cael bri gan ddynion, y gallwyf yr awrhon osod fy holl ofal a'm diwydrwydd ar waith i'm gwneuthur fy hun yn gymmeradwy yn dy olwg di, yr hwn wyt yn gwrthwynebu 'r balch, ac yn rhoddi grâs i'r gostyngedig: Canniadhá hyn, O Arglwydd, er ei fwyn ef, a'i hymddarostyngodd ei hun i angeu'r groes, sef, Jesu Grist.
Am Ofn Duw.
O Fawrhydi Gogoneddus, yr hwn yn unic wyt uchel ac ofnadwy, meddianna fy Enaid ac arswyd Sanctaidd a pharch o honot ti, fal y gallwyf roddi i ti'r anrhydedd dyledus i'th Enw, a dwyn y cyfryw barch i bob peth a berthyn i ti, fal na bo i mi un amser halogi dim Sanctaidd, neu gymmeryd yu gyssegryspeilaidd y peth a ddidolaist ti i ti dy hun. A chan dy fod ti, O Arglwydd, yn Dduw, yr hwn ni chyfiawnha'r anwir, bydded i ofn dy Gyfiawnder di wneuthur i mi arswydo dy [Page 436] annog di i ddigofaint; O na âd i mi felly gam-sefydlu fy ofn, fel yr arswydwyf ddycirc;n a fydd marw, a mâb dŷn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn, ac anghofio 'r Arglwydd fy ngwneuthur-ŵr either llanw fy Enaid a'r ofn hwnnw o'r Arglwydd, yr hwn yw dechreuad doethineb, yr hwn a ddichon fód yn ffrwyn i attal fy holl anwydau anifeiliaidd, ac i'm cadw i mewn Un-ffurfiad parhaus i'th Ewyllus Sanctaidd di. Gwrando fi, O Arglwydd, yr wyf' yn attolwg i ti, a gosod yr ofn hwn yn fy nghalon i, fel na ymadawyf oddiwrthit, eithr gweithio allan fy jechydwraeth trwy ofn a dychryn, trwy Jesu Grist.
Am Hyder yn Nuw.
HOll-alluog Arglwydd, yr hwn ni phelli un amser y rhai a ymddiriedant ynot, dyro i mi, yr wyfi'n attolwg i ti, Râs yn fy holl gystuddiau a blinderau, i redeg attat ti, i hyderu a gorphywys arnat ti: tydi, O Arglwydd, a'i cedwi ef mewn perffaith heddwch, yr hwn sydd ai feddwl gwedi ei fefydlu arnat ti, O bydded i mi yn wastad orphywys ar y Golofn ddisigl hon, heb ei chyfnewid hi byth am gorsen yssig o gynnorthwyau bydol; na âd i'm calon i fód gwedi ei llenwi a gofalon y bŷd hwn, gan rag-fwriada beth a fwytawyf, neu a yfwyf, neu a pha beth i'm dilledir, ond canniadhá gwedi i mi yn onest ac yn ddiwyd wneuthur fy rhan i, y gallwyf yn llawen fy ngorchymyn fy hun i'th ragluniaeth di, trwy fwrw fy holl ofal arnat ti, ac heb fód yn ofalus am ddim, ond i fod o nifer y rhai 'r wyti [Page 437] yn ei perchennogi ac yn gofalu trostynt, sef y cyfryw ac sydd yn cadw dy Dystiolaethau di ac yn meddwl am dy Orchymynion i'w gwneuthur. Fal gan geisio yn gyntaf dy Deyrnas di a'i gyfiawnder ef, y gallwyf dderbyn yn anghwaneg yr holl bethau hyn oddiallan, yn y cyfryw fesur ac y gwelo dy Ddoethineb di fód yn oreu i mi; canniadhá hyn, O Arglwydd, er mwyn Jesu Grist.
Am Ddiolchgarwch.
O Arglwydd grasusaf, yr hwn wyt yn llenwi pôb peth byw a'th ddaioni, ac nid wyt yn disgwyl dim tâl ond Mawl a Diolchgarwch; na bydded i mi, O Arglwydd, byth dy dwyllo di o'r cyfryw deyrnged esmwyth, ond bydded fy nghalon yn wastad yn deimladwy, a'm genau yn barod i gydnabod dy drugareddau. Peth llawen a hyfryd yw talu diolch; O na ád i mi, yr wyf' yn attolwg i ti golli fy nghyfran o'r hyfrydwch nefol hwnnw, eithr caniadhá megis ac yr wyf fi beunydd yn derbyn bendithion gennit ti, felly y bo i mi beunydd o eigion calon ddefosionawl dalu i ti Ddiolchgarwch am danynt; a channiadhá fod nid yn unic i'm gwefusau, ond i'm buchedd ddadcan dy foliant, trwy fy nghyssegru fy hun i'th wasanaeth di, a rhodio mewn Sancteiddrwydd a chyfiawnder ger dy fron holl ddyddiau fy mywyd, trwy Jesu Grist fy Arglwydd, a'm Jachawdr bendigedig.
Am Gystudd Calon.
O Arglwydd Sancteiddiaf, yr hwn wyt yn derbyn yn rasusol y gwir edifeiriol, etto wyt yn dân yssol i bechaduriaid gwrthnyssig; pa fodd y nessá i attat, yr hwn sydd gennif gynnifer o bechodau echryslon i ennyn dy lid, a chyn lleied o edifeirwch diffúant i annog dy drugaredd! O bid gwiw genit feddalhau a thoddi fy nghalon galed hon, fal yr ymofidwyf yn ddifrifol am anwireddau fy muchedd; taro 'r graig hon, O Arglwydd, fal y ffrydio 'r dyfroedd allan, sef llifeiriant o ddagrau i olchi fy nghydwybod halogedig; fe ddarfu i'm Henaid swrh i gyscu yn rhy hîr yn ddifraw mewn pechod, deffro hi, Arglwydd, er trwy daranau, a bydded i mi yn hytrach deimlo dy ddychrynaidau, na bód heb deimlo fy mhechodau. Ti a ddanfonaist dy fendigedig fâb i iachau y rhai yssig calon, ond beth a dâl hynny i mi, Arglwydd, os bydd fy nghalon i yn gyfan? O torr hi fal y bo hi yn gymwys i dderbyn dy feddiginiaethus rinwedd di; a channiadhâ, mi attolygaf i ti, gwedi i mi unwaith archwaethu chwerwder pechod, fod i mi ymogelyd rhagddo, megis oddiwrth wyneb sarph, a dwyn allan ffrwythau edifeirwch mewn gwellháad buchedd, i fawl a gogoniant dy Ras di yn Jesu Grist ei Pryniawdr bendigedig.
Am Laryeidd-dra.
O Fendigedig Jesu yr hwn a arweinwyd megys dafad i'r lladdfa, bydded, mi a attolgyaf i ti, i'r siampl ryfeddol honno o Laryeidd-dra ddiffodd ynof bôb gwreichion digofaint a díal, a gweithredu ynof y cyfryw Addfwynder a thawelwch Yspryd ar na ddichon annogaethau yn y bŷd byth mo'i gyffrhoi. Canniadhâ, Arglwydd, i mi fod cymmhelled oddiwrth gynnyg y cam lleiaf, fal na bo i mi byth dalu am y mwyaf, mamyn trwy weddíau a chymwynasgarwch, ac na bo i mi byth daer-geisio ceiniog gan fy mrodyr, yr hwn sydd gennif gynnifer o dalentau i'w maddeu gennit ti; eithr gan arwisgo ymysgaroedd Trugaredd, addfwynder, hir-ymaros, y gallo dy dangnheddyf di lywodraethu yn fy nghalon i, a'i gwneuthur hi yn bresswylfa cymmeradwy i ti, yr hwn wyt Dywysog Tangheddyf, i ba ûn gyda 'r Tâd a'r Yspryd glân y bo'r holl anrhydedd a'r gogoniant yn dragywydd.
Am Ddiweirdeb.
O Sanctaidd a difrycheulyd Jesu, descyniad cyntaf pa un oedd i fonwes y Forwyn, ac etto wyt yn hoffi presswylio yn unic mewn Calonnau pûr a morwynaidd, yr wyf' yn attolwg i ti ddanfon dy lân Yspryd i'm glanhau i oddiwrth bób aflendid, yn gystal Cnawd ac Yspryd; fy nghorph, O Arglwydd, yw Teml yr Yspryd glân, O na fydded i mi byth [Page 440] halogi 'r Deml honno trwy neb rhyw aflendid. Ac oblegid mai o'r galon y mae 'r pethau hynny yn tarddu sydd yn halogi dŷn, Canniadhâ, Arglwydd, fod i mi gadw fy nghalon a phob diwydrwydd, fel na bo i unrhyw feddyliau aflan llygredig lochesu yno, eithr gwnâ fi yn abl, yr wyf' yn attolwg i ti, i gadw fy nghorph a'm henaid yn bûr ac yn ddihalog, modd y gallwyf dy ogoneddu di ymma yn gystal mewn Corph ac Yspryd, a chael fy ngogoneddu ym mhob un o'r ddau gydá thydi ar ól hyn.
Am Ardymmer.
O Arglwydd grasusol, yr hwn o'th haelioni i ddynol ryw, a ganiadheaist i ni arferu dy greaduriad daionus, er ein cynhaliaeth corphorol, caniadhâ fód i mi yn wastad arferu 'r rhydd-dyd hwn yn ddiolchgar ac yn ardymmherus; O na âd i mi byth fod yn gyfryw gaeth-wâs i'r pleser annifeiliaidd hwnnw o archwaeth, ac i'm Bwrdd fód yn fagl i mi; ond dyro i mi, mi a attolygaf i ti, lwyr-ffieiddio pob mâth ar Ormodedd, a bydded i mi fwyta ac yfed yn unic i'r dibennion hynny, ac yn ôl y mesurau hynny a ordeiniaist ti i mi er iechyd ac nid er trythyllwch. A chaniadhâ, Arglwydd, na bo i mi gynllwyn y bwyd yr hwn a dderfydd, either yr hwn a beru i fywyd tragywyddol, fal gan newynu a sychedu ar ol cyfiawnder y gallwyf gael fy nigonoli a'th Râs di ymma, ac a'th ogoniant ar ôl hyn, trwy Jefu Grist.
Am Fodlonrhwydd.
O Dduw trugarog, y mae dy ddoethineb di yn anfeidrol i ddewis, a'th gariad yn barod i ddosparthu pethau daionus i mi; O bydded i mi yn wastad ymroi yn hollawl ac yn gyflawn i'th drefniad di, heb chwennych fy eiddo fy hun, eithr ymfodloni yn hollawl i'th etholiad di drossof, fel ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, y gallwyf ymfodloni iddo. Caniadhâ, Arglwydd, na edrychwyf byth yn wrwgnachus ar fy nghyflwr fy hun, nag yn genfigennus ar yr eiddo eraill. Ac i'r diben hwn, yr wyf' yn attolwg i ti, lanhau fy nghalon oddiwrth bob rhyw anwydau Cybyddaidd; O na âd i mi roddi i fynu un gilfach o'm henaid i Mammon, ond dyro i mi felly ddibrisio 'r golud darfodedig hwn, fal pa un bynnag a wnelont a'i anghwanegu a'i lleihau na osodwyf byth mo'm calon arnynt, either bód fy holl ofal i i fód yn óludog tu ac at Dduw, a dodi i fynu fy nhryssor yn y Nêf, trwy osod felly fy anwydau ar bethau oddiuchod, fal pan ymddangoso Crist fy mywyd, y gallwyf finnau hefyd ymddangos gydag ef mewn gogoniant. Caniadhâ hyn, Arglwydd, er trugareddau 'r unrhyw Jesu Grist.
Am Ddiwydrwydd.
O Arglwydd, yr hwn a ordeiniaist yn dy Ddoethineb i ddŷn gael ei eni i lafurio, na âd [Page 442] i mi wrthwynebu dy fwriad hwnnw trwy fy rhoddi fy hun i fynu i syrthni a seguryd, eithr caniadhâ i mi, felly dreulio fy amser a'r holl dalentau eraill a roddaist ti mewn ymddiried i mi, fel na syrthwyf tan farn y gwâs swrth annuwiol; Arglwydd, os yw dy Ewyllys, gwnâ fi mewn rhyw fôdd yn ddefnyddiol i eraill, fel na byddwyf byw megys rhan anfuddiol o ddynol ryw; ond pa un bynnag, O Arglwydd, na âd i mi fôd yn anfuddiol i mi fy hun, caniadhâ fód i mi roddi pób diwydrwydd i wneuthur fy ngalwedigaeth am hetholedigaeth yn siccr. Y mae fy Enaid gwedi ei amgylchu a llawer o elynion gwiliadwrus, O na âd i mi blethu fy nwylo i gyscu ynghanol cymmaint peryglon eithr gwilio a gweddío rag syrthio o honof i brofedigaeth; tryw ddioddef caledi megys miŵr da i Grist Jesu, nes o'r diwedd i ti fy nhrosglwyddo i o'r cyflwr hwn o filwraeth i'r cyflwr o orfoledd a dedwyddwch yn dy Deyrnas, trwy Jesu Crist.
Am Gyfiawnder.
O Frenin Cyfiawnder, yr hwn a orchymynaist i ni gadw barn a gwneuthur Cyfiawnder, rhynged fodd i ti o'th râs lanhau fy nghalon a'm dwylaw oddiwrth bob twyll ac anghyfiawnder, a rhoddi i mi Uniondeb a pherffeithrwydd yn fy holl ymddygiad. O gwnâ i mi byth gashau arferu fy ngallu i orthrymmu, neu nghallineb i dwyllo fy mrawd, a chaniadhâ i mi gadw yn ddyfal y rheol Sanctaidd honno o wneuthur megis y chwennychwn wneuthur [Page 443] i minneu, fal na ddianrhýdeddwyf fy mhroffes Gristianogawl trwy fuchedd anghyfiawn neu drofâus, ond bod a'm hymarweddiad yn y bŷd hwn mewn symlrwydd a duwiol burdeb, heb geisio byth bentyrru tryssorau anwiredd, eithr cyfrif ychydig trwy Gyfiawnder, yn fwy nag Ardrethion mawr yn anghyfiawn. Arglwydd, gwnâ fi yn gwblofalus i roddi i bob dyn beth bynnag trwy fâth yn y bŷd ar rwymedigaeth sydd yn ddyledus iddo, fel na thorrwyf byth y rhwymedigaeth o'r lle hwnnw y gosodaist fi yntho, eithr fy ymddwyn fy hun felly tu ac at bawb, fel na bo i neb ddim drŵg i'w ddywedyd am danaf, fal, os yw bossibl, y byddwyf dangnheddyfus a phób dŷn, neu pa un bynnag y gallwyf trwy gadw diniweidrwydd a chyfiawnder gael Tangnheddyf o'r diwedd, sef heddwch gyda thydi, trwy Jesu Crist ein Harglwydd.
Am Gariad.
O Arglwydd Trugarog, yr hwn a wnaethost o'r ûn gwaed ac a brynaist a'r ûn prîs bob rhyw genhedl o ddynion, na fydded i'm hymysgaroedd i byth galedi yn erbyn néb ar sydd yn gyfrannog o'r un anian a phrynedigaeth a mi, eithr caniadhá i mi gariad cyffredinol tu ac at bób dŷn. Dyro i mi, o Dâd y tosturi, y cyfryw dynnerwch a meddaldra calon, fal y byddwyf' yn gwbl deimladwy o holl drueni a blinderau fy mrodyr oddi mewn ac oddi allan, ac ymosod yn ddiwyd hyd yr eithaf o'm gallu i'w cymmorth a'i cynnorthwyo hwynt. O na bydded i'r anghristianogawl [Page 444] serch o honof fy hûn feddiannu fy'nghalon, ond bwrw allan yr Yspryd melldigedig hwnnw, a bydded i'th yspryd ti o gariad ddyfod a phresswylio yno, a gwná i mi ymegnío nid i'm boddhau fy hun, ond fy nghymydog er ei ddaioni i adeiladaeth, megys ac na foddháodd Crist ef ei hun. Gwná fi, Arglwydd, yn oruchwyliwr ffyddlon o'r holl dalentau hynny a orchymynnaist ti i mi er llesháad i eraill, fel pan elwi di arnaf i roddi cyfrif o'm goruchwyliaeth, y gallwyf wneuthur hynny trwy lawenydd, ac nid trwy dristwch. Caniadhá hyn, Arglwydd trugarog, yr wyf' yn attolwg i ti, er mwyn Jesu Grist.
Am Ddiysgogrwydd.
O Arglwydd Dduw tragywyddol ac anghyfnewidiol, yr hwn wyt yr ûn ddoe a heddyw ac yn dragywydd; Rhynged bodd i ti gyfrannu ychydig lewyrch o'r godidowgrwydd hwnnw, rhyw râdd o'r sefydliad hwnnw i mi dy greadur truan yr hwn wyf ysgafn ac anwadal, yn cael fy nhroi o amgylch gan bób rhyw awel; y mae fy nealltwraeth i yn drathwyllodrus, O cadarnhá hi yn dy wirionedd, cadw hi rhag maglau Ysprydion trofáus, fal na'm tywyser ymmaith a chyfeiliorni'r annuwiol, a syrthio oddiwrth fy niysgogrwydd: y mae fy ewyllys hefyd, O Arglwydd, yn serfyll ac yn anwadal, ac heb lynu yn ddisigl wrth Dduw, nid yw fy naioni i ond fal y cymwl y boreu, ac megys y gwlith boreuol yn myned ymmaith. O cryfha a chadarnhâ fi, a pha weithred dda bynnag a weithredaift ti ynof, [Page 445] bid gwiw gennit ei pherffeithio a'i chwplhau hyd ddydd Crist. Arglwydd, ti a weli fy ngwendid i, ac a wyddost nifer a grym y profedigaethau hynny sydd i mi i ymdrech a hwynt, O na âd fi i'm fy hun, eithr gorchguddia di fy mhen yn nydd y frwydr, ac mewn pob ymdrech ysprydol gwnâ fi yn fwy na chwncwerwr trwy'r hwn a'm carodd i. O na bydded i nebryw ddychryniadau na gweniaith y bŷd neu'm cnawd byth fy nenu i oddiwrth fy ufudd-dod i ti, eithr caniadhâ i mi barhau yn ddisigl ac yn sefydlog, gan fod yn wastad yn helaeth yngwaith yr Arglwydd, a thrwy barhau yn ammyneddgar yn gwneuthur da, ceisio o'r diwedd fwynhau gogoniant, ac anfarwoldeb, a bywyd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein Harglwydd.
OCHENEIDIAU byrrion Sanctaidd wedi ei cymmeryd allan o Lyfr y PSALMAU.
Am Faddeuant Pechodau.
TRugarhá wrthif, O Dduw, yn ol dy Drugarogrwydd, yn ôl lliaws dy dosturiaethu deléa fy anwireddau.
Golch fi yn llwyr-ddwys oddiwrth fy anwiredd: a glanhá fi oddiwrth fy mhechod.
Cuddia dy wyneb oddiwrth fy mhechodau, a deléa fy holl anwireddau.
Fy anwireddau a'm gorchfygasant, o bydd di drugarog wrth fy mhechodau.
Na ddós i farn a'th wâs, o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
Er mwyn dy Enw, O Arglwydd, bydd drugarog wrth fy mhechod, canys mawr yw.
Dychwel, Arglwydd, a gwared fy Enaid, O achub fi er mwyn dy Drugareddau.
Am Râs.
Dysc i mi wneuthur dy ewyllys di: canys ti yw fy Nuw.
Dysc i mi dy ffordd, O Arglwydd, ac mi a rodiaf yn dy wirionedd: Una fy nghalon i ofni dy Enw.
[Page 451]Créa galon lân ynof, O Dduw, ac adnewydda yspryd uniawn o'm mewn.
Bydded fy nghalon ny berffaith yn dy Ddeddfau, fal na'm cywilyddier.
Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau: ac nid at gybydd-dra.
Tró heibio fy llygaid rhag edrych ar wagedd; a bywhá fi yn dy ffyrdd.
Dieithr ydwyf fi ar y ddaiar: na chudd di rhagof dy Orchymynion.
Dysc i mi, Arglwydd, felly gyfrif fy nyddiau, fal y dygwyf fy nghalon i Ddoethineb.
Am Lewyrch wyneb-pryd Duw.
PA ham, Arglwydd, y gwrthodi fy Enaid, ac y cuddi dy wyneb oddiwrthif?
Na chuddia dy wyneb oddiwrthif, ac na fwrw fi ymmaith yn dy lidiawgrwydd.
Gwell yw dy Drugaredd di na'r bywyd.
Arglwydd dercha lewyrch dy wyneb arnaf.
Cyssura Enaid dy wâs, canys attat ti, O Arglwydd, y derchafaf fy Enaid.
Diolwch.
DIolchaf i'r Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
Ti yw fy Nuw, a mi a ddiolchaf i ti: ti yw fy Nuw, ac mi a'th foliannaf.
Canaf i'r Arglwydd tra y byddwyf byw: Molaf fy Nuw tra fyddwyf.
Bendigedic fyddo Duw yr hwn ni fwriodd fy ngweddi oddiwrtho, nac a dródd ei drugaredd oddiwrthif finnau.
[Page 452]Bendigedic a fo'r Arglwydd Dduw, sef Duw Israel, yr hwn yn unic sydd yn gwneuthur rhyfeddodau:
Bendigedic hefyd fyddo ei Enw gogoneddus of yn dragywydd, a'r holl Ddaiar a lanwer o'i ogoniant ef, Amen, ac Amen.
Am Ymwared oddiwrth Helbul.
TRugarhâ wrthif, O Dduw, trugarhâ wrthif, canys ynot y gobeithia fy Enaid; iè yn ghyscod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hyn heibio.
Gwared fi, O Arglwydd, oddiwrth fy ngelynion, canys gyda thi yr ymguddiaf.
Cadw fy Enaid a gwared fi; na'm gwradwydder, canys yr wyf' yn ymddiried ynot.
Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd: canys efe a ddŵg fy nhraed allan o'r rhwyd.
Tro attaf, a thrugarhâ wrthif: canys unic a thlawd ydwyf.
Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dŵg fi allan o'm cyfyngderau.
Tros yr Eglwys.
GWná ddaioni yn dy Ewyllysgarwch i Sion: adeilada furiau Jerusalem.
Pa ham, Dduw, y bwri ni heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
Cofia dy gynnulleidfa yr hon a brynnaist gynt; a llwyth dy Etifeddiaeth yr hon a waredaist: mynydd Sion hwn y presswyli yntho.
[Page 453]Amser yw i ti O Arglwydd, dderchafu dy Law; canys diddymmasant dy Gyfraith di.
Cyfod, Arglwydd, ac amddiffyn dy achos dy hun: Gwared Israel, o Dduw, o'i holl gyfyngderau.
Pyngciau byrrion i ni i'n ymholi ein hunain yn ei cylch, yn enwedig o flaen y Cymmun, ynghylch Trosseddiadau ein Dledswydd.
Tu ac at DDUW.
FFYDD.
BOd heb gredu fod Duw.
Heb gredu i'w Air ef.
Heb ei gredu ef yn fucheddol, megis i fyw yn ól ein crediniaeth.
GOBAITH.
ANobeithio o Drugaredd Dduw, cymmhelled ac i esgeuluso Dledswydd.
Rhyfugu arno ef yn fyrbwyll tra'i boni yn myned ymlaen mewn pechodau rhyfygus.
CARIAD.
BOd heb garu Duw am ei Odidowgrwydd ei hun.
Heb ei garu ef am ei Ddaioni i ni.
Heb ymegnío i'w fodloni ef.
Heb chwennychu nessau atto ef yn ei Ordinhadau.
Heb hiraethu am ei fwynhau ef yn y Nêf.
OFN.
HEb ofni Duw megis ac i ymgadw rhag ei annog ef i ddigofaint.
Ofni dyn uwch ei law ef, trwy wneuthur pechod i ochelyd rhyw drueni oddiallan.
YMDDIRIED.
HEb Ymddiried yn Nuw mewn peryglon a chyfyngderau.
Arferu moddion anghyfreithlon i'n tynnu ein hunain allan o honynt.
Heb ymddiried yn Nuw am gyflawniad o'n angenrheidiau.
Gormod gofal am bethau oddiallan.
Esgeuluso llafurio, a disgwyl i Dduw ein diwallu ni yn ein Syrthni.
Heb edrych i fynu at Dduw am fendith ar ein llafur onest.
GOSTYNGEIDDRWYDD.
HEb fod a thyb parchedig o Dduw.
Heb ymdddarostwng yn ufudd i wneuthur ei ewyllys ef.
[Page 455]Heb ddioddef ei ewyllys yn ammyneddgar, ond gwrwgnach am ei geryddon ef.
Heb wellhau o'i plegid hwynt.
Heb fod yn ddiolchgar iddo ef am danynt.
Heb gydnabod ei Ddoethineb ef yn dewis trostoni, ond bod a deisyfiadau taer haerllug o'n heiddo ein hunain.
ANRHYDEDD.
HEb anrhydeddu Duw trwy arferu yn barchedig y pethau a berthynant iddo ef.
Ein hymddwyn ein hunain yn ammharchus yn ei dy ef.
Yspeilio Duw trwy gymmeryd pethau gwedi ei cyssegru iddo ef.
Halogi amseroedd Sanctaidd, Dydd yr Arglwydd, Gwiliau ac ymprydiau'r Eglwys.
Esgeuluso darllen y Scrythyrau Sanctaidd, ae heb ystyrio pan ddarllenion.
Bod yn ddiofal am geisio gwybodaeth o'n Dledswydd, gan ddewis yn hytrach barhau mewn anwybodaeth, na'n gosod ein hunain i'r boen ar draul o ddyscu.
Gosod crefydd mewn gwrando Pregethau heb ymarfer.
Torri ein Adduned a wnaethoni yn ein Bedydd.
Trwy gyrchu at Ddewinasau, a Chonsuriwyr, hynny yw, at y Cythrel.
Trwy garu rhodes a gorwagedd y Byd, a dilyn ei arferion pechadurus ef.
Trwy gyflawni chwantau'r Cnawd.
Halogi Swper yr Arglwydd.
Trwy ddyfod iddo ef yn anwybodus, heb ymboliad, gwîr Edifeirwch, na bwriadu buchedd newydd.
[Page 456]Trwy ein hymddwyn ein hunain yno yn ammharchus ac yn annef [...]sionawl.
Trwy esgeuluso cadw'r Addewidion a wnaethpwyd yno.
Halogi Enw Duw, trwy feddylian, neu ymddiddan cablaidd.
Rhoddi i eraill achos i'w gablu ef trwy ein buchedd annuwiol ni.
Cymmeryd Llowon anghyfreithlon.
Anudonedd.
Tyngu mewn ymddiddan cyffredinol.
ADDOLIANT.
HEb Addoli Dduw.
Esgeuluso Gweddíau, Publíc neu Brifat, a bod yn llawen am gael rhyw escus am hynny.
Gofyn pethau anghyfreithlon, neu i ddibennion anghyfreithlon.
Heb buro ein calonnau oddiwrth bechod cyn gweddio.
Heb weddio trwy ffydd a Gostyngeiddrwydd.
Oerni, difráwch, a marweidd-dra mewn Gweddi.
Meddyliau gwibiog mewn Gweddi.
Ymddygiad ammharchus y Corph mewn gweddi.
EDIFEIRWCH.
ESgeuluso y Ddledswydd o Edifeirwch.
Heb ein galw ein hunain i gyfrif beunyddiol am ein pechodau.
Heb bennodi amserau gosodedig i Ymddarostyngiad a chyffes; neu yn rhy anfynych.
Heb ystyried yn ddifrifol ein pechodau, i beri cystudd Calon am danynt.
[Page 457]Heb ymddíal arnom ein hunain, trwy Ympryd, a gweithredoedd eraill o farwolaethiad y Cnawd.
DELW-ADDOLIAETH.
GAu-dduwiaeth oddiallan trwy addoli Creaduriaid.
Gau-dduwiaeth oddimewn, trwy osod ein Cariad, a'n hanwydau eraill yn fwy ar y creaduriaid, nag ar y Creawdr.
Tu ac attom ein HUNAIN.
GOSTYNGEIDDRWYDD.
YMfalchío trwy debygoliaeth uchel o honom ein hunain.
O herwydd ein Cynneddfau Naturiol, megis wyneb-pryd, Doethineb, &c.
O herwydd golud bydol ac Anrhydedd.
O herwydd Grâs.
Chwennych yn awyddus glôd gan ddynion.
Cyfarwyddo gweithredoedd Cristianogol, megis Gweddiau, Elusenau, &c. i'r diben hwnnw.
Gwneuthur pechodau er mwyn gochelyd gwradwydd gan ddynion ddrwg.
LLARYEIDD-DRA.
CYthrwblio ein meddyliau a digofaint ac ystyfnigrwydd.
YSTYRIAETH.
Heb brofi yn ddyfal beth yw ein cyflwr ni tu ac at Dduw.
Heb ein profi ein hunain wrth y wîr Reol, sef, ein Hufudd-dod i orchymynion Duw.
Heb iawn bwyso Cyfreithlonrhwydd ein Gweithredoedd, cyn rhyfygu arnynt.
Heb brofi ein Gweithredoedd a bassiodd, i Edifarhau am y rhai drwg, ac i roddi i Dduw y Gogoniant am y rhai da.
BODLONRHWYDD.
ANfodlonrhwydd i'n Cyflwr.
Deisyfiadau awyddus ar ôl Anrhydedd a Golud.
Ceisio ei hennill hwynt trwy foddion pechadurus.
Cenfigennu cyflwr dynion eraill.
DIWYDRWYDD, GWILIADWRAETH.
ESgeuluso synnied a gwrthwynebu Profedigaethau.
Heb dreulio i'r goreu ddoniau Duw, oddiallan neu oddifewn, i'w anrhydedd ef.
Camarferu ein Cynneddfau Naturiol, megis Synwyr, Coffa, &c. i bechod.
Esgueluso neu wrthwynebu Cynnhyrfiadau Yspryd Duw.
DIWEIRDEB.
AFlendid, Godineb, Putteindra, trachwantau annaturiol, &c.
[Page 459]Aflendid y Llygad a'r Llaw.
Siarad trythyll anllad.
Dychymmygion a Deisyfiadau ffiaidd anniweir.
Anghwanegu Trachwant trwy borthi mwythau i'r Corph.
Heb ymegnio i'w ddwyn ef tanodd trwy Ympryd neu foddion geirwon eraill
CYMMEDROLDER.
BWyta gormod.
Gwneuthur pleser, nid Iechyd yn ddiben Bwyta.
Bod yn rhy fwythus neu gostus mewn Bwydydd.
Meddw-dod.
Yfed mwy nag sydd gymwys i'n Cyrph, er nid i Feddwdod.
Treulio'r amser neu 'n Da bydol mewn Cwmpnhíaeth.
Cam-arferu cryfder ein pennau i wneuthur eraill yn feddwon.
Cwsg anghymmedrol.
Diogi ac Esgeulusdra yn ein Galwedigaethau
Arferu chwareuyddion anghsfreithlon.
Bód yn ry ddifri ar rai Cyfreithlon.
Treulio gormod o amser arnynt.
Cynnwys ein denu ganddynt i lid neu Gybydddra.
Bód yn falch o wisciad.
Ymegnío i fyned tu hwynt i'n Grádd.
Treulio gormod o amser, o ofal a ehóst yn ei cylch.
Ymgadw oddiwrth y cyfw Ormodedd, nid o gydwybod end o gybydd-dod.
Nychu 'n Cyrph i lenwi ein Pyrsau.
Tu ac at ein CYMYDOG.
CYFIAWNDER O OMMEDDIAD.
Gwneuthur sarháad a'n Cymydog.
Ymhyfrydu yn cythrwblio ei feddwl ef yn ddiachos.
Maglu ei Enaid ef mewn pechod, trwy Orchymyn, cyngor, Cynnhyrfiad, neu Esampl.
Ei ddychrynnu ef oddiwrth Dduwioldeb trwy i ni ei watwor ef.
Heb geisio dwyn y rhai hynny i Edifeirwch a lithiasom ni i bechod.
LLOFRUDDIAETH.
LOfruddiaeth cyboeddus neu ddirgel.
Denu dynion i anhymmerwch neu bechodau eraill, a ddichon dwyn clefydau neu farwolaeth.
Cynnhyrfu dynion i gwerylu ac ymladd.
Briwo neu anafu Corph ein Cymydog.
Creulonder a Chynddeiriogrwydd i'w erhyn ef.
GODINEB.
CHwennychu Gwraig ein Cymydog.
Ei halogi hi.
CYBYDD-DOD.
CHwennychu Da rhai eraill i ni ein hunain.
GORTHRECH
GOrthrech trwy rym a chryfder neu rîth Cyfraith.
LLEDRAD
HEb dalu benthyg yn ól.
Heb dalu 'r peth a addawasoni o'n gwirfodd.
Cadw yn ól cyflog y gwâs a'r cyflogedig.
TWYLL.
ANffyddlondeb mewn ymddiried, pa ûn hynnag ai i'r byw ai i'r marw.
Arferu Celfyddyd o ddichell yn Prynu ac yn gwerthu.
Cymmhellad treisiol ar angenrheidiau ein Cymydogion.
GAM-DYSTIOLAETH.
LLygru Enw da ein Cymydog.
Trwy Gam-dystiolaeth.
[Page 462]Trwy Sarháad a drwg absen.
Trwy hustyngu.
Trwy achlesu eraill yn ei henllibiau.
Bod yn rhy bryssur i goelio dryg-air am ein Cymydog.
Ammheuon diachos.
Ei farnu ef yn fyrbwyll.
Ei ddirmygyu fo oblegid ei wendid.
Gwahodd eraill i wneuthur felly trwy ei wawdio ai watwor ef.
Dwyn malis yn y Galon.
Chwennych yn ddirgel farwolaeth neu niwed ein Cymydog.
Llawwenychu pan ddychwelo ddrwg iddo.
Esgeuluso gwneuthur yr iawn a alloni am unrhyw fáth ar gamwedd a wnaethon ni i'n Cymydog.
JUSTITIA POSITIVA. GOSTYNGEIDDRWYDD. CELWYDD
YMddygiad sarrug a balch tu ac at eraill.
Ymarweddiad cyndyn ac ystyfnig.
Ymadrodd chwerw a gwradwyddus.
Rhegu.
Heb dalu'r parch dledus i gynneddfau neu ddoniau rhai eraill.
Edrych trostynt yn falch.
Ceisio lleihau parch rhai eraill iddynt.
Heb wneuthur deunydd o'n gallu, pa un bynnag a'i o'n meddwl, ai o'n da bydol, i gyfrannu i'r rhai sydd mewn eisien.
DIOLCHGARWCH.
ANniolchgarwch i'r rhai a wnaethant i ni ddaioni.
Yn enwedig i'r rhai sydd yn ein rhybuddio ac yn ein Cynghori ni.
Heb wellhau ar ei hargyoeddiad hwynt.
Digio wrthynt am hynny.
Heb berchi ein tâd Dinasaidd, sef, y Llywiawd [...] cyfreithlon.
Ei farnu ai Enllibio ef.
Gwrwgnach iddo ei Deyrnged gysiawn.
Hau terfysc ymysg ei bobl ef.
Gwrthod ufuddhau ei Orchymynion cyfreithlon ef.
Codi i fynu yn ei erbyn ef, neu ymbleidio a'r rhai a wnánt felly.
Dirmygu ein Tadau Yfprydol.
Heb ei caru hwynt er mwyn ei gweithredoedd.
Heb ufuddau i Orchymynion Duw y maent hwy yn ei haddrodd i ni.
Ceisio attal oddiwrthynt ei Cynhaliaeth cyfreithlon.
Ymwrthod a'n Bugeiliaid cyfreithlon i ddilyn dyscawdwyr ffals a chynnhenus.
RHIENI.
YWddygiad ystyfnig ac ammharchus tu ac at ein Rhieni naturiol.
Dirmygu a chyhoeddi ei gwendid hwynt.
Heb ei caru hwynt, nag ymegnío i ddwyn cyssyr iddynt.
Diystyru ei cynghorion hwynt.
[Page 464]Gwrwgnach am ei llywodraeth hwynt.
Chwennych ei Golud hwynt, er trwy ei marwolaeth hwynt.
Heb gyfrannu a hwynt yn ei hangen o bôb máth.
Esgeuluso gweddío am fendith Dduw arnynt.
Eisieu Cariad naturiol tu ac at Blant.
Mammau yn gwrtbod ei maethu hwynt heb rwystr cyfiawn.
Heb ei dwyn hwynt mewn pryd i'w Bedydd.
Heb ei hathrauwiaethu nhw mewn pryd, yn ffyrdd Duw.
Goddef iddynt, eisieu ei ceryddu mewn pryd, gael arfer o bechod.
Gosod o'i blaen hwynt ddrwg Esamplau.
Ei digalonni hwynt trwy ymddwyn yu greulon a sarrug tu ac attynt.
Heb baratoi tu ac at ei cynhaliaeth hwynt yn ôl ein gallu.
Treulio ei cyfran hwynt yn ein cam-rwysg ein hunain.
Cadw yr cwbl hyd ein marwolaeth a gadael eisieu arnynt yn y cyfamser.
Heb geisio gadael bendith iddynt o'n hól trwy ein buchedd gristianogol.
Eisieu Cariad tu ac at ein brodyr Naturiol.
Cenfigennau ac ymrysonau rhyngddynt.
DLED I FRODYR.
Heb garu ein Brodyr Ysprydol, sef, ein Cyd-gristianogion.
Heb fód yn gyd-teimladwy o'i dioddefiadau hwynt.
[Page 465]Ymwrthod yn ddiachos a'i cyfundeb hwynt mewn Dledswddau sanctaidd.
Heb ddwys-ystyried anghyflwr a difrawd yr Eglwys.
PRIODAS.
PRiodi o fewn y graddau gwaharddedig.
Priodi o ran dibennion annyledus, megis Cybydddod, Trachwant, &c.
Ymddygiad sarrug ac anheddychlon tu ac at y Gwr neu 'r wraig.
Anffyddlondeb i'r Gwely.
Heb gyd-ddwyn a gwendid naill y llall.
Heb ymegnío i geisio daioni naill y llall, Ysprydol neu amserol.
Y wraig yn gwrthwynebu Gorchymyn cyfreithlon ei Gwr Priod.
Ei hymegniad hi am Reolaeth ac arglwyddiaeth arno ef.
Heb weddío y naill tros y llall.
CYMDEITHAS.
ANffyddlondeb i Gydymmaith.
Dadcuddio ei ddirgelion ef.
Neccau Cymmorth iddo yn ei angen.
Esgeuluso ei gynghori ef yn garedig.
Ei lochi ef yn ei gamweddau.
Ymadael a'i gymdeithas ef ar achos gwael neu yn ddiachos.
Gwneuthur Cyngrair mewn pechod yn lle cymdeithas rhinweddol.
GWEISION.
GWeision yn anufuddhau gorchymynion cysreithlon ei meistraid.
Gwneuthur twyll i'w Da hwynt.
Ei hafradloni nhw yn ddiofal.
Gwrwgnach wrth ei haryyoeddion hwynt.
Seguryd.
Llygad-wasanaeth.
MEISTRAID.
MEistraid yn arferu ei Gweision yn greulon ac yn Orthrymmedig.
Yn rhy Lwfr, ac yn goddef iddynt esgeuluso ei Dledswydd.
Heb ofalu am ei Heneidiau hwynt.
Heb edrych am foddion iddynt o athrawiaeth mewn Crefydd.
Heb ei cyngyhori a'i hargyoeddi hwynt pan bechont.
Heb ganniadu iddynt amser ac odfa i weddi ac Addoliant Duw.
CARIAD.
EIsieu ymysgaroedd a Chariad tu ac at ein Cymydogion.
Heb ddeisyf yn ddifrifol ei daioni hwynt Ysprydol ac amserol.
Heb garu a maddeu i 'n gelynion.
Ymddial a'n dwylo ein hunain arnynt.
Efalsder: yn proffessu Cariad, heb ddangos dim.
[Page 467]Heb ymegnío i wneuthur yr holl ddaioni a alloni i enaid ein Cymydog.
Heb ei gynnorthwyo ef i'n gallu yn ei Helbul corphorol.
Heb amddifsyn ei Enw da ef pan wypo ni ei fód ef yn cael ei enllibio.
Neccau iddo gymwynas gymydogaidd i gynnal neu 'i anghwanegu ei gyflwr oddiallan.
Heb ei gynnorthwyo ef yn ei dlodi.
Heb roddi yn helaeth, neu yn llawen.
MYNED i'r GYFRAITH.
BOd heb garu Tangnheddyf.
Myned i'r gyfraith ar achosion gwael.
Dwyn gelyniaeth o'n mewn tu ac at y rhai y bón ni yn ymgyfreithio a hwynt.
Heb ymegnío i wneuthur Tangnheddyf ymysg eraill.
Deunydd y Rhól yma o Bechodau yw hyn: ar Ddyddiau Ymddarostyngiad yn enwedig o flaen y Cymmun, darllen hwynt drostynt yn ystyriol, ac ar bób ûn o honynt gofyn i'th galon dy hun, A wyf fi yn Euog o hwn? a pha béth bynnag trwy'r cyfryw Brofiad a ganfyddi di dy hun yn Euog o bonaw, cyffessa yn neillduol ac yn ostyngedig ger bron Duw, ynghyd a'r holl amgylchiadau dirfawr hynny a ddichon anghwanegu eu heuogrwydd hwynt, a bwriada yn ddifrifol ymadel a phób gyfryw Bechod rhag llaw; gwedi hynny arfera 'r ffurf sy'n calyn.
O ARGLWYDD, yr wyf' yn cywilyddio ac yn gwrido wrth dderchafu fy Enaid [Page 468] tu ac attat ti, oblegid y mae fy anwireddau gwedi amlhau tros fy mhen, a'm trosseddiad a dyfodd i fynu hyd at y Nês. Mi a wneuthym yr holl bechodau hyn, a hynny yn y modd angerddaf; nid anwireddau neillduol ac unic fuant, eithr rhai gwedi ei mynych ailgyrchu: Canys o cyn lleied, Arglwydd, sydd o'r holl Rôl echryslon hon a osodais i yr awrhon o'th flaen di, na búm i yn euog o honynt, iê nad ydynt gwedi dyfod yn gynnefinol ac yn arferol gydá fi? Ac at hyn óll mi a anghwanegais awydd-fryd a gwrthnysigrwydd yn pechu, gan ymchwelyd i'm harfer ddrygionus, fal y rhythra 'r march i'r rhyfel, gan wneuthur drŵg a'm dwy law yn unchwant, iè gan gashau adnewyddu, a thaflu di Eiriau o'm hól, trwy ddiffod dy yspryd ti o'm mewn, yr hwn a dystiolaethodd i'm herbyn, i'm troi i oddiwrth fy ffyrdd ddrwg, a chan fwrw yn ofer yr holl foddion hynny oddiallan, pa ûn bynnag ai o farnedigaeth neu o drugaredd, y rhai a arferaist ti i'm tynnu i attat dy hun. Ië, O Arglwydd, mi a allaf gyfrif fy Edifeirwch ym mhlîth fy mhechodau mwyaf, nhw fuant weithiau yn ffugiol a rhagrithiol, yn wastad mor wael a diffrwyth na ddygasant hwy ddim ffrwyth allan mewn gwellháad buchedd, eithr mi a ymchwelais drachefn gyda 'r Cî i'w chwdfa, a'r hwch i ymdrobaeddu yn y domm, ac at hyn oll mi a anghwanegais dorri 'r holl fwriadau a'r addunedau a wnaethym i o'r blaen o wellháad. Felly yr wyf, O Arglwydd, yn dra-phechadurus, a chan ddarfod i mi fal hyn ddewis marwolaeth, teilwng [Page 469] iawn yw i mi fód yn gyfrannog o honi hi, sef, o'r ail farwolaeth, y Pydew o dân a brwmstan; Hyn, Hyn, O Arglwydd, mewn Cyfiawnder yw rhan fy Phíol i; i mi ni perthyn dim ond cywilydd a gwarthrudd wyneb yn dragywydd: Ond i ti, O Arglwydd Dduw, y perthyn Trugaredd á maddeuant, er gwrthryfelu o honof i'th erbyn; Na chofia fy mhechodau na'm hanwireddau, eithr yn ól dy drugaredd, meddwl am danaf, Arglwydd, er dy ddaioni. Tydi a anfonaist dy Fáb i geisio ac i gadw yr hyn a gollesid; wele, O Arglwydd, mi a eis ar gyfeiliorn fal dafad ar gyfrgoll, o cais dy wâs, a dŵg fi yn ôl at Fugail ac Escob fy Enaid; bydded i'th Yspryd ti roddi i mi wîr-deimlad a chasineb o'm holl ffieidd-dra, sef, y gwîr gystudd calon hwnnw, yr hwn a addewaist ti ná ddirmygit. Ac yna bid fodlon gennit edrych arnaf, deleu fy holl anwiredd, a'm derbyn i yn rasol, ac er ei fwyn ef yr hwn ni wnaeth ddim ar fai, cymmoder di a fi, yr hwn ni wnaethum ddim da; golch ymmaith euogrwydd fy mhechodau i yn ei waed ef, a thrwy ei Râs ef gorchfyga 'i gallu hwynt, a chaniadhá, O Arglwydd, fod i mi o'r awr hon allan gymmeryd fy nghennad diweddaf a'm holl annuwioldeb a'm trachwantau bydol, fal na bo i mi byth ond hynny edrych yn ól tu a Sodoma, nac hiraethu am grochanau Cîg yr Aipht, eithr bód i mi fy nghyssegru fy hun yn hollawl i ti, i'th wasanaethu di mewn Cyfiawnder a gwîr sancteiddrwydd, gan fy nghyfrif fy hun yn farw i Bechod, eithr yn fyw i Dduw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd a'n Hiachawdr bendigedic.
Yna arfera y
Psalm hon o Edifeirwch.
Psalm 51.
TRugarhá wrthif ô Dduw yn ôl dy drugarogrwydd; yn ól lliaws dy dosturiaethau delea fy anwireddau.
Golch fi yn llwyr-ddwys oddi wrth fy anwiredd: a glanbá fi oddi wrth fy mhechod.
Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.
Yn dy erbyn di, dydi dy hunain, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hyn yn dy olwg: fel i'th gyfiawnbaer pan leferych, ac y byddit bûr pan farnech.
Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiagodd fy mam arnaf.
Wele, ceraist wirionedd oddi mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
Glanhâ fi ag Yssop, ac mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach nâ'r eira.
Pár i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.
Cuddia dy wyneb oddiwrth fy mhechodau: a delea fy holl anwireddau.
Crea galon lân ynof ô Dduw; ac adnewydda yspryd uniawn o'm mewn.
Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.
Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechydwraeth: ac á'th hael Yspryd cynnal fi.
Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phecba duriaid a droir attat.
[Page 571]Gwared fi oddiwrth waed ô Dduw, Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
Arglwydd agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
Canys ni chwennychi aberth, pe amgen mi a'i rhoddwn; poeth offrwm ni fynni.
Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic, ô Dduw, ni ddirmygi.
Gwna ddaioni, yn dy ewyllyscarwch, i Sion: adeilada furiau Jerusalem.
Yna y byddi di fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boeth offrwm, ac aberth llosc, yna 'r offrymmant fustych ar dy allor.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr a wr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.
GWEDDIAU O FLAEN derbyn y CYMMUN Bendigedig.
O Dduw grasusaf, yr hwn o'th ddirfawr ddaioni a baratóaist y wlédd Ysprydol hon i Eneidiau llésg a thrangcedig, gwná i'm deisyfiadau a'm hiraeth i am dani hi fód yn gyfattebol i'm heisieu i o honi hi. Fe ddarfu [Page 472] i mi, gyda'r afradlon, dreulio'r gyfran honno o Râs a roddaist ti i mi, ac am hynny 'mae arna'i eisieu yn anfeidrol cael cyflawni fy niffyg allan o'r tryssor-dŷ yma: Ond, O Arglwydd, pa fodd y meiddia'r cyfryw greadur truan a myfi nessau at dy fwrdd Sanctaidd di? Cî wyf fi pa fodd y rhyfyga'i gymmeryd Bara 'r plant? Neu pa fódd y rhoddir y Manna Ysprydol hwn, ymborth Angylion, i ûn a ddewisodd fwyta o'r cibau gyda'r môch, iè i ûn a fathrodd cyn fynyched yn barod y pethau gwerthfawr hyn tan ei draed, naill ai trwy esgeuluso 'r dirgeledigaethau Sancteiddiol hyn yn ddiofal, neu 'i harferu hwynt yn annheilwng? Y mae fy euogrwydd gresynol i, O Arglwydd, yn gwneuthur i mi arswydo dyfod, ac etto yn gwneuthur i mi na feiddia'i ond dyfod; oblegid pa le, O Arglwydd, y golchir fy Enaid llygredig i, ond yn y ffynnon hon a agoraist ti i bechod ac Aflendid? Ymma gan hynny yr wyf fi'n dyfod, a thydi a addewaist na fwrit ti heibio neb a ddeue attat ti: Hwn, O Arglwydd, yw gwaed y Testament newydd, caniadhá i mi felly ei dderbyn ef, fal y bo fo i mi er maddeuant pechodau. Ac er darfod i mi cyn fynyched ac mor resynol dorri fy rhan i o'r Cyfammod hwnnw, o ba ûn y mae'r Cymmun hwn yn sêl, etto rhynged fodd i ti o'th Râs wneuthur dy ran di yn dda, a thrugarhau wrth fy anghyfiawnder i, ac na chofiech mwyach fy mhechodau i na'm hanwireddau; ac nid hynny yn unic, ond gosod dy Gyfraith yn fy nghalon, a'i scrifennu hi yn fy meddwl, a thrwy allu dy Râs trefna fy Enaid i'r cyfryw ddiffúant a pharhaus ufudd-dod, fal [Page 473] na ddigwyf monot ti byth drachefn; caniadhâ, O Arglwydd, fod i mi yn y dirgeledigaethau sancteiddiol hyn nid yn unic goffhau, ond gwîr-dderbyn fy Iachawdr bendigedic, a'r holl Ragorfreintiau o'i ddioddefaint ef: ac i'r pwrpas hwn dyro i mi 'r cyfryw baratóad Enaid ac a'm cymhwysa 'i i hynny; dód i mi ddwysdeimlad o'm pechodau a'm hanneilyngdod fal trwy fód yn flinderog ac yn llwythog, y byddwyf yn gymwys i dderbyn ei esmwythdra ef; a chan fód gwedi fy mwydo yn fy nagrau fy hun y gallwyf fod yn gymhwysach i gael fy ngolchi yn ei waed ef; derchafa fy meddwl hurt daiarol o ymdrobaeddu ymma yn isel, ac ysprydola fi a duwiol zêl, modd y gallwyf a chariad ysprydol nessau i'r wlêdd Ysprydol hon; a bydded, O Arglwydd, i'r Cariad anfeidrol hwnnw o eiddo Crist yn marw tros y fath Greadur gwael, wresogi fy Enaid oer marwaidd i, a chynneu ynof y tân. Sanctaidd hwnnw o gariad iddo ef, a hynny mor angerddol, fal na ddichon nebrhyw ddwfr ei ddiffodd, na llifeiriant ei foddi ef, sef y cyfryw ac a ddichon losci yn llwyr fy holl ammhuredd i, heb adael ûn trachwant heb ei farweiddio yn fy Enaid i. Yn ddiweddaf, O Arglwydd, yr attolygaf i ti fy nilladu i ar wisg briodas, a'm gwneuthur i, er o honof fy hun yn draannheilwng, etto trwy dy drugaredd di, yn westai cymmeradwy i'th fwrdd Sanctaidd hwn, fal na fwytáwyf ac na yfwyf fy namnedigaeth fy hûn, ond cael o honof fy mhardwn gwedi ei selio, fy ngwendid gwedi ei adgyweirio, fy llygredigaethau gwedi ei gorchfygu, am Henaid gwedi ei uno mor anwahanol a thydi, [Page 474] fal na allo unrhyw brofedigaeth fyth ddattod yr Undeb hwnnw, ond gan fod wedi dechreu ymma mewn grâs, y gallo fo gael ei berffeithio mewn Gogoniant. Caniadhá hyn, O Arglwydd, er mwyn dy anwyl Fâb Jesu Grist. Amen.
Gweddi arall.
O Wynfydedic Jesu, yr hwn a'th offrymmaist dy hun trossof fi unwaith ar y Groes, ac wyt yn dy gynnyg dy hûn i mi 'r awrhon yn y Cymmun, na âd, yr wyf' yn attollwg iti, i'm han-edifeirwch neu i'm hanneilyngdod i wneuthur y trugareddau anfeidrol hyn yn anfuddiol i mi, eithr cymhwysa fi trwy dy Râs i dderbyn cyflawn ffrwyth o honynt. Y mae arna'i, O Arglwydd, dy eisieu di 'n ddirfawr, ond yr wyf' wedi fy llyffetheirio ac euogrwydd, a chwedi fy nal i mewn a rhaffau fy mhechodau, fal na allaf symmud tu ac attat ti; O gollwng fi 'n rhydd o'r rhwym hwn, a thywys fi modd y gallwyf redeg ar dy ôl di; Ti a weli, O Arglwydd, mor gyflym yr wyf fi beunydd yn cynllwyn y llwybrau sydd yn arwain i angeu; ond pan fyddoch di yn fy ngwahodd i i fywyd a gogoniant, yr wyf' yn troi fy nghefn, ac yn gwrthod trugaredd. Mor fynych yr arlwyed y Wledd hon, a myfi a'm habsennais fy hun ac Esgufion gwael, neu os deuais, fe fu hynny yn hytrach i'th ddirmygu, nag i'th addoli di? Mi a ddygais y cyfryw luoedd o'th Elynion cyhoeddus di gyda fi, sef pechodau heb edifarhau am danynt, fal pe buaswn yn dyfod nid i goffhau, ond i adnewyddu dy ddioddefaint di, gan dy groshoelio [Page 475] di o newydd, a'th roddi di i wradwydd cyhoeddus: Ac yn awr o ba ryw gospedigaeth yr wyf fi yn deilwng, yr hwn fal hyn a sethrais Fâb Duw tan fy nhraed ac a gyfrifais waed y Cyfammod yn beth halogedig! Etto, O Drugarog Jesu, y gwaed hwn yw fy unic noddfa i, O bydded i hwn wneuthur fy Nngyfammod i a thydi, neu fe ddarfu am danaf yn dragywydd: i ba beth y tywelltaist di ef ond i waredu pechaduriaid? ac ni ddichon ei deilyngdod ef gael ei orchfygu na'i bwyso i lawr gan fawredd na rhifedi Pechodau. Pechadur dirfawr ydwyf fi, O gâd i mi gael yr iachus ffrwyth o hono ef. Trugarhá wrthif, O Dduw, trugarhá wrthif, canys y mae fy Enaid yn ymddiried ynot, ac yn ghromlechydd dy archollion y bydd fy noddfa, nes i lidiawgrwydd dy Dâd fyned heibio. O tydi yr hwn megis fy Arch-offeiriad a aberthaist trossof, eiriol hefyd troffof fi a, dadleu haeddiant dy ddioddefaint er fy mwyn i, ac na âd, O fy Mhrynwr, i brîs dy waed ti fyned yn gwbl ofer: Ond caniadhá, O Arglwydd, megys y mae fy mhechodau i yn aml i'w maddeu, felly y bo i mi garu llawer. Ti a weli, O Arglwydd, pa ryw gariad oer a methiant sydd gennifi tu ac attat ti, O twymna a bywoccá di fo: Ac megys y tywelltir allan yn y Cymmun hwn dy anfeidrol gariad ti yn marw trossof, felly yr wyf yn erfyn arnat fod iddo ef ddwyn y cyfryw Râs i'm mewn ac a'm gwnelo i yn abl i'th garu ditheu hefyd mewn rhyw fesur cyfattebol: O bydded i'r Tân Sanctaidd hwnnw ddescyn o'r Nêf i'm Henaid i, a bydded iddo ddifa fy mhechodau i megis poeth-offrwm, fal [Page 476] na locheso neb-rhyw anwydau llygredig, na dim melldigedig yn fy nghalon i; modd na halogwyf' byth drachefn y lle hwnnw a ddewisaist ti yn Deml i ti dy hûn. Tydi, O wynfydedig Jesu, a fuost farw i'm gwaredu i oddiwrth bób anwiredd, O na âd i mi fy ngwerthu fy hûn drachefn i weithredu drygioni; ond caniadhá i mi nessau attat y prŷd hyn a llawnfwriadau disigl a difrifol o adnewyddiad hollawl, a gád i mi dderbyn y cyfryw Râs a gallu oddiwrthit ti, fal y gallwyf yn ffyddlon ei cwplhau hwynt: Y mae fy Enaid, O Arglwydd yn griddfan tan amryw bechodau hên cynnefinol [Yma traetha allan dy lygredigaethau mwyaf.] Ac er cyhyd y gorweddwyf wrth Lynn Bethesda, er mynyched y delwyf i'th fwrdd, etto oni bydd yn wiw gennit ti estyn allan dy feddyginiaethus rinwedd, nhw a barháan yn wastad heb ei hiachau. O tydi wynfydedig Bysygwr Eneidiau, iachá fi, a chaniadhá fód i mi felly dy gyffwrdd di yr awrhon, fel yr attalio pób ún o'r diferlif ffiaidd hyn yn ebrwydd, ac fal na bo'r clefydau hyn i farwolaeth, ond i ogoniant dy drugaredd yn maddeu, ac i ogoniant dy Râs yn glanhau creadur truan mor halogedig. O Crist, gwrando fi, a chaniadhá fod i mi yr awrhon nessau attat a'r cyfryw ostyngeiddrwydd, cystudd calon, cariad a Dwywolder, fal y bo'n deilwng gennit ti ddyfod attaf fi, a phresswylio gydá fi, trwy dy gyfrannogi dy hun i mi, ynghyd a holl haeddedigaethau dy ddioddefaint. Ac yna, O Arglwydd, na fydded i'r ûn o achwynion Satan neu' nghydwybod fy hûn, fy mrawychu na'm cythrwblio i, ond gan fod [Page 477] gennif' heddwch gyda thydi, gâd i mi gael heddwch hefyd ynof fy hùn, fal y bo i'r Gwîn hwn lonni, ac'y Fara 'r bywyd hwn nerthu fy nghalon i, am gwneuthur i yn abl i redeg ffordd dy Orchymynion. Caniadhá hyn, drugarog Iachawdr, er mwyn dy dosturi a'th ymysgaroedd dy hûn.
OCHENEIDIAU Byrrion i'w harferu wrth FWRDD yr ARGLWYDD.
O Arglwydd nid wyfi deilwng i ti i ddyfod tan fy nghronglwyd.
Pechais: pa beth a wnáf i ti, tydi Geidwad dynion?
[ Yma adgoffá rai o'th bechodau mwyaf.]
Os creffi di ar anwiredd, Arglwydd, pwy a saif?
Ond gyda'r Arglwydd y mae Trugaredd, ac aml ymwared gydag ef.
Edrych, O Arglwydd, ar dy anwyl fâb yn yr hwn yn unic i'th fodlonir.
Gwrando ar lêf ei waed ef, yr hwn sy'n traethu pethau gwell na'r eiddo Abel.
Trwy ei ddirfawr ing a'i chwŷs gwaedlid ef, trwy ei grôg a'i ddioddefaint ef, Gwared fi, Arglwydd Daionus.
[Page 478]Oen Duw yr hwn wyt yn diléu pechodau'r bŷd, caniadhá i mi dy Dangnheddyf.
Oen Duw yr hwn wyt yn diléu pechodau'r bŷd, trugarhâ wrthif.
Yn ebrwydd o flaen derbyn, dywed.
TYdi a ddywedaist yr hwn sydd yn bwyta fy ngnhawd, ac yn yfed fy ngwaed a gaiff fywyd tragywyddol. Wele wasanaethydd yr Arglwydd, bydded i mi yn ôl dy Air.
Wrth dderbyn y Bara, Dywed.
TRwy dy Gorph Croeshoeliedig di gwared fi oddiwrth gorph y farwolaeth hon.
Wrth dderbyn y Cwppan, dywed.
O Bydded i'th waed ti buro fy nghydwybod i oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw.
Arglwydd, os mynni, tydi a elli fy nglanhau.
O Cyffwrdd a mi, a dywed, mynnaf, bydd di lân.
Gwedi derbyn, dywed.
BEth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi?
Phíol iechydwraeth a gymmeraf, ac ar Enw'r Arglwydd y galwaf.
Teilwng yw'r oen yr hwn a laddwyd i [Page 479] dderbyn gallu, a chyfoeth, a Doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant a moliant.
Am hynny Moliant, ac anrhydedd, a gogoniant a gallu fyddo iddo ef yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orseddfaingc, ac i'r Oen yn dragywydd, Amen.
Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy Gyfiawnder.
Cynnal fy nherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed.
Diolwch ar ôl derbyn y CYMMUN.
O Dduw ffynnon pób daioni oddiwrth ba ûn y mae pób rhodd dda a pherffaith yn dyfod, ac i ba ûn y mae pób anrhydedd a gogoniant yn deilwng, yr wyfi'n chwennych o wir eigion calon ddiolchgar dy fendithio a'th foliannu di am y trugareddau anfeidrol hynny a ganniadhéaist ti i mi: Arglwydd, beth yw dŷn i ti wneuthur cymmaint cyfrif o honaw ac anfon dy anwyl Fâb i ddioddef Penydiau mor echryslon trosto ef? Ond beth wyf fi, O Arglwydd, y gwaethaf o ddynion i mi dderbyn ûn gyfran o'r iawn yma, yr hwn a'i dirmygodd ef a'i ddioddefaint cyn fynyched? O uchder a dyfnder dy drugaredd hon, yn rhoddi cennad i mi i ddyfod i adnewyddu'r Cyfammod hwnnw a thydi, yr hwn a ddarfu i mi cyn fynyched ac mor wrthnysig ei dorri! i mi, [Page 480] yr hwn nid wyf deilwng o'r bara beunyddiol sy'n cynnal y Corph, gael bód yn gyfrannog o fara'r bywyd yma sy'n porthi'r Enaid; a bod yn wiw gan y Duw pur Sanctaidd ei gyffylltu ei hun a chreadur mor wael a llygredig! Na âd i mi o hyn allan, O Dduw, yr wyf' yn attolwg i ti, droi dy râs di i drythyllwch, a gwneuthur dy drugaredd di yn achos o ddiogi a seguryd, ond bydded i'th gariad annrhaethadwy hon fy annog i i ufudd-dod, fal gan ddarfod i'm Harglwydd bendigedig farw trosto'i, na bo i mi rhagllaw fuw i mi fy hûn, ond iddo ef: mi a wn, O Arglwydd, nad oes dim cyfeillach rhwng Crist a Belial; gan ddarfod iddo ef weled yn dda gan hynny yr awrhon fyned i mewn i'm Calon i, O na bydded i mi byth gynnwys i unrhyw drachwant ei yrru ef allan oddiyno, ond bid iddo gadw meddiant yno'i yn wastad yr hwn a'm prynnodd i mor ddrûd, ac na fydded i ddim byth fy nghymmeryd i o'i ddwylaw ef. I'r pwrpas hwn rhynged fodd i ti o'th ddaioni wilio trossofi, a'm hamddiffyn i rhag pob cynllwynion fy ngelynion Ysprydol, ond yn enwedig gwared fi oddiwrthif fy hun, sef rhag twyll fy nghalon fy hun, yr hon sydd y rhŷ barod i'w thraddodi ei hun i fynu yn ysglyfaeth. A lle y gweli di fy mód i wannaf naill ai trwy natur ai arfer, yno mi attolygaf i ti fawrygu dy allu i'm hamddiffyn i. [Yma adrodd dy Brofedigaethau Perycclaf.] Ac na âd, O Arglwydd, i mi byth anghofio dioddefaint fy Iachawdr tros fy mhechodau i, a'r Addunedau a wnaethum i yr awrhon yn ei herbyn hwynt, ond bydded i goffadwraeth o'r naill [Page 481] wneuthur i mi gwplhau'r llall, fal na bo i mi byth wneuthur Cyngrair a'r trachwantau hynny a hoeliodd ei ddwylaw ef, a wanodd ei ystlys ef, ac a wnaeth ei Enaid ef yn drwm hyd angeu. Ond gan ddarfod i mi yn awr fy nhraddodi fy hun o newydd tan ei faner ef, bydded i mi ymladd yn wrol, a dilyn Capten fy Iechydwraeth, iè trwy fôr o waed. Cynnal di i fynu, O Arglwydd, fy nwylaw llaesedig, a'm gliniau diffrwyth, fel na ddeffygwyf yn yr ymdrech hon; O bydd di yn gadernid i mi yr hwn nid wyf abl o honof fy hûn i ymdrechu a'r Profedigaethau gwaelaf. Mor fynych y tróis i fy nghefn yn nydd y frwydr? Pa sawl un o'r Addunedau Sacramentaidd hyn a dorrais i? Ac y mae gennifi etto, O Arglwydd, yr ûn galon anwadl dwyllodrus i'm bradychu i i dorri hon hefyd: O tydi yr hwn wyt Iè, ac Amen, ym mha ûn nid oes dim cysgod troedigaeth, dyro i mi yr wyf' yn attolwg i ti, y cyfryw ddianwadalwch meddwl, fal no bo i mi rhag llaw ysgogi fel bŵa twyllodrus, ond gan fod am calon yn sefydlog gydá thydi y gallwyf barhau yn ddilys yn dy Gyfammod; fal na bo i unrhyw amcan da a gynnhyrfodd dy Yspryd ti o'm mewn i y dydd heddyw ddiflannu, fal y gwnaeth cynnifer o'r blaen, ond bod iddynt ddwyn ffrwyth i fywyd tragywyddol. Caniadhá hyn, O drugarog Dâd, trwy haeddedigaethau a chyfryngdod fy Iachawdr Croeshoeliedig, Amen.
Gweddi o Gyfryngiad i'w harferu cyn neu gwedi derbyn y Cymmun.
O Arglwydd grasusaf, yr hwn a geraist ddynol ryw mor dynner a rhoddi dy anwyl Fâb o'th fonwes i fód yn iawn am bechodau'r holl fŷd caniadhá fód rhinwedd y Prynedigaeth hwn mor ehang a chyffredinol ac yr amcanwyd ef, fel y bo fo er Iechydwraeth i bób dŷn. O na bydded i neb o ddiffyg edifeirwch fforffedio ei gyfran ynthi hi, ond trwy allu dy Râs dŵg bawb, iè'r pechaduriaid gwrthryfelgaraf i edifeirwch. Goleua bawb sy'n eiftedd mewn tywyllwch, sef, Iddewon, Tyrciaid, Paganiaid, ac Hereticiaid, tynn oddiwrthynt bob dallineb, caledwch calon, a dirmyg o'th Air, ac felly dwg hwynt adref, O Arglwydd, i'th gorlan di, fal y bónt gadwedig ymysg nifer y gwîr Israeliaid. Ac am y rhai sy 'n dwyn Enw dy Fâb arnynt, caniadhá, O Arglwydd, fód ei hymarweddiad hwynt yn gyfryw ac a weddai i Efengyl Crist, fal na chabler ei Enw ef mwyach ymysg y Cenhedloedd o'i plegid hwynt. O Arglwydd bendigedig, pa hŷd y pery Créd yn ran ffieiddiaf o'r byd, yn geuffos o'r llygredigaethau atgas hynny y rhai y mae hyd yn oed y Paganiaid yn ei ffieiddio? Och na fydded yn wastad gymmaint cyfwng rhwng ein Proffes a'n hymarweddiad; Na fydded discyblion yr Jesu Sanctaidd ddifrecheulid yn anad pawb eraill yn fwyaf aflan ac halogedig. Na fydded deiliaid Twysog Tangnheddyf yn anad neb yn fwyaf ymryssongar a gwaedlid; ond gwná ni yn Gristianogion [Page 483] mewn gwirionedd yn gystal ac mewn Enw, fal y gallon ni rodio yn deilwng o'r alwedigaeth Sanctaidd honno i'n galwyd iddi, ac y gallon ni ei gŷd ac ûn meddwl, ac ag ûn galon dy Ogoneddu di Tâd ein Harglwyad Jesu Grist. Trugarhá wrth yr Eglwys lésg hon, edrych i lawr o'r Nefoedd presswylfa dy Sancteiddrwydd a'th Ogoniant: pa le y mae dy zêl, a'th Gadernid, sain dy drugareddau a'th ymysgaroedd tu ac attom ni? A attalwyd hwynt? Na chofia, Arglwydd, ein anwiredd, ac na ddigia wrthym yn dragywydd; ond er bód ein trosseddiadau ni yn aml, a gwrthryfelu o honom yn ddirfawr i'th erbyn etto yn ôl dy ddaioni ymchweler dy ddigofaint a'th lidiawgrwydd oddiwrthym, a thywynned dy wyneb ar dy Gyssegr yr hon sy'n anghyfannedd, er mwyn yr Arglwydd; ac felly gwahana rhyngom ni a'n pechodau, fal na wahanon nhw rhyngom ni a'n Duw. Cadw ac amddiffyn holl Gristianus Frenhinoedd, Tywysogion, a Llywiawdwŷr, yn enwedig y rhai yr ydyn ni yn ddeiliaid iddynt; dadleu di ei dadl hwynt, O Arglwyd, yn erbyn y rhai a ymddadleuant i'w herbyn, ac ymladd di yn erbyn y rhai a ymladdant a hwynt, ac felly arwain a chymmorth hwynt, i gwplhau 'r swydd honno i ba ûn yr ordeiniaist ti hwynt, fal tanynt hwy y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol trwy bób Duwioldeb ac honestrwydd. Bendithia y rhai sy'n gweini wrth dy Allor di, agor di ei gwefusau hwynt, fel y mynego ei geneuau dy foliant; O na rodder goleuni 'r bŷd tan lestr, ond gosod hwynt yn ei canhwyll-brennau, fal y goleuant i bawb'sy yn [Page 484] y tŷ. Na haloged offeiriadau Jeroboam dy wasnaeth di, ond bydded i hâd Aaron weini yn wastad ger dy fron di. Ac O Dâd y Trugareddau, a Duw pob Diddanwch, cymmorth a diddana bawb a'r sydd mewn cystudd, a gwared y truan a'r anghenus, cynnorthwya di y rhai sydd yn dioddef cam, deued ochenaid ofidus y Carcharion ger dy fron, ac yn ól mawredd dy allu amddiffyn di y rhai a ordeinwyd i farw; dyro esmwythdra i'r cystuddiedig, a chynnorthwya 'r anghenus, a channiadhá i bób pechadur rhyfygusfod yn deimladwy o'i bechodau, ac i bób ûn gwan-obeithiol, ganfod dy drugareddau di, a gwna di, O Arglwydd, i bawb tu hwnt i'r cwbl a allont ei ofyn, neu feddwl am dano. Maddeu i'm gelynion, erlyn-wŷr, ac ysclandr-wŷr, a thrôa eu calonnau. Tywallt dy Fendithion ar fy holl gyfeilliaid a'm cefneseifiaid, ac ar bawb a'i gorchymynnasant ei hunain i'm Gweddiau i. [Yma di a elli henwi dynion neillduol.] A chaniadhá, O Dâd trugarog, fôd i ni oll trwy'r Gwaed hwn y Groes gal ein cyfllwyno yn bûr, yn ddifai, ac yn ddiargyoedd yn dy olwg di, modd y gallon ni gael ein derbyn i mewn i'r lle hwnnw o burdeb, lle ni ddichon dim aflan fyned i mewn iddo, yno i ganu tragywyddol Foliant i'r Tâd, i'r Mâb, a'r Yspryd glân yn oes oesoedd.
Gweddi yn amser Erlidiau Cyffredinol.
O Iachawdr Bendigedic, yr hwn a wnaethôst y Groes yn nôd o'th Ddiscyblion [Page 485] di, gwná fy yn abl, yr wy'n attolwyg i ti, i'w chofleidio hi yn llawen ac yn ewyllysgar; ti a weli, O Arglwydd, fy môd i gwedi syrthio ar ddyddiau ymmhâ rai y mae y rhai a ymadawo a drwg yn ei wneuthur ei hûn yn ysglyfaeth; O gwná i mi fód mor barod i ddodi i fynu fy holl berthynasau oddiallan, pan fo fy Ufudd-dod i ti yn gofyn hynny, fal y gallo'r peth a ddychwelo yn ysglyfaeth i ddynion, fod trwot ti megis yn Aberth gymmeradwy i Dduw: cynnal fi, O Arglwydd, felly trwy dy Râs, fel na ddioddefwyf byth megis drwg-weithredwr, ac yna, O Arglwydd, os fy nghyfran a fydd dioddef megis Cristion, na fydded i mi gywilyddio, eithr gorfoleddu am fy nghyfrif yn deilwng i ddioddef er mwyn dy Enw di: O tydi yr hwn er fy mwyn i a ddioddefaist y Groes, ac a ddiystyraist wradwydd, bydded i siampl y Cariad a'r ammynedd hwnnw orfod yn erbyn holl gynnhyrfiadau brawychus fy nghalon lygredig, fal na allo dychryniadau yn y bŷd fyth ysgogi fy ngwastadrwydd i, ond er cyhyd y goddefi di i wialen yr annuwiol orphwys ar fy nghefn i, etto na bo i mi byth erfyn fy llaw at annuwioldeb. Ti a adwaenost O Arglwydd, fy nefnydd i, ac wyt yn cofio nad ydwyf' ond cnawd, ac y mae Cnawd yn cilio yn ôl pan fo rhyw beth gofidus yn nessau. Dy Yspryd ti yn unic a ddichon fy nghynnal i i fynu, o cymmorth fi a'th hael yspryd, fel na flinwyf' ac na lwfrháwyf' yn fy meddwl. A pho mwyaf y canfyddi di fy ngwendid i, amlyga di o hynny yn fwy dy allu ynof, a gwná i mi, O Arglwydd, ym mhób rhyw Brofedigaethau [Page 486] edrych yn ddisigl arnat ti, awdur a pherffeithudd fy ffydd, modd y gallwyf redeg yr yrfa a osodwyd o'm blaen i, a gwrthwynebu, iè hyd at waed, gan ymdrechu yn erbyn pechod. O Wynfydedig Jesu, gwrando fi, ac er bod Satan yn chwennych fy nghael i i'm nithio fel gwenith, eto gweddía di, O Cyfryng-wr bendigedig, trossof fi na ddiffygio fy ffydd i, eithr er ei brofi ef trwy dân, caffer ef er mcwl, ac anrhydedd a gogoniant ar dy ymddangosiad ti. A chaniadhá, O Arglwydd, yr wyf' yn attolwg i ti, fod i mi gynnal nid yn unic ddianwadalwch tu ac at Dduw, eithr Cariad hefyd tu ac at ddynion, iè tu ac at y rhai hynny a oddefi di i fod yn offerau o'm herledigaeth a'm trueni i: bydded i mi, O Arglwydd, ddilyn Esampl dy Laryeidd-dra ryfeddol di, yn caru ac yn gweddio tros dy Erlid-wŷr mwyaf; a gorchfyga di, O Arglwydd, ei holl ddrwg hwynt a'th anfeidrol ddaioni, ymchwel ei Calonnau hwynt, a dwg hwynt trwy dy allu attat dy hun, ac o'r diwedd derbyn fi a'm gelynion hefyd i'r trigfannau hynny o Dangnheddyf ac Esmwythdra, lle yr wyt ti yn llywodraethu gyd 'r Tâd, a'r Yspryd glân, yn ûn Duw yn oes oesoedd.
Gweddi yn amser Adfyd.
O Arglwydd cyfiawn a sanctaidd, yr hwn wyt yn cospi dyn a cheryddon am anwiredd, yr wyf fi 'n ddiffúant yn deisyf fy ymddarostwng fy hun tan dy law gadarn di, yr hon sydd yr awrhon yn gorwedd yn drom arnafi; yr wyf fi yn ddifrifol yn cynabod, O Arglwydd, [Page 487] nad yw beth bynnag a wnelwyf neu a ddioddefwyf fi ond dyledus wobr fy ngweithredoedd i, ac am hynny yn dy geryddon tostaf rhaid i mi ddywedyd, Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd, ac iniawn yw dy farnedigaethau. Ond yr wyfi'n attolwg i ti, O Arglwydd, mewn barn gofio am drugaredd, ac er darfod i'm pechodau i dy annog di i daro, etto ystyria fy ngwendid i, ac na âd i'th wialennodiau fod yn drymmach neu yn fwy parháus nag y gweli di fód yn fuddiol i'm Henaid i; Cospa fi, ond a cheryddon Tâd, nid ag archollion gelyn, ac er na thynni di ymmaith dy wialen, etto tynn ymmaith dy lidiawgrwydd. Arglwydd na ffieiddia fy Enaid i, ac na fwrw dy wâs heibio mewn digofaint, ond maddeu fy mhechodau 'r wyf' yn attolwg i ti; ac os wyt ti etto yn dy Dadol ddoethineb, yn gweled yn gymwys hwyhau dy gospedigaethau, dy E wyllys bendigedig di fytho; yr wyf yn fy nhaflu fy hun, O Arglwydd, wrth dy draed ti, gwná a fi fel y gweloch di yn dda. Prawf fi fel y profir arian, am y dŷgi di fi allan yn bûr. A gwnâ, O Arglwydd, i'm Cnawd hefyd ymfodloni i hyn, fel na bo dim ynof fi a wrthryfelo yn erbyn dy law, ond gwedi darfod i mi oresgin yn hollawl bob rhyw feddyliau gwrwgnachol, y gallwyf yn llawen yfed o'r Cwppan hwn. Ac er chwerwed y gweli di, O Arglwydd, yn dda ei gwneuthur hi, bydded yn feddiginiaeth i iachau holl ddoluriau fy Enaid i, fel y bo iddo ddwyn ynof heddychol ffrwyth cyfiawnder: modd y bo i'r cystuddiau gwael hyn, y rhai nid ydynt ond tros amser byrr, weithredu i mi ragorol a thragywyddol [Page 488] bwys gogoniant trwy Jesu Grist, Amen.
Diolwch am Ymwared allan O Adfyd
O Arglwydd bendigedic, yr hwn wyt raslawn a thrugarog, hwyrfrydic i lîd, a mawr o drugarogrwydd, ac yn edifeiriol am ddrwg, yr wyfi 'n cydnabod yn ddiolchgar o'th flaen di na wnaethost ti a fi yn ôl fy mhechodau, ac na obrwyaist fi yn ôl fy anwireddau. Fe haeddodd fy ngwrthryfelgarwch i, O Arglwydd, ei fflangellu a Scorpionau, ond tydi a'i ceryddaist hwynt yn unic a gwialen dadol esmwyth; ac ni oddefaist i mi ychwaith orwedd yn hir tan honno, ond a roddaist mewn prŷd ymwared grasusol o'm holl gystuddiau. Mi a orfoleddaf, Arglwydd, ac a lawenychaf yn dy drugaredd, canys tydi a ystyriaist fy helbul, ac a adnabuost fy Enaid mewn cyfyngder. Tidi a archollaist, a thydi a'm hiachêaist i; o bydded i'th amryw Ragluniaethau hyn gael ei priodol effeithiau ar fy Enaid i, modd y gallwyf fi yr hwn a deimlais chwerwder dy geryddon, ofni ac nid pechu, ac fel y gallwyffi yr hwn hefyd a deimlais raslawn atgyweiriad dy drugaredd, fód a'm calon gwedi ei derchafu yn lonn, a'i chyssylltu a thydi yn y rhwymedigaethau cadarnaf o Gariad, ac fel y gallwyf trwy bób ûn gael fy nghadw mewn parhaus a chyflawn ufudd-dod i ti tros fy holl ddyddiau, trwy Jesu Grist.
CYFARWYDDIAD am amser CLEFYD.
PAn ganfyddych dy fod yn Glâf, cofia yn ebrwydd mai Duw sydd yn cospi dŷn a cheryddon am anwiredd. Am hynny chwilia allan yn gyntaf beth sydd yn ei annog ef i'th gospi di, ac i'r Pwrpas hwn Prawf dy galon dy hun, chwilia yn ddyfal pa euogrwydd sydd yno, cyffessa dy bechodau yn ostyngedig ac yn edifeiriol o flaen Duw, ac er mwyn siccrwydd gwell, adnewydda dy edifeirwch am holl hên bechodau dy fuchedd o'r blaen, erfyn yn daer ac yn ddifrifol ei drugaredd ai Faddeuant yn Grist Jesu, ac ymróa yu ddiffúant i ymadel a phób rhyw ffordd bechadurus rhag llaw. A rhag i'th galon dy hûn dy dwllo di mewn achos mor bwysfawr, da fydd i ti ddanfon am ryw Ddifinydd duwiol, nid yn unic i'th gynnorthwyo di a'i Weddíau, ond a'i gynghorion hefyd. Ac i'r Pwrpas hwnnw agor dy galon mor eglur wrtho ef, modd y gallo ef farnu a ydyw dy Edifeirwch yn gyfryw ac a rydd i ti hyfdra i ymddangos ger bron gorseddfaingc ofnadwy Duw, os amgen, fel y gallo ef (i'w allu) dy gynnorthwyo di i'w gwneuthur hi felly. A chwedi i ti fal hyn ddarparu i'th ran oreu, sef dy Enaid, yna ystyria dy Gorph hefyd, ac megis y dywed y gwr Doeth, Ecclus. 38.12. Dód le i'r meddyg, oblegid yr Arglwydd a'i creawdd ef: Arfera'r cyfryw foddion ac a fo tebyccafi atgyweirio▪ dy iechyd, ond cofia yn wastad mai oddiwrth Dduw y bydd raid i'r ffynniant o [Page 490] honynt ddyfod; a gochel bechod Asa yr hwn ni cheisiodd yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon, 2 Cron. 16.12. Trefna hefyd dy achoision bydol mewn pryd, trwy wneuthur dy Ewyllys, a gosod pób peth yn y cyfryw drefn ac y mae yn dy fryd di ei gadael hwynt, ac na oeda hynny nes i'th glefyd drymbau, oblegid ysgatfydd ni bydd dy Reswm di y pryd hynny mor gymwys, neu os bydd, fe fydd fwy cyfaddas i ti yr amser hwnnw fyfyrio am bethau uwch, sef am y byd yr wyt ti yn myned iddo, yn hyttrach na'r hwn yr wyt ti yn ei adael o'th ôl: nid allwn ni ddwyn pethau 'r byd hwn gydá ni pan elon ni oddiyma, ac nid yw weddaidd i ni ddwyn meddyliau o honynt. Am hynny trefna y pethau hynny mewn pryd, fel na rwystro nhw mo honot ti yn y diwedd.
Gweddi tros Ddyn Clâf.
O Arglwydd Trugarog a chyfiawn, Duw'r iechyd a chlefyd, bywyd ac angeu, yr wyf fi yn cydnabod yn ddiffuant, mae fy nirfawr gam-arfer i o'r llaweroedd o ddyddiau hynny o iechyd ac hawddfyd a ganniadhéaist, ti i mi a haeddodd yn dra-chyfiawn dy ymweliad presennol. Yr wyfi 'n deifyf, O Arglwydd, yn ostyngedig ymfodloni i'r gospedigaeth hon am fynghamwedd, a dwyn cerydd yr Arglwydd yn ammyneddgar, oblegid i mi bechu yn ei erbyn ef. Ac, O Dad Trugarog, yr hwn nid wyt yn amcanu dinistr uo d gwellhâad y rhai yr wyt ti yn ei fflangellu, yr wyf fi yn attolwg i ti trwy dy Râs felly [Page 491] Sanctciddio dy gerydd hon i mi fal y bo y Clefyd ymma o'm Corph i yn foddion o iechyd i'm henaid; gwnâ i mi yn ddiwyd chwilio fy nghalon, a chynnorthwya di fi, O Arglwydd, i ddadcuddio pôb rhyw ddiofrydbeth, er dirgeled y cuddir ef yno, fal trwy ei summudiad ef ymmaith oddi yno, y bo i mi wneuthur lle i summudiad y gospedigaeth hon oddiwrthif. Jachá fy Enaid, O Arglwydd, yr hwn a bechodd i'th erbyn, ac yna os dy ewyllys bendigedig di yw hynny, iachá fy nghorph hefyd; Edfryda lêf gorfoledd ac iechyd i'm presswylfa, modd y gallwyf fyw i'th foliant di, a dwyn ffrwythau addas o Edifeirwch. Ond os trefnaist ti yn amgenach yn dy Ddoethineb, ac os rhag-ordeiniaist ti i'r Clefyd hwn i fód i farwolaeth, yr wyfi yn attolwg i ti fy nghymwyso a'm paratoi i i hynny, dód i mi yr Edifeirwch difrifol a diffûant hynny, i ba ûn yr addewaist ti drugaredd a maddeuant; diddyfna fy nghalon i oddiwrth y bŷd a'i holl wagedd darfodedig, a gwná i mi hiraethu am y llawenydd mwy godidog a pharháus hynny sydd ar dy ddeheulaw di yn dragywydd. Arglwydd, derchá di lewyrch dy wyneb arnafi, ac yn holl gystuddiau fy nghorph, ac ing fy yspryd, bydded dy Ddiddanwch di i gyssuro fy Enaid, a gwná i mi ddisgwyl yn ammyneddgar hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad. A chaniadhá O Arglwydd, pan ddattodir fy naiarol dŷ o'r Babell hon, fód i mi gael Adeilad Duw, tŷ nid o waith llaw, trgywyddol yn y Nefoedd, a hynny er ei fwyn ef, yr hwn a bwrcasodd hynny i mi sef Jesu Grist Amen.
Diolch am gaffaeliad Iechyd.
O Arglwydd grasusol, Duw ysprydion pób Cnawd, yn llaw pa ûn y mae fy amser i, yr wyfi yn dy foliannu ac yn dy fawrygu di, am iti o Gariad i'm henaid fy achub i o bydew llygredigaeth, a rhoddi i mi iechyd trachefn; tydi yn unic, O Arglwydd, a gedwaist fy mywyd rhag dinistr, tydi a'm cospaist, ac a'm ceryddaist i, ond ni'm rhoddaist i i fynu i farwolaeth, O bydded i'r bywyd hwn yr hwn a waredaist ti mor rasusol fód yn hollawl wedi ei gyssegru iti. Wele fi ymma, Arglwydd, trwy dy drugaredd gwedi fy iachau, O gwná i mi edrych yn ofalus rhag pechu mwyach, rhag digwydd i mi beth a fo gwaeth. Na âd, Arglwydd, i'r hamdden ymma a ganiadhéaist ti ti i mi yr awrhon fy ngwneuthur i yn esgeulus, gan feddwl fód fy Arglwydd yn oedi ei ddyfodiad, ond caniadhá i mi, yr wyf yn attolwg i ti, wneuthur iawn ddeunydd o'th hîr-ymaros di, a threulio felly bób munudyn o'r amser a roddi di i mi, fal y gallwyf fod mewn hyfder pan ymddangosech di, ac na'm gwradwydder ger dy fron ar dy ddyfodiad. Mi a welais, O Arglwydd wrth y nessáad ymma tu ac at angeu mor echryslon yw ein cymmeryd yn ammharod; O bydded hynny yn rhybudd gwastadol i mi i wilio am ddyfodiad fy Arglwydd. A phan ymddengys mwyniant pechod i'm llithio i, O gwná i mi gofio mor chwerwon fyddant yn y diwedd. Gwrando fi, O Arglwydd, ac megys yn dy anfeidrol drugaredd y caniadheaist i mi amser, felly caniadhá [Page 493] i mi hefyd râs i weithio allan fy Iechydwraeth, i baratoi olew yn fy llusern, fel pan ddelo'r Priodfáb y gallwyf fyned gydág ef i'r Briodas. Canhiadha hyn, yr wyf' yn attolwg i ti, er mwyn dy anwyl Fáb.
Gweddi ym-mron Angeu.
O Dragywyddol a byth-fywiol Dduw, yr hwn ar y cyntaf a anadlaist anadl bywyd i ddŷn, a phan gymmeri di ymmaith yr anadl hwnnw y mae fe'n trengu ac yn dychwelyd i'w lŵch trachefn, edrych yn dosturiol arna'i dy Greadur truan yr hwn wyf yr awrhon yn nessau at byrth angeu, a pheth sydd anfeidrol yn fwy gerwin, at Orsedd Barn; Y mae fy nghalon fy hun, O Arglwydd, yn fy euog-farnu i, ac yr wyt ti yn anfeidrol yn fwy na'm calon, ac yn gwybod pob peth. Y mae'r pechodau yr wyfi yn ei hadnabod ac yn ei cofio, yn fy llenwi i a dychryn; ond y mae hefyd liaws o rai eraill, y rhai naill ai ni ddeliais i sulw arnynt pan wnaed hwynt, neu a anghofiais i gwedi hynny yn ddiofal, y rhai ydynt oll yn bresennol gydá thydi. Yr wyti yn gosod fy anwireddau ger dy fron, fy nirgel bechodau yn goleuni dy wyneb; ac i ba bentwrr mynyddaidd y cyfyd fy mhechodau munudol tros gynnifer o flynyddoedd? Pa fodd y saif ûn mor annuwiol yn dy farn di, neu'r cyfryw bechadur ynghynnulleidfa 'r cyfiawn? Ac i anghwanegu etto at fy nychryn, mae arna'i ofn na oddef fy Edifeirwch i mor profiad; fy mynych ail-gwympiadau i a dystiolaethasant yn helaeth ffûg fy Addunedau o'r blaen. Ac [Page 494] yna, O Arglwydd, beth a all fy siccrhau i nad yw fy nghasineb presennol o'm pechodau yn hyttrach yn tarddu oddiwrth fy enbydrwydd dychrynadwy, nag oddiwrth ûn wir gyfnewidiad calon? Ac mi a wn, O Arglwydd, na fynni di moth watwor, ac na dderbyni di ddim ond sydd yn hollawl yn ddiffugiol. Pan ystyrwyf hyn, O Arglwydd, y mae ofn a dychryn yn dyfod arna'i, ac arswyd echryslon yn fyngorchguddio, y mae fy nghnawd yn crynu rhag dy ofn di, a'm calon yn archolledig ynof. Ond, O Arglwydd, y mae'r naill ddyfnder yn galw ar y llall, dyfnder fu nhrueni i ar ddyfnder dy Drugaredd di; Arglwydd achub yr awrhon neu fe ddarfu am danaf yn dragywydd. O ni chwennychi di fód néb yn golledig, ond dyfod o bawb i Edifeirwch, dwg fi yr wyf' yn attolwg i ti, er mor ddiweddar, i ddifrifol Edifeirwch, y cyfryw ac a fo cymmeradwy genniti, yr hwn wyt yn profi'r galon. Créa ynof, O Dduw, galon lân, ac adnewydda yspryd union o'm mewn: O Arglwydd, y mae ûn dydd gyda thydi megis mîl o flynyddoedd, Gweithied dy Yspryd nerthol ynofi yr awrhon, yn fy nydd diweddaf hwn, beth bynnag a weli di yn ddiffygiol i'm cymhwyso i i'th drugaredd a'th gymmeradwyaeth di. Dyro i mi gassineb perffaith hollawl o'm pechodau, a gwná fi yn abl i bresentio i ti yr aberth honno o galon ddrylliog gystuddiedig, yr hon a addewaist ti na ddirmygit; fal trwy hon y gallwyf fod yn gymwys i dderbyn yr iawn hwnnw a wnaeth dy garedig Fâb trwy ei offrymmiad mwy rhagorol ei hunan tros bób pechaduriaid edifeiriol. Efe yw 'r iawn tros ein pechodau [Page 495] ni, efe a archollwyd am ein camweddau ni, ac a ddrylliwyd tros ein hanwireddau ni, arno ef y rhoddwyd Cospedigaeth ein heddwch ni; O iachâ fi trwy ei gleifiau ef, a bydded i lêf ei waed ef foddi bloedd fy mhechodau i. Plentyn digofaint yn wir ydwyfi, ond efe yw Mâb dy Gariad, er ei fwyn ef arbed fi, Arglwydd, arbed dy Greadur a brynnaist a'th werthfawr waed; ac na ddigia wrthif yn dragywydd. Yn ei archollion ef, O Arglwydd, yr wyf' yn cymmeryd fy nghyssegr, O na erlidied dy ddíal di fi i'r ddinas hon o noddfa: Y mae fy Enaid yn glynu wrtho ef, O na ddarfydded am dana'i ac a Jesu, ac a Iachawdr yn fy mreichiau. Ond trwy ei ddirfawr ing a'i chwys gwaedlid ef, trwy ei Grôg a'i Ddioddefaint, trwy'r cwbl a wnaeth ac a ddioddefodd ef tros bechaduriaid, Gwared fi Arglwydd daionus; Gwared fi, yr wyf' yn attolwg i ti, oddiwrth gyflog fy mhechodau, dy lîd ti, a damnedigaeth tragywyddol, yn awr yn amser fy nhrueni, yn awr Angeu ac yn nydd y Farn. Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, ac na wrthod fi yn yr amser ymma o'm hangen mwyaf, am i mi esgeuluso dy alwad ti o'r blaen. Nid oes, O Arglwydd, ond cam rhyngo'i ac angeu, O na fachluded fy Haul ar dy ddigofaint di, ond selia fy mhardwn cyn i mi fyned oddiyma ac na'm gwelir mwy. Y mae dy garedigrwydd di yn well na'r bywyd, O gâd i mi gael honno yn gyfnewid, ac yna myfi a osodaf i lawr yn drahyfryd y bywyd marwol hwn. Tydi, Arglwydd, a adwaenost fy neisyfiad, a'm griddfań nid yw guddiedig rhagori; gwná a fi, O Arglwydd [Page 496] glwydd, yn ól dy drugaredd, canys melus yw dy drugaredd; tynn ymmaith golyn Angeu, euogrwydd fy mhechodau, ac yna er i mi rodio trwy ddyffryn cysgod angeu nid ofnaf ddim drwg; mi a orweddaf i lawr mewn Tanguheddyf, a phan ddeffrówyf, Arglwydd, digonoler fi a'th bresennoldeb yn dy Ogoniant. Caniadhâ hyn, Drugarog Dduw, er ei fwyn ef yr hwn yw Pryniawd-wr a Chyfryngwr dros bechaduriaid, sef Jesu Grist.
PSALMAU.
ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd, ac na chofpa fi yn dy ddigofaint.
Nid oes iechyd yn fy nghnawd o herwydd dy ddigllonedd: ac nid oes heddwch i'm hescyrn oblegid fy mhechodau.
Canys fy nghamweddau a aeth dros fy mhen; megis baich trwm y maent yn rhŷ drwm i mi.
Fy nghleisieu a bydrasant ac a lygrasant gan fy ynfydrwydd.
O herwydd pa ham y pallodd fy Yspryd ynof; ac a synnodd fy nghalon o'm mewn.
Fy mhechodau a'm daliasant fel na allwn edrych i fynu; amlach ydynt na gwallt fy mhen, am hynny y pallodd fy nghalon gennif.
Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog, a graslawn; hwyrfrydic i lîd, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.
Dychwel attafi a thrugarhâ wrthif, canys unig a thlawd ydwyfi.
[Page 497]Os creffi di ar anwireddau, Arglwydd: O Arglwydd, pwy a saif?
Na chofia bechodau fy ieuengctid, na'm camweddau; ond yn ôl dy drugaredd meddwl di am danaf, yn ôl dy ddaioni, Arglwydd.
Edrych ar fy helbul a'm trueni a maddeu fy holl gamweddau.
Na chuddia dy wyneb rhag dy wâs, canys cyfyng yw arnafi; o bryssia, a gwrando fi.
O'r dyfnder yr wyf'n yn galw arnat, Arglwydd, gwrando fy llefain.
Dychwel, Arglwydd, a gwared fy Enaid, O achub fi er mwyn dy drugareddau.
Nag ymbellhâ oddiwrthif, canys trueni sydd yn agos, ac nid oes Cynnorthwy-wr.
Yr wyf' yn estyn fy nwylaw attat, 'mae fy Enaid yn hiraethu am danat megis tîr crâs sychedig.
Nessâ at fy Enaid ag achub ef, O gwared fi oblegid fy ngelynion.
Canys y mae fy Enaid yn llawn blinder; a'm bywyd sydd yn nessau i'r beddrod.
Achub fi rhag safn y Llew: gwrando arnafi o blîth cyrn Unicorniaid.
Gosod fi ar graig sydd uwch na myfi, canys ti yw fy ngobaith, am Tŵr cadarn rhag wyneb y gelyn.
Pa ham i'th ddarostyngir fy Enaid? A pha ham y terfysci ynof?
Ymddiried yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, sef, iecydwraeth fy wyneb.
Yr Arglydd a gyflawna ei garedigrwydd a mi, iè, dy drugardd O Arglwydd sy'n parhau'n dragywydd; na ddirmyga waith dy ddwylo.
[Page 498]O DDUW, ti yw fy Nuw, yn foreu i'th geisiaf.
Y mae fy Enaid yn sychedu am danat, fy nghawd hefyd yn hiraethu am danati', mewn tîr crâs sychedig heb ddwfr.
Fel y brefa 'r hŷdd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy Enaid am danati, O Dduw.
Y mae fy Enaid yn sychedig am Dduw, am y Duw byw, pa brŷd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw?
Mor hyfryd yw dy drigfa, O Arglwydd y Lluoedd!
Fy Enaid a hiraetha, iè ac a flysia am gynteddau 'r Arglwydd: fy nghalon am cnawd a lawenychant yn y Duw byw.
O na bai i mi adenydd fel Colommen: yna yr ehedwn ymmaith ac y gorphywswn.
Anfon dy oleuni a'th wirionedd, tywysant hwy fi ac arweiniant fi i fynydd dy Sancteiddrwydd, ac i'th bebyll.
Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil.
Dewiswn cadw drŵs yn nhŷ fy Nuw, o flaen aros ym mhebyll anghyfiawnder.
Deffygiaswn pe na chredaswn weled daioni 'r Arglwydd yn nhîr y rhai byw.
Fy nghymmorth a'm gwaredudd ydwyt ti: fy Nuw na hîr drîg.
OCHENEIDIAU BYRRION.
O ARGLWYDD, gan bwy y mae i mi geisio ymwared onid genniti, yr hwn am ein pechodau wyt yn gyfiawn yn ddigllon? Er hynny Arglwyd Dduw Sancteiddiaf, Arglwydd Galluoccaf, O Sanctaidd a thrugaroccaf Iachawdr, na ollwng fi i ddygyn chwerwaf boenau angeu tragywyddol.
Ti Arglwydd a adwaenost ddirgelion fy nghalon, na chaêa, dy glystiau trugarog oddiwrth fy ngweddíau, eithr arbed fi O Arglwydd Sancteiddiaf, O Dduw galluoccaf, O Sanctaidd a thrugarog Iachawdr, Tydi deilyngaf Farn-ŵr tragywyddol, na ád fi yn yr awr ddiwaethaf er nebrhyw boenau angeu i syrthio oddiwrthit ti.
Fy nhâd, mi a bechais yn erbyn y Nêf, ac o'th flaen ditheu, ac mwyach nid wyf' deilwng i'm galw yn fâb i ti, etto O Arglwydd na fwrw ymmaith ymysgaroedd a thosturi Tâd, ond fal y tosturia Tâd wrth ei blant, felly trugarhá wrthif.
Arglwydd y mae Tywysog y Bŷd hwn yn dyfod, O na bydded iddo ddim ynofi, ond fel yr achwyno fo deleá ditheu; y mae ef yn rhoi llawer o bethau trymmion yn fy erbyn i, y rhai a ddichon efe yn rhŷ hawdd ei profi, nid oes gennifi ddim i ddywedyd trossof fy hun, atteb di drossof, O Arglwydd fy Nuw.
[Page 500]O Arglwydd, yr wyfi gwedi fy ngwisco a charpiau llygredig, ac y mae Satan yn sefyll ar fy neheulaw i'm gwrthwynebu i, rhynged sodd i ti ei geryddu fo, ac achub fi fel pentewin o'r tân, gwná i'm hanwireddau gilio oddiwrthif, a gwisca fi a chyfiawnder dy Fáb.
Wele, o Dduw, y mae 'r Cythrel yn dyfod tu ac attafi, a chantho Lid mawr, oblegid ei fod ef yn gwybod nad oes iddo ond amser byrr; achub a gwared fi, rhag iddo destrywio fy Enaid fel Llew, a'i rwygo ef pan na bo gwaredudd.
O fy Nuw, mi a wn na ddichon dim aflan fyned i mewn i'th deyrnas di, ac nid wyf fi ddim ond Llygredigaeth, y mae iè fy nghyfiawnder fel brattiau budron, Golch fi a gwnâ fi yn wynn yn gwaed yr Oen, fel y byddwyf deilwng i sefyll ger bron dy orsedd-faingc di.
O Arglwydd y màe maglau Angeu gwedi fy amgylchu, o na bydded i boenau Uffern fy 'ngoddiwes, ond er i mi gael trueni a gofid, etto yr wyf' yn attolwg i ti gwared fy Enaid.
O Wynsydedig Jesu, yr hwn a'm prynaist i a'th werthfawr waed dy hun: cleimia yr a wrhon dy bwrcas, ac na âd i holl allu Uffern fy nhynnu i o'th law di.
O fendigedig Archoffeiriad, yr hwn a ddichon waredu i'r eithaf y sawl a ddeuant at Dduw trwot ti, achub fi, yr wyf' yn attolwg fri, yr hwn nid oes gennif obaith ond yn dy hacddedigaethau a'th gyfryngdod ti.
[Page 501]O Dduw yr wyfi 'n cyffessu ddarfod i mi lygru dy Ddelw di a argrephaist ti ar fy Enaid i, etto o tydi Greawdwr ffyddlon, trugarhá wrth dy Greadur.
O Jesu, myfi a'th groeshoeliais di o newydd trwy fy amryw bechodau gresynol, etto tydi yr hwn a weddiaist tros dy Erlid-wŷr, eiriol trosso finnau hefyd, ac na ád, O fy mhrynwr, i'm henaid (prîs dy waed) golli.
O Yspryd grafusol, myfi a'th ddirmygais di trwy fy anwireddau echryslon, etto er darfod i mi, O Ddiddanydd Gwynfydedig, dy dristau di yn fynych, rhynged fodd i ti fy nghynnorthwyo a'm diddanu i, a dywedyd wrth fy Enaid i, myfi yw dy iechydwraeth.
Mae fy llygaid yn edrych attati, O Arglwydd, ynoti y mae fy ymddiried, na fwrw heibio fy Enaid i.
O Arglwydd, ynoti yr ymddiriedais, na 'm gwradwydder yn dragywydd.
O Fendigedig Arglwydd, yr hwn wyt yn fflangellu pob mâb a dderbynioch di, na âd i mi flino ar dy gerydd di, ond dyro i mi y cyfryw ymddarostyngiad perffaith i ti Tâd yr Ysprydion, fal y bo'r gospedigaeth hon i'm bûdd i, ac fel y byddo 'i trwyddi hi yn gyfrannog o'th Sancteiddrwydd di.
O Tydi Capten fy Jechydwraeth, yr hwn a bersseithwyd trwy ddioddefaint, sancteiddia i mi holl benyd fy nghorph, a holl ddychryniadau fy meddwl a oddefi di i ddescyn arnafi.
O Arglwydd fe haeddodd fy mhechodau i [Page 502] boenau tragywyddol, gwná i mi ddioddef yn llawen ac yn ddiolchgar fy nghystuddiau presennol; cerydda fi yma sel y gwelych di yn dda, fel na 'm heuog-farner gyda'r bŷd.
O Arglwydd, y dyfroedd a ddaethant hyd at fy Enaid, O bydded i'th Yspryd ti ymsymmud ar wyneb y dyofredd hyn, a gwná hwynt fel y Llynn o Bethesda, modd y gallont iachau pob-rhyw glefydau ysprydol a weli di ynofi.
O Crist yr hwn a ddioddefaist amryw boenau gresynol cyn myned i'th ogoniant, caniadhá i mi felly ddioddef gydá thydi, fel i'm gogoneddir hefyd gydá thi.
O Wynfydedig Jesu, yr hwn a'th ddarostyngaist dy hûn i angeu 'r Groes trossofi, bydded i'th farwolaeth honno bereiddio chwerwder fy eiddo i.
Pan orchfygaist holl nerth angeu, ti a agoraist deyrnas Nêf i bawb a gredant.
Yr wyfi yn credu mai tydi a ddaw yn farnwr arnaf.
Gan hynny yr wyfi'n attolwg i ti gynnorthwyo dy wâs, yr hwn a brynaist a'th werthfawr waed.
Pâr i mi gael fy nghyfrif gydá 'th Sainct yn y gogoniant tragywyddol.
Tydi yw 'r adgyfodiad a'r bywyd, pwy bynnag a gredo ynot ti, er iddo farw a fydd byw: O Arglwydd, yr wyfi yn credu, cymmorth fy anghrediniaeth.
Pallodd fy nghnawd a'm calon; ond nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd.
Yr wyfi 'n deisyf fy nattod, a bod gyda [Page 503] Christ, yr hyn sydd oreu dim: Arglwydd, yr wyfi yn ocheneidio gan ddeysyf' cael fy ngwisco a'm tŷ yr hwn sydd o'r Nêf.
Yr wyfi yn chwennych diosc fy mhabell, hon, o rhynged fodd iti fy nerbyn i i drigfa tragywyddol.
Dŵg fy enaid i o garchar, fel y clodforwyf dy Enw.
Yr wyfi ymma O Arglwydd, i ymdrechu nid yn unig a chîg a gwaed, ond yn erbyn tywysogaethau ac awdurdodau, a drygau Ysprydol, O gwared fi o bebyll Cedar yma, a dwg fi i Gaersalem nefol lle y curir i lawr Satan tan fy nhraed.
Nid wyf fi abl yma i ddal sulw ar dy wasanaeth di ûn munudyn heb draws-dynniad, O cymmer fi i fynu i sefyll wrth dy Orseddfaingc di, lle y bydd i mi dy wasanaethu di ddydd a nôs.
Yr wyfi ymma mewn trymder trwy amryw drallodau; O derbyn fi i'r lle hwnnw o orphywysfa, lle y sychir ymmaith yr holl ddagrau oddi wrth fy llygaid, a lle ni bydd dim marwolaeth mwy, na thristwch, na llefain, na phoen.
Yr wyfi ymma yn alltyd ac yn absennol oddiwrth yr Arglwydd, O cymmer fi i'r lle y canfyddwyf dy wyneb yn dragywydd, ac y dilynwyf yr Oen pa le bynnag yr elo.
Myfi a ymdrechais ymdrech têg, mi a orphennais fy ngyrfa, ac a gedwais y ffydd, o hyn allan y rhoddwydd Coron Cyfiawnder i'w chadw i mi.
[Page 504]O Fendigedig Jesu yr hwn am ceraist i, ac am golchaist i oddiwrth fy mhechodau yn dy waed dy hûn derbyn fy Enaid i.
I'th dwylaw di yr wyf' yn gorchymyn fy Yspryd, canys tydi a'm prynaist i, o Arglwydd Dduw y gwirionedd. Tyred Arglwydd Jesu, tyred yn fuan.
A Prayer for the Kings Majesty, out of the Liber Regalis.
GOd the unspeakable Author of the World, Creator of Men, Governor of Empires, and Establisher of all Kingdoms, who out of the loins of our Father Abraham didst chuse a King that became the Saviour of all Kings and Nations of the Earth, Bless, we beseech thee, thy faithfull Servant, and our dread Sovereign Lord, King Charles, with the richest blessings of thy Grace. Establish him in the Throne of his Kingdome by thy mighty aid and protection; Visit him as thou didst visit Moses in the Bush, Joshua in the Battle, Gideon in the field, and Samuel in the Temple. Let the Dew of thine abundant mercies fall upon his head, and give him the blessing of David and Solomon. Be unto him an Helmet of Salvation against the face of his enemies, and a strong Tower of defence in the time of adversity. Let his Reign be prosperous and his days many. Let peace, and love, and holiness, let justice and truth, and all Christian vertues flourish in his time. Let his people serve him with honour and obedience: and let him so duly serve thee here on earth, that he may hereafter everlastingly reign with thee in Heaven, through Jesus Christ our Lord. Amen.
GWEDDIAƲ i'w harferu gan y rhai sydd yn Galaru yn ddirgel am y Trallodau Cyffredin, &c.
Gweddi i'w harfer yn amser Trallodau.
O Arglwydd Dduw, i'r hwn y perthyn dial, yr wyf fi, yn gystal o'm plegid fy hun, ac o ran y Genhedl hon, yn chwennych cyfaddef yn ostyngedic nad yw'r amryw flynyddoedd hyn o drallodau y buon ni yn ocheneidio danynt ond tâl cyfiawn, iè ac [Page 506] esmwyth am yr amryw flynyddoedd ychwaneg hynny y buon ni yn dy annog di i ddigofaint, ac nad yw dy ddigofaint presennol ond cospedigaeth ddyledus am gam-arferu dy drugareddau di. Yr oedd dy fendithion gynt, O Arglwydd, yn dra-helaeth tu ac attom ni uwchlaw holl bobl y ddaiar. Yr oedd dy ganwyll di yn goleuo ar ein pennau ni, ac yr oedden ni yn ymhyfrydu yn dy ddirfawr ddaioni di; yr oedd Heddwch o fewn ein rhagfuriau, a ffynniant yn ein Palassau; nid oedd dim tramgwydd, dim arwain i Gaethiwed, na chwynfan yn ein heolydd: ond nyni a droesom dy râs di i drythyllwch, ac a gam-arferasom ein heddwch i seguryd, ein ffynniant i loddest a gormodedd, ac a wnaethon i'r pethau daionus hynny y rhai a ddylasei nessau ein calonnau ni attat ti, fod yn achos o'i dieithro nhw oddiwrthit ti. Ië, O Arglwydd, ti a roddaist i ni etto drugareddau gwerthfawroccach, ti a welaist yn dda osod dy Babell gydá ni, sefydlu Eglwys bûr a gogoneddus yn ein mysg ni, a rhoddi i ni dy air i fod yn llusern i'n traed, ac yn llewyrch i'n llwybrau; ond ni wnaethon ni, O Arglwydd, ddim deunydd arall o'r llewyrch hwnnw, namyn i'n cyfarwyddo ein hunain i stafelloedd Angeu; nyni a ymfalchiasom, heb wrando ar dy Orchymynion di, a thrwy wrthryfela yn erbyn y goleuni, ni a ennillasom i ni ein hunain gyfran fwy yn y tywyllwch eithaf. Ac yr awrhon, O Arglwydd, pe buasei lifeiriant dy ddial di yn gyfattebol i'n pechodau ni, fe a'n scubesid ni ymmaith er ystalm a dinistr ddisymwth, ac ni buasei'r un o honon ni byw y dydd heddyw i erfyn dy drugaredd di. Ond [Page 507] yr wyt ti yn Dduw graslawn, hwyrfrydig i ddigofaint, a thi a ymddygaist tu ac attom ni ac hir-ymaros ac ammynedd dirfawr, ti a anfonaist dy farnedigaethau i'n deffro ni i Edifeirwch, ac a ganniadheáist i ni ennyd i hynny: Ond och! nyni a drawsŵyrasom dy drugaredd hon tu hwnt i'r lleill i gyd, nid ydym ni yn dychwelyd at yr hwn sy' yn ein taro ni, nag yn ceisio 'r Arglwydd, yr ym ni yn cilio yn ól trwy ymadawiad gwastadol, nid oes neb yn edifarhau o'i anwiredd, nag yn dywedyd beth a wneuthum i? Gwir yw ein bod ni yn arswydo'r wialen (yr ym ni yn ofni pob rhyw ddioddefaint, yn gymmaint a'n bód ni yn barod i'w brynu ef allan ar pechod ffieiddiaf) ond nid ym ni ddim yn ofni yr hwn a'i hordeiniodd hi, eithr yr ydyn ni trwy ystyfnigrwydd gresynol yn caledu ein gwarrau i'th erbyn di, ac yn gwrthod dychwelyd. Yn awr, O Dduw, pa driacl sydd yn Gilead a ddichon ein iachau ni? y rhai pan fynnit ti ein iachau ni, ni fynnen mo'n hiachau; ni a wyddon i ti adrodd nad oes heddwch i'r annuwiol, a pha fodd gan hynny y gweddiwn ni am heddwch y rhai ydym etto yn ymdrobaeddu yn ein pechodau? Hyn, hyn, o Arglwydd, yw ein clefyd mwyaf ni, O dyro i ni feddiginiaethau i iachau'r clefyd hwn; iachá ein heneidiau ni, ac yna ni a wyddom y gelli di iachau ein Tir ni yn ebrwydd. Ti a leferaist, O Arglwydd, yn hir wrth ein clustiau ni trwy dy Air, wrth ein holl synhwyrau ni trwy dy farnedigaethau, ond oddieithr i ti draethu wrth ein calonnau ni trwy dy yspryd, oser a fydd yr holl Alwedigaethau eraill. O anfon dy lef hon, a honno yn [Page 508] lléf gadarn, yn gyfryw ac a ddichon ein deffro ni o'r hun-glwyf ymma: Tydi yr hwn a elwaist Lazarus allan o'r bédd, rhynged fodd iti ein galw ni y rhai ydym feirw, iè a gwedi braenu mewn pechodau ac anwiredd, a gwná i ni ddeffro i gyfiawnder. Ac er darfod, O Arglwydd, i'n hamryw wrthwynebiad o'r gwahoddiadau dirgel hynny, dy annog di yn gyfiawn i'n rhoddi ni i fynu i drachwantau ein calonnau ein hunain; etto O tydi annherfynol fôr o drugaredd, yr hwn wyt dda nid yn unic tu hwnt i'r hyn a ryglyddom ni, ond a allon ni ei ddymuno, na thynn ymmaith rinwedd dy râs, ac na chymer dy Yspryd glân oddiwrthym. Tydi a gafwyd gyn y rhai ni'th geisiasant, O dangos y cyfryw weithred o drugaredd tu ac attom ni y rhai ydym mor anobeithiol yn gláf, ac etto mor annheimladwy o'n clefyd na fedrwn ni cymmaint ac ymoralw am Bysygwr; a pho perycclaf a fo ein cyflwr ni, dôd ti feddiginiaethau o hynny fwy effeithiol. Arglwydd, cymmorth ni, ac nac edrych gymmeint ar ein haneilyngdod ni o'th gynnorthwy, ac ar ein llwyr adwyth ni o'i ddiffyg ef; achub, Arglwydd, neu fe ddarfu am danom yn dragywydd. Ir pwrpas hwn cyfranna i ni yn ein hachosion amserol yr hyn a siccrha yn oreu i ni ein pethau ysprydol; os gweli di fód yn rhaid wrth fesur mwy o Drueni oddiallan i feddiginiaethu ein annhymmer oddifewn, Arglwyd nac arbed dy Wialen, eithr taro ni etto yn doftach. Bwrw'r cythraul hwn allan, er trwy ddryllio a malu ewin. Ond os gweli di mai trugareddau a fydd tebyccaf i weithio gydá ni, o bid gwiw gennit ti cymmhelled gyttuno [Page 509] a'n trueni ni a rhoddi i ni hynny; a pha un bynnag ai trwy dy foddion geirwon neu lednais, dwg ni adref attat dy hun. Ac yna ni a wyddon, O Arglwydd, nad yw dy ddwylaw di gwedi llaesu nad elli di achub; gwedi i ti ein gwaredu ni oddiwrth ein pechodau, tydi a ddichon ié ac a'n gwared ni o'n cyfyngderau: O dangos i ni dy drugaredd, a chaniadhá i ni dy iechydwraeth, fal gwedi ein gwaredu yn ein cyrph a'n heneidiau, y gallon ni ymmhób un o'r ddau dy ogoneddu di, mewn ufudd-dod heinus, a moliannu Enw ein Duw, yr hwn a wnaeth mor rhyfeddol a nyni, trwy Jesu Grist ein Harglwydd.
Gweddi tros yr Eglwys hon.
O Arglwydd Dduw'r dial, yr hwn wyt yn troi tir ffrwythlon yn ddignydiol am anwiredd ei drigolion; ti a gwplhéaist y farn resynol honno yn dra-chyfiawn ar yr Eglwys hon, yr hon gwedi bod unwaith yn berffeithrwydd Prydferthwch, yn llawenydd yr holl ddaiar, sydd yr awrhon yn wawd ac yn watwargedd i bawb o'i chwmpas. O Arglwydd, beth a allesid ei wneuthur i'th winllan na wnaethost ti iddi hi? a chan na ddygodd hi ddim ond grawn gwylltion, y mae yn dra-chyfiawn i ti gymmeryd ymmaith ei chae hi, a'i gadael hi yn anialwch. Ond er bód ein hanwireddau ni, O Arglwydd, yn tystiolaethu i'n herbyn, etto gwná di er mwyn dy Enw, canys y mae ein camweddau ni yn aml, pechasom yn ddirfawr i'th erbyn. O tydi obaith Israel, a'i waredwr yn amser cyfyngder, paham ybyddi di megis pereryn ar y ddaiar, ac fel ymdeithudd [Page 510] yn troi i letteua am noswaith? Paham y byddi megis gwr synn, ac fel gwr cadarn heb allu achub? Etto yr wyt ti yn ein mysc ni, O Arglwydd, ac ni a elwir wrth dy Enw di, nag ymado a ni; dinoetha ni o'n mwyniant bydol fel y gwelych di yn dda, cymmer oddiwrthym achosion ein trythyllwch, ac fe all hynny fod yn drugaredd, ond na chymmer oddiwrthym foddion ein gwellháad, oblegid dena'r arwydd echryslonaf o'th ddigofaint. Ac er darfod i ni gashau'r goleuni, O herwydd bod ein gweithredoedd yn ddrwg, etto, O Arglwydd, na ddifarna ni i rodio mwyach mewn tywyllwch trwy gymmeryd ymmaith y goleuni oddiwrthym, ond bydded iddo barhau i lewyrchu nes iddo gyfarwyddo ein traed ni i ffordd tangnheddyf. O Arglwydd, Cyfot, gwisc dy nerth, a thyred i'n hachub ni, ac na ddyro enaid dy durtur (yr Eglwys resynol hon) i gynnulleidfa y gelynion, ond cymmorth hi, O Dduw, a hynny yn dra-buan. Ond os darfu i'n gwrthryfelgarwch ni, O Arglwydd, dy annog di cymmhelled i ddigofaint, ac y bydd raid i'r Arch gyrwydro yn yr anialwch, nes difa'r holl genhedlaeth wrwgnachus hon, etto na ddarfydded am dani hi gydá ni, ond dŵg hi o'r diwedd i Ganaan, a gâd i'n heppil dieuog ni weled yr hyn yn dy farn gyfiawn yr wyt yn ei neccau i ni. Yn y cyfamser na pheidiwn ni ac wylofain am yr anrhaith a weithredodd ein pechodau ni, a meddwl am furiau [...], a thosturio ei gweled hi yn y llŵch, ac na [...] byth arnon ni na chywilydd nac arswyd ei chydnabod hi yn ei chyflwr truanaf a mwyaf erlidus, eithr cyfrif gwradwydd Crist yn fwý golud na thryssorau'r Aipht, a dangos felly ein [Page 511] dianwadalwch i'n Mam ofidus hon, fal y bo i'w Harglwydd bendigedig hi a'i Phen ein cydnabod ninnau yn drugarog pan ddelo fo yn dy Ogoniant di ei Dâd gyda'r Angylion Sanctaidd. Caniadhá hyn, drugarog Arglwydd, er mwyn yr unrhyw Jesu Grist, Amen.
Gweddi am heddwch yr Eglwys.
O Arglwydd Jesu Grist, yr hwn o'th hollalluogrwydd a wnaethost yr holl greaduriaid gweledig ac anweledig, yr hwn o'th dduwiol ddoethineb wyt yn llywodraethu ac yn gosod pób peth mewn trefn ragorol, yr hwn o'th ddaioni annrhaethadwy wyt yn cadw, yn amddiffyn ac yn gwellhau pób peth, yr hwn o'th anfeidrol drugaredd wyt yn atgyweirio'r llesc, yn adnewyddu'r lluddedig, ac yn cyfodi'r meirw; rhynged fodd i ti o'r diwedd, ni attolygwn i ti, edrych ar dy anwyl Briod, yr Eglwys, ar golygiad grasol a thrugarog hwnnw yr hwn sy'n tangnheddyfu pób peth yn y Néf a'r ddaiar, a pha beth bynnag sydd uwchlaw'r Néf, a than y ddaiar: bid yn wiw gennit ti edrych arnon ni a'r golygon tynner trosturiol hynny a'r rhai yr edrychaist ti unwaith ar Petr, Bugail mawr dy Eglwys, ac yn ebrwydd efe a atgofiodd ac a edifarháodd; ar golygon hynny yr edrychaist ti unwaith ar y lliaws gwascaredig, ac y tosturiaist ti wrthynt, ei bód yn cyrwydro o eisieu bugail da fal defaid ar wasgar ac ar gyfeiliorn. Ti a weli (o fugail da) pa amryw rywogaethau o fleiddia [...] a dorrasant i'n corlannau ni; yn gymmaint a phe bydde possibl y cyfeiliornei y rhai perffaith: Ti a weli a pha ryw wyntoedd, a pha ryw Donnau [Page 512] a thymhestloedd y mae dy long wael di yn bwhwmman, dy lynges honno ymmha un y mae dy braidd bychan di mewn perigl o foddi. A pha beth sydd yn awr i'w ddisgwyl ond suddo o honi hi yn hollawl a darfod am danom ni oll? I'n hannuwioldeb a'n buchedd ddrwg ein hunain y mae i ni ddiolch am y dymmhestl a'r derfysg hon, yr ydyn ni yn dirnad hynny yn dda ac yn cydnabod, yr ym ni yn dirnad dy gyfiawnder di, ac yn ymofidio am ein hanghyfiawnder ein hunain: Ond yr ydyn ni yn appelio at dy Drugaredd di yr hon sydd yn rhagori ar dy holl weithredoedd; ni a ddioddefasom yn awr lawer o gospedigaeth, gwedi ein fflangellu a chymmaint o Ryfeloedd, gwedi ein difetha a'r cyfryw golledion o'n da, gwedi ein maeddu a chynnifer o lifeiriant, ac etto nid oes yr un Porthladd na noddfa yn ymddangos i ni, a ni yn flin ac yn lluddedig ynghanol y cyfryw ddrygau rhyfeddol, ond yr ym ni bob dydd etto yn ofni fod cospodigaethau tostach yn crogi uwch ein pennau ni. Nid ym ni, O Jachawdr grasufol, yn cwyno am dy greulonder di, ond yr ym ni yn hyu hefyd yn dirnad dy Drugaredd di, yn gymmaint a darfod i ni haeddu pláau echryslonach o lawer. Ond yr ym ni yn erfyn arnat ti, O Jesu drugaroccaf, na ystyriech di ac na phwysech di beth sydd ddyledus yn ól ein haeddiant, ond yn hyttrach beth a weddai i'th Drugaredd di, heb ba un ni ddichon yr Angylion o'r Nef ychwaith sefyll yn ddifigl o'th flaen di; llai o lawer y gallwn ni y rhai ym lestri gwael o bridd. Trugarha wrthym, O Achubwr, yr hwn wyt hawdd i eirrol arno, nid o ran ein bód ni yn deilwng o'th Drugaredd, ond dód ti y Gogoniant hwn [Page 513] i'th Enw dy hun. Na ad i'r rhai naill▪ ai nid ydynt yn dy adnabod ti, neu sydd yn cenfigennu dy ogoniant, ymorfoleddu yn wastad arnon ui, a dywedyd▪ P'le y mae ei Duw hwynt, p'le y mae ei Gwaredwr, pa le y mae ei Hiachawdn, p'le y mae ei Priodfâb y maent hwy yn ymsfrostio eymmaint o hono? Y mae'r geiriau gwradwyddus hyn yn cyfeirio attat ti. O Arglwydd, trá bo dynion yn meddwl am ac yn rhoi braint ar dy Ddaioni di wrth ein drygau ni, y maent yn tybied ein bod ni wedi ein gwrthod oblegid ni welant ni yn gwellhau. Unwaith pan gyscaist yn y llong, a phan gododd tymmhestl ddisymwth yn bygwth marwolaeth i bawb yn y llong, ti a ddeffroáist ar groch-lefain ychydig ddiscyblion, ac yn ebrwydd ar dy oll-alluog air fe dreiodd y dyfroedd, fo ostegodd y Gwyntoedd, a'r dymmestl yn ddisymwth a drowyd yn dawelwch mawr; y dyfroedd mudion a adnabuant lais ei Creawdr. Yn awr yn y dymmhestl fawr hon, ymmha un nid oes yn unic llawer o gyrph, ond aneirif o Eneidiau dynion hefyd mewn perigl, yr ym ni yn attolwg i ti ar groch-lefain dy Sanctaidd Eglwys, yr hon sydd mewn perigl o foddi, ddeffro o honot. Llawer miloedd o ddynion sydd yn gwaeddi, achub, Arglwydd, neu fo ddarfu am danom, y mae'r dymmhestl tu hwnt i allu dŷn; dy air di sydd raid wneuthur y gwaith, Arglwydd Jesu, dywed yn unic a gair o'th enau, Distawa, O demmestl, ac yn ebrwydd fe ymddengys y tawelwch dymunol. Ti a synnefit waredu cynnifer o filoedd o ddynion tra-phechadurus, os ceid ond deng-wr duwiol yn Ninas Sodoma: yn a wr y mae ymma amryw filoedd o ddynion sy'n caru gogoniant dy [Page 514] Enw, ac sy'n ochcneidrio am brydferthweh dy dŷ, ac oni roddi di hoibio dy ddigllonrh wydd ar weddiau y rhai hyn, a chofio dy hên arferol drugareddau? Oni throi di ein hynfydrwydd ni trwy dy ddoethineb nefol i'th ogoniant dy hun? Oni throi di ddrygioni dynion anwir i ddaioni dy Eglwys? Oblegid y Pryd hynny y bydd dy Drugaredd di fwyaf arferol o gynnorthwyo, pan fo'r peth gyda nyni tu hwnt i bób Diwygiad, a phan na ddichon na Gallu na Doethineb dynion ei helpu ef. Tydi yn unic wyt yn dwyn pethau a fo ymmhell iawn allan o drefn i dresn drachefn, ac wyt yn unic Awdur a chynnhaliwa Tangnheddyf. Tydi a ffurfiaist yr hên annrhefn honno lle yr oedd anghydsyniol hadau pethau heb ffurf na llun yn gorwedd yn annhrefnus, a thrwy drefn ryfeddol a gyssylltaist mewn rhwymyn ddidorr y pethau trwy natur oeddynt yn ymrafaelio a'i gilydd. Ond pa faint mwy Annhrefn yw hon, lle nid oes dim caredigrwydd, dim ffyddlondeb, dim rhwymau cariad, dim Parch nag o Gyfreithiau nag o Lywodraeth- wŷr ychwaith, dim cyd-syniad meddyliau, ond pób dŷn, megis mewn Côr annhrefnus, yn canu amrafael byngciau! Nid oes dim anghyssondeb ymyfg y Planedau Nefol, y mae'r Elementau yn cadw ei lle, pób un yn gwneuthur y swydd a ordeinwyd iddo: Ac a oddefi di i'th Briodferch, er mwyn pa un y gwnaethpwyd pób peth, fal hyn ymanrheithio trwy anghyttunded gwastadol? A oddefi di i'r Ysprydion drwg, y rhai ydynt wneuthur-wŷr ymrysson, lywodraethu fal hyn yn dy Deyrnas yn ddigerydd? A oddefi di i gadarn Gapten drygioni, yr hwn a orchsygaist ti unwaith, etto oresgyn dy Wersyllau, ac [Page 515] anrheithio dy fil-wŷr? Pan oeddit ti ymma yn ddŷn a'th ymarweddiad ymsyg dynion, ar dy air di fe ffoodd y cythreuliaid, Anfon allan, ni attolygwn iti, dy Yspryd, yr hwn a ddichon fwrw allan o galonnau y rhai oll sy'n cyffessu dy Enw di y [...] Ysprydion drwg, meistraid trythyllwch, cybydd-dra, gwag-ogoniant, trachwant enawdol, drygioni ac amryfusedd. Creá ynom ni, O ein Duw a'n Breuin, galon lân, ac adnewydda dy Yspryd Sanctaidd o'n mewn, ac na chymmer dy Yspryd glân oddiwrthym. Dód i ni etto lawenydd dy iechydwraeth, ac a'th Yspryd arbennig, cadarnhá dy Briod-ferch a'i Bugeiliaid. Trwy'r Yspryd hwn y cymmodaist ti bethau daiarol a phethan nefol: Trwy hwn y ffurfiaist ti ac yr ailddychwelaist ti cynnifer o Jeithoedd, o Genhedloedd, a chynnifer o rywogaethau o ddynion i un Corph Eglwys, yr hwn gorph trwy'r unrhyw Yspryd a gyssylltir a thydi ei Pen. Os rhynga fodd i ti adnewyddu'r Yspryd hwm ynghalonnau pawb, yna y derfydd am yr holl trueni dieithrol hyn, ac onid ê, nhw a ddychwelant i fudd a llés y rhai a'th garant di. Attal yr annrbefn hon, gosod y dyfysgi echryslon hon mewn trefn (O Arglwydd Jesu) ymystynned dy Yspryd ti ar y Dyfroedd hyn o feddyliau drwg trofáus. Ac oblegid fod gan dy Yspryd ti yr hwn (fal y dywed y Prophwyd) sydd yn cynnwys pób peth, gyfarwyddid ymadrodd hefyd; gwná, megys ac i mae i bawb o'th deulu di un goleuni, un Bedydd, un Duw, un Gobaith, un Yspryd, felly fod ganddynt hefyd un Llais, un Pwngc, un Gân, yn cydnabod un gwirionedd gyffredinol. Pan dderchefaist yn suddugoliaethus i'r Nefoedd, ti a swriaist i lawr [Page 516] oddi uchod dy bethau gwerthfawr, ti a roddaist roddion i ddynion, ti a ddosparthaist amryw wobrau dy Yspryd. Adnewydda oddiuchod dy hên gymmwynasgarwch, a dyro'r un peth i'th Eglwys, a hi yn awr yn llesgau ac yn gogwyddo i lawr, ac a roddaist ti iddi hi pan oedd hi yn blaen-darddu ar ei dechreuad. Dyro râs i Dywysogion a llywiawd-wŷr felly i'th ofni di, fal y bo iddynt hwy lywoddraethu y Wladwriaeth, megis rhai sydd raid iddynt ar fyrder roddi cyfrif i ti yr hwn wyt Frenin y Brenhinoedd. Cynnorthwya hwynt yn wastad a doethineb, fal y bo iddynt ddirnad yn ei meddwl, a dilyn yn ei gweithredoedd y peth sydd oreu i'w wneuthur. Dyro i'r Esgobion y dawn o brophwydoliaeth, fal y bo iddynt yspysu a deongli'r Scrythur lân, nid o'i synwyr ei hunain, ond o'th ysprydoliaeth di. Dyro iddynt y Cariad tairdyblig hwnnw y buost ti unwaith yn ei osyn gan Petr, pan oeddit ti yn gorchymyn iddo ymgeledd dy braidd. Dyro i'r Offetriaid garu sobrwydd a Diweirdeb. Dyro i'th bobl ewyllys hylaw i ddilyn dy Orchymynion di, a pharodrwydd i ufuddhau'r cyfryw rai ac a ordeiniaist ti trostynt. Felly y digwydd, os bydd i'th Dywysogion trwy dy Râd ti orchymyn yr hyn yr wyt ti yn ei ofyn, i'th fugeiliaid ddyscu'r unrhyw, ac i'th bobl ufuddhau pób un o honynt, y dychwel drachefn hên Urddas, a llonyddwch yr Eglwys mewn trefn ragorol i ogoniant dy Enw. Ti a arbedaist y Niniféaid a ordeinwyd i ddinistr cyn gynted ac y dychwelasant attat ti trwy Edifeirwch; ac a ddirmygu di dy Dŷ sydd yn syrthio i lawr wrth dy draed ti, yr hwn yn lle sach-liain sydd gantho Ocheneidiau, a dagrau [Page 517] yn lle lludw? Tydi a addewaist faddeuant i'r sawl a ddychwelant attat ti, ond dy Ddawn di yw'r peth hyn, sef dychwelyd o ddŷn a'i holl galon attat ti, er mwyn i'n holl ddaioni ni droi i'th ogoniant di. Tydi yw'r Creawdr, atgyweiria'r gwaith a luniaist ti. Tydi yw'r Gwared-wr, achub yr hyn a brynaist ti. Tydi yw'r Jachawdr, na ád iddynt hwy fod yn golledig y rhai sy'n ymddiried ynot ti. Tydi yw'r Arglwydd a'r Perchennog-ŵr, cleimia dy feddiant. Tydi yw'r Pen, cynnorthwya dy aelodau. Tydi yw'r Brenin, gwna i ni berchi dy Gyfreithiau di. Tydi yw'r Tywysog Tangnheddyf, anadla arnon ni gariad brawdol. Tydy yw y Duw, trugarhá wrth dy eiriol-wŷr gostyngedic; bydd di yn ól ymadrodd S. Paul, bób peth ym mhawb, er mwyn bod i holl Gôr dy Eglwys di ac un meddwl ac ag un lleferydd roddi diolch am y drugaredd a dderbyniasant i'r Tâd, i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân, y rhai yn ól yr Esampl berffeithiaf o gyfundeb a wahanredir ym mhriodoldeb Personau, ac un mewn natur, i'r hwn y bo'r Moliant a'r gogoniant yn dragywyddol. AMEN.
Imprimatur,
ERRATA.
PAg. 2. l. 28. darllen, y rhai. p. 4. l. 2. at. p. 6. l. 17. tarddu. p. 9. l. 5. ryfyg ffôl. p. 10. l. 31. nuwioled. p. 12. l. 4. gwnawn i yr. p. 13. l. 11. fo ddywed. p. 22. l. 14. ein. p. 46. l. 16. o'n. p. 47. l. 29. yn oesta. p. 50. l. 6. yn ab. p. 61. l. 25. rhai a. p. 65. l. 18. 'r Scrythur. p. 67. l. 6. i'n. 14. barhaus. p. 68. l. 6. a rhyw. p. 70. l. 21. beth sydd. p. 79. l. 9. farwyddyd. p. 81. l. 1. egni hyn. p. 91. l. 1. o fath. l. 4. o bob un. p. 106. l. 5. dirfawr. p. 107. l. 5. ifarnu. p. 108. l. 15. o'r un o'r. p. 110. l. 8. teifl. p. 117. l. 5. yn gystal. p. 137. l. 9. a bod. p. 148. l. 30. ydyni. p. 200. l. 33. wir y neb. p. 205. l. 29. ddywedyd. p. 241. l. 8. hyn ei. p. 245. l. 23. felly y. p. 248. l. 17. wneuthur. p. 278. l. 17. dele yn. p. 305. l. 34. llaryaidd. p. 320. l. 28. i ryw. p. 359. l. 7. i'n cyfaill. p. 376. l. 2. ac at. p. 398. l. 8, 9. fydd yn rhesymol iawn. p. 408. l. 13. ddaiar.
Pag. 425. l. 30. briodoldeb. p. 46r. CAMDYST. p. 463. l. 24. Ymddygiad. p. 477. l. 3. ac i. p. 480. l. 16. yn rhy. p. 490. l. 29. ond.
- I. Faith,
- II. Hope,
- III. The Holy Spirit,
- IV. Prayer,
- V. The Sacraments.
Written by the Reverend Father in God, John Hacket, late Lord Bishop of Lichfield and Coventry, Chaplain to King Charles the I. and II. in 80. New. Price 1. sh.
ESPONIAD Byrr o WEDDI'R ARGLWYDD, i'w harferu megis Gweddi.
[Ein Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd.]
O Arglwydd, yr hwn wyt yn presswylio yn y nefoedd uchaf, tydi wyt Awdur ein bywyd ni, tydi hefyd a'n cenhedleaist ni drachefn i obaith bywiol, ac wyt yn dwyn tu ac attom ni dynnerwch ac ymysgaroedd tâd tosturiol. O gwnâ i ni dalu i ti gariad ac ufudd-dod plant; ac fal y bón yn debyg i ti ein Tâd o'r Nêf (y lle hwnnw o wîr hyfrydwch a phurdeb) dyro i ni ddiccrâwch sanctaidd o'r holl bleserau twyllodrus, a llygredigaethau ffiaidd y bŷd hwn, ac felly derchafa ein meddyliau ni fal y bo ein hymarweddiad ni yn y Nefoedd, o ba le yr ydyn ni yn disgwyl am ein Jachawdr yr Arglwydd Jesu Grist.
[Page 447] [ 1. Sancteiddier dy Enw.]
TAro 'r cyfryw arswyd yn ein calonnau ni, fel y bo i ni dy berchi di yn ufydd yn dy Enw, yr hwn sydd fawr, rhyfeddol, a Sanctaidd, a dwyn y cyfryw barch i bób péth a berthyno i ti a'th addoliant, ac a eglurhâo ein hurdduniant ni i'th ddirfawr Fawrhydi di. Molianned y bobl di, O Dduw, molianned yr holl bobl dydi.
[ 2. Deued dy Deyrnas.]
SEfydla dy Deyrngader, a rheola byth yn ein Heneidiau ni, a thrwy allu dy Râs gorchfyga'r holl lygredigaethau gwrthryfelgar hynny sydd yn ei derchafu ei hunain i'th erbyn; y rheini yw dy elynion hynny y rhai ni fynnant i ti lywodraethu arnynt, O dyger nhw allan, a llabyddier nhw o'th flaen di, a gwnâ ni yn gyfryw ddeiliaid ffyddlon o'th Deyrnas ymma o Râs, fel i'n cymmhwyser i'r deyrnas o Ogoniant, ac yna Arglwydd Jesu tyred ar frŷs.
[ 3. Bid dy Ewyllys ar y Ddaiar, &c.]
CYnnorthwya ni a'th Râs i ddioddef yn ewyllysgar dy Ewyllys yn dy holl geryddon, ac yn bryssur i'w gwplhau ef yn dy holl orchymynion; dyro i ni o'r zêl nefol i'th wasanaeth di, a pha ûn yr ysprydoliaethir yr Angylion bendigedig, fel y gallon ni ufuddhau i ti a'r unrhyw angerdd a pharodrwydd, a chan ei dilyn hwynt yn ei hufudd-dod y [Page 448] gallon ni gael ein cyssylltu gydâ hwynt i ganu tragywyddol Foliant yn dy Deyrnas i Dduw ac i'r Oen yn dragywydd.
[ 4. Dyro i ni heddyw, &c.]
DYro i ni'r cyfryw barhâus gymmorth o'th râs, ac a ddichon gynnal a meithrin ein heneidiau ni i fywyd tragywyddol. A rhynged bodd i ti hefyd baratoi i'n Cyrph ni'r holl bethau hynny a weli di'n gymwys er ei cynnal hwynt i fynu trwy'n pererindod daiarol hwn, a gwnâ i ni orphywys yn llawen arnat ti am danynt, gan geisio yn gyntaf dy Deyrnas di a'i chyfiawnder, ac yna heb ammeu na roddir i ni yr holl bethau hyn yn ychwaneg.
[ 5. Maddeu i ni ein Dyledion.]
IAchâ ein Heneidiau, O Arglwydd, canys pechasom yn ddirfawr i'th erbyn, bydded dy dostur drugareddau yn helaeth tu ac atton ni, mewn maddeuant o'n holl gamweddau; a chaniadhâ, Arglwydd, na bo i ni byth fforffedio dy bardwn hwn, trwy neccau ein heiddo ni i'n brodyr, eithr dyro i ni yr ymysgaroedd hynny o dosturi tu ac at eraill, y rhai sydd arnon ni yn fwy o anfeidrol ei heisieu oddiwrthit ti, fal y maddeuon ni mor hollawl a chyflawn ar Orchymyn Crist, ac yr ydyn ni yn chwennych cael maddeuant er mwyn ei haeddedigaethau a'i Gyfryngdod ef.
[Page 449] [ 6. Nac arwain ni i Brofedigaeth, eithr, &c.]
O Arglwydd nid oes dim grym ynom ni yn erbyn y lliaws hynny o brofedigaethau y rhai sydd beunydd yn gosod arnon ni, ond y mae ein golygon yn unig arnat ti; O rhynged fodd i ti naill ai ei hattal nhw neu ein cymmorth ni, ac o'th ffyddlondeb na âd i ni gael ein temtio tu hwnt i'n gallu, eithr yn ein holl brofedigaethau gwnâ i ni ffordd i ddiangc, fel na orchfyger ni ganddynt, eithr gallu o honom pan elwi di ni i hynny, wrthwynebu, iè hyd at waed, gan ymdrechu yn erbyn pechod, fel trwy fod yn ffyddlon hyd angeu, y derbyniom gennit ti Goron y bywyd.
[Canys eiddot ti yw'r Deyrnas, &c.]
GWrando ni, ac yn rasol atteb ein herfynion ni, canys ti yw Brenin mawr yr holl ddaiar, yr hwn sydd a'i allu yn anfeidrol, ac a ddichon wneuthur i ni tu hwynt i'r cwbl a fedrwn ni ei ofyn neu'i amgyffred, ac i ba un y perthyn y Gogoniant o'r holl ddaioni yr wyt ti yn ei weithio i ni neu troston ni. Am hynny bendith, anrhydedd, gogoniant, a gallu a fo i'r hwn sydd yn eistedd ar y Deyrngader, sef i'n Duw ni, yn oes oesoedd, Amen.