Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth, y llyfr kyn­taf; trwy fyfyrdawd Capten William Midleton.

[figure]

Thomas Orwin ae printiawdh yn Llundain. 1593.

NOBILITATE GE­NERIS, ET CLARITATE PIETATEque conspicuo viro; Thomæ Midletono ciui Londinensi, & cognato suo omnium dilec­tissimo, Gulielmus Mideltonus has su­as lucubrationes cum salute mittit.

—si quid mea carmina possunt,
Aonio statuam sublimes vertice Bardos,
Bardos Pieridum cultores atque canentis
Phœbi delitias, quibus est data cura perennis,
Dicere nobilium clarissima facta virorum,
Aureaque excelsam famam super astra locare.
Io: Lelandus in assertione Arturij.

Annerch at bob athrylithfawr awenydhgar gymro y gan VViliam Midleton.

GAnn dharfod i Dhoctor Sion Dauydh gymeryd kymaint o boen, a thra­fael yn gweithio gorch­wyl mor odidawg, ag yw i dhwned lladin ef, i dhysgu yr iaith gym­raeg: a chida hynny rhoi allan mwy o reolau a samplau nag sydh gann vn pry­dydh ynghymry, or hen ganiad ar dull nevvydh: a chan dhwedyd o Jul. Caesar Com. lib. 6. y bydhai y Drudion gynt vgain mly­nedh yn dysgû y gelfydhyd honno: Dir i minnaú; os medraf, dhysgú im Ky­dwladwyr y Fordh nesaf, i ganú kerdh dafawd. Am hynn o mnyni y kymro darllain hynn o beth; sef y rhann gyn­taf [Page] o brydydhiaeth. Yr honn yn vnig sydh yn dysgu yt gymharidau, odlau, kynghanedhion ar mesurau. Nid rhaid erchi i neb a synhwyr yn i benn ganu yn synhwyrol. Ag os kaisu, dhysgi kanu kerdh dafawd yn benkerdhiaidh, rhaid yt fedru kymraeg dhilediaith, ymo­ralw ar athrawon, darllain ag ysgrifen­nu llawer or hengerdh ar newydh y­rhain a dheuelli yn y dwned a henwais. Ygatfydh ti ofynni pa achos y newidi­ais yr hen ordr ar method, ag enwae rhai or mesurau ag y gwneuthym reo­lau newydh drwy ‘r llyfr, ag y gadewais y beieu kyffredin heb son am danynt: ti a gai glywed os gyrri ataf fyatteb dros oll a vveithieis ar gam. Bydh vvych. Die kalan ith galennig Duw ath gatwo.

Llyfr bardhoniaeth.

BArdhoniaeth yw kelfydhyd, o ganu kerdh dasawd yn dha. Sef yw hynny, plethu ageliaw ka­niadau kymraig, yn gerdhgar benkerdhiardh. Pedwar peth a berthyn at gerdh dafawd. Kym­hariad, odl, kynghanedh, a me­sur.

Kymhariad yw kymharu pob braich or pennill, i gyd ateb ar kyntaf: a hynny a ellir o dhau fodh. Sef, kymhariaiad disgyblaidh a chymhariad penkerdhiaidh. Dau ryw gymhariad disgyblaidh ysydh. Sef, kymhariad llythyrennol a chymhariad synhwyrol kymhariad llythyrennennol yw kymharu y llythyren wreidhiol ag vn oe rhyw yn gyssefin pob braich trwy y pennill. Fal hynn.

Pwy sy dhewrgbl; pais dhurgorff: G. H.
Pwy a rwym kamp o rym korff.

Kymhariad synhwyrol yw; pann fytho y braich kyn­taf heb gyflawn synhwyr yndho: eithr, gorfod i gyrchu at yr ail; i gyflowni y Synhwyr heb gymharu llythyren­nau gwreidhiol fal hynn.

Rhaid sydh lle rho Duw i far; T. A.
[Page 2]Dwyn eginyn da ‘n gynnar.

Kymhariad penkerdhiaidh yw, pann fytho rhyw or­chest ar y kymhariad mwy nag ar y dhaú úchod: a hyn­ny a ellir o dair ffordh. Sef, kymhariad llythyrennol Syn­hwyrol, kymhariad kynghanedhol llythyrennol a chym­hariad kyfochr. Kymhariad Synhwyrol yw, pann fytho y llythyrennaú gwreidhiol yn kydateb, ag yn kymharú, or ún rhyw; ag yn kyflawni syn̄wyr dhiffy giol yn y braich kyntaf hefyd. Sef y dhaú gymhariad disgyblaidh yn ún fal hynn.

Ni bú y Rodn; nai Bredúr G. G.
Negydh, oe win nag oe dhúr.

Kymhariad kynghanedhol llythyrennol yw, pann fytho yr hanner kyntaf ir braich yn atteb mewn kroes­gynghanedh ir hanner olaf, o bob braich trwyr pennill fal hynn.

VVyd awdúr diwyd ydyn;
Jon didwyll hynny dwedwn, M.
Nid odiaeth ún od adwen,
Ond ydoedh o waed Odwin.

A hynn a dheuellir yn eglur, pan soniwyf am groes­gynghanedh gyfan.

Cymhariad kyfochr yw, pan fytho daúsillafog eiriaú yn dechraú y mesur, er torri kymhariad llythyrennol; ar y gytsain wreidhiol, rhaid údhynt gyfochri yn sain my wn aken dhyrchafedig fal hynn.

Mannau mwyn am win a medh M.
Tannau, musig ton maswedh.

Os. bydh vogal yn atebi gytsain nid torr kymhariad y tyw fal hynn.

Nid kyfled gweled y gwir, I. V.
Ar yr wyneb a'r anwir.

Na vogal yn ateb i amryw fogal arall fal hynn.

Urdhedig arwydh ydoedh, D. E.
Ethol myrr o fethelem oedh.

Ny thyrr H arwydh ychenaid; na chynghanedh na chymhariad ag os bogal a fydh gwreidhiol yn y braich kyntaf, kytsain ni thyrr gymhariad. fal hynn.

Awn i bun yno beunydh,
Glas a gwynn dan glos y gwydh. D. E.

Bellach soniwn am odl.

Odl yw kydateb sain mewn sillafau perthynas. a hyn­ny sydh o dhau ryw, sef. vnodli, a phroestu. Vnodli, yw bod sillafau or unrhyw yn kydateb yw gilydh: naill ae mewn perfedh braich, neu yn y brifodl. am y gyntaf mi ae dangosaf mewn lle kyfadhas: sef, ymysg y kynghaned­hion. Eithr vnodli yn y brifodl yw; pann fytho sillafau or vnrhyw, yn ateb yw gilydh, ag yn vnodly trwyr pen­nill, neu r‘kaniad, ag at y rhann honn y perthyn anian a rheol y sillafau oll: kans nas vnodla a sillaf dalgron, ond [Page 4] talgronn arall a hynny or un bwys, o bydh y dhwy o a­ken dhyrchafedig, vocal a vnodla ar vn fogal, lledhf a lledhf, Diptong, a diptong or vnrhyw, ar rhain or vn vo­galiaid a chydsonaniaid fal hynn.

Talgronn.
Mingamai hi mewn gwmon, I. G.
Morkath ae brath dan i bronn.
Lledhf.
Ychen ynn kochion vnoed,
Uwch. i kyrn no breichiau koed. Ll.
Diptong
Mal y sydh; a maels idhaw, Ll.
Mae fal draig i ymafael draw.

Ni chydwedha mewn perfedh braich yn enwedig, yn yr orphwyssa, sillaf i vnodli ar brifodl, hefyd ni dhichin yr vn gair fod dhwywaith ar y brifodl oni bydh fynychach, neuyn tracthu'y smalhawch kariad.

Odl hefyd a dhichin fod o gudh llythyren or gair a fy­tho yn dilin fal hynn.

Dysgais i godi gida‘r ehedydh,
A rhodio ‘r vn dalar: &c. Ieuan o garno

Proestu yw newid vogaliaid neu diptongiaid, ag heb ne wid kydsonaniaid yn y brifodl; Dau ryw broest ysydh, Proest kyfnewidiog a phroest kadwynodl. Proest kyf­newidiog yw, pann newidier pob prifodl or mesur ar sil­lafau or vnrhyw. fal hynn.

Or gwinwydh daróganent
O ganon o ogoniant L. G.
O ward bronn dann euraid brint
O wir gorff oedh wyry gynt.

Ni chydwedha sillaf, yr orphwyssa i broestu ar brifodl mewn braich o bennill vnodl.

Proest kadwynodl yw, pan fytho y braich kyntaf, ar ail, yn proestu. &c. a phob yn ail braich yn kydodli. fal hynn.

Myfi im Dúw hoewdhúw hynt;
A ganaf a gogoniant: M.
A wnaeth ym helaeth helynt,
A gwir dhawn ag úrdhùniant.

Ni chydbroesta; onyd sillafau or vnrhyw. Digon yw hynn o sō am odl: soniwn bellach am y kyng­hanedhion.

Kynghanedh yw, eiliaw a phlethu braich o bennill ar gerdh dafawd. Dau ryw gynhanedh ysydh. Sef, kynha­nedh groes; a chygnhanedh vnodl. Kynghanedh groes yw, pan̄ fytho y kydsonaniaid o flaen sillafyr orphwysfa yn ateb irrhai or ol. Dau ryw gynghanedh groes ysydh. Sef, kynghanedh Draws a chynghanedh groes gyfan.

Kynghanedh draws yw, pann fytho vn gytsain neu fwy yn ateb ir olaf; ar rhai nesaf atti ar draws y geiriau llanw, yn y perfedh. Y gytsain gyntafyn ateb ir nesaf at y brisodl fal hynn.

Tad, brodyr, neiaint, plant aeth. T. A.
Dwy gytsain; yn ateb i dhwy, fal hynn.
[Page 6]Bygwthy mae y gloew bigau D. G.
Tair.
Gleision, mal wybr goleusyth. D. G.
Pedair.
Byrblu rhewedig berwbla. D. G.
Pump.
Gwae a fai ‘n brudh; rhag ofn brad. G. I.

Kynghanedh groes gyfan, a blethir or oll gytson­aniaid a fythont o flaen sillaf ar orphwysfa, yn kydateb olynol ar rhai o flaen y brifodl, drwy gyfnewid vogaliaid fal hynn.

Eithr y dydh ith roed i eidhig. G. I.

Daú ryw groesgynghanedh gyfan ysydh sef kroes ry­wiog a chroes afrywiog. kroesgynghanedh gyfan rywi­og yw, pann fytho gair yr orphwyssa yn vnsillafog, a gair y brifodl yn vnsillafog hefyd, neu pann fytho gait yr or­phwysfa yn lliawssillafog bod gair y brifodl yn lliawssil­lafog hefyd, ag yno y gellir i throi wyneb yngwrthwy­neb. fal y rhai hynn.

Am hen iarll mae hynn o iawn. L. M.
I farnu a fu arnynt.

Kroesgynghanedh gyfan afrywiog yw, pan fytho y gair o flaen yr orphwysfa yn vnsillafog, a gair y brifodl yn lliawssillafog; fal nas galler i datroi wyneb yng wr­thwyneb. fal hynn.

Ymhob ing ymbob angen. D. N.

Mae hefyd yn rhydh wrth eiliaw kroesgynghanedh adu y llythyren N: pann fytho hi yn gyssefin (Sef yn lly­thyren wreidhiol neu flaenaf kydsain or braich) heb un yn ateb idhi ar ol yr orphwysfa, ag yno gelwir kyngha­nedh N: koll y gyntaf. fal hynn.

Ni roe dolk ar i wawd ynn, R. N.
Ni bú ‘n frith binn oe frethynn.

Gochelwch ymhob kroesgynghanedh, rhag bod marchawglythr heb fogal rhyngthi ar marchawg yn sillaf yr orphwysfa, oni bydh sillaf or únrhyw yw hateb yn y nesaf at y brifodl.

Kynghanedh vnodl yw, pan fytho únodli o fewn kenol y braich. Daú ryw gynghanedh vnodl sydh. Vnodl llúsg, ag vnodl sain.

Kynghanedh lusg yw, pann fytho rhyw sillaf o flaen y chweched, yn vnodli ag yn llusgo at y chweched, ar brifodl yn aken dhisginnedig. fal hynn.

Goraú bugail ir dailiaid. Ll.

Ag o gyswllt kydsonaniaid. fal hynn.

Nid y ki karth flew arthfloch. I. G.

Ni wedh kynghanedh lusg ar y braich olaf ir ún or mesuraú.

Kynghanedh sain vnodl yw, pann fytho y gwant, ar rhagwant yn vnodli, ar rhann or braich ar ol y rhagwant; [Page 8] yn kynghanedhu ar rhagwant; drwy gydateb kydsona­niaid, a chyfnewid vogaliaid, ag nid oes mesur hyd y gwant, na‘r rhagwant, mwy no gorphwysfa kyngha­nedh lusg. Fal hynn.

Plas; to dulas, ty deiliawg. I. T.

Ni chydwedha yn vnodl y sain, dhwy sillafmewn aken dhyrchafedig, oni bydhant vn bwys. sain dheublyg, fal hynn.

Por, dor, dar, gwanar gwinaú. I. G.

Gellir hefyd a hynny yn orchestawl; osod amryw gynghanedhion ar yr vn braich. Sef sain o gyswllt, a chroesgynghanedh ynghyd, fal hynn.

I gelli wig ag yw llys. Sp. versus.
Saingroes.
Aeth hiraeth i wyth Harri L. M.

Seingroes ogyswllt goll y gyntaf, neu ewinog ar air mwys. Fal hynn.

Nann konwy mann kawn y medh. M.

Sain, traws o gyswllt, a chroes dhwbl kyswllt ewinog fal hynn.

Syrr oe ryw syrr orr oes honn. L. M.

[Page 9]Ar oll gynghanedhion ar yr vn braich trwy orche­stion mewn saith modh barnent yr athrawon, fal hynn.

Tro yma tro yma at Rys. M.

Digon bellach yw hynn o amnaid i rybudhio y dar lleydh y thrylithgar i chwilio kerdh yr athrawon awdu­reidh pen kerdhiawl lle kânt weled i gwala o siamplau gorchestawl os kraffant ar y kynhildeb.

Bellach soniwn am y mesurau.

Mesur yw rhif nodedig o sillafon, naill ae mewn braich; ac o rifedi breichiau mewn pennill. rhif neu nifer y sillafon mewn braich, a elwir kyhydedh. Dau ryw gy­hydedh fydh, sef, kyhydedh mesur ag am hwnnw y so­niwn ymysg y mesurau a chyhydedh braich. Saith ryw gyhydedh braich sydh sef saith golofn kerdh defawd, fal hynn, y dosperthir hwy, y gyhydedh ferr a fesurir o bedair sillaf mewn braich, y gyhydedh wenn o bump sillaf, y gyhydedh las o chwech sillaf, y gyhydedh gaeth o saith, y gyhydedh draws o wyth, y gyhydedh drosgl o naw, ar gyhydedh hir o dheg sillaf, fal hynn.

Gruffydh griffwnn;
O dad Owein Dwnn,
Brau wyt wyr Robart Dwnn, L. M.
Praffwydh wyd imp Ruphydh Dwnn,
Praffwaed dydhdaed, Maredydh Dwnn,
Pwy yn rhoi dy aur pai Henri Dwnn,
Pwy n‘ oroff dha da pai hē Ruffydh Dwnn.

Mesur, sef pennill yw nifer ofreichiau ar vn neu fwy [Page 10] or kyhydedhion trwy gadw kymhariad, kynghanedhu, gair kyrch, gair todhaid, kyfochriad ar yr vn kaniad. Tri rhyw fesur sydh, kywydh, owdl, ag ynglyn. Tri rhyw fesur kywydh ysydh sef yw hynny. Kywydh deuair, kywydh llosgyrnog, ag owdl gywydh. Dau ryw gywydh deuair sydh. Sef, ky wydh deuair fyrrion a chy­wydh deuair hirion. kynn dechrau dosparthu vn or me­surau rhaid ym osod ar lawr reolau kyffredin a berthy­nant at bob vn or mesurau: Bellach llyma y rheolau i gy­sylhtu ynghyd y kymhariadau, yr odlau, y kynghane­dhion, ar mesurau.

  • 1 Pob kymhariad a wsnaetha ymhob rhai or mesúrau.
  • 2 Pob odl o bydh hi yn vn rhyw ar odl gyssefin flaenor, unodl fydh a chywir ganiad drwy‘r mesurau eithr mywn proest.
  • 3 Ni chenir kadwynfyrr na gorchest y beirdh heb groes gynghanedh ymhob braich.
  • 4 Pob kynghanedh a wsnaetha, ag a gynghanedha yn gywir ganiad ymhob mesur arall.
  • 5 Edrychwch am orchestion y mesurau, wrth dhospar­thu, pob pennill ar i benn ehun.

Pennill o gywydh deuair fyrrion y dylwn yn nesaf son am dano; a hwnnw a fesurir o dhau fraich or gyhy­dedh ferr. Sefpedwar sillafog bob braich, ynaill ar bri­fodl yn akē dhyrchafedig, sef, gair vnsillafog ar llall yn a­ken dhisginnedig. Sef gair a mwy nag vn sillaf yn y bri­fodl fal hynn.

Kroew fir kryf fedh, S. V.
Kof yw kyfedh.

Pennill o gywydh Deuair hirion a fesurir o dhau fraich ar y gyhydedh gaeth, sef saith sillaf bob braich, ag yn [Page 11] unodli ar ackenion amrafael fal deuair fyrrion fal hynn.

Y spys y dengis y dyn, T. A.
O ba radh y bo i wreidhyn.

Pennill o gywydh llosgyrnog a fesurir, o dhau fraich or draws gyhydedh, yn vnodl a sillaf gorphysfa y gynha­nedh, yn y llosgwrn: fal gair kyrch, ar llosgwrn yw y trydydh braich, ar y gaeth gyhydedh, yr hwnn sydh yn arwain y brifodl dwy‘r kywydh, fal hynn.

Yr hen dhaear honn a dhuodh Sp. versus.
Y gloew awyr a dhrwgliwiodh
A grynnodh pann goroned.

Owdl gywydh a fesurir o dhau fraich or gyhydedh gaeth yr odl olaf or braich kyntaf yn kyrchu yn vnodl ag mewn amryw aken a gair yr orphwysfa, yn yr ail braich Sef ar air kyrch, ar odl olaf yn vnodli drwy‘r kywydh rhaid ir gynghanedh yn y braich olaf fod yn gyngha­nedh groes rywiog fal y galler troi owdl gywydh yn gywydh deuair hiron, fal hynn.

Llwyth Trefor llu waith trafael, S. V.
Llew ebrwydh hael, llwybraidh hedh.

Darfu son am benillion o gywydh: yr ail gaink o brydydhiaeth yw owdl. Owdl yw kaniad o amryw fesu­rau (yn ol yr arfer sathredig) eithr wrth gerdh y tri phri­fardh, a dull Kyndhelw, ag arfer oll ieithoeth Europa: ni dhyly onyd vn mesur fod yn yr vn kaniad, a pha fesur y [Page 12] dechreuer; kynhal hwnnw trwy ‘r owdl pe gorchest y beirdh sai ag os hir fydhai ‘r kaniad; mae‘n rhydh newid y brifodl. Wyth mesur owdl ysydh, Kyhydedh, Tothaid, gwawdodyn, Hupynt, kadwynfesur, kyrch a chwtta, klogyrnach, a gorchesty beirdh.

Tair kyydedh ‘mesur sydh, sef kyhydedh wyth bann kyhydedh naw bann ar gyhydedh wenndrosgl.

Kyhydedh wyth bann yw, pennill o bedwar braich ar y draws gyhydedh, sef. wyth sillafog bob braich, ag yn Kyhydedh ferr. vnodl trwy‘r owdl, neu y proesty fal hynn.

Ir mab kyfarchaf rhwydhaf rhin,
Ir tad ar yspryt gloewbryd glan: Taliesin.
Neut mau yw kofiau gann ym kyfun;
Nid rhaid ym ameu llyfreu llên.

Kyhydedh naw bann, neu gyhydedh banneu naw­sillafog, a fesurir o bedwar braich ar y golofn drosgl, a phob braich yn vnodl drwyr owdl fal hynn.

Na bo ‘n vn aelod boen anialwch; W. E.
Na gwaew yw i dhilin nag eidhilwch:
Er y dwfr Restrwaed i farw rhwystrwch,
Er gwirionwaed fab gwarando febwch.

Y gyhydedh wenndrosgl a fesurir o dri braich y dhau Kyhydedh hir. gyntafo bump sillafbob vn yn vnodl a gair yr orphwys­fa, yn y trydhdh braich, fal gair kyrch, ar trydydh, o naw fillafyn arwain y brif odl trwy ‘r owdl. Fal hynn.

Torr wayw at yr ais; G. T.
Jth dhwrn ath harnais,
Trech yw no malais trychann milain.

Todhaid yw mesur odhau fraich lle bytho gair ar ol y brifodl mewn y braich kyntaf yn todhi, o dair sillaf i dhwy, o dhwy i vn. Y braich kyntaf or mesur hwnn a fydh yn wastadol o dheg sillaf, ary gyhydedh hir, yr ail braich fydh, naill ae o chwech ae o naw ae o dheg sillaf. Pa gynghanedh bynhag fytho yn y braich kyntaf rhaid ir orphwysfa fod yn y bumed sillaf ag os kynghanedh sain fydh, yr honn sydh naturiolaf yn y mann hynn, fo ellir godhef y gwant lle fynner am y bytho y rhag want yn y bumhed sillaf. Ar ail braich, sef chwechsillafog yn ateb ir gair todhaid, naill ae ar gynghanedh sain, neu ar gyng­hanedh braidh gyfwrdh, yr honn sydh rydh i ch anu yn y braich yma; ag mewn vn or mesurau onyd y braich olaf i hwnn nid rhydh i chanu, ar brifodl kynn y gair todhaid yn vnodli ar olaf or ail braich ag felly trwy ‘r mesur

Da rhydh am gywydh ym gaeau, a main
Eiliw monwes Degau, &c. J. D.

A thodhaid or mesur hwnn ni chenir ond ynglyn ag a rall, am hynny todhaid ynglyn y gelwir.

Eithr o bydh yr ail braich ir todhaid o nawsillaf neu o dheg, rhaid ir gynghanedh fod, naill ae yn sain at y gair todhaid, neu yn groesgynghanedh, ag yn ateb ar yr orphwysfa ir gair todhaid: yr hwnn sydh yno yn air kyrch os naw fydh, fal hynn.

Oes ffawydh na nydh neu onn, yn wewyr;
Oes brenn ffyrr nas gyrr yn ysgyrion. D. N.

A thodhaid deg sillafog yn yr ail braich, ar groes gynghanedh. Fal hynn.

Fal gwlith awyr ffrith ar ffrwythau r dhaear
Fal grawn fal adar fal gro neu flodau. T. A.

Dau bennill a henyw o dodhaid, sef. byrr a thodhaid, a hir a thodhaid.

Byrr a thodhaid a fesurir o dodhaid o vnsillafar bymtheg yn gyntaf, a phed war braich wyth sillafog sef. ar y gyhy­dedh draws, a thodhaid or vnrhyw ar ol, yn vnodl oll fal hynn.

Duw arglwydh o rwydh wiw ras da olud,
Oni adeila y gwnn blas;
Ail oferwaith i lafur was,
Dwl, pwl iawn geisio adail plas. M.
A Duw oni wilia y dinas,
O ferwr gwiliwr a phob gwas:
Duw yw‘n gwiliwr gwr ae guras gadarn,
Duw a geidw bawb adhas.

Os y mesur hwnn a genir drwy ‘r owdl nid rhaid ond vn todhaid rhwng pob pedwar braich.

Hir a thodhaid a fesurir o bedwar braich or gyhydedh [Page 15] hir, a thodhaid o vgein sillaf ar ol yn vnodl drwy‘r owdl. Fal hynn.

I fair da weiniaith a fu‘r dewinion;
O raith resymol wrth eiriau Simeon, G. T.
Mawr oedh ir dheulu myrdh o vrdholion
Ymgais ar seren, megis rhos irion
Gwiriondeb Sioseb dewisason hi,
Gadu ‘r gair idhi gida ‘r gwerydhon.

Gwadodyn yw mesur o amryw rifedi freichiau ar yr vn golofn, a hynny a wnaiff dhau ryw wawdodyn. sef, gwadodyn byrr a gwawdodyn hir.

Gwawdodyn byrr a fesurir a dhau fraich ar y gyhy­dedh drosgl a thodhaid o bedwarsillaf arbymtheg yng­lyn ag yn vnodl trwyr owdl fal hynn.

Ni phery onnen yw ffeiriannan; T. A.
Dan dewin dhyrnod ond yn dharnau:
Ewinawg osawg asau braich a bronn,
A nydhai linon yn dholennau.

Gwawdodyn hir a gyfansodhir o bennill ar owdl yr hwnn a elwir kyhydedh naw bann sef. pedwar braich ar y gyhydedh drosgl a thodhaid o bedairsillafarbymtheg ar ol yn vnodl trwy ‘r owdl fal hynn.

Yn iach na helwyr na chyneliaeth T. A.
Na meirch o arial na march wriaeth
[Page 16]Na gweilch yw harwain na gwalchwriaeth
Na chwn awy dhys na chynydhiaeth
Na cheision mwy son am wsanaeth gwledh
Na chog i wynedh na choguniaeth.

Hupynt yw mesur a rydh ir bardh rydid i ganu naill ae yn gynghanedhol ae yn gyfochr. Dau ryw Hupynt sydh sef Hupynt byrr a Hupynt hir. Hupynt byrr a fesu­rir o dhau fraich y kyntaf ar y gyhydedh ferr o bedair sillaf, y llall ar y gyhydedh gaeth o saith sillaf, hesyd y braich kyntaf ar air kyrch, naill ae mewn kynghanedh neu yn gyfochr yn ateb if orphwyssa yn y bedwaredh sillaf or ail braich ar olaf yn vnodl trwyr owdl fal hynn.

E gasgli gyd M.
Y bobl or byd bu abl or bon.
At blant bu lwydh
Abram ebrwydh arwydh wyrion.

Huppynt hir a fesurir o dri braich, sef dau fal Hup­pynt byrr ag vn arall fal y kyntaf or dhau fal hynn.

Yt f eidhuned
VVyt dhamuned Ior: y Kyrriawg.
Eilwedh luned wylwedhw lonydh
Uthr dolûriais
Oth serch kuriais
A llafuriais fy lleferydh

[Page 17]Kadwynfesur yw pennill lle kadwyner y kynghane­dhion yn orchestawl. Dau ryw gadwynfesur sydh, sef. Kadwynfyrr a chyfochr gyrch kadwynog.

Kadwynfyrr a fesurir o bedwar braich ar y gyhydedh draws; a phob braich yn kynghanedhu bob ail sillaf drwy bob braich, ar gair olaf or braich kyntaf yn kyfo­chri ar air kyrch at orphwysfa yr ail, ar olaf or trydydh braich yn vn modh ar air kyrch kyfochr yn ateb ir or­phwysfa ar pedwaredh yn vnodl, ar bedwaredh sillaf or braich kyntaf ar olaf or ail ar bedwaredh sillaf or trydydh braich ar olaf oll yn vn vnodli trwy ‘r owdl fal hynn.

Elis eiliog oe lys olau;
Eilwad olau i wlad Elwog:
Euran warrog o rann orau
Ar y dorau wryd eurog.

Kyfochrgyrchkadwynog a fesurir o bedwar braich Tawdh­gyrch. kadwynog. ar y gyhydedh draws fal kadwynfyrr a phennill o Hup­ynt hir ynglyn ag ef i gwplau y mesur, hefyd y fillaf gyn­taf or braich kyntaf, y sillaf olaf or ail braich, ar sillaf olaf or peweridh braich yn vnodl gida phrifodl yr Hupynt, ag felly trwy ‘r owdl, ar drydedh ar bedwaredh sillaf or braich kyntaf ynn vnodl gyfochrar drydedh ar bewaredh sillaf or trydydh braich ar dhwy sillaf olaf or braich kyn­taf, yn vnodli ar drydedh ar bedwaredh sillaf or ail braich; yn gyfochr ar air kyrch: ag felly y dhwy sillaf olaf or trydedh braich, yn ateb yn gyfochr vnodl ar air kyrch, ir drydedh ar bedwaredh sillaf or pedwerydh braich, fal hynn.

Gereint kwlen gwr nod kalis
[Page 18]Rod a phalis rhed a philer
Hyd y mwlen hwdi i malis L. M.
Mwy iaith Alis yma ith hwyler
Capten siasau,
Kestyll, plasau,
Gwyr, kurasau a grog kroeser.
Jacheist gasau
Galanasau,
A chydtrasau i chwi troser.

Kyrch a chwta a fesurir o with braich y chwech braich kyntaffal tri phennill o gywydh Deuair hirion yn vnodl. ar dhau olaf fal pennill o owdl gywydh ar air kyrch ond nad rhaid kadw aken: ar braich olaf yn vnodli ar chwech kyntaf ag felly yn arwain y brifodl trwy‘r owdl, fal hynn.

Erfai yw ‘r llys ar for llonn;
Hynn o les a wnai Leison:
E gair gwres yn y gaer gronn,
E gair seigiau gwresogion; L. M.
Ar keirw fry o barkau ‘r fronn,
Ar eogiaid or eigion,
A gwenith a phob gwinoedh
Maer tiroedh ar mor tirion.

klogyrnach a fesurir o búmp braich, y dhaú gyntaf ar y [Page 19] draws gyhydedh o wyth sillaf bob vn: y dhau ganol o búmp sillaf bob vn, ar y gyhydedh wenn, ar olafo chwech sillaf ar y gyhydedh las y braich kyntaf ar ail ar olafyn vnodli trwy r‘ owdl, ar trydydh ar pedwerydh braich yn vnodli ar air kyrch ar drydedh sillaf or braich olaf fal hynn.

Y prophwydi puraf hediad;
Aml o rinwedh ae mawl ranniad:
Drwy gerdh draw a gair; M.
I vn mab ion Mair,
Yw gadair ae godiad.

Gorchest y beirdh a fesurir o dri braich, y dhaú flae­naf o bedair, sillaf bob vn; ar y gyhydedh ferr ar olaf o saith sillaf ar y gyhydedh gaeth: ar ail sillaf or braich kyntaf vn vnodli ar ail sillaf or ail braich, ag ar ail sillaf or trydydh. hefyd y sillaf olaf or braich kyntaf, or olaf or ail; yn vnodli ar air kyrch, ar bedwaredh sillaf or braich olaf. y sillaf olaf or braich olaf; yn arwain y brifodl trwy r‘ owdl. Ag o fewn pob pedair sillaf or deudheg kyntaf, yn kroesgynghanedhu yn rhywiog ag yn vnodli wyneb­yn ng wrth wyneb. y tair sillaf olaf yn kroesgynghane­dhu; ar pedair blaenaf yn y braich olaf. fal hynn.

Jr drwg; ward rydh, M.
Oer wg; e rydh,
A dwg; y dydh, dig yw dal.

Soniwn bellach am ynglynion.

Ynglyn yw mesur, a genir naill ae ar i benn i hun, ac [Page 20] mewn gosteg, neu mewn owdl. Dau rywynglyn ysydh, sef ynglyn vnodl, ag ynglyn Proest, Tri rhyw ynglyn vnodl sydh, sef, vnodl vniawn, vnodl kyrch, ag vnodl krwka ynglyn vnodl vniawn a gyfansodhir o dhau fesur, sef todhaid o vnsillafarbymtheg, a phennill o gywydh Deuair hirion ar i ol ynglyn ag ef. fal hynn.

Jesu in karu sy ‘n dwyn koron nef
Jesu naf ynglynion
Jesu yw ior yr oes honn L. G.
Jesu a geidw i weision.

Gosteg yw kaniad o dheudheg yn glyn, vnodluniawn, yn vnodl trwy r‘ kaniad.

Ynglyn vnodl krwka nid amgen mesur nag vnodl vniawn, eithr gorfod gosod y pennill o gywydh Deuair hirion yn flaenaf ar todhaid ar ol fal hynn.

Braidh yn syw bereidhwenn ferch;
Briw digwyn bradog annerch: R. Midlton
Briwiad osodiad sy serch ar loer gwlad;
Brad anfad bryd wennferch.

Ynglyn vnodl kyrch a fesurir, aga genir, fal y pedwar braich olaf i gyrch a chwtta. fal hynn.

Gwen nferch odidawg winfaeth;
Gyrrodh i wann gur oedh waeth: R. M.
Gerydh dig wiwrudh Degau,
[Page 21]Gryd asau gyrru dwysaeth.

Ynglyn proest yw mesur heb vnodli, fal yr oll fesuraú eraill eithr yn proestu, Dau ryw ynglyn proest sydh: sef proest kyfnewidiog, a phroest kadwynodl Proest kyfne­widiog a fesurir yn vn hyd ag vnodl kyrch: eithr lle dylai y brifodl fod mae y sillaf olaf yn kyfnewid vogal neu dip­tong, ag yn kadw yr vn gydsain trwyr pedwar braich mewn sillafaú or vnhryw. fal hynn.

Gwynedh am yn gwledh mae‘n gloff,
Marw llew ‘r prins maer lloer heb priff
Marw ‘n penn an kapten an kyff
Marw salbri ym ar sel braff. T. A.

Proest kadwynodl a fesurir or vn hyd a phroest kyf­newidiog Prcest kad wynog. eithr bod y braich kyntaf ar ail yn proestu yn y sillafau olaf o bob braich ar trydydh yn proestu ar ped­werydh: felly y braich kyntaf yn vnodli ar trydydh, ar braich ail yn vnodli ar olaf, yn y sillafau olaf o bob braich sal hynn.

Eglwyswr teg o leision L. M.
Abostol o fab Jestyn
Ail Daniel o wlad Einion
Alhwedh dysg a lheudhad wynn.

Rydh ir prydydh gysylltu y mesurau.

TERFYN.
W. Midleton

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.