LLYFR Y Resolusion, YR HVVN SYDD YN DYSGVI NI BAWB wneuthur ein goreu, a rhoi cwbl o'n bryd a'n me­ddwl ar fod yn wir Gristian­ogion, hynny ydyw ar yma­dael a'n drwg fuchedd, a throi ar ddaioni a duwioldeb;

Wedi ei gyfieithu yn Gymraeg y gan I. D. er llês i'w blwyfolion;

A'i brintio yn Llundain yn nhy Iohn Beale tros yr vn I. D. 1632.

AT EI ANVVYL BLWYFOLION.

FY anwyl gare­digion yn yr Arglwydd Iesu GRIST, Er na bum absen­nol oddiwrth­ych ond yn anfynych, a hyn­ny fynychaf ar negesau oedd yn perthyn i'ch Iachawdwr­iaeth chwi ac eraill o bobl Dduw; etto, i wneuthur i chwi beth iawn am hynny o esgeulusdra, mi a gyfieithiais i chwi yn Gymraeg y llyfr yma sy'n canlyn, yr hwn, i'm tyb i, sydd vn o'r llyfrau gor­eu [Page] i ddysgu i ddynion yma­dael a'i drwg fuchedd a throi at Dduw. Ac yr wyf yn deissyf arnoch, er mwyn Iesu Grist, fod yn ddiwyd ac yn ddyfal i'w ddarllain ac i'w wrando, a rhoi cwbl o'ch bryd ar wneuthur yn ei ol. Ac o herwydd nas gall na myfi na neb arall o'm gal­wedigaeth, ond eich dysgu chwi a'ch annog, a'ch cyng­hori, am nad ydym ni ond Gwenidogion i Grist a goruch­wilwyr ar ddirgeledigaethau Duw; ie nad yw Paul ddim, na [...] Apol-lo ddim, 2 Cor. 4.1. ond gweini­dogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob vn; 2 Cor. 3.15 ie nad yw ddim na'r hwn sydd yn plannu, na'r hwn sydd yn dyfrhau, ond Duw yr hwn sydd yn rhoddi'r cynnyrch; o her­wydd [Page] hynny meddaf, ac am nas gallaf ddim ond hynny, Heb. 13.22. yr wyfyn attolwg i chwi gyda'r A­postol, Goddefwch air y cyngor, Ac yn gweddio drosoch yn y modd y gweddiodd ynteu dros y Hebræaid, A Duw'r he­ddwch yr hwn a ddug drachefn oddiwrth y meirw ein Harglwydd Iesu Crist, bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfammod tragwy­ddol, a'ch perffeithio chwi ymmheb gweithred dda, iwneuthur ei ewy­llys ef, ac a weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef trwy Iesu Grist. I'r hwn y byddo'r gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Heb. 13.20, 21.

Eich eglwyswr anwiw sydd yn gofalu ac yn gwilio tros eich eneidiau chwi I▪ D.

Cynhwysiad y rhan gyn­taf o'r llyfr hwn, ynghylch y rhesymmau a'r achosion a allai a nnog dyn i roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar wa­sanaethu Duw.

PEN. I.
LLe y dangosir amcan a rhannau 'r llyfr hwn, ynghyd a rhybudd i'r darlleydd.
Pen. II.
Mor anghenrhaid yw i ni ystyri­ed a myfyrio yn ddifrif ar ein cyflwr ein hunain.
Pen. III.
Er mwyn pa achos y crewyd dyn, [...]c y gosodwyd ef yn y byd hwn.
Pen. IIII.
Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn, yn neillduol: ac am ddau beth a [Page] ofynnir yn enwedig ar law dyn yn y fuchedd hon.
Pen. V.
Am y tost gyfrif a fydd rhaid i ni ei wneuthur i Dduw am y pethau a ddywetpwyd o'r blaen.
Pen. VI.
Lle y dangosir beth yw naturiaeth pechod, a phechadur: er mwyn dan­gos nad yw Duw yn anghyfiawn, er ei fod cyn dosted ac y dywetpwyd yn y bennod o'r blaen.
Pen. VII.
Angwhaneg o resymmau i amddi­ffyn gyfiawned barnedigaethau Duw, ac i ddangos ein haeddedigaeth nin­nau; a hynny wrth ystyried mawredd Duw, a'i ddoniau haelionus tu ac at­tom ni.
Pen. VIII.
Pa dyb a fydd cennym ni am y pe­thau hyn, wrth farw, a phafodd y cawn ni yr amser hwnnw glywed o­ddiwrthynt.
Pen. IX.
Pa boenau sydd wedi eu hordeinio am bechod yn ol y fuchedd hon.
Pen. X.
Am y gwobr a'r tâl anrhydeddus a haelionus, a osodir o flaen pawb a wa­sanaetho Dduw yn gywir.

Cynnhwysiad yr ail rhan i'r llyfr hwn, ynghylch y rhwystrau sy'n lluddias i ddyn roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar wasanaethu Duw.

PEN. I.
AM yr anhawsder a'r caledi a dybygir eu bod mewn buchedd dduwiol.
Pen. II.
Am yr ail rhwystr, yr hwn yw erlid, a blinder, a thrallod, gan y rhai y cedwir llawer oddiwrth wa­sanaethu Duw.
Pen. III.
Am y trydydd rhwystr sydd yn lle­stair i ddynion roi eu bryd ar wasa­naethu Duw: yr hwn yw cariad ar y byd hwn.
Pen. IIII.
Am y pedwerydd rhwystr, yr hwn yw hyderu gormodd ar druga­redd Duw.
Pen. V.
Am y pummed rhwystr, yr hwn yw oedi rhoi ein bryd ar edifarhau o am­seri amser, tan obeithio y gallwn wneuthur hynny yn well, neu yn haws ryw amser arall.
Pen. VI.
Am drirhwystr arall sydd yn lluddias i ddynion roi eu bryd ar wellhau eu buchedd, y rhai yw diogi, a diofalwch, a chalon galedwch.

Gweddi'r Arglwydd yn iaith Lydaw.

HOn Tad pehun ii s [...]u en esaou, Da ha­nou bezet sanctifiet, Deuet aornomp da [...]ouantelaez, Da eol bezet graet en douar, [...]ual maz eou eu euf, Rho dimp hyziou hon [...]ara pemdeziec, Pardon dimp hon peche­dou, eual ma pardonomp da nep pegant [...]zomp offanzet, Ha nas dilaes-quet a ha­ [...]omp en temptation, hoguen hon diliur [...]iouz drouc. Rag [...]dit ez aparchant an ro­ [...]antelaez, an gloar, hac an galhout da biz [...]uiquen. Amen.

Megis pe dywedid fel hyn yn Gymraeg.

EIn Tad yr hwn y sy yn y nef, Dy he­nw byddet sancteiddiedig, Deuet arnom (h. e. attom) dy rwyvanolaeth, dy ewyllys byddet wneuthuredig yn y ddauar, yfal y mae ef yn y nef, Rho di i ni heddyw ein bara bennyddiol, Pardyna di i ni ein pecho­dau, yfal y pardynwn i'r neb a bechant [...]'n herbyn. A nas dyluscer o honom yn temp­ [...]asiwn, hagen ein gwared oddiwrth ddrwg. Herwydd i ti ys perthyn y rhwyvanolaeth, [...]'r glod, a'r gallu hyd byth anniben. Amen.

Yn iaíth GERNYW. En henao Deu Tad, han Mab, han Spiros Sans. Amen. en della rebo.

AN Tad ni (aliàs Taz ni) es en nev, Beniged ( aliás Benigas) ew ( alias re [...]o) tha henaw, Tha gwla [...]er ma tefa, Thavo­nogath rebo grued ( aliàs Gwreaz) pagar en noar hag yn nev, An bara ni pob deth ( aliàs died) rho d'yn bythou, Gav da ny gyn cambwith ( aliás cambgiwyth) pacar tha ena ny neb a camb a wreth ( aliás a camb grwyeg the ny, Hana o [...]ny in temptati­on, bes guithe ny mes a throag ( aliás Liuera ny reb drog) Amen, en della rebo.

Ac fel hyn yn GYMRAEG.

EIn Tad ni y sy yn y nef, Bendigaid yw (vel bo) dy henw, Dy wledych boed dyffo (h. e. delo) Dy fynnogaeth (à Mynnu) bo gwneuthuredig megys yn uauar ac ynnef Ein bara ni poh dydd, rho di i'n heddyw, A maddeu di ini ein camwaith (vel Cam­wedd) fel yr ym ni (yn maddeu) i'r neb a gamwedda i ni, A na yrr ni yn tempta­siwn, onid gwth ni ymaes o ddrwg, Amen, felly y bo.

Y RHAN GYN­TAF O'R LLYFR HWN.

PENNOD I· Amcan a Rhannau 'r llyfr hwn, yng­hyd â rhybudd angenrheidiol i'r dar­lleydd.

AMcan ac ergyd priodol y llyfr hwn yw annog yr hwn sydd Gristion mewn enw, i fod yn Gristion mewn gwirionedd, or hyn lleiaf, yngwir feddylfryd ei galon ei hun. Ac o herwydd bod deubeth yn anghenrheidiol i'r perwyl hwnnw, am hynny y dosperthir y llyfr hwn yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf y dangosir rhe­symau tradwysion, ac achosion trachadarn i annog dyn i roi cwbl o'i fryd a'i feddwl ar fod yn Gristion da. Yn yr ail rhan y tynnir ymaith yr holl rwystrau y mae ein gelynion ysprydol (y byd, y cnawd, a'r cythrael) yn arfer o'i gosod o'n blaen▪ i [Page 2] luddias i ni roi 'n bryd a'n meddwl ar hynny: am eu bod yn gwybod yn dda mai ar hynny y mae ein holl wasanaeth ni i Dduw yn sefyll. Oblegid y neb ni roddo ei fryd vn amser ar wneuthur daio­ni, ac ar ymadael a'r peryglus gyflwr y mae ynddo tra fo mewn pechod, y mae hwnnw ym mhell oddiwrth wneuthur y peth ni roes erioed ei fryd ar ei wneu­thur. Ond y neb sydd weithiau yn rhoi ei fryd ar wneuthur hynny, er nas gâd ei wendid a'i freuolder iddo ei gwplau pan roddo ei fryd arno; etto y mae'r bryd a'r ewyllys hwnnw yn gymmeradwy gan Dduw, ac y mae ei feddwl a'i galon ynteu ar ôl hynny yn barottach i roi ei fryd drachefn ar ei wneuthur, a thrwy râs Duw i'w wneuthur hefyd. Ond y neb a fo o'i wirfodd yn gwrthwynebu 'r am­canion da a roddo yr yspryd Glân yn ei galon ef, Dact. 13. Act. [...]7. ac a fo mor anfoesol a diystyru ei Arglwydd sydd yn curo wrth ddrws ei galon a'i gydwybod ef; y mae 'r cyfryw vn yn annog digllonedd Duw yn ei erbyn yn fawr, ac yn myned fynychaf yn galettach galettach beunydd, hyd oni rodder ef i fynu i feddwl anghymmeradwy, yr hwn yw'r drws nessaf i golledigaeth dragywy­ddol. Rhuf. 1.

2 Vnpeth gan hynny fy raid i ni ry­buddio 'r darlleydd o'i blegid, cyn myned ym mhellach, ar iddo gymmeryd mawr [Page 3] ofal am ochelyd vn ddichell o'r rhai pen­naf sy gan ein gelyn ysprydol ni, i dynnu myrddiwn o eneidiau beunydd ivffern a sef yw hynny, eu hofni a'i dychrynu rhac na gwrando na darllein dim ac a fo gwrthwyneb iw meddwl a'i hewyllys hwy eu hunain. Felly y dychryna efe yr occrwr rhag darllein vn llyfr a fo 'n dysgu iddo dalu 'r llôg ar occr yn ei ôl­yr anllad rhac darllein vn traethawd yn erbyn anlladrwydd: y bydol rhac dar­llein llyfrau ysprydol a grybwyllont am dduwioldeb a dyfosiwn da. Ac dymma y rheswmy mae efe fynychaf yn ei arfer i ddenu dynion i hynny: Ti a weli medd efe, nad wyt ti etto barod i ymadael â'r fuchedd yr wyt yn byw ynddi; ac am hynny ni wna darllein y cyfryw lyfrau ond blino dy gydwybod di, a'th fwrw dī mewn trymder a thristwch, ac am hynny na ddarllein mo honynt hwy ddim. Dym­ma, meddaf ddichell gyfrwys sy gan Sa­tan, i ddallu llawer o ddynion ac iw hudo i golledigaeth: yr vn modd ac y mae yn hawdd ir hebogydd ddwyn lla­wer o weilch lle y mynno, tra fo y mwgwd ar eu llygaid, yr hyn nis gallai byth ei wneuthur pe gadawai iddynt gael ei golwg yn rhydd.

3 Pettai anwybodaeth yn abl escus tros bechod, têg y gallai hynny fodyn achos i ddynion i fyw yn annuwiol: ond y [Page 4] mae 'r cyfryw anwybod ac sydd o wirfodd calon dyn, yn hyttrah yn chwanegu ar y pechod, ac ar ddrwg gyflwr y pechadur hefyd. Oblegid, am y cyfryw ddyn y dywed yr yspryd glân trwyfa wr ddirmyg. Efe a beidiodd a bodlyn gall i wneuthur daioni; Psa. 36.3. megis pe dywedai, ni fynnai ddys­gu gwneuthur daioni: A thrachefn, Am i ti ddiystyru gwybodaeth, minn [...]u a'th ddi­ystyraf ditheu. Os. 4.6. Ac am yr vnrhyw ddyni­on y dywaid yr yspryd glân mewn lle arall Y maent yn treulio eu ddyddiau mewn daioni, ac mewn moment y desgynnant i'r bedd, Iob 21.13. Dywe­dant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym, ca­nys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd di. Ymogeled pob dyn gan hynny rhac y ddichell hon, a bydded fodlon, o'r hyn lleiaf, i ddarllein llyfrau da, ac i ym­arfer â chwmpeini duwiol, ac â chyfryw foddion eraill ac a allo wellhau ei fuchedd ef; er na bo etto yn ei fryd eu canlyn: ie er ei fod yn clywed ynddo ei hun wr­thwyneb i wneuthur hynny. Oblegid nis gall y pethau hynny byth wneuthur dim niwed iddo, ond hwy allant wneuthur iddo fawr lles: ac fe allai y gall y gwr­thwyneb y mae efe yn ei ddioddef yn ei feddwl wrth arfer o'r pethau hynny yn erbyn ei ewyllys, beri i'r Arglwydd tru­garog sydd yn gweled ei gyflwr blin ef, roddi iddo yr orchafiaeth arno ei hun o'r diwedd, a danfon iddo lawer mwy oddi­ddiddanwch [Page 5] a chyssur yn y pethau yr oedd o'r blaen yn eu diflassu, nag oedd o anfoddac anewyllys ganddo iddynt ar y cyntaf. Oblegid efe a all Duw wner­thur hynny yn hawdd, yn vnig drwy ne­widio ein blâs genau ni ag vn desnyn bâch o'i nefol râs, a gwneuthur y pethau hynny yn flasus ac yn beraidd, y rhai'r oeddym ni o'r blaen yn eu clywed yn chwerworr ac yn ddiflas.

4 Am hynny, megis yr ewyllysiwn fod i bob mab enaid o'ddyn ac a ddarllenno y llyfr hwn, ei ddarllein â meddwl gwas­tad wedi ymroi yn gwbl yn llaw Dduw, a rhoi ei fryd ar wneuthur y peth a roddo 'r yspryd glân yn ei feddwl ef, pe rhôn iddo a cholli ei holl ddifyrrwch bydol wrth hynny: (yr hyn sydd anghenraid i bawb ei wneuthur, ar a fynno fod yn gad­wedig) felly os bydd i vn nas gallo wneuthur hynny allan o law, etto mi a gynghorwn iddo, yn anad dim, geisio 'r maes ar ei feddwl ei hun cyn belled a bod yn ddioddesgar i ddarllein y llyfr hwn hyd y diwedd, ac i edrych beth a ellir ei ddywedyd yn erbyn y pethau a gynnhwysir ynddo, ennas rhoddo gwbl o'i fryd a'r feddwl ar eu gwneuthur. O­blegid nid wyf yn ammeu nas gall Duw gynnhyrfu calonnauy rhai hyn cyn yde­lont i ddiwedd y llyfr, i newidio eu meddwl, ac i ymroi yn ostyngedig i hy­fryd [Page 6] wasanaeth eu Harglwydd a'i Hiach­awdur, fel y gallo Angelion nef laweny­chu a gorfoleddu am eu hynnill hwy dra­chefn, Luc. 15. megis am y ddafad a gollasai.

PEN. II. Mor anghenrhaid yw i ni ystyried a myfyrio yn ddifrif ar ein cyflwr ein hunain

Y mae 'r Prophwyd Ieremi, yn ôl hir gwyno rhac yr aflwydd a'r gofid oedd ar yr Iuddewon yr amser hynny am eu pe­chodau, yn dangos yr achos o hynny yn y geiriau hyn; Y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn cymmeryd at ei galon: Ier. 12.11. Gan arwyddoccau wrth hynny, pe buasai yr Iuddewon yn ystyried yn ddwys ac yn ddifrif y fuchedd a'r cyflwr yr oeddynt ynddo cyn dyfod o'r difrod mawr hwn­nw arnynt y gallasent ddiangc rhagddo, fel y diangodd y Ninifeaid wrth gymmer­yd rhybydd gan Ionas, Jon. 3. er bod y cleddyf eusys wedi ei dynnu, a llaw'r Arglwydd wedi ei hystyn allan i'w distrywio hwy o fewn deugain nhiwrnod. Mor anghen­rhaid ac mor bwysfawr ydyw ystyried y pethau hyn. Leuit. 11. Deut. 14. Yn arwydd o'r hyn beth y cyfrifid yn aflan wrth gyfraith Moses bob [Page 7] anifail ni chnoai ei gil: ac felly yn ddi­ammau y mae pob enaid ger bron Duw, yr hwn nid ystyrio yn ei galon ac ni chnóo eigil, trwy fynych fyfyrio, ar y peth a fyddai raid iddo ei wneuthur yn y bywyd hwn.

2 O herwydd, o ddyffyg y cyfryw ystyried a myfyrio y mae cymmaint o bechodau ac amryfuseddau yn y byd, ac y mae llawer mil o Gristianogion yn cael gweled eu bod ym mhorth vffern cyn iddynt ammeu dim o'r cyfryw beth, wrth adael eu harwain trwy ddysiryn y fu­chedd hon, a hûg ac a gorchudd diofa­lwch a difrawch ac anystyr tros eu lly­gaid, megis anifeiliaid i'r lladdfa, ac heb gael erioed weled eu perygl eu hun hyd oni bo rhywyr ceisio help ac ym­wared rhagddo.

3 O herwydd hyn y mae 'r yscrythur lân mor ofalus yn ein hannog ni i ystig fyfyrio ac i ddyfal ystyried beth a ddy­lem ei wneuthur, i geisio ein hachub nī oddiwrth y perygl y mae eisieu ystyried a myfyrio yn ein tywys ni iddo.

4 Y mae Moses wedi darfod iddo ddan­gos i'r bobl ei gennadwri oddiwth Dduw ynghylch holl gyfrannau 'r gyfraith, yn gosod hyn yn angwhaneg ger eu bronnau hwy oddiwrth Dduw, megis peth o'r augenrheittiaf, sef, Deut. 6.6. Bydded y geiriau hyn yn dy galon di, Ac yspyssa hywnt i'th blant, [Page 8] a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dy, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i gysgu a phan gyfodech i fynu: a rhwym hwynt yn arwydd ar dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid, Scrifenna hwynt hefyd ar byst dy dy ac ar dy byrth. A thrachefn mewn lle arall y dy­waid yr vn geiriau, Deut. 11.19. ac y gorchymmyn ym mhellach fel hyn; Dysgwch hwynt i'ch plant, fel y gallont hwythau fyfyrio ar­nynt. Yr vnrhyw orchymmyn a roddes Duw ei hun i Josua, Ios. 1.8. pan ddewiswyd ef gyntaf i lywodraethu'r bobl, Nac yma­dawed llyfr y gyfraith bon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nôs, fel y cedwych ar wnenthur yr hyn oll sydd scrifenned [...]g yn­ddo: Ac yn y man y mae Duw yn dangos pa lês a wnai hynny iddo, Yna y llwyddi yn dy ffyedd, Gwers▪ 9. ac yna y ffynni; canys yr Ar­glwydd dy Dd [...]w a fydd gydâ thi, i ba le bynnac yr elych. wrth yr hyn y mae efe yn arwyddoccáu nad yw dyn heb fyfyrio ar Gyfraith Dduw, ond myned ar gyfeilorn, ac megis vn dall heb wybod i ba le y mae yn myned.

5 S. Paul wedi darfod iddo osod ger bron ei yscolhaig Timotheus beth yw iawn ddyledswydd Eglwyswr, 1 Tim. 4.15. sydd yn rhoi hyn o gyngor iddo yn angwhaneg, Myfyria ar y pethau hyn, ac a [...]hos ynddynt: Ystyria hwynt yn ddwys, gwyl pa bwys a pha ddefnydd sydd ynddynt. A pha le byn­nac [Page 9] y mae 'r yscrythur lân yn dangos pa fath sy ar wr doeth, dedwydd, cyfiawn, (oblegid yr vn yw'r tripheth hyn yn yr yscrythur lân, can nad oes gwir ddoeth­ineb a dedwyddwch ond cyfiawnder) vn o'r pethau pennaf y mae yn ei ddywedyd am dano ydyw, ei fod ef yn myfyrio ar Gyfraith Dduw ddydd a nôs. Psal 1. Dihar 7. Eccl 14. Ac am e­samplau allan a'r yscrythur lân, i ddan­gos pa fodd y byddai gwyr da gynt yn arfer o fyfyrio, hawdd fyddei imi ddan­gos llawer o honynt, megis am Isaac yr hwn a ai allan i'r meusydd i fyfyrio: Gen. 24. a'r brenhin Ezechias, Esa. 38.14. yr hwn a riddfannodd megis colommen, hynny yw, mewn dist­awrwyds, rhyngtho a'i galon ei hun, heb glywed llais ei eiriau. Ond nid oes vn esamplbennach yn y defnydd ymma nag esampl Dafydd, yr hwn▪ ym mhob man gan nwyaf, sydd yn cofio ei ddyfal a'i ddibaid fyfyrdod, gan ddywedyd wrth Dduw fel hyn, Myfyriais am dy orchym­mynion Ps. 119.47. Felly y mae 'r Groeg a'r Lladin yn cyfieithu 'r gair. Psa. 63 7. y rhai a hoffais; A thrachefn, Pan i'th gofiwyf ar fyngwely, Myfyriaf am danat yngwiliadwriethau'r nós (neu fel y mae e­raill yn ei gyfiaithu, Myfyriaf am danat y boriau). A thrachefn, Mor gu gennyf dy Gyfraith, hi yw fy myfyrdod beunydd, ië, ac ar hyd y dydd hefyd. Ac mor wresog ac mor daerlew yr oedd efe yn arfer o fyfyrio, Psa 119.97. Psal 39.3. y mae efe ei hun yn ei ddangos, pan yw yn dywedyd am dano ei hun, Gwresogodd, [Page 10] fy nghalon o'm mewn, tra oeddwn yn my­fyrio ennynnodd tân.

6 Y pethau hyn a gadwodd yr yspryd glân mewn côf am y gwyr hynny gynt, i yrru cywilydd arnom ni fydd Gristiano­gion, y rhai er ein bod yn llawermwy rhwymedig nâ hwynt hwy i fod yn wre­sog mewn myfyrdod, oblegid i ni dder­byn doniau mwy gan Dduw; etto yr ydym ni yn byw mor segurllyd, y rhan fwyaf o honom, ac nad ydym ni agos vn amser yn myfyrio nac am Gyfreithiau a gorchym­mynon Duw, nac am ddirgeledigaethau ein ffydd, nac am fuchedd a marwolaeth ein Iachawdur Christ, nac am ein dylêd ein hunain tu ag atto ef; chwaethach ys­tudio a myfyrio ar hynny beunydd beu­noeth, fel y gwnai 'r brenhinoedd sanc­taidd hynny, er maint eu gwaith a'i llafur yn llywodraethu eu gwledydd

7 Pwy fy o honom ni heddyw yn gwneuthur cyfreithau, a gorchymmynon, a chyfiawnderau Duw (canys felly y mae 'r yscrythur lân yn eu galw) yn fy­fyrdod beunyddol iddo, fel y gwnai 'r brenhin Dafydd? Ac nid y dydd yn vnig y gwnai efe hynny, ond y nôs hefyd, fel y tystiolaetha efe am dano ei hun mewn lle arall. Pa sawl vn o honom ni sydd yn gollwng llawer dydd, a llawer mis dros ei ben, heb vnwaith na myfyrio na me­ddylio am y pethau hyn? Ië Duw a wnel [Page 11] nad oes llawer o Gristianogion yn y byd, heb wybod beth ydyw 'r cyfryw▪ fyfyrdo­dau. Yr ydym ni yn credu ysgatfydd, ddirgelion ffydd Grist, sef bod vffern, a bod nêf, a bod tâl am ddaioni, a chos­pedigaeth am ddrygioni, ac y daw dydd barn, ac y bydd rhaid gwneuthur cyfrif, a'r cyffelyb: ond am nad ydym nac yn cnoi ein cil ar y pethau hyn drwy ddwys fyfyrio arnynt, nac yn eu treulio yn ein calonnau trwy wrês myfyrdod; nid yd­ynt yn helpio dim arnom tu ag at fyw yn dduwiol, mwy nag y mae 'r feddygini­aeth a roddo gwr yn ei bocced yn helpio ei iechyd corphorol efe.

8 Pa ddyn o'r byd a fyddai mor hawdd gantho anturio pechu (fel y mae gan lawer, y rhai sy 'n yfed pechod cyn rhwydded ac yr ŷf yr anifeiliad ddwfr) ped ystyriai y mawr berygl sydd o bechu, a'r golled am râs Duw a'i ffafor a'i ewyllys da, a haeddu digofaint tragywy­ddol, a pheri o bechod i Fab Duw ei hun ddioddef marwolaeth, a'r anfeidrol boenau vffernol a fydd yn gospedigaeth dragvwyddol am bechu? Ac er bod pob Christion vn credu yr pethau hyn, ac yn cydnabod â hwynt, etto o herwydd bod y rhan fwyaf o ddynion heb eu hystyried hwy yn iawn yn eu calonnau, nid ydynt hwy yn cyffroi dim arnynt, ond y maent yn arwein yr wybodaeth honno ganthynt [Page 12] megis tan glo yn eu calonnau, heb na chlywed na gwybod vn gronyn oddiwrthi megis vn a fyddai yn dwyn tán gydag ef mewn callestr, ac heb gael dim gwres oddiwrtho, eisieu taro 'r gallestr; neu vn a syddai 'n dwyn gantho beraroglau mewn blwch, ac heb gael dim arogl oddi­wrtho eisieu ei rwbbio

9 Ac weithan i ddyfod yn nês ar y def­nydd presennol yr ydym ar fedr ei ddat­can yn y llyfr hwn; pa ddyn byw ni roddei ei fryd yn gwbl ar wasanaethu Duw yn gywir, ac i ymadaelâ holl or wagedd y byd pettei yn ystyried fel ydylai, y pMysys­fawr resymmau a'r achosion a allai ei gyn­nhyrfu ef i wneuthur hynny; sef, y mawr wobr a gaiff efe am wneuthur hyn­ny, ar anfeidrol berygl sy iddo onis gwna? Ond o herwydd (fel y clywsoch) nad oes odid o vn ym mysg mil yn ystyried y pe­thau hyn, ac o happiei iddo eu hystyried, nis gwna ond yn ysgafn, heb gymmaint o astudrwydd a chydwybod ac y mae 'r pethau yn eu haeddu: a hynny sy 'n pe­ri i gynnifer o ddynion fyned beunydd i golledigaeth, ac i gyn lleied fod yn gadwedig, am eu bod, o eisieu ystyried, heb roi eu bryd vn amser ar fyw fel y dy­lent, ac fel y mae galwedigaeth Christion yn gosyn ar eu dwylo hwy. Megis y gall­wn ninnau hefyd gwyno gydâ Ieremi, fel y clywsoch o'r blaen, fod tir ein Chtisti­anogaeth [Page 13] ni wedi myned yn anrhaith, [...]m nad yw dynion yn ystyried yn eu ca­ [...]onnau.

10 Ystyried yw'r agotiad sydd yn e­gori drws ystafell ein calonnau ni, lle y mae llyfrau ein holl gyfrif ni yngha­dw: Ië ystyried ydyw drych, ie echrê llygad a golwg ein henaid ni, â'r hwn y mae 'r enaid yn ei weled ei hun, ac yn canfod ei holl gyflwr trwyddo; sef ei gyfoeth, a'i ddoniau daionus, a'r ffordd y mae 'n rhodio ynddi, a pha fodd y mae 'n ei cherdded, ai yn fuan, ai yn araf; a'r pennod a'r di­ben y mae 'n cyrchu atto. Ac heb yr ystyried hyn nid yw 'r enaid ond rhuthro fel dall yn wysg ei ben ym mhlith miloedd o ddrain a mieri, a thramgwyddo ar bob cam a gerddo i ryw anghymmhesur wydd neu ei gilydd, a phob amser mewn perygl o ryw fawr farwol aflwydd A pheth rhyfedd yw gweled, fod pob dŷn yn ei fatterion a'i negesau bydol yn gwybod ac yn cydnabod, na's gall na dechreu, na gwneuthur, na gorphen gwaith yn y byd, heb ei ystyried; ac etto yn y gwaith mawr hwn ar geisio ynnill te yrnas nef, nid oes agos neb nac yn arfer oystyried, nac yn tybied fod yn rhaid iddo ystyried.

11 Petrai ddyn yn amcanu myned i [Page 14] daith neu siwrnai, er na bal ond o Loegr i Constantinopl, pe rhôn iddo a cher­dded y ffordd vnwaith neu ddwy o'r blaen, etto ni cherddai gam o honi heb ei hys­tyried yn ddwys ac yn fynych; yn enwe­dig heb ystyried pa vn a wnai ai bod ar y fford ai na bai, pa fodd y byddai 'n cerdded ai yn fuan ai yn araf, a pha faint fyddei rhyngtho a phen ei siwrnai; ar cyffelyb bethau. Ac wyti yn meddwl (fy mrawd anwyl) myned o'r ddaiar hon i'r nefoedd, a hynny tros gynnifer o fryniau, a phantiau, ac anialwch, a lleoedd peryglus ni cherddaist erioed o'r blaen, heb ystyried vnwaith beth yr wyt arno? Yr wyti yn camgymmeryd yn fawr, os wyti yn tybied hynny: ca­nys rheitiach o lawer i ti wrth ystyried yn y daith nefol nag yn yr vn ddaiarol, o herwydd bod mwy o draws ffyrdd, a mwy o beryglon yn y naill nac yn y llall, gan fod pob dyfyrrwch yn y by d hwn, a phob trachwant, a phob ofer feddwl, a phob golwg gwammal, a phob llais a demptio, a phob cythrael ar y daiar, a phob elwig or eiddo (a'r rhei'ny yn aml) megis lladron yn cyn­llwy [...] am danat i'th yspeilio ac i'th ddi­fetha ar y ffordd hon tu a'r n [...]f.

12 Am hynny mi a gynghorwn i bob vn a siwrneio ar y ffordd hon, edrych yn dda yn ei gylch, ac o'r hyn lleiaf vn [Page 15] waith yn y dydd, ystyried ei gyflwr ei [...]un, a chyflwr y trylor sydd gantho mewn llestr brau, fel y dyweid S. Paul, a'r trysor hwnnw yw ei enaid ef, yr hwn o eisieu ystyried a ellir ei golli cyn hawsed a'r tlws lleiaf a siomgaraf yn y byd, fel y ceir gweled yn ôl hyn wrth y pethau a ddywetwyf er mwyn helpio dyn i ystyried, yr hyn sydd raid iawn i mi ac i bob Christion arall wrtho, er mwyn gwneuthur ein gwasanaeth yn gymmeradwy gan Dduw. O herwydd ped ystyriai fy enaid i neu'r eiddo arall, yn ddwys ac yn ddifrif, ychydig o la­wer o bethau a wyr eu bod yn wir; ni byddei bossibl iddo na wellha [...]i, a bod yn anfodlon i'w fuchedd o'r blaen, a'i diflasu a'i sfieiddo▪ Megis, ped ystyrici yn ddwys ei ddyfod i'r byd hwn er mwyn cymmeryd gofal am wasanaethu Duw, Mat. 12. a'i fod ef er hynny yn edrych yn vnig, neu yn fwya'dim, am orwagedd y byd: pettai yn ystyried y bydd rhaid iddo roi cyfrif yn y dydd diweddaf am bob gair ofer, ac etto nad ydyw yn gwneu­thur cyfrif yn y byd o lawer gweithred ddrwg y mae yn ei wneuthur, 1 Cor. 6.9.10. chwaethach o'i eiriau: pettai yn ystyried na chaiff vn petteinwr, na godiuebwr, nac eulyn­addolwr, na thorrwr priodas, na maswe­ddwr, na gwrrywgydiwr, na lleidr, na chybydd, na meddw, na disenwr, na chrib­ddeilwr, [Page 16] etifeddu teyrnas Dduw; a' [...] fod ynteu yn m [...]ddwl y dichon fyned yno er ei fod yn byw yn y beiau hynny: 1 Cor. 6.9, 10. Eph. 5.5. pettai yn ystyried fod vn pechod yn ddl­gon et colli miloedd o bobl ar vnwaith, Gen. 6. Gen. 19. ac etto er bod arno fawrllwyth o becho­dau ei fod ynteu yn tybied y gall ddiangc: ped ystyriai fod y ffordd i'r nef yn anhawdd, Mat. 7.14. yn gûl, ac yn boe­nus, fel y dyweid Duw ei hun, a'i fod yntau yn tybied y gall fyned i mewn yno, er byw mewn digrifwch, a melys­chwant y byd: ped ystyriai ddarfod i'r noll Sainct Duwiol a'fa erioed, (me­gis Apostol on Christ, Act. 1. 1 Cor. 4. 2 Cor. 4. & 6. & 11. & 12. 1 Cor. 9. Phil. 2. 1 Cor. 2. a'i fam ef ac e­raill) ddewis byw mewn caledfyd, mewn llafur poenu, buddìol i eraill, mewn ymprydio, gweddio, a chospi eu cyrph a'r cyffelyb, a'i bod er hynny yn byw mewn ofn a dychryn rhag barnedi­digaethau Duw; ac ynteu heb wneuthur cymmaint a meddwl am yr vn o'r pethau hyn, ond canlyn ef i l [...]ffer a' [...] ddifyrrwch, ac er hynny nid yw yn ammeu nad yw dda ei gyflwr: ped ystyriei fy enaid i (meddaf) neu yr eiddo arall y pethau hyn yn dwys ac yn ddifrif, neu y rha [...]. leiaf o fil o bethau eraill a ellid eu hystyried, y mae 'n ffydd Gristianogawl yn dyscu i ni eu bod yn wir; ni chyfeiliornai mewn perygl diobaith fel y mae llawer o enei­diau Christianogion, o eisieu ystyried ei [Page 17] [...]yflwr ei hun.

13 Beth a bair i ladron gael can wyr syn­ [...]wyrol dybieid am dany [...]teu bod allan [...] côf, am fod yn lladdrata, a hwythau [...]n gweled crogi cymmaint o ddynion am [...]adrad, ger bron eu llygaid; ond am nad ydynt yn ystyried hynny? Mat. 7. Luc. 12. Rom. 2. 1 Cor. 1. & 2 & 3. Gal. 3. A'r vnrhyw achos sy'n peri i'r gwyr doetha'n y byd gael eu cyfrif ger bron Duw a dynion da, yn anf [...]d ffyliaid ac yn waeth nag ynfydion cynhwynol; am eu bod, a hwythau yn adnabod gorwagedd y byd, ac yn gwy­bod y parygl sydd o fyw mewn pechod, er hynny yn canlyn y byd yn gymmaint, a chyn lleied eu harswyd i bechu. Pettei gyfrai [...]h wedi ei gwneuthur, trwy awd­urdod dyn, ar fod ibwy bynnag a fei­ddiei yfed gwin, ddal ei law yn y man tros hanner awr yn tân, neu mewn plwm berwedig; yr wyfi yn tybied y byddai anhawdd gan lawer yfed gwin, er eu bod wrth naturiaeth yn y ei garu ac etto, er bod cyfraith wedi ei gwneuthur gan dra­gywyddol iawredd Duw y gorfydd i bwy bynnag a wnelo bechod ddioddef ei ferwi yn dragywyddol yn nhán vffern, heb na diben nac esmw ythdia; y mae llawer er hynny o eisieu ystyried y pe­thau hyn heb ddim mwy eu hofn i bechu, nag i fwytta neu i yfed.

14 I dynnu at y diwedd, y mae ystyried yn beth anghenrhaid iawn ei wneuthur, [Page] [Page 16] [...] [Page 17] [...] [Page 18] yn enwedig yn ein dyd diau ni, pan ydy [...] yn gwneuthur cymmaint cyfrif o orwa­gedd ac oferedd, ac y tybir mai gwir ddoethineb ydyw; ac nad yw'r gwr­ [...]hwyneb ond gwir ffoledd, a diystyr wiriondeb. Ond nid oes gennyf ddim ammeu, drwy help Duw a chymmhorth iawn ystyried, na's datcuddiaf i'r dar­lleydd synhwyrol yn eglur ddigon, yr amryfusedd sydd yn hyn o beth, oddi­eithr ei fod yn ddall o'i wirfodd, neu o wir gyndynrwydd gwedi ymroi i gaeth­iwed ei elyn ysprydol: o blegid y mae rhai o'r cyfryw ddynion yn y byd: am y rhai y mae Duw yn dywedyd, megis yn ymofidio trostynt, ac yn tosturio wrth eu cyflwr, Hwy a wnaethant gyfam­mod ag angeu, Esa 28.15.18. a chyngrair ag vffern: hyn­ny ydyw, ni fynnant ddyfod a [...]lan o'r perygl y maent ynddo, ond eu bwrw eu hun bendramwnwgl i golledigaeth dra­gywyddol, yn gynt nag ystyried eu cy­flwr ac felly ynnill iddynt eu hunain fywyd tragywyddol a gogoniant nef. Oddiwrth y cyndynrwydd angheuol hwnnw, yr Arglwydd o'i drugaredd a'n diango ni bawb ar sy 'n perthyn iddo ef.

PEN. III. Er mwyn pa achos a diwedd y crewyd dyn ac y gosodwyd ef yn y byd hwn.

WEithian gan hynny yn Enw 'r Hollalluog Dduw, a thrwy gym­morth ei lân yspryd ef, ystyried pob Christion o ddyn ac sydd yn chwennych [...]echydwriaeth enaid a chorph, yn ddwys ac yn ddifrif, yn gyntaf dim, megis y gwna marsiandwr pan êl tros fôr i wlad ddieithr, neu megis y gwna capten a ddanfono ei dywysog ar ryw negesau o bwys, pan ddêl i'r lle a appwyntiwyd iddo: hynny ydyw, meddwl am ba achos y daeth yno, paham y danfon­wyd ef yno, ac i ba beth, i amcanu pa beth, i wneuthur pa beth, ac i gyflaw­ni pa beth, a pha beth a ddisgwyl ac a ofyn yr hwn a'i danfonodd ef yno ar ei law ef pan ddêl adref. Oblegid diam­mau y gwna ystyried y pethau hynny i­ddo fod yn ofalus am edrych am y pe­thau y danfonwyd ef o'i plegid, ac nid ymofalu am bethau ni pherthyn iddo. Y cyffelyb bethau a fynnwn i Gristion eu hystyried, ac ymofyn ag ef ei hun, pa ham ac er mwyn pa achos a diwedd y [Page 20] creodd Duw ef, ac a'i danfonodd ymma i'r byd hwn? i wneuthur pa beth? i dreu­lio ei oes mewn pa beth? ac fe gaiff we­led nad i ddim arall, ond yn vnig i wa­sanaethu Duw yn y bywyd hwn. Tan yr ammod hwnnw y crewyd ni, Deut. 6. Iosua 22. Gen. 14. ac er mwyn hynny yn vnig i'n prynwyd ni, fel y prophwydodd Lacharias a'r blaen, fel y byddei i ni wadi ein gwared oddiwrth ddw­lo ein gelynion, Luc. 1. ei wasanaethu ef mewn sanc­teiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein beinioes.

2 O hyn y canlyn yn gyntaf, gan mai gwasanaethu Duw yn y bywyd hwn, yw'r achos a'r diwedd y rho [...]d ni yn y byd o'i blegid; wrth hyn­ny beth bynnag a wnelom, neu a am­canom, neu y treuliom ein hamser arno, ar a fo na gwrthyneb nac am­mherthynol i'r achos a'r diwedd hwnnw, sef gwasana ethu Duw yn vnig? perhon i ni allu wrth hynny ynnill holl deyr­nasoedd y byd; etro nid yw ond llw­yr waggedd ac oferedd, a ffoledd, a gwaith. ofer; a pheth a, wna i ni ryw ddyd ofidio, ac edifarhau, ai chywilyddio o'i blegid, o herwydd nad hynny yw'r peth y daethom ni i'r byd o'i achos, na'r peth y go­fynnir i ni gyfrif am dano yn y dydd diweddaf, oddieithr i gael ein barnu am dano.

[Page 21]3 Yn ail y canlyn, os gwasanaethu Duw ydyw'r vnig achos a'r neges y dae­ [...]om ni i'r byd o'i blegid, a bod pob [...]readur daiarol arall wedi ei roi yn y [...]yd i'n gwasanaethu ni, fel y byddei i [...]innau wasanaethu Duw: ni a ddylem [...]innau na ddymunem o'r creaduriaid [...]raill, nac o gyfoeth nac o dlodi, nac [...] iechyd nac o glefyd, nac o barch nac [...] ammharch, na mwy na llai, nac a fo [...]a ar ein lles ni tu ag at wasanaethu Duw; [...]blegid pwy bynnag a geisio ychwaneg [...]'r creaduriaid hynny nag a wasanaetho [...]'r perwyl hynny, y mae efe yn cilio o­ [...]diwrth yr achos a'r diwedd y daeth i'r [...]yd o'i blegid

4 Wrth hyn y gall Christion gofalus gael peth cydnabyddiaeth am ei gyflwr gydâ Duw, a bwrw amcan pa vn a wna [...]i bod ar y ffordd vnion ai na byddo. Oblegid os edrych ef yn vnig neu yn [...]ennaf dim at y pennod y daeth efe ir byd yma er ei fwyn, hynny ydyw gw'­ [...]anaethu Duw; os bydd ei ofalon ef a'i feddyliau, a'i amcanion, a'i lafur, a'i [...]mddiddanion, yn rhedeg yn vnig ar y peth hyn; ac na bo matter ganddo am gre­aduriad eraill, megis anrhydedd, cyfoeth, dysg, a'r cyffelyb; ond hyd y bônt yn anghenrhaid iddo i'r perwyl hynny; os efe a dreulia ei ddydddiau a'i [Page 22] fywyd (meddaf) mewn astudrwydd [...] wasanaethu Duw, yna diammeu ei fo [...] yn ddyn o'r happusaf ac o'r dedwydda [...] ac y daw efe yn y diwedd i deyrna [...] Dduw.

5 Ond os gwyl efe ei fod mewn cy [...] ­flwr gwrthwyneb i hynny, ai fod he [...] edrych am y peth y danfonwyd efe ym­ma o'i blegid, na bod ei galon a'i fe­ddwl ar wasanaethu Duw, ond yn hy [...] ­trach ar orwagedd y byd, megis gor [...] ­chafiaeth, golud, digrifwch, dillad gwy­chion, tegwch pryd, adeiladau teg neu ryw beth arall ni pherthyn ir perwyl hwnnw: os efe a dreulia ei amse [...] (meddaf) ynghylch y coegbethau hynny, a bod ei ofalon, a'i feddyliau, a [...] ymddiddanion, a'i ddifyrwch, yn fwy yn y pethau hyn, nag ynghylch y nege [...] mawr arall y danfonwyd ef yma o' [...] achos; yna y mae mewn helynt enbyd▪ yr hon a dywys yn vnion i golledigaeth, os efe ni newidia ei helynt Oblegid diammeu ydyw, am bwy byn­nag nid edrycho am y gwasanaeth y danfonwyd ef i'w wneuthur, na chaiff efe byth mor tâl a'r gwobr sydd wedi ei addo am y gwasanaeth hwnnw.

6 Ac o herwydd bod y rhan fwyaf o'r byd, nid yn vnig o'r rhai digrêd, ond hefyd o'r Christianogion, allan o'i lle yn y pwngc yma, ac heb edrych am y [Page 23] [...]eth y crewyd hwy er ei fwyn, ac y dan­ [...]onwyd hwy yma oï achos: am hynny [...] mae Christ a'i dduwiol Saint yn cry­ [...]wyll mor dôst am y nifer bychan sydd [...]ewn cyflwr iechydwriaeth, ië ym mysc [...]hristianogion, ac o herwydd hynny, [...] traethasant amryw ymadroddion y [...]hai y mae cig a gwaed yn tybied eu bod [...]n galed, ac mai digon prin y maent yn [...]ir, er bod yn ddir y cyflawnir hwynt, [...]egis hyn, Haws yw i gamel fyned trwy [...]rau'r nodwydd ddur, Luc 13 & 23. Mar. 19. & 10. nac i wr goludog fyned [...] mewn i deyrnas Dduw. Y rheswn o'r [...]madrodd hwnnw, a'i gyffelyb, yw hyn, Na's gall y gwr goludog sydd yn edrych [...]m bentyrru golud, roi ei fryd a'i fe­ddwl ar y peth y daeth efe i'r byd o'i [...]legid, ac am hynny nas dichon byth fy­ned i deyrnas nef, oddieithr i Dduw wneuthur gwyrthiau, ac felly peri iddo ddiystyru ei olud, a'i arfer yn vnig at wasanaeth Duw. Ac y mae Duw wei­thiau yn gwneuthur y fath wyrthiau, fel y mae ini esampl anaml ei chyffelyb, yn yr Efengyl, am Zacheus, yr hwn er ei fod yn wr goludog iawn, Luc. 19.8▪ yn y man pan ddaeth Christ i'w dŷ ef, ie yn enwedig i'w galon efe trwy ffydd, a roes hanner ei dda i'r tlodion, ac os gwnaethai gam â neb drwy drawsder, y mae 'n addo ei dalu adref ar ei bedwerydd.

7 Ond wrth hyn y gellir gweled gofi­ [...]us [Page 24] gyflwr llawer mil o Gristianogion y [...] y byd, y rhai sy cyn belled oddiwrth dreulio eu holl amser a'i llafur yngwasanaeth Duw, ac nad ydynt hwy agos v [...] amser yn meddwl am dano, ac os ydynt▪ nid yw hynny ond diofal iawn ac yscafala. O Dduw pa sawl mil o wyr a gwragedd sydd yn y byd yn dwyn enw Cristianogion, heb dreulio vn awr o'r peder ar hugain yngwasanaeth Duw: pa saw [...] mil sy'n blino eu meddyliau ynghylch negeseuau bydol, a lleied sy'n cymmery [...] gofal am wafanaethu Duw? Pa nifer syd [...] yn cael ac yn cymmeryd ennyd ac amse [...] i fwyta, ac i yfed, ac i gysgu, ac i wneu­thur yn llawen, ac i'w trwsio eu hunai [...] ac i'w paentio yngolwg y byd, ac etto heb gael dim amser i'w dreulio ar y peth mwyaf a rheitiaf, sef gwasanaethu Duw ▪ Pa nifer sydd yn treulio 'r dydd o'r pe [...] bwygilydd, ac wythnosau, a misoedd▪ a blynyddoedd, yn hebocca, ac yn hela▪ ac mewn difyrrwch arall, heb wneuthu [...] dim cyfrif o wasanaethu Duw? Beth a ddaw o'r bobl hynny? Pa beth a ddy­vvedant hvvy ddydd farn? pa escus a gânt hvvy?

6 Pettai wâs i farsiandwr, wedi iddo dreulio llawer o flynyddoedd o'r tu hwnt i'r môr, pan ddelei adref yn rhoi cyfrif i'w feistr ddarford iddo dreulio hyn a hyn o amser yn canu, a hyn a [Page 25] hyn yn dawnsio, a hyn a hyn mewn maswedd, a'r cyffelyb; pwy ni chwarddai an ben ei gyfrif efe? Ond os gofynnei ei feistr iddo ym mhellach pa faint o amser a dreuliasai ynghylch ci farsiandiaeth ynteu a'i negesau; ac atteb o'r gwâs na threuliasai ddim, ac na feddyliodd efe vnwaith nac am danynt hwy, nac amdano ynteu; pwy ni thybygai fod y cyfryw wâs yn haeddu pob math ar gospedigaeth a chywilydd? Ac yn siccr mwy fydd eu cywilydd a'i gwaradwydd hwy ddydd farn, y rhai a osodwyd yma ar neges cymmaint ac yw gwasanaethu Duw, a hwythau er hynny yn ei es­geuluso, ac yn rhoi cwblo'i hastudrwydd, a'i poen, a'i meddyliau ar goegbethau ofer y byd hwn: yr hyn sydd cyn belled oddiwith yr hyn a ddylent hwy ei wneu­thur, a phettei wyr a fai wedi eu go­sod i redeg gyrfa am gamp o werth an­feidrol, yn troi oddiwrth y nôd, a rhai yn mynd tros y ffordd ar ôl gwy­bed, neu yscafnblu yn y gwynt; a rhai eraill yn sefy [...]l ar y ffordd ac yn casclu tom yddaiar. A pha fodd, meddwch chwi, yr haeddai y rhai hynny dderbyn cym­maint gwobr ac a amcanesid i roi iddynt?

9 Am hynny, anwyl Gristion, od wyti synhwyrol, ystyria dy gyflwr tra caffech amser, canlyn gyngor yr Apostol, Gal. 6. hola dy weithredoedd, a'th ffyrdd, ac na [Page 26] thwylla ddim honot dy hun. Ti a elli etto gael grâs i wellhau dy fuchedd, am fod goleu dydd y bywyd hwn etto yn parhau: fe ddaw erchyll nôs yr angeu i'th oddiwes di ar fyrr, ac yno ni bydd mwy amser i wellhau. Pa les a wna dy holl boen a'th drafferth a gymmeraist i geisio cyfoeth y byd, i ti yn yr awr honno? a pha d iddanwch a gei di oddiwrtho, pan ddywetter wrthyt ti fel y dywedodd Christ wrth vn o'th gy­ffelyb di yn yr Efengyl, pan oedd we­di dyfod i vchder a brigyn ei hapus­rwydd, Luc. 12.20. O ynsyd, y nôs hon y dygir dy enaid o ddiarnat▪ ac yno eiddo pwy fydd y pethau a barottoaist ti, ag a gesglaift ynghyd? Cred fi, fy mrawd anwyl, o­blegid ni ddywedaf i ti ddim anwir, Mwy o gyssur a diddanweh a gai di yr amser hwnnw oddiwrth vn awr a dreu­liaist ti yngwasanaethu Duw, nag o­ddiwrth ganmhlynedd a dreuliaist yn ceisio goruchafiaeth i ti dy hun ac i'th dy yn y byd hwn. A phe gellit ti yr aw­ron wybod oddiwth y blin gyflwr y bydd dy enaid truan di ynddo 'r amser hwn­nw, am esceuluso yr vnpeth hwn a ddy­lesit ti fwyaf feddwl am dano; ti a hep­corit beth o'th amser cysgu, a pheth o'th amser bwytta, i wneuthur iawn am esgeulusdra 'r amser a aeth heibio. Y rhagor sy rhwng y doeth a'r ynfyd yw [Page 27] hyn, bod y naill yn ymbarottoi yn erbyn drwg cyn ei ddyfod, a'r llall pan fo rhyhwyr.

10 Dyro dy fryd gan hynny, Gristion daionus, tra caffech amser: dyro dy [...]ryd yn ddioed ar fynd ynghylch y gor­ [...]hwyl mawr i'th anfonwyd o'i blegid; [...]wnnw yn vnig sydd orchwyl o bwys, a gorchwyl anhepcor; ac nid yw gor­ [...]hwylion eraill ond gwagbethau coegi­ [...]n ac oferedd, ond hyd y maent yn per­ [...]hyn i'r gorchwyl hwnnw. Na choelia mo'r byd, yr hwn y mae dy Iachawdur Christ yn ei ffieiddio am gyfeiliorni yn [...] pwngc ymma, Io. 7.8, 2. 1 Iob. 2. ac y mae ei Apostol Io­ [...]n yn cyhoeddi ei fod yn elyn i Dduw. Dywed o'r diwedd wrth dy Iachawdr, yr wyf yn cyfaddef wrthyt ti, ô Ar­glwydd, yr wyf yn cyfaddef, ac ni's gall­ [...]f wadu, nad ymofelais i etto am y [...]eth i'm gwnaethost o'i blegid, ac i'm [...]rynaist o'i achos, ac i'm rhoddaist yma o'i [...]erwydd: yr wyf yn gweled fy amryfu­ [...]edd, ni allaf gelu fy anfad fai, ac yr wyf yn diolch i ti ddengmil o weithiau, [...]oi o honot i mi 'r grâs i weled hyn­ [...]y, tra gallwyf trwy nerth dy râs di ei wellháu; yr hyn trwy dy sanctaidd râs [...]ydd yn fy mryd ei wneuthur, a newidio [...]y muchedd allan o law; ac yr wyf yn [...]ttolwg ar dy dduwiol fawredd, megis y [Page 28] rhoddaist i mi hyn o oleuni a deall i weled fy mherygl, ac y cynnhyrfaist fy nghalon i roi fy mryd ar wellhâu; felly cadw a chynnal dy gymmorth bendige­dig tu ag attaf, fel y gallwyf gyflawni yr hyn yr wyf yn ei amcanu, i'th anrhydedd di ac Iechdwyriaeth fy enaid, Amen.

PEN. IIII. Am y diwedd a'r achos y gwnaed dyn o'i blegid, yn naillduol: ac am ddau beth a ofynnir yn enwe­dig ar law dyn yn y fuchedd hon.

GWedi darfod cyrybwyll yn y bennod o'r blaen am y diwedd y gwnaed dyn o'i blegid, yn gyffredinol, a dangos beth yw gwasanaethu Duw; cymmhesur oedd bellach (am fod y peth o bwys a defnydd mawr) ddangos yn neillduol ac yn hyspysach, ym mha beth y mae gwasana­eth Duw yn sefyll, fel y gallo pob Christion farnu o honaw ei hun pa vn [...] wna ai bod yn gwneuthur y gwasanaeth hwnnw, ai nad ydyw: ac felly gweled ydyw fo 'n gwneuthur y pethau y danfonwyd ef i'r byd o'i plegid, ai na [...] ydyw.

[Page 29]2 Yn gynta peth gan hynny rhaid yw deall fod yr holl wasanaeth y mae Duw 'n ei ofyn ar law Christiono ddyn yn y fuchedd hon, yn sefyll mewn dau beth, y naill yw Gochelyd y drwg, a'r llall yw Gwneuthur y da. Ac er bod y ddeubeth hyn yn ddyledus ar­nom ni cyn dyfod Christ i'r byd, (fel y mae Dafydd yn dangos wrth roi gor­chymmyn cyffredinol, Cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda: Psal. 37. Esa. 1.16. a'r prophwyd Esai Peidiwch â gwneuthur drwg, a dysgwch wneuthur da) etto y mae mwy o achos a rheswm i'w gofyn hwynt ar ddwylo Christianogion, am eu bod hwy trwy angeu a dioddefaint eu hiachawdur, yn cael grâs a gallu i fod yn abl mewn rhyw fesur i wneuthur y ddeu­beth hynny, y rhai nid oedd y Gy­fraith yn rhoi grâs i'w gwneuthur, er ei bod yn gorchymmyn eu gwneuthur.

3 Ond ny [...]i, y rhai a brynodd Crist, ac a gawsom ganddo ef nid yn vnig adrewyddu 'r gorchymmyn hwnnw am wneuthur y ddeubeth hyn, ond hefyd nerth a gallu trwy ei râs ef i'w gwneu­thur: yr ydym Ni yn rhwymedicca [...] trwy ddyled a rheswm, iw gwneuthur nâ'r rhai o'r blaen, oblegid hynny oedd ffrwyth bendigedig dioddefaint Christ, fel y dy waid S. Petr, 1 Pet. 2.2▪ Fel gwedi ein marw i bechod, y byddem byw i g [...]fiawnder: [Page 30] Neu fel y mae S. Paul yn eglurach yn ei ddangos fel hyn, Ymddangosodd grâs Duw, yr hwn sydd yn dwyn iechydwraieth i bob dyn, gan cin dyscu ni i wadu annu­wioldeb a chwantau bydol, ac i syw 'n sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awrhon.

4 Y ddeubeth hynny a glywsochwi ydyw gwasanaeth Duw, y danfowyd ni i'r byd hwn o'i blegid, sef i wrthwyne­bu pechod, ac i ddylyn gweithredo­edd da O achos y cyntaf o'r ddau i 'n gelwir ni yn fi [...]wyr, ac y gelwir ein bywyd ni yn filwriaeth ar y ddaiar. Io. 7. 2 Cor. 10. 1 Tim. 1. 2 Tim. 2. Phil. 1. Heb. 10. & 12. Mat. 9. & 10, & 20. Luc. 10. 1 Tim 5. Psa. 126. Mat. 13. Oble­gid fel y mae milwyr bob amser yn cyn­llwyn i wrthwynebu eu gelynion, [...]elly y dylem ninnau i wrthwynebu pechod a'i brofedigaethau. O achos yr ail i'n gelwir ni yn llafurwyr, ac yn oruchwilwyr, a'r cyffelyb: oblegid fel y mae y rhai hyn yn edrych yn ddyfal ar ei helw a'i hynnill, a chynnyrch ei golud yn y byd hwn, felly y dylem ninnau edrych am wneuthur gweithredoedd da, er gogo­niant i Duw, a bûdd i eraill ymma yn y fuchedd hon.

5 Felly dymma 'r ddau bwngc bennaf a ddylei Gristion fyfyrio arnynt, a'r ddau orchwyl bennaf y dylai weithio yn­ddynt beunydd, a'r ddau droed y mae iddo gerdded a hwynt yngwasanaeth Duw, a'r ddwy asgell y mae iddo [Page 31] ehedeg i fynu â hwynt tu ac at fu­chedd Gristianogol. A phwy bynnag sy ag vn o'r rhai'n yn niffyg gantho, er bod y llall ganddo, ni all efe ymddyr­chafael at wir dduwioldeb, mwy nag y gall aderyn hedeg ni bo ganddo ond vn a [...]g [...]ll. Ni thâl dim i ddyn fod heb wneu­thur drwg, oni bydd iddo hefyd wneu­thur daioni; ac ni thâl dim iddo wneuthur daioni, oni bydd iddo fod heb wneu­thur drygioni hefyd. Y diweddaf o'r ddau hyn sydd eglur wrth bobl Israel, y rhai yr oedd eu haberthau a'i hoff­rymmau, a'i gweddiau, a'i gweithre­doedd da eraill, yn fynych yn ffiaidd ger bron Duw, er ei fod ef ei hun yn eu canmol ac yn eu gorchymmyn; am fod y rhai oedd yn eu gwneuthur hwy yn byw mewn pechod ac anwiredd, fel y mae 'r prophwyd Esay yn ei ddangos yn he­laeth. Y cyntaf a ddangosir yn amlwg ddigon wrth ddammeg y morwynion angall, Esa. 1. Luc 13. Mat. 25. y rhai er eu bod yn lân oddi­wrth bechod, er hynny am na wiliasant, hwy a gaewyd allan. Ac ar ddydd y farn ddiweddaf y dywed Christ wrth y y rhai colledig, Am da ddilladasoch fi, am na roasoch i mi fwyd, am na wnae▪ thoch y gweithred oedd eraill o gari­ad persfaith, oedd ddyledus arnoch yn eich galwedigaerh; Mat. 25. am hynny ewch oddiwrthyf rai melldigedig i'r tan tragywy­ddol [Page 32] yr hwn a barotowyd i ddiafol ac i'w an­gylion. Wrth hynny y mae pob vn o'r ddau yn anghenrhaid i gristion wrtho i wasana­ethu Duw: ac mor anghenrhaid ac na wna lles y naill heb y llall. Ac am y cyntaf o'r ddau, yr hwn yw gwrthwynebu pechod, fe a orchymynnir i ni ei wrthwyne­bu hyd angeu, ie hyd golli ein gwaed, os bydd rhaid hynny; Heb. 12. Eph. 5. Iac. 4. 1 Pet. 5. ac mewn amryw leoedd o'r yscrythur lân y mae yspryd Duw yn ewyllysio ini ymbarotto i ac ym­dacclu i wrthwynebu 'r cythrael yn wrol, yr hwn sydd yn ein temptio ni i b [...] ­chu: ac ni a ddylem ei wrthwynebu mor gwbl ac mor berffaith ac nad ymroddom o'n bodd a thrwy wybod, i wneuthur vn pechod, nac ar air, nac ar weithred, nac ar feddwl calon; yn gymmaint a bod pwy bynn [...]g a gyd [...]ynio yn ddirgel yn ei galon ar wneuthur pechod pe cai amser, a chyfle, a gallu i'w wneu­thur; trwy farn yr yscrythur lân yn eu­og o bechod, Mat. 5. yn gystal a phettai eisus wedi gwneuthur y weithred. Exo. 12. Deut. 5. A thu ac a [...] am yr ail, yr hwn yw gwneuthur gweithredoedd da, y mae Duw yn ein hannog i'w gwneuthur yn aml, yn ddy­fal, Preg 9.10. yn llawen, ac yn ddibaid; canys fel hyn y dyweid yr Scrythur, Beth byn­nag a ymaelo dy law ynddo i'w wneuthur, gwna a'th holl egni; A thrachefn, Rhodi­wch yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu [Page 33] bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gwei­thred dda: A thrachefn y dywaid S. Paul, Tra fôm yn cael amser cyfaddas, Col. 1.10. gwna­wn dda i bawb. A thrachefn yn yr vn lle Na ddiogwn yn gwaeuthur daioni, Gal. 6.10. canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. Ac mewn man arall y mae 'n ewyllysio i ni fod yn siccr, ac yn ddiymmod, Gal. 6.9. ac yn helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oesta­dol, 1 Cor. 15.58. a ni yn gwybod nad yw ofer ein llafur yn yr Arglwydd.

6 Wrth hyn y gellir gweled, frodyr anwyl, mor berffaith o greadur ydyw Christion da, hynny ydyw, fel y mae S. Paul yn dywedyd am dano, mai Gwaith Duw ydyw, wedi ei greu yn Ghrist Iesu i weithredoedd da, Eph. 2.10. y rhai a ddarparodd Duw iddo rodio ynddynt. VVrth hyn, meddaf, y gwelir mor berffaith o fuchedd yw bu­chedd Cristion: yr hon yw gwrth wynebu pob pechod yn ddibaid, mewn meddwl, gair, a gweithred; a gwneuthr a chy­flawni pob gweithred dda, ar a fo pos­sibl' iddo feddwl am dani. O Dduw, ond buchedd angylion yw 'r cyfryw fuchedd, ie mwy na buchedd angylion, oblegid nad oes i'r angylion, gan eu bod eisus mewn gogoniant, na themptasiwn pe­chod i'w wrthwynebu, na gweithred dda ar a allont eu gwneuthur (fel y­dwedom felly) er mwyn chwanegu ar eu gogoniant.

[Page 34]7 Pe buchedd ai Gristianogion yn ôl eu dylêd honno, sef gwneuthur o honynt gwbl ac a allent o ddaioni, ac na chydsynient vn amser â drygioni, pa raid fyddei agos wrth vn gyfraith fyd? ond llywodraeth wych fyddei Gristiano­gaeth? Pwy ni bydd ryfedd gantho e­samplau llawer o'n hôn dadau duwiol ni, yn y rhai y dywedir bod cymmaint o ddisymlrwydd a diniweidrwydd, cym­maint o wirionedd, ac o gydwybod, ac o eluseni, ac o burdeb, ac o rin­wedd, ac o grefydd a defosiwn da? A'r achos oedd eu bob vn o honynt fel y rhoddai Duw'r grâs iddo, yn astud ar y ddau bwngc hynny o ddylêd Christion, ac yn gwneuthur eu goreu ar eu cyflawni, A ninuau, am nad ydym yn edrych am y pethau hyn, ydym wedi myned mor ddrwg-fucheddol, a chymmaint ein han­wiredd ac a fu'r cenhedl-ddynion a'r rhai digred erioed. Ac etto yr vn Duw ydyw Duw yn wastad, ac ni dderbyn efe ond yr vn cyfrif ar ein dwylo ni, ac a dderbyniodd ar law ein hên dadau ni, am gyflawni 'r ddwy ran hyn o'n dylêd ru ac atto ef. Pa beth wrth hynny a ddaw a honom ni y rhai nid ydym yn byw yn yr vn o'r ddwyran yn gyffelyb iddynt hwy? Ac os ystyriwn y pethau hyn ym mhellach bob vn ar ei ben, pwy yn y dyddiau hyn, o'r Christianogion [Page 35] cyffredin sydd yn cymmeryd poen yn y byd yn y rhan gyntaf, sef yn gwrthwy­nebu trachwantau pechod; diammeu fod llawer o ddirgel wasanaethwyr Duw yn gwneuthur hynny, ond o'r rhai sy'n dwyn enw Christianogion ac sydd am [...]af yn ymdrin yn y byd, pwy o honynt hwy, meddaf, sydd yn ei wneuthur▪ Y trachwant yma, a'r tuedd naturiol sydd ynom i bechu, yr hwn sy wedi ei adael ynom megis gweddillion o'n clwyf naturiol yn gospedigaeth am bechod ein cyntad Addaf, hwnnw, meddaf▪ Aug. li. 2. com▪ Iulian▪ & lib. 1 de pec. mer. c. vlt Io. Cassi­an. li. 5. cap▪ 22. & dein­ceps. sydd wedi ei adael ynom ni ar ôl ein bedyddio, ad ag [...]nem, hynny ydyw i ymdech ag ef ac i'w wrthwynebu. Ond ôch Dduw, l [...]ied o Gristianogion sydd fel y dylent yn gwrthwynebu drwg feddyliau yr tra­chwant hwnnw? Pwy sydd vn amser yn holi ei gydwybod o'i blegid? Pwy nid yw fynychaf yn cyttuno yn ei fe­ddwl a'i galon, â phob meddylfryd a fo dim difyrrwch na digrifwch bydol yn ei ganlyn, fel y mae cybydd dod, ll [...]d, dial, balchder, serch i anrhydedd, ac yn bennaf o gwbl, anlladrwyd ac e­raill o fryntion bechodau 'r cnawd; a hynny er eu bod yn gwybod wrth a ddy­wedodd ein Iachawdur Christ ei hun, sod cyttundeb a chydsyniad y meddwl a'r galon, Mat. 5. (o ran sylwedd pechod) gym­maint a phe gwneid y weithred, ac yn [Page 36] gwneuthur yr enaid yn euog o golledi­gaeth dragywyddol.

8 Peth rhyfedd ei ystyried ydyw, a pheth a allai beri i ddyn synnu wrth fe­ddwl am dano, faint y gofal, a'r ofn, a'r diwydrwydd, a'r boen, a gymmerai yr hên wyr duwiol gynt yn gwrthwyne­bu pechod; a lleied a gymmerwn nin­nau yr awrhon. Iob gyfiawn, er nad oedd iddo ond llai o achos i ofni nag sydd i ni, Iob. 9.28. a ddyweid am dano ei hun, Felly y mae 'r lla­din yn ei gyfiaithu. Ofnais fy holl weithredoedd, (ô Arglwydd) am fy mod yn gwybod nad arbedi di mo'r rhai a becho yn dy erbyn. Ond y brenhin duw­iol gan Ddafydd, yr hwn a brofasei eisus drymmed oedd law Dduw am gyttuno yn y galon â phechod, y mae efe yn dan­gos ei fod yn fwy ei ofal a'i ofn, pan yw yn dywedyd, Psal. 77.6. Yr ydwyf yn myfyrio 'r nôs, yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon, fy yspryd sydd yn chwilio yn ddyfal; neu fal y mae rhai yn ei gyfieithu, mi a ysgubais, ac a lanweithiais fy yspryd o'm mewn. Pa ddyfal chwilio a holi ar galon, a me­ddwl, a chydwybod, oedd hyn gan fren­hin? Ac nid oedd hyn i gyd ond i gei­sio gochel a gwrthwynebu pechod. Ac felly y gwnai S. Paul, yr hwn a holai ei gydwybod morddichlyn, ac a wrthwy­nebai bob temptasiwn mor ddyfal ac mor ddiwyd, ac y gallai ddywedyd am da­no ei hun, nad oedd ef yn gwybod ei [Page 37] fod yn euog o ddim yn ei weinidogaeth: 1 Cor. 4. er ei fod yn cyfaddef mewn man arall ei fod ef trwy ordinhâd Duw yn cael gan y cythrael demptafiwnau garwslin chwe­rwdost yn y cnawd. 2 Cor. 1 [...]. Etto trwy râs Christ efe a'i gw thwynebodd ac a'i gorchfygodd i gyd oll. Ac fel y gallai gyflawni hynny yn well, y mae yn gyffe­lyb ei fod ef yn cymmeryd help a chy­morth iawn ymprydio, a thaer weddio, a dyfal wilio, a thost gospi ei gorph â'i wastadol a'i lasurus fowrboen yn ei alwe­digaeth, am yr hyn y mae yn crybwyll yn ei epistolau. Ac felly y byddai gwyr Duwiol eraill, wrth ei esampl ynteu, 2 Cor. 6. & 11. 1 Tim. 1. 1 Cor. 9. yn arfer o gymmeryd y cyffelyb help a chy­morth, fel y bai haws iddynt withwyne­bu temptasiwnau pechod pan fyddai raid. Ac o'r cyfryw y gallwn ymma ad­rodd llawer o esamplau allan o'r hên Da­dau: y rhai a allai beri i ddyn ryfeddu a dychrynu ac ofni (o bai nac ofn na dy­chryn yn ei galon ef) wrth weled y ddygn boen a'r dirfawr ddyfalwch a gymmerai yr hên Gristianogion hynny gynt, i wilied ar bob dichell o'r eiddo'r cythraul, er lleied fai, ac i wrthwynebu pob temptasi­wn a drwg feddwl i i bechu, er lleied fy­ddaint: a ninnau heb feddwl vnwaith am y cyfryw beth, na gwneuthur cyfrif yn y byd nac o ddrwg feddwl, nac o gyttundeb calon i bechu, nac o air, nac [Page 38] o weithred: ond ymroi yn rhwyd i bob peth ac y mae ein trachwantau ein hu­nain yn ein harwein iddo; a llyngcu pob bach ac y mae 'r cythrael yn ei osod i ni, ac yssu yn dra chwannog bob abwyd gwenwynig ac a gynnygio ein gelyn i ni er mwyn destrywio ein heneidiau, os ni a'i clywn yn felys ac yn beraidd. A hyn­ny am wrthwynebu pechod.

9 Bellach am yr ail pwngc, ynghylch ymarfer beunydd o weithredoed da, y mae 'n amlwg ein bod ni i gyd gan mwy­af yn ddiffygiol yn y pwngc hwn. Mi a ddangosais o'r blaen fel y mae 'r Scry­thur lân yn gorchymmyn i ni wneuthur gweithredoedd da, yn wastadol, ac yn ddyfal tra castom amser, a lliw dydd i'w gwneuthur hwy: oblegid, fel y dyweid Christ, Io. 6. Y mae 'r nos yn dyfod, pryd na allo neb weithio. Mi a allwn ddangos hefyd fel yr oedd llawer o Sainct Duw a'n hên dadau ninnau, yn ddyfal iawn ac yn o­falus yn eu dyddiau am wneuthur gwei­thredoedd da, fel y mae 'r llafurwr yn ofalus am fwrw ei hâd yn y ddaiar tra fo'r hin yn dêg, ac fal y mae 'r marsian­dwr yn gofalu am wario ei arian tra fo'r farchnad yn dda. Gal. 6. Phil. 2. Hwy a wyddent yn dda na pharhaei 'r amser yn hir oedd iddynt hwy i weithio ynddo; ac am hynny yr oeddynt yn cymmeryd poen tra caent amser: ni orphywysent hwy [Page 39] vn amser ond myned rhagddynt o'r naill weithred dda i'r llall, gan wybod yn dda beth yr oeddynt yn ei wneuthur, ac mor gymmeradwy gan Dduw oedd y gwasanaeth hwnnw.

10 Pettai heb ddim arall i brofi eu rhyfeddol ofal a'i diwydrwydd hwy yn hyn obeth; etto y mae 'r Oblegid er hod lla­wer o'r cy­fryw bethau wedi eu gwneuthur mewn coel­fuchedd, et­to yr oe­ddynt wei­thiau yn arwyddion digon eglur o'i gofal hwy i wneu­thur daioni yn ôl eu­gwyboda­eth. coffadw­riaethau a adawsant hwy ar eu hôl o'i helusenau yn dystiolaeth ddigon amlwg o hynny: sef yr aneirif o eglwysi a adeiladwyd, ac a gynnysgaeddwyd â helaeth fawr gyfoeth i gynnal ei gwei­nidogion; cynnifer o ysgoliono ddysg▪ cynnifer o bonnydd, o briffyrdd, ac o ddaioni arall o'r cyffelyb. Y gweithie­doedd elusengar hynny (heb law miloedd eraill o rai neillduol a chyffred in, dirgel ac amlwg) a ddaeth allan o byr­sau ein hên dadau duwiol ni, y rhai yn fynych a roesant nid o'i helaethrwydd yn vnig, ond a arbedent hefyd allan o'i ge­neuau a'i boliau ei hunain beth i'w wario ar weithredoedd da, er gogoniant i Dduw, a llês i eraill: A ninnau cyn belled oddi­wrth roi dim o'n hangenrheidiau, ac na allwn hepcor dim o'n gweddill a'n gor­modedd tu ac at y cyfryw weithredoedd: haws gennym ni o lawer ddwyn yr hyn a roes eraill, a'i wario ar ein gweilch a'n cŵn, a'n hanifeiliaid eraill, neu ar bethau a fo gwaeth; nag ar dorri ne­wyn [Page 40] ac eisiau ein cydfrodyr tlodion.

11 Och Dduw, frodyr anwyl, mor ddi­ofal, ac mor ddiddarbod, ac mor ddifat­ter am ein icchydwriaeth a'n damnedi­gaeth, yr ydym ni wedi myned. Y mae S. Paul yn llefain arnom am weithio all­an ein hiechydwriaeth ein hunain drwy ofn a dychryn: Phil. 2.12. ac er hynny nid oes neb yn gwneuthur cyfrif yn y byd o hynny. Y mae S. Petr yn ein rhybuddio ni yn ddwys ac yn ddifrif, 2 Pet. 2.5.6.7. &c. i fod yn ofalus am wneuthur ein galwedigaeth, a'n hetho [...]ediga­eth yn siccr trwy weithredoedd da: ac etto pwy agos sy'n meddwl am danynt. Y mae Christ ei hun hefyd megis yn rhoi diasbad yn y geiriau hyn, Y [...] wyf yn dy­wedyd i chw [...], gwaewch i chwi ( [...]n) byd hwn) gyfeillion o'r golud anghyfiawn, Luc. 16.9. f [...]l pan fo eisieu arnoch i'ch derbyniont i'r tra­gywyddol bebyll: ac er hyn i gyd nid yd­dym ni yn cyffroì gronyn: [...]or fusgrell ac mor feirwon ydym i bob daioni.

12 Pettei Dduw yn ein hannog ni i wneuthur gweithredoedd da er mwyn llê [...] iddo ei hun, neu er mwyn elw yn y byd a allai ddyfod iddo ef oddiwrth ein gwaith ni yn gwneuthur daioni: etto ni a ddylem wrth bob rheswm wneuthur cymmaint a hynny o gymmwynas iddo, gan nad oes gennym ni ddim ar sy gen­nym ond a gawsom o'r blaen ar ei law haelionus ef. Ond gan nad yw efe yn [Page 41] gofyn hynny ar ein dwylo ni am fod yn rhaid iddo ef wrthynt, ond er llês a thwrn da i ni ein hunain, ac er mwyn cael ta­lu i ni am danynt hwy gydag elw; y mae yn fwy o lawer yr achos i ni i wrando arno. Pettei wr honest o'r byd yn erfyn arnom wneuthur rhyw beth, ac ar ei honestrwyddd yn addaw ein bodlo­ni ni yn helaeth am ei wneuthur, ni wnaem ni lai nâ'i goelio ef yn hawdd: ond er bod Duw yn yr Scrythur lân yn gwneuthur i ni aneirif o addewidion ar dalu i ni yn helaeth am wneuthur daioni, (sef y cawn ni fwytta gydag ef, ac yfed gydag ef, Luc. 22. Mat. 15 Rom. 8. Apoc. 2▪ a theyrnasu gyd ag ef, a meddiannu nef gydag ef) etto nid yw hynny i gyd abl i gynnhyrfu gronyn arnom ni i wneuthur gweithre­doedd da. Ond am fod y pethau hyn yn cynnhyrfu ein hên dadau ni i ddaio­ni, megis rhai yr oedd eu calonnau o fettel feddalach nag y mae yr eiddom ni; am hynny yr oeddynt hwy yn dwyn ffrw­yth cyn helaethed ac y dangosais i chwi.

13 O gwbl ac a ddywedais y gall Christion duwiol gasglu 'r pethau hyn, yn gyntaf mor druan ac mor ofidus yw cy­flwr y byd yn y dyddiau hyn, gan fod cynnifer o'r rhifedi bychan sy'n dwyn enw Christianogion, yn debyg i fyned i golledigaeth, eisiau cyflawni 'r ddau brif-bwngc yma o'i galwedigaeth. Yn [Page 42] ail y gall weled yr achos a bair fod mor anfeidrol y rhagor sydd rhwng gwob [...] y da a'r drwg yn y fuchedd a ddaw [...] yr hyn sydd ryfedd gan lawer; ond mewn gwirionedd y mae y rhagor hwnnw ar wobr or fath gyfiawnaf ac o'r fath resymmolaf, gan fod cymmaint o ragor rhwng buchedd y da a'r drwg tra font yn y byd hwn. Oblegid y mae 'r da nid yn vnig yn gwneuthur ei oreu ar ochel pechu, ond hefyd wrth ochel pechu yn cynnyddu bob awr beunydd mewn ffafor gydâ Duw: ac y mae 'r diofal a'r drwg wrth ymroi o gyttundeb ei galon i'w drachwant ei hwn, nid yn vnig yn colli ffafor Duw, ond hefyd yn chwanegu pechod at bechod heb rifedi. Y mae 'r gwr da heb law ei fod yn gochel pechu, yn gwneuthur hefyd aneirif o weithredoedd dâ, o'r hyn lleiaf mewn ewyllys calon, lle ni bo gallu i'w gy­flawni ar weithred. Ond yr annuwiol, nid ydynrhwy nac ar ewyllys nac ar wei­thred yn gwneuthur dim daioni, ond yn hyttrach ceisio yn lle hynny wneuthur drygioni. Y mae 'r gwr duwiol da, yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i feddwl, a'i galon, a'i eiriau, a'i weithredoedd, ar wasanae­thu Duw, a'i weision er ei fwyn ynteu. Ond yr annuwiol sydd yn rhoi cwbl o'i fryd, a'i egni, a'i allu ar wasanaethu gor­wagedd ac oferedd, y byd a'r cnawd. Fel, [Page 43] megis ac y mae 'r duwiol yn cynnyddu beunydd yngwasanaeth Duw, am yr hyn y mae Duw yn rhoi iddo ynteu gynnydd grâs yn y byd yma, a gogoniant yn y nef: felly y mae 'r annuwiol ynteu o amser i amser, ar feddwl, neu air, neu weithred, neu ar bob vn, yn pentyrru pechod a damnedigaeth ar ei wartha ei hun; am yr hyn y mae dialedd yn ddy­ [...]edus, a chynnydd poenau yn vffern. Felly y mae pob vn yn wrthwyneb eü helynt iw gilydd, yn treulio eu hoes tros vgain neu ddêg ar hugain neu ddeu­gain o flynyddoedd, ac felly o'r diwedd yn marw. Ac onid yw resymol, gan fod cymmaint o ragor rhwng helynt buchedd pob vn o'r ddau, fod cymmaint rhagor hefyd, neu fwy, rhwng tâl a gwobr pob vn o'r ddau? Yn enwedig gan fod Duw yn Dduw mawr, ac yn arfer o da­lu gwobr mawr am bethau bychain, naill ni o gogoniant tragywyddol, ai o boe­nau tragywyddol. Yn drydydd ac yn ddiweddaf y gall y Christion dyfal go­falus gasglu o'r hyn a ddywerpwyd, faint yw'r achos iddo i wneuthur cyngor S. Paul, hynny yw, Gal. 6.4. bod i bob dyn brofi a holi ei waith ei bun: ac felly bod yn abl i farnu am dano ei hun, ym mha gyflwr y mae yn sefyll; ac os wrth ei holi ei hun y caiff weled nad yw ar yriawn, yn a bod iddo ddiolch i Dduw am wneuthur [Page 44] iddo cymmaint o gymmwynas a datcu­ddio iddo ei berygl, t [...]a fo iddo amser a chyfle i wellhau ei fuchedd. Diam­mau fod llawer yn myned i golle diga­eth beunydd trwy gyfiawnder Duw yn eu hanfad anwybodaeth eu hun, y rhai pe buasem heb gael ond hyn o ffafor, sef cael gweled y pwll cyn iddynt syr­thio ynddo, fe allei y gallesynt ei o­chel. A fer ditheu (fy anwyl frawd) drugaredd Duw erllês i ti dy hun, ac nid i chwanegu ar dy ddamnedigaeth. Os ti a ganfyddi, wrth dy holi dy hun fel hyn, na buost ti fyw hyd yn hyn mcwn buchedd wir Gristianogawl: dô [...] gwbl o'th fryd ar ddechreu bellach, ac na fwrw y maith mo'th enaid gwerthfawr, yr hwn a brynodd Christ mor ddrûd, ac y mae efe yn barod iawn i'w gadw, ac i'w gynnysgaeddu â grâs ac â gogo­niant tragywyddol, pe dydi a'i rhoir ar ei law ef, a bod yn fodlon i vniaw­ni dy fuchedd wrth ei sancteiddiaf, a'i esmwyth, a'i felys ber orchymmyni­on ef.

PEN. V. Y tôst gyfrif a fydd rhaid i ni ei wneuthur i Dduw am y pethau a ddywetpwyd vchod.

YM mhlith cynneddfau eraill ar wâs synhwyrol dymma 'r hon a ddylid ei gadael yn bennaf, sef bod iddo ysty­ried pa gyfrif a ofynnir gantho am bob peth a osodwyd tan ei law ef; ac yn nesaf, pa fâth wr yw ei feistr ef, ai es­mwyth ai tôst, ai mwyn ai garw, ai difraw ai manwl yn ei gyfrif; hefyd pa vn a wna ei feistr ai bod yn abl iw gospi ef wrth ei ewyllys, os efe a'i caiff yn feius, ai na bo; ac yn ddiweddaf pa fodd y gwnaeth ei feistr ag eraill yn y cyfryw bethau: Oblegid, os bydd efe gwâs synhwyrol, efe a wŷl fel y gwna­eth ei feistr o'r blaen, ac wrth hynny fe fydd ynteu fwy ei ddyfalwch yn y pethau a roddwyd tan ei law ef.

2 Y cyfryw ddoethineb a ddymu­nwn ei bod gan Gristion, yn y pe­thau a ddywerpwyd o'r blaen, sef yng­hylch y diwedd a'r achos y danfonodd Duw ni ymma o'i blegid, a'r ddau bwngc arbennig a glwysoch fod arnom ni [Page 48] [...] [Page 49] [...] [Page 46] fod yn ofalus am eu cadw yn y byd hwn; hynny yw, bod yn rhaid i ni ys­tyried pa gyfrif a ofynnir ar ein dwy­lo ni am y pyngciau hynny, pa fodd y gofynnir, pwy a'i gofyn, dosted y gofynnir, a pha berygl a fydd arnom os ceir ni yn esgeulus ac yn ddiffygiol yn ein cyfrif.

3 Ond fel y gallom ddeall hynny yn well, rhaid i ni edrych yn gyn raf, wrth ba drefn, ac â pha ceremoniau ac amgylchion y gorchymmynnodd Duw i ni 'r pethau hyn, ac y gwnaeth ac y cyhoeddodd efe 'r Gyfraith hon, i ddan­gos pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag atto ef, a'i wasanaethu. Oblegid er rhoi o honaw ef yr vn gorchymmyn i Addaf wrth ei wneuthur ef, a'i blannu wedi hynny wrth naturiaeth ynghalon pob dyn, Rom. 1. & 7. cyn iddo ei scrifennu, (fel y tystia S. Paul) etto er mwyn ei ddangos yn eglurach, ac er mwyn ein hargyoeddi ninnau o bechod yn helaethach, (fel y dengys yr vn Apowol) efe a gyhoedd­odd yr vn gyfraith yn yfcrifennedig ar lechau ym mynydd Sinai; a hynny mor llawn o ddychryn ac arwyddion eraill o'i fawrhydi (fel y dyweid yr vn Apostol at yr Hebræaid) ac y gallai beri i'r rhai a'i torro synnu arnynt yn sawr. Gal. 3. Heb. 12. Dar­llenned y neb a fynno, yr amyn vnfed bennod vgain o Exodus, ac yno y caiff [Page 47] weled pa ymbarottoi a fu cyn cyhoeddi [...] gyfraith. Yn gyntaf fe alwodd Duw [...]oesen i fynu i'r mynydd, ac yno y mae [...]n cyfrif llawer o gymwynalau a wnae­ [...]hai efe i feibion Jsrael, ac yn addaw [...]ddynt lawer ychwaneg, os hwy a gad­went y Gyfraith a roddai efe iddynt; Moesen a aeth yn ei ôl at y bobl, ac a [...]dûg ei hatteb hwy at Dduw y cadwent [...]wy'r Gyfraith. Yna y parodd Duw i'r [...]obl ymsancteiddio erbyn y trydydd dydd [...] golchi eu dillad, ac na byddaii neb ym­gystlwn â'i wraig; ac a barodd orchym­myn iddynt, na byddai i neb o honynt, [...]an boen marwolaeth, ryfygu dyfod i fynu i'r mynydd ond Moesen ei hun, a pha beth bynnag a feiddiai gyffwrdd â'r mynydd, bod ei labyddio i farwolaeth. Pan ddaeth y trydydd dydd, yr oedd yr angylion (fel y mae S. Stephan yn deallt) yn barod i gyhoeddi 'r Gyfraith: Act. 7. Yr vt­cyrn a seinient yn vchel yn yr awyr: ta­ranau mawr a dorrodd allan o'r wybren, ynghyd â mellt creulon, a chymmylau erchyll, a niwl dudew, a mwg ofnadwy yn codi o'r mynydd. Ac ynghanol hyn oll o fawrhydi, a dychryn ofnadwy, Duw ei hun a lefarodd, lle y clywai pawb, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, Exo. 20. Deut. 5. a'th ddug di allan o dir yr Aipht; Myfi yn vnig a wasanaethi: ac fel y mae 'n canlyn; lle y dangosir yn berffaith ac [Page 48] yn gwbl beth yw ein dyléd ni yn y by [...] hwn, a hynny a alwn ni yn gyffredi [...] DEG GORCHYMMYN DVVV.

4 A'r holl ddychryn a'r mawrhyd [...] hwnnw, y mae 'r Apostol ei hun, fe [...] y dywedais, yn ei ddeall fel hyn, sef y dylem ninnau fod arnom ofn ac arswyd mawr rhac torri 'r Gyfraith hon, a roes Duw i ni drwy gymmaint o ofn a dychryn: ac wrth hynny hefyd yr arwyddocceid y gofynnir cyfrif tôst dy­chrynllawn ddydd farn am dorri 'r Gy­fraith hon, gan ddarfod ei chyhoeddi ar y cyntaf drwy gymmaint o ddychryn­dod ac ofn. Canys felly y gwelwn ni bob amser, am gyfreithiau tywysogion bydol, fod yn fwy 'r ofn a'r dychryn wrth gospi rhai am eu torri, nag wrth eu cyhoeddi. A hyn a all fod yn rheswn cadarngryf i beri i Gristion edrych am wneuthur a ddylai.

5 Yn ail, os ystyriwn mor dôst yr arferai Duw o gospi rhai a dorrei ei Gyfraith ef, yn gystal cyn ei scrifennu a chwedi ei scrifenu, ni a gawn weled fod i ni ddigon o achos i ofni: megis y gospedigaeth ryfeddol a reed ar Addaf, Gen. 3. ac ar gynnifer myrddiwn o'i heppil, am ei vn pechod ef; darfod bo­ddi 'r holl fyd ar vnwaith; Gen. 7. darfod llos­gi Sodoma a Gomorrah a thân a brwm­stan o'r nef; Gen. 19. ddarfod gwrthod Saul; [Page 49] a rhoi dygn gospedigaeth a'r Ddafydd, 1 Sam. 28. 2 Sam. 12. a'r cyffelyb. Y cospedigaethau hyn a roes Duw cyn drymmed, am bechodau llai o bwys, a llai o rifedi nâ 'n pecho­dau ni, a hynny ar y rhai yr oedd i­ddo mwy o achos i'w ha [...]bed nag sydd iddo [...] 'n harbed ni; y rheini meddaf, a all fod yn rhybydd i ni, i ddangos beth sydd i ni i'w ddisgwyl ar law Dduw am dorri 'r Gyfraith ymma a roes efe i ddysgu ini ei wasanaethu ef yn y byd yma.

6 Yn drydydd, os ystyriwn ymad ro­ddion ac ymddygiad ein Harglwydd a'n meistr Christ yn y peth hyn, ni a gawn etto weled mwy o achlysur i ni i ammeu 'n cyflwr ein hunain; yr hwn er ei ddyfod i'r byd i'n prynu ni, ac i faddeu i bawb, yn llawn llarieidd-dra, ac addfwynder, a gostyngeiddrwydd, a gwarder, a thrugaredd; etto yn y pwngc yma o gymmeryd cyfrif, nid yw efe arfer o ddangos ei fod ond yn dôst ac yn galed iawn, a hynny nid vnig ar eiriau, ac yn ei ymddiddanion cyfeillgar rhyngtho a'i ddiscyblon, ond hefyd trwy esamplau, a dammhegion, i'r perwyl hynny. Mat. 25. Canys felly mewn vn ddammeg y mae efe yn damnio y gwâs truan hwnnw i vffern (lle bydd wylo­fain a rhincian dannedd, lle ni bydd marw 'r pryf ac ni ddiffydd y tân) am [Page 50] na buasai yn chwanegu 'r dalent a roesid atto. Ac yno y mae Crist yn cyfaddef am dano ei hun, ei fod ef yn wr tôst caled, yn medi lle nis hauodd, ac yn casglu lle nis gwascarodd, ac yn disgwyl elw ar ein dwylo ni am y dalent a roes efe ini ym menthyg, ac heb gymmeryd yr ei­ddo ei hun heb elw: ac wrth wneuthur hynny y mae efe megis yn bygwth y bydd efe tostach o lawer wrth y rhai a gamdreulio eu talentau, fel y mae y rhan fwyaf o honom ni yn gwneuthur. Hefyd, y mae efe yn damnio 'r gwâs a gafodd efe 'n cysgu: Mat. 24. y mae efe 'n dam­nio 'r dyn truan a gymmhellwyd i ddy­fod i'r neithior, Mat. 22. heb ddim achos ond am na bai ganddo wisg priodas am dano: y mae yn damnio 'r pum morwyn angall, Mat. 25. am nad oedd ganddynt olew yn eu lampau, ac am nad oeddynt barod, yn vnion ac yr awr, i fyned i mewn gydag ef, ac ni fyddei wiw gantho eu hadnabod pan ddeathant wedi hynny: ac yn ddiwe­ddaf, y mae efe yn addo damnio pawb a wnel anwiredd, Mat. 13: fel y tystia S. Mat­thew.

7 Hefyd, pan ofynnodd rhyw ben­naeth iddo, pa fodd y gallai fod yn gadwedig, ni roddai efe iddo ddim gwell gobaith, er ei fod yn dywysog (ac yn­teu yn ceisio iechywriaeth wrth ei wei­thredoedd) ond hyn yn ynig, Os myn­ni [Page 51] fyned i mewn i'r bywyd, Luc. 18. cadw 'r gor­ [...]hymmynion. Ac wrth ymddiddan â'i ddisgyblon amser arall ynghylch yr vn peth, nid yw efe yn rhoi iddynt hwy amgen rheol nâ hyn, Mat. 19. O cerwch si cedwch fy ngorchymmynion. Megis pe dywedai, er cwpled yr ydych yn ddiscyblon i mi, ac er cued gennif chwi, etto os chwi a dor­rwch fy ngorchymmynion, ni bydd mwy na chariad na chymdeithas rhyngom. Ac y mae S. Ioan, yr hwn a wyddei ei feddwl ef oreu yn y peth hyn, Ion. 14. yn espo­ni ei eiriau efi'r deall hwnnw, lle y mae ▪n dywedyd, 1 Jo. 2.4. Pwy bynnag sydd yn dywe­dyd, Mi a adwaen Dduw, ac ynteu heb gàdw ei orchymmynion ef, celwyddogydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. Ac ym mhell­ach etto, er mwyn tynnu pob gobaith oddiwrth ei ddiscyblon, y gellynt ryn­gu ei fodd ef mewn ffordd yn y byd ond trwy gadw ei orchymmynion, Mat. 5.17. y mae efe ▪n dywedyd mewn man arall, na ddaeth efe i derri 'r Gyfraith end i'w chyflawni; ac yn y man ar hynny y mae yn dywe­dyd, Gwers. 19. Pwy hynnag gan hynny a derro vn o'r gorchymmynion lleiaf hyn, efe a elwir yn lleiaf yn aheyrnas nefoedd. Ac o'r achos hwnnw y mae efe wrth ymadael â'r byd, yn y geiriau diweddaf a ddywedodd efe wrth ei Apostolion yn dywedyd, Am iddynt ddyscu i ddynion gadw pob peth a'r a orchymmynnasai efe iddynt. Mat. 28.20

[Page 52]8 Ac wrrh hyn y gellir gweled mor dôst oedd feddwl Crist am y cyfrif a fydd rhaid ei wneuthur ynghylch cadw ei or­chymmynion ef yn y byd hwn. Yr hyn hefyd a ellir ei gasclu wrth yr hyn a ddywedodd efe pan ofynnid iddo ai ychy­dig o nifer fyddei y rhai cadwedig, lle y mae efe yn eu cyrghori hwynt i' ymdrech am fyned i mewn trwy 'r porth cysyng: Luc. 13.23.24, 27. o herwydd y ceuir allan lawer, ië o'r rhai a fwyttasent ac a yfasent gydag ef, ac a gawsent fwynhau presennoldeb a chwm­peini ei gorph bendigedig ef, ac heb fat­ter ganddynt am fyw yn ôl ei orch ymmy­nion ef. Ac wrth hynny y mae efe yn arwyddoccáu na wna efe gyfrif yn y byd o gymdeithas a chydnabod yn y dydd diweddaf; ac am hynny y mae efe yn dywedyd wrth y dŷn a wnaethai efe yn iach ar lan y llynn yn Ierusalem, Ioan. 5.4. Wele ti a wnaethbwyd yn iach, na phecha mwy­ach, rhag digwyda i ti beth a fyddo gwaeth. Ac y mae yn ein rhybuddio ni 'n gyffredinol yn Efengyl S. Matthew, ar i ni gyttuno a'n gwrthnebwr ar frys tra fôm ar y ffordd gyd ag ef, Mat. 5.25. hynny yw, gwneuthur ein cyfrif yn y fuched hon; Gwers. 26. os amgen, ni a gawn dalu 'r ffyrling eithaf yn y fuchedd a ddaw. Ac yn dostach y dywaid mewn man arall y bydd rhaid i ni roddi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedom. Mat. 12.36

[Page 53]9 Ac am y dydd farn hwnnw y mae efe yn ein rhybuddio ni ym mlaen llaw, ac yn dywedyd i ni, mewn llawer o leoedd yn yr Scrythur lân, dosted a pher­yccled fydd, fel y gallem ymbarottoi tu ag atto; ac felly vniawni ein bu­cheddau tra caffom amser yn y byd hwn, fel y gallom ddyfod ger bron yn y dydd hwnnw, heb nac ofn na pherygl, ië yn hyttrach, yn llawn cyssur, a diddan­wch, a llawenydd: pan ddêl cymmaint o filoedd o bobl annuwiol yno ger bron, i'w gwaradwydd a'i gwarth tra­gywyddol.

10 Ac o herwydd nad oes dim mor gymmwys i ddango [...] dosted a fydd Crist wrth gymmeryd cyfrif y dydd diweddaf, ac ydyw trefn a dull y farn ddiweddaf, yr hyn a ddangosir yn ddyfal yn yr yscry­thur lân; fe fydd perthy nol iawn i ni ys­tyried hynny. Ac yn gyntaf peth y mae 'n rhaid i ni ddeall fod dwy farn wedī eu hordeinio i ni yn ôl marwolaeth: y naill a elwir yn farn neillduol, wrth yr hon y mae pob dyn ar ei ben ei hun yn y man ar ôl ymadael â'r byd, yn cael barn o'r neilldu, naill ai i boenau, aī i ogoniant, yn ôl ei weithredoedd yn y fuchedd hon, fel y dywaid Christ ei hun. Io. 5. Mat. 25.16. Ac o hynny y mae i ni esampl yn Lazarus a'r glwth goludog, y rhai a gymmerwyd ymmaith yn y man ar ôl [Page 54] eu marw, y naill i boenau, a'r llall i orphywysdra, Luc· 16. fel y tystia S. Luc. A chyndynrwydd mawr fyddei ammeu hyn▪ fel y dywaid S. Awstin. Y farn arall a elwir yn farn gyffredinol, Li. 2. de [...]nima. c. 6. am y bydd honno i bob dyn yn niwedd y byd, pan gyhoedder y farn ddiweddaf ar bob dyn a fu erioed fyw yn y byd, naill ai i dderbyn gwobr, ai i gael cospedi­gaeth, yn ôl y gweithredoedd a wnae­thant yn y bywyd hwn, pa vn bynnag ai da, ai drwg, ac na bydd byth mwy sôn am gyfnewid eu cyflwr hwynt, nac am esmwythau ar boenau 'r naill, nac am ddibennu gogoniant y llaill.

11 Ac ynghylch y gyntaf o'r ddwy farn hyn, erbod yr hên dadau (yn en­wedig S. Awstin) yn casglu ac yn ystyri­ed y bydd ynddi amryw bethau tôst ac ofnadwy iawn, megis yn gyntaf myne­diad ein henaid ni allan o'r corph ger bron gorseddfaingc Duw, a hynny tan gadwraeth angylion da a drwg; yn ail, yr ofn a fydd ar yr enaid rhag pob vn o'r ddeufath angylion hynny; yna, mor ddieithr ddisymmwth fydd gan yr e­naid y lle y bydd ynddo; wedi hynny, mor osnadwy fydd presennoldeb Duw, a'r holi tôst a fydd arno, a'r cyffelyb: etto, o herwydd bod yn rhaid ystyried y rhan fwyaf o'r pethau hyn yn yr ail farn gyffredinol hefyd; mi âf heibio i'r [Page 55] rhai hynny yr awron, ac a ddangosaf amryw resymmau o'r eiddo 'r tadau duwiol pa ham y mae Duw wedi ordei­nio bod ail barn gyffredinol, ac ynteu wedi darfod iddo yn y farn gyntaf, roi i bawb o'r neilldu yn ôl ei haeddedi­gaeth. 1 Y rheswm cyntaf yw, fel y by­ddai gorph dyn yn ôl ei gyfodi o'r bêdd, yn gyfrannog o gospedigaeth neu o ogoniant ynghyd â'r enaid, fel y bu gyfrannog gydag ef o rinwedd neu o 2 gamwedd yn y fuchedd hon. Yr ail yw, fel megis ac yr ammharchwyd ac y gwar­thruddiwyd Christ ar gyhoedd ymma yn y byd hwn, felly y gallai yn helaethach o lawer ddangos ei fawredd a'i allu yn y dydd diweddaf yngwydd ei holl greadu­riaid, 3 ac yn enwedig yngwydd ei elyni­on. Y trydydd yw, fel y gallai 'r duw­iol a'r annuwiol dderbyn eu tâl a'i gwo­br ar gyhoedd, er mwyn cael o'r naill ychwaneg o warth, a gofid a thorr cal­on, ar llaill ychwaneg o lawenydd a 4 gorfoledd, er eu bod fynychaf yn cael yn y byd hwn eu gorthrechu gan yr an­nuwiol. Y pedwerydd yw, Nad ydyw y rhai annuwiol wrth farw yn dwyn gydâ hwynt mo'i holl haeddedigaeth a'i drygioni, am eu bod yn gadael yn eu hôl naill a'i eü hesampl ddrwg, ai eu plant ai eu cyfneseifiaid a ddarfu iddynt hwy eu llygru, ai eu llyfrau neu ryw be­thau [Page 56] eraill a all mewn amser lygru e­raill. Ac oblegid na wnaed y pethau hynny etto, ond eu bod heb wneuthu [...] hyd ar ôl eu marwolaeth hwy, ni allan [...] hwy mor gymmhesur gael eu barnu am y pethau hynny yn y man; ond fel y digwyddo 'r drwg y rhoesant hwy gynt esampl i'w wneuthur, felly y chwanegir ar eu poenau hwythau. A'r vn pe [...]h a ellir ei ddywedyd am y rhai duwiol, yn gymmaint a bod S. Paul (os mynnwch gael esampl) yn cael chwanegu beunydd ar ei ogoniant, ac felly y caiff hyd ddi­wedd y byd, o blegid fod rhai beunydd yn cynnyddu mewn daioni oddiwrth ei scrifennadau a'i esampl ef; ac am yr vn achos y chwanegir ar boenau y rhai annuwiol. Ond yn y dydd diweddai y bydd diben ar em holl weithredoedd ni, ac yna y cair gweled yn amlwg pa beth sydd i bob dyn i'w gael, wrth gy­siawnder a thrugaredd Duw.

12 A thu ag at am yr ail farn gyff [...]e­dinol i'r holl fyd, yn yr hon y Dwg Duw, Preg 12 14 Rhuf 2.16. & 14.10. 1 Cor. 5.10. fel y dyweid yr Scrythur lân, bob gweithred i sarn, a phob peth dirgel, pa vn bynnag syddo ai da ai drwg; y mae amryw bethau i'w hystyried yn ei chylch, ac amryw wyr dysgedig yn rhoi y rhei|'ny ar lawr mewn amryw foddion; ond yn fy nhŷb i ni ellir eu dangos yn well, nac yn oleuach, nac yn ddwy­sach, [Page 57] nag y mae 'r Scrythur lân yn eu dangos, yr hon sydd yn yspyssu ini holl ddull a threfn y farn honno a'i gogylcheddau, a'r ymbarottoi a fydd o'i blaen, a hynny mewn geiriau llawn o arwyddoccâd, yn y modd y canlyn.

13 Yn y dy ad hwnnw y byda arwy­ddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r ser; Luc. 21.2 yr haul a dywyllir, a'r lleuad ni rydd ei goleu­ni, a'r sêr a syrth o'r nef, Mat. 25.2 a nerthoedd y n [...]foedd a ysgydwir; y nefoedd a ânt hei­bio gyd á thwrwf, a'r defnyddiau, Mar. 13.2 2 Pet. 3.1 gan wir wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir; a'r ddaiar a gryn o'i lle, Es. 13.3, 14. Luc. 21 ac a fydd megis ewig wedi ei thar­fu, ac fel d [...]fad heb neb a'i coleddo; bydd ing ar genhedloedd gan gyfyng-gyngor, a'r môr a'r tonnau yn rhuo, a dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaiar. Yna'r ymddengys ar­wydd mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau'r ddaiar, a hwy a welant fab y dyn yn dyfod ar gymmalau 'r nef, Mat. 24. gydâ nerth a gogoniant mawr. Mat. 25. Ac yna 1 Cor. [...] 52. mewn moment ar darawiad llygad, efe a ddenfyn ei angylion a mawr sain vdcorn, a gwaedd a gawr ar hanner nós, a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd, o'r pedwar gwynt, o eith [...]foedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. Mat 25 A rhaid î bawb ymddangos ger bron b [...]wdle Christ fel y derbynio pob vn y p [...]thau wnaethbwyd yn y corph, 2 Cor 5. [...] yn ôl yr byd a [Page 58] wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg; [...] Cor. 4.5 Luc. 12.3. Mat. 12.36. ac efe a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau 'r ca [...]onnau, a'r pethau a ddywedpwyd yn y glûst mewn stafelloedd a bregethir ar bennau tai: ac fe fydd rhaid rhoi cyfrif am bob gair segur a ddywedo dy­nion, ac efe a farn ein cyfiawnderau ni. Yna y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a ddiysty­rasant ei lafur ef. Psal. 75.3. Sic vulgat. Heb. [...]· Doeth. 5.1. A'r annuwiol pan we­lont hyn, a fyddant mewn dychryn ac ofn mawr, ac a ddecrhreuant ddywe­dyd wrth y mynyddoedd a'r creigiau, syrth­iwch arnom, ac wrth y bryniau cuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr or­seddfaingc, ac oddiwrth lid yr Oen: ca­nys daeth dydd mawr ei ddigter ef, Luc. 23.30. Dat. 6.16. Mat. 25.32 a phwy a ddichon sefyll? Yna y didola Christ y defaid oddiwrth y geifr, ac a esyd y de­faid ar ei ddeheulaw, a'r geifr ar yr asswy, ac a ddyweid wrth y rhai a fo ar ei ddeheulaw, Deuwch chwi fendigedigion fy nhad, meddiennwch y deyrnas a ba­rottowyd i chwi er seiliad y byd: canys bum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched, a rhoesoch i mi ddiod; bum ddieithr, a dygasoch fi gydâ chwi; bum noeth, a dilladasoch fi; bum glâf, ac ymwelsoch â mi: bum ynghar­char, a daethoch attaf. Yna 'r ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Pa bryd i'th welsom yn newynog, ac ith borth­asam; [Page 59] neu yn sychedig ac y rhoesam i ei ddiod? a pha bryd i'th welsam yn ddiei­thr, ac i'th ddygasom gydâ ni; neu yn noeth, ac i'th ddilladasom? A pha bryd i'th wel­sam yn glaf, neu yngharchar, ac y daeth­am attat? A'r brenhin a ettyb ac a ddy­wed wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i vn o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwna­ethoch. Yna y dyweid efe wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, Ewch oddiwrth­yf rai melldigedig i'r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i daiafol, ac i'w angy­lion: canys bum newynog, ac ni roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod; bum ddieithr, ac ni 'm dyga­soch gydà chwi; bum noeth, ac ni 'm di­lladasoch; yn glaf ac yngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. Yna yr attebant hwy­thau hefyd iddo, gan ddywedyd, Ar­glwydd, pa bryd i'th w [...]lsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yngharchar, ac ni weinasom i ti? Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, yn wir meddaf i chw, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i'r vn o'r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i min­nau. A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol, a'r rhai cyfiawn i fywyd tra­gywyddol.

14 Dywedwch i mi b [...]llach ond of­nadwy yw 'r darpar yma tuag at ddydd [Page 60] farn? gwelwch faint yw 'r achosion i ofni ac i ddychrynu? Fe ddaw dydd farn, mêdd yr yscrythur, pan fo dyni­on, ond odid, yn cysgu; fe ddaw gyd a sŵn erchyll, gan lais vdcyrn, a thrwst dyfroedd, a chynnwrf y pedwar def­nydd. Pa fath noswaith fydd henno, dy­bygi di, pan weler y ddaiar yn crynu, y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd yn symmud allan o'i lle, yr haul wedi ty­wyllu, y lleuad wedi colli ei llewyrch, y sêr yn syrthio i lawr o'r wybren, a'r holl ffurfafen yn hollti 'n ddrylliau, a'r holl fyd yn llosgi yn dân poeth.

15 Ai possibl i dafod yn y byd allu hyspyssu dim yn eglurach nag y mae Christ a'r Apostolion a'r prophwydi yn hyspyslu y peth hyn? Pa ddyn bydol ni chryn ei galon yn ei gorph gan y dychryn anfeidrol hwn? Ai rhyfedd yw clywed dywedyd bod y rhai cyfiawn, a'r angylion hefyd yn ofni 'r p [...]thau hyn? Ac yno, 1 Pet. 4.18. fel y dywaid S. Petr, Os prin y bydd cadwedig y cyfiawn, pa le yr ym­ddengys yr annuwiol a'r pechadur? Och mor ofnadwy fydd y diwrnod hwnnw i'r Christion difraw, diofal, yr hwn a dreuli [...]dd ei amser yn y byd yma mewn llawenydd a difyrrwch, pan welo mor anfeidrol fydd yr ofn a'r dychryn, a maint fydd y trueni a'r aflwydd a fydd yn barod i ruthro arno!

[Page 61]16 Ond heb law 'r holl bethau creu­lon tôst hyn a fydd o flaen y farn; fe fydd llawer o bethau eraill mor er­chyll eu hystyried a hwythau; megis gweled yr holl feddau yn egori pan ga­ner yr vdcorn, ac yn rhoi i fynu eu holl gyrph meirwon a dderbyniasant er dechreuad y byd; gweled holl wyr a gwrag [...]dd y byd, brenhinoedd a br [...]nhinesau, tywysogion a gwyr mawr, yn sefyll yno yn noethion yngwydd holl greaduriaid Duw; gwel [...]d amlygu eu holl bechodau hwy, a datguddio eu hanwireddau cuddiedig, y rhai a wnae­thant hwy o fewn eu st [...]felloedd dirgel yn eu llysoedd; a'i cymmhell a'i gyr­ru hwythau i roi cyfrif am fil o be­thau a fuasai ddiysir ganddynt eu rhy­buddio o'i plegid yn y byd hwn, sef pa fodd y treuliasant eu hamser, pa fodd y gwariasant eu golud, pa fodd yr ymddyg [...]sant tu ac at eu brodyr, pa fodd y darfu iddynt farwolaethu a gorchfygu eu gwyni [...]u cnawdol, pa fodd y darfu iddynt lywodr [...]ethu eu hewyllysion, pa fodd yr vfyddhasant i weithrediad yr Yspryd glân yn eu ca­lonnau, ac yn ddiwethaf, pa fodd yr arferasant holl ddoniau Duw yn y byd hwn.

17 O, frawd anwyl, nid yw bossibl gallu dangos mor werthfawr o dryssor [Page 62] fydd cydwybod dda yn y dydd hwn­nw: hi a fydd gwell nâ deng mil o'r byd hwn; oblegid ni thyccia golud yr amser hwnnw; ni lygrir y barnwr ag arian, ni thyccia gwaith neb o'n ca­redigion yn eiriol trosom ni y dwthwn hwnnw, na gwaith angylion ychwaith, y rhai y bydd eu gogoniant yr amser hwnnw, Ps. 149.8. fel y dywed y prophwyd, i rwymo brenhinoedd a chadwynau, a phen­defigion a gefynnau heiyra; i wneuthur arnynt y farn scrifennedig: yr adderchawg­rwydd hyn sydd iw holl sainct ef. Och, beth a wna 'r holl bobl ddoethion hyn­ny yr amser hwnnw, y rhai sydd yr awrhon yn treulio eu hamser mewn lla­weny [...]d a difyrrwch, ac ni chlywant ainynt gymmeryd dim poen yn gwa­sanaethu Duw? pa ymadferth a wnant hwy yn y cyfyngder hynny? tu a phle yr ymdroant? gan bwy y ceisiant help? Hwy a gânt weled pob peth yn eu cylch yn galw am ddialedd arnynt hwy, a phob peth yn rhoi achos iddynt i ofni ac i ddychrynu; ac na bydd dim a roddo iddynt ronyn gobaith neu gyslur Vwch eu pennau y bydd eu barnwr yn ddigllon am eu han­wiredd hwy; is eu llaw y bydd vffern yn agored, a'r pair berwedig yn barod i'w derbyn hwy; ar y tu dehau y bydd eu pechodau yn eu cyhuddo hwynt; ar [Page 63] y tu asswy y bydd y cythreuliaid yn bá­rod i wneuthur tragwyddol farn Duw arnynt hwy; o'i tu mewn y bydd eu cy­dwydob yn eu cnoi; ger llaw i­ddynt y bydd yr holl eneidiau colledig yn ochain ac yn cwynfan; o'i hamgylch y bydd yr holl fyd yn llosgi. O Arglw­ydd Dduw, pa beth a wna 'r pechadur truan pan fo 'r holl ofidiau hyn yn ei amgylchu? pa fodd y gall ei galon ef ddioddef y cyfyngderau hyn? pa ffordd a gyrch efe? myned yn ôl nid possibl iddo▪ a myned ym mlaen nid ydyw abl iw ddioddef. Pa beth ynteu a wna efe ond (fel y dywedodd Christ) edwi, Luc. 21.26. a digalonni, a llewygu gan ofn, a chei­sio marw ac heb gael, Datc. 9.6. chwennychu ma­rw, a marwolaeth yn c [...]lio oddiwrtho, a gwaeddi ar y mynyddoedd am syr­thio arno, Dat. 6.16. Luc 23.30. ac ar y bryniau am ei gu­ddio, a hwythau yn naccau gwneuthur iddo cymmaint a hynny o gymmwynas; ac fo a gaiff sefyll yno fel adyn truan, digarad, diobaith, hyd oni chaffo gly­wed y farn ofnadwy ni throir byth yn ei hôl, Ewch chwiraimelldigedig i'r tan tragywyddol. Mat. 25.

1 A phan ddarffo rhoi 'r farn, ys­tyriwch mor ofidus fydd y waedd a'r floedd a fŷdd yn y man ar ôl hynny, gan y rhai da yn llawenychu ac yn canu mawl a gogoniant i'w hachubwr, a [Page 64] chan y rhai drwg yn cwynfan, ac yn cablu, ac yn melldigo dydd eu genedi­gaeth. Ystyriwch dosted y bydd y drwg ysprydion vffernol yn ymedliw a'r enei­diau truain colledig a fo wedi eu rhoi werthian yn ysclyfaeth dragwyddol i­ddynt hwy: mor chwerw fydd [...]u gwawd a'i gwatwor hwy am ben yr eneidiau truain hynny wrth eu dwyn i'r poenau tragywyddol. Ystyriwch y didoli a fydd yr amser hwnnw ar dadau a mammau oddiwrth eu plant, ar gyfeillion a cha­redigion, oddiwrth ei gilydd, a hynny yn dragywyddol, h [...]b obaith byth cael gweled y naill y llall: a pheth arall a fydd cymmaint gofid a'r mwyaf (os gwir a ddyweid rhai, y cawn ni adna­bod ei gilydd cyn be [...]led a hynny) ni bydd i'r mab a fo 'n mynd i'r nef do­sturio wrth ei dad neu ei fam a fo yn myned i vffern, ond yn hyttrach bod yn llawen ganddynt hy [...]ny am ei fod yn troi'n ogoniant i Dduw wrth wneu­thur cyfiawnder. Pa fath ddidoli fydd hyn, meddaf? pa fath ganu yn iâch? pwy ni thorrei ei galon y dydd hwn­nw wrth ymadael ac ymddidoli felly, pe gallei galon dorri yr amser hwnnw, ac felly cael diwedd ar ei gofid a'r pho­enau? Ond ni all hynny fod. Ple yna y bydd ein holl blesser a'n difyrrwch ni? I ba le 'r aeth ein holl ddigri­fwch [Page 65] a'n diddanwch ni? a'n gwychder yn ein dillad, ein disglei [...]io mewn aur, y p [...]rch a gawsom trwy gael gistwng a bod yn bennoeth i ni, ein holl fwy­dydd dainteth, ein holl fusig a'n melys­gerdd, eìn holl drythyllwch an ysma­lhawch, ein cyfeillon a'n cymdei­thion digrif diddan a fyddei arfer o chwerthin ac o ddifyrru 'r amser gydâ ni? I ba le 'r aechant hwy? O frawd an­wyl, mor chwerw fydd holl blesser a difyrrwch y byd yr amser hwnnw? Mor ofidus fydd gennym feddwl am danynt? Mor ofer y cawn ni weled bod cin parch a'n golud a'n cyfoeth gynt? Ac yn y gwr hwyneb, mor llawen fydd y dyn hwnnw, a fu ofalus am fyw yn dda ac yn rhinweddol yn y byd hwn, er maint y boen a gafodd yn gwneu­thur hynny, a'r dirmyg yn y byd. Dedwydd o greadur fydd efe ei eni, ac ni ddichon vn tafod ond Duw ddan­gos faint ei ddedwyddwch ef.

19 Ac i ddibennu 'r cwbl oll, nid rhaid i ni ond y diben a wnaeth Christ, ystyriwn hawsed i ni yr awr­hon ag ychydig boen, ochel perygl y d [...]dd hwnnw, a darfod i'n barnwr truga­rog a'n hiachawdr ddangos y perygl hwnnw i ni ym mlaenllaw, fel y gallem fod yn ofalus am geisio ei o­chel. Oblegid fel hyn y dibenna efe [Page 66] yn ôl ei holl fygythion, Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch: Mar. 13.3 [...]. Mat. 24.43 canys ni wy­ddoch pa hryd y bydd yr amser. A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwi­liwch Ac mewn man arall, wedi dar­fod iddo gyfrif yr holl bethau o'r bla­en, rhag i neb ammeu nas deuent i ben, y mae 'n dywedyd, Nef a dai­ar aut heibio, ond fy ngeiriau: nid ant heibio ddim. Luc. 21.33. Ac yno y mae 'n rhoi 'r cynghor hwn, Edrychwch chwithau arnoch eich hunain rhag gorchfygu eich calon­nau a'i trymhau tr wy lothineb, a me­ddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch [...]yn ddisym­mwth. Canys efe a ddaw fel magl ar wartha pawb oll ac sydd yn trigo ar wy­neb yr holl ddaiar. Byddwych chwithau wiliadwrus, a gweddiwch bob amser, ar gael eich cyfri 'n deilwng i ddiangc rhag y pethau byn oll sydd ar ddyfod, ac i se­fyll ger bron Mab y dyn. Ond cariad­us y cynghôr hwn gan Grist? A allai ein tâd ein hun roi i ni gynghor ca­rediccach? Pwy a ddymunai rybudd teccach a mwynach, a dwysach? Ai possibl i neb wedi hynny allu dywe­dyd, Nis gwyddwn i? Yr vn cyffelyb rybudd y mae S. Petr yn ei roi ar yr vn achos, 1 Pet. 4.10. lle mae yn dywedyd, Dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos, [Page 67] yn yr hwn yr â 'r nefoedd heibio gyda [...]hwrwf, a'r defnyddiau gan wir wres a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a loscir. A chan fod yn rhaid i'r pethau hyn i gyd ymollwng, pa fath ddy­nion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw. Y brysio yma megis i gyfarfod dydd farn, y mae S. Petr yn crybwyll am dano, nid yw ddim ond yr hiraeth a ddylei fod arnom am ddydd farn; a'r hiraeth hwnnw nis gall fod ar neb o honom nés i ni yn gyntaf ymwrando â'n cyflwr ein hunain, a gwellhau ein buchedd yn ddioed ddi ohir. Am hyn­ny odiaeth y dyweid y gwr doeth, Cyn afiechyd cymmer feddyginiaeth; Sceu [...]. 18.19. a chyn barn bola di dy hun, ac yn amser goswy ti a gai drugaredd gan Dduw. Ac â'r geiriau hynny y cytuna geiriau S. Paul Pe iawn farnem ni ein hunain, 1 Cor. 11.31. ni 'n her­nid. Ond am nad yw neb yn ei iawn farnu ei hun a'i fuchedd, hynny sy'n peri bod cyn lleied o bobl yn ymbarot­toi erbyn y farn honno, a bod cyn lleied yn wiliadwrus, a chymmaint yn gorwedd mewn trymgwsg, heb wybod dim oddiwrth y perygl y maent ynddo. Yr Arglwydd Dduw a roddo i ni 'r grâs i edrych yn well yn ein cylch. Amen.

PEN. VI. Ystyried beth yw naturiaeth pechod, a phechadur; er mwyn dangos nad yw Duw yn anghyfiawn, er ei fod cyn dosted ac y dywetpwyd yn y bennod o'r blaen.

RHag bod i neb le i achwyn fod yn rhy dôst y cyfrif a ofyn Duw ar ein dwylo ni yn y dydd diweddaf, a bod yn rhydost y farn a ddangoswyd yn y bennod o'r blaen: da fyddai yn y bennod yma ystyried yr achos pa ham y mae Duw cyn dosted yn erbyn pe­chod, ac yn erbyn pechaduriaid, fel y gellir gweled wrth a ddywetwyd o'r bla­en, ac wrth gwbl o'r Scrythur lân, lle y mae efe agos yn mhob man yn datcan ei ddygn gâs, a'i lid, a'i ddigofaint yn erbyn pob vn o'r ddau; megis lle y dywedir am dano ei fod yn casau holl weithredwyr anwiredd, Psa. 5.5. Dihar. 15. Iob 11. Esa. 1. Eccl. 15. a bod yn gat ganddo 'r annuwiol a'i annuwioldeb: A bod holl fuchedd pechaduriaid, a'i me­ddyliau a'i gweithredoedd, a phob daio­ni ar a wnelont hwy, yn ffiaidd yn ei olwg ef, Ps. 50. tra fónt hwy yn byw mewn pechod: a pheth sy fwy, nas gall efe ddioddef i bechadur ei glodfori [Page 69] [...]a chymmeryd ei dystiolaethau ef yn [...]i enau, fel y tystia 'r Yspryd glân. [...]c am hynny nid dim rhyfedd iddo [...]od cyn dosted wrtho ddydd y farn, [...]c ynteu yn ei gasáu ac yn ei ffieiddio [...]n gymmaint yn y bywyd yma.

2 Fe ellid dangos llawer o resym­mau am y peth hym, megis torri gor­thymmynion Duw, anniolchgarwch pechadur tuac atto am ei ddoniau, a'r cyffelyb; y rhai a allai ddangos yn ddigon goleu gyfiawned yw ei ddi­gofaint ef tu ac at bechadur. Ond y mae vn rheswm vwch law'r cwbl yn e­gori gwreiddyn y peth; a hynny ydyw yr anfad lwyrgam a wneir â Duw ym mhob pechod a wnelom ni o'n gwirfodd a thrwy wybod, yr hyn sydd gymmaint cam, a dirmyg, ac ammharch, ac na ddioddefai vn gwr mawr y cyfryw ar law ei ddeiliaid: a llai o lawer y bydd i Dduw, yr hwn yw Duw y mawredd, eu dioddef cyn fy­nyched ac y gwna dynion hwynt iddo.

3 Ac fel y gallom ddeall faint yw 'r cam hwnnw, rhaid i ni wybod, am bobgwaith ac y bôm yn gwneuthur pechod, fod ein calonnau ni a'n deall, er nad ydym yn dal ar hynny, megis yn ymresymmu o'n mewn ni ac megis yn gosod ger ein bronau ni, o'r [Page 70] naill du pa fûdd a pha lês a ddaw i ni oddiwrth y pechod yr ydym ar fedr ei wneuthur, a'r llês hwnnw yw 'r plesser a'r difyrrwch yr ydym yn ei gael wrth bechu; ac o'r tu arall pa beth yw digio Duw, hynny ydyw, colli ei gariad a'i ewyllys da ef wrth y pechod hwnnw, o [...] ni a'i gwnawn: ac felly yr ydym ni yn ein meddyliau a'n calonnau megis yn rhoi Duw yn y naill ben i'r clorian, a'r plesser yr ydym ni yn ei gael wrth bechu, yn y pen arall; a ninnau megis yn se­fyll yn y canol yn bwrw ac yn ystyried pa vn drymmaf o'r ddeupen, ac o'r diwedd yn dewis ein plesser a'n difyrrwch ac yn gwrthod Duw: hynny ydyw yr ydym ni yn dewis yn hyttiach golli cariad Duw a'i râs a chwbl ac a dâl ef, nâ cholli byrr blesser a dyfyrrwch pechu. Beth all fod fryntach nâ hyn? Pa fodd byth y gwna­em ni mwy o ddirmyg ar Dduw, nâ de­wis y plesser gwaelfrwnt hwnno flaen ei fawredd ef? Ond gwaeth yw hynny, a mwy cam nag a wnaeth yr Iuddewon wrth ddewis Barabbas y lleiddiad, a gwrth od Christ ei hachubwr? Ac yn ddiau, er maint oedd bechod yr Iuddewon, etto mewn dau beth y mae 'r pechod ym­ma megis yn rhagori ar yr eiddynt hwy: y naill yw, nad oedd yr Iuddewon wrth ddewis yn gwybod pwy yr oeddynt yn ei wrthod, fel yr ydym ni▪ y llall yw, na [Page 71] wrthodasant hwy Grist ond vnwaith, a [...]innau yn ei wrthod ef yn fynych, ie bob [...]ydd, a phob awr ac ennyd, pan fôm [...]'n gwir fodd ac o ewyllys ein calonnau [...]n ymroi i bechu.

4 Ai rhyfedd wrth hynny, fod Duw [...]yn dosted a chyn llymmed wrth y rhai [...]rygionus, yn y byd a ddaw, a hwy­ [...]hau mor ddirmygus ddiystyr ganthynt [...]f yn y byd ymma? Yn siccr mae 'n fawr malais pechadur tu ag at Dduw, ac y mae efe nid yn vnig yn ei ammherchi ef wrth ddistyru ei orchymmynion, ac wrth [...]dewis y creaduriaid gwaelaf a gwaethaf o'r byd o'i flaen ef; ond y mae hefyd yn dwyn câs dirgel yn ei galon tu ac [...]tto, ac yn cynfigennu wrth ei fawredd ef, ac yn chwennych, pes gallei, ei dynnu ef i lawr oddi ar ei o [...]sedd­faingc, neu, o'r hyn lleiaf, yn dymuno na bai vn Duw i roi côsp am bechod yn ôl y fuchedd hon. Ymwrandawed pob pechadur ag eigion ei gydwybod yn hyn o beth, oni byddei bodlon ganddo gael o'i enaid farw gydâ'i gorph, ac na by­ddai anfarwol; ac na byddei ar ôl y fu­chedd hon na chyfrif, na barnwr, na chos­pedigeth, nac vffern, ac felly na byddai vn Duw, fel y gallai efe gymmeryd ei blesser yn ddiofal wrth ei ewyllys ei hun yn y byd ymma?

5 Ac o herwydd bod Duw (ac ynteu [Page 72] yn chwilio 'r calonnau a'r arennau) yn gweled eu meddwl bradwraidd hwy tu ac atto pe rhôn a'i fod yn llechu o fewn ymyscaroedd eu calonnau hwy, er llyfned fytho eu geiriau: am hynny y mae efe yn cyhoeddi yn yr Scrythur lân eu bod hwy yn elynion iddo, ac yn cyhoeddi rhyfel a gelyniaeth yn eu herbyn hwy. Ac yno, dybygwch chwi, ym mha gyslwr y mae 'r truain ad­ddynion hyn, y rhai nid ydynt ond gwael bryfed y ddaiar, pan fo iddynt i ymladd yn ei e [...]byn y cyfryw e­lyn, ac sydd yn peri i'r nefoedd gry­nu, er na's gwnelo ond edrych arnynt. A rhag i ti dybied na bo hynny gwir, gwrando beth y mae efe yn ei ddywedyd beth y mae efe yn ei fygwth, beth y mae efe yn eidd [...]dsain yn eu herbyn hwy. Es. 1.28. We di darfod iddo, trwy enau 'r prophwyd Esai, gyfrif llawer o'i pechodau ffiaidd hwy ger ei fron of (sefeu bod yn coru rhodd on, Gwers. 14. ac yn dilyn gwobrau, ac yn gorthrymmu 'r truan a'r tlawd, a'r cyffelyb) y mae ynteu yn ffieiddio y rhai a wna 'r pethau hynny, gan ddywedyd, Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Arglwydd y llu­oedd, cadara Dduw Israel; Aha, mi a ymgyssuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac a ymddialaf ar fy ngelynion. A'r prophwyd Dafydd, fel yr oedd efe yn wr mawr ei gariad gyd â Duw, ac yn cael gwy­bod [Page 73] llawer o'i gyfrinachau ef; felly y mae efe yn aml yn datcan ac yn ad­rodd dosted yw meddwl Duw a maint yw ei ddigofaint yn erbyn pechaduri­aid, ac yn eu galw hwy yn elynion i­ddo, yn llestri ei ddigofaint ef, a chwe­di eu hordeinio i ddistryw a cholle­digaeth dragywyddol; ac yno y mae [...]n cwyno na choelia 'r byd mo hyn­ny, gan ddywedyd, Gwr annoeth ni ŵyr, [...]'r ynfyd ni ddeall hyn. Beth yw hynny? Pa fodd y mae pechaduriaid yn ôl iddynt godi i fynu, Psa. 92.6. a gweithredwyr anwiredd wedi yr ymddangosont i'r byd, yn myned i golledigaeth dragy­wyddol? A pha beth yw 'r achos o hynny? Y mae efe yn atteb yn y man ac yn dywedyd, Gwers. 9. Canys wele dy e­lynion O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir, gwascerir holl weithredwyr an­wiredd. Wrth hyn y gwelwn fod pob pe­chadur yn elyn i Dduw, a Duw iddo ynteu; ac y gwelwn pa ham y mae hynny. Ond er mwyn dangos yn eglu­rach fod barn Duw yn gyfiawn, er ei thosted, ystyriwn beth yw maint a me­sur ei ddigllonedd ef yn erbyn pechod, a pheth yw ei chyrraedd, a pheth yw ei ther­fy nau, a pheth a wna ai bod iddi derfy­nau ai nad oes; fel y mae mewn gwirio­nedd, yn anfeidrol, hynny ydyw heb na meidr na mesur, nac ymyl nac ei­thaf. Ac i adrodd y peth fel y mae [Page 74] mae mewn gwirionedd, pettai holl dafo­dau 'r byd wedi eu gwneuthur yn vn ta­fod, a holl ddeall yr holl greaduriaid o ddynion ac o angylion, wedi [...] wneuthur yn vn deall; etto ni allai y tafod hwnnw fynegi, na'r deall hwnnw amgyffred faint yw digofaint calon Duw yn erbyn pob pechod ar yr ydym n [...] yn ei wneuthur trwy wybod. A'r rhe­swm o hyn sydd yn sefyll mewn dar beth. Yn gyntaf, o herwydd cymmaint ac y mae Duw yn rhagori arnom ni mewn daioni, o gymmaint a hynny y mae efe yn caru daioni ac yn cassau pechod yn fwy nag yr ydym ni: ac am ei fod ef yn anfeidrol ei ddai­oni, am hynny y mae ei gariad ef [...] ac at ddaioni, a'i gâs tu ac at bechod▪ yn anfeidrol hefyd; ac o'r achos hyn­ny y mae 'r tâl sy gantho ynghadwi bob vn o'r ddau, yn anfeidrol ynteu i'r naill yn y nef, ac i'r llall yn v­ffern.

6 Yn ail, ni a welwn beunydd, ma [...] po mwyaf a pho adderchoccaf fyddo [...] gŵr y gwneler bai yn ei erbyn, mwy af y cyfrifir y bai: oblegid nid yr vn bai yw rhoi dyrnod i wasanaethwr, a rhoi dyrnod o'r vn faint i dywysog y mae rhagor mawr rhyng ddynt, a rha­gor rhwng y gospedigaeth y maen [...] yn ei haeddu· Ac am fod pob pe­chod [Page 75] yr ydym ni yn ei wneuthur trwy wybod, yn vnion yn erbyn Duw ei hun, fel y dangoswyd vchod, a bod ei adderchawgrwydd ef yn anfeidrol; am hynny y mae bai ac euogrwydd pob cyfryw bechod yn anfeidrol hefyd, ac am hynny yn haeddu câs anfeidrol, a chospedigaeth anfeidrol ar law Dduw. Wrth hyn y gellir gweled rheswm am lawer o bethau y mae Duw yn eu dywedyd ac yn eu gwneuthur yn yr Yscrythur lân, Rhuf. 8. 1 Cor. 1. ac y mae Athrawon dysgedig yn eu dysgu, ynghylch y go­ [...]pedigaeeh sydd am bechod, y rhai y tybia doethineb y byd eu bod yn ddi­eithr, ac yn anhygoel iawn. Megis yn gyntaf, y gospedigaeth fawr ofnadwy honno o dragywyddol ddamnediga­eth a roir ar gynnifer mil, a chynni­fer myrddiwn o angylion a grewyd ī ogoniant, ac ynddynt berffeithrwydd agos i anfeidrol, a hynny am vn pe­chod yn vnig, yr hwn ni wnaed ond vnwaith, nac mo hynny ond ar feddwl yn vnig, fel y tybia rhai dysgedig. Yn ail, y gospedigaeth dôst a roed ar ein hynafiaid ni Adda ac Efa a'i holl hi­liogaeth, am fwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig: am yr hwn bechod, heb law 'r gospedigaeth a roed ar y rhai a'i gwnaeth, ac ar holl greaduriaid y byd, a'i holl blant a'i heppil ar eu [Page 76] hôl, o flaen dyfodiad Christ a chwed [...] hynny, (oblegid er ein bod ni wedi ei [...] gwared oddiwrth fod yn euog o'r pe­chod hwnnw, etto y mae 'r cospedigat­thau bydol a roed am dano, yn aros etto▪ megis newyn, a syched, ac anwyd, a chlefydau, a marwolaeth, a mil o o­fidiau heb law hynny) ac heb law colle­digaeth dragywyddol ar aneirif o ddy­nion: heb law hyn i gyd, meddaf, (ac fe dybygai reswm dyn fod hyn yn ddigon tôst) ni ellid dyhuddo a bod­loni digofaint a chyfiawnder Duw, oni byddei i'w fab ef ei hun ddyfod i' [...] byd, a chymmeryd ein cnawd ni ar­no, a thrwy ei boenau ei hun wneu­thur iawn i Dduw. A chwedi iddo ddy­fod i wared, a'i dda [...]ostwng ei hun i gyfiawnder ei Dâd yn ein cnawd ni, Esa. 53. er bod y cariad oedd gan ei Dâd iddo yn anfeidrol; etto fel y gall ai Dduw ddango [...] faint a thosted oedd ei gâs a'i gyfiawnde [...] yn erbyn pechod, ni pheidiodd efe a rhoi 'r gospedigaeth honno ar ei anwyl fen­digedig fab ei hun; Luc. 22.44. Mar. 14. Mat. 26. Mat. 27. Psal. 22. Esa. 53. hyd yn oed yr amser yr oedd efe yn athrist hyd angeu, ac mew [...] ymdrech meddwl, a'i chwŷs fel defnynna [...] gwaed yn discyn ar y ddaiar, ac ynteu y [...] llefain, O Dâd os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio i mi fel nad yfwyf ef; A thrache­fn yn fwy tosturus o lawer pan oedd ar y groes, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'n [Page 77] [...]wrthodaist? Er hyn i gyd, meddaf, ni waredodd ei Dâd 'mo hono ef, ond rhoi iddo ddyrnod ar ddyrnod, a chôsp ar gôsp, a phoenau ar boenau, hyd onī roes i fynu ei enioes a'i enaid yn llaw ei Dâd: Yr hyn sydd beth rhyfeddol [...] ddangos i ni faint yw digllonedd Duw yn erbyn pechod.

7 Mi a allwn yma ddwyn ar gôf i chwi bechod Esau yn gwerthu ei etife­ddiaeth a'i enedigaeth fraint am ychy­dig fwyd: am yr hwn y dyweid yr A­postol, Na chafodd efe le i edifeirwch, Gen ▪ 25. Heb. 12.17. Gen. 27. er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi. Hefyd pechod Saul, er nad oedd ei be­chod ond vn pechod, a hwnnw nid am iddo wneuthur dim oedd waharddedig, 1 Sam. 9. & 15. & 16. ond am iddo adael heb wneuthur yr hyn a orchymmynnasid, am na ladda­sai efe Agag brenhin Amalec, a phob peth o'r eiddo, fel yr archesid iddo, et­to fe a'i bwriodd Duw ef ymaith am hynny, er ei fod o'r blaen yn ennei­niog iddo ac yn wâs detholedig, ac fe a fethodd gantho gael maddeuant am y pechod hwnnw, er i Samuel ac yn­teu alaru ac ymofidio yn fawr am y pechod hwnnw, neu o'r hyn lleiaf, am ddarfod i Dduw ei wrthod ef.

8 Mi a allwn hefyd ddwyn esampl y brenhin Dafydd, yr hwn er i Dduw faddeu iddo ei ddau bechod ar ei edi­feirwch, [Page 78] etto er maint oedd galar Da­fydd tros ei bechodau, fe a'i ceryddodd Duw ef yn dôst iawn, trwy farwolaeth ei fab, a rhoi arno ynteu ei hun dra­llod gwastadol tra fu fyw. A hyn i gyd i ddangos ei gâs tu ac at bechod, ac felly i'n dychrynu ninnau rhac pe­chu.

9 Ac o hyn y tŷf yr holl ymadroddi­on caled chwerw sydd yn yr yscrythur lân am bechaduriaid, y rhai am eu dy­fod o enau 'r yspryd glân, ac am hyn­ny yn wir ddiammau, a allent roi a­chos da i'r rhai sy'n byw mewn pechod i ofni, Eccl. 39.29 30. & 40.9, 10. megis lle y dywedir, Y tân, a'r mor, a dannedd bwystfilod, ac yscor­pionau, a gwiberod, a marwolaeth, a gwa­ed, ac ymryson, a'r cleddyf, a gorthrymder, a newyn, a chystudd, a ffrewyll: y pe­thau hyn oll a wnaed er dialedd a dinistr ar yr annuwiol, ac er eu mwyn hwy y bu 'r diluw. A thrachefn, Ar yr an­nuwolion y glawia efe faglau, Psal. 11.6. tân, a brwm­stan, a phoethwynt ystormus: dymma ran eu phiol hwynt. Ps. 9.16. A thrachefn, Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr an­nuwiol a faglwyd yngweithredoedd eu dwylo eu hun. Y rhai drygionus a ym­chwelant i vffern, a'r holl genhedloedd a anghofiant Dduw. Hwy a fyddant fel y man-us yr hwn a chwâl y gwynt ymmaith. Psa. 1.4. Psal. 3.7. Duw a dery ei elynion ar garr yr ên, ac a [Page 79] dyrr ddannedd yr annuwolion. Efe a ddry­llia eu dannedd yn eu geneuau, ac a'i lawdd hwynt fel y dyfroedd rhedegog; Psa. 58.6. a hwy ant ymmaith fel malwoden dawdd. Yr Arglwydd a chwardd am ben yr annuw­iol, Psal. 37. canys gwel fod ei ddydd ef ar ddy­fod: Efe a dyrr freichiau 'r annuwolion, a' [...] cleddyf a â'n eu calon eu hunain. Ge­lynion yr Arglwydd fel brasder ŵyn a ddi­flannant; yn fwg y diflannant hwy. Y pe­chaduriaid a dderfyddant o'r tir, Psa. 104.35. Ps. 141.10. Ps. 37.34. Psa. 140.9 ac ni bydd yr annuwolion mwy. Hwy a gyd­gwympant yn eu rhwydau eu hun. A thi a gei weled pan ddifether hwynt. Blinder eu gwesusau a'i gorchuddia: marwor a syrth arnynt, a hwy a fwrir yn tan, ac mewn ceu-ffofydd, fel na chyfodant; a'r drwg a hela 'r traws i ddistryw. Wele, dydd yr Arglwydd a ddaw, yn greulon, a digofaint, a dicter llidiog, i wneuthur y wlad yn ddiffaethwch, Es. 13.9, ac i ddifa ei phe­chaduriaid allan o honi. A'r cyfiawn a lawenycha pan welo ddial, Psa. 58.10 as a ylch ei draed yngwaed yr annuwiol. Y rhai hyn, a mil o wersi yn ychwaneg allan o'r Scrythur lân, y rhai yr wyf yn eu ga­dael heibio, y mae yspryd Duw yn eu hadrodd yn erbyn pechaduriaid, y rhai a allai ddangos i ni pa gyflwr to­stur y mae pechaduriaid ynddo, ac mor annhraethawl yw digofaint Duw yn eu herbyn hwy, tra fônt yn aros mewn pe­chod.

[Page 80]10 O'r holl bethau hyn y mae 'r Scry­thur lân yn casglu vn peth a ddylem ni ei ystyried yn ddwys ac yn ddifrif; nid amgen nâ hyn, Cywilydd pobloedd yw pechod, A thrachefn, Yr hwn sydd hôff ganddo ddrygioni, Dih. 14.34. Psa 1 [...].5. [...]elly y mae 'r lladin yn ei gyfieithu. Tob. 12.10. sydd yn casau ei enaid ei hun. Neu fel y mae 'r Angel Raphael yn ei adrodd mewn geiriau cynnhebyg, Y rhai sydd yn gwneuthur pechod sydd elyni­on i'w heneidiau eu hunain. Am hynny y maent yn gosod ger bron pawb, y gor­chymmyn cyffredinol, tôst, angenrheidiol hwn, tan boen y gospedigaeth a ddan­goswyd o'r blaen, Eccus. 21.2. Tob. 4.5. Ffô oddiwrth bechod megis rhag wyneb sarph. Ac medd Tobit with ei fab, M [...]gel byth roi dy feddwl ar bechu, nac ar dorri gorchymmynion yr Ar­glwydd, Oblegid er lleied o gyfrif y mae 'r byd yn ei wneuthur o hyn, Psal. 10.3. gan yr hwn, fel y dyweid yr Scrythur, Y canmolir y pechadur am ewyllys ei galon, Fel hyn y mae 'r lla­din. ac y bendithir yr annuwiol, yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio: etto diammau ydyw, gan fed yspryd Duw yn ei a­drodd, Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: 1 Io. 3.8. Io. 8.44. ac am hynny efe a gaiff dderbyn ei ran gydâ 'r cythreuliaid yn y dydd diweddaf.

11. Ac onid yw hyn ddigon, frawd an­wyl, i beri i ni roi 'n câs ar bechod, a bod arnom beth osn rhag pechu? Onid yw'r pethau hyn i gyd yn ddigon crŷf er [Page 81] dryllio calonnau y rhai sy'n byw mewn pechod, ac yn ei wneuthur beunydd heb nac ystyried nac ofni gronyn? Pa gyn­dynrwydd, a pha galedwch calon yw hyn? yn wir ni a welwn ddarfod i'r Yspryd glân brophwydo 'r gwirionedd am da­nynt hwy, lle y mae 'n dywedyd fel hyn, O'r groth yr ymddieithrodd yr annuw­iol oddiwrth Dduw, Psal. 58.3. o'r bru y cyfeilior­nasant, eu Felly y mae yny Lladin ac eraill lawer. gwyn a'i cynddaredd sydd fel gwyn sarph; ac y maent fel y neidr fy­ddar, yr hon a gae ei chlustiau, ac ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fyddo 'r swynwr. Y wyn a'r ynfydrwydd yma yw gwŷn a chynddaredd pechadu­riaid anhydyn, y rhai sy 'n cau eu clustiau fel seirph, oddiwrth yr holl swy­nion a'r cyfareddion bendigedg y mae Duw yn eu gwneuthu iddynt i geisio eu troi hwy atto; sef yw hynny, oddi­wrth yr holl feddyliau da a'r ysprydo­liaeth a ddanfono Duw yn eu calonnau hwy oddiwrth holl waith eu cydwybo­dau hwy eu hunain yn gwrthwynebu ac yn ofni pechu; oddiwrth holl fygythiau 'r Scrythur lân; oddiwrth holl rybuddi­on gwasanaethwyr Duw, ac oddiwrth bob peth arall ac y mae Duw yn ei wneu­thur i geisio eu dwyn hwy i fod yn gad­wedig.

12 Och Dduw, pwy trwy wybod a wnai vn pechod er ym ill mil o'r holl [Page 82] fyd, ped ystyriai yr anfeidrol golledion, a'r niweidion, a'r aflwydd, a'r gofidiau sydd yn dyfod o wneuthur vn pechod? Oblegid yn gyntaf, y mae 'r neb sy 'n pechu felly, yn colli 'r grâs Duw a ro­dded iddo, yr hon yw y rhôdd fwyaf ac a all Duw ei rhoi i greadur yn y by­wyd hwn; ac wrth hynny y mae 'n colli pob peth ar oedd yn dyfod gydâ 'r grâs hwnnw: megis rhinweddau a doniau 'r y­spryd glân, y rhai oedd yn gwneuthur yr enaid yn hardd yngolwg ei briod, ac yn ei arfogi yn erbyn dygyrch y cythraul, a chynllwynion y gelyn. Yn ail y mae efe 'n colli cariad Duw a'i ewyllys da, ac wrth hynny yn colli ei dadol nawdd, a'i ofal, a'i ymgeledd ef; ac yn ynnill bod yn elyn iddo. A pheth yw maint y golled honno, ni a allwn fwrw wrth gyf­lwr vn o wŷr llŷs brenhin bydol, a fai we­di colli ffafr ac ewyllys da ei dywysog, a chwedi myned yn elyn iddo. Yn dry­dydd, y mae efe 'n colli ei dreftadaeth, a'i glaim, a'i dirl yn nheyrnas nef, (yr hon sydd ddyledus trwy râs, fel y den­gys yr Apostol S. Paul) ac wrth hynny mae 'n ei ddifuddio ei hun o bob braint ac o bob cymmwynas ac sydd yn canlyn hynny yn y bywyd yma; Rhuf 6. hynny yw, y braint a'r goruchafiaeth sydd o fod yn blentyn i Dduw, a chyfundeb y Sainct, nawdd ac ymddiffyn ac ymgeledd yr [Page 83] Angylion, a'r cyffelyb. Yn bedwerydd, y mae efe 'n collillonyddwch, a llawen­ydd, ac esmwythder cydwybod dda; a'r holl ffafor, a'r ewyllys da, a'r di­ddanwch, a'r cyssur, y mae 'r yspryd glân yn arfer o'i danfon ym meddyliau y rhai c [...]fiawn. Yn bummed, y mae 'n colli 'r tâl oedd yn dyfod iddo am ei holl weithredoedd da a wnaeth efe er pan ei ganwyd a chwbl ac y mae efe yn eu gwneuthur, a chwbl ac a wnêl efe tra fo 'n aros yn y cyflwr hwnnw. Yn chweched, y mae 'n ei wneuthur ei hun yn euog o boenau tragywyddol, ac yn rhoi ei henw i mewn yn llyfr colle­digaeth, ac wrth hynny yn ymrwymo i bob anghyflwr ac sydd ddyledus i'r rhai colledig, hynny ydyw, cael tân vffern yn dreftadaeth iddo, bod ym meddiant diafol a'i angylion, bod yn gaeth i bob pechod ac i bob temtasiwn i bechu, a bod ei enaid (oedd o'r blaen yn deml i'r yspryd glân) yn drigfa i'r fen­digedig drindod, ac yn orphywyss a i'r angylion i ymweled ag ef) o hyn allan yn nyth i scorpionau, yn bwll carchar i'r cythreuliad, a'i fod ynteu yn gyfaill i'r rhai colledig. Yn ddiweddaf, y mae efe yn ymddidoli oddiwrth Grist▪ ac yn ymwrthod â'r rhan oedd iddo gydâ Christ, ac yn ei wneuthur ei hun yn e­lyn i Ghrist, trwy ei sathru ef dan ei [Page 84] draed, Heb 10. Hebr. 6. Rhuf. 6. a'i ail croes-hoelio ef, halogi ei waed ef, (fel y dyweid yr Apostol) wrth bechu yn erbyn yr hwn a fu farw tros bechod. Ac am hynny y mae 'r vn Apostol yn datgan barn ryfeddol yn erbyn y cyfryw, yn y geiriau byn Os o'n gwirfodd y pechwn, Heb. 10.26. & 6.4. ar ol derbyn gwy­bodaeth y gwirionedd, nid oes aberth tros bechodau wedi ei adael mwyach; ond rhyw ddisgwyl osnadwy am farnedigaeth, ac an­gerdd tân, yr hwn a ddifa 'r gwrthwy­nebwyr. A'r hyn y cyttuna geiriau S. Petr, lle mae 'n dywedyd, Gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, 2 Pet. 2·21. nâ chwedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gor­chymmyn sanctaidd a draddodw, d iddynt.

13 Weithian aed y rhai bydol ac ym­ddigrifant mewn pechod cymmaint ac y mynnont, escusodant eu pechod ac ym­ddiffynnant ef twy gellwair a digrifwch, a dywedant, Nid yw balchder ond campau gwr bonheddig; Nid yw glothineb a meddwdod ond rhan cydymmaith da; nid yw drythyllwch ac anlladrwydd ond ieueng [...]id; a' r cyffelyb: hwy a gânt we­led ryw ddydd na chymmerir mor fath es­cusodion ganddynt, ac a gânt weled y try 'r fath gellwair a digrifwch a hwnnw yn wylo ac yn ochain: Gal. 6. hwy a gânt wybod na fyn Duw mor cellwair ag ef, ac mai 'r vn Duw yw efe byth, ac y gofyn ef gyfrif cyn dosted ganddynt hwy, ac a ofyn nodd ef gan eraill o'r blaen; er nad [Page 85] gwiw ganddynt hwy yr awrhon gadw cyfrif yn y byd oi buchedd; ond yn hyt­trach troi 'r cwbl yn gellwair ac yn ddi­grifwch; a rhybied yn eu calonau pa fodd bynnag y gwnaeth Duw ag eraill o'r blaen, y bydd ef mor dirion a maddeu 'r cwbl iddynt hwy. Ond nid felly y mae 'r Scrythur lân yn ymresymmu, ond mewn modd amgen o lawer; a hynny a fynnwn i bob Christ▪ on synhwyrol ei ystyried.

14 S. Paul wrth gyffelybu pechodau 'r Iuddewon a'n pechodau ninnau, sydd yn ymresymmu fe [...] hyn, Onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, Rhuf. 11.21. 'mogel n [...]d arbedo ditheu chwaith Ac ar hynny y mae 'n rhoi y rhybudd hwn. Na fydd ditheu uchel­fryd, ond ofna▪ Drach [...]fn, fel hyn yr ymresymma'r Apostol yn [...]hylc [...] yr hen gyfraith a'r newydd, Guers. 20. Yr hwn a ddirmygai Gyfraith Moses, Heb. 10.28. a ro [...]d marwolarth heb dru­garedd trwy ddau neu dri o [...]y [...]ion: pa faint mwy cosped [...]gaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r hwn a sathrodd Fab Duw dan draed trwy bechu o'r gw [...]ith goddeu ac a farnodd yn aflan waed y Cyfammod, a'r hwn y sancteiddiwyd, 2 Pet. 2.4. Jud 6. Iob 4.18. ac a ddifenwodd yspryd y gras. Yn yr vn modd yr ymresymma Sanct Petr, a S. Iud ynghysch pechod yr Angy­lion a'n pechod ninnau, Onid arbedodd Duw'r Angylion a bechasent▪ ond eu taflu i vffern, a'i rhoddi mewn cadwynau tra­wyddol tan dywyllwch, hyd farn y dydd [Page 86] mawr, diau nad arbed ef mo honom ni. A thrachefn, 2 Pet. 2.11. Fel hyn y deall rhai eiriau 'r A­postol. 1 Pet. 4.18. Onid yw'r Angylion, y rhai sy yn rhagori arnom ni mewn gallu a nerth, yn abl i ddioddef dygn-dost farn Duw yn eu herbyn hwy, pa beth a wnawn ni? Dra­chefn mewn lle arall y mae 'n ym­resymmu fel hyn, Os braidd y bydd y cyfiawn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuw ol a'r pechadur? Wrth y samplau hynny i'n dysgir ninnau i ymresymmu yn yr vn modd, ac i ddywedyd fel hyn, os cospodd Duw mor dôst vn pechod yn yr Angylion, ac yn Addaf, ac yn eraill, pa beth a ddisgwiliafi a wneuthum gynnifer o bechodau yn ei erbyn ef? Os damniodd Duw gynnifer o ddynion am lai o bechodau nag a wn uthum i pa beth a wna efe i mi am fwy o bechodau nag a wnaeth eraill? Os darfu i Dduw gyd ddwyn â myfi yn hwy nag â llawer eraill a dorrodd ef ymmaith heb roi i­ddynt amser i edifarhau, pa reswm i­ddo gyd-ddwyn â myfi yn hwy nag â hwynt hwythau? Os ceryddwyd Dafydd ac eraill mor dôst, yn ôl maddeu i­ddynt eu pechodau, pa gospedigaeth a haeddwn i yn y byd ymma neu yn y byd a ddaw, am wneuthur eym­maint o bechodau cyn drymmed? Os gwir a ddywedodd ein lachawdr fod y ffordd yn gûl ac yn anhawdd, a'r porth yn gyfyng i ddynion i fyned [Page 87] i'r nêf, ac y bydd rhaid iddynt roi cyfrif am bob gair segur cyn eu my­ned yno; Mat. 7. pa beth a ddaw o honof fi sydd yn byw mor esmwyth, ac heb gadw cyfrif yn y byd am fy ngweithre­doedd, chwaethach am fy ngeiriau: Luc. 13. Os oedd gwyr da gynt yn cymmerydy fath boen yn ffordd eu hiechydwriaeth, Mat. 12. ac er hynny, fel y dyweid S. Petr▪ braidd y bydd y cyfiawn gadwedig; ym mha gyflwr yr ydwyfi, yr hwn nid wyf yn cymmeryd poen yn y byd, ond byw mewn pob math ar blesser a difyrrwch bydol?

25 Dyma 'r rhesymau sy wiriaf, a bu­ddiolaf i rinnau, wrth y rhai y gallem yn haws ystyried ein perygl ein hun▪ ac ofni peth ar farn Duw, ac eisiau hynny sy'n peri gwneuthur, y rhan fwyaf or pechodau a wneir ym mysg Christiano­gion: oblegid folly y mae 'r Scrythur lân, wrth ddangos yr achosion o'r annu­wioldeb sy ym mhlith dynion, yn gosod y ddau yma yn bennaf. Yn gyntaf, trûth y byd, am fod yn canmol pechadur am ewy­llys ei galon, yn bendithio 'r annuwiol, Psal. 10▪ 3. yr hwn y mae 'r Arglwydd yn ei ffieiddio Ac yn ail, am nad ydyw Duw yn ei holl feddy­liau ef, Pso. 10.4, 5. a bod barnedigaethau Duw allan o i elwg ef. Ac or gwrthwyneb wrth grybwyll am dano ei hun y mae yn dy­wedyd▪ Mi a gedwais ffyrdd yr Arglwydd, Psal. 18.21. [Page 88] ac ni chiliais yn annuwiol oddiwrth fy Nuw. Ac yn man y mae 'n dangos beth oedd yn peri iddo hynny; Oherwydd ei holl farnedi­gaethau ef oedd ger fy mron i. A thrachefn, mi a ofnais rhag dy farnedigaethau. A thrachefn meddyliais am dy faruedigaethau. A maint y llés a wna 'r ofn hwn, Psa. 119.30 y mae 'n dan­gos yn yr vn man, lle mae 'n goryn yr ofn hwn yn daer ac yn ddifrif ar law Dduw, Felly y mae 'r lladin· Ps. 119.120 ac yn gweddio fel hyn, Try­wana fy nghnawd i a' th ofn. A Sainct Paul, wedi darfod, iddo ddangos i'r Corinthiaid y bydd rhaid i ni i gyd ymddangos ger bron brawdle Christ, fydd yn cau ar y cwbl fel hyn, A ni gan hynny yn gwybod hyn, 2 Cor. 5.11. ofni yr Arglwydd yr ydym yn ei berswadio i ddymon. A Sainct Petr, wedi darfod iddo ddangos maw­redd Duw, a Christ yn teyrnalu yn y nef, ar hir draethawd, y mae ere o'r di­wedd yn cau ar y cwbl fel hyn, Ac os ydych yn ei alw ef yn Dad, Felly y mae rhai yn deall y lle yma. yr hwn heb dderbyn wyneb sydd yn barnu pob dyn yn ôl ei weithred, ymddygw [...]h mewn ofn tros amser eich ymdeit [...]ia [...] yma ar y ddaiar. Dyna wers a [...]g [...]nrheidiol i bob dyn, ond yn enwedig i'r rhai sydd o herwydd eu pechodau a'i drwg fuchedd, [...] Pet 1.17 yn aros mewn anfodd a digofaint Duw, a phob awr (fel y dywetpwyd) tan gyndda­redd barn Duw; ac os syrthiant vnwaith tani, nid oes fodd i'w throi yn ôl, [Page 89] ac nis gellit ei dioddef: ac y mae cyn hawsed syrthio tan gynddaredd barn Duw, a chymaint o ffyrdd i syrthio tani, ac sydd i syrthio i farwo­laeth, ac y mae ffyrdd marwolaeth yn aneirif, yn enwedig i'r rhai trwy an­nuwioldeb a gollasant nawdd ac ym­ddiffyn ac ymgeledd Duw, ac felly cymmorth ei Angylion hefyd, a chwe­di myned tan feddiant cythreuliaid y tywyllwch▪ y rhai nid ŷnt yn gwneuthur dim arall ond ceisio eu distrywio hwy e­naid a chorph, a hynny mor ddyfal ac mor ddiwyd ac y gallont. Pwy gan hynny, a fai adim synhwyr ganddo, nid ofnai yn y cyfryw gyflwr? Pwy a fedrai na bwytta, nac yfed, na chysgu yn esmwyth nes iddo, trwy wir edifeir­wch, ddadlwytho ei gydwybod o bob pechod? Fe allai garreg fechan a gwym­pai 'n ei ben ef oddiar y tŷ, neu ge­phyl wrth drippio dano yn marchogaeth, neu ei elyn wrth gyfarfod ag ef ar y ffordd, neu gryd neu glefyd a ddoai arno wrth fwytta neu yfed ychydig mwy nâ digon, neu ddeng nil o'r cy­fryw bethau, y rhai y mae efe beunydd a phob awr ac ennyd mewn perygl o­ddiwrthynt, ddwyn ei einioes oddiarno, a'i ddwyn ef ir fath gyflwr ac na alla i holl greaduriaid y byd byth ei wared ef allan o hono. Pwy wrth hynny nid osnai? Pwy ni chrynei, ac ni ddychrynai?

[Page 90]16 Duw o'i drugaredd a roddo i ni ei fendigedig ras, i'w ofni ef megis y dy­lem, ac i wneuthur y fath gyfrif o'i gy­fiawnder ef, ac y mae efe, wrth ein by­gwth ni â hi, yn chwennych i mei wneu­thur. Ac yno nid oedwn ni mo'r amser, ond ymroi yn gwbl i'w wasanaethu ef, tra fai wiw gantho gymmeryd ein gwasa­naeth ni, a maddeu i ni ein holl becho­dau, ped ymroem ni vnwaith o ewyllys ein calonnau i'w wasanaethu ef.

PEN. VII. Angwhaneg o reswm i amddiffyn cyfiawnder barnedigaethau Duw, ac i ddangos ein hae­ddigaeth ninnau, a hynny wrth ystyried mawredd Duw, a'i ddoniau haelionus tu ag attom ni.

ER nad yw y rhan fwyaf o Gristiano­gion, o achos annuwioled eu buch­edd, yn gallu dyfod i'r cyflwr yr oedd Dafydd ynddo pan ddywedodd ef wrth yr Arglwydd, Dy farnedigaethau, O Arglwydd, sy hoff gnnyf, Psal. 119. fel y maent hwy mewn gwi­rionedd yn hoff gan bawb ac sy 'n byw'n dduwiol, ac sy ganddynt dystiolaeth cydwybod dda; etto fel y gallom ddywedyd o'r hyn lleiaf gydâ 'r vn prophwyd, Baruau 'r Arglwydd y­dynt wirionedd, Psa. 19.9. cyfiawn ydynt i gyd oll; [Page 91] A thrachefn, Cyfiawn ydwyt ti, ô Ar­ [...]lwydd, ac vniawn yw dy farnedigaethau: Mi a dybiais yn dda osod rheswm neu [...]dau etto ar lawr yn y bennod ym­ma, Psal. 119.137. fel y galler gweled yn eglurach faint yw 'n pechodau ni tu ac at Dduw wrth bechu fel yr ydym, ac mor vn­iawn yw ei farnedigaeth ynteu a'i gy­fiawnder tu ac attom ninnau am bechu.

2 Ac yn gvntaf rhaid i ni ystyried maint yw Mawredd y neb yr ydym ni'n pechu 'n ei erbyn: oblegid diam­mau ydyw, fel y dywedais o'r blaen, mai mwyaf yw 'r bai a'r pechod, a tho­staf, po mwyaf ac anrhydeddusaf fo 'r neb y gwneler y bai a'r pechod yn ei erbyn, a pho gwaelaf a distatlaf fo 'r neb a'i gwnêl. Ac o'r achos hwn y mae Duw, er mwyn peri i ni ofni pe­chu, yn ei alw ei hun yn fynych wrth henwau yn arwyddoccáu mawredd, megis y dywed efe wrth Ahraham, Myfi yw Duw hollalluog. A thrachefn, Y nef yw fy ngorseddfaingc, a'r ddaiar yw llei­thig fy ahràed. A thrachefn efe a Or­chymmynnodd i Foesen ddywedyd wrth y bobl yn ei enw ef, y gennadwri hon, Gen, 17·1. Na chaledwch eich gwarr mwyach, canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr Arglwyddi, Es. 66.1. Duw mawr cadarn ac osuadwy, Deu. 10.16 yr hwn ni dder­byn wyneb, ac ni chymer wobr.

[Page 92]3 Ystyria dithau yn gyntaf, Gristi­on, mor anfeidrol yw mawredd yr hwn a ddarfu i ti bryf truan gwael daiar­ol, mor fynych ac mor ddirmygus wneu­thur yn ei erbyn yn dy fywyd. Ni a welwn yn y byd hwn na faidd ac ra le­fys neb wneuthur yn erbyn mawredd tywysog bydol, ië na dywedyd gair yn ei erbyn o fewn ei wiâd a'i lywodra­eth: a pha beth yw mawredd holl dy­wysogion y ddaiar wrth y filcanfed ran o fawredd Duw, Psa. 194. yrhwn â'i air a wna­eth nêf a daiar a'r holl greaduriaid sydd ynddynt; ac â hanner gair a all eu distrywio hwy drachefn: yr hwn y mae 'r holl greaduriaid a wnaeth, yr Angylion, y nefoedd, a'r holl ddefny­ddiau heb law hynny, yn ei wasanae­thu, ac heb feiddio gwneuthur yn ei erbyn. Y pechadur yn vnig sydd yn myned mor hŷ ar ei fawredd ef a bod heb ofni gwneuthur yn ei erbyn ef, yr hwn y mae 'r Angylion yn ei foliannu, a'r llywodraethau yn ei addoli, a'r galluo­edd yn crynu rhagddo, a nef y nefoedd ynghyd â'r Cherubin a'r Seraphin beunydd yn ei anrhydeddu ac yn ei glodfori.

4 Meddwl ditheu, frawd anwyl, am bob gwaith ac yr wyt ti yn pechu, dy fod ti megys yn taro y Duw mawr hwn yn ei wyneb, Yr hwn, fel y dywaid S. Paul, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto, yr [Page 93] hwn ni's gwelodd vn dyn bydol, 1 Tim. 6, 16 Ioan. 1.18. 1 Io. 4.12. Datc. 1. ac ni's di­chon edrych arno: fel y gwelir hefyd wrth esampl S. Ioan Efangylwr, yr hwn a syr­thiodd i lawr yn farw gan wir ofn pan ymddangosodd Christ iddo, fel y mae efe ei hun yn tystiolaethu. A phan ddei­syfodd Mosen gael gweled Duw vnwaith yn ei oes, a hynny yn ostyngedig iawn, ef a gafodd atteb gan Dduw na allai vn dyn ei weled ef a byw: Exo. 33.20. ond etto (er mwyn bodloni ei ddeisyfiad ef, a dan­gos iddo o ran mor ofnadwy ac mor o­goneddus o Dduw ydoedd) efe a ddy­wedodd wrth Foesen y cai efe weled peth o'i ogoniant ef: ond efe a ddywe­dodd hyn yn ychwaneg, y byddei raid i Foesen ymguddio mewn agen yn y graig, a chael ei orchuddio â llaw Duw ei hun yn lle ymddiffyn iddo, tra fai Dduw (mewn rhyw fesur o'i fawredd) yn my­ned heibio iddo yn ei ogoniant. Ac we­di iddo fyned heibio, Duw a dynnodd ymmaith ei law, ac a adawodd iddo weled y tu cefn iddo yn vnig tyr hwn er hynny oedd ofnadwy iawn edrych arno.

5 Y mae 'r porphwyd Daniel hefyd yn dangos pa ddull oedd a'r fawredd y Duw hwn, fel y gwelsai ynteu ar weledigaeth, yn y geiriau hyn Mi a edrychais hyd oni osod wyd y gorseddfeydd, Dan. 7.9. Felly y mae llawer yn ei gyfieithu. a'r hen ddihenydd a 'stedd­odd: ei wisg oedd cyn wynned a'r eira, gwallt ei ben fel gwlan pur, a'i orseddfa yn fflam [Page 94] dan, a'i olwynion yn dan poeth: afon dan­llyd oedd yn rhedeg, ac yn dyfod allan o­ddiger ei fron: mil o filoedd a'i gwasana­ethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, a'r llyfrau a agorwyd ger ei fron ef. Datc. 20.12. Hyn i gyd a lla­wer ychwaneg sy wedi ei roi i lawr yn yr Scrythur lan, i ddwyn ar gôf i ni, ac i'n rhybuddio, faìnt yw mawrhy­di y tywysog hwnnw y mae pechadur yn gwneuthur yn ei erbyn.

6 Meddwl bellach, fy mrawd anwyl, dy fod ti yn gweled y brenhin mawr ymma yn eistedd ar orseddfaingc ei fawredd, a cherbydau tanllyd, a goleu­ni anhydraeth, ac aneirif o fyrddiw­nau Angylion yn ei gylch, fel y den­gys yr Scrythur lân. Meddwl hefyd, yr hyn sydd wiriaf peth, dy fod di yn gwe­led holl greaduriaid y byd yn sefyll yn ei wydd ef, ac yn crynu rhag ei faw­redd, ac yn ofalus iawn am wneuthur y peth y creodd efe hwynt i'w wneu­thur; sef y nefoedd i ymsymmud o­ddiamgylch, y ddaiar i ddwyn cynnhei­liaeth i'r creaduriaid byw, a'r cyffelyb. Meddwl hefyd dy fod di yn gweled yr holl g [...]eaduriaid hyn, er maint neu er lleied fyddont, a'i goglud ac a'i gogwydd ar allu a rhinwedd Duw, trwy 'r hyn y maent yn sefyll, yn symmud, ac yn bod: a bod yn dyfod ac yn deilliaw [Page 95] oddiwrth Dduw at bob creadur yn y byd, ië at bob cyfran o bob creadur ac sydd a bod ac ymsymmud ynddo, ryw belydr o'i rinwedd ac o'i allu ef; mo­gis y gwelwn ni fod o'r haul aneirif o belydr yn dyfod trwy 'r awyr. Ysty­ria, meddaf, nas gall vn rhan o vn creadur yn y byd, nac o'r pyscod yn y môr, nac o'r glaswellt ar y ddaiar, nac o'r dail ar y coed a'r gwydd▪ nac vn gyfran o ddyn ar wyneb y ddaiaren, na thyfu, na symmud, na bod, oni bydd i ryw gaingc neu belydr o rinwedd, fod yn dyfod atto yn wastadol oddi­wrth Dduw. Felly, mae 'n rhaid i ti feddwl fod Duw megis haul gogone­ddus yn sefyll yn y canol, a bod yn dyfod oddiwrtho ef aneirif o belydr a goferoedd o rinwedd at bob creadur ac sydd nac yn y nef, nac ar y ddai­ar, nac yn yr awyr, nac yn y dwfr; ac at bob rhan o bob vn o honynt: ac oddiwrth y pelydr hyn o'i rinwedd ef y mae i'r holl greaduriaid eu by­wyd a'i bod; a phettai efe yn attal vn o'r pelydr hynny, fe barai hynny i ryw greadur neu ei gilydd yn y man fyned yn ddiddim. Hyn, meddaf, os ti a'i hystyri ynghylch mawredd Duw, a'r ofn anfeidrol sydd ar bob creadur rhagddo ef, ond yn vnig ar bechadur. (oblegid y mae 'r cythreuliaid yn ei [Page 96] ofni ef, Iac. 2. fel y dywaid S. Iaco) ni ryfe­ddi di ronyn fod Duw yn rhoi cospe­digaeth cyn dosted am bechod. Oble­gid mi a wn yn siccr fod cywilydd y byd yn peri i ni fod yn fwy 'n gofal rhac gwneuthur yn erbyn y câr llescaf a feddom, nac ydyw gofal y drygio­nus rhac gwneuthur yn erbyn Duw. Ac dyna ddirmyg anesgorol ar fawredd mor ardderchog.

7 Ond os bydd i ni gydâ myfyrio ar fawredd Duw, ystyried hefyd yr aml ddoniau y mae efe yn eu rhoi i ni, ni a gawn weled fod ein bai ni yn ei er­byn ef yn llawer mwy: oblegid peth ffiaidd wrth naturiaeth, yw gwneuthur cam a sarhâd â'r neb a wnaeth i ni ddaioni. Ac ni bu erioed etto, na ddo ym mysg yr anifeiliaid direswm, galon mor greulon ac nas gellid ei hyn­nill â hawddgarwch ac â thwrn da; ond ym mysg dynion, haws o lawer yw ynnill calonnau trwy haelioni a chymmwynasau, yn enwedig os bydd yn dyfod oddiwrth y gwyr mwyaf, y­rhai er nas dangosant eu cariad a'i caredigrwydd tu ac attom ond mewn rhoddion a chymmwynasau bychain, etto y mae hynny yn gwneuthur ca­lonnau y rhai a'i derbynio yn rhwy­medig iawn i'w caru hwythau dra­chefn.

[Page 97]8 Ystyria ditheu, Gristion da, y cymmwynasau anfeidrol a'r tyrnau da a dderbyniaist ai law 'r Duw mawr hwn, y rhai a wnaeth efe i ti i geisio dy ynnill [...]i iw garu ef, ac i geisio gennyt beidio [...] gwneuthur yn ei erhyn ef na cham [...]a sarhaad. Ac er na's gall vn tafod [...]yn nac angel ddangos hanner y doniau [...] dderbyniaist ti ganddo, na 'i gwerth, [...]ac â pha fawr gariad ac ewyllys calon [...] rhoes efe hwynt i ti: etto fel y b [...] [...]aws eu cadw mewn côf, mi a adrodd­ [...]f rai o'r pyngciau cyffredinol pennaf [...] haelioni Duw, fel y galler wrth y rhai hynny adnabod y llaill.

9 Yn gyntaf dim gan hynny efe a [...]oes i ti dy greedigaeth a'th wneuthu­ [...]iad, ac a'th wnaeth di o ddiddim ddef­ [...]ydd ar ei lun a'i ddelw ei hun, a hyn­ny er mwyn gorchwyl mor anrhydeddus [...] chael ei wasanaethu ef yn y byd yma, a [...]heyrnasu gyd ag ef y ny byd a ddaw, [...]c a roes i ti yn y byd hwn yr holl greaduriaid i wneuthur gwasanaeth i ti, [...]c i fod tan dy lywodraeth. A thi a gait wybod amcan faint yw'r gymmwy­nás honno, pe meddylit fod arnat eisieu coes, neu fraich, neu lygad, neu ryw ran arall o'th gorph, ac i ryw vn o'i haelioni roddi i ti yr hyn oedd yn niffyg gen­nyt: neu pettai arnat eisiau vn o'th bum synwyr, a'th fod heb weled neu [Page 98] heb glywed, ac i ryw vn roi i ti dy weled a'th glywed, dywed i mi oni chyfrifit ti hynny yn gymwynas fawr? Oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn iddo am hynny? Ac os tybygit fod vn o'r pethau hynny yn rhôdd fawr, pa gyfrif a ddylit ti ei wneuthur o gael dy holl gorph ar vnwaith yn rhodd ac yn rhâd?

10 Chwanega at hyn hefyd, fel y dywedais, na wnaeth efe mo honot ti ar lun dim arall, ond ar ei lun ei hun; ac na wnaeth efe mo honot ti i ddim a­rall, ond i fod yn wâs parchedig iddo yn y byd yma, ac i fod yn gyfrannog gydag ef o frenhinol ogoniant yn dragy­wydd yn y byd a ddaw: ac iddo wneu­thur hyn i ti a thitheu heb fod ond telpyn o bridd a chlai yn y blaen. Me­ddwl bellach faint oedd y cariad y daeth hyn i gyd oddiwrtho. Ac etto ystyria ymmhellach, fel y gwnaeth efe yr holl fyd hardd-wych-deg hwn er dy fwyn di, a holl greaduriaid y byd i'th wasanaethu di yn ei wasanaeth ef; y nefoedd i wneuthur gwahaniaeth rhwng prydiau ac amserau, ac i roi goleuni i ti; y ddaiar, a'r awyr a'r dwfr, i ddwyn i ti rywogaethau a­neirif o greaduriaid i fod yn gynhei­liaeth i ti, ac i wneuthur gwasanaeth i ti; a'th wneuthur ditheu yn arglwydd [Page 99] ar y cwbl, i'w cymmeryd hwy ac i'w mwynhau wrth dy raid i'th ddiddanu ac i'th wasanaethu.. Ac ond haelionus y doniau hyn? Ac ond cywilyddus o anniolchgarwch ydyw troi 'r rhoddion hynny i ammherchi ac i wneuthur cam a rhoddwr mor garedig, fel yr wyt ti yn gwneuthur, trwy arfer ei ro­ddion ef i'th wasanaethu mewn pe­chod?

11 Ond etto ystyria ychydig pellach ddawn dy brynedigaeth, yr hyn sydd fwy o lawer nâ 'r holl ddoniau o'r blaen: hynny ydyw, wedi darfod i ti golli 'r holl ddoniau a roesai Dduw i ti o'r blaen, a'th wneuthur dy hun yn euog o gospedigaeth tragywyddol lle bwriasid yr Angylion am y pechod a wnaethent o'r blaen; i Dduw dde­wis dy brynu di, ac nid yr Angylion, a rhoi ei fab ei hun i farwolaeth trosot ti, i wneuthur iawn tros dy bechod ti. O Dduw, pa galon a all feddwl faint y dawn a'r haelioni hyn? Meddwl ddar­fod i ti dy hun yn ddyn truan tlawd wneuthur anfad fai yn erbyn brenhin mawr, ynghyd â rhyw wr mawr o'i ben­defigion pennaf ef; ac i'r brenhin ddi­gio yn fawr wrthych chwi eich dau, ac er hynny maddeu i ti a rhoi 'r gwr mawr i farwolaeth: ac ym mhell­ach hefyd, gan nad oedd vn ffordd ond [Page 100] vn i achub dy fywyd di, rhoi 'r gospe­digaeth angeu oedd ddyledus i ti, ar ei fab a'i aer ei hun, er dy fwyn di: oni thybygit ti fod y brenhin hwnnw yn dy garu di yn fawr? oni thybygit ti dy fod yn rhwymedig iawn i'r Tywy­sog ieuange hwnnw, a ymgynnygiei ac a ymroddai i gyfiownder ei Dâd i ddi­oddef angeu trosot ti bryf gwael, ac nid tros y pendefig hwnnw (fel na fynnei farw tros yr Angylion) ac i roi ei ben yn y cebystr am dy feian di yn vnig? Oedd bossibl i ti glywed ar dy galon fod yn elyn i'r gwr hwnnw byth wedi, nac i wneuthur yn ei er­byn ef o'th fodd, na thrwy wybod? Ac etto hynny yw 'n cyflwr ni, a rhwy­mediccach o lawer ydym i Grist ac i'w Dâd, a ninnau er hynny i gyd, y rhan fwyaf o honom, beunydd yn ei ddigio ef, ac yn ei ammherchi, ac yn gwneuthur cam a sarhaad ag ef trwy bechu.

12 Ac etto y mae ychwaneg o ddo­niau Duw tu ac attom ni heb sôn am­danynt, nid amgon nâ 'n galwediga­eth ni a'n cyfiawnháad: ein galwedi­gaeth â'r hon y galwodd efe nyni o anffyddlondeb ac anghrediniaeth i radd a chyflwr Christianogion, ac felly a'n gwnaeth ni yn gyfrannogion o'n prynedigaeth, yr hon nid yw 'r ang­rhedadyn [Page 101] gyfrannogion o honi. Oble­gid er iddo ef dalu 'r iawn tros bawb yn gyffredinol, Rhuf. 6. 1 Cor. 1. etto ni roes efe ddim o ffrwyth y brynedigaeth honno i bawb, ond yn vnig i'r rhai y gwelodd ei dduw­iol ddaioni ef yn dda ei roddi. Ar ôl hynny y canlynodd ein cyfiawnháad ni, trwy 'r hon y cawsom ni nid yn v­nig ein rhyddháu odddiwrth yr holl be­chodau a wnaethom o'r blaen, Rhuf. 5▪ ac oddi­wrth yr holl gospedigaeth a'r poenau oedd ddyledus am danynt; ond hefyd cael harddu, a theghau, a chyfoethogī ein heneidiau â'i fendigedig râs ef, ynghyd â'r rhinweddau a elwir defeini­ol, ffydd, gobaith, a chariad perffaith, 1 Cōr. 13. Es. 11. ac ynghyd â doniau 'r yspryd glân; a thrwy ei ràs ef i'n gwneir yn gyfi­awn ac yn vnion yngolwg Duw, ac y rhoir i ni ditl a chlaim ym mendigedig dreftadaeth teyrnas nêf.

13 Ar ôl y rhai hyn y canlyn rhife­di mawr o ddoniau ynghyd, a'r rhaī hynny bob vn o honynt o anfeidrol bris a gwerth; y rhai a roddwyd i ni wedi ein gwneuthur yn blant ac yn garedigion anwyl i Dduw. Cyfryw yw dawn y Sacramentau bendigedig a rodded i'n diddanu ac i'n cynnal ni, y rhai nid ydynt ond megis pibellion i ddwyn grâs Duw attom ni; yn enwe­dig [Page 102] y ddau Sacrament ymma a berthyn i bawb, sef Sacrament y bedydd, a Sa­crament ei fendigedig gorph ef a'i waed. Sacrament y Bedydd i lanhau ac i buro 'n heneidiau ni o­ddiwrth bechod, a'r llall i borthi ac i ddiddanu ein heneidiau ni wedi dar­fod eu glanháu. Y cyntaf sydd ym­drochfa a golch wedi ei wneuthur o waed Christ ei hun, i olchi ac i dro­chi ein harchollion a'n gweliáu ni yn­ddo; a'r llall sydd megis dilledyn com­fforddus cyfoethog i orchuddio ac i achlesu ein heneidiau ni wedi darfod eu golchi. Yn y cyntaf yr ordeiniodd Christ ei briod yr Eglwys yn ei le ei hun i ddatgan ac i ddeclario maddeu­ant pechodau yn ei enw ef: yn y llall efe a'i gadawodd ei hun, a'i gig a'i wa­ed ei hun, yn y Sacrament i fod yn ymborth gwyrthfawr, i lawenychu ac i gynnal ein heneidiau ni.

14 Heb law hyn i gyd y mae etto ddawn arall â'r hwn y mae Duw yn ein cadw ni oddiwrth amryw beryglon, y mae eraill yn syrthio iddynt, a'r rhai y syrthiasem ninnau iddynt oni bai fod bendigedig law Dduw yn ein cynnal ni, megis oddiwrth ryfyg a gormodd hy­der, heresi, ac anffyddlondeb, a lla­wer o bechodau trymion eraill; ac yn enwedig oddiwrth angeu a cholledi­gaeth, [Page 103] y rhai a ddarfu i ni er ys talm eu hacddu am ein pechodau. Ac y mae hefyd ddoniau yr ysprydoliaethau da a'r rhybuddion, Datc. 3. â'r rhai y bu i Dduw yn fynych guro wrth ddrws ein cyd­wybodau ni oddimewn, a'n rhybuddio ni trwy gymmaint o ffyrdd a moddion oddiallan; nid amgen na llyfrau da, pregethau da, cyr ghorion da, cwmpei­ni da, esamplau da gan eraill, a chant o foddion eraill, y rhai y mae efe yn fynych yn eu harfer i geisio ein hynnill ni a'n heneidiau i'w dragywyddol deyr­nas, drwy ein hannog ni i ymwrthod â'n buchedd bechadurus, ac ymroi i'w fendlgedig a'i hyfryd wasanaeth ef.

15 Yr holl ddoniau a'r cymmwyna­sau godidog ardderchog hyn, os ni a'i mesurwn nac wrth eu pris a'i gwerth eu hunain, nac wrth gariad y galon y maent hwy yn dyfod oddiwrthi, hwy a ddylent ein cynnhyrfu ni yn fawr i fod yn ddiolchgar i'r neb a'i rhoes hwynt: a'r diolchgarwch hwnnw fyddei roi cwbl o'n bryd a'n meddwl o'r diwedd ar ei wanasethu ef yn ddiffuant, ac i wneuthur rhagor rhwng ei gariad ef a'i ewyllys da a phob peth bydol marwol arall. Ac onis medrwn gael gennym ein hunain wneuthur hynny; etto o'r hyn lleiaf na bo i ni mwy ei ddigio ef â'n pechodau a'n hanwireddau.

[Page 104]16 Nid oes naturiaeth mor arw ac mor greulon yn y byd, fel y dywedais o'r blaen, na's dichon rhoddion a chym­mwynasau ei meddalhau, a'i denu, a'i hynnill: ac y mae historiáu yn mynegi esamplau rhyfedd o hynny, hyd yn oed ym mysg anifeiliaid direswm, megis am ddiolchgarwch y llewod, a'r cŵn, a'r cy­ffelyb, tu ac at eu meistreid a'r rhai a wnai gymmwynas iddynt, Yn vnig y pe­chadur cyndyn, ym mysg yr holl grea­duriaid gwylltion, yw 'r hwn nis gall na chymmwynafau ei gynnhyrfu, A [...]lian in Hist [...]anim. na charedi­grwydd ei feddalhau, nac addewidion ei ddenu, na rhoddion ei ynnill, i wasnaethu 'n ffyddlon ei Arglwydd a'i feistr Duw.

17 Y pechadur mwyaf ac sydd yn y byd, er na roddo i'w wâs ond vgain fflorin yn y flwyddyn, neu i'w ddeiliad ond tyddyn bychan i fyw arno, ac onis gwasanethant hwy ef wrth amnaid am hynny, ef a gwyna yn dôst eu bod hwy yn anniolchgariawn: ond os hwy a geisiant trwy falis wneuthur yn ei erbyn ef, ac ymgyssylltu â'i elyn yn ei erbyn ef, oni byddei hyny yn ei olwg megis peth ni bai neb abliw ddioddel? Ac er ei fod ef ei hun yn gweuthur mwy o anniolchga­rwch a cham tuac at Dduw, etto ef a dybia nad yw hyny beth yn haeddu ei ystyried, ond peth a ellir cael maddeuant am dano yn hawdd le mae efe yn anniolchgarach o [Page 105] lawer tuac at Dduw, ac ynteu wedi cael gan Dduw fil am vn o'r doniau a'r cymwynasau a all dyn marwol i ddyn arall: oblegid efe a dderbyniodd gan Dduw bob peth a chwbl oll, y bara y mae 'n eifwytta, y ddaiar y mae 'n ei cherdded, y goleu­ni y mae 'n ei weled, a'i lygaid hefyd i weled yr haul, a phob peth ac sydd o'r tu mewn ac o'r tu allan i'w gorph: a chydâ hynny ei yspryd a'i feddwl a'i holl ddoniau ysprydol, y rhai y tâl pob vn o honynt fwy nâ mil o gyrph; mi a ddywedaf hefyd ei fod efe yn gwneuthur mwy o gam â Duw, am ei fod ef, er maint ac er amled doniau Duw iddo, yn gwasanaethu gwir elyn Duw, a pheunydd yn gwneuthur pechod ac anwiredd, y rhai y mae Duw yn eu cas­sáu yn fwy nag y gall vn galon ddaia­rol gassáu ei gelyn marwol, oblegid mai pechod mewn gwirionedd a erlidiodd ei fâb ef ein Iachawdr, â chyfryw ely­niaeth ac a ddûg ei werthfawroccaf ei­nioes oddiarno, ac a'i hoeliedd ef yn dynn wrth bren y groes.

18 A rhac y dygn anniolchgarwch, a'r llwyr gam hwn, y mae yn gorfod ar Dduw ei hun gwyno mewn llawer o le­oedd o'r Scrythur lân, megis lle ma [...] 'n dywedyd, Hwy a dalasant i mi ddrwg dros dda. Psal 35.12. Ac yn dostach o lawer mewn man arall, lle mae efe yn galw'r ne­foedd [Page 106] yn dyst o'i hanwiredd hwy, ac yn dywedyd, O chwychwi nefoedd, synnwch wrth hyn, [...]er. 2.12. ac ofnwch yn aruthrol. Megis pe dywedai trwy ddull dieithr ar ymadrodd, Ammhwyllwch, nefoedd gan ryfedded ac mor anhygoel ydyw annuwioldeb dyn tu ac attafi. Canys felly y mae efe yn hyspyssu 'r peth yn helaethach mewn man arall, Esa. 1.2. Gwrandewch nefoedd, clyw ditheu ddaiar, mi a fegais ac a feithrinais fei­bion, a hwy a wrthryfelasant i'm herbyn. Ond tostur yr achwyn ymma gan Dduw yn erbyn pryfed daiarol o'r gwaelaf ac o'r distatlaf? Ac etto y mae Duw yn hyspys­su'r anwiredd yma yn helaethach, tryselwy amryw esamplau a chyffelybiaethau; Yr ŷch medd efe, a edwyn ei feddiannudd, a'r assyn breseb ei berchennog, ond Israel nid edwyn fi, fy mhobl ni ddeall. Gwae'r genhedlaeth bechadurus, pobl lwyhhog o anwiredd, hâd y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sant Israel, ciliasant yn ól. Pa achwyn a ddi­chon fod tostach nâ hwn? Pa fygwth a all bod mor ofnadwy a'r gwae yma sydd yn dyfod o enau'r hwn all ein cospi ni wrth ei ewyllys ei hun?

19 Am hynny, anwyl frawd, od oes i ti ddim grâs, paid â bod yn anniolchgar i Dduw yn hwy; paid â gwneuthur yn erbyn yr hwn drwy gynnifer o ffyrdd a achubodd dy flaen di â chymmwy­nasau [Page 107] ac â doniau; paid â thalu drwg dros dda, a chas am gariad, a dirmyg am dadol ewyllys da tu ac attat. Efe a wnaeth i ti ac erot ti gwbl ac allai, efe a roes i tī gwbl ac wyt, ie mewn ffordd, gwbl ac a dâl ynteu ei hun hefyd, ac mae'n ei fryd heb law hynny dy wneuthur di yn gyfrannog o'i holl ogoniant yn y byd a ddaw, ac heb ofyn dim ar dy law di am hyn i gyd ond bod i ti ei garu ef, a bod yn ddiolchgar iddo. O anwyl frawd, oni chlywi ditheu arnat wneuthur cym­maint a hynny iddo ynteu? Pa ham na wnei di iddo ef cymmaint ac a fynnit titheu i arall ei wneuthur i ti, am lai nâ 'r fil-canfed ran o'r donieu a ge­faist di ganddo ef? Oblegid mi a allaf ddywedyd yn hydda, pettit ti heb roi ī ddyn ond elusen wrth dy ddrws, y ty­bygit ti ei fod ef yn rhwymedig i'th ga­ru di am hynny, er na byddai ynot ddim ond hynny yn haeddu cariad. Ond y mae gan dy Arglwydd Dduw, heb law ei ddoniau hyn, aneirif o achosion eraill i beri i ti ei garu ef, sef pob rhyw achosion ac sydd gan ddim yn y byd i ynnill cariad, ac aneirif eraill yn ychwa­neg; oblegid pettai gwbl oberffeithrwydd holl greaduriaid nef adaiar, a allai yn­nill cariad, wedi ei roi i gyd yn vn, sef eu holl degwch hwy a'i holl rinweddau, a'i holl ardderchawgrwydd, a'i holl ddaioni, [Page 108] a'r cyffelyb; etto y mae dy Arglwydd di a'th Achubwr, yr hwn yr wyti yn ei ddir­mygu, yn rhagori ar y cwbl yn anfei­drol: oblegid y mae efe nid yn vnig yn gwbl o'r pethau hynny i gŷd, ond hefyd▪ tegwch ei hun ydyw ef, rhin­wedd ei hun, doethineb ei hun, pere­ [...]idd-dra ei hun, ardderchawgrwydd ei hun, daioni ei hun ydyw ef, a'r ffyn­non hefyd y mae cwbl o'r rhai hynny yn tarddu allan o honi, yn rhannau ac yn gyfrannau, at ei holl greaduriaid ef.

20 Bid cywilydd arnat titheu, Gri­stion daionus, o herwydd dy anniol­chgarwch ymma tu ac at Arglwydd cymmaint, a chystal, a chyn haeled, a dyro gwbl o'th fryd o hyn allan, ar wellhau dy fuchedd a'th ymddygiad tu ac atto ef. Dywed gyd â 'r prophwyd, oedd iddo lai o achos i ddywedyd hyny nag ti ti, Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu fy anwiredd, Psal. 25.11. canys mawr yw. Mi a wn nad oes dim, O Arglwydd, yn dy anfodloni di yn gymmaint, nac yn sy­chu ffynnon dy drugaredd di yn fwy, nac yn rhwymo dy ddwylo di rhac gwneu­thur daioni, yn gymmaint ac y mae an­niolchgarwch y rhai sy 'n derbyn daioni a chymmwynasau ar dy law di, yn yr hyn y rhagorais i ar bawb eraill hyd yn hyn o'm hoes; ond mi a'i gwneu­thum, O Arglwydd, mewn anwybod, [Page 109] eisieu ystyried dy ddoniau a'th ddaio­ni di tu ac attaf, a pha gyfrif a ofyn­ni di ar fy llaw i am danynt hwy. Ond yr awrhen, gan ryngu bodd i ti fy nghy­frif i yn deilwng o hyn oth râs yn angwhaneg, i allu gweled ac adnabod fy nghyflwr am ddiffyg fy hun, yr wyf yn gobeithio y bydd i mi o hyn allan, trwy fod dy râs di i'm cyfarwyddo, fy nangos fy hun yn well plentyn tu ac attati. O Arglwydd, yr wyf fi o'r diwedd wedi fy ngorchfygu wrth ystyried dy gariad di tu ac attaf, a pha fodd y gall­af glywed ar fy nghalon wneuthur mwy yn dy erbyn di, a thitheu trwy gyn­nifer o foddion yn achub fy mlaen i â'th ddoniau, ië pan nad oeddwn i yn meddwl am eu gofyn? A allaf fi byth mwy fod yn berchen dwylo i bechu yn dy erbyn di, a thitheu wedi rhoi dy ddwylo dy hun i'w hoelio ar y groes tros fy mhechodau i ? Na allaf ddim, gormodd cam fyddei hynny yn dy er­byn di, Arglwydd; ac ôch gwae finneu ddarfod i mi ei wneuthur cyn fyny­ched o'r blaen. Ond trwy dy fendige­dig gymmorth di, yr wyf yn gobeithio na ddychwelaf yn fy ôl at y cyfryw anwiredd o hyn allan. Ac ar hynny, Arglwydd, y dymunaf arnat er mwyn dy drugaredd, o'th fendigedig orsedd yn y nef, ddywedyd Amen.

PEN. VIII. Pa dŷb a fydd cennym ni am y pethau hyn, wrth farw, a pha fodd y cawn ni yr amser hwnnw glywed oddiwrthynt.

Y mae 'r Yscrythur lân yn ein dys­gu ni, ac yr ydym ni yn gweled beu­nydd, fod elw ac ynnill, a goruchafia­eth, a phlesser a difyrrwch y byd, yn perchennogi calonnau llawer o ddyni­on mor gwbl, a'i bod yn eu dal mewn cadwynau, â swynion ac â chyfareddi­on cyn gryfed, gan ddarfod i râs Duw ymwrthod a hwynt yn ôl eu cyfi­awn haeddedigaeth eu hun; ac nas gall dim, dyweded dyn wrthynt y peth a fhyno, a bygythi [...]d arnynt cymaint ac a fynno, a dyged yn eu herbyn yr holl Scrythur lân, o ddechreu Genesis hyd ddiwedd Datcuddiad Ioan (lle nid oes dim nad ydyw yn erbyn pechod a phe­chaduriaid) ni thyccia dim iddynt, gan eu bod yn y cyfryw gyflwr gofidus a bod naill ai heb gredu ai heb wneu­thur cyfrif yn y byd o ddim ac a ddy­wetter wrthynt yngwrthwyneb i'w cyn­nefin fuchedd eu hunain, neu i geisio peri iddynt roi eu bryd ar ymadael â hi. Ac o hyn y mae i ni aneirif o es­amplau yn yr Scrythur lân; megis am Sodoma a Gomorha, a'r dinasoedd o'i [Page 111] hamgylch, y rhai ni fynnent wrando ar y rhybudd a roddai y gŵr duwiol Lot i­ddynt. A Pharao ynteu, Gen. 19. yr hwn nid oedd abl dim i'w gynnhyrfu, Exo. 6.7, 8, 9. ac a fedrai Foe­sen ei wneuthur, na thrwy arwyddion, na thrwy ymadroddion. A Judas hefyd, yr hwn nis gallai ddim ac a wnai ei feistr iddo na thrwy dêg na thrwy fygwth▪ be­ri iddo newidio ei feddwl oddiwth y drwg y rhoesai ei fryd ar ei wneuthur, Ond yn enwedig y prophwydì a ddan­fonid gan Dduw, o amser i amser, i gei­sio tynnu 'r bobl oddiwrth eu drwg fu­chedd ac felly oddiwrth y plâau a'r di­aleddau oedd yn dyfod ar eu gwartha; hwynt hwy sydd yn tystiolaethu yn he­laeth am y peth hyn, Mat. 26. wrth achwyn ym mhob man fod cyn galetted calonnau 'r bobl ac nad oedd yr holl gynghorion a'r pregethau, a'r addewidion, a'r bygy­thiau, yr oeddynt hwy yn eu dangos i­ddynt, yn cynhyrfu gronyn arnynt hwy. A bydded y prophwyd Zachari yn dŷst tros y cwbl yn hyn o beth, yr hwn sydd yn dywedyd fel hyn am bobl Israel, y­chydig o flaen eu dinistrio, Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gyfion, Zach. 7.9. gwnewch drugaredd a thosturi bob vn i'w frawd, ac na or­thrymmwch y weddw, a'r ymddifad, a'r dieithr, a'r angheuog; ac na feddyliwch ddrwg yn eich calonnau bob vn i'w gilydd. [Page 112] Ac yn y man y dyweid ym mhellach, Er hynny hwy a wrthodasant wrando, ac a roesant ysgwydd anhydyn, ac a drymha­sant eu clustiau rhag clywed; ac a wnae­thant eu calonnau yn Adamant rhag cly­wed y Gyfraith, a'r geiriau a anfonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd, yn llaw y Prophwydi gynt▪ am hynny y daeth digofaint mawr oddiwrth Arglwydd y lluoedd, &c.

2 Wrrh hynny, dymma 'r arfer sydd ac a fu erioed gan y rhai bydol, a'r rhai annuwiol gwrthodedig, sef caledu eu calonnau fel carreg Adamant, yn er­byn pob peth ac a ddyweder wrthynt am wellhau eu buchedd, a cheisio cadw eu heneidiau. Tra font yn cael iechyd a hawddfyd, ni fynnant adnabod Duw; fel y mae efe yn achwyn mewn man arall Etto, Esa. 1. Psal. 9.16. fel y dyweid y prophwyd, fe wna Duw i'r dynion hyn ryw ddiwr­nod ei adnabod ef. A hynny yw, pan Adwacnir yr Arglwydd wrth i farn a wna; A hynny fydd ar ddydd marwolaeth, yr hwn yw 'r drws nesaf i'r farn, fel y ty­stia 'r Apostol, Gosodwyd i ddynion fa­rw vnwaith, ac wedi hynny bod barn.

Heb. 9.27.3 Hwnnw, meddaf, yw dydd Duw, yr hwn fydd ofnadwy iawn, [...]sa. 2.12. [...] 13.14. [...] 37.61. [...]at. 4.1. a gofidus, a llawn o drallod i'r annuwiol; yn yr hwn y gwna Duw wybod ei fod ef yn Dduw cyfiawn, ac y tâl efe i bob dyn yr hyn a wnaeth yn y [Page 113] corph yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg; fel y dyweid yr Apostol: 2 Cor. 5.10. neu fel y dywaid y prophwyd, ef a wna wybod ei fod efe yn Dduw ofnadwy, Psal. 76.7. ac na ddichon neb sefyll o'i flaen pan ennynno ei ddigofaint; a'i fod yn gyfryw vn ac a dyrr ymmaith yspryd tywysogion, ac sydd ofnadwy i frenhinoedd y ddaiaer. Ar y dydd hwnnw, sef dydd marwolaeth, fel y bydd cyfnewid mawr ym mhob peth arall, o­blegid ein llawenydd ni a droir yn a­lar, ein chwerthin yn wylo, ein difyr­rwch yn ofid, ein hyder yn ofn, ein gwroliaeth yn llyrfder, ein balchder yn anobaith, a'r cyffelyb: felly yn en­wedig y bydd cyfnewid mawr yn ein meddyliau ni, a'n tŷb, a'n barn, oble­gid doethineb Duw, am yr hon y cry­bwyllais yn y pennodau o'r blaen, a'r hon, fel y dyweid yr Scrythur, a gyfrifir yn ffolineb gan ddoethion y byd hwn; 1 Cor· 2. a ym­ddengys yr amser hwnnw yn ei rhith a'i chyffelybrwydd ei hun, ac yn ei gwir ddull ei hun, ac y cydnebydd ei gelyni­on pennaf nad oes vvir ddoethineb ond y hi; ac nad yw holl gnawdol ddoethi­neb y rhai bydol ond llwyr ffolineb, Rhuf. 8. 1 Cor. 1▪ fel y mae Duw yn dywedyd am dani.

4 Hyn y mae 'r Scrythur lân yn ei o­sod ar lawr yn amlwg, vvrth ddangos yr ymadroddion, a'r ymddiddanion, a'r cwynfan fydd gan y rhai bydol yn y dydd diweddaf, pan elont i [Page 114] ddywedyd am y rhai duwiol a ddiysty­rent hwy yn y byd ymma, Doeth. 5.4. Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu buchedd hwy yn yn­fydrwydd, a'i diwedd yn ammharchus; ond yr awrhon, hwy a gyfrifir ym mysg moibion Duw, ac y mae eu rhan hwy ym mysg y Sainct▪ Nyni a gyseiliornasom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd lle­wyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cy­fiawnder a nom: ni a ymflinasam yn ffordd anwiredd a distryw, ac a rodiasom trwy ynialwch anhyfford; ond ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Hyd ymma y mae geiriau 'r Scrythur, wrth y rhai y gallwn we­led faint y cyfnewid fydd ar ein tŷb a'n barn, a'n meddwl ni yn y dydd di­weddaf, a'r rhagor sydd rhwng y tŷb a'r meddwl fydd gennym yr amser hwn­nw am bethau bydol, a'r meddwl sydd gennym yr awrhon am danynt: ac y gallwn weled pa gyfaddef a wnawn ar ein ffolineb, pa gydnabod â'n camsyni­ed, pa ofid calon am y boen a gym­merasom yn ofer, ac mor ofer sydd i ni yr amser hynny edifarhau am wyro all­an o'r ffordd. Och nad ystyriei dynion y pethau hynny yr awrhon. Ni a ymsti­nasom, meddant hwy, yn ffordd anwiredd a distryw, ac a rodiasam trwy anialwch anhyfford. Beth am eglured y mae yn dangos y cyflwr y bydd y rhai by­dol truain ynddo yr amser hwnnw, y [Page 115] rhai sy yma beunydd yn curo eu hym­mennyddiau, ac yn eu llwyr flino eu hunain yn canllyn oferedd a gwagedd, ac vs a llŵch y byd hwn, ac er hynny fyny­chaf yn fwy eu poen a'i llafur ynghylch y gwag-bethau hynny, nag ydyw poen y rhai cyfiawn yn ceisio teyrnas nef? A phan ddelont hyd at y dydd diweddaf, yn fawr eu blinder a'i lludded ar ôl eu llafur a'i poen yn y byd yma; y maent yn gweled nad oedd eu holl lafur ond colledig, na'i holl drafferth a'i trallod ond ofer. O­blegid am y tippyn golud a gawsant hwy yn y byd hwn, ac yr ymdrechasant mor dôst amdano, ni wna fo ronyn llês iddynt, ond yn hytrach eu poeni a'i blino yn ddir­fawr. Ac fel y galler deall hyn yn well, rhaid yw ystyried fod tri pheth yn ben­naf a flina ac a boena 'r cyfryw ddynion ar ddydd eu marwolaeth; ac yn y tri pheth hynny y cynnhwysir cwbl o'r llaill.

5 Y cyntaf yw 'r boen anesgorol y mae dynion fynychaf yn ei dioddef wrth ymadawiad yr enaid a'r corph, y rhai a fu cyd o amser yn byw ynghyd fel dau gyfaill gariadus, yn vn ei cariad a'i difyrrwch, ac am hynny yn anhawdd iawn ganthynt ymadael â'i gilydd, oni bai fod yn [...]dir ac yn anghenrhaid i­ddynt ymadael. Y boen a'r gofid hwnnw a ellir ei ddeall wrth hyn; pettem ni yn gyrru bywyd allan o'r rhan leiaf [Page 116] o'r corph, pettai ond ein bŷs bâch (fel y gwna 'r meddygon pan fônt yn mar­weiddio rhyw ran glwyfus o'r corph i gael gantho dorri allan) pa boen ddir­fawr sydd raid i ddyn ei dioddef cyn ei marweiddio? pa wynio cynddeiri­og sydd raid iddo ei oddef? Ac os yw cymmaint ein gofid ni wrth farweiddio vn rhan fechan o'r corph, meddyliwch faint fydd y gofid wrth farweiddio 'r holl gorph, a hynny o'i anfodd. Oble­gid ni a welwn yr angeu yn gyntaf yn cymmell y bywyd i ymadael â'r rhan­nau eithaf o'r corph, sef bysedd y tra­ed a'r dwylo, wedi hynny y cocsau a'r breichiau; ac felly y mae pob rhan yn marw, y naill ar ôl y llall, hyd oni yr­rer y bywyd yn vnig i'r galon, yr hon sy 'n dal allan yn hwyaf, o herwydd mai y rhan bennaf ydyw, ond o'r diwedd hi a gymmhellir hitheu i ymroi, er maint fo ei phoen, ac er maint fo 'r gwrthwyneb ganthi i ymroi. Ac mor fawr ac mor gryf ydyw 'r boen honno, fe ellir gweled wrth fod lli­nynnau 'r galon yn torri gan faint ac mor anesgorol ydyw 'r poenau marwol hynny. Ond cyn y gyrrer hi cyn belled a gorfod arni ymroi, nid oes vn dyn a ddichon ddangos greuloned a thosted yw 'r ymdrech sydd rhyngthi ac angeu, a pha ing a chyfyngder sydd [Page 117] raid iddir eu dioddef pan ddêl gloes ang­ [...]u atti. Meddyliwch pettai ryw fren­ [...]in galluog mewn heddychol fe­ddiant o ryw ddinas dêg, ac yn byw mewn pob mâth a'r hawddfyd a difyrrwch ynddi, a'i holl gym­mydogion o'i amgylch yn ei garu, ac yn addo ei gymmorth pa bryd byn­nag y byddai raid iddo; a dyfod o'i elyn marwol yn ddisymmwth ar ei vchaf ac amgylchynu ei ddinas ef, ac ynnill y naill ymddiffynfa ar ôl llall, y naill gaer ar ôl y llall, y naill dŵr ar ôl yllall; a gyrru 'r brenhin yn vnig i ryw dŵr bâch o fewn y ddinas, a'i amgylchu ef yno he­fyd, wedi curo i lawr ei holl ymddiffynfeydd ef, a llâdd ei holl wŷr yngwydd ei lygaid: pa ofn, a pha gyfyngder, a pha ofid fyddei ar y brenhin hwnnw? Onid edrychai efe allan yn fynych trwy dyllau a ffenestri yr tŵr, i edrych a ddoai ei garedi­gion a'i gymmodogion i'w helpio ai na ddaent? Ac gvvelai fod pawb o honynt yn ei wrthod, a'i elyn ar dorri i mewn atto, oni by­ddai dostur a blin ganddo ei gyflwr, dybygwch chwi? Ac ac yn y cy­flwr hwnnvv y mae 'r enaid truan yn amser gloes angeu: pan fo'r corph yr oedd [Page 118] [...] [Page] [...] [Page 118] efe yn teyrnasu ynddo megis brenhin gwŷch pan oedd yn ei flodau, mewn pob math ar ddifyrrwch wedi iw elyn yr angau ei guro i lawr a'i ddadymchwel: y breichi­au a'r coesau, a'r aelodau eraill, oedd me­gys caerau yn gader nid ac yn ymddiffyn iddo tra oedd mewn iechyd, vvedi eu gorchfygu, a'i curo i lawr, ac ynteu 'r e­naid wedi ei yrru i'r galon yn vnig megis i'w ymddiffynfa eithaf, ac yno yn cael go­sod arno mor greulon, ac nas gall ddal allan nemor o ennyd; a'i hoff garedi­digion, y rhai a ddywedai yn dêg wrtho yn ei wynfyd, ac a addawent iddo bob rhyw help a chymorth, sef ieueng­rid, a physygwriaeth, a chynnorthwyau dynol eraill, yn ei vvrthod yn llwyr; a'r gelyn ynteu yn gyfryw ac nas gellir na heddychu ag ef, na chael cyngrair gantho, a phob nos a dydd yn gosod ar y twr bâch wnnw y mae ef ynddo, a hwnnvv vveithian yn dechru siglo, a chrynu, a mynd yn ddrylliau; ac yn­reu bob awr yn disgwyl pa bryd y daw 'r gelyn i mewn atto yn gynddeiriog ac yn ofnadwy. Pa fath gyflwr, dybygwch chwi yw hwn ar yr enaid cystuddiedig? Nid yvv ryfeddod yn y byd os a'r doeth yr amser hwnnw yn ynfyd, a'r dewr yn llwrf, pan ddêl arno y fath ofid blin a chyfyngder ac a vvelwn ei bod yn dyfod ar y rhai bydol, fel nas gall­ont [Page 119] wneuthur na threfn na dosparth lawn yn y byd nac o'i golud bydol, nac o'i dlêd tu ag at Dduvv yn yr awr honno; o achos y ddygn boen sydd yn gorthrechu eu he­neidiau hwy, fel y dyweid S. Awstin (neu ryvv vn arall tan ei enw ef) yr hwn hefyd sy'n rhoi i ni rybydd gor­chestol, Ser. 48. ad frat. in ecc. [...]. pettai i ni cymmaint o râs a'i ganlyn; Pan fych di yn dy glefyd diw­eddaf, ac ar dy wely angeu, frawd an­wyl, (medd efe) ôch mor anhawdd ac mor flin fydd i ti edifarhau am y pechodau a wnaethost: a pham yw hynny, ond am y bydd holl feddyl­fryd dy galon di 'ar y man lle y bo mwya'r dolur arnat? Llawer o rwystrau a fydd yn llestair i ddyn yn yr awr honno feddwl am edifarhau, megis y dolur a'r boen a fo yn ei gorph, ofn angeu, gweled ei blant ger ei fron (a'r rhei'ny vveithiau yn peri i'vv ta­dau dybied eu bod yn golledig o'i ha­chos) ei wraig yn cwyn fan ac yn wy­lo, y byd yn gwneuthur truth iddo, y cythraul yn ei demptio, a'r physy­gwyr yn ei vvenhiethio i geisio elvv oddiwrtho, a'r cyffelyb. A chred fi, o ddyn pwy bynnag vvyt a ddarllennych hyn, y cai di ar fyr o amser vveled y bydd yr holl bethau hyn yn wir ynot ti di hun: ac am hynny mi a ddymu­naf arnat edifarhau cyn dyfod y dydd [Page 120] hwnnw ar dy warthaf: gosod dy dŷ mewn trefn, a gwna dy ewyllys a'th lythyr cymmyn tra fych gwr i ti dy hun, oble­gid os oedi di hyd y dydd diweddaf, ti a gai dy arwain lle nis mynnit. Ac dyna eirian S. Austin.

6 Yr ail peth a wna angeu yn ofnadwy ac yn ofidus gan y rhai bydol, yw bod yn rhaid iddo ymadael yn ddisymmwth, a hynny byth bythoedd, â'r holl bethau yr oedd efe yn eu hoffi fwyaf yn y byd hwn, ei gyfoeth, a'i feddiannau, a'i anrhy­dedd, a'i swyddau, a'i adeiladau têg, a'i holl oludoedd, a'i ddillad gwychion, a'i dlysau gwerthfawr, a'i wraig, a'i blant, a'i geraint, a'i gyfeillon, a'r cyffelyb; o achos y rhai yr oedd yn ei dybieid ei hun yn ddedwydd yn y byd ymma, ac ynteu yr awrhon yn cael ei gippio oddiwrthynt yn ddisymmwth, heb obaith cael na'i gweled na'i mwynhau byth ond hynny Och mor flin ac mor ofi­dus fydd hynny. Ecc. 41.1. Ac am hynny y dy­waid yr Scrythur lân, O angeu, mor chwerw yw meddwl am danat ti, i'r dyn fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; i'r gwr a fyddo dibelbul, a llwy­diannus ym mhob peth. Megis pe dy­wedid, nid oes chwerwder na gofid mwy yn y byd i'r cyfryw vn, nâ meddwl am farw yn vnig chwaethach mynd i ymdrech marwolaeth, a hynny allan o lavv, pan [Page 121] ddywetter wrtho, fel y mynega Christ ddarfod dywedyd wrth y gwr goludog mawr yn yr Efengyl, yr hwn oedd we­di llenwi ei y [...]guboriau, Luc. 12.20. ac wedi dyfod i vchder ei ddedwyddyd, O ynsyd y nos hen y gofynnir dy enaid oddi gennit, ac yno eiddo pwy fydd yt holl hethau a barotoaist?

7 Ammhossibl, meddaf, i vn tafod yn y byd ddangos mor ofidus fydd cy­flwr y gwr bydol yn awr angeu, pryd na allo dim o'r golud a gasgloddd efe erioed ynghyd, trwy gymmaint o bo­en a trafferth, er maint oedd ei oglud arno a'i ymddiried ynddo; ronyn llês mwyach, ond yn hyttrach ei boeni a'i slino wrth feddwl am dano, ac ystyried y bydd rhaid iddo adael y cwbl i er­aill, a myned ei hun i roi cyfrif pa fodd y casglodd, a pha fodd yr arfe­rodd efe ei olud, ac wrth hynny ond odid cael damnedigaeth dragywyddol, ac eraill yn y cyfamser yn byw mewn llawenydd a digrifwch yn y byd hwn, ar y pethau a ddaifu iddo ef eu casglu, a'r rheiny heb feddwl ond ychydig am dano ef, a gofalu llai drosto ef pan fo yn llosgi ylgatfydd yn y tân anniffo. ddadwy, o achos y golud a adawodd efe iddynt hwy. Dyma beth tostur go­fidus, ac sydd abl i ddwyn ar lawer dyn fawr ddolur calon a chyfyngder yn yn yr awr ddiwethaf, pan orffo arno adael holl lawenydd y byd, ac ysgar [Page 122] a phob difyrrwch ac a'i holl olud byth bythoedd. Och mor dostur ac mor flin fydd yr ymadael hwnnw! Beth a ddywedi di y dwthwn hwnnw, pan ddel darfod ar dy holl ogoniant, a'th holl gyfoeth, a'th holl rodres di? Beth fy­ddi di gwell yr amser hynny er dy fod yn byw yn barchedig yn y byd, mewn ffafor tywysogion, a phawb yn dy glod­fori, ac yn dy ofni, ac yn dy berchi, ac yn dy dderchafu; gan fod y cwbl bell­ach wedi darfod am danynt, â thitheu heb allael byth mwy mo'i mwynhau?

8 Ond y mae etto 'r trydydd peth a wna fwy o ofid a thrallod i'r rhai bydol wrth farw nâ 'r holl bethau eraill, a hynny ydyw ystyried beth a ddaw o honaw ef, Eccles. 10. gorph ac enaid, we­di hynny. Ac am ei gorph, digon er­chyll fydd iddo feddwl y bydd iddo gael scirph, a bwystfilod, a phryfed (fel y dyweid yr Scrythur) yn etife­ddiaeth, hynny ydyw y bydd dir y testir ef allan i fod yn ymborth i bry­fed: y bydd rhaid i'r corph hwnnw oedd yn cael ei drin mor foethus o'r blaen, ag amryw ddaintethion o fwydydd, â chlustogau a gwelau manblu, ac â dillad mor wychion ac mor ddillyni­on, ac amryw addurnau eraill, y rhai nid oedd iawn dybygent hwy, i'r gwynt chwythu, nac i'r haul dywynnu arnynt: y [Page 123] corph hwnnw yr oedd cymmaint balch­der o'i degwch, a thrwy 'r hwn y gwnacd cymmaint o oferedd a phecho­dau; y corph hwnnw oedd gynnefin â phob math ar foethau, ac ni allai ddi­oddef dim gerwinder, na cherydd yn y byd, sydd raid iddo yr awrhon gael ei wrthod gan bob dŷn, a'i adael yn vnig i gael i yssu gan bryfed. Yr hyn beth, er nas gall na fago ofn ac erchyll­dod ynghalon dŷn wrth farw, etto nid yw hynny ddim wrth y meddyliau er­chyll ofnadwy a fydd gantho o achos ei enaid; sef pa beth a ddaw o hwn­nw, ac i ba le yr â yn ôl ymadael â'r corph: ac yno wrth ystyried y bydd rhaid iddo fyned ger bron brawdle Christ, i gael ei farnu ganddo, naill ai i fwynhau gogoniant annrhaethadwy, ai i ddioddef poenau anesgorol; y daw arno ystyried ym mhellach faint yw 'r perygl o hynny, pan él i ed­rych pa gyffelybrwydd sydd rhwng cyfiawnder a bygythion Duw, a osod­wyd i lawr yn yr Scrythur lân, a'i fu­chedd ynteu ei hûn: yna y dechreu efe holi 'r tŷst, yr hwn yw ei gydwy­bod ef ei hun, ac y caiff weled ei bod yn barod i roi aneirif o achwynion yn ei erbyn ef pan ddêl ger bron brawdle cyfiawnder Duw.

9 Ac yna frawd anwyl, y dechreu [Page 124] gofid a thrueni dŷn. Oblegid nid oes o­did o ymadrodd tôst yn yr holl Scry­thur lân, na ddaw yn ei gof ef yr am­ser hwnnw, i beri iddo ofni a dychry­nu ar y munud hwnnw; megis y rhai hyn, Mat. 19.17 Os ewyleyfi fyned i mewn i'r hywyd cadw 'r gorchymmynion. Yr hwn sydd yn dywedyd ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw ei orchymmynion ef, 1 Ioan. 2·4. Mat. 7.22. celwyddog y­dyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. Lla­wer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwn­nw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwyda­sam yn dy enw di? ac oni swriasom adan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnat­tham wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf iddynt (medd Christ) Nid adnabûm chwi erioed, Ewch ymaith oddi­wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd. Nid gwrandawyr y Gyfraith sy gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthurwyr y gyfraith a gyfiawnheir. Rhuf. 2.13. Ewch ymaith oddiwrthyf rai melldegedig i'r tân tragywyd dol, yr hwn a barottowyd i ddiasol ac iw angy­lion. Mat. 25.41 1 Cor. 6.9. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw. Na thwyller chwi, ni chaiff na godineb-wyr, nac eulyn addol-wyr, na thorwyr priodas, na maswedd-wyr, na gwr-ryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwyr, na difenwyr, na chribddeilwyr; etifeddu teyr­nas Dduw. Rhuf. 8. Gal. 5.19. Os byw fyddwch yn ôl y cnawd, meirw fyddwch. Ac amlwg yw [Page 125] gweithredoedd y cnawd, y rhai yw torri priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw addoliaeth, swyn gyfaredd, casineb, cynnhennau, gwyndfyau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresiau, cynfigennau, llofruddi­aeth, meddwdod, cyfeddach, a'r pethau cyffelyb i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhag-ddywedyd wrthych, megis y dywe­dais o'r blaen, a chaiff y rhai sy 'n gwneu­thur y cyfryw bethau etifeddu Teyrnas Dduw. 2 Cor. 5.10. Ier. 2. Dat. 20.12. 2 Pet. 2. Rhaid i ni oli ymddangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn, y pethau a wnaethbwyd yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg: a phob vn a dderbyn yn ôl ei weithredoedd. 1 Pet. 4.18. Nid arbedodd Duw yr angylion a bechasant. Rhaid yw rhoi cyfrif ddydd farn am bob gair segur a ddywedo dynion. Mat. 7.14.18. Os braidd y bydd y cyfiawn cadwedig, pa le 'r ymddengys yr annuwiol a'r pechadur. Ychydig yw y rhai sy 'n cael y ffordd gûl; Mat. 22.14. Luc. 13.23 Mat. 19.23·24. ac yn myned i mewn i'r porth cyfyng. Ychydig a dde­tholir; Ychydig a fydd cadwedig. Ac an­bawdd yw i'r goludog fyned i mewn i Deyrnas nefoedd.

10 Yr holl bethau hyn, meddaf, a mil yn ychwaneg ynghylch tosted barn Duw, a'r cyfrif a ofynnir yn y dydd hwnnw, a ddaw ynghof y rhai bydol wrth farw; a'n gelyn ysprydol (yr hwn yn ein bywyd a wnaeth ei oreu [Page 126] ar gadw 'r pethau hyn allan o'n golwg ni, fel y byddai haws iddo beri i ni bechu) a esyd gwbl o hyn a llawer yn ychwaneg yr amser hwnnw ger ein bronnau ni, ac a helactha ac a dacra bob peth hyd yr eithaf ac a ddwg ein cydwybod ni ein hunain yn dŷst trosto ar bob peth. A chan na all yr enaid truan sydd yn ymadael wadu dim o hynny, nid yw bossibl na bydd dirfawr ei ofn ef: fel yr ydym ni yn gweled beunydd fod y cyfryw ofn ar wyr da duwiol. Hieron. in viz. Hilari­on. abb. Y mae S. Ierem yn dywedyd am y gŵr duwiol Hilarion, pan oedd ei e­naid, wrth ystyried y pethau hyn, yn ofni yn fawr fyned allan o'r corph; yn ól hir ymdiech, efe a gymmerodd galon yn y diwedd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, dôs allan fy enaid, dôs allan; pa ham yr wyti yn ofni; yr wyti yn gwasanaethu Christ er ys deng mhlynedd a thriugain, ac a oes arnat ti yr awrhon ofn marw? Ac od oedd cymmaint ofn ar wr mor dduwiol a hwnnw wrth ymadael, ac ynteu wedi gwasanaethu Duw mewn purdeb buch­edd, a zêl berffaith tros deng mhlynedd a thriugain; pa ofn, dybygwch chwi fydd ar y rhai ni ddarfu iddynt wasa naethu Duw yn gywir ond prin vn di­wrnod yn eu holl fywyd, ond yn hyt­trach treulio eu holl flynyddoedd mewn [Page 127] pechod, a gorwagedd y byd? Oni bydd angenthaid bod ofn a chyfyngder mawr ar y gwyr hyn wrth ymadael á'r byd▪

11 Yn awr, frawd anwyl, gan fod y pethau hyn felly, hynny ydyw, gan fod ymadawiad marwolaeth mor ofnadwy, ac mor beryglus, ac er hynny mor am mhossibl ei ochel; a bod cynnifer o ddynion beunydd yn myned yn golledig, ac yn colli 'r maes yr amser hwnnw, y [...] hyn nis gellir ei wadu; a bod yr yscry [...]hurau sanctaidd, a hên dadau duwiol, yn tystiolaethu i ni hynny trwy esamplau a choffadwriaethau e­raill; pa ddyn a fai a dim synhwyr yn ei ben, ni ddysgai fod yn ddoeth, wrth beryglon rhai eraill? A pha greadur a fai a rheswm gantho, ni ochelai, ac nid edrychai yn ei gylch, ac ynteu vve­di cael rhybudd mor amlvvg ac mor o­leu, faint yvv ei berygl? Os vvytī Gristion, ac os vvyti yn credu yn ddiau, y pethau y mae ffydd Grist yn eu dys­gu i ti; yr vvyti yn gvvybod ac yn cre­du yn siccr, o ba radd bynnag, o ba oedran bynnag, o ba gryfder bynnag, o ba fraint a chyflvvr bynnag, yr vvyti yr avvrhon; y bydd rhaid i titheu dy hun sy yn dar­llein y pethau hyn yn iach ac yn lla­vven, ac yn tybied nad ydynt hvvy yn perthyn favvr i ti; ryw ddiwrnod, a [Page 128] hynny ysgatfvdd yn y man ar ôl darllein y pethau hyn, gael dy hun brofi 'r pe­thau hyn yr wyt yn eu darllain: hynny ydyw, y bydd rhaid i ti trwy alar a gofid gael dy yrru i'th wely, ac yno yn ôl dy holl ymdrech a phiccellau ang­eu, y bydd rhaid i ti roi i fynu dy gorph yr wyti 'n ei garu cymmaint, i fod yn abwyd i bryfed, a'th enaid ei gael barn gyfiawn am a wnaeth yn y bywyd hwn.

12 Maddwl ditheu fanwylyd, yr hwn wyt heddyw yn hoyw ac yn heini, fod y dengmhlynedd, neu yr vgain mhlynedd neu y ddwy flynedd, neu ysgatfydd y ddeufis sydd i ti etto yn ôl o'th oes wedi dyfod i ben, a'th fod ti yr awr hon we­di ymestyn ar dy wely, a chwedi dy or­fod a'th flino gan boen a dolur, a bod dy garedigion cnawdol yn dy gylch yn wylo ac yn vdo, dy physygwyr wedi ca­el eu cyflog ac ymadael â thi, a'th roi ditheu i fynu; a'th fod titheu yn gor­wedd yno yn fud ac yn aflafar mewn poen dosturus, yn disgwyl o fynud i fynud am gael y dyrnod diwethaf gan yr ang­eu. Dyweid i mi, pa lês a vvnai holl ddi­fyrrwch a golud y byd i ti yn yr awr honno? Pa gyssur fyddei i ti dy fod gynt yn anrhydeddus vn y byd, dy fod gynt yn gyfoethog a chwedi pwrcasu llawer, a'th fod mewn swyddau, ac mewn ffafor [Page 129] tywysogion; a'th fod yn gadael dy blant a'th dylwyth yn gyfoethogion, a darfod i ti gael y gorfod ar dy ely­nion, a bod yn fawr dy rwysg yn y byd? Pa esmwythdra, a pha gomffordd fyddei i ti dy fod gynt yn dég dy bryd, yn vvychion dy ddillad, yn vvr glan o gorph, yn discleirio mewn aur? O nid mwy o flin­der a gofid a vvnai 'r holl bethau hyn i ti yr amser hwnnw, nag o lês? Canys yno y cait ti weled ofered y coeg-bethau hyn: yno y dechreuai dy galon di ddywedyd o'th fewn; Och mor ddygn yvv fy ynfy­drwydd a'm dallineb i: wele, dyma ddi­ben ar fy holl ddifyrrwch i a'm llwy­ddiant; fe ddarfu bellach fy holl la­vvenydd i, am holl ddifyrrwch, a'm holl ddiddanwch, a'm holl ddigrifwch: pa le y mae fy ngharedigion i a'm cy­feillion a fyddei arfer o gyd chwerthin â mi? pa le y mae fy ngweision a fyddei yn gweini i mi, a'm plant a fyddei yn fy llawenychu? Pa le y mae fy holl feirch a'm cerbydau y gwnawn fawr rodres â hwynt? Pa le y mae 'r ymbennoethi a'r ymostwng y byddei'r bobl i mi, a'r mawrbarch a roid i mi? Pa le mae'r lluoedd a fyddai yn fy nghanllyn ac yn erlyn arnaf am negeseu? Pa le y mae fy holl drythyliwch i, a'm nwyfiant a'm y smalhawch? Pa le y mae fy holl fe­lysgerdd a'm canu, a'm holl dai gwychion, [Page 130] a'm holl vvleddoedd a'm dointethfwyd costfawr? Ac yn anad dim, pa le y mae fy holl garedigion anwylgu, a gym­merent arnynt na'm gwrhodent byth? Ond y maent hwy i gyd yr awrhon we­di myned ymaith, a'm gadael innau ym­ma yn vnig i roi cyfrif am y cwbl, ac ni vvna yr vn o honynt hwy cymmaint a mynd gycâ myfi i'r farn, na dywe­dyd vn gair yn fy mhlaid i.

13 Gwae finnau fyth na ragwelswn i 'r dydd yma yn gynt, ac ymbarottoi yn vvell erbyn ei ddyfod: hi aeth yn rhyhwyr vveithian, ac yr vvyfi yn ofni ddarfod i mi bwrcasu damnedigaeth dragywyddol am yehydig fyrr-ddi­fyrrwch bydol, a cholli gogoniant an­nhraethadwy am orwagedd ac oferedd. Oh dedwydd a thra happus yvv y rhai sy yn byw fel na bo rhaid iddynt ofni'r dydd hwnnw. Yr awrhon y gwelaf fi y rhagor sydd rhwng diweddy da a'r drwg, ac nid rhyfedd gennyf fod yr Scrythur yn dy­vvedyd am y naill, Psa. 116.15 Gwerthfawr yage­lwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Sainct; Psal. 33.22· Felly y mae 'r Groeg, a'r lladin, a Cypr. li. con­tra Nouat. yn ei gyfiei­thu. ac am y llaill mors pcccatorum pessima, Drwg iawn yw marwolaeth yr annuwiol. O na buaswn i fyvv mor dduwiol ac y bu rhai fyw, ac na busawn i yn cresawu yr aml ysprydoliaethau da a ddanfonodd Duw yn fy nghalon i, i geisio genny fi fyw'n dduwiol; neu na vvnaethwn y [Page 131] gweithredoedd da a allaswn eu gwneu­thur; mor felus ac mor gyffurfawr fua­sent hwy i mi yr awr hon yn fy mawr ddygn gyfyngder diwethaf yma.

14 Y meddyliau a'r ymadroddion hyn, frawd anwyl, beth bynnag vvyti yr aw­rhon, fydd dir eu bod yn dy galon di yn awr angeu, oddieithr i ti yr awrhon ochelyd hynny trwy vvellhau dy fu­chedd, a hynny yn vnig a all roi cyssur i ti yn y dydd trist hvvnnvv. Oble­gid am y rhai da y dyvvaid y barnwr ei hun, Luc. 21.28 Pan ddechreuo'r pethau hyn ddyfod edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau, canys y mae eich ymwared chwi oddi vvrth drallod a thrafferth y byd hvvn, yn nesau. Ac y mae 'r prophvvyd yn dyvvedyd am y gvvr duvviol, a vvnaeth vveithredocdd da yn y byvvyd hwn, y bydd yr amser hvvnnvv Gwyn ei fyd ef: Psal. 41.1. ac y mae 'n dangos yr achos o hynny O blegid yr Ar­glwydd a'i gwa [...]ed ef yn y dydd drwg, ac a'i nertha ef ar ei glaf-wely, ac a gywei­ria ei holl wely ef yn ei glefyd. A hyn yn ddiammau a ddywedir yn bennaf am wely angau dyn a'i ymadawiad o'r byd; oblegid y gwely hwnnw, o'r holl we­lyau eraill, yw'r gwely tristaf a mwyaf ei ofid, fel y dywedais o'r blaen, gan nad ydyw ddim ond pentwrr o bob math ar dristwch a gofid ynghyd, yn enwe­dig i'r rhai a dynnir iddo cyn eu bod yn [Page 132] barod iddo, megis fynychaf y maent hwy i gyd heb fod, y rhai o ddydd i ddydd sy'n oedi gwellhau eu buchedd ac heb gym­meryd gofal am fyw yr awrhon yn y cyfryw fodd ac y dymunent wrth yma­dael â'r byd ddarfod iddynt fyw.

PEN. IX. Y Poenau sydd wedi eu hordeinio am be­chod yn ôl y fuchedd hon.

YM mysg yr holl foddion y mae Duw yn eu harfer tu ac at feibion dynion i geisio eu cyffroi hwynt i roi eu brŷd yn gwbl ar wellháu eu buchedd, y cryfaf a'r cadarnaf gydâ'r bobl gyffredin, yw ystyried y poenau a barottóedd Duw i bechaduriaid gwrthryfelgar, ac i'r rhai a droseddo ei ochymmynion ef. Ac am hynny y mae efe yn arfer o hynny mor fynych, fel y gellir gweled trwy'r holl Brophwydi, y rhai nid ydynt agos yn gwneuthur dim ond bygwth pláau a dinistr ar bechaduriaid. A'r modd hwn yn fynych a dycciodd yn well nâ dim arall ac a ellid ei arfer, a hynny o achos y cariad naturiol sydd gan bawb o honom ni arnom ein hunain, a'r ofn sydd ynom ni rhag bod perygl arnom ein hunain. Felly yr ydym ni yn dar­llain nad oedd dim a allai gyffroi'r Ni­neieaid, cymmaint a dwedyd iddynt o'r [Page 133] blaen pa berygl oedd vwch eu pennau. A S Ioan fedyddiwr, er ei fod yn dy­fod mewn modd disyml diystyr, etto wrth bregethu i'r bobl mor erchyll oedd y dialedd oedd ar ddyfod, a bod y fwy­all wedi ei gosod eisus ar wrei [...]dyn y prenniau, Ioan. 5. i dorri i lawr iw fwrw yn tân bob vn ar ni daygai ffrwyth da, a gwellhau ei fuchedd, efe a wnaeth i'r Publicanod, ac i'r milwyr ofni, er eu bod yn bobl o fettel galed, a chyrchu atto wrth glywed y gennedwri dôst honno, a gofyn iddo pa beth a wnaent er mwyn cael gochel y cospedigaethau hyn.

2 Pan ddarpho i ni gan hynny ysty­ried am farwolaeth, a thôst farn Duw sydd yn dyfod ar ôl marwolaeth, yn yr hon y mae i bob dŷn dderbyn yn ôl ei we [...]thredoedd yn y bywyd hwn, fel y dyweid yr yscrythur lân: 2 Cor. 5. nessa peth i ni i'w ystyried ydyw yr poe­nau a osodwyd i'r rhai a gaffer yn feius yn y cyfrif hwnnw; fel y gallei hynny, onis gwna dim arall, ddwyn Christia­nogion i roi eu bryd ar wasanaethu Duw. Oblegid, fel y dangosais o'r bla­en, od oes gan bawb wrth naturiaeth gariad arno ei hun, a chwan [...] i gadw ei esmwythdra ei hun; wrth hynny fe ddylei fod yntho hefyd ofn rhag pob perygl a allai beri iddo gwympo i ddygn drueni ac aflwydd, Hyn y mae [Page 134] S. Bernard yn ei egluro yn orchestolyn ôl ei arfer; Oh ddyn (medd efe) perhon i ti a bod wedi bwrw heibio bob cywilydd ac a ddylei fod mewn creadur mor ardderchog ac wyti; oni chlywi di oddi­wrth dristwch yn ybyd, mwy nag y mae y rhai cnawdol yn ei glywed, etto na choll byth mo'th ofn hefyd, yr hwn sydd hyd yn oed mewn anifeiliaid. Yr ydym ni yn aifer o lwytho assyn, ac o'i flino â gwaith, ac nid gwaeth ganddo, am nad yw ond assyn; ond pe bait ti yn ei wthio ef yn tân, neu yn ei daflu mewn clawdd, fe a wnai oreu dim fyth ac a allai ar ochel hynny, am fod yn hoff ganddofyw, ac yn ddiwg gantho farw. Ofna ditheu; ac na fydd lai dy synwyr nag anifail. Ofna farwolaeth; ofna 'r farn; ofna v­ffern. Yr ofn hwn a elwir yn dde­chreuad doethineb, Dihar. 9. ac nid yn gywilydd, neu yn dristwch: am fod yspryd ofn yn gryfach i wrthwynebu pechod, Eccles. 7. nag yspryd cywilydd, neu dristwch: ac am hynny y dywedir, Meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di byth. Hynny y­dyw, meddwl am y gospedigaeth dragywy­ddol sydd-ambechu yn ôl y fuchedd hon. A hynny a ddyweid S. Bernad.

3 Yn gyntaf gan hynny, i ddywedyd yn gyffredinol am y poenau sydd yng­hadw erbyn y fuchedd a ddaw; pet­tai [Page 135] yr Scrythur lân heb ddangos i ni yn yspysol faint ydynt, etto y mae llawer o resymmau a allai beri i ni gredu eu bod hwy yn dôst, ar yn o­fidus, ac yn [...]nhawdd dros ben eu dio­oddef. Canys yn gyntaf, fel y mae Duw yn Dduw yn ei holl weithredoedd, hynny ydyw, yn fawr, yn rhyfeddol, ac yn ofnadwy; felly yn enwedig y mae efe yn dangos hynny wrth roi cospe­digacth am bech [...]d, ac o'r achos hyn­ny y gelwir ef yn Dduw 'r cyfiawnder, Deut. 10. Psal. 79·10 & 93.1. ac yn Dduw 'r dial. Am hynny, gan fed ei holl weithredoedd eraill ef yn llawn mawredd, ac yn rhagori llawer ar ein deall ni; ni a allwn wybod hefyd, fod ei law ef wrth gospi yn rhyfeddol. Y mae Duw ei hun yn dysgu i ni ym­resymmu felly, pan yw yn dywedyd, Onid ofnwch chwi fi? oni chrynwch ger fy mron i, Ier. 5.22. yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i'r môr, trwy ddeddf dragywyddol, fel nad elo tros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, etto ni thyccia iddynt derfysgu, etto ni ddeuant tros hwnnw. Megis pe dyweda [...], Os ydywyfi yn rhyfeddol, ac yn rhagori ar eich deall chwi, yn y môr, ac yn fy ngweithredoedd e­raill a welwch chwi beunydd; y mae i chwi achos da i'm hofni i, os ystyri­wch y bydd fy ngwaith i yn cospi, yn gyffelyb i'r rhai hynny.

[Page 136]4 Ni a allwn fwrw amcan arall ar fawr a thôst gyfiawnder Duw, wrth y­styried ei anfeidrol drugaredd annrhae­thadwy ef, yr hon sydd o'i wir nat [...]ia­eth ef, ac heb na meidr na [...]ur arni, mwy nag ar ei dduwdod ef, felly y mae ei gyfiawnder ef hefyd. A'r ddau hyn, sydd megis dau fraich i Dduw, yn co­fleidio, ac yn cusanu 'r naill y llall, fel y dyweid yr Scrythur lân. Am hynny, megis mewn dyn bydol, Psa. 85. os caem fesur y naill fraich iddo, fe fyddai hawdd i ni wy­bod mesur y llall; felly wrth weled samplau rhyfeddol beunydd o druga­redd Duw tu ac at y rhai edifeiri­ol, ni a allwn wybod wrth hynny mor dóst yw eigyfiawnder ef tu ac at y rhai a roes efe i gadw i'w cospi yn y fuchedd a ddaw, a'r rhai o'r achos hynny y mae efe yn eu galw yn yr Scrythurau, yn llestri digofaint, neu yn llestri i ddangos ei ddigofaint arnynt.

5 Y tryddyd rheswm i beri in i gredu faint yw ei gospediageth ef, yw rhyfeddol ym­mynedd, a dioddefgarwch Duw yn y byd hwn, Rhuf. 9.22. megis pan yw yn dioddef i amryw ddynion fyned rhagddynt o bechod i beched, o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn, o oes i oes; ac i dreulio 'r cwbl mewn ammharch a diystyrwch ar ei fawredd ef, gan chwanegu cam­wedd at gamwedd, a gwrthod pob cyn­gor, [Page 137] ac annog, ac ysprydoliaeth dda a phob moddion caredig a fettro ei drugaredd ef ddyfeisio eu cynnyg iddynt i geisio ganddynt wellháu.

A pha ddyn o'r byd a allai ddioddef hyn? Neu pa galon dŷn marwol a all ddangos y fath ddioddefgarwch a hyn? A phe gallai hyn i gyd ddi­ange heb dôst gospedigaeth ar y rhai cyndyn yn y byd a ddaw; fe ellid tybied bod hynny yn wrthwyneb i gyfraith cyfiawnder ac vniondeb, a bod y naill fraich i Dduw yn hwy nâ'r llall. Y mae S. Paul yn cyfwrdd â'r rheswm yma yn ei Epistol at y Rhufeiniaid, lle y mae efe yn dy­wedyd, Oni wyddosti, ô ddyn, fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch. Rhuf. 2.4. Ac yr wyt titheu wrth dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw; yr hwn a dâl i bob vn yn ol ei weithredo­edd Y mae efe yma yn arfer y gei­riau hyn, Trysori digofaint, i arwyddoc­câu, mai megis ac y mae 'r cybydd yn trysori ac yn pentyrru arian ar a­rian beunydd, i wneuthur ei ben­twr yn fwy; felly y mae 'r pechadur diedifeiriol yn pentyrru pechod ar bechod; a Duw ynteu yn [Page 138] y gwrthwyneb, yn pentyrru dig ofaint ar ddigofaint, a dialedd ar ddialedd, hyd oni bo llawn ei fesur i'w dalu iddynt yn y diwedd; Es. 27.8. Mesur ar fesur, fel y dyweid y prophwyd, i gael talu i ni adref▪ yn ôl llio­sowgrwydd ein ffieidd-dra. Gen. 15.16. A hyn yr oedd Duw yn ei feddwl pan ddywedodd efe wrth Abraham, Na chyflawnesid etto an­wiredd yr Amoriaid: a hefyd yn llyfr y d [...]tguddiad wrth Joan yr Efangylwr, pan ddibennodd efe 'r llyfr hwnnw yn y modd hyn, Dat. 22. Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded ang­hyfiawn etto; a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt etto: canys wele, yr wyf yn dyfod ar frŷs, a'm gwobr sydd gyd â mi, i roddi i bob vn fel y byddo ei waith. Wrth y geiriau hyn y mae Duw yn arwyddoccáu fod ei waith ef yn dioddef ac yn cyd-ddwyn a phechaduriaid yn y byd yma, yn arwydd o'i dôst gospedigaeth ef yn y fuchedd a ddaw; yr hyn y mae 'r prophwyd Dafydd hefyd yn ei ddangos, lle mae efe wrth sôn am bechadur diofal yn dywedyd fel hyn. Psal. 37.13. Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef, canys efe a wêl fod ei dydd ef ar ddyfod. Y dydd yma, yn ddiammau, yw 'r dydd cy­frif, ac amser cospedigeth yn ôl y fu­chedd hon; canys felly y mae Duw yn ei yspyssu ei hun yn helaethach mewn lle arall▪ Ezec. 7.2. yn y geiriau hyn. Titheu fab dŷn, fel hyn y dyweid yr Arglwydd Dduw wrth dir Jsrael, Diwedd, diwedd a [Page 139] ddaeth ar bedair congl tir. Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, ac mi a anfonaf fy nig arnati; ac mi a'th farnaf di yn ôl dy ffyrdd ac a roddaf dy holl ffieidd-dra ar­nat. A m llygad ni'th arbed ti, ac ni thosturiaf; eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di, fel y gwypoch mai myfi yw'r Arglwydd. Fel hyn y dyweid yr Arglwydd, Drwg, drwg vnig, w [...]le, a ddaeth. Y diwedd a ddaeth, daeth y diwedd; y mae 'n gwilio am da­nat; wele, efe a ddaeth. Daeth y bore­gwaith attat; daeth yr amser; agos yw'r dydd terfysg Weithian ar fyrder y tywall­daf fy llid arnat, ac y gorphen [...]af fy nig wrthyt▪ ac mi a'th farnaf di yn ol dy ffyrdd, ac a roddaf dy holl ffieiddra-dra arnat. A'm llygad ni 'th arbed, ac ni tho­sturiaf wrthyt; rhoddaf arnat yn ol dy ffyrdd, a'th ffieidd-dra fydd yn dy ganol di; a thi agai wybod mai myfi 'r Argwlydd sydd yn taro. Hyd yn hyn y mae yma­drodd Duw ei hun.

6 Wrth hynny, gan ein bod ni wei­thian yn deall yn gyffredinol, fod yn ddiau y bydd cospedigaethau Duw yn y byd a ddaw, yn fawr ac yn dôst i bob rhai a gwympo iddynt, ac o'r achos hyn­ny y dywaid yr Apostol, Heb. 10.31. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo 'r Duw byw; ystyri­wn beth yn neillduol pa fath hoenau a chospedigaethau syddant hwy.

[Page 140]7 Ac yn gynta' dim, am y lle sydd wedi ei appwyntio i fod cospedigaeth y rhai colledig ynddo, ac a clwir yn gy­ffredin Vffern, y mae yr Scrythur lân mewn amryw ieithoedd▪ yn arfer am­ryw enwau arno, a'r cwbl er mwyn dan­gos ac yspyssu mer dôst fydd y poenau sydd raid eu dioddef yno. Yn lladin y gelwlr ef INFERNVS, hynny ydyw, Es. 5. & 38. lle odditanodd, neu tan y ddaiar; fel y mae y rhan fwyaf o'r hên dadau yn ei gyfieithu. Ond pa vn bynnag a wnel ai bod tan y ddaiar, ai na bo, siccr iawn ydyw ei fod yn lle mor wrthwyneb i'r nef ac y gall fod, a'r nef a ddywedir ei bod i fynu oddiarnodd. A'r henw y­ma a arferir i arwyddoccáu mor druan ac mor dostur y gwthir, ac y teflir y rhai damnedig i lawr i'w sathru tan draed Duw a dynion da byth bythoedd. Canys felly y dywaid yr Scrythur lân, Mal. 4.1.2, 3. VVele d [...]ydd yr Ar­glwydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithwyr an­wiredd a fyddant soft. A chwychwi, y rhai ydych yn ofni fy enw i a fethrwch yr annuwiolion, a hwy a fyddant yn lludw tan wadnau eich traed chwi.

8 Y gair Hebraeg y mae'r Scrythur lân yn ei arfer am vffern, yw [...] Sheol, Es. 14.15. yr hyn a arwyddocca bwll mawr neu geuffos ddofn. Ac yn y deall hwnnw [Page 141] y gelwir hi hefyd yn llyfr y datguddiad, Hi a elwir felly hefyd am na's di­gonir hi. Dihar. 30.15. Datc. 14.19. Datc▪ 19.20 & 20.10. & 20.14. & 21.8. In com. Sup. verba, viue latenter. 2 Pet. 2.4, 17. Jud 6.13. Iob 10.21, 22. yn llynn mawr, neu yn gerwyn fawr digo faint Duw; A thrachefn y gelwir hi yn llyn tan yn llosgi gan frwmstan; ac yn llynno dan a brwmstan, ac yn llynn tan, ac yn llynn yn llosgigan dân a brwmstan. Yn y Groeg, y mae'r Scrythur lân yn arfer o dri gair i arwyddoccáu yr vn lley cyntaf yw [...] Hades, a arferir yn yr Efengyl, ac a arwyddoccáa medd Plutarch, lle heb o­leuni yntho. Yr ail yw [...] zophos, yr hwn a arwyddoccáa tywyllwch. Ac yn y deall hwnnw y geilw Iob hi, Tir tywy­llwch a chysgod ang [...]u, Tir tywyl [...]wch fel y fagddu, a chysgod angeu, a heb drefu; lle mae 'r goleuni fel y tywyllwch. Ac am hyn­ny y gelwir hi yn yr Efeng [...]l, Y tywy­wylw [...]h eithaf. Y trydydd enw Groeg yw [...] Tartaros, yn Sainct Petr. A'r gair hwnnw sydd yn cael ei-dadogaeth o'r Ferf [...] [...]arasso, yr hyn a arwy­ddoccáa dychrynu ac ofni; a thrallodi, a blino, a molestu, ac afl [...]nyddu; Mat. 22. & 25. 2 Pet. 2.4. a'r henw hwnnw sydd yn dangos fod yn vffern annrhesn erchyll ar boenau, fel y dywed Iob am dani ei bod yn lle heb drefn, lle mae erchylldod, a dychryn tragywyddol yn aros ac yn trigo. Job 10.22. Mat. 5. & 10.18. & 23 Mar. 9. Luc. 12.

9 Y gair Chaldaeg, yr hwn sydd hefyd yn yr Hebraeg▪ ac a adewir yn y Groeg, yw Gehenna; yr hwn y mae [Page 142] Christ ei hun yn ei arfer gyntaf, i ar­wyddoccáu lle y rhai damnedig, fel y dywed S. Hierom ar y ddegfed bennod o Efengyl S. Matthew. A'r gair hwn a gyfansoddir o'r gair Gee, a'r gair Hinnem, ac a arwyddoccáa ddyffryn sydd gyfagos i Ierusalem, a elwir dyffryn Hinnem, lle by­ddai hên ddelw-addolwyr yr Iuddewon yn arfer o losgi eu plant eu hunain yn fyw er anrhydedd i'r cythraul, ac yn lleisio ag vtgyrn, ac â thympanau ac ag offer cerdd vchel-sain eraill, tra fy­ddent yn eu llosgi, rhag clywed llais a llefain eu plant: Ac i'r lle hwnnw yn ól hynny y byddid arfer o fwrw pob brynti, a thom, a chelaneddau meirwon, a'r cyffelyb fudreddi. Ac y mae'n gyffelyb iawn i'n Iachawdr arfer y gair hwn am vffern, yn hytrach nâ geiriau eraill, er mwyn arwyddoccáu, y gofidus losgi sydd ar eneidiau yn y lle hwnnw, a'r llefain a'r gwaeddi tostur sydd gan y rhai a boenir yno: a'r lleisiau a'r ge [...]main er­chyll anhawddgar sydd gan y rhai sy'n eu poeni; ac mor ddrewllyd, fudr, ffie­iddfrwnt ydyw'r lle yma, yr hwn hefyd y mae'r Scrythur lân mewn lleoedd eraill yn dangos ei ddull tan enwau nadro­edd, a seirph, a dreigiau, a gwiberod, ac aspiaid, ac yscorpionau, a phryfed gwen­wynig eraill, fel y cewch chwi weled yn ôl hyn.

[Page 143]10 Gan ddarford i mi ddargos en­wau'r l [...]e hwn, ac wrth hynny dangos peth o'i naturiaeth a'i ddull; y mae'n canlyn bod i ni ystyried pa fath boenau y mae dynion yn eu dioddef yno. Ac i ddangos hynny, rhaid i ni wybod, me­gis y mae nef ag vffern yn wrthwyneb i'w gilydd, a chwedi eu hordeinio i ddau fath ar bobl wrthwyneb i'w gilydd, ac am achosion gwrthwyneb iw gilydd; felly y mae iddynt naturiau, a chyn­neddfau, a swyddau gwrthwyneb i'w gil­ydd; megis beth bynnag a ddweder am ddedwyddwch y naill, fe wasanetha hyn­ny yn hydda i ddangos gwrthwyneb annedwyddwch y llall. Megis pan yw S. Paul yn dywedyd am y nef Nawelodd llygad, ac na chlywodd clúst, 1 Cor. 2.9. ac na ddaeth i galon dŷn y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai ai carant ef: wrth y geiriau hyn­ny y gallwn ni wybod fod yn gymmaint poenau y rhai damnedig. Drachesn, pan yw'r Scrythur lân yn dwedyd fod ded­wyddwch y rhai sy'n y nef yn ddedwy­ddwch perffaith, yn cynnwys pob math ar ddaiòni, fel nas gellir meddwl am vn fath ar hyfrydwch nad oes ganddynt hwy: rhaid i ni dybied yn y gwrth­wyneb y hydd rhaid i drueni y rhai damnedig, fod yn drueni perffaith, yn cynnwys pob math ar ofid ac a all fod, heb vn yn eisiau. Fel megis ac y mae [Page 144] dedwyddwch y rhai duwiol yn anfel­drol ac yn gyffredinol; felly hefyd y mae gofid ac anghyflwr yr annuwiol yn anfeidrol ac yn gyffredinol. Yn y fuchedd hon nid yw yr holl drueni, a'r anghyflwr a'r poenau sydd yn digwydd ar ddyn, ond neillduol, heb fod yn gyffredinol; fel y gwelwn ni fod vn dŷn a'i boen ac a'i ddolur yn eilygaid, ac arall a'i ofid yn ei gefn: y rhai er nad ydynt ond poenau neillduol, ydynt er hynny weithiau mor dôst, ac mor ddygn, ac nad yw bywyd dyn abl i'w gwrthwynebu, ac ni fynnei ddyn fod arno eu dioddef yn hir, er ynnill mwy nâ llawer o fydoedd ar vnwaith. Ond beth pettai ddŷn, dybygwch chwi, yn dioddef ei boeni ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, yn ei ben, yn ei lygeid, yn ei dafod, yn ei ddannedd, yn ei wddf, yn ei gylla, yn ei fol, yn ei gefn, yn ei galon, yn ei ystlysau, yn ei forddwydydd, yn ei goesau, yn ei draed, ac ym mhob cymmal yn ei gorph heb law hynny: beth pertai ddŷn, me­ddaf, yn dioddef ei boeni yn greulon, ac yn dwyn y dygn ofid ym mhob rhan o'i gorph ar vnwaith, heb na thorr, nac esmwythdra; pa ofid a thrue­ni a allai fod fwy nâ hyn pa olwg dosturach? Pettit ti yn gweled ci yn gorwedd yn yr heol yn dioddef y [Page 145] fath boenau, mi a wn na ellit ti am­gen nâ thosturio wrtho. Bellach ysty­ria ditheu pa ragoriaeth sydd rhwng dioddef y poenau hyn dros wythnos, a' d [...]oddef yn dragywyddol byth: pa r [...] ­gor sydd rhwng eu dioddef hwynt ar wely esmwyth, a'i dioddef hwynt ar yr [...]lch boeth, neu yn y ffwrna's ferwe­dig: pa ragor sydd rhwng eu dioddef hwynt ymmysg caredigion a allai gys­suro, a diddanu, ac ymgeleddu dyn, a'i dioddef hwynt ym mysg cythreuliaid vffern, ni wnaent ond ei fflangellu a'i boeni. Ystyria hyn, meddaf, ddarllen­ydd hynaws, ac os byddai well gennyt gymmeryd poen fawr, nâ dioddef y gofidiau hynny yn y bywyd yma; bydd fodlon i gymmeryd ychydig boen, yn hyttrach nâ dioddef y llaill yn y byd a ddaw

11 Ond i ystyried y pethau hyn ym mhellach, nid yn vnig yr holl tannau hyn o'r corph, y rhai a fu megis yn arfau ac yn offer i wneuthur pechod, a boenir ar vnwaitb, ond hefyd pob vn o'r synhwyrau oddi fewn ac oddi allan, a boenir hefyd â'i boenau nailltuol ei bun, a'r poenau hynny yn wrthwyneb i'r peth oedd hoffaf, a difyrraf, a di­grifaf gan bob vn o honynt yn y byd hwn. Megis pe dywedid fel hyn, y cai y llygaid gwammal hoywon eu poeni [Page 146] a'i cospi, trwy weled golwg erchyll of­nadwy ar gythreuliaid; y clustiau ty­ner, â llais ac â drygnad gerwin yr ysprydion damnedig; yr aroglau mur­sennaidd, â drewi ac â drygfawr gwen­wynig brwmstan a brynti anesgorol, chwaith a blâs y genau mwythus blys­sig, â dygn wangc a rhaib newyn a syched; a holl rannau 'r corph sydd â bywyd ynddynt, â thân llosgadwy. Dra­chefn, y tŷb a'r meddwl a boenir trwy ddeall a gwybod oddiwrth y poenau y mae yn eu dioddef, ac a orfydd arno eu dioddef; y côf trwy gofio a me­ddwl am y plesser a'r difyrrwch a ga­fodd gynt; y deall trwy ystyried y ded­wyddwch a gollodd, a'r trueni a'r anghyflwr a ddaeth iddo▪ O Gristion truan, pa beth a wnei di ynghanol cym­maint o ofidiau tôst,

12 Peth rhyfedd, a pheth, medd vn o'r hên dadau, abl i yrru dŷn a fai a dim rheswm gantho, allan o'i bwyll; yw ystyried yr hyn a ddatguddiodd Duw i ni, yn yr Scrythur lân, ynghylch y poenau hyn; ac etto leied y mae dy­nion difraw 'r byd hwn yn eu hofni: Oblegid yn gyntaf, y mae nid yn vnig y thesyminau a ddangoswyd o'r blaen, ond amryw bethau eraill a ellir eu hy­styried yn yr Scrythur lân; yn dangos i ni mor gyffredinol, mor amryw, ac [Page 147] mor anfeidrol yw 'r poenau hynny. Megis lle y dywedir am y rhai dam­nedig, A hwy a boenir ddydd a nos, Dat. 20.10 Dat. 18.7. yn oes oesoedd. A thrachefn wrth grybwyll am Babylon yn vffern, Rhoddwch iddi ofid a galar. Wrth yr hyn yr arwyddo­ceir, bod yn arfer poenau vffern, nid er mwyn ceryddu, ond er mwyn poeni y rhai a ddél yno. Ac y mae poenau, ië yn y byd hwn, cymmaint a chyn dosted ac y medro synhwyr dyn eu cy­rhaedd a'i dyfeisio, Meddwl ditheu, o byddai i Dduw roi ewbl o'i feddwl ar ddyfeisio poenau (fel y gwnaeth efe am boenau vffern) pa fath boenau a fyddei y rhai hynny a ddyfeisiai ei ddoe­thineb anfeidrol ef?

13 Os medrai efe wrth wneuthur el­fen a defnydd y tân i'n comfforddi ni yma ar y ddaiar▪ ei wneuthur ef mor ofnadwy ac ydyw, fel na fynnai ddŷn ddal ei law yn vnig ynddo tros vn di­wrnod, er ynnill teyrnas; pa fath dân, dybygwch chwi, a barotóodd efe yn v­ffern, yr hwn a wnaed, nid i fod yn gomffordd, ond i boeni ac i gospi y rhai a ddêl iddo? Y mae llawer o ra­gor rhwng ein tân ni yma a'r tân hwn­nw, ac am hynny gwir a ddywedodd yr hên dadau am dano, nad yw ein tân ni yma, ond megis eilun tân a ba­entid ar bared, neu ryw dân dychym, [Page 148] myg, wrth y tân hwnnw. Oblegid: ein tân ni a wnaed, fel y dywedais, i fod yn gomffordd, a'r llall i boeni. Y mae 'n rhaid i'n tân ni gael ei borthi yn wastad â thân-wydd, ac onid ê ef a ddiffydd, a'r tân hwnnw yn llosgi yn wastad, heb ei borthi. Y mae 'n tân ni yn rhoi goleuni, a hwnnw heb roi dim. Y mae 'n tân ni allan o'i le naturiol priodol, ac am hynny yn ceisio esgyn, ac yn ymgais ar i fynu, a myned ym­aith oddiwrthym ni, fel yr ydym ni yn gweled: ond y mae 'r tân hwnnw yn ei le naturiol ei hun, lle y gwnaed ef, ac am hynny y mae efe yn aros yno yn wastadol byth. Y mae ein tân ni yn yssu ac yn difa 'r defnydd a rodder ynddo, ac felly ar frŷs yn diweddu 'r boen: a'r tân hwnnw yn poeni, ac heb ddifa 'r peth a fwrier ynddo, fel y by­ddo 'r boen yn dragywyddol. Ein tân ni a ddiffoddir â dŵr, ac a byla la­wer os bydd oer yr awel o'i amgylch▪ ond nid oes dim a ddiffydd nac a by­la 'r tân hwnnw. Yn ddiweddaf, mor ddieithr ac mor anghredadwy ydyw 'r tân hwnnw, ni allwn weled wrth ei­riau 'n Iachaw [...]r Christ, y rhai y mae efe mor fynych yn eu hadrodd, Yno y bydd wylofain, Mat 8. & 13. & 22. & 24. Luc. 13. a rhincian dannedd. Wylo sydd yn dyfod o achos y boethfa ar llosgi anesgorol sydd yn y tân hwnnw, oble­gid [Page 149] bod y boen wrth ddioddef berwi [...] llosgi, yn peri gollwng dagrau yn gynt nag yn boen arall, fel y gellir gweled pan roddo vn beth poeth yn ei enau yn ddisymmwth, neu pan losco ryw fan arall ar ei gorph. A rhingcian neu ys­gyrn gn dannedd (fel y gwyr pawb) fydd yn dyfod eddiwrth oerni ac anwyd mawr.

Meddwl ditheu pa fath dân yw hwn sydd yn peri gwrês [...]c oerni anesgorol ar vnwaith. O Dduw galluog, mor ddi­eithr o Dduw ydwyt ti! Datc. 21. Mor rhyfe­ddol ac mor ofnadwy wyt yn dy holl weithredoedd, a'th ddychymmygion! Mor haelionus wyt i'r rhaisy yn dy ga­ru ac yn dy wasanaethu di! Ac mor dôst wyt i'r rhai sydd yn diystyru dy orchymmynion! A ddychymmygaist ti fodd i beri i'r rhai a fo yn gorwedd yn y pwll tân a brwmstan, gael eu poeni hefyd â dygn anwyd oer anesg orol! Pa synwyr ddynol a feidr ddeall pa fodd y gallai hynny fod? Ond dy far­nedigaethau di, ô Arglwydd, dyfnder heb wrelod ydynt; ac am hynny mi a adawaf hyn ar dy ragweliad di yn vnig ac a'th foliannaf yn dragywyddol o'i blegid.

14 Heb law 'r poenau cyffredinol sy raid i bawb ac sy yn y lle hwnnw eu dioddef, y mae 'r Scrythur lân yn [Page 150] dangos y bydd yno hefyd boenau ne­illduol i bob vn ar ei ben ei hun, yn ôl modd a maint pob pechod ac an­wiredd o'r eiddo pob pechadur. Oble­gid i'r perwyl hynny y dywaid y pro­phwyd Esai wrth Dduw, Es. 27.8. Felly 'r mae lladin yn ei gyfieithu. Es. 28.17. Ierem. 2. Datc. 20. Ps. 28. & 99. Ezec. 24. Os. 12. Ezech. 1. Ti a'i berni fe­sur wrth fesur: Ac y mae Duw yn dy­wedyd am dano ei hun, Mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys. A hynny yw meddwl holl fygythion Duw ar bechadurieid lle y mae efe yn dywedyd y tâl efe hyd adref, i bob vn o honynt yn ôl eu gweithredoedd bawb o'r neilldu, yn ôl dychymmygion eu calonnau eu hunain. Ac yn y deall yma y dywedir yn llysr y darguddiad am Ba­bylon, yn ól ei thaflu i'r llynn tân a brwmstan, Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymmaint a­rall rhoddwch iddi o ofid a galar. Am hynny o'r lle hwn y casglai 'r hên dadau sanctaidd, y bydd amrafael boe­nau am amrafael bechodau yn y lle hwnnw. Datc. 18.7. Li. de verit. pa'n. c. 2. Fel y mae rhagor rhwng pe­chod a phechod, felly y bydd amrafa­el boenau; medd yr hên Ephrem: i'r godinebwr y bydd vn fath ar bonau ac i'r lleiddiad fath arall, ac i'r lleidr fath arall, ac i'r meddw fath arall, ac i'r celwyddog fath arall. Megis pettid yn sa­thru 'r balch tan draed, i dalu iddo am ei falchder; a gorfod i'r glwth ddi­oddef [Page 151] newyn anghyfartal, ac i'r me­ddw ddwyn syched anesgorol, a chael o'r genau moethus ei lenwi â bustl, ac o'r corph tyner ei serio a'i losgi â heiyrn poethion.

15 Y mae'r Yspryd glân yn dangos y fath beth, Iob 20.14. lle y mae efe yn crybwyll yn yr Scrythurau am y gwr bydol an­nuwiol, Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl aspiaid ydyw o'i fewn ef: efe a lyngcodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tynn allan o'i fol: efe a sugn wenwyn aspiaid; tafod gwiber a'i lladd ef. Felly y mae'r lladin yn ei gyfia­thu. Efe a dâl hyd adref am yr hyn a wnaeth, ac ni ddifir ef, ond efe a gaiff ddioddef yn ol lliosowgrwydd ei ddychymmygion ei hun. Pob tywyllwch fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a'i hyssa ef. Dymma ran dyn annwiol gan Dduw. Wrth y geiriau hyn, a'i cyffelyb, y dangosir yn oleu, y caiff y rhai bydol, bob vn ei naill­duoli a'i briodol boenau, am eu glythineb, am eu daintethion a'i am­mheuthyn foethus-fwyd, am eu trais a'i traha, a'r cyffelyb. A'r poenau hynny fyddant mwy nag y gall vn tafod dai­arol eu hadrodd: fel y gellir gweled wrth y geiriau dirfing ofnadwy y mae'r Scrythur lân yn eu harfer yma i'w hy­spyssu hwynt.

16 Heb law hyn, y mae 'r Scrythur lân yn dangos i ni y bydd y poenau [Page 152] hynny nid yn vnig yn gyffredinol i bawb, ac yn neillduol i bob vn, ac yn dôst; ond hefyd yn gyfyngder mawr, heb na help, na chymmorth, nac es­mwythdra, na chyssvr; lle y mae yn dywedyd, Mat. 22. Y teflir ni yno yn rhwym ein traed a'n dwylo: oblegid y mae yn beth comffordd yn y byd yma, allu bod yn abl i wrthwynebu ac i ymdrech â'n go­fidiau; ond yno y bydd rhaid i ni or­wedd yn llonydd, a dioddef pob peth a ddêl attom. A thrachefn, pan yw yn dywedyd, Caewyd y porth; Hynny ydyw, Caewyd porth pob trugaredd, Mat. 25. a phob nawdd a phardwn, a phob esmwythdra, a phob seibiant, a phob comffordd, o'r nef, o'r ddaiar, oddiwrth y creawdr, ac o­ddiwrth y creduriaid: yn gymmaint ac nad oes dim cyssur i ddisgwyl am dano byth mwy: fel nad oes vn o ofidiau'r byd hwn a [...] nas gellir disgwyl peth com­ffordd ynddo. Y cyfyngder a'r caethi­wed yma hefyd a ddangosir yn eglur iawn yn y ddammeg ofnadwy am y glŵth goludog oedd yn vffern; yr hwn oedd wedi ei yrru ir cyfryw angen a chyfyngder, Luc. 16. ac y dymunai gael o La­zarus fyned a throchi blaen ei fŷs mewn dŵr i oeri ei dafod ef, yngha­nol y tân y mae efe yn dywedyd ei fod yntho; ac nis gallai gael ei ddymuniad. Ni buasei hynny yn fy nhŷb i, ond [Page 153] ymwared bychan iddo, pes gallasai ga­el yr hyn yr oedd yn ei geisio, Ond etto, i ddangos gaethed ydyw'r lle hwnnw, fe a'i naccâwyd ef o hynny. Oh, chwychwi y rhai sydd yn byw ymmŷsg golud pechadurus y byd hwn, ystyriwch, pettei beb ddim ond yr vn esampl yma o doster Duw, ac ofnwch. Yr oedd y gwr hwn mewn rhwysg a rhodres mawr ychydig o'r blaen, ac heb ystyried gronyn ar y mawr ofid ar dygn drueni yr oedd Lazarus ynddo: ond yr awrhon efe a roddai fil o'r byd, pet­tynt ar ei helw, am vn defnyn o ddwr i oeri ei dafod. Pa beth lai nâ hynny a allai ddŷn ei ofyn? Ni feiddiai efe ddymuno cael ei wared allan oddi yno, na chael toli ac esmwythâu ar ei boenau, na gofyn llestraid mawr o ddŵr i gomffor­ddi ei holl gorph, ond yn vnig cym­maint ac a lynai wrth ben bŷs gwr i oeri ei dafod Beth am yr eisiau y gyrrasid y goludog hwn iddo? Beth am y grym a'r rhinwedd a dybiai ef ei fod mewn vn defnyn o ddwr? Ond tostur oedd ŷ gyfnewid yma oedd ar ei dafod ef, yr hwn o'r blaen oedd gynnefin a chael ei wasa­naethu â phob math ar ddiod beraidd? Oh na fedrai'r naill ddyn gymmeryd esampl wrth y llall! Naill ai mae hyn yn wir, ai mae Mâb Duw yn gelwyddog. Ac yno▪ pa fath ddynion ydym ni, a [Page 154] ninnau yn ein gweled ein hunain mewn perygl o syrthio i'r Cyfryw drueni, na byddwn ddyfalach i geisio ei ochel?

17 O achos bod Duw mor gaeth ac mot dôst, yn naccâu pob cyssur a chom­ffordd yn y dydd hwnnw, y mae'r Scry­thur lân yn dywedyd y bydd dynion yr amser hwnnw y cynddeiriogi, yn am mhwyllo, Dat. 16.10. Ezec. 23. Datc. 13. Luc. 23.30. Datc. 6.16. yn gwallgofi, yn annioddefgar aruthr, yn cablu Duw, yn melldigo dydd eu ganedigaeth, yn cnoi eu tafodau gan ofid, ac yn diesyf ar y creigian a'r my­nyddoedd syrthio arnynt, i ddiweddu eu poenau hwynt.

18 Bellach os chwanegwn at hyn, dragywyddoldeb ac annarfodedig bara y poenau hynny: ni a gawn weled fod hynny yn chwanegu llawer ar y peth. Oblegid yn y byd hwn nid oes poenau cymmaint, ac nad yw amser naill ai yn eu diweddu ai yn eu lleihau. Oblegid naill ai fe fydd marw y poenwr neu'r hwn a boener, neu fe ddigwydd rhyw achlysur arall, a newidia neu a eswmy­thâ 'r boen. Ond yno nid oes dim cyfryw obaith, na dim o'r fath gom­ffordd, ond Hwy a boenir medd yr Scry­thur lân, ddydd a nos yn oes oesoedd yn y llyn sydd yn llosgi gan dan a brwmstan, Dat. 20.10. Yr hyd y byddo Duw yn Dduw, yr hyd hynny y cânt hwythau eu llosgi yno; ac ni bydd marw na'r poenwr, [Page 155] na'r hwn a boener, ond byw fyddant eill dau yn dragywydd, er mwyn cael o'r rhai a boener fod mewn tragwyddol ofid a thrueni.

17 Oh, medd vn o'r tadau gynt mewn myfyrdod duwiol, pes gwyddei becha­dur damnedig yn vffern, na byddai raid iddo ddioddef y poenau hynny yno, ond cynnifer mil o flynyddoedd ac yw rhifedi tywod y mor neu'r blewynnau glaswellt ar y ddaiar; neu ond cynnifer mil fyrddiwn o oesoedd ac sydd o rifedī creaduriaid yn y nef ac yn y ddaiar, fe fyddei lawen dros ben gantho hynny; oblegid efe a ymgyssurai wrth feddwl y byddei ryw amser ddiben ar ei boenau. Ond yn awr, medd y gwr da hwnnw, y mae'r gair yma Byth, yn torri ei galon ef pan feddylio efe am dano; a me­ddwl, wedi y darpho iddo ddioddef yno fil can myrddiwn cŷd a holl oesoedd y byd, fod cymmaint rhyngrho a chael diben ar ei boenau, ac oedd y dydd cyntaf yr aeth efe i mewn i'r poenau. Ystyria, Ghristion da, mor hir y tybit ti fod vn awr, er nas gorfyddei arnat ddal dy law mewn tân a brwmstan ddim ond yr vn awr honno. Ni a welwn, os bydd gwr yn glâf iawn, er ei fod yn gor­wedd ar wely esmwyth, hŷd fydd gan­tho vn noswaith. Efe a ymdrŷ ac a ymdreigla o ystlys i ystlys, tan gyfri'r [Page 156] clocc, a rhifo pob awr fel yr êl heibio, ac y mae yn tybieid fod pob awr cy­hyd a diwrnod cyfan. A phe dywedai vn wrtho y byddei raid iddo ddiodde'r boen honno ddim ond saith mlynedd ar vntu; fe fyddei agos i anobeithio gan wir ofid. Ac os yw vn noswaith mor hir ar mor faith gan vn a fo'n gorwedd ar wely esmwyth da, er na bo ond tippyn o grŷd yn ei flino; pa beth fydd gantho orwedd mewn tân a brwmstan, pan fyddo efe'n gwy­bod yn siccr na bydd diben byth ar ei boenau ef? Oh, anwyl frawd, y mae digonedd o'r vn peth yn wa­stadol, yn ddiflas; hyd yn oed o be­thau nid ydynt ddrwg o honynt eu hunain. Pettit ti yn rhwym i fwytta yr vn bwyd yn vnig bob amser, ti a'i difl [...]sit o'r diwedd. Pettit ti yn rhwym i eistedd yn yr vn lle tra fait fyw, heb symmud; fe fyddei flin gennyt hynny, er na byddei neb yn dy gospi yn y lle hwnnw. Pa beth wrth hynny fydd gorwedd yn dragywyddol, byth heb ddiwedd, mewn poenau o'r fath fwyaf ac a ellid eu dychymmyg? Ai possibl byth ei ddioddef? Pa synhwyr, wrth hynny, a pha ddeall, sydd yn y rhai nid ydynt yn gwneuthur mwy o gyfrif o'r pethau hyn nag y maent?

20 Mi a allwn yma ddywedyd vn [Page 157] peth etto y mae'r Scrythur lân hefyd yn ei ddangos sef yw hynny, y bydd y poenau hyn mewn tywyllwch, yr hwn o hono ei hun sydd beth ofnadwy, i naturiacth dŷn. Oblegid nid oes wr yn y byd cyn ddewred, a phe bai efe ei hun, yn noeth mewn tywyllwch anes­gorol, ac yn clywed llais a nâd yspry­dion yn dyfod tu ac atto, nad ofnai, er na roent vn dyrnod iddo ar ei gorph. Mi allwn hefyd ddywedyd vn peth arall, y mae'r prophwyd yn ei adrodd, hynny yw, y bydd Duw a dynion da yn chwer­thin am eu pennau hwy y dwthwn hwnnw, yr hyn sydd ofid nid bychan. Oblegid, fel y mae yn beth comffordd i ddyn yn ei adfyd, gael cwyno i­ddo gan vn o'i garedigion, felly y mae cael chwerthin am ei ben, yn enwedig gan yr hwn yn vnig a allai help iddo, yn chwanegu yn fawr aruthr ar ei adfyd ef.

20 Ac etto nid yw cwbl ac a ddywedais i, ond y naill ran yn vnig o gospedigaeth y rhai damnedig, yr hon a eilw y dyfeinwyr pana sen­sus poen dioddef, hynny ydyw, y boen a rodder ar y corph ar enaid ei dioddef. Ond heb law hyn y mae rhan arall o'r gospedigaeth yma, a clwir, paena damni, poen colled, yr hon fel y tybia yr holl rai dysgedig; [Page 158] nid yddw ddim llai nâ'r llall, onid ydyw fwy. A hon yw'r golled anfeidrol y mae'r dyn damnedig yn ei gael wrth ei gau byth bythoedd allan o olwg el wneuthurwr, ac allan o'i ogoniant ef. A chan fod y golwg hwnnw yn ddigon o hono ei hun yn vnig, i wneuthur yn happus ac yn ddedwydd bawb ac a gynnhwyser i'w fwynhau, y mae 'n ang­henrhaid bod yn drueni ac yn ofid blin i'r rhai damnedig, fod mewn colled am y golwg hwnnw yn dragywydd: Ac am hynny dymma'r bennaf, a'r gyntaf o'r holl boenau a'r cospedigaethau a roir arnynt: Es. 26. Tynner ymaith yr annuwiol i vffern, fel na welo agoniant Duw. Ac y mae'r golled hon yn cynnwys ynddi bob math a'r golled arall; megis colled am ddedwyddwch tragywyddol, fel y dywedais, a llawenydd tragywyddol, a chymdeithas yr angylion a'r cyffelyb: a'r colledion hynny, pan ystyrio y rhai damnedig hwynt, megis nad yw bos­sibl iddynt nad ystyriont hwynt yn wa­stadol, y maent yn cael mwy o ofid a thristwch oddiwrth hynny, fel y dy­weid y dyfeinwyr, nag oddiwrth yr holl boenau y maent yn eu dioddef heb law hynny.

22 Ac at hyn y perthyn prŷf y gyd­wybod, a elwir felly yn yr Scrythur lân▪ oblegid fal y mae 'r pryf yn [Page 159] bwytta ac yn yssu'r coed y mae ynddo, felly y bydd ymatgof ein cydwybod nin­nau o'n mewn, yn ein cnoi ac yn ein poeni ni yn wastadol. A'r pryf a'r ymatgof a'r ymgno hwnnw a ddwg a'r gof i ni yr holl foddion a'r achosion a'n dug ni i'r dygn ofid hwnnw: megys ein di­frawch a'n esceulusdra, a wnaeth i ni golli'r dedwyddwch y mae eraill yn ei fwynhau. Ac wrth ystyried pob vn o'r pethau hyn, y pryf hwnnw a'n bráth ac a'n cny ni yn ddwys ac yn dostly m hyd at y galon. Megis pan osodo o'n blaen ni yr holl acho­sion a roed i ni i ochel y gofid a'r trueni y byddwn ni yr amser hwnnw ynddo, ac i'n dwyn ni 'i'r gogoniant a gollasom: ac mor hawdd a fuasei i ni wneuthur hynny: ac mor agos ydym ni yn fynych i roi ein bryd ar ci wneuthur; ac mor anraslon y bw­riasom ni heibio'r meddylfryd hwnnw; ac mor fynych y dywedpwyd i ni am y perygl yma, ac etto leied oedd ein gofal a'n hofn ni am ei ochel: mor ofer ac mor orwag oedd y coeg-bethau bydol y treu­liasom ni ein hamser ynddynt, ac y collasom y nef o'i plegid, ac y cwympasom i'r trueni anesgorol hwn­nw; ef a ddengys i ni faint yw parch a goruchafiacth y rhai a gy­frifem [Page 160] ni yn ffyliaid yn y byd hwn; ac fel yr aethom ni yr awrhon yn ffyliaid, ac y chwerddir am ein pennau er doethed gynt y tybiem ein bod. Pan roddo ein cydwybod, meddaf, y pethau hyn, a mil o bethau eraill ger ein bronnau ni, hwy a wnant i ni ofid a thristwch a dolur anfeidrol; am fod yn rhyhwyr bellach eu gwellháu. A'r gofid a'r dolur hwn, a elwir pryf, neu ym­gno, neu ymatgof ein cydwybod ni ein hunain; ac fe bair y pryf hwn­nw, a'r ymgno, a'r ymatgof, i ddynion wylo ac vdo mwy nag a bair vn o'r poenau eraill, pan ystyriont mor es­geulus, ac mor ynfyd, ac mor ofer fuant hwy ddyfod i'r poenau anesgo­rol hynny, ac nad oes mwy bellach amser iddynt i wellbáu eu camsynnied a'i hamryfusedd.

23 Yna y daw'r amser i'r dynion hynny i wylo ac i gwynfan, ond ni bydd ond ofer iddynt. Yna y de­chreuant ymddigio, ac ymgyffroi, a rhyfeddu wrthynt eu hunain, a dywe­dyd, pa le'r oedd ein synhwyr ni? pa le'r oedd [...]in deall ni? pa le'r oedd ein cof ni pan ganlynem oferedd a gorwagedd a diysty [...]u'r perhau hyn? Dyma ymddi­ddanion pechaduriaid yn vffern m [...]dd yr Scrythur, [...]oeth. 5.3. Pa fudd sydd i ni o'n balch­der? a pha les a wnaeth goliud a ffrost [Page 161] i ni? Y pethau hyn oll aethant ymaith fel cysgod, ac fel cennad yn rhedeg: fel llong yn myned trwy'r dŵr tonnog, yr hon ni ellir cael ei hôl, wedi i­ddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy'r tonnau, &c. Nyni a ymflina­som yn ffyrdd anwiredd a distryw, ond ffordd yr Arglwydd nid adnabuom. Hyn, meddaf, a fydd accen dragywyddol y gydwybod ddamnedig yn vffern, gan y pryf hwnnw yn ei chnoi: sef edifeirwch tragywyddol, heb lês o hono. A hynny a'i dwg ef i'r fath anobaith, medd yr Scrythur, ac yr ym­gynddeirioga efe yn ei erbyn ei hun, ac y rhwyga ei gnawd ei hun, ac y dryllia, pettei bossibl, ei enaid ei hun, ac y gwahodd y cythreuliaid i'w boeni gan ddarfod iddo ym­ddwyn mor debyg i an'fail yn y byd hwn, ac na wnaeth na dar­bod na gofalu am y peth pennaf yma, a ddylesid, mewn gwirio­nedd, feddwl am dano o flaen dim. Oh na chai efe vn hoedl etto, gydâ'r hon a gafodd, i fyw yn y byd, pa fodd, medduchwi, y treuliai efe yr hoedl honno? Beth mor ddiwyd a fyddai? Beth am dosted fyddai ei fuchedd? Ond ni all hynny fod: nyni yn vnig y rhai [Page 162] sy fyw sy a'r amser hwnnw gennym, pes meddyliem am dano, a rhoi ein bryd ar wneuthur y goreu o ho­no. Cyn nemmor o ddydiau, ni a fyddwn ninnau wedi colli 'r amser hwnnw, ac nis gallwn ei gael byth drachefn; na allwn, gael vn awr o hono, pe rhoem ni fil o'r holl fyd er ei chael, fel y rhoei y rhai sy wedi myned i golledigaeth eisus, pes gellynt ei chael. Treuliwn ninnau yr amser presennol a roed i ni, fel pan elom ni oddi yma, na bo rhaid i ni ddym­uno ein bod yma drachefn.

24 Dyma 'r amser y gallwn ni ochel y cwbl; dyma yr amser y gallwn ni cin diogelu ein hunain rhag yr holl beryglon hynny: Dym­ma 'r amser, meddaf, os ni a rydd ein bryd allan o law. Oblegid ni wyddam ni beth a ddaw o honom ni yforu: fe allai y bydd ein calon­nau ni yforu cyn gaietted, ac mor ddiofal am y pethau hyn, ac y buant o'r blaen, ac fel yr oedd ca­lon PHARAO, pan ymadawai MOE­SEN ag ef. Oh na roesai efe ei fryd ar wneuthur gorchymmyn Duw, tra fyddai MOESEN gydag ef; mor ddedwydd, ac mor happus fuasai ef! Pe cymmerasai y glwth goludog ei am­ser, tra oedd mewn hawddfyd, mor fen­digedig [Page 163] a fuasai efe! Fe a gawsai ry­budd o'r blaen (fel yr ydym ninnau yn cael yr awrhon) o'r trueni a ddeuai arno, gan Foesen a'r prophwydi, fel y mae Christ yn dangos, ond ni fynnai efe wrando. Ond yn ôl hynny yr oedd cyn rhyfedded gantho faint fua­sei ei ynfydrwydd, ac y mynnai efe gael danton Lazarus o fynwes Abraham at ei frodyr, Luc. 16· i'w rhybuddio hwy o'r af­rwydd-deb a gawsai efe. Ond Abraham a ddywedodd wrtho nad oedd ond sei­thug iddo geifio hynny, oblegid na cho­eliai ei froder ef mo Lazarus, ond yn hyttrach ei erlid megis dyn celwyddog, ac vn a fai 'n rhoi enllib i'w brawd an­rhydeddus hwy a fuasai farw, pe dae­thai efe a dywedyd iddynt hwy fod eu brawd yn y fath boenau. Ac felly yn siccr y gwnai annuwolion y byd hwn yr awrhon, pe deuai vn a dywedyd iddynt fod eu tadau, neu eu mammau, neu eu ceraint hwy yn golledig yn v­ffern am y bai a'r bai; ac attolwg 'ar­nynt hwythau am edrych yn well ar eu buchedd, rhag iddynt hwythau wrth ddy­fod i'r vn lle, chwanegu at boenau eu caredigion, am eu bod yn beth achos o'i colledigaeth hwy, (oblegid dyma'r vnig achos pa ham y mae y rhai dam­nedig yn gofalu tros y rhai byw, ac nid am ddim cariad sy ganthynt tu ac [Page 164] attynt hwy) pe deuai, meddaf, y fath gennad o vffern at bechaduriaid hoy­won y byd hwn, oni chwa-ddent hwy am ei ben ef, dybygwch chwi? Ond erlidient hwy yn dôst y neb a ddygai iddynt y fath chwedl? Pa beth wrth hynny a ddichon Duw ei ddychymmyg, i geisio gwneuthur y rhai hyn yn gad­wedig! Pa ffordd a gymmer efe, a pha foddion, gan na thyccia iddynt na rhy­budd, nac esampl rhai eraill, na bygy­thiau, na chynghorion? Ni a wyddom, neu ni a allem wybod, os nyni ni sydd gwell ein buchedd nag ydyw, nas gallwn ni fod yn gadwedig. Ni a wyddom, neu a ddylem wybod fyned llawer i ddamnedigaeth am lai o a­chosion. Ni a wyddom; ac ni all­wn ni nas gwyddom, fed yn rhaid i ni farw ar fyrder, a chael y pe­thau a gawsant hwythau; a ninnau yn byw fel hwynt hwy, neu yn waeth. Ni a welwn wrth a ddywerpwyd fod y poenau sydd yn ein haros ni am hynny yn anesgorol, ac er hynny yn dragywyddol. Yr ydym ni yn cy addef eu bod hwy yn druain ac yn anned. wydd iawn, y rhai er mwyn difyrrwch neu ynnill bydol, sydd eisus wedi syrthio i'r poenau hynny. Pa beth wrth hynny a allai ein llestair ni [...]i roi ein bryd ar geifio diangc oddi­wrth [Page 165] bob peth a'n rhwystro; Ac i 'n gwared ein hunain allan o rwymau a chadwynau 'r byd hwn, y rhai sy 'n rhwystro i ni wasanaethu Duw mor gy­wir ac y dylem, ac â chymmaint zêl ac y dylem? Pa'm y cysgem ni vn nos­waith mewn pechod, gan nas gwyddom ni nad y nos honno vw 'r nos ddiwe­thaf o'n hoedl ni, yr hon a dyrr oddi­wrthym ni bob gobaith am yr amser sydd yn dyfod?

25 Dyro dy fryd, gan hynny, fy mrawd anwyl, ar wasanaethu▪ Duw▪ od oes dim synhwyr genny [...], nac ym­ryddháa oddiwrrh y perygl hwn, tra fo Duw yn foddlon i'th dderbyn di, ac yn dy annog di drwy 'r moddion hyn, fel y gwnae [...]h efe â'r goludog trwy Foesen a'r prophwydi, tra oedd yn ei hawddfyd. Bydded ei esampl ef yn synych ger bron dy lygaid di, ac ysty­ria hi o ddifrif, a hi a wna i ti fawr lês. Y mae Duw yn Dduw rhyfeddol, ac i ddangos ei ddioddefgaiwch a'i anfei­drol ddaioni, y mae efe yn ymbil ac yn ymnhêdd â ni yn y byd hwn, ac yn ymgais â ni, ac yn ei osod ei hun me­gis wrth ein traed ni, i geisio ein cyn­nhyrfu ni a'n cyffroi er twrn da ini ein hunain, i geisio ein hynnill ni, a'n tynnu ni, i'n cadw rhag colledigaeth. Ond yn ôl y fuchedd hon y mae efe [Page 166] yn gwneuthur yn y gwrthwyneb i hyn­ny; y mae efe yn troi 'r ddalen, ac yn newidio ei leferydd: Yn lle oen, y mae efe yn myned yn llew i'r annuw­iol; ac yn lle bod yn Iachawdr iddynt, y mae efe yn myned yn gosbwr tôst arnynt. Pa beth mwy a ellir ei ddy­wedyd neu i wneuthur i'n cyffroi ni? Y neb a gaffo rybudd, ac a fo 'n gwe­led ei berygl ei hun ger bron ei ly­gaid, ac ni chyffrôo arno, ac ni bo dy­falach ac ofnusach o hynny, ond yn hyt­tr [...]ch cyrchu at ei berygl a syrthio yn­ddo: er gallu tosturio wrth y cyfryw vn, diau na ellir help iddo mewn vn modd; ac ynteu yn ei wneuthur ei hun yn anghymmwys ac yn anaddas o bob ymwared a aller i geisio i­ddo.

PEN. X. Am y gwobr a'r tâl anrhydeddus a haeli­onus, a osedir o flaen pawb a wasana­etho Dduw yn gywir.

FE fyddai ddigon y rhesymmau, a'r ystyriaethau a osodwyd i lawr yn y bennod o'r blaen, i gyffroi calon vn Christion a fai a rheswm ynddo, i roi ei fryd ar wasanaethu Duw, yr hyn yr wyf yn crybwyll am dano, ac yn chwen­nych yn gymmaint dy berswadio di i'w wneuthur, ddarllennydd hawddgar, a hynny er llês i ti dy hun. Ond am nad yw calonnau pawb o'r vn ddull yn hyn o beth, ac na thynnir ac na chyn­nhyrfir pawb trwy 'r vn moddion; fy amcan ydyw yma ystyried pa lês a pha ynnill a ddaw i ni oddiwrth hynny, o herwydd bod pob dyn ganmwyaf wrth naturiaeth yn tynnu at ei lês ai elw. Ac am hynny yr ydwyf yn gobeithio y bydd mwy o rym yn hynny tu ac at ddwyn i ben y peth yr ydym yn ei gei­fio, nag mewn dim arall ac a ddywet­pwyd etto. Fy meddwl gan hynny yw traethu am y llês ar elw sydd yn dy­fod o wasanaethu Duw, a'r ynnill a geir oddiwrth hynny, a'r taledigaeth da, a'r gwobr helaeth haelionus atydd [Page 168] Duw i'w weision, yn hyttrach nag vn meistr arall, ar a aller ei wasanaethu Ac er bod ofn y gospedigaeth a gawn ni, onis gwalanaethwn ef, yn ddigon er ein gyrru ni i roi ein bryd ar ei wa­sanaethu ef; a bod y doniau anfeidrol a gawsom ni gantho ef, yn ein denu ac yn ein gwahodd ni i wneuthur hyn­ny, er mwyn dangos ein bod yn ddi­olchgar iddo (ac am y ddeubeth hyn­ny y crybwyllwyd peth o'r blaen:) etto, ddarllennydd daionus, mi a fyddaf fodlon, i roi i ti hyn o rydd-did, os myfi nis dangosaf fod y peth yr wyf yn ei ofyn ar dy law di, yn well ar dy lês di ac yn fuddiolach i ti, nâ dim arall yn y byd ar a ellych di feddwl am dano; ni cheisiaf mo'th rwymo di i'w wneuthur, er dim ac a ddywedais i etto i'r perwyl hwnnw. Oblegid, fel y mae Duw ym mhob peth arall yn Dduw helaeth ei fawredd, yn llawn haelioni, a chymmwynasgarwch, a brenhinol haelder; felly y mae efe yn y peth yma, yn anad vn peth arall. Oblegid er nad yw dim a wnelom ni, neu a allom ei wneuthur, ond vnion ddyled arnom iddo ef, ac heb heuddu dim o hono ei hun; etto o'i fawr ddaio­nus haelioni, nid yw efe yn gadael vn tippyn o'n gwasanaeth ni iddo ef, heb ei obrwyo 'n helaeth, Mat. 10. Mar. 9. hyd yn oed phi­olaid o ddwfr oer.

[Page 169]2 Fe a orchymmynnodd Duw i A­braham aberthu iddo ef ei vnig fab J­saac, yr hwn yr oedd efe yn ei gatu yn gymmaint: ond pan oedd efe yn ba­ [...]od i wneuthur hynny, Duw a ddywe­dodd wrtho, Na ddôd dy law ar y llangc, Gen. 22.12. ac na wna ddim iddo; digon gennyfi we­led dy vfydd-dod di, O herwydd mi a wn weithiau dy fod di yn ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, oddiwrthyfi. Ac am nas gwrthodaist ei wneuhur, J mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, y ben­dithiafi dy di, ec yr amlháaf dy hâd di, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod sydd ar lan y môr; ac yn eu mysg hwy y bydd vn yn Grist, ac yn Iachawdwr i'r byd. Ond têg oedd y taliad yma am gyn lleied o boen? Y brenhin Dafydd addechreu­odd yw ddiwrnod seddwl yntho ei hun, 2 Sam. 7.1. 1 Cron. 17. [...] ei fod ef yn awr yn preswylio mewn tŷ o god­twydd, a bod arch Duw yn aros mewn pabell o sewn y cortynnau: am hynny efe a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i'r Arch. Ac fe fu 'r me­ddwl a'r amcan hwnnw mor gymmeradwy gan Dduw, ac y gyrrodd efe 'r prophwyd Nathan atto ef yn y man, i wrthod gantho hynny, ac etto i ddywedyd iddo, 2 Sam. 7 11. Psa. 8 [...].3 [...] yn gymmaint ac iddo roi ei fryd ar y peth, y gwaai 'r Arglwydd iddo ef dŷ neu yn hytttach frenhiniaeth, iddo ef ac i'w heppil ar ei ôl, yr hon a barháai byth ac ni thynnai efe byth ei drugaredd o­ddiwrthi, [Page 170] pa bechodau ac anwireddau bynnag a wnaent hwy. A'r addewid yma a welwn ni ei fod yr awrhon we­di ei gyflawni yn Eglwys Gr [...]st, yr hon a gyfododd o'r tylwyth hynny. I ba beth y dangoswn i lawer o'r fath es­amplau? Y mae Christ ei hun yn rhoi i ni addysg gyffredinol o hyn, wrth a­lw 'r gweithwyr, Mat. 20. a thalu iddynt eu cyflog mor vnion; a phan yw yn dy­wedyd am dano ei hun, Wele fi yn dy­fod ar frys, Datc. 22. am gwobr sydd gydâ mi, i dalu i bawb yn ôl ei weithredoedd. Wrth yr hyn y mae 'n amlwg, nad yw Duw yn gadael poen yn y byd a gymmerer yn ei wasanaeth ef heb dalu yn dda am dani. Ac er ei fod ef (f [...]l y dangosir yn ôl hyn mewn lle cyfaddas) yn talu yn y byd yma hefyd, a hynny yn helaeth ddigon; etto (fel y gwelir wrth y ddwy esampl hynny) y mae efe yn oedi ei daledigaeth pennaf, hyd oni ddêl efe ei hun yn niwedd y dydd, hynny ydyw, yn ol y fuchedd hon, Luc 24. yn adgyfodiad y rhai cyfiawn, fel y dyweid efe ei hun mewn man arall.

3 Ac am y taledigaeth ymma sydd ynghadw i wasanaethwyr Duw yn y fuchedd a ddaw, y mae i ni yr awr hon ystyried, pa beth ydyw, a pha fath ar beth ydyw, a pha vn a wna a'i bod yn talu yr llafur a'r boen y mae gwa­sanaeth [Page 171] Duw yn ei ofyn, ai nad ydyw. Ac yn gynta' dim, os ni a gredwn yr scrythur lân sydd yn galw y talediga­eth hwnnw yn Teyrnas, Mat 25. 2 Tim. 4. 2 Pet. 1. [...]uc. 14. ac yn Deyrnas nefol, ac yn Deyrnas dragywyddol, ac yn Deyrnas fendigedig: rhaid i ni gyfaddef yn dd au fod y tâl a'r gwobr hwnnw yn rhyfeddol o faint. Oblegid nid y­dyw Tywysogion bydol yn arfer o roi teyrnasoedd i'w gwasanaeth wyr yn dâl am eu llafur a'i gwasanaeth A phet­tynt hwy yn eu rhoi, neu yn abl i'w rhoi; etto ni allai y rhai a roent hwy fod yn deyrnasoedd nefol, nac yn rhai tragywyddol, nac yn rhai bendigedig ▪ Yn ail os rhown goel ar yr hyn a ddy­weid S. Paul am y taledigaeth hwnnw, Na welodd llygad, ar na chlywodd clust, ac na ddacth i galon dyn, faint ydyw: 1 Cor. 2.9. Es. 64.4. Psa ▪ 31.19▪ ac y mae 'n rhaid i ni wrth hynny dybied yn fwy o hono, oblegid i ni weled lla­wer o bethau rhyfedd yn ein dyddiau; a chlywed pethau rhyfeddach, ac y gall­wn feddwl am bethau rhyfeddol iawn ac anfeidrol. Pa fodd wrth hynny y gallwn ni ddyfod i ddeall faint a gwerthfawrogced yw 'r taledigaeth yma? diau na all vn tafod ar a grewyd, na thafodau dynion nac angylion, ei adrodd, nac vn meddwl ei dderbyn, nac vn deall ei gyrhaeddyd a'i amgy­ffred. Fe a ddywedodd Christ ei hun, [Page 172] Na's gwyr neb beth ydyw, Datc. 2.17. & 19.12. ond yr hwn sydd yn ei dderbyn: ac am hynny y mae efe yn y [...] vn man yn ei alw 'r Manna cu­ddiedig. Er hynny, fel y dywedir am ryw Geometrydd da, yr hwn pan ga­fodd hŷd troed Hercules ar fryn Olym­pus, a fesurodd ac a dynnodd bortreiad ei holl gorph ef, wrth fesur ei droed: felly y gallwn ninnau wrth ryw bethau sy wedi ei gosod ar lawr yn yr Scry­thur lân, ac wrth ryw bethau eraill sydd yn cyttuno â hi, fwrw amcan beth yw y taledigaeth hwnnw, er na bo 'r amcan ddim tebyg i'r peth ei hun.

4 Mi a ddangosais o'r blaen fel y mae 'r Scrythur lân yn galw 'r tale­digaeth hwnnw yn deyrnas nefol, dra­gywyodol, fendigedig: wrth yr hyn yr arwyddoccéir, y bydd rhaid i bawb a gynnhwyser yno fod yn frenhinoedd. I'r vn defnydd y gelwir ef mewn lle­oedd eraill yn goron gogoniant, Datc. 2. Mat. 16. Luc. 10▪ yn er­sedd mawrhydi, yn baradwys, yn lle o hy­frydwch, yn fywyd tragywyddol. Y mae S. Ioan Efangylwr; pan oedd wedi ei ddeol, a'i yrru allan o'i wlâd, wedi i­ddo drwy ryw ragorfraint gael peth gwybodaeth a phrawf o'r lle hwnnw; yn cymmeryd arno ei bortreiadu, trwy ei gyffelybu i ddinas; a dangos fod yr holl ddinas o aur pûr, a chaer fawr vchol iddi o'r maen gwerthfawr, Dat. 21.11. a elwir Ias­pis; [Page 173] a bod i'r gaer hon ddeuddeg sail, Nid felly y mae 'r lle. Datc 21.14▪ 19. wedi eu gwneuthur o ddeuddeg am­ryw fain gwerthfawr, y rhai y mae efe yno yn eu henwi: a deuddeg porth, o ddeuddeg maen gwerthfawr a elwid Margarit; ac ym mhob porth yr oedd vn Margarit cyfan: a heol y ddinas oedd wedi ei phasmantu ag aur pûr, Datc. 22. yn gymmysgedig o berlau, ac o fain gwerth­fawr: a goleuni 'r ddinas honno yw disgleirdeb, a llewych Christ ei hun, yn eistedd yn ei chanol hi: ac o'i or­sedd-faingc ef y doei afon o ddwfr y bywyd, disglair fel y grisial, i lonnychu 'r ddinas: ac ar ddeutu glan yr afon y tyfai bren y bywyd, yn dwyn ffrwyth yn wastadol ddibaid: ac nid oedd dim nos yn y ddinas honno, a dim halo­gedig nid ai i mewn iddi: ond y rhai sydd o'i mewn hi a deyrnasant ynddi, medd efe, byth bythoedd.

5 Wrth y portreiad hwn trwy gyffe­lybiaeth o'r pethau cyfoethoccaf a gwerthfawroccaf yn y byd hwn, y mynnei S. Ioan i ni ddeall, y pris a'r gwerth, a'r gogoniant, a'r mawrhydi sydd yn y dedwyddwch a barottowyd i ni yn y nef. Ac er (fel y dangosais o'r blaen) mai tywysogawl dref-tadaeth ein Ia­chawdr Christ ydyw, a theyrnas ei Dâd, a thragywyddol drigias y fendigedig drindod a barottowyd er cyn dechreuad [Page 174] y byd, i osod allan ogoniant, ac i ddan­gos gallu yr hwn nid oes na meidr, na mesar, na diben ar ei allu a'i ogoni­ant: ni a allwn dybieid yn dda gydâ S. Paul, na ali na rhafod ei draethu, na chalon ei feddwl.

6 Pan gymmero Duw arno wneu­thur rhyw beth i ddangos, me vn modd, ei allu, a'i ddoethineb, a'i fawredd hyd yr eithaf; meddyliwch ynoch eich hu­nain pa fath beth sydd hwnnw. Fe ryngodd bodd iddo ryw amser wneu­thur rhyw greaduriaid i'w wasanaethu ef yn ei wydd ei hun, ac i fod yn dystion o'i ogoniant ef: ac ar hynny ag vn gair efe a greodd yr Angylion, o her­wydd eu rhifedi a'i perffeithrwydd mor ddieithr ac mor rhyfeddol, ac y pair i ddeall dyn synnu wrth feddwl am da­no. Oblegid, tuac at am eu rhifedi, yr oeddynt agos yn aneirif, yn rhagori ar rifedi holl greaduriaid y byd hwn, fel y mae amryw wyr dysgedig, a rhai o'r hên dadau yn tybied: er bod y prophwyd Daniel, yn ôl arfer yr Scry­thur lân, yn gosod rhifedi pennodol yn lle rhifedi ammhennodol, pan yw yn dywedyd am yr Angylion. [...]. 7.10. Mil o filo­edd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddi­wn a safent ger ei fron. Ac am berffei­thrwydd eu naturiaeth, cyfryw ydyw (gan eu bod, fel y dyweid yr Scry­thur, [Page 175] yn ysprydion, ac yn dân sflamllyd) a'i bod yn rhagori ar holl greaduriaid y byd hwn; mewn gwybedaeth naturiol a gallu, a'r cyffelyb. Pa anfeidrol fawredd y mae hyn yn ei ddangos ei fod yn y creawdr.

7 Yn ôl hyn, wedi darfod i lawer o'r engylion hyn gwympo, fe ryngodd bodd i Dduw greu creadur arall oedd lawer is nâ hwnnw, i gyflawni ll [...]o­edd y rhai a gwympasai; ac ar hyn­ny efe a greodd ddyn o delpyn o bridd, Psa. 8. Heb. 1. fel y gwyddoch chwi, ac a appwyntiodd iddo fyw tros amser mewn lle pell o­ddiwrth y nef, yr hwn a wnaethid i'r perwyl hynny, a hwnnw yw'r byd: yr hwn sydd le i'w gynwys ef ac i'w brofi tros amser, a chwedi hynny a ddistrywir. Ac etto, wrth greu'r byd darfodedig hwn (yr hwn nid yw ond lluest yn perthyn i'w drigfa dragywy­ddol ef) pa allu, pa haelioni, pa fawr­hydi a ddangosodd ef? Pa fath nefoedd mor rhyfeddol a greodd ef? Pa rifedi anfeidrol o sêr, a goleuadau eraill a ddyfeisiodd efe? Pa fath elfennau, a defnyddiau a luniodd efe? Ac mor rhy­feddol y cymmhwy fodd efe'r cwbl yng­hyd? Y mor o'r tu allan i'r llaill yn fawr ei fordwy, a'i ryferthwy a'i don­nau yn ymdaflu ac yn ymdreiglo, ac ynteu yn llawn o aneirrif rywogaethau o [Page 176] bysgod: yr afonydd yn rhedeg trwy'r ddaiar, fel gwythenni yn y corph, ac heb fod vn amser yn hŷsp, nac yn llifo tros y ddaiar: y ddaiar hitheu, cyn llawned o bob math ar greaduriaid, ac nad yw dyn yn rhaid iddo wrth y ganfed ran o honynt, ond eu bod yn aros i ddan­gos llaw lawn, a braich cadarn y Creawdr. A hyn i gyd, fel y dywe­dais, a wnaethbwyd mewn moment, ag vn gair yn vnig: a hynny i'w mwyn­hau tros amser bychan wrth y tragy­wyddoldeb sydd i ddyfod. Pa beth wrth hynny, dybygwn ni, fydd y drigfa a barottowyd i'r tragywyddoldeb hwnnw? Os yw lluest y gwâs distatlaf o'r eiddo ef, (yr hon nis gwnaed ond i barhau tros amser, ac megis i fwrw cawod heibio) mor frenhinol, mor wychdeg, ac mor hardd, a chymmaint ei faw­rhydi, ac y gwelwn ni fod y byd hwn; pa beth dybygwn ni ydyw llys y bren­hin ei hun, a wnaed i barhau yn dra­gywyddol, iddo ef ac i'w garedigion i deyrnasu yngh yd ynddo. Mae'n rhaid i ni dybied ei fod yn gymmaint, ac y gallai ddoethineb a gallu ei wneuthurwr gythaeddyd ei wneuthur ef; hynny, ydyw yn anghyfartal, ac yn anfeidrol vwch law pob mesur. [...]er. 1. Y brenhin Ahasuerus, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Asia, ar gant a saith ar hugain o daleithiau; i ddan­gos [Page 177] ei allu a'l gyfoeth i'w ddeiliaid, a wnaeth wlêdd, fel y dyweid yr Scry­thur lân, yn ei ddinas frenhinol Susa; i holl dywysogion, a rhaglawiaid, a gwyr mawr ei lywodraeth ef, dros gant a' phe­dwar vgain o ddyddiau o'r vntu. Y mae 'r prophwyd Esai yn dywedyd y gwna ein Duw ni Arglwydd y lluoedd, wledd i'w holl bobl ar fryn a mynydd y nef, gwledd o basgedigion breision, ac o loywwin puredig. A'r wledd hon fydd mor reiol ac y bydd i fab Duw ei hun, Es. 85.6. Arglwydd pennaf y wledd, fod yn fod­lon i ymwre [...]ysu ac i wasanaethu ynddi, Luc. 12. megis y mae efe yn addaw â'i air ei hun. Pa fath wledd, wrth hynny, fydd hon? Mor reiol fydd? Mor llawn o fawrhydi? Yn enwedig gan ei bod yn parhau nid yn vnig tros gant a phe­dwar vgain o ddyddiau, fel gwledd Ahasnerus, ond tros fwy nâ chant a phed­war vgain mil fyrddiwn o oesoedd; ac nid dynion yn gwasanaethu arni, ond Angylion, a mâb Duw ei hun: ac nid i ddangos gallu a chyfoeth cant a saith ar hugain o daleithiau, ond i ddan­gos gallu a chyfoeth Duw ei hun, Brenhin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi, yr hwn y mae ei allu a'i gyfoeth heb ddiben arnynt, ac yn fwy nag a all ei holl greaduriaid ef na me­ddwl na deall? Mor ogoneddus gan [Page 178] hynny fydd y wledd hon? Mor or­foleddus fydd llawenydd yr wyl-wledd hon? Och mor anhappus, ac mof ynfyd y dyw meibion dynion, a hwythau wedi ei geni i'r fath fraint ammheuthyn ar­dderchog, ac etto nas gellir eu dwyn nac i'w ystyried, nac i'w garu, nac i wneuthur cyfrif o honaw.

8 Y mae pethau eraill i'w hystyried a all ddangos maint y dedwyddwch hwn: megis hyn, os rhoes Duw cym­maint o hyfrydwch, a doniau comffor­ddus yn y bywyd hwn ac a welwn ni eu bod yn y byd, yr hwn er hynny i gyd, nid yw ond y wlâd yr ydym ni yn wyr deol ynddi, a bro ein alldudaeth ni, a man­gre pechaduriaid, a glyn y gofid ar trueni, dyffryn wylofain ac amser i edifeirwch a dagrau, a chwynfan: pa beth a wna efe yn y bywyd a ddaw, i'r rhai cyfiawn, i'w garedigion, yn amser llawenydd, ar ddydd priodas ei fâb? Yr oedd yst yried hyn yma yn beth crŷf gan S. Aust [...]n, Datc. 19. yr hwn yn yr ymddiddan cyfrinachol rhwng ei enaid a Duw, a ddywedodd fel hyn, ô Argwydd, In solila­ [...]quijs ani­ [...]nae ad Deu. cap. 20. sed Este lib. non credit esse Ang. os wytti yn rhoi cymmaint o ddoniau aneirif i'r corph gwael hwn eiddom ni, o'r ffurfafen, ac o'r awyr, ac o'r ddaiar, ac o'r môr, o'r goleuni a'r tywyllwch, o'r gwrês a'r cys­god, o'r gwlith a'r cawodydd, o'r gwynto­edd a'r glawogydd, o'r adar a'r pysgod, [Page 179] o'r anifeiliaid ac o'r coedydd, ac i amlder y llysiau, ac amryw blanhigion, a thrwy weinidagoeth dy holl gre aduriaid: ô Ar­glwydd da, pa fath bethau a barottoaist ti i ni yn ein cartref nefol, lle ycawn dy we­led di wyneb yn wyneb? Os wyti yn rhoi i ni bethau cymmaint yn ein carchar­dŷ ni, pa bethau a roi di i ni yn dy frenhinllys dy hun? Os wyti yn rhoi cymmaint o bethau yn y byd hwn i ddynion da a drwg ynghyd, pa beth sy gennyt ti wedi ei roi i gadw i'r rhai da yn vnig yn y byd a ddaw? Od oes cymmaint difyrrwch a llawenydd yn y dyddiau wylofain yma, pa fath lawe­nydd fydd ar ddydd y briodas? od oes cymmaint o bethau hyfryd yn ein car­chardy ni, pa fath bethau, meddwch chwi, fydd i ni yn ein gwlad? Oh fy Ar­glwydd a'm Duw, Tydi s [...]dd Dduw mawr, a mawr yw amlder dy haeledd a'th ddaioni di. Ac fel nad oes diben ar dy fawredd, na rhifedi at dy ddoethineb, Psal. 31. na mesur ar dy haeledd: felly nid oes na di­ben na rhifedi, na mesur, ar dy dale digae­thau i'r rhai sy'n dy garu di, ac yn ym­ladd trosot. Hynny a ddywaid S. Austin.

9 Ffordd arall i fwrw amcan ar y ded­wyddwch yma, yw ystyried yr addewi­dion mawr y mae Duw yn eu gwneu­thur yn yr Scrythur lân, er anrhydeddu a gogoneddu dyn yn y bywyd a ddaw: [Page 180] Y Sawl a'm hanrhydeddo i medd Duw, [...] Sam. 2. Psal. 139. mi a'i gogoneddaf ef. Ac y mae 'r prophwyd Dafydd megis yn cwyno fod Duw yn anrhydeddu ei garedigion yn gymmaint. Yr hyn y gallasai efe gael achos mwy i'w ddywedyd pe buasai efe byw yn am­ser y Testament newydd, a chlywed a­ddewid Christ, yr hwn a grybwyllais am dano o'r blaen y cai ei weision ef eistedd i lawr i wledda, Luc. 12. ac y byddai ynteu eihun yn gweini, ac yn gwasanaethu arnynt yn nheyrnas ei Dâd. Pa synhwyr a all amgyffred a deall faint yw 'r aurhydedd yma? Ond etto fe ellir mewn rhan ei ddychymyg a bwrw amcan arno, wrth yr hyn a ddywaid ef, y cânt hwy eistedd i farnu gyd ag ef, Math. 19. Luc. 21. yn farnwyr, fel y dywaid S. Paul, nid yn vnig ar ddynien, ond hefyd ar yr Angylion. Fe ellir bwrw amcan arno hefyd, 1 Cor. .6. wrth yr anrhydedd mawr iawn, y mae Duw ar amseroedd yn ei roi i'w weision, ië yn y byd hwn: Mat. 10. er eu bod hwy wedi eu gosod ynddo i'w diystyru, ac nid i'w han­rhydeddu. Beth am faint yr anrhydedd a'r parch a wnaeth efe i Abraham, get bron cynnifer o frenhinoedd y ddaiar, Pharao, Ahimelech, Melchizedec, a'r cy­ffelyb? Beth am yr anrhydedd a wna­eth efe i Foesen ac i Aaron, Gen. 12. & 14. & [...] Exod. 5. & 16. & 7, 8. yn wyneb Pharao, a'i holl lŷs, trwy'r arwy­ddion rhyfeddol a wnaethant hwy? [Page 181] Beth am yr an rhydedd rhagorol dros ben a wnaeth ef i'r gwr sanctaidd Iosua pan fu iddo, wrth orchymmyn Iosua ac yng­wydd ei holl lu beri i'r haul ac i'r lleuad sefyll ynghanol y ffurfafen, y rhai yn hynny, Ios. 10. fel y dywaid yr Scrythur lân, a fuant vfydd i leferydd dŷn? Es. 38. Beth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Esai, yngŵydd y brenhin E­zecia [...], pan wnaeth ef ir haul fyned yn ei ôl ddeg o raddau yn y nef - Beth am yr anrhy­dedd a wnaeth efe i Elias yngwydd Ahab annuwiol, pan roes efe yr nefoedd yn ei law ef, a goddef iddo ddywedyd na syrthiai na glaw na gwlith ar y ddaiar tros ennyd o flynyddoedd, 1 Bren. 17. ond trwy air ei enau ef yn vnig? 2 Bren. 5 Beth am yr anrhydedd a wnaeth efe i Elisæus yngwydd Naaman y pendefig o Syria, yr hwn a iacháodd efe a'i air yn vnig oddiwrth ei wahan-glwyf: a'i esgyrn ef, yn ôl ei farwolaeth, a gyfodasant y marw i fyw, trwy gyffwrdd â hwy'n vnig? Yn ddiweddaf, 2 Bren. 13 Act. 5. Act. 19▪ i wneuthur pen ar ddwyn esamplau yn hyn o beth, beth am yr an­rhydedd godidog a wnaeth efe i holl Apo­stolion ei fâb, fel y byddai i gynnifer a [...] y rhoent eu dwylo arnynt, gael eu hiachau oddiwrth bob math ar vvendid, fel y dy­waid S. Luc. Ië, a mwy nâ hyn hefyd, fe wnai hyd▪ yn oed gwregysau a napcynnauPaul yr vn peth: a mwy nâ hynny hefyd, cynnifer ac ddaerhant o fewn cisgod Sainct Petr iachêid o'i clefydan [Page 182] Ond yw hyn yn anrhydedd mawr, ië yn y byd hwn! A fu erioed nac ym­merodr, na brenhin, na thwysog, na gwr mawr, a allai ymffrostio ddarfod iddo wneuthur y cyfryw barch i neb? Ac os gwnaeth Christ hynny, ië yn y byd hwn, i'w weision, ac y nteu yn dy­wedyd nad yw ei deyrnas ef o'r byd hwn: [...]. 18. pa anrhydedd a dybygwn ni ei fod gantho ynghadw iddynt yn y byd a ddaw, Tim. [...]atc. 4. lle bydd ei deyrnas ef, a lle y co­ronir ei holl weision ef megis bren­hinoedd gyd ef?

10. Peth arall y mae 'r dyfeinwir yn ei osod ar lawr i ddangos ac i hy­spyssu maint y dedwyddwch yma yn y nef: a hynny ydyw, bod ystyried tri lle a appwyntiwyd i ddyn wrth ei greedi­gaeth Y cyntaf yw croth ei fam, yr ail yw'r byd presennol, a'r trydydd yw Coelum empyreum, y nef, yr hwn yw mangre dedwyddwch yn y fuchedd a ddaw. Weithian am y tri lle hyn, rhaid i ni gynnal y fath ragor gwa­hanredol rhyngddynt i gyd, (trwy bob rheswm) ac a welwn ni yn eglur eu bod rhwng y ddau gyntaf. Felly, e­drych beth yw y rhangor sydd rhwng yr ail a'r cyntaf; yn yr vn mesur y bydd rhaid bod y rhagor rhwng y trydydd a'r ail, neu yn hyt [...]ach ychwaneg o lawer; gan nad yw'r holl [Page 183] ddaiar i gyd ond megis pwngc neu ditl bychan wrth y maint rhyfeddol sydd yn y nefoedd Wrth faint y rha­gor yma gan hynny, y mae'n rhaid i ni ddywedyd, beth bynnag y mae 'r holl fyd yn ei ragori ar groth vn wraig, yr vn faint y mae mangre 'r dedwyddwch yn rhagori ar yr holl fyd yma, mewn tegwch, a hyfrydwch, a mawrhydi. A chymmaint ac y mae dyn sy'n byw'n y byd, yn rhagori ar ddyn bach ynghroth ei fam, mewn nerth corphorol, a thegwch, a syn­hwyr, a deall, a dysg, a gwybodaeth: hynny, a mwy o lawer y mae 'r Sainct yn y nef yn ei ragori ar ddynion y byd hwn, yn yr holl bethau hyn, ac mewn llawer o bethau eraill hefyd A chymmaint ac a fyddei o chwithdod gan ddyn ddychwelyd i groth ei fam; chymmaint a fyddei ar enaid wedi ei o­goneddu am ddychwelyd yn ei ól o'r nef i'r byd hwn. Hefyd nid yw'r nawmis bywyd ynghroth y fam cyn lleied wrth oes dyn yn y byd hwn, ac ydyw yr oes hwyaf ar y ddaiar wrth y bywyd tragywyddol yn y nef. Ac nid yw dallineb, ac anwybod, a thrueni arall dyn bach ynghroth ei fam, mewn vn modd i'w cyffelybu i ddallineb, ac an­wybod, a thrueni arall dyn yn y bywyd hwn; wrth y goleuni, a'r wybodaeth [Page 184] eglur▪ a'r ddedwyddwch arall sydd yn y fuchedd a ddaw. Fel y gell­ir vvrth hyn hefyd wybod peth am­can ar y defnydd yr ydym yn son am­dano.

11 Ond i ystyried y peth yn neill­duolach, mae 'n rhaid gwybod y bydd i'r gogoniant nefol hwn ddwy ran, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall yn perthyn i'r corph. Yr hon sydd yn perthyn i'r enaid, sydd yn sefyll at vveled Duw, fel y ddangosir yn ôl hyn. Yr hon a berthyn i'r corph, sydd yn sefyll ar y cyfnewidiad a'r gogoneddiad fydd ar ein cnawd ni, yn ôl yr adgyfodiad cyffredin, trwy'r hyn y gwisg y corph llygredig yma eiddom ni, 1 Cor. 15. anllygredigaeth, fel y dywaid Sainct Paul, ac yr â o farwol yn anfarwol. Ein holl gnawd hwn eiddom ni, Doeth. 9. Ephes. 4. me­ddaf, yr hwn sydd yr awrhon drallo­dus, a gorthrwm, a blin i'r enaid; yr hwn sydd yr awhon yn cael ei flino ag amryw aflwydd; yn hy [...]wym i lawer o gyfnewidiau, yn cael ei fo­lestu a chynnifer o glefydau, vvedi ei halogi â llawer o lygredigaethu, yn llavvn o drueni ac adfyd aneirif; a vvneir y pryd hynny yn ogoneddus, ae o'r fath berffeithaif, i barhau byth, heb gyfnewid, ac i deynasu gydâ 'r enaid heb drangc heb orphen. Oblegid fe fydd [Page 185] vvedi ei vvared oddiwrth y trymder musgrell yma sydd yn bwys arno yn y byd hwn; ac oddiwrth bob math ar glefydau a gofidiau 'r bywyd hwn, ac oddiwrth bob trallod a thrafferth a ber­thyn i hynny, megis pechu, bwytta, yfed, cysgy, a'r cyffelyb. Ac efe a oso­dir mewn cyflwr hoyvv odiaeth o ie­chyd nid adfeilia byth Mor hoyw-wych fydd, ac y dyweid ein Iachawdr Christ, Yn y dydd bwnnw y llewyrcha y rhai cyfi­awn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd. Mat. 13.43. Dyma ymadrodd rhyfedd gan Grist, ac yn neall dŷn, agos yn anghredadwy, y llewyrcha ein cyrph ni, vvedi eu pydru, ac yr ânt mor ddisglair a'r haul, lle y bydd o'r gwrthwyneb, gyrph y rhai damnedig mor ddu, ac mor erchyll a'r budreddi. Fell▪ hefyd, vr holl synhwyrau a gânt wybod fod yn odidowgach ei grym hwy n [...]g y gallai fod byth yn y byd hwn, fel y dangosir yn ôl hyn, o herwydd fe fydd llawn pob rhan, a phob sy [...]hwyr a phob aelod, a phob cymmal, o gom­ff [...]rdd godidog, yr vn modd ac y poenir pob vn o honynt yn y rhai damnedig. Ac yma y dygaf eiriau Anselmus, am eu bod yn dangos y peth yma yn rhagorol, Ca 5. [...] Yr holl gorph go­goneddus, medd efe, a lenwir a helaethrwydd o bob math ar ddyfyrrwch, y llygaid, y clustiau, [Page 186] y ffroenau, y genau, y dwylo, y geg, yr ysgyfaint, y galon, y cylla, y cefn, yr esgyrn▪ y mêr, a'r ymysga­roedd eu hunain: a phob rhan o ho­nynt a lenwir â'r fath annrhaethawl ddi­grifwch a phereidd dra, fel y gell [...]r dywedyd yn ddigion gwir, Yr holl ddyn a l [...]wn-ddigonir, Psal. 36.8.9. a feddwir, a fwyd [...]r, a brasder tŷ Dduw; ac ag afon dy hyf­rydwch y d [...]odir ef. Canys gydâ'r Argl­wydd y mae ffynnon y bywyd, ac yn ei oleuni ef y gw [...]lwn o [...]euni. Ac heb law hyn i gyd, y mae yn cael tragywyddol­deb, trwy'r hon y siccrheir ef, na bydd byth marw, ac na newid byth ei dded­wyddwch; yn ôl yr hyn a ddywaid yr Scrythur, Y cyfiawn a fydd byw byth ▪ Yr hyn yw vn o ragor-freiniau pennaf y corph gogoneddus; o herwydd trwy hyn y tynnir ymmaith bob gofal ac ofn▪ ac y symmudir oddiwrthym bob perygl ac enbydrwydd o gael na niweid na sarhaed.

12 Ond bellach i ddyfod at y rhan hon­no o ddedwyddwch a berthyn i'r enaid, yr hon yw y rhan bennaf, mae'n rhaid­ni ddeall, er bod llawer o bethau yn dyfod ynghyd yn y dedwyddwch yma, i gyflawni ac i berffeithio 'r gwynfyd etto nid yw ffynnon y cwbl ond vn peth yn vnig, a hynny a eilw 'r dyfein­wyr, visio Dei beatifica, Cael gweled [Page 187] Duw, yr hyn sydd yn ein gwneuthur ni yn ddedwydd. Li. de Trin. ca. 13. Haec sola est summum bo­num nostrum, medd S. Awstin, Cael gwe­ [...]ed Duw yw 'n daioni pennaf ni a'n dedwyddwch Yr hyn mae Christ he­fyd yn ei ddywedyd, pan yw efe yn dywedyd wr [...]h ei Dâd. Joan. 17.3. Hyn yw'r by­wyd tragywyddol, bod i ddyn dy adna­ [...]od di, yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti, Iesu Grist. Ac y mae S. Paul hef [...]d yn dangos mai Cael gwe­ [...]ed Duw wyneb yn wyneb, yw ein de­dwyddw [...]h ni, 1 Cor. 13▪ a S. Ioan mai Cael gwe­ [...]ed Duw megis y mae. A'r rheswm o hyn ydyw, am fod pob difyrrwch a bodlon­ [...]wydd yn y byd (y rhai nid ŷnt ond gwreichion a rhannau wedi eu danfon [...]ddiwrth Dduw) yn gynnwysedig oll [...]n Nuw ei hun▪ a hynny yn llawer per­ [...]eithiach a godidowgach nag y crewyd [...]wynt yn eu naturiau eu hunain: me­gis hefyd y mae holl berffeithrwydd [...]i greaduriaid ef yn gyflawnach ynddo [...]f nag ynddynt hwy. Ac o hyn y can­ [...]yn bod ym mhwy bynnag ac a gyn­ [...]hwyser i gael gweled Duw, ac i ddyfod [...]n ei wydd ef, holl ddaioni a pherffei­ [...]hrwydd creduriaid y byd wedi en cy­ [...]ylltu ynghyd, a'i presentio iddo ef ar [...]nwaith. Megis pa beth bynnag sydd [...]yfryd gan na'r corph na'r enaid, y [...]ae efe yno yn ei fwynhau yn gwbl, [Page 188] wedi eu cylymmu ynghyd megis yn vn vsgub, ac y mae hynny â'i bres [...]n­noldeb yn ei orchfygu ef ym mhob rhan o'i enaid a'i gorph; megys nas gall efe na dychymmyg▪ na dymuno, na meddwl am lawenydd yn y byd, nad ydyw efe yn ei gael yn ei lawn berffeithrwydd: yno y mae yn cael pob gwybodaeth, pob doeth­ineb, pob tegwch, pob cyfoeth, pob bonedd, pob daioni, pob dyfyrrwch, a phob peth heb law hynny ac sydd yn haeddu na'i ga­ru, na rhyfeddu wrtho, neu yn gweithio hyfrydwch a bodlonedd▪ Holl alluoedd y meddwl a lenwir â'r golygiad yma ar Dduw, a bod yn ei wydd ef, a'i fwynhau: holl synhwyrau 'r corph a ddigonir. Duw a fydd yn ddedwyddwch cyffredinol i'w holl Sainct, yr hwn syddd yn cynnwys ynddo bob math ar dde­dwyddwch neillduol, heb drangc heb orphen, heb rifedi, heb na meidr, na mesur. Efe a fydd yn ddrych i'n llygaid ni, yn fusig ac yn felys-gerdd i'n clustiau ni, yn fêl i'n geneuau ni, yn balm hyfryd o'r pereiddiaf i'n haroglau ni: efe a fydd yn c­leuni i'n deall ni, yn fodlonrwydd i'n hewyllys ni, yn bara tragywyddol­deb i'n côf ni▪ Ynddo ef y cawn ni [Page 189] fwynhau pob ymrafael fath ar amsero­edd sydd yma yn hyfryd gennym ni, a holl degwch y creaduriaid sydd yma yn ein llithio ac yn ein denu ni: a phob digrifwch a llawenydd sydd yma yn ein bodloni ni. With weled Duw, medd vn o'r Dyctoriaid, y cawn ni wy­bod, y cawn ni garu, y cawn ni lawenychu, y cawn ni glof [...]ori. Ni a gawn wybod hyd yn oed cyfrina­choedd a barnedigaethau Duw; y rhai sydd eigion gorddyfnder di wae­lod▪ Ni a gawn wybod achosion, a naturiau, a dechreuad, a gwreiddyn a chychwynfa a diwedd pob crea­dur. Ni a gawn garu yn anghy­fartal, Hugo. lib. 4. de anima. cap. 15. ni a gawn garu Duw o her­wydd yr aneirif o achosion cariad a gawn eu gweled ynddo, a charu ein cyfeillon cymmaint a ni ein hu­nain, am y cawn ni weled fod Duw yn eu caru hwy yn gymmaint a nin­nau, a hynny am yr vn achos ac y mae efe yn ein caru ninnau. Ac o hyn y canlyn, y bydd ein llawenydd ni heb arno na meidr na mesur, Psal. 36. am y cawn ni lawenydd neillduol am bob peth ac yr ydym ni yn ei garu yn Nuw, y rhai sy aneirif; a hefyd am y cawn ni llawenychu o achos de­dwyddwch pob vn o'n cyfeillion, yn gymmaint ac o achos yr eiddom ein [Page 190] hunain: ac with hynny ni a gawn cyn nifer o fathau gwahanredol ar ddedwy­ddwch, ac a fyddo i ni o gyfeillion gwahanredol yn g [...]frannogion o'r de­dwyddwch hwnnw▪ a chan fod y rhai hynny yn aneirif, nid rhyfedd ddywe­dyd o Grist, Dôs i mewn i lawenydd dy Arglwydd, ac nid Aed llawenydd dy Ar­glwyddd i mewn i ti: Mat. 25.21 23. oblegid nas gall vn galon ac a grewyd dderbyn cyflawnder a maint y llawnenydd yma▪ O hyn y canlyn yn ddiweddaf, y cawn ni foliannu Duw heb na diben na diffygio, a hynny â'n holl galon, â'n holl nerth, â'n holl alluoedd, â'n holl rannau, yn ôl yr hyn a ddyweid yr cerythur lân, Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ di, O Arglwydd, yn wastad i th fo­liannant, byth bythoedd

13 Am y gwynfydedig weled yma ar Dduw, Psal. 84.4. y mae 'r tâd duwiol S. Awstin yn yscrifennu fel hyn, Gwyn fŷd y rhai glân o galon, canys hwy a gant weled Duw, medd ein Iachawdr; wrth hynny, y mae gweled Duw, Tract. 4. in Ep. Ion. Mat. 5. frodyr anwyl, yn ein gwneuthur ni yn wynfydedig; y mae golwg, meddaf, yr hwn ni we­lodd llygad yn y byd yma, ac ni chly­wodd clust, ac nid aeth i mewn i galon dŷn. Y mae golwg sydd yn rhagori ar [...]ob tegwch pethau bydol, megis aur, brian, coedydd, maesydd, y môr, yr [Page 181] awyr, yr haul, y lleuad, y sêr, yr Angy­lion : oblegid mai oddi wrth y golwg hwnnw y mae 'r holl bethau hyn yn cael eu tegwch. Ni a gawn ei weled of wyneb yn wyneb, medd yr Apostol, ac a gawn ei adnabod ef, megis i'n hadwae­nir ninnau. 1 Cor. 13.12. Aug. cap. 36. soliloq. Ni a gawn adnabod gallu 'r Tâd, ni a gawn adnabod doethineb y Mâb, ni a gawn adnabod daioni yr Yspryd glân, ni a gawn adnabod na­turiaeth anghyfrannol y fendigediccaf Drindod. A'r golwg yma ar wyneb Duw yw llawenydd yr Angylion, a'r holl Sainct yn y nef. Y golwg yma yw gwo­br bywyd tragywyddol▪ hwn yw gogoni­ant yr ysprydion bendigedig, a'i dyfyr­rwch tragywyddol, a'i coron anrhy­dedd, a'i hynnill ar ddedwyddwch, a'i hesmwythyd cyfoethog, a'i lle tirion byfryd, a'i llawenydd oddi fewn ac o­ddi allan, a'i duwiol baradwys, a'i Ie­rusalem nefol, a'i dedwyddwch bywyd, a'i llawnder gwynfyd, a'i tragywyddol lawenydd, a'i tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall. Y golwg hwn ar Dduw yw llawn ddedwyddwch dyn, a'i hollawl ogoneddiad; sef cael gweled yr hwn a wnaeth nef a daiar; caol gwe­led yr hwn a'th wnaeth, ac a'th bry­nodd, ac a'th ogoneddodd di. Oble­gid wrth ei weled, ti a'i molienni, O­blegid efe yw tref-tadaeth ei bobl; efe [Page 192] yw perchennogaeth eu dedwyddyd hwy; efe yw'r gwebr y maent yn disgwyl am dano, Myfi yw dy wobr mawr iawn, medd efe wrth Abraham. O Arglwydd, yr wyti yn fawr, ac am hynny nid rhy­fedd dy fod di yn wobr mawr. Dy we­led di gan hynny, a'th fwynhau, yw 'n holl gyflog ni, a'n holl wobr, a'n holl lawenydd a'n dedwyddwch, yr ydym yn disgwyl am dano, gan ddaifod i ti ddywedyd, Hyn yw 'r bywyd tragywy­ddol, dy weled a'th adnabod di yr vnig wir Dduw, a'r hwn a ddanfonaisti Iesu Grist.

14 Gan ddarfod bellach ddangos dwy ran gyffredinol y dedwyddwch ne­fol, y naill yn perthyn i'r enaid, a'r llall i'r corph; nid yw anhawdd bwrw amcan pa ragorol lawenydd▪ a hair pob vn o'r ddwy ran, pan gyssyllter hwy ynghyd, pan ddêl bendigedig ddi­wrnod ein gogoneddiad ni. Oh y lla­wenydd sydd vwch ben pob llawenydd, yn rhagori ar bob llawenydd, a heb yr hwn nid oes dim llawenydd; pa bryd y caf fi fyned i mewn i ti, medd S. Aw­stin, Soli. ca. 36. Pa bryd y caf dy fwynhau di, i gael gweled Duw, yr hwn sydd yn tri­go ynot ti? Oh dragywyddoi deyr­nas! Oh deyrnas pob tragywyddoldeb! Oh oleuni heb ddiwedd! Oh dangnhe­fedd Dduw yr hvvn sydd vwch lavv [Page 193] pob deall! Esa. 35.10· & 51.11. lle mae eneidiau 'r Sainct yn gorphywys gydâ thi: a llawenydd tragywyddol sydd ar eu pennau; y maent wedi goddiwe [...] llawenyd a hyfrydwch, a phob gofid a griddfan ffooad ymaith o­ddiwrthynt. Oh mor ogoneddus o deyr­nas yw 'r eiddot ti, Arglwydd, yn yr hon y mae 'r holl Sainct yn teyrnasu gydâ thi, Psal. 104.2. Psal. 21.3. wedi eu gwsgo â goleuni fel dilledyn, ac ar eu pennau goronau o aur coeth. Oh deyrnas tragywyddol wyn­fyd, lle 'r wyti, ô Arglwydd, gobaith yr holl holl Sainct, a choron a thalaith eu gogoniant tragywyddol, yn eu lla­wenychu hwy o amgylch, ath welediad bendigedig. Yn y deyrnas yma eiddor ti, y mae llawenydd anfeidrol, a di­grifwch heb brudd-der, ac iechyd heb dristwch, a bywyd heb lafur, a goleu­ni heb dywyllwch, a dedwyddwch heb dawl, a phob daioni heb ddim drwg. Lle y mae ieuengtid yn ei flodau, heb henei­ddio byth, bywyd heb ddiben, tegwch heo ddiflannu byth, ariad heb oeri byth, iechyd heb ballu byth, llawenydd heb beidio byth. Ni chlywir byth oddiwrth dristwch, lle ni chlywir cwyno byth, lle ni welir byth achos prudd-der, lle nid rhaid ofni afrwydd-deb byth. Am eu bod hwy yn dy feddiannu di, o Arglwydd, [...] yr hwn wyt berffeithrwydd eu dedwy­ddwch hwy.

[Page 194]15 Ped ystyriem ni 'r pethau hyn, fel y gwnai 'r gwr Duwiol yma, ac e­raill o'i gyffelyb, diammau y cynneuai ac yr ennynnai ynom ni fwy o gariad i'r dedwyddwch hwn a barottowyd i ni, nag sydd ynom; ac felly ni a ym­drechem yn well nag yr ydym i geisio ei ynnill. Ac fel y bo i ti glywed mwy o fyw ynot, ddarllenydd hawddgar, ynghylch hyn o beth, ystyria gydâ myfi, pa ddiwrnod llawen fydd hwnnw yn dy dŷ di, wedi darfod i ti fyw mewn ofn Duw, a'i wasanaethu ef hyd ddi­wedd dy bererindod, a chael dyfod o'r diwedd, trwy gyfrwng angeu, i yma­dael a'th drueni ac a'th lafur a meddi­annu anfarwoldeb: ac yn y traidd ar ymadawiad hwnnw, Luc. 21.28 pan fo eraill yn dechreu ofni, tydi a gai ddyrchafu dy ben mewn gobaith, fel y mae Christ yn addaw, am fod amser dy ymwared a'th ie­chydwriaeth di yn nesau. Dyweid i mi pa fath ddiwrnod, dybygi di, fydd hwn­nw, pan fo dy enaid di yn myned all­an o garchar, ac yn cael ei gyrchu a'i ddwyn i babell nef, ac yn cael ei dder­byn yno gydâ minteioedd a byddino­edd anrhydeddus y lle hwnnw: gydâ 'r holl ysprydion gwynfydedig hynny y mae sôn am danynt yn yr Scrythur lân, sef yw y rhai hynny, tywysogaethau, a galluoedd, a nerthoedd, ac arglwyddiae­ethau, [Page 195] a thronau, ac Angylion, ac arch­angylion, a Cherubiaid a Seraphiaid; a hefyd gydâ sanctaidd Apostolion a dis­gyblion Christ, a'r padrieirch a'r pro­phwydi, a'r merthyron, a'r gwirioni­aid, a chonffessoriaid, a holl Sainct Duw: y rhai a orfoleddant i gyd oll wrth dy goroni di a'th ogoeddu▪ Pa lawenydd a fydd i'th enaid di y dy­thwn hwnnw, pan bresentier ef yngwydd yr holl rai vchel-swydd hynny, ger bron gorseddfainge a mawrhydi y fen­digedig Drindod, a dangos ac yspyssu dy holl weithredoedd da di, a'th la­fur a ddioddefaist er cariad ar Dduw, ac er mwyn ei wasanaeth ef? Pan o­soder ar lawr yn y senedd a'r gym­manfa anrhydeddus honno, dy holl weithredoedd da di, a'th holl boen a gymmeraist yn dy alwedigaeth, a'th holl eluseni, a'th holl weddiau, a'th holl ym­prydiau, a'th holl ddiniweidrwydd by­wyd, a'th holl ddioddefgarwch wrth gael cam, a'th holl ddianwadalwch yn dy adfyd, a'th holl gymmedrolder, a'th gymmesurwydd mewn bwyd a diod, a holl rinweddau da dy holl fywyd? Pan gyfrifer hwy oll, meddaf, yno, a'i canmol oll, a'i gobrwyaw oll, oni chai di weled grym a llês buchedd dda rin­weddol? Oni chyfaddefi di 'r pryd hynny fod gwasanaeth Duw yn yn­nillfawr [Page 196] ac yn anrhydeddus? O ni by­ddi di lawen yr amser hwnnw, a ben­dithio 'r awr y rhoist dy fryd gyntaf ar ymadael â gwasanaeth y byd, a my­ned i wasanaethu Duw? Oni thybygi di dy fod yn rhwymedig iawn i'r neb a'th gynghorodd ac a'th annogodd di i wneuthur hynny? gwnei yn wir.

16 Ac etto mwy nâ hyn hefyd, pan fych di mor agos i'th ymadawiad oddi yma, ac ystyried i ba fath borthladd diogelwch y daethost, ac edrych yn dy ôl ar y peryglon y daethost heibio i­ddynt, y rhai y mae eraill etto ynddynt; fe fydd i ti achos mwy o lawer i la­wenychu. Oblegid ti a gai weled yn amlwg, mor aneirif o amserau y galla­sai ddarfod am danati yn y daith honno, oni bai ddarfod i Dduw fod a'i law drosot ti yn ddiwyd iawn. Ti a gai we­led y peryglon y mae eraill ynddynt, yr angeu a'r ddamnedigaeth y mae llawer o'th garedigion a'th gydnabod di we­di syrthio iddynt, y tragywyddol boe­na vffernol a haeddodd llawer a fyddei arfer o chwerthin ac a fod yn llawen gyd â thi yn y byd. Yr hyn i gyd a chwanega ddedwyddwch dy fendigedig gyflwr di. Ac weithian o'th ran di dy hun, ti a elli fod yn ddiogel, yr wyt ti allan o bob math ar berygl yn oes oesoedd. Nid rhaid mwy weithian wrth [Page 197] nac ofni, na gwilied, na llafurio, na go­falu. Di a elli fwrw heibio dy holl arfau bellach, Ios. 21. & 22. yn well nag y gallai meibion Israel, wedi iddynt ynnill gwlâd yr addewid. Oblegid nid oes mwy vn gelyn i'th gyrchu di, ac i osod ar­nat: nid oes mwy vn sarph ddichell­gar i'th dwyllo di: y mae pob peth yn heddychol, y mae pob peth yn es­mwythdra, pob peth yn llawenydd, Gen. 2. Doeth. 17. pob peth yn ddiogelwch. Nid rhaid i S. Paul mwy lafurio yngweinidegoeth y gair, nac ymprydio, na gwilio, 1 Cor. 9. na chos­pi ei gorph. Fe all yr hên Ierom dduw­iol bellach beidio a'i boeni ei hun ddydd â nôs i geisio gorchfygu ei e­lyn ysprydol. Hieron Ep 22. ad Eust Dy vnig waith di a'th orchwyl weithian fydd llawenychu, Dat. 19. a gorfoleddu, a chanu Halleluiah i'r oen a'th ddug di i'r dedwyddwch hwnnw, ac a'th geidw di yntho, byth ac yn dra­gywydd. Pa gomffordd fydd cael gwe­led yr oen hwnnw yn eistedd ar orsedd­fainge ei fawrhydi? Os daeth y doethion o'r dwyrain cyn belled ffordd i'w we­led ef yn y preseb, Matth. 2. a bod mor llawen ganthynt ei weled ef yno, Luc. 2. pa beth fydd cael ei weled ef yn eistedd yn ei ogo­niant? Os llammodd Ioan fedyddiwr wrth ei bresennoldeb ef ynghroth ei fam, pa beth a wna ei bresennoldeb ef yn ei frenhinol a'i dragywyddol deyr­nas? [Page 198] Y mae yn rhagori ar bob gogoni­ant arall y mae 'r Sainct yn ei gael yn y nef, De Sanct. Ser. 87. Medd S. Awstin, gael o ho­nynt eu cynnwys i gael gweled wyneb gogoneddus Christ, a derbyn pelydr gogoniant oddiwrth ddisgleirdeb ei fawredd ef. A phe bai raid i ni ddio­ddef poenau bob dydd, ie poenau v­ffern tros amser, er mwyn cael gweled Christ, a chael ein cyssylltu mewn go­goniant at rifedi 'r Sainct, ni byddei hynny ddim wrth y tâl a geid am da­no. O na wnaem ni gyfrif cymmaint o hyn yma, ac a wnai 'r gwr sanctaidd hwnnw; ni byddem ni byw fel yr y­ [...]lym, ac ni chollem ni mor gwobr hwn­nw er mwyn y fath goegbethau ac y mae y rhan fwyaf o ddynion yn ei golli o'i plegid.

17 Ond i fyned rhagom etto ym mhellach i ystyried y peth hyn, me­ddwl heb law hyn i gyd, pa lawenydd fydd gan dy enaid di y dwthwn hwn­nw, gael cyfarfod â'i holl dduwiol ga­redigion yn y nef, â thâd ac â mam, â brodyr ac â chwiorydd, â gwraig ac â gwr, ag athraw, ac â disgylbon, a chym­mydogion ac â chyfneseifiaid, â chyd­tylwyth ac â chydnabod; a chael y cro­esaw, a'r llawenydd, a'r mwyn ymgo­fleidio, a fydd yno, o'r hyn, fel y dy­waid S. Cyprian, y bydd llawenydd an­nrhaethawl. [Page 199] Rhoer at hynny, y beuny­ddol wledda, a'r gorfoledd anghyfartal a fydd yno, Cyp. lib. de immortali [...] pan ddelo brodyr a chwi­orydd newydd i mewn, y rhai sy 'n dy­fod yno o amser i amser, a chanddynt anrhaith eu gelynion y cawsant y gor­fod arnynt yn y byd hwn. Ond pa olwg comfforddus fydd gweled llenwi eistedd­leoedd yr angylion a gwympodd, â gwŷr ac â gwragedd, o ddydd i ddyd! a gwe­led gosod coronau gogoniant ar eu pen­nau hwy, a hynny mewn amryw foddi­on. yn ôl eu hamryw orfodaeth hwynt: vn am ferthyrdod a chyffessu enw Christ, yn erbyn yr erlidiwr: 2 Tim. 2. Datc. 2. & 3. & 4. vn a­rall am ei ddiweirdeb yn y cnawd: vn arall am dlodi a gostyngeiddrwydd, yn erbyn y byd: vn arall am lawer goruchafiaeth, yn erbyn y cythraul. Yno y caiff gogoneddus fintai yr Apo­stolion, (medd Cyprian sanctaidd) yno y caiff nifeiri llawen y prophwydi, yno y caiff aneirif liaws y merthyron dder­byn coronau am eu marwolaethau a'i dioddefaint. Yno y caiff y gorfoleddus wyryfon, a orchfygasant chwant y cnawd, drwy nerth eu hymgynnal; yno y caiff yr elusenwyr da, a borthasant y tlawd yn haelionus, ac a drosglwy­ddasant eu golud bydol (yn ôl gor­chymmyn Duw) i drysordy 'r nef; dderbyn eu dyledus a'i priodol wobrau. [Page 200] Oh fel yr ymddengys rhinwedd dda yn y dydd hwnnw! Oh mor fodlon fydd gweithredoedd dagan y rhai a'i gwnaeth! Ac ym mhlith yr holl lawenydd a'r bod­lonrwydd hwnnw, nid lleiaf fydd gwe­led yr eneidiau truain a ddêl yno yn ddisymmwth, allan o drueni a gofidiau 'r bywyd hwn, yn sefyll yn synn, ac me­gys heb wybod oddiwrthynt eu hunain, gan y gyfnewid yma, a'r anrhydedd disymmwth a wneir iddynr. Pe bai ddyn tlawd a fai allan o'i ffordd, yn crwy­dro ei hunan ar y mynyddoedd yngha­nol noswaith dywyll dymhestlog, ym mhell oddiwrth gwmpeini, mewn eisi­au am arian, a'r glaw yn ei guro, a'r taranau yn ei ddychrynu, a'r oerfel yn ei sythu, a chwedi blino gan ei daith, ac agos yn dyddfu gan newyn a syched, ac agos i anobeithio gan liaws gofidiau; pe bai 'r cyfryw ddyn, me­ddaf, yn ddisymmwth, ar darawiad lly­gad, yn cael ei osod mewn palâs têg, helaeth, cyfoethog, yn llawn o bob math ar oleuadau disglair, a thân gwre­sog, ac aroglau peraidd, a bwydydd dainteiddiol, a gwelyau esmwythglyd, a disyr felys-gerdd, a gwisgoedd dilly­nion, a chwmpeini anrhydeddus, a'r cwbl wedi ei barottoi iddo ef, ac yn dis­gwyl am ei ddyfodiad, i wasanaethu arno, i'w anrhydeddu, ac i'w enneinio [Page 201] ac i'w goroni yn frenhin tros byth; pa beth a wnai 'r dŷn tlawd hwn, nie­ddwch chwi? pa fodd yr edrychai ef? pa beth a fedrai efe ei ddywe­dyd? yr wyf yn tybiaid yn siccr na fedrai efe ddywedyd dim, ond yn hyttrach wylo yn ddistaw o wir lawe­nydd, gan na allai ei galon ef amgy­ffred disymmwth ac anfeidrol faint y llawenydd hwnnw.

18 A hynny i gyd, a llawer mwy a fydd i'r eneidiau llwyr dded-wydd a ddel i'r nef. Canys ni bu erioed na'r taweloer gysgod mor hyfryd ar ddydd tesog, poeth, llosgadwy; na'r ffynnon loyw-ddwfr i'r ymdeithydd tlawd ynghanol ei ddygn syched ganol dydd o hâf; na gorphywys ar wely man-blu esmwyth i'r gwâs llu­ddedig, y nós ar ôl ei waith; nag a fydd yr esmwythdra yma yn y nef, i'r enaid blinedig a ddêl yno. Oh na fe­drem ni ddeall hyn, na fedrem brintio hyn yn ein calonnau, frawd▪ anwyl; a ddilynem ni goeg-bethau'r byd fel yr ydym? a esgeulusem ni'r pethau hyn fel yr ydym? Yn siccr y dŷb wan wael sydd gennym am y llawenydd yma, sydd yn peti i ni fod mor oer yn ei geisio. Oblegid pe gwnaem ni y fath bris a chyfrif ar y tlws hwn, ac a wnai mar­siandw▪ r eraill o'n blaen ni, y rheioedd gyfarwyddach a doethach nâ nyni; ni [Page 202] a gynnygiem amdano fel y cynnygiasant hwythau, neu o'r hyn lleiaf ni by­ddem ni mor esgeulus a gadael i fyned heibio y peth yr oeddynt hwy mor, o­falus yn ymgais amdano. Y mae'r A­postol yn dywedyd am Grist, efe a oso­dodd y llawenydd ger ei fron, Heb. 12.2. ac a ddio­ddefodd y groes. Dyna gyfrif mawr yr oedd efe yn ei wneu hur o'r peth, pan brynai ef mor brid. Ond pa gyngor y mae efe yn ei roi i eraill ynghylch yr vn peth? Mat. 13·45 Dim ond hyn, Dôs a gwerth gymmaint oll ac a feddych, a phryn y trys­sor yma. A pha beth y mae S. Paul yn ei ddywedyd am dano ei hun, ond ei fod efe yn cysrif pob peth yn dom, Phil. 3.8. wrth geisio pry­nu 'r tlws yma. Yscolhaig S. Paul, Igna­tius ynteu, beth y mae efe yn ei gynnyg am dano? Gwarandewch ei eiriau ef ei hun. Deued tân, a chrôg a dannedd anifeiliaid, a dryllio fy esgyrn, chwar­torio fy aelodau▪ Hieron▪ in catalogo. ac yssigo fy nghorph, a holl boenau vffern arnafi i gyd ar vn­waith, os câf fi fwynhau y tryssor nefol yma. Ser. 31. de Sanctis. A S. Awstin yr esgob duwiol, beth y mae ynteu yn ei gynnyg am dano? Chwi a glywso [...]h o'r blaen y byddai efe bodlon i ddioddef poenau bob dydd, hyd yn oed poenau vffern, er mwyn ynnill y llawenydd hwn. O Arglwydd Dduw, pa ragor oedd rhwng y Sainct duwiol hyn a nyni? Mor wrthwyneb oedd eu tyb [Page 203] a'i barn hwy i nyni yn y pethau hyn! Pwy bellach a ryfedda fod Duw yn barnu doethineb y byd hwn yn ffolineb, a bod y byd yn cyfrif doethineb Duw yn ffolineb? O feibion dynion, Psal. 4.2. medd▪ y pio­phwyd, pa hŷd yr hoffwch wegi, ac yr ar­gcisiwch gelwydd? Pa ham yr ydych yn ymgofleido â gwelltach, ac yn diystyru aur? Ië gwelltach, meddaf ac vs gwael, a chyfryw ac a ennyn dân yn eich tai chwi o'r diwedd, ac a fydd yn gwymp ac yn golledigaeth tragywyddol i chwi.

19 Ond bellach i dynnu at y diben yn y peth hyn, er bod y peth ei hun yn anniben; ystyried Christion i ba beth y ganwyd ef, a pha beth▪ y mae efe yn bossibl i'w gael os efe a'i mynn. Efe a anwyd yn eti [...]edd i deyrnas nef, teyr­nas heb ddiwedd arni, teyrnas heb fesur arni, teyrnas dedwyddwch, teyr­nas Duw ei hun: efe a aned i fed yn gydetifedd ag Iesu Grist Mab Duw, i deyrnasu gyd ag ef, i orfole­ddu gyd ag ef, i eistedd mewn barn a mawrhydi gyd ag ef, i farnu Angylion nef gyd ag ef. Pa ogoniant mwy a ellid meddwl am dano, oni bai gael bod yn Dduw ei hun? Fe a dywelltir am ei b [...]n ef yr holl lawenydd, a'r holl gyfoeth a gynnhwysir yn y nef. Ac i wneuthur yr anrhydedd hwn etro yn fwy, yr Ocn gogoneddus sydd yn eistedd [Page 204] ar orseddfainge y mawredd a'i lygaid fel fflam dân, Pet. 1. & 3 Pet. 3. [...]atc. 1. [...]at. 19. Luc. 22. [...] Cor. 6. a'i draed fel prês coeth, a'i wyneb yn disgleirio yn oleuach nâ'r maen gwerthfawr, yr hwn y daw taranau a mêllt o'i orseddfaingc byth bythoedd, yr hwn y rhydd y pedwar henuriad ar hugain eu coronau i lawr ger ei fron; yr oen hwn, meddaf, a gyfyd, ac a'i hanrhydedda ef a'i holl wasanaeth. Pwy ni nwa gyfrif o'r etifeddiaeth frenhi­nol hon? Dat. 1. &. 4. [...]uc. 12. Yn enwedig gan fod i ni yr awrhon amser mor gyfaddas i'w cheisio ac i'w chael hi, trwy ddawn ein pryne­digaeth, a thrwy'r grâs a bwrcaswyd i ni wrth ein prynu.

20 Dywaid i mi bellach ddarllennydd hawddgar, pa ham na dderbyni di y cyn­nyg yma y mae efe yn ei wneuthur i ti? Oni wnai di gyfrif o'r deyrnas yma eiddo ef? Pa ham na phryni di y go­goniant yma gantho ef er cyn lleied o boen ac y mae efe yn ei ofyn gennyti? Yr wyf yn dy gynghori di, Dat. 3.18. medd Christ, i brynu gennyfi aur wedi ei buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger. Pa ham na chanlyni ei gyngor ef, frawd anwyl, ac ynteu yn gyngor marsiandwr nid oes yn ei fryd mo'th dwyllo di? Nid oes dim mwy gofidus gan ein Iachawdr Christ, na bod dynion yn ceisio trwy gymma­int o boen brynnu gwêllt yn yr Aipht, lle y gwerthai efe iddynt aur pûr yn [Page 205] well newid: a'i bod yn prynu dwfr y pwll, â mwy o boen nag a ofynnai efe am ddeg cymmaint o loyw-ddwfr all­an o'r ffynnon ei hun. Nid oes gwr o'r annuwiol [...]f yn y byd, nad yw yn cymmeryd mwy o boen yn ynnill vffern, fel y dangofir yn ôl hyn, nag y mae 'r mwyaf ei boen o wasanaethwyr Duw yn ei gymmeryd i geisio ynnill nef.

21 Ond na chanlyn di mo'i ffolineb hwy fy mrawd anwyl, oblegid ti a gei eu gweled hwy yn dioddef yn dôst am hynny ryw ddiwrnod, pan fo dy ga­lon di yn ddigon llawen nad oes i ti gyfran yn y byd gydâ hwynt. Elont hwy 'nawr a threuliant eu hamser mewn oferedd, a digrifwch, a difyrrwch y byd. Adeiladant balassau, prynont swy­ddau a breinian, a chwanegant y naill ddain o dir at y llall: gwibiont ar ôl goruchafiaeth ac anrhydedd, ac a­deiladant gestyll yn yr awyr: fe ddaw 'r diwrnod, os coeli di Grist ei hun, pan fo i ti ychydig achos i wynfydu ac i gynfigennu wrth eu dedwyddyd hwy. Luc. 6. Luc. 12. Mat. 26. Os hwy a chwedleuant yn wael amogoniant a chyfoeth y Sainct yn y nef, heb wneuthur cyfrif yn y byd o'r rhai hynny wrth yr eiddynt eu hunain, ond eu diystyru am na chyfrifir difyrrwch cnaw­dol yn eu mysg; na wna di fawr gy­frif o'i geiriau hwy, am nad yw 'r [Page 206] dyn anianol yn derbyn nag yn deall y pe­thau sy o yspryd Duw. P [...]ttai eu meistr yn addo i gephylau wledd fawr, [...]. 2.14 [...]. ni fedrent hwy feddwl am well gwledd nâ chael eu gwala o ebr [...]n, o ŷd â dwfr; am nad ydynt hwy yn adnabod seigiau gwell ná 'r rhai hynny: felly y gwyr hyn, am nad ydynt hwy gydnaby­ddus ond â budr-bwll eu cnawdol ddyfyrrwch eu hun, ni fedrant hwy ddyrchafu mo'i meddyliau at ddim a fo vwch nâ hynny. Ond mi a ddan­gosais i ti o'r blaen, ddarllennyd tir­ion, ryw ffyrdd i ystyried ac i feddwl am bethau a fo mwy, [...] Cor. 2. er bod yn ddir i ni, fel i'th rybuddiais yn fynych, gyfaddef gyda S. Paul, na all ca­lon dŷn na deall na meddwl y rhan leiaf o honynt: ac nid yw anghyffelyb mai o'r achos hynny y gwaharddwyd i S. Paul adrodd y pethau a welsai ac a glywsai, [...] Cor. 12. pan gymmerwyd ef i fynu yn rhyfeddol i'r drydedd nef

22 I ddibennu weithian, y mae 'r gamp a'r gyngwystl yma wedi ei go­sod i fynu i'r rhai a redo, fel y dy­waid S. Paul, [...] Cor. 6. [...]il. 3. [...] Tim. 1, & [...] ac ni choronir neb, ond yn vnig y rhai a ymd [...]echo, f [...]l y mae 'r vn Apostol vn dysgu, N [...]d pwy byn­nag a ddyw [...]da wrth Grist, Arglwydd, Arglwydd a â i mewn i d [...]yr [...]as nefoedd, [...]. 3. [...]. 12. ond yr hwn sydd yn gwneut [...]ur [...]wyllys ei [Page 207] Dâd ef yr hwn sydd yn y nefoedd. Er bod y deyrnas yma eiddo Christ wedi ei gosod o flaen pawb, Mat. 7.2 [...] & 11. & 1 [...] Luc. 14. Ioan. 14. Rhuf. 8. et [...]o ni chaiff pob dyn ddyfod i deyrnasu gyd â Christ, ond yn vnig y rhai a fo bodlon i ddi­oddef gydâ Christ. Dy ran di gan hynny yw eistedd i lawr, ac ystyried yn ôl cyngor dy Iachawdwr, pa beth a wnei, a oes gennyti cymmaint o arian yspry­ol, ac a fo ddigon i adeiladu 'r twr hwn, ac i fyned i'r rhyfel hon, ai nad oes: hynny ydyw, a oes gennyti ynot cymmaint o ewyllys da, a gwroliaeth sanctaidd, a chlywed arnat ddioddef po­en gydâ Christ (os poen y gelwir hynny, ac ynteu yn hyttrach yn hyfryd­wch) fel y gallech di felly deyrnasu gyd ag ef yn ei deyrnas. Hyn yw'r Que­stiwn, ac dyma holl derfyn y peth, ac at hyn y perthyn pob peth ac a ddy­wedpwyd yn y llyfr hwn o'r blaen, pa vn bynnac a'i am dy ddiwedd neill­duol di, ai am fawrhydi, a haelioni, a chyfiawnder Duw; ac am y cyfrif a ofyn efe gennyt ti; a hefyd am y gos­pedigaerh a'r taledigaeth sy wedi eu rhoi i gadw i ti: Fy amcan, meddaf, yn hyn i gyd, yw ceisio peri i ti fesuro y naill ran, ar llall hefyd, ac felly rhoi dy fryd ar edrych pa beth a wna­it, ac na ollyngyt mo'th amser heibio mewn diofal esgeulusdra, fel y gwna [Page 208] llawer, heb ganfod byth mo'i hamryfu­sedd a'i camsynnied, hyd oni byddo rhy­hwyr ei wellháu.

23 Er cariad ar Dduw gan hynny, frawd anwyl, ac er y cariad sy gen­nyt i'th enaid dy hun, ysgwyd ym­aith y diofalwch peryglus yma, yr hwn y mae cig a gwaed yn arfer o suo i ddynion i gysgu ynddo: a dôd gwbl o'th fryd, o ddifrif dy ga­lon, ar edrych am dy enaid, erbyn y fuchedd a ddaw. Cofia yn fynych y dywediad gwiw, hwnnw, Hoc momen­tum, vnde pendet ateraitas, Mynudyn a moment o amser yw 'r byd hwn, etto arno ef y saif holl dragywyddol­deb bywyd ac angeu 'r byd a ddaw. Onid ydyw ond mynudyn, ac os y­dyw fynudyn o gymmaint pwys, pa fodd y mae dynion y byd yn ei oll­wng heibio mor ddiofal ac y ma­ent.

24 Mi a allaswn yma ddwyn aneirif o resymmau ac ystyriaethau i gynnhyrfu dynion i roi eu bryd yn gwbl ar wasanaethu Duw; ac yn siccr ni byddei vn llyfr o'r mwyaf ddigon i gynnwys cymmaint ac a ellid ei ddywedyd [...]m y peth hyn. Oblegid nid yw 'r holl grea­duriaid sy tan y nef, ië yn y nef ei hun, ac yn vffern hefyd; nid [Page 209] yw 'r cwbl, meddaf, o'r cyntaf hyd y diweddaf, ond megys rhesymmau i annog ac i berswadio dyn i hyn­ny; nid yw 'r cwbl ond megys llyfrau a phregethau, a'r cwbl yn pregethu ac yn llefain (rhai drwy eu cospedigaeth, rhai drwy eu gogoniant, rhai drwy eu tegwch, a'r cwbl drwy eu creedigaeth a'i gwneuthuriad) y dylem ni, yn ddioed ac yn ddiohir, roi ein bryd ar wasanaethu Duw; ac nad yw pob peth arall amgen nâ gwa­sanaethu ein gwneuthurwr a'n prynwr, ond oferedd oll, ac ynfydrwydd oll, ac anwiredd oll, a thrueni oll. Ond etto er hynny, fel y dywedais, mi a dybiais yn dda ddethol yr ychy­dig bethau hyn a osodwyd i lawr, i ystyried arnynt, megis y pethau pen­naf ym mhlith y llaill, a allai weithio ynghalon gwir Gristion. Ac onis gall y rhai hyn weithio ynot ti, ddarllennydd hynaws, nid oes fawr obaith y gwnai ddim arall i ti mor llês. Ac am hynny, yma y diweddaf y rhan hon, ac adadawaf ychy­dig bethau etto i'w dywedyd yn yr ail rhan, er mwyn tynnu ymmaith y cyfryw rwystrau, ac y mae ein gwrthwyne­bwr ysprydol yn arfer o'i gosod yn erbyn y gwaith da yma, megis yn er­byn y cam cyntaf o'n Iechydwri­aeth ni, Ein Harglwydd Dduw, a'n Ia­chawdr [Page 210] Iesu Grist, yr hwn a fu fodlon i dalu eu waed ei hun, i bry­nu 'r dreftadaeth a'r etifeddiaeth vr­ddasol yma i ni; a roddo i ni ei râs, i wneuthur y fath gyfrif o honi ac y mae pwys y peth ei hun yn ei ofyn, ac na bo i ni trwy esgeulusdra, golli ein cyfran o honi. Amen.

YR AIL RHAN O'R LLYFR HWN.

PENNOD. I. Am y rhwystrau sydd yn llestair i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw; ac yn gyntaf, am yr anhawsder a'r caledi a dy­bygir eu bod mewn buchedd dduwiol.

ER maint o resymmau ac o ystyriaethau a osodwyd ilawr o'r blaen, i geisio dwyn a denu dynion i roi eu bryd ar beth mor anghenrheidiol ac ydyw gwasanaethu Duw; etto y mae llawer o Gristianogion yn y byd, y rhai y mae eu calonnau naill a'i wedi eu maglu gan ddyfyrrwch y bywyd hwn, ai gwedi eu rhoi o Dduw i fynu i feddwl anghym­meradwy, nad ymroant hwy vn gronyn i'r cais a'r cyrch a roddwyd arnynt; ond eu dangos eu hunain yn galettach na'r Adamant, ac nid yn vnig gwrthwynebu a [Page 213] diystyru 'r cwbl, ond gydâ hynny chwilio am escusodion dros eu diogi a'i hannuwioldeb, a dwyn rhesymau trostynt, i'w colledigaeth eu hunain Rhesymmau yr wyf yn eu galw hwy, fel y gelwir hwy yn gyffredin, Dihar. 18. & 20. Psalm. 141. er nad oes yn ficer vn peth mwy yn erbyn rheswm na bod i ddyn fyned yn elyn i'w enaid ei hun, fel y mae'r Scrythur lân yn dywedyd fod pechaduriaid an­hydyn. Ond etto er hynny, mae gan­ddynt eu hescusodion: a'r cyntaf a'r pennaf o'r cwbl ydyw, bod buchedd dduwiol yn boenus ac yn galed, ac am hynny na allant hwy ddioddef ei chan­lyn: Tob. 12. Dihar. 29. yn enwedig y rhai a dduepwyd i fynu yn dyner ac yn fwythus, ac ni buant erioed gynnefin a'r cyfryw arwder, ac y tybiant ein bod ni yn ei ofyn ar eu dwylo hwy. Ac y mae hyn yn rhwystr mawr, helaeth, cyffredinol, ac yn attal llawer iawn oddiwrth y moddion sydd i­ddynt i ymchwelyd at Dduw, ac am hynny y mae'n rhaid atteb hynny yn helaeth yn y fan hon.

2. Yn gyntaf gan hynny, pe rhôn a bod ffordd buchedd dduwiol mor ga­led mewn gwirionedd, ac y mae'r gelyn yn peri i lawer dybied ei bod hi; etto mi a allwn ddywedyd yn hydda, Chrys. lib. de compunct. cordis. gydâ S. Ioan aur-enau, gan fod y gwobr mor fawr, ac mor anseidrol ac y dangososam [Page 213] [...]isus, na ddylid cyfrif yn fawr boen yn y byd a gymmerid i ddyfod o hyd iddo. Drachern mi a allwn ddywedyd gydâ S. Awstin dduwiol, Hom 16. ex S [...]. gan ein bod ni beunydd yn y byd hwn yn cymmeryd poen fawr [...] ochel gwrthwyneb bychan, megis cle­fyd, carchar, colled am dda, a'r cyffelyb: pa boen a ddylem ni ei gwrthod i geisio gochel t [...]agywyddoldeb tân vffern, a grybwyllwyd am dano or blaen? Y cyn­taf o'r pethau hyn y mae S. Paul yn ei ystyried, pan yw'n dywedyd, Nid yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, Rhuf. 8.18. yn haeddu eu cyffelyhu i'r gogoniant a ddatgu­ddir i ni yn y fuchedd a ddaw. Yr ail peth y mae S. Petr yn ei ystyried, p [...]n yw yn dywedyd, Gan fod yn rhaid i'r nefoedd a'r defnyddiau, a'r ddaiar, ar gwaith a fyddo yn­ddi, ymollwng; 2 Pet. 2.10. a bod yn ddiry daw Christ i farnu, ac i dalu i bawb yn ôl ei weithredoedd; pa ryw fâth ddynion a ddylem ni fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb. Megis pe dywedid, ni ddylem ni dybied fod na Ilafur, na phoen, na thrafael yn y byd, yn ormodd nac yn rhy galed i ni, Date. 3.3. & 16.15. i geisio gochel dychryndod y dydd hwnnw. Y mae Sainct Awstin yn gofyn y Questiwn yma, Pa beth dybygem ni a wnai'r glŵth goludog, Luc. 16. pettai efe yr awrhon yn y bywyd yma drachefn: oni byddai efe fawr ei boen a'i ofal yn gynt nag yr ai efe yn [Page 214] ei ôl drachefn i'r lle poenus hwn­nw? Mi a allwn chwanegu at hynny y poenau anfeidrol a gymme rodd Christ trosom ni; yr anfeidrol ddoniau a ro­ddodd efe i ni? yr an eirif bechodau a wnaetham ni yn ei erbyn ef; aneirif esam­plau'r Sainct a gerddasant y llwybr ym­o'n blaen ni: ac wrth hynny i gyd ni ddylem ni wneuthur cyfrif yn y bod o boen a llafur cyn lleied, petrai wir fod gwasanaeth Duw mor flin ac y mae llawer yn ei gyfrif.

3 Ond mewn gwirionedd, nid yw'r peth felly ddim, ac nid yw hynny ond hud a dichell y gelyn i geisio ein diga­loni ni. Y mae tystiolaeth Christ ei hun yn olau yn y pwngc yma, Mat. 11.30 Fy iau i sydd esmwyth, a'm baich sydd yscafn. Ac y mae'r anwyl garedig ddisgybl Sainct Joan, yr hwn oedd fwyaf achos iddo i wybod cyfrinach ei feistr yn hyn o beth, yn dywedyd yn eglur, Ei orchymy­nion ef nid ydynt drymion. 1 Ioan. 5.3. Beth yw'r a­chos wrth hynny, sydd yn peri i lawer o ddynion dybied eu bod mor anhawdd? Yn siccr, heb law cyfrwysder a dichell y cythraul yr hyn yw'r achos pennaf; vn achos yw, am fod dynion yn cly­wed clefyd thachwant yn eu cyrph, ac nad ydynt yn ystyried gryfed yw'r fe­ddyginieth a roed i ni yn ei erbyn. Y maent yn llefain gydâ S. Paul, Rhu [...] [...].23. eu bod [Page 215] yn gweled cyfraith yn eu haelodau, yn gwarthryfela yn erbyn cyfraith eu meddwl, (yr hyn yw gwrthryfel trachwant, a adawyd yn ein enawd ni trwy bechod dechreuol) ond nid ydynt nac yn cyfa­ddef, nac yn ystyried gydâ'r vn Sainct Paul, 2 Cor. 12. fod grâs Duw trwy Jesu Grist yn eu gwared hwy oddiwrth yr vnrhyw. Nid ydynt hwy yn cofio ymadrodd com­fforddus Christ wrth Sainct Paul, yn ei brofedigaethau mwyaf, Digon i ti fy ngrat i i'th gryfhau yn eu herbyn hwy i gyd, Mae'r gwyr hyn yn gwneuthur fel y gwnaeth disgybl Eliseus wrth fwrw ei olwg yn vnig ar ei elynion, 2 Reg. 6. hynny ydyw ar lu mawr y Syriaid oedd yn barod i osod arno, a dybiodd ddarfod am dano, ac na bai bossibl iddo sefyll yn eu golwg hwy, hyd oni chafodd ef genhadiad gan Dduw, trwy weddi'r prophwyd, i weled yr Angylion oedd yn sefyll yno yn bresennol, i ymladd trosto ef, ac yna efe a welodd yn amlwg mai cryfaf oedd ei blaid ef.

4 Felly y gwyr hyn, wrth edrych yn vnig ar ein trueni ni a gwendid ein naturiaeth, trwy'r rhai y mae profedi­gaethau beunyddol yn cyfodi yn ein herbyn ni; y maent hwy yn cyfrify gâd yn boenus a'r gorfod yn ammhossibl ei gael, am na phrofasant hwy erioed, gan eu hesgeulusdra eu hunain, yr amryw [Page 216] gymmorth grâs, a chynnorthwyau yspry dol eraill, y mae Duw yn wastad yn eu danfon i'r sawl sy fodlon i fyned i'r gâd hon er ei fwyn ef. Yr oedd Sainct Paul wedi profi yn helaeth o'r cym­morth hwnnw, yr hwn wedi iddo gy­frif yr holl bethau calettaf ac allai fod, sy'n dywedyd yn ychwaneg, Ond yn y pe­thau hyn oll yr ydym ni yn fwy na chwn­cwerwyr, Rhuf. 8.37. Phil. 4. trwy'r hwn a'n carodd ni. Ac yma y mae efo yn datgan ar gyhoedd, na all nac angeu, nac einioes, nac Angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phe­thau presennnol, Rhuf. 8.38. na phethau i ddyfod, nac vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall, ei wahanu ef oddiwrth gariad Duw yng­hrist Iesu: a hyn oll y mae ef yn ei ddywedyd o hyder ar gymmorth yspry­dol oddiwrth Crist, trwy'r hwn y mae yn hyderu dywedyd y gallai efe wneu­thur poh peth. Phil. 4.13. Fe a brofasei Dafydd yn­teu rym ei gymmorth ef, pan yw yn dywedyd, Psal. 119. mi a redais ffordd dy orchymy­nion, pan ehengaist fy nghalon. Yr ehengi yma ar galon oedd yn dyfod trwy gyssur ysprydol yr enneiniad oddi mewn, yr hwn sydd yn egori ac yn eh [...]ngi'r ga­lon a gaewyd ac a gyfyngwyd gan ing a chystudd, with dywallt grâs ynddi: megis y meddalhâa ac yr ymchenga pwrs neu gôd a fo wedi crino a cha­ledu, wrth ei iro ag olew. A phan [Page 217] oedd y grâs hwnnw yn bresennol, y dy wedai Ddafydd, nid yn vnig ei fod efe yn rhodio ffyrdd gorchymmynion Duw yn hawdd ac yn esmwyth, ond ei fod yn eu rhed [...]g: fel y bydd olwyn men yn lle­fain ac yn cwyno tan lwyth bychan tra fo hi sŷch; ond pan fwrier ychydig olew ynddi, hi a rêd yn llawen ac yn ddistaw ddinad. Ac y mae hynny yn vnion iawn yn dangos ein ystâd a'n cyflwr ninnau, y rhai heb help a chymmorth Duw, nid ydym abl i wneuthur dim, ond trwy ei help ef ydym abl i wneuthur beth byn­nag y mae efe yr awrhon yn ei ofyn gennym ni.

5 Ac yn siccr, mi a ofynnwn i'r gwyr hyn sydd yn meddwl fod ffordd [...]y­fraith Dduw mor galrd ac mor anhawdd, pa fodd y gallai'r prophwyd ddywedyd, Bu mor l [...]awen gennyf ffordd dy dystiolaethau a'r holl olud. Ac mewn man arall, Psa. 119.14 [...]. eu bod hwy yn fwy dymunol nag aur, ië nag aur coeth lawer, ac yn felysach nâ'r mêl, ac na diferiad diliau mêl. Psal. 19.10 & 9.72.127 123. [...] ▪ 19. Wrth y geiriau hyn y mae efe yn rhoi i fuchedd dduwiol, nid yn vnig y bri a'r parch a haeddai vwch law holl dryssorau'r byd; ond hefyd yn dangos ei bod yn hyfryd, yn ddifyr, ac yn beraidd; a hynny i oresgyn ac i wradwyddo y rhai oll sy yn ei gwrthod ac yn ei hes­geuluso, yn rhith ei bod yn galed, ac [Page 218] yn anhawdd. Ac os gallai Dafydd ddy­we dyd cymmaint yn amser yr hên gy­fraith; oni allwn ni yn gyfiawnach o lawer ddywedyd hynny yn amsery gy­fraith newydd, pan roddwyd grâs yn helaethach, Joan. 10. Rhuf. 5. [...]. 6. fel y dyweid yr Scrythur? A thitheu Gristion truan, yr hwn wyt yn dy dwyllo dy hunan â'r tŷb ac â'r meddwl hwnnw, dywaid i mi pa ham y daeth Christ i'r byd▪ pa ham y cym­merodd efe cymmaint o boen a llafur yn y byd yma? pa ham y collodd efe ei waed? pa ham y gweddiodd efe at ei Dâd cyn fynyched trosot ti? pa ham yr ordeiniodd efe y Sacramentau i fod megis yn bibeliion i ddwyn grâs i ti? pa ham y danfonodd efe yr yspryd glân i'r byd? pa beth y mae 'r gair yma Efengyl, neu goelfain, neu Newyddion da, yn ei arwyddoccáu? pa beth yw me­ddwl y gair yma Grâs, [...]. 1. a'r drugaredd a ddûg efe gydag ef? beth y mae 'r gair co [...]fforddus yma Iesu yn ei ddwyn ar ddallt i ni? Ond i'n gwared ni oddi­wrth bechod y mae hyn i gyd? oddi­wrth y pechod a aeth heibio meddaf, arwy ei vnig farwolaeth ef: oddiwrth y pechod a ddêl, trwy 'r vn far wola­eth, a thrw gymmorth ei sanctaidd râs ef, a roddwyd i ni trwy 'r moddion hynny yn helaethach nag o'r blaen? Ond hyn yn bennaf a weithiodd dyfodiad [Page 219] Christ, fel y dywed y prophwyd, y gwneid y ffyrdd gwyr-geimion yn vnion, Esa. 40.38 Mat. 3.3. Mar. 1.3. Luc. 3.41. Jo· 1.23. a'r anwastad yn wastadedd? Ond hyn oedd yr achos y cynnysgaeddodd efe ei e [...]lwys â chynnifer o ddoniau ben­digedig yr spryd glân, ac ag amryw radau arbennig, i wneuthur iau ei wa­sonaeth yn beraidd, a buchedd dda yn esmwyth, a rhodio yn y gorchymyni­on yn hyfryd: fel y gall dynion bellach ganu mewn cystuddiau, a bod yn hyder­us mewn peryglon, ac yn ddiofal mewn gwrthwyneb, a bod yn siccr o gael y mae [...] ym mhob math ar brofedigae­thau? Ond hyn yw dechreu, a chanol, a diwedd yr Efengyl Ond y rhai hyn oedd add [...]widion y prophwydi; a lla­wenchwedl yr Efengyl; a phregeth yr Apostolion; ac addysg, a chrediniaeth, a gwaith a gorchwyl yr holl Sainct? Esa. 10.22.23. Rhuf. 9.2 [...] Ac yn ddiweddaf, ond hyn yw verbum abbreui [...]tum Y gair a fyrhawyd yn yr hwn y mae 'n sefyll holl gyfoeth a thrysor Chri­stianogaeth?

6 A'r grâs yma sydd o'r fath nerth a grym yn yr enaid yr él i mewn iddo, ac y newidia ei holl gyflwr ef: ac y gwna yn oleu ac yn eglur y pethau oedd o'r blaen yn dywyll, ac yn hawdd ac yn esmwyth y pethau oedd o'r blaen yn galed ac yn anhawdd. Ac o'r achos hwnnw y dywedir am dano yn yr Scry­thur [Page 220] lân, [...]zec. 11.19 & 36.26. [...]er. 3.39. ei fod yn gwneuthur yspryd ne­wydd a chalon newydd. Megis lle y mae Ezeciel wrth grybwyll am y peth hyn, yn dywedyd megis allan o enau Duw, Mi a ro­ddaf iddynt galon newydd, ac a roddaf yspryd newydd o'i mewn hwynt; fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigae­thau, ac y gwnelant hwynt. A ellir dy­wedyd dim yn y byd yn eglurach? Ac am farwolaethu a gorchfygu ein gwyn­niau, y rhai trwy eu gwr [...]hryfel sydd yn gwneuthur ffordd gorchymmymon Duw yn anhyfryd; y mae S. Paul yn tystiolaethu yn oleu, fod Duw yn rhoi i ni râs yn helaeth, trwy ddioddefaint Christ, [...]huf. 6.6. i wneuthur hynny; canys y mae 'n dywedyd, Ni a wyddom hyn, ddarfod croes-hoelio ein hên ddŷn ni gydâ Christ, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasan [...]ethom bechod Wrth grybwyll am yr Hēn ddŷn, a chorph pe­chyd, y mae S. Paul yn deall ein gwyn­niau gwrthryfelgar ni a'n trachwant, [...]elly y [...]awf S. [...]wstin, lib. [...] de pec. [...]er. cap. 6. y rhai hefyd a groes-hoeliwyd ac a ddi­nistriwyd trwy ardderchoccaf aberth Christ, fel y gallwn ni trwy 'r grâs a bwrcaswyd i ni yn yr aberth honno, mewn rhyw fesur da, withwynebu a gorchfygu y gwyniau hyn, a ninnau wedi ein rhyddhau mor helaeth oddi­wrth wasanaeth a chaethiwed pechod. A hon yw'r oruchafiaeth ardderchog [Page 221] gyfan-gwbl, a ddechreuir yn y byd hwn, ac a orphennir yn y byd a ddaw, yr hon a addawodd Duw er cyhyd o amser, i bob enaid [...]hristianogaidd, trwy gy­frwng Christ pan ddywedodd efe, Nac ofna canys yr wyfi gydâ thi: na lwfrháa, Esa. 41.10. canys myfi yw dy [...]duw; mi a'th gadarn­haaf di ac a'th gynnorthwyaf di, ac a'th gynnhal af di â deheulaw fy ngwr cyf­iawn i. Wele cywilyddir a gw [...]adwyddir y rhai oll a ym addant i'th erbyn▪ dy wrth­wyn [...]b-wyr fyddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a i ceisi, ac ni's cei hwynt, sef y rhai a ymgynhennasant â thi Y gwyr a ryfelant â thi a fyddant megis diddim, ac megis peth heb ddim Canys myfi'r Ar­glwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddebeu­law, ac a ddywed wrthyt, nac ofna, myfi a'th gynnorthwyaf di, &c.

7 Wele yma addaw i ni oruehafi­eth gyflawn yn erbyn ein gwrthryfel­wyr, trwy gymmorth deheulaw cyfiawn wr Duw; hynny ydyw yn erbyn ein gwyniau anllywodraethus, trwy gym­morth grâs oddiwrth Iesu Grist. Ac er nad ydys yma yn addaw tynnu 'r gwrthryfelwyr hyn ymaith yn llwyr, ond yn vnig eu gorchfygu a'i gwra­dwyddo; etto y mae yn dywedyd, y byddant hwy megis diddim, ac megis peth heb ddim. Ac wrth hynny yr arwyddoc­ceir, na rwystrant hwy i ni fod yn gad­wedig, [Page 222] ond yn hytrach ein dyrchafu, a'n rhwyddháu tu a'n lechydwriaeth. Oblegid fel y mae 'r anifeiliaid gwyll­tion, er eu bod o naturieth yn greulon, ac yn barottach i wneuthur niweid i ddyn yn hytrach nâ chymmwynas, etto pan feistroler hwy a'i dofi, y maent yn myned yn fuddiol iawn ac yn anghen­rhaid i ni: felly 'r gwyniau gwrthry­felgar hyn eiddom ninnau, er eu bod o honynt eu hunain yn gyfryw ac a'n hanrheithient ni yn gwbl, etto wedi darfod i ni vnwaith eu darostwng a'i marwolaethu trwy râs Duw, hwy a wnant i ni lês mawr iawn, tu ac at wei­thredu pob math ar rinweddau da; me­gis y gwna chwerwder a digofaint lês [...] ni tu ac at gynneu ac ennyn zêl y­nom, a chasineb i beri i ni erlid pe­chod, a meddwl vchel i beri i ni ddiy­styru 'r byd ac ymwithod ag ef, a cha­riad i beri i ni ymgais ac ymgyrhae­ddyd â phob gweithred fawrfrydig w­rolwych, ynghyfer y doniau a'r cym­mwynasau a dderbyniasam ni gan Dduw. Heb law hyn, fe a adawyd y gâd a'r ymdrech yma i ni i ddarostwng ein gwyniau, er mwyn mawr llês i ni: hyn­ny yw, er mwyn ein dioddefgarwch, a'n goruchafiaeth, ac i gael o honom ni 'r gorfod yn y bywyd hwn; ac er mwyn cael o honom ein gogoneddu [Page 223] a'n coroni yn y fuchedd a ddaw: fel y mae S Paul yn dywedyd am dano ei hun, ac yn ei siccrhau i eraill trwy ei esampl ei hun.

8 Bellach gan hynny, aed y Chri­stion diowgswrth, Dih. 19.2 [...]& 26.1 [...]. a rhoed ei law yn ei fonwes, neu dan ei wregys, fel y dy­weid yr Scrythur lân, a dyweded, Mae llew ar y ffordd, a llewes yn yr heolydd, ac fe a'm lleddir i: fel na lyfaso fyned allan o'r drysau. Dyweded, Nad ardd efe gan oerder y gayaf. Dyweded, an­hawdd yw gweithio, Diha. 26.1 [...] & 22.13. ac am hynny ni chwynna efe na'r drain na'r ysgall allan o'i winllan, ac nid adeilada ei magwyr hi. Hynny ydyw, dyweded fod ei wy­niau yn gryfion, ac am hynny na's gall mo'i gorchfygu hwy; a bod ei gorph yn dyner ac yn foethus, ac am hynny na faidd efe roi gormod poen arno, a bod ffordd buchedd dduwiol yn rhwy­strus ac yn anhawdd, Dih. [...]4. [...] ac am hynny nas mei­dr efe ymroi i'w chychwyn hi▪ Dyweded hyn i gyd, a llawer ychwaneg, o'r pe­thau y mae Christianogion diog segur­llyd yn arfer o'i dwyn yn esgus dro­stynt: dyweded hynny drosto ei hun, meddaf, cymmaint ac a fynno, a chŷn fynyched ac y mynno; nid yw 'r cwbl ond esgus, a cham esgus, ac esgus yn gwneuthur mawr ammarch a dirmyg ar [Page 224] nerth a grym grâs Chr [...]st, a brynodd efe â'i chwerw-dost ddioddefaint, nid ydyw ond esgus ddywedyd fod ei iau ef yr aw: Mat. 11. hon yn anhyfryd, ac vnteu ei hun wedi ei wneu [...]hur ef yn esmwyth; fod ei faich ef yr awrhon yn drwm, ac ynteu wedi ei wneuthur ef yn ysgafn; fod ei orchymmynion ef vr awrhon yn dôst, 1 Io. 5. Io. 8. gan fod yr yspryd glân yn taeru 'r gwrthwyneb; ein bod ni yr awrhon tan gaethiwed ein gwyniau, a'n trachwantau, ac ynteu trwy ei râs wedi ein gwared ni, a'n gwneuthur yn wir ryddion. Os yw Duw gydâ ni, pwy a all fod i'n herbyn, Rhuf. 7. medd yr Apostol. Yr Arglwydd yw fy ngobaith, a'm iechydw­riae [...]h, a'm nerth, medd Dafydd sanctaidd, rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Pe gwersyllai llu i'm herbyn, nid ofna fy nghalon: Rhuf. 8.31. pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn byderus. A pheth yw 'r achos o hynny? Canys yr wyt ti gyda mi. Psal. 27.1, 3 & 28, 7. Oh Arglwydd, yr wyti yn ymladd yn fy mhlaid, yr wyti yn fy nghymmorth i a'th râs, a thrwy nerth dy râs di y câf yr oruchafiaeth: Psal. 23.4. pe codei holl dorfoedd fy ngelynion i'm herbyn ar vnwaith, sef y bys, y cnawd, a'r cythreul; mi a gâf nid yn vnig yr oruchafiaeth arnynt, ond mi a'i câf yn hawdd ac yn esmwyth, a thrwy [Page 225] hyfrydwch a llawenydd. Canys cym­maint â hynny y mae S. Ioan yn ei ar­wyddoccâu, oblegid wedi iddo ddy­wedyd nad yw gorchymmynion Christ yn drymion, y mae efe yn dywedyd yn y man ar ôl hynny megis i ddangos yr achos paham nad ydynt hwy drymion, 1 Ioan 5.3. Oblegid b [...]th hynnag a aned o Dduw y mae yn gorchfygu'r byd. Hynny yw▪ 1 Ioan. 5 y mae 'r grâs yma, a'r cymmorth nefol a ddanfonir i ni oddiwrth Dduw, yn gorchfygu 'r byd a'i holl wrthwyneb a'i brofedigaethau, a chydâ hynny yn gwneuthur gorchym­myn [...]n Duw yn esmwyth, a buchedd dduwiol yn dra hyfryd ac yn beraîdd.

Ond fe a allai y dywedwch chwi, Y mae Christ ei hun yn cyfaddef bod buchedd dduwiol yn iau ac yn faich, pa fodd wrth hynny y dichon fod yn hyfryd ac yn esmwyth, fel y dywe­dwch ei bod? Fy atteb yw, fod Christ yn dywedyd ym mhellach, ei bod yn iau esmwyth ac yn faich ysgafn Ac y mae hynny yn tynnu ymaith eich gwrthwy­nebchwedl chwi, a chydâ hynny yn ar­wyddoccau fod rhyw faich nid yw na thrwm na thôst ar y neb a'i dycco, ond yn hytrach yn ei gymmorth ac yn ei lonnychu: fel mae 'r baich plu ar gefn yr aderyn yn cynnal yr ad [...]ryn i fynu, a heb fod yn fl [...]n iddo ddim. Felly hefyd er ei fod yn iau, y mae 'n [Page 226] iau esmwyth, ac yn iau comfforddus, ac yn iau sy fwy hyfryd nâ'r mêl, ac na'r dil mêl, fel y dywaid y prophwyd. A pha ham hynny? Psal. 119. am ein bod ni yn tynnu ynddo gydâ chymmar hynaws mwyn­aidd: yr ydym ni yn tynnu yr iau gydâ Christ. Hynny ydyw, y mae ei râs ef yn y naill ben i'r iau, a ninnau yn gwneu­thur ein goreu yn y pen arall. Ac o her­wydd pan fo ŷch mawr ac ŷch bychan yn tynnu ynghyd, bod y pwys i gyd ar wddf yr ŷch mawr, am ei fod ef yn codi yr iau yn lân oddiar wddf y llall; ac dyna 'r achos tra fom ninnau yn tynnu yn yr iau'yma gydâ Christ sy fwy nâ nyni, ei fod ef yn ysgafnhau yr holl bwys oddiarnom ni, ac yn gofyn yn vnig fod ini fyned rhagom gydag ef yn gemfforddus, ac na wrthodom fyned tan yr iau gyd ag ef, am fod y boen i gyd yn eiddo ef, a'r hyfrydwch yn eiddom nin­nau. Hyn y mae efe yn ei arwyddoccau yn eglur pan yw 'n dywedyd, Deuwch at­tafi bawb ac sydd yn flinderog ac yn llwythog, Matth. 11.28. ac mi a esmwythaaf arnoch. Yma y gwe­lwch ei fod yn ein hannog ni i gym­meryd yr iau hwn, yn vnig fel y gallai ef wrth hynny ein llonnychu ni, a thynnu'r baich oddiarnom: ië meddaf, tynnu yr baich oddiarnom a'n llonny­chu, ac nid ein llwytho ni a'n blino mewn modd yn y byd: ein dadlwytho [Page 227] ni o feichiau trymion ac ieuau'r byd hwn: oddiwrth faich gofal, a baich trym­der, a baich cynfigen, a châs, a malais; a baich balchder, a baich ymgyrhae­ddyd am swyddau, a baich cybydd­dod, a baich annuwioldeb, a baich tân vffern? Oddiwrth yr holl feichiau, a'r ieiau gofidus hyn, yr ewyllysiai Grist ein gwared ni, trwy roi ar ein gwarrau ni ei iau ef yn vnig a'i faich a'r rhei'ny wedi eu hysgafnhau a'i pereiddio gan ei sanctaidd râs ef, fel nad ydyw flin eu dwyn hwy, ond esmwyth a hyfryd, a chomfforddus, fel y dangoswyd vchod.

10 Achos arall pa'm y mae 'r iau yma mor esmwyth, a'r baich mor ysgafn, a ffordd gorchymmynion Duw mor hy­fryd gan wyr da, yw yr Cariad sy gan­ddynt tu ac at Dduw, yr hwn biau 'r gorchymmynion. Oblegid nid oes vn­dyn na's gŵyr, ac na's profodd ynddo ei hun, gryfed gwŷn yw gwŷn cariad, ac fel y mae yn gwneuthur yn hawdd ac yn esmwyth y boen fwyaf yn y byd. Pa beth sydd yn peri i'r fam gymmeryd cymmaint o boen yn magu ac yn mei­thrin ei phlentyn, ond cariad yn vnig? Pa beth sy'n peri i'r wraig eistedd mor ddiwyd wrth erchwyn gwely ei gŵr pan fo'n glâf, ond cariad yn vnig? Pa beth sydd yn peri i'r anifeiliaid, ac i adar yr awyr, hepcor peth o'i hymborth ei [Page 228] hun, a rhoi eu bywyd mewn perygl, i borthi eu rhai bâch, ond nerth cariad yn vnig? Y mae S. Awstin yn dilyn y pwngc yma ymmhell ac yn helaeth, trwy lawer o esamplau eraill: megys esampl y marsiandwr, Ser. 9. de. verb. Dom yr hwn ni wrthyd an­tur yn y byd ar for, o gariad ar elw; yr heliwr ni wrthyd ddrwg dywydd yn y bŷd, o gariad ar ei helwtiaeth; y rhyfelwr, ni wrthyd berygl marwolaeth, o gariad ar yr anrhaith. Ac y mae ef yn dywedyd ym mhellacch yn y di­wedd, ac os gall cariad▪ dŷn tu ac at greaduriaid yn y byd yma fod cymmaint ac y gallo beri iddo wneuthur poen a llafur yn esmwyth, ac na thybier ei bod yn boen, ond yn hytrach yn ddifyrrwch ac yn hyfrydwch; pa faint mwy y bydd i gariad gwyr da tu ac at Dduw wneu­thur eu holl boen hwy'n gomfforddus, a gymmeront yn ei wasanaeth ef?

11 Yr anfeidrol gariad yma oedd yr▪ achos y tybiai Grist am yr holl boenau a'r cystuddiau a ddioddefodd ef er ein mwyn ni nad oeddynt hwy ddim. A'r cariad yma hefyd oedd yr achos y tybiai lawer Christion am yr holl flinderau a'r poenau a ddioddefasant hwy er mwyn Christ, nad oeddynt hwy ddim. Nid oedd carcharau, ac arteithiau, a cholled am anrhydedd, a da, a bywyd hefyd; ddim ond pethau gwael gan lawer o [Page 229] wasanaethwyr Dduw, wrth y eariad gwres­og yma. Y cariad yma a yrrodd lawer o wyryfon, a phlant ieuaingc tyner, i'w hoffrymmu eu hunain yn amser er­lid▪ er cariad ar yr hwn yr oeddid yn eu herlid o'i achos. Y cariad yma a ba­rodd i Apolonia dduwiol o Alexandria, Euseb. lib. 6. cap. 34. pan ddugpwyd ni at y tân i'w llosgi er mwyn Christ, ddi [...]ngc allan o ddwylo y rhai oedd yn ei harwein, a rhedeg i'r tân yn llawen o honi ei hun. Y cariad yma a wna [...]th i Jgnatius yr hen ferth [...]r gynt wedi dar [...]od ei gondemnio i'w da­flu i'r anifeiliaid gwylltion, (am ei fod yn ofni y gwrthod [...]nt hwy-ei gorph ef, fel y gwrthodasent lawer o fer [...]on o'r blaen) ddywedyd na adawai ef iddynt wneuthur f [...]lly, ond yr annogai ac y cyffroai efe hwynt i ddyfod at [...]o, ac i ddwyn ei fywyd oddiarno, trwy rwygo ei gorph ef yn ddr [...]lliau,

12 Ac d [...]ma 'r pethau a weithia ca­riad gwresog, yr hwn sydd yn peri i'r pethau sydd o honyn [...] eu hunain yn dra anhawdd ac yn dra ofnadwy, fod yn beraidd ac yn hy [...]ryd: ac yn hytrach o lawer y gall beri i gyfreithiau a gor­chymmynion Duw, y rhai o honynt eu hunain sydd dra chyfiawn, Psa. 6▪ & Mat. 11. 1 Joan 5. Toact. 27. in Ioan. a rhesymol▪ a sanctaidd, a hawdd, fod yn hyfryd ac yn esmwyth. Za amantem, medd S▪ [...]wstin & sentit quod dico, si autem [...]rigido loquor, [Page 230] nescit quid loquor: moes i mi wr a fo yn caru Duw, ac ef a ŵyr ynddo ei hun fod yn wir y peth yr wyf yn ei ddywedyd; ond os â Christion oerllyd y chwedleuaf, ni ddeall efe beth yr wyf yn ei ddywedyd. Ac dyma 'r achos pa ham y mae Christ, wrth sôn am ga­dw ei orchymmynion, mor fynych yn adrodd y gair yma Cariad, megis yr achos siccraf sy 'n peri cadw gorchym­mynion Duw, ac o eisiau bod cariad yn y byd, nid ydyw 'r byd yn eu ca­dw hwy ddim, fel y mae efe yno yn dangos. O cerwch si, cedwch fy ngorchym­mynion, [...]. 14.15, [...]1, 23. medd efe. A thrachefn, Yr hwn sydd a'm gorchymmynion i ganddo, efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i. Drachefn, Yr hwn sydd yn fy ngbaru i, a geidw fy ngorchymmyn. Ac yn y geiriau diwe­ddaf hyn, y gallwn ni ystyried ei fod ef yn dywedyd wrth yr hwn sydd yn ei garu, Fy ngorchymmyn, yn y Ond, gwers [...] 5. y mae efe [...] arfer y [...]iosog. rhif vnig, oblegid i'r cyfryw vn, nad yw ei holl orchymmynion ef ond megis vn gorchymmyn, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Paul, mai Cariad yw cyflawnder y gy­fraith: am ei fod yn cynr wys y cwbl. Ond wrth yr hwn nid yw yn ei garu, [...]uf. 13.10 y dywed Christ, Fy gorchymmynion, yn y rhif lliosog; gan arwyddoccau wrth hynny, eu bod hwy i'r cyfryw vn yn llawer, ac yn drymion hefyd, am nad [Page 231] oes ganddo gariad i'w gwneuthur hwy yn esmwyth. Yr hyn y mae S. Ioan hefyd yn ei ysspyssu, pan yw yn dywedyd, 1 Ioan. 5.3 [...] Hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchym­mynion ef, a'i orchymmynion ef nid y­dynt drymion. Hynny yw, nid ydynt hwy drymion i'r hwn sydd a chariad Duw ganddo, ac onid ë nid rhyfedd eu bod yn dra thrymion. Oblegid trwm y ty­biwn ni fod pob peth ac yr ydym ni yn ei wneuthur yn erbyn ein he­wyllys. Ac felly wrth hyn hefyd, ddar­llennydd mwynlân, y gelli di wybod amcan pa vn a wna cariad Duw ai bod ynot ti, ai nad ydyw.

13 Ac dyma ddau fodd bellach, sy 'n gwneuthur buchedd dduwiol gwyr da yn esmwyth iddynt yn y byd hwn. Y mae yn canlyn amryw foddion eraill, fel y gallo yr ymesgusodwyr esgeulus yma weled mor anghyfiawn ac mor anwir yw eu hesgus hwy, sef yw hyn­ny cam dybied fod yn anhawdd byw yn dduwiol: er bod i fuchedd dduwiol mewn gwirionedd gymmaint o freiniau o gyssur, vwch law buchedd y rhai annuwiol, ië yn y byd hwn. A'r modd nesaf, sydd yn canlyn ar ôl y rhai o'r blaen, ydyw rhyw yspysol a neil'duol oleuni deall sydd yn perthyn i'r rhai cy­fiawn, ac a elwir yn yr Scrythur lân, Prudentia Sanctorum, Doethineb y Sainct; Doeth. 9. [Page 232] yr hyn nid yw ddim amgen nâ rhyw wreichion o ddoethineb nefol, sydd trwy ryw neillduol fraint we­di eu rhoi i'r rhai duwiol yn y su­chedd hon: trwy 'r hyn y maent yn derbyn goleuni tra chom­fforddus, a deall mewn pethau ys­prydol, yn enwedig ynghylch eu hiechydwriaeth eu hun, a'r pethau a berthyn iddi. A hy [...] yr oedd y prophwyd Dafydd yn ei feddwl pan ddywedai, [...]i a ddangosaist i mi lwybr bywyd. Psa. 16.11. Psa. 119. [...]9, [...]00. Ps 5 [...], 6. Io. 2. 1 Io. 2. A phan ddywe­dodd efe am dano ei hun; Dee­llais fwy na 'm holl athrawon; Deellau yn well nâ 'r henuriaid. A thrachefn mewn lle arall, Pe­raist i mi wybod doethineb yn ddir­gel Hwn yw 'r goleuni hwnnw y mae Sa [...]nct Ioan yn dywedyd am deno fod Christ yn goleuo ei weision ei hun ag ef: a hwn yw enneiniad yr Yspryd glân yr hwn y mae 'r vn Apostol yn dywe­dyd fod Duw yn ei roi i'r rhai duwiol, i' w dysgu bwy yn mhob peth ac a fo anghen-rhaid i'w hiechydwriaeth. Ac d [...]ma hefyd waith Duw yn ys­crifennu ei Gyfraith ynghalon­nau dynion, [...]erem. 31. yr hyn y mae efe yn ei addaw trwy 'r prophwyd IEREMI: ac dyma ddy [...]gu dy­nion gan Dduw ei hun, yr hyn [Page 233] a addawyd trwy 'r prophwyd Esai. Esa. 54. Ac yn ddiweddaf, dyma 'r deall ardderchog ynghyfraith yr Ar­glwydd, a'i orchymmynion, a'i gyfiawnderau, yr hwn yr oedd Da­fydd dduwiol yn ei dd [...]syfu yn gym­maint, ac yn ei ofyn cyn fynyched yn y psalm dra duwiol honno sydd yn de­chreu, Psal. 119. Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ff [...]rdd; hy [...]ny ydyw▪ yn y bywyd hwn.

14 Trwy 'r goleuni d [...]all yma, a'r wy­bodaeth nefol, a'r ymglywed yma oddi­wrth yr ysprvd glân, mewn pethau ys­prydol; yr helpir y rhai duwiol yn fawr yn ffordd cyfiawnder; am eu bod yn cael eu gwneuthur yn abl i iawn farnu er eu cyfarwyddo eu hunain yn y pe­thau a gyfarfyddo â hwynt; yn ôl yr hyn a ddywaid S. Paul, Yr hwn sydd ysprydol sydd yn harnu pob peth. 1 Cor. 2.15.14. A'r dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sy o yspryd Duw. Onid yw hyn yn datguddio braint buchedd dduwiol yn fawr? Y llawenydd, a'r cyssur, a'r comffordd sydd oddiwrthi; a'r gofid a'r trueni an­esgorol sydd o'r gwrthwyneb? Oble­gid pettei ddau vn rhodio ynghŷd, y naill yn ddall, a'r llall yn gweled yn eglur, pa vn o honynt a flinai ac a ddiffygia i yn gyntaf? Taith pa vn a fyddai debyg i fod yn boenusaf? Ond digon ychydig i flino gwr dall? Yslyriwch [Page 234] chwithau ym mha dywyllwch blinedig y mae 'r annuwiol yn rhodio. Y. styriwch pa vn a wnant ai bod yn ddall ai nad ydynt! Y mae S. Paul, yn y lle a ddangoswyd o'r blaen, yn dy­wedyd na's gallant hwy dderbyn dim gwybodaeth ysprydol. [...] Cor. 2. Ond tywyllwch mawr ydyw hynny? Drachefn, y mae 'r prophwyd Esai yn darlunio eu cy­flwr hwy ym mhellach, pan yw yn dy­wedyd megis o enau 'r annuwiol, ni a balfasom a'r pared fel deillion, Esa. 59.10. ië fel rhai heb lygaid y palfalasom: ni a dram­gwyddasom ar hanner dydd fel yn y cyf­nos. Ac mewn lle arall y mae 'r Scry­thur yn ei osod allan etto yn oleuach, ynghŷd a'i boen a'i lafur, a hynny all­an o enau 'r annnuwiol eu hunain, Doeth. 5.6. yn y geiriau hyn, Ni thywynnodd llewych cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfi­awnder arnom: ni a ymflinasom mewn anialwch anhyffordd, &c. Dyma ymddidda­nion pechaduriaid yn vffern▪ Wrth y gei­riau hyn y gwelir, nid yn vnig bod yr annuwiol yn byw mewn rywyllwch mawr, ond hefyd bod y tywyllwch yma yn boenus iawn iddynt hwy: ac felly o'r gwrthwyneb, bod y goleuni sydd i'r cyfiawn, yn esmwythder mawr i­ddynt ar ffordd duwioldeb.

15 Vn peth arbennig arall, sydd yn gwneu­thur ffordd buchedd dduwiol yn esmwyth [Page 235] ac yn hyfryd i'r rhai a rodiant ynddi, a hwnnw ydyw'r cyssur cuddiedig, dirgel, y mae Duw yn ei dywallt ynghalonnau y rhai sy'n ei wasanaethu ef. Dirgel yr wyf yn ei alw, am nad oes neb yn ei adnabod, nac yn gwybod oddiwrtho, ond yn vnig y rhai a'i profasant: ac o'r a­chos hwnnw y mae Christ ei hun yn ei alw ef yn Manna cuddiedig, Datc. 2.17, ac yn enw newydd, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn. Ac y mae 'r pro­phwyd yn dywedyd am dano, Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i'r sawl a'th ofnant. A thrachefn mewn lle arall, Neill▪ Psa. 31.19. Psal. 68.10 felly y ma [...] 'r lladin. duaist law graslon i'th etifeddiaeth. Ac y mae prophwyd arall yn dywedyd, megis o enau Duw yn crybwyll yn yr enaid defosionol sydd yn ei wasanaethu ef, Mi a'i denaf hi, ac a'i dygaf i'r anialwch, ac yno mi a ddywedaf wrth ei chalon hi. Ac wrth yr holl eiriau hyn, ynialwch, a neillduo, a chuddiedig, Os. 2.14. yr arwyddocceir mai braint dirgel cuddiedig yw hwn, a roir yn ynig i'r rhai duwiol, ac nad oes i galonnau cnawdol y rhai annu­wiol, na rhan na chyfran ynddo. Ond ni all tafod dŷn yspysu faint a gwerth­fawrocced hyfrydwch y cyssur nefol yma: etto ni a allwn fwrw amcan ar­no with eiriau Dafydd, yr hwn wrth grybwyll am y gwin ysdrydol, sydd yn dywedyd fod ynddo'r fath nerth ai fod [Page 236] yn meddwipob vn a'i profo: Psalm. 36. & 65. hynny y­dyw y gwna efe iddynt na wyp [...]nt ac na chlywont ddim odd [...]wrth betha [...] daia­rol: megis am S. Petr ▪ wedi iddo yfed ychydig o hono, efe a'i gollyngodd ei hun tros gôf yn v man, ac a chwedleuodd megi gwr wedi amhwy [...]lo, am adeiladu pebyll yn y fan honno, Mat 17. Mar. 9. Luc. 9. a gorphywys yno byth. Dyma Afon yr hyfrydwch, fel y mae 'r prophwyd yn ei galw, sydd yn tarddu allan o f [...]yn y n [...]f, a thrwy ffyrdd dirgel yn dyfrhau calonnau ac yspryd y rhai duwiol, ac yn eu me­ddwi hwy â'r llawenydd annrhaethadwy y mae yn ei ddwyn gyd â hi▪ Psal. 36, 8. Dyma dippyn o dammaid prawf yn y bywyd hwn o'r llawenydd nef, a roddir i'r rhai da, i'w comfforddi hwy ac i roi cyssur yndddy [...]t i fyned rhagddynt yn eu duwioldeb. Oblegid fel y mae mar­siandwyr a fo 'n chwennych gwerthu eu marsiandiaeth, yn fodlon i chwi i gael gweled a theimlo, ac weithiau, i brofi'r pethau y bónt yn eu gwer­thu, er mwyn eich ann [...]g chwi i brynu ganddynt, felly y mae 'r hollalluog Dduw, am ei fod megys yn chwennych gwerthu i ni lawenydd nef, yn fodlon i roi peth o hono, i'w brofi ym mlaenllaw i'r rhai y mae efe yn eu gweled yn chwennych prynu: er mwyn peri iddynt gynnyg yn rhwydd, ac [Page 237] na rusont dalu cymaint neu fwy nag y mae ef yn ei ofyn Dyma 'r anfei­drol lawenydd a'r gorfoledd sydd yng­halonnau y rhai cyfiawn, Datc. 3. yr hwn y mae 'r prophwyd yn ei feddwl pan yw yn dywedyd, Llef gorfoledd ac ie­chydwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn. A thrachefn, Psa. 118.15 Gwyn ei fyd y bobl a ad­waenant yr hyfrydlais: sef yw hynny, y rhai sy gydnabyddus a [...] anfeidrol lawe­nydd a hyfrvdwch y cyssur a'r diddan­wch calon yma. Yr oedd S. Pau [...] wedi profi o hono, pan yscrifennodd efe'r geiriau hyn, ynghanol ei holl lafuriau er mwyn Christ, Yr wyf yn llawn [...] ddiddanwch, 2 Cor. 7·4. ac yn dra chyflawn o la­wenydd, yn ein holl orthrymder Pa beth ddwysach nâ hyn a ellir ei ddywedyd, i profi fod gwasanaeth Duw yn hy­ [...]ryd? Yn siccr, ddarllennydd mwyn­ [...]idd [...]an, pe bait ti vnwaith we­ [...]i profi ddim ond c [...]mmaint ac vn def­ [...]yn o'r llawenydd nefol yma, ti [...] roit yr holl fyd er cael vn defnyn [...]rall o hono; neu o'r hyn lleiaf rhag [...]olli drachefn yr vn defnyn a gaw­ [...]t.

16. Ond ti a ofynni i mi, pa [...]am a thitheu yn Gristion yn [...]stal ac, eraill, na phrofaist ti [...]ioed e [...]to o'r cyssur yma? I [...]nny 'r attebaf, nad yw hwn, [Page 238] fel y dangoswyd o'r blaen, fwyd i bob genau, ond Gwlith-law a neilltuwyd i eti­feadiaeth Duw yn vnig. Psal. 68.10 Cant. 1. Gwin ydyw hwn o gell Duw ei hun, a roed i gadw i'w bri­odferch ef; fel y mae 'r Caniad yn dan­gos: hynny ydyw i'r enaid defosionol sy wedi ymroi i wasanaethu Duw. Bron y diddanwch yw hon, i'r plentyn yn ynig i sugno o honi ac i ymleowi arni, fel y dy­waid y prophwyd Esai. Es. 66.11. Ac ni all yr enaid sy wedi boddi mewn pechod, a difyrrwch y byd, fod yn gyfrannog o'r dawn yma, na'r galon a fo 'n llawn o ofalon by­dol a meddyliau cnawdol. Oblegid fel nas gallai Arch Duw, [...] Sam. 5. ac eilun Dagon sefyll ar vnwaith ar yr vn allor; felly nis gall Christ a'r byd sefyll ar v [...]waith yn yr vn galon. Ioan 8; 14. & 15. & 16. 1 Jo. 2. Exo. 16. Ni ddanfonodd Duw mo'r Manna hyfryd i bobl Israel▪ tra barhaodd y peillied a'r winwyn a ddy­gasent o'r Aipht. Felly ni ddenfyn efe mo'r diddanwch nefol yma i titheu, hyd oni ymarsloesech o'th holl feddyliau gorwag. Marsiandwr doeth yw efe, er ei fod yn hael: ni rydd efe ddim o'i dry­sor i'w brofi, lle y gwypo nad oes ewyllys i brynu. Dyro dy fryd yn siccr vnwaith ar wasanaethu Duw, ac yno ti a gai glywed oddiwrth y llawe­nydd vma yr wyfi'n sôn am dano, fel y cafodd llawer mil o'th flaen di; ac ni thwyllwyd neb crioed etto yn hyno [Page 239] beth. Fe ddiangodd Moesen yn gyntaf allan o'r Aipht, i fynyddoedd M [...]dian, cyn i Dduw ymddangos iddo; ac felly y bydd rhaid i'th enaid ditheu ymadael a gwagedd y byd, Exo. 2. cyn y gallo edrych am y diddanwch yma. Ond er cynted yr ymroddech di yn gwbl i wasanaethu Duw, yno ti a gai groesaw mwy nag yr oeddit yn ei ddisgwyl. Oblegid mewn gwirionedd tynerach yw ei gariad ef ar y rhai newyed ddyfod i'w wasanaeth, nag ar y rhai sy'n ei wasanaethu ef er ys talm, fel y mae efe yn dangos yn eglur wrth ddammeg y mab af [...]adlon: yr hwn a groesawodd efe ā mwy o lawenydd a daintethfwyd, Luc. 15▪ na'r brawd hynaf oedd yn ei wasanaethu ef er ys hir o amser. Ac o hyn y mae dau achos; y naill, o lawenydd cael gwasanaethwr newydd, fel y dengys S Luc yn y text; a'r llall, rhag i hwnnw, oni chai ddim cyssur yn y dechreuad ddychwelyd yn ei ôl dra­chefn i'r Aipht: fel y mae Duw, wrth esampl meibion Israel, yn dangos yn oleu yn y geiriau hyn; Pan ollyngodd Pharao bobl Israel allan o'r Aipht, Exo. 13.17. ni ar­weiniodd yr Arglwydd hwynt drwy ffordd gwlâd y Philistiaid, er ei bod yn nes; oble­gid dywedodd Duw, rhag i'r bobl edifarhau pan welont ryfel, a dychwelyd yn eu hôl i'r Aipht. Ac o'r ddau achos hynny ti a elli fod yn siccr y cait ti ddiddanwch [Page 240] arbennig, a chomffordd, yngwasanaeth Duw, pe rhoit ti dy fryd arno, fel y cafodd gwŷr eraill o'th flaen di; ac a brofasant wrth hynny, nad yd w'r ffordd yn galed ac yn anhawdd, fel y mae y rhai bydol yn tybied am dani; ond yn esmwyth, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, Mat. 11. fel yr addawodd Christ.

17 Yn ôl y rhagor-fraint yma o ddi­ddanwch calon, y mae vn arall yn canlyn, yr hwn sydd yn gwneuthur gwa­sanaeth Duw yn hy [...]yd a hwnnw yw tystiolaeth cydwybod dda, yr hon y gwnai S. Paul cymmaint cyfrif o honi a'i galw yn Ogoniant iddo. 2 Cor. 1. Ac y mae yr yspryd glân yn dywedyd am dani ym mhella [...]h▪ trwy enau'r gwr doeth. Gw­ledd wa [...]ddol yw calon lawen, neu gyd­wybod dda. Ac o hynny y gallwn gas­glu, Dib. 15.15 am y gwr duwiol, gan fod ei feddwl ef yn ddiogel a'i galon yn lla­wen, a'i gydwybod yn heddychol, ei fod ef yn byw bob amse [...] mewn gw­ledd ddiddan lawenwych. A pha fodd wrth hynny y mae 'r bywyd yma yn galed ac yn anhyfryd, fel yr ydyc [...]wi yn tybied ei fod? yn y gwrthwyneb, yr annuwiol, gan fod ei gydwybod yn cael ei blino with ymwybod ac ymglywed a'i bechod. ymae efe bob amser yn cael ei boeni o'r tu mewn iddo, fel yr y­dym ni yn darllain fod Cain yn ôl [Page 241] iddo lâdd ei frawd Abel; ac Antiochu [...] am y drygioni a wnaethai efe i Ieru­salem; Gen. 4. 1 Mach. 6▪ Mat. 27. a Iudas am ei fradwriaeth yn erbyn ei feistr: ac y mae Christ yn arwyddoccau hynny am bob rhai drwg yn gyffredinol, pan yw yn dy­wedyd, fod ynddynt brŷf yn cnoi eu cydwybod o'r tu mewn. Y rheswm o hynny y mae 'r Scrythur yn ei egori mewn lle arall, pan yw yn dywedyd, Peth ofnus yw drygioni, Doeth. 17.11. ac yn rhoi barn i'w erbyn ei hun, a'r gydwybod yn gwasgu arno sydd yn darogan pethau blin yn wastad. Hynny ydyw, y mae 'n darogan ac yn tybieid fod pethau creulon aruthrol yn dyfod yn ei er­byn, fel y mae yn bwrw ddarfod iddo eu haeddu. Ond ym mhellach, y mae Iob dduwiol vwch ben pawb eraill yn go­sod allan gyflwr gofidus y rhai annuwi­ol, yn y geiriau hyn, Holl ddyddiau 'r an­nuwiol y bydd efe yn ymofidio, a rhifedi 'r bly­nyddoedd a guddiwyd oddiwrthy traws. Iob. 15.2 [...]. Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y tybia y daw y dinistrudd arno Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch, ac y mae 'n dis­gwyl bod y cleddyf yn gwilied arno. Y mae efe yn crwydro am fara pa le y byddo: efe a wyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. cystudd a chyfyngdra a'i brawycha ef- Hwy a'i gorchfygant fel brenhin parod [...] ryfel.

[Page 242]18 Ond rhyfedd y darlunio yma y mae 'r yspryd glân ei hun ar gydwy­bod ddrwg? Pa beth a ellir meddwl ei fod yn fwy ei ofid a'i drueni nâ 'r dŷn yma, sy ar fath ymmladd ac ymgigyddio o fewn ei galon ei hun? Pa ddychryniadau, pa gyfyngder, a grybwyllir yma amdanynt? Chrys. ho. 8. ad pop. Antioch. Y mae S. Joan Aur-enau yn gwneuthur traeth­awd godidog ar y pwngc yma. Dyma arfer pechaduriaid, medd efe, drwg­dybio pob peth; ammeu eu cysgod eu hunain; ofni pob sŵn a thrwst, er lleied fyddo; a thybied fod pob dŷn a fo 'n dyfod tu ac attynt, yn dyfod yn eu herbyn hwy. O bydd rhai yn chwedleua â'i gilydd, hwy a dybiant mai sôn y maent am eu pechodau hwy. Cyfryw beth yw pechod, ac y mae yn ei gyhuddo ei hun, er na bo neb yn achwyn arno; ac yn ei gondemnio ei hun, er na bo neb yn tystiolaethu yn ei erbyn: y mae efe bob amser yn gwneuthur y pechadur yn ofnus, fel y mae duwioldeb a chyfiawnder yn gwneuthur y gwrth­thwyneb. Gwrandewch fel y mae 'r Scrythur lân yn datgan ofn y pe­chadur, a hyder y cyfiawn, Yr an­nuwiol a ffŷ heb neb yn ei erlid, medd yr Scrythur. Dih. 28.1. Pa ham y mae efe yn ffô onid oes neb yn ei erlid? Am fod [Page 243] ei gydwybod o'i fewn yn ei gyhuddo ac yn ei erlid, yr hon y mae efe bob amser yn ei harwain gydag ef. Ac fel nas gall efe ffo oddiwrtho ei hun, felly nis gall efe ffo oddiwrth ei gy­huddwr oddi fewn ei gydwybod ei hun; ond i ba le bynnag yr êl efe, mae honno yn ei ymlid ac yn ei fflang­ellu, ac y mae ei archoll yn anacle. Dih. 28.1. Ond nid yw 'r cyfiawn felly ddim, Y cyfiawn sydd hŷ megis llew, medd Salomon. Hyd hyn y mae geiriau S. Chrysostom.

19 Wrth y geiriau hynny, ac felly hefyd wrth yr Scrythurau a ddango­swyd, y gallwn adnabod rhagor-fraint arall sydd i fuchedd dduwiol, yr hwn yw gobaith a hyder, y trysor mwyaf, a'r tlŵs cyfoethoccaf, sydd gan Gristia­nogion wedi ei adael iddynt yn y fu­chedd hon. Ia [...] ▪ 1▪ Oblegid wrth hwn yr y­dym ni yn myned trwy bob cystudd, Rhuf. 5.3. a thrallod, a gwrthwyneb, yn dra llawen, fel y dengys S. Jaco. Wrth hwn y dy­wedwn gydâ S. Paul, Yr ydym yn gor­foleddu mewn gorthrymderau, gan wy­bod fod gorthrymder yn peri dioddefga­rwch, a dioddefgarwch brofiad, a phro­fiad obaith; a gobaith ni 'n cywilyddia. Dyma ein cyssur trachadarn-gryf ni▪ Dyma ein hangor siccr ni ym mhob math ar dymmhestl, fel y dyweid [Page 244] Sainct Paul, Y mae gennym ni gyssur crŷf, y rhai a ffoesom i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'n blaen; He. 6.18. yr hwn obaith sy gennym megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn siccr. Eph. 6. 1 Thess▪ 1. Dyma ardder­chog Helm yr iechydwriaeth, fel y mae 'r Apostol vn ei alw, yr hon sydd yn derbyn yr holl ddyrnodiau a allo 'r bŷd hwn eu rhoi arnom. Ac yn ddi­weddaf, dyma 'r vnig ddiogelwch sydd ynghalon gwr duwiol, yr hwn sydd yn peri iddo, er na bywyd nac angeu, nac icchyd na chlefyd, na golud na thlo­di, na hawddfyd nac adfyd, er maint fo ystorm a thymmhestl yr adfyd, ei­stedd i lawr mewn llonyddwch, a dy­wedyd yn dawel gydâ 'r prophwyd, Psal. 56.4. Yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Ië efe a ddyweid ym mhell­ach gydâ Iob dduwiol ynghanol ei holl ofidiau, Pe lladdai efe fi, etto mi a obeithiaf ynddo ef. A hyn yw bod, fel y dywedodd yr Scrythur o'r bla­en, Iob. 1 [...].15. yn hyderus fel llew, yr hwn sy gnawd iddo fod yn hyderusaf ac yn ddewraf pan fo mwya 'r per­ygl arno, Dih. 28.1. a pho nessaf fyddo i'w angeu.

20 Ond yn awr, fel y dywaid yr Yspryd glân▪ Non sic impij, non sic, Ni all yr annuwiol ddywedyd felly; Psalm▪ 1. nid oes iddynt hwy na rhan [Page 245] yn yr hyder yma, na chyfran yn y diddanwch yma: oblegid goba­ith y drygionus a dderfydd am dano, Dih. 10.28. medd yr Scrythur lân. A thra­ch [...]fn, Dih. 11.23. Gobaith y drygionus sydd ddigter. Ac etto ym mhellach, Go­baith yr annuwiol sydd ffieidd-dra, Iob. 11.20. ac nid cyssur, i'r enaid. A'r rheswm o hyn sy ddauddyblyg. Yn gyntaf, am nad yw 'r annuwiol mewn gwirionedd (er eu bod yn dywedyd y gwrthwy­neb ar eiriau) yn rhoi eu gobaith, a'i goglud, a'i hyder yn Nuw; ond yn y byd, ac yn eu cyfoeth, ac yn eu cryfder, ac yn eu caredigion, ac yn eu swyddau, ac yn nhwyllodrus fraich dŷn: yn y modd y dengys y prophwyd megys allan o'i geneuau hwy, Ier. 17.5. pan yw yn dywedyd, Ni a osodasom ein go­baith ar gelwydd. Hynny ydyw, Es. 28.15. Ni a osodasom ein gobalth mewn pethau darfodedig, y rhai a'n twyllodd ni. A hyn y mae 'r Scrythur yn ei yspysu yn eglurach etto, gan ddywedyd, Fel llwch, yr hwn a arwain y gwynt; ac fel ewyn teneu, Doeth. 5.1 yr hwn a yrr y dym­mhestl, ac fel y mŵg a w [...]sgerir gan wynt, neu fel côf am ymdeithydd tros vn dwrnod, yr a gobaith yr an­nuwiol ymai [...]h. Wrth yr holl ddull­ymadrodd yma y mae 'r Yspryd glan yn hyspyssu i ni ofered ydyw 'r pethau [Page 246] y mae 'r annuwiol yn rhoi eu hym­ddiried ynddynt, ac fel y mae 'r pethau hynny yn pallu ganddynt yn ôl ychydig amser, ar bob achlysur bach o wrthwyneb a ddigwyddo.

Ios. 30. & 36.21 Hyn hefyd y mae Duw yn ei feddwl, pan yw yn gwneuthur trŵst a tharanau yn erbyn y rhai oedd yn myned i'r Aipht i geisio help, ac yn rhoi eu hyder ar nerth Pharao; ac yn eu melldigo hwy am hynny, ac yn addaw y trŷ hyn­ny yn wradwydd▪ iddynt. A hynny sydd i'w ddeall yn briodol am bawb ac sy 'n rhoi eu hymddiried pen­naf mewn cynnorthwyau bydol; fel y mae pawb o'r rhai annuwiol, er maint a fo eu ffuant i'r gwrthwyneb mewn geiriau. Ac o achos y ffuant hwnnw y mae Iob yn eu galw hwy yn rhagrithwyr: oblegid lle y dywed y gŵr doeth, Gobaith y drygionus a dderfydd am dano; y mae Iob yn dy­wedyd, Diha. 10. [...]8. [...]ob, 8.13. Derfydd am obaith y rhag­rithiwr. Lle y mae yn galw 'r drygi­onus yn rhagrithwyr, am eu bod yn dy­wedyd eu bod yn rhoi eu hyder ar Dduw, a hwythau mewn gwirionedd yn ei roi ar y byd. Yr hyn beth, heb law 'r Scry­thur lân, sydd eglur hefyd wrth brawf beunyddol. Oblegid, a phwy y mae 'r annuwiol yn ymgynghori [Page 247] yn ei negeseuau a'i betrusder? A'i â Duw yn bennaf, ynteu â'r by d? A phwy y mae efe yn ymgai [...] yn ei gy­studd? Ar bwy y mae efe yn galwyn ei glefyd? oddiwrth bwy y mae 'n go­beithio am ddiddanwch yn ei adfyd? I bwy y mae efe 'n rhoi diolch yn ei hawddfyd? Pan êl gŵr bydol yng­hylch rhyw orchwyl o bwys, ydyw efe yn ymgynghroi yn gyntaf â Duw, pa beth a ddigwydd o'r gorchwyl hwn­nw? Ydyw efe 'n syrthio ar ei liniau, ac yn gofyn ei gymmorth ef? Ydyw efe yn tueddu 'r gorchwyl yn gwbl ac yn bennaf at anrhydedd Duw? Ac onid ydyw, pa fodd y gall efe obei­thio help ar ei law ef? Pa fodd y gall efe gyrchu atto am ei gymmorth, yn y peryglon a'r rhwystrau a ddigwy­ddo yn y gorchwyl hwnnw? Pa fodd y gall efe roi hyder yn y byd yn yr hwn nid oes iddo gyfran yn y byd yn y gorchwyl hwnnw? Nid yw ond rhag­rith gan hynny (fel y dyweid Iob yn ddigon gwir) i'r dŷn hwnnw ddywedyd fod ei hyder ar Dduw; ac ynteu mewn gwirionedd a' [...] hyder ar y byd: yn Pharao y mae; yn yr Aipht y mae; ym mraich dŷn y mae; mewn celwydd y mae. Nid yw efe yn adeiladu ei dŷ gydâ 'r gwr doeth, ar y graig; ond gydâ 'r ynfyd, ar y tywod: ac [Page 248] am hynny, fel y mae Christ yn dywe­dyd iddo yn siccr, pan ddiscynnodd y glaw, Mat. 7.27. a dyfod o'r llifddyfroedd, a chwythu o'r gwyntoedd, a churo ar y tŷ hwnnw (vr hyn a fydd ar ddydd marwola­eth) yna y syrth y tŷ hwn, a'i gwymp a fydd mawr. Mawr fydd, o h [...]rwydd y gyfnewid a gaiff efe ei weled; mawr, o her­wydd y mawr ddychryn a gaiff efe, mawr, o herwydd y mawr osid a gaiff efe ei ddioddef, mawr, o herwydd colli an­hydraeth lawenydd nef; mawr o her­wydd syrthio mewn poenau tragywy­ddol yn vffern; mawr fydd ym mhob ffordd, bydd di siccr o hynny, frawd anwyl, ac oni bai hynny ni buasai 'r gair yma mawr, byth yn dyfod allan o enau Duw. A digon yw hynny am y rheswm cyntaf, paham y mae 'n ofer gobaith yr anghyfiawn, am nad ydynt yn ei roi ar Dduw ond ar y byd.

22 Yr ail rheswm yw, o herwydd pe rhôn iddynt a bod yn rhoi eu gobaith yn Nuw, a hwythau yn byw yn annuw­iol, nid yw hynny ond ofer: a gwell y dylai hynny gael ei alw yn rhyfyg nag yn obaith. Ac er mwyn deall hyn­ny y mae 'n rhaid gwybod, megis y mae 'r Scrythur lân yn cyfrif dau sath ar ffŷdd, y naill yn ffŷdd farvv, heb wei­thredoedd da, sef yr hon sydd yn cre­du pob peth yr ydych chwi yn ei ddy­wedyd [Page 249] am Grist, ond nid ydyw yn cadw ei orchymmynion; a'r llall yn ffŷdd fywiol, yn ffŷdd yn cyfiawnhau, yr hon sydd nid yn vnig yn credu, Iac. 2. Mat [...]t▪ 7. 1 Cor. 13. & 15. Rhuf. 1. Gal. 3. Eph▪ [...]. ond hefyd yn gweithredu trwy gariad, fel y mae geinau Sainct Paul; felly y mae dau fath ar obaith hefyd yn canlyn y ddwy ffŷdd hyn, y naill yw gobaith y rhai da, sydd yn dyfod o gydwybod dda, am yr hon y dywedais o'r blaen: a'r llall yw 'r eiddo 'r drygionus, ac sydd yn sefyll mewn cydwybod euog, yr hyn mewn gwirionedd nid yw wir obaith, ond yn hytrach rhyfyg. Hyn y mae S. Joan yn ei brofi yn oleu, pan yw yn dywedyd, Anwylyd, os ein calon ni 'n condemna y mae gennym hyder or Dduw. Hynny ydyw, os ein calon nid yw euog o fu­chedd annuwiol. Ac y mae 'r geiriau sy nesa 'n canlyn, yn hyspyssu hynny yn well, y rhai yw, Pa beth bynnag a ofynnom yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, 1 Io. 3.21. oblegid ein bod yn cadw ei orchym­mynion ef, ac yn gwneuthur y pe­thau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei gadarnhau, pan yw yn dywe­dyd, Diwedd y gorchymmyn yw cari­ad o galon bûr, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith. Wrth esponi 'r geiriau hyn, y mae S. Awstin mewn amryw eiriau, ac mewn amryw leoedd o'i waith, yn profi [Page 250] yn helaeth, [...]e doct. Christ. ca. [...]7. na ellir deall fod gwir obaith lle ni bô cydwybod dda. Y mae S. Paul, medd efe, yn rhoi 'r gair hyn (o gydwybod dda) yn ang­whaneg o achos gobaith; oblegid pwy bynnag sydd ynddo betrusder cydwy­bod ddrwg, yn mae yn anobeithio cael mwynhau yr hyn y mae yn ei gredu. A thrachefn, Ffydd pawb sydd yn ei galon a'i gydwybod eihun, Ffydd pawb yn ei galon. Præfat in Psal. 31. wrth y modd y mae yn ei glywed ei hun yn caru Duw. A thrachefn mewn llyfr arall, Y mae 'r Apostol yn rhoi cydwybod dda yn lle gobaith, oblegid hwnnw yn vnig sydd a gobaith ganddo, yr hwn sydd gan­ddo gydwybod dda: a'r neb y mae cydwybod euog ddrwg yn ei bigo, y mae 'n cilio yn ôl oddiwrth obaith, ac nid yw yn gobeithio dim ond ei ddamnedigaeth ei hun. Mi a allwn yma adrodd llawer ychwaneg o frei­niau buchedd dduwiol, y rhai sydd yn ei gwneuthur hi yn esmwyth, ac yn hawdd, ac yn hyfryd, ac yn gomfforddus, oni bai fod y pennod yma yn myned yn hir: ac am hynny mi a gyffyrddaf yn vnig, megis wrth fyned heibio, a dau neu dri o'r pyngciau pennaf e­raill: y rhai er hynny a ofynnent hir draethawd, pe datgenid hwy yn ôl eu teilyngdod a'i gwiwdeb. A'r cyn­taf yw gwerthfawr fraint y rhydd­did [Page 251] y mae y duwiol yn ei fwynhau, vwch law yr annuwiol, fel y mae Christ yn addaw yn y geiriau hyn, Os arhoswch yn fy ngorchymmyn i, Joan 8.31 chwi a fyddwch ddiscyblion i mi yn wir: a chwi a gewch wybod y gwirionedd, a'r gwirionedd a'ch rhyddhaa chwi. A'r geiriau hyn y mae Sainct Paul me­gis yn eu hesponi, ac yn dywedyd, lle y mae Yspryd yr Arglwydd yno y mae rhydd-d [...]d. 2 Cor. 3 17 Ac wr [...]h y rhydd-did yma y deellir ein bod ni yn rhyddi­on oddiwrth drais a thrawsder a thra­ha, a chreulondeb, a chaethiwed ein gwyniau llygredig a'n trachwantau ni, y rhai y mae yr annuwiol mor gaeth iddynt, ac na bu erioed gaethwas yn y cyfryw gaethiwed i wr o'r trawsaf, ac o'r creulonaf, ac o'r annrhugaroc­caf. A hyn a ellir ei ddeall o ran wrth yr vn esampl yma. O byddai wr wedi priodi gwraig gyfoethog, bryd weddol, foneddigeiddwych, a fai gyn­nysgaeddol o bob math a'r gynnedd­fau da a rhinweddau ac a ellid me­ddwl eu bod mewn gwraig; a bod o'r gwr er hynny wedi ei hurtio, a'i fag­lu, a'i rwydo cyn belled, o gariad rhyw gardottes ddiffaith anhonest, a fai forwyn waith yn ei dŷ ef; ac y gwrthodai gwmpeini a chyfeillach ei wraig er ei mwyn hi, ac y treuliai ei [Page 252] amser yn cellwair ac yn cymhwedd âr fudrog honno, ac yn ei gwasanaethu hi; a rhedeg, a cherdded, a sefyll, wrth ei harchiad hi; a rhoi ei holl olud a'i feddiannau ar ei llaw hi, i'w tren­lio, ac i'w difa, ac i'w hanrheithio wrth ei hewyllys hi; ac na naccai mo ho­ni o ddim, ond gweini iddi, a gwa­sanaethu arni wrth ei hamnaid; ië a pheri i'w wraig wneuthur hynny he­fyd; oni thybygech chwi fod bywyd y gwr hwnnw yn osidus, ac yn flin, ac yn gaeth iawn? Ac etto yn siccr y mae 'r caethiwed yr ydym ni yn sôn am dano, yn dostach, yn flinach, ac yn gaethach o lawer. O [...]legid nid oes ac ni all bod na gwraig, nac vn creadur arall yn y byd, mor dêg nac mor brydwe­ddol nac mor fonheddig ac ydyw rhad yspryd Duw, yr hwn y mae dŷn pan y gwnacd wedi ei ddyweddio ag ef, ac ynteu er hynny yn ei fwrw ymaith ac yn ei wrthod, er cariad at wyniau 'r cnawd sydd elyn iddo, ac sydd greadur o'r fath wrth [...]naf wrth y rheswm a roed mewn dyn: ac etto ynghariad hwn­nw neu yn hytrach yn ei gaethiwed, y gwelwn fod y rhai annuwiol wedi eu boddi mor llwyr, ac y maent yn ei wasana­ethu ddydd a nôs trwy fawr boen, a phe rygl, a thraul, ac yn cymmell yr ysprydo­ [...]iaethau da a ddêl oddiwrth yspryd Duw [Page 253] i roi lle, wrth bob amnaid a gorchym­myn o'r eiddo 'r feistres mewydd yma, yr hon yw gwyniau a chwant y cnawd. Oblegid i ba beth y maent yn llafurro? I babeth y maent yn gwilio? I ba beth y maent yn pentytru cyfoeth ynghŷd, ond yn vnig i wasanaethu eu gwyniau a'i trachwantau? I ba beth y maent yn curo eu hymmennyddiau, ond yn vnig i fodloni'r Teiran traws creulon yma a'i wyniau?

23 Os mynnwch chwi weled yn siccr mor greulon ac mor dostur yw 'r gwasa­naeth a'r caethiwed yma; ystyriwch ym­bell esampl neillduol o hono. Cymmer­wch i mi ddyn y mae trachwant y cnawd yn cael ei lywodraethu mewn rhyw wyniau, megis mewn a [...]lladrwydd neu'r cyffelyb; a pha boen a gymmer efe er ei mwyn hi? Pa lafurio a wna efe? Pa chwyssu y mae yn y gwasanaeth a'r caethiwed yma? Mor gadarn ac mor gryf y mae efe yn clywed y llywodraeth hwnnw arno? Cofiwch gryfder Sampson, a doethineb Salomon, a duwioldeb Dafydd, Iud 14. 1 Sam. 11. 1 Bren. 12. fel y goresgynnwyd hwy gan lywo­draeth eu trachwantau, Iupiter, Ma [...]s, a Hercules, y rhai am eu mawr wrolaeth a gyfrifai 'r Paganiaid yn dduwiau, oni orchfygwyd hwy, ac oni wnaed hwy yn gaethion trwy hudoliaeth y llywodrae­thwr traws hwn? Ac o mynnwch wybod [Page 254] etto ym mhellach beth yw ei gryfder, ac mor greulon y mae 'n ei arfer ar y rhai ni waredodd Crist allan o'i gaethiwed ef, ystyriwch, yn lle esampl, gyflwr tostur rhyw wraig a fai anffyddlon i'w gwr priod, yr hon er ei bod yn gwybod ei bod hi wrth dorri ei phriodas, yn cwympo i fil o beryglon, ac anghym­mhesurwydd, sef colli ffafor Duw, a chael câs ei gŵr, ac anfodloni ei thylwyth, ac ammherchi ei chorph ei hun, os ceir gwybod arni, ac yn ddiweddaf mawr gwymp a pherygl ei henaid a'i chorph; etto er mwyn rhyngu bodd y llywodraethwr traws yma chwant y cnawd, hi a anturia wneuthur y pechod, beth bynnac fo 'r perygl a'r enbydrwydd a ddêl o'i wneuthur.

24 Ac nid yn y pwngc yma o anlla­drwydd yn vnig, ond ym mhob peth arall, y mae dŷn mewn caethiwed ir llywodrae­thwr hwnnw ac i'w wyniau. Edrychwch ar wr a fo gwag-ogoneddus neu yn ymgyrhaeddyd am oruchafiaeth, a gwe­lwch fel y mae efe yn gwasanaethu ar hynny; mor ofalus ac mor ddiwyd y mae efe yn gwneuthur ei orchymmyn, hynny ydyw, mor ddyfal ydyw i ymgais ag ychydig wynt a ddel allan o enau dynion, ac i ymlid pluen fach sydd yn hedeg o'i flaen ef yn y gwynt; chwi a gewch weled nad yw ef yn gadael hei­bio [Page 255] nac vn peth, nac vn amser, na dim yn y byd, er ccisio mwynhau hyn­ny. Y mae efe yn codi yn foreu, ac yn mynd yn hwyr i gysgu; yn ymdra­fferthu 'r dydd, ac yn ymofalu'r nos; yma y truthia ac y gwenhieithia, ac accw y rhagrihia; yma yr ymostwng ac yr ymoblyga, ac accw yr edrych yn vchel; yma y gwna rai ar ei blaid, ac accw y cais ochel gwrthwynebwyr. Ac at hyn­ny y cyfeiria ef ei holl weithredoedd, ac y tuedda ei holl fatterion eraill, me­gis dull ei fuchedd, ei gadw cyfeillach, a gwisgad ei ddillad, a dull ei feirch, a'i weision, a'i ymddiddanion, a'i ymarwe­ddiad, a'i gellwair, a'i edrychiad, ië ai' gerddediad yn yr heolydd.

25 Yr vn modd yr hwn sydd yn gwasanaethu ei arglwyddes mewn gwŷn cybydd-dod; pa dôst ofidus gaethiwed y mae efe yn ei ddioddef? Y mae ei galon ef wedi ei murio yngharchar gan arian, fel y mae yn rhaid iddo feddwl yn vnig am y rhei'ny, a sôn am danynt, a breuddwydio am danynt, a dychym­mygu ffyrdd newydd i geisio ychwa­neg o honynt, heb wneuthur dim yn y byd ond hynny. Pe gwelych chwi Gristion ynghaethiwed y Twre, wedi ei rwymo erbyn ei droed â chadwyni mewn rhwyf-long, i wasanaethu yno byth ac i rwyfo; ni allech chwi amgen [Page 256] na thosturio wrth ei gyflwr ef. A pha beth a wnawn ninnau wrth ofid a thrue­ni'r dŷn yma, yr hwn sydd mewn cac­thiwed i greadur gwaelach a distadlach nag vn Twrc, ac nag vn creadur rhe­symol arall, hynny ydyw, i ddernyn o fettel, gan yr hon y mae efe ynghar­char, yn rhwym, nid yn vnig erbyn ei draed, fel na allo gerdded i vnlle, yng­wrthwyneb i'w budd ac i'w gorchymmyn hi▪ ond hefyd erbyn ei ddwylo, erbyn ei enau, erbyn ei lygaid, erbyn ei glustiau, erbyn ei galon, fel nas gallo na gwneu­thur, na dywedyd, na gweled, na chlywed, na meddwl am ddim, ond am ei gwasanae­thu hi? A fu erioed gaethiwed cymmaint â hyn? Ond gwir ynteu a ddywedodd Christ, Ioan 8.34. Rhuf. 6.20. Pwy bynnac sydd yn gwneuthur pechod, y mae ef yn wâs i bechod. Ac ond da y dywaid Sa [...]nct Petr, Gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, y mae efe wedi myned yn gaeth was i hwnnw. [...] Petr. [...].19

26. Ac oddiwrth y caethiwed hwn y gwaredir y rhai duwiol, t [...]wy nerth Christ, a'i gymmorth; yn gymmaint a'i bod hwy yn llywodraethu ar eu gwyniau a'i trachwantau, ac nid y rhei­n'i yn llywodracthu arnynt hwy. Hyn a addawodd Duw trwy 'r Prophwyd Ezeciel, gan ddywedyd, A hwy a g [...]nt wybod mai myfi yw'r Arglwydd▪ [...]zec. 34.27 pan dor­rwyf rwymau eu hiau hwynt a'i gwared [Page 257] hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwa­sanaeth ganddynt. A'r daioni yma yr oedd Dafydd dduwiol yn ei gydnabod ynddo ei hun, pan ddywedodd efe yr geiriau nerthol hyn wrth Dduw, O Ar­glwydd, yn ddiau dy wâs di ydwyfi, Psa. 116.16 dy dy w [...]s di ydwyfi, mab dy wasanaethwraig; dattodaist fy rhwymau, a minnau a aber­thaf i ti aberth moliant, ac a alwaf ar enw'r Arglwydd. Y daioni yma hefyd y mae Sainct Paul yn ei gydnabod pan yw yn dywedyd ddarfod croes-hoelio ein bên ddyn ni gydâ CHRIST, Rhuf. 6.6. er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Wrth yr hên ddyn yma, a chorph pechod y mae efe yn deall ein trachwant ni, yr hwn a farwolaethir rrwy râs Christ ym mhlant Duw.

27 Yn ól y braint yma ar rydd-did y canlyn braint arall o gymmaint pwys ae ynteu, a hwnnw yw, rhyw heddwch nefol a llonyddwch meddwl, yn ôl yr hyn a ddy­waid y Prophwyd, Ei babell ef sydd mewn heddwch. Ac mewn lle arall, Psal. 76.2. Heddwch mawr sydd i'r rhai a garant dy gyfraith di. Ac yn y gwrthwyneb y mae'r Prophwyd Esai yn datcan yr ymadrodd yma yn fynych oddiwrth Dduw. Ps. 119.165 Nid oes heddwch i'r annuwiol, medd yr Arglwydd Ac y mae Prophwyd arall yn dywedyd am yr vn dynion, Distryw ac aflwydd sydd yn eu [Page 258] ffyrdd; Psal. 14. Esa. 59.7.8. Rhuf. 3.15.16. a ffordd tangnefedd nid adnabuant. Y rheswm o'r rhagor yma sy rhwng y duwiol a'r annuwiol a ddangoswyd o'r blaen yn yr hyn a ddywedais am yr amrafael wyniau sydd ynddynt. Oble­gid y duwiol, gan ddarfod iddynt, trwy netth grâs Christ ddarostwng cryf­der mwyaf eu gwyniau, sydd yn my­ned rhagddynt yn eu buchedd yn dra esmwyth ac yn dawel trwy fod ei y­spryd ef yn eu cyfarwyddo hwy, a hyn­ny heb na gwyniau na thrallod yn y byd ac sydd yn blino nemmor arnynt, yn y matterion mwyaf a ddigwyddo yn eu bywyd hwy. Ond yr annuwiol am na ddarfu iddynt farwolaethu y gwyniau hynny, Rhuf. 11. hwynt hwy a deflir ac a drallodir gan y gwyniau hynny, megis gan wynt gwrthwyneb crŷf. Ac am hynny y mae Esai yn cyffelybu eu cyflwr hwy i fôr tymmhestlog aflonydd; a S. Iaco yn ei gyffelybu i ddinas neu wlad a fo mewn rhyfel a therfysg o'i mewn ei hun. Ac o hyn y mae dau achos, Es. 57. y naill am fod gwyniau trachwant, y rhai sy lawer ac anfeidrol agos mewn rhifedi, yn trach­wantu ar ôl aneirif o bethau, ac na ddi­gonir hwy byth, ond bod yn debyg i'r sugneion hynny mae 'r gwr doeth yn crybwyll am danynt, Iac, 3. y rhai sy 'n lle fain yn wastad Moes moes, heb gael eu gwala byth. Dih 30. Megis, i ddwyn i chwi esampl, [Page 259] pa brŷd y caiff y neb a fo chwannog i o­ruchafieth ddigon o anrhydedd, na'r an­llad ddigon o drythyllwch? na'r cybydd ddigon o arian? Ni chânt hwy byth: ac am hynny, megis na's gall y fam hon­no na bô tôst iawn arni, yr hon a fyddei iddi lawer o blant yn llefain ar vnwaith a hitheu heb ddim bara ganthi i'w dorri rhyngddynt: felly y mae 'n ddir bod yn flin ac yn dôst iawn ar yr annuwiol a fo aneirif o wynian yn galw arno yn awyddus am ymroi i'w deisyfiadau hwy, yn enwedig gan nas gall ddigoni vn o'i deisyfiadau lleiaf hwynt.

28. Achos arall o'r blinder sy arnynt hwy ydyw, bod y gwyniau trachwant anllywodraethus yma, yn fynych yn wrthwyneb i'w gilydd, ac yn gofyn pethau gwrthwyneb, fel cymmysg Babel, lle'r oedd y naill dafod yn dywedyd yn wrthwyneb i'r lall, a hynny mewn am­ryw ieithoedd gwrthwyneb i'w gilydd. Felly y gwelwn ninnau yn fynych, fod chwant i anrhydedd yn dywedyd, Treulia yn hydda [...], ond medd gwŷn cybydd-dod Attal dy law. Medd an­lladrwydd, Anturia yma: ond medd balchder, Na wna ddim, fe all hynny fod yn ammraint mawr i ti. Medd digo­faint dial dy gam, ond medd Chwant i oruchafiaeth, Gwell i ti na chymme­rych arnat. Ac yn ddiweddaf, yma y [Page 260] cyflawnir yr hyn a ddywaid y Proph­wyd, Gwelais anwiredd a chynnen yn y ddinas. Psalm 55. Anwiredd, am fod holl ddymunia­dau 'r gwyniau hyn yn dra anghyfiawn, am eu bod yn erbyn gair Duw. Cynnen, am fod y naill o honynt yn llefain yn erbyn y llall yn eu dymuniadau. Oddi­wrth yr holl ofidiau hyn y gwaredodd Duw 'r cyfiawn trwy roddi iddynt ei heddwch ef yr hwn sydd vwch law pob deall, Phil. 4. fel y dywaid yr Apostol, a'r hwn ni ddichon y byd ei roddi, na phro­fi o hono fel y dywaid Christ ei hun. Io. 14. & 17. Mat. 10.

29 A chynnifer a hyn, o achosion a ellir eu dangos yr awrhon, (heb law llawer etaill yr wyr yn eu gadael hei­bio,) i wirio geiriau Christ, fod ei iau ef yn ysgafn ac yn esmwyth: sef, help a chymmorth grâs; cariad Duw; go­leuni deall o ddiwrth yr yspryd glân, di­ddanwch calon od difewn; llonyddwch cydwybod; yr hyder sydd yn dy­fod o hynny; rhydid enaid a chorph; a hyfryd orphywys ein hysprydoedd ni, tu ac at Dduw, tu ac at ein cyn­mydog, a thu ac attom ein hunain. Trwy 'r moddion hynny, a'r help, a'r breiniau, a'r doniau ardderchog, y cynnorthwyir y duwiol yn am­gen nâ'r annuwiol, fel y dangos­wyd, ac y gwneir eu ffordd hwy yn esmwyth, ac yn oleu, ac yn hy­fryd. [Page 261] Ac at hynny y gallwn chwa. negu y diddanwch yma, yn ddiwe­ddaf cyssur, er nad yw leiaf, sef edrych a disgwyl am daledigaeth; hynny ydyw am ogoniant a dedwy­ddyd tragywyddol i'r thai duwiol; a damnedigaeth tragywyddol i'r rhai annuwiol. Ac dyma beth mawr i ddwyn cyssur a chomffordd i'r naill, os bydd eu bywyd yn boenus mewn duwioldeb, ac i drallodi ac i flino 'r llaill ynghanol h [...]ll blesser a difyr­rwch eu pechodau. Y mae 'r gweithiwr vvrth feddwl am y cyflog a gaiff efe yn yr hwyr, yn cymmeryd calon i fy­ned rhagddo yn ei waith, er poenused fo iddo. O byddai ddau yn cyd siwrneio tu a'i gwlâd, y naill i dder­byn anrhydded a pharch am y gwasa­naeth da a wnaethai tra fuasai oddi cartref; a'r llall yn garcharor i dder­byn barn cyfraith am y fradwriaeth a wnaethai mewn gwledydd dieithr yn erbyn ei Arglwydd; ni fyddent hwy ill dau, i 'm tŷb i, mor llawen hyfryd y naill a'r llall, yn eu lletty ar y ffordd: ac er bod yr vn o honynt a fai mewn perygl, yn canu ac yn cymmeryd arno fod yn galonnog ac yn wirion, ac yn dangos wyneb têg llawen: etto da y gallai 'r llall dybieid, fod llawer [Page 262] oer-loes yn ei galon ef o'r tu mewn, fel y mae 'n ddiammati ynghalon pob rhai annuwiol, pan feddyliont ynddynt eu hunain am y byd a ddaw. Pe buasai Ioseph a phobydd Pharao yn gwybod yn y carchar, Gen. 40. & 41. & 43. pa gwttws a gai bob vn o honynt (sef y cai'r naill ar y dydd a'r dydd alw arno i'w wneuthur yn arglwydd ar yr Aipht, a'r llall i'w grogi ar bren) fe fuasai anhawdd iddynr fod mor llawen y naill a'r llall, tra fuasent fyw ynghyd yn ŷ carchar. Y cyffelyb a ellir ei ddywe­dyd yn wiriach o lawer, am y duwiol a'r annuwiol yn y byd hwn. Oblegid pan feddylio 'r naill am ddydd ei farwo­laeth yr hwn yw 'r diwrnod y gwaredir hwy allan o garchar, ni ddichon bod na lammo eu calonnau hwy gan lawenydd, wrth ystyried pa beth a ddigwydd iddynt ar ôl hynny. Ond y llaill a fydd blin arnynt, ac a syrthiant mewn trymfryd a thristwch, bob gwaith ac y clywont sôn am farwolaeth, neu y meddyliont am da­ni: am fod yn siecr ganthynt fod ang­eu yn dwyn gwenwyn gydag ef iddynt hwy, fel y dywaid yr Scrythur lân, Pan so marw'r drygionus, Dih. 11.7. fe ddarfu am ei obaith ef.

30 Felly, frawd anwyl, os yw 'r holl bethau hyn felly, pa beth bellach a allai dy attal di rhag rhoi dy fryd ar y peth yr wyf yn dy annog i'w wneuthur? [Page 263] A ddywedi di etto, er hyn i gyd, fod y peth yn galed, a'r ffordd yn anhy­fryd? Neu a goeli di rai eraill sydd yn dywedyd i ti hynny, er na wy­ddant hwy ond llai nag a wyddost di, o'r peth hynny? Coelia yn hytrach air ac addewid Christ, sydd yn dy siccrhau di o'r gwrthwyneb: coelia y rhesym­mau a ddangoswyd o'r blaen, y rhai sy 'n profi hynny yn eglur: Coelia dy­stiolaeth y rhai a brofasant hynny yn­ddynt eu hunain, fel y gwnaeth y bren­hin Dafydd, a S. Paul, a S. Ioan Efan­gylwr; y rhai y dangosais i ti y ty­stiolaethau o'r blaen, allan o'i genau hwy eu hunain: Coelia lawer cant, a droir ynghred beunydd trwy râs Christ, o fyw yn annuwiol i wasanaethu Duw; y rhai sydd i gyd yn tystiolaethu ac yn dangos, ddarfod iddynt gael yn wir mwy nag a ddywedais i, nag a allwyf ei ddywedyd yn y matter yma.

31 Ac o herwydd y gelli di atteb a dywedyd, nad oes dim o'r cyfryw wyr lle 'r wyti, i ddangos i ti ddarfod i­ddynt hwy eu hunain brofi hynny; mi a allaf ddywedyd, ac yr wyf yn dywe­dyd i ti yn lle gwir, ar fy nghydwy­bed ger bron Duw; ddarfod i mi si­arad fy hun a llawer o'r cyfryw rai; a chymmeryd cyssur mawr wrth weled cadarn law Dduw, ac anfeidrol haelio­ni [Page 264] ei fwyneidd dra ef tu ac attynt yn y peth yma. Oh, frawd anwyl, ni all vn tafod ddatgan pa beth a welais i yn hyn o beth; ac etto ni welais i mo'r rhan leiaf o'r hyn yr oeddynt hwy yn cly­wed oddiwrtho. Ond hyn a allaf ei ddywedyd, am y rhai a wyddis eu bod yn gyfarwydd, ac yn chwarae mor dêg ac mor vnion ac y gall eraill ddad­lwytho eu cydwybodau iddynt, er mwyn cael cyssur neu gyngor ganddynt; mai rhan ydynt o'r rhai y mae 'r prophwyd yn dywedyd am danynt eu bod yn gwneuthur eu gor hwyl mewn dy­froedd mawrion, Ps. 107.23. ac yn gweled gweithred­oedd yr Arglwydd a'i ryseddodau yn y dysnder: sef yn nyfnder cydwybodau dynion y rhai y maent yn eu hadrodd gyd â lliaws o ddagrau, pan gyffyrddo Duw â hwynt â'i fendigedig râs. Coelia fi ddarllennydd rhywiogaidd, ca­nys yr wyf yn dywedyd y gwir ger bron ein harglwydd Iesu, mi a welais gyssur cymmaint ac mor rhagorol mewn lla­wer o bechaduriaid mawr yn ôl eu troi, ac nas gall calon ond prin ei amgyffred, ac nad oedd y calonnau a'i derbyniasent ond braidd yn gallu ei gynnwys [...] mor helaeth yr oedd y gwlith nefol yn diferu i lawr oddiwrth haelionus law Dduw. Ac fel na bo i ti dybied fod hyn yn ddiethr, rhaid i ti [Page 265] wybod fod etto goffa am vn gwr duwiol a elwid Ephrem, ddarfod iddo gael diddanwch mor rhyfeddol o faint yn ôl iddo droi at ddaioni, ac y cym­mhellid ef yn fynych i waeddi at Dduw; Oh Arglwydd, tro heibo dy law oddiwrthyf, am nad yw fy ngha­lon i yn abl i dderbyn llawenydd mor anfeidrol. Gofr. in vi [...] Bern. Ac y mae'r cyffelyb yn yn ysgriscnnedig am Sainct Bernard, ei fod ef dros ennyd o amser yn ôl iddo droi oddiwrth y byd, megys wedi ei ddifuddio o'i synhwyrau, gan faint y diddanwch a gawsai efe am Dduw.

32 Ond onis gall hyn oll dy annog di, ond mynnu o honot arhos yn dy anhyder, gwarando dystiolaeth vn, a wn i y gwnai dy goel arno, yn enwe­dig ac ynten yn dywedyd y peth a brofodd ynddo ei hun: hwnnw yw'r merthyr a'r athraw sanctaidd Sainct Cy­prian, Lib. Epist. 1. yr hwn wrth ysgrifennu at wr a garai, ac oedd o'i gyfrinach ef ac a elwid Donatus, sydd yn cyfaddef ei fod ef, cyn iddo droi, o'r vn meddwl ac yr wyt titheu; sef meddylio fod yn am­mhossibl iddo newidio ei fuchedd, a chael y fa [...]h gomffordd mewn buchedd ddu [...]iol ac a gafodd efe wedi hynny: ac [...] o'r blaen yn ymarfer â phob math ar ddrwg ywarweddiad. Ac am hynny y mae ef yn dechreu ei draethawd [Page 266] at ei gyfaill yn y modd hyn, Accip [...] quod sentitur ante quam discitur, Cym­mer y peth a glywir oddiwrtho, cyn y dysger; ac felly y mae'n myned rhag­ddo mewn hir draethawd, ac yn dan­gos ddarf [...]d iddo yr awrhon weled a phrofi 'r peth ni allai efe erioed ei gredu cyn iddo droi, er bod Duw we­di ei addaw iddo. Lib. 6. Con­fess. c. 1 [...]. Y cyffelyb y mae S. Awstin yn ei sgrifennu am dano ei hun, yn llyfrau ei gyffes, lle y mae yn dangos y mynnai ei w [...]niau ef er dim ac a fai, beri iddo goelio cyn iddo droi, na byddai efe byth abl i ddio­ddef peth mor galed ac mor dôst ac yw▪ buchedd dduwiol: yn enwedig am bechodau 'r cnawd, y buasai efe fyw yn drythyll nwyfus ynddynt hyd yr amser hwnnw, ni thybygid bod yn bossibl iddo byth eu gadael, a byw yn ddiwair: ac er hynny efe a g [...]fodd wybod wedi, fod y peth yn esmwyth, ac yn hyfryd, ac heb ddim caledi yn­ddo. Ac am hynny y mae efe yn tor­ri allan i'r. geiriau hyn, Fy Nuw, bid i mi gofio, a chyfaddef dy drugareddau di tu ac attaf; llawenyched fy esgyrn, a dywedant wrthyt, Oh Arglwydd, pwy sydd fel tydi? Psal. 35.10. Dattodaist fy rhwymau; ac mi a aberthaf i ti aberth moliant. Y rhwy­mau hyn oedd rwymau trachwant, Psa. 116.16 y rhai oedd yn ei rwymo ef mewn cae­thiwed [Page 267] cyn ei droi, fel y mae efe yn cyfaddef yno: ond yn y man ar ôl hynny efe a waredwyd oddi­wrthynt, trwy gymmorth sancteiddiaf râs Duw.

33 Fy nghyngor i gan gynny, ddar­llennydd hawddgar, gan fod i ti gyn­nifer o dystiolaethan▪ ac o esamplau, ac o resymmau, ac addewidion o'r peth▪ oedd fod i ti vnwaith o'r hyn lleiaf brofi ynot dy hun beth a wna hyn ai bod yn wir ai peidio: yn enwedig gan ei fod yn fatter o gymmaint o bwys, ac yn haeddu cystal gael gen­nyt ei brofi: hynny ydyw, am ei fod yn perthyn cyn nessed i'th Iechydwriaeth dragywyddol di. Pe deuai ddyn gwael attat, a chynnyg i ti er anturio vn goron aur; wneu­thur i ti fil o goronau trwy gelfyddyd Alchymi: pe rhôn a'th fod yn ammau nad yw efe ond coegwr a thwyllwr, etto gan fod gobaith o ynnill cymmaint, ac nad yw 'r antur ond colled cyn lleied, ti a fyddit debyg iawn i brofi 'r matter vn­waith, er a wnelai vn goron. Pa faint mwy y dylit ti brofi 'r matter yma, lle ni elli di golli dim wrth ei brofi; ond os ffynna gennyr, ti a elli ynnill cymmaint ac a dâl tragywy­dol lawenydd nef.

[Page 268]34 Ond etto yma ar y ffordd, ni allafi nas rhybuddiwyf di am vn peth y mae 'r hên dadau a Sainct Duw aeth o'th flaen di trwy'r afon yma sy'n terfynu rhwng gwasanaeth Duw a'r bŷd, yn ei ddywedyd ddarfod iddynt hwy ei brofi: hynny ydyw bod yn rhaid i ti cyn gynted ac yr amcenych roi dy fryd ar ymadael â'r bŷd a gwasanae­thu Duw, ddisgwyl am gyrchfáau, ac ymladdau, a rhyfel cyhoedd o'th fewn dy hun, Cypr. lib. 1. cap 1. Aug. lib. 1. doct. Christ. cap. 23. Greg. Mor. lib. 4. 24. li. 30. c. 18. Cyril. lib. de orat. Orig. ho. 3. in ex & leuit. 11. Ios. Hilar. in Psal. 118. Ecc. 2.1. fel y mae Sainct Cyprian, Sainct Awstin, S. Grigor, a S. Bernard, yn dy­wedyd ddarfod iddynt hwy ei gael ynddynt eu hunain. Hyn y mae Cy­ril ac Origen yn ei ddangos yn helaeth mewn amryw leoedd. Hyn y mae Sainct Hilar yn ei brofi drwy re­symmau ac esamplau. Hyn y mae 'r gŵr doeth yn dy rybuddio di am dano, ac yn ewyllysio i ti, Pan ddelych i wasa­naeth yr Arglwydd baratoi dy enaid i bro­fedigaeth. A'r rheswn o hynny ydyw, am fod y cythraul, tra oedd mewn heddy­chol feddiant o'th enaid ti o'r blaen, yn aros yn llonydd ac yn ceisio ym mhob modd dy foddloni di trwy osod gar dy fron di bob dyfyrrwch cnawdol a phob math ar hyfrydwch newydd ar ôl ei gilydd. Ond pan welo efe dy fod yn amcanu ymadael ag ef, ef a ddechreu yn y man ymgynddeiriogi, a chodi [Page 269] terfysg o'th fewn di, a therfysgu nef a daiar, cyn y collo ef ei deyrnas yn dy enaid ti. A hyn sydd amlwg wrth e­sampl yr hwn a waredodd Christ, Marc. 9▪ wrth ddyfod i wared o'r mynydd yn ol ei weddnewidiad, oddiwrth yspryd byddar mud. Oblegid er na chymm [...]rai'r cy­thraul arno na dywedyd na chlywed, tra oedd efe yn cael meddiannu'r corph hwnnw yn llonydd; etto pan orchym­mynnodd Christ iddo fyned allan, efe a glywodd ac a waeddodd hefyd, ac a rwygodd ac a ddrylliodd y dŷn truan hwnnw, fel y tybiodd pawb ar a oedd yn sefyll yno ei fod efe wedi marw yn siccr. A hyn a ddangoswyd twry ffigur yn histori Laban, Gen. 33. yr hwn ni flinodd ronyn ar ei fab yn y gyfraith Iacob, hyd oni chychwynnodd ymadael ag ef. Ac etto yn amly gcach yr hyspyswryd hyn yngwaith Pharao, yr hwn pan wybu efe vnwaith fod pobl Israel a'i brŷd ar yma­dael allan o'i deyrnas ef, ni pheidiodd efe â'i blino hwy yn dôst, fel y tystio­laetha Moesen, hyd oni waredodd Duw hwynt yn gwbl allan o'i ddwylo ef, a hynny t [...]wy gwymp a dinistr yr holl Aipht eu gelynion hwy. A'r ymwared hwnnw a ddyweid y tadau duwiol a Sainct yr Eglwys, ei fod yn ffigur am­lwg o warediad ein heneidiau ni allan o gaethiwed y cythraul.

[Page 270]35 Ac os mynni di gael esampl eglur o'r hyn oll a ddywedais i o'r blaen, mi a allwn ddwyn i ti lawer o esamplau; ond rhag bod yn rhyhir, d [...]gon fydd esampl troad Sainct Awstin yn vnig, fel y mae efe yn tystiolaethu ei nun yn llyfrau ei gyffes. Esampl ryfeddol ydyw, ac y mae 'n cynnwys llawer o byngciau godidog comfforddus. Ac yn siccr pwy bynnag a'i darllenno i gyd trwy­ddi, yn enwedig yn y chweched, a'r seithfed, Lib. 8. Con­fess. c. 1. & 2. a'r wythfed llyfr o'i gyffes ef; efe a gaiff ei gyffroi a'i addy­sgu yn fawr wrth hynny. Ac mi a attolygaf arnati ddallennydd sydd yn deall lladin, fwrw golwg o'r hyn llei­af ar rai pennodau o'r wythfed llyfr, lle y datgennir troad y Sanct yma, yn ôl aneirif o ymladdau. Rhyhir a fy­ddai ei adrodd yma, er ei fod yn gyfryw mewn gwirionedd ac na bai raid i neb fod yn flin gantho ei gly­wed. Yno y mae efe yn dangos pa drallod a blinder a gafodd efe yn yr ymdrech yma rhwng y cnawd a'r yspryd, rhwng Duw yn tynnu o'r naill du, a'r byd, a'r cnawd a'r cy­thraul yn dal or tu arall. Efe a aeth at Simplicianus hên wr dysgedig, a Christion dwyfol: efe aeth at Sainct Ambros esgob Milan: ac wedi iddo [Page 217] ymddiddan â hwynt, ef a gafodd mwy o flinder nag o'r blaen. Efe a ymgy [...]ghorodd a'i gyfeillion, Ne­bridius ac A [...]pius, ond nid oedd hynny i gyd yn e [...]mwythau dim ar­no: hyd oni ddaeth o'r diwedd ryw Gristion oedd wr llys a c [...]ap­ten, a elwid Pontition, a dywedyd i­ddo ef ac i Alip [...]us, ar ryw achly­sur, am suchedd dduwiol Sainct An­thoni, yr hwn ychydig o'r blaen a ymroesai i fyw yn neillduol ac yn vnig yn yr Aipht; fel y clywodd efe hefyd [...]od eraill yn gwneuthur, ië yn Milan, lle'r oedd efe yr am­ser hwnnw. Pan glywodd efe hynny efe a dynnodd o'r neilldu, ac a gafodd ymdrech tra ofnadwy ag ef ei hun: am yr hwn y mae efe yn ysgrifennu fel hyn, Cap. 7. Pa beth na's dywedais i yn fy erbyn fy hun vn yr ymdrech yma? Pa fodd y curais i, ac y ffrewyllais fy enaid fy hun, i beri iddo dy ganlyn di, O Ar­glwydd? Ond yr oedd fy enaid i yn tynnu vn ôl, ac yn gwrthod, ac yn ymesgusodi▪ a phan orchfygwyd ei holl resymmau ef, efe a grynodd ac a of­nodd, megis rhag angeu, rhan ei dynnu oddiwrth ei ddrwg arfer yn pechu. Ac wrth hynny ef a ymd reuliodd hyd angeu. Wedi hyn ef a aeth i'r ardd gyd ag Alipius ei gyfaill, ac yno efe a lefodd wrtho ef, Cap. 1. [Page 272] Quid hoc est? Cap. 1. Quid patimur? Surgunt indocti & Cœlum capiunt, & nos cum do­ctrinis nostris, sine corde, e [...]ce vbi voluta­mur in carne & sanguine. Pa beth yw hyn? Alipius, pa beth yr ydym ni yn ei ddioddef tan gaethiwed pechod? y mae gwŷr annysgedig (fel Anthoni ac e­raill; oblegid annysgedig oedd efe) yn cippio 'r nef trwy drais, a ninnau a'n holl ddysg gennym, heb galonnau, wele fel yr ydym ni yn ymdreiglo mewn cnawd a gwaed Ac yno y mae ef yn myned rhagddo, ac yn dangos y blinderau rhyfeddol anghredadwy a gafodd efe yn yr ymdrech yma 'r dw­thwn hwnnw. Wedi hyn efe a aeth allan i berllan, ac yno y cafodd efe etto ym­drech mwy. Oblegid yno yr oedd ei holl blesser a'i ddigrifwch bydol yn ymddangos yngŵydd ei lygaid ac yn dywedyd, Dimittesne nos, & à momento isto non erimus [...]ecum vlt à in [...]ternu [...], &c. Pa beth? a ymadewi di â nyni? Ac oni chawn ni fod gydâ thi byth mwy, o'r munyd yma allan? Oni bydd cy­fraithlon i ti wneuthur hyn neu'r llall byth yn ôl hyn? Ac yna medd Sainct Awstin, tro oddi wrth feddwl dy was feddylio am y peth y maent yn ei rol yn erbyn fy enaid: pa frynti, pa ddifyrrwch cywilyddus a osodent hwy ger bron fy llygaid i? O'r di­wedd [Page 273] y mae yn dywedyd, yn ôl ym­drech hir a maith, ddyfod arno dym­mestl ryfedd o wylo: a chan nas ga­llai ei wrthwynebu, efe a redodd y­maith oddiwrth Alipius, ac a'i bwriodd ei hun ar y ddaiar, tan ffigys-bren ac a adawodd i'vv lygaid vvylo eu hamcan, a hwythau yn y man a oll­yngafant lifeiriaint o ddagreu. Ac ychydig vvedi myned y rhai hynny heibio, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth Dduvv yn y modd hyn, Et tu Domine, vsquequò? quam diu, quamdiu, cr [...]s & cras? quare non modo? quare non hac hora fi [...]is est turpitudinis meæ? O Arglwydd, pa hyd y gadewi di i mi fod fel hyn? pa hyd, pa hyd y dyweddaf, Yforu, yforu? pa ham nâs gwnawn heddyvv? pa ham na bydd diben ar fy muchedd aflan i yr awr hon? Ac yn ôl hyn y can­lyn ei ryfeddol ymchweliad ef, ac ymchweliad Alipius ei gyfaill ef, yr hon. am ei fod ef ei hun vvedi ei gosod i lawr yn fyrr, mi a adroddaf ei eiriau ef ei hun; y rhai sy fel y canlyn yn y man ar ól y rhai o'r blaen.

36 Mi a ymddiddenais fel hyn â Duvv, ac a vvylais yn dra chwe­rvv, ynghyd â dwfn ofid calon; ac wele mi a glywn lêf▪ fel pet­tai [Page 274] lais bachgen neu eneth yn canu o ryw dŷ ger llaw, ac yn adrodd yn fynych Cymmer a darllein, Cymmer a darllein. Ac yn ebrwydd mi a mewidiais fy wynebpryd, ac a dde­chreuais feddwl yn dra difrif ynof fy hun, a fyddai blant arfer o ganu dim o'r fath beth, mewn chwarae yn y byd ar y by [...]dent yn ei wneuthur: ond nid yw'n dyfod yn fy nghof gl­wed dim o'r fath beth erioed. Am hynny mi a atteliais nerth fy nagrau, ac a godais i fynu, heb fedru dirnad dim amgen, nâ dyfod y llef honno o'r nef, i beri i mi egori 'r llyfr oedd gennyf gydâ mi, (yr hwn oedd Epi­stolau Sainct Paul) a darllein y ben­nod gyntaf a gyfarfyddai â mi. Oble­gid mi a glywswn o'r blaen am Sainct Anthoni, fel y rhybuddiasid ef i droi, wrth glywed darllain gwers o'r Efen­gyl, yr oeddid yn ei darllain, pan oedd efe, a [...] ryw achlysur yn dyfod i'r Eglwys; a'r wers honno oedd, Dôs, gwerth gwbl ac sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gai drysor yn y nef, a thyred a chanlyn fi. Yr ymadrodd yma a gymmerodd Sainct Anthoni, Mat. 19.21. megis pe y dywedasid wrtho ef ei hun yn neill­duol; ac yn y man efe a dróodd at­tati, ó Arglwydd. Am hynny mi a ae­thym finnau ar frŷs i'r man lle'r oedd [Page 275] Alipius yn eistedd, oblegid yno y gadawswn fy llyfr pan ymadaw [...]wn: mi a'i cippiais i fynnu ac a'i he­gorais, ac a ddarllennais yn gy­frinachol ddistaw y bennod gyntaf a ddaeth i'm golwg, ac yno yr oedd y geiriau hyn Nid mewn cy­feddath, a meddwded; Rh [...]f. 13.13 nid mewn cyd­orwedd, ac an [...]ladrwydd; nid m [...]wn cynn [...]n, a chynfigen: Ond gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Ghrist; ac na wnewch ragddarbod t [...]os y cn [...]wd, er mwyn cyflawni ei chw [...]n­tau ef Pellach na'r ymadrodd yma nis darllennwn, ac nid oedd raid i mi. Oblegid yn y man gydâ di­wedd yr ymadrodd hwnnw, fe ffo­awdd holl dywyllwch petrusder y­maith o'm calon, megis pe buasai Jewych diogelwch wedi ei dywallt ynddi. Ar hynny mi a roais fy mŷs, neu ryw nôd arall nid wyf yr awr­hon yn ei gofio, ar y lle a ddar­llennaswn, ac a geuais y llyfr, ac ag wynebpryd heddychol mi a a ddango­sais y cwbl i Alipius. Ac ynteu wrth hynny a fynegodd yr hyn a w [...]ith­i [...]sid ynddo ynteu, yr hyn nis gwyddwn i o'r blaen, ac a ddei­syfiodd gael gweled y peth a ddarllennaswn i; ac mi a'i dan­dangosais [Page 276] iddo. Efe a'i hystyriodd i gyd oll ac a aeth ym mhellach nag y darllennaswn i. Oblegid y mae'n canlyn yn Sainct Paul, (yr hyn nis gwyddwn i) Derbyniwch attoch yr hwn sydd wan yn ffydd. Yr hyn a fwriodd Alipius atto ei hun, Rhuf. 14 1. ac a agorodd ei holl betrusder i mi. Ond trwy y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, efe a siccrhawyd, ac a gyssylltwyd attafi yn fy amcan da, ond er hynny yn dawel, ac heb ddim cyngyd tra­llodus, fel yr oedd ei naturiaeth a'i foddion, yn yr hyn yr oedd efe yn rhagori arnafi, yn y rhan o­reu.

37 Yn ôl hyn ni a aethom at fy mam i, Monica oedd ei he­nw: gwraig dduwiol iawn ydoedd fel y mae efe yn dangos, lib. 9 cap. 9.11, 12, 13. ac a ddywedasom y peth iddi hitheu, a hi fu lawen ganthi: ni a'i mynegasom iddi mewn trefn, hithau a lawenychodd ac a orfoleddodd, ac a'th fendithiodd di ô Arglwydd (yr hwn wyt gadarnach a haelach, nag y medrwn ni na gofyn na deall) am ei bod yn gweled ddarfod i ti ganiattau i­ddi o'm plegid i, fwy nag y bydde i hi arfer o'i ofyn yn ei hocheneidi­au trymion tosturus. Oblegid ti a'm troesit i felly attat ti, fel na chei­siais i byth wraig, na dim gobaith arall yn y byd hwn: ond byw ac arhos yn y rheol ffydd honno, [Page 277] yn yr hon y datguddiaist fi iddi, cyn­nifer o flynyddoedd o'r blaen. Ac felly ti a droist ei thristwch hi yr awrhon, yn llawenydd helaethach nag a fedrai hi ei ddymuno, ac yn llawenydd cuach a diweiriach, nag a fedrai hi ei ofyn oddiwrth fy mhlant i a'm hwyrion pe buaswn i yn ceisio gwraig. O Ar­glwydd, yr wyfi yn wâs i ti, yr wyfi yr awrhon yn wâs i ti, ac yn fâb i'th wa­sanaethwraig, ti a ddattodaist fy rhwy­mau; a minnau a aberthaf i ti am hyn­ny aberth moliant. Molianned fynghal­on a'm tafod innau dydi, a dyweded fy esgyrn wrthyt; O Arglwydd, pwy sydd fel tydi? Dywedent hwy hynny, ô Arglwydd, ac atteb ditheu, mi a at­tolygaf i ti, a dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iechydwriaeth. Li. 9. ca. 1▪ Hyd hyn y mae geitiau S. Awstin.

38 Yn yr esampl ryfeddol hon am droad y gwr enwog yma, y mae am­ryw bethau i'w hystyried, i'n didd anu ni, ac i'n haddysgu hefyd. Yn gyntaf, y mae i ni ystyried yr ymdrech mawr a fu rhyngtho a'i elyn ysprydol, cyn gallu diangc allan o'i feddiant a'i lywo­draeth ef. A diammau fod yn fwy yr ymdrech hwnnw, am fod yn rhaid iddo ef wedi hynny fod yn golofn cymmaint yn Eglwys Dduw. Ac ni a welwn na chafodd Alipius cymmaint o wrthwyneb, [Page 278] am fod y gelyn yn gweled nad oedd ynddo ef ond llai o ddeunydd o lawer nag oedd yn Awstin, i niweidio ei deyr­nas ef. Yr hyn a ddylai roi comffordd mawr i'r rhai sy 'n clywed gwrthwyneb mawr, a phrofedigaethau cryfion yn erbyn eu galwedigaeth: a bod yn siccr ganddynt, fod hynny yn arwydd o râs a ffafor, os hwy a ânt rhagddynt yn wrol. Felly y galwyd S. Paul, fel yr ydym yn darllain, trwy nerth a gwrth­wyneb mawr, Act. 9. trwy ei daro i lawr i'r ddaiar, a'i wneuthur yn ddall cyn iddo droi; am ei fod ef yn llestr etholedig i ddwyn Enw Christ ac y Cenhed­loedd.

39 Yn ail y mae i'w ystyried, er bod yn y gwrhwn wy [...]iau cadarngryf o flaen ei ymchweliad, a hynny yn y clefydau mwyaf, ac anhawsaf eu hia­châu, ac sy fynychaf yn blino y rhai bydol; megis mewn chwant i orucha­fiaeth, cybydd-dod, a phechodau 'r cnawd, fel y mae efe ei hun yn cy­faddef o'r blaen: a'r clefydau hynny oedd mewn gwirionedd mor grŷf yn ei berchennogi ef, ac y tybiai efe yn am­mhossibl, Li. 6. ca. 6. & 16. cyn ei droi, allu eudarostwng a'i gorchfygu hwy byth: etto wedi hyn­ny efe a gafodd brofi 'r gwrthwyneb trwy help holl-alluog râs Duw. Yn drydydd hefyd y mae i ni ystyried, [Page 279] nid yn vnig iddo gael goruchafiaeth orchestol ar y gwyniac hyn, ond cael o hono hefyd fawr hyfrydwch yn ffordd buchedd dduwiol. Oblegid, y­chydig yn ôl iddo droi, y mae efe yn scrifennu fel hyn. Ni chawn i byth ddigon, ô Arglwydd, yn y dy­ddiau hynny, Li. 9. ca. 6. o'r rhyfeddol hyfrydwch a roddaist i mi; pa faint a wylais i yn dy hymnau a'th geneuau di, ac mor grŷf i'm cyffroid gan leisiau dy Eglwys di yn canu 'n beraidd hyfryd? Y llei­siau hynny a redent i'm clustiau, a'th wirionedd a doddodd i mewn i'm cal­on, ac oddiyno y berwodd allan naws duwioldeb, ac a barodd i ddagrau redeg oddiwrthyf, ac yr oeddwn mewn cyflwr tra happus ganddynt.

40 Yn bedwerydd y mae i'w ystyried er mwyn ein haddysgu ni a pheri i ni ei ganlyn, beth oedd ymarweddiad y gwr hwn ynghylch ei alwedigaeth: yn gyntaf drwy ei chwilio a'i phrofi, wrth gyr­chu at Sainct Ambros, a Simplicia [...]us ac eraill; drwy ddarllein gair Duw, ac arfer o gwmpeini da, a'r cyff [...]lyb: yr hyn a ddylyt titheu, ddarllennydd mwynlan, ei wneuthur, pan glyw­ech dy gyffroi o'r tu mewn: ac nid gorwedd yn farw, fel y gwna llawer, drwy wrthwynebu yr yspryd glân yn [Page 280] amlwg, a phob ysprydoliaethau da; ac heb roi clûst cymmaint ac vnwaith i Grist yn curo wrth ddrws eu cydwy­bodau. Heb law hyn, ni wrthododd S. Awstin, fel y gwelwn ni, mo'r moddi­on i adnabod ei alwedigaeth, [...]tc. 3. ond gwe­ddio, ac wylo, a mynych ymnaillduo ac ymddidoli ar ei ben ei hun oddiwrth gwmpeini, i ymddiddan â Duw yn y matter hwnnw. Yr hyn nis gwna lla­wer o honom ni byth: ond yn hytrach ffieiddo a gochel pob moddion a allai yn dwyn ni i feddwl am droi at Dduw. Yn ddiweddaf, Li. 9. ca. 2. S. Awstin, wedi iddo vn­waith weled beth oedd ewyllys Duw yn oleu, nid oedodd mo 'r peth ddim hwy; ond torri ymaith yn nerthol o­ddiwrth yr holl fyd a'i orwagedd; a rhoi i fynu ddarllain a dysgu Areithy­ddiaeth ym Milan; ac ymadael â phob gobaith o gael goruchafiaeth yn y llŷs, ac ymroi i wasanaethu Duw yn gwbl: ac am hynny nid rhyfedd gael o hono ef cymmaint diddanwch a chodiad gan Dduw yn ôl hynny, a chael bod yn aelod mor wiw yn ei Eglwys ef. A'r esampl yma a ddylai bawb ei chanlyn, ac y sydd yn chwennych cadw cydwybod dda, cyn belled ac y goddefo cyflwr a buchedd pob dŷn.

41 Ac yma ar hyn o achlysur, ni alla­fi beidio a'th rybuddio di, ddarllenn­ydd [Page 281] hynaws, a'th ragrybuddio di trwy [...]sampl S. Awstin, y bydd rhaid i bawb [...]c a fo yn meddwl rhoi ei fryd ar wa­sanaethu Duw yn gwbl, wneuthur hyn­ny megis trwy gymmell yn y dechreu­ [...]d. Oblegid fel y mae yn hawdd di­ffodd tân os rhuthrwch arno trwy nerth, ond os cymmerwch ef yn araf ac yn esmwyth, a rhoi vnllaw arno ar ôl y llall, chwi a ellwch yn hytrach wneu­thur niweid i chwi eich hun nâ diffodd y tân: felly am ein gwyniau ninnau, y rhai sy 'n gofyn gwroldeb a chalon­did yn y dechreuad, y rhai pwy byn­nag a'i harfero, ynghyd â'r moddion eraill sydd yn perthyn i hynny, yn dra diau efe a gaiff weled fod yn esmwyth y peth y mae efe yr awrhon yn tybied ei fod yn drwm; a bod yn dra hyfryd y peth y mae efe yr awrhon yn ei gy­fri 'n ddiflas. Er mwyn profi hynny, a diweddu 'r pennod yma hefyd, In verba Euang. ecce nos reliq. omnia, &c. mi a adroddaf draethawd byrr allan o Ber­nard, yr hwn yn ôl ei arfer, sydd yn profi 'r peth yn gymmwys allan o'r Scrythurau▪ Y mae Christ yn dywedyd wrthym, Cymmerwch fy iau i arnoch, Matt. 11.29. a chwi a gewch orphywysdra. Dyma ne­wyddion rhyfeddol, ond y mae 'n dy­fod oddiwrth yr hwn sydd yn gwneu­thur pob peth yn newydd: Bod y neb sy 'n cymmeryd yr iau arno, yn cael [Page 282] [...] [Page 283] [...] [Page 282] esmwythdra; a'r neb sydd yn gadael y cwbl, yn cael y can cymmaint. Efe a wyddai hynny (sef y gwr oedd wrth fodd calon Duw) yr hwn a ddywedodd yn y Psalm, Psal. 94. [...]0. Felly y mae yn y lladin. A lŷn gorseddfain [...]c anwiredd wrthyt ti ô Arglwydd, yr hwn wyt yn cymmeryd arn [...]t fod poen yn dy orchym­mynion di ▪ Ond poen yw hon a gym­merai vn arno ei bod mewn gorchym­myn, frawd anwyl? sef baich ysgafn, ac iau esmwyth, a chroes wedi ei hen­neinio▪ Gen. 22.2. Felly yn yr hên amser y dywe­dodd efe wrth Abraham, Cymmer dy fab Isaac, yr hwn a hoffaist, ac offrymma ef i mi yn boeth offrwm. Dyma boen a dybid ei bod mewn gorchymmyn: o­blegid er darfod offrymmu Isaac, nid ei lâdd ef ond ei sancteiddio a wnaed wrth hynny. Titheu gan hynny, os clywi lef Duw o fewn dy galon yn ewyllysio i ti offrymmu Isaac, yr hyn a arwyddoccáa llawenydd, neu chwer­th [...]n; ofna vfyddhau iddi yn ffyddlon ac yn ddianwadal: a pha beth bynnag a dybio dy ewyllys llygredig di o'r peth, bydd di ddiogel: Nid Isaac, ond ond yr hwrdd a fydd marw yn yr a­chos: nid dy lawenydd di a dderfydd am dano, ond dy gyndynrwydd yn v­nig, yr hwn y mae ei gyrn ynglŷn mewn drain, ac ni [...] gall fod yno [...]i heb pigiadau cyfyng betrusder. Nid yw dy [Page 283] Arglwydd ond dy brofi di, fel y pro­fodd efe Abraham, i ed [...]ych beth a wnei di. Isaac, (hynny ydyw, dy lawen­ydd di yn y byd hwn) ni bydd marw ddim, fel yr wyti yn tybied, ond byw sydd: yn vnig mae 'n rhaid ei godi fo ifynu ar y cocd, er mwyn cael o'th lawenydd di fod yn vchel, ac er mwyn cael o honot ti ogoneddu, nid yn dy gnawd dy hun, ond yn vnig ynghroes dy Arglwydd, trwy 'r hwnhefyd i'th groes­hoeliwyd titheu; i'th groes-hoeliwyd me­ddaf, ond i'r byd ith groes-hoeliwd; obl [...]gid i Dduw yr wyti yn fyw etto, a hynny yn hytrach nag yr oeddit o'r blaen.

PEN. II. Am yr ail rhwystr, yr hwn yw erlid, a blinder, a thrallod, gan y rhai y cedwir llawer oddiwrth wasanaeth Duw.

LLAwer sydd yn y byd, y rhai naill ai wrth ystyried y pethau hyn a ddy­wetpwyd o'r blaen, ai am eu bod yn gweled rhai gwŷr yn byw mor llawen a hwythau, sydd foddlon i ganhiadu hyn, eu bod hwy mewn gwirionedd yn cyfrif bod buchedd dduwiol yn ddigon hyfryd, i'r rhai sy vnwaith wedi myned i mewn id [...]i, ac y clywent hwythau arnynt fod yn fodlon mewn gwirionedd i'w chan­lyn hi, pe gall [...]nt wneuthur hynny [Page 284] trwy lonyddwch a heddwch o bob parth▪ Ond os gofynnir hynny ganddynt ar y cyfryw amser a'r cyfryw le, ac yn y cyfryw drefn a dull, a modd, ac y gor­phai arnynt ddioddef trallod, a chy­studd, ac erlid o'r achos; y maent hwy yn tybied fod hynny yn beth an­rhesymmol ei ofyn ganddynt, a bod yn ddigon da eu hesgus hwy ger bron Duw a dyn, er iddynt ei wrthod. Ond nid yw ddim gwell yr esgus yma nâ 'r hwn o'r blaen, am yr anhawsder a dybiant ei fod yn gwasanaethu Duw: am fod yr esgus yma yn sefyll ar sail anghywir, ac ar reswm anghysiawn a osodir ar y sail honno. Y sail yw hyn, y gall dyn fyw yn dduwiol, a gwasanaethu Duw yn gywir mewn pob math ar esmwyth­der bydol, ac heb ddim cystudd, na thrallod, nac erlid: a hynny nid yw wir. Oblegid, er bod gwrthwyneb oddi allan, ar erlid yn fwy ryw amser nâ'i gilydd, ac yn fwy yn rhyw fan na'i gilydd; etto ni all bod na lle nac am­er, heb beth gwrthwyneb, oddifewn ac oddiallan hefyd. Y rhai er eu bod, fel y dywedais o'r blaen, heb fod yn drymion nac yn anhyfryd gan y duw­iol, o achos bod Duw yn danfon am­ryw gymmorth a diddanwch iddynt, ynghyfer y gwrthwyneb hwnnw: etto ynddynt eu hunain y maent yn fawr ac [Page 285] yn drymion hefyd, fel y caid gweled [...]e cwympai 'r cyffelyb ar yr annuwiol a'r annioddefgar. Yn ail, y mae y rhe­swm a osodir ar y sail honno, yn anghy­fiawn. am ei fod yn dywedyd fod tra­llod yn ddigon o reswm iddynt i wrthod gwasanaethu Duw, a Duw wedi ordei­nio trallod megis modd i dynnu dyni­on i'w wasanaethu ef. Er mwyn hys­pyssu hynny yn well, ac ynteu yn fat­ter o gymmaint pwys, mi a draethaf yn y bennod yma 'r pedwar pwngc hyn. Yn gyntaf, pa vn a wna ai bod yn gy­ffredin, gorfod ar bawb a fo cadwe­dig, ddioddef rhyw fath ar erlid, a thrallod, a chystudd ai nas gorffo. Yn ail, beth yw 'r achosion pa ham y de­wisodd ac yr appwyntiodd Duw, ac yn­teu yn ein caru ni fel y mae, wneuthur â ni felly yma yn y byd hwn. Yn dry­dydd, pa resymmau pennaf o ddiddan­wch sydd i [...]dyn i'w cael mewn trallod. Yn bedweryd [...], pa beth a ofynnir gan­ddo ef yn y cyflwr hwnnw. Ac wodi darfod yspyssu 'r pedwar pwngc yma, nid wyf yn ammau na cheir gweled go­leuni mawr yn y matter yma, yr hwn yn nhŷ cig a gwaed sydd mor llawn o dywyllwch ac anghyffelvorwydd.

A [...] am y cyntaf nid rhaid fawr brofed [...]gaeth, am fod Christ ei hun yn pywedyd wrth ei ddisgyblon, a thrwy­ddynt [Page 286] hwy wrth bawb eraill o'i weision, In mundo pressuram habebitis, Yn y bŷd y cewch orthrymder: Io. 16. Ac mewn lle arall, Yn eich ymmynedd y meddiennwch eich eneidiau. Luc 21.19 Hynny ydyw, trwy ddioddef yn ymmyneddus mewn gwrthwyneb: yr hyn y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn eglurach, pan yw yn dywedyd, Pawb ar sy 'n ewyllysio byw yn dduwiol ynghrist Iesu, a erlidir. Ac os erlidir pawb, ni ddiangc neb. 2 Tim. 3.12 Ac i ddangos etto ym mhellach mor angenrheidiol ydyw hyn­ny, y mae Paul a Barnabas hefyd yn rhoi athrawiaeth, fel y mae S. Luc yn nynegi, Mai trwy lawer o orthrymde­rau y mae 'n rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw: gan arfer y gair Opartet, Act. 14.22. yr hwn sydd yn arwyddoccâu bod yn ddir ar yn ang­enrhaid i ni hynny. Ac y mae Christ ei hun etto ym mhellach yn datcuddio 'r dirgelwch yma, pan yw yn dywedyd wrth S Ioan yr Efangylwr, Ei fod efe yn ceryddu y s [...]wl y mae 'n eu caru. Datc. 3.19. A'r geiriau hynny y mae 'r Apostol megis yn eu hesponi at yr Hebræaid, ac yn dywedyd, Heb. 1 [...].5. Y mae efe yn ffl [...]ng­ellu pob mab a dderbynio. Ac y mae 'r Apostol yn canlyn y matter hwn­nw cy mhelled yn y fan honno, ac y mae yn dywedyd yn eglur, Mai bastardiaid ydynt hwy i gyd, ac nid meibion i Dduw, y rhai nid yw [Page 287] [...]fe yn eu cystuddio yn y byd hwn. Gwers. 8. Yr vn rheswm y mae Sainct Paul yn ei ddal, at Timotheus, Si susti­ [...]emus, & conregnabimus, Os dioddefwn gydâ Christ, ni a deyrnaswn gydag ef. Ac â hynny y cyttuna Dafydd dduwiol, pan yw yn dywedyd, Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn. 2 Tim. 2.12 Psal. 34.19

3 Yr vn peth a ellid ei brofi drwy lawer o foddion eraill, megis drwy 'r hyn a ddyweid Christ, Na ddaeth efe i ddanfon tangnefedd ar y ddaiar, ond cleddyf. Ac wrth yr hyn a ddyweid Sainct Paul hefyd, Na choronir neb, Matt. 10.34. onid ymarech yn gy­freithlon. Ond pa fodd y gallwn ni ymladd, oni bydd i ni elyn i'n gwrthwynebu? Yr vn peth y mae Christ yn ei arwyddoccâu yn llyfr y Datguddiadd, pan yw yn adrodd mor fynych, mai 'r hwn a orchfy­ga yn vnig pieu cael y nef. 2 Tim. 2.5. Yr vn peth a arwyddocceir wrth y llong yr aeth Christ a'i ddisgyblon i mewn iddi; Pen. [...]. & 3 yr hon a deflid ac a dreiglid fel pe buasai ar foddi; Mat. 8. y llong hon meddaf, fel yr eedd yr hên dadau yn ei dirnad, oedd ffigur [...]c arwydd o'r trallodau, a'r blinderau, a gai bawb eu dioddef, ar y sydd yn rhwyfo yn yr vn llong [Page 288] gydâ Christ ein Iachawdr. Yr vn peth hefyd a brofir, wrth fod yn galw by­wyd dyn yn filwriaeth ar y ddaiar: Iob. 7. ac wrth ei fod wedi ei appwyntio i lafu­rio ac i drafaelio, Iob 5. tra fyddo yma: ac wrth fod ei fywyd yn llawn o bob go­fid a thrueni: Iob. 13. a hynny trwy ordinhâad Duw, yn ôl cwymp dŷn. Yr vn peth hefyd a ddangosir wrth ddarfod i Dduw appwyntio bod i bob dŷn drei­ddio trwy boenau angeu, cyn iddo ddyfod i'r llawenydd: a hefyd wrth yr aneirif o wrthwyneb a thrallod oddi­fewn ac oddiallan, a adawyd i ddynyn y bywyd hwn: megis, o'r tu mewn y mae gwrthryfeloedd a gwrthrin tra­chwant, a gofidiau eraill ei feddwl ef, y rhai y mae 'n rhaid iddo beunydd ry­fela â hwynt, os myn fod ei enaid yn gadwedrg. O'r tu allan iddo y mae 'r byd, a'r cythraul, y rhai nid ydynt yn peidio vn amser â gosod arno ef, weithiau trwy dêg, weithiau trwy hagr; weithiau trwy druthio, weithiau trwy fygwth; weithiau trwy ei ddenu â me­lyschwant, ac â goruchafiaeth; wei [...]hiau trwy ei ddychrynu a blinder, ac ag er­lid: a'rrhai'ny i gyd sy raid i'r Christi­on da eu gwrthwynebu yn wrol, ac onid ê efe a gyll goron ei Iachawdw­riaeth dragywyddol.

4 Yr vn peth hefyd a ellir ei dd [...]n­gos [Page 289] trwy esamplau yr holl Sainct en­wog, er y dechreuad, y rhai nid yn vnig a osodid arnynt oddifewn beu­nydd gan wrthryfeloedd eu cnawd eu hun, ond hefyd a erlidid ac a gystu­ddid oddiallan; Gen. 4 [...] a hynny i siccrhau yr arfaeth yma eiddo Duw, yn amlyccach. Fel y gwelwn ni Abel, a gafodd ei er­lid a'i lâdd gan ei frawd ei hun, er cynted y dechreuodd efe wasanaethu Duw: ac Abraham, yr hwn a gafodd amryw flinderau wedi darfod i Dduw ei ddewis ef: Gen. 22. ac yn fwyaf o gwbl trwy beri iddo ymroi i lâdd ei anwyl a'i vnig blentyn ei hun. Iudith 8. Mat. 5. & 23. O'r vn cwp­pan yr yfodd ei holl blant ef a'i hili­ogaeth a ddaeth ar ei ôl ef yn ffafor Duw; megis Isaac, Iacob, Ioseph, Moy­sen, a'r holl brophwydi: Luc. 13. am y rhai y mae Christ ei hun yn rhoi tystiolaeth, fel y tywalltwyd eu gwaed hwynt yn dra chreulon gan y byd Cystudd Iob hefyd sy ryfeddol, gan fod yr Scrythur lân yn dywedyd ei ddyfod arno trwy yspysol ordinháad Duw, ac ynteu yn wr o'r fath gyfiawnaf. Iob. 1. Ond etto rhy­feddach oedd gystudd Tobias dduwiol, yr hwn ym mysg gofidiau eraill, a wnaed yn ddall trwy gwympo o dom gwenholiaid neu adar y to yn ei ly­gaid ef: am yr hyn y dywedodd yr Angel Rhap [...]ael wrtho n ôl hynny, Tob. 2. [Page 290] Am dy fod di yn wr cymmeradwy gan Dduw, anghenrhaid oedd, bod i'r tenta­siwn yma dy brofi oi. Tob. 1 [...].13. Ond nid y dyw 'r gei­riau hyn y Groeg. Gwelwch mor ang­enrheidiol yw blinderau i wyr da. Mi a allwn roi at hyn esampl Dafydd ac eraill; oni bai fod yr Apostol yn rhoi tystiolaeth gyffredinol am yr holl Sainct, gan ddywedyd, ddarfod dirdynnu rhai, Heb. 11.35. enllibio rhai, a fflang­ellu rhai, a rhwymo r [...]ai, a char­charu rhai, a llabyddio rhai, a thor­ri rhai â llifiau, a themptio rhai, a lladd rhai â'r cleddyf▪ a bod rhai yn crwydro mewn crwyn defaid a chrwyn geifr, yn ddiddim, yn gy­studdiol, yn ddrwg eu cyflwr, yn crwydro ac yn ymguddio mewn a­nialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogfeydd y ddaiar, gan nad oedd y byd deilwng o honynt. Ac am y rhei'ni i gyd y mae yn datcan y wers gomfforddus hon, a ddylei bawb ei hystyried, sef eu bod heb dderbyn ymwared, fel y gallent gael adgyfodiad gwell: Hynny yw, na fynnai Dduw eu gwared hwy oddi­wrth y cystuddiau hynny yn y by­wyd yma, fel y byddai eu hadgy­fodiad hwy a'i gwobr yn y bywyd a ddaw yn ogoneddusach. A hynny am Sainct yr hên Destament-

5 Ond weithian yn y Testament ne­wydd, [Page 291] a seiliwyd yn eglur ar y groes, y mae 'r peth yn oleuach o lawer, Luc. 24. a hynny trwy reswm da. Oblegid oni allai Grist fyned i mewn i'w ogoni­ant, ond trwy ddioddef, fel y dywaid yr Scrythur; gan hynny wrth resymo­laf reol Christ, yn dywedyd, nad yw braint y gwas vwch law ei feistr; Mat. 10. Luc. 6. Marc. 10. y mae 'n ddir y canlyn, bod yn rhaid i bawb yf [...]d o gwppan Christ, a'r sydd wedi eu hordeinio i fod yn gyfran­nogion o'i ogoniant ef. Ac i. brofi hyn edrychwch ar y caredigion anwy­laf a fu gan Grist erioed yn y bywyd hwn, a gwelwch pa vn a wnaethant a'i cael rhan o honaw, ai nad do. Am ei fam ef y prophwydodd Simeon ac y dyw dodd iddi yn y dechreuad, yr ai cleddyf cystudd trwy ei chalon hi: gan a wyddoccáu wrth hynny y dygn gystuddiau a gafodd hi wedi hynny wrth farw ei mab, Luc. 2▪ a'r gofidiau eraill a ddaeth yn aml arni▪ Am yr Aposto­lion y mae 'n amlwg, heb law eu holl lafuriau, a'i trafaelion, a'i hanghenion, a'i dioddefaint, a'i her­lidiau, a'i haflwydd, 1 Cor. 4. 2 Cor. 4. & 6 & 11. & 12. Act. 20. Rhuf. 1. Ioan. 21 y rhai oedd aneirif, ac yngolwg dyn yn anoddef (os coeliwn ni Sainct Paul sydd yn eu cyfrif) heb law hyn i gyd, meddaf, ni byddai ddigon gan Dduw oni chai efe eu gwaed hwy hefyd: ac felly [Page 292] y gwelwn na adawodd efe i'r vn o ho­nynt farw wrth naturiaeth, ond Sainct Ioan yn vnig: Datc. 1. ac etto, os ystyriwn ni beth a ddioddefodd Sainct Ioan ynteu yn ei hir fywyd, iddo gael ei ddeol allan o'i wlâd gan Domitian i yrys Pathmos; ac amser arall gael ei fwrw mewn tunnell o olew poeth berwedig yn Rhufain, fel y mae [...]ertullian a Sainct Ierom yn mynegi; Tert. de praesc. haeret. Hieron. con. Iouinian. ni a gawn weled nad oedd dim llai ei ran ef o gwppan ei feistr nag oedd ran eraill. Mi a al wn yma gyftif aneirif o esamplau eraill, ond nid rhaid. Oblegid digon yw ddar­fod i Grist roi y rheol gyffredin yma yn y Testament newydd. Yr hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, Mat. 10.38 nid yw dei [...]wng o honof fi Wrth yr hyn y pennir yn oleu, nad oes i neb weithian gael iachawdwriaeth, ond i'r rhai a gymmeront eu croesau eu hunain (hynny ydyw, nis dygont eu croesau yn ewyllysgar) a chanlyn eu capten sydd yn cerdded o'i blaen hwynt a'i groes ar ei y [...]gwyddau.

6 Ond yma y gall rhai ddywedyd, Os felly y mae 'r peth na ddichon neb fod yn gadwedig heb groes, hynny y­dyw, heb flinder a thrallod; beth am y rhai sy 'n byw m [...]wn amseroedd a lle­oedd heddychol, lle nid oes nac erlid, na thrallod, na chystudd, na blinder? [Page 293] I hynny yr attebaf, yn gyntaf pe rhón a bod y cyfryw amser a lle a hynny▪ y byddai 'r gwyr a fai 'n byw yn y lle a'r amser hwnnw, Psa. 73.5. mewn perygl mawr, yn ól yr hyn a ddywedodd y Prophwyd, Nid ydynt mewn blinder fel dyn on eraill, ac ni dd [...]aledd [...]r arnynt hwy gyd â dynion eraill. Am hynny y cadwynnod bal [...]hder hwynt, Felly y mae 'r lladin. ac y gwisg traw [...]der am danynt fel dilledyn. A'i hanwired sydd yn dyfod oddiwrth eu brasder, neu eu hamlder. Yn ail yr atte­baf, nad oes nac amser na lle heb drallod ynddo, lle nid oes groes i'w chael bob amser i'r rhai a'i cym­mero hi i fynu. Oblegid naill ai mae tlodi, ai clefyd, ai enllib, ai gely­niaeth, ai cam, ai gwrthwyneb, neu ryw fath flinder yn ymgynnyg bob amser, oblegid na bydd byth eisiau 'r gwŷr hynny yn y byd, am y rhai y dyweid y prophwyd, Y rhai a dalant ddrwg dros da a'm gwrthwynebant, am fy mod yn dilyn daioni. O'r hyn lleiaf, Psa. 38.20. ni bydd byth eisiau gelyn­ion cartrefol, am y rh [...]i y mae Christ yn sôn; Mat. 7. sef naill ai ein ce­raint ai ein caredigion cnawdol, y rhai sy fynychaf yn e [...]n gwrthwyne­bu ni, os dechreuwn ni wasanae­thu Duw o ddifrif; ai ein gwyniau anllywodraethus ein hunain, y rhai [Page 294] yw 'r gelynion perycclaf o gwbl, am eu bod yn peri i ni ryfela ar ein tir ein hun. Drachefn, ni bydd byth eisiau tentasiwnau 'r byd a r cy­thraul, y rhai sy lawer anhaw eu gwrthwynebu yn amser heddwch a hawddfyd, nag yn amser cystudd ac erlid oddiallan: am fod y gely­nion hynny yn gadarnach o drûth a gweniaith, nag o nerth: yr hyn y mae tâd duwiol yn ei hyspyssu wrth y ddammeg hon; Yr haul a'r gwynt ryw ddiwrnod, medd efe, a gyt­tunasant ar brofi bob vn ei n [...]rth, wrth ddwyn ei gochl oddiar vn oedd ar ei daith. Ac o flaen hanner dydd, y gwynt a ymegniodd gryfa' ac all­odd i geisio chwythu 'r gochl oddiam dano ef: ond po mwyaf y 'chwythai 'r gwynt, tynnaf y daliai 'r siwrneiwr ei gochl, ac y tynnai hi yn gynnhwysach yn ei gylch▪ A phrydnawn yr haul a ddan­fonodd allan ei belydr hyfryd, ac o fesur ychydig ac ychydig a aeth i mewn i'r dŷn yma, hyd oni wnaeth iddo ddiosg nid ei gochl yn vnig, ond ei bais hefyd. Wrth yr hyn y deellir, medd y tâd hwnnw, fod hudoliaeth difyrrwch a melyf­chwant yn grysach ac yn anhaws eu gwrthwynebu, nâ chryfder erlid. Y cyffelyb a ddangosir wrth esampl [Page 295] Dafydd, yr hwn a wrthwynebodd yn hawdd lawer o gyrchfáau ad­fyd, 2 Sam. 1 [...]. ac etto a syrthiodd yn enbyd iawn yn amser hawdd-fyd. Wrth yr hyn y gellir gweled nad oes i'r duwi­ol ddim llai rhyfel yn amser he­ddwch, nag yn amser erlid: ac na phalla byth achlysur i ddwyn y gro­es, ac i ddioddef blinder, i'r neb a'u c [...]mmero. A hyn a wasanaetha am ypwngc yma, i brofi y bydd rhaid i bob dŷn fyned i mewn i'r nef trwy orthrymderau, fel y dywaid Sainct Paul.

7 Am yr ail, pa ham y mynnaī Dduw fod y peth fel hyn, digon fyddai atteb, mai felly y rhyngodd bodd iddo, heb geifio rheswm pellach o'i feddwl ef yn hyn o beth: fel y rhyng­odd bodd iddo, heb reswm yn y byd yn ein golwg ni, wneuthur mor wael o'i fa [...] a'i ddanfon ef yma i'r byd hwn, i ddioddef ac i farw dro­som ni. Neu os byddai raid i ni ga­el rheswm am hynny, digon fyddai yr vn rheswm yma tros y cwbl: gan em bod ni yn disgwyl am ogoniant cymmaint, y dylem gymmeryd peth poen yn gyntaf am dano, ac felly cael ein gwneuthur yn syrn deilwng o ffafor Duw, ac o'n goruchasiaeth. Ond [Page 296] etto gan ryngu bodd i'w dduwiol fawredd ef, nid yn vnig agoryd i ni ei ewyllys a'i amcan, ar fod yn rhaid i ni ddioddef yn y byd hwn: ond dan­gos i ni hefyd amryw resymmau o'i sancteiddiaf ewyllys a'i fodd yn y peth, er mwyn ychwaneg o galondid a chys­sur i ni sydd yn d [...]oddef: mi a ad­roddaf yma rai o honynt, er mwyn dangos ei fawr anfeidrol gariad ef tu ac attom ni, a'i dadol ofal trosom ni.

8 Yr achos cyntaf gan hynny, a'r pennaf ydyw, er mwyn chwanegu ein gogoniant ni yn y byd a ddaw. O­blegid, gan ddarfod iddo drwy ei dra­gwyddol ddoethineb a'i gyfiawnder or­deinio, 2 Tim. 2. Datc. 2. na chaiff neb ei goroni yno, ond y rhai a oddefo ymdrech (mewn rhyw fesur da) yn y byd hwn: a pho amlaf a mwyaf fyddo 'r ymdrech a ro­ddo efe (ynghyd â digonol râs i'w orch­fygu) mwyaf fydd y goron gogoniant y mae efe yn ei pharottoi i ni yn ein hadgyfodiad. Heb. 11. A'r achos yma y crybwyll yr Apostol am dano yn y geiriau a adroddwyd am Sainct yr hên Destament; sef yw hynny, nad ydynt hwy yn der­byn ymwared oddiwrth eu gofidiau yn y byd yma, fel y gallant gael adgyfodiad gwell yn y byd a ddaw. A hyn he­fyd yr oedd Christ yn ei feddwl yn [Page 297] eglur, pan ddywedodd efe, Mat. 5.10. Gwyn eu byd y rhai a erlidir, canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich byd pan ddy­wedo dynion ddrygair am danoch, a'ch erlid, &c. Byddwch lawen a hyfryd, ca­nys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd. Ac at hyn y perthyn yr holl addewi­dion yma, Mat 10. & 19. am ynnill bywyd trwy golli hywyd, am gael derbyn cant am vn, a'r cyffelyb. Ac o hynny y daw yr holl addewidion helaeth a wneir ī farwháad a newydd-deb buchedd. Yn y ddeubeth hynny y mae ymdrech mawr yn erbyn y cnawd, a'r byd, a'n gwy­niau ein hunain, ac nis gellir eu dwyn i ben ond trwy ddioddefaint a chystudd. Yn ddiweddaf, y mae Sainct Paul yn datgan y peth yma yn gwbl gyflawn, pan yw yn dywedyd, fod ein byrr ysgafn gystudd ni yn odidog ra­gorol yn gweithredu tragywyddol bwys gogoniant i ni yn vchder nef. 2 Co. 4.17▪

9 Yr ail achos pa ham yr ordei­niodd Duw hyn oedd i 'n tynnu ni oddiwrth garu 'r byd, ei elyn ef; fel y dangosir yn helaeth yn y ben­nod nessaf. Matth. 59 1 Cor. 11.3 Yr achos yma y mae Sainct Paul yn ei adrodd yn y geinau hyn; Pan i'n bernir, i'n cerydair gan yr Ar­glwydd, fel na 'n damner gydâ 'r byd. Wrth hynny, fel y bydd mammaeth, er mwyn diddyfnu ei phlentyn oddi­wrth [Page 298] garu ei llaeth, yn iro ei bron­nau ag Aloe [...], neu â rhyw bethau chwer­won eraill; felly y mae ein tâd truga­rog ninnau, am ei fod yn ewyllysio ein d ddyfnu ni oddiwrth ddifyrywch y byd (trwy 'r hwn y mae aneirif o wyr yn mynd beunydd i golledigaeth) yn arfer o ddanfon cystudd: yr hwn yn anad dim arall sydd fwyaf ei rym i wneuthur hynny: fel y gwe­lwn ni yn esampl y mab afradlon, yr hwn nid oedd dim abl i'w ddiddyfnu oddiwrth ei ddifyrwch, Luc. 15. ond cystudd yn vnig.

10 Yn drydydd, y mae Duw yn atfer cystudd megis meddyginiaeth o'r oreu ac o'r bennaf, i'n hiacháu ni oddiwrth lawer o glefydau, y rhai oni bai hynny sydd agos yn anaele. Megis yn gyntaf, oddiwrth ryw ddallineb, a diofal esgeu­lus [...]ra yn ein cyflwr, yr hyn yr ydym yn ei fagu oddiwrth hawddfyd a llwyddi­ant. Eccles. 28. Dibar. 29. Tob. 12. Dan. 4. 2 Mach. 9· 2 Par. 33. Ac yn y deall hwnnw y dyweid yr Scrythur lán, fod cystudd yn rhoi deall. Ac y mae 'r gwr doeth yn dywedyd fod y wialen yn dwyn doethineb: fel yr adferwyd golwg Tobit â chwerw fustl y pysgodyn. Ac y mae i ni esamplau eg­lur yn Nabuchodonosor, Saul, Antiochus, a Manasses: y rhai oll a ddaethant i weled eu beiau trwy gystudd, yr hyn ni's gwnaethent byth yn amser llwy­ddiant. [Page 299] Y cyffelyb yr ydym yn ei ddar­llain am frodyr Ioseph, y rhai pan dda­eth peth cystudd arnynt yn yr Aipht, aethant yn y man i mewn i'w cydwy­bodau eu hunain ac a ddywedasant; Am bechu o honom yn erbyn em brawd, am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni. Gen. 42.21 Ac fel y mae cystudd yn dwyn y goleuni yma i ni i weled ein diffygion, felly y mae yn helpio o'i tynnu hwy ymaith ac o'i hiachau▪ ac yn hynny y gellir ei gyffelybu yn dda i wialen Moysen: oblegid fel yr oedd y wialen honno, wrth daro 'r crei [...]iau caledion, yn dwyn allan ddwfr, fel y dywaid yr Scrythur; felly y mae gwialen cystudd, wrth syrthio ar bechaduriaid calon galed yn eu meddalhâu hwynt i ymofidio, Exod. 17▪ Deut. 8. Psal. 78. ac yn fynych yn dwyn allan lifeiriant o ddagrau i edifeirwch. Ac o'r a­chos hynny y dywaid Tob [...]t oduwi­ol wrth Dduw; Yn amser cys [...]udd y maddeui bechod. Ac o herwydd hyn­ny y cyffelybir ef i lifddur, yn tynnu y rhŵd oddiar yr enaid, Tob. 3.14. Nid yw 'r geiriau hy [...] yn y lladin Job. 23. Dihar. 17. Eccles. 2. ac i physygwria [...]th yn gyrru llygredi­gaeth allan o'r corph; ac yn ddi­wethaf i dân yr eurych a'r gof aur, yr hwn sydd yn treulio y­maith y sothach, ac yn puro 'r aur i'w berffeithrwydd, Mi a lan­buraf [Page 300] dy soth [...]ch di, medd DVW wrth bechadur trwy 'r prophwyd E­sai, [...] Cor. 32.11 ac a dynnaf ymaith dy holl al­cam. A thrachefn trwy Ieremi, Wele fi yn eu toddi hwynt ac yn eu profi trwy dan. Esa. 25. Hyn y mae efe yn ei fe­ddwl am dân cystudd, [...]er. 9.7. cynnheddfau yr hwn ydyw (fel y dywaid yr Scry­thur) glanhâu a phuro 'r enaid, fel y mae 'r tân yn glanhâu ac yn puro 'r aur yn y ffwrneis. Oblegid, heb law ei fod yn puro ac yn tynnu ymaith bechodau mawr, Doeth. 3. Zech. 13. trwy ystyried ac ym­ofidio (yr hyn y mae cystuddd yn ei wneuthur, fel y dangoswyd) y mae efe hefyd yn carthu rhŵd ancirif o wyniau drwg, a thrachwantau, a dryganian mewn dyn: megis drygani­an balchder, a gwag ogoniant, a diogi, a llid, a mwythus fursenneiddrwydd, a mil yn ychwaneg, [...]zec. 24.11 y rhai y mae llwy­ddiant yn eu magu ynom ni. Hyn y mae Duw yn ei ddangos trwy 'r Pro­phwyd Ezechiel, gan ddywedyd am e­naid rhydlyd; Dod ef ar ei farwor yn wâg, fel y twymno, ac y llosgo ei brês, ac y toddo ai aflendid ynddo, ac y darfy­ddo ei scum ai rŵd. Job. 33.15. Ymflinwyd ac ym­chwyswyd gydag ef; ac etto nid aeth ei scum a'i rŵd mawr allan o hono. Hyn hefyd y mae Iob dduwiol yn ei arwy­ddocâu, yr hwn wedi iddo ddywedyd, [Page 301] fod. Iob 33.15. Duw yn addysgu drwy athrawiaeth a cherydd, i dynnu dŷn oddiwrth yr hyn a wnaeth, ac i'w wared oddiwrth falchder, yr hyn a ddeellir am weithredoedd pecha­durus; Gwers. 25. y mae ychydig ar ôl yn dywe­dyd yn ychwaneg, Ei gnawd a ddarfu gan geryddon, dychweled yn ei ôl at ddyddiau ei ieuengctid. Hynny ydyw, gan fod ei holl anwydau cnawdol a'i wyniau wedi darfod weithian gan gospedigaeth a chy­studd, dechreued fyw etto yn y cyfryw burdeb ennaid ac yr oedd yn nechreuad ei ieuengtid, cyn iddo fagu y dryganian yma a'r clefydau.

11 Ac y mae cystudd nid yn vnig yn feddyginiaeth grêf i iachâu pechod, ac i garthu ymaith y sothach fettel sydd ynom ni o brês, ac alcam, a haiarn, a phlwm, a sorod▪ fel y mae Duw yn dywedyd trwy Ezeciel; Ezec. 22. ond hefyd vn feddyginiaeth orchestol odiaeth i gadw vn rhag pechu o hyn allan: fel y dy­wedodd y brenhin daionus Dafydd, Psal. 18.39▪ Fel hyn y mae y groe [...] a'r lladin. Dy gerydd di, Oh Arglwydd, a'm gwellaodd i hyd y diwedd. Hynny ydyw, ef a wnaeth i mi fod yn ochelog ac yn wiladwrus, rhac pechu mwy, fel y dywaid yr Scry­thur mewn lle arall, Trwm glefyd neu gystudd, a wna 'r enaid yn sobr. Eccu [...]. 31. [...] Ac o'r achos hynny y geilw Jeremi gystudd yn wialen wiliadwrus. Hynny ydyw, fel y mae S. Hierom yn ei esponi, Jerem. 1▪ gwialen [Page 302] yn gwneuthur dŷn yn wiliadwrus. Yr vn peth y mae Duw yn ei arwyddoccau, pan ddywedodd efe trwy Os [...]e'r prophwyd, Mi a gaeas dy ffordd di â drain; Osee. 2.6. hynny y­dyw, mi a gaeaf dy fuchedd di o bob pa [...]th â chof am gystudd ac â'i ofn, fel na lefe­sych di sathru ar ŵyr, rhac i ti sathru ar ddraenen. A hyn [...] gyd y mae [...]afydd dduwiol yn ei yspyssu am dano ei hun, yn y geiriau hyn, Psa. 119.6 [...] 71. Cyn fynghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr mi a gedwais dy air di. Dâ i mi fynghystuddio, fel y dysgwn dy ddeddfau.

12 Ac o hyn y gwelir achos arall, pa ham y mae Duw yn cystuddio ei etho­ledigion yn ŷ fuchedd hon, a hynny y­dyw, er mwyn na ddelai ei gyfiawnder ef arnynt yn y byd a ddaw. Am yr hyn y mae S▪ Bernard yn dywedyd fel hyn, Ser. 55. in Cant. Oh Dduw na bai ryw vn, yr awrhon ym mla­enllaw, a barottoa [...] i'm pen i helaeth­rwydd o ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagreu; canys felly odid a gallu o'r tân poeth graffu lle y darfuasei i ddagrau lanhau o'r blaen A'r rheswm o hynny ydyw (fel y dengys y gwr duwiol hwnnw ei hun) am ddywedyd o Dduw trwy Nahum brophwyd Mi a'th flinais ac ni'th flinas mwyach: Nah. 1.12. ni ddaw oddiwrtyf gystudd dau ddyblyg.

13 Yn chweched, y mae Duw yn dan­fon cystudd ar ei weision, i'w profi hwy [Page 303] ag ef, pa vn a wnânt ai bod yn ffydd­lon ac yn ddianwadal, ai nad ydynt: hynny ydyw, i beri iddynt hwy eu hun­ain ac i eraill weled a chyfaddef, mor ffyddlon, neu mor anffyddlon y­dynt. Hyn a ddangoswyd o'r blaen megis trwy ffigur. pan fynnai Isaac balfalu a theimlo ei fab [...]a [...]o, Gen 27. cyn y benedithiai ef. A byn y mae 'r Scry­thur lân yn ei yspyssu yn amlwg, pan yw yn dywedyd, wrth grybwyll am y cystuddiau a roed ar Abraham; Gen▪ 22. [...]. A Duw a brofodd Abraham. A Moysen ynteu a ddywedodd wrth bobl Israel, Co­fia'r holl ffordd yr arweiniodd yr Ar­glwydd dy Dduw di ynddi y deugain mhlynedd hyn, trwy 'r anialwch, Deut. 8.2▪ er mwyn dy gystuddio di a'th brofi, i wy­bod yr hyn oedd yn dy galon di, a ged­wit ti ei orchymmynion ef, ai nas ced­wit▪ A thrachefn, ychydig bennodau wedi, Yr▪ Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw a'ch holl galon ac a'ch holl enaid. Deut. 13.3▪ Ac yn y deall hwnnw y dywaid yr Scrythur am E­zecias, yn ôl rhoi iddo law [...]r o ganmoliaeth, i Dduw ei adael ef, i'w brofi ef, i wybod cwbl ac oedd yn ei galon ef. 2 Cro. 32.3 [...] Ac mai hyn yw arfer Duw tu ac at yr holl rai da, y mae 'r brenhin DAFYDD yn dangos, [Page 304] megis o enau pawb, pan yw yn dywedyd, Ti a'n profaist ni o Dduw, ti a'n coethaist ni fel coethi arian. Psa. 66.10. Dygaist ni i'r rhwyd, gosodaist wasgfa ar ein Lwynan, ac a beraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom drwy'r tân a'r dwfr. A daied oedd gantho hynny, y mae efe yn arwyddoccau, pan yw yn galw am ychwaneg o hono mewn man arall, gan dd [...]wedyd, Psal. 26.2. Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi, llôsg fy arennau a'm calon o'm mewn. Hynny yw, prawf fi trwy gystudd ac er­lid, chwil [...]a ddirgelion fy nghalon i a'm harennau: gad i'r byd weled a lynaf fi wrthyt ti mewn adfyd, ai nas gwnaf. Fel hyn y dywedodd y prophwyd du­wiol hwnnw▪ gan wybod yn dda'r peth y mae 'r Yspryd glân yn ei adrodd mewn lle arall, Ecc. 2 5. Dih. 17.3. mai fel y profir yr aur yn tân, felly y profir dynion cymmeradwy yn ffw [...]n gostyngiad. Oblegid [...]el y mae 'r llestri cyfan yn dal, pan ddelon [...] i'r ffwrneis, ac y tyrr y rhai twnn bregus yn ddrylliau, felly yn amser cystudd ac erlid, [...] duwiol yn vnig sydd yn dal allan, a'r rhai ff [...]antus yn dangos pa fath ydynt: yn ol yr byn a ddywedodd Christ, Luc. 8. yn amser profedigaeth y maent yn cilio oddiwrthyf.

14 Y seithfed rheswm pa ham y mae Duw yn rhoi cystudd ar y rhai duwiol, ydyw, i beri iddynt hwy redeg atto ef [Page 305] am help a chymmorth: megis y mae'r fam, i beri iw phlentyn ei charu hi yn fwy, a rhedeg atti ni, yn peri i eraill ei ddychrynu a'i ofni ef▪ Hyn y mae Duw yn ei yspysu yn amlwg trwy'r prophwyd Osee, Osee 11.4. gan ddyw [...]dyd am y rhai yr oedd efe yn ei garu, Mi a'i tynnais hwynt attaf â rheffynnau Addaf, â rhwymau cariad, ac yr oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau ▪ Wrth reffynnau Addaf, y mae efe yn meddwl cystudd, â'r hyn y tynnodd efe Addaf i'w adnabod ei hun, fel y gwe­lir wrth yr hyn y mae yn ei ddywe­dyd yn ychwaneg am drwm iau cystudd, yr hwn a rydd efe ar bennau ac wy­nebau ei weision, megis rhwymau a chadwynau cariad i'w tynnu hwynt at­to. Y gadwyn yma a dynnasai Ddafydd atto ef pan ddywedodd efe, O Arglwydd, Psal. 32.7. ti yw fy lloches rhag cystudd pechodau: A'r thai hynny hefyd y rhai y mae Esai yn dywedyd am danynt? Mewn adfyd, Arglwydd, i'th geisiasant. Es. 26.16. A'r rhai y mae Dafydd yn dywedyd am danynt, Gofi­diau a amlhasant arnynt, Psal. 16.4. ac yno y brysiasant ddyfod. Ac y mae Duw yn dywedyd yn gyffred [...]nol wrth bob dyn duwiol, Osee. 5.15. Panfyddo adsyd arnynt i'm bore geisiasant. Am hynny y mae 'r duwiol frenhin Dafydd, wrth chwennych gwneuthur daioni i ryw ddynion, a'i hynnill hwy [Page 306] at Dduw, yn dywedyd yn vn oi psal­mau, ll [...]nw eu bwynebau a gwarth, fel y ceisiont dy enw Arglwydd. Psa. 83.16. A hyn sy wir, fel y dywedais i, am etholedig ddewis weision Duw; ond yn y rhai gwrthodedig, nid yw y rheffynnau hyn yn tynnu, na'r iau hwn yn dal; na'r gadwyn gariad hon yn eu hynnill hwy at Dduw. Ac am hynny y mae Duw yn cwyno, Ier. 2.30. gan ddywedyd, Yn ofer y tar [...]wais eich plant chwi, gan na dderby­niant gerydd A thrachefn y dyweid y prophwyd Ieremi am danynt hwy wrth Dduw. Ti a'i tarewaist hwynt, ac nid ymofidias [...]nt; Jer. 5.3. difeaist hwynt, eithr gwr­thodasant dderbyn [...]erydd; hwy a wnae­thant eu hwynebau yn galettach nâ chraig, ac a wrthodasant ddychwe [...]yd attat ti. Gwers. 5. VVele hwy a dorrasant yr iau ac a ddry­lliasant y rhwymau.

15 O hyn weithian y canlyn yr wythfed rheswm, pa ham y mae Duw yn dwyn ei weision i gystudd; sef, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwared hwy. O herwydd me­gis yn y byd hwn, nid yw meddwl gwrol yn chwennych dim yn fwy, nâ chael achlysur i ddangos ei allu a'i ddaioni i'r neb a fo anwyl gantho: felly am Dduw, yr hwn y mae pob achlyssur yn ei law, ac sydd yn rhagori ar ei holl greaduriaid mewn [Page 307] cariad a mawrfryd; y mae efe o'r gwaith goddeu yn gweithio amryw achlysur a chyfamser a chyfle, i gael dangos hynny. Felly y dûg efe 'r tri llangc [...]'r ffwrn dân, fel y gallai ddangos ei allu a'i gariad yn eu gwa­red hwy. Dan. 3. & 6. & 13. Iob 1. & 2. Gen. 31. Tob. 2. & 12. Felly y dûg efe Ddaniel i ffau'r llewed, a Susanna ym mron ang­eu, a Iob i ddygn ofid a thrueni, a Ioseph i garcha [...], a Thobit i ddalli­neb; fel y gallai ddangos ei allu a'i ga [...]iad yn eu gwared hwy. Ac o'r achos yma hefyd y gadawodd Christ i'r llong fod yn agos a boddi, cyn y deffroai efe: Matth. [...]. i Sainct Petr fynd agos tan y dwfr, cyn ei gym­meryd ef erbyn ei haw.

16 Ac yn y rheswm yma y gwe­lir llawer o resymau eraill, ac o achosion comfforddus am waith Duw yn y peth hyn. Megis yn gyntaf, fel y byddai i ni wedi ein gwared oddiwrth ein blinderau, gymmeryd mwy o lawennydd a hyfrydwch yn­ddynt, nâ phe buasem ni erioed heb eu dioddef. Oblegid fel y mae 'r dwfr yn fwy croesawus, i'r hwn a fo ar ei daith, yn ôl hir syched; ac fel y mae tawelwch yn fwy hyfryd gan y morwyr yn ôl tymmesti drafferthus: felly y mae ein hym­wared ninnau yn bereiddiach yn ôl [Page 308] erlid a thrallod, fel y dyweid yr Scrythur, Hyfryd a thymmhoraidd yw trugaredd yn amser adfyd, fel y cwmmylau glaw yn amser sychder. Ecc. 35.20. Hyn a arwy­ddoccaodd Christ befyd pan ddywedodd efe, Eich tristwch a droir yn llawenydd: hynny ydyw, chwi a lawenychwch am i chwi fod yn drist. Io. 16. Hyn a brofasai Da­sydd, pan ddywedodd efe, Dy wialen di, Arglwydd, Psa. 23.4. a'th ffon â'm cyssurasant: hyn­ny ydyw, yr wyfi yn cymeryd cyssur mawr ddarfod iddynt erioed fy nghery­ddu. A thrachefn, Yn ol amlder fy ngo­fidiau o'm mewn, ay ddiddonwch di a lawe­nycha fy enaid: hynny ydyw, am bob tristwch a gefais yn amser cystudd, Psa. 93.19▪ yr▪ wyfi yr awrhon yn derbyn cyssur wedi cael fy ngwared. A thrachefn mewn lle arall, Ymlawenhâf, ac ymhy­frydaf yn dy drugaredd, Psal. 3.7. Oh Arglwydd. A pha ham, frenhin da, yr ymlaweny­chi di felly? Y mae yn canlyn yn y man, Canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; ac ni warcheaist fi yn llaw'r gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn chengder. Ac dyma feddwl gra­susol ein Tâd cariadus trugarog yn ein cystuddio ni tros amser, fel y gallo ein llawenydd ni fod yn fwy yn ôl ein ymwared, fel yr oedd yn ddiammau yn y rhai oll a henwais o'r blaen, a waredwyd trwy drugaredd Duw: sef [Page 309] Abraham, Ioseph, Daniel, Sidrach, Misach ac Abednego, Susanna, Iob, Tobias, Petr, a'r llaill, y rhai a f [...]ant lawenach yn ôl en h [...]mwared, nâ phe buasent erioed heb eu cystuddio. Wedi darfod i Iudith wared Bethulia, a dychwelyd yno yn ei hôl, a phen Ho [...]offernes ganthi; Jud. 6. & 14▪ & 15. yr oedd mwy o wir lawenydd yn y ddinas hon­no, nag a fuasai byth ynddi, pe buasai hi heb fod mewn cyfyngder. Pan wa­redwyd S. Petr allan o garchar gan yr Angel, yr oedd mwy o lawenydd yn yr Eglwys am ei wared ef nag a alla­sai fod, Act. 12. pe buasai efe erioed heb fod yngharchar.

17 Allan o'r llawenydd mawr yma y tŷf peth arall a weithia ein cystudd ni, yr hwn sydd hyfryd iawn gan Dduw, a chomfforddus i'n heneidiau ninnau: a hwnnw yw diolchgarwch calonnog di­frif i Dduw am ein hymwared; cyfryw ac a arferoddd y prophwyd, pan ddywedodd ef yn ôl ei ymwared, Minneu a ganaf am dy nerth, ie llafar-ganaf am dy drugaredd yn foren; canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa, yn y dydd y bu cyfyngder arnaf. Psal. 59.16. Y cyfryw galonnog ddiolch a moliant a roes plant yr Israel i Dduw am eu hym­wared, pan ddaethant tros y mór côch, yn eu cân orchestol, yr hon sydd yn dcchreu, Cantemus [...] omino, ac a roes Moysen mewn côst yn llyfr Exodus. [Page 310] Oddiwrth yr vn calonnog ewyllys y daeth caneuau Anna▪ Exod 15. 1 Sam. 2. Barn. 5. Jud. 12. Debora, a Iudith, y rhai a gynnhyriwyd i hynny wrth go­fio eu cystuddiau aet [...]ent heibio. Ac yn ddiweddaf, dyma vn o'r pethau pen­naf y mae Duw yn gwneuthur cyfrif o hono, ac yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y mae efe yn tystiolaethu trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd, Ga [...]w ar­nafi yn nydd tral [...]od: minnau a'th wa­redaf, Psa 50.15. a thi a'm gogoneddi.

18 Heb law hyn i gyd, y mae gan Dduw etto▪ychwaneg o resymmau i ddanfon erlid arnom ni; Megis hyn, am ein bod ni wrth ddioddef, ac wrth weled cymmorth Duw a'i gomffordd yn ein dioddefiadau; yn myned mor wrol­ddewr, ac mor hŷ, ac mor ddianwadal yn ei wasanaerh ef, ac na's gali dim wedi hynny ein digalonni ni: megis Moysen, Exod. 4. er ei fod ef ar y cyntaf yn ofni'r sarph a wnaethid o'i wialen ef, ac yn ffo rhagddi; etto wedi iddo, wrth orchym­myn Duw, ymaflyd yn ei llosgwrn hi, nid ofnodd efe mo honi mwy. Hyn y mae'r prophwyd Dafydd yn ei yspysu yn orchestol, Psal. 46.1. pan yw yn dywedyd, Duw syda noddsa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei gael mown cyfyngder Am hynny nid ofuwn pe sym mudai'r ddaiar, a phe treiglid y my­nyddoedd i ganol y mor Pa hyder mwy nâ hyn a ellir meddwl am dano.

[Page 311]19 Drachefn, ag erlid ac â chystudd y mae Duw yn dwyn ei blant i ymar­fer ac i ymgynnefino â llawer o rin­weddau da ac sydd yn perthyn i Gri­stion, ac i fynd mewn peth meddi­ant o honynt. Megis hyn; Ffydd a arferir mewn cystudd, wrth ystyried yr achosion y mae Duw yn ein cy­studdio ni o'i p [...]egid, ac wrth gredu yn dra siccr i'r addewidion a wnaeth efe ar ein gwared ni. Gobaith a ymar­ferit o honi mewn cystudd, wrth ddeall ac yn siccrhau o'r gwobr a addawyd i'r rhai a ddioddefo yn ymmyneddgar. Cariad perffaith a ymarferir ag ef mewn cystudd wrth ystyried cariad [...]hrist yn dioddef trosom ni, ac sydd wrth hynny yn annog y rhai cystuddiedig i ddioddef gyd ag ef. Vfydd-dod a ymarferir ag ef mewn cystudd, wrth gydffurfio ein he­wyllys ni ag ewyllys Christ. Dioddef­garwch a ymarferir ag ef, drwy ddi­oddef yn llonydd. Gostyngeiddrwydd, wrth ein darostwng ein hunain yngo­lwg Duw. Ac felly yr vn ffunyd, pob rhinweddau da eraill ac a berthyn i Gristion a gynhyrfir ac a siccrheir mewn dŷn wrth ei gystuddio, yn ôl yr hyn a ddyweid S. Petr. Duw a berffeithia, 1 Pet. 5.10. ac a gadarnhâa ac a gryf haa, ac a sefydla, y rhai a ddioddefodd ychydig er mwyn ei enw ef.

[Page 312]20 Yn ddiweddaf, meddwl Duw wrth ddanfon erlid a blinder arnom ni, y­dyw ein gwneuthur ni yn gristianogion perffaith: hynny ydyw, yn gyffelyb i Grist ein capten, yr hwn y mae'r pro­phwyd yn ei alw, Yn wr gofidus, a chyn­nefin â phob math ar ddolur: Es. 53. fel y ga­llai wrth hynny dderbyn mwy o ogo­niant, pan ddelei yn ei ôl i'r nef, a gwneuthur yn fwy gogoneddus bob vn a gymmero ei blaid ef yn hynny. I ddywedyd y cwbl ar vn gair, ewyllys Duw wrth ein cystuddio ni oedd ein gwneuthur ni yn Gr [...]stianogion croes­hoeliedig, yr hwn yw'r enw a 'r titl an­rhydeddusaf ac a ellir ei roi i greadur: wedi ein croes-hoelio meddaf, a'n mar­wolaethu i orwagedd y byd hwn, ac i'n trachwant ein hunain, a'n deisyfiadau cnawdol: oad yn fyw ac yn llawn ys­pryd bywyd i ddaioni, a duwiold [...]b, a defosiwn da. Dyma feddwl nefol ein goruchaf Arglwydd a'n Duw▪ wrth ddan­fon arnom ni erlid, a chystudd, a blin­der: Job 5 17. o achos yr hyn nid yw Iob ddu­wiol yn ammeu dywedyd, Gwyn ei fyd y dŷn a gery [...]do Duw. A Christ ei hun etto vn yspyssach, Mat. 5. Gwyn eu b [...]d y rhai a erlidir. Os ydynt hwy yn wynfydedig ac yn ddedwydd gael eu herlid, mae y rhai bydol wrth hyny allan o'r ffordd ym­mhell, y rhai sy cymaint yn ffieiddio dio­ddef [Page 313] erlid; ac nid yw Duw yn cael mor diolch a ddylai gan lawer o'i blant, y rhai sy yn grwgnach wrth y dedwy­ddwch yma a roir iddynt: lle y dylent hwy ei dderbyn ynghyd â llawenydd a diolchgarwch. Ac er mwyn profi hynny a'r yspyssu yn well, mi a dynnaf weithian ar y trydydd pwngc o'r bennod yma, i chwilio, ac i holi pa resymmau ac achosion sydd, i'n dwyn ni i ymlawe­nychu, ac i ymfodloni mewn cystudd.

21 Ac yn gyntaf, digon fyddai y the­symmau a osodwyd i lawr eisus, am dru­garog a thadol feddwl Duw yn danfon blinder arnom ni, i ddangos hyn o beth: hynny ydyw, i gomfforddio ac i fodloni pob math ar Gristion, o wr neu wraig, ac sydd yn ymhyfrydu yn sanctaidd ragddarbodaeth Duw tuac attynt. Oble­gid os ydyw Duw yn danfon cystudd ar­nom ni, er mwyn chwanegu ar ein go­goniant ni yn y fuchedd a ddaw; er mwyn ein tynnu ni rhag ein llygru a'n llynu gan y byd; er mwyn egori ein llygaid ni, ac iachâu ein clefydau, ac er mwyn cadw ein heneidiau ni rhac pe­chu yn ôl hyn, fel y dangoswyd vchod; pwy a all o gyfiawnder fod yn anfodlon iddo, ond cyfryw rai ac sydd elynion i'w daioni eu hunain? Ni a welwn, er mwyn cael iechyd corphorol ein bod ni yn fodlon, nid yn vnig i ddioddef [Page 314] llawer meddiginiaeth chwerw anhyfryd, ond nefyd, os bydd rhaid, i ymroi i adael tynnu peth o'n gwaed oddiwrthym, a pha faint mwy y dylem ni wneuthur hynny, rhac peryglu tragywyddol iechyd a chadwedigaeth ein beneidiau? Ond ym mhellach; od oes yn y feddyginiaeth hon lawer mwy nâ hynny o les-hâd, fel y dar­goswyd; os ydyw hi yn gwasanaethu y­ma i gospi ein pechodau ni, yr hyn yr ydym ni yn haeddu ei gael wrth gyfiawn­der mewn lle arall, yn llawer mwy, ac yn llawer tostach; os ydyw hi yn profi ein cyflwr ni ac yn ein tynnu ni at Dduw; os ydyw hi yn annog cariad Duw tu ac attom ni; ac yn rhoi i ni achos i lawenychu wrth gael ymwared; ac yn ein hannog ni i fod yn ddiolch­gar, ac yn ein gwneuthur ni yn hyde­rus ac yn gryfion; ac yn ddiweddaf, os ydyw hi yn ein cynnysgaeddu ni â phob rhinweddau da, ac yn ein gwneu­thur ni yn debyg i Grist ei hun; yma y mae achos mawr rhagorol i ni i gym­meryd comffordd a chyssur ynddi: o herwydd, dyfod yn agos at Grist, a bod yn debyg iddo, yw'r braint a'r goruchfiaeth mwya 'n y byd. Yn ddi­weddaf, os darfu i dragwyddol ddo­ethineb Duw ordeinio ac appwyntio, mai hyn fyddai nôd, ac arwydd, a lifrai ei Fâb ef; a'r ffordd fawr i'r nef, dan y­stondart [Page 315] ei goes ef; ni ddylem ninnau wrthod y lifrai yma, na gochel y ffordd yma, ond yn hytrach, gydâ 'r gwyr da Petr ac Ioan, cyfrif yn fraint mawr, gael bod mor ddedwydd a chael ein gwneuthur yn gyfrannogion o hono. Act. 5. Ni a welwn, god gwisgo lifrai 'r bren­in â'i arwydd, yn cael ei gyfrif yn fraint mawr gan wyr llŷs y byd hwn: ond cael gwisgo 'r frenhinwisg neu'r goron, gormodd braint fyddai hyn­ny i vn deiliad iselradd. Etto y mae CHRIST ein Harglwydd ni a'n brenhin yn fodlon i gyfrannu â ny­ni bob vn o'r ddau. A pha fodd, meddwch chwi, y dylem ninnau eu derbyn?

22 Ac yn awr▪ fel y dywedais, digon fyddei hyn o resymmau i gomfforddio ac i lawenychu pawb ac a alwer i ddio­ddef blinder a chystudd. Ond etto y mae pethau eraill heb law hyn, i'w hysty­ried yn neillduol. Ac o'r rhei'ni y cyntaf, a'r pennaf ydyw, nad yw erlid a chystudd beth yn dyfod wrth ddigwydd a damwain, Math. 10. na thrwy fod awdurdodau goruchel y byd hwn yn eu hordeinio; ond trwy yspyssol ragddarbodaeth a rha­gweliad Duw a'i ordinhaad ef: fel y mae Chr [...]st yn dangos yn helaeth yn Efen­gyl S. Matthew; hynny ydyw, mai gwaith llaw Dduw ei hun yw'r feddyginiaeth [Page 316] a'r ddiod nefol yma. Yr hyn y mae Christ yn ei arwyddoccau, pan yw yn dywedyd, Y cwppan a roddes y Tâd i mi, Iaon 16. onid yfaf o honaw? Hynny ydyw, gan ddarfod i'm Tâd gymmysgu a thym­mheru diod i mi, onid yfaf finneu hi? Megis pe dywedai, rhy anniolchgar fyddei i mi nas gwnawn. Yn ail y mae i ni ystyried, mai 'r vn llaw i Dduw ac a gymmysgodd y cwppan i Grist ei fab ei hun, Mat. 20.23 a'i tymmherodd i ninnau, yn ôl yr hyn a ddywedodd CHRIST, Diau yr yfwch o'm cwppan i, Sef yw hynny, o'r vn cwppan ac a dym­mherodd fy Nhâd i minneu. O hyn y canlyn, mai â'r vn fath galon ac â'r vn cariad ac y tymmherodd Duw y cwppan hwn i'w fâb ei hun, y tymmherodd efe ef i ninnau hefyd; hynny yw, er llês i ni yn hollawl, ac er gogoniant iddo ynteu. Yn drydydd, y mae i ni ystyried fod y cwppan hwn wedi ei dymmheru â chyfryw fawr ofal, fel y dywaid Christ, megis pa drallod a pherygl bynnag a dybier ei fod yn ei ddwyn, etto ni chyll vn o wallt ein pennau ni ganddo ef. Luc. 21. Math. 10. lle y mae i ni ystyried ym mhellach yr hyn a ddyweid y pro­phwyd, Ti a'n porthaist ni â bara dagrau, ti a'n diodaist ni â dagrau wrth fesur. Psal. 80.5 Hynny ydyw, cwppan dagrau a chy­studd [Page 317] a dymmherir wrth fesur gan ein physygwr nefol ni, fel na chaffo neb o hono vwch law'r hyn a allo. Yr hyn a roer ynddo o Aloes a phethau chwerwon eraill, a dymmherir â manna ac â digon o bereidd-dra comffordd nefol. Ffyddlon yw Duw medd Sainct Paul, 1 Cor. 10.13 yr hwn ni ad eich temptio chwi vwch law yr hyn a alloch. Dyma bwngc o gomffordd godidog, ac a ddyly fod bob amser yn ein côf ni.

23 Heb law hyn, mae yn rhaid i ni ystyried, gan fod ordeinio a thym­mheru 'r cwppan hwn yn nwylo Christ ein Iachawdr, trwy 'r gyflawn gennad a roed iddo gan ei Dâd; a'i fod ynteu wedi dysgu wrth ei waith ei hun yn di­oddef, fel y dywaid yr Apostol, beth yw dioddef mewn cnawd a gwaed, Hebr. 5. ni a allwn fod yn ficcr na rŷdd efe ar­nom ni ddim mwy nag a allom ei ddwyn. Megis, pettai i wr dâd neu frawd yn physygwr o'r celfyddaf, ac ynteu yn cymmeryd phyfygwriaeth ganthynt wedi ei dymmheru â'i dwylo hwy eu hnuain; fe allei fod yn siccr na wnai'r physgwri­aeth hynny ddim niweid iddo er maint o drwst a wnai yn ei fol ef tros amser, felly, a mwy o lawer, y gallwn ninnau fod yn siccr am y ddiod cystudd a roer i ni o law Christ ei hun; er ei fod, fel y dyweid [Page 318] yr Apostol, megis yn anhyfryd gennym tros amser. Ond o flaen pob meddyliau comfforddus eraill, dyma 'r mwyaf, a'r comfforddusaf, Datc. 3. Hebr. 12. nid amgen nag ystyried ei fod ef yn rhannu 'r cwppan yma o gariad yn ynig, fel y mae efe ei hu­nan yn tystiolaethu, a'r Apostol yn profi. Hynny yw, y mae efe yn rhoi rhannau o' [...] groes (y trysor mwyaf y mae efe yn gwneuthur cyfrif o hono) fel y mae tywysogion bydol am eu trysorau, nid i bawb ond i'w etholedig a'i ddewis garedigion; ac yn eu plith hwythau, nid yr vn faint i bob vn, ond i bob vn ei fesur a'i ddogn, yn ôl mesur y cariad sydd gantho tuac atto. A hyn sydd amlwg wrth y samplau a osodwyd i lawr o'r blaen am ei garedigion anwylaf ef, y rhai a gystuddir fwyaf yn y bywyd hwn: hynny ydyw, hwy a dderbynia­sant ran fwy o'r trysor yma, am fod ei ewyllys da ef yn fwy tu ac attynt hwy. A hyn hefyd a ellir ei weled yn amlwg yn esampl S. Paul, am yr hwn y dywedasai Grift wrth Ananias, Y mae efe yn llestr dewisedig i mi. Act. 9.15. Ac yn y man y mae efe yn dangos y rheswm o hynny, [...]ers. 16. Canys, mi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo eu dio­ddef er mwyn fy enw i. Wele ynteu: am ei fod yn llestr etholedig, am hynny yr oedd yn rhaid iddo ddio­ddef [Page 319] pethau mawr. Ond ydyw mesur y cystudd with hynny, yn myned yn ôl mesur cariad Duw tu ac attom ni? Yn siccr fe wyddai Sainct Petr yn dda pa fodd yr oedd y peth, ac am hyn­ny y mae efe yn yseritennu fel hyn; Os byddwch yn gwneuthur yn dda, ac etto yn dda eich ammynedd yn dioddef, 1 Pet. 2 20 hyn sydd ras (neu fraint) ger bron Duw A th [...]achefn ychydig yn ôl▪ 1 Pet. 4.14. Os difenwir chwi er mwyn Enw Christ, gwyn eich byd: Oblegid y mae anrhydedd, a gogoniant, a gall [...] Duw a'i yspryd yn gor­phywys arnoch.

24 A ellir addaw gwobr mwy, na braint godidowgach, nâ chael bod yn gyfrannog o anrhydedd, a gogoniant, a gallu Christ? Ai rhyfedd weithian os dywedodd Christ Gwyn eich byd pan i'ch dif [...]nw [...] dynion, a'ch erlid? Ai rhyfedd dywedyd o hono, Byddwch lawen y dydd hwmw, a llemmuch? Mat. 5.1 [...] Ai rhyfedd dywe­dyd o S. Paul, Mi a fyddaf hyfryd, ac a ymffrostiaf yn fy ngwendid, Luc. 6 23. 2 Cor. 12. neu yn fy nghy­studd, yn fy ngwrdwydd, yn fy anghenion, yn fy erlidiau, yn fy nghyfyngderau er mwyn Christ? Ai rhyfedd os bu i Betr ac i Ioan, wedi cael eu difenwi a'i curo ger bron brawdle yr Iuddewon, Act. 5. fyned ymaith dan ymlawenychu am gael eu cyfrif yn dei­lwng i ddioddef gwaradwydd er mwyn enw'r Iesu? Phil. 1.29 Ai rhyfedd os cyfrifodd [Page 320] Sainct Paul yn vchelfraint mawr yr hyn a roed i'r Philippiaid pan ddywe­dodd efe, Phil. 1.29. I chwi y rhoddwyd nid yn vnig credu yn Ghrist, ond hefyd dioddef er ei fwyn ef, gan fod i chwi yr vn ymdrin ac a w [...]lsoch ynofi, ac yr awrhon a glywch ei fod ynofi? Nid yw hyn i gyd ddim rhy­fedd, meddaf, gan fod dioddef gydâ Christ, a dwyn y groes gydâ Christ, yn gymmaint goruchafiaeth yn llŷs y nef, ac a fyddai mewn llys daia­rol, i'r Tywysog gymmeryd ei wisg ei hun oddiamdano, a'i rhoi am gefn vn o'i weision.

25 O hyn weithion y canlyn peth arall sydd yn dwyn cyssur mawr yn amser cystudd: a hynny yw, bod cystudd (yn enwedig pan ro [...]der grâs he [...]yd, i'w ddwyn yn ddioddefgar) yn amcan mawr ddarfod i Dduw rogordeinio 'r cystuddi­ol i fywyd tragywyddol, (oblegid, hyn­ny y mae 'r holl resymmau a dducpwyd o'r blaen yn ei ddangos) megis o'r gwrthwyneb, y mae byw yn wastad mewn hawddfyd a llwyddiant yn ar­wydd ofnadwy o wrthodiad tragywy­ddol. Hebr. 12. Y pwngc yma y mae 'r Apostol at yr Hebræaid yn ei brofi yn rhyfeddol ac yn ei bennu yn daer. Ac y mae Christ yn ei arwyddoccau yn oleu yn Sainct Luc, pan yw yn dywedyd, Gwyn eich byd chwi, Luc. 6.21. y rhai ydych yn wylo yr awrhon, [Page 321] canys chwi a chwerddwch. Ac o'r tu arall, Gwers. 25. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch. Gwae chwi 'r cyfoethogion, Gwers. 24. canys chwi a ddor­byniasoch eich diddanwch yma yn y bywyd hwn. A dwysach nâ hyn o lawer y mae ymaddrodd Abraham with y goludog yn Vffern, (neu yn hytrach geiriau Christ, y rhai ar ddammeg a fwrir ar Abraham) yn siccrhau 'r peth hyn: oblegid y mae ef yn wedyd wrth y goludog oedd yn cwyno rhag eu boenau, Ha fab, Luc. 16.25. cofia i ti dderbyn dy wyrfyd yn dy fywyd. Nid yw efe yn dywedyd (fel y mae Sainct Bernard yn marcio yn dda) Rapuisti, ti a'i cippiaist trwy drais, ond Recepisti, ti a'i derbyniaist. Ac etto yr ydys yr awrhon yn rhoi hyn yn ei erbyn ef, fel y gwelwn ni. Y mae Dafydd yn teimlo'r matter y­ma mewn amryw fannau, yn enwedig mewn dwy o'i psalmau, Psalm. 28. & 8. Psal. 74.8. a hynny yn helaeth: ac yn ôl hir chwilio, a mawr ry­feddu, ei ddiweddchwedl am yr annuwiol sy mewn llwyddiant yn y byd hwn vwch law eraill, yw hyn, Veruntamen propter dolos posuisti eos, de [...]ecisti [...]os dum alleuaren­tur: Ti a roist idd ynt lwyddiant ô Ar­glwydd, i'w twyllo hwynt; ac mewn gwirionedd ti a'i teflaist i lawr wrth eu codi i fynu: hynny ydyw, ti a'i teflaist hwy i lawr trwy farn damnedigaeth, In Iob. yn dy or­dinháad a'th amcan dirgel anchwilia­dwy. [Page 322] Ac yma y mae cyffelbiaeth Sainct Grigor yn cael ei lle; sef, megis ac y gadewir i'r ychen a ordeiniwyd i'w lladd, redeg ac ymdewhau w [...]th eu he­wyllys eu hun, ac y cedwit y llaill tan feunyddol lafur yr [...]au; Mat. 3. & 7. Iud. felly y mae 'r dy­nion da a'r rhai drwg. Yr vn ffunyd, y pren nid yw yn dwyn dim ffrwyth ni churir. dim arno, fel y gwelwn ni, ond yn vnig yr hwn a ddygo ff [...]wyth; ac etto y llall, 1 Bren. 6. fel y dywed Christ, yr ydys yn ei gadw i'r tân. Y clâf a fo heb ddim gobaith byw ynddo y gâd y physygwr iddo gael beth bynnag a fyn­no; ond y neb ni bo anobaith byw ynddo, ni chaiff y cyfryw rydd-did. Yn ddiweddaf, y meini a fyddei raid iddynt wasanaethu i ogoneddus deml Solomon a neddid, ac a gurid, ac a gy­wei [...]id o'r tu allan i'r eglwys, yn ymyl y chwarel; am na cheid clywed dyrnod morthwyl o fewn y Deml. 1 Pet. 2. Y mae Sainct Petr yn dywedyd fod y rhai duwiol yn feini dewisedig, Datc. 21. i'w gosod yn adeilad ysprydol Duw yn y nêf, lle nid oes na churo, na thristwch, no chystudd. Yma wrth hyn y mae'n rhaid ein cyweirio ni, a'n naddu, a'n gwneuthur yn gymmwys i waith y Deml: yma, meddaf, yn [...]hwarel a maen-glawdd y byd hwn: yma y bydd rhaid ein puro; yma y bydd rhaid i ni gael clywed dy [...]nod y morth­wyl, [Page 323] a bod yn dra llawen pan y cly­wom; oblegid arwydd ydyw o'n etho­ledigaeth ni i ogoneddusaf dŷ trigfa dragywyddol Duw.

26 Heb law'r pwngc yma am ragor­dinháad ac etholedigaeth, y mae peth arall etto o gomffordd nid by­chan i'r duwiol cystuddiedig, Psal. 91.1 yr hwn sy a'i sail ar y geiriau hyn eiddo Duw▪ Mewn ing y byddaf gydag ef: yn y rhai yr addewir cwmpeini Duw ei h [...]n mewn cystudd ac erlid. Dymma beth godidog, medd S. Bernard, i annog ac i gynhyrfu dynion i gresawu cystudd, Gen. 37. Doeth. 10▪13. gan fod dy­nion yn barod i anturio pob peth er mwyn cwmpeini da. Joseph a ddugpwyd yn gaeth i'r Aipht, a Duw aeth i wared gy­dag ef, fel y dywaid yr Scrythur lân, ie mwy nâ hynny, efe aeth i wared i'r car­char ac i'r pydew gyd ag ef, ac aeth mewn cadwyni gyd ag ef. Sidra [...]h, Misa [...]h, Dan. 3.2▪ ac Abednago a dasiwyd i'r ffwrn boeth losgadwy, ac yn y man yr oedd pedwerydd wedi dyfod i ddwyn cwmpeini iddynt, am yr hwn y mae Nabuchodonosor yn dywedyd fel hyn, Onid trywyr a fwriasam ni i ganol y tan, yn rhwym? a'i weison a atteba­sant ië yn wir, o [...]renhin: ond wele, ebyr ynteu, yr wyfi yn gweled pedwar­gwyr yn rhyddion, yn rhodio yng­banol y tan; a dull y pedwerydd sydd [Page 324] debyg i Fab DVW. Fe roes Christ wrth fyned heibio, i ryw gardottyn ei olwg drachefn, yr hwn a fuasai ddall o'i enedigaeth. Ac am hynny y gal­wyd y dŷn i'w holi, ac a roes beth canmoliaeth i Grist am y gymmwynas a gawsai gantho, ac a fwriwyd allan o'r Synagog gan y Pharisaeaid. A phan glybu Christ hynny, efe a chwiliodd am dano yn y man, ac a gyssurodd ei galon ef, ac a roes iddo oleuni meddwl hefyd, yr hyn oedd fwy nâ'r goleuni corphorol a roesai, efe iddo o'r blaen. Wrth yr esampl yma a'r cyffelyb y ge­llir gweled, er cynted y bo dyn mewn cystudd ac erlid er mwyn cyfiawn­der, fod CHRIST gydag ef yn y man i ddwyn iddo gwmpeini: a phe ge­llid egoryd ei lygaid ef, fel yr agor­wyd llygaid disgybl Elisaeus i weled ei gydymeithion, Bren. 16. sef y byddinoedd An­gylion sydd yn gweini ar eu harglwydd yn ei ymweliad yma: diammau y cai ei galon ef gyssur mawr oddiwrth hynny.

27 Ond yr hyn nis gall y llygad ei weled, y mae'r enaid yn ei glywed; hynny ydyw, y mae yn clywed oddiwrth gymmorth grâs Duw ynghanol ei holl drallodau. Hyn a addawodd efe yn dra mynych; hyn a dyngodd efe; a hyny mae efe yn ei gyflawni yn dra ffyddlon, i bawb [Page 325] ie a ddioddefo yn llariaidd er mwyn ei enw ef. Hyn oedd dra siccr gan Sainct Paul, pan ddywedodd efe ei fod yn ym­ffrostio yn ei wendid a'i holl d [...]a [...]o­dau, fel y byddai i nerth Christ dri­go ynddo ef: hynny yw, fel y byd ai i Grist ei gynnorthwyo ef â'i râs yn helaethach, Canys pan wyf wan, 2 Cor. 12.1 [...] yna 'r wyf yn gadarn, medd efe; hynny yw, po mwyaf o drallodau ac o erli­diau a rodder arnaf, cryfaf ydyw grâ [...] Christ i mi. Ac am hynny y mae 'r vn Apostol yn y [...]grifennu fel hyn am yr holl Apostolion ynghyd, 2 Cor. 4.9. Yr ydym yn gyfluddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith, yn cael ein herlid, ond heb ein l [...]wyr-ada­el; yn cael ein bwrw i lawr, ond heb ein disetha. A hyn a ddylei fod yn ffonn gadarn-gref ddiogel yn llaw pob Chri­stion a fo mewn blinder; sef beth byn­nag a ddigwyddo iddynt, na phalla grâs Duw byth i'w cynnal hwynt i fynu, ac i'w dwyn allan o gystudd: oblegid yn y pwng [...] yma y mae 'n wir ac yn siccr iawn geiriau Sainct Awstin, Ser. 88. de temp. & de nat. & gra. cap. 26. y rhai a adroddodd efe cy fynyched yn ei waith; nad yw Duw byth yn gwrthod vn dyn, oni bydd wedi ei ddynion ei wrthod ef a'i fwrw ymmaith yn gyntaf.

28 Yn lle y rheswm diweddaf o gys­sur mewn cystudd, mi a gyssylltaf yng­hyd [Page 326] ddau beth sy o ryma nerth mawr i'r defnydd yma. A'r cyntaf o'r ddan yw disg­wyl am gyflog, a'r llall yw byrred yr am­ser sydd [...] i ddioddef cystudd: a'r ddau hyn y mae Sainct Paul yn crybwyll am danynt mewn vn ymadrodd, 2 Cor. 4.17. lle y mae 'n dywedyd, fod byrr ysgesn gystudd yn y byd hwn, yn odidog ragorol yn gweithre­du tragywyddol bwys gogoniant yn vch­der nef. Wrth ei alw yn fyrr y mae efe yn dangos fyrred yr amser sydd i ni i ddioddef; ac wrth dragwywyddol bwys gogoniant y mae yn yspyssu faint yw 'r gwobr a'r cyflog [...]y wedi ei barotto [...] yn y nef, yn lle tâl am ddio­ddef. Ac y mae Christ hefyd yn cys­syll [...]u faint yw 'r ddau gyssur hyn yng­hŷd, pan yw yn dywedyd, Wele fi yn dyfod ar frys, Datc. 22. a'm gwobr sydd gyda mi. Wrth oddaw dyfod ar frys y mae efe yn arwyddoccâu na hir-bery ein cy­studd ni: ac wrth addaw dwyn ei wobr gydag ef, y mae efe yn ein siccr­hau ni na ddaw efe yn wag-law, ond â pharodrwydd i roi cwb [...] dâl i bawb am ei lafur. A pha fodd y gallai efe roi cyssur mwy nâ hyn? Pettai ddyn yn dwyn baich gorthrwn tros ben, etto o byddai siccr gantho gael tale­digaeth da am ei boen, ac na byddai iddo ond ychydig ffordd i ddwyn y baich hwnnw, efe a ymegniai yn dôst [Page 327] i fyned rhagddo hyd y [...] mhen ei ffordd, yn hytrach nag y cellai wobr cym­maint, a'r gael yn y man, er mwyn ar­bed cyn lleied o boen. Mawr druga­redd ein Haigl wydd a'n Duw, ydyw ei fod ef yn ein cyssuro ni fel hyn yn ein cystudd, Iac. 5. Mat. 11. Datc. 7. & 21. Gal. 6. ac yn rhoi calon ynom ni i ddal allan tros amser, er bod y pwys yn drwm ar ein hysgwyddau ni. Y mae dyfodiad ein Harglwydd gar llaw, ac y mae'r barnwr wrth y porth, ac efe a'n llonna ni, ac a sych ymaith ein holl ddagrau ni, ac a'n gosyd ni yn ei deyr­na; [...]gael llawenydd diball. Ac yno y cawn brofi f [...]d yn wir yr hyn a ddywedodd y bendigedig S Paul, Nad yw dioddefi­adu 'r byd hwn yn haeddu 'r gogoniant a ddatguddir i ni. Rhuf. 8, 18. A dig [...]n yw hynny o resymmau am y comffordd a adawyd i ni yn ein trallod a'n cystudd.

29 Gan ddarfod i ni weithian ddat­gan y tri phwngc cyntaf a addawyd yn y bennod yma; y mae 'n canlyn bod i ni ddywedyd gair neu ddau am y ped­werydd: hynny ydyw, pa beth sydd i ni i'w wneuthur yn amser erlid a chystudd. Ac i ddangos hynny, digon fyddai ddywedyd yn vnig fod arnom ni ymroi i ewyllys a meddwl Duw, beth bynn [...]g fyddo; fel yr adroddwyd o'r blaen yn achosion cystudd, ond etto er mwyn ychwaneg o esmwythdra, ac fel y galler ei gofio [Page 328] yn well, mi a redaf yn fyrr tros ei brif­byngciau ef. Yn gyn [...]a' peth gan hynny mae 'n rhaid i ni ymgais, os gallwn, â'r hyn y mae Christ yn ei gynghori, Byddwch lawen, Luc. 6. a llemmwch. Ac onis gallwn gyrhaeddyd y cyfryw berffeith­rwydd, [...]tto bod i ni wneuthur fel y mae 'r Apostol yn ewyllysio, Iac. 1.2. Cyfrifwch yn bob llawenydd, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau. Hynny ydyw, oni fed­rwn ni lawenychu yn ein cystudd etto bod i ni ddeall fod cystudd yn beth sydd o hono ei hun yn haeddu llawen­ychu o'i b [...]egid, a beio arnom ein hu­nain am nas medrwn lawenychu. Ac onis gallwn gyrhaeddyd cyfuwch â hyn­ny chwaith (fel y dylem ni mewn gwi­rionedd) etto er dim bod i ni gofio yr hyn y mae efe yn ei ddywedyd mewn lle arall, Heb. 10.36. Bod ynrhaid i c [...]wi wrth ymmy­nedd, os mynnwch dderhyn addewid Duw am fywyd tragywyddol.

30 Yn ail, ni a ddylem wneuthur fel y gwna [...]th yr Apostolion, pan oeddynt yn y dymmhestl dra erchyll ar y môr, (a Christ gydâ hwynt, ond ei fod yn cysgu) hynny yw, Mat. 8. rhaid i ni fyned a'i ddeffro ef. Rhaid i ni weiddi arno gy­dâ 'r Prophwyd, Psal 44.23. Deffro, pa ham y cysgi, ô Arglwydd, a ninnau mewn ing? Y mae deffro Christ fel hyn yn rhyngu bodd iddo yn rhyfeddol, os gwneir [Page 329] hynny â'r cyfryw hyder siccr, a chan wir galonnog blant, fel y mae Sainct Marc yn dangos ddarfod i'r Apostoli­on ddeffro Christ. Oblegid dyma eu geiriau hwy, Ai difatter genny [...] ein co­lli ni yma? Megis pe dywedent, Marc. 4.38. Ond ydym ni yn ddisgyblon ac yn weision i ti? Ond wyt tithen yn arglwydd ac yn feistr i ninnau? Ond yw cwbl o'n hymddiried ni a'n gobaith ynoti? Pa ham ynteu y cysgi di, a gadael ein ta­flu ni a'n treiglo fel hyn, megis pettem ni heb perthyn dim i ti? A'r cyfryw ddwys awyddfryd y gweddiodd Esai, pan ddy­wedodd efe, Edrych o'r nefoedd, Arglwydd, Esa, 63.15. a gwêl; o annedd dy sancteiddrwyd, a'th ogoniant? Mae dy zêl di a'th gadernid, a llioscwgrwydd dy dosturiaethau, a'th dru­gareddau tuac atiafi? a ymattaliasant hwy oddiwrthyfi yr awrhon? Canys ti yw ein tâd, er nad edwyn Abraham ni, ac na 'n cydnebydd Israel, Ti Arglwydd yw ein Tâd ni, dychwel er mwyn dy weifion er cari­ad ar lwythau dy etifeddiaeth. Fel hyn, meddaf, y mae 'n rhaid i ni alw ar Dduw: fel hyn y mae 'n rhaid i ni ei ddeffro ef, pan fyddo megis yn cysgu yn ein hadfyd ni, â gweddi ddifrifol, ddwywol, ddibaid; Luc. 11. a chennym bob am­ser yn ein meddyliau, y ddammeg gom­fforddus eiddo Christ, lle y mae efe yn dywedyd pe doai vn o honom ni wrth [Page 330] ddrws ei gymmydog, a churo ganol nôs i ge [...]sio bara yn echwyn, pan fy­ddai e [...]e yn ei wely gydâ'i blant, ac yn anbawdd iawn gantho godi: etto os ni a ba [...]hawn yn gofyn, a churo yn wastad wrth y drws, er na byddai efe o'n caredigion ni, etto efe a godai o'r d [...]wedd, ac a roai i ni ein gofyn, o'r hyn lleiaf er mwyn cael gwared o'n taerni ac o'n llefain ni. A pha faint mwy y gwna Duw hyn, medd Christ, ac ynteu yn ein caru ni, ac yn darbod o'n cyflwr ni yn drugarog iawn.

31 Ond yma y mae vn peth i'w ystyried yn y matter hyn; a hynny yw goddef o Grist i'r llong gael ei chuddio agos gan donnau, fel y dy­waid yr Efangylwr, Mat. 8. cyn iddo ddeffro, i arwyddoccau wrth hynny 'y bydd rhaid gadael arno ef pa faint o brofedigaeth a roddo efe arnom ni: digon i ni ym­fodloni yngeiriau yr Apostol, 1 Cor. 10.13 ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd ein temptio ni vwch law yr hyn a allom. Nid iawn i ni na holi nac ammeu ei weithredoedd ef: ni allwn ni ymofyn pa ham y gwna efe hyn, neu pa ham y mae efe yn goddef hyn accw, neu pa hyd y gâd efe i'r drygau hyn gael y llaw v­chaf. Y mae Duw yn Dduw mawr yn ei holl weithredoedd, a phan fyddo yn danfon trallod, efe a ddenfyn lawer [Page 331] ar vnwaith, fel y gallo ddangos ei faw [...] al [...]u yn ein gwared ni; ac y mae wedi hynny yn ei gydbwy [...]o â llawer o gyssur. Y mae ei brofedigaethau ef yn fynych yn myned yn ddwfn iawn, er mwyn profi hyd yn oed calonnau ac arennau dynion. Ef aeth ym mhell ag Elias, pan wnaeth iddo ffo i'r mynydd, ac yno chwennych angeu yn fawr, a dywedyd, Hwy a ddi­stryw asant dy allorau di, ac a ladda­sant dy holl brophwydi á'r cleddyf, 1 Bren. 19. a mysi a adawyd fy hun [...]n, ac y maent yn ceisio dwyn fy einioes inneu he­fyd. Ef aeth ym mhell a DAFYD'D, pan wnaeth iddo lefain, Pa ham y cuddi dy wyneh, O Arglwydd, ac yr anghofi fy nghystudd a'm gor­thrymder? Psa. 44, 24▪ A thrachefn mewn lle a­rall, Psa. 31.22▪ Mi a ddywedais yn fy ffrwst fo 'm hwriwyd allan o'th olwg. Fe aethei Dduw ym mhell a'r Aposto­lion, 2 Cor 11.8▪ pan wnaeth efe i vn o ho­nynt hwy scrifennu, Ni fynnem i elwi fod heh wybod, frodyr, am ein cy [...]udd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr vwch ben ein gallu, byd onid oeddym yn flin gennym fyw yn hwy. Ond etto vwch law pawb eraill efe aeth ym mhellaf o gwbl a'i anwyl fab ei hun, pan wnaeth iddo adrodd y geiriau tosturus galarus hyn ar y [Page 332] groes, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i' [...] gadewaist? Pwy wrth hynn [...] a all gwy­no rhac vnfath ar brofedigaeth na themptasiwn a rodder arno, Mat. 27.46 Mar. 15.34 Psal. 22.1. gan i Dduw weled yn dda fyned cym mhelled a'i anwyl a'i vnig fab ei hun?

32 Ac o hyn y canlyn y trydydd peth sydd anghenrhaid i ni mewn cy­studd, a hwnnw yw calondid a mawr­fryd wedi ei seilio ar ffydd gadarn an­orfod, y rhydd Duw gymmorth i ni, ac y cawn ni gwol ymwared, er hyd y [...] oedo efe hynny, ac er erchylled fyddo gennym y dymmh [...]stl tros yr amser. Hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni, fel y gellir gweled wrth es­ampl y disgyblion, Mat. 8. Luc. 8. y rhai a lefasant, Darsu am danom, cyn i'r tonnau or [...]hu­ddio 'r llong, fel y mae S. Matthew yn scrifennu: ac etto fe ddywedodd Christ wrthynt hwy, Vbi est fides vestra, pa le y mae eich ffydd chwi! Sainct Petr hefyd, nid ofnodd hyd onid oedd efe agos tan y dwfr, Mat. 14. fel y mae yr vn Efangylwr yn coffa; ac etto fo 'i ceryddodd Christ ef, gan ddywedyd, Tydi o ychydig ffydd, pa ham y petrusaist? Pa beth wrth hyn­ny a wnawn ni yn y cyflwr yma frawd anwyl? Yn siccr mae yn rhaid i ni ym­wisgo â ffydd gadarn y brenhin calon­nog Dafydd, Psal. 18.29. yr hwn ar yr hyder siccraf oedd gantho ynghymmorth Duw, a ddy­wedodd, [Page 333] Yn fy Nuw y llammaf dros fur. Phil. 4.13. A chyfryw ffydd anorfod oedd gan S. Paul ynteu, pan ddywedodd efe, Yr wy­fi yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i, ac yn fy nghyssu­ro. Nid oes dim yn ammhossibl i mi; nid oes dim rhy galed i mi, trwy ei gymmorth ef. Rhaid i ni fod, fel y dy­weid yr Scrythur lân, yn hŷ ac yn ddi­arswyd fel llew. Hynny yw, Dihar. 28.1. rhaid i ni na synno arnom er tymmhestl yn y byd, er trallod yn y byd, er gwrthwy­neb yn y byd. Rhaid i ni ddywedyd gydâ 'r prophwyd Dafydd a brofasai 'r pethau hyn, Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgyleh a ymosodant i'm herbyn. Psal. 3.6. Pe rhodiwn ynglynn cysgod angeu, nid of­naf niweid. Psal. 23.4. Pe gwersyllai llu i'm herbyn nid ofnai synghalon; pe cyfodai câd i'm herbyn, er hynny mi a fyddwn hyderus. Psal. 27.3. Yn Nuw yr ymddiriedaf, nid ofnaf beth a wnēl dyn i mi. Yn Nuw y gobeithiaf, Psa. 56.11. Psa. 56.4. & 118.6. nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. Duw yw fy nghymmorth a'm noddfa, am hynny y d [...]styraf ac y dirmygaf fy ngelynion. A phrophwyd arall yn yr vn deall, Wele, Psal 118.7 Duw yw fy iechydwri­aeth, am hynny mi a fyddaf hyderus, ac nid ofnaf. Y rhai hyn, oedd ymadro­ddion y prophwydi sanctaidd, Esa. 12.2. a gwŷr oedd yn gwybod yn dda beth yr oe­ddynt yn ei ddywedyd, ac a brofasent gystudd yn fnych eu hunain: ac am [Page 334] hynny a fedrent ddywedyd o'i gwybo­daeth eu hu nain mor siccr ddiammau ydyw cymmorth Duw mewn cystudd.

33 I'r calondid arbennig yma, a'r dewrder; a'r gwroliaeth a'r cryfder Christianogawl yma, Preg. [...]0.4. y mae 'r Scrythur lân yn ein hannog ni, pan yw yn dywe­dyd, Paa gyfodo yspryd p [...]nnadur yn dy erbyn, nac ymado â'th le ▪ A thrachefn, Scrythur arall a ddywaid, Ecc. 4 28. Ymdrech am dy einioes tros gyfiawnder, ac ymegnia gydâ 'r gwirionedd hyd farwolaeth, a'r Arglwydd Dduw a ymladd gydâ thitheu, ac a oresgyn dy elynion trosoti. Ac y mae Christ ei hun yn ddwysach etto yn gorchymmyn­nu y peth yma yn y geiriau hyn, Luc. 12.4. Yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyseillion, Nac ofnwch y rhai sy 'n llâdd y corph, ac we­di hynny heb ganddynt ddim i'w wneu­thur yn eich erbyn chwi. Ac y mae Petr yn dywedyd ym mhellach, Ne (que) contur [...] bemini, 1 Pet. 3.14. Ac na chynnhy [...]fer chwi: hyn­ny ydyw, nid yn vnig, nac ofnwch hwynt, ond (yr hyn sy lai) na wnewch cymmaint a chyffroi er dim a allo cnawd a gwaed ei wneuthur i chwi.

34 Ac y mae Christ yn myned ym mhellach yn llyfr y da [...]guddiad, ac yn arfer o ymadroddion rhyfeddol i'n denu ni i'r cryfder a'r gwroliaeth yma. Datc. 2.7. oblegid dyma ei eiriau ef, Yr hwn sydd ganddo glûst i wrando, gwrandawed beth [Page 335] y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi▪ I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol Faradwys Dduw. Y pethau hyn y mae 'r cyntaf, a'r diweddaf; yr hwn a fu fa [...]w, ac sydd fyw, Gwers. 26.27. yn ei ddywedyd, Mi a adwaen dy w [...]ithredo­edd di, a'th gystu [...]d, a'th dlodi: eithr cyfoethog wyti mewn gwirionedd, a thi a g [...]b [...]ir gan y rhai sy 'n dywedyd eu bod yn wir luddewon, ac nid ydynt, ond yn hyttrach Synagog Satan. Nac ofna ddim o'r pethau yr wyt i'w dio­ddef: wele 'r c [...]thraul a bair fwrw rhai o hon [...]ch chwi i garchar, fel i'ch profer chwi, Datc. 3.5.11.21. a chwi a gewch gystudd ddeng n [...]iwrnod. Ond bydd di ffyddlon byd angau, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd. Yr hwn sydd ganddo glu­stiau i wrando gw [...]andawed beth y mae ' [...] Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr E­glw [...]si, Yr hwn sydd yn gorchsygu, ni chaiff dd [...]m eniweid gan yr ail farwo­laeth A'r hwn a orchfygo ac a gadwo, fy ngwei [...]hredoedd hyd y d [...]wedd, mi a roddaf-iddo awdurdod ar y cenhedloedd fel y derbyniais inneu gan fy Nhâd: ac mi a roddafiddo 'r scren foreu▪ Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir â dillad gwynion, ac ni ddileas fi ei enw ef allan o lyfr y bywyd; ond mi a gyffessaf ei e­nw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei [Page 336] angylion ef. Wele, yr wyfi yn dyfod a [...] frys; dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddyc­co neb dy goron di. Yr hwn sydd yn gorch­fygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yn Nheml fy Nuw, ac nid a efe allan byth mwyach: ac mi a 'sgrifennaf arno Enw dinas fy Nuw i, yr hon yw Ierusalem newydd, yr hon sydd yn disgyn oddiwrth fy Nuw i; ac mi a 'sgrifennaf arno fy Enw newydd i. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a roddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorseddfaingc, megis y gorchfygais inneu, ac yr wyf yn eistedd gyda 'm Tad ar ei orsedd-faingc ef.

35 Hyd hyn y mae geiriau Christ wrth S. Ioan. Ac yn niwedd yr vn llyfr, wedi darfod iddo-bortreiadu llawenydd a gogoniant nef yn helaeth, y mae efe yn diweddu fel hyn, A'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna 'r geiriau hyn canys y maent yn gywir ac yn ffyddlon. Datc. 21.5. Yr hwn sydd yn gorchfygu a etif edda yr holl la­wenydd yma y soniais am dano, ac mi a fyddaf yn Dduw iddo ef, ac ynteu fydd yn fab i minneu. Ond y rhai sy ofnog i ymdrech, a gwanffyddiol i gredu 'r pethau a ddywedais i; eu rhan hwy fydd yn y llynn sydd yn llosgi, gan dan a brumstan, yr hwn yw 'r ail farwola­eth.

36 Yma bellach y gwelwn osod ger [Page 337] ein bronnau addewidion a bygythiau, da a drwg einioes ac angeu; llawenydd nef, Eccl. 15. a'r ffwrn losgadwy. Ni a allwn ystyn ein dwylo at yr hyn a fynnom. Os ymladdwn ni, a gorchfygu (yr hyn a allwn ni trwy help Duw) ni a gawn fwynhau 'r adde­widion a osodwyd i lawr o'r blaen: os ni a'n dangoswn ein hunain nac yn angrhededyn i'r addewidion hyn; nac yn ofnog i fyned i'r ymdrech a gyn­nygir i ni; yna y syrthiwn mewn perygl o'r bygythiau sy wrthwyneb i hynny: yn y modd y dywaid S. Ioan mewn lle arall, ei wneuthur o bende­figion ym mysg yr Iuddewon, y rhai a gredent ynghrist, ond ni feiddient ei gyfaddef rhac ofn erlid.

37 Yma wrth hynny y bydd rhaid i rinwedd arall ganlyn ynom ni, yr hon sydd dra angenrheidiol i'r rhai a fo rhaid iddynt ddioddef cystudd a blinder: a honno ydyw, rhoi ein bryd yn grŷf ac yn gadarn ar sefyll a myned rhago [...] pa wrthwyneb a pha rwystr bynnag a gaffom yn y byd, gan druth yn gwenhieithio i ni, neu gan greulondeb yn ein herlid. Hyn y mae'r Scrythur yn ei ddysgu gan lefain arnom, Bydd ddianwadal a siccr yn ffordd yr Arglwydd. A thrachefn, Sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, Eccl. 5.10. ym­gryfhewch. Ac etto ym mhellach, Ym­ddiried [Page 338] yn yr Arglwydd, Eccl. 11▪ 2. ac arcs yn dy le. Ac yn ddiweddaf, Ymgryshewch, ac na la [...]sed eich dwylo oddiwrth y gwaith a ddechreuasoch. 2 Cron. 15.7

38 Y gwrolfryd yma cedd yn y tri llange, Sidrach, Misach, ac Abednego, y rhai wedi iddynt glywed truth-eiri­au Nahuchodonozor greulon, a' [...] aml fygythi [...]n, a attebasant ag yspryd esmwyth llonydd, Dan. 3.16. Oh frenhin, nid ydym ni yn gofalu am atteb i ti yn y peth hyn. VVele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn [...]bl, os myn efe, i'n gwared ni allan o'r ffwrn danll [...]d boeth yr wyti yn ein bygwth ni â hi; ac efe a'n gwared ni allan o'th law di, [...] frenhin: ac onid ê, bydded hyspys i ti frenhin, nad addo w [...] ni dy dauwiau di, ac nad ymgrymmwn i'th ddelw aur a gyfodaist

39 Y Gwrolfryd yma oedd yn Petr ac Ioan y rhai wedi eu dwyn yn fy­nych ger brou y Cyngor, a gorchymmyn iddynt, a'i bygwth a'i cu [...]o, na [...]onient mwy am Grist, Act. 4.19. & 5.29. a attebent yn wastadol, Rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddy­ [...]ion. Yr vn hefyd oedd yn S. Paul, yr hwn pan ddeisyfai y Christianogion yn Caesarea arno trwy ddagrau, ar iddo beidio â myned i fynu i Ierusalem, Act. 21.1 [...]. o herwydd darfod i'r yspryd glân ddargu­ddio i lawer, y t [...]allodau oedd yn ei ddisgwyl ef yno; a attebodd fel hyn, [Page 339] Beth a wnewch chwi yn wylo, Act. 21.13. ac yn torri fy nghalon i? canys yr wyfi yn barod, nid i'm rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Ie­rusalem, er mwyn Enw yr Arglwydd Iesu. Ac yn ei Epistol at y Rhufeiniaid y mae efe yn dangos y gwrol [...]ryd yma ym mh [...]llach, pan yw yn dywedyd, Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw gydâ ni, Rhuf. 8.31.35. pwy a al [...] fod i'n herbyn? Pwy a'n gwahana ni oddiwrth ga­riad Christ▪ a [...] gorthrymder? neu i [...]g [...] neu ymlid? neu newyn? neu noethni? neu en­bydrwdd? neu gleddyf? 38. Y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angeu, nac e [...]nioes, nac Angylion, na thwysogaethau, na meddian­nau; na phethau presennol▪ na phethau i ddyfod, nac Vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Christ Iesu ein Harglwydd.

40 Yn ddiweddaf, hyn oedd wrolfryd yr holl ferthyron sanctaidd a'r con­ffessoriaid, a gweision eraill Duw▪ yr hwn a wnai iddynt sefyll yn er­byn profedigaethau 'r Cythraul, a hûd cnawd a gwaed, a holl erlidiau y rhai creulon, a geisient ganthynt hwy wneuthur pethau anghyfreithlawn. Mi a ddygaf i chwi vn esampl allan o ail llyfr y maccabæaid, a hynny o flaen dyfodiad Christ, ond er hynny yn agos at ei ddyfodiad ef, ac [Page 340] am hynny nid rhyfedd ei fod yn cael peth o dwymder gwrês a dianwa­dalwch Christianogaidd tu ac at fer­thyrdod. Y mae 'r esampl yn rhyfe­ddol, o herwydd yngolwg dŷn nad oedd hi ond am fatter bychan a ofyn­nid ar eu dwylo hwy wrth orchymmyn y teiran creulon: hynny yw, bwytta cig moch, yr hyn oedd waharddedig yr amser hwnnw. Oblegid fel hyn y mae wedi ei roi mewn côf yn y llyfr hwnnnw.

2 Mac. 7.41 Fe a ddigwyddodd ddarfod dal saith mroder ynghyd yn y dyddiau hyn­ny, a'i dwyn, ynghyd â'i mam, at y brenhin Antiochus, ac yno eu cym­mhell trwy boenau ffrewyll a phethau eraill, i fwytta cig môch, yn erbyn y gyfraith. Ac ar yr amser hwnnw y dywedodd vn o honynt, yr hwn oedd hynaf, Pa beth yr wyti yn ei geisio▪ a phabeth a fynni di ei wybod gennym ni, Gwers. 2. ô frenhin? Yr ydym ni yn harod i farw, yn gynt nag y torr [...]m hên gyfreithiau ein tadau. Yna y cythruddodd y brenhin ac y parodd dwymno pedyll a pheiriau; y rhai yn y man a wnaethbwyd yn boeth; ac efe a orchymmynnodd dorri tafod yr hwn a ddadleuasai yn gyntaf, a'i flingo ef, a thorri pennau bysedd ei draed a'i ddwylo, a chroen ei ben, yngwydd ei fam a'i frodyr eraill; 7. a chwedi hynny ei ffrio ef hyd [Page 341] oni bu farw. Ac wedi hynny, hwy a ddygasant yr ail brawd i'w boeni, ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a'i wallt, hwy a ofynnasant iddo a fwyttaei efe gig moch, cyn merthyru pob aelod o'i gorph. Ond efe a attebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Ac ar hynny, yn ól llawer o boenau, efe a laddwyd gyd â 'r llaill. 10. Yn ôl marw hwnnw y dygwyd y trydydd hefyd, a pha ofynnasant iddo am ei dafod, efe a'i hestynnodd allan yn ebrwydd, a'i ddwylaw hefyd i'w torri, ac a ddywe­dodd yn wrol, y rhai hyn a gefais i gan Dduw o'r nef, a'r rhai hyn yr wyf yn eu dirmygu er mwyn ei gyfraith ef, am fy mod yn gobeithio eu derbyn hwy eiswaith ganddo ef. Ac wedi iddynt boeni chwech o'r brodyr fel hyn, a'i rhoi i'w marw­olaeth, a phob vn o honynt yn dra hŷ ac yn ddianwadal yn cyfaddef ei ffydd, o'r llawenydd oedd ganddo i farw yn achos Duw; yr oedd yr ieuangaf yn vnig yn ôl, yr hwn y gwnaeth Antio­chus (am fod yn gywilydd gantho na allai ŵyro yr vn o'r llaill) ei oreu ar dynnu hwnnw oddiwrth ei amcan, 24. trwy addaw a thyngu y cai fod yn gâr iddo, ac y rhoddai iddo swyddau, ac y gwnai ef yn gyfoethog ac yn dded­wydd, os efe a ymroai. Ond gan nad oedd y gwr ieuangc yn cyffroi gronyn er hynny, Antiochus a barodd [Page 342] gyrchu ei fam ef, ac a eiriolodd arni hi gynghori 'r gwr ieuangc i a chub ei hoedl: hitheu a gymmerodd arni wneuthur hynny, ac a addawodd gyng­hori ei mâb, fel y byddai rydd iddi gael ymddiddan ag ef, ac a'i hanno­godd ef yn ddwys ac yn ddifrif, yn yr iaith Hebraeg, i ddal allan, ac i farw er mwyn ei gydwyood: 30. a chwedi darfod iddi ymadrodd, y gwr ieuange a lefodd â llef vchel, ac a dra [...]thodd yr ymadrodd yma sy wiw ei gofio; Quem sustinetis? Non obtempero praecep­to regis, sed praecepto legis: Beth yr ydych chwi yn ei ddisgwyl? nid oes yn fy mryd i vfyddhau gorchymmyn y brenhin, [...]nd gor chymmynion y gyfraith a roddwyd i 'n tadau ni trwy law Moses. Ac am hynny, yn ôl llawer ac amryw o boe­nau, y rhoddwyd ef a'i fam i'w mar­wolaeth yn y man.

41 Dyma wrth hynny y gwrolfryd siccr dianwadal a ddyly fod gan Gri­stion yn holl gystuddiau 'r bywyd hwn. Am yr hwn y mae▪ Li. 8. off. 38. S. Ambros yn dywedyd fel hyn, Gratiâ praeparandus est animus, exereenda mens, & stabilienda ad constantiam; vt nullis perturbari ani­mus pessit terroribus, nullis frangi mole­stiis, nullis suppliciis cedere. Mae 'n rhaid i'n meddwl ni [...]od wedi ei barot­toi â grâs, a'i gynnefino, i'w siccrhau [Page 343] mewn dianwadalwch, fel na thralloder ef gan ddychryn yn y byd, ac na laeso gan wrthwyneb, ac na ymroddo er math yn y byd ar boenau nac artei­thiau.

43 Os gofynnwch yma pa fodd y gall dyn gyrhaeddyd y cyfryw wrol­fryd a hyn; mi a attebaf fod S. Am­bros yn y fan honno yn gosod ar lawr ddwy ffordd; y naill yw, cofio 'r poenau anniben anaele sydd yn vstern ini, oni wnawn hynny; a'r llall yw meddwl am y gogoniant anhydraeth a gawn ni yn y nef, os nyni a'i gwnawn. Ac at hynny y chwanegaf finnau 'r drydedd, yr hon mewn calon foneddigeiddwych a all wneuthur cymmaint o lês a hwythau; a hynny yw ystyried beth a ddioddefodd eraill o'n blaen ni, yn enwedig Christ ei hun, a hynny yn vnig o wir gariad a serch a [...]nom ni. Ni a welwn yn y byd hwn, nad yw deiliaid cariadus yn ymffros [...]io mewn dim yn fwy, nag yn y peryglon a'r briwiau a gawsant yn y rhyfel, tros eu Tywysog, er na ddioddefodd ef ddyrnod erioed er eu mwyn hwy. Pa beth wrth hynny a wnaent hwy, pe buasei eu Ty­wysog yn dioddef cystudd o'i wirfodd trostynt hwy, fel y gwnaeth Christ trosom ni? Ond [Page 344] os wyti yn tybied fod esampl Christ yn rhy vchel i ti i'w chanlyn; edrych ar rai ô 'th frodyr o'th flaen di, a wnaethbwyd o gnawd a gwaed fel ditheu: edrych beth a ddioddefa­sant hwy cyn gallu myned i 'r nef. Na thybia fod yn chwareu yn galed â thydi os gorfydd arnat titheu hefyd ddioddef ychydig.

44 Y mae S. Paul yn ysgrifennu am yr holl Apostolion ynghyd, Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, 1. Cor. 4.11. ac yr ydym yn noethion, ac yn cael ein cernodio, ac yn grwydraidd, heb gennym le i aros; yr ydym yn llasurio ac yn gweithio á'n dwylo ein hunain: yn cael [...]in difenwi▪ ac yn bendithio; yn cael ein herlid, ac yn ei gymmeryd yn ddiodde [...]gar. Yn cael ein cablu, ac yn gweddio tros y rhai a 'n cablant: ni a wnaethbwyd fel ysgubion y byd, a sorod pob dim hyd yn byn: hynny ydyw, er ein bod ni yn Apostolion, er i ni wneuthur cymmaint o wyrthiau, a throi cynnifer myrddiwn o bobl, etto hyd y dydd hwn dyma 'r byd yr ydym ni yn ei gael. Ac ychydig wedi, y mae efe yn portreiadu eu by­wyd hwy, 2. cor. 6.4. ac yn dywedyd, Yr ydym yn ein dangos ein hunain fel gweinidogion Duw, mewn ymmynedd mawr, mewn cystu­ddiau, mewn anghenion, mewn cysyngderau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau [Page 345] mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydiau▪ mewn purd [...]b, mewn gwybodaeth, mewn hir­ymaros, m [...]wn tir ondeb ymarweddiad. Ac am dano ei hun o'r neilldu y dy­waid, Yr wyfi yn weinidog i Ghrist, 2. Cor. 11.23. m [...]wn blinderau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach nag eraill, mewn marwolaethau yn fynych. Pumwaith i'm maeddwyd gan y [...] Iuddewon, ac y derbyniais ddeugain gwialennod onid vn; teirgwaith i'm curwyd â gwiail; vnwaith i'm llabyddiwyd; Deut. 25. teir­gwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a drwrnod y bum yn y dy fusor: mewn tei­thiau yn synych, ymmhergylon difddyfroedd; ymmheryglon lla [...]ron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd; ymmher [...]y [...]on yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mhe­ryglon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr g u; mewn llafur a dud [...]ed; mewn anhun [...]dd yn fynych, mewn newyn a sy [...]hed▪ mewn ymprydiau yn synych; mewn anwyd a noethni: ac heb law [...]r pethau sydd yn di [...]wydd oddiallan, yr ymosod be [...]nyddod sydd arnaf, fy ngofal tros yr ho [...]l Eglwysi

45 Wrth hyn y gwelwn be [...]l [...]ch; na ddysgodd yr Apostolion i ni ddim mwy ar eiriau, nag a ddango­sasant hwy trwy e [...]ampl, ynghylen mor anghenrhaid yw dioddef yn y [Page 346] bywyd hwn. Fe a allasai Grist pes mynnasai barottoi iddynt eu hanghen­rheidiau corphorol [...], ac na oddefalai iddynt ddyfod i'r cy [...]ryw gyfyngder a bod arnynt eisiau dillad am eu cefn­ [...]u, a bwyd yn eu boliau, a'r cyffelyb. Fe allasai yr hwn a roddes iddynt awdurdod i wneuthur llawer o wyr­thiau eraill, rei cennad iddynt, o'r hyn lleiaf, i wneuthur digon o gynheiliaeth i'w cyrph, yr hyn fy­ddai 'r gwyrthiau cyntaf a wnai y rhai bydol, pe bai ganddynt y fath awdurdod. Fe allasai Ghrist pan ddanfonodd efe Bedr i gym­meryd arian ei deyrnged allan o safn y pysgodyn, ddywedyd wrtho, Cymmer yn ychwaneg cymmaint ac a fyddo rhaid i chwi wrtho tuac at eich traul yn siwrneio trwy 'r wlad; Mat. 17. ond nis gwnai efe, ac nis lleihaai ddim ychwaith ar y cy­studdiau mawr a ddangosai [...] o'r blaen, er ei fod yn eu caru hwy yn gymmaint â 'i enaid ei hun. A hyn i gyd a wnaed, 1 Pet. 2. fel y mae S. Petr yn ei ddeongl, i roi i ni esampl, pa beth a ganlynem, pa beth a ddifgwiliem, pa beth a ddeisyfem, â pha beth yr ymygyssurem, yng­hanol y mwyaf o'n holl drallo­dau,

[Page 347]46 Y mae 'r Apostol yn ei ystyried yn bendifaddef, pan yw efe yscrifennu fel hyn atyr Hebraeaid, wedi iddo adi odd y pethau a ddioddefasai sainct eraill o'i blaen hwy, Oblegid hynny ninnau, frodyr, gan fod cymmaint cwmmwl o dystion a ddioddefasant gystudd o'n blaen ni, Heb. 12.1. wedi ei osod o'n hamgylch, bwriwn heibio bob pwys pechod sydd i'n hamgylchu, a thrwy ymmynedd rhedwn yr yrfa a osod­wyd o'n blaen, gan edrych ar Iesu, ty­wys [...]g a pherffeit [...]ydd ein ffydd ni, yr hwn gan osod llawenydd nef o flaen ei lygaid, a ddioddefodd y groes trwy ymmynedd, gan ddiystyru et gwarad wydd a' [...] chwilydd hi, ac am hynny y mae yr awr hon yn eistedd ar ddeheulaw gorseddfa­ingc Duw. Ystyriwch gan hynny, meddaf, yr hwn a ddioddefodd gysryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid, fel na flinoch ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. O­blegid, ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod: ac y mae yn debyg i chwi ollwng tros gof yr ymadrodd a'r cyngor comsforddus sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Dihar▪ 3.1 [...] Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd ac nac ymollwng pan i't [...] gerydder ganddo. Canys y neb y mae 'r Arglwydd yn ei garu y mae yn ei geryddu, I [...]b 5. Dat [...]. 3. ac y mae yn fflang­ellu pob m [...]b a dderbynio. Parhewch chwithau yn y cerydd a osodwyd [Page 346] arnoch; Y mae Duw yn ymddwyn tu ac attoch, megis tu ac at seibian. Canys pa fab sydd ar nid yw ei dād yn ei geryddu? Os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae ei holl blant ef yn gyfrannogion, yna bast [...]rd­iaid ydych, ac nid meibion. Ni welir vn c [...]rydd tros yr amser presennol y by­dder yn ei ddioddef, yn hyfryd, ond yn anhyfryd; ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth [...]yfiawnder i'r rhai sy wedi eu cynnefino ag ef O herwydd pa ham, cyfodwch i fynu eich dwylo a laes­asant, a'r gliniau a ymollyngasant, a gwnewch lwybra [...] vnion i'ch traed, &c. Hynny ydyw, Cymmerwch galon, ac ewch rhagoch yn wrol tan y gr [...]es a osodwyd arnoch. Hyn oedd gyngor y capten duwiol yma i wŷr ei wlâd, milwyr Iesu Christ, yr Iuddewon.

47 Y mae S. Iaco brawd yr Arglwydd yn rhoi cyngor arall i bob gwir Cristion, heb fawr ragor rhyngtho â hwn, yn ei Ep [...]stol, yr hon y mae efe yn ei ysgrifennu yn gyffredinol at bawb, Iac. 5.7. Byddwch gan hynny yn ymarbous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd Wele, y mae'r llafurwr yn disgwil tros amser am wer [...]h [...]awr ff [...]wyth y ddaiar, yn dda ei amynedd am dano, nes iddo dderbyn y glaw c [...]nnar a'r diweddar▪ Byddwch chwit [...] au hefyd dda eich ymmynedd a chadarnhewch eich ca­lonnau, oblegi [...] y mae dyfodiad yr Arglwydd [Page 349] yn agos. Na fyddwch dristion, ac na rwgne­chwch yn erbyn ei gilydd? wele, y mae'r barnwr yn sefyll wrth y arw [...] [...]ymmerwch, fy mrodyr, y prophwydi, y rhai a lefarasant yn enw Duw, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros Wele dedwydd yr ydym yn cy­frif y rhai a ddioddefasant. Chwi a glyw­so [...]h am amynedd Iob, ac a welsoch ddi­wedd yr Arg [...]wydd iddo ef: c [...]wi a wel­soch m [...]ddaf, fod yr Arglwydd yn drugarog, ac yn [...]lawn tosturi.

48 Mi a allwn yma adrodd llawer o bethau eraill allan o'r Scr [...]thur lân i'r per [...]yl yma, am fod yr Scry [...]hur yn dra helaeth yn hyn o beth, ac mewn gwirionedd, pettid yn ei thoddi hi i gyd ac yn ei thywallt allan, ni chaem ni agos ddim arall ynddi ond ynghylch y groes, a ddioddef cystudd trwy ymmynedd yn y fuchedd hon. Ond rha [...]d i mi ddiben­nu, am fod y pennod yma yn t [...]fu yn hir fel yr hon o'r blaen. Ac am hynny, i ddibennu, mi a osodaf i lawr gyffes, a gorchestol gyngor yr hen Fattathias i w blant, yn amser creulon erlid Anthiochus yn e [...]byn yr Iuddewo [...]. 1 Mac. 2.4 [...] Yr awrhon medd efe, y ma [...] balchder yn ei gryfder. Dyma amser cerydd, a dis [...]r [...]w, a dig llidiog ar­nom ni. Gan hynny▪ fy me [...]bion, dygwch zêl yr awrhon i Gyfraith Dduw: a rhoddwch eich [...]oedl tros gyf [...]mmod eich tadau: cofi­wch weithredoedd ein hynafiaid ni, y rhai a [Page 350] wnaethant hwy yn eu hamsero [...]dd; ac felly chwi a dder [...]yniwch barch mawr, ac enwtra­gywyddol. Oni chaed Abraham yn ffyddlon mewn profedigaeth, Gen. 22.10. Rhuf. 4.3. a hynny a gyfrifwyd iddo yn gyfiawnd [...]r? Ioseph yn amser ei gyfyng­der, a gadwodd orchymmyn Duw, ac a wnaethbwyd yn Arglwydd ar yr Aipht. Phi­ne [...]as ein tâd, Gen. 41.40 Num. [...]5.13 [...]cc 45 23, 24. wrth ddwyn zel tuac at Gy­fraith Dduw, a gafodd ammod am offeiria­daeth dragywyddol. Iosua, am gyflawni gair Duw, a wnaethbwyd yn [...]arnwr ar Israel. Ca­leb am dystiolaethu ger bron y gynnulleidfa, a gafodd etifeddiaeth o'r tir. Ios 1.2. Num. 14.6. Ios. 14.13. 2 Sam. 2.4. Dafydd, am ei drugaredd a etifeddodd orseddfaingc y deyr­nas dragywyddol. Elias, am ddwyn zel i'r Gysraith, a gymmerwyd i fynn i'r nefoedd A­nanias, Azarias, a Misael, am iddynt gredu, a achubwyd o'r tân. 2 Bre. 2.13. Daniel, am ei wirioneb, a waredwyd oddiwrth safnan'r llewod. Ac fe [...]ly ystyriwch ym m [...]ob oes, Dan. 3.16, &c· a chwi a gewch weled am hwy bynnac sydd yn ymddiried yn Nuw, na orchfygir ef. Am hynny nac esn­wch eiriau gwr pechadurus: Canys e [...] ogoniant ef a fydd yn dom a phryfed. Dan. 6.22. Hed [...]yw efe a ddyrchefir, ac yforu ni bydd efe iw gael; canys efe a ddychwel i'w bridd, Psa. 146.4. a'i holl amcanion a dderfydd. Gan hynny, fy meibion, cymme­rwch galonnau; a byddwch wrol ym mhlaid Cyfraith Dduw; canys hynny a sydd yn barch ac yn anrhydedd i chwi. Hyd hyn y mae geiriau Mattathias; y rhai sy ddigon i ddiweddu'r bennod hon.

PEN. III. Am y trydydd rhwystr sydd yn llestair i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw; yr hwn yw cariad ar y byd hwn▪

MEgis y mae y ddau rwystr a dynnwyd ymmaith o'r blaen, yn attal mawr i lawer o ddynion, i'w cadw hwy oddi­wrth y gwrolfryd yma yr ydym ni yn sôn amdano; felly y mae'r hwn yr ydym yr awrhon yn mynd yn ei gylch, nid yn vnig o hono ei hunan yn rhwystr crŷf, ond hefyd yn achos mawr▪ ac megis yn fylfaen [...]yffredinol i bob rhwystrau eraill ac sydd. Oblegid pe gallai ddyn wybod meddwl pawb ac sydd yn gwrthod, neu yn esgeuluso, neu yn oedi [...]hoi eu bryd ar wasanaethu Duw; fe gai weled mái serch ar y byd hwn yw'r achos o hynny, pa esgus bynnag a gymmeront hwy arnynt heb law hynny. Yr oedd pendefigion yr Iuddewon yn cymmeryd arnynt mai ofn oedd yr achos pa ham nas gallent hwy gyfaddef Christ yn am­lwg ac yn oleu; ond y mae S. Joan, yr hwn oedd yn gwybod y gwirio­nedd am danynt hwy, Ioan. 12.43 yn dywedyd mai'r achos oedd, Am eu bod yn caru gogoni­ant dynion yn fwy nâ gogoniant Duw. Yr oedd Demas (yr hwn a ymwrthododd [Page 352] â S. Paul yn ei [...]wymau, ychydig o flaen ei farwolaeth) yn cymmeryd arno fod iddo achos arall i fyned ymaith 1 Thes­salonica, 2 Tim. 4. ond y mae Sainct Paul yn dy­wedyd mai'r ach [...]s oedd Am ei fod yn caru'r byd presennol. A hynny [...]w y rhwystr cyffrendinol, ac sydd amlach [...]ag y gwe­lir oddiallan: am ei fod yn peri lla­wer o esgusodion eraill, er mwyn ei guddio ei hunan mewn llawer o ddynion.

2 Hyn a [...]llir ei siccrhau a godidow­gaf ddammeg ein lachawdwr Christ, yr hon y mae tri o'r Efangylwyr wedi ei chadw mewn côf, Mat. 13. Marc. 4. Luc. 8. am y t [...]i math ar ddy­nion a fydd colledig, a'r tri achos o'i colledigaeth hwy: a'r trydydd a'r diwe­ddaf a'r cyff [...]edinolaf o'r rhai hynny (megis yn amgyffred y ddau e [...]aill) yw cariad ar y byd Obl [...]gid y fa [...]h gyn [...]af o ddynion a gyffelybir i briffordd, lle mae cwbl o hâd y bywyd ac a heu [...]r ar­ni, naill ai yn gwywo yn y ma [...], a [...] yn cael ei yssu gan a ar y nefoedd: hyn­ny yw, fel y mae Christ yn ei dde [...]ngl, gan y cythreuliaid, yn y rhai diofal, sy yn d [...]f [...]awu ac yn diy [...]yru pob pe [...]h a ddy­wetter wrthynt: fel y mae'r anghrede­dyn, a phawb o'r rhai cy [...]dyn diystyr. Yr ail fath a gyffelybir i greigleod [...] lle nid yw'r hâd yn parhau, o eisieu dwfn i wreidd [...]o: wrth yr hyn yr a [...]w [...]ddocceir y rhai ysgafn anwadal, y rhai sy weithiau [Page 353] i mewn weithiau allan, weithiau yn wre­sog yngwasaneth Duw, ac yn y fan dra­chefn cyn oered a'r ia; ac felly yn amser profedigaeth y maent yn cilio. Y [...]rydydd math a gyffelybir i faes, lle y mae 'r hâd yn tyfu allan; ond etto y mae ynddo cymmaint o ddrain, (y [...]hai y mae Christ yn esponio mai gofalon, a thrallod, a thrafferth [...]on, a gofidion, a gorwagedd twyllodrus y byd ydynt) ac y mae 'r ŷd da yn cael ei dagu ganddynt, ac heb ga­el dwyn dim ffrwyth. Wrth y geiriau diwethaf hynny y mae ein Iachawdr Christ yn arwyddoccau, pa le bynnag y mae dysgeidiae [...]h CHRIST yn tyfu allan ac etto heb ddwyn ffrwyth: hyn­ny ydyw▪ pa le bynnag y derbynier ac y croesawer hi (fel y mae llawer Christion yn gwneuthur) ac etto bod o honi heb ddwyn ffrwyth buchedd dduwiol; mai 'r achos o hynny ydyw am fod gorwa­gedd y byd hwn yn ei thagu hi.

3 Dammeg o bwys a defnydd ma­wr yw'r ddammeg hon, gan fod Christ yn ôl ei hadrodd hi, yn llefain â llef vchel, Y neb sydd ganddo glustiau i wa­rando▪ gwrandawed: a chan ei fod ef ei hun yn ei deongl ac yn ei esponi hi iw ddisgyblon yn vnig, a hynny yn ddirgel ac o'r neilldu: ac yn enwedig gan ei fod ef cyn ei deongl hi yn arfer y cyfryw ragymadrodd, ac [Page 354] yn dywedyd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgelion teyrnas nefoedd, Mat. 13 11 ond ni roddwyd i eraill: oblegid hwy yn gweled ni welant, ac yn [...]lywed ni chlywant, ac ni ddeallant. Wr [...]h yr hyn y mae Christ yn arwy­ddoccau bod deall a dirnad y ddam­meg yma ym mŷlg eraill, o bwys mawr tros ben, i beri i ni wybod gwir ddirge­lion teyrnas nef; a bod llawer yn ddeilli­on o'r rhai y tybir am danynt eu bod yn gweled; a llawer yn fy [...]dar ac heb wybod dim, a dybir eu bod yn clywed ac yn gwy­bod: am nad ydynt hwy yn deall yn iawn ddirgelion y ddammeg hon. Ac o'r achos hynny hefyd y mae Christ, cyn dechreu deongl y ddammeg, yn dibennu ei ymadrodd fal hyn, Dedwydd yw'ch llygaid chwi, Gwers. 16. am eich bod yn gweled; a'ch clustiau, am eich bod yn gwarandaw. Ac ar ôl y geiriau hynny y mae efe yn dechreu deongl y ddam­meg ynghŷd â'r rhybydd yma, Gwa­rand [...]wch chwithau, a deellwch y ddam­meg hon.

4 Ac am fod y ddammeg hon yn cynnwys cymmaint ag a ellir ac sy raid ei ddywedyd ynghylch tynnu ymaith y rhwystr mawr peryglus yma, sef serch ar y byd: fy meddwl yw sefyll yn vnig ar ei deongl a'i esponi hi yn hyn o fan, a dangos grym a gwirionedd rhyw eiriau a dracthodd Christ yma am y byd [Page 355] a'i ddifyrrwch: ac er mwyn gosod trefn well ar fy ymadrodd, mi a dyn­naf y cwbl at y chwe phwnge hyn sydd yn canlyn, Yn gynta [...], pa fodd, ac 1 ym mha ddeall nad yw'r holl fyd a chwbl ac sydd i'w gael ynddo, ond ofe­redd heb dalu d [...] (fel y mae Christ y­ma yn arwyddoccau) ac am hynny na ddylei 'r byd fod yn rhwystr i ni i'n cadw ni oddiwrth beth cymmaint ag yw teyrnas nefoedd a gwasanaethu Duw. Yn ail nad yw 'r byd a chwbl 2 ac sydd yntho yn vnig yn oferedd ac yn bethau gwael diddim ynddynt eu hunain, ond hefyd yn hûd ac yn dwyll, fel y dyweid Christ: sef yw hynny yn hudoliaeth heb gwplau â ni mo'r coeg-betha [...] diddim y maent yn eu haddo. Yn drydydd, y modd y maent 3 hwy yn ddrain pigog llymion, fel y dyweid Christ, er bod y rhai bydol yn tybieid eu bod hwy yn yn dra melus ac yn hyf [...]yd iawn. Yn bedwerydd, y modd y maent hwy yn ofidiau ac yn flinderau, 4 fel y mae geiriau Christ yn dy­wedyd am danynt. Yn bumed, pa fodd y maent hwy yn ein tagu ac 5 yn ein mygu ni, fel y dyweid geiriau Christ. Yn chweched, pa fodd y gallwn ni eu trin hwy a'i harfer, er hynny i gyd, heb gael na [Page 356] pherygl na niweid oddiwrthynt, a chae [...] cyssur a diddanwch, ac elw, a goruchafi­aeth mawr oddiwrthynt.

5 Ac am y pwngc cyntaf, nid wyfi yn gweled pa fodd well y profir nad y [...] holl ddifyrrwch a hyfrydwch, a gwych­der a thegwch y byd hwn ond ofe­redd, fel y mae Christ yn dywedy [...] yma; nâ thrwy ddwyn tystiolaeth [...] ben vn a'i profodd hwy i gyd oll; hynny ydyw, o ben vn sydd yn dy­wedyd y peth nid wrth ei ddeall a' [...] synhwyr, ond wrth yr hyn a brofodd ef ei hun, ac a gafodd ef yn wir ynddo ei hun: a hwnnw y'wr bren­hin SALOMON, am yr hwn y mae'r Scrythur lân yn adr [...]dd pethau rhy­feddol ynghylch ei heddwch, 2 Chro 9. a'i lwyddiant a'i gyfoeth a'i ogoniant yn y byd hwn: hyd onid oedd holl frenhinoedd y ddaiar yn chwen­nych cael gweled ei wyneb ef, o achos ei ddoethed, a maint ei rwysg a'i dde­dwyddyd; ac nad oedd holl dywyso­gion y byd gyffelyb iddo mewn cy­woeth: a bod yn dwyn iddo bob blwyddyn 666 o dalentau aur (dyna swm anfeidrol) heb [...]law cwbl ac yr oedd efe yn ei gael oddiwrth fren­hinoedd Arabia, a thywysogion eraill: a bod yr arian oed gantho cyn am. led a'r cerrig, ac heb bris arnynt gan [Page 357] faint yr ystôr a'r andler oedd gantho [...] honynt: ac nad oedd diben ar ei [...]stri aur, a'i dlysau; a bod ei or­seddfaingc ef a'i deyrngadair o Ifori, wedi ei gwisgo ag aur, a chwech o risiau i'r ersteddfa, a throedle o aur, [...] chanllawiau o bob tu i'r eisteddfa, a dau lew yn sefyll wrth y canl [...]awiau, a deuddeg o lewod ar y chwe gris, a'r cwbl o aur pûr; fel nad oedd y fath orseddfaingc gan vn brenhin yn y byd; a bod ei ddillad gwerthfawr ef a'i arfau, yn aneirif; a bod yr holl frenhinoedd o'r afon hyd wlâd y Philistiaid, a byd terfynnau 'r Aipht, tan ei lywodraeth ef; a bod gantho ddeugain mil o bresebau meirch, 1 Bren. 4. a deuddeng mil o gerbydau; a bod gan­tho ddeucant o waywffyn aur, iw dwyn o'i flaen, a chwe chan coron o aur ym mhob gwaywffon; a chrychant o darian­nau, a [...]hrychan coron aur ym mhob tarian; a bod yn treulio beunydd yn ei dŷ ef, ddêg Corus ar hugain o beillieid a thri vgain Corus o flawd, a dêg ar hugain o ychen pasgedig, a chant o ddefaid, heb law ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision; a bod gantho saith gant o wragedd yn frenhinesau, a thrychant o ordderchwragedd. Hyn oll, 1 Bren. 11.3 a llawer yn angwhaneg y mae 'r Scry­thur lân yn ei adrodd am gyweth Sa­lomon [Page 358] a'i ddoethineb, a'i olud, a'i lwyddiant: ac y mae ynteu, wedi darfod iddo brofi'r cwbl, a chael ei wala o honynt, yn y diwedd yn datgan y farn yma am danynt i gyd, Vani [...]a vanitatum & omnia vanitas, Gwagedd o wagedd, gwagedd yw'r cwbl. Wrth eu galw yn Wagedd o wagedd y mae efe yn deall (medd Sainct JEROM) faint y mae eu gwa­gedd hwy yn rhagori ar bob gwagedd ac oferedd ac a ellir ei ddy­chymmyg. Preg. 1.1.

6 Ac nid dywedyd hyn yn vnig y mae SALOMON ond ei brofi hefyd trwy lawer o esamplau o'r ei­ddo ei hun. Gwers. 12 Mi a fum frenhin ar Is­rael yn Ierusalem, medd efe, ac a roddais fy mryd ar geisio, a chwilio drwy ddoethineb am bob pe [...]h a wnaed tan y nefoedd: ac mi a welais yr holl wei­thredoedd a wnaed tan yr haul, ac wele, gwagodd a gorthrymder yspryd yw'r cwbl oll. Mi a ddywedais yn fy nghalon, mi a brofaf bob math ar la­wenydd a difyrrwch; ac wele, gwagedd oedd hynny hefyd. Mi a wneuthum i mi waith mawr, Preg. 2. ac a adeiledais i mi dai, ac a blennais i mi winllannoedd ac a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt bob math ar goed; mi a wneuthum i mi lynnau dwfr, i [Page 359] ddyfrhau y llwynau sy'n dwyn coed: mi a d [...]arperais weisi [...]n a morwynion, ac yr oedd i mi lawer o dylwyth tŷ, ac yr oeddwn yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jerusalem Mi a ben­tyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhin [...]edd a thaleithi­au: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw [...]ffer cerdd, yr hyn yw d [...]fyrrwch meibion dyni­on, a chwppanau gwychion i yfed gwin ynddynt; a pha beth bynnag a a ddeisyfa [...] fy llygaid, ni ommeddwn hwynt; ac ni attalliwn fy nghalon oddiwrth ddim byfryd, ond fy ngha­lon a l wenychai yn fy holl lafur. Yna mi a edrychais ar fy holl wei­thred [...]edd a wnaethai fy nwylaw, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur; ac wele, nid oedd y [...]wbl oll ond gwagedd a gorthrymder yspryd.

7 Ac dyma dystiolaeth SALO­MON, fel y profasai efe ei hun, am y pethau hyn: a phe dywe­dasai efe hyn heb ddim ond o'i ddoethineb a'i gyfarwyddyd, (a maint oedd) ni a dylem ei gredu ef; ond gan ei fod yn ei dywedyd megis peth a brofasai efe ei hun, ni a ddy­lem ei gredu ef yn haws o lawer. [Page 360] Ond onid yw hyn abl i gyffroi neb, ni a ddygwn etto dŷst arall allan o'r te­stament newydd, a hwnnw yn gy­fryw vn ac a wyddai gyfrinach a meddwl CHRIST ei hun yn hyn o beth; a hwnnw yw Sainct Ioan yr Efengylwr sy yn dywedyd y gei [...]iau hyn, 1 Ioh. 2.15. Na ch [...]rwch y byd, na 'r pethau sy yn y byd: o châr neb y byd, nid yw ca­riad y Tâd ynddo ef. Canys pob peth ac sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygad, a balch­der y bywyd, nid yw o'r Tad, ei­thr o'r byd y mae. Lle y mae Sainct Ioan, heb law ei fod yn bygwth y rhai a garant ac a ganlynant y byd, yn gosod holl wagedd y byd ar dri phwngc, ac yn ei d [...]rri yn dair caingc gyffredinol; sef yw hynny, Chwant y cnawd, (yn yr hwn y mae efe yn cynnwys holl ddifyrrwch a di­grifwch y cnawd) chwant y llygaid, (ac yn hwnnw y mae yn cynnwys pob peth a berthyn i gyfoeth a golud y byd) a balchder y bywyd, wrth hynny y mae efe yn arwyddoccau chwant i swyddau a pharch, a goruchafiaeth. Wrth hynny dymma dri gwagedd pennnaf y by­wyd hwn, y rhai y mae y rhai bydol yn ymflino ynddynt; chwant i anrhydedd, cybydd-dod, a difyrrwch y cnawd, ac i'r tri hyn y perthyn [Page 361] pob m [...]th arall ar wagedd. Ac am hynny nid ammherthynol ystyried y tri hyn yn y man yma.

8 Ac yn gvntaf, ac chwant i anrhy­dedd y perthyn gorwag-clod a gwagfost; hynny ydyw, pan fo gan vn ormod chwant i gael gan bawb dybied yn dda am dano, a dywedyd yn dda am dano, a chael i ganmol a'i foliannu gan bob dŷn: ac y mae hynny yn gymmaint gor­wagedd ac oferedd (er bod y rhan fwyaf yn euog o'r bai yma) a phettai vn yn darymred i fynu ac i wared ar hŷd ac ar draws yr heol ar ol pluen a fai yn hedeg yn y gwynt, ac a deffid yma a thraw gan anadl genau aneirif o ddynion. Oblegid fel y byddai haws i'r cyfryw vn ei flinoei hunan yn llwyr ac vn gwbl, yn gynt nâ chael garael ar y peth y mae yn ei ymlid, ac etto wedi iddo gael gafael ynddo, nid oedd yn cael ond pluen; felly y gall efe wrth chwennych gorwag-clod a molach y byd, gymmeryd poen fawr tros hir amser, cyn cael y glod a'r gair y mae 'n ei chwennych, a phan ei caffo, ni thâl hynny ysglodyn, gan nad yw ond anadl geneuau y­chydig ddynion, yr hwn a gyfne­widia yn hawdd, ar bob achlysur, ac a wna 'r neb a fynno weithiau yn wr mawr, weithiau yn wr by­chan, ac yn y man vn beth heb dalu [Page 362] dim. Ac am hyn o beth nid rhaid i ni es­ampl oleuach na Christ ei hun; yr hwn a deflid i fynu ac i wared ar dafodau dyni­on, fel y gwelent hwy yn dda, rhai a ddy­wedai mai Samariad ydoedd, a bod cythra­el ganddo; eraill a fynnai mai prophwyd oedd; eraill a daerai na allai ei fod ef yn brophwyd, ac na hanoedd o Dduw, am nad oedd yn [...]adw 'r dydd Sabboth: eraill a ofynnai, oni hanoedd ef o Dduw, pa fodd y gallai efe wneuthur cymmaint o wyrthiau. Hyd onid aeth ymblei­dio ac ymrafael yn eu plith hwy, medd S. Ioan. Io▪ 9.16. Yn ddiweddaf, hwy a'i croesawasant ef i Ierusalem gyda gorfo­ledd a Hosanna, ac a danasant eu dill­ad tan ei draed ef. Ond die gwener wedi hynny, hwy a waeddasant yn ei erbyn ef, Croes-hoelia, croes-hoelia ef, ac a ddewisasant Barabbas y lleiddi­ad annuwiol o'i flaen ef. Mat. 21. Mar. [...]1. Mat. 27. Luc. 28.

9 Bellach, fy anwylyd, os gwnaethant hwy fel hyn a Christ, yr hwn oedd wellgwr nag a fyddi di byth, ac a wna­eth mwy o wyrthiau gogoneddus nag a wnai di byth, i geisio i ti enw ac an­rhydedd a pharch gan ddynion; i ba beth yr wyt ti yn cymmeryd cymmaint o boen, ac yn ymguro cymmaint, am beth mor ofer ac yw gorwag-clod a gair y byd? Pa beth a wnai di yn [Page 363] bwrw dy holl lafur ar awel ac anadl genau dynion? Beth a wnai di yn gosod dy holl gyfoeth ar wefusau a thafodau dynion anawadal cyfnewi­diol; lle y gallo pob truthiwr a gwen­hieithwr eu lledratta hwy oddiarnati? Onid oes gennyti vn gist well iw rhoi hwynt tan glo ynddi? Yr ydoedd S. Paul o feddwl arall, 1 Cor. 4.3. pan ddywedodd efe, Bychan iawn gennyfi fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn, Ac yr oedd iddo achos da i ddywedyd hyn­ny. Oblegid, pam waeth gan yr hwn a fo yn rhedeg mewn gyrfa, er i'r bobl ddiwybod roi barn yn ei erbyn ef, Luc. 8. os rhydd y barnwyr farn gyd ag ef? Pe buasai y dyn dall oedd ar y ffordd i Iericho, yn gwneuthur cyfrif o'r hyn a ddywedai 'r bobl oedd yn myned he [...]bio, ac yn ystyried beth a welent hwy yn dda iddo ei wneuthur; ef a fuasai etto heb gael ei olwg; o­blegid eu cyngor hwy oedd iddo bei­dio a rhedeg, ac a gweiddi mor groch ar ol Christ. Peth truan gofidus y­dyw i ddyn fod yn felin wynt, heb wneuthur dim blawd ond tra barhao 'r chwa wynt. Os yr awel wynt a fydd cref, hi a dry yn sidyll ac yn hoyw; ond os yr awel a ostwng, hitheu a lwfrhaa yn y man ac a ddi­oga. Felly, canmolwch y neb a fo 'n [Page 364] chwennych gair y byd, ac efe a red yn gyflym: os amgen, efe a ddigalonna yn y man: fel y Babyloniaid, y parai ychydig felys-gerdd iddynt addoli y peth a fynnid. Dan. 3.

10 Oblegid gwir a dywaid yr yscrythur, Fel y profir yr arian yn tan, Diha 27.21 a'r aur yn y ffwrnais, felly y profir gwr yngenau 'r neb a'i canmolo. Oblegid fel am yr arian, os da fydd ni wna 'r tan niweid iddo, os amgen, efe a ddiflanna yn fwg, ac a dry 'n sothach; ac felly y gwna gwr gorwag ofer wrth ei ganmol. Pa sawl vn a welsom ni wedi chwyddo cymmaint gan glod a mo­lach dynion, onid oeddynt ar fyned allan o'i pwyll gan lawenydd eu bod yn cael cymmaint clod; a'i gweled hwy yn ol hynny wedi digalonni gan wrthwyneb­wynt anglod a gogan, a myned cyn be­lled ago [...] ac anobeithio gan ddirmyg a diystyrwch? Ps. 10 3. Pa sawl a welwn ni beunydd yn cael eu canmol yn eu pechodau, a'i bendithio yn eu hanwiredd? Pa faint o druth a gweniaith dygn digwilydd yr y­dym ni'yn clywed rhai yn ei ddwedyd, ac eraill yn ei gymmeryd, a neb heb lefain gydâ 'r brenhin duwiol Dd ymaith a'r olcw pechaduriaid yma, Psal. 14.6. ac na ddeled ar fy mhen i? Ond oferedd a gwagedd ac ynfydrwyd yw hyn oll? Nid yw 'r Angy­lion yn ceisio dim anrhydedd iddynt eu hunain, ond y cwbl i Dduw: ac a fynni di ddaiar- [...]rŷf gwae [...], gael dy foliannu? Y 24 henu [...]iaid a ddiosgent eu coronau, Datc. 4. ac [Page 365] a'i bwrient wrth draed yr Oen; a thithau a fynnit, pes gellit, en dwyn hwy oddiar yr Oen i ti dy hun. Oh greadur ffol disyn wyr! mor wir y dywaid y prophwyd, dyn sydd debyg i wagedd▪ hynny ydyw i'w wa­gedd ei hun; mor orwag ac mor ysgafn a'r oferedd a'r gwagedd y mae 'n ei ddilyn. Psal. 144.

11 Yr ail gorwagedd a berthyn i chwant cael anrhydedd, yw chwennych cael parch, a goruchafieth bydol. A pheth mawr iawn ydyw yngolwg y rhai bydol, a thlws a thryssor gwerthfawr dros ben, a haeddai ei brynu a chymmaint o boen, a llafur, a pherygl, Ioa. 12.4.3 ac a fai bossibl byth i ddyn ei gymmeryd. Dyma 'r peth a le­steiriodd i wyr mawr Iudaea gyffessu Christ ar gyhoedd. Dyma 'r peth a rwy­strodd i Bilatus ollwng yr Iesu yn rhydd, er ei fod yn gwybod yn dda y dylai wneu­thur hynny. Io. 19. Dyma 'r peth a rwystrodd i Agrippa ac i Festus fyned yn Gristiano­gion er eu bod yn coelio bod yn wir yr hyn a ddysgai Paul. Act. 26. Ond ysywaeth nid yw dynion yn gweled ofered yw 'r peth y maent yn ei garu. 1 Cor. 14.2 Y mae S. Paul yn dy­wedyd, Na fyddwch fechgyn mewn deall. Arfer plantos yw gwneuthur cyfrif mwy o ryw degan dibris, nag o'r tlws gwerth­fawroccaf: a chyfryw ydyw paentiedig barch y byd, yr hwn y ceir mawr boen yn ei geisio, a mawr gôst yn ei gadw, a mawr ofid o'i golli. Ac fel y bo i ti ddeall hyn yn well, ystyria ynot dy [Page 366] hun, ddarllennydd hynaws, a meddwl pa radd o anrbydedd a chwennychit ti ei chael; ac edrych pa sawl vn a fu yn y radd honno o'th fl [...]en di. Co­fia 'r modd y codasant hwy, a'r modd y disgynnasant hwy drachefn; a me­ddwl ynot dy hun pa vn fwyaf ai 'r llawenydd a gawsan [...] hwy wrth gael y radd honno, ai 'r tristwch a gawsant o'i cholli hi. Pa le yn awr y mae 'r holl ymerodron hynny, a'r brenhi­noedd, a'r Tywysogion, a'r Preladi­aid, a fu mor llawen ganthynt gynr gael eu goruchafiaeth a'i cyfodiad? Pa le yn awr y maent hwy, meddaf? pwy sy nac yn son nac yn meddwl am da­ynt hwy? Oni ebargofwyd hwynt, ac oni fwriwyd hwynt i'w beddau er ys talm byd? onid ydyw dynion yn rhodio yn hy [...]wch eu pennau hwy yr awr hon, er na ellid heb ofn ac arswyd edrych yn eu hwynebau hwy yn y byd hwn? Pa leshaad a wnaeth eu goruchafiaeth iddynt hwy?

12 Peth rhyfedd yw ystyried mor ofer ydyw anrhydedd y byd hwn. Tebyg y­dyw i gysgod dyn ei hun, yr hwn po mwy­af y rheder ar ei ol, cyntaf y diangc yn­ [...]eu: a phan el ynteu i ffo thag ei gysgod, ef a'i canlyn ef drachefn; ae nid oes vn ffordd ond vn iw ddal ef, a honno ydyw yrthio i lawr ar ei wartha ef. Felly y gwe­lwn [Page 367] ni am y rhai a chwennychent anrhy­dedd yn y byd hwn, eu bod hwy yr awrhon wedi eu gillwng yn angof; a bod y rhai oedd fwyaf yn ffo rhag­ddo, ac yn eu bwrw eu hunain is law pob dyn, yn cael eu hanrhydeddu yn fwy­af o gwbl, a hynny gan y byd ei hun, er eu bod yn elynion iddo pan oeddynt fyw. Canys pwy sy 'r awrhon fwy ei barch a'i anrhydedd; pwy a ganmo­lir yn fwy; Ps. 139.17 Sic Gr. & Lat. ac a gofir yn fynychach na S. Paul a'i gyffelyb, y rhai a ddi­ystyrent anrhydedd bydol yn gymmaint yn y bywyd hwn, fel y dywedodd y Prophwyd, Dirfawr, O Arglwydd, yr anrhydeddwyd dy gyfeillion di? Oferaf dim, yn y byd yw erlyn ar ol anrhydedd a goruchafiaeth bydol, gan nad yw nac yn bodloni 'r meddwl, nac yn ar­hos gyd a'i berchennog, ac nad y­dyw heb peryglon mawr yn ei ganlyn, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw he­fyd, fel y dywaid yr yscrythur, Barn dost fydd i'r llywodraethwyr: y lleiaf a ddichon gael madde [...]ant yn drugarog, Doeth. [...].6 ond y cedyrn a gospir yn gadarn.

13 Y trydydd oferedd a berthyn i chwant cael anrhyded, ac i falchder y bywyd yma, ydyw bonedd cnawd a gwaed: yr hwn sydd berl mawr vch­elbris yngolwg y byd: ond mewn gwi­rionedd, o hono ei hun, ac yngolwg [Page 368] Duw, nid yw ond coegbeth ac oferedd a gwagedd, A hynny yr oedd Iob dduwiol yn ei wybod yn dda, pan ysgrifennodd efe y geiriau hyn, Mi a ddywedais wrth y pwll, ac wrth bydrni a llygredigaeth, Ti yw fy nhad; [...]ob. 17.14. ac wrth y pryf, Ti yw fy mam am chwaer. Y neb a chwenny­cho weled bonedd ei hynafiaid, edry­ched yn eu beddau hwy, ac fo a gaiff weled pa vn a wna Iob ai bod yn dy­wedyd y gwir ai peidio. Ni ddechreu­odd gwir fonedd erioed ond trwy rin­wedd; ac am hynny, fel y mae bonedd yr hynafiaid yn dystiolaeth o'i rhinwe­ddau da hwynt; felly y mae efe hefyd iw heppil hwynt. A phwy bynnag sydd yn dal enw bonedd oddiwrth ei hyna­fiaid, heb rinwedd yn ei ganlyn, nid yw efe ond anghenfil annaturiol wrth ei hynafiaid, Os 9.10 [...] am ei fod yn torri terfy­nau naturiaeth gwir fonedd. Ac am y cyfryw y dywaid Duw trwy vn o'i Brophwydi, Hwy a acthant yn ffiaidd, fel y pethau a garasant: eu gogon [...]ant▪ hwy a eheda fel aderyn, o'r enedigaeth, o'r groth, ac o'r beichiogi.

14 Oferedd dybryd yw ceisio parch a choel oddiwr [...]h y meirw, a ninneu ein hunain heb ei heuddu: a cheisio hen achau a rhagorbarch oddiwrth ein hynafiaid, a ninnau, gan ein drwg fo­esau ac coeg ymarweddiad, heb fod dim [Page 369] o'r cyffelyb yn gweddu arnom. Fe waradwyddodd Christ yr oferedd yma yn eglur, pan fu iddo, er ei fod ef ei hun yn dyfod o'r bonedd mwyaf ar a fu erioed yn y byd, ac heb law hynny, yn fab i Dduw; ei alw ei hun er hynny yn gyffredinol yn fab dyn; hynny yw, yn fab i'r Forwyn Fair (oble­gid mewn modd amgen, nid oedd efe yn fab dyn) a chydâ hynny hefyd ei alw ei hun yn fugail, yr hwn nid yw ond henw diystyr iawn yn y byd yma. Mat. 8. & 20.24. & 26 Io. 10 Nid aeth efe i ymhel am ditlau anrhyd [...]dd ei hynafiaid i chwanegu ar ei barch a'i fowredd, fel y gwna ein gwŷr ni A phan aeth efe i wneuthur bren hin gyn­taf yn Israel, ni cheisiodd efe chwilio am y gwaed hynaf, ond efe a gymmer­odd Saul o'r llwyth gwaelaf yn holl Israel; ac ar ei ol ynteu Dafydd, y bugail distatlaf o'i holl frodyr. 1 Sam. 9. & 16. A phan ddaeth efe i'r byd, nid aeth efe i chwi­lio am y gwŷr boneddicaf i'w gwneuthur yn dywysogion ar y ddaiar, hynny ydyw, i'w gwneuthur yn Apostoli­on; ond efe a gymmerodd y rhai truanaf a'r rhai gwaelaf, i wraddwy­ddo (fel y dywaid vn) ffoledd▪ ac oferedd y byd hwn, Mat. 4. [...]sa. 45. 1 Cor▪ 1. sydd yn gwneu­thur cymmaint cyfrif o ychydig ra­gorfraint cig a gwaed yn y byd hwn.

[Page 370]15 Y pedwerydd gwagedd sydd yn perthyn i chwant anrhydedd ac i falch­der buchedd, yw doethineb fydol, am yr hon y dywaid yr Apostol, Doeth­ineb y byd sydd ffolineb gyda Duw. 1 Cor. 3.19. Os ff [...] ­lineb ydyw, wrth hynny y mae yn siccr ddiammau mai oferedd a gwagedd yw ymhyfrydu o ddynion ynddi yn gym­maint ac y maent. Peth dieithr yw gweled mor wrthwyneb yw barn Duw i farn dyn. Fe fynnai bobl Israel er dim gael brenin, 1 Sam. 9. fel y dywedais vcho, ac yr oeddynt hwy yn tybieid y rhoesai Dduw yn y man iddynt hwy ryw dywysog mawr galluog i lywo­draethu arnynt; ac ynteu a ddewisodd ddyn truan tlawd oedd yn cerdded y wlad i geisio assynnod a gollasai. Ac yn ol hynny pan fynnai Dduw ddi­swyddo hwnnw drachefn am ei bechod, efe a ddanfonodd Samuel i enneinio vn o feibion Iesse yn frenhin; a phan dda­eth efe i mewn i'r ty, fe ddug Iesse ei fab hynaf Eliah ger bron, yr hwn oedd wr hirfraisg heinyf, gan dybieid mai hwnnw oedd gymmhwysaf i ly­wodraethu: ond Duw a attebodd, Nac edrych ar ei wynebpryd ef, nac ar vch­der [...]i gorpholaeth ef, canys mi a'i gwrtho­dais ef: 1 Sam. 16. o herwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd a edrych [Page 371] ar y galon. Wedi hynny y dug Iesse ei ail mab Abinadab ger bron, ac ar ei ol ynteu Sammah, ac felly y llaill bob vn yn ol ei gilydd, Luc. 9. nes darfod iddo ddan­gos iddo saith o'i feibion. Ac wedi i Samuel wrthod y rhai hynny i gyd, rhyfed du a wnaethant a dywedyd nad oedd mwy ond hynny, onid vn bach­gen pengoch bach yn vnig, yr hwn oedd yn cadw 'r defaid, ac a elwid Da­fydd; a Samwel a archodd yrru i gyr­chu hwnnw: ac er cynted y daeth e­fe mewn golwg, Duw a ddywedodd wrth Samwel, dyma 'r gwr a ddewi­sais i.

16 Pan addawyd y M [...]ssias i'r Iu­ddewon i fod yn frenhin arnynt, hwynt hwy a dybiasant yn y man, wrth eu bydol ddoethineb, mai rhyw dywysog mawr fyddai efe: ac am hynny hwy a wrthodasant Grist a ddaeth attynt mewn tlodi. Iaco hefyd ac Ioan tra oeddynt etto yn gnawdol, wrth weled y Sama­riaid trwy ddirmyg yn gwrthod disgy­blon Christ, gan eu bod yn gwybod beth ydoedd Christ, hwy a dybiasant yn y man y byddai raid iddo ddial arnynt, a galw am dân o'r nef i'w di­fa hwynt. Ond efe a'i ceryddodd hwy gan ddywedyd, Ni wyddoch chwi o ba yspryd yr ydych. Pan oedd yr Aposto­lion yn pregethu 'r groes i'r Cenhed­loedd [Page 372] doethion, ac i'r Philosophyddi­on, ac yn dywedyd y byddai raid di­oddef er mwyn Christ; 1 Cor. 1. hwy a gaw­sant yn y man eu cyfrif yn ynfydion am eu poen. Festus hefyd rhaglaw yr ymerodr, wrth glywed yr Apostol Paul, Act. 26. yn dywedyd cymmaint am ym­wrthod â'r byd, a ch [...]nlyn Christ, a ddywedodd ei fod ef wedi ynfydu. Yn ddiweddaf, dyma arser pob doeth by­dol, dirmygu a diystyru doethineb Christ a'i Sainct. Canys felly y mae 'r Scrythur yn dangos eu bod hwy eu hunain yn cysaddef pan font mewn poenau, Doeth. 5.4. & 3.2. Nyni ffyliaid a feddyliasom fod eu ffordd hwy yn ynfydrwydd. Am hynny, fel y dywedais, Oferedd mawr ydyw gwneuthur cymmaint cyfrif o ddoethineb y byd; a hitheu nid yn v­nig yn ffolineb, ond hefyd yn ynfyd­rwydd ac yn wallgof, fel y mae 'r Ys­pryd glân ei hun yn tystiolaethu am dani.

17 Pwy a dybygai nad doethion y byd hwn oedd gymmhwysaf eu dewis i wneuthur i Grist wasanaeth yn ei Eg­lwys? 1 Cor. [...]. Etto medd S. Paul, Nid llawer o ddoethion yn ol y cnawd a ddewis­odd Duw. 1 Cor. 3. Pwy a dybygai na ellid gwneu­o wr call bydol, Gristion synhwyrol call. Etto y mae S. Paul yn dywedyd na's gellir, oddieithr iddo fyned yn ffol yn gyntaf, Na thwylled neb ei hunan, Od [Page 373] oes neb yn eich mysg yn tybieid ei fod ei hunan yn ddoeth yn y byd hwn; bydded ffol, fel y byddo doeth. Ofer gan hyn­ny, a dibris yw doethineb y byd hwn, oddieithr iddi fod tan lywodraeth doethi­neb Duw.

18 Y pumed gwagedd ac oferedd a ber­thyn i falchder y bywyd, yw glendid corph, am yr hwn y dyweid y gwr do­eth, Siommedig yw ffafr, Dih. 31.30 ac ofer yw te­gwch pryd a gwedd. Ac am hynny yr oedd yn meddwl, pan ddywedodd efe, Psa. 119.37 Tro heibio fy llygaid rhag edrych ar wa­gedd. Dyma oferedd a gwagedd mawr, peryglus twyllodrus; ac etto mawr yw 'r cyfrif o hono gan feibion dynion, y rhai sy gnawd iddynt hoffi gwagedd, fel y dywaid y prophwyd. Psal. 4. Tegwch pryd a gwedd y mae 'r gwyr duwiol yn ei gyffelybu i neidr baentiedig, yr hon sydd deg oddiallan, ond yn llawn gwenwyn ma [...]wol oddifewn. Ped ysty­riai ddyn faint o ddialedd a dinistr a ddaeth o roi gormod coel arno, ef a'i gochelai. A phe meddyliai efe frynted y sothach a'r ammhuredd sydd dan groenen deg, ni roddai ond ychydig serch arno, medd gwr duwiol. Fe gyf­rannodd Duw ryw wreichionen o de­gwch i'w greaduriaid, er mwyn ein tyn­nu ni a'n denu wrth hynny i ystyri­ed ac i hoffi ei degwch ef ei hum, [Page 374] yr hwn nid yw tegwch y byd ond cys­god o honaw: megis y gall dyn wrth weled ychydig ddwr yn tarddu allan, ddyfod o hyd i'r ffynnon wrth hynny, neu wrth gael gwythen bach o aur, ddyfod o hyd i'r holl fwyn. Ond yr ydym ni fel plant bychain yn ymhoffi yn y caead teg sy ar y llyfr, heb ystyri­ed beth sy wedi ei scrifennu o'r tu mewn iddo. Ym mhob creadur teg yr edrycho dyn arno, y dylai efe ddarlla­in hyn yma, medd vn o'r tadau, Os medrai Dduw wneuthur telpyn o bridd mor deg ac mor gariadus, wrth roi i­ddo fân wreichion o'i degwch ei hun; onid yw anfeidrol ei degwch ef ei hun; ac oni haeddai ei hoffi yn fawr, a rhy­feddu wrtho? Ac mor ddedwydd fy­ddwn ninnau, pan gaffom ddyfod i'w weled ef, yr hwn mae 'r holl grea­duriaid yn cael eu tegwch oddiwrtho.

16 Ped ymarferem ni a'r cyfryw feddyliau a hyn, ni a allem yn hawdd gadw ein calonnan yn lân ddihalog ger bron Duw, wrth edrych ar degwch ei greaduriaid ef. Ond o herwydd nad ydym ni yn arfer o feddwl am y cre­awdr wrth edrych ar y creadur, ond ymfodloni yn vnig ar edrych ar wedd a gosgedd wyneb twyllodrus, a gollwng y ffrwyn i bob meddyliau bryntion, ac o'n gwir fodd ennyn tân ein trach­wantau [Page 175] ein hunain; hynny a bair bod cymmaint o ddynion yn golledig beu­nydd, o achos y gwagedd a'r oferedd ffol yma; ffol yr wyf yn ei alw, am fod pob bachgen yn abl i ddangos mor dwyllodrus ac mor ofer ydyw. Oble­gid, cymerwch i mi yr wyneb teccaf a glanaf yn y byd, yr hwn y bu i anei­rif o ddynion roi ei serch arno, wrth ei weled; a chripiwch ef trosto a chry­ffiniad bach ysgafn, ac fe gilia 'r cwbl oedd yn peri ei hoffi ynddo; os daw gronyn o gryd, ef a ddistrywia 'r holl degwch a'r glendid yma, os yr enaid a ymad a'r corph tros vn han­ner awr, fe fydd yr wyneb teg hwnnw yn erchyll edrych arno; er na bo ond dau ddiwrnod yn gorwedd yn y bedd, ni all vn o'r rhai oedd yn ei hoffi yn gymmaint o'r blaen, ond prin edrych arno, neu ddyfod yn agos atto. Ac er nas digwydd yr vn o'r pethau hynny iddo, etto, buan y daw henaint, i gry­chu 'r croen, i dŷnnu 'r llygaid i mewn, i gwympo 'r dannedd, ac i anffurfio yr holl wynepryd, fel y bo yn fwy ei wr­thuni yr awrhon, nag oedd ei degwch o' [...] blaen, ac yn haws iddo ber [...] ei ddirmygu, nag oedd o'r blaen iddo beri ei hoffi. A pha beth a all fod yn wagedd mwy na hyn? Pa ynfydrwydd mwy nag ymfalchio o ddyn ynddo [Page 376] wrth ei weled ynddo ei hun, neu bery­glu ei enaid o'i achos wrth ei weled mewn arall?

20 Y chweched gwagedd a berthyn i falchder y bywyd, yw hoywedd dill­ad gwychion; ac yn erbyn y rhei'ni y dywaid y gwr doeth, Ecc. 11.4. Nac ymorfoledda o herwydd gwisg o ddillad. O'r holl oferedd dyma 'r mwyaf, yr hwn a we­lwn ni mor gyffredin ym mysg dyni­on y byd. Pe buasai Addaf erioed heb gwympo, ni buasai raid i ni byth wrth ddillad: oblegid yr achos y dyfeisi­wyd dillad, oedd, i guddio ein noethni ni a'n cywilydd, a'n gwendidau eraill a ddaeth i ni oddiwrth gwymp Addaf. Ac am hynny pwy bynnag o honom sy 'n ymfalchio ac yn ymogoneddu yn ei ddillad, 1 Tim. 6.8. nid yw efe yn gwneuthur ond fel pettai 'r cardottyn yn cymmeryd balchder o'r carpiau sy 'n cuddio ei ddo­luriau. Fe ddywedodd S. Paul wrth es­gob, O bydd gennym dillad i'n cuddio, ymfodlonwn ar h [...]nny. Mat. 3. Luc. 7. Ac fe grybwyllodd Christ ynteu yn ddw [...]s am ddillad hoyw­wychion, wrth [...] S. Ioan fedy­ddiwr yn gym [...] am ei wisg arw­dost, Mat. 11.8 a dywedy [...] ym mhellach am y gwrthwyneb, Y rhai fy 'n gwisgo dillad esmwyth, m [...]wn tai bren­hinoedd y maent, Y [...] llysoedd bren­hinoedd y byd hwn, ond nid yn llys [Page 377] brenhin nef. Ac o'r achos hynny, nid yw Christ wrth ddangos pa fath ydo­edd y gwr goludog a aeth i vffern, yn gadel heibio ddywedyd i fod ef a'i ddi­llad o borphor ac o sidan main.

21 Peth rhyfedd yw ystyried y rha­gor sy rhwng dull ac arfer Duw, Luc. 16.19. a dull y byd yn hyn o beth. Duw oedd y cyntaf a wnaeth dillad erioed yn y byd: ac i bwy y gwnaeth efe hwynt ond i'r boneddiccaf ar a fu erioed o'n holl hynafiaid ni, a hynny ym Mharadwys: ac etto ni wnaeth efe mo honynt hwy ond o grwyn anifeiliaid. Gen. 3 Ac y mae S. Paul yn tystioelaethu am y Sainct boneddiccaf yn yr hen Destament, nad oedd ganddynt iw cuddio ond crwyn geifr a blew camelod. Ond oferedd wrth hynny ydyw i ni fod mor hoy­won yn ein dillad, a chymmeryd y fath falchder o honynt ac yr ydym? Yr y­dym ni yn yspeilio ac yn anrheithio holl greaduriaid y byd gan mwyaf, i'w roi am ein cefnau, ac i harddwychu ein cyrph. Oddiar vn y dygwn ei wlân; oddi­ar arall ei groen; oddiar arall ei bân, ac oddiar arall yr ammhuredd a ddel all­an o'i cyrph; oblegid beth yw'r sidan ond yr ammhuredd sy 'n dyfod allan o gyrph pryfed? Ac nid ydym ni fod­lon i hyn, ond yr ydym ni hefyd yn myned at y pysgod, ac yn cael ganthynt [Page 378] hwythau berlau i'w crogi yn ein cylch. Yr ydym ni yn mynd i eigion y ddai­ar i geisio aur ac arlan, ac yn chwa­lu tywod y mor am fain gwerthfawr: a chwedi da [...]ffo i ni fenthygio hyn i gyd gan greaduriaid eraill, ni a wag-rodi­wn i fynu ac i wared gan annog dy­nion i edrych arrom; megis petta [...] gwbl o'r gvvychder hwnnw yn eidom ni ein hunain. Pan fo 'r arian a'r sidan yn disglerio yn ein cylch ni, ni a edry­chvvn cyn vched a phettai 'r holl degvvch hvvnnvv yn dyfod oddivvrthym ni ein hunain. Psa. 78. Ac felly, fel y dyvvaid y Prophvvyd, Yr ydym n [...] yn treulio ein dyddiau mewn oferedd, ac heb ganfod ein dygn ffolineb ein hunain.

22 Yr ail gaingc gyffredinol y mae S. Ioan yn dyvvedyd ei bod yn perthyn i orvvagedd ac oferedd y fuchedd hon, 1 Tim. 6.17 yvv trachvvant y llygaid; ac at hyn­ny y mae 'r hen dadau yn bvvrvv holl vvagedd ac oferedd cyfoeth a golud y byd hvvn. Ynghylch hynny y mae S. Paul yn yscrifennu at Timotheus, Diha. 11.4. Gor­chymmyn i'r rhai sy oludog yn y byd yma, na byddont vchel feddwl, ac na o­beithiont mewn golud anwadal. Yr achos o'r ymadrodd hvvnnvv y mae 'r Scry­thur lan yn ei adrodd mevvn man a­rall, pan yvv yn dyvvedyd, Ni thyccia cyfoeth yn nydd digofaint.. Hynny yvv [Page 379] yn nydd marwolaeth ac yn nydd y farn; yr hyn y mae cyfoethogion y byd hwn yn ei gyfodde [...] e [...] hunain, ond yn rhyhwyr, pan wa [...]ddont, Doeth. 5.8. Pa lês a wnaeth golud a ffrôst i ni. A nyn [...] gyd sydd yn dangosi ni yn cleu nor ofer yw cyfoeth bydol, yr hwn ni all [...]enyn llês i'w berchennog pan fo rheitia' iddo wrth ei help: Y cyfo­ethogion a hunasant eu hun, medd y Pro­phwyd, Psa. 76.5. ac ni chowsant ddim yn en dwy­lo: hynny yw, y mae 'r cyfoethogion wedi treulio 'i bywyd, yr vn modd ac y mae dynion yn huno eu hun, ac yn tybi­eid fod ganthynt fynyddoedd o aur a thry­sor; a phan ddeffroont (ar ddydd eu mar­wolaeth) y maent hwy yn gweled nad oes ganddynt ddim yn eu dwylo. Ac o her­wydd hynny y mae 'r Prophwyd Baruch yn gofyn y Question yma, [...]ar. 3.17. Pa le yn awr y mae y rhoi oedd yn pentyrru arian ac aur, ac ni wnaent ddiben ar geifio? Ac yna y mae yn ei atteb ei hun yn y man, Hwy a ddiflannasant, ac a ddiscynnasant i'r bedd. Ac i'r vn defnydd y dywaid S. Iaco, Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, Gwers. 13. Iac. 5 [...]1 wy­lwch acvdwch am eich trueni sydd yn dy­fod arnoch. Eich cyfoeth a bydra, a'ch gwiscoedd a ysswyd gan bryfed; a'ch aur, a'ch arian a rydodd, a'i rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tan: Rhus. 2.5 chwi a gasglasoch drysor digofaint i chwi eich [Page 380] hunain erbyn y dydd diweddaf.

23▪ Os yw golud y byd hwn nid yn v­nig mor ofer ac mor orwag, ond hefyd mor beryglus ac y dywetpwyd; ond ofe­redd wrth hynny i ddynion osod eu me­ddyli [...]u arno yn gymm [...]in [...] ac y maen [...]? Y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun, nad oedd e [...] yn cy [...]ri'r cwbl ond yndom. Phil 3.8. Ac nid heb achos mawr yn siccr y dywedai ef hynny, gan nad ydyw golud mewn gwi­rionedd ond tom; hynny ydyw▪ ammhu­redd y dd [...]iar, a phethau yr ydys yn eu ca­el yn y lleoedd da [...]rwythaf o'r ddaiar, fel y gŵyr y rhai a welodd fwyn-gloddi [...]u yr aur a'r arian. Iob 28. Ond pethau gwael wrth hynny ydynt hwy i ddyn i glymu ei ga­riad wrthynt? Fe a orchymmynnodd Duw yn yr hen gyfraith, fod o bob peth a ger­ddai a'i dorr ar y ddaiar, yn ffieidd-beth i ni; Leuit. 11. ac ond ffieiddiach y dyn y roes Duw re­swm iddo, ac sydd wedi gludio a chyssyll­tu ei galon a'i enaid wrth delpyn o bridd y ddaiar? Yn noeth y daethom i'r byd, ac yn noeth yr awn allan a hono, medd Iob. Y mae olwyn y felin yn ymdroi llawer, ac yn ymguro o ddydd i ddydd; Pen. 1.21 ac etto ym mhen y flwyddyn y mae hi yn yr vn lle ac yr o­edd yn y dechreu: ac felly 'r cyfoethogi­on, ymboenant ac ymdrafferthant cym­maint ac a allont, etto rhaid iddynt hwy yn y dydd diweddaf fod cyn dlotted ac o­eddynt hwy y dydd cyntaf y ganed hwynt. [Page 381] Pan fo marw y cyfoethog, medd Iob, ni ddwg efe ddim gydag ef, ond efe a gae ei lygaid, ac nid yw yn cael dim. Iob 27.19. Lat. Tlodi a'i goddiwes ef fel dyfroedd, a chorwynt a'i gorthrymma ef liw nos. Poethwynt a'i cymmer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; a'r corwynt a'i cippia ef allan o'i le: efe a ruthr arno, ac nid arbed ef: efe a rwym ei ddwylo a [...]no ef, ac a'i hyssia ef: am ei fod yn gweled ei le ef, lle y mae rhaid iddo fyned.

24 Y mae 'r Prophwyd Dafydd yn­teu yn yr vn modd yn rhoi i ni rybydd o'r vn peth, yn y geiriau hyn, Nac ofna pan gyfoethogo vn, Psal 49.16 na phan chwanego gogoniant ei dy ef: canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ol ef. Efe a â at genhedla­eth ei dadau (hynny yw, efe a â i'r lle y mae y rhai a fu fyw fel y bu ynteu fyw) ac ni welant oleuni byth.

25 Hyn i gyd a llawer ychwaneg y mae 'r Yspryd gl [...]n yn ei ddywedyd, i ddangos mor beryglus ac mor ofer yw golud bydol; ac mor ynfyd yw y rhai sy yn cymmeryd cymmaint o boen yn ei geisio, a hynny trwy berygl tragwyddol i'w heneidiau; fel y mae 'r Scrythur yn dywedyd i ni yn siccr. Pe bai cymmaint o physygwyr, ac a dangosais yma o Scrythu­rau, wedi cyttuno yn yr vn meddwl fod y bwydydd a'r bwydydd yn wen­wynllyd [Page 382] ac yn enbyd; yr wyfi yn tybi­eid na byddai nemmor o ddynion a an­turiai eu bwytta hwy, er bod eu blâs yn felus ac yn hyrryd. Pa fodd wrth hynny nas gall cynnifer o rybuddiau dwys di­frif y mae Duw ei hun yn eu rhoi i ni, ein hattal ni rhag rhoi ein serch ar beth mor ofer ac mor beryglus ac yw golud bydol? Psa. 62.10 Os cynnydda golud, medd Duw trwy 'r Prophwyd, na roddwch eich calon arno. Ni chyfiawnheir y neb a hoffo aur. Mi a ddigiais yn ddirfawr wrth y cenheloedd goludog, medd Duw trwv Zechariah. Ac medd Christ, Ecc. 31.5· Yn wir y dywedaf i chwi, mai anhawdd fydd i'r goludog syned i mewn i deyrnas nefoedd. Zech 1.15 12. Lat. A thrachefn, Gwae chwychwi 'r cyfoethogion, canys chwi a dderbyniasoch eich diddanwch yn y bywyd hwn. Ac yn ddiweddaf, y mae S. Paul yn dywedyd yn gyffredinol am bawb, ac wrth bawb, Y rhai sydd yn ewy­llysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i bro­fedigaeth a magl y cythraul, Mat. 19.23 ac i lawer y chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sy yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.

Luc 6.24.26 A ellir dywedyd dim yn y byd ddwy­sach a chryfach n [...] hvn, i geisio peri i ddynion beidio a rhoi eu serch ar olud bydol? 1 Tim▪ 6.9· Oni bydd rhaid ynteu i'r cyby­ddion naill ai gwadu Duw, ai eu con­demno eu hunain yn eu cydwybodau eu hunain? Gedwch iddynt ymesgusodi yng­hysgod [Page 383] bod iddynt wraig a phlant, yn ôl eu harfer, a dywedyd, nad yw eu me­ddwl hwy ddim ond gwneu [...]hur eu go­reu ar gael a fo digon i'r rhai hynny. Y­dyw na Christ na S. Paul yn cynnwys yr esgus hwnnw? A ddylem ni garu na gwraig, na phlant, na cheraint eraill, cymmaint â pheryglu ein heneidiau er [...]u mwyn hwy? Pa gyssur a chomffordd fydd i'r tâd mewn poenau yn vffern, wrth gofio ddarfod iddo adael i'w wraig ac i'w blant fodd i fyw yn gyfoethogion yn y byd; nid yw hyn i gyd, frawd anvvyl, ond oferedd, a hnd a thvvyll ein gelyn ysprydol ni. Oblegid o fevvn vn munyd avvr ar ol ein meirvv, ni bydd arnom ni ddim gofal, nac am vvraig, nac am blant, nac am dâd, nac am fam, nac am fravvd, yn y matter hvvnnvv, mvvy nag am estron tra mor: a mvvy o gomffordd a gawn ni y dvvthvvn hvvnnvv oddivvrth vn geiniog fach a roesom ni yn elu [...]eni er mvvyn Duvv pan oeddym yn y byd, nag oddivvrth filoedd o bunnau a roe­som ni i'n cenedl er mwyn y cariad oedd gennym ar ein cig a'n gvvaed ein hunain: ac och Dduvv deg nag ystyria i y rhai bydol hyn yma: ac yna diammau na chymmerent hvvy byth cymmaint o o­fal tros eu tylvvyth ac y maent hvvy yn ei gymmeryd; yn envvedig ar eu gvvely angeu, o r lle y bydd rhaid iddynt hwy [Page 384] ymaith i'r lle nid oes dim rhagorfraint i gig a gwaed, a lle nis gall golud ddim ym­wared; ond yn vnig yr hyn a dreuliwyd ar wasanaeth Duw, a'r hyn a roed i dlodion er mwyn Duw. A hynny sy ddigon am y pwngc yma ynghylch golud bydol.

27 Y drydedd gaingc o orwagedd by­dol y mae S. Ioan yn ei galw, Chwant y cnawd; a hynny sy 'n cynnwys pob difyrrwch, a digrifwch, a mwythau 'r cnawd, megis gwledda a chwmpniaeth, a chwerthin, a chwarae, a r cyffelyb, yn y rhai y mae ein cnawd ni yn ym­hoffi yn fawr yn y byd hwn. Ac er bod yn rhydd i'r duwiol arfer y pethau hynny mewn cymmedrolder, er mwyn cadw eu hiechyd yn well (ac nid oes bai arnynt er gwneuthur yr vn modd am eu cyfoeth hefyd) etto y mae yn amlwg wrth eiriau Christ, fod yr holl blesser yma a'r difyrrwch, nid yn v­nig yn orwagedd ac yn oferedd, ond hefyd yn beryglus ac yn enbyd, yn y cyfryw helaethrwydd, a gormodedd, a rhyfedd ac y mae y rhai bydol yn eu harfer hwy. Gwae chwi y rhai llawn, medd Christ, canys chwi a ddygwch newyn: Luc. 6.25 Gwae chwi y rhai a chwer­ddwch yr awrhon, canys chwi a alerwch ac a wylwch. A thrachefn yn Efengyl S. Ioan, Io. 16.20. wrth ei Apostolion, ac ynddynt hwy wrth bawb eraill, y mae 'n dywedyd [Page 385] Chwi a'wylwch, ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: lle y mae efe yn gwneu­thur hyn yn arwydd hynod o'r rhagor sy rhwng y drwg a'r da; y bydd i'r naill alaru yn y bywyd yma, ac i'r llall la­wenhau, ac ynddigrifo.

28. A'r un peth y mae Iob yn ei siccrhau am y naill ac am y llall hefyd; oblegid am y rhai bydol y mae yn dy­wedyd eu bod yn difyrru iddynt eu hu­nain â'r tympan ac a'r delyn, Iob 21.13. ac a llais yr organ, ac yn treulio eu dyddiau mewn digriswch, ac yn discyn mewn moment i'r bedd. Ond am y duwiol y dywaid me­gis am dano ei hun, Iob 3.24. y byddant yn oche­neidio o flaen eu bwyd. Ac mewn lle arall eu bod yn ofni eu holl weithredoedd. A'r rheswn o hynny y mae 'r gwr doeth yn ei eglur [...] ym mhellach, Iob 9.28. gan ddy­wedyd, Preg. 9.1. Fod gweithredoedd y rhai da yn llaw Dduw, ac na ŵyr neb (wrth y pethau oddiallan) pa vn ai cariad ai cas sydd iddo ar law Duw: ond b [...]d pob peth mewn ammau­byd yr amser a ddel. Ac y mae yr hên To­bias ynteu yn dangos etto achos arall, pan yw yn dywedyd, Tob. 5.13. Lat. Pa lawenydd a allaf fi ei gael, gan fy mod yn eistedd yma mewn tywyllwch: ac er ei fod efe yn meddwl hyn wrth y llythyren am ei ddallineb corphorol, etto efe a adawodd i ni ddeall hynny hefyd am dywyllwch ysrpydol oddifewn.

[Page 386]29 Ac dyma (heb law blinder a thra­llod oddiallan yr hwn y mae Duw yn ei ddanfon lyn fynych) dyma'r achosion pa ham y mae y rhai duwiol yn byw mewn mwy o dristwch ac ofn yn y bywyd yma, nâ'r rhai annuwiol, [...] Cor. 2. [...] Cor. 7. Phil. 2. [...]ob 3. [...]oan 1 [...]. yn ôl cyngor S. Paul; a pha ham hefyd y maen [...] hwy yn ochain ac yn wylo yn fynych, fel y mae Job a Christ yn dwedyd, am eu bod hwy yn me­ddwl yn fynych am gyfiawnder Duw, ac am e [...] breuolder a'i gwendid eu hunain yn pechu, ac am ddirgel farn Rh [...]gluniaeth Duw, y [...] hon sydd ddiwybod i ni; ac am y dyffryn trueni ac annrhefn y [...] ydym ni y­ma yn byw ynddo▪ yr hyn fy'n peri i'r A­postolion ochain, Rhuf. 8. Ephes. 4. Mat. 24▪ [...] Cor. 5. medd S. Paul, er bod i­ddynt lai o achos i wneuthur hynny nag i ni. Ac o'r achos hynny yr ewyllysir i ni dreiddio trwy'r bywyd hwn trwy ofalu, a gwilio, ac ofn a dychryn. Ac o'r achos hyn­ny hefyd y dywa [...]d y gwr doeth, Gwell yw myned i dŷ galar, [...]reg. 7.2. nag i dy gwledd. Calon doe­thion [...]ydd yn nhŷ'r galar, ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd. Gwers. 4. Yn ddiweddaf, o'r achos hyn y dywaid yr Scrythur, Gwyn ei fyd y dŷn a ofno yn wastadol. Yr hyn nid yw ddim ond y peth y mae'r yspryd glân yn ei orchymyn i bob dŷn trwy'r Prophwyd Mich [...]as, [...]ih. 28.14. sef, Rhodio yn ofalus ac yn ddiwyd gyda Duw▪ gan feddwl am ei orchymmynion ef, Mich. 6.8. [...]at. a pha fodd yr ydym yn eu cadw ac yn eu gwneu­thur hwynt, a pha fodd yr ydym yn gwrth­wynebu [Page 387] ac yn marweiddio ein haelo­dau yma ar y ddaiar, a'r cyffelyb. A phe cai'r cyfryw feddyliau le ynom ni, hwy a dor [...]ent ymmaith lawer o'r difyrrwch bydol sy 'n dymchwelyd lla­wer o bechaduriaid diofal: sef yw hyn­ny, y gymdeithas dda o fwytta, ac yfed, a bod yn llawen a chanu, ac ymresymmu, a'r cyfyryw oferedd, y rhai sy fwyaf yn ein tynnu ni oddiwrth yr hyn a ddy­lem ei wneuthur.

30 Ac o hyn y rhoes Christ i ni gyngor godidog, Jo. 10. Luc. [...]9. wrth ei waith yn wylo cyn fyny­ched, sef ar ei enedigaeth, ac wrth gyfodi Lazarus o farw i fyw a thros [...]erusalem, ac ar y groes. Ond nid ydym ni yn ddarllain iddo chwerthin vnwaith yn ei holl fywyd. A hyn y mae ein genedigaeth a'n marwolaeth ni ein hunain yn ei arwy­ddoccau i ni, y rhai sy ar law Dduw bob vn o'r ddau, ac a ordeiniwyd i ddyfod i ni trwy dristwch a gof [...]d▪ fel y gwelwn ni. Ond gan fod y canol rhwng y ddau, sef ein bywyd ni yn y byd yma, trwy ordinháad Duw wedi ei adael ar ein dwy­lo ni ein hunain, yr ydym ni yn treu­lio hynny mewn difyr [...]wch ac oferedd, heb feddwl vn amser o ba le y daethom ni, nac i ba le yr awn ni.

31 Pan fo gwr sy [...]hwyrol ar ei siwr­ [...]ai yn myned heibio i'w letty, er bod yn cynnyg iddo fwydydd o'r dain [...]ei­ddiaf, [Page 388] etto efe a ymgeidw rhagddynt, pan ystyrio faint yw pris y bwydydd, a maint sy 'n ôl o'i daith ynteu: ac ni chym­mer ef ddim ond cymmaint ac a wypo fe 'n dda fod gantho fodd ei dalu am dano wrth fyned ymaith y boreu: ond yr ansynhwyrol a dery ei law ar bob saig ddaintethol a ddel i'w olwg, ac a â yn wr gwych tros noswaith neu ddwy; ond pan ddeler i gyfrif ag ef, fe fy­ddai well ganddo pe buasai bodlon i ymborth ar fara a diod, nâ'r dra­fferth a fydd arno wrth wneuthur ei gyfrif. Arfer rhyw eglwysydd ydyw ymprydio ar bob noswyl, a bod yn lla­wen drano [...]th ar yr wyl; a hynny a all arwyddoccau▪ i ni fawr ddirwest y rhai duwiol yn y byd hwn, a'r lla­wenydd a gânt hwy yn y byd a ddaw. Ond y mae arfer y byd yn y gwrthwyneb▪ sef yfed, a bwytta, a gwneuthur yn llawen yn gyntaf yn y dafarn, a chwedi hynny gadael i'r llettywr ddwyn i mewn ei gyfrif. Y maent hwy yn bwytta, ac yn yfed, ac yn chwerthin, a'r llettywr ynteu yn y cyfamser yn rhoi 'r cwbl ar yr ysgôr. A phan ddêl yr amser i dalu, yno y bydd llawer calon yn brudd, oedd o'r blaen yn llawen.

32 A hynny y mae 'r Scrythur lân hefyd yn ei ddywedyd am ddifyr­rwch [Page 389] y byd, Chwerthin a fydd yng­hymmysg â gofid, a diwedd llawenydd yw tristwch. Y mae'r cythraul, Dih. 14.13. megis llettywr yn y byd hwn, yn barod i'ch gwasanaethu chwi â phob mwythau a difyrrwch ac a ddymunoch chwi, ond y mae efe yn ysgrifennu 'r cwbl yn ei lyfr, a phan fôch chwi yn yma­dael (hynny ydyw, wrth eich marw) ef a ddwg yr holl gyfrif gar eich bron chwi, ac a rydd y cwbl yn eich saig chwi: ac yno y canlyn yr hyn y mae Duw yn ei addo i'r rhai bydol trwy'r Prophwyd AMOS, Sich llawenydd chwi, Amos 8. Tob. 2.6. a'ch cane [...]au a droir yn oernad ac yn gwynfanpunc; Ië, a mwy nâ hynny hefyd, oni byddwch chwi abl i dalu' [...] cyfrif, nid hwyrach i chwi gael clywed y farn ofnadwy arall a ddyweid CHRIST yn llyfr y Date. D [...]t [...]. 18. [...] Cymmaint ac yr ymogone­ddodd hi ac y bu mewn mwythau rhoddwch iddi y cymmaint arall o ofid a galar.

33 Ac am hynny, i ddibennu y pwngc yma, a'r rhan gyntaf yma he­fyd ynghylch gorwagedd ac oferedd; ni a allwn ddywedyd yn ddigon gwir gydâ'r Prophwyd Dafydd am yr hwn a fo á me­ddwl bydol gantho, Psal. 39. Diau mai cwhl wagedd yw pob dyn byw; gan nad yw ei holl fywyd ef yn cynwys dim ond gwagedd. Hynny yw, gwagedd ac oferedd yn y chwant sydd gantho i anhrydedd a goruchafiaeth, [Page 390] gwagedd yn ei gyfoeth, gwagedd yn ei ddifyrwch a'i lawenydd, gwagedd ymhob peth ac y mae ef yn gwneuthur mwya cy­frif o hono. Ac am hynny da y gallaf ddi­bennu â geiriau Duw trwy Esai, Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferodd. Es. 5, 18. Y rheffynnau yma ydyw oferedd gorwag-clod, goruchafiaeth, parch, bo­nedd, tegwch pryd a gwedd, cyfoeth a golud, difyrrwch a llawenydd, ar pe­thau eraill a grybwyllwyd o'r blaen: y rhai sy bob amser yn tynnu gydâ hwynt ryw bechod ac anwiredd. Ac o'r achos hwnnw y mae DAFYDD yn dywedyd wrth Dduw, Psal. 31.6. Lat. Cas gennyti y rhai sy'n dal ar ofer wagedd. Ac yn ddiweddaf, o'r a­chos yma y mae'r ysbryd glân yn adrodd yn gyffredinol am bob dyn, Psal. 40.4. Lat. Gwyn ei fyd y gwr ni thry at oferedd, ac ynfy­drwydd twyllodrus y byd hwn.

34 Weithian gan hynny dyma fi yn dyfod at yr ail rhan o'r bennod yma, ac i ddangos nad yw'r byd hwn a chwbl ac sydd iw gael ynddo, Mat. 13. yn wagedd ac oferedd yn vnig, ond gydā hynny yn hûd ac yn siommedigaeth, (fel y mae CHRIST yn dywedyd amdano) am nad ydyw (mewn gwirionedd) yn cwplau ac yn cywiro a'r rhai sy'n glynu wrtho, mo'r oferedd coeg diwres y mae'n ei a­ddaw iddynt. Gen. 29. Ac yn hynny y gellir cyffe­lybu'r byd i'r twyllwr cyrrith anniolch­gar [Page 391] Laban, yr hwn a wnaeth i Iacob dr [...]an ei wasanaethu ef saith mlynedd am ei ferch lân Rachel, ac yn y diwedd ai twy­llodd ef a'i ferch ddiffaith anhawddgar Leah. A pheth am yr addewidion gau y mae'r byd yn ei wneuthur beunydd? I vn y mae 'n addaw hiro [...]s a hir iechyd; ac a'i tyrr ef ymaith ynghanol ei ddy­dd [...]au. I arall y mae'n addaw cyfoeth mawr a go [...]uchafiaeth, ac yn ôl hir wasanaeth, nid yw yn c [...]wi [...]io yn gronyn ag ef. I arall y mae'n addo anrhydedd mawr wrth dreu­lio'n helaeth, ac yn rhi [...]h hynny y mae yn ei ddwyn ef i ddirmyg trwy dl [...]di. I arall y mae'n addo codiad mawr wrth briodas, ac etto ni wna fe mo hono byth yn abl igael yr hyn y mae 'n ei ddymuno· Ewch tros yr hollfyd, edrychwch ar y gwledydd, a'r talcithiau, a'r dinasoedd; gw [...]an­dewch wrth ddrysau a ffenestri tai 'r deiliaid, a llysoedd y brenhinoedd, a'i sta­felloedd dirgel cyfrinachol▪ ac ni chewch na gweled na chlywed dim ond achwynion tostur gan bob dyn, y naill am ei golled, y lall am na bai yn ynnill, a'r tryddyd am nad yw yn cael a'i bodlon, a deng mil am eu bod yn cael eu twyllo a'i siommi.

35 Pa dwyll fwy a all fod (i ddwyn i chwi esampl) nag addo i vn barch, a chael coffa am dano yn ei ol, fel y mae 'r byd yn addo i'r rhai sy'n ei wasanaethu ef; ac er hynny eu gill­wng [Page 392] hwy yn angof er cynted y bônt feirw? Pwy sy yr awrhon yn cofio vn ym mysg deugain mil o wyr gwy­chion a fu yn y byd, yn gapteiniaid, yn rhyfelwyr, yn gynghoriaid, yn ddu­giaid, yn ieirll, yn dywysogion, yn breladiaid, yn ymmerodron, yn frenhin­oedd ac yn frenhinesau, yn arglwyddi ac yn arglwyddesau? Pwy meddaf, ly 'n eu cofio hwy? Pwy sy vnwaith yn meddwl nac yn sôn am danynt hwy yr awrhon? Oni ddarfu eu coffodwriaeth gyd a hwynt, a chydâ i trwst a'i rhodres, Psal. 9.6. fel y dy­weid y Prophwyd? Ond cywir adde­wid IOB, Iob 13.12. y byddai eu coffadwriaeth hwy yn gyffelyb i'r lludw a sethrir tan draed? A DAFYDD, Psalm. 1. & 35.5. y byddent hwy fel y man vs a chwal y gwynt ymaith? llawer o wŷr a fu ym mlaen hyn, a gyfrifid yn wael ac yn ddisas iawn yn eu hamser: ac etto am eu bod hwy yn gwneu­thur eu goreu ar fod yn anenwog yn y byd, am hynny y mae 'r byd yr awr­hon yn hyttrach yn eu cofio hwynt, ac yn anrhydeddu eu coffadwriaeth hwy. Ond llawer brenhin ac ymme­rodr a fu yn ymegnio, ac yn gwneu­thur eu goreu tros eu holl fywyd, am gael bod yn honnaid ac yn en­wog yn y byd, ac etto yr awrhon hwy a ebargofiwyd oll. Ac felly y mae 'r byd yn hynny yn debyg (fel y [Page 393] dywed vn) i lettywr cybydd, drwg ei gof, yr hwn os gwŷl efe vn o'i hên lettywyr yn dyfod heibio mewn cyflwr cardottyn, wedi treulio ei holl arian; efe a gymmer arno nad edwyn ddim o hono. Ac os [...]hyfeddu a wna'r truan wrrh hynny, a dywedyd, iddo ddy­fod yn fynych ffordd honno, a threulio llawer o arian yn ei dŷ ef; y llettywr a ettyb, fe a [...]lai hynny fod, oblegid y mae cymmaint o ddynion yn myned heibio ffordd yma, ac nad ydym ni yn cadw cy­frif yn y byd o honynt. Y ffordd i chwi i gael gan eich llettywr eich adnabod, (medd yr vn awdur?) ydyw bod yn ddrwg wrtho; curwch ef yn dda, neu wnewch [...]yw lwyr gam ag ef, ac efe a'ch edwyn chwi tia fo byw; a mynych y sôn efe am danoch, pan foch chwi ym mhell oddi­wrtho.

36 Aneirif yw siommedigaethau a ffuant y byd. Y mae efe'n edrych yn wŷch, ac. yn dêg, ac yn hyfryd, yn y golwg oddiallan: ond os nia'i teim­lwn ef, nid yw efe ddim ond pluen: os ni a ddaliwn sulw arno, nid yw efe ond cysgod: os ni a'i pwyswn, nid yw efe ond mŵg: os ni a'i hegyr, nid yw efe ond delw wedi ei gwyngalchu, yn llawn hên garpiau a brattiau o'r tu mewn. Os mynnwchwi gael adnabod trueni a gofi­diau 'r byd, rhaid i chwi fynd ychydig allan [Page 394] o honaw. Oblegid, megis nas gall y rhai sy yn rhodio mewn niwl, weled y niwl cystala'r rhai sy'n sefyll ar frynn ennyd o­ddiwrtho: felly y mae am adnabod y byd, yr hwn sy gnawd iddo ddall [...] y rhai a ddêl iddo, rhag iddynt weled [...]u cyflwr eu hun: fel y mae 'r gigfran yn g [...]ntaf yn tynnu llygad y ddafad truan, ac felly yn peri iddi na allo weled diangc rhag ei chreulonder hi.

37 Pan ddarffo i'r byd vnwaith yspeili­o'r bydol am ei olwg ysprydol, fel nas medro mwy farnu rhwng drwg a da, rhwng gwagedd a gwirionedd, yna y mae yn suo iddo, ac yn peri iddo gysgu mewn esmwy­thyd a difyrwch, [...]c yn ei rwymo ef yn dra melus, ac yn ei dwyllo ef yn hyfryd tros ben; Mat. 4. ac yn ei bo [...]ni ef mewn heddwch a llonyddwch mawr: ac yn y man y mae gan­tho ysbryd balch i'w osod ef ar binacl chwant i anrhydedd, ac i ddangos iddo oddi yno swyddau, ac vchelfreiniau, a go­ruchasiaethau'r holl fyd. Y mae gantho v­gain o farsiandwyr ffeilsion ei ddangos iddo yn y tywyll, y pen blaen i frethynnan têg gwerthfawr, ond ni chaiff efe weled yr holl we frethyn, na'i dwyn i'r goleu i e­drych arni: y mae gantho bedwar cant o brophwy di gau i wneuthur truth a gwen­iaith iddo, fel yr oedd gan Ahab, a rhei'ni sy raid iddynt luddias iddo wrando cyn­gor Micheas; 1 Bren. 22. hynny ydyw, rhag edrych yn ci [Page 395] gydwybod ei hun, yr [...]on a ddywaid iddo'r gwir: y mae ganddo fil o bysgodwyr cyfar­wydd, Dat [...]. 17. iosod abwydydd hyfryd ger ei fron ef, ond bod bachau peryglus o'r tu mewn i bob vn o honynt. Y mae ganddo aneirif o buteiniaid Babilon, i gynnyg iddo ddiod mewn phiolau aur, ond bod y cwbl wedi ei gymmysgu [...] gwenwyn marwol. Y mae gan­ddo ym mhob drws ryw Jael i'w ddenu ac iw hudo ef at laeth digrifwch a mwythau, Barn. 4. ond bodgan bawb o honynt forthwylion a hoelion yn ei dwylo, i'w daro yn ei ar­lais ef, ac i'w ladd, pan gaffont ef yn cys­gu. Y mae cantho ym mhob cornel ryw Ioab wenhieithus, i'w gofleidio ef â'r naill fraich, ac i'w lâdd â'r llall, a Siuddas fradwr i'w fradychu ef â ch [...]san. Yn ddiweddaf, y mae gantho bob math ar dwyll, a phob math ar ffuant, a phob math ar wen­iaith, a phob math ar frâd ac a fai bossibl ei ddychymmyg. Y mae'n casâu 'r neb a'i caro, yn twyllo'rsawl a ymddiriedo iddo, yn poeni'r rhai a'i gwasanaetho, yn dir­mygu'r sawl a'i hanrhydeddo, yn dwyn i golledigaeth y sawl a'i canlyno, ac yn gollwng yn fwy tros gof, y sawl sy fwyaf eu poen a'i llafur trofto. Ac i dalfyrru'r pwngc yma, gwnewch cymmaint ol [...] ac a alloch tros y byd yma, a cherwch ef, ac a­ddolwch yn gymmaint ac y mynnoch; e [...] ­to yn y diwedd chwi a gowch weled mai Nabal yn vniawn ydyw efe, 1 Sam. 25. yr hwn wedi [Page 396] iddo gael llawer o gymmwynasau gan Ddafydd, etto pan ddaeth ar Ddafydd ei eisieu ynteu, efe a attebodd, Pwy yw Dafydd? A phwy yw mab Jesse, fel yr adwaenwn i ef? Nid heb achos mawr wrth hynny, y dywedodd y Prophwyd DAFYDD, Psal. 4.2. Oh feibion dynion, pa byd y byddwch mor ddiddeall eich calon? yr hoffwch wegi ac yr argeisiwch gelwydd? Y mae efe yn galw 'r byd nid yn gelwy­ddog ond yn gelwydd, o herwydd maint ei hûd a'i dwyll.

38 Y trydydd henw y mae ein iachawdr Christ yn ei roi i ddifyrrwch a golud y byd, ydyw eu bod hwy yn ddrain: am yr hyn y mae S. Grigor yn yscrifennu fel hyn, Mom. 5. in Euang. Pwy a'm credasai i byth pe buaswn i yn galw cyfoeth yn ddrain fel y gwna­eth Christ, gan fod drain yn pigo, a bod cyfoeth mor hyfryd? Ac etto yn siccr drain ydynt hwy, am eu bod hwy â phigau yr gofalus feddyliau sydd yn eu canlyn, yn rhwygo meddyliau y rhai bydol, ac yn tynnu gwaed o honynt. Wrth y geiriau hynny y mae'r gwr du­wiol yn arwyddoccau, mai megis na ddichon corph noeth dyn a dreigler ac a dafler ym mhlith llawer o ddrain, na chaffo ei rwygo, a'i ddryllio, a'i wneuthur yn waedlyd gan eu pigau hwynt: felly nis gall enaid y gwr bydol a gurer gan ofalon a meddy­liau'r [Page 397] fuchedd hon, nas caffo ei fli­no gan eu hanorphwys bigiadau hwynt, ac nas archoller ef gan law­er o demptasiwnau pechod a fo yn cyfarfod ag ef. Hyn y nae Salomon yn ei arwyddoccau, yn y lleoedd a adro­ddwyd o'r blaen, lle y mae efe yn galw golud a difyrrwch y byd hwn, nid yn vnig yn wagedd o wagedd, hynny ydyw, yn fwya' gwagedd ac sydd, Preg. 1. ond hefyd yn orthrymder yspryd; gan ddwyn ar ddeallt i ni, pa le bynnag y mae'r gwagedd yma, a chariad arno wedi dyfod i mewn, nad oes yno ddim tangnefedd Dduw yr hwn sydd vwch law pob deall; Phil▪ 4▪ nad oes yno ddim mwy esmwythdra a llonyddwch meddwl, ond rhyfel rhwng trachwantau, a blinder meddyliau, a thrallod gan ofn, a phigo gan ofalon, ac aflonyddwch enaid, yr hyn mewn gwirionedd nid yw ddim ond gofidus a thostur orthrymder yspryd.

39 A'r rh [...]swn o hyn ydyw, megis ac nas gall clock byth sefyll yn llonydd heb gerdded tra fo'r pwysau ynghrog wrtho, felly nis gall gwr bydol a fo ac aneirif o ofalon, a meddyliau, a phetrus­der ynghrog wrth ei feddwl, megis pwysau wrth y clock, byth gael na llonydd nac esmwhthdra, na dydd na nôs, ond bod yn ddir iddo guro ei ymmen­rydd, pan fo eraill yn cysgu, er mwyn [Page 398] ceisio dyfod o hyd i'r coeg-bethau hynny, sydd yn ei drallodi ef. Oh faint o wyr go­ludog yn y byd sy 'n gwybod fod yn wir y peth yr wyfi yn ei ddywedyd yr awrhon? a maint o'r rhai chwan­nog i anrhydedd sydd yn ei wir [...]o beunydd, ac etto ni fedrant ymadael ag ef?

40 O'r holl blaau a ddanfonwyd ar yr Aipht, blinaf a dygnaf oedd y bla wybed. Oblegid nid oedd y rhai'ni vn amser yn gadael i ddynion mor llonydd, ond pa mwyaf y curid hwy ymaith, mwyaf y cyrchent attynt hwy. Felly o'r holl ofidiau a'r blinderau y mae Duw yn eu dodi ar y rhai [...]ydol, nid lleiaf hyn, eu bod yn cael eu poeni â go­falon am y pethau y maent yn eu cyfrif yn fwya dedwyddyd iddynt, ac heb allu mo'i gyrru ymaith er dim a fedront ei ddychymmyg. Mae'r gofalon hynny yn rhuthro arnynt hwy y boreu cyn gyn­ted ac y deffroont o'i cwsg, ac yn aros gyd â hwynt ar hyd y dydd, ac nid ymadawant a hwynt y nos, ond y maent yn eu canlyn i'w gwe­ [...]yau, ac yn lluddias iddynt gysgu, ac yn flin wrthynt yn eu breuddwydion; ac yn ddiweddaf, y maent yn debyg i'r rhai creulon hynny y mae Duw yn byg­wth eu danfon ar yr annuwiol trwy'r Prophwyd Ieremi, [...]. 16.13. [...]at. Y rhai ni chair llonydd [Page 399] ganddynt, na dydd, na nos: a'r achos y mae Duw yn ei ddangos am hynny yn yr vn man yw hyn, Canys mi a gymmerais ymmaith fy heddwch oddiwrth y bobl hyn, Gwers. 5. medd yr Arglwydd, sef trugaredd a tho­siuri. Dyna farn drom i'r rhai sy dan iau a chaethiwed y gwagedd blin hynny.

41 Ond etto y mae 'r Prophwyd E­say yn po [...]treiad [...] cyflwr y cyf [...]yw ddy­nion, yn erchyllach o [...]awer, Y maent yn ymddiried mewn peth heb ddim, Es. 59.4. Lat. ac yn chwedleua am wag [...]dd, yn beichiogi ar flinder ac yn esgor ar anwireda; y ma­ont yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gweoedd y pryf coppyn: yr hwn a fwyllao eu hwyau a fydd marw▪ a'r hwn a sathrer a dyrr allan yn wiber; eu gweoedd ni byddant yn ddillad, ac nid ymwisgant a'i gwaith: canys eu gwaith sy anfuddiol, a gwaith anwiredd syddyn eu dwylaw. Dyma eiriau Esay, y rhai sy'n dangos i ni trwy gyffelybiaethau yn llawn o arwyddoccad, mor beryglus o ddrain ydyw cyfoeth a difyrrwch y byd hwn. Ac yn gyntaf y mae'n dywe­dyd eu bod hwy yn rhoi eu hyder ar be­thau diddim, ac yn chwedleua am wagedd; i arwyddoccau ei fod efe yn meddwlam wagedd a gwag ddynion y byd hwn, y rhai a chwedleuant fynychaf am y peth y maentyn ei garu yn fwyaf, ac yn hyderu arno fwyaf. Yn ail y dyweid, eu bod yn bei­chiogi [Page 400] ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd: trwy gyffelybiaeth o waith gwragedd yn es­gor, y rhai yn gynta' sy' n beichiogi yn y grôth, ac yn ôl llawer o flinder, yn esgor ar eu plentyn: ac felly y mae y rhai bydol; yn ôl hir amser o flinder a llafur mewn oferedd a gwagedd, nid esgorant ffrwyth yn y byd, ond pechod ac anwiredd. Oblegid dyna ddiwedd yr oferedd a'r gwagedd hyn­ny, Esa. 5.18. fel y dywaid ef yn yr vn bennod, gan weiddi ar y cyfryw ddynion, Gwae chwi [...] rhai a dynnwch anwiredd à rheffymau [...]feredd.

42 Ac etto, i hyspysu 'r peth yn oleuach, y mae'n dwyn dau gyffelybia­eth arall, gan ddywedyd, eu bod hwy yn deor wyau aspiaid, ac yn gwau gweoddy pryf coppyn: i arwydddoccau wrth y naill gy­ffelybiaeth mor ofer ac mor orwag ydyw gofalon bydol, ac wrth y llall mor beryglus, ac mor enbyd ydynt. Y mae 'r prŷf coppyn, fel y gwelwn ni, yn cymmeryd poen fawr, ac yn llafurio tros lawer o ddyddiau ynghyd i wau ei we, ac yn y man, pan ddarffo iddo, fe ddaw chwa o wynt, neu ryw beth arall, ac a'i tyrr hi 'n gandryll. Fel y gwr yn yr Efengyl a gymmerasai lawer o boen a gofal, yn pentyrru cyfoeth ynghyd, yn tynnu i lawr ei hen ysgu­boriau, ac yn adeiladu rhai newydd; a [Page 401] Phan ddaeth efe i ddwedyd wrth ei enaid Bydd lawen weithian, y nos hon­no y ducpwyd ei enaid addiarno, Luc. 12. ac yr aeth ei holl boen ef yn ofer. Ac am hynny y dywaid Esay yn y fan yma, nad a gweoedd y gwehyddion hyn yn ddi­llad, am fod eu gwaith bwy yn anfu­ddiol.

43 Y gyffelyaeth arall fydd yn dangos y perygl maw'r a'r ofn. Oblegid, fel y mae'r aderyn a eisteddo ar wyau neidr neu asp, wrth eu deor a'i torri hwy, yn esgor ar nythlwyth peryglus, i'w ddinistr ei hun: felly y mae y rhai sy yn eistedd ar oferedd a gwagedd y byd, megys ar wyau, medd Esay, yn deor o'r diwedd eu dinistr eu hun. A'r rheswn o hynny ydyw, fel y dywaid efe, Oblegyd mai gwaith anwiredd sydd yn eu dwylaw. Lle y mae efe yn taro yn wastad ar yr vn tant, ac yn dangos nas gall dyn garu, a chanlyn yr oferedd yma, nac ymrwydo yn ei raffau (fel y mae'r ymadrodd) heb dynnu atto lawer o anwiredd â hwynt; hynny ydyw, heb fed ganddo ynghymmysg â hwynt lawer o bechod, a llawer o bethau i ddigio Duw: ac am fod hynny yn dyfod o be­chod, ac yn lladd yr enaid, am hynny y mae Esay yn ei gyffelybu i nythaid o nadroedd yn llâdd yr aderyn a'i dycco i'r byd. Ac yn ddiweddaf, y [Page 402] mae Moysen yn dwyn yr vn fath gyffe­lybiaethau, lle y mae efe yn dywedyd am ddynion ofer annuwiol, Deu. 52.32 O win-wy­dden Sodom y mae eu gwinw [...]dden hwynt; eu grawnwin sydd rawnwin bustl [...]dd▪ a'i grawn-syppiau sy chwerwon▪ Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a gwenwyn yr aspiaid, yr hwn nid oes help rhagddo. Wrth y cyffelybiaethau erchyll ffiaiddhyn y mynnai efe i ni ddeall, nad yw pleser hyfryd y byd yma, ond sion medigae­thau, ac y ceid gweled ryw ddydd chwer­wed a pheryccled ydynt hwy.

44 Y pedwerydd pethy sy i ni i'w ystyried, yw dangos pa fodd y gellir gw [...]rio nad yw'r byd hwn a'i ddedwy­bddch ddim ond gofid, a blinder. Ac er [...]od hynny yn ddigon amlwg, wrth yr hyn a ddywetbwyd o'r blaen, etto (gan i mi addo) mi a'i hegluraf yma ychydig pellach wrth amryw ofidiau neillduoll. Ac ym mhlith llawer o ofidiau a allwn ni eu cyfrif yma, y cyntaf ac vn o'r rhai mwyaf ydyw, fyrred ac anficcred ydyw pob llwyddiant yn y byd hwn. Och Dduw, ond gofid mawr yw hynny i wr bydol a fynnai fod ei ddifyrrwch a'i lwyddiant yn ddianwadal, ac yn bar­haus? Oh angeu, mor chwerw yw me­ddwl am danat ti (medd y gwr doeth) i'r dyn a fyddo yn byw mewn heddwch yn yr hyn sydd ganddo; Eccl. 41.1. i'r gwr a fyddo di­helbul, [Page 403] a llwyddiannus ym mbob peth! Ni a welsom lawer o wŷr yn cael codi­ad, ac heb pathau ddeufis yn eu llwydd­iant: Ni a glywsom sôn am lawer a briodwyd mewn ll [...]wenydd mawr, ac heb gael byw wythnos yn [...]u dedwy­ddyd: Ni a ddarllennasom bethau dieithr i'r defnydd yma, ac yr ydym ni beunydd yn gweled â'n llygaid lawer o esamplau o'r cyffelyb. Pa ddolur a go­fid, dybygwch chwi, oedd i Alexander mawr, wedi iddo mewn deuddeng mhly­nedd orchfygu y rhan fwyaf o'r holl fyd, orfod arno farw pan oedd chwannoccaf i gael byw; a phan oedd i gymmeryd y llawenydd a'r diddanwch mwyaf o'i orfodaethau? Pa dristwch oedd i'r gwr goludog yn yr Efengyl, glywed dywedyd wrtho yn ddisymwth, Hac nocte, Luc. 12. Y nos hon y dygir dy enaid oddiarnat? Pa drueni a gofid gan lawer rhai bydol a fydd hyn, pan ddel attynt; y rhai sy yr awrhon yn adeiladu palasau reg, yn prynu tiro­edd, yn pentyrru golud, yn cyrhaeddyd vchelswyddau, yn gwneuthur priodasau, yn clymmu cyfathrachon, meg is pe na byddai byth ddiwedd ar y pethau hyn? Pa ddiwrnnod tostur fydd hwnnw iddynt (meddaf) pan orffo arnynt adael y cwbl y maent hwy 'r awhron yn eu hoffi 'n gym­maint? Pan droer hwy heibio, fel y gwneir â mulod Twysogion, pan ddelont i ben eu [Page 404] siwrnai: sef yw hynny, tynnu 'r tryssor oddi­a [...]ynt, ac heb adael iddynt hwy ond y cefnau briwedig? Oblegid, fel y gwelwn ni 'r mulod hynny ar hyd y dydd yn cael eu llawnbwn o drysor ar eu cef­nau, a'i hulio â brethynnau gwyehion teg; ond erbyn y nôs yn cael eu troi i stabl ddrwg, wedi briwo a blingo eu cefnau yn dwyn y trysor hwnnw: felly y mae'r cyfoethogion sy'n ymdaith yn y byd hwn yn llwythog o aur ac arian, ac yn briwo eu cydwybodau yn ddrwg wrth eu dwyn hwy; yn cael dwyn eu llwyth oddiarnynt pan font feirw, a'i troi heibio, a'i cydwybodau cefnrhwd canthynt, i ystabl erchyll ffiaidd vffern a cholledigaeth.

45 Trueni a gofid arall sydd gyfsyll tedig â llwyddiant y byd, yw yr gwrrhbwys trwm o anfodlonrwydd sydd yn canlyn pob difyrrwch bydol. Ystyri­wch bob dysyrrwch yn y byd, ac edrychwch pa [...]aws a geir gyd ag ef. Gofynnwch i'r rhai a brofodd hynny fwyaf, ydynt hwy wedi cael eu bodlo­ni, ai nad ydynt. Gydâ chyfoeth y daw llawer o ofn, a gofalon, fel y dan­goswyd o'r blaen. Ynghyd â chodiad ac anrhydedd y mae pob math ar flin gaethiwed ac a ellir ei ddychymmyg: difyrrwch a pleser y cnawd, er ei fod yn gyfreithlon ac yn honest, etto y [Page 405] mae S. Paul yn ei alw yn flinder yn y cnawd: ond os bydd yn gyssylltedig, 1 Cor. 7.28. a phechod y mae pob math ar ofidiau yn ei ganlyn yn ddeng mil mwy.

46 Pwy a feidr gyfrif gofidiau, a blin­derau ein corph ni? cynnifer o glefy­don, cymmaint o wendid, cymmaint o aflwydd, cynnifer o beryglon, ac sydd iddo▪ Pwy a feidr gyfrif gwyniau ein meddyliau ni, y rhai sy'n ein blino ni, weithiau â digofaint, weithiau â thrist­wch, weithiau â chynfigen, weithiau â chynddaredd ac â gwylltineb? Pwy a ŵyr rifo pob gwrthwyneb, a phob echrys sydd yn dyfod i ni oddiwrth ein da? pwy a ŵyr rifedi y niweidion a'r anfodlonedd sy'n digwyddo i ni beu­nydd oddiwrth ein cymydogion? y naill yn ein dwyn ni i gyfraith am ein gwirdda cywir, a'r llall yn erlyn arnom am ein bywyd: y trydydd trwy enllib yn dwyn ein henw da ni: un yn ein blino ni â chasineb, vn arall â chynfi­gen, vn arall â gweniaith, vn arall â thwyll, vn arall â dial, vn arall â cham dystiolaeth, ac vn arall â chyrch cyhoe­ddog ac â brwydr gyfaddef. Nid oes cymmaint o ddyddiau ac o oriau yn ein bywyd ni, ac sydd o ofidiau a gwrthwy­neb. Ac ym mhellach nâ hyn, y mae i'r drwg y rhagorfraint yma yn hytrach nag i'r da, yn ein bywyd ni; sef gallu o [Page 406] vn peth drwg ddadymchwel a boddi aneirif o bethau da ar vnwaith: fel me­gys pettai gan wr bob math ar ddedwy­ddwch ac a ellid i gael yn y byd, a bod vn daint iddo heb fod yn ei hwyl; ni allai yr holl ddifyr [...]wch arall mo'i wneuthur ef yn llawen. Ac o hynny y mae i chwi esampl oleu yn Haman vn o bencyngor y brenhin Ahasuerus: Hest. 5.10. yr hwn, am nad oedd Mordecai yr Iuddew yn codi ar ei draed iddo, pan elai hei­bio, ac yn ei anrhydeddu ef, fel yr oedd eraill, efe a ddywedodd wrth ei wraig a'i garedigion, nad oedd ei holl dded­wyddwch arall ddim iddo, wrth hynny o wrthwyneb. Er maint gog [...]niant ei gy­foeth, ac aniled ei feibion, a ma [...]nt ei fawr­haad, a'i barch, a'i anrhydedd, a'i ra­gor, gyd â 'r Brenhin a'r Frenhines, goruwch yr holl dywysogion, a gweision y Brenhin; ond (medd efe ei hun) nid yw hyn oll yn llessau i mi, tra fwyf fi yn gwe­led Mordecai yr Iuddew yn eistedd ym mhorth y Brenhin.

47 Rhown at hyn hefyd y mawr echrys o dywyllwch a dallineb y mae y rhai bydol yn byw yntho (am yr hyn y crybwyllais beth o'r blaen) yr hwn a gyffelybir yn gymmwys iawn i dywy­llwch yr Aipht, [...]o. 10.22. yr hwn a ellid ei deim­lo, gan yr hwn nis gallai neb weled ei gymydog, na neb weled ei waith, na [Page 407] neb weled ei ffordd: a'r fath hynny sy ar y tywyllwch y mae y rhai bydol yn rhodio ynddo; Y mae ganddynt lygaid, ond ni welant, medd Christ: Mat. 13. sef yw hyn­ny, er bod ganddynt lygaid i weled matterion y byd hwn, etto y maent hwy yn ddeillion, am nad ydynt yn gweled y pethau a ddylent eu gweled yn siccr. Y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth nâ phlant y go­leuni. Luc. 16.8. Ond y callder hwnnw sydd ym mhethau 'r byd hwn, ym matterion y tywyllwch, nid ym matteron y goleu­ni, yr hwn nid ydynt blant iddo: am nad yw'r dyn cnawdol yn deall nac yn gwybod y pethau sydd o Dduw. 1 Cor. 2.14. Tram­ [...]ywch tros y [...] holl fyd, ac chwi a gewch weled dynion cyn graffed eu golwg a'r eryr, mewn pethau daiarol; a'r vn rhai heb weled mwy nâ'r post, mewn pethau nefol. Ac o hynny y daw y peth tostur ei ystyried a welwn ni beu­ [...]ydd, sef bod yn gwneuthur cymmaint cyfrif o gyfreithiau dynion, a chym­maint o ddirmyg a diystyrwch ar or­chymmynion Duw; a bod cymmaint o [...]mgais am dda bydol, ac heb feddylieid [...]m y da nefol▪ a bod yn cymmeryd cym­maint o boen tros y corph, a chyn [...]eied o osal tros yr enaid· Yn ddiwe­ddaf, os mynnwch chwi weled faint y dallineb y mae'r byd yn byw ynddo, [Page 408] cofiwch fel yr oedd S. Paul, Act. 9. wrth fyned o wr bydol yn Gristion da, a chenn ar ei lygaid, y rhai a orfu i Ananias eu tynnu ymaith, a'r rhai oedd yn cuddio ei olwg ef o'r blaen, pan oedd efe yn ei falchder ac yn nenn y byd.

48 Heb law'r gofidiau hyn oll, y mae eto echrys arall, yr hwn mewn rhyw beth, In vita Psal. 11.6. sy fwy nâ'r llall: a hwnnw yw y rhifedi aneirif o demptasiwnau, ac o faglau, ac o hudoliaeth sydd yn y byd, yn tynnu dynion beunydd i gollediga­eth. Y mae Athanasius yn scrifennu am S. Anthon y meudwy, ddarfod i Dduw ryw ddiwrnod ddatguddio iddo gyflwr ybyd, ac efe a welai'rhollfyd trosto yn llawn rhwydau, ym mhob cornel iddo, a chythreuliaid yn eistedd wrthynt, i'w gwilied hwy. Y mae 'r Prophwyd Da­fydd hefyd, i arwyddoccau 'r vn peth, sef bod cymmaint o faglau yn y byd hwn, yn dywedyd, Hefir. 5.19. Y glawia Duw ar yr annu­wolion faglau: hynny yw, efe a ddioddef i ddynion pechadurus syrthio mewn maglau: ac y mae y rhai hynny mor aml yn y byd, ac ydyw'r desnynnau glaw sydd yn syrthio o'r nefoedd. Y mae pob peth gan mwyaf yn fagl angeu i'r dyn cnawdol calon-llaes: pob golwg a welo, pob gair a glywo, pob meddwl a feddylio, ei ieuengtid, ei oedran, ei garedigion, ei elynion, ei barch, ei [Page 409] ammharch, ei gyfoeth, ei dlodi, ei gwmpniaeth, ei hawddfyd, ei adfyd, ei fwyd y mae'n ei fwytta, ei ddillad amdano: y mae pob peth yn fagl i dynnu i ddistryw y neb ni bo gwilia­dwrus.

48 Ac o hyn yma ac o'r dallineb a ddywetpwyd o'r blaen, y daw 'r e­chrys diweddaf, a mwyaf o gwbl ac a all fod yn y bywyd yma; a hynny ydyw, hawsed gan y rhai bydol redeg mewn pechod. Oblegid gwir a ddywaid yr Scrythur lân, Dihar. 14.34. lat. Pechod yw'r peth sy'n gwneuthur y bobl yn ofidus. Ac etto mor hawdd gan bobl y byd bechu, a lleied matter ganthynt am bechu, y mae Iob yn dangos, lle y mae efe yn dywedyd, wrth sôn am y cyfryw ddyn, Job 15.16. ei fod efe yn yfed anwiredd fet dwfr: hynny ydyw, mor hawdd, ac mor gynne­fin ac mor esmwyth y mae efe yn gwneuthur pob pechod ac a ddêl arno ei wneuthur; ac y mae dyn y [...] yfed dwfr pan fo arno syched. Y neb ni chretto yr hyn y mae Iob yn ei dywedyd, edryched y chydig wrtho ei hun, pa vn a wna 'r peth ai bod felly ai pei­dio: rhodied allan i'r heolydd, ac edryched ar weithredoedd dynion, a gweled eu hymarweddiad hwy, ac ystyried pa beth yr ydys yn ei wneuthur yn y sioppau, yn y neuaddau, yn y senedd­au, [Page 410] yn y brawdleoedd, yn y palasau, ac ymmhob cyfarfod cyffredin; pa ddywe­dyd celwydd, pa enllibio, pa dwy lo sydd yno: ac efe a gaiff weled nad oes vn peth o'r pethau y mae dynion yn gwneu­thur dim cyfrif o honynt, cyn lleied matter am ei wneuthur ac ydyw pe­chod; fo a gaiff weled gwerthu cyfiawn­der, a gŵyro gwirionedd, a chwilydd wedi ei roi heibio, ac vniondeb yn cael ei ddiystyru: fo a gaiff weled bwrw 'r gwirion yn euog, a rhyddhau'r hwn a fo euog, a chodi'r annuwiol, a darostwng y duwiol: fo a gaiff lawer o ladron yn ei blodau, a llawer occrwr yn dwyn rhwysg, a llawer mwrdriwr a chrib­ddeiliwr yn cael ei berchi a'i anrhy­deddu, a llawer o ffyliaid mewn aw­du [...] dod, a llawer rhai hob ddim yn­ddynt, ond eu bod ar lun dynion, yn cael, er mwyn eu harian, eu gosod mewn swyddau mawr, i lywodraethu e­raill: fo a gaiff glywed allan o enau pob dyn gan mwyaf, wagedd, ac oferedd, a balchder, ac enllib, a chynfigen, a thwyll, a ffuant, a gwagsawrwydd, a gwammalrhwydd, a chelwydd, a thyn­gu, ac anudon, a chabledd: yn ddiweddaf, fo a gaiff weled y rhan fwyaf o ddynion yn eu llywodraethu eu hunain wrth dynn eu gwyniau eu hunain, yn yr vn modd ac y mae anifeiliaid, nid wrth gyfraith cyfiawnder, a rheswm, a [Page 411] chrefydd, a [...]hinwedd dda.

50 Ac o hyn y canlyn y pumme [...] pwngc y mae Christ yn ei ddangos yn y ddammeg hon, ac a addewais inneu ei draethu yma: a hwnnw yw, Bod serch ar y byd hwn yn tagu pob dyn y mae'r serch hynny yntho, o'i holl fy­wyd nefol ac ysprydol: am ei fod yn ei lenwi ef [...]o yspryd gwir wrthwyneb i yspryd Duw. Y mae 'r Apostol yn dywedyd, Pwy bynnag sy heb yspryd Christ ganddo, Rhuf. 8.9▪ nid yw hwnnw yn eiddo Christ. Ac mor wrthwyneb iw gilydd ydyw yspryd Christ ac yspryd y byd, fe ellir gweled wrth ffrwythau yspryd Christ, y rhai y mae S Paul yn eu rhi­fo at y Galatiaid, Gal. 5.22. lat. sef yw y rhai hynny, Cariad, yr hwn yw gwreiddyn a mam pob gweithre [...] dda; Llawenydd wrth wafanaethu Duw, Tangnefedd, [...]eu lonyddwch meddwl ym mysg tymhest­loedd y byd hwn; Dioddefgarwch mewn [...]dfyd; Hirymaros, wrth ddis­gwyl am ein gwobr; Daioni a chym­mwynas-garwch, heb wneuthur niweid i neb; Cyweithasrwydd, mewn ymddygiad hawddgar; Mwyneidd-dra ▪ pan roer achos i ddigio; Ffyddlondeb, yn cywiro ein haddewidion; Lled [...]eisrwydd heb ryfyg; Y­mattal oddiwrth bob drygioni; Diweir­deb, trwy gadw'r meddwl yn bur mewn corph glân difrycheu: Yn erbyn y rhai [Page 412] hyn, medd S. Paul, nid oes Cyfraith. Ac yn yr vn bennod y mae efe yn yspysu beth yw yspryd y byd wrth ei wrthwy­neb ffrwythau, Gwers. 19· gan ddywedyd, Amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw Torri priodus, godineb, aflendid, an­lladrwydd, delw-addoliaeth, swyngyfaredd, casineb, cynnhennau, gwynfydau, llid, ymry­son, ymbleidio, haresiau, cynfigennau, llo­fruddiaeth, meddwdod; cyfeddach, a chy­ffelyh i'r rhai hyn; am y rhai yr wyf yn rhagddywedyd wrthych, megis ac y rhag­ddywedais, na chaiss y rhai sy'n gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Duw.

51 Yma y gall pob dyn farnu am yspryd y byd ac yspryd Christ, ac wrth ei fwrw atto ei hun ef a all wybod amcan pa vn o'r ddau sydd yntho, ai 'r naill ai'r llall. Y mae S. Paul yn rhoi i ni ddw y reol dlysion fyrrion, yn yr vn man, i brofi hynny. Y gyntaf yw hon, Gwers. 24. Y rhai sy'n eiddo Christ a groes hoeliasant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau. Hynny ydyw, y maent hwy wedi marweiddio eu cyrph eu hunain yn gystal a'i bod yn ymdrech yn erbyn yr holl feiau a'r pechodau a ddywet­bwyd o'r blaen, ac heb ymroi i wasa­naethu eu trachwantau a'i temptasi­wnau hwy. Gwers. 25. Yr ail rheol yw hon, Os ydym yn byw yn yr yspryd, r [...]odiwn he­fyd yn yr yspryd. Hynny ydyw, bod [Page 413] ein hymddygiad ni a'r modd y bom ni yn rhodio yn arwyddo pa vn ydym ni ai byw ai meirw. Oblegid os bydd ein hymarweddiad ni a'n gwaith yn rhodio, yn ysprydol, sef yn gyfryw ac y dango­sais o'r blaen wrth ffrwythau 'r yspryd, yna 'r ydym ni yn byw yn yr yspryd, ac y mae ein bywyd ni yn ysprydol: ond os ein gweithredoedd ni a fydd enawdol, sef yn gyfryw ac y dangosodd S. Paul fod gweithredoedd y cnawd, yna cnaw­dol ydym ni, a meirw yn yr yspryd, ac nid oes i ni a wnelom â Christ, na chyfran yn nheyrnas nef. Ac am fod yr holl fyd yn llawn o'r gweithre­doedd cnawdol hynny, ac heb ddwyn dim ffrwythau o yspryd Christ, nac yn gadael iddynt na thyfu na ffynnu ynddo, am hynny y mae'r Scrythur lân bob amser yn gosod Christ a'r byd me­gis yn elynion gwrthwyneb i'w gi­lydd.

52 Y mae Christ ei hun yn dywedyd, Ioan. 14. Na ddichon y byd dderbyn yspryd y gwirionedd. A thrachefn yn yr vn E­fengylwr y dywaid, Nad oes nac efe, nac yr vn o'r eiddo ef o'r byd hwn, Io. 15. & 1 er eu bod yn byw yn y byd. Ac etto ym mhell­ach yn ei daerddrud weddi at ei dâd y dywaid, Y Tâd cyfiawn, Io. 17. y byd nid adnabu mo honot ti. Ac o'r achos hynny y mae S. Ioan yn scrifennu: O [Page 414] charneb y byd, 1 Ioh. 2.15. nid yw cariad y Tad yn­ddo ef. Ac etto ym mhellach y dywaid S. Iaco, Iac. 4.4. fod pwy bynnag, ni wnêl ddim ond ewyllysio bod yn gyfaill i'r byd, ei fod ef yn elyn i Dduw. Beth a ddywaid y rhai bydol wrth hyn? 1 Cor. 11. Y mae S. Paul yn dywedyd yn oleu y demnir y byd hwn. Ac y mae Christ ynteu yn bwrw at yr vn peth yn Efengyl Ioan, Io. 12. ond yn fwyaf o gwbl, yn ei weithred ryfeddol, pan fu iddo wrth weddio at ei dâd am bethau eraill▪ ddywedyd Non pro mund [...] r [...]go, Nid wyfi yn gofy [...] na thrugaredd na ma­ddeuant tr [...]s y byd, [...]o. 17. [...]nd i'r rhai a ro­ddaist ti i mi allan o'r byd. Och, mor ofnadwy yw hyn y mae efe yn ei ddy­wedyd, nad oedd efe yn gweddio tros y byd, ac ynteu yn Iachawdr i'r byd, ac yn oen Duw yr hwn sy'n dile [...] p [...] ­chodau'r byd, ac yn gweddio tros ei arteithwyr a'r rhai a'i croes-hoelient, Io. 1. Luc. 23. ac etto 'r awrhon yn dieithro'r byd oddi­wrth ei drugaredd! Oh nad ystyriai y rhai bydol y pwngc yma yn vnig; ac ni fu­cheddent hwy, yn fy nhŷb i, mor ddi [...]fn ac y maent?

53 A all neb, wrth hynny, ryfeddu pa ham y mae S, Paul yn gwaeddi mor ofalus arnom ni, Rhuf. 12. Na fyddwch vn ddull â'r byd hwn? A thrachefn, ar fod i ni ymwadu ac ymwrthod a holl chwan­tau'r byd? Tit. [...].12. A all neb ryfeddu pa ham y [Page 415] mae S. Ioan, yr hwn a wyddai gy­frinach a meddwl sanctaidd Christ yn y peth yma yn oreu o gwbl; yn dy­wedyd wrthym ni mor ddifrif, 1 [...]eb. 2 25. Na cherwch y byd, na'r pethau sy yn y byd. Ac oni allwn ni na charu 'r byd, na chymmaint á bod yn vn ddull ag ef, tan boen bod yn elynion i Dduw, ac yn euog o ddamnediga­eth dragywyddol, fel y dywetpwyd o'r blaen: pa beth a ddaw o'r dynion hynny sydd nid yn vnig yn eu gwneu­thur eu hunain yn vn ddull a'r byd, ac a'i orwagedd: ond hefyd yn ei gan­lyn ef, ac yn ymgais ag lef, ac vn rhoî eu pwys arno, ac yn gwario eu holl boen a'i trafael arno.

54 Os gofynnwch chwi i mi yr achos pa ham y mae Christ yn casau ac yn ffieiddio 'r byd gymmaint, y mae S. Ioan yn dywedyd i chwi, mai am fod yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni; 1 Ioan 5.19 am fod yspryd y byd yn wrthwyneb i yspryd Christ, fel y dywetpwyd vchod; am ei fod yn dysgu balchder, [...] gorwag­clod, a chwant i anrhydedd, a chynfigen, a dial, a malais, a digrif-chwant y cnawd, a phob math ar orwagedd ac ofer­edd: a Christ ynteu o'r gwrthwyneb yn dysgu gostyngeiddrwyd, a llarieidd­dra, a maddeu i'n gelynion, a dirwest, a diweirdeb, a hir-maros, a [Page 416] marweiddio'r corph a'i drachwantau, a dwyn y groes, a diystyru pob difyrrwch bydol; am fod y byd yn erlid y duwiol, ac yn maw [...]hau 'r drygionus; am ei fod yn diwreiddio pob rhinwedd dda, ac yn plannu pob drwg; ac yn ddiweddaf, am ei fod yn cau'r dry­sau yn erbyn Christ pan guro, ac yn ta­gu ac yn mygu'r galon y bo yn ei me­ddiannu. Da [...]c. 3.

55 Ac am hynny, i ddibennu y rhan yma gan fod y byd hwn fel y mae, mor orwag ac mor ofer, mor dwyllodrus, ac mor beryglus; gan ei fod yn elyn cyfaddef i Grist, a chwedi ei ysgymmuno a'i ddamno i bwll vffern; gan ei fod (fel y dyweid tad duwiol arall) yn arch trallod a thrafferth, yn ysgol gorwa­gedd, yn frawdle twyll, yn labyrinth pob amryfusedd; gan nad yw ddim ond ynialwch diffrwyth, a maes car­regog, a gwâl fawlyd, a garwfor tymmhestlog; gan nad yw [...]nd llwyn yn llawn drain, a gweirglodd yn llawn o nadroedd, a gardd dêg heb ddim ffrwyth ynddi, ac ogof yn llawn o ddreigiau gwenwynig anghe­uol; gan nad yw (fel y dangosais) ond ffynnon pob gofid ac echrys, ac afon o ddagrau, a chwedl dychymmyg yn llawn ffug, a gwallgof ac ammwyll hy­fryd; gan nad oes yn llawenydd y byd [Page 417] hwn, fel y dywaid S. Austin) ddim ond hyfrydwch a difyrrwch ffugiol gau, Ep. 39. a gwir arwder, a thristwch diammau, a phleser petrus, a llafur blinedig, ac esmwythdra ofnadwy, a gofid a thrueni tôst, a gobaith ofer o ddedwyddyd; gan nad oes ganddo ddim ynddo, (fel y dywaid S. Ioan aur-enau) ond wy­lofain, a chwilydd, ac edifeirwch, Ho. 22. ad Pop. Antioc▪ a gwradwydd, a phrudd-der, ac esgeu­lusdra, a llafur a lludded, a dychryn­fáau, a chlefydau, a pechodau, ie, a marwolaeth ei hun; gan fod esmwyth­der y byd yn llawn cyfyngder, a'i ddiogelwch heb sail iddo, a'i ofn heb achos o hono, a'i lafur heb ffrwyth oddiwrtho, a'i dristwch heb fudd o ddiwrtho, a'i ddeisyfiadau heb ffynniant, a'i obaith heb na thâl na gwobr am dano, a'i ofid a'i drue ni heb help rhagddynt; gan fod y dry­gau hyn, a mil ychwaneg yntho, ac nas gellir vn dim twrn da oddiwrtho; pwy a adawai ei siommi â'r cyfr w hu­doliaeth, a'i hudo â'r fath oferedd yn ôl hyn? Pwy a âd i gariad ar goegbeth morddiddim ac ydyw 'r byd, ei rwystro oddiwrth ardderchog wasanaeth Duw? A hynny allai fod yn ddigon i wr rhe­symol, i ddangos nad yw y rhwystr yma ond rhy wann i attal neb rhag gwasan­aethu Duw.

[Page 418]56 Ond etto, er mwyn cywiro fy addewid a wneuthum yn nech [...]euad y bennod hon, y mae gennyf air neu ddau etto, i ddango [...] pa fodd y mae [...] ni ochelyd perygl y byd hwn, a'i arfer a'i drin ef er llês a budd i ni ein hunain. Ac am y cyntaf, pa fodd y mae i ni ochelyd y pe [...]yglon, gan fod ynddo cymmaint o rwydau ac o faglu ac a ddywetpwyd o'r blaen; nid oes i ni vn ff [...]rdd i wneuthur hynny, ond gwn [...]uthur fel y bydd yr adar yn gwneuthur i geisio gochel maglau peryglus yr adarwr: hynny, ydyw, ymddyrchafu i fynu: i'r awyr ac felly hedeg vwch law'r holl faglau. Dib. 1.18. Gwaith ofer yw ta [...]u rhwyd yngolwg perchen adain, a'r peth a all ehedeg. Yr yspiwyr aeth i Iericho, er maint o faglau a osododd y gelynion iddynt, etto hwy a ddianga­sant rhag y cwbl am eu bod yn cerdded pennau 'r mynyddoedd medd yr Scry­ [...]hur Iân: Hom. 1. in Ios. ac at hynny y mae Origen yn bwrw, pan yw yn dywedyd, nad oes vn ffordd i ochel peryglon y byd hwn, ond trwy rodio ar y mynyddoedd a chanlyn y prophwyd Dafydd, sydd yn dywedyd. Derchasaf fy llygaid i'r my­nyddoedd o'r lle y daw fy nghymmorth, Psal. 12. a'm handdiffyn; i geisio gochel maglau'r byd hwn; ac yna y gallwn ddywedyd gydâ'r vn Dafydd, Ein henaid a ddiangodd [Page 419] fel aderyn o fagl yr adarwyr. Psal. 124.7. Phil. 3.20. Rhaid i ni ddywedyd gydâ S. Paul, Ein hym [...]rwe­ddiad ni sydd yn y nefoedd. Ac yna nid rhaid i ni ofni ond ychydig rhag dim twyll a pherygl sydd ar y ddaiar. Ob­legid, fel nad oes dim gobaith gan yr adarwr y gall ddal yr aderyn, oni all ei hudo ef ryw fodd i ddisgyn ar y ddaiar; felly nid oes modd yn y byd i'r cythra [...]l i'n rhwydo ninnau, ond trwy ddwedyd wrthym ni fel y dywedodd wrth Christ, Bwrw dy hun i lawr; sef yw hyn­ny, Mat. [...]. disgyn ar yr abwyd a osodais i ti: hwytta ac ŷs hwynt: bwrw dy s [...]rch arnynt: blysia hwynt; a'r cy­f [...]elyb.

57 Y sawl a fynno ochel y tentasiwn goleu yma, trwy ddiystyru hudoliaeth yr abwyd hwnnw: trwy ehedeg trost­ynt; trwy osod ewbl o'i serch a'i fe­ddwl ar fynyddoedd llawenydd nefel a thragywyddoldeb; fe fydd [...]awdd iddo ddiange oddiwith bob perygl ac enbydrwydd. Yr oedd y brenhi [...] Da­fydd wedi myned trwyddynt hwy i gyd, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Pa beth sy gennifi yn y nefoedd onid ty­di? a pha beth a ewyllysiais ar y ddaiar gyda thydi? Pallodd fy nghnawd a'm calon o hiraeth am danat [...]i: Psal. 73.25▪ Ti yw nerth fy nghalon a'm rhan (ô Dduw) yn dragywydd.

[Page 420]58 Yr oedd S. Paul ynteu wedi my­ned trwy'r holl beryglon hyn, pan ddywedodd efe ei fod ef wedi ei groes­hoelio i'r byd, Gal. 6.14. Phil. 3.8. 2 Cor. 10. a'r byd iddo ynteu, a'i fod yn cyfrif holl gyfoeth y byd hwn yn dom: ac er ei fod yn byw yn y cnawd, etto nad oedd efe yn byw yn ól y cnawd. Ac phe dilynem ni yr esampl ardder­chog yma, trwy ddirmygu a diystyru gorwagedd ac oferedd y byd hwn, a go­sod ein meddyliau ar ardderchog olud teyrnas Dduw, yr hon a ddaw; ni allai holl faglau'r cythraul ddim i'n herbyn ni yn y bywyd hwn.

59 Ynghylch yr ail pwngc, pa fodd y mae i ni arfer cyfoeth a golud y byd hwn er budd a mantais i ni ein hunain; ymae Christ wedi gosod y medd yn oleu gar ein bron ni, Luc. 16. Gwnewch i chwi gyfeillion o'r golud anghyfion. Fe allafai 'r glŵth goludog ddiangc rhag ei boeni, a'i wneuthur ei hun yn wr dedwydd, trwy help ei olud bydol, pes mynnasai; ac felly y gallai fil­oedd ac sy yr awrhon yn fyw, ac a ânt i vffern o achos eu golud. Och dduw na chymmerai ddynion rybydd, a bod yn gall, tra caffont amser. Gal. 4. 2 Cor. 5. Y mae S. Paul yn dy­wedyd, Na thwyllwch mo honoch eich hu­nain; y peth a hauo dyn, hynny a fed efe. Pa gynhauaf cnydfawr, wrth hynny, a allai wyr cyfoethogion ei ddarparu iddynt eu hunain, pes mynnent, a hwy­thau [Page 421] a chymmaint ô hâd ganddynt, a chymmaint o dir i'w hau ynddo yr ydys yn ei gynnyg iddynt beunydd? Pa ham na feddyliant hwy am yr hyfrydgan gyn­hauaf yma? Mat. 25.34 Deuwch chwi fendigedigion fy Nhâd, etifeddwch y deyrnas a barotlowyd i chwi; canys mi a fum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd, mi a fum sychedig a chwi a roesoch i mi ddiod: mi a fum yn noeth, a chwi a'm dilladasoch i. Ac onid oes ganthynt fatter am hynny, pa ham nad ydynt hwy yn ofni y farn ofnadwy a gyhoeddir yn eu herbyn am y gwrth­wyneb; Iddo 'n awr, chwi gyfoethogion, Jac. 5.1 wylw [...]h ac vdwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch?

60 Y mae 'r Tad duwiol Ioan o Dda­mascus yn adrodd dammeg o'r eiddo Bar­laam, i'r perwyl yma. Yr oedd rhyw ddinas neu wlad, medd efe, lle'r arferai'r bobl o ddewis brenhin arnynt o fysg y rhai tlottaf o'r bobl, a'i ddyrchafael i anrhy­dedd mawr, a golud, a hyfrydwch tros amser; ond yn ôl ennyd o amser, pan flinent arno, eu harfer oedd gyfodi yn ei erbyn a'i yspeilio am ei holl ddedwy­ddwch hyd yn oed y dillad oddiam ei gefn, ac felly i yrru ef yn wr deol i ynys mewn gwlad bell; lle byddai raid iddo, gan na chai ddwyn dim gydag ef, fyw mewn trueni ac adfyd mawr, ac mewn caethiwed tôst yn dragywydd. A rhyw vn [Page 422] o'r brenhinoedd hynny ryw amser a ystyriodd yr arfer honno, (oblegid y lle ill i gyd, er eu bod yn gwybod yr arfer, er hynny o herwydd eu hes­geulusdra a'i hyfrydwch presennol, ni wnaethant ddeunydd yn y byd o honi) a thrwy gyngor da, a fu ofalus am ochel y truem a'r adfyd hwnnw, ac a wnaeth yn y modd yma: Efe a ar­bedodd swmm mawr o arian beunydd allan o'i ormodedd a'i oferdraul, ac felly a y [...]rodd drysor mawr yn ddirgel o'i flaen, i'r ynys yr oedd efe beunydd mewn perygl o gael ei yrru iddi. A phan ddaeth yr amser y bwriafant hwy ef allan o'i deyrnas, a'i droi ymmaith yn noeth, fel y gwnaethent â'r llaill o'r blaen; efe a aeth i'r ynys honno yn lla­wen iawn ac yn hyderus lle yr oedd ei dryssor ef wedi ei yrru o'r blaen, ac a gafodd ei dderbyn yno mewn gorfoledd mawr, a'i osod yn y man mewn mwy o ogoniant a pharch nag y buasai crioed o'r blaen.

61 Y mae 'r ddammeg ymma yn tyn­nu yn agos at yr hon a adroddodd Christ am y goruchwiliwr drwg afradlon, ac y mae yn dysgu i ni gymmaint ac sy raid ei ddywedyd ar hyn o amser yn y pwngc yma. Oblegid, y ddinas neu'r wlad hono yw'r byd presenol hwn, yr­hwn sydd yn codi rhai tlodion i a [...] ­durdod; [Page 423] sef yw hynny, cyfryw rai ac a ddaethant yn noe thion i'r bywyd yma, ac sydd yn ddisymwth, pan font yn me­ddwl leiaf am hynny yn cael eu tynnu i lawr drachefn, a'i gyrru yn noethion iw beddau, ac felly eu danton i fyd arall, lle ni chânt ond ychydig flafer, oni d [...]ygant dryssor gydâ hwynt, ond yn hyttach, trueni tragywyddol. Y brenhin call sydd yn darpa [...]u ym n laen llaw rhac y g [...]fid hwnnw, yw 'r hwn, yn ôl cyngor Christ, sydd yn gwneu­thur ei oreu ar roi tryssor i gadw yn y nef erbyn dydd ei farwolaeth, pan fo dir iddo gael ei ddeol oddiyma yn noeth, fel y gwnaed â holl frenhinoedd y wlad honno: a'r amser hynny, Datc. 11. Mat. 25. os eu gweithredoedd da fydd yn eu can­lyn (fel y mae Duw yn addaw) yna y byddant hwy ddynion happus, ac y go­sodir hwy mewn mwy o ogoniant o lawer, nag a allodd y byd [...]rioed i roi iddynt. Ond os hwy a ddoant heb olew yn eu lampau, nid oes iddynt ddim iw ddisgwyl ond, Nid adwaen i mo honoch: a phan adwaener hwynt Ew [...]h felldigedig i'r tân tragwyddol.

PEN. IIII. Am y pedwerydd rhwystr, yr hwn yw gor­modd hyderu ar drugaredd Duw.

Y mae rhyw fath ar ddynion yn y byd, y rhai ni chymmerant ddim poen i feddwl am y rhwystrau o'r blaen, nac i'w hadrodd; ond sydd ganddynt lwybr byrrach, ac esmwythach yn eu tŷb hwy; a hwnnw yw, rhoi cwbl o'r peth ar gefn Christ, ac atteb i ba beth byn­nac a ddyweder wrthynt, â'r vn yma­drodd hwn, Y mae Duw yn drugarog. Rhag y gwŷr hyn y gall Christ achwyn gyd â'r Prophwyd a dywedyd, Psa. 129.3. Lat. Y pechaduri­aid a adeiladasant ar fy nghefn i ac a ystyn­nasant eu hanwiredd. Wrth y geiriau hyn­ny y gallwn ni weled bwrw arnomni mai adeiladu ar gefn Duw yr ydym, wrth ystyn ein hanwireddau trwy obeithio cael trugaredd gan Dduw. Ond beth sy'n canlyn? A ddioddef Duw hynny? Na wna ddim: Oblegid dyma 'r geiriau sy 'n canlyn nessaf, Yr Arglwydd cyfiawn a dyrr yddfau pechaduriaid. Ac yn y geiriau hynny y mae dau ddrwg ddamwain gwrthwyneb i'r ddau esmwythdyb o'r blaen. A oes yn dy fryd di oh ddyn, ystyn dy anwi­redd, a pharhau yr dy bech [...] o her­wydd [Page 425] bod Duw yn drugarog? Cofia ei fod ef yn gyfiawn hefyd, medd y Pro­phwyd. Wyt ti wedi myned ar gefn Duw, i wneuthur yno dy nŷth i bechu? Ymogel; oblegid ef a'th cynn di i lawr drachefn, ac a dy [...]r dy wddf di, oni edifarhei di: oblegid mewn gwirionedd, ni ellir gwneuthur mwy cam â Duw nâ dywedyd mai efe yw sail ein drwg fywyd ni a'n pechod, ac ynteu wedi colli ei fywyd ei hun er mwyn diffoddi pechod.

2 Ond chwi a ddywedwch; Onid ydyw Duw wrth hynny yn drugarog? Ydyw yn wir (frawd anwyl) y mae Duw yn dra thrugarog, or fath drugaroccaf, ac nid oes na diben na mesur ar ei drugaredd ef. Trugaredd ei hunan ydyw efe; ei naturiaeth ef ai hanffod yw trugaredd; ac ni all efe beidio â bod yn drugarog, mwy nâ pheidio â bod yn Dduw. Ond er hynny, fel y dywed y Prophwyd o'r blaen, y mae efe yn gyfiawn hefyd. Ni wasanaetha i ni feddwl cymmaint am ei drugaredd ef a gollwng ei gyfiawnder ef yn angof. Y mae ein Harglwydd ni yn ddaionus ac yn fwynaidd, ond er hynny y mae efe yn vnion ac yn gyfiawn hefyd, medd DAFYDD: ac yn yr [...]n man, Holl lwybrau'r Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd. Ac wrth esponi y geiriau hyn, Ser. 52. paruorum. y mae Bernard dduwiol mewn rhyw bregeth, yn dywedyd fel hyn; Y mae [Page 426] dau droed i'r Arglwydd, ac â'r rhei'ny y mae efe yn cerdded ei ffyrdd; a'r ddeudroed hynny yw trugaredd a gwir­ionedd; ac y mae Duw yn gosod y ddeudrod hyn ar galonnau y rhai a ym­chwelant atto ef, ac y mae yn rhaid i bob pechadur a dro yn ddiffnant at yr Ar­glwydd, ymaflyd yn dynn yn y ddeu­droed yma. Oblegid pe mewn truga­redd yn vnig yr ymaflai efe, a gadael heibio wirionedd a chyfiawnder, ef a ai i golledigaeth trwy ormodd hyder: ac o'r tu arall, ped ymaflai ef mewn cyfiawn­der yn vnig, heb drugaredd; efe a ai i golledigaeth trwy anobaith. Am hynny, i gael bod yn gadwedig, y mae yn rhaid iddo gwympo i lawr yn ostyngedig, a chusanu'r ddeudroed hyn; fel y gallo, o achos cyfiawnder Duw, ddal ofn gan­tho; ac o achos ei drugaredd ef, gym­meryd gobaith. Ac mewn mann arall y dywaid, Dedwydd yw 'r enaid y go­sododd yr Arglwydd Iesu Grist ei ddeu­droed arno. Ser. 6. in Cant. Ni chanaf i ti farn yn v­nig, na thrugaredd chwaith yn vnig, (oh fy Nuw) ond mi a ganaf i ti gydâ'r Prophwyd DAFYDD, Psal. 101.1. drugaredd a harn ynghyd: ac nid anghofiaf byth dy gyfi­awnderau hynny. Psal. 119.

3 Y mae Sainct Awstin yn trin y pwngc yma yn dra godidog mewn amryw fannu o'i waith▪ Ystyried y rhai [Page 427] sy yn hoffi trugaredd a mwyneidd-dra'r Arglwydd yn g [...]mmaint, ystyriant, me­ddaf ac ofnant ei gyfiawnder ef hefyd. Oblegid; fel y dywaid y Prophwyd, Psal. 25. y mae Duw yn fwynaidd ac yn gyfiawn. Ai da gennyti ei fod ef yn fwynaidd? Ofna hefyd ei fod yn gyfiawn. Megis Ar­glwydd mwynaidd y dywedodd efe, Mi a dewais â sôn wrth eich pechodau chwi; ond megis Arglwydd cyfiawn y dywaid ef, Ydych chwi yn tybiaid y tawafi byth? Y mae Duw yn drugarog ac yn llawn trugaredd, meddwch chwi; a siccr iawn yw hynny; ie, ac yn angwhaneg i hynny, y mae ef yn cyd-ddwyn yn hir, [...]c yn yma [...]hous: ond er hynny, ofnwch yr hyn sy yn niwedd y wers honno, Et verax, sef yw hynny, y mae efe yn vnion ac yn gyfion hefyd. Y mae dau beth y mae ar bechadui iaid berygl oddiwrthynt; y naill, rhag go­beithio gormodd, yr hyn yw gormodd hyder; a'r llall, rhag gobeithio rhy fy­chan, yr hyn yw anobaith. A phwy yw'r hwn a dwyllir trwy obeithio gor­modd? yr hwn sy'n dywedyd wrtho ei hun, Y mae Duw yn Dduw daionus, ac yn Dduw trugarog; ac am hynny mi a wna 'r peth a fynnwyf fy hun. A pha ham hynny? Am fod Duw yn Dduw trugarog, yn Dduw daionus ac yn Dduw addfwyn rhywiogaidd. Y rhai hyn sydd [Page 428] mewn perygl wrth obeithio gormodd. A phwy yw y rhai sy mewn perygl trwy anobaith, a gobeithio rhy fychan? Y rhai sy'n gweled eu pechodau yn dôst ac yn orthrwm, ac yn tybieid fod yn ammhossibl iddynt bellach gael ma­ddeuant, ac am hynny a ddywedant yn­ddynt eu hunain, wele, gan ein bod ni yn golledig, ac yn rhaid i ni fyned i vffern, pan waeth i ni er gwneu­thur y peth a fynnom yn y bywyd yma? Y rhai hyn y mae anobaith ac anhyder yn eu llâdd, a'r llaill y mae gobaith a gormodd hyder yn eu di­strywio. Pa beth gan hynny y mae Duw yn ei wneuthur i geisio ynnill y ddeufath hyn? wrth yr hwn sy mewn perygl trwy obeithio gormodd y dy­waid, Eccus. 5.6. Na delywed ynot dy hun, Mawr yw trugaredd Duw: ef a faddeu liosow­grw [...]dd fy mhechodau i; oblegid y mae trugaredd a digofaint yn dyfod oddiwrtho ef, Psal. 25.8. a'i ddigofaint ef a orphywys ar becha­duriaid. Ac wrth yr hwn sy mewn perygl o herwydd anobaith a gormodd hy­der, y dywaid, Pa bryd bynnag y [...] 'n adifar gan bechadur ei bechod, mi a ollyngaf dros gôf ei holl anwiredd ef, Ezer. 18. medd yr Arglwydd. A hyd yma y mae geiriad Sainct Awstin, Tract. 33. in Ioan. heb law llawer ychwaneg y mae ef yn ei ddywedyd yny fan honno, ynghylch mawr berygl ac ynfyrwydd [Page 429] y rhai sy o hyder ar drugaredd Duw yn parhau mewn buchedd annuwiol.

4 Rheswm gwan ac anrhesymol iawn, yw dywedyd, O herwydd bod Duw yn drugarog, ac yn hirymar­hous, am hynny mi a gamarferaf ei drugaredd ef, ac a barhâaf yn fy an­nuwioldel. Nid felly y mae'r Scrythur lân yn dysgu i ni ymresymmu, ond yn y gwrthwyneb yn vnion: sef fal hyn, Y mae Duw yn drugarog, ac yn disgwyl i mi droi atto; a pho hwyaf y mae efe yn disgwyl wrthyfi, tostaf fydd ei ddial a'i gospedigaeth ef pan ddelo, os myfi a esgeulusaf ei ddioddefgarwch ef: ac am hynny mi a ddylwn yn ddiat­treg dderbyn a chroesawu ei drugaredd ef. Felly mae Sanct Paul yn ymresym­mu, ac yn dywedyd, W [...]t ti yn diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, Rhuf. 2.4. [...] a'i [...]maros? Oni wyddost ti fod daioni [...] yn dy dywys di i edifeirwch? O [...]d yr wyt ti trwy dy galedrwydd a'th galon ddiedifeiriol, yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erhyn dydd y digofaint, a datguddiaid cyfiawn farn Duw. Yn y geiriau hyn y mae Sainct Paul yn arwyddoccau mai po hwyaf y dioddefo Duw trwy ei hirymaros, i ni fyw yn ein hannuwioldeb, mwy yw'r pentwr dial y mae efe yn ei gas­glu ynghyd i'n herbyn ni, os ni a barhawn yn gyndynniog yn ein pecho­dau. [Page 430] A chydâ hynn y mae Sainct Aw­stin yn ystyried peth arall ofnadwy ac arswydus iawn; a hynny yw, Os cynnyg ef i ti râs heddiw medd Sainct Austin ni wyddost ti pa vn a wna efe ai ei gynnyg i ti y [...]oru, Tract 33. in Ioan. ai nas gwna. Os rhydd ef i ti dy hoedl a' [...]h gôf yr wythnos yma, ni wyddost ti pa vn a wnai ai cael ei fwynhau yr wythnos nesaf, ai nas cai.

5 Y mae ' [...] Prophwyd sanctaidd wrth ddechreu 'r Drydydd Psalm ar ddeg a thriugain, lle mae efe yn dangos mor beryglus yw llwyddiant y rhai annu­wiol; megis yn rhyfedd gantho, yn y geiriau, Oh, Mor ddai [...]nus yw Duw i Js­rael, Psal. 73.1. sefi'r rhai glan o galon: ac etto yn yr holl Psalm nid yw efe yn gwneu­thur dim ond dangos mor dost yw cyfiawnder Duw yn erbyn yr annuwiol, h [...]d yn oed yr amser y bo efe yn rhoi iddynt fwya'llwy ddiant a golud bydol: ac fel hyn y mae efe yn diweddu, Gwers. 27. Wele, difethir y rhai a bellhâant oddiwrthyt: torraist ymmaith bob vn a butteinio oddi­wrthyt. Wrth yr [...]yn yr arwyddocceir, er daied fyddo Duw wrrh y cyfiawn, etto nad yw hynny ddim ymwared i'r annuwiol, gan fod yn ddir iddynt dder­byn dial cyfiawn ar ei law ef, ynghanol y trugareddau mwyaf a ddangoser i'r rhai Duwiol. Psal. 34.15. Y mae llygaid yr Arglwydd ar y [Page 431] rhai cyfiawn (medd yr vn Prophwyd) a'i glustiau yn agored i'w llefain hwynt: ond y mae wyneb yr Arglwydd yn e [...]byn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa hwy oddiar y ddaiar.

6 Hen a [...]fer prophwydi twyllodrus (yr hon a wrthwynebai Brophwydi Duw â'i holl egni) oedd lefain, Heddwch he­ddwch, wrth yr annuwiol: Jer. 6.11. ie yr a [...]ser nad oeddid yn amcanu dim iddynt, ond perygl, a chleddyf, a distryw, fel yr oedd y gwir Brophwydi yn dywedyd iddynt, ac fel y digwyddo [...]d. Am hynny y mae 'r Prophwyd DAFYDD yn rhoi i ni reol odidog siccr ddiam­meu, Ezec. 13. i lwodraethu ein gobaith a'n hyde [...] â hi, Aberthwch ebyrth cyfiawn­der, a gobeithiwch yn yr Arg [...]wydd. Ac â hynny y cyttuna Sainct JOAN, pan yw yn dywedyd, O [...] ein calon a'n cydwybod ni'n condemna am ein drwg fuchedd, y mae gennym hyder ar D [...]uw: fel pe dyweai vn, Os ein ca­lon a fydd euog o fuchedd ddrwg annuwiol, 1 Joan. 3.21. a ninnau wedi rhoi ein bryd ar barhau ynddi; yna o­fer fydd i ni hyderu ar drugaredd DVW, a ninnau yn rhwym i gy­fiawn farn Duw am ein hannuwiol­deb.

7 Y mae yn dra rhyfedd ac yn of­nadwy iawn ystyried, fel yr ymddug [Page 432] Duw tu ac at ei garedigion cuaf yn y byd, pan wnaent yn ei erbyn ef twy be­chu; mor hawdd y newidiai ef ei wy­nebpryd; mor fuan yr ymadawodd â'i cy­feillach; mor fanwl y cyfrifodd a hwynt; ac mor d [...]st y cospodd efe hwynt. Yr Angylion, y rhai y dangosasai efe cymmaint gofal a chariad yn eu creu, ac i'r rhai y rhoesai gynnifer o frei­niau arbennig, o bob math ar ber­ffeithrwydd, hyd oni wnaeth efe hwynt agos yn Dduwiau; ni wnaethant hwy ond vn pechod, Balchder, yn er­byn ei fawredd efe, Es. 14. a hynny ar fe­ddwl yn vnig, fel y tybia 'r defeinwyr; ac etto yn y man fe droed yr holl ewyllys da a'r cariad hwnnw yn gyfi­awnder, a hynny cyn dosted, ac y [...]aflwyd hwy i lawr i boenau tragywy­ddol heb brynedigaeth, 1 Pet. 4. Jud. mewn cadwynau tragywydd, i dddiodef angerdd tân vffern, a thywyllwch annioddef.

8 Wedi hynny fe wnaeth Duw iddo ei hun gyfail [...] arall o gig a gwaed, yr hwn oedd ein tâd Addaf, ac a roes hwnnw ym mharadwys, lle 'r oedd Duw megis yn cyttal ag ef, mor gari [...] ­dus gyfei [...]lgar, ac y mae'n dra rhyfedd ei ystyried: efe a alwai arno, ac a chwedleuai ag ef, ac a wnaeth holl gre­aduriaid y byd yn ddarostyngedig iddo; ef a'i dug hwy i gyd ger ei fron ef, fel [Page 433] y byddei iddo ef ac nid i Dduw, roi henwau arnynt hwy: ef a wnaeth i­ddo gymmar a phriod, ac a'i bendithi­odd hwy ill dau; ac a ddangosodd bob arwydd o'i gariad tu ac atto, ac a allai fod. Ond beth a ddaeth ar ol hyn? Ni wnaeth Addaf ond vn pechod, a hwnnw trwy annog vn arall, ac heb fod o bwys mawr mo hono, fel y tybiai reswm dyn; dim ond bwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig, ac etto er cyn­ted y gwnaeth efe hwnnw, fe dorrodd cwbl o'r gyfeillach rhwng Duw ag ef, ac ef a wthiwyd allan o Baradwys, ac a ddamniwyd i ofid ac echrys tragywyddol a'i holl hiliogaerh i golledigaeth tragy­wyddol, ac ynteu hefyd, oni buasai idddo edifarhau. Ac mor dost y cyflawnir y farn honno, y mae yn ddigon am­lwg wrth fod aneirif riallu o bobl, sef holl genedl dyn, yn cael am y pechod hwnnw eu taflu i lawr i anhydraeth boenau vffern: ond yn vnig yr ychydig hynny a brynwyd wedi hynny trwyddyfodiad Mab Duw ei hun, yr ail berson yn y drindod, i wared o'r nef, i gymmeryd cnawd dyn arno; a thrwy ei ddioddefaint annrhaerhadwy ef a'i farwolaeth yn y cnawd hwuw.

9 Yr oedd Moysen ac Aaron, dau ry­feddod y byd, mewn awdurdod oruchel a ffafor gyda Duw; yn gymmaint ac [Page 434] y gallent hwy gael pethau mawrion ar ei law ef i ddynion eraill: Meribab. ac etto pan ddigiasant hwy Dduw vnwaith ei hu­nain wrth ddyfroedd y gynnen yn ani­alwch Sin, Nu. 20. & 27. & 33. am iddynt ammeu y­chydig am y gwrthiau a addawsai Duw iddynt, ac felly dianrhydeddu ei faw­redd ef gar bron y bobl, fel y mae efe yn dywedyd; hwy a geryddwyd yn y man yn llymm am hynny; ac er iddynt edifarhau o'i calonnau am y pechod hwnnw, Deut. 10. & 32. & 34 ac felly cael maddeuant am y bai ar euogrwydd, etto fe roed ar­nynt gospedigaeth drom am dano: a hynny oedd, na chaent hwy eu hunain fyned i mewn i wlâd yr addewid, ond bod yn rhaid iddynt farw pan ddoent o fewn golwg iddi. Ac er iddynt ym­bil â Duw yn daer ac yn ddifrif am gael maddeu 'r penyd hwnnw, etto ni fedrent mewn vn modd gael maddeuant ar ei law ef, ond efe ai hattebai hwy bob amser, Gan i chwi fy nianrhydeddu i ger bron y bobl, chwi a fyddwch feirw o'r achos, ac ni chewch chwi fyned i mewn i wlad yr addewid.

1 Sam. 10 & 11. Act. 13.10 Ond mawr oedd ffafor Saul gydâ Duw, pan ddewisodd efe ef i fod yn fren­hin cyntaf ar ei bobl; a pheri i Sam­wel y Prophwyd ei anrhydeddu ef yn gymmaint, a'i enneinio ef yn dywysog ar etifeddiaeth Duw ei hun, fel y mae efe [Page 435] yn ei galw hi? pan ganmolodd ef yn gymmaint, a chymmeryd gofal mor ddi­chlyn trosto? Ac etto wedi hynny, am iddo dorri gorchymmyn Duw, trwy ga­dw peth o anrhaith y rhyfel yr hyn a ddylasai efe ei ddistrywio; ie, er iddo eu cadw i wneuthur aberth i Dduw, 1 Sam. 15. & 16. fel y oedd efe yn cymmeryd arno: er hynny fe a'i rhoddes Duw ef heibio yn y man, ac efe a ddifreiniwyd o'i anrhydedd, ac a roddwyd i fynu i ys­pryd drwg, ac a ddu [...]pwyd i aneirif o ofidiau ac aflwydd, er iddo ymdaro tros amser, 1 Sam. 16. 1 Sam. 31. 1 Par. 10. [...] Sam. 21.6 ac o'r diwedd a wrthodwyd gan Dduw cyn belled, ac y bu iddo ei lâdd ei hun; ei feibion ef a groes­hoeliwyd neu a grogwyd wrth bren croes gan ei elynion; a'i holl deulu a'i hep­pil a diffoddwyd yn dragywydd.

11 Yr oedd Dafydd yn gyfaill etho­ledig Dduw, ac yn hôff ganddo, ac yn cael yr enw parchedig yma, sef ei fod yn gyfryw vn ac [...]edd wrth fodd calon Duw. 2 Sam. 12. Psal 35 & 69▪ & 102▪ & 109. Psal. 29. Ond etto er cynted ac y pechodd ef, fe ddanfonwyd y Prophwyd Na­than i ddatgan ac i gyhoeddi▪ trwm ddi­gofaint Duw, a chospedigaeth arno ef. Ac selly y bu, er iddo ymofidio, a'i ddarostwng ei hun yn ddirfawr am y pechod a wnaethai: fel y gwe­lir wrth ei w [...]ith ef yn ymprydi­o, ac yn gweddio, ac yn wylofain▪ [Page 436] ac yn gwisgo sach-liain, ac yn bwytt [...] lludw, a'r cyflelyb. Wrth yr hyn y mae 'n amlwg, fod cyfiawnder Duw tu ac at y rhai sy 'n gwneuthur yn ei erbyn, yn gymmaint ac yw ei druga­redd ef tu ac at y rhai sy 'n ei ofni.

12 Y mae 'r Scrythur lân yn llawn esamplau i'r defnydd yma, Gen. 4. Gen. 8. megis gwr­thod Cain a'i droi ymmaith yn y man ar ol llâdd ei frawd, Boddi 'r holl fyd yn dosturus yn amser Noah; y difaedd ofnadwy a ddaeth ar Sodom a Gomorrah, a'r dinasoedd o'i hamgylch trwy dan a brwmstan; Bwrw Core, Dathan ac Abiram yn fyw i vffern, a llâdd deucant a deg a deugain o'r rhai a lynasai wrthynt, Gen. 18. & 19. a llawer mil o'r bobl heb law hynny, am fod yn wrth­ryfelgar yn erbyn Moysen ac Aaron: Lladd Nadab ac Abihu meibion Aaron, Num. 16. ac offeiriaid etholedig mor ddisymwth, am offrwm tân dieithr ar yr allor vn­waith: Leuit. 20. Taro Ananias a Sappheira mor ofnadwy am ddarnguddio peth o werth­eu da eu hun trwy dwyll, Act. 5. oddiwrth yr Apostolion: a llawer eraill o'r cyfryw esamplau, y rhai y mae 'r Scrythur lân yn eu hadrodd.

13 Ac er bod yn ddigon amlwg wrth yr holl esamplau o'r blaen (yn y rhai y gwelwch mor dost yw pob vn o'r cospedigaeth [...]u) mor ddirfing yw cyfi­awnder [Page 437] Duw, a thrymmed yw ei law ef pan ddisgynno arnom ni; etto mi a adroddaf vn ychwaneg o weithredoedd Duw, allan o'r Scrythur lân, yr hon sydd yn egluro hynny yn rhyfeddol iawn. Fe wyddys yn dda mai Beniamin oedd y cuaf gan ei dâd, Gen. 42. & 43. o holl blant Iacob, fel y mae 'n amlwg yn llyfr Genesis; ac am hynny yr oedd efe yn fawr gydâ Duw, ac y gosodwyd ei lwyth ef yn y rhan orau o holl wlad yr adde­wid, Ios. 18. pan rannwyd hi rhwng y deuddeg­llwyth, ac yr oedd yn y rhan honno Ie­rusalem, a Iericho, a'r dinasoedd goreu heb law hynny. Etto er hynny i gyd, am vn pechod vn vnig, a wnaeth rhai o'r bobl gyffredin, ar wraig y lefiad; fe gos­podd Duw yr holl Iwyth yn y modd a'r drefn yma, fel y mae 'r Scrythur lân yn ei adrodd. Fe wnaeth i gwbl o'r vnllwyth ar ddeg eraill gyfodi yn eu herbyn hwy; a dyfod yn gyntaf i dŷ Dduw yn Silo, i ym­gynghori ag ef, ac i wneuthur a archai ef yn y rhyfel honno yn erbyn eu brodyr: ac yna wedi iddynt hwy trwy archiad Duw ymladd dau faes â llwyth Ben­iamin, Bar. 1 [...] 20. y trydydd dydd fe roes Duw i­ddynt orfodaeth cymmaint, ac y lladda­sant hwy bob peth byw o fewn y llwyth hwnnw, ond chwechant o wyr yn vnig, y rhai a ddiangodd ym [...]ith i'r ani­alwch; a chwbl o'r llaill a ladded, [Page 438] yn wr, ac yn wraig, yn ddyn bach, ac yn blentyn sugno, ynghyd â'r holl ani­feiliaid a'r yscrubliaid; a'r holl ddi­nasoedd, a'r trefi, a'r tai, a losgwyd a thân. A hyn i gyd am vn pechod a wnaed, vnwaith yn vnig, a hynny gydag vn wraig.

Dact. 10.14 A phwy wrth hynny ni chyfaddef gydâ Moysen, fod Duw yn Dduw cy­fiawn, Heb. 10. yn Dduw mawr, ac yn Dduw ofnadwy? Pwy ni chyfaddef gyda S. Paul, Psal. 119 Mai [...]eth ofnadwy ydyw syrthio yn nwylo 'r Duw byw? Pwy ni ddy­waid gyda Dafydd sanct Mi a ddychry­nais rhag dy farnedigaet [...]au. Onid ar­bedai Dduw ddistrywo 'r holl lwyth, am vn pechod yn vnig; oni faddeu­ai ef i Core, Dathan ac Abiram tros vnwaith; ac i feibion Aaron tros vn­waith; ac i Ananias a Sappheira tros vnwaith: oni faddeuai efe i Esau, er iddo wedi hynny geisio 'r fendith trwy ddagrau, fel y dywaid yr Apostol: Oni faddeuai efe gospedigaeth vn pe­chod i Foesen ac Aaron, er iddynt ei ofyn yn daer; Mat▪ 26. oni faddeuai efe vn balch-feddwl i'r angylion; nac i Addaf fwytta vnwaith o ffrwyth y pren gwa­harddedig, heb gospedigaeth fawr; na gillwng y cwppan digofaint heibio i'w fab ei hun▪ er iddo ei ddymuno deirgwaith ar ei liniau, trwy chwysu 'r [Page 439] gwaed; pa reswm sy gennyt ti feddwl y gad ef dy bechodau di heb gospi, a hwythau gyn amled? Oes i ti achos yn y byd i feddwl y bydd efe cystal wrthyt ti, ac y paid ef a'i gyfiawnder er dy fwyn di? wyt ti yn wellgwr na 'r rhai a henwais i? Oes gennyt ti rago [...]fraint yn y byd oddiwrth Dduw, amgen n [...]c oedd ganddynt hwy?

15 Ped ystyrit ti pa bethau eu maint a'i dieithred y mae cyfiawnder Duw yn eu dwyn i ben, fel y gwelwn ni beunydd yn y byd; ni byddai i ti ond y [...]hydig achos i dybieid y cait ti cym­maint o ffafor gan Dduw, nac i wen­hieithio i ti dy h [...]n mor beryglus ac yr wyt ti. Yr ydym ni yn gweled er maint trugaredd Duw, ac er dioddef a marw o Grist ein Iachawdr er mwyn cadw 'r holl fyd; er hynny fod cynni­fer myrddiwn o'r byd yn golledig beu­nydd, wrth gyfiawnder Duw; a chyn­nifer o rai anghredadwy, a chenedl­ddynion, ac Iuddewon, a Thurkiaid, yn aros yn nhywyllwch eu hanwy­bodaeth eu hun: ac ym mhlith Chri­stianogion cynnifer naill ai heb ga­dw eu proffess yn vnion ac yn gywir, ai yn byw yn ddrwgfuche­ddol yn eu proffess, Mat. 7 & 20. fel mai gwir yw yr hyn a ddywedodd Christ, mai ychydig fyddai y rhai a fydd [Page 440] cadwedig; er darfod talu ei farwola­eth ef tros bawb, oni byddai i­ddynt hwy eu gwneuthur eu hunain yn annheilwng o honi. Ac ym mlaen dyfodiad ein Iachawdr, mwy o la­wer y gwelwn ni fod yr holl fyd yn myned ar ŵyr i golledigaeth tros lawer mil o flynyddoedd ynghyd; o­ddieithr ychydig Iuddewon, y rhai oedd bobl Dduw. Ac etto yn eu plith hwythau hefyd, yr oedd y rhan fwyaf, (hyd y mae 'n gyffelyb) heb fod yn gadwedig, fel y gellir gwybod amcan wrth yr hyn a ddywaid y Pro­phwydi o amser i amser; ac yn en­wedig wrth yr hyn a ddywedodd Christ wrth y Pharisaeaid, ac eraill o lywo­draethwyr y bobl hynny. Am hynny ynteu, os gallai Dduw, er mwyn cy­flawni ei gyfiawnder, adael i gynnifer myrddiwn o bobl fyned i golledigaeth trwy eu pechodau eu hun, fel y mae efe yn gadael beunydd etto; a hyn­ny heb dorr nac argywedd yn y byd ar ei drugaredd; pa ham nas gall efe hefyd dy ddamnio di am dy be­chodau, er maint ei drugaredd, a thitheu nid yn vnig yn eu gwneuthur hwy yn ddiofn ddiarswyd, ond hefyd yn parhau yn rhyfygus yn dy bechodau?

16 Ond yma y gall [...]n ddywedyd, Os felly y mae, fod Duw mor dost [Page 441] wrth gospi pob pechod, a'i fod yn dam­nio llawer mil am vn y mae yn ei gadw▪ pa fodd y mae yn wir, Fod ei drugaredd ef goruch ei holl weithredo­edd, fel y dywaid yr Scrythur lân; Psal. 145.9 Iac. 2.13. a bod Trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn, ac yn rhagori arni? Oblegid os yw rhifedi y rhai damnedig yn rha­gori cymmai [...]t ar rifedi y rhai cadwe­dig, y mae 'n gyffelyb fod gweithre­doedd cyfiawnder yn rhagori ar wei­thredoedd Trugaredd. I hynny yr at­tebaf, na allwn ni ammeu dim yng­hylch lleied rhifedi y rhai cadwedig, Mat. 7. & 20. ac anfeidrol rifedi y rhai colledig: o­blegid, heb law 'r holl Brophwydi e­raill, y mae ein Iach [...]wdr Christ we­di gwneuthur hynny yn ddigon siccr ddiammau. Am hynny mae 'n rhaid i ni edrych, pa fodd, er hynny i gyd y mae Trugaredd Duw yn rhagori ar ei holl weithredoedd eraill ef.

17 Ac yn gyntaf, fe ellir dywedyd bod ei drugaredd ef yn rhagori, oblegid bod ein holl gadwedigaeth ni yn dyfod i ni o'i drugaredd ef, a'n colledigaeth oddi­wrthym ein hunain; Os. 13.19. [...]at. oblegid dyna ddau brif achos pob vn o'r ddau; yn ol yr hyn a ddywed Duw trwy 'r Prophwyd, Dy golledigaeth di, o Israel, sydd o honot dy hun, ond ynofi y mae dy gymmorth i wneuthur daioni. Megis fel y mae [...]n rhaid [Page 442] i ni gydnabod mai grâs Duw a'i dru­garedd yw awdur pob meddwl da y­nom ni, a pbob gweithred dda a wnel­om ni, ac wrth hynny bod yn rhaid i ni gyfaddef mai o hono ef y mae cwbl o'n Iechydwriaeth ni: felly nid oes yr vn o n drwg weithredoedd ni, o herwydd y rhai 'r ydym ni 'n golledig, yn dyfod o hono ef, ond yn vnig o honom ni ein hunain; ac felly nid ydyw efe achos yn y byd o'n colledi­gaeth ni. Ac yn hyn y mae ei druga­redd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder.

18 Yn ail, y mae ei drugaredd ef yn rhagori, o herwydd ei fod ef yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, 1 Tim. 2. fel y dywaid S▪ Paul, ac y mae ynteu ei hun yn tystiolaethu, gan ddywedyd, Nid wyfi yn ewyllysio marwolaeth pe­chadur, Ezec. 18. ond yn hytrach troi o hono o­ddiwrth ei anwiredd, a byw. A thra­chefn trwy 'r Prophwyd Ieremi, y mae efe yn cwyno yn dost, nad yw dynion yn derbyn ei drugaredd ef, pan y cynnygier iddynt, Ezec. 33.11 Dychwelwch, dychwe­lwch oddiwrth eich ffyrdd drygionus: canys, pa ham y byddwch feirw tŷ Is­rael? wrth yr hyn y mae 'n amlwg ei fod ef yn cynnyg ei drugaredd yn dra ewyllysgar ac yn rhad i bawb; ac nad yw yn arfer ei gyfiawn­der ond pan fo gwir angenrhaid, [Page 443] a phan fo ein hymarweddiad cildyn­nus ni megis yn ei gymmell ef. Hyn y mae Christ yn ei ddangos yn oleu­ [...] pan yw yn dywedyd wrth Ieru­salem, O Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y Prophwydi, Mat. 23.33▪ Luc. 13.34▪ ac yn llabyddi­o y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl yr iar ei chywi­on tan ei hadenydd, ond nis mynnech chwi? Wele, am hynny yr ydys yn ga­dael eich ty i chwi yn anghyfannedd ▪ ac yn ddiblant. Yma y gwelwch gyn­nyg trugaredd Duw yn fynych i'r Iu­ddewon, ond am iddynt wrthod ei drugaredd▪ ef, efe a gymmhellwyd (mewn modd) i ddatgan y farn drom yma o ddinistr anghyfannedd­dra arnynt hwy: yr hon a gyflaw­nodd efe o fewn deugain mhlynedd neu ddêg a deugain wedi, trwy ddwy­lo Vespasian ymmerodr Rhufain, a Thitus ei fab: Iosephus de bello Iudai­co. Li. 1. ca▪ 1. y rhai a lwyr ddinistr­iodd ddinas Ierusalem, a holl genedl yr Iuddewon, yr rhai a welwn ni he­ddyw wedi eu gwasgaru trwy 'r holl fyd, mewn caethiwed enaid a chorph. Ac er bod y weithred honno o gyfiawn­der Duw yn dra ofnadwy, etto yr o­edd ei drugaredd ef yn fwy tuac attynt, fel y mae 'n amlwg wrth eiriau Christ, oni bai iddynt wrthod ei Fab ef.

[Page 444]19 Yn drydydd, y mae ei drugaredd ef yn rhagori ar ei gyfiawnder, hyd yn oed tu ac at y rhai colledig; oblegid iddo trwy lawer o foddion yn y byd hwn geisio eu gwneuthur hwy yn gad­wedig, trwy alw arnynt, a'i cynnor­thwyo hwy a'i râs i wneuthur daio­ni, a'i cynnhyrfu hwy oddifewn ag aneirif o ysprydoliaethau da, a cheisio eu denu hwy oddi allan ag amryw gynghorion, ac addewidion, ac esam­plau rhai eraill: a chyda hynny trwy glefydon, a gwrthwyneb, a cheryddon esmwyth eraill; trwy roddi iddynt am­ser, ac achlysur, a chyfle, a chyfam­ser, a llawer annog, i edifarhau; trwy fygwth marwolaeth dragywyddol i­ddynt, oni edifarhaant. Yr holl bethau hyn, gan eu bod yn weithredoedd tru­garedd a daioni Duw tu ac at yr an­nuwiol, y mae 'n anghenrhaid iddynt gyfaddef, ynghanol eu cynddaredd a'i poenau, fod ei farnedigaethau ef yn v­nion, a chwedi eu cyfiawnhau ynddynt eu hunain, ac nas gellir mewn vnmodd eu cyffelybu hwy i fawredd ei drugaredd ef.

Psal. 84.11 Lat.20 Wrth hyn y gwelwn fod yn wir yr hyn a ddywaid y Propbwyd, Yr Ar­glwydd a gar drugaredd a gwirionedd. A thrachefn, Trugaredd a gwirionedd a ym­gyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ym­gusanasant. Psal. 85.10 Ni a welwn pa ham y mae 'r [Page 445] Prophwyd yn dywedyd am dano ei hun, Mi a ganaf am drugaredd a barn, o Arglwydd: nid trugaredd yn vnig, Psal. 101.1 na barn yn vnig, ond trugaredd a barn ynghyd. Hynny yw, ni ryfygaf cym­maint ar dy drugaredd, ac nad ofnwyf dy farn; ac nid ofnaf cymmaint ar dy farn, ac yr anobeithiwyf o'th druga­garedd. Mae 'n rhaid i ni bob amser gyssylltu ein hofn rhag barn Duw, yng­hyd â'n hyder ar drugaredd Duw: ie, hyd yn oed yn y Sainct eu hunain, fel y dywaid Dafydd. Ond pa fath ofn? Yr ofn hwnnw, yr hwn y mae 'r Scry­thur lan yn dangos pa fath ydyw, pan yw yn dywedyd fod ofn Duw yn gyr­ru ymmaith bechod; bod ofn Duw yn cassau pob drygioni; nad yw 'r hwn sy 'n ofni Duw yn esgeuluso dim; bod y sawl sy 'n ofni Duw yn troi ac yn e­drych ar ei galon ei hun; bod y sawl sy 'n ofni Duw yn gwneuthur gwei­thredoedd da; bod y sawl sy 'n ofni Duw heb anghredu 'r hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Psal. 34. Eccl. 1 Dihar. 1 Ecc. 7. & 15. & 17. & 2. ond yn cadw ei ffyrdd, ac yn chwilio am y pethau a ryng bodd iddo; ac yn parottoi eu calonnau, ac yn sancteiddio eu henei­diau yn ei olwg ef.

21 Ac dyma bortreiad gwir ofn Duw, fel y mae 'r Scrythur lan yn ei osod ar lawr, Dyma bortreiad yr ofn hwn­nw [Page 446] yr ydys yn ei ganmawl ac yn ei orchymmyn ym mhob rhan a chyfran o air Duw. Dyma bortreiad yr ofn yr ydys yn ei alw, Diha. 14. Eccl. 1. & 2, & 15. ffynnon y hywyd▪ gwreiddyn synwyr, coron a chyflawder docthineb, Gogoniant ac ymffrost Chri­stion o ddyn, Rhodd ddedwyddol. Am yr hwn sy ar ofn yma gantho, y mae 'r Scrythur lan yn dywedyd, Gwyn ei fyd y gwr sy 'n ofni yr Arglwydd, Psal. 112.1 oblegid y mae yn hoffi ei orchymmyni­on ef yn ddirfawr. Eccl 1.13. A thrachefn, Yn y diwedd, da fydd i'r hwn a ofno yr Ar­glwydd, ac efe a fendithir yn ei ddydd diwedd. Yn ddiwethaf, am y rhai sy ar ofn yma ganddynt, y mae 'r Scry­thur lan yn dywedyd Mai Duw yw eu sail hwynt; Psal. 35. Psal. 31. & 6. & 63, & 145. a darfod i Dduw barottoi amlder o hyfrydwch iddynt; a darfod i Dduw brynu etifeddiaeth iddynt; a bod Duw 'n drugarog wrthynt, fel y mae tad yn drugarog wrth ei blant; ac i ddibennu, fod Duw yn gwneuthur ewy­llys y rhai a'i hofnant ef a'r cyfryw ofn.

22 Yr ofn sanctaidd yma oed gan Iob dduwiol, pan ddywedodd efe wrth Dduw, Iob. 9.28. Lat. Mi a ofnais fy [...]oll ffyrdd. Ac y mae 'n dywedyd pa ham y gwnai efe hynny, Oblegid mi a wn nad arbedi di neb a wnelo i'th erbyn. Yr ofn yma oedd yn eifiau yn y rhai y mae 'r Prophwyd yn dywedyd am danynt, Y [Page 447] pechadur a gythruddodd Dduw, trwy ddywedyd na chymmer Duw gyfrif o'i weithredoedd ef, yn amlder ei ddigofaint. Psal. 10.4 Lat. Symmudwyd dy farnedigaethau allan o'i olwg ef. A thrachefn, Gwers. 6. Pa ham y cy­ffioodd yr annuwiol Dduw, trwy ddy­wedyd, Ni ofyn Duw gyfrif am fy ngwei­thredoedd i? Annuwioldeb mawr, Gwers. 13. yn ddiau, a chyffroi Duw yn fawr i'n her­byn, ydyw dwyn hanner naturiaeth Duw oddi arno; a'i wneuthur ef yn drugarog heb fod yn gyfiawn: a byw fel pettai Dduw heb amcanu ceisio cyfrif am ein buchedd ni; ac ynteu mor dra difrif wedi dangos y gwrthwyneb, Mat. 25. Luc. 16. gan ddy­wedyd: ei fod ef yn wr di [...]fing tost, ac na bydd efe bodlon i gymmeryd yr eiddo ei hun drachefn, ond y mynn efe elw ac occr gyda 'r eiddo ei hun: y mynn efe gyfrif o'i holl dda a fen­thygiodd ef i ni: y mynn efe ffrwyth o'i holl lafur a roes efe i ni; Mat. 7. Luc. 13. Mat. 12. ac yn ddiweddaf, y mynn efe gyfrif o bob gair a ddywedasom ni.

23 Y mae Christ yn y nawfed Psal. a thrugain, Mat [...]7. Marc. 15. Io. 2. yr hon y mae efe mewn amryw fannau o'r Efengyl yn deongl mai am dano ef yr yscri­fennwyd hi; ym mysg llawer o fell­dithion ofnadwy y mae efe yn eu rhoi i lawr yn erbyn y rhai gwrtho­dedig, yn datgan y rhai hyn, Ty­wyller [Page 448] eu llygaid fel na welont: ty­wallt dy ddigofaint arnynt; cyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt: Psal. 69.23 24.27. dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt, ac na ddelont ith gyfiownder di: di­leer hwynt [...]llan o lysr y bywyd, ac na 'sgrisenner hwynt gyda 'r rhai cyfiawn. Yma y gwelwn ni, mai mwyaf mell­dith a ddichon Duw ei rhoi arnom ni, yn nessaf at ein tynnu ni allan o lyfr y bywyd, yw gadael i ni fod mor ddei­llion a chys [...]ylltu anwiredd at anwi­redd, a bod heb ystyried ei gyfiawn­der ef. Ac o'r achos hwnnw hefyd y mae 'r defeinwyr yn cyfrif pechu o hyder ar drugaredd Duw, Tho. 22.9.4 9 14. Ar. 1.2.3. yn gyntaf o'r chwe pechod trymion yn erbyn yr yspryd glan; y rhai y mae ein Iachawdr Christ yn yr Efengyl yn dangos bod mor anhawdd gan ei Dad eu maddeu. A'r rheswm pa ham y maent hwy yn cyfrif gormodd hy­der ar drugaredd Duw, yn bechod yn er­byn yr Yspryd glan, yw hyn, sef am ei fod yn bwrw heibio ac yn gwrthod vn o'r mo­ddion pennaf a adawodd yr Yspryd glan i'n tynnu ni oddi wrth bechod, nid amgen nag ofni cyfiawnder Duw ar bechaduriaid.

24 Ac am hynny, i ddibennu 'r matter yma ynghylch gormodd hyder ar drugaredd Duw, yr wyf fi yn ty­bieid y gallwn ni arfer yr vn fath reswm ynghylch ofni cyfiawnder Duw, [Page 449] ac y mae 'r Apostol Sainct Paul yn ei arfer ar y Rhufeiniaid, am weini­dogion Duw, y rhai yw 'r tywyso­gion bydol: Rhu. 13. A fynni di nad ofnech allu y llywodraethwr bydol medd efe? gwna ddaioni ynteu, a thi a gai nid yn v­nig fod heb ei ofni ef, ond hefyd ti a gai glod a chanmoliaeth gantho. Ond os gwnai ddrwg, ofna; canys nid ydyw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Dihar. 28. 2 Jon. 4. Yn yr vn modd y gallwn ninnau ddy­wedyd wrth y cymdeithion hynny sy 'n gwneuthur Duw mor drugarog, ac na ddylai neb ofni ei gyfiawnder ef. A fynnech chwi, frodyr, na bai raid i chwi ofni cyfiawnder Duw yn cospi? Byddwch fyw yn dduwiol, a chwi a fyddwch mor ddiofn a llewod, fel y dy­waid y gwr doeth, oblegid y mae per­ffaith gariad yn bwrw allan ofn. Ond os byddwch fyw yn annuwiol, yna y mae i chwi achos i ofni: oblegid nid am ei ham y mae Duw yn ei alw ei hun yn farnwr cyfiawn.

25 Pettei 'r peth mor ddiogel ac y mae llawer, trwy druth a gweniaith, yn peri iddynt eu hunain goelio ei fod; 1 Pet. 1.17. ni ddywedasai Sainct Petr byth wrth Gristianogion wedi eu bedyddio eusys, Ymddygwch mewn ofn, tros amser eich preswylfod daiarol: na Sainct Paul chwaith wrth yr vn [Page 450] rhai, Phil. 2.12. Gweithiwch allan eich Iechy­riaeth eich hunain, drwy ofn a dychryn. Ond yma y gofyn rhyw ddynion, Pa fodd wrth hynny y mae'r Apostol yn dy­wedyd mewn lle arall, 2 Tim 1.7. Na roddes Duw i ni yspryd ofn, ond yspryd nerth, a chariad, a phwyll. Fy atteb i'r rhai hynny ydyw hyn, Nad yw ein hyspryd ni yspryd ofntebyg i ofn gwâs rhag ei feistr; hynny ydyw, I fyw mewn ofn yn vnig rhag ofn cospedigaeth, heb ddim cariad; ond yspryd cariad yn gyssyll­tedig▪ ag ofn tebyg i ofn plant rhag eu tad, trwy yr hwn ofn y maent yn ofni digio eu tad, nid yn vnig rhag iddo eu cospi, ond yn bendifaddeu o herwydd ei ddaioni tu ac attynt hwy, a'r cymmwynasau a'r twrn da a wnaeth efe iddynt. Hyn y mae S. Paul yn ei ddangos yn oleu at y Rhu­feiniaid, lle y mae efe yn gwneuthur rhagor rhwng ofn gweision, ac ofn plant, Rhuf. 8.15. Ni dderbyniasoch yspryd caethi­wed trachefn (medd efe) i beri ofn, ond yspryd mabwysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba, Dad. Y mae efe yn dywedyd yma wrth y Rhufeiniaid, Ni dderbyniasoch chwi yspryd caethi­wed drachefn i beri ofn, am nad oedd eu hofn hwy o'r blaen, a hwy yn gen­hedloedd, ond ofn gweision yn vnig, nid ofn meibion; am eu bod yn anrhydeddu [Page 451] ac yn addoli eu heulynnod, nid o her­wydd cariad yn y byd oedd ganddynt ar eu heulynnod, gan eu bod mor a­neirif; a bod y gair iddynt o gymmaint o annuwioldeb (fel yr oedd i Iupiter, i Mars, i Venus, a'r cyffelyb) ond yn v­nig rhag ofn cael niweid oddiwrthynt oni wasanaethent hwynt, ac oni addo­lent iddynt.

26 Y mae S. Petr ynteu, mewn vn ymadrodd, yn egluro yr holl fatter yma. Oblegid, wedi iddo ddywedyd, 1 Pet. 3.14. Nac ofnwch rhag eu hofn hwynt, (lle y mae efe yn meddwl am ofn gwa­saidd yr annuwiol) y mae efe yn dy­wedyd yn y man, Ond sancteiddiwch y [...] Arglwydd Dduw yn eich calonnau; a chennych gydwybod dda gyd ag addfwyn­der ac ofn. Ac felly y mae ofn gwa­saidd, yr hwn sydd yn ystyried cospe­digaeth yn vnig, wedi ei wahardd i ni; ond y mae ofn cariadus plant we­di ei orchymmyn i ni. Ac etto y mae deubeth i'w hystyried ynghylch y mat­ter yma.

27 Y cyntafyw, er bod yspryd ofn gwa­saidd yn waharddedig i ni (yn enwedig gan ein bod ni yn awr wedi myned i wa­sanaethu Duw) etto fe wna 'r ofn hwn­nw lês mawr i bechaduriaid, ac i'r rhai nid ydynt etto ond dechreu gwasanae­thu Duw, am ei fod yn eu cynnhyrfu [Page 452] hwy i edifarhau, ac i edrych yn eu cylch; ac o'r achos hynny y dywaid y gwr doeth am dano, Mai dechreuad doethineb ydyw. Dih. 1. Ac am hynny y mae Ionas yn ceisio gyrru 'r ofn yma ar y Ninifeaid, Ion. 1. & 3. Mat. 3. ac Ioan fedyddiwr ar yr Iuddewon, a'r holl Brophwydi ar be­chaduriaid, trwy fygwth y dialeddau a'r cospedigaethau a ddoai arnynt oni e­difarhaent. Od etto yn ôl hynny, pan fo dynion wedi troi at Dduw, ac yn myned rhagddynt yn ei wasanaeth ef, y maent hwy yn newid yr ofn gwasa­idd yma yn gariad, hyd oni ddelont o'r diwedd i'r cyfryw gyf [...]wr ac y mae S: Ioan yn crybwyll am dano, sef bod per­ffaith gariad yn bwrw allan ofn. Ac ar hynny y dywaid S. Awstin, 1 Ion. 4. mai ofn yw 'r gwas yr ydys yn ei ddanfon o'r blaen i barottoi lle yn ein calon­nau ni i'w feistres, Tract. 9. in 1 Ioan. yr hon yw cariad perffaith: a phan ddêl cariad perffaith i mewn vnwaith, a chael cwbl feddi­ant ynom ni; y mae ofn yn myned allan ac yn rhoi lle i gariad perffaith. Ond lle ni ddelo 'r ofn yma i mewn ddim, nid yw bossibl byth i gariad perffaith ddyfod i drigo, ac i gartrefu yno, medd S. Awstin.

28 Yr ail peth i'w ystyried yw hyn, er nad ydyw ofn cospedigaeth yn y rhai perffaith, neu o'r hyn lleiaf nad [Page 453] ydyw ond llai ynddynt hwy nag mewn eraill fel y dywaid Sainct Ioan; etto, os efe a fydd wedi ei gyssylltu a cha­riad ac a pharch, fel y dylai fod, y mae yn fuddiol ac yn angenrheidiol iawn i bob Christian cyffredin, y rhai nid yw eu bywyd mor berffeith-gwbl, na'i cariad mor helaeth a bod mor ber­ffeith-gwbl a'r perffeithrwydd y mae Sainct Ioan yn crybwyll am dano. A hynny sydd amlwg wrth fod yn Ia­chawdr Christ yn annog ei Aposto­lion i fod a'r ofn yma ynddynt, Luc: 2.5. Mat. 10. of­nwch yr hwn wedi darffo iddo ladd y corph, sydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern yr enaid a'r corph; ie, meddaf i chwi, ofnwch hwnnw. Yr vn peth y mae Sainct Paul yn ei ddysgu i'r Corinthiaid, y rhai oedd Gristianogion da, gan osod ar lawr yn gyntaf gyfiawnder Duw, ac yna eu hannog hwy i ofni, 2 Cor. 5.10 Y mae 'n rhaid i ni oll, medd efe, ymddangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaethbwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg. Ac am ein bod ni yn gwybod hyn, yr y­dym yn annog dynion i ofni 'r Ar­glwydd. Ie, a pheth sydd fwy, y mae Sainct Paul yn tystiolaethu am dano ei hun, ei fod ef, er maint o ffafor ac [Page 454] ewyllys da a gawsai gan Dduw, yn dal gafael etto ar yr ofn yma rhag cyfi­awnder Duw, fel y mae 'n amlwg wrth ei eiriau ef, 1 Cor. 9.27. Yr wyf yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gae [...], rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bre­gethu i eraill, fod fy hun yn anghym­meradwy.

29 Weithian, fanwylyd, od oedd ar S. Paul ofn cyfiawnder Duw, ac ynteu yn Apostol; 1 Cor. 4.4. ac er nas gwyddai efe ddim arno ei hun, na'i fod yn euog o vn bai, fel y mae efe (am vn peth) yn ei ddangos: pa fodd y dylit ti fod, yr hwn y mae dy gydwybod yn euog o gynnifer bai ac annuwioldeb? Gwy­byddwch hyn, Eph. 5.5. medd S. Paul, am bob putteinwr, neu aflan, neu gybydd, a'r cyffelyb, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw. Ac yn y man ar ôl hynny, megis pe na bai hynny ddigon, y mae efe yn dywedyd yn angwhaneg, er mwyn attal ffolineb pechaduriaid sy 'n gwenhie [...]thio i­ddynt eu hunain, Na thwylled neb chwi a geiriau ofer; canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant anufydd-dod neu anghre­diniaeth. Am hynny na fyddwch chwi gyfrannogion a hwynt. Megis pe dywe­dai, Pwy bynag sy 'n gwenieithio i chwi ac yn dywedyd, Twt, y mae [Page 455] Duw yn drugarog, ac yn hawdd gan­ddo faddeu y pechodau hyn a'r cyffe­lyb; nid ydyw y rhainy ond eich tw­yllo chwi, medd S. Paul, oblegid y mae digofaint a dialedd Duw yn dis­gyn ar blant anghrediniaeth, oblegid y pethau hyn: sef yw hynny, ar y rhai ni chredant ei gyfiawder ef a'i fygythion yn erbyn pechod; ond, o hy­der ar ei drugaredd ef, sydd yn parhau yn eu pechod, hyd oni ruthro digo­faint Duw arnynt yn ddismmwth; ac yna y mae yn rhyhwyr gwellhau. Am hynny, medd efe, os ydych chwi gall, na fyddwch gyfrannogion a'i ffolineb hwy, ond gwellhewch eich bucheddau allan o law, tra caffoch amser. A di­gon fydd y rhybudd yma eiddo Sainct Paul, i ddibennu 'r pennod yma; yn erbyn pawb ac sydd yn gwrthod neu yn oedi edifeirwch a gwellhaad bu­chedd, trwy wag obaith ar gael gan Dduw faddeu iddynt, a chyd-ddwyn a hwynt.

PEN. V. Am y pummed rhwyster, yr hwn yw oedi rhoi ein bryd ar edifarhau o am­ser i amser, [...]an obeithio y gallwn wneuthur hynny yn well, neu yn haws, ryw amser arall.

MI a dybygwn mai digon i wr rhesy­mol, fyddai y rhesymmau a ddan­goswyd o'r blaen, i brofi bod mor ang­henrheidiol i ni roi 'n bryd ar wasana­ethu Duw, ac i dynnu ymaith y rhwy­strau sy 'n lluddias i ni wneuthur hyn­ny. Ond er hynny, oblegid (fel y dy­waid y gwr doeth) bod yr hwn a fo a'i fryd ar dorri cymdeithas a'i gydym­maith, Dihar. 18.1 Lat. yn ceisio pob achlysur i wneu­thur hynny tan ryw liw ac esgus. Y mae llawer yn y byd, gan nad oes ganddynt na lliw nac esgus arall yn y byd i dorri a Duw, ac i ddal allan oddiwrtho, hwy a geisiant golu­ro 'r matter a hyn o liw, sef bod yn eu bryd hwy trwy ei ras [...]f, wellhau 'r [Page 457] cwbl mewn amser: ond y maent hwy yn oedi 'r amser hwnnw o ddydd i ddydd, hyd oni bo i Dduw, yr hwn y mae pob munyd o'r amser yn ei law, ddwyn yr amser yn llwyr o dd [...]arnynt hwy, a'i danfon hwy i'r poenau tragywyddol tros ben pob amser, am iddy [...]t gam arfer daioni 'r amser yn y byd hwn.

2 Dyma vn o'r siomediga [...]thau mwyaf a pherycclaf, ac etto y mae [...]n gyn­nefinaf ac yn gyff [...]edinaf o'r cwbl y mae gelyn dyn yn eu harfer yn erb [...]n plant Addaf: a [...] mi a allaf d ywedyd yn hŷ, fod mwy yn myned i golledi­gaeth trwy'r siommedigaeth yma, nâ thwy'r holl gyfrwysdra a'r dichellion eraill heb law hynny. Fe a ŵyr yn dda fain [...] yw grym a gallu 'r fagl yma rha­gor cwbl o'r llaill, ac am hynny y mae efe yn ei gwthio mor daer ar bob [...]yn. Y mae efe yn ystyried yn well nâ nyni, fod oedi yn beth mawr iawn, yn en­wedig mewn matter o g [...]mmaint pwys ac yw ein ymchweliad a'n cadwe igaeth ni. Y mae efe yn gwybod yn dda fod y naill bechod yn tynnu'r ll [...]ll ganddo; ac y bydd yr hwn nid yw gy [...]mwys heddyw i edifarhau▪ yn anghymmhwyiach y foru; ac fel y mae ymarfer yn myned yn naturiaeth; a b [...]d yn anhawdd ia­chau hên ddoluriau; ac fel y mae Duw mewn amser yn dwyn ymaith ei râs; [Page 458] ac fel y mae ei gyfiawnder ef yn barod i gospi pob pechod; ac fel yr ydym ninnau trwy oedi yn cyffroi ei gyfi­awnder ef, Rhuf. 2. ac yn pentyrru dialedd ar ein pennau 'n hunain, fel y dywaid S. Paul. Y mae ef yn gydnabyddus iawn [...]g anwastardrwydd ac â pheryglon ein buchedd ni, ac â'r damweiniau perygl­us yr ydym ni yn myned trwyddynt; ac â'r rhwystraw a ddaw beunydd fwy­fwy, i luddias i ni ymchwelyd at Dduw. Hyn oll y mae efe yn ei wybod, ac yn ei ystyried yn dda, ac am hynny y mae yn peri i gymmaint ac y mae, oedi eu hedifeirwch. Oblegid pryd nas gall yn hwy ddallu deall llawer o Gristianogion, fel na bo dir iddynt weled yn amlwg mor anghenrhaid ac mor fuddiol iddynt roi eu bryd ar edifarhau, ac nad yw holl rwystrau 'r byd ond coegbethau a hudoliaeth i at­tal dynion rhag gwneuthur hynny; y­na nid oes gantho ymddiffyn yn y byd ond hyn yn vnig, sef perswadio dynion i oedi ychydig, ac y cant ryw amser yn ól hyn achlysur a chyfamser gwell i wneuthur hynny, nag yr awrhon.

Confess. li. 8. ca. 7.18.3 A hyn a brofodd Sainct Awstin, yn ei ymchweliad at Dduw, fel y mae efe ei hun yn ysgrifennu; Oblegid; wedi iddo wybod yn siccr, nad oedd fodd iddo i gael bod yn gadwedig, [Page 459] ond trwy newidio ei fuchedd a'i gwell­ [...]au; etto yr oedd y gelyn yn ei attal ef tros amser, ac yn peri iddo oedi, ac yn dywedyd wrtho; Arhos ychy­dig etto; ceda ennyd etto; a hynny (fel y dywaid ef ei hun) er mwyn cael ei rwymo ef yn dynnach mewn ymarfer â phechod, hyd oni bu iddo trwy ollalluog nerth grâs Dduw, ac eithaf ei egni ei hun a'i oreu, dorri ym­maith oddiwrtho trwy gryfder, a gwe­iddi a [...] Dduw, Pa ham y dywedaf yn hwy, Yforu, yforu? Pa ham nas gwnâf ar y munyd awr hwn? Ac felly y gwnaeth efe, ei, yn ei ieuengtyd, ac a fu fyw wedi hynny mewn buchedd dra dirfing, Gristianogaidd dduwiol.

4 Ond os mynnwn ni weled yn eglurach faint a pheryecled y ddichell yma, ystyriwn yr achosion a allai rwystro i ni droi at Dduw yn y man, ac ni a gawn weled fod pob vn o honynt yn cynnyddu ac yn cryfhau trwy ein gwaith ni yn oedi, ac felly bod yn anhaws i ni wneuthur y peth yn ôl hyn, nag ydyw yr awrhon. Oblegid yn gyntaf, (fel y dywedais o'r blaen) y mae parhau 1 mewn pechod yn gwneuthur dŷn yn gynnefin ag ef wrth ymarfer o hono; a phan ddarpho i ni vnwaith ymgyn­nefino, y mae yn anhawdd symmud y cynnefinder hwnnw, fel y gwelwn ni [Page 460] beunydd am bob cynneddfau a fo wedi greddfu a gwreiddio ynom ni. Ac os mynnwch chwi weled gwirionedd o hyn­ny; pwy ond yn anhawdd tros ben, a all nac a feidr symmud hir ymarfer o feddwdod, neu dyngu, nen tyw gyn­neddfau drwg arall, a fo vnwaith wedi greddfu ynom ni? Yn ail, po hwyaf y 2 parhaom ni yn ein buchedd annuwiol, mwyaf y tynn Duw er râs a'i help oddiwrthym ni, yr hyn yw'r modd vnig a wna ffordd buchedd dduwiol yn hawdd ac yn esmwyth gan ddynion. Yn dry­dydd▪ 3 y mae gallu a llywodraeth y cy­thraul yn cael ymgryfhau ac ymsic [...]r­hau ynom ni, trwy gael aros ynom; ac felly y mae yn anhaws ei symmud. 4 Yn bedwerydd, y mae tueddiad ein meddwl ni at ddaioni, yn gwanhau fwyfwy, ac y [...] pylu, wrth fynych arfer o bechod, er nad ydyw yn diffodd 5 yn llwyr. Yn bumed, y mae galluoedd a swyddau ein meddwl ni yn llygru yn fwy; y deall yn myned yn dywyllach, a'r ewyllys yn myned yn ŵyrach, a'r chwant yn anllywodraethusach. Yn 6 chweched ac yn ddiweddaf, Y mae oedi eidfeirwch yn cyff [...]oi ac yn cryfhau ein gwyniau ni, a rhannau issaf a gwaelaf ein meddwl ni, yn erbyn rheol rheswm a deall, ac yn eu gwneuthur yn anhaws eu gorchfygu nag oeddynt o'r blaen.

[Page 461]5 Bellach, f'anwylyd, bwrw ynghyd gwbl o hyn, ac ystyria yn ddiduedd ynot dy hun, pa vn debyccaf i ti allu edifarhau, ai yr awr hon, ai yn ôl hyn. Yn ôl hyn, meddaf, pan fo pechod we­di greddfu ynot ti trwy ymarfer ac ym­gynnefino ag ef; a'r cythraul wedi cael meddiant hwy ynot ti; a chymmorth Duw ym mhellach oddiwrthyt ti; a'th feddwl dithau wedi ei lygru yn fwy; a'th ddeall a'th farn wedi my­ned yn wannach; a'th chwant i ddai­oni wedi diffodd; a'th wyniau wedi eryfhau; a'th gorph wedi ei halogi: a'th nerth wedi pallu; a'th holl fuchedd wedi gwyrdroi.

6 Ni a welwn, ac a wyddom, am y llong a fo yn gillwng dwr, mai haws fydd ei diyspyddu yn y dechreu, nâ chwedi hynny. Ni a welwn, am dŷ a fo wedi adfeilo ac ammharu, po hwyaf y gadawer iddo, mai mwya'r draul a'r boen yn ei gyweirio. Ni a welwn, os bydd vn yn pwyo hoel a morthwyl, po mwyaf a guro efe arni, mai anhawsaf fydd oi thynnu hi allan drachefn. A pha fodd y gelli di wneuthur pechod ar bechod, a thybieid wrth barhau mewn pechod y bydd haws i ti ymwrth­od ac ymadael ag ef yn ôl hyn nag yr awrhon? Cyffelyb iawn fyddei hyn­ny, i ddŷn a fyddai wedi gwneuthur [Page 462] baich mawr i'w ddwyn, ac a brofai ei godi ar ei gefn; ac am ei fod yn anesmwyth, ac yn pwyso yn drwm arno, a'i bwriai ef i lawr eilwaith, ac a roai lawer ychwaneg atto, ac a geisiai ei godi wedi hynny: ond pan y clywai yn drymmach nag o'r blaen, a ddigiai yn gynddeiriog, ac a roai y dau cymmaint atto, i geisio ei wneuthur yn ysgafnach. Oblegid felly y mae plant y byd hwn yn gwneuthur, y rhai wrth weled yn syrn anhyfryd iddynt wrth­wynebu vn pechod neu ddau yn y de­chreuad, sydd yn oedi ymchwelyd at Dduw, ac yn chwanegu at hynny vgain neu ddeugain o bechodau, a thybieid y bydd haws iddynt edifarhau yn ôl hynny.

7 Y mae Sainct Awstin wrth ddeongl y gwyrthiau a vvnaeth ein Iachawdr CHRIST wrth godi Lazarus o farw i fyw, Tract· 49. [...]n Ioan. Ioan. 11. Mat. 9. Luc. 7. ac ynteu vvedi marvv er ys ped­war diwrnod weithian, fel y dywaid yr Efangylwr: yn chwilio yr achos pa ham yr vvylodd, ac y dolefod Christ, ac yr ymofidiodd▪ yn yr yspryd cyn gwneuthur y weithred honno, gan iddo godi eraill yn hawdd iawn: ac o hyn­ny y mae efe yn rhoi'r wers hon i ni; sef megis yr oedd Lazarus wedi marw er ys pedwar diwrnod, a chwedi ei gladdu; felly y mae pedair grâdd mewn pecha­dur; [Page 463] y gyntaf mewn ewyllysgar ddifyr­wch pechod; yr ail trwy gydsynio a phechod, y drydedd drwy wneuthur y weithred; a'r bedwaredd trwy bar­hau mewn pechod ac ymgynnefino ag ef: a phwy bynnag, medd y tad du­wiol hwnnw, a fo wedi ei gladdu vnwaith mewn ymarfer a phechod; y mae'n anhawdd i godi ef o farw i fyw, ond trwy wyrthiau mawr o ran Duw, a llawer o ddagreu o'i ran ynteu.

8 Y rheswm o hynny yw'r hyn a ddy­waid y gwr doeth Hir glefyd a hen ddolur a flina'r physygwr, Eccl. 10 10. Lat. ond byrr gle­fyd newydd ni pharhaodd ond tros ychydig o amser, y physygwr a'i tyrr y­maith yn y man. Iob. 20. Esgyrn yr hen annu­wiol a fydd llawn o bechodau ei ieueng [...]tyd-medd Iob, a hwy a orweddant gydag ef yn y pridd pan êl efe i'r bedd. Yr ydym ni yn darllain i Foesen, yn rhan o gospedigaeth ar y bobl a bechasai yn addoli y llo aur, Exod. 3 falurio 'r llo yn chwil­friw, a'i roi iddynt i'w yfed. Felly 'r pechodau oedd ddifyrr gennym yn ein ieuengtyd, y maent wedi ymwasgaru, trwy ymarfer a chynnefindra, yn ein cyrph ni a'n hesgyrn, fel nas gallom ni, pan ddêl henaint ar ein huchaf, mo'i gyrru hwynt ymaith pan fyn­nom, ond yn anhawdd ac yn flin iawn. Ond ffolineb gan hynny, ydyw i ni oedi [Page 464] gwellhau ein bucheddau hyd onid elom yn hên, a phan fo mwy o rwystrau i'n hatt [...]l ni, ac yn anhaws o lawer byd i ni wneuthur h [...]nny nag yr awrhon?

9 Os anh [...]wdd y gw li di i ti wellhau dy fuchedd yr awrhon, a l [...]afurio yn boenus yn dy alwedig [...]eth, ac ympty­dio, a gweddio, a phethau eraill, y rhai y mae i Scrythur lân yn eu dysgu i bechaduriaid, i'w helpio o dr [...]i at Dduw; pa fodd y gwnei di y pethau hynny yn dy henaint, pan fo rheitiach i'th gorph di gael gwneuthur yn fawr am dano, a bod yn dda wrtho, nâ'i fl [...]no a'i boeni a'r cyfryw weithredoedd? Os gweli di yn anhyfryd gwrthwynebu dy bechodau yr awrhon, a'i diwreiddio hwynt, wedi i ti barhau ynddynt ddwy flynedd, neu dair, neu bedair; pa fodd y gweli di hynny, wedi darffo i ti fwrw vgain mhlynedd attynt? Ond ynfyd iawn y cy­frifit ti, yr hwn wrth siwrneio ar y ffordd, a chanddo ei ddewis o ddigon o geffylau cryfion heinyf, ac a adawai i'r rhei'ny i gyd fyned yn weilydd, ac a roi ei holl glûd a'i bynnau ar ryw vn anifail cûl, truan, ni allai ond prin ddwyn ei draed ei hun, chwaethach sefyll tan gynnife [...] o byn­nau a fwrid arno: Ac yn siccr nid gwell rheswm y dyn a dreulio holl ddy­ddiau ei hoywder a'i ieuengctyd mewn diogi a musgrelli, ac a adawo gwbl [Page 465] o'r boen a'r llafur i ddyfod ar yr he­naint llêsg dirym.

10 Ond i adael heibio ynfydrwydd y ddicheli hon, dywaid i mi (Gristion da) pa anniolchgarwch ac anghyfiawnder tu ac at Dduw ydyw hyn; wedi darfod i ti dderbyn eusys cymmaint o gymmwynasau ar ei law ef; a'th fod yn disgwyl cym­maint gwobr a thâl ganddo ac ydyw teyr­nas nef, yn ôl hyn; i ti, ef hynny i gyd, appwyntio y rhan leiaf, ac olaf, a gwae­thaf o'th holl fywyd, i'w wasanaethu ef; ie, y rhan nid wyt ti siccr o honi, ac ni wyddost di pa vn a wna ai dyfod byth, ai peidio; na pha vn a wna Duw ai ei chymeryd gennyt ti ai peidio, os daw? Malac. [...]. Y mae 'r Prophwyd yn melldigo'r neb a fo perchen anifeliaid iach dianaf ac a [...]ffrymmo i'r Arglwydd yr vn a fo cloff ac anafus o honynt. Pa faint mwy y byddi di felldigedig, a thithau a chym­maint gennyt o ddyddiau dy ieueng­tyd, a'th ner [...]h, a'th gryfder; ac nid wyt o'th holl fywyd yn appwyntio i wasa­naethu Duw, ond dy henaint gogloff yn vnig? Yn y gyfraith yr oedd yn wa­hardeddig, trwy fygwth tôst, fod gan neb ddau fesur yn ei dy i'w gymmydog; vn mawr i'r hwn a fo d [...]g [...]d [...]o, ac vn llai i rai eraill. Ac ette nid [...]es arnat ti gywilydd fod gennyt d [...]au fesur o' [...]h fywyd, o rai tra anghyfiawn, i dwyllo yr [Page 466] Arglwydd dy Dduw; ac wrth y mesurau hynny yr wyt ti yn rhannu arno ef ran fechan, ferr, anafus, amheus, o'th amser: ac yn ri ei i'w elyn ef y rhan fwyaf, a'r deccaf a'r siccraf o'th amser.

11 Oh frawd anwyl, pa reswm sydd gennyt ti wneuthur fel hyn â Duw? Pa gyfrai [...]h, pa gyfiawnder, pa gydwybod sydd gennyt ti, wedi darffo i ti wasanae­thu'r byd, a'r cnawd, a'r cythraul, tros dy holl ieuengctyd, a'r rhan oreu o'th ddy­ddiau, ddyfod yn y diwedd a [...]haro dy hên esgyrn, wedi llygru a ddarfod gan bechod, yn nysgl Duw? A rhoi i'w elynion ef yr hyn goreu, ac iddo ynteu'r gweddill? A rhoi'r gwin i'w elynion ef, ac iddo yn­teu'r gwaddod a'r ammhuredd? Onid wyt ti yn cofio y mynn efe offrwm iddo y rhan trasaf a goreu? Leuit. 3. Num. 19. Malac. 1. Onid wyti yn me­ddwl am y gospedigaeth a roed ar y rhai a offrymmasant y rhan waethaf o'i golud i Dduw? Canlyn gan hynny gyngor yr Yspryd glân os wyt ti gall, yr hwn sy'n dy rybuddio di yn y geiriau hyn Cofia dy greawdr ynnyddiau dy ieuengctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, Preg 12.1. a nessau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywed [...], nid oes gennyf ddim byfry­dwch ynddynt.

12 Pa sawl vn a welaist di eu torri y­maith ynghanol eu dyddiau, tra fyddent yn amcanu newidio eu buchedd yn y [...] amser a ddoai? Pa sawl vn a gyrhae­ddodd [Page 467] hyd henaint, ac a glywent ynddynt yna lai ewyllys i wellhau nag o'r blaen? Pa sawl vn a oedodd hyd awr angeu, ac yno a feddylient lai am eu cyflwr, nag erioed o'r blaen? ond meirw fel anifeiliaid mudion direswn, yn ôl yr hyn a ddywaid S. Grigor; Y mae 'r pechadur (medd efe) yn cael bwrvv arno hyn o flinder hefyd, Ser. 1.10. de Sanctis. sef bod iddo yn ei far­wolaeth ei ollwng ei hun dros gôf, gan iddo ollwng Duvv tros gôf yn ei fywyd? O faint o esamplau o hyn yma avvelir beunydd! pa faint o'r rhai bydol a fuant fyvv yn gnawdol? Pa sawl pechadur mawr, vvedi treulio eu buchedd mewn annuwioldeb, sydd yn diweddu ac yn marw, megis pettynt hwy yn myned i ryw le difywyd, lle ni ofynnir nac atteb na chyfrif am ddim ac a vvneler? Y maent hwy mor ofalus yn eu llythyr cymmyn tros gig a gwaed, ac am olud y byd hwn, a phettynt hwy yn cael byvv byth, neu yn cael rhan o'r oferbe­thau hynny vvedi yr elont ymaith. Mewn gwirionedd, os mynnwch chwi ddywedyd y peth yn y modd y mae, y maent hwy yn meirvv fel pe bai'r enaid heb fod yn anfarvvol, ond yn marw gŷd a'r corph: a hynny yn siccr vvir y maent hwy yn ei gredu yn eu calonnau.

13 Ond bwriwch na bai'r peth felly; ac y gallai ddyn mor hawdd, ac [Page 468] mor gymmwys, ac mor siccr droi at Dduw yn ei henaint, ac yn ei ieuengc­ [...]id, a bod y naill yn rhyngu bodd i Dduvv yn gystal a'r llall; etto dywe­dwch i mi pa faint o amser yr ydych chwi yn ei golli wrth oedi fel hyn? Pa drysor mawr o dduwioldeb yr ydys yn ei ollwng heibio, ar a alle­sid ei gael wr [...]h gymmeryd poen yn gwasanaethu Duw? Pe bai ryw gapten a'i sawdwyr yn myned i mewn i ryvv dref gyfoethog, i gymmeryd ei hyspail a'i hanrhaith hi, a dywedyd o vn o'r sawd­wyr, myfi a arhosaf yn ôl, ac a ddeuaf i mewn dranoeth vvedi myned o'r ys­pail ymaith, oni thybygech chwi fod hwnnvv yn llwrf ac yn ansynhwyrol iawn hefyd? Felly am Grist em Ia­chawdwr a'i holl sawdvvyr da, y maent hvvy vvedi cymryd anrhaith y by­wyd hwn, a'i cyfoethogi eu hunain â'i llafur mewn amser, a chvvedi clu­do'r cyfoeth hvvnnvv gydâ hvvynt m [...]gys ysgrifennadau cyfnevvid i'r banc nefol, a chael yno daledi­gaeth o ogoniant tragyvvyddol. Ac ond ffoledd a chyndym vvydd mavyr ynom ni, ydyvv treulio 'r fuchedd hon mevvn pethau mor ddiles? Yr avvrhon ydyvv'r amser i ym­drech ac i ynnill y goron: yr avv [...]hon yvv'r amser i ni i geisio ein [Page 469] rhan o'r anrhaith: yr awrhon y­dyw'r amser i redeg yr yr [...]fa, i gael ynnill y gamp: yr awrhon yw amser hau, i gael o honom ŷd erbyn y cynhauaf sydd yn dyfod. Os gollyng­wch chwi'r amser yma heibio, nid oes i ni mwy na choron, nac anrhaith, na they [...]nas, na chynhauaf i ddisgwyl am­dano. Oblegid, fel y mae'r ysgrythur yn ein siccrhau ni, Y diog nid ardd o herwydd oerder y gauaf▪ Diha. 20.4 a [...]â i gardotta'r cynhauaf a [...]ni chaiff ddim.

14 Ond oni all ys [...]yried yr elw dy an­nog [...]i, dda [...]ll [...]nnydd hynaws, fel y dyl [...] wneuthu [...], ac yntau o gymmaint pwy [...] ac ydyw, ac nas gellir ei alw yn ôl wedi yr êl heibio, etto meddwl ynot dy hun faint y ddlêd a'r rhwymedigaeth yr wyt ti yn ei dynnu arnat dy hun, am bob diwrnod ac yr wyt ti yn oedi ymchwe­lyd at Dduw, ac yn byw mewn pechod. Yr wyt ti bob dydd yn gosod clymmau, y rhai sy raid i ti eu dattod ryw am­se: yr vvyt ti yn casglu ynghyd y pe­thau a fydd rhaid i t [...] eu gwasgaru dra­chefn; Yr wyt ti bob yn awr yn bwytta ac vn yfed y pethau a fydd rha [...]d i ti ryw amser eu chwydu: ie, os digwydd iti yr hyn a fo goreu ar dy [...]es; hynny ydyw os ti a edifarhei mewn pryd, ac os Duw a dderbyn dy edifeirwch di (ac onid ê gwae dydi) [Page 470] am dy fod di yn pentyrru digofaint a dialedd ar dy ben dy hun. Ond bwrw y gelli di yn ôl hyn gael grâs i edifarhau, er dy fod di yr aw [...]hon yn ei wrthod; etto fe fydd i ti achos i wylo am y peth yr wyt ti yr awrhon yn chwerthin; fe fydd drwg iawn gennyt ddarfod i ti wneuthur y peth sy wŷch gennyt ti yr awrhon ei wneuthur; fe fydd rhaid i ti fel [...]digo'r dydd yr ymroist i bechu, ac onid ê ni wna ddim llês i ti edifarhau▪ Hyn yr wyt ti yn ei wybod yr awrhon, a hyn yr wyt [...]i yn ei gredu yr awr­hon, ac onid ê nid wyt ti Gristion. Pa fodd wrth hynny yr wyt ti yr awrhon mor ynfyd, a gweuthur yn erbyn Duw, o ewylly [...] dy galon, ac o'r gwaith go­ddeu; a thitheu yn gwybod yn dda y bydd rhaid ti ryw amser ofyn maddeuant iddo trwy ddagrau. Os wyt ti yn tybieid y maddeu efe i ti, pa anniolchgarwch i ti ddigio arglwydd mor ddaionus? Os wyt ti yn tybieid nafaddeu efe ddim i ti pa ynfydrwydd fwy na gwneuthur yn e [...]byn tywysog lle nid oes gobaith maddeuant.

15 Gwna di dy gyfrif yr awrhon fel y mynnych, os ti nid edifarhei a ne­widio dy fuchedd, yno y bydd pob pe­chod yr wyt ti yn ei wneuthur, a phob dydd yr wyt ti yn byw mewn pechod, yn angwhanegu ar ddigofaint a dialedd ar­n [...]t ti yn vffern, [...]huf. 2. fel y mae S. Paul yn [Page 471] profi. Os bydd i ti yn ôl hyn trwy dru­garedd Duw edifarhau a gwellhau dy fuchedd (oblegid nid oes mo hynny ar dy law di dy hun) yno y bydd rhaid i ti ryw amser ymgwyno, ac ymofidio, a bod yn ddrwg gennyt ddarfod i ti oedi cyhyd. Felly po hwya 'r oedech di, a pho mwyaf y chwanegech di bechu, mwya' fydd dy ofid di a'th dristwch wrth edifarhau. Fe fydd rhaid hir a dyfal feddyginiaeth i hên friw, medd S. Cy­prian. Fe fydd [...]haid i'n cyrph ni a fu fyw mewn mwythau, Li de La. & li. 5. epis. 5. ad Cor. Ep. 27. ad. Eustoch. Ad laps. vir▪ gael eu blino medd S. Ierom, a rhaid yw gwneuthur iawn am ein hir chwerthin ni, â hir wylofain. Ac medd S. Ambros, i archoll fawr y bydd rhaid w [...]th hir feddygyniaeth.

16 Marcia hyn, fy anwyl frawd, y bydd mawr dy boen di yn gwellhau dy fuchedd▪ ac nad oes ffordd i ochel y boen honno. Pa ynfydrwydd i ti wrth hynny, yr awrhon helaethu dy archoll, a thithau yn gwy­bod y bydd mor dôst y feddyginiaeth yn ôl hyn? Pa greulondeb yn dy er­byn dy hun a all fod fwy, na bod i ti wthio drain yn dy gnawd dy hun, a go [...]fod arnat yn ol hyn eu tynnu all­an trwy fawrofid? A fyddit ti mor yn­fyd ac yfed y cyfryw gwppanaid o ddi­od wenwynllyd a barai i ti yn y man syrthio mewn crŷd poeth, ac a flinai dy ymysgar di, ac a ddygai dy fywyd oddiarnat ti, neu a'th yrrai mewn perygl [Page 472] bywyd; a hynny er mwyn ychydig flâs da a glywit arni wrth ei hyfed? Mi a wn beth a fydd dy atteb di i hynny, sef dwyn ar dy blaid esampl y lleidr da, yr hwn a fu gadwedig yn yr awr ddiwethaf ar y groes, ac a ddugpwyd i Baradwys y dwthwn hwnnw gydâ Christ, heb ddim ychwaneg o lafur yn gwellhâu ei fuchedd. Dyfal y deil y rhai sy'n oedi edifarhau ar y sampl yma, a mawr y gwnânt o honi; ac yn siccr mawr ydyw, a mawr y dylai fod y cyssur oddiwrthi i bob dŷn ac sy fl [...]n arno yn yr awr ddi­wethaf, ac am hynny fynychaf a demp­tir gan y gelyn i anobeithio yn nrhu­garedd Duw, yr hyn nis dylai mewn modd yn y byd ei wneuthur. Oble­gid y mae yr vn Duw a achubodd y mawr bechadur yn yr awr ddiwe­thaf, yn abl i achub pawb ac a droo atto ef o wir ddifrif eu calonnau, yn yr awr ddiwethaf, ac efe a'i gwna hefyd. Ond ysywaeth y mae llawer o ddynion yn eu twyllo eu hunain eisiau iawn ddeall, neu yn hytrach eisiau iawn arfer y siampl yma.

17 Oblegid rhaid i ti ddeall, fel y dywaid S. Aw [...]tin, nad oedd hynny ond vn weithred neilltuol a wnaeth Christ, yr hon ni [...] gall wneuthur rheol gyffre­din: fel y gwelwn ni fod [...]ywysog dai­arol weithiau yn pardynu drwgweith­redwr [Page 473] wedi ei ddyfod at y pren dio­ddef, ond ni wa [...]anaetha i bob drwg­w [...]ithredwr ymdd [...]ied i hynny; oble­gid nad yw h [...]nny ond vn weithred neillduoll o d [...]ugaredd y Tywysog, yr hon nis g [...]na [...]fe, ac nid yw yn addaw ei gwneuthur i bob dyn. Heb law hyn, nid oedd y weithred honno ond gwyr­thiau a wnaeth Christ i ddangos ei allu yn yr awr ddiwethaf ar y groes. A he­fyd nid oedd y weithred honno ond vn a wnaed wrth ragorol gyffes y lleidr ar yr awr honno, pan oedd yr holl fyd wedi gw [...]thod Christ, a'r Apo sto­lion eu hunain naill ai yn ammau, ai wedi colli eu ffydd am ei dduwdod ef. Heb law hyn oll, yr oedd cyffes y lleidr yma ar y fath amser ac nas gall­ai ef na chael ei f [...]dyddio, na chael amser i wellhau ei fuchedd. Ac yr ydym ni yn bwrw, nad ydys yn gofyn dim ychvvaneg ar lavv dyn, ar ei ym­chweliad cyntaf, ond bod iddo gredu a chael ei fedyddio. Ond ni bydd ang­hymmwys addrodd geiriau S. Avvstin ei hun yn hyn o beth. Ac fel hyn y dywaid ef.

18 Y mae yn bergyl dirvvymedi, pan ymroddo dy [...] mor gvvbl i annuvvioldeb, a bod iddo ollwng yn anghof y bydd rhaid iddo roi cyfrif i Dduvv am hynny: a'r achos sy'n peri i ni dybiaid hynny [Page 474] ydyvv hyn, fod yn gospedigaeth favvr am bechod bod i ddyn golli'r ofn a'r coffa a ddylai fod ynddo am y farn a ddavv, &c. Ond, anvvyl garedigion, rhag ofn i ddedvvyddvvch y lleidr a gredodd ar y groes, vvneuthur neb o honoch chvvi yn rhy ddiofal ac yn rhy esgeulus: rhag ofn i neb o honoch ddy­vvedyd yn ei galon; Ni chaiff fynghyd­vvybod euog na'm blino i na'm poeni: am fy mod i yn gvveled ddarfod mevvn vn moment faddeu cvvbl ô'i bechodau i'r lleidr hvvnnvv; Rhaid i ni ystyried yn y lleidr hvvnnvv, nid yn vnig fyr­red oedd ei gredunia [...]th a'i gyffes, ond gydâ hynny hefyd ei ddvvyfoldeb ef, a'r achlysur o'r amser hvvnnvv, pan oedd y rhai perffeithiaf, a'r rhai cyfiownaf yn siglo. Yn ail, dangos i mi ynot dy hun y fath flydd ac oedd yn y lleidr hvvnnvv, ac yno dyvved y gelli fod mor ddedvvyd ac a fu yntau. Y mae'r cythraul yn rhoi' r diofalvvch hvvnnvv yn dy ben di er mvvyn ceisio dy ddvvyn di i golledigaeth. Ac ni vvnai lês dangos cyfrif o'r cvvbl ac a aeth i golledigaeth tan rith y gobaith tvvyllodrus hvvnnvv. Y mae efe yn ei dwyllo ei hun pvvy bynnag nid yvv yn gvvneuthur ond cellvvair o'i ddamne­digaeth, ac a dybia y bydd i drugaredd Duvv ei helpio ef yn yr avvr ddivve­thaf. [Page 475] Peth ffieiddgas gan Dduw ydyw bod i ddyn bechu yn hydda o hyder cael edifeirwch yn ei henaint. Y lleidr dedwydd yma, dedwydd ydoedd nid am iddo gael y ffordd, ond am iddo gymmeryd gafael yn y ffordd ei hun ynghrist pan oedd yntau yn cael gafael ar ysglyfaeth y bywyd, ac mewn modd rhyfeddol a wnaeth elw o'i farwola­eth ei hun; Ni bu i'r lleidr yma, medd­af, nac oedi amser ei iachawdwria­eth trwy wybod, na gosod cwbl o'i ymddiried ar gael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf, na chadw gobaith ei ymwared hyd yn amser angau, ac nid oedd ganddo wybodaeth yn y byd am grefydd nac am Grist o'r blaen. Ca­nys pe buasai ganddo hynny ni buasai efe yn olaf o rifedi yr Apostolion, ac ynteu yn myned oi' blaen hwy i'r deyrnas.

19 VVrth y geiriau byn i S. Austin y rhybuddir ni (fel yr ydych chwi yn gweled) nad yw gwaith Christ yn maddeu i'r lleidr, yn rheol gyffredin i ddangos y caiff pob dyn faddeuant: nid am nad yw Christ bob amser yn barod i dderbyn yr edifeiriol, fel y mae efe yn addaw, ond am nad yw pob dyn yn cael amser a grâs i edifar­hau fel y dylai yn yr awr honno, fel y dangoswyd o'r blaen. Y ffordd gy­ff [...]edinol y mae Duw yn ei gosod o flaen [Page 476] p [...]wb, 2 Cor. 11.15 yw'r hyn a ddywaid S. Paul. Eu diwedd fydd yn ol eu gweithredoedd. E­drychwch fel y buant hwy fyw, felly y byddant feirw. Ac i'r deunydd yma y dywaid y prophwyd, Vnwaith y dy­wedodd [...]uw, [...]lywais hynny d [...]wywaith▪ mai [...]iddo Duw yw cadernid Trugaredd hefyd sydd eiddot [...]i, Psal. 62.11 ô Arglwydd, canys ti a deli▪ bob dyn yn òl ei weithred. Y mae'r gwr doeth yn gw [...]euthur hyn yn amlwg gan ddywedyd, Eccl. 21.10 Ffordd pecha­duriaid a wastattawyd à cherrig, ond yn ei chwrr eithaf hi y mae ffoi vffern. Yn ddiweddaf, y mae S. Paul yn cloi ar y cwbl yn ddwys ac yn gyffredinol, Gal. 6.7. Na thwyller chwri, ni watwerir Duw [...] canys beth bynnag a hauo dyn, hynny a fed efe. Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r yspryd, o'r yspryd a fed fywyd tragywyddol. [...]le y mae efe nid yn vnig yn gosod ar lawr i ni y rheol gyffredin sy raid i ni hy­deru arni, ond y mae yn dywedyd ym mhellach hefyd, nad ydym ni wrth goelio'r gwrthwyneb ond gwatwor a dirmygu Duw, yr hwn a roes i ni yr gyfraith hon.

20 Er hynny i gyd, fel y dywe­dais, nid ydyw hyn yn rhwystro i dru­garedd Duw ynddangos i rai yn yr awr ddiwethaf. Etto anhappus yw'r [Page 477] dŷn a osodo angor a hyder ei dde­dwyddwch neu ei annedwyddwch tra­gywyddol ar beth mor ansiccr. Ansiccr yr wyf yn ei alw am fod yr holl wŷr d [...]fgedig a ' [...]grifennasant amdano, yn dywedyd yn amheus iawn am yn chwe­liad dyn yn yr awr ddiwe [...]haf. Ac er nad ydynt yn ei w [...]thod yn hollawl ym mhob dyn, ond yn ei adael megis peth ansiccr a [...] farn ddirgel Duw, etto y maent vn tueddu at y blaid sy yn ei wadu, ac yn dangos pedwar o resymmau wrth y rhai y gellir ammeu hod ymchwelaid dyn yn yr awr ddiwe­thaf yn ddigon i wneuthur dyn yn gadwedig.

21 Y rheswm cyntaf ydyw, am nad yw dygn ofn a gofid angeu (yr hwn fel y dywed y Philosophydd) o'r holl bethau ofnadwy yw'r peth mwya' ofnadwy, yn gadael i ddyn ymwrando ac ymglywed ag ef ei hun yr amser hwnnw yn g [...]stal ac yn gymmaint ac y byddai raid iddo, i ymwneuthur a Duw ynghylch ma [...]ter cymmaint ac yw ein ymchweliad ni a'n iachawdwriaeth. Ac os ydym ni yn gweled yn fynych nas dichon ac nas meidr gwr duwiol da o­sod ei feddwl mor ddwys ac mor ddi­frif ar bethau nefol, yr amser y bo gwyn au'r colic neu ryw ddolur tòst arall yn ei flino ef: pa fodd y gall [Page 478] gwr bydol yngloes angau wneuthur hynny, ac yntau heb fod erioed yn arfer 'oi wneuthur, a chwedi ei lwytho ag euogrwydd llawer o bechodau trym­mion, a chwedi ei or chfygu gan gariad ar ei gorph ei hun, a'r pethau a ber­thyn iddo.

22 Yr ail rheswm yw, am nad yw'r ymchwelyd y mae dyn ar yr awr ddi­wethaf, ond yn anfynych o wir ewyllys y galon, ond rhag y dir angen, a rhag ofn: cyfryw ac ydoedd edifeir­wch Shimei a ddarfuasai iddo ddigio'r Brenhin Dafydd yn dôst yn ei adfyd, ac a ddaeth atto wedi hynny yn ei lwyddiant, rhag ofn cael ei gospi, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron ef▪ ac a ymbiliodd am faddeuant trwy dda­grau. Etto yr oedd Dafydd yn deall yn dda pa fodd yr oedd y matter, ac am hynny er iddo ei arbed ef y dwthwn hwnnw rhag lleihau ar y lla­wenydd a'r gorfoledd, 1 Bren. 16. 1 Bren. 19. efe a barodd we­wedi hynny wneuthur ag ef yn ôl ei hae­ddedigaeth▪

23 Y trydydd rheswm yw, am nab gellir peidio a'r arfer o bechu, mor ddisymmwth, ac ynteu medi tyfu me­gis yn naturiaeth. Ac am hynny y mae Duw yn dywedyd wrth y dynion drwg trwy'r prophwyd Ieremi, Ier. 13.23. Ai newid ia'r E­thi [...]piad ei groen: neu'r llewpárd ei [Page 479] frychni? felly y gellwch chwithau wneu­thur da, y rhai a gynnefinwyd a gwneu­thur drwg

24 Y Pedwerydd rheswm ydyw, am nas gall y gweithredoedd a wneler yr amser hwnnw, fod o gymmaint pris gy­dâ Duw, a phe gwneuthid hwy o'r blaen yn amser iechyd. Oblegid ai mawr ydyw os ti a faddeui i'th elynion pan ddel yr amser nas gelli di mwy wneuthur niweid iddynt? a rhoi dy dda oddiwrthyt, pan na ellych di mwy wneuthur dim â hwynt? ac yma­dael â'th ordderch, pan na ellych di ei chadw hi yn hwy? ac ymadael â'th bechod, pan fo dy bechod yn ymadael â thydi? Pethau da duwiol yw y rhain' i gyd, a phethau a ddylai ddyn eu gwneuthur, ie yn yr awr ddiwethaf: ond ni bydd cymmaint pris [...]rnynt a phe buasid yn eu gwneuthud mewn pryd ac amser, fel y dangosais o'r blaen. Y pummed rheswm a ellir ei gasglu allan o'r hyn yr ydym ni yn ei weled yn fynych, sef yw hynny, bod y rhai sydd yn edifarhau yn y modd hwnnw, os hwy a gânt eu hiechyd drachefn, yn myned yn waeth ar ol hynny nag oeddynt o'r blaen, a hynny sydd yn dangos nad oedd yr eidifeirwch honno wir edifeirwch.

25 Ac dyma y rhesymmau sy'n peri [Page 480] ammau yr edifeirwch yma a gymmerer yn y dydd diweddaf; nid o achos bod diffyg yn y byd o ran Duw, ond o ran y rhai [...]y'n gwneuthur hynny. Marcia yn dda, medd vn, yr h [...]n yr wyfi yn ei ddywedyd, ac fe allai y bydd rhaid [...] mi ddangos fy meddwl yn amlygach, rhag i neb fy ngham gym­meryd Beth wrth hynny yr wyfi yn ddywedyd? y bydd colledig y neb nid ed farhao ond yn y diwedd? nag ê ddim Beth ynteu? Ai y byddant hwy gadwedig? nag e ychwaith. Beth yn­teu a d [...]ywedafi? Nis gwn beth a ddywedaf; ni feidd [...]af ddyw [...]dyd: nid addawaf dd [...]wedyd: nis medraf ddy­wedyd A fynni d [...]nabo rhaid i ti fod mewn ammau [...]el hyn? A fynni di och [...]lyd y pwngc peryglus yma? Cym­mer d [...]hau [...]difeirwch tra fych yn iach lawen. Oblegid os ti a edifarhei yn dy iechyd, pa bryd bynnag y dêl yr awr ddiwaethaf ar dy vchaf di, yr wyt ti yn ddiogel ddigon. A pha ham? am ddarfod i ti ed [...]farhau yn yr amser y gallesit [...]echu. Ond os yr amser hwn­nw yr edifarhei di, pan na allech di bechu yn hwy, nid tydi sydd yn yma­dael a'th bechod, ond y pechod sydd yn ymadael â thydi.

26 Ac yma y mynnwn i'r Christion gofalus ystyried gydâ myfi vn gyffelyb­iaeth [Page 481] a ddangosaf iddo. Os [...]dyw y [...]hai sydd yn dangos rhwy fath ar edifeirwch ar eu dydd diwedd, yn ymadael oddi yma e [...] hynny yn y fath beryglus ammau, beth a dybiwn ni am y rhai sy h [...]b na bod gan­thynt ewyll [...]s, na chael nac amser na grâs i edifarhau yn yr awr honno Beth a ddy­wedwn ni am rhai a dorr [...]r ymaith o'r blaen? am y rhai a fo meirw yn ddisym­mwth? am y rhai a gollo eu synhwyr a'i pwyll, fel y mae llawer? Beth a ddy­wedwn ni am y rhai y mae Duw yn eu gwrthod, ac yn gadael iddynt bechu tra fo'r ffûn yn eu genau? Mi a ddango­sais o'r blaen allan o Sainct Paul, fod pob pechadur gan mwyaf yn marw yn yr vn modd ac y bu fyw. 2 Cor. 11. Wrth hynny y mae yn rhargorfraint mawr i ddŷn annu­wiol gael d [...]chreu ei edifeirwch pan fo yn marw. Ac yno, os bydd ei edifeir­wch ef mor amheus pan ddêl, pa ofidus gyflwr y mae rhai eraill ynddo [...] sef y rhan fwyaf o ddynion, y rhai nid ydynt yn edifarhan ddim; ond ma [...]w fel y bu [...]nt byw, a Duw yn eu gadael yn y cyfyngder hynny, fel y mae efe yn addo pan yw yn dywedyd; Yn gymmaint ac i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; Dih. 1.24▪ i mi ystyn fy llaw, a neb heb ystyried: Minnau a chwarddaf yn eich dialedd chwi: ac a waw­diaf pan ddêl arnoch wasgfa, a distryw a cha­ledi, Chwi a elwch arnaf, ac ni warandawaf [Page 482] chwi: chwi a'm ceisiwch yn fore, ac ni'm cewch

27 Pan welo'r bydol fod hoywedd ei vchelfraint ef, a'i rodres, a'i rwysg bydol wedi darfod am danynt: pan fo gwrês t [...]achwant▪ a serch y cnawd, a phob mwythau a phleser wedi diffoddi: pan fo tiriondeg haf-ddydd y fuchedd honar ddibennu, a thymhestlogauaf-nos marwo­laeth yn nessáu▪ yna y trŷ efe at Dduw; yna yr edifarhaa efe; yna y rhydd efe gwbl o'i frŷd a'i feddwl ar ymadael â'i ddrygi­oni, a throi at ddaioni. Pryd nas gallo fyw yn hwy, efe a eddy gymmeryd y boen a fynner, a gwrando ac astudio gair Duw yn y modd y mynner, a chym­meryd y boen a fynner yn ei alwedi­gaeth, a gweddio cymmaint ac a fynner, a rhoi o eluseni cymmaint ac a fynner, a gwneuthur y maint a fynner o wei­thredoedd da, a byw cyn galetted ac y mynner; ef a eddy hyn i gyd, me­ddaf, tan ammod cael oes etto i fyw yn y byd; tan ammod cael oedi ei ddydd diwedd; ac etto pe caniattáai Duw ei ddymuniad iddo, (fel y mae efe yn gwneuthur yn fynych) ni chy­wirai ef vn gair o'i addewid, ond bod mor ddiofal ac a fu er [...]oed o'r blaen. Pan ddêl ar y cyfryw vn lefain ac ochain, a griddfan, ac vchenei­dio tost [...]ym, ac heb gael ei wrando pa gomffordd a ddisgwyl efe ei gael yr [Page 483] amser hwnnw? Oblegid i ba le y trŷ efe yn y cyfryw gyf [...]ngder? ai at ei ol [...]d bydol, a'i allu, a'i gyfoeth? Och, och, y mae y rheiny wedi ei adaw ef; ac y mae'r Scrythvr yn dywedyd, Ni thycciacyfoeth yn nydd digofaint. Dih. 11.4. & 10.2. Ai at ei ddynion y trŷ efe? Ond pa gomffordd a fedrant nac a allant hwy ei roi, ond wylo yn vnig a galaru? Ai gofyn cym­morth a wnânt hwy yr amser hwnnw gan y Saint i weddio trostynt? yno y bydd rhaid iddynt gofio yr hyn a ysgri­fennwyd, Gorfoledded y Saint mewn go­goniant, a chanant; Psal. 14 [...] a bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau, a chleddyf daufini­og yn eu dwylo, wneuthur dial ar genhed­loedd, a chosp ar bobloedd; trwymo bren­hinoedd a chadwynau, a phendefigion a ge­fynnau heiyrn, i wneuthur arnynt farn ys­grifennedig Duw: yr ardderchawgrwydd hyn sydd iw holl Saint ef. At Dduw yn v­nig wrth hynny y mae'n rhaid iddynt hwy gilio, yr hwn mewn gwirionedd yw vnig ymddiffynfa pawb: ond etto yn y peth yma, fel hyn y dywed y pro­phwyd, Ni wrendy efe arnynt, ond yn bytrach ei diystyru a chwerthin am ben eu gofidus gyflwr hwy Dih▪ 1. Nid am ei fod yng­wrthwyneb i'w addewid am dderbyn a chro [...]sawu pechadur, Pa bryd bynnac yr edifarhao, ac y troo oddiwrth ei bechodau: ond am nad yw'r ymchweliad yma yn y dydd [Page 484] diwedd ond yn anaml yn wir edifeirwch, ac yn wir ymchweliad, oblegid yr acho­sion a ddangoswyd o'r blaen.

28 Ac i ddibennu'r matter yma yng­hylch oedi edifeirwch, pa wr synhwy [...]ol yn y byd, wrth ddarllain hyn, nid ofna oedi ymchwelyd at Dduw, pe [...]tai hynny heb ddim ond tros vn diwrnod? oblegid pwy a wŷr nad hwn yw'r dydd diwethaf y geilw Duw ef i edifarhau? Dih. 1. Y mae Duw yn dywedyd, Mysi a elwais, ond chwi a wrthodasoch ddyfod; mia estynnais fy llaw, ac nid edrychech tu ac attaf; ac am hynny y gwrthodaf finnau chwithau yn eich caledi. Nid yw efe yn dywedyd pa sawl gwaith, a pha hŷd y bu yn galw ac yn estyn ei law. Dat [...]. 2. Y mae Duw yn dywedyd, Yr wyfi yn sefyll wrth y drws ac yn curo: [...]nd nid yw yn dywedyd pa hyd y bu yn sefyll yno, na pha sawl gwaith y mae'n curo. Hefyd▪ efe a ddywedodd am Ie­zabel ddrygionus, y gau brophwydes, Mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb, Dat [...]. 2.21. ac nid edifarha [...]dd hi, am hyn­ny y daw dialedd arni, ond nid yw efe yn dywedyd pa hŷd o amser a roes efe iddi. Yr ydym ni yn darllain esamplau aruthrol am y peth yma. Ef a alwyd ar Herod y tâd, a hynny yn vchel, pan ddanfonwyd Ioan Fedyddiwr atto ef, Marc. 6. a phan gynnhyrfwyd ei galon ef i wrando [Page 485] arno yn ewyllysgar, ac i wneuthur ei gyngor ef mewn llawer o bethau, fel y dengys yr Efangylwr: ond etto am iddo oedi, ac na chymmerodd amser pan gynnygiwyd iddo, ef a fwriwyd ymaith, fel yr aeth ei weithredoedd diwethaf ef, yn waeth na'i rai cyntaf. Ef a alwyd hefyd ar Herod y Tetrarch y mâb, Luc. 11. pan ddaeth arno chwant cael gweled Christ, a gweled gwneuthur rhyfeddod [...]u gan­ddo ef: ond am nad attebodd efe i'r galwad hwnnw, ni wnaeth llês yn y byd iddo gael galw ar­no, ond yn hytrach afles a ni­vveid mawr. Pa ddyrnod o gu­ro a gafodd PILAT ar ei ga­lon, Luc, 23. Marc. 14. pe buasai iddo cymmaint ô râs ac egori 'r drws yn y man, pan barwyd iddo ddeall fod Christ yn ddieuog: fel y gellir gvve­lod wrth ei waith ef yn golchi ei ddwylo yn dystiolaeth o hyn­ny, a'i vvraig hefyd yn danfon iddo rybudd o hynny? Nid llai curo a gafodd y Brenhin Agrippa ar ddrws ei galon, pan lefodd efe vvrth wrando ar S. PAVL, O Paul, yr wyti o fewn ychydig i'm hynnill i fod yn Gristian. Act. 26.28. Ond am iddo oedi'r peth, fe giliodd y cyffro hwnnw ymaith drachefn.

[Page 486]29 Tra dedwydd fuasai Pharao, pe buasai efe yn ymroi ar y cyffro yr oedd yn ei glywed ynddo ei hun, pan ddywedodd efe wrth Foes [...]n, Exo. 9.27 Mi a bechais: y m [...]e'r Arglwydd yn gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwi [...]l. Ond wrth oedi, efe a aeth yn waeth nag a fuasai erioed o'r blaen. Y ma [...] S. Luc yn adrodd fel y bu i Felix rhaglaw y Rhufeinwyr vn Iudaea, ymch­wedleua yn fynych â S. Paul yn ddirgel pan oedd efe yn garcharor, Act. 24.25. a chlywed ganddo ffydd Grist, a chyffroi yn fawr wrth ei glywed, yn enwedig vnwaith ym mysg eraill, pan oedd Paul yn ymresym­mu am gyfiawnder Duw, a'r f [...]rn ddiwe­ [...]haf, hyd oni ddychrynodd Felix; ond etto efe a oed [...]dd ymroi, ac a archodd i S. Paul fyned ymaith, a dyfod atto ef amser arall: ac felly wrth oedi, ni weithi­odd hynny ddim ynddo. Pa faint o ddy­nion sy beunydd yn mynd yn golledig, rhai wrth fod angau yn eu torri ymaith, rhai trwy fod Duw yn eu gadael, ac yn eu rhoi i fynu i feddwl anghymmeradwy; y rhai a allasai gael grâs, pe buasent heb oedi eu hymchweliad o ddydd i ddydd, ac yn ymroi yn y man pan glywent Dduw yn galw yn eu calonnau?

30 Y mae Duw yn haelionus iawn i gu­ro ac i alw, ond nid yw efe yn ymrwymo i amser nac ennyd yn y byd, ond mynd a dywod pan fynno; a'r rhai ni chym­mero [Page 487] 'r amser a gynnygier iddynt, y maent hwy yn ddiesgus ger bron ei gy­fiawnder ef, ac nis gwyddant pa vn a wneir ai ei gynnyg iddynt drachefn ai nas gwneir: am fod hynny yn sefyll ar ewyllys a gwy bodaeth Duw yn vnig, yr hwn sydd yn dangos trugaredd i'r neb y gwelo efe yndda, ac nid yw rwymedig i neb. A phan êl heibio vnwaith yr amser a bennododd efe i alw dŷn, gwae fyth y dŷn hwnnw oblegid ni chair mor amser hwnnw mwy er mil o'r holl fyd. Y mae Christ yn dangos faint o bwys yw'r mat­ter hwnnw, pan oedd efe yn myned i Ie­rusalem, ynghanol ei lawenydd a'i og [...] ­niant ni fedrai efe nad wylai tros y ddi­nas honno, a llefa in t [...]wy ddagrau, O Je­rusalem, pe gwybasit tithau, Luc. 2▪ ie yn dy ddydd hwn y pethau a berthynent i'th hed dwch, ond yn [...]wr y maent yn guddiedig oddi­wrthyt. Megis pe y dywedasai, Pettit ti yn gwybod, o Ierusalem, yn gystal ac y gwn i, pa drugaredd yr yd ys yn ei gyn­nyg i ti heddyw, ni wnait ti fel yr yd­wyt yn gwneu [...]hur, ond ti a'i cymmerit yn y man, ond yn awr y mae dirgel farn fy nhâd yn guddiedig oddiwrthyt ti, a hynny sy'n peri i ti wneuthur cyn lleied cyfrif o hono, hyd oni ddel dialedd disymmwth arnat ti: ac felly y daeth cyn pen nemmor ar ôl hynny.

[Page 488]31 VVrth hyn y gellir gw [...]led y rheswm mawr [...]y'n peri i'r gwr doeth [...]oi 'r cyng [...]r yma, Eccl. 5.7. Na sydd hwyrfry­dig i droi at yr A [...]glwydd, ac n [...]c oeda o [...]dydd i ddydd oblegid yndd symwthy daw digofaint yr Arglwydd, a thra fych di yn ddifraw y daw dialedd arnat. Ac fe ellir gweled hefyd beth yw'r achos mawr sy'n peri i'r Apostol gynghori yr Heb [...]aeaid mor ddifrif, Heb 3. ar iddynt dde [...]byn grâs, Dum cognominatur ho­die, tra y barháai 'r [...]dydd hwnnw, ac na ollyngynt heibio mor achlysur oedd yn ymgynnyg iddynt. A hyn a ddylai bawb ei fwrw atto ei hun, ac vfuddháu i'r m [...]ddyliau da y mae yspryd Duw yn ei roddi ynddo. Fe ddylai bob dyn, meddaf, pan glywo feddwl d [...] yn ei galon, ddywedyd yntho ei hun, yr awr hon y mae Duw yn curo wrth fy nrws i, os myfi a egoraf iddo yn y man, ef a ddaw i mewn ac awna ei drigias ynofi▪ Ond os myfi a oedaf hyd y fory, ni wn i pa vn a wna efe ai curo [...]rachefn ai nas gwna. Fe ddylai bob dyn feddwl yn wastad am yr hyn a ddywedodd y prophwyd am yspr [...]d Duw Heddyw o gwrandewch ar ei lefe­rydd ef yn galw arnoch, Psal. 95. na chaled­wch eich calonnau ond ymrowch iddo yn y man.

32 Och finnau, frawd anwyl, pa [Page 489] beth yr wyt ti yn ei obe [...]thio ei ynnill wrth yr oedi peryglus yr wyt yn ei wneu­thur? Y mae hynny yn chwanegu ar dy gyfrif di, fel y dangosais o'r blaen: y mae dy ddyled di ar wellhau yn myned yn drymmach: mae dy elyn di yn myned yn gryfach, a thithau yn myned yn wan­nach; mae yn myned yn anhaws i ti edi­farhau; pa beth wrth hynny a allai fod yn dy attal di rhac ymroi allan o law! fe allai mai cael ynnill ychydig amser iw dreul [...]o mewn gorwagedd. Ond mi a ddangosais i ti o'r blaen nad ynnill yr amser yw hynny, ond ei golli; gan dy fod yn ei dreu­lio heb ffrwyth yn y byd o dduwioldeb, yr hyn yw gwir ynnill yr amser. Os dif [...]r gennyt ti bechu tros yr amser pres [...]nnol, etto galw i'th gôf yr hyn y mae'r proph▪ wyd yn ei ddywedyd, Deut. 32.35 Agos yw dydd t [...]y­ch [...]n [...]b, a phrysuro y mae'r hyn a barotto­wyd iddynt. A phan ddêl y dydd, y mae 'n rhyfedd gennyf pa obaith fydd gen­nyt ti bellach. Exo 9. Ai meddwl crio Peccaui Mi a bechais, yr wyt ti? Da fydd hynny o gell i di wneu [...]hur hynny: ond ti a wyddost i Pharao wneuthur felly, ac na thycciodd iddo ronyn. Ai amcanu yr wyt ti wneu­thur llythyr cymmyn da, a bod yn hael o'th eluseni yr amser hwnnw? A da yw dy feddwl di yn hynny: [...]nd etto [...]haid i ti gofio hefyd, am y morwynion a a lanwasant eu lampauar y muny [...] hwnnw [Page 490] ddarfod i Grist eu cau hwynt allan, a'i gwrthod hwy yn gwol. Ai amcanu wy­lo a chrio yr wyt ti, i geisio ynnill tru­garedd dy arglwydd â'th ddagrau yn yr amser hwnnw? yn gyntaf, nid oes yn dy allu di wneuthur mo hynny wrth dy e­wyllys dy hun: ac y mae'n rhaid i ti ystyried hefyd fethu gan Esau gael tru­garedd, Heb. 11. er iddo ei cheis [...]o trwy ddagrau. Galw i'th gôf gyflwr Antiochus yn ei gy­fyngder, Mac. 9. pa addewidion o weithredoedd [...]a, pa add [...]nedau o fyw yn Dduwiol a wnaeth efe wrth Dduw tan ammod cael diangc, ac na thycciodd iddo ddim? Nid wyf yn dywedyd mo hyn i beri i'r rheiny anobeithio sydd yr awrhon yn y gofid hwnnw, ond i geisio cynghori eraill rhag syrthio i'r vn gofid; a bydd di siccr, ddar­llennydd hynaws, Es. 55.6. nad heb achos y dywe­dodd y prophwyd, Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael: gelwch arno tra fyddo yn agos. [...] C [...]r. 6.2. VVele yn aw [...] yr amser cymmeradwy▪ wele yn awr ddydd yr iachawdwriaeth, medd S. Paul. Yr awrhon y mae Duw i'w gael, ac yn agos ger llaw, i groesawu pawb a ymchwelo atto ef o wir ewyllys y galon; ac a roddo ei fryd yn gwbl ar fyw yn dduwiol o hyn allan. Os oedwn ni yr amser yma, nid oes i ni siccrwydd yn y byd y geilw efe nyni mwy, nac y croe­saw a ni yn òl hyn: ond y mae i ni yn hy­trach lawer o fygythion i'r gwrthwyneb▪ [Page 491] fel y dywetpwyd o'r blaen. Am hynny m i a ddiweddaf ar yr vn wers yma allan o S. Austin, Mai diofal ac anraslon o ddyn ydyw 'r neb sy'n gwybod hyn oll, Tract 33. Ioan. ac er hynny a anturia dragywyddoldeb ei Iachawdwriaeth a'i ddamnedigaeth ar beth mor amheus ac ydyw cael edifeirwch yn yr awr ddiwethaf.

PEN. VI.
Am dri rhwystr arall sydd yn lluddias i ddynion roi eu bryd ar edifarhau: a'r rhai hynny yw Diogi, a Diofalwch, a Chalon galedwch.

HEb law y rhwystrau a grybwyllwyd am danynt o'r blaen, y mae etto am­ryw rai i'w cael; pettai ddyn yn gallu ho­li cydwybod pob vn ac sydd heb glywed arno roi cwbl o i fryd a'i feddwl ar edi­farhau. Ond y mae'r tri a grybwyllaf, amdanynt yn y bennod yma, mor hynod ac mor gydnabyddus, ac nas gallaf eu gillwng heibio heb eu hyspysu: oblegid bod dynion lawer gwaith heb fod yn eu hwyl, ac etto heb wybod beth yw eu cle­fyd; a digon i'r rhai a fo'n chwennych cael iechyd gael dangos iddynt beth yw eu hafiechyd, er mwyn eu cadw eu hunain rhag clefydau.

[Page 492]2 Yn gyntaf gan hynny, y mae diogi yn rhwyst [...] maw [...] cyffredinol i luddia [...] i ddy­nion roi cwbl o'i bryd ar edifarhau, ond yn en wedig i'r rhai segur mwythus, y rhai a fu fyw mewn llonyddwch ac esmwythdra ac am hynny sydd yn coelio am danynt eu hunain nas gallant hwy gymmeryd poen yn y byd, na diodef caledi, pe gwneynt eu goreu a [...] hynny. Am y rhai hynny y mae S. Paul yn dywedyd na chaiff maswe­ddwyr meddfaeth [...]tifeddu teyrnas Duw. [...] Cor 6 9. [...]. Hyn i gyd, a llawer ychwaneg a gyfadde'r gwŷr hyn ei fodyn wir, ac y byddai ddaiawn ganddynt eu gwneuthur, ond nas gallant. Ni all eu cyrph hwy ddioddef mo hynny, ni allant hwy gymmeryd dim poen yn eu galwedigaeth; ni gallant hwy mor ympry­dio, ni allant hwy mor gwylieid, ni allant hwy mor gweddio. Ni fed [...]ant hwy mo'r ymadael â'i plesser ac â'i difyrrwch, ac â'i cwmpeini llawen: hwy a fyddent meirw yn y man gan drymfryd a melancholi, meddant hwy, pettent hwy yn gwneuthur hynny; ac er hynny y maent hwy yn ewyllysio yn eu calonnau fedru gwneuthur hynny, os coelir hwy: ac am nas gallant, nid oes gandd ynt ddim ammau na bydd Duw [...]odlon i'w hewyllys da hwy. Ond gwrandawant hwy ychydig beth ymae'r Scrythur lân yn ei ddywedyd am hynny, Deisyfiad y diog a'i lladd, Dih. 21. [...]5. medd Salomon, cans [Page 493] ei ddwylo a wrthodant weithio: ar hyd y dydd y ma [...]'n fawr ei awydd; ond y cyfiawn â ddyd ac 'ni arbed. Cymm [...]rwch y gwâs diog anfuddiol, medd Christ, Mat. 25. a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. A phan oedd yn ym­daith ar y ffordd, a chanfod ffig [...]sbren a dail arno heb ffrwyth, Mat. 21. efe a roes iddo fe [...]l­dith dragywyddol yn y man.

3 O'r ffynnon ddiogi yma, y mae'ir tarddu lawer o bethau sy'n rhwystro i'r diog roi ei fryd ar edifarhau. A'r cyntaf yw rhyw drymder a syrthni a gogysgu tu ac at bob daioni, fel y dywaid yr Scrythur, Dih. 19.14. Syrthni a bair drymgwsg. Ac am hynny y dywaid S. Paul, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu. Ac y mae Christ yn llefain yn fy­nych, Edrychwch arnoch [...]ich hunain, Eph. 5. a gwiliwch. Chwi a gewch weled llawer o ddynion yn y byd, y rhai os chwi a chwedleuwch a hwynt am ychen, n [...]u am wartheg, neu am ddefaid, neu am dda [...]n o dir, neu'r cyffelyb, hwy a fe­drant warandaw arnoch a siarad â chwi yn ewyllysgar ac yn ddiflin iawn; ond os chwi ewch i ymresymmu a hwynt yng­hylch eu hiachawdwriaeth, a'i tref­tadaeth yn nheyrnas nef, ni attebant hwy i chwi vn gair, ond gwrando megis pettent yn breuddvvydio. Am y dynion yma, gan hynny, y dywaid y gwr doeth; [Page 494] Pa hyd ddiogyn y gorweddi? Dih. 6.9. Pa bryd y cyfodi o'th gwsg? Ai etto Ychydig gysgu, ychydig heppian, & 24.33. ychydig wasgu dwylo igysgu? Ac felly y daw dy dlodi arnat megis cennad yn rhedeg, a'th angen fel gwr arfog.

4 Yr ail peth y mae diogi yn ei beri ynom ni ydyw peri i ni ofni cymmeryd poen a thrafael, a bwrw peryglon lle ni bo achos, Dih. 29. fel y dywaid yr Scrythur, Ofn sydd yn digalonni 'r diog. Ac y mae'r pro­phwyd yn dywedyd am y cyfryw rai, Ofnasant gan ofn lle nid oedd ofn. Y mae'r cyfryw ddynion yn dychymmyg llawer o feddyliau di [...]ithr am wasanaeth Duw, Psal. 53.5. ac yn bwrw fod yn berygl mawr iddynt ei ddilyn. Vn a ddywaid, pettwn i yn rhoi llawer ni allai nad awn i yn gar­dottyn. Medd vn arall, ped ymrown i i gymmeryd poen drafaelus yn wastadol, ef a'm l [...]addai hynny fi cyn memmor o ennyd. Medd y trydydd, pettwn i yn fy narostwng fy hun fel yr ydys yn cei­sio gennyf wneuthur, mi a gawn gan bawb fy sathru dan draed. Ac etto nid yw hyn i gyd ddim ond diogi, fel y tystia'r Scrythur lân yn y geiriau hyn, Medd y diog wrth eiste'n ei dy, Dih. 22.13. Y mae llew allan, ac od af fi allan i lafurio fo'm lleddir i ynghanol yr heolydd.

5 Y trydydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw llyrfder a gwan galon, a hynny sydd yn dadymchwel y diog ac yn [Page 495] ei ddigalonni, ar bod tippyn o wrth­wyneb ac anhawsder y mae efe yn ei weled neu yn tybied ei fod mewn du­wioldeb. A hynny y mae'r gwr doeth yn ei dystiolaethu, pan yw yn dywedyd, In lapide lut [...]o lapidatus est pig [...]r, Felly y mae 'r lladin. Dih. 26. y diog a labyddiwyd i angau â maen o dom Hyn­ny ydyw, efe a ymchwelwyd ac a orch­fygwyd gan anhawsder heb ddim pwys ynddo. Hefyd De stercore boum lapidatus est piger, y diog a labyddiwyd â biswail ychen, yr hwn fynychaf sydd mor feddal ac nas gwna niweid ei ddyrnod.

6 Y pedwerydd peth y mae diogi yn ei beri ydyw mewyd a musgrelli: y rhai a welwn eu bod mewn llawer o bobl a chwedleuant ac a ymgynghorant am hyn ac am y llall ymghylch eu gwell­háad, ac heb wellhau vn gronyn. A hyn­ny a ddangosir yn gymmwys iawn gan yr yspryd glân yn y geiriau hyn, Fel y drws yn troi ar ei golyn, Dih. [...]6.14▪ felly y try 'r diog yn ei wely. A thrachefn, Y diog a wna ac nis gwna, Hynny ydyw, ef a ym­drŷ yn ei wely, a rhwng cyngyd gwneu­thur a bod heb neuthur ni wna efe ddim. Ac ym mhellach mewn man arall, y mae'r Scrythur yn dangos ei fusgrelli ef, Dih. 13. fel hyn, Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fonwes, ac nid ystyn hi at ei enau.

7 Y pethau hyn a llawer eraill y mae diogi yn eu peri, Dih. 19:24. ond y pedwar [Page 496] peth hyn yn enwedig y tybiais yn dda gyfwrdd a hwynt, am eu bod yn rhwy­stro yn fawr i ddyn ymroi i wellhau ei fuchedd: oblegid pwy bynnag sydd yn byw mewn swrth ddargwsg, ac ni waran­dawo ac ni roddo glûst i ddim ac a ddy­wetter wrtho yngh [...]lch y bywyd a ddaw; a chydâ hynny sydd yn bw [...]w bod peryg­lon wrth wneuthur hynny; ac heb law hynny a dramgwyddo wrth bob peth a fo ar ei ffordd, ac a gwympo; ac yn ddiweddaf sydd mor ddiowgswrth ac na chlywo arno gymmeryd poen yn y byd; y mae 'r cyfryw vn allan o bob go­baith gallu ei ynnill i roi ei fryd ar wasanaethu Duw.

8 Gan hynny, i dynnu ymaith y rhwystr yma rhaid i'r cyfryw ddynion osod bob amser ger bron eu llygaid bo­en a llafur CHRIST a'i Sainct, a'r cynghorion y maent hwy yn eu rhoi i rai eraill i gymmeryd yr vn fath boen: a'r bygwth a wneir yn yr Scrythur lân ar y rhai ni chymmeront boen: a chy­flwr ein milwriaeth ni yma ar y ddaiar, yr hon sydd yn gofyn ar ein dwylo ni la­furio: a'r goron sy wedi ei pharottoi i ni am hynny: ar dialedd a'r gofid a ddaw ar [...]y rhai musgrell diowgswrth. Ac yn ddiwethaf, onis gallant hwy ddioddef poen a llafur buchedd dduwiol, a hi­thau yn gyssylltedig a chymmaint o [Page 497] gomffordd a hyfrydwch ac nas gellir gan iawn ei galw yn boen; pa fodd y byddant abl i ddioddef poenau a gofidiau 'r fuchedd a ddaw, y rhai sydd ddir eu bod yn anoddef ac yn dragy­wyddol.

9 Y mae S. Paul yn dywedyd am dano ei hun ac eraill, wrth y Thessaloniaid, 2 Thes. 3.8. Ni fwyttasam ni ein bara yn rhâd gyda chwychwi, ond trwy weithio mewn llafur a lludded nos a dydd: i roi i chwi e [...]ampl ar hynny i'w ddilyn ef; ac y mae yn datgan ymmhellach, os byddai neb ni fyn­nai weithio, na chai fwytta ychwaith. Gwers. 10. Y mae Christ yn y ddammeg byth yn ceryddu yn dôst y rhai oedd yn fefyll yn segur, gan ddywedyd, beth a wnewch chwi yn fefyllyma yn segur ar hyd y dydd, ac heb weithio dim. Math. 20. Myfi yw'r winwydden, medd Christ, a'm Tâd yw'r llafurwr, Ioa. 15.1.6. Pob cangen ynof fi heb ddwyn ff [...]wyth, y mae efe yn ei thynnu ym­maith, ac yn ei bwrw yn tân, a hi a losgir. Ac mewn man arall, Torrwch i lawr y pren nid yw yn dwyn ff [...]wyth; Luc. 13.6. pa ham y mae efe yn diffrwytho'r tir. A thrachefn, Yr ydys yn trefio teyrnas nefoedd, Mat. 11.12▪ a'r treis­wyr sydd [...]n ei chippio hi trwy boen a lla­fur. Ac am hynny y mae 'r gwr doeth yntau yn dywedyd, Beth bynnag a ym [...]f [...]o dy law ynddo i'w wneuthur yn y byd yma, gwna a'th holl egni; Preg 9.10. cân nad oes na gwaith, na dychymmyg, na gwybo­daeth, [Page 498] na doethineb, yn y bedd, lle'r wy [...] ti yn myned, ar a dyccia i ti. A thrachefn y dywed yr vn gwr doeth, Dih. 10.4. Y neb a wei­thia a llaw ddiog a ddaw i dlodi, ond llaw y diwyd a'i cyfoethoga ▪ Ac etto ym mhellach i'r vn defnydd, Dih. 20.4. Y diog nid ardd o herwydd oerder y gauaf, am hynny efe a gardotta'r cynhauaf ac ni chaiff ddim.

10 Hyn i gyd a berthyn i ddangos, mai amser cymmeryd poen a llafur yw'r fuchedd hon, ac nid amser i segura, a'i bod wedi ei happwyntio i ni er mwyn ceisio ynnill nef: y hi ydyw'r farchnad, lle mae yn rhaid i ni brynu; a'r gâd, lle mae'n rhaid i ni ymladd ac ynnill y goron; a'r gauaf yn yr hwn y mae'n rhaid i ni hau; a'r dydd gwaith, lle mae'n rhaid i ni lafurio a chwysu, ac yn­nill ein ceiniog gyflog. A'r neb a oll­yngo'r dydd yma heibio mewn seguryd, fel y mae y rhan fwyaf yn gwneuthur, sy raid iddo dioddef tlodi ac eisiau tragwyddol yn y fuchedd a ddaw, fel y dangoswyd yn helaeth yn y rhan gyntaf o'r llyfr hwn. Ac am y hynny mae'r gwr doeth, neu yn hytrach yr yspryd glân drwy enau'r gwr doeth, yn rhoi i bob vn o honom ni rybudd a chyngor o'r di­frifaf yn y geiriau hyn, Dih. 6.3. Cerdda, brysia▪ ac ymbil a'th gymmydog. Na ddyro gwsg i'th lygaid na hun i'th amrantau. Gwared dy hun fel yr iwrch o law'r heliwr; ac fel [Page 499] aderyn o law'r adarwr▪ [...]erdda at y mor­grugyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a dysg fod yn ddoeth Nid o [...]s ganddo neb i'w arwain, nac i'w lywodraethu nac iw [...]eistroli; ac er hynny y mae efe yn parottoi e [...] fwyd yr haf ac yn casglu ei lun [...]aeth y cynhauaf. Wrth y geiriau hyn y rhybuddir ni, pa fodd y mae i ni ymddwyn yn y fuchedd hon, ac mor ddyfal ac mor ofalus y dylem ni fod ym mhob math ar weithred dda, fel y dywaid yr Apostol yntau; Col. 1. Rhuf. 12. Gal. 6. gan fod y morgrugyn yn gweithio mor ddyfal y cynhauaf, i gasglu ymborth erbyn y gauaf; felly y dylem ninnau gasglu erbyn y byd a ddaw: ac nad oes rhwystr pennach na pherygclach nâ diogi i lestair i ni wneuthur hynny. Oblegid fel y byddai ddir i'r mor­grugyn farw o newyn y gauaf, pettai efe yn treulio'r hâf mewn seguryd; felly yn ddiammau y bydd rhaid i bawb ni weithio gan ddiogi yn y byd yma, ddidodef dygn eisiau ac angen a go­fid yn y byd a ddaw.

11 Yr ail rhwystr yr wyfi yn ei alw Diofalwch ac esgulusdra, ond yr wyf fi yn deall wrth hynny beth sy fwy nag y mae 'r gair yn ei arwy­ddoccáu. Oblegid tan enw Esgeulusder yr wyf yn cynnwys pob math ar ddynion diofal difraw, y rhai ni chym­merant a [...] eu calon ddim ac a berthyn [Page 500] i Dduw ac i dduwioldeb, ond rhoi eu me­ddwl mor gwbl ar fatterion bydol, heb fawr feddwl am Iachawdriaeth eu he­neidiau. Tan y fath yma ar esg [...]ulusdra y cynnhwysir dau fath ar bobl, y naill yw'r Epicuraeaid, Phil. 3. Rhuf. 16. cyfryw ac y mae S. Paul yn dangos fod rhyw Gristianogion yn ei amser ef, y rhai oedd yn cymmeryd ennyd yn vnig i fwyt [...]a a [...] i yfed, ac i wneithur Duw o'i boliau, fel y mae lla­wer o Gristianogion heddyw: a'r llall yw math ar ddirgel annuwdeb a gwadu Duw: hynny ydyw, ei wadu ef yn eu bu­chedd a'i hymarweddiad, fel y mae S. Paul yn deall y geiriau. Tit. 2. Oblegid er bod y gwyr hyn ar eu geiriau yn cydna­bod Duw, ac yn ymhonni o fod yn gystal Christianogion ac eraill; etto mewn gwi­rionedd, yn y dirgel nid ydynt yn credu i Dduw, fel y mae eu buchedd hwy a'i gwithredoedd yn dangos. A hyn y mae Ecclesiastcus yn ei ddatguddio yn eglur, Eccl. 2.13. lle y mae efe yn dywedyd, Gwae'r galon lesg, o h [...]rwydd nid yw yn credu i Dduw. Hynny ydyw, er eu bod yn ymhonni o f [...]d yn credu iddo ac yn ymddiried ynddo, etto mae eu di­fraw a'i diofal weithredoedd hwy yn tystiolaethu nad ydynt yn credu iddo yn eu calonnau: am nad ydynt nac yn gofalu nac yn meddylio am ddim ac a berthyn iddo ef.

[Page 501]12 Y fath yma ar bobl y mae 'r Scrythur lân yn eu marcio ac yn eu ffieiddio am aredig ag ŷch ac ag assen ynghyd, Deut. 22. ac am h [...]u eu tir â hâd cym­mysg, ac am wisgo dillad o lin a gw­lân ynghyd, Y rhai hyn yw y rhai y mae Chaist yn dywedyd am danynt yn llyfr y Datguddiad, Dat [...]. 3.15. Mi a fynnwn pe bait ti oer neu frwd. Felly am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'n genau. Dymma y rhai a fedr wneuthur cyttundeb [...]hwng pob math ar grefydd, a dibennu pob ymrafel ynghylch y ffydd, trwy ddy­wedyd, naill ai nad yw'r ymrafael sy rhyngddynt ond o bwys bychan, neu na pherthyn y pethan hynny ond i wŷr dysgedig i sôn am danynt, ac nid iddynt hwy. Dyma 'r rhai a feidr gyttuno â phob math ar gwmpeini, ac â phob amser, ac ag [...]wyllys pob tywysog ynghylch y pethau a berthyn i'r bywyd a ddaw. Dyma y rhai ni fynnant sôn am yr yspryd, nac am ffydd, nac am ddwywoldeb, lle y bônt hwy; ond mynnu i ddynion fwytta, ac yfed, a bod yn llawen gydâ hwynt; a dywedyd mewyddion o'r llŷs ac o leoedd eraill; a chanu a dawnsio, a chwerthin, a chwarau; ac felly treulio eu bywyd yma mewn llai o feddwl am Dduw nac y gwnai'r cenhedloedd erioed: ac onid ydyw reswm i'r Scrythur lân ddy­wedyd [Page 502] fod y rhai hyn yn eu calonnau ac yn eu gw [...]ithredoedd yn bobl ddi­dduw? yd [...]w yn wir. Ac fe ellir ei brofi wrth lawer o reolau CHRIST. Ac dyma vn rheol a osododd efe ar lawr, Luc ▪ 6. W [...]th eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt, oblegid fel y bo'r p [...]en oddifewn, felly y byddd y ffrwyth a ddaw allan o hono. Hefyd; O helaethrwydd y galon y llefara'r genau; Mat. 12.34 ac wrth hynny, gan nad ydyw eu siarad hwy ddim ond am orwag [...]dd bydol, mae hynny yn arwydd nad oes dim amgen nâ hynny yn eu ca [...]onnau hwynt. Ac yma y canlyn wrth y drydedd reol, lle y byddo eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. Mat. 6. Ac felly gan fod eu calonna [...] hwy ar y byd yn vnig, y byd wrth hynny ydyw eu hunig dry­sor hwy, ac nid Duw. Ac felly y maent hwy yn gosod y byd o flaen Duw, yn y m [...]dd y gwna y rhai didduw.

13 Pell y cyrraedd y rhwystr yma yn y dyddiau hyn, a llawer o ddynion a rwydir ac a feglir gantho; a'r achos pennaf o hynny ydyw gormodd serch ar y byd, yr hyn sydd yn eu dwyn hwy i gasau Duw, ac i fagu gelyniaeth yn ei erbyn ef, 2 Ioan. 2. fel y dywaid yr Apostol; ac am hynny nid dim rhyfedd na wnelont hwy na chredu yndddo nac ymhoffi ynddo. Ac o ddynion y byd dyma y rhai anhawsaf eu troi yn ôl, [Page 503] a pheri iddynt ddodi eu bryd ar welláu; am eu bod yn ddiymglywed, ac heb law hynny yn ffo rhag pob peth a allo eu [...]iacháu hwy. O [...]legid [...]l na bai fawr obai [...]h o'r dyn a fai glaf iawn, ac ni chlywai ddim oddiwrrh ei glefyd, ac ni choeliai [...]od a [...]no anhwyl yn y byd, ac ni fynnai [...]ôn am na physygwriaeth na physygwr, ac ni ch [...]mmerai gyngor yn y byd a gynnygid iddo; na dioddef na sia­rad nag ymgynghori ynghylch ei wneu­thur yn iach. felly y mae'r dynion hyn mewn cyflwr perygclach nâ neb arall, am n [...]d ydynt yn gwybod oddiwrth eu perygl eu hun; ond coelio eu bod yn ddoethach nâ'i cymmydogion, a bwrw ym mhell allan o'i meddyliau bob peth ac a allai beri iddynt gael iechyd.

14 Nid oes vn ffordd ond vn, od oes ffordd yn y byd, a all wneuthur llês i'r dynion yma a hynny ydyw peri iddynt goelio eu bod yn gleifion, a'i bod mewn perygl; a r ffordd oreu i wneuthur hynny, yn fy nhyb i, ydyw peri iddynt ddeall belled ydyn [...] oddiwrth fod yn Gristianogion, ac felly oddiwrth bob gobaith o Iechydwriaeth ar a ellir ei gael oddiwrth fod yn Gristianogion Y mae Duw yn gofyn ar ein dwylo ni, Fod i ni eigaru ef a'i wasanaethu a'n holl galon, ac a'n holl enaid, ac an holl nerth. Dyma wir eiriau Duw, a [Page 504] osodwyd i lawr yn y gyfraith hên a'r newydd A pha gyn belled, Deut. 5. Mat. 22. Luc. 10. meddi di, ydyw'r gwŷr hyn oddiwrth wneuthur felly, a hwy heb roi hanner eu calon, na hanner eu henaid, na hanner eu nerth i wasanaethu Duw, iê na'r dim lleiaf o honynt? Y mae Duw yn gosyn ar ein dwylo ni fod i ni roi ein holl astudrwydd a'n meddyliau ar ei or­chymmynion ef, a bod i ni feddwl am danynt yn wastadol, a myfyrio arnynt ddydd a nôs, yn ty ac allan, y boreu a'r hwyr, wrth fynd i gysgu ar wrth godi'r boreu. Dyna ei orchym­myn ef, ac nid oes maddeu dim o ho­no. Ac onid ydynt hwy bell oddiwrth hynny y rhai nid ydynt yn gwario traian eu meddyliau ar hynny, ie na'r ganfed ran ychwaith, nac ond odid vnwaith mewn blwyddyn yn crybwyll am hynny? A all y rhai hyn ddywedyd eu bod yn Gristianogion, neu eu bod yn adnabod Duw?

15 Y mae Christ, wrth fwrw pris pethau 'r bywyd hwn, yn adrodd y wers hon, Vnpeth sy anghenrheidiol yn y byd hwn, hynny ydyw gwasanaethu Duw yn ddy­fal ac yn ofalus. Y mae'r gwŷr hynny yn gweled llawer o bethau yn angen­rheidiol heb law'r vnpeth hwn, ac nad yw'r vnpeth hwn yn anghenrheidiol ddim o hono. Pa ragor wrth hynny sy rhwng [Page 505] eu tŷb hwy a thŷb Apostol Christ sydd yn dywedyd na ddylai Gristion byth garu 'r byd na dim o'r pethau sydd ynddo. 1 Jo. 2. Ac ni châr y gwŷr hyn ddim arall ond y pethau sy 'n y byd. Luc. 18. Y mae efe yn dy­wedyd, Pwy bynnag sydd yn caru 'r byd, Eph. 5. y mae efe yn elyn i Grist. Ac y mae 'r gwyr hyn yn elynion i bob dyn nid yw yn caru 'r byd. Pa fodd w [...]th hynny y gall y gwŷr hyn ddal gydâ Christ? Y mae Christ yn dywedyd y dylem ni weddio yn wastadol. Eph. 5. Luc. 21. Mat. 24. Mich. 6. Rhuf. 11. & 12. Mat 10. A hwythau heb weddio vn amser. Y mae Apostol Christ yn dywe­dyd am gybydd-dod, ac aflendid, a godi­neb, a serthedd, a choeg-ddigriswch, na ddyl [...]d vnwaith cymmaint a'i henwi ym mysg Christianogion. A'r gwŷr hynny ni fynnant sôn am ddim ond am y pethau hynny. Yn ddiweddaf, y mae 'r holl Scrythur lân yn rhedeg ar hyn, y dylai Gristianogion fod yn wrandawus, yn wi­liadwrus, yn ofalus, yn daerion, yn frydion, yn parhau yn ddibaid yngwasanaeth Duw. Ond nid oes yn y gwŷr hyn yr vn o'r pethau hyn, na rhan yn y byd o'r vn o honynt; ond bawb y gwrthwyneb yn vnion. Oblegid nid ydynt hwy nac yn hyglust i wrando, nac yn wiliadwrus, nac yn ddiw [...]d, nac yn ofalus, chwae­thach bod yn dacrion, yn frydion, ac yn parhau yn ddibaid. Ond yn y gwr­thwyneb, y maent hwy yn ddiofal, yn [Page 506] esgeulus, yn fusgrell, yn llace ac yn llaes, yn oerion, yn wrthnysig, yn dir­mygu, ac yn diystyru, ac yn wrthwyneb [...]anddynt, ac yn ffieiddio pob peth a berthyn tu ac at eu marwolaethu eu hunain, a thu ac at wir wasanaeth Duw. Pa ran wrth hynny sydd i'r gwyr hyn gydâ Christianogion, ond yr enw yn vnig yr hwn ni thyccia ddim iddynt.

16 A hyn sy ddigon i ddangos mor fawr ac mor beryglus o rwystr ydyw 'r esgeulusdra, a'r diofalwch, a'r difraw­wch yma, i luddias i ddynion roi eu bryd ar wasanaethu Duw. Oblegid os ydyw Christ yn gofyn gan y neb a fynno roi ei fryd yn llwyr ac yn gwbl ar ei wasanaethu ef, fod i'r neb a gan­fyddo vnwaith y trysor cuddiedig yn y maes (hynny ydyw teyrnas nef, a'r v­nion ffordd sydd yn tywys iddi) fyned yn y man a gwerthu cwbl ac [...] fedd, a phrynu 'r maes hwnnw: hynny ydyw, bod iddo wneuthur mwy cyfrif o erlyn am deyrnas nef, nac o holl ddaioni 'r bywyd hwn, ac anturio cwbl o honynt yn hytrach nag esgeuluso 'r trysor yma. Os yw Christ meddaf, yn gofyn hynny ar ein dwylo ni, pa bryd y daw 'r dy­nion yma i wneuthur hynny, y rhai ni fynnant roi y rhan lei [...]f o'i da tu ac at brynu 'r maes hwnnw, na myned vn­waith allan o ddrysau eu tai i sôn am [Page 507] eu brynu, n [...] meddwl na sôn am dano, na thybiaid yn dda o'r neb a ddango. so iddynt y modd y mae iddynt ddyfod o hŷd iddo.

17 Am hynny▪ y neb a'i clyw [...] ei hun, o'r meddwl hwnnw, mi a gynghorwn iddo ddarllain ymbell bennod yn ne­chreuad y llyfr hwn, yn enwedig y try­dydd ar pedwerydd y rhai sy 'n dan­gos yr achosion y danfonwyd ni i'r byd hwn o'i plegid; a'r pummed hefyd, yr hwn sy 'n dangos pa gyfrif sy raid i ni ei wneuthur i Dduw o' [...] amser yr ydym ni yn ei dreulio yma; ac yno nid wyf yn ammau na chaiff weled yr am­ryfusedd a'r perygl y mae efe yn sefyll ynddo, wrth fod mor esgeulus ddiofal ac edrych am bethau mor weigion ddi­les ac y mae, y rhai ni ddaeth efe i'r byd o'i hachos; a gadael heibio, heb na gofalu na meddwl am danynt, y pe­thau sydd o bwys, ac y dylai roi ei fryd a'i feddwl arnynt.

18 Y trydydd rhwystr a'r diwethaf y mae 'n fy mryd grybwyll am dano yn y llyfr hwn, yw 'r drwg dueddfryd sy mewn rhai, yr hwn y mae 'r Scrythur lân yn ei alw Caledwch calon, a Chyn­dynrwydd meddwl, pan fo dyn wedi go­sod cwbl o'i fryd a'i feddwl nad yma­dawo byth a'r cyflwr pechadurus y mae 'n byw ynddo, beth bynnag a ddyweder [Page 508] neu a aller ei ddywedyd yn ei erbyn. Ac mi a adewais y rhwystr yma hyd yn olaf yn y llyfr hwn, o herwydd mai hwn yw 'r diweddaf, a'r gwaethaf o'r holl rwystrau a ddangoswyd o'r blaen, ac yn cynnwys ynddo bob math ar ddrygio­ni ac sydd yn yr vn o'r llaill, ac sy gy­dâ hynny yn ymroi 'n gwbl o wir ddi­hewyd calon i bechu; yn gwbl wrth­wyneb i'r peth yr ydym yn llafurio ar i ddynion roi eu bryd arno.

18 Y Caledwch calon yma sydd ynddo amryw raddau mewn amryw ddynion, a hynny yn helaethach mewn rhai nag yn y llaill. Oblegid y mae rhai wedi cyr­rhaeddyd hyd at y Caledwch eithaf a soniais am dano o'r blaen; yn gym­maint ac er eu bod hwy yn gwybod yn dda eu bod ar gam, etto er mwyn rhyw achos bydol, nad ymroant hwy i newi­dio eu buchedd. Cyfryw oedd Galedwch Pilat, Mat▪ 17. oblegid er ei fod yn gwybod yn dda ei fod yn rhoi barn yn erbyn Christ ar gam, etto rhag colli ewyllys da yr Iuddewon, neu ansoddhau eu dywysog, efe a aeth rhagddo ac a roes farn yn ei erbyn ef. Hyn hefyd oedd galedwch Pha­rao, yr hwn er ei fod yn gweled y gwyr­rhiau a wnai Foesen ac Aaron, ac yn cly­wed llaw Dduw yn drom ar ei deyrnas; etto am na fynnai wybod arno gael ei orchfygu gan bobl mor wael ae oedd­ynt [Page 509] hwy, ac am na fynnai i ddynion fe­ddwl y mynnai efe ei gymmell i larveiddi­o, efe a barhaodd yn wastad yn ei wrth­nysigrwydd a'i ddrygioni, hyd oni dda­eth arno o'r diwedd lwyr ddygn ddinystr a dialedd. Y Caledwch calon yma hefyd oedd ym renhin Agrippa, ac yn Felix rhag­law Iudaea, y rhai er eu bod yn meddwl yn eu cydwybod f [...]d S Paul yn dywedyd y gwir wrthynt hwy; etto rhag ofn colli eu gair yn y byd, hwy a barnasant▪ ac a gyfr­gollwyd yn eu gwagedd eu hun. Ac y mae 'r caledwch yma fynychaf ym mhawb ac sy 'n erlid rhinweddau da a dynion da, ac yn enwedig y rhai sy yn dal ar y gwirio­nedd. Oblegid er eu bod hwy 'n gweled fod y rhai hynny yn wi [...]ion, a bod gair Duw a chyfiawnder ar eu tu hwynt: et­to er mw yn cadw eu hystâd, a'i gair, ac ewyllys da 'r byd, y maent hwy yn parhau yn eu drygion heb na thrugaredd nac e­difeirwch, hyd oni ddêl Duw o'r d [...]wedd a'i torri hwy ymaith ynghanol eu drwg fed dwl a'i cynddaredd.

20 Y mae eraill nid oes ynddynt cym­maint caledwch calon a pharh [...]u yn eu drygioni yn erbyn eu gwybodaeth, etto y mae ynddynt mewn modd arall; am eu bod wedi thoi eu bryd yn gwbl ar ganlyn y ffordd a gychwynnasant, ac ni fynnant dde­all [...] y peryglon sy ynddi, ond yn hytrach ceisio sicchráu eu coel ar y fford hen­no, allonydddu eu cydwybodau ynddi: Iob. [...]1.14. ac [Page 510] nid oes dim a'i digia hwy yn gymmaint a chlywed dim a fo gwrthwyneb iddi. Am y rhai hyn y dywaid Job dduwiol, hwy a ddywedasant wrth Dduw; Cilia o­ddiwrthym, canys nid ydym yn chwennych adnabod dy ffyrdd di. A'r prophwyd Da­fydd, Pals. 58.4. yn oleuach etto, Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn asp. Y maent fel y neidr fy­ddar, yr hon a gae ei chlustiau, ac ni wren­dy ar lais y rhinwyr, er cyfarwydded fy­ddo 'r swynwr. Wrth y swynwr yma y mae efe yn deall yr yspryd glân, yr hwn sy 'n ceisio ym mhob modd eu denu hwy oddiwrth yr hudoliaethau sydd yn eu rhwydo hwynt; a'r rheiny a eilw yr gwr doeth, Fascinationes vanitatis, Hu­doliaeth gwagedd Ond fel y dywaid y prophwyd, Doeth. 4. Hwy a wrthodasant wrando, ac a roesant ysgwydd anhydyn, Zech. 7.11. ac a drym­hasant en clustiau rhag clywed. Gwnae­thant eu calonnau yn Adamant rhag clywed Cyfraith yr Arglwydd, ac ymchwelyd atto ef.

21 Yr ydys yn bwrw 'r pechod mawr yma yn enwedig ar yr Iuddewon, fel y mae S. Stephan yn tystiolaethu pan ddywedodd efe yn eu gŵydd hwy eu hunain, Act. 7, 51 Chwychwi Iuddewon gwarrgaled, yr ydych chwi bob amser yn gwrthwynebu 'r Yspryd glân, gan feddwl wrth hynny, fel y dengys Christ yn helaethach, eu bod hwy yn gwrthwynebu prophwydi a [Page 511] Saint Duw, yn y rhai yr oedd yr yspryd glân yn llef [...]ru wrthynt o amser i am­ser am wellháu eu buchedd. Ac am nas gallent hwy gan oleuni yr wybodaeth yr oeddynt yn ei gael with wrando cy­fraith Dduw, nac mewn gwirionedd nac mewn lliw fw [...]w dim yn erbyn y pethau a ddywedid, nac yn erbyn y beio a'r ceryddu a wneid arnynt; ac etto a roent eu bryd yn gwbl nad vfuddha­ent, ac na newidient eu hên arfer: am hynny y cwympasant o'r diwedd i er­lid y rhai a'i ceryddai, a'r achos o hyn­ny oedd galedwch calon yn vnig: Ier. 5▪ 3. Hwy a wnae [...]hant eu hwynebau yn galettach na 'r graig, ac a wrthodasant ddychwelyd, medd Duw trwy enau Ieremi. Ac mewn man arall yn yr vn prophwyd y mae efe 'n cwyno yn d [...]st rhag eu cyndyn­rwydd hwy, Ier. 8.5. Sic latinè Ezec. 18. Pa ham y ciliodd pobl Ieru­salem yma yn eu hôl, ag enciliad cynnhen­nu [...] cyndyn, fel na wrandawant arnaf fi. Ac etto drachefn, Pa ham y byddwch feirw, chwi ty Israel? Pa ham yr ydych yn eich gwneithur eich hunain yn go­lledig? Pa ham yr ydych chwi mor gyn­dynniog ac nas gwrandewch; ac mor anhydyn ac nas dysgwch; ac mor greu­lon wrthych eich hunain ac nas myn­nwch wybod y perygl yr ydych ynddo, na deall y dialedd sydd vwch eich pen­nau.

[Page 512]22 Ond wyt ti yn tybiaid, frawd an­wyl, fod Duw yn arfer y fath ymadrodd, nid yn vnig wrth yr Iuddewon, ond hefyd wrth lawer mil o Gristianogion, ac ysga [...]fydd wrthyt ti dy hun lawer gwaith yn y dydd; am dy fod di yn gwrthod y meddyliau da y mae efe yn eu rhoi ynot ti, a'r moddion da eraill y mae efe yn eu harfer, i geisio dy dynnu di i'w wa [...]anaethu ef; a thithau ath fryd yn gwbl nad ymrocch iddynt; [...]nd canlyn dy ffordd dy hun, er maint a annoger arnat i'r gwrthwyneb? Och och, pasawl Christion sydd yn dywedyd wrth Dduw bob dydd, fel y dywedai yr annuwiol, Cilia oddiwrthym, nid ydym ni yn chwennych adnabod dy ffyrdd di. Pa faint sy o ddynion yn ffiaidd ac yn gâ [...] ganddynt gyngor da; yn ofni ac yn cry­nu rhag darllain llyfrau da; yn gochel ac yn cassáu cwmpeini duwiol, rhag i hynny gyffroi dim ar eu cydwybod hwy, ac iddynt ddychwelyd, a bod yn gad­wedig? Pa faint sy o rai a ddywedant gydâ 'r rhai calon-galed anhappus hyn­ny y mae 'r prophwyd yn crybwyll am danynt▪ Es. 28.15. Ni a wnaeth [...]m ammod ag angau, ac ag vffern y gwnaeth [...]m gyngrair. Megis pe y dywedent, Na flinwch ni, nac a­flonyddwch arnom â'ch cynghorion, na threuliwch ddim o'ch gei [...]iau a'ch tra­fael yn ofer: siaredwen â'r rhai sy etto [Page 513] heb sefydlu: cymmered y neb a fynno 'r nef: yr ydym ni a'n meddwl cennym: yr ydym n [...]wedi gwneuthur ammod, ac y mae 'n rhaid i ni ei gyflawni, ag vffern ac ag angeu tragywyddol.

23 Cynddaredd ryfeddol ydyw calon­galedwch; Psal. 58.4. ac nid heb achos y cyffely­ba 'r prophwyd hynny i wenwyn a chyn­ddaredd sarph. Ac mewn lle arall y mae 'r Scrythur lân yn dangos pa fath ydyw, yn y modd hyn, Yr wyt ti yn ga­lon ga [...]ed, a'th warr sy fal genyn haiarn, a'th dalcen yn [...]res. Es▪ 48.4. Pa beth a ellir ei ddywedyd ddwysach, i ddangos galet­ted y fettel yma? De Cons. ad Eug. li cap. 1. Ac etto y mae S. Ber­nard yn ei ddangos yn helaethach yn y geiriau hyn, A pha beth wrth hynny yw calon-gal [...]d? Ac yn y man y mae 'n atteb, Calon-galed yw 'r hon ni ddryll­ir gan dristwch, ac ni feddalheir gan dduw­ioldeb, ac ni chyffroir gan weddi, ac nid ymrydd er bygw [...]h, ac ni wellháa ddim ond yn hyt [...]rach gwaethygu gan gerydd. Calon­galed yw 'r hon sy an [...]iolchgar i Dduw am ei ddoniau, ac anufudd i'w gynghorion ef: yr bona greulonir gan ei farnedigaethau ef, ac a ymollwng pan geisio efe ei denu, ac sy ddigywilydd mewn brynti, a diofa rhag perygl; ac anhynaws wrth drin y byd, ac an­hydyn yn y pethau a berthyn i Dduw, ac yn anghofio 'r pethau a aeth heibio, ac yn esgeulus ddifraw yn y pethau sy bresennol▪ [Page 514] ac yn anfeddylgar ddiddarbod am y pethau a ddaw.

24 Wrth eiriau S. Bernard y gellir gweled, fod calon galedwch agos yn glefyd di obaith anaele heb feddygini­aeth iddo, lle y digwyddo. Oblegid beth a wnewch chwi, medd y tâd duwiol hwnnw, i geisio help iddo? os dangos­wch iddo dosted yw pechod, ni chyffry arno ronyn gan ofid: os dangoswch iddo bob math ar reswm, y dylem ni wasanaethu Duw, ac na ddylem na'i ddigio, na'i amm [...]erchi, er hynny ni liniara ac ni feddalháa efe vn gronyn. Pettych yn ymbil ag ef, ac yn erfyn arno drwy ddagrau, ie ar eich gliniau, ni chyffroai arno ronyn. Os bygythiwch ef â digofaint Duw, nid ymddyry efe ddim er hynny. Os Duw a'i fflangella ef, efe a syrth mewn cynddaredd, ac a â yn galon-galettach nag oedd o'r bla­en. Os gwna Duw gymmwynasau iddo, efe a â yn anniolchgar. Os ei gynghori a wna ynghylch ei Iachawdwriaeth, nid vfuddháa efe. Os crybwyllwch wrtho mor ddirgel ac mor dôst yw barnedigaethau Duw, efe a gwymp mewn anobaith, ac a fydd creulonach. Os ceisiwch ei dde­nu a'i ynnill â thrugareddau Duw, hyn­ny a wna iddo ymroi i ddrygioni. Os dywedwch iddo ei frytnti, ni wrida efe. Os rhowch iddo rybudd o'i beryglon, [Page 515] nid ofna efe. Os trin matterion y byd a wna, y mae 'n falch ac yn annhirion. Os trin pethau Duw a wna, y mae efe yn waedwyllt, ac yn anwadal, ac yn draháus. Yn ddiwethaf, y mae 'n goll­wng yn anghof bob peth aeth heibio am ddynion eraill, y modd y gobrwy­wyd hwy am eu duwioldeb, neu y cos­pwyd hwy am eu pechodau. Am yr amser presennol, y mae efe yn ei es­geuluso, ac heb wneuthur cyfri 'n y byd o'i arfer tu ac at ei lês. Ac am y pe­thau a ddaw, pa vn bynnnag a'i de­dwyddyd a'i colledigaeth, y mae efe yn gwbl ddiddarbod o honynt, ac heb wneu­thur cyf [...]if o honynt, er mynyched ac er difrifed y crybwylloch wrtho am da­nynt. A pha fodd y gellir help i'r cyfryw vn?

25 Nid heb achos mawr yn siccr y gweddiodd y gwr doeth mor ddifrif at Dduw, Eccl. 23.6 [...] Na ddod fi i fynu i feddwl digywi­lydd anllyfodraethus. Ac y mae'n rhoi rhe­swm am hynny mewn man arall o'r vn llyfr, Eccl. 3▪26▪ Drwg fydd ar galon galed yn y di­wedd. O 'n a ddaliai bob vn sy galon-ga­led ar y rheswm yma Ond y mae S. Ber­nard yn myned rhagddo, ac yn dangos mor ofnadwy yw hyn ymmhellach, pan yw yn dywedyd, Ni bu erioed etto vn dyn calon-galed yn gadwedig, De cons. l. [...]ca. 1▪ oddiei­thr i Duw o'i drugaredd dynu oddiwrtho ei [Page 516] galon-galed, a rhoi iddo galon gnawd▪ fel y dywaid y prophwyd. Wrth y ge [...]riau hyn y mae S. Bernard yn dangos, ac yn profi allan o'r prophwyd, fod dau fath ar galon mewn dynion, y naill o gnawd, yr hon a waeda ond ei phigo; hynny ydyw, hi a syrth mewn cystudd a dolur, ac edifeirwch, a dagrau, er lleied a geryddder arni am bechod. A'r llall sydd galon garreg, yr hon er maint a faeddoch ac a guroch arni â gyrdd ac â morthwylion, chwi a ellwch cyn hawsed ei thorri yn ddrylliau, a'i phlygu neu beri iddi waedu. Ac ar y ddau fath yma ar galon yn y byd yma, y mae 'n sefyll ein holl ddedwy ddwch a'n hannedwyddwch ni yn y byd a ddaw. Oblegid, megis pan oedd Duw a'i fryd ar ddwyn dialedd ar Pharao, nid oedd ganddo ffordd dostach i wneuthur hyn­ny nâ dywedyd Mi a galedaf galon Pha­rao; hynny ydyw (fel y mae S. Awstin yn deall) mi a ddygaf fy ngrâs oddiar­no, Exod. 4. ac a adawaf iddo galedu ei galon ei hun: [...]uper Exo. &. S [...]r 8 [...]. de temp. felly pan oedd yn chwennych dangos t [...]ugaredd i Israel, nid oedd gan­ddo fodd i'w ddangos yn eglurach nâ dywedyd, Mi a dynnaf y galon garreg allan o'ch cnawd chwi, ac a reddaf i chwi galon gig. Ezec. 36.26 Hynny ydyw; Mi a dynnaf ymaith eich calon galed chwi, ac a ro­ddaf i chwi galon feddal, yr hon a gy­ffry [Page 517] pan lefarer wrthi. Ac o'r holl fen­dithion a'r doniau y mae Duw yn eu rhoddi i ddynion yn y byd hwn, y galon feddal dyner yma yw vn o'r rhai mwyaf; hynny ydyw y cyfryw galon ac a fo hawdd genthi edifarhau, a ddi­oddef yn hawdd ei cheryddu, a fo hawdd ei gwanu a'i phigo, a fo hawdd genthi waedu, a fo hawdd ei chymmell ar well­háad. Ac o'r gwrthwyneb, ni all fod melldith a dialedd mwy ar Gristion, nâ bod ganddo galon galed gyndyn, a fo yn pentyrru dialedd beunydd arni ei hun ac ar ei pherchen hefyd; Heb. 6. fel y dy­waid S. Paul; hi a gyffelybir gan yr A­postol i dir ni phair glaw yn y byd i­ddo fod yn ffrwythlon, Gwers 8. er mynyched y syrthio arno, ac am hynny y mae yn datgan am dano ei fod yn anghymmer­adwy, ac yn agos i felldith, ac mai ei ddiwedd fydd ei [...]osgi.

26 A chan fod y peth felly, nid thy­fedd fod yr Scrythur lân yn ein han­nog ni mor ofalus i ochel calon gale­dwch, am nad oes clefyd perygclach, nac mor anaele, Eph. 4. 1 Thes. 5. ac a all ddigwydd i Gristion, gan mai hwnnw yw 'r drws nesaf fel y dywaid yr Apost [...]l, i ddyn i gael ei wrthod gan Dduw▪ Ac am hyn­ny y llefa S. Paul▪ Na thristewch lân Ys­pryd Duw; Na ddiffoddwch yr yspryd, [...]rwy galedwch calon, a thrwy wrthwynebu [Page 518] a gwrthladd yr yspryd. A thrachefn, Na chaleder calon neb o honoch trwy dwyll pechod. Heb. 3.13. Y mae 'r prophwyd Dafydd yn­tau yn llefain, Heddyw o gwrandewch ar leferydd Duw yn galw arnoch i edi­farhau, Ps. 95. na chaledwch eich calennau yn ei erbyn ef. Ac y mae 'r holl eiriau difrif yma eiddo 'r yspryd glân yn dwyn ar ddallt i ni mor ofalus y dyl [...]m ni fod i ochel yr haint gwenwynig yma, calon-galedwch: a'r holl-all [...]og Dduw o'i drugaredd a roddo i ni râs i wneu­thur hynny, ac a'n cynnysgaeddo ni â chalon dyner i vfuddhau yn gwbl i'w ddwyfawl fawredd ef; y cyfryw galon feddal, meddaf, ac a ddymunodd y gwr doeth ei chael pan ddywedodd efe wrth Dduw, 1 Bren. 3.9. Dyro i'th wâs galon ddeall­us, vfudd i wrando, a hawdd ei dysgu: y fath galon ac y mae Duw ei hun yn dangos ei bod ym mhawb a'i carant ef, gan ddywedyd, Ar bwy yr edry­chaf, [...]s. 66.2. ond ar y truan, a'r cystuddiedig o yspryd, a [...] sydd yn crynu wrth fy ngair.

27 Dyma anwyl frawd, y fath galon y mae Duw yn ei disgwyl a [...] dy law di: calon fechan, druan, vfudd, osty [...]gedig, a chalon ddrylliedig am [...]y bechodau; a chalon a gryno wrth bob ga [...] a ddêl attati oddiwrth Dduw trwy enau ei weinidogion. Pa fodd wrth hynny nad ofni wrth yr aml eiriau a'r hir draeth­awd [Page 519] a aeth o'r blaen, i geisio dy dde­ffro dr, a dangos i ti dy berygl, a chei­sio dy wellhau di? Pa fodd nad ofni di fygythion a ba [...]nedigaethau yr Ar­glwydd mawr yma am dy bechod di? Pa fodd y llefesi di fyned rhagot yn ei ddigio ef? Pa fodd yr oedi di yn hwy wellhau dy fuchedd? diau y gallasai y rhan leiaf o'r hyn a ddywetpwyd fod yn llawn ddigon i gyffroi calon dyner, ac yspryd vfudd gostyngedig, i wellhau ei buchedd yn y man. Ond onis gall y cwbl beri i ti wneuthur hynny; ni fe­drafi ddywedyd dim amgen nâ bod gennyt ti galon galed iawn: Yr hon er mwyn dy Iachawdwriaeth di, yr at­tolygaf ar y Tâd o'r nef ei meddalhau â gwerthfawr waed brŵd ei vnig fab ein Iachawdwr, yr hwn a fu fodlon i golli ei waed ar y groes er dy fwyn di.

28 Ac dyma i chwi gwbl ac a amce­nais ei adrodd yn y llyfr hwn, i ddan­gos i chwi yr modd y mae i chwi wneu­rhut eich goreu ar droi at Dduw ac yma­dael a'ch drwg fuchedd, ac y mae hyn yn llawn ddigon gydâ chymorth glân yspryd Duw, yr hwn sydd bob amser yn barod i gymmorth pawb a wnêl ei oreu ar ochel yr hyn sy ddrwg, a dilyn yr hyn sy dda. Ac onid ydyw hyn ddigon i ti, ddarllennydd hynaws, ni wn i pa o­baith [Page 520] a all fod o'th iachawdwriaeth di. Oblegid y mae yn ammhossibl i ti fy­ned i'r nef, o byddi fyw yn annuwi­ol heb edifarháu. Ie y mae cyn hawsed i ti al [...]u gyrru Duw ei hun allan o'r nef, a chael myned i'r nef dy hun os ti a barhei yn dy annuwioldeb. Beth wrth hynny a wnai di? A elli di fod heb fy­ned i'r nef, a gochel vffern hefyd? Na elli ddim. Beth ynteu a wnai di? ai oedi 'r matter, a meddwl yn ôl hyn beth sy oreu i ti ei wneuthur? Ond bydd di siccr na chai d [...] byth a [...]ser cystal, na han­ner cystal a'r amser presennol. Ac od yw anhawdd i ti yr awrhon wellháu dy fu­chedd, gwybydd yn ddiau y bydd an­haws o lawer i ti yn ôl hyn. Os gwrth­odi di gymmeryd edifeirwch pan y cyn­nygier yt, mae arnaf ofn nas cai di mwy e [...] gynnyg i ti. Wrth hynny, frawd an­wyl, nid oes dim well i ti nâ'i gym­meryd allan o law. Gwna dithau hyn­ny, a gwna i angylion nef lawenháu o'th achos. Na fid gwell gennyti, fel y mab afradlon, fwytta 'r c [...]bau gvda 'r môch yn y byd hwn, nâ chymmeryd gwahodd i'r wledd nefol gydâ Duw a'i angylion I'r hon y dygco Duw nyni i gyd, Luc. 15 trwy [...]esu Grist e [...]n Harglwydd. Amen.

DIWEDD.

Pyngciau 'r FFYDD yn iaith Lydaw.

ME a creet en doue an tad hollgalloudec, crouer an euf, hac an douar; hac e Iesu Christ e map vnic hon aoutro, pehuny son conceuet dre an speret glan: ha ganet eux an guerches Mary an deueux, gonzauet dydan Ponoz Pilat, crucifiet, marou, ha sebelyet: so bezet disquennet dan yf [...]rnou: an trede deiz ezeou dazsorchet a marou: hac ezeou pignet en e­faou: hac asezet en tu dehou da doue an tad hollgalloudec. A hane e deuhy da barn an beou, hac an marou. Me a creet en speret glan: an ylys vniuersal: communion an sent: Remission an pechedou: dazsorchen an quyc: hac an buhez aeternal. Amen.

Yr vn, yn Iaith Gernyw.

MEE a greas in dew taz oll dew golosack, gwreear nev ha noa [...], hacidm e vab ev Iesu Chreest an arleth ny aweth con­ceues der an sperez sanz, geanes an worthies Varia, peze indadu Pontius Peelat, goares en grows, marau hac anclithies, tha eefarn ev deskidnyas, an tredga death ev te­therias thurt mernaus, tha vow­naus tha nev ev ascendias, hac ena ma o seatha an bargh dighow than Dew taz, hac alena ma tha thoas, rag jidga bew ha maraw. Mee a greas in speres sanz, hac in sanz egles lean a feth, Commi­nyan an senz, geevans an pehoost, dereeuians an keeg, bownans heb duath. Amen, in­delua rabo.

Emyn Ambros ac Awstin, yr hwn a elwir y Te Deum, ac a gyfieithi­wyd yn Gymraeg y gan Ddafydd ddu o Hiraddug fel yr ydys yn tybied.

TI Dduw addolwn,
Ti a weddiwn,
ti a addefwn.
eiddun ddofydd.
Ti Arglwydd nefawl,
tad tragywyddawl,
to daiar a'th fawl,
y sawl y sydd.
Engylion gerddau,
nef a'i meddiannau,
oll a'th fawl dithau,
rhiau rhiydd.
Cherubin gynnwys,
Seraphin frowys,
a ganant yn lwys
leiswawd newydd.
Sant, Sant, Sant Arglwydd.
[Page]Sabaoth culwydd,
sanctaidd wawr hylwydd,
hwyl haul loyw ddydd.
Llawn yw nefawl chwan [...],
o'th fawr ogoniant,
a hylldo ariant,
holl daierydd.
Gogoneddus gor
ebystl, nefawl bor,
a'th fawl, falch gyngor,
gangau dedwydd.
Moliannus i'n rhi,
rhif y prophwydi,
a'th fawl, Grist Celi,
colofn bedydd.
Canheidlu creudwysg,
a gerddant i'th wysg,
Yn llu aur durfrwysg,
yn llwyr dorf-rydd.
Santes eglwyswawd,
drwy'r holl fedyssawd,
dyro hael ddefawd
o lin Ddafydd.
Ein tad trugaredd,
anfeidrawl fawredd,
a'i haddef pob gwedd,
gwiwddawn elfydd.
[Page]Dy anrhydeddus,
vnmab moliannus,
a mawl crefyddus,
ffyrf gampus ffydd.
Dy gyd ddiddanwch,
Sant yspryd elwch,
a folir yn fflwch,
ffloyw leferydd.
Christ bennadur cred,
brenin gogoned,
ti yw'n eidduned
hyd diwedydd.
Tragywyddawl blant,
tragywydd dad sant,
ti biau moliant,
miloedd beunydd.
Ti a gymmerth cnawd,
o fru morwyndawd,
a dynawl giwdawd,
o nawd newydd.
I ryddhau dyn,
y gan ei elyn,
o vffern derfyn,
dwrf vfelydd.
Ti a egoraist,
i ddyn a greaist,
nef pan i'n prynaist,
[Page]ar bren palmwydd.
Y mae d eisteddiad,
ar ddeau dy Dad
a'th breswyl gwastad,
mad mydr sillydd.
Ti Arglwydd Iesu
a ddaw i farnu,
a fo ac a fu,
llu llaw enydd.
Nertha dy weision,
gwerth dy waed gwirion,
gwyrthfawr dygoron.
goralw grefydd.
Par eu gobrwyaw,
gyda'th Saint aelaw,
a'r fuchedd rhag llaw,
llyw lliosydd.
Gwared dy bobloedd,
gwerin dy wladoedd,
gweryd ar nefoedd,
naf rhysfaydd.
Llywia hwynt, nefner,
llywiawdr vchelder
drycha vch no'r ser,
muner mynydd.
Ti a fendigvvn
ti a addolwn,
[Page]gvvastad i'th garvvn▪
i'th gerennydd.
Molwn dy ga mpus
envv anrhydeddus,
byth yn barhaus
y boreydd.
Teilynga he [...]divv
ein cadvv yn gyvvivv,
rhag pechod ymlivv,
ym mlaen lluydd.
Trugarhaa, naf
nef trugaroccaf,
wrth bobl plant Addaf,
addurn gynnydd.
Gobaith ein gorsedd,
bid yn ddiommedd,
i'n dy drugardd,
heb dro' gerydd.
Archvvn ein gobaith,
er erchyll dy laith,
na'n llygrer yn faith,
fyth tragyvvydd. Amen.

MAddeuwch i mi yr beiau a ddiang­odd gan y gweithwyr, eisieu gwy­bod yr iaith; ac yn y tu cyntaf i'r ddalen [...]83, darllennwch y geiriau diwethaf fel hyn, o'r lle y bydd rhaid iddynt hwy fyned ymaith i'r lle, &c.

[...]
[...]

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.